Y Cyfarfod Llawn
Plenary
19/11/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary session. The first item will be questions to the First Minister, and the first question is from Russell George.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r safbwyntiau a fynegwyd gan gymunedau lleol ynghylch effaith parc cenedlaethol newydd yng Nghymru? OQ61876
1. What assessment has the Welsh Government made of the views expressed by local communities on the impact of a new national park in Wales? OQ61876
Natural Resources Wales is currently seeking the public’s views on proposals for a new national park. This is part of the necessary assessment and engagement work that NRW is required to undertake before making any recommendations to the Welsh Government.
Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am safbwyntiau'r cyhoedd ar gynigion ar gyfer parc cenedlaethol newydd. Mae hyn yn rhan o'r gwaith asesu ac ymgysylltu angenrheidiol y mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud cyn gwneud unrhyw argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Can I thank you for your answer, First Minister? I hope you’ll be aware of a very well-attended public meeting in Llanrhaeadr-ym-Mochnant just a few weeks ago—over 250 people in that meeting expressing their clear opposition to the proposed park extending into areas of north Powys. And the reasons for that are concerns around farm diversification—and farmers, most certainly at any time, but more so at present, need our support—and also concerns around day visitors attending areas, particularly where there’s not sufficient parking and infrastructure is poor. There’s very strong opposition from communities in north Powys. I heard your answer to my initial question, First Minister, and, of course, it is a Labour Party manifesto commitment, and also it follows through into your programme for government. So, whilst Natural Resources Wales are consulting and will make recommendations to you, it is, of course, in your programme for government and you’ve got a firm commitment to that. However, in your manifesto, and in your programme for government, it does, of course, state that the new national park is based in north-east Wales, based in the Clwydian range and Dee valley national landscape, not, of course, into areas of north Powys. But can you give me a commitment, First Minister, that if there is opposition—as there is—clarified to you from areas of north Powys, the new national park won’t indeed extend into an area of Wales where it’s just simply not wanted?
A gaf i ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymwybodol o gyfarfod cyhoeddus â phresenoldeb da iawn yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant dim ond ychydig wythnosau yn ôl—dros 250 o bobl yn y cyfarfod hwnnw yn mynegi eu gwrthwynebiad clir i'r parc arfaethedig yn ymestyn i ardaloedd yng ngogledd Powys. A'r rhesymau am hynny yw pryderon ynghylch arallgyfeirio ffermydd—ac mae ffermwyr, yn sicr ar unrhyw adeg, ond yn fwy felly ar hyn o bryd, angen ein cefnogaeth—a phryderon hefyd ynghylch ymwelwyr dydd yn ymweld ag ardaloedd, yn enwedig lle nad oes digon o leoedd parcio ac lle mae'r seilwaith yn wael. Mae yna wrthwynebiad cryf iawn gan gymunedau yng ngogledd Powys. Clywais eich ateb i'm cwestiwn cychwynnol, Prif Weinidog, ac, wrth gwrs, mae'n ymrwymiad maniffesto gan y Blaid Lafur, a hefyd mae'n dilyn ymlaen i'ch rhaglen lywodraethu. Felly, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ac y bydd yn gwneud argymhellion i chi, mae yn eich rhaglen lywodraethu chi, wrth gwrs, ac mae gennych chi ymrwymiad cadarn i hynny. Fodd bynnag, yn eich maniffesto, ac yn eich rhaglen lywodraethu, mae'n nodi, wrth gwrs, bod y parc cenedlaethol newydd wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain Cymru, wedi'i leoli yn nhirwedd genedlaethol bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, nid wrth gwrs, i ardaloedd yng ngogledd Powys. Ond a allwch chi roi ymrwymiad i mi, Prif Weinidog, os oes gwrthwynebiad—fel y mae—yn cael ei egluro i chi gan ardaloedd yng ngogledd Powys, na fydd y parc cenedlaethol newydd yn wir yn ymestyn i ardal o Gymru lle, yn syml, nad oes croeso iddo?
Well, thanks very much. It’s obviously not appropriate for me, as First Minister, to comment on specific issues outside the statutory process. But I will tell you that, yes, you’re quite right, it was part of the manifesto commitment. This is a consultation. It’s important that we engage people who may be affected by this. Part of that consultation is on the proposed boundary of the national park. I think it’s probably worth also bearing in mind that the majority of respondents last year responded that they were in favour of a new national park. So, we have to balance all these things out. We need to listen to the public, and I’m really pleased that NRW is holding a series of public engagements in the local area. And I think it is important, also, to recognise the benefits that come from a national park, in terms of making sure that we have that co-ordinated, consistent and clear approach when it comes to planning, to benefit all of the people who live within it.
Wel, diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, nid yw'n briodol i mi, fel Prif Weinidog, wneud sylwadau ar faterion penodol y tu allan i'r broses statudol. Ond fe wnaf i ddweud wrthych chi, oedd, rydych chi'n gwbl gywir, roedd yn rhan o ymrwymiad y maniffesto. Ymgynghoriad yw hwn. Mae'n bwysig ein bod ni'n ymgysylltu â phobl a allai gael eu heffeithio gan hyn. Mae rhan o'r ymgynghoriad hwnnw ar ffin arfaethedig y parc cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod hi'n werth cadw mewn cof hefyd fod mwyafrif yr ymatebwyr y llynedd wedi ymateb eu bod nhw o blaid parc cenedlaethol newydd. Felly, mae'n rhaid i ni bwyso a mesur yr holl bethau hyn. Mae angen i ni wrando ar y cyhoedd, ac rwy'n falch iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn yr ardal leol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, hefyd, gydnabod y manteision sy'n dod o barc cenedlaethol, o ran gwneud yn siŵr bod gennym ni'r dull cydgysylltiedig, cyson ac eglur hwnnw o ran cynllunio, er budd yr holl bobl sy'n byw ynddo.
We know, don’t we, that the creation of a new national park is in no way some sort of environmental silver bullet. We only have to look at the environmental outcomes within existing national parks to know that much. We also know that there are huge budgetary pressures on existing national parks who’ve seen significant cuts to their budgets in recent years. And we’ve also seen, as well, the consequences of insufficient infrastructure, when, of course, we want to extract as much benefit as we can for those local communities within those parks. We’re seeing huge, huge problems because of a lack of investment in the proper infrastructure in Eryri, Bannau Brycheiniog and Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. So, should this Government not be focusing on getting the existing offer of national parks right before trying to get ahead of yourselves and creating a new one?
Rydym ni'n gwybod, onid ydym, nad yw creu parc cenedlaethol newydd yn rhyw fath o fwled arian amgylcheddol mewn unrhyw ffordd. Does ond yn rhaid i ni edrych ar y canlyniadau amgylcheddol yn y parciau cenedlaethol presennol i wybod cymaint â hynny. Rydym ni hefyd yn gwybod bod pwysau cyllidebol enfawr ar barciau cenedlaethol presennol sydd wedi dioddef toriadau sylweddol i'w cyllidebau yn y blynyddoedd diwethaf. Ac rydym ni hefyd wedi gweld, yn ogystal, ganlyniadau seilwaith annigonol, pan, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau cymaint o fudd ag y gallwn ni i'r cymunedau lleol hynny yn y parciau hynny. Rydym ni'n gweld problemau enfawr iawn oherwydd diffyg buddsoddiad yn y seilwaith priodol yn Eryri, Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, oni ddylai'r Llywodraeth hon fod yn canolbwyntio ar gael cynnig presennol parciau cenedlaethol yn iawn cyn ceisio mynd o flaen eich hunain a chreu un newydd?
Thanks very much. Well, obviously, it is important for us to recognise that there will be a cost associated with this, but this was something, as I said, that was part of our manifesto commitment. There’s no money being allocated for the future funding of the national park as yet—it’s obviously too early in that process. But the Welsh Government has made a commitment that funding for any new national park would not be taken from existing designated landscapes.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn amlwg, mae'n bwysig i ni gydnabod y bydd cost yn gysylltiedig â hyn, ond roedd hyn yn rhywbeth, fel y dywedais, a oedd yn rhan o'n hymrwymiad maniffesto. Does dim arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer ariannu'r parc cenedlaethol yn y dyfodol eto—mae'n amlwg yn rhy gynnar yn y broses honno. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad na fyddai cyllid ar gyfer unrhyw barc cenedlaethol newydd yn cael ei gymryd oddi wrth dirweddau dynodedig presennol.
I’d like to say that the concerns regarding planning restrictions, inflated house prices, mass tourism are exaggerated. Large change does not happen just because of a designation. And I speak from experience of when the Clwydian range area of outstanding natural beauty—which I chaired for 10 years—extended into the Dee valley. Concerns were not realised and there have been many benefits for communities and businesses, including grant funding and management of sites as well, and resources being designated there. So, First Minister, will you help ensure that this positive manifesto commitment is not lost because of loud voices sharing misinformation? Thank you.
Hoffwn ddweud bod y pryderon ynghylch cyfyngiadau cynllunio, prisiau tai chwyddedig, twristiaeth dorfol wedi'u gorliwio. Nid yw newid mawr yn digwydd oherwydd dynodiad yn unig. Ac rwy'n siarad o brofiad o'r adeg pan wnaeth ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd—yr oeddwn i'n gadeirydd arni am 10 mlynedd—ehangu i ddyffryn Dyfrdwy. Ni wireddwyd pryderon a bu llawer o fanteision i gymunedau a busnesau, gan gynnwys cyllid grant a rheolaeth safleoedd hefyd, ac adnoddau yn cael eu dynodi yno. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi helpu i sicrhau nad yw'r ymrwymiad maniffesto cadarnhaol hwn yn cael ei golli oherwydd lleisiau croch yn rhannu camwybodaeth? Diolch.
Thanks very much. As someone who lives in a national park and who has to abide by all the planning issues surrounding that, I think it's fair to say that, whilst I understand that people need to understand what the implications will be for them in terms of planning and how things will work and how things will be different, I think it's really important to recognise that the similarities in planning restrictions within and outside a national park area are much greater than the differences, and the perceptions are perhaps not always seen like that. So, the key thing, I think, to remember is that cohesive approach—you think about the whole area and what it looks like and how it works with the community. And the real difference, I think, is in relation to community engagement and the resources put into community engagement, making sure that the people who live there understand their responsibilities, and also the joys of living in a national park and the benefits that that can bring.
Diolch yn fawr iawn. Fel rhywun sy'n byw mewn parc cenedlaethol ac sy'n gorfod cadw at yr holl faterion cynllunio sy'n ymwneud â hynny, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, er fy mod i'n deall bod angen i bobl ddeall beth fydd y goblygiadau iddyn nhw o ran cynllunio a sut y bydd pethau yn gweithio a sut y bydd pethau yn wahanol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod y tebygrwydd rhwng cyfyngiadau cynllunio o fewn ardal parc cenedlaethol a'r tu allan yn llawer mwy na'r gwahaniaethau, ac efallai nad yw'r tybiaethau bob amser yn cael eu hystyried felly. Felly, y peth allweddol, rwy'n credu, i'w gofio yw'r dull cydlynol hwnnw—rydych chi'n meddwl am yr holl ardal a sut mae'n edrych a sut mae'n gweithio gyda'r gymuned. Ac mae'r gwir wahaniaeth, rwy'n credu, yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned a'r adnoddau a roddir i ymgysylltu â'r gymuned, gan wneud yn siŵr bod y bobl sy'n byw yno yn deall eu cyfrifoldebau, a hefyd y pleserau o fyw mewn parc cenedlaethol a'r manteision y gall hynny eu cynnig.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi? OQ61866
2. How does the Welsh Government support the publishing industry? OQ61866
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi drwy roi grant blynyddol i Gyngor Llyfrau Cymru.
The Welsh Government supports the publishing industry through an annual grant to the Books Council of Wales.
Wel, fe fyddwch chi'n ymwybodol, felly, fod y grant hwnnw wedi disgyn yn sylweddol, gyda Chyngor Llyfrau Cymru'n datgan ei fod gyfwerth â gostyngiad o 40 y cant mewn termau real ers 10 mlynedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn, gan gynnwys toriad o 34 y cant yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan brif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau. Mae nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi wedi cysylltu efo fi, yn hynod o bryderus am y sefyllfa, gyda rhagor o doriadau staff yn anochel a hefyd nifer o gyhoeddwyr, megis Y Lolfa, ddim hyd yn oed yn gwybod os gallant barhau. O ystyried ffocws ein Llywodraeth ar lythrennedd, yn dilyn pryderon dybryd am lefel llythrennedd plant Cymru yn y Saesneg a'r Gymraeg—efo'r Gymraeg tua 18 mis ar ei hôl hi o'i gymharu â'r Saesneg—dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno pa mor bwysig ydy'r diwydiant hwn o ran sicrhau cynnwys cyfoes a chynrychioliadol i helpu gyda hyn. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r pryderon, ac allwch chi gynnig unrhyw eiriau o sicrwydd i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant hwn eich bod chi'n gwrando ac am weithio efo nhw i sicrhau dyfodol llewyrchus i gyhoeddi yng Nghymru?
Well, you'll be aware, therefore, that that grant has declined significantly, with the Welsh Books Council stating that it's declined 40 per cent in real terms in the past 10 years. This has led to a significant decrease in the number of books published during this period, including a cut of 34 per cent in the number of books in Welsh published by major publishers with grant support. A number of people working in the publishing industry have contacted me to express their grave concerns regarding the situation, with further staffing cuts an inevitability and a number of publishers, such as Y Lolfa, unsure whether they can even continue to operate. Bearing in mind our Government’s focus on literacy, following the serious concerns expressed regarding literacy levels among children in Wales, in English and Welsh—with Welsh around 18 months behind English—I’m sure that you will agree how important this industry is in terms of delivering modern and representative material to help this situation. So, may I ask how is the Welsh Government responding to these concerns, and can you provide any words of assurance to those who work in this industry that you are listening and that you will work with them to ensure a viable future for publishing in Wales?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar y Llywodraeth, ac yn arbennig y llynedd roedd yna bwysau ariannol. Ac fel lot o ardaloedd eraill yn y gyllideb, gwelon ni doriadau er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r arian yna i ddiogelu pethau fel iechyd, sydd hefyd yn flaenoriaeth i bobl Cymru. Mae hwnna'n rhan o'r ffaith bod yna gamreoli'r economi wedi digwydd, ac effaith chwyddiant hefyd. Wrth gwrs, rŷn ni yn y broses ar hyn o bryd o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Mae gwahoddiad i chi drafod gyda ni. Mae yna reswm i chi, efallai, drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid. Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r gwir flaenoriaeth sydd gyda chi.
Thank you very much. Of course, there are financial pressures on the Government, and there was particular financial pressure last year. And as in many other areas within the budget, we did see cuts in order to ensure that we do provide that funding to safeguard things such as health, which is also a priority for the people of Wales. This is an impact of the mismanagement of the economy, and an impact of inflation too. We're in the process at the moment of making decisions on the budget. There is an invitation to you to have discussions with us. There is, perhaps, good reason for you to have those discussions with us, if this is important to you, so that you, perhaps, help us with the budget. That is an invitation that's open to you to have discussions with us, if this is your real priority.
First Minister, having visited a number of small publishers, I'm aware of deep concerns within the sector and of the impact this will have upon my constituents, with prominent publishers like Bridgend-based Seren in my region. What action will the Welsh Government take to ensure creative industry institutions like the Books Council of Wales get financially sufficient support given the recent 10 per cent cut to their budget? Thank you.
Prif Weinidog, ar ôl ymweld â nifer o gyhoeddwyr bach, rwy'n ymwybodol o bryderon dwfn yn y sector ac am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fy etholwyr, gyda chyhoeddwyr blaenllaw fel Seren ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod sefydliadau'r diwydiant creadigol fel Cyngor Llyfrau Cymru yn cael cymorth digonol yn ariannol o gofio'r toriad diweddar o 10 y cant i'w cyllideb? Diolch.
Thanks very much. You're right—part of the reason we had to make that cut, of course, is because your party, I'm afraid, mismanaged the economy and left us with a £22 billion hole. We had to get the money from somewhere—something has to go. And, obviously, this was very difficult—very difficult decisions—but I'm sure that the books council is aware of the state that your party left the economy in. But what we have been doing is to support a new audience fund to help support diversity in the publishing sector, and also we've helped publishers to attend the London and Frankfurt book fairs, which, of course, provides them with opportunities to enter into new markets.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n iawn—rhan o'r rheswm y bu'n rhaid i ni wneud y toriad hwnnw, wrth gwrs, yw oherwydd bod eich plaid chi, mae gen i ofn, wedi camreoli'r economi a'n gadael ni â thwll gwerth £22 biliwn. Roedd yn rhaid i ni gael yr arian o rywle—mae'n rhaid i rywbeth fynd. Ac, yn amlwg, roedd hyn yn anodd iawn—penderfyniadau anodd iawn—ond rwy'n siŵr bod y cyngor llyfrau yn ymwybodol o'r cyflwr y gadawodd eich plaid yr economi ynddo. Ond yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw cefnogi cronfa cynulleidfa newydd i helpu i gefnogi amrywiaeth yn y sector cyhoeddi, a hefyd rydym ni wedi helpu cyhoeddwyr i fynychu ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt, sydd, wrth gwrs, yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw ymuno â marchnadoedd newydd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweindydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Questions now from the party leaders. The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. First Minister, today many thousands of farmers from Wales are going to Westminster, along with farmers from across the United Kingdom. They are deeply troubled by the proposals contained within the UK Government budget to remove agricultural property relief, especially as the Prime Minister and the Department for Environment, Food and Rural Affairs Secretary said during the campaign that there were no plans to change agricultural property relief. Do you recognise, First Minister, that the language you used last Thursday, for people to 'calm down', is not borne out by the fear, the frustration and the anger that people feel about this betrayal by the Labour Party?
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae miloedd lawer o ffermwyr o Gymru yn mynd i San Steffan, ynghyd â ffermwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Maen nhw'n bryderus iawn am y cynigion sydd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i gael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol, yn enwedig gan fod Prif Weinidog y DU ac Ysgrifennydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi dweud yn ystod yr ymgyrch nad oedd unrhyw gynlluniau i newid rhyddhad eiddo amaethyddol. Ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, nad yw'r iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddydd Iau diwethaf, i bobl 'bwyllo', yn cael ei chadarnhau gan yr ofn, y rhwystredigaeth a'r dicter y mae pobl yn ei deimlo am y brad hwn gan y Blaid Lafur?
Well, let me make it clear that I think that farmers make a really important contribution to our country. They provide food, they provide a contribution to the economy, a huge social contribution, a cultural contribution. As someone who represents a rural area, I know how important they are as the bedrock to that economy, and that's why they are one of the sectors that receives the highest amount of subsidy in terms of our economy. But we were left with a black hole. That is the truth of it, and farmers use public services—they sent their children to local schools, they use the local hospitals, and somebody has to pay for it. But I do think it's important, first of all, to quote me correctly. I was very clear that
'we should just all calm down'.
And I think also it's important for us to be careful here, because I think there is a lot of anxiety within the agricultural community, and the last thing we need to do is to pour fuel on that fire. There are a lot of agricultural workers who are in a lot of stress at the moment, and it is important for us to make sure that we work through exactly the implications for people in our communities.
Wel, gadewch i mi ei gwneud hi'n glir fy mod i'n credu bod ffermwyr yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i'n gwlad. Maen nhw'n darparu bwyd, maen nhw'n gwneud cyfraniad at yr economi, cyfraniad cymdeithasol enfawr, cyfraniad diwylliannol. Fel rhywun sy'n cynrychioli ardal wledig, rwy'n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw fel sylfaen i'r economi honno, a dyna pam maen nhw'n un o'r sectorau sy'n derbyn y swm uchaf o gymhorthdal o ran ein heconomi. Ond cawsom ni ein gadael gyda thwll du. Dyna'r gwir amdani, ac mae ffermwyr yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus—maen nhw'n anfon eu plant i ysgolion lleol, maen nhw'n defnyddio'r ysbytai lleol, ac mae'n rhaid i rywun dalu amdano. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, yn gyntaf oll, i fy nyfynnu yn gywir. Roeddwn i'n glir iawn y
'dylem ni i gyd bwyllo'.
Ac rwy'n meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i ni fod yn ofalus yma, oherwydd rwy'n meddwl bod llawer o ofid yn y gymuned amaethyddol, a'r peth olaf y mae angen i ni ei wneud yw arllwys tanwydd ar y tân hwnnw. Mae yna lawer o weithwyr amaethyddol sydd o dan lawer o straen ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio drwy'r union oblygiadau i bobl yn ein cymunedau.
I'm grateful for the way that you phrased part of that answer, identifying the importance of farming to the psyche of Wales as a country, because it is part of our DNA—the industry is—and, indeed it's the bedrock of the biggest employment base that the economy has—the food processing sector combined with the agricultural sector. But you talked of the flames, and the flames were lit by the budget that the Labour Party brought at the end of October that reneged on commitment that the Prime Minister and the DEFRA Secretary made during the election campaign to not get rid of agricultural property relief. Now, two weeks ago, I raised this point with you, First Minister, and I asked you the numbers that you believed were going to be affected by this. When the press followed up that question, your department said that they did not have access to the figures and they referred them to the Treasury. So, you are defending a policy that you are not in complete control of or have knowledge of. DEFRA's own figures say that two thirds of farms will be affected by this change. The Treasury's figures say that it's under a third. Those two figures cannot be right. Which figure do you agree with, First Minister?
Rwy'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaethoch chi eirio rhan o'r ateb hwnnw, gan nodi pwysigrwydd ffermio i enaid Cymru fel gwlad, oherwydd mae'n rhan o'n DNA—mae'r diwydiant yn—ac, yn wir, dyma sylfaen y sail gyflogaeth fwyaf sydd gan yr economi—y sector prosesu bwyd ynghyd â'r sector amaethyddol. Ond fe wnaethoch chi sôn am y fflamau, a thaniwyd y fflamau gan y gyllideb a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur ddiwedd mis Hydref a gefnodd ar yr ymrwymiad a wnaeth Prif Weinidog y DU ac Ysgrifennydd DEFRA yn ystod yr ymgyrch etholiadol i beidio â chael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol. Nawr, bythefnos yn ôl, codais y pwynt hwn gyda chi, Prif Weinidog, ac fe'ch holais am y niferoedd yr oeddech chi'n credu oedd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn. Pan aeth y wasg ar drywydd y cwestiwn hwnnw, dywedodd eich adran nad oedd ganddyn nhw fynediad at y ffigurau a gwnaethant eu cyfeirio at y Trysorlys. Felly, rydych chi'n amddiffyn polisi nad oes gennych chi reolaeth lwyr drosto na gwybodaeth amdano. Mae ffigurau DEFRA ei hun yn dweud y bydd dwy ran o dair o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae ffigurau'r Trysorlys yn dweud ei fod yn llai na thraean. Ni all y ddau ffigur hynny fod yn gywir. Pa ffigur ydych chi'n cytuno ag ef, Prif Weinidog?
Well, thanks very much. I find it very rich to listen to somebody talking about reneging on budget when you didn't put money into steelworkers pockets, you didn't put the money by for people affected by infected blood, you didn't put the money by for people who suffered as a result of the Post Office scandal. But we are taking this seriously, and I think what is important is that we recognise that inheritance tax is a non-devolved area, so it is the Treasury that has those figures. It's important that we revert to the published Treasury data. I know that the Deputy First Minister spoke to the farm unions to ask them to ensure that they could make representations to the UK Government and take on board the concerns of Wales, and they have agreed to that.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ei chael hi'n ddoniol iawn gwrando ar rywun yn siarad am gefnu ar gyllideb pan na wnaethoch chi roi arian ym mhocedi gweithwyr dur, na wnaethoch chi roi'r arian o'r neilltu i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan waed heintiedig, na wnaethoch chi roi'r arian o'r neilltu i bobl a ddioddefodd o ganlyniad i sgandal Swyddfa'r Post. Ond rydym ni'n cymryd hyn o ddifrif, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod bod treth etifeddiaeth yn faes nad yw wedi'i ddatganoli, felly y Trysorlys sydd â'r ffigurau hynny. Mae'n bwysig ein bod ni'n dychwelyd at ddata cyhoeddedig y Trysorlys. Gwn fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi siarad â'r undebau fferm i ofyn iddyn nhw sicrhau y gallen nhw gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU a rhoi ystyriaeth i bryderon Cymru, ac maen nhw wedi cytuno i hynny.
The important thing is that you're the First Minister of Wales. You can start to stand up for Wales by calling out this policy and the reneging on the commitment that the Labour Party made in the run-up to the election, which was to keep agricultural property relief. That is a fundamental point in the taxation system—[Interruption.]
Y peth pwysig yw mai chi yw Prif Weinidog Cymru. Gallwch chi ddechrau sefyll dros Gymru trwy feirniadu'r polisi hwn a'r cefnu ar yr ymrwymiad a wnaeth y Blaid Lafur yn y cyfnod cyn yr etholiad, sef cadw rhyddhad eiddo amaethyddol. Mae hwnnw yn bwynt sylfaenol yn y system drethu—[Torri ar draws.]
There's no point of order at this point. Can we allow the leader of the Welsh Conservatives to continue his question, please?
Does dim pwynt o drefn ar hyn o bryd. A allwn ni ganiatáu i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig barhau â'i gwestiwn, os gwelwch yn dda?
That is a fundamental point in the taxation system that allows family farms to carry on. We've seen in Scotland today the Labour leader call out the flawed policy of withdrawing the winter fuel allowance to pensioners. Will you now find the backbone, First Minister, to call this policy out for what it is? It will be the destruction of family farms in Wales and the destruction of the agricultural industry as we know it.
Mae hwnnw'n bwynt sylfaenol yn y system drethu sy'n caniatáu i ffermydd teuluol barhau. Rydym ni wedi gweld yn yr Alban heddiw arweinydd Llafur yn beirniadu'r polisi diffygiol o ddiddymu'r lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr. A wnewch chi ddod o hyd i'r asgwrn cefn nawr, Prif Weinidog, i feirniadu'r polisi hwn am yr hyn yr ydyw? Bydd yn dinistrio ffermydd teuluol yng Nghymru ac yn dinistrio'r diwydiant amaethyddol fel yr ydym ni'n ei adnabod.
The number of people who are affected by this, according to our calculations, are going to be very few. Again, let's wait to make sure that the agricultural unions can make their representation, as has been agreed by the Ministers. The Welsh farmers unions will have an opportunity to show their workings and the Treasury will be able to show their workings, and then we need to come to a conclusion on this issue. What I can tell you is that the Welsh Government provides significant funding to the agricultural sector, not just in terms of general support but also through Farming Connect to help people with succession planning. And if they have fears, I would suggest that they go and speak to them.
Mae'r nifer o bobl sy'n cael eu heffeithio gan hyn, yn ôl ein cyfrifiadau, yn mynd i fod yn fach iawn. Eto, gadewch i ni aros i wneud yn siŵr y gall yr undebau amaethyddol wneud eu sylwadau, fel y cytunwyd gan y Gweinidogion. Bydd gan undebau ffermwyr Cymru gyfle i ddangos eu cyfrifiadau a bydd y Trysorlys yn gallu dangos eu cyfrifiadau hwythau, ac yna mae angen i ni ddod i gasgliad ar y mater hwn. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid sylweddol i'r sector amaethyddol, nid yn unig o ran cymorth cyffredinol ond hefyd drwy Cyswllt Ffermio i helpu pobl gyda chynllunio olyniaeth. Ac os oes ganddyn nhw ofnau, byddwn i'n awgrymu eu bod nhw'n mynd i siarad â nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
When the Labour Prime Minister, Keir Starmer, announced on the eve of Labour's Welsh conference at the weekend that Wales would not be getting any HS2 consequentials, that consequentials just didn't apply because heavy rail isn't devolved, denying us the £4 billion owed to us, was that how she imagined her so-called partnership in power working?
Pan gyhoeddodd Prif Weinidog Llafur y DU, Keir Starmer, ar drothwy cynhadledd Llafur yng Nghymru dros y penwythnos na fyddai Cymru yn cael unrhyw gyllid canlyniadol HS2, nad oedd cyllid canlyniadol yn berthnasol gan nad yw rheilffyrdd trwm wedi'u datganoli, gan atal y £4 biliwn sy'n ddyledus i ni, ai dyna sut y gwnaeth hi ddychmygu y byddai ei phartneriaeth mewn grym honedig yn gweithio?
I can assure you that I raised this issue directly with the Prime Minister. I've been clear that we are not happy with the way that HS2 funding has been allocated. We are in discussions with the relevant department on how we can get more money into rail infrastructure in Wales, and those discussions are going well.
Gallaf eich sicrhau fy mod i wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU. Rwyf wedi bod yn glir nad ydym ni'n hapus gyda'r ffordd y mae cyllid HS2 wedi cael ei ddyrannu. Rydym ni mewn trafodaethau gyda'r adran berthnasol ynghylch sut y gallwn ni gael mwy o arian ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae'r trafodaethau hynny'n mynd yn dda.
She should be demanding the consequentials. She's defending Keir Starmer again, instead of standing up for Wales. She's too busy waving her glow stick on the dance floor to shine a light on this injustice, perhaps. There's not a mile of HS2 in Wales, but we're paying for it. The First Minister, her Cabinet and Labour backbenchers, frankly, should be up in arms about Keir Starmer's attitude towards Wales.
In last month's council of nations meeting, the First Minister said that Wales was being short-changed and needed fair play on rail infrastructure. To save face for her boss, she said that she didn't expect to see the cash in the Chancellor's first budget, saying, and I quote,
'We need more time for that.'
But whilst she thought that it was a matter of 'when', for Keir Starmer it was clearly a matter of 'if'. So, now that he has closed the door on HS2 consequentials, what is her next move? Keir Starmer has given up on Wales, but we can't afford to have a Welsh First Minister doing so.
Dylai fod yn mynnu cael y cyllid canlyniadol. Mae'n amddiffyn Keir Starmer eto, yn hytrach na sefyll dros Gymru. Mae'n rhy brysur yn chwifio ei ffon olau ar y llawr dawnsio i daflu goleuni ar yr anghyfiawnder hwn, efallai. Nid oes milltir o HS2 yng Nghymru, ond rydym ni'n talu amdano. Dylai'r Prif Weinidog, ei Chabinet ac aelodau meinciau cefn Llafur, a dweud y gwir, fod yn gynddeiriog am agwedd Keir Starmer tuag at Gymru.
Yng nghyfarfod cyngor y cenhedloedd fis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru yn cael cyllid annigonol a bod angen chwarae teg o ran seilwaith rheilffyrdd. Er mwyn cadw wyneb i'w phennaeth, dywedodd nad oedd yn disgwyl gweld yr arian yng nghyllideb gyntaf y Canghellor, gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Rydym ni angen mwy o amser ar gyfer hynny.'
Ond er ei bod hi'n meddwl ei fod yn fater o 'pryd', i Keir Starmer roedd yn amlwg yn fater o 'os'. Felly, nawr ei fod wedi cau'r drws ar gyllid canlyniadol HS2, beth yw ei cham nesaf? Mae Keir Starmer wedi cefnu ar Gymru, ond allwn ni ddim fforddio cael Prif Weinidog Cymru yn gwneud hynny.
I can assure you that I haven't given up on making sure that we get additional rail infrastructure funding from the UK Government. I'm not giving up; I'm standing up. Every single time I see Keir Starmer, I bring this issue up. I've made it clear to him that I will not stop bringing it up until we have fair play on this issue. That's what leadership looks like and that's what I'm doing.
Gallaf eich sicrhau nad wyf wedi cefnu ar wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cyllid seilwaith rheilffyrdd ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Nid wyf i'n rhoi'r gorau iddi; rwy'n bwrw ati. Bob un tro yr wyf i'n gweld Keir Starmer, rwy'n codi'r mater hwn. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iddo na fyddaf i'n rhoi'r gorau i'w godi tan ein bod ni'n cael chwarae teg ar y mater hwn. Dyna sut mae arweinyddiaeth yn edrych a dyna beth yr wyf yn ei wneud.
He's clearly not listening one bit to the First Minister of Wales, even though she's from his own party. I discussed HS2 with the Labour Secretary of State for Wales yesterday. She used to agree with us on the HS2 consequentials issue. I think the figure that she used to use was £4.5 billion owed to Wales, but she has changed her mind now. But I presented a way forward for her: let's have a new piece of legislation at Westminster, dealing with fair funding, yes, but also a host of other issues. A new Wales Bill would pave the way for devolving the Crown Estate, devolving policing and justice—matters that Labour used to agree with us wholeheartedly on, and, crucially, matters already devolved to Scotland. And surely, treating Wales equally with Scotland is the least that we should be able to expect from a UK Government.
We've had a number of Wales Bills over the years that have become law, but Labour haven't actually brought one forward now for nearly 20 years. Here's how the last Conservative Wales Bill—by then, a Wales Act—was described in 2017:
'There is no disputing the fact that the Wales Bill...is a poorly drafted, complex, and rushed piece of legislation which will not...settle the issue of the relationship between Westminster and Cardiff Bay for a generation.'
The words there of somebody who would surely feel that another Wales Bill is long overdue, and they were the words of the First Minister herself. So, will she join me in putting her view on record that Wales should have full parity with Scotland, and that a new comprehensive Wales Bill would be a way of achieving that?
Mae'n amlwg nad yw'n gwrando o gwbl ar Brif Weinidog Cymru, er ei bod hi o'i blaid ei hun. Trafodais HS2 gydag Ysgrifennydd Gwladol Llafur Cymru ddoe. Roedd hi'n arfer cytuno â ni ar fater cyllid canlyniadol HS2. Rwy'n credu mai'r ffigur yr oedd hi'n arfer ei ddefnyddio oedd £4.5 biliwn sy'n ddyledus i Gymru, ond mae hi wedi newid ei meddwl nawr. Ond cyflwynais ffordd ymlaen iddi: gadewch i ni gael darn newydd o ddeddfwriaeth yn San Steffan, yn ymdrin â chyllid teg, ie, ond llu o faterion eraill hefyd. Byddai Bil Cymru newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli Ystâd y Goron, datganoli plismona a chyfiawnder—materion yr oedd Llafur yn arfer cytuno â ni yn llwyr yn eu cylch, ac, yn hollbwysig, materion sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Alban. A does bosib, trin Cymru yn gyfartal â'r Alban yw'r lleiaf y dylem ni allu ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU.
Bu gennym ni nifer o Filiau Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi dod yn gyfraith, ond nid yw Llafur wedi cyflwyno un bellach ers bron i 20 mlynedd. Dyma sut y disgrifiwyd Bil Cymru diwethaf y Ceidwadwyr—Deddf Cymru erbyn hynny—yn 2017:
'Does dim dadlau bod Bil Cymru...yn ddarn o ddeddfwriaeth cymhleth, brysiog sydd wedi'i ddrafftio'n wael na fydd yn...datrys mater y berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd am genhedlaeth.'
Geiriau yn y fan yna rhywun a fyddai'n sicr yn teimlo ei bod hi'n hen bryd cael Bil Cymru arall, a geiriau'r Prif Weinidog ei hun oedd y rheini. Felly, a wnaiff hi ymuno â mi i roi ei barn ar gof a chadw y dylai Cymru gael cydraddoldeb llawn â'r Alban, ac y byddai Bil Cymru cynhwysfawr newydd yn ffordd o gyflawni hynny?
I'm focused on the things that matter to the people of Wales, things that people told me about over the summer. What they care about is sorting out the health service, making sure that we get decent housing, and that's why I am not going to be pulled into constitutional debates that you are absolutely obsessed with. Of course I will make the case in relation to fair funding, of course I will continue to make the case in terms of the Crown Estate, and I will continue to make the case for HS2.
Rwy'n canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl Cymru, pethau y gwnaeth pobl ddweud wrthyf i amdanyn nhw dros yr haf. Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw datrys y gwasanaeth iechyd, gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael tai addas, a dyna pam nad wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddadleuon cyfansoddiadol y mae gennych chi obsesiwn llwyr â nhw. Wrth gwrs, fe wnaf i wneud y ddadl o ran cyllid teg, wrth gwrs, fe wnaf i barhau i wneud y ddadl o ran Ystâd y Goron, ac fe wnaf i barhau i wneud y ddadl dros HS2.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd menywod? OQ61895
3. How is the Welsh Government supporting women's health? OQ61895
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r NHS yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd i fenywod. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno nyrsys pwrpasol ar gyfer endometriosis ym mhob un o’r byrddau iechyd. Bydd y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae’r cynllun yn nodi cynlluniau gweithredu tymor byr a thymor hir yr NHS i sicrhau mwy o welliannau mewn gwasanaethau i fenywod.
We have been working with the NHS in Wales to improve health services for women, including introducing dedicated endometriosis nurses in every health board. The women’s health plan will be published in December, setting the NHS short- and long-term actions to drive further improvements across services for women.
'I was told I was having a gold standard procedure that would change my life. It did. After approximately 13 operations and procedures, I am now waiting to have my large bowel removed and I've been left with pain and disabilities.'
These are the words of a constituent of mine after she was fitted with a vaginal mesh. While we are still waiting for the long-promised women's health plan, the initial discovery report by the NHS Wales national strategic clinical network for Women's health doesn't mention vaginal mesh. The Hughes report, published in February by the Patient Safety Commissioner for England, recommended that
'government has a responsibility to create a...scheme providing financial and non-financial redress for those harmed'.
The Welsh Government has not yet made an official statement in response to the Hughes report, but in a reply to a written question, you said that you'd asked officials to review its recommendations and to ensure the best course is pursued so that affected people in Wales are not treated any differently.
So, could you give an update, please, and include how the treatment of mesh patients like my constituent will be included in the women's health plan, what funding is being allocated to them, and what conversations have happened with the new Westminster Government around the UK-wide response to the Hughes report? Diolch.
'Dywedwyd wrthyf i fy mod i'n cael llawdriniaeth safon aur a fyddai'n newid fy mywyd. Fe wnaeth. Ar ôl tua 13 o lawdriniaethau a thriniaethau, rwyf i bellach yn aros i gael tynnu fy ngholuddyn mawr ac rwyf i wedi cael fy ngadael â phoen ac anableddau.'
Dyma eiriau un o'm hetholwyr ar ôl iddi gael triniaeth rhwyll y wain. Er ein bod ni'n dal i aros am y cynllun iechyd menywod a addawyd ers amser maith, nid yw'r adroddiad darganfod cychwynnol gan rwydwaith clinigol strategol cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer iechyd menywod yn sôn am rwyll y wain. Argymhellodd adroddiad Hughes, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Gomisiynydd Diogelwch Cleifion Lloegr
'mae gan lywodraeth gyfrifoldeb i lunio...cynllun sy'n cymryd camau unioni ariannol ac anariannol i'r rhai a niweidiwyd'.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad swyddogol eto mewn ymateb i adroddiad Hughes, ond mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi gofyn i swyddogion adolygu ei argymhellion a sicrhau bod y trywydd gorau yn cael ei ddilyn fel nad yw pobl sydd wedi cael eu heffeithio yng Nghymru yn cael eu trin yn wahanol.
Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, a chynnwys sut y bydd triniaeth cleifion rhwyll fel fy etholwr yn cael ei chynnwys yn y cynllun iechyd menywod, pa gyllid sy'n cael ei ddyrannu iddyn nhw, a pha sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal gyda Llywodraeth newydd San Steffan ynghylch ymateb y DU gyfan i adroddiad Hughes? Diolch.
Thanks very much. I'm very clear that the way we deal with women's health is not good enough in Wales. Part of what we need to do is to make sure that we see more research being put into women's health. There is a definite gender bias when it comes to how we have allocated money, and that's why I'm very pleased that we have been able to allocate £750,000 specifically for women's health.
You will have to wait until we publish that women's health plan; it is an NHS plan, and there will, I'm sure, be references to the situation in relation to what's happened with mesh patients and how we see the future looking for those kinds of conditions. It is important that we continue to be sensitive to the needs of women in our health system, and you will have seen that we're very interested in developing women's specialist centres when it comes to health as a result of that listening exercise over the summer.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n glir iawn nad yw'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag iechyd menywod yn ddigon da yng Nghymru. Rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld mwy o ymchwil yn cael ei gwneud ym maes iechyd menywod. Mae tuedd bendant ar sail rhywedd o ran sut rydym ni wedi dyrannu arian, a dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dyrannu £750,000 yn benodol ar gyfer iechyd menywod.
Bydd yn rhaid i chi aros tan i ni gyhoeddi'r cynllun iechyd menywod hwnnw; mae'n gynllun gan y GIG, ac fe fydd yna, rwy'n siŵr, gyfeiriadau at y sefyllfa o ran yr hyn sydd wedi digwydd gyda chleifion rhwyll a sut rydym ni'n gweld y dyfodol yn edrych ar gyfer y mathau hynny o gyflyrau. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn sensitif i anghenion menywod yn ein system iechyd, a byddwch chi wedi gweld bod gennym ni ddiddordeb mawr mewn datblygu canolfannau arbenigol menywod o ran iechyd o ganlyniad i'r ymarfer gwrando hwnnw dros yr haf.
Can I start by thanking you for your announcement just then on endometriosis? I think that's a really welcome step forward, but there is still so much more that could be done. As my former colleague Welsh Conservative Suzy Davies often championed and often talked about, endometriosis is a debilitating condition that can cause severe pain all over the body and it affects up to 10 per cent of women in the whole of the UK. Yet we have seen waiting lists for gynaecology increase by 92 per cent over the last four years. It isn't good enough, by your own recognition just now.
I know from my own horrifying experience of menopause how a lack of awareness around women's health conditions can cause misdiagnosed women to live with excruciating pain. In the worst misdiagnosed endometriosis cases, women have had organs wrongly removed. The moneys that have recently been announced by this Government are very welcome, but what action are you going to take to specifically improve the waiting times for these women and get a more general understanding of this debilitating issue?
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am eich cyhoeddiad ar endometriosis yn y fan yna? Rwy'n credu bod hwnnw'n gam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr, ond mae cymaint mwy y gellid ei wneud o hyd. Fel y gwnaeth fy nghyn-gyd-Aelod yn y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies, ei hyrwyddo yn aml a siarad amdano yn aml, mae endometriosis yn gyflwr gwanychol a all achosi poen difrifol dros y corff i gyd ac mae'n effeithio ar hyd at 10 y cant o fenywod yn y DU gyfan. Ac eto rydym ni wedi gweld rhestrau aros ar gyfer gynaecoleg yn cynyddu 92 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Nid yw'n ddigon da, o'ch cydnabyddiaeth eich hun nawr.
Rwy'n gwybod o'm profiad erchyll fy hun o'r menopos sut y gall diffyg ymwybyddiaeth ynghylch cyflyrau iechyd menywod achosi i fenywod sy'n cael camddiagnosis fyw gyda phoen echrydus. Yn yr achosion camddiagnosis endometriosis gwaethaf, mae organau menywod wedi cael eu tynnu yn anghywir. Mae croeso mawr i'r arian a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth hon yn ddiweddar, ond pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i wella'r amseroedd aros i'r menywod hyn yn benodol a chael dealltwriaeth fwy cyffredinol o'r broblem wanychol hon?
Thanks very much. You're quite right, endometriosis is a condition that, if I'm honest, I didn't know much about until I heard it championed in this very Chamber. Once you start to hear about it, you get a sense of the scale of the number of women who are affected by it, and it is really quite frightening to hear. You hear about the pain that they have to live with. It's very difficult to diagnose, it's very difficult to treat, actually, and it is important that we continue our focus on that. But we have seen a 77 per cent drop since April 2022 when it comes to people waiting for more than two years for gynaecological problems. So, that is a considerable drop from where we were. Waiting times for gynaecology are prioritised. We have had specific summits, particularly when it comes to cancer and gynaecology, and we have a real focus on this now when it comes to making sure that we implement the Getting It Right First Time methods and methodology and systems in order to speed up the system.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir, mae endometriosis yn gyflwr nad oeddwn i, os wyf i'n onest, yn gwybod llawer amdano tan i mi ei glywed yn cael ei hyrwyddo yn yr union Siambr hon. Ar ôl i chi ddechrau clywed amdano, rydych chi'n cael synnwyr o raddfa nifer y menywod sy'n cael eu heffeithio ganddo, ac mae wir yn frawychus ei glywed. Rydych chi'n clywed am y boen y mae'n rhaid iddyn nhw fyw gydag ef. Mae'n anodd iawn gwneud diagnosis ohono, mae'n anodd iawn ei drin, mewn gwirionedd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar hynny. Ond rydym ni wedi gweld gostyngiad o 77 y cant ers mis Ebrill 2022 o ran pobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd ar gyfer problemau gynaecolegol. Felly, mae hwnnw'n ostyngiad sylweddol o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi. Mae amseroedd aros ar gyfer gynaecoleg yn cael eu blaenoriaethu. Rydym ni wedi cael uwchgynadleddau penodol, yn enwedig o ran canser a gynaecoleg, ac mae gennym ni bwyslais go iawn ar hyn nawr o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithredu dulliau a methodoleg a systemau Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf er mwyn cyflymu'r system.
Last month, when I raised women's health, I referenced my own family's experience of ovarian cancer. What I didn't mention then is the length time it took to diagnose, from first suspected gallstones to fibroids, then potentially bowel cancer, when finally, after diagnosis, it resulted in two surgeons having to be involved with bowel repair and major gynae surgery. That was 15 years ago, but, sadly, women are still struggling through the system. So, I do really welcome the women's health plan and look forward to publication next month. First Minister, I do recognise your absolute commitment on this topic, but women can't keep waiting, and it can't keep happening. So, I just want to ask, alongside the publication of the plan, what more can be done practically in the here and now. Because women really need to be listened to and their concerns not minimised when it comes to knowing our own bodies and that something isn't quite right. When things are considered, what can the plan change in terms of approaching things in a different way, for example actually checking for the most serious possibility first rather than the other way around, which often happens now?
Fis diwethaf, pan godais i iechyd menywod, cyfeiriais at brofiad fy nheulu fy hun o ganser yr ofarïau. Yr hyn na soniais amdano bryd hynny yw'r amser a gymerodd i gael diagnosis, o gerrig bustl posibl i ddechrau i ffibroidau, yna canser y coluddyn posibl, pan o'r diwedd, ar ôl diagnosis, arweiniodd at ddau lawfeddyg yn gorfod bod yn rhan o lawdriniaeth atgyweirio'r coluddyn a gynaecolegol fawr. Roedd hynny 15 mlynedd yn ôl, ond, yn anffodus, mae menywod yn dal i ddioddef trafferthion yn y system. Felly, rwyf i wir yn croesawu'r cynllun iechyd menywod ac yn edrych ymlaen at ei gyhoeddi fis nesaf. Prif Weinidog, rwy'n cydnabod eich ymrwymiad llwyr ar y pwnc hwn, ond ni all menywod barhau i aros, ac ni all barhau i ddigwydd. Felly, hoffwn ofyn, ochr yn ochr â chyhoeddi'r cynllun, beth arall y gellir ei wneud yn ymarferol ar unwaith. Oherwydd mae wir angen gwrando ar fenywod â pheidio â bychanu eu pryderon o ran adnabod ein cyrff ein hunain a bod rhywbeth ddim yn hollol iawn. Pan fydd pethau'n cael eu hystyried, beth all y cynllun ei newid o ran mynd i'r afael â phethau mewn ffordd wahanol, er enghraifft gwirio am y posibilrwydd mwyaf difrifol yn gyntaf yn hytrach na'r ffordd arall, sy'n aml yn digwydd nawr?
Thanks very much. I think, first of all, it starts with respect for the women who are coming into our NHS and making sure that you're in listening mode when they're coming through the door. But I think what will be really helpful is that additional £50 million that is now going into the NHS this financial year, which includes gynaecological treatments. That is practical, it's real, and it's happening right now.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei fod yn dechrau gyda pharch at y menywod sy'n dod i mewn i'n GIG a gwneud yn siŵr eich bod chi'n barod i wrando pan fyddan nhw'n dod drwy'r drws. Ond rwy'n credu mai'r hyn fydd o gymorth mawr yw'r £50 miliwn ychwanegol hwnnw sy'n mynd i mewn i'r GIG yn y flwyddyn ariannol hon nawr, sy'n cynnwys triniaethau gynaecolegol. Mae hynny'n ymarferol, mae'n real, ac mae'n digwydd nawr.
Sadly, a significant number of women suffer baby loss at different stages of pregnancy, and in England, baby loss certificates are given to families who experience baby loss before 24 weeks. I know Welsh Government officials have been working with their English counterparts to see how these certificates work in practice, and I wonder, First Minister, could you outline if consideration is being given to providing this much-needed support to our Welsh families at such a difficult time in their lives?
Yn anffodus, mae nifer sylweddol o fenywod yn colli babanod ar wahanol gyfnodau o feichiogrwydd, ac yn Lloegr, rhoddir tystysgrifau colli babanod i deuluoedd sy'n colli babi cyn 24 wythnos. Rwy'n gwybod bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn Lloegr i weld sut mae'r tystysgrifau hyn yn gweithio yn ymarferol, a thybed, Prif Weinidog, a allech chi amlinellu a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu'r cymorth hwn y mae mawr ei angen i'n teuluoedd yng Nghymru ar adeg mor anodd yn eu bywydau?
Thanks, Lesley. It's terribly distressing for people when they miscarry and when they lose a baby, and that's why it is important that we recognise their loss. We're working on a national bereavement care pathway for miscarriage, stillbirth and baby loss, and I can assure you that we are working with the UK Government to extend that certification process to formally recognise baby loss.
Diolch, Lesley. Mae'n peri gofid ofnadwy i bobl pan fyddan nhw'n camesgor a phan fyddan nhw'n colli babi, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod eu colled. Rydym ni'n gweithio ar lwybr gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer camesgor, marw-enedigaeth a cholli babanod, a gallaf eich sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ymestyn y broses ardystio honno i gydnabod colli babanod yn ffurfiol.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leddfu'r pwysau ar ganolfannau achub anifeiliaid anwes? OQ61907
4. How is the Welsh Government working to alleviate pressure on pet rescue centres? OQ61907
The Welsh Government have an ongoing programme to support responsible dog breeding and ownership. This supports our animal welfare standards and encourages behaviour change through collaborative multi-agency work. Tackling these issues helps to reduce the number of animals ending up in rehoming centres.
Mae gan Lywodraeth Cymru raglen barhaus i gefnogi bridio a pherchnogaeth cŵn cyfrifol. Mae hon yn cefnogi ein safonau lles anifeiliaid ac yn annog newid ymddygiad trwy waith amlasiantaeth cydweithredol. Mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn helpu i leihau nifer yr anifeiliaid sy'n mynd i ganolfannau ailgartrefu yn y pen draw.
Thank you. I just want to say that your recent visit to the RSPCA stand at conference was appreciated.
I recently saw a horrific photo, where a large number of dogs and puppies were rescued from squalid conditions, and finding enough spaces for them at rescues was very difficult, as there's no capacity. At the moment, rescue animals have to remain in the care of rescues and fostering; they cannot be homed in a forever home until the prosecution of cases on welfare and breeding are concluded. They very often take over a year to come to court, if not longer, which puts significant pressures on the resources of the rescue centres. So, I was wondering if the Welsh Government would therefore consider supporting an approach similar to Scotland, which allows the animals to be rehomed after 21 days, instead of waiting for the court procedure to finish.
Diolch. Hoffwn ddweud y gwerthfawrogwyd eich ymweliad diweddar â stondin yr RSPCA yn y gynhadledd.
Gwelais lun erchyll yn ddiweddar, lle achubwyd nifer fawr o gŵn a chŵn bach o amodau ofnadwy, ac roedd dod o hyd i ddigon o leoedd iddyn nhw mewn canolfannau achub yn anodd iawn, gan nad oes capasiti. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i anifeiliaid achub aros yng ngofal canolfannau achub a maethu; ni ellir eu cartrefu mewn cartref am byth tan fydd erlyniad achosion ar les a bridio yn dod i ben. Maen nhw'n aml iawn yn cymryd dros flwyddyn, neu fwy, i ddod i'r llys, sy'n rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau'r canolfannau achub. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai Llywodraeth Cymru felly'n ystyried cefnogi dull tebyg i'r Alban, sy'n caniatáu i'r anifeiliaid gael eu hailgartrefu ar ôl 21 diwrnod, yn hytrach nag aros i'r achos llys ddod i ben.
Thanks very much. I know that this has been brought to the attention of the Deputy First Minister, and I know that he's looking into that and there will be a response issued very shortly. I think we do remain open to considering the issues that have been raised by RSPCA Cymru and Hope Rescue in terms of the rehoming of animals involved in prosecution cases. So, sometimes they're there for a very, very long time and that doesn't seem fair for anybody.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod hyn wedi dod i sylw'r Dirprwy Brif Weinidog, ac rwy'n gwybod ei fod yn ymchwilio i hynny ac y bydd ymateb yn cael ei gyhoeddi yn fuan iawn. Rwy'n credu ein bod ni'n parhau i fod yn agored i ystyried y materion a godwyd gan RSPCA Cymru a Hope Rescue o ran ailgartrefu anifeiliaid sy'n gysylltiedig ag achosion erlyniad. Felly, weithiau maen nhw yno am amser hir iawn, iawn ac nid yw hynny'n ymddangos yn deg i unrhyw un.
First Minister, I would like to begin by thanking Carolyn for highlighting this crucial yet often overlooked issue. These charitable organisations have been under immense pressure, not only due to the sheer volume of animals that they must care for, but also because many of these animals have challenging behavioural problems as a result of mistreatment or abuse. Additionally, the surge in cross-breeding, especially among dogs, without proper consideration of their breed compatibility, has intensified the problem. Like many here, I have visited several pet rescue charities over the years, and I'm genuinely in awe of the care and dedication of the staff. But it is undeniable that the resources available to them are already spread thinly and the employer national insurance increase imposed by the new UK Labour Government is going to have an impact on them, either through fewer funds available for care or by reducing staff. What action is the Welsh Government prepared to take to ensure that pet rescue centres are properly resourced? Thank you.
Prif Weinidog, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Carolyn am dynnu sylw at y mater hollbwysig hwn sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Mae'r sefydliadau elusennol hyn wedi bod o dan bwysau aruthrol, nid yn unig oherwydd y nifer fawr o anifeiliaid y mae'n rhaid iddyn nhw ofalu amdanyn nhw, ond hefyd oherwydd bod gan lawer o'r anifeiliaid hyn broblemau ymddygiad heriol o ganlyniad i gael eu cam-drin. Hefyd, mae'r ymchwydd mewn croesfridio, yn enwedig ymhlith cŵn, heb ystyriaeth briodol o gydnawsedd eu bridiau, wedi dwysáu'r broblem. Fel llawer yma, rwyf i wedi ymweld â sawl elusen achub anifeiliaid anwes dros y blynyddoedd, ac mae gen i'r parch eithaf tuag at ofal ac ymroddiad y staff. Ond mae'n ddiymwad bod yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw eisoes yn denau ac mae'r cynnydd i yswiriant gwladol cyflogwyr a orfodwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU yn mynd i gael effaith arnyn nhw, naill ai drwy fod llai o arian ar gael ar gyfer gofal neu drwy leihau staff. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w cymryd i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael i ganolfannau achub anifeiliaid anwes? Diolch.
Well, thanks very much. It is important that we recognise that this is a real service that these organisations give to society, but, of course, they are generally charities, and they receive a lot of charitable funding and, clearly, decisions have to be made that are difficult, as a result of the budget, and we will have to wait to see how the impact of things like national insurance contributions may impact on them. But there are other things that could mitigate that, particularly if they're very small organisations.
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn wasanaeth go iawn y mae'r sefydliadau hyn yn ei roi i gymdeithas, ond, wrth gwrs, elusennau ydyn nhw ar y cyfan, ac maen nhw'n derbyn llawer o arian elusennol ac, yn amlwg, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau sy'n anodd, o ganlyniad i'r gyllideb, a bydd yn rhaid i ni aros i weld sut y gall effaith pethau fel cyfraniadau yswiriant gwladol effeithio arnyn nhw. Ond mae pethau eraill a allai liniaru hynny, yn enwedig os ydyn nhw'n sefydliadau bach iawn.
Good afternoon, First Minister. Our pet rescue centres do an amazing job, as you've heard, but one of the key issues is that they get overwhelmed, sadly, with greyhounds that can no longer race. The average age of a greyhound that is put out after it's been racing is three years. They live until they're 10 or 12 years old, and therefore pet rescue centres can be helped by not being overwhelmed by those greyhounds that are there, having raced.
One of the issues is whether we're able to get a timescale, please, for the animal welfare plan, which contains, as you know, a key element of a consultation on a phased ban on greyhound racing. We have been promised this before Christmas; I think there are only three more weeks to go before Christmas, and I know that people across all political parties want to see a ban on greyhound racing. So, I just wondered whether we could know when we could have an announcement on the key findings from that animal welfare plan. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae ein canolfannau achub anifeiliaid anwes yn gwneud gwaith anhygoel, fel yr ydych chi wedi clywed, ond un o'r materion allweddol yw eu bod nhw'n cael eu gorlwytho, yn anffodus, gyda milgwn nad ydyn nhw'n gallu rasio mwyach. Tair mlwydd oed yw oedran cyfartalog milgi sy'n cael ei roi allan ar ôl iddo fod yn rasio. Maen nhw'n byw tan eu bod nhw'n 10 neu 12 oed, ac felly gellid helpu canolfannau achub anifeiliaid anwes trwy beidio â chael eu gorlwytho gan y milgwn hynny sydd yno, ar ôl rasio.
Un o'r materion yw pa un a allwn ni gael amserlen, os gwelwch yn dda, ar gyfer y cynllun lles anifeiliaid, sy'n cynnwys, fel y gwyddoch, elfen allweddol o ymgynghoriad ar waharddiad graddol ar rasio milgwn. Addawyd hyn i ni cyn y Nadolig; rwy'n credu mai dim ond tair wythnos arall sydd i fynd cyn y Nadolig, ac rwy'n gwybod bod pobl ar draws pob plaid wleidyddol eisiau gweld gwaharddiad ar rasio milgwn. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael gwybod pryd y gallem ni gael cyhoeddiad ar y canfyddiadau allweddol o'r cynllun lles anifeiliaid hwnnw. Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much. I know that you're a real champion in relation to this, and I know that you've got a greyhound dog that you're very fond of. It is something that I know you feel passionately about. This is something that I know the Deputy First Minister is taking very seriously. He brought out a statement recently, to say that he will be bringing forward suggestions in relation to what we do in this space. My understanding is that this will come out around Christmas time.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n hyrwyddwr go iawn yn hyn o beth, ac rwy'n gwybod bod gennych chi filgi sy'n annwyl iawn i chi. Mae'n rhywbeth yr wyf i'n gwybod eich bod chi'n teimlo'n angerddol amdano. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn ei gymryd o ddifrif. Cyflwynodd ddatganiad yn ddiweddar, i ddweud y byddwn ni'n cyflwyno awgrymiadau o ran yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y maes hwn. Fy nealltwriaeth i yw y bydd hwn yn cael ei gyhoeddi tua adeg y Nadolig.
5. Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau adsefydlu iechyd meddwl yng Nghaerdydd? OQ61903
5. What is the Welsh Government's approach to mental health rehabilitation services in Cardiff? OQ61903
Our draft all-age mental health and well-being strategy sets out an outcome, recovery and rehabilitation approach for our mental health services. We expect health boards to plan and deliver services that embed these in services locally.
Mae ein strategaeth iechyd a llesiant meddwl pob oed ddrafft yn nodi dull canlyniad, adferiad ac adsefydlu ar gyfer ein gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ymwreiddio'r rhain mewn gwasanaethau yn lleol.
Thank you, First Minister. I was very pleased to sponsor the Royal College of Psychiatrists event in the Senedd last Wednesday, as I was able to meet Katie Fergus, a consultant in rehabilitation psychiatry. She's got four in-patient rehab wards at Llandough hospital, but there is a long waiting list. That explains why, in far too many cases, people are discharged from acute mental health wards without any community back-up or any other service to enable them to adjust to going home. Often, they unfortunately end up in hospital.
She explained to me that, actually, many health boards are actually reducing their rehab wards, and that that is of concern. So, I wondered what strategies the Welsh Government expects health boards to have to make acute in-patient psychiatric care to be, like homelessness, brief, infrequent and never repeated, by providing proper step-down support to help the journey to full recovery.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o noddi digwyddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf, gan fy mod i wedi gallu cyfarfod â Katie Fergus, meddyg ymgynghorol ym maes seiciatreg adsefydlu. Mae ganddi bedair ward adsefydlu cleifion mewnol yn ysbyty Llandochau, ond mae rhestr aros hir. Mae hynny'n esbonio pam, mewn llawer gormod o achosion, mae pobl yn cael eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl acíwt heb unrhyw gymorth wrth gefn yn y gymuned nac unrhyw wasanaeth arall i ganiatáu iddyn nhw addasu i fynd adref. Yn aml, maen nhw'n mynd i'r ysbyty yn y pen draw yn anffodus.
Esboniodd i mi, mewn gwirionedd, bod llawer o fyrddau iechyd mewn gwirionedd yn lleihau eu wardiau adsefydlu, a bod hynny'n peri pryder. Felly, tybed pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd feddu arnyn nhw i wneud gofal seiciatrig acíwt i gleifion mewnol, fel digartrefedd, yn fyr, yn anaml a byth yn cael ei ailadrodd, trwy ddarparu cymorth cam i lawr priodol i helpu'r daith i wella'n llawn.
Thanks very much. We've made it clear that we expect health boards to provide rehabilitation services in line with National Institute for Health and Care Excellence guidance. That means rehab in the community, with clinical care provided by a rehabilitation team. So, I know that in Cardiff, for example, the health board has a focused outreach and recovery team to support people with independent living and transitional support, following extended in-patient stays. We also have the all-Wales rehabilitation framework, which should be used as the model in terms of what good looks like.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur ein bod ni'n disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau adsefydlu yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae hynny'n golygu adsefydlu yn y gymuned, â gofal clinigol wedi'i ddarparu gan dîm adsefydlu. Felly, rwy'n gwybod, yng Nghaerdydd, er enghraifft, bod gan y bwrdd iechyd dîm allgymorth ac adfer â phwyslais i gynorthwyo pobl i fyw yn annibynnol a chymorth trosiannol, yn dilyn arosiadau estynedig fel cleifion mewnol. Mae gennym ni fframwaith adsefydlu Cymru gyfan hefyd, y dylid ei ddefnyddio fel y model o ran sut beth yw da.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru? OQ61878
6. Will the First Minister make a statement on how the UK Government's national insurance increase for employers will impact healthcare in Wales? OQ61878
Decisions on national insurance contributions are made by the UK Government. We are aware of the concerns raised by some primary care and social care providers on the increase of operational costs. We'll continue to monitor the situation as it develops.
Llywodraeth y DU sy'n gwneud penderfyniadau am gyfraniadau yswiriant gwladol. Rydym ni'n ymwybodol o'r pryderon a godwyd gan rai darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol ar y cynnydd i gostau gweithredu. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.
Thank you for your response, First Minister. Clearly, Labour's hike in employer national insurance contributions, you'll be aware, equates to a tax increase on working people and businesses by an average of £25 billion a year, from next year onwards. Clearly, it is disappointing that Keir Starmer has chosen to break a manifesto commitment and to tax working people in this way. And as you've pointed out, this is going to have a negative impact on health service providers across Wales, particularly in general practice.
I had the privilege yesterday, with colleagues, of meeting with the British Medical Association and some of its GPs. They warned that the British Government's policy risks undermining the financial stability of general practices and the quality of patient care they can provide. They added that many practices would be unable to afford these increases and would have to reduce their staffing and services accordingly. I'm sure that you take these warnings incredibly seriously. So, I want to know what representations you're making to the UK Government to ensure that exemptions and support are in place, so that we can see GPs in our communities in the future.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae cynnydd Llafur i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, byddwch yn ymwybodol, yn cyfateb i gynnydd treth ar bobl sy'n gweithio a busnesau o £25 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Yn amlwg, mae'n siomedig bod Keir Starmer wedi dewis torri ymrwymiad maniffesto a threthu pobl sy'n gweithio fel hyn. Ac fel rydych chi wedi ei nodi, mae hyn yn mynd i gael effaith negyddol ar ddarparwyr gwasanaethau iechyd ledled Cymru, yn enwedig ym maes ymarfer cyffredinol.
Cefais y fraint ddoe, gyda chydweithwyr, o gyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain a rhai o'i meddygon teulu. Fe wnaethon nhw rybuddio bod polisi Llywodraeth Prydain yn peri'r risg o danseilio sefydlogrwydd ariannol meddygfeydd teulu ac ansawdd y gofal y gallan nhw ei ddarparu i gleifion. Fe wnaethon nhw ychwanegu na fyddai llawer o feddygfeydd yn gallu fforddio'r codiadau hyn ac y byddai'n rhaid iddyn nhw leihau eu staffio a'u gwasanaethau yn unol â hynny. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cymryd y rhybuddion hyn o ddifrif. Felly, hoffwn wybod pa sylwadau rydych chi'n eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod eithriadau a chymorth ar waith, fel y gallwn ni weld meddygon teulu yn ein cymunedau yn y dyfodol.
Thanks very much. Well, if you're talking about breaking commitments, I don't need to give you any lessons in the Tory party. But what I can say is that there will be additional funding for the Welsh Government that will be based on the definition the UK Government uses. And you're quite right, in the Office for National Statistics definition, GPs are not—they are independent practitioners. That is the status that they have. I recognise that that is going to be something that they have to manage, and clearly we will continue to discuss with them, and we always have discussions with them in the context of their contracts. So, this is something that, of course, we recognise—there will be additional pressures. It will be offset a bit by the rise in the employment allowance, but I think that what we're looking at here is more money probably coming into the health service generally, as a result of that additional uplift that has come from the best budget settlement we've had in Wales since devolution was established.
Diolch yn fawr iawn. Wel, os ydych chi'n sôn am dorri ymrwymiadau, does dim angen i mi roi unrhyw wersi i chi yn y blaid Dorïaidd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru a fydd yn seiliedig ar y diffiniad y mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio. Ac rydych chi'n gwbl gywir, yn niffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid yw meddygon teulu—maen nhw'n ymarferwyr annibynnol. Dyna'r statws sydd ganddyn nhw. Rwy'n cydnabod y bydd hynny yn rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei reoli, ac yn amlwg byddwn ni'n parhau i drafod â nhw, ac rydym ni bob amser yn cael trafodaethau â nhw yng nghyd-destun eu contractau. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, wrth gwrs, yn ei gydnabod—bydd pwysau ychwanegol. Bydd yn cael ei fantoli ychydig gan y cynnydd i'r lwfans cyflogaeth, ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yw mwy o arian yn dod i mewn i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol yn ôl pob tebyg, o ganlyniad i'r cynnydd ychwanegol hwnnw sydd wedi dod o'r setliad cyllideb gorau yr ydym ni wedi ei gael yng Nghymru ers sefydlu datganoli.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio gwasanaethau bysiau? OQ61909
7. Will the First Minister provide an update on the reform of bus services? OQ61909
The reform of our local bus services continues to be a key priority for this Government and it's our intention to introduce a Bill in the spring. The Cabinet Secretary will provide a statement on our progress on bus reform to the Senedd on 26 November.
Mae diwygio ein gwasanaethau bysiau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon a'n bwriad yw cyflwyno Bil yn y gwanwyn. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn darparu datganiad ar ein cynnydd ar ddiwygio gwasanaethau bysiau i'r Senedd ar 26 Tachwedd.
That bus Bill is very welcome, particularly with regard to franchising. Yesterday the UK Labour Government announced £1 billion funding for bus services in England, which will mean Barnett consequentials for Wales. Our constituents need reliable bus services to survive through to the franchising Bill, and therefore funding now is essential. Will the First Minister, therefore, commit to adequately funding those bus services through to franchising, in order to make sure that that happens?
Mae'r Bil bysiau hwnnw i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o ran masnachfreinio. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU £1 biliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn Lloegr, a fydd yn golygu cyllid canlyniadol Barnett i Gymru. Mae ein hetholwyr angen gwasanaethau bysiau dibynadwy i oroesi tan y Bil masnachfreinio, ac felly mae cyllid nawr yn hanfodol. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, ymrwymo i ariannu'r gwasanaethau bysiau hynny yn ddigonol tan y masnachfreinio, er mwyn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd?
Thanks very much. Well, we're obviously in the middle of detailed discussions about what the budget might look like next year. There are lots of demands and, clearly, with buses, we're very committed to bringing in this new bus Bill. I think it's probably worth underlining that we are already, since the beginning of the pandemic, providing local authorities with over £250 million to keep bus services running. In addition to that, we have £51 million that we spend on concessionary fares for those who are over 60. So, we are already demonstrating our commitment. We haven't seen still the return to pre-pandemic levels, and it is important, I think, that we make sure that we get the bus franchising Bill through—we'll have more control over it, we'll be able to recognise the best places for us, to see where the bus routes should go, and we will co-ordinate it all in a way that we are unable to do at the moment.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym ni'n amlwg yng nghanol trafodaethau manwl ynghylch sut allai'r gyllideb edrych y flwyddyn nesaf. Mae llawer o ofynion ac, yn amlwg, o ran bysiau, rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i gyflwyno'r Bil bysiau newydd hwn. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth tanlinellu ein bod ni eisoes, ers dechrau'r pandemig, yn darparu dros £250 miliwn i awdurdodau lleol i gadw gwasanaethau bysiau yn rhedeg. Yn ogystal â hynny, mae gennym ni £51 miliwn yr ydym ni'n ei wario ar docynnau rhatach i'r rhai sydd dros 60 oed. Felly, rydym ni eisoes yn dangos ein hymrwymiad. Dydyn ni ddim wedi gweld y dychweliad i'r lefelau cyn y pandemig o hyd, ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y Bil masnachfreinio bysiau drwodd—bydd gennym ni fwy o reolaeth drosto, byddwn ni'n gallu adnabod y mannau gorau i ni, i weld i le ddylai'r llwybrau bysiau fynd, a byddwn ni'n cydgysylltu'r cyfan mewn ffordd nad ydym ni'n gallu ei wneud ar hyn o bryd.
First Minister, you mentioned in your previous answer in relation to the bus Bill, and I, alongside many of my colleagues, look forward to scrutinising the bus Bill when it eventually comes before us—. But there's no shadow of a doubt that our bus industry really needs a helping hand right now. Wales is the only part of the United Kingdom where bus passenger numbers have not reached, let alone exceeded, pre-pandemic levels. Here in Wales we have seen nothing rolled out in incentivised bus travel, unlike England with a cap on fares, and Scotland's free travel for under 22s.
The importance of the bus sector cannot be underestimated. It employs more than 3,500 people, directly contributing £305 million to our economy, and it enables wider growth, with bus users able to spend £705 million in communities across the country as a result of their journey. Yet buses have been under immense pressure because of poor funding, with bus operators facing a bill of between £800 to £1,000 per employee as a result of Labour's national insurance increase. The industry does need genuine immediate support. So, First Minister, with an extra £1.7 billion coming to Wales as a result of the UK budget, will you commit to us here in this Chamber that you will be providing an additional £18 million of funding to support this very important sector? Thank you.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb blaenorol am y Bil bysiau, ac rwyf i, ochr yn ochr â llawer o fy nghyd-Aelodau, yn edrych ymlaen at graffu ar y Bil bysiau pan ddaw o'n blaenau yn y pen draw—. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl bod angen help llaw ar ein diwydiant bysiau ar hyn o bryd. Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle nad yw niferoedd teithwyr bysiau wedi cyrraedd lefelau cyn y pandemig, heb sôn am ragori arnyn nhw. Yma yng Nghymru, nid ydym wedi gweld unrhyw beth yn cael ei gyflwyno o ran teithiau bws wedi'u cymell, yn wahanol i Loegr gyda chap ar brisiau tocynnau, a theithio am ddim yr Alban i bobl dan 22 oed.
Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd y sector bysiau. Mae'n cyflogi mwy na 3,500 o bobl, gan gyfrannu £305 miliwn at ein heconomi yn uniongyrchol, ac mae'n galluogi twf ehangach, â defnyddwyr bysiau yn gallu gwario £705 miliwn mewn cymunedau ledled y wlad o ganlyniad i'w taith. Ac eto mae bysiau wedi bod o dan bwysau aruthrol oherwydd cyllid gwael, â gweithredwyr bysiau yn wynebu bil rhwng £800 a £1,000 fesul gweithiwr o ganlyniad i gynnydd Llafur i yswiriant gwladol. Mae angen cefnogaeth wirioneddol ar unwaith ar y diwydiant. Felly, Prif Weinidog, gyda £1.7 biliwn ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb y DU, a wnewch chi ymrwymo i ni yma yn y Siambr hon y byddwch chi'n darparu £18 miliwn yn ychwanegol o gyllid i gynorthwyo'r sector pwysig iawn hwn? Diolch.
Thanks very much. It's obviously budget time—all the bids are coming in, aren't they, one after another? And I'm sure the finance Minister is listening very carefully and weighing it all up, but he's never going to forget that it's got to be in line with my priorities.
It is, I think, important for us to recognise that the deregulated systems mean that commercial operators can cherry-pick the most profitable bits of the bus network, and that's why this Bill is absolutely crucial, so we can work effectively. And we're working with Transport for Wales and local authorities to plan and to implement those bus networks as effectively as possible, and what we've got here is a once-in-a-generation opportunity to really change the way the system works, and that engagement with stakeholders, including the public, private and third sectors, and the public, is going to be absolutely crucial to make sure this lands in the right place.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n amlwg yn amser cyllideb—mae'r holl geisiadau yn dod i mewn, onid ydyn nhw, un ar ôl y llall? Ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog cyllid yn gwrando'n ofalus iawn ac yn pwyso a mesur y cyfan, ond nid yw byth yn mynd i anghofio bod yn rhaid iddo fod yn unol â fy mlaenoriaethau i.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod y systemau wedi'u dadreoleiddio yn golygu y gall gweithredwyr masnachol ddewis y darnau o'r rhwydwaith bysiau sy'n cynnig yr elw mwyaf, a dyna pam mae'r Bil hwn yn gwbl hanfodol, fel y gallwn ni weithio'n effeithiol. Ac rydym ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio ac i weithredu'r rhwydweithiau bysiau hynny mor effeithiol â phosibl, a'r hyn sydd gennym ni yma yw cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wir newid y ffordd y mae'r system yn gweithio, ac mae'r ymgysylltiad hwnnw â rhanddeiliaid, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a'r cyhoedd, yn mynd i fod yn gwbl hanfodol i wneud yn siŵr bod hyn yn glanio yn y lle iawn.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda? OQ61908
8. What is the Welsh Government doing to promote tourism in the Rhondda valleys? OQ61908
Visit Wales promotes tourism in the Rhondda valleys and other destinations across Wales as a part of their strategy. 'Welcome to Wales: Priorities for the visitor economy' is the strategic programme that we have. Now, the Rhondda valleys have recently featured in their own podcast, as well as digital activity and in key travel trade events.
Mae Croeso Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda a chyrchfannau eraill ledled Cymru fel rhan o'u strategaeth. 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr' yw'r rhaglen strategol sydd gennym ni. Nawr, mae cymoedd y Rhondda wedi ymddangos yn eu podlediad eu hunain yn ddiweddar, yn ogystal â gweithgarwch digidol ac mewn digwyddiadau masnach deithio allweddol.
First Minister, as you will know, I've spoken many times in this Chamber about the potential benefits of reopening the Rhondda tunnel, which connects Blaencwm in the Rhondda to Blaengwynfi in the Afan valley, and, for the record, I'm a proud member of the Rhondda Tunnel Society and it was great to see my colleague Natasha Asghar recently visit. If this tunnel was reopened it would create a two-mile long tunnel for walking and cycling, it would provide much-needed tourism for the Rhondda, and it would provide a unique repurposing of our industrial heritage. First Minister, you will know that the tunnel is owned by the UK Government, who are only willing to transfer ownership to either the Welsh Government or to another public body. The previous Conservative UK Government offered to do this, with an additional sum of money provided for its future maintenance, but this was refused as the Welsh Government felt that this sum was insufficient. What discussions has the Welsh Government now had with the new UK Labour Government to revisit this, transfer the Rhondda tunnel over to the Welsh Government, and take this wonderful project forward? Thank you.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon am fanteision posibl ailagor twnnel y Rhondda, sy'n cysylltu Blaen-y-cwm yn y Rhondda â Blaengwynfi yng nghwm Afan, ac, ar gyfer y cofnod, rwy'n aelod balch o Gymdeithas Twnnel y Rhondda ac roedd yn wych gweld fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar yn ymweld ag ef yn ddiweddar. Pe bai'r twnnel hwn yn cael ei ailagor byddai'n creu twnnel dwy filltir o hyd ar gyfer cerdded a beicio, byddai'n darparu twristiaeth y mae ei angen mawr amdani ar gyfer y Rhondda, a byddai'n rhoi ffordd unigryw o ail-bwrpasu ein treftadaeth ddiwydiannol. Prif Weinidog, byddwch chi'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n berchen ar y twnnel, sydd ond yn barod i drosglwyddo perchnogaeth i naill ai Lywodraeth Cymru neu i gorff cyhoeddus arall. Fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gynnig gwneud hyn, gyda swm ychwanegol o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer ei gynnal yn y dyfodol, ond cafodd hyn ei wrthod, gan fod Llywodraeth Cymru yn teimlo nad oedd y swm yn ddigonol. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i ailystyried hyn, trosglwyddo twnnel y Rhondda i Lywodraeth Cymru, a symud y prosiect gwych hwn yn ei flaen? Diolch.
Thanks very much. I've heard a lot about this Rhondda tunnel; I'd really like to visit it at some point. But I think it's also important for us to recognise that we've already made some significant investments in that area, for example, the Zip World tower. We contributed £430,000 to a £4.8 million project, and that's creating 91 jobs, and I know people have a lot of fun with that in the Rhondda area.
But, when it comes to the Rhondda tunnel, I think it is important that we go into this with our eyes wide open. This is not a cheap proposal. My understanding is the indicative capital costs have been estimated to be around £20 million and then there's an annual revenue requirement of about £0.25 million on top of that. So, we will always listen to what people have to say, but don't forget all of that is always competing with the other important priorities that people in the Rhondda care about as well.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i wedi clywed llawer am y twnnel hwn yn y Rhondda; fe hoffwn i ymweld ag ef ryw dro. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i ni gydnabod ein bod eisoes wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol yn yr ardal honno, er enghraifft, tŵr Zip World. Fe wnaethon ni gyfrannu £430,000 at brosiect gwerth £4.8 miliwn, ac mae hynny'n creu 91 o swyddi, ac rwy'n gwybod bod pobl yn cael llawer o hwyl gyda hynny yn ardal y Rhondda.
Ond, o ran twnnel y Rhondda, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n mynd i mewn i hyn gyda'n llygaid ar agor. Nid yw'n gynnig rhad. Fy nealltwriaeth i yw bod y costau cyfalaf dangosol wedi'u hamcangyfrif i fod tua £20 miliwn ac yna mae gofyniad refeniw blynyddol o tua £0.25 miliwn ar ben hynny. Felly, byddwn i bob amser yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, ond peidiwch ag anghofio bod hynny i gyd bob amser yn cystadlu â'r blaenoriaethau pwysig eraill y mae pobl yn y Rhondda yn poeni amdanyn nhw hefyd.
Yn olaf, cwestiwn 9, Peredur Owen Griffiths.
Finally, question 9, Peredur Owen Griffiths.
9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dinasyddion Cymru sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn y dwyrain canol? OQ61913
9. What is the Welsh Government doing to help Welsh citizens affected by war in the middle east? OQ61913
Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo dros bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn y dwyrain canol. Dylai unrhyw ddinasyddion o Gymru sydd yn y dwyrain canol gysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael cymorth. Rŷn ni’n chwarae rhan weithredol o ran cryfhau’r berthynas gyda chymunedau Mwslimaidd a chymunedau Iddewig yng Nghymru.
The Welsh Government is moved by the plight of all those who are affected by the conflict in the middle east. Any Welsh citizens in the middle east should contact the UK Government for support. We are taking an active role in strengthening relationships with Muslim and Jewish communities in Wales.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Dwi'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo yn lleol a thramor hefyd i wneud hynny.
Thank you very much for that response. I'm pleased that work is ongoing both locally and abroad too.
Last Friday I took part in a panel event at the Norwegian church organised by Oxfam. During the event we heard from Bushra Khalidi, policy lead at Oxfam for the occupied Palestine territories, who gave a harrowing account of life in the West Bank. We know these things are much, much worse in Gaza, where most of the territory has been levelled, with untold fatalities still left in the rubble. This has been ongoing now for over a year, First Minister, and there's no sign of a let-up, or, if anything, it's getting worse. For the sake of the people of Palestine, and Welsh citizens with families still affected, have you done everything in your power to bring pressure to bear to end this conflict and deliver peace? For example, are you satisfied that your Government is complying with international standards on businesses and human rights? Have you examined whether your Government or your affiliates have provided support or funding to arms manufacturers? And are you confident that companies who have contracts with the Government are conducting rigorous human rights due diligence?
Dydd Gwener diwethaf cymerais ran mewn digwyddiad panel yn yr eglwys Norwyaidd wedi'i drefnu gan Oxfam. Yn ystod y digwyddiad fe wnaethom ni glywed gan Bushra Khalidi, arweinydd polisi Oxfam ar gyfer tiriogaethau Palesteina sydd wedi eu meddiannu, a roddodd ddisgrifiad dirdynnol o fywyd ar y Lan Orllewinol. Rydyn ni'n gwybod bod y pethau hyn yn llawer, llawer gwaeth yn Gaza, lle mae'r rhan fwyaf o'r diriogaeth wedi'i ddymchwel, a chyrff meirw difesur yn dal ar ôl yn y rwbel. Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am dros flwyddyn bellach, Prif Weinidog, ac nid oes unrhyw arwydd o wella, neu, os rhywbeth, mae'n gwaethygu. Er lles pobl Palesteina, a dinasyddion Cymru sydd â theuluoedd y mae hyn dal i effeithio arnyn nhw, a ydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddefnyddio pwysau i ddod â'r gwrthdaro hwn i ben a sicrhau heddwch? Er enghraifft, a ydych chi'n fodlon bod eich Llywodraeth yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol ar fusnesau a hawliau dynol? Ydych chi wedi archwilio a yw'ch Llywodraeth chi neu'ch cysylltiadau wedi rhoi cymorth neu gyllid i wneuthurwyr arfau? Ac a ydych chi'n hyderus bod cwmnïau sydd â chontractau gyda'r Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy hawliau dynol trylwyr?
Thanks very much. Well, we've all seen the unimaginable suffering and sorrow that's been happening in Gaza and, you're quite right, we don't hear much about the West Bank, and it's important that people recognise that there is a lot of suffering going on there, and that's why, as a Government, we have made a contribution to the Disasters Emergency Committee appeal. We made a contribution, and I know that people from Wales have added significantly to that, and I'd encourage you all to make a contribution, as I have done in the past week, just to make sure that we recognise that support is needed in that part of the world. I'm afraid it doesn't look like there's much progress in terms of settling the issue in the middle east. I know that there'll be a lot of interest, when a new Government takes over in the United States, to see if and whether that makes any difference at all, and how that will affect it, but I think it is important that we stand with the sorrow and the suffering of the people in Gaza.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydyn ni i gyd wedi gweld y dioddefaint a'r tristwch annirnadwy sydd wedi bod yn digwydd yn Gaza ac, rydych chi'n hollol gywir, nid ydyn ni'n clywed llawer am y Lan Orllewinol, ac mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod llawer o ddioddefaint yn digwydd yno, a dyna pam, fel Llywodraeth, ein bod ni wedi gwneud cyfraniad at apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau. Fe wnaethon ni gyfraniad, ac rwy'n gwybod bod pobl o Gymru wedi ychwanegu'n sylweddol at hynny, a byddwn ni'n eich annog chi i gyd i wneud cyfraniad, fel yr wyf i wedi'i wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dim ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod bod angen cefnogaeth yn y rhan honno o'r byd. Rwy'n ofni nad yw'n edrych fel bod llawer o gynnydd o ran setlo'r mater yn y dwyrain canol. Rwy'n gwybod y bydd llawer o ddiddordeb, pan fydd Llywodraeth newydd yn cymryd yr awenau yn yr Unol Daleithiau, i weld a yw hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, a sut y bydd hynny'n effeithio arno, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n sefyll gyda thristwch a dioddefaint pobl Gaza.
Diolch i'r Prif Weinidog.
I thank the First Minister.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.
The next item is the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There are no changes to this week's business. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which is available to Members electronically.
Minister, can I call for a statement from the Minister in the Welsh Government responsible for public health? We all know that problem gambling is an issue that is prevalent across Wales and the rest of the United Kingdom, but there doesn't seem to be a great deal of action forthcoming from the Welsh Government to address this problem, and yet we know that it's ruining lives, it's ruining people's relationships, it's causing many to lose their homes, businesses, and even some people, unfortunately, to go to the lengths of taking their own lives. There is action that the Welsh Government could be taking to address the problem: we could deal with the prevalence of betting shops in some deprived communities, through changes in the planning system; we could do more to educate young people about the harms of problem gambling in our schools, through the curriculum; and, of course, we could develop a national gambling addiction service, which we don't currently have in Wales that other parts of the UK currently do. I think it would be good to have a debate or a statement in this Chamber, from the Government, so that we can discuss these things as a Senedd as a whole, and take forward some concrete actions to get to grips with this problem once and for all, given that gambling is a public health menace.
Gweinidog, a gaf fi alw am ddatganiad gan y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd? Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gamblo cymhellol yn broblem sy'n gyffredin ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ond nid yw'n ymddangos bod llawer iawn o gamau gweithredu ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â'r broblem hon, ac eto rydyn ni'n gwybod ei fod yn difetha bywydau, mae'n difetha perthnasoedd pobl, mae'n achosi i lawer golli eu cartrefi, busnesau, a hyd yn oed rhai pobl, yn anffodus, i fynd mor bell â chymryd eu bywydau eu hunain. Mae camau y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem: gallen ni ymdrin â nifer y siopau betio mewn rhai cymunedau difreintiedig, trwy newid y system cynllunio; gallen ni wneud mwy i addysgu pobl ifanc am niwed gamblo cymhellol yn ein hysgolion, drwy'r cwricwlwm; ac, wrth gwrs, gallem ni ddatblygu gwasanaeth caethiwed i gamblo cenedlaethol, nad oes gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd gan rannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai'n dda cael dadl neu ddatganiad yn y Siambr hon, gan y Llywodraeth, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn fel Senedd gyfan, a bwrw ymlaen â rhai camau pendant i ymdrin â'r broblem hon unwaith ac am byth, o gofio bod gamblo yn fygythiad iechyd y cyhoedd.
Well, diolch yn fawr, Darren Millar. I'm really pleased you've brought this to the attention of the Senedd. I recall sponsoring some research some time back with Mick Antoniw and colleagues, because of what was brought to our attention—and this was many years ago—about the scourge of gambling and the impact it's having on people's lives, of all ages. Also, I'm really pleased—and it must have been two or three years ago—that our chief medical officer, pre pandemic, actually, Sir Frank Atherton, actually devoted the whole of one of his annual reports to this issue. So, I think we'll take it back, and it is a public health issue. The Cabinet Secretary for Health and Social Care is obviously hearing this as well, but it's more than public health; it's education, it's social justice and mental health impacts. So, we will look at this, Darren Millar.
Wel, diolch yn fawr, Darren Millar. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi dwyn hyn i sylw'r Senedd. Rwy'n cofio noddi rhywfaint o ymchwil peth amser yn ôl gyda Mick Antoniw a chydweithwyr, oherwydd yr hyn a gafodd ei ddwyn i'n sylw—ac roedd hyn flynyddoedd lawer yn ôl—am bla gamblo a'r effaith mae'n ei gael ar fywydau pobl, o bob oed. Hefyd, rwy'n falch iawn—ac mae'n rhaid ei fod ddwy neu dair blynedd yn ôl—bod ein prif swyddog meddygol, cyn y pandemig, mewn gwirionedd, Syr Frank Atherton, wedi neilltuo un o'i adroddiadau blynyddol cyfan i'r mater hwn. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n mynd ag ef yn ôl, ac mae'n fater iechyd y cyhoedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlwg yn clywed hyn hefyd, ond mae'n fwy na iechyd y cyhoedd; mae'n addysg, mae'n gyfiawnder cymdeithasol ac effeithiau iechyd meddwl. Felly, byddwn ni'n ystyried hyn, Darren Millar.
Trefnydd, could I ask for a statement, or maybe even a debate in Government time, on the cumulative impact of the multiple challenges facing the agricultural industry today? Now, obviously, agricultural property relief is maybe the straw that broke the camel's back, but, certainly, we have big changes in terms of the sustainable farming scheme, there are huge challenges for the sector in meeting the nitrate vulnerable zone regulations—
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, neu efallai hyd yn oed dadl yn amser y Llywodraeth, ar effaith gronnol yr heriau niferus sy'n wynebu'r diwydiant amaethyddol heddiw? Nawr, yn amlwg, rhyddhad eiddo amaethyddol efallai yw'r diweddaraf o'r holl heriau niferus hyn, ond yn sicr, mae gennym ni newidiadau mawr o ran y cynllun ffermio cynaliadwy, mae heriau enfawr i'r sector wrth fodloni rheoliadau parthau perygl nitradau—
Where were you Saturday?
Ble'r oeddech chi ddydd Sadwrn?
—likewise the problem of bovine TB. We're not here to score political points today; we're here to make a point about—[Interruption.]—a need for a debate around the agricultural industry. If you want to play that game, that's up to you; I'm not playing that.
—hefyd problem TB buchol. Dydyn ni ddim yma i sgorio pwyntiau gwleidyddol heddiw; rydyn ni yma i wneud pwynt am—[Torri ar draws.]—angen am ddadl ynghylch y diwydiant amaethyddol. Os ydych chi eisiau chwarae'r gêm honno, mae hynny'n rhywbeth i chi; dydw i ddim yn chwarae honno.
Don't get distracted by Members of the opposing parties.
Peidiwch â gadael i Aelodau'r pleidiau gwrthwynebol dynnu'ch sylw.
No, I shouldn't get distracted; you're quite right.
Now, we can argue all of these issues individually and, individually, they are taking their toll, of course, but, cumulatively, they're hammering the sector, and we need to understand how is the Government taking all of this into consideration on that collective, cumulative level. I think a debate, maybe, an opportunity to delve into that, would certainly be something that would be valuable at a time of severe pressure for the sector.
Can I also ask for a statement from the transport Secretary on reducing speed limits on trunk roads in Wales? Now, communities in my region—. And Glasfryn in Conwy county is one that has long waited for the Government to do something about this. They're desperate to make their community safer there. The transport Secretary, in fairness, says that he will review speed limits on trunk roads, but only after the new 'Setting Local Speed Limits in Wales' guidance is released. But, of course, we've been waiting for a very long time for that, and in the meantime there have been too many near misses in those communities, so can we have a statement giving us clarity on when that will be?
Na, ddylwn i ddim gadael iddyn nhw dynnu fy sylw; rydych chi'n hollol iawn.
Nawr, gallwn i ddadlau'r holl faterion hyn yn unigol ac, yn unigol, maen nhw'n cael effaith, wrth gwrs, ond, yn gronnol, maen nhw'n curo'r sector, ac mae angen i ni ddeall sut mae'r Llywodraeth yn ystyried hyn i gyd ar y lefel gronnol honno. Rwy'n credu y byddai dadl, efallai, cyfle i ymchwilio i hynny, yn sicr yn rhywbeth a fyddai'n werthfawr ar adeg o bwysau difrifol i'r sector.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar leihau cyfyngiadau cyflymder ar gefnffyrdd yng Nghymru? Nawr, mae cymunedau yn fy rhanbarth i—. Ac mae Glasfryn yn sir Conwy yn un sydd wedi aros ers tro i'r Llywodraeth wneud rhywbeth am hyn. Maen nhw'n ysu am wneud eu cymuned yn fwy diogel yno. Mae'r Ysgrifennydd trafnidiaeth, er tegwch, yn dweud y bydd yn adolygu cyfyngiadau cyflymder ar gefnffyrdd, ond dim ond ar ôl i'r canllawiau newydd 'Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' gael eu rhyddhau. Ond, wrth gwrs, rydyn ni wedi bod yn aros am amser hir iawn am hynny, ac yn y cyfamser mae gormod o ddamweiniau a fu bron iawn â digwydd yn y cymunedau hynny, felly a gawn ni ddatganiad yn rhoi eglurder i ni ynghylch pryd fydd hynny?
Ac yn olaf, Trefnydd, rŷch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, fod yr Ysgrifennydd iechyd wedi rhoi datganiad allan—
Finally, Trefnydd, I'm sure you'll be aware that the health Secretary has made a statement—
Mae trydydd, pan ŷch chi eisoes dros yr amser yn—
A third request, when you're already over time—
Wel, mi ges i ddeall, fel llefarydd, y byddwn i'n cael cyfle i'w wneud, ond mi wnaf i blygu i'ch dymuniad, Llywydd.
Well, I was given to understand, as spokesperson, that I would have the opportunity, but I bow to your wishes, Llywydd.
Dwi ddim yn gwybod pwy roddodd y caniatâd yna i chi, ond fe gawn ni drafod hynny y tu allan i'r Siambr.
I'm not sure who gave you that permission, but we can discuss that outside the Chamber.
Diolch.
Thank you.
To answer the two points made by Llyr, please.
I ateb y ddau bwynt y gwnaeth Llyr eu codi, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr. Well, diolch yn fawr, Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]
Thank you very much. Thank you very much, Llyr Gruffydd—[Interruption.]
You can't be a spokesperson in business questions—nobody is. [Interruption.] Answer the questions, and me and Llyr will pursue this outside the Chamber.
Allwch chi ddim bod yn llefarydd yn y cwestiynau busnes—does neb yn llefarydd. [Torri ar draws.] Atebwch y cwestiynau, a byddaf i a Llyr yn mynd ar drywydd hyn y tu allan i'r Siambr.
Llyr Gruffydd, you've raised two very important questions this afternoon—
Llyr Gruffydd, rydych chi wedi codi dau gwestiwn pwysig iawn y prynhawn yma—
—y prynhawn yma. A diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn y prynhawn yma.
Thank you very much for your important questions this afternoon.
Of course, we have got the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs with us today, and next week, indeed, we will be having his statement on the sustainable farming scheme, which I think is crucially important in terms of—. Because this is a holistic statement, I know, that will be coming to you next week. But I also think it was really important—in fact, the leader of the opposition, Andrew R.T. Davies, recognised—what the First Minister said today about our acknowledgment of the contribution of the farming community to our economy, to our communities, as well this afternoon, and obviously there were discussions in relation to questions to the First Minister. And, of course, we recognise, just in terms of the points that the First Minister was saying about the farming community being part of the community, using all our, and being part of, in many ways, democratically represented on, local councils, engaging with the communities, part of schools, governing bodies, young farmers' groups, but also recognising the impact of stress and uncertainty, and, of course, that's where our mental health helplines are so important. But I think it is—. You've aired those wider issues, importantly, today.
Now, the transport Secretary, I know, would want to respond to your particular points in relation to what happens and how quickly we can move forward in terms of understanding and recognition of implementation of speed limits, particularly in relation to our trunk roads. You have got the opportunity to question the transport Secretary tomorrow afternoon as well, so that may be an opportunity to use.
Wrth gwrs, mae gennym ni'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig gyda ni heddiw, a'r wythnos nesaf, yn wir, byddwn ni'n cael ei ddatganiad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd, yn fy marn i, yn hanfodol bwysig o ran—. Gan fod hwn yn ddatganiad cyfannol, rwy'n gwybod, bydd hynny'n dod atoch chi'r wythnos nesaf. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig iawn—mewn gwirionedd, y mae arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies wedi cydnabod—yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog heddiw am ein cydnabyddiaeth o gyfraniad y gymuned ffermio i'n heconomi, i'n cymunedau, hefyd y prynhawn yma, ac yn amlwg, roedd trafodaethau ynghylch chwestiynau i'r Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n cydnabod, o ran y pwyntiau yr oedd y Prif Weinidog yn eu gwneud am fod y gymuned ffermio yn rhan o'r gymuned, gan ddefnyddio ein holl gynghorau lleol, a bod yn rhan ohonyn nhw, mewn sawl ffordd, cael ein cynrychioli'n ddemocrataidd ar gynghorau lleol, ymgysylltu â'r cymunedau, bod yn rhan o ysgolion, cyrff llywodraethu, grwpiau ffermwyr ifanc, ond hefyd gan gydnabod effaith straen ac ansicrwydd, Ac, wrth gwrs, dyna lle mae ein llinellau cymorth iechyd meddwl mor bwysig. Ond rwy'n credu ei fod—. Rydych chi wedi sôn am y materion ehangach hynny, yn bwysig heddiw.
Nawr, rwy'n gwybod, y byddai'r Ysgrifennydd trafnidiaeth eisiau ymateb i'ch pwyntiau penodol o ran yr hyn sy'n digwydd a pha mor gyflym y gallwn ni symud ymlaen o ran deall a chydnabod gweithredu terfynau cyflymder, yn enwedig o ran ein cefnffyrdd. Mae gennych chi gyfle i holi'r Ysgrifennydd trafnidiaeth brynhawn yfory hefyd, felly gallai hwnnw fod yn gyfle i'w ddefnyddio.
Yesterday, alongside the National Federation of Women's Institutes, I held the seventeenth White Ribbon event at the Senedd. This year, as in previous years, we heard some incredibly moving accounts from survivors of abuse, men and women who have been brave enough to share their stories with us in order to raise awareness and help change the culture that exists around violence against women and girls. Sadly, every year, far too many women do not survive the violence that's been committed against them by male perpetrators. So far this year, at least 71 women and girls have lost their lives at the hands of men, or where a man or men are the principal suspects, across the United Kingdom, and the age range is from 13 to 96 years of age. These women were all living their lives. They had families, they had friends, but, most of all, they had a future—a future that was taken away from them; a future that will never, ever be realised. Sadly, three of those women who were killed were from Wales.
Cabinet Secretary, will you join me in remembering Sophie Evans, aged 30, who was found dead in Llanelli on 5 July—Richard Jones is charged with her murder; Vicki Thomas, aged 45, who was found dead at her home in Cardiff on 20 August—Alcwyn Thomas has been charged with her murder; and Catherine Flynn, aged 69, who was attacked at a house in Rhyl on 24 October, and died shortly afterwards in hospital? Dean Mears has been charged with her murder. Those women will not live to see their lives as they should have, and their families will be forever in grief.
Ddoe, ochr yn ochr â Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, cynhaliais i ail ddigwyddiad ar bymtheg y Rhuban Gwyn yn y Senedd. Eleni, fel mewn blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom ni glywed rhai hanesion hynod deimladwy gan oroeswyr cam-drin, dynion a menywod sydd wedi bod yn ddigon dewr i rannu eu straeon gyda ni er mwyn codi ymwybyddiaeth a helpu i newid y diwylliant sy'n bodoli ynghylch trais yn erbyn menywod a merched. Yn anffodus, bob blwyddyn, mae llawer gormod o fenywod nad ydyn nhw'n goroesi'r trais sy'n cael ei gyflawni yn eu herbyn gan droseddwyr gwrywaidd. Hyd yma eleni, mae o leiaf 71 o fenywod a merched wedi colli eu bywydau yn nwylo dynion, neu lle mai dyn neu ddynion yw'r prif bobl dan amheuaeth, ac mae'r oedran yn amrywio o 13 i 96 oed. Roedd y menywod hyn i gyd yn byw eu bywydau. Roedd ganddyn nhw eu teuluoedd, roedd ganddyn nhw ffrindiau, ond, yn bennaf oll, roedd ganddyn nhw ddyfodol—dyfodol a gafodd ei gymryd oddi arnyn nhw; dyfodol na fydd byth, byth yn cael ei wireddu. Yn anffodus, roedd tair o'r menywod hynny a gafodd eu lladd yn dod o Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gofio am Sophie Evans, 30 oed, a gafodd ei darganfod yn farw yn Llanelli ar 5 Gorffennaf—mae Richard Jones wedi'i gyhuddo o'i llofruddio; Vicki Thomas, 45 oed, a gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 20 Awst—mae Alcwyn Thomas wedi'i gyhuddo o'i llofruddio; a Catherine Flynn, 69 oed, yr ymosodwyd arni mewn tŷ yn Y Rhyl ar 24 Hydref, a bu farw yn fuan wedyn yn yr ysbyty? Mae Dean Mears wedi ei gyhuddo o'i llofruddio. Ni fydd y menywod hynny'n byw i weld eu bywydau fel y dylen nhw fod wedi, a bydd eu teuluoedd yn galaru am byth.
Well, I think we would all want to spend time and think and remember those women today, and I do thank Joyce Watson for reading out the names of women killed by their partners in the last year—women and girls killed by their partners last year. It’s very powerful to hear their names, but, at the same time, absolutely devastating that we are, once more, in this position. And I’m very grateful that Joyce Watson has come to the Chamber today to read out those names after the very important events that many of us attended yesterday. I think the cross-party stakeholder event, the vigil marking the International Day for the Elimination of Violence Against Women, international White Ribbon Day, are really important events for this Senedd. I think it brings us together. It makes us stand together, but also think so seriously about the scourge of violence against women, domestic abuse and sexual violence.
And, of course, hearing the stories from the survivors makes it absolutely clear to us what the situation is, what society is still condoning, and what we have got to do in terms of addressing that. And it's particularly hard for me, as Cabinet Secretary for Social Justice, to think, all of these years later, from helping to start up the Women’s Aid movement in Wales, that we are in this position and that the scourge of domestic violence and violence against women, as Mabon ap Gwynfor called his short debate last week, is still with us.
So, I just think we need to recognise that we’re heading towards 16 days of activism. So, can we all renew our focus on this issue? I am particularly in terms of my responsibility, but it is a cross-Government responsibility, and I’m grateful to the Cabinet Secretaries and the Ministers who all see and work with me on that cross-Government issue. We’ve got to engage across the public sector and the third sector in Wales, and have a collective sense of effort towards achieving our objectives to make real change. Because violence against women is a violation of human rights. In fact, the 16 days of activism leads us to Human Rights Day in December. It’s a profound social injustice, affecting women, families and communities across Wales.
So, can we, again, recommit ourselves to recognising that women should feel safe in public, safe to go out, safe to walk in the street, and, most importantly, safe in their homes? Don’t be a bystander; let’s work together and recognise that this is something where—. And, for anyone experiencing this, please call the helpline, Live Fear Free, to support you.
Wel, rwy'n credu y bydden ni i gyd eisiau treulio amser yn meddwl am y menywod hynny heddiw a'u cofio, a diolch i Joyce Watson am ddarllen enwau menywod a gafodd ei lladd gan eu partneriaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—menywod a merched a laddwyd gan eu partneriaid y llynedd. Mae'n bwerus iawn clywed eu henwau, ond, ar yr un pryd, yn hollol dorcalonnus ein bod ni, unwaith eto, yn y sefyllfa hon. Ac rwy'n ddiolchgar iawn bod Joyce Watson wedi dod i'r Siambr heddiw i ddarllen yr enwau hynny ar ôl y digwyddiadau pwysig iawn yr oedd llawer ohonom ynddyn nhw ddoe. Rwy'n credu bod y digwyddiad rhanddeiliaid trawsbleidiol, yr wylnos yn nodi'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn, yn ddigwyddiadau pwysig iawn i'r Senedd hon. Rwy'n credu ei fod yn dod â ni ynghyd. Mae'n gwneud i ni sefyll gyda'n gilydd, ond hefyd yn gwneud i ni feddwl mor ddifrifol am bla trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ac, wrth gwrs, mae clywed straeon y goroeswyr yn ei gwneud hi'n hollol glir i ni beth yw'r sefyllfa, yr hyn mae cymdeithas yn dal i'w esgusodi, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud o ran mynd i'r afael â hynny. Ac mae'n arbennig o anodd i mi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i feddwl, yr holl flynyddoedd hyn yn ar ôl helpu i sefydlu'r mudiad Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ein bod ni yn y sefyllfa hon a bod pla trais domestig a thrais yn erbyn menywod, fel y galwodd Mabon ap Gwynfor ei ddadl fer yr wythnos diwethaf, yn dal i fod gyda ni.
Felly, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod ein bod ni'n tynnu at 16 diwrnod o weithredu. Felly, a allwn ni i gyd ganolbwyntio o'r newydd ar y mater hwn? Rwyf i yn arbennig yn gwneud hynny o ran fy nghyfrifoldeb i, ond mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol, ac rwy'n ddiolchgar i Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion sydd i gyd yn fy ngweld i ac yn gweithio gyda mi ar y mater trawslywodraethol hwnnw. Mae'n rhaid i ni ymgysylltu ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, a chael ymdeimlad cyfunol o ymdrech tuag at gyflawni ein hamcanion i wneud newid gwirioneddol. Oherwydd, mae trais yn erbyn menywod yn groes i hawliau dynol. Mewn gwirionedd, mae'r 16 diwrnod o weithredu yn ein harwain at Ddiwrnod Hawliau Dynol ym mis Rhagfyr. Mae'n anghyfiawnder cymdeithasol dwys, sy'n effeithio ar fenywod, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Felly, a allwn ni, unwaith eto, ailymrwymo ein hunain i gydnabod y dylai menywod deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus, yn ddiogel i fynd allan, yn ddiogel i gerdded ar y stryd, ac, yn bwysicaf oll, yn ddiogel yn eu cartrefi? Peidiwch â chadw'n dawel; gadewch i ni weithio gyda'n gilydd a chydnabod bod hyn yn rhywbeth lle—. Ac, i unrhyw un sy'n wynebu hyn, ffoniwch y llinell gymorth, Byw Heb Ofn, i'ch cefnogi chi.
Trefnydd, I’m asking for your guidance, please, on correcting the Record, because it’s disappointing that both the First Minister and the finance Minister have, I believe, unintentionally misled the Senedd in recent weeks. The First Minister, on 13 November, said,
'our officials were trying to talk to the last UK Government for four years about the need for them to support us in terms of coal tip removal. Nothing, absolutely nothing'.
And on 5 November, the Cabinet Secretary for finance said that, 'The Treasury turned him'—'him' being Simon Hart, as Secretary of State for Wales—
'down; that's what the Conservative-led Treasury did',
when discussing coal tip funding. However, in a joint statement by Simon Hart, as Secretary of State for Wales, and Steve Barclay, as Chief Secretary to the Treasury, it was confirmed that £9 million was given to repair vulnerable coal tips. And it's interesting that the finance Minister, who I'm grateful is in his place, would look to mistakenly mislead the Senedd, as, in February 2021, when he was First Minister, he actually confirmed that those moneys, that money had arrived, stating that,
'The £9 million received will be used to support the Tylorstown recovery work and immediate emergency maintenance required at other high-risk tips.'
I trust the Senedd and the Trefnydd will agree that accuracy in this Chamber is essential, and past misrepresentations must be addressed. How do we proceed?
Trefnydd, rwy'n gofyn am eich arweiniad, os gwelwch yn dda, ar gywiro'r Cofnod, oherwydd mae'n siomedig bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog cyllid, rwy'n credu, wedi camarwain y Senedd yn anfwriadol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Dywedodd y Prif Weinidog, ar 13 Tachwedd, fod
'ein swyddogion wedi ceisio siarad â Llywodraeth ddiwethaf y DU am bedair blynedd am yr angen iddynt ein cynorthwyo i gael gwared ar y tomenni glo. Dim byd, dim byd'.
Ac ar 5 Tachwedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid bod 'Fe gafodd ei wrthod gan y Trysorlys'—'ef' sef Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru—
'dyna a wnaeth y Trysorlys dan arweiniad y Ceidwadwyr',
wrth drafod cyllid tipiau glo. Fodd bynnag, mewn datganiad ar y cyd gan Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Steve Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, cadarnhawyd bod £9 miliwn wedi'i roi i atgyweirio tipiau glo bregus. Ac mae'n ddiddorol y byddai'r Gweinidog cyllid, yr wyf yn ddiolchgar ei fod yn ei le, yn ceisio camarwain y Senedd ar gam, oherwydd, ym mis Chwefror 2021, pan oedd yn Brif Weinidog, fe wnaeth ef, mewn gwirionedd, gadarnhau fod y cyllid hwnnw, yr arian hwnnw wedi cyrraedd, gan ddatgan y byddai,
'Bydd y £9 miliwn a gafwyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith adfer Tylorstown a’r gwaith cynnal a chadw brys uniongyrchol sydd ei angen ar domenni risg uchel eraill.'
Hyderaf y bydd y Senedd a'r Trefnydd yn cytuno bod cywirdeb yn y Siambr hon yn hanfodol, a bod yn rhaid mynd i'r afael â chamliwio yn y gorffennol. Sut ydyn ni'n symud ymlaen?
I don't feel, Llywydd, that this is the appropriate place—the business statement—to raise that kind of grievance, so-called, from the Welsh Conservatives, when it is absolutely clear that the only money that is now being found to address the coal tip removal is the £25 million that came in the budget from the UK Government, and, indeed, that we're going to be moving forward with legislation. I think it's very concerning that the Member has raised this in this way, when we think of the people in the Valleys who are waiting and will see that £25 million, actual money, coming through to support them and address the issues, with the legislation forthcoming.
Dydw i ddim yn teimlo, Llywydd, mai dyma'r lle priodol—y datganiad busnes—i godi'r math hwnnw o gwyn honedig gan y Ceidwadwyr Cymreig, pan fo'n gwbl amlwg mai'r unig arian sy'n cael ei ganfod erbyn hyn i fynd i'r afael â chael gwared ar y tipiau glo yw'r £25 miliwn a ddaeth yn y gyllideb gan Lywodraeth y DU, ac, yn wir, y byddwn ni'n symud ymlaen gyda deddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn bryderus iawn bod yr Aelod wedi codi hyn yn y ffordd hon, pan ydyn ni'n meddwl am bobl y Cymoedd sy'n aros ac a fydd yn gweld y £25 miliwn hwnnw, arian gwirioneddol, yn dod drwodd i'w cefnogi ac ymdrin â'r materion, gyda'r ddeddfwriaeth ar y gweill.
Trefnydd, roeddwn innau'n falch o fod yn y digwyddiad Rhuban Gwyn neithiwr, a dwi'n diolch i Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched am drefnu'r digwyddiad hynod bwerus ac effeithiol hynny. Mae'n rhaid i ni ddyblu, treblu ein hymdrechion ni i ddileu trais yn erbyn menywod.
Gaf i ofyn am ddatganiad ar fater arall, gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi? Mae angen eglurder am ddyfodol y grant shared prosperity. Mae eisiau eglurder am lefel y grantiau, y meini prawf, sut y bydd o'n cael ei weinyddu yng Nghymru, a nifer o gwestiynau eraill sy'n codi i'r meddwl ynghylch hyn hefyd. Mae yna nifer o gynlluniau yn Arfon sydd yn wynebu cyfnod ansicr iawn. Mi wnaf i roi un esiampl i chi, sef Academi Adra ym Mhenygroes—cynllun arloesol sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau newydd yn y maes adeiladwaith a'r maes tai. Mae yna 164 o bobl ifanc cyn belled wedi manteisio ar y cynllun Academi Adra, ond mae ei ddyfodol o yn y fantol oherwydd bod yna ansicrwydd ynghylch y gronfa shared prosperity, sy'n creu'r posibilrwydd o cliff edge hollol ddiangen ar gyfer y cynllun yma. Felly, gawn ni eglurder? Mae hwnnw'n angenrheidiol, nid yn unig i'r cynllun yma, ond i nifer fawr ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Trefnydd, I too was pleased to attend the White Ribbon event last night, and I thank Joyce Watson and the National Federation of Women's Institutes for arranging that very powerful and impactful event. We need to redouble or triple our efforts to eradicate violence against women.
May I ask for a statement on another matter, from the Cabinet Secretary for the economy? Clarity is needed about the future of the shared prosperity grant. There is clarity needed on the level of the grant, the criteria, how it will be administered in Wales, and a number of other questions that come to mind in this regard too. There are a number of schemes in Arfon that face a very uncertain period ahead. I'll give you one example, which is Academi Adra in Penygroes—a very innovative scheme that trains young people in new skills in the field of construction and in housing. There are 164 young people who have benefited from the Academi Adra scheme so far, but its future is in the balance because there is uncertainty with regard to the shared prosperity fund, which creates the possibility of a totally unnecessary cliff edge for this scheme. So, can we have clarity? That is vital, not just for this scheme, but for a great number of schemes across Wales at the moment.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Thank you for not only supporting, but attending the White Ribbon vigil last night, and recognising the importance of Joyce Watson's statement this afternoon.
Just in terms of your important questions about the shared prosperity fund, we recognise, as you say, the importance of local authorities and beneficiaries having clarity on the transition year arrangements, and having that clarity as soon as possible, because of wanting to understand planning certainty for the next financial year. So, we do expect the UK Government to confirm the 2025-26 shared prosperity fund allocation for all UK nations soon. Our priority in discussions with the UK Government will be to reach an agreement on allocations within Wales as soon as possible, to provide certainty for our local authorities. It does mark a significant change: the UK Government is seeking our agreement to arrangements in Wales, respecting devolution, rather than acting unilaterally. But our officials are in ongoing discussions also with the Welsh Local Government Association, who are key to this in terms of partners, to keep them informed of developments, as we discuss the shared prosperity fund with the UK Government.
And then, funding for post-2026 arrangements will form part of the second stage of the spending review, due to report in the spring. The Welsh Government is committed to partnership working, will involve all Welsh partners, to co-produce post-2026 arrangements for Wales, as we did when developing our EU programmes and our regional investment framework for Wales. And we do expect to draw on lessons from our work with the Organisation for Economic Co-operation and Development, EU funding and the shared prosperity fund, in developing that new approach for post 2026 with partners. So, I hope it provides you with some assurance for those who are our current beneficiaries, but also I'm sharing that important information about how we are seeking to engage all partners, the UK Government particularly, in terms of the way forward from the transition to post 2026.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Diolch nid yn unig am gefnogi, ond am ddod i wylnos y Rhuban Gwyn neithiwr, a chydnabod pwysigrwydd datganiad Joyce Watson y prynhawn yma.
O ran eich cwestiynau pwysig am y gronfa ffyniant gyffredin, rydyn ni'n cydnabod, fel y dywedwch chi, bwysigrwydd awdurdodau lleol a buddiolwyr yn cael eglurder ar drefniadau'r flwyddyn bontio, ac yn cael yr eglurder hwnnw cyn gynted â phosibl, oherwydd eu bod eisiau deall sicrwydd cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU gadarnhau dyraniad cronfa ffyniant gyffredin 2025-26 ar gyfer holl wledydd y DU yn fuan. Ein blaenoriaeth mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU fydd dod i gytundeb ar ddyraniadau yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn rhoi sicrwydd i'n hawdurdodau lleol. Mae'n nodi newid sylweddol: mae Llywodraeth y DU yn gofyn am ein cytundeb ar gyfer trefniadau yng Nghymru, gan barchu datganoli, yn hytrach na gweithredu'n unochrog. Ond mae ein swyddogion mewn trafodaethau parhaus hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n allweddol i hyn o ran partneriaid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ddatblygiadau, wrth i ni drafod y gronfa ffyniant gyffredin gyda Llywodraeth y DU.
Ac yna, bydd cyllid ar gyfer trefniadau ar ôl 2026 yn rhan o ail gam yr adolygiad gwariant, sydd i roi adroddiad yn y gwanwyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, bydd yn cynnwys holl bartneriaid Cymru, i gyd-gynhyrchu trefniadau ar gyfer Cymru ar ôl 2026, fel y gwnaethom ni wrth ddatblygu ein rhaglenni UE a'n fframwaith buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru. Ac rydyn ni'n disgwyl defnyddio gwersi o'n gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, cyllid yr UE a'r gronfa ffyniant gyffredin, wrth ddatblygu'r dull newydd hwnnw o weithredu ar gyfer y cyfnod ar ôl 2026 gyda phartneriaid. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ar gyfer buddiolwyr presennol, ond hefyd rwy'n rhannu'r wybodaeth bwysig honno o ran sut yr ydyn ni'n ceisio ymgysylltu â'r holl bartneriaid, Llywodraeth y DU yn arbennig, o ran y ffordd ymlaen o'r cyfnod pontio i ôl 2026.
Can I call for a statement from the Cabinet Secretary for Health and Social Care on the future funding and sustainability of hospice care in Wales? You'll know, Trefnydd, that the vast majority of work undertaken by hospices, which is absolutely fantastic, is done on a charitable basis, with around 24 per cent of funding being received on the clinical side of the work that they do, so the vast majority of the work they do is done through raising charitable funds.
I met with a hospice just last week, in north Wales—a typical hospice—who outlined to me that the recent change in national insurance contributions is going to cost them £130,000 a year alone, and including the change in the national minimum wage and the differentials, it will put an additional pressure on their budget of around £400,000 a year, just to stand still to deliver those excellent services that they seek to deliver. So, I think it would be really helpful if the Cabinet Secretary could provide that statement on the future funding and sustainability of those really important hospices here in Wales, so that we can see them function to the best of their ability in the future as well. Thank you very much.
A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyllid a chynaliadwyedd gofal hosbisau yng Nghymru yn y dyfodol? Fe wyddoch chi, Trefnydd, fod y mwyafrif helaeth o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan hosbisau, sy'n hollol wych, yn cael ei wneud ar sail elusennol, a thua 24 y cant o'r cyllid a dderbynnir ar ochr glinigol y gwaith maen nhw'n ei wneud, felly mae'r mwyafrif helaeth o'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn cael ei gyflawni drwy godi arian elusennol.
Fe wnes i gyfarfod â hosbis yr wythnos diwethaf, yn y gogledd—hosbis nodweddiadol—a wnaeth amlinellu i mi fod y newid diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn unig yn mynd i gostio £130,000 y flwyddyn iddyn nhw, ac wrth gynnwys y newid yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r gwahaniaethau, bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllideb o tua £400,000 y flwyddyn, Dim ond i sefyll yn eu hunfan i ddarparu'r gwasanaethau rhagorol hynny y maen nhw'n ceisio eu darparu. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn os gallai'r Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r datganiad hwnnw ar gyllid a chynaliadwyedd yr hosbisau pwysig iawn hynny yma yng Nghymru yn y dyfodol, fel y gallwn ni eu gweld yn gweithredu hyd eithaf eu gallu yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Thank you very much for that question. We are looking at how we can support particularly the third sector and charitable organisations in relation to national insurance increases for employers, but also this is very much across Government, because I'm looking at that, in terms of being Cabinet Secretary for the third sector and charitable organisations, alongside the Cabinet Secretary for Health and Social Care, in terms of the important and brilliant work that hospices do in Wales. But also, of course, it is important to remember that the Cabinet Secretary did a recent statement on end-of-life care, acknowledging the role of our hospices in Wales.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Rydyn ni'n ystyried sut y gallwn ni gefnogi yn enwedig y trydydd sector a sefydliadau elusennol o ran cynnydd yr yr yswiriant gwladol i gyflogwyr, ond mae hyn hefyd yn amlwg ar draws y Llywodraeth, oherwydd rwy'n edrych ar hynny, o ran bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros y trydydd sector a sefydliadau elusennol, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o ran y gwaith pwysig a gwych y mae hosbisau'n ei wneud yng Nghymru. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud datganiad diweddar ar ofal diwedd oes, gan gydnabod rôl ein hosbisau yng Nghymru.
Good afternoon, Trefnydd. Could I request a statement, please, from the Cabinet Secretary for Transport and North Wales regarding road safety, particularly regarding the A470 at Libanus? Many people here, I'm sure, have travelled across Bannau Brycheiniog down into Brecon, along the A470 and through the tiny village of Libanus, which has no pedestrian road crossing. Unfortunately, last week, there was a three-car crash at Libanus, highlighting the ongoing danger there. The firefighters, actually, needed to free a casualty, and local councillors have expressed severe concern about the daily risks faced by Libanus residents due to the speed restriction, which is 50 mph. So, could I ask the Cabinet Secretary, particularly as it's Road Safety Week this week, to detail interim safety measures and risk assessments for the A470 at Libanus? Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ynglŷn â'r A470 yn Libanus? Mae llawer o bobl yma, rwy'n siŵr, wedi teithio ar draws Bannau Brycheiniog i lawr i Aberhonddu, ar hyd yr A470 a thrwy bentref bach Libanus, lle nad oes croesfan i gerddwyr. Yn anffodus, yr wythnos diwethaf, bu damwain rhwng tri char yn Libanus, sy'n tynnu sylw at y perygl parhaus yno. Roedd angen i'r diffoddwyr tân ryddhau rhywun a oedd wedi'i anafu, ac mae cynghorwyr lleol wedi mynegi pryder difrifol am y risgiau beunyddiol sy'n wynebu trigolion Libanus oherwydd y cyfyngiad cyflymder, sef 50 mya. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig gan ei bod hi'n Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos hon, fanylu ar fesurau diogelwch dros dro ac asesiadau risg ar gyfer yr A470 yn Libanus? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. The Welsh Government takes road safety very seriously, but also routinely monitors speed data, along with personal injury collision records from the police, to inform us of the need for road safety improvements. It's already been raised in terms of road safety and setting local speed limits this afternoon. So, we are currently updating the guidance on setting local speed limits to reflect current Welsh Government policy, including the national roll-out of 20 mph speed limits, and to meet the ambitions highlighted in 'Llwybr Newydd: The Wales Transport Strategy 2021'. And when that new guidance is published, we'll review the speed limits across the trunk road network, including the A470 at Libanus. I think that we have all driven through Libanus, and then to hear of that collision, again, it brings the reality of this in terms of speed limits, and enforcement, of course, which is crucial. But I urge your constituents to report any concerns directly to GoSafe, the Wales casualty reduction partnership, who are responsible for speed limit enforcement.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd o ddifrif, ond mae hefyd yn monitro data cyflymder yn rheolaidd, ynghyd â chofnodion o wrthdrawiadau a achosodd anafiadau personol gan yr heddlu, i roi gwybod i ni am yr angen am welliannau diogelwch ar y ffyrdd. Mae diogelwch ar y ffyrdd a gosod terfynau cyflymder lleol eisoes wedi'u codi y prynhawn yma. Felly, rydyn ni wrthi'n diweddaru'r canllawiau ar osod terfynau cyflymder lleol i adlewyrchu polisi presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yn genedlaethol, ac i gyflawni'r uchelgeisiau sydd wedi'u hamlygu yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021'. A phan bydd y canllawiau newydd hynny'n cael eu cyhoeddi, byddwn ni'n adolygu'r terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys yr A470 yn Libanus. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi gyrru trwy Libanus, ac yna mae clywed am y gwrthdrawiad hwnnw, unwaith eto, yn cyfleu gwirionedd hyn o ran terfynau cyflymder, a gorfodi, wrth gwrs, sy'n hollbwysig. Ond rwy'n annog eich etholwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon yn uniongyrchol i GanBwyll, partneriaeth lleihau anafiadau Cymru, sy'n gyfrifol am orfodi terfynau cyflymder.
This is the second time now I've had to ask for a statement on this, and it's actually quite a delicate issue, but it's about the discharging of loved ones from hospital mortuaries. When I raised this before, people, families, undertakers were waiting up to two weeks for a body to be released from the hospital morgue. That time has increased now to a month. Now, if you can imagine, the grief with losing somebody, added to that then the fact that you cannot get your loved one home or to a funeral director. So, I've been in touch with the chair of the Betsi health board. They've acknowledged the problem and explained they're currently working on solutions. However, the situation prevails. So, can I have a statement, please, from the Cabinet Secretary for Health and Social Care as to how the Welsh Government will look at ensuring that this situation is resolved, and very quickly? I don't want to see any more of my constituents going through the grief and the tragedy that they are facing at the moment, that they cannot get their loved ones home.
Dyma'r eildro nawr i mi orfod gofyn am ddatganiad ar hyn, ac mewn gwirionedd mae'n fater eithaf sensitif, ond mae'n ymwneud â rhyddhau anwyliaid o farwdai ysbytai. Pan godais i hyn o'r blaen, roedd pobl, teuluoedd, ymgymerwyr yn aros hyd at bythefnos i gyrff gael eu rhyddhau o farwdy'r ysbyty. Mae'r amser hwnnw wedi cynyddu i fis nawr. Nawr, os gallwch chi ddychmygu, y galar o golli rhywun, ac wedi'i ychwanegu at hynny wedyn y ffaith na allwch chi gael eich anwylyd adref nac i safle trefnwr angladdau. Felly, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â chadeirydd bwrdd iechyd Betsi. Maen nhw wedi cydnabod y broblem ac wedi egluro eu bod yn gweithio ar ddatrysiadau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yn parhau. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael ei datrys, ac yn gyflym iawn? Nid wyf i eisiau gweld mwy o fy etholwyr yn mynd trwy'r galar a'r drasiedi y maen nhw'n ei hwynebu ar hyn o bryd, o ran methu â chael eu hanwyliaid adref.
Thank you, Janet Finch-Saunders, and, as you say, this is a delicate and sensitive issue, and we respect that and respect the fact that you have raised this in the Chamber this afternoon—delicate and sensitive for the families of those who are affected. Obviously, it is a matter for management at hospital level, at health board level. But, certainly, we will reflect on that in terms of evidence of how this is being addressed effectively to make sure there's consistency across Wales.
Diolch, Janet Finch-Saunders, ac, fel y dywedwch chi, mae hwn yn fater sensitif ac anodd, ac rydyn ni'n parchu hynny ac yn parchu'r ffaith eich bod chi wedi codi hyn yn y Siambr y prynhawn yma—yn sensitif ac yn anodd i deuluoedd y rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Yn amlwg, mater i'r rheolwyr ar lefel yr ysbytai ydyw, ar lefel y bwrdd iechyd. Ond, yn sicr, byddwn ni'n myfyrio ar hynny o ran tystiolaeth o sut mae hyn yn cael sylw effeithiol i sicrhau bod cysondeb ar draws Cymru.
Diolch, Trefnydd. May I ask for two statements, please, one from the Minister for higher education and one from you, hopefully? I wrote to the Minister for higher education in September with regard to the plight of Hong Kongers who came over here in 2021 as part of the British national visa due to the crackdown on democracy protesters in Hong Kong. They've made Wales their home. They have no intention of leaving here, but they are not eligible for home fee status and not eligible either for student loans. So, how can we call ourselves a nation of sanctuary? How can we claim that we welcome these individuals to our country when we are, in effect, blocking them from continuing with their higher education? They are looking at fees of up to £50,000. Scotland has changed the eligibility rules. I received a reply from the Minister for higher education a few weeks ago and she mentioned there's a review into this, but it'll take two years. Well, I cannot see why it needs to take two years. We're probably not talking about a huge number of individuals here, but it would make a huge difference for them.
And then, on the second statement, from you, hopefully, Trefnydd, I've written twice to the Ministry of Justice and to others also with regard to the board and lodging deductions from compensation awarded to victims of miscarriages of justice. It's incredible that many people from south Wales, very often members of ethnic minorities, were deducted thousands, if not hundreds of thousands of pounds from their compensation when they were wrongly convicted, for board and lodging for staying in prison. I know it's a reserved matter, but, please, I know a declaration of support from the Welsh Government, a statement of support from the Welsh Government, would go very far with these campaigners. Diolch yn fawr.
Diolch, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan y Gweinidog Addysg Uwch ac un gennych chi, gobeithio? Ysgrifennais at y Gweinidog addysg uwch ym mis Medi am drafferthion pobl o Hong Kong a ddaeth yma yn 2021 fel rhan o fisa cenedlaethol Prydeinig oherwydd yr ymgyrch yn erbyn protestwyr democratiaeth yn Hong Kong. Maen nhw wedi gwneud Cymru yn gartref i'w hunain. Does ganddyn nhw ddim bwriad i adael yma, ond dydyn nhw ddim yn gymwys i gael statws ffi cartref a dydyn nhw ddim yn gymwys i gael benthyciadau myfyrwyr. Sut gallwn ni alw ein hunain yn genedl noddfa? Sut gallwn ni honni ein bod ni'n croesawu'r unigolion hyn i'n gwlad pan fyddwn ni, i bob pwrpas, yn eu rhwystro rhag parhau â'u haddysg uwch? Maen nhw'n wynebu ffioedd o hyd at £50,000. Mae'r Alban wedi newid y rheolau cymhwysedd. Cefais ymateb gan y Gweinidog Addysg Uwch ychydig wythnosau yn ôl a soniodd hi fod adolygiad ar y gweill ar hyn, ond bydd yn cymryd dwy flynedd. Ni allaf weld pam mae angen iddo gymryd dwy flynedd. Mae'n debyg nad ydyn ni'n sôn am nifer fawr o unigolion yma, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr iddyn nhw.
Ac yna, ar yr ail ddatganiad, gennych chi, gobeithio, Trefnydd, rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac i eraill hefyd o ran y didyniadau bwyd a llety o iawndal sy'n cael ei dalu i ddioddefwyr achosion camweinyddu cyfiawnder. Mae'n anhygoel bod miloedd, os nad cannoedd o filoedd o bunnoedd wedi cael eu didynnu o iawndal llawer o bobl o'r de, yn aml iawn yn aelodau o leiafrifoedd ethnig, ar gyfer bwyd a llety am aros yn y carchar, pan gawson nhw eu dyfarnu'n euog ar gam. Rwy'n gwybod ei fod yn fater a gedwir yn ôl, ond, rwy'n gwybod y byddai cyhoeddiad o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, datganiad o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei werthfawrogi gan yr ymgyrchwyr hyn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Rhys ab Owen. You're first point, of course, is very much a matter for me as well, as Cabinet Secretary for Social Justice. You will have seen in our refreshed 'Anti-racist Wales Action Plan' a whole chapter on nation of sanctuary and how we have sought to welcome, within our powers and responsibilities, and much wider than our powers and responsibilities, the plight of the Hong Kongers. Alongside this—and we will debate this afternoon—are Ukrainian refugees, Afghan refugees from Afghanistan, and many sanctuary seekers who do want to continue in higher education. I know this is something that I can discuss with the Minister for higher education to clarify the circumstances you raise.
And on your second point, of course, it isn't devolved, but I believe now we are resetting relations with the new UK Government in a very positive and proactive way. I have not only met with Ministers from the Ministry of Justice, but I have corresponded with the Lord Chancellor, and a Home Office Minister has actually visited Wales and come to our Senedd. So, there is a new relationship developing, and I will certainly clarify, and I'm sure the Counsel General will assist me in this, the situation for those affected in Wales, and across England and Wales, in terms of compensation on the board and lodging costs for those who were wrongly convicted.
Diolch yn fawr. Rhys ab Owen. Eich pwynt cyntaf chi, wrth gwrs, mae'n sicr yn fater i mi hefyd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Byddwch chi wedi gweld yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ar ei newydd wedd, bennod gyfan ar genedl noddfa a sut yr ydym wedi ceisio ymdrin, o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau, ac yn llawer ehangach na'n pwerau a'n cyfrifoldebau, â sefyllfa pobl o Hong Kong. Ochr yn ochr â hyn—a byddwn ni'n trafod y prynhawn yma—mae ffoaduriaid Wcreinaidd, ffoaduriaid o Afghanistan, a llawer o geiswyr noddfa sydd eisiau parhau mewn addysg uwch. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y gallaf ei drafod gyda'r Gweinidog addysg uwch i egluro'r amgylchiadau yr ydych chi'n eu codi.
Ac ar eich ail bwynt, wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli, ond rwy'n credu nawr ein bod ni'n ailosod cysylltiadau â Llywodraeth newydd y DU mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol iawn. Rwyf i nid yn unig wedi cyfarfod â Gweinidogion o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond rwyf wedi gohebu â'r Arglwydd Ganghellor, ac mae Gweinidog y Swyddfa Gartref wedi ymweld â Chymru a dod i'n Senedd ni. Felly, mae perthynas newydd yn datblygu, ac yn sicr, fe wnaf i egluro, ac rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn fy helpu i yn hyn, y sefyllfa i'r rhai y mae wedi effeithio arnyn nhw yng Nghymru, ac ar draws Cymru a Lloegr, o ran iawndal ar gyfer y costau bwyd a llety i'r rhai a ddyfarnwyd yn euog ar gam.
Could I reiterate the calls that Sam Rowlands made in relation to the increase in national insurance? I know you, as the constituency Member for the Vale and Glamorgan, and regional Members have had a letter from the Western Vale doctors' surgery, which has highlighted the impact of the NI increases. And we can politically argue whether it's good or bad, but that letter clearly emphasised that it would cost that practice £33,000 a year extra, and that would mean—. And they use the specific example of the employment of a vaccination nurse having to be withdrawn from the service that they're able to provide. So, could I ask that a statement comes from the Minister for health as to exactly what help, if any, the Welsh Government is able to afford to put in place to support GP surgeries, as well as the hospice movement, because I have Holme Tower in my own area here in South Wales Central, in Penarth, and they are all facing this budget pressure that, obviously, as a consequence of the budget, is really going to visit them with real force in the next financial year. So, hopefully, the Minister will agree, and we can have some information to come from the Welsh Government so that we can go back to our constituents and tell them that there is no danger to service provision.
A gaf i ailadrodd y galwadau a wnaeth Sam Rowlands ynghylch y cynnydd mewn yswiriant gwladol? Rwy'n gwybod eich bod chi, fel yr Aelod dros etholaeth y Fro a Morgannwg, ac Aelodau rhanbarthol wedi cael llythyr o feddygfa Western Vale, sydd wedi tynnu sylw at effaith y cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol. A gallwn ni ddadlau yn wleidyddol a yw'n dda neu'n ddrwg, ond pwysleisiodd y llythyr hwnnw yn glir y byddai'n costio £33,000 y flwyddyn yn ychwanegol i'r practis hwnnw, a byddai hynny'n golygu—. Ac maen nhw'n defnyddio'r enghraifft benodol o orfod tynnu'n ôl cyflogi nyrs frechu o'r gwasanaeth y gallan nhw ei ddarparu. Felly, a gaf i ofyn bod datganiad yn dod gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â pha help, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru fforddio ei roi ar waith i gefnogi meddygfeydd, yn ogystal â mudiad yr hosbisau, oherwydd mae gennyf i Holme Tower yn fy ardal i yma yng Nghanol De Cymru, ym Mhenarth, Ac maen nhw i gyd yn wynebu'r pwysau cyllidebol hwn sydd, yn amlwg, o ganlyniad i'r gyllideb, yn mynd i effeithio arnyn nhw gyda grym gwirioneddol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno, a gallwn ni gael rhywfaint o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni fynd yn ôl at ein hetholwyr a dweud wrthyn nhw nad oes perygl i ddarpariaeth gwasanaethau.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Thank you for that question, Andrew R.T. Davies. You heard from the First Minister earlier on this afternoon that we are, indeed, looking at the impacts of the rise in national insurance, which, of course, is the UK Government Treasury's decision, and, of course, understanding the rulings in relation to how the funding will come forward for those who are eligible, as described through ONS—the public sector workforce. But your comments, of course, are acknowledged here this afternoon.
Diolch am y cwestiwn yna, Andrew R.T. Davies. Fe wnaethoch chi glywed gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma ein bod ni, yn wir, yn edrych ar effeithiau'r cynnydd mewn yswiriant gwladol, sydd, wrth gwrs, yn benderfyniad Trysorlys Llywodraeth y DU, ac, wrth gwrs, gan ddeall y dyfarniadau o ran sut y bydd yr arian yn cael ei gyflwyno i'r rhai sy'n gymwys, yn ôl disgrifiad yr SYG—gweithlu'r sector cyhoeddus. Ond mae eich sylwadau, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod yma y prynhawn yma.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
And finally, Laura Anne Jones.
Diolch, Presiding Officer—acting Presiding Officer, Deputy Presiding Officer. Sorry about that. [Laughter.] I got confused then. There are so many of you.
May I first reiterate calls for a statement purely on the impact of the UK Government's budget decisions on farming in Wales? It's not just farmers affected, as we know; it's potentially all of us that will be affected if we lose our family farms across Wales.
Also, I'd like to reiterate calls for a statement on national insurance contributions, and I would like to request that the First Minister provides a detailed statement outlining how much extra each public sector body will be paying in employer national insurance contributions next year, and how much additional funding each body will receive to compensate for these increases. Looking through the accounts of the Aneurin Bevan health board, I have calculated that they face an increase of approximately £0.75 million purely to cover the additional taxes resulting from the Labour budget. Hospitals like the Grange are already under significant strain and are struggling to provide the level of service that local residents need and deserve. In addition, if this additional cost will not be reimbursed, services will deteriorate further. If extra funding is allocated to cover these charges, can we have reassurance that it will be made explicitly clear that this is not new or additional funding for these services, but merely a refund to cover costs imposed by these new measures?
Diolch, Llywydd—Llywydd dros dro, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gen i am hynny. [Chwerthin.] Roeddwn i wedi drysu yn y fan yna. Mae yna gymaint ohonoch chi.
A gaf i ailadrodd yn gyntaf alwadau am ddatganiad yn benodol ar effaith penderfyniadau cyllideb Llywodraeth y DU ar ffermio yng Nghymru? Nid ar ffermwyr yn unig y mae hyn yn effeithio, fel y gwyddom ni; mae'n bosibl y bydd yn effeithio ar bob un ohonom ni os byddwn ni'n colli ein ffermydd teuluol ledled Cymru.
Hefyd, hoffwn i ailadrodd galwadau am ddatganiad ar gyfraniadau yswiriant gwladol, a hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog ddarparu datganiad manwl yn amlinellu faint yn ychwanegol y bydd pob corff sector cyhoeddus yn ei dalu mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr y flwyddyn nesaf, a faint o gyllid ychwanegol y bydd pob corff yn ei dderbyn i wneud yn iawn am y cynnydd hwn. Wrth edrych drwy gyfrifon bwrdd iechyd Aneurin Bevan, rwyf wedi cyfrifo eu bod yn wynebu cynnydd o tua £0.75 miliwn dim ond i dalu am y trethi ychwanegol sy'n deillio o'r gyllideb Lafur. Mae ysbytai fel y Faenor eisoes dan straen sylweddol ac yn ei chael hi'n anodd darparu'r lefel o wasanaeth sydd ei hangen ar drigolion lleol ac y maen nhw'n ei haeddu. Yn ogystal â hyn, os na fydd y gost ychwanegol hon yn cael ei had-dalu, bydd gwasanaethau'n dirywio ymhellach. Os caiff cyllid ychwanegol ei ddyrannu i dalu'r costau hyn, a gawn ni sicrwydd y bydd yn cael ei wneud yn gwbl glir nad cyllid newydd neu ychwanegol yw hwn ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond yn ad-daliad i dalu costau a oorfodwyd gan y mesurau newydd hyn?
There will be a statement next week by the Deputy First Minister and the Minister for Climate Change and Rural Affairs on the sustainable farming scheme. And, of course, we are addressing the impact of the—. We are assessing the impact of the rise in national insurance for employers, which is a UK Government decision in the budget, as a result of the £21 billion hole that was left by your Government. And, indeed, a hole that has resulted in—[Interruption.] We've rehearsed this afternoon the impact of that hole—[Interruption.]
Bydd datganiad yr wythnos nesaf gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n mynd i'r afael ag effaith y—. Rydyn ni'n asesu effaith y cynnydd mewn yswiriant gwladol ar gyflogwyr, sy'n benderfyniad gan Lywodraeth y DU yn y gyllideb, o ganlyniad i'r twll gwerth £21 biliwn a adawyd gan eich Llywodraeth chi. Ac, yn wir, twll sydd wedi arwain at—[Torri ar draws.] Rydyn ni wedi clywed droeon y prynhawn yma effaith y twll hwnnw—[Torri ar draws.]
Trefnydd, one second. I'd like to hear the answer, please, so can all benches please allow the Trefnydd to continue the response?
Trefnydd, un eiliad. Fe hoffwn i glywed yr ateb, os gwelwch yn dda, felly a wnaiff pob un o'r meinciau adael llonydd i'r Trefnydd barhau â'r ateb?
So, I think no more needs to be said. Obviously, we're going to hear a lot of this from the opposition benches, but they have also got to recognise the responsibility that they need to take for their former Government, who left us in this position. But, as the First Minister said, it is the funding that will be released that will help to benefit the public services and, indeed, the businesses through the support that we give them as a result of these decisions.
Felly, rwyf i o'r farn nad oes angen dweud rhagor. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n clywed llawer o hyn o feinciau'r gwrthbleidiau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod y cyfrifoldeb y mae angen iddyn nhw ei dderbyn hefyd ar ran eu Llywodraeth flaenorol nhw sydd wedi ein rhoi ni yn y sefyllfa hon. Ond, fel dywedodd y Prif Weinidog, y cyllid sy'n cael ei ryddhau sy'n mynd i fod o fudd i'r gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, y busnesau drwy'r cymorth y byddwn ni'n ei roi iddyn nhw o ganlyniad i'r penderfyniadau hyn.
Diolch i'r Trefnydd.
Thank you, Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Item 3 this afternoon is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care on waiting times. I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Jeremy Miles.
Mae torri amseroedd aros hir a sicrhau mynediad amserol at ofal wedi’i gynllunio yn flaenoriaeth i’r cyhoedd ac i’r Llywodraeth hon. Ers y pandemig, mae hyd y rhestr aros a faint o amser y mae pobl yn aros am driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hyn yn wir ar draws y Deyrnas Unedig, nid dim ond yng Nghymru. Cafodd y pandemig effaith enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd. Gwaetha'r modd, roedd y camau a gymeron ni i flaenoriaethu gofal pobl â COVID ac argyfyngau difrifol eraill yn golygu y bu'n rhaid i bobl ag anghenion, efallai, llai brys aros yn hirach. Cyn y pandemig, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, tua 10 wythnos oedd yr amser aros ar gyfartaledd rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Cododd hyn i 29 wythnos ym mis Hydref 2020—y lefel uchaf erioed. Ond roedd wedi lleihau i 23 wythnos ym Awst 2024.
Dirprwy Lywydd, fe wnaeth atgyfeiriadau gofal wedi'i gynllunio gronni yn ystod y pandemig. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi gweithio’n galed i'w lleihau yn y ddwy flynedd diwethaf wrth i’r galw am ofal wedi’i gynllunio ddychwelyd i'r lefelau blaenorol. Mewn rhai achosion, aeth y galw y tu hwnt i'r lefelau hynny. I gefnogi’r gwasanaeth iechyd, rydym yn darparu mwy na £1 biliwn o gyllid adfer yn ystod tymor y Senedd hon. Ond dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau. Yng nghanol y cyfnod ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, a waethygwyd gan gyllideb drychinebus Liz Truss, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd rheng flaen i helpu i leihau amseroedd aros a chyflymu mynediad at ofal.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu bron i £900 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd. Mae byrddau iechyd wedi gwneud llawer iawn i geisio lleihau amseroedd aros. Mae’r ffigurau perfformiad diweddaraf yn dangos—a bydd ffigurau newydd allan ddiwedd yr wythnos hon—fod yr amseroedd aros hiraf wedi gostwng traean ers eu lefel uchaf ym mis Mawrth 2022. Mae amseroedd aros hir ar gyfer profion diagnostig wedi gostwng 30 y cant o'u lefel uchaf yn Awst 2020. Erbyn hyn, tua 3 y cant o bobl ar y rhestr aros sy'n aros am fwy na dwy flynedd, o gymharu â bron i 10 y cant ym mis Mawrth 2022. Ond mae gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth, ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach.
Cutting long waiting times and ensuring people have timely access to planned care is a priority for the public and for this Government. Since the pandemic, the overall size of the waiting list and the length of time people are waiting for treatment have increased significantly. This is true across the UK, not just in Wales. The pandemic had a seismic impact on all of our public services, including the health service. However, the actions we took to prioritise the care of people with COVID and other life-threatening emergencies unfortunately meant that people with less urgent needs had to wait longer. Pre pandemic, for planned care, the average waiting time from referral to treatment was around 10 weeks. This rose to a 29 weeks in October 2020, which was a record high, but this had reduced to 23 weeks in August 2024.
Dirprwy Lywydd, a backlog of planned care referrals built up over the pandemic, and the health service has worked hard to reduce that over the last two years as demand for planned care returned and, in some cases, exceeded previous levels. To support the health service, we are providing more than £1 billion in recovery funding over the course of this Senedd term. But we haven’t stopped there. In the midst of the most difficult financial times since the beginning of devolution, exacerbated by the disastrous Liz Truss mini-budget, we have continued to invest in front-line NHS services to help reduce waiting times and speed up access to care.
Over the last two years, we’ve provided almost £900 million of extra funding for the health service. Health boards have made a great deal of progress in reducing waiting times. The latest performance figures show—and there will be new figures out at the end of this week—that the longest waits have fallen by a third since their peak in March 2022. And long waits for diagnostic tests have fallen by 30 per cent from their high point in August 2020. Those waiting more than two years now make up just 3 per cent of the waiting list, as compared to nearly 10 per cent in March 2022. But too many people are still waiting too long for treatment, and we must go further.
Dirprwy Lywydd, last month, I announced £28 million to specifically target the longest waiting times in Wales, to increase weekend and evening working and to set up more regional clinics in south-east Wales. I’m now increasing that funding to £50 million. It will be available to health boards to spend against their plans immediately to provide more treatments, more tests, more out-patient appointments, to see more people and, where necessary, to use private hospital capacity to end long waits. The NHS will use the £50 million to treat 16,000 more people by the end of March 2025, carry out 14,000 extra tests by the end of March 2025, and up to 20,000 more out-patient appointments by the end of March 2025.
This package also contains £3 million to target the longest waits for neurodevelopmental assessments. Demand for assessments has grown exponentially in recent years. In six months alone, waiting lists for neurodevelopmental assessments have increased by more than 2,000. Assessments can be complex, and reductions to the waiting lists have been quickly subsumed by new referrals. The additional investment will support a significant reduction in long waits at all health boards, supported by a continued focus on developing new ways of working.
Dirprwy Lywydd, we know these short-term waiting list measures will not be enough on their own. I have been clear with the NHS that we need to transform the way we deliver services while we focus on clearing the backlog. Our funding is intended to support this. Work on transformation, improved efficiency and productivity has to be undertaken in parallel to reducing long waits. This will contribute to putting us on the path to a sustainable health service for the future.
Our planned care recovery plan will lead the work in this area, supported by national clinical leads and the adoption of clinical pathways. At the moment, there is too much variation across health boards. I want to see better learning and adoption of recognised best practice to improve productivity across all sites and specialties. We will apply a principle of ‘adapt, adopt or justify’ for positive innovations. The NHS must maximize all the resources available to it in full.
The new ministerial advisory group on performance and productivity, chaired by Sir David Sloman, will support us in making improvements in this area. It started work last month and will provide advice to me early next year. There are plenty of good examples of transformation across Wales: Telederm, which has supported a reduction in dermatology waits; the introduction of ‘see on symptom’ and patient-initiated outpatient pathways, which has reduced the demand for outpatient follow-ups; and advice and guidance via Consultant Connect, which has prevented 52,000 unnecessary hospital visits in the last year.
Wherever possible, I want to see people treated in the community. Our optometry reforms are a good example of where this is already happening. We have invested an extra £30 million every year to move more eye care out of hospitals into primary care. This ensures people are being seen closer to home for routine care, and only those who need more specialised care are being referred to hospital. It’s working well.
Digital transformation is key to ensuring these changes can be maintained and built on. We are supporting AI projects to support clinicians to deliver more effective and timely pathway management, but we also need to focus on prevention, to improve the underlying health of our country. Dirprwy Lywydd, more than 6,000 procedures were cancelled at the last minute last year, many because of ill health. Our 3Ps policy is a national approach to help support people who are waiting to be as fit and ready for their treatment as possible by promoting healthy choices, supporting health and well-being, preventing a deterioration in their condition, and preparing for their treatment.
In the 10 weeks I’ve been Cabinet Secretary for Health and Social Care, I’ve had the privilege of meeting NHS staff from across Wales. I have been struck by their commitment and determination to deliver the very best possible care. Together, we are committed to reducing waiting times and ensuring our NHS continues to deliver safe, efficient and effective services to meet the needs of today, while helping the NHS adapt for the future.
Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, fe gyhoeddais i £28 miliwn i dargedu'r amseroedd aros hwyaf yng Nghymru yn benodol, i gynyddu'r gwaith ar benwythnosau a chyda'r nos a sefydlu mwy o glinigau rhanbarthol yn y de-ddwyrain. Rwy'n cynyddu'r cyllid hwnnw i £50 miliwn nawr. Bydd hwnnw ar gael i fyrddau iechyd ei wario yn syth yn unol â'u cynlluniau ar gyfer cynnig mwy o driniaethau, mwy o brofion, mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, ar gyfer gweld mwy o bobl a, lle bod angen hynny, defnyddio capasiti mewn ysbytai preifat er mwyn cael ymwared ag arosiadau maith. Fe fydd y GIG yn defnyddio'r £50 miliwn hwn i drin 16,000 o bobl yn ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a chynnal 14,000 o brofion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a hyd at 20,000 yn rhagor o apwyntiadau cleifion allanol erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £3 miliwn i dargedu'r arosiadau hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol hefyd. Mae'r galw am asesiadau wedi cynyddu'n esbonyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn dim ond chwe mis, mae rhestrau aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol wedi gweld cynnydd o fwy na 2,000. Fe all asesiadau fod yn gymhleth, ac mae'r gostyngiadau i'r rhestrau aros wedi cael eu llenwi yn gyflym gan atgyfeiriadau newydd. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cefnogi gostyngiad sylweddol o ran yr arosiadau maith ym mhob bwrdd iechyd, gyda chefnogaeth canolbwyntio parhaus ar ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.
Dirprwy Lywydd, fe wyddom ni na fydd y mesurau o ran y rhestrau aros byrdymor yn ddigonol ar eu pennau eu hunain. Fe eglurais i'r GIG am yr angen i ni drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau wrth i ni ganolbwyntio ar ymdrin â'r ôl-groniad. Bwriad ein cyllid ni yw cefnogi hyn. Mae'n rhaid gwneud gwaith o ran trawsnewid, bod â gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant ochr yn ochr â byrhau amseroedd aros maith. Fe fydd hyn yn cyfrannu at ein rhoi ni ar y llwybr tuag at wasanaeth iechyd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol.
Bydd ein cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn arwain y gwaith yn y maes hwn, gyda chefnogaeth arweinwyr clinigol cenedlaethol a chan fabwysiadu llwybrau clinigol. Ar hyn o bryd, fe geir gormod o amrywio ar draws y byrddau iechyd. Rwyf i'n awyddus i weld rhagor o ddysgu a mabwysiadu arfer gorau cydnabyddedig ar gyfer gwella cynhyrchiant ar draws pob safle ac arbenigedd. Fe fyddwn ni'n cymhwyso egwyddor o 'addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau' ar gyfer datblygiadau newydd sy'n llwyddo. Mae'n rhaid i'r GIG wneud yn fawr o'r holl adnoddau sydd ar gael iddo yn eu llawnder.
Bydd y grŵp cynghori'r Gweinidog newydd ar berfformiad a chynhyrchiant, dan gadeiryddiaeth Syr David Sloman, yn ein cefnogi ni i wneud gwelliannau yn y maes hwn. Fe ddechreuodd ar ei waith fis diwethaf ac fe fydd yn rhoi cyngor i mi ar ddechrau'r flwyddyn nesaf. Mae yna ddigonedd o enghreifftiau da o drawsnewid ledled Cymru: Telederm, sydd wedi cefnogi gostyngiad mewn arosiadau am ddermatoleg; cyflwyno 'sylw i symptom' a llwybrau cleifion allanol ar gais y claf, sydd wedi lleihau'r galw am apwyntiadau dilynol i gleifion allanol; a chyngor ac arweiniad drwy Consultant Connect, sydd wedi atal 52,000 o ymweliadau diangen i'r ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, fe hoffwn i weld pobl yn cael eu trin yn y gymuned. Mae ein diwygiadau ni o ran optometreg yn enghraifft dda o faes lle mae hyn yn digwydd ynddo eisoes. Rydym ni wedi buddsoddi £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i symud mwy o ofal llygaid allan o'r ysbytai i ofal sylfaenol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn nes at eu cartrefi ar gyfer gofal arferol, a dim ond y rhai sydd ag angen gofal mwy arbenigol sy'n cael eu hatgyfeirio i'r ysbyty. Mae hynny'n gweithio'n dda.
Mae trawsnewid digidol yn allweddol o ran sicrhau y gellir cynnal ac adeiladu ar y newidiadau hyn. Rydym ni'n cefnogi prosiectau deallusrwydd artiffisial i gefnogi clinigwyr i gynnig rheolaeth fwy effeithiol ac amserol ar lwybrau, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar atal hefyd, ar gyfer gwella iechyd sylfaenol ein cenedl. Dirprwy Lywydd, cafodd dros 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf y llynedd, llawer ohonyn nhw oherwydd salwch. Mae ein polisi o hyrwyddo, atal a pharatoi yn ddull cenedlaethol o helpu i gefnogi pobl sy'n aros i fod mor ffit ac yn barod ar gyfer eu triniaeth â phosibl trwy hyrwyddo dewisiadau iach, sy'n cefnogi iechyd a llesiant, sy'n atal dirywiad yn eu cyflwr, ac yn eu paratoi ar gyfer eu triniaethau.
Yn ystod y 10 wythnos y bues i'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe gefais i'r fraint o gwrdd â staff y GIG o bob cwr o Gymru. Fe gefais fy nharo gan eu hymrwymiad a'u penderfyniad i ddarparu'r gofal gorau posibl. Gyda'n gilydd, rydym ni wedi ymrwymo i fyrhau amseroedd aros a sicrhau bod ein GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogel, effeithlon ac effeithiol i ateb anghenion heddiw, wrth helpu'r GIG i addasu ar gyfer y dyfodol.
Thank you for the statement this afternoon, Cabinet Secretary. May I just join you at the outset in your closing remarks and acknowledging the desire of our NHS staff to see the improvements and the commitment that they put in every single day up and down Wales to see the services delivered that our residents and constituents want to see?
You opened in your statement today, Cabinet Secretary, acknowledging that waiting lists are a priority for both the public and Government, and that’s absolutely right. Time and time again, I am approached—as I'm sure you are, and others in this Chamber—by residents and by constituents concerned about the waiting times that they and their loved ones are facing.
The statistics speak for themselves. You outlined a number of statistics there where there are areas of improvement in Wales, but currently there are a staggering 619,200 individual patients awaiting treatment here in Wales. In terms of patient pathways, there are around 800,000 open pathways at the moment. We must remember we are a country of just over 3 million people. Those numbers are quite staggering. Some of the worst waits, those two-year waits, have increased now for five consecutive months, with 24,000 people waiting more than two years for treatment in Wales, compared with just 124 people in England.
Those statistics are quoted often by me and others to demonstrate the extent of Welsh Labour's failure, but behind each statistic, of course, is a person, a life changed by pain and put on hold because they're unable to get the treatment that they need. That's why we quote those numbers—so we remember all those people who are struggling to get the treatments that they need.
There are other statistics. The 95 per cent target for patients spending fewer than four hours in accident and emergency in Wales has never been met. The 95 per cent target for patients waiting fewer than 26 weeks in Wales hasn't been met in more than 10 years. The 75 per cent target for cancer patients to start treatment within 62 days of cancer being suspected has never been met in Wales. There are many more of these sad statistics that people in Wales are facing every day.
I certainly welcome today, Cabinet Secretary, the focus, along with some money to support some changes here, but it's clear that it's systemic failure that is taking place at the moment, not something that a few million pounds here or there is going to fix. There still seems to be no plan for systemic change. For that reason, I suspect we aren't going to see the sustained positive change that both you and I would want to see.
You acknowledge in your statement, Cabinet Secretary, that these are short-term measures and will not be enough on their own, so I accept that you acknowledge that. Of course, you recently announced the 50-day challenge to try to improve hospital discharge and community care. That is another short-term measure, which I know you would acknowledge, but there does need to be some serious long-team thinking behind the way in which health services are delivered in the future, because otherwise these announcements will become far more regular.
In your statement, I welcome the focus on digital transformation. That is a long-term measure that will make a significant difference. I also welcome the focus on the neurodevelopment assessments. Far too many people, sadly, are waiting for those at the moment. So, extra money will go some way to improve those. It was also pleasing to see you encouraging health boards to commission activity from across sectors, including the private sector. I'm not sure if some of your colleagues will approve of that, but it's something we've long called for, that cross-sector collaboration to tackle waiting lists here in Wales.
However, there was no mention today of what we would call the cross-border collaboration. You will remember, Cabinet Secretary, the First Minister and Secretary of State for Wales announced this much-vaunted proposal that the UK Government would help the Welsh Government reduce waiting lists. I imagine it wasn't necessarily your idea, but it would be useful if you could provide the Senedd with an update on this and how we'll be seeing Welsh patients helped by sending them to hospitals in England or wherever is available to get those surgeries, those operations, those treatments delivered sooner rather than later to patients up and down Wales.
It makes a lot of common sense to use the capacity that's in our NHS across the UK when it's available so that people can be off those waiting lists sooner rather than later. I would urge you and your colleagues to not allow ideological reasons to prevent this from taking place, because we need to make sure that people are seen as quickly and as easily as possible. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am ddatganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. A gaf i ymuno â chi o'r dechrau'n deg o ran eich sylwadau wrth gloi a chydnabod awydd staff ein GIG i weld y gwelliannau a'r ymrwymiad sydd ganddyn nhw bob dydd ledled Cymru i gyflawni'r gwasanaethau y mae ein trigolion a'n hetholwyr ni'n awyddus i'w gweld?
Fe wnaethoch chi agor eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, drwy gydnabod bod rhestrau aros yn flaenoriaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth, ac mae hynny'n hollol gywir. Dro ar ôl tro, mae pobl yn cysylltu â mi—fel maen nhw'n gwneud â chwithau, rwy'n siŵr, ac eraill yn y Siambr hon—trigolion ac etholwyr sy'n gofidio am yr amseroedd aros y maen nhw a'u hanwyliaid yn gorfod aros.
Mae'r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Fe wnaethoch chi amlinellu nifer o ystadegau nawr lle mae meysydd o welliant wedi bod yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae yna 619,200 o gleifion unigol yn aros am driniaethau yma yng Nghymru. O ran y llwybrau i gleifion, mae tua 800,000 o lwybrau yn agored ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni gofio mai cenedl o ychydig dros 3 miliwn o bobl ydym ni. Mae'r niferoedd hynny'n syfrdanol. Mae rhai o'r arosiadau hwyaf, yr arosiadau hynny o ddwy flynedd, wedi cynyddu am bum mis yn olynol erbyn hyn, gyda 24,000 o bobl yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth yng Nghymru, o gymharu â dim ond 124 o bobl yn Lloegr.
Mae'r ystadegau hynny'n cael eu dyfynnu yn aml gennyf i a chan eraill hefyd ar gyfer dangos pa mor fawr yw methiant Llafur Cymru, ond y tu ôl i bob ystadegyn wrth gwrs, mae unigolion, bywydau sy'n cael eu newid gan boen a'u llesteirio oherwydd nad yw'r driniaeth angenrheidiol ar gael iddyn nhw. Dyna pam rydyn ni'n dyfynnu'r rhifau hynny—ac felly rydyn ni'n cofio am y bobl hynny i gyd sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar y triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Fe geir ystadegau eraill. Nid yw'r targed o ran bod 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi cael ei daro yng Nghymru. Nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion yn aros llai na 26 wythnos wedi cael ei daro ers dros 10 mlynedd yng Nghymru. Nid yw'r targed o 75 y cant o gleifion canser yn dechrau ar driniaeth o fewn 62 diwrnod o amheuaeth o ganser erioed wedi cael ei daro yng Nghymru. Fe geir llawer mwy o'r ystadegau trist hyn o ran sefyllfaoedd pobl yng Nghymru bob dydd.
Rwy'n sicr yn croesawu'r canolbwyntio heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, ynghyd â rhywfaint o arian i gefnogi rhai newidiadau yma, ond mae hi'n amlwg mai methiant systemig yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, nid rhywbeth y bydd ychydig o filiynau o bunnau yma ac acw yn ei adfer. Mae hi'n ymddangos nad oes cynllun fyth ar gyfer newid systemig. Am y rheswm hwnnw, rwy'n amau na fyddwn ni'n gweld y newid cadarnhaol parhaus y byddech chi a minnau'n dymuno ei weld.
Rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, mai mesurau byrdymor yw'r rhain ac na fyddan nhw'n ddigon ar eu pennau eu hunain, ac felly rwy'n derbyn eich bod chi'n cydnabod hynny. Wrth gwrs, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r her 50 diwrnod yn ddiweddar i geisio gwella'r ffordd o ryddhau cleifion o'r ysbyty a rhoi gofal cymunedol. Mesur byrdymor arall yw hwnnw, fel y gwn y byddech chi'n ei gydnabod, ond mae angen ystyriaeth hirdymor ddifrifol o ran y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y dyfodol, oherwydd fel arall fe ddaw'r cyhoeddiadau hyn yn bethau llawer mwy rheolaidd.
Yn eich datganiad chi, rwy'n croesawu'r canolbwyntio ar drawsnewid digidol. Mae hwnnw'n fesur hirdymor a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Rwy'n croesawu'r canolbwyntio ar yr asesiadau niwroddatblygiad hefyd. Yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn aros am y rhain ar hyn o bryd. Felly, fe fydd arian ychwanegol yn mynd rhan o'r ffordd ar gyfer gwella'r rhain. Roedd hi'n braf clywed eich bod chi'n annog y byrddau iechyd i gomisiynu gweithgarwch o bob sector, gan gynnwys y sector preifat. Nid wyf i'n siŵr a fyddai rhai o'ch cyd-Aelodau yn cymeradwyo hynny, ond mae'n hwnnw'n rhywbeth y gwnaethom ni alw amdano ers amser, sef cydweithio traws-sector fel hyn i fynd i'r afael â rhestrau aros yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, nid oedd unrhyw sôn heddiw am yr hyn y byddem ni'n ei alw yn gydweithio trawsffiniol. Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio, Ysgrifennydd Cabinet, bod Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi'r cynnig ymffrostgar hwn y byddai Llywodraeth y DU yn helpu Llywodraeth Cymru i fyrhau rhestrau aros. Rwy'n dychmygu nad eich syniad chi oedd hwnnw o reidrwydd, ond fyddai hi o gymorth pe byddech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â hyn a sut y byddwn ni'n gweld cleifion o Gymru yn cael eu cynorthwyo trwy eu hanfon nhw i ysbytai yn Lloegr neu i ba le bynnag sydd ar gael i dderbyn y triniaethau hynny, y llawdriniaethau hynny, y triniaethau hynny yn cael eu rhoi yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach i gleifion ledled Cymru.
Mae'n synnwyr cyffredin yn amlwg iawn i ddefnyddio'r capasiti sydd yn ein GIG ledled y DU pan fydd hwnnw ar gael er mwyn i bobl gael eu tynnu oddi ar y rhestrau aros hynny yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Fe fyddwn i'n eich annog chi a'ch cyd-Aelodau i beidio â chaniatáu i resymau ideolegol fod yn rhwystr i hyn, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael eu gweld mor gyflym a hawdd ag sy'n bosibl. Diolch yn fawr iawn.
I thank Sam Rowlands for those questions. Whilst we absolutely disagree on some of the analysis, I'm grateful to him for the constructive tone in which he presents the challenge that he does.
I think he is right to say, when residents get in touch in a constituency capacity or otherwise, that anybody waiting too long for treatment is a person too many waiting too long, clearly. We don't want to be in that position. As he says, this is about people; for each data point on the statistics that we share frequently, there is an individual story, isn't there? For me, that is the most important aspect. I think most residents are more concerned about the length of time that they and others they know have to wait than the number of people waiting at a particular point in time. That's why we place the focus that we do on the length of wait and making sure that we can reduce those, because that's what actually supports most people to get the care that they need in that timely fashion.
I will just say for the record that he makes a number of points of comparison, in his question, with England. He will know as well as I do that the measures for waiting times in England are very much narrower in what they record than they are in Wales. We've chosen for a long time in Wales to include many more pathways in the reporting that we make, because we believe in transparency and providing Members with the opportunity to challenge us. So, I don't shy away from comparison, but I just think it's important for us to bear in mind that we are not comparing the same things.
But I'm absolutely not complacent; he will not have heard any complacency in my statement today. He acknowledged—and I'm grateful for that—that I said that the funding in the system is critical, but on its own, it won't be sufficient. I also talked about the changes we're bringing into the system to improve the delivery of services overall. We've got the performance review, which is already under way, but we have the planned care transformation programme, and that has not been able to deliver at the pace we would've liked, despite the funding in the system, just because of the level of demand. That's why the funding that I'm putting in now—which I accept is not the whole solution, certainly—is critical, alongside driving the numbers down, getting more people seen more quickly, and that the way in which that is done more and more is the more sustainable long-term way that we know will make the biggest difference to service provision.
It's about optimising theatre time, which we know we can do better, and there's already good practice that we need to build on in Wales. It's making sure that we have high-volume clinics for low-complexity surgery. It's making sure that we make access to diagnostics more flexible, providing evening appointments—things that we know will make the biggest change. That's part of the expectation of the system, as well, and making sure, as I spoke about in my statement, that we have a culture of improvement and innovation, looking in all parts of the health service in Wales for the best practice and adopting that quickly, and looking beyond the NHS in Wales as well. I think that's a critical part of how we can put the provision of services on a more sustainable footing into the future.
Just to say finally on his customary point about cross-border working, health boards in Wales have commissioned treatments from trusts in England and vice versa for a long time, and that will continue. That goes up and down, depending on the availability of capacity. But I think we would be cautious in painting a picture that suggests an NHS in Wales that has no capacity depending on an NHS in England that has a lot of capacity. I don't think that's the picture on the ground at all. It's a much more finely balanced picture than that.
Rwy'n diolch i Sam Rowlands am y cwestiynau yna. Er ein bod ni'n anghytuno yn gyfan gwbl ynghylch rhywfaint o'r dadansoddiad, rwy'n ddiolchgar iddo ef am yr ymagwedd adeiladol sydd ganddo wrth iddo gyflwyno'r her fel mae'n ei wneud.
Rwy'n credu ei fod yn gywir i ddweud, pan fydd rhai trigolion yn cysylltu â ni yn ein hetholaethau neu fel arall, y bydd unrhyw un sy'n aros yn rhy hir am driniaeth yn un unigolyn yn ormod yn aros yn rhy hir, yn amlwg. Nid ydym ni'n dymuno bod yn y sefyllfa honno. Fel dywed ef, ymwneud â phobl y mae hyn; ar gyfer pob pwynt o ddata yn yr ystadegau yr ydyn ni'n eu rhannu nhw'n aml, mae stori am unigolyn, onid oes? I mi, honno yw'r agwedd bwysicaf. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o drigolion yn gofidio mwy am yr amser y mae'n rhaid iddyn nhw ac eraill y maen nhw'n eu hadnabod aros nac am niferoedd y bobl sy'n aros ar unrhyw adeg benodol mewn amser. Dyna pam rydym ni'n canolbwyntio fel gwnawn ni ar ba mor hir yw'r amseroedd aros a sicrhau y gallwn ni fyrhau'r rhain, oherwydd dyna sy'n cefnogi'r rhan fwyaf o bobl i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd amserol fel hyn, mewn gwirionedd.
Dim ond gair byr ar goedd ei fod ef yn tynnu nifer o gymariaethau, yn ei gwestiwn ef, â Lloegr. Fe ŵyr ef cystal â minnau fod y mesurau ar gyfer amseroedd aros yn Lloegr yn fwy cyfyng o lawer o ran yr hyn y maen nhw'n ei gofnodi na'r rhai sydd yng Nghymru. Fe wnaethom ni ddewis gryn amser yn ôl yng Nghymru i gynnwys llawer mwy o lwybrau yn yr adroddiadau a luniwn ni, oherwydd ein bod yn credu bod tryloywder yn werthfawr yn ogystal â'i fod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ein herio ni. Felly, nid wyf i'n ffoi oddi wrth y gymhariaeth, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio nad cymharu'r un pethau yn union yr ydym ni.
Ond nid wyf i'n hunanfodlon o gwbl; nid oedd ef yn clywed unrhyw hunanfodlonrwydd yn fy natganiad i heddiw. Roedd ef yn cydnabod—ac rwy'n ddiolchgar am hynny—i mi ddweud bod cyllid yn y system yn hollbwysig, ond ar ei ben ei hun, ni fydd hynny'n ddigonol. Roeddwn ni'n sôn hefyd am y newidiadau yr ydym ni'n eu cyflwyno i'r system ar gyfer gwelliant cyffredinol yn narpariaeth y gwasanaethau. Mae'r adolygiad o berfformiad gennym ni, sydd ar y gweill eisoes, ond mae'r rhaglen i drawsnewid gofal a gynlluniwyd gennym ni, ac nid yw honno wedi gallu cyflawni ar y cyflymder y byddem ni wedi dymuno, er gwaethaf y cyllid sydd yn y system, dim ond oherwydd maint y galw sydd. Dyna pam mae'r cyllid yr wyf i'n ei roi i mewn nawr—yn sicr, rwy'n derbyn nad yw hwnnw'n datrys popeth—yn hollbwysig, ochr yn ochr â lleihau'r niferoedd, a bod rhagor o bobl yn cael eu gweld yn gynt, a bod y ffordd y gwneir hynny'n fwy fyth yn ffordd hirdymor sy'n fwy cynaliadwy ac y gwyddom ni sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran y ddarpariaeth o wasanaethau.
Mae hyn yn ymwneud â gwneud y gorau a allwn ni gydag amser theatr, y gwyddom y gallwn ni wneud yn well yn hynny o beth, ac fe geir arfer da eisoes y mae angen i ni adeiladu arno yng Nghymru. Mae'n ymwneud â sicrhau bod clinigau o faint mawr gennym ni ar gyfer rhoi llawdriniaethau heb lawer o gymhlethdodau. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n gwneud y broses o gael gafael ar ddiagnosteg yn fwy hyblyg, gan gynnig apwyntiadau gyda'r nos—pethau a wyddom ni sy'n caniatáu’r newid mwyaf. Mae hynny'n rhan a ddisgwylir oddi wrth y system, hefyd, gan sicrhau, fel roeddwn i'n sôn yn fy natganiad, bod diwylliant o welliant ac arloesedd gennym ni, sy'n edrych ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru am yr arfer gorau a mabwysiadu hynny'n gyflym, ac yn edrych y tu hwnt i'r GIG yng Nghymru hefyd. Rwy'n credu bod honno'n rhan hanfodol o sut y byddwn ni'n gosod sylfaen sy'n fwy cynaliadwy i ddarpariaeth y gwasanaethau yn y dyfodol.
Dim ond gair i orffen am ei bwynt arferol ynglŷn â gwaith trawsffiniol, sef bod byrddau iechyd yng Nghymru wedi comisiynu triniaethau gan ymddiriedolaethau yn Lloegr ac i'r gwrthwyneb hefyd ers amser maith, ac fe fydd hynny'n parhau. Mae hynny'n cynyddu ac yn prinhau, yn dibynnu ar argaeledd capasiti. Ond rwy'n credu y byddem ni'n gochel rhag peintio darlun sy'n awgrymu nad oes gan y GIG yng Nghymru gapasiti a'i fod yn dibynnu ar y GIG yn Lloegr sydd â llawer o gapasiti. Nid wyf i o'r farn mai dyna'r darlun ar lawr gwlad o gwbl. Mae'n ddarlun llawer mwy cytbwys na hynny.
Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau sydd yn cael eu cymryd, unrhyw arian ychwanegol sydd yn cael ei roi er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros. Mae'n dda clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma'n dweud bod torri'r rhestrau aros yn flaenoriaeth, fel, yn wir, yr oedd o i'w ragflaenydd a'i rhagflaenydd hithau ac i bob Ysgrifennydd Cabinet neu Weinidog iechyd. Mae yna gyd-destun, wrth gwrs, i hyn. Mae hyn yn cael ei gyhoeddi yn erbyn cefnlen o dargedau cael gwared â rhestrau aros dwy flynedd wedi cael eu methu'n llwyr—y rhestrau aros hiraf erioed, efo un o bob pump o bobl Cymru bellach ar restr aros. Ac mae hefyd yn ddifyr nodi, nôl ym mis Medi, mai'r datrysiad bryd hynny oedd cynnig triniaethau yn Lloegr. Erbyn mis Hydref, y datrysiad oedd talu £28 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros. Rŵan, a ninnau ym mis Tachwedd, y datrysiad ydy cynyddu'r £28 miliwn yna i £50 miliwn. Tybed beth fydd y datganiad yn y mis nesaf.
Of course, we do welcome any steps taken and any additional funding provided in order to tackle long waiting lists. And it's good to hear that the Cabinet Secretary here is saying that cutting the waiting lists is a priority, as, indeed, it was for his predecessor and her predecessor and for every Cabinet Secretary or health Minister. There is a context to this, of course. This is announced against a backdrop of targets for eliminating two-year waits being completely missed—the longest waiting times ever, with one in five people in Wales now on a waiting list. And it's also interesting to note that, back in September, the solution at that point was to offer treatments in England. By October, the solution was to pay £28 million to tackle waiting lists. Now that we are in November, the solution is to increase that £28 million to £50 million. I wonder what the next statement will be next month.
This money isn't going towards addressing the retention crisis affecting several staffing areas of the NHS, nor is it being used to boost student placements on medical training courses, which have slumped alarmingly in recent years. It isn't being used to reverse the decline in the number of average daily hospital beds, nor is it being used to stem the ballooning high-risk maintenance backlog in the NHS estate, with its detrimental implications for staff and patient safety alike. And I do note that there was no reference in the statement to the delayed transfers of care that we have, nor social care. By giving health boards the green light to commission services from the private sector, we have yet another example of the Government having to absorb added costs from their mismanagement of existing NHS capacity—something that we've seen before with respect to the spiralling bills associated with agency staffing. From a broader perspective, this also speaks to the false economy on which the Government's funding of the health service has been based for some time, which is to throw money at the front line without dealing with the issues upstream.
The Cabinet Secretary has told us today that many people—. He has listed the number of people that he expects to be treated, but not how. So, I'd like the Cabinet Secretary to elaborate on how he hopes that this can be achieved. Can we expect more doctors? If so, where will they come from? Where will the patients receive their treatment? Will we see more theatres? Who will manage the complex process of arranging these appointments? Will we see more health managers? That is to say, we've got new targets again, but how does the Cabinet Secretary propose that these targets are met, beyond statements of ambition? We've seen the publication of numerous targets and strategies. Now we need to see delivery and outcomes. Over the weekend, the Cabinet Secretary referred to the greater use of the private sector. So, can the Cabinet Secretary detail how much of the £50 million will go to private providers? Diolch yn fawr iawn.
Nid yw'r arian hwn yn mynd tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng o ran cadw staff sy'n effeithio ar sawl maes yn y GIG, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio i hybu lleoli myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant meddygol chwaith, sydd wedi prinhau yn frawychus iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n cael ei ddefnyddio i wyrdroi'r dirywiad yn nifer cyfartalog y gwelyau dyddiol mewn ysbytai, nac ychwaith yn cael ei ddefnyddio i atal yr ôl-groniad peryglus o ran gwaith cynnal a chadw ar ystad y GIG, sydd â goblygiadau niweidiol i staff a diogelwch cleifion fel ei gilydd. Ac rwy'n nodi nad oedd cyfeiriad yn y datganiad at yr oedi sydd gennym ni wrth drosglwyddo gofal, nac am ofal cymdeithasol. Trwy roi rhwydd hynt i fyrddau iechyd gomisiynu gwasanaethau o'r sector preifat, fe welwn ni enghraifft arall eto o'r Llywodraeth yn gorfod amsugno costau ychwanegol oherwydd eu camreolaeth o gapasiti cyfredol y GIG—sy'n rhywbeth a welsom ni o'r blaen o ran y biliau cynyddol sy'n gysylltiedig â staff o asiantaethau. O safbwynt ehangach, mae hyn yn ymwneud â'r economi ffug y seiliwyd cyllid y Llywodraeth i'r gwasanaeth iechyd arni ers peth amser, sef taflu arian at y rheng flaen ond heb ymdrin â'r materion i fyny'r afon.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym ni heddiw fod llawer o bobl—. Mae ef wedi rhestru niferoedd y bobl y mae ef yn disgwyl a fydd yn cael eu trin, ond heb ddweud sut. Felly, fe hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymhelaethu ar sut y mae ef yn gobeithio y gellir cyflawni hyn. A allwn ni ddisgwyl mwy o feddygon? Os felly, o ble y byddan nhw'n dod? Ym mha le y bydd y cleifion yn cael eu triniaethau? A fyddwn ni'n gweld mwy o theatrau? Pwy fydd yn rheoli'r broses gymhleth o drefnu'r apwyntiadau hyn? A fyddwn ni'n gweld mwy o reolwyr iechyd? Hynny yw, mae gennym ni dargedau newydd unwaith eto, ond sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cynnig y bydd y targedau hyn yn cael eu cyrraedd, y tu hwnt i ddatganiadau o uchelgais? Fe welsom ni gyhoeddi nifer o strategaethau a thargedau. Mae angen i ni weld canlyniadau a chyflawni nawr. Dros y penwythnos, roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio at fwy o ddefnydd o'r sector preifat. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi pa gyfran o'r £50 miliwn a fydd yn mynd i ddarparwyr preifat? Diolch yn fawr iawn.
I thank Mabon ap Gwynfor for those questions. The Member criticises me for doing more than one thing to support the NHS. Let me just reassure him: I'll do whatever it takes to support the NHS. It’s important to be able to intervene to support the system in a range of different ways.
He encourages me, I think, to have fewer targets. What I'm announcing today—there are no new targets. We are not changing the accountability measures that we are inviting people to scrutinise us on. We are setting out a path to improving our performance against our existing targets over the next few months.
I answered, I think, in response to Sam Rowlands some of the ‘how’ questions. So, it’s about—. Well, the Member shakes his head. I did, in fact, do that. Some of it is about theatre optimisation, improving how we use theatre time to make it more effective. We are already seeing that at play. Some of it is about including more diagnostic appointments at different points in the day. I was called by a friend in north Wales the other day, saying they had just been for a scan in the evening. So, that service is happening right across Wales. It's also about specific kinds of high-volume clinics, both for surgery—so, low-complexity surgery, as I was indicating—but also high-volume clinics and out-patients as well. So, there are a range of different ways in which the system is responding in this way, and we have proposals from each health board across each of the areas where they have the longest waiting lists, with specific plans about how we deploy those new ways of working—ways that we know will have an effect. Some of it involves scheduling staff time differently, to make sure that we are able to provide services better on the weekend. So, there are a range of options in the armoury, if you like, to be able to get to grips with the longest waits.
He made the point that this money is front-line funding in the short term. In a sense, I don’t disagree with that. I have already made clear, I think, that I think that this is part of the solution. But the long-term solution for a sustainable service clearly isn’t simply going to be this. It’s about putting services on a better footing—I think he used the language of ‘upstream’.
I note that he's published a report today that, I’m sure, sets out his view on how some of those things can be addressed. It echoes very much the speech that I gave to the confederation a couple of weeks ago, and the statements that I made in the Chamber last week. So, I very much look forward to his enthusiastic support for how I take forward that vision in the coming months.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau yna. Mae'r Aelod yn fy meirniadu i am wneud mwy nag un peth i gefnogi'r GIG. Gadewch i mi roi tawelwch meddwl iddo: fe fyddaf i'n gwneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi'r GIG. Mae hi'n bwysig gallu ymyrryd i gefnogi'r system mewn ystod o wahanol ffyrdd.
Mae ef yn fy annog i, rwy'n credu, i fod â llai o dargedau. Yr hyn rwyf i'n ei gyhoeddi heddiw—nid oes unrhyw dargedau newydd. Nid ydym ni'n newid y mesurau atebolrwydd yr ydym ni'n gwahodd pobl i graffu arnom ni drwyddyn nhw. Rydym ni'n nodi llwybr tuag at wella ein perfformiad yn unol â'n targedau cyfredol dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Fe wnes i ateb, rwy'n credu, wrth ymateb i Sam Rowlands rai o'r cwestiynau o ran 'sut'. Felly, mae hyn yn ymwneud —. Wel, mae'r Aelod yn ysgwyd ei ben. Fe wnes i hynny, mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag optimeiddio theatrau, a gwella'r dull o ddefnyddio amser theatr i'w wneud yn fwy effeithiol. Rydym ni'n gweld hynny ar waith eisoes. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â chynnwys mwy o apwyntiadau diagnostig ar wahanol adegau yn y dydd. Fe gefais i alwad gan ffrind yn y gogledd y diwrnod o'r blaen, ac roedd yn dweud ei fod newydd fod am sgan fin nos. Felly, mae'r gwasanaeth hwnnw'n digwydd ledled Cymru. Mae hyn yn ymwneud â mathau penodol o glinigau o faint mawr hefyd, ar gyfer llawdriniaethau—felly, llawdriniaethau heb lawer o gymhlethdod, fel roeddwn i'n nodi—ond clinigau o faint mawr a chleifion allanol hefyd. Felly, fe geir ystod o wahanol ffyrdd y mae'r system yn ymateb fel hyn, ac mae gennym ni gynigion oddi wrth bob bwrdd iechyd ar draws pob un o'r meysydd lle mae'r rhestrau aros hwyaf ganddyn nhw, gyda chynlluniau penodol ynghylch y modd y byddwn ni'n rhoi'r ffyrdd newydd hynny o weithio ar waith—ffyrdd y gwyddom ni a fydd ag effaith. Mae rhywfaint o hyn yn golygu amserlennu amser staff yn wahanol, i sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaethau gwell ar y penwythnos. Felly, mae yna amrywiaeth o ddewisiadau yn y storfa, os mynnwch chi, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hwyaf.
Fe wnaeth ef y pwynt mai arian i'r rheng flaen fydd yr arian hwn yn y byrdymor. Ar un ystyr, nid wyf i'n anghytuno â hynny. Rwyf i wedi nodi yn glir eisoes, rwy'n credu, fy mod i o'r farn fod hynny'n rhan o'r datrysiad. Ond yn amlwg, nid dyma'r ateb hirdymor ar gyfer gwasanaeth cynaliadwy. Mae'n ymwneud â rhoi gwasanaethau ar sylfaen well—rwy'n credu iddo ef ddefnyddio'r term 'i fyny'r afon'.
Rwy'n sylwi ei fod wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sydd, rwy'n siŵr, yn nodi ei farn ef yn eglur ynglŷn â sut y gellid mynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny. Mae hyn yn adleisio'r araith a roddais i'r conffederasiwn ychydig wythnosau yn ôl i raddau helaeth, a'r datganiadau a wnes i yn y Siambr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei gefnogaeth frwdfrydig ef i'r ffordd y byddaf i'n bwrw ymlaen â'r weledigaeth honno yn ystod y misoedd nesaf.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet.
Thank you for your statement, Cabinet Secretary.
The NHS matters to all of us, and it has made a difference to many of us, but we also know that it faces many challenges, not least in the corner of the country that I serve. I have recently undertaken the Our Home, Our Health survey, and waiting times feature as a part of that. So, I welcome the additional investment of £15 million announced by you today.
Can I ask if we will be able to see how and what that will be focused on, by health board? Also, I agree with what you were saying—that you are clear that the NHS needs to transform the way that services are delivered. In my survey and in conversations and correspondence with constituents, the system not connecting and joining up is often brought up with me; people feel to be passed around, and then spend time waiting for things. I just want to stress the value and importance of involving the workforce when it comes to transforming services, because the people that provide those services are best placed to advise on how to improve them.
Mae'r GIG yn golygu llawer i bob un ohonom ni, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth i lawer ohonom ni, ond fe wyddom ni hefyd ei fod yn wynebu llawer o heriau, yn enwedig yn y rhan o'r wlad yr wyf i'n ei gwasanaethu. Yn ddiweddar, fe gynhaliais i'r arolwg Ein Cartref, Ein Hiechyd, ac mae amseroedd aros yn cael eu cynnwys yn rhan o hwnnw. Felly, rwy'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £15 miliwn a gyhoeddwyd gennych chi heddiw.
A gaf i ofyn a fyddwn ni'n gallu gweld ym mha ffyrdd ac ar beth y bydd y bwrdd iechyd yn canolbwyntio? Hefyd, rwy'n cytuno â'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—eich bod chi'n eglur ynglŷn â'r angen i'r GIG drawsnewid y ffordd y mae ei wasanaethau yn cael eu darparu. Yn fy arolwg i ac mewn sgyrsiau a gohebiaeth gydag etholwyr, mae pobl yn sôn yn aml nad yw'r system yn cysylltu nac yn gydgysylltiedig; mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o un i'r llall, ac yn treulio llawer o amser yn aros am bethau wedyn. Rwy'n awyddus i bwysleisio gwerth a phwysigrwydd cynnwys y gweithlu ar gyfer trawsnewid y gwasanaethau, oherwydd y rhain yw'r bobl a fydd yn darparu'r gwasanaethau hynny a nhw sydd yn y sefyllfa orau i gynghori ar sut i'w gwella nhw.
Ydych chi'n cytuno?
Do you agree?
Yes, I absolutely, certainly agree with the last point the Member made in her question. When I was talking about innovation earlier, sometimes people don’t know what that means in specifics. And I actually think a lot of it is around how we can improve systems and operations at a ward level, or maybe a hospital level, and that is very often based on the insights that staff will be able to share with us about how to improve things, but also making sure that we provide the training, both from a management point of view and to the broader workforce, on the strategies that we already know, from success elsewhere in Wales, or beyond, are the most effective ways to adapt services, and just being readier, more open and faster in identifying that practice and sharing it through the system more quickly.
We had the report from the Bevan Commission evaluating some exemplar projects in the planned care improvement programme, and the consistent message there was that, very often, the barrier to sharing those positive developments is sometimes funding, but it very often isn’t funding. It could be more complex questions around aptitude, leadership, the way parts of the system relate to each other, connect to each other. So, I think it’s incumbent on us, and it’s certainly incumbent on all parts of the NHS, to apply that principle of adapt, adopt or justify when we know there is good practice that is able to make a difference in the interests of patient outcomes.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod yn ei chwestiwn. Pan oeddwn i'n sôn am arloesi yn gynharach, nid yw pobl yn gwybod weithiau beth mae hynny'n ei olygu o ran y manylion. Ac rwy'n credu bod llawer o hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffyrdd y byddwn ni'n gwella systemau a gweithrediadau ar lefel ward, neu ar lefel ysbyty efallai, ac mae hynny'n aml iawn yn seiliedig ar y mewnwelediadau y bydd staff yn gallu eu rhannu nhw gyda ni ynglŷn â sut i wella pethau, ond ar gyfer sicrhau hefyd ein bod yn darparu'r hyfforddiant, o safbwynt rheoli ac ymhlith y gweithlu yn fwy eang, ar y strategaethau a nodwyd gennym ni eisoes, lle cafwyd llwyddiant mewn mannau eraill yng Nghymru, neu'r tu hwnt, a'r rhain yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o addasu gwasanaethau, a bod yn fwy parod, yn fwy agored ac yn gynt o ran nodi'r arferion hynny a'u rhannu nhw drwy'r system yn gynt.
Fe welsom ni'r adroddiad gan Gomisiwn Bevan yn gwerthuso rhai prosiectau enghreifftiol yn y rhaglen ar gyfer gwella gofal a gynlluniwyd, a'r neges gyson yno oedd, yn aml iawn, bod cyllid yn rhwystro rhannu'r datblygiadau cadarnhaol hynny weithiau, ond yn aml iawn nid cyllid yw'r rhwystr. Fe allai cwestiynau mwy cymhleth fodoli ynghylch gallu, arweinyddiaeth, y ffordd y mae rhannau o'r system yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn cysylltu â'i gilydd. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni, ac yn sicr mae hi'n ddyletswydd ar bob rhan o'r GIG, i gymhwyso'r egwyddor honno o addasu, mabwysiadu neu gyfiawnhau pan fyddwn ni'n gwybod am arfer da sy'n gallu gwneud gwahaniaeth er lles y canlyniadau i gleifion.
Thank you for the statement today on this critical issue, which we know is worrying so many people and Members here across the Siambr. In your statement, you do focus, quite rightly, on the NHS waiting lists, but there’s very little there on social care, and we know that they’re very, very connected, because the care system supports people moving in and out of hospital really quickly. So, it’s really difficult to see how we can manage NHS waiting times without an adequately resourced social care system. We know that you’ve increased provision and support through the social care workforce grant, but I hope you’ll agree that social care provides, really, the support to help lessen the number of people who are going through the front door, and support the people to leave through the back door as quickly as possible. So, I’m hoping that you’d consider how you can increase the budgets to local authorities to ensure that they have good and robust funding to support and increase the social care throughput for those hospitals where we know that they have a direct impact on the waiting lists. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y datganiad heddiw ar y mater pwysig iawn hwn, ac fe wyddom ni ei fod yn peri cymaint o bryder i bobl ac Aelodau yma ar draws y Siambr. Yn eich datganiad chi, rydych chi'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar restrau aros y GIG, ond ychydig iawn sydd ynddo ar ofal cymdeithasol, ac fe wyddom ni eu bod nhw'n gysylltiedig â'i gilydd i raddau helaeth iawn, oherwydd mae'r system ofal yn cefnogi pobl sy'n symud i mewn ac allan o'r ysbyty yn gyflym iawn. Felly, mae hi'n anodd iawn gweld sut y gallwn ni reoli amseroedd aros y GIG heb adnoddau digonol yn y system gofal cymdeithasol. Fe wyddom ni eich bod chi wedi cynyddu'r ddarpariaeth a'r cymorth trwy'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, ond rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod gofal cymdeithasol yn darparu'r cymorth, mewn gwirionedd, i helpu i leihau nifer y bobl sy'n mynd drwy'r drws ffrynt, a chefnogi pobl sy'n gadael drwy'r drws cefn cyn gynted â phosibl. Felly, rwy'n gobeithio y byddech yn ystyried sut y gallwch gynyddu'r cyllidebau i'r awdurdodau lleol i sicrhau bod cyllid sylweddol a sefydlog ganddyn nhw i gefnogi a chynyddu cyfradd brosesu gofal cymdeithasol ar gyfer yr ysbytai hynny lle gwyddom ni eu bod ag effaith uniongyrchol ar y rhestrau aros. Diolch yn fawr iawn.
Well, I do agree with the Member that the focus of this statement has been on how we’re allocating that £50 million transformation funding, and I do agree with the Member that, for some of the waiting list areas, there is a very high interrelationship between the performance of the health service and the availability of social care and support at home in that timely way. I think there are lots of other areas where there are waiting list challenges that probably aren’t dependent on the care sector, so in diagnostics particularly, but there’ll be many other examples as well.
I just want to reassure the Member—because another Member has asked on a similar theme about what the role of social care provision is, and what support we can provide—that I am planning on making a further statement on the 50-day challenge, which will set a little more out of that. But I absolutely accept the point that the Member is making, and to give her the reassurance that we are in discussions with local authorities about what more we can do to support them as part of that 50-day challenge, in particular as they face the winter pressures ahead.
Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod y datganiad hwn wedi canolbwyntio ar sut y byddwn ni'n dyrannu'r cyllid hwnnw o £50 miliwn ar gyfer trawsnewid, ac rwy'n cytuno â'r Aelod, o ran rhai agweddau ar y rhestrau aros, fod perthynas glòs iawn rhwng perfformiad y gwasanaeth iechyd ac argaeledd gofal cymdeithasol a chymorth gartref mewn modd amserol fel hynny. Rwy'n credu bod llawer o feysydd eraill, mae'n debyg, lle ceir heriau o ran y rhestrau aros nad ydyn nhw'n dibynnu ar y sector gofal, mewn diagnosteg yn benodol felly, ond fe fydd yna lawer o enghreifftiau eraill hefyd.
Fe hoffwn i roi ychydig o sicrwydd i'r Aelod—am fod Aelod arall wedi holi am rywbeth tebyg ynglŷn â swyddogaeth y ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, a pha gefnogaeth y gallwn ei rhoi—fy mod i'n bwriadu gwneud datganiad pellach ar yr her 50 diwrnod, a fydd yn nodi ychydig mwy ynglŷn â hynny. Ond rwy'n llwyr dderbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod, ac yn ei sicrhau hi ein bod ni mewn trafodaethau â'r awdurdodau lleol ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud fel arall i'w cefnogi nhw yn rhan o'r her 50 diwrnod honno, yn enwedig wrth iddyn nhw wynebu'r pwysau gaeaf sydd ar ddod.
Thank you for your statement, Cabinet Secretary. I was looking at the NHS 111 My Planned Care website this morning in regard to Powys waiting time figures, and particularly there’s an issue with trauma and orthopaedics—37 weeks was listed in the table here from treatment to speciality, and that compares to 31 weeks, for example, in Cardiff. I’m also particularly concerned about children in Powys who are waiting for up to four years to be diagnosed for conditions such as autism as well, and Powys health board indeed confirmed that some children have waited more than 200 weeks for a diagnosis for conditions that lead to additional learning needs. And I was very pleased that your statement refers to £50 million. Your statement says that that £50 million will be made available immediately to health boards to increase capacity, so I assume that has already been given to them or is about to, in the coming days. So, can I ask, as it’s especially important for Powys, because they pay providers in other parts of Wales and over the border in England, how much of that £50 million has been allocated to Powys teaching health board, and perhaps you could also outline the sums that have been allocated to the other health boards across Wales as well?
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n edrych ar wefan Fy Ngofal Cynlluniedig GIG 111 y bore yma o ran ffigurau amseroedd aros ym Mhowys, ac fe geir problem arbennig gyda thrawma ac orthopedeg—fe gafodd 37 wythnos ei restru yn y tabl yma o driniaeth i arbenigedd, ac mae hynny'n cymharu â 31 wythnos, er enghraifft, yng Nghaerdydd. Rwy'n arbennig o bryderus hefyd ynglŷn â phlant ym Mhowys sy'n aros am hyd at bedair blynedd i gael diagnosis o gyflyrau fel awtistiaeth, ac roedd bwrdd iechyd Powys yn cadarnhau fod rhai plant wedi aros mwy na 200 wythnos yn wir am ddiagnosis ar gyfer cyflyrau sy'n arwain at anghenion dysgu ychwanegol. Ac roeddwn i'n falch iawn fod eich datganiad chi'n cyfeirio at £50 miliwn. Mae'r datganiad yn mynegi y bydd £50 miliwn ar gael ar unwaith i fyrddau iechyd ar gyfer cynyddu capasiti, ac felly rwy'n tybio bod hwnnw wedi cael ei roi iddyn nhw eisoes neu ei fod ar fin cael ei roi yn ystod y dyddiau nesaf. Felly, a gaf i ofyn, gan fod hynny'n arbennig o bwysig ym Mhowys, oherwydd eu bod nhw'n talu darparwyr mewn rhannau eraill o Gymru a thros y ffin yn Lloegr, faint o'r £50 miliwn hwnnw a gafodd ei ddyrannu i fwrdd iechyd addysgu Powys, ac efallai y gallech amlinellu hefyd y symiau a ddyrannwyd i'r byrddau iechyd eraill ledled Cymru, yn ogystal â hynny?
I thank the Member for that. Residents of every health board are going to benefit from the funding that is being provided, as he says in particular, given the structure of health provision in Powys, where it depends very much on hospitals elsewhere. But for the neurodevelopmental assessment targets, every health board will be supported to reduce their longest waits in that area, and obviously that includes Powys as well.
What I think is critical to bear in mind, though, in a way, is the point that Sam Rowlands was making to me earlier, I think. This is going to be a very significant contributor to reducing those longest waits for assessments. The numbers have been going up very considerably, the level of demand has been going up very considerably, but, actually, the question of sustainability is a separate question and that does require services to be, you know, reconfigured and delivered differently in order to be able to make that longer lasting sustainable change. But the funding that we're announcing, which will certainly benefit residents in Powys, I think is a significant contribution to that.
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Bydd y trigolion ym mhob bwrdd iechyd yn elwa ar y cyllid a gaiff ei ddarparu, fel dywed ef yn neilltuol, o ystyried strwythur y ddarpariaeth iechyd ym Mhowys, lle mae hwnnw'n dibynnu llawer iawn ar ysbytai mewn mannau eraill. Ond o ran y targedau ynghylch asesu niwroddatblygiadol, fe gaiff pob bwrdd iechyd ei gefnogi i fyrhau ei amseroedd aros hwyaf yn y maes hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys Powys hefyd, yn amlwg.
Yr hyn sy'n allweddol i'w gofio yn fy marn i, serch hynny, mewn ffordd, yw'r pwynt a wnaeth Sam Rowlands yn gynharach yn ei gwestiwn i mi, rwy'n credu. Fe fydd hyn yn cyfrannu yn sylweddol iawn at fyrhau'r arosiadau hwyaf ar gyfer asesiadau. Mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu llawer iawn, mae'r gyfradd o ran galw wedi bod yn cynyddu yn sylweddol iawn, ond, mewn gwirionedd, mae mater cynaliadwyedd yn fater wahân ac mae hynny'n gofyn bod y gwasanaethau, wyddoch chi, yn cael eu had-drefnu a'u darparu mewn ffordd amgen ar gyfer gallu gwireddu'r newid cynaliadwy hwnnw yn yr hirdymor. Ond rwy'n credu bod y cyllid yr ydym ni'n ei gyhoeddi, a fydd yn sicr er lles trigolion Powys, yn cyfrannu yn sylweddol tuag at hynny.
Yesterday I attended the half-day seminar held by Deep End, and a big shout-out to Dr Jonny Currie of the Ringland practice in Newport. I was very interested to hear Dr Rowena Christmas, who's chair of the Royal College of General Practitioners Cymru, say that it's much cheaper to do vasectomies in primary care, and obviously it's much easier for people to get to, certainly where my son-in-law had it. So, I want to know how many vasectomies have been done in primary care in Cardiff and the Vale. I don't expect you to have the answer right now, but it's a really important question because it's cheaper and it's quicker.
Secondly, I have a constituent who's an expert patient in kidney stones, because he suffered from them for nearly 60 years, and he has analysed the waiting lists and is asking, given that we've had huge improvements in diagnosis of kidney stones, both through the scanning of what's going on inside your body as well as the use of this lithotripsy, which is high-energy shocks, which can be done on an out-patient basis—. He's therefore asking, if it's possible for the GP to order an x-ray, why does he have to see a neurologist before he can get to have a scan, and then go back and see the urologist again? Because you presumably don't need to be a consultant urologist to actually do this lithotripsy.
Ddoe, fe es i seminar hanner diwrnod a gynhaliwyd gan Deep End, a chlod mawr i Dr Jonny Currie o bractis Ringland yng Nghasnewydd. Roeddwn i'n moeli fy nghlustiau wrth glywed Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru, yn dweud ei bod hi'n llawer rhatach gwneud fasdoriadau mewn gofal sylfaenol, ac yn amlwg mae hi'n llawer haws i bobl gyrraedd yno, yn sicr lle cafodd fy mab-yng-nghyfraith un. Felly, fe hoffwn i wybod faint o fasdoriadau a gafodd eu gwneud mewn gofal sylfaenol yng Nghaerdydd a'r Fro. Nid wyf i'n disgwyl i chi fod â'r ateb y foment hon, ond mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn oherwydd ei bod hi'n rhatach ac yn gynt.
Yn ail, mae etholwr gennyf i sy'n glaf arbenigol o ran cerrig arennau, oherwydd fe ddioddefodd o'u herwydd nhw am bron i 60 mlynedd, ac mae ef wedi dadansoddi'r rhestrau aros ac mae'n gofyn, o gofio ein bod ni wedi gweld gwelliannau enfawr o ran diagnosis cerrig arennau, trwy sganio'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'ch corff chi yn ogystal â defnyddio lithotripsi fel hyn, sef siocdonau o egni uchel, y gellir eu rhoi i gleifion allanol—. Mae ef yn gofyn, os yw'n hi bosibl i'r meddyg teulu drefnu pelydr-x, pam mae'n rhaid iddo ef weld niwrolegydd cyn y gellir rhoi sgan iddo, a mynd yn ôl i weld yr wrolegydd yr eilwaith? Oherwydd mae'n debyg nad oes angen i chi fod yn wrolegydd ymgynghorol i gynnal y lithotripsi hwn mewn gwirionedd.
Thank you, Jenny.
Diolch yn fawr, Jenny.
So, can you ask your new advisory group, chaired by Sir David Sloman, to look at the pathways for treatment of kidney stones to see whether Cardiff and the Vale are doing it as dinosaurs, and whether there are better ways of doing it?
Felly, a wnewch chi ofyn i'ch grŵp cynghori newydd, dan gadeiryddiaeth Syr David Sloman, edrych ar y llwybrau ar gyfer trin cerrig arennau i ystyried a yw Caerdydd a'r Fro yn gwneud hyn mewn ffordd hynafol iawn, ac a oes yna ffyrdd gwell o wneud hyn?
I thank Jenny Rathbone for that. I will follow up separately on the point about vasectomies because I don’t have the information, as she anticipated. But I think the broader point she makes I would not disagree with, in the sense that I think we need to look very rigorously at what more we can make sure happens in primary care, which will do two things: it will support long-term resilience of primary care as a critical—as most people's experience of the NHS, actually. But also it'll make it easier for people to get the level of treatment that they need, and it's also faithful to that principle that you have the level of clinical intervention that the situation requires. So, sometimes you don't, I think, need to see consultants in order to be able to have some of the other treatments. So, I think there's a need to apply a fresh lens to some of those questions, in the way that she suggests, and then as part of that to look at the most streamlined possible pathways. I think there's a case for the NHS executive to be very clear about its expectations of the health service about pathways of care in this area, and in others where we know there's a pathway that is effective and streamlined, to make sure that it becomes, in a sense, the universal experience of patients in all parts of Wales.
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna. Fe fyddaf i'n dilyn oddi ar y pwynt ynglŷn â fasdoriadau ar wahân am nad yw'r wybodaeth gennyf i, fel roedd hi'n rhagdybio. Ond rwy'n credu na fyddwn i'n anghytuno â'r pwynt ehangach y mae hi'n ei wneud, yn yr ystyr fy mod i'n credu bod angen i ni ystyried yn drylwyr iawn yr hyn y gallwn ni sicrhau ei fod yn digwydd fel arall ym maes gofal sylfaenol, ac fe fyddai hynny'n gwneud dau beth: fe fydd yn cefnogi cydnerthedd gofal sylfaenol yn yr hirdymor fel—fel profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG, mewn gwirionedd. Ond fe fydd yn ei gwneud hi'n haws hefyd i bobl dderbyn y lefel o driniaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, ac mae hynny'n cadw at yr egwyddor eich bod yn cael y lefel o ymyrraeth glinigol y mae'r sefyllfa ei hangen. Felly, nid oes angen i chi weithiau, rwy'n credu, fynd i weld ymgynghorwyr er mwyn gallu cael rhai o'r triniaethau eraill. Felly, rwy'n credu bod angen defnyddio ymagwedd newydd o ran rhai o'r cwestiynau hynny, yn y ffordd y mae ef yn ei hawgrymu, ac yna fel rhan o hynny i edrych ar y llwybrau mwyaf syml posibl. Rwy'n credu bod achos i weithrediaeth y GIG fod yn eglur iawn ynghylch ei ddisgwyliadau o'r gwasanaeth iechyd ynglŷn â llwybrau gofal yn y maes hwn, ac mewn rhai eraill lle gwyddom ni fod llwybr sy'n effeithiol ac a gafodd ei symleiddio, i sicrhau bod hwnnw, mewn ffordd, yn brofiad cyffredinol i gleifion ym mhob cwr o Gymru.
Thank you very much for your statement this afternoon, Cabinet Secretary for health—I was going to say ‘Minister’. With a statement of this nature, there does come a little bit of a degree of trepidation, and somewhat a sense of irony, when a Labour health Minister, 25 years into Government, suddenly professes to have a magic wand that’s going to solve chronic waiting times in Wales, and indeed for my constituents in the Vale of Clwyd, who are subject to chronic, long waiting times in Glan Clwyd Hospital, particularly the A&E department. And I’d be keen to know where that £50 million is going to be spent locally in my constituency, and what that means for people in the local area.
It was mentioned in, I think it was, Sam Rowlands’s response to the statement, in terms of the structures and if the structure doesn’t change. We all know what the solution is to the chronic waiting times locally—it’s the building of north Denbighshire community hospital. So, I’m wondering what meetings and discussions you’ve had with Betsi Cadwaladr to deliver on this, and, if not, will you visit my constituency, spend some time at Glan Clwyd Hospital to analyse the problems, visit the site of the Royal Alexandra Hospital in Rhyl, to see the case for it at a ground level to finally get some solutions to this problem, which is, sadly, getting on for 11 years old now?
Diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—roeddwn i am ddweud 'Gweinidog'. Pan geir datganiad o'r math hwn, fe ddaw ychydig bach o anesmwythder gydag ef, ac ymdeimlad o eironi i ryw raddau, pryd mae Gweinidog iechyd Llafur, 25 mlynedd i mewn i'r Llywodraeth, yn sydyn yn honni bod ffon hud ganddo a fydd yn datrys amseroedd aros cronig yng Nghymru, ac yn wir ymhlith fy etholwyr i yn Nyffryn Clwyd, sy'n gweld amseroedd aros cronig, maith yn Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig yr adran damweiniau ac achosion brys. Ac fe fyddwn i'n awyddus i gael gwybod ym mha le y bydd y £50 miliwn hwnnw'n cael ei wario yn lleol yn fy etholaeth i, a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i bobl yn yr ardal leol.
Fe gafodd hyn ei grybwyll, rwy'n credu mai yn ymateb Sam Rowlands i'r datganiad yr oedd hynny, o ran y strwythurau ac os na fyddai'r strwythur yn newid. Fe wyddom ni i gyd pa beth fyddai'n ddatrysiad i'r amseroedd aros cronig lleol—sef adeiladu ysbyty cymunedol ar gyfer gogledd sir Ddinbych. Felly, tybed pa gyfarfodydd a thrafodaethau a gawsoch chi gyda Betsi Cadwaladr er mwyn cyflawni hyn, ac os na chawsoch chi ddim, a fyddech chi'n ymweld â f'etholaeth i, a threulio rhywfaint o amser yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer dadansoddi'r problemau, ac ymweld â safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl, i weld yr achos dros ysbyty cymunedol ar lawr gwlad i ganfod atebion i'r broblem hon o'r diwedd, sydd wedi parhau am 11 o flynyddoedd erbyn hyn, yn anffodus?
Well, I think the Member is very naive if he thinks there’s a magic wand to any of this. It’s a very complex situation, and I acknowledged openly in my statement that funding is one part of the question, and I think there will need to be other changes to service delivery in order to make services more sustainable. So, I hope you would acknowledge that.
In relation to the point you made about structures, I’m not sure that the answer is a focus on structures. I think that can become a huge diversion of energy from the critical priority of driving up performance, and I think that’s where every part of the system needs to be focused.
I will be very glad to visit Ysbyty Glan Clwyd again; I was there about a month ago, and I had a very, very informative visit, and an opportunity to see the emergency department there at work. And I hope it’s of some reassurance to him to know that the most recent time at which I discussed the Royal Alex with the health board was yesterday, and they are considering what they need to do in order to put together the most recent analysis so that we can consider that, together with them, as a Government.
Wel, rwyf i o'r farn fod yr Aelod yn naïf iawn os yw ef yn credu bod ffon hud i'w chael ar gyfer unrhyw agwedd ar y mater hwn. Mae hi'n sefyllfa gymhleth iawn, ac fe wnes i gydnabod yn ddiffuant yn fy natganiad mai cyllid yw un rhan o'r cwestiwn, ac rwy'n credu y bydd angen newidiadau eraill i ddarpariaeth y gwasanaethau i wneud y gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Felly, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod hynny.
O ran y pwynt a wnaethoch chi am strwythurau, nid wyf i'n siŵr mai'r datrysiad yw canolbwyntio ar strwythurau. Rwy'n credu y gall hynny olygu bod egni aruthrol yn cael ei dynnu oddi wrth y flaenoriaeth allweddol sef cynyddu perfformiad, ac rwy'n credu mai yn y fan honno y mae angen canolbwyntio pob rhan o'r system.
Fe fyddwn i'n falch iawn o ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd unwaith eto; roeddwn i yno tua mis yn ôl, ac fe gefais i ymweliad addysgiadol iawn, yn ogystal â chael cyfle i weld yr adran frys sydd ganddyn nhw yno ar waith. Ac rwy'n gobeithio y bydd hi o ryw gysur iddo ef wybod mai'r tro diwethaf i mi drafod Ysbyty Brenhinol Alexandra gyda'r bwrdd iechyd oedd ddoe, ac maen nhw'n ystyried yr hyn sydd yn rhaid iddyn nhw ei wneud ar gyfer llunio'r dadansoddiad diweddaraf er mwyn i ninnau ystyried hwnnw, ar y cyd â nhw, fel Llywodraeth.
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
And finally, Lesley Griffiths.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and thank you, Cabinet Secretary, for your statement, and, certainly, for the funding to ensure that the longest waiting times are reduced. And it’s good to hear that it’s not about surgery; it’s about outpatients as well, and other procedures. It is really vital that this funding is closely monitored to ensure it’s used for the purpose given. I also think performance should be closely monitored, and, if needs be, funding should be reallocated if targets aren’t being met in the way that health boards, when applying for this funding, outlined.
I also welcome the focus on transformation and innovation—it’s really essential that we continue to have that within our health service, so that we make sure, going forward, that the NHS is prepared for whatever is coming down the track—and also the importance of building capacity, and you mentioned that procedures are now taking place in the evening. It’s not always just about funding; it’s about building that capacity. And, of course, the facilities are there; it’s the staff that we need. There has to be a focus on that.
So, could you please clarify how performance will be monitored, and how that will then be communicated to the people of Wales, who, of course, use and rely on our NHS?
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, ac, yn sicr, am yr arian a fydd yn sicrhau y bydd yr amseroedd aros mwyaf maith yn cael eu byrhau. Ac mae hi'n dda clywed nad llawdriniaethau yw holl ystyr hyn; mae hyn yn ymwneud â chleifion allanol hefyd, yn ogystal â gweithdrefnau eraill. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyllid hwn yn cael ei fonitro yn ofalus i sicrhau y bydd yn cael ei ddefnyddio at y diben cywir. Rwy'n credu hefyd y dylid monitro perfformiad yn ofalus, ac, os oes angen, y dylid dyrannu cyllid o'r newydd pe na fyddai'r targedau yn cael eu cyrraedd yn y ffordd a amlinellodd y byrddau iechyd wrth wneud cais am y cyllid hwn.
Rwy'n croesawu'r canolbwyntio hefyd ar drawsnewid ac arloesi—mae hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau i gynnwys hynny yn ein gwasanaeth iechyd, er mwyn i ni sicrhau, wrth symud ymlaen, bod y GIG yn barod ar gyfer pa beth bynnag sy'n dod i gyfarfod â ni—a phwysigrwydd magu capasiti hefyd, ac roeddech chi'n sôn bod gweithdrefnau yn digwydd gyda'r nos erbyn hyn. Nid yw'n ymwneud ag ariannu bob amser; mae hyn ymwneud â datblygu'r capasiti hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae'r cyfleusterau ar gael yno; y staff sydd eu hangen arnom ni. Mae'n rhaid canolbwyntio ar hynny.
Felly, a wnewch chi egluro sut y bydd perfformiad yn cael ei fonitro, a sut y bydd hynny'n cael ei gyhoeddi wedyn i bobl Cymru, sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar ein GIG ni, wrth gwrs?
Yes, I think the Member is absolutely right; it is about funding, but it isn’t just about funding, is it—it’s about new ways of working. And we do know that, if you look at comparatively modest extensions to the theatre operating day, you can improve the productivity of the system, if you like, for that day by as much as 25 per cent in some specialities. So, I think it’s applying that sort of lens. Some of that does require additional funding, which is why we’ve increased the funding to £50 million. And that is based on ongoing discussions with health boards about what more they can do to meet the objectives that we all have to reduce waiting times.
The Member is absolutely correct that it’s critical that we monitor this performance in detail. This additional funding doesn’t operate by way of just a general increase to the allocation of health boards; it’s based on particular plans to reduce particular waits in particular areas, both geographically and in terms of speciality. So, we will have figures on a weekly basis to look at what's been undertaken over the course of the last week, and that picture will obviously build up over the course of the coming months, so that we can keep a close eye on performance to make sure that everyone is on the trajectory that they've said they can be on with that funding. And I have said to health boards that if we see a picture emerging of pockets of challenge where we are off trajectory and there's no plan that we think is credible to bring that back—I obviously very much hope that we don't see that, and I don't expect to see that, but if that were to happen—I would look to reallocate that funding to make sure that we use every single £1 of that £50 million to reduce waiting lists.
Ie, rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir; mae hyn yn ymwneud ag ariannu, ond nid dim ond ariannu—mae hyn yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio. Ac fe wyddom ni, pe byddech chi'n edrych ar estyniadau cymharol gymedrol i'r diwrnod gwaith yn y theatr, y gallwch wella cynhyrchiant y system, os hoffech chi, ar gyfer y diwrnod hwnnw hyd at gymaint â 25 y cant mewn rhai arbenigeddau. Felly, rwyf i o'r farn ei fod yn ymwneud ag edrych ar bethau yn y ffordd hon. Mae hynny'n gofyn am gyllid ychwanegol i ryw raddau, a dyna pam y gwnaethom ni gynyddu'r cyllid hyd at £50 miliwn. Ac mae hynny'n seiliedig ar drafodaethau parhaus gyda byrddau iechyd ynglŷn â'r hyn y gallan nhw ei wneud i gyflawni'r amcanion sydd gennym ni i gyd o ran byrhau'r amseroedd aros.
Mae'r Aelod yn gwbl gywir ei bod hi'n hanfodol i ni fonitro'r perfformiad hwn yn fanwl. Nid yw'r cyllid ychwanegol hwn yn gweithredu yn unig drwy gyfrwng cynnydd cyffredinol i ddyraniad byrddau iechyd; mae hwn yn seiliedig ar gynlluniau penodol i leihau amseroedd aros penodol mewn meysydd penodol, yn ddaearyddol ac o ran arbenigeddau. Felly, fe fydd gennym ffigurau yn wythnosol i edrych ar yr hyn a gafodd ei wneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac fe fydd y darlun hwnnw'n cronni dros y misoedd nesaf, yn amlwg, er mwyn i ni gadw llygad barcud ar berfformiad ar gyfer sicrhau y bydd pawb yn mynd ar y trywydd y gwnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n mynd arno gyda'r cyllid hwnnw. Ac rwyf i wedi dweud wrth y byrddau iechyd, pe byddem ni'n gweld sefyllfa yn dod i'r amlwg o lecynnau heriol sy'n ein taflu ni oddi ar y trywydd ac nad oes unrhyw gynllun credadwy yn ein barn ni i ddod â hynny'n ei ôl—yn amlwg rwy'n gobeithio yn fawr na fyddwn ni'n gweld hynny'n digwydd, ac nid wyf i'n disgwyl y bydd hynny'n digwydd, ond pe byddai hynny'n digwydd—fe fyddwn ni'n ceisio rhoi'r cyllid hwnnw mewn lle arall i sicrhau ein bod ni'n defnyddio pob un £1 o'r £50 miliwn hynny i leihau rhestrau aros.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Item 4 is a statement by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on electoral administration and electoral reform. I call on the Cabinet Secretary, Jayne Bryant.
Diolch, Deputy Llywydd. I welcome the opportunity to set out work under way to improve Wales’s democracy. This encompasses both work by the Welsh Government on electoral administration and reform, and also work of other organisations that we are supporting. To focus first on work where the Welsh Government has been delivering against our programme for government, this has been an important year of legislative reform. The Welsh Government has delivered on our programme for government commitments through the Senedd Cymru (Members and Elections) Act 2024 and the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024, which were both passed by the Senedd in recent months. These Acts will assist in the modernisation of election administration in Wales and provide an opportunity to remove the barriers to people taking part in elections. The legislation also increases the size of the Senedd to 96 Members, better equipped to scrutinise policies, laws, spending plans and to hold the Welsh Government to account.
My focus now is to ensure the functioning of these Acts through supporting secondary legislation, in preparation for the safe delivery of the 2026 and 2027 elections, with a well-informed and engaged electorate. The Elections and Elected Bodies (Wales) Act introduces provision for voters to be added to the local government register without having to apply to do so—often referred to as automatic voter registration. Wales is the first part of the United Kingdom to take this step of removing the barrier that registration can present to some potential voters. These automatic registration provisions can only be brought into force following piloting and evaluation by the Electoral Commission. The pilots are being designed, developed and delivered through a core working group, including Carmarthenshire, Gwynedd, Newport and Powys, the commission and the Association of Electoral Administrators. I am grateful to all stakeholders for helping ensure the pilots are as effective and insightful as possible, well understood by the electorate, and protective of the most vulnerable people in our communities. Welsh Government officials are also sharing learning with other administrations across the UK as the pilots' design and implementation progresses.
The Elections and Elected Bodies (Wales) Act places duties on Welsh Ministers to introduce schemes to support people with a range of protected characteristics and from a range of socioeconomic backgrounds to stand for election. This is important work that I will keep the Senedd updated about, as well as rolling out a fund to support disabled candidates following the successful access to elected office pilot. This complements the draft diversity and inclusion guidance for parties published by the Trefnydd last week. As well as encouraging under-represented candidates to stand, our democratic engagement grant is funding projects across Wales to build participation. This includes digital surgeries organised by the Politics Project, and workshops to empower deaf people and make their opinions known. Following a robust evaluation of the grant, I will consider the future of its important work and will update Members soon.
Finally, in addition to making necessary updates to the rules for elections to the reformed Senedd, we have modernised, consolidated and fully translated them. I will be publishing the draft of the Senedd Cymru (Representation of the People) (Amendment) Order for consultation later this month—the rules and procedures for conducting elections to the Senedd. The draft Order updates and consolidates the rules and procedures as part of an accessible, bilingual framework for the first time, using modern and clear language. The rules for our elections are so fundamental to our democracy, and I look forward to receiving feedback on this legislation.
Alongside the work of the Welsh Government on electoral reform, my officials are also providing support to the work of others that share our interest in Wales’s democracy. Starting at our most local level of democracy, democratic health matters a great deal in relation to town and community councils. The report published last week by the democratic health task and finish group laid out several challenges and recommendations. I will shortly attend the Local Government and Housing Committee to give evidence as part of their inquiry on town and community councils. I look forward to that and to the outcome of the committee’s work, following which I will work with stakeholders to support any necessary reforms in this area.
Moving to principal councils, the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 gave them the option to choose between first-past-the-post and single transferable vote systems for their elections. Three local authorities, Ceredigion, Gwynedd and Powys, agreed to consult on whether to change to STV. Following their consultations, each council recently opted to not implement the single transferable vote system.
In addition to thanking the local authorities for engaging their communities on the electoral system, I want to thank the Electoral Reform Society Cymru for their work in building understanding about the different electoral systems. We believe it's right for councils to decide their own electoral system and I have no view, as Minister, on the decisions taken. But I do want to ensure that the choice before councils is viable, and so I wrote to the three authorities to ask for their reflections on the potential change, and I look forward to hearing from them.
Moving to accessibility of elections, the Electoral Commission and the Royal National Institute of Blind People have published reports on the recent elections that were the responsibility of the UK Government. This highlighted that many blind and partially sighted people still feel unable to cast their votes independently and secretly. My officials are working alongside the Electoral Commission and the RNIB to trial different solutions, to build a knowledge base to support more accessible elections in the future. This will help returning officers understand what works best and blind and partially sighted voters know what to expect, and what to demand, at the polling station.
Turning to the delivery of elections, the legislation the Senedd passed replaces the voluntary Wales Electoral Coordination Board with a stronger, but equally inclusive and independent electoral management board. And I'd like to thank Colin Everett, former chief executive of Flintshire, Karen Jones, former chief executive of Neath Port Talbot and the Democracy and Boundary Commission Board, for their leadership in strengthening electoral administration. As an example, the voluntary arrangement has helped improve electoral delivery through Welsh. The new board has the potential to drive this further, in combination with clearer rules in the conduct Order and the standards set by the Electoral Commission.
Finally, the Electoral Commission’s report last week on the recent elections drew out the issues of harassment and abuse of candidates. Too many candidates experience unacceptable behaviour when standing for election. We are working on updating secondary legislation, so that safety-related costs will be exempted from spending limits for Welsh elections. This meets a recommendation from the Jo Cox report and aligns with the UK approach. Everyone should feel safe to stand for election, to campaign, to vote and to work in delivering elections. Welsh Government stands ready to work with election colleagues and the police in tackling bad behaviour.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i nodi gwaith sydd ar y gweill i wella democratiaeth Cymru. Mae hyn yn cwmpasu gwaith Llywodraeth Cymru ar weinyddu a diwygio etholiadol, a hefyd gwaith sefydliadau eraill yr ydym yn eu cefnogi. I ganolbwyntio'n gyntaf ar waith lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflawni yn erbyn ein rhaglen lywodraethu, mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig o ddiwygio deddfwriaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ein hymrwymiadau rhaglen lywodraethu drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a basiwyd gan y Senedd yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd y Deddfau hyn yn helpu i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i ddileu'r rhwystrau i bobl sy'n cymryd rhan mewn etholiadau. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod, sydd mewn sefyllfa well i graffu ar bolisïau, cyfreithiau, cynlluniau gwariant ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Fy mhwyslais nawr yw sicrhau bod y Deddfau hyn yn cael eu gweithredu, drwy gefnogi deddfwriaeth eilaidd, i baratoi ar gyfer cyflawni etholiadau 2026 a 2027 yn ddiogel, gydag etholwyr gwybodus ac ymgysylltiol. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn cyflwyno darpariaeth i bleidleiswyr gael eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol heb orfod gwneud cais i wneud hynny—cyfeirir ato'n aml fel cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Cymru yw'r rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gymryd y cam hwn o gael gwared ar y rhwystr y gall cofrestru ei greu i rai pleidleiswyr posibl. Dim ond ar ôl treialu a gwerthuso'r Comisiwn Etholiadol y gellir dod â'r darpariaethau cofrestru awtomatig hyn i rym. Mae'r cynlluniau treialu yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u cyflawni drwy weithgor craidd, gan gynnwys sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys, y comisiwn a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid am helpu i sicrhau bod y cynlluniau treialu mor effeithiol a chraff â phosibl, yn cael eu deall yn dda gan yr etholwyr, ac yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda gweinyddiaethau eraill ar draws y DU wrth i ddyluniad a gweithrediad y cynlluniau treialu fynd rhagddynt.
Mae'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cynlluniau i gefnogi pobl ag ystod o nodweddion gwarchodedig ac o amrywiaeth o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol i sefyll etholiad. Mae hwn yn waith pwysig y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd amdano, yn ogystal â chyflwyno cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl yn dilyn mynediad llwyddiannus at gynllun treialu swyddi etholedig. Mae hyn yn ategu'r canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant drafft ar gyfer partïon a gyhoeddwyd gan y Trefnydd yr wythnos diwethaf. Yn ogystal ag annog ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll, mae ein grant ymgysylltu democrataidd yn ariannu prosiectau ledled Cymru i adeiladu cyfranogiad. Mae hyn yn cynnwys cymorthfeydd digidol a drefnir gan y Prosiect Gwleidyddiaeth, a gweithdai i rymuso pobl fyddar a sicrhau eu bod yn gallu lleisio eu barn. Yn dilyn gwerthusiad cadarn o'r grant, byddaf yn ystyried dyfodol ei waith pwysig a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn fuan.
Yn olaf, yn ogystal â gwneud diweddariadau angenrheidiol i'r rheolau ar gyfer etholiadau i'r Senedd ddiwygiedig, rydym wedi eu moderneiddio, eu cydgrynhoi a'u cyfieithu'n llawn. Byddaf yn cyhoeddi Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) drafft ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach y mis hwn—y rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd. Mae'r Gorchymyn drafft yn diweddaru ac yn cydgrynhoi'r rheolau a'r gweithdrefnau fel rhan o fframwaith hygyrch, dwyieithog am y tro cyntaf, gan ddefnyddio iaith fodern a chlir. Mae'r rheolau ar gyfer ein hetholiadau mor sylfaenol i'n democratiaeth, ac edrychaf ymlaen at dderbyn adborth ar y ddeddfwriaeth hon.
Ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol, mae fy swyddogion hefyd yn rhoi cymorth i waith eraill sy'n rhannu ein diddordeb yn nemocratiaeth Cymru. Gan ddechrau ar ein lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth, mae iechyd democrataidd yn bwysig iawn mewn perthynas â chynghorau tref a chymuned. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd yn nodi sawl her ac argymhellion. Cyn bo hir, byddaf yn mynychu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i roi tystiolaeth fel rhan o'u hymchwiliad i gynghorau tref a chymuned. Edrychaf ymlaen at hynny ac at ganlyniad gwaith y pwyllgor, ac yn dilyn hynny byddaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol yn y maes hwn.
Gan droi at brif gynghorau, rhoddodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yr opsiwn iddynt ddewis rhwng systemau pleidleisio cyntaf i'r felin a phleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau. Cytunodd tri awdurdod lleol, Ceredigion, Gwynedd a Phowys i ymgynghori ynghylch a ddylid newid i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn dilyn eu hymgynghoriadau, dewisodd pob cyngor yn ddiweddar i beidio â gweithredu'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy.
Yn ogystal â diolch i'r awdurdodau lleol am ymgysylltu â'u cymunedau ar y system etholiadol, hoffwn ddiolch i Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru am eu gwaith yn adeiladu dealltwriaeth am y gwahanol systemau etholiadol. Credwn ei bod yn iawn i gynghorau benderfynu ar eu system etholiadol eu hunain ac nid oes gennyf unrhyw farn, fel Gweinidog, ar y penderfyniadau a wnaed. Ond rwyf eisiau sicrhau bod y dewis o flaen cynghorau yn hyfyw, ac felly ysgrifennais at y tri awdurdod i ofyn am eu myfyrdodau ar y newid posibl, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddynt.
Gan symud at hygyrchedd etholiadau, mae'r Comisiwn Etholiadol a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall wedi cyhoeddi adroddiadau ar yr etholiadau diweddar a oedd yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Amlygodd hyn fod llawer o bobl ddall a rhannol ddall yn dal i deimlo nad ydynt yn gallu bwrw eu pleidleisiau yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae fy swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol a'r RNIB i dreialu gwahanol atebion, i adeiladu sylfaen wybodaeth i gefnogi etholiadau mwy hygyrch yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu swyddogion canlyniadau i ddeall beth sy'n gweithio orau a bydd pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gwybod beth i'w ddisgwyl, a beth i'w hawlio yn yr orsaf bleidleisio.
Gan droi at gyflawni etholiadau, mae'r ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd yn disodli Bwrdd Cydlynu Etholiadol gwirfoddol Cymru gyda bwrdd rheoli etholiadol cryfach, ond yr un mor gynhwysol ac annibynnol. A hoffwn ddiolch i Colin Everett, cyn-brif weithredwr sir y Fflint, Karen Jones, cyn-brif weithredwr Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau, am eu harweinyddiaeth wrth gryfhau gweinyddiaeth etholiadol. Er enghraifft, mae'r trefniant gwirfoddol wedi helpu i wella cyflawniad etholiadol drwy'r Gymraeg. Mae gan y bwrdd newydd y potensial i ysgogi hyn ymhellach, ar y cyd â rheolau cliriach yn y Gorchymyn cynnal etholiadau a'r safonau a osodir gan y Comisiwn Etholiadol.
Yn olaf, tynnodd adroddiad y Comisiwn Etholiadol yr wythnos diwethaf ar yr etholiadau diweddar sylw at faterion aflonyddu a cham-drin ymgeiswyr. Mae gormod o ymgeiswyr yn profi ymddygiad annerbyniol wrth sefyll etholiad. Rydym yn gweithio ar ddiweddaru deddfwriaeth eilaidd, fel y bydd costau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn cael eu heithrio rhag terfynau gwariant ar gyfer etholiadau Cymru. Mae hyn yn bodloni argymhelliad gan adroddiad Jo Cox ac mae'n cyd-fynd â'r dull gweithredu yn y DU. Dylai pawb deimlo'n ddiogel i sefyll etholiad, i ymgyrchu, i bleidleisio ac i weithio i gyflawni etholiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda chydweithwyr yn yr etholiad a'r heddlu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.
Can I thank the Cabinet Secretary for the advance copy of her statement this afternoon? There's much that we agree on. We all, of course, in this Chamber, want to ensure that we have a strong and vibrant democracy, and that at all levels of society, represented in their town halls, county halls and, indeed, here in this Senedd too.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gopi ymlaen llaw o'i datganiad y prynhawn yma? Mae llawer yr ydym yn cytuno arno. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn y Siambr hon, eisiau sicrhau bod gennym ddemocratiaeth gref a bywiog, a bod pob lefel o gymdeithas yn cael ei chynrychioli mewn neuaddau tref, neuaddau sir ac, yn wir, yma yn y Senedd hon hefyd.
I am just obviously a little bit confused as to the role of the democratic task and finish group, now that we have a chair, at least appointed, for the democratic advisory group, which was announced just today. I'm wondering, Minister, whether you'll be able to tell us, perhaps, how those two groups now will interface with one another and work together, or has the task and finish group effectively finished its work. I think it would be helpful to know what the status of that group is, now that it has completed a piece of work and reported on it in respect of our town and community councils.
I share with you some of the alarm about the state of our town and community councils. I think it is, frankly, pretty shocking that three quarters of people don't face elections and that 16 per cent of the seats on our town and community councils are not even contested. They are things that we do need to address, that we need to get to grips with, otherwise, frankly, we need to ask ourselves the question as to whether that tier of local government is actually something that should continue, frankly. And I started my life as an elected representative in a town and community council, which still has a very vibrant local political dimension, in my own community of Towyn and Kinmel Bay, where seats are always contested, and we don't seem to have a shortage of candidates. But the fact that we have this problem elsewhere, I think, is quite alarming. It does suggest that not everybody realises the importance of their local town and community councils, as a place where they can do business for the benefit of local communities and really make sure that local people's voices are heard. And it is a bit disappointing, I think, that you haven't set out some of the actions that you now intend to take in respect of the report that has already been published.
With respect to the automatic registration of voters, as I've said in the past, I'm not particularly against this, but I don't think it's actually going to deliver the sort of significant increase in political engagement that the Welsh Government thinks that it might. In fact, I suspect what will happen is that the turnout figures will actually go down, because many of the people who don't bother to register themselves to vote at elections do so because they're not interested in voting or, sometimes, because they have an objection, sometimes for religious reasons, to taking part in the democratic process. So, we'll see how that goes in terms of the pilots that you're now going to embark upon, but I don't actually think that it's going to deliver a significant change in the turnout figures. And it's those turnout figures that we need to pay more attention to.
We need to get more people engaged in the democratic process. Our turnout for Senedd elections in particular has been very poor since the establishment of the Senedd back in 1999, and it's incumbent upon us all in this Chamber to encourage people to take part in that democratic process. And I know we all work hard at this, every time an election comes around, to get people registered, to get people to the polls, to encourage them to participate. But, for some reason, what seems to happen is that people don't attach the sort of importance to our elections and the county council elections and the town council elections as they do to the UK parliamentary elections, which is why we suffer from much lower turnout levels. Hopefully that is something that we can all work together to address in the future.
I welcome the fact that you're going to publish the draft Order in relation to the Senedd Cymru (Representation of the People) (Amendment) Order in just a few weeks' time. That's very, very welcome. We need to make sure that that's in place well in advance of the Senedd elections, of course. And we also need to make sure that any of the pilots that you're undertaking are pilots that are in appropriate areas. I did notice that you obviously picked Carmarthenshire, Gwynedd, Newport and Powys for your pilots for the automatic voter registration, by the way. I'm not sure what the rationale for that was; perhaps you could tell us, in response, as to why those were the particular local authority areas. I find it fascinating that Plaid Cymru in Ceredigion and in Gwynedd don't like the single transferable vote, when their own Members in this Chamber, of course, keep barking on about the importance of STV at all levels—and I'm coming to an end—so I'd be appreciative of whether you have the same view as me with regard to their hypocrisy on that.
Just finally, two things I really do welcome: I welcome the action that you're taking to work with the RNIB in order to overcome some of those challenges for blind people voting at elections. If you could set out a timescale for that, I would appreciate it. And I also welcome the news that you're going to set aside from the election expenses anything to do with security. It is a disgrace, frankly, that people who put themselves forward for election are hounded and harassed, largely on social media, rarely, but unfortunately still too often, in person as well, and we must do everything we can so that people feel safe and don't feel intimidated when putting themselves forward at election time.
Mae'n amlwg fy mod ychydig yn ddryslyd ynghylch rôl y grŵp gorchwyl a gorffen democrataidd, nawr bod gennym gadeirydd, o leiaf wedi'i benodi, ar gyfer y grŵp cynghori democrataidd, a gyhoeddwyd heddiw. Tybed, Gweinidog, a fyddwch chi'n gallu dweud wrthym ni, efallai, sut y bydd y ddau grŵp hynny nawr yn rhyngweithio â'i gilydd ac yn gweithio gyda'i gilydd, neu a yw'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi gorffen ei waith i bob pwrpas. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw statws y grŵp hwnnw, nawr ei fod wedi cwblhau darn o waith ac wedi adrodd arno mewn perthynas â'n cynghorau tref a chymuned.
Rwy'n rhannu rhywfaint o'r pryder gyda chi am gyflwr ein cynghorau tref a chymuned. Rwy'n credu ei fod, a dweud y gwir, yn eithaf syfrdanol nad yw tri chwarter y bobl yn wynebu etholiadau ac mae hyd yn oed 16 y cant o'r seddi ar ein cynghorau tref a chymuned heb neb yn ymladd amdanyn nhw. Maent yn bethau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, y mae angen i ni ymdrin â nhw, fel arall, a dweud y gwir, mae angen i ni ofyn y cwestiwn i ni'n hunain a yw'r haen honno o lywodraeth leol yn rhywbeth a ddylai barhau, a dweud y gwir. A dechreuais fy mywyd fel cynrychiolydd etholedig mewn cyngor tref a chymuned, sydd â dimensiwn gwleidyddol lleol bywiog iawn o hyd, yn fy nghymuned fy hun sef Towyn a Bae Cinmel, lle mae ymladd am seddi bob amser, ac nid yw'n ymddangos bod gennym brinder ymgeiswyr. Ond mae'r ffaith bod gennym y broblem hon mewn mannau eraill, rwy'n credu, yn eithaf brawychus. Mae'n awgrymu nad yw pawb yn sylweddoli pwysigrwydd eu cynghorau tref a chymuned lleol, fel man lle gallant wneud busnes er budd cymunedau lleol a sicrhau bod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed. Ac mae'n siomedig braidd, rwy'n credu, nad ydych wedi nodi rhai o'r camau gweithredu yr ydych yn bwriadu eu cymryd nawr mewn perthynas â'r adroddiad sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.
O ran cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y gorffennol, nid wyf yn erbyn hyn yn arbennig, ond nid wyf yn credu ei fod yn mynd i gyflawni'r math o gynnydd sylweddol mewn ymgysylltiad gwleidyddol y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallai gyflawni. Mewn gwirionedd, rwy'n amau beth fydd yn digwydd yw y bydd y ffigurau a bleidleisiodd yn gostwng mewn gwirionedd, oherwydd mae llawer o'r bobl nad ydynt yn trafferthu cofrestru eu hunain i bleidleisio mewn etholiadau yn gwneud hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn pleidleisio neu, weithiau, oherwydd bod ganddyn nhw wrthwynebiad, weithiau am resymau crefyddol, i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Felly, byddwn yn gweld sut mae hynny'n mynd o ran y cynlluniau treialu rydych chi'n mynd i ddechrau eu rhoi ar waith nawr, ond nid wyf yn credu mewn gwirionedd y bydd yn sicrhau newid sylweddol yn y ffigurau sy'n pleidleisio. A'r ffigurau pleidleisio hynny yw'r rhai y mae angen i ni dalu mwy o sylw iddynt.
Mae angen i ni gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r nifer sy'n pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd yn arbennig wedi bod yn wael iawn ers sefydlu'r Senedd yn ôl ym 1999, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd yn y Siambr hon i annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd honno. Ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn gweithio'n galed ar hyn, bob tro y daw etholiad, i gael pobl i gofrestru, i gael pobl i'r gorsafoedd pleidleisio, i'w hannog i gymryd rhan. Ond, am ryw reswm, yr hyn y mae'n ymddangos sy'n digwydd yw nad yw pobl yn rhoi'r math o bwysigrwydd i'n hetholiadau ac etholiadau'r cynghorau sir ac etholiadau'r cynghorau tref fel y maen nhw yn ei wneud i etholiadau seneddol y DU, a dyna pam ein bod yn dioddef o lefelau llawer is o bleidleisiau. Gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag ef yn y dyfodol.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i gyhoeddi'r Gorchymyn drafft mewn perthynas â Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) ymhen ychydig wythnosau. Mae hynny i'w groesawu fawr, iawn. Mae angen i ni sicrhau bod hwnnw ar waith ymhell cyn etholiadau'r Senedd, wrth gwrs. Ac mae angen i ni hefyd sicrhau bod unrhyw un o'r cynlluniau treialu yr ydych chi'n eu cynnal yn gynlluniau treialu sydd mewn ardaloedd priodol. Sylwais eich bod yn amlwg wedi dewis sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys ar gyfer eich cynlluniau treialu ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gyda llaw. Dwi ddim yn siŵr beth oedd y rhesymeg dros hynny; efallai y gallech chi ddweud wrthym ni, mewn ymateb, pam mai'r rheini oedd yr ardaloedd awdurdod lleol penodol. Rwy'n ei gweld hi'n ddiddorol iawn nad yw Plaid Cymru yng Ngheredigion ac yng Ngwynedd yn hoffi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, pan fydd eu haelodau eu hunain yn y Siambr hon, wrth gwrs, yn dal ati i rygnu ymlaen am bwysigrwydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel—ac rwy'n dod i'r diwedd—felly byddwn yn gwerthfawrogi pe bai gennych yr un farn â mi o ran eu rhagrith ynghylch hynny.
Yn olaf, mae dau beth yr wyf wir yn eu croesawu: rwy'n croesawu'r camau rydych chi'n eu cymryd i weithio gyda'r RNIB er mwyn goresgyn rhai o'r heriau hynny i bobl ddall sy'n pleidleisio mewn etholiadau. Pe gallech nodi amserlen ar gyfer hynny, byddwn yn gwerthfawrogi hynny. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r newyddion eich bod yn mynd i eithrio unrhyw beth sy'n ymwneud â diogelwch o gostau etholiad. Mae'n warth, a dweud y gwir, bod pobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer etholiad yn cael eu herlid a'u haflonyddu, yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol, ond yn anfynych iawn, ond yn anffodus yn dal yn rhy aml, wyneb yn wyneb hefyd, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel ac nad ydyn nhw'n ofnus wrth gyflwyno eu hunain adeg etholiad.
Diolch. Thank you for those questions, Darren, and just to start where you finished off, really, you ended on a really strong message that we all in this Chamber would agree on, and I think we must all do everything that we can to ensure that that happens, because we must root out any fear that people have, and making sure that people who stand at elections feel safe, who work around elections, campaign in elections, is absolutely crucial.
I notice you tried to draw me on STV, and I'm sure other colleagues will be maybe drawn or not drawn later in their contributions on that. But as you said, there's much that we do agree on here, and that's really, really important. And it's crucial that all levels of our democracy are represented.
In terms of the work that you mentioned around the task and finish group, perhaps it would be helpful if I wrote to you on that, just setting out the work that's gone on there. We've also got the Local Government and Housing Committee, as I mentioned, that I'm going before in a couple of weeks' time, who are doing some work in this area. And for that reason, really, it's trying to tie things together, because I think that would be sensible for this sector, and make sure that they have the opportunity to be heard during those committee sessions, and also that we recognise and reflect on what the Local Government and Housing Committee will say in their report.
Also, just to say in terms of the work of town and community councils, you were reflecting on your own time, and I know that there's a huge amount of work that goes into that, and I was able to see for myself and speak to people at a conference recently that they had. It's really incredible to see some of the work that goes in at town and community council level. There have been some really, really good examples, but I think now it's time to reflect on the report that we've just had and also then the Local Government and Housing Committee report.
In terms of the automatic registration pilots and how will they work, we've got those areas—Carmarthenshire, Gwynedd, Newport and Powys—and those authorities are going to be using local data to identify and verify potential electors before adding them to the local government register after a waiting period. The pilots are going to take place between December 2024 and September 2025, with a designated evaluation period by the Electoral Commission between September and December 2025. And, you know, it is a real challenge for all of us here, isn't it, in terms of automatic registration, there's a lot of work to do around that in terms of political parties to try to ensure that people feel motivated to vote, and it's about the work of other partners, such as the Electoral Commission, making sure people are informed. So, there's a whole host of work to be done in this area, so this really feels like just the start. But I'm hopeful that we will get a lot of information from these pilots, and I know that other parts of the UK are looking at that as well.
Diolch. Diolch am y cwestiynau yna, Darren, a dim ond i ddechrau lle gwnaethoch chi orffen, mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi ddod i ben ar neges gref iawn y byddem ni i gyd yn y Siambr hon yn cytuno arni, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod hynny'n digwydd, oherwydd mae'n rhaid i ni gael gwared ar unrhyw bryder sydd gan bobl, ac mae sicrhau bod pobl sy'n sefyll mewn etholiadau yn teimlo'n ddiogel, sy'n gweithio ym maes etholiadau, yn ymgyrchu mewn etholiadau, yn gwbl hanfodol.
Rwy'n sylwi eich bod wedi ceisio fy nhynnu ar bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau eraill efallai yn cael eu tynnu neu heb eu tynnu yn ddiweddarach yn eu cyfraniadau ar hynny. Ond fel y dywedoch chi, mae llawer yr ydym yn cytuno arno yma, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Ac mae'n hanfodol bod pob lefel o'n democratiaeth yn cael ei chynrychioli.
O ran y gwaith a grybwyllwyd gennych ynghylch y grŵp gorchwyl a gorffen, efallai y byddai'n ddefnyddiol pe bawn i'n ysgrifennu atoch chi ar hynny, dim ond nodi'r gwaith sydd wedi mynd ymlaen yno. Mae gennym hefyd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fel y soniais i, y byddaf yn mynd o'i flaen ymhen ychydig wythnosau, sy'n gwneud rhywfaint o waith yn y maes hwn. Ac am y rheswm hwnnw, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â cheisio clymu pethau at ei gilydd, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n synhwyrol i'r sector hwn, a sicrhau eu bod yn cael cyfle i gael eu clywed yn ystod y sesiynau pwyllgor hynny, a hefyd ein bod yn cydnabod ac yn myfyrio ar yr hyn y bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ei ddweud yn eu hadroddiad.
Hefyd, dim ond i ddweud o ran gwaith cynghorau tref a chymuned, roeddech chi'n myfyrio ar eich cyfnod eich hun, a gwn fod llawer iawn o waith yn mynd i mewn i hynny, ac roeddwn i'n gallu gweld drosof fy hun drwy siarad â phobl mewn cynhadledd a gawsant yn ddiweddar. Mae'n anhygoel iawn gweld rhywfaint o'r gwaith sy'n mynd i mewn ar lefel cynghorau tref a chymuned. Cafwyd rhai enghreifftiau da iawn, ond rwy'n credu nawr ei bod yn bryd ystyried yr adroddiad yr ydym newydd ei gael, a hefyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
O ran y cynlluniau treialu ynghylch cofrestru awtomatig a sut y byddant yn gweithio, mae gennym yr ardaloedd hynny—sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys—ac mae'r awdurdodau hynny'n mynd i fod yn defnyddio data lleol i nodi a gwirio etholwyr posibl cyn eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol ar ôl cyfnod o aros. Bydd y cynlluniau treialu yn cael eu cynnal rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Medi 2025, gyda chyfnod gwerthuso dynodedig gan y Comisiwn Etholiadol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2025. A, wyddoch chi, mae'n her wirioneddol i bob un ohonom yma, onid ydyw, o ran cofrestru awtomatig, mae llawer o waith i'w wneud o ran hynny o ran pleidiau gwleidyddol i geisio sicrhau bod pobl yn teimlo cymhelliant i bleidleisio, ac mae'n ymwneud â gwaith partneriaid eraill, fel y Comisiwn Etholiadol, sicrhau bod pobl yn cael yr wybodaeth. Felly, mae tipyn o waith i'w wneud yn y maes hwn, felly mae hyn wir yn teimlo fel dim ond y dechrau. Ond rwy'n obeithiol y cawn lawer o wybodaeth gan y cynlluniau treialu hyn, a gwn fod rhannau eraill o'r DU yn edrych ar hynny hefyd.
Diolch yn fawr am y datganiad y prynhawn yma.
Thank you very much for this afternoon's statement.
It's good to have an update on where you are with electoral reform, and I want to thank you, firstly, and talk about the automatic voter registration that you've mentioned. This simple measure will make participating in elections easier and more accessible for everyone. It will ensure that people in Wales, particularly young voters and qualifying foreign citizens, remain on the electoral roll without the risk of unknowingly dropping off. It will also help enfranchise groups that are often under-represented and under-engaged in politics.
Not all that long ago, the previous UK Government introduced voter ID requirements for Westminster elections. These requirements, rather than protecting democracy, risked undermining it by creating unnecessary barriers for citizens to engage in politics. We saw this practice in the local elections in England and, more recently, in the general election. It will be interesting to see if your colleagues in Westminster will reverse that decision down the line. The Electoral Commission found that only 89 per cent of people in Wales were aware they needed to show photo ID at polling stations for the general election, and this awareness was significantly lower among younger people and ethnic minority communities.
Automatic voter registration would also provide some relief for the local authorities who are already voicing serious concerns about the strain of implementing these ID checks. However, it has been brought to my attention that the amount of electoral changes has caused pressure on electoral service departments in local authorities. This is exacerbated by problems in the supply market for elections, for resources, for paper and the lack of funding for electoral services departments. I'm hoping, Cabinet Secretary, you'll be able to tell us how Welsh Government intends to address these delivery issues before the next Senedd election, where more electoral change will be introduced. If we get this right, we can focus on fostering a more inclusive, accessible voting environment for all.
And, turning to STV, as Darren mentioned earlier, and to put the record straight, the majority voted 'for' in Gwynedd, but you need a supermajority to be able to get over the line, so it meant that the Plaid group were in favour, but didn't quite get there. Maybe it's something that the Cabinet Secretary may look at and also maybe give an opinion as to whether or not the Welsh Government would be willing to introduce a proportional system, Wales wide, by 2032, so that would be in line with Scotland and Northern Ireland. Diolch.
Mae'n dda cael diweddariad o ran ble rydych chi o ran diwygio etholiadol, ac rwyf eisiau diolch i chi, yn gyntaf, a siarad am gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yr ydych chi wedi'i grybwyll. Bydd y mesur syml hwn yn gwneud cymryd rhan mewn etholiadau yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb. Bydd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru, yn enwedig pleidleiswyr ifanc a dinasyddion tramor cymwys, yn aros ar y gofrestr etholiadol heb y risg o ddod oddi arni yn ddiarwybod. Bydd hefyd yn helpu i etholfreinio grwpiau sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli ac nad ydynt yn aml yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth.
Nid mor bell â hynny'n ôl, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol y DU ofynion adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau San Steffan. Roedd y gofynion hyn, yn hytrach na diogelu democratiaeth, mewn perygl o'i thanseilio trwy greu rhwystrau diangen rhag i ddinasyddion gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gwelsom yr arfer hwn yn yr etholiadau lleol yn Lloegr ac, yn fwy diweddar, yn yr etholiad cyffredinol. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd eich aelodau cyfatebol yn San Steffan yn gwyrdroi'r penderfyniad hwnnw yn nes ymlaen. Canfu'r Comisiwn Etholiadol mai dim ond 89 y cant o bobl Cymru oedd yn ymwybodol bod angen iddynt ddangos cerdyn adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiad cyffredinol, ac roedd yr ymwybyddiaeth hon yn sylweddol is ymhlith pobl iau a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Byddai cofrestru pleidleiswyr awtomatig hefyd yn rhoi rhywfaint o ryddhad i'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn lleisio pryderon difrifol am y straen o weithredu'r gwiriadau adnabod hyn. Fodd bynnag, daeth i'm sylw fod maint y newidiadau etholiadol wedi achosi pwysau ar adrannau'r gwasanaeth etholiadol mewn awdurdodau lleol. Mae hyn yn cael ei waethygu gan broblemau yn y farchnad gyflenwi ar gyfer etholiadau, ar gyfer adnoddau, ar gyfer papur a'r diffyg cyllid ar gyfer adrannau gwasanaethau etholiadol. Rwy'n gobeithio, Ysgrifennydd Cabinet, y gallwch ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion cyflawni hyn cyn etholiad nesaf y Senedd, pryd y bydd mwy o newid etholiadol yn cael ei gyflwyno. Os cawn hyn yn iawn, gallwn ganolbwyntio ar feithrin amgylchedd pleidleisio mwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
Ac, gan droi at y bleidlais sengl drosglwyddadwy, fel y soniodd Darren yn gynharach, ac i roi ar gofnod, pleidleisiodd y mwyafrif 'o blaid' yng Ngwynedd, ond mae angen uwchfwyafrif arnoch i ennill, felly roedd yn golygu bod grŵp y Blaid o blaid, ond wedi methu â chyrraedd o drwch blewyn. Efallai ei fod yn rhywbeth y gall yr Ysgrifennydd Cabinet edrych arno a hefyd efallai roi barn ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i gyflwyno system gyfrannol, Cymru gyfan, erbyn 2032, fel y byddai hynny'n cyd-fynd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Diolch.
Diolch, Peredur, for those questions and for the welcome for the statement today, which is appreciated. Absolutely, we will be watching the pilot very closely, as you can imagine, in the four areas that we've mentioned. The point you raised around English as a second language and different communities, I think that's why it's important that we've got within that Newport as a local authority that's taking part. So, I think that we will be watching very, very closely on that aspect as well.
We've committed to not introducing voter ID in Wales for devolved elections, you'll be glad to note, and that has not changed. I think that we've seen some of the reflections from the Electoral Commission and others around the impact on voting in the general election.
In terms of trying to encourage more people to vote, and you mentioned young people, there's been a number of schemes that we have in Wales that we've got in terms of ensuring that people are engaged in projects to take part, in these democratic engagement grants. So, there's been funding submitted to a number of different projects. The Welsh Government's knowledge and analytical services are evaluating these over the coming months. I mentioned one in my statement, but, for example, we've got the British Deaf Association, and a project's going to be run in person and digital workshops with their stakeholders on how democracy works, to empower deaf people. So, there are lots of these different projects that are happening within Wales.
And, as I mentioned earlier as well, in terms of STV, we've written to those local authorities asking for their reflections, and when I receive that, it will be good to hear how they felt, in retrospect, about that, the process.
Diolch, Peredur, am y cwestiynau yna ac am y croeso i'r datganiad heddiw, sy'n cael ei werthfawrogi. Yn bendant, byddwn yn gwylio'r cynllun treialu yn agos iawn, fel y gallwch chi ddychmygu, yn y pedair ardal yr ydym wedi'u crybwyll. Y pwynt a godoch chi ynghylch Saesneg fel ail iaith a chymunedau gwahanol, rwy'n credu mai dyna pam mae'n bwysig o ran hynny ein bod â Chasnewydd fel awdurdod lleol sy'n cymryd rhan. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gwylio'n agos iawn, iawn yr agwedd honno hefyd.
Rydym wedi ymrwymo i beidio â chyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig, byddwch yn falch o nodi, ac nid yw hynny wedi newid. Rwy'n credu ein bod wedi gweld rhai o'r myfyrdodau gan y Comisiwn Etholiadol ac eraill ynghylch yr effaith ar bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.
O ran ceisio annog mwy o bobl i bleidleisio, a sonioch chi am bobl ifanc, mae nifer o gynlluniau sydd gennym yng Nghymru yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â phrosiectau i gymryd rhan, yn y grantiau ymgysylltu democrataidd hyn. Felly, mae cyllid wedi'i gyflwyno i nifer o brosiectau gwahanol. Mae gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddol Llywodraeth Cymru yn gwerthuso'r rhain dros y misoedd nesaf. Soniais i am un yn fy natganiad, ond, er enghraifft, mae gennym Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, a bydd prosiect yn cael ei redeg mewn gweithdai personol a digidol gyda'u rhanddeiliaid ar sut mae democratiaeth yn gweithio, i rymuso pobl fyddar. Felly, mae llawer o'r prosiectau gwahanol hyn yn digwydd yng Nghymru.
Ac, fel y soniais i yn gynharach hefyd, o ran y bleidlais sengl drosglwyddadwy, rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol hynny yn gofyn am eu myfyrdodau, a phan fyddaf yn eu derbyn, bydd yn dda clywed sut roedden nhw'n teimlo, wrth edrych yn ôl, am hynny, am y broses.
One of the great electoral reforms in recent years in Wales has been the reducing of the voting age to 16 and 17-year-olds for Senedd and for local government elections. In 2007, I introduced a private Member’s Bill in Westminster, when I was the MP for Cardiff North, and spoke to many different groups of young people. And young people who were engaged in a cause or were passionate about an issue were desperate to get the vote. But when I went around talking to schools and different groups as part of a timetable, there was very little interest from the young people, and I wondered if that was reflected, really, in the vote in the last two elections that 16 and 17-year-olds have taken part in. Because the number who registered and the number who actually voted is obviously something that we need to do something about. So, I wondered what plans you had to engage more 16 and 17-year-olds in the political system, and whether the legislation that you've talked about today will have particular parts that will help involve young people. Because I think it did show our support for young people, our commitment to young people to change that law, so I think we now need to do what we can to ensure that they use the opportunity.
Un o'r diwygiadau etholiadol mawr yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru fu gostwng yr oedran pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau'r Senedd ac ar gyfer llywodraeth leol. Yn 2007, cyflwynais Fil Aelod preifat yn San Steffan, pan oeddwn yn AS dros Ogledd Caerdydd, a siaradais â llawer o wahanol grwpiau o bobl ifanc. Ac roedd pobl ifanc a oedd yn ymwneud ag achos neu oedd yn angerddol am fater yn ysu am gael y bleidlais. Ond pan es i o gwmpas yn siarad ag ysgolion a grwpiau gwahanol fel rhan o amserlen, ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y bobl ifanc, ac roeddwn i'n meddwl tybed a gafodd hynny ei adlewyrchu, mewn gwirionedd, yn y bleidlais yn y ddau etholiad diwethaf y mae pobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cymryd rhan ynddynt. Oherwydd bod y nifer a gofrestrodd a'r nifer a bleidleisiodd mewn gwirionedd yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni wneud rhywbeth amdano. Felly, tybed pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod mwy o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn ymgysylltu â'r system wleidyddol, ac a fydd gan y ddeddfwriaeth rydych chi wedi siarad amdani heddiw rannau penodol a fydd yn helpu i gynnwys pobl ifanc. Oherwydd rwy'n credu ei fod wedi dangos ein cefnogaeth i bobl ifanc, ein hymrwymiad i bobl ifanc wrth newid y gyfraith honno, felly rwy'n credu bod angen i ni nawr wneud yr hyn a allwn i sicrhau eu bod yn defnyddio'r cyfle.
Diolch, Julie, for that question. I would just like to put on record my thanks for all the work that you've done on this, over many, many years. I think it's a really proud moment that it's coming to fruition and we do have that. I know that's something that young people still feel very passionately about. Actually, within a local event that myself and Peredur went to—a Chartism event—we talked about democracy, and I know that one of the aspects of future democracy is young people, and I think that it just shows how far we've come. It's a really positive step. I hope that the rest of the UK follows in the votes for 16 and 17-year-olds, but we know we need to engage them. As we were talking about earlier, part of it is being registered, but also we need to encourage and make people feel that they are able to cast their vote in an informed manner. So, there is still a lot to do.
In 2021-22, we offered pilot funding to local authorities to focus on registering and encouraging the newly franchised 16 to 17-year-olds and qualifying foreign nationals. It's really positive that some authorities, such as Cardiff, saw the benefit of that work and maintained an engagement officer. I think that's a really positive step. And as I mentioned earlier as well, over the last three years we've funded the democratic engagement grants, supporting innovative projects across Wales, and there are a number of those. There's the Politics Project, which will continue to run their digital dialogue sessions in schools in Wales. We also have, for example, Shout Out, which holds dialogue sessions in high schools in Wales on media literacy and how to deal with misinformation. So, I think there are these projects and these funds available, and it's about making sure that we utilise that at every opportunity. I also know there are other projects, like the work that the Electoral Commission is doing. I think its important to work together to make sure that we encourage as many people as possible to use their vote.
Diolch, Julie, am y cwestiwn yna. Hoffwn gofnodi fy niolch am yr holl waith rydych chi wedi'i wneud ar hyn, dros nifer o flynyddoedd. Rwy'n credu ei bod hi'n foment falch iawn ei fod yn dwyn ffrwyth a bod hwn gennym ni. Rwy'n gwybod bod hwnnw'n rhywbeth y mae pobl ifanc yn dal i deimlo'n angerddol iawn amdano. A dweud y gwir, mewn digwyddiad lleol yr es i a Peredur iddo—digwyddiad Siartiaeth—buom yn siarad am ddemocratiaeth, a gwn mai pobl ifanc yw un o agweddau democratiaeth y dyfodol, ac rwy'n credu ei fod yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod. Mae'n gam cadarnhaol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd gweddill y DU yn dilyn o ran y pleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, ond rydym yn gwybod bod angen i ni ymgysylltu â nhw. Fel yr oeddem yn siarad amdano yn gynharach, rhan ohono yw cael eich cofrestru, ond hefyd mae angen i ni annog a gwneud i bobl deimlo eu bod yn gallu bwrw eu pleidlais mewn modd gwybodus. Felly, mae llawer i'w wneud o hyd.
Yn 2021-22, cynigiwyd cyllid cynllun treialu i awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar gofrestru ac annog y rhai sydd newydd gael eu hetholfreinio rhwng 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys. Mae'n gadarnhaol iawn bod rhai awdurdodau, fel Caerdydd, wedi gweld budd y gwaith hwnnw ac yn cynnal swyddog ymgysylltu. Rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol iawn. Ac fel y soniais i'n gynharach hefyd, dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi ariannu'r grantiau ymgysylltu democrataidd, gan gefnogi prosiectau arloesol ledled Cymru, ac mae nifer o'r rheini. Mae'r Prosiect Gwleidyddiaeth, a fydd yn parhau i gynnal eu sesiynau deialog digidol mewn ysgolion yng Nghymru. Mae gennym hefyd, er enghraifft, Shout Out, sy'n cynnal sesiynau deialog mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ar lythrennedd y cyfryngau a sut i ymdrin â chamwybodaeth. Felly, rwy'n credu bod y prosiectau hyn a'r arian hwn ar gael, ac mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn defnyddio hynny ar bob cyfle. Rwy'n gwybod hefyd bod prosiectau eraill, fel y gwaith y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio eu pleidlais.
Unlike Darren Millar, I wholeheartedly welcome the automatic registration, but I do agree with Darren Millar that it won't in itself mean we have a higher proportion of people voting. But at least we'll know, at least we'll have some honesty on how small the turnout is in some areas, because I'm sure all of us have canvassed in certain areas and have passed house after house after house that aren't on the electoral register. So, at least we'll know, then, with automatic registration.
I'm glad, also, to read about the RNIB and your support towards them. I think Darren did ask for a timetable. I'm not sure if you answered that. But it is an issue. I remember in the last Senedd election, my heart sank when I went to vote and I heard a visually impaired man telling the polling clerk, 'Help me please to vote for that nice man, Mark Drakeford'—probably a sensible man. But in all seriousness, he shouldn't have had to do that, he should have been able to vote in secret. I shouldn't have been able to hear how he voted.
I read the democratic health task and finish group report. It's clear a lot of work needs to be done with community councils, and people aren't aware of the work community councils are doing. Yesterday, I and my office started Googling as if we had very little political knowledge, and to try and find basic information is very difficult. For example, you try and find when are the next local elections in Wales being held. It's not easy to find on search engines. So, will the Welsh Government look into collaboration with others to maybe have one easily accessible place where we can find information about elections in Wales? Diolch yn fawr.
Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu'r cofrestriad awtomatig yn llwyr, ond rwy'n cytuno â Darren Millar na fydd hynny'n golygu bod gennym gyfran uwch o bobl yn pleidleisio. Ond o leiaf byddwn yn gwybod, o leiaf bydd gennym rywfaint o onestrwydd ynghylch pa mor fach yw'r nifer sy'n pleidleisio mewn rhai ardaloedd, oherwydd rwy'n siŵr bod pob un ohonom wedi canfasio mewn rhai ardaloedd ac wedi pasio tŷ ar ôl tŷ ar ôl tŷ nad ydynt ar y gofrestr etholiadol. Felly, o leiaf byddwn yn gwybod, wedyn, gyda chofrestru awtomatig.
Rwy'n falch, hefyd, i ddarllen am yr RNIB a'ch cefnogaeth iddynt. Rwy'n credu bod Darren wedi gofyn am amserlen. Nid wyf yn siŵr a ydych wedi ateb hwnnw. Ond mae'n broblem. Rwy'n cofio yn etholiad diwethaf y Senedd, suddodd fy nghalon pan es i bleidleisio a chlywais ddyn â nam ar ei olwg yn dweud wrth y clerc pleidleisio, 'Helpwch fi os gwelwch yn dda i bleidleisio dros y dyn dymunol hwnnw, Mark Drakeford'—dyn call mae'n debyg. Ond o ddifrif, ni ddylai fod wedi gorfod gwneud hynny, dylai fod wedi gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Ni ddylwn i fod wedi clywed sut y pleidleisiodd.
Darllenais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd. Mae'n amlwg bod angen gwneud llawer o waith gyda chynghorau cymuned, ac nid yw pobl yn ymwybodol o'r gwaith y mae cynghorau cymuned yn ei wneud. Ddoe, dechreuais i a fy swyddfa ddefnyddio Google fel pe bai gennym ychydig iawn o wybodaeth wleidyddol, ac mae ceisio dod o hyd i wybodaeth sylfaenol yn anodd iawn. Er enghraifft, rydych chi'n ceisio canfod pryd mae'r etholiadau lleol nesaf yng Nghymru yn cael eu cynnal. Nid yw'n hawdd dod o hyd iddo drwy chwilotwyr. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cydweithio ag eraill i gael un lle hawdd ei gyrraedd efallai lle gallwn ddod o hyd i wybodaeth am etholiadau yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch, Rhys. Thank you for your questions. Absolutely, as I've said, there is still a lot of work to do following automatic voter registration. That's really a big step forward with those pilots, but I think it's really important that we've all got to work together to think about how we can ensure people do feel informed and feel able to vote. Because we've all felt that frustration, as you said, walking past lots of houses that aren't on the electoral register, but there's also the frustration of when you do knock a door and somebody says, 'Well, I really want to vote, but I didn't know I had to be registered to vote' and the registration time has passed. So, there are people that will benefit from this, but it doesn't diminish the work that we all have to do to ensure that people want to vote and come out to vote, because that's really important.
Diolch, Rhys. Diolch am eich cwestiynau. Yn hollol, fel y dywedais i, mae llawer o waith i'w wneud o hyd yn dilyn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae hynny'n gam mawr ymlaen mewn gwirionedd gyda'r cynlluniau treialu hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i feddwl am sut y gallwn sicrhau bod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r wybodaeth ac yn teimlo eu bod yn gallu pleidleisio. Oherwydd rydyn ni i gyd wedi teimlo'r rhwystredigaeth honno, fel y dywedoch chi, yn cerdded heibio llawer o dai nad ydyn nhw ar y gofrestr etholiadol, ond mae rhwystredigaeth hefyd o ran pan ydych chi'n curo drws ac mae rhywun yn dweud, 'Wel, rydw i wir eisiau pleidleisio, ond doeddwn i ddim yn gwybod bod yn rhaid i mi gofrestru i bleidleisio' ac mae'r amser cofrestru wedi mynd heibio. Felly, mae yna bobl a fydd yn elwa ar hyn, ond nid yw'n lleihau'r gwaith y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wneud i sicrhau bod pobl eisiau pleidleisio ac yn dod allan i bleidleisio, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Oh, did you—?
O, wnaethoch chi—?
I was just going to finish answering a couple of questions.
Roeddwn i am orffen ateb ychydig o gwestiynau.
Go on. You have time.
Ewch ymlaen. Mae gennych amser.
Diolch, Deputy Llywydd. I was asked a number of questions and I'm trying to answer as many as I can. Because I didn't answer Darren particularly on the RNIB one either, just to say we're doing a lot of work in this area around what works best. I mentioned in my statement that officials are working alongside the Electoral Commission and RNIB to trial the different solutions to build that knowledge, so we're working on that at the moment. This will help, obviously, returning officers understand what works best, and blind and partially sighted voters know what to expect, and, as I said, demand. I'll keep the Senedd informed on progress on that as well. Diolch, Deputy Llywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gofynnwyd nifer o gwestiynau i mi ac rwy'n ceisio ateb cymaint ag y gallaf. Oherwydd wnes i ddim ateb Darren yn benodol ynghylch yr RNIB chwaith, dim ond i ddweud ein bod ni'n gwneud llawer o waith yn y maes hwn ynghylch yr hyn sy'n gweithio orau. Soniais i yn fy natganiad fod swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol a'r RNIB i dreialu'r gwahanol atebion i adeiladu'r wybodaeth honno, felly rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd. Bydd hyn yn amlwg yn helpu swyddogion canlyniadau i ddeall beth sy'n gweithio orau, a bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ac, fel y dywedais i, beth i'w hawlio. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynnydd ar hynny hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
I thank the Cabinet Secretary.
Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y diwydiannau creadigol. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.
We'll move on now to item 5, which is a statement by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership on the creative industries. I call on the Minister, Jack Sargeant.
Diolch, Deputy Presiding Officer. We are rightly proud of our creative industries, which are recognised as one of Wales’s real success stories following over a decade of investment by the Welsh Government. Since its establishment in 2020, Creative Wales has been working hard to drive further growth in the creative sectors it supports. This work is not only critical to our economy, but it is also crucial to our culture, our language and to our well-being.
During this period, Creative Wales has invested £26.5 million in production funding alone, supporting 47 projects with conditioned Welsh spend in excess of £313 million expected into the Welsh economy. Alongside a range of other funds aimed at the screen, digital, gaming and music sectors, as well as support for the publishing industry through the Books Council of Wales, Creative Wales continues to work with our stakeholders to provide targeted investment for both home-grown business and international projects looking to locate in Wales.
And we’re making progress: the latest statistics on the sectors supported by Creative Wales show that this part of the economy generated an annual turnover of £1.5 billion in 2023 alone. While some caution is needed when comparing the year-on-year figures, it is really encouraging to see this increase of over 10 per cent on the previous year.
The number of businesses making up the creative sectors in Wales is also on the rise. Latest figures show there are now 3,595 businesses operating in these industries, an increase of 11.8 per cent on the 2018 figures, well above the Welsh average during the same period. Creative Wales’s priority sectors are an important employer in Wales. The latest statistics show they provide jobs for some 35,100 people, with a significant freelance workforce on top. Our tv and film industry continues to perform well, delivering a turnover of £460 million to Wales during 2023.
In the last year or so we have seen some brilliant productions such as Men Up, Lost Boys and Fairies and Pren ar y Bryn, all delivered by our thriving indigenous sector. We have also proudly supported major international hits such as Sex Education and House of the Dragon, which have provided employment and training opportunities within Wales while showcasing our amazing locations to a global audience.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym yn haeddiannol falch o'n diwydiannau creadigol, sy'n cael eu cydnabod fel un o lwyddiannau gwirioneddol Cymru yn dilyn dros ddegawd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio'n galed i ysgogi twf pellach yn y sectorau creadigol y mae'n eu cefnogi. Mae'r gwaith hwn nid yn unig yn hanfodol i'n heconomi, ond mae hefyd yn hanfodol i'n diwylliant, ein hiaith ac i'n llesiant.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi £26.5 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig, gan gefnogi 47 o brosiectau sydd wedi cyfrannu at £313 miliwn disgwyliedig o wariant amodol i economi Cymru. Ochr yn ochr ag ystod o gronfeydd eraill sydd wedi'u targedu ar gyfer y sectorau sgrin, digidol, chwarae gemau fideo a cherddoriaeth, yn ogystal â chefnogaeth i'r diwydiant cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru, mae Cymru Greadigol yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i ddarparu buddsoddiad wedi'i dargedu ar gyfer prosiectau busnes yma a phrosiectau rhyngwladol sy'n bwriadu lleoli eu hunain yng Nghymru.
Ac rydym yn gwneud cynnydd: mae'r ystadegau diweddaraf ar y sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod y rhan hon o'r economi wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o £1.5 biliwn yn 2023 yn unig. Er bod angen bod yn ofalus wrth gymharu'r ffigurau flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n galonogol iawn gweld y cynnydd hwn o dros 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae nifer y busnesau sy'n rhan o'r sectorau creadigol yng Nghymru hefyd ar gynnydd. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 3,595 o fusnesau yn gweithredu yn y diwydiannau hyn erbyn hyn, cynnydd o 11.8 y cant o'u gymharu â ffigurau 2018, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru yn ystod yr un cyfnod. Mae sectorau blaenoriaeth Cymru Greadigol yn gyflogwyr pwysig yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos eu bod yn darparu swyddi i ryw 35,100 o bobl, gyda gweithlu llawrydd sylweddol ar y brig. Mae ein diwydiant teledu a ffilm yn parhau i berfformio'n dda, gan ddarparu trosiant o £460 miliwn i Gymru yn ystod 2023.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld rhai cynyrchiadau gwych fel Men Up, Lost Boys and Fairies a Pren ar y Bryn, a'r cyfan yn cael eu cyflwyno gan ein sector cynhenid ffyniannus. Rydym hefyd wedi cefnogi llwyddiannau rhyngwladol mawr fel Sex Education a House of the Dragon, sydd wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru gan hefyd arddangos ein lleoliadau anhygoel i gynulleidfa fyd-eang.
These successes continue to bolster Wales’s global reputation as a first-class place to make excellent tv and film. Just last week, I was at Buckingham Palace, celebrating the success of the UK screen sector. It was great to see so much Welsh talent represented. I spoke with Janis Pugh, the producer of Flintshire-based feature film Chuck Chuck Baby. This is everything we want for our industry—projects that tell the stories of our working class communities, made by people who love and understand them, and turning them into a commercial success.
This year, Creative Wales has also supported the new Cymru Broadcast Centre, a fully accessible state-of-the-art facility in Cardiff, the first of its kind in Wales. The Prif Weinidog and I were delighted to attend the launch of the centre, which will deliver a raft of sporting and other productions from Cardiff over the next three years with a real focus on skills development. The first broadcast from the centre was the brilliant 2024 Paralympics back in August, with many more to come.
The latest figures indicate that Wales’s digital and music sectors are also performing well, with digital generating a turnover of £303 million in 2023, and music generating £262 million. The games industry is a priority growth area for us. In April we were delighted to see the Gothic horror game Sker Ritual, which was made by Penarth games company Wales Interactive, become one of the best-selling PC and console games in the world. And we celebrated the one-year anniversary of Rocket Science setting up in Cardiff. In 12 months, the Wales team has grown to nearly 30 strong and is looking to hit the 50 Welsh jobs target much sooner than the original five-year goal. Creative Wales will also launch shortly scale-up funding to support local studios with growth and getting new IP to market.
On esports, we see the potential for real growth and will continue to explore the opportunities this brings. We have recently supported a skills project that will extend Esports Wales's academy programme to cover the whole of Cymru and offer taster sessions, networking and career events. In music, a total of more than £10 million has been invested into the sector since Creative Wales came into existence. We are in the process of investing £400,000 into 11 innovative projects through our latest round of the music revenue fund, and earlier in the year you will have seen £700,000 invested to support 17 grass-roots venues across Wales as part of our music capital fund. We are also proud supporters of the Welsh Music Prize, which celebrates some brilliant artists and albums coming out of Cymru.
One of Creative Wales’s aims is to showcase our creative industries internationally, taking Cymru and its talent to the world and highlighting our offer to businesses wanting to work with us. Earlier this year, Creative Wales was proud to take 10 Welsh games companies to the Game Developers Conference in San Francisco, providing them with an opportunity to connect with 28,000 gaming industry professionals from around the world in order to network, share ideas and make new business links. In March, we supported a showcase of Welsh musicians at South by Southwest in Texas, and just last month we provided additional funding to the Books Council of Wales to support a Welsh presence at the Frankfurt Book Fair, the largest book fair in the world, where 18 Welsh publishers exhibited their work to a global audience.
We know that one of the key things our sector needs is investment in skills, and we continue to invest via the creative skills fund. We know that we cannot be complacent with our work. Whilst the data from 2023 and our achievements over the last year paint a rich and positive picture, when operating in the creative industries, increasing costs, challenging budgets and changing audience habits do have an impact. Llywydd, we remain committed to supporting our sectors through Creative Wales during these undoubtedly challenging times and uncertain times, and to exploring all of our levers to help ensure a vibrant, sustainable and healthy future for this vital part of our economy and culture. And to all those working in this vibrant sector in Cymru and to my Creative Wales team, diolch o galon.
Mae'r llwyddiannau hyn yn parhau i gryfhau enw da Cymru yn fyd-eang fel lle o'r radd flaenaf i greu teledu a ffilm ardderchog. Dim ond yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mhalas Buckingham, yn dathlu llwyddiant sector sgriniau'r DU. Roedd yn wych gweld cymaint o dalent o Gymru yn cael cynrychiolaeth. Siaradais â Janis Pugh, cynhyrchydd y ffilm nodwedd Chuck Chuck Baby o sir y Fflint. Dyma bopeth rydyn ni ei eisiau ar gyfer ein diwydiant—prosiectau sy'n adrodd straeon ein cymunedau dosbarth gweithiol, a wnaed gan bobl sy'n eu caru a'u deall, ac yn eu troi'n llwyddiant masnachol.
Eleni, mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi Canolfan Ddarlledu Cymru newydd, cyfleuster cwbl hygyrch o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd, y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Roedd Prif Weinidog Cymru a minnau yn falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad y ganolfan, a fydd yn darparu llu o gynyrchiadau chwaraeon a chynyrchiadau eraill o Gaerdydd dros y tair blynedd nesaf gyda phwyslais gwirioneddol ar ddatblygu sgiliau. Y darllediad cyntaf o'r ganolfan oedd Gemau Paralympaidd gwych 2024 nôl ym mis Awst, gyda llawer mwy i ddod.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod sectorau digidol a cherddoriaeth Cymru hefyd yn perfformio'n dda, gyda digidol yn cynhyrchu trosiant o £303 miliwn yn 2023, a cherddoriaeth yn cynhyrchu £262 miliwn. Mae'r diwydiant gemau fideo yn faes twf â blaenoriaeth i ni. Ym mis Ebrill roeddem yn falch iawn o weld y gêm arswyd Gothig Sker Ritual, a wnaed gan gwmni gemau o Benarth, Wales Interactive, yn dod yn un o'r gemau cyfrifiadur personol a chonsol sy'n gwerthu orau yn y byd. Ac fe wnaethon ni ddathlu blwyddyn ers sefydlu Rocket Science yng Nghaerdydd. Mewn 12 mis, mae tîm Cymru wedi tyfu i bron i 30 o bobl ac mae'n gobeithio cyrraedd y targed o 50 o swyddi yng Nghymru yn gynt o lawer na'r nod pum mlynedd gwreiddiol. Bydd Cymru Greadigol hefyd yn lansio cyllid yn fuan i gefnogi stiwdios lleol gyda thwf a chael ED newydd i'r farchnad.
O ran e-chwaraeon, gwelwn y potensial ar gyfer twf go iawn a byddwn yn parhau i archwilio'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn. Yn ddiweddar rydym wedi cefnogi prosiect sgiliau a fydd yn ymestyn rhaglen academi Esports Wales i gwmpasu Cymru gyfan a chynnig sesiynau blasu, rhwydweithio a digwyddiadau gyrfa. Mewn cerddoriaeth, buddsoddwyd cyfanswm o dros £10 miliwn yn y sector ers i Cymru Greadigol ddod i fodolaeth. Rydym wrthi'n buddsoddi £400,000 mewn 11 prosiect arloesol drwy ein rownd ddiweddaraf o'r gronfa refeniw cerddoriaeth, ac yn gynharach yn y flwyddyn byddwch wedi gweld £700,000 yn cael ei fuddsoddi i gefnogi 17 o leoliadau llawr gwlad ledled Cymru fel rhan o'n cronfa gyfalaf cerddoriaeth. Rydym hefyd yn gefnogwyr balch o'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sy'n dathlu artistiaid ac albymau gwych sy'n dod allan o Gymru.
Un o nodau Cymru Greadigol yw arddangos ein diwydiannau creadigol yn rhyngwladol, mynd â Chymru a'i thalent i'r byd a thynnu sylw at ein cynnig i fusnesau sydd eisiau gweithio gyda ni. Yn gynharach eleni, roedd Cymru Greadigol yn falch o fynd â 10 cwmni gemau o Gymru i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco, gan roi cyfle iddynt gysylltu â 28,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant gemau fideo o bob cwr o'r byd er mwyn rhwydweithio, rhannu syniadau a chreu cysylltiadau busnes newydd. Ym mis Mawrth, fe wnaethom gefnogi arddangosiad o gerddorion o Gymru yn South by Southwest yn Texas, a dim ond y mis diwethaf fe wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru i gefnogi presenoldeb Cymreig yn Ffair Lyfrau Frankfurt, y ffair lyfrau fwyaf yn y byd, lle'r oedd 18 o gyhoeddwyr o Gymru yn arddangos eu gwaith i gynulleidfa fyd-eang.
Rydym yn gwybod mai un o'r pethau allweddol sydd ei angen ar ein sector yw buddsoddi mewn sgiliau, ac rydym yn parhau i fuddsoddi drwy'r gronfa sgiliau creadigol. Rydym yn gwybod na allwn fod yn hunanfodlon â'n gwaith. Er bod y data o 2023 a'n cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn creu darlun cyfoethog a chadarnhaol, wrth weithredu yn y diwydiannau creadigol, mae cynnydd mewn costau, cyllidebau heriol ac arferion cynulleidfaoedd yn newid yn cael effaith. Llywydd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein sectorau trwy Cymru Greadigol yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn, ac i archwilio ein holl ysgogiadau i helpu i sicrhau dyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach i'r rhan hanfodol hon o'n heconomi a'n diwylliant. Ac i bawb sy'n gweithio yn y sector bywiog hwn yng Nghymru ac i fy nhîm yn Cymru Greadigol, diolch o galon.
Thank you for your statement today, Minister. While it is encouraging to hear about the growth of certain sectors of the creative sector in Wales, such as tv, film, digital animation and publishing, it is clear that other areas have faced significant challenges in recent years and require substantial support. Research published by the Senedd earlier this year has shown a substantial decrease in attendance at art events, theatre, dance and live music venues.
The impact of COVID-19, coupled with high inflation resulting from the war in Ukraine and the subsequent surge in energy prices has hit venues hard; their only option has been to increase ticket prices, which has led to fewer ticket sales. On top of this, venues and many lesser known performers in the creative sector now face further challenges from the UK Labour Government. There's also genuine concern that a crackdown on zero-hours contracts is shortsighted, as it fails to recognise how these contracts function, particularly for small venues and performers. In the theatre industry, for instance, a significant proportion of creative talent, such as performers, work second jobs front of house, in the box office or at the bar. This flexibility complements their performance work. Many theatre workers also appreciate the flexibility that zero-hours contracts provide, especially for those with caring responsibilities. Reducing this flexibility could negatively impact performers, as they may no longer be able to balance their work and personal commitments effectively.
Although workers can remain on zero-hours contracts if they prefer, this move by the UK Labour Government reflects a lack of understanding of the creative industries. Policy designed to limit zero-hours contract opportunities means that new entrants into the industry will lose the flexibility that they need. Considering that the majority of performers in the creative sector are freelancers, this is concerning. Moreover, there is an increased financial burden on theatres and producers who are already grappling with rising costs and the challenges of sustaining their businesses. This change in employment law is likely to have a negative consequence for both workers and performance venues. So, with this in mind, what assessment has been made of the impact that scrapping zero-hours contracts will have on venues in Wales?
The Society of London Theatre and UK Theatre have warned that, without significant capital investment over the next five years, nearly 40 per cent of venues across the UK will be at risk of closing, and another 40 per cent will become too unsafe to use. The previous Conservative Government's spring budget provided dedicated funding for upgrades to facilities such as Wales's Theatr Clwyd, and despite many individual appeals for capital funding, the UK Labour Government has not allocated funding for crucial repairs. In fact, the creative industries were largely unmentioned, aside from additional tax relief for visual effects in tv and film. Within the creative sector, you will well understand, Minister, that there is a reliance on performers having a variety of venues in which to perform. The Music Venue Trust has reported a 35 per cent decline in available venues over the last 20 years, and noted that, in 2023 alone, 125 venues across the UK ceased hosting live music, with half shutting their doors permanently. This led to a loss of 4,000 jobs in the sector. Given that so many venues are struggling, what action is the Welsh Government taking to provide capital funding to them?
In June research commissioned by the performing arts union, Equity, revealed that, in real terms, overall arts funding in Wales has dropped by 30 per cent since 2017, compared to a drop of 11 per cent in England, 16 per cent in Northern Ireland and an increase of 2 per cent in Scotland. The chief executive of the Arts Council of Wales has warned that there will be no professional sector in 10 years if funding does not improve. You'll be well aware, Minister, of the protests held on the Senedd steps earlier this year. While we've seen extraordinary growth in the creative industry in Wales, this growth seems to be concentrated in tv, film, digital and publishing. What opportunities have you identified to improve funding for the whole of the arts sector?
Finally, I want to briefly mention an issue in the tv and film sector in Wales. It appears that there's a shortage of skilled workers, such as carpenters, to build sets quickly enough, leading to expensive delays in projects and filming. It is evident that the supporting industries have not grown as rapidly as the expansion of filming. How might you now use the expansion of the creative sector to support other jobs in Wales?
You mentioned the creative skills fund project, which looks very promising, particularly the Hijinx Creative Enablers project, which supports the disabled, learning disabled and those with ASD. However, I did not see any projects that create the skills needed to support the creative industry, such as stage management, human resources, facilities management, electrical engineering and carpentry, as mentioned. Do you think that there is the potential to fund projects that facilitate the skills needed to support the industry? Thank you.
Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Er ei bod yn galonogol clywed am dwf rhai sectorau o'r sector creadigol yng Nghymru, megis teledu, ffilm, animeiddio digidol a chyhoeddi, mae'n amlwg bod meysydd eraill wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac angen cefnogaeth sylweddol. Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan y Senedd yn gynharach eleni wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n mynychu digwyddiadau celf, theatr, dawns a lleoliadau cerddoriaeth fyw.
Mae effaith COVID-19, ynghyd â chwyddiant uchel yn sgil y rhyfel yn Wcráin a'r ymchwydd dilynol mewn prisiau ynni wedi taro lleoliadau'n galed; eu hunig opsiwn oedd cynyddu prisiau tocynnau, sydd wedi arwain at lai o werthiant tocynnau. Ar ben hyn, mae lleoliadau a llawer o berfformwyr llai adnabyddus yn y sector creadigol bellach yn wynebu heriau pellach gan Lywodraeth Lafur y DU. Mae pryder gwirioneddol hefyd bod y gwasgu llym ar gontractau dim oriau yn gibddall, gan ei fod yn methu â gweld sut mae'r contractau hyn yn gweithio, yn enwedig ar gyfer lleoliadau bychain a pherfformwyr. Yn y diwydiant theatr, er enghraifft, mae cyfran sylweddol o dalent greadigol, fel perfformwyr, yn cyflawni ail swyddi blaen y tŷ, yn y swyddfa docynnau neu wrth y bar. Mae'r hyblygrwydd hwn yn ategu eu gwaith perfformio. Mae llawer o weithwyr theatr hefyd yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y mae contractau dim oriau yn ei ddarparu, yn enwedig i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Gallai lleihau'r hyblygrwydd hwn effeithio'n negyddol ar berfformwyr, oherwydd efallai na fyddant bellach yn gallu cydbwyso eu gwaith a'u hymrwymiadau personol yn effeithiol.
Er y gall gweithwyr aros ar gontractau dim oriau os yw'n well ganddynt, mae'r cam hwn gan Lywodraeth Lafur y DU yn adlewyrchu diffyg dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol. Mae polisi sydd wedi'i gynllunio i gyfyngu ar gyfleoedd contract dim oriau yn golygu y bydd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn colli'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt. O ystyried bod mwyafrif y perfformwyr yn y sector creadigol yn weithwyr llawrydd, mae hyn yn peri pryder. Ar ben hynny, mae mwy o faich ariannol ar theatrau a chynhyrchwyr sydd eisoes yn mynd i'r afael â chostau cynyddol a'r heriau o gynnal eu busnesau. Mae'r newid hwn mewn cyfraith cyflogaeth yn debygol o gael canlyniad negyddol i weithwyr a lleoliadau perfformio. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa asesiad a wnaed o'r effaith y bydd dileu contractau dim oriau yn ei gael ar leoliadau yng Nghymru?
Mae Cymdeithas Theatr Llundain a Theatr y DU wedi rhybuddio, heb fuddsoddiad cyfalaf sylweddol dros y pum mlynedd nesaf, y bydd bron i 40 y cant o leoliadau ledled y DU mewn perygl o gau, a bydd 40 y cant arall yn rhy anniogel i'w defnyddio. Roedd cyllideb wanwyn flaenorol y Llywodraeth Geidwadol yn darparu cyllid pwrpasol ar gyfer uwchraddio cyfleusterau fel Theatr Clwyd yng Nghymru, ac er gwaethaf nifer o apeliadau unigol am gyllid cyfalaf, nid yw Llywodraeth Lafur y DU wedi dyrannu cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Mewn gwirionedd, ni chrybwyllwyd y diwydiannau creadigol i raddau helaeth, ar wahân i ryddhad treth ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol mewn teledu a ffilm. O fewn y sector creadigol, byddwch yn deall yn iawn, Gweinidog, fod perfformwyr yn dibynnu ar gael amrywiaeth o leoliadau i berfformio ynddynt. Mae'r Music Venue Trust wedi nodi gostyngiad o 35 y cant yn y lleoliadau sydd ar gael dros yr 20 mlynedd diwethaf, a nododd, yn 2023, bod 125 o leoliadau ledled y DU wedi rhoi'r gorau i gynnal cerddoriaeth fyw, a hanner yn cau eu drysau'n barhaol. Arweiniodd hyn at golli 4,000 o swyddi yn y sector. O ystyried bod cymaint o leoliadau yn ei chael hi'n anodd, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyllid cyfalaf iddynt?
Ym mis Mehefin datgelodd ymchwil a gomisiynwyd gan yr undeb celfyddydau perfformio, Equity, fod cyllid celfyddydau cyffredinol yng Nghymru, mewn termau real, wedi gostwng 30 y cant ers 2017, o'i gymharu â gostyngiad o 11 y cant yn Lloegr, 16 y cant yng Ngogledd Iwerddon a chynnydd o 2 y cant yn yr Alban. Mae prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhybuddio na fydd sector proffesiynol mewn 10 mlynedd os na fydd cyllid yn gwella. Byddwch yn ymwybodol iawn, Gweinidog, o'r protestiadau a gynhaliwyd ar risiau'r Senedd yn gynharach eleni. Er ein bod wedi gweld twf rhyfeddol yn y diwydiant creadigol yng Nghymru, mae'n ymddangos bod y twf hwn wedi'i ganoli mewn teledu, ffilm, digidol a chyhoeddi. Pa gyfleoedd ydych chi wedi'u nodi i wella'r cyllid ar gyfer y sector celfyddydau cyfan?
Yn olaf, rwyf eisiau sôn yn fyr am broblem yn y sector teledu a ffilm yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod prinder gweithwyr medrus, fel seiri coed, i adeiladu setiau yn ddigon cyflym, gan arwain at oedi costus mewn prosiectau a ffilmio. Mae'n amlwg nad yw'r diwydiannau ategol wedi tyfu mor gyflym â'r ehangu ym maes ffilmio. Sut allech chi nawr ddefnyddio ehangu'r sector creadigol i gefnogi swyddi eraill yng Nghymru?
Sonioch chi am brosiect y gronfa sgiliau creadigol, sy'n edrych yn addawol iawn, yn enwedig prosiect Galluogwyr Creadigol Hijinx, sy'n cefnogi'r anabl, y rhai ag anabledd dysgu a'r rhai ag ASD. Fodd bynnag, ni welais unrhyw brosiectau sy'n creu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r diwydiant creadigol, megis rheoli llwyfan, adnoddau dynol, rheoli cyfleusterau, peirianneg drydanol a gwaith coed, fel y crybwyllwyd. Ydych chi'n meddwl bod potensial i ariannu prosiectau sy'n hybu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r diwydiant? Diolch.
I thank Joel James for that. Of all the positives of the statement, Presiding Officer, not much was focused on then from the Member, which I think reflects poorly on the contribution. But I take his points around the overall picture of the arts and culture sector. And to say, over the summer, in September, my predecessor sat in front of me, announced a further £5 million into the arts and culture sector. The Arts Council of Wales received £1.5 million of that, and I look forward to announcements from the Arts Council of Wales on where that money will go to directly support some of the arts and our culture sector, which the Member referred to in his contribution.
To speak around some of the issues, on capital funding for Theatr Clwyd, Presiding Officer, in the Flintshire area, the Welsh Government has committed to over £23.5 million of capital funding over a number of years now—another success, another story where the Welsh Government supports this sector. And when it comes to the music venues issue, again, Presiding Officer, I had a great meeting, when I first took post, with UK Music about some of the issues that they face. But this morning, Presiding Officer, I met with the Music Venue Trust to discuss some of the important issues that they face, like the voluntary levy that will go to support smaller venues. I know that Mike Hedges has an interest in this issue, and it’s an interest that I have real issue—. I’m very supportive of that voluntary levy scheme. The Member speaks of the difficulties around venues. Well, through Music Venue Trust and the positive developments—. They purchased the Bunkhouse in Swansea through the Own Our Venues scheme, and I’m sure that there are more announcements to come from them. So, we are going on to support the industry.
But as I said, Presiding Officer, this statement was about the creative industries. I visited Bad Wolf a few weeks ago with local councillors—Councillor Thomas and Councillor Stubbs—and it was clear that the opportunities created in the sector went far beyond just creative roles, pointing to the Member’s questions. There, I met young people from working-class communities, who were gaining experience in accounts, project management and even governance, including some of the other industries that the Member said. I think that that points to the real success of the commitment of this Welsh Government, and I was grateful to see the work of Hijinx in a recent visit too.
Just to finally point to the Member’s contribution around zero-hours contracts, Presiding Officer—well, I will never, ever apologise for the UK Labour Government’s commitment to a plan to make work pay and the Employment Rights Bill. It is the single biggest upgrade to workers’ rights in a generation, and the banning of zero-hours contracts is the right thing to do, and I think that all Members should support that.
Diolch yn fawr iawn i Joel James am hynna. O'r holl bethau cadarnhaol yn y datganiad, Llywydd, ni chanolbwyntiodd yr Aelod lawer arnyn nhw, sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'n wael ar y cyfraniad. Ond rwy'n cymryd ei bwyntiau ynghylch y darlun cyffredinol o'r sector celfyddydau a diwylliant. Ac i ddweud, dros yr haf, ym mis Medi, roedd fy rhagflaenydd yn eistedd o fy mlaen, wedi cyhoeddi £5 miliwn arall i'r sector celfyddydau a diwylliant. Derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru £1.5 miliwn o hynny, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar ble y bydd yr arian hwnnw'n mynd i gefnogi rhai o'r celfyddydau a'n sector diwylliant yn uniongyrchol, y cyfeiriodd yr Aelod ato yn ei gyfraniad.
I sôn am rai o'r materion, ar gyllid cyfalaf ar gyfer Theatr Clwyd, Llywydd, yn ardal sir y Fflint, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dros £23.5 miliwn o gyllid cyfalaf dros nifer o flynyddoedd bellach—llwyddiant arall, stori arall lle mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector hwn. A phan ddaw i fater y lleoliadau cerddoriaeth, unwaith eto, Llywydd, cefais gyfarfod gwych, pan ddechreuais i yn y swydd gyntaf, gyda UK Music am rai o'r problemau y maent yn eu hwynebu. Ond y bore yma, Llywydd, cwrddais â'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth i drafod rhai o'r problemau pwysig sy'n eu hwynebu, fel yr ardoll wirfoddol a fydd yn mynd i gefnogi lleoliadau llai. Rwy'n gwybod bod gan Mike Hedges ddiddordeb yn y mater hwn, ac mae'n ddiddordeb y mae gen i broblem go iawn—. Rwy'n gefnogol iawn i'r cynllun ardoll gwirfoddol hwnnw. Mae'r Aelod yn siarad am yr anawsterau sy'n ymwneud â lleoliadau. Wel, trwy Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a'r datblygiadau cadarnhaol—. Fe brynon nhw'r Byncws yn Abertawe drwy'r cynllun Own Our venues, ac rwy'n siŵr bod mwy o gyhoeddiadau i ddod ganddyn nhw. Felly, rydym yn mynd ymlaen i gefnogi'r diwydiant.
Ond fel y dywedais i, Llywydd, roedd y datganiad hwn yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol. Ymwelais â Bad Wolf ychydig wythnosau yn ôl gyda chynghorwyr lleol—y Cynghorydd Thomas a'r Cynghorydd Stubbs—ac roedd yn amlwg bod y cyfleoedd a grëwyd yn y sector yn mynd ymhell y tu hwnt i rolau creadigol yn unig, gan dynnu sylw at gwestiynau'r Aelod. Yno, cwrddais â phobl ifanc o gymunedau dosbarth gweithiol, a oedd yn ennill profiad mewn cyfrifon, rheoli prosiectau a hyd yn oed llywodraethiant, gan gynnwys rhai o'r diwydiannau eraill a grybwyllodd yr Aelod. Rwy'n credu bod hynny'n tynnu sylw at lwyddiant gwirioneddol ymrwymiad Llywodraeth Cymru, ac roeddwn yn ddiolchgar o weld gwaith Hijinx adeg ymweliad diweddar hefyd.
Er mwyn tynnu sylw i orffen at gyfraniad yr Aelod ynghylch contractau dim oriau, Llywydd—wel, ni fyddaf byth, byth yn ymddiheuro am ymrwymiad Llywodraeth Lafur y DU i gynllun i wneud i waith dalu a'r Bil Hawliau Cyflogaeth. Dyma'r uwchraddiad unigol mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, a gwahardd contractau dim oriau yw'r peth iawn i'w wneud, a chredaf y dylai pob Aelod gefnogi hynny.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a diolch iddo fe am amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae'r sector yn ei wneud? Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau dwfn iawn y maen nhw wedi'u profi fel sector, yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Cyn credu'r hype, efallai fod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf yr amgylchiadau, nid oherwydd y sefyllfa y maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddi.
Yn wir, fel rhywun a oedd yn aelod o'r pwyllgor diwylliant, a dwi'n dal fel aelod nawr yn derbyn gohebiaeth yn wythnosol, bron iawn, gan fusnesau yn y sector, gan gyrff a mudiadau sydd yn esbonio sut maen nhw ar eu gliniau yn trio cyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni, ond yn ffeindio hynny'n gynyddol anoddach.
May I thank the Minister for his statement, and thank him for outlining the significant contribution made by this sector? But I do feel that we have to remind ourselves that they deliver this despite the very deep cuts that they have experienced as a sector, in terms of the support that they receive. Before believing the hype, perhaps we need to remind ourselves that they deliver this despite the circumstances, and not because of the situation that they find themselves in.
Indeed, as someone who was a member of the culture committee, and I still as a member now receive weekly correspondence, almost, from businesses in the sector, from organisations, explaining how they are on their knees trying to deliver what they wish to deliver, but finding that increasingly difficult.
So, your statement describes very well, I think, the contribution that the sector makes, but, of course, your statement says nothing about what you're going to do in future. We have 15 paragraphs of explaining and describing the sector, then you say, rightly so, that you won't be complacent, but you don't tell us in your statement what 'not complacent' looks like. And then you say you're committed to supporting it, as we all are, of course, but what does that look like, Minister? Does it mean an end to this feeling that arts and culture very often are the first to face budget cuts when things are tight? Does it mean that the sector will see an increase in its budget for next year, or at least no further cuts? Because you rightly point to the £1.5 billion turnover from the sector, and how that's increased recently—well, how are we going to build on that, then? What's the plan to double and treble that over the coming years?
We've seen in Ireland, of course, the arts council there going from an eighty million pounds a year budget to a 140 million pound—euros, sorry, I should say, not pounds. Now, of course, replicating that isn't easy, it may well be unachievable for us here in Wales, but there’s a clear statement of intent there from the Irish Government, isn’t there, in the way that it sees arts and culture, not just for its own sake, but in terms of the wider well-being of its population, in terms of its importance for national identity—and heaven knows, that’s as true for Wales as it is in Ireland—but also, of course, in terms of its direct economic impact.
We’ve seen as a consequence of the UK Government budget the national insurance contributions again coming back to haunt another sector here in Wales. If you’re a microbusiness in the creative industry sector employing five people on the minimum wage, then the budget means an extra £3,850 per year in overheads for you, which is roughly 4 per cent of the average annual turnover of Welsh microbusinesses. So, what discussions are you having to try and mitigate that? Are you looking at restoring the business rates relief, for example, to try and maybe help some of the businesses in the creative sector to get through this situation?
My colleague Heledd Fychan—you may well have heard her raise earlier today the difficulties for the publishing industry in Wales, who tell us that they’re facing a financial cliff edge after more than a decade of standstill funding, and that being outpaced then, of course, by inflation and increasing costs. Does that change on 10 December when we see the draft budget?
And finally, Creative Wales, of course, has a big, big part to play, but Creative Wales has seen an 11 per cent cut to its budget over the last two years. So, does that change, as far as you’re concerned? Is that what you see as supporting the sector and making sure that it’s fit to deliver? Because surely, as you’ve listed in your statement, we shouldn’t be settling for what the sector is achieving, we should always be aspiring for more.
Felly, mae eich datganiad yn disgrifio'n dda iawn, rwy'n credu, y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud, ond, wrth gwrs, nid yw eich datganiad yn dweud dim am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. Mae gennym 15 paragraff yn egluro ac yn disgrifio'r sector, yna rydych chi'n dweud, yn briodol felly, na fyddwch chi'n hunanfodlon, ond dydych chi ddim yn dweud wrthym yn eich datganiad sut beth yw 'peidio â bod yn hunanfodlon'. Ac yna rydych chi'n dweud eich bod chi wedi ymrwymo i'w gefnogi, fel rydyn ni i gyd, wrth gwrs, ond sut mae hynny'n edrych, Gweinidog? A yw'n golygu diwedd ar y teimlad hwn mai'r celfyddydau a diwylliant yn aml iawn yw'r rhai cyntaf i wynebu toriadau yn y gyllideb pan fo pethau'n dynn? A yw'n golygu y bydd y sector yn gweld cynnydd yn ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu o leiaf dim toriadau pellach? Oherwydd yr ydych chi'n iawn yn cyfeirio at y trosiant o £1.5 biliwn gan y sector, a sut mae hynny wedi cynyddu yn ddiweddar—wel, sut ydyn ni'n mynd i adeiladu ar hynny, felly? Beth yw'r cynllun i ddyblu a threblu hynny dros y blynyddoedd nesaf?
Rydyn ni wedi gweld yn Iwerddon, wrth gwrs, y cyngor celfyddydau yno yn mynd o gyllideb wyth deg miliwn o bunnau y flwyddyn i £140 miliwn—ewro, sori, dylwn ddweud, nid punnau. Nawr, wrth gwrs, nid yw copïo hynny'n hawdd, mae'n ddigon posibl na fydd modd ei gyflawni i ni yma yng Nghymru, ond mae datganiad clir o fwriad yno gan Lywodraeth Iwerddon, onid oes, yn y ffordd y mae'n gweld y celfyddydau a diwylliant, nid yn unig er ei fwyn ei hun, ond o ran llesiant ehangach ei phoblogaeth, o ran eu pwysigrwydd ar gyfer hunaniaeth genedlaethol—nefoedd fawr, mae hynny yr un mor wir i Gymru ag y mae i Iwerddon—ond hefyd, wrth gwrs, o ran ei effaith economaidd uniongyrchol.
Rydym wedi gweld o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU y cyfraniadau yswiriant gwladol unwaith eto yn dod yn ôl i aflonyddu sector arall yma yng Nghymru. Os ydych chi'n ficrofusnes yn sector y diwydiant creadigol sy'n cyflogi pump o bobl ar yr isafswm cyflog, yna mae'r gyllideb yn golygu £3,850 ychwanegol y flwyddyn mewn gorbenion i chi, sef tua 4 y cant o drosiant blynyddol cyfartalog microfusnesau Cymru. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael i geisio lliniaru hynny? Ydych chi'n ystyried adfer y rhyddhad ardrethi busnes, er enghraifft, i geisio helpu rhai o fusnesau yn y sector creadigol i oroesi'r sefyllfa hon?
Fy nghyd-Aelod Heledd Fychan—mae'n ddigon posib eich bod wedi ei chlywed yn sôn yn gynharach heddiw am yr anawsterau i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, sy'n dweud wrthym eu bod yn wynebu dibyn ariannol ar ôl mwy na degawd o gyllid segur, a chwyddiant a chostau cynyddol wedyn yn ennill y blaen wrth gwrs. A yw hynny'n newid ar 10 Rhagfyr pan welwn ni'r gyllideb ddrafft?
Ac yn olaf, wrth gwrs, mae gan Cymru Greadigol ran fawr, fawr i'w chwarae, ond mae Cymru Greadigol wedi gweld toriad o 11 y cant i'w chyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, a yw hynny'n newid, o'ch ochr chi? Ai dyna'r hyn yr ydych yn ei weld yn cefnogi'r sector ac yn sicrhau ei fod yn addas i gyflawni? Oherwydd yn sicr, fel yr ydych wedi'i restru yn eich datganiad, ni ddylem fod yn fodlon ar yr hyn y mae'r sector yn ei gyflawni yn unig, dylem bob amser fod yn dyheu am fwy.
Diolch yn fawr, Llyr. You’re right, aren’t you, to point to the difficult circumstances the creative industries have found themselves in, and the arts and culture sector, and what they have found themselves—the challenges. But despite those challenges, they have still achieved all of the positive things that you recognise, and I think that is important—the importance of today’s statement, particularly for the creative industries. The focus of this statement is very much Wales on a global stage, sending the best of Wales internationally, and I think all of the work that they do is fantastic.
I’m afraid, Presiding Officer, the Member may be disappointed in my response, but with the Cabinet Secretary for finance sat in front of me, if I was prepared to make budget announcements on the floor of the Chamber before those discussions have finalised, and before the Cabinet Secretary has the opportunity to lay the draft budget to the Senedd, I think I’d find myself in all sorts of trouble, no doubt. But what you do have from me, and what you do have from the First Minister, is a First Minister who is committed to the industry, who understands the industry, as I do, in terms of the economic impact. So, when you talk about the arts sector, you’ll see the Arts Council of Wales report that of every £1 we spend, there's £2.51 back in the economy. And when we talk about the creative industries sector, as I've said around the production funding alone, £26.5 million spent, over £313 million expected spend back in the economy. We're very much aware of the impact it has, but, more broadly, on the well-being agenda and the impact it has on our nation's well-being, well, I think the First Minister and I very much recognise the importance of the sector and what it can bring to our well-being as a nation, but I'll refrain from going into budget discussions just with the Cabinet Secretary sat in front of me.
What does it look like? Well, we'll go on, won't we, to supporting. The latest round of creative skills fund support—17 new projects to help with skills within the creative industry. We'll go on supporting the industry, and, as I've said, Esports Wales. We're looking to work with more broadly with Esports Wales to help growth there.
You spoke about the Books Council of Wales. Well, it is worth reflecting again that £150,000, Presiding Officer, was sent to the books council so Welsh publishers could be at the London and Frankfurt book fairs, and the feedback from that has been very, very positive from the 18 publishers exhibiting. So, I think, while I'm reflecting, Presiding Officer, on all the good things—and there are some fantastic things that I've listed today—of course there are challenges. We'll have to wait to see what the budget round brings, but I'm committed to this industry. I'm very ambitious about what this can bring, and, through the support of Creative Wales in particular, we have some real successes here that we all should be proud of and we can all support.
Diolch yn fawr, Llyr. Rydych chi'n iawn, onid ydych chi, i dynnu sylw at yr amgylchiadau anodd mae'r diwydiannau creadigol wedi cael eu hunain ynddynt, a'r sector celfyddydau a diwylliant, a'r hyn maen nhw wedi canfod eu hunain—yr heriau. Ond er gwaethaf yr heriau hynny, maen nhw yn dal wedi cyflawni'r holl bethau cadarnhaol rydych chi'n eu cydnabod, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig—pwysigrwydd datganiad heddiw, yn enwedig i'r diwydiannau creadigol. Canolbwynt y datganiad hwn yw Cymru ar lwyfan byd-eang, gan anfon y gorau o Gymru yn rhyngwladol, ac rwy'n credu bod yr holl waith y maen nhw'n ei wneud yn wych.
Mae arnaf ofn, Llywydd, efallai y bydd yr Aelod yn siomedig yn fy ymateb, ond gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eistedd o fy mlaen, pe bawn i'n barod i wneud cyhoeddiadau cyllideb ar lawr y Siambr cyn i'r trafodaethau hynny ddod i ben, a chyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gael y cyfle i osod y gyllideb ddrafft ger bron y Senedd, rwy'n credu y byddwn i'n cael fy hun mewn pob math o drafferth, heb os. Ond yr hyn a gewch gennyf i, a'r hyn a gewch gan y Prif Weinidog, yw Prif Weinidog sydd wedi ymrwymo i'r diwydiant, sy'n deall y diwydiant, fel yr wyf i, o ran yr effaith economaidd. Felly, pan fyddwch chi'n siarad am sector y celfyddydau, fe welwch Gyngor Celfyddydau Cymru yn adrodd bod £2.51 yn ôl yn yr economi o bob £1 rydyn ni'n ei wario. A phan fyddwn yn siarad am y sector diwydiannau creadigol, fel yr wyf wedi'i ddweud ynghylch y cyllid cynhyrchu yn unig, gwariwyd £26.5 miliwn, a dros £313 miliwn o wariant disgwyliedig yn ôl yn yr economi. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'n ei chael, ond, yn ehangach, ar yr agenda llesiant a'r effaith y mae'n ei chael ar lesiant ein cenedl, wel, rwy'n credu bod y Prif Weinidog a minnau yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd y sector a'r hyn y gall ei gynnig i'n llesiant fel cenedl, ond byddaf yn ymatal rhag mynd i drafodaethau cyllidebol a'r Ysgrifennydd Cabinet yn eistedd o fy mlaen.
Sut mae'n edrych? Wel, byddwn yn mynd ymlaen, oni fyddwn, i gefnogi. Mae'r rownd ddiweddaraf o gymorth y gronfa sgiliau creadigol yn cefnogi—17 o brosiectau newydd i helpu gyda sgiliau o fewn y diwydiant creadigol. Byddwn yn parhau i gefnogi'r diwydiant, ac, fel y dywedais, Esports Wales. Rydym yn bwriadu gweithio gydag Esports Cymru yn ehangach i helpu twf yno.
Roeddech chi'n siarad am Gyngor Llyfrau Cymru. Wel, mae'n werth myfyrio eto bod £150,000, Llywydd, wedi cael ei anfon at y cyngor llyfrau fel y gallai cyhoeddwyr Cymru fod yn bresennol yn ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt, ac mae'r adborth o hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, iawn gan y 18 cyhoeddwr sy'n arddangos. Felly, rwy'n credu, er fy mod i'n myfyrio, Llywydd, ar yr holl bethau da—ac mae rhai pethau gwych rydw i wedi'u rhestru heddiw—wrth gwrs mae yna heriau. Bydd yn rhaid i ni aros i weld beth fydd rownd y gyllideb yn ei gynnig, ond rwyf wedi ymrwymo i'r diwydiant hwn. Rwy'n uchelgeisiol iawn ynglŷn â'r hyn y gall hyn ei gynnig, a thrwy gefnogaeth Cymru Greadigol yn benodol, mae gennym rai llwyddiannau gwirioneddol yma y dylem i gyd fod yn falch ohonynt a gallwn ni i gyd eu cefnogi.
I very much welcome the Minister's statement. The creative industries have a high median income for those working in it. This is an area where Wales has underperformed compared to the UK, and especially London and the south-east, in terms of employment. I welcome the latest statistics from 2023 on sectors supported by Creative Wales, showing an annual turnover of £1.5 billion has been generated, an increase of over 10 per cent on the previous year.
But I want to raise two sub-sectors. Computer games generate more employment and revenue than any other part of the creative industries. Dundee has created Grand Theft Auto. What is the Welsh equivalent? What progress is being made on esports? I know the Minister's got a personal interest in that.
The other sub-sector is animation. S4C at one time showed large numbers of Welsh animations. In the early 1990s, Wales experienced a golden age of animation production. S4C was integral in helping produce a number of popular animated shows: SuperTed, The Shoe People, Sam Tân and Gogs. If you watch Cyw today, you will see programs such as Peppa Pig dubbed into Welsh.
Those are two very important sub-sectors. Can the Minister outline how the Welsh and UK Governments are working together to develop the creative industries sector, especially gaming and animation?
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Mae gan y diwydiannau creadigol incwm canolrif uchel i'r rhai sy'n gweithio ynddo. Mae hwn yn faes lle mae Cymru wedi tanberfformio o'i gymharu â'r DU, ac yn enwedig Llundain a'r de-ddwyrain, o ran cyflogaeth. Rwy'n croesawu'r ystadegau diweddaraf o 2023 ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol, sy'n dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi'i gynhyrchu, cynnydd o dros 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ond rwyf eisiau codi dau is-sector. Mae gemau cyfrifiadurol yn cynhyrchu mwy o gyflogaeth a refeniw nag unrhyw ran arall o'r diwydiannau creadigol. Mae Dundee wedi creu Grand Theft Auto. Beth sy'n cyfateb iddo yng Nghymru? Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ym maes e-chwaraeon? Rwy'n gwybod bod gan y Gweinidog ddiddordeb personol yn hynny.
Yr is-sector arall yw animeiddio. Roedd S4C ar un adeg yn dangos niferoedd mawr o animeiddiadau Cymraeg. Ar ddechrau'r 1990au, profodd Cymru oes aur cynhyrchu animeiddiadau. Roedd S4C yn rhan annatod o'r gefnogaeth i gynhyrchu nifer o sioeau animeiddiedig poblogaidd: SuperTed, The Shoe People, Sam Tân a Gogs. Os ydych chi'n gwylio Cyw heddiw, fe welwch chi raglenni fel Peppa Pig yn cael eu trosleisio i'r Gymraeg.
Mae'r rhain yn ddau is-sector pwysig iawn. A all y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru a'r DU yn cydweithio i ddatblygu'r sector diwydiannau creadigol, yn enwedig gemau ac animeiddio?
Thank you, Mike Hedges, for that. You're right to point to the games industry, I think, Mike, as an area of real growth. The games industry in the UK was worth £7.6 billion in 2023 and that's why we see it as a key area for the future. The Member asked, I think, about the GTA equivalent, made in Dundee. Well, I think I pointed in my statement to Sker Ritual. That would very much be recognised as our equivalent, one of the leading games, one of the best-selling games, in the world, and I think it's a fantastic success that came from the Penarth-based games company Wales Interactive. On esports, Presiding Officer, I think the personal interest the Member refers to is me as player of, perhaps a keen player, of FIFA, rather than a financial interest in the matter, but nonetheless I definitely enjoy that, and I know at one point me and Darren Millar were due to have a FIFA tournament here in the Senedd. That never took off, so maybe that's something to look at. But it was good to be with Esports Wales a few weeks ago here, and working on where we can support further, and, as I've said, we will be supporting them through the creative skills fund and expanding the Esports Wales Academy across Wales.
I thank Mike Hedges for bringing up animation, Sam Tân in particular, because we are proud, aren't we, of our animation industry, including those global successes of the past? We're also proud, equally, of the creators of today, and I'm proud that we have supported the development of a new series, Mini Buds, which is being created in Cardiff by the local company Bumpybox, and this series will be available in Cymraeg on S4C, and, indeed, in English on ITV.
The Member pointed to how I'm working with the UK Government. Well, I'm pleased to see that the UK Government sees the creative industries as a priority sector in the industrial strategy. I was delighted to be with the Secretary of State from the Department for Culture, Media and Sport, Lisa Nandy, at Buckingham Palace just last week, and I'd be very keen to discuss this further with Lisa Nandy, perhaps on a visit to see the TARDIS. I know she was very keen to see Doctor Who's TARDIS, Presiding Officer. I'm looking forward to carrying on the conversation with the Secretary of State and the UK Government as well.
Diolch yn fawr, Mike Hedges, am hynna. Rydych chi'n iawn i gyfeirio at y diwydiant gemau, rwy'n credu, Mike, fel maes o dwf go iawn. Roedd y diwydiant gemau yn y DU werth £7.6 biliwn yn 2023 a dyna pam rydym yn ei ystyried yn faes allweddol ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd yr Aelod, rwy'n credu, am yr hyn oedd yn cyfateb i Grand Theft Auto, a wnaed yn Dundee. Wel, rwy'n credu imi gyfeirio yn fy natganiad at Sker Ritual. Byddai hwnnw'n cael ei gydnabod yn llwyr fel ein gêm gyfatebol, un o'r gemau mwyaf blaenllaw, un o'r gemau a werthodd orau, yn y byd, ac rwy'n credu ei bod yn llwyddiant gwych gan y cwmni gemau o Benarth, Wales Interactive. O ran e-chwaraeon, Llywydd, credaf mai'r diddordeb personol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yw fy mod yn chwaraewr FIFA, efallai yn chwaraewr brwd, yn hytrach na diddordeb ariannol yn y mater, ond serch hynny rwy'n bendant yn mwynhau hynny, ac rwy'n gwybod ar un adeg fy mod i a Darren Millar i fod i gael twrnamaint FIFA yma yn y Senedd. Ni ddigwyddodd hynny, felly efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried. Ond roedd yn dda bod gydag Esports Wales ychydig wythnosau yn ôl yma, a gweithio ar sut y gallwn gefnogi ymhellach, ac, fel y dywedais i, byddwn yn eu cefnogi drwy'r gronfa sgiliau creadigol ac ehangu Academi Esports Cymru ledled Cymru.
Diolch i Mike Hedges am grybwyll animeiddio, Sam Tân yn arbennig, oherwydd ein bod yn falch, onid ydym, o'n diwydiant animeiddio, gan gynnwys llwyddiannau byd-eang y gorffennol? Rydym hefyd yn falch, yn yr un modd, o grewyr heddiw, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi datblygiad cyfres newydd, Mini Buds, sy'n cael ei chreu yng Nghaerdydd gan y cwmni lleol Bumpybox, a bydd y gyfres hon ar gael yn Gymraeg ar S4C, ac, yn wir, yn Saesneg ar ITV.
Cyfeiriodd yr Aelod at y ffaith fy mod i'n gweithio gyda Llywodraeth y DU. Wel, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU yn gweld y diwydiannau creadigol fel sector â blaenoriaeth yn y strategaeth ddiwydiannol. Roeddwn wrth fy modd yn cael bod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol o'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy, ym Mhalas Buckingham yr wythnos diwethaf, a byddwn yn awyddus iawn i drafod hyn ymhellach gyda Lisa Nandy, efallai ar ymweliad i weld y TARDIS. Rwy'n gwybod ei bod yn awyddus iawn i weld TARDIS, Doctor Who. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y DU hefyd.
Mike Hedges is correct in saying the transformational role the creative industries have played in Wales. I'm thinking of Cardiff in particular, where 11 per cent of Cardiff's GDP comes from the creative industries that transformed Cardiff, after the decline in heavy industries in the docks, into the bustling capital city it is now. And this has been the case in Wales across the centuries. In the eleventh century, Gerallt Gymro mentioned the unique harmony singing of the Welsh, and I'm sure, Minister, you'll be singing later on, with many others of us, in the Cardiff City Stadium, 'gwlad beirdd a chantorion', Evan James's words.
But, despite your positive—and it was a very positive—statement, and there is much to celebrate, if you speak to people in the industry, they are feeling depressed, they are feeling let down. In fact, 71 per cent of freelancers in the creative industries feel largely unsupported, in a survey last year. Now, I don't want you to risk the wrath of the Cabinet Secretary for finance, but what are you going to do to change this and to support the 71 per cent who feel largely unsupported at the moment? Diolch yn fawr.
Mae Mike Hedges yn gywir wrth ddweud bod y diwydiannau creadigol wedi chwarae rôl drawsnewidiol yng Nghymru. Rwy'n meddwl am Gaerdydd yn benodol, lle mae 11 y cant o gynnyrch domestig gros Caerdydd yn dod o'r diwydiannau creadigol a drawsnewidiodd Caerdydd, ar ôl y dirywiad mewn diwydiannau trwm yn y dociau, i'r brifddinas brysur yw hi nawr. Ac mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Yn yr unfed ganrif ar ddeg, soniodd Gerallt Gymro am ganu harmoni unigryw y Cymry, ac rwy'n siŵr, Gweinidog, y byddwch yn canu yn nes ymlaen, gyda llawer o rai eraill, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, 'gwlad beirdd a chantorion', geiriau Evan James.
Ond, er gwaethaf eich datganiad cadarnhaol—ac roedd yn ddatganiad cadarnhaol iawn—, ac mae llawer i'w ddathlu, os siaradwch â phobl yn y diwydiant, maen nhw'n teimlo'n isel eu hysbryd, maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u siomi. Mewn gwirionedd, mae 71 y cant o weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol yn teimlo nad oes ganddynt gefnogaeth i raddau helaeth, yn ôl arolwg y llynedd. Nawr, nid wyf eisiau i chi risgio profi dicter Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond beth ydych chi'n mynd i'w wneud i newid hyn a chefnogi'r 71 y cant sy'n teimlo'n ddigefnogaeth i raddau helaeth ar hyn o bryd? Diolch yn fawr.
Well, diolch. Thanks to Rhys ab Owen for his comments and contributions. The Member will be very pleased that the Red Wall, I'm sure, will drown out my singing tonight, but no doubt I'll be joining in with him. I think it's important, isn't it, to the workforce, to make sure you have a Government committed to ambition for the industry. I've been delighted to visit a number of stakeholders across the arts and culture sector, and the creative industries sector, speaking directly to the workforce, to make sure that they know this Welsh Government is committed to seeing the industry grow, but also letting that creative talent have impacts in other ways, such as the well-being of our nation. So, I'm not going to go into those discussions with the Cabinet Secretary in front of me, but I am hopeful for the future of this industry. It's an industry I want to work in that collaborative way for.
You pointed to the history of Cardiff, Rhys, and I'm sure you'll be delighted to know about Rocket Science in the centre of Cardiff, on St Mary's Street, a business that is doing some amazing things—the gold standard of the gaming industry—at the heart of the Welsh capital. Why shouldn't the ambition be to have more of that? We certainly want more of that. I look forward to working with the industry to make that happen.
Wel, diolch. Diolch i Rhys ab Owen am ei sylwadau a'i gyfraniadau. Bydd yr Aelod yn falch iawn y bydd y Wal Goch, rwy'n siŵr, yn boddi fy nghanu i heno, ond mae'n siŵr y byddaf yn ymuno ag ef. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, onid yw, i'r gweithlu, i sicrhau bod gennych Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i uchelgais ar gyfer y diwydiant. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ymweld â nifer o randdeiliaid ar draws sector y celfyddydau a diwylliant, a'r sector diwydiannau creadigol, gan siarad yn uniongyrchol â'r gweithlu, i sicrhau eu bod yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y diwydiant yn tyfu, ond hefyd yn gadael i'r doniau creadigol hynny gael effaith mewn ffyrdd eraill, megis llesiant ein cenedl. Felly, nid wyf am fynd i mewn i'r trafodaethau hynny gyda'r Ysgrifennydd Cabinet o fy mlaen, ond rwy'n obeithiol am ddyfodol y diwydiant hwn. Mae'n ddiwydiant yr ydw i eisiau gweithio drosto yn y ffordd gydweithredol honno.
Fe wnaethoch chi dynnu sylw at hanes Caerdydd, Rhys, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wrth eich bodd yn clywed am Rocket Science yng nghanol Caerdydd, ar Heol y Santes Fair, busnes sy'n gwneud rhai pethau anhygoel—safon aur y diwydiant gemau cyfrifiadurol—wrth galon prifddinas Cymru. Pam na ddylai'r uchelgais fod i gael mwy o hynny? Rydym yn sicr eisiau mwy o hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Ac yn olaf, John Griffiths.
And finally, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Minister, in Newport, in fact, in our colleague Jayne Bryant's constituency of Newport West, we have the base for Ballet Cymru, who have gone from strength to strength in recent years, with the support of the Arts Council of Wales, recognising the company's potential and growth. As well as the great performances they put on in collaboration with other dance and arts companies, they have a schools programme that has been a big success in targeting and helping young people in deprived areas to develop, find purpose and flourish, with free annual tuition and support, working with other community arts organisations, schools and theatres. All of this is supported by two state-of-the-art studios in their Rogerstone base, Minister, which are used every day and every evening by over 1,000 people. They are ambitious to develop this further and make this a real destination in Newport by developing a new 50-seater arts studio and turning foyer space into a cafe bar and developing the outdoor area. I'd be grateful if you could consider how these plans might be supported, perhaps working with colleagues, Minister, and whether you might recognise their success and contribution at Ballet Cymru by making them a national company.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd, yn etholaeth ein cyd-Aelod Jayne Bryant yng Ngorllewin Casnewydd, mae gennym gartref Ballet Cymru, sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cydnabod potensial a thwf y cwmni. Yn ogystal â'r perfformiadau gwych y maen nhw'n eu cynnal mewn cydweithrediad â chwmnïau dawns a chelfyddydau eraill, mae ganddyn nhw raglen ysgolion sydd wedi bod yn llwyddiant mawr wrth dargedu a helpu pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig i ddatblygu, dod o hyd i bwrpas a ffynnu, gyda hyfforddiant a chymorth blynyddol am ddim, gan weithio gyda sefydliadau celfyddydau cymunedol eraill, ysgolion a theatrau. Cefnogir hyn i gyd gan ddwy stiwdio o'r radd flaenaf yn eu cartref yn Nhŷ-du, Gweinidog, a ddefnyddir bob dydd a phob nos gan dros 1,000 o bobl. Mae uchelgais ganddynt i ddatblygu hyn ymhellach a gwneud hon yn gyrchfan go iawn yng Nghasnewydd trwy ddatblygu stiwdio gelfyddydol 50 sedd newydd a throi ardal y cyntedd yn far caffi a datblygu'r ardal awyr agored. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried sut y gellid cefnogi'r cynlluniau hyn, gan weithio gyda chyd-Aelodau efallai, Gweinidog, a tybed a fyddech chi efallai yn cydnabod eu llwyddiant a'u cyfraniad yn Ballet Cymru drwy eu gwneud yn gwmni cenedlaethol.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
I'd like to thank John Griffiths for raising the work of Ballet Cymru, and I think I spoke at some point over the weekend, Presiding Officer, to say the ambition of the sector for the culture industry is very much that of bread and roses. And what does that mean in reality? Well, I think it means, if little Jack in Connah's Quay wants to join the ballet, then little Jack should be able to have that opportunity to join the ballet. I was delighted, John, to learn of the work of Ballet Cymru's school project, which does help hundreds of people, young people, nationally, with free annual tuition across a number of community arts organisations. I think that is very much bread and roses in action.
The Member's point around national status, as a national company—well, I'm aware the Arts Council of Wales will be discussing and revisiting the concept of national arts companies in the new financial year, so I think it would be not appropriate, given the arm's-length principle placed on the Arts Council of Wales, for me to pre-empt that discussion, but what I will say to the Member is I very much recognise the role Ballet Cymru play nationally, and also I can understand very much why John Griffiths is so proud to have them based in his Newport constituency.
In closing, Presiding Officer, I think I'd like to again reflect and go back to where I finished in my opening remarks: to those who are in the creative industries, and, to my team of officials within Creative Wales, diolch o galon.
Hoffwn i ddiolch i John Griffiths am sôn am waith Ballet Cymru, ac rwy'n credu fy mod wedi siarad rhywbryd dros y penwythnos, Llywydd, i ddweud mai uchelgais y sector ar gyfer y diwydiant diwylliant yw bara a rhosod. A beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Wel, rwy'n credu ei fod yn golygu, os yw Jack bach yng Nghei Connah eisiau ymuno â'r bale, yna dylai Jack bach gael y cyfle hwnnw i ymuno â'r bale. Roeddwn i wrth fy modd, John, i ddysgu am waith prosiect ysgol Ballet Cymru, sy'n helpu cannoedd o bobl, pobl ifanc, yn genedlaethol, gyda hyfforddiant blynyddol am ddim ar draws nifer o sefydliadau celfyddydau cymunedol. Rwy'n credu mai bara a rhosod ar waith yw hynny.
O ran pwynt yr Aelod ynghylch statws cenedlaethol, fel cwmni cenedlaethol—wel, rwy'n ymwybodol y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod ac yn ailedrych ar y cysyniad o gwmnïau celfyddydau cenedlaethol yn y flwyddyn ariannol newydd, felly dydw i ddim yn credu y byddai'n briodol, o ystyried yr egwyddor hyd braich sydd wedi'i gosod ar Gyngor Celfyddydau Cymru, i mi achub y blaen ar y drafodaeth honno, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth yr Aelod yw fy mod yn cydnabod yn fawr y rôl y mae Ballet Cymru yn ei chwarae yn genedlaethol, a gallaf ddeall yn iawn hefyd pam mae John Griffiths mor falch eu bod wedi'u lleoli yn ei etholaeth ef yng Nghasnewydd.
I orffen, Llywydd, rwy'n credu yr hoffwn i unwaith eto fyfyrio a mynd yn ôl i'r man lle y gorffennais i yn fy sylwadau agoriadol: i'r rhai sydd yn y diwydiannau creadigol, ac, i fy nhîm o swyddogion yn Cymru Greadigol, diolch o galon.
Diolch am y datganiad yna.
Thank you for that statement.
Eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 6 is next. The Land Transaction Tax (Relief for Special Tax Sites) (Wales) Regulations 2024 are the regulations we're discussing now. I'll call on the Cabinet Secretary for finance to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8727 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.
Motion NDM8727 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Land Transaction Tax (Relief for Special Tax Sites) (Wales) Regulations 2024 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 22 October 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Llywydd, diolch yn fawr. The regulations before the Senedd this afternoon are an integral part of the Welsh free ports programme, designating special tax sites for relief. The regulations before the Senedd are subject to the draft affirmative procedure. They make amendments to the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Act 2017, and the regulations introduce a relief from land transaction tax for qualifying transactions of land within a designated Welsh special tax site for a fixed period. This will include qualifying transactions within a designated free port and in designated investment zones in Wales. Each special tax site must be designated by the UK Government through regulations before the LTT special tax sites relief can become available on qualifying transactions.
The Celtic free port special tax site is the first to be designated in Wales by the UK Government. Progress continues on the Ynys Môn free port. If the Senedd approve the regulations today, this relief will come into force on Tuesday 26 November. This will align with the UK Government's coming into force date of their special tax site designation regulations for the Celtic free port, meaning that all tax incentives are available on the same date.
Public consultation took place on the draft regulations and indicated a strong degree of support for the proposals. I'm grateful, as ever, to the Legislation, Justice and Constitution Committee for their report. The committee raised a merit scrutiny point regarding the Welsh free ports subsidy control scheme. I've subsequently written to the committee and confirmed the Welsh free ports subsidy control scheme has been reported on by the subsidy advice unit of the Competition and Markets Authority. That letter confirms that the CMA did not raise any specific concerns in relation to this relief. Both the Welsh and UK Governments have registered the subsidy control scheme. Subject to the Senedd's approval of the regulations, there will be a number of minor formatting issues that will be corrected prior to the regulations being made. Given the significance of the regulations to the free port programme, I ask Members to approve the regulations this afternoon.
Llywydd, diolch yn fawr. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn rhan annatod o raglen porthladdoedd rhydd Cymru, gan ddynodi safleoedd treth arbennig ar gyfer rhyddhad. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Maen nhw'n gwneud diwygiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ac mae'r rheoliadau'n cyflwyno rhyddhad o'r dreth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir cymwys o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru am gyfnod penodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodiadau cymwys o fewn porthladd rhydd dynodedig ac mewn parthau buddsoddi dynodedig yng Nghymru. Rhaid i bob safle treth arbennig gael ei ddynodi gan Lywodraeth y DU drwy reoliadau cyn y gall rhyddhad safleoedd treth arbennig y Dreth Trafodiadau Tir ddod ar gael ar drafodiadau cymwys.
Safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd yw'r cyntaf i gael ei ddynodi yng Nghymru gan Lywodraeth y DU. Mae'r cynnydd yn parhau ar borthladd rhydd Ynys Môn. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd y rhyddhad hwn yn dod i rym ddydd Mawrth 26 Tachwedd. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad y bydd rheoliadau dynodi safle treth arbennig Llywodraeth y DU ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd yn dod i rym, sy'n golygu bod yr holl gymhellion treth ar gael ar yr un dyddiad.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau drafft a nododd fod llawer o gefnogaeth i'r cynigion. Rwy'n ddiolchgar, fel erioed, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad. Cododd y pwyllgor bwynt craffu teilyngdod ynghylch cynllun rheoli cymhorthdal porthladdoedd rhydd Cymru. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn dilyn hynny ac wedi cadarnhau bod uned cyngor cymhorthdal yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi adrodd ar gynllun rheoli cymhorthdal porthladdoedd rhydd Cymru. Mae'r llythyr hwnnw'n cadarnhau na wnaeth yr Awdurdod godi unrhyw bryderon penodol mewn perthynas â'r rhyddhad hwn. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cofrestru'r cynllun rheoli cymhorthdal. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd i'r rheoliadau, bydd nifer o fân faterion fformatio a fydd yn cael eu cywiro cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud. O ystyried arwyddocâd y rheoliadau i'r rhaglen porthladdoedd rhydd, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations on 4 November. The committee’s report contains three merits reporting points. It was only to the third point that a Government response was requested. I thank the Cabinet Secretary for providing that response in time for our consideration of the draft regulations.
In our third reporting point, we highlighted that the new land transaction tax relief is a subsidy and, as such, a proposed subsidy control scheme for Welsh free ports has been submitted by the Welsh Government to the Competition and Markets Authority. The explanatory memorandum notes that a report from the CMA on the proposed scheme was expected by 1 November. The committee asked the Welsh Government to explain why the draft regulations had been laid prior to the conclusion of the CMA’s consideration. We also asked for confirmation on whether the CMA has raised any concerns in relation to the new LTT relief.
On the first matter, the explanation the committee received from the Welsh Government stated that the Welsh and UK Governments want to align the coming into force of the proposed LTT special tax sites relief with the coming into force of the UK Government’s designation of the Celtic free port special tax site and the availability of the reserved tax incentives. Both the designation and the LTT relief regulations are due to come into force on 26 November 2024, subject to the relevant procedures. To achieve alignment of both these things on the chosen date of 26 November, the Welsh Government told the committee the regulations were required to be laid before the Senedd prior to the conclusion of the CMA’s consideration. The Welsh Government has acknowledged a potential to create a risk of claims of pre-emption. However, as it will not be possible to provide any LTT relief to the Celtic free port special tax site prior to 26 November 2024, the Government said this mitigates any risk.
On the second matter, the initial Welsh Government response to the committee's report noted that the CMA’s report on the scheme was published on 1 November, and the Welsh and UK Governments had five days to pay due regard to its content. The Welsh Government committed to write to us to advise whether the CMA has raised any concerns in relation to the LTT relief and, if so, to provide the Government’s response. The committee received a letter from the Cabinet Secretary on Friday, which we considered yesterday afternoon. While the committee notes the CMA made a number of observations in relation to the assessment of the wider free port scheme, we acknowledge the Government’s confirmation that the CMA has not raised any specific concerns in relation to the new LTT relief.
Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 4 Tachwedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys tri phwynt adrodd teilyngdod. Dim ond i'r trydydd pwynt y gofynnwyd am ymateb gan y Llywodraeth. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu'r ymateb hwnnw mewn pryd i ni ystyried y rheoliadau drafft.
Yn ein trydydd pwynt adrodd, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y rhyddhad treth trafodiadau tir newydd yn gymhorthdal ac, o'r herwydd, mae cynllun rheoli cymhorthdal arfaethedig ar gyfer porthladdoedd rhydd Cymru wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod disgwyl adroddiad gan yr Awdurdod ar y cynllun arfaethedig erbyn 1 Tachwedd. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio pam bod y rheoliadau drafft wedi'u gosod cyn i'r Awdurdod orffen ei ystyriaethau. Gwnaethom hefyd ofyn am gadarnhad ynghylch a yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â'r rhyddhad TTT newydd.
Ar y mater cyntaf, dywedodd yr esboniad a gafodd y pwyllgor gan Lywodraeth Cymru fod Llywodraethau Cymru a'r DU yn awyddus i sicrhau bod y rhyddhad TTT arfaethedig ar gyfer safleoedd treth arbennig a dynodiad Llywodraeth y DU o safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd ac argaeledd y cymhellion treth a gadwyd yn ôl yn dod i rym ar yr un pryd. Disgwylir i'r dynodiad a'r rheoliadau rhyddhad TTT ddod i rym ar 26 Tachwedd 2024, yn amodol ar y gweithdrefnau perthnasol. Er mwyn i'r ddau beth hyn ddigwydd ar y dyddiad a ddewiswyd sef 26 Tachwedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor bod angen i'r rheoliadau gael eu gosod gerbron y Senedd cyn i'r Awdurdod orffen eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod potensial i greu risg o honiadau o ragdybiaeth. Fodd bynnag, gan na fydd yn bosibl darparu unrhyw ryddhad TTT i safle treth arbennig y porthladd rhydd Celtaidd cyn 26 Tachwedd 2024, dywedodd y Llywodraeth fod hyn yn lliniaru unrhyw risg.
Ar yr ail fater, nododd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor fod adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar y cynllun wedi'i gyhoeddi ar 1 Tachwedd, a bod gan Lywodraethau Cymru a'r DU bum diwrnod i roi sylw dyledus i'w gynnwys. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ysgrifennu atom i roi gwybod a yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon o ran y rhyddhad TTT ac, os felly, i roi ymateb y Llywodraeth. Derbyniodd y pwyllgor lythyr gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddydd Gwener, a gwnaethom ei ystyried brynhawn ddoe. Er bod y pwyllgor yn nodi bod yr Awdurdod wedi gwneud nifer o sylwadau o ran asesu'r cynllun porthladdoedd rhydd ehangach, rydym yn cydnabod cadarnhad y Llywodraeth nad yw'r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon penodol mewn perthynas â'r rhyddhad TTT newydd.
First of all, can I start by welcoming this legislation and its regulations, particularly the fact that it will have a positive impact on the implementation and effectiveness of free ports? So, our group will be supporting this.
I'm proud of the fact that it was a Conservative Government that began the implementation of free ports here in Wales, and I welcome the fact that the Labour Government are going to pursue a similar policy. Thanks to the work that has been carried on, I understand that the Celtic free port is projected to lever in £8 billion-worth of investment, possibly creating as many as 11,500 high-quality, skilled jobs. And similarly with the free port in Ynys Môn, which could create up to 13,000 jobs and could increase UK gross domestic product by £1 billion by 2030.
What is important now, however, is that both Labour Governments, here in Cardiff Bay and in Westminster, continue to take advantage of the opportunities of free ports and continue to pursue ways in which our economy can make the very best use of them. Thank you.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau trwy groesawu'r ddeddfwriaeth hon a'i rheoliadau, yn enwedig y ffaith y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd y bydd porthladdoedd rhydd yn gweithredu a'u heffeithiolrwydd? Felly, bydd ein grŵp yn cefnogi hyn.
Rwy'n falch o'r ffaith mai Llywodraeth Geidwadol ddechreuodd weithredu porthladdoedd rhydd yma yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn mynd i ddilyn polisi tebyg. Diolch i'r gwaith sydd wedi'i wneud, rwy'n deall y rhagwelir y bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn denu gwerth £8 biliwn o fuddsoddiad, gan greu cymaint â 11,500 o swyddi medrus o ansawdd uchel. Ac, yn yr un modd, y porthladd rhydd yn Ynys Môn, a allai greu hyd at 13,000 o swyddi ac a allai gynyddu cynnyrch domestig gros y DU o £1 biliwn erbyn 2030.
Yr hyn sy'n bwysig nawr, fodd bynnag, yw bod y ddwy Lywodraeth Lafur, yma ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan, yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd rhydd ac yn parhau i fynd ar drywydd ffyrdd y gall ein heconomi wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb, Mark Drakeford.
The Minister to respond, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Mike Hedges a Peter Fox am eu cyfraniadau.
I thank Mike Hedges and Peter Fox for their contributions this afternoon.
Mike Hedges, as Chair of the LJC, Llywydd, rightly pointed out that the issue of timing, so that we could have a co-ordinated approach between the UK and the Welsh Government in tax relief, is what was driving our decision to bring matters ahead of the final Competition and Markets Authority assessment. It was a calculated risk and, I think, the wisdom of doing so was borne out when the CMA did not produce any adverse comments on the proposed regulations.
I thank Peter Fox for indicating the support of his group for these regulations. The free ports programme was a relatively rare example when the UK Government and the Welsh Government were able to agree on a way forward, so that, in Wales, free ports have a different and enhanced level of environmental protection and protection for workers’ rights, compared to free ports in England. That was an agreement between the Welsh Government and the Secretary of State at the time, Michael Gove, responsible for the free ports programme overall.
Once again, simply to reinforce the key point here, Llywydd, that the free port tax incentives, including the LTT relief, have been designed in order to help sites attract private investment and deliver the wider policy objectives of the free ports programme. They're an integral part of the way that we've agreed to go about all of this, and I ask Members to approve the regulations.
Tynnodd Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Llywydd, sylw priodol at y ffaith mai mater amseru, fel y gallem gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â rhyddhad treth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw'r hyn a oedd yn ysgogi ein penderfyniad i ddod â materion cyn asesiad terfynol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Roedd yn fentro gofalus ac rwy'n credu i ddoethineb gwneud hynny gael ei gadarnhau pan na chafwyd unrhyw sylwadau niweidiol gan yr Awdurdod ar y rheoliadau arfaethedig.
Diolch i Peter Fox am nodi bod ei grŵp yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Roedd y rhaglen porthladdoedd rhydd yn enghraifft gymharol brin pan oedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gallu cytuno ar ffordd ymlaen, fel bod gan borthladdoedd rhydd yng Nghymru lefel wahanol a gwell o ddiogelwch amgylcheddol a diogelwch ar gyfer hawliau gweithwyr, o'i gymharu â phorthladdoedd rhydd yn Lloegr. Roedd hwnnw'n gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Michael Gove, oedd yn gyfrifol am y rhaglen porthladdoedd rhydd yn gyffredinol.
Unwaith eto, er mwyn atgyfnerthu'r pwynt allweddol yma, Llywydd, mae'r cymhellion treth porthladdoedd rhydd, gan gynnwys y rhyddhad TTT, wedi'u cynllunio er mwyn helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi ehangach y rhaglen porthladdoedd rhydd. Maen nhw'n rhan annatod o'r ffordd rydyn ni wedi cytuno i fynd ati i wneud hyn i gyd, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 6 wedi ei dderbyn.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion under item 6 is therefore agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 7 sydd nesaf. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yw'r Gorchymyn yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n cyflwyno'r Gorchymyn. Huw Irranca-Davies.
Item 7 is next. This Order is the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) (No. 2) Order 2024. The Cabinet Secretary for climate change will be moving this motion. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8726 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.
Motion NDM8726 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) (No. 2) Order 2024 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 22 October 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. I'm very pleased to move the motion, and I'm pleased to be able to bring forward the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme (Amendment) (No. 2) Order 2024, which makes minor amendments to the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020.
These amendments help update the scope of the UK emissions trading scheme, and strengthen its capabilities to deliver decarbonisation goals in Wales and the UK. So, the Order does several things. It extends changes previously made to the ETS legislation on a GB-only basis, such as the inclusion of flights to Switzerland in the scheme, to the whole of the UK, following the return of the Northern Ireland Assembly. It also incorporates changes made to the UK ETS cap into the 2020 Order, which had been temporarily implemented via the Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Auctioning (Amendment) Regulations 2023, and again to include Northern Ireland. It also expands the scope of the scheme to include carbon dioxide venting from the upstream oil and gas sector. It strengthens and regularises the enforcement of the UK ETS by introducing new civil penalties and an enforcement notice, and it amends existing penalties for better parity across the scheme.
In bringing this forward, we sought advice from our statutory advisers, the Climate Change Committee, on the proposals covered in the Order, and I wish to offer my thanks, as always, to the Legislation, Justice and Constitution Committee for their scrutiny of this Order. Llywydd, subject to parallel agreement by the UK Parliament, the Scottish Parliament and the Northern Ireland Assembly, this Order will come into force in December 2024. I therefore commend the motion to the Chamber.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y cynnig, ac rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024, sy'n gwneud mân ddiwygiadau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020.
Mae'r diwygiadau hyn yn helpu i ddiweddaru cwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU, a chryfhau ei alluoedd i gyflawni nodau datgarboneiddio yng Nghymru a'r DU. Felly, mae'r gorchymyn yn gwneud sawl peth. Mae'n ymestyn newidiadau a wnaed yn flaenorol i ddeddfwriaeth y cynllun masnachu allyriadau ar sail Prydain Fawr yn unig, megis cynnwys hediadau i'r Swistir yn y cynllun, i'r DU gyfan, ar ôl i Gynulliad Gogledd Iwerddon ddychwelyd. Mae hefyd yn cynnwys newidiadau a wnaed i gap cynllun masnachu allyriadau'r DU yng Ngorchymyn 2020, a weithredwyd dros dro drwy Reoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023, ac eto i gynnwys Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn ehangu cwmpas y cynllun i gynnwys carbon deuocsid a ryddheir o weithrediadau archwilio a chynhyrchu'r sector olew a nwy. Mae'n cryfhau ac yn rheoleiddio'r ffordd y caiff Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ei reoleiddio drwy gyflwyno cosbau sifil newydd a hysbysiad gorfodi, ac mae'n diwygio'r cosbau presennol er mwyn sicrhau gwell cydraddoldeb ar draws y cynllun.
Wrth gyflwyno hyn, fe wnaethon ni geisio cyngor gan ein cynghorwyr statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn, a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Gorchymyn hwn. Llywydd, yn amodol ar gytundeb cyfochrog gan Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2024. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered this draft Order in Council on 11 November. The committee report contains just a single technical reporting point in which we note that the draft Order was laid on behalf of His Majesty's Government before each of the four legislatures in the United Kingdom and is therefore in English only. This is permissible. That's not the question. Members of the Senedd may be aware that the LJC committee and its predecessors have for many years made attempts to seek clarity from the Welsh and UK Government and UK Parliament as to why legislation that affects Wales and was laid in this Senedd is being made monolingually in English. Some progress has been made. The relevant committees in the UK Parliament have suggested to us that laying a Welsh language instrument in the UK Parliament should be procedurally possible, and the new Secretary of State for Wales has indicated a willingness to take this issue forward. The committee wished to draw this matter to Members' attention this afternoon to highlight that, hopefully, we will see some positive development in this area.
Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft hwn ar 11 Tachwedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol yn unig lle nodwn fod y Gorchymyn drafft wedi'i osod ar ran Llywodraeth Ei Mawrhydi gerbron pob un o'r pedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig ac felly mae'n uniaith Saesneg. Caniateir hyn. Nid dyna'r cwestiwn. Efallai y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'i ragflaenwyr, ers blynyddoedd lawer, wedi gwneud ymdrechion i geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a Senedd y DU ynghylch pam mae deddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru ac a osodwyd yn y Senedd hon yn cael ei gwneud yn uniaith Saesneg. Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud. Mae'r pwyllgorau perthnasol yn Senedd y DU wedi awgrymu i ni y dylai gosod offeryn Cymraeg yn Senedd y DU fod yn bosibl yn weithdrefnol, ac mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru wedi nodi parodrwydd i fynd â'r mater hwn yn ei flaen. Roedd y pwyllgor yn dymuno tynnu sylw'r Aelodau at y mater hwn y prynhawn yma i amlygu'r ffaith y byddwn, gobeithio, yn gweld rhywfaint o ddatblygiad cadarnhaol yn y maes hwn.
Dyna'r unig gyfraniad sydd gyda fi. Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Ydy.
That's the only contribution that I have. Does the Minister wish to respond? Yes.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. And I note the comments by the Chair of the LJC committee on monolingual legislation, but also his comments on the possibly positive overtures from the Secretary of State for Wales, which is encouraging. I would commend the work of the committee in pursuing that matter.
But can I thank the Chair of LJC for that contribution? This UK emissions trading scheme will continue to be a very important policy for Wales, because it provides a vital investment signal, which incentivises decarbonisation whilst also promoting economic growth, and that's why I commend it to the Siambr today.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac rwy'n nodi sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ddeddfwriaeth uniaith, ond hefyd ei sylwadau ar y sylwadau cadarnhaol posibl gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n galonogol. Byddwn yn canmol gwaith y pwyllgor wrth fynd ar drywydd y mater hwnnw.
Ond a gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y cyfraniad hwnnw? Bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn parhau i fod yn bolisi pwysig iawn i Gymru, oherwydd mae'n darparu arwydd o fuddsoddi hanfodol, sy'n cymell datgarboneiddio ac yn hyrwyddo twf economaidd ar yr un pryd, a dyna pam rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr heddiw.
Diolch am hynny. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
I thank the Minister for that. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. And therefore that motion is also agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Eitem 8 yw’r eitem nesaf. Y ddadl ar yr Holodomor yw hon, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Item 8 is the next item. This is the debate on the Holodomor, and I call on the Cabinet Secretary for Social Justice to move the motion. Jane Hutt.
Cynnig NDM8728 Jane Hutt, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio dioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor a’r cysylltiad hanesyddol â Chymru drwy adroddiadau Gareth Jones.
2. Yn cydnabod cyfraniadau ac ymroddiad y grŵp ‘Senedd dros Wcráin’.
3. Yn ymrwymo i undod parhaus gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin.
Motion NDM8728 Jane Hutt, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Remembers the victims of the Holodomor genocide and the historical connection to Wales through Gareth Jones’s reporting.
2. Recognises the contributions and dedication of the Senedd 4 Ukraine group.
3. Commits to ongoing solidarity with Ukrainians in Wales and with Ukraine.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Diolch yn fawr, Llywydd. It is my privilege to move this debate to commemorate Holodomor, a dark chapter in history that saw millions of innocent Ukrainians’ lives lost to a man-made famine. It is important that we as a Senedd use this platform to raise awareness of the horror of what happened during the Holodomor. Commemorating the victims also shines a light on historical links with Wales and modern-day parallels in the way Ukraine has been oppressed. Wales is now home to over 8,000 Ukrainians, who travelled to seek sanctuary here, and marking this occasion is an important gesture of solidarity between our peoples.
Last year, Alun Davies, Darren Millar and Heledd Fychan brought forward a motion for debate on Holodomor that proposed that the Senedd regards the Holodomor as an act of genocide. The debate that followed highlighted the atrocities and the unimaginable hardship the Ukrainian people faced during this period. The cruel policies of Stalin and the Soviet Government resulted in an unfathomable loss of life that still weighs heavy in the national consciousness.
Although disagreement remains about the extent to which the famine was an intentional act of genocide, Holodomor has been recognised as an act of genocide by this Senedd. The recognition vote was reported appreciatively by several Ukrainian media channels. Holodomor is commemorated each year on the fourth Saturday of November. Since the full-scale invasion of Ukraine in 2022, the Welsh Government and partners have worked to ensure that the commemoration is marked in Wales, an important act for many Ukrainians now living in our communities.
This year’s event is being organised by a collection of Welsh Ukrainian support organisations and Mick Antoniw MS’s office, with the support of the Welsh Government. The commemoration ceremony will take place in the Senedd on 23 November, featuring Ukrainian and Welsh dignitaries. I encourage all Members to join the event if possible. On the day, a recorded message of solidarity by the First Minister will be shown, and the Deputy First Minister will deliver a speech as part of the proceedings. We understand that representatives from the Ukrainian embassy, Welsh local government, Wales-based Ukrainians, various churches, and the Senedd have also been invited to play a prominent part.
Through this debate and the event on 23 November, we remember those who lost their lives during Holodomor, as well as those who survived with their memories of the suffering and loss. In Wales, our understanding of that loss was greatly informed by the brave reporting of Gareth Jones. His relentless pursuit of truth brought the horrors of the Holodomor to the attention of the world, and Gareth Jones risked his life to document the suffering of Ukrainian people, and to ensure that their plight did not remain in the shadows. He gave a voice to the voiceless and ensured that the truth would not be erased. The Senedd noted the role of Gareth Jones during the Member’s debate last year, and it’s heartening to see that his legacy continues to be remembered.
Last month, a writing competition was launched to mark the ninetieth anniversary of Gareth’s death. Cardiff University’s school of journalism, media and culture announced the opening of the Gareth Jones Memorial Travelling Scholarship, in association with the Western Mail. The competition is open to all graduates of universities in Wales, particularly those who wish to pursue a career in journalism or international affairs.
Our historic connections with Ukraine continue to be strengthened by the warm and enduring welcome that the people of Wales have extended to Ukrainians seeking safety. Wales has welcomed around 8,000 Ukrainians to the UK since the full-scale invasion in February 2022. This includes almost 3,350 under our supersponsor route and over 4,600 to Welsh household sponsors. This was achieved with the help of many key partners through our team Wales approach and we remain grateful to all involved for their work towards this remarkable achievement. The response in Wales has been truly inspirational, with an overwhelming number of people stepping forward to be hosts. These offers of kindness reflect our shared values of compassion and demonstrate the welcoming nation that we are.
Today is also an opportunity to recognise the dedication and importance of the Senedd 4 Ukraine group. Mick Antoniw and Alun Davies once again made the long journey with supplies to Ukraine at the end of October, and I hope they can share some of their experiences this afternoon as part of this debate. I understand that this was the tenth trip made by the group since the full-scale invasion, taking with them vital aid and 30 vehicles during those 10 trips. This is an incredible contribution by the group, which is valued greatly in Ukraine. This work receives significant support from trade unions, businesses, and members of the public. We recognise the importance of these contributions and express our thanks to the many people involved in this endeavour.
It is heartbreaking that this support continues to be needed as the conflict continues. The invasion shows no signs of ending as we approach the third anniversary of the full-scale invasion and mark more than 10 years since the invasion of the Donbas and Crimea. I'm sure that we as a cross-party Senedd—and I'm grateful for the co-tabling by all parties this afternoon of this debate—will commit to ongoing efforts to demonstrate our solidarity with Ukrainians in Wales and with Ukraine itself. It's vital that we continue to remind Ukrainian people that we have not forgotten about their struggle. Ukraine is bravely defending not just its own land and sovereignty; it is defending the whole of Europe and the international rules-based order. We will continue to stand in solidarity. Ukrainian and Welsh lives have become intertwined over the last two and a half years, and these threads have woven together within the unbreakable fabric of our communities. I look forward to your contributions. Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fy mraint yw cyflwyno'r ddadl hon i goffáu'r Holodomor, pennod dywyll mewn hanes a welodd filiynau o fywydau Wcreiniaid diniwed yn cael eu colli i newyn o waith dyn. Mae'n bwysig ein bod ni'r Senedd yn defnyddio'r cyfle hwn i godi ymwybyddiaeth o arswyd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holodomor. Mae coffáu'r dioddefwyr hefyd yn taflu goleuni ar gysylltiadau hanesyddol â Chymru a'r cyffelybiaethau modern yn y ffordd y mae Wcráin wedi cael ei gormesu. Mae Cymru bellach yn gartref i dros 8,000 o Wcreiniaid, a deithiodd i chwilio am noddfa yma, ac mae nodi'r achlysur hwn yn arwydd pwysig o undod rhwng ein pobloedd.
Y llynedd, cyflwynodd Alun Davies, Darren Millar a Heledd Fychan gynnig i drafod yr Holodomor a gynigiodd fod y Senedd yn ystyried yr Holodomor fel gweithred o hil-laddiad. Amlygodd y ddadl a ddilynodd yr erchyllterau a'r caledi annirnadwy a wynebodd pobl Wcráin yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd polisïau creulon Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd at golli bywyd mewn modd na ellir ei ddirnad, sy'n dal i bwyso'n drwm yn yr ymwybyddiaeth genedlaethol.
Er bod anghytundeb yn parhau ynghylch i ba raddau yr oedd y newyn yn weithred fwriadol o hil-laddiad, mae'r Holodomor wedi cael ei gydnabod fel gweithred o hil-laddiad gan y Senedd hon. Adroddwyd bod y bleidlais o gydnabyddiaeth wedi cael ei gwerthffawrogi gan sawl sianel ar y cyfryngau Wcreinaidd. Caiff yr Holodomor ei goffáu bob blwyddyn ar y pedwerydd dydd Sadwrn o fis Tachwedd. Ers yr ymosodiad ar Wcráin yn 2022, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi gweithio i sicrhau bod y coffâd yn cael ei nodi yng Nghymru, gweithred bwysig i lawer o Wcreiniaid sydd bellach yn byw yn ein cymunedau.
Mae'r digwyddiad eleni yn cael ei drefnu gan gasgliad o sefydliadau cymorth Wcreinaidd Cymru a swyddfa Mick Antoniw AS, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Cynhelir y seremoni goffáu yn y Senedd ar 23 Tachwedd, yn cynnwys cynrychiolwyr Wcreinaidd ac o Gymru. Rwy'n annog pob Aelod i ymuno â'r digwyddiad os yn bosibl. Ar y diwrnod, dangosir neges o undod wedi'i recordio gan y Prif Weinidog, a bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn traddodi araith yn rhan o'r trafodion. Rydym yn deall bod cynrychiolwyr o lysgenhadaeth Wcráin, llywodraeth leol Cymru, Wcreiniaid yng Nghymru, gwahanol eglwysi, a'r Senedd hefyd wedi cael gwahoddiad i chwarae rhan amlwg.
Drwy'r ddadl hon a'r digwyddiad ar 23 Tachwedd, rydym yn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod Holodomor, yn ogystal â'r rhai a oroesodd gyda'u hatgofion o'r dioddefaint a'r golled. Yng Nghymru, cafodd ein dealltwriaeth o'r golled honno ei lywio'n fawr gan adroddiadau dewr Gareth Jones. Daeth ei ymgyrch ddi-wyro am y gwirionedd ag erchyllterau'r Holodomor i sylw'r byd, a pheryglodd Gareth Jones ei fywyd i ddogfennu dioddefaint pobl Wcráin, ac i sicrhau nad oedd eu helynt yn aros yn y cysgodion. Rhoddodd lais i'r di-lais a sicrhau na fyddai'r gwirionedd yn cael ei ddileu. Nododd y Senedd rôl Gareth Jones yn ystod dadl yr Aelod y llynedd, ac mae'n galonogol gweld bod ei waddol yn parhau i gael ei gofio.
Fis diwethaf, lansiwyd cystadleuaeth ysgrifennu i nodi naw deg mlynedd ers marwolaeth Gareth. Cyhoeddodd ysgol newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant Prifysgol Caerdydd ei bod yn agor Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones, mewn cydweithrediad â'r Western Mail. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl raddedigion prifysgolion Cymru, yn enwedig y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth neu faterion rhyngwladol.
Mae ein cysylltiadau hanesyddol ag Wcráin yn parhau i gael eu cryfhau gan y croeso cynnes a pharhaus y mae pobl Cymru wedi'i ymestyn i Wcreiniaid sy'n ceisio diogelwch. Mae Cymru wedi croesawu tua 8,000 o Wcreiniaid i'r DU ers y goresgyniad ym mis Chwefror 2022. Mae hyn yn cynnwys bron i 3,350 o dan ein llwybr uwch-noddwr a thros 4,600 i gartrefi Cymru oedd yn cynnig llety. Cyflawnwyd hyn gyda chymorth llawer o bartneriaid allweddol drwy ein dull tîm Cymru ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran am eu gwaith tuag at y cyflawniad rhyfeddol hwn. Mae'r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, gyda nifer llethol o bobl yn gwirfoddoli i gynnig llety. Mae'r cynigion caredigrwydd hyn yn adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin o dosturi ac yn dangos y genedl groesawgar ydym ni.
Mae heddiw hefyd yn gyfle i gydnabod ymroddiad a phwysigrwydd grŵp Y Senedd dros Wcráin. Unwaith eto gwnaeth Mick Antoniw ac Alun Davies y daith hir gyda chyflenwadau i Wcráin ddiwedd mis Hydref, a gobeithio y gallan nhw rannu rhai o'u profiadau y prynhawn yma yn rhan o'r ddadl hon. Rwy'n deall mai hon oedd y degfed daith a wnaed gan y grŵp ers y goresgyniad, gan fynd â chymorth hanfodol gyda nhw a 30 cerbyd yn ystod y 10 taith. Mae hwn yn gyfraniad anhygoel gan y grŵp, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn Wcráin. Mae'r gwaith hwn yn derbyn cefnogaeth sylweddol gan undebau llafur, busnesau ac aelodau'r cyhoedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y cyfraniadau hyn ac yn mynegi ein diolch i'r nifer fawr o bobl sy'n gysylltiedig â'r ymdrech hon.
Mae'n dorcalonnus bod angen y gefnogaeth hon o hyd wrth i'r gwrthdaro barhau. Nid yw'r goresgyniad yn dangos unrhyw arwyddion o ddod i ben wrth i ni nesáu at drydydd pen-blwydd y goresgyniad ac yn nodi mwy na 10 mlynedd ers goresgyniad y Donbas a'r Crimea. Rwy'n siŵr ein bod ni fel Senedd drawsbleidiol—ac rwy'n ddiolchgar i bob plaid am gyd-gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma—yn ymrwymo i ymdrechion parhaus i ddangos ein cydsafiad gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin ei hun. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i atgoffa pobl Wcráin nad ydym ni wedi anghofio am eu brwydr. Mae Wcráin yn amddiffyn nid yn unig ei thir a'i sofraniaeth ei hun; mae'n amddiffyn Ewrop gyfan a'r drefn ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau. Byddwn yn parhau i sefyll mewn undod. Mae bywydau Wcreinaidd a Chymreig wedi plethu dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac mae'r edafedd hyn wedi plethu gyda'i gilydd o fewn gwead anhygoel ein cymunedau. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniadau. Diolch.
Can I thank the Government, and, indeed, the other political parties, for the way in which they worked together to co-operate in co-tabling this debate some 12 months after the recognition by this Senedd, one of the first Parliaments in the world to recognise the Holodomor as a genocide? Of course, the Holodomor is a chapter of history that was for far too long in the west not known, and it was a story that was not told. Some 3 million to 4 million victims, at least, were casualties of that famine, one of the worst losses of life in human history, and, of course, understandably, because of that, it is a defining moment for the nation of Ukraine.
But they were not accidental losses of life, they were absolutely deliberate. They were deliberately inflicted upon the people of Ukraine by a Soviet regime run by Stalin that ruthlessly pursued a goal of industrialisation no matter what the human cost and that drove the collectivisation of farmland and the mass seizure of grain. The result of that was this very fertile and extremely productive land in what is now known as the bread basket of Europe was subjected to one of the worst famines in history. Of course, it wasn't just the famine that was evidence of the genocidal attempts of the Soviet regime; there was the persecution of the intellectuals, the faith leaders, attacks on churches and others in that land as well, and any political opponents that spoke out against the Soviet regime. The famine was just the culmination of all of these things being brought together as an assault on the Ukrainian nation and the nationhood that was being sparked there.
Quite rightly, the motion today does refer to the role of Gareth Jones, a Welshman who, in the 1930s, played a crucial role in exposing the Holodomor and what was going on in Ukraine to the rest of the world. I first became aware of his work after watching the 2019 film Mr Jones. I had no idea that it was a Welshman that was involved in exposing what had happened until I saw that film, and that's a tragedy. That's a tragedy that people in Wales aren't taught about these things, aren't educated about the important role that Welsh journalists have played. Of course, he paid with his own life in the end, when he was a victim of what is regarded as probably an assassination attempt in Japanese-occupied Inner Mongolia in 1935, by the Soviet regime. And all of us, no doubt, in this Chamber will want to pay tribute to his memory here in this Chamber today. I know that the Senedd 4 Ukraine group, so ably led by Mick Antoniw, with, of course, Alun Davies and others supporting, has already secured the permission for a plaque to be erected in Ukraine to mark the role of Gareth Jones and his work in exposing what was going on with the Holodomor.
He isn't the only link, of course, to Ukraine and Wales. We know that Donetsk, Yuzovka—I think that's right in terms of the pronunciation—was founded by a Welsh industrialist using techniques that had been exported from Wales in order to industrialise that whole part and region of Ukraine. These are strong ties between the people of Ukraine and the people of Wales that, yes, we celebrate today and remember today, but in the context of what is a horrific situation, where the sovereignty of Ukraine has been breached by the Russians, who seem to continue to be taking ground. I have to say I'm very concerned about the prospects and the future, going forward, because we know that there's a possibility of a significant policy change by the United States, given the election of a new President, President Trump.
Some of the things that have been said on the campaign trail have, to me, been very worrying indeed. Because, of course, if any part of the territory of Ukraine is ceded in a deal with Putin, then we face the prospect of an even more unstable world, where any autocrat or nation can invade another, and on the basis of there being a stalemate or some difficulties or a war becoming bogged down, then people will be forced to subscribe to terms that they do not want to subscribe to and cede some of their land. That is not the sort of world that I want to live in and I very much hope that that's not a place that we get to in the next 12 months or so if there is a policy change.
We must do all that we can to send the message that Wales loves Ukraine, that we support its quest for freedom, that the people of Wales will continue to do all that they can to champion the Ukrainian people, that we will continue to host those who need safe refuge in our nation, and that we will support those charities and organisations that continue to work to make sure that we're the best hosts that we can possibly be.
And if I may just say, in terms of the Senedd 4 Ukraine group, one of the things that struck me when I visited Ukraine—and I know I've gone beyond my time, Llywydd, but I appreciate your patience—
A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth, ac, yn wir, i'r pleidiau gwleidyddol eraill, am y ffordd y buont yn cydweithio i gyd-gyflwyno'r ddadl hon rhyw 12 mis ar ôl cydnabyddiaeth y Senedd hon, un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i gydnabod yr Holodomor yn hil-laddiad? Wrth gwrs, pennod o hanes sydd am lawer rhy hir yn y gorllewin heb ei chydnabod yw'r Holodomor, ac roedd yn stori na ddywedwyd. Dioddefodd tua 3 miliwn i 4 miliwn, o leiaf, o'r newyn hwnnw, un o golledion gwaethaf bywyd yn hanes dyn, ac, wrth gwrs, yn ddealladwy, oherwydd hynny, mae'n adeg ddiffiniol i genedl Wcráin.
Ond nid colledion bywyd damweiniol oedden nhw, roedden nhw'n hollol fwriadol. Fe'u hachoswyd yn fwriadol i bobl Wcráin gan gyfundrefn Sofietaidd dan reolaeth Stalin a oedd yn dilyn nod o ddiwydiannu'n ddidrugaredd ni waeth beth oedd y gost ddynol ac a sbardunodd gyfunoli tir fferm ac atafaelu grawn ar raddfa dorfol. Canlyniad hynny oedd i'r tir ffrwythlon iawn a hynod gynhyrchiol hwn yn yr hyn a elwir bellach yn fasged bara Ewrop ddod yn destun un o'r newynau gwaethaf mewn hanes. Wrth gwrs, nid y newyn yn unig oedd yn dystiolaeth o ymdrechion hil-laddol y gyfundrefn Sofietaidd; erlidwyd y deallusion, yr arweinwyr ffydd, ymosodiadau ar eglwysi ac eraill yn y tir hwnnw hefyd, ac ar unrhyw wrthwynebwyr gwleidyddol a oedd yn siarad yn erbyn y gyfundrefn Sofietaidd. Dim ond penllanw yr holl bethau hyn gyda'i gilydd fel ymosodiad ar genedl Wcráin a'r cenedligrwydd a oedd yn cael ei sbarduno yno oedd y newyn.
Yn gwbl briodol, mae'r cynnig heddiw yn cyfeirio at rôl Gareth Jones, Cymro a oedd, yn y 1930au, wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddatgelu'r Holodomor a'r hyn oedd yn digwydd yn Wcráin i weddill y byd. Des i'n ymwybodol o'i waith am y tro cyntaf ar ôl gwylio'r ffilm Mr Jones yn 2019. Doedd gen i ddim syniad mai Cymro oedd wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatgelu'r hyn oedd wedi digwydd nes i mi weld y ffilm honno, ac mae hynny'n drasiedi. Mae hynny'n drasiedi nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu dysgu am y pethau hyn, ddim yn cael eu haddysgu am gyfraniad pwysig newyddiadurwyr Cymru. Wrth gwrs, talodd gyda'i fywyd ei hun yn y diwedd, pan ddioddefodd yr hyn a ystyrir yn ymgais i'w lofruddio ym Mongolia Fewnol oedd dan oresgyniad Japan ym 1935, gan y gyfundrefn Sofietaidd. A bydd pob un ohonom ni, heb os, yn y Siambr hon eisiau talu teyrnged i'w gof yma yn y Siambr hon heddiw. Gwn fod grŵp Y Senedd dros Wcráin, dan arweiniad Mick Antoniw, gydag Alun Davies ac eraill yn cefnogi wrth gwrs, eisoes wedi sicrhau'r caniatâd i godi plac yn Wcráin i nodi rôl Gareth Jones a'i waith wrth ddatgelu'r hyn oedd yn digwydd gyda'r Holodomor.
Nid ef yw'r unig ddolen, wrth gwrs, ag Wcráin a Chymru. Gwyddom fod Donetsk, Yuzovka—rwy'n credu bod hynny'n iawn o ran yr ynganiad—wedi ei sefydlu gan ddiwydiannwr Cymreig gan ddefnyddio technegau o Gymru er mwyn diwydiannu'r cyfan hwnnw o'r rhan a'r rhanbarth yna o Wcráin. Mae'r rhain yn gysylltiadau cryf rhwng pobl Wcráin a phobl Cymru sydd, ie, yn dathlu heddiw ac yn cofio heddiw, ond yng nghyd-destun yr hyn sy'n sefyllfa erchyll, lle mae'r Rwsiaid wedi tanseilio sofraniaeth Wcráin, sy'n ymddangos fel pe baen nhw yn parhau i gipio tir. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn am y rhagolygon a'r dyfodol, wrth symud ymlaen, oherwydd fe wyddom ni fod posibilrwydd o newid polisi sylweddol gan yr Unol Daleithiau, o ystyried ethol Arlywydd newydd, yr Arlywydd Trump.
Mae rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud yn yr ymgyrch wedi bod yn bryderus iawn i mi. Oherwydd, wrth gwrs, os yw unrhyw ran o diriogaeth Wcráin yn cael ei ildio mewn bargen â Putin, yna rydym yn wynebu'r posibilrwydd o fyd hyd yn oed yn fwy ansefydlog, lle gall unrhyw awtocrat neu genedl ymosod ar un arall, ac mewn sefyllfa ddiddatrys neu rai anawsterau neu ryfel yn rhygnu ymlaen, yna bydd pobl yn cael eu gorfodi i dderbyn telerau nad ydyn nhw eisiau eu derbyn ac ildio peth o'u tir. Nid dyna'r math o fyd rwy'n dymuno byw ynddo ac rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno yn ystod yr oddeutu 12 mis nesaf os oes newid polisi.
Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i anfon y neges bod Cymru'n caru Wcráin, ein bod yn cefnogi ei hymgais am ryddid, y bydd pobl Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo pobl Wcráin, y byddwn yn parhau i gynnal y rhai sydd angen lloches ddiogel yn ein gwlad, ac y byddwn yn cefnogi'r elusennau a'r sefydliadau hynny sy'n parhau i weithio i sicrhau ein bod ni mor lletygar ag y gallwn ni fod.
Ac os caf ddweud, o ran grŵp Y Senedd dros Wcráin, un o'r pethau a'm trawodd pan ymwelais âg Wcráin—a gwn fy mod wedi mynd y tu hwnt i'm hamser, Llywydd, ond rwy'n gwerthfawrogi eich amynedd—
Thank you for drawing my attention to that. I was so engrossed in what you were saying that I hadn't noticed.
Diolch am dynnu fy sylw at hynny. Roeddwn i wedi ymgolli cymaint yn yr hyn roeddech chi'n ei ddweud fel nad oeddwn i wedi sylwi.
One of the things that struck me when I visited Ukraine just a couple of months after the war had started was how important the physical presence of people from other nations going to show your care and appreciation of the situation was. It's one thing to pick up the phone or to send an e-mail or to say something in this Chamber about how much you care and support a nation that is in the midst of a terrible and devastating war, but it's another thing when you turn up and you embrace those people in your arms. I want to pay tribute to the fact that Mick Antoniw, Alun Davies and others have done just that. It's important that we continue to do that, and that's why I fully support the calls that have been made in this Chamber in recent months to make sure that there's a formal delegation from this Senedd that goes to Ukraine to show our solidarity as a Parliament with the Ukrainian Parliament and its people. Thank you.
Un o'r pethau a'm trawodd pan ymwelais ag Wcráin ychydig fisoedd yn unig ar ôl i'r rhyfel ddechrau oedd pa mor bwysig oedd presenoldeb corfforol pobl o genhedloedd eraill yn dangos eu pryderu a'u dealltwriaeth o'r sefyllfa. Un peth yw codi'r ffôn neu anfon e-bost neu ddweud rhywbeth yn y Siambr hon am faint rydych chi'n pryderu ac yn cefnogi cenedl sydd yng nghanol rhyfel ofnadwy a dinistriol, ond mae'n beth arall pan fyddwch chi'n mynd yno ac rydych chi'n cofleidio'r bobl hynny yn eich breichiau. Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ffaith fod Mick Antoniw, Alun Davies ac eraill wedi gwneud hynny. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud hynny, a dyna pam rwy'n cefnogi'n llawn y galwadau a wnaed yn y Siambr hon yn ystod y misoedd diwethaf i sicrhau bod dirprwyaeth ffurfiol o'r Senedd hon sy'n mynd i Wcráin i ddangos ein hundod fel Senedd gyda Senedd Wcráin a'i phobl. Diolch.
Can I also thank the Senedd 4 Ukraine group for their dedication and their work in standing in solidarity with Ukraine? It’s vital that we not only remember the Holodomor, but also reflect on the lessons that it still teaches us today. Those lessons, sadly, have yet to be fully learned, as we continue to see similar tragedies unfold in the world today. This debate today is a reminder of the heavy consequences of ignoring warnings from history and disregarding human rights.
A gaf i hefyd ddiolch i grŵp Y Senedd dros Wcráin am eu hymroddiad a'u gwaith wrth sefyll mewn undod ag Wcráin? Mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn cofio'r Holodomor, ond hefyd yn myfyrio ar y gwersi y mae'n dal i'n haddysgu ni heddiw. Yn anffodus, nid yw'r gwersi hynny wedi'u dysgu'n llawn eto, wrth i ni barhau i weld trychinebau tebyg yn datblygu yn y byd heddiw. Mae'r ddadl hon heddiw yn ein hatgoffa o ganlyniadau difrifol anwybyddu rhybuddion o hanes a diystyru hawliau dynol.
Today, we will remember the victims of the Holodomor—a genocide deliberately inflicted on the Ukrainian people nearly a century ago. It was an atrocity that aimed to break the spirit of a nation by starving its people, and it stands as one of the darkest examples of where unchecked political power and neglect of humanity can lead. Recognising the Holodomor as a genocide, as the Senedd did last year, is a vital step in ensuring that we do not diminish its horror ever, or forget its lessons.
Wales has a unique connection to the history of the Holodomor through the courage, as we have heard today, of Welsh journalist Gareth Jones. As a journalist myself, it gives me huge pride in what he did to uncover what was happening. He risked his life to uncover the truth, defying powerful forces that attempted to conceal the famine. His bravery allowed the world to hear Ukraine’s suffering at a time when many chose to turn away. In honouring Gareth Jones, we commit ourselves to upholding his legacy, to witness, to speak out and to act where we see injustice. Today, with the tools of the modern media, we are all witnesses to conflict, yet we are still faced with the same challenge that Jones had—to ensure that those stories are told, understood and acted on.
Sadly, of course, Ukraine is still facing violence and oppression today. The invasion and occupation continues, with devastating consequences for Ukrainian sovereignty, security, and the lives of ordinary citizens. Escalating violence, displacement and hardship define the reality, day after day, for millions of Ukrainians. And in this uncertain geopolitical climate, with international dynamics shifting—including the incoming Trump administration in the United States, which may influence support for Ukraine—it is all the more crucial that Wales and this Senedd remain a steadfast ally for the people of Ukraine.
But as we reflect on the Holodomor today, it’s impossible not to notice a painful parallel in our time, isn’t it? This debate is occurring against a backdrop of a year of conflict in Gaza. There, too, we see suffering on a massive scale, with civilians facing unbearable loss, displacement and death. There, too, we see the disregard for international law and humanitarian principles. We cannot shy away from speaking these truths. Just as we condemn again today the horrors of the Holodomor, we must condemn any modern actions that violate human rights and the principles of justice.
The Holodomor reminds us that adherence to international law is not just a lofty ideal. It’s a fundamental necessity, if we are to prevent the recurrence of such atrocities. When any nation violates the rules that protect civilians, when power is wielded without accountability, and when the rights of the vulnerable are disregarded, if we don’t take a stand against it, we see a repetition of the same patterns that led to the horrors that we remember today. Ukraine’s struggle, like that of so many other nations, underscores our duty to uphold international law and stand firmly against oppression.
Our commitment to Ukrainians in Wales must also be unwavering. Many have found temporary homes here, seeking safety from the conflict. They deserve not only our sympathy, but our active support, as they live in uncertainty about their homeland and the fate of loved ones they left behind. Let us pledge again today to stand with them, and with others who face similar injustices.
As we remember the Holodomor, we should ask ourselves if we are willing to carry its lessons into our actions today—are we committed to speaking out, to providing support, and to using our platforms as a voice for peace and for justice. The world has seen too many tragedies, too many reminders of what happens when we fail to act in defence of human rights. Our duty as a Senedd is not only to condemn the atrocities of the past, but to try to achieve a future where such horrors are never repeated. So, today we owe this to the victims of the Holodomor, to the people of Ukraine today, and to all those who look to the international community for justice. Plaid Cymru stands with Ukraine, with those suffering in Gaza too, and with all those who are deprived of justice and peace.
Heddiw, byddwn yn cofio dioddefwyr yr Holodomor—hil-laddiad a achoswyd yn fwriadol yn erbyn pobl Wcráin bron i ganrif yn ôl. Roedd yn erchylltra a oedd yn ceisio torri ysbryd cenedl trwy newynu ei phobl, ac mae'n un o'r enghreifftiau tywyllaf o ble y gall pŵer gwleidyddol ac esgeulustod o ddynoliaeth arwain heb ei herio. Mae cydnabod yr Holodomor fel hil-laddiad, fel y gwnaeth y Senedd y llynedd, yn gam hanfodol wrth sicrhau nad ydym yn lleihau ei arswyd byth, nac yn anghofio ei wersi.
Mae gan Gymru gysylltiad unigryw â hanes yr Holodomor trwy ddewrder, fel y clywsom ni heddiw, y newyddiadurwr o Gymro Gareth Jones. Fel newyddiadurwr fy hun, rwy'n falch iawn o'r hyn a wnaeth i ddatgelu'r hyn oedd yn digwydd. Peryglodd ei fywyd i ddatgelu'r gwir, gan herio grymoedd pwerus a geisiodd guddio'r newyn. Roedd ei ddewrder yn caniatáu i'r byd glywed dioddefaint Wcráin ar adeg pan ddewisodd llawer droi i ffwrdd. Wrth anrhydeddu Gareth Jones, rydym yn ymrwymo ein hunain i gynnal ei waddol, i dystio, i godi llais ac i weithredu lle gwelwn anghyfiawnder. Heddiw, gydag offer y cyfryngau modern, rydym ni i gyd yn dystion i wrthdaro, ond eto rydym ni'n dal i wynebu'r un her ag oedd gan Jones—i sicrhau bod y straeon hynny'n cael eu hadrodd, eu deall ac y gweithredir arnyn nhw.
Yn anffodus, wrth gwrs, mae Wcráin yn dal i wynebu trais a gormes heddiw. Mae'r goresgyniad a'r feddiannaeth yn parhau, gyda chanlyniadau dinistriol i sofraniaeth Wcráin, diogelwch, a bywydau dinasyddion cyffredin. Mae trais, dadleoli a chaledi cynyddol yn diffinio'r realiti, ddydd ar ôl dydd, i filiynau o Wcreiniaid. Ac yn yr hinsawdd geowleidyddol ansicr hon, gyda dynameg ryngwladol yn newid—gan gynnwys gweinyddiaeth newydd Trump yn yr Unol Daleithiau, a allai ddylanwadu ar gefnogaeth i Wcráin—mae'n bwysicach fyth bod Cymru a'r Senedd hon yn parhau i fod yn gynghreiriad cyson i bobl Wcráin.
Ond wrth i ni fyfyrio ar yr Holodomor heddiw, mae'n amhosib peidio â sylwi ar debygrwydd poenus yn ein hamser ni, onid ydyw? Mae'r ddadl hon yn digwydd yn erbyn cefndir blwyddyn o wrthdaro yn Gaza. Yno, hefyd, fe welwn ni ddioddefaint ar raddfa enfawr, gyda sifiliaid yn wynebu colled annioddefol, dadleoli a marwolaeth. Yno, hefyd, fe welwn ni y diystyrwch am gyfraith ryngwladol ac egwyddorion dyngarol. Allwn ni ddim osgoi dweud y gwirioneddau hyn. Yn union fel yr ydym ni'n condemnio eto heddiw erchyllterau'r Holodomor, mae'n rhaid i ni gondemnio unrhyw weithredoedd modern sy'n tanseilio hawliau dynol ac egwyddorion cyfiawnder.
Mae'r Holodomor yn ein hatgoffa nad yw cadw at gyfraith ryngwladol yn ddelfryd aruchel yn unig. Mae'n anghenraid sylfaenol, os ydym ni am atal erchyllterau o'r fath rhag digwydd eto. Pan fydd unrhyw genedl yn torri'r rheolau sy'n amddiffyn sifiliaid, pan fydd pŵer yn cael ei arddel heb atebolrwydd, a phan fo hawliau'r bregus yn cael eu diystyru, os na fyddwn yn sefyll yn ei erbyn, fe welwn ni ailadrodd yr un patrymau a arweiniodd at yr erchyllterau yr ydym ni'n eu cofio heddiw. Mae brwydr Wcráin, fel brwydr cymaint o genhedloedd eraill, yn tanlinellu ein dyletswydd i gynnal cyfraith ryngwladol a sefyll yn gadarn yn erbyn gormes.
Rhaid i'n hymrwymiad i Wcreiniaid yng Nghymru hefyd fod yn ddiwyro. Mae nifer wedi dod o hyd i gartrefi dros dro yma, yn ceisio diogelwch rhag y gwrthdaro. Maen nhw'n haeddu nid yn unig ein cydymdeimlad, ond ein cefnogaeth weithredol, wrth iddyn nhw fyw mewn ansicrwydd am eu mamwlad a thynged anwyliaid a adawsant ar ôl. Gadewch i ni addo eto heddiw i sefyll gyda nhw, a gydag eraill sy'n wynebu anghyfiawnderau tebyg.
Wrth i ni gofio'r Holodomor, fe ddylen ni ofyn i'n hunain a ydym ni'n fodlon rhoi ei wersi ar waith yn ein gweithredoedd heddiw—ydym ni wedi ymrwymo i godi llais, i ddarparu cefnogaeth, ac i ddefnyddio ein llwyfannau fel llais dros heddwch ac am gyfiawnder. Mae'r byd wedi gweld gormod o drasiedïau, gormod o bethau i'n hatgoffa o'r hyn sy'n digwydd pan fethwn ni â gweithredu i amddiffyn hawliau dynol. Ein dyletswydd fel Senedd yw nid yn unig condemnio erchyllterau'r gorffennol, ond ceisio sicrhau dyfodol lle na chaiff erchyllterau o'r fath fyth eu hailadrodd. Felly, heddiw mae arnom ni'r ddyled hon i ddioddefwyr yr Holodomor, i bobl Wcráin heddiw, ac i bawb sy'n edrych i'r gymuned ryngwladol am gyfiawnder. Saif Plaid Cymru gydag Wcráin, gyda'r rhai sy'n dioddef yn Gaza hefyd, a gyda phawb sy'n cael eu hamddifadu o gyfiawnder a heddwch.
I grew up as part of a Ukrainian refugee community where we celebrated, promoted and maintained our Ukrainian language, culture and identity. And among my friends were the children of Ukrainians from eastern Ukraine, from the Donbas, Donetsk, Kharkiv, Dnipro, Luhansk. Their parents were the survivors of the Holodomor, and we were vaguely aware of the Holodomor as children—Stalin’s artificial famine. We were aware that millions were starved to death, but it was not something that our parents talked about a lot. It was too painful amongst all the other painful experiences that they have lived through. And the world knew very little about this great tragedy, but what they did know was the result of journalism of people like Welshman Gareth Jones, Malcom Muggeridge and a few others. And just to follow on from Darren Millar’s comments, I think it was a great honour that we have now in the national library of Ukraine in Kyiv a plaque in English, Ukrainian and Welsh, which is a tribute to Gareth Jones, and also the intention to have a cultural delegation to Ukraine, to maybe present a similar plaque to go onto the street in Kyiv that has been named after Gareth Jones.
It was once the Soviet Union broke up that the secrecy came to an end, and when the KGB and the Communist Party archives were opened up that the full scale of the horror of the Holodomor began to become better known and better understood. The famine was the product of Stalin’s forced collectivisation, which affected large tracts of eastern and central Ukraine, but also other surrounding countries. Millions starved to death. In Ukraine, the precise figure will never be known. In Russia, the records of the period continue to be destroyed, as do the records of the mass deportations and executions during the purges. In Ukraine, the estimate is between 4 million to 6 million people were killed. Many continued to die in the following years from famine-related illness, disease, and then the subsequent further Stalin purges. Grain was seized and it was sold abroad for foreign currency to fund industrialisation.
In Ukraine, there were many uprisings. It was an area where there was little Bolshevik support, and it is clear from documents since revealed that Stalin feared losing control of Ukraine. For this reason, the suppression was exceptionally harsh. Villages that resisted were closed down—a measure that effectively amounted to a death sentence. It became an opportunity for Stalin to break Ukrainian resistance and identity, and it is for this reason that the famine, as it affected Ukraine, became known as the Holodomor, which translates as ‘death by famine’. It became known as an act of genocide, and has been recognised by many Parliaments across the world as an act of genocide. This is the area, of course, that is now the front-line resistance to Russia’s invasion of Ukraine, by the sons and daughters of the survivors of the Holodomor, and also the sons and daughters of those families brought in to replace the millions of the dead.
The Holodomor was succeeded with the intense Russification of Ukraine, the mass execution of poets, artists, writers, film directors, musicians—in fact, anyone who represented Ukrainian identity. Only a couple of weeks ago is a special day in Ukraine because it was the day when poets, artists, painters and writers were actually rounded up and mass executed for the sole reason that they represented the Ukrainian identity. And of course it is a policy that is being renewed by Putin in occupied Ukraine to this day, where museums are looted, Ukrainian books destroyed, the Ukrainian language banned in schools, where the population are subject to deportation, the children to re-education, torture, rape and murder. Russia has become a fascist country.
Yet even in this country there are its apologists, those who deny the Holodomor, deny the genocide and perpetuate the Putin narrative. And it is for this reason that it is so important to commemorate the Holodomor, to remember the dead and to support those in Ukraine who to this day are fighting for freedom, and who I describe as the people who are really defending the front line of democracy in Europe. So, I'm proud that Wales is the first of the UK Parliaments to declare the Holodomor an act of genocide, and I hope this is something that will be followed as an example by other UK Parliaments. Today is also the one thousandth day of the Russian invasion, and this Saturday a commemoration will take place in the Senedd and a 2 p.m. silence to coincide with remembrance at the same time in Ukraine, in solidarity with the people of Ukraine.
I want to thank everyone in this Senedd and all the people of Wales for their solidarity until Ukraine obtains peace and victories. Слава Україні! Героям слава!
Cefais fy magu yn rhan o gymuned ffoaduriaid Wcreinaidd lle buom yn dathlu, hyrwyddo a chynnal ein hiaith, diwylliant a hunaniaeth Wcreinaidd. Ac ymhlith fy ffrindiau roedd plant Wcreinaidd o ddwyrain Wcráin, o'r Donbas, Donetsk, Kharkiv, Dnipro, Luhansk. Eu rhieni oedd goroeswyr yr Holodomor, ac roeddem yn ymwybodol iawn o'r Holodomor fel plant—newyn artiffisial Stalin. Roeddem ni'n ymwybodol bod miliynau wedi cael eu newynu i farwolaeth, ond nid oedd yn rhywbeth yr oedd ein rhieni yn siarad amdano'n aml. Roedd yn rhy boenus ymysg yr holl brofiadau poenus eraill y maen nhw wedi byw drwyddyn nhw. Ac ychydig iawn a wyddai'r byd am y drasiedi fawr hon, ond yr hyn a wydden nhw oedd canlyniad newyddiaduraeth pobl fel y Cymro Gareth Jones, Malcom Muggeridge ac ambell un arall. A dim ond i ddilyn sylwadau Darren Millar, dw i'n meddwl ei bod hi'n anrhydedd mawr fod gennym ni nawr yn llyfrgell genedlaethol Wcráin yn Kyiv, blac yn Saesneg, Wcreineg a Chymraeg, sy'n deyrnged i Gareth Jones, a hefyd y bwriad i gael dirprwyaeth ddiwylliannol i Wcráin, i gyflwyno plac tebyg efallai i fynd i'r stryd yn Kyiv sydd wedi ei henwi ar ôl Gareth Jones.
Ar ôl i'r Undeb Sofietaidd chwalu daeth y cyfrinachedd i ben, a phan agorwyd archifau'r KGB a'r Blaid Gomiwnyddol dechreuodd raddfa lawn arswyd yr Holodomor ddod yn fwy adnabyddus a chael ei ddeall yn well. Roedd y newyn yn gynnyrch cyfunoli gorfodol Stalin, a effeithiodd ar ddarnau mawr o ddwyrain a chanolbarth Wcráin, ond hefyd gwledydd eraill o'i hamgylch. Cafodd miliynau eu newynu i farwolaeth. Yn Wcráin, ni fydd yr union ffigur byth yn hysbys. Yn Rwsia, mae cofnodion y cyfnod yn parhau i gael eu dinistrio, fel y mae cofnodion yr alltudio torfol a'r dienyddiadau yn ystod y gwaredu. Yn Wcráin, yr amcangyfrif yw y cafodd rhwng 4 miliwn a 6 miliwn o bobl eu lladd. Parhaodd llawer i farw yn y blynyddoedd canlynol o salwch, afiechyd sy'n gysylltiedig â newyn, ac yna gwarediadau pellach dilynol Stalin. Atafaelwyd grawn a chafodd ei werthu dramor am arian tramor i ariannu diwydiannu.
Yn Wcráin, bu llawer o wrthryfeloedd. Roedd yn faes lle nad oedd fawr o gefnogaeth Bolsiefic, ac mae'n amlwg o ddogfennau a ddatgelwyd ers hynny bod Stalin yn ofni colli rheolaeth ar Wcráin. Am y rheswm hwn, roedd y gwastrodi yn eithriadol o lym. Caewyd pentrefi oedd yn gwrthsefyll—mesur a oedd i bob pwrpas yn gyfystyr â dedfryd o farwolaeth. Daeth yn gyfle i Stalin fygu gwrthwynebiad a hunaniaeth Wcráin, ac am y rheswm hwn y daeth y newyn, fel yr effeithiodd ar Wcráin, i'w adnabod fel yr Holodomor, sy'n cyfieithu fel 'marwolaeth trwy newyn'. Daeth yn adnabyddus fel gweithred o hil-laddiad, ac mae wedi cael ei chydnabod gan lawer o Seneddau ledled y byd fel gweithred o hil-laddiad. Dyma'r ardal, wrth gwrs, sydd bellach yn wrthwynebiad rheng flaen i ymosodiad Rwsia ar Wcráin, gan feibion a merched goroeswyr yr Holodomor, a hefyd meibion a merched y teuluoedd hynny a ddaeth i gymryd lle'r miliynau o'r meirw.
Canlyniad yr Holodomor oedd Rwsianeiddio dwys yn Wcráin, dienyddio torfol beirdd, artistiaid, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr ffilm, cerddorion—mewn gwirionedd, unrhyw un a gynrychiolai hunaniaeth Wcreinaidd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl roedd hi'n ddiwrnod arbennig yn Wcráin oherwydd dyma'r diwrnod pan gafodd beirdd, artistiaid, arlunwyr ac awduron eu crynhoi a'u dienyddio am yr unig reswm eu bod yn cynrychioli hunaniaeth Wcráin. Ac wrth gwrs mae'n bolisi sy'n cael ei adnewyddu gan Putin yn y rhannau meddiannedig hynny o Wcráin hyd heddiw, lle mae amgueddfeydd yn cael eu hysbeilio, llyfrau Wcreinaidd wedi'u dinistrio, yr iaith Wcreineg wedi'i gwahardd mewn ysgolion, lle mae'r boblogaeth yn wynebu alltudiaeth, y plant yn cael eu hail-addysgu, eu harteithio, eu treisio a'u llofruddio. Mae Rwsia wedi dod yn wlad ffasgaidd.
Eto hyd yn oed yn y wlad hon mae yna wadwyr, y rhai sy'n gwadu'r Holodomor, sy'n gwadu'r hil-laddiad ac yn parhau i gynnal naratif Putin. Ac am y rheswm hwn mae mor bwysig cofio'r Holodomor, cofio'r meirw a chefnogi'r rhai yn Wcráin sydd hyd heddiw yn ymladd dros ryddid, ac yr wyf yn eu disgrifio fel y bobl sydd mewn gwirionedd yn amddiffyn rheng flaen democratiaeth yn Ewrop. Felly, rwy'n falch mai Cymru yw'r cyntaf o Seneddau'r DU i ddatgan bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ddilyn fel esiampl gan Seneddau eraill y DU. Heddiw hefyd yw'r milfed diwrnod ers ymosodiad Rwsia, a'r dydd Sadwrn hwn bydd coffâd yn digwydd yn y Senedd a thawelwch am 2 y pnawn i gyd-fynd â choffadwriaeth ar yr un pryd yn Wcráin, mewn undod â phobl Wcráin.
Fe hoffwn i ddiolch i bawb yn y Senedd hon a holl bobl Cymru am eu hundod nes i Wcráin gael heddwch a buddugoliaethau. Слава Україні! Героям слава!
It's a great privilege to speak on this debate this afternoon, tabled by the Welsh Government and co-submitted by my colleague Darren Millar. The Holodomor was without question one of the most important and tragic chapters in twentieth-century history and one of the most reprehensible acts of evil ever committed against our fellow man. Yet disappointingly, many people are totally ignorant of Holodomor, with many academics on the subject commenting that most of their students have never even heard of it. So, it's appropriate that we in the Senedd do our part to raise awareness of Holodomor, particularly in light of the ongoing bloodshed in Ukraine, once again at the hands of an evil dictator in Moscow.
When Ukraine became part of the Soviet Union in 1922 it was the nation's bread basket thanks to its fertile fields of wheat, as Ukraine remains the bread basket of Europe to this day. From 1928 Stalin began the process of collectivisation, uniting privately owned farms into state collective farms, with Ukrainian farmers having their land requisitioned by the Soviet state. Quotas for grain were raised to impossible levels by the USSR, and what food they did produce for themselves and their families was confiscated by the state, with refusal to comply resulting in execution.
The exact number of people who died in the resulting famine is still not known, but historians estimate between 3.5 million and 5 million people perished, the vast majority of the death being in Ukraine. Some scholars also posit that the famine was a deliberate attempt to eradicate Ukrainian independency, something the Russian state is again trying to eradicate through its barbarous illegal invasion.
We learned of the genocidal famine ongoing in Ukraine due to the reporting of a Welsh journalist—which has been spoken about many times in this debate now—from the Vale of Glamorgan, called Gareth Jones. Like the Holocaust, many people would have remained unaware of these tragedies as they were unfolding if it were not for the bravery of journalists like Gareth Jones ,who first informed the western world of the starvation taking place in Ukraine due to the deliberate policy decisions by Stalin and his commissars, and journalist Malcolm Muggeridge, as Mick Antoniw just mentioned, who also reported on crimes against humanity in the USSR. Gareth Jones eventually paid with his life for his bravery, being murdered in 1935 by the Soviet secret police whilst working out in Mongolia.
So, today we also honour the bravery and heroism of the journalists who bring these important events to our attention, and we honour the bravery and ongoing struggle of the Ukrainian people fighting for their statehood and survival as we speak. At the time of Gareth Jones's reporting of the heartbreaking and traumatic events in Ukraine, which involved him witnessing people dying in the streets and people even resorting to eating their own pet, many communists in the west denied the horror that was playing out in the east, and some people deny Holodomor to this day, despite overwhelming evidence to the contrary, as some people deny the Holocaust. We see similar propaganda from the Kremlin today, with the denial of the ongoing human rights abuses in Ukraine, so it's our duty as public servants to challenge this misinformation and propaganda, and bring events like the Holodomor to the public's attention. And we must make totally clear that any attempt for ideological reasons to excuse the crimes committed against Ukrainian people by the communist Soviet state is unacceptable and reprehensible. And likewise, we should not tolerate attempts to excuse the actions of Putin today.
I would also like to pay tribute to Mick Antoniw, Alun Davies and everybody in the Senedd for Ukraine group for their valiant efforts in Ukraine, supporting the resistance against Russian forces, having delivered 25 4x4 vehicles to the front lines in the summer, and a further four vehicles just over a month ago in October. I'd also like to thank the Senedd for Ukraine group for raising millions of pounds through donations, which will go towards those fighting on the front line of European democracy. I would aspire to join you one day, but my boss, which is my wife, is stopping me from doing so, but it would be a pleasure one day to join you, but you do have my full moral support in your quest. As echoed by the Senedd for Ukraine group, it's a tribute to Wales that we have complete political unity in support of the Ukrainian people. I'm honoured to have the opportunity to speak on this subject today, to raise awareness of Holodomor, to recognise the links between Wales and Ukraine, and to honour the bravery of those currently fighting at the vanguard of European democracy, and commemorate the lives of those who are no longer with us. Diolch yn fawr.
Mae'n fraint fawr cael siarad ar y ddadl hon y prynhawn yma, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyd-gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heb os, roedd yr Holodomor yn un o'r penodau pwysicaf a thrasig yn hanes yr ugeinfed ganrif ac yn un o'r gweithredoedd drwg mwyaf atgas a gyflawnwyd erioed yn erbyn ein cyd-ddyn. Eto i gyd, yn siomedig, mae llawer o bobl yn gwbl anwybodus o'r Holodomor, gyda llawer o academyddion sy'n ymdrin â'r pwnc yn dweud nad yw'r rhan fwyaf o'u myfyrwyr erioed wedi clywed amdano. Felly, mae'n briodol ein bod ni yn y Senedd yn gwneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o'r Holodomor, yn enwedig yng ngoleuni'r tywallt gwaed parhaus yn Wcráin, unwaith eto yn waith dwylo unben drwg ym Moscow.
Pan ddaeth Wcráin yn rhan o'r Undeb Sofietaidd yn 1922 roedd yn fasged fara'r genedl diolch i'w meysydd ffrwythlon o wenith, fel mae Wcráin yn parhau i fod yn fasged fara Ewrop hyd heddiw. O 1928 ymlaen, dechreuodd Stalin y broses o gyfunoli, gan uno ffermydd dan berchnogaeth breifat i ffermydd gwladwriaethol cyfunol, gyda ffermwyr Wcráin yn cael eu tir wedi ei feddiannu gan y wladwriaeth Sofietaidd. Codwyd cwotâu ar gyfer grawn i lefelau amhosibl gan yr Undeb Sofietaidd, a chafodd bwyd a wnaethant ei gynhyrchu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd ei atafaelu gan y wladwriaeth, gyda gwrthod cydymffurfio yn arwain at ddienyddio.
Nid yw union nifer y bobl a fu farw yn y newyn a ddeilliodd o hyn yn hysbys o hyd, ond mae haneswyr yn amcangyfrif bod rhwng 3.5 miliwn a 5 miliwn o bobl wedi eu colli, y mwyafrif helaeth o'r rheini fu farw yn Wcráin. Mae rhai ysgolheigion hefyd yn honni bod y newyn yn ymgais fwriadol i gael gwared ar annibyniaeth Wcráin, rhywbeth mae gwladwriaeth Rwsia yn ceisio ei dileu unwaith eto trwy ei goresgyniad anghyfreithlon barbaraidd.
Fe ddysgon ni am y newyn hil-laddol yn Wcráin oherwydd adroddiadau newyddiadurwr o Gymru—y bu sôn amdano droeon yn y ddadl hon nawr—o Fro Morgannwg, o'r enw Gareth Jones. Fel yr Holocost, byddai llawer o bobl wedi parhau i fod yn anymwybodol o'r trychinebau hyn wrth iddyn nhw ddatblygu oni bai am ddewrder newyddiadurwyr fel Gareth Jones, a hysbysodd y byd gorllewinol gyntaf o'r newyn oedd yn digwydd yn Wcráin oherwydd y penderfyniadau polisi bwriadol gan Stalin a'i gymdeithion, a'r newyddiadurwr Malcolm Muggeridge, fel y soniodd Mick Antoniw yn ddiweddar, a adroddodd hefyd ar droseddau yn erbyn dynoliaeth yn yr Undeb Sofietaidd. Yn y pen draw, talodd Gareth Jones gyda'i fywyd am ei ddewrder, cafodd ei lofruddio ym 1935 gan yr heddlu cudd Sofietaidd pan oedd yn gweithio ym Mongolia.
Felly, heddiw rydym ni hefyd yn anrhydeddu dewrder ac arwriaeth y newyddiadurwyr sy'n dwyn y digwyddiadau pwysig hyn i'n sylw, ac rydym ni'n anrhydeddu brwydr ddewr a pharhaus pobl Wcráin sy'n ymladd am eu gwladwriaeth a'u goroesiad wrth i ni siarad. Pan oedd Gareth Jones yn adrodd am y digwyddiadau torcalonnus a thrawmatig yn Wcráin, a oedd yn golygu ei fod yn dyst i bobl yn marw ar y strydoedd a phobl hyd yn oed yn troi at fwyta eu hanifail anwes eu hunain, gwadodd llawer o gomiwnyddion yn y gorllewin yr erchylltra a oedd yn digwydd yn y dwyrain, ac mae rhai pobl yn gwadu'r Holodomor hyd heddiw, er gwaethaf tystiolaeth ysgubol i'r gwrthwyneb, fel mae rhai pobl yn gwadu'r Holocost. Rydym ni'n gweld propaganda tebyg gan y Kremlin heddiw, gyda gwadu'r cam-drin hawliau dynol parhaus yn Wcráin, felly mae'n ddyletswydd arnom ni fel gweision cyhoeddus i herio'r camwybodaeth a'r propaganda hwn, a dod â digwyddiadau fel yr Holodomor i sylw'r cyhoedd. Ac mae'n rhaid i ni wneud yn hollol glir bod unrhyw ymgais am resymau ideolegol i esgusodi'r troseddau a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin gan y wladwriaeth Sofietaidd gomiwnyddol yn annerbyniol ac yn resynus. Ac yn yr un modd, ni ddylem ni oddef ymdrechion i esgusodi gweithredoedd Putin heddiw.
Fe hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Mick Antoniw, Alun Davies a phawb yng ngrŵp Y Senedd dros Wcráin am eu hymdrechion clodwiw yn Wcráin, gan gefnogi'r gwrthwynebiad yn erbyn lluoedd Rwsia, a hwythau wedi darparu 25 o gerbydau 4x4 i'r llinellau blaen yn yr haf, a phedwar cerbyd arall ychydig dros fis yn ôl ym mis Hydref. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i grŵp Y Senedd dros Wcráin am godi miliynau o bunnau trwy roddion, a fydd yn mynd tuag at y rhai sy'n ymladd ar reng flaen democratiaeth Ewrop. Byddwn yn dyheu am ymuno â chi un diwrnod, ond mae'r bos, sef fy ngwraig, yn fy atal rhag gwneud hynny, ond byddai'n bleser un diwrnod ymuno â chi, ond mae gennych fy nghefnogaeth foesol lawn yn eich ymgyrch. Fel yr adleisiodd grŵp Y Senedd dros Wcráin, mae'n deyrnged i Gymru bod gennym ni undod gwleidyddol llwyr i gefnogi pobl Wcráin. Mae'n anrhydedd cael y cyfle i siarad ar y pwnc hwn heddiw, i godi ymwybyddiaeth o'r Holodomor, i gydnabod y cysylltiadau rhwng Cymru a Wcráin, ac i anrhydeddu dewrder y rhai sy'n ymladd ar flaen y gad o ran democratiaeth Ewropeaidd, a choffáu bywydau'r rhai nad ydyn nhw gyda ni mwyach. Diolch yn fawr.
It is a tragedy, isn't it, a double tragedy, not just the original tragedy of the Holodomor, but the fact that, as humanity, we haven't learnt the essential element, as Mick Antoniw described, of using hunger as a weapon of war. I mean, that's present today, isn't it? It's in the conflicts in Sudan, in Yemen, in Ethiopia. It's certainly a central element that has led many international authorities and observers to say that the actions of Israel has now met the threshold of genocide in Gaza. So, we haven't learnt, unfortunately. We haven't learnt from history.
But I'd like to focus my comments tonight on the very perilous situation that Ukraine faces today and the very real danger that another shameful episode in twentieth-century European history is about to be repeated. And that's what happened at Czechoslovakia in 1938, when you had a combination of American isolation, through the neutrality Acts that were passed in the 1930s, and European appeasement, which meant that a country was basically dismembered, ostensibly through a peace treaty, and we can see that's the kind of emerging narrative, abetted, of course, by the disinformation machines of the Russian state. But this would not be a peace, of course. What happened to Czechoslovakia is that, yes, there was a peace agreement that lasted six months, before that country's existence was extinguished, and that's effectively what would happen to Ukraine. If the White House was to force it to sign a peace treaty that ceded some of its territory and forced neutrality on it, forced it to give up its hope of NATO membership, which is its only realistic prospect of avoiding being extinguished in the future, then what would happen is Russia would re-arm. Russia would use the time to re-arm and then it would invade again, or it would engineer the political circumstances on the ground where it could actually topple the political leadership class, and you're then in the sort of Georgian territory, effectively, of oligarchs coming into power and you having Ukraine as a kind of vassal state of Russia. And that's a very, very dangerous circumstance, not just for Ukraine—you know, we're next. The hybrid war has already begun. In the last—what is it—24 hours, two cables have been cut—what is it—between Finland and Germany and between Sweden and Lithuania. Incendiary devices have been sent through the air and have exploded in DHL warehouses in the UK and in Germany as preparation for what's coming next. The Russian state is getting ready, and it sees its advantage now with, of course, the new Trump administration. This is the moment of our maximum danger, both in Ukraine, the front line of the coming European war. That is not dramatic language; that is actually a statement of what we are facing, and we must not make the same mistake that we made then.
There is still an opportunity for the war to be won, but we have to now provide the maximum support that has not been given hitherto. Actually, Russia is burning through its weapons. It's using 240 artillery tubes a month, where it can only produce 20. It's losing 144 infantry vehicles a month; it can only produce 17 a month. It will run out during 2025. If we provide Ukraine, if we provide the Ukrainian people, with the support that they deserve as Europeans—because we cannot rely on the US administration—they can still win, but they do not have much time left, and, if they don't have much time left, and if they lose, then so will we.
Mae'n drasiedi, onid yw, yn drasiedi ddwbl, nid yn unig trasiedi wreiddiol yr Holodomor, ond y ffaith nad ydym ni, fel dynoliaeth, wedi dysgu'r elfen hanfodol, fel y disgrifiodd Mick Antoniw, o ddefnyddio newyn fel arf rhyfel. Dyna sy'n digwydd heddiw, ynte? Mae yn y gwrthdaro yn Sudan, yn Yemen, yn Ethiopia. Mae'n sicr yn elfen ganolog sydd wedi arwain llawer o awdurdodau rhyngwladol ac arsylwyr i ddweud bod gweithredoedd Israel bellach wedi cyrraedd trothwy hil-laddiad yn Gaza. Felly, nid ydym ni wedi dysgu, yn anffodus. Dydym ni ddim wedi dysgu o hanes.
Ond fe hoffwn i ganolbwyntio fy sylwadau heno ar y sefyllfa beryglus iawn y mae Wcráin yn ei hwynebu heddiw a'r perygl go iawn fod pennod gywilyddus arall yn hanes Ewrop yr ugeinfed ganrif ar fin cael ei hailadrodd. A dyna ddigwyddodd yn Tsiecoslofacia ym 1938, pan oedd gennych chi gyfuniad o arunigedd Americanaidd, trwy'r Deddfau niwtraliaeth a basiwyd yn y 1930au, a dyhuddiaeth Ewropeaidd, a olygai fod gwlad yn y bôn yn cael ei datgymalu, yn ôl pob golwg trwy gytundeb heddwch, a gallwn weld mai dyna'r math o naratif sy'n dod i'r amlwg, wedi'i chynorthwyo, wrth gwrs, gan beiriannau camwybodaeth gwladwriaeth Rwsia. Ond nid heddwch fyddai hyn, wrth gwrs. Yr hyn a ddigwyddodd i Tsiecoslofacia oedd, oedd, roedd cytundeb heddwch a barodd chwe mis, cyn i fodolaeth y wlad honno gael ei thanseilio, a dyna i bob pwrpas beth fyddai'n digwydd i Wcráin. Pe bai'r Tŷ Gwyn yn ei gorfodi i lofnodi cytundeb heddwch a ildiai rywfaint o'i thiriogaeth a gorfodi niwtraliaeth arni, ei gorfodi i roi'r gorau i'w gobaith o aelodaeth NATO, sef ei hunig obaith realistig o osgoi cael ei dinistrio yn y dyfodol, yna beth fyddai'n digwydd yw y byddai Rwsia yn ail-arfogi. Byddai Rwsia yn defnyddio'r amser i ail-arfogi ac yna byddai'n ymosod eto, neu byddai'n llunio'r amgylchiadau gwleidyddol ar lawr gwlad lle gallai gael gwared ar y dosbarth arweinyddiaeth wleidyddol, ac rydych chi wedyn yn y math o amgylchiadau Sioraidd, i bob pwrpas, o oligarchiaid yn dod i rym ac rydych chi'n cael Wcráin fel math o wladwriaeth gaeth o dan Rwsia. Ac mae hynny'n amgylchiad peryglus iawn, iawn, nid yn unig i Wcráin—wyddoch chi, ni sydd nesaf. Mae'r rhyfel hybrid eisoes wedi dechrau. Yn y—beth—24 awr diwethaf, mae dau gebl wedi cael eu torri—beth—rhwng y Ffindir a'r Almaen a rhwng Sweden a Lithwania. Mae dyfeisiau llosgi wedi cael eu hanfon drwy'r awyr ac wedi ffrwydro mewn warysau DHL yn y DU ac yn yr Almaen fel paratoad ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf. Mae gwladwriaeth Rwsia yn paratoi, ac mae'n gweld ei mantais nawr gyda, wrth gwrs, gweinyddiaeth Trump newydd. Dyma adeg ein perygl mwyaf, yn Wcráin, rheng flaen y rhyfel Ewropeaidd sydd i ddod. Nid yw honno'n iaith ddramatig; mae hynny'n ddatganiad o'r hyn rydym ni'n ei wynebu mewn gwirionedd, ac ni ddylem ni wneud yr un camgymeriad ag a wnaethom ni bryd hynny.
Mae cyfle o hyd i'r rhyfel gael ei hennill, ond mae'n rhaid i ni nawr ddarparu'r gefnogaeth fwyaf sydd heb ei rhoi hyd yma. Mewn gwirionedd, mae Rwsia yn llosgi trwy ei harfau. Mae'n defnyddio 240 o diwbiau magnelau y mis, lle gall gynhyrchu dim ond 20. Mae'n colli 144 o gerbydau troedfilwyr y mis; dim ond 17 y mis y gellir ei gynhyrchu. Bydd ei chyfarpar yn darfod yn ystod 2025. Os ydym yn darparu Wcráin, os ydym yn darparu'r gefnogaeth y mae pobl Wcráin yn ei haeddu fel Ewropeaid—oherwydd ni allwn ni ddibynnu ar weinyddiaeth yr Unol Daleithiau—fe allan nhw ennill o hyd, ond nid oes ganddyn nhw lawer o amser ar ôl, ac, os nad oes ganddyn nhw lawer o amser ar ôl, ac os byddant yn colli, yna byddwn ninnau hefyd.
It is right that we again, as a Senedd, mark the contribution of Gareth Jones, a remarkable individual who did so much before his death on the eve of his thirtieth birthday. He was, in fact, part of a group of intellectual linguists, part of Lloyd George's inner circle. Another one was Morgan Watkin, the uncle of Rhodri Morgan—remarkable people who have largely been forgotten. But Gareth Jones paid the heaviest price for his pursuit of truth, and it's worth reflecting today that 55 journalists were killed at work in 2022, with that increasing to 120 in 2023. Reporters Without Borders say that the state of press freedom is very serious in an unprecedented 31 countries. Things are not getting better.
We've mentioned Gareth Jones. Can I also mention his niece, Dr Siriol Colley? With Holodomor still being denied in some quarters, the diaries she found and protected and published at Eryl, the family home in Barry, are crucial and reliable evidence that the famine happened and that the famine killed millions. It's worth remembering that it was the famine denier, Walter Duranty, that he was the one who won the Pulitzer prize for his articles on the Soviet Union in the 1930s—not Gareth Jones, but the famine denier. Siriol Colley dedicated decades of her retirement ensuring that her uncle, but, more importantly, Holodomor, will not be forgotten again in Wales and the west.
As Mick Antoniw has mentioned, today marks 1,000 days since the escalation of the war in Ukraine, yet it is nearly 4,000 days since the invasion of Crimea. As a Senedd, we should pay tribute, as many have already done, to the work of Mick and Alun Davies, for spending several recesses collecting and taking humanitarian aid to Ukraine. Only last week, here in the Siambr, Alun Davies mentioned hearing air-raid sirens in Ukraine. In 2024, it's tragic that the sound of air-raid sirens are heard once again on mainland Europe, or anywhere else. And let us, as Adam has said, let us not be complacent that that cannot happen again here in Wales.
I cannot help—. When I heard Alun mention the air-raid siren, I could not help but think of 11-year-old Alexi and his family. Alexi is a very talented pianist, who received free weekly piano lessons at the Tabernacl here in Cardiff, with some of Wales’s best musicians. He was incredible. I went to one of his concerts. He and his family returned to Ukraine at the end of last year. And recently, I met two women from the Ukraine who visited the homeless lunch in the city centre here in Cardiff. They had to leave the homes they'd been living in and were fearful for the future. They didn't have anywhere to go. Unfortunately, I've heard of other similar examples. Now, these women loved Wales. They were grateful for the support they'd received. They sang Calon Lân for us present. But I was ashamed that they didn't have a home here in Wales. So, therefore, what continuing support, Cabinet Secretary, is the Welsh Government offering Ukrainian refugees here in Wales? Diolch yn fawr.
Mae'n iawn ein bod ni eto, fel Senedd, yn nodi cyfraniad Gareth Jones, unigolyn hynod a wnaeth gymaint cyn ei farwolaeth ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed. Roedd e, mewn gwirionedd, yn rhan o grŵp o ieithyddion deallusol, yn rhan o gylch mewnol Lloyd George. Un arall oedd Morgan Watkin, ewythr Rhodri Morgan—pobl ryfeddol sydd wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth. Ond fe dalodd Gareth Jones y pris eithaf am ei ymgyrch i ddatgelu'r gwirionedd, ac mae'n werth myfyrio heddiw fod 55 o newyddiadurwyr wedi eu lladd yn y gwaith yn 2022, gyda hynny'n cynyddu i 120 yn 2023. Mae Reporters Without Borders yn dweud bod cyflwr rhyddid y wasg yn ddifrifol iawn mewn 31 o wledydd, sy'n nifer ddigynsail. Nid yw pethau'n gwella.
Rydym ni wedi sôn am Gareth Jones. A gaf i hefyd sôn am ei nith, Dr Siriol Colley? Gyda'r Holodomor yn dal i gael ei wadu mewn rhai cylchoedd, mae'r dyddiaduron y daeth o hyd iddyn nhw a'u gwarchod a'u cyhoeddi yn Eryl, cartref y teulu yn y Barri, yn dystiolaeth hanfodol a dibynadwy bod y newyn wedi digwydd a bod y newyn wedi lladd miliynau. Mae'n werth cofio mai un o wadwyr y newyn, Walter Duranty, oedd yr un a enillodd wobr Pulitzer am ei erthyglau ar yr Undeb Sofietaidd yn y 1930au—nid Gareth Jones, ond yr un a wadai'r newyn. Cysegrodd Siriol Colley ddegawdau o'i hymddeoliad gan sicrhau na fydd ei hewythr, ond, yn bwysicach fyth, yr Holodomor, yn cael eu hanghofio eto yng Nghymru a'r gorllewin.
Fel y crybwyllodd Mick Antoniw, mae heddiw yn nodi 1,000 diwrnod ers i'r rhyfel waethygu yn Wcráin, ac eto mae bron i 4,000 o ddyddiau ers yr ymosodiad ar y Crimea. Fel Senedd, dylem dalu teyrnged, fel y mae llawer eisoes wedi'i wneud, i waith Mick ac Alun Davies, am dreulio eu hamdden yn ystod sawl egwyl o'r Senedd yn casglu ac yn mynd â chymorth dyngarol i Wcráin. Dim ond yr wythnos diwethaf, yma yn y Siambr, soniodd Alun Davies am glywed seirenau cyrch awyr yn Wcráin. Yn 2024, mae'n drasig bod sŵn seirenau cyrch awyr yn cael eu clywed unwaith eto ar dir mawr Ewrop, neu unrhyw le arall. A gadewch i ni, fel y dywedodd Adam, beidio â bod yn hunanfodlon na all hynny ddigwydd eto yma yng Nghymru.
Ni allaf beidio â—. Pan glywais Alun yn sôn am y seiren cyrch awyr, ni allaf beidio â meddwl am Alexi a'i deulu sy'n 11 oed. Mae Alexi yn bianydd talentog iawn, a gafodd wersi piano wythnosol am ddim yn y Tabernacl yma yng Nghaerdydd, gyda rhai o gerddorion gorau Cymru. Roedd e'n anhygoel. Es i i un o'i gyngherddau. Dychwelodd ef a'i deulu i Wcráin ddiwedd y llynedd. Ac yn ddiweddar, cwrddais â dwy fenyw o'r Wcráin a ymwelodd â'r cyfleusterau cinio digartref yng nghanol y ddinas yma yng Nghaerdydd. Bu'n rhaid iddyn nhw adael y cartrefi roedden nhw wedi bod yn byw ynddyn nhw ac roedden nhw'n ofnus am y dyfodol. Doedd ganddyn nhw ddim lle i fynd. Yn anffodus, rwyf wedi clywed am enghreifftiau eraill tebyg. Nawr, roedd y menywod hyn yn caru Cymru. Roedden nhw'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gawson nhw. Fe wnaethon nhw ganu Calon Lân i ni a oedd yno. Ond roedd gen i gywilydd nad oedd ganddyn nhw gartref yma yng Nghymru. Felly, pa gefnogaeth barhaus, Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i ffoaduriaid Wcreinaidd yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
The Cabinet Secretary now to reply to the debate—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd, and thank you for all your contributions and heartfelt tributes to the victims of the Holodomor, and I am pleased that our cross-party support for Ukraine and commemorating Holodomor has been maintained. It is vital that we send a clear message of solidarity from across this Chamber. And as Members have reminded us, Holodomor came about as a result of the deliberate actions of Stalin and the Soviet regime.
And it is good that we have paid tribute to Gareth Jones today once again. We've been enlightened, as we've learned more about Gareth Jones over the years, but particularly over the period of the Putin invasion—we've been enlightened about his role as a courageous Welsh journalist who lost his life as a result of his bravery. He was a son of Barry, and, as well as the plaques that we've heard about across the world and in Kyiv, we've commemorated him in Barry, at his graveside, and with a plaque in the Barry cemetery chapel.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am eich holl gyfraniadau a theyrngedau twymgalon i ddioddefwyr yr Holodomor, ac rwy'n falch bod ein cefnogaeth drawsbleidiol i Wcráin a choffáu'r Holodomor yn dal yn gyson. Mae'n hanfodol ein bod yn anfon neges glir o undod o bob rhan o'r Siambr hon. Ac fel y mae'r Aelodau wedi ein hatgoffa, daeth yr Holodomor o ganlyniad i weithredoedd bwriadol Stalin a'r gyfundrefn Sofietaidd.
Ac mae'n dda ein bod wedi rhoi teyrnged i Gareth Jones heddiw unwaith eto. Rydym ni wedi cael ein goleuo, gan ein bod ni wedi dysgu mwy am Gareth Jones dros y blynyddoedd, ond yn enwedig dros gyfnod goresgyniad Putin—rydym ni wedi cael ein goleuo am ei rôl fel newyddiadurwr dewr o Gymru a gollodd ei fywyd o ganlyniad i'w ddewrder. Roedd yn un o feibion y Barri, ac, yn ogystal â'r placiau rydym ni wedi clywed amdanyn nhw ar draws y byd ac yn Kyiv, rydym ni wedi ei goffáu yn y Barri, ar lan ei fedd, a gyda phlac yng nghapel mynwent y Barri.
Diolch yn fawr am eich datganiad, Rhun ap Iorwerth—
Thank you for your statement, Rhun ap Iorwerth—
—as a fellow journalist. And thank you also, Darren Millar, for highlighting the importance of our support for Ukrainian people, here and in Ukraine. And as you say, Darren, we believe that solidarity between our nations is firm and resilient. And Wales did respond. We responded. I was just looking again—10,000 people, actually, do you remember, when we put out that call for an expression of interest, to host Ukrainians? Ten thousand people in Wales expressed an interest in hosting Ukrainians, and I know that there are Members here in this Chamber who hosted Ukrainians, and how, in your constituencies, your communities, you saw that warm welcome. So, we have a clear responsibility to support Ukrainians seeking sanctuary in the UK and here in Wales.
—fel cyd-newyddiadurwr. A diolch hefyd, Darren Millar, am dynnu sylw at bwysigrwydd ein cefnogaeth i bobl Wcráin, yma ac yn Wcráin. Ac fel y dywedwch chi, Darren, credwn fod undod rhwng ein cenhedloedd yn gadarn ac yn gydnerth. Ac ymatebodd Cymru. Fe wnaethom ni ymateb. Dim ond edrych eto oeddwn i—10,000 o bobl, mewn gwirionedd, ydych chi'n cofio, pan wnaethon ni alw ar bobl i fynegi diddordeb, i roi llety i Wcreiniaid? Mynegodd deng mil o bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn rhoi llety i Wcreiniaid, ac mi wn i fod Aelodau yma yn y Siambr hon a roddodd lety i Wcreiniaid, a sut y gwelsoch chi'r croeso cynnes hwnnw yn eich etholaethau a'ch cymunedau. Felly, mae gennym ni gyfrifoldeb clir i gefnogi Wcreiniaid sy'n ceisio noddfa yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.
Thank you very much. I just wanted to ask, really. I think it would be helpful for the Senedd to understand how robust and how live the Welsh Government support is to, obviously, external and volatile factors, as Adam Price mentioned in his contribution about the geopolitical changes, obviously, with the United States and the consequences of certain actions on Ukraine and indeed those other parts of western Europe, the UK, the US, for example, in terms of that support from the Welsh Government. Is that something that you think you're committed to seeing? Is the Welsh Government support changing with an everchanging and volatile situation that we, potentially, could be facing?
Diolch yn fawr iawn. Dim ond eisiau gofyn ydw i, mewn gwirionedd. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Senedd ddeall pa mor gadarn a pha mor ymatebol yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg, i ffactorau allanol ac anwadal, fel y soniodd Adam Price yn ei gyfraniad am y newidiadau geowleidyddol, yn amlwg, gyda'r Unol Daleithiau a chanlyniadau rhai camau gweithredu ar Wcráin ac yn wir y rhannau eraill hynny o orllewin Ewrop, y DU, yr Unol Daleithiau, er enghraifft, o ran y gefnogaeth honno gan Lywodraeth Cymru. A yw hynny'n rhywbeth rydych chi'n meddwl eich bod wedi ymrwymo i'w weld? A yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn newid gyda sefyllfa gyfnewidiol ac anwadal y gallem ni, o bosibl, fod yn ei hwynebu?
Well, I'm very proud that we are a nation of sanctuary, and I reemphasised our commitment to our nation of sanctuary in our recently refreshed 'Anti-racist Wales Action Plan'. And I believe the spirit of the Welsh people is very much in support of our nation of sanctuary, responding to global conflict and circumstances, as we have done for so many sanctuary seekers. We met many of them, actually, only last week. The United Nations Refugee Agency came down to Wales, and the Welsh Refugee Council spoke, and we met many of our sanctuary seekers here in the Pierhead.
Wel, rwy'n falch iawn ein bod yn genedl noddfa, ac fe wnes i ailbwysleisio ein hymrwymiad i'n cenedl noddfa yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar. Ac rwy'n credu bod ysbryd y Cymry'n cefnogi'n cenedl noddfa yn fawr, gan ymateb i wrthdaro ac amgylchiadau byd-eang, fel y gwnaethom ni i gynifer o geiswyr lloches. Fe wnaethon ni gyfarfod â llawer ohonyn nhw, mewn gwirionedd, dim ond yr wythnos diwethaf. Daeth Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig i Gymru, a siaradodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac fe wnaethom ni gwrdd â llawer o'n ceiswyr lloches yma yn y Pierhead.
And I just wanted to just quickly also respond to the questions that Rhys ap Iowerth—. Rhys ab Owen. I'm confused with my Rhyses today. So, just to say that the Ukrainian family scheme arrivals continue to have opportunities to be hosted. The Welsh Government will fund the host to support Ukraine family scheme arrivals where they can no longer live with their family sponsors and have to be rematched with an unrelated host. That is a really important up-to-date response. But also, to thank our local authorities for the way in which they responded, this was a team Wales response. We've published guidance for sponsors and guidance for Ukrainians through our Sanctuary.gov.wales website, and we continue to update Ukrainians on key changes that may develop, affecting their time in Wales. And of course, that has meant moving on from our welcome centres into accommodation. I've said that people in Wales have offered their hearts and homes, exceptional kindness and commitment. But, of course, our Ukrainian guests have shown us the benefits—many benefits—of migration, engaging in and all their skills being shared in jobs across all sectors, and indeed culture as well, which many of us have benefited from. So, the collaboration between Welsh Government, local government and third sector partners continues to play a vital role in safely welcoming Ukrainians to Wales and supporting their transition to longer term accommodation, including the use of the transitional accommodation capital programme.
So, I want to thank Mick Antoniw, our Ukrainian Senedd Member. You are our Ukrainian Senedd Member, Mick. You remind us, every day, every opportunity, of the horrors of Holodomor, and the importance of the history for lessons to be learnt of that act of genocide. And I think it's also just worth recalling and reflecting on the fact that, in 2006, the Government of Ukraine passed a law, again as Mick has said, recognising Holodomor as a genocide against the Ukrainian people. The Russian Government has acknowledged that famine took place in Ukraine but denied it was genocide. The Australian Senate recognised it as genocide in 2003, as have several European countries. The European Parliament recognised the Holodomor as a crime against humanity in 2008. So, Holodomor remains a painful subject for Ukrainians, and Ukrainians, as we know and have said, remember these events on Holodomor Memorial Day, on the fourth Saturday of November, and we will be commemorating here in the Senedd on 23 November. And on this day, people in Ukraine and all over the world light candles in memory of those killed, and last year marked 90 years since the start of Holodomor. But thank you, also, for bringing, Mick, again to our attention, the importance, as others have done today, about what this means for Ukraine now, here and now, and what's happening now in Ukraine. Adam Price and others have commented on that.
Ukrainian people have shown extraordinary resilience in their war with Russia, and despite the unbearable pain this invasion is causing, we know, to Ukrainians everywhere, the Ukrainian Government has continued its commitment to maintaining democratic governance, improving its systems to prepare for potential European Union and NATO membership. Their struggle is not solely about territorial sovereignty, but also about upholding democratic values against authoritarian aggression. The international community support has been crucial to Ukraine's continued resilience, and I'm pleased that we as a Senedd have again shown our support via this motion. As we look to the future, Llywydd, let us continue to build on existing relations between our two nations. Let us embrace the opportunities to collaborate even more closely, to support one another, and to celebrate the common values that define us both. Слава Україні! Героям слава!
Ac roeddwn i eisiau ymateb yn gyflym hefyd i'r cwestiynau y mae Rhys ap Iowerth—. Rhys ab Owen. Rwy'n drysu gyda'r enw Rhys heddiw. Felly, dim ond i ddweud bod y rhai sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin yn parhau i gael cyfleoedd i gael eu lletya. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r lletywr i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin lle na allan nhw fyw mwyach gyda'r teulu sy'n eu noddi a rhaid iddyn nhw gael eu paru o'r newydd â lletywr anghysylltiedig. Mae hwnnw'n ymateb cyfredol pwysig iawn. Ond hefyd, i ddiolch i'n hawdurdodau lleol am y ffordd y gwnaethon nhw ymateb, ymateb tîm Cymru oedd hwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer noddwyr a chanllawiau ar gyfer Wcreiniaid drwy ein gwefan Sanctuary.gov.wales, ac rydym yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Wcreiniaid am newidiadau allweddol a allai ddatblygu, a fydd yn effeithio ar eu hamser yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi golygu symud ymlaen o'n canolfannau croeso i lety. Rwyf wedi dweud bod pobl yng Nghymru wedi cynnig eu calonnau a'u cartrefi, caredigrwydd ac ymrwymiad eithriadol. Ond, wrth gwrs, mae ein gwesteion o Wcráin wedi dangos i ni fanteision—llawer o fanteision—mudo, drwy ymgysylltu a rhannu eu holl sgiliau mewn swyddi ym mhob sector, ac yn wir diwylliant hefyd, y mae llawer ohonom wedi elwa ohono. Felly, mae'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid trydydd sector yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth groesawu Wcreiniaid i Gymru yn ddiogel a chefnogi'r pontio maen nhw'n ei wneud i lety tymor hwy, gan gynnwys defnyddio'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol.
Felly, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw, ein Haelod Senedd Wcreinaidd. Chi yw ein Haelod Senedd Wcreinaidd, Mick. Rydych chi'n ein hatgoffa ni, bob dydd, pob cyfle, o erchyllterau Holodomor, a phwysigrwydd yr hanes er mwyn i wersi gael eu dysgu am y weithred honno o hil-laddiad. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn werth cofio a myfyrio ar y ffaith bod Llywodraeth Wcráin wedi pasio deddf yn 2006, eto fel y dywedodd Mick, yn cydnabod Holodomor fel hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Mae Llywodraeth Rwsia wedi cydnabod bod newyn wedi digwydd yn Wcráin ond gwadodd ei fod yn hil-laddiad. Gwnaeth Senedd Awstralia gydnabod ei fod yn hil-laddiad yn 2003, felly hefyd sawl gwlad Ewropeaidd. Gwnaeth Senedd Ewrop gydnabod bod Holodomor yn drosedd yn erbyn dynoliaeth yn 2008. Felly, mae Holodomor yn parhau i fod yn bwnc poenus i Wcreiniaid, ac mae Wcreiniaid, fel y gwyddom ac fel yr ydym wedi'i ddweud, yn cofio'r digwyddiadau hyn ar Ddiwrnod Coffa Holodomor, ar y pedwerydd dydd Sadwrn o Dachwedd, a byddwn ni'n cofio yma yn y Senedd ar 23 Tachwedd. Ac ar y diwrnod hwn, mae pobl yn Wcráin a ledled y byd yn goleuo canhwyllau er cof am y rhai a laddwyd, a'r llynedd, roedd hi'n 90 mlynedd ers dechrau Holodomor. Ond diolch, hefyd, Mick, am ddwyn i'n sylw eto bwysigrwydd, fel y mae eraill wedi'i wneud heddiw, yr hyn y mae hyn ei olygu i Wcráin nawr, a'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae Adam Price ac eraill wedi gwneud sylwadau ar hynny.
Mae pobl Wcráin wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn eu rhyfel â Rwsia, ac er gwaethaf y boen annioddefol y mae'r goresgyniad hwn yn ei hachosi, rydym yn gwybod, i Wcreiniaid ym mhobman, mae Llywodraeth Wcráin wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal llywodraethu democrataidd, gan wella ei systemau i baratoi ar gyfer aelodaeth bosibl o'r Undeb Ewropeaidd a NATO. Mae eu brwydr yn ymwneud â mwy na sofraniaeth diriogaethol, mae'n ymwneud â chynnal gwerthoedd democrataidd yn erbyn ymddygiad ymosodol awdurdodol. Mae cefnogaeth y gymuned ryngwladol wedi bod yn hanfodol i wytnwch parhaus Wcráin, ac rwy'n falch ein bod ni fel Senedd unwaith eto wedi dangos ein cefnogaeth trwy'r cynnig hwn. Wrth i ni edrych i'r dyfodol, Llywydd, gadewch i ni barhau i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli eisoes rhwng ein dwy genedl. Gadewch i ni groesawu'r cyfleoedd i gydweithio hyd yn oed yn agosach, i gefnogi ein gilydd, ac i ddathlu'r gwerthoedd cyffredin sy'n diffinio ein dwy wlad. Слава Україні! Героям слава!
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unfrydol.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed unanimously.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ac fe fyddwn ni felly yn gorffen ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb.
And that therefore brings our proceedings to a close. Thank you all.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:45.
The meeting ended at 17:45.