Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Russell George.

Digwyddiadau Mawr yng Nghanolbarth Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddigwyddiadau mawr yng Nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0228(FM)

Rydym ni wedi cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn y canolbarth, gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth, Gŵyl y Gelli, Gemau Amgen y Byd, y Tour of Britain, a Rali Cymru Prydain Fawr.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, rwy’n gwerthfawrogi eich ateb. Mae sioe awyr y Trallwng yn dathlu ei degfed pen-blwydd fis Mehefin nesaf. Sioe Awyr Goffa Bob Jones yw ei henw erbyn hyn. Dros y naw mlynedd diwethaf, mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r canolbarth bob blwyddyn. Yn y gorffennol, mae wedi croesawu’r Red Arrows, tîm arddangos parasiwt Falcons yr Awyrlu Brenhinol a thaith hedfan goffa a typhoon Brwydr Prydain. Hoffwn eich gwahodd i ddod i’r digwyddiad y flwyddyn nesaf, ond, yn y cyfamser, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu pa fath o gymorth ariannol a logistaidd y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig ar gyfer digwyddiad mor fawr yn y canolbarth?

Gallaf ddweud fy mod i’n ymwybodol bod cais am gyllid wedi ei wneud i gefnogi'r digwyddiad y flwyddyn nesaf a bydd swyddogion yn cysylltu â'r trefnwyr yn fuan.

A gaf i argymell Gŵyl Gomedi Machynlleth? Mae’n werth mynd iddi yn bendant. Mae’n cael ei ddefnyddio i bractisio ar gyfer gŵyl Caeredin, felly mae o safon arbennig. Ond, a gaf i droi at seiclo? Rydych chi newydd grybwyll un o’r teithiau beic pwysig sy’n digwydd yng nghanolbarth Cymru, ond mae yna gyfleoedd di-ri i ddatblygu seiclo yng nghanolbarth Cymru, ar gyfer gwyliau, ar gyfer digwyddiadau mawr, ac ar gyfer twristiaeth yn ogystal. Mae yna ddatblygiad yng Nghaerfyrddin i ddatblygu’r felodrom yno, i wella’r ansawdd yno, ac mae cynlluniau yn Aberystwyth i gael adnodd seiclo ar y cyd â’r brifysgol. Beth mae’r Llywodraeth yn gallu ei wneud i gefnogi mwy o ddigwyddiadau seiclo yn y canolbarth?

Wel, wrth gwrs, mae sawl corff, sef Sustrans, er enghraifft, a hefyd awdurdodau lleol, yn ystyried ffyrdd i greu llwybrau seiclo er enghraifft. Rydym ni wedi’u cefnogi nhw yn y gorffennol ac yn edrych i gefnogi cynlluniau da yn y pen draw. Hefyd, wrth gwrs, rydym ni’n gweithio gyda fforwm twristiaeth canolbarth Cymru a gyda chynghorau Powys a Cheredigion er mwyn datblygu’r cyfleon yn fwy.

Digartrefedd yn Ne Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd yn ne Cymru? OAQ(5)0225(FM)

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sicrhau bod pawb sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae ystadegau'n dangos y llwyddwyd i atal digartrefedd y llynedd mewn 65 y cant o'r holl aelwydydd a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae cynghorau ledled Cymru yn targedu pobl ddigartref ac yn ceisio gwahardd cysgu ar y stryd, ac eto ychydig iawn y mae’r un cynghorau hyn yn ei wneud i sicrhau llety ar gyfer yr unigolion hynny nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cysgu ar y stryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Heddlu De Cymru wedi dechrau ymgyrch i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ar y sail hon yn targedu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng nghanol tref Castell-nedd yn rhan o Ymgyrch Avalanche. Fodd bynnag, nid yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi agor unrhyw lochesi ychwanegol i bobl ddigartref nac wedi cynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael. Brif Weinidog, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal awdurdodau lleol rhag erlid y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a chanolbwyntio yn hytrach ar roi terfyn ar ddigartrefedd, gan edrych ar ffactorau achosol pob unigolyn digartref? A wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod stoc tai cymdeithasol digonol ar gael ac annog awdurdodau lleol i ailwampio rhai o'r adeiladau gwag niferus y maen nhw’n berchen arnynt ar gyfer digartrefedd tan y bydd unigolyn—

Nid wyf yn broffwyd. Ac atebion fel y prif amcan—

Mae'n ddrwg gennyf, gallaf. Yn hytrach na gwrthwynebu digartrefedd a rhoi pobl yn y carchar am grwydradaeth, a allwn ni gael cynllun i helpu pobl ddigartref?

Wel, rwyf i’n gwrthwynebu digartrefedd. Nid yw crwydradaeth wedi bod yn drosedd ers cryn amser. Nid ydym ni’n brandio pobl mwyach, fel yn wir flynyddoedd lawer yn ôl. Ond dyma’r pwynt: atal sy’n allweddol yn y fan yma, ac mae'r ffaith fod 65 y cant o'r holl aelwydydd a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref wedi cael eu helpu cyn iddyn nhw ddod yn ddigartref yn bwysig. Mae'n hynod bwysig cael tai cymdeithasol. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni darged o 20,000 o gartrefi i gael eu hadeiladu yn ystod y Llywodraeth hon ac, wrth gwrs, pam yr ydym ni’n rhoi terfyn ar yr hawl i brynu—does dim pwynt ceisio llenwi'r bath gyda'r plwg allan. Felly, rydym ni’n gwybod y bydd llawer mwy o dai ar gael yn y dyfodol i bobl, gan geisio ymdrin â'r difrod a grëwyd yn y 1980au, wrth i dai gael eu gwerthu heb gael rhai eraill yn ei lle. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod awdurdodau lleol yn defnyddio'r rhaglen Cefnogi Pobl a'r grant atal digartrefedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n dod yn ddigartref yn cael eu helpu, yn hytrach na'r broblem ddigartrefedd a grëwyd heb os gan y Torïaid yn y 1980au.

Brif Weinidog, roedd yr Aelod dros Orllewin De Cymru yn llygad ei le i dynnu sylw at nifer y cartrefi gwag neu nad ydynt ar gael ar hyn o bryd—dros 20,000. Mae hynny’n fwy na’ch targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor cyfan y pumed Cynulliad hwn. Mae'n ymddangos i mi fod llawer o bobl sydd yn nid yn unig mewn perygl o fod yn ddigartref, ond nad ydynt wedi gallu ffurfio eu haelwydydd eu hunain ac yn gorfod aros mewn llety y byddai'n well ganddyn nhw ei adael. Un ffordd o fynd i'r afael â hyn, yn rhannol, fyddai edrych ar y cartrefi hynny nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae gennym ni hanes llwyddiannus yn hynny o beth. Os cofiaf yn iawn, daethpwyd â thua 6,000 o gartrefi yn ôl i ddefnydd trwy'r fenter cartrefi gwag. Ac mae’r Aelod yn llygad ei le i ddweud, tra bod tai yn wag a phobl angen cartrefi, bod angen unioni’r sefyllfa honno felly. Ac mae'r ffaith y daethpwyd â chynifer o filoedd o gartrefi yn ôl i ddefnydd yn arwydd o hynny.

Brif Weinidog, mae analysis gan Shelter Cymru yn dweud bod yna wahaniaethau mawr rhwng awdurdodau lleol yng nghyd-destun y targedau y maen nhw’n eu cael o ran osgoi cael pobl mewn i ddigartrefedd. Er enghraifft, mae’r llwyddiant gorau yng Ngwynedd, lle mae 84.6 y cant o bobl yn cael eu helpu cyn iddyn nhw fod yn ddigartref, ond, ym Merthyr, mae e’n 44.4 y cant, sef y gwaethaf dros Gymru. Beth ydych chi’n mynd i’w wneud fel Llywodraeth i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cydweithredu â’i gilydd, i helpu ei gilydd yn y cyd-destun yma, fel nad yw hyn yn gymaint o broblem yma yng Nghymru?

Wel, mae cysondeb yn bwysig—mae hynny’n iawn. Ac rydym ni, wrth gwrs, yn moyn gweld awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw ddeall beth sy’n gweithio orau yn y sefyllfa hyn. Ond nid oes dim amheuaeth bod y ddeddfwriaeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr ynglŷn â sicrhau bod yna lai o bobl yn wynebu digartrefedd, a sicrhau nad ydyn nhw yn y sefyllfa lle maen nhw’n colli y to dros eu pennau yn y lle cyntaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod angen cael deddfwriaeth benodol sy'n cwmpasu gwasanaethau ar gyfer y rheini sydd ar y sbectrwm awtistiaeth?

Wel, y cwestiwn yr wyf yn ei ofyn bob amser yw beth fyddai deddfwriaeth yn ei ychwanegu—mae hwnnw’n gwestiwn agored. Ac, fel y mae'r Gweinidog wedi ei nodi eisoes, mae’r drws yn dal yn agored o ran ystyried a fyddai deddfwriaeth yn gwella'r sefyllfa i bobl.

Nodaf eich ateb, Brif Weinidog, a geiriau eich Gweinidog, ond aeth eich pleidlais ar y cynnig ychydig dros bythefnos yn ôl yn gwbl groes i’r hyn y mae ymgyrchwyr mewn gwirionedd eisiau ei weld yn hyn o beth. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cefnogi deddfwriaeth, sydd â chefnogaeth trawsbleidiol—rwy'n amau bod Aelodau ar eich meinciau chi hyd yn oed sy'n cefnogi deddfwriaeth—ac rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod chi wedi derbyn negeseuon gan bobl yn gofyn am esboniad ynghylch y bleidlais honno bythefnos yn ôl. O gofio bod pobl ag awtistiaeth yn cael eu siomi gan gynifer o agweddau ar y system, a allwch chi weld pam mae ymgyrchwyr yn pwyso am y ddeddfwriaeth hon, neu a ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n anghywir?

Wel, mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud bod y drws yn agored. Yr hyn y mae angen ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn gwneud gwahaniaeth. Os oes cyfraith ar gyfer awtistiaeth, a ddylai fod cyfraith ar gyfer canser, a ddylai fod cyfraith ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd? Dyna’r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro. Nid oes amheuaeth ein bod ni eisiau gweld gwelliant i’r gwasanaethau a ddarperir i bobl. Rwy'n gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i bobl sy'n ymdopi â pherthnasau sydd ag awtistiaeth, ac rydym ni eisiau gweld y gwasanaethau hynny'n gwella, a dyna pam yr ydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn helpu i wella’r gwasanaethau hynny mewn gwirionedd. Ac mae hwnnw’n gwestiwn agored.

Wel, o gofio bod yr ymgyrchwyr yn gwthio am gyfraith a bod cyllid yn dilyn deddfwriaeth, a bod eich Gweinidog wedi dweud bod y drws yn agored i hyn, a wnewch chi ymrwymo nawr i newid eich meddwl a chefnogi Bil awtistiaeth, pe byddai cynnig newydd yn ymddangos gerbron y Cynulliad hwn?

Wel, mae angen i ni ystyried ymhellach beth fyddai cyfraith yn ei ychwanegu, fel yr wyf i wedi ei ddweud. Rwy’n derbyn y pwynt am wasanaethau’n gwella. Nid yw arian o reidrwydd yn dilyn y gyfraith; mae Lloegr, rwy’n credu, yn cynnig digon o enghreifftiau lle nad yw hynny wedi digwydd. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw gwelliant i wasanaethau—mae hynny'n wir—ond mae angen gwneud rhagor o waith i archwilio pa un a fyddai cyfraith yn gwneud y gwahaniaeth y byddai ymgyrchwyr yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ceir heriau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan o ran recriwtio a chadw athrawon mewn unrhyw system addysg. Yn anffodus, mae'r ffigurau yma yng Nghymru ar gyfer recriwtiaid newydd i'r proffesiwn yn eithaf damniol, i fod yn onest â chi. Ar ôl pum mlynedd yn y proffesiwn, bu cynnydd o 50 y cant mewn athrawon yn troi eu cefnau ar y proffesiwn a cherdded i ffwrdd. Bu cynnydd o 16 y cant yn yr athrawon sy'n ymddeol cyn amser ymddeol. Pa ffydd a all fod gennym y bydd eich Llywodraeth newydd yn gallu atal y ffigurau hyn a gwella’r ffigurau hynny fel bod athrawon, pan fyddan nhw wedi’u hyfforddi a phan fyddan nhw yn y proffesiwn, yn aros yn y proffesiwn i wneud y gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld mewn addysg?

Mae datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon yn cynnig cyfle gwych i ni weithio gyda'r proffesiwn er mwyn cynnig pecyn cynhwysfawr o delerau ac amodau a chyflog. Dyna’n union y mae'r Albanwyr wedi ei wneud a dyna’n union y mae angen i ni ei wneud yng Nghymru, a symud oddi wrth y syniad bod yn rhaid, rywsut, i’r Llywodraeth a'r proffesiwn fod mewn gwrthdrawiad. Nid wyf yn ei gweld hi felly, ac rwy’n meddwl bod y cyfle i ddatganoli telerau ac amodau yn un sy'n rhoi cyfle i ni gynnig y pecyn iawn i athrawon yng Nghymru.

Bri Weinidog, yn amlwg, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y gwelliant hwnnw i Fil Cymru ddoe, a mater i chi yw mapio sut yn union y byddwch chi’n defnyddio'r pwerau newydd hynny fel Llywodraeth pan fyddant yn cyrraedd yma. Mae'r undebau yn amlwg wedi rhoi eu barn ar hynny eisoes. Ond os edrychwch chi, mewn gwirionedd, ar bobl sy'n bwriadu hyfforddi i fod yn athrawon, bu gostyngiad o 9 y cant o ran ceisiadau i fod yn athrawon dim ond eleni. Mae hynny'n ostyngiad o 36 y cant dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o bobl sy’n cynnig eu hunain i ddechrau’r hyfforddiant i ddod yn athro neu’n athrawes. Felly, rydych chi’n mynd i gael y pwerau yn y Cynulliad hwn ar delerau ac amodau athrawon. Beth yn union ydych chi’n mynd i'w wneud â nhw i newid y ffigurau hyn?

Nid dilyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn Llundain yn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n gweithio o ran recriwtio a chyflog ac amodau. Rydym ni’n awyddus i sicrhau bod gennym ni becyn wedi'i deilwra ar gyfer athrawon yng Nghymru, o ran hyfforddiant ac o ran y ffordd y maen nhw’n datblygu yn eu proffesiwn. Rydym ni wedi nodi'r dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, ac mae hwnnw'n ddull y byddwn yn ei archwilio, ynghyd ag eraill, i wneud yn siŵr bod y pecyn yn un sy'n fwyfwy deniadol i athrawon, oherwydd mae’n gwbl eglur, pan ddaw i gyflog ac amodau athrawon, nad yw’r hyn sy’n bodoli nawr yn gweithio iddyn nhw.

Rwy’n gobeithio y byddwch chi, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yn gallu rhoi rhywfaint o gig gwirioneddol ar asgwrn beth yn union y bydd eich Llywodraeth yn ei wneud ynghylch cyflogau ac amodau gwaith athrawon gyda'r cyfrifoldebau newydd. Nid wyf yn dwyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyfrif am yr adran ar hyn o bryd, ond mynegodd Dr Philip Dixon, er tegwch, farn dros y penwythnos ar y capasiti yn yr adran addysg, ac mae'n sylw teg, yn dod gan rywun sydd wedi bod ar ddwy ochr y ffens, os mynnwch chi, fel uwch gynrychiolydd undeb ATL ac, rwy’n credu, ar ôl gweithio yn y Llywodraeth hefyd am gyfnod a gweithio ym maes gwleidyddiaeth. Felly, mae wedi mynegi amheuon ynghylch capasiti yn yr adran. Fel y dywedais, nid wyf yn lladd ar yr Ysgrifennydd Cabinet presennol, oherwydd, er tegwch, dim ond newydd ddod i mewn i'r swydd y mae hi, ac rwy'n siŵr ei bod hi’n gwneud ei hasesiadau ei hun. Ond mae'n sylw teg, i ddeall yn union pa un a oes gennych chi’r hyder yn yr adran i fwrw ymlaen â'r newidiadau sydd eu hangen yng ngoleuni sylwadau sy’n cael eu lleisio’n uwch ac yn uwch wrth i ni ddod yn agosach at yr adolygiad PISA a fydd, yn y pen draw, yn meincnodi eich cyflawniadau fel Prif Weinidog a chyflawniadau’r Blaid Lafur mewn addysg o dan ddatganoli ar y raddfa ryngwladol?

Byddwn yn ofalus iawn o ddefnyddio barn rhywun sy'n amlwg yn anfodlon, sydd newydd ysgrifennu llyfr ac eisiau ei werthu, ac sydd, felly, yn gwneud datganiadau er mwyn gwerthu'r llyfr hwnnw. Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’r Dr Philip Dixon yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod gan yr adran unrhyw fath o broblem. Rydym ni wedi gweld, dros y blynyddoedd diwethaf, gwelliant cyson i safonau, buddsoddiad cyson mewn ysgolion ac yn y proffesiwn, wrth i ysgolion newydd gael eu hadeiladu ledled Cymru, gwelliannau i ganlyniadau TGAU a gwelliannau o ran Safon Uwch. Mae'r holl bethau hyn wedi bod yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld, o dan ei blaid ef yn Lloegr, yw academeiddio, cam yn ôl i ysgolion gramadeg a methiant i fuddsoddi mewn ysgolion. Nid yw hwnnw'n llwybr yr ydym ni eisiau ei ddilyn yng Nghymru. Un peth y gallaf ei ddweud, ac rwy’n dweud hyn yn hollol eglur, yw, fel sy'n wir mewn ardaloedd eraill lle mae cyflog ac amodau wedi eu datganoli, nad oes unrhyw bosibilrwydd—dim posibilrwydd o gwbl—y bydd athrawon yng Nghymru yn cael eu talu llai nag athrawon yn Lloegr. Yn syml, nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Byddwn yn sicrhau bod ein hathrawon yn cael eu gwobrwyo’n dda am y sgiliau sydd ganddynt ac yn sicrhau bod y proffesiwn yn gallu ymarfer yng Nghymru gyda chefnogaeth lawn y Llywodraeth. Mae gennyf bob hyder yn yr adran yn Llywodraeth Cymru.

Diolch yn fawr, Lywydd. A yw'r Prif Weinidog yn teimlo ychydig yn fwy siriol ar ôl ein hwythnos o saib, gan ein bod ni wedi cael tri darn o newyddion da iawn i economi'r DU, ac economi Cymru hefyd felly, yn y cyfamser? Mae Nissan wedi cymeradwyo ffatri i 600,000 o geir y flwyddyn gael eu gwneud yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; mae’r cwmni yswiriant mawr o Ffrainc, Axa, ar ôl gohirio ei waith o adeiladu ei dŵr talaf yn Ninas Llundain, wedi penderfynu bwrw ymlaen ag ef; ac, yn y tri mis hyd at fis Medi, roedd ffigurau twf y DU yn gadarnhaol: twf o 0.5 y cant o’i gymharu â'r rhagolygon negyddol chwe mis yn ôl gan y Trysorlys a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Felly, onid yw hyn yn dangos, mewn gwirionedd, bod gan Gymru a’r DU ar ôl Brexit gyfleoedd helaeth i wella iechyd a lles holl boblogaeth y wlad hon?

Wel, nid yw Brexit wedi digwydd eto, fel y mae arweinydd UKIP yn ei wybod. Sbardunwyd y gwelliant i’r economi bron yn gyfan gwbl gan ddiwydiannau gwasanaeth ac nid gan weithgynhyrchu, ac fe’i sbardunwyd bron yn gyfan gwbl gan ostyngiad i werth y bunt, nad yw’n ffactor y gallwn ddibynnu arno yn y tymor hir. Cyn belled ag y mae Nissan yn y cwestiwn, byddai unrhyw un yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaed gan Nissan. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad oes gennym ni unrhyw syniad beth yn union a ddywedwyd wrth Nissan. Rwy’n amau ​​bod Llywodraeth y DU wedi datgelu rhan o'i strategaeth drafod i Nissan, ond ni wnaiff wneud hynny i Senedd y DU. Nid wyf yn credu am eiliad bod Nissan wedi cael ei ddarbwyllo i fuddsoddi yn Sunderland ar yr addewid amwys y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio peidio â chael tariffau wedi’u gorfodi ar y sector moduron. Nawr, rwy’n cytuno; nid wyf eisiau gweld tariffau yn cael eu gorfodi ar y sector moduron, ond beth am ddur? Beth am awyrofod? Beth am bob sector arall yn economi Cymru sy'n bwysig? Anwybyddwyd hynny hyd yn hyn. Mae'n dangos dull trwblus, tameidiog o ymdrin â hyn, yn hytrach na bod strategaeth gyffredin. Ac, rwy’n dweud wrthych chi, mae'n gwrthddweud yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU wrthyf ddydd Llun diwethaf. Gofynnais iddi’n uniongyrchol i ddiystyru unrhyw gytundeb—unrhyw gytundeb masnach â'r UE—a oedd yn cynnwys tariffau. Nid oedd yn fodlon gwneud hynny. Nid oedd yn fodlon gwneud hynny. Ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach, yn sydyn, diystyrwyd tariffau ar gyfer y sector moduron. Mae'n draed moch llwyr.

Wel, nid yw'n syndod nad yw Prif Weinidog y DU yn mynd i ddatgelu ei strategaeth drafod i Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, sy'n aelod o blaid arall. [Torri ar draws.] Nid fy lle i yw siarad ar ran Theresa May—[Torri ar draws.]

Ond yr hyn y mae yn ei ddangos, onid yw, yw bod Brexit yn cynnig cyfle, yn ogystal â her, ac os awn ni i’r afael â’r trafodaethau gydag ysbryd optimistig a chadarnhaol, yna rydym ni’n debygol o gyflawni llawer mwy? Y broblem gyda'r Prif Weinidog yw ei fod e’n gwynwr. Dim ond y problemau y mae’n ei weld. Nid yw'n gweld y cyfleoedd. O ran dur a’r sectorau diwydiannol eraill, nid oes unrhyw reswm o gwbl i feddwl na all ein diwydiannau fod yn fwy cystadleuol na'r rhai ar draws y sianel, yn enwedig gan fod y ffaith nad ydym yn rhan o ardal yr ewro yn rhoi arian cyfred mwy cystadleuol i ni.

Mae’n ymddangos bod UKIP yn dadlau y gallwn ni fod yn gystadleuol gyda thariffau; gallaf ddweud wrthych chi na allwn. Rydym ni’n allforio 30 y cant o'r dur yr ydym ni’n ei gynhyrchu ac nid oes unrhyw ffordd y gallwn ni fod yn gystadleuol gyda thariffau. Ni all y sector moduron fod yn gystadleuol gyda thariffau. Ni all maes awyrofod, Airbus, fod yn gystadleuol gyda thariffau. Mae wedi fy nghlywed i’n dweud sawl gwaith, os oes cytundeb ar y bwrdd nad yw'n cynnwys tariffau, i mi, mae hynny'n hynod ddefnyddiol. Hynod ddefnyddiol. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud wrtho, nid wyf yn disgwyl i Brif Weinidog y DU ddatgelu ei strategaeth drafod gan nad wyf i’n credu bod ganddi hi un. Dywedais hyn wrthi, a dywedais, 'Edrychwch, rhowch syniad i ni o’ch egwyddorion cyffredinol o leiaf.' 'Ddim yn gwybod'. Pam? Oherwydd na allant gytuno â'i gilydd. Os siaradwch chi â David Davis, yr ateb a gewch chi bob tro yw, 'Bydd popeth yn iawn.' Dim byd. Dim byd arall mwy na hynny. Nawr, mae rhai o blaid cytundebau masnach rydd. Efallai y gallai cytundebau masnach rydd fod yn dda gyda rhai gwledydd ond nid gydag eraill. Mae cytundeb masnach rydd gyda Mecsico yn wahoddiad i ddinistrio gweithgynhyrchu yn y DU, sef yr union beth y pleidleisiodd pobl yn ei erbyn yn y refferendwm. Un o'r materion yr oedd pobl yn poeni amdanynt oedd masnach rydd a cholli swyddi. Mae cytundebau masnach rydd gyda'r gwledydd anghywir yn arwain yn y pen draw at sefyllfa lle gallwch chi ddinistrio eich diwydiant gweithgynhyrchu. Felly, nid ydynt yn ateb i bob problem y maen nhw’n ymddangos i fod.

Wel, fel mae'n digwydd, mae gennym ni gytundeb masnach rydd gyda Mecsico. Dyna un o'r ddau gytundeb y maen nhw wedi llwyddo i’w sicrhau yn yr 50 mlynedd diwethaf. Felly, mae hynny’n annilysu pwynt y Prif Weinidog braidd, onid yw?

Ond, cafwyd digwyddiad diddorol arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Nid wyf yn gwybod a welodd y Prif Weinidog ganlyniad yr etholiad yn Lithwania lle’r aeth plaid Gwerinwyr ac Undeb Werdd Lithwania o fod â dim ond un sedd yn y Senedd i fod â 54 o 141, ar ôl ennill 40 y cant o'r bleidlais. Mae'r ddadl am fewnfudo yn Lithwania yn adlewyrchiad cyfatebol o'r ddadl honno yn y wlad hon. Rydym wedi bod yn trafod problemau mewnfudo; maen nhw wedi bod yn trafod problemau allfudo gan eu bod nhw wedi colli 15 y cant o'u poblogaeth yn y 10 mlynedd diwethaf, ers i Lywodraeth Llafur agor y llifddorau yn 2004 a chaniatáu i 150,000 o ddinasyddion Lithwania ymfudo i'r wlad hon, mewn gwirionedd. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn gweld y cyfle yma gyda gwlad fel Lithwania, sy'n gweld symudiad rhydd llafur fel rhan o'u problem, er bod hynny am y rhesymau croes i’r hyn yr ydym ni’n ei weld yn y wlad hon, ac efallai y gallem ni ffurfio cynghreiriau gyda gwledydd fel Lithwania i gyflawni amcan cyffredin, er bod hynny am resymau gwahanol?

Felly, adeiladu wal yw’r ateb. Hynny yw, mae'n ymddangos nawr mai ef yw etifedd Khrushchev, yn poeni bod wal Berlin wedi diflannu fel na allem ni atal y llif hwn o bobl rhag dod o ddwyrain Ewrop. Wel, os mai dyna’r polisi mae’n dymuno ei arddel, iawn. Y gwir yw bod digonedd o bobl—. Mae 1.2 miliwn—1.2 miliwn—o ddinasyddion y DU sy'n byw yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd. A ydym ni’n mynd i ddweud wrthyn nhw, wel, a dweud y gwir, dylid eu taflu nhw allan o'r gwledydd lle maen nhw’n byw, a dylen nhw ddychwelyd i'r DU? Defnyddiodd y gair 'llifddorau'. Defnyddiodd y gair 'llifddorau'. Mae'n gwybod pa mor ymfflamychol yw’r gair hwnnw. Nid all gwyno—. Sôn am gwyno; Ni all gwyno, ar ôl iddo ddefnyddio'r gair 'llifddorau'. Y gwir yw y bydd y diwydiant ffermio yn dal i fod angen pobl o ddwyrain Ewrop i weithio yn y diwydiant ffermio, beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit; ni fyddant yn gallu recriwtio’n lleol.

Rwy’n derbyn y pwynt, wrth gwrs, bod pobl wedi bod yn anhapus gyda'r system bresennol o ryddid i symud. Mae hynny, i mi, yn amlwg yn y bleidlais, ond y gwir amdani yw y bydd yn dal i fod angen i bobl symud ar draws ffiniau er mwyn darparu'r llafur y mae diwydiant ei angen. Ni fydd ffermio’n goroesi heb y llafur y gall ei gael i mewn o ddwyrain Ewrop, gan na allant recriwtio pobl yn lleol. Mae pob ffermwr yn gwybod hynny. Ac felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw dull synhwyrol, trugarog a rhesymegol o ymdrin â rhyddid i symud ac nid siarad am lifddorau ac atal pobl rhag dod i mewn ac, i bob pwrpas, adeiladu waliau. Y peth olaf sydd ei angen ar ddynoliaeth yn yr argyfwng presennol yw i’r byd adeiladu mwy o waliau a rhwystrau.

Rheolau Lobïo

3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolau lobïo sy'n gymwys yn llywodraethau eraill y DU? OAQ(5)0238(FM)

Wel, mae'r comisiynydd safonau yn ymgymryd â gwaith cychwynnol, yn trafod gyda Seneddau eraill y DU eu trefniadau a sut y maen nhw’n gweithio yn ymarferol, ac rydym ni’n sefyll yn barod i ymateb yn gadarnhaol yng ngoleuni argymhellion y comisiynydd.

Iawn. Diolch, Brif Weinidog, am hynna. Roeddwn i yn y ddadl fer a gawsom ni ychydig cyn y toriad pan drafodwyd hyn, ac roeddwn i’n falch o glywed bod y comisiynydd safonau yn edrych ar hyn. A allaf i gael sicrwydd gennych chi, Brif Weinidog, os bydd Gerard Elias yn penderfynu bod angen gweithredu, y byddwch chi’n cymryd y camau priodol ac na fyddwch yn rhoi’r mater o’r neilltu?

Wel, mae'r comisiynydd wedi dweud o'r blaen, wrth gwrs, nad yw'n gweld bod hyn wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Y pwyllgor safonau, wrth gwrs, fydd angen edrych ar hyn, a pha bynnag wersi sydd i’r Cynulliad, byddwn yn rhoi sylw iddynt fel Llywodraeth.

Mae sut y mae cwmnïau a sefydliadau’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a thryloywder y trefniadau hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond mae eich gwefan eich hun yn datgan:

'Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau'.

Gyda hyn mewn golwg, beth arall ydych chi'n feddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig gyda'i hymgynghoriadau, i gyrraedd amrywiaeth ehangach a dyfnach o bobl, fel bod lleisiau sefydliadau sy’n gallu fforddio swyddogion cyfathrebu neu ddefnyddio cwmnïau materion cyhoeddus yn cael eu cydbwyso’n well gan leisiau â buddiant o'r boblogaeth yn gyffredinol?

Mae'n bwynt teg, ac un o'r pethau yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw ymgynghori mor eang â phosibl, ar-lein, wrth gwrs, a thrwy ymgynghoriadau papur. Yn anochel, mae angen i wybodaeth gael ei dosbarthu mewn cymunedau gan rai unigolion o fewn cymunedau, ond, yn amlwg, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ymgynghoriadau mor eang ag y gallant fod.

Brif Weinidog, ar 12 Gorffennaf, dywedasoch ar y cofnod

'nid oes gan lobïwyr fynediad at Weinidogion Cymru.'

A ydych chi’n ymwybodol bod llun o’ch Gweinidog cyllid ar Twitter, ar 27 Hydref, mewn digwyddiad gyda lobïwr masnachol? A ydych chi’n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yfory, ar 2 Hydref, yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad lobïwr masnachol? Felly, efallai y gallwch chi esbonio i'r cyhoedd a’r Siambr hon y gwrthdaro rhwng yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud yma, nad oes ganddyn nhw fynediad, a’r gwirionedd, gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod ganddyn nhw? A allwch chi esbonio’r gwrthddweud, os gwelwch yn dda?

Gallaf, yn rhwydd. Hynny yw, mae Gweinidogion yn siarad mewn digwyddiadau a drefnir gan sefydliadau, ond nid yw Gweinidogion yn cael cyfarfodydd ffurfiol gyda lobïwyr. Dyna ni; dyna yw realiti'r sefyllfa. Os yw’n dweud na ddylai unrhyw Weinidog fyth gyfarfod, naill ai'n ffurfiol nac yn anffurfiol, gydag unrhyw un sydd ag unrhyw gysylltiad o gwbl â chorff lobïo, mae hynny’n anymarferol, o ystyried maint Cymru. Mae'n anymarferol i aelodau ei blaid ei hun. Y peth olaf y byddwn yn ei awgrymu i Aelodau yn y Siambr hon fyddai dweud wrth Aelodau na ddylent fyth, o dan unrhyw amgylchiadau, gyfarfod ag unrhyw un sy'n gysylltiedig â chwmni lobïo. Yn amlwg, nid yw hynny'n ymarferol. Ond yr hyn nad ydym ni’n ei wneud yw cyfarfod yn ffurfiol â chwmnïau lobïo os byddant yn ceisio cael cyfarfodydd gyda Gweinidogion. Nid yw’r cyfarfodydd hynny byth yn digwydd ar sail ffurfiol.

Lefelau Ardrethi Busnes

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0231(FM)

Ar gyfer 2017-18, 1.059 biliwn yw’r swm amcangyfrifedig o ardrethi annomestig a fydd yn cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Mae hynny wedi'i nodi yn y gyllideb ddrafft.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o’r lefel newydd enfawr o ansicrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sydd wedi cael ei lwytho ar fusnesau bach gan y newidiadau cost enfawr sy'n deillio o ailbrisio ardrethi busnes. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi’n gyffredinol ei fod yn niwtral o ran cost ac y bydd enillwyr a chollwyr bob amser, ond mae busnesau yn Sir Fynwy yn wynebu cynnydd o 11 y cant i’w hardrethi a fydd, os cânt eu gweithredu, yn bygwth rhoi llawer ohonyn nhw allan o fusnes. A ydych chi’n cytuno bod angen i ni ddeall canlyniadau’r ailbrisio hwn yn llawn cyn y gweithredu, a cheisio rhoi cymorth i'r busnesau hynny yr effeithir arnynt waethaf o leiaf?

Bydd cefnogaeth oherwydd, mewn ymateb i'r ailbrisio, bydd cynllun rhyddhad trosiannol newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei gyflwyno i helpu busnesau bach y mae eu hawl i ryddhad ardrethi busnesau bach yn cael ei effeithio er gwaeth. Bydd hynny'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Brif Weinidog, mae’r diwydiant dur yn dal i fod mewn argyfwng. Nid yw wedi diflannu. Mae gennym ni lawer o broblemau a heriau yn ein hwynebu o hyd, er bod y gweithluoedd ar draws Cymru wedi dangos ymrwymiad i wella proffidioldeb. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran ardrethi busnes? Roedd hon yn broblem, yn sicr, yn gynnar yn y flwyddyn ac ystyriwyd eithriadau ar gyfer offer a pheiriannau. A fyddwch chi’n edrych ar hynny eto, ac a fyddwch chi’n edrych ar ardrethi busnes ar gyfer y diwydiant dur?

Wel, gallaf ddweud bod y data o'r ailbrisio presennol yn awgrymu y bydd gwerth ardrethol y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol. Bydd hynny o gymorth iddynt. Felly rydym ni’n rhagweld y bydd hynny'n rhan o'r pecyn a fydd yn cynorthwyo’r diwydiant dur.

Rydym ni eisoes wedi rhoi pecyn ar y bwrdd. Mae angen i ni weld gweithredu nawr gan Lywodraeth y DU pan ddaw i bensiynau a phan ddaw i brisiau ynni. Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld digon o weithredu gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n parhau i’w hannog i ddangos penderfyniad yn y dyfodol.

Mae nifer o fusnesau hefyd, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, wedi cysylltu ag Aelodau Plaid Cymru i sôn am effaith y cynnydd y maen nhw’n ei wynebu ar hyn o bryd—tafarn, er enghraifft, sy’n wynebu cynnydd o 200 y cant. Rydym ni’n sôn am filoedd fan hyn. Mae un enghraifft gyda ni o’r Vale Country Club, sy’n trefnu priodasau yn Rhuthun, a’i werth ardrethol yn codi o £9,600 i £23,000. Gall y Prif Weinidog ddeall, wrth gwrs, yr effaith y mae’r math yna o newid yn mynd i’w gael ar y busnes a busnesau tebyg. A ydy e’n gyfle, efallai, i edrych ar y swm y mae wedi sôn amdano sydd wedi’i neilltuo ar gyfer help dros dro, i sicrhau na fyddwn yn gweld y cynnydd syfrdanol yma i ambell i fusnes sydd mewn sefyllfa ymylol, er mwyn sicrhau na fyddant yn cau oherwydd y cynnydd yma mewn ardrethi busnes?

Rwy’n deall y pwynt, wrth gwrs, ond rwy’n hyderus bod y cynllun rwyf wedi sôn amdano yn barod yn mynd i helpu llawer o fusnesau sydd wedi gweld cynnydd yn y swm y maen nhw’n ei dalu.

Mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o fusnesau, y tro diwethaf yr aethon nhw drwy’r broses hon oedd yn ôl yn 2008, pan oedd pethau yn yr economi llawer yn well yn hanesyddol, a byddai’r lefel o dreth y byddant wedi bod yn ei thalu wedi bod yn uwch. Rydym ni wedi gweld hyn yn barod gyda’r diwydiant dur. Wrth gwrs, nid yw hynny’n meddwl bod pob busnes yn yr un sefyllfa, ond o achos y ffaith ein bod ni wedi cydnabod bod rhai busnesau yn mynd i weld cynnydd, dyna pam felly mae’r cynllun dros dro wedi cael ei ddodi mewn lle.

Brif Weinidog, mae ychydig dros draean o safleoedd busnes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ychydig yn llai na hanner yn yr Alban, yn elwa ar hyn o bryd ar ryddhad ardrethi busnes, o’i gymharu â dros 70 y cant o fusnesau Cymru. Edrychaf ymlaen at gyhoeddiad cynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach, ond a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd hwn yn dal i fod y pecyn rhyddhad ardrethi mwyaf hael yn y DU?

Byddwn yn ceisio darparu, ac yn ogystal â hynny rydym ni eisiau darparu sicrwydd ar gyfer cynllun a fu’n un dros dro erioed, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cael ei adnewyddu am nifer o flynyddoedd. Ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod y sicrwydd hwnnw yno i fusnesau fel y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rheoleiddio Tân Gwyllt

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwerau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoleiddio tân gwyllt? OAQ(5)0237(FM)

Mae tân gwyllt yn cael ei reoleiddio gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth, gan gynnwys rheoliadau iechyd a diogelwch, diogelu defnyddwyr, diogelwch cynhyrchion a ffrwydron, nad ydynt wedi eu datganoli yn gyffredinol. Mae'n amheus a yw’r gallu gennym ni i newid y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd ac, unwaith eto, nid yw’r sefyllfa’n cael ei gwneud yn fwy eglur gan Fil Cymru. I mi, y ffordd orau o ymdrin â rheolaeth tân gwyllt yw ar lefel Prydain Fawr o leiaf, o ystyried y ffaith y gall pobl symud tân gwyllt ar draws yr ynys. Ond rwy’n derbyn y pwynt, a gwn ei bod wedi bod yn codi'r pwynt hwn yn lleol am y peryglon y gall tân gwyllt eu hachosi.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, rydym ni wedi gweld digwyddiadau tân gwyllt peryglus ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun yng Ngorllewin Casnewydd, lle’r ymosodwyd ar y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu gan unigolion yn eu defnyddio fel taflegrau. Roedd y tân gwyllt a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiadau llwfr hyn ar bobl yn ceisio gwneud eu gwaith yn gwasanaethu ein cymunedau yn dân gwyllt masnachol graddfa fawr, sydd gryn dipyn yn fwy pwerus a pheryglus. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gondemnio’r ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus? A wnewch chi hefyd ystyried pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru o ran diogelu'r cyhoedd, yn enwedig o ran rheoleiddio, rhag y tân gwyllt masnachol graddfa fawr hyn, sy’n gallu, os cânt eu defnyddio’n anghyfrifol, achosi anaf difrifol?

Ni welaf unrhyw reswm pam y dylai aelodau'r cyhoedd allu prynu tân gwyllt masnachol—maen nhw’n hynod beryglus yn y dwylo anghywir. Nid yw pobl wedi arfer â thân gwyllt o bŵer penodol, o ran pa mor bell yn ôl y mae'n rhaid iddyn nhw sefyll. Ni allant eu cynnau gyda thapr—mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cynnau gyda gwefr electronig. Felly, rwy’n credu bod cwestiynau o hyd ynghylch pa mor dda y mae tân gwyllt wedi’u rheoleiddio. Mae'n drosedd tanio tân gwyllt ar adegau penodol o'r dydd. Mae'n drosedd prynu tân gwyllt yn iau na 18 oed. Ond, os bydd unrhyw un yn dioddef ymosodiad gyda thân gwyllt, mae hynny eisoes yn drosedd a dylid erlyn o’i herwydd.

Rwy'n siŵr y bydd ein Cynulliad cyfan yn uno i gondemnio hurtrwydd difeddwl y rhai a ymosododd ar y gwasanaethau brys gyda thân gwyllt yng Nghasnewydd. Mae Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain wedi rhybuddio y byddai unrhyw gyfyngiadau pellach ar werthu a defnyddio tân gwyllt yn arwain at gynnydd sylweddol i werthu heb ei reoleiddio ac na ellir ei olrhain. Mae penaethiaid tân eisoes wedi rhybuddio y byddai mwy o gyfyngiadau yn arwain at gynnydd mewn mewnforion anghyfreithlon. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylid gweithredu unrhyw gynigion i gyfyngu ar werthu tân gwyllt dim ond yn dilyn yr ymgynghoriad ehangaf gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru?

Rwy’n credu, os ydych chi’n iau na 18 oed, na ddylech chi gael prynu tân gwyllt. Rwy’n credu, os cofiaf yn iawn, bod tân gwyllt wedi’i gategoreiddio. Dim ond gweithwyr proffesiynol gaiff ddefnyddio tân gwyllt categori 4. Rwy’n credu bod angen ymchwiliad i weld a yw rhai mathau o dân gwyllt yn y categorïau cywir. Felly, yn hytrach na cheisio cyflwyno gwaharddiad ehangach ar y defnydd o bob math o dân gwyllt, rwy'n credu bod achos dros edrych ar bŵer rhai tân gwyllt o ran a ddylent, mewn gwirionedd, fod ar gael i aelodau'r cyhoedd neu a yw’n well eu gadael yn nwylo gweithwyr proffesiynol.

Dyddiaduron Gweinidogion

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sicrhau bod dyddiaduron Gweinidogion ar gael i'w craffu gan y cyhoedd? OAQ(5)0235(FM)

Rydym ni wrthi’n cynnal adolygiad i ganfod y dull gorau o gyhoeddi manylion cyfarfodydd a dyddiaduron gweinidogol.

Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn derbyn cyngor gennyf i—ewch i mewn i Outlook a phwyswch argraffu, a dyna ni. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r argraff ofnadwy—ofnadwy—y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cyhoedd yng Nghymru, eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw ddatgan â phwy maen nhw’n cyfarfod ac at ba ddiben? Mae'n gwbl annerbyniol bod cais rhyddid gwybodaeth wedi ei wneud ac wedi ei wrthod. A wnewch chi sicrhau bod y dyddiaduron yn cael eu cyhoeddi?

Wel, os yw’n sôn am ei gais rhyddid gwybodaeth ei hun—ac mae'n nodio am hynny—gwnaeth gais ar gyfer pob un cyfarfod dros y pum mlynedd diwethaf. Ni ddylai synnu, felly, na chafodd ymateb ar gyfer hynny. Ond pe byddai’n gwneud cais mwy diffiniedig, wrth gwrs y gellir cyhoeddi’r cyfarfodydd hyn—nid ydynt yn gyfrinachol fel y cyfryw. Er hynny, gallaf ddweud wrtho ein bod yn edrych ar sut y gallwn gyhoeddi manylion cyfarfodydd yn ôl-weithredol—mae'n digwydd i raddau yn San Steffan, mae'n digwydd i raddau yn yr Alban, ac rwy'n awyddus ein bod ni’n cadw i fyny â'r arferion gorau. Nid oes amheuaeth ynghylch cyhoeddi apwyntiadau gweinidogol yn y dyfodol, ond ni welaf unrhyw reswm pam na allwn ni wneud hyn ar gyfer apwyntiadau sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a byddwn yn ceisio dod o hyd i ffordd o wneud hynny.

Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r adolygiad? Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eich bod chi’n edrych ar awdurdodaethau eraill, gan y dylem ni geisio dilyn yr arferion gorau. Os bydd hynny’n newid dulliau presennol, rwy’n credu bod hynny’n dangos i chi bod y Llywodraeth yn gwneud y peth iawn ac nad yw’n cydnabod bod arferion y gorffennol yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd. Mae safonau’n newid, mae technoleg yn newid, mae’r hyn sy’n bosibl yn newid, ac rwy'n credu ein bod ni eisiau bod ymhlith y goreuon ac nid bod ar ei hôl hi.

Na, rwy’n cytuno â hynny ac, fel y dywedais, mae’r adolygiad wrthi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i ganfod y ffordd orau o gyhoeddi gwybodaeth fel ei bod yn eglur pwy mae Gweinidogion yn cyfarfod â nhw. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef cyn gynted â phosibl.

Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0232(FM)

Wel, mae ynni adnewyddadwy yn rhan bwysig o'r gymysgedd ynni sydd ei hangen arnom ni i gefnogi Cymru ffyniannus a charbon isel diogel. Mae ein cefnogaeth barhaus wedi sicrhau manteision i Gymru hyd yn hyn, a bydd fy nghyd-Aelod Cabinet Lesley Griffiths yn gwneud datganiad ar ein blaenoriaethau ynni y mis nesaf.

Brif Weinidog, yng ngoleuni'r trafferthion ariannol diweddar a wynebwyd gan Tidal Energy Ltd yn y gorllewin, cwmni y mae’n ymddangos sy’n arwain y ffordd o ran echdynnu ynni’r môr, pa sicrwydd allwch chi ei roi bod prosiectau ynni’r môr eraill a gefnogir gan arian cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion, a pha gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth ar waith i sicrhau nad yw'r sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd gan Gymru yn ei chyfanrwydd a chan y Llywodraeth yn benodol o ran ynni adnewyddadwy yn cael eu colli o'r ardal hon?

Mae'n anffodus yr hyn a ddigwyddodd i Tidal Lagoon Power Ltd. Rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud bod yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud yn debycach i brosiect ymchwil a datblygu yn hytrach na phrosiect busnes fel y cyfryw. Mae ganddo botensial, nid oes amheuaeth am hynny, ac rydym ni’n awyddus i sicrhau nad yw’r sgiliau hynny’n cael eu colli. Mae’n rhaid i mi ddweud y byddai'n hynod ddefnyddiol, wrth gwrs, pe byddem ni’n gweld cynnydd nawr ar forlyn llanw Bae Abertawe fel y gellid bwrw ymlaen â’r gwaith sy'n cael ei wneud yn Stinan, er enghraifft—gwelais yr hyn a oedd yn digwydd yno drosof fy hun—yn rhan o'r gyfres o sgiliau y bydd ei angen ar gyfer y morlyn llanw.

Yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod storio a dosbarthu cynaliadwy yn hanfodol i'n dyfodol ynni cynaliadwy, ac a yw’n croesawu'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud i storio a dosbarthu ynni arloesol gan brifysgolion Caerdydd, Abertawe a de Cymru, trwy brosiect FLEXIS, sydd â’r nod o ddatblygu safle arddangos yng Nghastell-nedd Port Talbot?

Ydw. Mae'n enghraifft ragorol o’n prifysgolion yn gweithio gyda'i gilydd, yn ogystal ag enghraifft o gydweithio rhwng diwydiant a sefydliadau ymchwil ledled Cymru a gweddill Ewrop. Mae'n brosiect a ariennir gan yr UE, felly mae’r hyn a fydd yn digwydd iddo y tu hwnt i 2020, wrth gwrs, bob amser yn anodd ei ragweld. Serch hynny, mae ganddo botensial mawr, ac mae'r ffaith bod cymaint o'n prifysgolion wedi dod at ei gilydd i fod yn rhan ohono yn dangos pa mor bwysig yw’r prosiect hwn iddyn nhw.

A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog beth mae’n ei wneud i ehangu dealltwriaeth pobl o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac yn arbennig o ran dosbarthu ynni adnewyddadwy yn lleol at bobl leol er mwyn cynyddu’r gefnogaeth iddo? Pe bai Sian Gwenllian yn gallu bod yma heddiw, rwy’n siŵr y byddai hi am i fi sôn am Ynni Ogwen, cynllun cydweithredol i ddosbarthu ynni’n lleol. Mae yna gwmnïau ynni yn cael eu sefydlu gan awdurdodau lleol yn Lloegr, fel Ynni Robin Hood yn Nottinghamshire. Onid yw’n bryd i’r Llywodraeth ystyried sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru a dosbarthu ynni yn lleol?

Well, there is a local energy distribution service available, and that gives communities and SMEs support so that they can develop their own projects. Through the portal, which they run, interested groups get together to see in which way they can collaborate and co-operate in order to progress projects. There’s one example in Bethesda, of course, which is the Energy Local project. That’s a pilot to see whether it’s possible to ensure people receive support to use less of the energy that’s available now, and, of course, to ensure that they also pay less.

Er bod swyddogaeth i ynni adnewyddadwy ar yr ymylon, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r unig beth y mae hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar ynni adnewyddadwy nag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn debygol o’i wneud yw gorfodi costau afresymol ar bobl? Rhwng 2014 a 2020 amcangyfrifir eisoes bod cost gyfartalog cymorthdaliadau gwyrdd a threthi carbon yn £3,500 fesul cartref, ac er efallai fod gan gynlluniau ynni dŵr, a chynlluniau llanw hyd yn oed, le yn y gymysgedd ynni, gan fod gwynt yn ysbeidiol, mae'n ddrud iawn, gan fod rhaid i chi gael gorsafoedd pŵer wrth gefn i ymdopi pan nad yw'n chwythu neu ei bod yn chwythu’n rhy gryf, ac felly byddai'n llawer mwy synhwyrol dibynnu mwy ar adnoddau confensiynol, fel glo, er enghraifft, y mae Simon Thomas newydd sôn amdano. Rydym ni’n eistedd ar rai o'r meysydd glo carreg gorau yn y byd. Lle gellir cloddio hwn yn fasnachol, onid yw'n synhwyrol rhoi hwnnw yn y gymysgedd ynni hefyd?

Mae'r awyrgylch yn llawn eironi. Pan rwy’n clywed y sylw yna, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod ei fod yn rhan o blaid a gaeodd pyllau glo yn fwriadol—hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw. [Torri ar draws.] Hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw, caewyd y rheini. Ar y pryd, roedd glo, yn ei dyb ef, wedi darfod. Y gwir nad yw cloddio dwfn yn realiti i'r rhan fwyaf o Gymru mwyach—adeiladwyd dros fwyafrif y pyllau a gaeodd; llenwyd eu siafftiau. Mae'n sôn am gloddio’n economaidd—mae’n sôn am lo brig. Nawr, os yw eisiau dadl, rwy’n awgrymu ei fod yn siarad â phobl sy'n byw wrth ochr safleoedd glo brig am y ffordd y maen nhw’n teimlo am y peth. Felly, yr hyn y mae'n ei argymell yw glo brig neu fwy o fewnforion. Mae'n rhaid i ni gofio nad oes unrhyw ffordd y gallwn ni gynhyrchu’r glo y byddai ei angen arnom ni i bweru ein gorsafoedd pŵer. Nid oes unrhyw ffordd y gallwn ni ddisodli’r nwy naturiol hylif—mae 25 y cant ohono sy'n dod i mewn i'r DU yn dod trwy Aberdaugleddau. A cheir dau gwestiwn yn y fan yna—yn gyntaf, mae'n ddrytach oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt, ac, yn ail, diogelwch ynni. Nid ydym ni eisiau bod yn rhy ddibynnol ar fewnforio ynni o rywle arall, ond y gwir amdani yw bod y diwydiant glo wedi ei ddyrnu yn y 1980au, cafwyd gwared arno’n gwbl fwriadol, ac ni all ddweud nawr, 'A dweud y gwir, yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw mwy o lo', pan wnaeth ef fwy na neb arall i sicrhau nad oedd unrhyw lo yno yn y lle cyntaf.

Ysbyty Glan Clwyd

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(5)00230(FM)

Gwnaf. Rydym ni’n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i wella mynediad at wasanaethau, gan gynnwys, wrth gwrs, lleihau amseroedd aros ar draws yr ystod lawn o wasanaethau.

A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol i rywun sy'n dioddef poen pen-glin cronig orfod aros 10 mis i weld meddyg ymgynghorol, a beth mae'r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud am y peth?

Roedd hi'n amlwg yn cyfeirio at etholwr sydd wedi cysylltu â hi. Mae'n anodd gwneud sylwadau ar achos unigol, ond, os yw'r etholwr yn dymuno, trwyddi hi, cyfeirio sefyllfa’r etholwr ataf i, byddaf wrth gwrs yn edrych arno ac yn ysgrifennu yn ôl ati.

Yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 95 y cant, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer mis Medi yn dangos mai dim ond 72 y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys gafodd eu gweld o fewn pedair awr ym Maelor Wrecsam a 69.7 y cant yn Ysbyty Glan Clwyd, wrth i 919 o bobl aros mwy na 12 awr yn y prif adrannau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd. Ar ôl anwybyddu rhybuddion y byddai cau unedau mân anafiadau, diddymu gwelyau cymunedol y GIG a’r gyfran ostyngol o gyllideb GIG Cymru sy’n mynd i feddygfeydd teulu yn arwain at yr union ganlyniad hwn, a wnewch chi wrando nawr—yn astud—ar y pryderon hynny er mwyn rhoi sylw iddynt a lleihau'r galw hwn am y dulliau ataliol cymunedol hynny?

Mae hyn yn dod gan gynrychiolydd plaid Jeremy Hunt. Gallaf ddweud wrtho fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn profi bod y rhan fwyaf o gleifion, bron i wyth o bob 10, yn cael eu gweld, eu trin, eu derbyn neu eu rhyddhau yn gyflym iawn ac o fewn pedair awr iddynt gyrraedd er gwaethaf, mewn gwirionedd, cynnydd mewn presenoldeb pobl oedrannus ag anghenion cymhleth a chleifion dibyniaeth uchel. Er bod cyrraedd y targed wedi bod yn anodd—mae cymaint â hynny’n wir—er hynny, gwelsom welliant o ran y targed pedair awr ym mis Medi.

A ydych chi, Brif Weinidog, yn derbyn bod y gostyngiad yn nifer y gwlâu yn y gogledd yn cyfrannu at drafferthion gydag amserau aros? Rŷm ni wedi gweld colli gwlâu yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mlaenau Ffestiniog—mae yna dros 400 yn llai o wlâu nawr yng ngogledd Cymru o’i gymharu â 2010. Does bosib eich bod chi’n derbyn bod hynny yn cyfrannu at y trafferthion.

Na. Nid wyf yn gweld hynny achos y ffaith rŷm ni’n siarad am gymunedau lle nad oedd dim adran argyfwng a damweiniau yn y lle cyntaf. So, mae pobl yn mynd i’r adran hynny mewn ambiwlans, felly yr ysbyty yna maen nhw’n mynd i fynd i mewn iddi, felly dyna o le byddai’r pwysau yn dod. Serch hynny, wrth gwrs, rŷm ni’n gweld bod mwy nag wyth mas o 10 o bobl sydd yn mynd mewn i’r adrannau argyfwng a damweiniau yn gadael o fewn pedair awr.

Asesiadau Effaith Ieithyddol

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch asesiadau effaith ieithyddol ym maes cynllunio? OAQ(5)0226(FM)[W]

Mae ffurflenni sy’n asesu’r effaith ar yr iaith yn rhan annatod o’r arfarniadau cynaliadwyedd sy’n cyd-fynd â chynlluniau datblygu lleol. Efallai y bydd eu hangen hefyd yn achos ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd ar hap mewn ardaloedd sy’n arbennig o sensitif yn amgylcheddol fel y nodir yn y cynllun datblygu.

Diolch i chi am eich ateb. Rŷch chi’n berffaith iawn—maen nhw yn allweddol fel rhan o’r broses. Fy ngofid i, serch hynny, yw ansawdd rhai o’r asesiadau impact ieithyddol yma. Maen nhw’n cael eu cynhyrchu yn aml iawn heb eu plismona yn iawn. Gallaf i bwyntio at enghreifftiau lle mae yna dystiolaeth amheus dros ben yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r asesiadau yma ac wrth gwrs mae’r rheini wedyn jest yn cael eu derbyn, yn aml iawn, gan awdurdodau cynllunio, ac mae yna benderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail beth y byddwn i’n dadlau yw tystiolaeth wallus. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod asesiadau’n cael eu heddlua a bod yr asesiadau hynny yn rhai o ansawdd sydd yn gosod cynsail teg ar gyfer penderfyniadau?

Yn gyntaf, wrth gwrs, os yw’r asesiadau’n rhan o’r cynllun datblygu, mae’r arolygydd yn gallu mynegi barn a sicrhau bod y cynllun yn iawn ynglŷn â’r iaith. Yn ail, wrth gwrs, os oes unrhyw broblem yn codi gydag asesiad lle bydd y cyngor yn derbyn yr asesiad er y gwallau sydd yn yr asesiad, mae yna gyfle i Weinidogion ystyried a ddylai’r cais gael ei alw i mewn i’r Llywodraeth.

Yn ei llythyr i’r ymgynghoriad i mewn i TAN 20 yn gynharach eleni, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi’n bwysig bod awdurdodau lleol yn derbyn canllawiau clir i sicrhau bod yna gysondeb ar draws Cymru pan ddaw i asesiadau ieithyddol ym maes cynllunio. A allwch chi, felly, gadarnhau heddiw bod eich Llywodraeth chi’n golygu sicrhau bod canllawiau clir yn mynd i gael eu cyhoeddi pan fyddwch yn gwneud penderfyniad yn y maes yma?

Mae hynny’n iawn. Mae’n hollbwysig i sicrhau bod cysondeb yn y system gynllunio. Yn y gorffennol, roedd systemau gwahanol yn cael eu defnyddio gan rai awdurdodau lleol, ac wrth ystyried TAN 20, rŷm ni’n moyn sicrhau bod y TAN mor glir ag sy’n bosib.

2. 2. Datganiad: Yr UE—Trefniadau Pontio

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan y Prif Weinidog ar yr Undeb Ewropeaidd a threfniadau pontio. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ar ôl y refferendwm Ewropeaidd, fe wnes i ddweud y byddwn yn dweud wrth y Cynulliad yn gwmws beth yw’r datblygiadau a hefyd rhoi cyfleoedd aml i’r Cynulliad roi sylwadau o fewn i’r Siambr hon, ac wrth gwrs, i ddadlau’r sylwadau hynny.

Members know that I attended a plenary session of the Joint Ministerial Committee last week hosted by the Prime Minister in Downing Street. My Scottish and Northern Irish counterparts were, of course, also present and I was accompanied by the Cabinet Secretary for finance, Mark Drakeford. Llywydd, before I report on the JMC, it’ll be useful to set out some context on related matters.

We know from the Prime Minister’s earlier statements that the UK Government intends to invoke article 50, pressing the trigger on exit negotiations, no later than the end of March next year. We also learned that the so-called great repeal Bill, which will, in fact, transfer EU law into domestic legislation at the point of the UK’s exit from the European Union, will move forward, although there are questions as to how that works in the devolved context. The approach is broadly sensible in my view, but again, there are complex issues, as I said, including the relationship of European law to devolved matters. Where European legislation falls within devolved competence it will, of course, be for us in Wales to decide in due course which parts of European law we may wish to preserve or repeal.

Llywydd, our Cabinet sub-committee on European transition is meeting regularly and will report to full Cabinet before Christmas. Beyond this, Ministers are working across portfolios to take views and debate issues so that the Welsh Government is able, ultimately, to reflect a broad spread of opinion across the country. The council for economic renewal, the Valleys taskforce, the higher education Brexit working group and round tables for stakeholders on environmental and agriculture issues are all examples of how Government is stimulating debate and contributions on EU exit issues.

As Members know, our European advisory group is also contributing to medium and longer term thinking about what sort of Wales we want to be outside the EU, and to plan for scenarios for different possible outcomes to the Brexit negotiations. That group brings together opinion from across the spectrum and a range of expertise and authority from civil society. I am especially grateful to the members of this group for giving their expertise freely and for the collaborative manner in which they are contributing to the Welsh national interest.

Llywydd, I return now to last week’s joint ministerial committee. This was the first meeting since the referendum of political leaders from all parts of the UK in the same room at the same time. If anything approaching a consensus UK position is possible, then it is through this forum where it has to be agreed. I have made clear my view that the UK Government should seek such consensus and the endorsement of the Assembly and the other devolved institutions for its negotiation framework.

Llywydd, I set out our priorities for Wales, and these will be familiar to Members here. I was clear that continued free and unfettered access to the single market is our absolute priority. We cannot agree to the imposition of tariffs or non-tariff barriers between the UK and our European neighbours. Any move in this direction would massively undermine the interests of Welsh exporting businesses and immediately impoverish the Welsh offer in the global competition for foreign direct investment. Markets beyond the European Union cannot and could not compensate for a collapse in our European trade. At least 40 per cent of our exports go to Europe, and all the available economic data show that geography plays a decisive part in international trade flows. Llywydd, we are globally ambitious and we support our businesses wherever in the world they want to trade, but we cannot collude with any settlement that undermines their European exports. I repeat: Welsh electors voted to leave the EU; they did not vote to ruin the Welsh economy. If I could, at this point, quote the Member Rhun ap Iorwerth, who did say the people of Wales voted to leave, not take leave of their senses, which I thought was rather a good line. I think that sums up where we are.

I raised the vital matter of financing for Wales after the UK’s withdrawal. As things stand, the UK may leave the EU in spring 2019. Beyond this date, there is no budget provision for farmers or rural communities and no money for regional economic development in place of structural funds. A revision of the block grant in the light of EU exit will become increasingly urgent for stability in the months ahead.

Llywydd, I have recognised previously that concern about unrestricted EU migration is part of what contributed to a leave vote. The rights of EU citizens already living here must be protected, and we will tolerate no xenophobia or racism in Wales. Migrants from the EU help sustain the Welsh economy, and we anticipate a continuing need for recruitment across different sectors of the Welsh economy in the years ahead. We do await proposals from the UK Government about how it intends to approach managed migration after we leave the EU, and we will examine those proposals carefully. But I put the UK Government on notice: we will agree to nothing that damages or undermines the Welsh economy.

Llywydd, my final substantive point was about our powers as a devolved institution. When the UK leaves, EU regulation in devolved policy areas will be lifted and the Welsh Government and this National Assembly will exercise full control over policies already devolved to us: agriculture, environment and fisheries, for example. We will resist any attempt—any attempt—by the UK Government to claw back powers to itself. People in Wales didn’t vote for that. We accept that some issues will be best dealt with on a UK-wide basis, that’s true, but this can only be done through intra-governmental agreement, through some pooling of sovereignty, not imposition. EU exit requires new thinking about how the UK itself operates and there’s much work to be done in this area.

It is disappointing, and damaging to confidence, that the UK Government has been unable, so far, to offer a coherent outline of its broad approach to EU negotiations. The excuses for not doing so are running thin, and the credibility of the UK is not helped by prevarication and, it must be said, confused and mixed messaging. So, the UK Government does need to get its act together.

Llywydd, the Prime Minister has agreed that the JMC plenary should now meet more often, and I do welcome that. We have further agreed a new formation of the JMC known as JMC (EN)—European negotiation. This will be the forum for detailed deliberation of the UK position. We will be a reliable partner in this process and we will act in good faith. We want what’s best for Wales, and we have a duty to pursue that interest with vigour. That is exactly what we will do.

Llywydd, Members will also wish to be aware that the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure has written to the Secretary of State for Business, Energy and Industrial Strategy to ask for more information about the Nissan decision, and the implications for businesses in Wales.

We do now stand at a major crossroads for Wales and the UK, and decisions taken now will determine our future for decades ahead. This Government accepts and embraces our responsibility, but we can’t work alone. We value contributions from all, and we aim to build consensus where we can. Llywydd, I will, of course, continue to keep Members up to date as matters progress.

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac, yn benodol, am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud â'i phwyllgorau amrywiol ac is-bwyllgor y Cabinet sy'n cynghori'r Cabinet. Mae rhywfaint o siom i mi, er hyn, ym mheth o'r iaith yn y datganiad hwn heddiw, yn enwedig y dôn ddigalon. Roedd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon hefyd yn yr union gyfarfod hwnnw yr oedd Prif Weinidog Cymru ynddo ddydd Llun diwethaf a dyma oedd ei geiriau hi:

Cyfle economaidd mwyaf y DU ers degawdau.

Dyna yr oedd hi’n cyfeirio ato wrth drafod Brexit. Dyna'r hyn y mae’n rhaid i ni ei wynebu. Mae'n gyfle. Mae pobl wedi mynegi eu barn ar 23 Mehefin a dyletswydd gwleidyddion o ba bynnag liw yn awr yw gwireddu dymuniadau pobl Prydain mewn gwirionedd. Mae'n bwysig bod safbwyntiau y 48 y cant o bobl a bleidleisiodd i aros hefyd yn cael eu hystyried, gan fod hynny'n nifer sylweddol o unigolion a fynegodd farn i gadw ein perthynas ag Ewrop hefyd. Rwyf wedi bod yn glir iawn mewn unrhyw sylw yr wyf wedi'i wneud nad oes un ateb sy’n addas i bawb yn hyn o beth, ond mae angen i safbwyntiau’r ddwy ochr gael eu datblygu trwy gydweithrediad rhwng y ddwy ochr, yn hytrach na dim ond chwarae’r gemau gwleidyddiaeth dibwys y mae peth o'r iaith yn y datganiad hwn yn cyfeirio ato, fel— [Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwerthfawrogi y byddwn ni yn y Siambr hon yn parhau gyda'r cellwair fel hyn—ond iaith negeseuon dryslyd a chymysg. Y Prif Weinidog ei hun a gyflwynodd ei gynllun chwe phwynt i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, a chyn i ni wybod, cafodd symudiad rhydd pobl ei ollwng o'r cynllun chwe phwynt hwnnw. Y Prif Weinidog ei hun a ddywedodd, ddechrau mis Gorffennaf, mai gorau po gyntaf y byddai galw erthygl 50 i rym, ac yna newidiwyd hynny erbyn mis Awst i ddweud bod dull y Prif Weinidog yn ddull synhwyrol iawn. Byddwn yn awgrymu mai’r unig ddryswch, a'r unig negeseuon cymysg, yw’r rhai a geir gan y Prif Weinidog ei hun ac, yn wir, Llywodraeth Cymru. Ac mae hynny i'w ddifaru—nad yw'n ymgysylltu’n fwy cadarnhaol pan fyddwch yn edrych ar y ffordd y mae Prif Weinidog y DU wedi estyn llaw at y gweinyddiaethau datganoledig, yn arbennig, wrth ailddyfeisio ac ail-sefydlu Cydbwyllgor y Gweinidogion, i wneud yn siŵr bod y llais datganoledig yn cael ei glywed yn glir o amgylch y bwrdd hwnnw ac, yn anad dim, gwneud yn siŵr bod y Cydbwyllgor Gweinidogion yn cyfarfod o amgylch y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond yn Llundain.

Byddwn yn croesawu barn y Prif Weinidog ynglŷn â sut y bydd Cydbwyllgor y Gweinidogion yn symud ymlaen yn ystod y 12 mis, 18 mis neu ddwy flynedd nesaf, oherwydd y mae’n hollol iawn i nodi y bydd hwn yn llwyfan allweddol ar gyfer datblygu barn y Llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau, oherwydd Llywodraeth y DU yw'r Llywodraeth berthnasol a Llywodraeth y trafodaethau. Gwnaeth ef, fel fi, gyfarfod â David Davis bythefnos yn ôl i heddiw. Roeddwn i yn ei ystyried yn Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cymryd rhan lawn, a oedd â strategaeth gydlynol ar gyfer y ffordd ymlaen ac, yn anad dim, mae'r cyhoeddiadau—[Torri ar draws.] Wel, unwaith eto, wyddoch chi, mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog a'r Blaid Lafur yn benodol eisiau cymryd safbwynt gwahanol ar bob sefyllfa dim ond oherwydd bod gwleidyddiaeth y sefyllfa’n dda ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ni ddeddfu dymuniadau pobl Cymru ar 23 Mehefin, a chafodd y rheini eu bwrw’n glir iawn: bod pobl Cymru yn awyddus i ail-lunio eu perthynas ag Ewrop.

Yr wythnos diwethaf, cawsom y cyhoeddiad am y ffatri injan Nissan yn Sunderland; cawsom y ffigurau twf economaidd. Y cyfan yn newyddion cadarnhaol ac eto yn dal i geisio taflu dŵr oer ar ganlyniad y refferendwm.

Hoffwn i hefyd ofyn i'r Prif Weinidog, yn arbennig, am y paragraff lle y mae'n sôn am bolisïau a rheoli meysydd datganoledig. Rwyf hefyd yn ei gefnogi yn ei sylwadau. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y sefydliad hwn yn ei gefnogi. Ond mae cyfle—fel, i fod yn deg, y mae eich datganiad yn ei nodi—lle mae'n dweud,

‘Rydym yn derbyn mai’r peth gorau fydd ymdrin â rhai materion ar sail y DU gyfan, ond dim ond trwy gytundeb rhyng-lywodraethol y gellid gwneud hyn, drwy gyfuno peth sofraniaeth, nid gorfodi.'

Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ymhelaethu ar y cyfeiriad penodol hwnnw—sut y mae'n gweld y math hwnnw o berthynas, y math hwnnw o gyfuno sofraniaeth. Yn bwysig, mae'n cyfeirio at y meysydd polisi, ac nid o reidrwydd y meysydd ariannol, oherwydd nid yw'n gwneud cyfeiriad yn y paragraff penodol hwnnw neu unrhyw le yn y datganiad—. Darllenais hwnnw’n ofalus iawn oherwydd, yn amlwg, mae ochr ariannol yr hafaliad yn draddodiadol wedi bod yn ystyriaeth bwysig yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, megis cyllid strwythurol, addysg uwch, amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Rwy’n sylwi eich bod wedi cyfeirio'n benodol at feysydd polisi, nid meysydd ariannol. Felly, a yw'n wir bod y Prif Weinidog yn fwy parod i dderbyn mwy o rannu sofraniaeth yn y meysydd penodol hynny fel y gall yr arian gael ei asio yn y modd gorau â chynlluniau Llywodraeth y DU a’i ymestyn ymhellach? Edrychaf ymlaen at glywed beth yw'r ateb sy’n dod gan y Prif Weinidog.

Mae hefyd yn defnyddio'r gair ‘cydgynllwynio’, a chredaf fod hynny’n ymadrodd anffodus iawn wrth sôn am ddatblygu rhyngwladol. Cyflawnwyd naw deg o'r 97 o gytundebau mewnfuddsoddi o Fasnach a Buddsoddi’r DU y llynedd. Mae'n bwysig bod perthynas gref— [Torri ar draws.] Ffigyrau Masnach a Buddsoddi’r DU ei hun oedd y rhai hynny, Brif Weinidog. Fel y gwelsom yn y cwestiynau cynnar yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nid oeddech yn arbennig o dda am nodi Mecsico wrth ystyried masnach rydd, ond rwy'n siŵr bod ffigurau Masnach a Buddsoddi’r DU yn gywir. Felly, byddwn yn ddiolchgar unwaith eto—i wybod sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â safbwynt y Llywodraeth wrth hyrwyddo Cymru ar lwyfan y DU wrth hybu Cymru fel man da, cadarn ar gyfer buddsoddi. Unwaith eto, pwynt arall a wnaeth Arlene Foster dros y penwythnos oedd sut y mae hi'n ystyried bod hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu y cynnig—yn ei hachos hi, yr hyn sydd gan Ogledd Iwerddon i'w gynnig ar ôl Brexit—a byddai'n dda clywed sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â’r materion hyn.

Rwyf fi, hefyd, yn ymuno ag ef yn y pwyntiau y mae'n eu gwneud am hiliaeth a sylwadau sydd wedi eu gwneud yng Nghymru ac, yn wir, o amgylch y Deyrnas Unedig. Nid oes lle o gwbl mewn unrhyw gymdeithas wâr neu ddatblygedig ar gyfer rhethreg o'r fath, a dylem fod yn gweithio ar draws y pleidiau i sicrhau bod hynny yn cael ei ddiddymu mewn cymunedau o bob cefndir. Ond mae'n ffaith bod y Prif Weinidog wedi mynd yn ôl ar yr egwyddor o symudiad rhydd o bobl, oni bai ei fod am fy ngwrth-ddweud i ar hynny pan fydd yn ymateb i mi. Felly, pan mae’n sôn am bwysigrwydd symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau, yn seiliedig ar yr egwyddor ei bod yn ofynnol i hynny, dan ddeddfwriaeth yr UE, a dealltwriaeth yr UE o’r farchnad sengl, fod yn berthnasol i bobl hefyd, sut y mae'n gweld sefyllfa drafod Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud yn siŵr bod mynediad at y farchnad sengl, o ystyried eich bod wedi rhoi’r gorau i’r egwyddor honno, yr egwyddor sylfaenol honno, o symudiad rhydd o bobl, sy'n ymddangos yn faen tramgwydd mor allweddol? Nid wyf wedi clywed hyd yma ddadl gynhwysfawr gan y Prif Weinidog ynglŷn â pham, o’i safbwynt gwreiddiol, y mae bellach wedi symud i ollwng y cafeat allweddol hwnnw o safbwynt Llywodraeth Cymru.

Rwyf yn dymuno’n dda i’r Prif Weinidog. Rwy’n dymuno’n dda i Lywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau, ac yn arbennig yn ei chyfarfodydd â gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU. Ond mae’n gwbl angenrheidiol ein bod ni’n deall ein gilydd ar hyn. Mae’r ddwy flynedd nesaf yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i lawer o fusnesau, llawer o gymunedau a llawer o unigolion ar hyd a lled Cymru. Pleidleisiodd Cymru i aildrefnu ein perthynas ag Ewrop. Ni allwch wadu hynny. Mae'n ddyletswydd ar wleidyddion o bob plaid i weithio gyda'i gilydd, ac rwy’n gresynu bod y Prif Weinidog wedi dewis peidio â derbyn fy nghynnig ar y pedwerydd ar hugain i weithio gydag ef ar hyn. Rwyf yn derbyn ei safbwynt——nid yw am dderbyn y cynnig hwnnw—ond rwy'n credu bod hynny'n destun gofid dwfn, oherwydd, gyda'i gilydd, gallai gwleidyddion yn y sefydliad hwn gyflawni cymaint mwy o ran gwella sefyllfa Cymru o gwmpas y byrddau sy’n trafod Brexit.

Nid oes neb yn codi mater y DU yn peidio â gadael yr UE ac eithrio'r bobl hynny sy'n cefnogi Brexit. Does dim amheuaeth na fydd y DU yn gadael yr UE. Mae'n mynd i ddigwydd. Rydym yn gwybod hynny. Mae’r ddadl honno wedi mynd heibio. Mae’r cyfle hwnnw wedi mynd heibio. Mae'n gwestiwn yn awr o ddeall sut y mae hyn yn digwydd. Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Dydyn ni ddim yn gwybod dim manylion y tu hwnt i hynny. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fyddai eu safbwynt, er enghraifft, pe byddai cytundeb ar y bwrdd a oedd yn cynnwys rhyw fath o symudiad rhydd rhannol o bobl, cyn belled â'i fod yn cynnwys mynediad at y farchnad sengl. Dydym ni ddim yn gwybod. Felly, rydym mewn sefyllfa o orfod saernïo posibiliadau sydd er budd gorau pobl Cymru.

Y gwir amdani, i mi, yw mai mynediad di-dariff i'r farchnad sengl yw'r mater unigol pwysicaf. Dyna'r mater unigol pwysicaf. Mae hefyd yn wir i ddweud bod hynny'n golygu derbyn, yn rhannol o leiaf, symudiad rhydd o bobl. Wel, os yw hynny'n wir, yna mae'n rhaid ystyried hynny, yn anffodus, oherwydd mai mynediad i'r farchnad sengl yw'r mater pwysicaf. Ceir enghreifftiau mewn gwledydd eraill lle ceir addasiad o'r system o symudiad rhydd. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod, yr hyn y gallwn ei ddeall o’r canlyniad, rwy’n credu, ym mis Mehefin, yw nad oedd pobl yn hapus â'r system bresennol o symudiad rhydd. Y tu hwnt i hynny, nid ydym yn gwybod a fyddent yn derbyn unrhyw addasiad o'r system honno.

Cyflwynais gynllun chwe phwynt ym mis Mehefin. Nid wyf wedi cael cynllun gan Lywodraeth y DU o hyd. Nid wyf yn gwybod beth yw eu cynllun nhw o hyd, nid wyf yn gwybod beth yw eu blaenoriaethau nhw o hyd, ac nid wyf yn gwybod beth yw eu strategaeth drafod nhw o hyd. Nawr, mae ef wedi cyfarfod â David Davis. Efallai ei fod wedi dweud rhywbeth gwahanol wrtho ef nag a ddywedodd wrthyf i, ond yr ateb i bob cwestiwn y gofynnais i David Davis oedd, ‘Bydd yn iawn.’ Dywedais, ‘Beth am y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth?’ ‘Bydd yn iawn.’ Wel, nid yw'n iawn, ac mae gan Arlene Foster y broblem fawr yn awr o fod mewn sefyllfa o gael ffin â gwlad sydd â pholisi mewnfudo gwahanol ac sydd o bosibl y tu allan i'r undeb tollau hefyd. Mae'n amhosibl peidio â chael ffin galed yn yr amgylchiadau hynny, ac mae'r rhain yn faterion sydd wedi eu claddu yn y tywod ar lefel y DU, hyd yn hyn, a bydd angen eu datrys.

Rwy'n meddwl bod y Prif Weinidog yn awyddus i gael ymagwedd synhwyrol tuag at hyn. Rwy'n credu ei bod hi. Rwy'n credu mai dyna’r rheswm pam yr oedd ei safbwynt fel ag yr oedd cyn y refferendwm. Ond mae yna bobl eraill o'i chwmpas nad ydynt. Liam Fox, Peter Lilley—mae'r rhain yn bobl sydd wedi dweud, ‘Yr hyn yr ydym ei angen yw sefyllfa lle mae diwydiannau gwasanaeth yn cael mynediad i wledydd eraill er mwyn caniatáu i’r nwyddau a weithgynhyrchir ganddynt i ddod i'r DU.’ Mae gan hynny'r potensial i ddinistrio gweithgynhyrchu yn y DU, ac nid dyna beth y pleidleisiodd y bobl amdano. I mi, mae'n hynod o bwysig ein bod ni mewn sefyllfa lle gallwn gael mynediad i'r farchnad sengl Ewropeaidd——mae hynny’n wir—ond ni fyddaf yn derbyn unrhyw beth a fyddai'n arwain at danseilio gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae ef wedi sôn am gytundebau masnach rydd—mae'n rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â hynny. A yw eisiau cytundeb masnach rydd â Seland Newydd? Oherwydd byddai hynny'n golygu diwedd y cwotâu a'r tariffau ar gig oen, a chig oen yn llifo’n rhydd i'r DU. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, iawn o'r hyn y mae cytundeb masnach rydd yn ei olygu mewn gwirionedd, ac edrych yn ofalus iawn ar y manylion.

Dyna pam y bydd yn cymryd llawer iawn o flynyddoedd i gytundebau masnach rydd gael eu trafod. Nid oes ffordd yn y byd i gytundebau masnach rydd gael eu trafod o fewn dwy flynedd—mae hynny'n amhosibl. Cymerodd y cytundeb gyda Chanada saith mlynedd dim ond i’w drafod. Yna mae’r mater o gael cytundeb gan Senedd y DU, o ddwy senedd ranbarthol yng Ngwlad Belg, aelod-wladwriaethau—ac mae un ohonynt eisoes wedi dweud na fyddai'n cytuno i unrhyw beth heb gydsofraniaeth dros Gibraltar. Mae’n rhaid datrys yr holl faterion hyn. Nid yw dim o hyn yn hawdd. Mae’n rhaid eu datrys, rwy’n gwybod hynny, ond mae meddwl bod hwn yn ddewis hawdd, ymhell o fod yn wir.

O ran y meysydd sydd wedi'u datganoli, wel, gadewch i mi roi un enghraifft i chi o ble y byddai'n gwneud synnwyr i ni gael un polisi cydlynol ledled Prydain Fawr: iechyd anifeiliaid. Does dim synnwyr mewn cael tair system wahanol o ran iechyd anifeiliaid ledled Prydain Fawr. Ac i mi, y gwir amdani yw ei bod yn gwneud synnwyr i gael cytundeb rhwng y tair Llywodraeth, gydag un system gyffredin—mae hynny’n amlwg yn gwneud synnwyr. Efallai bod dadl i gael fframwaith cyffredin ar gyfer amaethyddiaeth, fel nad oes unrhyw rwystrau yn y DU i fasnachu o fewn y DU. Gallaf weld bod hynny’n rhywbeth a fyddai’n fanteisiol.

Mae'n siarad am arian—ni fyddai’n beth da o dan unrhyw amgylchiadau i ffermio yng Nghymru weld y llif presennol o arian o Ewrop yn diflannu i mewn i'r Trysorlys. Rydym yn cael £260 miliwn y flwyddyn i ffermwyr yng Nghymru. Mae gennym lawer mwy o gyfran o'r gwariant nag y byddai fformiwla Barnett yn ei roi i ni—gwariant mwy o lawer. Felly, mewn gwirionedd, byddwn mewn sefyllfa lawer, lawer gwaeth pe byddem yn colli'r gyfran honno o'r arian. Y pryder sydd gen i yw y byddwn, yn 2020, yn cael gwybod ‘Cewch, fe gewch chi’r arian, yn unol â fformiwla Barnett’. Os gwneir hynny, mae'n doriad enfawr i ffermio yng Nghymru, ac ni fyddem yn gallu cadw'r system gymhorthdal ​​bresennol i fynd. I mi, yr hyn sydd ei angen arnom yw gwarant y bydd cyfran bresennol y cyllid yn parhau i'r dyfodol. Os gwneir hynny, bydd yn datrys y sefyllfa.

Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, wrth gwrs, nad ydym yn y pen draw mewn sefyllfa lle mae gennym y pwerau, ond nid yr arian. Ac mae'n hynod o bwysig, oherwydd y dywedwyd wrthym y byddai bonws Brexit, bod hynny'n cael ei ddosbarthu'n deg i bobl Cymru. Ac mewn amaethyddiaeth, nid yw hynny’n golygu cyfran yn ôl fformiwla Barnett—mae’n golygu mewn gwirionedd y math o gyfran yr ydym yn ei gael yn awr.

Y sgyrsiau gyda Masnach a Buddsoddi’r DU—mae’n anghywir ynglŷn â Masnach a Buddsoddi y DU. Rydym yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnawn gyda Masnach a Buddsoddi’r DU—mae gennym berthynas dda gyda nhw; nid oes unrhyw wrthdaro rhyngom ni—ond mae'r penderfyniadau buddsoddi mawr sydd wedi dod i Gymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dod trwy waith caled y Gweinidogion ac, yn wir, swyddogion—mae Aston Martin, lle’r oeddwn i ddoe, yn un enghraifft o hynny. Gwnaethpwyd hynny yn gyfan gwbl gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ond rydym ni yn gweithio gyda Masnach a Buddsoddi’r DU. Maent wedi rhoi cymorth i ni yn y gorffennol, ac mae'r berthynas yn dda, ac mae hynny'n mynd i barhau yn y dyfodol—nid oes angen i hynny newid.

Ond mae'n rhaid i ni ddeall bod llawer, llawer o faterion y mae angen eu datrys mewn cyfnod byr iawn o amser. Rydym yn sôn am ddwy flynedd a hanner i sefydlu cytundeb ar gyfer y DU a fydd o fudd i'r DU. Mae hynny'n dasg anodd dros ben. Ar y lleiaf, mae angen i Lywodraeth y DU fod yn gallu bod mewn sefyllfa i ddeall ble y mae eisiau mynd ar y cam hwn. Os nad yw wedi cyrraedd y cam hwnnw eto, yna sut ar y ddaear y bydd mewn sefyllfa i ddeall sut ddylai'r trafodaethau hyn edrych dros gyfnod dwy flynedd y trafodaethau hynny? Nawr, o’m rhan i, nid wyf yn dechrau o’r safbwynt o gael fy ngweld yn feirniadol yn gyhoeddus o Lywodraeth y DU wrth iddi barhau â'i thrafodaethau. Byddai'n well gennyf fod mewn sefyllfa lle y byddai gennym ffordd ymlaen yr ydym wedi cytuno arni—byddai’n well gen i fod mewn sefyllfa lle y byddai gennym ffordd ymlaen yr ydym wedi cytuno arni. Ond ym mis Mawrth, hoffwn weld bod Llywodraeth y DU wedi ystyried barn y Llywodraethau datganoledig, ac wedi dod i safbwynt y gall y Llywodraethau datganoledig gytuno arni. Ar y sail honno, mae'n gwneud synnwyr perffaith, wedyn, i fynd i’r trafodaethau ym mis Mawrth gan sefyll ynghyd. Ond dyna yw'r her i Lywodraeth y DU. Does dim pwynt i Lywodraeth y DU ddweud, ‘Dyma beth yr ydym yn mynd i'w wneud’, a pheidio â gofyn am farn y Llywodraethau datganoledig, neu eu cytundeb. Os ydym yn mynd i wneud hyn yn iawn ar gyfer y DU, mae angen cymaint o gytundeb ag y bo modd, er mwyn gwneud yn siŵr, dros y ddwy flynedd nesaf, nad ydym yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle rydym yn cymryd ergyd economaidd enfawr.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Bydd ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno a bydd gennym safbwyntiau gwahanol o ran yr angen am safbwynt mwy brys a mwy clir ar ran Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’n hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd. Ond hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau iddo ar yr hyn sydd wedi ei sicrhau yng nghyfarfod llawn diweddar Cydbwyllgor y Gweinidogion.

Yn ei ddatganiad, mae'n sôn am yr angen i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, gonsensws ledled y DU. Yr hyn sy'n allweddol yn hyn o beth, wrth gwrs, yw’r dull priodol ar gyfer cyflawni hynny. Mae wedi crybwyll y bydd gan Gydbwyllgor y Gweinidogion gorff newydd—Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau Ewrop). A all roi gwybod i ni os bydd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei wneud yn gyfrifol ac yn atebol i'r corff Cydbwyllgor y Gweinidogion newydd hwn, neu a bydd yn fwy o gorff ymgynghorol ar gyfer gwasanaeth sifil Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Ai swyddogaeth y corff hwnnw yw ceisio sicrhau’r safbwynt a rennir yn y DU y mae’n sôn amdano, neu a fydd gallu drwy’r corff hwnnw i sicrhau trefniadau Brexit pwrpasol ar gyfer pob rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig? Tybed os gall roi syniad i ni a yw'r corff hwnnw yn mynd i fod yn sail i sefyllfa drafod Brexit y DU.

Yn ei ddatganiad, mae'n cyfeirio at yr angen i addasu trefniadau cyllido Cymru er mwyn lliniaru a darparu ar gyfer y ffaith y byddwn yn tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cytuno â hynny, ond a all ddweud wrthym a yw hyn eisoes yn nodwedd o drafodaethau ei Lywodraeth gyda'r wladwriaeth Brydeinig ar fframwaith cyllidol newydd i Gymru? A fydd y fframwaith hwnnw, o'r cychwyn cyntaf, yn ffactor yn effaith Brexit, neu a fydd angen ail-drafod fframwaith cyllidol newydd bron ar unwaith wrth fabwysiadu'r un cyntaf?

Mae'n sôn yn ei ddatganiad am ymfudo, ac rwy’n croesawu ei sylwadau yn condemnio senoffobia a hiliaeth yn llwyr, a’i neges, hefyd, o groeso i ddinasyddion yr UE sy'n byw yma nawr ac sy'n cyfrannu at ein gwlad, a bydd Plaid Cymru yn ymuno ag ef i gondemnio unrhyw hiliaeth a senoffobia sy'n digwydd. A yw wedi cael unrhyw syniadau pellach ar oblygiadau ehangach polisi mewnfudo newydd yn y DU ar economi Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus yn benodol? Rwy'n gofyn yn benodol ynglŷn â’r posibilrwydd i Gymru a Llywodraeth Cymru fod â’r gallu i gyhoeddi trwyddedau gwaith ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau, pan fo prinder sgiliau neu arbenigedd yn y sectorau cyhoeddus neu breifat, y bydd ei Lywodraeth yn gallu cyhoeddi trwyddedau gwaith parhaol a dros dro, fel nad oes gennym system un ateb i bawb ar gyfer mewnfudo yn y DU a allai fod yn anfanteisiol i Gymru, ond a allai fod, efallai—galwch fi’n sinig—er budd rhywle fel Dinas Llundain?

Mae'n briodol bod y Prif Weinidog wedi tynnu sylw at yr heriau cyfansoddiadol hynny sydd gennym a'r rhai a fydd yn dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Mae’r Bil diddymu Ewropeaidd, neu, fel y mae rhai yn cyfeirio ato, y Bil diddymu mawr, yn un o'r heriau hynny, yn enwedig mewn cysylltiad â’r materion sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn iddo o’r blaen a oedd yn rhagweld yr angen am Fil diddymu Ewropeaidd ar gyfer Cymru. Tybed a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni o ran pa un a yw ef yn credu y bydd angen, ar ryw adeg neu’i gilydd, am Fil diddymu penodol ar gyfer Cymru neu hyd yn oed, os caf ddweud, Bil parhau ar gyfer Cymru, fel bod eglurder, cyn belled ag y mae'n mynd, o ran deddfwriaeth Ewropeaidd flaenorol a dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop blaenorol fel y maent yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli yng nghyfraith Cymru, fel y cyfeiriodd atynt yn ei ddatganiad.

Rwy’n croesawu ei negeseuon clir iawn o ran y cyfansoddiad na fydd dim goddefgarwch ar ran Llywodraeth Cymru os daw i ymgais i ennill pŵer gan y wladwriaeth Brydeinig ar faterion sydd wedi'u datganoli, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi’r ymagwedd synhwyrol iawn ar gyfer cydweithredu rhwng llywodraethau’r ynysoedd hyn pan ddaw i faterion pan fo cydweithredu yn hanfodol—amaethyddiaeth, ffermio, a'r amgylchedd, er enghraifft. A all ef, felly, fynd â ni gam ymhellach a rhannu, efallai, gweledigaeth o sut y mae'n credu y gellir gwneud hynny ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Ydy ef, er enghraifft, yn credu y dylai Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau Ewropeaidd), ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, droi’n gyngor Gweinidogion y DU parhaol, sy'n rhannu gweision sifil ymysg yr holl Lywodraethau datganoledig a’r Llywodraeth ganolog, fel bod yna strwythur rhynglywodraethol parhaus sy'n gallu darparu ar gyfer gwahanol anghenion y Deyrnas Unedig ac sy’n gallu hwyluso cydweithredu, yn hytrach na'r modd braidd yn ad hoc ac annerbyniol, y byddwn i’n dadlau, yr ydym yn cynnal cysylltiadau rhynglywodraethol yn hyn o bryd?

Yn olaf, mae'n crybwyll cyhoeddiad Nissan. A fu Prif Weinidog y DU yn ddigon cwrtais i roi gwybod i'r Prif Weinidog a phenaethiaid llywodraethau eraill yng nghyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion fod cyhoeddiad Nissan ar fin digwydd? Neu a yw'r Prif Weinidog yn cael yr argraff o natur y cyhoeddiad hwnnw bod ymagwedd y DU, os gallwn ni ei alw'n ymagwedd tuag at Brexit, yn ymagwedd fesul sector, yn hytrach na fesul cenedl? Ac a yw'n gallu egluro a fydd yr addewidion a wnaed i Nissan yn berthnasol i wneuthurwyr ceir yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fel y soniodd, mae'n ddiwydiant hanfodol bwysig yma, sy'n werth £3 biliwn ac yn cefnogi tua 18,000 o swyddi. Ac yn olaf, Lywydd, a wnaeth ef ffonio llinell frys Brexit newydd Llywodraeth y DU, efallai i ofyn rhai o'r cwestiynau hyn, ac, os felly, a yw'n teimlo bod ei alwad yn bwysig iddynt? [Chwerthin.]

Dydw i ddim wedi ffonio’r llinell gymorth eto. Byddwn yn gobeithio y byddai'n rhoi mwy o wybodaeth i mi na phe bawn i'n ffonio’r cloc siarad, ond, hyd yn hyn, y cyfan mae’r unigolyn ar ben arall y llinell gymorth honno wedi dweud wrthyf yw, ‘Bydd popeth yn iawn’. Felly, nid wyf yn siŵr bod yr wybodaeth mor fanwl ag y dylai fod ar y cam hwn.

Mae'n codi nifer o bwyntiau pwysig. Pe gallwn ymdrin â Nissan yn gyntaf, cafodd ei wneud yn glir ddydd Llun bod Llywodraeth y DU yn dal i ystyried strategaeth Brexit a oedd yn cynnwys tariffau. Gofynnais i'r Prif Weinidog i’w hwyneb ddiystyru unrhyw strategaeth, unrhyw gytundeb, a fyddai'n cynnwys tariffau, a gwrthododd wneud hynny. Yna cawsom y newyddion bod Nissan wedi gwneud y cyhoeddiad hwn. Yna cawsom y newyddion bod Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio yr hyn y gallaf ond ei ddisgrifio fel ei hymdrechion gorau i sicrhau mynediad di-dariff at y diwydiant modurol.

Allwn i ddim anghytuno â hynny, ond beth am y sectorau eraill? Mae'n ymddangos fel ymagwedd gwbl dameidiog heb unrhyw fath o strategaeth gyffredinol. Beth y mae hyn yn ei olygu i Airbus? Beth mae hyn yn ei olygu i Tata? Nid ydym yn gwybod. Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw bod cytundeb wedi ei drafod, mae'n debyg, ar gyfer cwmni modurol heb i unrhyw arian fod yn rhan o hwnnw. Nawr, nid wyf yn credu hynny. Rwy'n credu ei bod yn hynod o bwysig ac, yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn iddo ddatgelu manylion llawn y setliad ariannol. Mae angen i ni wybod. Mae hwn yn fater i’r DU. Os yw Llywodraeth y DU wedi gwneud addewid y bydd yn gwneud yn iawn am dariffau ac yn gwneud hynny ar gyfer pob sector, byddwn yn talu mwy nag a wnaethom pan oeddem yn aelodau o'r UE, ac yn talu cwmnïau yn hytrach na thalu’r UE. Felly, nid ydym yn gwybod. Mae hyn yn amlwg yn ymagwedd sy'n dameidiog ac nid yw'n un sydd wedi ei hystyried yn drylwyr, ac mae angen i hynny newid. Mae angen cael strategaeth ynglŷn â hyn fel bod pobl yn deall i ble maen nhw'n mynd.

Rwy’n croesawu, wrth gwrs, yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog cyn Cydbwyllgor y Gweinidogion o ran amlder y cyfarfodydd, oherwydd y cytunwyd ar hynny i gyd yn 2014. Felly, nid wyf yn synnu ei bod wedi ailadrodd yr hyn y gwnaethom ni i gyd gytuno arno yn 2014, beth bynnag. Ond ie, y mae, wrth gwrs, yn ddefnyddiol bod cyfarfod llawn Cydbwyllgor y Gweinidogion yn cyfarfod yn fwy rheolaidd a bod y Prif Weinidog yn dod i gyfarfod llawn Cydbwyllgor y Gweinidogion.

Mae'n codi’r pwynt am gyngor gweinidogion posibl. Mae hynny'n hanfodol yn fy marn i, oherwydd bydd angen inni gael dull lle y gallwn gael cytundeb ledled cenhedloedd y Deyrnas Unedig wrth ystyried datblygu fframweithiau cyffredin. Mae cynsail ar gyfer hyn, oherwydd, pan oeddwn yn ysgrifennydd amaethyddiaeth yn ôl yn 2000, 2001, roeddem yn arfer cyfarfod bob mis a chytuno ar safbwynt y DU yng Nghyngor y Gweinidogion. Roedd hynny'n cael ei ystyried yn beth eithaf arferol. Felly, mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai ddigwydd eto yn y dyfodol.

Ynglŷn â thrafodaethau Cydbwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop, nid corff cynghori mohono. Yn sicr, fe'i gwnaed yn glir iawn nad yw hwn yn gorff sydd wedi ei sefydlu i Lywodraeth y DU gael dweud wrthym beth y mae'n mynd i'w wneud, heb fod gennym ni’r gallu i fynegi ein barn ein hunain ac i sicrhau ein bod yn cytuno ar y ffordd ymlaen. Felly, nid seinfwrdd mohono ac nid hysbysfwrdd o unrhyw fath; y bwriad yw iddo fod yn fforwm priodol ar gyfer penderfynu ar y ffordd ymlaen.

O ran y fframwaith cyllidol, ar hyn o bryd mae popeth yn cael ei ystyried yn rhan o'r fframwaith cyllidol. Ond yn y pen draw, wrth gwrs, gwyddom fod materion fel Barnett yn parhau, nad ydynt yn ffafrio Cymru. Rydym yn gwybod bod cwestiynau heb eu hateb o ran yr hyn sy'n digwydd ar ôl 2020, ac nid oes gennym atebion i'r cwestiynau hynny eto.

Mae'n codi'r pwynt diddorol am drwyddedau gwaith ar gyfer Cymru. Mae ef wedi codi hyn gyda mi o'r blaen. Rwy'n credu ei fod yn fater y mae angen ei ystyried yn ofalus, ac mae'n fater y mae gennyf beth diddordeb ynddo, i weld sut y byddai hynny'n gweithio ar lefel y DU. Nid wyf yn rhannu'r farn, os ydw i’n onest, ei bod yn bosibl cael trefniadau gwahanol ar gyfer gwahanol genhedloedd cyfansoddol o’r DU o ran eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn gweld sut y byddai hynny'n gweithio. Os, er enghraifft, y byddai gan yr Alban ffurf wahanol o fynediad i'r farchnad sengl, byddai hynny'n anochel yn golygu gwahanol lefelau o dollau a ffin. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn cael aelod-wladwriaeth â threfniadau gwahanol o fewn yr aelod-wladwriaeth, yn enwedig pan fo gan yr aelod-wladwriaeth honno wledydd sydd ynghlwm wrth ei gilydd. Mae'n hawdd i’r Ynys Las. Nid yw mor hawdd i Gymru, Lloegr a'r Alban. Yr hyn yr wyf i am ei weld yw cytundeb da ar gyfer y DU gyfan, ac yn arbennig, wrth gwrs, cytundeb da ar gyfer Cymru.

Rwy’n rhannu ei bryder—a nodais y pwynt hwn wrth Brif Weinidog y DU—dydw i ddim eisiau gweld buddiannau Dinas Llundain yn cael eu hystyried fel y peth pwysicaf ac yn fwy pwysig na buddiannau unrhyw sector arall. Rydym yn gweld ar adain dde galed y Blaid Geidwadol—fe ddaeth gan Peter Lilley, ac fe ddaeth gan Liam Fox, fe ddaeth gan Patrick Minford—mai’r hyn yr ydym ei angen yw i ddiwydiannau gwasanaeth gael mynediad at farchnadoedd eraill, ond nad yw gweithgynhyrchu’n bwysig. Nid wyf yn cytuno â'r farn honno, mae'n ddrwg gennyf, ac nid wyf yn credu bod y bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit yn meddwl eu bod yn pleidleisio i weld y diwydiant gweithgynhyrchu yn diflannu o Gymru neu weddill y DU.

O ran y Bil diddymu, fy nealltwriaeth i yw y bydd yn ystyried ymdrin â'r sefyllfa yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn ymwreiddio cyfraith bresennol yr UE yn y gwledydd perthnasol. Bydd yn fater i'r Cynulliad hwn, yn gyfan gwbl, wedyn i benderfynu pa rai o'r deddfau hynny y mae'n dymuno eu cadw ai peidio. Ni fyddai unrhyw beth, yn fy marn i, wrth gwrs, i atal y Cynulliad, os oedd yn dymuno, rhag gweithredu cyfarwyddebau’r Comisiwn, mewn gwirionedd, hyd yn oed pe baem y tu allan i'r Comisiwn, pe byddai o’r farn y byddai hynny o gymorth i fusnes. Mae'r rhain i gyd yn faterion y bydd angen eu harchwilio, ond, unwaith eto, ni ellir defnyddio'r Bil diddymu mawr honedig fel dull o gael gwared ar bwerau'r Cynulliad hwn a phobl Cymru—nid dyna y pleidleisiodd pobl Cymru ar ei gyfer mewn dau refferendwm.

Mae llawer o gwestiynau na allaf eu hateb gan nad wyf wedi cael yr atebion gan Lywodraeth y DU, ond mae'n hollol amlwg i mi bod angen i’r gwaith o ddatblygu’r atebion hynny ddigwydd yn fuan. Rydw i wedi amlinellu ein safbwynt ni fel Llywodraeth. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud yr un fath, fel y gallwn weld beth yw eu barn. Ond nid yw’r dull tameidiog hwn o fynd â chytundeb at gwmni, yn gyntaf oll, yna at sector, yn mynd i weithio. Mae'n gwbl hanfodol bod gennym ddull cydlynol sydd o fudd i bawb a’r holl bobl hynny sy'n byw yng ngwledydd cyfansoddol y DU.

Pam fod y Prif Weinidog yn dal i siarad iaith Armageddon? Mae'r datganiad hwn yn sôn bod methiant o ran masnach Ewropeaidd yn bosibilrwydd. Hyd yn oed os nad ydym, mewn gwirionedd, yn dod i unrhyw gytundeb â'r UE, mae'n amhosibl y bydd methiant ym masnach y byd. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau i mi bod y DU wedi allforio £135 biliwn mewn nwyddau a £89 biliwn mewn gwasanaethau i’r UE? Dyna £110 biliwn yn llai nag y gwnaethant ei allforio i ni. Mae'n gyfan gwbl er lles yr UE i ddod i gytundeb masnach rydd gyda ni, oherwydd, os nad ydynt yn gwneud hynny, byddant yn achosi trafferth i’w hunain yn ddiangen. Nid yw Llywodraeth Prydain, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, yn dymuno gweld tariffau yn cael eu gosod ar allforion rhwng yr UE a'r DU o’r naill ochr na’r llall. Comisiwn yr UE a grymoedd amddiffynnol eraill yn yr UE yn unig sy’n siarad am osod tariffau, felly beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio dylanwadu ar y Llywodraethau y tu mewn i'r UE, ar wahân i'r DU, i fod o blaid y fasnach rydd y byddem ni i gyd, fel arall, ei eisiau?

Dim ond 1.1 y cant yw'r tariff cyfartalog y mae’r UE yn ei osod yn erbyn trydydd wledydd, ac mae 75 y cant o'r holl nwyddau a gwasanaethau yn masnachu'n rhydd rhwng yr UE a gweddill y byd ar dariff sero. Onid yw'n gwbl amhriodol felly, i ddweud bod methiant mewn masnach Ewropeaidd rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd yn bosibilrwydd?

O ran rhannau eraill y datganiad, ar y cwestiwn o ddychwelyd pwerau, a wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod UKIP yn gwbl o blaid dychwelyd pwerau, nid yn unig i San Steffan ond i Gaerdydd? Mae hwn yn gyfle enfawr i ni yn y Cynulliad hwn ac, yn wir, yn Llywodraeth Cymru. Byddwn yn adennill rheolaeth dros bolisi amaethyddol, byddwn yn adennill rheolaeth dros bolisi amgylcheddol a bydd gennym, yn ein dwylo ni ein hunain, bob math o ysgogiadau nad oes gennym ar hyn o bryd dros bwerau i wneud economi Cymru yn fwy cystadleuol yn y dyfodol. Yn y bôn, dyna beth ydyw—mae'n gyfle i fasnachu’n gystadleuol, nid yn unig gyda'r UE, ond gyda gweddill y byd, sydd, wedi'r cyfan, yn 85 y cant o'r economi fyd-eang.

Rwyf wedi darllen cofnodion cyfarfod y grŵp cynghori Ewropeaidd ar 28 Medi, ac mae'n ddiddorol iawn gweld pwy sydd, mewn gwirionedd, ar y pwyllgor hwn. Un person, hyd y gwelaf i, allan o ryw ddau ddwsin, sydd ag unrhyw brofiad busnes ymarferol, sef Kevin Crofton. Mae'r lleill i gyd yn bobl deilwng iawn, ond maent yn academyddion, yn arbenigwyr polisi neu’n wleidyddion—ar eu pensiwn neu fel arall. Yr hyn ddylem ni fod yn ei wneud, neu’r hyn ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud, yw cymryd cyngor gan y bobl sydd mewn gwirionedd allan yno yn gwneud nwyddau ac yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn y byd, oherwydd dyna o ble y mae cyfoeth economi Cymru yn dod yn awr, a dyna o ble y bydd yn dod yn y dyfodol. Felly, yr hyn y dylai ef fod yn ei wneud yw gofyn iddynt, ‘Ym mha ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r rhyddid newydd hwn a gawn a'r pwerau newydd y byddwn yn eu cael er budd y bobl sy’n creu cyfoeth i Gymru a'r swyddi sy'n dibynnu arnynt?’

Rwy'n falch iawn o weld bod y Prif Weinidog yn siarad yn nhermau ymfudo a reolir, yn hytrach nag, unwaith eto, y mathau hyn o sefyllfaoedd Armagedon o adeiladu waliau ar hyd y Sianel i gadw’r hen bobl dramor ffiaidd allan. Nid oes neb yn siarad yn y termau hynny o gwbl. Mae'n gwybod cystal â phawb arall yn y Siambr hon bod y ddadl Brexit wedi ei dominyddu’n fawr iawn gan yr ofnau a’r drwgdeimlad a grëwyd gan ymfudo heb ei reoli yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o bleidleisiau o blaid Brexit yn yr ardaloedd y mae Llafur wedi dibynnu arnyn nhw yn ystod y ganrif ddiwethaf am y nifer fwyaf o bleidleisiau. O ganlyniad i hyn, anwybyddu dymuniadau y Cymry, nid pobl Brydain yn unig, fyddai cilio rhag y rhwymedigaeth a osodir arnom ni i gyd, yn fy marn i, er mwyn sicrhau ymfudo a reolir. Ond, wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys pobl yn symud ar draws ffiniau. Wrth gwrs, mae economi Cymru yn dibynnu ar gyfnewid, yn yr un modd ag y mae pob economi—ar wahân i systemau caeedig megis Gogledd Corea—am economi iach a chynyddol. Yr hyn sy'n bwysig yw: beth yw telerau’r polisi ymfudo? Felly, yr hyn nad ydym ni eisiau yw mewnfudo heb ei reoli a di-grefft ar draws ffiniau, oherwydd dyna beth sydd wedi achosi’r prif broblem, a’r bobl sy’n dioddef fwyaf yn sgil y fath mewnfudo heb ei reoli, yw’r rhai sydd ar waelod y raddfa incwm, gan fod tuedd i hynny ostwng cyflogau ac felly gostwng safonau byw.

O ran yr aneglurder yn safbwynt trafod Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, a yw'r Prif Weinidog o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i ni wahodd David Davis a Liam Fox, efallai, i Gaerdydd i sesiwn Cyfarfod Llawn y Cynulliad hwn, yn yr un ffordd ag y mae Alun Cairns yn dod yma o dro i dro, er mwyn i ni allu clywed o lygad y ffynnon yr hyn maen nhw’n ei feddwl ac, i'r graddau yr ydym yn gallu ei ddirnad, holi’r math o gwestiynau y mae’n amlwg wedi methu â chael atebion iddyn nhw yn ei ymdrechion ei hun i wneud hynny?

Mae hwn yn antur fawr yr ydym wedi cychwyn arni nawr, pa un a yw hynny yn ein plesio ai peidio, pa un a oeddem o blaid canlyniad y refferendwm ai peidio, ond, fel y dywedais yn fy nghwestiwn yn gynharach, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod hwn yn gyfle gwych i ni yng Nghymru, nad ydym wedi ei gael o'r blaen, i reoli ein tynged ein hunain? Caiff gwleidyddion eu hethol gan y bobl a gallan nhw ein diswyddo ni hefyd os nad ydyn nhw’n hoffi’r hyn yr ydym yn ei wneud, yn wahanol i'r Comisiwn ym Mrwsel a'r rhai sydd ar hyn o bryd yn llunio polisïau ar ein cyfer ac nad ydynt, yn y pen draw, yn atebol i bobl y wlad hon neu, yn wir, i unrhyw wlad arall, ac sydd, yn sgil y diffyg atebolrwydd hynny, yn gosod coron ddrain ar bobloedd Ewrop ar ffurf ardal yr ewro, sy'n beiriant enfawr o dlodi ac sy’n gwneud cyfandir cyfan yn dlawd, gan gyfyngu ar gyfleoedd allforio Prydain, a Chymru yn benodol. Felly, gofynnaf i'r Prif Weinidog groesawu’r dyfodol, croesawu’r cyfle sydd gennym heddiw. Peidiwch ag ofni’r dyfodol; ein dyfodol ni yw hi.

Unwaith eto, mae’n ymddangos ein bod yn dadlau’r refferendwm a gafwyd ym mis Mehefin. Nid oes pwynt dadlau ar hynny eto; mae hynny’n glir, ac mae'r canlyniad yn glir o ran y cyfeiriad. Ond rwy’n credu bod angen dos o realiti arnom yma. Pe bai gennym gytundeb masnach rydd â'r Unol Daleithiau, fyddai neb yn dymuno’i beryglu—neb. Ni fyddai neb yma yn dweud, ‘Yr hyn yr ydym ni eisiau yw bod mewn sefyllfa lle gallai fod rhwystrau ar waith mewn masnach rhyngom ni a'r Unol Daleithiau’. Mae'r UE yn farchnad lawer, lawer mwy. Mae'n fwy na America a Rwsia ar y cyd. Wrth gwrs, mae'r UE yn allforio mwy mewn gwerth ariannol i'r DU nag y mae’r DU yn ei wneud i'r UE, oherwydd ei fod wyth gwaith yn fwy na’r DU. Yn wir, ar ffurf canran, rydym yn allforio tua 40 y cant i’r farchnad Ewropeaidd, a daw 8 y cant o allforion Ewropeaidd i mewn i'r DU. Felly, fel canran, nid yw'r DU yn farchnad fawr o’i chymharu â gwledydd eraill.

Nawr, y perygl y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r math o rethreg a gafwyd yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, sydd ond yn llwyddo i uno gwledydd Ewrop yn ein herbyn. Yn sicr, nid dyna yr ydym ni eisiau ei wneud. Mae digon o wledydd yn Ewrop nad ydynt yn credu mewn integreiddio agosach fyth. Maen nhw yno—y Weriniaeth Tsiec yn un ohonynt, Denmarc yn un ohonynt —ac mae'n gywir dweud bod tensiynau yn yr UE, ond fe fyddai’n eironig pe unai’r UE yn erbyn y DU oherwydd agwedd y DU. Felly, mae'n rhaid i ni osgoi hynny ar bob cyfrif. Mae'n arwydd o haerllugrwydd imperialaidd i feddwl y bydd pawb yn syrthio wrth draed y DU; dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny. Nid yw'r DU yn floc masnachu mawr. Nid yr UE mohoni, nid America mohoni, nid Rwsia, nid India. Mae’n rhaid iddi ymladd yn graff i allu gwerthu ei nwyddau.

O ran pwerau, roeddwn i'n meddwl ei fod bron yn gwneud achos dros annibyniaeth i Gymru ar un adeg. Gwn fod ei blaid wedi bod ar daith hir, ond nid oeddwn i’n credu bod y daith mor hir â hynny. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn cael y math iawn o gyngor ar gyfer y dyfodol. Gallaf ddweud wrtho: rwy’n siarad â chwmnïau sydd wedi buddsoddi yng Nghymru ac rwy’n siarad â buddsoddwyr posibl, ac maen nhw i gyd, yn ddieithriad—yn ddieithriad—yn dweud wrthyf eu bod yn ansicr am y dyfodol, oherwydd nad ydynt yn gwybod beth fydd perthynas y DU ag Ewrop. Nawr, rhowch eich hun yn sefyllfa Airbus, rydych chi’n weithrediad Ewropeaidd hynod integredig, rydych chi eisiau gwybod pa un a fydd unrhyw rwystrau rhwng eich gweithrediadau yn Broughton a Toulouse. Nid ydyn nhw’n gwybod yr ateb i hynny eto. Rhowch eich hun yn sefyllfa cwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydych eisiau gwybod pa un a fydd tariff yn cael ei osod ar y peiriannau, a gaiff eu hallforio bob un—pob un—i’r Almaen, a thariff arall ar y ceir cyflawn sy’n dod yn eu hôlau. Nid yw’r atebion ar gael ar hyn o bryd. Nawr, pe gellir darparu’r atebion hynny, credaf ei fod yn gywir, credaf y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle gallwn weld sefydlogrwydd economaidd unwaith eto, ond nid oes gennym yr atebion hynny eto ac nid yw'r rhain yn faterion hawdd eu datrys. Mae angen y penderfyniad hwnnw arnom.

I mi, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, mae’n rhaid i ni gael sefyllfa lle nad oes unrhyw dariffau, a byddai hynny o gymorth. Ond, gadewch i ni beidio ag esgus y bydd pethau yn iawn os nad oes gennym gytundeb ar ôl dwy flynedd—bydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu cymhwyso. Nid oes gan yr UE unrhyw reswm i fod yn garedig i'r DU, nid lleiaf oherwydd eu bod eisiau annog eraill a fyddai eisiau gwneud yr un peth. Y gwirionedd yw y gall yr UE chwilio am farchnadoedd eraill yn rhywle arall. Mae llawer iawn o filoedd o swyddi yng Nghymru sy'n dibynnu ar ein mynediad dilyffethair at y farchnad sengl. Pam y byddai rhywun yn dod i'r DU, yn hytrach na'r UE, os oedden nhw’n ddwy farchnad gwbl ar wahân? Pam mynd i farchnad o 60 miliwn yn lle marchnad o 500 miliwn? Nid oes unrhyw ffordd y bydden nhw’n dod yma. Mae’r holl gwmnïau hynny yn y DU sydd yma—Nissan yn un ohonynt. Yr unig reswm y mae Nissan yn y DU yw i allu gwerthu yn y farchnad Ewropeaidd—dyna ni. Mae Ford yn yr un sefyllfa, mae Airbus yn yr un sefyllfa. Os nad ydyn nhw’n gallu gwerthu heb rwystr—wrth gwrs y gallan nhw werthu—heb rwystr ar waith, nid oes rheswm iddyn nhw aros ac nid oes rheswm iddyn nhw ddod yma yn y lle cyntaf. Bydd, bydd masnach, ond nid ar yr un lefel ag sydd gennym ar hyn o bryd. Os oes gennym gytundeb masnach rydd gyda bloc masnachu mawr arall, ni fyddem yn dadlau dros sefyllfa a allai olygu rhwystrau tariffau. Mae'n ymddangos yn eithaf amlwg i mi ac i eraill rwy’n gobeithio.

Felly, mae llawer o waith i'w wneud. Mae'n sôn am gyfleoedd. Mae yna rai. Efallai na fydd rheolau cymorth gwladol yn gymwys, oni bai bod San Steffan yn gosod rheolau yn eu lle. Mae'n iawn i ddweud y gallwn lywio amaethyddiaeth a physgodfeydd, ond heb yr arian, ni allwn gael hyn o gwbl. Felly, mae angen cael setliad ariannol ar lefel y DU sy'n deg i bob gwlad, sy'n ein galluogi i ddefnyddio ein pwerau yn effeithiol. Dyna'r ansicrwydd sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.

Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y sefyllfa bresennol, sy’n ansicr—nid oes dwywaith am hynny—yn cael ei datrys cyn gynted â phosibl. Wrth galon hynny y mae’r angen i Lywodraeth y DU ddatgan, nid ei strategaeth drafod fanwl—nid wyf yn disgwyl iddi gael hynny ar hyn o bryd, o bosibl, ac nid wyf yn disgwyl iddyn nhw ddweud wrthym amdano—ond o leiaf yr egwyddorion cyffredinol. Beth yw'r llinellau coch? Beth sy'n dderbyniol? Beth nad yw’n dderbyniol? Nid ydym ni wedi cyrraedd y cam hwnnw eto; mae angen i ni ei gyrraedd yn fuan.

Rwy’n sylweddoli’r cyfyngiadau amser felly byddaf i’n gyflym ac yn fyr. Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y diweddariad a gawsom ac rwy'n edrych ymlaen at eich holi chi yr wythnos nesaf pan fyddwch chi’n dod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y mater penodol hwn.

Credaf ei bod yn bwysig heddiw i dynnu sylw at y ffaith nad gweithgynhyrchu yw'r pris y byddwn ni’n ei dalu ar gyfer y sector ariannol yn ne-ddwyrain Lloegr. Bydd yn cael effaith ddinistriol ar fy etholaeth i a fy etholwyr i, fel y gwyddoch eisoes, gyda’r mater o ddur ac agweddau eraill. Felly, ni fyddaf yn ymhelaethu ar y pwynt hwnnw.

O ran y Bil diddymu mawr, rwy’n cytuno â Steffan Lewis: efallai nad y Bil 'mawr' yw'r term cywir—propaganda ydyw fel y nodwyd ganddo ddoe. Cafodd pwyllgor materion allanol Senedd yr Alban adroddiad mewn gwirionedd gan yr Athro Sionaidh Douglas-Scott ar y posibilrwydd o gael Deddf parhad, sy'n rhoi ar waith y posibilrwydd—pe na byddai’r deddfau yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad hwn—o sicrhau bod ailddatganiad deddfau Ewropeaidd yn dod yma a’n bod ni yn eu cynnwys yn ein cyfreithiau ni. Nawr, mae'n bosibl y cânt eu diddymu gan Lywodraeth y DU, ond mae'n gwneud datganiad os ydym yn canfod bod y Bil diddymu mawr yn ceisio adennill gwybodaeth mewn gwirionedd. A wnewch chi edrych ar y cyfle hwn i sicrhau, os yw'r adennill i’w gael, bod gennym ddewis amgen sy'n gosod y sefydliad hwn wrth galon meysydd cyfrifoldeb datganoledig yr UE? Credaf ei bod yn bwysig i ni edrych ar hynny.

A wnewch chi hefyd dynnu sylw at y cwestiwn ynghylch pa drafodaethau yr ydych yn eu cael â gweinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â'r sylwadau i wladwriaethau'r UE a chyrff partner eraill yr UE i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn Ewrop? Mae'n bwysig ein bod ni’n gallu dylanwadu ar bobl yn Ewrop i sicrhau eu bod yn gwrando ar ein pryderon ni hefyd, er mwyn iddyn nhw ddeall, wrth gyd-drafod ar ran yr UE, safbwynt y Cymry, yn enwedig yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig.

O ran y Bil diddymu, a ydych chi wedi cael cyfle i ddechrau edrych ar y goblygiadau posibl yn sgil Mesur Cymru? Gan y bydd Mesur Cymru yn amlwg yn rhoi safbwynt gwahanol erbyn hyn, oherwydd bydd gennym bwerau a gadwyd yn y sefyllfa hon. Rydym eisoes yn poeni am rai o'r materion hynny a’r effaith y gallai hynny ei chael ar y cyfansoddiad. A byddwn i hefyd yn edrych i weld a ydych wedi cynnal unrhyw drafodaethau. Oherwydd yn amlwg, o’ch datganiad, mae Llywodraeth y DU ar chwâl ac nid yw wedi llwyddo i gael unrhyw fanylion o gwbl. A ydych chi wedi trafod materion megis caffael a'r rheolau o gwbl? O ran cymorth gwladol, er enghraifft, rwy’n tybio y bydd rheolau cymorth gwladol gan y Sefydliad Masnach y Byd os byddwn yn gadael yr UE heb unrhyw ystyriaeth. Felly, byddwn yn parhau i gymhwyso rheolau cymorth gwladol. A ydych chi wedi trafod â gwledydd datganoledig eraill ynghylch sut y byddwn yn defnyddio hynny fel rhyw fath o ddull ar y cyd o ymdrin â sefyllfaoedd pwysig ledled y DU? Mae ein hanghenion yn wahanol i rai yr Alban, mae anghenion yr Alban yn wahanol i anghenion gogledd Lloegr; mae'n bwysig ein bod yn cael barn gyfunol ar hynny.

Rwy’n cytuno â hynny. Y llais nad yw'n cael ei glywed yma, wrth gwrs, yw llais rhanbarthau Lloegr. Nid oes ganddynt lais. Mae gan Lundain faer a’r gwirionedd yw, os ydych chi eisiau siarad â gogledd-ddwyrain Lloegr neu de-orllewin Lloegr, nid oes neb i siarad â nhw mewn gwirionedd. Iddyn nhw, wrth gwrs, maen nhw mewn sefyllfa o beidio â chael llais gwirioneddol yn y trafodaethau hyn, sydd yn fater yr wyf yn flin iawn yn ei gylch.

Yn ganolog i hyn, wrth gwrs, mae anghytundeb sylfaenol o ran yr hyn sy'n digwydd pan ddaw pwerau o Frwsel i’r glannau hyn. Ein dadl ni yw—ac rwy’n meddwl ei bod yn ddadl gywir—nad oes byth angen iddyn nhw fynd i San Steffan; maen nhw’n osgoi San Steffan ac yn dod yn syth aton ni. Yn San Steffan, ymddengys eu bod o farn wahanol, sydd rywsut yn golygu bod pwerau yn dod i San Steffan ac y byddan nhw, mewn rhyw ffordd, yn eu pasio ymlaen. Mae hynny, yn syml, yn anghywir. Nid dyna beth y mae’r setliad datganoli yn ei ddangos mewn gwirionedd, felly mae anghytundeb sylfaenol yno ar hyn o bryd.

Rwy'n credu ei fod yn iawn i ddweud bod yr Alban mewn sefyllfa wahanol. Mae’r Alban yn edrych yn gyhoeddus ar refferendwm annibyniaeth arall; mater i Lywodraeth yr Alban yw hynny. Mae gan Ogledd Iwerddon safbwyntiau hynod, hynod wahanol. Mae gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog safbwyntiau gwahanol ar ddyfodol Gogledd Iwerddon a'i pherthynas â'r UE. Felly, mae cyrraedd cytundeb ar y ffordd ymlaen yng Ngogledd Iwerddon yn llawer anoddach nag y mae mewn mannau eraill ar yr ynysoedd hyn.

Ond mae Mesur Cymru, wrth gwrs, trwy greu model o bwerau a gadwyd, yn ei gwneud, yn fy marn i, yn haws i hwyluso llif y pwerau o Frwsel yn syth i’r fan hon, yn hytrach na bod y pwerau hynny yn aros yn San Steffan a bod San Steffan yn penderfynu wedyn pa un a ddylid trosglwyddo’r pwerau hynny. Dyna un o'r trafodaethau mawr. Dyna fantais fawr y model o bwerau a gadwyd yn fy marn i, oherwydd nid ydych mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i chi ddadlau yn gyson pa un a ddylid rhoi’r pŵer i chi; yn wir, bydd y pŵer yn cael ei drosglwyddo, oni bai ei fod wedi ei gadw'n benodol. Nawr, ar un adeg, roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud, roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu, rywsut, y dylid cwtogi pwerau y lle hwn, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael dau refferendwm—un ar sefydlu’r lle hwn a’r ail ar gael pwerau deddfu sylfaenol. Nid oedd y refferenda hynny yn cyfrif yn ei feddwl ef. Mae wedi bod yn dawel ers hynny, ond yr wyf yn gresynu yr hyn a ddywedodd ar yr adeg honno. Y realiti yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Ni ofynnwyd y cwestiwn iddyn nhw ar unrhyw bwynt: a oedden nhw eisiau gweld pwerau yn gadael Cymru ac yn mynd i rywle arall? Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gofio hynny. Mae’n rhaid i hyn beidio â bod yn ymarfer i geisio canoli grym yn Llundain, oherwydd nid yw hynny o unrhyw ddefnydd i unrhyw un, o ystyried y ffaith eu bod yn honni bod pŵer wedi’i ganoli ym Mrwsel. Felly, dyma’r cwestiynau y bydd angen eu datrys yn ystod y misoedd nesaf.

O ran y Mesur diddymu mawr, sydd wedi ei gyflwyno yn syml fel Mesur a fyddai'n ymgorffori cyfraith bresennol yr UE yn y gwahanol wledydd, sy’n synhwyrol, gan nad oes neb eisiau gweld deddfau yn diflannu ar ddamwain, ac wedyn mater i’r gwahanol ddeddfwrfeydd fyddai penderfynu pa ddull y byddan nhw’n ei gymhwyso yn achos pob rheoliad a chyfraith yn sgil hynny. Os dyna’r cyfan ydyw, gallaf weld y synnwyr ynddo, ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i sicrhau nad yw'n mynd ymhellach na sut y mae wedi ei gyflwyno.

Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno, er y gallai rhai pobl yn y Siambr hon ddehongli trafodaethau yr UE yn un antur fawr, mae eraill, efallai nad ydyn nhw’n byw mewn tai enfawr yng nghanol Wiltshire, yn gallu gweld bod y cynnydd enfawr sydd eisoes wedi digwydd yng nghost petrol, y cynnydd yng nghost bwyd, yn effeithio ar aelodau tlotaf ein cymdeithas yn barod. Ac, yn wir, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad yw prosiect economaidd yn unig mo prosiect yr UE, ond, mewn gwirionedd, yn brosiect gwleidyddol hefyd? Felly, ni fydd y trafodaethau yn ymwneud dim ond â pha un a ydynt eisiau gwneud bargen fasnach â ni; byddan nhw’n cynnwys cyd-drafod gwleidyddol a chred mewn prosiect. Felly, efallai na fyddan nhw mewn gwirionedd yn awyddus i arwyddo bargeinion er eu bod efallai er eu lles economaidd, oherwydd eu bod eisiau cynnal prosiect gwleidyddol, ac felly efallai nad yw ein pŵer i drafod gystal ag y cred rhai yn y Siambr hon.

Mae'n bwynt cryf i’w wneud, ac nid yw'n wir y bydd yn hawdd cael 30 o gyrff gwahanol i gytuno i fargen. Yn syml, nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’r DU ar drugaredd Sbaen o ran Gibraltar; mae wedi gweld ei chyfle a bydd yn dadlau dros gyd-sofraniaeth. Dyna un wlad y mae'n rhaid dwyn perswâd arni ymysg, wel, 27 o wahanol wledydd, dwy Senedd ranbarthol a dau sefydliad. Rydym yn gwybod bod yna wledydd eraill nad ydyn nhw’n ystyried bod y DU yn bwysig o ran eu masnach. Bydd rhai gwledydd yn—bydd yr Almaen yn, mae’n siŵr bod hynny’n deg i’w ddweud. Ni fydd gwledydd eraill yn ystyried bod y DU yn bwysig o gwbl, a bydd eu perswadio y dylen nhw, rywsut, ymrwymo i fargen a fydd, yn eu tyb nhw, yn ffafrio’r DU yn afresymol yn her fawr. Fel y dywedais, rwy’n credu na ddylem ni dwyllo ein hunain bod pobl o’r farn bod ar wledydd eraill fywoliaeth i’r DU. Nid dyna sut y maen nhw’n gweld y mater—nid dyna sut y maen nhw’n gweld y mater. Nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hi. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig a chael y fargen orau y gallwn ar gyfer y DU, o ystyried y ffaith bod yr UE wyth gwaith yn fwy na ni o ran ei maint, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael y fargen orau wrth ymdrin â sefydliad llawer mwy.

Pwynt arall y credaf ei fod gwerth ei wneud: o ran cymhlethdod hyn i gyd, os ydych yn ystyried y sefyllfa, mewn gwirionedd, mewn rhai ffyrdd, mae’n fwy cymhleth i weld y DU yn gadael yr UE nag y byddai i'r Alban fod yn annibynnol, oherwydd, o leiaf yn yr amgylchiadau hynny, byddai’r Alban a gweddill y DU yn dal yn parhau’n rhan o'r UE. A dweud y gwir, ni fyddai unrhyw drafodaethau masnach yn rhan o'r broses honno, ond bydd trafodaethau masnach yn rhan o'r broses hon. Felly, dyma ba mor gymhleth yw hyn—mewn rhai ffyrdd, mae'n fwy cymhleth nag annibyniaeth i'r Alban, ac mae'n bwynt y mae’n rhaid i mi ei wneud i'r Aelodau. Mae’n rhaid i ni beidio â meddwl bod hyn yn hawdd, mae’n rhaid i ni beidio â meddwl bod ar y byd fywoliaeth i ni. Ni allwn ymddangos yn drahaus ynglŷn â hyn, yn anad dim, ond mae'n rhaid i ni wneud iddo weithio. Mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gweithio, ac rwy’n credu bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn deall hynny.

Os ydym yn edrych arno yn synhwyrol, mae angen i ni gael syniad nawr o'r egwyddorion cyffredinol y bydd ar Lywodraeth y DU eisiau eu dilyn. Ni fydd yn ddigon da i Lywodraeth y DU droi i fyny a dweud, ‘Dyma beth rydym yn mynd i'w wneud, pa un a ydych yn ei hoffi ai peidio.’ Ni fyddaf yn brathu fy nhafod yn gyhoeddus os bydd hynny’n digwydd, ond nid wyf i eisiau dechrau o safbwynt sy’n tanseilio safbwynt Llywodraeth y DU. Ond ni all Llywodraeth y DU ddisgwyl mynnu cefnogaeth y gweinyddiaethau datganoledig heb ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd briodol. Y sefyllfa orau fyddai, ym mis Mawrth, i bob un o Lywodraethau y DU gyrraedd safbwynt trafod cyffredin, i ddangos yr undod hwnnw ac i ddangos y nerth hwnnw. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU eisiau dechrau cyd-drafod â gweddill yr UE gyda Chymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon yn beirniadu’r DU yn gyhoeddus. Nid dyna fy man cychwyn i; nid wyf i eisiau bod yn y sefyllfa honno. Mae'n hynod bwysig, felly, ein bod yn cyrraedd pwynt lle mae Llywodraeth y DU yn estyn ei llaw, fel yr ydym ni wedi ei wneud, ac fel y mae’r Alban wedi ei wneud ac fel y mae Gogledd Iwerddon wedi ei wneud, i allu sicrhau llwyddiant y ddwy flynedd nesaf.

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn pedwar cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Angela Burns i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y cafodd y gweinyddwyr eu galw i Main Port Engineering yn Sir Benfro, er gwaethaf i'r cwmni gael grant o £650,000 gan Lywodraeth Cymru? (EAQ(5)0058(EI)

Member
Ken Skates 15:12:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Dyfarnwyd £650,000 o gronfa twf economaidd Cymru i Main Port Engineering ym mis Mawrth 2015. Cafodd y cyllid ei roi i gynorthwyo â buddsoddiad cyfalaf o £1.627 miliwn ar gyfer cyfleuster pwrpasol newydd ym mharth menter Dyfrffordd Aberdaugleddau. Ar y pryd, llwyddodd y cwmni i fodloni’r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'r cymorth hwn yn llawn. Aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwr ar ôl gorchymyn dirwyn i ben gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac un o’r rhesymau dros hyn, yn ddiau, oedd cau purfa olew Murco yn 2014, a oedd yn un o'u prif gwsmeriaid.

Diolch yn fawr iawn am hynna, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae’n ddiwrnod trist i fusnes sefydledig iawn ag iddo enw da rhagorol. Chwe blynedd ar hugain a 165 o weithwyr; mae colli’r cwmni hwn yn gost ddynol wirioneddol, yn ogystal ag achosi goblygiadau ariannol. Nawr, rwyf wedi siarad â’r sylfaenydd a’r rheolwr gyfarwyddwr, rwyf wedi siarad â staff gweithredol ac â gweithwyr yn y maes, ac mae'r ymdeimlad o sioc ac anghrediniaeth yn llethol.

Rwy’n deall bod llawer nad ydym yn gallu ei drafod, gan fod y gweinyddwr yn dal i werthuso'r sefyllfa, ac mae'r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn i chi yn rhai yr wyf eisoes wedi eu gofyn yn rhannol iddyn nhw. Fodd bynnag, hoffwn eich meddyliau a'ch ymrwymiad i sicrhau’r canlynol: mae 77 o weithwyr yn gweithio ar gontract cynnal a chadw yn y burfa leol. Bydd y contract hwn yn cael ei gymryd drosodd gan fusnes cynnal a chadw sefydledig arall. A wnewch chi sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i Main Port ac i’r cwmni newydd, fel y gellir trosglwyddo’r 77 o weithwyr hynny gydag amddiffyniad llawn deddfwriaeth TUPE, yn gyflym ac yn effeithlon, gan y bydd hyn nid yn unig yn sicrhau eu swyddi ond hefyd yn sicrhau parhad gwasanaeth i gwsmeriaid ac yn galluogi cwmni lleol arall i ddatblygu ei fusnes? Mae'r un peth yn wir am bum aelod arall o Main Port sy’n trosglwyddo i ail gwmni ar gyfer ail gontract cynnal a chadw lleol.

O ystyried effaith cau Murco, ac rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn bod diddymu neu gau Murco, un o'u prif gwsmeriaid, wedi bod yn ergyd wirioneddol. A allwch chi gynnig yr un lefel o gymorth a chefnogaeth ychwanegol a gafodd gweithwyr Murco i'r 83 o staff Main Port sy’n weddill?

Rwy’n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi edrych ar y rhan a chwaraewyd gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn hyn. Mae'r cwmni’n glir na chawsant unrhyw hysbysiad am y gorchymyn dirwyn i ben a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EM. Bu anghydfod parhaus, dros nifer o flynyddoedd yn ôl pob golwg, ac, er bod y rhan fwyaf o'r ddyled yn gymharol ddiweddar, roedd y cwmni yn y broses o lunio cynllun talu swyddogol. Ac, a bod yn onest, y camau hyn: nid oes neb yn ennill. Nid yw Cyllid a Thollau EM yn mynd i gael eu harian ychwaith. Yn olaf, a fyddech cystal ag archwilio pa un a gafodd hyfywedd ariannol hirdymor y cwmni ei archwilio’n briodol gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn darparu'r grant £650,000? Rwy’n cydnabod bod busnes yn gallu bod yn fenter beryglus, ond, o ystyried maint y ddyled a cholli eu prif gwsmer cyn i’r grant hwnnw gael ei ddyfarnu, hoffwn i’r cyhoedd fod yn fodlon bod diwydrwydd dyladwy wedi’i gyflawni’n drwyadl. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a rhannu'r pryder sy'n cael ei fynegi ynglŷn â dyfodol gweithwyr y cwmni. Roedd MPE yn cyflogi 157 o bobl i gyd, ac, yn anffodus, mae 69 o'r rheini wedi eu diswyddo. Mae’r Aelod yn iawn bod nifer sylweddol—rwy’n credu mai 84 ydyw—yn mynd i gael eu cadw ym mhurfa Valero i ddarparu dilyniant gwasanaeth. Mae hynny'n cynnwys, rwy’n credu, staff sy'n cael eu cadw yn y brif swyddfa, a allai gyfrannu at y 77, gan ddod â'r cyfanswm i’r 84 yr wyf fi wedi’i glywed yw’r nifer.

Mae PricewaterhouseCoopers, fel y mae’r Aelod yn gwybod, wedi cael eu penodi i geisio dod o hyd i brynwyr i asedau ac adeiladau’r safle ac, yn bwysig, cyfleoedd cysylltiedig i’r gweithlu yr effeithiwyd arnynt. Mae sesiwn gyda nifer o sefydliadau’n cael ei drefnu ar gyfer y dydd Gwener hwn am 11.00 a.m. Rwyf yn annog yr Aelod i hysbysebu'r ffaith honno i’r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith, y gwasanaeth cynghori gyrfaoedd, Busnes Cymru a gwasanaethau cefnogi lleol eraill yn bresennol yn y sesiwn hwnnw, ond rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r gweithwyr hynny y mae’r digwyddiad anffodus iawn hwn wedi effeithio arnynt.

O ran hanes y cwmni, mae’r Aelod eisoes wedi tynnu sylw at lwyddiant sylweddol y cwmni dros flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, yn ddiweddar—. Rwy’n gofyn yr un cwestiwn i Gyllid a Thollau EM ag y mae’r Aelod, oherwydd, yn ddiweddar, mae'n ymddangos y bu’r cwmni yn ddigon iach. Deallaf fod y cwmni wedi adrodd elw yn 2015, o’i gymharu â cholled gymharol fach yn 2014. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ymchwilio i'r bil treth a pham nad oedd y cyfrifon yn caniatáu yn amlwg ar ei gyfer. Gwnaethom ein diwydrwydd dyladwy rheolaidd. Ein dealltwriaeth oedd, yn seiliedig ar berfformiad y cwmni, bod y cwmni’n iach, ac, rwy’n credu, o ystyried yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud am ei chyswllt â nifer o bobl, ei bod hi ac eraill wedi bod dan yr argraff bod y cwmni’n perfformio'n dda. Felly, roedd hyn yn sioc i lawer o bobl.

O ran ein cefnogaeth i gwmnïau fel MPE, cyfanswm o ddim ond 4.9 y cant o'r 1,110 o gwmnïau yr ydym wedi’u cefnogi yn y pedair blynedd diwethaf—y pum mlynedd diwethaf, yn hytrach—sydd wedi gorfod cael eu hadfer mewn gwirionedd. Mae'r gyfran yn llawer llai na chyfanswm nifer y busnesau sy’n methu neu’r mentrau sy’n marw; yng Nghymru, roedd y ffigur hwnnw’n 9.2 y cant, sydd, yn ei dro, yn cymharu'n ffafriol â chyfradd y DU, sef 9.6 y cant. Wedi dweud hynny, rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir gan yr awdurdod lleol, ac felly rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda chadeirydd y parth menter ac arweinydd y cyngor i drafod yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd i sicrhau bod pawb y mae’r penderfyniad hwn wedi effeithio arnynt yn cael eu cefnogi yn y ffordd iawn i ailddechrau gweithio, os ydynt yn colli eu swyddi, ac i gadw eu gwaith os ydynt wedi gallu cael eu cadw, ond, i'r un graddau, yr hyn y gallwn ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i wneud yn siŵr bod yr ardal benodol honno o Gymru yn cael y cymorth sydd ei angen arni i ffynnu fel economi gref.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch ichi am eich datganiad ysgrifenedig y gwnaethoch ei gyflwyno brynhawn ddoe. Ac, fel y bydd pawb yma’n cytuno, mae'n newyddion hynod o siomedig i’r ardal yr wyf yn ei chynrychioli ac yn byw ynddi. Mae'n ergyd drom, yn enwedig i’r teuluoedd hynny, a hoffwn ganolbwyntio yma heddiw ar y teuluoedd hynny a'r unigolion hynny a fydd yn wynebu dyfodol ansicr iawn. Felly, cefais fy nghalonogi’n fawr wrth ddarllen yn gynharach heddiw eich bod eisoes wedi trefnu, ac rydych newydd sôn am hynny, sesiwn galw i mewn gyda'r Ganolfan Byd Gwaith ac asiantaethau eraill am 11 o'r gloch ddydd Gwener. Rwy'n credu bod angen inni gadw mewn cof bod hwn yn waith arbennig o fedrus am gyflogau uchel, ac felly bydd yr economi leol yn teimlo effaith colli’r incwm hwnnw bron ar unwaith, a sut y gallwn ni weithio gydag unrhyw un arall i sicrhau hyfywedd eu busnesau pe byddent yr un mor ddibynnol ar y gweithwyr hyn am eu hincwm eu hunain.

Ond hoffwn symud ymlaen a meddwl am y dyfodol, a gofynnaf i chi, Brif—Ysgrifennydd y Cabinet; bu bron imi ei wneud eto—edrych ar y materion ehangach ynglŷn â dyfodol yr ardal honno ac, wrth gwrs, ardal fenter Haven ac unrhyw strategaeth y bydd angen inni ei rhoi ar waith i gefnogi'r diwydiant ynni sydd wedi’i hen sefydlu yn y gorllewin, oherwydd mae wedi'i hen sefydlu ac mae hefyd yn hanfodol i'r rhanbarth. Ond, fel y dywedais, mae’n rhaid i’n meddyliau cyntaf a’n camau gweithredu cyntaf ganolbwyntio ar y rheini sydd nawr yn wynebu dyfodol ansicr.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau ac, unwaith eto, rwy’n rhannu ei phryderon am y teuluoedd hynny sy'n wynebu cryn bryder ar hyn o bryd. Gallaf ddweud bod fy swyddogion yn trafod yn agos â PwC ac yn ymwybodol bod rhywfaint o ddiddordeb yn datblygu ym musnes Main Port ac, o bosibl, yn y gweithwyr sy'n weddill. Felly, nid yw popeth wedi’i golli eto, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bobl hynny sydd wedi bod yn gweithio yn y busnes yn cael cyflogaeth, naill ai yno neu o fewn yr ardal leol. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod y parth menter yn parhau i berfformio'n llwyddiannus. Mae wedi creu a sicrhau cannoedd o swyddi ers iddo gael ei ffurfio, ond rwy’n cydnabod, yng nghyd-destun Prydain ar ôl Brexit, bod arnom angen strategaeth economaidd newydd i Gymru, ac rwy’n mawr obeithio, gyda phwyslais ar ddatblygu economaidd yn seiliedig ar le, y bydd gan ardal parth menter y rhan o Gymru y mae fy nghyfaill mor falch o’i chynrychioli ddyfodol cryf iawn, iawn.

Hoffwn, yn amlwg, fy nghysylltu fy hun â'r sylwadau ynghylch colli swyddi a'r effaith ar deuluoedd a dim ond gofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a oedd maint y golled hon, er nad oedd, a siarad yn gymharol—wyddoch chi, mewn ystyr genedlaethol, yn enfawr, ond, wrth gwrs, mewn ystyr leol iawn, mae'n drawiadol, ac mae'n arbennig o drawiadol o ran y berthynas â’r diwydiant ynni, ardal fenter Dyfrffordd Aberdaugleddau, a phawb sydd â diddordeb mewn datblygu o amgylch Aberdaugleddau ei hun. Felly, a allwch chi gadarnhau bod natur hyn yn golygu y bydd y Llywodraeth yn gwneud mwy na dim ond, yn gwbl briodol, dwyn ynghyd y dydd yr ydych wedi’i gyhoeddi, ac o bosibl hyd yn oed sbarduno dull tebyg i ReAct yma, oherwydd, yn fy meddwl i, mae tua’r maint hwnnw?

A allwch chi ddweud ychydig bach mwy am y diwydrwydd dyladwy y mae'r Llywodraeth yn ei wneud wrth benderfynu buddsoddi mewn cwmni fel hwn, neu, yn hytrach, rhoi grant i gwmni fel hwn? Fel sydd eisoes wedi’i nodi, gwnaethpwyd y penderfyniad ar ôl i’r cwmni golli ei brif gwsmer pan gaeodd Murco. Beth, felly—? A ydych chi’n dibynnu’n llwyr ar gyfrifon cyhoeddedig cwmni? Does bosib nad ydych chi’n siarad â chredydwyr posibl fel yr awdurdod lleol, fel Cyllid a Thollau EM, i geisio cael ymdeimlad o sut ddyfodol sydd gan y cwmni, a hoffwn ddeall ychydig mwy am hynny, o ran pam y gwnaethpwyd y penderfyniad.

Mae’r cwestiwn olaf yn ymwneud â’r buddsoddiad cyfalaf. Roedd hwn yn rhan o fuddsoddiad gweithgynhyrchu gwerth £1.8 miliwn, yn ôl a ddeallaf. Beth oedd natur y buddsoddiad cyfalaf hwnnw, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ffordd o’i adfachu os yw'r buddsoddiad cyfalaf naill ai’n cael ei werthu ymlaen neu ei ddefnyddio nawr gan gwmni newydd at ddibenion economaidd?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? O ran yr adfachu, bydd yn dibynnu ar ein sefyllfa o ran dyledwyr eraill. Felly, rydym yn ceisio asesu ble yn union yr ydym yn hynny o beth.

Neu mae Cyllid a Thollau EM yn ei gymryd i gyd.

Rwy'n meddwl ei fod yn llygad ei le, o siarad yn gymharol, bod hyn yn arwyddocaol, ardal Haven, ac felly, ac yn enwedig o ystyried yr hyn a ddywedodd fy nghydweithiwr Joyce Watson am werth cyflogaeth ar y safle, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar ymateb pwrpasol i hyn. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn cyfarfod â chadeirydd yr ardal fenter ac arweinydd y cyngor. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn cydlynu ein hymateb i hyn ac yn archwilio cyfleoedd gyda’n gilydd ar gyfer cyflogaeth i'r bobl yr effeithiwyd arnynt.

O ran y diwydrwydd dyladwy, wel, mae gwneud diwydrwydd dyladwy’n rhan bwysig o'n proses, ac rydym yn parhau i wella ein hymagwedd ac, yn wir, dysgu gwersi o achosion unigol. Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod y penderfyniad wedi’i wneud ar ôl 2014. Fodd bynnag, roedd y llyfrau’n dangos bod y cwmni’n iach, ac yn wir roedd y canlyniadau’n gwella. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion adrodd ynglŷn â pha mor fanwl yr edrychwyd ar y llyfrau. Mae'n glir ac yn amlwg bod hyn wedi bod yn syndod mawr i lawer o bobl, ac felly hoffwn gael sicrwydd bod y diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd mor drylwyr ag y byddwn yn dymuno iddo fod.

Wel, fel cyd-Aelod rhanbarthol dros yr ardal hon, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad personol â’r rheini sydd nawr yn byw gydag ansicrwydd enfawr ynglŷn â’u dyfodol. Mae Simon Thomas newydd ofyn, rwy’n credu, cwestiwn perthnasol iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn awyddus i edrych ar y grant hwn maes o law—nid oherwydd unrhyw elyniaeth tuag at Ysgrifennydd y Cabinet, ond dim ond oherwydd bod angen inni sicrhau bod diwydrwydd dyladwy wedi'i gynnal yn briodol yn y fan yma.

Rwy'n bryderus iawn am swyddogaeth Cyllid y Wlad yn y maes hwn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod pa mor fawr yw’r ddyled dreth sy’n ddyledus iddynt gan y cwmni ar hyn o bryd, a achosodd iddo gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr? Nid yw mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, wrth gwrs, yn gorfod golygu diwedd y daith; mae’n bosibl creu busnes hyfyw, neu nifer o fusnesau hyfyw, allan o'r asedau. Ond mae'n siomedig iawn os yw corff cyhoeddus fel Cyllid a Thollau EM wedi rhoi’r cwmni hwn yn nwylo'r gweinyddwyr dros swm cymharol fach o’i gymharu â'r hyn y gellid ei wireddu hyd yn oed drwy werthu’r asedau ar frys. Nid wyf yn gwybod a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi hynny mewn persbectif inni fel y gallwn weld a yw penderfyniad Cyllid y Wlad prima facie yn rhesymol ai peidio.

Nid yw Cyllid y Wlad bellach—nid yw Cyllid a Thollau EM bellach—yn gredydwr a ffefrir, fel yr oedd yn arfer bod, felly efallai nad hwy fyddai’n hawlio’r asedau i gyd pe byddai’r cwmni’n cael ei ddiddymu yn y pen draw. Byddai'n gwbl anghyfrifol, rwy’n credu, i Gyllid a Thollau EM ddinistrio busnes os gellir profi mai swm bach iawn y byddant yn ei adennill. Wedi'r cyfan, os yw'n wir, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn edrych fel bod y cwmni’n gwella ei berfformiad a’i fod yn hyfyw heblaw am y dyledion a oedd yn bodoli, byddai'r awdurdodau treth wedi cymryd golwg tymor byr iawn ar bethau, a byddai'n edrych fel gweithred o danseilio yn ogystal â bradychu pobl sydd ar hyn o bryd naill ai wedi colli eu swyddi neu’n wynebu’r posibilrwydd hwnnw.

Diolch i Neil Hamilton am ei gwestiynau. Fel y dywedais wrth yr Aelod lleol, y cwestiynau a ofynnwyd i Gyllid a Thollau EM yw'r rhai yr wyf eisoes wedi’u gofyn. Ni fyddwn, fodd bynnag, yn dymuno dod i gasgliad na barnu pa un a yw Cyllid a Thollau EM wedi ymddwyn mewn modd cyfrifol, ac a yw'r camau a gymerodd Cyllid a Thollau EM yn gymesur â lefel y ddyled. Byddai'n well gennyf gael yr holl dystiolaeth a'r holl fanylion i law cyn gwneud dyfarniad. Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod angen i Gyllid a Thollau EM fod yn fwy cyfrifol o ran y modd y maent yn ymdrin â chyflogwyr yng Nghymru. Mae llawer o gyflogwyr yn darparu gwaith hanfodol mewn ardaloedd heriol iawn neu mewn cymunedau difreintiedig iawn, ac ni ddylai Cyllid a Thollau EM wneud penderfyniadau ar sail maint y ddyled yn unig, ond hefyd ar botensial y cwmni i ad-dalu'r ddyled honno, ac effaith cau’r cwmni ar y gymuned. Mae’n gwbl hanfodol bod Cyllid a Thollau EM yn ymddwyn yn gyfrifol.

4. Cwestiwn Brys: Gwasanaethau Paediatrig yn Ysbyty Llwyn Helyg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

I now call on Paul Davies to ask the second urgent question.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau paediatrig yn Ysbyty Llwyn Helyg? EAQ(5)0058(HWS)

Member
Vaughan Gething 15:30:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch. Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i gynnal yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae gwasanaethau ar gael o 10 a.m. i 10 p.m., saith diwrnod yr wythnos, ac mae teuluoedd lleol yn cael eu sicrhau y gallant barhau i gael gafael ar wasanaethau fel y maent yn ei wneud yn awr ac nad oes angen iddynt wneud newidiadau i’r modd y maent yn cael gafael ar ofal.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, mae'r datblygiadau diweddaraf hyn yn ysbyty Llwynhelyg, lle mae paediatregydd ymgynghorol wedi ymddeol a phaediatregydd ymgynghorol wedi mynd ar absenoldeb mamolaeth, yn bryder mawr i fy etholwyr, sydd eisoes wedi gweld gwasanaethau pediatrig yn cael eu hisraddio o wasanaeth 24 awr i wasanaeth 12 awr, sydd, a dweud y gwir, wedi bod yn drychineb i ni yn Sir Benfro. Ond rwy’n falch bod y bwrdd iechyd lleol wedi ailddatgan ei ymrwymiad yn y datganiad i'r wasg y mae wedi’i gyhoeddi yn gynharach heddiw i gynnal yr oriau agor presennol, oherwydd os na fydd y gwasanaeth 12 awr hwn yn parhau, bydd hynny'n drychinebus. Roedd rhai Aelodau yn y Siambr hon, gan fy nghynnwys i, a rybuddiodd Lywodraeth flaenorol Cymru, pan wnaethpwyd y newidiadau gwreiddiol, y gallai israddio gwasanaethau pediatrig yn yr ysbyty gael effaith andwyol ar gynaliadwyedd y gwasanaethau sy'n weddill. Ac mae’n ymddangos bellach bod hynny'n wir. Felly, o dan yr amgylchiadau, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fy etholwyr heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r bwrdd iechyd lleol i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn? Ac o gofio bod israddio gwasanaethau pediatrig wedi cael effaith ar y gwasanaethau rhan-amser hyn, oherwydd mae'n debyg ei bod yn anoddach fyth recriwtio clinigwyr i fan lle mae gwasanaethau wedi eu lleihau, a wnaiff ef ymrwymo nawr i adolygu gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg, gyda golwg ar sefydlu gwasanaeth 24 awr? Ac, yn y tymor byr, pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda i oresgyn rhai o'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r ysbyty?

Diolch am y pwyntiau dilynol. Nid wyf yn dymuno parhau i gael ffrae a chroesi cleddyfau’n ddig am ddyfodol gwasanaethau pediatrig yn y gorllewin, ond mae'n anodd peidio â gwneud hynny os yw’r Aelod yn gwrthod cydnabod y dystiolaeth ffeithiol sydd ar gael a'r cyngor clinigol gorau un am y model gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Rydym wedi ailadrodd dro ar ôl tro yr adolygiad gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n cadarnhau bod y model gwasanaeth newydd wedi gwella canlyniadau i fenywod a'u babanod, ac mae gwadu’n blaen bod hynny'n wir yn creu hinsawdd o ofn ac ansicrwydd, yn gwbl ddiangen ac yn achosi anfri gwirioneddol i’r bobl sy'n darparu’r gwasanaeth hwnnw ac i’r teuluoedd sydd ag angen y gwasanaeth hwnnw.

Mae problem o ran recriwtio ymgynghorwyr pediatrig ledled y DU, ac nid yw'n syndod ein bod yn gweld hynny yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n falch y bu rhywfaint o gydnabyddiaeth am y datganiad i'r wasg y mae’r bwrdd iechyd wedi’i gyhoeddi, sy'n cadarnhau eu bod wedi ymrwymo i recriwtio'n unol â’r model sydd ganddynt. Gallaf gadarnhau fy mod yn disgwyl y caiff cyfweliadau eu cynnal ym mis Rhagfyr a mis Ionawr ar gyfer swyddi ymgynghorol newydd, a'r her yma yw sut yr ydych yn adeiladu ar fodel gwasanaeth sy'n gwneud synnwyr yn rhan o gyfanwaith ehangach. A dyna beth yr ydym wedi ymrwymo i’w wneud. Byddwn yn cefnogi'r bwrdd iechyd i wneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud, i geisio recriwtio nid yn unig ymgynghorwyr, ond staff ar raddau eraill yno hefyd, i wneud yn siŵr bod y model gwasanaeth cyfan mewn gwirionedd yn darparu’r hyn y mae ei angen ar bobl. Dyna pam yr wyf wrth fy modd o weld, er enghraifft, bod mwy o nyrsys o fewn y gwasanaeth nawr na chyn i’r newidiadau gael eu gwneud hefyd. Yn wir, ymhell o ddweud bod y newidiadau gwasanaeth wedi gwneud pethau'n anoddach, rwy’n meddwl bod y mater penodol hwn yn atgyfnerthu'r angen i newid gwasanaethau mewn modd sydd wedi'i gynllunio i ddarparu gwell gwasanaeth—y dystiolaeth orau, y cyngor clinigol gorau sydd ar gael a'r canlyniadau gorau a’r gwasanaeth gorau i bobl y dylem fod mewn busnes i’w gwasanaethu a’u cynrychioli’n onest.

Diolchaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddweud. Fe wnaethoch ymuno â mi, yn ystod toriad yr haf, i weld drosoch eich hunan, ochr yn ochr â mi, a siarad â phawb sy'n ymwneud â darparu’r gofal hwn mewn gwasanaethau pediatrig, yng Nglangwili a hefyd yn Llwynhelyg. Ac mae’r hyn yr ydym wedi’i weld, a'r hyn yr ydym wedi’i glywed, yn cefnogi’n gryf yr hyn yr ydych newydd ei ddweud—bod gennym weithlu da iawn, iawn yno, sy’n darparu gwasanaeth gwirioneddol dda. Er hynny, rydych yn iawn i ddweud, ac mae'n wir, bod heriau o ran recriwtio ymgynghorwyr a staff eraill o fewn Cymru a thu hwnt i Gymru. Ac roedd yn ymddangos bod yr hyn a glywsom, a'r cynlluniau sydd ar y gweill, yn eu helpu i ymateb i'r her honno ac i ddiwallu anghenion y cleifion—ac yn arbennig, yn y fan yma, y cleifion pediatrig—yn y ffordd orau un. Roeddwn hefyd yn falch o weld bod y gwasanaeth symudol wedi’i ymestyn erbyn hyn hyd at fis Mawrth 2017, ac roedd hynny’n allweddol i'r ddarpariaeth honno yn y lle cyntaf, pan wnaethom leihau honno i’r gwasanaeth 12 awr sydd nawr yn bodoli.

Ond fy nghwestiwn, am wn i, ichi heddiw yw: rydym yn gwybod y bydd trosiant staff—cawsom wybod hynny ar y pryd, nid yw'n newyddion newydd, ac nid yw'n newyddion arbennig o bwysig. Ond yr hyn yr hoffwn ei wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, yw pa gymorth y byddech yn ei roi i'r bwrdd iechyd i’w helpu, mewn unrhyw fodd y gallent ofyn amdano, i recriwtio'r staff sydd eu hangen arnynt, yn y gorllewin, fel nad oes rhaid i’r gwasanaeth y maent yn bwriadu ei gadw ddibynnu’n barhaus ar locwm dros dro.

Diolch, Joyce Watson. Rydych yn gwneud pwynt pwysig am wasanaeth nad yw'n gwbl ddibynnol ar staff dros dro neu staff locwm, ac, yn wir, wrth fynd yn ôl at y sgyrsiau yr ydym wedi’u cael lawer gwaith o fewn y Siambr hon, am y darlun ehangach ar recriwtio mewn meysydd arbenigeddau heriol, ond hefyd am wneud y gorau o'r cyfleoedd i weithio yng Nghymru. Felly, pan fyddwn yn sôn am ymgyrch i recriwtio meddygon a gafodd lansiad llwyddiannus iawn yn ffair gyrfaoedd y BMJ yn ddiweddar, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen inni ei wneud, i sicrhau bod pobl yn deall y cyfleoedd sy'n bodoli o ran gweithio yn y gorllewin, sut beth yw byw yno gyda'ch teulu cyfan, a beth mae wir yn ei olygu i ymuno â rhan o'r darlun gofal iechyd yma yng Nghymru.

Rydym yn dymuno bod yn gadarnhaol am y cyfleoedd sydd yn bodoli, ac a dweud y gwir, am y meddygon sydd eisiau symud i rywle, gan ddeall bod sylfaen dystiolaeth gwirioneddol i'r system sydd gennym yng Nghymru, a deall sut y bydd arfer gorau clinigol yn arwain y modelau gofal y mae angen inni eu darparu—gan gynnwys yr hyn yr ydym yn ei gyflawni o fewn y gymuned hefyd, yn ogystal â mewn lleoliad ysbyty. Felly, byddwn yn parhau i weithio mewn ffordd gefnogol gyda'r bwrdd iechyd i fodloni’r heriau recriwtio sydd ganddynt.

Ond mae yma resymau gwirioneddol dros fod yn obeithiol, nid dim ond oherwydd y ffair yrfaoedd ddiweddar. Pan edrychwch ar hyn o safbwynt nyrsio, fel y dywedais, rydym wedi recriwtio, felly rydym mewn gwirionedd ar y blaen i argymhellion Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ynghylch niferoedd nyrsio, gyda'r model newydd nawr. Felly, rydym mewn sefyllfa dda i werthu gwasanaeth y mae pobl yn awyddus i weithio ynddo. Ac rydym yn cydnabod, ar yr adeg pan ddechreuodd y newid, y bu ansicrwydd gwirioneddol a phryder ymhlith rhai aelodau staff ynglŷn â’r hyn a fyddai'n digwydd. Ond mae gennym fwy o nyrsys a bydwragedd yn gweithio yn y canolfannau hyn nawr, gwell safonau gofal, a gwell canlyniadau—profiad da iawn. Ac mae'n dangos y dylai pobl fod yn ffyddiog am y dyfodol, a'r ymrwymiad y mae'r bwrdd iechyd wedi’i fynegi ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

Wrth ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am fwy o wybodaeth heddiw, gallaf ddweud wrtho bod y gwasanaeth pediatrig yn Llwynhelyg, sy'n werthfawr iawn i’r bobl leol, yn mynd y tu hwnt i famolaeth a’i fod, mewn gwirionedd, yn rhan o'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a ddarperir yno. Mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dweud bod angen gwasanaeth pediatrig 24 awr arnoch er mwyn cynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys. Ac, yn y gorffennol, mae ei ragflaenydd wedi dweud wrthyf mai’r nod hirdymor yw adfer pediatreg i wasanaeth 24 awr yn Llwynhelyg. Nawr, mae'n ymddangos yn fodlon â gwasanaeth 10 y bore tan 10 y nos, sydd, mewn gwirionedd, yn wasanaeth oriau swyddfa, gyda 30 munud ar alwad i ymgynghorwyr hyd at 10 o'r gloch y nos. Ac mae'r datganiad gan Hywel Dda heddiw, sy'n cadarnhau y bydd hynny'n parhau, hefyd yn dweud y bydd mwy o uno rotâu ar alwad yn digwydd rhwng Llwynhelyg a Glangwili.

Beth, felly, all Ysgrifennydd y Cabinet ei ddweud wrth drigolion lleol sydd mewn gwirionedd yn awyddus i weld pediatreg yn dychwelyd i 24 awr? A allant gefnu ar yr ymrwymiad blaenorol hwnnw gan Hywel Dda ei hun, a gan Lywodraeth flaenorol? Ac, os yw’n meddwl ei fod yn cyflawni mor dda ar hyn o bryd—ac, wrth gwrs, mae’r staff a'r bobl sy'n gweithio yno yn gwneud eu gorau glas—ond a yw ef wir yn fodlon gweld darparu gwasanaeth ar y sail hon, am byth, ar sail recriwtio locwm?

Wel, rydych yn gwneud pwynt teg bod y gwasanaeth pediatrig yn ymwneud â mwy na phlant ifanc iawn, ac nid dim ond yr ochr mamolaeth—yr ochr newydd-anedig. Ac, yn wir, pan ymwelais gyda Joyce Watson yn ddiweddar, gwelais nifer o deuluoedd a phlant iau a oedd yno. Mewn gwirionedd, mae'r gwasanaeth gofal dydd yn sicrhau bod y mwyafrif llethol o bobl yn cael gadael heb orfod aros yn yr ysbyty—maent yn cael gadael ar y pryd, ar ôl cael y cymorth a'r driniaeth sydd ei hangen arnynt.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r dyfodol fod yn seiliedig ar realiti’r gymysgedd staff sydd gennym, a'r hyn y gallwn ei gyflawni. Mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd yn parhau i gael sgwrs â’u poblogaeth leol am y gwasanaethau y gallant eu darparu, y sylfaen dystiolaeth ar gyfer eu darparu, a'r hyn y gallant ei wneud mewn gwirionedd, hefyd. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn ceisio gorwerthu’r gallu i ddweud, 'Hoffem gael rhywbeth, felly rydym yn mynd i’w gael', heb ystyried y dystiolaeth am ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu a heb ystyried y gallu i recriwtio i mewn i’r model hwnnw o ddarparu gofal. Felly, mater i'r bwrdd iechyd yw amlinellu hynny mewn sgyrsiau â’u poblogaeth leol ac mewn sgyrsiau â’u grŵp lleol o glinigwyr, yn yr holl wahanol raddau a phroffesiynau hynny, sy'n deall yr hyn sy'n bosibl lle ceir ymrwymiad gwirioneddol i allu sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Y peth hawddaf i'w wneud yw gofyn am lefel o gytundeb gwasanaeth nad yw’n gyraeddadwy, ac nid wyf eisiau gweld hynny'n digwydd. Mae sefydlogi’r hyn sy'n bodoli yno yn gam pwysig. Yna, bydd angen i'r bwrdd iechyd benderfynu, gyda'u poblogaeth leol, beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

5. Cwestiwn Brys: Heathrow

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf yn awr yn galw ar Simon Thomas i ofyn y trydydd cwestiwn brys.

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drydedd redfa yn Heathrow? EAQ(5)0059(EI)

Member
Ken Skates 15:40:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Rydym yn croesawu'r penderfyniad i adeiladu trydydd llwybr glanio yn Heathrow, a fydd o fudd i deithwyr yng Nghymru, yn dod â thwristiaid i Gymru, yn helpu ein hallforwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd ac yn creu swyddi.

Diolch am y datganiad. Mi fyddai wedi bod yn beth da i gael datganiad—yn hytrach na thrwy’r wasg—i’r Cynulliad am rywbeth mor bwysig yn economaidd ac yn amgylcheddol. Rwy’n gosod i’r neilltu am heddiw y cwestiynau amgylcheddol a newid hinsawdd ynglŷn â thrydedd redfa yn Heathrow, a lleoliad honno yn Heathrow yn hytrach na rhywle arall, ac yn troi at beth yn union y mae’r Llywodraeth hon wedi negodi â Heathrow a Llywodraeth San Steffan a fydd o fudd i Gymru.

Rwy’n troi at y memorandwm sydd wedi’i drafod rhwng Heathrow a Llywodraeth yr Alban, sydd yn sôn, ymysg pethau eraill, am hyd at 16,000 o swyddi newydd yn yr Alban yn cael eu creu oherwydd Heathrow, £200 miliwn o wariant cyfalaf yn yr Alban ynglŷn â chynllunio ac adeiladu, £10 miliwn ar gyfer datblygu llwybrau hedfan newydd yn fewnol yn y Deyrnas Gyfunol a gostyngiad o £10 y pen ar gyfer taliadau glanio rhwng meysydd awyr yr Alban a Heathrow. Mae’r rhain i gyd yn edrych i fi fel pecyn o werth i Lywodraeth yr Alban, sydd yn cyfiawnhau, mae’n siŵr, Llywodraeth yr Alban yn dweud pam eu bod nhw’n cefnogi trydedd redfa yn Heathrow.

Beth yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael allan o’i chefnogaeth, felly? O ystyried bod y Llywodraeth wedi methu hyd yn oed â sicrhau datganoli APD i ni yma yng Nghymru, ym mha ffordd fydd y datblygiad yma o help i deithwyr o Gymru?

O ran ehangu Maes Awyr Heathrow, gallai ddod â mwy na £6 biliwn i economi Cymru a helpu i greu mwy nag 8,000 o swyddi, felly mae'n ddarn pwysig o seilwaith a fydd o fudd i’n gwlad. Rwy’n cydnabod bod gan yr Alban Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith gyda Maes Awyr Heathrow. Mae fy swyddogion yn trafod memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Heathrow, ond bydd yn wahanol i'r un y mae’r Alban wedi gallu cytuno arno. Mae llawer o'r pwyntiau o fewn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd gan yr Alban yn bethau sydd o fewn pwerau Llywodraeth yr Alban beth bynnag a gellir eu cyflwyno heb fod angen i femorandwm cyd-ddealltwriaeth fodoli o gwbl. Er enghraifft, o ran y strategaeth farchnata sy'n cael ei thrafod yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, rydym eisoes wedi gwneud hynny fel Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad i ni wneud hynny—. Rwy'n siŵr y byddai’r Aelod, sy’n cynrychioli ardal o Gymru sy'n wledig iawn ac sy'n dibynnu ar yr economi ymwelwyr, yn croesawu’r ffaith fod gennym fwy o dwristiaid yn dod i Gymru nag erioed o'r blaen, a bod y gogledd, yr wythnos diwethaf, wedi cael ei enwi’r pedwerydd lle gorau ar y blaned i ymweld ag ef. [Torri ar draws.] Mae’n wir. Mae hynny oherwydd ein bod wedi bod yn buddsoddi ers blynyddoedd lawer yn yr ardaloedd cywir ac yn y cynnyrch cywir i wella twristiaeth. Nid oedd angen Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arnom i ddynodi gogledd Cymru fel y pedwerydd lle gorau ar y blaned.

O ran y cytundebau yr ydym yn chwilio amdanynt, hoffem sicrhau bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth cymesur ar gyfer Cymru. Ond, rydym hefyd yn trafod o ddifrif gyda Llywodraeth y DU, gan fod llawer o'r manteision a fydd yn deillio o ehangu Maes Awyr Heathrow i dri llwybr glanio mewn gwirionedd yn deillio o San Steffan. Felly, rydym yn chwilio am sicrwydd y caiff y cyswllt rheilffordd gorllewinol i Heathrow ei gyfllenwi; rydym yn chwilio am sicrwydd y caiff prif reilffordd y gogledd ei huwchraddio’n briodol, ac y bydd cysylltedd priodol â HS2; hoffem weld diddymu tollau Hafren; ac, wrth gwrs, hoffem hefyd weld datganoli toll teithwyr awyr. Nid Maes Awyr Heathrow sy’n gyfrifol am y materion hanfodol hyn, ond Llywodraeth y DU.

Felly, nid yw memorandwm cyd-ddealltwriaeth â’r maes awyr yn unig, yn fy marn i, yn ddigonol. Mae angen cytundeb â Llywodraeth y DU hefyd. O ran gwaith gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs, rydym wedi clywed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac rwy’n croesawu ei eiriau yn fawr iawn, y bydd trydydd llwybr glanio Heathrow yn dod â llawer o fanteision helaeth i Gymru. Rwyf hefyd yn gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Gwladol barhau i weithio gyda mi i gyflawni rhai o'r gwelliannau seilwaith y mae angen i ni eu gweld yn dod i Gymru yn sgil yr angen i wneud Cymru yn wlad fwy cysylltiedig ac unedig. Felly, rwy'n hyderus, o ran y buddiannau y gall Heathrow eu cyflwyno, y bydd gennym ddealltwriaeth, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, gyda Heathrow sydd o leiaf yn gymesur â'r hyn sydd gan yr Alban, ond yn ychwanegol at y cytundebau yr ydym yn eu ceisio drwy Lywodraeth y DU.

Rwyf finnau hefyd yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad ar ehangu Heathrow. Bûm yn ddigon ffodus i fod ym Maes Awyr Heathrow i weld y potensial ar gyfer Cymru, ac rwyf wedi cysylltu'n agos iawn â nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynnig unrhyw gymorth y gallaf ei roi i wneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn digwydd. Y siom chwerw iawn heddiw yw clywed am anallu Llywodraeth Cymru i sicrhau unrhyw beth am ei chefnogaeth i ehangu Heathrow. Does dim llawer o bwynt ceisio dal y ceffyl ar ôl iddo redeg allan o'r stabl, Weinidog, ac a dweud y gwir, mae yna gangen Heathrow, a byddai cyfraniad at honno gan Faes Awyr Heathrow wedi bod i’w groesawu’n fawr iawn yn wir, fel y cyfraniadau y maent wedi’u rhestru eisoes i drefniadau trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Lloegr, a hefyd y slotiau sydd ar gael ar darmac gwerthfawr Heathrow i awyrennau sy’n dod i lawr o'r Alban, fel y nodwyd yn y cwestiwn cynharach a gafodd ei ofyn ichi.

Oni allwch chi bwyntio at un ymrwymiad yr ydych wedi’i sicrhau gan Heathrow, neu gan berchnogion Heathrow, ynglŷn â'ch cefnogaeth chi neu gefnogaeth eich Llywodraeth i’r prosiect hwn? Gwrandewais yn ofalus iawn, a byddem i gyd yn cefnogi'r prosiectau yr oeddech yn sôn amdanynt, ond a dweud y gwir yr hyn yr hoffem ei weld yw llawer o'r prosiectau hynny'n cael eu gwireddu. Felly, oni allwch chi bwyntio at un darn o bapur, un memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar unrhyw siâp neu ffurf, unrhyw gytundeb, naill ai'n ariannol neu mewn nwyddau a gwasanaethau, y mae Heathrow wedi ei gynnig ichi am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ehangu capasiti llwybrau glanio yn ne-ddwyrain Lloegr?

Wel, mae agwedd yr Aelod ar y mater hwn yn fy synnu’n fawr, o ystyried y gallai yn sicr fod wedi dweud mwy am y prosiectau seilwaith mawr a amlinellais yn fy ateb i Simon Thomas, yn enwedig ynghylch y cyswllt rheilffordd gorllewinol i Heathrow, a ddylai gael ei gyflawni, ac y byddwn yn gobeithio y byddai'n galw ar Lywodraeth y DU i’w gyflawni, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffordd y gogledd, y byddwn yn gobeithio y byddai'n galw ar Lywodraeth y DU i’w gyflawni, gan gynnwys diddymu'r tollau Hafren dros Afon Hafren. Unwaith eto, Llywodraeth y DU sy’n rheoli’r holl bwyntiau pwysig hyn, felly byddwn yn gobeithio y byddai ef mewn gwirionedd yn beirniadu’r bobl hynny sy'n gyfrifol am fethu â chyflawni dros Gymru.

O ran Maes Awyr Heathrow, fel y dywedais wrth Simon Thomas, rydym eisoes wedi bod yn cynnal ymarfer marchnata mawr, ac mae’n ymddangos nawr bod yr Alban yn dymuno cychwyn ar un tebyg. Rydym eisoes wedi bod yn gwneud hynny ac, o ganlyniad i hynny, mae’r nifer fwyaf erioed o ymwelwyr wedi dod i Gymru; mae’r nifer fwyaf erioed o bobl bellach yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd; mae gennym gyswllt awyr newydd rhwng Caerdydd a Dinas Llundain hefyd. Ac o ran meysydd eraill y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, byddwn yn cynnal digwyddiadau cyflenwyr hefyd yng Nghymru, nid dim ond yng Nghaerdydd, ond fy nod yw gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal digwyddiadau cyflenwyr mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, o ran y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, fel y dywedais, rwy’n ceisio sicrhau ei fod yn gymesur â'r un sydd gan yr Alban, ac, ar 22 Tachwedd, bydd fy swyddogion yn cyfarfod eto gyda Heathrow i drafod sail y memorandwm hwnnw.

Unwaith eto, mae’n rhaid imi, Ysgrifennydd y Cabinet, fynegi fy syndod bod y Llywodraeth hon a llawer o'r bobl yn y Siambr hon yn cefnogi prosiect sy’n canolbwyntio ar dde-ddwyrain Lloegr heb unrhyw wir fanteision a nodwyd i economi Cymru. Yn wir, byddwn yn aralleirio’r hen ddywediad gwyliau: mae’r hyn sy'n digwydd yn ne-ddwyrain Lloegr yn aros yn ne-ddwyrain Lloegr. Oni fyddai wedi bod yn well hyrwyddo potensial meysydd awyr rhanbarthol? Rydych yn sôn am deithwyr a pha mor hawdd yw hi i deithwyr Cymru nawr hedfan o Heathrow, ond yn sicr mae gan Faes Awyr Caerdydd y gallu i gymryd yr awyrennau mwyaf, a byddai'n llawer gwell hyrwyddo Maes Awyr Caerdydd fel y lle, nid yn unig i bobl hedfan o Gymru ond hefyd i ddod i Gymru. Mae hwn yn ymddangos yn feddylfryd rhyfedd iawn, cyn belled ag y gallaf weld, ac yn enwedig, fel y nodwyd, gan nad yw’r gwaith adeiladu’n creu unrhyw fuddiannau uniongyrchol inni, sydd wedi eu cytuno â Senedd San Steffan.

Byddai'r Aelod yn iawn oni bai am y ffaith bod cynifer o bobl o Gymru mewn gwirionedd yn defnyddio Maes Awyr Heathrow, a waeth beth yw llwyddiant Maes Awyr Caerdydd, ni wnaiff Maes Awyr Caerdydd byth gystadlu â Heathrow fel canolbwynt rhyngwladol. Gall Caerdydd, fodd bynnag, weithredu fel maes awyr cyflenwol i Heathrow, a dyna beth mae cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis, wedi sôn amdano ar sawl achlysur. Dyna pam yr ydym wedi bod yn buddsoddi cymaint yn y maes awyr hwnnw. Dewch inni beidio ag anghofio, yn y Siambr hon, mai’r Ceidwadwyr, ac Andrew R.T. Davies, sydd newydd fod mor feirniadol, oedd yn dymuno cau'r maes awyr. Y Llywodraeth Lafur hon a achubodd y maes awyr. Y Llywodraeth Lafur hon sydd wedi gwneud y maes awyr yn llwyddiant anhygoel. Gadewch inni wynebu ffeithiau yma—[Torri ar draws.] Gadewch inni wynebu ffeithiau yma: os ydych am edrych ar bwy a achubodd y maes awyr, edrychwch ar y fainc flaen hon. Y Llywodraeth hon sydd wedi cyflawni llwyddiant Maes Awyr Caerdydd.

6. Cwestiwn Brys: Orgreave

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Ac rwy’n galw ar Lee Waters i ofyn y pedwerydd cwestiwn brys.

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave? EAQ(5)0056(CC)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae penderfyniad ddoe gan yr Ysgrifennydd Cartref yn siomedig dros ben. Gwnaeth y Prif Weinidog hi’n glir ym mis Gorffennaf bod Llywodraeth Cymru o blaid ymchwiliad. Yn enwedig yng ngoleuni canfyddiadau ymchwiliad Hillsborough, mae’r achos o blaid ymchwiliad yn llethol. Rydym yn y broses o ailadrodd ein barn i Lywodraeth y DU.

Diolch. Weinidog, roedd y frwydr am Orgreave yn un o'r diwrnodau mwyaf treisgar yn streic y glowyr ym 1984, ac eto ddoe gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ymchwiliad cyhoeddus ar y sail nad oedd yn ddigon difrifol. Dywedodd nad oedd dim collfarnau anghyfiawn, ond fel yr eglurodd Tyrone O'Sullivan, a oedd yn Orgreave, y bore yma, roedd arestiadau anghyfiawn, roedd trais torfol a gychwynnwyd gan Heddlu De Swydd Efrog, a daeth gyrfaoedd i ben—ni wnaeth y dynion a gafodd eu harestio erioed weithio i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol wedyn. Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi datgelu tystiolaeth o dyngu anudon ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae papurau a ddatgelwyd o dan y rheol 30 mlynedd ac, yn wir, cofiannau Gweinidogion wedi dangos bod yr heddlu wedi eu defnyddio’n fwriadol at ddibenion gwleidyddol, a bod offerynnau’r wladwriaeth wedi eu defnyddio i sathru ar streic gyfreithlon. Yn wir, cyfeiriodd William Waldegrave yn ei gofiant at anfon yr heddlu i mewn i gracio pennau. Weinidog, onid yw tystiolaeth ymchwiliad Hillsborough yn dangos, pan aiff pethau o chwith, mai’r peth gorau i'w wneud yw bod yn agored ac yn dryloyw a chyfaddef y camgymeriadau hynny a dysgu oddi wrthynt? Mae'n siomedig iawn i bobl o’r cymunedau glofaol y mae llawer ohonom yn eu cynrychioli nas achubwyd ar y cyfle hwn a bydd yn ei gwneud hyd yn oed yn anoddach i ailadeiladu ymddiriedaeth yn yr awdurdodau.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Wrth gwrs, fel llawer o bobl yng Nghymru, rwy’n siomedig ynglŷn â’r penderfyniad, ond, yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw plismona. Fodd bynnag, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref yn ei hymateb nad oedd hyn er lles y cyhoedd ehangach. Nid ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn cytuno â'r safbwynt hwnnw. Nid ydym yn argyhoeddedig eto nad yw’r mater honedig bod yr heddlu’n gweithredu ar gyfarwyddyd ymyrraeth wleidyddol ar bolisi gweithredol—nad yw wedi’i ddangos nad oedd hynny'n wir. Mae arafu cyfiawnder yn gyfystyr â gwrthod cyfiawnder, ac rydym yn credu, o hyd, ar ôl y blynyddoedd lawer hyn, mai rheolaeth y gyfraith i wneud iawn am anghyfiawnder yw adfer hyder pobl mewn plismona ac rydym yn credu mai cynnal ymchwiliad cyhoeddus yw'r peth iawn i'w wneud.

Roedd fy nhad yno yn Orgreave ar fore 18 Mehefin 1984 ac fel llawer o bobl eraill edrychodd yn anghrediniol wrth i fôr o 8,000 o swyddogion yr heddlu wahanu—llawer ohonynt, wrth gwrs, mewn offer terfysg llawn gyda tariannau hir yn gwahanu’n sydyn i adael marchoglu drwodd i hela glowyr, fel fy nhad, yn gwisgo dim ond crys-T a jîns. Dim ond lwc, mewn gwirionedd, oedd hi na chafodd ei arestio gan rai o'r sgwadiau cipio gyda'u tarianau byr a’u batonau—y tro cyntaf i’r dacteg honno erioed gael ei defnyddio ar dir mawr Prydain. Rydym bellach yn gwybod, fel y dywedodd Lee Waters, bod brwydr Orgreave, a dweud y gwir—a brwydr oedd hi—y frwydr gyntaf i gael ei chynnal, mewn gwirionedd, ar ynys Prydain ers brwydr Culloden. Roedd yn weithred fwriadol o lithio a fframio—wyddoch chi, gweithred o gosb ar y cyd yn erbyn y glowyr, wedi’i chynllunio’n fwriadol at y diben hwnnw.

Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yw, yng ngoleuni’r ffaith fod Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus a'r ffaith bod comisiynydd heddlu a throseddu de Swydd Efrog wedi gofyn i'r 20 o heddluoedd ar draws y DU sydd â gwybodaeth berthnasol yn eu harchifau, a fyddai'n galw cyfarfod o bedwar comisiynydd heddlu a throseddu Cymru i weld a allwn ni gydweithio, o leiaf i greu efallai ymholiad gan y bobl ac o bosibl darparu rhywfaint o adnoddau i hynny, er mwyn inni allu rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i gael yr ymchwiliad y mae ei wir angen arnom.

Yn olaf, yng ngoleuni'r ffaith bod, wrth gwrs, achos sifil wedi’i gynnal yn 1991, a gafodd ei setlo y tu allan i'r llys, ynglŷn ag arestio ar gam, ynglŷn ag erlyn maleisus ac ynglŷn ag ymosod, ac yng ngoleuni'r wybodaeth sydd wedi’i rhyddhau nawr, onid oes achos, mewn gwirionedd, i edrych ar, os oes angen, erlyniad preifat am gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder ac am annog? Oherwydd dyna beth oedd corlannu’r glowyr i mewn i'r cae hwnnw ac agor grym llawn y wladwriaeth yn ei gynrychioli mewn gwirionedd—annog trais yn erbyn pobl nad oeddent yn gwneud unrhyw beth heblaw dilyn eu hawl gyfreithiol i streicio ac ymladd dros eu cymunedau.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn gynharach, bûm yn gwylio’r cwestiynau yn San Steffan pryd y soniodd y gwir anrhydeddus Aelod Chris Bryant am lowyr o Gwm Rhondda mewn esgidiau cynfas a chrysau-T yn wynebu sgwadiau terfysg ar geffylau a oedd yn eu hela i lawr y strydoedd. Os oedd yn gamwedd bryd hynny, mae’n gamwedd heddiw. Y ffaith amdani yw bod y rhesymau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref, rwy’n credu, yn annilys. Yr esgus oedd nad oedd unrhyw dystiolaeth, ond mae llawer o fideos, mae llawer o luniau, ac mae llawer o drawsgrifiadau treial o’r digwyddiad hwn. Y ffaith amdani yw: sut yr ydym ni’n gwybod, sut y mae'r cyhoedd yn gwybod nad oedd ymyrraeth wleidyddol yn y ffordd yr ymdriniwyd â hynny? Ni allaf sefyll yn y fan yma ac amddiffyn y polisi hwnnw; Llywodraeth y DU ddylai wneud hynny.

Mae’r comisiynwyr heddlu a throseddu ac, yn wir, comisiynydd heddlu de swydd Efrog sydd hefyd wedi cytuno a dweud y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus—mae'n rhywbeth y byddaf yn ei adolygu o ran ein perthynas, ond, fel y dywedais, nid yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli, ond mae gennym farn gref iawn yn y Llywodraeth Cymru hon.

Roeddwn mewn digwyddiad coffa ar y penwythnos gyda glowyr o Sant Ioan, Coegnant a Garth yn fy nghymuned i a glofeydd eraill a ddaeth at ei gilydd dros 100 mlynedd yn ôl i roi eu cyflogau at ei gilydd i adeiladu ysbyty cymunedol. Cawsant gyfle i siarad â mi ac roeddent yn obeithiol nad y canlyniad yr ydym wedi’i glywed yr wythnos yma fyddai’r un yr ydym wedi'i glywed. Roedden nhw’n gobeithio am o leiaf rhyw fath o ymchwiliad. Yr ofn oedd y byddai'n rhyw hanner ymchwiliad; nawr, nid oes gennym unrhyw ymchwiliad o gwbl. Fe wnaethant fy atgoffa na allwn anghofio mai cefndir y galwadau hyn am ymchwiliad oedd y bennod gywilyddus honno yn hanes y DU, pan benderfynodd Llywodraeth frwydro yn erbyn undeb a’i ddinistrio, ac wrth wneud hynny, ystyried mai difrod cyfochrog oedd y bobl a'r teuluoedd a'r cymunedau a gafodd eu dal yn y frwydr wleidyddol honno.

Rydym yn gwybod nawr mai brwydr wleidyddol oedd hi. Mae'r papurau wedi dod allan a dangos yn glir iawn bod cydgynllwynio yn wir wedi digwydd rhwng y wladwriaeth a'r heddlu er mwyn sathru ar y glowyr hyn ac ar eu cymunedau, a dyna beth yw cefndir Orgreave. Dywedasant wrthyf, 'Mae angen inni wybod, ar y diwrnod dan sylw, o dan orchmynion neu gyfarwyddiadau pwy? O dan orchymyn pwy? Pwy roddodd y gorchmynion hynny i ganiatáu i'r heddlu gynnal yr erchyllterau hyn yn erbyn gweithwyr parchus a oedd yno ar y diwrnod hwnnw i geisio amddiffyn eu diwydiant, eu swyddi, eu teuluoedd, eu cymunedau? Pwy oedd mewn gwirionedd yn gyfrifol am y penderfyniadau hynny a adawodd lawer o lowyr a phobl ddiniwed eraill a oedd yn bresennol wedi’u hanafu'n ddifrifol ac wedi’u creithio am oes, yn feddyliol ac yn gorfforol? Pam nad ydynt wedi cael eu dwyn i gyfrif ryw 32 mlynedd yn ddiweddarach?' Ac ni fyddwn yn gwybod o hyd, oherwydd mae’r penderfyniad yr wythnos hon wedi golygu, o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, na fydd ymchwiliad. Bydd yn rhaid inni aros, rwy’n amau, i Lywodraeth yn y dyfodol gynnal ymchwiliad i mewn i hyn. Ond mae angen hynny i roi’r gwir a chyfiawnder i'r bobl hynny a oedd yn Orgreave ac sy'n cydnabod na fydd hyn byth wedi gorffen hyd nes ein bod yn gwybod y gwir am bwy a wnaeth y penderfyniadau hynny, ac mae hynny yn golygu yr heddlu hefyd. Ni chaiff byth ei ddatrys hyd nes bydd gennym yr atebion i hyn, ac mae'n warth, y penderfyniad yr ydym wedi’i glywed yr wythnos hon.

Lywydd, gwelsom i gyd yr hyn a ddigwyddodd gyda thrychineb Hillsborough a faint o amser a gymerodd i’r gwir ddod allan. Mae oedi parhaus ar Orgreave yn annerbyniol. Mae'n rhyfedd iawn bod 30 mlynedd yn rhy hir i gynnal ymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd yma, ac eto nid yw 30 mlynedd yn ddigon hir i ryddhau papurau'r Cabinet â'r cyfarwyddiadau plismona gweithredol yn y digwyddiad hwnnw. Byddwn yn awgrymu bod yr Ysgrifennydd Cartref yn ailystyried ei barn o ran y dewisiadau sydd ganddi i'w hystyried er pennaf les dod â chymunedau ynghyd ledled y DU ac, yn enwedig, yn Swydd Efrog, oherwydd ni wnaiff hyn ddiflannu. Os oedd yn gamwedd bryd hynny, mae'n dal i fod yn gamwedd heddiw.

Nodaf fod Llafur yn dal i rygnu ymlaen â’r pwnc hwn, ac mae Plaid Cymru bellach yn eu cynorthwyo. Roedd cost ymchwiliad Sul y Gwaed bron i £200 miliwn o arian cyhoeddus—cafodd y rhan fwyaf ohono ei roi i gyfreithwyr. Roedd Orgreave 32 mlynedd yn ôl; ni fu neb farw. Pam mae Llafur a Phlaid Cymru mor benderfynol o roi mwy o arian trethdalwyr i gyfreithwyr?

Rwy’n clywed y sylwadau a wnaeth yr Aelod. Rwy’n methu â chytuno â dim o'r sylwadau a wnaeth. Dioddefodd llawer o gymunedau, cafodd pobl eu carcharu, a chafodd pobl eu gwneud yn droseddwyr. Yr hyn y dylem ni ei gofio yw nad oedd yr heddlu i gyd na’r glowyr i gyd yn bobl ddrwg. Yr hyn y mae gwir angen inni ei ddeall yw beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw. Beth oedd y cyfarwyddyd? Beth oedd y tu ôl i'r frwydr a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw? Yn anffodus, mae'r sylwadau a wnaeth Gareth yn siomedig, a dweud y lleiaf. Y ffaith yw bod teuluoedd yng Nghymru, teuluoedd ledled y DU, sydd wedi dioddef ers diwrnod y frwydr honno hyd heddiw, ac mae arnom angen rhai atebion i hynny.

7. 3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae gennyf fi nifer fawr o Aelodau eisiau gofyn cwestiynau i’r Gweinidog busnes, felly cadwch eich cwestiynau yn fyr ac yn fachog. Rwy’n gofyn i’r Gweinidog busnes wneud ei datganiad.

Mae gennyf sawl newid i'w wneud i agenda heddiw. Yn ychwanegol at ddatganiad y Prif Weinidog ar drefniadau pontio’r UE, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad am y ganolfan gofal critigol arbenigol yn Llanfrechfa, a bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y tasglu gweinidogol ar gyfer y Cymoedd. O ganlyniad, rwyf wedi gohirio’r datganiad ar barodrwydd am y gaeaf tan 15 Tachwedd a’r datganiad ar bwyslais ar allforion tan 22 Tachwedd. Yfory, rwyf wedi lleihau'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ac mae ymhlith papurau'r cyfarfod ac ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am dri datganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw: roeddech chi a minnau ar Stryd Fawr y Bont-faen ddydd Sadwrn, pryd y tynnodd llawer o fusnesau sylw at yr ymarfer ailbrisio a gynhaliwyd a'r cynnydd enfawr y bydd llawer o'r busnesau hynny yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a fydd, yn y bôn, yn creu amheuaeth wirioneddol ynghylch eu hyfywedd. Clywais y sylwadau gan y Prif Weinidog yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, pryd y cyfeiriodd at y gronfa bontio gwerth £10 miliwn sydd wedi ei sefydlu. Fy nealltwriaeth i oedd bod yr arian pontio hwn eisoes ar gael ac na fydd yn cynnig fawr ddim iawndal ar gyfer y cynnydd anferth y bydd llawer o'r busnesau yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i nodi pa gymorth sydd ar gael, ond, yn ail, pa fesurau eraill allai ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r dystiolaeth gynyddol a gyflwynir gan fusnesau, nid yn unig ym Mro Morgannwg, ond ar hyd a lled Cymru, sy’n creu amheuaeth enfawr, enfawr ynghylch dyfodol llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr ac mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, yw datganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth ynglŷn â threfniadau trafnidiaeth ar y penwythnos rhyngwladol sydd ar ddod yng Nghaerdydd, pan fydd pêl-droed a rygbi yn cael eu chwarae ar yr un penwythnos, gyda'r potensial y bydd 100,000 o gefnogwyr o ryw fath neu’i gilydd yn dod i'n prifddinas wych. Mae hynny i’w ddathlu mewn un ffordd. Mae'n gyfle masnachol enfawr ac, yn wir, mae'n ddigwyddiad diwylliannol mawr i ddathlu’r ffaith bod y timau rygbi a phêl-droed yn chwarae yn yr un ddinas. Yn anffodus, mae profiadau’r gorffennol wedi dangos bod y cyfleoedd trafnidiaeth, yn enwedig pan fo’r chwiban olaf wedi’i chwythu mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, wedi bod yn broblemus—gawn ni ddweud—ar rai achlysuron. Byddai'n dda clywed gan y Gweinidog pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd gyda'r gwahanol awdurdodau i sicrhau bod unrhyw broblemau posibl ac ymarferion gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd yn y brifddinas wedi eu rhoi ar waith, fel na fyddwn yma ar y dydd Mawrth ar ôl y penwythnos yn myfyrio ynghylch anhrefn traffig, ac y byddwn gobeithio yn dathlu dwy fuddugoliaeth gref iawn gan Gymru yn hytrach, gyda sylwadau canmoliaethus yn dod gan y cefnogwyr niferus sydd wedi dod i’n prifddinas.

Y datganiad terfynol, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, yw datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch ehangu Maes Awyr Caerdydd. Byddwn yn falch iawn o gael gwybod pa gynlluniau a pha arian yn union sydd wedi ei neilltuo i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer cynlluniau ehangu. Fy nealltwriaeth i yw, yn rhan o rodd y maes awyr, fod rhyw 400 erw o dir sydd eisoes yn ei berchnogaeth, a byddai rhywun yn tybio y byddai hynny'n ddarn sylweddol o dir datblygu sydd ar gael iddo. Mae etholwyr yn yr ardal wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod asiantau sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau ynghylch caffael tir ychwanegol gan bobl sy'n berchen ar dir yn yr ardal o amgylch y maes awyr, a byddwn yn falch o gael gwybod, o ystyried y 400 erw y mae’r maes awyr eisoes yn berchen arnynt yn yr ardal, pam mae’r ehangu hwn yn cael ei ystyried, a pha fath o ehangu a datblygu sy’n cael eu hystyried ar gyfer y tir newydd pe byddai'n cael ei brynu gan Lywodraeth Cymru ar ran Maes Awyr Caerdydd.

Diolch yn fawr, Andrew R.T. Davies, am eich cwestiynau. Roeddwn innau’n falch o gyfarfod â busnesau a masnachwyr yn y Bont-faen ddydd Sadwrn hefyd. Yn wir, roedd yn gyfle i siarad â nhw am eu hanghenion gwahanol iawn. Soniodd rhai ohonynt wrthyf hefyd am rai o'r ffynonellau eraill o gymorth, er enghraifft, fel ReAct, sy'n cefnogi busnesau. Felly, rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig, fel y dywedwch, ein bod yn ystyried pob ffordd o gefnogi busnesau yn y stryd fawr. Ond o ran eich cwestiwn penodol, wrth gwrs, o ran ailbrisio, nid yw hynny o dan ein rheolaeth. Bydd yn effeithio ar gymhwysedd llawer o fusnesau. Bydd ein cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn, yr ydych yn cyfeirio ato—a fydd ar gael o fis Ebrill nesaf, ar 1 Ebrill, pan ddaw'r ailbrisiad hwnnw i rym—yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae hynny'n wahanol i'r cynllun yn Lloegr, sy’n mynd ag arian oddi wrth un busnes i’w roi i fusnes arall. Bydd llawer o’r busnesau bach hynny, megis y rhai y gwnaethom gyfarfod â nhw yn y Bont-faen, yn elwa’n uniongyrchol ar y cymorth hwn, ond hefyd mae Busnes Cymru a swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet yn barod iawn i helpu, cefnogi a thrafod y materion hyn ymhellach. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cofnodi bod y prisiadau drafft hyn yn cael eu cyhoeddi chwe mis ymlaen llaw. Mae hynny'n caniatáu i drethdalwyr wirio manylion eu heiddo a’r prisiad, ac os yw trethdalwyr yn credu bod eu prisiadau yn anghywir, yna, wrth gwrs, mae’n rhaid iddynt roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn gynted ag y bo modd.

O ran eich ail bwynt, wrth gwrs byddwn yn disgwyl dathlu buddugoliaethau gan Gymru yn ein prifddinas wych, rwy’n siŵr, ddydd Mawrth nesaf. O ran yr ymwelwyr sydd wedi cael eu denu i'r ddinas, wrth gwrs, mae’r digwyddiadau hyn wedi eu rheoli'n dda iawn yn y gorffennol. Mae'n fater o bawb yn cydweithio. Wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r trefniadau ar gyfer yr awdurdod lleol, yr heddlu ac ar gyfer yr holl asiantaethau hynny sy'n cydweithio i sicrhau y gall hwn fod yn benwythnos gwych i Gymru.

Nid wyf yn ymwybodol o'r materion a godwyd gennych ynghylch y posibiliadau o ran ehangu ym Maes Awyr Caerdydd, ond rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i egluro’r pwyntiau hynny.

Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol efallai o ddeiseb yn galw am gyfiawnder ynglŷn â'r gwarged yng nghynllun pensiwn y glowyr. Mae dros 7,000 o lofnodion ar y ddeiseb ac mae’r gwarged yn y cynllun pensiwn wedi cyfrannu biliynau i'r Trysorlys. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar frys er mwyn sicrhau adolygiad o'r gwarged yng nghynllun pensiwn y glowyr fel nad yw mwyach yn ffynhonnell arian ddiddiwedd ar gyfer y wladwriaeth Brydeinig? Credaf, yng ngoleuni’r penderfyniad gwarthus ddoe ynghylch brwydr Orgreave, fod ar gyn-lowyr yn y wlad hon angen Llywodraeth Cymru yn gadarn ar eu hochr.

Wel, rwyf yn gobeithio, ac ar sail yr ymatebion gan Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru, y bydd y glowyr a'u teuluoedd yn gweld bod Llywodraeth Cymru—yn wir, gyda'ch cymorth chi yn ogystal—yn gadarn iawn ar ochr ein glowyr. Ac, wrth gwrs, o ran pensiynau, fel y dywedodd Carl Sargeant, o ran ein galluoedd a’n pwerau, rydym wedi’n cyfyngu o ran yr hyn y gallwn ei wneud, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn dangos ein cefnogaeth yn glir ac, yn sicr, yn ystyried ffyrdd y gallem ddylanwadu ar y canlyniad.

Ar y penwythnos, roeddwn i’n bresennol yn lansiad y banc bwyd diweddaraf yn fy etholaeth i, ym Mhencoed, a hoffwn ddiolch i wirfoddolwyr banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr sydd bellach yn darparu gwasanaeth dosbarthu bwyd bob dydd i bob rhan o fy etholaeth. Byddant yn deall ac yn cytuno â mi, mewn byd delfrydol, na fyddai arnom angen banciau bwyd o gwbl. A gaf i alw am ddadl ar effaith y newidiadau, felly, i'r system budd-daliadau cynhwysol ar deuluoedd a chymunedau yng Nghymru a'r egwyddor o wneud i waith dalu yn dilyn yr adroddiad damniol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag Iain Duncan Smith, sy’n dangos y gallai’r rheiny sydd mewn gwaith fod hyd at £1,000 yn waeth eu byd mewn gwaith? A fyddai hi'n cytuno, pan fydd rhywun fel y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Iain Duncan Smith, y mae ei enw drwg yn hysbys i bawb, yn dweud bod hyn yn mynd i gosbi aelwydydd tlawd, sy’n gweithio, y dylem fod yn bryderus iawn?

Dylem yn wir fod yn bryderus iawn, ac mae'n anffodus iawn bod Iain Duncan Smith wedi gweithredu llawer o newidiadau a thoriadau o ran diwygio lles—rhai ohonynt, wrth gwrs, yr ydym yn sôn amdanynt heddiw—sy'n cael effaith andwyol uniongyrchol ar deuluoedd. O ran y pwynt ynghylch credyd cynhwysol a sut mae'n cael ei gyflwyno yng Nghymru, dim ond i hawlwyr ceisio gwaith sengl newydd yng Nghymru y mae wedi ei gyflwyno hyd yn hyn—nid yw hynny’n cynnwys hawliadau newydd gan gyplau a theuluoedd yn Shotton. Ond, gadewch i ni edrych ar yr hyn a ragwelwyd, nid yn unig gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol: amcangyfrifir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd toriadau i lwfansau gwaith yn y credyd cynhwysol yn effeithio ar tua 3 miliwn o deuluoedd ym Mhrydain Fawr a fydd yn colli ychydig dros £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd. Ac, wrth gwrs, y teuluoedd hynny yw'r rhai—llawer ohonynt yr ydym yn eu cynrychioli—sydd yn troi at y banciau bwyd hynny sydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad ar gymorth ar gyfer undebau credyd yng Nghymru. Dyma’r Cyfarfod Llawn cyntaf, mewn gwirionedd, i ni ei gael ers Diwrnod Rhyngwladol yr Undebau Credyd ar 20 Hydref, pan oeddem ni’n myfyrio ar hanes y mudiad, yn hyrwyddo ei gyflawniadau ac yn codi ymwybyddiaeth ynghylch y gwaith gwych y mae undebau credyd yn ei wneud o amgylch y byd, ac yn rhoi cyfle i aelodau gymryd rhan. Y rheswm yr wyf yn gofyn am ddatganiad yn benodol yw oherwydd, ym mis Mawrth, gofynnais i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pryd yn y Siambr hon ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru, yr oedd disgwyl iddo ddod i ben bryd hynny yn 2017. Mewn dwy ran o dair o drafodiadau benthyciadau, byddai pobl yn arbed arian drwy ddefnyddio undeb credyd, ond dim ond 2.5 y cant o bobl yng Nghymru sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Gofynnais i'r Gweinidog ar y pryd,

sut ydych chi’n ymateb i'r alwad gan undebau credyd yng Nghymru i Lywodraeth nesaf Cymru ddarparu cymorth i feithrin gallu ar gyfer y cyfnod pontio y tu hwnt i 2017?'

Atebodd hi:

mater i’r Llywodraeth nesaf yw hwnnw. Rwyf yn credu ein bod wedi cefnogi undebau credyd yn dda iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wel, rwyf yn galw am ddatganiad yng nghyd-destun yr ychydig flynyddoedd nesaf, o ystyried ymateb y Gweinidog ar yr achlysur hwnnw ac, wrth gwrs, pwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd.

Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar y goblygiadau i wasanaethau sydd wedi'u datganoli a materion datganoledig yn sgil euogfarn uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi ymddeol yn Llys y Goron, yr Wyddgrug, mewn perthynas â chyhuddiadau hanesyddol o gam-drin plant—eto, ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf yn y Siambr hon. Rydym yn gwybod bod yr Arglwyddes Ustus Macur, dirprwy farnwr llywyddol y Llys Apêl, wedi ailarchwilio’r achos penodol hwnnw yn ddiweddar yn rhan o'i gwaith ar dribiwnlys cam-drin plant gogledd Cymru rhwng 1997 a 1998, a dywedodd hi fod y swyddog hwnnw wedi dweud celwydd pan gwestiynwyd ef gyntaf dan rybuddiad ynghylch y drosedd, a dywedodd hi fod y tribiwnlys yn gwybod am yr achos yn 1997, ond na chafodd y ffeil oherwydd bod Heddlu Gogledd Cymru o’r farn nad oedd yn berthnasol. Rydym yn gwybod bod y cyfreithiwr a oedd yn cynrychioli un o'r dioddefwyr pan roddwyd tystiolaeth yn ei erbyn gan uwch-swyddog cyfreithiol Sir y Fflint ar y pryd yn y llys, gan amddiffyn yn llwyddiannus y dyn ifanc hwnnw yn erbyn honiadau ffug a ddygwyd yn y modd a ddisgrifiais, wedi dweud ei fod wedi ei fygwth yn bersonol oherwydd ei ymholiadau wrth amddiffyn y dioddefwr hwnnw. Rydym yn gwybod pan wnaeth rheolwr archwilio mewnol Sir y Fflint—

[Yn parhau.] –chwythu’r chwiban ynghylch Sir y Fflint—

Mae angen i chi ddod at eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda, Mark Isherwood.

[Yn parhau.] –gan gynnwys materion yn ymwneud â Waterhouse, a chodais hynny yn y fan yma, fod eich cydweithwyr a’r Llywodraeth yr oeddech chi’n ei chynrychioli ar y pryd wedi fy nghyhuddo o ddwyn anfri ar y Cynulliad. Wel, mae materion wedi eu codi ynglŷn ag ymddygiad swyddogion y cyngor ac aelodau’r cyngor ar y pryd yn gyhoeddus, mewn tystiolaeth i'r tribiwnlys, mewn tystiolaeth mewn llysoedd, ac mewn datganiadau mewn papurau newydd, sydd bellach yn agored i’w cwestiynu yn sgil yr euogfarn hon. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru bellach ychydig yn fwy tryloyw ac atebol, fel y mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i fod yng nghyd-destun Swydd Efrog, o ystyried canfyddiadau'r achos llys hwn.

Wel, byddaf yn sicr yn awyddus i sicrhau ein bod yn egluro'r sefyllfa, oherwydd gwn fod hyn wedi ei godi dros y blynyddoedd, Mark Isherwood, a byddaf yn dymuno sicrhau y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa. Awgrymaf ei fod yn gwneud hynny mewn llythyr at yr Aelod.

Roeddwn yn meddwl tybed a allem ni gael rhywfaint o eglurhad gennych ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiadau, oherwydd efallai eich bod wedi sylwi—yn amlwg byddwch wedi sylwi—bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi cyhoeddi y byddai cyffordd 41 ym Mhort Talbot yn aros ar agor, ac rwyf wrth gwrs yn croesawu hynny, ond dim ond ar ôl i bobl fel fi ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gwyno am y ffaith mai gwleidyddion Llafur yn unig a gafodd wybod am y datblygiad penodol hwn y cawsom ddatganiad ysgrifenedig. Byddwn yn gwerthfawrogi, os oes gan Lywodraeth Cymru rywbeth sydd o ddiddordeb i holl Aelodau'r Cynulliad a'r holl gymunedau, cael gwybodaeth lawn, fel ein bod yn ymwybodol o’r datblygiadau penodol hynny pan fydd pobl yn dod atom ni.

Mae fy ail gais am ddadl yn amser y Llywodraeth ar bwysigrwydd cymunedau diwydiannol a glofaol blaenorol. Rwy'n credu bod angen i ni gael dadl o'r fath oherwydd bod rhai o Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon nad ydynt yn sylweddoli pa mor bwysig ydynt, ac efallai y byddai’n fuddiol iddyn nhw gael elfen o’r addysg honno cyn iddyn nhw wneud sylwadau amhriodol am sefyllfaoedd fel Orgreave, pan nad oedd pobl wedi marw, ond eu bod eto yn cyfiawnhau cynnal ymchwiliad. Nid oedd llawer o bobl wedi marw yn y saga cam-drin plant yng Nghymru a ledled y DU, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'n cyfiawnhau ymchwiliad, ac un a fydd yn dwyn pobl i gyfrif. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i chi, Bethan Jenkins. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed ac rwyf yn deall bod Aelodau'r Cynulliad wedi eu gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth mewn modd amserol er mwyn i chi, fel Aelod Cynulliad, fod yn ymwybodol o'r penderfyniad pan gaiff ei wneud. Felly, yn amlwg, rydych chi wedi gwneud y pwynt hwnnw heddiw, Bethan Jenkins.

Diolchaf i chi am wneud eich ail bwynt, pwerus iawn, ac yr wyf yn credu eich bod wedi gwneud hynny er mwyn dwyn pobl i gyfrif am yr hyn y maent yn ei ddweud yn y fan yma yn y Siambr hon.

Roeddwn yn falch o weld, yr wythnos diwethaf, fod yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol wedi agor swyddfa yng Nghaerdydd, a dywedodd yr Athro Alexis Jay, sef arweinydd y DU ar gyfer yr ymchwiliad hwn, mai’r nod oedd creu gwybodaeth, diddordeb ac ymwybyddiaeth ymhlith dioddefwyr a goroeswyr y prosiect gwirionedd, a’u hannog i ddod ymlaen. O gofio’r ffaith fod yr ymchwiliad hwn mewn gwirionedd ar ei bedwerydd cadeirydd, a’i fod wedi cychwyn yn araf, beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud, naill ai drwy ddatganiadau yn y lle hwn, neu drwy unrhyw ddull arall, er mwyn annog dioddefwyr a goroeswyr cam-drin hanesyddol yng Nghymru i ddod ymlaen ac i rannu eu profiadau?

Diolch i chi, Julie Morgan, am godi'r cwestiwn pwysig iawn yna, oherwydd rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn croesawu'r ffaith bod yr ymchwiliad wedi lansio swyddfa yng Nghymru, fel y dywedwch. Rwyf yn credu wrth i chi edrych ar y ffordd y mae'r DU wedi comisiynu’r ymchwiliad—mae'n cynnwys Cymru a Lloegr, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, sy'n byw yng Nghymru, yn cael cyfle i ddod ymlaen, adrodd eu straeon a theimlo'n ffyddiog ynghylch yr ymchwiliad hwn. Yn wir, pan wnaed y cyhoeddiad hwnnw, roedd rhywfaint o gyhoeddusrwydd a daeth pobl ymlaen, a chredaf fod rhai dioddefwyr a goroeswyr wedi dod ymlaen mewn ffordd bwerus a dewr iawn, iawn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei sicrhau yn awr yw bod y bobl hynny yng Nghymru yn cael eu cefnogi.

Nawr, mae gennym swyddogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o dîm yr ymchwiliad sydd bellach yn gweithio i gefnogi anghenion yr ymchwiliad yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael ymchwiliad a pherthnasoedd sy'n dryloyw. Yn amlwg, ymchwiliad annibynnol yw hwn, ac rwyf yn credu bod y ffaith fod Llywodraeth Cymru, a’r rhan y gallwn ei chwarae—. Fel y dywedwch, fel y dywed yr Aelod, mae'n ymwneud â sut y gallwn ni gydweithio wedyn, drwy fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi, ac nid dim ond bod yn bresennol yn y lansiad, ond cyfarfod â'r ymchwiliad sy'n digwydd—credaf eu bod yn cyfarfod yn yr ychydig ddyddiau nesaf—a hefyd ei gwneud yn glir, yn gyhoeddus, sut y gall pobl ddod ymlaen a pha fath o gefnogaeth y gallant ei chael a disgwyl ei derbyn a chael eu grymuso ynghylch sut y maen nhw’n cyflwyno eu tystiolaeth ac, yn dilyn hynny, teimlo eu bod wedi’u cryfhau gan y cyfle y bydd yr ymchwiliad hwn yn ei gynnig.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu ystafelloedd dos ar gyfer pobl sy’n gaeth i gyffuriau yng Nghymru? Mae pryderon wedi eu mynegi wrthyf, ac rwyf i’n bersonol wedi gweld nodwyddau mewn mannau chwarae ysgolion, parciau a mannau eraill lle mae pobl yn cerdded o gwmpas yn aml. Dim ond yr wythnos diwethaf, es i i dŷ a oedd wedi’i fwrglera, ac roedd y lleidr yn gyfleus iawn wedi defnyddio’r adeilad hwnnw ar gyfer defnyddio cyffuriau. Y llynedd, cyn yr etholiadau, pan oeddem yn glanhau, rhai ohonom, yn ardal y Pil yng Nghasnewydd, roedd nodwyddau y tu ôl i'r ysgol gynradd, mewn parc. Weinidog, nid yw hynny'n dderbyniol yn y Gymru fodern hon.

Mae cynllun i sefydlu ystafell ddos gyntaf y DU i ganiatáu i bobl sy’n gaeth i gyffuriau chwistrellu’n ddiogel dan oruchwyliaeth yn debygol o gael y golau gwyrdd yn Glasgow, yn yr Alban. Mae'r newid hwn wedi ei gynllunio i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan y 500 o bobl sy’n gaeth i gyffuriau, yn ôl yr amcangyfrif, yn chwistrellu ar strydoedd Glasgow. A allem ni gael datganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pa un a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno prosiect tebyg yng Nghymru? Yn ail, a allwn ni gael, cyn gynted ag y bo modd, dadl yn y Siambr hon ar Gymru sy’n rhydd o gyffuriau anghyfreithlon? Diolch yn fawr iawn.

Mae’r Aelod yn codi mater pwysig iawn. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o rannau eraill o'r DU. Rwy’n credu y byddwn wedi darllen am y datblygiad hwnnw yn Glasgow. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae swyddogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet—oherwydd nid yw’n ymwneud â dim ond un Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n sicr yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth—. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn arwain at ddatganiad i egluro ein safbwynt o ran y sefyllfa.

Yn unol â’ch dyhead i fod yn fyr ac yn fachog, a allaf ofyn am ddwy ddadl yn amser y Llywodraeth, y cyntaf yn ymwneud â’r cyhoeddiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos cyn diwethaf, wedi’r cyfarfod ‘Plenary’ diwethaf, ynglŷn â’r arian newydd i ddenu meddygon ifanc i fod yn feddygon teulu yn yr ardaloedd mwyaf anodd i ddenu meddygon iddynt? Tra’n amlwg yn croesawu’r rhan yna o’r datganiad, nid oes dim byd yn y datganiad yna sydd yn cynnig dim i feddygon teulu yn eu practisys heddiw, nawr, lle mae’r meddygon teulu yma yn gwegian o dan straen gorweithio ac ati. Yr her ydy, nawr, i gadw’r meddygon teulu presennol lle maen nhw. Nid yw cyhoeddiad yr wythnos o’r blaen yn gwneud dim ar hynny, a buaswn i’n fodlon i gael dadl ynglŷn â hynny, ac rwy’n gobeithio eich bod chi’n cytuno â’r syniad o gael dadl ar y pwynt yna.

Yr ail bwynt i gael dadl arno yn amser y Llywodraeth yw dadl ar Treftadaeth Cymru—Historic Wales. Rwyf wedi gofyn o’r blaen. Nid wyf yn mynd i rihyrso y dadleuon eto, o achos cyfyngiad amser, ond mi fuaswn i’n croesawu ateb cadarnhaol i’r cais i gael dadl yn amser y Llywodraeth ar Treftadaeth Cymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Eich pwynt cyntaf: wrth gwrs, rydym wedi lansio—mae'r Prif Weinidog wedi lansio—ymgyrch fawr newydd i hyrwyddo Cymru fel lle ardderchog ar gyfer meddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae hynny'n ymrwymiad clir sydd yn ein rhaglen lywodraethu. Mae eich pwynt yn un da o ran y rhai sydd eisoes yn ymarfer yn ogystal â'r cyfleoedd newydd i ddenu meddygon ifanc i ymarfer cyffredinol.

Eich ail bwynt: wrth gwrs, mae gennym ddatganiad ar Gymru Hanesyddol yr wythnos nesaf sy’n cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwy'n pryderu am effaith ailysgrifennu'r rheolau mewnfudo gan Lywodraeth y DU a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar les fy etholwyr. Yn benodol Bashir Naderi, sef Affgani 19 oed sydd wedi byw yn y wlad hon ers ei fod yn 10 oed ac sy’n wynebu’r bygythiad o gael ei alltudio yn ôl i Affganistan, er ei fod yn siarad gydag acen Gymreig ac yn Gymro, i bob pwrpas, ac a fydd mewn perygl dybryd os bydd yn cael ei alltudio. Yn ffodus, mae'r gefnogaeth eang iddo wedi arwain at atal gweithredu am bythefnos arall i adolygu ei achos, ond pan oedd ar fin gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n cymdeithas, gan ei fod yn dilyn cwrs adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, mae'n ymddangos yn gwbl anaddas, ar ôl derbyn yr unigolyn hwn fel ffoadur, ein bod wedyn yn ei anfon yn ôl i'r wlad y gwnaeth ffoi ohoni, yn dilyn llofruddiaeth ei dad, ryw naw mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â hynny, rwy'n arbennig o bryderus am effaith bygythiad Llywodraeth y DU i gyfyngu ar nifer y myfyrwyr tramor sy'n cael dod i astudio yma yn y DU, oherwydd bydd hynny'n cael effaith fawr ar fusnesau llwyddiannus Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill sy'n canfod bod gallu cynnig addysg ragorol i bobl o dramor yn rhywbeth sy'n ein galluogi i wella ein sefyllfa o ran mantoli taliadau. Yn y ddau achos, er nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli, rwyf yn teimlo bod angen llawer mwy o drafodaeth ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl yng Nghymru, ac roeddwn yn meddwl tybed a allwn ni gael dadl synhwyrol ac ystyriol ar y mater hwn.

Rwy'n ddiolchgar i Jenny Rathbone am ddod â’r pwyntiau yna i'n sylw yn y datganiad busnes heddiw. Diolch i chi am dynnu ein sylw at yr achos, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi darllen amdano, ynghylch Bashir Naderi, ac mae'n galonogol gweld y gefnogaeth yn y gymuned ac sy'n cael ei mynegi yn y cyfryngau lleol i Bashir Naderi a'r gefnogaeth y mae wedi’i chael gan ei fam faeth a'i phartner a'r gymuned y mae wedi byw ynddi am y 10 mlynedd diwethaf. Felly, yn amlwg, er nad oes gennym ddylanwad o ran ein pwerau ar y polisi ynghylch mewnfudo, mae'n bwysig ein bod yn clywed y pwyntiau a wnewch heddiw, Jenny Rathbone, ac rydym yn gobeithio y bydd ei adolygiad yn llwyddiannus o ran ei sefyllfa.

Mae eich ail bwynt, wrth gwrs, yn bwynt sydd wedi ei wyntyllu'n fynych ar draws y DU, nid yng Nghaerdydd ac yma yng Nghymru yn unig, o ran y swyddogaeth bwysig y mae myfyrwyr o dramor yn ei chwarae, nid yn unig o ran ein prifysgolion, ond ein sylfaen ymchwil ac, yn wir, llawer o'r cyfraniadau a wnânt o ran ymchwil arloesol sydd wedyn yn arwain at swyddi a rhagolygon yn y wlad hon.

Rwyf eisiau gofyn i arweinydd y tŷ pam yr ydym yn cael datganiadau dan embargo, fel mater o drefn, nad ydynt yn cael eu darparu tan ychydig cyn dechrau'r Cyfarfodydd Llawn. Roeddwn yn meddwl tybed beth oedd y rheswm y tu ôl i hynny. Diolch.

Mae gennym arfer, sydd wedi gweithio am flynyddoedd lawer, lle'r ydym yn darparu’r datganiadau llafar cyn iddynt gael eu gwneud. Rwy'n credu bod hwnnw yn gwrteisi y mae ein rheolwyr busnes yn ei groesawu. Ac os oes oedi, yna’n amlwg mae hynny'n destun gofid, a byddwn yn amlwg yn awyddus i glywed am unrhyw oedi o'r fath. Ond darperir yr holl ddatganiadau llafar drwy'r rheolwyr busnes, ac rwyf yn gobeithio y bydd hyn yn parhau yn y ffordd y mae wedi ei fabwysiadu.

Diolch i chi, arweinydd y tŷ, ac yn gyntaf a gaf i groesawu’r ffaith bod y datganiad heddiw am y ganolfan gofal arbenigol a chritigol yng Nghwmbrân wedi ei gyflwyno? Roeddwn yn falch o dderbyn y datganiad dan embargo yn gynharach heddiw mewn da bryd ynghylch hynny. Rydym wedi bod yn galw am amser hir bellach—ACau—yn y Siambr hon am y wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan gofal critigol, felly rwy'n edrych ymlaen at holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch hynny yn nes ymlaen, ac mae'n fater hanfodol bwysig i bobl y de-ddwyrain ac, yn wir, y de yn gyffredinol.

Yn ail, a gaf i ailadrodd fy ngalwadau cynharach ar y Prif Weinidog am weithredu i gefnogi busnesau ymlaen llaw ac yn sgil ailbrisio cyfraddau busnes ledled Cymru y flwyddyn nesaf? Rwyf yn sylweddoli nad Llywodraeth Cymru sydd wedi achosi hyn yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae'n mynd i gael effaith. Nid wyf yn credu bod yr effaith y gallai hyn ei chael o bosibl ar fusnesau ledled Cymru wedi ei gwerthfawrogi yn llawn eto, yn enwedig yn y Gymru wledig. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried darparu llawer mwy o gymorth i'r busnesau hynny, oherwydd eu bod yn crefu am gymorth, gennyf i a chan Aelodau eraill o’r Cynulliad hefyd.

Yn olaf, arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf ailagorwyd twnnel Hafren. Mae'n debyg y gallech ddweud erbyn hyn bod y darn newydd cyntaf o seilwaith wedi’i drydaneiddio, er nad oes trydan yn rhedeg drwyddo eto, bellach wedi cyrraedd Cymru. Mae hwn yn ddatblygiad gwych. Mae hyn yn mynd i fod o fudd enfawr i economi Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod. Fodd bynnag, mae angen i ni weld buddsoddiad y DU yn cael ei ategu gan Lywodraeth Cymru, ac mae nifer o ACau wedi bod yn galw am fuddsoddiad cyflenwol ers peth amser. Felly, a allem ni gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith—ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi’r trydaneiddio hwn ac yn benodol o ran y cynllun metro? Rwy'n gwybod bod trefi fel Trefynwy, dros y nifer o fisoedd diwethaf, wedi disgyn oddi ar y map metro. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chysylltu’n dda â'r seilwaith newydd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU?

O ran eich pwynt cyntaf, Nick Ramsay, diolch i chi am groesawu'r datganiad dan embargo ar y ganolfan gofal critigol arbenigol ac rwy'n siwr y byddwch yn gofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymhen ychydig funudau. Eich ail bwynt—ychydig mwy am ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Bydd yn arbed busnesau bach yng Nghymru rhag gorfod talu £100 miliwn mewn treth, bydd o fudd i gyfran fwy o fusnesau llai na’r cynllun cyfatebol yn Lloegr, ac, yng Nghymru, ni fydd mwy na hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o’i gymharu â dim ond traean yn Lloegr—ac mae hynny oherwydd bod cyfran uwch o fusnesau bach yng Nghymru. Wrth gwrs, mae eich trydydd pwynt yn bwysig, ond dim ond bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ein cyllideb ddrafft, sydd bellach wrth gwrs yn destun craffu drwy’r pwyllgor, ac mae dyraniad sylweddol o gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf tuag at y metro yn y de a fydd, wrth gwrs, i gyd yn cyfrannu at y cyfleoedd trafnidiaeth a chysylltedd sy’n gysylltiedig â thrydaneiddio. Rwy'n siŵr bod Sir Fynwy wedi ei chynnwys yn hynny.

Diolch, Lywydd. Hoffwn adleisio'r teimladau a fynegwyd yn gynharach am Bashir Naderi. Rwyf yn sylweddoli nad oes gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros fewnfudo, ond mae gennym gyfrifoldeb dros gymunedau. Felly, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth wneud datganiad o gefnogaeth i Bashir, ei deulu, a’i ffrindiau. Daeth Bashir i Gymru a byw’n hapus iawn yn Nhrelái am flynyddoedd, gan integreiddio'n dda iawn, aeth i ysgol uwchradd Gatholig Mary Immaculate, a byddwn yn wir yn hoffi i Lywodraeth Cymru sefyll o blaid y person hwn sy'n Gymro. Dylai hynny gael ei gydnabod a dylem wneud i’r Swyddfa Gartref wrando a, byddwn i'n dweud, cadw eu dwylo oddi ar Bashir a gadael iddo aros. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Neil McEvoy. Rwyf yn credu bod fy ymateb i Jenny Rathbone wedi dangos yn glir iawn ein cefnogaeth fel Llywodraeth Cymru, ond unwaith eto, mae'n galonogol iawn gweld bod gennym Aelodau yn ein Cynulliad sy'n gallu gwneud y pwyntiau hyn. Er, wrth gwrs, nad oes gennym y cyfrifoldeb am fewnfudo, mae gennym gyfrifoldeb i leisio ein barn am effaith y polisi mewnfudo a sut y gallwn gefnogi pobl yn y gymuned sy'n cael eu heffeithio ganddo.

8. 4. Datganiad: Yr Adolygiad Seneddol i Wasanaethau Iechyd a Gofal

Diolch i’r Gweinidog. Rŷm ni nawr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar adolygiad seneddol i wasanaethau iechyd a gofal. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 16:33:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Lywydd. Rydym yn credu, fel y pleidiau eraill, fod yr amser yn iawn bellach am sgwrs gyflawn ac aeddfed ynglŷn â sut yr ydym yn siapio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.

Cytunwyd ar yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o'n compact, 'Symud Cymru Ymlaen', gyda Phlaid Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch nid yn unig i Blaid Cymru ond i’r holl bleidiau yma am eu cyfraniad a'u cydweithrediad wrth gytuno ar y cylch gorchwyl ac aelodaeth y panel, gan alluogi pob un ohonom i symud hyn ymlaen.

Bydd y panel yn adolygu'r dystiolaeth orau sydd ar gael i nodi’r materion allweddol sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn tynnu sylw at yr heriau y bydd y rhain yn eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, mae heriau o ran cyllid y GIG o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru sy’n lleihau, cynllunio'r gweithlu, recriwtio a chadw, a bodloni gofynion cynyddol gofal iechyd a disgwyliadau'r cyhoedd sy’n cynyddu. Bydd yr adolygiad yn archwilio’r opsiynau o ran y ffordd ymlaen, ac yna bydd yn gwneud argymhellion ynghylch sut y gallai’r gwasanaeth iechyd a gofal edrych yn y dyfodol.

Bydd y tîm adolygu wrth gwrs yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud a’i gwblhau yng Nghymru gan y Sefydliad Iechyd, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd, Ymddiriedolaeth Nuffield, Comisiwn Bevan ac, yn wir, Gronfa'r Brenin. Bydd yn tynnu ynghyd y canfyddiadau ac yn nodi bylchau yn y dystiolaeth a'r wybodaeth y bydd yr adolygiad yn ceisio eu llenwi. Trafodwyd a chytunwyd ar y cylch gorchwyl â phartïon eraill a bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw. Bydd y panel hefyd yn cyfarfod i’w drafod yn ddiweddarach y mis hwn.

Rydym i gyd wedi cytuno y dylai'r panel adolygu fod yn annibynnol, a chynnwys arweinwyr blaenllaw, rhanddeiliaid ac academyddion sydd ag ystod eang o gefndiroedd. Felly, heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi bod Dr Ruth Hussey wedi cytuno i gadeirio'r adolygiad. Cafodd Ruth ei geni yn y gogledd, mae’n gyn brif swyddog meddygol Cymru, mae wedi bod yn gyfarwyddwr rhanbarthol iechyd cyhoeddus yn GIG y gogledd-orllewin ac wedi gweithio gyda thîm pontio Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn yr Adran Iechyd. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus dros Lerpwl ac yn uwch ddarlithydd mewn iechyd cyhoeddus ym mhrifysgol Lerpwl.

Mae gan Ruth lawer iawn o brofiad, gwybodaeth drylwyr am y system yma yng Nghymru, yn ogystal â thu hwnt i'n ffin ac o fewn y darlun ehangach o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y canlynol yn ymuno â hi ar y panel adolygu: Yr Athro Anne Marie Rafferty, sef athro nyrsio a deon ysgol nyrsio a bydwreigiaeth Florence Nightingale yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac mae hi hefyd yn gymrawd y Coleg Nyrsio Brenhinol; Yr Athro Keith Moultrie, sef pennaeth y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen, sydd wedi gweithio'n uniongyrchol â’r Adran Iechyd a'r Adran Addysg, y Comisiwn Ansawdd Gofal a Thîm Gwella ar y Cyd yr Alban, ac mae ganddo hefyd brofiad o weithio yng Nghymru; Yr Athro Nigel Edwards, sef prif weithredwr Ymddiriedolaeth Nuffield, sydd wedi bod yn ymgynghorydd arbenigol i ganolfan ragoriaeth fyd-eang KPMG ar gyfer Gwyddorau iechyd a bywyd, yn uwch gymrawd yng Nghronfa'r Brenin, ac mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr polisi Cydffederasiwn y GIG am 11 mlynedd; a Dr Jennifer Dixon, prif weithredwr y Sefydliad Iechyd. Cyn hynny roedd yn brif weithredwr Ymddiriedolaeth Nuffield rhwng 2008 a 2013 ac mae hi wedi bod yn ymgynghorydd polisi i brif weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yn flaenorol.

Er mwyn ehangu’r persbectif ymhellach, bydd cynrychiolydd busnes ar y panel hefyd a byddaf, wrth gwrs, yn trafod y swydd honno gyda llefarwyr pleidiau eraill. Bydd tri aelod ex officio o'r panel hefyd: Yr Athro Syr Mansel Aylward, cadeirydd Comisiwn Bevan, athro addysg iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn brif gynghorydd meddygol yn Asiantaeth y Cyn-filwyr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn; Yr Athro Don Berwick, sy'n llywydd emeritws ac uwch gymrawd yn y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd. Mae'n gyn athro pediatreg a pholisi gofal iechyd ac ar hyn o bryd yn ddarlithydd yn yr adran polisi gofal iechyd yn Ysgol Feddygol Harvard, ac yn awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar ansawdd a gwella gofal iechyd. Yr aelod ex officio olaf yw’r Fonesig Carol Black, pennaeth Coleg Newnham Caergrawnt, cyn lywydd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ac Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol. Bydd hyn yn galluogi’r panel i elwa ar eu harbenigedd a’u profiad rhyngwladol helaeth.

Rhyngddynt, dylai fod gan y panel hwn, felly, yr arbenigedd a'r gallu i ddarparu asesiad cynhwysfawr ac annibynnol o'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n ein hwynebu mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y tîm adolygu yn cael ei gefnogi gan grŵp cyfeirio ehangach o randdeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff proffesiynol a sefydliadau gwasanaethau cymdeithasol. Rwyf yn disgwyl y bydd y tîm adolygu yn cymryd tua blwyddyn i baratoi ei adroddiad, ond rwyf hefyd yn disgwyl y gallai canfyddiadau interim fod ar gael cyn hynny. Bydd hyn yn caniatáu amser i drafod yr argymhellion, cynnal dadl yn eu cylch a’u rhoi ar waith o fewn y tymor Cynulliad hwn. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

A gaf i groesawu’r datganiad yma gan yr Ysgrifennydd Cabinet? Rwy’n ddiolchgar hefyd am y cydweithio sydd wedi bod ers y cytundeb wedi’r etholiad wrth inni roi cig ar yr asgwrn o ran yr hyn yr oedd Plaid Cymru wedi’i gynnig i gael adolygiad seneddol fel rhan o’r cytundeb hwnnw. A gaf i nodi fan hyn fy mod i’n dymuno’n dda iawn i’r tîm newydd o dan arweinyddiaeth Dr Ruth Hussey? Rwy’n edrych ymlaen at gael cwblhau’r tîm yna gyda phenodiad o gynrychiolaeth y byd busnes.

Mae gen i nifer o gwestiynau—tri chwestiwn. Y cyntaf: a fydd yna gyfnod cychwynnol byr o ymgynghori ar y cylch gorchwyl cyn i’r tîm fwrw ymlaen efo’r adolygiad yn llawn, rhag ofn bod yna waith mireinio ar y cylch gorchwyl fel y mae o’n cael ei roi i dîm yr adolygiad? Yn ail, a allaf ofyn sut mae profiad y claf yn mynd i gael ei glywed o dan yr adolygiad yma, a hynny’n cynnwys sut y gallwn ni, fel Aelodau Cynulliad, fwydo trwodd profiadau’r cleifion sy’n dod i’n sylw ni yn ein hetholaethau?

Yn drydydd, rwy’n gweld bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud y bydd y tîm yn edrych ar ganfyddiadau cyfres o adolygiadau eraill sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys gan yr Health Foundation, yr OECD, Nuffield Trust, Comisiwn Bevan ac ati. A allaf i ofyn pa mor hyderus ydy’r Ysgrifennydd Cabinet y cawn ni olwg wirioneddol ffres ar sut mae ateb heriau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol? Nid egluro’r problemau ac edrych dim ond ar argymhellion sydd wedi cael eu gwneud yn y gorffennol ydym ni eisio ei wneud. Hefyd, pa mor hyderus ydy’r Ysgrifennydd Cabinet y gwelwn ni ymdrech gwirioneddol yma i ddysgu o arloesedd rhyngwladol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau a’r sylwadau. Unwaith eto, mae hon yn eitem sy'n deillio o gytundeb rhwng y ddwy blaid—bod plaid arall yn y Siambr hon wedi ymuno â ni mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau sefyllfa unedig, gobeithio, i ddechrau ohoni. Yna bydd gennym i gyd heriau i'w hwynebu pan fydd yr adolygiad yn cyflwyno ei argymhellion. Does dim osgoi'r ffaith bod heriau gwirioneddol i wleidyddion o bob plaid o ran sut yr ydym yn mynd i gael sgwrs aeddfed nid dim ond nawr, ond aeddfedrwydd yn ein sgyrsiau yn y dyfodol, pan fydd dewisiadau anodd gennym ni i gyd i'w gwneud am yr hyn yr ydym am ei weld a sut y byddwn yn gwireddu’r dewisiadau hynny.

Yn awr, gan droi at eich tri phwynt bras, rwy’n credu, yn amlwg, o ran y telerau y cytunwyd arnynt rhwng y pleidiau, rydym wedi cytuno ar fan cychwyn, ond rwyf yn cytuno y bydd yn ddoeth cael barn aelodau’r panel eu hunain am hyd a lled y telerau yr ydym wedi eu rhoi iddynt a sicrhau bod y telerau yn ddigon tynn. Rwy’n awyddus iawn, fel y byddwch yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol, i sicrhau nad oes gennym ymchwiliad hir, sy’n parhau i fynd rhagddo ac sy'n cymryd blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd. Rwyf eisiau rhywbeth sy’n mynd i fod yn ddefnyddiol ac yn ymarferol er mwyn i ni roi rhai atebion am y dyfodol yn y tymor hwn a’r tymor nesaf.

Dyna hefyd pam nad ydym wedi cyflwyno strategaeth newydd ar gyfer y GIG. Nid yw 'Law yn Llaw at Iechyd' wedi'i holynu gan strategaeth olynol yn awr, gan ein bod yn mynd i gael yr adolygiad hwn. Ac ni fyddai'n gwneud synnwyr, fel y dywedais, yn fy marn i, yma yn y Siambr hon ac yn ein cyfarfodydd, i ddweud y byddaf yn cyflwyno strategaeth newydd ar gyfer y GIG a chael yr adolygiad hefyd. Mae’n rhaid i’r adolygiad fod yn ystyrlon, ac mae hynny hefyd yn golygu bod yn rhaid i’r cylch gwaith fod yn ddigon tynn i allu cael ei gyflawni o fewn y flwyddyn galendr honno. Os oes ychydig bach o lithriad, dyna un peth, ond nid wyf yn credu o gwbl ei bod o fudd i unrhyw un i’r adolygiad hwn barhau am nifer o flynyddoedd.

O ran barn y claf a safbwynt y claf, unwaith eto, mae'r rhain yn bethau yr ydym wedi eu trafod yn y gorffennol. Felly, yn union fel y gwnaed gyda’r adolygiad o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol, rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod safbwynt y claf yn real ac yn cael ei ystyried yn uniongyrchol yn yr adolygiad. Byddwn yn disgwyl y byddai'n rhaid inni gytuno a dod o hyd i fecanwaith tebyg hefyd. Byddwn yn disgwyl hynny nid yn unig mewn cysylltiad â’r alwad am dystiolaeth, oherwydd yn yr alwad gyffredinol honno am dystiolaeth gallwn ddisgwyl i bobl sy'n freintiedig ac yn rhan o sefydliadau gymryd rhan, ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod gennym safbwynt y claf, sydd wedi’i hwyluso, ynghylch profiad pobl—nid safbwynt y claf yn unig, ond safbwynt dinasyddion, ar draws maes iechyd a gofal. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth yn ein meddyliau ni yr ydym eisiau sicrhau y gall y panel adolygu ei ystyried yn uniongyrchol.

Mae hynny wedyn yn arwain at y pwynt olaf a wnaethoch chi, ynghylch arloesedd a hefyd olwg newydd ar y dyfodol. Rydym yn disgwyl i'r panel roi syniad o rai o'r heriau hynny ar gyfer y dyfodol. Mae gennym nifer o heriau sydd wedi’u crybwyll droeon yr ydym eisoes yn eu hwynebu. Mae hyn yn ymwneud ag edrych ar ble rydym nawr a ble y gallem fod yn y dyfodol, a’r opsiynau o ran cyrraedd yno, ac yn ymwneud â sut rydym yn wynebu ac yn ymdrin â’r heriau hynny eisoes. Felly, dyna iechyd a gofal gyda’i gilydd—integreiddio gofal sylfaenol ac eilaidd o fewn gofal iechyd, integreiddio gwahanol grwpiau o weithwyr proffesiynol, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a rhannau eraill o'r sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â gweld y dinesydd o fewn y gwasanaeth a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i gael dewisiadau gwirioneddol i’w gwneud ynglŷn â dyfodol ein gwasanaethau. Oherwydd ni allwn ddianc rhag y realiti: mae’r swm ariannol sydd ar gael i ni gynnal gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru yn lleihau. Mae dewisiadau anodd ar gael i ni, ond mae gennym ddewisiadau i'w gwneud, a dylai’r adolygiad hwn ein helpu ni i wneud y dewisiadau hynny a chynnig her wirioneddol, yn fy marn i, i wleidyddion, pa un a ydynt yn y blaid lywodraethol, neu yn y gwrthbleidiau, ynghylch yr hyn y gallai’r dewisiadau hynny fod a’r hyn yr ydym yn barod i’w wneud wedyn.

Rwy’n gobeithio bod hynny’n ddefnyddiol o ran ymdrin â'r pwyntiau a wnaethoch. Byddwn yn parhau i siarad, wrth gwrs, drwy gydol cyfnod gwaith yr adolygiad ac yna’r adroddiad terfynol a’r argymhellion.

Weinidog, hoffwn groesawu eich datganiad heddiw, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ymarferiad ymgynghori yr ydych wedi ei gynnal gyda'r holl bleidiau yma. Rwy’n cytuno ei bod yn amser cael dadl aeddfed ar y gwasanaeth iechyd gwladol a'r model gofal cymdeithasol sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credaf fod angen i mi roi ar gofnod y ffaith fy mod wedi mynegi pryderon ynghylch maint y cylch gwaith. Rwy’n credu ei bod yn ddiddorol bod Rhun ap Iorwerth, y gwn ei fod wedi datblygu llawer o hyn gyda chi, wedi cyfeirio at hynny fel un o’i bryderon ef. Byddwn wedi meddwl y byddech wedi trafod hynny o'r blaen, ond byddwn hefyd yn hoffi gweld cyfres glir a thynn iawn o gylchoedd gwaith gan gadeirydd newydd y panel hwn wrth symud ymlaen, oherwydd bod edrych ar y model iechyd a gofal cymdeithasol cyfan sydd gennym yma yng Nghymru yn friff mor fawr. Dywedasoch yn eich datganiad eich bod yn caniatáu tua blwyddyn ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Rwy'n pryderu os bydd y cylch gwaith yn rhy fawr, y byddwn yn gweld gormod o lithro. Dywedasoch ychydig yn gynharach, wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, y gallech ragweld y gallai lithro ychydig ond na fyddech yn hoffi ei weld yn mynd ymlaen am nifer o flynyddoedd neu ragor o flynyddoedd. A siarad yn blaen, rwyf yn credu y gallai hyd yn oed dwy flynedd fod yn rhy hir. Felly, a fyddwch yn gallu rhoi syniad o faint o amser ac ymdrech y mae aelodau'r panel yn gallu eu neilltuo i'r ymchwiliad hwn, a faint o waith y byddwch yn disgwyl iddo gael ei wneud o ran ymchwilio a dadansoddi gan eu staff cymorth priodol?

Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn falch pe gallech roi cyfarwyddyd clir a diamwys, y gall byrddau iechyd wrando arno heddiw, nad yw'r ymchwiliad hwn yn fan aros i fesurau tactegol eraill y mae angen i ni fwrw ymlaen â nhw, boed hynny’n gynaliadwyedd y gweithlu, pwysau'r gaeaf, adeiladu ysbytai newydd, y gwn eich bod yn mynd i’w trafod yn nes ymlaen. O fy mhrofiad i ym maes addysg, pan fyddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi amrywiol ymchwiliadau cwmpasu mawr, rwy’n gwybod y byddai rhai yn defnyddio hynny, mewn rhai mannau, i roi'r gorau i’r holl waith arall ac ni hoffwn weld hynny'n digwydd yn y GIG oherwydd bod gennym faterion tactegol y mae angen inni fynd i'r afael â nhw’n gyson.

Byddwch yn gwybod fy mod i’n awyddus iawn i'r panel beidio â chynnwys yr un hen wynebau, ac rwyf wedi trafod gyda chi'n bersonol yn fanwl iawn fy marn i am y rhai nad ydynt ar y panel. Nid wyf yn credu y byddai'n gwbl briodol gwyntyllu’r pryderon a’r sylwadau hynny’n gyhoeddus, ond rwyf eisiau dweud fy mod i'n hynod o falch o weld cynrychiolwyr y sector o sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Nuffield, Cronfa'r Brenin a'r Sefydliad Iechyd, yr wyf yn credu y byddant yn cynnig didueddrwydd, arferion gorau, gobeithio, a thystiolaeth o brofiad meincnodi i chi. Fel y gwyddoch, rwyf wedi codi gyda chi fy mhryderon bod y panel yn canolbwyntio gormod ar iechyd ac y byddai’r adolygiad cyfan yn digwydd drwy brism y gwasanaeth iechyd. Felly roeddwn yn awyddus iawn, iawn i groesawu Keith Moultrie—ac rwyf yn diolch ichi am y penodiad hwnnw; rwyf yn credu y bydd yn ychwanegu atom—a chlywed llais ymarferydd megis yr Athro Rafferty. Ac, wrth gwrs, rydych yn ymwybodol iawn o’r awydd cryf iawn sydd gennyf i weld rhywun ar y panel hwnnw sydd â phrofiad busnes ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth gorfforaethol helaeth o heriau a materion personél enfawr a logisteg a rheoli logisteg. Rwyf i, hefyd, yn croesawu'r Dr Ruth Hussey i'r gadair. A hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ai’r cadeirydd, Dr Hussey, fydd y person a fydd yn rhoi ar waith y strwythur a fydd yn galluogi’r panel hwn i gysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, yn enwedig aelodau o'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, neu a ydych chi'n gweld chi eich hun yn rhoi ar waith y math hwnnw o strwythur? Oherwydd fy mod yn credu, pan fyddwn wedi trafod hyn, rydym wedi siarad am sut y gallwn gael rhywfaint o ymgysylltu trawsbleidiol gwleidyddol yn cyfrannu i’r panel o ddydd i ddydd, neu o wythnos i wythnos neu o fis i fis wrth i'r panel ddatblygu ei safbwyntiau.

Fy mhwynt olaf: rwyf eisiau codi hyn eto, a gwn fod Rhun ap Iorwerth hefyd wedi codi hyn, sef y sylw a lithrodd i'r datganiad am y tîm adolygu yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yng Nghymru gan wahanol sefydliadau ymchwil mawr. Mae hyn yn ffordd newydd o feddwl. Un o'r gwarantau mawr oedd y byddai'r panel adolygu yn edrych o'r newydd, na fyddent yn ailddyfeisio'r olwyn, ond y byddent yn cyfeirio—a defnyddiaf y gair hwnnw’n glir—at y gwaith a wnaed eisoes gan sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Nuffield, Cronfa'r Brenin, y Sefydliad Iechyd, ac ati. Hoffwn gael eich sicrwydd llwyr eu bod yn mynd i edrych ar hyn gyda golwg glir, oherwydd, fel y gwn i ac y gwyddoch chi, mae eisoes llawer o waith ymchwil yn y parth cyhoeddus y gellir dadlau ei fod wedi dod o safbwynt penodol a allai roi canlyniadau nad oes yr un ohonom yn gwbl gyfforddus â nhw. Byddai ailgylchu’r rheini a’u cyflwyno fel set o argymhellion yn rhoi hyn a minnau mewn sefyllfa anghyfforddus iawn. Hoffwn gredu y bydd y panel mawreddog hwn o unigolion deallus iawn â phrofiad eang yn edrych o ddifrif ar hyn gydag eglurder a phwyslais i greu darlun a fyddai'n wirioneddol addas ar gyfer cynfas a fyddai'n wirioneddol addas i Gymru yn y dyfodol, fel y gallwn ddangos ar y cynfas hwnnw y strwythur ar gyfer ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a chwestiynau. Efallai y gallaf geisio ymdrin â maint ac aelodaeth y panel yn gyntaf. Rwy'n credu ein bod yn ffodus i eisoes wedi sicrhau panel o arbenigedd a phrofiad gwirioneddol annibynnol eu meddwl sy'n cwmpasu ystod o feysydd ar draws gofal cymdeithasol, ar draws y gwasanaeth iechyd, pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fewn Cymru a’r tu allan i Gymru, hefyd—mae hynny'n bwysig, gweld gwahanol safbwyntiau—pobl sydd â dysgu rhyngwladol a phrofiad rhyngwladol, hefyd. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd yn rhoi sicrwydd hwnnw yr ydym wedi trafod yn flaenorol am hyn yn ystod wirioneddol eang o arbenigedd yr ydym wedi llwyddo i sicrhau, yr wyf yn meddwl y dylai pob byddwn yn falch iawn ag ef, mewn gwirionedd, ac i roi'r sicrwydd hwnnw i bobl y bydd y grŵp hwn o bobl wneud y swydd honno gyda meddwl annibynnol, ac mae hynny'n golygu y bydd ganddynt wybodaeth tynnu i'w sylw ar y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud, ond ni fydd yn pennu yr hyn y maent wedyn yn dod i'r casgliad. Oherwydd os ydynt yn anghytuno ag unrhyw beth, os ydynt yn dymuno rhagor o dystiolaeth i'w gael, fel y dywedais yn fy natganiad, mae'n iddynt wneud hynny, oherwydd, yn y pen draw, tra yr wyf yn derbyn eich pwynt, ac rwyf yn cytuno â chi, bod hyn yn nid yn ymwneud ailddyfeisio'r olwyn ar y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud, ond yr adolygiad hwn wedi i fod yn annibynnol, mae'n rhaid iddo fod yn heriol ac yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n adolygiad hwnnw, yn y pen draw, bydd yn rhaid i'r panel roi eu henwau ac eu henw da i—ac mae'r rhain yn ffigurau ystyrlon o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

A dyna pam, gan ddychwelyd at y pwynt ynghylch telerau'r adolygiad a'r amserlen, y mae'n synhwyrol sicrhau bod y telerau a'r amserlen yn gwneud synnwyr â'i gilydd, a chael trafodaeth rhwng llefarwyr os oes angen ystyried a ydym wedi sicrhau bod y ddau beth hynny yn cyd-fynd â’i gilydd. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny, ond gadewch i ni ei adolygu pan fydd y panel wedi’i sefydlu; wedi'r cyfan, rydym yn chwilio amdanynt hwy a'u harbenigedd. Ond yn sicr nid wyf eisiau rhywbeth sy'n mynd ymlaen am ddwy flynedd. Pan fyddaf yn siarad am y posibilrwydd o ymestyn yr amser ychydig bach, rwyf yn golygu ychydig bach. Rwy'n siarad am gyfnod o wythnosau neu fisoedd; nid wyf yn siarad am y peth yn mynd ymlaen am ddwy flynedd. Rwy'n credu bod dwy flynedd yn rhy hir. Os bydd yr adolygiad yn cymryd dwy flynedd, nid wyf yn credu y bydd cyfle gwirioneddol i ganiatáu i’r adolygiad hwnnw gael ei ystyried wedyn a chael gwir effaith yn y tymor hwn a’r un nesaf. Nawr, yr ydym i gyd yn ymwybodol o’r cylch gwleidyddol, ac ymhen dwy flynedd, bydd pobl yn paratoi ac yn chwilio am bethau eraill, a bydd yn ein hatal rhag meddu ar y math o aeddfedrwydd a gwrthrychedd yr wyf yn credu sydd eu hangen arnom yn y ddadl hon. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd hynny’n ddefnyddiol o ran bod yr adolygiad a'r amserlen o ddifrif ac yn onest.

Unwaith eto, rwyf yn derbyn eich pwyntiau a wnaethpwyd yn ein trafodaethau blaenorol yn ogystal am y cydbwysedd rhwng y materion hynny na ddylai'r Llywodraeth wneud penderfyniadau yn eu cylch, oherwydd eu bod yn rhan o ystyriaeth yr adolygiad, ond, hefyd, gan beidio ag osgoi ein cyfrifoldeb i ymdrin â heriau yn awr, boed hynny yn y Llywodraeth neu yn y gwasanaeth yn ogystal. Nid wyf eisiau gweld pethau’n stopio rywsut a’u hoedi, oherwydd nad dyna’r peth iawn i'w wneud. Rydym ni’n sôn am y dyfodol. Nid ydym yn sôn am faterion y mae angen inni benderfynu arnynt yn awr, ac nid wyf yn ceisio osgoi fy nghyfrifoldeb i na chyfrifoldeb y gwasanaeth iechyd na chyfrifoldeb gofal cymdeithasol i barhau i symud ymlaen. Mae hynny'n golygu y bydd dewisiadau anodd y mae’n rhaid eu gwneud cyn i’r panel gyflwyno ei adroddiad, ond dyna’r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae hynny'n rhan annatod o’r cyfrifoldeb o fod yn y Llywodraeth, ac yn sicr ni fyddaf yn ceisio osgoi hynny.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y ffordd onest, agored a thryloyw yr ydych wedi ymdrin â’r adolygiad hwn gydag Aelodau’r gwrthbleidiau. Bydd y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau mawr yn y dyfodol wrth i'n poblogaeth dyfu a heneiddio, ac mae'n iawn ein bod yn adolygu’r ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hynny yn y degawdau sydd i ddod. Rwy'n croesawu'r cyfle a roesoch i ni i helpu i ddylanwadu ar gylch gorchwyl a chyfansoddiad y panel, ac edrychaf ymlaen at adolygu telerau’r panel pan gânt eu cyhoeddi yn nes ymlaen. Un o'n pryderon mwyaf ynghylch yr adolygiad hwn oedd sicrhau bod y panel yn wirioneddol annibynnol ac yn cael ei arwain gan arbenigwyr. Rwy'n falch o weld y bydd y panel yn cynnwys unigolion o Ymddiriedolaeth Nuffield a'r Sefydliad Iechyd a Chymrawd y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar y bydd y panel yn cynnwys cynrychiolydd busnes. Mae'n bwysig ein bod yn cael mewnbwn gan y sector preifat, ac edrychaf ymlaen at gael gwybod pwy fydd yn llenwi'r swydd hon. Rwy'n falch hefyd y byddwn yn elwa ar gael safbwynt rhyngwladol gan yr Athro Don Berwick. Hoffwn hefyd groesawu penodiad Dr Hussey yn gadeirydd yr adolygiad. Mae gan Dr Hussey brofiad o'r GIG yng Nghymru ac yn Lloegr, a bydd ei harbenigedd hi ar y panel hwn yn amhrisiadwy.

Mae gennyf un cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, sef: pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i rannu gyda ni gyfansoddiad y grŵp cyfeirio ehangach o randdeiliaid?

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi a'r panel adolygu fel y gallwn ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymateb i anghenion poblogaeth Cymru ac yn gydnerth o ran heriau iechyd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yna, ac, unwaith eto, dylwn fod wedi nodi’r gydnabyddiaeth gan Rhun ac Angela, ac yn awr Caroline, ynghylch swyddogaeth person busnes i ychwanegu safbwynt arall a phrofiad rhyngwladol. Ac, wrth gwrs, rwy'n falch iawn o glywed y croeso y mae’r Aelodau wedi ei roi i’r ffaith fod Dr Hussey wedi cytuno i gadeirio'r panel adolygu hwn.

O ran y grŵp cyfeirio o randdeiliaid, mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn dymuno ei drafod eto gyda llefarwyr y pleidiau i sicrhau ei fod yn rhywbeth sy'n gwneud synnwyr, a sicrhau bod gennym ddigon o safbwyntiau i’w cynnwys ynghylch sut yr ydym yn manteisio ar yr arbenigedd hwnnw ym mhrofiad Cymru, a sut mae gwahanol bobl yn gweld gwahanol alwadau ar y gwasanaeth. Bydd gan Gonffederasiwn GIG Cymru safbwynt penodol ar amryw o’r heriau hyn, a byddwn yn canfod fod gan lawer o bobl yn y trydydd sector amryw o safbwyntiau yn ogystal. Rydym hefyd wedi clywed eisoes gan Rhun am bwysigrwydd cael safbwynt y claf, hefyd. Felly, dyna’r pethau yr wyf yn credu eu bod yn amlwg yn hawdd eu trin ac y gellir eu cyflawni, ac rwyf yn gobeithio y gallwn ddod, fel yr ydym wedi ei wneud o'r blaen, i gytundeb synhwyrol ar sut i sicrhau eu bod yn rhan wirioneddol o'r adolygiad a'i waith. Yna byddwn yn gweld y dylanwad hwnnw yn yr argymhellion a fydd yn cael eu darparu ar ddiwedd gwaith y panel adolygu.

Diolch, Lywydd. Diolch i chithau, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwyf innau hefyd, yn falch o weld y cyfeiriad at ymchwil sy'n bodoli eisoes, er ei bod yn amlwg bod angen gwneud gwaith ynglŷn â hynny yn hytrach na dim ond ei derbyn fel ag y mae.

Roeddwn mewn cynhadledd Cronfa'r Brenin yn Llundain yn ddiweddar a chefais y cyfle i ymgysylltu ag awdurdodau lleol o wahanol rannau o Loegr—nid oedd unrhyw un o Gymru yno ar wahân i un person o’r gogledd—ac maen nhw’n datblygu modelau gwahanol iawn, gan ddibynnu ar ba ran o Loegr y maent yn ei chynrychioli. Mae un ohonynt mewn gwirionedd wedi mynd cyn belled â throsglwyddo ei garfan gyfan o weithwyr cymdeithasol i'r GIG fel eu bod bellach yn gyflogeion y GIG. Nawr, mae'n ddigon posibl y bydd gofynion gofal cymdeithasol yn ormod i awdurdodau lleol ar eu pennau eu hunain, ond rwyf yn credu bod perygl gwirioneddol, onid oes, y bydd gennym wasanaeth wedi’i ganoli anferth yn y pen draw os na fyddwn yn ofalus.

Felly, a allwch chi ddweud wrthyf a fydd y panel yn cael digon o amser i ystyried amrywiaeth o fodelau ar gyfer darparu gwasanaethau integredig, yn enwedig y rhai sydd o bosibl o wahanol rannau o'r byd, sy’n helpu i wynebu'r broblem anochel—un ymarferol a diwylliannol—y gallai'r GIG yn y pen draw lyncu’r cyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol? Rwyf yn codi hyn oherwydd bod y GIG, wrth gwrs, eisoes yn profi anhawster wrth fodloni ei anghenion gan ddefnyddio’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli, ac ni fyddwn yn hoffi meddwl y byddai gofal cymdeithasol yn dod yn un o'r meysydd hynny sy'n cystadlu am sylw o'r tu mewn i GIG mwy o faint. Diolch.

Diolch am y pwynt—nodaf y darlun yr ydych yn ei ddisgrifio, sef bod gan awdurdodau lleol yn Lloegr ymatebion amrywiol iawn, gan ystyried y boblogaeth sydd ganddynt, yr adnoddau ariannol sydd ganddynt. Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r her yr ydym yn awyddus i geisio ei hosgoi: cael system amlochrog lle, mewn gwirionedd, na allwch ddeall rhesymeg hynny, a sut mae hynny'n diwallu anghenion y dinesydd. Dyna ran o'r rheswm dros gael yr adolygiad hwn, wrth gwrs—ceisio deall sut y gall iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru weithio mewn ffordd fwy integredig gyda’i gilydd, a deall y dylem eu hystyried fel system gyfan. Dyna ran o'r dull yr ydym yn ceisio ei ddefnyddio yng Nghymru, nid yn unig o ran polisi ac arweinyddiaeth, ond wedyn wrth ddarparu gwasanaethau hefyd. Dyna pam yr ydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny.

Bydd hynny'n sicr yn rhan o'r adolygiad. Mae o fewn y telerau. Rwyf yn credu bod eich ofn ynghylch y GIG yn canoli ac yn cymryd drosodd ac yn llyncu gofal cymdeithasol ac yna'n anghofio amdano—rwyf yn sylweddoli bod y pryder yn cael ei fynegi mewn ffordd arbennig i wneud y pwynt, ond rydym yn ceisio gweld sut y gallwn gael system wirioneddol integredig yn y dyfodol i gydnabod pwysigrwydd y gofal cymdeithasol hwnnw.

Yn wir, mae llawer o'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud gyda'r bensaernïaeth ddeddfwriaethol, gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ymwneud â hybu ac, ar adegau, gorfodi cydweithio. Felly, mae'r comisiynu ar y cyd a fydd yn digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o ran amryw o feysydd gofal preswyl, y gyd-ddealltwriaeth o anghenion o fewn poblogaeth benodol, y byrddau patrwm rhanbarthol—mae rhywbeth ynghylch sut yr ydym yn symud ymlaen â hynny ac yn gwneud iddo weithio. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys profiad ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ynghylch yr hyn sydd eisoes wedi digwydd, bydd yn ystyried ble yr ydym ar hyn o bryd, a bydd yn rhoi argymhellion ar gyfer y dyfodol. Fel y dywedais yn gynharach, rwyf yn disgwyl i’r argymhellion hynny fod yn realistig, y bydd modd eu gweithredu ac, ar yr un pryd, y byddant yn wirioneddol heriol. Wedi'r cyfan, dyna bwynt a phwrpas cael yr hyn yr wyf yn gobeithio y bydd yn sgwrs o ddifrif, annibynnol ac aeddfed am y dyfodol.

9. 5. Datganiad: Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y ganolfan gofal arbenigol a chritigol, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 17:00:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Lywydd. Ddoe, cyhoeddais yr achos busnes llawn ar gyfer y ganolfan gofal arbenigol a chritigol, a elwir hefyd y SCCC, yn Llanfrechfa Grange a rhyddhau’r cyllid cyfalaf o oddeutu £350 miliwn. Disgwylir i'r ysbyty agor yn 2022. Mae hyn yn newyddion da i’r 600,000 a mwy o bobl a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac, yn wir, pobl eraill yn yr ardal gyfagos a fydd yn cael gwasanaethau gan yr ysbyty newydd hwn. Mae'n nodi’r cam nesaf yn y broses o roi’r strategaeth Dyfodol Clinigol ar waith. Bydd yr Aelodau'n cofio, wrth gwrs, y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Aneurin Bevan, a agorodd yn 2010 a 2011 yn y drefn honno.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol, ac yn gweithio'n agos gyda'i awdurdod lleol parter ar ymagwedd integredig at wasanaethau cyhoeddus.  Mae enghreifftiau arloesol yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i nodi pobl hŷn sydd mewn perygl a datblygu cynllun ‘Stay Well’ gyda'r person; cyflwyno nyrsys diabetes arbenigol mewn gofal sylfaenol; a thrin dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran yn y gymuned.

Bydd y SCCC yn cynnig amgylchedd hynod arbenigol i gefnogi triniaeth cleifion sydd angen gofal brys cymhleth a dwys yn y rhanbarth. Bydd yn chwarae rhan allweddol yn rhan o'r system gofal iechyd ar gyfer de Cymru yn ei chyfanrwydd a bydd yn ganolbwynt ar gyfer un o'r tair cynghrair gofal acíwt a sefydlwyd yn dilyn rhaglen de Cymru. Rwy’n disgwyl i'r GIG wella canlyniadau i gleifion yn barhaus, a gwyddom y bydd cyfuno'r gwasanaethau mwy arbenigol yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Bydd y SCCC yn cynnig amgylchedd pwrpasol a modern a fydd yn caniatáu i dimau amlddisgyblaethol hynod arbenigol ddarparu'r driniaeth a'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

Y model sy'n esblygu ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yw model gwasanaeth yn seiliedig ar egwyddorion darbodus sy'n sicrhau mynediad lleol at y rhan fwyaf o wasanaethau, ac ar yr un pryd yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn meysydd mwy arbenigol i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy ac o ansawdd uchel. Mae'r bwrdd iechyd yn paratoi cynlluniau ar gyfer ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall, ac ar gyfer Ysbyty St Woolos. Rwy'n disgwyl i’r cynlluniau hynny fod yn arloesol o ran eu cwmpas, ac yn sicrhau bod yr ysbytai hyn yn chwarae eu rhan wrth gefnogi gofal sylfaenol ac ysbytai cyffredinol lleol, gyda chefnogaeth y SCCC. Mae fy mhenderfyniad i gymeradwyo'r SCCC yn dod â disgwyliad y bydd y bwrdd iechyd yn sicrhau bod ei ddarpariaeth gofal iechyd yn gweithio ar ffurf system integredig, effeithiol ac effeithlon.

Mae cefnogaeth i'r SCCC yn arwyddocaol yn strategol, a hynny nid yn unig i fwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond i dde Cymru yn ei chyfanrwydd, fel y soniais yn gynharach. Cafodd y SCCC ei gefnogi gan raglen de Cymru—proses gynllunio bwysig sy'n cynnwys nifer o fyrddau iechyd. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet bod cynllunio a datblygu gwasanaethau ar lefel ranbarthol yn hanfodol wrth i ni weithio i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae’n rhy rhwydd i ffiniau sefydliadol rwystro cynllunio effeithiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu manteision i ddinasyddion.

Gwneuthum yn glir fy uchelgais i fod y Gweinidog iechyd olaf i orfod gwneud penderfyniad ar y cynnig SCCC ac i ddarparu sicrwydd go iawn cyn gynted ag yr oedd modd i mi wneud hynny. Gwneuthum hefyd ymrwymiad i wneud y penderfyniad hwnnw erbyn diwedd mis Hydref, ac rydw i wedi cyflawni hynny. Rwy’n deall y rhwystredigaeth y mae rhai wedi’i theimlo ynghylch yr amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn. Fodd bynnag, fy mlaenoriaeth i oedd gwneud y penderfyniad cywir yn dilyn archwiliad cadarn o’r achos busnes SCCC. Roedd yn rhaid i mi fod yn siŵr bod y SCCC yn addas, nid yn unig ar gyfer Gwent, ond ar gyfer cyfluniad gwasanaethau iechyd ar draws y de. Dyna pam y rhoddais gyfarwyddiadau i swyddogion ymgymryd â mwy o waith dros yr haf, ar ôl adolygiad annibynnol.

Mae fy mhenderfyniad i gymeradwyo'r SCCC yn dystiolaeth ymarferol gan y Llywodraeth hon y byddwn ni’n cefnogi newidiadau sy'n dod â manteision, nid yn unig ar lefel leol, ond ar draws y system iechyd a gofal ehangach. Rwy’n disgwyl yn awr i'r GIG ddatblygu ar y penderfyniad hwn a chyflymu'r broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn parhau i ganolbwyntio ar ansawdd, arloesedd, integreiddio ac uchelgais ar ran y bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Rwy’n croesawu'r cyhoeddiad, ond dylwn ychwanegu ein bod wedi aros yn hir iawn amdano a dweud y lleiaf. Af yn syth bin at yr amryw gwestiynau sydd gennyf. Mae canolfan £350 miliwn yn ddiwerth heb y staff medrus angenrheidiol i weithio ynddi. Dylwn i ofyn: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn siŵr na fydd recriwtio yn broblem? Rwy’n dyfalu pa ateb a roddir i mi, y dylai cyfleuster o’r radd flaenaf fel hwn fod yn atyniad gwirioneddol i bobl weithio yn y GIG. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu defnyddio'r cyfleuster SCCC fel offeryn recriwtio ynddo’i hun?

Yn ail, pa mor hyblyg y bwriedir i’r adeilad hwn fod? Rwy’n meddwl yma am addasiadau yn y dyfodol a pha addasiadau yn y dyfodol y gallai fod gan y Llywodraeth mewn golwg. Yn drydydd, beth yw’r bwriad o ran defnyddio'r prosiect hwn fel hwb caffael i gwmnïau o Gymru, gan gynnwys y defnydd o ddur Cymru wrth ei adeiladu?

Ac yn olaf, o ran trafnidiaeth, rwy'n pryderu bod gennym ddatblygiad mawr yma a adeiladwyd gyda'r car mewn golwg, yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus ac yn hytrach na, yn sicr, rheilffyrdd, gan nad yw ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Pa ymrwymiad all Ysgrifennydd y Cabinet ei roi ar sicrhau bod trafnidiaeth gynaliadwy yn cael ei hystyried o ddifrif wrth gynllunio datblygiadau seilwaith y GIG yn y dyfodol o ystyried, efallai, nad yw’r cydamseru rhwng anghenion trafnidiaeth ac iechyd wedi’i gyflawni cystal ag y gellid efallai yn yr achos penodol hwn?

Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn werth ein hatgoffa ein hunain nad yw’r ddau safle presennol yn Nevill Hall ac yn y Gwent yn uniongyrchol agos at gysylltiadau rhwydwaith rheilffyrdd. Wrth ddylunio a chyflwyno system gofal iechyd y dyfodol, wrth gwrs, mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig, felly byddwn yn disgwyl y byddai mynediad i i'r safle hwn drwy drafnidiaeth gyhoeddus wrth iddo gael ei ddatblygu. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod, i lawer o bobl sy'n mynychu, yn enwedig ar gyfer gofal brys, bod llawer o bobl allan yna sy’n gyrru eu hunain, maent yn tueddu i beidio â mynd ar fws os ydynt mewn argyfwng, ond hefyd mynediad i wasanaethau brys eraill. Ond, bydd y cynllun trafnidiaeth yn amlwg yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd iechyd a'i bartneriaid ei ystyried wrth gyflwyno'r ysbyty yn llwyddiannus.

Mae hefyd yn werth ystyried eich pwynt am gaffael, oherwydd yn amlwg mewn prosiect cyfalaf o'r maint hwn, rydym yn disgwyl gweld manteision gwirioneddol yn dod o’r gwariant hwnnw yn y cyfnod adeiladu. Os ydych chi wedi gweld, er enghraifft, raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwch wedi gweld enillion sylweddol yn sgil caffael pob un o'r safleoedd hynny. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y nifer o brentisiaid lleol sydd wedi manteisio ar y gwaith adeiladu hefyd, ac rwy’n disgwyl i hynny fod yn wir eto. Gyda buddsoddiad o £350 miliwn, rwyf yn sicr yn disgwyl gweld cynnydd go iawn yn sgil caffael ac adeiladu’r safle, ac nid dim ond ei weithredu.

Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt am y gweithlu, ac ni ddylech synnu fy nghlywed yn dweud y dylai darparu’r safle newydd hwn, mewn gwirionedd, helpu i recriwtio a chadw gweithlu. Mae wedi bod yn thema gyson iawn ymhlith aelodau staff bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond hefyd byrddau iechyd cyfagos hefyd, os na allwn ad-drefnu rhannau o'r ffordd y mae'r ystâd gyfalaf yn gweithio a'r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau hynny, rydym yn annhebygol o allu recriwtio yn llwyddiannus yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae hon yn broses ailfodelu bwysig iawn mewn sawl ffordd. Dylai recriwtio elwa'n gadarnhaol ar wneud y penderfyniad hwn am sut y bydd y dyfodol yn edrych. A phan fydd yn weithredol ac y gall pobl weld cyfleuster pwrpasol gyda modelau gofal sy'n briodol ar gyfer y presennol a’r dyfodol, dylai hynny olygu bod pobl o bob gradd a phob proffesiwn yn fwy tebygol o fod eisiau gweithio yn y sector hwn. Nid yw yn ymwneud â’r ysbyty yn unig, wrth gwrs. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn yn rhan o'r system gofal iechyd gyfan: sut y mae’r maes gofal sylfaenol yn gweithio yn fwy effeithiol gyda'i gilydd, sut y mae gofal yn mynd allan i'r gymuned, gan symud i ffwrdd o ysbytai, yn ogystal â'r hyn y mae angen o ddifrif iddo ddigwydd mewn canolfan arbenigol yn cael ei ddarparu mewn canolfan wirioneddol arbenigol sy'n addas at ei diben.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw. Rhywfaint o newyddion da, o'r diwedd; mae wedi bod yn amser hir yn cyrraedd. Pan oeddech yn crybwyll rhwystredigaeth rhai Aelodau, rwy’n meddwl bod llawer iawn o'r rhwystredigaeth honno wedi dod gan yr Aelod dros Dorfaen a mi dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf. Rydym wedi galw am y datganiad hwn, ac roeddech wedi dweud y byddech yn ei ddarparu ddiwedd mis Hydref, ac rydych wedi gwneud, felly diolch ichi am hynny.

Dywedasoch wrthym yr hyn yr ydym wedi bod eisiau ei glywed a’r hyn y mae clinigwyr wedi bod yn galw amdano ers amser hir iawn yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu i mi fynd i’m cyfarfod Dyfodol Clinigol Gwent cyntaf ar ddatblygiad y ganolfan gofal critigol arbenigol hon yn ôl yn 2004—gwaith ymddiriedolaeth GIG Gwent yn y dyddiau hynny. Felly, rydym yn wir wedi disgwyl yn hir i gael y penderfyniad hwn. Yn wir, byddwn wedi aros hyd yn oed yn hirach erbyn yr amser y bydd yn agor o'r diwedd yn 2022. Felly, yn gyntaf oll, a gaf i ofyn pam y mae wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn, o ystyried y lefel o gefnogaeth gan glinigwyr a'r cyhoedd? Rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid rhoi trefn ar nifer o bethau er mwyn i ni gyrraedd y pwynt hwn, ond mae wedi cymryd llawer gormod o amser. Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall yn gwegian dan straen y gofynion sy'n cael eu rhoi arnynt. Rydym ni i gyd yn cael cwynion gan etholwyr am y sefyllfa hon, ond mae diwygio’r gwasanaethau ysbytai hyn—ac rwyf wedi gorfod dweud hyn wrth fy etholwyr—wedi bod yn ddibynnol ar aros i’r ganolfan gofal critigol gael ei datblygu fel y gellir rhyddhau pwysau. Felly, mae wedi bod yn fater o gael y ceffyl o flaen y drol yn yr ystyr hwnnw.

Yn ôl yn y cyfarfodydd hynny 10 mlynedd yn ôl, rwy’n cofio cael gwybod bod ailddatblygu Nevill Hall 10 mlynedd yn y dyfodol, y tu ôl i ddatblygiad y ganolfan gofal critigol. Wel, rydym mewn gwirionedd y tu hwnt i'r pwynt yn awr lle’r oedd Nevill Hall i fod i gael ei ailddatblygu, felly a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amserlen ar gyfer ailddatblygu Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent? Nid wyf yn golygu amserlen gadarn, ond a allwch chi o leiaf roi syniad i ni pryd y byddwch yn meddwl y bydd yr ysbytai hynny, neu ysbyty cyffredinol newydd, yn dod ar-lein?  A fydd hyn yn peidio â digwydd yn llawn hyd nes trosglwyddo gwasanaethau yn 2022, neu a ydych yn rhagweld cyfnod pontio graddol i'r safle newydd a datgomisiynu fesul cam ar wasanaethau mewn ysbytai eraill, gyda chapasiti yn cael ei ryddhau wrth i ni fynd ar hyd y ffordd, neu a ydych yn gweld y bydd popeth yn digwydd ar ôl 2022?

Er bod y cynllun wedi cael cefnogaeth aruthrol, mae’n wir i ddweud bod cryn bellter o dde Powys i'r Fenni ac mae'n amlwg yn bellach o lawer i safle Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i bobl gogledd sir Fynwy a de Powys na fydd yr amseroedd teithio hirach hyn yn achosi gormod o broblemau, a pha waith modelu sydd wedi’i wneud ar gyfer amseroedd teithio mewn ambiwlans? Mae'n llai o broblem i mi yn fy etholaeth i, ond rwy’n gwybod yn etholaeth Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed y bu pryder am yr amseroedd teithio hirach i'r ganolfan newydd. Felly, pa waith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn?

Rydym yn awr yn wynebu pump neu chwe blynedd arall cyn i’r ganolfan newydd agor. Pa sicrwydd sydd ar gyfer recriwtio yn ystod y cyfnod hwnnw? Mae hyn wedi ei godi eisoes gan Rhun ap Iorwerth. A yw'r rhai sy'n cael eu recriwtio i'r GIG yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'r newidiadau hyn? Mae angen i ni leddfu unrhyw ansicrwydd yn ystod y cyfnod pontio.

Rwy’n cytuno â'ch sylwadau, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hyn yn ymwneud â chreu GIG integredig, effeithlon, gydag un canolfan yn ymdrin â'r triniaethau brys mwyaf cymhleth, gan ryddhau capasiti ar draws gweddill ardal y bwrdd iechyd ar gyfer gofal sylfaenol gwell. Wrth gyfeirio at y pryderon am drafnidiaeth gyhoeddus, nid yw Cwmbrân mor bell â hynny oddi ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel fy mod yn credu y bydd yn achosi problemau enfawr—mae llawer o wasanaethau bws a thrên da i'r ardal honno. Wrth gwrs, holl bwynt y ganolfan gofal critigol yw nad yw’n mynd i fod yn ysbyty cyffredinol lle mae pobl yn gyffredinol yn galw heibio mewn car; mae'n mynd i fod yn lle y bydd pobl yn ymweld ag ef mewn ambiwlansys ar ôl bod mewn damweiniau difrifol—pobl sydd â chyflyrau difrifol. Felly, nid wyf yn credu bod hynny'n gymaint o broblem ag y byddai yn achos ysbyty cyffredinol, ond serch hynny rwy'n falch eich bod wedi mynd i’r afael a hynny yn gynharach.

Roedd Dyfodol Clinigol Gwent yn ddibynnol, nid yn unig ar y ganolfan newydd hon, ond hefyd ar wasanaethau cymunedol o ansawdd uchel. Rwy'n cofio edrych ar ddiagram gyda phyramid. Roedd gennych y ganolfan gofal triphlyg ar y brig, roedd gennych ofal sylfaenol yn y canol ac roedd gennych wasanaethau cymunedol ar y gwaelod. Bryd hynny, roedd clinigwyr yn glir iawn na fyddai'r system newydd hon yn gweithio oni bai bod y gwasanaethau cymunedol hynny ar waelod y pyramid yn cael eu dwyn ar-lein ar yr un pryd. Ymddengys eich bod yn nodi yn eich datganiad eich bod yn hyderus ynghylch lefel y cynnydd, cyfradd y cynnydd, a wnaethoch wrth ddatblygu’r gwasanaethau cymunedol hynny. A allwch chi roi sicrwydd pan fyddwn yn cyrraedd 2021, 2022—pryd bynnag y bydd y dyddiad agor terfynol—y bydd hyn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd fel gwasanaeth GIG integredig, cydlynol yn y de-ddwyrain, ac na fydd unrhyw syndod ar y pwynt hwnnw mewn cysylltiad â diffyg capasiti nad yw wedi ei ragweld ar hyn o bryd? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy’n cydnabod eich pwynt am hyd y cyfnod a'r ffaith y bu lobïo, ac, unwaith eto, rwy’n cydnabod bod yr Aelod dros Dorfaen wedi dod â dirprwyaeth o Aelodau i fy ngweld yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn Ysgrifennydd y Cabinet ar fwy nag un achlysur, ac rydw i wedi bob amser wedi ei chael hi i fod yn unigolyn pendant a dymunol, byddwch yn falch o wybod. Mae hyn wedi bod yn broblem dros gyfnod o amser, ond rydym wedi gwneud dewis ac rwyf wedi gwneud yr hyn y dywedais y byddwn yn ei wneud. Dydw i ddim yn mynd i ailddweud yr hanes am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, faint o amser y mae wedi’i gymryd i gyrraedd yma; mae'n bwysig i edrych ar ble yr ydym ni nawr a beth y byddwn yn ei wneud nawr gyda'r buddsoddiad sylweddol a'r heriau sy'n dod, ynglŷn â chyflawni'r prosiect hwn ond hefyd yr her y mae'n ei chyflwyno yn rhannau eraill o'r ystâd, nid dim ond yng Ngwent, ond y tu hwnt yn ogystal. Y gwasanaethau yn Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent y cyfeiriwch atynt fel rhai sy’n ‘gwegian’, wel, rhan o'r her yw, pe na byddem wedi gwneud penderfyniad a rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd yma a datganiad diffiniol go iawn, mewn gwirionedd byddai'r gwasanaethau hynny wedi bod mewn sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol. Felly, mae'r penderfyniad yn wirioneddol bwysig i’r gwasanaethau hynny fel y maent yn bodoli yn awr, a chael mewnbwn priodol fel y bydd rhai o'r gwasanaethau hynny pan fyddant yn cael eu cyfeirio i leoliad mwy priodol wedyn, a fydd mewn gwirionedd yn well ar gyfer staff a'r claf.

Mae'n cysylltu â’ch pwynt ynghylch mynediad, oherwydd, yn wir, fe wnaethoch y pwynt hwn hefyd ynghylch pwy fyddai'n mynd i'r SCCC—pa fath o gleifion fydd yn mynd yno? Mewn gwirionedd, ar gyfer y bobl hynny, rydych am gael mynediad at y gofal o'r ansawdd gorau, dyna beth yr ydych ei eisiau. Nid ydych eisiau mynediad at ofal lleol os nad yw y gorau ac os nad yw'n ofal priodol ychwaith. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni ar ofal priodol mewn lle priodol: canolfannau arbenigol sy'n darparu gofal arbenigol, ysbytai eraill sy'n darparu mathau eraill o ofal, ac yna gofal sylfaenol a chymunedol hefyd. Yn wir, mae gan Aneurin Bevan record dda o'r newid y maent yn ei gyflawni o fewn y gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Gwneuthum y cyhoeddiad yng Nghwmbrân, gan ymweld yn fwriadol â gwasanaeth yng Nghwmbrân sy'n cydnabod cysylltiad rhwng yr awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd gwladol, therapyddion a gwyddonwyr, ond, yn arbennig, gan weld dau feddyg ymgynghorol yn dod allan o'u hysbyty yn rheolaidd i fynychu’r clinigau hynny a bod yn rhan o'r tîm. Mae’r gweithio amlddisgyblaethol hwnnw eisoes yn rhan o realiti. Yn y dyfodol, yr her fydd sicrhau bod y model y mae Dyfodol Clinigol yn ei nodi yn cael ei ddarparu ar sail fwy cyson, ac yn ehangach, ar draws gofal cymdeithasol a’r GIG, fel bod gennym yn wir y gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.

Ynglŷn â'ch pwynt am 2022, un glec fawr, wel, bydd yn rhaid i ni weithredu system gyfochrog i sicrhau nad yw gwasanaethau yn sydyn yn diflannu, ond, mewn gwirionedd, nid yw’r adleoli ymarferol a symud gwasanaethau yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o fy mhenderfyniad yn awr. Mewn gwirionedd, mater gweithredol ymarferol yw hwnnw ar gyfer y bwrdd iechyd i'w gael yn iawn gyda’r comisiynau hynny sy'n cyflwyno'r gwasanaethau a gyda'r dinasyddion sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau hynny hefyd. Felly, rwy’n meddwl y byddwch yn gweld rhywfaint o symud graddol, ac, fel ym mhob adeilad newydd, mae'r adeilad ar agor cyn yr agoriad swyddogol er mwyn rhoi cyfle i ddeall yr hyn sydd yn gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio yno. Felly, rwy’n meddwl y byddwch yn gweld, dros gyfnod o amser, proses bontio y gallwn gael rhywfaint o hyder ynddi yn sgil prosiectau blaenorol yn ogystal. Bydd yn rhaid iddi gael ei darparu ar amser, bydd yn rhaid iddi gael ei darparu o fewn y gyllideb—mae hynny'n rhan o'r her caffael yn ogystal, ond yr her hefyd yw sicrhau bod pontio di-dor priodol i’r gwasanaethau hynny ar gyfer staff a’r dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a diolch iddo hefyd am ddod i Gwmbrân ddoe, i'r clinig cwympo, i wneud y cyhoeddiad? Rydych yn gywir iawn i nodi ei bod yn gyfle gwych i weld y mathau o wasanaethau sy'n cael eu cyflwyno ar lefel y gymuned wrth i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Ond roeddwn wrth fy modd eich bod yn gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw ddoe. Mae'n newyddion hynod dda, nid yn unig ar gyfer Torfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan ac ar gyfer y de. Rwy'n credu y bydd yn cynnig darpariaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf i’r holl gymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ond mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer sicrhau ein bod yn parhau i recriwtio staff o'r ansawdd uchaf i weithio yn yr ysbyty. Felly, y croeso cynhesaf posibl iawn gennyf i i’ch datganiad a'r cyhoeddiad ddoe.

Rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau. Ategaf yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddweud am bwysigrwydd caffael, a byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi roi sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar y materion caffael, fel y gallwn sicrhau, lle bo modd, bod busnesau lleol yn wir elwa ar yr hyn sydd yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr yn yr ardal leol. Rydym yn gwybod bod y prosiect wedi llithro o'i amserlen wreiddiol ac rydych yn gwbl ymwybodol o'r rhwystredigaethau sydd wedi bodoli o gwmpas hynny. A gaf i ofyn am eich sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar unrhyw lithro posibl pellach, yn enwedig o ran y ffaith y gallai achosi anawsterau yn awr gyda chontractwyr a oedd wedi eu cytuno, ac ati? Felly, a fyddwch yn cadw llygad barcud ar hyn er mwyn sicrhau bod hyn bellach yn cael ei yrru ymlaen ar fyrder ac nad ydym yn gweld unrhyw lithro pellach yn hyn?

O ran trafnidiaeth, mae’r materion hynny wedi eu codi heddiw, ond, wrth gwrs, roedd astudiaeth helaeth iawn o'r fynedfa i'r safle a chafwyd mai’r safle hwn oedd yr un gorau posibl ar gyfer Gwent a de Powys gyfan. Ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni hefyd gadw llygad ar y materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig, wrth gwrs, ar gyfer y bobl sy'n ymweld â'r ysbyty fel cleifion, ond ar gyfer ymwelwyr. Gwn fod gan y bwrdd iechyd hanes da iawn o hwyluso materion mynediad, felly a gaf i ofyn am eich sicrwydd ar hynny hefyd? Ond, y croeso cynhesaf posibl gennyf i ac, wrth gwrs, gydnabyddiaeth bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i wneud buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus ar adeg o galedi mawr a phwysau enfawr. Diolch.

Diolch i chi am eich sylwadau. Fel y dywedais, pendant a dymunol—yn fwy pendant na dymunol mae’n siŵr, weithiau. Ond, na, o ddifrif, mae wedi bod yn bwysig gweld Aelodau lleol yn sefyll i fyny ar ran eu cymunedau dros gyfnod hir ac anodd ac rwyf yn cydnabod hynny. Felly, mae'r penderfyniad yn cael effaith wirioneddol, rydych yn hollol gywir, ac, fel yr wyf wedi ceisio ei wneud yn glir ddoe a heddiw, ar draws y de i gyd—nid penderfyniad Gwent yn unig ydyw. Rydych chi'n iawn i atgoffa'r Aelodau fod yr astudiaeth trafnidiaeth a wnaethpwyd yn ystyried mai hwn yw’r safle mwyaf priodol. Nid ydym yn mynd i fynd yn ôl ac ail-edrych ar hynny eto. Dyma’r penderfyniad. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y mynediad hwnnw yn real nawr hefyd, ac rydych yn iawn, wrth gwrs, i nodi mai’r nod yw i gleifion ac ymwelwyr gael mynediad sy'n gyfleus ac yn caniatáu iddynt weld anwyliaid a ffrindiau.

O ran eich pwynt am waith yn cychwyn, mae'n bendant yn fy meddwl i fy mod yn awyddus i’r prosiect hwn fod yn digwydd ac yn weladwy, ac i fodloni’r amserlen a ddarperir o ran ei fod ar waith. Yn wir, nododd prif weithredwr y bwrdd iechyd ddoe ei bod yn credu y bydd y gwaith yn gallu ailddechrau eto ar y safle hwnnw tua gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, nid yw'n saib hir, hyd yn oed gyda rhywfaint o ail-dendro sydd angen ei wneud. Ond rwyf wir eisiau ail-bwysleisio pwynt a wnewch am gaffael hefyd. Rydym yn gwneud buddsoddiad cyfalaf enfawr, ac fe fydd yn rhaid cael enillion—ac enillion priodol—yn ystod y cyfnod adeiladu, a’r rheiny’n enillion y gall pobl eu deall ac y gall pobl eu gweld. Dylai pobl wybod bod gweithlu lleol yn cael ei ddefnyddio ar y safle, a phrentisiaid lleol. Ceir her yno, yn ymwneud â sicrhau bod digon o lafur yn lleol i allu cyflawni hynny, mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymwneud â manteisio i’r eithaf ar y cyfle.

Yn olaf, rwy’n dymuno atgyfnerthu'r pwynt am recriwtio unwaith eto. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i recriwtio pobl i fodel o ofal y mae pobl wedi galw amdano, y mae clinigwyr yn ei gefnogi’n llwyr, ac mae'n ymwneud â gwireddu’r cyfleoedd hynny a sut y mae hynny'n effeithio ar y system gofal iechyd gyfan—rhywbeth sydd yn wirioneddol gydgysylltiedig ac sy’n cael ei hadeiladu ar gyfer y dyfodol, gyda dyluniad a chynllun y mae clinigwyr yn ei gefnogi, ac y mae’r cyhoedd yn ei gefnogi’n llwyr hefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich her barhaus. Mae'n rhan o'r fargen i fod yn y Llywodraeth i orfod ymdrin â chynrychiolwyr lleol, ac rwy'n siŵr bod pobl yn Nhorfaen yn sylweddoli pa mor benderfynol yw’r hyrwyddwr sydd ganddynt.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod a yw'n ben-blwydd arnoch heddiw ond yn sicr rydych wedi cael llawer iawn o ganmoliaeth, yn y ddadl ddiwethaf ac yn yr un hon. Yr wyf i yn ddiedifar— [Torri ar draws.] Yr wyf i yn ddiedifar yn mynd i barhau yn yr un modd. Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ar y gwaith o adeiladu’r SCCC hir-ddisgwyliedig yn Llanfrechfa, ac rwy'n siŵr y bydd y newyddion yn cael ei groesawu gan bobl y de-ddwyrain a'r rhanbarthau cyfagos. Rwyf hefyd yn ei longyfarch ar weithredu mor brydlon, o leiaf ar ei ran ef, yn enwedig gan fod hyn mor gynnar yn ei gyfnod fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Hoffwn hefyd nodi mewnbwn sylweddol dros nifer o flynyddoedd gan yr AC ar gyfer Torfaen, Lynne Neagle, sydd wedi helpu i sicrhau'r prosiect hwn. Gwn fod y prosiect hwn yn agos iawn at ei chalon. Yn amlwg, hoffwn sôn am fewnbwn Nick Ramsay i’r prosiect hwn yn ogystal.

Fel y nododd yn ei ddatganiad, mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn awr yn rhydd i weithredu'r prosiect hwn a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu cyn gynted ag y bydd yn gyfleus iddynt. Mae hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau’r bwrdd i lunio strategaeth gyflawn ar gyfer gwasanaethau ar draws rhanbarth cyfan y bwrdd. Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn trawsnewid y profiad gofal iechyd cyfan ledled y de-ddwyrain, ond byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gan Lynne Neagle yn gynharach, eich bod yn cadw llygad ar yr hyn sy'n mynd ymlaen a gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn cyflawni'r addewidion hyn. Diolch.

Diolch am y sylwadau. Gallaf gadarnhau nad yw'n ben-blwydd arnaf—dim eto, ac mae'n rhaid i mi aros am beth amser er mwyn i hynny ddigwydd eto. O ran y sefyllfa yr ydym ynddi, mae’r Aelodau'n gwneud cyfres o bwyntiau ynghylch yr amser a lle'r ydym yn awr, ond, ar y cyfle y mae’r penderfyniad hwn yn ei gynrychioli, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud erioed eu bod nhw am i benderfyniad gael ei wneud a fyddai'n datgloi eu gallu i fynd ymlaen i wneud y cam nesaf o ddatblygu'r cynllun gofal iechyd cyfan: systemau iechyd a gofal yn gweithio gyda'i gilydd. A dweud y gwir, fel y dywedais yn gynharach, rwy’n meddwl bod gan Aneurin Bevan stori dda i'w hadrodd ar eu datblygiad gofal sylfaenol a chymunedol. Maent yn gwneud mwy o symud gwasanaethau allan o'r ysbyty ac i mewn i gymunedau nag y mae rhannau eraill o Gymru wedi’i gyflawni mewn rhai meysydd, yn enwedig ym maes gofal llygaid, a dylai hyn mewn gwirionedd helpu i weld y trosglwyddo hwnnw’n cael ei symud ymlaen ar y cyflymder hwnnw. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol am y dyfodol ar gyfer yr holl heriau sydd gennym, ond bydd yn rhaid cael, fel y dywedais yn fy natganiad, ymrwymiad gwirioneddol i gyflawni ar gyflymder y diwygio gwasanaethau a’r trawsnewid sy'n angenrheidiol i gyd-fynd â’r penderfyniad hwn.

Hoffwn, yn gyntaf, unwaith eto, longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar y newyddion pwysig a hanesyddol hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £350 miliwn mewn adeiladu canolfan gofal critigol arbenigol Gwent. Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu yn fawr gan fy etholwyr yn Islwyn ac mae'n newyddion gwych i bobl Gwent a thu hwnt.

Mae'r prosiect 460 gwely, a fydd yn gwasanaethu poblogaeth o 600,000, yn atgyfnerthu'r hyn y mae pawb yn ei wybod: sef, pan ddaw at y gwasanaeth iechyd gwladol, y blaid a’i creodd—y Blaid Lafur—yw'r blaid y mae fwyaf diogel yn ei dwylo.

Mae tair blynedd ar ddeg i’w ddatblygu—rhif anlwcus—yn gwneud y penderfyniad hwn yn bwysig iawn, iawn i ni, o dan y chwyddwydr trylwyr o graffu, ond mae'n rhif lwcus i bobl Gwent a’r de-ddwyrain.

Mae dim ond darllen y cyfleusterau y mae'r ganolfan gofal critigol ac arbenigol yn eu darparu yn dangos pam yr oedd y Gweinidog yn iawn ac yn ddewr i roi’r golau gwyrdd i’r prosiect drud hwn ar adeg pan fo Cymru'n wynebu toriadau llym. Bydd yn ymgorffori triniaeth frys ac asesiad mawr gyda gwelyau gofal critigol a gwelyau gofal y galon acíwt. Bydd y gwasanaeth cleifion mewnol yn ymdrin ag achosion mawr, gydag arbenigeddau megis llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth, orthopedeg, hematoleg a gofal fasgwlaidd.  Hefyd yn cael eu cynnwys bydd obstetreg cleifion mewnol, bydwreigiaeth a gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr, gynaecoleg, endosgopi brys, pediatreg cleifion mewnol a gofal dwys newyddenedigol, a gallaf fynd ymlaen.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut y bydd yn galluogi gwneud cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol? Ond, cyn hynny i gyd, rwyf hefyd yn dymuno tanlinellu’r teimladau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno. Diolch i chi am y penderfyniad hwn; diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, rhoi blaenoriaethau'r bobl gyntaf a sicrhau bod gennym GIG addas ar gyfer ein hoes, addas ar gyfer pobl Gwent a thu hwnt ac addas i Gymru.

Diolch am y sylwadau. Gan fynd yn ôl at y pwynt am drafnidiaeth eto, mae'n fater o bwys i'w gael yn iawn ar gyfer hurio preifat a thrafnidiaeth breifat, yn ogystal â thrafnidiaeth gwasanaeth cyhoeddus, i'r safle, gan feddwl am anghenion cleifion a'u galluoedd a hefyd fynediad i wasanaethau brys. Rwy’n disgwyl bod Aelodau lleol oedd yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn eu sgyrsiau gyda'r bwrdd iechyd—rwy’n gwybod eu bod wedi briffio Aelodau lleol; maen nhw'n eithaf rhagweithiol, mewn gwirionedd, yn gwneud yn siŵr bod Aelodau lleol yn cytuno ac yn deall yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.

Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol i glywed yr ystod eang o wasanaethau yr oedd yr Aelodau yn atgoffa eraill fydd yn awr yn digwydd ar y safle newydd hwn pan gaiff ei gyflwyno. Ond mae'n bwysig cydnabod hefyd fod hwn yn brosiect sydd wedi cynnal cefnogaeth, nid yn unig o fewn y gymuned glinigol, ond gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Ngwent hefyd. Felly, mae'n mwynhau cefnogaeth, ac yn parhau i fwynhau cefnogaeth, yr holl awdurdodau lleol yn ardal Gwent. Ni waeth ble mae wedi ei leoli yn gorfforol, cafwyd cydnabyddiaeth gan yr awdurdodau lleol partner hynny a fydd yn elwa ar gael model sy'n ganolfan gofal arbenigol i gyflwyno model priodol o ofal yn y pen hwn â’r holl wasanaethau o'i chwmpas. Byddaf yn edrych ymlaen at weld hynny’n cael ei gyflawni gan awdurdod lleol partner, gan y gwasanaeth iechyd a rhanddeiliaid ehangach eraill yn ogystal.

10. 6. Datganiad: Y Targed o 20,000 o Dai Fforddiadwy

Rydym yn symud ymlaen at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy—a galwaf ar Carl Sargeant i gynnig y datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd i roi trosolwg i'r Aelodau o'r dull y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.

Mae hwn yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu ac mae wrth wraidd ein hagenda tai gynhwysfawr. Bydd cyflawni yn unol â hyn hefyd yn cefnogi themâu allweddol eraill ar draws fy mhortffolio: gwella llesiant yn ein cymunedau a hybu adfywiad economaidd.

Rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad y sector yn ystod tymor olaf y Llywodraeth. Mae ystadegau a ryddhawyd fis diwethaf yn cadarnhau ein bod wedi rhagori ar ein targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y Cynulliad diwethaf. Mae hyn yn dangos yr hyn y gall gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at hyn.

Fodd bynnag, rydym ni’r Llywodraeth yn awyddus i gyflawni hyd yn oed mwy, a dyna pam y mae gennym darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor hwn. Mae adeiladu cartrefi yn arwain at fanteision pwysig, sydd y tu hwnt i ddim ond rhoi to uwch bennau pobl. Ochr yn ochr â'r manteision iechyd ac addysg tra chyfarwydd y mae tai o ansawdd da yn eu cynnig i blant a theuluoedd, mae adeiladu cartrefi o bob daliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar economi Cymru ac ar ein cymunedau. Mae adeiladu tai yn creu miloedd o brentisiaethau bob blwyddyn, gan ddarparu adfywio ehangach mewn ardaloedd difreintiedig, a gall trawsnewid cymunedau.

Mae gennym hanes cadarn o gefnogaeth i dai cymdeithasol a bydd hyn yn parhau i fod yn hanfodol. Mae'r targed yn un uchelgeisiol, ac nid yw 'busnes fel arfer' yn ddigon, ond bydd cynlluniau profedig yn cynnwys y rhaglen grant tai cymdeithasol a'r grant cyllid tai yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu tai fforddiadwy a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.

Ochr yn ochr â'r angen i adeiladu cartrefi newydd, mae'n bwysig ein bod yn cadw ein stoc bresennol o dai cymdeithasol. Rydym yn cynnig diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael ac mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. Bydd hyn yn ein galluogi i gadw tai cymdeithasol saff, diogel a fforddiadwy ledled Cymru. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn galluogi cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi yn hyderus wrth adeiladu cartrefi newydd. Mae ein cynlluniau ar gyfer gwella'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn cynnwys mesurau a luniwyd i gynnig cymorth ychwanegol i’r rhai sy'n dyheu am fod yn berchen ar gartref. Bydd hyn yn dod yn bosibilrwydd mwy realistig ar gyfer mwy o bobl os gallwn ni ddarparu'r math iawn o gymhelliant neu gymorth.

Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau tai er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion tai. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ei gwneud yn glir bod ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol yn cynnwys 6,000 fydd yn cael eu darparu drwy gynllun Cymorth i Brynu - Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun wrth ddarparu llwybr i berchnogaeth cartref fwy fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae rhan enfawr wrth ennyn hyder yn y sector tai a chefnogi datblygiad tai preifat. Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi sêl bendith i gontractau ar gyfer cam 2 y cynllun, a fydd yn golygu bod £290 miliwn yn cael ei fuddsoddi hyd at 2021. Wrth gymryd golwg eang ar yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu i hyrwyddo fforddiadwyedd ehangach o ran tai, mae'n bwysig pwysleisio bod diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy at ddibenion cynllunio yn aros yn ddigyfnewid yn sgil y cynigion hyn.

Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cynllun rhentu i berchenogi. Mae hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhai sy'n dyheu i brynu eu cartrefi eu hunain, ond yn ei chael hi’n anodd cynilo blaendal sylweddol. Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer y cynllun hwn a bydd y manylion yn dilyn yn y flwyddyn newydd. Ein nod ehangach fydd hybu amrywiaeth o lwybrau i berchnogaeth cartref am gost fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf mewn ardaloedd lle maent yn aml yn methu â phrynu cartref oherwydd gwerth eiddo lleol uchel. Os ydym i adeiladu cymunedau llwyddiannus a chynaliadwy, mae angen rhaglen adeiladu tai arnom sy’n uchelgeisiol o ran dyluniad, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi yr ydym yn eu cyflenwi. Byddwn yn herio'r sector i gynyddu ei ymdrechion ac i ddarparu nifer sylweddol o gartrefi ar ddyluniad newydd. Byddwn hefyd yn hyrwyddo gweithio ar y cyd, gyda'r nod o ddarparu cynlluniau tai sy'n gallu darparu manteision hirdymor i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

At ei gilydd, rydym wedi dyrannu £1.3 biliwn ar gyfer tymor y Cynulliad hwn i gefnogi tai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy a chwblhau'r dasg o fodloni safonau ansawdd tai Cymru. Mae graddfa'r gyllideb hon yn arwydd clir o lefel ein huchelgais yn y maes hwn. Dim ond un o'r cynhwysion sy'n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yw’r ymrwymiad ariannol hwn, fodd bynnag. Nid yw Llywodraeth Cymru ei hun yn adeiladu tai; rydym yn dibynnu ar y berthynas gref sydd gennym â chymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai preifat. Byddwn yn cynnal a chryfhau’r perthnasau hynny.

Yn y Cynulliad diwethaf, roedd y cytundeb â Chartrefi Cymunedol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gyrraedd y targed i adeiladu dros 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym yn trafod cytundeb tridarn yn awr â Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed newydd. Rwy’n falch iawn â’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn ac yn croesawu cyfranogiad CLlLC. Mae hyn yn arbennig o dderbyniol gan fod awdurdodau lleol bellach yn dechrau ystyried eu rhaglenni adeiladu eu hunain unwaith eto. Byddaf yn darparu cymorth ychwanegol i gefnogi’r gweithgareddau datblygu hyn. Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau hyn i nodi’r ffordd orau y gallwn gefnogi eu hymdrechion. O'u cymryd gyda'i gilydd, rydym yn disgwyl iddynt gyflawni dros 500 o gartrefi yn nhymor y Llywodraeth hon.

Mae adeiladwyr preifat yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddarparu tai fforddiadwy. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda datblygwyr drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol ar gyfer datblygwyr mawr ac, wrth gwrs, busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu mwy o dai ar werth ar draws yr ystod pris cyfan. Mae'n bwysig peidio â drysu ein targed tai fforddiadwy gyda'r ymdrechion ehangach sydd eu hangen i ddiwallu angen cyffredinol y wlad am dai.

Byddwn yn parhau i weithredu i gefnogi’r gwaith o adeiladu tai. Bydd y system gynllunio yn parhau i fod yn alluogwr hanfodol i sicrhau bod y cartrefi iawn yn cael eu hadeiladu yn y mannau iawn i ddiwallu’r angen am dai. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod ein polisïau tai a chynllunio yn cael eu halinio i annog y gwaith o adeiladu tai newydd. Mae sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer datblygu yn bwysig hefyd. Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer sylweddol o safleoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai. Rydym yn parhau i archwilio beth arall y gallwn ei wneud i nodi mwy o dir sector cyhoeddus sy’n addas ar gyfer tai.

Lywydd, mae ein rhaglen uchelgeisiol ar dai yn ymwneud â darparu tai fforddiadwy, saff, cynnes a diogel i bobl mewn cymunedau cynaliadwy. Mae darparu cartrefi newydd i Gymru yn ymrwymiad allweddol ar gyfer tymor y Cynulliad hwn. Nid wyf yn rhoi amcangyfrif rhy isel o’r heriau wrth gyflawni'r targed hwn. Fodd bynnag, rydym yn adeiladu ar ein perthnasau, sydd eisoes yn gryf, gan sicrhau bod adnoddau sylweddol ar gael a cheisio hwyluso datblygiad tai ar draws Cymru gyfan. Gyda'n gilydd, rwy'n hyderus, gyda’r camau hyn i helpu, y byddwn yn llwyddo.

Rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, mai grual braidd yn denau oedd hynny, â minnau’n disgwyl gwledd gyfoethocach o lawer. Erbyn hyn mae gennym eglurhad am yr hyn y mae 20,000 ychwanegol yn ei olygu. Eich targed yn y pedwerydd Cynulliad oedd 10,000 o gartrefi cymdeithasol; mewn gwirionedd gwnaethoch ychydig yn well na hynny. Eich targed ar gyfer y pumed Cynulliad yw 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Yn awr, yn ôl eich mathemateg chi, mae hynny’n 20,000 ychwanegol, sydd yn fy marn i, mae’n rhaid i mi ddweud, yn chwyddo’r ystadegau braidd yn ormod.

Fodd bynnag, nid dyna'r pwynt pwysicaf, a'r rheswm go iawn pam fy mod i mor siomedig. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr amcangyfrifon newydd o angen am dai a gyflwynwyd yn adroddiad yr Athro Holmans ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’. Dyma’r adroddiad a noddir gennych chi’r Llywodraeth i wirio eich amcangyfrifon blaenorol. Gwnaed yr amcangyfrifon y gofynnwyd i'r Athro Holmans eu hadolygu yn 2010, ac roeddent yn seiliedig ar ddata 2006. Roedd yr amcangyfrifon hynny yn darparu amcanestyniad ar gyfer yr angen am dai a oedd yn is na'r duedd hirdymor. Dywedodd yr Athro Holmans y dylai’r newid sydyn hwn mewn polisi gael ei gwestiynu fel sail ar gyfer yr angen am dai yn y dyfodol, a dyna’r cwestiwn yr wyf unwaith eto yn ei ofyn i chi.

Polisi Llywodraeth Cymru yn y pedwerydd Cynulliad, fel y dywedais, oedd darparu 10,000 o gartrefi cymdeithasol. I fod yn deg, cafodd 11,500 eu cyflwyno mewn gwirionedd, felly rhagorwyd ar y targed. Fodd bynnag, roedd y cyflawniad hwnnw yn is nag amcanestyniad Llywodraeth Cymru o’r angen, a oedd yn 3,500 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn neu 17,500 dros y tymor o bum mlynedd. Felly, roedd hyd yn oed yr 11,500 yn fyr iawn o'ch amcanestyniadau, sydd eu hunain erbyn hyn wedi eu herio’n sylfaenol gan yr Athro Holmans.

Mae datganiad heddiw yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn awyddus yn awr i gyflawni ar yr hen amcangyfrifon hynny o oddeutu 3,500 o unedau cymdeithasol y flwyddyn—mewn gwirionedd, ychydig yn fwy, rwy’n meddwl, pan fyddwch yn gwneud y fathemateg. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Cynulliad nad yw'r ystadegau diweddaraf yn galonogol iawn. Rydym yn disgwyl cael 2,792 ychwanegol o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn hon a 3,351 y flwyddyn nesaf—sy’n dal i fod islaw'r math o darged a fyddai’n fwy na 3,500 y flwyddyn er mwyn cyrraedd y 20,000 o dai yr ymrwymwyd iddynt erbyn hyn.

Wrth gwrs, y ffaith fwyaf arwyddocaol yn yr amcanestyniad a gyflwynwyd gan yr Athro Holmans oedd bod angen i ni ddarparu rhywbeth tebyg i 5,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn i geisio diwallu’r math o angen y gallwn ei ddisgwyl yn awr. Ac rwy'n ofni nad yw'n gam uchelgeisiol pan fyddwch chi’n gwrthod eich adolygiad eich hun, ac yna yn creu targed sy'n is o lawer na'r hyn y gallwn ei gymryd yn ganiataol sydd ei angen yn y sector tai. Ac rwy’n ofni bod y methiant hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o gartrefi preifat y rhagwelir y byddant yn cael eu hadeiladu yn y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Yn syml, Weinidog, mae hyn yn golygu bod degau o filoedd o ddinasyddion Cymru—dros 60,000 ohonynt—yn ôl fy nghyfrifiadau i, y gwahaniaeth rhwng yr hen amcanestyniad a'r amcanestyniad newydd yr ydych chi newydd ei wrthod dros y cyfnod hyd at 2030 yw 66,000. Dyna'r nifer o bobl a fydd o bosibl heb gartref y gellid bod wedi ei ddarparu iddynt gan darged tai mwy uchelgeisiol. Ac ar ran y perchnogion a’r deiliaid tai posibl hynny, rwy’n gofyn: pam nad ydych chi’n bod yn wirioneddol uchelgeisiol ac, yn syml, pam yr ydych chi wedi gwrthod yr adroddiad rhagorol hwn?

Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod ac fel bob amser mae’n huawdl yn ei amcanestyniad o'r ffigurau y mae’n eu defnyddio. A gaf i awgrymu ei fod yn cymryd golwg arall ar y ddogfen sydd ganddo? Yn wir, nid ydym wedi gwrthod y ddogfen mewn unrhyw ffordd. Gadewch inni roi rhai ffeithiau i'r Aelod sydd newydd wneud cyfraniad.

Darparodd adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Future Need and Demand for Housing in Wales', amcangyfrifon yn ddiweddar o anghenion tai a'r galw ar hyn o bryd a’r galw a ragwelir ar gyfer Cymru rhwng 2011 ac 2031. Yn seiliedig ar amcanestyniadau swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y twf yn nifer yr aelwydydd—y prif amcanestyniad—roedd yr adroddiad yn amcangyfrif bod angen tua 174,000 o eiddo ychwanegol yng Nghymru rhwng 2011 a 2031, ac y byddai 100,000 yn sector y farchnad a tua 70,000 yn y sector cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn gallu gwneud y fathemateg yn hynny o beth, ond mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o tua 8,700 o anheddau y flwyddyn yn ystod y cyfnod, a byddai 3,500 yn dai sector cymdeithasol. Mae ein hymrwymiad i 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn gwbl gywir ac nid dyma'r unig ffigur—nid dyma’r unig ffigur y byddwn yn ei ddefnyddio. Y ffigur o 20,000 yw ein hymrwymiad, ac mae yn uchelgeisiol. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod, er ein bod yn meddwl bod 10,000 yn uchelgeisiol yng nghyfnod olaf y Llywodraeth, bod cyflawni 11,500 mewn gwirionedd yn beth cadarnhaol iawn, ac roedd hynny dim ond oherwydd y gwaith a wnaethom gyda'n partneriaid. Rwy’n cymryd rhan o’r clod, ond rhan yn unig, oherwydd mewn gwirionedd pobl fel Cartrefi Cymunedol Cymru a'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn dechrau datblygu eiddo yw'r bobl ar lawr gwlad sy’n cyflawni atebion o ran cartrefi yn ein cymunedau ledled Cymru.

Rwy'n siŵr bod yr Aelod, yn y bôn, yn croesawu'r ffaith ein bod yn dyblu'r targed o ran ein hamcanestyniadau tai fforddiadwy. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon ar y dryswch ffigurau y mae’n ei ragamcanu yn parhau dros fisoedd lawer, rwy’n disgwyl—ni fyddwn yn disgwyl ddim llai gan yr Aelod—ond ni chymeraf unrhyw bregeth am adeiladu tai neu amddiffyn tai cymdeithasol yn unrhyw le yn y DU gan y Blaid Geidwadol, gyda'r parch mwyaf. Mae’r ffaith ein bod ni ar fin deddfu ar gyfer diddymu’r hawl i brynu yn brawf o’r ffaith ein bod ni’n gwerthfawrogi ein stoc yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi diogelu tai yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn gofyn i'r Aelod fyfyrio arno o safbwynt ei blaid ei hun. Y ffaith yw, lle'r ydym yn adeiladu cartrefi, byddwn yn eu diogelu—ac nid adeiladu un, fel yn Lloegr, a gwerthu saith i'r sector preifat. Nid y hynny’n gynaliadwy, ac mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru yn rhywbeth gwahanol iawn. Dylem fod yn falch iawn o'n camau gweithredu wrth adeiladu tai yma.

Diolch yn fawr iawn a diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Ni fyddem, yn amlwg, yn dadlau â’r ffaith bod targed o’r natur yr ydych wedi cyrraedd i'w groesawu, ond byddwn yn adleisio rhai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â pha un a oes problem o ran y ffigur fel ag y mae. Rwy'n dweud hyn nid ar ran fy hunan yn unig—rwy’n ei ddweud oherwydd bos y sector wedi cyfleu hynny i mi. Wrth gwrs, bydd 6,000 o’r cartrefi hynny yn gartrefi Cymorth i Brynu ac yn amlwg, mae hynny er mwyn helpu pobl i brynu tŷ hyd at £300,000. Er y gall hynny fod yn arwyddocaol yn ne-ddwyrain Lloegr, nid yw hynny’n cymharu â fforddiadwyedd yma yng Nghymru, a byddwn yn awyddus i gael gwybod—gan fy mod yn newydd i’r briff hwn—a wnaeth unrhyw un o'ch gweision sifil ychydig o ymchwil i weld a fyddai ffyrdd o addasu’r sefyllfa Cymorth i Brynu yma yng Nghymru. Wrth gwrs, nid wyf yn gwybod am eich ardal chi, ond yn yr ardal lle’r wyf i’n byw, mae tŷ o £300,000 yn dŷ eithaf sylweddol o’i gymharu ag eraill sydd ar gael yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylfaenol ar gyfer y ddadl sydd gennym o ran fforddiadwyedd.

Hoffwn hefyd rywfaint o eglurder i’r diffiniad hwnnw, unwaith eto ar ôl siarad â phobl yn y sector. Eich diffiniad chi o fforddiadwyedd yw:

Y rhai hynny nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored.

Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw syniadau fel Gweinidog—fel Ysgrifennydd y Cabinet—am amrywio'r diffiniad hwn mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, yng Nghastell-nedd, byddai fforddiadwyedd tŷ yn wahanol iawn i'r hyn sy’n fforddiadwy ym Mhenarth. Ac felly, mae cael y diffiniad eithaf eang hwnnw weithiau'n drysu trigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori, oherwydd eu bod yn gwybod na fydd eu teuluoedd yn gallu fforddio'r diffiniad o dŷ fel y'i diffinnir gan Barratt Homes, dyweder, neu gwmni arall yn eu hardal hwy.

Byddwn yn chwilfrydig i ddarganfod mwy am y ffaith eich bod wedi dweud y byddech yn rhyddhau mwy o dir sector cyhoeddus a thir y Llywodraeth ar gyfer tai. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni gael gwybod mwy o fanylion am hynny, oherwydd, wrth gwrs, weithiau mae dadleuon ynghylch ble y mae’r tir hwnnw, a sut wedyn y mae tai yn cael eu dosbarthu yn lleol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai o ddiddordeb imi gael gwybod mwy amdano, a hefyd ynghylch y cytundeb tridarn sydd gennych yn awr gyda Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi’r targed tai y byddwch yn ei gyflawni. Yn amlwg, roedd gennych y cytundeb hwn gyda Chartrefi Cymunedol Cymru o’r blaen, ond a allech ddweud wrthyf sut y maent yn dal i gadw eu statws fel 'cyfaill beirniadol y Llywodraeth' pan fyddant yn gweithio gyda chi ar y mater penodol hwn, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i ni barhau i gael yr elfen graffu honno gan Gartrefi Cymunedol Cymru hefyd?

Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad bod cael tai o ansawdd da yn cynnig manteision i blant o ran iechyd ac addysg, ac ni fyddwn yn dymuno amau ​​hynny, ond felly, hefyd, y mae sefydlogrwydd a pheidio cael eich troi allan a’ch symud. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfen tai cymdeithasol o'r 20,000 o gartrefi hyn yn cael ei rhedeg gan sefydliadau nad ydynt yn defnyddio troi allan fel y dewis cyntaf, fel y gwelwyd mewn ymchwil diweddar gan Shelter Cymru.

A fy nghwestiwn arall fyddai hyn: efallai bod tai yn fforddiadwy ar adeg eu hadeiladu, ond os byddant yn glanio yn nwylo landlordiaid prynu i osod yn y pen draw, ni fyddant yn fforddiadwy am yn hir iawn. Felly, sut ydych chi'n sicrhau hirhoedledd y tai fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu, nid gan eich Llywodraeth, gan nad ydych chi’n adeiladu tai, fel y dywedasoch, ond gan bartneriaid yn y sector?

A maddeuwch i mi os nad wyf wedi darllen eich datganiad yn gywir, ond a allwch chi ddweud wrthym, drwy geisio diddymu'r hawl i brynu, yr ydym, wrth gwrs, yn ei gefnogi, pa elfen—? Sut mae hynny'n dod i mewn i'r ffigurau, oherwydd, wrth gwrs, bydd y Ceidwadwyr yn dweud, 'Wel, nid ydych yn adeiladu digon'? Ond, yn sicr, trwy ddiddymu'r hawl i brynu, byddai hynny'n bwydo i mewn i'r ystadegau tai cymdeithasol. A allwn ni gael deall sut y byddai hynny yn chwarae rhan yn hynny?

Mae fy nghwestiwn olaf yn rhywbeth, unwaith eto, yr oedd gennym mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru a drefnwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Roeddent yn chwilfrydig i ddarganfod, gyda'r comisiwn seilwaith newydd, a fyddai tai yn rhan allweddol yn hynny o beth, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn meddu ar sgiliau yma yng Nghymru, mae gennym bobl sydd eisiau adeiladu mwy o dai. Sut y byddant yn chwarae rhan yn y comisiwn seilwaith, oherwydd rwy’n credu eu bod nhw’n ei weld yn fwy fel rhyw fath o brosiect seilwaith trafnidiaeth, yn hytrach na phrosiect seilwaith tai? Ac maent yn awyddus i fod yn rhan o'r sgwrs, mewn gwirionedd. Felly, pe gallech ateb y cwestiynau hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn.

Rwy'n ddiolchgar iawn am gwestiynau'r Aelod. Roedd llawer iawn ohonyn nhw, felly rwyf wedi ceisio eu taro nhw ar bapur fel yr oeddech chi’n eu codi. Y diffiniad o dai fforddiadwy: wrth gwrs, rwy’n cydnabod y mater lle bynnag yr ydych yng Nghymru, mae gwahanol elfennau a fydd yn cael effaith yno—mae cost atebion tai a marchnadoedd yn gyrru gwahanol brisiau a gwahanol anghenion, ond mae yna ddiffiniad o fforddiadwyedd yr ydym yn ei ddefnyddio. Soniais yn ystod fy natganiad, o ran cynllunio, y ceir diffiniad penodol iawn y byddem yn ystyried ei ddefnyddio o ran datblygiadau. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod mewn cysylltiad â’r diffiniad, a fyddai'n ddefnyddiol iddi yn ei phenodiad fel Gweinidog tai cysgodol.

Cartrefi Cymunedol Cymru—mae hi’n codi pwynt dilys iawn ynghylch sefyllfa cyfaill beirniadol Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n wirioneddol ddefnyddiol, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o brofiad y cytundeb, a hefyd y ffordd y mae fy nhîm yn gweithio gyda'r sefydliad, yw bod llawer o atebion ganddynt i hyn hefyd. Felly, mae’n ymwneud, bron, â chydnabod bod gan Lywodraethau lawer o sgiliau, ond nid pob un ohonynt. Lle mae gennych arbenigwyr yn y sector, dylem ddefnyddio eu prosesau meddwl. A dyna pam y mae Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC, sy'n datblygu’r tai hyn, yn gallu rhoi cyngor pellach i ni, ac, ydynt, maen nhw yn feirniadol iawn lle mae angen iddynt fod, ond, mewn gwirionedd, mae gennym berthynas dda iawn ac rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn o arian cyhoeddus mewn tai. Ac rwy’n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn bod gennym drydydd parti yn edrych ar sut yr ydym yn gallu gwneud hynny mewn ffordd fwy ymarferol.

Rwy’n cytuno â’r Aelod yn llwyr ar y mater o warchod eiddo pan fyddwn yn eu cael mewn stoc, ac nid eu symud i'r farchnad prynu i osod. A dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r hawl i brynu.

O ran manylion ar gyfer y 20,000 o gartrefi, nid yw mewn gwirionedd yn ychwanegu gwerth o ran ychwanegedd o fewn y nifer hwnnw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw amddiffyn y stoc sydd gennym eisoes, a stoc y dyfodol a fydd yn fuddsoddiad. Felly, mae'n offeryn gwarchod o ran ein buddsoddiad tymor hir.

Mae Cymorth i Brynu yn bwynt pwysig a godwyd gan yr Aelod. Mae angen i mi edrych ar y ffigurau, ond rwy'n eithaf siŵr, pan gyflwynwyd y cynllun gennym, bod y cynllun, o ran Cymru a Lloegr—bod y trothwyon yn wahanol iawn. Rwy’n meddwl mai ein terfyn uchaf yw tua £300,000, ac rwy'n credu mai trothwy’r DU yw £0.5 miliwn. Ond byddaf yn edrych eto ar hynny—ac os ydw i'n anghywir, rwy’n ymddiheuro i gydweithwyr, ond byddaf yn edrych eto a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar y broses honno. Rydym yn cydnabod hefyd fod yna wahaniaeth o ran y marchnadoedd, ac argaeledd eiddo yma.

Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw cynnig cymysgedd o ddaliadaethau. Mae llawer o bobl yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai, ar lefelau gwahanol iawn, boed yn dai cymdeithasol neu'r farchnad sector preifat. Ac mae rhwystrau ym mhob un o'r meysydd hynny, ac rydym yn ceisio creu sefyllfa lle y gallwn helpu pobl i symud i fod yn berchen ar dŷ—yn ffisegol neu mewn marchnad rentu, drwy dai cymdeithasol—beth sy'n iawn i’r bobl hynny.

O ran y Ddeddf Tai a gododd yr Aelod mewn cysylltiad â barn Shelter Cymru—byddaf yn ystyried hynny ymhellach. Byddai'n gas gennyf feddwl bod unrhyw un o'n sefydliadau yr ydym yn eu hariannu yn uniongyrchol yn y farchnad i droi pobl allan, fel cam cyntaf. Nid wyf yn credu ei bod yn iawn, yn foesol, ac felly byddaf yn ystyried hynny ymhellach wrth inni symud ymlaen.

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Amcangyfrifir bod tua 20,000 o gartrefi yn sefyll yn wag yng Nghymru. Pe byddech yn dod â’r rhain yn ôl i ddefnydd, byddech yn cyrraedd eich targed ar gyfer y tymor. Rwy’n cydnabod yr addewid o ran gwariant, ond faint o'r £1.3 biliwn hwn mewn gwirionedd fydd yn cael ei wario ar gartrefi, a faint fydd yn cael ei wario ar weinyddu a faint fydd yn mynd i mewn i bocedi datblygwyr fel elw?

Mae cynlluniau adfywio ac adnewyddu yn cynnig gwell gwerth am arian, ac yn creu llawer mwy o gartrefi fesul punt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i adfywio ac adnewyddu cartrefi gwag, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu perchnogion ddod â’r eiddo hynny yn ôl i ddefnydd?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cynllun cartrefi gwag—mae gennym gynllun cartrefi gwag cadarnhaol iawn, gyda dros 6,000 o unedau eisoes wedi eu dwyn yn ôl i ddefnydd. Mae anhawster—ac rwy’n cytuno â llawer o Aelodau yma—weithiau gall tai gwag fod yn falltod ar y gymuned ac maen nhw'n asedau gwerthfawr iawn, iawn os gallwn ni ddod â hwy yn ôl i fyny i’r safon. Yn aml, mae'n ffordd ratach o ddarparu ateb tai. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym wedi ymrwymo i barhau’r cynllun cymorth i awdurdodau lleol i adeiladu ac i adnewyddu tai gwag, ond yn aml mae llawer o rwystrau cyfreithiol sy'n cael eu priodoli i symud i dai gwag. Ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ac maent yn cynnig ateb gwych mewn llawer o ardaloedd, nid yn unig ym maes adfywio, ond o ran darparu tai. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono, ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth ar ei gyfer.

Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r cynnig ar gyfer y 20,000 o gartrefi fforddiadwy i bobl fyw ynddynt. Bydd diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael yn rhoi terfyn ar golli tai cyhoeddus i'w rhentu. Mae adeiladu cartrefi nid yn unig yn dda ar gyfer y bobl a fydd yn byw yn y cartrefi hyn, ond yn dda i economi Cymru a chael pobl i mewn i waith.

Mae gennyf dri chwestiwn i'r Gweinidog. Yn ogystal â datblygiadau preifat a datblygiadau gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae hefyd tai cyngor a thai cydweithredol i’w hadeiladu. Pa swyddogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gweld ar gyfer tai cydweithredol? Gwelaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl adeiladu 500 o dai cyngor yn ystod y cyfnod. Mae hynny’n llai nag yr oedd cyngor Abertawe yn arfer ei adeiladu bob blwyddyn rhwng 1945 a 1979. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol wrth adeiladu tai cyngor. Mae cyngor Abertawe wedi dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto, gyda'r rhai yn Milford Way eisoes yn cael eu hadeiladu a chais wedi’i wneud am ganiatâd cynllunio ar gyfer Rhyd-yr-Helyg. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar y datblygiad hwn? Gadewch i ni obeithio y gellir adeiladu llawer mwy o dai cyngor. Hefyd yn Abertawe, mae Cartrefi Hygrove yn datblygu 200 a mwy o dai fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol ar safle tir llwyd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi'r defnydd o safleoedd tir llwyd ar gyfer y math hwn o ddatblygiad tai? A yw Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn meddwl ei fod yn syniad da i gael cymysgedd o dai cymdeithasau tai a thai cost isel yn hytrach na dim ond ei sefydlu mewn rhai ardaloedd?

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd. Mae'r mater o gwmpas tai cyngor a thai cydweithredol yn rhywbeth y byddwn yn mynd ar ei drywydd fel rhan o'n targed o 20,000. Yn wir, does dim ond ychydig wythnosau ers i mi fod yn etholaeth Mick Antoniw yn lansio cynllun tai cydweithredol llwyddiannus iawn, lle mae'r gymuned yn croesawu'r cyfle i fod yn berchen ar eu heiddo a datblygu'r cynlluniau o gwmpas hynny. Wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i Abertawe a chynghorau eraill fel fy etholaeth fy hun yn Sir y Fflint, lle maent eisoes yn dechrau adeiladu tai cyngor eto. Rwyf wedi ei gwneud yn glir drwy ddweud, lle mae gennym Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o ansawdd da, y dylem barhau i fuddsoddi yn y cynlluniau hynny, ond nid wyf yn gweld ddim rheswm, pam na ddylem fod yn buddsoddi mewn cynlluniau cyngor chwaith, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar y cynnig hwnnw.

Mae’r mater safle tir llwyd a gododd yr Aelod gyda mi yn un pwysig—ynglŷn â deiliadaeth gymysg ar y rhain. Wrth gwrs, rwy’n cytuno â hynny. Ond dylwn ddweud hefyd—roeddwn ar fai i beidio ag ateb cwestiwn gan gyfraniad cynharach ynghylch materion tir y sector cyhoeddus. Rydym yn cyflwyno—rwy’n gweithio gyda'r Gweinidog seilwaith ar dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth a thir y sector cyhoeddus i weld sut y gallwn ddod ag arian at y bwrdd, a hynny heb fod yn gyfle ariannol bob amser, ond yn gyfle yn seiliedig ar y tir. Mae'n rhoi cyfle i ni i wneud yn iawn am rai o'r costau yn ogystal. Ond, fel arfer, gyda phob un o'r cynlluniau hyn, byddai'n rhaid iddynt fynd drwy'r broses gynllunio briodol, er mwyn rhoi cysur i'r Aelodau a ofynnodd gwestiynau yn gynharach.

Diolch, Lywydd. Dau gwestiwn, un ohonynt nad yw’n anghyfarwydd i chi. Soniais yn y Cynulliad diwethaf am y posibilrwydd i chi siarad â landlordiaid mewn ardaloedd o orgyflenwad o HMOs er mwyn iddynt allu ystyried eu trosi i mewn i gartrefi mwy parhaol ar gyfer teuluoedd un a dwy ystafell wely, os gallaf eu galw yn hynny. Tybed pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar y cynnydd ar hynny. Yn ail, Cymorth i Brynu: a ydych chi wedi ystyried ymestyn hyn i eiddo sy'n cael ei ddwyn yn ôl i ddefnydd, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd? Oherwydd, yn amlwg, mae gennym nifer fawr o adeiladwyr bach yng Nghymru, a gallai rhai o'r rheiny gael eu hannog i gymryd prentisiaid pe byddai ganddynt y math o waith rheolaidd y gallai Cymorth i Brynu ei ddarparu, o ran adfer adeiladau yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Diolch.

Diolch i chi am y cwestiynau byr iawn hynny. HMOs: nid wyf wedi diystyru unrhyw beth o ran y cyfle i ddod â mwy o stoc yn ôl i'r farchnad. Y cyfle yw sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwerth gorau ar gyfer ein cleientiaid. Felly, mae’r fargen gyda HMOs, neu drosglwyddo o HMOs i gymdeithasau tai, yn rhywbeth y gallem yn wir ei thrafod, ond mae'n rhaid iddo fod o werth i ni—i’r Llywodraeth ac i bwrs y wlad. O ran Cymorth i Brynu, nid problem gyda galw yw’r broblem gyda Chymorth i Brynu. Y broblem gyda Chymorth i Brynu yw rheoli'r cyfrifoldeb ariannol ynghylch hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, gallem agor y pot hwnnw. Rwy’n meddwl bod Aelod blaenorol a oedd yn eistedd ar eich meinciau yn arfer gofyn i mi yn rheolaidd pe gallem ddefnyddio Cymorth i Brynu ar gartrefi nad ydynt yn newydd. Roedd yn fater cyllidol yn ymwneud â rheoli’r cyllidebau sydd ar gael i ni ar gyfer y cynllun hwn, ac ar hyn o bryd tanysgrifir yn dda iddynt—y sefyllfa Cymorth i Brynu—o ran yr hyn yr ydym yn ei gyflenwi yn barod. Felly, nid ydym yn credu bod angen mwy o gynlluniau i ychwanegu at hynny i allu gwario'r arian ar Cymorth i Brynu fel ag y mae.

11. 7. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y tasglu gweinidogol ar gyfer y Cymoedd. Galwaf ar Alun Davies i gynnig y datganiad. Alun.

Member
Alun Davies 17:58:00
The Minister for Lifelong Learning and Welsh Language

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Pan lansiais y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf, ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ei gynnydd. Mae'r tasglu wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, gan gwrdd â rhanddeiliaid lleol a derbyn cyflwyniadau ar ystod o faterion. Bydd yr ail gyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn yn canolbwyntio'n benodol ar swyddi a ffyniant. Ailadroddaf heddiw yr hyn a ddywedais ym mis Gorffennaf: rwy’n benderfynol y bydd y tasglu hwn yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl ac ar ein cymunedau yn y Cymoedd. Rydym yn gwybod na fydd cyflawni newid yn hawdd. Mae llawer o'r materion sy'n wynebu ein cymunedau yn y Cymoedd wedi'u gwreiddio'n ddwfn ac wedi bodoli ers amser hir. Maen nhw’n deillio o newidiadau dros y cenedlaethau a bydd yn cymryd amser i wyrdroi hyn.

Bwriadaf fanteisio ar gryfderau ein cymunedau yn y Cymoedd. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad yw'r Cymoedd yn un ardal unffurf, ond mae yma ardaloedd lle mae’r economi yn adfywio, mae’r ffigurau cyflogaeth yn galonogol ac mae gwelliannau mewn sgiliau, cyrhaeddiad addysgol, iechyd a lles. Rwy’n dymuno adeiladu ar y sylfeini hyn. Mae egni, ymrwymiad ac angerdd aelodau'r tasglu wedi cael argraff fawr arnaf i. Mae’r aelodau wedi dod ynghyd o amryw o sectorau gwahanol. Mae hyn yn helpu i ddarparu cydbwysedd barn gwirioneddol ac i gynnig her pan fo'n briodol. Mae aelodau'r tasglu hefyd yn dod â chyfoeth o brofiad mewn meysydd sy'n hanfodol i'n huchelgais. Rydym eisoes wedi dechrau manteisio ar yr arbenigedd hwnnw i roi hwb i’n ffordd ni o feddwl. Rwyf hefyd yn bwriadu parhau i gryfhau'r tasglu a bydd gennyf ddatganiad arall ar aelodaeth y tasglu pan fo hynny'n briodol.

Mae gan y tasglu gylch gwaith clir i ysgogi newid, ac mae hyn yn cynnwys herio a ffurfio darpariaeth y dyfodol. Yn benodol, mae cydnabyddiaeth gref fod ymgysylltiad gan y gymuned yn hanfodol. Os yw’r tasglu i gael effaith wirioneddol ar swyddi, gwella sgiliau, cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau iechyd, mae angen i’w waith a'i flaenoriaethau gael eu hysgogi a’u datblygu mewn cydweithrediad â phobl leol a chymunedau lleol.

Yn dilyn y cyfarfod cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Medi yn Nhrehafod yn y Rhondda, nodwyd pedwar her allweddol, a fydd yn sail i'n gwaith. Yn gyntaf, cyfathrebu cadarnhaol a chyfranogiad cymunedol; yn ail, mynediad gwell at swyddi o safon a chynyddu sgiliau cyflogadwyedd; yn drydydd, integreiddio a chydlynu’n well ar draws gwasanaethau cyhoeddus; ac yn olaf, manteisio i’r eithaf ar fuddion strwythurau a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio yn y Cymoedd gyda phobl y Cymoedd. Bydd y blaenoriaethau hyn yn llwyfan cychwynnol i ysgogi newid gwirioneddol.

Mae ymgysylltu a grymuso cymunedau i nodi blaenoriaethau lleol yn egwyddor sylfaenol sydd wrth wraidd ein dull ni o weithredu. Nid wyf yn tanbrisio maint yr her y mae hyn yn ei gynrychioli. Mae'r Cymoedd yn glytwaith cymhleth o gymunedau, a bydd gan bob cymuned ei safbwynt—weithiau safbwyntiau gwahanol—ynghyd â blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Ond mae hyn ond yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwneud popeth y gallwn i roi cyfle i bobl fynegi'r safbwyntiau hynny. Dylem fod yn barod i ddefnyddio technegau arloesol a all gynnig cipolwg newydd. Rydym ni, er enghraifft, yn ymchwilio i'r posibilrwydd o weithio gydag ymchwilwyr i gasglu gwybodaeth amser real am agweddau, dyheadau a blaenoriaethau pobl. Byddwn yn ystyried ymgyrch wedi'i thargedu i godi proffil y Cymoedd.

Mae angen inni ddiogelu a chreu swyddi i ysgogi economi fwy bywiog yn y Cymoedd. Bydd cyfarfod nesaf y tasglu, ar 28 Tachwedd, yn gynhadledd swyddi, a fydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gyflogaeth. Byddwn yn cynnwys cyflogwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus, a byddwn yn ystyried yr holl ysgogiadau polisi sydd ar gael inni fel y gallwn wneud yn siŵr eu bod wedi eu halinio i gyflawni twf economaidd. Mae swyddi yn allweddol i'n huchelgais, ond bydd angen inni sicrhau hefyd bod gan y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd y sgiliau angenrheidiol i gystadlu am y swyddi hynny, ac mae angen iddynt allu cael mynediad at y swyddi hynny.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarthau a dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyfleoedd gwirioneddol i gymunedau'r Cymoedd. Bydd manteisio ar y fargen ddinesig yn cynnwys manteisio ar y posibiliadau llawn a gynigir gan fetro de Cymru. Bydd cludiant hyblyg, fforddiadwy ac integredig ym mhob cwr o’r Cymoedd yn hanfodol i’n dyfodol. Mae ein hymrwymiad i'r metro yn glir, ond ni chredaf y dylem fodloni ar gyflwyno'r metro yn unig. Bydd angen inni weithio gyda'n partneriaid lleol i nodi'r cyfleoedd buddsoddi eraill a ddaw yn sgil y metro. Mae hwn yn ddatblygiad i’r Cymoedd na fyddwn yn gweld dim byd tebyg iddo yn yr oes hon, ac mae'n rhaid inni fanteisio arno, gan sicrhau hefyd nad yw’r cymunedau hynny nas gwasanaethir yn uniongyrchol gan y metro yn cael eu gadael ar ôl.

Rwyf hefyd o’r farn na ddylem deimlo bod yn rhaid inni gyfyngu ein hymyriadau i’r mentrau hynny yr ydym wedi eu defnyddio yn y gorffennol. Mae angen inni feddwl yn arloesol, a dylem ni fod yn barod i ddefnyddio'r Cymoedd i brofi dulliau newydd. Beth am ddefnyddio’r Cymoedd i ddatblygu ffyrdd newydd o gysylltu pobl y mae angen swyddi arnyn nhw â'r cyflogwyr sy’n ceisio llenwi swyddi gwag? Rydym eisoes yn ymchwilio i unrhyw ffyrdd mwy hyblyg o ymateb i'r anghenion hynny. Mae'r tasglu yn rhoi ffordd newydd inni o edrych ar y materion hyn, ac mae'n rhoi ffyrdd newydd o ganfod y partneriaid allweddol a fydd yn ein cefnogi i’w cyflenwi.

Ceir enghreifftiau o arfer rhagorol ledled y Cymoedd y gallwn adeiladu arnyn nhw. Rydym eisoes wedi clywed am brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Ond rydym hefyd wedi clywed negeseuon clir iawn bod yn rhaid i’r prosiectau hynny oresgyn rhwystrau biwrocratiaeth yn amlach na pheidio. Mae angen inni fod yn barod i herio'r rhwystrau hynny a chael gwared arnyn nhw, ond nid wyf i eisiau i'r tasglu wneud dim ond cynnig sylwadau o bell. Mae ein trafodaethau cynnar yn awgrymu bod lle i ni dreialu dulliau newydd o gyflawni prosiectau. Rwyf i eisiau i ni edrych ar sut y gallwn gyfuno rhaglenni presennol i gael mwy o effaith eto. Byddwn i’n croesawu unrhyw sylwadau gan yr Aelodau ynglŷn â hyn a materion eraill. Rwy’n bwriadu gwneud cyhoeddiad pellach ar yr agwedd hon o'n cynlluniau yn y dyfodol agos.

Ddirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y bydd mentrau ehangach y Llywodraeth yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae'r datganiad diweddar ar gydnerthedd cymunedol gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yn ffordd ddefnyddiol o atgoffa’r tasglu am bwysigrwydd cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus ond gan gynnwys y trydydd sector hefyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn ganolog i gyflenwi lleol. Mae’r bwrdd yr ydym wedi ei sefydlu ar lefel swyddogion i gefnogi gwaith y tasglu yn darparu dull o sicrhau ein bod yn nodi ac yn manteisio ar feysydd eraill o ddatblygu polisi a all ddod ar draws ein gwaith.

Byddaf yn pwysleisio unwaith eto bod fy agwedd at waith y tasglu yn ymwneud â dwyn ynghyd y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud lawn cymaint ag y mae â hyrwyddo gwaith newydd. Nid oes gennyf unrhyw awydd i ddatblygu strwythurau cyflawni cyfochrog na chystadleuol yn y Cymoedd. Rwyf eisiau inni nodi’r mentrau polisi hynny a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yna rwyf eisiau inni ddatblygu'r strwythurau cyflawni mwyaf effeithiol i roi’r polisïau hynny ar waith. Byddaf yn parhau i weithio'n agos â phob un o fy nghydweinidogion ar y gwaith hwn, a bydd y tasglu yn parhau i ddarparu dull a fydd yn ein helpu i sicrhau bod ein hymateb mor gydlynol â phosibl.

Ddirprwy Lywydd, mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond rwyf yn falch o allu ailadrodd y bydd rhaglen waith y tasglu wrth symud ymlaen yn cynnwys canlyniadau a thystiolaeth i fesur newid. Bydd hyn yn cynnwys pwyslais ar les i adlewyrchu'r hyn y mae pobl a chymunedau yn ei deimlo ac yn ei ddweud wrthym. Bydd ein gwaith yn cael ei arwain a'i ddylanwadu gan yr hyn y mae’r cymunedau hynny yn ei ddweud wrthym. Byddaf yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau wrth i waith y tasglu ddatblygu ac esblygu yn ystod y misoedd nesaf.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu sefydlu'r tasglu hwn ar gyfer y Cymoedd. Dywedodd y Gweinidog fod aelodau'r tasglu yn dod o amryw o sectorau gwahanol. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod mwy o bwys ar y sector cyhoeddus yn hytrach na'r sector preifat o ran aelodaeth y tasglu. O ystyried pwysigrwydd mewnfuddsoddiad, entrepreneuriaeth a sgiliau i sicrhau manteision economaidd i'r Cymoedd, pam mae'r tasglu yn cynnwys cyn lleied o aelodau sydd â phrofiad ym maes busnes?

Cyfeiriodd y Gweinidog at y cyfarfod cyntaf ym mis Medi. Rwyf wedi darllen cofnodion y cyfarfod hwn ac yn synnu na soniwyd am bwysigrwydd seilwaith digidol i gynyddu economi’r Cymoedd. Dengys ymchwil i hyd a lled yr allgau digidol yng Nghymru fod gwahaniaethau mewn mynediad at y cyflymder band eang lleiaf, cysylltedd 4G, sgiliau rhyngrwyd a defnyddwyr y rhyngrwyd yn pennu pa mor debygol yw cymuned o fod wedi ei hallgáu yn ddigidol. Mae Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen yn wynebu risg uchel o allgau digidol ar hyn o bryd. Sut y bydd y tasglu, ar draws y Llywodraeth, yn yr ardal hon ac mewn ardaloedd eraill, yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol?

Mae’r Cymoedd wedi elwa ar filiynau o bunnoedd o gyllid strwythurol gan yr Undeb Ewropeaidd. Eto i gyd, daeth y ganran uchaf o bleidleisiau i adael yr Undeb Ewropeaidd o’r cymunedau hyn. Doedd pobl ddim yn gweld y buddion o arian yr UE. Sut y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â'r cymunedau hyn i sicrhau bod y tasglu hwn yn diwallu anghenion a dyheadau’r bobl i sicrhau buddion pendant yn hytrach na thaflu arian at y problemau?

Mae'r datganiad yn nodi pedair her allweddol y mae'n rhaid i’r tasglu eu cyflawni. Pryd y bydd y Gweinidog mewn sefyllfa i ddarparu targedau y gallwn ni eu defnyddio i fesur llwyddiant ei gynnydd ym meysydd addysg, iechyd, tlodi, tai a datblygu economaidd? Ddirprwy Lywydd, yn olaf, croesawaf ei ymrwymiad i ddatblygu canlyniadau clir ac atebol ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau hyn ac edrychaf ymlaen at gael adroddiadau cynnydd rheolaidd ganddo yn y dyfodol yn unol â’i addewid nawr. Diolch.

Credaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn mwynhau'r darlithoedd rheolaidd a gawn gan y Blaid Geidwadol ar yr anawsterau sy'n wynebu cymunedau yn y Cymoedd, lawer ohonynt, wrth gwrs, o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau'r Llywodraeth Geidwadol. Os edrychwch, er enghraifft, ar y rhaglen diwygio lles sydd ar hyn o bryd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig, fe welwch y bydd cymunedau yng Nghymoedd y De yn colli £350 miliwn. Nid yw’r £350 miliwn hwn yn cael ei dynnu oddi wrth sefydliadau amrywiol a chyrff gwahanol; mae’n cael ei dynnu o bocedi rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac mae’n arian a fyddai’n cael ei wario yn bennaf yn y cymunedau hynny hefyd.

Felly, rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod Ceidwadol wedi ei wneud, ond byddaf yn dweud hyn wrtho: lluniwyd aelodaeth y tasglu i roi gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad o'r Cymoedd i ni. Mae'r rhai hynny ohonom sy'n dod o'r Cymoedd yn deall y cymunedau ac yn deall yr hyn sy'n ysgogi rhai o'r materion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw. Gadewch i mi ddweud hyn: byddaf yn ceisio cryfhau aelodaeth y tasglu. Rwyf wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw i nifer o wahanol Aelodau a byddaf yn rhoi datganiad ysgrifenedig ar hynny pan fo’n briodol. Ond, byddwn yn parhau i dynnu pobl o Gymoedd y de a byddwn yn parhau i sicrhau y byddwn yn ymgysylltu â chymunedau Cymoedd y de a’u cynnwys, a bydd uchelgeisiau a gweledigaethau y bobl sy'n byw yng Nghymoedd y de yn llywio ein gwaith. Wrth wrando ar y materion a godwyd gan y Ceidwadwyr ynghylch mynediad ac allgáu digidol, wrth gwrs, nid yw’r materion yn y Cymoedd—ac mae fy etholaeth i yn enghraifft dda o hyn—yn rhai technegol fel y mae yntau wedi eu disgrifio. Yn hytrach, maen nhw’n faterion cymdeithasol mwy sylfaenol ynghylch allgáu digidol, sy’n llawer anoddach i’w datrys ac sydd wedi cael sylw gan y Llywodraeth hon mewn gwahanol ffyrdd a thrwy wahanol brosiectau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr hyn sy’n gyffredin, wrth gwrs, am y prosiectau hynny, yw eu bod i gyd wedi eu gwrthwynebu yn llwyr gan y Blaid Geidwadol.

Rwyf bob amser yn dechrau trwy geisio—. Yn enwedig fel rhywun, os ydym ni eisiau cyhoeddi ein bod yn dod o'r Cymoedd, rwyf eisiau dechrau o’r pwynt lle gallwn wneud gwelliannau, ond rwyf yn ofni—ac rwy’n dymuno bod yn adeiladol —rwyf yn ofni, ar ôl darllen hwn, ei fod yn rhoi sylwebaeth o bell. Rwy'n gweld cryn dipyn o eiriau pert, rwy’n gweld llawer o sôn am gydweithio a chyfathrebu, ond nid wyf yn gweld lle gallwn gyflawni canlyniadau.

Rwyf eisiau gwybod, o'r £50,000 yr ydych wedi’i neilltuo i’r tasglu arbennig hwn, sut y byddwch yn gwella sefyllfa’r cymunedau hynny yn y dyfodol. A ydych chi, er enghraifft, wedi edrych ar wledydd eraill yn Ewrop i weld a oes ganddyn nhw sefyllfaoedd tebyg, a sut y maen nhw wedyn yn arwain at newid gweddnewidiol?  Oherwydd rydym wedi clywed yn ddiweddar gan y Gweinidog Cymunedau—ni wnaethoch chi sôn amdano yn uniongyrchol yn eich datganiad, ond gwnaethoch chi sôn amdano yn anuniongyrchol—ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf, ein bod yn cael ymgynghoriad i roi terfyn ar y rhaglen benodol honno o bosibl. Felly, mae angen i mi ddeall gennych chi, fel Gweinidog, sut y mae hynny'n cydfynd â'r ddadl ehangach am yr hyn yr ydych yn ei ddweud am sut y gallwn drafod yr hyn sydd eisoes ar gael a sut y mae'r cynlluniau sydd eisoes yn gweithio—prosiectau sydd yn ein cymunedau ar hyn o bryd —sut y byddant wedyn yn gallu defnyddio rhai o syniadau’r tasglu os nad yw Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli yn y ffordd y gwnaeth ar un adeg ac y bydd yn newid yn y dyfodol.

Rwyf i, yn bersonol, yn dal i bryderu am gyfansoddiad y tasglu. Mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur a byddwn i wedi hoffi gweld dull ehangach o drefnu’r aelodaeth. Felly, edrychaf ymlaen at eich datganiad ysgrifenedig ar hynny. Byddwn i wedi hoffi gweld, o'r cyfarfod cyntaf yn y Rhondda, syniadau newydd o ran sut y gwnaethoch chi ymgysylltu â phobl yn y Rhondda oherwydd bod y tasglu yn digwydd yno mewn gwirionedd. Mae syniadau newydd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gan eraill sy'n gweithio yn y sector, o ran ymgysylltu, ynglŷn â sut y gallan nhw fod wedi cymryd rhan mewn gwirionedd yn y cyfarfod tasglu cyntaf hwnnw, a wnes i yn bersonol ddim gweld hynny. Os oedd rhywbeth, ymddiheuraf i chi am hynny.

Gwelaf fod negeseuon cymysg hefyd yn y datganiad hwn. Rydych yn dweud ar y naill law bod angen inni feddwl yn arloesol, ond wedyn rydych yn dweud ar ddiwedd y datganiad ei fod ymwneud cymaint â dwyn ynghyd gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Beth yw hynny a beth yw eich gweledigaeth ar gyfer hyn? Credaf fod Steffan Lewis, fy nghyd-Aelod, wedi sôn am y metro yn flaenorol a sut y gallwn ni helpu pobl yn y Cymoedd i ddod i Gaerdydd, ond hefyd i ddod â swyddi i'r Cymoedd. Hoffwn i ddeall pa ddulliau sydd gennych chi o ddylanwadu ar y cynllun metro er mwyn iddo greu swyddi yno ar gyfer y bobl, yn ogystal â mynd â phobl allan o'u cymunedau i weithio.

Nid ydym yn gwrthwynebu yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yn gyfan gwbl, ond rwy’n credu bod angen inni weld canlyniadau pendant a chanlyniadau mesuradwy gennych ar gyfer hyn. Byddwch wedi cael dau gyfarfod erbyn diwedd y flwyddyn, felly rwy’n rhagweld y gallech gael 10 cyfarfod y flwyddyn. Beth fydd y 10 cyfarfod hyn yn gallu ei gyflawni ar gyfer dyfodol hirdymor ein cymunedau yn y Cymoedd? Gan nad oes neb—wel, rwy’n siarad drosof fy hun, ond mae pobl yn yr ystafell hon sydd eisiau gweld yr ardaloedd yr ydym wedi sôn amdanyn nhw yn ffynnu, ond nid ydym eisiau siop siarad arall, mae rhai pobl wedi dod ataf i ddweud hynny—nid fy ngeiriau i; maen nhw wedi dod ataf i ddweud hynny—felly byddwn i’n eich annog chi i glywed hynny ganddyn nhw ac i sicrhau nad yw'n troi allan fel y maen nhw’n ei ragweld.

Cytunaf yn llwyr â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan Bethan Jenkins, a deallaf ei bod yn ddidwyll yn y modd y mae hi wedi mynegi’r pwyntiau hynny. Gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n hollol benderfynol nad siop siarad yn unig fydd y tasglu hwn, ac ni fydd yn darparu'r sylwebaeth o bell fel y disgrifiwyd ganddi. Yn amlwg, wrth sefydlu corff, mae angen cael nifer o sgyrsiau ynghylch sut bydd y corff hwnnw’n gweithredu a’r strwythurau y bydd yn gweithredu oddi mewn iddynt.

Byddwn i’n dweud wrth yr Aelod dros Orllewin De Cymru, yn ogystal â’r Aelodau eraill yn y Siambr heddiw, y byddai'n ddefnyddiol edrych ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd fis diwethaf a chadw llygad ar y wefan, oherwydd byddwn yn gweithredu mewn ffordd gwbl dryloyw lle bydd papurau, agendâu a chofnodion pob cyfarfod yn gyhoeddus a byddwch yn gallu deall yn union y mathau o sgyrsiau sy'n digwydd.

O ran y gyllideb a ddyrennir ar hyn o bryd i’r tasglu, rwy’n disgwyl iddi gael ei gwario yn bennaf ar weithgareddau ymgysylltu, gan ddefnyddio rhai o'r dulliau a ddisgrifiwyd gan yr Aelod. Ond hefyd hoffwn edrych ar rai o'r ffyrdd arloesol y gallwn ymgysylltu â phobl a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau, nad yw’n digwydd ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gweld o wefan tasglu’r Cymoedd ein bod eisoes wedi dechrau gwneud hynny, ac wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hynny. Ond rwy’n cydnabod bod angen canlyniadau ac allbynnau o hynny hefyd, ac yn sicr rwyf yn gobeithio gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y canlyniadau hynny.

O ran y gwrthdaro posibl, os hoffwch chi, rhwng meddwl arloesol a’r gwaith sy’n mynd rhagddo, roeddwn i’n glir iawn—ac rwyf eisiau ailadrodd hyn, oherwydd mae’n gwbl hanfodol—trwy greu tasglu’r Cymoedd, yr hyn nad ydym yn ei wneud yw creu dull cyflenwi cyfochrog ar gyfer polisïau presennol nac, o bosibl, bolisïau’r dyfodol i Gymoedd y de. Nid oes gan unrhyw dasglu o'r fath y capasiti sydd gan adrannau'r Llywodraeth a dulliau cyflenwi y Llywodraeth i wneud hynny, felly byddem yn methu. Felly, nid wyf yn dymuno gwneud hynny, ac nid hynny yw fy mwriad ar gyfer y tasglu. Yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei wneud yw gweithio ochr yn ochr â strwythurau presennol, rhaglenni presennol, dulliau presennol o gyflawni, i sicrhau eu bod yn cyflawni ar gyfer Cymoedd y de.

Cefais gyfarfod yn gynharach heddiw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Buom yn trafod sut y byddwn yn sicrhau bod y dulliau cyflawni hyn yn syml ac nad ydynt yn dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, a sut y bydd y tasglu yn ychwanegu gwerth at yr uchelgeisiau sydd eisoes yn cael eu disgrifio gan bobl megis y rhai sy'n gweithio gyda’r dinas-ranbarth a'r fargen ddinesig. Ar yr un pryd, rwyf wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a thrafod gydag ef er mwyn cael yr union drafodaethau a amlinellwyd gan yr Aelod ynglŷn â’r metro. Nawr, rwyf i a'r Aelod sy’n eistedd wrth ei hochr o Ddwyrain De Cymru, y ddau ohonom yn dod o Dredegar, cymuned na fydd yn cael ei gwasanaethu gan y metro o ran y gwasanaethau rheilffyrdd, ond y mae angen iddi fod yn gysylltiedig â'r metro o ran gwasanaethau bysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn cydnabod bod angen buddsoddiad sylweddol iawn arnom mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl gael mynediad at swyddi. Ond hefyd mae angen cael gwared ar, os mynnwch chi, y canfyddiad o bellter sy'n bodoli ar hyn o bryd, yn enwedig yma yng Nghaerdydd, bod y Cymoedd yn bell i ffwrdd a'i bod yn daith hir ac anodd iawn i gyrraedd y cymunedau hynny. Mewn gwirionedd bydd system drafnidiaeth gyflym yn dechrau newid y canfyddiadau hynny ac, yn fy marn i, bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar swyddi ac ar fywyd yn y Cymoedd.

Ond rwyf yn ymrwymo i gyhoeddi targedau clir a byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y mentrau yr ydym yn eu cymryd.

Byddaf yn gwneud un sylw: cawsom y datganiad hwn 10 munud cyn y Cyfarfod Llawn. Prin ei fod yn sail i graffu da ac i wneud sylwadau ar y datganiad hwn, ond gan ddefnyddio ychydig o broffwydo a rhywfaint o dystiolaeth hanesyddol, hoffwn ddweud, fel etholwr yn y Cymoedd, fy mod wedi fy nigalonni, unwaith eto, bod yn rhaid i ni ymgymryd â strategaeth ‘Cymoedd’ newydd. Rwy’n rhoi’r gair ‘Cymoedd’ mewn dyfynodau fel pe bai’r Cymoedd, mewn rhyw ffordd, yn wahanol—ac eto mae'n ofid imi ei dweud—i ardaloedd difreintiedig eraill yng Nghymru.  Yn ôl ym 1988, fe wnaeth menter y Cymoedd gan Peter Walker ddechrau saga o gynlluniau tebyg wedi'u targedu. Yna cafwyd rhaglen y Cymoedd gan David Hunt a nifer o brosiectau tebyg eraill gan y Llywodraeth Lafur ei hun, gan arwain, wrth gwrs at raglen Llafur, Blaenau’r Cymoedd, sydd bellach, fe ymddengys, wedi diflannu. Felly, rwy’n gobeithio na fydd y fenter strategol ddiweddaraf hon yn profi i fod yr un mor amddifad o welliannau economaidd gwirioneddol â’i rhagflaenwyr. Beth sydd mor wahanol am y prosiect hwn sy'n argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn llwyddo pan fo eraill yn amlwg wedi methu, neu a fydd hyn yn profi, unwaith eto, i fod yn sbloet gyhoeddusrwydd ddrud arall?

Nid wyf yn siŵr a ddylwn i fod yn ddiolchgar am y sylwadau hynny ai peidio. Gadewch i mi ddweud hyn: mae gan UKIP hanes eithaf rhyfedd yn hyn o beth, lle nad yw cofnod pleidleisio ei Aelodau etholedig bob amser yn cyd-fynd â'r rhethreg a gyflwynir ar wahanol adegau. Mae arweinydd UKIP yn y lle hwn o hyd yn ein hatgoffa ei fod wedi bod yn falch o bleidleisio dros y gyllideb ym 1981 a arweiniodd at lefelau anhygoel o dlodi a dad-ddiwydiannu yng Nghymoedd y de. Roedd yr Aelod UKIP sy’n eistedd wrth eich ymyl ar y meinciau hyn yn hapus iawn fel Ceidwadwr i bleidleisio dros gyni, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at golli’r £350 miliwn gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymoedd y de, y cyfeiriais ato yn gynharach. Rwy'n gwrando ar yr hyn y mae UKIP yn ei ddweud, ac wedyn yn edrych ar eu cofnod pleidleisio, ac mae'n rhaid imi ddweud mai prin yw’r sefydliadau sydd â hanes o fod mor ddinistriol i gymunedau Cymoedd y de ag UKIP.

Rydych yn gofyn beth sy'n wahanol am yr hyn yr ydym yn dechrau arno heddiw i’r mentrau hynny yn y gorffennol. Gadewch i mi ddweud hyn: mae hon yn fenter sy'n cael ei harwain gan bobl o’r Cymoedd, yn y Cymoedd; sy'n cael ei harwain gan weledigaeth ac uchelgais ar gyfer pobl yn y Cymoedd, o'r Cymoedd; mae'n cwmpasu’r Llywodraeth gyfan ac nid un o adrannau'r Llywodraeth yn unig; mae'n dwyn ynghyd holl uchelgeisiau a gweledigaethau amrywiol y Llywodraeth hon ar gyfer y cymunedau yr ydym yn ceisio eu cynrychioli a’r cymunedau lle cawsom ein geni. A gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau y byddwn yn cyflawni ar gyfer y cymunedau hynny ac y byddwn yn buddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr un modd ag yr ydych chi wedi hau hadau dad-ddiwydiannu economaidd yn y cymunedau hynny.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a chroesawaf hynny, a diolch iddo hefyd am ei ragrybudd o’r datganiad, a roddodd, o safbwynt personol, ddigon o amser i mi ei ddarllen ymlaen llaw. Mae wedi crybwyll yn ei atebion hyd yn hyn —ac mae wedi’i ailadrodd yn y datganiad, a chroesawaf hynny—yr ymrwymiad i ymgysylltu â'r cymunedau i lywio gwaith y tasglu. A gaf i ei holi ychydig ynghylch hynny? Yn ei feddwl ef, beth mae’n ei olygu? Beth fyddai un o’m hetholwyr i yng Nghwm Nedd, er enghraifft, yn teimlo oedd ei berthynas ef â'r tasglu? Am beth fydd e’n cael ei holi, a sut fydd yn cymryd rhan yn y gwaith llywio? Felly, pe gallai ymhelaethu ar hynny byddwn i’n ddiolchgar. Mae’r ail bwynt yn ymwneud â mater trafnidiaeth gyhoeddus. Mae wedi cyfeirio at y dull o gysylltu cymunedau nad ydynt ar y metro. Mae rhannau o orllewin y Cymoedd sy'n teimlo'n bell iawn oddi wrth y metro. Felly, a gawn ni sylwadau ganddo ar fuddsoddiad cyhoeddus mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan honno o'r Cymoedd hefyd, os gwelwch yn dda?

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r Cymoedd yn teimlo bod y strwythur hwn yn siarad drostynt ac ar eu rhan. Credaf weithiau fod perygl y byddwn yn canolbwyntio ar Gymoedd canolog Sir Forgannwg a Chymoedd dwyreiniol Gwent. Credaf ei bod yn bwysig bod Cymoedd gorllewinol Sir Gaerfyrddin a Morgannwg yr ydych yn eu cynrychioli hefyd yn teimlo eu bod yn rhan o hynny. Byddaf i’n sicr yn gwneud ymdrech fawr, yn bersonol, i sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn sicr, fel rhywun sydd eisoes wedi eistedd yn y lle hwn i gynrychioli cymoedd y Gwendraeth a dyffryn Tawe, byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd ac na fydd unrhyw ran o'r cymunedau hyn yn mynd yn anghof nac yn cael eu gadael ar ôl.

Ond, i ateb y cwestiynau yn uniongyrchol, gadewch i mi ddweud hyn: credaf fod angen inni ymgysylltu ar nifer o wahanol lefelau. Mae angen dealltwriaeth ddofn ac eang iawn o gymunedau arnom ni. Rydym ni i gyd yn dod o wahanol rannau o'r Cymoedd ac mae gennym ni ein persbectif ein hunain. Yn sicr, byddaf yn buddsoddi mewn ymchwil sy'n rhoi i ni, rwy’n gobeithio, ddarlun cyfoethog iawn o'r hyn y mae pobl yn ei feddwl a’i ddweud yng nghymunedau y Cymoedd. Byddwn yn sicr yn buddsoddi yn y math hwnnw o ymchwil. Hefyd, byddaf yn buddsoddi amser i siarad â phobl, i siarad â phobl a sefydliadau ar hyd a lled y Cymoedd, i wrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, i wrando ar yr hyn sy’n peri pryder i bobl ac ar eu huchelgeisiau, boed hynny yng nghwm Dulais, cwm Nedd, cwm Gwendraeth, neu hyd yn oed cwm Sirhowy. A byddwn yn parhau i wneud hynny.

O ran trafnidiaeth gyhoeddus, bydd cludiant, yn amlwg, yn fater hollol sylfaenol ac yn parhau i fod felly. Mae gennym gysylltiadau trafnidiaeth yn y Cymoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng y gogledd a'r de. Mae angen inni sicrhau bod buddsoddiad yn parhau yn y systemau trafnidiaeth ar draws y cwm sydd gennym ar hyn o bryd, a’u bod yn gallu darparu cysylltedd i bobl lle bynnag y maent yn digwydd byw, er mwyn darparu cysylltedd â sgiliau, hyfforddiant, addysg, swyddi a gwaith, ond cysylltedd hefyd i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau, a byddwn yn gwneud hynny.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus rai o'r sylwadau a wnaed heddiw, ac, wrth wrando ar Jeremy Miles, nid y Cymoedd gorllewinol yn unig sy’n bwysig, ond y Cymoedd gogleddol hefyd. Mae cymunedau fel Deri, Brithdir, Tir-phil, Pontlotyn a Rhymni o ddifrif yn bodoli yn etholaeth fy nghyfaill ym Merthyr Tudful a Rhymni— etholaeth Dawn Bowden—ond bydd pobl Bargoed yn llawer mwy cyfarwydd â'r cymunedau hynny nag y bydden nhw â'r rhai yn ne fy etholaeth i yng Nghaerffili, fel Llanbradach neu Ystrad Mynach; bydden nhw’n cysylltu’n agos â’r rheini. Y peth arall, wrth gwrs, yw y byddai pobl ym Margoed, Tir-phil ac ati yn teimlo bod llai o gysylltiad rhyngddynt â phobl y Rhondda a Blaenau Gwent. Mae'n adlewyrchu natur unionlin y cymunedau. Un o lwyddiannau dinas-ranbarth Manceinion yw ei bod yn ardal gonsentrig. Pa bethau penodol yr ydych yn mynd i'w gwneud i gysylltu’r cymunedau unionlin hyn? Mae'n her wirioneddol, a chredaf mai dyma fydd un o'r pethau mwyaf anodd i’r fargen ddinesig. Efallai y gallech chi roi rhywfaint o fanylion am hynny.

Fy ail gwestiwn i: Sylwaf fod gennych academyddion ar y grŵp gorchwyl gweinidogol, sy'n hynod bwysig. Ond nid yw o reidrwydd yn dilyn bod y prifysgolion eu hunain yn cymryd rhan lawn oherwydd bod academyddion ar y tasglu. Felly, sut yr ydych chi'n mynd i gael y prifysgolion i ymrwymo i'r rhaglen hon?

Yn olaf, rwyf wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig, lle’r ydym yn meddwl yn benodol am sut y gallwn greu busnes yn y Cymoedd gogleddol. Felly, mae croeso mawr i’r Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru, Oscar Asghar, ymuno â’r grŵp trawsbleidiol hwnnw os hoffai ganolbwyntio ar y sector preifat yn y Cymoedd gogleddol.

Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi clywed y gwahoddiad caredig hwnnw.

A gaf i ddweud bod yr Aelod dros Gaerffili yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, iawn am natur y Cymoedd hefyd? Un peth sy'n uno pob un ohonom o Gymoedd y de, yn ein ffyrdd gwahanol, yw bod gennym ymdeimlad clir o le, ac mae'r lle yn bwysig i ni. Caiff ein golwg o’r byd ei bennu gan y pwynt pan gawsom ein geni, ble’r ydym yn byw. Bydd fy safbwynt i, wrth edrych draw at gwm Rhymni neu rywle arall o Dredegar, yn safbwynt tra gwahanol i safbwynt y bobl yn Williamstown sy’n edrych dros y bryn yn ôl arnom ni. Ac rwy’n derbyn hynny. Rwy’n derbyn yr her y mae hynny'n ei chyflwyno i ni, ond byddwn i hefyd yn dadlau bod hynny’n rhoi cryfder gwirioneddol i ni hefyd. Un o lwyddiannau diwylliannol mawr y Cymoedd, os mynnwch chi, yw ein gallu i gydnabod pwysigrwydd lle a sut y gall lle ysgogi ansawdd bywyd a'r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni. Felly, byddaf i yn sicr yn ymwybodol o hynny.

Ond, mae'r heriau sy'n wynebu Cymoedd gogleddol y de yn neilltuol. Wrth edrych ar y niferoedd a'r dadansoddiad ystadegol yr ydym wedi ei gael ar weithgareddau economaidd, fe welwn, yn rhannau deheuol y Cymoedd, fod rhywfaint o dwf gwirioneddol wedi digwydd, bu cynnydd mewn swyddi a bu cynnydd mewn ffyniant. Ac rydym yn cyrraedd pwynt lle daw’r cynnydd hwnnw mewn ffyniant i ben, lle mae rhai materion anodd iawn wedi’u hymwreiddio’n ddwfn. Mae’r rhain yn tueddu i fod yng ngymunedau y Cymoedd gogleddol a chredaf fod angen inni gymryd cipolwg craff iawn ar hynny. Roedd y sgwrs a gefais gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn gynharach heddiw yn canolbwyntio'n fawr iawn ar sut yr ydym yn aildrefnu ein blaenoriaethau economaidd i sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl sbardunau polisi gwahanol sydd ar gael i ni fel Llywodraeth i wneud yn siwr ein bod yn blaenoriaethu datblygiad economaidd yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf. Ac mae angen canolbwyntio ar gymunedau y Cymoedd gogleddol yn sicr.

O ran y materion ehangach ar y fargen ddinesig, credaf ei bod yn bwysig bod y sgwrs a gefais gyda’r Ysgrifennydd Cabinet cyfrifol yn rhoi pwys mawr iawn ar bwysigrwydd y fargen ddinesig, o ran yr hyn y gall Caerdydd ei wneud i gefnogi’r Cymoedd a sut y gallwn ni bontio'r bwlch rhwng Caerdydd a'r Cymoedd. Mae angen sicrhau ein bod yn creu rhanbarth economaidd mwy cydlynol ac ar yr un pryd yn cydnabod y gall prifysgolion ac y dylai prifysgolion fod yn rhan allweddol o bolisi diwydiannol sy'n helpu i gynnal a buddsoddi mewn twf cynaliadwy. Gobeithio y bydd yr holl sefydliadau addysg bellach ac uwch yn canolbwyntio ar hynny, a swyddogaeth y Llywodraeth yw cynnal hynny, dwyn hynny ynghyd i’n galluogi ni i gael y math o effaith economaidd y dymunwn ei gweld.

12. 8.&9. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion a Datganiad: Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf
13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Paul Davies.

Felly, symudwn ymlaen at eitem 10 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6127 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, ‘Tuag at Gymru Decach’.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-16, a elwir 'Tuag at Gymru Decach’.

Mae'r adolygiad yn rhoi sylw i’r amrywiaeth eang o waith y mae’r comisiwn wedi ymgymryd ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn cyflwyno rhagolwg o'i flaenoriaethau. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) swyddogaeth unigryw fel rheolydd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a'r dyletswyddau penodol i Gymru. Mae'r adolygiad blynyddol yn rhoi llawer o enghreifftiau o arfer da sydd wedi deillio o’r dyletswyddau hynny ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y maen nhw’n eu cael yng Nghymru.

Mae wedi bod yn flwyddyn bwysig arall i’r comisiwn. Mae cyhoeddi 'A yw Cymru’n Decach?' yn arbennig wedi cael effaith bwysig ar y ffordd yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb ers i'r comisiwn gyhoeddi ei adolygiad 'Pa mor deg yw Cymru?' bum mlynedd yn ôl. Mae'n amlinellu lle y mae angen gwelliannau ac yn nodi saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae'r comisiwn hefyd wedi cyhoeddi’r heriau hyn i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru ac mae gennym ni oll swyddogaeth wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, a dylem ni barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Roedd y comisiwn yn dymuno i’r adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?' sbarduno newid, ac mae gennym ni’r un dyhead ar gyfer ein hamcanion cydraddoldeb newydd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2016. Datblygwyd ein hamcanion ar ôl ymgysylltu helaeth â phobl ledled Cymru, ac maen nhw wedi’u cysylltu'n gryf â'r heriau a nodwyd yn adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?'. Mae awdurdodau cyhoeddus yn pennu amcanion cydraddoldeb yn seiliedig ar yr heriau allweddol hyn, ac mae'r adroddiad felly yn ysbrydoli ymagwedd ar y cyd o fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl yma yng Nghymru.

Gwn fod yr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu’r EHRC yn gryf o blaid cydweithio, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn eu hawydd i weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru i lunio'r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r EHRC wedi croesawu penodiad y comisiynydd ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn helpu i wneud Cymru'n genedl fwy cyfartal a chydlynol.

Rydym ni’n cydnabod ymrwymiad y comisiwn i annog, hysbysu a monitro'r sector cyhoeddus, y ceir enghreifftiau o hynny yn eu hadolygiad blynyddol, ac mae’r comisiwn wedi cynhyrchu adroddiad yn ddiweddar sy'n annog cyflogwyr yng Nghymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i Fwslimiaid a phobl o bob crefydd, drwy ddatblygu mannau yn y gwaith sy’n croesawu pob ffydd. Mae'n bwysig ein bod ni yng Nghymru ar flaen y gad er mwyn gweithredu mesurau ymarferol yn y gweithle i ddenu, cefnogi a chadw pobl dalentog o bob ffydd.

Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn nigwyddiad lansio y cyhoeddiad ‘Creating a faith-friendly workplace for Muslims’ a'r ffilm fer i gyd-fynd â hynny, sef ‘Fairness Not Favours’. Roedd hon yn enghraifft wych o'r wybodaeth a’r digwyddiadau poblogaidd a drefnwyd gan y comisiwn yn ystod y flwyddyn 2015-16.

Mae cyfnewidfa cydraddoldeb a hawliau dynol y comisiwn wedi parhau i fynd o nerth i nerth. Mae'r gyfnewidfa yn dod â chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i rannu gwybodaeth, arferion da a syniadau newydd. Mae'r digwyddiadau rhanbarthol wedi darparu fforwm gwerthfawr i aelodau drafod amrywiaeth o bynciau.

Mae darlith flynyddol uchel ei pharch yr EHRC ar hawliau dynol yn ddigwyddiad pwysig arall yn y calendr ar gyfer ymarferwyr cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru, ac fe gyflwynodd y Parchedig Aled Edwards y ddarlith eleni, gan ganolbwyntio ar brofiadau ceiswyr lloches, mewnfudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn parhau i fod yn bwnc amserol a heriol, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru.

Byddwn ni’n gweithio'n agos â'r EHRC ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am y cyngor a'r dystiolaeth y mae'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Mae'r berthynas hon yn ein cynorthwyo i ddatblygu polisi, ac, fel yr ydym wedi gweld yn glir iawn yn ein hamcanion cydraddoldeb newydd, gwnaeth y concordat rhwng yr EHRC a Llywodraeth Cymru yn 2014 ddarparu sail ar gyfer y berthynas, ac rydym wedi parhau i adeiladu ar hyn. Mae'n bwysig bod EHRC yn parhau i fod yn bresenoldeb cryf a phendant yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyfnod ansicr ar droed o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yma yn y DU. Rydym yn cadw llygad barcud ar gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil o hawliau, ac mae’r Ddeddf hawliau dynol yn ein hamddiffyn ni i gyd, ni waeth beth yw ein cefndir economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’n fawr ddarn cynhwysol o ddeddfwriaeth, un sy'n caniatáu i bobl Cymru i herio anghydraddoldeb ac anghyfiawnder.

Rydym yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gyfyngu posibl ar ein hawliau dynol, a byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i sicrhau na chaiff yr hawliau a fwynheir ar hyn o bryd gan yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru eu gwanhau gan gynigion Llywodraeth y DU. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad ac ymgynghori'n llawn ar unrhyw gynigion sy'n effeithio ar unrhyw hawliau dynol.

I grynhoi, mae adolygiad blynyddol yr EHRC yn rhoi trosolwg gwerthfawr o waith eang ac amrywiol y comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf, yr wyf i'n ddiolchgar iawn amdano. Rwy’n sicr y caiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodir yn ystod y ddadl hon, ac mae hyn yn dangos bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn berthnasol i bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, ac, o ganlyniad, yn elfen hanfodol wrth ddatblygu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, ac rwy’n ymddiheuro mai fi sydd yn codi bob tro ar gyfer Plaid Cymru heddiw; rwy’n siŵr bod pobl wedi cael digon o glywed fy llais i. Ond rwyf yn hapus i groesawu cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru drwy dynnu sylw at y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal y momentwm tuag at Gymru decach a fwy cynhwysol, a hefyd drwy dynnu sylw, wrth gwrs, at beth sydd yn dal angen ei wneud er mwyn sicrhau hawliau holl ddinasyddion Cymru.

Mae Plaid Cymru wedi cynnig dau welliant i’r ddadl heddiw, un sydd yn nodi y bydd clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru yn cael ei sefydlu yn sgil trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb bresennol—y clinig cyntaf o’i fath yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gall pawb yn y Cynulliad yma werthfawrogi arwyddocâd ac effaith bositif y gall hynny ei gael ar y gymuned drawsrywiol yma yng Nghymru. Rydw i wedi cwrdd â nifer o bobl yn y gymuned honno sydd wedi gorfod trafaelio i Loegr am driniaeth hyd yn hyn, ac maen nhw yn gweld gwerth yr hyn sydd yn cael ei wneud yn sgil y datganiad yma.

Mae ein hail welliant yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth i weithredu ar un mater yn benodol a godwyd yn yr adroddiad, sef i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau yn y gwaith ac i fod yn hyderus i sefyll drostynt. Mae’n warthus bod mwy na thri chwarter o fenywod beichiog a mamau newydd yng Nghymru yn profi triniaeth negyddol, ac, o bosibl, gwahaniaethol yn y gwaith. Mae gofyn felly i’r Llywodraeth gydweithredu gydag undebau llafur a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well, a chymryd camau pendant i sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu hamlygu, nid yn unig i’r mamau eu hunain ond i’r cyflogwyr hefyd, sydd efallai yn diystyru eu barn heb yn wybod iddyn nhw ar nifer o adegau.

Mi fyddwn ni’n cefnogi y gwelliannau yn enw Paul Davies, yn unol â’r gwelliant penodol ynglŷn â chydweithredu ar draws sectorau a sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gan fod hyn yn rhywbeth pwysig i ni hefyd. Ond fel pob adroddiad blynyddol gan y comisiwn, mae rhai o’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn frawychus. Mae 23 y cant o bobl yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, ac mae hyn yn codi i 42 y cant o holl blant rhwng 0 a 4 oed, ac mae 27 y cant o bobl anabl a 38 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi o hyd.

Mae’n peri gofid i fi bod hyn yn digwydd blwyddyn ar ôl blwyddyn a phrin bod y ffigurau’n newid. Ac felly mae e’n llai o gwestiwn i’r Gweinidog ond cwestiwn i’r comisiwn ei hun—roeddwn yn edrych ar y wefan yn gynharach ac mae gan y comisiwn bwerau gorfodaeth. Maen nhw’n gallu bod yn sialens i nifer o bolisïau sydd yn dod allan o Lywodraethau gwahanol, ac felly byddwn i eisiau gweld, er enghraifft, fel mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud, defnyddio’r pwerau hynny yn fwy amlwg i weithredu dros yr hyn sydd yn digwydd, oherwydd nid wyf yn hapus i fod yma blwyddyn ar ôl blwyddyn i drafod y ffaith bod pobl yn parhau i fod mewn tlodi. Beth mae’r comisiwn yn defnyddio o ran ei sgiliau o ran y pwerau i allu newid hyn?

Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd inni edrych ar yr economi, oherwydd, wrth gwrs, dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, ond mae angen inni gael pwerau economaidd ystyrlon wedi’u trosglwyddo o San Steffan i Gymru er mwyn inni allu gweddnewid yr hyn sydd yn digwydd o fewn ein heconomi, yn enwedig yn sgil y ffaith bod pobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Os nad nawr yw’r amser i gael mwy o bwerau dros ein heconomi ein hunain, yna pryd?

Byddwn i’n hoffi clywed mwy gan y Gweinidog yn hynny o beth, yn enwedig o ran y Ddeddf hawliau dynol a’r bwriad gan y Llywodraeth yn San Steffan i danseilio hynny gan gael gwared ar hynny. Mae hi wedi’i gwreiddio mewn nifer fawr o ddeddfwriaeth ryngwladol. Sut, felly, mae’r Gweinidog yn bwriadu herio Llywodraeth Prydain i ddweud nad yw Cymru’n hapus i hynny ddigwydd a sut y bydd e’n cyfathrebu hynny’n glir iddyn nhw? Diolch yn fawr.

Rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Wrth ystyried adolygiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, 'Tuag at Gymru Decach', mae ein gwelliant 3 yn nodi bod dadansoddiad y comisiwn wedi amlygu saith her allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac y bydd angen ymdrech sylweddol gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chan unigolion, i leihau’r heriau hyn. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid cydgynhyrchu mewn partneriaeth gyfartal yr atebion i'r hyn y mae'r comisiwn yn ei ddisgrifio fel y pethau sylweddol sy’n achosi anghydraddoldebau a chamarfer hawliau dynol sydd wedi’u hymwreiddio, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwr yn eu bywydau eu hunain. Fel y mae adroddiad y comisiwn yn datgan, mae'r saith her allweddol hyn yn berthnasol i: addysg; cyflogaeth; amodau byw mewn cymunedau cydlynol; mynediad at gyfiawnder a chyfranogiad democrataidd; gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth; cam-drin, esgeulustod a chamdriniaeth dan ofal a chadwad; a chael gwared ar drais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.

Fel y mae’r prosiect troseddau casineb Cymru gyfan yn nodi,

Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth sicrhau bod mecanweithiau adrodd trydydd parti hawdd eu defnyddio ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw’n dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu,

ac

y dylid gwneud mwy i sicrhau yr ymdrinnir â chyflawnwyr troseddau casineb yn effeithiol ac y dylai dulliau adferol fod ar gael i bawb yng Nghymru.

Byddwn ni’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er y byddem ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff cyflogwyr a’r sector gwirfoddol. Roedd sefydlu clinig hunaniaeth rywedd ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru yn 2016.

Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cydnabyddiaeth gan y comisiwn o’r angen i rymuso ac ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae cynllun gwaith Cymru 2016-17 y comisiwn yn cynnwys hyrwyddo

tystiolaeth i rymuso’r sector gwirfoddol a chymunedol a'r cyhoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dylanwadu ar benderfyniadau a’r gwaith o lunio polisïau ar draws y sector cyhoeddus

ac

ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a'r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru i sicrhau bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn annog gwelliannau mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ac o ran cyflenwi gwasanaethau.

Fel y nododd y comisiwn Williams:

Bydd angen i arweinwyr ar bob lefel fod yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, gan gynnwys cydweithredu neu gyd-gynhyrchu.

Fel y noda Archwilydd Cyffredinol Cymru:

ceir cydnabyddiaeth llawer cliriach erbyn hyn nad yw dulliau blaenorol wedi gweithio yn ôl y bwriad, a bod angen newid mawr.

Mae’n rhaid i ni felly symud oddi wrth system lle y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu ac yr eir i’r afael â nhw, a dilyn system sy'n amddiffyn gallu unigolyn i wneud dewisiadau.

Ar ôl i Gyngor Conwy gael gwared ar wasanaethau hanfodol ar gyfer y gymuned fyddar a ddarparwyd drwy’r sector gwirfoddol, ysgrifennais atyn nhw gan nodi mai egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oedd bod yn rhaid i unigolion a'u teuluoedd allu cymryd rhan yn llawn yn y broses o bennu a bodloni eu hanghenion gofal a chymorth a nodir, gan ddilyn proses sy'n hygyrch ar eu cyfer nhw. Eu hateb? Wel, gwnaethon nhw ateb drwy ddweud bod eu hymateb i’r Ddeddf wedi arwain yn lle hynny atyn nhw’n sefydlu gwasanaeth anabledd integredig mewnol. Dywedodd y gymuned fyddar wrthyf eu bod yn cael eu hamddifadu o’u hannibyniaeth, eu hawliau dynol a’u hawliau i gydraddoldeb.

I gefnogi Bil awtistiaeth (Cymru), ysgrifennodd rhiant plentyn awtistig yn ei arddegau y penwythnos diwethaf: Nid wyf yn credu bod y gwasanaethau cymdeithasol na’r Ddeddf llesiant yn ddigon pellgyrhaeddol i gefnogi’r bobl hynod ddawnus ac arbennig hyn.'

Ar ôl imi ysgrifennu at Gyngor Wrecsam, i gefnogi rhiant mab â chanddo syndrom Down, a dynnodd sylw at y pwyslais yn y Ddeddf ar gynnwys pobl yn y penderfyniadau am sut y pennir ac y darperir eu gofal a'u cymorth, atebodd y cyngor nad y Ddeddf yw’r ddeddfwriaeth y mae'n rhaid cynnal y broses dendro oddi tani.

Mae Rhan 2 o god ymarfer y Ddeddf yn cydnabod y dylai’r gwaith o gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl fod yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd—yn gyson, meddai, â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, sy'n pwysleisio swyddogaeth hollbwysig cyflogaeth wrth hyrwyddo annibyniaeth, hyder, iechyd a lles pobl, gan gynnig dihangfa rhag tlodi a galluogi pobl i gyfranogi yn y gymdeithas. Fodd bynnag, pan ysgrifennais i’n ddiweddar at Gyngor Sir y Fflint, ar ôl i gynnig gwaith amodol i unigolyn hemoffilig gael ei dynnu'n ôl yn dilyn ei archwiliad meddygol, yr ateb a gefais ganddynt oedd nad oeddent yn gallu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y camau a gymerwyd ganddyn nhw wedi torri unrhyw elfen o'r ddeddfwriaeth.

Gan nodi’r gwirioneddau hyn a rhai eraill, megis y ffaith mai Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i beidio â chynnal lefelau cyllid ar gyfer Cronfa'r Teulu, sy’n cefnogi teuluoedd incwm isel a chanddynt blant anabl, mae'n amlwg bod angen i ni gael ffordd newydd o wneud pethau yng Nghymru.

Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r comisiwn yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o agos gyda Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol, a chredaf fod hynny'n amhrisiadwy. Mae'n bwysig bod y comisiwn yn gallu dwyn y Llywodraeth, awdurdodau cyhoeddus a chyflogwyr i gyfrif am eu gweithredoedd yng Nghymru, ac rwy'n siŵr na fydd neb yma yn anghytuno â hynny.

Fel y mae'r adroddiad yn dangos yn glir, bu cynnydd o ran yr agenda rhyw, ond mae llawer mwy i'w wneud. Yn arbennig, nid yw rhyw yn nodwedd warchodedig ac mae hyn, yn fy marn i, yn ddiffyg difrifol. Dim ond heddiw, derbyniais e-bost a oedd yn defnyddio termau a oedd yn cam-drin ar sail rhyw i ddisgrifio etholwr arall. Mewn unrhyw faes arall o fywyd cyhoeddus, byddwn i’n gallu gwneud rhywbeth am hynny. Yn yr achos hwn, y cyfan y gallaf ei wneud mewn gwirionedd yw dweud wrth y person sy'n cam-drin fod hynny, i mi, yn gwbl annerbyniol.

Mae gennym ni erbyn hyn Ddeddf nodedig yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a pholisïau gweithle y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gefnogi aelodau staff sy'n dioddef cam-drin domestig, sy’n cwmpasu dros 400,000 o weithwyr yng Nghymru. Ond y gwir amdani yw bod un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig ac, ar gyfartaledd, caiff dwy fenyw, bob wythnos yn y DU, eu llofruddio o ganlyniad i gam-drin domestig.

Mae’r Diwrnod Rhuban Gwyn, a gynhelir ar 25 Tachwedd, yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth a bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma yn y Senedd ar 22 Tachwedd. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cyfrannu at hynny.

Ceir hefyd broffil yr aelwydydd digartref statudol yng Nghymru, a newidiodd yn sylweddol rhwng 2010 a 2015, gan fod cynnydd o 19 y cant yn nifer y bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Dylai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 helpu i atal sefyllfaoedd digartrefedd presennol pan fo cyd-denant yn gadael y denantiaeth, a thrwy hynny roi terfyn ar y denantiaeth i bawb arall. Bydd y dull newydd hwnnw o gontractau ar y cyd, rwy’n gobeithio, yn helpu’r rhai sy’n dioddef o gam-drin domestig gan ei fod yn golygu y gellir targedu’r troseddwr, a’i droi ef neu hi allan yn hytrach na'r dioddefwr, ar yr amod ei bod yn ddiogel i wneud hynny, a fydd yn darparu rhywfaint o ddilyniant ym mywydau'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw.

Rydym yn gwybod bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau ychydig bach, o 9.6 y cant i 9.4 y cant. Ar y gyfradd hon, ni fyddaf yn fyw erbyn yr adeg y caiff y bwlch ei gau, yn ôl yr amcanestyniadau presennol. Yn sicr, credaf nad yw hynny’n dderbyniol. Mae’r adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi heriau allweddol i ni i gyd, ac nid wyf am fynd drwyddyn nhw, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio yw y bydd ganddyn nhw’r adnoddau a'r gallu i fynd â nhw rhagddynt.

Ond y peth olaf yr wyf am sôn amdano yw’r Ddeddf hawliau dynol y mae Llywodraeth bresennol San Steffan yn ceisio ei thanseilio a’i disodli â bil o hawliau. Yn fy marn i, rhoddir gormod o bwyslais ar beth yw hawliau dynol ar gyfer eraill—y byddwch yn atal eraill rhag arfer eu hawliau dynol yn yr hinsawdd bresennol. Rwy'n credu ei bod hi’n werth cofio pan fyddwch yn atal eraill rhag arfer eu hawliau dynol, byddwch chi hefyd yn atal eich hun rhag arfer eich hawliau dynol, ac nid yw hwnnw’n llwybr yr ydym eisiau ei ddilyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r comisiwn—i gomisiynydd Cymru, June Milligan, yn arbennig, ar ôl cymryd yr awenau gan Ann Beynon, a hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith yn y swydd honno—am yr adroddiad hwn, 'Tuag at Gymru Decach’. Credaf ei bod yn bwysig deall y daw’r adroddiad hwn gan bwyllgor Cymru, sy'n cael ei gadeirio gan gomisiynydd Cymru fel swyddog arweiniol y EHRC, sy'n ei gefnogi, a cheir nifer o bobl rhan amser ar y pwyllgor hwnnw. Ond y mae rhan fwyaf o waith yr EHRC yn digwydd ar sail Prydain gyfan mewn meysydd sy'n canolbwyntio ar—mewn gwirionedd, yn deillio o'r comisiwn blaenorol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal, a oedd yn canolbwyntio yn flaenorol ar gydraddoldeb rhywiol. Ymgorfforwyd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Comisiwn Hawliau Anabledd yn rhan o’r EHRC newydd hwn. Ceir pwyllgor anabledd gan fod pwyllgor Cymru a'r Alban, ond nod yr EHRC oedd canolbwyntio ar gydraddoldeb fel egwyddor, yn hytrach na chael comisiynau a chyrff sy'n cystadlu i gynrychioli gwahanol grwpiau.

Rwy'n credu y byddai'n ddoeth i'r Cynulliad asesu sut y mae’r comisiwn yn gweithio yng nghyd-destun datganoli. Mae gennym y pwyllgor Cymru arbennig hwnnw. Mae yna hefyd ddyletswydd ar y comisiwn i adrodd ar yr hyn y mae'n ei wneud yng Nghymru yn ei adroddiad blynyddol; dim ond paragraff bach iawn ar hynny y gallaf ddod o hyd iddo, sydd ond yn cysylltu wedyn â thudalen yn nodi aelodau pwyllgor Cymru ar eu prif wefan.

Pan ydym ni’n ystyried y saith her allweddol sy'n cael eu nodi ar gyfer Cymru, yr hyn yr wyf yn credu a fyddai’n werthfawr yw pe baem yn gallu cymharu sut yr ydym yn ymdrin â chydraddoldeb o ran y gwahanol safbwyntiau hyn yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban ac o'i gymharu â rhanbarthau Lloegr, a pha un a nodwyd y saith maes hynny am eu bod yn faterion cydraddoldeb sy’n arbennig o bwysig, neu am fod gennym faterion a heriau arbennig yng Nghymru na chânt eu rhannu mewn mannau eraill yn y DU.

Ar ei wefan, mae'r comisiwn yn dweud mai corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ydyw, ond nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn dadlau bod Prydain Fawr yn genedl; gallaf weld pam y byddai gan Gymru neu'r DU gorff cydraddoldeb cenedlaethol. Ond rwy'n credu ei bod hi’n bwysig deall sut y mae pwyllgor Cymru yn gweithio. Mae'n cynghori Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyrff cyhoeddus ledled Cymru, ac yn sicr caiff rywfaint o weithgarwch defnyddiol ei nodi yn yr adroddiad hwn. Ond y mae hefyd yno i sicrhau bod yr EHRC ar sail Prydain Fawr yn ystyried cyd-destun Cymru ac anghenion penodol yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i archwilio i ba raddau y mae'n gwneud hynny, a chredaf y byddai data cymharol yn ddefnyddiol iawn i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Er enghraifft, pan ydym ni’n ystyried ei amcanion arbennig ar gyfer Cymru, mae’n bwriadu cau'r bylchau cyrhaeddiad drwy godi safonau ar gyfer plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, plant ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n derbyn gofal a phlant Sipsiwn a Theithwyr. Wrth iddo siarad am brydau ysgol am ddim, a yw honno’n broblem benodol yng Nghymru—a yw'r bwlch cyrhaeddiad yn uwch yng nghyd-destun Cymru? Oherwydd rwy’n gwybod yng nghyd-destun y DU gyfan, credaf fod y bwlch prydau ysgol am ddim wedi lleihau rhywfaint, ond mae hynny wedi’i yrru’n arbennig gan welliannau sydyn iawn yn Llundain. A oes gwersi y gallwn eu dysgu yno?

Wrth annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg mewn cyflogaeth, mae pwyllgor Cymru yn dweud ei fod am gynyddu cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl ifanc, pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl Fwslimaidd. Mae'n mynd ymlaen wedyn i ddweud ei fod am gau'r bylchau cyflog, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig a menywod. Felly, rydym yn gweld bod pobl ifanc a phobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu nodi fel meysydd o bryder arbennig yn y ddau faes hynny, ond mae ei bwyslais ar gau bylchau cyflog ar gyfer menywod; nid yw'n rhannu'r pwyslais hwnnw ar gyfer cyfraddau cyflogaeth, ac, ynglŷn â chyfraddau cyflogaeth, ei bryderon arbennig yw pobl anabl a phobl Fwslimaidd. Onid ydym ni hefyd yn poeni i ba raddau y gallai pobl anabl fod yn cael cyflog is yn y gweithlu, a’r graddau y gallai hynny fod yn broblem benodol yng Nghymru?

Yn yr un modd, pan fo’n cyfeirio at bobl Fwslimaidd, gwelwn fod grwpiau penodol sydd â nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf cydraddoldeb yn cael eu nodi, ond ni chaiff y cyd-destun ehangach ei gydnabod o reidrwydd. Er enghraifft, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion Mwslimaidd ychydig bach yn is nag ydyw ymhlith dynion eraill, ond ceir bwlch mawr iawn, iawn ymhlith menywod Mwslimaidd. A yw hynny’n bryder arbennig gan y comisiwn ac yn faes lle y mae’n dymuno gweld y Llywodraeth a chyrff y sector cyhoeddus yn gweithredu? Rwy’n credu efallai y gallwn ystyried hyn mewn cyd-destun ehangach, a deall hefyd ein bod yn pryderu am hyrwyddo cydraddoldeb a chyfle cyfartal yn fwy cyffredinol, yn hytrach na dim ond mewn cysylltiad â grwpiau penodol sydd, digwydd bod, yn cael eu nodi yn y Ddeddf cydraddoldeb. Er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym nifer o gymunedau lle yr ydym yn gweld cyflawniad is neu lle y ceir anawsterau penodol gyda chyflogaeth neu gyflogau, yn aml mewn ardaloedd sy’n cynnwys pobl wyn dosbarth gweithiol, ac rwy'n credu bod angen i ni ei gwneud hi’n glir ein bod ni yr un mor bryderus ynglŷn â gwella cyfleoedd a chanlyniadau yn y maes hwnnw, ag yr ydym ni gyda meysydd eraill a allai o bosibl fod wedi’u nodi yn yr adroddiad hwn. Ond, ar y cyfan, rwy’n croesawu'r adroddiad ac yn diolch i’r rhai hynny a gymerodd ran am eu gwaith.

Rwy'n falch iawn i gael siarad yn y ddadl hon, rwy’n credu sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, ynglŷn â’r adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Tuag at Gymru Decach’. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Ann Beynon, sydd wedi bod yn gadeirydd yn ystod cyfnod pwysig iawn, a hoffwn gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb a hawliau dynol, a chroesawu June Milligan fel y comisiynydd newydd. Ond hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged yn y ddadl hon i Kate Bennett, sy’n mynd i ymddeol yn fuan fel cyfarwyddwr ddiwedd y mis hwn. Mae Kate yn etholwraig imi yng Ngogledd Caerdydd, ac mae hi wedi bod yn y swydd ers 2007, ac rwy’n credu ei bod wedi helpu’n aruthrol i adeiladu perthynas agos â Llywodraeth Cymru a chyda phob un ohonom fel Aelodau Cynulliad, ac mae wedi bod yn hawdd mynd ati ac yn rhagweithiol iawn. Felly, hoffwn dalu teyrnged i Kate hefyd.

Rwy’n credu bod gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cael effaith sylweddol yng Nghymru ac ar waith Llywodraeth Cymru, ac, fel y dywedais, mae perthynas waith agos a da iawn wedi’i datblygu. Rwy'n credu bod cyhoeddi adroddiadau megis 'A yw Cymru’n Decach?' yn rhoi ciplun o ba mor bell yr ydym wedi dod yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ran cydraddoldeb, sy'n ddeunyddiau da iawn i'r Llywodraeth eu defnyddio fel dull o fesur ei gweithgareddau. Ac, hoffwn ddweud, rwy’n credu nad ydym erioed wedi bod angen lleisiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gymaint ag yr ydym eu hangen ar hyn o bryd. Gyda dyfodiad Brexit, o wybod beth yw’r teimladau sydd wedi’u hysgogi ymhlith llawer o bobl mewn cymunedau lleol, mae angen pobl arnom i siarad dros eu hawliau dynol, ac, wrth gwrs, fel y mae siaradwyr blaenorol eisoes wedi dweud yn angerddol iawn, y bygythiadau i'r Ddeddf hawliau dynol. Felly, mae hwn yn gyfnod pan fo angen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol arnom yn fwy nag erioed o'r blaen.

Yn eu hadroddiad, maen nhw’n tynnu sylw at rai meysydd gwella a rhai meysydd lle mae gennym le i wella o hyd, ac rwy’n croesawu’r ffaith eu bod yn adrodd bod llai o elyniaeth tuag at bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ond rwy'n pryderu eu bod yn dweud, yn gyffredinol, fod pobl ifanc mewn sefyllfa lai ffafriol o ran cyflogaeth, tâl a thai nag oeddent bum mlynedd yn ôl. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru—ac awdurdodau cyhoeddus eraill—yn cymryd sylw o hynny a’n bod ni’n defnyddio hynny i lywio'r broses o lunio polisïau. Un o'r heriau y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei hamlygu yw gwella cynrychiolaeth ddemocrataidd, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol, oherwydd yn fy marn i, fel llunwyr polisi, os nad ydym ni’n adlewyrchu'r cymunedau sy’n bodoli, bydd y deddfau yr ydym ni’n eu creu yam fod yn llai effeithiol. Rwy'n falch o ddweud yn yr etholiadau llywodraeth leol sydd ar y gweill yng Ngogledd Caerdydd, yn fy etholaeth i, fod gennym ddau unigolyn 18 oed yn sefyll yn yr etholiad, felly rwy'n falch iawn o hynny. Hefyd, roedd hanner yr ymgeiswyr yn ddynion a hanner yn fenywod, sydd, eto, yn fy marn i yn gam mawr ymlaen, fel ag y mae, wrth gwrs, yn y Siambr hon, o ran y Llywodraeth, mae hanner y cynrychiolwyr sydd gennym yn ddynion a hanner yn fenywod, sy’n llwyddiant mawr, yn y bôn, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod mewn gwirionedd yn dibynnu ar fentergarwch y pleidiau gwleidyddol lleol i sicrhau bod cynrychiolaeth dda yn bodoli ac weithiau mae angen, mewn amgylchiadau anodd, sicrhau ein bod yn siarad dros gydraddoldeb ac yn ceisio sicrhau bod cyrff yn gynrychiadol. Felly, rwyf o’r farn bod cynnydd yn digwydd o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd.

Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at faterion sy'n arbennig o berthnasol i fenywod ifanc a merched, ac roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Ferch y Cenhedloedd Unedig (the United Nations International Day of the Girl Child), yn y Senedd ym mis Hydref. Yr hyn a amlygwyd gan y digwyddiad hwn yw bod merched yng Nghymru yn dal i wynebu problemau o ran anghydraddoldeb a rhywiaeth. Roedd y merched ifanc a oedd yn siarad yn gwbl ysbrydoledig o ran eu hagweddau hynod gadarnhaol, ond hefyd o ran datgelu faint o anghydraddoldeb, yn eu barn nhw, y maen nhw’n ei wynebu yn eu bywydau bob dydd. Roedden nhw’n dweud, yn yr ysgol, eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n cael chwarae pêl-droed yn yr ysgol, bod yr athrawon o’r farn nad oedden nhw cystal â bechgyn mewn mathemateg—yr holl bethau yr ydym yn gwybod sy’n dueddol o ddigwydd ac y mae’n rhaid inni weithio'n galed iawn yn eu herbyn i geisio sicrhau bod y gymdeithas yn fwy cyfartal. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod hynny’n gryf iawn o ran y dewis o bynciau yn yr ysgol—y pynciau STEM, y mae mwy o fechgyn na merched yn dewis y pynciau hynny—ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i gyfleu’r neges honno. Oherwydd mae'n bwysig iawn yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu ar sail rhyw yn gynnar iawn.

Rwy'n credu'n gryf mewn cydraddoldeb, ond mae un math o anghydraddoldeb ac un grŵp o bobl nad wyf wedi clywed neb yn ei grybwyll yn y Senedd eto, ac, mewn cysylltiad â cham-drin domestig, dynion yw’r grŵp hwnnw. Rwy’n cytuno ag Erin Pizzey, sylfaenydd y lloches i fenywod gyntaf yn y DU, ac mae hi'n dweud nad yw cam-drin domestig yn benodol i ryw, ei fod yn berthnasol i’r ddau ryw, oherwydd gall dynion a menywod gam-drin a bod yn dreisgar.

Rwy’n tueddu i deimlo y caiff cam-drin dynion ei oddef yng Nghymru; yn wir, rwy’n credu ei fod wedi ymwreiddio yn y drefn. Caiff cam-drin dynion yn emosiynol ei ganiatáu. O ystyried Heddlu De Cymru, er enghraifft, mae'n gwbl amhosibl eu cael nhw i dderbyn cwyn gan ddyn sy'n cael ei gam-drin yn emosiynol. Mae gennyf i achos arall yn fy ngofal yn awr; rwyf am weld sut yr ydym yn dod ymlaen yr wythnos nesaf. Yn y ddinas hon, mae'n gywilyddus nad oes unman o gwbl i mi, fel dyn—dim unman—i fynd iddo i gael cymorth heb feirniadaeth mewn cysylltiad â cham-drin domestig. Rwy'n edrych o gwmpas y Siambr hon ac, fel yr wyf i'n siarad, rwy'n gweld pobl yn gwenu, ac mae hynny wirioneddol yn fy mhoeni. Mae hefyd yn dweud llawer am y rhagfarn a geir yn y Siambr hon.

Nawr, mae 13.2 y cant o ddynion yn dioddef cam-drin domestig; mae 23 y cant, lleiafrif mawr iawn—mae’n lleiafrif ond mae’n lleiafrif mawr iawn—mae 23 y cant o bob dioddefwr yn ddynion; lladdwyd 19 o ddynion gan eu partneriaid neu gynbartneriaid ddwy flynedd yn ôl, yn ôl y ffigurau; a’r hyn sy’n agoriad llygad mewn gwirionedd yw bod 29 y cant o ddynion yn annhebygol o siarad am eu profiadau—yn syml, ni fyddan nhw’n siarad am eu profiadau. Mae deuddeg y cant o fenywod yn yr un sefyllfa. Felly, yr hyn yr wyf yn ei wneud yma heddiw, wrth dynnu sylw at ffeithiau hynny, mewn gwirionedd, yw galw am wir gydraddoldeb i bawb, ni waeth beth yw eu ffydd, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu dosbarth, eu lliw. Yr hyn y mae gwir angen inni ei gofleidio, fel y dywedais, yw’r gair syml iawn, iawn hwnnw sef cydraddoldeb, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu yn gwbl angerddol ynddo. Diolch. 

Rhianon Passmore. [Anghlywadwy.] Galwaf ar y Gweinidog i ymateb—Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.

Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl gadarnhaol hon ar y cyfan. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ei waith parhaus i wella bywydau pobl yma yng Nghymru. Gwn eu bod yn y Siambr heddiw—i fyny'r grisiau yn oriel y Siambr—yn gwrando.

Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf mewn hyrwyddo hawliau menywod beichiog a mamau newydd yn y gwaith, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau nad yw merched yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle ar sail beichiogrwydd neu famolaeth—pwynt dilys iawn a godwyd gan yr Aelod yn gynharach. Y mis diwethaf, gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â'r EHRC i drafod canfyddiadau'r adroddiad o ran gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac ystyried gweithredoedd posibl.

Rydym ni’n cefnogi gwelliant 2. Fodd bynnag, dylem ni fod yn glir fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn datblygu dewisiadau eleni i wella darpariaethau hunaniaeth rywedd yma yng Nghymru. Yn dilyn cynnydd yn nifer y ceisiadau ar gyfer asesiadau yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaethom gomisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rywedd ar ran byrddau iechyd, i ddatblygu llwybr gofal hunaniaeth rywedd i ni yma yng Nghymru.

Lywydd, mae'r pwyllgor wedi cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd i glywed barn defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol, a bydd yn darparu dewisiadau ar gyfer adlinio gwasanaethau i gefnogi'r llwybr newydd o ran rhyw. Bydd y £0.5 miliwn y flwyddyn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft yn cynorthwyo'r pwyllgor gyda'r gwaith hwn.

Rydym ni’n cefnogi gwelliant 3. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chydnabod bod rhaid i ni ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â'r saith her allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?'. Fel y soniais yn fy araith agoriadol, mae ein hamcanion cydraddoldeb newydd wedi’u datblygu gan gysylltu’n gryf â'r heriau hyn, ac mae llawer o'r rhain wedi’u codi gan yr Aelodau yn y Siambr heddiw.

Rydym ni’n cefnogi gwelliant 4. Mae'r trydydd sector yn gwneud gwaith hanfodol bwysig gyda chymunedau a chyda Llywodraeth Cymru, sy’n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i gefnogi a chysylltu â gwaith y trydydd sector a'r cymunedau y mae'n eu cefnogi. Mae'r gwaith a wneir gan y trydydd sector yn hanfodol, ac i sicrhau bod y sector hwn yn ffynnu, mae’n rhaid inni gael seilwaith cryf i’w gefnogi. Ar gyfer 2016-17, dyrannodd Llywodraeth Cymru £6 miliwn i gefnogi seilwaith y trydydd sector, sy'n cynnwys cyllid craidd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Rwy’n ymwybodol iawn bod comisiynydd a chomisiwn yr EHRC wedi bod yn gwrando ar yr hyn a oedd gan nifer o’r Aelodau i’w ddweud. Byddaf yn rhoi sylw i rai o’r pwyntiau y mae’r Aelodau wedi'u codi y prynhawn yma—pob un yn ddilys iawn, neu'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddilys iawn, o ran eu sylwadau. Mark Reckless—rwy’n credu bod swyddogaeth comisiwn Cymru a'u comisiynwyr yn amhrisiadwy. Mae'n hanfodol ein bod ni’n cynnal llais dros Gymru, yn ystyried anghydraddoldeb o safbwynt Cymru, ac yn ceisio barn am sut yr ydym ni’n rheoli hynny. Rwy’n talu teyrnged i'r sefydliad sy'n gweithredu yma. Rwyf hefyd yn cydnabod profiad gwerthfawr yr undeb o ran effeithiau'r sylfaen wybodaeth a leolir yn Lloegr, ond yn cydnabod hefyd bod y gwaith a wneir yma dros Gymru yng nghyd-destun Cymru yn werthfawr iawn, a dylem gynnal hynny, beth bynnag sy’n digwydd, wrth inni symud ymlaen.

Cododd Joyce Watson a Julie Morgan bwyntiau yn ymwneud â llawer iawn o faterion, ond un o'r rhai a ddaeth i fy meddwl i yn arbennig, ac rwy’n rhannu barn llawer o bobl—mae'n anodd iawn, ond ni ddylem ni golli'r cyfle i siarad am y pethau hyn, yn enwedig ynglŷn â throseddau casineb. Cawsom ddadl yr wythnos o’r blaen am droseddau casineb lle y mynegwyd llawer o safbwyntiau, rhai ohonyn nhw nad wyf yn cytuno â nhw, ond rwy’n derbyn bod gan bobl y safbwyntiau hynny, a dylem ni eu herio yn y modd priodol, ac fe wnaethom bryd hynny. Ond o ran troseddau casineb yn arbennig—nid wyf wedi fy argyhoeddi pam na ddylem ni eto—. Rwy’n credu y dylem ni gynnwys troseddau casineb ar sail rhyw. Nodweddion yr wyf yn credu y dylid eu cyfrif yn yr achosion o droseddau casineb oherwydd, ac rwy’n dyfynnu, Lywydd—nid yw’n ddefnydd da iawn o iaith, ond rwy'n gyfarwydd â chyfnewidiadau e-byst a gafwyd rhwng Aelodau. Pam y dylai fod yn briodol galw menyw yn 'butain', ond ddim yn dderbyniol nac yn briodol galw rhywun yn 'homo'. Pam na chânt eu cymharu, a’u hystyried fel bod yr un fath, fel troseddau casineb? Rwy’n credu y dylem ni wneud rhagor o waith ar hyn, yn y tymor hir.

Byddaf yn ymateb i bwynt y Cynghorydd McEvoy ynghylch trais domestig. A gaf i ddweud bod y Siambr hon, y Llywodraeth hon, yn cymryd materion yn ymwneud â thrais yn y cartref o ddifrif­—yn ddifrifol iawn—boed hynny’n erbyn dynion neu fenywod? Mae'r ffaith bod dwy fenyw yn marw bob wythnos yn effaith sylweddol na ddylem ni fyth anghofio. Rwy’n gobeithio bod yr Aelod, â’i argyhoeddiadau, o ran ei argyhoeddiadau personol a’i angerdd dros fynd i'r afael â thrais domestig—. Rwy'n credu bod llawer o bethau y dylem ni hefyd eu trafod o ran gwasanaethau trais domestig pan ei bod hi’n gwbl amhriodol ymosod ar fenywod. Mae'n gwbl amhriodol ymosod ar unigolyn arall, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn myfyrio ar hynny wrth gyfrannu yn y Siambr hon yn y dyfodol.

Efallai y byddwch hefyd yn ymwybodol, Lywydd, fod Kate Bennett, cyfarwyddwr cenedlaethol Cymru yn yr EHRC yn ymddeol o'i swydd ar ôl mwy na 20 mlynedd—cyflawniad gwych. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Kate am ei hymrwymiad a’i gwasanaeth hir i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru. Penodwyd June Milligan yn gomisiynydd yr EHRC ar gyfer Cymru eleni, a hoffwn hefyd ei chroesawu hi i’w swydd newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol, ac rwy’n talu teyrnged hefyd i Ann Beynon, a wnaeth waith arbennig wrth ein harwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.

Yn olaf, mae'r comisiwn yn cynnal derbyniad yn Nhŷ Hywel yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, Lywydd. Rwy’n achub ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau'r Cynulliad i gwrdd â phwyllgor EHRC Cymru. Rwy’n annog holl Aelodau'r Cynulliad, yn enwedig y rhai a ymunodd â ni ym mis Mai eleni, i ddod draw i ddysgu am y gwaith gwych y mae'r EHRC yn ei wneud yng Nghymru, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, ar ôl y sesiwn hon heddiw. Ac rwy’n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd y comisiwn wedi gwrando'n ofalus ar y cyfraniadau ac y bydd yn gweithredu yn unol â hynny, mewn modd proffesiynol a phriodol, yn ôl ei arfer.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NDM6127 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, ‘Tuag at Gymru Decach’.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.

3. Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.

4. Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.

5. Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Ac felly, fe dderbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6127 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.