Y Cyfarfod Llawn

Plenary

03/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da. Good afternoon, everybody. 

Croeso nôl i chi i gyd. Rydyn ni'n dechrau nawr gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac yn gyntaf, cwestiwn 1, Steve Bayliss. 

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

1. Pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i geisio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â'u trefniadau diogelu a chapasiti ymwelwyr iechyd? OQ64801 [R]

Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn ystod yr anghydfod yma, rydw i a chydweithwyr o Blaid Cymru wedi cyfarfod ag ymwelwyr iechyd ac, yn wir, ag Unite. Mae'n amlwg bod y diffyg cyswllt teuluoedd rheolaidd o ganlyniad i'r streic wedi creu, ac yn parhau i greu, risg i blant. Gwyddom fod nifer yr atgyfeiriadau diogelu ar draws etholaethau'r bwrdd iechyd wedi gostwng. Po hiraf y parha'r anghydfod hwn, y mwyaf yw'r pryder hwnnw. 

Gwn fod y Gweinidog Cabinet wedi bod yn herio'r bwrdd iechyd i ddarprau diweddariadau rheolaidd a thystiolaeth gadarn o'r mesurau lliniaru sydd ar waith, gan gydnabod, wrth gwrs, mai'r ffordd orau o sicrhau diogelwch plant a theuluoedd yw drwy ddod o hyd i ddatrysiad i'r anghydfod hirsefydlog hwn, a ddechreuodd ymhell cyn i'r Llywodraeth hon ddod i rym. O ystyried hynny, Brif Weinidog, pa bwysau ychwanegol y mae'r Llywodraeth yn ei roi er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys yn fuan? Diolch. 

Rydw i, wrth gwrs, yn rhannu’r pryder yna am yr effaith mae’r anghydfod hir yma yn ei chael ar blant ac ar deuluoedd. A dyna pam rydyn ni wedi, fel roeddwn i’n dweud yn gynharach, gofyn am sicrwydd, mewn manylder, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â’r camau diogelu oedd mewn lle. Rydyn ni’n cario ymlaen i gadw llygad gofalus ar y trefniadau hynny, ac mi fyddwn ni’n dal y bwrdd iechyd, wrth gwrs, i gyfrif, i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael eu gwarchod.

Mae’r Llywodraeth yma wedi ymwneud yn weithredol, ym mhob ffordd y gallwn ni, efo’r bwrdd iechyd ac efo cynrychiolwyr yr undebau llafur er mwyn ceisio annog datrysiad buan i’r anghydfod yma. Mi ydyn ni eisiau ei weld o'n cael ei ddatrys mor fuan â phosib, ac mi fyddwn ni'n cario ymlaen i wneud popeth priodol y gallwn ni er mwyn sicrhau bod datrysiad yn cael ei ganfod.

13:35
Cyllideb yr Hydref

2. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU ar fusnesau bach manwerthu, lletygarwch a hamdden yng Nghymru? OQ64842

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.

13:45
13:50
13:55
14:00
Cynaliadwyedd Fferyllfeydd Cymunedol

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd economaidd fferyllfeydd cymunedol? OQ64809

14:05
Cysylltiadau Cryfach rhwng Cymru a Gweddill y DU

4. Sut mae'r Prif Weinidog yn hyrwyddo cydweithrediad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig? OQ64843

14:10

Mae diddordebau Cymru yn cael eu gwasanaethu orau drwy wneud ei phenderfyniadau ei hun, ac mae'r drefn gyfansoddiadol bresennol yn annheg yn ei hanfod. Ond tra bod y trefniadau presennol yn parhau, rhaid iddynt rymuso Cymru mewn ffordd wirioneddol. Yr wythnos diwethaf, yn sgil cyfarfod â'r Prif Weinidog, daethoch allan o'r cyfarfod gyda mwy o gytundeb gan Lywodraeth San Steffan ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Fodd bynnag, a fyddech chi’n cytuno â mi fod rhaid troi'r sicrwydd gan y Prif Weinidog bod caniatáu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru yn fater o sut a phryd yn realiti heb oedi? Ac a yw'n cytuno ymhellach â mi, os yw'r Prif Weinidog i gael ei arwain gan yr hyn sydd orau i Gymru, nad yr hyn sydd orau i rai Aelodau Seneddol yn San Steffan sy'n bwysig, ond bod rhaid i hynny olygu trafodaethau ar unwaith ac ystyrlon ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder?

Dwi'n cytuno yn gryf. Dwi'n ddiolchgar am y cwestiwn yna i allu adeiladu ar y sylwadau y gwnes i funud neu ddau yn ôl. Dwi yn cytuno bod galwadau adeiladol y Llywodraeth yma wedi arwain at sylwadau cadarnhaol gan y Prif Weinidog ar hyblygrwydd cyllidol i Gymru, fel y dywedais i. Mi ges i gyfle, fel y dywedais i, nodi nifer o feysydd eraill efo'r Prif Weinidog—ar reilffyrdd, ar bartneriaeth twf—lle dwi'n meddwl bod yna enillion go iawn i gael eu gwneud. Ond, mae'n glir iawn nad ydy'r ddadl ar ddatganoli plismona a chyfiawnder yn symud ar y cyflymder y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddymuno. Felly, mi fyddwn ni yn cryfhau eto, ac yn atgyfnerthu’r ffordd rydyn ni'n mynd â’r ddadl honno i argyhoeddi Gweinidogion yn San Steffan fod yr achos dros ddatganoli heddlu a chyfiawnder yn gryfach nag erioed. Mae pob tystiolaeth yn pwyntio at hynny fel cam fyddai'n elwa pobl Cymru. Yn yr un modd, rydyn ni'n dal yn aros i'r Trysorlys symud er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen efo'r peilot taliad plant Cynnal, ac mi fyddwn ni yn annog y Llywodraeth i beidio ffrwyno ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant. Felly, mae yna gamau breision rydyn ni angen gweld yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

14:15
System Fudd-daliadau i Gymru

5. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gweithredu system fudd-daliadau i Gymru? OQ64827

14:20
Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc

6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc? OQ64844

Cyfleusterau Chwaraeon Cymunedol yng Nghefn Gwlad Cymru

7. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon cymunedol yng nghefn gwlad Cymru? OQ64806

14:25
Addysg Bellach ym Mhontypridd Cynon Merthyr

8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu addysg bellach ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64805

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae diwrnod prysur iawn o’n blaenau ni, felly symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Felly, symudwn ymlaen at y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan. 

Member
Heledd Fychan 14:30:04
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes y Senedd yr wythnos hon. Ni chyflwynwyd pwnc ar gyfer y ddadl fer. Felly, o ganlyniad, mae’r ddadl wedi ei thynnu oddi ar agenda yfory. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad busnes, sydd, fel arfer, ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Diolch i’r Aelod am godi’r mater hwn a gofyn am y datganiad. Mi wnaf i’r Gweinidog yn ymwybodol o hynny. Mae’r Aelod wedi sôn am nifer o ystadegau. Yn amlwg, mae yna anghydraddoldebau mawr ledled Cymru. Mae yna amrywiaeth mawr o ran oedrannau, ac o ran yr anghydraddoldeb mewn rhannau gwahanol o Gymru. Felly, mi wnaf i’n sicr ei wneud o’n ymwybodol o’r hyn dŷch chi wedi’i godi heddiw.  

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Nid yw’r hanesion am ymosodiadau rhywiol mewn prifysgolion yn unigryw i Gymru. Ond yr hyn sy’n amlwg yng Nghymru yw bod disgwyl i bobl, ar adeg pan fyddant fwyaf agored i niwed, i fynd trwy broses gwyno cymhleth. Mae angen proses sy’n ddigon cadarn ac annibynnol i wirio bod y polisïau hynny’n cael eu gweithredu’n effeithiol, ac i sicrhau bod sefydliadau’n atebol am unrhyw fethiant i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, beth sydd gennym ni yng Nghymru yw fframwaith rheoleiddio Medr, nad yw’n mynd yn ddigon pell, ac sydd wedi’i feirniadu gan brifysgolion am fod yn broses hunanwerthuso gan brifysgolion.

Felly, Drefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol ynghylch pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r angen i newid y fframwaith rheoleiddio yng Nghymru er mwyn atal methiannau tebyg rhag digwydd eto?

Wel, diolch i’r Aelod am godi’r mater hwn. Yn amlwg, dwi’n gobeithio bod pawb ohonom ni yn unfrydol o ran y Senedd hon bod yna ddim lle o ran aflonyddu rhywiol, trais rhywiol, na cham-drin yn unrhyw le yng Nghymru, gan gynnwys yn ein prifysgolion. A rhaid i fyfyrwyr allu astudio a chymryd rhan mewn bywyd prifysgol yn ddiogel. Dyna’r man cychwyn i bob un ohonom ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r fframwaith rheoleiddio yn ddiweddar, ac mae gofynion Medr yn ymdrin yn benodol â diogelwch dysgwyr a staff, gan gynnwys rhyddid rhag aflonyddu, camymddygiad trais, gan gynnwys trais rhywiol, a throseddau casineb. Mae Medr yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chynrychiolydd cenedlaethol VAWDASV Llywodraeth Cymru i dargedu pecyn cymorth VAWDASV i wella cysondeb ar draws y sector addysg uwch.

Ma’n rhaid i ni hefyd fod yn glir mai nid jest mater o reoleiddio drwy addysg yn unig ydy hyn. Mae atal trais rhywiol yn gofyn am ymateb Llywodraeth gyfan—rhywbeth dŷn ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i fod yn ymwneud ag o. Mae o hefyd yn gofyn am ymateb gan gymdeithas gyfan, gan ddod â’r agenda ehangach trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol at ei gilydd.

Diolch i’r Aelod am godi’r mater yna. Mi wnaf i wneud yn sicr bod y Gweinidog cyfrifol yn ymwybodol o’r cais ac yn ystyried os oes angen camau pellach.  

14:35

Diolch i'r Aelod am godi'r mater. Mae deintyddiaeth yn rhywbeth, dwi'n gwybod, sydd yn bryder i nifer o Aelodau. Byddwch chi wedi clywed y Gweinidog Cabinet yn cydnabod yr heriau hynny, ac yn amlinellu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. O ran y materion penodol rydych chi'n eu codi, mi fyddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn benodol o ran bwrdd iechyd Hywel Dda, a, hefyd, mae yna gyfle i holi cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet yr wythnos nesaf yn y Siambr hon.

Wel, dwi'n falch o weld yr Aelod yn cymryd y cyfle i siarad yn y Siambr hon, a hithau heb gyflwyno dadl fer a fyddai wedi gallu bod ar un o'r meysydd hyn y mae hi wedi gofyn am ddatganiad arnyn nhw heddiw. Mae'n un peth i ofyn am amser, ond pan mae gan yr Aelod yr amser i gyflwyno a chael dadl fer a pheidio â gwneud hynny, yna mae'n rhaid i fi ofyn pam gofyn am ddatganiadau yn amser y Llywodraeth pan nad ydy hi hyd yn oed yn gallu rhoi dadl fer i mewn ei hun.

Gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymgynghori ar gau canolfannau gofal sylfaenol brys yng Nghaergybi, Bangor a Thremadog? Dwi'n derbyn yn llwyr mai ymgynghoriad y bwrdd iechyd yw hwn i'w berchnogi ac nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddweud yng ngwaith strategol a gweithredol y byrddau iechyd. Serch hynny, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod yn cyfleu graddfa'r pryderon y mae'r newyddion yma wedi ei achosi ym Mangor Conwy Môn ac ar draws y gogledd. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog iechyd sydd yn gosod allan safbwynt clir gan Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd canolfannau gofal sylfaenol brys fel modd o ddarparu gwasanaeth iechyd allweddol o fewn ein cymunedau.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Byddwch chi hefyd wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Ond yn sicr, mi rydyn ni fel Llywodraeth yn cydnabod

fel Llywodraeth yn cydnabod cryfder y teimlad am fynediad at ofal iechyd ledled gogledd Cymru, ac yn arbennig felly ar Ynys Môn. Dwi'n deall pam fod dyfodol gwasanaethau gofal brys lleol mor bwysig i gleifion a chymunedau. Yn sicr, mi fyddwn ni yn gofyn i bawb ymgysylltu gyda'r bwrdd iechyd ar y mater hwn. Mae'n bwysig bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n agored ac yn dryloyw efo cleifion, staff, cymunedau, a rhanddeiliaid ehangach yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y ganolfan gofal sylfaenol brys yn parhau i weithredu fel arfer hyd nes bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol. Mae'r ffaith eich bod chi wedi codi hwn yn dangos cryfder lleol ar y mater hwn, heb os.

14:40

Diolch i'r Aelod am godi dau fater pwysig. Ar yr ail bwynt, bydd nifer o Aelodau yn cofio yr hyn a ddigwyddodd yn 2023 pan godwyd hwn, ac yn drawsbleidiol yr ymateb cryf a fuodd, o'r Llywodraeth bryd hynny ond hefyd gan yr holl bleidiau yma. Yn sicr, mi fydd y Gweinidog yn cysylltu gyda British Gas o ran hyn. Rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn creu pryder mawr ac y bydd o hefyd yn creu mwy o bwysau ar aelwydydd sydd yn barod o dan bwysau aruthrol o ran hyn.

O ran y mater cyntaf, fel roeddech chi'n sôn yn eich cwestiwn i mi, ni wnaeth y Llywodraeth flaenorol dderbyn yr argymhelliad i ymgorffori therapydd iaith a lleferydd pwrpasol ym mhob tîm troseddau ieuenctid. Rydyn ni fel Llywodraeth yn edrych o'r newydd ar sut y gall plant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gael mynediad mwy cyson at y cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu cywir pan fydd ei angen arnyn nhw. Mi drafododd panel cynghori cyfiawnder ieuenctid Cymru y materion hyn ar 30 Hydref, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol. Gwahoddwyd y panel i wneud sylwadau ar yr heriau a nodwyd a'r cyfeiriad teithio arfaethedig, ac hefyd i helpu i liwio cam nesaf y gwaith hwnnw.

Mae yna ddadl eisoes wedi bod ar y mater hwn yn ddiweddar iawn yma yn y Senedd, ni fyddai cael amser pellach yn ddefnydd da o amser y Llywodraeth ar hyn o bryd.

14:45

Diolch i'r Aelod am godi'r mater yma. Mi wnaf i sicrhau bod y Gweinidog cyfrifol yn ymwybodol o'r hyn rydych chi wedi ei godi. Mi fyddwch chi wedi clywed ymatebion gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog yn rhoi sicrwydd o ran gwerth am arian a'r cwestiynau rydyn ni'n eu gofyn rŵan fel Llywodraeth. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi wedi clywed y sicrwydd hwnnw. Dwi'n ailddatgan y sicrwydd hwnnw, ac fel gwnes i ddweud, mi fyddaf i'n gwneud y Gweinidog yn ymwybodol.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater yna. Mae'r Gweinidog Cabinet yma ac wedi clywed yr hyn rydych chi wedi ei godi. Fel y gwnaethoch chi sôn, fe wnaeth o gyfarfod yn ddiweddar gyda'r grwpiau hynny, ac mi fydd yna gynlluniau rŵan yn cael eu datblygu.

Wel, dwi'n hapus i ddarparu copi o agenda heddiw i'r Aelod os nad ydych chi'n ymwybodol bod yna ddatganiad am fod ar COVID y prynhawn yma. Ond mi wnaf i wneud y pwynt yma: mae rhai ohonon ni yn y Siambr yma wedi gweithio efo teuluoedd, y COVID bereaved families, am flynyddoedd, wedi dod i'w nabod nhw'n dda, dod i nabod straeon torcalonnus eu teuluoedd nhw. Ac mae yna rai pobl yma rŵan yn chwarae gemau gwleidyddol yn hytrach na thrio ffeindio'r datrysiadau i'r atebion gwirioneddol hynny, a hefyd edrych i'r dyfodol. Mi gewch chi ddefnyddio fy ngeiriau i yn y gorffennol heddiw—wrth gwrs y cewch chi—ac mi gaiff y teuluoedd, y COVID bereaved families. Ond mae fy nghydwybod i'n glir o ran yr ymrwymiad hwnnw gan y Llywodraeth yma i ddysgu'r gwersi ac i sicrhau cyfiawnder i'r teuluoedd hynny. Felly, yn ddiamwys, mi fedraf i roi yr amod honno. Ond, os ydych chi am ddefnyddio fy ngeiriau i, mae gen i'r cyfle hefyd i ddefnyddio fy ngeiriau i yn ôl, a dwi wedi gweithio efo'r teuluoedd hynny am flynyddoedd, fel nifer yn y Siambr hon, ac mae o'n golygu gymaint i ni, fel ag y mae o i nifer o bobl ledled Cymru, i gael y datrysiadau a'r atebion hynny.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch. Mae'r Prif Weinidog wedi clywed eich cais chi fan yna. Ond, hefyd, mi oedd yna fwy nag un, yn ôl yr hyn rydych chi wedi ei ddweud—. Mi oedd yna undebau amaeth yno, mi oedd yna ffermwyr wedi eu heffeithio, mwy na 40 o gynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid eraill yno at ei gilydd. Yn amlwg, mi ydych chi, ar ran etholwyr, wastad yn gallu ysgrifennu at y Prif Weinidog neu unrhyw Weinidog o ran unrhyw beth rydych chi eisiau ei godi o ran etholwyr.

Diolch yn fawr iawn i chi, Drefnydd.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad: Adolygiad Covid-19 o ran Cymru

Symudwn ymlaen i eitem 3, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad ar adolygiad COVID-19 o ran Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies. Diolch.

Member
Dafydd Trystan Davies 14:53:04
Cabinet Minister for Government Effectiveness and the Constitution

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Today, I update Members on our manifesto and programme for government commitment to ensure that Wales learns the lessons of COVID-19, strengthens its resilience, and is better prepared for any future pandemic. The COVID pandemic impacted everyone living in Wales. Thousands died, tens of thousands suffered severe ill health, many of whom continue to suffer today, and not one element of our society was untouched by the pandemic. It placed extraordinary demands on our health and care services, disrupted education and daily life, and brought loss and hardship to many people. Like many families across Wales, my own has been affected by long COVID. It is a personal reminder that, for many of us, the impact of the pandemic is far from over. When looking back, we owe it to everyone affected, and especially to those who lost loved ones, to examine what happened honestly and to ensure that the lessons have been learnt.

We know that the risks of pandemics are likely to arise with greater frequency over the coming decades, not least due to the impact of climate change. We must act with decisiveness in adapting to these potential threats, because when the next pandemic happens—and it will—we must ensure that our public services have properly planned and prepared.

Heddiw, felly, dwi'n cyhoeddi y bydd panel annibynnol, sef panel adolygu a phanel sicrwydd COVID-19 Cymru, yn cael ei sefydlu. Ei brif ddiben fydd asesu a yw gallu Cymru i ymateb i bandemig neu argyfwng cenedlaethol yn y dyfodol yn gryfach. Bydd yn asesu a yw gwersi wedi arwain at welliannau ymarferol, a yw'r gwelliannau hynny wedi gwreiddio ac yn cyflawni'r effaith a fwriadwyd, ac a oes angen gwneud mwy. Ar ôl darllen adroddiad modiwl 6 diweddaraf o ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol, mae'n glir i fi bod llawer iawn o waith i'w wneud i sicrhau bod y gwersi i Gymru yn cael eu dysgu'n iawn ac yn drylwyr.

Bydd y panel yn cael ei arwain gan arbenigwyr ac yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau sydd o fewn cyfrifoldeb datganoledig i raddau helaeth. Roedden nhw'n rhan ganolog o ymateb Cymru i'r pandemig ac wedi'u codi'n gyson fel materion o bryder mawr i deuluoedd mewn profedigaeth ac eraill a gafodd eu heffeithio'n sylweddol. Rhaid—rhaid—i ni allu dangos, yn hytrach na datgan, fod y gwersi wedi'u deall, fod camau wedi'u cymryd yn sgil y gwersi hynny, a'u bod wedi'u cynnal ar draws y system. Ac mae'n rhaid i ni allu gwneud hyn mewn modd amserol a focused.

Mae'n bleser gen i gyhoeddi, felly, fod yr Athro Daniel Wincott, athro yn y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cytuno i fod yn gadeirydd annibynnol ar y panel. Mae'n dod ag arbenigedd helaeth ym meysydd cyfraith gyhoeddus, datganoli Cymru, llywodraethant cyfansoddiadol, gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithrediad llywodraeth. Ar y panel hefyd bydd yna arbenigwyr o feysydd systemau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd, gan sicrhau bod gan y panel ystod eang o wybodaeth i asesu tystiolaeth, i gwestiynu rhagdybiaethau ac i herio Llywodraeth Cymru. Byddaf i'n cadarnhau'r aelodaeth yn fuan, a dwi'n disgwyl i'r panel gyfarfod am y tro cyntaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd yr adolygiad yma'n ategu ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu. Bydd yn adeiladu ar y dystiolaeth sylweddol sydd eisoes wedi'i gasglu, gan gynnwys canfyddiadau'r ymchwiliad, adolygiadau sydd wedi'u cyhoeddi a gwaith perthnasol arall. Pan does dim digon o dystiolaeth neu bydd yna fylchau'n parhau, bydd modd i'r panel archwilio materion mewn mwy o fanylder a nodi beth arall sydd angen ei wneud. Mae ymchwiliad COVID-19 Prydain wedi gwneud cynnydd pellach sylweddol yn y misoedd diweddar, gyda llawer o dystiolaeth eisoes wedi'i ystyried, ac mae hyn yn tanlinellu'r angen i adolygiad Cymru ategu gwaith ymchwiliad statudol y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu.

Bydd profiadau bywyd yn rhan bwysig o waith yr adolygiad yng Nghymru. Ar eu pen eu hunain, all tystiolaeth wedi'i chyhoeddi a thystiolaeth ddogfennol ddim dangos sut mae newidiadau'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Felly, byddaf i'n gofyn i'r panel ystyried y ffordd orau o sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn llywio ei waith ac yn ei helpu i farnu a yw gwelliannau yn gwneud gwahaniaeth ymarferol.

Bydd y panel yn adrodd yn gyhoeddus. Trwy ganolbwyntio ar dystiolaeth a chanlyniadau, bydd y gwaith yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud a'r gwendidau sy'n parhau ac yn rhoi sicrwydd ynghylch pa mor barod a gwydn yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Pan fydd y panel yn dod o hyd i arferion da, byddwn am eu rhannu. Pan fydd yn dod o hyd i wendidau, ansicrwydd neu weithredu anghyflawn, byddwn yn ystyried ei gasgliadau'n ofalus ac yn ymateb yn dryloyw, ac yn gweithredu i sicrhau eu bod nhw'n cael sylw.

15:00
15:05
15:10
15:15
15:20
15:25
15:30
15:35
4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Gweithio mewn Partneriaeth gyda'r Trydydd Sector

Symudwn ymlaen at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: gweithio mewn partneriaeth gyda'r trydydd sector. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member
Sioned Williams 15:36:01
Deputy First Minister and Cabinet Minister for Social Justice and Equality

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae ein rhaglen lywodraethu, yn gwbl briodol, yn gosod grymuso cymunedau, gweithio mewn partneriaeth a bod yn atalgar wrth wraidd ein gwaith. Yn y cyd-destun hyn, rwyf heddiw am amlinellu'n glir y berthynas yr ŷn ni fel Llywodraeth yn dymuno ei meithrin â'r trydydd sector, sut y byddwn yn cefnogi'r sector ac yn cydnabod pwysigrwydd gwirfoddolwyr.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni ein dyletswyddau i hyrwyddo'r sector cymunedol a gwirfoddol ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir yng nghynllun y trydydd sector presennol, oherwydd mae taith ddatganoli Cymru wastad wedi cael ei llywio gan y berthynas â'r sector cymunedol a gwirfoddol. Mae gan Gymru seiliau cadarn ar gyfer partneriaeth well rhwng y Llywodraeth a'r sector, ac rŷn ni wedi gweld rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol yn troi at Gymru wrth iddynt ddatblygu eu trefniadau eu hunain.

Cyflwynwyd y cynllun trydydd sector presennol yn 2014. Ers hynny, rŷn ni wedi gweld newidiadau a digwyddiadau sylweddol yn effeithio ar Gymru a'i chymunedau—o COVID-19 a phwysau'r argyfwng costau byw i newidiadau deddfwriaethol pwysig fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn sgil ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru, a'n hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, mae'n bryd bellach i ni lunio perthynas newydd â'r sector—perthynas sy'n adeiladu ar wersi diweddar ac sy'n adlewyrchu'r uchelgeisiau yr ydym yn eu rhannu ar gyfer Cymru. Rwyf am weld cynllun sy'n parhau i fod yn addas i'w ddiben ac sy'n gweithio i'r Llywodraeth ac i'r sector gwirfoddol. Er bod cynllun yn bwysig, er mwyn iddo gael effaith go iawn, mae angen y seilwaith a'r mecanweithiau cywir i'w alluogi i fod yn fyw ac i wireddu ar ei uchelgais.

Rŷn ni'n ffodus bod gennym eisoes Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Chefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae'r elfennau pwysig hyn o isadeiledd yn galluogi perthynas weithio positif â'r sector cymunedol a gwirfoddol a chynrychiolaeth effeithiol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector, sy'n offeryn allweddol i lywio ffordd Llywodraeth Cymru o ariannu'r sector.

Bydd pob un ohonom, dwi'n siŵr, wedi ymweld â grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, gan gydnabod a gwerthfawrogi'r cyfraniad y maent yn ei wneud. Ond yn yr un modd â'r gwasanaethau cyhoeddus, rŷn ni hefyd yn gweld y pwysau sy'n wynebu'r sefydliadau gwirfoddol hynny, sydd yn aml ymhlith y mannau cyntaf y mae pobl yn troi atyn nhw, nid yn unig mewn argyfwng, ond hefyd pan fyddant am weld newid yn eu cymunedau.

Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Cabinet ei ymrwymiad i god ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector a'i bum egwyddor. Mae'r egwyddorion hyn yn cynnwys, er enghraifft, y ffaith bod deialog gynnar a pharhaus yn sicrhau ein bod yn datblygu perthnasoedd cryf â'r trydydd sector. Mae'r perthnasoedd hyn, yn eu tro, yn cefnogi datblygu polisi, darparu gwasanaethau a dull tîm Cymru o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.

heriau sy’n wynebu ein cymunedau.

Mae’r cod yn hyrwyddo’r defnydd o gytundebau ariannu tymor hir lle bo hynny’n briodol. Mae manteision ariannu tymor hir yn cynnwys galluogi sefydliadau a ariennir i gynllunio gwasanaethau’n well, heb y cylch stop-start a welir yn aml gyda chytundebau sy’n flwyddyn o hyd. Mae hefyd yn galluogi contractau cyflogaeth hirach, sy’n arwain at well recriwtio a chadw staff, ac yn lleihau biwrocratiaeth i’r adran ariannu ac i’r sefydliad sy’n cael ei ariannu.

Mae cytundebau ariannu blynyddol yn golygu bod y sefydliad sy’n cael ei ariannu yn ysgwyddo’r holl risgiau a’r beichiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau. Gall yr ansicrwydd ynghylch a fydd ffrwd cyllid yn parhau neu a gaiff ei brosesu mewn modd amserol olygu bod sefydliadau’n rhoi hysbysiadau diswyddo i weithwyr neu’n colli staff oherwydd contractau tymor byr neu ansicrwydd parhaus. Mae trosiant uchel ymhlith staff yn golygu costau ychwanegol sy’n effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaethau. Dyna pam, fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weithredu’r cod.

Mae gwirfoddolwyr a sefydliadau gwirfoddol wrth galon pob cymuned. Nhw yw’r peth sy’n dal ein cymunedau ynghyd. Mae hynny’n rhywbeth dylem ni fyth anghofio. Mae gwirfoddolwyr Blood Bikes Cymru, timau achub mynydd, criwiau badau achub, a’r ymatebwyr cyntaf cymunedol i gyd yn wirfoddolwyr. Nid yw’r cyhoedd efallai bob amser yn ymwybodol o hynny. Mae gwirfoddoli’n arbennig oherwydd ei fod yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud os yw’r cyfleoedd cywir ar gael. Ni ddylai cefndir nac amgylchiadau magwraeth unigolyn fod yn rhwystr.

Mae ein cymunedau a’n cymdeithas yn gyfoethocach o lawer oherwydd gwirfoddolwyr, ac mae hynny’n rhywbeth y dylem ymfalchïo ynddo a’i ddathlu. Mae’r weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru, a gyd-ddatblygwyd, ynghyd â’i chynllun gweithredu, yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd gwirfoddoli diogel, cefnogol a chynaliadwy. Maent yn darparu naratif cydlynol a fydd yn galluogi sefydliadau ar draws pob sector a rhan o’r Llywodraeth i ryddhau potensial gwirfoddolwyr presennol a rhai’r dyfodol mewn ffyrdd a fydd o fudd i’r gwirfoddolwyr eu hunain ac i’r bobl y maent yn eu cefnogi. Bydd y Llywodraeth hon yn darparu arweinyddiaeth strategol, ynghyd â phartneriaid allweddol eraill, ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru. Byddwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau, ehangu cyfranogiad, cefnogi sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, a sicrhau bod gwirfoddoli’n cael ei gydnabod fel cyfrannwr allweddol at lesiant a bywyd ein cymunedau.

Y sector cymunedol a gwirfoddol yw cydwybod gymdeithasol a foesol ein cenedl. Maent yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei eithrio. Fodd bynnag, heb sefydliadau cryf a chanolfannau cymunedol, ni all gwirfoddoli ddigwydd. Er bod gwirfoddoli ei hun yn rhad ac am ddim, mae cost ynghlwm wrth sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn cael ei reoli’n dda. Drwy weithio mewn partneriaeth, gall y Llywodraeth a’r sector ddarparu atebion creadigol sy’n gwella ein cynnig ac yn lleihau dyblygu, oherwydd gall y trydydd sector fod yn ystwyth ac yn hyblyg wrth ymateb i anghenion cymunedau. Er enghraifft, y cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol a iechyd.

Ni ellir cyflawni ein rhaglen lywodraethu heb y sector cymunedol a gwirfoddol annibynnol a’r gwirfoddolwyr sy’n ei gefnogi. Fel Cabinet, rydyn ni'n cydnabod hyn, a dyna pam yr ydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i gynllun y trydydd sector ac wedi cytuno ar egwyddorion y cod ymarfer ar ariannu’r trydydd sector, yn ogystal â’r weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yng Nghymru.

Wythnos nesaf yw wythnos yr ymddiriedolwyr. Ni all ein helusennau weithredu heb eich cyfraniad chi. Felly, i bawb sy’n gwirfoddoli neu sy’n helpu mewn unrhyw ffordd, hoffwn ddweud 'diolch' ar ran ein Llywodraeth. Mae ein cymunedau’n fwy diogel ac yn iachach oherwydd eich cyfraniad. Diolch.

ac yn iachach oherwydd eich cyfraniad. Diolch.

15:45
15:50

Diolch yn fawr am y cwestiynau. Fe wnaf i ganolbwyntio ar y cyllido. Fel gwnes i osod mas yn gryf iawn, dwi'n meddwl, yn y datganiad, fe wnes i bwysleisio bod y Cabinet yma wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n ymrwymo i'r cod ymarfer, sydd wrth gwrs yn ffurfio rhan o'r cynllun trydydd sector statudol. Mae hynny wedi cael ei gydgynhyrchu gyda'r trydydd sector, rhwng y cyngor partneriaeth trydydd sector, ac mae hynny yn gwneud yn siŵr bod e'n rhywbeth sy'n hygyrch, bod e'n rhywbeth sy'n parhau i fod yn berthnasol, a hefyd ei fod e wedi'i ddiweddaru'n gyson.

Mae pum egwyddor y cod nid jyst yn unig wedi ffocysu ar gyllido; maen nhw hefyd wedi eu bwriadu i greu amgylchfyd holistaidd ar gyfer cael perthynas a dealltwriaeth bositif rhwng y sector a phwy bynnag sy'n darparu'r cyllid. Felly, rŷn ni'n glir iawn bod cyllido amlflwyddyn yn rhywbeth sydd yn cefnogi gwasanaethau gwell o ran yr hyn sy'n cael ei ddarparu gan y trydydd sector. Mae e hefyd, fel soniais i yn y datganiad, yn sicrhau bod y sefydliadau a'r grwpiau gwirfoddol yna yn gallu cynllunio'n well, ac yn sicr o ran y rhai sydd â staff, eu bod nhw'n medru rhoi sicrwydd i staff, ac felly, fel gwnes i osod mas yn glir iawn yn y datganiad, o ran yr amgylchfyd cyllido yna, oherwydd ein bod ni wedi ymrwymo i ddarparu cyllid amlflwyddyn, lle bod hynny yn briodol ac yn bosib, fe fyddwn ni'n parhau i hyrwyddo cyllido tymor hwy, a hefyd annog pob un yn y sector cyhoeddus sydd hefyd yn gyllidwyr, yn ariannwyr, i ddilyn y cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector.

Fe wnaethoch chi sôn am, a wnes i sôn a chyfeirio, wrth gwrs, at y ffaith bod y cynllun trydydd sector heb ei ddiweddaru ers 2014, a dyna pam rŷn ni nawr yn adolygu'r cynllun hwnnw, achos fel soniais i, mae cymaint o bethau wedi newid yn ein cymdeithas ni—yr holl bethau rŷn ni wedi bod trwyddo ers 2014, y ffordd mae pobl yn ymwneud â'i gilydd, y dechnoleg sydd nawr ar gael—ac rwy'n siŵr bod nifer o bobl yn y Siambr yma yn clywed gan grwpiau bod yna her o ran cael pobl i wirfoddoli mewn ffordd efallai oedd yn haws mewn dyddiau a fu. Mae pobl nawr yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol nag oedden nhw. Mae eu penwythnosau nhw yn edrych yn wahanol. Ac wrth gwrs mae'r pethau sydd wedi digwydd, y digwyddiadau mawr hefyd, fel soniais i, fel COVID, wedi cael effaith ar hynny. Felly, mae'n hen bryd i'r cynllun gael ei adolygu.

Felly, mae yna grŵp wedi cael ei sefydlu, y grŵp partneriaeth cyngor trydydd sector, i ystyried sut gall y berthynas cael ei chryfhau a'i gwneud yn fwy effeithiol. Felly, pan fydd yna fwy o fanylion gennyf i ynglyn â sut mae'r gwaith yna'n datblygu, rwy'n ymrwymo i ddod â hynny nôl i'r Senedd.

Yn olaf wedyn, wnaethoch chi sôn am grwpiau llai, sefydliadau llai, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu harwain gan wirfoddolwyr, a dwi wir yn cydnabod

a dwi wir yn cydnabod bod yr heriau yna yn gallu bod yn wahanol i grwpiau llai, yn enwedig y grwpiau yna sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Felly, dwi yn cydnabod, ac wedi codi hyn fy hunan o feinciau'r wrthblaid, bod rhaid i'r gofynion, o ran adrodd a gwerthuso a monitro, adlewyrchu maint y cyllid sy'n cael ei ddarparu, cydnabod natur y sefydliad sy'n cael ei gyllido, achos dwi'n meddwl bod yr elfen yna o proportionality, onid yw e, yn y berthynas yna o ran cyllido teg, yn bwysig iawn.

15:55
16:00

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y gefnogaeth i'r datganiad heddiw. Dwi'n meddwl bod ni'n gwbl gytûn, onid ydym ni, ynglŷn â phwysigrwydd gwirfoddoli i'n cymdeithas ni, ac fel gwnaeth hi sôn mor eglur, yr holl fathau o wahaniaeth mae'r trydydd sector yn gallu ei wneud.

16:05
16:10

Diolch yn fawr, Peter Fox, am y croeso yna dŷch chi wedi'i roi i'r ffaith ein bod ni'n datgan, gyda'r datganiad heddiw, y gwerth a'r cydnabyddiaeth dŷn ni'n ei roi ar ein sector gwirfoddol a'r trydydd sector.

16:15

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae nifer o'n sefydliadau ni wedi cael statws elusennol er mwyn gallu manteisio ar fathau gwahanol o gyllid wrth i bethau fynd yn dynnach ac yn dynnach o ran y pwrs cyhoeddus. Yr hyn y gallaf i sicrhau yr Aelod yw byddwn ni'n parhau i sicrhau bod yna allbynnau da, a bod yna dryloywder, a bod yna atebolrwydd o ran yr arian rŷn ni'n darparu trwy ein hymwneud a'n hymgysylltiad â chyngor partneriaeth y trydydd sector, sut rŷn ni'n delifro'r cod ariannu, ac wrth gwrs drwy'r cynlluniau a fydd yn dod o dan hynny. Mae adolygiad 

16:25

Mae'r gwaith hwn wedi crisialu cyfeiriad clir ar gyfer strategaeth y gweithlu, a hynny ar sail tair blaenoriaeth gysylltiedig: datblygu gwasanaethau cynaliadwy sy'n defnyddio pobl, sgiliau, amser ac adnoddau cyhoeddus yn effeithiol. Yn ail, creu gweithleoedd iach a chynhwysol lle mae pobl yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu harwain yn dda; lle maen nhw’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac yn gallu gwella'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Yn drydydd, adeiladu'r sgiliau a'r timau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â newidiadau yn anghenion y boblogaeth, y pwyslais ar atal a modelau gofal newydd. Mae hyn yn cynnwys cryfhau sgiliau Cymraeg ar draws ein gweithlu fel bod pobl yn cael y gofal maen nhw ei angen yn yr iaith sy'n diwallu eu hanghenion orau.
 

Mae hyn yn dangos y dull ymarferol a chydweithredol fydd yn sail i'r strategaeth. Rŷn ni eisoes yn dysgu o wasanaethau rheng flaen, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd a chymryd camau gweithredu pan fydd heriau uniongyrchol yn gofyn am ymateb cenedlaethol. Bydd y strategaeth yn cysylltu'r gwaith hwn, gyda mwy o bwyslais ar brofiad a lles staff, sefydlogrwydd y gweithlu, tystiolaeth, dylunio gwasanaethau cynaliadwy, a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cydnabod bod gofal yn y dyfodol yn dibynnu ar gyfuniad o gyfraniad yr NHS, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a phartneriaid annibynnol, gwirfoddol a chymunedol, a bod rhaid i'r gwaith