Y Cyfarfod Llawn
Plenary
03/11/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair.
Prynhawn da. Good afternoon, everybody.
Croeso nôl i chi i gyd. Rydyn ni'n dechrau nawr gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac yn gyntaf, cwestiwn 1, Steve Bayliss.
1. Pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i geisio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â'u trefniadau diogelu a chapasiti ymwelwyr iechyd? OQ64801 [R]
Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn ystod yr anghydfod yma, rydw i a chydweithwyr o Blaid Cymru wedi cyfarfod ag ymwelwyr iechyd ac, yn wir, ag Unite. Mae'n amlwg bod y diffyg cyswllt teuluoedd rheolaidd o ganlyniad i'r streic wedi creu, ac yn parhau i greu, risg i blant. Gwyddom fod nifer yr atgyfeiriadau diogelu ar draws etholaethau'r bwrdd iechyd wedi gostwng. Po hiraf y parha'r anghydfod hwn, y mwyaf yw'r pryder hwnnw.
Gwn fod y Gweinidog Cabinet wedi bod yn herio'r bwrdd iechyd i ddarprau diweddariadau rheolaidd a thystiolaeth gadarn o'r mesurau lliniaru sydd ar waith, gan gydnabod, wrth gwrs, mai'r ffordd orau o sicrhau diogelwch plant a theuluoedd yw drwy ddod o hyd i ddatrysiad i'r anghydfod hirsefydlog hwn, a ddechreuodd ymhell cyn i'r Llywodraeth hon ddod i rym. O ystyried hynny, Brif Weinidog, pa bwysau ychwanegol y mae'r Llywodraeth yn ei roi er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys yn fuan? Diolch.
Rydw i, wrth gwrs, yn rhannu’r pryder yna am yr effaith mae’r anghydfod hir yma yn ei chael ar blant ac ar deuluoedd. A dyna pam rydyn ni wedi, fel roeddwn i’n dweud yn gynharach, gofyn am sicrwydd, mewn manylder, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â’r camau diogelu oedd mewn lle. Rydyn ni’n cario ymlaen i gadw llygad gofalus ar y trefniadau hynny, ac mi fyddwn ni’n dal y bwrdd iechyd, wrth gwrs, i gyfrif, i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu gwarchod.
Mae’r Llywodraeth yma wedi ymwneud yn weithredol, ym mhob ffordd y gallwn ni, efo’r bwrdd iechyd ac efo cynrychiolwyr yr undebau llafur er mwyn ceisio annog datrysiad buan i’r anghydfod yma. Mi ydyn ni eisiau ei weld o'n cael ei ddatrys mor fuan â phosib, ac mi fyddwn ni'n cario ymlaen i wneud popeth priodol y gallwn ni er mwyn sicrhau bod datrysiad yn cael ei ganfod.
2. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar fusnesau bach manwerthu, lletygarwch a hamdden yng Nghymru? OQ64842
Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.
Arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd economaidd fferyllfeydd cymunedol? OQ64809
4. Sut mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo cydweithrediad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig? OQ64843
Mae diddordebau Cymru yn cael eu gwasanaethu orau drwy wneud ei phenderfyniadau ei hun, ac mae'r drefn gyfansoddiadol bresennol yn annheg yn ei hanfod. Ond tra bod y trefniadau presennol yn parhau, rhaid iddynt rymuso Cymru mewn ffordd wirioneddol. Yr wythnos diwethaf, yn sgil cyfarfod â'r Prif Weinidog, daethoch allan o'r cyfarfod gyda mwy o gytundeb gan Lywodraeth San Steffan ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Fodd bynnag, a fyddech chi’n cytuno â mi fod rhaid troi'r sicrwydd gan y Prif Weinidog bod caniatáu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru yn fater o sut a phryd yn realiti heb oedi? Ac a yw'n cytuno ymhellach â mi, os yw'r Prif Weinidog i gael ei arwain gan yr hyn sydd orau i Gymru, nad yr hyn sydd orau i rai Aelodau Seneddol yn San Steffan sy'n bwysig, ond bod rhaid i hynny olygu trafodaethau ar unwaith ac ystyrlon ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder?
Dwi'n cytuno yn gryf. Dwi'n ddiolchgar am y cwestiwn yna i allu adeiladu ar y sylwadau y gwnes i funud neu ddau yn ôl. Dwi yn cytuno bod galwadau adeiladol y Llywodraeth yma wedi arwain at sylwadau cadarnhaol gan y Prif Weinidog ar hyblygrwydd cyllidol i Gymru, fel y dywedais i. Mi ges i gyfle, fel y dywedais i, nodi nifer o feysydd eraill efo'r Prif Weinidog—ar reilffyrdd, ar bartneriaeth twf—lle dwi'n meddwl bod yna enillion go iawn i gael eu gwneud. Ond, mae'n glir iawn nad ydy'r ddadl ar ddatganoli plismona a chyfiawnder yn symud ar y cyflymder y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddymuno. Felly, mi fyddwn ni yn cryfhau eto, ac yn atgyfnerthu’r ffordd rydyn ni'n mynd â’r ddadl honno i argyhoeddi Gweinidogion yn San Steffan fod yr achos dros ddatganoli heddlu a chyfiawnder yn gryfach nag erioed. Mae pob tystiolaeth yn pwyntio at hynny fel cam fyddai'n elwa pobl Cymru. Yn yr un modd, rydyn ni'n dal yn aros i'r Trysorlys symud er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen efo'r peilot taliad plant Cynnal, ac mi fyddwn ni yn annog y Llywodraeth i beidio ffrwyno ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant. Felly, mae yna gamau breision rydyn ni angen gweld yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
5. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu system fudd-daliadau i Gymru? OQ64827
6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc? OQ64844
7. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon cymunedol yng nghefn gwlad Cymru? OQ64806
8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addysg bellach ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64805
Diolch, Brif Weinidog.
Mae diwrnod prysur iawn o’n blaenau ni, felly symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes y Senedd yr wythnos hon. Ni chyflwynwyd pwnc ar gyfer y ddadl fer. Felly, o ganlyniad, mae’r ddadl wedi ei thynnu oddi ar agenda yfory. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad busnes, sydd, fel arfer, ar gael i’r Aelodau yn electronig.
Diolch i’r Aelod am godi’r mater hwn a gofyn am y datganiad. Mi wnaf i’r Gweinidog yn ymwybodol o hynny. Mae’r Aelod wedi sôn am nifer o ystadegau. Yn amlwg, mae yna anghydraddoldebau mawr ledled Cymru. Mae yna amrywiaeth mawr o ran oedrannau, ac o ran yr anghydraddoldeb mewn rhannau gwahanol o Gymru. Felly, mi wnaf i’n sicr ei wneud o’n ymwybodol o’r hyn rydych chi wedi’i godi heddiw.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Nid yw hanesion am ymosodiadau rhywiol mewn prifysgolion yn unigryw i Gymru, ond yr hyn sy’n amlwg yng Nghymru yw bod disgwyl i bobl, ar adeg pan fyddant fwyaf agored i niwed, fynd trwy broses gwyno cymhleth. Mae angen proses sy’n ddigon cadarn ac annibynnol i wirio bod y polisïau hynny’n cael eu gweithredu’n effeithiol, ac i sicrhau bod sefydliadau’n atebol am unrhyw fethiant i wneud hynny. Ar hyn o bryd, beth sydd gennym ni yng Nghymru yw fframwaith rheoleiddio Medr, nad yw’n mynd yn ddigon pell, ac sydd wedi’i feirniadu am fod yn broses hunanwerthuso gan brifysgolion. Felly, Drefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol ynghylch pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r angen i newid y fframwaith rheoleiddio yng Nghymru er mwyn atal methiannau tebyg rhag digwydd eto?
Diolch i’r Aelod am godi’r mater hwn. Yn amlwg, dwi’n gobeithio bod pawb ohonom ni yn unfrydol, o ran y Senedd hon, does yna ddim lle i aflonyddu rhywiol, trais rhywiol na cham-drin unrhyw le yng Nghymru, gan gynnwys yn ein prifysgolion. A rhaid i fyfyrwyr allu astudio a chymryd rhan mewn bywyd prifysgol yn ddiogel. Dyna’r man cychwyn i bob un ohonom ni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r fframwaith rheoleiddio yn ddiweddar, ac mae gofynion Medr yn ymdrin yn benodol â diogelwch dysgwyr a staff, gan gynnwys rhyddid rhag aflonyddu, camymddygiad trais, gan gynnwys trais rhywiol, a throseddau casineb. Mae Medr yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chynrychiolydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru i dargedu pecyn cymorth VAWDASV i wella cysondeb ar draws y sector addysg uwch.
Mae’n rhaid inni hefyd fod yn glir mai nid jest mater o reoleiddio drwy addysg yn unig ydy hyn. Mae atal trais rhywiol yn gofyn am ymateb Llywodraeth gyfan—rhywbeth rydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i fod yn ymwneud ag o. Mae o hefyd yn gofyn am ymateb gan gymdeithas gyfan, gan ddod â’r agenda ehangach trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol at ei gilydd.
Diolch i’r Aelod am godi’r mater yna. Mi wnaf i wneud yn sicr bod y Gweinidog cyfrifol yn ymwybodol o’r cais ac yn ystyried a oes angen camau pellach.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater. Mae deintyddiaeth yn rhywbeth, dwi'n gwybod, sydd yn bryder i nifer o Aelodau. Byddwch chi wedi clywed y Gweinidog Cabinet yn cydnabod yr heriau hynny, ac yn amlinellu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. O ran y materion penodol rydych chi'n eu codi, mi fyddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn benodol o ran bwrdd iechyd Hywel Dda, a, hefyd, mae yna gyfle i holi cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet yr wythnos nesaf yn y Siambr hon.
Wel, dwi'n falch o weld yr Aelod yn cymryd y cyfle i siarad yn y Siambr hon, a hithau heb gyflwyno dadl fer a fyddai wedi gallu bod ar un o'r meysydd hyn mae hi wedi gofyn am ddatganiad arnyn nhw heddiw. Mae'n un peth i ofyn am amser, ond pan mae gan yr Aelod yr amser i gyflwyno a chael dadl fer a pheidio â gwneud hynny, yna mae'n rhaid i fi ofyn pam gofyn am ddatganiadau yn amser y Llywodraeth pan nad ydy hi hyd yn oed yn gallu rhoi dadl fer i mewn ei hun.
Gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymgynghori ar gau canolfannau gofal sylfaenol brys yng Nghaergybi, Bangor a Thremadog? Dwi'n derbyn yn llwyr mai ymgynghoriad y bwrdd iechyd yw hwn i'w berchnogi ac nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddweud yng ngwaith strategol a gweithredol y byrddau iechyd. Serch hynny, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod yn cyfleu graddfa'r pryderon y mae'r newyddion yma wedi ei achosi ym Mangor Conwy Môn ac ar draws y gogledd. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog iechyd sydd yn gosod allan safbwynt clir gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd canolfannau gofal sylfaenol brys fel modd o ddarparu gwasanaeth iechyd allweddol o fewn ein cymunedau.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Byddwch chi hefyd wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Ond, yn sicr, mi ydym ni fel Llywodraeth yn cydnabod cryfder y teimlad am fynediad at ofal iechyd ledled gogledd Cymru, ac yn arbennig felly ar Ynys Môn. Dwi'n deall pam mae dyfodol gwasanaethau gofal brys lleol mor bwysig i gleifion a chymunedau. Yn sicr, mi fyddwn ni yn gofyn i bawb ymgysylltu gyda'r bwrdd iechyd ar y mater hwn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n agored ac yn dryloyw efo cleifion, staff, cymunedau a rhanddeiliaid ehangach yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y ganolfan gofal sylfaenol brys yn parhau i weithredu fel arfer hyd nes bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol. Mae'r ffaith eich bod chi wedi codi hwn yn dangos cryfder y teimlad yn lleol ar y mater hwn, heb os.
Diolch i'r Aelod am godi'r ddau fater pwysig yna. Ar yr ail bwynt, bydd nifer o Aelodau, wrth gwrs, yn cofio yr hyn a ddigwyddodd yn 2023 pan godwyd hwn, ac yn drawsbleidiol yr ymateb cryf a fuodd, o'r Llywodraeth bryd hynny ond hefyd gan yr holl bleidiau yma. Yn sicr, mi fydd y Gweinidog yn cysylltu gyda British Gas o ran hyn. Rydym ni'n cydnabod bod hyn yn creu pryder mawr ac y bydd o hefyd yn creu mwy o bwysau ar aelwydydd sydd yn barod o dan bwysau aruthrol o ran hyn.
O ran y mater cyntaf, fel roeddech chi'n sôn yn eich cwestiwn i mi, wnaeth y Llywodraeth flaenorol ddim derbyn yr argymhelliad i ymgorffori therapydd iaith a lleferydd pwrpasol ym mhob tîm troseddau ieuenctid. Mi ydym ni fel Llywodraeth yn edrych o'r newydd ar sut y gall plant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gael mynediad mwy cyson at y cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu cywir pan fydd ei angen arnyn nhw. Mi drafododd panel cynghori cyfiawnder ieuenctid Cymru y materion hyn ar 30 Hydref, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol. Gwahoddwyd y panel i wneud sylwadau ar yr heriau a nodwyd a'r cyfeiriad teithio arfaethedig, a hefyd i helpu i liwio cam nesaf y gwaith hwnnw.
Mae yna ddadl eisoes wedi bod ar y mater hwn yn ddiweddar iawn yma yn y Senedd, a ni fyddai cael amser pellach yn ddefnydd da o amser y Llywodraeth ar hyn o bryd.
Diolch i'r Aelod am godi'r mater yma. Mi wnaf i sicrhau bod y Gweinidog cyfrifol yn ymwybodol o'r hyn rydych chi wedi ei godi. Mi fyddwch chi wedi clywed ymatebion gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog yn rhoi sicrwydd o ran gwerth am arian a'r cwestiynau rydyn ni'n eu gofyn rŵan fel Llywodraeth. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi clywed y sicrwydd hwnnw. Dwi'n ailddatgan y sicrwydd hwnnw, ac fel gwnes i ddweud, mi fyddaf i'n gwneud y Gweinidog yn ymwybodol.
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater yna. Mae'r Gweinidog Cabinet yma ac wedi clywed yr hyn rydych chi wedi ei godi. Fel y gwnaethoch chi sôn, fe wnaeth o gyfarfod yn ddiweddar gyda'r grwpiau hynny, ac mi fydd yna gynlluniau rŵan yn cael eu datblygu.
Wel, dwi'n hapus i ddarparu copi o agenda heddiw i'r Aelod os nad ydych chi'n ymwybodol bod yna ddatganiad am fod ar COVID y prynhawn yma. Ond mi wnaf i wneud y pwynt yma: mae rhai ohonon ni yn y Siambr yma wedi gweithio efo teuluoedd, y COVID bereaved families, am flynyddoedd, wedi dod i'w nabod nhw'n dda, dod i nabod straeon torcalonnus eu teuluoedd nhw. Ac mae yna rai pobl yma rŵan yn chwarae gemau gwleidyddol yn hytrach na thrio ffeindio'r datrysiadau i'r atebion gwirioneddol hynny, a hefyd edrych i'r dyfodol. Mi gewch chi ddefnyddio fy ngeiriau i yn y gorffennol heddiw—wrth gwrs y cewch chi—ac mi gaiff y teuluoedd, y COVID bereaved families. Ond mae fy nghydwybod i'n glir o ran yr ymrwymiad hwnnw gan y Llywodraeth yma i ddysgu'r gwersi ac i sicrhau cyfiawnder i'r teuluoedd hynny. Felly, yn ddiamwys, mi fedraf i roi yr amod honno. Ond, os ydych chi am ddefnyddio fy ngeiriau i, mae gen i'r cyfle hefyd i ddefnyddio fy ngeiriau i yn ôl, a dwi wedi gweithio efo'r teuluoedd hynny am flynyddoedd, fel nifer yn y Siambr hon, ac mae o'n golygu gymaint i ni, fel ag y mae o i nifer o bobl ledled Cymru, i gael y datrysiadau a'r atebion hynny.
Yn olaf, Drefnydd, James Evans.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch. Mae'r Prif Weinidog wedi clywed eich cais chi fan yna. Ond, hefyd, mi oedd yna fwy nag un, yn ôl yr hyn rydych chi wedi ei ddweud—. Mi oedd yna undebau amaeth yno, mi oedd yna ffermwyr wedi eu heffeithio, mwy na 40 o gynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid eraill yno at ei gilydd. Yn amlwg, mi ydych chi, ar ran etholwyr, wastad yn gallu ysgrifennu at y Prif Weinidog neu unrhyw Weinidog o ran unrhyw beth rydych chi eisiau ei godi o ran etholwyr.
Diolch yn fawr iawn i chi, Drefnydd.
Symudwn ymlaen i eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad ar adolygiad COVID-19 o ran Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Today, I update Members on our manifesto and programme for government commitment to ensure that Wales learns the lessons of COVID-19, strengthens its resilience, and is better prepared for any future pandemic. The COVID pandemic impacted everyone living in Wales. Thousands died, tens of thousands suffered severe ill health, many of whom continue to suffer today, and not one element of our society was untouched by the pandemic. It placed extraordinary demands on our health and care services, disrupted education and daily life, and brought loss and hardship to many people. Like many families across Wales, my own has been affected by long COVID. It is a personal reminder that, for many of us, the impact of the pandemic is far from over. When looking back, we owe it to everyone affected, and especially to those who lost loved ones, to examine what happened honestly and to ensure that the lessons have been learnt.
We know that the risks of pandemics are likely to arise with greater frequency over the coming decades, not least due to the impact of climate change. We must act with decisiveness in adapting to these potential threats, because when the next pandemic happens—and it will—we must ensure that our public services have properly planned and prepared.
Heddiw, felly, dwi'n cyhoeddi y bydd panel annibynnol, sef panel adolygu a phanel sicrwydd COVID-19 Cymru, yn cael ei sefydlu. Ei brif ddiben fydd asesu a yw gallu Cymru i ymateb i bandemig neu argyfwng cenedlaethol yn y dyfodol yn gryfach. Bydd yn asesu a yw gwersi wedi arwain at welliannau ymarferol, a yw'r gwelliannau hynny wedi gwreiddio ac yn cyflawni'r effaith a fwriadwyd, ac a oes angen gwneud mwy. Ar ôl darllen adroddiad modiwl 6 diweddaraf o ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol, mae'n glir i fi bod llawer iawn o waith i'w wneud i sicrhau bod y gwersi i Gymru yn cael eu dysgu'n iawn ac yn drylwyr.
Bydd y panel yn cael ei arwain gan arbenigwyr ac yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau sydd o fewn cyfrifoldeb datganoledig i raddau helaeth. Roedden nhw'n rhan ganolog o ymateb Cymru i'r pandemig ac wedi'u codi'n gyson fel materion o bryder mawr i deuluoedd mewn profedigaeth ac eraill a gafodd eu heffeithio'n sylweddol. Rhaid—rhaid—i ni allu dangos, yn hytrach na datgan, fod y gwersi wedi'u deall, fod camau wedi'u cymryd yn sgil y gwersi hynny, a'u bod wedi'u cynnal ar draws y system. Ac mae'n rhaid i ni allu gwneud hyn mewn modd amserol a focused.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi, felly, fod yr Athro Daniel Wincott, athro yn y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cytuno i fod yn gadeirydd annibynnol ar y panel. Mae'n dod ag arbenigedd helaeth ym meysydd cyfraith gyhoeddus, datganoli Cymru, llywodraethant cyfansoddiadol, gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithrediad llywodraeth. Ar y panel hefyd bydd yna arbenigwyr o feysydd systemau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd, gan sicrhau bod gan y panel ystod eang o wybodaeth i asesu tystiolaeth, i gwestiynu rhagdybiaethau ac i herio Llywodraeth Cymru. Byddaf i'n cadarnhau'r aelodaeth yn fuan, a dwi'n disgwyl i'r panel gyfarfod am y tro cyntaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Bydd yr adolygiad yma'n ategu ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu. Bydd yn adeiladu ar y dystiolaeth sylweddol sydd eisoes wedi'i gasglu, gan gynnwys canfyddiadau'r ymchwiliad, adolygiadau sydd wedi'u cyhoeddi a gwaith perthnasol arall. Pan does dim digon o dystiolaeth neu bydd yna fylchau'n parhau, bydd modd i'r panel archwilio materion mewn mwy o fanylder a nodi beth arall sydd angen ei wneud. Mae ymchwiliad COVID-19 Prydain wedi gwneud cynnydd pellach sylweddol yn y misoedd diweddar, gyda llawer o dystiolaeth eisoes wedi'i ystyried, ac mae hyn yn tanlinellu'r angen i adolygiad Cymru ategu gwaith ymchwiliad statudol y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu.
Bydd profiadau bywyd yn rhan bwysig o waith yr adolygiad yng Nghymru. Ar eu pen eu hunain, all tystiolaeth wedi'i chyhoeddi a thystiolaeth ddogfennol ddim dangos sut mae newidiadau'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Felly, byddaf i'n gofyn i'r panel ystyried y ffordd orau o sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn llywio ei waith ac yn ei helpu i farnu a yw gwelliannau yn gwneud gwahaniaeth ymarferol.
Bydd y panel yn adrodd yn gyhoeddus. Trwy ganolbwyntio ar dystiolaeth a chanlyniadau, bydd y gwaith yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud a'r gwendidau sy'n parhau ac yn rhoi sicrwydd ynghylch pa mor barod a gwydn yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Pan fydd y panel yn dod o hyd i arferion da, byddwn am eu rhannu. Pan fydd yn dod o hyd i wendidau, ansicrwydd neu weithredu anghyflawn, byddwn yn ystyried ei gasgliadau'n ofalus ac yn ymateb yn dryloyw, ac yn gweithredu i sicrhau eu bod nhw'n cael sylw.
Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: gweithio mewn partneriaeth gyda'r trydydd sector. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae ein rhaglen lywodraethu, yn gwbl briodol, yn gosod grymuso cymunedau, gweithio mewn partneriaeth a bod yn atalgar wrth wraidd ein gwaith. Yn y cyd-destun hyn, rwyf heddiw am amlinellu'n glir y berthynas yr ŷn ni fel Llywodraeth yn dymuno ei meithrin â'r trydydd sector, sut y byddwn yn cefnogi'r sector ac yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni ein dyletswyddau i hyrwyddo'r sector cymunedol a gwirfoddol ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yng nghynllun y trydydd sector presennol, oherwydd mae taith ddatganoli Cymru wastad wedi cael ei llywio gan y berthynas â'r sector cymunedol a gwirfoddol. Mae gan Gymru seiliau cadarn ar gyfer partneriaeth well rhwng y Llywodraeth a'r sector, ac rŷn ni wedi gweld rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn troi at Gymru wrth iddynt ddatblygu eu trefniadau eu hunain.
Cyflwynwyd y cynllun trydydd sector presennol yn 2014. Ers hynny, rŷn ni wedi gweld newidiadau a digwyddiadau sylweddol yn effeithio ar Gymru a'i chymunedau—o COVID-19 a phwysau'r argyfwng costau byw i newidiadau deddfwriaethol pwysig fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn sgil ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru, a'n hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, mae'n bryd bellach inni lunio perthynas newydd â'r sector, perthynas sy'n adeiladu ar wersi diweddar ac sy'n adlewyrchu'r uchelgeisiau yr ydym yn eu rhannu ar gyfer Cymru. Rwyf am weld cynllun sy'n parhau i fod yn addas i'w ddiben ac sy'n gweithio i'r Llywodraeth ac i'r sector gwirfoddol. Er bod cynllun yn bwysig, er mwyn iddo gael effaith go iawn, mae angen y seilwaith a'r mecanweithiau cywir i'w alluogi i fod yn fyw ac i wireddu ar ei uchelgais.
Rŷn ni'n ffodus bod gennym eisoes gyngor partneriaeth y trydydd sector a Chefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae'r elfennau pwysig hyn o isadeiledd yn galluogi perthynas weithio positif â'r sector cymunedol a gwirfoddol a chynrychiolaeth effeithiol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector, sy'n offeryn allweddol i lywio ffordd Llywodraeth Cymru o ariannu'r sector.
Bydd pob un ohonom, dwi'n siŵr, wedi ymweld â grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, gan gydnabod a gwerthfawrogi'r cyfraniad y maent yn ei wneud. Ond yn yr un modd â'r gwasanaethau cyhoeddus, rŷn ni hefyd yn gweld y pwysau sy'n wynebu'r sefydliadau gwirfoddol hynny, sydd yn aml ymhlith y mannau cyntaf y mae pobl yn troi atyn nhw, nid yn unig mewn argyfwng, ond hefyd pan fyddant am weld newid yn eu cymunedau.
Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Cabinet ei ymrwymiad i god ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector a'i bum egwyddor. Mae'r egwyddorion hyn yn cynnwys, er enghraifft, y ffaith bod deialog gynnar a pharhaus yn sicrhau ein bod yn datblygu perthnasoedd cryf â'r trydydd sector. Mae'r perthnasoedd hyn, yn eu tro, yn cefnogi datblygu polisi, darparu gwasanaethau a dull tîm Cymru o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.
Mae’r cod yn hyrwyddo’r defnydd o gytundebau ariannu tymor hir lle bo hynny’n briodol. Mae manteision ariannu tymor hir yn cynnwys galluogi sefydliadau a ariennir i gynllunio gwasanaethau’n well, heb y cylch stop-start a welir yn aml gyda chytundebau sy’n flwyddyn o hyd. Mae hefyd yn galluogi contractau cyflogaeth hirach, sy’n arwain at well recriwtio a chadw staff, ac yn lleihau biwrocratiaeth i’r adran ariannu ac i’r sefydliad sy’n cael ei ariannu.
Mae cytundebau ariannu blynyddol yn golygu bod y sefydliad sy’n cael ei ariannu yn ysgwyddo’r holl risgiau a’r beichiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau. Gall yr ansicrwydd ynghylch a fydd ffrwd cyllid yn parhau neu a gaiff ei brosesu mewn modd amserol olygu bod sefydliadau’n rhoi hysbysiadau diswyddo i weithwyr neu’n colli staff oherwydd contractau tymor byr neu ansicrwydd parhaus. Mae trosiant uchel ymhlith staff yn golygu costau ychwanegol sy’n gallu effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaethau. Dyna pam, fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i weithredu’r cod.
Mae gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol wrth galon pob cymuned. Nhw yw’r peth sy’n dal ein cymunedau ynghyd. Mae hynny’n rhywbeth dylem ni fyth anghofio. Mae gwirfoddolwyr Blood Bikes Cymru, timau achub mynydd, criwiau badau achub a’r ymatebwyr cyntaf cymunedol i gyd yn wirfoddolwyr. Nid yw’r cyhoedd efallai bob amser yn ymwybodol o hynny. Mae gwirfoddoli’n arbennig oherwydd ei fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud os yw’r cyfleoedd cywir ar gael. Ni ddylai cefndir nac amgylchiadau magwraeth unigolyn fod yn rhwystr.
Mae ein cymunedau a’n cymdeithas yn gyfoethocach o lawer oherwydd gwirfoddolwyr, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem ymfalchïo ynddo a’i ddathlu. Mae’r weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru, a gyd-ddatblygwyd, ynghyd â’i chynllun gweithredu, yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd gwirfoddoli diogel, cefnogol a chynaliadwy. Maent yn darparu naratif cydlynol a fydd yn galluogi sefydliadau ar draws pob sector a rhan o’r Llywodraeth i ryddhau potensial gwirfoddolwyr presennol a rhai’r dyfodol mewn ffyrdd a fydd o fudd i’r gwirfoddolwyr eu hunain ac i’r bobl y maent yn eu cefnogi. Bydd y Llywodraeth hon yn darparu arweinyddiaeth strategol, ynghyd â phartneriaid allweddol eraill, ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru. Byddwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau, ehangu cyfranogiad, cefnogi sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, a sicrhau bod gwirfoddoli’n cael ei gydnabod fel cyfrannwr allweddol at lesiant a bywyd ein cymunedau.
Y sector cymunedol a gwirfoddol yw cydwybod gymdeithasol a foesol ein cenedl. Maent yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei eithrio. Fodd bynnag, heb sefydliadau cryf a chanolfannau cymunedol, ni all gwirfoddoli ddigwydd. Er bod gwirfoddoli ei hun yn rhad ac am ddim, mae cost ynghlwm wrth sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn cael ei reoli’n dda. Drwy weithio mewn partneriaeth, gall y Llywodraeth a’r sector ddarparu atebion creadigol sy’n gwella ein cynnig ac yn lleihau dyblygu, oherwydd gall y trydydd sector fod yn ystwyth ac yn hyblyg wrth ymateb i anghenion cymunedau—er enghraifft, y cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd.
Ni ellir cyflawni ein rhaglen lywodraethu heb y sector cymunedol a gwirfoddol annibynnol a’r gwirfoddolwyr sy’n ei gefnogi. Fel Cabinet, rŷn ni'n cydnabod hyn, a dyna pam yr ŷn ni wedi cadarnhau ein hymrwymiad i gynllun y trydydd sector ac wedi cytuno ar egwyddorion y cod ymarfer ar ariannu’r trydydd sector, yn ogystal â’r weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru.
Wythnos nesaf yw Wythnos yr Ymddiriedolwyr. Ni all ein helusennau weithredu heb eich cyfraniad chi. Felly, i bawb sy’n gwirfoddoli neu sy’n helpu mewn unrhyw ffordd, hoffwn ddweud 'diolch' ar ran ein Llywodraeth. Mae ein cymunedau’n fwy diogel ac yn iachach oherwydd eich cyfraniad. Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiynau. Fe wnaf i ganolbwyntio ar y cyllido. Fel gwnes i osod mas yn gryf iawn, dwi'n meddwl, yn y datganiad, fe wnes i bwysleisio bod y Cabinet yma wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n ymrwymo i'r cod ymarfer, sydd, wrth gwrs, yn ffurfio rhan o'r cynllun trydydd sector statudol. Mae hynny wedi cael ei gydgynhyrchu gyda'r trydydd sector, rhwng y cyngor partneriaeth trydydd sector, ac mae hynny yn gwneud yn siŵr ei fod e'n rhywbeth sy'n hygyrch, ei fod e'n rhywbeth sy'n parhau i fod yn berthnasol, a hefyd ei fod e wedi'i ddiweddaru'n gyson.
Mae pum egwyddor y cod nid jest yn unig wedi ffocysu ar gyllido; maen nhw hefyd wedi eu bwriadu i greu amgylchfyd holistaidd ar gyfer cael perthynas a dealltwriaeth bositif rhwng y sector a phwy bynnag sy'n darparu'r cyllid. Felly, rŷn ni'n glir iawn bod cyllido amlflwyddyn yn rhywbeth sydd yn cefnogi gwasanaethau gwell o ran yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan y trydydd sector. Mae e hefyd, fel soniais i yn y datganiad, yn sicrhau bod y sefydliadau a'r grwpiau gwirfoddol yna yn gallu cynllunio'n well, ac, yn sicr o ran y rhai sydd â staff, eu bod nhw'n medru rhoi sicrwydd i staff. Ac felly, fel gwnes i osod mas yn glir iawn yn y datganiad o ran yr amgylchfyd cyllido yna, oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i ddarparu cyllid amlflwyddyn lle bo hynny yn briodol ac yn bosib, fe fyddwn ni'n parhau i hyrwyddo cyllido tymor hwy a hefyd annog pob un yn y sector cyhoeddus sydd hefyd yn gyllidwyr, yn arianwyr, i ddilyn y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector.
Fe wnaethoch chi sôn am, a wnes i sôn a chyfeirio, wrth gwrs, at y ffaith bod y cynllun trydydd sector heb ei ddiweddaru ers 2014. A dyna pam rŷn ni nawr yn adolygu'r cynllun hwnnw, achos, fel soniais i, mae cymaint o bethau wedi newid yn ein cymdeithas ni—yr holl bethau rŷn ni wedi bod trwyddo ers 2014, y ffordd mae pobl yn ymwneud â'i gilydd, y dechnoleg sydd nawr ar gael—ac rwy'n siŵr bod nifer o bobl yn y Siambr yma yn clywed gan grwpiau bod yna her o ran cael pobl i wirfoddoli mewn ffordd efallai oedd yn haws mewn dyddiau a fu. Mae pobl nawr yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol nag oedden nhw. Mae eu penwythnosau nhw yn edrych yn wahanol. Ac wrth gwrs mae'r pethau sydd wedi digwydd, y digwyddiadau mawr hefyd, fel soniais i, fel COVID, wedi cael effaith ar hynny. Felly, mae angen—mae'n hen bryd i'r cynllun gael ei adolygu.
Felly, mae yna grŵp wedi cael ei sefydlu, y grŵp partneriaeth cyngor trydydd sector, i ystyried sut gall y berthynas cael ei chryfhau a'i gwneud yn fwy effeithiol. Felly, pan fydd yna fwy o fanylion gen i ynglŷn â sut mae'r gwaith yna'n datblygu, rwy'n ymrwymo i ddod â hynny nôl i'r Senedd.
Yn olaf wedyn, fe wnaethoch chi sôn am grwpiau llai, sefydliadau llai, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu harwain gan wirfoddolwyr, a dwi wir yn cydnabod bod yr heriau yna yn gallu bod yn wahanol i grwpiau llai, yn enwedig y grwpiau yna sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Felly, dwi yn cydnabod, ac wedi codi hyn fy hunan o feinciau'r wrthblaid, fod yn rhaid i'r gofynion o ran adrodd a gwerthuso a monitro adlewyrchu maint y cyllid sy'n cael ei ddarparu, cydnabod natur y sefydliad sy'n cael ei gyllido, achos dwi'n meddwl bod yr elfen yna o proportionality yn y berthynas yna o ran cyllido teg yn bwysig iawn.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y gefnogaeth i'r datganiad heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwbl gytûn, onid ydym ni, ynglŷn â phwysigrwydd gwirfoddoli i'n cymdeithas ni, ac fel gwnaeth hi sôn mor eglur, yr holl fathau o wahaniaeth mae'r trydydd sector yn gallu ei wneud.
Diolch yn fawr, Peter Fox, am y croeso yna rydych chi wedi'i roi i'r ffaith ein bod ni'n datgan, gyda'r datganiad heddiw, y gwerth a'r gydnabyddiaeth rydyn ni'n eu rhoi ar ein sector gwirfoddol a'r trydydd sector.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae nifer o'n sefydliadau ni wedi cael statws elusennol er mwyn gallu manteisio ar fathau gwahanol o gyllid wrth i bethau fynd yn dynnach ac yn dynnach o ran y pwrs cyhoeddus. Yr hyn y gallaf i sicrhau yr Aelod yw y byddwn ni'n parhau i sicrhau bod yna allbynnau da, a bod yna dryloywder, a bod yna atebolrwydd o ran yr arian rŷn ni'n ei ddarparu trwy ein hymwneud a'n hymgysylltiad â chyngor partneriaeth y trydydd sector, sut rŷn ni'n delifro'r cod ariannu, ac, wrth gwrs, drwy'r cynlluniau a fydd yn dod o dan hynny. Mae adolygiad o'r cynllun trydydd sector, dwi'n meddwl, yn rhoi cyfle i ni gryfhau tryloywder ac i gryfhau atebolrwydd.
Yn olaf, Ddirprwy Brif Weinidog, Jane Dodds.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch. Rŷn ni'n barod wedi ymrwymo i hynny fel Cabinet, fel rwyf wedi dweud, o ran ein hymrwymiad i ddarparu cyllid amlflwyddyn ar draws yr holl raglenni trydydd sector rŷn ni'n eu darparu. Rŷn ni wedi ymrwymo, lle bo hynny'n briodol ac yn bosib, y byddwn ni'n gwneud hynny. Felly, mae'r Cabinet wedi cytuno i hynny, a dyna pam rwy'n gwneud y datganiad hwn gerbron y Senedd heddiw. Wrth gwrs, byddwn ni yn parhau i annog ac i hyrwyddo setliadau amlflwyddyn rhwng unrhyw un sy'n ariannu ac yn derbyn arian gan arianwyr, gan gynnwys, fel rôn i'n sôn, arianwyr eraill—pobl eraill sy'n darparu cyllid ar gyfer y trydydd sector o fewn y sector cyhoeddus—i ddilyn y cod ymarfer yna ac i sicrhau eu bod nhw'n ymrwymo i hynny ac yn gweithredu hynny yn fwy na jest geiriau. Mae'r cod, fel rôn i'n ei ddweud, yn rhoi disgwyliadau clir ar y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, ac rŷn ni wedi ymrwymo i hynny yn llawn. Fe fyddwn ni yn parhau, wrth gwrs, i weithio gyda'r trydydd sector i sicrhau bod gweithredu hynny yn cael ei gryfhau ac i sicrhau bod hynny'n cael ei fabwysiadu'n ehangach.
Symudwn yn awr at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Pan ddes i'n Weinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, fe wnes i ymrwymo i ddatblygu strategaeth hirdymor i fynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu’r gwasanaeth iechyd. Heddiw, dwi'n falch o gael rhoi diweddariad i'r Aelodau ar y gwaith. Mae hwn yn waith sy'n cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'n gweledigaeth hirdymor ehangach ar gyfer iechyd a gofal, gan ddod â'r gwaith o drawsnewid y gweithlu a gwasanaethau at ei gilydd i wireddu gweledigaeth gydlynol ar gyfer dyfodol NHS Cymru.
Mae'r materion sy'n wynebu gweithlu'r NHS yn gymhleth ac weithiau'n wrthgyferbyniol. Mae gan y gwasanaeth fwy o staff nag erioed, ond mae'r ffaith fod y galw’n cynyddu ac yn mynd yn fwyfwy cymhleth, ynghyd â phwysau o ran cyflenwi staff i'r gweithlu a chyfyngiadau ariannol, yn golygu bod timau ymroddedig yn dal i fod o dan bwysau sylweddol. Nid cynyddu niferoedd y gweithlu a'r rhai sy'n cael eu hyfforddi yw'r ateb syml fydd yn datrys yr heriau hyn. Mae'n rhaid inni wella a sefydlogi gwasanaethau rŵan, moderneiddio'r ffordd mae ein gweithlu yn cael ei gynllunio a'i ddefnyddio a chreu'r amodau ar gyfer trawsnewid dros dymor hirach. Bydd strategaeth y gweithlu yn cefnogi pob rhan o'r daith honno.
Dros yr haf, mi wnaethon ni gynnydd sylweddol drwy ddod â'r ystyriaethau o ran y gweithlu, gwasanaethau, ansawdd, materion gweithredol a materion ariannol at ei gilydd. Dywedodd staff rheng flaen wrthyn ni beth sydd ei angen i'w grymuso nhw i wella gwasanaethau: gwelliannau o ran dylunio gwasanaethau, gwaith tîm, cymorth a defnydd staff, yn ogystal â sicrhau cydweddiad agosach rhwng cynllunio'r gweithlu, addysg, hyfforddiant ac anghenion y dyfodol. Mae'r gwaith hwn wedi crisialu cyfeiriad clir ar gyfer strategaeth y gweithlu, a hynny ar sail tair blaenoriaeth gysylltiedig: datblygu gwasanaethau cynaliadwy sy'n defnyddio pobl, sgiliau, amser ac adnoddau cyhoeddus yn effeithiol; yn ail, creu gweithleoedd iach a chynhwysol lle mae pobl yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu harwain yn dda, lle maen nhw’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac yn gallu gwella'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu; ac yn drydydd, adeiladu'r sgiliau a'r timau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â newidiadau yn anghenion y boblogaeth, y pwyslais ar atal a modelau gofal newydd. Mae hyn yn cynnwys cryfhau sgiliau Cymraeg ar draws ein gweithlu fel bod pobl yn cael y gofal maen nhw ei angen yn yr iaith sy'n diwallu eu hanghenion orau.
Mae hyn yn dangos y dull ymarferol a chydweithredol fydd yn sail i'r strategaeth. Rŷn ni eisoes yn dysgu o wasanaethau rheng flaen, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd a chymryd camau gweithredu pan fydd heriau uniongyrchol yn gofyn am ymateb cenedlaethol. Bydd y strategaeth yn cysylltu'r gwaith hwn, gyda mwy o bwyslais ar brofiad a lles staff, sefydlogrwydd y gweithlu, tystiolaeth, dylunio gwasanaethau cynaliadwy, a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cydnabod bod gofal yn y dyfodol yn dibynnu ar gyfuniad o gyfraniad yr NHS, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a phartneriaid annibynnol, gwirfoddol a chymunedol, a bod rhaid i'r gwaith o gynllunio'r gweithlu adlewyrchu gwasanaethau sy'n gweithredu ar draws ffiniau sefydliadol.
Rŷn ni'n parhau i ganolbwyntio'n gadarn ar ganlyniadau, gofal mwy diogel a chyson, profiad gwell i gleifion, gweithleoedd iachach, timau mwy sefydlog, addysg sy'n cyd-fynd ag anghenion gweithlu'r dyfodol, a sylfaen dystiolaeth gryfach i lywio buddsoddiad a pholisi. Dwi'n bwriadu darparu strategaeth derfynol i'r Aelodau yn y flwyddyn newydd. Bydd yn cydfynd yn gadarn â'n huchelgeisiau ehangach ar gyfer iechyd a gofal ac yn darparu llwybr ymarferol hirdymor tuag at weithlu cynaliadwy, hyblyg a chynhwysol yn NHS Cymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau hynny. Unwaith eto, rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod yr Aelod yn dechrau'n gadarnhaol iawn tuag at yr hyn a ddywedwyd, ac yn gefnogol o'r angen am strategaeth gweithlu gwell ar gyfer Cymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau a'r gyfres yna o gwestiynau. Ddaru o gychwyn yn sôn am y diolch sydd gennym ni i weithlu'r NHS, a dwi eisiau ategu'r sylwadau hynny, achos, wrth gwrs, mae'n berffaith wir i ddweud bod y gweithlu yn y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal yn aml iawn yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw. Felly, dwi eisiau cael hynny ar gofnod hefyd.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Ac unwaith eto, dwi'n croesawu'r ffaith ei bod hi, fel yr Aelodau eraill, wedi dweud geiriau cynnes a charedig am y cynllun sydd yn yr arfaeth gennym ni yn y dyddiau cynnar yma, ac yn croesawu'r hyn dwi wedi'i ddweud. Felly, dwi'n ddiolchgar am hynny.
Symudwn nawr at gyfraniadau un funud. Ac yn gyntaf, Gwyn Williams.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau hynny, ac mae'n berffaith iawn i ddweud bod yna lawer gormod o adroddiadau wedi bod yn hanesyddol gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn feirniadol o'r gwasanaethau babanod sydd gennym ni.
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'n berffaith iawn i ddweud ein bod ni wedi gweld yn hanesyddol gormod o wario ar staffio asiantaethau.
Gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiwn yna? Mae'n gwneud pwynt mor, mor bwysig lle mae anghenion plant a phobl ifanc yn wahanol i anghenion oedolion am nifer amryfal o resymau gwahanol. Ac felly mae angen datblygu gwasanaethau ac, yn wir, o amgylch y gwasanaethau hynny, strategaeth sydd yn ateb anghenion y cohort penodol yna o bobl.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet.
Symudwn yn awr at ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: datganiad polisi caffael Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.
Lywydd, heddiw mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatganiad polisi caffael drafft Cymru yn agor yn y dyddiau nesaf. Bydd yn gyfle i drafod sut rydym yn defnyddio'r £11 biliwn a mwy o wariant cyhoeddus bob blwyddyn ar gyfer adeiladu economi gryfach i Gymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys uchelgais i gynyddu gwariant caffael cyhoeddus ar gyflenwyr yng Nghymru tuag at 70 y cant. Bydd hyn yn golygu cadw mwy o werth yng Nghymru fel bod busnesau, gweithwyr a chymunedau'n elwa ar fuddsoddiad y sector gyhoeddus. Bydd y datganiad yn helpu i greu'r amodau i fusnesau Cymru allu cystadlu'n llwyddiannus, ond mewn cystadleuaeth deg, agored a chyfreithlon.
Dwi'n benderfynol bod pob £1 sy'n cael ei gwario yn gweithio'n galed dros Gymru, i gryfhau busnesau a chadwyni cyflenwi, i gefnogi swyddi a sgiliau da ac i sicrhau canlyniadau tecach, gwyrddach a mwy gwydn. Caffael yw un o'r sbardunau gorau sydd gennym ni i wireddu ein blaenoriaethau. Felly, mae'r datganiad polisi caffael drafft yn gosod un flaenoriaeth strategol glir, sef i gryfhau economi Cymru. Nid yw hynny’n lleihau ein huchelgeisiau o ran cynaliadwyedd, gwaith teg, gwerth cymdeithasol, lles cymunedol, yr iaith Gymraeg, datgarboneiddio na chanlyniadau diwylliannol. Mae’r rheini’n rhan annatod o'r economi yr ydym am ei hadeiladu ac maen nhw'n cael eu hadlewyrchu yn ein fframwaith deddfwriaethol ehangach.
Mae angen mwy na gwariant i warantu’r buddion hyn. Nid drwy gwblhau ymarfer caffael a rhoi contract y mae mesur ei lwyddiant. Rhaid ei fesur yn ôl yr hyn y mae'r contractau hynny yn ei gyflawni: busnesau cryfach, swyddi a sgiliau da, cadwyni cyflenwi gwydn, arloesedd a chymunedau ffyniannus. Nid yw ein huchelgais yn ein rhaglen lywodraethu yn gofyn am gwota o gyflenwyr o le penodol neu ffafriaeth i gyflenwyr o le penodol. Rhaid i’r gystadleuaeth am gontractau fod yn deg, agored, tryloyw a chydymffurfio â'r gyfraith. Ond rhaid rhoi'r modd i gwmnïau galluog o Gymru, gan gynnwys busnesau bach a chanolig a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, gystadlu ar sail eu teilyngdod.
Bydd y datganiad yn troi'r uchelgais honno yn weithredu ymarferol. Bydd yn rhestru'r sbardunau ymarferol y gallwn eu defnyddio i greu cyfleoedd i fusnesau Cymru a chwalu'r rhwystrau diangen. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu rhaglen gaffael gliriach fel bod gan fusnesau amser i baratoi, buddsoddi neu ffurfio consortia; ymgysylltu'n gynt â'r farchnad fel bod cyrff cyhoeddus yn deall yr hyn y gall cyflenwyr ei gynnig cyn pennu'u gofynion; a chontractau wedi'u cynllunio'n briodol, sy'n gofyn am lefel gymesur o dystiolaeth a lotiau lle bo hynny'n addas, er mwyn i gyflenwyr llai allu cystadlu. Mae hefyd yn golygu talu'n brydlon, manylebau sy’n seiliedig ar ganlyniadau a rheolaeth gryfach ar gontractau fel bod ymrwymiadau i swyddi, sgiliau, gwaith teg a buddion amgylcheddol yn cael eu cyflawni—nid dim ond eu haddo.
Rhaid wrth fwy o arweiniad, gallu a chydweithrediad ar draws sector gyhoeddus Cymru i gefnogi'r gwaith yma. Dwi am gydnabod gwaith pwysig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i rhwydwaith caffael cenedlaethol. Bydd ein bwrdd arweinwyr caffael newydd i Gymru ar lefel swyddogion yn cydlynu ac yn herio, a bydd ein rhwydwaith newydd, Cydweithio, yn cysylltu gweithwyr proffesiynol ledled Cymru â'i gilydd i rannu arbenigedd a throi polisi'n ymarfer da. Enghraifft wych o ble mae hyn eisoes yn digwydd yw Clwb Busnes Caerffili, sy'n dod â busnesau ynghyd i gydweithio ac adeiladu rhwydweithiau cryfach. Mae'n adlewyrchu'r hyn rydyn ni am ei weld yng Nghymru: busnesau'n gwneud y gorau o’u cyfleoedd, ac yn defnyddio arian cyhoeddus i ffynnu a rhannu'n lleol.
Ymgynghoriad arall, Weinidog. Beth yw hwn—y degfed, y pymthegfed? Dwi wedi colli cownt. Dwi ddim yn siŵr. Ta waeth, fe fyddwn i'n cytuno taw caffael cyhoeddus yw un o'r offer mwyaf pwerus sydd ar gael i'r Llywodraeth. Bob blwyddyn, fel sydd wedi cael ei grybwyll, mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario dros £11 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau. A dŷn ni'n cytuno na ddylai'r gwariant hwnnw sicrhau gwerth am arian yn unig. Fe ddylai hefyd gefnogi ein huchelgeisiau ehangach ni—rhai economaidd, rhai cymdeithasol a rhai amgylcheddol.
Lywydd, mae cefnogi busnesau Cymreig a chadwyni cyflenwi lleol yn hollbwysig. Mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cynyddu nifer y busnesau Cymreig sy'n tendro am gontractau cyhoeddus ac yn eu hennill. Felly, rŷn ni'n cefnogi'n gryf y nod o adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn. Ond yr hyn dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymwybodol ohono yw na allwn ni fentro creu dewis rhwng cefnogi cwmnïau Cymreig a chefnogi gwaith teg. Dylem ni fod yn gwneud y ddau.
I ddechrau gyda'r pwynt cyntaf ynglŷn ag ymgynghori, mae'n siŵr os na fyddai'r Llywodraeth yn ymgynghori ar bolisi newydd ar gaffael, byddai yna feirniadeth am beidio ag ymgynghori. Fel mae'n digwydd, mae'r ymgynghoriad yma'n statudol, mae'n ofynnol i ni fod yn ymgynghori oherwydd bydd y datganiad caffael yn y pen draw yn ddatganiad statudol, a bydd yn ofynnol i contracting authorities yng Nghymru dalu sylw i'r datganiad polisi yna. Mae yna broses statudol sy'n arwain at y datganiad statudol yna ac mae ymgynghoriad yn rhan o hwnna. Felly nid ymgynghori dim ond er mwyn ymgynghori, ond ymgynghori er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, ond hefyd er mwyn cynnal y deialog meaningful yna gyda'r rhai sydd yn y maes contractio a'r rhai sydd yn fusnesau a chwmnïau cydweithredol sydd eisiau bod yn rhan o'r rhwydwaith contractio cyhoeddus yng Nghymru, ym mha bynnag sector.
I ateb y pwynt ynglŷn â'r targed, wrth gwrs, mae'n 70 y cant, ydy, dyna'r uchelgais, ond nid dyna'r terfyn hyd yn oed chwaith, ac felly mae e tuag at 70 y cant a thu hwnt, os caf ei roi e felly. Ond efallai y pwynt mwyaf pwysig ynglŷn â'r targed yna o 70 y cant yw, i fynd yn ôl i'r sylwadau wnaeth yr Aelod Reform ynghynt, sut mae mesur y targed yna, beth yn union yw gwerth y targed yn y lle cyntaf o ran sut mae'n cael ei ddiffinio ar hyn o bryd a'r angen i ni fod yn creu y mesuriad newydd yna o beth yn union rŷn ni yn ei fesur ac yn ei gyflawni fel bod hynny yn dwyn mwy o ffrwyth ar gyfer yr economi yng Nghymru ac ar gyfer y materion ehangach rŷn ni eisiau ceisio eu cyflawni yn sgil y newid polisi yma. A dim ond i roi hyder i'r Aelod fod yr union bwyntiau mae e wedi codi—ynglŷn â sicrhau cyflogaeth deg, gwaith teg, cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn rheoli caffael yng nghyd-destun partneriaeth gymdeithasol—i gyd yn mynd i fod yn fecanwaith sydd yn parhau gyda'r gyfundrefn newydd yma.
Os caf i orffen drwy gyfeirio at y pwyntiau wnaeth yr Aelod ynglŷn â Chyngor Caerdydd. Pan mae cyngor, contracting authority, yn mynd ati mewn difri i ddefnyddio yr arian a'r polisi caffael i gyrraedd at nod sydd yn cyflawni, o ddifri, yr hyn mae Cyngor Caerdydd neu unrhyw gyngor eisiau gweld, ar lefel leol ac yn genedlaethol i ni yng Nghymru, pan mae yna waith rhagweithiol bwriadol yn digwydd ar lefel cyngor, nawr yr hyn rŷn ni eisiau gweld yw bod hynny yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, fel ein bod ni'n symud o beth ddywedais i yn y datganiad—fod polisi caffael ond yn cael ei weld fel rhyw fath o transaction, ei fod e jest yn gytundeb—fel ei fod yn cael ei weld fel lifer economaidd a chymdeithasol yn ei hawl ei hun, a bod y corff cyhoeddus yn gallu bod yn rhagweithiol yn sut maen nhw yn gwneud y gwaith caffael hynny i olygu rhywbeth lot yn fwy na dim ond gwerth y contract ei hun, ei fod e'n cyflawni gymaint mwy ar gyfer yr economi yn ehangach.
Os gallwn ni ddysgu oddi wrth yr hyn mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn ei wneud, a chynghorau eraill—fe soniais i, wrth gwrs, am y gwaith yn ardal Caerffili—yr hyn sy'n bwysig yn hwn i gyd yw ein bod ni nawr yn defnyddio hyn er mwyn creu yr architecture caffael yna ar hyd a lled Cymru fel bod y polisi yma'n treiddio i bob contracting authority sydd gyda ni.
Cyfraniadau un funud nawr, ac yn gyntaf, Sera Evans.
Diolch am y sylw yna. Mae e wrth wraidd yr hyn rŷn ni'n mynd i geisio'i gyflawni fel Llywodraeth gyda'r datganiad caffael newydd yma, sef sicrhau ein bod ni yn rhoi'r bensaernïaeth yna mewn lle sydd yn caniatáu i bobl sydd yn gweithio o fewn y sector yma fod yn cael eu hymbweru i fod yn fwy hyderus yn y gwaith y maen nhw'n ei gyflawni.
Mae gyda ni ormod o enghreifftiau o hyd yng Nghymru lle mae rhai o'r contracting authorities sydd gyda ni yn fach iawn—efallai un person, hanner person yn gyfrifol am gaffael o fewn y cyrff hynny. Felly, mae eisiau sicrhau bod yr unigolion yna sy'n gweithio yn y maes caffael yn cael yr hyfforddiant ac yn cael eu hymbweru i fedru bod mor fwriadol—y gair a ddefnyddioch chi: deliberate—yn sut y maen nhw'n mynd ati i lunio'r gwaith, datblygu'r gwaith a chreu'r berthynas yna gyda'r sectorau economaidd sydd mas yna, er mwyn gallu creu contractau a fydd yn ddeniadol i'r busnesau yna allu cystadlu am y contractau hynny.
Felly, mae'r hyfforddiant yna sydd wrth wraidd ac ar draws y sector caffael yn ei hunan, fel sector proffesiynol, ar draws ein hawdurdodau cyhoeddus ni—. Mae sicrhau bod yna gefnogaeth i'r bobl broffesiynol yn y sector yna yn rhan greiddiol o'r rhaglen waith rŷn ni eisiau ei rhoi mewn lle nawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i ddatganiad gan y Trefnydd, y Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, dyfodol y cyfryngau yng Nghymru—Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid dim ond sector arall o'n heconomi ydy'r cyfryngau. Maen nhw'n rhan hanfodol o seilwaith democrataidd, diwylliannol a dinesig ein cenedl. Maen nhw'n rhannu gwybodaeth gyda ni, yn ein herio ni, ac yn dwyn pŵer i gyfrif. Maen nhw'n fodd i ni weld a chlywed y Gymru sydd ohoni, gan gario straeon, doniau a chreadigrwydd Cymru i gynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae cyfraniad y cyfryngau'n cyffwrdd â sawl un o'n blaenoriaethau fel Llywodraeth. Maen nhw'n cynnal swyddi da a thwf economaidd, yn siapio ein diwylliant, yn cryfhau'r Gymraeg, yn hyrwyddo Cymru ar draws y byd, yn cefnogi addysg a sgiliau, ac yn cynnal cyfranogiad gwybodus yn ein democratiaeth. Ac maen nhw'n llwyddo i gystadlu gyda'r mawrion. Mae gennym ni sector cynhyrchu annibynnol bywiog, sy'n unigryw Gymraeg a Chymreig ei natur, ac rydym ni'n ennill bri am gynyrchiadau o safon. Mae ein doniau creadigol yn dangos yn gyson bod gwaith a wneir yng Nghymru yn gallu bod yn gwbl Gymreig ac yn llwyddiannus ar lefel ryngwladol.
Ond, wrth gwrs, mae gan y sector ei heriau. Mae'r newid sylweddol yn y ffordd y mae rhaglenni'n cael eu dosbarthu a'r ffordd y mae pobl yn dod o hyd iddyn nhw a'u gwylio yn ail-siapio cymdeithas fodern ar lefel sylfaenol. Mae trawsnewid digidol yn digwydd rŵan, ac mae'n cyflymu, ond dydy pob cynulleidfa ddim yn symud ar yr un cyflymder. Ar yr un pryd, mae darlledwyr a chyhoeddwyr yn wynebu costau cynyddol, cyllidebau cyfyngedig, marchnadoedd hysbysebu sy'n newid, a chystadleuaeth frwd o gyfeiriad platfformau byd-eang sy'n llawer mwy o faint. Mae twf newyddion sy'n cael ei ddethol gan algorithmau a lledaeniad camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn herio ymddiriedaeth a thrafodaeth ddemocrataidd. Er bod darparwyr traddodiadol yn hanfodol o hyd, mae'r ffordd y mae pobl yn derbyn gwybodaeth yn mynd yn fwyfwy tameidiog ac yn cael ei siapio gan blatfformau nad oes gan Gymru fawr ddim dylanwad drostynt.
Dydy'r gwasgfeydd hyn ddim yn haniaethol bellach. Mae'r cyhoeddiadau diweddaraf am doriadau'r BBC a Channel 4 yn golygu bod hen ffefrynnau'n dod i ben, fod niferoedd yn yr ystafelloedd newyddion yn lleihau a bod gweithleoedd yn crebachu. Mi ydw i a'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu'n ddiweddar at gyfarwyddwr cyffredinol y BBC i fynegi ein pryder mawr y gallai effaith y toriadau hyn beri niwed parhaol i rôl y BBC fel sefydliad cenedlaethol. Er ein bod yn gwerthfawrogi ei ymateb cynnar ac yn cydnabod y pwysau ariannol a bod byd y cyfryngau'n newid, mi ydw i'n parhau i bryderu bod y toriadau yn peryglu gwanhau gwasanaethau Cymraeg a Chymreig, lleihau'r ddarpariaeth newyddion a chynnyrch diwylliannol ac yn tanseilio atebolrwydd democrataidd yng Nghymru.
Mae gan y BBC gyfrifoldeb unigryw i gefnogi'r Gymraeg, darlledu gwasanaeth cyhoeddus a bywyd diwylliannol. Dwi'n cefnogi cael siarter brenhinol newydd a pharhaol i'r BBC, ac mae fy swyddogion wrthi'n trafod yr adolygiad efo swyddogion yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Fodd bynnag, dwi wedi bod yn glir nad yw cefnogaeth y Llywodraeth hon yn ddiamod. Mae o'n hanfodol bod gennym ni ffydd yn ymrwymiad y BBC i Gymru a’n bod ni'n deall yn glir beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol cyn i benderfyniadau am ddyfodol hirdymor y BBC gael eu gwneud. Mae'r penderfyniadau hyn hefyd yn cael effaith sylfaenol ar S4C a'r cyllidebau sydd ar gael i greu rhaglenni Cymraeg ar gyfer ein cynulleidfaoedd ni. Yn wyneb yr heriau hyn, mae'n rhaid i ddiogelu'r sector hwn fod yn flaenoriaeth i bawb—mae gan y Llywodraeth, gwleidyddion, rheoleiddwyr, platfformau, cyfryngau, gwasanaeth cyhoeddus, diwydiant a chymdeithas sifil i gyd eu cyfrifoldebau.
Mae dyletswydd arnom ni i frwydro dros system yn y dyfodol lle bydd pobl ledled Cymru yn gallu parhau i wylio rhaglenni credadwy o ansawdd uchel sydd ar gael yn rhad ac am ddim—rhaglenni a wnaed amdanyn nhw, ar eu cyfer nhw ac yn eu dewis iaith. Dyna yw sail safbwynt y Llywodraeth hon ar ddatganoli darlledu a’n hymrwymiad i ddatblygu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, i’n helpu ni i symud y tu hwnt i ymatebion ymgynghori untro tuag at gapasiti ac atebolrwydd parhaus i Gymru. Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau darlledu sy'n effeithio ar feysydd datganoledig bob dydd, o ddiwylliant a’r Gymraeg i ddatblygu economaidd a chydlyniant cymunedol, yn cael eu gwneud yn San Steffan o hyd.
Yn rhy aml, rydym ni'n cael eu gadael i gyflwyno ein hachos ar ôl i flaenoriaethau gael eu gosod, yn hytrach na'u siapio o'r cychwyn cyntaf. Ni ddylai Cymru orfod dibynnu ar gynrychiolaeth anffurfiol neu achlysurol pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy'n cael effaith uniongyrchol ar bobl Cymru. Ac mae eraill yn rhannu ein barn: adroddiad yr Athro Medhurst ar ddatganoli darlledu yw'r adroddiad diweddaraf sy'n edrych ar yr angen i Gymru gael llais cryfach mewn materion darlledu. Daw hynny yn dilyn galwadau'r panel arbenigol ar ddarlledu, y Sefydliad Materion Cymreig, a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Ers fy natganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf, dwi wedi bod yn ystyried fy nghamau nesaf yn ofalus. Dwi wedi clywed a dwi wedi gwrando ar safbwyntiau gwahanol yr Aelodau a dwi wedi bod yn siarad efo rhanddeiliaid ac yn asesu blaenoriaethau er mwyn i mi allu rhoi sicrwydd bod fy ffordd o fynd ati yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael a’r anghenion presennol. Dwi'n parhau'n hyderus mai'n ffordd ni o fynd ati yw'r ffordd gywir ac yn gyfuniad priodol o ymyrryd yn uniongyrchol i gefnogi anghenion pennaf y sector a gosod y sylfeini ar gyfer fframwaith sy'n ateb y gofyn ar gyfer y dyfodol.
Er bod hyn wedi arwain at oedi byr, bydd yr ymgyrch i recriwtio aelodau'r gweithgor yn cael ei lansio y mis hwn, ac rydym ni'n parhau i fod ar y trywydd cywir i gynnal cyfarfod cyntaf y gweithgor ar ddechrau 2027. Ynghyd â’r ymrwymiad hwn, mi fyddwn ni'n parhau i gefnogi newyddiaduraeth sydd er budd y cyhoedd, sy'n sicrhau gwerth mwyaf i gymunedau, lluosogrwydd ac ymwneud â'r drefn ddemocrataidd. Mi fyddaf i'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hynny yn fuan. Yn ogystal, mae Cymru Creadigol yn cefnogi'r diwydiannau creadigol ehangach o hyd ac rydym ni'n cyflwyno'r achos yn gryf i Lywodraethau y Deyrnas Unedig, y BBC, Ofcom ac eraill ynglŷn ag anghenion Cymru. Mae ein safbwynt fel Llywodraeth yn gadarn. Rhaid i'r cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus barhau i fod ar gael i bawb, a rhaid iddyn nhw fod yn amlwg ac yn hawdd dod o hyd iddyn nhw ar setiau teledu a phlatfformau digidol. Rhaid i unrhyw broses o gefnu ar deledu daearol digidol yn y dyfodol fod yn raddol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi'i chefnogi gan gysylltedd fforddiadwy, dibynadwy a gwydn. Ac mae'n rhaid i unrhyw newidiadau i brosesau comisiynu, hawliau, cwotâu neu berchnogaeth gael eu hasesu am eu heffaith ar swyddi, cwmnïau, sgiliau a chadwyni cyflenwi yma yng Nghymru.
Aelodau, mae Cymru'n haeddu cyfryngau cryf sydd wedi'u gwreiddio mewn gwerth cyhoeddus ac uchelgais genedlaethol. Mi fydd y dewisiadau a gaiff eu gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf yn siapio nid yn unig yr hyn rydyn ni'n ei wylio, ei ddarllen a'i glywed, ond sut mae ein democratiaeth yn gweithio, sut mae ein hiaith yn ffynnu, a sut mae ein cenedl yn gweld ei hun ac yn hyrwyddo’i hun yn rhyngwladol. Mi fydd y Llywodraeth hon yn defnyddio pob pŵer i amddiffyn ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a'r bobl a'r busnesau sy'n eu creu, er mwyn datblygu llais Cymreig parhaol a chyfryngau i’r dyfodol yr ydyn ni i gyd yn eu haeddu.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Os gwnaf i ddechrau â'r pwynt olaf, yn amlwg mae yna Aelodau fan hyn sy'n aelodau o'r pwyllgor craffu diwylliant fydd efo rôl craffu o ran unrhyw waith o ran hwn, ond y bwriad ydy mai galwad agored ydy hon i bobl y tu hwnt i'r Senedd hon. Mae hi'n broses agored, dryloyw, felly mi fedraf i roi'r ymrwymiad hwnnw, ond mae gan Aelodau o'r Senedd hon ffyrdd eraill o graffu a fy nwyn i i gyfrif.
Os caf i, o ran y cwestiwn cyntaf o ran DCMS, dwi wedi gofyn am gyfarfod uniongyrchol gyda Lisa Nandy. Rydyn ni heb gael y cyfarfod hwnnw eto, ond dwi wedi ei wneud yn glir mewn cyfathrebiad iddi hi mai ein bwriad ni ydy mynd ati efo'r gwaith hwn. Mae swyddogion hefyd yn cael y sgyrsiau hynny. Mi wnaeth y Prif Weinidog hefyd ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Andy Burnham, yn sôn am ddarlledu fel rhan o becyn o newidiadau ehangach mae'r Llywodraeth hon eisiau eu gweld. Felly, yn sicr, o ran y galwadau gan y Llywodraeth hon, mae o'n ddiamwys bod datganoli darlledu yn fwriad gennym ni a'n bod ni yn edrych i symud y gwaith hwn rhagddo. Yr hyn sy'n glir i fi fel Gweinidog, yr hyn sydd yn glir i ni fel Llywodraeth, ydy nad yw pethau'n gweithio er budd Cymru ar y funud. Mae hyn hefyd wedi ei adlewyrchu mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys yr un mwyaf diweddar, gan Jamie Medhurst, y gwnes i gyfeirio ato fo yn fy natganiad.
O ran y pwynt rydych chi'n ei godi o ran y datganiad o ran ymateb i'r hyn mae'r sectorau ei angen, dyma'r holl waith y bydd y gweithgor yn mynd ati i'w wneud, i sicrhau ein bod ni yn mynd ati i roi'r gefnogaeth honno. Os ydych chi'n gofyn o ran newyddiaduraeth—oherwydd, yn amlwg, gwnaethoch chi gyfeirio at dudalen ond ddim yn benodol at yr adran roeddech chi eisiau fi ymateb iddo fo—os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf fi efo'ch pwyntiau penodol, dwi'n hapus i ymateb yn ysgrifenedig i'r rheini.
Diolch i’r Aelod am ategu nifer o’r pwyntiau y gwnes i yn fy natganiad. Yn amlwg, mae pethau yn newid. Mae’n heriol. Dyna pam yr ydym ni, fel Llywodraeth yn glir bod angen i ni symud ymlaen efo sefydlu gweithgor yr awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol. Mae hwn yn mynd tu hwnt i deledu, fel mae’r Aelod wedi adnabod. Mae hyn ynglŷn â radio. Mae o ynglŷn â’r cyfryngau yn ehangach. Mi wnes i gyfeirio at blatfformau digidol hefyd yn fy natganiad, felly dwi’n gobeithio bod yr Aelod yn cytuno efo fi fod hwn yn gam pwysig ymlaen, a bod y gweithgor yma yn ddirfawr ei angen yng Nghymru.
Fel y gwnes i hefyd ddweud yn fy natganiad, o ran y gefnogaeth efo newyddiaduraeth, mi fydd hwnna yn rhywbeth y byddaf i yn rhoi mwy o wybodaeth amdano yn fuan.
Mi wnaf i ymateb o ran y sylw y gwnaeth yr Aelod o ran Prif Weinidog y Deyrnas Unedig a'r datganiadau diweddar ganddo ynglŷn â newyddiaduraeth. Mae hwn yn enghraifft eto o DCMS a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn cydweithio efo Llywodraeth Cymru. Mae'n rhwystredig dros ben. Rydyn ni wedi cael cronfa newyddiaduraeth leol yma yng Nghymru sydd wedi bod yn llwyddiannus, a'r hyn sydd wedi cael ei wneud rŵan yn Lloegr ydy dyblygu lot fawr o'r gwaith yma heb gydweithio a dysgu gwersi gyda ni. Dyna pam mae angen gwell cydweithio, yn enwedig ar feysydd lle mae rhai elfennau wedi eu datganoli. Felly, yn sicr, os ydy'r Aelod yn gallu hefyd ein cefnogi ni o ran cael DCMS i gydweithio yn hytrach na chyhoeddi pethau heb drafod, byddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny, ac rydw i'n gobeithio bod pob Aelod yn fy nghefnogi i yn y ffaith y dylem ni gael llais yn y math yna o gyhoeddiadau.
Mae'r Aelod yn gwneud amryw o bwyntiau ynglŷn â phwysigrwydd sianeli lleol, radio lleol, papurau newydd lleol, a dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon eisiau mynd i'r afael efo fo. Mae'r sefyllfa yn fregus dros ben. Mae yna doriadau di-ri. Mae ein darlledwyr cyhoeddus ni, megis BBC, megis Channel 4, megis S4C, wedi chwarae rôl eithriadol o bwysig, a hefyd wedi ceisio mynd i'r afael efo rhai o'r bylchau sydd wedi'u creu wrth i ni weld papurau newydd lleol yn crebachu. Efallai, drwy'r gwaith hwnnw, dydyn ni ddim wedi gweld wir pa mor fregus ydy'r sefyllfa.
Dwi eisiau pwysleisio pa mor ddifrifol ydy'r toriadau y mae'r BBC yn eu hwynebu o ran Cymru, a dylem ni i gyd fod yn bryderus dros ben. Felly, dwi'n gobeithio bod gen i gefnogaeth yr holl Senedd hon, pan fyddaf i yn cyfarfod gyda chyfarwyddwr cyffredinol y BBC yn hwyrach y mis hwn, fel y gallaf i fod yn ddiamwys o ran y ffaith bod angen parhau i gael y sicrwydd hwnnw gan y Senedd hon os ydy ein cefnogaeth ni i'r BBC yn mynd i barhau.
Diolch i'r Aelod. Mae yna amryw o bethau yn y cyfraniad yna lle mae yna dir cyffredin rhyngom ni. Dwi'n meddwl yr hyn roeddech chi'n sôn—. Roeddech chi'n gofyn i fi gytuno efo chi o ran y cyfryngau yn lleol a'u pwysigrwydd nhw; ydw, am yr holl resymau y gwnaethoch chi sôn amdanynt. Fe wnaethoch chi sôn o ran yr economi, o ran y cydlyniant cymdeithasol, ac, wrth gwrs, dwi'n llwyr gytuno efo chi. A dyna pam rydyn ni'n credu bod y sefyllfa bresennol ddim yn digwydd, a dyna rhai o'r heriau dwi'n trio mynd i'r afael â nhw fel Gweinidog rŵan.
Mae pethau'n newid mor gyflym hefyd, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni fel Llywodraeth yn ymateb i'r newidiadau hynny. Mae yna amryw o argymhellion wedi'u gwneud i'r Llywodraeth yn yr adroddiad mwyaf diweddar rydyn ni wedi ei dderbyn ac, yn sicr, mae hwnnw'n sôn ynglŷn â'r pwysigrwydd ein bod ni'n edrych ar yr ystod o ran hynny. Rydyn ni wedi gweld, o ran Facebook a'r pryderon yr oeddech chi'n codi fan yna, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd yn araf iawn o ran cael y sgyrsiau hynny. Felly, yr hyn rydyn ni'n gorfod ei wneud ydy gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael y sgyrsiau yna yn lle cael sgyrsiau uniongyrchol.
Roeddech chi'n holi o ran siartr y BBC, a dim ond ddoe y ces i a'r Prif Weinidog yr ymateb gan y cyfarwyddwr cyffredinol, Matt Brittin. Fel roeddwn i'n sôn yn fy ymateb cynharach, mi fyddwn ni'n cwrdd ag o yn hwyrach y mis hwn er mwyn gwneud y galwadau yna yn uniongyrchol, ynglŷn â'r rôl rydyn ni eisiau ei chwarae hefyd o ran y siartr a phwysigrwydd y BBC i Gymru. Fel gwrthblaid, mi wnaethon ni ymateb i'r Papur Gwyrdd, ac fel Llywodraeth rŵan, rydyn ni eisiau sicrhau bod yna rôl lot mwy clir o ran y Llywodraeth a'r Senedd hon o ran y math yna o drafodaethau, oherwydd ar hap mae nifer o'r trafodaethau wedi bod hyd yma.
Dwi'n awyddus iawn, fel roeddwn i'n dweud, i fod yn datblygu perthynas dda gyda DCMS. Mae swyddogion yn trafod. Dwi eto i gwrdd â Lisa Nandy; dwi wedi gofyn i gael cwrdd a dwi'n gobeithio'n fawr y byddwn ni'n cwrdd yn fuan, ac, wrth gwrs, mi fyddaf yn diweddaru'r Senedd wrth i ni gael y sgyrsiau hynny. Mae'n bwysig dros ben fod hynny'n digwydd ac mae'n fater o rwystredigaeth pan fydd yna gyhoeddiadau wedyn yn digwydd sydd ddim yn parchu chwaith fod yna Lywodraeth fan hyn a bod yna faterion sydd yn bwysig i ni fan hyn ac i'r Senedd hon.
Dwi'n gwybod ein bod ni yn anghytuno o ran awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol, a dyna pam y gwnes i adlewyrchu ar y sylwadau dwi wedi'u derbyn, ac eisiau'r sicrwydd hwnnw fy mod i yn gallu dweud wrth y Senedd a sefyll yma a dweud fy mod i'n credu mai sefydlu grŵp cynghori ydy'r cam cywir yn ei flaen. Dwi wedi edrych ar yr ystod o dystiolaeth, dwi wedi edrych ar y cyngor a'r argymhellion a'r amcanion arfaethedig ar gyfer yr awdurdod, a'r swyddogaethau y bydd angen arno i gyflawni'r amcanion hynny. Mae'r Aelod wedi fy herio i yn y gorffennol ynglŷn â chostau posib, ac mae hwnna'n rhywbeth dwi'n awyddus iawn i'r grŵp cynghori fod yn edrych arno fo hefyd. Mae'n rhaid sicrhau gwerth am arian. Mae'n rhaid i hwn fod o werth a'n bod ni'n gweld budd ohono fo, felly mae hynny'n mynd i fod yn rhan o'r gwaith, hefyd, wrth inni symud y gwaith hwnnw yn ei flaen.
Dwi'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi sôn yn benodol ynglŷn â'r iaith Gymraeg. Mae hwn yn bryder dros ben. Dwi'n gwybod bod nifer o bobl yn bryderus ynglŷn â'r toriadau o ran Radio Cymru, y pryderon sydd rŵan o ran S4C. Rydyn ni wedi gweld toriadau o ran cyhoeddiadau yn y Gymraeg ag ati. Mae'n rhaid inni edrych o ddifrif fel Senedd o ran os ydyn ni eisiau cyrraedd y targed hwnnw o 1 filiwn o siaradwyr, o ddyblu'r defnydd, yna mae yna rôl eithriadol o bwysig o ran y cyfryngau a'r ystod o gyfryngau o ran hyn.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol, er nad yw nifer o'r meysydd hyn wedi'u datganoli i ni, ein bod ni, drwy Cymru Creadigol, yn rhoi arian tuag at gynyrchiadau yn y Gymraeg ag ati, oherwydd pwysigrwydd y diwydiannau hyn. Felly, drwy gael yr awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol, a'r grŵp cynghori, byddwn ni'n gallu symud y meysydd polisi yma yn eu blaen. Mae yna heriau mawr, mawr. Mae ceisio sicrhau ein bod ni'n ymateb i'r heriau hynny, efo'r grymoedd sydd gennym ni, yn heriol ond yn rhywbeth dwi'n benderfynol o fynd i'r afael ag o.
Mae datganiad y Gweinidog Cabinet i gryfhau tirwedd y cyfryngau yng Nghymru a'r cyhoeddiad sydd wedi ei wneud i sefydlu gweithgor awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol yn newyddion da. Roedd hwn yn argymhelliad canolog yn adroddiad y panel arbenigol yn 2023.
Mae'n hollbwysig bod gan Gymru ddylanwad ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar gynulleidfaoedd Cymru a pha mor gynaliadwy yw newyddiaduraeth ddiduedd er budd y cyhoedd yng Nghymru. Mae darpariaeth cynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc a gwelededd chwaraeon Cymreig a bywyd cyhoeddus yn hanfodol i ddyfodol darlledu yng Nghymru.
Er bod angen fframwaith sy'n cryfhau'r ffordd y caiff ein cymunedau, ein democratiaeth, ein diwylliant a'n hiaith eu portreadu, mae niwed yn cael ei wneud nawr. Mae tua 58 o swyddi wedi'u colli yn BBC Cymru Wales yn barod eleni, ac mae S4C wedi cytuno i leihau rhywfaint o'i 10 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg er mwyn sicrhau amlygrwydd ar iPlayer. Mae hyn hefyd yn bygwth dyfodol Clic, sef platfform S4C ei hun.
Gyda Phapur Gwyn siartr y BBC i'w gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, a allwch chi amlinellu beth mae Cymru yn gofyn amdano, gan gynnwys gwarantau rhaglenni Cymraeg eu hiaith, cyllid a threfniadau goruchwylio, er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais cyn i'r siartr gael ei llofnodi? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau yna, ac mi ddylwn i fod wedi dweud mewn ymateb i Paul Davies hefyd, y pwynt rŷch chi'n ei godi ynglŷn â pha mor amlwg ydy S4C ac ati ar y platfformau yma, fod hwn yn rhywbeth dwi wedi'i godi'n uniongyrchol efo Ofcom hefyd. Dwi'n gwybod yn ystod y Senedd ddiwethaf, yn y rôl craffu oedd gen i ar y pryd, fod y pwyllgor diwylliant ar y pryd wedi gwneud gwaith yn y maes hwn, a dwi'n mynd â'r gwaith hwnnw a'r argymhellion hynny rhagddynt fel Gweinidog rŵan.
Dwi'n meddwl, o ran yr ymateb sydd wedi bod, roeddwn i'n sôn y gwnaeth y Llywodraeth Cymru flaenorol ymateb yn ffurfiol i Bapur Gwyrdd adolygiad siartr y BBC. Pan yn wrthblaid, fe wnaeth Plaid Cymru, a rŵan fel Llywodraeth, rydyn ni wedi bod yn glir bod yn rhaid i siartr newydd gyflawni ar gyfer pobl Cymru ac adlewyrchu ein hanghenion penodol fel cenedl sydd â'i hieithoedd a'i diwylliant ei hun, oherwydd mae'r ffaith bod gennym ni BBC Wales yn eithriadol o bwysig hefyd. Felly, dwi'n bryderus am gynnwys yn y Gymraeg a'r Saesneg a beth mae hynny'n ei olygu, ond yn amlwg, o ran y Gymraeg, mae hyn yn gyfan gwbl unigryw i ni yma yng Nghymru. Dyna pam ein bod ni eisiau sicrhau bod y BBC yn ystyried effaith y toriadau yn benodol ar Gymru.
Pan fyddwch chi'n meddwl hefyd am gerddorfa'r BBC, er enghraifft, mae honno'n chwarae rôl ddiwylliannol hanfodol yng Nghymru—nid dim ond cerddorfa arall mohoni. O ran y gweithlu, mae honno'n hanfodol os ydyn ni eisiau cerddorion sy'n gallu byw a gweithio yma yng Nghymru, a cherddorion o safon ryngwladol. Felly, mae hwn yn llawer mwy na dim ond sianel radio neu sianel deledu; mae hwn ynglŷn â'n diwylliant ehangach ni, a'r iaith ac ati. Dyna pam yr ysgrifennodd y Prif Weinidog a minnau at y BBC, a chopïo'r Ysgrifennydd Gwladol. Mi oedden ni eisiau sicrhau bod barn y Llywodraeth hon, y ffaith ein bod ni eisiau bod yn rhan o'r rôl proses adnewyddu siartr yna, a'n bod ni eisiau sicrhau eu bod nhw'n deall hefyd ei bod hi'n hanfodol bod gan Gymru lais clir ac ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar ddarlledwyr, yr economi greadigol a chynulleidfaoedd yng Nghymru—. Mi fyddwn ni'n mynd â'r trafodaethau yna ymlaen, ac mi fyddaf i'n falch iawn o ddiweddaru'r Senedd wedi i'r rheina ddigwydd.
Diolch i'r Aelod am godi'r pwyntiau yna. Mi fyddwch chi felly yn cytuno bod angen inni edrych ar y Llywodraeth o ran plwraliaeth newyddion a democratiaeth, sef yr union bethau dwi wedi eu pwysleisio heddiw sy'n eithriadol o bwysig. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol ein bod ni fel Llywodraeth—dwi wedi derbyn amryw o gwestiynau gan Reform ac wedi ymateb iddyn nhw ar y pwynt yma—yn disgwyl i bob sefydliad cyfryngau sy'n derbyn arian Llywodraeth Cymru gadw at yr egwyddor bod cyfryngau niwtral yn wleidyddol yn hanfodol i ddemocratiaeth weithredol. Felly, dwi wedi ymateb i'r cwestiynau hynny, a dwi'n ailddatgan hynny yma heddiw.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei datganiad. Dwi'n rhannu pryderon y Gweinidog am yr effaith a gaiff toriadau diweddaraf y BBC ar ddarpariaeth rhaglenni a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â'r effaith y bydd unrhyw doriadau yn eu cael ar swyddi, yn enwedig yn swyddfa'r BBC ym Mangor. Mae canolfan y BBC ym Mangor eisoes wedi wynebu heriau ariannol a gostyngiad yn ei hadnoddau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae pryderon gwirioneddol yn bodoli am oblygiadau unrhyw doriadau pellach ar gyfer ei dyfodol a'i chynaliadwyedd.
Dwi'n croesawu bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet wedi ysgrifennu at y cyfarwyddwr cyffredinol ac wedi pwysleisio nad yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ddiamod. Ond wrth i bryderon gynyddu o hyd, pa drafodaethau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cynnal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r BBC i ddiogelu swyddi yng Nghymru a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel ei gilydd?
Diolch i'r Aelod. Dwi'n rhannu eich pryderon am yr effaith y gallai cynigion diweddaraf y BBC ei chael ar wasanaethau Cymraeg ac ar swyddi yng Nghymru, gan gynnwys swyddfa'r BBC ym Mangor. Mi wnaethon ni bwysleisio, y Prif Weinidog a minnau, i gyfarwyddwr cyffredinol y BBC bwysigrwydd diogelu darlledu Cymraeg o ansawdd uchel a chynnal presenoldeb cryf y BBC yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu ledled Cymru. Roeddem yn gwerthfawrogi'r ymateb i'r llythyr hwnnw, lle gwnaeth o bwysleisio ymrwymiad parhaus y BBC i Gymru. Fel roeddwn i'n dweud mewn ymatebion blaenorol, mi fyddwn ni'n parhau i bwyso Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd i ddangos sut mae ei pholisïau darlledu a phenderfyniadau cyllido yn cefnogi cynaliadwyedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ar adeg pan mae ymddiriedaeth yn y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn bwysicach nag erioed. Mae penderfyniadau sy'n lleihau gwasanaethau yng Nghymru neu'n tanseilio presenoldeb y BBC yn ein cymunedau yn bryderus iawn. Mi wnaf i roi sicrwydd i'r Aelod y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r BBC i godi pryderon ar bob cyfle priodol, gan gynnwys mewn trafodaethau sydd i ddod.
Ac yn olaf, Weinidog Cabinet, Catherine Cullen.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet.
Symudwn ymlaen i eitem 8, rheoliadau ardrethu annomestig, disgrifiad o luosyddion—. Mae yna eiriau mawr yn y teitl yma, felly dwi'n mynd i gychwyn eto. Symudwn ymlaen i eitem 8, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol a Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Diwygio) (Cymru) 2026. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Elin Jones.
Cynnig NDM9340 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol a Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Diwygio) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n cyflwyno y prynhawn yma y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol a Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Diwygio) (Cymru) 2026. Ar 15 Medi, fe wnes i gyhoeddi’r newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i drethi busnes, gan adlewyrchu ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ailgydbwyso’r system i roi gwell cefnogaeth i fusnesau lletygarwch, hamdden a manwerthu ar y stryd fawr. Mae’r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y newidiadau hynny, a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
O’r flwyddyn nesaf ymlaen, felly, mi fydd y lluosydd is, sy’n cael ei gymhwyso ar hyn o bryd i siopau manwerthu yng Nghymru, hefyd yn cael ei gymhwyso i eiddo bach a chanolig eu maint yn y sectorau lletygarwch a bwyd a diod, llety ymwelwyr a hamdden. Mi fydd hyn yn darparu gostyngiad parhaol o 30 y cant ym miliau trethi busnes eiddo cymwys, wedi’i ariannu gan gynnydd bach i’r lluosydd uwch, sy’n gymwys i’r eiddo gwerth uchaf yn y sylfaen dreth. Bydd y lluosydd uwch hwn yn cael ei osod 4.2 y cant yn uwch na’r lluosydd safonol. Mae hyn 1.6 pwynt canran yn fwy na'r gwahaniaeth presennol o 2.6 y cant. Dwi’n credu bod hwn yn gynnydd eithaf bach ac yn ffordd deg o ailgydbwyso’r system drethi, fel ein bod ni’n gallu rhoi gwell cefnogaeth i’r busnesau sy’n galon i’r stryd fawr ac i ganol trefi.
Mae’r rheoliadau yn rhoi eglurder ynglŷn â’r eiddo y bydd y lluosydd is yn gymwys iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn diwygio’r gwerth sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo lefel y lluosydd uwch o gymharu â’r lluosydd safonol. Dwi’n cyflwyno’r rheoliadau nawr er mwyn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol roi’r newid hwn ar waith, yn ogystal â rhoi amser i fusnesau baratoi. Mi fydd gwerthoedd yr holl luosyddion ar gyfer 2027-28 yn cael eu pennu yn ddiweddarach eleni, a hynny yn rhan o’r gwaith o baratoi’r gyllideb flynyddol. Dwi’n ddiolchgar, wrth gloi, i’r Pwyllgor Deddfwriaeth am ystyried y rheoliadau yma, a dwi'n gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.
Fel y dywedais mewn ymateb i ddatganiad gan y Gweinidog nôl ym mis Medi, rydyn ni'n croesawu cynlluniau'r Llywodraeth i ymestyn y lluosydd is i eiddo lletygarwch a hamdden o faint canolig ac i gynnig gostyngiad o 30 y cant ar ardrethi busnes. Mae hyn yn adeiladu ar gamau y gymerwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol, a leihaodd ardrethi ar gyfer tafarndai, lleoliadau cerddoriaeth fyw a bwytai. Dwi'n tybio bod y gost o tua £12 miliwn a nodwyd yn ymwneud â dyblu'r cymorth hwnnw a'i ymestyn i fusnesau hamdden, rhywbeth yr ydym ni, fel y dywedais, yn ei groesawu. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod y cynnig i ofyn i fusnesau mwy i dalu'r costau hyn yn golygu dau beth: cynyddu'r costau i'r busnesau hynny heb unrhyw gymorth pontio, a chreu dibyn serth mwy peryglus i'r busnesau hynny sy'n croesi'r trothwy i werth ardrethol o ychydig dros £51,000 yn hytrach nag ychydig o dan y swm hwnnw.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i wneud y cynnig—Siân Gwenllian.
Cynnig NDM9339 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mehefin 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I ddweud ar y cychwyn, mae'r Llywodraeth yma eisiau gwella'r ffordd mae pobl yn ymgysylltu â'n democratiaeth. Rydyn ni eisiau meithrin hyder pobl yn ein hetholiadau a lleihau'r rhwystrau rhag cymryd rhan. Mi fydd cofrestru etholwyr yn awtomatig yn helpu i gyflawni hynny, a dŷn ni'n arwain y ffordd yma yng Nghymru.
Dwi'n falch, felly, o gyflwyno Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026 ger eich bron chi heddiw. Ac mi hoffwn i ddiolch i’r ddau bwyllgor am eu hystyriaeth nhw o’r rheoliadau hyn. Hwn oedd fy ymddangosiad cyntaf gerbron y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, a dwi’n ddiolchgar bod mwyafrif yr Aelodau ar y pwyllgor hwnnw wedi cytuno i gymeradwyo’r rheoliadau.
Mae’r rheoliadau hyn yn mynd i’r afael ag argymhellion y Comisiwn Etholiadol yn eu gwerthusiad o’r cynlluniau peilot—cynlluniau calonogol a gafodd eu cynnal y llynedd. Maen nhw’n rhoi sail statudol barhaol i gofrestru awtomatig yng Nghymru. Rydyn ni’n lleihau’r cyfnod hysbysu ar gyfer rhoi gwybod i etholwyr y byddan nhw’n cael eu cofrestru’n awtomatig o 60 diwrnod i 28 diwrnod. Mae’r cyfnod byrrach yma yn cadw hawl etholwyr i optio allan neu i wneud cais am gofrestriad di-enw, gan osgoi oedi diangen a phosibilrwydd o ddryswch. Rydyn ni hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i weinyddwyr etholiadol drwy leihau’r gofyniad i gynnal cofrestru awtomatig o bedair gwaith y flwyddyn i unwaith y flwyddyn galendr.
Mae’r system yn adeiladu ar brosesau cofrestru etholiadol sy’n bodoli’n barod, yn hytrach na chreu swyddogaeth hollol newydd. Mae timau etholiadol eisoes yn fedrus wrth ddefnyddio data lleol i adeiladu a chynnal y gofrestr. Mae cofrestru etholwyr yn awtomatig yn defnyddio’r arbenigedd presennol hwnnw i nodi etholwyr cymwys na fyddent efallai yn cael eu nodi fel arall. Ac mi hoffwn i ddiolch i’r timau etholiadol ar draws Cymru am eu hymrwymiad parhaus.
Mi fydd cofrestru etholwyr yn awtomatig yn helpu Cymru i arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ac yn cyfrannu at leihau’r amcangyfrif o 400,000 o etholwyr sydd heb eu cofrestru yng Nghymru. Mi ddylai hyn, yn benodol, fynd i’r afael â thangofrestru ymhlith grwpiau penodol sy’n debygol o gael eu colli o dan brosesau traddodiadol.
Mi ydyn ni’n trin pryderon ynglŷn â diogelwch personol o ddifrif. Rydyn ni wedi diddymu’r gofrestr llywodraeth leol agored er mwyn diogelu manylion etholwyr rhag cael eu datgelu i drydydd partïon, ac i helpu i roi sicrwydd i’r rheini a allai fod wedi osgoi cofrestru o’r blaen. Bydd neb yn cael ei ychwanegu at y gofrestr heb gael gwybod ymlaen llaw. Dylai neb gael ei atal rhag cymryd rhan mewn democratiaeth oherwydd ofn am eu diogelwch. Mi fyddwn ni’n parhau i weithio efo asiantaethau cymorth a chymdeithas sifil i godi ymwybyddiaeth o gofrestru’n ddi-enw ar gyfer y rhai sydd ei angen, a sicrhau bod yr opsiwn i optio allan hefyd yn glir. Ar hyn o bryd, mi fydd angen cofrestru ar wahân o hyd ar gyfer etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig, ac mi fydd hyn hefyd yn cael ei wneud yn glir i etholwyr.
Mae hi'n debygol erbyn hyn y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn esiampl Cymru—yn dilyn ein hesiampl ni drwy gyflwyno system gofrestru heb gais ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl. Mae ein dull gweithredu yn cadw’r posibilrwydd o alinio yn y dyfodol yn agored. Mae’n ein galluogi i wneud cynnydd rŵan yng Nghymru, heb orfod aros—cynnydd rŵan, gan gadw’r hyblygrwydd i ymateb i ddatblygiadau pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrth i’r rheini ddod yn fwy eglur.
Dwi’n falch bod Cymru yn arwain y ffordd drwy gyflwyno cofrestru etholwyr yn awtomatig drwy’r rheoliadau hyn heddiw, a dwi’n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau yn y Senedd. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Carmelo Colasanto.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cristiana Emsley.
Croesawaf y drafodaeth am y rheoliadau hyn a fyddai'n ceisio cynyddu nifer yr etholwyr sy'n gymwys i bleidleisio, rhywbeth y byddaf wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr hon eisiau gweld. Fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, rydym wedi sgrwtineiddio'r rheoliadau hyn yn fanwl, gan gynnwys mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Gweinidog Cabinet a rhanddeiliaid eraill.
Rydym yn cydnabod, er bod yr amserlenni'n heriol, byddai'n gyfle coll pe na bai cofrestru etholwyr awtomatig yn cael ei gyflwyno cyn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle i ddiolch i'n staff sy'n gweithio mor galed yn adran gwasanaethau democratiaeth awdurdodau lleol a fyddai'n gweithio i gyflawni'r newidiadau hyn. Cytunaf fod monitro parhaus a gwerthuso yn y dyfodol yn hanfodol, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r rheoliadau yma. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac yn arbennig i Gadeiryddion y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio a'r Pwyllgor Deddfwriaeth am eu gwaith chi. Mi wnaf i sôn i ddechrau am y Pwyllgor Deddfwriaeth. Dwi'n credu ein bod ni wedi ymateb fel Llywodraeth i'r pwyntiau technegol a dwi'n derbyn rhai o'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ynglŷn â'r broses craffu a bod angen creu gofod ar gyfer hynny mewn newidiadau deddfwriaethol o'r math yma.
Mi oedd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn codi pryder ynglŷn â grwpiau bregus—merched, er enghraifft, sydd efallai yn poeni y byddan nhw'n cael eu hadnabod, a hwythau'n ceisio osgoi cael eu hadnabod oherwydd eu bod nhw'n cael eu cam-drin yn ddomestig a'r math yna o broblemau. Yn sicr i chi, mae'r ymgysylltu yn parhau efo cynrychiolwyr fel Cymorth i Ferched Cymru, ac mae yna ddeunydd cyfathrebu penodol yn mynd i fod ar gael ar gyfer rhai o'r grwpiau bregus rydych chi wedi eu hadnabod. Mi fydd pawb sydd yn cael eu hadnabod fel bod yn gymwys ar gyfer bod ar y rhestr yn cael llythyr. Mi fydd ganddyn nhw gyfle i optio allan os dydyn nhw ddim eisiau bod ar y rhestr o gwbl ac os dydyn nhw ddim eisiau pleidleisio. Neu mae ganddyn nhw hefyd—. Yn y llythyr hwnnw, bydd yr opsiwn o fod yn ddi-enw ond yn cadw'r hawl i bleidleisio. Mi fydd hynny'n cael ei roi'n reit glir yn y llythyrau bydd yn mynd at bobl sydd wedi cael eu hadnabod.
Y pwynt am y costau—mae'r asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig yn y memorandwm esboniadol yn adlewyrchu'r rhagdybiaethau ariannu ac mae'r amcangyfrifon cost wedi cael eu diweddaru. Ac i ateb y pwynt ynglŷn â llywodraeth leol yn cael adnoddau digonol, mae yna lythyr grant yn mynd allan heno, gobeithio, os byddwch chi'n pasio'r rheoliadau yma, yn cynnig yr arian ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a'r bwriad ydy gwneud yr un peth ar gyfer yr ail flwyddyn o gyflwyno'r rheoliadau yma. Ydy, mae'r amserlen yn dynn, ond dwi'n meddwl bod Beca wedi dweud yn glir mai cyfle coll buasai beidio cyflwyno'r rheoliadau a'r newidiadau sydd i ddigwydd. Felly, dwi yn hynod o ddiolchgar i'r awdurdodau lleol, y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol am eu cymorth wrth lunio'r rheoliadau yma. A hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n barod iawn i gefnogi swyddogion cofrestru etholiadol a phartneriaid eraill wrth inni barhau i hyrwyddo etholiadau teg a hygyrch yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i'r weinyddiaeth flaenorol, dan arweinydd Jayne Bryant, am roi cychwyn ar y broses yma tua phedair blynedd yn ôl bellach. Dwi'n falch o fod wedi cymryd y gwaith yma ymlaen fel Gweinidog ers mis Mai, gan symud yn gyflym ond mewn da bryd ar gyfer yr etholiadau lleol ym mis Mai. Felly, mae cymeradwyaeth heddiw yn hanfodol fel bod modd gweithredu cyn yr etholiadau lleol pwysig yna ym mis Mai a chael cofrestr mor gyflawn â phosib. Dwi'n eich atgoffa chi bod yna 400,000 o bobl sy'n gymwys i bleidleisio sydd ddim wedi'u cofrestru, ac rydym ni i gyd wedi gweld pobl yn cyrraedd y bwth pleidleisio a chanfod dydyn nhw ddim yn gallu pleidleisio am y rheswm syml dydyn nhw ddim wedi'u cofrestru. Wel, mi fydd hyn yn rhoi cyfle gwirioneddol i lawer iawn mwy o bobl yng Nghymru ddefnyddio eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ymlaen at eitem 10, cynnig cydsyniad offeryn statudol, Rheoliadau Deddf Tybaco a Fêps 2026 (Arddangos Cynhyrchion Tybaco) (Diwygiadau Canlyniadol) 2026. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol i wneud y cynnig—Nerys Evans.
Cynnig NDM9337 Nerys Evans
Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Tybaco a Fêps 2026 (Arddangos Cynhyrchion Tybaco) (Diwygiadau Canlyniadol) 2026, a fydd yn berthnasol i Gymru (byddant hefyd yn berthnasol i Loegr a Gogledd Iwerddon), yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Medi 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle hwn i esbonio'r cefndir i'r cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Tybaco a Fêps 2026 (Arddangos Cynhyrchion Tybaco) (Diwygiadau Canlyniadol) 2026.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cristiana Emsley.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Ddirprwy Weinidog, oes posib—?
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn nawr at eitem 11, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Digwyddiadau Chwaraeon. Galwaf ar y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon i wneud y cynnig—Heledd Fychan.
Cynnig NDM9338 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Digwyddiadau Chwaraeon i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Dwi'n cyflwyno'r cynnig hwn ac yn croesawu'r cyfle i agor y ddadl heddiw. Mae'r Bil Digwyddiadau Chwaraeon yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol hyblyg i gefnogi cynnal digwyddiadau chwaraeon yn llwyddiannus, gan gynnwys y rhai a gynhelir yng Nghymru. Mae wedi'i gynllunio i roi mwy o sicrwydd wrth geisio sicrhau a chynnal digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd yn caniatáu'r amddiffyniadau deddfwriaethol sydd eu hangen yn aml heb orfod cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd ar gyfer pob digwyddiad unigol. Mae'r fframwaith yn cynnwys darpariaethau i fynd i'r afael â thowtio tocynnau a rheoli'r hysbysebu a'r masnachu sy'n digwydd o gwmpas digwyddiadau chwaraeon. Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu cymhwyso'r darpariaethau hynny i ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru drwy is-ddeddfwriaeth.
Mae gan Gymru hanes balch o gynnal digwyddiadau chwaraeon yn llwyddiannus, sy'n dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol ac yn gadael gwaddol parhaol i'n cymunedau ni. Mi fydd y fframwaith yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan gryfhau ein gallu i gystadlu am ddigwyddiadau a'u cynnal yn y dyfodol a chreu cyfleoedd newydd i Gymru.
Rydym ni wedi gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau datganoledig eraill drwy gydol taith y Bil. Yn dilyn y trafod hwnnw, cytunwyd ar ddiwygiadau i roi pwerau canlyniadol priodol i Weinidogion Cymru a darparu eithriad Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r mesurau diogelu hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru bwerau priodol mewn meysydd datganoledig a bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cael ei ddiogelu yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig mewn meysydd datganoledig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon am graffu ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol a dwi'n croesawu eu casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar ddarpariaethau perthnasol y Bil. Rwyf hefyd yn cydnabod pwyslais y Pwyllgor Deddfwriaeth ar dryloywder ac eglurder yn y broses cydsynio deddfwriaethol, ac rwyf wedi ymateb i'w gasgliadau a'r argymhellion yn unol â hynny. Dwi'n rhannu barn y pwyllgor diwylliant y dylai blaenoriaethau Cymru, gan gynnwys ein hiaith, ein diwylliant a'n cymunedau, gael ystyriaeth briodol pan fydd y fframwaith yn cael ei roi ar waith yng Nghymru.
Lywydd, rwy'n credu bod y Bil yn cynnig fframwaith priodol a hyblyg i gefnogi cynnal digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru yn llwyddiannus, ac felly fy argymhelliad yw bod y Senedd yn cefnogi'r cynnig gerbron.
Diolch, Weinidog Cabinet. Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon, Mair Rowlands.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyfrannu yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon. Hwn oedd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf y pwyllgor. Gwnaethon ni ei drafod cyn gwyliau'r haf, a oedd yn caniatáu amser i ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol. Roedden ni’n ddiolchgar am y sylwadau treiddiol y cawsom ni. Ers hynny, mae dau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall wedi dod gerbron y pwyllgor, ac rydym wedi ystyried y rheini hefyd.
Fel y clywsom ni gan y Gweinidog, bydd y Bil yn sefydlu fframwaith digwyddiadau chwaraeon, a fydd yn ffordd o gymhwyso cyfyngiadau sy'n ymwneud â thowtio tocynnau, hysbysebu a masnachu, trafnidiaeth a chysylltiadau anawdurdodedig i ddigwyddiadau chwaraeon mawr penodol drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd y Bil hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n cymhwyso agweddau ar y fframwaith hwnnw yng Nghymru.
Wrth i ni edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu'r Tour de France i Gymru yn 2027 ac at Euro 2028, mae'n bwysig bod y Senedd hon yn ystyried yn ofalus y fframwaith deddfwriaethol sy'n cael ei gynnig ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Bydd y Bil yn sefydlu fframwaith a fydd yn golygu bod llawer o benderfyniadau polisi pwysig, gan gynnwys pa ddigwyddiadau sy'n cael eu dynodi yn ddigwyddiadau mawr, yn cael eu gwneud drwy reoliadau yn y dyfodol yn hytrach nag ar wyneb y Bil ei hun. Mae'n bwysig nodi y bydd y Senedd yn gallu craffu ar y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Dangosodd ein hymgynghoriad fod cefnogaeth eang i egwyddorion y Bil. Gallai llawer o randdeiliaid weld y potensial o ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, a'r gwerth o greu fframwaith cyson ac effeithiol ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Roedd amheuon, fodd bynnag.
Gwnaeth rhanddeiliaid amlygu i'r pwyllgor y ffaith bod y fframwaith, i bob golwg, wedi cael ei anelu at ddigwyddiadau chwaraeon mawr fel twrnameintiau pêl-droed rhyngwladol, a gwnaethon nhw gwestiynu a oedd y ddeddfwriaeth yn ddigon hyblyg i gefnogi gwahanol fathau o ddigwyddiadau ar raddfeydd gwahanol, fel chwe gwlad neu griced rhyngwladol undydd.
Roedd Chwaraeon Cymru yn aneglur ynghylch a fyddai'r Bil yn effeithio ar strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at feysydd sy'n ymwneud yn benodol â Chymru y byddai angen i Weinidogion eu hystyried yn ofalus wrth wneud rheoliadau. Er enghraifft, dyma'r hyn roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei annog:
Neu fel y dywedodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru:
Yn ein hadroddiad ar y memorandwm cyntaf a'r ail, daethon ni i'r casgliad bod angen cydsyniad y Senedd ar y Bil yn unol â Rheol Sefydlog 29. Nododd y pwyllgor fod diwygiadau wedi ehangu cwmpas y ddeddfwriaeth gan ganiatáu'r fframwaith digwyddiadau chwaraeon i gael ei gymhwyso i ddigwyddiad sy'n debygol o fod o ddiddordeb cenedlaethol sylweddol, os yw trefnydd y digwyddiad yn gofyn am hynny, sef mater gafodd ei godi gyda ni gan randdeiliaid.
Nododd y pwyllgor hefyd y byddai Llywodraeth Cymru, wrth wneud rheoliadau, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn llywio ei pholisi, ac y byddai'n cynnal nifer o asesiadau effaith. Byddai'r dogfennau ategol hynny hefyd ar gael i'r Senedd hon i graffu arnyn nhw. Rydyn ni o'r farn ei bod yn hanfodol bod unrhyw reoliadau sy'n cael eu pasio dan y ddeddfwriaeth hon yn ystyried blaenoriaethau Cymru yn ddigonol, er enghraifft, ystyriaethau lleol, diwylliannol ac o ran yr iaith Gymraeg. Mae'n adroddiad ar y trydydd memorandwm yn ystyried y diwygiadau diweddaraf ac yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei chefnogaeth.
Rydym ni o'r farn bod y Bil yn cefnogi gallu Cymru i gystadlu am ddigwyddiadau chwaraeon mawr a'u cynnal, a'i fod yn ystyried gwaith cynllunio a chyflawni trawsffiniol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon o'r fath. Daeth y pwyllgor i'r casgliad y gallai'r ddeddfwriaeth, o'i defnyddio'n gywir, alluogi Llywodraeth Cymru i gryfhau dull Cymru o ymdrin â digwyddiadau chwaraeon mawr. Edrychwn ymlaen at graffu ar unrhyw gynigion o'r fath o dan y fframwaith hwn yn y dyfodol. Ni welwn unrhyw reswm pam na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad i gynnwys darpariaeth ddatganoledig yn y Bil fel y'i diwygiwyd. Diolch.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cristiana Emsley.
Galwaf ar y Gweinidog Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mi fydd y Bil hwn yn cryfhau gallu Cymru i ddenu a chynnal digwyddiadau chwaraeon yn llwyddiannus yn y dyfodol a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn eu sgil. Rwyf felly yn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 12 nawr, dadl ar ail gyllideb atodol 2026-27. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Elin Jones.
Cynnig NDM9332 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno 13 Hydref 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Lywydd, pleser yw agor y ddadl yma ar ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae'r gyllideb sydd gerbron Aelodau heddiw yn dyrannu £354 miliwn o gyllid ychwanegol o fewn blwyddyn, sy'n cynnwys £224 miliwn o gyllid refeniw a £130 miliwn o gyllid cyfalaf. Mae'n cynnwys y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin, ynghyd â swm ychwanegol o £60 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Dwi am ddechrau drwy gydnabod y trafodaethau adeiladol sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda'r grŵp Llafur. Mae Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi tynnu sylw'n gyson at yr heriau sy'n wynebu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, eu teuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol. Er bod gwahaniaeth barn am y ffordd orau o ymateb, roedd cydnabyddiaeth eang fod y pwysau hyn yn rhai gwirioneddol sy'n galw am weithredu. Mae'r ddealltwriaeth honno wedi golygu bod modd dod i gytundeb a bod cytuno i wario £60 miliwn ychwanegol eleni ar anghenion dysgu ychwanegol yn bwysicach na pharhau i anghytuno a gwario dim. Dyma'r hyn gellir ei gyflawni pan fydd pleidiau ar draws y Senedd yn cydweithio er lles Cymru. Mae'r cytundeb yma'n adlewyrchu parodrwydd i drafod yn adeiladol, gwrando'n ofalus a chanolbwyntio ar atebion ymarferol yn hytrach na rhaniadau gwleidyddol.
Lywydd, mae'r rhan fwyaf o'r gyllideb atodol hon yn adlewyrchu'r dyraniadau a'r ymrwymiadau gafodd eu cyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mehefin. Mae'r dyraniadau hynny yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r Llywodraeth yma. Mae'r dyraniadau yn cynnwys £145 miliwn i'r NHS, sef £100 miliwn i leihau amseroedd aros a £45 miliwn o gyllid cyfalaf i ddechrau darparu hybiau llawfeddygol a diagnosteg newydd, ac i fynd i'r afael â gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni ar draws yr NHS. Mae hefyd yn cynnwys £55 miliwn i helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant, £15 miliwn i helpu i gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd a £40 miliwn ar gyfer gwaith cyfalaf cynnal a chadw sydd wedi cronni mewn ysgolion. Mae £2 filiwn arall wedi ei ddyrannu ar gyfer nofio i ysgolion a £2 filiwn ar gyfer y taliad plant Cynnal. Mae'r dyraniadau trafnidiaeth yn cynnwys £8 miliwn i gefnogi'r tocyn bws i bobl ifanc a £2 filiwn ar gyfer gwasanaeth bws newydd rhwng y de a'r gogledd. Mae'r dyraniadau hefyd yn cynnwys £20 miliwn i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae'r dyraniadau hyn yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a gafodd eu nodi ym mis Mehefin.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Sam Rowlands.
a dwi yn ddiolchgar i'r Gweinidog a'i swyddogion am y drafodaeth gadarnhaol dros y misoedd diwethaf.
Diolch. Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn at eitem 13, y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod pum Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Yn gyntaf, symudwn at eitem 8. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 45, yn ymatal 48, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Disgrifiad o Luosyddion Gwahaniaethol a Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Diwygio) (Cymru) 2026: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 48
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn nawr at eitem 9. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 53, neb yn ymatal, yn erbyn 40. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026. : O blaid: 53, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn nawr at eitem 10. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Nerys Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 53, dau yn ymatal, yn erbyn 38. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 10. Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol: Rheoliadau Deddf Tybaco a Fêps 2026 (Arddangos Cynhyrchion Tybaco) (Diwygiadau Canlyniadol) 2026: O blaid: 53, Yn erbyn: 38, Ymatal: 2
Derbyniwyd y cynnig
Symudaf yn awr ar yr eitem nesaf, eitem 12. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 54, neb yn ymatal, yn erbyn 39. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 12. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2026-27: O blaid: 54, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Diolch yn fawr iawn, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:31.