Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/06/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar yr agenda.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Eitem 1 yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru? OQ58177

Gwnaf. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar y cyd ag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol â’r cytundeb cydweithio, i ddatblygu’r strategaeth arloesi newydd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth ddrafft i gynnal ymgynghoriad arni yn yr haf, gyda'r cyhoeddiad terfynol wedi'i gynllunio ar gyfer yr hydref.

Diolch, Weinidog. Roedd adolygiad Reid yn cynnwys pum argymhelliad canolog i Lywodraeth Cymru ar sut i gefnogi ymchwil ac arloesi ar ôl Brexit. Gyda chostau uwch bellach yn lleihau elw busnesau bach ar gyfradd nad yw llawer wedi’i hwynebu o’r blaen, mae llawer o gwmnïau bach bellach yn wynebu sawl her sy’n bygwth sefydlogrwydd ein heconomi. Gallai rhoi’r offer i fusnesau bach arloesi helpu i ddatgloi eu potensial a gwella cryfder ein heconomi. O ystyried yr angen i godi lefelau arloesi a phwyslais adolygiad Reid ar bwysigrwydd cynnwys busnesau bach mewn polisi ymchwil ac arloesi, sut y bydd strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod partneriaethau arloesi yn canolbwyntio mwy ar fusnesau llai? Gallai strategaeth arloesi i Gymru chwarae rhan allweddol yn datgloi potensial arloesi busnesau bach. Fel yr argymhellodd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, mae taer angen mwy o fuddsoddiad a phartneru gan y sector preifat a chyhoeddus mewn rhaglenni arloesi, sgiliau a thalentau ledled Cymru. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, felly, y byddai’n gweld y strategaeth yn cefnogi creu partneriaethau o’r fath, a sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod ei strategaeth arloesi yn cynyddu'r cydweithio rhwng busnesau a phrifysgolion, fel y mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw amdano? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Yn amlwg, nid wyf am ragfarnu popeth a fydd yn y strategaeth derfynol, ond rwy’n hyderus y bydd gennym strategaeth ddrafft a strategaeth derfynol a fydd yn gweld lle i arloesi ymhlith busnesau bach, a gallwn dynnu sylw at y llwyddiant y mae SMARTCymru wedi'i gael mewn sawl maes, ac ym mhob rhanbarth neu etholaeth, yn ôl pob tebyg, bydd yna fusnes sydd wedi cael cymorth drwy hynny, gan arwain at wahaniaeth gwirioneddol i gynhyrchiant a swyddi. Mewn gwirionedd, ddoe, cymeradwyais ddatganiad arall sy’n edrych ar rywbeth ym Mro Morgannwg, lle maent wedi treblu eu niferoedd oherwydd yr ymgysylltiad â SMARTCymru a’r cysylltiadau â’r byd academaidd hefyd. Felly, rydych yn iawn i wneud y cysylltiadau rhwng addysg bellach ac uwch a sut y mae'r ymchwil a'r arloesi sy'n digwydd yno yn arwain at arloesi a gwell arferion busnes o fewn y byd gwaith ar gyfer busnesau llai, ac yn wir, ar gyfer y clystyrau lled-ddargludyddion cyfansawdd mawr sy’n bodoli o amgylch Casnewydd hefyd.

Mae’n allweddol cael Llywodraeth, busnesau, ac ymchwil academaidd yn cael ei rhoi ar waith er mwyn gwneud gwahaniaeth. Felly, pan welwch y drafft o'r ymgynghoriad, credaf y bydd yn gadarnhaol, ac yna dylai ganiatáu inni adeiladu ar yr hyn a wnaethom eisoes ond gyda chenhadaeth wedi'i hailffocysu gan nad yw'r holl ymrwymiadau cyllido a wnaed i Gymru wedi cael eu hanrhydeddu. Felly, golyga hynny ei bod yn bwysicach byth ein bod yn cynhyrchu mwy o werth o'r arian sydd gennym hefyd, yn ogystal, wrth gwrs, â chynhyrchu mwy o enillion i Gymru o gronfeydd cyllid y DU sy'n cystadlu yn ogystal. Mae digon i ni ei wneud, ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gadarnhaol ac yn fodlon pan fydd yn gweld y lle a’r rôl i fusnesau bach yn y strategaeth newydd.

Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid eu heconomi, gan ddweud eu bod yn dymuno cael eu cydnabod fel cenedl o entrepreneuriaid ac arloeswyr sydd wedi manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o dechnolegau newydd, wedi cynyddu cynhyrchiant yn sylweddol, a chanolbwyntio eu hadnoddau ar gyfleoedd a fydd yn trawsnewid eu heconomi. Yn benodol, pa ddatblygiadau arloesol a welwch i Gymru, ac a oes gennych uchelgais i wneud yr un peth neu ragori ar yr hyn a welwn mewn mannau eraill?

Ie. Mae’n anarferol clywed dyfyniad gan Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig yn canu clodydd y Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, ond croesawaf blwraliaeth a chynwysoldeb sylwadau’r Aelod. Ac a dweud y gwir, pan edrychwch ar yr uchelgeisiau mewn ystod o feysydd gan Lywodraethau ledled y DU, mae pob un ohonom yn awyddus wrth gwrs i feithrin diwylliant mwy entrepreneuraidd. Mae pob un ohonom yn awyddus i fanteisio ar gryfderau penodol sydd gennym yn ein sylfaen ymchwil, ond hefyd mewn meysydd lle mae gennym gryfderau busnes. Felly, os ydych yn ystyried y datganiad a wneuthum ychydig wythnosau yn ôl ar y sector ynni adnewyddadwy, mae gennym lawer i'w gynnig yno, nid yn unig gyda'n hadnoddau naturiol ond gydag arloesi gwirioneddol mewn busnes, ac mae hynny'n gysylltiedig â'r diwydiant dur wrth gwrs hefyd, buddsoddiad mewn porthladdoedd. Felly, gallwch weld ystod eang o wahanol feysydd lle mae gan yr uchelgeisiau, nid yn unig ar gyfer yr hyn a ddigwyddodd gyda buddsoddiadau mawr, ond y gadwyn gyflenwi fach a chanolig, ac arloesi, ran allweddol i'w chwarae. Ac yn sicr, nid oes diffyg uchelgais gan y Llywodraeth hon mewn perthynas â'n dyfodol economaidd.

13:35

Rwyf wedi bod yn myfyrio ar yr hyn y mae arloesi yn ei olygu a’r gair 'arloesi’, ac, wrth imi wneud hynny, deuthum o hyd i ddyfyniad gan Steve Jobs, a dywedodd unwaith:

'Weithiau, pan ydych yn arloesi, rydych yn gwneud camgymeriadau. Mae'n well eu cyfaddef yn gyflym, a bwrw ymlaen â gwella agweddau eraill ar eich arloesi.'

Ac mae hynny'n fy ysbrydoli'n fawr, oherwydd, pan oeddwn yn brentis peirianneg, dywedodd fy mentor wrthyf nad yw unigolyn nad yw erioed wedi gwneud camgymeriad wedi gwneud unrhyw beth. Nawr, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi annog arloesi ym maes gweithgynhyrchu yn benodol, gyda’r ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg ym Mrychdyn, sydd wedi datgloi’r potensial mewn busnes yng ngogledd Cymru. Tybed a yw’r Gweinidog yn cytuno ei bod yn bryd mynd ymhellach, a bod angen inni gefnogi canolfan ymchwil uwch-dechnoleg yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

'Ydw', yw'r ateb syml, ac wrth gwrs, nodwyd y weledigaeth ar gyfer gwneud rhywbeth fel hynny gan fy rhagflaenydd, Ken Skates. Ac nid yn unig ein bod yn cefnogi'r syniad o sefydlu canolfan ymchwil uwch-dechnoleg yng Nghymru, ond gallaf roi newyddion ychydig yn fwy diweddar i'r Aelod. Yn amodol ar ddatblygu pecyn ariannu cynaliadwy, yr wythnos diwethaf, arwyddodd Llywodraeth Cymru y prif delerau ar gyfer safle a ffefrir yn Sealand ar gyfer canolfan ymchwil uwch-dechnoleg. Ein partneriaid wrth arwyddo'r rheini yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach ar gynllunio'r cyfleuster hwnnw er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion ein partneriaid a defnyddwyr y dyfodol. Felly, newyddion da am y ganolfan. Ond yn bwysicach, gan gyfeirio at y pwynt a wnaeth yr Aelod ar y dechrau, credaf ei bod yn bwysig inni fod yn barod i dderbyn risg y byddwn yn gwneud pethau’n anghywir a dysgu o fethu gwneud cynnydd. A dyna un o'r heriau sydd gennym ynghylch disgwyliadau ynglŷn â sut y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio, ond gan gydnabod, heb rywfaint o barodrwydd i dderbyn risg, na fyddwn yn gweld arloesi llwyddiannus na buddion economaidd ychwaith. Ac edrychaf ymlaen at ddod yn ôl gyda'r hyn a fydd yn newyddion gwell byth, gobeithio, ynglŷn â'r prif delerau, ac ynglŷn â'r rhaglenni eu hunain hefyd er mwyn darparu'r ganolfan ymchwil uwch-dechnoleg ar y safle a ffefrir gennym.

Cwpan Pêl-droed y Byd

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y bydd Cymru'n cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn effeithio ar economi Cymru? OQ58166

Mae llwyddiant Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—llwyddiant tîm y dynion i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—wedi rhoi hwb aruthrol i’r wlad gyfan. Ac rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i’r tîm yn y rowndiau terfynol, ar y cae ac oddi arno.

Diolch yn fawr iawn. Bydd Cwpan y Byd yn gyfle unigryw i arddangos Cymru i biliynau o bobl—cyfle cyffrous i ddangos ein bod yn genedl fywiog, gynhwysol, ddwyieithog, i apelio at fuddsoddwyr a phobl gyffredin, sydd efallai'n awyddus i ymweld â Chymru, i brynu nwyddau Cymreig, neu i ddod yma i astudio. Weinidog, a ydych wedi ystyried cysylltu â Llywodraeth Gwlad yr Iâ, fel cenedl fach arall a chanddi brofiad diweddar o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf, i drafod sut y gwnaethant y gorau o’r cyfleoedd economaidd? Gellid buddsoddi mewn meysydd amrywiol, megis diplomyddiaeth chwaraeon, twristiaeth, cysylltiadau masnach, ac yn hollbwysig, brandio. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried sefydlu gweithgor arbenigol, gydag arbenigwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, er mwyn ceisio gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd a fydd yn dod i Gymru, diolch i Gareth Bale a’i gyd-chwaraewyr gwych?

Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt cyffredinol, ac nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'r holl fanylion, ond rwyf am fod yn gadarnhaol wrth ymateb. Oherwydd mae Gwlad yr Iâ a gwledydd llai eraill sydd wedi cyrraedd—. Rwy'n meddwl am ein cymdogion agos, Gweriniaeth Iwerddon, hefyd, cenedl gymharol fach, a sut y mae cyrraedd y rowndiau terfynol fwy nag unwaith wedi helpu nid yn unig gyda'r ddelwedd ond gyda'r hyn y mae hynny'n ei wneud wedyn ar gyfer dyfodol y wlad. Felly, mae gennym berthynas dda gyda phob un o’n partneriaid Nordig, gan gynnwys Gwlad yr Iâ. Ac roedd y Prif Weinidog yn Norwy yn ddiweddar, wrth gwrs, yn hytrach na Gwlad yr Iâ. Felly, byddwn yn parhau i fod eisiau manteisio ar y cyfleoedd hynny, ond hefyd i weld y cyd-destun y mae Cymru yn cyrraedd y rowndiau terfynol ynddo yn awr. Mae gennym gysylltiadau masnachu eisoes yn ardal y Gwlff. Pan ystyriwch y gwledydd y byddwn yn chwarae yn eu herbyn yn y grŵp, sef UDA, ein gêm gyntaf, mae'n sicr yn farchnad allweddol i ni; y farchnad fwyaf y tu allan i Ewrop yw UDA. Felly, rydym yn meddwl ynglŷn â sut y bwriadwn fanteisio ar yr holl gyfleoedd hynny y bydd cymryd rhan ar y llwyfan hwn yn eu rhoi i ni. Ac mewn gwirionedd, credaf ei fod yn beth da o ran lle Cymru yn y byd ehangach fod Lloegr yn ein grŵp ni. Bydd yn dangos yn glir nad yw’r DU a Phrydain yn gyfystyr â Lloegr yn unig, cael dwy ran o’r DU a chael ein timau cenedlaethol yn chwarae yn erbyn ei gilydd, ac rwy'n gobeithio y bydd fy ffrindiau a fy nghymheiriaid yn Lloegr yn fy ngweld yn bod yn fawrfrydig wrth imi ddathlu buddugoliaeth ar ôl y gêm honno, ond yn fwy na hynny, y cyfle mawr y mae hyn yn ei roi i Gymru.

13:40

Weinidog, mae’n gyfle anhygoel i Gymru fod wedi cyrraedd Cwpan y Byd. Gwn fod pob un ohonom wrth ein boddau ac yn eu llongyfarch ar eu cyflawniad anhygoel. Fel y nodwyd gennym eisoes, mae llu o gyfleoedd yn deillio o hyn i'n heconomi ac i Gymru gyfan mewn nifer o ffyrdd. Mae swm anhygoel o arian eisoes wedi bod o fudd i'n heconomi, ac wrth gwrs, pe byddent yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd, mae Robert Page yn rhagweld y gallai ddarparu swm hyd yn oed yn fwy o arian—£30 miliwn—i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’r arian hwn yn cynnig cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru, fel y mae Delyth newydd ei ddweud, ailfuddsoddi’r arian hwnnw a gwella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru, gan ddangos ein hymrwymiad, fel y byddwn yn ei wneud yn y Senedd yn nes ymlaen yn y Cyfarfod Llawn heddiw, i genedlaethau’r dyfodol. Sut y mae’r Llywodraeth hon yn mynd i weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau bod unrhyw enillion ariannol o Gwpan y Byd yn cael eu hailfuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig ar lawr gwlad, fel y mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’i awgrymu?

Wel, credaf fod Noel Mooney wedi bod yn wych mewn sawl ffordd, yn enwedig wrth gyfathrebu o fewn y gêm a thu hwnt hefyd sut y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn disgwyl defnyddio eu hadnoddau, o ran pobl, ei delwedd, ei gallu i arwain sgyrsiau yn ogystal â chymryd rhan ynddynt, ac nid yn unig o ran dyfodol gêm y dynion yng Nghymru, ond rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan ei gyfarwyddyd a’i arweiniad ar gydnabod pwysigrwydd rôl pêl-droed ar gyfer menywod a merched—y sector lle y gwelir y twf cyflymaf yn y gamp—ac rwy'n trafod hynny'n rheolaidd gydag ef pan fyddwn yn cyfarfod. A chredaf eu bod hefyd wedi dweud yn glir iawn eu bod yn cael arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU mewn maes sy'n amlwg wedi'i ddatganoli, ond y ffordd yr aethant ati i wneud hynny oedd dweud yn glir eu bod yn awyddus i gynnal perthynas â gweddill y gymuned chwaraeon o fewn y DU, ac yn wir, yma yng Nghymru hefyd. Felly, maent wedi ceisio bod yn wirioneddol gytbwys a pheidio â chael ymagwedd wahanol i'n huchelgeisiau i sicrhau buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel ar lawr gwlad, ac mae wedi gwneud y pwynt dro ar ôl tro, er mwyn twf y gêm i fechgyn, a merched yn arbennig, fod angen buddsoddi yn y cyfleusterau hynny. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weld sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio.

Ond mae’r pwynt ehangach a ddaeth o’r cwestiwn cychwynnol yn ymwneud â’r gêm ei hun a’r cyfle ehangach i fuddsoddi yng Nghymru. Ac a dweud y gwir, cefais y pleser o fod yn Bordeaux yn rowndiau terfynol yr Ewros, ac nid yn unig ei bod yn gêm bêl-droed wych, gallaf ddweud yn onest fod y ffordd yr oedd ein tîm yn ymddwyn ar y cae, y ffordd yr oedd ein cefnogwyr yn ymddwyn y tu mewn a'r tu allan i'r stadiwm, yn glod gwirioneddol i Gymru hefyd. Ac felly, mewn gwirionedd, mae ymddygiad ein cefnogwyr yn un o'r pethau y tynnais sylw atynt ar fy ymweliad diweddar â Qatar—y disgwyliadau uchel sydd gennym ar gyfer y ffordd y bydd cefnogwyr yn ymddwyn a'r cyfleoedd sydd gennym i arddangos Cymru ar y llwyfan ehangach, nid ar y maes chwarae yn unig.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, daeth rhan o dde Cymru i stop, wrth i nifer o ddigwyddiadau mawr gael eu cynnal yng nghanol dinas Caerdydd. Nawr, roedd un adroddiad yn honni bod ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4 o bont Hafren i mewn i Gymru, a bu llawer o bobl yn lleisio eu rhwystredigaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu a bod llawer mwy o gynllunio strategol yn digwydd i gydgysylltu digwyddiadau mawr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gennym seilwaith i ddarparu ar gyfer niferoedd mawr o ymwelwyr. Mae angen inni sicrhau hefyd y manteisir ar bob cyfle i hybu gwariant gan ymwelwyr nid yn unig yn ein dinasoedd, ond mewn mannau eraill ledled Cymru hefyd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa wersi a ddysgwyd, Weinidog, a pha fesurau newydd a gyflwynir i sicrhau bod Cymru yn fwy parod ar gyfer digwyddiadau mawr yn y dyfodol?

Credaf fod yr Aelod yn iawn i nodi bod effaith digwyddiadau mawr a’u gwariant nid yn unig ar y digwyddiadau eu hunain, ond o’u cwmpas hefyd, yn rhywbeth yr ydym eisoes yn canolbwyntio arno yn ein strategaeth digwyddiadau ac ymwelwyr rhyngwladol, yn ogystal â'r hyn y bwriadwn ei wneud yn fwy cyffredinol ac mewn mannau eraill—felly, nid yn unig yng Nghaerdydd ac Abertawe, ond ledled Cymru hefyd. Ac rwy’n cydnabod y pwynt a wnaed am yr heriau i bobl sy’n teithio i Gymru hefyd, ac nid wyf am fod yn anystyriol o hynny. Felly, bydd cyfle i ddysgu gwersi o hynny gydag ystod o bartneriaid o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Byddai’n rhy gynnar imi ddweud, 'Dyma’r gwersi a’r camau penodol sy’n cael eu cymryd’, gan fod gennym amrywiaeth o bethau i edrych arnynt. Felly, y penwythnos hwn, mae'r Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd hefyd, mae gennym yr arena a agorwyd yn ddiweddar yn Abertawe, mae gennym uchelgeisiau yn ein strategaeth ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau mewn mannau eraill hefyd. Felly, mae hon yn broses o ddysgu gyda phob digwyddiad, yn ogystal â'r heriau mwy strategol o sicrhau ein bod yn dod â phobl i Gymru a'u bod yn cael profiad gwych pan fyddant yma a'u bod yn awyddus i ddychwelyd hefyd.

13:45

Wel, oes, mae angen dysgu gwersi, Weinidog, ac mae angen eu dysgu yn gyflym iawn. Nawr, mae sawl digwyddiad mawr ar y gweill, gan gynnwys y digwyddiad WWE mawr ym mis Medi, y digwyddiad cyntaf o'i fath yn y DU ers 30 mlynedd, a fydd yn sicr yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Deallaf fod y digwyddiad hwn wedi cael cyllid gennych chi fel Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn digwyddiadau mawr, gan y gallant arddangos ein hunaniaeth ddiwylliannol a’n treftadaeth ar lwyfan rhyngwladol. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwneud yr archwiliadau priodol a bod y seilwaith yn ddigonol i ymdopi â'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal. Felly, Weinidog, pa ddangosyddion perfformiad allweddol a ddefnyddir i fonitro effeithiolrwydd unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn digwyddiadau mawr, ac a allwch ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y seilwaith hwnnw yn ei le i gefnogi digwyddiadau mawr yn y dyfodol?

Mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y digwyddiad WWE. P'un a oeddech yn cefnogi'r byd adloniant chwaraeon yn blentyn neu wedi parhau i gefnogi—. Rwy'n credu y byddent yn cydnabod nad yw’n gamp wirioneddol yn y ffordd y byddem yn ei chydnabod, ond mewn gwirionedd, mae’n ddigwyddiad ac yn gyfle economaidd enfawr i Gymru oherwydd y cyrhaeddiad sylweddol sydd ganddo ym marchnad yr Unol Daleithiau, a marchnad UDA yw un o farchnadoedd rhyngwladol blaenoriaethol Croeso Cymru. Dyma lle mae gennym gryn dipyn o waith yn mynd rhagddo, ac fe nodais, mewn gwirionedd, fod cael UDA yn ein grŵp yng nghwpan y byd yn gadarnhaol iawn i ni, beth bynnag. Dyna un o'r rhesymau pam y penderfynais gefnogi'r digwyddiad yn ariannol er mwyn sicrhau ei fod yn dod i Gymru. Ac rydym yn edrych nid yn unig ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar ond ar sut i sicrhau bod y digwyddiad hwnnw mor llwyddiannus â phosibl i'r holl ymwelwyr, yn ogystal â'r bobl sy'n perfformio—rydym am i'r bobl hynny ddod yn ôl dro ar ôl tro. A dweud y gwir, rhan o'r pwynt am y digwyddiad hwnnw oedd nad digwyddiad i Gaerdydd yn unig ydoedd. Buom yn edrych ar ddigwyddiadau eraill a rhannau eraill o’r ffordd y bydd y digwyddiad yn cael ei hyrwyddo, a fydd yn canolbwyntio ar rannau eraill o Gymru, ac mae rhai o’r digwyddiadau ail haen sy’n cael eu cynnal o’i amgylch hefyd yn cael eu cynnal mewn rhannau eraill o’r wlad. Felly, rydym yn meddwl o ddifrif ynglŷn â sut y mae pob digwyddiad yn cael effaith ehangach, ac yna, byddwn yn cynnal asesiad ar ôl y digwyddiad i geisio deall y manteision economaidd uniongyrchol hefyd. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn uniongyrchol gyda digwyddiadau a gefnogir gennym yn ogystal, felly rwy'n falch o roi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod hefyd.

Wel, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn digwyddiadau mawr, ond mae’n amlwg i mi fod angen strategaeth digwyddiadau mawr gadarn sy’n edrych tua’r dyfodol ar Lywodraeth Cymru. Mae dros ddwy flynedd ers i’r strategaeth ddiwethaf ddod i ben, ac er fy mod yn derbyn y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth newydd fis nesaf, mae’n dal yn siomedig ein bod wedi gorfod aros cyhyd. Nawr, wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol fod gan y strategaeth newydd yr adnoddau sydd eu hangen arni i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i Gymru. Mae'n rhaid iddi sicrhau, lle y gall wneud hynny, fod cyfleoedd wedi eu gwasgaru'n deg ledled y wlad, fel y dywedoch chi yn awr, ac mae'n rhaid iddi ddod â’r digwyddiadau a'r diwydiannau twristiaeth ynghyd i gynyddu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ein busnesau, datblygu ein sylfaen sgiliau a chreu swyddi ar gyfer y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedoch wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gynharach heddiw, creu swyddi a swyddi gwell yw eich blaenoriaeth. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd pob rhan o Gymru yn elwa o'r strategaeth digwyddiadau mawr newydd? A chyn cyhoeddi'r strategaeth, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid yn y sector digwyddiadau a'r sector twristiaeth ynghyd i gydgysylltu ac i fanteisio i'r eithaf ar y budd sy'n deillio o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru?

Rwy’n fwy na pharod i roi sicrwydd i’r Aelod y bydd y strategaeth newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn canolbwyntio eto ar y modd y cynhyrchwn fuddion economaidd yn sgil fy mlaenoriaethau ar gyfer mwy o swyddi a swyddi gwell ledled Cymru, ac mae'r economi ymwelwyr a chyfleoedd cyflogaeth sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau yn rhan o hynny hefyd. Bydd hefyd yn nodi'n glir iawn ei bod yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan yn hytrach na'i bod yn canolbwyntio ar un rhan o’r wlad yn unig. Ond fel rydym newydd ei drafod, mae’r digwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal a’r dewisiadau rydym wedi’u gwneud—. Buom yn siarad am y digwyddiad WWE. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni yn ogystal â strategaeth. Nid y ffaith nad oedd gennym strategaeth yw'r hyn sydd wedi ein hatal rhag gwneud cynnydd. Edrychaf ymlaen at gyflwyno sioe fawr yn yr hydref a mwy o ddigwyddiadau ar gyfer y dyfodol.

13:50

Diolch, Lywydd. Nid oes amheuaeth fod bywyd gweithwyr a'u teuluoedd yn mynd yn anoddach. Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd, mae prisiau ynni'n codi 23 gwaith yn gyflymach na chyflogau, ac mae enillion wythnosol Cymru yn parhau i fod yr isaf o gymharu â gwledydd eraill y DU. Ni allai pwysigrwydd undebau llafur fod yn fwy amlwg yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Fodd bynnag, dim ond un o bob chwe gweithiwr yn y sector preifat yng Nghymru sy'n aelodau o undebau. Mewn gwirionedd, mae oddeutu hanner gweithwyr Cymru mewn gweithleoedd lle nad oes unrhyw undeb llafur o gwbl, a dim ond 9 y cant o bobl ifanc Cymru sydd mewn undeb. A wnaiff y Gweinidog amlinellu, os gwelwch yn dda, beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog aelodaeth o undebau a chefnogi hawliau gweithwyr, ac a fyddent yn ymrwymo i wneud mwy i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu yn eu swyddi yn ystod yr argyfwng hwn?

Tybed a wnaiff ymateb hefyd i sylwadau gan swyddogion polisi yng Nghyngres yr Undebau Llafur a ddywedodd mewn erthygl yn y Sefydliad Materion Cymreig y bu

'amharodrwydd amlwg i roi cefnogaeth gyhoeddus ystyrlon ac ymroddedig i undebau.'

gan Lywodraeth Cymru

'pan fyddai gwneud hynny'n creu risg o beri anesmwythyd i unrhyw gyflogwyr yng Nghymru’?

Nid wyf yn cydnabod hynny o gwbl, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd nid yn unig yn aelod o undebau llafur, ond rhywun a fu'n stiward llawr gwaith yn y gweithle, yn cynrychioli fy nghydweithwyr, rhywun sydd wedi bod yn gyfreithiwr undeb llafur, yn cynrychioli gweithwyr ym mhob rhan o’n heconomi, ac yn falch o wneud hynny, ac yn gyn-lywydd TUC Cymru. Fe welwch aelodau balch o undebau llafur ar bob un o’r meinciau hyn, ac mae’n llywio’r ffordd yr ydym yn gwneud dewisiadau hefyd.

Felly, mae’r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, y gwyddoch i'r Dirprwy Weinidog ei gyflwyno yn ddiweddar, yn nodi sut y byddwn yn ffurfioli cysylltiadau. Nid yn unig y bydd yn dibynnu ar gysylltiadau personol rhwng pobl, fe fydd hefyd yn nodi'n glir mai partneriaeth gymdeithasol yw’r ffordd y byddwn yn parhau i gyflawni busnes. Mae’n llywio’r ffordd yr edrychwn ar y contract economaidd a’i ddatblygiad; dyna ein disgwyliad ar gyfer busnesau. Rydym am i Gymru fod yn wlad o waith teg. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cynrychiolwyr yn y gweithle, ac rwy’n parhau i gredu mai’r math gorau o gynrychiolydd yn y gweithle yw undeb llafur sydd ar eich ochr chi ac sy’n deall eich buddiannau chi fel gweithiwr a sut y mae hynny'n effeithio ar ddyfodol y busnes hefyd. Oherwydd mae ein hundebau llafur yn nodi'n glir iawn eu bod am gael swyddi da yng Nghymru ar gyfer eu haelodau. Byddai'n llawer gwell ganddynt dreulio eu hamser yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau, yn hytrach na gorfod ymdrin â heriau cyflogwyr gwael.

Mae’r newid i siâp ein heconomi, serch hynny, wedi effeithio ar aelodaeth o undebau llafur. Mae trefnu mewn sectorau newydd o'r economi yn llawer mwy heriol nag mewn gwasanaethau cyhoeddus mawr neu gyflogwyr mawr yn y sector preifat. Rydym yn edrych, serch hynny, ar sut y gallwn barhau i ddadlau'r achos mewn ystod o sectorau, ac enghraifft dda o hynny yw manwerthu, lle mae’r strategaeth fanwerthu y byddwn yn ei lansio, y weledigaeth ar gyfer dyfodol manwerthu, yn un sydd wedi’i chydgynhyrchu gan y Llywodraeth, busnesau ac undebau llafur, gan edrych ymlaen at ddyfodol y sector hwnnw a’r hyn y bydd yn ei olygu i bobl sy’n gweithio.

Credaf ei bod yn bwysig inni gofio ar draws y Siambr fod undebau llafur bob amser wedi chwarae rhan bwysig wrth newid amodau’r gweithle ac arferion o fewn y gweithle. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o newid i wythnos waith pedwar diwrnod hefyd. Mae cwmnïau yn y DU wedi dechrau treial mwyaf y byd ar wythnos bedwar diwrnod heb golli unrhyw gyflog. Bydd y treial yn para chwe mis ac yn cynnwys dros 3,000 o weithwyr a 70 o gwmnïau. Ymddengys bod y sector preifat ar y blaen i’r Llywodraeth yn hyn o beth. Canfu adroddiad gan safle swyddi CV-Library fod hysbysebion ar gyfer swyddi ag wythnos waith pedwar diwrnod wedi cynyddu oddeutu 90 y cant, gyda’r cynnydd mwyaf yn ne-orllewin Cymru a Llundain. Mae'r gefnogaeth yno. Yng Nghymru, mae arolygon barn yn awgrymu bod 57 y cant o gyhoedd Cymru yn cefnogi cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, ac yn ddelfrydol, byddai 62 y cant o gyhoedd Cymru yn dewis gweithio wythnos waith pedwar diwrnod neu lai.

Fis Medi diwethaf, arweiniodd Plaid Cymru ddadl ar wythnos waith fyrrach, a oedd yn galw am gynnal cynllun peilot yng Nghymru i archwilio’r manteision y gallai eu cynnig. Cefnogwyd llawer o’r cynnig gan Lafur, ond nid yr alwad am gynllun peilot domestig. Gan fod cynllun peilot mwyaf y byd ar wythnos waith pedwar diwrnod wedi dechrau yn y DU, os bydd y treial yn fuddiol, a fyddai Llywodraeth Cymru wedyn yn ailystyried cynnal cynllun peilot ar wythnos waith pedwar diwrnod yma yng Nghymru, gyda’r nod o sefydlu polisi wythnos waith fyrrach yn y pen draw?

Credaf y byddwn yn awyddus i edrych ar y modelau hyblygrwydd sy'n bodoli a sut y gallant fod o fudd i weithwyr a busnesau. A dweud y gwir, yn ystod yr amgylchiadau gorfodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a mwy, canfuom fod gweithio hyblyg wedi gweddu i lawer o weithwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae hynny wedi gwneud—. Rhai o’r pryderon blaenorol ynghylch gweithio hyblyg oedd na fyddai pobl o ddifrif yn ei gylch, ac mewn gwirionedd, gwelsom enillion gwirioneddol o ran cynhyrchiant mewn amrywiaeth o sectorau, yn ogystal â gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Felly, mae'r pwynt ehangach am weithio hyblyg yn un yr ydym yn obeithiol yn ei gylch, ac mae'n llywio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymddwyn fel cyflogwr, a bydd yn sicr yn effeithio ar y ffordd y mae llawer o'n partneriaid yn y sector cyhoeddus yn edrych ar sut i gyflawni gwasanaethau cyhoeddus effeithiol na fydd bob amser yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod mewn un lleoliad ffisegol am bum diwrnod yr wythnos. Mae gennym gryn ddiddordeb yn y cynllun peilot ar wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy hefyd wrth gwrs, yn ogystal â Luke Fletcher, wedi cefnogi newidiadau i batrwm yr wythnos waith yn gyson hefyd. Felly, rydym yn awyddus i ddeall beth fydd yn digwydd pan fydd y cynllun peilot wedi'i gynnal, beth y mae hynny'n ei olygu wedyn i Gymru, a sut y gellir rhoi hynny ar waith wedyn.

Ond cyfrifoldeb cyflogwyr yw rhoi llawer o hyn ar waith wrth gwrs. Fe sonioch yn gynharach am rôl undebau llafur; byddai llawer o undebau llafur yn awyddus i weld rhywbeth fel hyn yn digwydd gan fod diddordeb a galw gwirioneddol gan eu haelodau. Fodd bynnag, ni fydd yn bosibl i rai cyflogwyr wneud hyn. Yn union fel yn y pandemig, roedd yn rhaid i rai pobl fod yn bresennol yn y gweithle, a bydd patrwm a maint rhai busnesau'n golygu na all rhai pobl gael wythnos waith pedwar diwrnod. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, y byddwn yn rhoi'r gorau i'w ystyried yn y meysydd hynny lle y gallai fod o fudd gwirioneddol i weithwyr, ac fel y gwelsom, budd i fusnesau, gyda gwelliannau mewn cynhyrchiant ac ymrwymiad pobl i'w gwaith, ac yn wir, y cydbwysedd gyda bywyd y tu allan i'r gwaith.

13:55
Llwyddiant Cwmni Egino

3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant Cwmni Egino? OQ58178

Diolch. Yn y pen draw, bydd llwyddiant hirdymor Cwmni Egino yn dibynnu ar wireddu prosiectau allweddol ar safle Trawsfynydd sy'n sicrhau manteision lleol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy fframwaith buddion cymunedol a fydd yn cael ei ddatblygu dros y 12 mis nesaf mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol o dan siarter gwerth cymdeithasol y cwmni. Mae hyn oll, wrth gwrs, yn dibynnu ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn dyfodol niwclear yn Nhrawsfynydd.

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am yr ateb. Mae unrhyw un sy'n dilyn hynt a helynt y sector niwclear yn y wladwriaeth hon—a dwi'n gwneud yn fanwl iawn—yn gwybod mai Rolls-Royce ydy'r unig opsiwn sy'n cael ei hystyried gan Lywodraeth San Steffan i ddatblygu atomfeydd niwclear modwlar bach, SMRs. Wrth gwrs, mae'r berthynas agos yma rhwng Rolls-Royce a Llywodraeth San Steffan yn dod yn sgil y ffaith fod angen sicrhau'r sgiliau a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y rhaglen llong danfor Dreadnought ddrudfawr newydd. Dyna, mewn gwirionedd, sy'n cyflyru'r galw cynyddol am niwclear. Mae cynlluniau SMR Rolls-Royce yn rhai 450 MW, ac mae'r cwmni wedi'i wneud yn berffaith glir i fi yn ein cyfarfodydd ni nad ydy'r isadeiledd yn bodoli yn Nhrawsfynydd er mwyn lleoli'r un o'r SMRs, heb sôn am fwy nag un. Gan ystyried na all SMR ddod i Traws, felly, beth ydy pwynt Egino?

Nid wyf yn cytuno ag asesiad yr Aelod nad oes unrhyw ddyfodol i adweithyddion modiwlar bach yn Nhrawsfynydd. Serch hynny, rydym hefyd wedi bod yn edrych nid yn unig ar bosibiliadau adweithyddion modiwlar bach, ond mewn gwirionedd, ar yr angen gwirioneddol am y potensial ar gyfer ymchwil, ac yn wir, cynhyrchu radioisotopau, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer ystod o feysydd yn ein gwasanaeth iechyd. Ac mewn gwirionedd, gwyddom fod cynhyrchu radioisotopau yn faes sy'n dirywio o fewn y byd gorllewinol ehangach ac Ewrop, ac mae gwir angen gwneud hynny, ac mae Trawsfynydd yn safle posibl. Rydym o'r farn mai dyma'r safle gorau sydd ar gael yn y DU.

Felly, mae gennym ystod o gyfleoedd i barhau i'w gwthio mewn perthynas â safle Trawsfynydd. Mae Cwmni Egino wedi’i ddatblygu i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar gymaint o’r cyfleoedd lleol hynny â phosibl. Roedd yn gyhoeddiad cymharol annisgwyl pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai buddsoddiad pellach yn cael ei wneud yn safle Trawsfynydd, a'r ffaith bod yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi bod yn cael sgyrsiau gyda Cwmni Egino ychydig cyn y cyhoeddiad hwnnw i nodi'n glir eu bod am wneud hynny. Mae angen inni weld y prif gyhoeddiad yn troi’n realiti ymarferol, yn Nhrawsfynydd ac ymhellach i ffwrdd mewn perthynas â dyfodol niwclear yn Wylfa hefyd. Mae'r cyfeiriad yn un cadarnhaol; fy mhrif ddiddordeb yw sicrhau ei fod yn cael ei wireddu ac yna sicrhau bod budd lleol gwirioneddol i bobl leol, ond hefyd i economi ehangach Cymru hefyd.

Dyfodol i ddur—dylai fod rôl i ddur Cymru mewn unrhyw fath o ddyfodol niwclear newydd, boed hynny yn Nhrawsfynydd neu Wylfa, neu'r ddau, yn ddelfrydol. Felly, rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i geisio gwneud y peth iawn i gynhyrchu’r budd economaidd lleol hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs fwy adeiladol gyda’r Aelod a’r Aelod dros etholaeth Wylfa hefyd, ar Ynys Môn, ac yn wir, partneriaid rhanbarthol y gwn y bydd ganddynt ddiddordeb gwirioneddol, rwy'n siŵr.

Strategaeth Economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Blaenau'r Cymoedd? OQ58182

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a bargen ddinesig Caerdydd i gyd-ddatblygu rhaglen o ymyriadau economaidd a fydd yn cryfhau’r economi ym Mlaenau’r Cymoedd a’r cyffiniau.

14:00

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Un o elfennau pwysicaf y strategaeth economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd, wrth gwrs, yw'r Cymoedd Technegol, sydd yn fy etholaeth i. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r gyllideb o £100 miliwn ar gyfer y prosiect hwnnw?

Gallaf gadarnhau'r gyllideb honno. Mae heriau, fel y gŵyr yr Aelod, gyda'n hamlen ariannol ehangach, ond rydym yn dal i ddisgwyl y byddwn yn gallu gwario'r arian hwnnw ar ddatblygu a darparu Cymoedd Technegol, sydd, hyd y gwelaf, yn gatalydd ar gyfer datblygiad ehangach yn ardal Blaenau'r Cymoedd. Gwn fod rhai pryderon ynglŷn ag a fyddai'r arian hwnnw'n cael ei wastraffu. Mewn gwirionedd, rydym yn ystyried hwnnw'n floc i adeiladu arno a datblygu'n ehangach, a chyn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar yn yr hydref, llwyddasom i wneud rhywfaint o waith ar draws ardaloedd ehangach Blaenau'r Cymoedd. Gan ein bod bellach wedi mynd drwy broses yr etholiad a chan fod gennym ddarlun mwy sefydlog ar draws llywodraeth leol—gyda rhai newidiadau mewn arweinyddiaeth, fel y gŵyr yr Aelod, yn ei etholaeth a'i awdurdod lleol—edrychaf ymlaen at weld y sefydlogrwydd hwnnw'n troi'n gamau ymarferol. Mewn gwirionedd, mae gan awdurdodau lleol her wirioneddol ar hyn o bryd oherwydd yr amserlen fer iawn y mae Llywodraeth y DU wedi'i phennu i gytuno ar raglenni buddsoddi ar gyfer ffyniant cyffredin, a bydd hynny'n cymryd llawer o amser, egni ac ymdrech, ac mae angen i awdurdodau lleol gydweithio. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ailgynnau pethau ac yn sicrhau bod dealltwriaeth well a dyfnach o'r angen i gydweithio ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Blaenau'r Cymoedd, i gyflawni'r cynlluniau hynny, ac nid dychwelyd at ddull mwy plwyfol nad wyf yn credu y bydd yn gwasanaethu etholwyr yr Aelod yn dda nac yn wir yr etholwyr hynny—[Anghlywadwy.]

Weinidog, un o amcanion strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd yw manteisio ar fuddsoddiadau ar yr A465. Yr wythnos diwethaf, yn ystod y datganiad busnes, cyfeiriais at y ffaith bod consortiwm Future Valleys wedi sicrhau'r contract i fwrw ymlaen â'r gwelliannau i adrannau 5 a 6 o'r A465 ffordd Blaenau'r Cymoedd ym mis Tachwedd 2020. Un o gyfarwyddwyr consortiwm Future Valleys oedd cyn-gyfarwyddwr cyllid Dawnus Construction, cwmni a chwalodd yn 2019 gyda dyledion o dros £50 miliwn. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, cafodd y cwymp effaith ar gannoedd o gontractwyr preifat o Gymru a ledled y DU. Roedd rhai cyrff sector cyhoeddus ar eu colled hefyd, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, a gollodd £1.3 miliwn, a'ch Llywodraeth eich hun, a gollodd £0.5 miliwn.

Weinidog, codwyd pryderon dilys ynglŷn â'r penodiad hwn, a arweiniodd at y ffaith bod rhywun a oedd yn rhan o un o'r methiannau corfforaethol mwyaf yng Nghymru bellach yn monitro gwariant o filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ar brosiect seilwaith mawr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, Weinidog, fod y broses benodi hon yn destun craffu llawn a llym? Ac a wnewch chi gadarnhau bod gennych hyder llwyr yng nghonsortiwm Future Valleys i gyflawni'r gwelliannau i'r A465 sydd mor hanfodol i strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd allu cyflawni ei photensial llawn? Diolch.

Wel, bu heriau gwirioneddol yn y sector adeiladu, ac mae Dawnus ac eraill wedi dioddef trallod gwirioneddol yn sgil hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd diwydrwydd dyladwy priodol mewn perthynas â'r holl benodiadau, ac nid oes gennyf unrhyw reswm dros gefnogi'r honiadau a'r ymosodiadau a wneir, drwy ensyniadau, yn sylwadau'r Aelod. Os oes ganddi dystiolaeth wirioneddol am yr unigolyn, ac ymddygiad yr unigolyn hwnnw, yn hytrach na chysylltiad â menter a oedd yn aflwyddiannus yn y pen draw, byddai gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn clywed y dystiolaeth honno. Ond wrth gwrs, os meddyliwn am un o sylwadau Jack Sargeant yn gynharach am ganlyniadau methiant, un o'r pethau y mae angen inni ei wneud o fewn ein diwylliant ehangach yw cael gwared ar yr un stigma ynghylch busnesau nad ydynt yn llwyddo a gallu pobl i ddechrau eto. Nid wyf yn gweld pobl yn gwrthod gwrando ar Jamie Oliver ar ystod eang o bethau neu'n gwrthod bwyta yn ei fwytai, er gwaethaf y ffaith bod rhai o'i fwytai wedi methu ac wedi mynd i'r wal. Felly, mae her yma ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan bobl pan nad yw eu busnesau'n goroesi, sut y maent yn trin eu cyflenwyr, ie, ond yn yr un modd yr hyn a wnawn wedyn o ran uniondeb pobl i ymgymryd â mentrau yn y dyfodol, a'u hymgysylltiad â rhaglenni Llywodraeth Cymru yn wir.

Cyflogadwyedd a Sgiliau

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? OQ58185

Gwnaf. Rydym yn gwneud cynnydd da ac rydym eisoes wedi gweithredu nifer o gamau gweithredu allweddol yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys lansio Twf Swyddi Cymru+ yn llwyddiannus a lansiad mwy diweddar ReAct+.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynychu prosiect Engage for Change a hefyd interniaeth Project SEARCH ym Mhrifysgol Caerdydd, lle cyfarfûm â'r tîm hynod ymroddedig sy'n gweithio yno, ac mae Engage to Change yn bwriadu gadael gwaddol i bobl ag anableddau dysgu, anhawster dysgu penodol a/neu awtistiaeth. A gwelais eu bod yn rhoi pobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu mewn gwaith. Mae'n brosiect trawiadol. Cydnabu'r Gweinidog bwysigrwydd hyfforddi pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ar gyfer swyddi yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a gyhoeddwyd. Yn y cyfarfod hwnnw, serch hynny, tynnwyd fy sylw at gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymorth hyfforddiant swyddi i bobl dros 25 oed sy'n dymuno gweithio, ac a allai fod yn ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd a'r tu allan i gylch gwaith prentisiaethau â chymorth. Felly, pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog ar gyfer pobl dros 25 oed yn yr amgylchiadau hynny?

14:05

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ReAct+ newydd yn darparu cymorth personol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Felly, mae mynd â'r gwasanaeth gam ymhellach a rhoi cymorth i hyfforddi unigolion i mewn i waith yn rhan o'r hyn y disgwyliwn iddo ei gyflawni. Yn fwy penodol, yn ddiweddar cyfarfûm ag Anabledd Dysgu Cymru, sy'n cynrychioli'r sector anabledd dysgu, fel y gŵyr yr Aelod, i glywed yn uniongyrchol am y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac mewn gwirionedd mae'r pwynt a godwch yn awr am y cymorth a'r hyfforddiant a'r mentora sydd ei angen yn aml i helpu pobl i mewn i waith yn rhan o'r hyn y gwnaethant ei ddwyn i'n sylw. Felly, mae'n sicr yn rhan o'r hyn sydd wedi llywio'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac rwy'n disgwyl iddo fod yn rhan o'r gwasanaeth. Yn amlwg, bydd angen i ni ddeall wedyn a yw'n diwallu anghenion pobl yn y modd yr ydym yn dymuno iddo ei wneud. Felly, credaf fod y sail a'r polisi yno, ac mae ein dealltwriaeth o'r angen yn sicr yno hefyd. Mae angen inni sicrhau yn awr ei fod yn cyflawni'r hyn yr ydym eisiau iddo ei gyflawni yn ymarferol. Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â'r Aelod wrth i'r rhaglen honno barhau i sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn yr ydym eisiau iddo ei wneud mewn gwirionedd.

Gwneir ymrwymiad clir yn 'Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' i gefnogi ac annog cyflogwyr i greu cyflogaeth o ansawdd uchel gan wella'r cynnig i weithwyr. Un ffordd yr ydych yn bwriadu gwneud hyn yw drwy ddarparu cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau i greu a chynnal swyddi newydd. Nawr, cynnal swyddi yw'r union beth y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrechu i'w wneud yn Llandudno, drwy fuddsoddi gwerth £400,000 o gyllid adnewyddu cymunedol mewn cymhorthdal cyflog gaeaf, fel y gall gwestai a busnesau twristiaeth eraill yn ein tref gadw staff drwy'r flwyddyn. Nawr, mae'r sector twristiaeth yn wynebu argyfwng cyflogaeth ledled Cymru, nid yn Llandudno yn unig, ac mae hynny wedi arwain at y dyfyniad canlynol gan UKHospitality Cymru

'Mae materion recriwtio a sgiliau parhaus yn y sector lletygarwch yng Nghymru yn cyfyngu ar brofiad ymwelwyr, yn niweidio hyfywedd busnesau ac yn bygwth amharu ar adferiad y diwydiant.'

O ystyried yr ymrwymiad yn eich cynllun i ddarparu cyllid i gynnal swyddi, a wnewch chi ystyried efelychu'r gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn eu cynllun hwy? Gadewch inni gael hyn ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru. Diolch.

Fel bob amser, mae gennym her mewn perthynas â chynlluniau cymhorthdal cyflog cyffredinol ar draws y sector cyfan. Mewn gwirionedd, yn fy nhrafodaethau gyda phobl yn yr economi ymwelwyr—ac rwy'n cyfarfod â'r grŵp economi ymwelwyr yr wythnos nesaf—maent yn tynnu sylw'n rheolaidd at y ffaith bod ganddynt her o ran sgiliau yn y sector, ond maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ganddynt her o ran recriwtio pobl i'r sector. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod, gyda hwy, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch i geisio annog pobl i ailystyried gyrfaoedd yn y sector, nid cyflogaeth dymhorol yn unig. Felly, mae ymgyrch Experience Makers yn un yr ydym wedi'i hyrwyddo ar y cyd â hwy.

Mae hefyd yn sector yr effeithiwyd arno gan rai o'r newidiadau yn yr economi, cyn ac ar ôl y pandemig. Felly, yn y sector lletygarwch yn benodol—ac rwy'n ymwelydd rheolaidd â Llandudno oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau gwleidyddol sy'n digwydd yno'n syfrdanol o rheolaidd—mewn gwirionedd, fe welwch fod llawer o bobl yn y sector lletygarwch yn dod o wledydd Ewropeaidd, ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gweithio nid yn unig yn y sector hwn, ond mewn sectorau eraill hefyd. Dyna un o'r newidiadau sy'n digwydd. Mae'r bobl hynny'n annhebygol o ddychwelyd o Ewrop i'r DU. Mae angen inni hefyd weld rhai o'r newidiadau sy'n digwydd mewn perthynas â phobl yn gadael y farchnad lafur ar ôl y pandemig hefyd.

Felly, mae amrywiaeth o faterion anodd inni eu deall, ac yna ystyried i ba raddau y gallwn wneud gwahaniaeth. Dyna pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn edrych ar y bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd mae'r Adran Gwaith a Phensiynau—[Anghlywadwy.]—mae'r bobl hynny'n fwy tebygol o fod yn barod am waith. Felly, rydym yn disgwyl cydweithio â Llywodraeth y DU a'i hasiantaethau yn y maes hwn i feddwl sut y gwnawn y gwahaniaeth mwyaf gyda'r arian a'r cyfrifoldebau sydd gennym, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth inni geisio gwneud cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.

14:10
Strategaeth Ofod Genedlaethol

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ofod Genedlaethol Llywodraeth Cymru? OQ58163

Gwnaf. Ers i mi lansio 'Cymru: gwlad ofod gynaliadwy' ym mis Chwefror eleni, mae Gofod Cymru wedi bod yn datblygu fel sefydliad, dan oruchwyliaeth ein corff partner, Awyrofod Cymru. Mae gweithgorau wedi'u sefydlu i fanteisio ar gyfleoedd penodol, gan gynnwys y cyflymydd gofod cynaliadwy a chymhwyso gweithgynhyrchu uwch i'r sector gofod.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n wych clywed am y cyfleoedd a fydd yn deillio o'r strategaeth honno. Siaradais yn ddiweddar â'r Sefydliad Ffiseg, sydd wedi bod yn gweithredu cynllun Ein Gofod, Ein Dyfodol ar draws naw ysgol yng Nghymru, gan gynnwys blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Brynteg yn fy etholaeth. Nod y cynllun yw newid y canfyddiadau fod y diwydiant gofod yn llwybr gyrfa i leiafrif bach, a dangos ei fod yn ddiwydiant sydd â llu o gyfleoedd, fel defnyddio technoleg gofod i ymladd canser a—rwyf am gael hwn yn iawn—peirianneg ryngblanedol sy'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yma ar y ddaear.

Ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod gennym weithlu amrywiol yn y maes hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod nifer wedi dweud wrthyf pa mor siomedig yr oeddent pan ddywedodd cynghorydd symudedd cymdeithasol Llywodraeth y DU yn ddiweddar, wrth roi tystiolaeth, nad yw ffiseg yn bwnc y mae merched yn tueddu i'w hoffi, oherwydd ei fod yn cynnwys llawer o fathemateg anodd. Ni allwn adael i'r meddylfryd hwn bennu'r cyfleoedd i ferched, pobl ddosbarth gweithiol, pobl anabl, na'r rheini o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod cynlluniau fel Ein Gofod, Ein Dyfodol yn hanfodol i ysgogi gweithlu'r dyfodol yng Nghymru, a bod rhaid inni sicrhau bod amrywiaeth a chyfle i bawb mewn strategaethau megis y strategaeth ofod genedlaethol Cymru?

Ydw, yn sicr. Cofiaf y sylwadau a wnaed gan y tsar symudedd cymdeithasol, a rhaid imi ddweud nad yw nifer o'r sylwadau y mae wedi'u gwneud yn ymddangos yn arbennig o ddefnyddiol, hyd y gwelaf i, ar gyfer creu symudedd a chynhwysiant cymdeithasol gwirioneddol.

Mae consortiwm Ein Gofod, Ein Dyfodol yn enghraifft dda iawn o gydweithio o'r radd flaenaf sydd wedi'i ariannu, er enghraifft, drwy raglen Horizon 2020 yr UE, sy'n meithrin gyrfaoedd STEM yn y sector gofod, ac mae'n rhan o'n hymgysylltiad. Ac rwy'n edrych ar y digwyddiad Gwyddoniaeth yn y Senedd yn ddiweddar, a gynhaliwyd gan y Dirprwy Lywydd. Roeddwn yn hoff o'r addysg ynddo, a oedd yn annog gweithgarwch STEM, a sut yr aethant ati'n fwriadol i geisio sicrhau eu bod ar gael i fechgyn a merched ac i bobl o wahanol gefndiroedd hefyd. Mae honno'n enghraifft dda iawn, ac mae'n dangos nad yw talent wedi'i chanoli mewn un sector cymdeithasol.

Gallaf ddweud yn bendant nad dynion yn unig sy'n meddu ar dalent. Yn fy mywyd gwaith fy hun, gallaf ddweud yn onest mai'r timau gorau y bûm yn rhan ohonynt oedd timau gyda nifer gymharol hafal o ddynion a menywod, a'r rheolwyr gorau  gefais yn y gweithle—gydag ymddiheuriadau i Mick Antoniw, a oedd yn rheolwr arnaf ar un adeg—menywod oedd y rheolwyr a'r arweinwyr gorau a gefais yn y gweithle hefyd. Felly, mae'n rhan o fy mhrofiad personol, ac rwyf eisiau gweld mwy o ddynion a menywod talentog yn dod i mewn i'r sector hwn. Mae swyddi da i'w cael, mwy o swyddi i'w cael yn y sector, gwell swyddi, ac rwy'n gwbl hyderus y byddwn yn gweld llawer o fenywod llwyddiannus o Gymru yn y sector yn y dyfodol. 

Busnesau yn Sir Benfro

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ58161

Diolch. Ein blaenoriaethau o hyd yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes drwy wasanaethau Busnes Cymru a'r tîm cymorth rhanbarthol. Rydym wedi darparu cefnogaeth helaeth drwy'r pandemig a'r realiti masnachu ar ôl Brexit. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu economi wyrddach, fwy cyfartal a ffyniannus i bob rhan o Gymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â Tom Sawyer, prif weithredwr newydd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a'i gadeirydd, Chris Martin, a buom yn trafod sut y mae'r porthladd yn arallgyfeirio ei refeniw ac yn tyfu ei bortffolio buddsoddiadau busnes mewn manwerthu, hamdden a thwristiaeth yn y rhanbarth, yn dilyn lansio Tŷ Hotels ar lannau Aberdaugleddau, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ei groesawu'n fawr. Nawr, mae'n hanfodol fod y math hwn o arallgyfeirio'n cael ei gefnogi gan fod cyfleoedd sylweddol i fusnesau lleol yn sir Benfro, ac yn sicr gall helpu i ddatblygu economi ranbarthol gryfach ar gyfer yr ardal hefyd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r math hwn o arallgyfeirio, i helpu i greu cyfleoedd a swyddi i fusnesau lleol?

Wel, mewn gwirionedd, roedd datblygu'r gwesty yn rhywbeth a drafodwyd mewn cyfarfod yn gynharach heddiw gyda swyddogion, wrth edrych ar arallgyfeirio'r economi, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â buddsoddi mewn porthladdoedd hefyd, oherwydd ceir cyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn porthladdoedd hefyd. Felly, rydym yn edrych ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu o safbwynt Llywodraeth y DU. Mae'n amlwg y bydd prosbectws ar gyfer porthladdoedd rhydd, ond ni waeth beth fydd canlyniad hynny, mae cyfleoedd i borthladdoedd yn y gorllewin. Mae arnom angen eglurder ynglŷn â chyfleoedd yn y môr Celtaidd. Mae arnom angen cynllun datblygu mwy hirdymor ar gyfer y môr Celtaidd hefyd. Yna mae angen inni weld beth fydd yn digwydd o ran y cymysgedd rhwng buddsoddiad preifat a chyhoeddus—rhaid i hynny gynnwys Llywodraeth y DU, yn ogystal â ni—ac yna rhai o'r dulliau sydd gennym mewn perthynas â sgiliau a buddsoddi yn fwy cyffredinol. Felly, rwy'n edrych ar y darlun cyfan o'r holl feysydd gwahanol hynny—yr hyn y mae'n ei olygu o ran yr economi ymwelwyr fel rhan allweddol o economi sir Benfro, y cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu newydd, y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â buddsoddi mewn porthladdoedd, a thu hwnt. Byddwn yn parhau i ystyried gwahanol rannau o'r economi ac yn edrych i weld sut y gallwn geisio buddsoddi ochr yn ochr ag eraill i ddarparu'r dyfodol cryfach, mwy ffyniannus a gwyrddach yr ydym i gyd eisiau ei weld. 

14:15
Economi'r Nos yng Ngorllewin De Cymru

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch economi'r nos yng Ngorllewin De Cymru? OQ58169

Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr lletygarwch, twristiaeth, digwyddiadau ac economi'r nos drwy'r fforwm economi ymwelwyr. Sefydlwyd y fforwm i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â hwy yr wythnos nesaf.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Er fy mod yn sylweddoli nad yw materion sy'n ymwneud â throseddu wedi'u datganoli, un mater sy'n cael ei godi'n aml gyda mi yw troseddau busnes yng nghanol dinas Abertawe a'r cyffiniau. Mae ardal gwella busnes Abertawe wedi bod yn gweithio ar brosiect i fynd i'r afael â throseddu yn y ddinas i wneud canol y ddinas yn lle mwy deniadol a llewyrchus i ddarpar fuddsoddwyr ac entrepreneuriaid. Gyda'i gilydd, maent wedi lansio menter Swansea Against Business Crime, ac mae'n amlwg o drafodaethau gyda phartneriaid a busnesau yn y ddinas fod yna bryderon ynghylch diffyg strategaeth sy'n ymwneud â throseddau busnes yn economi'r nos.

Mae'r busnesau hynny wedi derbyn y cysylltiadau clir rhwng yr awdurdodau statudol a'r weledigaeth sydd gan Swasnsea Against Business Crime. Y bwriad yw sicrhau, o dan y fenter honno, fod unrhyw arwyddion o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol o bob math, cyn belled ag y bo modd, yn cael eu coladu mewn fformat y gellir ei ddefnyddio i bennu problemau go iawn y mae busnesau yn y ddinas yn eu cydnabod. O gofio bod hyn yn cael effaith ddofn ar yr economi yn y ddinas, a'r ffaith na fydd y materion hyn wedi'u cyfyngu i Abertawe, pa gamau y gellir eu cymryd ar unwaith i gefnogi ein busnesau, gan weithio gyda phartneriaethau ardaloedd gwella busnes ledled Cymru i liniaru rhai o'r problemau hynny?  

Ac yn olaf, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys comisiynwyr yr heddlu a throseddu a Gweinidogion eraill y Llywodraeth, i roi cymorth pellach i'r busnesau hyn yn eu hymdrech i fynd i'r afael â throseddau busnes yn yr ardal? 

Rwy'n credu bod y cliw yn y geiriau 'troseddau busnes'. Nid yw troseddu a'r system cyfiawnder troseddol wedi'u datganoli i'r lle hwn, neu ddim eto, o leiaf. Felly, bydd angen inni ymgysylltu ag asiantaethau'r DU. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda heddluoedd, oherwydd mae heddluoedd yn cydnabod bod angen iddynt ymgysylltu'n rhagweithiol ag asiantaethau datganoledig a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o'u cyfrifoldebau. Mae gennym berthynas waith dda gyda heddluoedd Cymru. Os bydd ffocws polisi ychwanegol ar hyn, bydd angen ymgysylltu â Gweinidogion y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, ond byddwn ni eisiau gweld busnesau'n llwyddo ac yn mynd i'r afael â materion a allai effeithio arnynt, boed wedi eu datganoli neu wedi'u cadw'n ôl. Dylwn ddweud fy mod yn credu, o fewn economi'r nos yn Abertawe, fod yr arweinyddiaeth a'r proffil y mae'r cyngor wedi'u rhoi i ddatblygu Abertawe yn y dyfodol yn rhywbeth sy'n rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol yn fy marn i. Ond wrth gwrs, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi.FootnoteLink

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ58162

Diolch yn fawr. Darparu gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion yw ein blaenoriaeth ni ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys pobl Preseli sir Benfro. Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf i ddarparu gofal o safon, sef y math o ofal mae pobl yn ei haeddu. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, ers mis Mawrth 2020, mae'r uned triniaethau dydd bediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg wedi'i symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Mae plant yn sir Benfro wedi gorfod teithio ymhellach am wasanaethau hanfodol er mwyn sicrhau bod gan Ysbyty Llwynhelyg ddigon o le ar gyfer ei ymateb COVID-19. Gan fod y pandemig yn llacio bellach, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn bryd dychwelyd yr uned yn ôl i Ysbyty Llwynhelyg. A wnewch chi ddweud wrthym felly pa drafodaethau a gawsoch chi, Weinidog, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y mater penodol hwn, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i deuluoedd yn sir Benfro y bydd yr uned yn cael ei dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg cyn gynted â phosibl, a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny? 

Credaf mai dyna'r mater allweddol, onid e—pryd y mae'n ddiogel i wneud hynny, a sut y gallwn sicrhau y gallwch gael y gofal cyflymaf a gorau posibl cyn gynted â phosibl. Penderfyniad i Hywel Dda yw hwnnw, ac wrth gwrs byddwn yn dilyn eu harweiniad clinigol. Yr hyn rwy'n ei wybod, ochr yn ochr â gweddill y pwysau a welwn ar draws ein holl adrannau damweiniau ac achosion brys, yw mai'r peth allweddol yw sicrhau y gallwn geisio cael gwasanaeth cyflym iawn ar gyfer gofal pediatrig, ac wrth gwrs, os yw hynny'n golygu teithio ychydig ymhellach, credaf y gallai rhieni ddeall ei bod yn werth parhau i wneud hynny am y tro. Gwn mai cam dros dro oedd hwnnw—byddaf yn parhau â'r trafodaethau hynny gydag Ysbyty Llwynhelyg—ond nid ydym yn ôl i normal yn y GIG; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ddeall hynny. Mae cyfraddau COVID wedi gostwng yn sylweddol, ond mae'r pwysau ar y GIG yn parhau, a'r peth pwysig yw ein bod yn rhoi diogelwch ein cleifion yn gyntaf.

14:20

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu penodiad nyrs glinigol endometriosis arbenigol yn Hywel Dda. Mae tua 163,200 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr gwanychol a phoenus hwn, ac mae 19,625 o'r rheini'n byw yn ardal Hywel Dda. Mae endometriosis yn gyflwr sy'n aml yn mynd heb ddiagnosis am flynyddoedd lawer, ac mae'n wych fod gan bob bwrdd iechyd bellach nyrs arbenigol a fydd yn gallu gwella'r gofal i fenywod sydd â'r cyflwr penodol hwn. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu penodiad nyrs glinigol endometriosis arbenigol yn ardal Hywel Dda, ac yn wir yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru, ac a allwch roi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd y rôl hon yn helpu i wella diagnosis cynnar, lleihau'r amser y mae menywod yn aros am driniaeth, a gwella addysg hefyd, er mwyn i glinigwyr a chleifion allu adnabod yr arwyddion a'r symptomau cyn gynted â phosibl?

Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n cytuno bod angen inni roi llawer mwy o amser ac ymdrech i mewn i endometriosis yn y GIG yng Nghymru, a dyna pam fy mod yn falch iawn fod hyn wedi bod yn ffocws i'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, lle rydym wedi cyflwyno £1 filiwn ychwanegol i fynd i'r afael â'r mater hwn o ddifrif, ynghyd ag un neu ddau o faterion eraill yn ymwneud â menywod.

Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod yn bwriadu gwneud datganiad ansawdd ar fenywod yn ystod yr wythnosau nesaf, ac iechyd menywod. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld y nyrsys clinigol arbenigol hynny'n cael eu penodi. Mae'r un yn Hywel Dda wedi bod yn ei swydd ers mis Mai 2021, ac wrth gwrs mae mecanwaith atgyfeirio ar waith fel y gallant atgyfeirio at ganolfannau trydyddol yn Abertawe a Chaerdydd os oes angen llawdriniaethau mwy cymhleth. Mae'r nyrsys endometriosis yn treulio amser gyda chleifion mewn clinigau ac yn cysylltu â'r timau amlddisgyblaethol hynny i sicrhau gwell dealltwriaeth o endometriosis. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom gael gwell dealltwriaeth o endometriosis; mae'n sicr yn rhywbeth y dysgais lawer mwy amdano ers dod i'r swydd hon.

Y peth arall y mae'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod wedi'i wneud yw datblygu gwefan bwrpasol i gleifion ac i nyrsys ei defnyddio, Endometriosis Cymru, ac mae hynny'n cynnwys straeon 'byw gydag endometriosis' gan Gymry, a thraciwr symptomau hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n offeryn diagnosis i gleifion a chlinigwyr, fel y gallwn gyflymu diagnosis cynnar a thriniaeth gynnar i bobl ag endometriosis.

Gweithwyr Cymorth Gofal

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prinder gweithwyr cymorth gofal yng Nghymru? OQ58157

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau recriwtio. Rydym wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a byddwn yn gwneud gwelliannau pellach i delerau ac amodau. Rydym yn llwyr gefnogi dulliau ar y cyd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd i wella llif cleifion o ysbytai i wasanaethau gofal yn y gymuned.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Yn rhy aml, mae'r unig drafodaeth ar ofal cymdeithasol yn ymwneud â'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty. Mae'n bwysicach o lawer na hynny; mae gofal cymdeithasol yn bwysig nid yn unig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty, ond ansawdd bywyd y bobl sy'n ei dderbyn, ac os caf fi ddweud, mae'n ymwneud ag atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod wedi cael eu trin yn eu cartrefi eu hunain ac yn gallu byw bywydau da yn eu cartrefi eu hunain. Credaf weithiau ein bod yn meddwl bod y cyfan yn ymwneud ag iechyd—wel, mewn gwirionedd, fod y cyfan yn ymwneud ag ysbytai: 'Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai; ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gweler iechyd.' A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen inni wella'r broses o gadw a recriwtio drwy gyflogau ac amodau cyflogaeth, yn ogystal â chreu cyfradd gyflogau genedlaethol debyg i'r gyfradd ar gyfer nyrsys? 

14:25

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn amlwg, rwy'n cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd gofal cymdeithasol i bobl allu byw yn eu cartrefi eu hunain a byw bywydau hapus a chyflawn. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau a chyrff eraill, a gwnaethant ein cynghori ar sut i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Eu camau nesaf yn awr fydd edrych ar sut y gallwn wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn nad oes amheuaeth o gwbl fod angen gwella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol. Rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol strategol ar gyfer gofal a chymorth a gomisiynir, a bydd hynny'n gosod safonau cenedlaethol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol lle byddai gofal am ddim lle mae ei angen. Rydym yn aros am yr adroddiad gan y grŵp arbenigol, sy'n edrych ar argymhellion ar gyfer y gwasanaeth gofal cenedlaethol, a chredaf y bydd gennym lawer mwy i'w ddweud ar y pwnc hwn ar ôl iddynt gyflwyno eu hadroddiad.

Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed gan nifer o ofalwyr yn fy rhanbarth sydd o dan bwysau ariannol sylweddol ac nid ydynt yn siŵr a fyddant yn gallu parhau â'u gwaith yn y sector am nad yw eu cyflogau'n ddigon i dalu eu biliau, yn enwedig eu biliau tanwydd. Clywais yn ddiweddar gan weithiwr gofal cartref sydd wedi gweithio fel gofalwr ers dros 30 mlynedd. Mae'r gofalwr yn gwario £90 yr wythnos yn bellach, ac yn defnyddio eu diwrnodau rhydd i gasglu cyfarpar diogelu personol cyn eu shifftiau. Tybed a wnewch chi ddweud wrthyf pa gamau pellach i'r rhai a gymerwyd yn gynharach eleni y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried i sicrhau ein bod yn recriwtio ac yn cadw ein staff gofal, ac yn arbennig, pa gamau y gallwn eu cymryd i gefnogi ein gweithwyr gofal gyda chostau tanwydd, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno eu bod yn hanfodol mewn ardal wledig. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jane Dodds. Yn sicr, gwyddom fod y pwysau ariannol y mae Jane yn ei ddisgrifio yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn y gymuned, ac yn benodol ar ofalwyr. Rwy'n siŵr bod Jane yn cyfeirio at ofalwyr a gofalwyr di-dâl hefyd. Gwn fod y gost o deithio rhwng gwahanol ymweliadau sy'n rhaid iddynt eu gwneud yn rhoi straen enfawr ar eu hadnoddau. Os caf gyfeirio at yr ateb a roddais i gwestiwn Mike Hedges, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwella eu telerau a'u hamodau, ac mae hynny, yn amlwg, yn cynnwys yr hyn y cânt eu talu am betrol i deithio rhwng gwahanol ymweliadau. Hefyd, rwy'n siŵr bod Jane yn ymwybodol o'r grant o £10 miliwn a roesom i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i brynu ceir trydan a fyddai ar gael i ofalwyr cartref eu defnyddio, a hefyd i helpu i dalu am wersi gyrru i ofalwyr yn ogystal. Felly, rydym yn sicr yn rhoi blaenoriaeth i hyn ac mae yna bethau y byddwn yn edrych arnynt, yn sicr.

Diolch am godi'r mater hwn, Jane. Weinidog, yr wythnos diwethaf, adroddodd y BBC fod gweithwyr gofal yn ystyried rhoi'r gorau iddi oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd, sy'n golygu bod teithiau'n eithriadol o ddrud. Mae Bethan Evans o Geredigion yn gyrru dros 600 milltir yr wythnos yn rheolaidd, i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain ar draws gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig, sy'n tynnu 5c arall oddi ar y dreth ar danwydd, ond yn berthnasol mewn rhannau anghysbell o'r Alban, ynysoedd Scilly a llond llaw o ardaloedd gwledig yn Lloegr. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r posibilrwydd o ymestyn y cynllun rhyddhad treth ar danwydd gwledig i rannau o Gymru, ac os nad yw hynny'n opsiwn, beth arall y gallech ei ystyried i leihau'r risg o golli gofalwyr fel Bethan? Diolch.

Mae hwn yn fater pwysig iawn. Yn amlwg, rydym yn croesawu unrhyw gamau sydd wedi bod mewn perthynas â'r dreth ar danwydd a byddem yn croesawu camau pellach. Unwaith eto, mae'n hanfodol bwysig fod gan ofalwyr, yn enwedig mewn lleoedd fel Ceredigion, fynediad at danwydd oherwydd mae'n gwbl angenrheidiol iddynt allu teithio i'r gwaith i helpu pobl sy'n agored i niwed. Felly, credaf fod arnom angen pecyn cyfan o fesurau er mwyn edrych ar hyn ac mae'n fater yr ydym yn ei drafod gyda'r awdurdodau lleol o ran yr hyn y gallwn ei wneud hefyd i gynyddu'r arian y mae awdurdodau lleol yn ei dalu fesul milltir i'r gofalwyr. Oherwydd mae rhai taliadau'n is na'r gost, felly mae llawer o waith i'w wneud yn hynny o beth.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon nad oedd angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru, er gwaethaf ymchwiliadau tebyg yng ngwledydd eraill y DU ac er gwaethaf galwadau gan lawer o'r arbenigwyr yn y sector. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyfoeth o gyngor ac adroddiadau a gafodd eich Llywodraeth, megis yr 'Adolygiad Argyfwng Gofal' yn 2018 ac adroddiad 'Born into care: newborns and infants in care cases in Wales' 2019 gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd angen rhagor o gyngor arnoch. A wnewch chi egluro felly pam fod dau arbenigwr yn y maes yn 2022 yn dweud bod gofal cymdeithasol plant yng Nghymru mewn argyfwng ac yn galw am adolygiad annibynnol?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu bod angen ymchwiliad arall arnom yng Nghymru ar hyn o bryd. Credaf y gallwn ddysgu o'r ymchwiliadau sydd wedi digwydd ac yn sicr, rydym yn astudio'r ymchwiliad yn Lloegr. A chredaf fod llawer o bwyntiau yn yr ymchwiliad yn Lloegr sy'n debyg iawn i'r math o bethau y bwriadwn eu gwneud yma. Teimlwn mai'r hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu, nid ymchwiliad arall. Credaf ein bod yn gwybod bod angen diwygio gofal cymdeithasol. Rydym yn argyhoeddedig fod angen ei ddiwygio ac rydym yn cynllunio i'w ddiwygio ac mae gennym restr gyfan o ddiwygiadau y byddwn yn eu cyflawni. Felly, teimlwn o ddifrif fod arnom angen gweithredu ac ni welwn unrhyw ddiben cael ymchwiliad arall ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar argymhellion yr ymchwiliad sydd newydd ei gyhoeddi yn Lloegr a byddwn yn sicr yn dysgu o'r argymhellion hynny, ond mae gennym gynllun ar gyfer diwygio yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef.

Wel, mae eich ateb yn fy siomi, Ddirprwy Weinidog, a bydd rhaid inni gytuno i anghytuno ynghylch yr angen am yr adolygiad. Ac mae gennym ddyletswydd, rhwymedigaeth, i ddiogelu ein plant rhag niwed, i'w diogelu rhag profiadau niweidiol. Mae llawer gormod o blant yn dal i gael eu trin ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Nid yw nifer y bobl sy'n cael eu trin ar gyfer syndrom alcohol ffetws yn cael ei gadw'n ganolog, felly nid oes gennym ddarlun cyflawn. Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrthod ein galwadau i fabwysiadu targed 70/30 Ymddiriedolaeth WAVE am nad yw'n mynd yn ddigon pell, ond beth a wnewch i ddileu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yma yng Nghymru?

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi gwrthod argymhellion WAVE am nad ydym yn credu y gallwch ddweud mai dim ond 70 y cant o blant y byddwch yn eu helpu a bod 30 y cant nad ydych yn eu helpu—rydym am helpu 100 y cant o blant. Felly, rwy'n siŵr bod y bwriadau sy'n sail i argymhellion WAVE yn rhai da iawn, ond ni allwch ddweud eich bod yn gwrthod 30 y cant o'r plant—na allwch helpu. Ac felly dyna sy'n sail i'n rhesymau dros beidio â derbyn Ymddiriedolaeth WAVE.

Ac oes, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu ein plant a dyna pam ein bod yn rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian tuag at ofal cymdeithasol, i'r gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn cynorthwyo teuluoedd i fagu eu plant a'u cefnogi mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo teuluoedd ac i gynorthwyo plant i aros mewn teuluoedd oherwydd credaf y byddem i gyd yn cytuno mai gyda'u teuluoedd yw'r lle gorau i blant, ac mae llawer gormod o blant yn derbyn gofal gan y wladwriaeth yng Nghymru ac rydym am weld y niferoedd hynny'n gostwng. Ac felly rydym yn rhoi mwy o gymorth tuag at ddiogelu plant mewn teuluoedd.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Credaf mai uchelgais yw'r hyn sydd ei angen arnom. Wrth gwrs, rydym am ddiogelu 100 y cant o blant yng Nghymru, ond byddai cyrraedd 70 y cant a mabwysiadu polisi sy'n cael ei dderbyn gan wledydd eraill y DU yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac rwy'n argymell yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried hyn. Mae llawer o'ch cymheiriaid, yma ac yn San Steffan, yn cefnogi camau i sicrhau gostyngiad o 70 y cant yn y lefelau o blant sy'n wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn 2030, sef, gyda llaw, yr isafswm pendant y mae'r ymddiriedolaeth yn galw amdano, yn hytrach na'r uchafswm. Yn wir, mae mwyafrif eich cymheiriaid yn y Blaid Lafur yn cefnogi'r targed. Safodd pob Aelod Llafur o Senedd yr Alban ar faniffesto a'u hymrwymai i 70/30. Pam y gwahaniaeth rhwng gwahanol rannau eich plaid? Rydych yn rhanedig ar ddatganoli, rydych yn rhanedig ar y cyfryngau, rydych yn rhanedig ar y cyfansoddiad, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—mae'r rhestr yn parhau, Ddirprwy Weinidog, ac ni allwn eistedd yn segur a derbyn hyn. A wnewch chi felly gytuno i gyfarfod gyda mi, Ymddiriedolaeth WAVE ac un o'u llysgenhadon yng Nghymru, sydd eu hunain wedi goroesi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac a all rannu eu profiad?

14:35

Diolch yn fawr iawn. Ni allaf ond siarad am yr hyn yw ein polisi yma, a'n polisi yma yw peidio â mabwysiadu cynigion Ymddiriedolaeth WAVE. Rwyf wedi cyfarfod ag Ymddiriedolaeth WAVE, cefais gyfarfod hir gydag Ymddiriedolaeth WAVE, rwyf wedi trafod gyda hwy'n fanwl pam nad ydym yn cefnogi eu cynigion. Credaf eu bod yn deall pam, oherwydd ein bod yn uchelgeisiol, ac nid ydym yn credu y gallwn anghofio am 30 y cant o'n plant. Ac ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r swm mawr o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er mwyn ceisio atal profiadau o'r fath. Dyna fu un o gonglfeini sylfaenol allweddol ein polisïau. Ac rydym hefyd wedi bod yn rhoi llawer mwy o arian tuag at adnoddau cymunedol ar lawr gwlad, lle y gellir atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod drwy gefnogaeth cymuned. Felly, mae ein gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi symud, ac mewn gwirionedd, rydym yn un o'r gwledydd blaenllaw mewn perthynas â gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, rwy'n meddwl bod parhau i fod eisiau cefnogi Ymddiriedolaeth WAVE—yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw gwella pethau yma i blant yng Nghymru. Rwy'n hapus i wrando ar Ymddiriedolaeth WAVE, rwyf wedi cyfarfod â hwy, rwy'n gwybod beth y maent yn ei ddweud, ac rydym yn parhau i geisio gwneud ein gorau dros blant Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cwestiwn yn gyntaf roeddwn i wedi bwriadu ei ofyn cyn sylweddoli ein bod ni fel pwyllgor iechyd yn cyhoeddi heddiw ein hadroddiad ar lif cleifion drwy'r system iechyd a gofal. Mae'r argymhellion, dwi'n meddwl, yn rhai pwerus, maen nhw'n rhai pwysig, yn ymwneud â'r angen i gryfhau'r system gofal cymdeithasol, i ddenu a chefnogi staff. Mae'n sector, wrth gwrs, sydd wedi cael ei anwybyddu yn llawer, llawer rhy hir. Ond gaf i awgrymu bod yna eliffant arall yn yr ystafell pan fo'n dod at sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau'n amserol o'n hysbytai acíwt ni? Mae yna ryw 10,500 o wlâu ysbyty yng Nghymru; 30 mlynedd yn ôl, mi oedd yna dros 15,000. Dŷn ni wedi colli un o bob tri gwely. Ac mi oedd llawer o'r gwlâu, wrth gwrs, sydd wedi cael eu colli yn welyau cymunedol, gwlâu step-down, lle'r oedd pobl yn gallu mynd i greu rhagor o le a chreu rhagor o gapasiti yn yr ysbytai acíwt . Ydy'r Gweinidog yn cytuno bod colli'r capasiti yna, o dan oruchwyliaeth un Gweinidog Llafur ar ôl y llall, wrth gwrs, wedi helpu i greu'r argyfwng presennol, a beth ydy ei chynlluniau hi i adfer y capasiti cymunedol yna?

Diolch yn fawr, a diolch hefyd i'r pwyllgor am yr argymhellion. Mi fyddaf i'n cymryd amser i fynd drwy'r rheini, ond dwi'n siŵr y bydd yna lot o syniadau. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷn ni wedi bod yn ei anwybyddu, mae'n rhywbeth rŷn ni wedi bod yn talu lot o sylw iddo. Ond fel y mae'r pwyllgor nawr yn deall, mae'n system sy'n gymhleth tu hwnt, lle mae'n rhaid ichi anelu at wneud gwelliant ar bob lefel o'r system, yn cynnwys y system gofal rŷn ni wedi bod yn ei thrafod y bore yma.

Ar y cwestiwn o welyau yng Nghymru, wrth gwrs, beth y mae'n rhaid inni ei gofio yw, yn ddelfrydol, beth rŷn ni eisiau ei weld yw cleifion yn mynd mewn, cael eu trin, ac wedyn mynd adref. Rŷn ni eisiau gweld mwy o ofal gartref i gleifion. Ac yn sicr, dyna ble mae fy ffocws i—i geisio cael pobl allan cyn gynted â phosibl. A beth mae hynny'n ei olygu yw, mewn gwirionedd, rŷch chi eisiau llai o welyau, achos rŷch chi eisiau iddyn nhw fod allan, gartref. A beth mae'n rhaid inni ei wneud yw cryfhau'r gofal, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn y cymunedau, a dyna beth dwi eisiau ei weld. Mae'n ddiddorol bod y Nuffield Trust, er enghraifft, yr wythnos diwethaf, wedi dweud yn eu hadroddiad nhw bod 

270 o welyau i bob 100,000 yng Nghymru o'i gymharu â 170 o welyau i bob 100,000 yn Lloegr. Felly, os cymharwch ein ffigurau, o ran gwelyau yma yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, rydym yn gwneud yn llawer gwell nag y maent hwy'n ei wneud. 

14:40

A gall gwleidyddion yn Lloegr feirniadu Llywodraeth Lloegr am yr hyn y maent hwy'n ei wneud ynglŷn â cholli gwelyau cymunedol. Y broblem yw eich bod yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y sector gofal, oherwydd colli'r cyfleuster cam-i-lawr hwnnw. Credaf y bydd datrys mater llif cleifion yn cyfrannu'n helaeth at y gwaith o fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y gwasanaeth iechyd—yr amseroedd aros. Ond mae angen inni hefyd adeiladu capasiti newydd yno a chael syniadau newydd.

Nawr, pan gyhoeddodd y Gweinidog gynlluniau i dorri rhestrau aros ac amseroedd aros yn ddiweddar, dywedwyd wrthym y gallai rhai arbenigeddau gael eu hepgor. Yn anhygoel, awgrymwyd y gallai hyn gynnwys orthopedeg hyd yn oed, lle mae amseroedd aros mor hir, ond mae gennym gynllun ar gyfer orthopedeg. Fe'i gelwir yn strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer llawdriniaeth orthopedig. Cefais gyflwyniad heddiw gan y ddau feddyg ymgynghorol a'r rheolwr a'i lluniodd, ac mae'n wych, yn union y math o waith manwl a arweinir gan arbenigwyr ac wedi ei yrru gan ddata sydd ei angen arnom. Maent yn argymell tri hyb annibynnol wedi'u hadeiladu o'r newydd ar gyfer llawdriniaethau orthopedig dewisol, maent am gael adolygiad cenedlaethol o'r gweithlu amlddisgyblaethol, ac maent am weld rhwydwaith orthopedig i Gymru yn cael ei sefydlu gyda'r pwerau dirprwyedig sydd eu hangen i fwrw ymlaen â hyn. A wnaiff y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni hynny? 

Wel, yn bendant, rydych wedi camddeall os credwch ein bod rywsut wedi hepgor orthopedeg o'n strategaeth gofal wedi'i gynllunio. Dyna lle mae gennyf fwyaf o bryderon, oherwydd mae'r rhestrau aros yn faith iawn mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod yn rhoi llawer o sylw iddo ac yn canolbwyntio arno. Ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir, fel y gŵyr yr Aelod, fy mod yn awyddus iawn i weld hybiau rhanbarthol yn cael eu datblygu, ac rydym yn gweld yr union beth yr ydych yn ei awgrymu yn cael ei ddatblygu, yn Hywel Dda er enghraifft.

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn gwrando ar glinigwyr. Ni yw'r bobl sydd wedi gofyn i'r bobl hyn feddwl am syniadau. Y cyfyngiad arnom yw cyfalaf, felly dyna'r broblem sydd gennym. A allwn ni sefydlu'r sefydliadau hyn mewn gwirionedd? Rwy'n credu y bydd angen inni addasu'r hyn sydd gennym, yn hytrach nag adeiladu cyfleusterau newydd, ond ni chewch unrhyw wrthwynebiad yma rhag gwneud hynny. Ac wrth gwrs, y mater arall yw nad yw'n ymwneud â llawfeddygon yn unig, mae'n ymwneud â'r holl dimau o'u cwmpas mewn gwirionedd, a dyna'n sicr yw'r neges a glywais yn uchel ac yn glir iawn gan Gymdeithas Lawfeddygol Cymru ddydd Gwener. 

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn Ne-ddwyrain Cymru

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58184

Mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol wedi newid yn ddramatig ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gwasanaethau wedi gorfod addasu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gofal sylfaenol mewn modd diogel ac effeithiol. Mae technoleg ddigidol wedi helpu i gyflawni'r gwelliannau hyn.

Weinidog, yn ardal Severnside yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi gweld llawer iawn o gynnydd yn nifer y tai dros y blynyddoedd diwethaf, yn ardaloedd Magwyr, Rogiet, Gwndy a Chil-y-coed a'r cyffiniau, ond nid ydym wedi gweld y math o gynnydd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a fyddai'n adlewyrchu'r cynnydd yn y boblogaeth. Ac mae llawer o bobl yn yr ardaloedd hyn bellach yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan feddygon teulu a gofal sylfaenol yn gyffredinol, a hoffent weld cynnydd yn y capasiti hwnnw. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf sut rydych yn gweithio gyda byrddau iechyd a meddygfeydd i ymateb i'r sefyllfaoedd hynny, lle mae gennym boblogaethau sy'n tyfu, a phryderon nad oes capasiti gofal sylfaenol i gyd-fynd â'r datblygiadau hynny?

Wel, pan welwn y datblygiadau hyn yn digwydd, rydym yn ymwybodol iawn fod angen inni ystyried seilwaith ychwanegol, yn cynnwys ysgolion a'r holl bethau eraill sy'n mynd gyda hwy, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r cynnydd yn y boblogaeth yn enwedig yn yr ardal y cyfeiriwch ati, John. A dyna pam fy mod wedi cymeradwyo £28 miliwn o gyllid yn ddiweddar, sydd wedi'i gadarnhau, er mwyn datblygu canolfan iechyd a lles dwyrain Casnewydd. Bydd y gwaith o adeiladu'r cyfleuster hwnnw'n dechrau yr haf hwn, a hynny ar y safle gerllaw Canolfan Iechyd Ringland ar hyn o bryd. Bydd y cyfleuster yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau clinigol a ddarperir gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan, yn cynnwys gwasanaethau meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol, practis deintyddol cyffredinol, ynghyd â darpariaeth gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, yn union y math o fodel y mae gennym ddiddordeb gwirioneddol yn ei gyflwyno, a Chasnewydd fydd un o'r mannau cyntaf i weld hynny'n digwydd. Felly, rwy'n falch iawn o weld hynny. Rydym hefyd yn awyddus i weld—a'r rheswm pam ein bod am ddatblygu'r hybiau hyn—gwasanaeth integredig ac ataliol wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion penodol y gymuned honno ac i fynd i'r afael â materion pwysig yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd. 

14:45

Weinidog, rwyf innau, fel John Griffiths, yn pryderu—ni cheir gwasanaethau sylfaenol i gyd-fynd â'r datblygiadau tai yng Nghasnewydd ac ar draws fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Mae etholwyr yn fy rhanbarth yn pryderu, a hynny'n briodol, am lefel y mynediad, yn enwedig at wasanaethau deintyddol. Collwyd 150 o bractisau deintyddol mewn dwy flynedd rhwng 2019 a 2021. Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, rydym yn gweld darlun sy'n peri pryder lle mae nifer o etholwyr bellach yn adrodd am amseroedd aros o dros flwyddyn am archwiliad, os gallant ymuno â phractis GIG hyd yn oed. Rwy'n croesawu eich sylwadau am hyb Casnewydd, ond mae hyn yn bryder difrifol i lawer o bobl ar draws fy rhanbarth i a Chymru. Weinidog, mae'r sefyllfa wedi dirywio cymaint, sut y bwriadwch gynyddu nifer y practisau deintyddol GIG a chadw'r deintyddion GIG hynny yng Nghymru? Diolch.

Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn nodi bod tua 20,000 o bobl yn cael eu trin gan wasanaethau deintyddol bob wythnos yng Nghymru, ac mae nifer y deintyddion wedi codi yn 2018 a 2019 i dros 1,500. Wrth gwrs, un o'r problemau a gawsom oedd bod cynhyrchiant aerosol mewn practisau deintyddol yn beryglus iawn yn ystod COVID, a dyna lle y gwelsom ostyngiad enfawr yng ngallu cleifion i gael mynediad. Nawr, rwy'n falch iawn ein bod o'r diwedd wedi gweld cyngor ar atal a rheoli heintiau yn cael ei lacio mewn perthynas â phractisau deintyddol, ac felly byddant bellach yn gwneud eu hasesiad risg eu hunain a gobeithio y byddant yn trefnu gwahanol bobl yn ôl y risgiau anadlol ac efallai'n eu rhoi gyda'i gilydd ar ddiwedd y diwrnod. Y mater arall yr ydym wedi canolbwyntio'n fanwl arno yw diwygio contractau. Yn y gorffennol, fel y gwyddoch, rydym wedi talu yn ôl nifer yr unedau o weithgarwch deintyddol. Mae hynny wedi newid yn llwyr yn awr, ac rwy'n falch iawn fod 78 y cant o ddeintyddion y GIG bellach wedi symud at y contract newydd. Golyga hynny y byddwn yn eu gweld yn derbyn cleifion GIG newydd, a bydd yn ofynnol iddynt leihau'r gwaith rheolaidd ac ailadroddus a wnaed yn y gorffennol nad oedd o reidrwydd yn symud pethau ymlaen i bobl.

Deintyddion yng Nghanolbarth Cymru

4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o ddeintyddion yng nghanolbarth Cymru? OQ58168

Wel, dilyniant o'r cwestiwn diwethaf. Yn sicr, mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio ac asesu darpariaeth ddeintyddol i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ddiwygio'r contract deintyddol i ganolbwyntio ar atal a thriniaeth sy'n seiliedig ar angen er mwyn creu mwy o fynediad i gleifion GIG newydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ers blynyddoedd maith tynnais sylw'r Siambr hon at y ffaith nad yw fy etholwyr yn gallu cael gafael ar ddeintydd GIG lleol. Nawr, roedd hyn ymhell cyn i'r pandemig ddechrau, iawn—ymhell cyn i'r pandemig ddechrau. Yr hyn y mae fy etholwyr yn ei ddweud wrthyf yn awr yw, os byddant yn cysylltu â deintydd GIG, eu bod yn cael eu rhoi ar restr aros, y dywedir wrthynt y gallent fod hyd at dair blynedd, neu cânt gynnig deintydd, a gallai fod yn daith o ddwy awr at y deintydd agosaf ac yn ôl am nad oes gennym drafnidiaeth ar gael i ddarparu ar gyfer hynny. Weinidog, os caf ddweud—a chlywais eich ateb i Laura Anne Jones yn nodi bod mwy o ddeintyddion ar gael bellach—dyma'r wybodaeth sydd gennyf: mae 83 yn llai o ddeintyddion yn awr nag a oedd ar ddechrau'r pandemig. Rydych wedi sôn am y contract newydd, ond pan siaradaf â deintyddion, maent yn dweud rhywbeth gwahanol iawn wrthyf: maent yn dweud wrthyf nad yw contract newydd yn ddefnyddiol mewn gwirionedd gan ei fod yn tynnu'r ffocws oddi ar archwiliadau rheolaidd, mae'n gwneud i ddeintyddion ddewis rhwng cleifion blaenorol a chleifion newydd, mae'n talu deintyddion yn seiliedig ar ddata perfformiad sydd wedi dyddio, ac mae'r swm o arian sydd ar gael yn gostwng—15 y cant yn llai na'r hyn ydoedd chwe blynedd yn ôl mewn gwirionedd. Felly, a gaf fi ofyn ichi, a ydych yn cytuno â mi fod problem wirioneddol gyda chapasiti o ran gallu pobl i gael mynediad at ddeintydd GIG neu gofrestru gydag un? A beth arall a wnewch chi ac a wnaiff Llywodraeth Cymru, i sicrhau, ymhen dwy flynedd, nad wyf yn sefyll yma eto yn gofyn pryd y gall fy etholwyr gael deintydd GIG lleol?

14:50

Diolch, Russell. Rwy'n derbyn bod problem gyda chapasiti ar hyn o bryd, a dyna pam fy mod yn treulio cryn dipyn o fy amser yn awr yn ceisio mynd i'r afael â'r union fater hwn. Rydym yn gwneud cynnydd cyson gydag adfer gwasanaethau deintyddol. Ac er fy mod yn derbyn nad oedd yn wych cyn y pandemig, mae'r pandemig yn sicr wedi gwneud pethau gryn dipyn yn waeth, ac rydym yn dal i fod ymhell o fod yn 100 y cant o'r hyn yr oeddem yn ei wneud cyn y pandemig. Felly, mae'r rheini'n gyfyngiadau sydd y tu hwnt i reolaeth gwleidydd. Ac mae'n rhaid inni ddeall bod yn rhaid inni sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn cael triniaeth.

Nawr, bydd 89 y cant o werth y contract yn gweithredu o dan yr egwyddor diwygio deintyddol newydd honno, a'r hyn a fydd yn digwydd o ganlyniad i hynny, er enghraifft ym Mhowys, yw y gwelwn fynediad i tua 5,000 o bobl newydd allu dod i weld deintydd GIG. Credaf mai un o'r gwahaniaethau, os edrychwch ar yr hyn y mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn ei gynnig yn y lle hwn—a'r hyn yr ydym i gyd wedi cael ein cyflyru i'w gredu dros y blynyddoedd yw bod rhaid ichi fynd am archwiliad bob chwe mis, ond nid yw NICE yn dweud hynny mwyach; nid fi yw'r unig un—mae NICE yn dweud ei fod yn dibynnu mewn gwirionedd ar ba mor iach yw eich dannedd. Felly, ni ddylai fod angen o reidrwydd ichi fynd am archwiliad bob chwe mis. Nawr, nid fi sy'n dweud hynny, fel y dywedaf; arbenigwyr clinigol sy'n dweud ein bod wedi gwario llawer o arian mewn gwirionedd, ac wedi treulio llawer o amser ar anfon pobl am archwiliad nad oedd mo'i angen o reidrwydd, ac roedd pobl a oedd angen archwiliad, ond na allent gael un o gwbl am na allent gael mynediad, yn cael eu gadael allan yn llwyr. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi dewis diwygio'r contract fel y gwnaethom.

Weinidog, dyma ni'n trafod dannedd eto. Fel llawer yn y Siambr hon, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi codi mater mynediad at ddeintyddiaeth dro ar ôl tro yng nghanolbarth a gorllewin Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar i chi am yr arian i gefnogi deintydd ychwanegol yn Llandrindod, er, yn anffodus, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb yn y rôl ers mis Chwefror.

Weinidog, deallaf mai rhan o'r ateb o bosibl fyddai cynyddu argaeledd therapyddion a nyrsys deintyddol. Deallaf y gall therapyddion deintyddol, er enghraifft, wneud llenwadau i blant a llenwadau sengl i oedolion. Felly, Weinidog, tybed pa gamau y gallech eu cymryd i gynyddu hyfforddiant mwy o therapyddion a nyrsys deintyddol i'n helpu yn y canolbarth a'r gorllewin. Ac a oes gennych unrhyw dargedau neu drothwyon a fyddai'n arwydd o welliant i gleifion? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane, a diolch am eich ffocws parhaus ar y mater hwn. Mae'n sicr yn cadw'r pwysau arnaf fi. Rwy'n falch o ddweud y bydd y contract newydd hwn, fel y dywedais, yn arwain at weld 5,000 o bobl ychwanegol nad ydynt yn gallu cael mynediad at ddeintyddion y GIG ym Mhowys ar hyn o bryd yn cael mynediad, a 13,000 o bobl yn ardal Hywel Dda.

Felly, rydym wedi rhoi arian ar y bwrdd, ond fel y nodwch, nid yw arian ar ei ben ei hun yn mynd i ddatrys hyn. Rhoesom £2 filiwn ar y bwrdd y llynedd a cheir cyllid rheolaidd o £2 filiwn, ond mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yw nad yw deintyddion am ei gael, nid ydynt am chwarae. Ac felly, rydych yn llygad eich lle fod angen inni feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, a dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar ddefnyddio therapyddion deintyddol yn y ffordd a awgrymwch. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth a godais gyda'r holl fyrddau iechyd yn fy arfarniadau blynyddol gyda hwy—rhywbeth a godais yr wythnos hon gyda chadeirydd bwrdd iechyd Powys. Yn sicr, un o'r pethau a welwn, er enghraifft, yw cynnydd o 74 o leoedd mewn hyfforddiant deintyddol sylfaenol. Felly, mae pethau'n gwella, ond rwy'n ceisio gweld a allwn wthio'n llawer pellach ar y bobl sy'n gallu gwneud llawer o'r gwaith y mae deintyddion wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol.

14:55
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn cael eu darparu? OQ58159

Mae byrddau iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau yn unol â safonau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer iechyd meddwl amenedigol. Cefnogir y gwaith gan gyllid gwella ychwanegol ar gyfer gwasanaethau eleni, sy'n adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol.

Diolch, Weinidog. Mae mamau newydd wedi cael ychydig o flynyddoedd anodd iawn. Mae'r pandemig wedi arwain at gynifer ohonynt yn mynd drwy lawer o gerrig milltir ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd mawr ar adeg a allai fod wedi bod yn hapus iawn fel arall. Os gwelwch yn dda, Weinidog, hoffwn wybod a oes asesiad wedi'i wneud o'r effeithiau y mae'r pandemig wedi'u cael ar rieni newydd a phlant a aned ers 2020. Sut y mae methu gweld pobl wyneb yn wyneb wedi effeithio arnynt, beth am effaith newidiadau staffio, a sut yr effeithiwyd ar waith timau iechyd amenedigol cymunedol, neu ymwelwyr iechyd? Ac yn olaf, Weinidog, pa waith a wneir yn awr i sicrhau bod bod yn rhiant newydd yn amser y gall pob rhiant ei fwynhau?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Delyth, ac fel y dywedwch, mae wedi bod yn anodd iawn cael babi newydd yn ystod y cyfyngiadau symud. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny, ac fe fyddwch yn cofio imi arwain dadl yn y Siambr fel aelod o'r meinciau cefn ar fabanod yn ystod y cyfyngiadau symud. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau yn Llywodraeth Cymru. Gwn fod gwasanaethau amenedigol wedi addasu'n gyflym iawn i'r pandemig, er bod rhywfaint o'r gwaith hwnnw, o reidrwydd, wedi'i wneud ar sail rithwir, ac roedd yr un peth yn wir am ymwelwyr iechyd. Ond rydym yn ymwybodol iawn o'r hyn y mae teuluoedd wedi bod drwyddo. Mae gwasanaethau'n dod yn ôl ar y trywydd iawn. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol iawn yn ein cymorth haen 0 a chymorth lefel is i unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac rydym hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer 2022–23 i gefnogi gwasanaethau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig a meysydd blaenoriaeth allweddol yn ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae hynny'n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, sy'n flaenoriaeth yn y strategaeth. Ac rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gydymffurfio yn awr â safonau gweithlu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion—ar safon 1 erbyn Ebrill 2023—a gofynnwyd iddynt i gyd flaenoriaethu cymorth amenedigol. Fel rhan o'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennym, gofynnwyd iddynt wneud cais ar gyfer hynny a darparu gwybodaeth fanwl am yr hyn y maent yn ei wneud gyda'r arian hwnnw, ac rydym ni, mae swyddogion, wrthi'n asesu'r cyflwyniadau hynny gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd.

Yn sicr, mae mynd drwy feichiogrwydd a chael babi yn ddigwyddiad sy'n newid bywydau. Fodd bynnag, gall iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, megis menywod yn cael problemau bwyta yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, gan gynnwys achosion eraill posibl, fod yn hynod beryglus i'r fam a'r baban. Mae'n fater rwyf wedi parhau i fod yn angerddol iawn yn ei gylch. Mae tua un o bob pum menyw yn profi problem iechyd meddwl amenedigol yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y blynyddoedd ôl-enedigol cynnar. Ac yn frawychus, wrth ysgrifennu'r ymateb hwn, cefais syndod o weld y bydd 70 y cant o famau'n cuddio eu salwch neu'n ymatal rhag ei ddatgelu'n llawn. Felly, pa drafodaethau parhaus y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'n harbenigwyr gofal iechyd? Wyddoch chi, dro ar ôl tro, wythnos ar ôl wythnos, rwy'n sefyll yma, pan fydd cymaint o bwysau ar fy mwrdd iechyd lleol fy hun, a sut y gallaf fod yn sicr fod y mamau sy'n chwilio'n daer am gymorth ar gyfer iselder amenedigol neu unrhyw fater iechyd meddwl—? Sut y gallaf gael sicrwydd, Ddirprwy Weinidog, neu Weinidog, y byddant yn cael y gefnogaeth lwyr sydd ei hangen arnynt? Diolch.

Diolch, Janet, a gallwch fod yn gwbl dawel eich meddwl fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y gwnaethom sicrhau bod y cyllid rheolaidd ar gael, i sefydlu timau iechyd meddwl amenedigol. Maent ar waith ym mhob rhan o Gymru. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r tîm amenedigol yn Betsi, sy'n gwneud gwaith rhagorol iawn yn cefnogi teuluoedd ar adeg a all fod, fel y dywedwch, yn gyfnod heriol iawn yn eu bywydau. Ond rydym yn gwybod bod angen inni wneud mwy, a dyna pam ein bod yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, ac mae hyn hefyd yn flaenoriaeth i bethau fel cynllun gweithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ond rydym wedi gwneud cynnydd da iawn yn sefydlu'r timau hynny, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu ein ffocws ar iechyd meddwl amenedigol, oherwydd rydym yn cydnabod nad ar gyfer y teuluoedd yn unig y mae hyn; mae'n ymwneud â rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i fabanod.

15:00

Buffy Williams. Buffy Williams. A, dyna chi. O, na—. Ie. Dechreuwch yn awr, diolch.

Diolch, Lywydd. Genedigaeth plentyn yw un o'r profiadau mwyaf dwys ac emosiynol ym mywyd menyw, ond weithiau gall y genedigaethau sydd wedi'u cynllunio orau droi'n gyflym i fod yn ddigwyddiad heb fawr o lawenydd a hapusrwydd, yn anffodus. Mae cymorth i famau, eu partneriaid geni a'u teuluoedd drwy gydol y cyfnod amenedigol yn gwbl hanfodol am y rheswm hwn. Yn ogystal â'r uned gobaith benodedig ym Mae Abertawe, mae'r gefnogaeth ar gael ar draws y saith bwrdd iechyd drwy dimau cymorth iechyd meddwl amenedigol penodedig a chan y trydydd sector drwy gyfrwng elusennau fel Mothers Matter. A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed i ddarparu hyfforddiant cymorth iechyd meddwl amenedigol i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'r cyfnod amenedigol, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod elusennau fel Mothers Matter yn cael eu hariannu'n ddigonol i'w galluogi i barhau i ddarparu cymorth amhrisiadwy i famau a'u teuluoedd?

Diolch yn fawr iawn, Buffy. Fel rydych yn iawn i ddweud, rydym i gyd yn disgwyl cael profiad hapus iawn wrth eni plant, ond yn anffodus, gall pethau fynd o chwith, gall fod profiadau trallodus, a gwn eich bod yn cydnabod hynny, fel finnau. Mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi cymorth ar waith. Rwy'n ddiolchgar ichi hefyd am gydnabod y gwaith a wnaethom eisoes drwy sefydlu'r uned mamau a babanod yn Ysbyty Tonna, a hefyd y timau iechyd meddwl amenedigol sydd bellach yn gweithredu ledled Cymru.

Fodd bynnag, mae hyfforddiant, fel y dywedwch, yn gwbl hanfodol, ac mae'n hanfodol bod pawb sy'n dod i gysylltiad â menywod beichiog neu fenywod yn y cyfnod amenedigol yn meddu ar ddealltwriaeth dda o iechyd meddwl amenedigol, oherwydd mae hyn yn fusnes i bawb. Mae'r rhwydwaith iechyd meddwl amenedigol a sefydlwyd gennym yn datblygu fframwaith hyfforddi ar gyfer iechyd meddwl amenedigol, ac mae hefyd yn ardal flaenoriaeth i Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fe fyddwch yn falch o wybod bod AaGIC bellach wedi cwblhau'r ymgynghoriad ar gynllun y gweithlu iechyd meddwl, ac y byddant yn nodi, maes o law, sut y byddant yn bwrw ymlaen â'r materion hynny.

A gaf fi hefyd roi eiliad i gofnodi fy niolch i sefydliadau'r trydydd sector fel yr un y cyfeirioch chi ato, sef Mothers Matter? Gwnaed argraff fawr arnaf, fel Cadeirydd y pwyllgor, gan y gwaith hollol hanfodol y mae'r trydydd sector yn ei wneud, yn aml heb gydnabyddiaeth ariannol. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda byrddau iechyd ein bod am i'r sefydliadau trydydd sector hynny gael eu trin fel partneriaid cyfartal a'u hystyried ar gyfer cyllid pan fydd ar gael. Dyna un o'r pethau y byddaf yn edrych arno pan ddaw'r ceisiadau hyn yn ôl ataf, eu bod wedi gweithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector i sicrhau eu bod yn cael cyfle teg i gael gafael ar gyllid.

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr hyfforddiant meddygol sydd ar gael yn ysgol feddygol gogledd Cymru? OQ58186

Diolch. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen hyfforddiant meddygol C21 gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei darparu ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Cafodd y fenter hon ei chyflwyno i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a bydd hon yn sail i gwricwlwm ysgol feddygol gogledd Cymru.

Diolch i chi am y diweddariad, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ysgol feddygol yn cael canolfan newydd sbon yng nghanol dinas Bangor maes o law, fydd yn gallu cyfrannu yn ogystal at y gwaith o adfywio'r stryd fawr yn y ddinas.

Mae strategaeth eich Llywodraeth chi, 'Mwy na geiriau', yn pwysleisio bod cael gofal yn eich iaith gyntaf yn allweddol i ansawdd y gofal yna. Mae hyn yn wir am blant bach uniaith Gymraeg sydd heb gaffael y Saesneg ac mae o'n wir hefyd am oedolion sydd wedi colli'r defnydd o'u hail iaith. Fedrwch chi felly egluro wrthyf i sut bydd ysgol feddygol Bangor yn cyfrannu at y gwaith o greu doctoriaid dwyieithog? A wnewch chi amlinellu eich disgwyliadau chi o ran recriwtio myfyrwyr dwyieithog ar gyfer eu hyfforddi yn ysgol feddygol y gogledd? A pha dargedau, pa gwotâu, sydd eu hangen i'w cyflwyno gan y ddwy brifysgol sydd yn rhan o'r prosiect yma?

15:05

Diolch yn fawr. Wel, yn sicr dwi'n awyddus iawn i weld 'Mwy na geiriau' yn parhau ac yn newid ffurf ac yn mynd yn fwy aggressive o ran beth rŷn ni'n disgwyl ei gweld o ran y byrddau iechyd o ran darpariaeth. O ran yr ansawdd i blant bach ac i bobl sydd yn uniaith Gymraeg neu sy'n fwy cyfforddus drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, mae safon ansawdd gofal yn newid i'r rheini sy'n derbyn y gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg os nad ydyn nhw'n gallu cael ef yn eu hiaith eu hunain.

Gwnes i ddod â'r cwestiwn yma i fyny yn ddiweddar o ran recriwtio yn ysgol feddygaeth Caerdydd—ac, wrth gwrs, maen nhw'n gweithio'n agos iawn gyda Bangor ar hyn o bryd—a beth oedd yn ddiddorol oedd gweld faint o bobl yn ychwanegol sy'n cael eu recriwtio nawr o Gymru o'i gymharu â'r sefyllfa yn y gorffennol. Beth sy'n bwysig yw bod y bobl yma'n cyrraedd y safon sy'n ddisgwyliedig, dim ots pa iaith maen nhw'n ei siarad, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r safon yna'n uchel, ond, yn sicr, mae hwn yn rhywbeth maen nhw'n ystyried sydd yn bwysig, ac un o'r pethau rôn i wedi gweld pan oeddwn i'n Weinidog y Gymraeg oedd tiwtora yn cael ei roi trwy gyfrwng y Gymraeg i grŵp nid yn unig o bobl oedd yn siarad Cymraeg ond i bobl ryngwladol a phobl ddi-Gymraeg hefyd. Roedd hi'n hyfryd gweld hynny'n digwydd. Dwi'n meddwl mai chwaer Rhun oedd yn rhoi'r ddarlith. Dwi yn meddwl bod hynny'n dangos ei fod e'n bosibl i roi'r darlithiau yma ac i roi'r hyfforddiant yma drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, a gobeithio bod hynny hefyd yn mynd i ddenu mwy o bobl at astudio meddygaeth. Dwi'n falch o weld bod mwy o recriwtio'n digwydd yng Nghymru ymysg y Cymry. Mae hwnna wedi gwella lot yn y blynyddoedd diwethaf.

Lles Meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd? OQ58179

Diolch. Mae gwella llesiant Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, diolch i'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n torri tir newydd. Mae enghreifftiau o gamau gweithredu penodol yn cynnwys y gronfa iach ac egnïol, i gefnogi prosiectau sy'n cynyddu gweithgarwch corfforol y rhai nad ydynt yn gwneud fawr o weithgarwch corfforol ar hyn o bryd, os o gwbl, a gwella lles meddyliol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Yn ystod yr Wythnos Iechyd Dynion hon, roeddwn eisiau codi mater sy'n effeithio'n uniongyrchol ar les meddyliol fy etholwyr, sef Sied Dynion Dinbych. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r gwaith gwych a wneir gan Men's Sheds ar greu mannau lle mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn cael sylw mewn amgylchedd cyfeillgar, a lle y gall dynion sgwrsio a mwynhau cwmni ei gilydd. Mae Sied Dynion Dinbych wedi bod yn gweithredu o Drefeirian ar Love Lane, ac mae'n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond dywedwyd wrthynt yn ddiweddar na chânt ddefnyddio'r safle mwyach. Mae hyn wedi achosi gofid a phryder aruthrol i'r grŵp, sydd eisoes yn dioddef ar ôl colli un o'u haelodau i hunanladdiad, yn anffodus.

Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ddatrys y problemau hyn ar frys, ond rwy'n gofyn heddiw a oes unrhyw beth y gallwch chi neu eich swyddogion ei wneud i ymyrryd yn y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gall Sied Dynion Dinbych ailagor cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol hwnnw, Gareth. A gaf fi achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith a wneir gan Men's Sheds ledled Cymru? Rwy'n credu eu bod yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o gefnogi iechyd meddwl a mynd i'r afael ag unigrwydd, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu eu cefnogi drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn y gorffennol.

Ar y mater a godwyd gennych am y Sied Dynion yn Ninbych, roeddwn yn bryderus iawn o glywed am y sefyllfa honno. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd ac wedi cael gwybod, yn dilyn gwiriad iechyd a diogelwch, fod risgiau wedi'u nodi a'u bod yn teimlo'u bod o'r fath natur fel bod angen atal y gwasanaeth hwn dros dro. Gwnaed y penderfyniad i gyfyngu ar fynediad i'r safle mewn perthynas â'r ŵyl banc pedwar diwrnod. Mae adroddiad iechyd a diogelwch manylach yn cael ei ddarparu, a disgwylir adroddiad diogelwch tân ar gyfer y safle. Caiff hwn ei ddatblygu i gytuno ar gynllun lliniaru ar y cyd ar 24 Mehefin i sicrhau y gellir adfer y gwasanaeth heb oedi. Cydnabyddir, serch hynny, y gallai unrhyw oedi pellach cyn ailagor mynediad i'r safle gael effaith negyddol ar ddinasyddion sy'n dibynnu ar y gwasanaeth Men's Shed, a chefais sicrwydd y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod unrhyw risgiau sy'n parhau naill ai'n cael sylw neu y byddant yn cefnogi opsiynau amgen ar gyfer darparu'r gwasanaeth tra bo'r risgiau ar safle Trefeirian yn cael eu hunioni, os gellir lliniaru'r pryderon. Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd i chi fod hyn yn cael sylw a bod y bwrdd iechyd yn ceisio ei ddatrys ar frys.

15:10
Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes

8. Pryd y bydd bwrdd y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn dechrau gweithio ar gynllun gweithredu? OQ58171

Ar hyn o bryd mae'r bwrdd gofal diwedd oes yn paratoi ar gyfer pontio i fwrdd y rhaglen newydd ar gyfer gofal diwedd oes, a hynny o 1 Gorffennaf 2022. Mae rhaglen waith y bwrdd newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a bydd yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau galluogi gofal diwedd oes.

Diolch yn fawr, Weinidog, a dwi'n falch iawn o glywed bod y gwaith yn dechrau mor fuan. A allech chi gadarnhau i fi, plîs, Weinidog, y bydd digon o gapasiti o fewn y bwrdd i sicrhau bod y cynllun gweithredu yn digwydd yn gyflym?

Diolch yn fawr, ac rŷn ni'n sicr yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Wrth gwrs, rŷn ni eisoes wedi rhoi £2 miliwn o bunnoedd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gweld delivery ar y pwnc yma ac, yn sicr, beth rŷn ni eisiau ei weld o ran y capasiti ar y bwrdd yna a'r niferoedd a'r math o bobl sydd gyda ni ar y bwrdd yw bod y rhaglen newydd yn cymryd agwedd mwy holistig efallai i ofal diwedd oes. Rŷn ni'n gwybod bod tua 33,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru. Rŷn ni'n disgwyl gweld hynny'n cynyddu 27 y cant erbyn 2040, ac felly mae rhoi diwedd i fywyd da i bobl yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n hollbwysig. Mae'n bwysig nawr, ond, gyda'r cynnydd aruthrol yna, mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi mwy o ffocws iddi.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan Carolyn Thomas.

Hediadau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? TQ637

Diolch, Carolyn. Yn dilyn dadansoddiad cost a budd llawn, rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau i bob cefnogaeth i'r gwasanaeth. Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw, naill ai'n economaidd neu'n amgylcheddol. Byddwn yn defnyddio'r cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu gwaith i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de.

Diolch am yr esboniad hwnnw, Weinidog. Rwy'n deall bod yr hediadau wedi bod yn gostus ac yn cytuno â'ch rheswm dros beidio ag ailgychwyn y gwasanaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y miliynau o bunnoedd a gaiff eu harbed drwy ganslo'r hediadau hyn yn cael eu buddsoddi mewn cysylltedd yng ngogledd Cymru, yn ddigidol, drwy'r ganolfan prosesu signalau digidol ardderchog ym Mangor, a chyflwyno cynlluniau peilot ar Ynys Môn ar gyfer band eang a thrafnidiaeth. Gwn y bydd y Gweinidog yn bryderus, fel roeddwn i, wrth weld y gorlenwi erchyll ar drenau o'r gogledd i'r de dros y penwythnos, sy'n dangos bod angen cerbydau ychwanegol, y rhai sydd wedi eu harchebu er mwyn gwella'r gwasanaeth, a hynny ar frys. Mae angen pedwar cerbyd ar y gwasanaeth hwnnw. Weithiau fe gawn bedwar cerbyd. Yn aml iawn, y gwasanaeth dau gerbyd a gawn, ac nid yw'n ddigon mwyach. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha bryd y bydd y trenau a'r cerbydau newydd yn gweithredu ar y gwasanaeth hwnnw? Diolch.

15:15

Yn sicr, Carolyn. Yn hollol gywir: mae'n amlwg fod angen inni wella cysylltedd rhwng pob rhan o'r gogledd a'r de cyn gynted â phosibl. Bydd y trenau 197 newydd sbon a gyflwynir yn y gogledd yn cael eu cyflwyno ymhell cyn iddynt gael eu cyflwyno yng ngweddill Cymru, ac maent i fod i ddechrau gwasanaethu erbyn diwedd eleni fan bellaf, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl eleni. Mae gennym 77 o drenau wedi'u harchebu, a byddant yn cynyddu capasiti ar ein gwasanaethau, yn union fel y dywedwch, yn gwella profiad teithwyr ac yn ei gwneud hi'n bosibl cyflwyno gwasanaethau newydd ar hyd llwybr y gogledd, yn ogystal â sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti ar adegau prysur ar y llwybr. Felly, rwy'n derbyn y cynsail yn llwyr, a byddwn yn gallu ailgyfeirio'r arian o'r gwasanaeth i gyflymu hynny.

Rwy'n falch, a dweud y gwir, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi deffro a gweld beth sy'n digwydd. Dywedais wrthych yn ôl yn 2010 nad oedd y gwasanaeth hwn yn darparu gwerth da am arian i'r trethdalwr, a bod angen sefydlu opsiynau amgen. Mewn gwirionedd, rwyf wedi sôn am nifer o opsiynau amgen y gallech fod wedi edrych arnynt dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyfle i'r awyren lanio mewn nifer o gyrchfannau gwahanol er mwyn ei gwneud yn fwy hyfyw'n fasnachol, gan gynnwys drwy Ynys Môn, er enghraifft, i Ynys Manaw, Ynys Môn a Chaerdydd. Cyflwynais y cynnig hwnnw, ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando ychwaith pan ddywedais y byddai'r gwasanaeth hwn mewn gwell sefyllfa yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y gogledd yn byw. Ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando ychwaith pan ddywedais y dylech fod wedi symud y cyswllt awyr hwn i rywle fel Lerpwl neu Fanceinion, gan gysylltu gogledd Lloegr, pwerdy gogledd Lloegr, â'n heconomi yma yn ne Cymru. Ond ni wnaethoch wrando. Gallai'r rheini fod wedi bod yn opsiynau masnachol hyfyw a fyddai wedi cadw gwasanaeth awyr ar gael i bobl gogledd Cymru er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i gyrraedd Caerdydd, ond ni wnaethoch wrando.

Felly, a wnewch chi wrando yn awr, pan ddywedaf wrthych: a wnewch chi edrych ar weithio gyda chwmnïau awyrennau eraill fel partneriaid posibl i geisio sefydlu rhai o'r opsiynau amgen hynny, er mwyn sicrhau bod gan ogledd Cymru y cysylltiadau trafnidiaeth da sydd angen inni allu eu cael gyda de Cymru? Ac a wnewch chi hefyd edrych ar y gwahaniaethau mewn gwariant ar drafnidiaeth gan eich Llywodraeth yma yng Nghymru? Rydych yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar ffyrdd yn ne'r wlad a symiau pitw, a dweud y gwir, ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Rydych yn gwario briwsion, ac rwy'n golygu briwsion, o ran yr arian a wariwch ar fetro gogledd Cymru, sef £50 miliwn o'i gymharu â £750 miliwn yn ne Cymru. Mae angen codi'r gwastad yn well yn ein seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, ac nid ydym yn gweld hynny ar hyn o bryd. Felly, pam na wnewch chi sicrhau bod eich cyfalaf seilwaith yn cael ei wario'n fwy cyfartal ledled y wlad, a manteisio ar y cyfle i weld a oes yna gwmnïau awyrennau a allai fod yn bartneriaid posibl i sefydlu cysylltiadau masnachol hyfyw a all wasanaethu pobl gogledd Cymru, i helpu i'w cysylltu â'r de mewn ffordd na allai eich gwasanaeth sy'n cael cymhorthdal cyhoeddus mo'i wneud?

Wel, credaf ein bod wedi cael enghraifft gwbl ragorol o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei feddwl o'u hymrwymiad i sero net. Gadewch inni ariannu gwasanaeth awyr sy'n fasnachol hyfyw, ond sy'n ddinistriol i'r amgylchedd, er mai'r hyn y dylem ei wneud yw rhoi'r arian hwnnw tuag at wasanaethau rheilffyrdd. [Torri ar draws.] A byddech yn well o lawer, Darren Millar—[Torri ar draws.]

Darren Millar, rydych wedi cael eich cyfle i ofyn eich cwestiwn. Gadewch i'r Gweinidog ymateb.

Byddech yn well o lawer yn defnyddio eich egni emosiynol diamheuol i gael y Llywodraeth yn San Steffan i ariannu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn briodol, a chefnogi'r ymrwymiad sero net y dywedwch y byddwch yn ei gefnogi, ond bob tro y gwnawn unrhyw beth tuag ato, rydych yn dweud rhywbeth gwahanol. Nonsens llwyr yw dweud mai'r ateb i gysylltedd gogledd Cymru yw rhoi mwy o awyrennau hanner gwag yn yr awyr, pan fyddwn yn edrych ar argyfwng hinsawdd nad ydym erioed wedi gweld ei debyg o'r blaen. [Torri ar draws.] Nid wyf am wrando ar hynny o gwbl, gan ei fod yn nonsens.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, dwi'n rhyfeddu at ragrith y Ceidwadwyr yn fan hyn, yn lladd ar gysylltiadau de-gogledd, yn dweud bod gormod o fuddsoddiad yn y de, pan oedden nhw eisiau gwario biliynau o bunnoedd ar yr M4 yn y de-ddwyrain. Dwi'n synnu bod Carolyn Thomas wedi gofyn y cwestiwn yma a hithau mor ffwrdd-â-hi ar raglen Sharp End ITV Cymru neithiwr ynglŷn â chysylltiadau de-gogledd, yn awgrymu bod fawr o ots am y cysylltiadau de-gogledd oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad i mewn i dechnoleg ddigidol. Rŵan, peidiwch â fy nghamddeall i, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ddigidol, dwi'n croesawu'r buddsoddiad mewn prosesu signalau digidol, ond peidiwch â thrio dweud wrthyf i fod a wnelo'r buddsoddiad hwnnw unrhyw beth â chysylltiadau trafnidiaeth de-gogledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yn y ffordd maen nhw wedi gwneud y penderfyniad yma eu bod nhw wedi edrych ar bris yr hedfaniad rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, ond ddim wedi ystyried beth oedd ei werth o—ei werth o fel arwydd bod ots gan ein Llywodraeth ni am uno'n gwlad ni drwy drafnidiaeth gyflym, bod ots gan Weinidogion am estyn allan i ardaloedd sydd, dwi'n addo ichi, yn teimlo'n bell iawn ar adegau o'r brifddinas a lle mae ein Llywodraeth ni.

Rŵan, fel dwi wedi ei ddweud o'r blaen, mi fues i'n bragmataidd a dweud, wrth gwrs bod ein dulliau newydd ni o weithio yn sgil COVID wedi gwanhau y cynllun busnes. Does dim angen teithio bob amser o un pen y wlad i'r llall. Mi ddywedais i, wrth gwrs bod ein pryderon cynyddol ni am yr amgylchedd yn rhywbeth i'w groesawu a bod hynny hefyd yn newid y cyd-destun. Ond, y cwestiwn y gwnes i ei ofyn, yn syml iawn, oedd: os nad yr awyren fel buddsoddiad o werth ein cysylltiadau ni o un pen y wlad i'r llall, yna beth? A beth gawson ni yn y cyhoeddiad yma oedd dim. Dim ymrwymiad o gwbl, dim buddsoddiad o gwbl mewn gwella a chryfhau cysylltedd rhwng y de a'r gogledd, a dim arwydd bod ots gan y Llywodraeth yma ynglŷn â sut mae'n gwlad ni'n cael ei chysylltu yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Fel y dywedodd un etholwr wrthyf, 

'Mae hwn yn benderfyniad digalon sy'n dangos diffyg gweledigaeth ac uchelgais. Mae Cymru wedi dioddef mor aml oherwydd penderfyniad ffwrdd-â-hi a wnaed yn Llundain',

meddai, 

'sy'n anwybodus neu'n ddi-hid ynglŷn â'i effeithiau ar Gymru.'

Nawr, mae'n teimlo bod hyn yr un mor anwybodus ynghylch yr angen i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl drwy gysylltiadau trafnidiaeth—nid o reidrwydd natur y cyswllt hwnnw a'r cyswllt awyr a fu gennym, ond y ffaith na ddarparwyd unrhyw beth ac na chyflwynwyd gweledigaeth yn ei le.

15:20

Wel, Rhun, cytunais yn llwyr â rhan gyntaf eich dadansoddiad, wrth gwrs, ac nid wyf am drafferthu ailadrodd hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf glywed bod eich etholwr yn teimlo hynny, oherwydd yn sicr nid dyna'r argraff y dymunem ei rhoi. Yn ôl ein harolygon teithwyr cyn y pandemig, a gynhaliwyd gan y gweithredwr, roedd 77 y cant o'r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith—felly, ychydig iawn a wnâi hynny at ddibenion hamdden—ac rydym yn cydnabod yn gyffredinol fod teithio busnes wedi lleihau'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r newid ymddygiad yn debygol o barhau. Hefyd, cawsom astudiaeth annibynnol wedi'i chomisiynu i effaith carbon y gwasanaeth, ac yn y bôn—nid oeddwn yn synnu gweld hyn—dyma'r ffordd fwyaf drud-ar-garbon o gysylltu'r ddwy ran o Gymru. 

Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael y cysylltedd rhwng y gogledd a'r de yn llawer gwell, yn llawer cyflymach, yn llawer mwy cyfforddus—rhywbeth y gallwch ei wneud heb orfod poeni am yr effaith arnoch chi a'ch taith. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Felly, rydym eisoes wedi cyhoeddi, fel y dywedais wrth ateb Carolyn, y trenau 197 newydd sbon, a fydd yn gweithredu yn y gogledd cyn gweddill y wlad. Ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng ein dwy blaid, rydym wedi cytuno i weithio gyda chi ar ystod o fesurau eraill i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de. Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflymu'r gwaith cysylltedd hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny.

Rwy'n derbyn eich pwynt am y digidol, ond roeddwn serch hynny'n falch o weld y gwelliant digidol. Gwn eich bod chithau hefyd. Rydym wedi cyhoeddi nifer o bethau sy'n caniatáu inni edrych ar safleoedd gwyn ar Ynys Môn—ac fe aethoch chi a minnau, mewn bywyd blaenorol, i edrych ar rai o'r rheini, felly roeddwn wrth fy modd ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n derbyn yn llwyr nad yw hynny'n gwella'r cysylltedd, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw ei gwneud yn fwy a mwy tebygol y bydd pobl yn gweithio gartref am ganran fawr iawn o'r amser, ac yn ei gwneud yn fwy tebygol fod yr awyren hyd yn oed yn llai llawn nag yn y lle cyntaf. 

Felly, mae'n ddrwg gennyf glywed bod eich etholwr yn teimlo felly. Yn sicr, nid oedd yn benderfyniad ffwrdd-â-hi. Roedd yn destun llawer iawn o feddwl. Nid ydym am i neb yn y gogledd deimlo'n fwy digyswllt, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi, drwy'r cytundeb cydweithio, ar wella'r cysylltedd rhwng y gogledd a'r de hyd eithaf ein gallu, a gweithio gyda chi hefyd i roi pwysau ar y Ceidwadwyr gyferbyn ynghylch sefyllfa gwbl warthus y buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog am yr atebion i'r cwestiynau yna. Hi eto sydd yn ateb y cwestiwn amserol nesaf, a'r cwestiwn hwnnw gan Natasha Asghar.

Tarfu ar Wasanaethau Rheilffyrdd

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn? TQ638

15:25

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Natasha. Yn dilyn anawsterau diweddar gyda theithio ar ddiwrnodau digwyddiadau, rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddarparu cymaint o gapasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol â phosibl, ochr yn ochr â chyngor clir i gwsmeriaid gefnogi digwyddiadau fel cyngherddau Stereophonics a Tom Jones y penwythnos hwn. Fodd bynnag—

Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf wedi gorffen yn llwyr.

Fodd bynnag, y realiti yw nad oes gan unrhyw weithredwr rheilffyrdd lefel safonol o hyblygrwydd ychwanegol i allu darparu'r un lefel o wasanaeth yn union ar ddiwrnodau pan fydd digwyddiadau torfol yn digwydd ag a fyddai ganddynt ar ddiwrnodau eraill.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y bydd yr anfarwol Tom Jones a Stereophonics yn perfformio y penwythnos hwn, o flaen miloedd o bobl, yn ddi-os, yng Nghaerdydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom i gyd yr anhrefn llwyr pan gynhaliodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, modurwyr wedi'u caethiwo yn eu meysydd parcio oherwydd y tagfeydd yng nghanol y ddinas, a llawer o bobl wedi'u gadael ar blatfformau gorsafoedd am oriau oherwydd na allai ein rhwydwaith rheilffyrdd chwilfriw ymdopi â'r galw. Os caf ei roi'n blwmp ac yn blaen, Weinidog, daethpwyd â Chaerdydd a'r ardaloedd cyfagos i stop am fod y Llywodraeth Lafur wedi methu cynllunio ymlaen llaw, ac ni allwch feio Llywodraeth San Steffan am hyn.

Rwy'n siŵr y bydd sawl un yma yn y Siambr yn cytuno â mi mai'r peth olaf yr ydym am ei weld yw ailadrodd y digwyddiadau diweddar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn hwn, ond yn anffodus mae'n ymddangos nad yw gwersi wedi'u dysgu, gyda Trafnidiaeth Cymru yn rhoi esgusodion ymlaen llaw ac yn gofyn i bobl beidio â defnyddio ei gwasanaethau. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fydd pobl yn cael eu hannog i beidio â dal trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae cyngherddau Tom Jones a Stereophonics wedi bod ar y calendr ers o leiaf chwe mis, a byddai unrhyw un sydd â chymaint â hyn o synnwyr cyffredin yn gwybod eu bod yn mynd i ddenu miloedd o bobl i mewn i'r ddinas. Felly, Weinidog, pa wersi sydd wedi'u dysgu o ffiasgo Ed Sheeran, a pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r aflonyddwch cyn y cyngherddau yr wythnos hon?

Ac yn ail, nod strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd

'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella lles pobl a chymunedau Cymru ac enw da'r wlad yn rhyngwladol.'

A ydych yn derbyn bod y strategaeth hon wedi methu'n llwyr? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â chyhoeddi cynllun wedi'i ddiweddaru sy'n gwneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni? Diolch yn fawr, Weinidog.

Wel, unwaith eto, gellid cyfeirio o leiaf rywfaint o'r dicter cyfiawn a deimlir yn y Siambr hon gan y Ceidwadwyr tuag at gael y swm cywir o fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd i Gymru, oni ellid? Felly, a fyddech cystal â'i gyfeirio i'r cyfeiriad hwnnw o bryd i'w gilydd.

Fodd bynnag, rydym yn derbyn yn llwyr, wrth gwrs, nad oedd lefel y gwasanaeth a ddarparwyd i deithwyr gan Trafnidiaeth Cymru dros y penwythnos hwnnw yn ddigon da, ac rydym yn llwyr ddeall y rhwystredigaeth. Capasiti cyfyngedig sydd gennym o ran cerbydau trên ar hyn o bryd, ac rydych eisoes yn gwybod, ac ni wnaf ei ailadrodd eto, y bydd y trenau newydd sbon sy'n cael eu hadeiladu a'u profi yn awr yn cynyddu capasiti. Yr ateb hirdymor i orlenwi ar ddiwrnodau digwyddiadau, wrth gwrs, yw mwy o gapasiti, ac rydym yn gweithio'n galed i gyflawni hynny drwy'r trenau newydd a mwy o wasanaethau yn ein hamserlenni. Ni all yr un o'r pethau hynny ddigwydd dros nos, a Trafnidiaeth Cymru yw un o'r ychydig wasanaethau sydd wedi dychwelyd at amserlenni cyn y pandemig, i fod yn glir.

Credaf hefyd fod angen ichi gydnabod, gyda digwyddiadau fel y cyngherddau hyn, fod galw sylweddol am gapasiti a gwasanaethau ychwanegol i deithwyr sy'n teithio o ac yn ôl i Fryste, Birmingham, Llundain, ac ati, ac mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu rhedeg gan Great Western Railway a CrossCountry Trains, sydd ond yn gweithredu lefel y gwasanaeth y cytunwyd arni gan Lywodraeth y DU. Felly, unwaith eto, byddai ichi gyfeirio rhywfaint o'ch dicter cyfiawn tuag at Lywodraeth y DU yn cael croeso mawr yma.

Rydym yn glir ynglŷn â'r hyn y dymunwn ei wneud, ac rydym yn glir ein bod am gyflwyno'r cerbydau trên newydd ledled Cymru. Rydym hefyd yn glir y dylai pobl sy'n byw'n lleol geisio defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth ar ddiwrnodau digwyddiadau. Rwyf hefyd yn glir iawn, os ewch i ddigwyddiad mawr, na allwch ddisgwyl gadael y maes parcio mewn 1.5 munud. Rwyf wrth fy modd yn mynychu digwyddiadau cerddoriaeth byw; rwy'n derbyn yn llwyr y bydd yn cymryd mwy o amser imi fynd allan o'r ddinas yr euthum iddi, ac mae hynny'n cynnwys unrhyw ddinas y byddwch yn mynd i'r digwyddiadau hyn ynddi, oherwydd mae'r system drafnidiaeth wedi'i sefydlu ar gyfer gweithrediad arferol a rhywfaint o adegau prysur. Nid yw wedi'i sefydlu i wagio Stadiwm Wembley, er enghraifft. Felly, os ewch chi yno, rydych chi'n aros mewn ciwiau i ddod allan oherwydd bod hynny'n rhan o'r profiad; dyna sy'n digwydd. Nid wyf yn deall beth y credwch y byddem yn ei wneud gyda'r capasiti cynyddol ar holl ddyddiau eraill yr wythnos. Nid yw honno'n ffordd effeithlon o redeg gwasanaeth rheilffordd.

Serch hynny, roedd yn siomedig iawn gweld y gorlenwi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd dros y penwythnos, ac rydym wedi gofyn iddynt wneud pob ymdrech i ganolbwyntio adnoddau ar y gwasanaethau prysuraf a sicrhau bod cyfathrebu â theithwyr yn gwbl amserol ac i'r pwynt. Rydym hefyd yn y broses o fenthyg dau drên ychwanegol gan Northern Trains, yn ogystal â'r trenau CAF newydd sbon y bwriedir eu rhoi ar waith yn nes ymlaen eleni, a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl darparu'r capasiti ychwanegol hwnnw ar wasanaethau prysur ac i gefnogi digwyddiadau.

Diolch, Weinidog. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud fan yna o ran y pwynt am y penwythnos, oherwydd mae'n un peth pan ydyn ni'n sôn am fandiau rhyngwladol yn dod yma i Gymru, ond pan fydd ein tîm cenedlaethol ni yn chwarae yn ein prifddinas, mi fyddwn i'n gobeithio y byddem ni'n gallu cael y drafnidiaeth gyhoeddus fel bod pawb yng Nghymru yn gallu dod i gefnogi eu tîm cenedlaethol os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dwi'n meddwl bod yna bwynt hefyd o ran y cysylltiadau, nid dim ond o ran pobl o'r gogledd yn dod i'r de, ond mae'n rhaid i bobl o'r de allu mynd i'r gogledd, a'n bod ni'n cael mwy o ddigwyddiadau, a bydd hynny yn rhoi heriau, wedyn, os oes gennym ni ddigwyddiadau mawr yn digwydd mewn llefydd fel Wrecsam, ac ati, bod pobl yn gallu teithio yna. Ac mae hynny'n golygu cael trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn ymwybodol o ddigwyddiadau mawr fel hyn.

Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf ydy'r straeon am drenau gorlawn, hwyr, neu sydd ddim yn rhedeg o gwbl, pan nad oes yna ddigwyddiadau mawr, a hefyd sut rydyn ni'n cael nid i Lundain ac ati ar ôl y cyngherddau mawr yma, ond i gymoedd y de ac ardaloedd o Gaerdydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni'n gwybod rŵan bod yna ddatblygiadau newydd yn y brifddinas, fel yr arena newydd yn y Bae, a fydd â chapasiti o 15,000. Rydyn ni'n gwybod am yr holl ddatblygiadau o ran tai sydd yng ngogledd y ddinas, ac ati. Ac rydyn ni'n gwybod bod gridlock llwyr o ran traffig ar y funud. Wedyn, dwi'n meddwl am yr heriau mawr sydd gennym ni—dydy'r metro ddim am ddatrys hynny chwaith. Felly, sut ydym ni'n mynd i sicrhau ein bod ni rŵan yn cael pobl allan o'u ceir—os oes ganddyn nhw geir ac yn gallu fforddio defnyddio'r rheini—i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, fel ein bod ni, fel rydych chi wedi cyfeirio ato yn eich ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw hefyd—? Sut ydyn ni'n mynd i daclo'r argyfwng hinsawdd os oes yna gymaint o rwystrau ar y funud yn stopio pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

15:30

Diolch yn fawr iawn am eich sylwadau. Rwy'n cytuno â phob un ohonynt, a dweud y gwir. Y mater mawr i ni yw sut i raddnodi’r newid yr ydym yn ceisio’i wneud o ran newid dulliau teithio, a symud buddsoddiad oddi wrth gefnogaeth i geir, sy’n gysyniad sydd wedi’i wreiddio’n ddiwylliannol ym mhob un ohonom. Mae hyn wedi’i wreiddio’n ddiwylliannol ynom ers canol yr ugeinfed ganrif, ac mewn llu o ddeddfau a gyflwynwyd yng nghanol y 1980au, dadreoleiddio bysiau, ac yn y blaen—model economaidd cwbl drychinebus, sy'n amlwg wedi methu ledled y wlad. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn y pwyllgor y bore yma, nid yw’n syndod o gwbl fod Transport for London yn gweithio—ni chafodd ei ddadreoleiddio. Ac mae'n dangos bod angen gwasanaeth cydgysylltiedig wedi'i reoleiddio, a chanddo ethos gwasanaeth cyhoeddus yn hytrach nag ethos elw masnachol, i wneud i'r pethau hynny ddigwydd. Felly, mae gennym daith i gyrraedd yno, mae angen inni fynd â phobl gyda ni, mae angen inni ei gwneud yn fwyfwy hawdd i bobl wneud y peth iawn a pheidio â gwneud y peth anghywir.

Mewn ymateb i Rhun ar y cwestiwn olaf hefyd, mae angen inni weithio'n galed i sicrhau cysylltedd ledled Cymru—o'r gogledd i'r de, wrth gwrs, o'r gorllewin i'r dwyrain, wrth gwrs; mae gan bobl yn fy etholaeth i, yn Abertawe, broblemau gwirioneddol ddifrifol o ran cyrraedd digwyddiadau ac ati. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cael pobl allan o’u ceir, ar drafnidiaeth gyhoeddus, a lle bo modd, yn lleol, ar lwybrau teithio llesol. Mae Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer y digwyddiadau ar y penwythnos, wedi bod yn apelio ar bobl a allai gyrraedd yno drwy deithio llesol i wneud hynny, ac i bobl fod yn synhwyrol ynglŷn â faint o amser y bydd yn ei gymryd i bethau ddigwydd. Fel y dywedaf, rwyf wrth fy modd mewn gêm ryngwladol, mae'n un o fy hoff bethau i'w gwneud, ond mae'n rhaid ichi gynnwys faint o amser y bydd yn ei gymryd ichi gyrraedd yno a pharcio a mynd i mewn, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd ichi ddod allan. Oherwydd gwyddom fod dinasoedd, yn enwedig os oes stadiwm yn y canol, yn wynebu problemau gyda'r adegau prysur ar ddiwedd y cyngerdd. Nid yw'n unigryw i Gaerdydd nac i Gymru, mae'n digwydd ym mhob rhan o'r byd, ac os ydych yn synhwyrol, rydych yn ei ystyried yn rhan o'r profiad. Ac nid yw hynny'n lleihau dim ar y ffaith nad ydym yn fodlon ar y profiad i deithwyr a'r gorlenwi—wrth gwrs nad ydym. Mae gennym ystod o fesurau ar waith, a byddant yn cymryd rhywfaint o amser i wreiddio er mwyn gwneud y pethau hynny’n bosibl.

Weinidog, diolch am eich atebion hyd yma. Yr hyn sy'n siomedig o'ch atebion hyd yma yw eich bod yn osgoi'r cwestiwn drwy ddweud na allwch gynllunio ar gyfer adegau prysur ac adegau llai prysur. Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hysbysebu’n dda, maent wedi'u deall yn dda, gan nad yw Caerdydd wedi dod yn ddinas gyrchfan dros nos; mae Stadiwm Principality yno ers 1999, a llawer o ddigwyddiadau mawr wedi'u cynnal yno. Mae pethau syml fel llif gwybodaeth i gwsmeriaid yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, nad oedd yno yn ystod digwyddiad Ed Sheeran, a phobl yn sefyll mewn ciwiau heb wybod beth a allai ddigwydd—mae'r sefyllfa honno'n sicr o greu rhwystredigaeth. Nid yw’n dderbyniol fod pobl yn gorfod aros dwy i dair awr i fynd allan o feysydd parcio. Rwy'n derbyn y pwynt a wnaethoch, na fyddech yn disgwyl dod allan mewn munud neu ddwy—ni fyddai unrhyw un yn disgwyl hynny—ond dwy neu dair awr, nid yw hynny’n dderbyniol, Weinidog.

I bobl ddod o Lundain a rhannau eraill o’r wlad a chyrraedd ein prifddinas ar ôl caniatáu amser ychwanegol i deithio yma, yna cyrraedd am 9.30 pm neu 9.45 pm ar ôl gadael Llundain am hanner dydd, mae hynny’n amlwg yn annerbyniol. Felly, o'r meinciau hyn, yr hyn a ofynnwn yw pa wersi a ddysgwyd, pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith. Rwy’n derbyn bod cyfyngiad ar faint o gerbydau trên sydd ar gael, ond pan fydd Trafnidiaeth Cymru yn dweud y byddant yn darparu cerbydau trên, ac nad yw'r cerbydau hynny'n cyrraedd wedyn, mae hynny’n ychwanegu at y dicter y mae pobl yn ei deimlo pan fyddant yn y ciwiau yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni fynd â rhywbeth cadarnhaol o'r sesiwn hon sy'n dangos y bydd negeseuon gwell yn cael eu rhoi, ac y bydd y gwasanaethau'n cadw at yr amserlen pan fydd yn cael ei chyhoeddi, er mwyn i bobl fod yn hyderus y gallant wneud taith resymol i mewn ac allan o'n prifddinas?

15:35

Ie, yn hollol, Andrew. Nid wyf yn dweud mewn unrhyw ffordd na allwn wneud yn well. Fy ateb i’r cwestiwn—fe ailadroddaf rywfaint ohono—yw ein bod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddarparu cymaint o gapasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol â phosibl, ochr yn ochr â chyngor cwbl glir i gwsmeriaid ynglŷn â natur y gwasanaeth a'r hyn yr ydym yn edrych arno. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid wyf am weld pobl yn sefyll mewn rhesi heb syniad beth sy'n digwydd nac unrhyw beth arall. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac nid wyf yn osgoi mewn unrhyw fodd y ffaith y dylem fod wedi gwneud hynny’n well y tro diwethaf. Rydym wedi cael sgyrsiau llym gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd i'r graddau mwyaf posibl, yn bendant.

Ond fel y dywedais hefyd, nid ni sy'n rhedeg pob un o’r gwasanaethau a ddaw o Fryste, Manceinion a Llundain. Gweithredwyr y DU yw’r rheini, sy’n gweithredu yn unol â rheolau’r DU, a dim ond Gweinidogion y DU a all siarad â hwy ynglŷn â chynyddu capasiti a chynyddu nifer y cerbydau. O ddifrif, nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol. O ddifrif, mae angen gofyn iddynt sicrhau bod Caerdydd yn gweithredu'n briodol fel cyrchfan gyda’r gwasanaethau eraill hynny hefyd. A chi ar y meinciau hynny, gallech ychwanegu eich llais at hynny, gan y byddai hynny o gymorth. Ond nid wyf yn osgoi dweud y gallem wneud yn well. Gallwn wneud yn well, a dylem wneud yn well, ond mae angen i'r holl wasanaethau a ddaw—i Gaerdydd yn yr achos penodol hwn, ond fel y dywedodd Heledd newydd, i bob rhan o Gymru—wella yn unol â hynny hefyd.

Cytunaf nad yw dwy neu dair awr yn dderbyniol, ond ni ddylem ychwaith fod yn disgwyl i’r holl beth glirio mewn 20 munud, gan nad yw hynny'n digwydd mewn unrhyw stadiwm yn unrhyw le yn y byd. Mae a wnelo hyn â rhywfaint o realaeth, â phobl yn cynllunio eu teithiau’n briodol, â phobl leol yn bod yn sensitif i faint o amser y mae’n mynd i’w gymryd a defnyddio dulliau trafnidiaeth amgen lle bo modd. Os nad yw hynny'n bosibl, yna yn amlwg, dylent fod yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, a phawb yn bod yn synhwyrol ynglŷn â'r peth. Ond ni allaf bwysleisio digon fy mod wedi dechrau’r ateb hwn drwy ddweud ein bod wedi cael y sgyrsiau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru ac wedi gofyn iddynt ddarparu capasiti ychwanegol a gwasanaethau ychwanegol i'r graddau mwyaf sy'n bosibl.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon mae'n ddeugain mlynedd ers rhyddhau Ynysoedd Falkland, yn dilyn ymosodiad lluoedd yr Ariannin arnynt ar 2 Ebrill 1982. Rhyddhawyd y diriogaeth dramor Brydeinig fach yn ne Cefnfor Iwerydd gan luoedd Prydain ar 14 Mehefin. Yn ystod y gwrthdaro, bu 26,000 o'r lluoedd arfog yn weithredol yn yr awyr, ar y ddaear ac ar y môr, ac fe wnaethant wasanaethu i amddiffyn sofraniaeth, democratiaeth a rhyddid Prydain.

Roedd llawer o’r personél milwrol dewr hyn, wrth gwrs, yn dod o’n gwlad fach ni yng Nghymru, gyda’r Gwarchodlu Cymreig yn chwarae rhan allweddol yn y gwrthdaro. Fodd bynnag, talodd y gwarchodlu bris uchel am ryddhau'r ynysoedd, gan golli 48 o bersonél a dioddef 97 o anafiadau, mwy nag unrhyw uned Brydeinig arall. Lladdwyd 32 o'r Gwarchodlu Cymreig ar yr RFA Sir Galahad yn unig, pan aeth y llong ar dân ar ôl cael ei bomio gan yr Archentwyr yn Port Pleasant. Cafodd y golygfeydd hynny, wrth gwrs, eu gwylio gydag arswyd gartref a dros y môr.

Cafodd y digwyddiadau ym 1982 effaith gorfforol, feddyliol a gwleidyddol ddofn ar ein gwlad, ac rydym yn dal i deimlo eu creithiau hyd heddiw. Ond y dynion a'r menywod dewr a frwydrodd i ryddhau'r ynysoedd a deimlodd yr effaith honno fwyaf. Collodd cyfanswm o 255 o filwyr Prydain, 649 o filwyr yr Ariannin a thri o sifiliaid yr ynysoedd, pob un ohonynt yn fenywod, eu bywydau. Yr wythnos hon, wrth inni goffáu rhyddhau Ynysoedd Falkand, rhaid inni gofio a pharchu pawb a fu’n rhan o’r gwrthdaro ac yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro, yn enwedig y rheini a wnaeth yr aberth eithaf. Rydym yn saliwtio pob un ohonynt.

Diolch, Llywydd. Dwi eisiau talu teyrnged i Phil Bennett, a fu farw dros y penwythnos yn 73 oed. Roedd Phil yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed i gynrychioli Cymru, y Llewod a'r Barbariaid. I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o'i weld yn chwarae yng nghrys coch Llanelli neu Gymru, roedd yn wledd i'r llygaid. Disgrifiwyd y ffordd roedd Benny yn rhedeg ac yn ochrgamu fel poetry in motion. Ganwyd a magwyd Phil yn Felinfoel yn 1948. Ac er i rai ddweud wrtho ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi, fe ddaeth o dan ofal y digymar Carwyn James, ac aeth ymlaen i chwarae 413 o gemau i Lanelli, gan wasanaethu’r clwb fel capten am chwe blynedd. Enillodd 29 o gapiau dros Gymru, chwaraeodd 20 gêm i'r Barbariaid, fe oedd seren taith y Llewod i Dde Affrica yn 1974, ac yn gapten ar y daith i Seland Newydd yn 1977.

Ond, er gwaetha'r llwyddiannau hyn, uchafbwynt ei yrfa heb os oedd y fuddugoliaeth hanesyddol honno, 9-3, yn erbyn y crysau duon ar Barc y Strade yn 1972—the day the pubs ran dry, fel y dywedodd Max Boyce. Sgoriodd Phil Bennett rai o'r ceisiau gorau yn hanes y gamp, gan ennill tair coron drifflyg a dwy bencampwriaeth pum gwlad yng nghrys coch Cymru. Er ei lwyddiant anhygoel ar y cae rygbi, roedd e'n berson cwbl ddiymhongar, ac arhosodd yn driw i'w filltir sgwâr tan y diwedd. Diolch, Phil, am dy gyfraniad aruthrol i’r gamp, i Lanelli, ac i Gymru, ac am adael atgofion o chwaraewr cwbl unigryw na welir ei debyg byth eto.

15:40

Yr wythnos hon yw Wythnos Iechyd Dynion 2022, wythnos sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r problemau iechyd sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion, gan ganolbwyntio ar annog dynion i ddod yn ymwybodol o broblemau a allai fod ganddynt neu y gallent eu datblygu, a'u hannog i fagu’r dewrder i wneud rhywbeth am y peth.

Mae rhai o'r ystadegau ynglŷn ag iechyd dynion yn eithaf brawychus. Fel y gwyddom, yn anffodus, dynion yw tri o bob pedwar sy'n cyflawni hunanladdiad, mae 12.5 y cant o ddynion yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl, ac mae dynion bron deirgwaith yn fwy tebygol na menywod o ddod yn ddibynnol ar alcohol. Mae dynion hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio a marw o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon. Mae hyn oll a mwy yn arwain at y ffaith bod y dangosydd iechyd eithaf, sef ein disgwyliad oes, yn golygu bod dynion yn marw bedair blynedd yn iau na menywod yn y DU.

Mae'n amlwg fod llawer o ddynion yn ei chael hi'n anodd bod yn agored a siarad am eu hiechyd. Clywsom yn gynharach heddiw am rywfaint o’r gwaith cadarnhaol y gall sefydliadau fel Men's Sheds—rwy’n un o ymddiriedolwyr Men's Shed Abergele—ei wneud, ac mae'n rhaid inni eu hannog i fodoli fel y gall mwy o ddynion deimlo’n agored ac yn hyderus i siarad am yr heriau y maent yn eu hwynebu.

I gloi, hoffwn annog holl Aelodau’r Senedd heddiw i ymuno â mi i achub ar y cyfle i nodi Wythnos Iechyd Dynion, i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu dynion, a'u hannog i wneud rhywbeth yn eu cylch. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM8024 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gynnal ein hymchwiliad byr, penodol i orlifoedd stormydd pan oedd y mater yn cael cryn dipyn o sylw. Roedd yna benawdau newyddion cyson am garthffosiaeth amrwd yn cael ei ollwng i afonydd ledled Cymru a Lloegr. Roedd adroddiadau o ddadlau brwd yn San Steffan ynghylch deddfau llymach i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion. Yna, daeth cyhoeddiad Ofwat am ymchwiliad i gwmnïau dŵr ar y ddwy ochr i'r ffin a oedd, o bosib, yn torri trwyddedau gorlifoedd stormydd. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod hi'n bwysig cael darlun cliriach o orlifoedd stormydd yng Nghymru, a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â gollyngiadau carthion.

Felly, beth ydym ni’n ei wybod am orlifoedd stormydd? Wel, maen nhw i fod cael eu defnyddio yn anaml ac mewn amgylchiadau eithriadol, pan fo glaw trwm yn golygu nad yw’r carthffosydd cyfun yn gallu ymdopi. Maen nhw yna fel rhyw fath o falf diogelwch fel nad yw carthion yn gorlifo yn ôl i'n cartrefi a'n strydoedd ni. Er mor annymunol ydyn nhw, o gofio’r difrod a'r gofid sy’n cael ei greu pan fydd carthffosydd yn gorlifo, maen nhw’n rhan angenrheidiol o'r system garthffosydd rydym ni wedi'i hetifeddu. 

Felly, beth yw’r broblem? Wel, mae’r ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain, i ddweud y gwir. Yn hytrach na chael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, mae'n ymddangos mai defnyddio gorlifoedd stormydd yw'r norm. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, yn 2020 roedd dros 105,000 o ollyngiadau—105,000 o ollyngiadau—o’r dros 2,000 o orlifoedd a ganiateir ac sy’n cael eu monitro. Pa ryfedd, felly, fod y cyhoedd wedi ymateb mor gryf pan gyhoeddwyd y ffigurau hyn a bod y cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi’u beirniadu mor hallt? A dyw'r ffigurau yna, wrth gwrs, ddim yn dweud y stori'n llawn—dydyn nhw ddim yn cynnwys gollyngiadau o orlifoedd a ganiateir sydd ddim yn cael eu monitro, nac yn wir o orlifoedd nas caniateir. Mae hyn yn golygu, felly, y gall gwir nifer y gollyngiadau fod yn llawer iawn, iawn uwch mewn gwirionedd.

Yn ystod ein hymchwiliad ni, fe glywon ni dro ar ôl tro nad gollyngiadau o’r gorlifoedd yw’r prif reswm dros ansawdd gwael ein hafonydd, a dydyn ni fel pwyllgor ddim yn anghytuno â hynny, wrth gwrs. Ond mae yna dueddiad gan rai i ddefnyddio hynny i geisio diystyru’r nifer annerbyniol o ollyngiadau a thrio troi’r ddadl at lygryddion a sectorau eraill, a dyw hynny'n fawr o help, wrth gwrs, gan fod gorlifoedd yn cyfrannu at ddirywiad ansawdd ein hafonydd, ac mae e yn faes lle mae angen mynd i'r afael ag e o ddifri.

Cyn troi at argymhellion penodol y pwyllgor, hoffwn gyfeirio i ddechrau at sylwadau rhagarweiniol y Gweinidog yn ei hymateb i’n hadroddiad ni. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthon ni na fyddai taclo gorlifoedd stormydd yn unig yn arwain at welliannau cynhwysfawr o ran ansawdd dŵr. Wel, fel dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi, dŷn ni ddim yn gofyn ichi fynd i'r afael â gorlifoedd stormydd yn unig. Wrth gwrs, mae'n rhaid mynd i'r afael â phob math o lygredd dŵr mewn ffordd gymesur a theg. Ond yr hyn rŷn ni yn gofyn i chi ei wneud, wrth gwrs, ynghyd â’r cwmnïau dŵr a Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, yw i wneud mwy, ac i wneud hynny’n gyflym, i leihau nifer frawychus y gollyngiadau sydd yn digwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar hyd a lled Cymru.

Roedd 10 o argymhellion yn ein hadroddiad ni, ac fe gafodd pob un ohonyn nhw eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Roedd rhai o'r argymhellion hefyd wedi'u hanelu at Gyfoeth Naturiol Cymru, y cwmnïau dŵr ac Ofwat, ac rŷn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog a'r cwmnïau dŵr am eu hymatebion sydd, yn gyffredinol, mae'n rhaid i fi ddweud, yn gadarnhaol, ac rŷn ni hefyd yn edrych ymlaen at glywed gan Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru pan ddaw'r amser iddyn nhw wneud hynny.

Yn ei hymateb i’n hargymhelliad cyntaf, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad, fe gyfeiriodd y Gweinidog at fap ffordd, neu road map, ar gyfer gorlifoedd stormydd sy'n cael ei baratoi gan y tasglu ansawdd dŵr afon gwell. Galwodd y pwyllgor am i’r map ffordd yma gynnwys targedau ac amserlenni ar gyfer lleihau gollyngiadau, a systemau monitro ac adrodd cynhwysfawr a thryloyw er mwyn medru asesu cynnydd. Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rŷn ni'n deall y bydd y map ffordd yn pennu amcanion a chanlyniadau mesuradwy er mwyn sicrhau gwelliannau. Felly, mae hynny yn ddechrau da ac yn beth addawol iawn. Ond beth am y targedau a'r amserlenni rŷn wedi galw amdanyn nhw hefyd? Efallai, Weinidog, y gallwch chi, wrth ymateb, ymrwymo i sicrhau bod y map ffordd yn cynnwys y rhain.

Dywedir wrthon ni hefyd mai mater i'r tasglu fydd goruchwylio'r broses o roi’r map ffordd ar waith ac mai aelodau'r tasglu fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd. Efallai, Weinidog, wedyn, allwch chi ddweud wrthon ni wrth ymateb sut y byddwn ni fel pwyllgor, a’r cyhoedd yn ehangach, felly, yn gallu craffu ar gynnydd o ran cyflawni’r amcanion? A wnewch chi sicrhau y bydd gwaith y tasglu yma yn gwbl dryloyw—rhywbeth, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi bod ar goll hyd yma?

Mae argymhelliad 4 yn galw am drefniadau monitro ychwanegol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith gollyngiadau ar ddŵr derbyn, hynny yw dŵr derbyn yw'r dŵr mae gollyngiadau yn llifo i mewn iddo fe. Fe gawsom ni wybod y bydd rhaglen fonitro ymchwiliol yn cael ei sefydlu i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd. Mae hynny'n codi’r cwestiwn: pam ei bod hi wedi cymryd tan nawr i wneud hynny? Mae angen i’r rhaglen yma arwain at ganlyniadau, ac mae angen inni weld y canlyniadau hynny yn gyflym.

Dwi eisiau dychwelyd at y mater o orlifoedd nas caniateir y gwnes i sôn amdanyn nhw'n gynharach, oherwydd does fawr ddim gwybodaeth, wrth gwrs, am y rhain, felly dŷn ni ddim yn gwybod pa ddifrod y gallan nhw fod yn ei wneud. Mi fuaswn i'n licio clywed, felly, gan y Gweinidog yn nes ymlaen: ydych wedi pennu amserlen gref a chlir sy’n dangos pryd rŷch chi’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnwys y rhain yn y drefn reoleiddio? I ba raddau ŷch chi'n meddwl y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru roi blaenoriaeth i hyn?

Yn olaf, mae’r Gweinidog wedi dweud bod dal angen sgôpio allan y gost o ymgymryd â llawer o'r gwaith y mae’n ei amlinellu yn ei hymateb. Dyw hynny ddim yn ateb arbennig o foddhaol. Allwch chi roi syniad inni, efallai, Weinidog, o bryd y caiff y gwaith hwn ei gwblhau? A allwch chi hefyd ein sicrhau ni—yr un mor bwysig—fod digon o gyllid ar gael i dalu am y gwaith rŷch chi wedi ei amlinellu?

I gloi, felly, Dirprwy Lywydd, er bod gorlifoedd stormydd wedi cael llai o sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf, dyw'r problemau'n ymwneud â gollyngiadau carthion, wrth gwrs, ddim wedi diflannu. Nawr bod gwir faint y gollyngiadau wedi dod i'r amlwg, rŷn ni yn disgwyl gweld camau mwy pendant yn cael eu cymryd i'w lleihau. Rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn y ddealltwriaeth o effaith gronnol gollyngiadau ar ansawdd dŵr. Rŷn ni'n disgwyl, fel pwyllgor, gweld gostyngiad yn y difrod sy'n cael ei greu gan ollyngiadau i'n hafonydd ac i'r bywyd gwyllt gwerthfawr sy'n byw ynddyn nhw. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, fel pwyllgor, yn edrych ymlaen at drafod y cynnydd a fydd yn cael ei wneud, gobeithio, o ran rhoi ein hargymhellion ni ar waith yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon. Diolch.

15:50

A gaf fi ddiolch i Llyr a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu gwaith ar y mater hynod bwysig hwn? O’r sgyrsiau a gaf, a’r ohebiaeth a gaf, carwn awgrymu bod pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am ansawdd ein dyfrffyrdd. Mae llawer o sylw wedi'i roi yn y cyfryngau, a hynny’n gwbl briodol, i afon Hafren ac afon Gwy, ac effaith llygredd o ffermydd ieir, er enghraifft. Gelwais yn y gorffennol am foratoriwm ar y datblygiadau hyn ar sawl achlysur, a byddaf yn gwneud hynny eto, oherwydd, i ddyfynnu llythyr y Gweinidog atom:

'Nid gollyngiadau o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol… yw prif achos ansawdd dŵr gwael yng Nghymru—y prif achosion yw dŵr ffo o wastraff anifeiliaid a chemegau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth, llygredd o byllau segur, dŵr ffo o ardaloedd adeiledig, a phibellau carthion yn cael eu cysylltu, yn anghywir, â rhwydweithiau draenio.'

Mae gwaith modelu Dŵr Cymru ei hun ar afon Gwy yn dangos bod eu hasedau’n gyfrifol am 21 y cant o'r ffosfforws yn y prif gyrff dŵr, gyda gorlifoedd stormydd cyfunol yn gyfrifol am 1 y cant yn unig. Achosir y gweddill gan y ffactorau eraill rwyf newydd eu crybwyll.

Yn sicr, ceir problemau gorlifo yn fy rhanbarth i. Yr wythnos diwethaf, cysylltodd prosiect cymunedol Gofynnwch am yr Arth â mi, sef prosiect sy’n gweithio gyda Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Ceredigion Birds and Wildlife i leihau’r gorlif i afon Arth, ac i adennill statws baner ar gyfer traeth Aber-arth. Yn 2019-20, cafodd carthion amrwd eu pwmpio am 230 diwrnod, ac mae'r grwpiau am i hynny gael ei leihau i 60 diwrnod. Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch ymgysylltu â phrosiect Gofynnwch am yr Arth yn y dyfodol, ac rwy'n fwy na pharod i’ch rhoi mewn cysylltiad â’r grŵp hwnnw.

Ar nodyn cadarnhaol, ceir enghreifftiau hefyd o arferion da iawn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Edrychodd y pwyllgor ar brosiect GlawLif arloesol Llanelli, lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £115 miliwn rhwng 2012 a 2020, ac sydd wedi darparu oddeutu 14 milltir o bibellwaith newydd a draeniau yn y cyrbiau, yn ogystal â thwnnel newydd a bron i 10,000 o blanhigion a choed. Ac mae'n enghraifft wych o ateb seilwaith mawr wedi'i baru â dull sy'n seiliedig ar natur. Ond gall newid bach wedi'i luosi sawl gwaith fod yr un mor effeithiol. Bum mlynedd yn ôl, arweiniais ddadl fer o'r enw, 'Dŵr Ffo o'r Mynydd ac ar ein Ffyrdd', ac rwy'n dal yn falch ohoni. Roedd yn dilyn fy nghynnig deddfwriaethol yn 2009 i ymdrin â llifogydd dŵr wyneb drwy gyfyngu ar y defnydd o arwynebau caled o amgylch cartrefi pobl, rhywbeth a gymeradwywyd gan y Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd. Ac roedd yn un o brif argymhellion adolygiad Pitt a ddilynodd llifogydd dinistriol 2007, ac y bydd yr Aelodau'n eu cofio. Ond 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r digwyddiadau tywydd hyn yn llai eithriadol. Fel y nododd Hafren Dyfrdwy yn eu tystiolaeth,

'mae digwyddiadau glawiad eithafol 30% yn fwy tebygol yn y degawd nesaf'.

Y ffaith amdani yw, o gymharu â gardd, mae cerrig palmant, tarmac a choncrit anhydraidd yn arwain at gynnydd o gymaint â 50 y cant mewn dŵr ffo. Ac er bod cyfyngiadau cynllunio ar yr hyn y gellir ei osod mewn gardd flaen, ychydig iawn, os o gwbl, sy'n bodoli ar gyfer yr ardd gefn, ac yn fy marn i, fe ddylai fod. Felly, unwaith eto, carwn annog y Gweinidog, os gall, i fynd i’r afael â’r mater hwnnw a bod yn feiddgar yn y Bil cynllunio nesaf—

15:55

Un bach. Mae'n wych gweithio gyda chi ar y mathau hyn o faterion ar y pwyllgor, ochr yn ochr â chi. A fyddech yn cytuno mai'r ffasiwn ddiweddaraf yn awr yw lawntiau plastig? Wrth gwrs, nid yw lawntiau plastig yn amsugno unrhyw beth. A chan ein bod yn cymryd camau bellach i geisio gwarchod ein hamgylchedd, gwn na allwn gyflwyno polisi neu ddeddfwriaeth, ond oni ddylem, efallai, gyfleu'r neges ei bod yn llawer gwell ichi gadw eich lawnt naturiol o ran hyn ac o ran diogelu ein hamgylchedd? Diolch.

Rwy'n cytuno’n llwyr â hynny, gan ei fod yn ymwneud â mwy na’r dŵr wyneb y maent yn ei greu, mae’n ymwneud hefyd â’r gronynnau micro o blastig a fydd yn mynd i lawr y draen hefyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac rydych newydd fy nal, gan fy mod ar fin gorffen drwy annog y Gweinidog i fod yn feiddgar yn y polisïau y mae'n eu cyflwyno, fel y bu yn y gorffennol, felly i fod yn fwy beiddgar nag y bu yn y gorffennol wrth ymdrin â dŵr wyneb.

Wrth gwrs, mae Cymru’n adnabyddus am un o’i hasedau naturiol mwyaf, sydd wedi cyfrannu at ran annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae’n llunio ein hamgylchedd naturiol a’n tirweddau, gan gefnogi bioamrywiaeth a’n hecosystemau. Fel adnodd naturiol hanfodol, mae dŵr yn sail i’n heconomi a gweithrediad effeithiol seilwaith, gan gynnwys y cyflenwad ynni. Mae mynediad at gyflenwad dŵr glân, diogel a sicr hefyd yn hanfodol i gefnogi iechyd a llesiant pawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chymru. Dyna pam fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a gweithio i ddiogelu ei allu i gael ei ddefnyddio er budd Cymru yn y dyfodol.

Nawr, yn ôl y sôn, mae rhaglen y Llywodraeth yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol at ddibenion hamdden a chryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr. Mae hefyd yn awgrymu ymrwymiad i wella’r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â systemau draenio cynaliadwy er mwyn darparu manteision amgylcheddol, bioamrywiaeth, llesiant a manteision economaidd ychwanegol i’n cymunedau, a dylid mabwysiadu’r rhain hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth dreigl ar gyfer rhaglen amlflwyddyn, gwerth miliynau o bunnoedd, yr amcangyfrifir ei bod oddeutu £40 miliwn ar hyn o bryd, i wella ansawdd dŵr. Fodd bynnag, mae adroddiadau gan CNC yn nodi nad yw’r data diweddaraf mor addawol ag y dylai fod ar ôl 22 mlynedd o Lywodraeth ddatganoledig. Dim ond 40 y cant o gyrff dŵr Cymru sydd â statws ecolegol 'da' neu 'well'. Fel y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod, mae ein cyrff dŵr o dan bwysau oherwydd amryw o heriau, ond mae tywydd eithafol, llygredd, effeithiau hinsawdd, prosesau diwydiannol a’r galw cysylltiedig am ddŵr a thwf poblogaeth wedi methu annog Llywodraeth Cymru i gyflymu camau gweithredu a allai ddatrys llawer o'r problemau hyn.

Fel y dywedais eisoes, mae angen diogelu ein cyrff dŵr fel y gall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol elwa o Gymru lewyrchus, gydnerth ac iach. Mae arnaf ofn—. Gwn ei bod yn broblem fawr, gwn ei bod yn ymwneud â seilwaith ac nad ydym am drosglwyddo'r gost i gwsmeriaid, ond credaf y gallai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy.

Er bod data addawol i'w ystyried, mae faint o garthion sy’n cael eu gollwng i afonydd Cymru yn ystod glaw trwm yn annerbyniol ac mae hyn yn peri risg y gellir ei osgoi i’r cyhoedd. Mae gorlifoedd stormydd wedi bod yn destun trafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf. Mynegwyd pryderon ynghylch amlder gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd, effaith andwyol gollyngiadau ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, diffyg adrodd am ddigwyddiadau llygredd gan gwmnïau dŵr, a methiant rheoleiddwyr amgylcheddol i roi camau gorfodi ar waith pan geir digwyddiadau llygredd. Ac mae cymaint o ddigwyddiadau wedi bod yn fy etholaeth yn ddiweddar, ac rwy’n cysylltu â Dŵr Cymru, maent yn dweud wrthyf am gysylltu â CNC i nodi bod hynny’n digwydd, felly mae’r ddwy asiantaeth yn gweithio ar hyn, neu dyna rwy'n ei feddwl, ac mae'n rhaid imi ddal i fynd ar eu holau o hyd ac o hyd. Os yw Llywodraeth Cymru am ddechrau adfer hyder y cyhoedd, rhaid i CNC allu ymateb yn amserol ac yn effeithiol i achosion o lygredd, a rhaid iddynt fod yn barod i roi camau gorfodi ar waith ar unwaith pan fydd achosion o dorri amodau trwyddedau yn digwydd.

Mae llygredd afonydd yn argyfwng sy'n mynd i waethygu heb ymyrraeth sylweddol ar unwaith. Felly, er bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn argymhellion yn yr adroddiad—rhai argymhellion—ni cheir fframwaith a chynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer y tymor hir.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi amlinellu mesurau i fynd i’r afael â gorlifoedd stormydd, gyda chynlluniau a fydd yn rhoi targedau uchelgeisiol ar waith i gwmnïau dŵr leihau gollyngiadau 80 y cant. O dan y cynllun a argymhellir, erbyn 2035, bydd effeithiau amgylcheddol 3,000 o orlifoedd stormydd sy’n effeithio ar ein safleoedd gwarchodedig pwysicaf wedi’u dileu. Yn ogystal, bydd 70 y cant yn llai o ollyngiadau i ddyfroedd ymdrochi, ac erbyn 2040, bydd oddeutu 160,000 o ollyngiadau, ar gyfartaledd, wedi'u dileu.

Mae’r dystiolaeth gan gyfranwyr i’r adroddiad diweddaraf yn awgrymu bod y sector yn awyddus i fabwysiadu atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli dŵr. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n llawer arafach na’r hyn a ddisgwylir gan CNC. Felly, rwy’n awyddus i ddeall pam, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl mynd i'r afael â hyn. Felly, tybed a wnewch chi ystyried cynnal fforwm agored i drafod atebion, Weinidog, fel y gall amrywiaeth o arbenigwyr yn y diwydiant a deddfwyr roi cyngor ar hyn. Mae'n rhaid inni weld camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, yn ei rôl arweiniol, i sicrhau bod nifer a graddau'r gollyngiadau yn cael eu lleihau fel mater o frys. Hoffwn weld y Gweinidog yn adrodd yn ôl i’n pwyllgor chwe mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru, gan nodi’r camau y mae wedi’u cymryd, gyda phartneriaid, i fynd i’r afael â’r mater hwn. Diolch.

16:00

Mae’n bleser siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, gweddill y pwyllgor a’r tîm clercio am y gwaith pwysig maen nhw wedi'i wneud gyda’r adroddiad a’r ymgynghoriad byr.

Mae gorlifoedd storm yn fater pwysig, ac, fel dŷn ni wedi'i glywed, hefyd mae hyn yn fater emosiynol. Codwyd pryderon gyda ni am ba mor aml mae'r gorlifoedd storm yn gollwng carthion, yr effaith niweidiol mae hyn yn ei chael ar yr amgylchfyd ac iechyd cyhoeddus. Codwyd pryderon am y diffyg adrodd sy’n digwydd gan gwmnïau dŵr, eto fel dŷn ni wedi'i glywed, a’r methiant gan reoleiddwyr amgylcheddol i gymryd camau cryfach yn erbyn cwmnïau pan fo llygredd yn digwydd.

Rwy’n siŵr, Dirprwy Lywydd, roedd pob un ohonom ni wedi’n brawychu i glywed, yn gynharach eleni, fod 105,000 o achosion o ddadlwytho carthion wedi’u recordio yng Nghymru. A beth sy’n waeth ydy, fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi'i ddweud, gwnaethon ni fel pwyllgor ddod i ddeall fod y ffigwr go iawn siŵr o fod yn sylweddol uwch, gan fod cymaint o ddiffyg recordio yn digwydd, neu ddadlwytho sy'n anghyfreithlon.

Dylai gorlifoedd storm ond cael eu defnyddio yn anaml, eto fel oedd y Cadeirydd wedi'i ddweud, dan amgylchiadau eithriadol, ond nid fel yna y mae. Beth sy’n glir ydy bod y nifer o achosion o ddadlwytho yn cynyddu. Ac fel mae Llyr Gruffydd wedi dweud yn y gorffennol, all y sefyllfa hon ddim parhau, lle mae rhiant yn ofni gadael i’w plentyn nofio mewn afon yng Nghymru oherwydd maen nhw’n poeni cymaint am garthion. Mae fe'n ffiaidd. Mae jest yn sefyllfa hollol echrydus. Mae’n amlwg bod hi’n hen amser i’r diwydiant dŵr lanhau’r ffordd maen nhw'n gweithio. Diwygio, buddsoddi, gwneud beth maen nhw’n cael eu talu i'w wneud, sef diogelu llefydd dŵr ar gyfer pobl ond hefyd ar gyfer yr amgylchfyd.

Mae nifer yr achosion dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, mae hwnna'n dangos fod gap yn y broses reoleiddio amgylcheddol, ac yn y ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio mewn realiti. Pryd bydd y Llywodraeth yn taclo’r gap llywodraethu amgylcheddol? A fydd y Gweinidog, plîs, yn gallu rhoi diweddariad inni am hyn?

Mae ymateb y Llywodraeth i’n hadroddiad yn sôn am £40 miliwn o fuddsoddiad dros dair blynedd, eto fel dŷn ni wedi'i glywed, mewn i SuDS, neu sustainable urban drainage solutions. Does gen i ddim syniad sut i ddweud hwnna yn Gymraeg. Mae hwnna i’w groesawu, ond all SuDS ar eu pennau eu hunain ddim ateb y broblem ynghylch y cynnydd mewn datblygiadau trefol a’r lleihad mewn pa mor permeable mae’r tir. Mae gwledydd eraill wedi edrych mewn i ffyrdd eraill o wella’r draeniad, y drainage: mae Awstria wedi ceisio lleihau sprawl trefol; mae Gwlad Belg yn ailddefnyddio tiroedd brownfield ar gyfer datblygiadau; mae’r Czech Republic wedi arwain y ffordd wrth ddiogelu tir amaethyddol trwy ffragmenteiddio tirlun, neu landscape fragmentation. Buaswn i’n hoffi clywed gan y Gweinidog os ydy’r Llywodraeth yma yng Nghymru wedi edrych ar beth sy’n digwydd yn rhyngwladol, neu y tu fas i Gymru, pan fyddan nhw yn ymateb i'r her yma. Gyda llaw, pan ŷn ni'n sôn am ddatblygiadau trefol, buaswn i'n cytuno'n gyfan gwbl gyda beth oedd Janet Finch-Saunders wedi'i ddweud ynglŷn â plastic grass. Eto, dwi ddim yn siŵr sut i ddweud hynna yn Gymraeg, o dop fy mhen.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhellion, ond rwy’n dal i bryderu. Dywedodd Dŵr Cymru wrth y pwyllgor y byddai cymryd mas pob gorlifydd storm, ac osgoi pob spill, yn golygu dyblygu’r rhwydwaith draeniad gyda chost o rhwng £9 biliwn a £14 biliwn. Dywedon nhw y byddai’r gost yn golygu cynnydd mewn biliau cwsmeriaid ar adeg o greisis costau byw, felly sut bydd y Llywodraeth yn ymateb i'r sialens yma o ran y gost, os gwelwch yn dda? Diolch.

16:05

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar y mater hwn, o ystyried nad wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond yn enwedig gan fod yr adroddiad yn eithaf cadarn ei ddadansoddiad ac yn eithaf damniol ei gasgliadau. Mae gennyf ddiddordeb yn yr adroddiad oherwydd bod cynnig deddfwriaethol fy Aelod ar wella dyfrffyrdd mewndirol, ac yn amlwg, mae llygredd dŵr yn effeithio ar fy etholaeth i.

Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad, mewn du a gwyn ar dudalen 6, yn dweud

‘Mae nifer y gollyngiadau carthion i afonydd Cymru yn annerbyniol. Rhaid i ni weld camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’

sy'n gyfaddefiad damniol fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn fodlon gweld carthion amrwd yn cael ei ollwng i'n dyfrffyrdd, dyfrffyrdd fel afon Tywi yn sir Gaerfyrddin ac afon Cleddau yn sir Benfro, ill dau yn fy etholaeth, ers dros 20 mlynedd. Nid yw'n ddigon da. Dyna pam rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’i Gadeirydd, Llyr Gruffydd, am ymchwilio i’r mater pwysig hwn. Mae'n fater sy'n effeithio ar etholwyr pob Aelod yn y Siambr hon, gyda hysbysiadau am ollyngiadau yn gorlifo fy mewnflwch. Bob tro y bydd gorlif carthffosiaeth cyfunol trwyddedig yn gollwng carthion, caf fy hysbysu gan etholwyr pryderus, y rhai sy'n defnyddio'r dyfrffyrdd mewndirol, sy'n cysylltu mewn dicter ac anobaith drwy system ar-lein Surfers Against Sewage.

Yn ôl adroddiad y pwyllgor, cafwyd 105,751 o ollyngiadau a ganiateir—a ganiateir—yn 2020. Mae’r rheini’n achosion lle roedd polisi Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai carthion amrwd gael eu gollwng i'n hafonydd a’n moroedd. Mae’r nifer hwn yn hepgor gollyngiadau carthion heb eu trwyddedu, achosion lle nad oedd unrhyw drwyddedau wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i ollwng gwastraff dynol yn ein hafonydd, pwynt a godwyd ac a bwysleisiwyd gan Gadeirydd y pwyllgor, Llyr, yn gynharach. Nid ydym yn gwybod yr union nifer, am nad yw Llywodraeth Cymru na'r corff a noddir ganddynt, CNC, yn monitro achosion o'r fath. A bod yn onest, nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da.

Ar draws y ffin, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r union faterion hyn; mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim, wedi cymeradwyo trwyddedau carthion a pharhau i ollwng gwastraff crai i'n hafonydd.

Mae Dŵr Cymru wedi datgan, ac rwy’n dyfynnu,

‘nid dyma yw’r sefyllfa yr hoffem fod ynddi.’

Mae Ofwat wedi cydnabod eu pryderon dwfn ynghylch gollwng carthion, gan fynd rhagddynt i ddweud bod y 'lefel bresennol yn annerbyniol'. Ac eto, polisi Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at y sefyllfa hon, felly drwy ddewis gwneud dim, dim ond gwaethygu a wnaiff y sefyllfa.

Ni allwn sicrhau newid heb gymryd sylw o'r adroddiad hwn a'r argymhellion sydd ynddo. Mae pob un o'r 10 argymhelliad yn adeiladol, yn effeithiol ac yn gyraeddadwy.

Hoffwn bwysleisio hefyd fod angen i'r tasglu ansawdd dŵr afon gwell fod yn fwy tryloyw na'r hyn a welwn ar hyn o bryd. Lle mae cofnodion y cyfarfod hwn? Mae hwn yn bwnc sy’n ennyn cymaint o ddiddordeb cyhoeddus fel bod y syniad na fydd tasglu a sefydlwyd i wella ansawdd afonydd yn cyhoeddi cofnodion ei gyfarfodydd yn gwbl ryfeddol.

Rhaid i Lywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr ddod at ei gilydd i sicrhau newid ystyrlon. Nawr yw’r amser i wrando, i weithredu ac i weithio’n adeiladol gyda’n gilydd, ac rwy’n siŵr y gallwn wneud rhai camau cadarnhaol yn ein blaenau. Dyma gyfle i droi dalen newydd a sicrhau bod ein hafonydd yn gadarnleoedd ar gyfer bioamrywiaeth ac yn lleoedd i bob un ohonom eu mwynhau. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ein deffro i'r hyn sydd angen ei wneud. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad manwl, a gyhoeddwyd ganddynt ar 15 Mawrth, ac rwyf eisiau cydnabod gwaith caled a brwdfrydedd gwirioneddol y pwyllgor wrth iddynt gyflawni’r gwaith hwn a chydnabod y casgliadau a wnaed yn yr adroddiad. Fel Cadeirydd y pwyllgor, mae Llyr eisoes wedi nodi ein bod wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r 10 argymhelliad a wnaed.

Ddirprwy Lywydd, ni fydd amser yn caniatáu imi fynd drwy bob peth unigol y mae'r Aelodau wedi'i godi heddiw, ond rydym yn gwbl gefnogol i'r pwyntiau cyffredinol sy'n cael eu gwneud, a bydd Llyr yn gwybod ein bod wedi derbyn y rheini. Lle rydym wedi eu derbyn mewn egwyddor, mae hynny oherwydd ein bod naill ai yn ei wneud yn barod neu oherwydd ein bod eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg iawn. Felly, nid yw’n golygu ein bod yn erbyn gwneud hynny yn y dyfodol. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwynt hwnnw. Rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o’r pwyntiau, ond rwy’n hapus iawn i barhau â’r ddeialog gyda’r pwyllgor a chyda’r Senedd.

Felly, yn amlwg, mae diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden a chryfhau prosesau monitro ansawdd dŵr. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i wella'r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â systemau draenio cynaliadwy. At hynny, a gaf fi ddweud cymaint rwy’n croesawu’r ffaith bod pawb yn y Senedd wedi sylweddoli'n sydyn syniad mor wych oedd y rheini? Nid felly oedd hi pan wnaethom eu cyflwyno, ond rwyf wrth fy modd gyda’r dröedigaeth. Maent yn darparu'r manteision ychwanegol sydd ganddynt i'w cynnig i'r cymunedau o ran bioamrywiaeth, llesiant, yr amgylchedd a'r economi.

Rydym eisoes wedi darparu ar gyfer rhaglen waith amlflwyddyn gwerth miliynau o bunnoedd i wella ansawdd dŵr, sy’n werth cyfanswm o dros £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Fel y mae llawer o bobl eisoes wedi’i ddweud yn y Siambr, cafwyd llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd, gyda chanfyddiad eang mai dyma brif achos ansawdd dŵr gwael. Fel y cydnabuwyd ar draws y Siambr—wel, ar wahân i’r cyfraniad diwethaf, na ddilynais mewn gwirionedd—mae’r dystiolaeth yn dangos bod ffactorau niferus yn cyfrannu at ansawdd dŵr gwael, yn cynnwys llygredd amaethyddol, camgysylltiadau draenio preifat, tanciau septig ac yn y blaen. Felly, nid dyma'r prif achos; mae'n un o nifer o achosion. Rwy’n cydnabod yn llwyr, fodd bynnag, fod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw hynny mewn golwg.

16:10

Diolch. Wel, mae’r holl bwyntiau a roddais yn fy araith wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, felly nid wyf yn credu eich bod yn onest pan ddywedwch na wnaethoch ddeall fy nghyfraniad.

Wel, yr hyn a olygwn oedd ei bod yn ymddangos eich bod yn ceisio ein cyferbynnu â gwaith dros y ffin, ac mae'n broblem wirioneddol ledled y DU mewn gwirionedd. Felly—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf am ddadlau ar draws y Siambr.

Fel y mae’r Cadeirydd wedi cydnabod, mae gorlifoedd stormydd yn darparu man rhyddhau wedi'i reoli ar adegau o law trwm. Gyda digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn digwydd, maent yn cyflawni rôl hanfodol er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd difrifol i gartrefi a mannau cyhoeddus, gan atal carthion rhag gorlifo i gartrefi a busnesau. Rwy’n derbyn yn llwyr, fodd bynnag, mai dim ond mewn digwyddiadau eithafol y dylent fod yn digwydd a dim ond pan fydd yr afonydd wedi gorlifo’n llwyr, sydd, wrth gwrs, yn caniatáu symud yn gyflymach drwy’r afon. Ni allai unrhyw gorff dŵr yng Nghymru gyflawni statws ecolegol da o ganlyniad i fynd i’r afael â gollyngiadau o orlifoedd stormydd yn unig. Nid yw hynny'n golygu nad oes angen mynd i'r afael â hwy. Ym mhob achos, mae angen inni ddatblygu atebion sy'n mynd i'r afael â phob achos arall o lygredd hefyd.

Felly, mynd i’r afael â gorlifoedd yw un o elfennau blaenoriaeth allweddol y dull cyfannol ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei fabwysiadu i wella ansawdd dŵr. Mae arnom angen dull cyfannol, traws-sector i’w gyflawni; rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni, rheoleiddwyr a’r sectorau perthnasol i nodi a gweithredu’r atebion cynaliadwy sydd nid yn unig yn cyflawni canlyniadau gwella ansawdd dŵr dymunol, ond sydd hefyd yn cefnogi ein hymaddasiad i newid hinsawdd, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cyflawni ein targed sero net.

A fyddech yn ychwanegu gwyddonwyr y bobl sydd wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn pwysleisio'r risgiau at y rhestr honno o bartneriaid yr ydych eisiau gweithio gyda hwy, yn enwedig ar gyfer monitro yn y dyfodol? Hoffwn i chi ymuno â mi i longyfarch Surfers Against Sewage am y gwaith y maent wedi'i wneud yn tynnu sylw at y problemau sy'n ein hwynebu yma. Mae argymhelliad 4 yn pwysleisio, onid yw, y rôl y gall gwyddonwyr y bobl ei chwarae yn y dyfodol.

Rwy’n cydnabod hynny’n llwyr, a soniaf amdano’n gryno—rwyf am siarad yn gyflym iawn yn awr—yng ngweddill fy nghyfraniad.

Roeddwn eisiau cydnabod gwaith Joyce Watson ar fater draenio dŵr wyneb. Mae hi wedi gadael y Siambr yn awr, ond mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny ers imi ei hadnabod. Rwyf eisiau ei sicrhau ein bod yn gwbl gefnogol i hynny.

Rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i’r afael â gollyngiadau o orlifoedd, gan gynnwys gwneud systemau draenio cynaliadwy yn orfodol ym mhob datblygiad adeiladu newydd, sy’n helpu i leddfu’r pwysau ar y rhwydwaith drwy ddargyfeirio ac arafu’r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i’r system garthffosydd a sicrhau mai dewis olaf yw gorlifoedd stormydd.

Mae CNC wrthi'n cwblhau'r fersiwn nesaf o'r cynlluniau rheoli basn afon, a fydd yn nodi trosolwg cynhwysfawr o'n cyrff dŵr, y pwysau a chyfres o fesurau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau ansawdd dŵr.

Ni allaf bwysleisio ddigon mai dim ond drwy gydweithio cyffredinol y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau lluosog y mae ein cyrff dŵr yn eu hwynebu. Rydym yn gweithio gyda'r rheolyddion, cwmnïau dŵr, Afonydd Cymru a Chyngor Defnyddwyr Cymru drwy'r tasglu ansawdd dŵr afon gwell i ddatblygu cynlluniau gweithredu. Bydd y cynlluniau gweithredu yn cefnogi ein dealltwriaeth ac yn nodi newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu system garthffosydd yn effeithiol i oresgyn heriau'r presennol a'r dyfodol.

Rwyf eisoes wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor yn yr hydref, yn dilyn cyhoeddi'r map ffordd gan y tasglu ym mis Gorffennaf eleni. Bydd y cynlluniau gweithredu hynny'n ymdrin â phum maes newid a gwella, sef: lleihau effaith weledol; gwella ansawdd elifion ac ansawdd afonydd; gwella rheoleiddio amgylcheddol gorlifoedd; cynllunio mwy hirdymor ar gyfer capasiti yn y rhwydwaith gwaith dŵr; gwella ymgysylltiad a dealltwriaeth y cyhoedd o ansawdd dŵr, a bydd y cynllun gweithredu ansawdd hefyd yn canolbwyntio ar drefniadau monitro. Rydym yn sefydlu rhaglen fonitro ymchwiliol rhwng CNC a’r ddau gwmni dŵr i bennu gofynion hirdymor ar gyfer monitro gorlifoedd ledled Cymru a’r angen i fonitro ystod ehangach o lygryddion, gan gynnwys microblastigion a chynhyrchion fferyllol, a bydd paramedrau iechyd y cyhoedd hefyd yn cael eu hasesu.

Rydym hefyd yn ymchwilio ac yn hyrwyddo'r defnydd o fonitro a—

16:15

Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, Weinidog. Rwyf wedi rhoi digon o amser i chi i wneud iawn am yr ymyriadau.

Iawn. Gadewch imi grynhoi felly, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud ein bod ni eisiau gweithio'n weithredol gyda gwyddonwyr y bobl fel y crybwyllodd Rhun er mwyn gwella'r monitro a'r cymorth. Bydd yr archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, fel y crybwyllwyd yn y pwyllgor y bore yma, yn ein helpu gyda’r targedau y sonioch chi amdanynt, Llyr. A hoffwn bwysleisio i gloi mai dim ond drwy weithio gyda'n gilydd a mabwysiadu ymagwedd Tîm Cymru y gallwn fynd i'r afael â risgiau lluosog, ac mae gennym uwchgynhadledd yn cael ei chadeirio gan y Prif Weinidog ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol i orffen. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi wedi, yn sicr, cyfoethogi y gwaith pwyso a mesur mae'r pwyllgor wedi'i wneud. Mi gawsom ni ein hatgoffa mai un o ganlyniadau ymarferol y diffygion yma yw bod yna draethau yn colli eu baneri glas, ac mae hynny nid yn unig yn dod â goblygiadau amgylcheddol, ond mae yna oblygiadau economaidd ehangach hefyd yn dod yn sgil hynny.

Dwi'n falch bod yna gyfeirio wedi bod at y SuDS. Buodd yna gyfeirio at RainScape yn Llanelli pan gyrhaeddais i yma gyntaf yn 2011. Mae'n drueni ein bod ni'n dal i sôn am hynny, i raddau, fel rhywbeth rŷn ni eisiau dal lan fel enghraifft gadarnhaol. Mae yna waith wedi digwydd yn Grangetown fan hyn yng Nghaerdydd yn fwy diweddar, a dyna'r norm rŷn ni eisiau ymgyrraedd ato fe, a dwi'n gwerthfawrogi bod yna waith angen ei wneud i gyrraedd y lle yna, ond yn sicr mae e'n rhywbeth sydd angen gweld mwy ohono fe, yn hytrach nag efallai ein bod ni'n gallu cyfeirio atyn nhw fel rhyw eithriadau y dylem ni ymgyrraedd tuag atyn nhw.

Mae'r pwynt ynglŷn â chael y capasiti ymhlith y rheoleiddiwr, wrth gwrs, i fedru stopio llygru afonydd, gorfodi y rheoliadau yn fwy effeithiol, a chosbi hefyd lle mae angen gwneud hynny, yn un pwysig. A diwedd y gân yw'r geiniog, ac mae pob sgwrs debyg, wrth gwrs, yn bennu lan yn trafod ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, dwi'n gwybod bod yna waith yn digwydd yn y cyd-destun hynny.

Diolch i Delyth Jewell jest am ein hatgoffa ni. 'Echrydus', dwi'n credu, oedd y gair ddefnyddiodd hi, ac mae e yn echrydus pan ŷch chi jest yn stopio i feddwl beth sydd yn y dŵr. Mae'r peth jest yn gwbl, gwbl annerbyniol, ond hefyd realiti'r ffaith y byddai yn costio rhwng £9 biliwn ac £14 biliwn i ddatrys y broblem yn llwyr, ac felly mae'n rhaid inni ddelio â'r mater cam wrth gam. Mae tryloywder y tasglu yn rhywbeth pwysig. Byddwn i'n dweud, efallai, ar hyn o bryd ei fod e mor glir â pheth o dŵr rŷn ni'n ei weld yn ein hafonydd ni, sydd ddim yn beth da iawn, a bod angen gwella ar hynny.

Ac yn olaf, mae'r pwynt ynglŷn â citizen science yn bwysig iawn. Wrth gwrs, mae casglu data, felly, yn bwysig. Mae monitro amser byw—real-time monitoring—yn bwysig. Ac, wrth gwrs, dwi ddim wastad yn licio cyfeirio at gymharu rhwng Cymru a Lloegr, ond yn Lloegr mae disgwyl i gwmnïau adrodd o fewn awr yn ôl Deddf Amgylchedd 2021 pan fydd achosion fel hyn yn codi, sydd ddim yn ymrwymiad sydd gennym ni yng Nghymru.

Beth bynnag, mae afonydd Cymru, fel rŷn ni'n gwybod, yn rhan hanfodol o'n treftadaeth naturiol ni. Un rhan o'r broblem yw llygredd o garthffosiaeth, ond mae e yn un rhan o'r ateb hefyd, sy'n rhywbeth sy'n gorfod cael ei ddelio ag e. Mae mwy o law o ganlyniad i newid hinsawdd yn dod—rŷn ni'n gwybod hynny; mae yna dwf yn dal i ddigwydd yn y boblogaeth ac mae yna ehangu trefol yn digwydd, felly mae risg gwirioneddol y bydd y sefyllfa yma yn gwaethygu cyn iddi fynd yn well. A dyna pam y mae'r pwyllgor yn awyddus i weld camau pendant, a dyna pam y mae ein hadroddiad ni yn cynnwys yr ystod o argymhellion ar gyfer gweithredu o ran Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a'r rheoleiddwyr. A phle y pwyllgor i chi yw ichi i gyd ddod at eich gilydd, fel rŷch chi wedi awgrymu yn yr uwchgynhadledd, er mwyn taclo'r broblem a chyflawni y newid sydd ei angen, a helpu i wella cyflwr afonydd Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'

Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8025 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael sylw gan wledydd eraill a chan sefydliadau Cymreig nad yw'r Ddeddf yn eu cynnwys. Er enghraifft, roeddwn wrth fy modd yn gweld bod polisi amaethyddiaeth NFU Cymru yn y dyfodol wedi'i lunio yng nghyd-destun saith egwyddor y Ddeddf, ac mae'n ardderchog iawn gweld hynny'n digwydd. Ond o ystyried y diddordeb allanol hwn yn llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n bwysig iawn fod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn cael eu gweld yn gweithredu'n llawn yn unol â'n Deddf ni ein hunain. Ni allwn gael, 'Gwnewch yr hyn a ddywedaf, nid yr hyn a wnaf.' Mae'r adeg ddifrifol hon yr ydym yn byw ynddi, beth bynnag, yn gyson yn ein gorfodi i gyd i archwilio ffyrdd doethach o weithio er mwyn inni allu gwneud y gorau o'n gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw digynsail a'r argyfwng hinsawdd, sydd, ill dau, yn galw am ymateb cyhoeddus yn ogystal ag ymateb personol a phreifat.

Felly, i'ch atgoffa, ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddadl ar y cyd â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar weithrediad y Ddeddf, gan adlewyrchu gwaith yr archwilydd cyffredinol a gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd. Mae cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn benodol yn cynnwys craffu ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y chweched Senedd, er, fel y dywedais ym mis Tachwedd, rhaid i bob pwyllgor ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ymgorffori egwyddorion a nodau'r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ac mae'n amlwg bod mwy y gallwn i gyd ei wneud i sicrhau ei fod yn rhan annatod o bob agwedd ar ein gwaith.

Cododd yr adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw o waith craffu blynyddol ein pwyllgor ar y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl ym mis Chwefror. Mae pob un o'i bedwar argymhelliad wedi'u derbyn mewn sawl ffordd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Llywodraeth Cymru, felly nid yw hyn yn ymwneud â holi ymhellach pam fod argymhelliad x neu y wedi'i wrthod neu wedi'i dderbyn mewn egwyddor yn unig. Heddiw, rhaid i'r Senedd fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n deillio o dderbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r rhain yn mynd ymhell y tu hwnt i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol presennol fel deiliad y swydd, a'i swyddfa. Rhaid inni sicrhau bod ein holl gomisiynwyr annibynnol a'u swyddfeydd yn defnyddio eu hadnoddau a'u pwerau craffu i'r eithaf.

Felly, wrth i gyfnod saith mlynedd Sophie Howe ddod i ben ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae'n adeg dda iawn i adolygu'r trefniadau ariannu ar gyfer comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r holl gyrff craffu annibynnol eraill hyn. Rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gyda'i gyfrifoldebau gweinyddu cyhoeddus ychwanegol, fynd i'r afael â'r rhesymeg sy'n sail i drefniadau ariannu pob un o'r pum comisiynydd yng Nghymru. Crëwyd yr holl swyddi hyn ar wahanol adegau a chyda gwahanol ysgogiadau deddfwriaethol. Mae tudalen 7 o'n hadroddiad yn nodi bod gan gomisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol gyllideb o £1.5 miliwn, ac mae hynny'n cymharu â £3.3 miliwn, er enghraifft, ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a dros £5 miliwn ar gyfer yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Crëwyd y comisiynydd plant yn y Senedd gyntaf, cafodd y lleill eu creu mewn Seneddau dilynol, ac nid oes unrhyw gydlyniad, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y mae'r cyllid a'r adnoddau wedi'u darparu iddynt. Felly, dyma gyfle da i sicrhau sylfaen briodol yn hynny o beth, ac felly rhaid inni edrych ymlaen at yr adolygiad systematig o sut y darperir adnoddau i gomisiynwyr Cymru ac a yw hyn yn adlewyrchu eu cylch gwaith presennol yn ddigonol. A ydynt yn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posibl yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau ar gyfer Cymru gyfan, ynteu a allent fod yn gwneud pethau'n wahanol, gan rannu rhai o'u treuliau ystafell gefn, ac yn y blaen?

Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru oedd argymhelliad 2. Ni allwn ddal ati i ychwanegu at gawl o gyrff cyhoeddus heb fod goblygiadau ychwanegol o ran adnoddau. Mae tirwedd weinyddol sydd wedi'i gorgymhlethu yn ei gwneud yn anodd i sefydliadau rhanddeiliaid ddeall sut a lle y gwneir penderfyniadau, felly mae'n rhaid ei fod yn ddyrys i ddinasyddion Cymru. Roeddwn wrth fy modd yn clywed y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dweud y bore yma fod y cynllun ynni morol wedi'i symud i'r cynllun sero net, ond mae arnom angen llawer mwy o'r cydlyniad deallusol hwnnw i sicrhau bod pobl yn deall prosesau llywodraethu a sicrhau eu bod yn hawdd i'w craffu.

Argymhellodd adroddiad cenedlaethau'r dyfodol yn ôl yn 2020 y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi dweud wrthym y bydd llai na 10 corff cyhoeddus ychwanegol yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae adolygiad ar y gweill, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, ar weithrediadau'r Ddeddf a'r comisiynydd. Rhaid inni gofio bod goblygiadau ariannol i unrhyw gynnydd yn nyletswyddau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, neu fel arall gallai wanhau gallu'r comisiynydd i graffu ar y rhestr gynyddol o gyrff y mae'n gyfrifol amdanynt.

Felly, mae swyddogion yn ymchwilio i gwmpas a chyfrifoldebau'r Ddeddf a ph'un a oes angen diwygio'r Ddeddf ai peidio. Mae'n bosibl y bydd buddiannau'n gwrthdaro, ac mae angen i'r Senedd fod yn ymwybodol o hynny. Yn ôl ym mis Chwefror, yn ein sesiwn graffu, cododd y comisiynydd bryderon penodol am yr haen fwyaf newydd, sef y cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac mae'r gydberthynas rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyd-bwyllgorau corfforaethol yn aneglur hyd yn oed i'r comisiynydd, sydd â'r gwaith o graffu ar ba mor dda y maent yn rhyngweithio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. 

Cawsom ein hatgoffa gan y comisiynydd hefyd am y bwlch gweithredu, rhywbeth yr ydym yn sôn amdano'n aml—y duedd sydd gan y Llywodraeth i wthio deddfwriaeth, polisi, arweiniad a chyfeiriad heb lawer o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y caiff ei gyflawni na'i ariannu'n ddigonol yn ymarferol. Yn ystod ein gwaith craffu, fe'n hatgoffwyd gan y comisiynydd hefyd o'i phwerau o dan adran 20 o'r Ddeddf.

Canfu ei hadolygiad o gaffael nad yw cyrff cyhoeddus yn cymhwyso Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ddigonol yn eu penderfyniadau caffael. Mae hyn yn rhywbeth y bydd ein pwyllgor, wrth gwrs, yn ailedrych arno yn ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Sophie Howe bellach yn cynnal adolygiad adran 20 o beirianwaith Llywodraeth Cymru, sy'n waith amserol yng nghyd-destun y ddadl hon.

Galwai argymhelliad 3 ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae'n defnyddio hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod ei gweithwyr ei hun yn deall ac yn cydymffurfio â'r Ddeddf yn llawn. Mae'n sefydliad mawr iawn, ac ni all y Gweinidog fod yn gyfrifol am bopeth y mae swyddogion yn ei wneud. Felly, mae'n bwysig iawn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn sicrhau bod pob haen o Lywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y Ddeddf.

Mae argymhelliad 4, a gafodd ei dderbyn gan y Llywodraeth hefyd, yn nodi cynlluniau ar gyfer ymgorffori'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a allai gael ei llunio gan y ddeddfwriaeth hon a sicrhau bod gweithrediad y Ddeddf yn addas i'r diben.

Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at weld y ffordd y bydd y Gweinidog yn bwrw ymlaen â'r cyfathrebu hwnnw, ac yn enwedig gyda'r gymdeithas yn ehangach yng nghyd-destun yr holl bethau eraill sy'n digwydd yn ein bywydau, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd. Felly, ceir arwyddion cadarnhaol o gynnydd ar weithredu'r Ddeddf, ac mae'n wych fod ein holl argymhellion wedi'u derbyn. Fodd bynnag, mae digon o le i wella, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch rhwng polisi ac ymarfer. Ac o ystyried natur drawsbynciol y Ddeddf, rydym yn falch iawn o allu codi'r materion hyn ar lwyfan y Senedd, oherwydd mae'n gyfrifoldeb i bawb ohonom yn y pen draw. 

16:25

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fel y nodoch chi yn garedig iawn. Mae gan y pwyllgor hwnnw, sydd â'r acronym PAPAC, ddiddordeb hirdymor yng ngweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyflwynodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd adroddiad, 'Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn' ym mis Mawrth 2020.

Fis Tachwedd diwethaf, roeddwn yn falch o arwain ar y cyd ar ddadl ar y cyd gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw, yn ogystal â'i ymatebion i'r adroddiad statudol cyntaf ar y Ddeddf gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. Dangosodd y ddadl honno, a gynhaliwyd gan y pwyllgorau ar y cyd, y gyntaf o'i bath, yr ymrwymiad trawsbleidiol i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni'n effeithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith yn y maes hwn ac rwy'n croesawu'r adroddiad hwn ganddynt, sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol ac sy'n atgyfnerthu llawer o'r pryderon a godwyd ganddo. 

Mae argymhelliad 1 yr adroddiad wedi'i gyfeirio at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a gofynnwyd inni gynnal adolygiad o drefniadau ariannu comisiynwyr Cymru. Nodaf fod yr adroddiad yn cydnabod bod gan bob comisiynydd rolau a chyfrifoldebau gwahanol a bod anghenion ariannu'n amrywio'n unol â hynny, ond ni cheir digon o eglurhad ynghylch y cyfiawnhad sy'n sail i ddyraniadau ariannol gwahanol ac mae'n haeddu craffu pellach.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gwahanol rolau a swyddogaethau comisiynwyr Cymru wedi tyfu fesul tipyn. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyfiawnhau'n well sut y dyrennir adnoddau i bob comisiynydd, ond rwy'n cytuno y byddai adolygiad gan PAPAC, sef y tro cyntaf i waith craffu o'r fath gael ei gyflawni, yn fuddiol ac y byddai'n darparu mewnwelediad pwysig ar gyfer penodi comisiynwyr yn y dyfodol. Felly, rwy'n falch o gadarnhau bod PAPAC wedi derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn craffu ar waith comisiynwyr Cymru yn ystod yr hydref eleni.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cyfeirio at y dirwedd gymhleth y mae'r Ddeddf yn gweithredu ynddi. Mae hwn yn fater a godwyd gan y pwyllgor a'n rhagflaenodd, a ddaeth i'r casgliad fod

'tirwedd gymhleth a biwrocrataidd cyrff partneriaeth a llu o ofynion deddfwriaethol ac adrodd wedi’i gwneud yn fwy anodd i gyrff cyhoeddus fabwysiadu’r Ddeddf hon ac, ar brydiau, wedi peidio â’i chymell yn weithredol.'

Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i PAPAC yn ddiweddar ar weithrediad yr argymhelliad hwn, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru o bartneriaethau strategol yn cynnwys argymhellion clir ar gamau ymarferol i symleiddio tirwedd y bartneriaeth. Fe wnaethom nodi hefyd, o'r diweddariad, yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru i barhau i adolygu trefniadau partneriaethau rhanbarthol, sy'n gorgyffwrdd ag argymhellion y pwyllgor a'n rhagflaenodd. Gobeithiwn felly y bydd casgliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o arweiniad ac eglurder ynghylch sut y bydd y modd y mae gwahanol gyrff yn rhyngweithio o fewn cyd-destun a fframwaith y Ddeddf yn rhoi hwb pellach i symleiddio'r dirwedd or-gymhleth ac yn dileu rhwystr sylweddol i weithrediad y Ddeddf.

Yn ystod y ddadl ddiwethaf yn y Cyfarfod Llawn ar weithredu'r Ddeddf, nodais fod gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar newid diwylliannol y mae angen iddo ddechrau gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar bob lefel mewn cyrff cyhoeddus. Mae'n siomedig fod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dod i'r casgliad, er bod cynnydd calonogol yn cael ei wneud ar weithredu'r Ddeddf, fod digon o le i wella, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch rhwng polisi ac ymarfer. Ategaf felly argymhelliad 4 yn adroddiad y pwyllgor, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau ar gyfer ymgorffori'r Ddeddf i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd cyhoeddus yn cael ei llunio gan y ddeddfwriaeth a bod y mesurau sydd ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd ar weithredu'r Ddeddf yn addas i'r diben.

I grynhoi, mae'n hanfodol fod gwaith cydweithredol yn parhau i graffu ar weithrediad y Ddeddf ar draws y Senedd wrth symud ymlaen. Gobeithiwn y bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn a'r gwaith sy'n mynd rhagddo mewn ymateb i adroddiad blaenorol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynnydd tuag at weithredu gwell, ond mae hyn yn parhau i fod yn araf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac at sicrhau y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal rôl allweddol yn monitro cynnydd a dwyn Llywodraeth Cymru, ac eraill sydd â'r dasg o weithredu'r Ddeddf, i gyfrif. Diolch yn fawr.

16:30

Mae yna nifer o bethau i'w dathlu am sut y mae blaengaredd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn helpu i lywio gweledigaeth a gweithrediad polisi, ond rŷn ni'n gwybod hefyd bod yna nifer o heriau. Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a fu'n craffu ar waith y comisiynydd, rwy'n cytuno bod nifer o gwestiynau pwysig y mae'n hanfodol eu harchwilio a'u datrys os ydym wir am weld y Ddeddf yn cyrraedd ei llawn botensial, a'r angen gwirioneddol am feddylfryd hirdymor wrth lunio polisi sydd yn briodol ac, o'r diwedd, wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar yn sgil y pandemig, yr argyfwng costau byw, ac wrth i ni ymrafael â'r argyfwng hinsawdd. 

Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, fe wnaeth y comisiynydd osod mas nifer o broblemau ymarferol sy'n rhwystro effeithlonrwydd y Ddeddf a gwaith ei swyddfa yn sicrhau ffocws ar effaith hirdymor polisïau, a grym cydweithio i ragweld problemau posib. Un o'r materion mwyaf arwyddocaol, dwi'n meddwl, a mwyaf pryderus efallai, yw'r bwlch gweithredu yma rhwng polisi a'r camau ymarferol sy'n cael eu cymryd. Roedd yn destun pryder gwirioneddol bod y comisiynydd yn gallu disgrifio mewn termau mor eglur wrthym dueddiad y Llywodraeth o greu deddfwriaeth, polisïau a chyhoeddi canllawiau heb fawr o ddealltwriaeth o sut byddai hyn i gyd yn cael ei gyflawni, nac o sut y byddai adnoddau digonol ymarferol yn cael eu darparu.

Mae'n ymddangos o'i thystiolaeth hi i ni nad oes yna ddealltwriaeth ddigonol gan rai cyrff cyhoeddus na llawer o'r gwasanaeth sifil ei hun o'r hyn mae'r Ddeddf yn gofyn iddyn nhw ei wneud, a bod gorddibyniaeth felly ar ei swyddfa hi yn sgil y diffyg arbenigedd yma o fewn cyrff cyhoeddus, sy'n llyncu capasiti ac adnoddau. Mae'n dda clywed felly gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei ymateb i argymhellion y pwyllgor bod yna ailddyblu yn yr ymdrechion i gywiro hyn, a chyflymu'r newid sydd ei angen i helpu ailffocysu cyrff cyhoeddus, ac i hyfforddi'r gwasanaeth sifil pan fo'n dod i ddealltwriaeth o'r Ddeddf.

Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn tynnu'r pwysau ymgynghori yma oddi ar ysgwyddau swyddfa'r comisiynydd, a fydd yn ei rhyddhau hi i osod a ffocysu ar gyflawni ei chylch gwaith ei hun wrth sicrhau gweithrediad y Ddeddf, gan gynnwys ei hymchwiliadau adran 20 grymus a gwerthfawr. Rhaid i'r bwlch gweithrediad yma ddod yn ganolbwynt, dwi'n meddwl, ar gyfer sicrhau bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wir yn deilwng o'r ganmoliaeth hael a haeddiannol y mae wedi ei chael yn rhyngwladol. 

Mae'r adroddiad craffu, fel rŷm ni wedi clywed, hefyd wedi codi'r cyfle yma i gymryd stoc o'r adnoddau a gynigiwyd i weithredu amcanion y Ddeddf, ac mae'n glir bod y gyllideb sydd ar gael i swyddfa'r comisiynydd yn anghytbwys o gymharu â'r hyn sydd ar gael i'r comisiynwyr eraill, ac yn annigonol i'r gwaith—gwaith, fel rŷm ni wedi clywed, sydd yn cynyddu. Mae gwaith y comisiynydd, wrth gwrs, yn wahanol iawn, ac ni fyddwn i'n dymuno gweld adnoddau yn cael eu cymharu mewn modd simplistig. Ond mae'n galonogol bod yna gytundeb i asesu cyfrifoldebau a chyllideb yr holl gomisiynwyr, fel awgrymwyd gan y pwyllgor. 

Dyma gyfle, cyfle go iawn, i ni adlewyrchu ar un o'n cyfreithiau mwyaf unigryw, ac i rymuso'r Ddeddf. Gallwn ni ddangos i genhedloedd eraill sut i ddiogelu ein cymunedau, ein hamgylchedd, a sut i wneud datblygu cynaliadwy yn gonglfaen i'n trefniadau llywodraethu. Gobeithio bod awydd i wneud hyn i roi dannedd i Ddeddf, a nerth felly i'r comisiynydd i'w galluogi i flodeuo i'w llawn botensial. Diolch. 

16:35

Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, fy nghyd-Aelodau a chlercod ac ymchwilwyr y pwyllgor. Fel pwyllgor, rydym wedi gosod yr amcan i'n hunain o hyrwyddo cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar draws y Senedd, felly mae craffu ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhan hanfodol o hyn. Ac wrth inni agosáu at saith mlynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, mae nawr yn amser arbennig o addas ar ddechrau ein chweched Senedd i fyfyrio a chyflwyno syniadau ar gyfer gwelliannau yn y ffordd y caiff ei deddfu. Mae gan adroddiad ein pwyllgor bedwar argymhelliad allweddol, felly efallai ei fod yn fach, ond mae hefyd yn gryf, er mwyn sicrhau bod ein deddfwriaeth, y gyntaf o’i bath, mor effeithiol â phosibl i bawb.

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn falch fod argymhelliad 2 wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru—cynnal gwerthusiad a fydd yn edrych ar gwmpas gwaith a chyfrifoldebau’r comisiynydd, gyda’r bwriad o gefnogi unrhyw ehangu yn y dyfodol. Fel rydych newydd ei ddweud, Sioned, mae llawer o resymau pam fod angen gwneud hyn. Yn fwyaf arbennig, credaf y gallai archwilio’r posibilrwydd y gallai swyddfa’r comisiynydd ymgymryd â gwaith achos fod o fudd aruthrol i bobl Cymru. Gwn ein bod, yn fy etholaeth i, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ymgyrch yn ddiweddar lle roedd y gymuned leol yn awyddus i ddiogelu caeau Bracla, fel rydym yn eu galw, a gwnaethant ysgrifennu at gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, a ysgrifennodd lythyr yn ôl yn rhoi hwb mawr iddynt gyda'u hymgyrch. Ond pe baent wedi cael mwy o arweiniad ar sut y gallent fod wedi ymladd dros eu hymgyrch yn unol â’r ddeddfwriaeth, credaf y byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Yn ychwanegol at hynny, rhan o’r argymhelliad yw y dylid cynnal gwerthusiad cyn penodi comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol newydd yn 2023. Felly, wrth inni ddechrau edrych at gyfnod y comisiynydd nesaf yn y swydd, hoffwn ddiolch i’n comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol cyntaf, Sophie Howe, a’i thîm am bopeth y maent yn parhau i’w wneud yn darparu tystiolaeth ac awgrymiadau ar sut i gryfhau’r swydd wrth symud ymlaen, a’r nodau.

Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 4, ac yn benodol, ymrwymo i nodi cynlluniau ar gyfer sut i fonitro a gwerthuso cynnydd ar weithredu’r Ddeddf a sicrhau ei bod yn addas i'r diben ar draws cyrff cyhoeddus. Unwaith eto, cyfeiriaf at yr hyn sy’n digwydd yn fy etholaeth i, lle mae gennym lawer o brosiectau a chynlluniau gwych ar y gweill ar gyfer adfywio. Fodd bynnag, pan gyfarfûm â chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i gael sgwrs am rai o’r rhain a ph'un a oeddent yn cyd-fynd â’r cynlluniau a’r ddeddfwriaeth ai peidio, nid yw’n rhywbeth y gallant ymchwilio iddo ar y pryd; mae'n rhywbeth a fydd yn cael ei asesu'n ddiweddarach gyda'r adroddiadau cyfnodol hyn a gynhyrchir. Yn anffodus, er ei bod efallai'n anfwriadol nad yw wedi cyd-fynd, golyga hynny ei bod yn ddiffygiol, a bod penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud na ellir eu dadwneud.

Hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd Parhaol am ymateb i argymhelliad 3, sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod cyflogeion Llywodraeth Cymru yn deall y Ddeddf yn llawn ac yn cydymffurfio â hi, a chroesawaf y wybodaeth ddiweddaraf am raglen tair blynedd 2025 Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sefydliadol a lansiwyd yn ddiweddar, yn ogystal â llwyfan i’r gweithlu allu rhoi adborth a sôn am y newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, gwnaeth y comisiynydd y pwynt ei bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu cryn dipyn ar eu swyddfa am gymorth, ac i roi adborth ar y gwaith y mae’n ei wneud a ph'un a yw’n cyd-fynd â’r nodau a'r ddeddfwriaeth. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd hyfforddiant yn golygu bod hynny’n lleihau a bod gan swyddfa’r comisiynydd amser i wneud gwaith arall.

Rwyf am gloi drwy ddweud, er nad yw wedi'i dderbyn, y credaf y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, pan fydd ganddo gapasiti, gynnal adolygiad o drefniadau ariannu comisiynwyr Cymru. Clywsom gan Jenny a Sioned ynglŷn â'r rhesymau pam fod hyn yn berthnasol iawn, a chredaf o bosibl y gallai hynny gynnwys rhannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa a staff yn gyffredinol.

Ar y cyfan, rwy’n fodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru—diolch, Weinidog—ac rwy’n hyderus y cânt eu cymryd o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd ein deddfwriaeth, y gyntaf o'i bath yn y byd, yn cryfhau ac yn gwella canlyniadau ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, a chyd-Aelodau ar y pwyllgor. Wrth i dymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol ddod i ben, mae’n ddefnyddiol ystyried yr effaith y mae’r comisiynydd a’i swyddfa wedi’i chael. Er nad yw bob amser yn hawdd bod y cyntaf mewn rôl mor arloesol, mae'n gyfle i osod safon. Nid yw’r comisiynydd wedi osgoi cyfrannu at bynciau heriol ac anodd fel ffordd liniaru’r M4, newid hinsawdd a gwasanaethau cyhoeddus. Yn naturiol, byddai’n hawdd i wleidyddion ymosod ar y comisiynydd am beidio â chanolbwyntio ar y pethau y maent hwy am iddi eu gwneud, neu i ddisgwyl i’r comisiynydd ochri â hwy ar faterion penodol. Ond nid dyna ddiben y rôl hon; rôl y comisiynydd yw herio pob un ohonom ar y penderfyniadau a wnawn, a sut i sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd, diogelu at y dyfodol, yr hyn a wnawn a’r hyn a wariwn wrth wraidd y penderfyniadau hynny er mwyn diogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol a fydd yn wynebu cymaint o heriau.

Rydym wedi disgwyl i’r comisiynydd wneud cymaint yn y tymor cyntaf hwn. Rwyf i wedi bod yn bryderus iawn am y lefel barhaus o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru, ac efallai y bydd y comisiynydd nesaf yn nodi hyn. Yn 2018, argymhellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y dylid gweithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol. Golyga hyn fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau cymdeithasol. Gwnaethant nodi cyfres o amcanion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac un ohonynt oedd sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl wedi eu llesteirio gan rwystrau. Mae’r ffeithiau’n syml: mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol; mae chwarter y rhieni'n mynd heb brydau bwyd yn aml; ac mae 45 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Gall tlodi gael effaith fawr ar blant yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gall tlodi gael effaith andwyol ar eu haddysg, felly bydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus yn anoddach. Os yw plentyn yn mynd heb brydau bwyd, gall hynny gael effaith ar eu hiechyd cyffredinol yn ddiweddarach. Cyflwynwyd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i wella bywydau pobl ar incwm isel. Mae’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn gwario 26.2 y cant o’u hincwm ar ynni a bwyd. Dyma un o'r ffigurau uchaf yn y DU. Gyda'r argyfwng costau byw, bydd hyn yn siŵr o godi. Mae’r darlun economaidd newidiol yn golygu bod angen i Lywodraeth a chyrff cyhoeddus feddwl, gweithio a chyflawni’n wahanol os ydym am fod yn ddigon ystwyth a chreadigol i ymateb i’r heriau presennol hyn sy’n bygwth datblygiad cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Wrth inni ddod at flwyddyn olaf tymor y comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol presennol, mae angen adolygiad ar fyrder o’r modd y darperir adnoddau ar gyfer y rôl. Mae’r comisiynydd wedi dangos didueddrwydd sylweddol wrth gyflawni ei dyletswyddau, gan fynd i’r afael â materion pwysig sydd wedi dangos gwerth y swydd, a meddwl am y darlun ehangach a sut i sicrhau bod pob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd arnynt. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ei galluogi i gyflawni ei rôl oherwydd diffyg cyllideb. Ac yn fy marn i, os ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y rôl hon yn llwyddiant, mae'n rhaid i'r adnoddau fod yn ystyriaeth. Mae rôl y comisiynydd yn cynnwys cefnogi 44 o gyrff cyhoeddus, 16 o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, gyda 368 o amcanion llesiant. Yn ei geiriau ei hun, disgrifiwyd hyn fel tasg amhosibl. Yn ei chyflwr presennol, ni chredaf fod rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn addas i'r diben er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar Gymru. Os yw rôl y comisiynydd i barhau, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y swydd yn cael yr adnoddau priodol i gyflawni gofynion y Ddeddf. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Hoffwn innau ddiolch i'r Cadeirydd, i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r ymchwilwyr am y gwaith a gyflawnwyd. A hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei gwaith arloesol, am herio llunwyr polisi yn gyson ac yn adeiladol, ac am fod yn ffyrnig o annibynnol.

Hoffwn sôn yn gryno am argymhelliad 1, os caf. Fel y gwelwch yn adroddiad y pwyllgor, mae £13 miliwn o arian trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi yn swyddfeydd y comisiynwyr a’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. A chredaf y byddai’n hynod fuddiol archwilio pa swyddogaethau y gellid eu cydweithredu a’u cyfuno er mwyn darparu arbedion i’r rheng flaen, i sicrhau bod rhagoriaeth yn cael ei rhannu ar draws pob un o’r swyddfeydd, gan eu bod yn rhagori mewn llawer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, credaf fod swyddfa cenedlaethau’r dyfodol yn rhagori o ran cyfathrebu a rhagoriaeth ymchwil; mae swyddfeydd eraill yn rhagori o ran gwaith eirioli. A chredaf y byddai’n werthfawr iawn pe gallai pob un o swyddfeydd y comisiynwyr archwilio pa fath o ragoriaeth, pa gryfderau penodol y gellir eu rhannu a’u cyfuno. Ond ni ddylid cynnal adolygiad o'r fath ar ei ben ei hun; ni ddylid ei ystyried yn waith sy’n annibynnol ar bopeth arall. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar swyddogaethau cyrff a sefydliadau eraill y gellid eu rhannu yn ysbryd cydweithredu, yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn ysgogi rhagoriaeth, rhannu rhagoriaeth a sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad â phosibl yn mynd i'r rheng flaen. Diolch.

16:50

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad ar y gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac am eich cyfraniadau heddiw. Rwy'n croesawu parhad y sgwrs y buom yn ei chael yn y Senedd ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio deddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol i roi Cymru ar lwybr mwy cynaliadwy.

Mae’r ddadl heddiw'n ymwneud â gwaith y comisiynydd a’i hadroddiad blynyddol, a hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar am waith y comisiynydd a’i swyddfa yn cefnogi newidiadau cynaliadwy ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru, a diolch iddi hi a'i thîm am sefydlu’r swyddfa mewn ffordd mor bwerus ac arwyddocaol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn herio ac yn galluogi pob un ohonom i feddwl am y tymor hir, fel y dywedwyd, fel y gallwn adael etifeddiaeth well gyda’n gilydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac mae rôl y comisiynydd yn rhan hanfodol, sydd bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, o'r gwaith o weithredu’r Ddeddf, o ganlyniad i waith a dylanwad y comisiynydd a’i thîm, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan adroddiadau’r comisiynydd, sy’n tynnu sylw at arferion da ledled Cymru o ran rhoi'r Ddeddf hon ar waith.

Mae ein camau gweithredu a’n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i gyflawni ein hamcanion llesiant, gan nodi meysydd lle y gallwn integreiddio dulliau gweithredu a chyfrannu at lunio dyfodol Cymru. Rwy’n arbennig o falch fod y pwyllgor a’r comisiynydd wedi croesawu’r ffaith ein bod yn parhau i gryfhau ein hymrwymiad gwleidyddol a’n harweinyddiaeth ar yr agenda hon, ac mae’n ymrwymiad trawslywodraethol, yn amlwg, gan fod gwelliannau o ran integreiddio a gweithredu'r Ddeddf wedi’u gwreiddio yn y ffordd y mae hynny wedi'i gyflwyno, unwaith eto, gan y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, fel y gellir ei rhoi ar waith i'r diben hwnnw ar lefel polisi strategol.

Gan droi at adroddiad y pwyllgor, fel y nodwyd, rydym wedi derbyn argymhellion 2 a 4. Yn argymhelliad 2, rydym yn cydnabod y bydd ehangu’r rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf yn cynyddu nifer y cyrff y mae dyletswydd a swyddogaethau cyffredinol y comisiynydd yn berthnasol iddynt. A hoffwn roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor a'r Aelodau ein bod yn cael trafodaethau gyda swyddfa'r comisiynydd ynglŷn â'r goblygiadau ariannol ar gyfer ei swyddfa. Ond rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio’r cwmpas a’r angen i werthuso’r Ddeddf, a allai gynnwys asesiad o rôl a swyddogaethau’r comisiynydd, a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth i’r pwyllgor am y gwerthusiad hwn maes o law, a byddwn yn croesawu cyfraniad y pwyllgor yn y gwaith hwn.

Mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad yn ymwneud â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Mae’n fater i’r Ysgrifennydd Parhaol, sydd wedi rhoi ymateb ar wahân i’r pwyllgor. Ond credaf fod gennym enghreifftiau, ac rwyf am roi un neu ddwy, o’r newid cyfeiriad a’r ffordd y caiff Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol ei rhoi ar waith, ac wedi cael effaith enfawr ar waith datblygu polisi a chyflawni polisi, a datblygu gwasanaethau wedyn, gan ein gwasanaeth sifil.

Ar argymhelliad 4, mae a wnelo â chynlluniau ar gyfer ymwreiddio’r Ddeddf. Hoffwn amlinellu rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a chydnabod hefyd fod hwn yn bwynt allweddol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda’r 10 amcan llesiant sydd wrth ei gwraidd, yn dangos rôl hollbwysig y Ddeddf yn ein ffordd o feddwl a’n polisïau. Mae gennym bellach 50 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol a naw carreg filltir genedlaethol ar waith, ac mae hynny’n ein helpu i fonitro cynnydd tuag at ein saith nod llesiant. Ochr yn ochr â’n hadroddiad tueddiadau’r dyfodol, mae’r mecanweithiau hyn yn adlewyrchu’r arferion gorau wrth ymateb i agenda’r Bil datblygu cynaliadwy a sicrhau bod fframwaith llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i fod yn berthnasol i Gymru yn 2022 ac yn hirdymor. Mae ein fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig iawn. Mae’n parhau i’n cynghori a’n cefnogi, ac yn ddiweddar, mynychais un o sesiynau'r fforwm a oedd yn trafod pwysigrwydd amrywiaeth o fewn agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw ein hymgais i gyrraedd y nodau llesiant yn dal unrhyw yn ôl nac yn gadael unrhyw un ar ôl. Ac roedd y digwyddiad hwn yn bwysig ynddo'i hun gan ei fod yn allweddol wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhannu arferion da gyda'i gilydd, ac nid yn unig yn mynd i'r afael â'r rhain o'u safbwyntiau eu hunain, ond yn rhannu arferion da, fel bod hynny'n arwain at lawer o waith dilynol, a dangos sut y gellir rhoi pethau ar waith, yn aml, pan fydd hynny'n digwydd mewn partneriaeth. Felly, roedd honno’n enghraifft wirioneddol dda o sut rydym yn ymwreiddio’r Ddeddf. Ond gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad, fe fyddwn, ac rydym, yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyfathrebu'n well y camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ymhellach yn y ffordd y gweithiwn.

Ychydig enghreifftiau nodedig o lle mae’r Ddeddf wedi bod yn sail i’n gwaith ar lefel leol: cawsom ambell enghraifft gan yr Aelodau heddiw, yn ogystal ag ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn Llywodraeth Cymru. Ac unwaith eto, diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am gydnabod hefyd yr enghreifftiau hynny o arferion da lle mae cyrff cyhoeddus wedi newid y ffordd y maent yn gweithio, a chanlyniadau hynny yw'r hyn yr edrychwn amdano. Mae cymunedau a rhanbarthau ledled Cymru wedi’u hysbrydoli gan fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac mae’n enghraifft dda sy'n dod â phartneriaid ynghyd i feddwl am y cydweithio hirdymor gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys cymunedau er mwyn cael y gorau o dirweddau unigryw a gwerthfawr Cymru, a chyfuno natur gydag ysbryd cymunedol, datblygu economaidd, addysgu pobl am faterion hinsawdd a sicrhau bod sgiliau'n cael eu haddysgu ar draws yr ardal. A diolch, Gadeirydd, am gyfeirio at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn mabwysiadu fframwaith y Ddeddf hon.

Mae ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus hefyd wedi defnyddio’r Ddeddf fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol. Un enghraifft: partneriaeth ymchwil a deall gogledd Cymru, sy'n dod â thimau o bedwar bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru ynghyd, ynghyd â'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol—diddorol sut y mae hynny wedi dod at ei gilydd. Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Data Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru—maent yn datblygu dulliau arloesol o ymgysylltu â dinasyddion, gan gynnwys y peilot dadansoddiad dinasyddion, gan ddangos ymrwymiad cadarn i gynnwys dinasyddion yn eu gwaith.

Felly, yn olaf gennyf fi, Ddirprwy Lywydd, mae gennym ddwy enghraifft yn Llywodraeth Cymru o ffyrdd yr ydym wedi defnyddio'r Ddeddf yn rhagweithiol iawn: cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, y cynllun peilot ar incwm sylfaenol—byddaf yn gwneud datganiad ar hyn cyn bo hir—ac rydym yn rhannu uchelgais y pwyllgor a'r comisiynydd ynglŷn â sut y defnyddiwn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i barhau i ddysgu a gwella'r ffordd y mae'r Llywodraeth a'r sector cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud, yn amlwg, ond rwy'n gobeithio y bydd fy enghreifftiau wrth ymateb i’r ddadl o arferion sy'n cyflawni daliadau allweddol y Ddeddf yn rhoi anogaeth i Aelodau. Rwy'n croesawu craffu cydweithredol ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y gall y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a alluogir gan y Ddeddf chwarae eu rhan yn y gwaith o gyflawni saith nod llesiant i Gymru.

16:55

Diolch yn fawr iawn. Felly, dechreuasom drwy glywed gan Mark Isherwood, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Yn amlwg, llawer o eiriau cynnes am bwysigrwydd y gwaith hwn. Yr hyn na chlywais yn eich cyfraniad oedd amserlen ar gyfer y gwaith y mae angen i chi ei wneud. Oherwydd mae gwir angen inni wybod sut yr ewch ati i'w gyflawni a phryd y gallech ddod i gasgliadau sy'n mynd i fod yn bwysig iawn wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o benodi'r comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nesaf.

Mae'n ddrwg gennyf os gwnaethoch ei golli. Dywedais ei bod yn ein rhaglen waith, ac y byddwn yn ei wneud yn sesiwn y Senedd yn yr hydref. Byddwn yn trin hyn fel mater blaenoriaethol yn hytrach na rhywbeth a fydd yn cymryd wythnosau a misoedd cyn bod gennym unrhyw beth i'w adrodd.

Diolch, Mark, ac mae'n ddrwg gennyf os collais hynny—mae hynny'n bwysig iawn i'w gael wedi'i gofnodi'n gyhoeddus, gan ei bod yn hanfodol—. Mae hwn yn amser da iawn i wneud y gwaith hwn, gan y gwyddom fod Sophie Howe wedi bod yn benodiad cwbl ragorol i'r rôl arbennig hon, oherwydd yr amlygrwydd y mae wedi’i roi i’r Ddeddf a’r ffordd y mae angen i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â hi.

Felly, nawr yw'r amser i adolygu rôl swyddfa comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond hefyd i edrych ar yr holl bobl annibynnol eraill sy'n gyfrifol am graffu'n annibynnol ar gyrff cyhoeddus. Felly, diolch yn fawr iawn ichi am hynny, ond rwy'n cytuno gyda chi hefyd ar y pwyntiau a wnaethoch am bwysigrwydd newid diwylliannol, gwneud pobl yn ymwybodol a deall hefyd beth y mae'r geiriau ar y dudalen yn ei olygu mewn gwirionedd yn y ffordd yr ydym yn trosi polisi'n weithredu.

Soniodd Sioned Williams am argymhelliad 2 mewn perthynas â hyfforddiant a—3, mae'n ddrwg gennyf, ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff Llywodraeth Cymru a phwysigrwydd sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru'n or-ddibynnol ar swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, sy'n digwydd bod wedi ei chydleoli yn ein prifddinas. Credaf fod agosrwydd daearyddol, yn amlwg, yn aml yn chwarae rhan yn yr holl bethau hyn. Mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl swyddogion yn deall pwysigrwydd ei Deddf ei hun. Llywodraeth Cymru a gynigiodd y Ddeddf hon. Gwnaeth Carl Sargeant ei llunio'n rhywbeth sydd wedi bod yn fenter wirioneddol bwysig, ond mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon o waith ar ei phen ei hun i gyfarwyddo ei swyddogion er mwyn rhyddhau amser i'r comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol allu ymdrin â chyrff cyhoeddus eraill. Mae 45 o gyrff eraill yn rhan o hyn, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ystyried eu hanghenion hwy, ac yn aml maent yn sefydliadau llawer llai, sy'n llawer llai tebygol o gynnwys arbenigwyr.

Gofynnodd Sarah Murphy gwestiwn diddorol, sef: a ddylai comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol ymgymryd â gwaith achos? Dangosodd hynny gydag ymgyrch leol yn ei hetholaeth, gan ein hatgoffa hefyd am bwysigrwydd ymgynghori â'r gweithlu ynglŷn â sut y mae hyn yn edrych iddynt hwy. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn a bydd yn codi eto mewn perthynas â'r Bil partneriaeth gymdeithasol.

Canolbwyntiodd Altaf Hussain ar y Gymru fyd-eang a mwy cyfartal, sy'n bwysig iawn, a'r penderfyniadau anodd y mae rhieni'n gorfod eu gwneud, gan fynd heb brydau bwyd er mwyn bwydo eu plentyn, a'r ffaith bod cynifer o aelwydydd bellach dan fygythiad tlodi tanwydd. Felly, mae'n gwbl bwysig ein bod yn sicrhau bod gwaith comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn canolbwyntio ar hynny lawn cymaint ag unrhyw beth arall. Ond mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain hefyd nad yw cynhyrchu adroddiadau trwchus o reidrwydd yn mynd â ni i lle mae angen inni fod, a bod 365 o amcanion llesiant—diolch am ein hatgoffa o hynny—yn ei gwneud yn dasg amhosibl. Mae gwir angen inni fireinio'r rheini'n niferoedd llai er mwyn iddynt allu bod yn fwy effeithiol.

Rwy'n cytuno'n llwyr â Ken Skates fod Sophie Howe wedi bod yn ffyrnig o annibynnol ac wedi gwneud gwaith gwych yn gosod y bar ar gyfer unrhyw olynydd, a phwysigrwydd mynd i'r afael â'r ffordd yr ydym yn rhannu rhagoriaeth ac yn cael adnoddau i'r rheng flaen. Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau—. Mae'r cynllun gweithredu economaidd a gynigiwyd gan Ken Skates, yn amlwg, yn debygol o gael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth drwy'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael. Bydd yn dod â chyrff preifat sydd am gontractio gyda chyrff cyhoeddus i mewn i'r Ddeddf, ac felly, rhaid inni gael hyn yn iawn a'i wneud yn rhywbeth sy'n gydlynol ac yn hylaw, yn dreuliadwy.

Unwaith eto, rhoddodd Sophie Howe enghreifftiau rhagorol o'r ffordd y mae ei swyddfa wedi gweithredu'r Ddeddf, y cynllun gweithredu gwrth-hiliol, y cynllun peilot o'r warant isafswm incwm, ac rwy'n gwbl hyderus fod y Gweinidog yn arwain yr ymrwymiad trawslywodraethol hwnnw mewn gwirionedd. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld y Gweinidog cyllid yn gwrando'n astud ar y ddadl hon, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn gwbl berthnasol i'r penderfyniadau anodd iawn y mae'n rhaid i Rebecca eu gwneud wrth lunio'r gyllideb nesaf.

Felly, cytunaf yn llwyr â'r Gweinidog fod cwmpasu a gwerthuso gweithrediad y Ddeddf yn garreg filltir bwysig iawn i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Felly, mae gennym dasg anodd o'n blaenau, ond mae gwir angen inni fod yn gydlynol ac yn gynhwysol, ac fel y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ein hatgoffa'n briodol, ni allwn allanoli ein hallyriadau carbon byd-eang. Mae gennym gyfrifoldeb byd-eang, felly nid yw dweud, 'Rydym yn mynd i wneud x fel bod gennym lai o allyriadau yng Nghymru'—. Rhaid inni sicrhau ein bod yn byw ein bywydau'n wahanol er mwyn inni fod yn gyfrifol yn fyd-eang a rhannu baich—

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru, strategaeth hydrogen. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8027 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;

b) y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn;

b) sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, dwi yma heddiw ac mae'r cynnig yma wedi cael ei gyflwyno i'ch annog chi i gyffroi am hydrogen.

Rwyf am i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod yn fwy brwd ynglŷn â hydrogen. Gallaf ddweud wrthych yn awr beth yr hoffwn ei glywed gan y Gweinidog. Yn syml iawn, rwyf am i'r Gweinidog ddweud, 'Rwyf o ddifrif ynglŷn â bod eisiau i Gymru fod yn chwaraewr yn y sector hydrogen sy'n datblygu.' Rwy'n benderfynol, gyda strategaeth glir a buddsoddiad wedi'i dargedu'n dda, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd enfawr y mae'r sector hydrogen yn eu cynnig i economi Cymru, i swyddi, i gymunedau, ac wrth gwrs, i'r amgylchedd. Bydd yn amhosibl datgarboneiddio economi'r DU yn llawn heb rôl bwysig i hydrogen, a gall Cymru fod ar ei hennill yn fawr iawn. 

Mae Cymru'n gartref i brosiectau ymchwil a datblygu hydrogen o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfleusterau mewn sawl prifysgol. Mae gennym alluoedd hydrogen drwy ein presenoldeb ynni gwynt; mae gennym borthladdoedd strategol bwysig a'r seilwaith mewn porthladdoedd yn y gogledd ac yn y de; mae gennym eisoes nifer o gwmnïau diwydiannol ac anniwydiannol sydd ag arbenigedd hydrogen. Pan arweiniais ddadl ddiwethaf ar hydrogen yma yn y Senedd ar ddechrau 2020, roedd yn cyd-daro â lansiad cymdeithas fasnach hydrogen newydd i Gymru, HyCymru. Gall Cymru helpu i arwain y ffordd ar ddatblygu economi hydrogen fel rhan o chwyldro diwydiannol gwyrdd ehangach yn y DU.

Nawr, mae gennym eisoes enghreifftiau rhagorol o brosiectau hydrogen arloesol. Yn ôl yn y ddadl honno ddwy flynedd yn ôl, soniais am y potensial ar gyfer twf hydrogen yn fy etholaeth. Eisoes erbyn hyn mae gennym yr hyb hydrogen sy'n cael ei ddatblygu yng Nghaergybi gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn. Mae gennym y gwaith ar hydrogen gan glwstwr diwydiannol de Cymru, prosiect Energy Kingdom yn Aberdaugleddau. Roeddwn yn darllen heddiw am system wresogi hybrid hydrogen clyfar gyntaf y byd a arddangoswyd yn sir Benfro yn gynharach eleni. Cymru hefyd yw cartref Riversimple, y cwmni ceir gwych sy'n gwneud ceir trydan wedi'u pweru gan hydrogen yn hytrach na batris. Mae'n rhestr hir, ac yn fy marn i, mae'n darparu'r sylfeini ar gyfer sector llwyddiannus.

Rydym yn genedl sy'n llawn o'r adnoddau naturiol sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu hydrogen. Mae'r dŵr ffres helaeth sydd gennym at ein defnydd, ac yn ogystal â hynny, ein hadnoddau gwynt helaeth ar y môr ac ar y tir, yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa gref i fod yn gawr ym maes hydrogen gwyrdd, sef y ffurf ar hydrogen sydd â'r carbon isaf. Dylai ffurfio sail i strategaeth hydrogen Cymru, a dyna pam ein bod wedi rhoi sylw blaenllaw iddo yn ein cynnig.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi ei thraed yn y dŵr. Mae hynny'n dda. Mae heddiw'n ymwneud ag i ble yr awn ni nesaf, pa mor gyflym yr awn ni yno, a chyda pha lefel o benderfyniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad llwybr i fapio mesurau a all roi cychwyn ar ddatblygiadau hydrogen yng Nghymru, ond er bod gweithgarwch aml-sector cryf mewn hydrogen, nid oes gennym fframwaith strategol cydlynol eto i lywio cynnydd. Mae arnom angen strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth i fod yn barod, strategaeth sy'n gosod nodau clir ac yn nodi uchelgais, a hynny cyn gynted â phosibl o ystyried y mathau o ddatblygiadau a welwn yn awr mewn llawer o wledydd ledled y byd. Er enghraifft, byddai gosod targed o 10 GW fan lleiaf o hydrogen gwyrdd i'w gyflenwi erbyn 2035, dyweder, yn darparu fframwaith i weithgarwch masnachol allu tyfu, ynghyd ag arwyddion polisi clir ym maes trethiant, rheoleiddio a mesurau eraill i ysgogi galw.

Rydym yn sôn am bontio yma o economi tanwydd ffosil i economi carbon isel, a hydrogen yw'r allwedd mewn gwirionedd. Gall gefnogi pob maes blaenoriaeth, os edrychwch arno, o fewn rhaglenni Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig mewn technoleg werdd, arloesi, twf glân, adferiad gwyrdd a'r seilwaith sydd ei angen yn yr ymdrech tuag at sero net. Ac wrth gwrs, ceir elfennau sydd wedi'u datganoli, elfennau nad ydynt wedi'u datganoli ar hyn o bryd, a bydd yn rhaid gweithio mewn partneriaeth. Ond os gallwn wneud hyn yn iawn, gellid mabwysiadu'r economi hydrogen yn gyflym yng Nghymru, a gallai fod yn fodel ac yn fan cychwyn ar gyfer gweddill y DU. Mae gwledydd a rhanbarthau eraill Ewrop eisoes wedi datblygu llwybrau clir ar gyfer hydrogen, yn enwedig yr Iseldiroedd, sy'n darparu templed parod i Gymru. Rydym yn rhannu llawer o nodweddion gyda'r gwledydd a'r rhanbarthau eraill hyn sy'n arwain y ffordd ym maes hydrogen.

Felly, soniais am osod targed cynhyrchu hydrogen. Mae nifer o gamau diriaethol a rhagweithiol eraill y mae angen eu cymryd i ddatblygu ein cadwyn gyflenwi hydrogen, er enghraifft cyflwyno newidiadau i'r sector trafnidiaeth. Wrth gwrs, bydd hyn i gyd yn creu swyddi medrus iawn. Yn fy etholaeth i, pan edrychaf ar hen safle Alwminiwm Môn, safle strategol hynod bwysig, gwelaf y potensial ar gyfer hydrogen. Pan ystyriaf y swyddi a gollwyd yn ardal Amlwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gogledd yr ynys, lle mae hen bibell olew crai yn dal i redeg ar draws gogledd Cymru—gwelaf y potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen a modd i'w ddosbarthu. Ond rydym yn siarad yma am gyfleoedd economaidd ledled Cymru. Dyna pam y mae angen y cynllun, gyda chymhellion ariannol, fel cyflwyno cronfeydd ar gyfer tyfu mentrau hydrogen, dyweder, i hwyluso'r gwaith o ddatblygu seilwaith hydrogen hollbwysig. Ac os yw'r cynllun a amlinellaf heddiw yn brin o rai o'r manylion sydd eu hangen, ac mae hynny'n wir wrth gwrs gan mai ymwneud â nodi'r weledigaeth y mae'r cynnig hwn, yna gall y Llywodraeth a llunwyr polisi deimlo'n hyderus y gallant fanteisio ar arbenigedd a mewnwelediad y rhai sydd eisoes yn gyrru prosiectau hydrogen arloesol yng Nghymru ac sydd â'r atebion i'r cwestiynau ynglŷn â sut i greu sector hydrogen ffyniannus, adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy, deall hydrogen fel sector ynni, helpu i uwchraddio yn ôl yr angen, a dysgu gwersi wrth inni fynd rhagom.

Yn bwysicaf oll—gwnaf y pwynt eto—mae angen i Gymru weithredu yn awr neu fentro colli ei mantais gystadleuol—a thalent hefyd—i wledydd eraill. Ni fydd hydrogen yn datrys ein holl broblemau datgarboneiddio ar unwaith, ond ni ellir gorbwysleisio ei rôl yng nghynlluniau datgarboneiddio Cymru. Felly, gadewch inni heddiw wneud datganiad clir fod Cymru am fod yn arloeswr ym maes hydrogen, gan fynd i'r afael â newid hinsawdd, pontio i fath newydd o ddiwydiant, newid cymunedau, creu swyddi. Mae Plaid Cymru yn benderfynol fod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro hwnnw. Rwy'n falch fod yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn gweld y potensial a amlinellir gennym heddiw. Rydym yn hapus i gefnogi'r gwelliant sy'n galw am gynlluniau peilot ar ddefnydd cymunedol o hydrogen.

Dechreuais drwy ddweud beth yr oeddwn eisiau clywed y Gweinidog yn ei ddweud heddiw, ac rwy'n eithaf gobeithiol y byddaf yn clywed geiriau cadarnhaol iawn, ond gadewch imi ychwanegu hyn. Rwy'n chwilio am fwy na geiriau—rwy'n chwilio am arwyddion o egni newydd. Mae'n rhaid i hon fod yn foment 'gwnawn bopeth yn ein gallu'. Rydym ar drothwy diwydiant newydd, a dyma'r amser i Gymru dorchi ei llewys, a rhaid i hynny ddechrau gyda strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer hydrogen, cynllun clir ar gyfer y daith sydd o'n blaenau. Felly, cefnogwch ein cynnig heddiw.

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

darparu treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac fel y dywedwch, cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AS.

Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r angen dybryd i gael gwared ar danwydd ffosil, mae angen inni fod yn uchelgeisiol wrth inni chwilio am ffynonellau ynni amgen. Fel y gwyddoch, gallai hydrogen ddisodli nwy naturiol mewn systemau gwresogi, neu hyd yn oed gael ei ddefnyddio fel cyfrwng storio ar gyfer trydan adnewyddadwy. Yn bwysig iawn, nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Efallai fod Cymru eisoes ar y ffordd i fod yn hyb hydrogen. Mae'r BBaCh, Riversimple, yn cynllunio, yn adeiladu ac yn treialu cerbydau trydan celloedd tanwydd hydrogen arloesol. Mae astudiaeth llif Dolphyn yn archwilio dichonoldeb fferm wynt hydrogen fasnachol 100 MW i 300 MW oddi ar arfordir de Cymru, ac wrth gwrs, ceir y ganolfan hydrogen ym Mharc Ynni Baglan. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf o hyd at £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes, ar gyfer hyb hydrogen Caergybi, ac mae hefyd yn cefnogi HyNet, a fydd erbyn 2030 yn sicrhau gostyngiad o 10 miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu 4 miliwn o geir oddi ar y ffyrdd.

Fodd bynnag, fel y dywedodd Rhun, mae lle inni fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol dros Gymru. Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i dreialon arloesol ar systemau gwresogi hydrogen, gan ddechrau gyda threial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl, treial tref hydrogen cyn diwedd y degawd, Weinidog, rwy'n rhannu pryderon Rhun am yr egni yr ydym ei angen gan eich Llywodraeth a pham na wnewch yr un peth yma yng Nghymru. Ni welaf unrhyw reswm pam y gall Llywodraeth y DU fynd ar drywydd y nod o ddarparu treial pentref hydrogen ar gyfer, dyweder, hyd at 2,000 eiddo erbyn 2025, ac na allwn ni wneud hyn. Yn wir, rydym eisoes ar ei hôl hi gryn dipyn o gymharu â Loegr, lle mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ariannu lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan archwilio'r cyflenwad o hydrogen glas i dros 1,900 eiddo, a lleoliad posibl ar gyfer treialu pentref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr i archwilio ystod o ddulliau o gyflenwi hydrogen gwyrdd a charbon negyddol, gyda hydrogen llwyd fel opsiwn wrth gefn i dros 1,800 o fesuryddion. Yn wir, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r Alban hyd yn oed, lle bydd tua 300 o gartrefi yn ardal Levenmouth yn cael eu pweru gan nwy hydrogen gwyrdd mewn prosiect o'r enw H100. Bydd cwsmeriaid yn cael cynnig boeleri a chwcerau hydrogen parod am ddim yn y cynllun hwn, a fydd yn para pum mlynedd a hanner i ddechrau. Mae hyn yn anhygoel ac o'r herwydd, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno i gymryd y cam cyntaf i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan yr Alban a Lloegr drwy gefnogi'r gwelliannau hyn, a diolch i Blaid Cymru am gefnogi ein gwelliant.

Ar hyn o bryd yma yng Nghymru, mae eich uchelgais yn gyfyngedig, gydag ymrwymiadau, er enghraifft, i sefydlu un safle cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy yn unig erbyn 2023-4. Nid yw'n ddigon da. Nid yw'n ddigon cyflym. Nid yw'r ffaith nad oes gennym gynllun hirdymor hyd yn oed i wneud hydrogen yn ddi-garbon yn ddigon da ychwaith. Felly, Blaid Cymru, gallwch yn sicr ddibynnu ar gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Dylem gynhyrchu strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad yn y gwaith o ddatblygu'r sector newydd hwn. Fodd bynnag, cofiwch fod angen inni gefnogi'r gwelliant hwn, ac rydych yn gwneud hynny, ond mae angen i'r Gweinidog ei gefnogi er mwyn inni allu dal i fyny â'n cymdogion Prydeinig o leiaf, heb sôn am arwain.

Yn amlwg, ein blaenoriaeth yw defnyddio hydrogen i leihau baich y gost i'n trigolion a'n busnesau. Mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw broblem gyda chefnogi rheolaeth a pherchnogaeth Gymreig, ond os yw'r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer hydrogen yng Nghymru ar yr ochr arall i'r ffin, ni ddylem ofni edrych am gymorth yn rhywle arall wrth inni ddatblygu'r set sgiliau yma. Mewn gwirionedd, credaf ei bod yn deg awgrymu nad yw hydrogen, fel niwclear, wedi bod yn cael ei gyfran deg o sylw gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon heddiw drawsnewid y sefyllfa honno fel bod yr elfen ysgafnaf yn cael sylw mwyaf y Gweinidog. Diolch.

17:20

Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Dros y 10 mlynedd nesaf, mae angen inni weld camau difrifol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac wrth gwrs, i symud at ynni adnewyddadwy. Ond rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn nodi'r ffaith bod hydrogen gwyrdd yn wahanol iawn i hydrogen glas neu lwyd ac na ddylid eu trin yr un fath. Os caf ddyfynnu cyn-gadeirydd Cymdeithas Hydrogen a Chelloedd Tanwydd y DU,

'Rwy'n credu'n angerddol y byddwn yn bradychu cenedlaethau'r dyfodol drwy gadw'n ddistaw am y ffaith bod hydrogen glas ar ei orau yn ymyrraeth ddrud, ac ar ei waethaf yn ein rhwymo i ddefnyddio tanwydd ffosil yn barhaus gan sicrhau y byddwn yn methu cyflawni ein nodau datgarboneiddio'.

Mae datganiad Mr Jackson wedi'i gadarnhau mewn astudiaeth ddiweddar a adolygwyd gan gymheiriaid ar hydrogen glas gan brifysgolion Cornell a Stanford, a ddaeth i'r casgliad, hyd yn oed gyda dal carbon, fod hydrogen glas yn fwy budr na llosgi nwy naturiol yn unig. Ar hyd y llinellau hyn rwy'n teimlo bod rhaid imi ddefnyddio'r ddadl heddiw i wyntyllu fy mhryderon ynghylch cynllun hydrogen a dal a storio carbon arfaethedig HyNet yng ngogledd Cymru.

Mae'r prosiect yn hyrwyddo'r defnydd parhaus o danwydd ffosil i gynhyrchu hydrogen ac i ddefnyddio dal carbon, sydd ynddo'i hun yn ddwys iawn, i storio'r carbon deuocsid a ryddheir. Gallai wneud Cymru'n bibell wacáu i fusnesau swydd Gaer a gallai arwain at effaith amgylcheddol leol a byd-eang. Ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o gynlluniau dal carbon gweithredol masnachol a geir, ac mae problemau ynghlwm wrth bob un. Y brif broblem ac eithrio'r gost yw gollyngiadau, boed hynny o bibellau neu ddulliau storio naturiol. Lle mae gollyngiadau'n digwydd, maent yn hawdd eu cuddio, yn enwedig o dan wely'r môr. Bûm mewn cyfarfod HyNet ac roedd daearegwr yno, a mynegodd bryderon yn y cyfarfod hwnnw. Nid wyf wedi bod mewn cysylltiad ag ef ynghylch y peth ers hynny, ond roeddwn am drosglwyddo'r pryderon hynny. 

Eisoes, mae'r carbon deuocsid cynyddol a geir yn y cefnforoedd yn cael effaith fawr ar fywyd anifeiliaid, oherwydd asideiddio, sy'n ychwanegol at y cynnydd byd-eang yn nhymheredd y môr. Gallai'r cynlluniau arfaethedig arwain at golli mwy o gynefinoedd a bygwth bioamrywiaeth forol ymhellach. Cefais fy rhybuddio hefyd y gall hydrogen glas fod yn ansefydlog ac yn hylosg, gan wasgaru methan i'r awyr. Rwy'n teimlo bod angen ymchwil fanylach i risgiau amgylcheddol posibl y cynlluniau dal a storio carbon ar raddfa eang a argymhellir gan y prosiect, oherwydd nid wyf yn arbenigwr, ond dyma sy'n cael ei ddweud wrthyf. Fodd bynnag, yn y bôn, dylem fod yn annog datgarboneiddio diwydiant a chartrefi yma yng Nghymru. Ymddengys mai apêl y prosiect hwn yw'r gallu i barhau â bywyd fel arfer, gan hysbysebu na fyddai angen newid offer a boeleri cartrefi, a thanseilio'r nod o ôl-ffitio.

Mae dal carbon yn ateb tymor byr i'r argyfwng hinsawdd, pan ddylai'r ffocws fod ar sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, a rhaid i unrhyw strategaeth hydrogen ganolbwyntio ar hydrogen gwyrdd. Hefyd, hoffwn fynegi pryderon a rannwyd gyda mi yn ddiweddar ynglŷn â'r capasiti ar gyfer ynni adnewyddadwy cynyddol. Mae seilwaith y Grid Cenedlaethol sy'n heneiddio eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â defnydd a chynhyrchiant trydan cynyddol, gydag aelwydydd yn fy rhanbarth yn methu cysylltu eu paneli solar. Mae angen ystyried o ddifrif sut y gallwn wella'r seilwaith ynni'n sylweddol ledled y DU er mwyn ymdopi â'r newid i ffyrdd adnewyddadwy o gynhyrchu ynni a'r ymchwyddiadau y maent yn eu cynhyrchu. Diolch, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i fynegi fy mhryderon yma heddiw yn y Senedd. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rŷn ni wedi clywed yn barod gan nifer o bobl am y budd byddai'n dod o ddatblygu'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru a'r angen am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newid hwn trwy gyflwyno strategaeth benodol. Gwnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar yr effaith y gall hydrogen gwyrdd ei gael ar drafnidiaeth.

Mae degawdau wedi pasio ers arwyddo protocol Kyoto, ac rŷn ni'n ffeindio ein hunain yn byw mewn cyfnod lle, o fewn degawd arall, gall hinsawdd ein byd gyrraedd pwynt lle nad oes modd dychwelyd ohono. Mae ein sector trafnidiaeth yn dal i redeg yn llethol ar danwydd ffosil, yn enwedig olew, ac mae mwy a mwy o leisiau'n galw am newid chwyldroadol, pellgyrhaeddol.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r ddadl gyhoeddus ar ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth wedi’i ddominyddu gan drafodaethau am geir electrig neu fatri, sy'n cynrychioli llwybr addawol tuag at leihau lefelau carbon. Wrth i geir electrig fynd mewn i system masgynhyrchu, bydd prisiau’n lleihau, a bydd y batris yn dod yn fwyfwy pwerus hefyd. Pan fydd ceir electronig yn cael eu gwefru trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, gallant wir helpu i leihau olion carbon, neu carbon footprint, y sector trafnidiaeth. Ond wedi dweud hynny, Llywydd, bydd yna rai anfanteision yn y dyfodol agos. Mae ceir batri yn pwyso lot mwy na cheir arferol. Hefyd, bydd ail-drydanu ceir batri wastad yn cymryd llawer hirach nag ail-lenwi car arferol gyda phetrol.

Fel cludwr ynni glân, gall hydrogen chwarae rôl syfrdanol yn y broses o newid i economi carbon isel. Fel tanwydd trafnidiaeth, gall hydrogen gwyrdd leihau allyriadau a gwella ansawdd aer yn ein cymunedau—rhywbeth a fydd mor bwysig y byddwn ni gyd yn canolbwyntio arno yfory, wrth gwrs. A gall hydrogen gael ei ddefnyddio i oresgyn intermittency ffyrdd adnewyddadwy o bweru ein ffyrdd o deithio.

Yn ôl Network Rail, bydd lan at 1,300 km o linellau rheilffyrdd angen trenau hydrogen er mwyn cyrraedd y targed o net zero erbyn 2050. Ac mae'r Llywodraeth yn anelu at ddatgarboneiddio 100 y cant o gerbydau bysys a thacsis erbyn 2028. Mae hwnnw'n nod uchelgeisiol tu hwnt, a bydd angen buddsoddiad sylweddol yn hydrogen, yn enwedig pan ŷm ni’n ystyried y ffaith bod tua 9,100 o fysys wedi’u cofrestru yng Nghymru. Gall unrhyw fuddsoddiad hefyd helpu tacsis a cherbydau private hire.

Os ydym ni o ddifrif am ddatgarboneiddio trafnidiaeth, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau meddwl yn strategol am ddefnydd hydrogen gwyrdd yn y sector hwn. Mae llywodraethau lleol yn barod yn gweithio ar hyn, a gall rhaglenni caffael cyhoeddus ar gyfer hydrogen yn y sector trafnidiaeth helpu’r diwydiant i gynyddu masgynhyrchu a lleihau prisiau. Gall ysgogiadau trethi, os taw dyna ydy 'tax incentives', chwarae rhan efallai, neu gyflwyno newidiadau yn y cyfraddau treth, efallai, ar gyfer hydrogen, o’i gymharu â phetrol. Gallen nhw helpu i leihau'r prisiau. A thu hwnt i’r sector trafnidiaeth, pan fydd pris hydrogen wedi cwympo’n ddigonol, gall hydrogen helpu i ddatgarboneiddio rhannau eraill o’r economi hefyd, fel y diwydiannau haearn, dur neu sment.

Mae Cymru’n gartref i nifer fawr o gyrff sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes hydrogen, gan gynnwys academyddion a chwmnïau start-up. Ond, hyd heddiw, mae diffyg cydgysylltu ar lefel genedlaethol wedi'n dal ni yn ôl. Gall hynna newid heddiw, fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud. Gallwn ni ddechrau ar chwyldro hydrogen gwyrdd yng Nghymru—am gyfle cyffrous, os ydym ni’n dal y cyfle hwnnw.

17:25

A gaf fi hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddadl gynhyrchiol iawn, ac rwy'n fodlon dweud ar y meinciau hyn, fel y crybwyllwyd eisoes, y byddwn yn ei chefnogi? Wrth gwrs, rwyf hefyd yn gweld hon yn ddadl hynod o amserol gyda'r sector hydrogen, yn ei gyfanrwydd, yn datblygu'n gyflym ledled y byd, ac mae fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, eisoes wedi'i amlygu fel un sydd â chyfleoedd unigryw iawn ar gyfer hydrogen. 

Ond ychydig cyn imi ddechrau ar brif ran yr hyn yr hoffwn ei gyfrannu, cefais fy atgoffa y bore yma, oherwydd bu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ymweliad â sefydliad i bobl ddigartref yn ninas Caerdydd yn gynharach heddiw, a chawsom ein hatgoffa yno am blac gwirioneddol bwysig, o'r enw 'plac y Pioneer'. Efallai y bydd rhai o'r Aelodau'n gwybod amdano. Gosodwyd hwn ar y chwiliedydd gofod, y Pioneer 10, a gafodd ei saethu i'r gofod ym 1972. Mae yna reswm dros y stori hon, bawb. Rhoddwyd y plac ar y chwiliedydd rhag ofn y byddai rhyw fath o fywyd gofodol yn dod o hyd iddo, ac roeddent am gynnwys symbolau ar gyfer y lle y daethai'r chwiliedydd ohono ar y plac. Felly, dewiswyd pum symbol ar gyfer y chwiliedydd, a'r cyntaf oedd llun o ddyn a menyw; yr ail oedd llun o'r haul; y trydydd oedd llun o'r system solar a'n lle fel y Ddaear o fewn y system solar; y pedwerydd llun oedd amlinelliad o'r chwiliedydd ei hun; a'r llun olaf, pumed llun, oedd adeiledd tra-main hydrogen. Felly, o'r holl bethau y gallent fod wedi'u dewis i symboleiddio bywyd ar y Ddaear a'r pethau pwysig sydd yma ar y Ddaear a'n lle yn y bydysawd, penderfynasant roi adeiledd hydrogen yno, sy'n dangos pwysigrwydd hydrogen, nid yn unig fel yr elfen fwyaf cyffredin yn y bydysawd, ond pwysigrwydd hydrogen a'r hyn y gall ei olygu i ni fel pobl, a'i le yn y bydysawd, ond wrth gwrs hefyd y pwysigrwydd, efallai, i ffurfiau bywyd estron.

Wrth ymateb i fanylion y ddadl heddiw, mae tair eitem yr hoffwn eu cyfrannu. Mae'r gyntaf, a bod ychydig yn fwy plwyfol, yn ymwneud â'r cyfleoedd unigryw sydd yna i ogledd Cymru, oherwydd rydym yn gweld yn y gogledd yn arbennig nifer sylweddol o brosiectau ynni adnewyddadwy yn ymddangos ym mhob man, ac mae gennym eisoes gyfleoedd yn ymwneud â newid cyflenwad a mecanweithiau i gefnogi cynhyrchu hydrogen. Ac fel yr amlinellwyd yn y ddadl heddiw eisoes, mae symud tuag at fwy o ynni adnewyddadwy a chynhyrchiant hydrogen yn ffordd wych o fownsio drwy adferiad gwyrddach, a hefyd gweld swyddi sy'n talu'n dda iawn, yn enwedig yn fy rhanbarth i yn y gogledd.

Yn ail, hoffwn ganolbwyntio a chyfrannu a gwneud sylwadau penodol ar rôl cydweithio rhwng Llywodraethau ar bob lefel, fel bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a hefyd y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae yn cefnogi strategaeth a chynllun hydrogen. Enghraifft dda iawn o hyn—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y Siambr—yw rôl Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, sy'n bartneriaeth wych o awdurdodau lleol ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ond hefyd i mewn i orllewin swydd Gaer i Gilgwri hefyd. Mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy ar hyn o bryd yn gweithio gyda HyNet, sydd eisoes wedi'i grybwyll yma heddiw, i edrych ar gyfleoedd trawsffiniol yng ngogledd Cymru i mewn i ogledd-orllewin Lloegr o ran cynlluniau datgarboneiddio. Dyfynnaf o eiriau HyNet eu hunain; maent yn dweud y byddant yn

'datgloi dyfodol carbon isel ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, gan greu llwybrau i ddiwydiant ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant yn gyflym. Bydd trafnidiaeth, megis trenau a lorïau, yn defnyddio tanwydd glân a bydd cartrefi'n cymysgu hydrogen â'u cyflenwad nwy i wresogi eu cartrefi â thanwydd carbon isel, heb fod angen offer newydd.'

Felly, mae'r cydweithio hwn ar draws Llywodraethau yn y DU, Cymru a llywodraeth leol yn bwysig iawn er mwyn caniatáu i'r busnesau a'r diwydiannau hyn weithio'n llwyddiannus. Enghraifft arall o gydweithio y mae angen ei annog, ac yn enwedig mewn perthynas â hydrogen, yw bargen twf gogledd Cymru, a reolir, fel petai, gan fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Unwaith eto, dyma gyfle i lywodraeth leol weithio gyda Llywodraeth Cymru. Gwn fod y Gweinidog eisoes yn awyddus i wneud i hynny ddigwydd a chefnogi'r gwaith a'r busnesau gwyrdd sy'n dod drwy'r bargeinion twf hynny.

Mae trydydd pwynt yr hoffwn i Aelodau ei ystyried yn deillio o'n gwelliant heddiw, sef pwysigrwydd cael treialon ar waith er mwyn inni allu gweld yn ymarferol sut y gallai ac y dylai'r dechnoleg hon a chynhyrchiant hydrogen weithio. Fel yr amlinellwyd yn ein gwelliant heddiw, rydym am weld treial cymdogaeth hydrogen yn cael ei ddarparu erbyn 2023, a threial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, a threial tref erbyn diwedd y degawd hwn hefyd. Mae yna set uchelgeisiol iawn o ddyddiadau a syniadau yno, ond rwy'n credu bod angen inni gael uchelgais o'r fath os ydym am weld y gwaith yn gweithio'n llwyddiannus ac yn gweithio'n fuan.

Wrth gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru eto am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, ond rwy'n ailadrodd hefyd fy mhwynt ei bod hi'n hanfodol, er mwyn i'r strategaeth hon lwyddo, ein bod yn gweithio ymhellach ar gynlluniau sy'n llwyddiant, megis Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, megis gweithio gyda'r bwrdd uchelgais economaidd, a gweithio ar draws Llywodraethau yn ogystal â gweld treialon ar waith a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

17:30

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhun am ei ddadleuon cyson o blaid hydrogen. Mae wedi dadlau o'i blaid ers cryn amser ym Mhlaid Cymru ac yn y lle hwn. Cofiaf y ddadl honno bron i ddwy neu dair blynedd yn ôl; dadl werth chweil. I Aelodau yn y Siambr, mae Rhun wedi cynhyrfu cymaint am hydrogen ag y mae am Gymru'n cyrraedd cwpan y byd, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos pa mor frwd y mae'n dadlau dros hydrogen.

Fel y nodwyd eisoes yn y ddadl hon, mae hydrogen yn rhan arbennig o addawol o economi werdd Cymru. Mae ganddo botensial i chwarae rhan allweddol yn gwresogi aelwydydd, yn tanio diwydiant ac yn creu gwaith o ansawdd uchel yng Nghymru. Os gweithredwn yn gyflym ar hyn, mae gennym botensial gwirioneddol i arwain y ffordd yn fyd-eang yn y sector hwn, gan arwain at enillion economaidd ac amgylcheddol. Mae'r galw am hydrogen wedi treblu ers 1975, ac mae'n parhau i godi. Credir mai hydrogen fydd 12 y cant o'r defnydd o ynni'n fyd-eang erbyn 2050, ac y bydd y cynnydd hwnnw'n dechrau yng nghanol y 2030au. Fodd bynnag, ni fydd y newid i sero net a chynhyrchu mwy o hydrogen yng Nghymru yn digwydd hyd eithaf ein gallu a'n potensial heb gynllunio a chyllido priodol gan y Llywodraeth. Mae angen model ariannu hirdymor ar gyfer hydrogen er mwyn ennyn hyder buddsoddwyr. Mae cynhyrchu hydrogen gwyrdd yn enwedig, y byddaf yn canolbwyntio arno yn fy nghyfraniad, sy'n galw am fewnbwn o ynni adnewyddadwy a dŵr, ac a fyddai'n gallu rhyddhau potensial llawn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y pen draw, mewn sefyllfa unigryw inni allu harneisio ei botensial fel gwlad. 

Gan gydnabod ei fod yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio economïau'n ddwfn, rhagwelir y bydd hydrogen gwyrdd yn un o ddiwydiannau twf y 2020au. Mae Cymru, gydag adnoddau naturiol helaeth, mewn sefyllfa dda i ddatblygu cadwyni cyflenwi hydrogen gwyrdd sy'n eiddo i'r ardal leol, gan adeiladu ar brosiectau sy'n dod i'r amlwg ym mhob cwr o'r wlad, a helpu i ryddhau'r potensial ynni adnewyddadwy yn y canol. Mae'n bryd i'r Llywodraeth symud ymlaen yn gyflym yn awr tuag at ddatgloi'r sector hydrogen gwyrdd yng Nghymru drwy asesu'r gofynion seilwaith, megis piblinellau hydrogen pwrpasol, nodi'r galw lleol am hydrogen, a fydd yn debygol o fod yn gysylltiedig â thrafnidiaeth i ddechrau, ond yn ehangu i gynnwys gwres, diwydiant, pŵer ac amaethyddiaeth, gan annog partneriaethau a chaffael ar y cyd ag awdurdodau lleol ac asesu modelau perchnogaeth lleol ar gyfer y gadwyn gyflenwi hydrogen. Mae llawer o'r atebion i'r argyfwng costau byw presennol, sy'n cael ei lywio'n bennaf gan gostau ynni cynyddol, yn adweithiol yn hytrach na hirdymor a rhagweithiol. Ond bydd buddsoddi mewn ynni gwyrdd, megis hydrogen, yn ein diogelu rhag argyfyngau yn y dyfodol, gan ganiatáu inni fod yn hunangynhaliol a gostwng prisiau ynni, a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw hwn.

Mae ehangu ein diwydiant hydrogen hefyd yn creu potensial ar gyfer swyddi gwyrdd o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae un o bob pum gweithiwr yng Nghymru mewn sectorau sy'n effeithio ar hinsawdd a allai gael eu colli oherwydd targedau sero net. Bydd sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant ac addysg gywir ar gyfer swyddi yn y diwydiant hydrogen yn cyfrannu at newid teg, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn ystod y chwyldro diwydiannol gwyrdd, a gwarantu ffyniant i weithwyr yng Nghymru. Yn ôl adroddiad yn 2020 gan dasglu hydrogen y DU, gallai ehangu diwydiannau hydrogen yn y DU gefnogi 75,000 o swyddi erbyn 2035. Bydd gwneud hynny hefyd yn cryfhau economi sylfaenol Cymru ac yn gwella economïau a chymunedau lleol.

Bydd hydrogen gwyrdd hefyd yn cyfrannu at dargedau economi gylchol Llywodraeth Cymru. Os ydym eisiau cyflawni nodau gwastraff sero net a charbon niwtral erbyn 2050, gallai hydrogen chwarae rhan bwysig. Mae hydrogen gwyrdd yn addas iawn ar gyfer yr economi gylchol hefyd. Mae sawl defnydd iddo a gellir ei greu drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Mae'n ddewis amgen addawol yn lle tanwydd ffosil carbon uchel yn y sectorau trafnidiaeth, gweithgynhyrchu a phŵer. Credir y gallai symud i economi gylchol arbed hyd at £2 biliwn i economi Cymru, yn ogystal â chreu swyddi gwyrdd a sicrhau bod economi Cymru yn gallu gwrthsefyll costau cynyddol a phrinder adnoddau.

Nid hon yw'r ddadl gyntaf ar hydrogen y mae Plaid Cymru wedi'i chyflwyno i'r Senedd, fel y soniais yn gynharach, ond rwy'n hyderus fod Plaid Cymru, dros y blynyddoedd, a heddiw, wedi dadlau'r achos dros strategaeth hydrogen uchelgeisiol, ac wedi mynegi pa mor gyflym y mae angen inni symud.

17:35

Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr heddiw.

Gallaf sicrhau'r Aelod o Ynys Môn fy mod yn llawn cyffro ynglŷn â phosibiliadau hydrogen. Wrth i ni newid i ddyfodol cynaliadwy, mae dadleuon fel y ddadl hon yn allweddol i ddatblygu dyfodol gwyrddach, mwy disglair a glanach. Mae gan bob diwydiant ran i'w chwarae yn y newid hwn, a'r peth da am dechnoleg hydrogen yw y gall prosiectau seilwaith ynni presennol ddod yn elfennau pwysig mewn datblygiadau ynni yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir yn sir Benfro a rhanbarth ehangach de Cymru. Rydym yng nghanol cyfnod hynod o gyffrous i'r diwydiant ynni glân. Mae nifer o ddatblygiadau sylweddol ar y gweill, ac mae pob un ohonynt yn lleoli eu gweithrediadau yma yng Nghymru. Dau o'r chwaraewyr allweddol hyn yw clwstwr ynni'r dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Milford Haven: Energy Kingdom—asedau ynni cenedlaethol strategol hanfodol ac allweddol, pyrth economaidd allweddol ar arfordir gorllewinol Cymru. Mae'r clwstwr wedi nodi cyfres o gynigion a fydd yn helpu i gefnogi llwybr carbon isel cyflymach ar gyfer y ganolfan ddiwydiannol bwysig hon. Mae hyn yn golygu swyddi i bobl leol, buddsoddiad yn ein cymunedau, ond yn bwysicaf oll, mae gam yn nes at ynni adnewyddadwy rhatach a glanach. Dylai Llywodraeth Cymru anelu ei huchelgais at hyn.

Mae'r sefydliadau hyn yn barod i ehangu ar gapasiti presennol y grid, gan gymell cynhyrchu a defnyddio tanwyddau carbon isel, yn ogystal â chefnogi uchelgais SuperPlace dyfrffordd Aberdaugleddau, sy'n cynnwys datblygu a defnyddio technoleg hydrogen glas a gwyrdd. Gyda'i gilydd, mae clwstwr ynni Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn rhagweld y gallant gynhyrchu tua un rhan o bump o'r 10 GW o darged 2030 hydrogen carbon isel y DU, gyda sir Benfro yn ganolog i'w ddatblygiad. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni fod yn bragmatig a chydnabod na all y newidiadau hyn ddigwydd dros nos, a dyna pam y mae ein gwaith ar optimeiddio hydrogen glas yn bwysig iawn inni allu pontio ac ni ddylid ei anwybyddu. Felly, rwy'n anghytuno â rhagdybiaethau'r Aelod dros Ogledd Cymru ynghylch hydrogen glas; os ydym eisiau creu cymaint o hydrogen â phosibl, credaf fod angen i hydrogen glas fod yn rhan o'r pontio hwnnw. Drwy ddefnyddio—

17:40

A ydych chi hefyd, fel finnau, yn croesawu'r ffaith bod llawer o fusnesau mawr yn y gogledd yn dibynnu ar HyNet yn y dyfodol ac yn ei gefnogi'n llawn, ac er mai dim ond 50 mlynedd o gapasiti storio a geir ar gyfer prosiect HyNet, mae hyn er mwyn darparu lle i anadlu er mwyn cyflwyno'r dechnoleg hydrogen gwyrdd a fydd yn ein harwain at ddyfodol glanach byth?

Yn sicr. Ac fe ildiaf i chi, Mark, fel rhywun sy'n siarad dros ogledd Cymru gydag awdurdod mawr ar hyn.

Drwy ddefnyddio stociau nwy presennol a gorsafoedd pŵer sy'n rhedeg ar nwy, megis gorsaf bŵer RWE ym Mhenfro, sy'n arwain at lawer llai o allyriadau o bron bob math o lygryddion, gallwn ailddatblygu a pharatoi'r seilwaith presennol i ateb y galw cynyddol am ynni. Yn y bôn, gallwn barhau i gynhyrchu hydrogen yn gynt wrth inni gynyddu ein capasiti ynni adnewyddadwy. 

Wrth inni barhau i wneud cynnydd mewn technoleg wyrddach, gallwn wedyn wneud y naid i hydrogen gwyrdd llawn—cynnydd naturiol sy'n sicrhau bod pob rhan o'r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd. Gadewch inni beidio â chamgymryd, gall Cymru ddod yn galon i ddyfodol ynni gwyrdd y Deyrnas Unedig, ond i wneud hyn, mae cael y seilwaith cywir ar waith yn hollbwysig i gyflawni ein dyheadau. Mae cyfle enfawr i greu hyb hydrogen carbon isel yn sir Benfro, yn gyntaf gyda hydrogen glas yn cael ei bweru â nwy, ac yna, yn olaf, newid i hydrogen gwyrdd, a fydd yn cael ei bweru gan dechnoleg gwynt arnofiol ar y môr—

Rwy'n hapus i ildio i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

Diolch i Sam Kurtz am dderbyn yr ymyriad. Fe sonioch chi am y posibilrwydd y gallai Cymru fod yn arweinydd ym maes technoleg adnewyddadwy. A fyddech yn cytuno â mi mai ffordd dda o wneud hynny fyddai dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus o danwydd ffosil a buddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy yng Nghymru?

Mae hwn yn bwnc y mae'r Aelod wedi gwneud llawer o sylwadau yn ei gylch o'r blaen, ond mae'n gwyro ychydig oddi wrth bwnc hydrogen, y byddwn yn canolbwyntio arno, o gofio bod amser yn brin.

Os cyflawnir hyn, byddai Cymru'n gallu allforio hydrogen ar draws y wlad. Ond mae angen adeiladu piblinell sydd 100 y cant ar gyfer hydrogen yn sir Benfro, i gysylltu Dyfrffordd y Ddau Gleddau â chadarnleoedd diwydiannol de Cymru—piblinell sydd eisoes ar y gweill. Ond os ydym am gyflawni hyn, rhaid cyflymu'r cynlluniau a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Drwy wneud hynny, gall Cymru fod yn rhan annatod o strategaeth ddatgarboneiddio DU gyfan, gan adlewyrchu llinell amser datblygiadau gwynt ar y môr am gost isel heb anfanteision. Nid yn unig y byddai gwneud hyn yn diogelu ein dyfodol, mae datgarboneiddio'n cadw swyddi ac yn gwella set sgiliau ein cenedl.

Rhaid i'r manteision economaidd a fydd yn deillio o ddatblygu economi hydrogen Cymru fod yn rhan o'r darlun ehangach. Mae cadw swyddi da mewn diwydiannau ehangach yng Nghymru yr un mor bwysig â sicrhau'r manteision mwyaf posibl o hydrogen i Gymru. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ganoli caffael y gadwyn gyflenwi, gan sicrhau bod gweithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr yn dewis gweithredu yng Nghymru ac allan o Gymru. Mae cynhyrchu hydrogen carbon isel a'r nwyddau a'r gwasanaethau yn y gadwyn gwerth yn cynnig cyfleoedd creu Cymreig clir, mawr a thymor byr. Mae perffeithrwydd yn aml yn elyn i gynnydd, felly gadewch inni beidio ag anwybyddu cynhyrchiant hydrogen glas wrth newid i ddyfodol glanach a gwyrddach. Diolch, Llywydd.  

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i roi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cynnig. Mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn defnyddio'r holl offer sydd ar gael inni i gyflymu'r cynnydd tuag at system ynni sero net. Rydym wedi ymrwymo i symud ein system ynni oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni adnewyddadwy fel llwybr hanfodol tuag at gyflawni ein targedau statudol a'n rhwymedigaethau rhyngwladol fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynnig yn rhoi cyfle i'r Senedd gydnabod yr angen dybryd i ddisodli tanwydd ffosil yng Nghymru. Er bod llawer o fethiannau yn strategaeth diogelu ynni Llywodraeth y DU, ni ellir amddiffyn yr ymrwymiad i drwyddedu newydd ar gyfer echdynnu olew a nwy, ynghyd â'r penderfyniad diweddar gan Weinidogion y DU i wrthdroi penderfyniad lleol i ganiatáu chwilio am nwy newydd. Ni allai'r un Llywodraeth sydd wedi ymrwymo'n wirioneddol i sero net ac sydd wedi ymrwymo i anghenion cenedlaethau'r dyfodol barhau i gynnal dibyniaeth y DU ar danwydd ffosil. Yma yng Nghymru, mewn cyferbyniad, rydym yn glynu wrth ein hymrwymiad yn erbyn echdynnu tanwydd ffosil, ein hymrwymiad i roi'r gorau i'w defnyddio yng Nghymru, a'n gweledigaeth i Gymru gynyddu cynhyrchiant adnewyddadwy er mwyn diwallu ein hanghenion ynni ein hunain fan lleiaf.

Er bod hydrogen yn dal i fod yn dechnoleg sy'n datblygu, mae ei nodweddion unigryw yn golygu y gallai, ochr yn ochr â datblygiadau ynni adnewyddadwy helaeth, fod â rôl gref yn sectorau pŵer, trafnidiaeth a diwydiant Cymru yn y dyfodol. Gall hefyd gynnig dewis amgen yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil, fel y crybwyllwyd gan nifer o gyfranwyr, a Rhun yn enwedig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n datblygu'n gyflym a gynigir gan hydrogen. Mae ganddo botensial enfawr i leihau allyriadau a chefnogi'r trawsnewidiad economaidd, yn enwedig mewn diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, cerbydau nwyddau trwm, rheilffyrdd, ac awyrennau o bosibl. Yn fyd-eang, cydnabyddir bod y sectorau hyn yn anodd eu datgarboneiddio, ac mae gan hydrogen rôl allweddol yn y map ffordd at sero net ar gyfer y sectorau hynny. Lywydd, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ceisio datgarboneiddio'r sectorau hyn, ac nad ydym yn creu cymhellion sy'n cynnal dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil. Er fy mod yn cydnabod y bydd yna gyfnod o bontio i rai sectorau yn sgil defnyddio hydrogen a gynhyrchir o danwydd ffosil, rhaid iddo fod yn newid cyflym ac mor gyfyngedig â phosibl. Rhaid inni symud at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, ac rwy'n croesawu'r ffocws penodol ar ynni gwyrdd yn y cynnig. Ac mae'n rhaid inni gydnabod bod hynny wedi bod yn wir ar gyfer yr holl ffynonellau ynni newydd sy'n dod i'r amlwg. Mae cost cynhyrchu hydrogen yn uchel ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'n rhaid i ddatblygu hydrogen fod yn rhan o ymdrech lawer ehangach i sicrhau mwy o ynni adnewyddadwy. Rhaid manteisio ar y cyfleoedd y mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn eu cynnig i gynhyrchu hydrogen pan fo'r cyflenwad yn fwy na'r galw. Yn hytrach na thalu gweithredwyr ffermydd gwynt i roi'r gorau i gynhyrchu, dylem eu talu i ddarparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy y gellir ei storio a'i defnyddio pan fo angen.

Rydym mewn argyfwng costau byw, wedi'i yrru'n rhannol gan gostau ynni uchel. Rhaid inni sicrhau bod ein dull o ddatgarboneiddio ein system ynni yn un teg i bob defnyddiwr, gan gynnwys busnesau yng Nghymru. Mae cefnogi arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hydrogen a mathau eraill o ynni carbon isel yn cyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net ac yn cefnogi adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Dyna pam y buom yn cefnogi prosiectau ledled Cymru. Roedd ein cynllun menter ymchwil busnesau bach hybrid, Byw'n Glyfar, yn cefnogi 17 o brosiectau dichonoldeb ac arddangos hydrogen ledled Cymru. Mae'r 17 prosiect ym mlwyddyn gyntaf y cynllun yn cyflawni ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Maent yn amrywio o astudiaethau o gynhyrchiant hydrogen microwyrdd, hydrogen mewn ardaloedd gwledig, cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy, datblygu'r farchnad gerbydau, cynhyrchu hydrogen yn y gymuned, a phlatfform cyngor a rhwydweithio siop un stop digidol ar gyfer hydrogen. Bydd cam pellach o danwydd hybrid yn lansio yr wythnos nesaf ym Merthyr Tudful, gyda chymorth ar yr un lefel. Bydd hyn yn ariannu llif o brosiectau dichonoldeb busnes yn ogystal â gwaith arddangos a phrototeipio lefel uwch ar lawr gwlad ledled y wlad.

Mae ein hanes o gefnogi prosiectau arddangos hydrogen sy'n arwain y byd yng Nghymru hefyd yn cynnwys, fel y mae llawer o bobl wedi sôn, Milford Haven: Energy Kingdom, datblygiad parhaus hybiau cynhyrchu hydrogen gwyrdd yng Nghaergybi a Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd hefyd gan amryw o'r Aelodau, a gwaith dichonoldeb llwyfannau alltraeth hydrogen gwyrdd arnofiol ar gyfer arfordir sir Benfro. Mae gwaith arall sydd ar y gweill a gefnogir gennym yng nghanolbarth Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda llywodraeth leol, buddsoddwyr tramor a phartneriaid academaidd, gan gynnwys Flexis a South Wales Industrial Transition from Carbon Hub, yn addo cynyddu'r cyflenwad hydrogen yn sylweddol, ac y caiff galw cynyddol ei greu, yn enwedig ym maes trafnidiaeth a gwres. Byddwn yn creu piblinell ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru, gan gefnogi perchnogaeth leol a chadw cyfoeth ledled Cymru, ac wrth inni wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac rydym eisoes wedi llwyddo i ddenu cyllid y DU yn sgil ein buddsoddiad. Ac er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r cyllid hwnnw, fel y mae ar gael gan Lywodraeth y DU, rhaid i'r bobl ar y meinciau gyferbyn, a allai chwarae rhan fawr yn cefnogi hyn, gydnabod, os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau 10 GW erbyn 2030, fod angen mwy o gyllid ar frys gan Lywodraeth y DU. Byddwn wrth fy modd yn ymrwymo Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yng nghynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU, ond heb i Lywodraeth y DU gynyddu'r cyllid, bydd y treialon hynny'n gyfyngedig tu hwnt, sy'n drueni mawr.

Rydym wedi cefnogi rhanddeiliaid o Gymru gyda'u ceisiadau posibl am gyllid y DU; byddwn yn dysgu'r gwersi o dreialon gwresogi hydrogen mewn rhannau eraill o'r DU. Yn y cyfamser, rydym yn asesu rôl hydrogen a gwresogi yn ein strategaeth wres, a fydd yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ac fel rhan o'n gwaith cynllunio ynni. Rwy'n gobeithio, Janet, y byddwch yn cyflwyno sylwadau cryf i'ch cymheiriaid yn San Steffan, i sicrhau lefel uwch o gyllid, gan eich bod mor gefnogol i'r strategaeth hon. Mae ar gael i gefnogi prosiectau yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r DU, gan gynnwys yng Nghymru.

Lywydd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn, ac rydym yn nodi ein dull strategol i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddasom lwybr hydrogen i ymdrin â chyfleoedd ar gyfer hydrogen ar draws gwahanol sectorau, yn unol â'n huchelgeisiau polisi ynni ar gyfer cyflawni sero net. Mae ein llwybr a'i 10 amcan yn canolbwyntio ar gamau gweithredu tymor byr i lywio galw, cynhyrchiant a gweithredu trawsbleidiol hyd at 2025. Maent hefyd yn nodi ffyrdd o gynllunio ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy, er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda o ran technolegau hydrogen a chelloedd tanwydd.

Ers cyhoeddi llwybr hydrogen Cymru, mae rôl hydrogen yn y sector ynni yn ei gyfanrwydd bellach yn fwy sefydledig. Mae ein llwybr yn diffinio cyfres o gamau 'heb anfanteision' i alluogi Cymru i elwa ar yr ystod o fanteision a all ddeillio o fwy o ddefnydd o hydrogen. Mae adroddiadau i'r adroddiad ar y llwybr wedi'u dadansoddi, a'r argymhellion cychwynnol wedi'u crynhoi, a byddant yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn.

Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cysyniad o ddatblygu defnydd o ynni hydrogen yng Nghymru, ac er ein bod yn cydnabod, fel y gwnaeth Rhun yn bendant, nad yw hwn yn ateb i bob dim, rydym yn adlewyrchu'r farn am y rôl gynyddol i hydrogen ar draws ein cyhoeddiadau Cymru Sero Net hefyd. Wrth inni adeiladu ar y llwybr, bydd hyn yn darparu'r ffocws strategol sydd ei angen arnom i sicrhau bod hydrogen yn chwarae rhan bwysig i'n galluogi i gyrraedd ein targed sero net ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y sector hwn sy'n datblygu.

Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn llwyr, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig fel y'i cynigiwyd, gan nodi datblygiad y llwybr hydrogen fel y strategaeth y mae'r cynnig yn galw amdani. Diolch.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma, a diolch i'r Gweinidog am ei hymateb hi. Gwnaf i ddim siarad yn hir. Dwi'n meddwl bod y cyffro yno ac yn cael ei rannu ar draws y meinciau yma ynglŷn â'r sgôp sydd yna i ddatblygu sector newydd yn fan hyn ac i fod yn flaenllaw ynddo fo.

Mi glywsom ni'r Gweinidog yn rhestru'r holl elfennau hynny o ddatblygiadau hydrogen sy'n digwydd yng Nghymru eisoes, fel y gwnes innau, ac fel dŷn ni wedi clywed gan Aelodau eraill. Beth mae hynny'n ei ddweud wrthyf fi ydy ein bod ni â'r sylfeini yn eu lle er mwyn adeiladu sector all wneud gwirioneddol wahaniaeth i economi Cymru drwyddi draw. Mae'r holl elfennau yma i'w croesawu, maen nhw i gyd yn building blocks bach sy'n mynd i, gobeithio, ein galluogi ni i adeiladu arnyn nhw. 

Ond dyna ydy'r nod rŵan, gweld beth ydy'r potensial ac anelu'n uchel, oherwydd dyna'n union dŷn ni'n ei weld yn digwydd mewn gwledydd eraill. Mi ddywedodd y Gweinidog y bydd y Llywodraeth a'r meinciau Llafur yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, a dwi'n ddiolchgar am hynny. Mae'n cefnogi oherwydd ei bod hi yn dweud bod y llwybr, y pathway, yn strategaeth. Dwi'n nodi'r termau a ddefnyddiodd hi ynglŷn â chael strategic approachstrategic focus. Dwi'n dal yn meddwl bod angen dod â'r cyfan at ei gilydd a bod â nod clir iawn. Dwi'n cofio edrych ar adroddiad Llywodraeth Iwerddon 'Harnessing Our Ocean Wealth' a gweld hwnnw fel patrwm y gallai Cymru ei ddilyn, ac mi ddaeth strategaeth ynglŷn â sut i wneud yn fawr o'n hamgylchedd morwrol ni. Dwi'n gweld yn fan hyn hefyd fod angen y math yna o ffocws mewn un strategaeth glir lle mae pawb yn gwybod i ba gyfeiriad dŷn ni yn mynd.

Ond fel dwi'n dweud, dwi wedi clywed y cyffro yna heddiw yma ar draws y meinciau. Nid dyma'r tro olaf y byddaf i'n codi hydrogen yma yn y Senedd, ond o leiaf dŷn ni wedi cael blas eto, ac mae ar y cofnod yma yn y Senedd o'r potensial o'r hyn y gallwn ni fod yn anelu amdano fo, oherwydd dyma, efo hydrogen gwyrdd yn benodol, ydy'r dyfodol y gallwn ni fod yn cyffroi ynglŷn ag o fel gwlad. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Sy'n dod â'r eitem yna i ben. Fydd yna ddim angen pleidlais na chyfnod pleidleisio, felly.

9. Dadl Fer: Adfywiad diwylliannol Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb

Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, at y ddadl fer.

Ni fydd unrhyw bleidleisiau y prynhawn yma. Rydym yn weddol gytûn mewn perthynas â hydrogen—[Torri ar draws.]—'cytûn' a ddywedais. Symudwn ymlaen at y ddadl fer.

Fe wnaf i ofyn i Rhianon Passmore gyflwyno ei dadl hi.

Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n gadael yn dawel, a phan gawn ni rywfaint o dawelwch yn y Siambr, fe ddechreuwn y ddadl fer. Rhianon Passmore.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi munud o'r ddadl hon—yn anffodus, dim ond munud—i fy nghyd-Aelodau, Jayne Bryant, ar draws y Siambr, Sam Rowlands a Delyth Jewell. Diolch.

17:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yng Nghymru, mae'n iawn fod ein cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru o fis Medi ymlaen yn rhagnodi na ddylai diffyg arian atal ein pobl ifanc, yn arbennig, rhag dysgu cerddoriaeth, ac nad hawl i'r rhai sy'n gallu fforddio talu i chwarae yn unig yw cerddoriaeth mwyach. Credaf mai dyma yw ein gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch am hyrwyddo a diogelu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol wych. Mae Cymru wedi cael ei chydnabod ledled y byd fel gwlad y gân ers amser maith, a dyna oedd teitl yr adroddiad cyntaf imi erioed ei gomisiynu i'r lle hwn gan yr enwog Athro Paul Carr, ac roedd ei gyfranwyr yn cynnwys artistiaid byd-eang a gweithwyr proffesiynol o Gymru. Oherwydd bod gennym gymaint i ymfalchïo ynddo, ein bandiau pres a'n corau arobryn, ein cyfansoddwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, ein bandiau pop a roc, a'n hartistiaid a'n harweinwyr enwog ar blatfformau digidol byd-eang, mae'n wir dweud bod Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd cerddoriaeth.

Ond mae'r llwyddiant gweladwy a chlywadwy hwn hefyd wedi bod yn anfantais fawr i ni. Mae cuddio anhrefn cyni'n effeithio ar ein ffatrioedd cerddoriaeth, i aralleirio'r enwog Max Boyce. Yn ystod llawer o'r pandemig COVID, roedd y gerddoriaeth yn ddistaw. Tawelwyd ein cerddoriaeth o Gymru yn ei holl haenau niferus o amrywiaeth bywiog, lliwgar. Cafodd lleoliadau eu cau, cafodd cyngherddau eu canslo. O'n stadia mwyaf i'n grwpiau cerddoriaeth cymunedol lleiaf, cafwyd distawrwydd. Rhoddwyd taw ar ymarferion, er lles y mwyafrif. Cydiodd galar diwylliannol yn ein cymunedau, a dioddefodd pobl, oherwydd mae cerddoriaeth yn bwysig. Mae'n llonyddu, mae'n lleddfu poen, mae'n ymlacio, mae'n gwella. Mae ein bryniau Cymreig a'n dyffrynnoedd gwyrdd, fel rydym yn gwyrddu'r pyllau glo yn awr, yn dechrau anadlu unwaith eto, yn bywiogi gyda sŵn cerddoriaeth unwaith eto.

Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yma i wneud y newidiadau sydd eu hangen. Fodd bynnag, fel gwleidyddion, rhaid inni fod yn onest ac edrych ar ein hunain yn hir yn y drych. Roedd ein hadroddiadau amrywiol ar y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg, fel y bydd Delyth Jewell yn siŵr o'i nodi, yn tynnu sylw uniongyrchol at y dyfodol anghynaliadwy. Mae tystion fel yr arweinydd gwych, Owain Arwel Hughes, wedi dweud bod peiriannau ein llwyddiant byd-eang yn atal y llif, yn draenio'r seilwaith—yn anghynaliadwy. Mae ein gwasanaethau cymorth cerddoriaeth yn gwywo oherwydd cyni a COVID ac mae hon yn golled i'n hieuenctid, yn golled i'n gwaddol cenedlaethol ac yn golled i'n henw da byd-eang fel gwlad y gân.

Felly, heddiw, Weinidog, beth sy'n wahanol? Rwy'n credu, yn credu o ddifrif, ein bod ar drothwy cyfle newydd, digyfyngiad, a'n bod bellach mewn tiriogaeth newydd lle y gallai dadeni diwylliannol newydd ddigwydd yng Nghymru, y gallwn ac y byddwn yn cryfhau ein sîn gerddorol a diwylliannol yn ogystal â'n heconomi, yn bwysicaf oll drwy ein mynediad a ariennir at addysg cerddoriaeth, sy'n flaenoriaeth i genedlaethau'r dyfodol. Ceir gweledigaeth newydd ar gyfer Cymru. Mae cryfhau ein haddysg cerddoriaeth yn bwysig er mwyn ailadeiladu a chefnogi llesiant ein pobl ifanc ar ôl coronafeirws. A'r wythnos hon, pan fo miloedd yn heidio i Gaerdydd i weld cyngerdd enfawr gyda Syr Tom a'r Stereophonics, mae angen inni ofyn sut y mae meithrin y Shirley, y Manics, y Bryn Terfel, y Catrin Finch, y Claire Jones nesaf. Mae'r cynllun cenedlaethol newydd sydd newydd ei gyhoeddi gennym ar gyfer cerddoriaeth yn hollbwysig i hyn, ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth a'n Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, ac rwy'n hynod falch mai un o gonglfeini'r cynlluniau hyn fydd y ffaith eu bod ar gyfer pawb, y bydd pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i gael addysg cerddoriaeth ac i ddysgu chwarae offeryn. Bydd y cwmni, fel yr un ym Merthyr sy'n cynhyrchu trympedi plastig a gaffaelwyd yn gymdeithasol gyfrifol, yn elwa. 

Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon y dylai addysg cerddoriaeth fod yn seiliedig ar y gallu i chwarae ac nid ar y gallu i dalu. Yr hyn sy'n allweddol i hyn yw bod y cynigion uchelgeisiol newydd hyn yn cael eu hariannu'n briodol. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y £13.5 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a'u gwasanaethau cerdd, sydd mor angenrheidiol ac sy'n ddechrau iach iawn i uwchsgilio pob un o'n disgyblion yng Nghymru, gyda llwybrau mynediad priodol at lwybrau elitaidd. Mae'r polisi hwn yn bwysig oherwydd mae'n ymwneud â'r hyn yr ydym yn sefyll drosto fel gwlad, pwy ydym ni, a'r hyn yr ydym yn buddsoddi ynddo yn y dyfodol i lifo i'r byd. Felly, hoffwn ddiolch o waelod calon i'r Gweinidog am ei ymrwymiad i gyflawni'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sydd, yn fy marn i, wedi ennyn cefnogaeth ddiffuant a chonsensws ar draws y Siambr hon. A hoffwn dalu teyrnged yn fyr, os caf, i bawb sydd wedi ymuno â mi i ymgyrchu ar y mater hwn dros nifer o flynyddoedd i sicrhau ei fod wedi aros ar yr agenda wleidyddol. Rwyf eisoes wedi sôn am Owain Arwel Hughes a'i gefnogaeth angerddol, Craig Roberts a'i rwydwaith rhyfeddol o gerddorion, a Vanessa David. Rwyf hefyd am grybwyll fy chwaer, Eluned, a llawer iawn mwy.

Ac wrth gwrs, nid yw cerddoriaeth yn bodoli mewn gwactod. Mae creu sector cerddoriaeth cryf yn dibynnu ar gael sector diwylliannol bywiog. Mae teledu, ffilm, theatr a gwyliau yn gyfle i arddangos talent gerddorol Gymreig. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, lansiwyd Cymru Greadigol i gydlynu twf diwydiannau creadigol ledled Cymru, ac er gwaethaf y bedydd tân, mae'r sefydliad wedi tyfu i mewn i'r rôl, gan gefnogi'r sector creadigol drwy heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ac eto ceir rhagor o gyfleoedd, Ddirprwy Lywydd, a lle i gydweithredu a chefnogi ar draws ein gwahanol sectorau. Mae'r celfyddydau'n aml wedi'u cysylltu'n gynhenid ac maent yn bwysig iawn i Gymru o safbwynt economaidd, a gobeithio y bydd Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn gweithio gyda'i gilydd mewn consensws i adeiladu ar y cydweithrediad hwn.

Yn olaf, mae'r sefyllfa hon yn fregus, ac er mwyn ei chynnal rhaid inni ofalu am ein talent. Ac er bod llawer i'w ddathlu yn y gwaith blaengar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, rhaid inni sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu mesur yn briodol fel bod polisïau'n cyflawni'r hyn y maent i fod i'w wneud, fod arian cyhoeddus gwerthfawr yn cael ei wario—pob ceiniog yn y celfyddydau, pob punt. I gloi, serch hynny, credaf y dylem ddathlu'r camau breision ymlaen ac osgoi canu ein clodydd ein hunain. Rhaid inni sicrhau bod y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn bodloni ei egwyddorion sylfaenol: ein bod o ddifrif yn creu addysg cerddoriaeth sy'n hygyrch i bawb a'n bod yn rhoi'r cyfleoedd gorau i'n pobl ifanc i wneud yn iawn neu i fod yn sêr cerddorol. Yn olaf, credaf y gwelwn y dadeni diwylliannol newydd hwnnw os bydd pawb ohonom yn y Siambr hon yn gweithio gyda'n gilydd i'w gyflawni, ac y bydd y ddraig a'r ffenics yn codi eto. Diolch.

18:00

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn longyfarch fy nghyd-Aelod a fy nghyfaill, Rhianon Passmore, ar ei hymroddiad a'i gwaith rhagorol parhaus yn y maes hwn. Mae mynediad at ddiwylliant a cherddoriaeth mor hanfodol i ddatblygiad unrhyw blentyn, ac ni ddylai byth fod yn foethusrwydd sydd ar gael i'r rhai sy'n gallu ei fforddio yn unig. Mae Cymru'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn wlad beirdd a chantorion, lle mae bod yn freintiedig yn golygu cael eich geni gyda cherddoriaeth yn eich calon a barddoniaeth yn eich enaid. Rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod ein traddodiad balch yn parhau a bod pob cenhedlaeth yn gallu profi a chyfrannu at y byd diwylliannol. Gall meithrin awydd mewn plant a phobl ifanc i gymryd rhan weithredol mewn creu cerddoriaeth, yn eu hysgol ac yn y gymuned ehangach, fod yn gatalydd ar gyfer creadigrwydd, mynegiant a dychymyg sydd â'r potensial nid yn unig i fod o fudd iddynt hwy, ond i gymdeithas yn gyffredinol. Dyma'r mantra y mae Cerdd Gwent, sy'n sefydliad gwych, wedi'i arddel ers eu sefydlu.

Rwy'n falch o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, lle rydym wedi gweld cynifer o enghreifftiau o'r celfyddydau'n cael effeithiau buddiol ar fywydau pobl. O sicrhau bod preswylwyr mewn gofal cymdeithasol yn clywed cerddoriaeth eu hieuenctid, a helpu pobl hŷn i adfer eu hyder ar ôl cwymp drwy ddefnyddio dawns, i fanteision gemau canu i blant sydd â salwch hirdymor ac yn sâl yn yr ysbyty, mae'r enghreifftiau'n niferus, ac mae'r effaith ar bob grŵp oedran. Mae cerddoriaeth a'r celfyddydau yn ein diwylliant yn rym er daioni. Hir y parhaed hynny, a diolch yn fawr iawn i bawb sy'n tiwtora, yn addysgu ac yn gwneud i hynny ddigwydd. Diolch yn fawr.

A gaf innau hefyd ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl fer bwysig heddiw ac am ganiatáu imi gyfrannu'n fyr heno? Fel y dywedais droeon yn y Siambr, mae cerddoriaeth yn eithriadol o bwysig i'n diwylliant yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig i bobl o bob cefndir, i bob math o wahanol bobl, ac ar wahanol adegau yn eu bywydau hefyd. Yn ogystal â hyn, mae cerddoriaeth wedi bod yn fuddiol i mi yn bersonol, yn ogystal â fy nheulu. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf y cafwyd dadl fer yma ym mis Rhagfyr ar bwnc tebyg, dywedais wrth yr Aelodau lle roedd fy merched wedi cyrraedd gyda'u gwersi piano, ac fe fyddwch yn falch o wybod nad yw 'Old MacDonald Had a Farm' yn cael ei chwarae mwyach; rydym wedi symud ymlaen at y 'Watchman's Song', sy'n rhyddhad mawr i fy nghlustiau i, ac nid yw 'The Music Box' yn cael ei chwarae mwyach—rydym wedi symud ymlaen at 'The Year 1620'—gan yr hynaf. Maent yn gwneud yn rhagorol. Ond mae cerddoriaeth, drwy ddod â phobl at ei gilydd, drwy ddod â theuluoedd at ei gilydd, drwy ddod â chymunedau at ei gilydd, yn bwysig iawn, a hefyd o ran addysg a sgiliau gydol oes. Dyna pam fy mod yn cefnogi'r alwad hon am fwy o fynediad i bobl at offerynnau cerdd ac at ddysgu'r offerynnau hynny mor hawdd â phosibl. A dyna pam, fis diwethaf, yr oedd yn gadarnhaol gweld y Siambr yn croesawu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol y Llywodraeth, ac fel y nodais o'r blaen, mae'n hanfodol fod elusennau, busnesau a chydweithfeydd megis cydweithfa gerddoriaeth sir Ddinbych a Wrecsam yn cael eu hannog a'u cefnogi i wella mynediad at gerddoriaeth i bawb. Carwn atgoffa'r Aelodau fod fy chwaer-yng-nghyfraith hefyd yn athrawes beripatetig, rhag ofn y bydd unrhyw wrthdaro yno o gwbl. Ond mae hi mor bwysig sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y gwersi hynny, a chael mynediad at yr offerynnau hynny. Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl heddiw ac yn sicr, rwy'n cefnogi'r modd y mae'n gyson yn hyrwyddo'r rhan bwysig hon o fywyd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Diolch, Rhianon—mae hon yn ddadl mor hyfryd, onid yw? Rwy'n falch iawn o gyhoeddiad y Llywodraeth yn y maes. Rwy'n dod o deulu o gerddorion, ac fe elwodd fy chwaer a minnau o gael gwersi cerddoriaeth pan oeddem yn yr ysgol. Cefais wersi canu, gwersi piano a gwersi clarinet. Peidiwch â gofyn imi chwarae'r clarinet; dim ond gradd 1 a gefais yn y clarinet, ac ni fyddai'n swnio'n dda, ond nid yr athrawon sy'n gyfrifol am hynny; y rheswm am hynny yw nad oeddwn yn ymarfer.

Soniodd Rhianon am y gwaith anhygoel a wnaeth y pwyllgor diwylliant blaenorol yn y Senedd flaenorol ar hyn. Rwy'n talu teyrnged i waith y pwyllgor yn ogystal ag i Rhianon am ymgyrchu dros hyn. Fel y nododd Rhianon, dangosodd y dystiolaeth a gawsom fel pwyllgor fod cael mynediad at addysg gerddorol yn datblygu mwy na sgil mewn cerddoriaeth yn unig; mae'n helpu llesiant plant, eu hyder, mae'n eu helpu i ffynnu ac i ymhyfrydu yn y peth gwych hwn. Mae cerddoriaeth yn agor drysau ar fydoedd eraill, mae'n caniatáu inni gael llawenydd yn ein bywydau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau yr oedd Rhianon yn eu cyfleu—pam ar y ddaear y dylai hynny fod yn fraint i'r ychydig sy'n gallu ei fforddio? Gwlad y gân ydym ni, rydym yn genedl o bobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a dylai pob plentyn, pob oedolyn, allu cymryd rhan yn yr etifeddiaeth gyfoethog honno. Felly, diolch yn fawr iawn eto i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon, am y gwaith ar y pwnc, ac rwyf mor falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hyn. A Sam, roedd fy mam innau'n athrawes gerdd beripatetig, felly bydd hithau'n falch iawn hefyd.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar addysg cerddoriaeth. Fel y nodais yn fy natganiad llafar diweddar ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, mae eich angerdd a'ch ymrwymiad i ymgyrchu ar bwysigrwydd addysg cerddoriaeth wedi bod heb ei ail. Mae llawer yn credu y dylai'r cynllun fod wedi cael ei alw'n gynllun Rhianon Passmore ar gyfer addysg cerddoriaeth. Ond rwyf hefyd yn cydnabod ei chydnabyddiaeth hael hi i gyfraniad llawer o bobl eraill i'w hymgyrch a'r modd y gwnaethant gyfrannu'n greadigol i'r dadleuon y mae hi wedi'u gwneud mor ddiwyd, gan gynnwys rôl ei chwaer ei hun, sydd, rwy'n gwybod, yn arbennig o arwyddocaol iddi. Hoffwn ychwanegu fy niolch hefyd i Jayne Bryant, a'i geiriau o ddiolch i'r tiwtoriaid a'r athrawon ledled Cymru sydd, o ddydd i ddydd, yn goleuo bywydau ein pobl ifanc drwy eu cyflwyno i fyd hyfryd cerddoriaeth.

Ddirprwy Lywydd, fel y soniodd Rhianon Passmore yn ei haraith agoriadol, mae thema'r ddadl yn cysylltu'n glir iawn â phwysigrwydd rhoi camau ar waith i gefnogi adferiad yn sgil y pandemig COVID. Mae'n sicr yn wir fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar addysg cerddoriaeth a bod angen canolbwyntio'n benodol bellach ar ailadeiladu a chefnogi llesiant ein plant a'n pobl ifanc, a bod hyn yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Rwy'n credu bod y pandemig hefyd wedi effeithio'n amlwg ar y cyfleoedd i wneud cerddoriaeth gydag eraill fel rhan o ensemble neu gôr neu fand pres yn yr ysgol, y gymuned, y gwasanaeth cerdd lleol, neu'n wir ar lefel genedlaethol. Ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi mai un o'r elfennau allweddol yn y cynllun newydd yw'r rhaglen ar gerddoriaeth ar gyfer dysgu gydol oes, iechyd a llesiant, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr, o oedran cynnar, yn cael eu cefnogi drwy weithgareddau cerddoriaeth a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eu synhwyrau a'u dychymyg a thrwy hynny, y byddwn yn atal y distawrwydd y soniodd Rhianon Passmore amdano yn ei haraith agoriadol. 

Mae hwn yn un o ystod eang o feysydd sydd wedi'u hymgorffori yn y model gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi'i ddatblygu drwy broses o gydadeiladu gyda'n rhanddeiliaid allweddol. Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yw darparu dull newydd radical y mae nifer wedi sôn amdano ar gyfer sicrhau dyfodol hirdymor a chynaliadwy i addysg cerddoriaeth. Ac yn rhan sylfaenol o hyn, rydym am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, waeth beth fo'u cefndir, yn cael cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau cerddorol a chymryd rhan ynddynt ac i ddysgu chwarae offeryn cerdd—y cyfleoedd digyfyngiad y soniodd Rhianon Passmore amdanynt. 

Ac yn fy marn i, Ddirprwy Lywydd, caiff y sylfaen ar gyfer y gwasanaeth ei chryfhau drwy gysylltiadau agos â'r cwricwlwm er mwyn sicrhau mynediad i bob dysgwr, gan ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a phrofiadau. A chyda buddsoddiad ariannol sylweddol o £4.5 miliwn y flwyddyn, cyfanswm o £13.5 miliwn hyd at 2025, mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth i ysgolion a lleoliadau ar sail ehangach, ac ensembles cerddorol hefyd, a cherddoriaeth mewn cymunedau, ynghyd â dysgu proffesiynol i ymarferwyr eu hunain. 

Bydd cyflwyno'r elfennau penodol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau yn dechrau o fis Medi ymlaen. Mewn ysgolion cynradd, bydd dysgwyr yn cael o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerdd a gyflwynir gan ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig a medrus, a bydd y sesiynau hyn yn helpu plant i symud ymlaen yn eu profiadau o gymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, a bydd yn cefnogi anghenion unigol pob ysgol, os mynnwch, i wireddu maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm. Ar lefel uwchradd, bydd ysgolion yn derbyn cyllid ar gyfer profiadau a fydd yn cefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc a'u cynnydd tuag at gerddoriaeth TGAU, gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu wrth chwarae offeryn neu ganu, a meithrin eu doniau a'u huchelgeisiau, a darganfod y Shirley newydd, y Tom newydd neu'r Catrin newydd, gobeithio, fel y nodwyd eisoes. 

Bydd y gwasanaeth cerddoriaeth yn cael ei ategu gan y cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg cerddoriaeth. Mae'n nodi'r weledigaeth y dylai profi llawenydd cerddoriaeth o bob math fod yn ganolog i bob ysgol a phob lleoliad, a bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd i'n holl blant a'n pobl ifanc allu chwarae, canu, cymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, yn y cwricwlwm a hefyd yn y gymuned ehangach. Bydd hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer dathlu'r diwylliant cyfoethog a'r etifeddiaeth genedlaethol sydd gennym, fel y nododd siaradwyr yn y ddadl eisoes. 

Ac ar y lefel ehangach honno o gymorth sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, wrth ymateb i'r pandemig, rydym wedi darparu dros £60 miliwn o gyllid ar gyfer sefydliadau diwylliannol. Drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cefnogi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerdd Gymunedol Cymru, Live Music Now Cymru, Mid Wales Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Trac Cymru a Tŷ Cerdd, ac rydym wedi ymrwymo i sector diwylliant sy'n hygyrch, yn amrywiol ac yn gynhwysol, ac mae'r sector cerddoriaeth yn sicr yn arwain y ffordd ar hynny. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â hynny.

Dylwn ychwanegu, i gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llesiant wedi bod yn ganolbwynt allweddol i'n dull ehangach o gefnogi dysgwyr gydag effeithiau'r pandemig, ac mae hyn yn cyd-fynd â'r darlun cyffredinol hwnnw. Mae ein cynllun adnewyddu a diwygio, sydd wedi'i gefnogi gan dros £270 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn rhoi iechyd a lles corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei ddull o weithredu. A boed yn Haf o Hwyl neu'r Gaeaf Llawn Lles, mae hynny wedi rhoi cyfle i lawer o'n pobl ifanc gael mynediad at weithgareddau diwylliannol a chreadigol. Ac rwy'n benderfynol o weld y pwyslais ar lesiant a hyblygrwydd a welsom yn ystod y pandemig yn sail i'r gwaith yr ydym yn sôn amdano yma heddiw ac yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm. A thrwy'r rhaglen o weithgareddau, bydd y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn gweithio i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i ddysgu chwarae offeryn a bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'i gefndir, waeth beth fo incwm ei deulu, yn gallu elwa o addysg cerddoriaeth, fel y mae llawer ohonom wedi'i wneud. Diolch yn fawr.   

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.