Y Cyfarfod Llawn
Plenary
19/11/2024Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r safbwyntiau a fynegwyd gan gymunedau lleol ynghylch effaith parc cenedlaethol newydd yng Nghymru? OQ61876
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi? OQ61866
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi drwy roi grant blynyddol i Gyngor Llyfrau Cymru.
Wel, fe fyddwch chi'n ymwybodol, felly, fod y grant hwnnw wedi disgyn yn sylweddol, gyda Chyngor Llyfrau Cymru'n datgan ei fod gyfwerth â gostyngiad o 40 y cant mewn termau real ers 10 mlynedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn, gan gynnwys toriad o 34 y cant yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan brif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau. Mae nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi wedi cysylltu efo fi, yn hynod o bryderus am y sefyllfa, gyda rhagor o doriadau staff yn anochel a hefyd nifer o gyhoeddwyr, megis Y Lolfa, ddim hyd yn oed yn gwybod os gallant barhau. O ystyried ffocws ein Llywodraeth ar lythrennedd, yn dilyn pryderon dybryd am lefel llythrennedd plant Cymru yn y Saesneg a'r Gymraeg—efo'r Gymraeg tua 18 mis ar ei hôl hi o'i gymharu â'r Saesneg—dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno pa mor bwysig ydy'r diwydiant hwn o ran sicrhau cynnwys cyfoes a chynrychioliadol i helpu gyda hyn. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r pryderon, ac allwch chi gynnig unrhyw eiriau o sicrwydd i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant hwn eich bod chi'n gwrando ac am weithio efo nhw i sicrhau dyfodol llewyrchus i gyhoeddi yng Nghymru?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae yna bwysau ariannol ar y Llywodraeth, ac yn arbennig y llynedd roedd yna bwysau ariannol. Ac fel lot o ardaloedd eraill yn y gyllideb, gwelon ni doriadau er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r arian yna i ddiogelu pethau fel iechyd, sydd hefyd yn flaenoriaeth i bobl Cymru. Mae hwnna'n rhan o'r ffaith bod yna gamreoli'r economi wedi digwydd, ac effaith chwyddiant hefyd. Wrth gwrs, rŷn ni yn y broses ar hyn o bryd o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Mae gwahoddiad i chi drafod gyda ni. Mae yna reswm i chi, efallai, drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid. Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r gwir flaenoriaeth sydd gyda chi.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweindydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd menywod? OQ61895
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r NHS yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd i fenywod. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno nyrsys pwrpasol ar gyfer endometriosis ym mhob un o’r byrddau iechyd. Bydd y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae’r cynllun yn nodi cynlluniau gweithredu tymor byr a thymor hir yr NHS i sicrhau mwy o welliannau mewn gwasanaethau i fenywod.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leddfu'r pwysau ar ganolfannau achub anifeiliaid anwes? OQ61907
5. Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau adsefydlu iechyd meddwl yng Nghaerdydd? OQ61903
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru? OQ61878
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio gwasanaethau bysiau? OQ61909
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda? OQ61908
Yn olaf, cwestiwn 9, Peredur Owen Griffiths.
9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dinasyddion Cymru sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn y dwyrain canol? OQ61913
Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo dros bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn y dwyrain canol. Dylai unrhyw ddinasyddion o Gymru sydd yn y dwyrain canol gysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael cymorth. Rŷn ni’n chwarae rhan weithredol o ran cryfhau’r berthynas gyda chymunedau Mwslimaidd a chymunedau Iddewig yng Nghymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Dwi'n falch bod gwaith yn mynd rhagddo yn lleol a thramor hefyd i wneud hynny.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Ac yn olaf, Trefnydd, rŷch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, fod yr Ysgrifennydd iechyd wedi rhoi datganiad allan—
Mae trydydd, pan ŷch chi eisoes dros yr amser yn—
Wel, mi ges i ddeall, fel llefarydd, y byddwn i'n cael cyfle i'w wneud, ond mi wnaf i blygu i'ch dymuniad, Llywydd.
Dwi ddim yn gwybod pwy roddodd y caniatâd yna i chi, ond fe gawn ni drafod hynny y tu allan i'r Siambr.
Diolch.
Diolch yn fawr. Well, diolch yn fawr, Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]
Trefnydd, roeddwn innau'n falch o fod yn y digwyddiad Rhuban Gwyn neithiwr, a dwi'n diolch i Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched am drefnu'r digwyddiad hynod bwerus ac effeithiol hynny. Mae'n rhaid i ni ddyblu, treblu ein hymdrechion ni i ddileu trais yn erbyn menywod.
Gaf i ofyn am ddatganiad ar fater arall, gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi? Mae angen eglurder am ddyfodol y grant shared prosperity. Mae eisiau eglurder am lefel y grantiau, y meini prawf, sut y bydd o'n cael ei weinyddu yng Nghymru, a nifer o gwestiynau eraill sy'n codi i'r meddwl ynghylch hyn hefyd. Mae yna nifer o gynlluniau yn Arfon sydd yn wynebu cyfnod ansicr iawn. Mi wnaf i roi un esiampl i chi, sef Academi Adra ym Mhenygroes—cynllun arloesol sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau newydd yn y maes adeiladwaith a'r maes tai. Mae yna 164 o bobl ifanc cyn belled wedi manteisio ar y cynllun Academi Adra, ond mae ei ddyfodol o yn y fantol oherwydd bod yna ansicrwydd ynghylch y gronfa shared prosperity, sy'n creu'r posibilrwydd o cliff edge hollol ddiangen ar gyfer y cynllun yma. Felly, gawn ni eglurder? Mae hwnnw'n angenrheidiol, nid yn unig i'r cynllun yma, ond i nifer fawr ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Mae torri amseroedd aros hir a sicrhau mynediad amserol at ofal wedi’i gynllunio yn flaenoriaeth i’r cyhoedd ac i’r Llywodraeth hon. Ers y pandemig, mae hyd y rhestr aros a faint o amser y mae pobl yn aros am driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hyn yn wir ar draws y Deyrnas Unedig, nid dim ond yng Nghymru. Cafodd y pandemig effaith enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd. Gwaetha'r modd, roedd y camau a gymeron ni i flaenoriaethu gofal pobl â COVID ac argyfyngau difrifol eraill yn golygu y bu'n rhaid i bobl ag anghenion, efallai, llai brys aros yn hirach. Cyn y pandemig, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, tua 10 wythnos oedd yr amser aros ar gyfartaledd rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Cododd hyn i 29 wythnos ym mis Hydref 2020—y lefel uchaf erioed. Ond roedd wedi lleihau i 23 wythnos ym Awst 2024.
Dirprwy Lywydd, fe wnaeth atgyfeiriadau gofal wedi'i gynllunio gronni yn ystod y pandemig. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi gweithio’n galed i'w lleihau yn y ddwy flynedd diwethaf wrth i’r galw am ofal wedi’i gynllunio ddychwelyd i'r lefelau blaenorol. Mewn rhai achosion, aeth y galw y tu hwnt i'r lefelau hynny. I gefnogi’r gwasanaeth iechyd, rydym yn darparu mwy na £1 biliwn o gyllid adfer yn ystod tymor y Senedd hon. Ond dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau. Yng nghanol y cyfnod ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, a waethygwyd gan gyllideb drychinebus Liz Truss, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd rheng flaen i helpu i leihau amseroedd aros a chyflymu mynediad at ofal.
Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu bron i £900 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd. Mae byrddau iechyd wedi gwneud llawer iawn i geisio lleihau amseroedd aros. Mae’r ffigurau perfformiad diweddaraf yn dangos—a bydd ffigurau newydd allan ddiwedd yr wythnos hon—fod yr amseroedd aros hiraf wedi gostwng traean ers eu lefel uchaf ym mis Mawrth 2022. Mae amseroedd aros hir ar gyfer profion diagnostig wedi gostwng 30 y cant o'u lefel uchaf yn Awst 2020. Erbyn hyn, tua 3 y cant o bobl ar y rhestr aros sy'n aros am fwy na dwy flynedd, o gymharu â bron i 10 y cant ym mis Mawrth 2022. Ond mae gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth, ac mae'n rhaid i ni fynd ymhellach.
Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau sydd yn cael eu cymryd, unrhyw arian ychwanegol sydd yn cael ei roi er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros. Mae'n dda clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma'n dweud bod torri'r rhestrau aros yn flaenoriaeth, fel, yn wir, yr oedd o i'w ragflaenydd a'i rhagflaenydd hithau ac i bob Ysgrifennydd Cabinet neu Weinidog iechyd. Mae yna gyd-destun, wrth gwrs, i hyn. Mae hyn yn cael ei gyhoeddi yn erbyn cefnlen o dargedau cael gwared â rhestrau aros dwy flynedd wedi cael eu methu'n llwyr—y rhestrau aros hiraf erioed, efo un o bob pump o bobl Cymru bellach ar restr aros. Ac mae hefyd yn ddifyr nodi, nôl ym mis Medi, mai'r datrysiad bryd hynny oedd cynnig triniaethau yn Lloegr. Erbyn mis Hydref, y datrysiad oedd talu £28 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros. Rŵan, a ninnau ym mis Tachwedd, y datrysiad ydy cynyddu'r £28 miliwn yna i £50 miliwn. Tybed beth fydd y datganiad yn y mis nesaf.
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: gweinyddu etholiadol a diwygio etholiadol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y diwydiannau creadigol. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a diolch iddo fe am amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae'r sector yn ei wneud? Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau dwfn iawn y maen nhw wedi'u profi fel sector, yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Cyn credu'r hype, efallai fod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf yr amgylchiadau, nid oherwydd y sefyllfa y maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddi.
Yn wir, fel rhywun a oedd yn aelod o'r pwyllgor diwylliant, a dwi'n dal fel aelod nawr yn derbyn gohebiaeth yn wythnosol, bron iawn, gan fusnesau yn y sector, gan gyrff a mudiadau sydd yn esbonio sut maen nhw ar eu gliniau yn trio cyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni, ond yn ffeindio hynny'n gynyddol anoddach.
Ac yn olaf, John Griffiths.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch am y datganiad yna.
Eitem 6 sydd nesaf. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8727 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Y Gweinidog i ymateb, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Mike Hedges a Peter Fox am eu cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 6 wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 sydd nesaf. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yw'r Gorchymyn yma. Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd sy'n cyflwyno'r Gorchymyn. Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8726 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Dyna'r unig gyfraniad sydd gyda fi. Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb? Ydy.
Diolch am hynny. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 yw’r eitem nesaf. Y ddadl ar yr Holodomor yw hon, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Cynnig NDM8728 Jane Hutt, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio dioddefwyr hil-laddiad yr Holodomor a’r cysylltiad hanesyddol â Chymru drwy adroddiadau Gareth Jones.
2. Yn cydnabod cyfraniadau ac ymroddiad y grŵp ‘Senedd dros Wcráin’.
3. Yn ymrwymo i undod parhaus gydag Wcreiniaid yng Nghymru a chydag Wcráin.
Cynigiwyd y cynnig.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
Diolch yn fawr am eich datganiad, Rhun ap Iorwerth—
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unfrydol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac fe fyddwn ni felly yn gorffen ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch yn fawr i bawb.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:45.