Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/07/2020

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd)
5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
6. Cwestiynau Amserol
7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
9. & 10. Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
11. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020
12. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
13. Dadl: Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20 mya yng Nghymru
14. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru
15. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd
16. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 yn sgil COVID-19
17. Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc'
18. Dadl Plaid Cymru: Cymru Annibynnol
Pwynt o Drefn
19. Cyfnod Pleidleisio

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 10:01 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Bore da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sydd yn ymuno ar gynhadledd fideo.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr a rhai yn ymuno drwy gynhadledd fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, rwyf wedi penderfynu bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig. Rwyf yn hysbysu hefyd fod y cyhoedd yn unol â Rheol Sefydlog 34.15 wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn yma, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a Chofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.

Y Sector Busnesau Bach

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor y sector busnesau bach yng Nghymru yn raddol yn dilyn y cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19? OQ55478

Llywydd, diolchaf i Hefin David am y cwestiwn yna. Cymerwyd y cam o ailagor y sector busnes cyfan yng Nghymru mewn ymgynghoriad â busnesau, cyrff cynrychioliadol ac undebau llafur i sicrhau bod ein dull o ailagor yn ddiogel, yn gymesur ac yn deg i fusnesau, i weithwyr ac i gwsmeriaid. Cyhoeddais gamau pellach i leddfu'r cyfyngiadau symud ynghyd ag amserlen ategol ddydd Gwener yr wythnos diwethaf.

Fel y gallwch chi ddychmygu, Prif Weinidog, mae dydd Gwener yn ddiwrnod prysur iawn ar fy nhudalen Facebook a thrwy e-bost, lle mae gen i gwestiynau am amgylchiadau penodol. Rwyf i wedi cael llawer o gwestiynau, ond rwyf i wedi dewis dau o'r rhai a ofynnwyd amlaf.

Mae'r cyntaf o'r rhain yn ymwneud â hyfforddwyr gyrru yn cael cynnig gwersi: pryd y bydd hyfforddwyr gyrru yn cael cynnig gwersi, a thrwy estyniad, pryd y bydd canolfannau prawf yn cael agor wedyn? A'r cwestiwn arall a ofynnir amlaf yw canolfannau chwarae i blant: pryd y bydd canolfannau chwarae i blant yn cael agor? Ac mae hynny'n cynnwys pethau fel chwarae meddal.

Llywydd, diolchaf i Hefin David am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n falch iawn o gael dweud, Llywydd, ein bod ni wedi dod i gytundeb â'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu cydweithrediad ar y mater hwn, ac am y trafodaethau gyda nhw a'r undebau llafur dros yr wythnos diwethaf. O ganlyniad, gallaf gadarnhau heddiw y byddwn ni'n cyflwyno ailgychwyniad graddol yng Nghymru, gyda hyfforddiant i yrwyr a beicwyr yn cychwyn ar 27 Gorffennaf, a phrofion—profion theori a phrofion ymarferol—yn cael eu cyflwyno'n raddol o 3 Awst ymlaen. A thrwy ei wneud yn y modd hwnnw, gallwn fod yn ffyddiog y bydd y broses o ailagor gwersi a phrofion gyrru yng Nghymru yn cael ei chynnal mewn modd diogel i bawb dan sylw, gan gynnwys y rhai sy'n cael gwersi a'r rhai sy'n cynnal profion. Bydd y canllawiau yn cael eu darparu yn yr achos hwn, Llywydd, gan y DVSA, a byddan nhw'n eu cyhoeddi ynghyd ag amserlen fwy manwl ar eu gwefan yn fuan iawn.

O ran canolfannau chwarae i blant, canolfannau chwarae i blant dan do, Llywydd, nid oes amser wedi'i glustnodi ar gyfer eu hailagor hyd yn hyn. Byddan nhw'n rhan o'r trafodaethau yr ydym ni wedi ymrwymo iddyn nhw yn ystod y tair wythnos hon gyda chanolfannau hamdden ac awdurdodau lleol, a chyn gynted ag y byddwn ni'n gallu ailagor y canolfannau chwarae dan do hynny yn ddiogel, yna byddwn yn gwneud hynny. Gall mannau chwarae yn yr awyr agored, wrth gwrs, ailagor o 20 Gorffennaf.

10:05

Bore da. Prif Weinidog, wrth ateb fy nghwestiynau yr wythnos diwethaf, dywedasoch nad oeddwn i wedi deall yr agweddau ymarferol ar ailagor busnesau lletygarwch, felly gofynnaf i chi: beth ydych chi'n ei ddweud wrth Shibber Ahmed o fwyty'r Blue Elephant yn Llandudno, sy'n nodi, 'Mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn creu amgylchedd anghyfeillgar i fusnesau lletygarwch y wlad', gan eich bod chi'n parhau i atal ei gwmni rhag ailagor masnach dan do yn ddiogel? Beth ydych chi'n ei ddweud wrth Laurie a Paul, dau o westywyr lleol yn y gogledd, sy'n dweud wrthyf i fod eich gweithredoedd yn peri risg o droi ein cyrchfannau glan môr yn drefi anghyfannedd, gan eu bod wedi cael nifer nas gwelwyd erioed o'r blaen o achosion o ganslo yn sgil eich cyhoeddiad eich hun yr wythnos diwethaf? Beth ydych chi'n ei ddweud wrth Go North Wales, sydd wedi ysgrifennu atoch chi ac sy'n dweud, 'ar ôl 20 mlynedd o fod yn berchen ar westai yn llwyddiannus i safon uchel, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'n torri ni o ran arian, ysbryd a meddwl'?

Prif Weinidog, gan fod disgwyl i drosiant rhagamcanol fod yn 25 y cant o'r lefelau cyn y cyfyngiadau symud, a'r ansicrwydd presennol yn bygwth hyd at 22 y cant o swyddi yn y sector hwn, onid chi sydd wedi methu â deall y realiti a'r sefyllfa sy'n wynebu ein busnesau lletygarwch? A phryd ydych chi'n mynd i ddarparu rhywfaint o gyfarwyddyd neu ddim ond ychydig o wybodaeth, fel y gall ein gwestywyr a'n bwytai ddychwelyd i'r gwaith? Diolch.

Llywydd, wel, yr ateb i'r cwestiynau hynny yw fy mod i'n credu y byddai'n well i bobl ganolbwyntio ar y pethau hynny y gallan nhw eu gwneud, yn hytrach na chwyno am y pethau na allan nhw eu gwneud, gan fod digonedd o gyfle i'r holl fusnesau hynny ailagor yng Nghymru erbyn hyn, i ailagor yn yr awyr agored o ddydd Llun yr wythnos hon, ac ar yr amod bod hynny yn llwyddiannus a bod y coronafeirws yn dal o dan reolaeth, i ailagor dan do o 3 Awst ymlaen.

Yr adroddiadau yr wyf i wedi eu cael gan ein sector lletygarwch a'n sector twristiaeth yw eu bod nhw wedi cael dechrau da iawn yn wir wrth ailagor y tymor, gyda channoedd a channoedd o bobl yn trefnu gwyliau yng Nghymru. Mae'r rhai hynny yn y sector sy'n flaengar ac yn gadarnhaol yn edrych ar y pethau y maen nhw'n gallu eu gwneud erbyn hyn ac yn gwneud llwyddiant o'r rheini, yn hytrach nag ysgrifennu llythyrau yn cwyno am y pethau nad ydyn nhw'n gallu eu gwneud. Yn y modd hwnnw, byddan nhw'n gallu gwneud llwyddiant o'u busnesau ac o'r sector.

Chwaraeon Proffesiynol

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon proffesiynol? OQ55449

Diolchaf i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Mae ein cronfa cadernid economaidd wedi bod yn agored ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau chwaraeon proffesiynol, a darparwyd dros £0.75 miliwn o bunnau i'r sector o ganlyniad.

Prif Weinidog, diolch am eich ateb. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol. Ers mis Mawrth, mae chwaraeon proffesiynol yng Nghymru naill ai heb fod yn cael eu chwarae neu wedi cael eu chwarae heb wylwyr. Mae clybiau chwaraeon proffesiynol fel y Gweilch a chlwb pêl-droed Dinas Abertawe yn gyflogwyr mawr yn Abertawe, yn ogystal â'u pwysigrwydd fel cenhadon i'r ardal a'r ddarpariaeth o adloniant. Mae angen dybryd am gymorth ariannol i chwaraeon proffesiynol hyd nes y caniateir i wylwyr ddychwelyd, oni bai ein bod ni'n wynebu'r posibilrwydd erchyll o beidio â chael unrhyw chwaraeon proffesiynol o dan lefel ryngwladol. Pa gymorth ariannol pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i chwaraeon proffesiynol yng Nghymru hyd nes y caiff y gwylwyr ddychwelyd?

Wel, Llywydd, fel y dywedais i, rydym ni eisoes wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol i nifer o sefydliadau chwaraeon proffesiynol yng Nghymru—cyfanswm o dros £0.75 miliwn. Rwy'n falch o ddweud bod rhai o'r buddiolwyr hynny yn uniongyrchol yn ardal yr Aelod ei hun. Ac rydym ni wedi cyhoeddi cronfa cadernid chwaraeon o £8.5 miliwn, ac mae £4.5 miliwn o hynny ar gyfer cyrff llywodraethu cenedlaethol, a bydd hynny o gymorth i'r sector hefyd.

Ond hoffwn gytuno â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol, fel cyflogwyr pwysig mewn rhannau o Gymru, ond hefyd y rhan y mae gwylio a mwynhau chwaraeon proffesiynol yn ei chwarae ym mywydau cynifer o'n cyd-ddinasyddion. Pryd y byddwn ni mewn sefyllfa i ddychwelyd at sefyllfa o wylwyr mewn niferoedd mawr yn y digwyddiadau hynny, rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar, rwy'n ofni, i allu dweud hynny.

Yn y cyfamser, er yn amlwg nad oes gan chwaraeon proffesiynol sy'n cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yr un awyrgylch a'r atyniad y byddai ganddyn nhw fel arall, gellir gwneud hynny yn llwyddiannus serch hynny. Fel rhywun a dreuliodd y rhan fwyaf o'r penwythnos yn gwrando ar y gêm brawf, roedd mor afaelgar fel gwyliwr o bell ag y byddai wedi bod pe byddai'r stadiwm wedi bod yn llawn.

10:10

Prif Weinidog, un ffordd o gefnogi chwaraeon proffesiynol yng Nghymru fyddai llacio'r rheolau cadw pellter cymdeithasol a chaniatáu i stadia Cymru ailagor. Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Lloegr yn gwneud y pwynt bod lleihau mesurau cadw pellter cymdeithasol i 1m, sef argymhelliad a chanllaw Sefydliad Iechyd y Byd, yn arwain at gapasiti o 40,000 o bobl mewn stadiwm sydd ag 80,000 o seddau, o'i gymharu â llai na 10,000 os cedwir at 2m. O gofio bod Undeb Rygbi Cymru yn wynebu colledion rhagweledig o tua £107 miliwn oherwydd coronafeirws, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch cyflwyno mesurau fel llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol i 1m i alluogi Cymru i chwarae ei gemau cartref ar feysydd Cymru?

Wel, Llywydd, rydym ni wedi cael cyfres o drafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru, ac rwyf i wedi cymryd rhan uniongyrchol yn rhai o'r rheini fy hun. Rydym ni eisoes yn rhoi cymorth sylweddol i Undeb Rygbi Cymru ac mewn trafodaethau â nhw ynglŷn â chymorth ychwanegol y gallem ni ei ddarparu.

Yn sicr, nid yw'r syniad o 40,000 o bobl yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad torfol yn gyson â'r dull o fynd i'r afael â'r coronafeirws a fu gennym ni yma yng Nghymru. Yn syml, nid yw'r risg y byddai hynny yn ei hachosi i iechyd y bobl hynny a fyddai'n bresennol, ac i'r bobl hynny y byddai'n rhaid eu cyflogi i ganiatáu i hynny ddigwydd, o fewn terfynau yr hyn y byddai dull synhwyrol o ymdrin â'r pandemig byd-eang hwn yn ei awgrymu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Yn gyntaf heddiw, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, canfu astudiaeth a gyhoeddwyd gan Ganolfan Leverhulme Rhydychen ar gyfer Gwyddoniaeth Ddemograffig bod gorchuddion wyneb yn effeithiol o ran lleihau lledaeniad COVID-19 i'r sawl sy'n eu gwisgo a'r rhai o'u hamgylch, ac mae hyn yn ychwanegu, wrth gwrs, at gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n cefnogi'r un casgliad. Nododd yr astudiaeth ymhellach fod tua 70 o wledydd wedi argymell yn syth y dylid defnyddio masgiau yn gyffredinol ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi'r pandemig yng nghanol mis Mawrth. Hyd yn hyn, mae mwy na 120 o wledydd yn gwneud gwisgo masg yn ofynnol bellach—mae hynny'n fwy na 60 y cant o'r byd. Maen nhw'n orfodol yn yr Alban, fel y gwyddom ni, mewn siopau, a bydd yr un peth yn wir yn Lloegr o 24 Gorffennaf ymlaen—oedi anesboniadwy braidd, yn fy marn i.

Mae eich dull gofalus, o ran llacio'r cyfyngiadau, wedi gweithio'n dda mewn sawl ffordd, ond rydych chi mewn perygl nawr, rwy'n credu, o droedio'r llinell rhwng bod yn rhy bwyllog a bod yn rhy araf yn y mater hwn. Pam mae Cymru ar ei hôl hi pan fo cynifer o wledydd eraill wedi cymryd camau mor bendant?

Rwy'n gwrthod yn llwyr yr ymadrodd ar ei hôl hi. Rydym ni'n gwneud y pethau sy'n iawn i Gymru. Nid yw hynny'n golygu dilyn unrhyw un arall dim ond am eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yr ydym ni wedi penderfynu peidio â'i wneud.

Llywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, hoffwn gymryd munud yn hwy nag a fyddwn fel rheol i esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, o gofio ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Yn gyntaf oll, mae'n bwysig meddwl am y cyd-destun yn y fan yma. Mae rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfyngiad ar ryddid dinasyddion Cymru fod yn gymesur â'r perygl i iechyd y cyhoedd a wynebir.

Beth yw cyflwr y feirws yma yng Nghymru? Wel, mae ar ei lefel isaf ers dechrau'r argyfwng. 0.25 y cant—chwarter o 1 y cant—oedd cyfradd y canlyniadau positif yn y 7,000 o brofion y dydd a gynhaliwyd yng Nghymru dros y penwythnos, neu 20 prawf allan o 7,000 yn dod yn ôl yn rhai positif. Mewn cyferbyniad, 7 y cant yw cyfradd y canlyniadau positif yn Blackburn, lle mae cyfyngiadau symud yn cael eu hailgyflwyno—30 gwaith y gyfradd yng Nghymru. Nid oedd un achos positif mewn rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos diwethaf cyfan—14 o'r 22 awdurdod lleol, o'r hyn a gofiaf, heb yr un achos positif wedi'i adrodd. Y prawf cymesuredd: a yw'n gymesur ei gwneud yn ofynnol i holl ddinasyddion Cymru sy'n mynd i mewn i siop wisgo gorchudd wyneb, pan fo'r feirws mewn cylchrediad mor isel yma yng Nghymru?

Yna, y mater o siopau. Wel, mae siopau yn wahanol yng Nghymru gan fod ein rheoliadau yn wahanol. Yn wahanol iawn i'r sefyllfa ar draws ein ffin, bu'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn rheoliadau gennym ni, a dyna'r sefyllfa ddiofyn yma yng Nghymru o hyd: rhwymedigaeth gyfreithiol ar fusnesau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau pellter o 2m. Ac, ers dydd Llun, ceir rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar siopau erbyn hyn i gymryd cyfres bellach o fesurau lliniaru pan na ellir cynnal pellter o 2m, ac anfonwyd llythyrau at bob un o'r prif archfarchnadoedd ddoe i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r gyfraith yng Nghymru a'u rhwymedigaeth i gydymffurfio â hi.  

Ac yna, yn olaf, Llywydd, a yw hi'n ddiamwys ac yn amlwg yn fanteisiol i wrthod mynediad i siopau i'r rhai nad ydyn nhw'n gwisgo gorchuddion wyneb? Nid yw cyngor ein prif swyddog meddygol wedi newid: mae ganddyn nhw fân fanteision ond mae ganddyn nhw anfanteision pendant hefyd. Mae rhai pobl yn cymryd mwy o risgiau oherwydd eu bod nhw'n gwisgo gorchudd wyneb. Nid yw rhai pobl yn gallu gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint, pobl â chyflyrau asthmatig. Mae rhai pobl dan anfantais pan fydd pobl eraill yn gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â nam ar eu golwg, pobl sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau. Ac, ar ôl iddo ddod yn orfodol, bydd yn rhaid ei orfodi. Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i adolygu'r holl beth. Rwyf i wedi gofyn am ragor o gyngor, er enghraifft, ar awgrymiadau bod archfarchnadoedd mewn cyrchfannau twristiaid wedi bod yn orlawn dros y penwythnos diwethaf wrth i boblogaethau yn yr ardaloedd hynny gynyddu. Byddai defnydd gorfodol o orchuddion wyneb yn rhan o gyfyngiadau symud lleol, pe byddai hynny'n dod yn angenrheidiol, yn sicr yn rhan o repertoire posibl yma yng Nghymru. A phe byddai cyffredinrwydd coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu, byddai ein cyngor yn cael ei ailystyried. Yn y cyfamser, y sefyllfa yng Nghymru yw bod gan unrhyw un sy'n mynd i mewn i siop sy'n dymuno gwisgo masg wyneb hawl i wneud hynny. Ein cyngor ni, os yw'n orlawn, yw y dylech chi wisgo un. Ond, a ddylem ni ei wneud yn orfodol o dan yr holl amodau yr wyf i wedi'u disgrifio? A ddylem ni dresmasu ar ryddid pobl i'r graddau hynny? Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yng Nghymru.

10:15

Rhagamcanwyd yn ddiweddar gan Athrofa Metrigau a Gwerthuso Iechyd Prifysgol Washington mai 20,000 o farwolaethau ychwanegol fyddai'r gwahaniaeth rhwng defnydd cyffredinol o fasgiau wyneb yn y DU rhwng nawr a mis Tachwedd. Ar sail gymesur, byddem ni'n sôn am tua 1,000 o farwolaethau posibl yng Nghymru. Yn rhan o'r adolygiad y mae wedi cyfeirio ato, a wnaiff ef ofyn yn benodol i'r gell cynghori technegol ac i'r prif swyddog meddygol edrych ar yr astudiaeth honno a pha un a oes ganddi rym tystiolaethol a fyddai'n awgrymu bod angen i ni newid y polisi a bod angen i ni ei newid yn gyflym?

A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? O ran y sector gofal, rydym ni wedi clywed gan Fforwm Gofal Cymru eu mynegiant o siom nad ydyn nhw wedi cael unrhyw sicrwydd ynghylch pa un a fydd profion wythnosol i staff yn parhau. A allwch chi heddiw, Prif Weinidog, dawelu pryderon y sector a chyhoeddi eich strategaeth profi ar gyfer cartrefi gofal yn y dyfodol?

O ran pwynt cyntaf Mr Price, rwyf i wedi gweld yr astudiaeth honno, ac rwy'n hapus iawn i ofyn i'r grŵp cynghori technegol edrych arni. Ar y darlleniad cyntaf, mae'n ymddangos yn annhebygol iawn. Rydym ni wedi llwyddo yng Nghymru i fynd o sefyllfa lle'r oeddem ni'n adrodd am ddegau o farwolaethau bob dydd i sefyllfa lle na chafwyd marwolaeth o gwbl mewn tri neu bedwar diwrnod dros y penwythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw nid oedd gorchuddion wyneb erioed yn orfodol o gwbl. Felly, sut y gellir dadlau gyda hygrededd y byddem ni'n atal 1,000 o farwolaethau ychwanegol dim ond drwy wisgo gorchuddion wyneb—. Ar y darlleniad cyntaf, cefais hynny'n anodd iawn ei ddeall ac i weld grym y ddadl honno, yn enwedig pan nad yw gorchuddion wyneb yn agos at fod yr un amddiffyniad i chi â chadw pellter cymdeithasol o 2m a gwneud y pethau eraill sy'n cael mwy o effaith ar siawns pobl o ddal y feirws. Ond, mae ein grŵp cynghori technegol yno i adolygu'r dystiolaeth ac rwy'n hapus iawn y dylai adolygu'r dystiolaeth honno hefyd.

Y prynhawn yma, Llywydd, bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn ateb cwestiwn, rwy'n deall, am gartrefi gofal. Bydd yn gallu esbonio canlyniadau'r dadansoddiad yr ydym ni wedi bod yn ei gynnal o'r pedair wythnos o brofion wythnosol ar staff cartrefi gofal—profion a ddatgelodd mai 0.1 y cant oedd cyffredinrwydd coronafeirws ymhlith staff cartrefi gofal, un person o bob mil. Felly, bydd yn cyflwyno ei gasgliadau o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i brofion yn y sector cartrefi gofal yn yr wythnosau i ddod y prynhawn yma, a chanlyniad ymgysylltiad uniongyrchol â Fforwm Gofal Cymru fydd yr hyn a fydd ganddo i'w ddweud.

10:20

Rwy'n credu mai'r pwynt yn yr astudiaeth honno ac, yn wir, gwyddonwyr eraill sydd wedi cefnogi'r defnydd o fasgiau wyneb yn frwd, yw, wrth i chi newid lefel y cyfyngiadau a'ch bod felly yn arwain at fwy o bobl mewn mwy o gysylltiad, bod cael gorchudd wyneb yn fesur ychwanegol a all newid nifer yr achosion ac, yn wir, nifer y marwolaethau wedyn.

A gaf i aros gyda'r sector gofal? Os yw'r argyfwng COVID wedi addysgu unrhyw beth i ni, gwerth y sector hwnnw yw hynny. Mae gweithwyr gofal wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y feirws, fel y gwyddom. Mae eu hymdrechion diflino wedi cael eu llesteirio ar adegau gan y ddynameg sy'n aml yn ddatgysylltiedig rhwng ein sectorau iechyd a gofal a'r ffaith nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Onid dyma'r amser, Prif Weinidog, wrth i ni ddechrau meddwl am Gymru ar ôl COVID, am wasanaeth iechyd a gofal integredig cenedlaethol sydd am ddim ar bwynt angen a fydd yn cysoni ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol ac yn rhoi'r codiad cyflog a'r strwythur cyflogau y maen nhw'n eu haeddu i weithwyr gofal drwy eu symud i raddfeydd cyflog y GIG? Nid oes dim yn rhwystro hyn rhag digwydd, o ewyllys gwleidyddol. A ydych chi'n rhannu hynny?

Wel, Llywydd, rwy'n deall y pwynt a wnaeth Adam Price am yr astudiaeth. Dyna pam y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol y byddwn i'n gofyn am ragor o gyngor ar awgrymiadau bod archfarchnadoedd wedi dod yn arbennig o orlawn mewn rhai rhannau o Gymru. Oherwydd, pe byddai hynny'n wir, mae'r ddadl dros wisgo gorchuddion wyneb yn cael ei chryfhau yn y cyd-destunau hynny. Felly, rwy'n deall y pwynt a wnaeth yn y fan yna.

Llywydd, bu gennym ni raglen sylweddol o fewn Llywodraeth Cymru o dalu am ofal, gan fanteisio ar waith yr Athro Gerry Holtham a'r cynigion y mae ef wedi eu gwneud. A, gan rannu llawer o'r pwyntiau y mae Adam Price wedi eu gwneud y bore yma am werth y sector a'r angen i wneud yn siŵr bod y bobl sy'n gweithio ynddo yn cael eu parchu a'u gwobrwyo'n briodol, byddwn yn defnyddio'r gwaith hwnnw i fwrw ymlaen â pholisi yng Nghymru. Ac mae gwir angen i ni weld, Llywydd, casgliad polisi gan Lywodraeth y DU—mae adolygiad Dilnot bron yn ddegawd oed erbyn hyn a does dim o gwbl y gellir ei ddangos ohono—gan y bydd unrhyw beth yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru yn cael ei effeithio yn anochel gan newidiadau yn y system budd-daliadau, a gynigiwyd gan Dilnot, a bydden nhw'n cael effaith ar ddinasyddion Cymru hefyd. Felly, ni fydd ateb ar gyfer Cymru yn unig yn gweithio, gan y bydd y rhyngblethedd â phenderfyniadau a wneir mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli yn berthnasol, a byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein camau yn rhoi ystyriaeth lawn i'r newidiadau a wneir dros y ffin ac mae angen i ni wybod beth fydd y newidiadau hynny.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o 6 Gorffennaf, mae aelwydydd yng Nghymru wedi cael caniatâd i ddod at ei gilydd i ffurfio swigen gymorth estynedig i alluogi teuluoedd i aduno, sy'n golygu y caiff pobl ffurfio un aelwyd estynedig a chyfarfod dan do. Croesawyd y cam hwnnw gan lawer ledled Cymru a oedd, ar ôl misoedd o beidio â chael gweld eu hanwyliaid, yn cael treulio rhywfaint o amser gyda'u teuluoedd a chyda'u ffrindiau o'r diwedd. O ystyried pa mor gyflym y mae cynifer o newidiadau yn cael eu gwneud erbyn hyn, sydd bellach yn arwain at fwy a mwy o bobl yn rhyngweithio â'i gilydd mewn mannau awyr agored ac o dan do, efallai ei bod hi'n bryd ystyried creu swigod cymorth pellach, felly. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa dystiolaeth wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i ategu ei pholisi ar swigod cymdeithasol? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i lacio cyfyngiadau ymhellach o ran y mater penodol hwn?

Llywydd, rwy'n credu bod y dystiolaeth yr ydym ni'n gweithredu arni wedi ei chyflwyno mewn papur grŵp cynghori technegol a gyhoeddwyd gennym ni. Byddaf yn gwirio a yw wedi'i gyhoeddi ac, os nad ydyw, rwy'n hapus iawn i rannu'r papur gydag arweinydd yr wrthblaid. Mae'n bapur manwl. Mae'n manteisio i raddau helaeth iawn ar brofiad yn Seland Newydd fel y sail i'r cynigion yr ydym ni'n eu dilyn yma yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i adolygu'r polisi hwnnw yn ystod y cylch tair wythnos presennol, ac rydym ni eisoes ymhell i mewn i'w wythnos gyntaf. Byddwn yn defnyddio'r hyblygrwydd ychwanegol yr oedd gennym ni yn ystod y tair wythnos hon i roi sylw i'r galwadau brys gan y diwydiant twristiaeth a lletygarwch i ailagor y busnesau hynny yng Nghymru, ac ar ôl i ni wneud y penderfyniadau hynny, yna faint o hyblygrwydd sydd gennych chi ar ôl i wneud mwy o ran aelwydydd estynedig, neu aelwydydd yn dod at ei gilydd yn yr awyr agored neu o dan do, yn anochel yn gyfyngedig. Ar yr amod ein bod ni mewn sefyllfa, ar ddiwedd y cylch tair wythnos hwn, bod coronafeirws yng Nghymru yn dal o dan reolaeth, i'r graddau yr wyf i eisoes wedi'u disgrifio y bore yma, bydd posibiliadau newydd, a bydd defnyddio rhywfaint o'r hyblygrwydd hwnnw i lacio ymhellach y cyfyngiadau ar deuluoedd a ffrindiau yn cyfarfod yn sicr yn rhan o'r ystyriaeth honno.

10:25

Prif Weinidog, diolch i bobl Cymru, gwnaed cynnydd sylweddol o ran cyfyngu lledaeniad y feirws mewn cymunedau ledled Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi caniatáu i ryddid gael ei ymestyn mewn meysydd eraill. Er enghraifft, mae cyfres arall o gyfyngiadau coronafeirws sydd hefyd wedi cael eu codi yng Nghymru, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn ymwneud â llety hunangynhwysol, megis bythynnod gwyliau a charafanau, yn ailagor.

Mae busnesau lletygarwch Cymru ledled y wlad hefyd wedi dechrau ailagor yr wythnos hon mewn mannau awyr agored, ac mae llawer yn edrych ar ffyrdd y gallan nhw barhau i gydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth pan fyddan nhw'n ailagor eu mannau dan do ar 3 Awst. Felly, o ystyried yr angen i gynorthwyo busnesau lletygarwch yma yng Nghymru ar unwaith, a allwch chi ddweud wrthym ni pa becyn cymorth penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn y tymor byr? Ac a fyddwch chi hefyd yn cyflwyno strategaeth benodol ar gyfer y sector lletygarwch yn y tymor canolig a'r hirdymor i ddiogelu ei gynaliadwyedd a diogelu swyddi hanfodol? A pha strategaeth twristiaeth ddomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei datblygu fel y gallwn ni sicrhau bod ymwelwyr yn gwario cymaint a phosibl a helpu i gefnogi ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yn y cyfnod hwn?

Wel, Llywydd, darparwyd degau o filiynau o bunnau o gymorth eisoes i'r sector twristiaeth ac, ar wahân ac yn ychwanegol, i'r sector lletygarwch yma yng Nghymru. Mae hynny yn ychwanegol at yr holl gymorth y mae'r sector wedi ei gael gan Lywodraeth y DU drwy'r cynllun ffyrlo, sydd wedi bod yn bwysig dros ben yn y ddau ddiwydiant hynny. A gwnaed llawer iawn, iawn o geisiadau ychwanegol i gam 2 y gronfa cadernid economaidd, a ddaeth i ben ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, eto o'r sectorau hynny. Felly, mae'r sectorau wedi cael cymorth sylweddol iawn gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru i gydnabod yr effaith enfawr y mae'r coronafeirws wedi ei chael arnyn nhw.

Mae ein strategaeth uniongyrchol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ailagor y sectorau a'u hailagor yn ddiogel, a dyna fydd ein pwyslais o hyd dros yr wythnosau nesaf, oherwydd mae angen gwneud llwyddiant o'r camau cyntaf hyn fel y gallwn ni adeiladu arnyn nhw ymhellach a pharhau i ailagor y sector. Ac mae adnoddau Llywodraeth Cymru, yr adnoddau staffio, ein gallu i ymgysylltu yn uniongyrchol â'r sector wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y strategaeth honno, cael y diwydiannau hyn yn gweithio unwaith eto. Ar ôl i ni lwyddo i wneud hynny yn llwyddiannus, yna, wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda meysydd twristiaeth a lletygarwch, ar y cyd â nhw, i lunio dyfodol drwy weddill y flwyddyn hon sydd yn adeiladu ar ba lwyddiant bynnag y gallwn ni ei sicrhau ac sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i ennill bywoliaeth yn y modd y maen nhw'n ei wneud, i ddarparu cyflogaeth yn y modd y maen nhw'n ei wneud, ac i gyfrannu at economi Cymru mewn modd sylweddol iawn.

Prif Weinidog, mae ailagor y sector lletygarwch yn raddol yng Nghymru yn cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ryngweithio'n gymdeithasol gydag aelodau o'r tu allan i'w haelwydydd. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â busnesau lletygarwch lleol i drafod effaith barhaus COVID-19 a rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac roedd y neges yn eglur: eleni, mae'r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch yn canolbwyntio ar oroesi yn unig. Felly, wrth i'r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio, bydd yn hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael ei wario yn lleol yng Nghymru, ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn ail-ganolbwyntio ei harferion caffael i helpu ein busnesau i adfer. Mae busnesau bach a chanolig Cymru angen cymorth nawr yn fwy nag erioed, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio unrhyw a phob ysgogiad sydd ar gael iddi i gefnogi busnesau a hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau lleol. Felly, Prif Weinidog, pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ei harferion caffael i gynorthwyo busnesau yng Nghymru a'u helpu i adfer? A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni pa ymgyrchu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i wario yn lleol a chefnogi busnesau Cymru i helpu i adfywio cymunedau lleol ar draws y wlad? Ac, o ystyried y mesurau a gyflwynwyd gan wledydd eraill ar draws y byd i gynorthwyo busnesau, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i gyflwyno cymhellion ariannol, fel rhyddhad ardrethi busnes, i gynorthwyo busnesau Cymru i adfer ar ôl y pandemig hwn?

10:30

Wel, Llywydd, mae rhyddhad ardrethi busnes fwy neu lai ar gael i bawb yn y sectorau hyn ar gyfradd o 100 y cant am weddill y flwyddyn ariannol hon, felly does dim byd arall y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth, oherwydd dydyn nhw ddim yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.

O ran gwariant a chaffael lleol, yna'r maes eithriadol lle'r ydym ni wedi gallu ennill tir newydd yn y cyd-destun hwn yw cyfarpar diogelu personol, lle mae llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ateb yr alwad a wnaed gennym ni i'n helpu i sicrhau'r cyflenwadau angenrheidiol o gyfarpar diogelu personol ar gyfer ein sector iechyd a gofal cymdeithasol—cyflwynwyd 250 miliwn o eitemau erbyn hyn, Llywydd, miliwn o eitemau yn cael eu cyflwyno bob dydd, 91 miliwn o eitemau i ofal cymdeithasol yn unig. Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny pe na byddem ni wedi defnyddio ein prosesau caffael i annog busnesau Cymru i drosi'r hyn yr oedden nhw'n yn ei wneud yn flaenorol i gynhyrchu masgiau wyneb, gynau sy'n gwrthsefyll hylifau a phethau eraill sydd bellach yn cael eu cyflenwi nid yn unig i Gymru, ond i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o sut, mewn argyfwng, y gall pobl weithredu'n gyflym iawn, yn hynod o gadarnhaol. Rydym ni wedi bod mor ddiolchgar am yr hyn y mae busnesau yng Nghymru wedi ei wneud yn y maes hwn, ac rydym ni eisiau gwneud mwy o hynny, wrth gwrs.

O ran gwariant lleol, yna mae'r ffaith na chafodd ein neges 'aros yn lleol' yng Nghymru ei diddymu tan oddeutu wythnos yn ôl yn golygu bod pobl yn wir wedi bod yn gwario yn lleol yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn, oherwydd dyna lle mae eu bywydau wedi cael eu byw. Gwn fod hynny, ynddo'i hun, wedi llwyddo i gynnal nifer o fusnesau na fydden nhw, heb y gefnogaeth leol honno, wedi gallu goroesi. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies: y cwbl y mae llawer o fusnesau yn ei wneud yw ceisio goroesi ar hyn o bryd. A'n nod ni yw eu helpu nhw i oroesi fel y byddan nhw yno i barhau eu llwyddiant blaenorol pan ddaw'r dyddiau gwell. Ond bu'r goroesiad hwnnw yn bosibl, mewn nifer o gyd-destunau, dim ond oherwydd bod pobl wedi aros yn lleol, gan eu bod nhw wedi gwario yn lleol ac wedi cefnogi'r busnesau lleol hynny.

Prif Weinidog, rydych chi wedi goruchwylio cyfradd sylweddol uwch o haint COVID-19 yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sefyllfa economaidd waeth. Er gwaethaf hyn, rydych chi wedi dod o hyd i amser i ddwrdio Llywodraeth y DU ynghylch ei chyfrifoldebau Brexit, ddwywaith gan ddefnyddio'r argyfwng i fynnu eu bod nhw'n ymestyn y cyfnod pontio, wrth i chi geisio atal Brexit unwaith eto. Nawr, rydym ni'n gweld eich Gweinidog adferiad economaidd yn sgil COVID yn troi ei sylw at ymosod ar Lywodraeth y DU ynghylch Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae'n ymosod arni am fethu ag ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad ar y Ddeddf Cydnabod Rhywedd, ac, fe'n hysbysir, am

ohirio cyhoeddiad yr adolygiad dro ar ôl tro.

A yw'n bosibl y bu gan Lywodraeth y DU flaenoriaethau eraill?

Llywydd, fe wnaf i geisio cael hyd i rywbeth o'r cwestiwn, os gallaf. Yn sicr, nid yw Brexit wedi diflannu, ac mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Y cyfan yr ydym ni'n canolbwyntio arno yw ceisio ei helpu i ddigwydd mewn ffordd nad yw'n ychwanegu haen arall o gyfyngder economaidd ar gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes mewn trafferthion, fel y dywedodd Paul Davies, wrth ymdrin â chanlyniadau pandemig byd-eang. Dyna'r cyfan yr ydym ni'n ei ofyn: yn syml nad yw trychineb na allai neb fod wedi ei hatal yn cael ei gwaethygu gan drychineb y gellir yn sicr ei hatal drwy'r weithred syml iawn o ofyn am estyniad byr i'r cyfnod pontio i gymryd i ystyriaeth y ffaith, fel y mae'r Aelod newydd ei ddweud, bod pobl wedi bod yn brysur iawn yn gwneud pethau eraill. Os yw hynny'n berthnasol i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, siawns ei fod yn fwy perthnasol fyth i ddull synhwyrol o weithredu Brexit.

O ran yr adolygiad o'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yw gwneud yr hyn y maen nhw wedi dweud y bydden nhw'n ei wneud. Dim byd arall. Maen nhw wedi cynnal yr adolygiad, maen nhw wedi addo ei gyhoeddi, nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn yw eu bod nhw'n gwneud yr hyn y gwnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n ei wneud.

Mewn sawl maes, Prif Weinidog, rydych chi, yn ddealladwy, wedi gwneud ymrwymiadau fel Llywodraeth na fu'n bosibl eu cyflawni neu y bu'n rhaid eu hoedi oherwydd yr argyfwng COVID. Y cwbl yr wyf i'n ei awgrymu yw eich bod chi'n cydnabod ac yn derbyn bod pwysau tebyg yn effeithio ar Lywodraeth y DU. Pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit. Fe wnaethoch chi gyflwyno eich cynigion ar y pwnc yn yr etholiad cyffredinol, ac mae gennym ni Lywodraeth Geidwadol sydd â mwyafrif o 80 erbyn hyn. Siawns na ddylech chi dderbyn y penderfyniad democrataidd hwnnw.

Mae gennym ni rai meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, a rhai meysydd sydd wedi'u cadw yn ôl. Ond dro ar ôl tro rydym ni'n gweld Llywodraeth Cymru yn methu â pharchu'r setliad hwnnw, yn methu â pharchu pwerau a gadwyd yn ôl. O ran cydnabod rhywedd, rwy'n credu bod rhai materion anodd a heriol ynghylch cydbwyso hawliau, ond onid y ffordd o ymdrin ag ef ar gyfer mater a gadwyd yn ôl yw gweithio o fewn y fframwaith a bennwyd gan Lywodraeth y DU, nid gwneud datganiad unochrog o annibyniaeth—yn hytrach, canolbwyntio ar y pwerau datganoledig sydd gennych chi, a gwneud iddyn nhw weithio'n iawn.

Fy mhryder i gyda hyn, fel cynifer o rai eraill, yw eich bod chi'n lladd ar Lywodraeth y DU am y ffordd y mae'n arfer pwerau a gadwyd yn ôl, ac eto'n cwyno pan fydd unrhyw un yn eich beirniadu chi mewn unrhyw ffordd am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn cyd-destun datganoledig. Rydych chi bob amser yn mynnu mwy a mwy o bwerau datganoledig, ond eto pleidleisiodd nifer sylweddol o bobl yng Nghymru yn erbyn datganoli. Y tro diwethaf, fe wnaeth y rhai a'i cefnogodd wneud hynny ar sail sicrwydd ar y papur pleidleisio

na all y Cynulliad ddeddfu ar...dreth...beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon.

Ac eto, law yn llaw â'r Ceidwadwyr, torrwyd yr addewid hwnnw gennych chi, a datganolwyd pwerau treth incwm heb y refferendwm arall a addawyd. Onid dyna pam nad yw datganoli yng Nghymru wedi'i setlo, ynghyd â'ch penderfyniad i wrthod parchu pwerau a gadwyd yn ôl, a'r ffaith, faint bynnag sy'n cael ei ddatganoli, nid yw byth yn ddigon i wleidyddion yn y fan yma?

10:35

Llywydd, os wyf i'n cofio'n iawn—ac efallai fy mod i'n anghywir, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd cadw'n gyfredol—roedd yr Aelod yn AS Ceidwadol ar yr adeg y torrodd y Blaid Geidwadol yr addewid a wnaed ganddi i bobl yng Nghymru ynglŷn â refferendwm. Roedd yn AS Ceidwadol, pleidleisiodd dros yr addewid a dorrwyd, ac yna mae'n dod i'r fan yma i gwyno am y peth. Nid oes llygedyn o hygrededd yn yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud. Llywydd, rwyf i'n credu mewn datganoli pendant, a dyna'r polisi y bydd y Llywodraeth hon yn ei ddilyn.

Cwestiwn 3, Carwyn Jones. Cwestiwn 3, Carwyn Jones. 

Deffrwch.

Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi clywed 'Caroline Jones'. Maddeuwch i mi, Llywydd.

Cymorth Ariannol i Fusnesau

3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru? OQ55469

Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Llywydd, mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros, yn ategu cynlluniau eraill yn y DU ac yn golygu bod gan gwmnïau yng Nghymru fynediad at y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi cysylltu â'm swyddfa etholaeth i fynegi eu diolch am y cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rhai busnesau yn dal i bryderu efallai na fyddan nhw'n gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, microfusnesau yn bennaf. A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd felly y bydd y dulliau cymorth yn cael eu hadolygu'n gyson i wneud yn siŵr bod cymaint o gymorth a phosibl ar gael i gynifer o fusnesau â phosibl?

Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn atodol yna. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen yn y Cynulliad, yn y Senedd, rydym ni wedi ceisio defnyddio ein cyllid i ategu'r cymorth sydd wedi bod ar gael trwy gynlluniau Llywodraeth y DU, ac mae microfusnesau yn un o'r meysydd hynny yr ydym ni wedi canolbwyntio arnyn nhw o ganlyniad. Lansiodd fy nghyd-Weinidog Ken Skates gam 2 y gronfa cadernid economaidd, Llywydd, fel y soniais—£100 miliwn arall i gynorthwyo busnesau Cymru. Gwn y bydd o ddiddordeb i'm cyd-Aelod Carwyn Jones wybod, pan gaeodd y gronfa i geisiadau ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, bod y gronfa microfusnesau wedi cael 5,524 o geisiadau, a phe byddech chi'n adio'r ceisiadau hynny at ei gilydd, byddai wedi arwain at geisiadau am £54.2 miliwn o'r gronfa microfusnesau. Derbyniodd y gronfa unig fasnachwyr 453 o geisiadau am swm o £4.4 miliwn, ac roeddwn i'n falch iawn fy hun o allu lansio'r gronfa busnesau newydd sbon yn rhan o gam 2 y gronfa cadernid economaidd, cronfa gwerth £5 miliwn. Gallai helpu hyd at 2,000 o fusnesau gyda hyd at £2,500 yr un. Mae'r rhain i gyd ar gyfer yr union fathau o fusnesau y mae Carwyn Jones wedi eu crybwyll y bore yma, Llywydd, ac rwy'n credu eu bod nhw'n enghreifftiau o'r ffordd yr ydym ni wedi ceisio defnyddio ein harian i lenwi'r bylchau hynny a chanolbwyntio ar y busnesau hynny sydd wedi llithro trwy rwyd y cynlluniau mawr y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar waith, a defnyddio ein harian i gyflawni'r effaith orau.

10:40

Prif Weinidog, yr hyn a fyddai'n drychinebus yn economaidd fyddai'r angen am naill ai cyfyngiadau symud o'r newydd neu gyfyngiadau symud lleol, ac un o'r mesurau allweddol yr ydych chi wedi eu rhoi ar waith yw profi ac olrhain. Mae eich ffigurau ar gyfer dychwelyd y canlyniadau o brofi ac olrhain yn gwaethygu. Mae'r ffigurau ar gyfer darpariaeth mewn 24 awr o dan gyfradd ymateb o 50 y cant, ac mewn 48 awr dim ond 66 y cant o brofion sy'n cael eu dychwelyd i'r bobl sydd wedi cyflwyno eu hunain ar gyfer prawf. Sut yr ydych chi'n mynd i wella'r ffigurau hyn i ddod yn agosach at y 90 y cant y mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu sy'n cynnig strwythur profi effeithiol a fyddai'n ein hamddiffyn yn economaidd, a hefyd ein hiechyd?

Llywydd, rwy'n cytuno ag Andrew R.T. Davies bod osgoi ail don o'r coronafeirws yn ddiweddarach eleni yn bwysig dros ben i iechyd busnesau, yn ogystal ag iechyd y boblogaeth, a dyna pam yr ydym ni wedi mabwysiadu'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r byd yn union pa mor hawdd yw hi i symud o sefyllfa o ddiogelwch cymharol i un lle mae'n rhaid ailgyflwyno cyfyngiadau symud. Felly, rwy'n cytuno â'i bwynt yn hynny o beth.

Mae angen i'n system 'Profi Olrhain Diogelu' ddychwelyd mwy o brofion yn gyflymach, ac rydym ni'n gweithio gyda'r system er mwyn i hynny ddigwydd. Byddem ni wedi cael gwell canlyniadau ddiwedd yr wythnos diwethaf oni bai i un o'r labordai goleudy, yr ydym ni'n eu defnyddio mewn niferoedd mwy erbyn hyn, wynebu cyfres o anawsterau yr wythnos diwethaf a oedd yn golygu bod eu gallu i ddychwelyd profion mewn 24 awr wedi cael ei rwystro gan yr heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu. Rydym ni'n trefnu gwasanaeth cludo gwell i wneud yn siŵr bod profion yn cael eu cludo o'r safle profi i'r labordy yn gyflymach ac yn fwy rheolaidd yn ystod y dydd. Rydym ni'n archwilio gyda'n labordai yng Nghymru ffyrdd y gallan nhw ddarparu canlyniadau'r profion hyn yn gyflymach.

Yn y cyfamser, mae'r system 'Profi Olrhain Diogelu' yn ei chyfanrwydd, rwy'n falch o ddweud, yn gweithio'n dda iawn; cysylltwyd yn llwyddiannus gydag 82 y cant o achosion positif a nodwyd rhwng 28 Mehefin a 4 Gorffennaf, a gwnaed gwaith dilynol llwyddiannus ar 87 y cant o dros 1,150 o gysylltiadau agos. Ac mae'r ffigurau hynny'n cymharu yn ffafriol iawn â lefelau o gamau dilynol llwyddiannus sy'n cael eu cyflawni mewn mannau eraill.

Mae nifer o fusnesau gwledig, yn enwedig, dros y blynyddoedd wedi bod yn cael cefnogaeth ar gyfer eu busnesau drwy cynlluniau fel y cynllun datblygu gwledig, yr RDP, ac fe welon ni'n ddiweddar adroddiad gan Archwilio Cymru a oedd wedi amlygu bod yna gamweinyddu wedi bod gan Lywodraeth Cymru ar rai agweddau ohono—gwerth £53 miliwn wedi cael ei ddosrannu mewn ffordd oedd ddim â mesurau yn eu lle i sicrhau gwerth am arian. Mi gawson ni gadarnhad yn y pwyllgor datblygu cynaliadwy wythnos diwethaf y byddai yna disallowance; hynny yw, bod yna drafodaethau nawr yn digwydd rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i adhawlio peth, os nad y cyfan, o'r arian yna.

Fyddech chi felly yn derbyn nawr ei bod hi'n amser i ni gael adolygiad llawn o'r modd mae'r RDP yng Nghymru wedi cael ei weinyddu, ac wedi cael ei ddefnyddio, er mwyn i ni fod yn hyderus ein bod ni wedi cael y gwerth am arian y dylen ni fod wedi cael am y buddsoddiad yma, yn enwedig o gofio bod eich Llywodraeth chi nawr yn bwriadu defnyddio'r model RDP, a'r modd y mae hwnnw yn cael ei weithredu, fel sail ar gyfer y cynlluniau rŷch chi'n eu dod gerbron ar gyfer cefnogi amaeth a rheolaeth tir cynaliadwy yn y dyfodol? Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi.  

Wrth gwrs, dwi'n cytuno ei bod yn bwysig dysgu gwersi. Rŷn ni yn gwneud hynny, ac mae'r RDP yn cael pobl i edrych i fewn i beth rŷn ni'n ei wneud ar y lefel Ewropeaidd ac ar y lefel leol hefyd. Mae'n bwysig i fod yn glir ar beth roedd yr audit office wedi'i ddweud, Llywydd. 

Yr hyn a ddywedwyd ganddyn nhw oedd nad oedd y prosesau yn sicrhau bod gwerth am arian wedi ei gyflawni, ac rydym ni wedi gwella'r prosesau hynny ers hynny. Yr hyn na wnaethon nhw ei ddweud oedd nad oedd y cynlluniau a ariannwyd yn cynnig gwerth am arian, oherwydd ni ystyriwyd y cynlluniau ganddyn nhw o gwbl, dim ond y broses a ddefnyddiwyd i ariannu'r cynlluniau. Mae cryn nifer o'r cynlluniau a ystyriwyd ganddyn nhw wedi mynd ymlaen i fod yn gynlluniau arobryn yma yng Nghymru, a'r tu hwnt i Gymru hefyd. Felly, ni ddywedodd yr adroddiad erioed na wnaeth y cynlluniau eu hunain sicrhau gwerth am arian, y cwbl a ddywedwyd oedd nad oedd y broses a ddefnyddiwyd i'w hariannu yn rhoi sicrwydd i chi bod yr arian wedi ei wario yn y ffordd honno, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni roi sylw iddo. Mae ein pwyslais, Llywydd, yn ogystal â dysgu gwersi, ar geisio gwneud yn siŵr bod gennym ni gyllid cyfatebol yn y dyfodol i barhau i wneud y buddsoddiadau hynny yn yr economi wledig y mae'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi caniatáu i ni eu gwneud. Ac nid ydym ni'n agos at gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU, ac nid oes llawer o amser erbyn hyn tan bydd y cyllid hwnnw'n ddechrau dod i ben.

10:45
Gorsafoedd Radio Lleol

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd gorsafoedd radio lleol yng Nghymru? OQ55455

Diolchaf i Dr Lloyd am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gorsafoedd radio lleol o ran sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael gafael ar newyddion a gwybodaeth leol hanfodol, sydd wedi bod yn hollbwysig yn ystod pandemig COVID-19.

Prif Weinidog, darlledwyd y rhaglen Sunday Hotline, a gyflwynir gan Kev Johns ar Sain Abertawe, olaf erioed yr wythnos hon. Roedd y llinell boeth wedi gweithredu ers degawdau ac roedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan drigolion lleol, gan gynnig cyfle unigryw i bobl godi materion lleol o bryder ac i holi gwleidyddion lleol. Yn anffodus, bydd yr orsaf yn gadael y tonnau awyr ym mis Medi, yn rhan o ymarfer ailfrandio. Nawr, mae mwy na digon o rwydweithiau DU gyfan neu ranbarthol, a phob un yn adrodd yr un newyddion, gyda'r un cyflwynwyr. Yr hyn sydd ar goll yw radio gwirioneddol leol sy'n adlewyrchu bywydau pobl leol. A ydych chi'n cytuno felly mai un ffordd o wneud iawn am y golled hon yw datganoli darlledu i'r Senedd hon ac i ddatblygu ein hôl-troed gorsafoedd radio masnachol lleol ein hunain yma yng Nghymru?

Rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am bwysigrwydd darlledu lleol. Bûm i ar raglen Kev Johns fy hun unwaith, yng nghwmni fy nghyd-Aelod Mike Hedges, ac roedd yn brofiad da iawn—darlledwr medrus iawn, gyda pherthynas go iawn â'i gynulleidfa leol, ac yn ddigon abl i gyfleu'r pethau a oedd yn peri'r pryder mwyaf iddyn nhw.

Fy nealltwriaeth i, Llywydd, yw, er na fydd Sain Abertawe yn gweithredu yn ei enw mwyach, nad yw prynwr gorsafoedd radio lleol y Wireless Group wedi gofyn i Ofcom am unrhyw newid i gylch gwaith yr orsaf honno. Bydd yn ofynnol felly, pan fydd yn ailagor, cyflawni'r fformat gwreiddiol, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiadau yn ymwneud â rhaglennu Cymraeg a newyddion a gwybodaeth leol. A byddwn ni'n sicr yn disgwyl i Ofcom sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni yn y ffordd y bydd yr orsaf newydd yn gweithredu, er budd trigolion Abertawe ac ar gyfer y rhai sydd yng nghyffiniau'r ardal honno.

Mae'r ddadl ehangach, Llywydd, yn un yr ydym ni wedi ei chael sawl gwaith yma ar lawr y Senedd ac ym mhwyllgorau'r Senedd. Ein pwyslais uniongyrchol yw gwneud yn siŵr, fel y dywedais i, bod y rhwymedigaethau ar y perchennog newydd i ddarparu gwasanaeth lleol sy'n llwyddo i adlewyrchu iaith, diwylliant a phryderon unigryw y cymunedau y mae'r orsaf yn eu gwasanaethu—bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni. A byddwn yn canolbwyntio ar hynny, fel y dywedais, mewn cyfathrebiad uniongyrchol gydag Ofcom ei hun.

Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld budd mawr radio rhanbarthol, lleol a chymunedol, yn wir, yn ystod yr argyfwng hwn, wrth iddyn nhw ddod â chysur mawr i lawer o bobl gan y bu'n rhaid iddyn nhw dreulio cymaint o amser gartref, gyda newyddion ac eitemau lleol. Ac rwy'n meddwl tybed a allwch chi wneud mwy i ddefnyddio caffael, cymorth â grantiau hyfforddi, a negeseuon iechyd cyhoeddus hefyd, a rhoi cynifer â phosibl drwy'r llwybrau hyn. Gall Llywodraeth Cymru yn y ffordd y mae'n gweithredu yn economaidd helpu'r rhwydweithiau hanfodol hyn.

Llywydd, rwy'n cytuno â phob un o'r pwyntiau yna. Rydym ni wedi defnyddio ein cyllideb hysbysebu yn ystod argyfwng y coronafeirws yn uniongyrchol i osod hysbysebion ar radio lleol, gan gynnwys Sain Abertawe. Rydym ni wedi gwneud ein gorau i gynnig cymaint o fynediad â phosibl i'r allfeydd lleol hynny fel y gallan nhw ddefnyddio eu llwyfannau i wneud yn siŵr bod pobl yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ac yn y cynadleddau dyddiol i'r wasg yr ydym ni wedi bod yn eu cynnal, Llywydd, bu gennym ni 12 o ddarlledwyr lleol ynddyn nhw yn rheolaidd—unwaith eto, gan gynnwys Sain Abertawe. Ac rwyf i, fy hun, wedi rhoi cyfweliadau i 20 o wahanol orsafoedd radio lleol a phapurau newydd lleol yn ystod y tri mis diwethaf, unwaith eto dim ond i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad uniongyrchol at Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni eu cynorthwyo yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Rydym ni wedi aildrefnu ein cronfa newyddiaduraeth gymunedol annibynnol ac mae saith o gyhoeddiadau yng Nghymru wedi rhannu £76,500 o gyllid i'w cynorthwyo yn yr heriau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu, ac rydym ni wedi helpu dwy orsaf i gael gafael ar gronfa radio cymunedol Ofcom o £400,000. Mae Ofcom yn bwriadu lansio, yn weddol fuan, ail fersiwn y gronfa honno, a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gorsafoedd radio cymunedol yng Nghymru i sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfle gorau o sicrhau cyllid o'r ffynhonnell honno hefyd.

Felly, rwy'n cytuno â David Melding am bwysigrwydd y pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu, ac rwy'n gobeithio fy mod i wedi gallu dangos, yn yr holl wahanol bethau yr ydym ni'n gallu eu gwneud, bod gennym ni allfeydd argraffu a darlledu lleol yn flaenllaw yn ein meddyliau yn ystod y pandemig.

10:50
Y Sector Gweithgynhyrchu

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru? OQ55476

Llywydd, disgwyliwyd i faniffesto gweithgynhyrchu Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ar 2 Ebrill. Er nad yw ymgynghoriad ffurfiol wedi bod yn bosibl oherwydd argyfwng y coronafeirws, mae themâu'r maniffesto—sgiliau, seilwaith, ymchwil ac arweinyddiaeth, er enghraifft—yn parhau i lunio ein cymorth i'r sector.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r maniffesto gan ei fod yn hollbwysig. Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi bod yn sylfaen i lawer o'n heconomi dros y blynyddoedd, a dros y canrifoedd a dweud y gwir, ac mae'n bwysig. Mae angen i ni barhau â hynny. Rydym ni wedi gweld colledion yn Airbus, GE. Mae gweithgynhyrchu wedi cael ei daro gan COVID yn ddifrifol iawn.

Nawr, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ystyried gweithgynhyrchu mewn gwirionedd, ac nad yw'n rhoi'r gefnogaeth y dylai fod yn ei rhoi. Ond mae angen i'r Llywodraeth Cymru hon roi'r gefnogaeth honno i sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu drwy'r blynyddoedd sydd o'n blaenau. A allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithgynhyrchu, yn enwedig mewn meysydd sydd wedi wynebu anawsterau, a hoffwn gynnwys dur yn y maes hwnnw, yn ogystal â'r sector hedfan, fel y gallwn ni barhau i fod â'r swyddi hynod fedrus, â chyflogau da yng Nghymru y maen nhw wedi eu cynnal erioed?

Wel, Llywydd, rwy'n hapus dros ben i roi'r sicrwydd hwnnw i David Rees. Mae e'n iawn, mae 10.7 y cant o gyflogaeth Cymru yn digwydd yn y sector gweithgynhyrchu, o'i gymharu â 7.9 y cant o gyflogaeth y DU yn y sector hwnnw. Felly, mae'n amlwg yn llawer mwy pwysig i ni yma yng Nghymru, ac yn enwedig i gymunedau o'r math y mae David Rees yn siarad drostyn nhw mor rheolaidd yn y fan yma ar lawr y Senedd.

Hoffwn gydnabod lle mae Llywodraeth y DU wedi camu i mewn i helpu. Ar 2 Gorffennaf roedd y benthyciad brys i Celsa, yn y diwydiant dur, yn benderfyniad pwysig iawn ac mae wedi helpu i ddiogelu 800 o swyddi yma yn ne Cymru. Ond dyna'r enghraifft o beth yn rhagor sydd ei angen. Mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni'r cynlluniau diogelu cyflogaeth sectoraidd ar gyfer dur, ar gyfer moduron ac ar gyfer awyrofod. Mae'r rheini yn ddiwydiannau sylfaenol yma yng Nghymru. Maen nhw'n wynebu argyfyngau dirfodol o ganlyniad i coronafeirws, ac mae pob un ohonyn nhw angen pecyn cymorth pwrpasol gan Lywodraeth y DU er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw yma ar ochr arall yr argyfwng hwn, oherwydd mae economi'r DU angen diwydiant dur, mae economi'r DU angen diwydiant awyrofod llwyddiannus, a dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r grym hwnnw, fel y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi ei ddweud, i gamu i mewn a darparu cymorth o'r math sydd ei angen.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y pethau yr ydym ni'n eu gwneud—buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn gwaith ymchwil, helpu gyda buddsoddiadau lleol y gallwn ni eu rhoi ar waith, fel yr ydym ni wedi ei wneud gyda Tata ym Mhort Talbot—ond mae natur yr argyfwng yn golygu mai ymateb ar lefel y DU sydd ei angen ac, yn anffodus, ni chlywsom ddim am hynny yn natganiad yr haf ddydd Mercher yr wythnos diwethaf.

Prif Weinidog, adroddodd mynegai gweithgarwch busnes NatWest ddoe grebachiad i weithgarwch busnes yn y sector gweithgynhyrchu o ganlyniad i gyfyngiadau symud parhaus. Yn eu hadroddiad, maen nhw'n dweud bod llawer o fusnesau wedi adrodd bod y cyfyngiadau symud parhaus wedi rhwystro cyfleoedd twf. Maen nhw hefyd yn adrodd gostyngiad i archebion newydd, a oedd yn uwch na chyfartaledd y DU, a dirywiad i fusnes newydd. Maen nhw hefyd yn mynd ymlaen i ddweud bod y galw gwan hwn gan gleientiaid wedi effeithio ar y sector gweithgynhyrchu o ran cyflogi gweithwyr, ac mae'r gyfradd grebachu hon mewn cyflogaeth hefyd wedi codi'n gyflymach, yn anffodus, na chyfartaledd y DU. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o sut y mae'r gyfradd arafach o ailagor yr economi wedi effeithio ar fywoliaeth ac ar sector gweithgynhyrchu Cymru yn arbennig?

10:55

Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod angen i chi wneud llawer iawn o ddadansoddi i ddeall nad cyflymder llacio cyfyngiadau symud Cymru sydd wedi cael yr effaith ar Airbus nac ar Tata. Mae'n hurt awgrymu hynny. Mae'r rheini yn ddiwydiannau byd-eang ac amodau masnachu byd-eang sydd wedi arwain at y penderfyniadau y mae'r diwydiannau hynny yn eu gwneud.

Nid yw cyflymder y cyfyngiadau symud yng Nghymru wedi cael unrhyw effaith ar hynny o gwbl, ac mewn gwirionedd nid yw'n gwrthsefyll unrhyw fath o—[Torri ar draws.] Nac ydy, nid yw'r adroddiad yn awgrymu hynny—dim ond sglein y Torïaid yn y fan yma yw hyn, yn ceisio achub rhyw bwynt y maen nhw'n credu y gallan nhw ei wneud, yn hytrach na dim byd difrifol o gwbl. Mae'r argyfwng sy'n wynebu'r diwydiannau hynny—. Peidiwch â'i chwifio ataf i. Nid yw'r ffaith ei fod gennych chi yn golygu eich bod chi wedi ei ddeall, ydy e'? Ac, yn amlwg, dydych chi ddim wedi ei deall, oherwydd pe byddech chi'n darllen yr hyn yr oedd gan Airbus i'w ddweud, os darllenwch chi'r hyn sydd gan Tata i'w ddweud—nid ydyn nhw'n dweud bod yr argyfwng byd-eang sy'n eu hwynebu wedi deillio o'r cyflymdra y mae'r cyfyngiadau symud wedi cael eu llacio yng Nghymru. Byddai hynny'n hurt. Mae'n osodiad hurt. Dylai'r Aelod wybod yn well na'i wneud yn y fan yma.

Cyfamod y Lluoedd Arfog

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog? OQ55444

Diolchaf i Darren Millar am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfamod yn yr adroddiad blynyddol cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd. Roedd yn nodi camau gweithredu ym meysydd tai, iechyd, addysg a chyflogaeth. Bydd cynnydd pellach yn cael ei amlinellu yn adroddiad blynyddol eleni, i'w osod gerbron y Senedd ym mis Medi.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Dros y misoedd diwethaf rydym ni wedi gweld ein lluoedd arfog yn ymuno yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws yma yng Nghymru, gan wneud gwaith eithriadol o ran helpu gyda chyfleusterau profi, sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol yn cael ei ddanfon i weithwyr allweddol ar y rheng flaen, ac, wrth gwrs, diheintio ambiwlansys i wella amseroedd gweithredu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y rhan bwysig honno y mae'r lluoedd arfog wedi ei chwarae yn yr argyfwng.

Un o'r pethau y mae Cymru wedi ei wneud yn dda iawn, rwy'n credu, yw bwrw ymlaen â'r agenda o anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog yma yng Nghymru, ac un o rannau allweddol yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, wrth gwrs, fu'r ddarpariaeth a'r cymorth i swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled y wlad. Fel y gwyddoch, daw'r cyllid ar gyfer y swyddi hynny i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ond hoffwn i, a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, ar sail drawsbleidiol, weld y cymorth hwnnw yn cael ei ymestyn a'r swyddi hynny'n dod yn rhai parhaol. A ydych chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer y swyddi hynny heddiw?

Llywydd, diolchaf i Darren Millar am y cwestiwn ychwanegol yna, ac rwy'n awyddus iawn i ategu'r hyn y mae wedi ei ddweud am y gwaith eithriadol yr ydym ni wedi ei weld yng Nghymru o'n cyswllt â'r lluoedd arfog yn argyfwng y coronafeirws. Mae wedi bod yn rhan ryfeddol o hanes y tri mis diwethaf, y modd yr ydym ni wedi gallu manteisio ar gymorth personél y lluoedd arfog. Deuthum i arfer ar un adeg â gweld llawer o bobl mewn gwisgoedd dyletswydd ym Mharc Cathays mewn modd nad ydym ni erioed wedi ei weld o'r blaen, ac mae'r cymorth hwnnw yn cael ei dynnu yn ôl yn raddol erbyn hyn gan fod y systemau y mae'r lluoedd arfog wedi ein helpu i'w sefydlu yng Nghymru yn bodoli ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n falch dros ben o ategu'r hyn a ddywedodd Darren Millar yn y fan yna.

Llywydd, ysgrifennais at yr Aelod ar 16 Mehefin, gan addo y byddai'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yn y dyfodol ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog cyn diwedd y tymor hwn. Ac rwy'n falch dros ben, felly, o allu cadarnhau y bore yma bod y Gweinidog, Hannah Blythyn, wedi gwneud y penderfyniad i fuddsoddi £275,000 arall ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd nesaf, o fis Ebrill 2021 ymlaen, ac mae hynny er mwyn cynnal y gwaith hynod werthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi ei gyflawni. Gwn fod hwn yn syniad a gefnogwyd yn gryf iawn gan fy nghyd-Aelod Alun Davies, pan grëwyd y swyddi hyn, a gwn hefyd fod Darren Millar wedi bod yn gefnogwr brwd iawn o'r unigolion yn y swyddi hyn. Mae swyddog cyswllt unigol y lluoedd arfog ar gyfer gogledd Cymru, Llywydd, er enghraifft, wedi hyfforddi dros 500 o staff rheng-flaen ers dechrau yn y swydd, ac mae hynny wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod, lle dechreuodd y cwestiwn hwn. Rwy'n falch iawn, felly, y prynhawn yma—y bore yma; rwyf i wedi arfer cymaint â bod yma yn y prynhawn, Llywydd—y bore yma, yn falch iawn o gadarnhau y bydd y swyddi hynny yn parhau i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

11:00
Cyfyngiadau yn y Gwasanaeth Iechyd

7. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o sut y mae'r cyfyngiadau yn y gwasanaeth iechyd, a roddwyd ar waith i atal y pandemig, wedi effeithio ar y rhai y mae angen y GIG arnynt am resymau nad ydynt yn ymwneud â COVID-19? OQ55477

Llywydd, bu angen mesurau eithriadol i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydym ni wedi ei wynebu yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth i'r galw am wasanaethau coronafeirws leihau, mae gwasanaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 yn ailddechrau ym mhob rhan o'r GIG.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r cyfyngiadau a osodwyd ar wasanaethau mamolaeth wedi bod yn arbennig o anodd i rieni newydd a'r rhai sy'n disgwyl plentyn. Dywedir wrth famau beichiog bod yn rhaid iddyn nhw fynd i sganiau anomaledd ar eu pennau eu hunain a, hyd yn oed pan fo newyddion drwg, ni chaiff eu partner fod gyda nhw. Yn hytrach, efallai y byddan nhw'n cael gwybodaeth ysgrifenedig y gallan nhw fynd â hi adref. Dim ond pan fydd y fam wedi mynd i esgoredigaeth sefydledig y caniateir partneriaid geni, ac yna mae'n rhaid iddyn nhw adael yn fuan ar ôl i'r babi gael ei eni. Dydyn nhw ddim yn cael ymweld eto wedyn. Mae hyd yn oed casglu eu partner a'u babi newydd yn golygu aros y tu allan, a hyd yn oed os bydd angen i'r babi fynd i ofal arbennig, dim ond un rhiant at y tro sy'n cael mynd i mewn i ymweld â'r baban newydd-anedig.

Mae'r cyfyngiad arbennig o greulon hwn yn mynd yn gwbl groes i'r cyngor a roddwyd yn ystod y pandemig gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n dweud:

Ar adeg mor anodd, mae'n bwysig i'r ddau riant gael bod yn bresennol gyda'i gilydd, am ran o'r diwrnod o leiaf.

Prif Weinidog, mae cyfyngiadau tebyg yn cael eu llacio mewn mannau eraill yn y DU. Fe wnaeth yr Alban hynny ddydd Llun ac mae eu parhad yma yn peri pryder i lawer o ddarpar rieni. A allwch chi ddweud wrth ddarpar rieni gofidus ledled Cymru pryd y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu codi fel y gallan nhw, gobeithio, rannu'r llawenydd o ddod â bywyd newydd i'r byd, ond hefyd bod gyda'i gilydd os bydd yn rhaid iddyn nhw fynd drwy unrhyw brofiadau torcalonnus? Ac, ar y siawns annhebygol eu bod nhw wedi cael eu llacio, pam nad oes neb wedi dweud wrth y mamau beichiog dan sylw?

Llywydd, mae'n ddrwg gen i, collais i ddiwedd un y cwestiwn, ond mae'r pwyntiau a wnaed wrth gyflwyno'r cwestiwn yn rhai real a phwysig iawn. Bydd pawb ohonom ni yn y fan yma wedi clywed gan rieni sy'n edrych ymlaen at enedigaeth plentyn a'r pwysau ychwanegol, a'r straen ychwanegol yn wir, y maen nhw'n ei wynebu oherwydd y ffordd y mae gwasanaethau wedi cael eu darparu yn ystod yr argyfwng. Ond yr ateb o ran pam mae'r cyfyngiadau hyn wedi bod ar waith yw oherwydd natur agored i niwed benodol pobl sy'n rhoi genedigaeth a natur agored i niwed y plentyn newydd-anedig; dydyn nhw ddim wedi cael eu rhoi ar waith am unrhyw reswm ac eithrio diogelu iechyd pobl. Ni allaf roi dyddiad i'r Aelod, mae arnaf i ofn, yn y modd y mae hi'n gofyn amdano, oherwydd nid fy mhenderfyniad i fydd hwnnw; penderfyniad i glinigwyr fydd ef, oherwydd y bobl sy'n gyfrifol am iechyd y fam a'r baban sy'n gwneud y penderfyniadau yma yng Nghymru. A phan fyddan nhw'n barod ac yn credu ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny, yna wrth gwrs y byddan nhw eisiau llacio rhai o'r cyfyngiadau hynny, oherwydd nid oes neb eisiau eu gweld nhw'n parhau yn hwy nag y mae angen iddyn nhw ei wneud.

Cynghorau Tref a Chymuned

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i gynghorau tref a chymuned yn ystod y pandemig? OQ55474

Diolch i Rhun ap Iorwerth. Rydym yn cysylltu â'r sector i ddeall y pwysau sydd arno yn sgil COVID-19 er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cyn gynted â phosibl. Mae cymorth amrywiol wedi'i ddarparu drwy reoliadau brys i alluogi cynghorau i weithredu'n ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon, gan gadw'r egwyddorion o fod yn agored ac yn atebol.

Diolch yn fawr am yr ymateb yna. Mae Cyngor Tref Caergybi wedi trio eu gorau dros y blynyddoedd i wella cyfleusterau i bobl y dref a'r ardal, ac un fenter sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ydy ailagor sinema'r Empire. Fel gymaint o fusnesau, mi wnaeth yr Empire golli ei incwm yn llwyr oherwydd y pandemig. Mi wnaeth y cyngor gais am arian o'r gronfa gwytnwch economaidd, ond mi gafon nhw wrthod y cais hynny oherwydd bod y sinema yn cael ei redeg gan y cyngor a dydy o ddim yn endid busnes ohono fo ei hun. Mae hyn wedi creu problem fawr i'r cyngor. Mi gaiff sinemâu agor eto mewn cwpwl o wythnosau, ond mi hoffwn i chi ystyried un peth: mi fydd yna gyfyngiad ar eu gallu nhw i godi arian oherwydd na chawn nhw werthu bwyd a diod ar y ffordd i mewn. Mae hwnna'n un mater y byddwn i'n ddiolchgar pe buasech chi'n edrych arno fo. Ond, yn fwy cyffredinol, mi hoffwn i chi edrych ar y rheolau sydd yn golygu bod cyngor tref fel hyn wedi methu â chael gafael ar gymorth ariannol, achos dydw i ddim yn credu ei bod hi'n deg bod cyngor tref fel hyn yn cael ei gosbi am fod wedi trio creu menter ar gyfer eu pobl.

11:05

Llywydd, dyw Cyngor Tref Caergybi ddim yn cael ei gosbi o gwbl. Maen nhw'n gallu rhoi cais mewn am arian o'r Llywodraeth, achos maen nhw'n gallu rhoi cais mewn i gael arian o'r swm o £78 miliwn rŷn ni wedi ei roi i'r sector achos bod y cynghorau yn colli incwm, ac mae'r gronfa yna ar gael nid jest i'r prif awdurdodau lleol, ond hefyd i gyngor lleol fel Caergybi. So, y cyngor gorau i'r cyngor yw i roi cais i mewn—maen nhw'n gallu ei wneud e; mae'r arian yna. Rŷn ni yn gwybod, rŷn ni'n ymwybodol, am y sefyllfa mae Caergybi yn ei wynebu, achos maen nhw wedi codi mwy na hanner yr incwm maen nhw'n ei ddosbarthu trwy godi incwm—wel, llai na hanner—trwy godi'r precept, so maen nhw, mewn ffordd, hollol wahanol i'r mwyafrif mawr o'r cynghorau lleol, ond mae'r gronfa yna ar gael iddyn nhw, a'r cyngor gorau iddyn nhw yw paratoi cynllun a rhoi'r cynllun mewn i weld os rŷn ni'n gallu eu helpu nhw yn y ffordd yna.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw'r Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw: mae'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) a Rheoliadau Rhif 7 wedi'u tynnu'n ôl, ac mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael ymhlith y papurau sydd wedi'u darparu'n electronig i Aelodau.

Rwy'n credu ei bod yn drueni mawr, Trefnydd, bod y rheoliadau penodol hynny wedi'u tynnu'n ôl heb gyfle i gael dadl ar y camau sydd wedi'u cymryd ar y cyfyngiadau coronafeirws yn ystod y chwe wythnos diwethaf o ran yr eitemau a oedd wedi'u cynnwys yn y cyfyngiadau hynny, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd roi ystyriaeth i'r materion hyn mewn ffordd wahanol, efallai drwy ddadleuon, i nodi mater yn y dyfodol, cyn pleidleisio mewn gwirionedd ar reoliadau.

A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, os gwelwch yn dda,—y cyntaf o ran twristiaeth, er mwyn cael rhywfaint o eglurder ar ailagor ffeiriau parhaol yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ar hyn o bryd, fod yn rhaid i ffeiriau fod ar gau yng Nghymru. Ond mae parciau thema yng Nghymru yn cael agor ar hyn o bryd, ac mae'n ymddangos yn eithaf anghyson, o ystyried bod eu gweithredu yn debyg iawn o safbwynt sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel i bobl ymweld â nhw. Mae busnesau yn fy etholaeth i fy hun wedi colli cryn dipyn o fasnach yn ystod y penwythnos diwethaf, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau nad ydyn nhw'n colli'r busnes hwnnw ar benwythnosau yn y dyfodol. Felly, os gallwn ni gael datganiad ar hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Ac yn ail, a gaf i hefyd alw am ddatganiad ar ddyfodol fforymau lleol Cymru Gydnerth? Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau wedi galw am bresenoldeb parhaol ar fforymau lleol Cymru Gydnerth er mwyn iddyn nhw allu bod yn rhan o'r broses gynllunio ar gyfer pandemigau yn y dyfodol a materion eraill, felly rwy'n credu y dylai hynny gael ei ystyried ac yn tybio a oes modd inni gael datganiad ar y mater. Diolch.  

Diolch i Darren Millar am godi'r materion hynny ac, wrth gwrs, cawsom gyfle i drafod yn helaeth y mater cyntaf a gododd, o ran pryd y byddwn ni'n trafod ein rheoliadau, yn y Pwyllgor Busnes yn gynharach yr wythnos hon, ac fe wn i y bydd trafodaethau pellach rhwng y Llywydd a'r Llywodraeth ar y mater penodol hwnnw yn y dyfodol.

O ran twristiaeth, yn sicr, byddaf i'n ceisio'r eglurder hwnnw y gofynnwch amdano o ran y ffeiriau parhaol a sicrhau ein bod ni'n dod o hyd i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch hynny, oherwydd rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud yn bwysig. Wrth ddechrau agor mwy a mwy o'n heconomi, yna mae'n amlwg y bydd achosion unigol a mathau unigol o fusnes sydd eisiau mwy o fanylion am yr hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw, felly byddaf i'n mynd ar drywydd hynny ar eich rhan.

O ran fforymau lleol Cymru Gydnerth, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol yn gwrando ar hyn, yn amlwg, ac y bydd yn ystyried dyfodol y fforymau hynny wrth inni symud ymlaen o'r cyfnod argyfwng ac i'r cyfnod sefydlogi a gwella.

11:10

Mae llawer o ofalwyr yn y gymuned wedi gweithio drwy gydol yr argyfwng COVID, a gwyddom fod staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal yn cael eu profi'n rheolaidd, pa un a oes ganddyn nhw symptomau ai peidio. Mae gofalwyr sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl yn y gymuned yn cael eu profi dim ond os ydyn nhw'n dangos symptomau, sy'n broblem pan rydym yn gwybod y gall pobl heintio eraill pan nad ydyn nhw'n dangos symptomau, ac felly gall un gofalwr yn y gymuned heintio cannoedd o bobl heb wybod ei fod yn cario COVID hyd yn oed. Felly, a gawn ni ddatganiad ar y polisi profi? Mae gwell system profi ac olrhain, dywedwyd wrthym, yn allweddol os ydym eisiau lleihau risg ail don; yn benodol, hoffwn gael datganiad sy'n rhoi sylw i'r pwynt hwn ynglŷn â phrofi gweithwyr asymptomatig sy'n dod i gysylltiad agos â'r bobl fwyaf agored i niwed. Mae gennym ni gapasiti profi sbâr, ac mae gennym un cyfle i atal ail don—gadewch inni beidio â gwastraffu'r cyfle hwnnw.

Diolch am godi'r mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi bod yn gweithio ar fersiwn nesaf y strategaeth brofi, ac y bydd hysbysiad a chyhoeddiad am hynny cyn bo hir. Ac yn amlwg, bydd wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud am ofalwyr yn y gymuned a sut yr ydym ni'n sicrhau bod profion ar gael i'r holl bobl hynny sydd eu hangen ac a fyddai'n elwa arnynt.

Rwy'n credu, Trefnydd, ein bod ni i gyd wedi bod yn ddiolchgar iawn i Weinidogion sydd wedi rhoi o'u hamser i wneud cyfres o ddatganiadau cyhoeddus ar beth fu eu hymateb i'r argyfwng coronafeirws datblygol, ac rwy'n credu bod y cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru wedi bod o'r radd flaenaf. Mae'r ffordd y mae Gweinidogion wedi galluogi bod craffu yn digwydd, o fewn y maes cyhoeddus ac yma, wedi bod y tu hwnt i gymhariaeth yn llwyr, yn enwedig gyda'r anhrefn ar ben arall yr M4. Fodd bynnag, mae rhai datganiadau y dylid eu gwneud i'r lle hwn yn gyntaf, ac mae'r angen am graffu seneddol yn wahanol i'r angen am graffu cyhoeddus. A phan fo datganiadau'n cael eu gwneud a fydd yn cynnwys newidiadau i'r gyfraith a newidiadau i gyfraddau trethiant, yna dylid eu gwneud gerbron y lle hwn cyn iddyn nhw gael eu gwneud yn y byd cyhoeddus, er mwyn galluogi'r gwaith craffu hwnnw i ddigwydd. Felly, byddwn i'n gofyn am gefnogaeth y Llywydd hefyd i'r materion hyn, gan ddiogelu hawliau'r Senedd hon, a'r Llywodraeth, i sicrhau bod datganiadau'n cael eu gwneud i'r lle hwn, ac y gall y craffu cyhoeddus anochel a chywir y mae'r Gweinidogion yn ei wynebu wneud hynny hefyd, ond nid wyf yn credu y dylai ddigwydd yn lle craffu seneddol. Felly rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i hynny.  

Ar yr un pryd, rydym hefyd yn gwybod ein bod yn cyfarfod ddwywaith yn ystod misoedd yr haf er mwyn gwneud rhai penderfyniadau o ran deddfwriaeth; rwyf yn daer o blaid ailgynnull i wneud y gwaith hwnnw. Ond rwy'n ymwybodol hefyd, ac fe welais i stori yn y Financial Times ar y penwythnos, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu deddfwriaeth ar frys a allai gyfyngu'n ddifrifol ar bwerau'r lle hwn a'n hawl ni i arfer y pwerau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Swyddfa'r Llywydd yn edrych yn ffafriol ar unrhyw Aelod sy'n ceisio codi'r materion hyn pan fyddwn ni'n cyfarfod yn ystod mis Awst er mwyn ymdrin â rheoliadau coronafeirws, oherwydd rwy'n credu nad yw'r bygythiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i'r pwerau y mae pobl Cymru wedi ceisio eu rhoi yn y lle hwn yn rhywbeth y dylem ni aros i fynd i'r afael â nhw. Dylid rhoi cyfle i'r lle hwn fynegi ei farn yn ystod misoedd yr haf, os oes angen.

11:15

Rwy'n diolch i Alun Davies yn sicr am ei sylwadau agoriadol, o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu craffu ac wedi bod mor agored a thryloyw â phosib drwy gydol yr argyfwng.

Rwy'n derbyn ei feirniadaeth ynghylch y datganiad diweddar ar y dreth trafodiadau tir. Yr unig beth y byddaf i'n ei ddweud yw bod cyflymder y broses benderfynu wedi bod yn rhyfeddol, ac mae nifer y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud bob dydd yn rhyfeddol. Wrth gwrs, nid oes gennym ond ychydig iawn o amser yn y Siambr, ond rwy'n derbyn y feirniadaeth a wnaeth ef, ac rwyf yn rhannu ei bryderon ynghylch y bygythiad i ddatganoli ac i bwerau'r Senedd o ran y modd y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio symud ymlaen drwy'r argyfwng hwn, ond hefyd o ran y ffordd yr ydym ni'n nesáu at adael, neu wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn gyda'r posibilrwydd o adael yn ddi-drefn gyda Brexit heb gytundeb. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n rhannu meysydd sy'n peri pryder mawr.

Rheolwr busnes, hoffwn i ddeall pam nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno datganiad heddiw gan y Gweinidog iechyd, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn gwneud cyhoeddiad, drwy gynhadledd y Llywodraeth i'r wasg, ar y drefn brofi newydd y mae'r Llywodraeth yn ei chyflwyno. Fe wnes i ei godi gyda'r Prif Weinidog, ond ar lawr y Siambr y dylai'r Gweinidog iechyd fod yn gwneud y datganiad hwn ac nid o gysur y ddarllenfa ym Mharc Cathays. Nid yw'n ddigon da bod datganiadau o'r fath yn cael eu gwneud o Barc Cathays am 12:30, pan mae'r we ar hyn o bryd yn rhoi gwybod imi y bydd yn siarad am y drefn brofi, ac rydym ni'r Aelodau yn eistedd yma yn y Bae yn gwrando ar faterion eraill. Mae hyn yn rhan allweddol o sicrhau nad oes ail frig neu ail achos drwy raglen y Llywodraeth, a hyd yn hyn mae'r drefn brofi wedi methu'n druenus, fel y dengys y ffigurau a gyflwynir gennyf i i'r Prif Weinidog. A allwch chi fy ngoleuo i ynghylch pam nad yw'r Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad i'r Senedd, yn hytrach na'r gynhadledd i'r wasg ym Mharc Cathays?

Yn ail, a gaf i ofyn am eglurhad gennych chi neu rywun yn y Llywodraeth ynghylch y canllawiau ar briodasau? Ym mis Awst, byddwch yn gallu priodi mewn swyddfa gofrestru neu eglwys, ond, yn anffodus, ni fyddwch yn gallu priodi mewn lleoliad arall sydd, yn draddodiadol, wedi cael ei drwyddedu ar gyfer seremoni briodas. Rwy'n credu bod hyn yn anomaledd, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Llywodraeth edrych ar hyn, oherwydd yn fy ardal i, Canol De Cymru, mae yna fusnesau sydd wedi addasu eiddo i fod yn lleoliadau priodasau, ac eto i gyd ni fyddant yn gallu cynnal y seremoni yn y cyfleusterau lle maen nhw wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian ynddynt. Felly, a oes modd imi ofyn am eglurhad ynghylch pam mai swyddfeydd cofrestru ac eglwysi yn unig fydd yn gallu cynnal  priodasau, yn hytrach na lleoliadau eraill sydd, yn draddodiadol, wedi cael trwydded i gynnal seremoni o'r fath?  

O ran pwynt cyntaf Andrew R.T. Davies, byddwn i'n ei gyfeirio at yr ateb yr wyf i newydd ei roi i Alun Davies, a gododd bryder tebyg. Ond, o ran y seremonïau priodas, gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar sut y gallwn ni agor y lleoliadau eraill hynny nad ydyn nhw'n swyddfeydd cofrestru nac yn addoldai. Pan fyddwn yn gallu dweud mwy am hynny, byddwn yn sicr yn gwneud hynny.

A gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn ag arian i'r celfyddydau? Mae pryderon mawr wedi codi am y £59 miliwn a gyhoeddwyd ac a adroddwyd yn eang wythnos diwethaf. Mae'n ymddangos bellach nad ydy'r swm yma ar gael, ac nad oes yna ddim byd yn agos at y swm yma ar gael i sector y celfyddydau yng Nghymru wedi'r cwbl. Mae angen eglurer. I ddechrau, faint o arian fydd ar gael i'r sector? Yn ail, sut fydd unrhyw arian newydd yn cael ei rannu ar draws y celfyddydau? Mae'n hynod siomedig nad ydy'r eglurder yna ddim ar gael, a byddwn yn gwerthfawrogi cael datganiad buan gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda.

Oes, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y maes penodol hwn, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi cwrdd ddoe â Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi bod yn llunio cynnig, a fyddai'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gael rhywfaint o arian o'r gronfa COVID yr ydym wedi ei sefydlu. Nid wyf wedi gweld y cynnig hwnnw eto ond, unwaith eto, cyn gynted ag y bydd gennym ni gynnig, byddwn ni'n ceisio gwneud penderfyniad buan er mwyn darparu datganiad sy'n egluro'r penderfyniadau a wnaed.

11:20

Gweinidog, rwy'n cysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth Alun Davies yn gynharach. Yr wythnos diwethaf, cafodd £470 miliwn o ddyledion byrddau iechyd eu dileu mewn cynhadledd i'r wasg ac, fel Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli bwrdd iechyd sydd bob amser wedi gweithredu mewn elw yn un o rannau tlotaf Cymru, byddwn i wedi hoffi cael y cyfle i graffu ar hynny.

Fodd bynnag, fy mhrif reswm dros siarad heddiw yw gofyn am ddatganiad ar effaith barhaus y cyfyngiadau symud ar y rhai sy'n byw gyda dementia. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol gan bobl sy'n byw gyda dementia am yr effaith anferthol a thorcalonnus a gafodd y cyfyngiadau symud ar eu bywydau. Roedd yn frawychus, roedd yn ergyd drom ac yn ofid mawr. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, gan fy mod wedi tynnu sylw'r Prif Weinidog o'r blaen at y niferoedd uchel o bobl sy'n marw o ddementia, nid COVID, yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd mae pryderon o hyd am y diffyg cyfle i fanteisio ar asesiadau clinig cof wrth symud ymlaen, ac mae'n hollbwysig mynd i'r afael â'r gwaith hwnnw fel mater o frys. Felly, hoffwn i alw am y datganiad ysgrifenedig hwnnw, datganiad manwl, fel mater o frys. Diolch.

Iawn, diolch. Ac unwaith eto, rwy'n nodi'r sylwadau agoriadol a wnaethoch, ac yn amlwg byddaf i'n cael rhai trafodaethau pellach gyda chydweithwyr ynghylch y mater penodol hwn. Ond o ran eich cais am ddatganiad ar ddementia, rwy'n credu y bydd y Gweinidog iechyd wedi clywed y cais penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i rannu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl â dementia yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, ac o bosib yn fwy felly i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Felly, byddaf i'n cysylltu â'r Gweinidog iechyd ynghylch y mater penodol hwnnw.

Hoffwn i ategu'r cais am y datganiad ynglŷn â phrofi ein gweithwyr gofal cymdeithasol a darparwyr gofal cartref sy'n rhoi gofal yn y gymuned, mewn geiriau eraill yn eu cartrefi eu hunain. Fis diwethaf, ar ôl sawl wythnos o'r llanastr profi mewn cartrefi gofal yng Nghymru, gofynnais i'r Gweinidog iechyd pa gamau yr oedden nhw'n eu cymryd i brofi'r rhai sy'n mynd i gartrefi pobl sy'n agored i niwed. Roedd ef yn cytuno â fy mhryderon ac yn cydnabod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon hefyd. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Felly, hoffwn i ategu sylwadau Leanne Wood: a allwn ni gael datganiad manwl? Hoffwn gael gwybod faint o'r rhai sy'n darparu gofal i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed, yn eu cartrefi eu hunain, sydd wedi cael prawf COVID-19 mewn gwirionedd. Diolch.

Unwaith eto, hoffwn eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Leanne Wood ynglŷn â'r strategaeth brofi newydd. Ond hefyd, ar ôl y sesiwn hon heddiw, byddaf i'n sicr o gael y sgwrs honno gyda'r Gweinidog iechyd am y pryderon yr ydych chi a Leanne Wood wedi'u codi ynghylch pobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ond sy'n gwneud hynny yng nghartrefi pobl, gan ddarparu gofal cartref a mathau eraill o gymorth yn y gymuned.

Hoffwn i gael datganiad ar brofi'r mwd niwclear o orsaf bŵer niwclear Hinkley Point, neu ddiffyg hynny, mewn gwirionedd. Clywsom yr wythnos diwethaf fod panel o arbenigwyr wedi'i sefydlu heb broses o gais cyhoeddus. Rwy'n bryderus iawn bod rhai arbenigwyr allweddol mewn ffiseg niwclear—gwyddonwyr—wedi cael eu hepgor o'r grŵp hwnnw, sy'n destun pryder. Ond y datganiad syml iawn yr wyf yn dymuno ei gael yw hyn: os yw gwyddonwyr yn dweud bod y mwd wedi'i halogi gan blwtoniwm—dywedant eu bod yn argyhoeddedig ei fod wedi'i halogi—pam ar y ddaear nad yw'r Llywodraeth yn mynnu bod y mwd yn cael ei brofi am blwtoniwm? Mae'n anghredadwy. Datganiad syml iawn.

A gaf i ofyn ichi ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi'r pryder hwnnw, gyda'ch awgrymiadau ynghylch pobl a allai fod â rhywbeth defnyddiol i'w gyfrannu at y ddadl hon?

Hoffwn gael datganiad am y cynlluniau newydd ar gyfer strydoedd sy'n cael eu cyflwyno ledled Cymru i gefnogi ymbellhau cymdeithasol ac, yn briodol, i adfywio canol trefi a'n helpu ni i gymdeithasu unwaith eto. Ond bydd llawer o'r cynlluniau hyn yn cyflwyno heriau i bobl sydd wedi colli eu golwg, a dylid, yn fy marn i, asesu'r cynlluniau hyn o ran effaith ar gydraddoldeb i sicrhau nad ydynt yn eithrio'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion wedi cynnig cod cwrteisi coronafeirws, a byddai hwnnw, yn wir, yn ein helpu ni i gyd i ddatblygu parch y naill at y llall, i rannu gofod yn ddiogel yn y normal newydd. Maen nhw ac elusennau eraill yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r her y bydd ymbellhau cymdeithasol yn ei hachosi i bobl anabl.

Hoffwn ddiolch hefyd, ar yr un pryd, i'r holl bobl hynny yn yr ardaloedd awdurdodau lleol sydd wedi gweithio mor galed i ad-drefnu'r strydoedd yn eu hamser eu hunain, yn aml iawn, a'r elusennau a fu'n ymwneud â rhoi'r cyngor hwnnw. Ond yr hyn sy'n hanfodol yma yw bod y Llywodraeth yn rhoi datganiad clir am yr agenda parch i bawb.

11:25

Rwy'n diolch i Joyce Watson am godi hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd. Mae gwaith yr RNIB, er enghraifft, yn bwysig iawn, pan fyddwn ni'n ystyried sut yr ydym yn ad-drefnu'r amgylchedd i'r cyhoedd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny mewn modd cynhwysol a heb achosi trafferthion diangen ac ychwanegol i bobl sy'n anabl, boed hynny oherwydd nam ar y golwg neu fathau eraill o anableddau, gan y gymdeithas sydd o'u cwmpas nhw. Yn fy marn i, mae hyn yn ein hatgoffa ni am bwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd a phwysigrwydd addasu ein cymdeithas i sicrhau bod pawb yn gallu chwarae eu rhan a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynhwysol.

Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cymryd diddordeb arbennig yn hyn o ran y cyngor y mae'n ei gael ac yn ei geisio gan y sector cydraddoldeb, a all helpu i sicrhau, pan fyddwn yn addasu i'r normal newydd, ei fod yn normal newydd sy'n gynhwysol.

3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Gwelliannau i'r M4

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r M4 o amgylch ardal Twneli Brynglas yn y dyfodol? OQ55468

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi derbyn y rownd gyntaf o argymhellion gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac rydym nawr yn ymgymryd â'r gweithdrefnau statudol perthnasol i'w gweithredu. Edrychwn ymlaen at dderbyn argymhellion pellach hefyd gan y Comisiwn eleni.

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Casnewydd yn falch o weld y cynnydd pellach yn y maes hwn, a'r cynnig ar gyfer lliniaru'r tagfeydd yn yr ardal gan barchu ymrwymiad y Senedd i leihau ein hallbwn carbon ar yr un pryd.

Nawr, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Boris Johnson fod ei Lywodraeth ef yn y DU yn bwriadu caniatáu adeiladu ffordd osgoi dros wastadeddau Gwent. Mater a ddatganolwyd yw'r penderfyniad ynglŷn â'r ffordd osgoi, ac fel y gwyddoch chi, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad y llynedd na fyddai'n cael ei hadeiladu oherwydd y gost a'r effaith ar yr amgylchedd, yn dilyn blynyddoedd o drafod yn Siambr y Senedd hon. Mae'n gwbl amlwg i mi na fyddai Llywodraeth y DU yn gallu newid y penderfyniad hwn heb gyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan, gan wyrdroi'r adrannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog, beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o fygythiad y Prif Weinidog? A ydych chi o'r farn ei fod o ddifrif ynglŷn â datgymalu datganoli, neu a ydych chi'n credu ei fod yn siarad yn fyrbwyll, gan amlygu ei anwybodaeth enwog unwaith yn rhagor? Ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi, pe byddai Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud hyn, y byddai Llywodraeth Cymru yn barod ac yn eiddgar i fynd â Llywodraeth y DU i'r Goruchaf Lys i'w hatal rhag gwyrdroi democratiaeth Cymru drwy ddictad?

Wel, fe allaf i sicrhau'r Aelod o'r olaf ac rwy'n teimlo nad oedd hyn yn ddim mwy na gorchest wleidyddol. Os oes gan y Prif Weinidog £2 biliwn i'w wario ar seilwaith Cymru, yna mae croeso iddo wneud hynny a gwneud hynny ar fyrder; gan wario'r arian hwnnw ar seilwaith rheilffyrdd yn y De, yn y Canolbarth ac yn y Gogledd, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld trydaneiddio'r prif reilffyrdd, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwasanaethau gwell ar y rheilffyrdd i leoedd fel Glynebwy a Maesteg, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliant ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston. Os oes ganddo £2 biliwn i'w wario yng Nghymru, gall ei anfon yma i Fae Caerdydd ac fe wnawn ninnau ei wario ledled Cymru.

11:30

Iawn, reit dda. Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd. Gweinidog Trafnidiaeth, roeddwn i'n cytuno â Paul Davies yn gynharach fod angen i fusnesau Cymru o bob maint, yn fwy nag erioed o'r blaen wedi'r cyfnod cloi, gael yr holl gymorth y gallan nhw ei gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu'n gryf bod seilwaith trafnidiaeth addas yn allweddol i adfywio unrhyw economi. Felly, i adfywio ein heconomi ni yn y De, a ydych chi'n cytuno y byddai dadflocio'r brif ffordd i mewn i'r De a chyflawni o ran ffordd liniaru'r M4 yn rhoi'r chwistrelliad o fywyd cwbl angenrheidiol i'n busnesau ni a'n twristiaeth ni yng Nghymru lle mae angen dirfawr amdano?

Roedd Prif Weinidog Prydain yn cydnabod bod gwir angen cael y ffordd liniaru. Mae eich Aelod Seneddol Llafur Cymru dros Orllewin Casnewydd yn cydnabod yr angen hwnnw. Roedd cyflawni hyn yn eich maniffesto Llafur chi eich hun. Mae Prif Weinidog y DU hyd yn oed yn cynnig cymorth ariannol i'w hadeiladu gan ei bod mor angenrheidiol i'n heconomi ni. Ie, penderfyniad datganoledig yw hwn, ond onid yw'n hen bryd, efallai, ichi gyflawni eich ymrwymiad maniffesto chi eich hun a fyddai'n annog busnesau i fuddsoddi yma, ar yr ochr hon i'r ffin, ac a fyddai o'r diwedd yn agor y De ar gyfer busnesau?

Wel, a gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn a'i chroesawu hi i'r Senedd? Mae'n bleser ei gweld a derbyn ei chwestiwn cyntaf ynglŷn â thrafnidiaeth. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n aros am y siec gan y Prif Weinidog—y £2 biliwn yna. Pan fyddwn ni'n cael y siec honno, fe fyddwn ni'n gwario'r arian ar seilwaith trafnidiaeth, gan wneud yn iawn am y tanfuddsoddi hanesyddol, yn enwedig ar seilwaith y rheilffyrdd, sy'n gyfrifoldeb uniongyrchol ar y Prif Weinidog, ac fe fyddwn yn gwahodd y Prif Weinidog i dderbyn, mewn ffordd ostyngedig iawn, y tangyllido hanesyddol a fu ar y seilwaith rheilffyrdd.

Nawr, o ran yr M4, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un o Aelodau'r Siambr hon yn anghytuno â'r hyn a ddywedwyd gennych am yr angen i ymdrin â thagfeydd, a dyna pam ein bod ni'n bwrw ymlaen ag argymhellion cychwynnol y comisiwn. Fe hoffwn gofnodi, Llywydd, fy mod i'n diolch i Arglwydd Burns am arwain y darn pwysig hwn o waith. Bydd gwaith yn dechrau, yn yr hydref, ar y mecanweithiau rheoli cyflymder cyfartalog ar hyd yr M4 rhwng cyffyrdd 24 a 28. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar yr argymhelliad sy'n ymwneud â chanllawiau ar lonydd ychwanegol, ac rydym eisoes wedi recriwtio'r swyddogion traffig ychwanegol. Fe fyddan nhw'n cael eu cerbydau newydd nhw ym mis Awst.

Er bod gan lawer o bobl ledled Cymru a San Steffan eu barn nhw am dwneli Bryn-glas, fy etholwyr i sy'n byw gyda'r llygredd a'r tagfeydd. Nid traffig lleol yw prif achos y rhain, ond pobl Casnewydd yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd, pan fydd comisiwn trafnidiaeth y De-ddwyrain yn cynhyrchu ei adroddiad terfynol hir ddisgwyliedig yn ddiweddarach eleni, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y canfyddiadau i ddatrys y mater hirsefydlog hwn unwaith ac am byth?

A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn hi? Yn gyntaf oll, o ran ansawdd aer, mae'n ffaith mai llygredd aer yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yng Nghasnewydd ac, yn wir, y tu hwnt i Gasnewydd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun ni ar gyfer aer glân i Gymru yn fuan iawn. Fe fydd comisiwn trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad nesaf yfory, ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad hwn, ac rydym ni'n aros yn eiddgar hefyd am yr adroddiad terfynol yn ddiweddarach eleni. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n edrych ymlaen at weithredu ar argymhellion priodol yn yr adroddiad hwnnw i liniaru tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.

Dysgu Seiliedig ar Waith

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i brentisiaid a'r rhai sy'n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith, yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar eu lleoliadau? OQ55451

Wel, a gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn hi a dweud bod darparwyr prentisiaethau wedi cael cymorth drwy gydol y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ar sail taliadau cyfartalog? Rwy'n falch o ddweud bod darparwyr wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau y gall prentisiaid barhau i ddatblygu gyda'u dysgu. Rydym hefyd wedi gweithio gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun cadernid COVID-19 wedi'i gyhoeddi ar gyfer y sector ôl-16.

Diolch i chi am yr ateb yna. Rwy'n nodi na wnaethoch chi sôn yn benodol am brentisiaid newydd, oherwydd fe fydd angen y rheini i adfer economi Cymru. Ond, fel y dywedwch, mae angen inni gadw ein prentisiaid presennol mewn cof. Nid wyf i'n gwybod beth yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. A ydym ni'n ystyried ffyrlo i hanner ein prentisiaid adeiladu ni, fel y maen nhw'n gwneud yn Lloegr? Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prentisiaid presennol yn gallu cwblhau eu prentisiaethau nhw yn hytrach na'u bod yn wynebu diswyddiad? Byddai rhywfaint o fanylion o bosib am hynny'n wych. A sut maen nhw'n helpu cyflogwyr i gadw'r sgiliau hynny ar ôl gorffen y brentisiaeth? Yn benodol, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau na fydd prentisiaethau'n mynd yn fwy anhyblyg nag y maen nhw ar hyn o bryd?

11:35

Wel, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod prentisiaid yn parhau drwy gydol eu fframweithiau nhw, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Os caf ddefnyddio un enghraifft, cyfeiriaf at Airbus, lle rydym wedi llwyddo i sicrhau bod y cynllun prentisiaeth yn parhau fel y'i cynlluniwyd, er bod y dyddiadau cychwyn yn digwydd fesul cam, wrth gwrs, oherwydd dosbarthiadau llai o faint. Ond, rydym yn edrych hefyd ar becyn ariannu i ymestyn yr hyfforddiant ym mlwyddyn 3.

Nawr, o ran prentisiaid a gafodd eu diswyddo, fe ddylai darparwyr wneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n dod o hyd i waith arall i brentisiaid sy'n colli eu swyddi. Fe fyddwn ni'n monitro ac, fel y gallwch ddychmygu, yn dadansoddi data ynglŷn â diswyddiadau prentisiaethau, ac fe fyddwn ni'n ystyried unrhyw ymyriadau a chymorth sy'n angenrheidiol. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod i wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol o'r gronfa cadernid economaidd i helpu i gefnogi pobl o ran hyfforddiant, cyflogadwyedd, ac wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar y gronfa honno i gefnogi prentisiaid segur i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i gwblhau eu hyfforddiant. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i greu 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pob oedran, yn ystod y tymor Seneddol hwn, ac mae honno'n addewid yr ydym ni'n falch o allu ymrwymo iddi.

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi'n bersonol am eich cyfraniad chi a chyfraniad Llywodraeth Lafur Cymru, oherwydd mae'r ddeubeth wedi cefnogi'r cynllun prentisiaeth yn fawr iawn? Fe wn i o brofiad pa mor werthfawr ydyn nhw. Rydych chi'n iawn—mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n parhau i gefnogi cwmnïau yn y Gogledd-ddwyrain i barhau i ddarparu prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi pellach er mwyn cadw cymaint o sgiliau yn ein rhanbarth ni ag sy'n bosib. Pa gymorth ariannol yr ydych yn ei gynnig i wireddu hyn?

A gaf i ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn a datgan unwaith eto fy ymrwymiad i i'r rhaglen brentisiaethau? Rwy'n falch o ddweud bod gennym un o'r cyfraddau llwyddiant uchaf yn Ewrop o ran ein darpariaeth ni o brentisiaethau, hynny yw, prentisiaid sy'n mynd ymlaen i ennill gwaith sy'n gynaliadwy. Mae hynny'n dangos gwerth ein system ni. Nid ydym wedi glastwreiddio na dibrisio'r rhaglen brentisiaeth yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, fe fydd yna lawer o bwysau ar gyllidebau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio oherwydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru wrth frwydro yn erbyn COVID-19, ond fe fyddwn ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad ni ar brentisiaethau yn y meysydd hynny o'r economi a fydd yn cefnogi'r adferiad yn y ffordd orau bosib. Mae swyddogion yn ystyried mesurau pellach ar hyn o bryd i gynorthwyo'r adferiad a chefnogi prentisiaid.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Llywydd. Fy mhryder i, Gweinidog, yw y bydd Cymru, gwaetha'r modd, yn wynebu dirwasgiad dyfnach. Yn sicr, rwyf i o'r farn fod angen inni ymddiried yn ein busnesau ni o ran ymarfer ymbellhau cymdeithasol diogel ac ailagor eu hadeiladau er mwyn i'r economi ddechrau symud eto. Tybed a gaf i wybod gennych pa asesiad a wnaed o ran y dull arafach o ailagor yr economi o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ef, ac os caf i ddweud, yn gyntaf oll, fod ein dull mwy pwyllog ni yng Nghymru wedi arwain, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, at gyfradd positifrwydd o 0.25 y cant yn unig ar gyfer yr holl brofion hynny sy'n digwydd ar hyn o bryd. Cymharwch hynny â Blackburn, lle mae'r gyfradd yn 7 y cant, 28 gwaith yn uwch. Fe fyddwn i'n gofyn i unrhyw fusnes yng Nghymru, 'A fyddai'n well gennych chi fod yn gweithio yn y fan hon ar hyn o bryd neu yn Blackburn?' Mae ein dulliau gofalus ni o weithredu wedi cael eu cynllunio i atal achosion peryglus, niweidiol ac ail don. Dyna pam rydym ni wedi bod yn bwyllog, dyna pam rydym ni wedi sicrhau bod buddiannau hirdymor yr economi a busnesau—y 260,000 o fusnesau sydd yng Nghymru—yn ganolog i'n proses ni o wneud penderfyniadau.

Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, nid ymwneud â diogelu iechyd y cyhoedd yn unig y mae hyn, ond mae'n ymwneud hefyd â diogelu bywydau a bywoliaeth pobl hefyd. Mae fy mewnflwch i'n orlawn ar hyn o bryd o negeseuon gan bobl yn dweud wrthyf pa mor resynus yw'r ffaith nad yw'r DU wedi defnyddio'r un dull o weithredu ar draws y DU, ac mae hyn, yn anffodus, wedi achosi dryswch diangen sydd wedi rhoi busnesau Cymru dan anfantais. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y gallai atyniadau i dwristiaid sydd dan do agor, ond nid yw'n ymddangos y bu llawer o eglurder ynglŷn â'r hyn a all agor a'r hyn a ddylai aros ar gau. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n bwrw rhywfaint o oleuni ar y maes hwnnw heddiw. Yn fy marn i, nid oes yna unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai busnesau allu ailagor ar unwaith, ar yr amod eu bod nhw'n gwneud hynny yn unffurf â rheoliadau ymbellhau cymdeithasol a chanllawiau hylendid.

Mae wedi cymryd dros wythnos hefyd i Lywodraeth Cymru wneud unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â chefnogi'r farchnad dai drwy ddileu baich y dreth trafodiadau tir, ond nid yw'r cyhoeddiad yn agos at fod mor hael â'r hyn a amlinellodd Llywodraeth y DU ar gyfer eiddo dros y ffin. Gweinidog, a wnewch chi a'r Gweinidog Cyllid ymrwymo heddiw i edrych o ddifrif ar y dulliau trethu yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, a gostwng neu ddiddymu unrhyw dreth sy'n llyffetheirio brwdfrydedd a, thrwy wneud hynny, roi hwb angenrheidiol i'r economi, a hynny ar unwaith?

11:40

A gaf i ddiolch i Russell George am y cwestiynau yna? Yn gyntaf oll, o ran lefel y dreth cyn inni benderfynu codi'r trothwy, roedd y trothwy'n uwch nag yn unrhyw ran arall o'r DU, ac o fudd i filoedd o bobl a oedd yn prynu eiddo na fydden nhw wedi cael unrhyw fath o gymorth dros y ffin yn Lloegr neu fan arall yn y Deyrnas Unedig. Fe fydd y penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Busnes a'r Gweinidog Cyllid ddoe yn ein galluogi ni i adeiladu miloedd yn fwy o dai cymdeithasol, gan alluogi pobl sy'n ddigartref ar hyn o bryd i gael to uwch eu pennau, ac mae'n gwbl briodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu wrth inni adfer yn gryfach i greu economi fwy cyfartal a chymdeithas fwy cyfartal. Nid ydym yn ymddiheuro o gwbl am y penderfyniadau yr ydym ni'n eu cymryd i alluogi a grymuso pobl i ymdrechu i fod cystal ag y gallan nhw fod o ran gobeithion am gyflogaeth dda.

Nawr, fe allaf ddweud wrth yr Aelod, ar dudalennau gwefan Llywodraeth Cymru ar reoliadau coronafeirws mae yna adran eang o gwestiynau cyffredin, sy'n rhoi'r holl fanylion a allai fod yn angenrheidiol i fusnesau sy'n cysylltu â Russell George, ond â llawer o Aelodau eraill hefyd, yn gofyn am atebion mewn cysylltiad â'r rheoliadau hynny. Fe fyddwn i'n cyfeirio pob Aelod at y tudalennau o gwestiynau cyffredin.

Yng Nghymru, rydym yn cynllunio ac yn yna'n cyhoeddi polisi. Nid ydym yn cyhoeddi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud, ac yna'n ceisio cynllunio wedi hynny. Nid ydym yn trin polisi yng Nghymru fel gêm o 'swingball', gan greu ansicrwydd, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr. Pan fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad, rydym yn awyddus i gadw ato.

Diolch am eich ateb, Gweinidog. Tybed a fyddech chi'n ymrwymo i ddyddiad pan allai gweddill yr economi ailagor. Fy nghwestiwn i fyddai pam mae'n rhaid glynu mor gaeth i adolygiadau bob tair wythnos. Os yw'n iawn rhoi newid ar waith  nawr, yna gwneud hynny nawr sydd ei angen. Pan wneir cyhoeddiadau, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eglurder ynghlwm wrth y cyhoeddiadau hynny. Er enghraifft, fe soniais i am atyniadau dan do i dwristiaid. Fe soniodd Andrew R.T. Davies yn ei sylw heddiw yn ystod y datganiad busnes am leoliadau i briodasau, ac mae hwnnw'n fater a godwyd gyda minnau hefyd. Nid yw'n ymddangos fod canllawiau clir ar gael. Rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi ein cyfeirio ni at y cwestiynau cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy'n defnyddio honno'n aml, ac fe werthfawrogir honno ac mae hi'n ddefnyddiol, ond nid yw bob amser yn rhoi—yn aml nid yw'n rhoi— yr eglurder angenrheidiol i fusnesau. Yn y pen draw, fe hoffwn i gael cyhoeddiadau gydag arweiniad clir yn gysylltiedig â nhw fel nad yw fy mewnflwch i'n orlawn, ac nad yw'r cyfryngau cymdeithasol yn llawn, o'r cwestiynau hynny sy'n dilyn. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn dweud eich bod wedi siarad â'r diwydiant, Gweinidog, wrth gyflwyno canllawiau, ond nid yw pob busnes yn aelod o gymdeithasau neu gyrff masnach. Felly, mae angen gwneud cyhoeddiadau sydd â chanllawiau ynghlwm wrthynt ac sy'n cyfathrebu'n effeithiol hefyd â'r sectorau penodol hynny.

A gaf i ddiolch i'r Aelod a'i sicrhau ef bod ugeiniau o ddogfennau canllaw ar gael ar wefan y Llywodraeth erbyn hyn? Maent ar gael i wahanol fathau o weithleoedd. Maent ar gael i gyflogwyr yn ogystal â dinasyddion, yn enwedig i deithwyr sy'n defnyddio cludiant cyhoeddus. Rydym ni wedi ceisio gwneud y canllawiau mor eglur a chynhwysfawr ag sy'n bosib, ac mae'n gwbl hygyrch i unrhyw un sy'n awyddus i gael canllawiau, os ydyn nhw'n rhedeg busnes neu'n ymdrin ag unrhyw fusnes.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod yna fusnesau lletygarwch nad oes ganddyn nhw le i agor ar hyn o bryd yn yr awyr agored, ac fe fyddwch yn ymwybodol hefyd o'r camau sy'n cael eu cymryd gan awdurdodau lleol i agor ein mannau cyhoeddus i alluogi mwy o fusnesau i fasnachu yn yr awyr agored, busnesau lletygarwch yn bennaf. Wrth gwrs, mae'n bosib gwneud hynny yn y tymor byr drwy ddefnyddio eithriadau i reoliadau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio eu hunain. Ond fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol fod yna batrwm cymhleth iawn o faterion o ran rheoliadau, cynllunio a phriffyrdd y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried os ydynt am agor y mannau cyhoeddus hynny i fusnesau allu masnachu yn y tymor hwy. O ystyried y pwyntiau a wnaed yn gynharach am yr angen i wneud hynny mewn ffordd sy'n galluogi dinasyddion anabl i symud o amgylch yn rhwydd, a wnaiff y Gweinidog weithio gyda chyd-Weinidogion i ystyried defnyddio pwerau deddfu brys Llywodraeth Cymru i ohirio rhywfaint o'r patrwm rheoleiddio hwnnw, a'i gwneud yn haws i awdurdodau lleol, os ydyn nhw'n dymuno, ganiatáu i letygarwch a busnesau eraill fasnachu yn yr awyr agored yn y tymor hwy?

11:45

Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Rydym eisiau sicrhau y gall awdurdodau lleol wneud penderfyniadau amserol a gwneud newidiadau priodol i'r amgylchfyd cyhoeddus i alluogi busnesau i weithio mewn ffordd ddichonadwy, hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Ac fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gobeithio y gallwn alluogi busnesau o fewn y sector lletygarwch i agor dan do o'r trydydd o fis Awst ymlaen, ar yr amod bod y coronafeirws yn parhau i fod dan reolaeth lawn gennym ni.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n credu y byddai ef yn cytuno â mi y bydd y mannau awyr agored hynny'n dal i fod yn ddefnyddiol i fusnesau, er hynny; oherwydd pellhau cymdeithasol, bydd ganddynt lai o gwsmeriaid dan do ac mae hynny'n cael effaith ar eu henillion nhw.

Os caf i droi nawr at fater y busnesau hynny nad ydynt wedi gallu cael cymorth naill ai gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU hyd yn hyn, o ystyried y pwynt a wnaeth y Gweinidog yn y gorffennol na fydd modd helpu pawb. Mae ef yn ymwybodol bod y gronfa bwrsariaeth cychwyn busnes wedi cael derbyniad a chefnogaeth dda iawn. Mae'r Gweinidog wedi cyfeirio o'r blaen at bosibilrwydd cronfa caledi i'r busnesau hynny—niferoedd cymharol fach, gyda gobaith—nad ydynt wedi llwyddo i gael cymorth o rywle eraill. Ond mae'n ymddangos y ceir rhywfaint o ddryswch nawr ynghylch a yw'n parhau i fwriadu gwneud felly.

Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw a yw'r posibilrwydd o gronfa caledi yn cael ei ystyried o hyd i'r nifer gymharol fach o fusnesau nad ydynt wedi gallu cael unrhyw gymorth eto? Rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi, er nad yw'r busnesau hynny efallai yn arwyddocaol iawn o ran yr economi yn ei chyfanrwydd, eu bod nhw'n bwysig iawn i berchenogion y busnesau a'r bobl sy'n gweithio ynddyn nhw, a'r cymunedau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw.

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones a dweud ein bod ni'n sicr yn agored i ystyried cronfa caledi? Fe fydd hynny'n dibynnu ar ein hasesiad ni o'r gronfa cadernid economaidd, a cham diweddaraf yr ymyriad penodol hwnnw, ond fe fydd hefyd yn dibynnu ar ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Pwyllgor Dethol Trysorlys y DU, sy'n ymwneud â'r bylchau a ddaeth i'r golwg drwy gymorth gan Lywodraeth y DU. Ac fe fyddwn ni hefyd yn asesu'r cynllun cymorth hunangyflogaeth, oherwydd mae'n ymddangos bod llawer o'r unigolion hynny sy'n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru am gyngor mewn gwirionedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth hunan-gyflogaeth.

Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw am 9.30 a.m. yn dangos bod 16 y cant o bobl sy'n gymwys ar gyfer y cynllun cymorth hunan-gyflogaeth yng Nghymru heb wneud cais eto. Mae hynny'n gyfystyr â degau o filoedd o bobl hunangyflogedig nad ydyn nhw, rwy'n ofni, yn ymwybodol eu bod yn gymwys efallai i gael y cynllun cymorth pwysig hwnnw ac yn hytrach yn edrych tua Llywodraeth Cymru am gymorth, yn gyntaf ac yn bennaf. Ond rydym bob amser wedi bod yn glir fod y gronfa cadernid economaidd wedi ei chynllunio i ategu, ac nid i ddyblygu, ymyriadau Llywodraeth y DU. Felly, fe fyddwn i'n annog unrhyw un sy'n hunangyflogedig i edrych yn bennaf ar y cynllun cymorth hunan-gyflogaeth, a gwneud cais cyn gynted ag y bo modd, oherwydd rydym yn amcangyfrif y gallai fod yna tua 30,000 o bobl nad ydynt yn elwa ar y cynllun hwnnw hyd yn hyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n hyderus y bydd Busnes Cymru yn rhoi'r cyngor hwnnw i bobl hunan-gyflogedig sy'n cysylltu â nhw. Fe wn i fod yna ymdrechion ar hyn o bryd i wneud y cysylltiad â busnesau mor syml â phosib, ond fe all hynny fod yn frawychus o hyd. Mae'r Gweinidog yn ei ateb yn cyfeirio at swyddogaeth Llywodraeth y DU o ran cefnogi busnesau i ymdrin â'r argyfwng hwn, ac rwy'n credu, er bod diffygion yn y cynlluniau, fod pawb yn ddiolchgar am y rhain. Ond a yw'r Gweinidog yn rhannu fy rhwystredigaeth i gyda'r sefyllfa fel y mae hi, sef bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddibynnu cymaint ar Lywodraeth y DU i ymateb yn briodol i anghenion ein busnesau a'n cymunedau ni? A yw'r Gweinidog byth yn edrych ar y math o ymreolaeth gyllidol a fwynheir gan rai cenhedloedd annibynnol a fyddai'n ei alluogi ef a'i gyd-Weinidogion i fenthyca a gwario mewn ffyrdd sy'n gweddu orau i'n cymunedau ni, yn hytrach na gorfod dibynnu ar gymydog mwy o faint ar ben arall yr M4, nad yw bob amser yn deall effaith eu gweithredoedd yn llawn ar ein cymunedau ni, ac nad ydyn nhw bob amser yn rhannu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, y Senedd hon na'r genedl hon?

11:50

Wel, fe fyddwn i'n cytuno'n gyfan gwbl â'r Aelod, ac mae'r Gweinidog cyllid wedi siarad droeon erbyn hyn am y modd y gallem wneud mwy pe byddai gennym bwerau ychwanegol dros fenthyca a mwy o gyfle i ymyrryd. Rwy'n credu mai'r hyn a amlygwyd gan y coronafeirws yw bod Llywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'i hadnoddau ariannol cyfyngedig, wedi gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fusnesau. Rydym ni'n amcangyfrif bod 34 y cant o fusnesau Cymru wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Mae'r gymhariaeth â Lloegr yn siarad cyfrolau; dim ond 14 y cant yw'r ffigur dros y ffin. Mae hynny'n dangos y rhan sydd wedi bod gan y Llywodraeth hon yng Nghymru wrth aeafgysgu busnesau trwy'r gwaethaf o'r coronafeirws, ac arbed degau ar ddegau o filoedd o swyddi.

Nid yw llefarydd y blaid Brexit yn bresennol, ac felly fe fyddaf i'n symud ymlaen at gwestiwn 3—Mark Isherwood.

Cefnogi Busnesau i Ailagor

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng Ngogledd Cymru i ailagor o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws? OQ55446

Rydym ni'n gwneud popeth sy'n bosib i gefnogi busnesau wrth iddyn nhw ailagor yn raddol. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth cynhwysfawr trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru ni a gwefan Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cefnogi bron 2,000 o fusnesau yn y Gogledd hefyd drwy rownd gyntaf ein cronfa cadernid economaidd, sydd werth dros £33 miliwn.

Mae pobl sydd â busnesau sy'n gysylltiedig â phriodasau yn dweud wrthyf bod yr amser yn prysur ddiflannu ar gyfer lleoliadau priodasau a'r diwydiant priodasau yn gyffredinol. Mewn arolwg o leoliadau priodasau Cymru, fe ddywedodd 86 y cant fod eglurder a map neu amserlen yn hollbwysig i oroesiad eu busnesau nhw. Mae bron pob sector arall wedi cael caniatâd i agor, ac fe ganiateir dathliadau priodas mawr dan do drwy'r rhan fwyaf o Ewrop, ac erbyn hyn yng Ngogledd Iwerddon hyd yn oed. Roedden nhw'n dweud nad oes modd adfer y sefyllfa mewn llawer o leoliadau heb gael cyhoeddiad yn gyflym iawn. Roedden nhw'n dweud, 'Mae'r diffyg diddordeb ymddangosiadol yn y diwydiant priodasau yng Nghymru yn gwbl resynus' ac roedden nhw'n dweud, 'Nid oes gennym yr amser ar ôl i siarad yn ddiddiwedd heb unrhyw ganlyniad.' Mae yna gymaint o swyddi a busnesau yn y fantol, ac eto i gyd, gyda'r rheolaeth a'r negeseuon cywir, fe ellid eu hachub i gyd yn hawdd. Sut ydych chi am ymateb iddyn nhw?

Fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu lleoliadau priodasau, ac fe fyddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y sylwadau a wnaeth y Gweinidog Cyllid, y Trefnydd, yn gynharach. Ond fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, o ganlyniad uniongyrchol i gael Llywodraeth i Gymru a chael cronfa cadernid economaidd i Gymru yn unig, fod busnesau yn y Gogledd wedi gwneud cais am ddegau o filiynau o bunnoedd—tua £55 miliwn, a bod yn fanwl gywir. O ran busnesau lletygarwch, mae dros £5.5 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gannoedd o fusnesau'r Gogledd ac ni fyddent wedi gallu cael y cymorth hwnnw pe bydden nhw wedi eu lleoli yn Lloegr. Rydym yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr.

Diogelwch Staff ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch staff ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ55465

[Anghlywadwy.]—i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus, Llywydd, mae diogelwch a lles yr holl staff a'r teithwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Ar 8 Gorffennaf, fe wnaethom ni ddiweddaru ein canllawiau ar gyfer gweithredwyr, gan eu helpu nhw i ddeall sut i ddarparu gweithleoedd a gwasanaethau mwy diogel i weithwyr a theithwyr.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ddydd Llun y bydd gorchuddion wyneb yn dod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddiwedd mis Gorffennaf ymlaen. Yn bersonol, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ymestyn hynny i weithwyr mewn siopau cyn gynted ag sy'n bosib. Roedd hwn yn gyhoeddiad a oedd i'w groesawu'n fawr, roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi gofyn amdano, ac roedd yn rhywbeth yr oedd undebau llafur fel Unite wedi ymgyrchu yn galed drosto. Ond wrth gwrs rydym yn cydnabod hefyd nad yw hwn yn ddatrysiad hud a lledrith ar ei ben ei hun, a'i bod yn hanfodol bod mesurau fel golchi dwylo ac ati yn cyd-fynd â gwisgo'r gorchuddion wyneb hyn. Pa gamau wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i sicrhau bod dealltwriaeth eglur iawn gan y cyhoedd o ran nid yn unig wisgo gorchuddion wyneb ond pwysigrwydd cymryd camau eraill i amddiffyn eu hunain a dinasyddion eraill yng Nghymru? Diolch.

11:55

Wel, diolch i chi am hynny. Rwy'n cydnabod bod Lynne Neagle wedi bod yn galw am hyn ers tro, ond fel y nododd y Prif Weinidog yn fanwl iawn yn gynharach, mae'r rhain yn ddyfarniadau anodd ac amlochrog gyda chydbwysedd o ran risgiau. Rydym wedi bod yn ymgysylltu'n agos â'r undebau llafur, gyda'r gweithredwyr ac â grwpiau cydraddoldeb i weithio drwy'r manylion am hyn a sut i'w weithredu, oherwydd wrth i fysiau weld mwy o bobl yn eu defnyddio, fe fydd hi'n amhosib cadw'r canllawiau 2m yn weithredol arnynt. Felly, rydym yn bwriadu rhoi cyfres o fesurau lliniaru ar waith wedyn, gan gynnwys newidiadau peirianyddol, golchi dwylo, diheintyddion ac ati, yn ogystal â gorchuddion wyneb. Nid yw gorchuddion wyneb yn unig, fel y mae Lynne Neagle yn ei gydnabod, yn ddatrysiad hud a lledrith, fel y dywed. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r gweithredwyr i wneud yn siŵr y codir ymwybyddiaeth am y pethau y mae angen eu gwneud i gadw pobl mor ddiogel ag y bo modd.

Gweinidog, gwyddom ers amser maith bod y risgiau sy'n gysylltiedig â theithio awyr yn is, oherwydd y systemau hidlo aer a osodir mewn awyrennau, ac mae'n edrych nawr fel pe gallai technoleg fel hynny fod ar gael yn fwy eang ar gyfer trafnidiaeth arall. Credir mai bysiau Own Buses yn Warrington yw'r cwmni bysiau cyntaf yn y byd i osod dyfeisiau glanhau aer yn ei fflyd gyfan i amddiffyn gyrwyr rhag y perygl o COVID-19 yn cael ei drosglwyddo yn yr aer. Mae wyth deg a chwech o ddyfeisiau glanhau aer AirBubbl wedi cael eu gosod, sy'n hidlo mwy na 95 y cant o'r feirysau yn yr awyr a gronynnau heintiedig o'r awyr. Mae'n fy nharo i, Gweinidog, mai dyma'r math o arloesi fyddai'n helpu i ymdrin â'r pandemig presennol, ond mae hwn yn arloesi mewn ffordd dda hefyd, sy'n symud ymlaen, er ei fwyn ei hun beth bynnag. Felly, a oes modd i Lywodraeth Cymru annog bysiau ac efallai ddulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus i fabwysiadu technoleg fel hyn wrth symud ymlaen, i sicrhau, ie, bod y staff a'r gyrwyr yn cael eu hamddiffyn, ond hefyd fod yr amgylchedd mor lân â phosib ar gyfer y teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Wel, mae gennym ddiddordeb yn sicr mewn arloesi ac fe fyddem yn awyddus i edrych yn fanwl ar yr enghraifft hon, ac mae rhagor o arloesi technoleg isel yn nes at adref sydd wedi cael ei ddatblygu. Mae Edwards Coaches, er enghraifft, wedi bod yn arbrofi gyda tharianau wyneb plastig ar eu bysiau nhw i geisio cael mwy yn teithio'n ddiogel arnynt. Ac rydym yn edrych ar bob un o'r rhain. Fel bob amser, mae economeg y diwydiant bysiau yn heriol i'r mathau hyn o fuddsoddiadau. Ac rydym wedi bod yn ymdrechu gyda'r gweithredwyr i ddod o hyd i ffordd o roi hwb i'w gwasanaethau gyda'u cerbydau presennol, o gofio pa mor fregus yw eu model busnes nhw, a pha mor ddibynnol ydynt ar gymhorthdal cyhoeddus, a sut i gydbwyso'r buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen i roi'r mesurau hyn ar waith â'u gallu nhw i fasnachu fel busnesau.

Metro Bae Abertawe a Chymoedd y Gorllewin

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin? OQ55452

Gwnaf, yn wir. Rydym wedi bod yn ariannu Cyngor Abertawe, Llywydd, i ddatblygu, gyda'r rhanbarth, becyn o gynigion i ddatblygu Metro De Cymru. Rydym wedi ariannu hynny hyd at ryw £2 filiwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn bwriadu cyflymu hynny nawr drwy gynnwys Trafnidiaeth Cymru i symud ymlaen â'r cam nesaf.

Gweinidog, mae datblygu Metro ym Mae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol yn hanfodol er mwyn lleihau amseroedd teithio a thagfeydd yn Abertawe a'r cyffiniau, ac er mwyn sbarduno datblygu economaidd yn ein cymunedau ni yn y Cymoedd. Serch hynny, er y cytunwyd ar gyllid i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn 2017, nid ydym wedi cael fawr ddim o'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi amlinellu pryd yr ydych yn disgwyl i'r astudiaeth ddichonoldeb gael ei gwneud yn gyhoeddus, a phryd yr ydych yn disgwyl gwneud penderfyniad ar y cynllun? Ac a ydych chi'n cytuno ei bod yn bwysig y dylai dewisiadau rheilffyrdd ysgafn mewn ardaloedd fel Cwm Tawe a Chwm Aman fod yn rhan o'r gwaith dichonoldeb hwnnw?

Wel, rwy'n rhannu diddordeb yr Aelod o ran sicrhau y caiff y cynnig hwn ei gyflymu. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn datblygu Metro ym Mae Abertawe ac rwy'n teimlo'n rhwystredig o ran y cynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn. Dyma un o'r rhesymau pam rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru, yn rhan o'r llythyr cylch gwaith, fod â swyddogaeth wrth ddatblygu'r cynigion hyn. Fel y dywedais, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn y rhanbarth gan yr awdurdodau lleol eu hunain, ac maent wedi datblygu pecyn cychwynnol o fesurau, gan gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd Metro pellter hir a lleol newydd ar hyd rheilffordd ardal Abertawe, nad oes digon o ddefnydd ohoni ar hyn o bryd. Byddai hyn yn cwtogi ar yr amseroedd teithio rhwng y Gorllewin i Abertawe a Chaerdydd a thros y ffin.

Fe fyddai'r gwasanaeth Metro newydd, drwy seilwaith rheilffyrdd newydd a nifer o orsafoedd newydd a safleoedd parcio a theithio strategol, yn cysylltu Abertawe, Castell-nedd a Llanelli yn fwy effeithiol. Rydym ni hefyd, fel rhan o hyn, yn edrych ar wella'r gwasanaethau bysiau sy'n ehangu yn rhanbarth Bae Abertawe. Ac rwy'n cytuno â Dai Lloyd bod angen i hynny gynnwys rheilffyrdd ysgafn hefyd. Yn amlwg, mae cyd-destun Bae Abertawe yn wahanol i gyd-destun Metro'r Cymoedd canolog, lle ceir llawer mwy o wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd eisoes. Ac er mwyn i'r Metro fod yn wasanaeth ystyrlon 'troi fyny a mynd' yn y De-orllewin, fe fyddai'n rhaid mynd y tu hwnt i edrych ar reilffyrdd trwm, a chael cymysgedd o reilffyrdd ysgafn, trafnidiaeth bws cyflym, teithio llesol a mesurau blaenoriaethu bysiau.

12:00

Daeth y symbyliad ar gyfer Metro Bae Abertawe yn sgil galwadau niferus yn y Siambr hon am system drafnidiaeth sy'n sail i'r fargen ddinesig, ac rwy'n falch nawr bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau, yn arbennig ar gyfer y gwasanaeth cyflymach hwnnw i'r Gorllewin a'r De.

Rwyf wedi cyflwyno'r achos o'r blaen y byddai parcffordd yn siŵr o gefnogi'r nod diweddarach hwnnw yn ogystal â gwella'r cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a'r math o reilffyrdd yr oedd Dai Lloyd yn sôn amdanynt. Rwy'n derbyn mai mater a gafodd ei ddatganoli yw hwn, ond mae cyllid gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer parcffordd, felly oni fyddai'n ddoeth i Drafnidiaeth Cymru a'r partneriaid eraill gynnwys Llywodraeth y DU yn—[Anghlywadwy.]—am eu bod nhw'n bartneriaid yn y fargen ddinesig, wedi'r cyfan, yn hytrach nag, efallai, gyflwyno bil iddyn nhw ar y diwedd neu honni bod diffyg buddsoddiad?

Wel, yn fy marn i, fe fyddai gweld parcffordd yn Felindre fel mesur teithio llesol yn gofyn am gryn dipyn o ddychymyg, Llywydd, ond, yn sicr, fel rhan o rwydwaith ehangach, fe fyddai'n fuddiol, ac rydym wedi dweud hynny ar hyd y daith. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw creu darn o seilwaith nad yw'n cysylltu â rhwydwaith ehangach. Ac yn sicr, roedd Alun Cairns, pan oedd ef yn Ysgrifennydd Cymru, yn awyddus iawn i chwarae gemau gwleidyddol, wrth geisio cyflwyno hyn yn ddewis deniadol, ond, wrth gwrs, heb roi unrhyw ystyriaeth i sut y dylid rhedeg y gwasanaethau. Un peth yw rhoi cyllid ar gyfer seilwaith, ond heb  drenau i redeg arno, mae'n ddiystyr, ac oni bai ei fod yn cysylltu â chanol dinas Abertawe yn hytrach nag osgoi canol y ddinas a'r teithiau eraill ymlaen, ni fyddai'n gwneud fawr o synnwyr ychwaith.

Nawr, rwy'n cytuno â Suzy Davies—fel rhan o symud y drafodaeth yn y rhanbarth oddi wrth fargen ddinesig yn ôl i ddinas-ranbarth, felly mae'n gofyn am ddull mwy cydlynol yn hytrach na gweinyddu pot o arian grant yn unig, ac mae angen i drafnidiaeth fod yn rhan o'r weledigaeth honno wedyn. Ac fe wnes i, ynghyd â David T.C Davies, gyfarfod â phrif gynrychiolwyr y fargen ddinesig yr wythnos diwethaf.

Mae'r ffordd y mae'r fargen ddinesig wedi ei sefydlu gan Lywodraeth y DU yn wahanol i'r ffordd y mae bargen ddinesig Caerdydd wedi ei sefydlu. Mae'n ymwneud â gweinyddu cyfres o brosiectau yn hytrach na defnyddio dull cyfun ehangach, ac mae gan yr un yng Nghaerdydd fwy o hyblygrwydd ar gyfer hynny. Felly, yn sicr fe fyddem ni â diddordeb mewn cael trafodaeth i newid hynny pe byddai awydd am hynny. Ond, unwaith eto, rwy'n pwysleisio, gadewch inni beidio â chanolbwyntio gormod ar y fargen ddinesig—mecanwaith i ariannu grantiau yw hwnnw—gadewch inni ganolbwyntio ar y ddinas-ranbarth. Gadewch inni beidio â chanolbwyntio ar Felindre fel gwasanaeth parcio a theithio yn unig, gadewch inni ganolbwyntio ar rwydwaith integredig a chydlynus sy'n cysylltu'r holl ddarnau, yn hytrach na datganiad bach melys i'r wasg ynglŷn ag un etholaeth y mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio ei thargedu.

Tagfeydd ar Ffyrdd a Rheilffyrdd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i liniaru tagfeydd ar ffyrdd a rheilffyrdd ym Mhencoed? OQ55440

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi rhoi grantiau trafnidiaeth lleol o £300,000 i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr cyn hyn i werthuso'r dewisiadau ym Mhencoed. Fe fyddai'r cynllun hwn yn cyfrannu llawer at liniaru tagfeydd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ym Mhencoed ac yn yr ardaloedd cyfagos.

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna ac am y gefnogaeth a'r diddordeb parhaus o du Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn. Fe fydd ef yn falch o wybod bod y cyfarfodydd, sy'n cael eu cadeirio gan Chris Elmore AS a minnau, yn dwyn ynghyd Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, diddordeb Llywodraeth Cymru, ond y cyngor tref lleol hefyd, sydd wedi bod yn bencampwr pwysig yn hyn o beth, ac arsylwr o Swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd—. Cyfrinach hyn i gyd yw dod â'r holl bartïon hynny at ei gilydd i ddatgloi'r hollt sy'n ymestyn ar hyn o bryd drwy ganol tref Pen-coed ac yn mygu datblygiad cymdeithasol ac economaidd fel ei gilydd.

Felly, wrth godi'r cwestiwn hwn, rwy'n ceisio cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, sydd wedi helpu wrth fwrw ymlaen â hyn gyda'r astudiaeth ddichonoldeb. Ac yn y cyfarfod diwethaf, fe fydd y Gweinidog yn falch o wybod inni weld ail gam yr astudiaeth gychwynnol honno'n cael ei gwblhau, ac mae'n ein llywio ni tua'r cyfeiriad iawn. Ond ni fydd hyn yn cael ei gyflawni byth oni bai fod yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU yn ei ariannu hefyd. Felly, a wnaiff yntau hefyd ysgwyddo peth o'r baich hwnnw yn ei drafodaethau ef gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidogion y DU?

12:05

Wel, yn sicr, fe wnaf i hynny, ac fe hoffwn i ddiolch i Huw unwaith eto am y cwestiwn ynglŷn â'r prosiect pwysig hwn, a allai wneud gwahaniaeth enfawr o ran cysylltedd a chludiant cyflym rhwng cymunedau yn ei etholaeth ef ac o'i hamgylch. Mae'r Aelod yn ymwybodol, rwy'n gwybod, ein bod ni'n parhau i ymgysylltu â Network Rail ynghylch bwrw ymlaen â'r cynllun hwn. Rydym wedi annog Network Rail i gynnwys y prosiect ar y rhestr o gynigion am arian o dan gynllun rheilffyrdd ysgafn Adran Drafnidiaeth Network Rail. Rydym wedi dyrannu cyllid, rwy'n falch o allu dweud, sef cyfanswm o fwy na £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer y cynlluniau metro plus, ac rwy'n deall y bydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwrw ymlaen â gwaith drwy'r cyfle hwn i gael ei ariannu. Ond fel y dywedodd yr Aelod, ni chafodd y seilwaith rheilffyrdd y tu allan i reilffyrdd craidd y Cymoedd ei ddatganoli a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn o hyd. Felly, mae'n gwbl hanfodol i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn y maes hwn wrth iddo geisio datblygu er gwell. Fe fyddai dileu'r groesfan ym Mhencoed yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn.

Canllawiau Ymbellhau Cymdeithasol

7. Yng ngoleuni COVID-19, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith canllawiau ymbellhau cymdeithasol ar fusnesau yng Nghanol De Cymru? OQ55442

Wel, er ein bod ni'n cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd, iechyd y cyhoedd sy'n dod yn gyntaf. Y peth gwaethaf a allai ddigwydd i'r economi yw ail don, a dyna pam mae'n rhaid i unrhyw ddull gweithredu rhesymegol fod yn bwyllog. Fe fyddwn ni'n ymgynghori â busnesau ac ag undebau llafur i sicrhau bod ein dull ni o weithredu yn gymesur ac yn deg â busnesau a gweithwyr.

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rwy'n deall bod angen i iechyd y cyhoedd ddod yn gyntaf bob amser a bod lles pobl yn cael ei ddiogelu. Ond mae llawer o fusnesau wedi dod ataf yn tynnu sylw at brofiadau mewn gwledydd eraill a chyngor Sefydliad Iechyd y Byd bod 1m yn bellter cymdeithasol sy'n dderbyniol. Yma yng Nghymru, mae gennym ni 2m. Pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal o fewn y Llywodraeth erbyn hyn i roi ystyriaeth i ba mor bell y dylai'r llinell fod, gan fod busnesau sy'n ailagor yn buddsoddi llawer yn y rheol 2m ac yn amlwg byddai'n rhaid iddyn nhw fuddsoddi eto pe byddai hynny'n newid yn y dyfodol agos?

Dyna'n union sydd wedi digwydd dros y ffin, ac ni fyddem yn dymuno gweld busnesau yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr ar osod rhwystrau ffisegol, canllawiau ac arwyddion na fyddant yn eu lle am gyfnod maith o amser. Wrth gwrs, mae'r rheoliadau dan adolygiad parhaus yng Nghymru, ond mae'n gwbl glir bod 2m o ymbellhau cymdeithasol yn amddiffyniad gwell nag 1m, ac felly, lle bynnag y bo modd gwneud hynny, dylid cadw at 2m.

Nawr, wrth gwrs, rydym eisoes wedi gwneud y datganiad ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ac fe fyddwn i'n dweud bod ein dull pwyllog ni o weithredu wedi cael ei gefnogi gan gyllid i alluogi busnesau i fynd drwy effeithiau gwaethaf coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys y gronfa cadernid economaidd, sy'n werth £0.5 biliwn. Pe bai wedi bod yn gynllun i'r DU gyfan a'i weithredu gan Lywodraeth y DU, byddai wedi bod yn rhaid iddi fod yn gronfa o £10 biliwn i weithio yn yr un ffordd â'r Gronfa Cadernid Economaidd.

Cefnogi Trafnidiaeth Gyhoeddus

8. Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55448

Rydym wedi rhoi pecynnau sylweddol o gymorth ariannol ar waith ar gyfer gweithredwyr bysiau a threnau, yn ogystal â rhoi cyllid i awdurdodau lleol i gyflwyno mesurau i wella diogelwch ac amodau ar gyfer dulliau cynaliadwy a gweithredol.

Dirprwy Weinidog, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ers i'r gronfa caledi ar gyfer bysiau ddod i ben, mae'r cynllun brys ar gyfer bysiau yn rhoi ffynhonnell refeniw i weithredwyr bysiau sy'n gorfod ymdrin, yn amlwg, â gostyngiad mawr yn nifer y teithwyr ar hyn o bryd, oherwydd y gofynion diogelwch, ond hefyd brinder y galw am wasanaethau bysiau. Ond maent yn wasanaethau hanfodol i iechyd hirdymor yr economi ac ar gyfer dulliau mwy egnïol o deithio a llai o dagfeydd hefyd. Felly, beth yw'r cynllun tymor hwy i gynnal ein rhwydweithiau bysiau ni?

12:10

Credaf fod David Melding yn nodi'n gywir yr anhawster a wynebwn ni yma. Nid yw swm y cyllid cyhoeddus y mae cwmnïau bysiau yn ei gael wedi gostwng. Yr hyn sy'n amlwg wedi lleihau, gan fod teithwyr wedi cadw draw o drafnidiaeth gyhoeddus, yw'r elfen honno o'u model busnes sy'n seiliedig ar faint o arian a geir gan gwsmeriaid, ac mae'r model hwnnw wedi dod o dan straen aruthrol yn wyneb y coronafeirws. Nawr, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda nhw ac wedi darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol er mwyn sicrhau fod ystod graidd o wasanaethau yn gweithredu ar gyfer gweithwyr allweddol, ac erbyn hyn rydym ni yn y cyfnod anodd lle rydym ni eisiau cynyddu gwasanaethau, ond mae'r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cyfyngu ar nifer y bobl y gellir eu cludo, ac yn amlwg mae llai o alw hefyd oherwydd bod pobl—ac rydym ni'n gweld hyn ar draws y byd—yn fwy cyndyn o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi cyhoeddi bod modd bod yn hyblyg o ran nifer y teithwyr y caniateir i fysiau eu cludo bellach, gyda mygydau wyneb yn cael eu hargymell ac yn angenrheidiol er mwyn hwyluso hynny, ac rydym ni yn datblygu, cam wrth gam, ein cynllun brys ar gyfer bysiau gyda'r cwmnïau, ac rydym ni yn gweithio gyda nhw yn gyfnewid am ystod o amodau i wneud yn siŵr ein bod yn cael gwerth da am yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi ac y gallwn ni fod â rhywfaint o reolaeth dros y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig a bod gennym ni sicrwydd ynghylch prisiau a llwybrau. A'n diben yw gweithio gyda nhw i addasu gwasanaethau, wrth i ni weld pa gyllid ychwanegol y gallwn ni ei ryddhau.

Diweddariad Economaidd yr Haf Canghellor y DU

9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i economi Cymoedd y De yn sgil diweddariad economaidd yr haf Canghellor y DU? OQ55458

Er bod datganiad y Canghellor yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, nid yw'n mynd yn ddigon pell i gyfateb i raddau'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae angen gweithredu'n helaethach ac yn fwy pellgyrhaeddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn uniongyrchol ac i adeiladu'n ôl yn well.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n credu, yn anffodus, na fydd hanes yn edrych yn ffafriol ar gyhoeddiad diweddar Canghellor y DU. Rwy'n credu mai'r hyn yr oedd ein pobl ifanc yn gobeithio amdano oedd buddsoddiad y mae ei ddirfawr angen yn eu dyfodol, a'r hyn a gawson nhw oedd pizza hanner pris. Felly, a ydych chi'n cytuno felly, mewn lleoedd fel Merthyr Tudful a Rhymni, mai ein cynlluniau ni, Llywodraeth Cymru, ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith allweddol, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r metro, yn ogystal â buddsoddi yn sgiliau ein pobl ifanc ac adfywio cartrefi, busnesau a chanol trefi, yw'r elfennau allweddol i adfer gobaith a chyfleoedd i'n cymunedau yn y Cymoedd?

A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn atodol, a dweud, yn gyntaf oll, ynghylch rhai o'r datganiadau, nad yw'r symiau canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn yn cyfateb i £500 miliwn, fel y cyhoeddodd y Canghellor, ond yn hytrach i £12.5 miliwn mewn symiau canlyniadol? Nawr, rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i leihau treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch. Fodd bynnag, mae angen o hyd i Lywodraeth y DU weithredu cynlluniau diogelu cyflogaeth sectoraidd ar gyfer sectorau pwysig y bydd yn rhaid iddynt aros naill ai ar gau am gyfnod hwy neu y byddant yn wynebu colled sylweddol mewn refeniw oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae'n amlwg bod lletygarwch a thwristiaeth yn un o'r sectorau hanfodol hynny y mae angen cymorth arnyn nhw, ac mae'n rhaid i mi ddweud, drwy gytuno â'r Aelod, na chafwyd yr ymateb brwdfrydig i'r cynllun 'bwyta allan i helpu allan' sy'n angenrheidiol ar gyfer y sector arbennig hwn.

O ran cymorth i bobl ifanc a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, rydym ni yn datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn galluogi pobl i gynyddu eu sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth newydd. Rydym ni i gyd yn barod i daflu £40 miliwn at y rhaglen arbennig honno. Ac fel y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato, mae cynllun Blaenau'r Cymoedd yn gwbl hanfodol i ffyniant hirdymor y rhanbarth, ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyhoeddi'n ddiweddar gynigydd a ffefrir ar gyfer adran 5 ac adran 6 yr A465, ac rwy'n disgwyl y gwerir tua £400 miliwn yn uniongyrchol yng Nghymru drwy'r prosiect, felly hwb gwerth ychwanegol gros o tua £675 miliwn, ac rwy'n disgwyl gweld £170 miliwn o wariant gyda'r gadwyn gyflenwi leol.

O ran y fargen newydd i Brydain ar ei newydd wedd, mae arnaf ofn ei bod yn cynrychioli dim ond 0.25 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Roedd y fargen newydd wirioneddol yn cyfateb i 5 y cant o'r cynnyrch domestig gros—25 gwaith yn fwy. Ac er y byddai'r fargen newydd wedi arwain at greu parciau cenedlaethol, rhaglenni tai enfawr, rheilffyrdd, rwy'n ofni na fydd y fargen newydd a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog y DU ond yn arwain at wella pont yn Sandwell.  

12:15
4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd. Ac felly, mae'r cwestiwn cyntaf gan Mandy Jones.

Llywydd, rwyf wedi bod yn ceisio codi pwynt o drefn dros y 15 munud diwethaf.

Iawn. Mae gen i bwynt o drefn i'w godi, Llywydd. Rwyf wedi bod yn aros am 15 munud.

Wel, bydd rhaid i chi barhau i aros. Rwyf wedi galw'r cwestiwn. Mandy Jones i ofyn y cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol. Mandy Jones.

Brexit

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit ers i'w deitl gael ei newid ar 4 Mawrth 2020? OQ55462

Member
Jeremy Miles 12:16:14
Counsel General and Minister for European Transition

Cymeraf bob cyfle i sefyll dros Gymru, er gwaethaf y diffyg ymgysylltu ystyrlon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi bod mewn sawl cyfarfod gyda'r Tâl-feistr Cyffredinol ac mewn cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar 21 Mai, ac mae cyfarfod arall o'r pwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer yfory.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Mae hi yn destun gofid i mi ei bod hi'n ymddangos nad yw pob Llywodraeth yn y DU yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn y cyfnod cythryblus hwn i sicrhau y caiff holl ddinasyddion y DU eu trin yn gydradd lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae'n dorcalonnus, er gwaethaf gwahanol fforymau ar gyfer trafod a dadlau, er gwaethaf adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a gwir ewyllys am berthynas sy'n parchu datganoli, sy'n gynhwysol ac yn gydweithredol, rwyf wedi darllen rhai o'ch erthyglau diweddar ac nid wyf yn eu gweld naill ai'n adeiladol nac yn gydweithredol. A wnewch chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y diffyg cyd-parch a pherthynas ymarferol, ac, er fy mod yn sylweddoli bod rhaid i'r ddwy ochr weithio ar hyn, beth arall y gallwch chi, Lywodraeth Cymru, a'r Senedd ei wneud i newid hyn? Diolch.

Wel, dydw i ddim yn siŵr pa erthyglau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, ond byddwn i'n dweud fy mod i wedi ceisio ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yng nghyswllt pob un o'n hymrwymiadau o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r bwriad arfaethedig i wyro o'r cyfnod pontio. Mae wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sicrhau, er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol amlwg rhwng y Llywodraeth yma a'r Llywodraeth yn Llundain, mai'r egwyddor arweiniol yw sicrhau bod cynrychiolaeth deilwng ac ystyriaeth deilwng i fuddiannau Cymru yn y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud ar ran y DU. Rydym ni wedi ceisio fel Llywodraeth yn gyson, nid i wneud dim byd ond cwyno, ond i gyflwyno dadl adeiladol dros ddewisiadau amgen ar bob cam. Hyd yn oed mewn amgylchiadau lle nad oes fawr o obaith i'r rheini gael derbyniad gwresog nac effeithio ar y gweithredu yn San Steffan, rydym ni wedi teimlo mai'r peth priodol a chywir i'w wneud ar ran pobl Cymru yw cyflwyno dadl resymegol ar sail tystiolaeth ar bob cam, ac i gymryd pob cyfle posib i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Ac mae'n fater o rwystredigaeth oherwydd, pan fydd ymgysylltu yn gweithio'n dda, mae'n gynhyrchiol iawn. Rydym ni fel Llywodraeth yn dymuno gweld mwy o hynny.

Gweinidog, ar sawl achlysur gerbron y pwyllgor, rydych chi wedi nodi'r heriau yr ydych chi wedi'u hwynebu wrth geisio cael Llywodraeth y DU i gyflwyno syniadau a phenderfyniadau ac i gydweithio mewn gwirionedd â Llywodraeth Cymru. A ydych chi felly, fel finnau, yn gresynu wrth agwedd Llywodraeth y DU at hyn o ran y negodi rhwng yr UE a'r DU, ac y dylid cael mwy o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, fel bod cydweithredu mewn gwirionedd yn gweithio, ac nid yn cael ei orfodi?

Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Dylai'r egwyddor fod yn un o gydweithredu, a dylai hynny allu digwydd mewn modd lle caiff pob un o bedair Llywodraeth y DU yr un parch a'r un cyfle i gyfrannu. Efallai fod hierarchaeth Seneddol dan ddamcaniaeth gyfansoddiadol y DU, ond mewn gwirionedd nid oes hierarchaeth o lywodraethau, a dylid trin llywodraethau fel rhai cydradd yn y trafodaethau hynny.

O ran y trafodaethau y mae'n cyfeirio atyn nhw yn benodol, bydd yn gwybod o'n trafodaethau yn y pwyllgor ein bod yn siomedig iawn ynghylch diffyg ymwneud gwirioneddol â hynny, hyd yn oed i'r graddau y maent yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli. Ond, eto, yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni, fel Llywodraeth, wedi manteisio ar bob cyfle, ac rwyf wedi ysgrifennu rwy'n credu 10 neu 11 o lythyrau at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dweud yn glir iawn beth yw ein safbwynt o ran y negodiadau hynny. Ond, mewn gwirionedd, dylai'r rheini fod yn destun trafodaethau yn Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a fyddai, pe bai'n cyflawni ei gylch gorchwyl, yn galluogi i'r math hwnnw o gyd-gyfrannu ddigwydd—nid yw wedi gwneud hynny eto.

12:20
Adfer Trefi Cymru

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith o adfer trefi Cymru yn sgil effaith Covid-19? OQ55467

Byddwn yn ail-greu ar sail gwerthoedd ac egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd trefi ledled Cymru yn parhau i elwa o ymyriadau, gan adeiladu ar raglenni amrywiol trawsnewid trefi sy'n dod ar ben y pecyn cymorth pellach, gwerth £90 miliwn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae rhywun yn derbyn, yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, mae'n anochel y bydd yna swyddi yn cael eu colli. Ond, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld nawr, a beth dwi wedi sylwi arno fe yn ddiweddar, yw ein bod ni'n gweld cwmnïau yn dewis cau safleoedd mewn trefi gwledig neu drefi arfordirol—cymunedau, efallai, mwy ymylol—a chanoli swyddi lle mae yna bencadlysoedd neu lle mae ganddyn nhw bresenoldeb mwy, dwi'n meddwl. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i yn unig, mae gennym ni Mail Solutions yn Llangollen, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cau'r safle yn fanna ac yn symud y swyddi i Telford. Mae gennym ni hefyd Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes, ger Caernarfon, sydd hefyd yn adleoli swyddi.

Nawr, wrth gwrs, mae effaith colli'r swyddi hynny ar y cymunedau efallai mwy ymylol yna yn gymharol waeth, onid ydy hi—yn relatively waeth—o safbwynt yr effaith y mae'n ei chael ar y cymunedau hynny. Felly, dwi eisiau gofyn yn benodol sut mae'ch strategaeth chi a'ch dynesiad chi at adferiad yr economi yn y cyfnod ôl-COVID yn mynd i gymryd ystyriaeth benodol o hynny. Beth ydych chi'n ei wneud i annog ac i roi sicrwydd i'r cwmnïau sydd yn symud allan o'r cymunedau hynny i drio cadw rhyw fath o bresenoldeb? 

Wnaf i ddim ailddweud yr hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y Siambr eisoes heddiw gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi yn sôn am yr ymyriadau a'r gefnogaeth rŷm ni wedi'u cynnal a chynnig hyd yn hyn yng nghyd-destun ymateb sydyn i COVID. Ond mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn berthnasol i'r tymor hir, hefyd, fel y mae'r cwestiwn yn ei amlygu. Gwnaf i ei gyfeirio at y datganiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yn sôn am fuddsoddiad pellach mewn trefi yn rhannau o'i ranbarth e, a hefyd gwaith tasglu'r Cymoedd yn y de, sydd yn edrych ar ail-broffilio rhai o'r buddsoddiadau fanna i allu cefnogi trefi yn y rhan yna o Gymru hefyd.

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo eisoes i geisio sicrhau ein bod ni'n edrych ar y sialensiau penodol yng nghanol trefi ar draws Cymru—hynny yw, o ran pwysau ar y sector siopau, retail, a hefyd ar fusnesau bach—ac mae amryw o ymyriadau wedi ffocysu ar hynny, ynghyd â, hefyd, cynnig cyngor i drefi ar sut i edrych ar eu mannau cyhoeddus i gefnogi busnesau i allu gweithredu yn y cyfnod ôl-COVID. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ers rhai wythnosau bellach hefyd.

Fel y mae adroddiad gan y Ganolfan Drefi wedi'i amlygu, mae llawer o drefi arfordirol Cymru yn wynebu effeithiau tymor byr a thymor hir oherwydd COVID-19. Mae gadael yr UE yn gyfle i roi hwb i'n trefi arfordirol adfydus—er enghraifft, mae'r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, y Canghellor, yn paratoi i gyflwyno toriadau treth ysgubol ac ailwampio cyfreithiau cynllunio mewn hyd at 10 o borthladdoedd rhydd newydd o fewn blwyddyn i'r DU ddod yn gwbl annibynnol ar yr UE.

Nodwyd y bydd Llywodraeth y DU yn agor y cynnig i drefi, dinasoedd a rhanbarthau ddod yn borthladdoedd rhydd yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddarach eleni. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU i helpu i hyrwyddo trefi arfordirol yn y gogledd, gan eu bod nhw, yn wir, yn gystadleuwyr brwd iawn i ddod yn borthladdoedd rhydd ar ôl inni adael yr UE?

Wel, nid wyf yn credu fod manteision porthladdoedd rhydd gyfryw ag y mae'r Aelod yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Rwy'n credu bod angen cwestiynu yr hyrwyddo di-amod ar borthladdoedd rhydd. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ystyried unrhyw gyfle i gefnogi cymunedau arfordirol ledled Cymru, boed yn drefi porthladd ai peidio, ac mewn gwirionedd bydd peth o'r cyllid sydd ar gael o gyllid trawsnewid trefi ar gael i drefi arfordirol.

Rwyf yn cydnabod yr her a amlinellodd y Ganolfan Drefi o ran effaith COVID, yn enwedig ar rai o'n cymunedau arfordirol. Rwy'n ofni nad oes gennyf ei gobaith bod Brexit yn rhoi'r cyfle i ddatrys y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod digon o beryglon o'n blaenau ar gyfer trefi o ganlyniad i hynny, oni bai fod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y mae wastad wedi dweud y bydd yn ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod gennym ni setliad economaidd wrth adael y cyfnod pontio sy'n cefnogi'r economi. Mewn gwirionedd, nid yw ymagwedd bresennol y Llywodraeth at drafodaethau'n awgrymu y bydd hynny'n bosib, ond gobeithiwn y gall newid ei dull gweithredu er mwyn cefnogi'r union fath o drefi y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio atyn nhw yn ei chwestiwn.

12:25

Gweinidog, mae ardaloedd gwella busnes yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi mewn 16 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys yn Aberdâr yn fy etholaeth i, lle y sefydlwyd ardal gwella busnes yn gynnar eleni. Rwy'n dwyn i gof y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ar 6 Mai y bydd yn cefnogi ardaloedd gwella busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis. Yn Aberdâr, rwy'n gwybod fod yr arian yma, er enghraifft, wedi helpu'r ardal gwella busnes i ddarparu sticeri llawr cadw pellter cymdeithasol a phosteri rhestr wirio diogelu rhag COVID yn rhad ac am ddim i bob busnes yng nghanol y dref. Yn y dyfodol, ym mha ffordd y gall ardaloedd gwella busnes, yn eich barn chi, helpu canol ein trefi i adfer, adeiladu'n well, a rhoi hwb i'r economïau lleol a sylfaenol yn sgil pandemig y coronafeirws?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ategaf ei chefnogaeth i'r mesur i liniaru rhai o'r costau y mae ardaloedd gwella busnes wedi'u hwynebu yn ystod y tri mis diwethaf. Mae gan ardaloedd gwella busnes ran bwysig o ran cynnal canol ein trefi, ac yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw o ran rhai o'r heriau sy'n dod yn sgil COVID yn benodol. Mae rhai busnesau'n gallu ymateb yn eithaf ystwyth i hynny, ond mae'n amlwg y bydd eraill yn wynebu heriau penodol o ganlyniad i'r cyfyngiadau a ddaeth yn sgil ein hymateb angenrheidiol i COVID. Fel y dywedais, byddwn yn annog ardaloedd gwella busnes ledled Cymru i fanteisio ar y canllawiau mannau cyhoeddus mwy diogel y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi er mwyn deall sut orau i gyflunio canol trefi er mwyn creu cymaint â phosib o gyfleoedd i'r busnesau hynny sy'n gallu manteisio ar y lliniaru cynyddol hwn.

Ac rwy'n credu hefyd y gwnaf ei chyfeirio at y cyhoeddiadau a wnaed heddiw, y mae rhai ohonynt yn effeithio ar gymunedau sydd rwy'n siŵr yn agos at ei chalon, o ran cymorth gan dasglu'r Cymoedd, ond hefyd yr ymyriadau y mae'r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn wedi'u gwneud o'r cyllid trawsnewid trefi, sy'n ailddiffinio ac yn rhoi diben newydd i'r arian hwnnw er mwyn galluogi gwneud addasiadau lleol mewn trefi yng Nghymru i ymdopi ag amgylchiadau ar ôl COVID.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y wasg yr wythnos yma, mewn ymateb i'r Mesur y farchnad fewnol arfaethedig a ddaeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydych chi'n datgan:

Ni fydd hyn yn cael ei oddef.

Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma, sydd, yn y bôn, yn ymgais gan Boris Johnson i sugno pwerau o'r Senedd yma yn ôl i San Steffan—sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma yn cael ei orfodi ar Gymru?

Mae Dai Lloyd yn cyfeirio at y Papur Gwyrdd arfaethedig wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglŷn â'r farchnad fewnol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mewn egwyddor, rŷn ni'n gweld gwerth i'r syniad o farchnad fewnol i hybu busnesau yng Nghymru i allu llwyddo i werthu eu nwyddau ar draws y Deyrnas Gyfunol gyfan oll. Ond dyw e ddim yn dderbyniol i ni fel Llywodraeth fod y cynnig sy'n dod o'n blaenau ni yn un sy'n cael ei greu gan un rhan o'r Deyrnas Gyfunol a bod hynny'n cael ei orfodi ar y Llywodraethau eraill.

Hynny yw, mae ffordd well o wneud hyn, a'r ffordd well a'r ffordd amgen o wneud hyn yw ar sail yr egwyddorion roeddem ni'n sôn amdanyn nhw y gynnau fach—hynny yw, bod y Llywodraethau yn cael trafod yn hafal ar beth i'w wneud yn y sefyllfa yma ac yn adeiladau ar y fframweithiau cyffredinol sydd wedi cael eu trafod a'u datblygu hyd yn hyn. Mae hynny'n ffordd amgen o ddelio gyda'r sefyllfa hon a hefyd yn tynnu allan o'r sefyllfa y bygythiad i'r setliad datganoli sydd ynghlwm wrth yr egwyddor bod yn rhaid i ni dderbyn nwyddau yn y farchnad yng Nghymru, hyd yn oed os na fyddan nhw yn cysoni gyda'r safonau mae Llywodraeth Cymru, ar ran pobl Cymru, wedi eu gosod. 

Rwy'n gobeithio, os bydd gorfod hynny, y byddwn ni'n cael cefnogaeth wrth y Senedd yn ein gwrthwynebiad i hynny, os daw deddfwriaeth gynradd i fwcl maes o law wrth y Llywodraeth yn San Steffan.

Diolch am yr ateb yna. Nawr, ers cyhoeddiad papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb, Cydlywodraethu yn y DU', nôl yn yr hydref y llynedd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod galwadau gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth yr Alban a gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i ymestyn cyfnod pontio Brexit. Hefyd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau gyda'i chytundeb ymadael, er i Senedd Cymru a Senedd yr Alban wrthod cydsyniad deddfwriaethol. Ydy'ch amcanion chi, felly, fel Llywodraeth Cymru, a luniwyd yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb', yn fwy neu yn llai tebygol o gael eu gweithredu nawr, ynteu freuddwyd ffôl ydy cydraddoldeb llywodraethu yn y Deyrnas Unedig?

12:30

Dwi ddim yn derbyn y term 'breuddwyd ffôl' a buasai fe ddim yn derbyn hynny, efallai, petaswn i'n disgrifio'i amcanion cyfansoddiadol e yn y ffordd honno. Felly, mae'n rhaid derbyn bod safbwyntiau gwahanol gyda ni ar y ffordd ymlaen. Dwi ddim yn derbyn mai dyma'r unig ffordd gallai'r undeb weithio. Yr holl bwynt yn y ddogfen y mae e'n ei disgrifio yw bod gennym ni ddadl amgen ar sut y gallai'r undeb weithio'n well ym muddiannau Cymru.

Rwy'n derbyn yn sicr nad yw'r strwythurau sydd gyda ni a'r berthynas sydd gyda ni yn y ffordd maen nhw wedi'u strwythuro ar hyn o bryd yn gweithio—dŷn nhw ddim. Mae'r broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi amlygu hynny'n gryfach fyth. Ond, y galw sydd gyda ni fel Llywodraeth yw i ddiwygio hynny mewn ffordd elfennol iawn, ac mae'r ddogfen honno'n dal i ddangos llwybr tuag at hynny. Ond, mae yn golygu bod angen Llywodraeth yn San Steffan sydd yn barod i ymwneud â'r broses honno, ac yn barod i ddelio â'r Llywodraethau eraill sydd mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny.

Diolch am hynna eto. Yng ngwyneb mwyafrif sylweddol y Torïaid yn San Steffan, mae'n amlwg i bawb nad San Steffan fydd yn arwain y ffordd i ddiwygio undeb y Deyrnas Unedig er gwell. Colli pwerau yr ydym ni'n fan hyn, a chi, fel Llywodraeth Cymru, yn cael eich hanwybyddu dro ar ôl tro. Felly, beth yw eich cynllun chi? Parhau i gael eich hanwybyddu a Chymru yn parhau i golli grymoedd? Cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Os nad annibyniaeth i Gymru, felly beth?

[Anghlywadwy.]—San Steffan o dan Keir Starmer sy'n barod i ddiwygio'r undeb ar yr egwyddorion rŷm ni fel plaid wedi'u harfer yma yng Nghymru ers cyfnod hir iawn.

Diolch, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad â'i gyfrifoldebau o ran adfer ar ôl COVID?

Yn sicr. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a minnau ddoe, sy'n rhoi ymdeimlad, rwy'n credu, o sut yr ydym yn gweithio.

Do, gwelais y datganiad a gyhoeddwyd ddoe—y rhuthrwyd i'w ryddhau mae'n siŵr cyn ichi ymddangos gerbron y Senedd heddiw. Oherwydd y gwir amdani yw mai yn ysbeidiol iawn yr ydych chi wedi siarad yn rhinwedd y swyddogaeth bwysig hon, sydd, wrth gwrs, yn mynd i ddod yn bwysicach fyth wrth i amser fynd rhagddo. Felly, mae cyhoeddi datganiadau yma ac acw sydd mor bell oddi wrth ei gilydd fel eu bod, a dweud y gwir, fel comed—comed Halley, efallai—yn annerbyniol yn fy nhyb i.

Nawr, rydym ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon heddiw—ac rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio ato, hefyd—at y ffordd bwyllog y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ailagor Cymru. Ond, y gwir amdani yw y buoch chi'n fyrbwyll cyn belled ag y mae ein heconomi yn y cwestiwn. Ac mi fuoch chi'n fyrbwyll o ran yr effeithiau hirdymor posibl ar iechyd yn sgil eich cyfyngiadau symud mwy caeth ar ein heconomi hefyd. Nid oeddech yn ochelgar, ychwaith, o ran profi preswylwyr mewn cartrefi gofal neu'r staff mewn cartrefi gofal, ac nid ydych chi wedi bod yn ofalus o ran defnyddio gorchuddion wyneb gorfodol, ychwaith. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yw effaith economaidd y cyfyngiadau symud mwy caeth yma yng Nghymru, a pham mae Llywodraeth Cymru yn parhau i lusgo'i thraed pan allem ni fod yn ailagor mwy pe byddai agwedd fwy gochelgar ynglŷn â phethau fel mygydau wyneb?

Wel, rwy'n deall y naratif y mae meinciau'r Ceidwadwyr, yn amlwg, yn ceisio'i ddatblygu heddiw ynghylch yr agwedd hon, ond byddwn yn ailadrodd y sylw a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau yn gynharach, sef nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn un sy'n creu anghysondeb rhwng iechyd y genedl â lles yr economi. Holl Strategaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn, wedi'i gynghori gan ein cynghorwyr meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol, yw cymryd yr agwedd bwyllog honno, a chredaf fod hynny'n cael ei gadarnhau gan y canlyniadau o ran atal y feirws yng Nghymru.

Rwy'n credu, os yw rhywun yn siarad â'r rhan fwyaf o fusnesau, yn sicr, mae cydnabyddiaeth bod y dull tryloyw hwnnw, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi ein harwain at y lle yr ydym ni heddiw oherwydd parodrwydd pobl Cymru i ymateb i hynny fel y gwnaethant, a chredaf fod pawb yn deall y byddai'r difrod o ail gyfres o gyfyngiadau symud o'r math y buom drwyddynt yn sylweddol iawn ar economi Cymru. Ac rwy'n credu, felly, ei bod hi'n ymddangos i mi fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r dull o geisio osgoi hynny, os gallwn ni o gwbl. 

12:35

Rydych chi'n dweud y buoch chi'n fwy gofalus am resymau iechyd, ond rwyf newydd ddyfynnu o leiaf dwy enghraifft lle na fu dull gofalus, yn sicr o ran gorchuddion wyneb ac o ran profi preswylwyr a staff cartrefi gofal. Felly, nid yw'n wir i ddweud yr aethoch chi ati mewn ffordd fwy pwyllog, yn sicr o ran y ddau beth hynny.

Ac rwy'n gofyn i chi eto: pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith tymor hwy ar iechyd pobl o ganlyniad i'ch cyfyngiadau symud hirach? Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod bod gwledydd tlotach yn tueddu i fod â chanlyniadau gwaeth o ran iechyd eu poblogaethau, ac ofnaf eich bod yn gwneud llanast o'r adferiad economaidd a allai fod oherwydd eich cyfyngiadau symud hirach.

Nawr, rwy'n derbyn, rwy'n derbyn yn llwyr, bod yn rhaid i chi daro'r cydbwysedd cywir rhwng pryderon iechyd a phryderon economaidd, ond rwy'n ofni na fu unrhyw gydbwysedd hyd yn hyn, ac yn sicr nid o ran eich panel arbenigol yma yng Nghymru. Mae aelodaeth eich panel, wrth gwrs, yn cynnwys Gordon Brown, y cyn-Ganghellor a'r Prif Weinidog sy'n gyfrifol am roi'r wlad yn y sefyllfa waethaf bosib yn ystod dirywiad economaidd 2008, gan ddim ond hercian yn ôl i adferiad wedi bron iawn â gwneud y wlad yn fethdalwr; cyn-gynghorwr i Ed Miliband, a'r un a feddyliodd am 'Garreg Ed', neu 'y garreg fedd' fel y daethpwyd i'w hadnabod, sydd bellach yn arwain melin drafod sy'n gogwyddo tua'r chwith; ac, wrth gwrs, arweinydd melin drafod sosialaidd sydd ar bellafoedd yr adain chwith sydd wedi dadlau dros wythnos waith 21 awr, cael gwared ar fesur GDP o ran twf economaidd, ac yn wir wedi dweud nad yw twf economaidd yn bosibl mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni gyn-Brif Weinidog a Changhellor a oedd yn gyfrifol am y ffyniant a'r methiant mwyaf a welodd ein gwlad erioed, cyn-gynghorydd arbennig, a sosialydd nad yw hyd yn oed yn credu mewn twf economaidd. Sut ar y ddaear y mae hynny'n mynd i helpu'r wlad hon ailgodi yn y ffordd y mae fy mhlaid eisiau ei gweld yn ailgodi o ganlyniad i'r pandemig hwn?

Wel, cyfeiriaf yr Aelodau at y rhestrau yn Llyfrgell y Senedd o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau bord gron a'r broses gynghori arbenigol, nad ydynt, afraid dweud, yn cael eu cynrychioli'n ffyddlon o bosibl yn yr ymyriad gan Darren Millar. Mae wedi anghofio hefyd, rwy'n credu, sôn am y ffaith bod un o'r cyfranogwyr yn aelod o gyngor y cynghorwyr economaidd dan Philip Hammond, ac mae nifer o bobl fusnes yng Nghymru a fyddai'n arddel safbwynt gwahanol iawn o ran llawer o'r materion hyn.

Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio ei wneud, rwy'n credu gyda llwyddiant, yw sicrhau ystod o leisiau yn y trafodaethau hynny fel y bydd hefyd, yn ogystal â dod â syniadau newydd, yn cynnig her adeiladol, o'r math y byddwn i'n ei groesawu gan Darren Millar rywbryd yn y dyfodol.

Ailgodi'n Gryfach

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i Ailgodi'n Gryfach yn ystod ac ar ôl Covid-19? OQ55460

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd newydd gyhoeddi datganiad diweddar yn amlinellu'r camau nesaf mewn cysylltiad â'n cynlluniau ar gyfer sefydlogi ac ailadeiladu fel Llywodraeth, sy'n seiliedig ar safbwyntiau'r cyhoedd, barn randdeiliaid a'r her a ddarperir gan arbenigwyr allanol. Rydym yn glir nad ein nod yw dychwelyd i'r hyn oedd yn arferol, ond ceisio mynd i'r afael â'r heriau y mae COVID wedi tynnu sylw atynt ac, yn wir, eu gwaethygu.

Mae'n bwysig ein bod yn canfod rhai pethau cadarnhaol ymhlith dioddefaint ac anhawster cyffredinol COVID-19, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydych yn ei wneud, Cwnsler Cyffredinol, i adeiladu'n ôl yn well.

Un agwedd ar y misoedd diwethaf y mae pobl wedi'i gwerthfawrogi yw'r gostyngiad ym maint y traffig sydd ar ein ffyrdd, ond mae ofnau, wrth gwrs, oherwydd y pryderon ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau, y gall fod cynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffyrdd. Yma yng Nghasnewydd, wrth gwrs, mae traffig ar yr M4 o amgylch twneli Bryn-glas yn fater allweddol i ni. Felly, wrth edrych ymlaen, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ystyried adeiladu'n ôl yn well o ran gwella trafnidiaeth gyhoeddus i ymdrin â'r problemau o gael pobl allan o'u ceir, ar gyfer y teithiau hynny ar hyd llwybr yr M4, ac, yn benodol, i edrych ar wasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste, gyda mwy o arosfannau rhwng y gorsafoedd a gorsafoedd trenau newydd?

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, ac rwyf i dim ond eisiau cadarnhau mai ein hymagwedd ni, yn bendant, yw rhoi wrth galon ein hymateb ac wrth galon ein hailadeiladu yr ymrwymiad parhaus hwnnw i newid yn yr hinsawdd, i amgylchedd gwell. Rydym ni i gyd wedi gweld, rwy'n credu, onid ydym ni, oherwydd y newid ymddygiad angenrheidiol y mae pobl yng Nghymru wedi bod yn barod i'w gyflawni, os mynnwch chi, y gwelliant mewn aer glân yn sgil llai o draffig a llai o deithio ac ati. Rydym ni eisiau gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad ydym ni'n colli'r budd hwnnw.

Bydd yr Aelod, o bosib, wedi gweld y buddsoddiad a gyhoeddodd Lee Waters yn ddiweddar mewn cyllid teithio llesol i awdurdodau lleol er mwyn cyflwyno cynlluniau i annog teithio llesol yn ein trefi a'u cyffiniau, a hefyd y gwaith y mae Ken Skates a Lee Waters wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad, yn benodol, â'r pwynt a wna, sef sut y gallwn ni ddod allan o'r argyfwng hwn, y pandemig hwn, mewn ffordd sy'n cefnogi ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus i ddarparu gwell gwasanaeth yn y dyfodol nag y maen nhw wedi gallu ei gyflawni yn y gorffennol, fel y gallwn ni barhau i wella'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus dros amser.

Credaf fod y cynllun brys bysiau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, gyda'r gobaith y mae hynny yn ei gynnig o ddefnyddio ein cyllid fel Llywodraeth mewn modd sy'n cynnig ffordd well o gyflawni'r canlyniadau hynny nag yr ydym ni wedi gallu ei wneud yn y gorffennol, yn arwydd cadarnhaol iawn o'r mathau o wersi yr ydym ni yn eu dysgu, wrth adfer o COVID, a'n dyhead fel Llywodraeth i beidio â dim ond troi'r cloc yn ôl at yr amgylchiadau a fodolai pan ddaeth y pandemig ar ein gwarthaf.

12:40

Gweinidog, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i yn hoffi'r ymadrodd 'adeiladu'n ôl yn well', mae'n dal dychymyg rhywun, ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yw ei fod yn gweithio ar lawr gwlad mewn gwirionedd a'n bod yn gweld newidiadau polisi gwirioneddol gadarnhaol i wneud yn siŵr bod yna newid wrth inni ddod allan o'r pandemig. Er fy mod i yn cytuno â phob un o'r meysydd hynny y cyfeiriodd John Griffiths atyn nhw yn briodol fel meysydd i wella ynddynt, yn anad dim, rwy'n awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru edrych o ddifrif eto ar seilwaith digidol a band eang, oherwydd os gallwn ni gael cysylltiadau band eang yn iawn, yna bydd llai o ddibyniaeth yn y lle cyntaf ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar y car modur, ar ein rhwydwaith ffyrdd. Gwn fod llawer o bobl sydd wedi bod yn gweithio gartref yn ystod y misoedd diwethaf a fyddai'n hoffi mynd ati i wneud hynny gymaint â phosib pe bai'r seilwaith hwnnw yno. Felly, a allech chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau, wrth inni adeiladu'n ôl yn well, ein bod yn adeiladu band eang yn ôl yn well—mae hynny ychydig yn anodd ei ddweud—wrth inni ddod allan o'r pandemig fel ein bod yn cymryd y pwysau hwnnw oddi ar ddulliau eraill o drafnidiaeth o'r cychwyn cyntaf?

Wel, rwy'n derbyn yn llwyr y bydd y gwahaniaeth yn y patrymau gwaith yr ydym ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf, os ydynt am gael eu cynnal, yn newid y galwadau ar ein seilwaith digidol, ac mae'n cael effaith a allai fod yn eithaf pellgyrhaeddol, mewn gwirionedd, o ran datblygiad preswyl a phob math o faterion eraill yn ymwneud â daearyddiaeth.

Mae'r buddsoddiadau band eang yr ydym ni wedi'u gwneud fel Llywodraeth wedi'u gwneud er mwyn gwneud iawn am fethiant Llywodraeth y DU i gyrraedd y rhannau o Gymru y byddem wedi gobeithio y byddant wedi gwneud. Dyna fu ein dull gweithredu. Mae wedi bod yn ddull llwyddiannus. Yr hyn y credaf y mae angen iddo ddigwydd yw ymrwymiad buddsoddi ledled y DU gan Lywodraeth y DU i uwchraddio ein seilwaith mewn ffordd sydd o fudd i bob rhan o'r DU yn gyfartal, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei weld yn digwydd yn y dyfodol.

Colled Swyddi a Busnesau

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o nifer y swyddi a busnesau a gaiff eu colli yng Nghymru oherwydd yr argyfwng coronafeirws? OQ55443

Rydym yn gwybod nad yw asesiadau cyfredol yn adlewyrchu'r holl ddarlun economaidd, gydag economegwyr yn rhagweld efallai na fydd yr effaith lawn yn cael ei theimlo tan fis Hydref a thu hwnt. Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i liniaru'r effeithiau ac mae ein pecyn cymorth £1.7 biliwn yn golygu y gall busnesau yng Nghymru gael y cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.

Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Gwelsom yr wythnos diwethaf fod llawer o swyddi, yn anffodus, yn cael eu colli ar hyd a lled Cymru. Yr hyn yr wyf yn ceisio'i ddeall yw sut y bydd eich swyddogaeth chi yn y Llywodraeth yn helpu Gweinidog yr economi, Ken Skates, i ddarparu cymorth i sicrhau ein bod yn gallu cadw cynifer o swyddi â phosib, ond hefyd creu swyddi newydd ledled Cymru. A allwch chi fy ngoleuo ynghylch sut yn union y bydd eich swyddogaeth, gyda'ch panel o gynghorwyr, yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda gwybodaeth am y farchnad i ddatblygu economi a all greu swyddi a chyflogau o safon lle bynnag yr ydych chi'n byw yng Nghymru?

Yn sicr. Y swyddogaeth yw cydlynu ymateb y Llywodraeth o ran cynllunio ar gyfer y cyfnod ailadeiladu, fel y nodwyd yn y datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ddoe. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru sy'n amlwg yn dal yn gyfrifol am bolisi ymyriadau economaidd. Fy swyddogaeth i yw helpu i gydlynu a chael y ddealltwriaeth orau bosib o'r effeithiau tebygol ar Gymru o wahanol agweddau ar COVID, ac i hynny fod yn rhywbeth y gall y Llywodraeth gyfan gydweithio yn ei gylch, fel y gallwn ni weithio mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae ei gwestiwn yn ei awgrymu—felly, rhai o'r ymyriadau sgiliau, gan ddeall y pwyslais penodol y gall fod angen iddynt ei gael, sut maent yn cysylltu â chwestiynau eraill ynghylch, er enghraifft, addysg bellach, addysg uwch a chymorth arall y gallai fod eu hangen ar bobl ifanc yn arbennig. Felly, mae ynglŷn â gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth gyffredin ar draws y Llywodraeth, yn seiliedig ar yr ymgysylltu a'r arbenigedd gorau posib, ein bod yn nodi'r risgiau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, a hefyd, i droi'n ôl at y sylw a wnaeth John Griffiths yn ei gwestiwn yn gynharach, lle mae cyfleoedd yn codi o hynny, ein bod yn gallu eu canfod mewn modd amserol a chefnogi eraill i fanteisio arnynt.

12:45

Roedd y newyddion yr wythnos diwethaf am y 450 o ddiswyddiadau posib yn y Celtic Collection, sy'n berchen ar y Celtic Manor Resort a'r ganolfan gonfensiwn ryngwladol yn fy etholaeth i, yn ergyd i Gasnewydd a'r cyffiniau. Deallaf fod 610 o 995 o swyddi wedi'u rhoi yn y categori mewn perygl. Mae'r Celtic Manor wedi bod yn llwyddiant i Gasnewydd a Chymru, ac mae'r ganolfan gynadledda ryngwladol newydd, sydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, wedi ychwanegu elfen newydd at hynny. Mae staff y Celtic Collection wedi bod yn bresennol drwy'r amser ac wedi cyfrannu'n helaeth at y llwyddiant hwnnw. Mae'n sicr y bydd eu hangen unwaith eto pan fydd y pandemig wedi mynd heibio. Mae nifer y busnesau bach yn y gadwyn gyflenwi yn helaeth. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion ac eraill ynghylch y cynllun ar gyfer y gyrchfan a'r ganolfan gonfensiwn yn y dyfodol, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru bopeth yn ei gallu i annog y cwmni i osgoi colli'r swyddi hyn?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n fater pwysig iawn ac, rwy'n credu, yn un o nifer o ragfynegiadau llwm iawn o ran colli swyddi mewn rhannau o Gymru a welsom ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Effeithiwyd yn arbennig o andwyol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, yn amlwg, gan COVID, yn y ffordd y clywsom ni yn cael ei thrafod yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Mae wedi bod yn rhan o'n hamcan drwy'r gronfa cadernid economaidd i sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i rannau o'r sector hwnnw. Gwn fod y Celtic Manor ei hun wedi elwa i ryw raddau o hynny. Hefyd, byddwn eisiau deall beth arall y gallwn ni ei wneud gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, sydd wedi gwneud rhai cyhoeddiadau o ran y datganiad yr wythnos diwethaf. Ond byddem yn dweud, mewn gwirionedd, bod rhai sectorau yng Nghymru y mae angen cymorth penodol arnyn nhw yn y dyfodol, cynlluniau penodol i amddiffyn cyflogaeth mewn sectorau penodol, i bob pwrpas, er mwyn gallu rhoi'r amddiffyniad y credwn y gallai fod ei angen, ac yn amlwg, mae hwn yn un sector yr effeithiwyd yn arbennig o andwyol arno. Ond fe gaiff hi ein hymrwymiad, yn amlwg, fel Llywodraeth, i weithio gyda'r Celtic Manor ac unrhyw gyflogwyr eraill sy'n wynebu'r sefyllfa hon, fel y clywsom ni enghreifftiau ohonyn nhw yn y Siambr yn barod y bore yma.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion y DU ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU? OQ55441

7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ55456

Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i roi cwestiynau 5 a 7 gyda'i gilydd. 

Fe wnes i gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Chwefror ac ers hynny rydym ni wedi bod yn ceisio adeiladu ar y cyfarfod cadarnhaol hwnnw a chyflwyno ein dadl dros gael model yn y dyfodol pan ddaw cyllid yr UE i ben yng Nghymru. Mae'r ymgysylltu ag adrannau eraill yn Whitehall yn parhau i fod yn annigonol, ac mae'n amlwg yn hwyr glas bellach o ran cael cadarnhad o gynigion Llywodraeth y DU.

Yn wir, a, Gweinidog, dim ond yr wythnos hon mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, lai na chwe mis o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE, nad oes gennym ni fanylion o hyd am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Nid dim ond Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban sy'n galw am eglurder yn ogystal â cheisio ymgysylltu mewn modd adeiladol ar hyn; mewn gwirionedd, awdurdodau lleol yn Lloegr yn eu holl wahanol liwiau gwleidyddol sy'n dweud, 'Dywedwch wrthym ni beth sy'n digwydd'. Nawr, gwnaeth Prif Weinidog Prydain addewid pendant i bobl Cymru y byddid yn dod o hyd i'r holl arian sy'n mynd tuag at raglenni cymdeithasol ac economaidd a chymunedol yng Nghymru pan fyddwn yn gadael yr UE, a byddai yno i ni ei ddefnyddio a'i wario yn y ffordd yr ydym ni eisiau ei wneud yng Nghymru hefyd. Felly, a gaf i ofyn iddo, a oes ganddo unrhyw ffydd y byddwn, yn fuan iawn, wrth inni ddynesu at yr haf, yn cael eglurder ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU, eglurder y caiff yr holl arian, pob dimai goch y delyn, ei dychwelyd i Gymru, ac y byddwn yn gallu dylanwadu ar y ffordd y gwneir penderfyniadau ynghylch y cyllid hwnnw?

Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna, a diolch iddo hefyd am gadeirio'r grŵp llywio ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, sydd wedi rhoi Llywodraeth Cymru a busnesau a rhanddeiliaid Cymru yn fwy cyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i ddeall pa ddefnydd y byddem yn gallu ei wneud o'r adnoddau hynny os cedwir yr addewidion hynny, fel y gobeithiwn. Felly hoffwn ddiolch iddo am ei swyddogaeth yn hynny o beth yn benodol.

Rydym yn rhwystredig, fel sy'n glir, rwy'n credu, o'r hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes am y diffyg cynnydd ynglŷn ag union fanylion y gronfa ffyniant gyffredin. Fel y dywedais, cafwyd trafodaethau adeiladol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwyf eisiau cydnabod hynny, ond yr hyn y mae arnom ni ei angen yw cynnydd ar lawr gwlad fel y gallwn ni roi'r rhaglenni hyn ar waith, ac mae hynny'n ddiffygiol. Rwyf yn credu bod hynny'n gwrthgyferbynnu â'r ffordd ragweithiol a chynlluniedig yr ydym ni wedi ymdrin â hynny yma yng Nghymru. Nid oes gennyf ffydd wrth inni ddynesu at yr haf y byddwn yn cael yr wybodaeth honno, i fod yn gwbl onest. Credaf nad ydym ni nawr yn disgwyl y cyhoeddiad hwnnw tan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn yr hydref.

Efallai fod ffactorau eraill sy'n ymwneud â datganoli yn Lloegr a chynlluniau ar gyfer adferiad economaidd ar ôl COVID yn cael effaith ar hyn o bryd, ond mae hynny nawr yn creu cyd-destun anodd iawn—ac mae hynny'n ddweud cynnil, mewn gwirionedd—ar gyfer rhai o'r prosiectau a'r rhaglenni sydd ar waith ar hyn o bryd. Byddai system resymegol wedi sicrhau bod y penderfyniadau hynny eisoes wedi eu gwneud fel y byddai rhywfaint o barhad wedi bod, wrth i 2021 ddod ar ein gwarthaf, yr ymddengys hi'n anodd iawn iawn dychmygu y gall fod yn bosibl os na ddarperir sicrwydd tan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn yr hydref, ac mae hynny'n gyfle difrifol iawn a gollwyd.

12:50

Cwnsler Cyffredinol, yn gynharach eleni, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru;

dylai'r modd yr wyf yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â dosbarthu'r gronfa sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau lle mae ei angen fwyaf, ac nad yw—fel y byddai rhai yn dadlau sydd wedi digwydd yn y gorffennol—yn cael ei wario ar brosiectau gwagedd.

Rwy'n croesawu agwedd gydweithredol ac nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol eisiau gweld arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu. Mae enghreifftiau o wariant aneffeithiol o gyllid yr UE, wrth gwrs, yn cynnwys car cebl £2.3 miliwn Glynebwy, Parc Busnes £3.5 miliwn Bangor, a £77.3 miliwn ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd. Pa fesurau—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau ateb? Pa fesurau ydych chi'n eu hystyried mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gronfa ffyniant gyffredin yn gweld arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau cadarn fel na cheir problemau difrifol a gwario aneffeithiol, fel y gwelwyd mor aml yn y gorffennol?

Edrychwch, mae swyddogaeth ddifrifol y gallai'r Ceidwadwyr Cymreig ddewis ei harddel yn y drafodaeth hon petaent yn dymuno. Mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen dyfyniadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru a rhestru'r hyn y tybiant sy'n ddiffygion ar hyd y blynyddoedd, yr wyf yn eu herio'n llwyr. Ym mhob un o'n hetholaethau, bydd miloedd ar filoedd o unigolion a busnesau wedi elwa ar y cyllid a ddyrannwyd yn glodiw iawn sydd wedi dod i Gymru o ffynonellau Ewropeaidd dros y degawd diwethaf. Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrthi yw fy mod yn credu bod naws ei chwestiwn yn anghydnaws â naws y trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd wedi bod yn adeiladol. Felly, rwy'n credu efallai nad yw hi wedi darllen y memo diweddaraf. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw fy mod yn derbyn yn llwyr, oherwydd mae wrth wraidd y cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu datblygu, bod lle i edrych yn wahanol ar ddosbarthiad daearyddol y cronfeydd hyn, o fod y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—dyna un o'r dulliau hyblyg y buom yn meddwl amdanynt—ac ystyried ffordd fwy ranbarthol o wneud penderfyniadau hefyd. Felly, mae rhaglen gyffrous iawn o newidiadau a diwygiadau y gallem eu cyflwyno o ran sut y caiff cyllid rhanbarthol ei wario yng Nghymru, os cawn yr ymrwymiad y mae gennym yr hawl iddo gan Lywodraeth y DU.

Cydbwyllgor y Gweinidogion

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cydbwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd? OQ55459

Mae Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) wedi cyfarfod ddwywaith eleni. Negodiadau, parodrwydd a'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol fu'r prif bynciau. Drwyddi draw, nid yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r fforwm hwnnw i feithrin cydweithio. Yn anffodus, mae Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) yn dal yn anghyson, ac rydym yn parhau i bwyso am ddull mwy cynhyrchiol. Rydym yn cyfarfod eto yfory.

Diolch am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n credu, i raddau helaeth, eich bod wedi ymdrin â rhywfaint o hyn yn eich ateb i Mandy Jones ar y dechrau, ond mae agwedd Llywodraeth y DU yn sicr yn peri pryder ac mae'n siŵr fod hynny'n bryder mawr i lawer o sectorau economaidd yng Nghymru. Yn wir, wrth ichi graffu gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe, atgyfnerthwyd ofnau llawer yn y Siambr hon; rwy'n credu mai Alun Davies, mewn gwirionedd, a ddywedodd eich bod yn ymwneud â Llywodraeth y DU sydd mewn anhrefn. Fy mhryder, felly, yw pan fyddwn hefyd yn ystyried y gwaith yr ydych yn ei wneud ynghylch cynllun adfer economaidd i Gymru, a yw'r gwendid hwn yn ymgysylltiad pedair gwlad Llywodraeth y DU yn ein rhwystro'n sylweddol rhag diwallu ein hanghenion yn y dyfodol, ar yr hyn sydd, i bob diben, yn adeg allweddol iawn i economi Cymru wrth inni symud tuag at ddiwedd y cyfnod pontio hwn.

12:55

Mae'r trefniadau sydd gennym ni ar sail rynglywodraethol yn annigonol, yn sicr ar gyfer yr heriau yr oeddem yn eu hwynebu wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ac maen nhw wedi'u dwysáu gan yr effeithiau cyfunol ar ein heconomi, sef yr hyn y mae ei chwestiwn yn canolbwyntio arno, o ran COVID a gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cyfres resymol o gydberthnasau sy'n gallu rheoli gwahaniaeth ac osgoi achosion o anghydfod neu gynnig cymod yn y cyfryw achosion, pan fyddant yn codi, mewn ffordd fwy aeddfed, gynlluniedig nag a geir ar hyn o bryd, ac mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n well y parch cydradd y dylai Llywodraethau ledled y DU ei ddisgwyl fel egwyddor sylfaenol yma.

Yng nghyd-destun yr economi'n benodol, mae hi yn siomedig dweud bod y gwaith ynghylch y farchnad fewnol—sy'n bwysig iawn, mewn gwirionedd, o ran sut mae economi'r DU yn gweithredu yn y dyfodol, ac yr ydym ni fel Llywodraeth yn sicr yn credu ei fod yn—. Wyddoch chi, yn sicr mae gwaith yn y fan yna a allai ddod â budd i Gymru o ran cydweithredu ar draws y DU ynghylch datblygu economaidd. Ond os caiff hynny ei gyflwyno fel y cynnig a'i orfodi gan un rhan o'r DU ar y llall, ni fydd hynny'n gweithio, ac ni fydd yn dderbyniol i'r Senedd hon. Byddwn yn synnu'n fawr pe byddai. Ac felly, mae hynny'n enghraifft dda, rwy'n credu, o'r gwahaniaeth y credwn y gellir ei wneud drwy ddull cydweithredol sy'n seiliedig ar egwyddorion, yn hytrach nag un rhan o'r DU yn ceisio gorfodi ffordd o weithio ar y llall. Rwy'n gobeithio'n fawr y gall y cynigion y mae Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno yn y maes hwn, os ydynt fel yr ydym yn disgwyl iddynt fod, ymbellhau oddi wrth y rheini ac agosau at y math o drefniadau sydd, yn ein barn ni, er lles gorau nid yn unig Cymru, ond pob rhan o'r DU.

Cyfnod Pontio Brexit

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd pobl a nwyddau yn symud yn effeithlon ym mhorthladdoedd Cymru unwaith y daw'r cyfnod pontio Brexit i ben? OQ55447

Ein blaenoriaeth o hyd yw cyflawni ymrwymiadau ffiniau'r DU mewn ffordd sy'n cael cyn lleied o effaith â phosib ar y llif drwy ein porthladdoedd ac ar eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Rydym yn ceisio cydweithio'n agos ag awdurdodau'r DU i sicrhau y gellir darparu unrhyw drefniadau newydd ar gyfer y ffin yn effeithiol yng Nghymru.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Sylwaf mai'r asesiad diweddaraf yw na ddylid amharu gormod ar gludo nwyddau a bod lle os oes angen aros, ac mae'n siŵr y byddwch eisiau i hynny fod cyn lleied â phosib. Ond nid ydym ni yn clywed llawer am symudiadau teithwyr o ran a fydd y profiad hwnnw mor llyfn â phosib. Rydym ni wedi gweld gostyngiad cyson ers 20 mlynedd yn nifer y teithwyr sy'n dilyn y llwybrau hyn. Er bod hynny wedi gwastadau'n ddiweddar, nid ydym ni eisiau gweld y dirywiad hwnnw'n parhau.

Diolch i David Melding am y cwestiwn atodol yna. Bydd wedi gweld cyhoeddi model gweithredu'r ffin ddydd Llun, sy'n ddogfen ddrafft yr ydym ni wedi gallu gwneud peth sylwadau yn ei chylch, ond rwy'n credu mai'r diben o hyn ymlaen yw cael llawer mwy o gysondeb rhwng y llywodraethau yn hyn o beth. Does gennym ni ddim amser i'w golli rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, ac mae'r effaith yn rhai o'r meysydd hyn yn gallu bod yn sylweddol iawn. Ac mae yna gyfuniad cymhleth iawn o gymwyseddau datganoledig ac a gadwyd yn ôl ar waith yma. Felly, ar ôl gweld y cyhoeddiad ddydd Llun, rwy'n gobeithio y gwelwn ni dipyn o newid sylweddol o ran sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i ddatrys rhai o'r heriau ymarferol iawn hyn.

Masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd

9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu effaith masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, ar Gymru? OQ55450

Pe bai Llywodraeth y DU yn methu â dod i gytundeb â'r UE o ran cytundeb masnach rydd cynhwysfawr, ac felly'n gorfod masnachu gyda'r UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, gallai'r effeithiau negyddol i economi'r DU fod mor uchel â thros 9.3 y cant dros y tymor hir.

Diolch yn fawr, Gweinidog. A allwch chi gadarnhau, heb gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd, o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd bod yn rhaid i bob Aelod roi'r un mynediad i'r farchnad i holl Aelodau eraill Sefydliad Masnach y Byd ar sail y wlad a ffefrir fwyaf, nid dim ond dewis a dethol y rhai y maent yn eu hoffi? Yn ôl a ddeallaf, os nad oes gennym ni dariffau ar ddur Ewropeaidd, byddai hynny'n golygu na allem ni gael tariffau ar ddur Tsieineaidd. Pa effaith a gâi hynny ar y diwydiant dur yng Nghymru?

13:00

Wel, heb gytundeb masnach rydd sy'n cwmpasu'n sylweddol yr holl fasnach mewn cynhyrchion sy'n tarddu o'r DU neu'r UE, yna byddai'r DU a'r UE yn masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Ac mae egwyddor y wlad a ffefrir fwyaf, y soniodd amdano yn ei gwestiwn atodol, yn golygu na all Aelodau Sefydliad Masnach y Byd wahaniaethu fel arfer rhwng partneriaid masnachu. Mae rhai mesurau—rhai mesurau diogelu—ar fewnforio cynhyrchion dur penodol, a fydd yn parhau i fod ar waith. Ond unwaith y bydd y DU yn gyfan gwbl y tu allan i'r UE, ac os nad oes cytundeb masnach di-dariff, caiff hyn hefyd effaith ar allforion i'r UE o ddur o'r DU. A gallai'r effaith a gaiff cwotâu cyfradd tariff fod yn sylweddol iawn, yn arwyddocaol iawn, ac yn niweidiol iawn i ddur Cymru a'r DU. Rydym ni yn cefnogi'r diwydiant dur yn ei nod i'r DU sicrhau cytundeb masnach rydd cynhwysfawr ar ôl i ni adael y cyfnod pontio, ac rydym ni yn pryderu'n fawr iawn am rai o'r amcangyfrifon y mae UK Steel yn eu gwneud ynghylch yr effaith andwyol ar y sector o ran costau ychwanegol os nad yw hynny wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.

Dau fater gennyf i cyn inni dorri am ginio. Y cyntaf yw fy mod yn ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar ddyfodol y strategaeth brofi am y coronafeirws. O ystyried y sylwadau gan bob plaid yn gynharach yn ystod y datganiad busnes ynghylch priodoldeb gwneud datganiadau i'r Siambr hon heblaw ar ffurf ysgrifenedig, rwyf wedi penderfynu felly ymestyn y cwestiwn amserol o dan enw Janet Finch-Saunders, sydd yng nghyd-destun profion mewn cartrefi gofal, i ganiatáu i unrhyw Aelod sydd â chwestiwn ar y datganiad ysgrifenedig hwn allu gofyn y cwestiynau hynny i'r Llywodraeth hefyd. A byddwn yn rhoi gwybod i'r Llywodraeth mai dyna fydd yn digwydd. 

A hefyd i dynnu sylw at y ffaith fy mod wedi cael gwybod gan Neil McEvoy bod llun wedi'i dynnu y tu mewn i'r Siambr yn ystod y Trafodion. Mae aelodau'n gwybod nad yw hynny'n iawn i'w wneud, ac nad yw i'w drydar, ac nad yw i'w ailadrodd gan unrhyw aelod. Diolch i Neil McEvoy am dynnu fy sylw at hynny.

Rydym ni nawr yn torri am ginio, a byddwn yn dechrau eto am 13:45.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:02.

Ailymgynullodd y Senedd am 13:46, gyda David Melding yn y Gadair.

13:45
5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Gawn ni drefn. Eitem 5 yw datganiad gan y Prif Weinidog am y rhaglen ddeddfwriaethol. Mark Drakeford.

Dirpwy Lywydd dros dro, mae Gweinidogion wedi adrodd i’r Senedd yn rheolaidd am effaith y coronafeirws ar ein cyllideb, ar yr economi ac, yn bennaf, ar iechyd pobl Cymru. Heddiw, byddaf yn adrodd ar ein rhaglen ddeddfwriaethol—maes arall lle mae’r feirws wedi cael effaith sylweddol iawn.

Mae Aelodau yn gwybod ein bod wedi gorfod ailgyfeirio gwaith swyddogion ar draws y Llywodraeth, er mwyn ymateb i’r feirws a pharatoi am adferiad. Mae hyn yn cynnwys swyddogion polisi, cyfieithu, dadansoddi a chyfreithwyr. Er gwaethaf yr heriau digynsail hyn, rydym wedi llwyddo gyrru ymlaen gyda’r gwaith craffu mewn nifer o feysydd pwysig. Carwn ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y gwaith craffu adeiladol hwn.

Cadeirydd, er gwaethaf heriau mwy diweddar, mae llawer wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn Senedd ddiwethaf hon. Rydym ni wedi diddymu amddiffyniad cosb resymol, wedi gwahardd ffioedd annheg a godir gan asiantau gosod a chyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol. Bydd gennym ni ddyletswyddau ansawdd a gonestrwydd ar gyfer ein gwasanaeth iechyd a chorff llais dinasyddion newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni wedi rhoi cynllun atebolrwyddau presennol ar waith ar gyfer ein meddygon teulu. Rydym ni wedi pasio Deddf sy'n gwella hygyrchedd ein deddfwriaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Heddiw, rwy'n gobeithio y byddwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i les anifeiliaid gwyllt drwy wahardd eu defnyddio mewn perfformiadau syrcas.

Dirprwy Lywydd, cyn canfod y coronafeirws, er mwyn paratoi'r llyfr statud ar gyfer y diwrnod ymadael ar 31 Ionawr, roeddem ni eisoes wedi gwneud 51 o offerynnau statudol cywiro a rhoi caniatâd i 158 o offerynnau statudol y DU yn ystod yr hydref. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud mwy na 50 o eitemau o is-ddeddfwriaeth yn ymdrin ag agweddau ar y pandemig. Mae'r rhain yn ymwneud â'r cyfyngiadau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, a sicrhau nad yw dyletswyddau statudol yn rhwystro ein gwasanaethau cyhoeddus rhag ymateb i'r argyfwng.

Cadeirydd, ar ddechrau mis Mawrth, roedd gennym y rhaglen fwyaf uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sylfaenol erioed i gael ei chyflwyno gerbron y Senedd yn ystod blwyddyn olaf. Am y rhesymau yr wyf wedi'u nodi, am weddill y tymor Senedd hwn, mae'r Llywodraeth wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac wedi canolbwyntio ar ein blaenoriaethau pennaf.

Bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn parhau ar ei hynt yn yr hydref. Bydd hyn yn ymestyn yr etholfraint llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn yr etholiadau awdurdod lleol nesaf. Rydym ni wedi cyflwyno'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), er mwyn i newidiadau fod ar waith erbyn 2022—yr amserlen y mae'r sector addysg wedi bod yn gweithio iddi ers rhai blynyddoedd. Byddwn yn deddfu i wella sefyllfa tenantiaid yn y sector rhentu preifat drwy'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a bydd y gwaith o graffu ar y Bil hwnnw yn ailddechrau yn yr hydref.

Ond bu'n rhaid tynnu rhannau helaeth o'n rhaglen ddeddfwriaeth sylfaenol yn ôl yn wyneb y pandemig. Gresynaf yn fawr na ellir cyflawni tri phrif Fil yn ystod gweddill y tymor hwn: bu rhaid tynnu'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil, y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r Bil partneriaethau cymdeithasol o'n rhaglen. Fodd bynnag, mae'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil wedi'i gyhoeddi ar ffurf ddrafft, a bydd yno i unrhyw weinyddiaeth newydd ei gwblhau ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf. Byddwn yn mynd ati mewn ffordd debyg gyda'r Bil partneriaethau cymdeithasol, gan gyhoeddi drafft ar ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf.  

Dirprwy Lywydd, o ran deddfwriaeth sylfaenol, mae gwaith datblygu pwysig arall ar y gweill a bydd ar gael i'r Llywodraeth a'r Senedd nesaf. Mae hynny'n cynnwys Papurau Gwyn ar aer glân ac amaethyddiaeth, a gwaith ar ddiwygiadau i lesddaliadau a chyfunddaliadau preswyl. Bydd hyn i gyd yn cael ei gyhoeddi cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Ac rydym ni yn parhau, yn ffurfiol, i ofyn i Lywodraeth y DU ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer treth ar dir gwag, fel y gellir paratoi Bil at y diben hwnnw i'r Senedd graffu arno. Yn olaf, o ran deddfwriaeth sylfaenol, bydd gan y Llywodraeth nesaf ddyletswydd i gael rhaglen o gydgyfnerthu a chyfundrefnu ar gyfer ei deddfwriaeth, y mae gwaith ar ei chyfer yn mynd rhagddo ym meysydd yr amgylchedd hanesyddol a chynllunio.

Cadeirydd, mae'r argyfwng hefyd wedi ei gwneud hi'n angenrheidiol inni ail-lunio ein rhaglen is-ddeddfwriaeth mewn modd radical. Rhoddwyd blaenoriaeth i fesurau sy'n ymateb i'r argyfwng COVID, sy'n ymwneud ag ymadael â'r UE a'r cyfnod pontio, neu sy'n hanfodol am resymau cyfreithiol neu resymau eraill na ellir eu hosgoi, megis gweithredu dyfarniad cyflog. Nawr, ymysg y rhestr yna, ceir nifer fawr o fesurau cymharol ddibwys ond angenrheidiol, yn amrywio o ddiwygiadau amrywiol i'r drefn cyllid myfyrwyr yng Nghymru i reoliadau diwygio tatws hadyd a Gorchymyn breinlythyrau a phroclamasiynau newydd gan Senedd Cymru. Mae pob un o'r uchod yn ddibynol ar y broses negyddol, ond yn gwbl briodol mae angen eu drafftio a'u hadrodd yn ofalus i'r Aelodau yn y fan yma.

Yn y capasiti cyfyngedig iawn sydd ar ôl, byddwn yn targedu ein hadnoddau ar gyfer newidiadau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein dinasyddion. Felly, awn ymlaen i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i ardaloedd awyr agored mewn ysbytai, tir ysgolion a meysydd chwarae awdurdodau lleol, gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a chwblhau'r broses o roi'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith, yn ogystal â rhoi terfyn ar werthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd parti.

Dirprwy Lywydd, mewn rhai meysydd lle y bu'n rhaid nawr gohirio is-ddeddfwriaeth, gellir sefydlu mesurau dros dro i fwrw ymlaen â'n hagenda bolisi. Er enghraifft, bydd ysgolion annibynnol yn dal i gael eu hannog i sicrhau bod eu staff addysgu yn cofrestru'n wirfoddol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hyd nes y byddwn yn gallu gwneud hyn yn orfodol. A'n nod fydd cyhoeddi'r canlyniadau fel y gall rhieni ystyried hynny wrth wneud penderfyniadau. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol i ddefnyddio'u pwerau presennol i gynyddu nifer yr ardaloedd 20 mya yng Nghymru. Nid yw gweithredu dros dro o'r fath bob amser yn ddewis, ac rydym ni wedi dod i'r casgliad yn anfoddog na fydd hi bellach yn bosib cwblhau peth o'r gwaith a gynlluniwyd, megis canllawiau statudol addysg yn y cartref a rheoliadau ynglŷn â chronfeydd data.

Dirprwy Lywydd, mae hon yn rhaglen fwy cyfyngedig, ond bydd llawer iawn o alw yn dal i fod ar y Senedd. Bydd angen corff sylweddol o ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r UE o hyd yn ystod yr hydref eleni. Mae hyn yn cynnwys gwaith i weithredu cyfraith yr UE sy'n dod i rym yn ystod y flwyddyn hon, er mwyn sicrhau bod cyfraith yr UE a gadwyd yn ôl yn gweithio ar ddiwedd y cyfnod pontio, a gweithredu cyfundrefnau newydd sy'n deillio o'r ffaith ein bod yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Dirprwy Lywydd, hyd yn oed os, fel y gobeithiwn ni, y parheir i gadw rheolaeth ar y coronafeirws, ni fydd wedi diflannu. Yn yr amgylchiadau gorau hyn, bydd heriau gwirioneddol o ran ymateb i gyflymder a chymhlethdod deddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit yn yr hydref lle bydd y Senedd yn dal i fod yn ymdrin â chanlyniadau iechyd ac economaidd y pandemig, y broses gyllidebol flynyddol a hyd yn oed gofynion y rhaglen ddeddfwriaethol fwy cyfyngedig yr wyf wedi'i hamlinellu y prynhawn yma. Ond dyna'r rhagolygon gorau. Os bydd yr hydref yn gweld y coronafeirws yn dychwelyd ynghyd â math dwys o ffliw tymhorol, yna bydd rheoli deddfwriaeth Brexit ochr yn ochr â phopeth arall yn heriol iawn.

Cadeirydd, rwy'n bwriadu cynnig cyfle i holl arweinwyr y pleidiau yma, a'r llefarwyr perthnasol, drafod y posibiliadau ar gyfer yr hydref fel y maen nhw'n ymddangos i'r Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae'r ddadl Brexit ei hun ar ben, ond bydd uchelgais gan bawb, rwy'n gobeithio, i weld cyfrifoldebau deddfwriaethol canlyniadol y Senedd hon yn cael eu cyflawni mor drefnus ac effeithiol ag y bydd amgylchiadau yn eu caniatáu. Rwyf wedi amlinellu rhestr nad yw'n gynhwysfawr o ganlyniadau deddfwriaethol, sylfaenol ac eilaidd, yr argyfwng iechyd cyhoeddus.

Gyda'r holl amodau yr wyf wedi'u nodi, mae'r rhaglen ddeddfwriaethol sydd ar ôl wedi cael ei chynllunio i ymateb i'n heriau presennol a chyflawni ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n ei chymeradwyo i'r Senedd y prynhawn yma.

13:55

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Hwn, wrth gwrs, yw'r datganiad deddfwriaethol olaf ar gyfer y Senedd hon, ac felly mae'n gyfle da i edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran ei rhaglen ddeddfwriaethol a hefyd i ystyried blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer gweddill y Senedd hon.

Nawr, rwy'n sylweddoli bod pandemig COVID-19 wedi ail-flaenoriaethu a rhoi pwysau ar adnoddau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn y misoedd diwethaf, ond cyn i'r haint dorri roedd yna feysydd o hyd lle gallai a lle dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i ddefnyddio ei dylanwad deddfwriaethol i gyflawni newid y mae ei ddirfawr angen ar gyfer ein cymunedau. Er enghraifft, er mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd, mae llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwn o hyd, ac mae'n siomedig na wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno cynigion deddfwriaethol yn gynt i sicrhau Cymru wyrddach ar gyfer y dyfodol. Felly, a all y Prif Weinidog nodi un elfen mewn unrhyw Fil neu mewn unrhyw agwedd ar y rhaglen ddeddfwriaethol hon sy'n ymdrin mewn gwirionedd â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan ei Lywodraeth ym mis Chwefror 2019?

Llywydd dros dro, a gaf i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei wahoddiad i drafod y posibiliadau ar gyfer yr hydref, fel y maen nhw'n ymddangos i ni ar hyn o bryd, ac fel yr wyf yn falch o allu ymateb yn gadarnhaol i'r cais hwnnw? Nawr, mae'r datganiad heddiw'n cadarnhau na allwyd bwrw ymlaen â rhannau helaeth o raglen deddfwriaeth sylfaenol Llywodraeth Cymru yn wyneb pandemig COVID-19, ac o ganlyniad, mae'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil, y Bil gwasanaethau bysiau a'r Bil partneriaeth gymdeithasol i gyd wedi'u tynnu'n ôl. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y mesurau dros dro y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno mewn cysylltiad â'r tri Bil yna a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y tymor hwn.

Wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y Senedd hon yn llunio darnau o ddeddfwriaeth sylweddol, ac mae'r datganiad heddiw'n tynnu sylw at rai o'r Deddfau hynny, ac yn wir yr offerynnau statudol hefyd. Er enghraifft, Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) Cymru 2019—mae'r ddau wedi arwain at newidiadau i landlordiaid ac eraill yn y sector eiddo yma yng Nghymru. Ac eto, rydym yn dal i aros am ragor o wybodaeth am Filiau, fel y Bil aer glân arfaethedig, sydd, o ystyried y naratif y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddatblygu mewn cysylltiad â llygredd aer a newid yn yr hinsawdd, yn gyfle a gollwyd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio at y Papur Gwyn ar aer glân ac amaethyddiaeth, ac efallai y gall y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y rheswm pam na chafodd y Biliau hyn eu blaenoriaethu, o ystyried yr effaith ddifrifol y byddent yn ei chael ar fywydau pobl.

Nawr, nid oes rhaid i ddeddfwriaeth ddod gan y Llywodraeth bob tro—mae'r Comisiwn wedi cyflwyno deddfwriaeth, a chefais i, fy hun, y cyfle i roi prawf ar brosesau deddfwriaethol y Senedd gyda'm cynigion fy hun. Wrth gwrs, mae'n hynod o siomedig nad oedd y Senedd yn gallu pasio'r Bil awtistiaeth arfaethedig, ac mae hi hefyd yn siomedig bod fy ymgyrch faith ar gyfer deddfwriaeth cofebion rhyfel yn parhau i gael ei hanwybyddu, a gallaf dynnu sylw at enghreifftiau gan sawl aelod arall yn y Siambr hon, a phob un â syniadau deddfwriaethol credadwy, y mae'r Llywodraeth hon yn dewis eu hanwybyddu. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i weithio'n adeiladol gydag eraill ar gynigion deddfwriaethol yn y dyfodol, er mwyn i'r sefydliad hwn allu archwilio pob cyfle deddfwriaethol i newid Cymru er gwell.

Ac yn fwy cyffredinol, wrth ymateb i bandemig COVID-19, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni hefyd pa gyfleoedd deddfwriaethol newydd a ganfuwyd, fel y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflwyno deddfwriaeth yn yr ychydig amser sydd ar ôl yn y Senedd hon i sicrhau bod Cymru mor barod â phosib ar gyfer unrhyw achosion yn y dyfodol?

Llywydd dros dro, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ychydig o Filiau yn y gorffennol y gellir eu hystyried nawr yn y tymor Senedd nesaf, megis y Bil cydsynio seilwaith, y Bil partneriaethau cymdeithasol, Bil amaethyddiaeth Cymru a'r Bil trethi, i enwi dim ond rhai. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod unrhyw gynigion deddfwriaethol yn cael eu costio'n briodol er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael, ac felly efallai y gallai'r Prif Weinidog gadarnhau, ym mhob un o'r achosion hyn, pa drafodaethau uniongyrchol y mae wedi'u cael â'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet am oblygiadau peidio â gweithredu'r Biliau penodol hyn yn y tymor Seneddol hwn?

Wrth i ni edrych yn ôl ar y tymor Senedd hwn, mae'n bwysig ystyried sut yr ailystyriwyd ac y craffwyd ar ddeddfwriaeth a basiwyd yn y blynyddoedd dilynol er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd. Gellir dysgu gwersi bob amser, ac mae craffu'n effeithiol ar ôl deddfu yn rhan o'r broses ddysgu honno. Felly, gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrthym yn blwmp ac yn blaen pa wersi y mae wedi'u dysgu o'r tymor Senedd hwn.

Wrth gloi, Llywydd dros dro, dewis Llywodraeth Cymru yw ei rhaglen ddeddfwriaethol, ac er y bu'r tymor Senedd hwn yn un heriol, mae'n wir o hyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei dulliau deddfwriaethol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, hybu cyflogaeth na mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr sy'n wynebu cymunedau yma yng Nghymru. Serch hynny, mae gennym ni lai na 12 mis ar ôl tan ddiwedd y Senedd hon, a bydd fy nghyd-Aelodau a minnau'n gweithio'n adeiladol lle bynnag y gallwn ni i graffu ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ac yn wir ei chryfhau, er mwyn sicrhau bod ei Biliau'n sicrhau gwerth am arian ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol i fywydau pobl ledled Cymru. Diolch.  

14:00

Wel, cyn belled ag y mae newid yn yr hinsawdd yn y cwestiwn, fel y dywedodd Paul Davies, bydd cynllun aer glân yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis Awst. Bydd yn arwain at Bapur Gwyn ar aer glân yn ystod gweddill y tymor Senedd, a bydd hwnnw'n paratoi'r sefyllfa ar gyfer deddfwriaeth yn gynnar yn nhymor nesaf y Senedd, cyn belled â bod yna Lywodraeth sy'n dymuno gwneud hynny'n flaenoriaeth.  

Byddwn yn cyflwyno rheoliadau llygredd amaethyddol fel is-ddeddfwriaeth yn ystod y tymor Senedd hwn. Edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth yr Aelod i'r rheoliadau hynny, o gofio mai un o nodweddion y coronafeirws fu cynnydd mewn achosion o lygredd amaethyddol tra bu llai o lygaid yn gwylio. Felly, mae rhai pethau wedi'u gwneud sydd, yn fy marn i, yn destun gofid a dweud y lleiaf.

Byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth ar egwyddorion amgylcheddol yn ystod y tymor Cynulliad nesaf, os byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael rhai trafodaethau llwyddiannus gyda Llywodraeth y DU yn ddiweddar mewn cysylltiad â'r ddeddfwriaeth y maent yn ei hyrwyddo, i wneud yn siŵr eu bod yn parchu datganoli yn briodol. Cyn diwedd y tymor hwn, byddwn yn rhoi mesurau dros dro ar waith ynghyd ag asesydd annibynnol dros dro i ymdrin â chwynion ym maes egwyddorion amgylcheddol a grŵp arbenigol a fydd yn ein helpu i oruchwylio hynny. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio'n adeiladol iawn gyda ni i roi'r mesurau dros dro hynny ar waith.

Holodd yr Aelod am y tri Bil nad ydym ni wedi gallu eu datblygu nawr. Wel, o ran y Bil addysg drydyddol ac ymchwil, bydd y ffaith bod y Bil yn cael ei gyhoeddi a'i gyhoeddi ar ffurf drafft nawr yn cynnig i'r rhanddeiliaid hynny a fu'n bryderus ynghylch eu gallu eu hunain i gymryd rhan yn y broses o graffu ar y Bil llawn, pe baem ni wedi gallu bwrw ymlaen ag ef, o gofio bod y coronafeirws yn effeithio ar bob un ohonyn nhw hefyd, gyda phobl nad ydynt yn y gwaith, drwy golli pobl i flaenoriaethau eraill—byddant nawr yn gallu craffu ar y Bil hwnnw ar ffurf ddrafft. Byddwn yn cael ymgynghoriadau a thrafodaethau gyda nhw. Os oes gwelliannau i'r Bil y gellir eu gwneud yn ei ffurf ddrafft, yna byddwn yn cyflwyno'r rheini mewn unrhyw Fil terfynol ar ôl yr etholiad.

O ran y Bil bysiau, mae'n golled wirioneddol, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siomedig iawn nad ydym yn gallu bwrw ymlaen ag ef. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu sefyllfa lle mae'r buddsoddiad mawr a wneir ar eu rhan mewn bysiau yn dod â mwy o fanteision yn sgil y buddsoddiad hwnnw, ond byddwn yn bwrw ymlaen â hyn mewn ffyrdd eraill. Bydd ein trefniadau taliadau brys ar gyfer bysiau, a gyhoeddwyd gennym ni ryw wythnos yn ôl, yn arwain at gyfres newydd o drafodaethau gyda'r sector ynghylch sut y gall y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud arwain at gyfres o wasanaethau wedi eu cynllunio'n fwy systematig, mwy o integreiddio rhwng moddau trafnidiaeth, trefniadau rhannu tocynnau, a chyfres o nodau eraill y byddem ni wedi bwrw ymlaen â nhw drwy'r Bil ond y byddwn ni bellach yn bwrw ymlaen â nhw drwy'r mesurau ariannol a gweinyddol hynny. 

O ran y Bil partneriaethau cymdeithasol, wel, rydym ni wedi bwrw ymlaen â'n trefniadau ar gyfer partneriaethau cymdeithasol. Mae gennym ni gyngor partneriaeth cymdeithasol sy'n cyfarfod—mae'n cyfarfod bob pythefnos. Mae'n canolbwyntio'n fanwl ar y coronafeirws ar hyn o bryd, ond mae'n gwneud y gwaith hanfodol y mae partneriaeth gymdeithasol yn ei ddarparu yma yng Nghymru. A bydd y Bil drafft y byddwn yn ei gyhoeddi, y bydd caffael yn elfen bwysig ynddo, yn dangos sut y byddwn yn gallu bwrw ymlaen â hynny.

Nid wyf yn credu y gellir cyhuddo'r Llywodraeth yn deg o beidio â bod yn barod i weithio'n adeiladol gydag eraill pan fo eraill yn cyflwyno cynigion y mae'r Llywodraeth yn credu eu bod yn werth eu cefnogi. Gweithiais yn agos iawn gyda'r Aelod o'r wrthblaid a oedd yn gyfrifol am y Bil staffio nyrsys pan gafodd hwnnw ei gyflwyno yn ystod y tymor Cynulliad blaenorol. Gweithiais yn agos gyda'r Pwyllgor Cyllid pan oeddwn yn Weinidog Cyllid mewn cysylltiad â'r Bil pwyllgor a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Cyllid ar ddiwygio'r ombwdsmon. Ac rwy'n credu pryd y ceir Biliau y gallwn ni eu cefnogi, wrth gwrs y byddwn ni'n gweithio'n adeiladol arnyn nhw. Ni fydd hynny'n digwydd bob tro, oherwydd nid yw pob Bil a gyflwynir gan Aelod preifat yn ennill cefnogaeth y Llywodraeth. O ran materion ariannol, yna, wrth gwrs, mae'n rhaid cynnig penderfyniad arianol i fynd gydag unrhyw Fil—wel, bron bob tro—gyda memorandwm wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ef sy'n dangos sut y cyfrifwyd y costau a sut y cânt eu talu. A phan oeddwn yn Weinidog Cyllid, buom yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Cyllid ar gyfres o gynigion a gyflwynwyd gan y pwyllgor i wella'r wybodaeth ariannol sylfaenol y gall y Llywodraeth ei darparu, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hynny wedi gwella'r wybodaeth a ddarperir i'r Aelodau fel rhan o'u gwaith craffu.

Yn olaf, gofynnodd Mr Davies i mi pa wersi yr oeddwn yn credu y gallem ni eu dysgu o'r tymor. Rwyf am orffen gyda hwn, Dirprwy Lywydd, ac mae'n un yr wyf wedi'i ddysgu nid yn unig yn y tymor hwn, ond drwyddi draw, sef nad oes Bil nad yw'n cael ei wella gan y broses graffu. A dyna pam mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn y Pwyllgor ac ar lawr y Senedd mor bwysig, ac yn yr ysbryd yna mae'r Llywodraeth yn cyflwyno Biliau i'r llawr. Mae Biliau yno i'w gwella, a phan fydd yn bosib i waith y pwyllgorau neu'r gwelliannau a gyflwynir wneud y Bil yn well, dyna fyddwn yn bwriadu ei wneud, a chredaf fod y wers honno wedi'i amlygu ei hun yn y mesurau sydd wedi mynd drwy'r Senedd hon ac i'r llyfr statud yn y tymor hwn.

14:05

Rwy'n credu mai'r teitl 'dros dro' yw'r uchaf y dylwn i ymgyrraedd ato.

Dirprwy Lywydd dros dro—rŷch chi wedi cael tri therm yn barod y prynhawn yma.

Brif Weinidog, hwn fydd y datganiad deddfwriaethol olaf ar gyfer y Senedd hon. Rwy'n ddiolchgar iawn am ichi rannu copi â ni, a hefyd am y cynnig i drafod gyda chi ymhellach yn ystod yr hydref. Cyn hyd yn oed i'r COVID ein taro, digon cymysg oedd ein hasesiad ni o'r Mesurau rŷch chi fel Llywodraeth wedi penderfynu eu dwyn gerbron a'u cefnogi dros gyfnod y Senedd hon, mewn gwirionedd. Hyd yn oed yn y ddeddfwriaeth y byddwch yn parhau â hi, er gwaetha'r creisis, fel y diwygiadau i'r Ddeddf rhentu cartrefi—mae eu cynnwys nhw yn rhwyfo nôl ar ymrwymiadau y gwnaethoch chi a'ch plaid, yn achos no-fault evictions, er enghraifft, lle rŷch chi'n diwygio'r ddeddfwriaeth i ymestyn y cyfnod rhybudd o ddau fis i chwe mis, yn lle gwneud i ffwrdd â'r arfer yn llwyr. Ni fydd hyn yn rhoi sicrwydd sydd ei angen ar bobl sy'n rhentu.

Dros gyfnod y Senedd hon, mae Plaid Cymru wedi gwthio am ddeddfwriaeth i wasgaru cyfoeth, gwariant a buddsoddiad yn gyfartal dros Gymru gyfan, Deddf i grynhoi'r gefnogaeth statudol i fioamrywiaeth ac i fywyd gwyllt, ac fe wnaethon ni ddefnyddio'r cyfleoedd seneddol i'r eithaf i geisio dylanwadu ar yr amserlen ddeddfwriaethol yn y lle hwn, gyda Dr Dai Lloyd, er enghraifft, yn cynnig Mesur i warchod enwau lleoedd Cymraeg, sydd wedi cael tipyn o gefnogaeth o feinciau cefn, erbyn hyn, eich plaid chi.

Ac o ran yr olaf o'r themâu yma, mae'n rhaid imi nodi bod gyda ni bryderon gwirioneddol ynghylch ymwneud y Llywodraeth hon â'r ddeddfwriaeth ym maes y Gymraeg. Collwyd ffocws dros flwyddyn a hanner a mwy yn brwydro cynlluniau'ch Llywodraeth, i ddatgymalu Mesur y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg, a nawr rŷn ni'n wynebu brwydr eto dros yr iaith ym Mil y cwricwlwm. Mae fel petai'r Llywodraeth yn benderfynol o ddefnyddio'i grym deddfwriaethol i lesteirio yr amcanion rŷn ni i gyd am eu gweld, yn hytrach na'u hwyluso.

Wrth gwrs, rŷn ni'n wynebu dau greisis ar hyn o bryd: COVID a Brexit, wrth gwrs, yr un pryd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Llys Ewropeaidd yn chwarae rhan allweddol mewn llywodraethiant amgylcheddol, a bydd angen sicrhau bod hyn yn cael ei drosglwyddo mewn i gyfraith Cymru wrth inni adael y cyfundrefnau yma. Does dim deddfwriaeth eto i gau'r bwlch amgylcheddol fydd yn bodoli ar ddiwedd Rhagfyr wedi'i gyflwyno. Roeddech chi yn lled gyfeirio at hyn yn y datganiad. Allwch chi gadarnhau pryd welwn ni'r ddeddfwriaeth ar roi'r trefniadau i ddiogelu llywodraethiant amgylcheddol ar waith yng nghyfraith Cymru?

Roeddwn i'n falch o glywed y bydd deddfwriaeth sy'n ymateb i argyfwng COVID yn cael ei blaenoriaethu. Un mater penodol sydd wedi'i godi gan Delyth Jewell a Helen Mary Jones—wnewch chi edrych o ddifrif ar yr angen am ddeddfwriaeth frys ym maes trwyddedu a chynllunio i gefnogi busnesau ym maes lletygarwch neu i gefnogi awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw i weithredu ar y stryd yng nghanol trefi, er enghraifft? 

Gwnaeth y Llywodraeth dderbyn yng nghyd-destun y grantiau COVID i fusnesau bach yr angen i roi gwarchodaeth benodol mewn canllawiau i osgoi camddefnyddio'r gefnogaeth sydd i wir fusnesau hunanarlwyo. Beth yw'ch cynlluniau i gryfhau deddfwriaeth gynradd fel bod perchnogion ail gartrefi yn talu treth ac yn peidio â manteisio'n anghywir ar gefnogaeth i fusnesau bach?

Gaf i erfyn, Brif Weinidog, er gwaethaf y cyfyngiadau a'r heriau yn gysylltiedig â Brexit a COVID a'r holl fanion eraill, gan gynnwys is-reoliadau tatws—mae'n rhaid delio â nhw hefyd—arnoch chi i gydio yn yr ychydig fisoedd sy'n weddill i greu gwir waddol at y dyfodol, fel y gallwn ni i gyd fod yn falch yn neddfwriaeth y pumed Cynulliad, ddaeth yn bumed Senedd, er gwaethaf yr holl heriau?

Allwn ni gytuno y prynhawn yma, er enghraifft, fod yn rhaid i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, fod yn statudol, fod yn greiddiol yn y cwricwlwm newydd? Allwn ni gytuno hefyd heddiw bod yn rhaid peidio â gwastraffu amser yn ailagor creithiau'r gorffennol ac i ollwng y cymal dadleuol am y Saesneg yn y cwricwlwm newydd, gan ganolbwyntio'n hytrach ar sicrhau bod y cwricwlwm yn fframwaith i wireddu rhuglder ein dinasyddion ni i gyd yn y Gymraeg? Ac allwn ni gytuno y bydd Cyfnod 2 y Bill llywodraeth leol yn cael ei ddefnyddio i greu naid enfawr ymlaen o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth yn ein hawdurdodau lleol, STV ym mhob cyngor, rhannu swyddi a gweithredu cadarnhaol?

14:10

Dirprwy Lywydd dros dro, diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau. Mae nifer o'r cwestiynau mae Mr Price wedi'u codi yn bethau sy'n mynd i fod o flaen y Senedd yn y deddfau rŷn ni'n mynd i ddod ymlaen. So, pethau i bobl sy'n rhentu—bydd y Bill o flaen y Senedd yn yr hydref, a bydd cyfle i bobl weld beth sydd yn y Bil, ac, os oes gwelliannau mae pobl eisiau eu codi, wrth gwrs bydd cyfle i'r Senedd i ystyried rheini. 

Yn y maes Cymraeg, wel, mae'r Gweinidog dros Addysg wedi dweud yn barod ei bod hi'n agored i glywed pwyntiau mae pobl yn eu codi yn ystod Cyfnod 2 i weld a yw hi'n bosibl siarad rhwng y pleidiau i weld a oes ffordd i ddelio gyda'r pryderon mae rhai pobl yn eu teimlo am y Gymraeg yn y cwricwlwm. So, mae hi eisiau gwneud hwnna mewn ffordd adeiladol, a dwi'n siŵr bydd ateb adeiladol yn dod yn ôl.

Yn y maes amgylcheddol, rŷn ni'n mynd i fwrw ymlaen gyda'r Bil—nid yn y term hwn, ond i baratoi pethau at y dyfodol. Fel dywedais i pan oeddwn i'n ymateb i Paul Davies, rŷn ni wedi cytuno gwelliannau i'r Bil yn San Steffan i adlewyrchu datganoli a'r cyfrifoldeb sydd gyda ni fan hyn. Yn y cyfamser, rŷn ni'n mynd i roi pethau yn eu lle; i fod yn glir gyda'r bobl yn y maes yng Nghymru, bydd ffordd annibynnol iddyn nhw godi unrhyw bryderon neu gwynion sydd gyda nhw. Rŷn ni wedi—rhag ofn bod coronafeirws wedi bod yn rhywbeth anodd—bwrw ymlaen i weithio gyda'r grŵp o bobl sydd wedi dod at ei gilydd. Rŷn ni'n barod, fwy neu lai, nawr gyda'r ffurflenni a phethau ymarferol eraill i'w helpu nhw. Fel y dywedais i, rŷn ni eisiau apwyntio aseswr annibynnol, ac mae panel o arbenigwyr gyda ni hefyd yn barod i'w apwyntio. So, mae rheini yn bethau jest dros dro i lenwi'r bylchau cyn y gallwn ni ddod ymlaen—wel, bydd pwy bynnag yn y Llywodraeth yn gallu dod ymlaen, ar ôl mis Mai, â Bil newydd yn y cyd-destun newydd rŷm ni'n ei wynebu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

O ran lletygarwch ar yr heol, dwi'n meddwl ein bod ni wedi ffeindio ffordd arall ymlaen heb ddod â Bil at lawr y Senedd, ond rŷm ni'n dal i weithio gyda'r awdurdodau lleol ar hynny. 

Rŷm ni wedi newid y sefyllfa o ran pobl sy'n prynu cartrefi fel ail gartrefi ac yn eu tynnu nhw i mewn i fusnesau bach i osgoi talu trethi, os mai dyna beth y maen nhw'n ei wneud. So, rŷm ni wedi ailwampio'r rheolau yna i dreial helpu yn y maes yna.

Ar hanes Cymru—wel, ar hanes pobl dduon yng Nghymru—mae'r Gweinidog wedi sefydlu grŵp i'n helpu ni i dynnu at ei gilydd adnoddau yn y cwricwlwm ac i baratoi i hyfforddi pobl i fod yn glir ar sut rŷm ni eisiau iddyn nhw fynd ati i ddysgu hanes pobl dduon yma yng Nghymru. Mae'n un peth i'w ddweud e; mae'n beth arall i gael yr adnoddau at ei gilydd i hybu sgiliau pobl i wneud y gwaith yna, a dyna ble rŷm ni'n ei ddechrau.

Yng Nghyfnod 2 y Bil awdurdodau lleol, siŵr o fod, bydd amser yna i drafod STV unwaith eto ar y llawr yma—permissive PR yw ein polisi ni, i roi cyfleon i'r awdurdodau lleol sydd eisiau defnyddio'r system newydd i'w wneud e, ond nid i'w wneud e yn orfodol. 

14:15

Diolch, syr—mae'n bleser siarad o dan eich cadeiryddiaeth, David Melding. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad. Diolch yn fawr iawn am ddweud bod y ddadl Brexit ar ben, ond mae'n bwysig iawn dwyn yr hyn sydd ei angen i'r llyfr statud mewn ffordd drefnus ac effeithiol. Rwy'n cytuno'n gryf, ac rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos y bu gwahoddiad i gefnogi neu o leiaf  i ymgynghori ynglŷn â hynny, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn hapus iawn i'w wneud, ac roeddwn yn falch o'r hyn a ddywedsoch chi ar yr agwedd honno.

A allwn i ddweud hefyd, ynghylch hynny, fy mod yn aml yn eich beirniadu chi ac eraill weithiau am ddeddfu'n wahanol yng Nghymru dim ond er mwyn gwneud hynny, fel y dywedais? Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i gydnabod, yn y maes penodol hwn, nad yw hynny wedi digwydd o ran bron y cyfan o'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud gyda deddfwriaeth ymadael yr UE. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr 51 o offerynnau statudol Cymreig yr ydym ni wedi'u gwneud, ac rwy'n credu at 158 yr ydym ni wedi rhoi cydsyniad y DU iddynt, ac mae'r modd hirben a synhwyrol yr aethpwyd i'r afael â hyn wedi gwneud argraff arnaf. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud yn rhannol â phwysau gwaith ac â pheidio â bod eisiau ail-wneud hynny i gyd, ond hefyd, rwy'n credu ei fod yn ddull synhwyrol. Mae Mick Antoniw a'i bwyllgor wedi gweithio'n galed iawn ar hyn, a hoffwn ddiolch ar goedd iddynt.

Fe ddywedsoch chi o ran Bil y cwricwlwm mai ei nod oedd caniatáu i newidiadau fod ar waith yn 2022. A ydych chi, fel Llywodraeth, yn diystyru ymestyn y dyddiad cau hwnnw? A yw'n bosibl o hyd y bydd yna newid yn hynny, neu a ydych yn gwrthwynebu hynny? Rwy'n credu bod dod â hwn ymlaen yn bwysig, oherwydd mewn rhai ffyrdd rwy'n ei weld yn Fil eithaf anodd. Rwyf wedi bod yn ailddarllen rhai o'r dadleuon ynghylch Deddf 1988 a'r cwricwlwm bryd hynny, ac, yn ddiddorol, Margaret Thatcher oedd yn ceisio cadw rhyddid yr athrawon a chyfyngu ar y graddau yr oedd y Bil yn gorfodi, ac roedd llawer yn yr Adran Addysg eisiau gwneud fel arall, a'r canlyniad oedd cyfaddawd. Ond roeddent yn nodi pethau penodol yr oedd yn rhaid iddynt ddigwydd mewn meysydd ar y pryd yn y cwricwlwm, tra bo'r ymagwedd yma yn un llawer mwy cyffredinol, a chysyniadau sy'n llawer anoddach eu disgrifio mewn iaith ddeddfwriaethol sydd â grym y tu cefn iddi. Rwyf yn credu ei bod hi'n eithaf anodd i athrawon ac ysgolion edrych ar y ddeddfwriaeth honno ac yna deall, yn ymarferol, sut y mae'r ddeddfwriaeth honno'n mynd i'w rhwymo nhw. Gwn y bydd y rhan fwyaf o hyn yn digwydd drwy ganllawiau a chymorth gyda'r gweithredu, ond, os bydd unrhyw un yn torri'r gyfraith, sut y byddwch chi'n gwybod, a beth fydd y camau gorfodi ynghylch hynny?

Mae COVID-19 wedi effeithio ar nifer fawr o bobl mewn ffyrdd hollol ryfeddol sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl, ond rwy'n credu hefyd ei fod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, rwy'n deall pam eich bod wedi adleoli gweision sifil mewn mannau eraill, ac na all rhywfaint o ddeddfwriaeth fynd rhagddi nawr. Gofynnais yn gynharach i roi'r un graddau o gydymdeimlad i Lywodraeth y DU, ond rwy'n sicr yn cydymdeimlo yn yr un modd â'ch Llywodraeth chi. Ond hefyd cawsoch gyfnod o amser deddfwriaethol pryd y gellid disgwyl yn ddigon priodol i chi gyflwyno'r Biliau hyn. Nawr, ni fyddwch yn gallu, ac mae hynny—i chi ac i'ch Llywodraeth gyda'r mwyafrif sydd gennych chi—yn golled, ac rwy'n credu bod angen i ni gydymdeimlo â hynny.

O ran Ken Skates, a'r Bil y bu'n gweithio arno yn arbennig ar wasanaethau bysiau, rwy'n credu bod hyn yn anffodus—nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno â'r dull cyffredinol ai peidio, ond rwyf wedi bod yn ymwneud â hyn, ac yn sicr mae wedi gweithio'n galed iawn gyda'r pwyllgor i'w ddatblygu o dan broses graffu. A nawr mae'n ymddangos, yn wahanol i'r mesurau eraill a gyhoeddir ar ffurf drafft ac y gellir eu cyflwyno yn y Cynulliad nesaf, yn dibynnu ar ganlyniadau'r etholiad, ymddengys y rhoddwyd y farwol i hyn. Rydych yn gallu cyflawni rhai agweddau arno mewn ffyrdd eraill, ond beth am rai o'r egwyddorion eraill hynny? A ydych yn disgwyl y bydd cyfle arall, neu a yw'r ansicrwydd i wasanaethau bysiau yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd gyda COVID mor fawr fel nad yw'n bosibl dweud ar hyn o bryd?

Cefais fy nharo, wrth siarad â'r Arglwydd Thomas am y comisiwn cyfiawnder, gan y pwyslais a roddodd ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a dechrau'r Bil hwnnw o 2016 a'r gwahaniaeth ymarferol enfawr ar lawr gwlad a fydd yn ei wneud i lawer o bobl yng Nghymru. Yn aml, pan siaradwn am ddeddfu'n wahanol, gall gael effaith ymylol ar rai pobl; bydd hyn yn cael effaith enfawr ar gymaint o bobl, a chefnogaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud am bwysigrwydd craffu er mwyn cael hyn yn iawn, yn enwedig pan fyddwch yn diwygio Bil, Bil cymhleth, cyn iddo weld golau dydd hyd yn oed.  

Fe sonioch chi am waith datblygu pwysig arall sy'n mynd rhagddo, gan gynnwys gwaith ar ddiwygiadau i lesddaliadau a chyfunddaliadau preswyl. Rwy'n ymwybodol o raglen waith sylweddol iawn gan Gomisiwn y Gyfraith yn y maes hwn. Doeddwn i ddim yn glir os oeddech yn cyfeirio at hynny neu a oes rhaglen waith ar wahân yn mynd rhagddi yn Llywodraeth Cymru. Mae gan waith Comisiwn y Gyfraith adran fach ar y dechrau ynghylch datganoli yng Nghymru a pheth amwysedd ac ansicrwydd ynghylch hyd a lled datganoli, o ystyried themâu trawsbynciol eu gwaith, ond y dybiaeth bragmatig a oedd fel petai'n rhedeg drwyddi oedd y byddai'n cael ei wneud ar sail Cymru a Lloegr. A ydych yn disgwyl y byddech eisiau argymell cydsynio â llawer o'u rhaglen waith? A ydych yn gwybod mwy amdani nag sydd wedi'i gyhoeddi, neu a ydych yn bwriadu datblygu dull gweithredu i Gymru yn unig yn y maes hynod gymhleth hwn?

Fe wnaethoch chi sôn am ddau faes arall rwy'n credu y byddid yn deddfu ynddynt drwy ddefnyddio'r offeryn statudol. Gwerthu cŵn bach gan drydydd parti: gwn y bydd nifer o Aelodau fy ngrŵp yn falch iawn o glywed eich bod yn cymryd camau pellach ynghylch hynny. A hefyd, o ran gwahardd ysmygu, cafwyd rhyw awgrym y byddai'n fesur llawer ehangach, ond, i'r graddau eich bod wedi sôn am dir ysbytai, tir ysgol ac ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, yn sicr nid wyf fi'n bersonol yn gwrthwynebu cynnwys y meysydd hynny, ac rwy'n falch nad yw'n rhaglen ehangach.

Yn olaf, a gaf i gyfeirio at y dreth trafodiadau tir? Fe wnaethom ni siarad yn faith wrth i'r Bil fynd ar ei hynt ynghylch modelau craffu gwahanol posibl, ac roeddwn yn dadlau y dylai'r gyfradd fod ar wyneb y Bil ac rydych yn gryf yn erbyn hynny, ond fe wnaethoch chi nodi nifer o fecanweithiau craffu eraill a fyddai'n gwneud iawn am hynny. A ydych chi'n cytuno ei bod yn eithaf anfoddhaol y cyhoeddwyd hyn mewn cynhadledd i'r wasg gan y Gweinidog Cyllid ddoe, ond nad yw'n cael ei ystyried hyd yn oed fel datganiad heddiw, ac wedyn y byddwn yn torri am ddeufis? Iawn, rydych chi wedi codi'r trothwy, ond mae rhai posibiliadau deddfwriaethol eithaf cymhleth hefyd ynglŷn â sut y gallwch chi wneud hynny o ran yr ail gartrefi a pheidio â chyflawni'r eithriad i'r categori hwnnw. Gallaf feddwl am nifer o ffyrdd gwahanol y gellid gwneud hynny, a dydw i ddim yn glir sut mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r ddeddfwriaeth i gyrraedd ei nod. Mae'n wir y byddai wedi bod yn fwy boddhaol pe baem ni wedi cael dadl a thrafodaeth briodol am hynny yma.  

14:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Dof yn ôl ar y diwedd, os caf i, Dirprwy Lywydd dros dro, at y pwyntiau am ddeddfwriaeth yr UE, oherwydd rwy'n credu bod yna wybodaeth bwysig y gallaf ei rhoi i'r Senedd.

A gaf i gytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwyllgor Mick Antoniw a'r gwaith caled iawn y maent wedi'i wneud yn y maes hwnnw? O ran gweithredu'r cwricwlwm a drefnwyd ar gyfer mis Medi 2022, roeddwn yn Ysgol Llanhari ddoe yn siarad â'r pennaeth yno. Rwy'n credu mai ei barn hi oedd eu bod yn awyddus iawn i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu ym mis Medi 2022. Maent yn awyddus iawn i beidio â cholli'r momentwm, y gwaith aruthrol y maent wedi'i wneud wrth baratoi ar gyfer y rhyddid newydd y bydd y cwricwlwm newydd yn ei roi iddynt.

Rwy'n cydnabod y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud, sef bod unigolion weithiau'n galw am fwy o ryddid, ac yna, pan fydd yn cael ei gynnig, nid ydynt yn gwybod yn iawn beth i'w wneud ag ef ac maen nhw eisiau cael gwybod beth y dylent ei wneud â'r rhyddid sydd ganddynt. Ond dydw i ddim yn credu bod hynny'n wir am y sector addysg yng Nghymru; rwy'n credu eu bod nhw wedi gweithio'n galed iawn, maen nhw eisiau gwneud hyn ac rydym ni eisiau iddo ddigwydd. A gaf i ddiystyru'n bendant y posibilrwydd y bydd yn rhaid inni ei ohirio o bosibl? Wel, o ystyried yr hyn a wyddom ni am y gaeaf sydd i ddod, pe bai popeth yn anffafriol a'r effaith a gâi hynny ar ysgolion ac ar athrawon yn ogystal â phawb arall, rhaid inni fod yn ddigon hirben i ddweud y byddwn yn parhau i'w adolygu, ond mae ein huchelgais yr un fath: rydym ni eisiau ei weld ar waith ym mis Medi 2022, a chredaf fod y sector eisiau gweld hynny hefyd.

Rwy'n rhannu siom yr Aelod ynghylch tynnu'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn ôl. Buom yn ymboeni'n hir am hyn, ond yn y pen draw, nid oedd yn bosibl tynnu ynghyd y polisi a'r mewnbwn deddfwriaethol y byddai eu hangen ar ei gyfer, o gofio popeth arall sy'n digwydd. Un o'r rhesymau pam nad ydym yn ei gyhoeddi ar ffurf drafft, fel y lleill, yw ein bod am ddychwelyd at elfen dacsis y Bil gwreiddiol, y bydd yr Aelod yn ei gofio fel Bil a oedd yn mynd i gynnwys y ddwy agwedd. Gobeithiaf ddychwelyd at hynny os bydd cyfle i wneud hynny.

Mae cychwyn Deddf 2016 yn dibynnu arnom ni'n pasio Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Mae Deddf 2016 yn un o brif Ddeddfau'r Senedd, gyda diwygiadau mawr iawn i bobl sy'n rhentu eu cartrefi. Dyna pam, pan fu rhaid gwneud dewisiadau—ac roedd y Bil Bysiau a'r Biliau eraill nad ydym yn gallu eu datblygu yn rhan o hyn—y Bil hwn oedd yr un yr oeddem wedi penderfynu ei gyflwyno oherwydd ei effaith ar y gallu i gychwyn deddfwriaeth 2016.

O ran diwygio lesddaliadau, rwy'n deall y bydd Comisiwn y Gyfraith yn cyhoeddi ei argymhellion terfynol ar 21 Gorffennaf. Ni allwn gytuno'n fwy gyda'r Aelod am natur hynod o gymhleth lesddaliadau a diwygio, a dydw i ddim yn honni o gwbl fy mod i'n ei ddeall yn iawn. Rydym yn aros i weld argymhellion terfynol Comisiwn y Gyfraith a byddant yn dylanwadu ar ein gallu i gyflwyno diwygiadau yn y maes hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelod i'r defnydd o is-ddeddfwriaeth mewn cysylltiad â gwerthu cŵn bach gan drydydd parti.

Yn bersonol, hoffwn pe baem ni wedi gallu mynd ymhellach gyda'r ddeddfwriaeth ar wahardd ysmygu yn y tymor Senedd hwn; ni allwn ni wneud hynny nawr. Mae'n ddiddorol, darllen adroddiadau dros nos, bod yna bobl sydd bellach yn defnyddio lletygarwch awyr agored ac yn canfod y caniateir ysmygu, a bod galwadau ar i ysmygu gael ei wahardd nawr yn y lleoedd hynny. Gan fod pobl mor gyfarwydd ag amgylcheddau di-fwg dan do, nid yw'n brofiad braf cael eich hun yn gorfod dioddef mwg pobl yn yr awyr agored, ac mae pobl yn deall pam ei bod hi'n bwysig gweithredu yn y maes yna. Yn anffodus, ni fyddwn ni'n gallu gwneud hynny yn y tymor hwn. Byddwn yn paratoi ar gyfer y dyfodol.

Ac yn olaf, ar y dreth trafodiadau tir, wel, rydym ni'n defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol dros dro; dyma'r weithdrefn a gymeradwywyd gan y Senedd hon. Mae ganddi ei chyfyngiadau, fel y dywedodd yr Aelod. Mae'n rhan o'r rheswm pam y bydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn siarad yn fuan iawn am y posibilrwydd o Fil trethi y byddwn yn gallu ei gyflwyno er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn mewn ffordd wahanol. Ond, o dan yr amgylchiadau, gyda'r amser a oedd gennym ni, o ystyried y cyhoeddiad yn Lloegr yr wythnos diwethaf, roeddem yn credu ei bod yn bwysig cyflwyno cynigion penodol a dyna'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud nawr.

14:25

Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am y datganiad y prynhawn yma ac, fel chi, rwy'n rhannu'r siom na fyddwn ni'n gallu symud ymlaen gyda Bil i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau. Roedd dadreoleiddio, wrth gwrs, yn drychineb Thatcheraidd sy'n parhau i ddifetha ein gwasanaethau, yn enwedig mewn lleoedd fel fy etholaeth i lle'r ydym yn gwario'r arian, ond nid ydym yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni. Rwy'n credu ein bod ni i gyd eisiau gweld bysiau'n cael eu hail-reoleiddio er mwyn sicrhau bod gennym y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni.

Prif Weinidog, mae nifer o wahanol feysydd lle y credaf y gallem ni elwa o ddeddfwriaeth ychwanegol. Rwyf wedi bod yn ystyried deddfwriaeth amgylcheddol, diogelu ein hecoleg ac amgylcheddau sy'n agored i niwed. Bydd y Prif Weinidog yn cofio imi gyflwyno cynigion i greu parc cenedlaethol newydd yng Nghymru, yn y Cymoedd, a chredaf ei bod hi'n bwysig inni edrych eto ar sut yr ydym yn rheoleiddio ac yn dynodi ein parciau cenedlaethol. Wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r wlad a fyddai'n elwa ar gael eu dynodi'n barciau cenedlaethol. Rwy'n cofio'r ymgyrch dros barc cenedlaethol mynyddoedd Cambria yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd, ac mae yna rannau eraill o'r wlad.

A allem ni hefyd ystyried Deddf Cymru lân? Cyfeiriodd y Prif Weinidog at Ddeddf aer glân, ac rwy'n cefnogi'r cynnig hwnnw'n llwyr, ond bydd yn ymwybodol o'r sbwriel yr ydym yn ei weld yn ein cymunedau a'r trallod mawr a achosir i bobl, mewn gwahanol rannau o'r wlad, drwy dipio anghyfreithlon. Rwyf wedi gweld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon dros y blynyddoedd diwethaf yn fy etholaeth fy hun, lle mae ein bryniau a'n mynyddoedd prydferth yn cael eu defnyddio i waredu gwastraff. Mae eisoes yn anghyfreithlon, ond mae angen inni allu sicrhau ein bod yn gallu cynyddu'r cosbau a gwneud cyfraith gadarnach i ddiogelu ein cymunedau rhag hynny.

Byddai hefyd yn ddefnyddiol gweld cynllun dychwelyd ernes yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Rwy'n cofio pan mai pop oedd Corona, ac y dychwelwn fy mhotel er mwyn cael fy ngheiniog i brynu ychydig mwy o bop, ac rwy'n credu y byddai'n rhywbeth yr hoffem ni ei weld yn dychwelyd.

Ac yn olaf, Prif Weinidog, a gaf i siarad ar nodyn mwy personol? Bydd Aelodau'n ymwybodol, ac rwy'n amlwg yn ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu geiriau caredig a'u cydymdeimlad, ond fe ges i drawiad ar y galon rai misoedd yn ôl. Roeddwn yn ffodus iawn, iawn fy mod i gyda rhywun oedd yn deall y broses o ddadebru cardio-pwlmonaidd ac a allodd ddod o hyd i ddiffibriliwr o fewn munudau. Pan stopiodd fy nghalon guro, roedd rhywun yno a allai fy helpu ac achub fy mywyd. Darparu diffibrilwyr, darparu hyfforddiant mewn dadebru sylfaenol, ynghyd â chamau statudol ar gyfer goroesi, cynllunio i holl gyrff y gwasanaeth cyhoeddus a'r awdurdodau iechyd weithio gyda'i gilydd, gyda'r cyhoedd, i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gael byw ag a roddwyd i mi. A phan oeddwn yn siarad â'r bobl a oedd wedi achub fy mywyd rai misoedd yn ôl, roeddent yn glir iawn mai aelodau o'r cyhoedd a oedd yno pan stopiodd fy nghalon guro a roddodd gyfle i'r criw ambiwlans a'r llawfeddygon yn ysbyty'r Mynydd Bychan roi ail anadl einioes imi. Felly, y cyhoedd a'n gweithwyr proffesiynol yn cydweithio gyda chamau goroesi, ynghyd â'r deunyddiau, y cyfleoedd a'r hyfforddiant, sy'n cynnig i bawb y cyfle hwnnw i gael byw.

14:30

Diolch yn fawr iawn i Alun Davies am hynny. Cytunaf ag ef y bu dadreoleiddio'r bysiau yn drychineb o 30 mlynedd, a gwelwn hynny yng Nghymru, a dyna pam yr oedd ein Bil i ail-reoleiddio'r gwasanaethau bysiau yn un mor bwysig. Rwyf eisiau bod yn glir ag Aelodau ein bod yn gweithio ar ffyrdd amgen o gyflawni'r un amcanion. Er nad yw'r dull, y llwybr deddfwriaethol, ar gael inni yn y tymor Senedd hwn, nid yw'n golygu nad oes dulliau pwerus eraill y gall y Llywodraeth eu defnyddio, a byddwn yn defnyddio'r rheini, yn enwedig yn y cyd-destun presennol, lle mae darparwyr bysiau mor ddibynnol ar gymhorthdal cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth o unrhyw fath.

Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am ddeddfwriaeth amgylcheddol. Weithiau byddaf yn pryderu am ddeddfwriaeth amgylcheddol, gan mai'r tlotaf sy'n ysgwyddo'r baich, pan fyddwn yn mynnu cael safonau uwch a bod angen pethau eraill arnom, y bobl â'r modd lleiaf sy'n gorfod canfod ffordd o ysgwyddo'r baich hwnnw. Ond nid oes esgus dros daflu sbwriel; nid oes unrhyw esgus dros dipio anghyfreithlon. Nid oes angen i neb wneud y pethau hynny, ac nid oes a wnelo tlodi ag ef, fel y mae'n ymwneud â llawer o bethau eraill. Felly, rwy'n cytuno ag ef. Byddaf yn diflasu pobl yr wyf yn teithio gyda nhw yn rheolaidd, wrth inni fynd ar hyd y llwybrau i mewn ac allan o Gymru, wrth imi sôn am y sbwriel ar ochrau ein ffyrdd ac ar ochrau ein rheilffyrdd. Pa fath o neges y mae'n ei hanfon at bobl sy'n dod i ymweld â'r lle prydferth hwn ynghylch y ffordd y mae rhai o'r lleoliadau hynny'n cael eu trin? Felly, deddfwriaeth i wneud mwy a gwneud yn well drwy Fil Cymru lân, mae wedi cyflwyno achos cryf dros hynny.

Ac, wrth gwrs, mae'r Aelod yn cyflwyno dadl dros ddeddfwriaeth gardiaidd gydag awdurdod na allwn i ei gyfleu o bell ffordd, a bydd yr Aelodau yma, rwy'n gwybod, wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn y mae wedi'i ddweud am hynny. Wrth i bawb yn y lle hwn feddwl ymlaen at syniadau y maent eisiau eu cyflwyno i'r cyhoedd y flwyddyn nesaf, rwy'n credu bod rhai sylwadau grymus iawn wedi'u gwneud gan yr Aelod y prynhawn yma.

Prif Weinidog, yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? A gaf i hefyd ddiolch, a diolch ar goedd fy hun, mewn gwirionedd, i'r holl gyfreithwyr hynny yn Llywodraeth Cymru o ran maint sylweddol y ddeddfwriaeth y maent wedi gorfod gweithio arni? Rwy'n credu ei bod hi'n anodd i bobl, efallai, werthfawrogi maint y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei datblygu a'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny. Ac yn yr un modd, gan fod fy mhwyllgor yn un sy'n asesu ac yn adolygu cywirdeb llawer o'r ddeddfwriaeth wrth iddi fynd drwy'r Senedd, a chraffu arni, a gwyddom yn sgil y pwysau, o bryd i'w gilydd, fod camgymeriadau'n cael eu gwneud, felly hefyd sgìl ac arbenigedd cyfreithwyr y Senedd, sy'n cefnogi'r pwyllgor ac yn nodi'r rheini, ac yna'r berthynas gadarnhaol sy'n bodoli i sicrhau bod gennym ni rywfaint o'r ddeddfwriaeth orau a mwyaf effeithiol yn mynd drwy'r Senedd. Yn sicr, yn ein 10 mlynedd fel Senedd, fel deddfwrfa, rydym ni wedi meithrin y sgìl o ddatblygu deddfwriaeth effeithiol sydd wedi'i drafftio'n dda. Mae'n amlwg bod gennym ni fwy i'w ddysgu, ond mae'r 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn gynhyrchiol iawn.

A gaf i ddweud, yn gyntaf, mewn cysylltiad â'r sylwadau a wnaethoch chi o ran deddfwriaeth ar lesddaliadau a chyfunddaliadau preswyl, y bydd bonllefau o lawenydd yn fy etholaeth o glywed am y posibilrwydd y byddwn yn deddfu i wahardd pla y lesddaliadau ar gyfer y dyfodol? Mae llawer o faterion sy'n ymwneud â lesddaliadu, wrth gwrs, yn faterion a gadwyd yn ôl, felly bydd yr hyn a ddaw o Gomisiwn y Gyfraith yn amlwg yn bwysig inni. Ond mae agwedd arall ar hyn y mae'n bwysig ein bod yn ei datblygu hefyd, ac mae hynny'n ymwneud â'r cwmnïau rheoli, faint o eiddo atodol mewn datblygiadau a gaiff eu rhoi i gwmnïau rheoli. Mae'n ddigon posibl bod hyn yn rhywbeth y gallem ei atal mewn gwirionedd drwy'r broses gynllunio heb ddeddfwriaeth, ond credaf ei bod yn mynd law yn llaw, ar y naill law, fod y rhai a brynodd eiddo lesddaliad yn gorfod talu taliadau lesddaliad yn y pen draw, ond hefyd bod llawer o'r cyfleusterau o amgylch a'r tir o amgylch hefyd yn destun taliadau pellach sy'n amharu ar eiddo, a byddem eisiau gweld diwedd ar hynny.

A gaf i ddweud mewn cysylltiad â'r Bil Partneriaethau Cymdeithasol fy mod yn deall yn llwyr yr oedi yn hynny o beth ac mai'r hyn sy'n bwysig yw bod gennym ni ddeddfwriaeth sy'n effeithiol? Dyma ddeddfwriaeth a fydd mor bwysig, yn torri tir newydd yn y DU, o ran yr amgylchiadau y byddwn ni'n byw ynddyn nhw ar ôl COVID, lle rydym ni'n edrych, mewn gwirionedd, ar y ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein proses gaffael i sefydlu safonau moesegol, ein bod yn ail-raddnodi’r gwerthoedd o ran rhai o'n cysylltiadau cyflogaeth a chymdeithasol sydd gennym ni mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod o du'r undebau llafur, er bod gobaith y byddai'r ddeddfwriaeth hon ar y llyfrau cyn yr etholiadau, y dewis yn sicr yw cael deddfwriaeth effeithiol a fwy trwyadl wedi ei pharatoi ar gyfer y Cynulliad nesaf.

Rwy'n falch iawn hefyd o'r gwaith sy'n mynd rhagddo o ran gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd hyn yn galluogi'r Llywodraeth i bennu canllawiau o ran dyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'n ddeddfwriaeth a fydd yn bwysig iawn o ran y gweithwyr sy'n fenywod, o ran cydraddoldeb, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a'r gwahaniaethu cyffredinol ar sail rhyw sy'n bodoli o fewn llawer o'n gweithleoedd a rhannau o'n cymdeithas. Efallai y gallech chi roi sylwadau ar fater canllawiau y byddai eu hangen i gyd-fynd â hyn er mwyn gweithredu a gwneud y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol.

Y maes arall, wrth gwrs, sy'n bwysig iawn yw cyfundrefnu'r gyfraith a mynediad at y gyfraith a mynediad at gyfiawnder. Rwyf yn gobeithio, o ran un maes, mai yr hyn a wnawn—

14:35

A gaf i dorri ar draws hwn? Mick, bydd pobl yn credu eich bod yn cyflwyno cais am ei swydd os ewch ymlaen yn hwy. Rydych chi wedi bod wrthi dros bedwar munud. Y frawddeg olaf.

Fe orffennaf i. Fy mrawddeg olaf yw pa mor falch yr ydym i gyd o'r ymrwymiad o ran gweithredu cyfraith Lucy. Diolch.

Cadeirydd, diolch yn fawr iawn, a diolch i Mick. Dechreuodd Mick Antoniw drwy gyfeirio at y galwadau rhyfeddol sydd wedi'u gwneud ar gyfreithwyr y Llywodraeth yng nghyd-destun COVID. Mae dros 60 o eitemau o is-ddeddfwriaeth wedi'u gwneud gan Weinidogion Cymru ers dechrau mis Chwefror. Bydd yr Aelodau yma'n disgwyl, wrth gwrs, i'r pwerau hynny gael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol, ond maent hefyd wedi gorfod ymdrin â chynllunio, tenantiaethau busnes, codi tâl am fagiau siopa, dŵr ymdrochi, addysg a llywodraeth leol. Mae wedi bod yn ymdrech enfawr, ac mae'r gwaith craffu a wnaed drwy bwyllgor Mick Antoniw, gyda chymorth cyfreithwyr ar ochr y Comisiwn, wedi bod yn amhrisiadwy o ystyried mor gyflym y bu'n rhaid gwneud hyn i gyd.

Edrychaf ymlaen, hefyd, at ddiwygio lesddaliadau a chyfunddaliadau. Rydym ni eisoes wedi gwneud penderfyniad, yn y tymor Senedd hwn, Dirprwy Lywydd dros dro, na all unrhyw eiddo Cymorth i Brynu fod yn eiddo lesddaliad os ydynt am gael cymorth drwy Lywodraeth Cymru, ac mae materion y cwmni rheoli yn effeithio ar werthiannau eiddo rhydd-ddaliad yn ogystal â gwerthiannau lesddaliad. Gallaf weld bod aelodau eraill o amgylch y Siambr yma wedi gorfod ymdrin â'r canlyniadau pan fo pobl sydd wedi prynu tŷ yn canfod eu bod wedi'u clymu i ffioedd rheoli ar gyfer eiddo rhydd-ddaliad y mae'n ymddangos nad oes ganddynt fawr ddim rheolaeth drostynt ac nad oes gobaith o gael iawndal.

O ran y Bil partneriaethau cymdeithasol, rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn yr undebau llafur am eu dealltwriaeth ynglŷn â pham nad ydym yn gallu bwrw ymlaen ag ef, ac rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion fy mod eisiau i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn i'w wneud yn Fil hyd yn oed mwy effeithiol a phwysig pan fyddwn yn gallu ei gyhoeddi ar ffurf drafft. Mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi goroesi rhai cyfarfodydd anodd iawn lle y bu'n rhaid inni dorri ein rhaglen is-ddeddfwriaethol at yr asgwrn, ond y Gweinidog sy'n gyfrifol amdani yw'r Dirprwy Weinidog Jane Hutt, a gallaf ddweud wrthych fod dycnwch Jane, sydd wedi sicrhau bod y darn hwnnw o is-ddeddfwriaeth yn parhau'n fyw, wedi bod yn bopeth y byddech wedi'i ddisgwyl ganddi.

Cyfeiriais at gyfundrefnu yn fy natganiad agoriadol. Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi symud ymlaen gyda chyfundrefnu o ran yr amgylchedd hanesyddol ac ym maes cynllunio, a bydd y Llywodraeth nesaf, o ba bynnag liw, o dan rwymedigaeth a fydd yn cael ei phasio gan y Senedd hon i gyflwyno cyfundrefnu a mesurau cydgrynhoi pellach.

14:40

Diolch, Prif Weinidog. Rhannaf y pryderon am ein hanallu i fwrw ymlaen â'r Bil bysiau, ond rwy'n dawel fy meddwl eich bod yn credu bod gennych chi ffyrdd eraill o ddiogelu'r sector hwn, oherwydd yn arbennig yng Nghaerdydd, lle'r ydym yn ffodus o gael Bws Caerdydd sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus, maent yn gyson yn wynebu cystadleuaeth annheg gan weithredwyr masnachol preifat, fel y'u gelwir, sydd wedi llwyddo i ddewis y llwybrau mwyaf proffidiol gan anwybyddu'r llwybrau cymdeithasol pwysig. Yn yr un modd, nid yw Bws Caerdydd wedi gallu manteisio ar y gronfa argyfwng cadernid economaidd, er ei bod yn amlwg wedi gallu manteisio ar gefnogaeth cynllun cadw swyddi COVID. Ond, serch hynny, maent wedi colli dros £600,000 yn y tri mis diwethaf, gan sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn dal i allu cyrraedd eu swyddi, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod ychydig mwy am sut yr ydym yn bwriadu diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth fwrw ymlaen, os na allwn ni ddeddfu.

Un peth y sonioch chi amdano yn eich datganiad oedd y rheoliad diwygio ar datws hadyd. Mae'n swnio'n ymylol, ond roeddwn yn dyfalu pa berthynas sydd ganddo â'r rheoliadau ôl-Brexit y mae Llywodraeth y DU yn eu paratoi, lle mae cwmnïau hadau masnachol yn pryderu'n fawr y gallent orfod talu £300 fesul math er mwyn gallu parhau i werthu eu hadau yng Nghymru neu, yn wir, ledled y DU. Yn amlwg, mae hwnnw'n fesur gwrth-gystadleuol iawn a allai fod o fudd mawr i'r cwmnïau cyd-dyriad hynod o fawr ac yn ergyd farwol i lawer o gwmnïau bach sy'n gwerthu hadau llysiau. Felly, tybed a oes unrhyw gysylltiad rhwng y ddau hynny.

Byddai ein Bil wedi gwrthdroi'r sefyllfa, Cadeirydd, a gyflwynwyd dan ddeddfwriaeth wreiddiol Llywodraeth Thatcher, sydd wedi atal ffurfio cwmnïau bysiau trefol eraill yng Nghymru. Roedd y Bil yn caniatáu i'r lleoedd hynny a oedd â chwmnïau bysiau trefol ar y pryd barhau gyda nhw, ac mae Caerdydd a Chasnewydd wedi parhau am 30 mlynedd yn y ffordd honno, ond mae wedi ein hatal rhag defnyddio posibiliadau tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru, a byddai ein Bil wedi gwrthdroi'r sefyllfa honno. Rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddod â pherchenogaeth dros wasanaethau bysiau yn ôl o dan reolaeth y rhannau hynny o'r gwasanaeth cyhoeddus sy'n talu amdanynt yn y bôn, ac i wneud hynny mewn ffordd sydd wedi'i chynllunio, lle nad oes gennym y math o gystadleuaeth—cystadleuaeth wastraffus—y cyfeiriodd Jenny Rathbone ati, lle mae gallu cwmni fel Bws Caerdydd i gefnogi llwybrau llai proffidiol yn cael ei ddifetha gan y ffaith bod yr unig gystadleuaeth sy'n eu hwynebu yn ymwneud â llwybrau lle mae elw yn cael ei wneud. Mae'r trafodaethau rhwng y cwmni bysiau a Llywodraeth Cymru yn parhau.

Dirprwy Lywydd, dechreuais resynu at ddewis y Gorchymyn Diwygio tatws hadyd fel yr un a amlygais, o ystyried bod yr Aelod yn gwybod cymaint mwy amdano na mi. [Chwerthin.] Nid wyf yn credu bod ein gwelliant yn gysylltiedig â'r newidiadau ysgytwol y cyfeiriodd atynt ar draws ein ffin. Rwy'n credu ei fod yn un o'r rheoliadau blynyddol hynny sy'n gorfod dod gerbron y Senedd drwy'r weithdrefn negyddol. Ond, mae'r sylw cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yn un yr wyf yn cytuno'n llwyr ag ef—sef y bydd angen inni ddefnyddio ein deddfwriaeth amgylcheddol i sicrhau bod y safonau sydd mor bwysig yma yng Nghymru, a'r amddiffyniadau a roddir i ddefnyddwyr Cymru o ganlyniad, yn cael eu cadw wrth inni wynebu cyfnod anoddach yn y dyfodol. 

14:45
6. Cwestiynau Amserol

Symudwn yn awr at gwestiynau amserol. Cyn imi alw'r un cyntaf, a gaf i wirio bod y Gweinidog iechyd ar gael ar Zoom? Gallaf ei weld yn awr. Gwych. Felly, i ofyn y cwestiwn cyntaf i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Janet Finch-Saunders.

COVID-19: Profion ar gyfer Staff Cartrefi Gofal

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal? TQ477

Diolch. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn yn parhau â'r drefn bresennol o brofi wythnosol am bedair wythnos arall. Os yw nifer achosion COVID-19 yn parhau i fod yn isel, fel y maen nhw ar hyn o bryd, rwy'n disgwyl lleihau'r profion ar gyfer cartrefi gofal i bob pythefnos o 10 Awst. Byddaf yn parhau i adolygu ac addasu ein polisi profi yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf.

Diolch. Wel, hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Llywydd am fynd i'r afael â sarhad difrifol ar Senedd Cymru: y Gweinidog iechyd yn dewis gwneud datganiad mor bwysig y tu allan i'r Siambr hon. Nawr, ar ôl ystyried y datganiad ysgrifenedig, rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi ymestyn y drefn brofi wythnosol am bedair wythnos arall, ond rwy'n dychryn o glywed y bydd lleihad o bosib yn y profion ar gyfer cartrefi gofal o 10 Awst ymlaen. Hoffwn atgoffa'r Gweinidog bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cael gwybod am 3,382 o farwolaethau pobl oedd yn preswylio mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth. Mae hynny 74 y cant yn uwch na'r marwolaethau a gofnodwyd am yr un cyfnod y llynedd. Mae 734 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw oherwydd amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19, ac mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa yn ein cartrefi gofal fel trasiedi. Dylid a gellid fod wedi gwneud mwy yn gynt i gefnogi preswylwyr a'r staff, sy'n gwneud cymaint i ofalu amdanynt.

Bu'n rhaid i ni, yma yng Nghymru, aros tan 15 Mehefin i ddechrau profi staff cartrefi gofal yn wythnosol, bron i dri mis ar ôl dechrau'r cyfyngiadau symud. Pam? Pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddewis datgan bod y polisi profi yn cael ei adolygu yn hytrach nag ymestyn profi ar gyfer staff ar unwaith? Siawns nad oedd estyniad yn rhesymol ac yn amlwg ar adeg pan fo nifer fawr o breswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn dal i farw o bob achos—112 rhwng 4 a 10 Gorffennaf. At hynny, roedd yn bosib ac mae'n gwbl ymarferol ymestyn y profion wythnosol ar unwaith a chynnal hyn y tu hwnt i 10 Awst, o ystyried bod profion yng Nghymru yn dal i fod oddeutu 20 y cant o gapasiti yn unig. O gofio hynny, a ydych yn cytuno â mi y dylid ymestyn profi wythnosol i gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol rheng flaen eraill fel gweithwyr gofal cartref?

Fe wyddoch fy mod wedi codi hyn gyda chi, Gweinidog. Fe wyddoch ichi rannu'ch pryderon â mi—

Iawn. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi datgan bod eu pryderon yn ymwneud â'r amser dychwelyd canlyniadau, gan fod 46.5 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi'u dychwelyd o fewn diwrnod, a 66 y cant o fewn dau ddiwrnod. Mae hynny'n is na'r wythnos diwethaf. Pryd y byddwch yn mynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer canlyniadau profion? Diolch, Llywydd dros dro.

14:50

Roedd cryn dipyn o bwyntiau yno, Dirprwy Lywydd dros dro, a byddaf yn ceisio mynd drwyddyn nhw cyn gynted â phosib. Nid wyf yn derbyn y cyhuddiad bod y cyhoeddiad heddiw a'r datganiad ysgrifenedig yn sarhad difrifol ar Senedd Cymru. A dweud y gwir, dim ond yn hwyr iawn neithiwr y bûm yn cymeradwyo'r strategaeth brofi newydd, ac rwy'n hapus iawn i ateb cwestiynau'r Aelodau ar ddiwrnod prysur iawn yn y Cyfarfod Llawn.

Ar y pwynt olaf a wnaeth Janet Finch-Saunders ynghylch amser dychwelyd canlyniadau, fel y clywodd gan y Prif Weinidog heddiw, mewn gwirionedd, nid yw'n gywir dweud bod hyn yn ymwneud â labordy GIG Cymru yn gweld gostyngiad; yn wir, gwelsom gynnydd yn ystod yr wythnos diwethaf o ran amseroedd dychwelyd canlyniadau. Roedd yna fater penodol, problem dechnegol, yn y labordy goleudy ym Manceinion sy'n gwasanaethu'r Gogledd, ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol ar ein hamseroedd gweithredu. Fe fyddwch chi'n gweld yn ffigurau profion yr wythnos nesaf fod cynnydd mawr yn y profion dros y penwythnos, gyda dros 22,000 o ganlyniadau profion dros y penwythnos, y mwyafrif ohonynt yn labordai goleudy, ac rwy'n disgwyl inni barhau i wneud cynnydd wrth symud ymlaen. Rwyf yn sicr yn ymwybodol o bwysigrwydd dychwelyd canlyniadau yn gyflym drwy ein gwasanaeth olrhain cyswllt.

O ran a ddylem gael ein dychryn gan y cynnig pythefnos, na, nid oes angen cael ein dychryn. Yn wir, mae hyn yn newyddion da, ac mae'n newyddion da gan ei fod yn adlewyrchu'r nifer isel iawn o achosion o coronafeirws yn ein cartrefi gofal. Rydym yn awr ar gyfradd lle mae'r ystod o ganlyniadau positif o fewn yr ystod o ganlyniadau positif ffug—lle dychwelir canlyniadau positif ond nid ydynt o reidrwydd yn ganlyniadau positif gwirioneddol. Rydym hefyd mewn sefyllfa lle, gan fod yr Aelod eisiau ein cymharu â Lloegr, mewn gwirionedd, mae'n llai nag 1 y cant o nifer y staff cartrefi gofal—yn sylweddol is nag 1 y cant—ond yn Lloegr mae'n 2.4 y cant; gwahaniaeth sylweddol. Hefyd, nid ydynt yn Lloegr wedi cwblhau eu rhaglen profi cartrefi gofal yn llwyr. Mae ein sefyllfa'n wahanol, ac os byddwn yn parhau i weld lefelau isel iawn o achosion yn ein cartrefi gofal, yna gallwn leihau'r amlder i bythefnos yn ddiogel, ac ailbrofi bob pythefnos, sy'n dal i fod yn rhaglen reolaidd iawn o ailbrofi o fewn amgylchedd y cartref gofal ar gyfer ein staff.

Mae'r dystiolaeth a gaiff ei chyhoeddi'n ddiweddarach heddiw yn cadarnhau, o ran profion asymptomatig yn gyffredinol a'r prawf antigen presennol, nad yw'n ffordd dda o ddefnyddio'r prawf hwnnw er mwyn profi grwpiau mawr o bobl asymptomatig. Felly, ni fyddwn yn ei gyflwyno i grwpiau eraill yn ddiamod. Fel y nodir yn y strategaeth yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais heddiw, byddwn yn edrych ar dystiolaeth o ran lle'r ydym yn credu mai dyma'r peth iawn i ddefnyddio canlyniadau profion ar gyfer poblogaeth ehangach a mwy. Ac mae'n werth i'r Aelodau gofio'r datganiadau clir iawn gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr ynghylch yr angen i gael rhaglen brofi nad yw'n obsesiynol fod rhywbeth yn cael ei wneud a'i gyfrif; nid yw hynny'n arwydd o lwyddiant ein rhaglen. Mae'n rhaid cael pwrpas i'r profi. Os edrychwch ar gyfraddau nifer achosion y coronafeirws yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa dda iawn am amrywiaeth o resymau ac mae'r rhaglen brofi yn rhan o hynny. Ond mae'n ymwneud â sut yr ydym yn defnyddio'r profion a sut yr ydym yn parhau i gadw pobl yn ddiogel yma yng Nghymru.

Y cartrefi gofal sydd wedi dwyn baich argyfwng COVID-19, ac mae preswylwyr cartrefi gofal yn cyfrif am tua thraean o'r holl farwolaethau. Nawr, hyd at 23 Ebrill roedd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i drigolion heb eu profi fynd i gartrefi gofal o'r ysbyty, ac roedd hynny'n sgandal llwyr y bydd yn rhaid i Weinidogion fod yn atebol amdano mewn ymchwiliad sydd ar y gweill, hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn awyddus i ateb cwestiynau a ofynnir am hyn iddyn nhw gan Aelodau'r Senedd. Cymerodd fisoedd o bwysau cyn i Lywodraeth Cymru gytuno i gyflwyno strategaeth brofi wythnosol gynhwysfawr ar gyfer cartrefi gofal, a hyd nes y rhoddwyd pwysau arnynt, nid oedd strategaeth newydd ar waith.

Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod hynny wedi'i gyhoeddi heddiw, ond mae Fforwm Gofal Cymru wedi dweud na fu unrhyw ymgysylltu o gwbl gyda'r sector ynglŷn â'r hyn a oedd i fod digwydd. Cafodd cartrefi gofal eu siomi unwaith eto, a chredaf fod hynny'n gwbl annerbyniol. Ond a wnaiff y Gweinidog egluro'r rheswm dros roi'r gorau i'r profion hyn yn y lle cyntaf, o gofio bod gennym gapasiti dros ben, y rheswm pam nad oedd cynllun newydd yn barod i gael ei weithredu a'i gyhoeddi ar unwaith, a'i gyfiawnhad dros beidio ag ymgysylltu â'r sector i esbonio hyn? Yn olaf, a ydych chi'n derbyn, Gweinidog, fod yr oedi hwn cyn gadael i'r sector wybod beth fyddai'n digwydd tan y funud olaf wedi achosi trallod diangen?

Unwaith eto, roedd nifer o bwyntiau yno, Dirprwy Lywydd dros dro. O ran preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal a'r nifer sylweddol o farwolaethau ychwanegol, nid oes gennym dystiolaeth bod trefniadau rhyddhau o ysbytai yn ffactor perthnasol neu, os ydyn nhw, faint o effaith gafodd hynny ar nifer y marwolaethau ychwanegol ac, wrth gwrs, nid yw erioed wedi bod yn wir fy mod wedi gwrthod ateb cwestiynau'r Aelodau yma yn y Senedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

O ran y mater o ymgysylltu â'r sector cartrefi gofal, bu ymgysylltu â swyddogion cyn i mi wneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo'r strategaeth brofi. Gwn y cafwyd sgwrs uniongyrchol â phrif weithredwr Fforwm Gofal Cymru cyn i'r strategaeth gael ei chwblhau. Nid yw hynny wedi dod o unrhyw gyfweliadau gan y cyfryngau neu draethodau gan wleidyddion ar unrhyw ochr i'r Senedd; mae'n dod oherwydd fy mod yn disgwyl hynny—ein bod yn cael sgyrsiau gyda'r sector yr effeithir arno. Ac nid wyf yn credu ei fod yn gyhuddiad rhesymol bod pobl yn cael eu gadael yn ddiymgeledd a heb unrhyw wybodaeth tra bod penderfyniad yn cael ei wneud.

Rydyn ni newydd gwblhau'r rhaglen brofi bedair wythnos. Gwnes benderfyniad neithiwr, a gyhoeddwyd heddiw, ynglŷn â bwrw ymlaen â'r rhaglen honno. Mae'n parhau i fod yn wythnosol, ac fel y dywedaf, mae'n newyddion da i bawb fod gennym nifer isel iawn o achosion o'r coronafeirws yn y wlad, ac yn arbennig yn y sector cartrefi gofal. Daw hynny o'r holl arwyddion yn ystod pedair wythnos gyntaf y rhaglen hon, a byddwn yn gallu lleihau amlder y profion yn ddiogel. Ni fydd hynny'n rhoi preswylwyr mewn perygl—bydd rhaglen ailbrofi aml a rheolaidd yn dal i fod ar gael, a byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth. A chredaf, ar ôl cyhoeddi'r dystiolaeth honno, y bydd gan bob Aelod ddiddordeb mewn gweld y dystiolaeth honno am brofion asymptomatig, oherwydd mae'n dangos bod angen i ni ddeall pwynt a phwrpas y profi, yn hytrach na'i weld fel nod ynddo'i hun. Mae'n offeryn i'n helpu i'n cadw ni'n ddiogel, ac mae'n bwysig ein bod ni'n deall sut i'w ddefnyddio, gan ei fod yn parhau i helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel yma yng Nghymru.

14:55

Gweinidog, sylwaf eich bod wedi gwneud datganiad newydd heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn bwrw ymlaen â'r drefn brofi. Yn amlwg, yr hyn sy'n hollbwysig yw ymateb i'r profion hynny a chael canlyniadau'r profion yn ôl i'r bobl sydd wedi cael y prawf. Clywais eich ymateb i Janet Finch-Saunders, ond mae'n ffaith, wythnos ar ôl wythnos, bod y gyfradd ymateb yn lleihau, nad yw bron 20 y cant o ganlyniadau profion yn cael eu dychwelyd i'r unigolyn o fewn tri diwrnod, a dim ond 46 y cant o'r profion sy'n cael eu dychwelyd o fewn 24 awr, i lawr o 49 y cant. Felly, gan dderbyn eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch trefn brofi newydd, sut ydych chi'n canolbwyntio eich egni i wneud yn siŵr, pa bynnag drefn brofi sydd ar waith, fod y canlyniadau'n dod yn ôl at y derbynnydd mor gyflym â phosib, fel y gallant naill ai fynd yn ôl i'r gwaith neu gymryd y camau angenrheidiol i ynysu a diogelu?

Dyna'r union fath o weithredu yr ydym yn bwriadu ei wneud. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yn cydnabod bod angen inni wneud cynnydd pellach, ac nid oeddem yn gweld y cynnydd yr oeddem eisiau ei weld, felly roedd yn rhaid inni archwilio ystod o wahanol rannau o'r system. A chaiff hyn ei nodi nid yn unig yn y datganiad ysgrifenedig ond yn y strategaeth a gyhoeddwyd heddiw. Felly, rydym yn edrych o wythnos i wythnos—ac mae'n gyfnod eithaf bach o amser—ar beth yw'r ffigurau. Rydym wedi edrych ar yr hyn a wnawn o ran pa mor hawdd yw hi i bobl gael prawf—erbyn hyn rydym wedi cyrraedd y man lle gall pobl gael prawf yn gyflym ac yn hawdd. Yna, mae angen inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd o'r pwynt profi i gael y prawf hwnnw i'r labordy. Rydym eisoes wedi cymryd enghraifft o labordai GIG Cymru, lle'r ydym wedi gwneud hynny'n gyflymach—rydym wedi newid y trefniadau cludo, fel y nododd y Prif Weinidog wrth ateb eich cwestiwn yn gynharach.

Ac yna o ran effeithlonrwydd o fewn y labordai, mae'n esboniad nid esgus fod problem dechnegol gan y labordy penodol ym Manceinion sy'n gwasanaethu rhannau helaeth o'r Gogledd, sy'n golygu bod arafu wedi digwydd. Mae dau bwynt yno. Un pwynt yw, er nad ydym ni'n rheoli'r labordai hynny, os ydyn nhw'n cael y broblem honno, mae'n rhaid inni gael gwybod hynny'n gynt o lawer, ac felly nad ydym yn cael clywed am y broblem ar ddiwedd yr wythnos. Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae'r wybodaeth honno yn llifo'n uniongyrchol oddi wrth y labordai goleudy i'n system ni. Felly, cyn gynted ag y bo'r canlyniadau ar gael, maen nhw'n mynd i'n timau olrhain cyswllt lleol. Yn wir, mae olrhain cyswllt yn dal i fod yn ymdrech lwyddiannus iawn yma yng Nghymru, gyda thros 90 y cant o gysylltiadau dros y tair neu bedair wythnos diwethaf wedi'u cysylltu a mynd ar eu hôl yn llwyddiannus.

Y pwynt olaf yw'r rhaglen wella sydd gennym yn labordy GIG Cymru—bydd ganddi berthynas fwy uniongyrchol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs. Ac rydyn ni'n edrych ar wella'r newid o fewn y labordai hynny a beth fydd hynny'n ei olygu o ran cost, o ran y model staffio, a sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny. Er bod gennym gyfraddau isel iawn o ran y nifer o achosion, mae angen inni wneud hyn yn iawn cyn symud i mewn i dymor yr hydref a'r gaeaf, pan wyddom y bydd mwy o brofion yn cael eu cynnal oherwydd heintiau'r llwybr anadlol sy'n rhan gyffredin o dymhorau'r hydref a'r gaeaf. Felly, newyddion da fod gennym nifer isel o achosion. Rydym yn ymwybodol bod problemau sydd angen eu datrys—rydym yn ymdrin â'r rheini, a byddwn yn agored gyda'r cyhoedd a'r Aelodau ynghylch y camau gwella hynny, a byddwn yn parhau i gyhoeddi'r ffigurau i ddangos pa mor llwyddiannus yr ydym o ran gwella'r amseroedd dychwelyd hynny.

Yn gyntaf, gaf i ddweud ei bod hi'n drueni mai dim ond drwy benderfyniad y Llywydd i ymestyn yr amser ar gyfer y cwestiwn amserol yr ydyn ni'n cael cyfle i drafod y strategaeth yma rŵan? Achos mi ddylid fod wedi amserlennu y datganiad yma ynddo fo'i hun, oherwydd bod profi ac olrhain mor ganolog i'r frwydr yn erbyn y coronafeirws, ac y mae'r strategaeth dros y misoedd nesaf mor ganolog i'n llwyddiant ni. Mae dal yn fethiant, dwi'n meddwl, i beidio â defnyddio'r capasiti sydd ar gael. Dwi'n derbyn yn llwyr, gyda llaw, nad mewn rhyw ffordd ffwrdd â hi mae gwneud penderfyniadau ynglŷn â phrofi—mae'n rhaid bod yn strategol a phrofi i bwrpas, ond (1) dwi yn meddwl bod cynllunio i leihau profi staff cartrefi gofal, o'r profion wythnosol presennol i brofion bob pythefnos o fis Awst, yn gam diangen a cham llawn risg diangen ar hyn o bryd, o ystyried y capasiti sydd ar gael.

A (2) dwi'n siomedig nad oes yna gyfeiriad at yr angen i brofi asymptomatig o weithwyr gofal sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl. Dwi wedi galw am ymestyn profion asymptomatig, yn sicr i'r holl weithwyr iechyd a gofal hynny sydd â mwyaf o risg iddyn nhw eu hunain ac i'r bobl y maen nhw mewn cysylltiad â nhw, a siawns bod y bobl hynny sy'n mynd i mewn i dai pobl eraill i roi gofal iddyn nhw—nifer o bobl o fewn diwrnod—yn gorfod dod i mewn i'r categori hwnnw. Ydy, mae nifer yr achosion wedi lleihau ac rydyn ni'n ymfalchïo yn hynny, ond gadewch inni ei gadw felly a gofalu am y bobl fwyaf bregus. Felly, gawn ni ymrwymiad i brofi'r bobl sydd yn mynd i mewn i gartrefi pobl i ofalu amdanyn nhw?

15:00

Rwy'n credu ei bod yn werth myfyrio ar y—. Cyfeiriais yn gynharach, Dirprwy Lywydd dros dro, at y sylwadau a wnaed gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr; mae'n werth atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedwyd ganddyn nhw. Dywedodd Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr:

Nid yw profi yn rhywbeth sy'n cael ei wneud a'i gyfrif yn unig. Mae'n broses sydd â dibenion clinigol ar gyfer cleifion unigol, i'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw ac i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae'n ddefnydd ymwybodol sydd wedi'i dargedu o ddeunyddiau gwerthfawr a gweithwyr proffesiynol medrus o fewn cyd-destun llwybr a phwrpas.

Ac yn syml iawn, nid wyf yn cytuno â chasgliad yr Aelod mai mesur peryglus yw dangos y bydd profion cartrefi gofal yn lleihau ym mis Awst, os byddwn yn parhau i weld lefelau isel iawn o achosion. Mae'n arwydd o'n llwyddiant y byddem yn dal i gynnal rhaglen reolaidd, ond ar gylch gwahanol. A bydd ein gallu wedyn i weithredu o hyd, lle mae gennym achosion positif o coronafeirws, yn aros yn ddigyfnewid, a byddwn yn gallu symud yn gyflym i brofi carfannau cyfan, os bydd angen.

A bod yn deg, fodd bynnag, rwyf i wedi cael y fantais o weld cyngor diweddaraf y grŵp cynghori technegol ar brofion asymptomatig, ac rwy'n credu, pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i'w ddarllen, pan gaiff ei gyhoeddi heddiw, y bydd yn gweld nad yw mor syml â gweithredu profion asymptomatig ar gyfer pob unigolyn fel modd o gadw'r wlad yn ddiogel. Mae heriau gwirioneddol yn enwedig o ran y profion positif ffug sy'n deillio ohono, pan fo gennym nifer mor isel o achosion. Felly, mae'n ymwneud â phrofi ar gyfer pwynt a phwrpas a dyna'n union beth yr ydym wedi'i amlinellu heddiw ac mae'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf sydd gennym.

Pan ddaw'n fater o weithwyr gofal cartref, rwyf eisoes wedi nodi y byddwn yn ceisio cynnwys gweithwyr gofal cartref yn y don nesaf o brofion gwrthgyrff, er mwyn deall y lefel gwyliadwriaeth, o safbwynt gwyliadwriaeth, o'n sefyllfa o ran coronafeirws. Felly, rydym yn ystyried beth i'w wneud, sut i gadw gweithwyr yn ddiogel a sut i gadw'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt yn ddiogel, ac mae hynny'n sail i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn, fel yr ydym wedi gwneud erioed, wrth inni geisio cadw Cymru yn ddiogel a pharatoi, rwy'n ofni, ar gyfer gaeaf mwy anghyfforddus na'r arfer.

A gaf i gytuno â'r sylwadau a'r cwestiynau a ofynnodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders wrth agor y sesiwn cwestiynau amserol hon? Gweinidog, mae llawer wedi'i ddweud am bwysigrwydd profi ac olrhain a'r problemau yn y sector gofal cartref. Gwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi pwyslais arbennig yn ddiweddar ar brofi cleifion cyn iddyn nhw adael yr ysbyty i fynd i gartref gofal neu yn ôl i'w cartref eu hunain i leoliad gofal cartref. Mae hynny'n ymddangos yn arfer eithaf synhwyrol. A yw hynny'n gyffredin ledled Cymru, ac a ydych yn edrych am ffyrdd o allu ymestyn profion fel hyn a ffyrdd eraill o wneud y sector gofal cartref mor rhydd o COVID â phosib?

Diolch am y cwestiwn. Wel, mewn gwirionedd, mae'r cyfeiriad a wnaethoch at Aneurin Bevan yn ddull gweithredu cenedlaethol o ran rhyddhau o'r ysbyty, ac mae'n rhan o ddull sy'n seiliedig ar risg. Pan newidiwyd y polisi profi ar ryddhau cleifion o'r ysbyty, roedd hynny'n ymwneud yn bennaf â rhoi hyder i'r sector gofal preswyl. Nid oedd y dystiolaeth a'r cyngor, bryd hynny, yn cefnogi, ar sail gwyddoniaeth, cynnal profion ar bawb a oedd yn asymptomatig. Mae bob amser wedi bod yn wir y dylai pobl sydd â symptomau fod wedi'u profi cyn eu rhyddhau o'r ysbyty. Yna, cawsom sefyllfa lle'r oeddem yn cydnabod bod y sector, mewn gwirionedd, yn mynd i ddechrau lleihau atgyfeiriadau, a fyddai wedi bod yn arbennig o anodd i bobl, oherwydd caiff niwed ei achosi pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty ac nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny. Felly, roedd yn ddewis ymarferol ynglŷn â rhoi hyder a chadw'r gwasanaeth cyfan yn symud fel y gallai pobl ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain i raddau helaeth, yn hytrach na chael eu derbyn o'r newydd gan bobl nad ydyn nhw wedi bod mewn amgylchedd cartref gofal o'r blaen. 

O ran y dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg, rydym wedyn yn edrych ar beth yw'r perygl yn gyffredinol os na fydd y profi hwnnw'n digwydd. Ac mae hynny'n wahanol iawn i ddull heb dystiolaeth lle nad ydym yn deall y peryglon o ran cyflwyno profion asymptomatig yn ehangach, ac rwy'n cael fy annog yn rheolaidd i wneud hynny gan amrywiaeth o bobl. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn fy marn i, yn rhywbeth sydd o wir ddiddordeb i'r Aelodau o bob ochr. Rwy'n deall eu bod yn gofyn cwestiynau oherwydd eu bod yn pryderu am eu hetholwyr a sut rydym yn cynnal y llwyddiant a welsom, fel gwlad, i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gyfraddau isel iawn o achosion o'r coronafeirws, gan ein bod am lwyddo nid yn unig i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, yn y camau terfynol, ond i aros allan o'r cyfyngiadau symud. A dyna pam rydyn ni'n ailystyried sut y dylem ail-gydbwyso’r GIG gyda pharthau coch a gwyrdd. Dyna pam rydyn ni'n ystyried amrywiaeth o bethau. Mae'r strategaeth brofi yn rhan o hynny, a dyna pam rwyf wedi gosod y strategaeth brofi heddiw. Ac rwyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau hyn heddiw gan fy mod wedi cymeradwyo'r strategaeth honno yn hwyr neithiwr. Rwyf wedi bod yn awyddus i gael pethau'n iawn ac yna i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu darparu hynny i'r Aelodau a'r cyhoedd. Mae'r datganiad sydd ger eich bron heddiw, a'r strategaeth, yn rhan o hynny.

Os yw'r dystiolaeth yn newid, rwy'n siŵr y byddai Mr Ramsay ac Aelodau eraill yn disgwyl imi adolygu fy marn ac adolygu'r ffordd yr wyf yn disgwyl i'r gwasanaeth ymddwyn. Ond dyna'r dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf, ac rwy'n mynd i barhau i weithredu'n seiliedig ar y wyddoniaeth. Ond yn y pen draw, fy mhenderfyniadau i yw'r rhain, fel y Gweinidog iechyd, ynglŷn â sut rydym yn cadw Cymru yn ddiogel. 

15:05

Fel minnau, mae'r Gweinidog yn fyfyriwr hanes, ac, yn amlwg, wrth ei fod yn cymeradwyo'r rheoliadau hyn neithiwr, byddai wedi bod yn gwylio rhaglen ddogfen wych S4C ar y ffliw Sbaenaidd o 1918, a ddatgelodd fod brig cyntaf mawr, yna  digwyddodd dim am bedwar mis—dim achosion, dim cleifion, dim byd o gwbl—ac yna cafwyd ail frig enfawr, gyda 10 gwaith yn fwy o farwolaethau na'r brig cyntaf. Felly, dyna beth mae hanes yn dangos i ni. Ond, yn amlwg, o ran cynllunio neu liniaru unrhyw ail don bosib, mae profi, olrhain a diogelu yn gwbl allweddol. Felly, a all y Gweinidog sicrhau yn awr, gyda'r holl dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor iechyd dros y misoedd diwethaf, flaenoriaeth timau iechyd cyhoeddus lleol? Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol yma yng Nghymru, ac yn y bôn mae'n dal yn wasanaeth cyhoeddus yma. Ond a all warantu hefyd fod cynifer o'r rheini—bod y profi sydd wedi digwydd yn ein labordai yma yng Nghymru hefyd, yn ein hysbytai ac yn ein prifysgolion, fel gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer y pecynnau profi cartref a ddanfonir gan gludwyr i labordai preifat yn Lloegr, sy'n dangos pam na allwch gael y canlyniad yn ôl o fewn 24 awr—. Felly, yn amlwg, o ran olrhain cysylltiadau, mae cael canlyniad yn ôl o fewn 24 awr yn gwbl allweddol, a dyna pam mae angen inni sicrhau bod gennym y gallu i brofi yma yn ein prifysgolion a'n labordai ysbytai ni. A allwch sicrhau y bydd hynny'n mynd—o ran 100 y cant? Oherwydd dyna sut rydyn ni'n mynd i gael y canlyniadau o fewn 24 awr, a hefyd gynnwys y meddygon teulu. Y gwendid o gael system breifat o'r fath sy'n gysylltiedig â'r DU yw na all y meddygon teulu weld y canlyniadau hynny. Rydyn ni wedi ein torri i ffwrdd yn llwyr. Nid yw pobl yn gwybod hyn, ac yn amlwg nid oes gan y sector preifat unrhyw gysylltiad â'r GIG o ran profi. Felly, mae yna wendidau, ac os na cafodd y gwendidau hynny eu cynnwys yn eich rheoliadau, tra oeddech chi'n astudio neithiwr ac yn gwylio'r rhaglen ddogfen hon—sylweddolaf fod gennych lawer ar eich plât—a allwch chi adolygu hynny ar gyfer unrhyw reoliadau yn y dyfodol? Diolch yn fawr. 

[Anghlywadwy.] Sori, rwyf wedi fy nhawelu. Ni ddylai fod yn syndod i'r Aelod na phobl eraill i glywed nad oeddwn i'n gwylio rhaglen ddogfen S4C tra oeddwn i'n gweithio neithiwr. Gallaf amldasgio a choginio, ond alla i ddim gwylio'r teledu a gwneud y gwaith y mae angen imi ei wneud ar yr un pryd.

Rwyf wedi nodi amryw o'r mesurau y mae angen inni baratoi ar eu cyfer ac, mewn gwirionedd, mae adroddiad yr Academi Gwyddorau Meddygol, a gomisiynwyd ar ran Llywodraeth y DU ynglŷn â Lloegr, yn amlwg, yn berthnasol i raddau i ni yma yng Nghymru, wrth inni geisio paratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Ac rwyf wedi cyfeirio at y ffaith bod angen inni wneud defnydd o'r amser sydd gennym yn awr yn yr haf i baratoi ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd. Rydym yn gwybod y bydd mwy o heintiau'r llwybr resbiradol a mwy o symptomau; rydym yn gwybod y bydd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'n gallu i brofi yma yng Nghymru, a dyna pam rydym wedi'i adeiladu yn awr. Byddwn yn disgwyl defnyddio mwy ohono pan fydd angen defnyddio mwy ohono, pan fydd llawer mwy o bobl â symptomau—fel y crybwyllwyd o'r blaen—naill ai eisiau gwybod bod ganddynt y coronafeirws a bod angen iddyn nhw barhau i hunanynysu, neu y byddant yn cael eu rhyddhau drwy ganlyniad positif i ddychwelyd at eu bywyd bob dydd. Felly, byddwn yn bendant eisiau manteisio i'r eithaf ar y defnydd a wneir o labordai GIG Cymru, a dyna pam mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar wella effeithlonrwydd y labordy hwnnw mor bwysig.

Bydd angen inni wneud dewisiadau anodd, rwy'n credu, oherwydd bod ein cyllidebau dan straen mawr a than bwysau, ond bydd angen inni ddod o hyd i ffordd o gyflwyno model staffio sy'n caniatáu staffio mwy sylweddol yn ein labordai yn GIG Cymru er mwyn gwneud y gorau nid yn unig o'r capasiti, y gallu dyddiol ymarferol, ond y gallu i newid hynny'n gyflym i gael olrhain cyswllt effeithiol. Ond mae gennym system yr ydym wedi bod yn falch o'i chreu fel gwasanaeth cyhoeddus, sy'n darparu cyswllt effeithiol iawn gyda lefelau llwyddiant uchel iawn, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae'r cynghorau wedi'i wneud, ynghyd â'r GIG, ledled y wlad.

O ran eich pwyntiau ynglŷn â'r labordai goleudy a'r ffordd y maen nhw wedi'u datblygu—mae'r rhaglen honno yn y DU wedi llwyddo i ddarparu capasiti ychwanegol sylweddol, a dyma'r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio'n bennaf gyda'r canolfannau profi drwy ffenest y car yr ydym wedi'u creu wrth sgwrsio â Llywodraeth y DU. Mae hynny wedi golygu bod gennym gapasiti ychwanegol sylweddol bellach ar gyfer, yn benodol, y bobl symptomatig y cyfeiriwyd atynt mewn rhannau o'r system gofal. Nawr, mae hynny'n golygu, fodd bynnag, fod gennym her—. A dyna pam na wnaethom ni ymuno â rhaglen brofi'r DU yn gynharach, oherwydd nid oeddem yn gallu cael y data, a'ch pwynt am feddygon teulu yn ddall i hynny—wel, mewn gwirionedd doedden ni ddim yn gwybod o gwbl. Byddem wedi gwybod bod pobl wedi cael profion, ond heb wybod beth oedd y canlyniadau, a dyna'r sefyllfa yr oedd gwledydd eraill yn ei chael eu hunain ynddi'n gynharach.

Rydym bellach mewn sefyllfa lle gall y ddau ohonom gyhoeddi nifer y profion—mae gennych gyhoeddiad unedig bob dydd o brofion sy'n cael eu cynnal yng Nghymru—ac rydym yn gweld y llif nid yn unig yn mynd i'n system olrhain cysylltiadau o'r labordai goleudy hynny, ond mae'n mynd drwy'r system fraich, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â hi, ond nid felly y bobl eraill nad ydynt yn digwydd gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n golygu ei fod yn mynd yn ôl i gofnod y claf. Nawr, doedden ni ddim wedi cael hynny'n gynharach. Mae bellach ar gael inni. Felly, dylai pobl sy'n darparu gofal i unigolion weld hynny ar gofnod claf unigol, a bydd yn ein galluogi i ddilyn y drefn briodol o olrhain cysylltiadau. Felly, mae gennym y  niferoedd ar gyfer y profion a gynhelir ond, fel y cawsom ein cynghori i gyd gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr, mae'n golygu profi am bwrpas, ac mae'r pwrpas hwnnw'n rhan o sut yr ydym yn cadw Cymru yn ddiogel.

15:10

Diolch, Llywydd. Roedd profi mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi dod yn rhy hwyr i ormod o bobl, ac mae ei effeithiolrwydd, fel offeryn mewn blwch offer, yn mynnu bod cartrefi gofal yn gweithredu ar sail gynaliadwy o ran adnoddau. Wrth siarad yn Senedd rithwir Cymru ar 3 Mehefin, cyfeiriais at gartref nyrsio a oedd wedi ysgrifennu yn dweud bod pum preswylydd wedi marw yn gysylltiedig â COVID-19, ac nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd yn hyn wedi cyfrannu'r un geiniog tuag at argyfwng COVID-19. Nodwyd y broblem hon yng ngwobrau 'cheapskate' dilynol Fforwm Gofal Cymru, sef bod hanner y 10 awdurdod lleol isaf yng Nghymru a oedd yn talu ffioedd cartrefi gofal yn ystod argyfwng coronafeirws yn y Gogledd, ac mai Sir y Fflint oedd y gwaethaf.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 15 Mehefin mewn gohebiaeth fod y bwrdd iechyd yn cydweithio'n agos â Fforwm Gofal Cymru a byrddau iechyd eraill ledled Cymru i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cynllun cymorth ariannol ar gyfer gofal nyrsio a chartrefi gofal ledled Cymru. Ond cefais e-bost gan Fforwm Gofal Cymru wythnos i ddydd Mercher diwethaf yn dweud, 'Does dim cyhoeddiad o hyd, i'n rhwystredigaeth gynyddol.' Pryd fyddwch yn datrys hyn, oherwydd mae'r cartrefi gofal yn dweud wrthyf bod taer angen hyn?

Wel, rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw'n datgelu'r gwahaniaethau a'r rhaniadau mawr mewn safbwyntiau pobl ar lefel unigol a lleol a'r sgyrsiau sydd gennym ar lefel genedlaethol gyda chyrff rhanddeiliaid. Ceir sgwrs reolaidd gyda phobl sy'n rhedeg gofal preswyl—awdurdodau lleol sy'n dal i ddarparu a chomisiynu rhannau helaeth o'r sector gofal preswyl, yn ogystal â'r darparwyr annibynnol hefyd. Ac mae hynny'n cynnwys sgyrsiau rheolaidd gyda Fforwm Gofal Cymru. Felly, nid wyf yn derbyn ei fod yn adlewyrchiad cywir nad oes unrhyw sgwrs â'r sector gofal preswyl. Ceir sgyrsiau rheolaidd rhwng swyddogion yn y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a'r sector gofal ei hun. Ac mae hefyd yn rhan o'r her am yr iaith a ddefnyddiwn. Nid wyf yn credu mai'r gwobrau 'cheapskate' oedd moment orau Fforwm Gofal Cymru, ac nid oedd yn ffordd ddefnyddiol o ddefnyddio'r cysylltiadau a adeiladwyd yn fwriadol gennym yng Nghymru, lle mae partneriaid yn dod i siarad â'i gilydd ac yn parhau i gael sgyrsiau sy'n heriol—nid ydynt yn sgyrsiau cynnes a chysurus rhwng comisiynwyr a darparwyr, nac yn wir y Llywodraeth a Fforwm Gofal Cymru—a'r hyn y mae angen inni ei wneud yw cael perthynas sy'n cael sgwrs gadarn a gonest. A dyna'r hyn rwy'n credu sydd gennym ni. Nid wyf yn derbyn ei bod wedi bod yn rhy hwyr i ormod o bobl yn y ffordd rydyn ni wedi gweithredu. Byddwn yn gweld y dystiolaeth, a bydd yn rhaid i mi ystyried y dystiolaeth, unwaith y bydd yno, am yr effaith ar y sector hwnnw, am y dewisiadau a wnaed gennym a'r hyn y mae hynny wedi'i olygu o ran helpu i achub bywydau.

Hoffwn, er hynny, atgoffa Mr Isherwood, o ran Betsi Cadwaladr, nad yw'r syniad nad ydyn nhw wedi cyfrannu ceiniog tuag at argyfwng COVID yn wir, nid yn unig o ran y gwaith y maen nhw wedi'i wneud gyda chartrefi gofal a'r profion a ddarparwyd, y ffordd y maen nhw wedi defnyddio adnoddau'r GIG i gefnogi pobl, ond y ffordd y mae Betsi Cadwaladr—yn wir bob rhan arall o'n GIG yma yng Nghymru—wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gadw pobl yn iach, yn ddiogel ac yn fyw, a'r ffordd y byddwn yn galw ar ein gwasanaeth iechyd i wneud hynny eto drwy'r gaeaf nesaf hwn.

Ac, fel y clywsom, mae hwn yn sector sydd wedi cael cefnogaeth fwriadol, ein gwasanaeth iechyd gwladol ni, nid yn unig o ran pobl yn clapio y tu allan i'w drysau, ond yn y gwerthfawrogiad gwirioneddol o'r ymdrechion rhyfeddol a wnaed mewn cyfnod o amser eithriadol. O safbwynt y sector gofal preswyl, mae'n ffaith bod degau o filiynau o eitemau o gyfarpar diogelu personol wedi'u darparu ar gost o fwy na £25 miliwn am ddim i'r sector hwnnw; mae cymorth staffio wedi'i ddarparu gan amrywiaeth o fyrddau iechyd i gefnogi'r sector hwnnw hefyd, gan fod staff wedi cael trafferthion. A byddwn yn parhau yn y ffordd ymarferol iawn honno i helpu'r sector, i ofalu am rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, i gadw cynifer o bobl yn iach ag sy'n bosib, ac i helpu i gadw pobl ledled Cymru, lle bynnag y maen nhw'n byw—i gadw pob un ohonom yn ddiogel.

15:15

Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol sydd i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac mae'r cwestiwn i'w holi gan Alun Davies. 

Y Cyfryngau

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at y polisi cyfryngau a chymorth i'r diwydiant cyfryngau yn dilyn y gyfres ddiweddar o ddiswyddiadau? TQ476

Mae angen i chi—. Ni allwn eich clywed chi o hyd, Gweinidog.

Rydym ni'n dal yn methu—. A, dyna ni. Rydym ni'n eich clywed chi—

Dyna ni. Fe wnes i ddad-dawelu fy hun yn gynharach, ond cefais fy ail-dawelu. Diolch yn fawr.

Rydym ni'n iawn nawr. Reit. Diolch yn fawr i Alun Davies am y cwestiwn. Mae'r sector cyfryngau yn allweddol i ddemocratiaeth mewn unrhyw gymdeithas ac y mae polisi cyfryngau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogi amrywiaeth o fewn y cyfryngau er mwyn sicrhau gwybodaeth gyson i ddinasyddion, ac felly rydym ni'n gresynu am yr holl golli swyddi sydd yn bosib yn y cyfryngau yng Nghymru mewn gwahanol agweddau yn ystod y misoedd nesaf.

Diolch am hynny. Credaf y bydd cytundeb cyffredinol ar draws pob ochr o'r Siambr fod gwasg a chyfryngau rhydd a chadarn yn hanfodol i unrhyw wlad ac unrhyw ddemocratiaeth—cyfryngau sy'n gallu hysbysu, craffu, dal gwleidyddion ar bob ochr i gyfrif, creu llwyfan i ni siarad gyda'n gilydd fel cenedl, adlewyrchu ein hanghenion fel gwlad, a rhannu ein diwylliant a'n hanes gyda'n gilydd. Ond rydym wedi gweld ein gallu i wneud hyn yng Nghymru yn lleihau dros nifer o flynyddoedd ac yn arbennig dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Rydym wedi gweld bod Reach plc yn amsugno gormod o swyddi a chreadigaethau golygyddol a phenderfyniadau golygyddol yng Nghymru i rannau Seisnig o'r system, lle nad oes unrhyw wybodaeth am ein hanghenion na dealltwriaeth o'n democratiaeth. Rydym wedi gweld yr un peth yn digwydd gyda Newsquest a, Llywydd, wrth i mi godi i siarad heddiw, rydym yn clywed bod dros 500 o swyddi'n mynd o fewn y BBC a gwyddom y bydd hynny'n cael effaith ar y BBC yng Nghymru. Byddwn i'n dadlau na fu unrhyw reoleiddio effeithiol ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ers rhai blynyddoedd. Mae corfforaethau cyfryngau preifat yn bodoli i greu gwerth i gyfranddalwyr ac nid i wasanaethu pobl Cymru. Felly, Gweinidog, onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn dweud y Senedd hon hefyd, weithio gyda'i gilydd i greu modelau newydd a fydd yn diwallu anghenion a buddiannau pobl yn y wlad hon—modelau cydweithredol, lle y rhoddwn bobl yn gyntaf yn hytrach na dim ond elw, a lle mae'r cyfryngau'n gwasanaethu ein gwlad ni, ac nid ni'n gwasanaethu eu hanghenion nhw?

Gweinidog, rwyf hefyd yn credu bod angen adolygu Ofcom ar frys. Ers blynyddoedd lawer, mae Ofcom wedi methu Cymru ac wedi methu â sicrhau rheoleiddio darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn effeithiol, ac mae'r methiant hwnnw i'w weld ar ein sgriniau teledu ac yn cael ei glywed ar y radio ddydd ar ôl dydd. Ond, ar yr un pryd, Gweinidog, mae gofyniad, rwy'n credu—efallai drwy'r Senedd hon yn hytrach na thrwy Lywodraeth Cymru—i sicrhau cyllid er mwyn sicrhau bod mynediad sylfaenol i wybodaeth sylfaenol am ein democratiaeth a'r cyfreithiau sy'n bodoli yn y wlad hon. Rwy'n bryderus iawn ac yn pryderu'n fawr am y bobl a fydd yn colli eu bywoliaeth dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf hyn. Mae angen inni estyn allan at y bobl hynny, at y newyddiadurwyr hynny, sydd weithiau'n gwneud ein bywydau mor anghyfforddus ag yr ydym yn ei haeddu. Ond mae angen cyfryngau a gwasg egnïol a hanfodol bob amser i'n dwyn ni i gyd i gyfrif ac i roi gwybod i bobl Cymru am yr hyn sy'n digwydd o ran llywodraethu a chyfreithiau, ond hefyd i'n galluogi ni i fyw bywyd llawn fel cenedl.

15:20

Diolch, Alun. Fedraf i ddim anghytuno ag unrhyw beth sydd wedi ei ddatgan yn y cwestiwn yna. Fy ymateb cyntaf i yw dweud fy mod i wedi gofyn i swyddogion sicrhau ein bod ni'n cael cyfle i gwrdd yn fuan gyda swyddogion yr undeb newyddiadurol yn y de ac yn y gogledd, oherwydd mae cyfryngau Cymru, y papurau megis y Western Mail, papur y Daily Post yn y gogledd—mae hyn i gyd yn cael ei effeithio gan yr hyn y mae'r cwmni yma yn ei fwriadu. Ac felly dwi'n edrych ymlaen at y cyfarfod yna, ac mi wnaf i sicrhau fy mod i'n dod ag adroddiad o unrhyw gyfarfod felly yn ôl i Senedd Cymru, ac felly os oes yna ddymuniad i gael cydweithrediad aml-bleidiol er mwyn ymateb i'r sefyllfa yma, yna rydw i'n gefnogol iawn i hynny. Yn y cyfamser, mae gyda ni gyfraniad rydym ni wedi ei wneud drwy ein cronfeydd unigol yn y Llywodraeth i gefnogi newyddiaduraeth, ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Mae hynny ar raddfa gymunedol, nid ar raddfa genedlaethol.

Mae gennyf nifer o fuddion i'w datgan yma. Rwy'n newyddiadurwr, rwy'n aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, rwyf hefyd yn aelod o'n Senedd genedlaethol sy'n gwerthfawrogi—fel pob un ohonom yma—bwysigrwydd craffu effeithiol ar ein sefydliadau democrataidd, ac rwy'n ddefnyddiwr cyfryngau Cymreig, sy'n gwybod pa mor hanfodol yw hi fod stori Cymru yn cael ei gweld a'i darllen a'i chlywed a'i thrafod gan bobl Cymru. Fe ddylem i gyd fod yn poeni am y syniad bod pileri allweddol newyddiaduraeth yng Nghymru wedi'u huno'n olygyddol â sefydliadau newyddion eraill nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru ac nad ydynt yn canolbwyntio mewn unrhyw ffordd ar Gymru. Rwy'n poeni, wrth gwrs, am yr holl newyddiadurwyr y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, ond rwy'n hynod bryderus am yr hyn y mae'n ei olygu i'n cenedl ni. A wnaiff y Gweinidog bopeth o fewn ei allu i ymyrryd, i bwyso ar Reach i ailfeddwl, i bwyso am bwyslais ganddyn nhw, nid ar dorri a rhedeg efallai, ond ar geisio creu menter newyddion gynaliadwy a gwirioneddol ledled Cymru o fewn eu sefydliad ehangach? Ond hefyd, gyda'r farchnad-os gallwn ei alw'n hynny—sy'n amlwg yn methu yma, a wnaiff addo rhoi fframweithiau a mecanweithiau cefnogi ar waith a all helpu i gynnal lluosogrwydd o ran newyddiaduraeth annibynnol yng Nghymru?

Diolch yn fawr am y cwestiwn yna, Rhun. Mae annibyniaeth newyddiaduraeth, yn gyntaf, yn hollbwysig, ac felly mae gen i wastad wedi bod amheuon am gyfraniad gwladwriaethol neu lywodraethol yn uniongyrchol i'r cyfryngau, oherwydd dwi ddim yn credu bod hynny'n briodol. Dwi wedi cael achos i fod yn gresynu sawl gwaith yn y gorffennol ynglŷn ag amharodrwydd cyfryngau i fod yn annibynnol oddi wrth eu cyllidwyr, ac mae bod yn annibynnol o lywodraeth yr un mor bwysig—yn bwysicach i fi—na bod yn annibynnol oddi wrth Rupert Murdoch, fel yr oedd hi yn y gorffennol. Ac felly, dwi yn ymrwymo i chwilio am ffyrdd amrywiol, ond mae'n rhaid inni geisio gweithredu yn gynt yn y mater yma, a dyna pam dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y swyddogion o undeb y newyddiadurwyr, a dwi hefyd yn ymrwymo i ofyn am gyfarfod gyda phenaethiaid Reach a dwi am sicrhau bod gyda ni o leiaf ddau bapur dyddiol yng Nghymru, yn y de ac yn y gogledd, y Western Mail a'r Daily Post, sydd o leiaf yn bapurau cenedlaethol Cymreig.

15:25

Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn wedi eich clywed chi; roedd y sain braidd yn dawel. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Mae'n dda clywed bod y Dirprwy Weinidog yn mynd i gynnal trafodaethau gyda'r undebau ar y mater hwn, ond nid wyf erioed wedi bod o blaid cael deddfwriaeth ar wahân ar gyfer y cyfryngau, oherwydd er bod gan bapurau newydd lleol a radio lleol a theledu lleol rôl bwysig iawn i'w chwarae, rydym yn dal i orfod dibynnu ar lawer o'r sefydliadau sy'n cael eu cyhoeddi mewn mannau eraill i gael gwybodaeth am y byd yr ydym yn byw ynddo, a hynny ar lefel y DU gyfan. Ond mae'n ffaith drist bod cyfryngau'r DU bellach yn cael eu dominyddu gan ddau sefydliad ac yn cael eu harwain gan bobl y mae eu cymhwyster o ran bod yn addas a phriodol yn sicr yn amheus. Felly, mae'n bwysig sylweddoli bod Reach—y sefydliad sydd bellach yn berchen ar y Western Mail, WalesOnline a'r Daily Post, a llawer o gyfryngau rhanbarthol eraill—yn cael ei ddominyddu gan Richard Desmond, sy'n enwog am iddo wneud ei arian cychwynnol drwy bornograffi a'i berthynas agos iawn ag o leiaf un Gweinidog yn Llywodraeth y DU. Roedd gan y cwmni hwn drosiant o £150 miliwn llynedd ac mae disgwyl y bydd yn dal i fod â throsiant o £100 miliwn, ac eto maen nhw'n diswyddo pobl, ac yn torri swyddi er eu bod wedi defnyddio cynllun cadw swyddi'r coronafeirws. Ac, wrth gwrs, y mogwl cyfryngau arall sy'n dominyddu ein gwasanaethau papur newydd, teledu a thanysgrifio ar-lein yw Rupert Murdoch, ac i'r rhai a wyliodd ran gyntaf y rhaglen ddogfen ar Murdoch neithiwr, cawsom ein hatgoffa gan un cyfrannwr mai prif flaenoriaethau Mr Murdoch yw Rupert Murdoch, Rupert Murdoch, Rupert Murdoch. Mae'r ddau fogwl hyn bellach yn dominyddu'r holl ddiwydiant yn y DU, felly beth all Cymru ei wneud mewn gwirionedd ynglŷn â hyn mewn cydweithrediad â Senedd y DU a Llywodraeth y DU. Mae'n anodd gwybod sut y mae'r DU yn mynd i ymateb o ystyried ei pherthynas agos iawn â Mr Richard Desmond. A tybed beth mae'r Dirprwy Weinidog yn credu y gallwn ni ei wneud i geisio gwneud yn iawn am reoleiddio'r cyfryngau, fel nad ydyn nhw'n creu'r pethau poblogaidd, neis-neis hynny i dynnu sylw pobl oddi ar y dasg bwysig y dylai'r Llywodraeth a'r deddfwrfeydd roi ystyriaeth iddi.

Diolch, Jenny. Nid yw'r cyfryngau, y cyfryngau darlledu, wedi'u datganoli i ni, ac fe wyddoch fy mod i wedi cymryd y safbwynt dros y blynyddoedd nad oeddwn yn barod i weld un rhan o ddarlledu cynhyrchu diwylliannol yn cael ei datganoli, pan nad oedd modd, mewn meysydd eraill, i ni ddylanwadu arnynt. Rwy'n credu bod dau lwybr i'w dilyn yma. Rhaid cael trafodaeth ddifrifol iawn rhwng y Gweinidogion diwylliannol ar draws gwledydd y DU am y modd y mae crynhoad o'r cyfryngau wedi datblygu hyd yn oed mwy o fygythiad i ddemocratiaeth yn y 10 mlynedd diwethaf nag yr oedd cyn hynny hyd yn oed. Felly, fe ddylem ni sicrhau bod mater annibyniaeth y cyfryngau, lluosogrwydd ffynonellau, lluosogrwydd sianelau gwybodaeth yn destun pryder canolog i ni, oherwydd fel y cytunodd pawb sydd wedi siarad am y mater hwn hyd yn hyn arno, mae'n beth hollol allweddol i ddemocratiaeth.

Ond, mae yna agwedd arall hefyd, rwy'n credu, sydd yr un mor bwysig, ac rwy'n falch eich bod wedi sôn am y cysylltiadau rhyngwladol. Rhaid inni ddeall na allwn ddarparu cyfryngau annibynnol priodol yng Nghymru ar sail eu hail-greu o ran goruchafiaeth ranbarthol drawsffiniol, a dyma sy'n digwydd yn yr achos hwn. Felly, rhaid inni ymateb i hyn hefyd. Fel Llywodraeth, mae angen inni gael polisi ar gyfer cyfathrebu sy'n ein galluogi i gael llais clir—llais democrataidd clir—i bob un ohonom sy'n cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru.

15:30
7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

Mae'r ddwy eitem nesaf, 7 ac 8, wedi cael eu tynnu yn ôl.

Felly, eitemau 9 a 10 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, dwi'n cynnig y caiff y Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiadau i grwpio'r rheoliadau hynny? Nac oes.

9. & 10. Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

Felly, dwi'n gofyn i'r Gweinidog Addysg wneud y cynnig yma. Kirsty Williams.

Cynnig NDM7347 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2020.

Cynnig NDM7348 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i siarad am yr ymateb deddfwriaethol a wnaed gennym i bandemig COVID-19 gan ddefnyddio pwerau sy'n gysylltiedig â Deddf Coronafeirws 2020. Fel y gwyddoch chi a phob aelod o'r Senedd, mae'r rhain wedi bod yn amgylchiadau eithriadol, ac maen nhw'n parhau i fod felly, ac mae ein hymateb ni wedi gorfod cydnabod hynny.

Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y camau a gymerwyd wedi bod yn bwyllog ac yn chwim. Rydym wedi rhoi'r amser a'r gofod sydd ei angen ar ysgolion ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig a wneir i ofalu am anghenion dysgwyr hyd a lled Cymru.  

Mae diwygio rheoliadau gofynion y cwricwlwm wedi ein galluogi ni i gyflwyno hysbysiad sy'n datgymhwyso, dros dro, ofynion sylfaenol y cwricwlwm a'r trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir a gyllidir. Lluniwyd y gofynion statudol hyn i'w cyflwyno mewn amgylchedd ffurfiol yr ystafell ddosbarth, ac maen nhw wedi'u datgymhwyso i roi'r gofod a'r hyblygrwydd i ymarferwyr ganolbwyntio ar iechyd a lles dysgwyr, a'u paratoi i ail-ymgysylltu â dysgu. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi cyngor ar ddysgu ac addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu ar gyfer gweddill tymor yr haf.  

Efallai'n llai amlwg, ond serch hynny, yr un mor bwysig, mae newidiadau wedi eu gwneud i'n galluogi ni i gyflwyno hysbysiadau sy'n addasu'r cod trefniadaeth ysgolion, fel y gall cynigion trefniadaeth ysgolion barhau hyd yn oed pan fo ysgolion ar gau oherwydd y coronafeirws—er enghraifft, unrhyw sgil-effeithiau ar gyllid neu'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a allai fod wedi eu heffeithio gan COVID. 

Rydym hefyd wedi gwneud hysbysiad arall sy'n datgymhwyso rhan o'r newidiadau i reoliadau amserau sesiynau ysgolion. Mae hyn yn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i wneud y newid angenrheidiol i amseroedd dechrau a gorffen y diwrnod ysgol yn gyflym, fel eu bod wedi gallu darparu'n ddiogel ar gyfer mwy o ddysgwyr i ailgydio, dal i fyny a pharatoi yn eu hysgolion eu hunain y tymor hwn.

Cwblhawyd yr holl gamau hyn gyda chymorth a chydweithrediad rhai o'n rhanddeiliaid allweddol. Mae cydweithwyr ar hyd a lled Cymru, mewn awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, awdurdodau esgobaethol a chyrff llywodraethu ysgolion, yn ogystal â rhieni, plant a phobl ifanc, wedi bod yn allweddol yn ein hymateb. Byddwn i'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Senedd.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw, yn gyntaf.

Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y ddwy set hyn o reoliadau yn diwygio paragraff 7 (5) o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafeirws 2020, i ychwanegu nifer o ddarpariaethau cyfreithiol presennol mewn deddfwriaeth sy'n ymwneud ag addysg gynradd ac addysg uwchradd at y rhestr o ddarpariaethau statudol y gall Gweinidogion Cymru eu datgymhwyso am gyfnod penodol drwy hysbysiad oherwydd argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus COVID-19. Cafodd ein hadroddiadau ar y rheoliadau hyn eu darparu gyda'r agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw.

O ran y set gyntaf o reoliadau, y cyfeiriaf atynt, er hwylustod, fel rheoliadau gofynion y cwricwlwm, mae'r rhain wedi bod mewn grym ers 23 Mehefin 2020. Nododd ein hadroddiad nad oedd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol wedi digwydd cyn cyflwyno'r rheoliadau, ac nad oedd asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gwblhau chwaith.

Hoffwn i hefyd dynnu sylw'r Aelodau at Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020, a gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg ar 23 Mehefin 2020 i gyd-fynd â rheoliadau gofynion y cwricwlwm. Mae'r hysbysiad yn fath o is-ddeddfwriaeth, ond yn un nad oes yn rhaid ei gosod gerbron y Senedd. Er hynny, mae ein Pwyllgor ni'n ceisio monitro'r mathau eraill hyn o is-ddeddfwriaeth sy'n cael eu gwneud, ac felly rydym hefyd wedi cyflwyno adroddiad ar yr hysbysiad o dan Reol Sefydlog 21.7.

Mae'r hysbysiad yn datgymhwyso darpariaethau amrywiol a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r cwricwlwm yng Nghymru. Fel yr amlygir yn ein hadroddiad ni, mae anghysondeb o ran y cyfnod y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo. Mae'r dyddiadau yn yr hysbysiad ei hun yn wahanol i'r dyddiadau a oedd wedi'u darparu yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Addysg a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r hysbysiad. Ond rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog ar y mater hwn, ac efallai y gallai'r Gweinidog roi sylw i'r mater hwn yn ei sylwadau cloi os oes modd.

Gan droi at yr ail set o reoliadau sy'n cael eu trafod heddiw, y byddaf i'n eu galw'n rheoliadau ysgolion a gynhelir, daeth y rhain i rym ar 25 Mehefin. Ar y pwynt hwn, hoffwn i dynnu sylw at fater cyfansoddiadol pwysig. Daeth y Rheoliadau hyn i rym cyn eu gosod gerbron y Senedd. Nawr, caniateir hyn, ond mae'n anarferol.

Gan droi at y materion penodol a godwyd yn ein hadroddiad ar reoliadau ysgolion a gynhelir, rydym ni unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol cyn gwneud y rheoliadau, ac na chwblhawyd asesiad effaith rheoleiddiol chwaith.

Yn ein hadroddiad, rydym hefyd yn gwneud pum pwynt adrodd technegol sy'n ymwneud â drafftio'r rheoliadau. Cawsom ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau hyn ddydd Llun, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ac rwy'n cydnabod barn y Llywodraeth ar bob mater a godwyd. Diolch, Llywydd.

15:35

Er mwyn ei gwneud yn glir, byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau hyn, ond roeddwn i eisiau codi'r mater hwn o amseru eto i weld a oes modd inni gael symud ymlaen rywfaint ar hyn. Nodais sylwadau cynharach y Trefnydd, ac rwy'n gofyn am gefnogaeth y Gweinidog i ddilyn hynny.

Cafodd y set gyntaf o'r rheoliadau hyn o dan Ddeddf Coronafeirws eu gwneud fore dydd Llun 22 Mehefin ac, fel y clywsom, roedden nhw wedi caniatáu i Weinidogion gyhoeddi'r hysbysiad yn datgymhwyso'r sefyllfa arferol o ganlyniad i COVID. Rydym ni'n eu cefnogi gan eu bod yn diogelu athrawon a llywodraethwyr, wrth gwrs, rhag canlyniadau methiannau i gyflawni dyletswyddau statudol ar gyflenwi yn ystafelloedd dosbarth ysgolion. Mae'r cyfnod yr hysbysiad yn cwmpasu, yn y pen draw, y cyfnod o 24 Mehefin i 23 Gorffennaf, gan gynnwys unrhyw ysgolion a fydd yn cynnig pedwaredd wythnos o leiaf hyd at ddydd Iau nesaf. Fodd bynnag, mae'n 15 o Orffennaf heddiw ac, fel y gwyddom, mae nifer sylweddol o gynghorau wedi dweud wrth eu hysgolion i orffen yn ystod y ddau ddiwrnod nesaf.  

Ni ddaeth y rheoliadau hyn gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad tan 6 Gorffennaf. Ni wn pam na wnaethon nhw ddod ger ein bron ar 29 Mehefin, ond rydym wedi cael naw diwrnod arall rhwng y cyfarfod hwnnw a'r cyflwyno heddiw, a chanlyniad hynny yw ein bod wedi cael cyfraith a wnaed gan y Llywodraeth, nid cyfraith a wnaed gan y Senedd, mewn grym am bron yr holl gyfnod lle'r oedd yn fwriad i'r athrawon a'r llywodraethwyr elwa ar hyn.

Fel y clywsom, ni wnaed unrhyw asesiadau effaith, ac nid ydym wedi cael ymgynghoriad ffurfiol. Felly, mae cyfraith wedi bod mewn grym ers wythnosau na chafodd ei gwneud gan ddeddfwyr y genedl hon. Efallai fod Alun Davies a Dai Lloyd yn poeni ynghylch pwerau'r Senedd yn cael eu colli i San Steffan, ond rydw i'n poeni hefyd am faint o bwerau yr ydym ni'n eu colli i Lywodraeth Cymru.  

Yr hyn yr wyf i'n gofyn amdano, Llywydd, yw bod deddfwriaeth gadarnhaol yn cael ei chyflwyno i'w thrafod a'i chadarnhau gan y Senedd cyn i ddiben y ddeddfwriaeth honno ddod i ben. Ac rwy'n gofyn bod Llywodraeth Cymru yn ystyried symud ei chyfnod adolygu tair wythnos ymlaen ychydig ddyddiau—nid wyf yn credu bod y Ddeddf yn atal hynny—fel y gallant wneud a gosod rheoliadau ychydig ddyddiau ynghynt. Ac felly byddai gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o leiaf gyfle i graffu arnyn nhw ar y dydd Llun canlynol, yn hytrach na mwy nag wythnos yn ddiweddarach, ac y gallem ni hyd yn oed gael y ddadl yn y cyfarfod llawn ar yr un wythnos â chyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, fel sy'n digwydd gyda'r ail set o reoliadau ger ein bron heddiw. Ond fel y dywedodd Mick Antoniw, cafodd yr ail set o reoliadau eu gwneud a'u gosod a daethant i rym erbyn 25 Mehefin—sawl wythnos yn ôl.

15:40

Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i Mick Antoniw a Suzy Davies am eu sylwadau y prynhawn yma? Mick, byddwch chi'n ymwybodol eich bod yn gywir o ran yr anghysondeb, ac rwy'n ymddiheuro am hynny. Mae'r gwall yn anffodus yn wir, o gofio bod yr hysbysiad wedi'i gynllunio i gyd-fynd â diwedd tymor yr haf ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion a lleoliadau. Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod angen eglurhad pellach arnom ni, ond rwy'n ymddiheuro am y camgymeriad.

Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Suzy Davies i'r rheoliadau a'r gydnabyddiaeth eu bod yn cael eu cyflwyno i ddiogelu ysgolion unigol, penaethiaid a chyrff llywodraethu yn yr ystyr ei bod wedi bod yn amhosib iddyn nhw, yn ystod y tair wythnos hyn—ac mewn rhai achosion bedair wythnos—i gymhwyso'r cwricwlwm llawn, yn enwedig gan ein bod wedi bod yn awyddus iawn iddynt ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar les y plant, eu hiechyd meddwl a'u parodrwydd i ddysgu. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes gweithgareddau'r cwricwlwm yn digwydd mewn ysgolion hyd a lled Cymru. Ond rwy'n ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth bod hyn yn cael ei wneud i ddiogelu cyrff llywodraethu.

Rwy'n ymwybodol bod trafodaethau'n parhau rhwng y Trefnydd, y Llywydd a'r Pwyllgor Busnes ynghylch amserlennu'r dadleuon hyn yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd y rheini'n dod i gasgliad cyflym a boddhaol. Ond, i gloi ar y rheoliadau sydd ger ein bron y prynhawn yma, rwy'n fodlon bod y rheoliadau hyn a'r hysbysiadau statudol yn bodloni'r profion gofynnol o fod yn briodol ac yn gymesur, o ystyried y sefyllfa ddigynsail yr ydym ynddi. Ac rwy'n hyderus y bydd y Senedd yn eu cefnogi. Diolch. 

Y cwestiwn cyntaf, felly, yw: a ddylid cytuno ar Reoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid cytuno ar Reoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020? A oed unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020

Eitem 11 yw'r eitem nesaf ar yr agenda, sef Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7346 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r rheoliadau hyn i'r Senedd eu cymeradwyo. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffi'n cael ei thalu i'r awdurdod cynllunio lleol pan fo ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig yn cael eu cyflwyno. Diben y ffioedd yw bod awdurdodau cynllunio lleol yn adennill eu costau ar gyfer penderfynu ar y mathau hyn o geisiadau.

Cafodd lefelau'r ffioedd presennol eu diweddaru yn 2015. Ers hynny, mae newidiadau polisi deddfwriaethol a newidiadau gweithdrefnol amrywiol wedi digwydd yn ogystal â chwyddiant. O ganlyniad, mae lefelau presennol y ffioedd yn symud awdurdodau cynllunio lleol ymhellach oddi wrth adennill eu costau. Fodd bynnag, mae angen sicrhau cydbwysedd a fydd yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol adennill mwy o'u costau heb rwystro ymgeiswyr posib rhag bod yn rhan o'r system gynllunio drwy godi lefelau ffioedd yn sylweddol.

Bydd y diwygiadau a fydd yn cael eu gwneud gan y rheoliadau hyn yn cynyddu ffioedd tua 20 y cant yn gyffredinol, gyda rhai eithriadau. Rwy'n credu bod y cynnydd hwn yn creu'r cydbwysedd cywir a'i fod o fudd i awdurdodau cynllunio lleol a darpar ymgeiswyr. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn cyflwyno ffi i benderfynu ar geisiadau am dystysgrifau ar gyfer datblygiad priodol arall. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn sicrhau y gall awdurdodau cynllunio lleol dalu eu costau ar gyfer yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i benderfynu ar geisiadau o'r fath nad ydyn nhw'n denu ffi ar hyn o bryd.

Rwyf i o'r farn y bydd y gwelliannau hyn o fudd i bawb sy'n ymwneud â'r broses ceisiadau cynllunio drwy alluogi awdurdodau cynllunio lleol i wella'r modd y maen nhw'n darparu gwasanaethau i ymgeiswyr drwy gyhoeddi penderfyniadau amserol ac o ansawdd gwell. Diolch.

Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad er budd yr Aelodau. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y rheoliadau hyn. Wrth edrych drwy'r memorandwm esboniadol, gallaf ddeall y rhesymeg y tu ôl i benderfyniad y Gweinidog, gan nad yw'r ffioedd hyn wedi cynyddu ers 2015. Byddai cyflwyno cynnydd o 20 y cant yn y cyd-destun presennol yn ymddangos yn eithriadol o lym wrth inni geisio annog ceisiadau bach, yn enwedig gan fusnesau adeiladu bach ac efallai unigolion sydd eisiau rhoi estyniad bach ar eu tŷ, a fyddai'n gorfod talu'r ffi uwch.

Rwy'n sylwi hefyd, o'r memorandwm esboniadol, fod ond disgwyl y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei gadw o fewn adrannau cynllunio yn hytrach na'i glustnodi, fel y byddai unrhyw gynnydd mewn incwm yn aros o fewn yr adran i wella'r perfformiad.

Hefyd yn y memorandwm esboniadol, mae'r Gweinidog yn tynnu sylw'r Aelodau at lefel yr ymgynghori a'r ymatebion a ddaeth i law. Rwy'n nodi, o'r 59 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynnydd, fod 41 o'r ymatebion naill ai gan asiantaethau'r Llywodraeth neu gan awdurdodau lleol, a dim ond pedwar ymateb oedd gan aelodau o'r cyhoedd. Rwy'n credu bod hyn yn gosod cynsail peryglus ar gyfer meysydd eraill o incwm rheoledig, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n edrych ar eu strwythur ffioedd, a byddai gosod y meincnod ar 20 y cant yn ymddangos yn ormod ar hyn o bryd. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn derbyn bod cost i gynllunio, ac ar hyn o bryd mae'r gost honno'n cael ei chyflawni fel 60 y cant o gost 100 y cant. Ond byddai cynnydd o 20 y cant mewn costau ar hyn o bryd yn ymddangos yn ormod ac, felly, fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn ni'n ymatal ar y rheoliadau hyn.

15:45

Wel, hoffwn i ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei sylwadau. Rwy'n deall ei safiad, ond mae'r rheoliadau a'r strwythur ffioedd sydd wedi'u nodi ynddo yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr angen i gyflwyno ceisiadau a'r angen i awdurdodau lleol allu talu eu costau. Ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae hwn yn gynnydd o 20 y cant. Ond hwn yw'r cynnydd cyntaf ers 2015, ac nid yw'n golygu y bydd awdurdod lleol yn adennill costau'n llawn. Felly, fe wyddoch, mae'n sefyllfa o gyfaddawdu rhwng hynny, ac nid yw'n cynyddu'r holl ffioedd chwaith.

Felly, mae'r ffioedd sy'n cael eu rhagnodi ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio yn aros yr un fath, er enghraifft, ac mae hynny wedi'i seilio i raddau helaeth ar y ffaith bod y ffioedd hynny yn seiliedig ar strwythur a sylfaen dystiolaeth a sefydlwyd yn fwy diweddar ac felly maen nhw'n fwy priodol. Felly, rydym wedi ystyried yn ofalus y pwyntiau y mae Andrew R.T. Davies yn eu gwneud, ac yn ein barn ni dyma'r strwythur gorau ar gyfer adfer o COVID-19 ac ar gyfer adnoddau parhaus yn adrannau cynllunio'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a dwi fod i ddweud, cyn gofyn i'r Gweinidog i gyfrannu, dwi fod i ddweud—. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud datganiad ynghylch cydsyniad y Frenhines, yn unol â Rheol Sefydlog 26.67. Galw ar y Gweinidog, felly—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Mewn gorchymyn gan ei Mawrhydi y Frenhines gallaf hysbysu'r Senedd bod ei Mawrhydi, ar ôl cael gwybod am ddiben Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), wedi rhoi cydsyniad i'r Bil hwn.

Na, mae'n ddrwg gen i.

Andrew R.T. Davies, mae'n ddrwg gennyf, mae angen i'r Gweinidog yn awr gynnig y cynnig yn ogystal â rhoi gwybod inni am gydsyniad ei Mawrhydi. Felly, y Gweinidog ddylai siarad, a byddaf i'n galw arnoch chi nesaf, Andrew R.T. Davies. Ymddiheuriadau.

Cynnig NDM7357 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, a chynigiaf y cynnig. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl y prynhawn yma ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), yn dilyn cwblhau cyfnod 3 yr wythnos diwethaf.

Cyflwynais i'r Bil hwn ychydig dros flwyddyn yn ôl. Ei ddiben yw mynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Er mwyn gwneud penderfyniad moesegol sy'n adlewyrchu barn pobl Cymru, rwyf wedi ystyried barn gyffredinol y cyhoedd ar y mater hwn. Cafodd y broses o ddatblygu'r Bil ei llywio gan ymgynghoriad a ddenodd dros 6,500 o ymatebion. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn drosedd i ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol. Rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad a rhannu eu syniadau ar y mater hwn.

Mae syrcasau yn weithrediadau masnachol sy'n bodoli i ddarparu adloniant. Mae'r math hwn o adloniant sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt yn hen-ffasiwn. Mae anifeiliaid gwyllt yn fodau byw sydd â theimladau ac mae ganddynt anghenion cymhleth . Ni ddylid eu trin fel gwrthrychau israddol na'u hystyried yn bethau ar gyfer ein difyrrwch. Dylai plant yn arbennig gael eu diogelu rhag profiadau negyddol ac anghywir a allai ddylanwadu ar sut y maen nhw'n credu bod anifeiliaid yn ymddwyn a sut y dylen nhw gael eu trin. Rwyf eisiau i'n pobl ifanc dyfu i fyny gydag agweddau parchus a chyfrifol tuag at bob rhywogaeth.

Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at gael y Bil i'r cam hwn, gan ddechrau gyda thîm bach, ond hynod ymroddgar, y Biliau yn Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol sydd, gyda chefnogaeth cydweithwyr ledled y Llywodraeth, wedi gweithio'n ddiflino. Rwyf hefyd yn dymuno cydnabod y lobïo penderfynol gan unigolion a sefydliadau trydydd sector ar y mater hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau ac Aelodau'r Senedd am eu hystyriaeth a'u gwaith craffu ar y Bil ac i staff Comisiwn y Senedd am eu cefnogaeth ym mhroses y Bil.

Hoffwn i ddiolch yn arbennig i gynrychiolwyr sefydliadau ac unigolion a roddodd o'u hamser i ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Roedd y rhain yn cynnwys Cymdeithas Milfeddygon Prydain, People for Ethical Treatment of Animals, RSPCA Cymru, academyddion a chynrychiolwyr y diwydiant syrcas. Roedd cryfder y teimladau am y pwnc emosiynol hwn, ar ddwy ochr y ddadl, yn amlwg yn ystod y sesiynau tystiolaeth hynny. Adlewyrchwyd hyn hefyd yn ystod y sesiynau craffu yr oeddwn i'n bresennol ynddynt a'r dadleuon a gawsom ni yma yn y Senedd. Mae anghytundeb wedi bod ynghylch cwmpas y Bil, ei ddarpariaethau a'i ddiffiniadau. Er hynny, rwy'n credu ei bod yn wir dweud bod cryn dipyn o gonsensws ymhlith yr Aelodau ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni gyda'r Bil hwn.

Bydd y Bil, os daw'n gyfraith, yn cael ei orfodi gan awdurdodau lleol. Ychydig iawn fydd yr effaith ar awdurdodau lleol, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â'r gwaharddiad. Byddwn i'n disgwyl, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, y byddai'r drosedd o ddefnyddio anifail gwyllt yn amlwg i'r cyhoedd. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i lunio canllawiau a byddaf i'n ymgynghori ag awdurdodau lleol ynghylch datblygu'r canllawiau hynny.

Mae'n hen bryd gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru a bydd hyn yn caniatáu dull gweithredu cyson ledled Prydain Fawr. Gwaharddodd  Llywodraeth yr Alban hyn yn 2018, a daeth gwaharddiad yn Lloegr i rym yn gynharach eleni. Os caiff ei basio heddiw, ac yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, bydd y Bil yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Bydd pasio'r Bil hwn yn gam sylweddol ymlaen i anifeiliaid gwyllt yng Nghymru a thu hwnt, ac rwy'n annog yr Aelodau i'w gefnogi heddiw. Diolch yn fawr.

15:50

Gweinidog, diolch am eich datganiad agoriadol ar drafodion Cyfnod 4. Rydym ni'r Ceidwadwyr Cymreig, yn falch o gefnogi cynnydd y Bil i fod yn gyfraith. Mae'n ffaith, er hynny, mai Cymru, yn anffodus, yw'r rhan olaf o'r Deyrnas Unedig i roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith, ac yn hytrach nag arwain ar hyn, rydym wedi dilyn yr hyn, fel y dywedasoch yn eich sylwadau, y mae'r Alban a Lloegr eisoes wedi'i wneud. Ond, gobeithio, gyda'r 6,000 o ymatebion hynny, y bydd pobl yn hyderus nawr y bydd y ddeddfwriaeth a ddaw i rym wrth i'r Cydsyniad Brenhinol gael ei gyflawni yn amddiffyn anifeiliaid gwyllt rhag teithio gyda syrcasau ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.

Hoffwn i gofnodi fy niolch i staff y pwyllgor ac i'r tystion a ddaeth ger ein bron ar ddwy ochr y ddadl a rhoi tystiolaeth mor ardderchog inni, ac yn arbennig y staff a ddarparodd ymchwil o safon i'w thrafod yn y maes penodol hwn. Rwy'n credu y byddai wedi bod modd cryfhau'r Bil pe bai'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym, ynglŷn â hyfforddiant a phobl cymwys yn cynnal profion a samplau o unrhyw anifeiliaid lle mae anghydfod, wedi'u hymgorffori o fewn y darn terfynol o ddeddfwriaeth. Ond rwy'n parchu safbwynt y Gweinidog, ac mae ganddi hi'r hawl i dderbyn y gwelliannau hynny neu beidio.

Rhaid inni gofio na fydd y Bil hwn ond yn effeithio ar oddeutu cyfanswm o 19 o anifeiliaid, sydd ar hyn o bryd yn teithio gyda dwy syrcas benodol. Ond nid yw hynny'n golygu, pe na fyddai'r Bil hwn wedi ei roi ar waith, na fyddai mwy o anifeiliaid yn dioddef drwy deithio gyda syrcasau. Felly, mae'n bwysig bod mesurau gorfodi yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn teimlo'n hyderus y dylen nhw, yn y dyfodol, ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon, a'u bod yn gallu gwneud hynny, a'i defnyddio'n effeithiol. Rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn mynd i bleidlais ac, yn y pen draw, yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Awst.

Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Bil yma y prynhawn yma. Mae ymrwymiad wedi bod gan Blaid Cymru, wrth gwrs, i ddeddfu ar y mater yma ers nifer o flynyddoedd ac mae'n dda gweld y bydd hynny yn cael ei wireddu heddiw.

Mi wnaf innau hefyd ategu'r diolchiadau i bawb sydd wedi chwarae eu rhan, drwy'r pwyllgor yn enwedig, i sicrhau bod y Bil yn cyrraedd y llyfr statud, gobeithio, mewn ychydig o amser. Yr unig beth sydd yn gadael blas cas yn y geg, efallai, yw'r ffaith ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gyrraedd fan hyn. Mi oedd yna ddatganiad o farn nôl yn 2006—efallai y bydd rhai Aelodau a oedd yma ar y pryd yn cofio hynny—ac mi gymerodd hi wedyn tan 2015 i Lywodraeth Cymru gytuno nad oes lle i'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mi oedd Cymru ar flaen y gad bryd hynny, ond ers hynny, fel rŷn ni wedi clywed, mae'r arafwch wedi golygu bod yr Alban wedi deddfu, Gweriniaeth Iwerddon wedi deddfu, Lloegr wedi deddfu, a heddiw, wrth gwrs, rŷn ni ar ei hôl hi, ond yn cyrraedd y pwynt lle rŷn ni'n deddfu, oherwydd wrth gwrs mae yna risg y byddai Cymru wedi dod yn rhyw fath o hafan i syrcasau sydd am ddefnyddio anifeiliaid gwyllt ym Mhrydain petaem ni ddim yn cymryd y cam yma y prynhawn yma.

Nawr, mae sgôp y Ddeddf yn fwy cyfyng na buaswn i'n ei ddymuno, wrth gwrs. Mae'n ffocysu yn unig ar wahardd perfformio ac arddangos anifeiliaid. Mi drion ni ei hehangu i gynnwys gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag teithio gyda syrcasau, ac mi fyddai hynny wedi bod yn fwy triw i'r datganiad o farn y gwnes i gyfeirio ato fe nôl yn 2006, a oedd yn dweud, a dwi'n dyfynnu,

'nad yw natur dros dro'r cludiant, y llety na’r cyfleusterau ymarfer yn gallu darparu’r lle a’r cyfoethogiad sydd ei angen ar yr anifeiliaid hyn.'

Mae hynny yn parhau'n wir, ac mi fydd e'n medru parhau hyd yn oed ar ôl pasio'r Ddeddf yma, ond mae'r Ddeddf sydd ger ein bron ni yn well na pheidio â chael unrhyw Ddeddf o gwbl yn y cyd-destun hwn.

Mae'n glir, fel rŷn ni wedi clywed, fod y cyhoedd eisiau deddfu, mae Plaid Cymru yn awyddus i ddeddfu, a gobeithio y bydd y Senedd yma o'r diwedd hefyd yn deddfu er mwyn gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yma yng Nghymru.

15:55

Y Gweinidog i ymateb i'r cyfraniadau—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd, a hoffwn ddiolch i Andrew R.T. Davies a Llyr Huws Gruffydd am eu cyfraniadau. Er fy mod i'n sylweddoli eu bod nhw'n siomedig na dderbyniwyd eu gwelliannau, gallaf eu sicrhau nhw, ynghyd â'r holl Aelodau, yn enwedig aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig dan gadeiryddiaeth Mike Hedges, eu bod nhw wedi gwneud nhw wedi gwneud y ddeddfwriaeth hon yr hyn ydyw, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth pawb. Diolch.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, a felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Dadl: Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20 mya yng Nghymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. 

Sy'n dod â ni i'r ddadl ar gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru. Dwi'n pwyllo oherwydd dwi nawr yn gweld bod y Dirprwy Weinidog economi yma, a dwi'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno'r cynnig. Lee Waters.

Cynnig NDM7355 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.

2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.

3.  Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.

4.  Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cafodd wythdeg o blant eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer—80 o blant, 80 o deuluoedd na fydd eu bywydau byth yr un fath eto. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd o ran lleihau nifer y marwolaethau ar ein ffyrdd yn ystod yr 21 mlynedd o ddatganoli, er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol, mae 4,000 o ddamweiniau o hyd sy'n arwain at anafiadau bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae'r dystiolaeth yn glir: mae lleihau cyflymder yn lleihau damweiniau. Mae lleihau cyflymder yn achub bywydau, ac mae cyflymderau arafach yn ein cymunedau yn gwella ansawdd bywyd hefyd. Yn ôl arolwg troseddu Prydain, traffig yn goryrru sy’n cael ei ystyried y broblem wrthgymdeithasol fwyaf difrifol. O'r 16 o enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol y gofynnwyd i bobl eu graddio, fe wnaeth bob demograffig raddio mai traffig yn goryrru yw'r broblem fwyaf mewn cymunedau lleol. Mae ofn traffig ar frig rhestr pryderon rhieni hefyd, ac mae plant heddiw yn cael eu cadw yn nes at adref nag yr oeddem ni, sy’n lleihau eu hannibyniaeth a'u rhyddid i grwydro ac sy'n arwain at y cylch diddiwedd o berygl cynyddol wrth i fwy o bobl yrru eu plant i'r ysgol, gan gynyddu anghydraddoldebau iechyd hefyd. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, mae nifer y marwolaethau ymhlith cerddwyr sy’n blant bedair gwaith yn uwch mewn cymdogaethau difreintiedig nag mewn rhai cefnog.

Nid yw'r dull gweithredu hyd yma wedi arwain at y canlyniadau yr hoffem ni eu gweld. Mae'r broses y mae'n rhaid i awdurdodau lleol fynd drwyddi i ostwng y terfynau—y gorchmynion rheoleiddio traffig—yn araf, yn gymhleth ac yn gostus. Er gwaethaf miliynau o bunnau o fuddsoddiad, dim ond tua 1 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd sy'n destun terfyn cyflymder o 20mya.

Heddiw rydym ni'n cyhoeddi adroddiad y tasglu 20mya, a'r briff a osodais i'r tasglu oedd gweithio yn agos gyda'r rhai hynny a fydd yn gyfrifol am roi’r gyfraith newydd hon ar waith i feddwl am ddull a fydd yn gweithio yn ymarferol. Rwy'n hynod ddiolchgar i Phil Jones am arwain y darn sylweddol hwn o waith dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n nodi'n systematig y rhwystrau rhag rhoi’r newid sylweddol hwn ar waith ac yn defnyddio profiad yr heddlu, awdurdodau lleol, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i lunio ffyrdd trwodd.

Mae adroddiad y tasglu yn argymell troi'r broses bresennol ar ei phen er mwyn sicrhau, yn hytrach na bod terfyn cyflymder diofyn o 30mya a bod angen i gymunedau gyflwyno'r achos i fynd yn is, mai 20mya fydd y terfyn cyflymdra diofyn, ac y bydd angen gwneud achos i fynd yn uwch. Mae'r newid hwn i’r terfyn cyflymder diofyn yn ffordd gost-effeithiol o ostwng y terfyn cyflymder ar holl ffyrdd preswyl Cymru. Gyda Trafnidiaeth Cymru, mae'r tasglu wedi datblygu arf mapio, sy'n awgrymu'r ffyrdd a ddylai newid ac a fyddai'n darparu'r man cychwyn ar gyfer trafodaeth gyda chymunedau lleol. Yn hanfodol, Llywydd, cymunedau ac awdurdodau lleol a fydd yn penderfynu pa ffyrdd a ddylai aros ar 30mya. Gyda chefnogaeth y Senedd heddiw, byddwn yn mireinio'r dull hwn yn fwy trwy'r ardaloedd braenaru, lle byddwn yn treialu ac yn addasu wrth i ni fynd. Nid ydym yn disgwyl i gyflymder ostwng i 20mya dros nos. Bydd yn cymryd amser i newid ymddygiad. Ond mae hyd yn oed gostyngiad o 1 y cant mewn cyflymderau cyfartalog yn debygol o arwain at ostyngiad o 6 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu hanafu.

Byddwn yn disgwyl i'r gyfraith gael ei gorfodi. Cafwyd cynrychiolaeth gan yr heddlu ar y tasglu, ac rwyf i wedi cael trafodaethau calonogol gyda chomisiynwyr yr heddlu. Ond mae'r tasglu hefyd yn awgrymu cyfres o ffyrdd o roi hwb i ymddygiad, hefyd. Er enghraifft, mae'r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dwyn perswâd ar sefydliadau yr ydym yn eu hariannu i sicrhau bod eu cerbydau yn cadw at 20mya er mwyn creu dosbarth o geir gosod cyflymder, a fydd wedyn yn creu effaith gynyddol. Dros amser, bydd hyn yn dod yn norm. Yn union fel ysmygu mewn bwytai neu roi organau, rwyf i wedi fy argyhoeddi y caiff hyn ei ystyried yn synnwyr cyffredin yn fuan. Mae hyn yn ymwneud gymaint â newid calonnau a meddyliau ag â gorfodi caled, a byddwn yn datblygu ymgyrch gyfathrebu sydd wedi ei gwreiddio mewn gwerthoedd i gyflwyno'r achos dros newid.

Hoffwn i dalu teyrnged arbennig i Rod King o'r ymgyrch 20’s Plenty am ei waith penderfynol dros flynyddoedd lawer i greu clymblaid dros newid. Roedd fy nghyfarfod cyntaf fel Gweinidog gydag ef a fy nghydweithiwr, John Griffiths, i drafod sut y dylem ni weithredu addewid Mark Drakeford i annog rhagdybiaeth o derfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl. Mae John, hefyd, wedi bod yn hyrwyddwr gwirioneddol o'r agenda hon, ac mae wedi bod yn agenda drawsbleidiol, Llywydd, gyda chefnogaeth gan bob rhan o'r Siambr ers blynyddoedd lawer. Yn y tymor Senedd hwn yn benodol, y mae wedi cael cefnogaeth frwd gan David Melding, Jenny Rathbone, Joyce Watson ac eraill, ac rwy'n gobeithio y gallwn gynnal sail drawsbleidiol y gefnogaeth. Yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n hapus i dderbyn gwelliant Plaid Cymru i'r cynnig heddiw. Mae yn iawn cydnabod bod angen adnoddau priodol ar yr asiantaethau gorfodi i ymateb i'r newid. Ac mae hynny yn rhywbeth y bydd y Senedd yn dymuno ei ystyried wrth iddi bennu cyllidebau'r dyfodol.

Bydd y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth—achub bywydau, atal damweiniau drud, gwella iechyd meddwl a chorfforol, a chryfhau ffabrig cymunedol, sy’n fwy anniriaethol ond yr un mor werthfawr. Fodd bynnag, mae angen cael llawer o fanylion yn gywir yn gyntaf, Llywydd, ac nid ydym yn mynd i ruthro pethau. Rydym ni'n awyddus i wneud pethau yn iawn. Rydym ni’n bwriadu rhoi hyn ar waith yn llawn yn 2023. Cyn hynny, gyda chefnogaeth y Senedd, bydd angen i ni roi 21 argymhelliad manwl y tasglu ar waith. Rydym ni’n derbyn pob un ohonyn nhw a byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r heddlu i'w rhoi ar waith gyda'n gilydd. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr holl bleidiau i ddechrau'r broses hon. Diolch.

16:00

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i gynnig y gwelliant hwnnw, gwelliant 1. Siân Gwenllian. 

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn fodlon derbyn gwelliant Plaid Cymru—dechrau da iawn i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'n gwelliant ni yn ymwneud efo gorfodaeth ac yn galw ar y Llywodraeth i osod allan ei chynigion o ran gorfodaeth ac o ran adnoddau i'r asiantau gorfodaeth fel rhan o'r ymgynghoriad fydd yn digwydd. 

Mi ydym ni o blaid cyflwyno cyfyngiadau 20 mya ac o blaid cynyddu'r nifer o barthau 20 mya, yn enwedig o gwmpas ysgolion, ond hefyd mewn stadau tai ac mewn rhannau eraill o gymunedau. Ond mae'r cwestiwn o orfodaeth yn un pwysig ac yn un sydd angen ei gyfarch a'i ateb. Ar hyn o bryd, dydy'r cyfyngiadau cyflymder 20 mya ddim yn cael eu gweithredu mewn ffordd broactif, a dweud y gwir. Mae camerâu GanBwyll/GoSafe yn cael eu targedu i leoliadau lle mae nifer uchel o bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd, a hynny'n ddealladwy, mae'n debyg, ond mi ddylai Llywodraeth Cymru rŵan, er mwyn gwneud y cyfyngiadau yma yn effeithiol, weithio efo'r comisiynwyr heddlu a throsedd, a gyda'r cynllun GanBwyll sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, er mwyn cytuno sut i addasu'r gyfundrefn gorfodaeth er mwyn i'r cyfyngiadau 20 mya fod o werth gwirioneddol. Dwi'n falch o ddeall fod Arfon Jones, comisiynydd yr heddlu Plaid Cymru dros y gogledd, wedi cychwyn creu arolwg yn yr ardal yma o sut yn union y byddai'r cyfyngiadau yma yn gweithredu. 

O drafod efo cydweithwyr mewn llywodraeth leol, maen nhw hefyd yn teimlo fod yr elfen gorfodaeth yn hanfodol i lwyddiant y fenter yma, ac os nad ydy'r lefel o orfodaeth gan yr heddlu am fod yn ddigonol, yna mae yna risg fod disgwyliadau'r cyhoedd o gael pawb i gydymffurfio efo'r cyfyngiadau cyflymder newydd yna yn disgyn i'r awdurdodau lleol, a bod hynny yn ei dro yn arwain at alwadau am fesuriadau tawelu traffig ac, wrth gwrs, mae yna elfen o gost i hynny. Felly, mae angen i'r Llywodraeth adnabod hynny o fewn costau'r cynllun. 

Fel arall, ac o weld bod y Llywodraeth yn derbyn yr hyn rydym ni'n dadlau drosto fo, rydym ni'n croesawu'r cynllun ac yn cefnogi'r ymdrechion i'w wneud o yn llwyddiannus. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir yn y Felinheli, mi wnes i lwyddo i gael parth 20 mya o gwmpas yr ysgol leol, a rhaid dweud fe welwyd newid yn arferion y gyrwyr yn syth a llawer mwy o bwyll yn cael ei arfer, yn enwedig efallai am fod yr arwyddion 20 mya yn cynnwys lluniau lliwgar wedi cael eu creu gan blant lleol a oedd yn cynnwys crwban a'r gair 'araf'. 

16:05

Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y sesiwn friffio a gynhaliodd yr wythnos diwethaf, a hoffwn i ddiolch hefyd i Phil Jones, a gadeiriodd y tasglu 20mya, am ei gyfraniad at yr adroddiad hwn ac am ei argymhellion. O fy safbwynt i a grŵp y Ceidwadwyr, byddem ni wrth gwrs yn cefnogi mesurau sy'n lleihau nifer y damweiniau sy'n digwydd ar ein ffyrdd. O safbwynt fy ngrŵp fy hun, roedd amrywiaeth o gefnogaeth i agweddau ar yr adroddiad ac, yn wir, i’r holl adroddiad, ac roedd amrywiaeth o gwestiynau hefyd ynglŷn ag agweddau ar yr adroddiad y mae angen rhoi sylw iddyn nhw o hyd o ran rhai aelodau eraill o fy ngrŵp. Ond rwy'n gobeithio y caiff rhai o'r materion hyn sylw yn ystod y ddadl hon. Fy sylwadau innau hefyd—rwy'n mynd i geisio cael ychydig mwy o wybodaeth, os gallaf i hefyd, gan obeithio y gall y Dirprwy Weinidog ymateb i hynny yn ei sylwadau wrth gloi.

Yn gyntaf, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n edrych ar ardal fy awdurdod lleol fy hun a, diolch i'r drefn, mae gwrthdrawiadau o fewn ardaloedd terfyn cyflymder 30mya ym Mhowys yn gymharol isel. Felly, er bod yr ymchwil yn awgrymu y bydd terfynau 20mya yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, bydd y gostyngiad yn llai, yn fy marn i, mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwledig. A'r mater arall hefyd yw bod gennych chi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lefel uwch o ffyrdd cyflymach heb gyfyngiad, sydd, wrth gwrs—mae cyfraddau damweiniau yn uwch ar y ffyrdd penodol hynny. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Cyngor Sir Powys yn dweud wrthyf i fod 19 y cant o wrthdrawiadau wedi digwydd mewn ardaloedd â chyfyngiad 30mya. Dyna gyfanswm o 448. Felly, sylw arall y byddwn i efallai yn ei nodi yw y gallem ni weld cynnydd mewn gwrthdrawiadau ar nifer y bobl sy'n defnyddio teithio cynaliadwy, sy’n rhywbeth yr hoffem ni iddyn nhw ei wneud, wrth gwrs, trwy gerdded a beicio. Felly, mae'r duedd yn y maes hwnnw yn cynyddu hefyd, felly rwy'n meddwl bod credu bod angen i ni ystyried yr agwedd benodol honno hefyd.

Byddai'r newid sydd wedi ei gynnig yn digwydd dros nos, fel y mae’r adroddiad yn ei awgrymu. Felly, byddai angen ymgyrch sylweddol yn y cyfryngau yn hynny o beth, ac mae’r adroddiad yn nodi hynny hefyd. Ond, wrth gwrs, mae tuedd i yrwyr yrru yn unol ag amodau'r ffordd. Felly, rwy'n credu bod hyn yn bryder—er y byddwn yn gweld cyflymder cerbydau yn gostwng i ddechrau, oherwydd ymgyrchoedd yn y cyfryngau, yn gyffredinol dros gyfnod byrrach, neu dros gyfnod hirach, y bydd angen i'r heddlu orfodi'r terfynau newydd yn ddigonol. Ac wrth gwrs, dim ond newid cenhedlaeth a fydd yn arwain at y gostyngiad tymor hirach mewn cyflymderau—dyna yn sicr yw fy marn i. Fe wnaethom ni weld hynny gyda gwregysau diogelwch, er enghraifft. Nid wyf i'n awgrymu peidio â gwneud hyn oherwydd hynny, ond mae yna newid cenhedlaeth, felly mae'n bosibl bod hynny yn rhoi rhywfaint o ddisgwyliadau o ran faint o amser y gall ei gymryd i newid ddigwydd.

Mae gen i rai pryderon ynghylch lefel anghynaliadwy y ceisiadau posibl a allai gael eu cyflwyno am ddulliau gostegu traffig ffisegol, er mwyn sicrhau bod cerbydau yn gyrru ar y cyflymderau is newydd. Rwy'n gwybod hyn o fy nyddiau fy hun mewn awdurdod lleol, pan ofynnwyd yn aml i mi ymyrryd yn yr agweddau penodol hynny. Rwyf i hefyd yn meddwl, o siarad â swyddogion traffig, bod angen cyhoeddi canllawiau cadarn ynghyd ag unrhyw newid hefyd.

Os caf i sôn yn gyflym am rai materion cyfreithiol hefyd, y mae angen eu hystyried efallai. Nid oes gan bob un o'r terfynau 30mya oleuadau stryd—mae rhai terfynau wedi eu goleuo yn rhannol ac mae'r statws ffordd gyfyngedig o fewn y rhan sydd wedi ei goleuo wedi ei ddileu wrth gyrraedd y terfyn 30mya, drwy orchymyn. Felly, os yw'r newidiadau arfaethedig—. Mae angen ystyried hynny. Rwyf i hefyd yn ymwybodol mewn rhai awdurdodau gwledig—mae Ceredigion yn un; efallai y bydd y Llywydd yn dweud wrthyf fel arall—fel yr wyf i ar ddeall, bod yr holl derfynau cyflymder 30mya yng Ngheredigion drwy orchymyn, felly ni fydd unrhyw 30mya yn y sir honno yn newid pe byddai'r cynigion yn cael eu rhoi ar waith, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gorfodi'r awdurdod lleol i adolygu'r gorchmynion sydd ar waith.

Dim ond ychydig o bethau eraill sydd, os caf i. O ran yr adroddiad, mae'n ymddangos ei fod—yn aml iawn, mae'r adroddiad yn canolbwyntio'n gryf ar Gymru drefol; byddwn i wedi hoffi gweld mwy o sylw i Gymru wledig. Roedd yr adroddiad hefyd yn sôn am sefydlu is-grwpiau. Byddai wedi bod yn well gen i weld sefydlu is-grŵp hefyd i ystyried cost y cynigion—rwy’n credu y dylai hynny fod wedi ei gynnwys hefyd. Oherwydd beth yw cyfanswm cost awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, plismona? Rwy'n credu bod angen gwybod hyn ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, o ran costio, rwy’n credu y byddai'n bwysig i awdurdodau lleol gael cymorth ariannol. Rwy’n sicr yn cytuno â'r adroddiad y bydd angen ymgyrch sylweddol yn y cyfryngau. Ac rwy'n credu bod yn rhaid rhoi'r gair olaf i gymunedau hefyd. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi yn llwyr fod angen cyflwyno'r offeryn statudol hwn i gyflawni bwriadau'r adroddiad; rwyf i yn meddwl tybed a yw'r canllawiau presennol yn ddigonol.

Rwy'n meddwl efallai y gwnaf i orffen gyda dau gwestiwn—mewn 10 eiliad, Dirprwy Lywydd. A yw’r cynnig hwn yn gyfystyr â defnyddio gordd i dorri cneuen? A hefyd, pa feini prawf fydd yn diffinio llwyddiant rhagosodiad 20mya? Felly, rwy’n edrych ymlaen at ymateb y Dirprwy Weinidog efallai i rai o'r cwestiynau a'r materion hynny sydd, rwy’n gobeithio, yn adeiladol.

16:10

Roeddwn i eisiau gwneud rhai o'r pwyntiau ynghylch gorfodi a wnaeth Siân Gwenllian, felly nid wyf i'n bwriadu ailadrodd y rhai hynny, heblaw am ailadrodd pa mor bwysig ydyn nhw i unrhyw newid penodol. Mae'n amlwg y bydd ymgynghoriadau a thrafodaethau gyda'n cymunedau. Rwyf i’n byw mewn hen gymuned lofaol, ac wrth gwrs ni chafodd ein ffyrdd erioed eu cynllunio ar gyfer cymaint o draffig, na’r holl draffig sydd wedi ei barcio ochr yn ochr, gan guddio llawer o lwybrau mynediad. Mae'r cynnig hwn, yn fy marn i, yn y bôn, yn ymwneud â newid ymddygiad—mae'n ymwneud â'r hyn sy'n ddymunol yn gymdeithasol o ran ein traffig yn ein cymunedau. A'r cyfan yr oeddwn i'n dymuno ei ddweud mewn gwirionedd, oedd fy mod i'n credu y bydd croeso mawr i'r cynigion yn ein cymunedau, lle mae gennym ni ddwysedd poblogaeth a lle mae diogelwch rhieni, teidiau a neiniau a phlant yn wirioneddol hollbwysig.

A gaf i hefyd ddweud bod hyn yn gwbl gydnaws ag ysbryd y ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol y gwnaethom ni ei gyflwyno, ac y bydd y cynnig hwn hefyd yn ein gwneud ni'n gyson â llawer o wledydd eraill y byd sydd eisoes wedi mabwysiadu'r ymagwedd hon sef, yn y bôn, terfynau cyflymder sy'n canolbwyntio ar y gymuned?

Felly, rwy'n croesawu hyn yn fawr iawn, ond dim ond i ailadrodd y pwynt a wnaeth Siân Gwenllian: er mwyn bod yn effeithiol, nid newid diwylliant yn unig sydd dan sylw, ond mae'n rhaid darparu adnoddau digonol i orfodi hyn er mwyn iddo weithio. Ond rwy'n gwybod bod llawer yn fy nghymuned i, y bobl yr wyf i’n eu cynrychioli, a fydd yn croesawu yn fawr iawn gyfeiriad y cynnig hwn.

16:15

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni yn y Siambr hon i graffu ar y dystiolaeth a fydd yn sail i weithredu'r 20mya? Hoffwn i ddweud ar y dechrau fy mod i'n cefnogi cyfyngiadau 20mya o amgylch ysgolion a mannau eraill sy’n agored i ddamweiniau. Rwyf i, wrth gwrs, yn cydnabod nad oes neb ohonom ni'n dymuno gweld unrhyw un yn cael ei ladd nac yn wir ei anafu ar ffyrdd Cymru, a phe byddai’r dystiolaeth yn ddiffiniol, byddwn i o blaid y rheolau hyn. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth ymhell o fod wedi ei phrofi. Yn wir, mae llawer o dystiolaeth yn awgrymu na fydd gosod y terfyn cyflymder hwn yn arwain at lai o ddamweiniau, boed yn angheuol neu fel arall, na lleihad mewn allyriadau niweidiol—y ddau reswm dros roi’r orfodaeth hon ar waith. Er enghraifft, yng Nghaerfaddon a gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, lle maen nhw wedi gwario £804,000 ar roi terfynau cyflymder 20mya ar waith, nodwyd bod nifer y marwolaethau a'r anafiadau wedi cynyddu mewn gwirionedd mewn saith o'r 13 parth lle cafodd ei roi ar waith.

Mae'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn nodi bod y nifer mwyaf o farwolaethau wedi digwydd ar ffyrdd â therfynau 30mya, ond nid oedd yn sôn bod cyflymder cyfartalog y ceir yn y damweiniau hyn, bron bob tro, yn llawer mwy na 30mya, sy'n golygu, wrth gwrs, bod y gyrwyr yn anwybyddu terfyn o 30mya, a byddai hyn yn awgrymu y bydden nhw hefyd yn anwybyddu terfyn o 20mya. Ni fydd y terfynau is hyn yn gwneud dim i atal y rhai hynny sy'n gyrru ymhell dros y terfynau cyflymder—sef yr hyn sydd wedi achosi llawer o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog ato.

Mae hyd yn oed sefydliad moduro mor fawreddog â’r Automobile Association yn dweud bod cynghorau yn gwastraffu arian gan nad yw terfynau 20mya yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Byddwn i'n awgrymu bod gan sefydliad o'r fath lawer mwy o wybodaeth am ffyrdd a defnydd o'r ffyrdd na'r hyn y gellid ei chasglu mewn ychydig fisoedd o ymchwil, ni waeth pwy oedd yn cynnal yr ymchwil honno.

Nid oes dim tystiolaeth ychwaith i brofi y bydd terfynau 20mya yn newid arferion gyrru. A dweud y gwir, mae heddluoedd wedi methu â gorfodi'r terfynau, gan gredu mai gwastraff adnoddau fyddai hynny. Maen nhw'n mynd yn eu blaen i ddweud bod gorfodaeth yn ymatebol ac na ddylid ei defnyddio fel mesur ataliol i gyflawni cyflymderau cerbydau. Mae'n rhaid i atal ddibynnu ar gefnogaeth mwyafrif y cyhoedd i gydymffurfio ac mae'n rhaid i orfodaeth gael ei llywio gan gymesuredd. Mae'r mudiad 20’s Plenty for Us wedi beirniadu adroddiadau sydd wedi methu â rhoi tystiolaeth i'r gwrthwyneb.

A gaf i droi yn awr at fudd tybiedig y gostyngiad mewn allyriadau o ganlyniad i ostwng cyflymder o 30 i 20mya? Mae awdurdod sylweddol Adran Drafnidiaeth y DU wedi dweud bod eu hymchwil yn dangos bod allyriadau ar 20mya yn fwy nag ar 30mya. Yn wir, mae allyriadau yn parhau i ostwng wrth i gyflymder gynyddu hyd at oddeutu 50 i 60mya, cyn dechrau codi eto. Felly, o ystyried y ffaith y bydd cerbydau yn mynd yn arafach drwy ardal ac felly yn y lleoliad hwnnw yn hirach, byddwn yn cael effaith negyddol ddwbl ar allyriadau, gan achosi mwy o lygredd nag a oedd yn digwydd gyda therfyn cyflymder o 30mya mewn gwirionedd.

A gaf i droi yn awr at roi’r mesurau hyn ar waith? Roedd yr adroddiad yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith y byddai darn o ddeddfwriaeth gyffredinol, a fyddai'n cwmpasu Cymru gyfan, yn ei gwneud yn haws, ac felly'n rhatach i gynghorau ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, y cynghorau unigol fydd yn penderfynu ar ba ardaloedd 30mya a gaiff eu heithrio o'r 20mya. Mewn geiriau eraill, er gwaethaf y ffaith bod yr adroddiad yn dweud nad yw'n gwneud braidd dim gwahaniaeth i amseroedd mynd o un rhan o ardal drefol i ran arall, fe'i derbynnir, am resymau nad ydyn nhw wedi eu diffinio eto, fod rhai ffyrdd mewn ardaloedd trefol na fyddan nhw'n ddarostyngedig i'r rheol 20mya.

Y broblem yma yw'r ffaith y bydd unrhyw gyngor penodol, yn ddigon naturiol, yn osgoi risg o ran a ddylai ffordd aros ar 30mya ai peidio. Byddan nhw'n ymwybodol iawn, pe byddai rhywun yn cael ei ladd ar ffordd benodol sy'n cadw ei therfyn cyflymder yn 30mya neu efallai hyd yn oed uwch, y byddai'n debygol iawn y byddan nhw'n cael eu beirniadu neu hyd yn oed eu herlyn am beidio â defnyddio’r 20mya. Felly, rydym ni'n debygol o weld sefyllfa lle bydd pob ffordd drefol ledled Cymru yn gweld cyfyngiad o 20mya.

Dyma, yn anffodus, benbleth arall i'n cynghorau. Beth yw ystyr ffordd drefol? Er enghraifft, yn Nhorfaen, a yw'r ffordd o Flaenafon i Bont-y-pŵl yn ffordd drefol? Wrth gwrs, mae miloedd lawer o ffyrdd o'r fath ledled Cymru. Pan fyddwn yn gweld y terfynau cyflymder hyn yn cael eu mabwysiadu yn gyffredinol, yn wir, bydd dros y wlad i gyd, a bydd bron pob ffordd yng Nghymru yn defnyddio’r terfyn cyflymder hurt o isel hwn.

Yn olaf, rwyf am droi at yr agweddau ymarferol er mwyn i'r gyrrwr gadw at y terfyn cyflymder hwn. Yn gyntaf, ni wnaiff unrhyw ddyfais rheoli cyflymder ar geir, bron, weithio yn is na 30mya. Felly, nid yw defnyddio rheolydd cyflymder yn opsiwn, hyd yn oed os oes un yn y car ac, wrth gwrs, nid oes gan y rhan fwyaf o geir y ddyfais hon  beth bynnag. Felly, y gyrrwr sy'n gorfod rheoli ei gyflymder i 20mya.

Rwy’n aml yn defnyddio dwy ardal sydd wedi cyflwyno’r terfyn cyflymder hwn—Brynbuga a Chaerllion—ac rwy’n gweld fy mod i'n monitro'r dangosydd cyflymder yn barhaus, ac o gofio bod y ceir eraill sydd o fy mlaen i yn aml yn mynd filltir neu ddwy dros y terfyn, fel y mae'r dangosyddion rheoli cyflymder sy'n fflachio yn ei ddangos, mae'n ymddangos bod yr anhawster hwn yn gyffredin. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at yr effaith andwyol o beidio â monitro'r ffordd fel y byddai rhywun fel arfer yn ei wneud, ac felly'n arwain at effaith andwyol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.

Llywydd, cafodd y terfyn 30mya ei gyflwyno pan oedd gan geir fymperi dur a breciau cebl. Mae ceir heddiw wedi eu cynllunio i achosi llai o anaf ac mae eu systemau brecio yn llawer gwell na'r rhai, hyd yn oed ychydig ddegawdau yn ôl. Dim ond un ffordd sydd o atal damweiniau ffyrdd, sef i bob un ohonom ni ddychwelyd i gerdded. Gellid defnyddio’r gostyngiad cyson hwn mewn cyflymder ar ein traffyrdd. Byddai terfyn cyflymder o 30mya ar y rhain yn achub llawer mwy o fywydau—

16:20

Rwy'n mynd i orfod dod â'ch sylwadau i ben a gofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben.

Rwyf i'n credu bod David Rowlands yn edrych ar y broblem hon drwy ben anghywir y telesgop. Yn wir, byddai'n syniad da i ni gyd ddychwelyd i gerdded, oherwydd wedyn byddem ni i gyd yn llawer iachach. Ond nid wyf i'n credu, yn syml, dim ond oherwydd bod rhai pobl yn anwybyddu’r terfyn cyflymder ar hyn o bryd, ac felly bod angen ymdrin â nhw, a bod yr heddlu yn ymwybodol o hyn, na ddylem ni, felly, gyflwyno terfyn 20mya diofyn ym mhob ardal drefol, oni bai bod rhesymau da dros ei gael yn 30mya.

Mae angen gwirioneddol i ni newid y diwylliant ynghylch hyn oherwydd tri argyfwng. Un yw’r argyfwng newid hinsawdd. Un arall yw'r argyfwng gordewdra, sy'n lladd ein plant yn llawer cynt na'r rhieni a’u magodd nhw—mae mor ddrwg â hynny. Mae disgwyliad oes yn lleihau nid yn cynyddu. Ac, yn drydydd, yn amlwg mae gennym ni argyfwng iechyd cyhoeddus y coronafeirws ac rydym ni'n gwybod bod y coronafeirws yn bridio'n well mewn aer llygredig. Ac nid problem drefol yn unig yw hi, mae'n broblem wledig hefyd. Mae llygredd gwledig yn sgil ffermio dwys, er enghraifft yn yr Iseldiroedd, wedi profi bod—yn dangos bod—mwy o bobl yn cael y coronafeirws a bod mwy o bobl yn marw o’r coronafeirws mewn ardaloedd lle mae aer yn llygredig. Felly, am y tri rheswm hyn, mae'n rhaid i ni newid y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau.

Mae'n rhaid i ni annog rhieni i ddeall bod galluogi eu plentyn i ganfod ei ffordd o'i gartref i'w ysgol yn rhan bwysig o dyfu i fyny. Dyma a wnaethom ni pan oeddem ni'n blant—pam mae plant yn cael eu babaneiddio, ac yn cael eu gyrru i'r ysgol ymhell ar ôl iddyn nhw allu mynd i'r ysgol eu hunain yn gorfforol? Allwn ni ddim parhau yn y modd hwn, ac mae angen dull cymuned gyfan o leihau cyflymder arnom, oherwydd yn syml nid yw'n effeithiol o ran cost ceisio gwneud hynny fesul darn a fesul ffordd, ac rwy'n cymeradwyo'n llwyr ymrwymiad cyngor Caerdydd i gyflwyno terfyn 20mya diofyn drwy’r ddinas gyfan. Ond, er mwyn gwneud hynny'n fforddiadwy, mae'n rhaid i ni ei wneud yn ddiofyn, yn hytrach na'i fod yn costio £1 miliwn ym mhob ward.

Y mater arall sy'n bwysig iawn i'w ddeall yw, os oes gennym ni dwmpathau arafu ym mhob man, gan mai dyna'r unig ffordd y gallwn ni berswadio pobl i beidio â gyrru'n rhy gyflym, mae hynny’n ei gwneud yn hynod o anghyfforddus i bobl sy'n teithio ar fysiau sydd â phroblemau cefn drwg—mae mynd dros dwmpathau mewn bws yn anghyfforddus iawn, iawn.

Felly, mae angen i ni gyflawni newid diwylliant llwyr. Rwy’n cofio pobl yn gweiddi ac yn sgrechian ynghylch y syniad y dylem ni i gyd fod yn gwisgo gwregysau diogelwch, a phobl eraill yn dweud ei bod yn sarhad ar ryddid pobl i beidio â chael ysmygu yn wynebau plant. Ni fyddai neb yn dadlau'r achosion hynny yn awr, ac ni ddylem ni ychwaith fod yn gorfodi ar blant yr anallu i chwarae y tu allan a mynd i'r ysgol yn ddiogel—naill ai ar sgwter, ar droed neu ar y bws—oherwydd, ar hyn o bryd, ofn rhieni sy'n eu hatal rhag gwneud hynny. Nid y plant sy'n gwrthwynebu hynny. Hon yw'r un broblem fwyaf yr wyf i'n gwybod y mae pennaeth yr ysgol lle'r wyf i'n llywodraethwr yn ei hwynebu: sut mae dwyn perswâd ar ein pobl ifanc i deithio i'r ysgol yn annibynnol, yn hytrach na dibynnu ar y cludiant ysgol a ddarperir? Byddai buddsoddi mewn beic neu sgwter yn ffordd llawer gwell o ddefnyddio incwm rhieni na gorfod talu costau cludiant i'r ysgol. Felly, rwyf i’n llwyr groesawu cyflwyno'r mesur hwn i'w wneud yn ddiofyn mewn ardaloedd trefol.

16:25

Oes, mae cefnogaeth ar y meinciau hyn i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya. Rwy'n gwybod, yn Aberconwy, bod hyn wedi bod yn broblem fawr ar rai o'n ffyrdd gwledig, a bod ein hawdurdod lleol wedi ei chael yn anodd mynd o gyflymder uwch i 20mya. Ac, wrth gwrs, mae ein cyd-Aelod, David Melding AS, wedi gweithio mor galed ar y mater hwn.

Mae'n synnwyr cyffredin ac mae'n gam diogel. Mae unigolyn saith gwaith yn llai tebygol o farw os yw'n cael ei daro ar 20mya na 30mya, neu 10 gwaith os yw dros 60 oed. Yn ôl astudiaeth i werthuso effaith cyflwyno terfynau cyflymder 20mya ledled dinas Bryste, bu gostyngiad yn nifer yr anafiadau angheuol, difrifol a bach oherwydd gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, a oedd yn cyfateb i amcangyfrif o arbedion cost o dros £15 miliwn y flwyddyn, ac roedd cerdded a beicio ledled y ddinas wedi cynyddu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi honni o'r blaen y byddai gostwng y terfyn o 30mya yn arwain at fanteision sylweddol i iechyd y cyhoedd.

A dweud y gwir, mae terfyn 20mya yn cael ei hybu a’i annog mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a thramor. Bydd Faversham yng Nghaint y dref gyntaf yn y DU i ddefnyddio terfyn cyflymder o 20mya drwy’r dref i gyd. Bydd yr holl strydoedd preswyl yn Southend, Essex â therfyn 20mya. Mae’r 64 o strydoedd yng nghanol dinas Perth wedi bod â therfyn 20mya am y 18 mis diwethaf. Mae'r Road Safety Authority o blaid cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw yn drawsbleidiol i gyfyngu cyflymder i 30mya ar bron pob ffordd yn ninas a maestrefi Dulyn. Mae Milan yn gosod yr un terfyn ar gyfer 22 milltir o ffyrdd. Fe wnaeth Washington DC leihau cyflymderau ar ffyrdd lleol i 20mya ar 1 Mehefin, ac mae Wellington yn Seland Newydd wedi cytuno ar 30kmya ar gyfer strydoedd canol y ddinas. Fel y dywedodd sylfaenydd a chyfarwyddwr yr ymgyrch 20’s Plenty for Us:

Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.

Mae camau yn cael eu cymryd yn fyd-eang i roi terfyn 20mya ar waith, felly rwy'n awyddus i ni gyflymu'r broses yn y fan yma. Ni all fod yn iawn, a therfynau 20mya wedi bod yn bosibl ers blynyddoedd lawer, mai dim ond tua 1 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd trefol yng Nghymru sy'n eu defnyddio ar hyn o bryd. Yn ôl adroddiad y tasglu a gadeiriwyd gan Phil Jones, gallwch chi newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20mya, ac mae nifer o argymhellion ar y camau sydd eu hangen i gyflawni hyn, fel gosod dyddiad targed o Ebrill 2023 i ddod â’r newid yn y gyfraith i rym, gwneud is-ddeddfwriaeth o dan adrannau 81(2) a 65(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, trwy ddarparu adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i ymgynghori ar newidiadau eang mewn terfynau cyflymder lleol, eu cynllunio a’u rhoi ar waith, ac i ddarparu data monitro. Ac mae hynny'n allweddol—heb yr adnoddau, mae'n ddiwerth i ni hyd yn oed sôn amdano. Mae angen i ni gydweithio â'r heddlu a GoSafe i gytuno sut y dylid addasu'r drefn orfodi.

Rwy’n croesawu argymhellion yr adroddiad hwn ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y galwadau i ddiwygio'r canllawiau ar bennu terfynau cyflymder lleol. Mewn adroddiad y gwnes i ei baratoi y llynedd, ar ôl cyfarfod cyhoeddus prysur iawn, iawn ynghylch priffyrdd yng ngorllewin dyffryn Conwy, datgelwyd bod awdurdodau lleol yn rhoi pwyslais ar nifer y damweiniau, yn hytrach na risg a damweiniau a fu bron â digwydd. Mae hyn yn wallgofrwydd llwyr, ac mae wedi golygu bod gennym ni lonydd un trac sy’n cael eu defnyddio yn aml mewn cymunedau gwledig fel Tal-y-cafn, Rowen a Threfriw, a therfynau o 60mya arnyn nhw o hyd.

Yn bersonol, rwyf i'n credu y dylai'r canllawiau a'r angen i ystyried 12 ffactor penodol, nid dim ond y niferoedd a'r mathau o wrthdrawiadau, fod wedi eu hymgorffori yn y gyfraith fel bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ystyried pob ffactor yn deg, fel y gall Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y problemau difrifol â’r canllawiau ar osod terfynau cyflymder lleol. Mae angen cynnydd cadarnhaol arnom yn hyn o beth. Felly, rwyf i’n croesawu'r adroddiad. Er y byddai terfyn 20mya yn helpu ardaloedd trefol yn bennaf, rwy’n glir o fy nghyfathrebu ynghylch y mater â'r Prif Weinidog y bydd cynnydd yn y maes hwn yn ein tywys ni gam yn agosach at helpu i roi sylw i derfynau cyflymder uchel mewn ardaloedd gwledig hefyd. Ac, fel y gwelwch, rwyf i wedi gwneud cryn dipyn o waith cartref ar hyn, oherwydd ei fod yn broblem enfawr a hoffwn i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno hyn. Diolch.

16:30

Dim ond ychydig o sylwadau gen i. Mi ydw i, dros y blynyddoedd ers cael fy ethol, wedi gweithio efo nifer o gymunedau ar draws fy etholaeth i sydd wedi bod yn galw am ostwng y cyflymder uchaf i 20 mya: cymuned Llanfachraeth yn un o'r rheini yn ddiweddar. Dwi hefyd wedi gweithio efo ysgolion, yn cynnwys ysgol yng Nghaergybi yn fuan iawn ar ôl i fi gael fy ethol, os ydw i'n cofio'n iawn, oedd eisiau gweld mwy yn cael ei wneud er mwyn diogelu pobl drwy ostwng cyflymder cerbydau o fewn eu cymunedau nhw. Mae mor syml â hynny. Dwi yn cefnogi yr egwyddor, yn sicr, a'r ymarfer o ddod â'r cyflymder i lawr. Mae'r dystiolaeth yn gryf ac yn glir, ac dwi'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi arwain y tasglu yma.

Ychydig o elfennau sydd yn gwestiynau gen i o hyd: mae gen i gonsérn, braidd, ynglŷn â'r newid blanced o 30 mya i 20 mya. Dwi'n meddwl bod yna lawer o ardaloedd sydd yn 30 mya a sydd ddim yn ardaloedd sydd yn ardaloedd preswyl, a mi fyddwn i eisiau gweld rhagor o ddatblygu ar yr eithriadau sydd yn gallu cael eu datblygu, a hynny, dwi'n meddwl, am resymau da iawn, a'r adnoddau fyddai ar gael er mwyn gweinyddu'r mathau yna o adnoddau tra'n glynu at yr egwyddor graidd o ostwng y cyflymder mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw a phlant yn fwyaf tebyg o fod ac ati. Dwi'n ategu'r hyn a ddywedodd Siân Gwenllian hefyd o ran yr angen am adnoddau ar gyfer gweithredu ac enforce-io'r newidiadau yma; mae hynny'n gwbl allweddol achos, o'r funud y byddai newidiadau'n cael eu cyflwyno, mi fyddai cymunedau angen gallu gweld bod hyn yn cael ei enforce-io a bod hwn yn rhywbeth sy'n cael ei gymryd o ddifrif. 

Dwi am ategu un peth dwi wedi'i ddweud o'r blaen: mi fues i yn Guernsey rhyw flwyddyn yn ôl ac wedi gwirioni ar yr uchafswm cyflymder o 25 mya oedd yn bodoli yn y fan honno, oedd yn gwneud gymaint, dwi'n meddwl, i arafu traffig ar y ffyrdd yn gyffredinol, a dwi yn edrych ymlaen am drafodaeth ehangach ynglŷn â'r mathau o eithriadau a nuances a allai gael eu cyflwyno wrth i'r egwyddor gael ei gario ymlaen yn gyffredinol. Ond, ar ran y cymunedau hynny sydd wedi bod yn galw am ostyngiad, dwi yn gyffrous drostyn nhw bod hyn yn gam yn agosach ac yn edrych ymlaen am barhad ar y drafodaeth ar fanylion, dwi'n meddwl, sydd yn bwysig i edrych arnyn nhw o hyd, dros y cyfnod nesaf yma.

16:35

Iawn. Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac mae'n dda iawn gweld ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn gydag ymgyrch mor bwysig â 20’s Plenty, a hoffwn i ymuno â Lee Waters wrth dalu teyrnged i Rod King, sydd wedi hyrwyddo'r achos mor helaeth ac eang ers cyhyd, a hefyd, wrth gwrs, diolch i Phil Jones a'r tasglu, a diolch i Lee Waters ei hun, gan fod Lee yn ddi-os wedi rhoi ysgogiad ffres ac ychwanegol i'r ymgyrch hon a'r cynigion hyn fel Gweinidog, felly diolch yn fawr i chi am hynny, Lee.

Fel eraill, daeth fy niddordeb yn yr ymgyrch yn y lle cyntaf o gymunedau lleol a oedd yn ymgyrchu dros y terfynau cyflymder hynny, ac fe wnaeth hynny yn sicr dynnu fy sylw at y ffactorau amddifadedd sy'n gysylltiedig â hyn, oherwydd roedd ymgyrchwyr ar ffyrdd mewn ystadau cyngor lleol lle bu, yn anffodus, marwolaethau plant, lle'r oedd ffyrdd drwy'r stadau â cheir wedi'u parcio ar y ddwy ochr—maen nhw’n dal i fod felly—a phlant yn chwarae, ac mae mor hawdd, wrth gwrs, i blentyn ddilyn pêl i'r ffordd rhwng ceir wedi eu parcio, ac, os yw car yn symud ar unrhyw gyflymder sylweddol o gwbl, mae'n anodd iawn stopio mewn pryd.

Felly, rwyf i wir yn credu mai ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd yw hon yn y bôn, a'i bod yn ddigon teilwng yn hynny o beth. Ond mae manteision pwysig iawn eraill hefyd yn deillio o derfyn cyflymder diofyn o 20mya yn ein hardaloedd preswyl, ac rwy’n credu bod llawer o hynny yn ymwneud ag adennill y strydoedd, fel y mae eraill wedi ei ddweud. Mae'n fater o alluogi plant i fynd allan a chwarae yn rhydd a rhieni i deimlo yn hyderus wrth ganiatáu i blant wneud hynny; mae'n fater o alluogi pobl hŷn i deimlo'n fwy cyfforddus wrth gerdded o amgylch eu hardaloedd lleol, o ran eu diogelwch ar y ffyrdd; mae'n fater o deithio llesol, gan ganiatáu cerdded, sgwtio a beicio, boed hynny i'r ysgol, i’r gwaith neu i siopau lleol, a bod pobl yn teimlo yn fwy cyfforddus, saff a diogel wrth wneud hynny eu hunain neu adael i'w plant wneud hynny.

Felly, rwyf i’n credu bod manteision y polisi hwn yn eang iawn: mae'n fater o well bywyd cymunedol, mae'n fater o bobl yn dod i adnabod mwy o bobl sy'n byw o'u cwmpas. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o'r effaith honno drwy'r pandemig ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gellid ei wneud yn fwy, a'i feithrin, hefyd drwy'r polisi 20’s Plenty.

Mae pobl wedi cyfeirio at orfodaeth, Llywydd, ac rwyf i’n credu, rwy'n gobeithio, yn y tymor hirach, y caiff ei hunanorfodi i ryw raddau, fel sydd wedi digwydd gyda mesurau tebyg eraill, ond, yn sicr yn y tymor byr, bydd angen sicrhau bod yr heddlu ac eraill yn gorfodi'r polisi hwn yn iawn, a bydd i hynny oblygiadau o ran adnoddau. Ond rwyf i hefyd yn meddwl ei fod yn ymwneud ag ymgyrch farchnata, cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth. Mae angen strategaeth gref ar gyfer hynny arnom i ddechrau, yn fy marn i, er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r newid, y rhesymau drosto, a, gobeithio, byddan nhw'n ei gefnog. Ond mae angen i ni gyfleu'r prif negeseuon os ydym ni am gael y gefnogaeth a'r cymorth hwnnw.

Nid wyf i'n gwybod a allai Lee ddweud ychydig mwy am gyflwyno cynlluniau treialu, o ran ar ba sail y byddai hynny'n digwydd—pa ardaloedd awdurdodau lleol a pha ardaloedd o fewn awdurdodau lleol a fydd yn gweld y cynlluniau treialu cychwynnol hynny.

Hoffwn i hefyd ategu’r hyn a ddywedodd Russell George ac eraill ynghylch ardaloedd gwledig, oherwydd bod gennym ni hefyd ymgyrch gref iawn o gwmpas ffordd ddeuol yr A48 yng Nghasnewydd o ran pentrefi a ffyrdd pentref oddi ar yr A48, yn dilyn, unwaith eto, damwain angheuol, ac mae dyn, Julian Smith, a gollodd ei ferch mewn damwain, yn anffodus, yn arwain ymgyrch leol gref iawn ac mae'n nodi'n gryf iawn nad yw terfynau cyflymder cenedlaethol ar ffyrdd drwy bentrefi yn gwneud dim synnwyr o gwbl pan fo gennych chi deuluoedd yn byw yno. Mae chwe deg milltir yr awr yn llawer gormod ac mae yn ymddangos ei bod yn anodd iawn gwneud y newid sydd ei angen. Mae terfynau is yng Nghymru ar rai o'r ffyrdd pentref hyn yn amlwg, ond yn anffodus mae llawer sy'n dal i fod yn destun y terfyn cyflymder cenedlaethol, ac mae'n ymddangos yn anodd iawn cael cyflymderau is ar y ffyrdd hynny.

Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, Llywydd, am y cyfle i gael siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n credu bod 20’s Plenty yn bolisi blaengar iawn. Rwy'n credu y bydd cael y terfyn 20mya diofyn ar ein ffyrdd preswyl ledled Cymru yn edrych yn dda iawn ar ein gwlad, ac yn sicrhau manteision gwirioneddol i'n cymunedau.

16:40

Rwyf i wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer o blaid defnyddio mwy o barthau 20mya yng Nghymru. Edrychais yn gyntaf ar hyn yn 2011, ac ar yr adeg honno yr oedd 237 o ddamweiniau difrifol yn cynnwys cerddwyr yng Nghymru, ac yn anffodus roedd hynny'n cynnwys 82 o blant yn colli eu bywydau neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol iawn, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw’r ystadegau hynny mewn cof wrth siarad am hyn. Ar y pryd, fe wnes i ganolbwyntio fy adroddiad ar Gyngor Ceredigion i weld a all gyflwyno mwy o barthau 20mya mewn ardaloedd adeiledig i amddiffyn eu plant. Bryd hynny, roedd chwe ysgol yng Ngheredigion mewn parth terfyn 20mya, ond roedd 40 â therfyn 30mya a chwe ysgol â therfyn 40mya, ac roedd pump a oedd â'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn union y tu allan i'w drws. Felly, rwy’n credu bod angen gwirioneddol a phwyslais gwirioneddol, ac rwy’n cytuno â John Griffiths, bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun o ran diogelwch ar y ffyrdd, ond rwyf i yn cydnabod yr holl fanteision eraill y mae pawb wedi eu cynnwys yn hynny.

Felly, mae'r rhifau'n siarad drostyn nhw eu hunain. Rhwng 2017 a 2019, cafodd 127 o bobl eu lladd mewn damweiniau ceir, ond cafodd 1,759 o bobl eu hanafu a chafodd 453 eu hanafu'n ddifrifol. Mae hynny'n nifer sylweddol uchel.

Felly y cwestiwn sylfaenol yw a yw cyflymder yn gwneud gwahaniaeth? Wel, ydy mae, oherwydd os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 20mya, bydd gennych chi 95 y cant o siawns o oroesi. Os yw'r car yn teithio 30mya, bydd gennych chi 80 y cant. Dim ond 50 y cant yw’r siawns y byddwch chi'n goroesi os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 35mya, ac os cewch chi eich taro gan gar sy'n teithio 40mya, mae gennych siawns 10 y cant o oroesi. Felly, rwy'n credu ei bod yn glir iawn o'r ystadegau hynny bod eich siawns o oroesi ardrawiad o gael eich taro gan gar yn cynyddu'n fawr wrth i chi leihau cyflymder y car hwnnw, ac nid oes yn rhaid i chi ei leihau yn sylweddol, fel y dangosodd hynny.

Rhan o'r rheswm, wrth gwrs, yw po gyflymaf y mae'r cerbyd yn teithio, yr hiraf y bydd y pellter y bydd ei angen arno i stopio. Felly, fe wnaf i roi enghraifft arall: ar ffyrdd sy'n gwbl sych ac o dan amodau perffaith, bydd angen pellter stopio o 23 metr neu chwe hyd car ar gar neu gerbyd sy'n teithio ar 30mya. Ar 20mya, bydd hynny'n gostwng i hanner. Felly, mae cyflymder, unwaith eto, yn ffactor sy'n rhoi cyfle i'r gyrrwr a hefyd i’r cerddwr beidio â chael gwrthdrawiad difrifol sy'n arwain at anaf neu farwolaeth.

Ond rwy'n cytuno na wnaiff terfynau cyflymder yn unig ddatrys y problemau hyn. Bydd angen mesurau gorfodi digonol, a bydd yn rhaid i ni ddod i gytundeb ynghylch pwy a sut y caiff y mesurau gorfodi hynny eu rhoi ar waith.

Ond dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i amrywio eu terfynau cyflymder. Mae'n feichus, fel sydd wedi ei amlinellu yma, ond rydym ni wedi gweld awdurdodau yn symud ymlaen, fel Caerdydd ac Abertawe, er enghraifft, pan fu'r awydd gwleidyddol yno. Rydym ni hefyd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol i wella diogelwch oddi ar y ffyrdd.

Ac eto, y llynedd, ar gyfer yr ysgol newydd yn Hwlffordd, Ysgol Caer Elen, ymunais â rhieni i ymgyrchu i leihau'r terfyn cyflymder o 30mya i derfyn cyflymder o 20mya. Felly, fy nghais i yma i chi, Gweinidog, yw, pan fyddwn yn adeiladu ysgolion newydd, bod parth cyflymder 20mya y tu allan i'r ysgol honno wedi ei gynnwys yn y dyluniad. Mae'n anhygoel i mi fod unrhyw awdurdod lleol sydd eisoes wedi rhoi terfynau cyflymder o 20mya ar waith y tu allan i rai ysgolion wedyn yn mynd ati i adeiladu ysgol newydd â therfyn cyflymder o 30mya y tu allan iddi—ac mae damwain wedi bod yn barod, a diolch byth nad oedd neb wedi brifo.

Rwy'n amlwg yn cefnogi yr hyn yr ydych chi’n ei wneud. Rwy'n falch iawn o weld ei fod yn ôl ar yr agenda, ei fod yn cael ei drafod, ac rwy'n gwybod heb unrhyw amheuaeth o gwbl, o bopeth yr wyf i newydd ei ddweud, bod ganddo'r potensial i achub bywydau.

16:45

Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am y drafodaeth feddylgar honno? Rwy'n credu, gydag un eithriad, bod cefnogaeth mewn egwyddor i'r cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno y prynhawn yma. Ond mae'r Aelodau yn iawn, gwaith y Senedd yn awr yw craffu ar fanylion hyn, profi straen, cicio'r teiars, os mynnwch chi, i sicrhau bod hyn mor gryf ag y gall fod, ac rwy'n sicr yn awyddus i weithio gyda phob Aelod i geisio ateb y cwestiynau a'r pryderon sydd ganddyn nhw er mwyn i ni wneud hyn yn iawn.

Dyma'r rheswm i mi gymryd blwyddyn i sefydlu panel arbenigol i fynd drwy hyn yn drylwyr, er mwyn deall sut y gallwn ni ei wneud yn ymarferol. Ynghyd â'r adroddiad heddiw, rydym ni'n cyhoeddi adolygiad o dystiolaeth gan Dr Adrian Davis, yn ogystal ag adroddiad gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd hefyd yn edrych ar y dystiolaeth. Felly, mae’r honiad gan David Rowlands bod hyn wedi ei seilio ar ychydig fisoedd yn unig o ymchwil a bod y dystiolaeth ymhell o fod wedi ei phrofi, mae arnaf ofn yn anghywir, a chefais fy siomi gan ei gyfraniad.

Rwy’n ceisio gweithio drwy'r materion sydd wedi eu codi. Gofynnodd Russell George, 'A ydym ni'n defnyddio gordd i dorri cneuen?' Mae'n ddiddorol, onid yw, pe byddai 800 o blant y flwyddyn yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn unrhyw sefyllfa arall, tybed beth fyddai ymateb y Senedd. Footnotelink Tybed beth fyddai ymateb y papurau newydd a'r cyfryngau. Tybed a fyddem ni'n gweld torfeydd yn protestio. Ond rhywsut rydym ni wedi dod i dderbyn bod anafiadau ar ein ffyrdd a marwolaethau ar ein ffyrdd gan geir yn rhywbeth cyffredin, fel rhywbeth yr ydym ni'n ei dderbyn fel pris gwneud busnes.

Rwy’n sylwi bod plaid Brexit wedi cyhoeddi neges trydar y prynhawn yma i ddweud na all Cymru fforddio mynd yn arafach. Rwy'n gwrthwynebu'r duedd gan rai ar y dde i geisio defnyddio hyn yn rhan o'r rhyfeloedd diwylliant y maen nhw'n ceisio eu hymladd yn y fan yma. Rwy’n gwybod bod David Rowlands—ar wahân i fater Ewrop, yr wyf i'n anghytuno'n llwyr ag ef yn ei gylch—yn ddyn rhesymol. Felly, roedd clywed yr araith a roddodd, a ddechreuodd yn ddigon rhesymol ond a drodd yn gyfraniad at raglen ffonio’r radio erbyn y diwedd, yn syndod i mi.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y dystiolaeth yn glir a bod y dystiolaeth yn gryf. Gwnaeth Janet Finch-Saunders y pwynt ei fod yn synnwyr cyffredin ac yn gam diogel, ac rwy'n credu bod yr arolygon barn yn cadarnhau hyn. Caiff yr ymyriad hwn ei groesawu a'i dderbyn yn eang.

Ceir pryderon ynghylch adnoddau a phryderon ynghylch gorfodi, ac rwy'n credu eu bod nhw yn bryderon dilys. Ar hyn o bryd, rydym ni'n gwario llawer iawn o adnoddau ond ar beirianneg, ar ymyriadau caled, a'r dystiolaeth yw ein bod ni fwy na thebyg wedi cyflawni cymaint ag y gallwn ei gyflawni o'r dull hwnnw. Mae'r ffigurau ar gyfer lleihau nifer y bobl a gaiff eu hanafu mewn damweiniau ar y ffyrdd wedi arafu ac erbyn hyn mae lefel weddilliol ystyfnig o bobl sy'n cael eu hanafu nad yw'n ymddangos bod y dull hwnnw yn gallu ei lleihau â rhyw lawer o ddynamiaeth.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych o'r newydd ar ein dull gweithredu. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol a gyda'r heddlu i weithio drwy'r agweddau ymarferol ar hyn, a bydd y cynlluniau treialu y gofynnodd John Griffiths yn eu cylch yn cael eu datblygu gyda nhw mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau. Felly, Russell George, byddwn ni bendant yn dymuno i un ohonyn nhw fod mewn lleoliad gwledig. Bydd y system gwybodaeth ddaearyddol, y system mapio lloeren yr ydym ni'n ei defnyddio i geisio awgrymu pa ffyrdd a allai fod yn 20 a pha rai a allai fod yn 30, wrth gwrs, yn berthnasol i leoliadau gwledig yn ogystal â lleoliadau trefol. Cododd Russell gyfres o gwestiynau technegol, a byddaf i'n ysgrifennu ato i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud cyfiawnder â phob un. Ond, wrth gwrs, fe fydd canllawiau cadarn ar gael, a byddwn yn gweithio ar y rhain o ganlyniad i'r cynlluniau treialu gyda CLlLC a'r heddlu.

Cododd gwestiwn cyfreithiol ynghylch y diffiniad o ffyrdd cyfyngedig pan nad oedd goleuadau ffordd yn bresennol, a bydd angen i mi wirio'r sefyllfa gyfreithiol o ran hynny. Ond o ran enghraifft Ceredigion, er enghraifft, rwyf i ar ddeall eu bod nhw'n barthau drwy orchymyn; gellir eu diddymu, wrth gwrs, os oes angen. A dyna yw diben y dull hwn: mae'n ddull caniataol, sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol a'r hyn y mae cymunedau yn dweud wrthym eu bod yn dymuno ei wneud yn eu lleoliadau. Felly, fel y soniodd John Griffiths, ac fel y soniodd Rhun ap Iorwerth, mewn ardaloedd gwledig, os oes rhywbeth yno sy'n awgrymu dull gwahanol, rydym yn gobeithio gweithio gydag awdurdodau lleol i roi'r rhyddid iddyn nhw ymateb i'r amgylchiadau y maen nhw'n dod ar eu traws. Nid gordd yw hon; cam strategol yw hwn ond gyda rhywfaint o ddisgresiwn o ran lefel y manylder er mwyn sicrhau ein bod ni'n ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n synhwyrol.

Dywedodd Siân Gwenllian ar y dechrau am y ffordd y mae GoSafe yn targedu adnoddau ar hyn o bryd ar ardaloedd sydd â lefelau uchel o farwolaethau ac anafiadau difrifol, a soniodd Janet Finch-Saunders am yr hyn a alwodd yn 'wallgofrwydd llwyr' edrych ar ddamweiniau yn hytrach na damweiniau a fu bron â digwydd. Ac rwy'n meddwl mai hynny yw un o broblemau'r dull presennol, ond os byddwn ni'n ei droi ar ei ben ac yn gosod 20mya yn ddiofyn, bydd swyddogaeth GoSafe a'r heddlu yn wahanol wedyn. Ac mae John Griffiths yn iawn: bydd hyn, ymhen amser, yn hunanorfodi. Ond yn amlwg, bydd hyn yn cymryd amser. Mae hwn yn brosiect newid ymddygiad, newid diwylliannol, dros amser.

Ond mae'r ffigurau yn llwm ac mae'r ffigurau yn glir: mae'r perygl o gael eich lladd bron i bum gwaith yn uwch mewn gwrthdrawiadau rhwng car a cherddwr ar 30mya, o'i gymharu â'r un math o wrthdrawiadau ar 20mya—bum gwaith yn uwch. Y pwynt pan fo'r car yn mynd yn gyflymach—. Ar y pwynt pan fydd car sy'n symud 20mya wedi stopio, byddai car a oedd yn symud 30mya yn dal yn symud 24mya. Ac mae’r dystiolaeth hon wedi ei nodi yn yr adroddiad, felly nid wyf i o'r farn y gallwn ni ddweud o ddifrif bod y dystiolaeth o hyn yn wan nac nad ydym ni wedi cyflwyno'r achos yn llawn o blaid yr angen am y math hwn o ymyrraeth.

Nodwyd enghreifftiau Caerfaddon a Gwlad yr Haf lle gwelwyd cynnydd mewn marwolaethau ac eraill lle nad oedd yr effaith ar ansawdd yr aer yn sicr, ond wrth gwrs mae'r rhain yn ddulliau gwahanol, parthau yw'r rhain. Ac nid dull gweithredu ar gyfer parthau 20mya yw hwn; mae hwn yn derfyn cyflymder diofyn ar gyfer ardal gyfan. Felly, 20mya fydd y safon, a 30mya fydd yr eithriad. A gwnaeth David Rowlands y pwynt chwerthinllyd bod gan geir systemau brecio gwell erbyn hyn, a rhywsut nad oedd angen i ni—y gallem ni ddiystyru'r ffaith bod 800 o blant y flwyddyn yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.Footnotelink Wel, yn amlwg, nid yw'r systemau brecio hynny yn effeithiol, David, ydyn nhw? Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n effeithiol; mae plant yn marw, maen nhw'n marw ac mae angen i ni atal hynny, ac mae hyn yn ffordd o'i atal. Ac rwy'n credu bod y sylwadau mursennaidd bod 20mya yn derfyn hurt o isel, rwy'n credu eu bod nhw'n dweud mwy am yr ymdrech ryfel diwylliant y mae'n ceisio ei ddechrau nag am y dystiolaeth. Gwnaeth Jenny Rathbone y pwynt bod pobl yn arfer dweud bod gwregysau diogelwch yn sarhad ar ryddid, a bod ysmygu yn wynebau pobl yn hawl, ac yn wir, ni fyddai neb yn dweud hynny erbyn hyn.

Rwy'n gobeithio fy mod i wedi gweithio fy ffordd drwy'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd, Llywydd. Os ydw i wedi methu â gwneud hynny, fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelodau. Mae hwn yn newid sylweddol. Nid ydym ni'n rhuthro'r peth. Rydym ni wedi cael ein beirniadu am gymryd gormod o amser i fynd ati; rydym ni eisiau gweithio trwy'r manylion a chael pethau'n iawn. Bydd y wobr am wneud pethau yn iawn yn uchel, ac rwy'n croesawu'r her gan yr Aelodau, ac rwy'n croesawu hynny fel sgwrs barhaus, fel y gallwn ni, gyda'n gilydd, fod yn fodlon ein bod ni’n gwneud y peth iawn. Ac rwy’n credu o’r holl bethau y bydd pob un ohonom ni wedi eu cyflawni mewn gwleidyddiaeth, os gwnawn ni hyn yn iawn, fe fydd yn waddol sylweddol i'n Senedd ni. Diolch, Llywydd.

16:55

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? [Gwrthwynebiad.] Iawn, dwi'n clywed y gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r holl eitem a'r pleidleisiau tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10—swyddogaethau'r pwyllgor yn ymwneud â goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru. Dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7353 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Does neb yn siarad, ac, felly, y cynnig yw i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, ac felly rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

15. Cynnig i Ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd

Y cynnig nesaf yw i ddiwygio Rheolau Sefydlog am y Comisiwn Etholiadol a phwyllgor y Llywydd. Dwi'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7352 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Rheol Sefydlog 18B—Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18B newydd, a diwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Does neb wedi datgan eu bod nhw eisiau siarad ar yr eitem. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dwi yn awr yn mynd i gynnig ein bod ni yn cael egwyl o ddim mwy na phum munud er mwyn i rywfaint o waith diheintio gael ei wneud yn y Siambr. Felly, pum munud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:57.

17:00

Ailymgynullodd y Senedd am 17:03, gyda David Melding yn y Gadair.

16. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 yn sgil COVID-19

Trefn, trefn. Eitem 16 yw dadl y Pwyllgor Cyllid: blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft 2021-22 oherwydd COVID, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7351 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn trafod y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, ac, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rwy’n falch iawn o allu agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Fel y bydd y Siambr yma'n gwybod, wrth gwrs, ers cryn amser mae’r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi ei bryder nad yw’r Senedd yn cael cyfle ffurfiol i drafod a, gobeithio, drwy hynny, ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod. Y llynedd oedd y tro cyntaf i ni gynnal y math hwn o ddadl, a oedd yn arbennig o berthnasol, wrth gwrs, o ystyried goblygiadau Brexit a'r etholiad cyffredinol ddaeth ddiwedd y flwyddyn.

Yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft 2020-21, mi wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallai dadl ar flaenoriaethau gwariant gael ei chynnwys yn amserlen y gyllideb er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried barn y Senedd cyn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft. Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a'r Pwyllgor Busnes hefyd, wedi cytuno y dylid cynnal dadl o'r math hwn nawr bob blwyddyn.

Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar ddod yn cael ei heffeithio, wrth gwrs, fel rŷn ni'n clywed yn gyson, gan COVID-19, hefyd gan ddiwedd cyfnod pontio Brexit, a’r adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig, sydd wedi'i ohirio. Yr wythnos diwethaf, fe gawsom ni ddatganiad haf gan Lywodraeth y DU a oedd yn cynnwys symiau ychwanegol o gyllid canlyniadol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, does gennym ni ddim ffigurau cyllido ar gyfer 2021-22 o hyd. Er mwyn i Lywodraeth Cymru gynllunio'n effeithiol a sicrhau'r lefel briodol o waith craffu seneddol, mae'n amlwg bod cyllidebau'r llywodraethau datganoledig yn dibynnu ar amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig. Felly, dwi a fy nghymheiriaid yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am arwydd cynnar ynglŷn ag amseriad cyllideb y Deyrnas Unedig a sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i effaith yr amseriad hwnnw ar y prosesau cyllidebol priodol ar draws y gwledydd datganoledig.

Fel arfer, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal digwyddiad blynyddol i randdeiliaid ar y gyllideb, ond yn anffodus eleni, o ystyried y cyfyngiadau symud ledled y wlad, dyw hynny ddim wedi bod yn bosib. Mae hyn yn siomedig i'r pwyllgor a, dwi'n siŵr, i randdeiliaid hefyd, gan fod y digwyddiadau yma wedi cael derbyniad da iawn yn y gorffennol. Mae’n gyfle gwych i glywed safbwyntiau cynnar rhanddeiliaid am beth ddylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Fe gaiff hyn ei ddefnyddio wedyn gan y Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau polisi eraill i nodi nifer o feysydd i ganolbwyntio eu gwaith craffu ar y gyllideb o'u cwmpas nhw. Yn lle hynny, eleni rŷn ni wedi ymgysylltu ar-lein er mwyn ceisio safbwyntiau o ran yr hyn y mae rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn credu y dylai blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru fod. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein harolygon barn ni yn hynny o beth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod yr ymarfer ymgysylltu hwn yn gyfyngedig, wrth gwrs, o ran cwmpas gan mai sampl hunanddewis, heb ei seilio ar sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth, a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, mae'n rhoi cipolwg diddorol i ni ar safbwyntiau gwahanol bobl, ac rŷm ni wedi nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw yn sgil hynny.

Roedd sylwadau a gafwyd o'r gwaith ymgysylltu yn dangos bod y gwasanaeth iechyd ac addysg yn feysydd blaenoriaeth allweddol, gydag un cyfranogwr yn nodi bod angen mwy o fuddsoddiad cychwynnol mewn iechyd ac addysg i helpu i ysgogi diwylliant o ffyrdd o fyw’n iach i leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol, ac wrth gwrs i ryddhau cyllidebau yn y tymor hir. Yn amlwg, bydd effaith COVID-19 yn fater i Lywodraeth Cymru wrth bennu ei chyllideb nesaf. Roedd 49 y cant o'r cyfranogwyr o'r farn y dylid gwneud newidiadau sylweddol i'r swm sy’n cael ei wario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a'r blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r pandemig. Fodd bynnag, doedd dim llawer o awydd ymhlith y cyfranogwyr i godi trethi er mwyn cynyddu'r swm sydd gan Lywodraeth Cymru i’w wario yng Nghymru. Roedd rhai yn dadlau y byddai lleihau trethi yn ysgogi mewnlif cyfalaf a gwariant domestig. Fe gafwyd ymateb cadarnhaol o ran mwy o fenthyca er mwyn manteisio ar gyfraddau llog sydd, wrth gwrs, is nag erioed, ac rŷm ni wedi cefnogi cais y Gweinidog am hyblygrwydd dros fenthyca a mynediad at gronfa wrth gefn Cymru yn ein hadroddiad diweddar ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, gwnaeth 27 y cant o'r cyfranogwyr hepgor y cwestiwn am drethiant a benthyca, a gallai hyn fod yn arwydd o’r ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datganoli cyllidol yng Nghymru.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo'n gryf y dylai newid hinsawdd a chynaliadwyedd gael eu hystyried mewn penderfyniadau ar wariant gan Lywodraeth Cymru. Roedd cyfranogwyr yn credu y dylid canolbwyntio ar drafnidiaeth werdd, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded, i feicio neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn sicrhau buddion iechyd a hefyd i leihau’r baich ar wasanaethau iechyd. Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill y llynedd, ac mae'n amlwg bod cyfleoedd i fanteisio ar y newidiadau helaeth mewn ymddygiad dynol o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws i ddefnyddio’r gwariant yng nghyllideb 2021-22 i fwrw ymlaen ag adferiad gwyrdd o COVID-19.

Roedd datganiad yr haf yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhywfaint o arian ychwanegol, sydd i’w groesawu, mesurau megis y bonws cadw swyddi a chymorth i'r sector lletygarwch a thwristiaeth. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod risgiau sylweddol i economi Cymru, ac mae angen mwy o fuddsoddiad yn ogystal ag ystod o bolisïau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i lywio’r economi allan o ddirwasgiad. Mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru fwy o sicrwydd o ran cyllid a mwy o hyblygrwydd hefyd i gael mynediad at fenthyciadau a chronfeydd wrth gefn i gyflawni hyn.

Mae hyn oll, ynghyd â'r ansicrwydd ynghylch sut y bydd argyfwng COVID-19 yn parhau, ac ansicrwydd o ran yr arian sydd ar gael i Gymru, yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni gael y ddadl yma heddiw. Mae angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i ystyried yn ofalus pa fath o economi, pa fath o wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas rŷn ni'n dymuno eu gweld wrth inni ddod allan o'r argyfwng yma a beth y gallai hyn ei olygu o ran blaenoriaethau a phenderfyniadau buddsoddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Gyda’n gilydd, mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosibl er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y ffordd orau, i sicrhau bod y boblogaeth yn iach, yn addysgedig, ac yn ddiogel, a bod yr economi'n adfer ac yn ffynnu. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn, felly, at glywed cyfraniadau'r Aelodau eraill i'r cyfle yma sydd i drafod y mater yma y prynhawn yma.

17:10

Yn rhy aml, y peth amlwg i'w wneud yn y dadleuon hyn yw rhestru'r holl flaenoriaethau sy'n eich wynebu chi neu eich etholaeth. Yn hytrach na darllen rhestr o feysydd lle'r wyf i'n credu y byddai gwariant ychwanegol yn helpu Blaenau Gwent—boed yn addysg, iechyd, cymorth busnes, llywodraeth leol neu hyd yn oed lliniaru effaith Brexit 'heb gytundeb' trychinebus, yr hyn yr hoffwn i ei wneud y prynhawn yma yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol a chanolbwyntio ar sut yr wyf i'n credu y dylai'r Llywodraeth fod yn mynd ati yn y cylch cyllideb hwn, a rhai o'r camau a fyddai'n deillio o'r pwyntiau egwyddor hynny.

Mae pennu cyllideb heddiw yn wahanol iawn i'r broses o bennu cyllideb pan gefais fy ethol gyntaf, 13 mlynedd yn ôl, pan oedd pennu cyllideb yn ei hanfod yn ymwneud â gwneud penderfyniadau gwario—penderfyniadau ynghylch ble y byddai gwahanol rannau o'r gyllideb yn cael eu gwario. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni bennu cyllideb fantoledig, ac mae'n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn codi arian yn ogystal â sut yr ydym yn gwario arian. Ac mae hynny yn galw am broses gyllidebol wahanol iawn. Mae hefyd yn mynnu bod y lle hwn yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ymchwilio i gyllideb a phroses ariannol ddeddfwriaethol. Rwy'n credu bod yr amser hwnnw wedi dod. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ei dystiolaeth, y daw'r amser ar ryw adeg. Rwyf i'n credu bod yr amser wedi dod heddiw pan ddylem ni fod yn rhoi systemau a strwythurau priodol ar waith ar gyfer craffu ar bob gwariant a phob elfen o godi trethi. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn ein bod yn trethu pobl yn y wlad hon heb basio darn o ddeddfwriaeth sy'n gosod y sail ar gyfer hynny. Mae angen mwy o oruchwyliaeth arnom ni a mwy o atebolrwydd o ran pennu cyllidebau, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gennym ni gylch cyllideb deddfwriaethol sydd wedi ei sefydlu yma mewn statud, a hynny, mae'n debyg, ar ddechrau'r Senedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sylw i hynny.

Ond wrth fwrw ymlaen â hynny, rwy'n credu bod rhai egwyddorion y mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn yn eu cylch. Mae llawer o bobl wedi sôn am ddychwelyd i normalrwydd ar ôl yr argyfwng COVID, ond gadewch i mi ddweud hyn: i lawer o bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli yn y wlad hon, nid oedd yr hen normal yn brofiad hapus iawn. Nid oedd yn brofiad hapus iawn i fod yn gweithio dwy neu dair swydd wahanol am yr isafswm cyflog, gyda thelerau ac amodau ofnadwy. Nid oedd yn brofiad da iawn i fod yn byw mewn tai gwael, heb unrhyw ymdeimlad o ddyfodol y gallem edrych ymlaen ato. Mae angen normal newydd arnom ni sy'n well na'r hen normal—normal newydd lle gallwn ni ddal bysiau a gweithio mewn cyflogaeth ddiogel am gyflog teilwng a lle mae telerau ac amodau teilwng. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod cynaliadwyedd yn elfen gwbl ganolog i'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

Roeddwn i wedi siomi'n fawr fod y Gweinidogion cyllid blaenorol—nid y deiliad presennol—wedi gwrthod yn llwyr cynnwys cynaliadwyedd yn un o egwyddorion arweiniol allweddol penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio y caf i fwy o lwyddiant gyda'r Gweinidog cyllid hwn nag yr wyf i wedi ei gael gyda'i rhagflaenwyr, ond byddwn i'n sicr yn dadlau bod cynaliadwyedd yn allweddol i'r gyllideb. Ond yn ail, ac yn drydydd hefyd, mae cyfiawnder cymdeithasol, tegwch, cydraddoldeb a deall beth fydd y dyfodol. Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn pennu ein cyllidebau, rydym yn ystyried yr hyn a gafodd ei wario y llynedd ac wedyn yn ceisio ei gynyddu rhywfaint neu, o bosibl, ei leihau rhywfaint y flwyddyn nesaf. Rwyf i'n credu bod angen i ni edrych yn fanwl ar beth fydd y dyfodol. Rydym ni'n gwybod y byddwn yn gweld newid diwydiannol sylweddol yng Nghymru o ganlyniad i newid technolegol. Fe wyddom ni fod COVID eisoes wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni'n ymddwyn, a bydd rhai o'r newidiadau hynny yn barhaol. Mae angen i ni allu edrych yn fanwl a deall y dyfodol hwnnw, ac yna gwneud penderfyniadau sydd â'u gwreiddiau yn egwyddorion gwleidyddol cynaliadwyedd, tegwch a chydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac wedyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut yr ydym yn gwario yr arian sydd ar gael i ni.

Ond rwyf i hefyd yn awyddus i weld polisi treth yn rhan ganolog o hyn. Nid wyf i o'r farn y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau o fewn y cwantwm cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Dorïaidd yn Llundain nad yw'n rhannu ein hegwyddorion, yr un gwerthoedd a'r un gweledigaethau, ac mae angen i ni fod yn barod i ddadlau hynny drwy broses yn y fan yma wrth bennu cyllideb.

Felly, beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dirprwy Lywydd dros dro, rwyf i'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pobl, mewn lleoedd, mewn swyddi, mewn ansawdd bywyd. Rwyf i'n dymuno ein gweld yn buddsoddi yn nyfodol canol trefi, ac mae angen i'r rhain fod yn wahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw pan oeddwn i'n ifanc. Ni fydd y canol trefi hynny o flynyddoedd fy ieuenctid yn y Cymoedd fyth yr un fath eto. Mae angen i ni ail-ddyfeisio hynny ac mae angen i ni allu ariannu hynny. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein cymunedau, felly maen nhw'n lleoedd lle gall pobl deimlo'n ddiogel a lle rydym ni bobl eisiau byw ac yn mwynhau byw. Rydym ni hefyd yn gweld nifer enfawr o ddiswyddiadau ar hyd a lled y wlad, ac nid dim ond y diswyddiadau yr ydym yn eu gweld yn y penawdau, ond pobl yn colli eu swyddi mewn cwmnïau bach a busnesau nad ydyn nhw'n cyrraedd y penawdau, ond gyda'i gilydd sy'n newid llawer o gymunedau a bywydau llawer o bobl.

Rwy'n gobeithio y byddwn ni—ac wnaf i ddim trethu eich amynedd, Llywydd dros dro; fe ddywedaf i hyn i gloi—y gall y Llywodraeth weithredu'n gyflym, yn ystwyth ac ar fyrder. Nid oes gennym ni'r moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael i ni, ac nid oes gan lawer o'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli y moethusrwydd o fod â digon o amser ar gael iddyn nhw. Nid yw'n ddigon da gwneud areithiau am yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld; mae angen cyllideb arnom ni a fydd yn cyflawni'r hyn y mae angen i ni ei weld. Diolch.

17:15

Iawn. Os byddwn yn cadw at bum munud neu oddeutu hynny, byddaf i'n gallu cynnwys pawb. Mae gen i dri aelod Llafur arall sy'n dymuno cyfrannu ac rwy'n awyddus iawn i'w galw nhw. Nick Ramsay.

Rwy'n deall, Cadeirydd; byddaf i'n gryno. Diolch, ac rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac, yn wir, i ddilyn y Gweinidog emeritws—mae bob amser yn dda gwrando ar yr hyn sydd gan Alun Davies i'w ddweud. Roedd yn ddoniol braidd pan ddywedsoch chi, Alun, eich bod yn gobeithio y caech chi fwy o lwyddiant gyda Rebecca na'i rhagflaenydd, gan mai ei rhagflaenydd, wrth gwrs, oedd y Prif Weinidog, felly rwy'n tybio y bydd angen i chi siarad ag ef hefyd ynghylch gwneud yn siŵr bod rhai o'r materion hynny ynglŷn â chynaliadwyedd yn wirioneddol gyfrif yn y dyfodol.

Mae cael y ddadl hon cyn proses Llywodraeth Cymru o bennu'r gyllideb ddrafft yn sicr yn ffordd wahanol o wneud pethau; nid wyf i'n cofio pryd yr ydym ni wedi cael y math hwn o ddadl, y math hwn o drafodaeth o'r blaen. Ac wrth edrych ar yr agenda, mae 2021-22 yn ymddangos yn bell i ffwrdd ar lawer ystyr, ond gall y Senedd hon gyfrannu rhywfaint at y broses honno nawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n beth da ein bod ni yn ceisio gwneud rhyw fath o gyfraniad at hynny.

O ran y mater a gododd Alun Davies ynghylch symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol, mae hyn yn rhywbeth yr oedd gen i feddwl agored yn ei gylch am gyfnod hir, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef, wrth i amser fynd heibio, fod cryfder y ddadl dros Fil cyllid priodol i amrywio trethi, ac yn y blaen, wedi fy argyhoeddi ei bod yn ffordd dda o fynd ati. Fel y dywedodd Alun, mae hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei ystyried yn fanwl ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni wneud mwy o waith arno ac yn rhywbeth y dylem ni ei argymell fel ffordd dda o fynd ati yn y dyfodol, yn enwedig wrth i bwerau trethu y Cynulliad ymsefydlu ac ehangu.

Wrth gwrs, yr anhawster o gael y ddadl hon ar hyn o bryd, er ein bod ni yn ceisio cynnal dadleuon mor normal ag sy'n bosibl, yw cefndir y pandemig a natur y sefyllfa sy'n parhau. O ran y broses o bennu'r gyllideb nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru, bydd llawer yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd dros weddill y flwyddyn hon, yn ystod yr hydref ac, yn wir, wrth symud drwy'r blynyddoedd nesaf o ran y pandemig ac a fydd ail gynnydd sydyn.

Ac wrth gwrs, ar wahân i hynny, rydym ni yn awyddus i ail-adeiladu yn well, ymadrodd a ddefnyddiais yn gynharach yn y cwestiynau, ac sy'n un da yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn esbonio'n gwbl eglur sut y dylem ni fel Senedd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru, geisio ailadeiladu'r economi. Mae'n fwy na dim ond mater, fel sydd newydd gael ei ddweud, o fynd yn ôl at yr hen normalrwydd. Rydym ni'n awyddus i ddod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar gyfer y dyfodol mewn modd mwy cynaliadwy nag a wnaethom ni yn y gorffennol, a manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi eu cyflwyno ac nid ymateb yn unig i rai o'r heriau, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ei wneud.

Felly, dylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn dangos ymrwymiadau clir i'r broses honno o ailadeiladu mewn modd cynaliadwy. Mae deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol bod cynaliadwyedd yn ganolog i bob agwedd ar waith y Llywodraeth, gan gynnwys y gyllideb, ond yn llawer rhy aml nid fel yna y mae hi. Mae argyfwng yr hinsawdd wedi gwneud hyn yn hanfodol; byddwn yn aml yn sôn am yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, ond yn rhy aml, nid yw'n argyfwng sy'n cael y math o sylw a phwyslais y dylai eu cael mewn gwirionedd. Felly ie, dylai'r rhain i gyd fod wrth wraidd y broses o bennu cyllideb, nid dim ond yn ychwanegiad ar y diwedd, dylen nhw gael eu cynnwys ar y dechrau a thrwy gydol y broses. Ac os, am ba reswm da bynnag, bydd angen i Lywodraeth Cymru wyro, neu'n teimlo bod angen iddi wyro oddi wrth rai o'r egwyddorion hynny, yna iawn, ond mae angen i ni fel Senedd gael gwybod am hyn ac mae'n rhaid iddo fod yn dryloyw pam mae hynny'n digwydd. Mae'n rhaid i broses y gyllideb ddrafft nesaf wneud yr economi yn fwy gwyrdd wrth i ni ail-godi o'r pandemig.

Rwy'n credu bod band eang—fe wnes i sôn am hyn yn gynharach; dyma fydd fy mhrif sylw heddiw—yn gwbl hanfodol. Gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith ffyrdd, gallwn, fe allwn ni wella'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae'r rhain i gyd yn bethau y dylem ni fod yn eu gwneud. Ond os byddwn ni'n cael y band eang a'r seilwaith digidol yn iawn ar y dechrau, yna ni fydd angen i ni greu yr un lefel o gapasiti a chynnal yr un lefel o gapasiti ag yr ydym ni wedi gwneud yn y gorffennol. Mae llawer gormod o ardaloedd yng Nghymru wledig o hyd heb ddarpariaeth band eang ddigonol. Mae camgymeriadau wedi eu gwneud yn y gorffennol wrth ymdrin â rhai o'r contractau hynny, ac mae angen cywiro hynny. Rwy'n gobeithio bod cyllideb 2021-22 yn cynnwys penderfyniad gwirioneddol, ar bob lefel ac ar draws adrannau, i gael seilwaith band eang y wlad hon yn iawn, i ddarparu ar gyfer y mannau gwan, ac i geisio cael hyd at 100 y cant o signal gymaint ag y bo modd, ond signal dibynadwy hefyd.

Byddaf i yn dweud, i ddod i gasgliad, Cadeirydd, o ran rhai o'r pethau yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig eu gweld, wel, rydym ni wedi bod yn dadlau ers tro bod angen ailgyfeirio gwariant er mwyn creu cronfa adfer yr economi ar ôl COVID. Hoffem ni weld cronfa o £250 miliwn y gellid ei defnyddio i helpu trefi a chymunedau ledled Cymru. Mae dadl gref hefyd, rwy'n dal i ddweud, dros ddileu ardrethi busnes i fusnesau hyd at werth ardrethol o £15,000, i roi hwb i'r economi ac i gefnogi busnesau ar yr adeg hon a rhoi arian iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithlu ac yn y dyfodol. Rydym ni hefyd wedi dweud y byddem ni'n creu parthau sy'n rhydd rhag ardrethi busnes, gyda gwyliau ardrethi busnes am hyd at dair blynedd ar gyfer busnesau sy'n gymwys i fynd i'r parthau hynny. Dim ond rhai meysydd yw hynny yr ydym ni'n credu y gellid eu cynnwys yn y gyllideb nesaf.

Ond ar wahân i gynnwys gwirioneddol y gyllideb honno, rwyf i'n credu bod hon yn ffordd dda iawn o symud ymlaen. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn cael mwy o drafodaethau ar ddechrau'r broses o bennu cyllideb y Senedd, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o safbwyntiau'r Senedd hon ar y cyfle cyntaf i lunio'i chyllidebau.

17:20

Rwyf i hefyd yn falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Mae hyn yn golygu nad ydym ni'n ymateb i gyllideb ddrafft, ond yn cynnig awgrymiadau i'w hystyried. Mae hefyd yn golygu y gall pleidiau gwleidyddol eraill lunio eu cynigion cyllideb eu hunain. Yn anffodus, hyd yn hyn, y cyfan a gawn yw galwadau am drethi llai yn fan hyn a chynnydd yn y gwariant yn y fan yna. A gaf i annog y Ceidwadwyr a Plaid Cymru i lunio cyllideb fel y gallwn ni ei thrafod yn rhan o broses y gyllideb, yn hytrach na gwneud dim byd ond dweud, 'Rydym ni eisiau trethu'n llai a gwario'n fwy'? Nid oes angen iddi fod yn ddim mwy na phrif symiau ar gyfer y prif feysydd gwariant ac unrhyw newidiadau mewn trethiant.

Bydd cyllideb eleni yn wahanol oherwydd effaith COVID arni. Mae COVID wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni yn gweithio ac yn siopa. A yw hyn yn newid tymor byr? Ydy pobl yn mynd i roi'r gorau i siopa ar-lein a mynd yn ôl i'r siopau? Ydy pobl yn mynd i beidio â gweithio gartref a dychwelyd i'w swyddfeydd? Nid ydym ni'n gwybod. Rwyf i'n disgwyl y bydd rhai yn gwneud ond y bydd rhai na fyddan nhw'n gwneud, ond yn sicr bydd yn wahanol. Mae'r sector manwerthu wedi wynebu ailstrwythuro busnes ar raddfa fawr—85,000 o swyddi wedi eu colli, dros 9,000 o swyddfeydd wedi eu cau—ond er gwaethaf hyn, mae gwerthiannau ar-lein yn parhau i dyfu, gan gyrraedd 21 y cant o gyfanswm y gwerthiannau. Yn yr un modd, o ran gweithio gartref: tuedd o dwf araf mewn gweithio gartref i naid anferth yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae perygl y bydd y Cynulliad yn cytuno ar gyllideb a fydd yn gweithio ar gyfer y llynedd, ond na fydd yn gweithio ar gyfer eleni—rydym ni'n datrys problemau y llynedd. Y peth cyntaf am gyllideb yw'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, ac rwyf i'n dweud ein bod ni eisiau cenedl werdd, ffyniannus ac iach. Wel, ni fyddwch yn pleidleisio yn erbyn hynny, na fyddwch? Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud—. Beth ydym ni'n mynd i geisio ei wneud a beth ydym ni'n anghytuno ag ef?

A gaf i ddechrau gyda'r economi? Mae darparu cymhellion ariannol i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru wedi arwain at sawl canlyniad anhapus. Os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod yma, gallaf i ddweud wrthych chi: nid ydyn nhw'n dymuno dod. Dim ond oherwydd eich bod chi'n eu llwgrwobrwyo maen nhw'n dod ac os ydyn nhw'n cael gwell cynnig yn rhywle arall, maen nhw'n gadel. Rydym ni i gyd yn gwybod am enghreifftiau o hyn. Roedd Vincent Kane yn arfer siarad am 25 i 30 munud ynghylch yr holl gwmnïau a ddaeth, ond na wnaeth greu'r swyddi y gwnaethon nhw eu gaddo ac yna gadael yn y pen draw.

Rwy'n cofio Gweinidog yn y Llywodraeth yn dweud bod gennym ni'r cymhellion ariannol gorau ar gyfer mewnfuddsoddi—mae'n wir mae'n debyg. Roedden nhw'n ystyried hynny yn arwydd mawr o gryfder—ni oedd y gorau. Roeddwn i yn ei ystyried yn arwydd o wendid. Yn syml, os oes rhaid i chi gynnig cymhelliad ariannol mwy na neb arall, yna, pan ddaw rhywun, byddant yn gadael pan fydd rhywun arall yn gwneud cynnig gwell.

Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yng Nghaergrawnt? Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yn Silicon Valley? Nid ydyn nhw, oherwydd bod pobl yn dymuno mynd yno. Ein problem ni yw bod angen i ni greu economi, mae angen i ni greu gweithlu medrus er mwyn i bobl ddymuno dod yma. Byddaf yn rhoi dwy enghraifft i chi. Ydych chi'n cofio LG yn y 1990au? Cafodd cyllideb gyfan Awdurdod Datblygu Cymru ei defnyddio i ddod ag LG yma. Ni fu diweddglo da iawn i'r hanes, na fu? Cymharwch hynny ag Admiral—cwmni newydd drwy gyllid egino. Roedd diweddglo da iawn i'r hanes yna. Mae angen i ni feithrin ein heconomi ac i wneud hynny mae angen i ni fuddsoddi mewn addysg a defnyddio llwybrau ymchwil a phrifysgolion i dyfu'r economi. Dyna beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd. Pam nad ydym ni'n ymuno yn y drefn, wn i ddim.

Arian sy'n cael ei wario ar addysg yw'r gwariant datblygu economaidd gorau o bell ffordd. Gyda gweithlu medrus a hydddysg, bydd cwmnïau yn dymuno dod yma, heb i ni orfod dweud, 'Dyma'r arian.'

Mae nifer o bethau da wedi eu gwneud yn ystod argyfwng COVID. Yn gyntaf, mae digartrefedd ar y stryd wedi diflannu bron yn llwyr. Nid wyf i, na llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, yn dymuno iddo ddychwelyd ar ôl COVID. Rydym ni wedi cael dadleuon hir yn y fan yma, yn drawsbleidiol, gan eich cynnwys chi, Llywydd dros dro, ynghylch y ffaith nad oes arnom ni eisiau digartrefedd ar y stryd ac y dylem ni fod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Wel, daeth COVID, ac fe lwyddon ni i wneud hynny. Allwn ni ddim mynd yn ôl. Os gallwn ni fynd i'r afael â digartrefedd ar y stryd yn ystod argyfwng COVID, yna gallwn ni fynd i'r afael ag ef mewn cyfnod nad yw'n argyfwng.

Yn ail, rydym ni wedi darparu bwyd i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Rwyf i wedi bod yn gofyn am hyn yr holl amser rydym ni wedi bod yma. Mae hyn wedi digwydd eleni. Mae'n rhaid iddo barhau.

Yn drydydd, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y pandemig yw pa mor bwysig yw llywodraeth leol a pha mor dda yw llywodraeth leol a sut y mae llywodraeth leol wedi perfformio'n eithriadol o dda yn ystod hyn.

Rhagfynegiadau: y gyllideb iechyd fydd yn cael y cynnydd mwyaf a'r lleiaf o graffu o ran canlyniadau. Beth fydd iechyd yn ei wneud gyda'r arian ychwanegol? Mae angen i ni gael canlyniadau iechyd a gwelliannau iechyd. Dylai pob ymyriad wella bywyd y claf. Yn rhy aml, mae llawdriniaeth yn llwyddiannus, nid yw'r claf yn gallu mynd adref, felly mae'n gorfod mynd i gartref nyrsio. Nid wyf i'n siŵr mai llwyddiant yw hynny, ond rwy'n siŵr y bydd ysbytai a meddygon ymgynghorol yn dweud mai llwyddiant ydyw oherwydd bod y llawdriniaeth wedi gweithio.

Yn olaf, mae angen i ni warchod cynefinoedd a'r amgylchedd, ac mae llawer o hyn yn ymwneud llawer yn fwy ag agwedd nag arian. Gellir gwneud llawer o'r pethau hyn gydag ychydig iawn o arian, ond ymrwymiad gwirioneddol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau meddwl ar y trywydd hwnnw.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am ddod â'r ddadl yma gerbron. Yn anffodus, oherwydd amser eleni yn y lle yma, dydw i ddim yn gallu bod yn Aelod o'r Pwyllgor Cyllid bellach ac rwy'n gresynu at hynny, ond rydw i yn ddiolchgar bob amser am waith trylwyr y pwyllgor wrth roi ystyriaeth i'r blaenoriaethau sydd o'n blaenau ni mewn cyd-destun newydd iawn.

Fel bob amser, mae yna ystod eang o flaenoriaethau wedi cael eu nodi gan y rhai a wnaeth ymateb i waith ymgysylltu'r pwyllgor, ond nid cyfnod normal ydy hwn, felly gall y blaenoriaethau ddim bod yn rhai normal ychwaith. Mae gennym ni gyd-destun di-gynsail, yn dilyn pedwar mis di-gynsail, sy'n mynd i olygu llawer mwy na phedwar mis o gyfnod anodd o'n blaenau ni. Mae canlyniadau a goblygiadau'r hyn rydyn ni wedi bod yn byw drwyddo fo, ac yn parhau i fyw drwyddo fo, yn mynd i fod efo ni o ran penderfyniadau gwariant am flynyddoedd i ddod.

Mae'n rhaid, dwi'n meddwl, inni fod yn feiddgar yn ein hymateb i'r sefyllfa yma. Mae yna gymaint o bethau unigol yn ein bywydau ni—edrychwch o'n cwmpas ni—sydd wedi newid yn sgil y pandemig yma. Mae yna bethau rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni eu rhoi nhw y tu cefn inni mor fuan â phosib, a dychwelyd i normalrwydd, mae yna bethau eraill rydyn ni gyd yn gobeithio fydd yn aros efo ni am yn hir—o brofiadau positif rydyn ni wedi eu dysgu, a'r newidiadau mewn meddylfryd sydd wedi dod i'r amlwg dros y misoedd diwethaf. A dyna fuaswn i'n leicio ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae cyllidebu yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru ac yn sgrwtini ein Senedd ni ohono fo.

Mae yna bethau penodol iawn, fel ein dealltwriaeth ni, unwaith eto, o werth llywodraeth leol. Fel dywedodd Mike Hedges, mae eisiau sicrhau ein bod ni, drwy brosesau cyllido, yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni unwaith eto wedi dod i werthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan lywodraeth leol. Mae eisiau cofio bod gofal tuag at eraill wedi dod yn commodity mwy gwerthfawr yn ein meddyliau ni gyd erbyn hyn. Tra dwi i wedi bod, ym Mhlaid Cymru, yn galw am fabwysiadu prosesau cyllido llesol—well-being budgeting—fel sydd wedi bod yn digwydd mewn gwledydd eraill—dwi wedi bod yn galw am hyn ers tro—mae yna gyd-destun gwahanol i hynny rŵan, dwi'n meddwl. Ac mae meddwl am wneud penderfyniadau gwariant mewn ffordd sydd go iawn yn ystyried pa effaith mae'r rhain yn mynd i gael ar bobl a'u hamgylchiadau nhw yn dod yn fwy pwysig nag erioed—am wn i, bod penderfyniadau ar wariant ar faterion amgylcheddol yn rhan o hynny.

Rydyn ni wedi dod i werthfawrogi y byd o'n cwmpas ni a'r bygythiad i'r byd o'n cwmpas ni mewn ffordd wahanol yn ystod y pandemig yma. Felly, tra mae llawer ohonon ni wedi bod yn galw am flaenoriaethu'r gwariant a'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mae hynny wedi dod yn fwy pwysig rŵan. A beth mae'r gwaith ymchwil gan y Pwyllgor Cyllid yn ei wneud ydy dangos yn gryf iawn fod pobl am i hynny gael ei adlewyrchu yng nghyllidebau Cymru. Os ydw i'n cofio'n iawn, roedd 78 y cant o'r rheini wnaeth ymateb i'r pôl ar Twitter—. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gallu rhoi gwerth llwyr ar bethau felly, ond mae o'n rhoi arwydd inni fod bron i 80 y cant yn meddwl y dylai penderfyniadau amgylcheddol fod yn gyrru penderfyniadau ar wariant ac ar y gyllideb. 

Mae yna bethau penodol y gallwn i sôn amdanyn nhw y buaswn i'n dymuno eu gweld mewn cyllideb sy'n ymateb i'r argyfwng—pethau fel guarantee cyflogaeth i bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed; arian ar gyfer ailsgilio Cymru yn sgil yr argyfwng yma, a'r angen i daro nôl yn economaidd a sgilio ein pobl ifanc i wneud hynny; yr angen am gael cronfa i adnewyddu Cymru—biliynau o bunnau, a rhagor o allu benthyca er mwyn delifro'r rheini. Ac mi fyddaf i'n annog a chefnogi'r Llywodraeth wrth wthio am newidiadau i'n rheolau fiscal ni i sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud y buddsoddiadau hynny rŵan, yn y cyfnod sydd i ddod, achos rŵan rydyn ni angen edrych ar bethau mewn ffordd wahanol ac adeiladu Cymru sy'n ffit ar gyfer y dyfodol. 

17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl bwysig hon a groesewir yn fawr. Rwy'n credu ei fod yn fenter ardderchog, un yr wyf i'n gobeithio y gallwn barhau â hi, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n astud ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i sylwadau'r Aelodau.

Rwy'n cydnabod y bu'r pandemig yn gyfnod heriol iawn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau cyllidebol. Rydym ni'n gwybod bod cyllidebau o dan bwysau aruthrol ac rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy y bu'r Llywodraethau yn awyddus i wneud penderfyniadau cyflym i wario arian er mwyn gwneud gwahaniaeth. Ond nid yw hynny bob amser yn golygu mai'r penderfyniadau cywir yw'r rhai hynny.

Un penderfyniad o'r fath yr hoffwn i ei grybwyll heddiw, a thynnu sylw ato fel blaenoriaeth o ran gwariant yn y dyfodol, yw'r £7 miliwn a dynnwyd o'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl, ac rwyf i wedi codi pryderon ynghylch hyn o'r blaen yn y Siambr. Ac, yn fy marn i, bu diffyg tryloywder, sy'n peri cryn bryder, ynghylch yr hyn a wnaed gyda'r arian hwnnw. Nawr, rwy'n gwybod bod rhywfaint ohono wedi ei ddyrannu i iechyd meddwl staff oherwydd yr argyfwng COVID, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl briodol—y dylem ni geisio cefnogi iechyd meddwl ein staff sydd wedi bod ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Ond fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwy'n teimlo'n gryf y dylai'r arian hwnnw fod wedi bod yn arian ychwanegol, ac nid wedi ei dynnu o gronfa drawsnewid hanfodol.

Nawr, mae'r Aelodau yn gwybod fy mod i wedi bod yn ymwneud llawer ag ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a gallaf i ddweud wrth yr Aelodau fod ffordd bell iawn i fynd o ran cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen arnom ni. Nawr, roedd y gronfa honno, yn ogystal â bod ar gyfer plant, ar gyfer oedolion hefyd, a gallaf ddweud wrth yr Aelodau, mewn gwirionedd, fy mod i'n credu bod y sefyllfa o ran oedolion yn waeth o lawer, a bod angen hyd yn oed mwy dybryd am fuddsoddiad parhaus yn y maes hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn sôn llawer am yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol, ond o fy safbwynt i, rydym ni'n bell iawn o fod yn y sefyllfa honno yng Nghymru.

Byddwn i wedi gwneud y sylwadau hynny cyn pandemig iechyd byd-eang, ond mae'r ffaith ein bod ni wedi cael y pandemig hwn yn gwneud y sylwadau hynny yn fwy taer byth. Mae hwn yn bandemig sydd wedi effeithio ar iechyd meddwl pob un ohonom ni—rydym ni i gyd wedi teimlo gorbryder, ofn a thrawma—ond i rai pobl, bydd y pandemig hwn yn arwain at broblemau iechyd meddwl parhaol. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain nad ydyn nhw wedi gweld unrhyw un ers misoedd lawer. Rydym ni wedi cael pobl sydd wedi wynebu profedigaeth yn y sefyllfaoedd mwyaf annormal, lle nad ydyn nhw wedi gallu dal llaw y rhai maen nhw'n eu caru. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddirwasgiad o'n blaenau ac yn nesáu, ac rydym ni i gyd yn gwybod y cysylltiadau rhwng dirwasgiadau economaidd ac iechyd meddwl gwael, a hyd yn oed hunanladdiad. Felly, nid wyf i'n credu y bu erioed amser pwysicach i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n wirioneddol amser bellach, yn fy marn i, i'r Llywodraeth roi eu harian ar eu gair o ran dweud y dylai fod cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. A, Gweinidog, dechrau da cyntaf i mi fyddai rhoi'r £7 miliwn hwnnw yn ôl yn y gronfa trawsnewid iechyd meddwl.

Roeddwn i'n dymuno gwneud dau sylw arall ynglŷn ag egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r gyllideb. Rwy'n credu mai anghydraddoldeb yw un ohonyn nhw. Mae'r pandemig wedi bod yn un sy'n gwneud i anfantais ymwreiddio. Rydym ni wedi gweld hynny yn y rhai sy'n marw—bron i ddwbl y marwolaethau mewn cymunedau mwy difreintiedig. Rydym ni wedi ei weld yn yr effaith ar y rhai hynny sydd wedi dioddef fwyaf, o ran plant sydd wedi ei chael hi'n anodd mewn teuluoedd tlotach i allu dysgu oherwydd diffyg adnoddau digidol, a hyd yn oed y bobl sydd wedi gallu cadw'n ddiogel drwy weithio gartref. Mae'n hanfodol bod y gyllideb yn cydnabod hynny, ac rwy'n ategu sylw Mike Hedges yn llwyr—nid oes unrhyw fuddsoddiad strategol pwysicach y gallwn ei wneud nag yn addysg ein pobl ifanc. A fu adeg erioed pan fu'r buddsoddiad hwnnw i'n pobl ifanc yn fwy pwysig pan fo'r dyfodol yn edrych mor ddu?

Ac yn olaf, felly, o ran anghydraddoldeb, hoffwn dynnu sylw, unwaith eto, at y materion sy'n ymwneud â chyllid iechyd. Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn y Cynulliad hwn yn ymgyrchu dros fformiwla ddyrannu i'r GIG wedi ei seilio ar anghenion. Yn y pen draw, creodd Llywodraeth Cymru fformiwla Townsend, a oedd i fod i ddyrannu adnoddau i'r cymunedau sydd â'r angen mwyaf am wariant iechyd. Nid yw'r fformiwla honno erioed wedi ei gweithredu yn iawn. Rwy'n credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y mae'r penderfyniadau gwariant hynny yr ydych yn eu gwneud yn gweithredu yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Gallaf i ddweud wrthych, yn achos Torfaen, ein bod ni'n teimlo ein bod ni wedi aros yn ddigon hir. Diolch.

17:35

Ac yn olaf, cyn i mi alw'r Gweinidog—Rhianon Passmore.

Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r rhagolygon ar gyfer economïau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn peri gofid. Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ei blaenoriaethau gwario ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-2, na foed i neb yn y Senedd hon esgus nad yw'r rhagolygon economaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn ddim ond arswydus ac yn gwbl ddifrifol i Gymru.

Ddoe, diweddarodd y Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb ei sefyllfa o ran y coronafeirws ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei hadroddiad ar gynaliadwyedd ariannol. Mae'n cynnig rhagolygon dramatig a brawychus i ni ar gyfer cyllid cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Mae'r Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb yn tybio bod 1.8 miliwn eisoes wedi colli eu swyddi, a bod diweithdra yn 9 y cant, o'i gymharu â'r ffigur swyddogol o 3.9 y cant. Mae'r gyfradd hon yn cyrraedd uchafbwynt o 10 y cant wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben yn y sefyllfa orau, 12 y cant yn y sefyllfa ganolig, a 13 y cant yn y sefyllfa waethaf. Felly, i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yng nghymunedau Islwyn, mae hwn yn rhagolwg brawychus.

Nid yw'r pandemig COVID-19 drosodd eto a bernir bod ail gynnydd mawr yn debygol, ac, wrth i ni edrych tua'r gorwel, rydym ni nawr yn gweld corwynt economaidd yn prysur agosáu, ac mae'n ddyletswydd arnaf i fel cynrychiolydd cymunedau Cymoedd balch Gwent fel Aberbargoed, Trecelyn, Crosskeys ac eraill i fynnu bod y Senedd yn cefnogi'r Llywodraeth hon sydd gan Gymru yn ei phenderfyniad i ddiogelu pobl Cymru, ac rwyf i hefyd yn croesawu cyhoeddiadau heddiw ynghylch cyllid.

Mae Aelodau'r wrthblaid wedi dweud wrthyf i o'r blaen eu bod nhw'n credu mai 'cyni' yw fy hoff air, gan fy mod i'n ei ddefnyddio yn aml, ond mae hynny oherwydd fy mod i'n ffieiddio wrth y polisïau cyni, oherwydd eu bod wedi eu dewis o wirfodd ac maen nhw wedi achosi niwed gwirioneddol ac anghydraddoldeb gwirioneddol. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU o dan Cameron ac Osborne, wedi mynd ati yn ddidrugaredd i ddinistrio bywydau pobl go iawn yn Islwyn heb unrhyw elw a heb unrhyw fudd, ac erbyn hyn mae coed arian hudol gwych—coedwigoedd cyfan—wedi ymrithio. Ond yr hyn sydd o'n blaenau yn economaidd bellach yw perygl a niwed enfawr posibl i Gymru. Drwy ddirwasgiad 2008, y crebachu chwarterol mwyaf yn y cynnyrch domestig gros oedd 2.1 y cant. Yn y tri mis hyd at fis Mai, roedd y cynnyrch domestig gros wedi crebachu 19.1 y cant, sy'n anhygoel. Y tu hwnt i'r ffigyrau diweithdra hyn sy'n gwgu arnom ni, a'r rhagfynegiadau oherwydd C-19, rydym ni fel cenedl hefyd yn wynebu y mater byw a real iawn bod ymadael yn ddisymwth â'r UE o dan delerau 'dim cytundeb' yn debygol a'r golled fasnachol a'r cynnydd cyfatebol mewn tariffau allforio a ragwelir ar gyfer busnes yng Nghymru, a'r cyfan yn arwain at ragfynegiad o fwy o ddirywiad cyffredinol ychwanegol o ran allforion a masnach.

Er gwaethaf trafodaethau brwd dros fasnach ryngwladol yng Nghymru a'r trafodaethau archwiliadol, nid ydym ni wedi clywed dim gan Lywodraeth y DU o hyd ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer yr arian gan yr UE a gaiff ei golli. Mae materion macro-economaidd difrifol o'r fath yn galw am ddull seilwaith er mwyn i Gymru gymryd rhan, fel y dywedwyd, gyda pharch cydradd, yn rheolaidd ac yn gyson, ac y gall hi ryngweithio fel cenedl ddatganoledig mewn modd rynglywodraethol aeddfed â Llywodraeth y DU. Mae prinder mawr yn hyn o beth o hyd, yn anffodus iawn.

Fel aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd, rwy'n croesawu'r ffordd dryloyw a gonest y mae'r Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, yn ymwneud â gwaith y pwyllgor a byddaf i hefyd yn cymeradwyo effeithiolrwydd cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth Llywodraeth y DU. Ac er fy mod i'n deall bod yn rhaid i'r Canghellor gynllunio ar gyfer dirwyn y cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth i ben, mae'n hanfodol y cânt eu dirwyn i ben pan fydd yn amlwg nad yw'r feirws yn berygl i iechyd y cyhoedd mwyach. Fodd bynnag, ni allwn fod yn sicr o gwbl na fydd y pandemig yn fygythiad sylweddol mwyach ym mis Hydref, pan fydd y cynlluniau cadw swyddi o achos y coronafeirws yn dod i ben. Rydym ni'n gwybod beth sy'n debygol.

Rwy'n cefnogi greddf a gweithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru sy'n ceisio sicrhau dull ymyraethol o gefnogi busnesau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru, fel y dengys cronfa cadernid economaidd Cymru ac ail gam ei chyflwyno. Mae'n galonogol gweld hefyd bod Canghellor y DU yn bwriadu efelychu i bob pwrpas gynllun Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru yn ei gynllun swyddi.

Llywydd dros dro, ar ran cymunedau Islwyn, rwy'n annog Llywodraeth Lafur Cymru i lynu wrth ei hegwyddorion sosialaidd ymyraethol er mwyn llywio ei chyllideb ddrafft ac i ddwyn i gyfrif Llywodraeth Dorïaidd y DU o ran maint yr heriau gwirioneddol sy'n wynebu pob un ohonom ni. Wrth i allbwn economaidd gynyddu wrth ddim ond 1.8 y cant ym mis Mai, yn hytrach na'r adlam disgwyliedig o 5.5 y cant, nid yw'n syndod bod economegwyr fel Thomas Pugh yn Capital Economics wedi dweud bod perygl gwirioneddol y bydd yr adferiad cychwynnol yn dirywio yn ail hanner y flwyddyn wrth i ddiweithdra gynyddu a chymorth gan y Llywodraeth gael ei ddiddymu.

Er gwaethaf y pecyn cymorth busnes COVID-19 mwyaf hael o bedair gwlad y DU, rydym ni yng Nghymru bellach yn syllu yn wyneb materion gwirioneddol ddyrys o ymadael 'heb gytundeb' a'r adferiad ar ôl C-19. Rydym ni hefyd, fel y soniwyd, yn wynebu trefniant ariannol islaw'r safon wedi'i seilio ar angen â Llywodraeth y DU a diffyg rhyngweithio aeddfed â Llywodraeth y DU. Mae angen dulliau rhynglywodraethol priodol ac aeddfed ar Gymru a'r DU, nid melysion mympwyol o'r brig i lawr wedi eu taflu o'r bwrdd, i fynd i'r afael yn strategol â'r niferoedd canlyniadol o ddiweithdra nas gwelwyd yng Nghymru ers y 1980au. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio—

17:45

Rhianon, rydych chi dros chwe munud, felly rwy'n credu bod hwnnw'n gasgliad naturiol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Rwyf i'n croesawu yn fawr y cyfle heddiw i edrych tua'r dyfodol wrth i ni ystyried y ffordd orau o sefydlogi ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus ac ailadeiladu ein cymdeithas ar sail newydd, ac rwyf i'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle cynnar hwn i glywed syniadau yr ydych yn gwybod y byddaf yn eu hystyried o ddifrif, ac rwy'n gwybod ein bod ni hefyd yn rhannu llawer o'r un nodau wrth sicrhau adferiad Cymru o'r pandemig hwn, ac mae'r arolwg digidol y cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid yn gyfraniad pwysig iawn at y ddadl honno.

Cyn i mi amlinellu'r ystyriaethau sy'n llywio ein cynlluniau, dylem ni gydnabod yr amgylchiadau eithriadol o anodd yr ydym ni'n eu hwynebu a maint yr her ariannol wrth i ni edrych i'r dyfodol. Rydym ni yn y dirwasgiad dyfnaf mewn cof, ac nid yw'r farchnad lafur wedi gweld yr effeithiau gwaethaf eto pan fydd cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben. Mae llawer o dystiolaeth erbyn hyn fod y pandemig yn cael effaith anghymesur. Gallai craith diweithdra ar ei ben ei hun effeithio waethaf ar bobl ifanc, y rhai ar y cyflogau isaf, pobl anabl a'r bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig. 

Rydym ni'n wynebu ymadawiad y DU â'r UE heb gytundeb masnach rydd cynhwysfawr, a fyddai'n hynod niweidiol o dan amgylchiadau arferol, a bydd unrhyw beth llai na chytundeb yn gwaethygu difrod y pandemig ac yn gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni hefyd barhau i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn adlewyrchu'r cyd-destun hwn, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, mae adroddiad newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gynaliadwyedd ariannol, a gyhoeddwyd ddoe ddiwethaf, yn ein hatgoffa'n ddifrifol iawn o'r heriau economaidd ac ariannol sydd o'n blaenau. Dangosodd yr adroddiad fod y DU ar y trywydd cywir i gofnodi'r gostyngiad mwyaf mewn cynnyrch domestig gros blynyddol a'r benthyciadau net uchaf yn y sector cyhoeddus mewn cyfnod o heddwch ers o leiaf 300 mlynedd. Disgrifiodd Rhianon Passmore y sefyllfa fel un 'arswydus', ac ni fyddwn i'n anghytuno â hi ar hynny.

Er bod datganiad y Canghellor yr wythnos diwethaf yn cynnwys rhai cyhoeddiadau i'w croesawu, ni wnaeth roi'r hwb sylweddol i wasanaethau cyhoeddus yr oeddem ni'n gobeithio amdano, na'r arfau ariannol y mae eu dirfawr angen arnom ni. Bydd gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol cadarn yn gwbl hanfodol i adferiad parhaus ac mae hon yn thema sy'n cael ei hadlewyrchu yn ymgysylltiad digidol y Pwyllgor Cyllid a'n harolwg cenedlaethol ein hunain. Ac, wrth gwrs, nododd Lynne Neagle yn hynod glir yr effaith y mae'r argyfwng wedi ei chael ar iechyd meddwl, a bydd angen i'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny fod yno i bobl wrth i ni ddod allan o'r argyfwng.

O ran cyllid eleni, mae'n rhaid yn wir i mi egluro'r sefyllfa, ac nid yw'r honiad bod Cymru wedi cael £500 miliwn ychwanegol o'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf yn ddim byd ond camarweiniol. Y gwir amdani yw na fyddwn ni ond yn derbyn £12.5 miliwn o symiau refeniw newydd canlyniadol o ganlyniad uniongyrchol i'r mesurau a gyhoeddwyd yn y diweddariad economaidd, a dim cyllid cyfalaf ychwanegol. Hyd yn hyn rydym ni wedi derbyn tua £2.8 biliwn o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac mae rhan helaeth o hwnnw eisoes wedi ei ymrwymo yn rhan o'n hymateb cychwynnol i'r pandemig. Yn syml, nid oes gennym ni ddigon o arian i wneud yr holl bethau y byddem ni'n hoffi eu gwneud na hyd yn oed yr holl bethau yr oeddem ni wedi bwriadu eu gwneud. Bydd maint yr her ariannol sydd o'n blaenau yn fater allweddol i'w drafod yng nghyfarfod Gweinidogion cyllid y pedair gwlad yn ystod yr wythnos nesaf, a byddaf i hefyd yn pwyso am eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a addawyd ers tro.

Gan ragweld na fyddwn yn gwybod ein setliad ar gyfer 2021-22 tan ddiwedd yr hydref, rydym ni eisoes wedi nodi y gallai fod yn bosibl na fyddwn yn gallu cyhoeddi ein cyllideb ein hunain tan ddiwedd y tymor nesaf. Byddaf i'n ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ôl y cyfarfod rhwng y pedair gwlad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y symiau canlyniadol yr ydym ni wedi eu cael ers cyflwyno'r gyllideb atodol.

Gan droi at ein paratoadau cynnar ar gyfer y gyllideb, rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ffyniannus o'r pandemig hwn. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn dwyn ynghyd ein strategaeth ar gyfer ailadeiladu a bydd ein paratoadau ni yn cyd-fynd â'r gwaith hwn, a byddwch chi wedi gweld bod y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd ddoe gen i a'r Cwnsler Cyffredinol yn nodi'r egwyddorion a fydd yn ein harwain.

Byddwn yn adeiladu ar y sylfaen sydd wedi ei sefydlu pan fyddwn yn gosod ein cynlluniau ar gyfer 2021 ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus a gwyrddach. Rydym ni'n awyddus i sicrhau adferiad gwyrdd a fydd yn cynnal Cymru yn y dyfodol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf o £140 miliwn ar gyfer datgarboneiddio a diogelu ein hamgylchedd gwych. Ac rwy'n gwybod bod hyn yn bryder y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi ei gydnabod y prynhawn yma, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn helaeth gan y bobl a gymerodd ran ym mhroses ymgysylltu y pwyllgor.

Rwyf i'n awyddus i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith i greu swyddi, gan barhau i ddatblygu ein cynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan, ac rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Nick Ramsay wedi ei ddweud y prynhawn yma ynglŷn â rhai o'r materion hynny. Yn ôl yr hyn yr wyf i wedi bod yn gwrando arno yn ehangach, mae rhanddeiliaid yn dweud eu bod nhw'n dymuno ein gweld yn parhau i ganolbwyntio ar dai, ac yn ychwanegu at y £2 biliwn yr ydym ni eisoes wedi ei fuddsoddi yn ystod y Cynulliad hwn—yn ystod y tymor Senedd hwn—ar dai fforddiadwy o ansawdd da, sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, ochr yn ochr â chyflawni'r ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni angenrheidiol yn y stoc dai bresennol.

Roeddwn i'n hoffi rhybudd Mike Hedges rhag gwneud cyllideb ar gyfer y llynedd, ac rwy'n credu bod cymaint wedi newid dim ond yn ystod y misoedd diwethaf, onid yw? Mae'r newidiadau dim ond ers ein cyllideb bedwar mis yn ôl yn cadarnhau hynny yn fy marn i. Mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau, ac mae'n diogelu dros 77,000 o swyddi gweithwyr. Ac rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i'n ei glywed y prynhawn yma yw bod cyd-Aelodau yn dymuno i ni gynyddu'r ymdrechion yn hyn o beth, gan ganolbwyntio ar helpu busnesau, ac yn enwedig y rhai hynny mewn sectorau carbon isel, y rhai hynny sy'n cefnogi ein cwmnïau cartref, er mwyn creu a diogelu swyddi, a'ch bod yn dymuno gweld pwyslais cryf iawn ar sgiliau a chyflogadwyedd, ac yn dymuno ein gweld yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r cyfle gorau posibl i bobl ifanc.

Yn rhan o'n cynlluniau ymgysylltu, byddwn ni hefyd yn parhau i sicrhau bod sgwrs genedlaethol, sydd eisoes wedi ei dechrau gan y Cwnsler Cyffredinol, a bydd hynny yn ein helpu i lywio'r dewisiadau anodd y bydd yn rhaid i ni yn ddiamau eu gwneud. Mae'n amlwg eisoes fod yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i fusnes fel arfer a chanolbwyntio ar newid ac arloesi. Mae'r coronafeirws wedi newid ein byd, ac, ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE, bydd hynny yn ychwanegu at yr her. Ond mae gennym ni gyfle sydd yno i ni lunio adferiad sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. A soniodd Rhun ap Iorwerth am y ffordd y mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn gwerthfawrogi pethau, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn aelod o'r rhwydwaith o genhedloedd cyllidebu llesiant, ac rydym ni hefyd yn ceisio dylanwadu ar waith Llywodraeth y DU i adolygu Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU, ac rydym ni'n awyddus i weld mwy o bwyslais ar sut yr ydym ni'n gwerthfawrogi—sut yr ydym ni'n rhoi gwerth ar ganlyniadau cymdeithasol a chanlyniadau amgylcheddol yn hynny o beth. 

Felly, byddaf i'n ystyried y pwyntiau a wnaed heddiw wrth lunio ein cynlluniau, a byddaf i'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd yn yr hydref. Cyfeiriodd Alun Davies at y broses o wneud penderfyniadau, ac yn fuan iawn rwyf i'n edrych ymlaen at lansio ymgynghoriad ar Fil cyllid posibl ar ddeddfwriaeth dreth, y gellid ei ddwyn ymlaen yn y Senedd nesaf, ac rwy'n gwybod bod hynny yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi mynegi diddordeb arbennig ynddo. Diolch.

17:50

Diolch yn fawr, Gweinidog. Cyn i mi alw ar Gadeirydd y pwyllgor, mae gen i un Aelod a fyddai'n hoffi gwneud ymyriad byr. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Llywydd dros dro, a hoffwn i siarad am y llwybr troed gwylaidd, oherwydd yr hyn y mae pobl wedi'i ddarganfod yn ystod y coronafeirws, er ei holl heriau, yw'r llawenydd o gerdded ar eu llwybrau cerdded lleol mewn gwirionedd. Mae wedi helpu yn wirioneddol gyda materion yn ymwneud ag iechyd meddwl hefyd a lles meddyliol, a bydd yr un peth yn wir yn y dyfodol. Ond, oherwydd y blynyddoedd o galedi, rhwng 2014-15 a 2018-19, mae'r cyllidebau ar gyfer cynnal a chadw llwybrau troed wedi gostwng 22 y cant. Erbyn hyn, rydym ni'n gwario 79c y pen yng Nghymru; dylem ni fod yn gwario tua £1. Roeddem ni'n arfer bod—roedd gennym ni enw da am arwain y ffordd o ran cynnal a chadw llwybrau troed ymysg yr holl genhedloedd. Felly, mae'n gais bach, ond, yn y wlad â nawddsant y pethau bychain sy'n bwysig iawn, byddwn i'n dweud wrth y Gweinidog: mewn seilwaith gwyrdd, mewn gwariant amgylcheddol, gadewch i ni wneud ein gorau a rhoi'r arian i gynnal a chadw llwybrau troed ar gyfer ein hawdurdodau lleol a hawliau tramwy—mae'n dda ar gyfer iechyd meddwl, yn dda ar gyfer cynifer o bethau. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Roedd gwerth aros amdano. Galwaf yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. 

Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddweud nad dadl ynglŷn â rhestr siopa o ofynion buddsoddi oedd hwn. Ond, wrth gwrs, mae'n naturiol bod pobl yn teimlo'n gryf am nifer fawr o wahanol feysydd. Ond, nid rhyw fath o lythyr estynedig i Siôn Corn yw'r ddadl yma, wrth gwrs, fel roedd Alun Davies efallai yn awgrymu reit ar y dechrau.

Mae hwn yn gyfle i ni ystyried, wrth gwrs, y newid diwylliannol yna o fod mewn sefyllfa lle rŷn ni wedi bod yn rhannu arian ac yn penderfynu ar sut rŷn ni'n gwario arian, i sut rŷn ni'n mynd i greu cyllid hefyd ein hunain drwy drethi. Mae'r newid yna yn mynd i olygu newid meddylfryd, wrth gwrs, fel sydd yn digwydd yn y broses esblygol yma rŷn ni'n mynd drwyddi fel Senedd, ond hefyd mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn gyfansoddiadol hefyd yn y ffordd efallai rŷn ni'n cyflwyno'r broses gyllidebu yn ehangach. Yn amlwg, mae'r pwyllgor wedi bod yn edrych ar broses ddeddfwriaethol o gwmpas y gyllideb, ac mae hynny yn destun adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac yn amlwg yn drafodaeth ac yn ddadl y gallwn ni ei chael fan hyn yn yr hydref.

Nawr, mae cynaliadwyedd—mae yna dair C wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yna. Tair C yn y Gymraeg, beth bynnag, efallai bod e ddim yn gweithio pan rŷch chi'n cyfieithu. Ond, yn sicr, mae cynaliadwyedd wedi dod drwyddo ym mron iawn bob un o'r cyfraniadau; mae cyfiawnder cymdeithasol hefyd wedi bod yn flaenllaw; a chydraddoldeb. A dwi'n meddwl bod y neges yna yn rhyw fath o linyn arian sydd yn gorfod rhedeg drwy ystyriaethau'r Llywodraeth yma pan mae'n dod i baratoi cyllideb, yn enwedig wrth gwrs yng ngoleuni Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r newid yna yn y dehongliad, yn y disgwrs o gwmpas beth yw gwerth am arian mewn gwirionedd, pan rŷn ni'n edrych ar y modd y mae'r Llywodraeth yma yn gwario ei chyllideb.

Nawr, mae Mike Hedges yn berffaith iawn i ddweud mae COVID wedi newid popeth. Rŷn ni'n gwybod hynny. A fel dywedodd e, dyw cyllideb llynedd yn sicr ddim yn mynd i weithio eleni, a dwi'n cydnabod bod buddsoddi mewn addysg, wrth gwrs, yn un o'r cyfryngau ac un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gyda ni o safbwynt mynd i'r afael â'r adfywiad economaidd y byddwn ni angen ei sbarduno yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd. 

Ac mae'n iawn i ddweud bod y pandemig yma wedi dangos i ni beth sydd yn bosib pan fydd yr ewyllys gwleidyddol yna i gyflawni pethau, yng nghyd-destun digartrefedd yn sicr. Pwy feddylia, petai gwleidyddion wedi penderfynu bod angen mynd i'r afael â digartrefedd yn y modd y mae hynny wedi digwydd yn y misoedd diwethaf, mi fyddem ni wedi wrth gwrs cyrraedd y pwynt lle rŷn ni arni ar hyn o bryd lawer yn gynt.

Nawr, mi fentrodd e gael ei belen grisial mas a darogan y byddai iechyd yn gweld y cynnydd mwyaf yn ei chyllideb a'r lefel isaf o graffu efallai. Wel, cawn ni weld, cawn ni weld, oherwydd dyna efallai sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Ac roedd Rhun yn iawn i'n hatgoffa ni o'r rôl mae llywodraeth leol wedi ei chwarae, yn sicr, a'r angen am broses gyllidol llesol fel rhywbeth sydd angen bod yn ganolog yn ein hystyriaethau ni. Ac mae hynny wrth gwrs yn dilyn wedyn i fod yn ystyried rhai o'r meysydd roedd Lynne Neagle yn cyfeirio atyn nhw o safbwynt iechyd meddwl a'r hyn sydd wedi digwydd i'r gronfa trawsnewid iechyd meddwl. Yn sicr, mae'r pandemig yma yn dwysáu yr angen am gefnogaeth i faes iechyd meddwl, heb sôn am y dirwasgiad economaidd fydd yn dod yn ei sgil e, a hynny wrth gwrs yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth.

Mae lefel yr heriau y mae'r pandemig yma wedi ei amlygu, mae dirwasgiad economaidd hefyd yn mynd i ddod yn ei sgil ef, ac wrth gwrs dŷn ni wedi clywed lawer gwaith heddiw ynglŷn â'r heriau fydd yn dod yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd—mae'r rhain i gyd gyda'i gilydd yn golygu bod angen ymateb uchelgeisiol eithriadol gan Lywodraeth Cymru pan ddaw i osod ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid i bob ceiniog weithio mor galed ag sy'n bosib.

A dwi'n rhannu rhwystredigaeth Rhianon Passmore pan oedd hi'n cyfeirio at arafwch manylion y shared prosperity fund, sydd wrth gwrs yn thema i ni fel pwyllgor, ac mae eraill fan hyn wedi ei chodi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn hynny o beth. Achos rŷn ni'n gwybod, pa fwyaf o sicrwydd sydd yna ynglŷn â pha gyllideb, faint o gyllideb ac at ba bwrpas sydd yn dod, po fwyaf o rybudd, po fwyaf o wybodaeth gynnar rŷn ni'n ei chael, yna mae'n sefyll i reswm po fwyaf effeithiol y bydd effaith a dylanwad y modd y mae'r cyllid yna yn cael ei ddefnyddio.

Roedd y Gweinidog yn iawn i ddweud ein bod ni'n byw mewn amgylchiadau eithriadol, ond mae yn eithaf eithriadol yn fy marn i bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn honni bod £500 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru a bod Gweinidog yng Nghymru yn dweud mai dim ond £12.5 miliwn sydd yna mewn gwirionedd o refeniw canlyniadol. Mi gawsom ni'r Ysgrifennydd Gwladol o flaen y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yr wythnos yma ac mi godwyd y pwynt: 'Wel, beth mae hynny'n dweud wrthym ni os oes dau ddehongliad mor wahanol i'w gilydd yn cael eu cyflwyno? Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni am y gyfundrefn sydd gyda ni ar hyn o bryd?'

Ac fel atgoffodd Mike Hedges ni yn y pwyllgor, yr her yw, 'Show us your workings', ac nid dim ond i'r Ysgrifennydd Gwladol ond i'r ddau Weinidog. Hynny yw, mae'n rhaid inni fod yn dod o fanna i fod mewn sefyllfa lle mae yna dipyn mwy o dryloywder i bobl Cymru ynglŷn â beth yn union yw effeithiau canlyniadol buddsoddiadau sydd yn dod o Lundain i Gaerdydd, ac mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd yn rhaid i bawb weithio yn galetach arno fe.

Ond, beth bynnag yw lefel y gyllideb, mae yna benderfyniadau anodd o flaen y Llywodraeth, wrth gwrs, yn y flwyddyn sydd i ddod, a gobeithio y bydd y ddadl yma wedi helpu'r Gweinidog a'r Llywodraeth i bwyso a mesur y blaenoriaethau hynny tra'u bod nhw, wrth gwrs, yn paratoi'r gyllideb ddrafft.

18:00

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17. Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc'

Eitem 17 yw dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM7354 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Interim y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. 'Mae plant wedi dioddef niwed cyfochrog yn ystod y pandemig.' Dyna eiriau Dr David Tuthill o'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant pan roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar.

Fel pwyllgor, rydym ni'n cydnabod ei bod hi'n ymddangos ar hyn o bryd bod plant a phobl ifanc yn llai agored i'r feirws nag oedolion, ond nid oes amheuaeth bod effeithiau ehangach COVID-19 a'r mesurau a gymerwyd i'w reoli wedi effeithio'n sylweddol ar eu bywydau: cau ysgolion a chlybiau ieuenctid; cyfyngiadau ar chwarae ac ar bobl ifanc yn cymdeithasu; effaith y feirws ar aelodau teuluoedd; a ffigurau marwolaethau brawychus.

Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud yng Nghymru, cyhoeddodd y pwyllgor ein bwriad i edrych yn fanwl ar effaith COVID-19 a'r mesurau a fabwysiadwyd i'w reoli ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni yng Nghymru yn rhoi pwyslais arbennig ar hawliau plant ac am reswm da iawn. Nid yw plant yn pleidleisio, nid oes gan blant undebau llafur i siarad ar eu rhan, ac mae plant wedi cael eu cuddio i raddau helaeth yn y pandemig hwn. Ar y sail hon ac yng ngoleuni ein cred fod angen i reoli effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth eglur i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob Aelod o'r Senedd yn cael cyfle i drafod y materion hyn cyn toriad yr haf.

Mae mynd i'r afael â'r cam nesaf o reoli'r pandemig gyda hawliau plant yn flaenllaw yn ein meddyliau yn flaenoriaeth allweddol i ni ac yn un yr ydym ni wedi ymrwymo i'w dilyn. Dyna pam yr ydym ni wedi trefnu'r ddadl heddiw. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad plant yw dioddefwyr cudd yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

Gan droi nawr at ddull craffu'r pwyllgor, rydym ni'n sylweddoli bod pethau o reidrwydd wedi symud yn gyflym i reoli'r pandemig hwn, ac roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein gwaith craffu yn amserol ac yn ystyrlon, felly rydym ni wedi bod yn gohebu yn rheolaidd â Gweinidogion Cymru. Hoffwn gofnodi ein diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser, yn aml o dan yr amgylchiadau anoddaf, i rannu eu profiadau gyda ni. Bydd eich holl safbwyntiau yn cael eu cyhoeddi a byddan nhw'n llywio ein gwaith yn y dyfodol. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi rhoi eu cwestiynau i ni, yr wyf i wedi gallu eu gofyn yn uniongyrchol i dystion yn y pwyllgor. Mae wedi ein galluogi, mewn ffordd fach, i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn uniongyrchol yn ein pwyllgor.

Fel Cadeirydd, byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar y prif themâu yr ydym ni wedi canolbwyntio arnyn nhw yn yr wythnosau diwethaf a gwn y bydd Aelodau eraill yn siarad yn fanylach am bob un ohonyn nhw. Gan droi yn gyntaf at addysg, drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi clywed yn rheolaidd gan y Gweinidog am ei chynlluniau ar gyfer ysgolion. Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd pob plentyn yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol ac yn amodol ar ostyngiad parhaus i gyfraddau'r haint yn y gymuned.

Er bod rhai disgyblion wedi cael cefnogaeth ragorol i'w dysgu gartref gan staff eu hysgol a'u rhieni a'u gofalwyr, rydym ni'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o blant a theuluoedd. Mae'r anawsterau hyn wedi amrywio o heriau gyda thechnoleg a band eang i rieni a gofalwyr yn gorfod cydbwyso gwaith a bywyd cartref yn barhaus. Mae'r cymorth y mae plant wedi ei gael gyda'u dysgu gartref wedi bod yn rhy amrywiol hefyd, wrth i rai plant gael cyswllt o bell wyneb yn wyneb o ansawdd uchel gydag athrawon a gwersi byw, a phlant eraill yn cael dim o gwbl.

Yn bwysicaf oll, rydym ni hefyd yn gwybod bod hwn wedi bod yn brofiad sydd wedi ynysu rhai plant a phobl ifanc yn wirioneddol. Bu ganddyn nhw hiraeth ar ôl eu ffrindiau, hiraeth ar ôl eu teuluoedd, ac maen nhw wedi methu cerrig milltir hanfodol megis arholiadau, dathliadau gadael yr ysgol, proms, i enwi dim ond rhai.

Nodwyd ein siom na ellid cytuno gydag undebau llafur ar yr opsiwn a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru o gymryd gwyliau haf cynharach a dychwelyd i'r ysgol ym mis Awst. Rydym ni hefyd yn siomedig iawn nad yw'r bedwaredd wythnos a gynigiwyd i ysgolion i ailgydio, dal i fyny a pharatoi'r plant ar gyfer tymor yr hydref wedi digwydd mewn sawl rhan o Gymru, er gwaethaf gwaith caled y Gweinidog.

O ystyried y posibilrwydd real iawn o ail don o'r coronafeirws yn yr hydref, mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu o'r heriau diweddar yn cytuno ar drefniadau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol. Pan gaeodd ysgolion ym mis Mawrth, roedd yn argyfwng, ond ni fydd yn argyfwng yn yr hydref. Mae'n rhaid i les plant fod yn ganolog i benderfyniadau yn ymwneud ag ysgolion, ac rydym ni'n annog Llywodraeth Cymru a'r sector i weithio gyda'i gilydd i fod yn hyblyg, yn feiddgar ac yn arloesol yn wyneb yr hyn sy'n dal i fod yn bandemig byd-eang. Mae'n rhaid i blant ledled Cymru gael cyswllt cyson o safon uchel gyda'u hathrawon, ac mae'n rhaid sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i holl blant Cymru ddatblygu eu haddysg. Bydd hyn hefyd yn galluogi ysgolion i chwarae eu rhan hanfodol yn y dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yr wyf i mor falch sy'n cael ei gyflwyno yng Nghymru nawr.

Mae amlygrwydd ein plant mwyaf agored i niwed a'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw wedi bod yn achos pryder sylweddol i ni. Mae ysgolion yn rhwyd ddiogelwch hanfodol i lawer o blant, ac mae'r niferoedd cymharol isel o blant agored i niwed sydd wedi bod yn mynychu hybiau ysgol, er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth, wedi peri pryder gwirioneddol i ni. Er i ni groesawu'r amrywiaeth o gamau a gymerwyd a'r dull trawslywodraethol a fabwysiadwyd i gynorthwyo plant agored i niwed, rydym ni'n dal yn bryderus y gallai problemau pwysig a difrifol fod wedi cael eu methu oherwydd bod plant yn anweledig yn ystod y cyfnod hwn.

Mae hefyd yn hanfodol cydnabod y gallai llawer o blant fod wedi dod yn agored i niwed yn ystod y cyfyngiadau symud. I ormod o blant, nid yw'r cartref yn lloches. Rydym ni hefyd wedi siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc mewn gofal a'r rhai yn y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i ddysgu am eu profiadau o COVID, ac rydym ni'n credu, yng nghyfnod nesaf rheoli'r pandemig, bod angen mwy o sylw i sut yr ydym ni'n cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas, y dangoswyd bod y feirws wedi effeithio ar lawer ohonyn nhw yn anghymesur. Mae'r pwyllgor yn credu bod yn rhaid i blant agored i niwed a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn agored i niwed oherwydd y pandemig fod yn flaenoriaeth. Mae plant wedi bod yn gudd ac yn ddi-lais i raddau helaeth yn y pandemig hwn, ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon i fod yn llais iddyn nhw.

Soniais, yn fy sylwadau agoriadol, bod plant a phobl ifanc, diolch byth, wedi bod yn llai agored i'r feirws nag oedolion. Serch hynny, mae'r effaith ar eu hiechyd meddwl wedi bod yn destun pryder mawr. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth yr ydym ni wedi ei chael bod llawer o'r teimladau y mae pobl ifanc wedi bod yn eu cael, fel pryder, straen ac unigrwydd, yn ymateb naturiol i'r pandemig. Mae angen taro cydbwysedd pwysig iawn rhwng cydnabod a chynorthwyo problemau iechyd meddwl a pheidio â meddygoli ymatebion cwbl naturiol i bandemig sy'n frawychus ac yn drawmatig i bob un ohonom ni. Ond mae'r pwysigrwydd bod plant a phobl ifanc yn gwybod lle y gallan nhw fynd i gael cymorth yn eglur ac yn bwysicach fyth pan fydd lleoedd cyfarwydd fel ysgolion a meddygfeydd yn llai hygyrch.

Mae'r pwyllgor yn credu bod gweithredu ein hargymhellion 'Cadernid meddwl' yn bwysicach ac yn fwy brys nag erioed. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i'r bylchau mewn gwasanaethau i'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd angen cymorth ond nad ydyn nhw'n bodloni'r trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed—y canol coll fel y'i gelwir. Rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i roi blaenoriaeth i weithredu ein holl argymhellion 'Cadernid meddwl', a byddwn yn dychwelyd at ein gwaith dilynol ar yr ymchwiliad hwnnw ar y cyfle cyntaf posibl.

O dan lawer o amgylchiadau, yn enwedig o ran iechyd meddwl, mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn elfen hanfodol o gymorth. Mae'n rhaid i gynlluniau gwasanaethau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwbl ganolog iddyn nhw ac mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod anghenion unigol. Nid yw un ateb yn addas i bawb.

Fel pwyllgor, roeddem ni'n bryderus iawn, er bod anghenion iechyd corfforol y boblogaeth o reidrwydd yn flaenoriaeth yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, dywedwyd wrthym ni fod gwasanaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles plant yn agored i'r risg o ddadflaenoriaethu. Gan gydnabod y posibilrwydd gwirioneddol o ail don, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nodi'r camau eglur y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl plant yn cael eu diogelu a'u hariannu yn ddigonol i osgoi'r canlyniadau hirdymor a fyddai'n deillio o ddiffyg cymorth arbenigol.

Gan droi nawr at addysg bellach ac uwch, dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i ni effaith ariannol hynod bryderus colli ffioedd myfyrwyr ac incwm arall prifysgolion, y risg uwch o ansolfedd prifysgolion a'r tebygolrwydd sylweddol y bydd staff yn colli eu swyddi. Rydym ni wedi clywed pryderon nad yw Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol i ddarparwyr na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau wedi'u datgan yn gyhoeddus i wneud hynny. Rydym ni hefyd wedi clywed pryderon nad oes cynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer unrhyw ddyraniadau ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer myfyrwyr a allai fod yn dioddef caledi oherwydd y pandemig, ac mae ansicrwydd hefyd yn parhau ynghylch sut y bydd cyrsiau yn cael eu darparu a beth fydd y cyfuniad o addysgu ac asesu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar gyfer addysg bellach, codwyd dysgu cyfunol a sicrhau bod staff yn cael y dysgu proffesiynol sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu hyn gyda ni fel heriau.

I gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, bydd monitro datblygiadau yn ofalus dros yr haf yn flaenoriaeth i'r pwyllgor. Rydym ni'n bwriadu parhau i graffu yn amserol ac yn adeiladol ar yr ymateb i COVID i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i bob penderfyniad. Rydym ni'n ymwybodol y bydd angen rheoli'r dychweliad i'r ysgol ym mis Medi yn ofalus ac yn ddiogel, ond mae'r pwyllgor wedi datgan yn eglur ei safbwynt bod yn rhaid sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gael cyswllt wyneb yn wyneb â staff ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol, yn ogystal ag ar gyfer eu haddysg. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn eglur drwy gydol y pandemig hwn bod mwy nag un niwed o coronafeirws. Rydym ni'n cytuno ac rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod lliniaru'r niwed uniongyrchol a chyfochrog i blant o'r pandemig hwn yn brif flaenoriaeth. Diolch.

18:10

Er ein bod ni fel Pwyllgor wedi cydnabod bod plant a phobl ifanc yn ymddangos yn llai agored i'r feirws nag oedolion, mae pryderon difrifol yn parhau. Canfu arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddar bod bron i 50 y cant o bobl yn bryderus iawn neu'n bryderus dros ben am blant yn dal COVID-19. Mae'r feirws wedi achosi cryn bryder i blant hefyd. Dywedodd 41 y cant o blant a phobl ifanc a holwyd gan YouGov eu bod nhw'n fwy unig na chyn y cyfyngiadau symud, a dywedodd mwy na thraean eu bod nhw'n fwy gofidus, yn fwy trist neu o dan fwy o straen. Cefnogir y canfyddiadau hyn gan arolwg Coronafeirws a Fi, sy'n nodi mai dim ond 37 y cant oedd heb ofid. Mae data o'r fath yn profi yn union pa mor bwysig yw ein gwaith fel pwyllgor, ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'n Cadeirydd, Lynne Neagle.

Gan gyfeirio at yr adroddiad interim a'r llythyrau y mae'n eu cynnwys, mae'n rhaid i mi nodi fy mhryder ynghylch faint o amser y mae wedi ei gymryd i Weinidogion ymateb—atebwyd y llythyr dyddiedig 12 Mai ar 4 a 8 Mehefin, ac atebwyd y llythyr dyddiedig 27 Mai ar 30 Mehefin. Mae gweithredu rhwystredig o araf gan Lywodraeth Cymru hefyd yn amlwg o gynnwys yr ymatebion hynny. Ar 4 Mehefin, dywedodd y Gweinidog Addysg, bron i ddau fis ers dechrau'r cyfyngiadau symud, nad oedd y canllaw i rieni disgyblion addysg ac eithrio mewn ysgol a disgyblion ag ADY wedi ei gyhoeddi, ac nad oedd y canllawiau ar asesiadau risg o ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig wedi eu cyhoeddi. Rwy'n bryderus dros ben am effaith COVID-19 ar blant AAA. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod darparwyr yn wynebu anawsterau sylweddol o ran diwallu anghenion, yn enwedig o ran trefnu darpariaeth a nodir mewn datganiad. Yn wir, ysgrifennais lythyr brys at y Gweinidog Addysg am blant AAA a thrafnidiaeth ysgol, gan dynnu sylw at y posibilrwydd bod gan Lywodraeth Cymru bolisi trafnidiaeth sy'n gwahaniaethu drwy roi blaenoriaeth i blant prif ffrwd. Bron i fis yn ddiweddarach, rwyf i wedi cael llythyr gan Lee Waters AS yn dweud ei fod wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i'r mater ac y bydd yn ymateb i mi eto yn fuan.

Ac mae'r ymateb i'r pwyllgor, dyddiedig 13 Mehefin yn peri'r un faint o bryder. Er y nodir bod nifer y plant agored i niwed sy'n mynd i'r ysgol yn galonogol, mae'r realiti yn wahanol iawn. Yn ystod wythnos 15 Mehefin, dim ond 6.3 y cant o'r holl blant agored i niwed aeth i'r ysgol. Yn wir, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn araf wrth gynorthwyo ein plant agored i niwed. Fe'n hysbyswyd ar 30 Mehefin mai ar 6 Gorffennaf y byddai canllaw i gynorthwyo ymarferwyr i nodi niwed, camdriniaeth ac esgeulustod yn cael ei gyhoeddi. Byddai'r ymgyrch Gyda'n Gilydd Gallwn Gadw Pobl yn Ddiogel yn cael ei lansio ar yr un diwrnod, a byddai'r ymgyrch honno yn para tan 16 Awst yn unig. Pam mae wedi cymryd cyhyd i lansio'r ymgyrch hon? Roeddem ni'n ymwybodol o'r problemau difrifol yn gynnar. Ar 27 Mawrth, adroddodd ChildLine am alw na welwyd ei debyg o'r blaen o ran nifer y sesiynau cwnsela. Dywedodd yr NSPCC bod galwadau am blant yn wynebu cam-drin emosiynol posibl wedi codi o 529 i 792 yn y mis cyntaf ers y cyfyngiadau symud, a chodais i hyd yn oed yr angen am ymgyrch ar-lein newydd yn annog plant a phobl ifanc i hunan-gyfeirio ar gyfer cwnsela os ydyn nhw'n cael trafferth, mewn rhith-gyfarfod—codais hynny gyda Julie Morgan AS. Ni wnaed digon yn ddigon cyflym i sicrhau bod plant yn gwybod i le i droi am gymorth. Yn wir, canfu'r arolwg cenedlaethol gan Barnardo's bod mwy na hanner y plant a'r bobl ifanc yn anhapus gyda'r wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw. Dylem ni wrando ar eu lleisiau a gweithredu ar yr argymhellion yn adroddiad 'Mental Health and COVID-19: In Our Own Words'.

Daw hyn â mi at y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud heddiw—sef nad oes digon wedi cael ei wneud i amddiffyn hawliau ein plant, gan gynnwys yr hawl i addysg. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu cynnal, ac rwy'n credu y dylai ymchwiliad brys gael ei sefydlu hefyd i ystyried a yw penderfyniadau diweddar wedi cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol. Gallwn ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd ers mis Mawrth i ddarparu cymorth cryfach i blant a phobl ifanc yn y byrdymor a'r hirdymor, ac yn enwedig os bydd ail don o'r feirws ofnadwy hwn. Diolch yn fawr.

18:15

Nid wyf i wedi gallu cyfrannu at yr adroddiad hwn fel y byddwn i'n ei wneud fel rheol, gan nad wyf i wedi gallu bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oherwydd fy mod i wedi bod yn gofalu am fy mhlant, sy'n dipyn o eironi. Mae gen i lysferch 13 oed sy'n cael trafferth gyda gwaith ysgol ar hyn o bryd, a merch awtistig bedair oed, a merch niwro-nodweddiadol iawn dair oed sydd wrth ei bodd yn ymddangos ar y teledu, ac nid wyf i'n gwybod ar ôl pwy y mae hi'n tynnu. Bob tro y byddaf i'n ceisio gwneud unrhyw beth ar Zoom, maen nhw yn y cefndir, a bydd y Cadeirydd yn tystio i hynny, oherwydd ei sylw cyntaf pan gawsom ni ein cyfarfod Zoom cyntaf oedd y dylwn i eu bwydo gyda mwy o bops iâ er mwyn iddyn nhw roi llonydd i mi.

Felly, mae'n sicr wedi bod yn her, ac rwyf i wedi canfod gyda fy mhlentyn ieuengaf y bu'r dychweliad i ofal plant i'w groesawu'n fawr ac mae wedi gwneud bywyd yn haws, ac rwyf i hefyd wedi canfod gyda fy llysferch 13 oed ei bod hi wedi gallu cael gafael ar waith ysgol ac mae hi yn ôl yn yr ysgol erbyn hyn, ac mae ei mam wedi bod yn hynod gefnogol ohoni, ac rwyf i wedi bod yn llawn parch ati o weld hynny. Bu'r broblem gyda fy merch awtistig bedair oed, sy'n bump ddydd Sadwrn. Dyma fu her fwyaf fy mywyd, ac mae'r 10 wythnos diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd. Cafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn dair oed ac rydym ni wedi bod yn ceisio cael datganiad ar ei chyfer, asesiad statudol ar ei chyfer, ers mis Medi diwethaf, pan oedd hi'n gymwys am y tro cyntaf i wneud cais, ac fe'i gwrthodwyd ar yr hyn sydd, yn fy marn i, yn bwynt technegol. Rwy'n credu, erbyn hyn, pe bai pethau wedi bod yn arferol byddai wedi cael datganiad. Nid yw wedi cael unrhyw gymorth na gofal sydd eu hangen arni o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Yn syml, mae wedi bod yn dorcalonnus, yn anodd iawn, gweld y camau atchweliadol y mae hi wedi eu cymryd a'i hiaith yn cymryd camau yn ôl.

Nid yw'r rheswm yr wyf i'n dweud hyn er fy mwyn fy hun, oherwydd mae gen i'r modd i gysylltu â'r ysgol a chysylltu ag awdurdodau lleol i ymdrin â'r materion hyn, ond rwyf i wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi yn yr un sefyllfa yn union. Hoffwn ddarllen i chi ddarn o neges e-bost gan rywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â mi. Meddai'r rhiant hwn:  

'Rwy'n rhiant i bedwar o blant rhwng saith ac 16 oed.'

Rwyf i wedi golygu darnau o'r e-bost fel na fyddwch ch'n gallu adnabod yr unigolyn:

'Mae gan fy merch hynaf anhwylderau yn y sbectrwm awtistig a diagnosis clinigol o orbryder, mae un plentyn yn drawsrywiol, ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig ac roedd yn gwrthod mynd i'r ysgol tan eleni. Mae gan fy mhlentyn 11 oed ddiagnosis o oedi o ran datblygiad cyffredinol a disgwylir iddo ddechrau mewn ysgol arbennig ym mis Medi. Mae gan fy mhlentyn saith oed ddiagnosis o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig. Yn ogystal â hyn, rwy'n gofalu am fy mhartner, sydd â thri chyflwr iechyd sylweddol, sy'n effeithio ar y gallu i weithredu o ddydd i ddydd. Mae gan ddau o'r plant ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac rwyf i ar fin dechrau'r broses o wneud cais am ddatganiad ar gyfer fy merch ieuengaf.'

Felly gallwch ddychmygu fy mod i'n uniaethu yn arbennig â'r agwedd honno:

'Mae fy nheulu wedi dioddef yn fawr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae canslo trefn ddyddiol y plant yn sydyn a chael gwared ar unrhyw bosibilrwydd o gymorth i bob un ohonom ni wedi cael effaith ofnadwy. Mae gwasanaethau cymdeithasol y plant wedi dirywio'n aruthrol ac mae eu hymddygiad heriol wedi gwaethygu llawer. Mae hyn wedi rhoi straen enfawr ar y berthynas rhwng fy mhartner a minnau. Rhoddais gynnig ar addysgu gartref i ddechrau, ond oherwydd anghenion ychwanegol y plant a'm swyddogaeth fel gofalwr i bum aelod anabl o'r teulu, daeth yn amlwg iddyn nhw'n fuan bod hon yn dasg amhosibl. Nid ydyn nhw wedi cael unrhyw addysg ystyrlon ers hynny.'

Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo â hynny, ac mae hwn yn gyflwr ac yn sefyllfa sy'n waeth o lawer na'r sefyllfa yr wyf i'n cael fy hun ynddi, ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw bod mwy o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n hysbysu am y cyflyrau hyn ac nid ydym ni'n gwybod am y sefyllfaoedd hyn oherwydd y diffyg hysbysu hwnnw.

Rwy'n aelod o'r grŵp gwirfoddol anghenion dysgu ychwanegol Sparrows lleol, a gwn fod rhieni yno hefyd, sydd yn y sefyllfaoedd hyn ac yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig y plant hynny heb asesiadau statudol—yn enwedig y plant hynny. Ond hefyd, pan fyddwn ni'n sôn am blant agored i niwed, a'r diffiniad o 'agored i niwed', beth ydym ni'n ei olygu wrth ddweud 'agored i niwed'? A ydyn nhw'n agored i niwed oherwydd eu hamgylchedd, neu a ydyn nhw'n agored i niwed oherwydd yr anghenion penodol sydd ganddyn nhw nad yw rhieni'n gallu eu diwallu? Mae'r rhain yn gwestiynau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eu hateb, ac mae'n rhaid eu hateb yn well nag y'u hatebwyd hyd yn hyn.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw fy mod i'n croesawu'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru i fynd â phlant yn ôl i'r ysgol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ac mae'n gynnydd yng Nghymru sydd ymhell ar y blaen, rwy'n credu, i weddill y Deyrnas Unedig, ac mae'n gwneud gwahaniaeth aruthrol. Ond y pryder sydd gen i, os bydd ail don, os bydd cyfyngiadau symud pellach, mae'n rhaid peidio â rhoi rhieni—yn enwedig y rhieni hynny yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw heddiw—yn y sefyllfa honno eto.  

18:20

Er yn cydnabod bod cau ysgolion wedi bod yn rhan angenrheidiol o reoli'r pandemig, roedd consensws clir ymhlith y tystion i'r pwyllgor fod effaith peidio â bod yn yr ysgol ar lesiant lawer o blant yn un sylweddol. Mae Hefin David newydd ddisgrifio ei brofiad o a'i blant o yn glir iawn, a bydd eraill ar draws Cymru wedi wynebu bob math o heriau. Barn y tystion i'r pwyllgor oedd y dylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r cyswllt mwyaf diogel wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc yn yr ysgolion. Ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y berthynas arbennig rhwng plentyn ac athro, a'r profiad o gyd-ddysgu gyda'i gilydd a pha mor greiddiol ydy hynny i addysg yn y pen draw. Ac felly mae'r cyhoeddiad am ailagor ym Medi i bob plentyn yn siŵr o gael ei groesawu gan rieni a gan blant a phobl ifanc, ond hefyd gan y tystion ddaeth i'n pwyllgor ni pan oeddem ni'n trafod hyn, a gan y comisiynydd plant. 

Ond, wrth gwrs, efo posibilrwydd real iawn o ail don, mae'n ofnadwy o bwysig ein bod ni'n dysgu gwersi yn sgil yr heriau a wynebwyd yn ddiweddar wrth geisio cytuno ar drefniadau ar gyfer dychweliad ein plant ni i'r ysgol. Mae'n rhaid rhoi anghenion y plentyn neu'r person ifanc yn y canol. Ac mae'n hollbwysig parhau i wella dysgu o bell a chysylltu o bell gyda phob disgybl a lleihau'r bwlch digidol rhag ofn y bydd angen cau'r ysgolion i gyd eto, neu mewn rhannau penodol o'r wlad o dro i dro. Mae hyn hefyd yn berthnasol iawn yn y sector addysg bellach. Mae cau'r bwlch digidol yn y sector hwnnw wedi dod yn rhywbeth sydd yn amlwg angen sylw. 

Yn adroddiad y pwyllgor, 'Cadernid Meddwl', fe bwysleisiwyd rôl hanfodol ysgolion o safbwynt iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae hyn yn wir rŵan hyn yn fwy nag erioed. Cyn dyfodiad y pandemig, mi oedd y canllawiau yr oeddem ni wedi galw amdanyn nhw ar ymagwedd ysgol-gyfan at ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol yn cael eu paratoi. Yn ystod ein hymchwiliad cychwynnol ni i effaith y COVID, fe wnaethom ni alw am gyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer ymgynghoriad fel mater o flaenoriaeth, er mwyn sicrhau y gall cymorth ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol ein plant ni fod yn nodwedd ganolog o'u haddysg. Dwi yn falch iawn o weld fod y canllawiau wedi cael eu cyhoeddi ar 8 Gorffennaf a'u bod nhw allan i ymgynghoriad tan ddiwedd mis Medi. Ond dwi'n gobeithio y bydd yr egwyddorion craidd yn cael eu mabwysiadu llawer iawn cyn hynny. 

Mae'n amlwg o'r dystiolaeth gafodd y pwyllgor bod angen bod yn ofalus sut ydym ni yn pwyso a mesur effaith y COVID ar iechyd meddwl ein plant a phobl ifanc ni, ac i gydnabod fod rhai agweddau fel gorbryder, straen ac unigrwydd yn ymateb naturiol i'r risgiau a'r heriau sydd wedi dod yn sgil y pandemig. Ar y llaw arall ac ar y pegwn arall, mi wnaeth Samariaid Cymru yn y pwyllgor ddweud ei bod hi'n rhy gynnar i ddata ddangos yn union pa effaith mae'r pandemig wedi'i gael ar lefelau hunanladdiad, a bod angen monitro yn agos iawn y ffactorau sydd yn gallu cyfrannu at gyfraddau hunanladdiad a risg hunanladdiad.  

Fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ei drafod yn barod, beth sydd wedi dod yn hollol amlwg ydy ei bod hi'n bwysig rŵan yn y cyfnod nesaf yma bod ein plant a phobl ifanc ni yn gwybod at pwy y gallan nhw droi am gymorth. Mae hynny wedi dod yn reit amlwg oherwydd bod yr ysgol a meddygfeydd ddim wedi bod ar gael iddyn nhw yn yr un ffordd er mwyn pwyntio nhw yn y cyfeiriad cywir tuag at gymorth. 

Mae'n bwysig, felly, bod ein hargymhellion ni—i fynd yn ôl eto at adroddiad pwysig y pwyllgor, 'Cadernid Meddwl'—mae'n bwysig bod yr argymhellion ynglŷn â'r bylchau mewn gwasanaethau i blant a phobl ifanc a'r rheini sydd yn cael eu galw'r 'canol coll', sef y plant a phobl ifanc yma sydd ddim yn gymwys ar gyfer gwasanaethau CAMHS ond yn methu dod o hyd i gymorth arall chwaith, cymorth lefel isel—mae mor bwysig rŵan bod y gwasanaethau yna yn cael eu rhoi mewn lle a bod yna arian tu ôl i hynny yn ystod y cyfnod nesaf yma rŵan o ddelio efo'r pandemig. 

Dwi wedi canolbwyntio ar ddwy agwedd ar yr adroddiad, ond mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i bawb ddaeth i roi tystiolaeth a chyfrannu at ein gwaith ni mewn cyfnod mor bryderus, ac mewn cyfnod lle mae'r darlun yn newid mor eithriadol o gyflym. A dwi'n credu bod angen i ni gyd fod yn monitro ac yn cadw gwyliadwriaeth gyson ynglŷn ag effaith y pandemig ar ein plant a'n pobl ifanc ni dros wyliau'r haf, ac yn sicr i fewn i'r hydref ac ymlaen, a dweud y gwir, dros y blynyddoedd nesaf yma. Diolch yn fawr. 

18:25

Diolch, Siân. Rwy'n sylweddoli pan ydych chi'n cyfathrebu ar Zoom ei bod hi'n anodd iawn gwybod lle'r ydych chi'n union o ran amser. Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd dros dro. O ran fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at rai agweddau pwysig ar waith craffu'r pwyllgor ar effaith COVID-19 fel y mae'n berthnasol i blant a phobl ifanc agored i niwed yn benodol. Gwn fod y Senedd hon yn rhannu pryder cyffredinol ynghylch rhagolygon ein plant a'n pobl ifanc yn y dyfodol ond, fel y mae'r adroddiad yn ei bwysleisio, clywodd y pwyllgor bryderon penodol ynghylch diogelu plant, a'r ffaith y gallai llawer o broblemau fod wedi eu cuddio o'r golwg erbyn hyn.

Felly, hoffwn ddiolch i'r sefydliadau partner a ddarparodd dystiolaeth o'r fath i ni. Fe wnaeth ein hatgoffa yn ddifrifol, yn anffodus iawn, nad yw'r cartref yn lle diogel i bob plentyn. Ac er y byddai gan asiantaethau diogelu wybodaeth am nifer o blant agored i niwed, nid oes gennym unrhyw syniad faint yn fwy o blant a oedd mewn perygl yn ystod y pandemig, oherwydd yr amgylchiadau a grëwyd gan y cyfyngiadau symud. Dywedodd yr NSPCC wrthym:

Rydym ni'n pryderu, gyda'r cyfyngiadau symud ar waith, bod plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso, neu sy'n cael eu cam-drin a'u hesgeuluso, mewn perygl o gael eu cuddio oddi wrth wasanaethau.

Tynnodd y dystiolaeth sylw, er enghraifft, at y rhan bwysig y mae ysgolion ac athrawon yn ei chwarae fel rheol wrth ddatgelu materion diogelu. Yn aml, nhw yw'r oedolion dibynadwy sydd wedi bod allan o gyrraedd rhwydd cymaint o blant yn ystod y cyfnod hwn.

Buom yn craffu felly ar waith Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidog ar ganllawiau Llywodraeth Cymru fel y'u cyhoeddwyd ar 1 Mai, a chroesawyd y dull traws-lywodraethol o ymdrin ag anghenion plant agored i niwed gennym. Mae'r canllawiau yn cynnwys hyblygrwydd yn y meini prawf sy'n ymwneud â phlant agored i niwed, a chynnig mynediad ehangach i'r ysgolion hyb. Ac roedd y cynlluniau hynny yn rhan bwysig o'r ymdrech i gynorthwyo plant agored i niwed dros y misoedd diwethaf. Ond clywsom bryderon hefyd nad oedd plant agored i niwed yn defnyddio'r hybiau. Ac er bod niferoedd wedi cynyddu yn gyson, roedd gormod nad oeddent yn mynychu o hyd, ac yn anweledig i raddau helaeth.

Mae'r pwyllgor yn awgrymu felly bod angen rhagor o dystiolaeth i ddeall yn fanylach yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod y canllawiau aros gartref. I Lywodraeth Cymru, awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol, byrddau diogelu, a'r sefydliadau sy'n darparu cymorth a gwasanaethau, rydym ni'n gwybod bod gostyngiad sylweddol i atgyfeiriadau diogelu yn bryder mawr, fel y dylai fod i bob un ohonom ni. Ac mae hefyd wedi bod yn her enfawr arall i'n partneriaid mewn llywodraeth leol, a chan nad oedd unrhyw lacio ar ddeddfwriaeth gwasanaethau plant, yna, yn gwbl briodol, roedd yr un safonau yn dal i fod ar waith a bu'n rhaid ymateb iddyn nhw.

Felly, mae'r dasg o gadw mewn cysylltiad â phlant agored i niwed mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, ac o darfu cyn lleied â phosibl arnyn nhw, wedi gofyn am arloesedd a hyblygrwydd, ac rydym ni wedi gweld hynny drwy'r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn ystod yr argyfwng. Ond gall honno fod yn gyfyngedig yn y cartrefi hynny nad oes ganddyn nhw'r dechnoleg angenrheidiol, er gwaethaf y cymorth cynhwysiant digidol sydd wedi bod ar gael, ac, wrth gwrs, anallu rhai rhieni, gofalwyr, ac aelodau teulu ehangach i ddarparu'r cymorth addysgol ac emosiynol sydd ei angen ar blant.

Craffodd y pwyllgor hefyd ar y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, a diolchwn i'r Gweinidogion am eu hymateb. Ond mae'r pwyllgor yn eglur iawn wrth ofyn, os bydd unrhyw lacio, eu bod nhw'n cynnwys cymysgedd o'r mesurau cadw cydbwysedd a fydd yn ofynnol i sicrhau bod disgyblion AAA yn cael y cymorth angenrheidiol. A chafodd hynny ei fynegi mor dda gan fy nghyd-Aelod Hefin David yn gynharach.

Yn yr amser sydd ar gael, ni allaf ond tynnu sylw at rai o'r agweddau ar y gwaith craffu a wnaed gan y pwyllgor. Ond rydym ni wedi nodi'n eglur bod hawliau'r plentyn, ac anghenion plant a phobl ifanc agored i niwed yn arbennig, yn ganolog i'n gwaith. Ni allwn ni adael i'r pandemig hwn guddio'r weithred o adael y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wynebu mwy fyth o risg. Ac rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y pwyllgor yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill, gyda'r tasgau pwysig sy'n ein hwynebu. Mae'r pandemig hwn wedi bod yn her i'r rhai mwyaf cydnerth ohonom ni, felly gadewch i ni fod yn lleisiau sy'n amddiffyn ac yn gofalu am y lleiaf cydnerth.

18:30

Diolch, Diprwy Lywydd dros dro.

A gaf i ddiolch i'n holl dystion, ac i aelodau eraill y pwyllgor hefyd? Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau eraill yma yn cytuno bod hon yn ffordd bragmatig iawn o baratoi adroddiad mewn pryd ar gyfer gwyliau'r ysgol, ac mae'n rhoi'r cyfle hefyd i ni ddweud diolch unwaith eto wrth y teuluoedd a'r plant hynny sydd wedi gwneud eu gorau glas i barhau i ddysgu gartref, ac i'r athrawon a'r bobl eraill hynny sy'n gweithio ym maes addysg am helpu i sicrhau bod hynny yn digwydd.

Mae pobl agored i niwed a'r rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig wedi bod ym mlaenau ein meddyliau, ac rydych chi wedi clywed am hynny yn y Siambr heddiw. Mae gwerth atgyfnerthu, yn fy marn i, y pwynt nad y 'canol coll' fel y dywed Lynne sydd gennym ni yn unig, ond hefyd 'y rhai coll newydd sy'n agored i niwed' fel y dywed Dawn er mwyn i'r Gweinidog eu hystyried, gan atgyfnerthu unwaith eto fod yr hawl honno i addysg yn hawl i bawb. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi siarad am berthnasedd dysgu wyneb yn wyneb yn y ddadl heddiw.

Rydym ni'n gwybod o'n mewnflychau a gan dystion fod y ddarpariaeth a'r nifer sy'n manteisio arni wedi bod yn anghyson a dyna pam y byddai gennym ni ddiddordeb, Gweinidog, i weld yr adroddiadau hynny gan gonsortia a gawsoch chi yn ôl yng nghanol mis Mehefin, nid i weld yr atebion a gawsoch yn unig—rhywfaint o'r data yr oedd Siân yn sôn amdanyn nhw—ond mewn gwirionedd y cwestiynau y gwnaethoch eu gofyn.

Gan aros gyda hawliau plant, nid wyf i'n credu bod y rhan fwyaf o'r rheoliadau a gafodd eu cyflwyno o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 wedi bod yn destun asesiadau effaith, fel yr ydym ni'n eu deall, ac felly nid ydyn nhw wedi bod yn destun asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Ac nid wyf i'n sôn dim ond am reoliadau sy'n amlwg yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Rydym ni yn deall, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gweithredu ar frys mewn llawer o achosion, ond ni all diffyg dealladwy o ran ymgynghori ymlaen llaw hefyd arwain at ddiffyg gwaith craffu ar effaith y rheoliadau hynny ar blant a phobl ifanc, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gennych rywfaint o wybodaeth ynghylch pryd y gallech chi fod yn adrodd yn ôl ynghylch hynny. Mae angen i ni wybod hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i ni wybod a fu eich gweithredoedd yn gymesur.

Mae hynny'n arbennig o wir wrth i ni feddwl am rywbeth y mae Hefin wedi ei grybwyll eisoes—y rhwymedigaethau statudol hynny sydd o fudd i blant ag anghenion dysgu arbennig neu ychwanegol, sydd wedi eu hisraddio dros dro i sail 'ymdrechion gorau'. Ac rydych chi wedi esbonio, Gweinidog, yn un o'ch llythyrau atom ni y byddech chi'n monitro effaith hyn, yn enwedig i blant sydd gartref yn hytrach nag yn yr ysgol. Felly, pe gallech chi roi rhyw syniad i ni pryd y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu a phryd y gallwn ni ddisgwyl adroddiad ar hynny, rwy'n credu y byddai hynny yn ddefnyddiol iawn hefyd.

Effeithiwyd hefyd—ac unwaith eto, fe wnaethoch chi dynnu sylw'r pwyllgor at hyn yn un o'ch llythyrau mewn ymateb: nid oes ond rhaid i awdurdodau lleol wneud eu gorau glas erbyn hyn i roi eu cyllideb ysgol unigol i ysgolion am y flwyddyn ariannol nesaf. Ac rydych chi'n gwybod am ein pryderon ynghylch cyllid ysgolion, Gweinidog. Rydym ni ar ddeall bod rhywfaint o gyllid canlyniadol wedi ei estyn i lawr gan Lywodraeth y DU ac i Gronfa COVID Llywodraeth Cymru, os gallaf i ei galw'n hynny, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i dalu costau COVID. Mae hyn yn bwysig, yn fy marn i, oherwydd ei fod, wrth gwrs, yn dod ar ben y costau sy'n gysylltiedig â diwygio'r cwricwlwm. Er bod cyllid ysgolion cyn y cyfyngiadau symud yn dechrau edrych yn addawol, mae toriadau i'ch cyllideb chi a chyllideb llywodraeth leol er mwyn cyflenwi pot COVID y Llywodraeth, yn peryglu'r optimistiaeth honno bellach, felly efallai y gallech chi roi rhyw syniad i ni pryd y gallech chi ddychwelyd i rywfaint o sicrwydd i ysgolion ynghylch eu cyllid yn y flwyddyn sydd i ddod.

Mae gen i yr un cwestiwn ynghylch ariannu addysg bellach—mae llai na saith wythnos i fynd cyn y tymor newydd, ac nid yw colegau yn gwybod o hyd beth y byddan nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru o gronfeydd sydd wedi eu hestyn i lawr fel symiau canlyniadol y DU. Pryd bydd eich siambr o fri yn penderfynu ar hyn? Ac, ar yr un pryd efallai y gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddyfarnu cymwysterau sy'n gofyn am ddangosiad byw o sgiliau ymarferol. Tua nawr y byddai myfyrwyr fel arfer yn disgwyl canlyniadau.

Ac yna, yn olaf, i fynd yn ôl at brifysgolion, mae effeithiau COVID-19 ar yr economi yn gadael cyfleoedd prin iawn ar gyfer gwaith rhan-amser fel myfyrwyr neu waith mwy parhaol i raddedigion newydd. Efallai eich bod chi wedi gweld achos Rutendo Dafana yn y wasg heddiw. Felly, mae gen i chwilfrydedd i wybod a oes rhywfaint o waith yn cael ei wneud i ddatblygu cymorth i fyfyrwyr y gellir ei ddarparu trwy'r Llywodraeth ac nad yw'r sefyllfa mor llwm ag yr awgrymodd Lynne.

Rydym ni'n gwybod bod yr her ariannol i brifysgolion wedi ei hegluro yn drylwyr iawn i ni—gallem ni fod yn siarad am hyd at £0.5 biliwn yn fan hyn. Mae'r wybodaeth gyfredol yn awgrymu bod cyfraddau bodlonrwydd yn gadarnhaol a bod ceisiadau gan fyfyrwyr, er eu bod yn is o hyd, ychydig yn well nag yr oeddem ni'n ei feddwl. Ond nid yw nifer y ceisiadau yr un fath â'r niferoedd sy'n derbyn lle, ac rwy'n amau y bydd hwn yn bwnc llosg pan fyddwn yn dychwelyd ym mis Medi ac yn rhywbeth y bydd angen i'r ddwy Lywodraeth fod yn barod i'w drafod er mwyn cefnogi'r sector. Diolch.

18:35

Diolch yn fawr iawn, Mr Melding. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i'r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gyflwyno'r ddadl heddiw. A hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl staff yn ein lleoliadau addysg, yn ogystal â'n hawdurdodau lleol a'n partneriaid eraill, am ein helpu i sicrhau diogelwch a lles ein plant a'n pobl ifanc yn ystod yr argyfwng. Dyna fu fy mlaenoriaeth, a dyna fydd yn parhau i fod. Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniadau yr ydym wedi eu gwneud, ac yr ydym yn parhau i'w gwneud.

Cau ysgolion a'r tarfu yr achosodd hynny ar addysg ein plant a'n pobl ifanc oedd y penderfyniad anoddaf y bu'n rhaid i mi erioed ei wneud, ond rwyf i'n credu'n llwyr mai dyna oedd y penderfyniad iawn, o ystyried y dystiolaeth feddygol a gwyddonol a oedd gennym ni ar adeg peryglon COVID-19 a throsglwyddo'r feirws bryd hynny yn ein cymunedau. Ond diolch i ymdrechion ein lleoliadau addysg a'n hawdurdodau lleol, er gwaethaf yr heriau hynny, roeddem ni'n gallu symud yn gyflym i barhau i roi darpariaeth yn yr ysgol i bobl ifanc agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol, a sefydlwyd hynny o fewn ychydig ddyddiau.

Mae nifer y plant agored i niwed sy'n mynychu'r ysgol wedi ei drafod yn helaeth yn ystod y ddadl hon ac mae wedi cynyddu wrth i'r cyfyngiadau symud fynd yn eu blaen. Mae hynny'n rhywbeth nad yw'n unigryw i Gymru, ac mae ein profiad ni o argyhoeddi rhieni plant agored i niwed i anfon eu plant i'n hybiau yn un a gafodd ei adlewyrchu yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Mae'n rhaid i mi gydnabod iddo gymryd hyd nes yr oeddem ni'n gallu agor pob ysgol i ni weld y niferoedd yn cynyddu'n sylweddol, a dyna oedd un o fy mhrif resymau dros agor pob ysgol i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar ddiwedd y tymor hwn.

Hoffwn i egluro, i Hefin, fod gennym ni ddiffiniad clir iawn o'r hyn yw bod yn agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn—diffiniad a gafodd ei ehangu ac a dderbyniodd gefnogaeth lawer o'r rhanddeiliaid allweddol a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, o ran sut yr oeddem ni wedi nodi plant a oedd yn cael derbyn cymorth gan yr hybiau.

Rwy'n cydnabod bod rhai o'n hysgolion arbennig—ein hysgolion anghenion addysgol arbennig—wedi wynebu heriau penodol, ond hoffwn i hefyd dynnu sylw at yr arferion da iawn. Mewn llawer o ardaloedd lleol parhaodd yr ysgolion arbennig ar agor, gan roi cymorth i'r plant hynny mewn lleoliadau cyfarwydd. Mae'n drueni bod Mr Melding yn swydd y Llywydd dros dro y prynhawn yma, oherwydd bod ganddo enghreifftiau da iawn o ysgol, y mae ganddo gysylltiad agos â hi, sy'n gofalu am blant agored iawn i niwed, sydd wedi parhau ar agor drwy gydol y pandemig hwn ac sydd wedi cefnogi rhieni i raddau rhagorol.

I helpu ysgolion gyda'u swyddogaethau eraill yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni wedi darparu canllawiau ar barhad dysgu gyda'n dogfen 'Cadw'n ddiogel. Dal ati i ddysgu'. Roedd y cynllun cynhwysfawr hwn yn ystyried darpariaeth, nid yn unig i'r plant hynny a fyddai'n mynychu ysgol brif ffrwd, ond hefyd i blant a fyddai fel arall yn cael eu haddysgu mewn lleoedd heblaw am yn yr ysgol.

Fe wnaethom ni hefyd geisio mynd i'r afael ag allgáu digidol, darparu adnoddau dysgu ychwanegol a chanllawiau i rieni ar y ffordd orau o gefnogi eu plant yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o gyd-Aelodau wedi gweld y straeon yn Lloegr a'r Alban ynghylch y miliynau sydd wedi eu gwario ar liniaduron na wnaethon nhw gyrraedd y dysgwyr mewn gwirionedd cyn gwyliau'r haf. Ac rwy'n falch iawn, o ganlyniad i'r ffordd arloesol y gwnaethom ni fuddsoddi ein cyllid, a gwaith caled, unwaith eto, yr ysgolion a'r awdurdodau lleol, fod hynny yn llawer llai o broblem yma yng Nghymru, a'n bod ni wedi gallu sicrhau cymorth yn gyflym i ddysgwyr sydd wedi eu hallgáu yn ddigidol, gan ofalu eu bod yn cael y pecyn yr oedd ei angen arnyn nhw i barhau i ddysgu.

Wrth gwrs, roeddem ni'n ffodus iawn i fod yn gweithio ar sylfaen gref gyda'n platfform dysgu ar-lein, Hwb, sy'n darparu mynediad heb ei ail i ystod eang o offer a chynnwys digidol dwyieithog i gefnogi trawsnewidiad addysg ddigidol. Mae mewngofnodi i Hwb drwy gydol y cyfnod hwn wedi bod yn anhygoel, ac yn yr un modd, yr ymgysylltiad proffesiynol â chyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi eu darparu gan ein gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol er mwyn sicrhau y gallai ein gweithwyr proffesiynol ei ddefnyddio i'r eithaf hefyd.

O ran bod yn agored i niwed, unwaith eto, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i warantu darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg, yn ystod gwyliau hanner tymor y Sulgwyn a thros wyliau'r haf. Ac fe wnaethom ni'r penderfyniad hwnnw oherwydd ein bod ni'n gwybod mai hwnnw oedd y penderfyniad iawn, yn hytrach na chael ein gorfodi i wneud hynny gan ymgyrch proffil uchel.

Ond rwy'n gwybod na fu'n hawdd trosglwyddo i'r ysgol gartref ac i ddysgu ar-lein, ac i rai dysgwyr a'u rhieni a'u gofalwyr, y mae wedi cyflwyno anawsterau penodol. Ar ben hynny, fel yr ydym ni wedi cael gwybod o arolwg y comisiynydd plant, mae llawer o ddysgwyr wedi bod yn pryderu am golli ysgol, am arholiadau a chanlyniadau, am fethu'r gweithgareddau diwedd blwyddyn hynny, ffarwelio â'u ffrindiau ac yn syml y strwythur hwnnw sydd mor bwysig iddyn nhw. Ond lliniaru effaith y pandemig hwn sydd wedi bod yn brif ffocws i Lywodraeth Cymru.

Os caf i droi at fater iechyd meddwl, sef canolbwynt y ddadl y prynhawn yma, a hynny'n briodol hefyd, wrth ragweld y cynnydd yn y galw am adnoddau iechyd meddwl, rydym ni wedi darparu arian ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl plant, yn ogystal â'r buddsoddiad a wnaethom ni mewn gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ac rwyf i, yn wir, yn falch iawn ein bod ni bellach yn ymgynghori ar ein dull ysgol gyfan. Mae'r gwaith hwnnw wedi ei ddiwygio i adlewyrchu sefyllfa COVID-19, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb da i'r ymgynghoriad sydd ar waith ar hyn o bryd.

A gaf i ddweud ychydig bach, yn fyr, am ein gwasanaethau ieuenctid a symudodd i ffordd newydd o weithio ac a ddatblygodd arfer arloesol newydd, unwaith eto yn gyflym, ac sydd wedi parhau i gefnogi plant ar hyd a lled Cymru, er eu bod yn gwneud hynny ar ffurf wahanol iawn? Ac mae'r cymorth hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy.

Rwy'n cofio, Llywydd dros dro, gweld trydariad gan weithiwr ieuenctid ar ddechrau'r argyfwng hwn. Roedd hi wedi bod yn cynnal archwiliad wythnosol gydag un o'r bobl ifanc—disgybl oedran cynradd yr oedd hi'n gweithio gydag ef. Gofynnodd i'r bachgen ifanc a oedd yn mynd i fod yn iawn, ac a fyddai ganddo ddigon i'w fwyta a phethau i'w gwneud. Atebodd a dweud, 'Nid oes angen i chi boeni amdanaf i—rwy'n mynd i fod yn iawn. Rwy'n un sydd wedi ei ddewis i fod yn y grŵp gwerthfawr, felly rwy'n mynd i'r ysgol bob dydd.' Ac rwy'n credu bod hynny yn wych bod yr ysgol wedi gallu nodi bod y bachgen ifanc hwnnw yn werthfawr yn hytrach nag yn agored i niwed, a sicrhau ei fod yn parhau i gael mynediad, nid yn unig i'r hyb, ond i'w weithiwr ieuenctid a oedd yn ei gefnogi.

Fe wnes i gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, ac mae hynny o ganlyniad i waith caled ac ymdrechion pobl Cymru. Erbyn hyn rydym ni'n gweld cyfraddau trosglwyddo cymunedol yn gostwng, ac mae'r ymdrech honno a'r gwaith caled a'r aberth wedi ein galluogi i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Ond rwy'n cydnabod bod angen cynllunio hyn ac y bydd angen cymorth ar ysgolion a disgyblion. A bydd gan ysgolion hyblygrwydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd i roi blaenoriaeth i rai grwpiau penodol o ddysgwyr, fel y mae llawer yn ei wneud eisoes. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i fesurau diogelu, fel golchi dwylo, asesiadau risg a chyfyngiadau priodol barhau i fod ar waith, a chafodd canllawiau dysgu a gweithredol diwygiedig eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon i gefnogi'r broses dychwelyd i'r ysgol honno ym mis Medi.

Hefyd i gefnogi ysgolion, byddwn yn recriwtio staff ychwanegol ac yn cefnogi'r cam adfer ac yn parhau i godi safonau yn rhan o'n cenhadaeth genedlaethol drwy sicrhau bod tua £29 miliwn ar gael ar gyfer yr ymdrech honno. Nid ateb tymor byr yw hwn, ac rwy'n gwarantu'r arian hwn a staff a chymorth ychwanegol drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu recriwtio cyfwerth â 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf. Bydd y cymorth ychwanegol yn canolbwyntio ar y rhai sy'n sefyll arholiadau cyhoeddus, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed. Gallai'r dulliau gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer archwiliadau disgyblion.

Yn gyflym iawn, Llywydd dros dro, byddwn yn gweithio gyda'r sector gofal plant yn ystod yr haf, a'n nod yw cynyddu maint y grwpiau cyswllt a chefnogi eu symudiad tuag at weithrediadau llawn, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i alluogi hynny i ddigwydd. Ac mae adnoddau ychwanegol ar gyfer cymorth i deuluoedd plant sy'n agored i niwed wedi eu neilltuo ar gyfer gwyliau'r haf. Rwy'n cydnabod bod gan addysg feithrin ei chymhlethdodau ei hun, ac rydym ni'n datblygu canllawiau eraill i gefnogi'r sector.

Rwyf i wedi bod yn glir drwy gydol y pandemig hwn fod yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i sicrhau'r dysgu mwyaf posibl gan darfu cyn lleied â phosibl ar ein pobl ifanc, ac rwyf i hefyd yn glir na ddylem ni byth golli ein disgwyliadau y gellir cefnogi unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir, i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Ac rwy'n benderfynol na fyddwn ni'n colli'r momentwm hwnnw, er gwaethaf COVID-19, ac rwy'n gwybod bod athrawon a rhieni ledled Cymru yn rhannu'r uchelgais hwnnw.

Ynghyd â'n cwricwlwm newydd, yr oeddwn i'n falch iawn o dreulio awr a hanner—

18:45

Rydym ni wedi cyrraedd 10 munud erbyn hyn, felly a wnewch chi efallai sicrhau mai hwn yw'r sylw olaf gennych chi?

Wrth gwrs. Ynghyd â'n cwricwlwm newydd, rydym ni'n symud yn bwrpasol i gyfnod newydd ar gyfer addysg, a hoffwn i ddiolch, unwaith eto, a rhoi ar gofnod, fy nghefnogaeth i'r athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff cymorth ysgol a staff addysg bellach ac addysg uwch hynny sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl yn ystod y cyfnod mwyaf digynsail hwn. Diolch.

Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig iawn hon? Byddaf i'n ceisio ymateb i gynifer o bwyntiau ag y gallaf.

Diolch, Janet, am eich cyfraniad ac am fynegi rhai o'r heriau arwyddocaol iawn y mae plant a phobl ifanc wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at arolwg y comisiynydd plant a ffynonellau gwybodaeth eraill, sydd o gymorth mawr i gyfeirio atyn nhw. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at y nifer isel o blant sydd wedi bod yn mynychu'r hyb. Rwy'n gwybod bod hynny wedi bod yn destun rhwystredigaeth i Lywodraeth Cymru hefyd. Rydym ni'n gwybod bod hynny hefyd yn deillio o ofn llawer o deuluoedd, ond mae'n sicr yn bwynt da, ac yn yr un modd eich pwynt ynghylch yr angen i'r Llywodraeth, yn rhagweithiol, estyn allan i'r plant hynny nad oeddem ni'n gwybod eu bod yn agored i niwed, ac roedd hwnnw'n bwynt a wnaeth y pwyllgor o'r cychwyn cyntaf. Byddwn i hefyd wedi hoffi gweld cynnydd cyflymach yn hynny o beth, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhywbeth y gallwn ni barhau i ganolbwyntio arno.

Hefin, a gaf i ddiolch i chi am eich cyfraniad hynod rymus a diffuant? Rwy'n cydnabod na fyddai hynny wedi bod yn araith hawdd ei chyflwyno, ond mae ein trafodaethau a'n hystyriaeth o'r materion hyn yn gryfach o lawer yn sgil y cyfraniadau hynny yr ydych wedi eu rhannu â ni. Ac i'ch sicrhau chi bod y pryderon ynglŷn â'r ddarpariaeth ADY yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio arno; byddan nhw'n cael eu trafod yn ein llythyr nesaf, a fydd yn cael ei anfon at y Gweinidog maes o law. Felly, rydym ni'n sicr yn aros ar y materion hynny i geisio gwneud yn siŵr eu bod yn cael sylw, ac, wrth gwrs, mae'n amlygu mewn ffordd mor rymus yn union pa mor bwysig yw mynediad i'r ysgol a darpariaeth blynyddoedd cynnar i'n plant a'n pobl ifanc.

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chyfraniad ac am ei chefnogaeth i'r safbwynt y mae'r pwyllgor wedi ei gymryd ynglŷn â phwysigrwydd cael plant a phobl ifanc yn ôl i'r ysgolion? Siân, rydych chi'n llygad eich lle wrth ddweud ein bod ni'n poeni yn fawr iawn, iawn ynghylch goblygiadau ail don i'n plant a'n pobl ifanc, a dyna pam yr wyf i'n credu ein bod ni fel pwyllgor yn dweud wrth y Llywodraeth bod yn rhaid i blant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth, na allan nhw fod y peth cyntaf y byddwn ni'n ei gau. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei bod yn flaenoriaeth i'w cadw mewn addysg oherwydd ein bod ni wedi gweld beth sy'n digwydd pan na fyddwn ni.

Diolch, hefyd, am eich cyfraniad ynghylch iechyd meddwl. Fel chi, rwyf i wrth fy modd bod y canllawiau ar y dull ysgol gyfan wedi eu cyhoeddi i ymgynghori arnyn nhw ac rydych chi'n llygad eich lle nad oes angen i ysgolion aros i ddechrau gwneud hyn. Mae llawer o'n hysgolion cynradd da iawn yn gwneud hyn eisoes, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy yn gwneud hyn cyn y bydd yn ganllawiau statudol. Diolch, hefyd, am dynnu sylw at bwysigrwydd cadw llygad barcud iawn ar effaith y pandemig hwn ar gyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith plant a phobl ifanc. Rwyf i mor falch bod gennym ni bobl fel yr Athro Ann John sy'n monitro hyn yn gyson, a'i bod hi bellach yn aelod o'r grŵp cynghori technegol sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.

Cyfeiriodd Dawn Bowden at effaith y pandemig ar blant sy'n agored i niwed. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu—yr oedd yn rhywbeth tebyg i 27 y cant, sy'n peri pryder mawr iawn ar adeg pan wyddwn ni fod mwy o blant gartref dan amgylchiadau y byddem ni, mae'n debyg, yn bryderus iawn yn eu cylch. Bydd hynny yn sicr yn parhau yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.

Diolch, Suzy, am eich sylwadau ac, yn ôl yr arfer, am eich cefnogaeth gref iawn i'r broses o asesiad o'r effaith ar hawliau plant. A ninnau bellach allan o'r cyfnod argyfwng fel pwyllgor, rydym ni'n awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn dangos eu hystyriaethau i ni ynglŷn â hawliau plant. Fe wnaethoch chi eich pwyntiau ynghylch cyllid ysgolion mewn modd da iawn; bydd hynny yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r pwyllgor, ac ni allwn ni adael i'r pandemig hwn danseilio'r buddsoddiad strategol yn ein plant a'n pobl ifanc.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei hymateb heddiw a hefyd am ei hymgysylltiad adeiladol iawn â'r pwyllgor drwy gydol y pandemig a hefyd am gwrdd â mi bob wythnos, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn iawn i mi fel Cadeirydd, i gael y trafodaethau hynny gyda chi? Diolch heddiw yn arbennig am dynnu sylw at swyddogaeth wirioneddol bwysig y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru, rhywbeth sy'n agos at galon y pwyllgor.

Gallaf i weld fy mod i'n herio amynedd y Cadeirydd. A gaf i gloi, felly, trwy ailadrodd fy niolch i'r tystion a roddodd o'u hamser, ar adeg pan oedd hi'n anhygoel o anodd iddyn nhw ddod o hyd i amser i siarad â ni, ac i ailadrodd diolch y pwyllgor i'r holl staff rheng flaen sydd wedi gweithio mor galed i geisio cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy gydol y pandemig, a rhoi gwybod i'r Aelodau y byddwn ni'n parhau i graffu'n agos iawn ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ynghyd â'n gwaith craffu ar y Bil cwricwlwm ac asesu, a byddwn ni'n gwneud pob dim yn ein gallu fel pwyllgor i sicrhau, drwy Lywodraeth Cymru gyfan, y bydd plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Diolch.

18:55

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw Aelod yn gwrthwynebu felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18. Dadl Plaid Cymru: Cymru Annibynnol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliannau 2, 5 a 6 yn enw Neil Hamilton, gwelliant 3 yn enw Gareth Bennett, gwelliant 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 7 ac 8 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.

Eitem 18 yw dadl Plaid Cymru: Cymru annibynnol. Cyn i mi ofyn i Rhun ap Iorwerth gynnig y cynnig, a gaf i ddweud bod gen i lawer mwy o siaradwyr nag y bydd yn bosibl eu galw? I'r rhai yr wyf i yn eu galw, a fyddech cystal â chadw at derfynau amser, neu fel arall fe fyddaf i'n gallu galw llai nag yr wyf i'n bwriadu ei wneud. Mae'n amlwg yn bwnc poblogaidd a phwysig iawn. Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM7356 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.

3. Yn credu y byddai annibyniaeth yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.

4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban annibynnol ac Iwerddon unedig.

5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibyniaeth.
 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gen i gynnig y cynnig yma yn ffurfiol. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma, sydd, i mi, yn gofyn i'r Senedd roi sêl bendith i egwyddor ddemocrataidd gwbl sylfaenol. Gymaint â dwi yn bersonol yn gwbl eglur y byddai Cymru yn gallu ffynnu fel gwlad annibynnol, nid gofyn i'r Senedd gefnogi annibyniaeth rydyn ni, ond yn hytrach gofyn i'r Senedd gefnogi'r egwyddor mai pobl Cymru ddylai benderfynu.

Dwi'n ddiolchgar i fy etholwraig i wnaeth anfon llythyr ataf i y bore yma yn rhannu ei barn hi mai hawl pobl Cymru yw penderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol. Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud dylai'r grym dros alw refferendwm o'r fath fod yn eiddo i'r Senedd; wedi'r cyfan, hawl unrhyw genedl yw penderfynu ar ei dyfodol ei hun.

Mae cymal olaf y cynnig yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibyniaeth.

Ydym, rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu cynnal refferendwm rhwymol ar annibyniaeth. Nawr, rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o annibyniaeth drwy gydol fy oes; gall angerdd weithiau awgrymu ysgogiad emosiynol i hyn, a byddwn i'n dweud celwydd pe byddwn i'n dweud nad oedd gen i ymlyniad emosiynol iawn i'm gwlad a'i dyfodol. Ond rwyf i'n ystyried fy hun yn ddyn eithaf pragmatig: nid yw annibyniaeth, i mi, yn nod ynddo'i hun, yn hytrach mae'n fodd o ganiatáu i'm gwlad ddarparu gwell dyfodol i'w phlant, i allu mynegi ei hun yn wlad agored, sy'n edrych tuag allan, yn meithrin partneriaethau, yn groesawgar ac yn mynd amdani, a'i chyfyngiadau wedi eu dileu. Heriol? Mawredd, ydy, a wyddoch chi beth? Os nad ydym ni'n ddigon cryf i ateb yr her, gallwn ni barhau fel yr ydym ni: dibyniaeth, diffyg twf, tlodi, tlodi o ran cyfle, diffyg buddsoddiad. Nid yw'r un o'r rhain yn ddigon i mi, ond dyna yw Cymru ar hyn o bryd: llawn o bobl dda, llawn o syniadau da, ymdeimlad gwirioneddol o'i hunan, ymdeimlad o gymuned a menter gyffredin, ond yn methu â defnyddio'r holl bethau hynny i unrhyw raddau sy'n agos at eu potensial.

Nawr, y cyd-destun presennol, wrth gwrs, yw'r pandemig. Ar hyn o bryd y DU sydd â'r trydydd nifer uchaf o farwolaethau yn y byd, y tu ôl i UDA a Brasil. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi ffurfio rhyw fath o echel o anallu, yn cyfrif am dros 250,000 o farwolaethau, bron i hanner y cyfanswm byd-eang. Rwyf i wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ynghylch llawer o'i hymateb i'r pandemig, ond rwy'n gobeithio bod Gweinidogion o'r farn fy mod i wedi ceisio gwneud hynny mewn modd adeiladol a fy mod i wedi nodi bod llawer i'w groesawu yn null Llywodraeth Cymru hefyd. Ac rwyf i'n credu y gellir dadlau ei bod ar ei chryfaf pan fu hi'n barod i ymwahanu—trwy lynu wrth y neges i aros gartref, er enghraifft, yn hirach, gan weithredu'n fwy gofalus yn gyffredinol.

Nawr, rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru efallai yn cyfaddef yn breifat mai'r camgymeriad mwyaf a wnaeth oedd cyd-fynd yn rhy agos â strategaeth pedair gwlad y DU. Arweiniodd hyn at gamgymeriadau fel cyfyngu ar brofion, penderfynu peidio â gweithredu system profi ac olrhain yn gynnar ac, wrth gwrs, methu â gorfodi'r cyfyngiadau symud yn gynharach. Mae digon o enghreifftiau hefyd pan fo Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi tanseilio ymdrechion Cymru: herwgipio cytundeb profi Roche, dweud wrth gyflenwyr cyfarpar diogelwch personol i beidio â chyflenwi cartrefi gofal na deintyddion yng Nghymru, methu â chyfathrebu'n ddigonol y rheolau gwahanol o ran y cyfyngiadau symud yng Nghymru, methu, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan y Prif Weinidog, â sicrhau cyfathrebu yn ddigon rheolaidd rhwng Prif Weinidog u DU ac arweinyddion datganoledig.

Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallem ni fod wedi gwneud mwy pe byddai gennym ni'r mathau o arfau sydd gan wledydd annibynnol: y gallu i lunio ac amseru'n iawn ein cynllun ffyrlo ein hunain, gan alluogi cyfyngiadau symud yn gynharach—ac, o ganlyniad, fel yr ydym ni wedi ei weld o wledydd eraill, rwy'n credu, dod allan yn gynharach, ailddechrau gweithgarwch economaidd yn gynharach hefyd—y gallu i reoli ffiniau, efallai, i gyfyngu ar y trosglwyddo ar adegau allweddol, fel yr oedd cenhedloedd Ewropeaidd bach eraill yn gallu ei wneud; byddai ein Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ein hunain wedi teilwra cyngor i ddiwallu anghenion Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae'n rhestr faith.

I'r rhai hynny sy'n dweud na fyddem ni'n gallu ei fforddio, mai gan y DU yn unig oedd yr adnoddau, mae'n ddrwg gen i ddweud wrthych chi, ond er bod y DU wedi cynyddu ei benthyca yn aruthrol i ymateb i'r argyfwng, mae honno yn ddyled i ninnau hefyd. Does bosib na fyddai wedi bod yn llawer gwell gwneud ein benthyca ein hunain, gan deilwra'r maint, y telerau ac, unwaith eto, amseriad y benthyca hwnnw i gyd-fynd â'n blaenoriaethau.

Yn eu datganiad ar sefydlogi ac ailadeiladu ar ôl pandemig y coronafeirws, a gyhoeddwyd ddoe, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog cyllid:

'nid oes gennym ddigon o arian.... Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid oes gennym yr hyblygrwydd i fenthyca mwy o arian mewn cyfnod o angen economaidd brys.'

Wel, yn union. Rwyf i'n dweud: gadewch i ni geisio'r hyblygrwydd hwnnw, y math o hyblygrwydd sydd gan wledydd annibynnol.

Nid yw Cymru wedi perfformio cystal â llawer o genhedloedd bach annibynnol eraill. Edrychwch ar Norwy, y Weriniaeth Tsiec, Croatia, Serbia, Lithwania, Gwlad yr Iâ, Wrwgwái—mae ganddyn nhw gyfraddau marwolaeth sy'n ddegfed rhan o gyfraddau marwolaethau Cymru. Ond bydd llawer, wrth gwrs, yn ddealladwy ac yn eithaf priodol, yn cymharu dulliau gweithredu Cymru a'r DU, ac i lawer iawn o bobl, mae'r cyfnod hwn wedi newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar Gymru a'r ffordd y cawn ni ein llywodraethu, y ffordd y gallwn ni gael ein llywodraethu. Mae pobl wedi sylweddoli o'r newydd ein bod ni'n gallu gwneud pethau yn wahanol, bod gwerth gwirioneddol mewn gwneud pethau yn wahanol—efallai y gall gwneud pethau yn wahanol achub bywydau, hyd yn oed.

Cefais i e-bost gan etholwr ddoe—nid cefnogwr annibyniaeth gydol oes; un sydd wedi dod i feddwl felly yn ystod y blynyddoedd diwethaf—roedd yn falch ein bod ni'n cael y ddadl hon. Dyma a ddywedodd: 'Mae'n debyg y bydd hyn yn sicr yn arwain y ffordd i Aelodau eraill a fydd yn cefnogi'r undeb yn ddifeddwl. Rwy'n synnu at Lee Waters yn ochri gydag Andrew R.T. Davies', meddai, 'wrth i fwy a mwy ddod i'r amlwg ynghylch aflerwch cyffredinol a dichell Llywodraeth San Steffan wrth ymdrin â'r ymateb COVID.' Ymchwiliais i hyn. Ar y cyfryngau cymdeithasol—ble arall, wrth gwrs—roedd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dilorni cefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth. Dywedodd ein bod ni'n:

treulio gormod o amser yn siambr atseinio cenedlaetholwyr ar Twitter.

Braidd yn eironig, o gofio ei fod yntau yn atseinio'n rheolaidd o amgylch y cyfryngau cymdeithasol, ond mae croeso iddo fod â'i farn. Camodd Lee Waters i'r adwy—Dirprwy Weinidog—i ddweud ei fod yn cytuno ag ef, ond yna gofynnodd unigolyn arall iddo:

beth ddylai Cymru ei wneud pan fydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth a phan fydd Gogledd Iwerddon yn ailuno â gweddill Iwerddon?

Yr ymateb a roddodd Lee Waters oedd 'ailasesu'. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n dweud llawer. A ddylem ni drafod ein dyfodol fel gwlad ar ôl i wledydd eraill drafod eu dyfodol nhw? Ai dyna'r hyn yr ydym ni ei eisiau: bod yn wlad sy'n ceisio ffurfio ei dyfodol ei hun dim ond ar sail yr hyn y mae eraill yn ei benderfynu ar eu cyfer nhw—gwlad a fydd hyd yn oed ddim ond yn ystyried beth sydd orau i ni os bydd eraill yn ein rhoi ni mewn sefyllfa pan fo'n rhaid i ni wneud hynny? Mae angen i ni gael y ddadl honno yn awr, yn rhagweithiol, a dyna pam mae mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn ymuno â'r drafodaeth honno. Ac mae'n synnwyr cyffredin democrataidd pur mai ni ddylai fod â'r dewis, fel gwlad, trwy ein Senedd genedlaethol, i gyflwyno hynny i bleidlais: ein dyfodol ni yn ein dwylo ein hunain.

19:00

Mae wyth gwelliant wedi'u dethol i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.

2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:

a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi ymyriadau mewn materion datganoledig;

b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;

c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;

d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;

e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;

f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith ifanc;

g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch;

h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac

i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd—neu'r Llywydd dros dro—rwy'n falch iawn o'ch gweld chi yn y Gadair heddiw. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.

Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n synnu braidd bod Plaid wedi dewis cyflwyno dadl ar annibyniaeth heddiw o bob diwrnod. Dyma'r cyfarfod llawn olaf cyn toriad gwyliau'r haf, a gallem ni fod wedi bod yn trafod llu o faterion pwysicach—materion fel ffiasgo profi COVID Llywodraeth Cymru, yr ymateb araf i ailagor yr economi yng Nghymru, neu'r angen i gynyddu'r defnydd o orchuddion wyneb. Ond, yn hytrach na hynny, rydym ni yma yn bogailsyllu, a dweud y gwir, am annibyniaeth fel rhyw fath o syniad rhamantus i ddatrys holl drafferthion Cymru. 

Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn eironig iawn bod Plaid Cymru, sydd wedi treulio pedair blynedd yn dadlau bod Cymru'n gryfach ac yn fwy diogel yn rhan o undeb o genhedloedd, yr Undeb Ewropeaidd—yn erbyn ewyllys y cyhoedd, os caf i ddweud—bellach yn galw am i Gymru fynd ymlaen ar ei phen ei hun yn y byd ac i wahanu ei hun oddi wrth yr union undeb sy'n amddiffyn ein gwledydd ar y cyd. 

Rydym ni wedi treulio gormod o amser yn y degawdau diwethaf, yn fy marn i, yn trafod y cyfansoddiad yng Nghymru. Mae pob awr a dreuliwn yn trafod y cyfansoddiad a thincran â'r cyfansoddiadol yn awr nad ydym ni'n trafod sut i godi safonau yn ein hysgolion, yn ein hysbytai a sut i wneud ein heconomi'n gyfoethocach. Felly, yn hytrach na ffraeo am fwy o bwerau o hyd, gadewch i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni eisoes a gadewch i ni wella bywydau pobl gyda nhw. Mae angen neilltuo'r degawd nesaf o ddatganoli i gyflawni ar ran pobl Cymru, nid mwy o hunanymholi cyfansoddiadol.

Erbyn hyn, gwyddom fod cefnogaeth i annibyniaeth, dros 20 mlynedd, wedi aros yn ei unfan i raddau helaeth. Fe wnaeth yr unig blaid wleidyddol a oedd o blaid annibyniaeth i Gymru a safodd mewn seddi—nid pob sedd—yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yng Nghymru, sicrhau llai na 10 y cant o'r bleidlais. Mae hynny'n gyfran lai na'r hyn a enillodd Plaid yn y 1970au. Felly, ymlaen, gyfeillion, gadewch i ni weld lle mae'r ddadl hon yn mynd â ni mewn gwirionedd.

Ac nid Plaid yn unig sydd mewn trafferth ynglŷn â datganoli ychwaith. Mae Llafur mewn llanast hefyd. Rydych chi'n honni eich bod chi'n blaid unoliaethol. Mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud bod sosialaeth yn anghydnaws â chenedlaetholdeb Cymreig. Eto i gyd, mae e'n arwain plaid yma yng Nghymru sy'n gartref i grŵp o'r enw 'Llafur dros Gymru Annibynnol'. Nawr, os yr ydym ni i gredu nifer yr hoffiadau a geir ar Facebook, mae gan y grŵp hwn o leiaf 600 o aelodau. Felly, os yw'r Prif Weinidog wir yn credu ei rethreg ei hun a'i fantra ar ddatganoli, yna pam nad yw'r Blaid Lafur yn cymryd camau yn awr i ddiarddel y gwrthryfelwyr hyn? Siawns y byddai hynny'n anfon y math o neges glir a chryf y byddai plaid unoliaethol eisiau ei hanfon at bobl?

Mae fy mhlaid i yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig. Dydyn ni ddim yn barod i dderbyn y rhai sy'n ymgyrchu yn ei herbyn o fewn ein haelodaeth, ac rwy'n herio'r Blaid Lafur i wneud yr un ymrwymiad.

Nawr, er mwyn ei roi ar goedd, gadewch i mi fod yn glir: rwy'n gefnogwr mawr o ddatganoli, ond nid wyf o blaid Cymru annibynnol. Ac i'r rhai sy'n tynnu sylw at yr 21 mlynedd ddiwethaf ac yn dweud bod datganoli wedi siomi Cymru, rwyf i'n dweud, 'Na, nid datganoli sydd wedi siomi Cymru; ond y Blaid Lafur, ynghyd â'u helpwyr bach sydd wedi bod yn y Llywodraeth, gan gynnwys Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o'r annibynwyr yr ydym ni wedi eu gweld ar y ffordd. Nhw sydd wedi siomi Cymru.'

Datganoli yw dymuniad diysgog, yn fy marn i, y rhan fwyaf o bobl Cymru. Pleidleisiodd Cymru yn 1999, er mai o drwch blewyn oedd hynny, o blaid sefydlu datganoli. Fe wnaethon nhw bleidleisio eto yn 2011 i ymestyn pwerau'r Senedd hon. Ac mae'n rhyfeddol i mi y bydd rhai o'r bobl a fydd heb os yn cyfrannu at y ddadl hon heddiw yn galw am refferendwm arall ar fodolaeth y sefydliad hwn, neu, hyd yn oed yn waeth byth, i gael gwared ar y sefydliad hwn heb refferendwm nac unrhyw fandad democrataidd i wneud hynny. Ac mae'n debyg mai'r union bobl a ddywedodd y dylem ni barchu refferendwm Brexit yn 2016 a fydd yn cyflwyno'r ddadl honno.

Byddai annibyniaeth yn ddrwg i Gymru a byddai'n ddrwg i'r Deyrnas Unedig. Byddai'n ein gwneud ni'n llai cydnerth i ymdrin â digwyddiadau a thrychinebau byd-eang. Byddem ni'n llai diogel. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod, fel un o fuddiolwyr net Trysorlys y DU, y byddai Cymru'n dlotach. Am bob £1 a gaiff ei gwario yn Lloegr ar faterion datganoledig, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 ar hyn o bryd. Yn 2017-18, roedd gan Gymru ddiffyg ariannol amcangyfrifedig o bron i £14 biliwn. Mae hynny bron yn cyfateb i gyfanswm grant bloc blynyddol Llywodraeth Cymru. Felly, byddai gan Gymru annibynnol ddewis anodd iawn i'w wynebu: toriadau enfawr—[Torri ar draws.] Gwnaf. Toriadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus, neu gynnydd enfawr mewn trethiant neu gyfuniad o'r ddau. Nid wyf i'n credu mai dyna'r math o ddull sydd ei angen i adfer ein gwlad yn dilyn pandemig y coronafeirws.

19:10

Diolch yn fawr iawn. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 2, 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 2—Neil Hamilton

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu:

a) bod datganoli, drwy unrhyw fesur rhesymol, wedi methu; a

b) bod y gefnogaeth dros ddileu'r Senedd yn fwy na'r gefnogaeth dros annibyniaeth wleidyddol Cymru o'r DU.

Gwelliant 5—Neil Hamilton

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid cael gwared ar y Senedd.

Gwelliant 6—Neil Hamilton

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ar ei datsefydlu.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 5 a 6.

Diolch, Llywydd dros dro. Wel, rwy'n synnu'n fawr clywed Darren Millar yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Carwyn Jones wrthyf y tro diwethaf y gwnaethom ni drafod y materion hyn, mai datganoli oedd dymuniad diysgog pobl Cymru. Oherwydd, wrth gwrs, os mai refferendwm 1975 ar aelodaeth o'r UE oedd dymuniad diysgog pobl Prydain, ni fyddai Darren Millar wedi bod yn ymgyrchu i gael refferendwm arall yn 2016. A'r gwir amdani yw, mewn democratiaeth, ni all dim byd byth fod yn ddymuniad diysgog y bobl, oherwydd ni ellir rhwymo un genhedlaeth gan ei rhagflaenwyr, a byddai'n gwbl anghyfiawn i geisio cyfyngu hynny.

Felly, i'r graddau hynny, rwyf i o blaid ymagwedd Plaid Cymru, sef os oes nifer fawr o bobl yng Nghymru sydd eisiau pleidleisio dros annibyniaeth, pam na ddylid caniatáu iddyn nhw fynegi hynny yn y ffordd ddemocrataidd, drwy gynnal refferendwm ar hynny? Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i hynny ddigwydd. Does gen i ddim amheuaeth y byddai'n cael ei wrthod gan fwyafrif llethol y bobl. Ond yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw nad oes hoffter mawr o'r setliad datganoledig sydd gennym ni ar hyn o bryd, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yng Nghymru. Ni wnaeth y Cynulliad erioed gyrraedd 50 y cant o ran y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad ar gyfer y Cynulliad, ac rwyf i'n amau'n fawr a fydd yn cyrraedd y lefel honno yn yr etholiad y flwyddyn nesaf os bydd yn digwydd. Felly, nid oes y fath beth â dymuniad diysgog pobl Cymru, gan fod pobl Cymru eu hunain yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth.

Y peth mwyaf rhyfeddol am Plaid yn cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yw, er eu bod nhw'n galw eu hunain yn blaid genedlaetholgar, dydyn nhw mewn gwirionedd ddim yn dymuno cael Cymru annibynnol o gwbl, fel y nododd Darren Millar. Maen nhw yn erbyn datganoli pwerau dros amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, ac ati, i Gaerdydd, gan eu bod nhw'n dal i ymdrechu i gyfyngu Cymru o fewn aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Eu syniad nhw o annibyniaeth yw bod y penderfyniadau gwleidyddol pwysig y mae'n rhaid i Gymru ufuddhau iddyn nhw yn cael eu gwneud ym Mrwsel; bod cymrodeddwyr terfynol ein deddfau wedi eu lleoli yn Lwcsembwrg; ac y dylid pennu ein polisi ariannol a'n cyfraddau llog yn Frankfurt. Felly, mae'r syniad y byddai Rhun ap Iorwerth yn cael pwerau benthyca diderfyn mewn Cymru annibynnol yn hurt oni bai bod gan Gymru ei harian annibynnol ei hunan. Felly, ai dyna yw polisi Plaid Cymru erbyn hyn? Rwyf i'n amau hynny'n fawr iawn. Dyna'r rhwystr nad oedd Nicola Sturgeon yn gallu ei oresgyn yn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth.

Ac, wrth gwrs, pe byddai Cymru yn wleidyddol annibynnol o Loegr, byddai'n golygu ffin galed â Lloegr, oherwydd bod Plaid Cymru yn credu mewn ffiniau agored, mewnfudo a gwneud Cymru yn genedl o noddfa, derbyn pawb sy'n dod i Gymru, ac ni fyddai hyn yn dderbyniol i fwyafrif o bobl Lloegr, yn sicr. Felly, dydw i ddim yn hollol siŵr sut y byddai pobl Cymru yn teimlo ynglŷn â hynny, ychwaith.

Ac fel y dywedodd Syr Darren Millar mewn gwirionedd, mae'r bwlch cyllidol yng Nghymru yn enfawr; mae'n cyfateb i bron i draean o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'r cymhorthdal trethdalwr o Lundain a de-ddwyrain a dwyrain Lloegr i bob rhan o'r DU, ar wahân i'r tair ardal hynny, yn enfawr ac yn dod i £4,289 y flwyddyn, ar gyfer pob unigolyn yng Nghymru. Felly, mae'r syniad y byddai haelioni diddiwedd y gallai Llywodraeth Plaid Cymru ei ddosbarthu mewn Cymru annibynnol yn hurt. Mewn gwirionedd, yr hyn y byddech chi'n ei weld yw economi Cymru yn crebachu'n aruthrol a'r holl dlodi ac amddifadedd a fyddai o ganlyniad i hynny.

Ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yw methiant cynhwysfawr datganoli i gyflawni'r addewidion a wnaed ar ei gyfer ar y pryd. Cymru yw gwlad dlotaf y Deyrnas Unedig, gydag incwm cyfartalog o 75 y cant o gyfartaledd y DU. Mae tri chwarter y boblogaeth yn byw o fewn byrddau iechyd sydd naill ai mewn mesurau arbennig neu ag ymyrraeth wedi'i thargedu. Ni sydd â'r canlyniadau addysg gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl tablau PISA. Mae pwerau datganoli wedi eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn yr 20 mlynedd diwethaf, ond nid i'r cyfeiriad a allai fod wedi gwneud datganoli yn llwyddiant.

Dydyn nhw ddim wedi defnyddio'r pwerau hyn i geisio sicrhau rhyw fath o fantais gystadleuol dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig; i'r gwrthwyneb yn llwyr—maen nhw wedi rhoi llyffethair ar goesau pobl Cymru. Gor-reoleiddio, y wladwriaeth faldodus, rydym ni wedi ei weld eto yr wythnos hon yn ymatebion Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws a'r arafwch o ran llacio'r cyfyngiadau. Mae'r agweddau ar wladwriaeth faldodus Llafur a Phlaid Cymru yno i bawb eu gweld wrth iddi geisio gwahardd pobl rhag ysmygu y tu allan i fwytai a thafarndai erbyn hyn. Eu hunig ddiddordeb yw eu hagenda o amlygu rhinwedd a'u hymwybyddiaeth tybiedig o gyfiawnder cymdeithasol a hiliol. Yn y cyfamser, mae buddiannau pobl Cymru wedi aros yn eu hunfan, ac o'u cymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, wedi dirywio mewn gwirionedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Gogledd Iwerddon oedd ar waelod y domen 20 mlynedd yn ôl; heddiw, Cymru sydd ar y gwaelod.

Nawr, nid yw hynny'n golygu bod gwlad fach fel —

19:15

— un neu ddau rybudd. Wel, mae'n lle rhesymegol i chi ddod i ben. Diolch yn fawr iawn.

Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw ef.

Gwelliant 3—Gareth Bennett

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at ddryswch.

2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd ddatganoledig Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Cadeirydd, a diolch i Plaid am gyflwyno dadl heddiw. Clywn siaradwyr yn aml yn dweud ar yr adeg hon, 'Ar y pwnc pwysig hwn', wel, mae dadl heddiw, os edrychwn ni ar yr holl welliannau, yn wirioneddol ar bwnc pwysig, sef: a ddylem ni barhau i fod â Chynulliad neu Senedd o gwbl? A'r ateb syml i hynny yw, 'Dylem, fe ddylem ni barhau i fod ag ef, os oes ganddo gefnogaeth ddemocrataidd pobl Cymru.' Os nad oes ganddo'r gefnogaeth honno, yna ni ddylem ni fod ag ef. Cydsyniad democrataidd yw popeth.

Ond mae angen i ni gynnal refferenda fwy neu lai bob 15 i 20 mlynedd, fel y gallwn ni ganfod yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei gredu mewn gwirionedd, oherwydd, mae'n ddrwg gen i, Darren Millar, nid oes y fath beth â dymuniad diysgog. Mae barn yn newid dros amser, felly mae angen i ni ei fesur. Byddwn i'n dweud bod y gwelliant yr wyf i'n ei gynnig heddiw, ar gyfer Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yn dilyn rhesymeg cynnig Plaid Cymru. Dywed Plaid yn eu cynnig, ac rwy'n dyfynnu:

'mae pobl Cymru wedi croesawu'r gallu i Gymru weithredu'n annibynnol'.

Wel, pwy yw'r 'bobl Cymru' hyn? A yw pawb yng Nghymru â'r un meddylfryd? Mae llawer o bobl yng Nghymru yn credu bod coronafeirws wedi amlygu'r dryswch enfawr sy'n codi pan fo gennych chi bedair gwahanol Lywodraeth yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl wedi canfod nad ydyn nhw wir eisiau pedair Llywodraeth; dydyn nhw ddim eisiau pedwar GIG gwahanol ledled y DU, maen nhw eisiau un GIG. Dydyn nhw ddim eisiau pedair cyfres wahanol o reolau Llywodraeth na phedwar cynllun gwahanol ar gyfer ffyrlo; maen nhw eisiau un gyfres o reolau ac un cynllun ffyrlo, ac yn y blaen. Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru bellach yn gweld datganoli am yr hyn yr ydyw, sef anghyfleustra costus, a dylai'r bobl hynny yng Nghymru fod â'r hawl i ddweud eu dweud.

Mae cynnig Plaid Cymru yn datgan ymhellach y byddai annibyniaeth yn rhoi mwy o ystwythder a chadernid i Gymru. Wel, yn sicr, byddai angen ystwythder ar Gymru annibynnol gan y byddai gennym ni ddiffyg enfawr yn y gyllideb, a heb Lywodraeth y DU, pwy fyddai gennym ni i roi cymhorthdal i ni? At bwy fyddai Mark Drakeford a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet yn mynd i ymofyn cardod pe na byddem ni'n rhan o'r DU? Os yw Cymru eisiau ffynnu yn genedl annibynnol, fel y mae'n ymddangos bod Plaid yn ei gredu, yna a allan nhw ddweud wrthym ni o ble yn union y mae'r cymhorthdal o £15 biliwn bob blwyddyn o Loegr i Gymru yn mynd i ddod pan na fyddwn ni bellach yn rhan o'r DU? Oherwydd efallai y byddai pobl Cymru o bosib eisiau gwybod hynny.

A gawn ni droi ein sylw at y ddau refferendwm sydd wedi mynd i'r afael â'r mater o ba un a ddylem ni fod â chorff datganoledig yma yng Nghymru ai peidio? Yn 1979, pleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli; yn 1997, newidiodd Cymru ei meddwl a phleidleisio i gael Cynulliad. Roedd hynny'n ddigon teg; roedd 18 mlynedd wedi mynd heibio yn y cyfamser ac roedd achos cryf dros ofyn i gyhoedd Cymru unwaith eto. Erbyn hyn, mae 23 mlynedd wedi mynd heibio ers refferendwm 1997, a greodd y lle hwn. Yn ogystal â hynny, rydym ni wedi cael 21 mlynedd o ddatganoli. Gall y cyhoedd erbyn hyn wneud dewis gwybodus, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol datganoli, o ran pa un a ydyn nhw eisiau iddo barhau ai peidio. Dyna'r unig beth yr ydym ni'n ei ofyn, sef yr ymgynghorir â'r bobl.

Yn fy mhlaid i, wrth gwrs, rydym ni eisiau diddymu'r lle hwn gan ein bod ni'n credu ei fod yn wastraff arian cyhoeddus, ond nid ydym ni'n dweud bod ein syniadau ni'n bwysicach na'r hyn y mae pobl Cymru ei eisiau. Wrth gwrs, nad ydyn nhw; yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn syml yw y dylem ni gael refferendwm ac yna gwneud yn union yr hyn y mae pobl Cymru yn ei ddweud wrthym ni am ei wneud. Ar ôl 23 mlynedd, mae'n hen bryd i bobl Cymru gael dweud eu dweud unwaith eto. Dyna pam yr wyf i'n cynnig y gwelliant hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

19:20

Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig yn ffurfiol gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 4—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;

2.  Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a

3.  Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Mae hynny wedi ei gynnig yn ffurfiol.

Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 7 ac 8, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 7—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru gael ei chyfansoddiad a'i deddf hawliau ei hun.

Gwelliant 8—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid arfer sofraniaeth Cymru ar lefel gymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys defnyddio refferenda rhwymol drwy hawl y cyhoedd i gynnig.

Cynigiwyd gwelliannau 7 ac 8.

Diolch, Llywydd dros dro. Dyma'r trydydd tro i ni drafod Cymru sofran mewn ychydig dros ddwy flynedd. Cymerodd hi 19 mlynedd i gael y ddadl gyntaf, felly rydym ni'n gwneud cynnydd—rydym ni'n gwneud cynnydd.

Rwy'n falch iawn o Gymru, rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, ac rwy'n fwy balch byth pan rydym ni'n mynd ymlaen i gyflawni mwy o bethau pan fo'r pwerau gennym ni. Rwy'n cefnogi cysyniad hen ffasiwn, a chaiff ei alw'n ddemocratiaeth. Dylai penderfyniadau ar gyfer Cymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Ni allaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn ystod yr 21 mlynedd diwethaf. Nid yw'n syndod, oherwydd mai rheolaeth un blaid fu gennym ni, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, felly byddwn yn cytuno â datganiadau nad ydym ni wedi gwneud yn dda dros yr 21 mlynedd diwethaf. Ond mae'n rhaid i ni wahaniaethu rhwng y sefydliad a'r cartel gwleidyddol sy'n rhedeg datganoli a'r Senedd ar hyn o bryd. Mewn democratiaeth iach, mae Llywodraethau yn newid, a chredaf y bydd yn arwydd o aeddfedrwydd gwleidyddol yng Nghymru pan gaiff Cymru ei llywodraethu gan blaid wahanol.

Credaf hefyd y dylai pobl, mewn democratiaeth iach, gael cyfle uniongyrchol i wneud y cyfreithiau sy'n eu rheoli, a dyna pam yr wyf i wedi rhoi gwelliant 8. Mae cyflwyno democratiaeth uniongyrchol fodern yn un o fentrau allweddol Welsh National Party. Mae'n rhywbeth sydd gan lawer o wledydd, fel y Swistir, ac yn hytrach na chael pleidlais unwaith bob pum mlynedd a gadael i'ch Llywodraeth wneud pob penderfyniad ar eich rhan, mae democratiaeth uniongyrchol fodern yn golygu y gall pobl wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Os gellir sicrhau digon o lofnodion, yna gallai refferendwm lleol neu genedlaethol gael ei gynnal a fyddai'n rhwymol. Llywodraeth y bobl yw hynny.

Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut, o gael y cyfle, y mae'r cyhoedd yn cyflwyno cynigion craff. Ond, ar hyn o bryd, dim ond trwy sicrhau 5,000 o lofnodion y gallan nhw sicrhau dadl yn y Siambr. Rwy'n credu, efallai, os sicrheir 100,000 o lofnodion, yna y dylen nhw allu cael refferendwm, ac rwyf yn ymddiried ym mhobl Cymru i wneud hynny a gwella ein democratiaeth. Dylid pleidleisio ar bethau fel cynlluniau datblygu lleol. Os yw corfforaeth eisiau rhoi llosgydd yn eich cymuned, dylai'r gymuned gael pleidlais ar hynny i benderfynu a yw pethau'n digwydd ai peidio.

Mae angen cyfansoddiad a bil hawliau arnom ni hefyd i sicrhau bod lleiafrifoedd yn ein gwlad yn cael eu diogelu, ynghyd â hawliau unigolion, a dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno gwelliant 7. Rwyf wedi galw am gyfansoddiad Cymru a bil hawliau.

Mae'r DU yn enwog am beidio â chael cyfansoddiad ysgrifenedig, ond rwy'n credu bod gwir angen am un, a gallwn ni arwain yn y fan yma drwy gyflwyno un i ni ein hunain yng Nghymru. Hoffwn i weld hynny'n digwydd gyda chonfensiwn cenedlaethol yn cael ei sefydlu, ynghyd â chynulliad dinasyddion a fyddai'n gyfrifol am lunio cyfansoddiad a bil hawliau cyn i'r cyhoedd bleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod cyfansoddiad yn rhywbeth sy'n wirioneddol gadarnhaol, oherwydd gall pobl edrych ar—. Wel, gallwn ni drafod, yn gyntaf, fel gwlad, a gallwn ni ddweud, 'Beth yw Cymru? Beth ydym ni? I ble yr ydym ni'n mynd?' Rhyddid a warantir i fynegi barn, hawl a warantir i gael cartref, hawl i addysg am ddim. Mae'r rhain i gyd yn bethau y gallem ni eu trafod mewn cyfansoddiad, ac yna gallem ni ddweud, 'Iawn, dyna pwy ydym ni. Dyna yw Cymru. Os ydych chi'n dod i Gymru, rydych chi'n ymrwymo i'r cyfansoddiad ac rydych chi'n Gymro.' Mae hynny'n rhywbeth mae'r Welsh National Party yn awyddus iawn i symud ymlaen.

Rhoddais y gwelliannau oherwydd fy mod i eisiau gweld Cymru yn symud ymlaen fel gwlad ddemocrataidd, ac rydym ni eisiau rhoi'r grym sofran yn ôl yn nwylo'r bobl sy'n byw yng Nghymru, mewn ystyr unigol, mewn ystyr gymunedol, ac mewn ystyr genedlaethol hefyd. Felly, rwyf yn gofyn i bawb yn y fan yma gefnogi dau welliant eithaf synhwyrol, yn fy marn i, i'r cynnig cyffredinol, y byddaf i'n eu cefnogi. Diolch yn fawr.  

19:25

Nawr, mae'r argyfwng COVID hwn hefyd wedi dangos y tensiynau cyfansoddiadol clir sy'n bodoli, ac mae'n arwain llawer i gwestiynu hyfywedd hirdymor y setliad presennol. Yn anffodus, mae'r argyfwng wedi dangos bod Lywodraeth y DU yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru mewn meysydd penodol. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, wrth i genhedloedd o bob cwr o'r byd ruthro i sicrhau cyflenwadau digonol o brofion COVID, cawsom wybod bod cytundeb Llywodraeth Cymru â chwmni preifat, Roche, i gyflenwi 5,000 o brofion dyddiol yng Nghymru wedi chwalu. Pam? Oherwydd i Lywodraeth y DU atal ymdrechion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Lloegr yn cael yr hyn yr oedd ei angen arni. Roedd buddiannau Cymru yn eilradd o ran pwysigrwydd. Mae hynny'n dweud y cwbl am y Deyrnas Unedig hon.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, canfuom fod buddiannau Cymru yn cael eu diraddio unwaith eto, wrth i gyflenwyr preifat cyfarpar diogelu personol gael gwybod gan asiantaeth Llywodraeth y DU sef Iechyd Cyhoeddus Lloegr y dylen nhw  ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i gartrefi gofal yn Lloegr yn unig. Roedd archebion allweddol o fygydau, menig a ffedogau diogelu yn cael eu gwrthod i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban. Unwaith eto, y Deyrnas Unedig ddim mewn gwirionedd yn darparu ar gyfer pawb.

Nawr, rwyf wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i ddull gofalus Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau, ac yn gyffredinol mae'n dangos, pan fo gan Gymru y rhyddid i weithredu, ei bod yn gallu gwneud dewisiadau cadarnhaol. Rydym wedi dangos y gallwn ddilyn llwybr gwahanol, a chyda chyfradd marwolaethau fesul pen yng Nghymru yn is nag yn Lloegr, credaf y gellir cyfiawnhau y llwybr gwahanol. Mae amcangyfrifon diweddar yn dangos pe byddai Lloegr, yn ystod cyfnod y pandemig, wedi cyfateb y gyfradd is o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, byddai wedi arwain at 24,000 yn llai o farwolaethau yn Lloegr rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fe wnaeth David Cameron dynnu sylw unwaith at Glawdd Offa fel llinell bywyd a marwolaeth, ac mae'r ystadegau hyn yn dangos bod hynny'n wir, ond nid yn y modd yr oedd Cameron yn ei gredu.

Nawr, nid yw dyfodol cyfansoddiadol Cymru erioed wedi cael cymaint o sylw, wrth i'r pwyslais ar annibyniaeth a'r gefnogaeth i hynny fod yn uwch nag erioed. Rydym ni wedi cyrraedd croesffordd ar ôl pleidlais Brexit. Yn y blwch pleidleisio y flwyddyn nesaf, bydd gan bobl Cymru ddewis clir. Mae angen i ni ofyn rhai cwestiynau sylfaenol i ni ein hunain. Yn union fel yn yr Alban, lle mae polau piniwn bellach yn dangos mwyafrif o blaid annibyniaeth yr Alban, mater o amser yn unig yw hi tan y bydd angen i Gymru benderfynu beth sydd nesaf i ni. Gyda'r Alban wedi mynd, a Gogledd Iwerddon hefyd, ni fydd gennym DU. Bydd pobl yng Nghymru yn wynebu dewis deuol: Cymru neu Loegr. A ydym ni'n hapus i ddod yn Sir o Loegr, fel y mae UKIP, Plaid Brexit a chenedlaetholwyr eraill o Loegr eisiau i ni ei wneud? Neu a ydym ni'n mynd i dyfu asgwrn cefn a phenderfynu ein bod ni o'r diwedd yn mynd i sefyll drosom ni ein hunain a hawlio ein lle ymhlith cenhedloedd rhydd y byd? Mae un peth yn glir: dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i benderfynu ar ba un a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol, dylai Senedd Cymru gael yr hawl cyfansoddiadol i ddeddfu i gynnal refferendwm rhwymol.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae rhai eisiau dileu Cymru. Ni allaf fradychu canrifoedd o hanes cenedlaethol Cymru, o ddioddefaint, o aberth, o gyflawniadau ei phobl a'i bri dros 2,000 o flynyddoedd. Mae ceisio rhyddid cenedlaethol yn achos clodwiw, i Gymru fel i unrhyw wlad arall. Mae'r Ddraig yn cyffroi. Diolch.

Gwrandewais yn astud ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Neil Hamilton a Gareth Bennett. Ni chefais fy argyhoeddi ganddyn nhw, mae'n rhaid i mi ddweud.

Gaf i yn gyntaf droi at beth mae Plaid Cymru wedi dweud yn eu dadl heddiw? Mae yna gonfensiwn cyfansoddiadol yn barod, sydd wedi cael ei sefydlu, sydd yn dweud os oes yna blaid sydd yn sefyll ar faniffesto sydd o blaid cael refferendwm i gefnogi annibyniaeth, yna dylai fod yna refferendwm. Rŷn ni wedi gweld yna yn yr Alban. So, mewn ffordd, does dim eisiau'r ddadl hyn o'n blaenau ni heddiw, ta beth yw'ch barn ar annibyniaeth, ac rwy'n siarad fel rhywun, wrth gwrs, sydd ddim o blaid annibyniaeth, ond hefyd ddim o blaid y Deyrnas Unedig fel mae e nawr, a gwnaf i esbonio hwnna nes ymlaen.

19:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gwrandewais ar Neil Hamilton. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n ymddangos ei fod wedi anghofio'r rhan a chwaraeodd mewn dinistrio economi Cymru am lawer o'r 1980au a'r 1990au. Petawn i wedi sefyll yn y fan yma a dweud bod 18 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol yn drychineb llwyr a bod hynny'n rheswm wedyn i gael gwared ar Lywodraeth y DU, byddai'n dweud, 'Na, na, na. Roedd hynny oherwydd bod pobl wedi pleidleisio dros y Blaid Geidwadol i fod yn Llywodraeth', ac mae hynny'n safbwynt dilys. Yn yr un modd, mae'n safbwynt dilys i ddweud bod pobl wedi pleidleisio dros Lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru dros yr 21 mlynedd diwethaf, neu fel arall y perygl yw dweud bod pobl rywsut yn rhy dwp i ddeall sut y gwnaethom nhw bleidleisio, a dyna'r gwir amdani.

Nawr, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Darren Millar yn fawr iawn, mewn rhai ffyrdd, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Plaid Geidwadol Cymru yn dod yn blaid Geidwadol Cymru go iawn gydag arweinydd go iawn, sy'n rhywbeth nad oes gennych chi eto, gydag arweinydd go iawn, ac sydd yna'n amlinellu ac yn cyflwyno ei hun fel llywodraeth amgen,gan dderbyn sefydliadau datganoli. Rwy'n credu bod hynny'n deg iawn—ar yr amod eich bod chi'n parhau i fod yn llywodraeth amgen, o'm safbwynt i, ond rwy'n credu mai dyna'n union sy'n iawn i gorff gwleidyddol Cymru. Rwyf yn ceisio bod mor wrthrychol â phosibl.

Yr hyn yr oeddwn i'n anghytuno ag ef, a byddaf yn dod yn ôl at hynny mewn eiliad, yw ei farn o'r cyfansoddiad fel tincran, ac egluraf pam. Gwrandewais yn astud ar Gareth Bennett, a phe byddai ond wedi sylweddoli, roedd yn dadlau o blaid refferendwm Brexit arall, oherwydd os ydych chi'n dweud, 'Wel, mae'n rhaid i chi gael refferendwm bob 15 i 20 mlynedd', wel mae hynny'n berthnasol i unrhyw bwnc. Byddem yn cael refferendwm arall ar y Bleidlais Amgen, er enghraifft, ar y system bleidleisio. Byddem ni'n parhau i gynnal refferenda ar agor ar y Sul. Pob saith mlynedd oedden nhw, wrth gwrs, hyd at 1996, ond dyna'r ddadl, yn y bôn, yr oedd yn ei gwneud, sef bod cenedlaethau yn newid ac felly mae'n rhaid i chi gael refferendwm bob hyn a hyn i wneud yn siŵr bod pobl yn cefnogi sefydliad, ond byddwn i'n dweud eich bod chi'n barnu hynny drwy etholiad. Pe byddai plaid, neu bleidiau, yn cael eu hethol i'r lle hwn gyda mwyafrif ac yn dweud, 'Rydym ni eisiau refferendwm ar ddiddymu', wel dyna ni, felly. Dyna'r ffordd yr ydych chi'n ennill dadl, drwy ennill etholiad, nid drwy fynnu rhywbeth nad yw'n—yn enwedig gan rywun sy'n sefyll dros blaid na chafodd ei ethol i'r Siambr hon i'w chynrychioli—yn ddadl ddemocrataidd ddeniadol.

Os gwrandawodd arno'i hun, roedd yn dadlau dros ddiddymu Senedd yr Alban. Yn awr, pe byddai unrhyw beth yn gwneud pleidleiswyr niwtral yn yr Alban i droi tuag at annibyniaeth, dyna fyddai ef. Ac awgrymodd hefyd y byddem ni'n gweld Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael ei ddiddymu. Nawr, arweiniodd 25 mlynedd o ryfel at sefydlu heddwch yng Ngogledd Iwerddon a'r Cynulliad hwnnw a'i Weithrediaeth. Mae ei ddiystyru fel rhywbeth nad yw'n berthnasol yn weithred o anghyfrifoldeb difrifol. Nawr, rwyf i'n cofio sut le oedd yng Ngogledd Iwerddon. Ni fyddai unrhyw un yn dymuno mynd yn ôl i'r hyn ydoedd yn 1992, credwch chi fi. Magwyd fy ngwraig yn ei chanol hi, ac mae awgrymu rhywsut eich bod chi'n cael gwared ar Gynulliad Gogledd Iwerddon fel pe na byddai unrhyw ganlyniadau i hynny, mewn cymdeithas lle nad oes hunaniaeth gyffredin, a dweud y gwir—a defnyddiaf y gair hwn yn ofalus—yn wallgof.

Ond mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod annibyniaeth, ynddo'i hun, yn gallu bod yn ddigwyddiad trychinebus yn aml. Oes, mae enghreifftiau o annibyniaeth a oedd yn heddychlon — y Weriniaeth Tsiec, y Slovaciaid, Gwlad yr Iâ, Norwy, gan fynd yn ôl mwy o flynyddoedd—ond yn eithaf aml mae annibyniaeth yn dod gyda llawer o chwerwder ac weithiau rhyfel — Iwgoslafia, Iwerddon. Cafodd Iwerddon ddwy flynedd o ryfel cartref yn syth ar ôl annibyniaeth, ac yna cafwyd rhyfel lefel isel a ymladdwyd yn Iwerddon am o leiaf 70 mlynedd a effeithiodd yn ddirfawr ar ei heconomi ac a effeithiodd yn ddirfawr ar hunaniaeth ei phobl. Diolch byth, mae'r dyddiau hynny y tu ôl iddi.  

Ac felly fy nadl i yn y bôn yw hyn: rwy'n credu bod yna ddewis arall. Nawr, i'r rhai ohonoch chi sy'n cael trafferth cysgu, byddwch yn gwybod fy mod i wedi rhoi rhai darlithoedd ar hyn, ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn mannau eraill yn ddiweddar. Y pwynt yw: rwy'n credu mewn Cymru sofran, ond rwy'n credu y gallwn ni rannu'r sofraniaeth honno gyda'r tri endid arall yn y DU. Mae'n rhyw fath o gydffederasiwn. Nawr, rwy'n derbyn nad oes gan sofraniaeth a rennir yr un soniaredd etholiadol â 'Chymru Rydd' neu 'Rule Britannia', ac mae'n gysyniad anodd ei egluro, ond dywedaf hyn wrth Darren Millar yn ysbryd y ddadl: rwy'n credu ein bod ni wedi symud ymhell y tu hwnt i dincran cyfansoddiadol; mae hyn yn sylfaenol i ddyfodol y DU. Mae'r tensiynau hyn gennym ni oherwydd annigonolrwydd cyfansoddiadol y DU. Mae gennym ni gyfle yn awr i wneud iawn am bethau, i gael cyfansoddiad sy'n gweithio, lle mae pawb yn deall ble maen nhw'n sefyll a phwy sy'n gwneud beth, partneriaeth gyfartal o bedair gwlad ac un lle y cedwir sofraniaeth gan bob un o'r pedair gwlad ond a rennir er lles pawb yn y meysydd lle mae'n iawn i wneud hynny. Rwyf yn ofni, os na fyddwn ni'n dilyn y trywydd hwnnw, ymhen 10 mlynedd, y bydd y DU yn atgof, ac mae hynny'n rhywbeth, yn bersonol, y byddwn i'n ei resynu.

19:35

Mae argyfwng COVID wedi egluro cymaint o bethau: yr hyn sy'n bwysig i'n cymdeithas ni, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei newid, pam y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn agos at y bobl y maen nhw'n effeithio arnynt, ac mae'r argyfwng hefyd wedi rhoi cipolwg i ni ar ddyfodol gwahanol, oherwydd nid yw'r ddadl hon am annibyniaeth yn gwestiwn cyfansoddiadol pellennig ar gyfer yfory; mae'n flaenoriaeth frys ar gyfer heddiw. Yr wythnos hon, cadarnhaodd y Prif Weinidog nad oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig hon, fel y'i gelwir, wedi codi'r ffôn yn ystod y cyfnod o bandemig iddo ers diwedd mis Mai. Rydym ni hanner ffordd drwy fis Gorffennaf. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod yn fodlon tarmacio dros wastadeddau Gwent a datganoli mewn arddangosiad digywilydd o hawlio haerllug. A hyd yn oed yn awr, yng nghoridorau tywyll San Steffan, mae confensiwn yn cael ei rwygo i sicrhau ein bod ni'n gadael yr UE heb gytundeb. Mae miliynau'n cael eu clustnodi ar gyfer rheoli a rhwystrau ar y ffiniau, a hyn i gyd tra bod y Torïaid yn cynllunio eu hymosodiad nesaf ar bwerau'r gwledydd datganoledig. Dyna yw dyfodol yr undeb hwn sydd dan warchae.  

Mae ein cynnig ni yn cynnig rhywbeth gwahanol, cipolwg, gobaith o ddyfodol lle mae pobl Cymru yn penderfynu ein tynged ni ein hunain, dyfodol sy'n agor drysau yn hytrach na'u cau. Llywydd, mae pobl Cymru yn gwthio'r drws hwnnw. Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi cyrraedd lefelau yr oedd llawer yn eu gweld fel bod yn amhosibl. Mae gweithredwyr YesCymru yn ennill y ddadl ar lawr gwlad, ac mae'r gorymdeithiau All Under One Banner yn dangos cenedl hyderus yn datblygu. Nid ydym yn gweld annibyniaeth fel diwedd y daith ond yn hytrach, ei dechrau, gan mai annibyniaeth yw'r unig ateb gwleidyddol i'r cwestiwn o sut y gallwn ni adeiladu gwlad sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd ac sy'n gwireddu ein breuddwydion. Pe byddai gennym ni'r arfau i wneud hynny, gallem ni yng Nghymru greu gwlad gadarn, economi flaengar, man sy'n gofalu am yr hen a'r ifanc, lle gall ein hamgylchedd ni ffynnu a lle gall ein pobl ni adeiladu rhywbeth gwell.

Mewn Cymru annibynnol, gellid dileu tlodi plant drwy fuddsoddi yn ein system addysg, ein gweithlu, ynghyd â system fudd-daliadau sy'n ateb i angen. Nid oes unrhyw beth yn gynhenid am dlodi Cymru—tlodi o ran uchelgais sy'n ein cadw ni fel hyn, tlodi mewn uchelgais a wneir yn hynod amlwg gan benderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i ddileu ein cynnig cyfan, yn hytrach na mynd i'r afael â'r hyn a gynigir, ymgais i gau drws os bu un erioed.  

Llywydd, mae'n anrhydedd mawr i mi fod yn Weinidog yr wrthblaid ar gyfer y dyfodol. Mae graffig di-chwaeth ar led ar hyn o bryd gan Aelod Seneddol Llafur sy'n gweiddi'n groch am ddyled Cymru, gan anwybyddu'n gyfleus iawn y ffaith bod dyled y DU ar hyn o bryd yn £2 triliwn. Does bosib nad y ddyled fwyaf sydd gennym ni yw honno i genedlaethau'r dyfodol, oherwydd mae gwleidyddiaeth yn siomi'r cenedlaethau hynny ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod ers dros 40 mlynedd bod trychineb carbon deuocsid yn ein hwynebu ni oherwydd y lefelau yr ydym ni'n eu rhyddhau i'r atmosffer, ac rydym ni'n dal i ryddhau 40 biliwn tunnell o garbon diocsid bob blwyddyn. Allwn ni ddim rheoli'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, ac mae ceisio cael San Steffan i weld y golau yn wastraff amser, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw cymryd cyfrifoldeb drosom ni ein hunain. Drwy harneisio'n hadnoddau naturiol yn hytrach na'u llosgi, gallem ni yng Nghymru arwain y ffordd a dod yn esiampl o economi oleuedig sy'n wynebu'r dyfodol â balchder.  

Nid yw'r cynnig hwn yn gofyn i Aelodau bleidleisio ar annibyniaeth; mae'n cadarnhau y dylai pobl Cymru gael yr hawl i benderfynu. Siaradais am fathau gwahanol o ddyfodol, a gwn fod llawer o Aelodau ar y meinciau Llafur yn rhannu'r weledigaeth yr wyf i wedi'i gosod o wlad gyfrifol yn fyd-eang sy'n arddel gobaith, cydraddoldeb a ffyniant. Byddwn i'n dweud wrthyn nhw, heb annibyniaeth, ni fydd unrhyw lwybr arall yn ein tywys ni tuag at y dyfodol hwnnw. Cyhyd ag y byddwn ni'n parhau i fod yn rhan o'r undeb sy'n achosi tlodi i'n pobl ac sy'n dilyn polisïau economaidd sydd wedi'u cynllunio i ddod â budd i'r canol cyfoethog ar draul ein pobl ein hunain, ni fyddwn ni byth yn cyrraedd ein potensial a bydd pob llwybr yn troi yn ôl arnynt eu hunain. Os ydym ni eisiau adeiladu rhywbeth gwell ar ôl COVID, ni ellir penderfynu ar ein dyfodol yn adfeilion sigledig San Steffan. Felly, rwyf i'n gofyn i bob aelod o'r Senedd hon ddangos eu hymddiriedaeth ym mhobl Cymru, rwyf i'n gofyn iddyn nhw gadw'r drws hwnnw yn gilagored, ac rwyf i'n gofyn iddyn nhw bleidleisio dros ddyfodol ein gwlad, nid ei gorffennol.

19:40

Llywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon, sydd, er gwaethaf ei theitl difrïol, yn ymwneud mewn gwirionedd â strwythur dyfodol y DU a pherthynas Cymru â thair gwlad arall y DU. Nawr, yn ystod pandemig COVID, rydym ni wedi symud yn sylweddol y tu hwnt i'n cysyniad blaenorol o ddatganoli, i fersiwn llywodraeth pedair gwlad. Mae datganoli yn ddiwygiad sydd wedi cael ei amser, ac mae'n rhaid i ni bellach feddwl am ddiwygiad cyfansoddiadol modern a radical, i wneud Cymru a'r DU yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt.

Nid oes amser yn y ddadl hon i ddatblygu dadleuon cymhleth ynghylch gwahanol gysyniadau Plaid Cymru o annibyniaeth a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd mewn economi gyfalafol, fyd-eang. Mae hon yn broblem gyffredin gyda'r ddadl hon—defnyddir termau yn aml sy'n golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, a heb ddiffiniad. Annibynnol oddi wrth bwy, sut? Ac mae llawer o gwestiynau eraill. Ond yn hytrach na hynny, yn yr amser byr sydd ar gael, hoffwn gadarnhau fy ymrwymiad i, ac ymrwymiad Llafur Cymru—ac rwy'n credu ymrwymiad Llafur y DU yn wir—i gonfensiwn cyfansoddiadol, y bydd angen iddo hefyd fynd i'r afael â'r mater o ddemocrateiddio a diwygio ar gyfer Lloegr hefyd, a mynd i'r afael â chwestiwn Lloegr, sy'n hanfodol yn y ddadl hon.

Mae'n bwysig ailddatgan, rwy'n credu, egwyddor sylfaenol, ryngwladol, egwyddor y, Cenhedloedd Unedig ac, yn wir, egwyddor sosialaidd, yn bennaf fod gan bob gwlad yr hawl i hunanbenderfyniad. Mae'n rhaid i'r math o Lywodraeth yng Nghymru, a'i pherthynas â gweddill y DU, fod yn fater o ddewis i bobl Cymru bob amser. Ac ar yr amod mai dyna yw dewis rhydd a democrataidd pobl Cymru, yna mae Cymru wir yn annibynnol. Nid yw dewis rhannu sofraniaeth, sut bynnag y'i diffinnir, os caiff ei wneud yn rhydd, yn groes i annibyniaeth. Nid oedd y DU yn llai annibynnol drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac ni fyddai Cymru yn llai annibynnol o gwbl drwy fod yn rhydd mewn perthynas gyfansoddiadol ac ariannol â'r DU.

Ond mae'n rhaid i ddiwygiad, yn fy marn i, ddigwydd cyn bo hir, neu mae perygl y bydd y DU yn chwalu, neu bydd o leiaf proses o ddarnio yn ddiofyn, a chyda chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd andwyol i'r bobl—[Anghlywadwy.]—hanfodol. Nawr, mae'r fforwm trawsbleidiol, rhyng-seneddol, sy'n gorff o'r holl bwyllgorau cyfansoddiadol a deddfwriaethol yn amryw Seneddau'r DU, gan gynnwys Tŷ'r Arglwyddi, wedi datgan droeon, mewn cytundeb cadarn, nad yw'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn addas i'w diben.

Llywydd, dydw i ddim yn genedlaetholwr, ac rwy'n gwrthod cenedlaetholdeb fel ideoleg negyddol a rhwygol. Mae'n well gennyf i ddull sy'n seiliedig ar ddatganoli grym, gan ddod â phŵer mor agos â phosibl at bobl a chymunedau. Nawr, rydym ni'n cydnabod y buddiannau cyffredin sydd gan bobl a chymunedau sy'n gweithio yng Nghymru â'u cyfatebwyr yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Dydw i ddim yn unoliaethwr ychwaith. Mae'n syml: sosialydd wyf i. A datblygu fframwaith cyfansoddiadol ddylai fod egwyddor arweiniol confensiwn cyfansoddiadol, a hwnnw'n dderbyniol i bob un o'r pedair gwlad, i'w gymeradwyo drwy refferendwm, yn seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder, cydraddoldeb a dosbarthu cyfoeth yn deg er budd pob un o'r pedair gwlad, a holl bobl y DU.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn yn sesiwn olaf y Senedd hon. Mae wedi darparu dadl fywiog iawn, a chredaf ei bod wedi canolbwyntio ar effaith gadarnhaol datganoli ar Gymru, wrth ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig y coronafeirws. Ac rwy'n credu bod y ddadl wedi rhoi cyfle i dynnu sylw at y nifer o ffyrdd yr ydym wedi defnyddio ein pwerau, gyda chryfder a hyder cynyddol, o dan arweiniad y Prif Weinidog, wrth ymdrin â'r feirws ofnadwy hwn, i amddiffyn a diogelu ein dinasyddion a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y craffu trylwyr o Lywodraeth Cymru gan y Senedd hon, yn y Senedd ac yn ein pwyllgorau seneddol, wedi bod o fantais i ni. Ac rwyf yn diolch i'r Llywydd a'i swyddogion am wneud i'r gwaith craffu hwn ddigwydd o ddyddiau cynharaf y cyfyngiadau symud ac ar ôl hynny.

Ond dyma'r ddemocratiaeth y gwnaethom ni ei cheisio ar gyfer Cymru, â Phwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Ty'r Cyffredin yn nodi yn 2018 fod

Datganoli bellach yn nodwedd sefydledig ac arwyddocaol o bensaernïaeth gyfansoddiadol y DU a dylid ei drin â pharch i gynnal uniondeb y Deyrnas Unedig.

Mae'r pandemig presennol, fel y dywedwyd yn y ddadl hon, wedi tynnu sylw at y ffordd y mae ein cyfansoddiad yn gweithio, ei gryfderau a'i wendidau, a'n gallu i ddilyn ein dull ein hunain, fel y cydnabu Rhun ap Iorwerth, a'r angen i gydweithredu gydag eraill. Mae ymreolaeth a rheolaeth a rennir, a'r cynigion yn 'Reforming our Union: Shared Governance in the UK', a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog y llynedd, wedi nodi safbwynt y Llywodraeth.

O ran y cynnig ar gyfer refferendwm, a chan ddilyn pwyntiau Carwyn Jones, ein barn ni yw, os yw Llywodraeth Cymru wedi sicrhau mandad etholiadol i gynnal refferendwm ar gwestiwn cyfansoddiadol sylfaenol, bod ganddi hawl i ddisgwyl i Senedd y DU wneud y trefniadau angenrheidiol. Gwnaed darpariaeth ar gyfer refferendwm cyfreithiol rhwymol ar annibyniaeth i'r Alban yn 2014 gan Senedd y DU, ar ôl i Blaid Genedlaethol yr Alban ennill mwyafrif clir yn yr etholiad yn 2011. Ond mae'r rhagamod yn hanfodol. Er mwyn gofyn i San Steffan wneud y trefniadau ar gyfer refferendwm ar statws cyfansoddiadol Cymru—mae'n rhaid i'r cais hwnnw ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â mandad i wneud hynny, ac nid oes mandad o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd. Ond gall y rhai hynny sy'n ceisio refferendwm yn y Senedd nesaf, boed hynny er mwyn sicrhau annibyniaeth neu, yn wir, diddymu, gyflwyno eu hachos i bobl Cymru fis Mai nesaf. Ond mae barn Llywodraeth Cymru yn glir: rydym yn credu y byddai buddiannau Cymru yn elwa fwyaf drwy setliad datganoli cryf o fewn Teyrnas Unedig gref, ac mae'r Deyrnas Unedig yn well ac yn gryfach o fod â Chymru ynddi.

Nid yw'r setliad presennol yn berffaith. Mae ein cyfansoddiad presennol yn hen ffasiwn ac yn amhriodol. Dylai pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu fel partneriaid cyfartal—pob un yn parchu hunaniaeth a dyheadau cyfreithlon y lleill, gan gydweithredu er budd yr undeb cyfan. Ac fel y y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, gallai'r confensiwn cyfansoddiadol, y galwyd amdano ers tro, fynd â ni ymlaen i gyflawni hyn. Ac nid oes dim yn dangos yr angen i'r achos hwn gael ei wneud mor ddybryd â'n profiad presennol. Nid yw feirysau yn cario pasbortau, nac yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae ein busnesau nid yn unig yn ddibynnol ar gwsmeriaid Cymru; mae cyswllt anorfod rhwng ein heconomi ni a gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Nid yw anghenion iechyd ein dinasyddion ni yn wahanol i anghenion y rheini mewn mannau eraill, ac mae mynd i'r afael â COVID-19 yn galw am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraethau, nid llai.

Os edrychwn ni ar ein hymgysylltiad â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig ers dechrau'r pandemig, maen nhw wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Yn ddiymdroi—[Anghlywadwy.]—o'r coronafeirws mewn gwirionedd wedi arwain at gydweithrediad agos rhwng y pedair Llywodraeth ac mae'n enghraifft o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Ond yn anffodus, wrth i ni symud i wahanol gyfnodau o ymateb ac adfer, mae'n ymddangos mai Llywodraeth y DU sy'n ymbellhau oddi wrth y dull pedair gwlad o weithredu.

Rwy'n croesawu datganiad Darren Millar heddiw o fod yn gefnogwr brwd o ddatganoli ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, Darren, yn codi eich llais, fel y bydd Ceidwadwyr Cymru, i gael Llywodraeth y DU i helpu i ddileu'r cyfyngiadau afresymol hynny ar ein cyllideb fel y gallwn ni ddefnyddio ein pwerau cyllidol yn fwy effeithiol.

Croesawyd y gefnogaeth ar gyfer swyddi a busnesau a gyhoeddwyd ar y cychwyn gan y Canghellor. Ac mae'r adnoddau a'r ysgogiadau sydd ar gael iddo yn llawer mwy nag a fyddai ar gael i ni, pe byddem ni'n sefyll ar ein pen ein hun. Ond rydym ni'n wynebu'r dirwasgiad gwaethaf o fewn cof—[Anghlywadwy.]

19:45

Byddai Jane Hutt yn bownsio'n ôl, oni fyddai? [Chwerthin.] Jane Hutt, ewch ymlaen.

Iawn. Nid yw'r camau a amlinellwyd yr wythnos diwethaf gan y Canghellor yn mynd yn ddigon pell i ddiwallu maint yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae arnom ni angen gweithredu mwy helaeth a phellgyrhaeddol i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng hwn, ac i adeiladu'n ôl yn well.

Rwyf am ddweud yn derfynol, Llywydd, mai ein blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru heddiw, a phob dydd yn yr wythnosau nesaf, yw ymateb i bandemig y coronafeirws, ac ni fyddai pobl Cymru yn disgwyl dim llai. Ond mae'n berthnasol i ddweud, wrth ymateb i'r ddadl hon, bod angen i ni, yn fwy nag erioed, sefydlu'r mecanweithiau rhynglywodraethol hynny ar y cyd er mwyn sicrhau y gallwn ni fynd i'r afael â'r heriau niferus sydd o'n blaenau.

Roedd cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn cytuno â'r model datganoli 'pwerau at ddiben'. Soniodd ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw am 'ddatganoli pendant', ac mae wedi dangos effaith gadarnhaol y datganoli pendant hwn yng Nghymru ac yn y DU, fel ein Prif Weinidog yng Nghmru.

Ond gyda'n pwerau, yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw beth allwn ni ei wneud? Rydym ni wedi rhoi gofal plant am ddim i weithwyr allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud, wedi cymeradwyo taliad o £500 ar gyfer ein gweithwyr gofal, wedi darparu cronfa cydnerthedd economaidd sy'n fwy na symiau canlyniadol Llywodraeth y DU, wedi rhoi £20 miliwn i roi terfyn ar ddigartrefedd, rydym ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gydlynu prydau ysgol am ddim ac i ddod â'n plant yn ôl i'r ysgol, ac rydym ni wedi cynorthwyo'r bobl hynny na allan nhw gael cymorth drwy arian cyhoeddus, gan weithio gyda'n partneriaid yn y GIG, llywodraeth Leol, y byd busnes a'r trydydd sector i ddiogelu ac amddiffyn Cymru. Dyna fu ein blaenoriaeth, Llywydd, ac rwy'n annog pob un ohonoch chi i gefnogi ein gwelliant ni a gwrthod yr holl welliannau eraill. Diolch yn fawr.

19:50

Diolch, Llywydd. Wrth wraidd y ddadl gyntaf hanesyddol hon, y ddadl olaf yn y sesiwn Seneddol hon, mae'r gosodiad syml ond sylfaenol bod yn rhaid i'r penderfyniad ynghylch pa un a ddylai Cymru ddod yn genedl annibynnol fod yn ddewis i bobl Cymru a neb arall. Credwn y dylai hawl Cymru i bennu ei dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i ddod yn wlad annibynnol, pe byddai pobl Cymru yn pleidleisio i wneud hynny, gael ei ymgorffori yn y gyfraith. Yn benodol, mae hyn yn mynnu bod gan y Senedd hon y pŵer i ddewis pryd a pha un a ddylid galw refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan wireddu yn ymarferol hawl pobl Cymru i ddewis y math o lywodraethu sydd fwyaf addas i'w hanghenion, a hefyd sut, a chyda phwy, y maen nhw eisiau rhannu eu sofraniaeth.

Democratiaeth yn ôl ei diffiniad yw llywodraeth gan y bobl. Ond wedyn mae'n rhaid i ni benderfynu pwy yw'r bobl, ac i ni mae'r ateb yn amlwg. Y bobl yw pobl Cymru, sy'n byw o fewn ei ffiniau ac sydd gyda'i gilydd yn ffurfio gwlad sy'n mwynhau'r hawl i hunan-benderfyniad sy'n un o egwyddorion sylfaenol cyfraith ryngwladol, un o egwyddorion sylfaenol Siarter y Cenhedloedd Unedig ac, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn un o egwyddorion y mudiad Sosialaidd Rhyngwladol. Felly, gobeithiwn y bydd llawer o Aelodau Llafur yn ymuno â ni i gefnogi ein cynnig heno.

Yr hawl sofran hwn i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol eu hunain yw conglfaen y Senedd hon. Ond ar hyn o bryd, nid yw ein cyfreithlondeb cronnol, sef y pwerau sydd gennym ni, ar gael i ni drwy hawl parhaol mewn ystyr ffurfiol, ond ar fenthyg i ni gan Senedd arall sy'n disgrifio ei hun, heb eironi, fel 'goruchaf', hyd yn oed wrth iddi adfeilio'n araf i mewn i afon Tafwys. Mae hynny'n hunandybiaeth cyfansoddiadol y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud ei bod yn  anghytuno'n gryf iawn â hi. Yn ei Phapur Gwyn 'Diwygio ein Hundeb: Llywodraethu ar y cyd yn y DU', dywedodd Llywodraeth Cymru hyn:

'Nid yw sofraniaeth Senedd y DU, yn ôl y ddealltwriaeth draddodiadol ohoni, yn cynnig sylfaen gadarn bellach ar gyfer y cyfansoddiad hwn sy'n esblygu...mae'n rhaid iddi fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael â'r Deyrnas Unedig.'

Felly, pan fyddwn ni'n cadarnhau yn y cynnig hwn hawl pobl Cymru i benderfynu ar ba un a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol, dylem ddisgwyl yn rhesymol i'r Llywodraeth hon gefnogi cais Cymru i gael yr hawl. Ond yr hyn sydd gennym ni gan y Llywodraeth yw distrywio seneddol heno, gwelliant 'dileu popeth' sy'n dileu pob cyfeiriad at yr hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain. Nid yw'n dweud dim am natur wirfoddol yr undeb hwn, ac mae'n cyflwyno pâr chwedlonol y llew a'r ungorn, sydd mor hoff gan undebwyr blaengar—Teyrnas Unedig ddiwygiedig.

Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn cyfateb yn gyfansoddiadol i gri Awstin Sant, 'Gwna ni'n sofran, Arglwydd, ond ddim eto.' Na, gadewch i ni roi'r syniad o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, a fyddai'n caniatáu gweithredu cydgysylltiedig gan y Llywodraeth, un hwb olaf, er ein bod wedi gweld, dros y misoedd diwethaf gamgymeriadau trychinebus Llywodraeth analluog, anfedrus, di-glem San Steffan—geiriau'r Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i—sydd wedi trin Llywodraeth Cymru a'r genedl Gymreig mewn modd sydd wedi pendilio rhwng esgeulustod diniwed a dirmyg llwyr, o dan arweiniad elît gwleidyddol a gweinyddol sy'n dal i fod yn credu mai San Steffan sy'n gwybod orau, hyd yn oed pa fo cyfraddau marwolaeth Prydain ymhlith y  gwaethaf yn y byd.

Pan ddaw'n fater o ddiwygio mewn unrhyw faes—soniodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw am yr ansicrwydd yn y maes gofal cymdeithasol ers Comisiwn Dilnot—mae San Steffan yn gwneud i Godot ymddangos fel petai'n cyrraedd ar amser. Ni fyddwn ni byth yn cyflawni newid drwy aros i eraill newid pethau drosom ni. Gallwn naill ai fynnu ein hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain, neu byddwn yn canfod bod y dyfodol yn cael ei bennu ar ein cyfer—boed hynny yn rhoi tarmac dros wastadeddau Gwent, neu ymgais ddiweddaraf y Canghellor i grafangu grym ar gyfer cymorth gwladwriaethol.

Beth bynnag a benderfynwn ni heno, mae'n bwysig i'n democratiaeth Gymreig fod y ddadl yn y fan yma yn adlewyrchu'r ddadl sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad. A beth bynnag yw ein barn ar fater annibyniaeth, dylai hawl pobl Cymru i ofyn y cwestiwn fod yn ddiymwad. I ni ym Mhlaid Cymru, yr ateb i'r ddau gwestiwn hynny yw 'ie'—ie i gael dweud ein dweud, ac ie i 'ie'. Mae pobl Cymru ar gerdded, ac maen nhw yn y man y dylen nhw fod ynddo—ar y blaen, wrth y llyw, yn arwain y ddadl ac yn gwrando ar ein dadl ni heno.

Pan ysgrifennir hanes ein hannibyniaeth, bydd y blynyddoedd diweddaraf hyn o argyfwng a helbulon, o Brexit i COVID, yn cael rhan flaenllaw, rwy'n credu, ac am y rheswm hwn, oherwydd, yn hytrach nag achosi i bobl lynnu at yr hen sicrwydd, mae'r adegau hyn o argyfwng wedi agor meddyliau pobl i bosibiliadau newydd. Mae'r slogan hwnnw, 'adeiladu'n ôl yn well', yn atseinio gyda phob un ohonom ni erbyn hyn mewn gwahanol ffyrdd. Rydym ni wedi colli cynifer, ond rydym ni wedi ennill dealltwriaeth o'r hyn yr ydym ni yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd. Dyna'r edau euraidd, ymyl arian ar gwmwl tywyll yr adeg hon. Ni, pobl Cymru, yw adeiladwyr y Gymru well honno. Ni fydd neb arall yn ei hadeiladu ar ein rhan, ond, os ydym ni yn credu ynom ni ein hunain ac yn ein gilydd, nid oes unrhyw beth na allwn ni ei gyflawni.

19:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Pwynt o Drefn

A chyn i ni gyrraedd y cyfnod pleidleisio, dwi wedi cytuno i bwynt o drefn gan y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.  

Llywydd, diolch i chi am ganiatáu i mi wneud pwynt o drefn. Yn fy nghyfraniad agoriadol i'r ddadl ar 20 mya, dywedais yn gywir fod 80 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru y llynedd. Yn fy nghyfraniad terfynol, camddarllenais fy nodiadau a defnyddiais y ffigur o 800. Gobeithio y byddwch yn derbyn bod hyn oherwydd blinder, ac nid ymgais i gamarwain. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gywiro'r cofnod, ac rwy'n ymddiheuro.

Diolch am gywiro'r cofnod.

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud nawr cyn inni gychwyn ar y bleidlais. Pum munud, felly, o egwyl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:58.

20:05

Ailymgynullodd y Senedd am 20:07, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

19. Cyfnod Pleidleisio

Felly, dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Canlyniad y bleidlais, felly: 41 o blaid, 12 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

20:10

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 40, Yn erbyn: 1, Ymatal: 12

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar Gyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Cyfnod 4 Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) : O blaid: 53, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru, a dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid y gwelliant 44, pedwar yn ymatal, pump yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. 

Gwelliant 1 Siân Gwenllian - Dadl Llywodraeth Cymru - Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru: O blaid: 44, Yn erbyn: 5, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio yn enw Rebecca Evans.

Cynnig NDM7355 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.

2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.

3. Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.

4. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, ac mae chwech yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei basio.

Dadl Llywodraeth Cymru: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru: Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 6, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Y cynnig nesaf a'r bleidlais nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog ar swyddogaethau pwyllgor yn ymwneud â goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i, felly agor y bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

20:15

Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru: O blaid: 51, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r cynnig nesaf i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar y Comisiwn Etholiadol a phwyllgor y Llywydd. Galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd: O blaid: 51, Yn erbyn: 2, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar Gymru annibynnol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid naw, un yn ymatal, 43 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 9, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisio nawr ar y gwelliannau, felly. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Gwelliant 1 Darren Millar - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol: O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Os derbynnir y gwelliant yma, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2 yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 49 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 2 Neil Hamilton - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol : O blaid: 2, Yn erbyn: 49, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 3, ac os derbynnir y gwelliant yma, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar bleidlais ar welliant 3 yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 49 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.

Gwelliant 3 Gareth Bennett - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol : O blaid: 2, Yn erbyn: 49, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi ei gymeradwyo.

20:20

Gwelliant 4 Rebecca Evans - Dadl Plaid Cymru Cymru Annibynnol: O blaid: 29, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf. Mae'r gwelliant yma yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 49 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.

Gwelliant 5 Neil Hamilton - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol: O blaid: 2, Yn erbyn: 49, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 6, yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 49 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod.

Gwelliant 6 Neil Hamilton - Dadl Plaid Cymru Cymru Annibynnol: O blaid: 2, Yn erbyn: 49, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 7 yn enw Neil McEvoy yw'r gwelliant nesaf. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, dau yn ymatal, yn erbyn 42. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Gwelliant 7 Neil McEvoy - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol: O blaid: 9, Yn erbyn: 42, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 8 yw'r gwelliant olaf, a dwi'n galw felly am bleidlais ar welliant 8, yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, dau yn ymatal, 50 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Gwelliant 8 Neil McEvoy - Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol: O blaid: 1, Yn erbyn: 50, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

20:25

Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM7356 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;

2.  Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a

3.  Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.

Agor y bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol - Cynnig wedi'i ddiwygio : O blaid: 29, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daw hynny â ni i ddiwedd ein tymor seneddol. Byddwn yn cwrdd eto ym mis Awst mewn dwy sesiwn Zoom, ond gadewch i mi obeithio y byddwch chi i gyd, fel Aelodau, ar Zoom ac yma yn y Siambr, yn cael rhywfaint o gyfle i gael rhywfaint o orffwys a rhywfaint o heulwen dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Diolch yn fawr i chi gyd a nos da.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:26.

Cywirodd y Dirprwy Weinidog y ffigur mewn pwynt o drefn yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Y ffigur cywir yw '80', nid '800'.

Cywirodd y Dirprwy Weinidog y ffigur mewn pwynt o drefn yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Y ffigur cywir yw '80', nid '800'.