Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/10/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Dirprwy Lywydd

Prynhawn da, Aelodau. Heddiw, rydym yn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan gollodd 116 o blant a 28 o oedolion eu bywydau ar 21 Hydref 1966. Cyn i ni ddechrau busnes y prynhawn yma, gwahoddaf yr Aelodau i nodi munud o dawelwch i gofio am Aberfan.

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

Eitem 1 ar yr agenda heddiw, cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Cwestiwn 1, Lynne Neagle.  

Twf Swyddi Cymru+

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi’u cael gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ynghylch Twf Swyddi Cymru+? OQ64753

Member
Adam Price 13:31:55
Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy

Rydw i wedi trafod Twf Swyddi Cymru+ gyda'r Dirprwy Weinidog, gan gynnwys y pwysau y mae darparwyr yn ei reoli wrth iddyn nhw ymateb i'r galw parhaus am gymorth.

13:35
13:40
Datblygu Sgiliau

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol ar gefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen mewn marchnad lafur sy'n newid yn gyflym ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni? OQ64780

Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n trafod yn rheolaidd sut y gall sgiliau, cymorth cyflogadwyedd a phrentisiaethau arfogi pobl ifanc ledled Cymru i lwyddo mewn economi sy'n newid yn gyflym. Roedd y materion hyn yn nodwedd o'n huwchgynhadledd sgiliau'r dyfodol hynod lwyddiannus yn gynharach y mis hwn ac maen nhw’n ganolog i'm cenhadaeth cynhyrchiant.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Jason O'Connell.

13:50

Llefarydd Llafur Cymru, Shav Taj.

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders.

13:55
Ffwrnais Arc Drydan

3. Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth yn eu cynnal gyda'r Grid Cenedlaethol ynglŷn â gosod ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot? OQ64761

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda National Grid Electricity Transmission. Mae gwaith gosod ffwrnais arc drydan Tata Steel UK yn fater masnachol. Fodd bynnag, rydyn ni’n codi'r mater fel y bo'n briodol.

14:00
Cyfleoedd Cyflogaeth

4. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni? OQ64731

14:05

Mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi'r ystod o fesurau y byddwn ni'n eu cymryd i wella cyfleoedd a chanlyniadau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys y genhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant, gan gefnogi busnesau bach a'r stryd fawr i ffynnu a sicrhau bod gan Gymru y sgiliau sydd eu hangen arni ar gyfer y dyfodol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fy mhryder yw bod gormod o'n pobl ifanc talentog ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni yn teimlo bod yn rhaid iddynt symud i ffwrdd i ddod o hyd i yrfaoedd cynaliadwy hirdymor. Tu hwnt i ffrydiau cyllido cyffredinol, pa warantau targedig all Llywodraeth Cymru eu cynnig i greu swyddi medrus sy'n ddiogel ar gyfer y dyfodol yn eu milltir sgwâr fel y gallwn stopio allforio ein cenhedlaeth nesaf?

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'r cwestiwn yma yn greiddiol i'n strategaeth economaidd ni. Mi oeddwn i, y bore yma, wedi cwrdd, am y tro cyntaf, gyda'r panel sydd yn ein cynorthwyo ni i ddylunio'r asiantaeth ddatblygu, ac un o'r themâu roeddwn i wedi'u pwysleisio oedd yr angen i sicrhau ein bod ni'n cynhyrchu swyddi da ym mhobman. Dŷn ni ddim eisiau gweld sefyllfa lle mae Cymru yn efelychu yr hyn rŷn ni wedi gweld o ran datblygiad anwastad y Deyrnas Unedig, lle mae ffyniant ond yn cronni mewn un cornel o'n gwlad. Rŷn ni eisiau i dde-ddwyrain Cymru ffynnu, rŷn ni eisiau i ogledd-ddwyrain Cymru ffynnu, ac rŷn ni'n falch iawn o'r llwyddiant sydd yn digwydd yno, ond rŷn ni eisiau i hynny gael ei ledu drwy'r Cymoedd, drwy Flaenau'r Cymoedd, i'r gorllewin, mewn i Gymru wledig, i'r gogledd-orllewin. Mae'n rhaid codi Cymru oll i fyny, a dyna'r ffordd rŷn fel Llywodraeth am weithredu, a dyna'r nod a'r genhadaeth rŷn ni wedi'u rhoi yn barod i'r asiantaeth ddatblygu newydd.

Gwariant Caffael Cyhoeddus

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i elwa ar wariant caffael cyhoeddus? OQ64792

Rydyn ni'n benderfynol bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn elwa ar gaffael cyhoeddus. Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor wedi'i deilwra, tra bod Deddf Caffael 2023 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau, mewn caffaeliadau a gwmpesir, ystyried rhwystrau sy'n wynebu busnesau ac a ellir rhannu contractau yn lotiau priodol. Rydyn ni hefyd yn datblygu opsiynau polisi i gryfhau'r cymorth ymhellach.

14:10
Y Sector Amddiffyn

6. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod grantiau yn y sector amddiffyn yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol? OQ64756

Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth i'r sector amddiffyn yn cael ei ystyried mewn ffordd amserol a chymesur. Tra bod y fframwaith buddsoddi moesegol mewn amddiffyn yn cael ei ddatblygu, mae trefniadau interim ar waith i alluogi penderfyniadau brys i gael eu gwneud pan fo angen.

14:15

A'r cwestiwn olaf, Weinidog, cwestiwn 7, Becca Martin.

Deallusrwydd Artiffisial

7. Pa waith y mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei fabwysiadu'n foesegol yng Nghymru? OQ64785

Rydyn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phartneriaid i gefnogi'r broses o fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn atebol. Mae hyn yn cynnwys cryfhau sgiliau, caffael cyfrifol, technoleg Gymraeg a'r sylfeini digidol ehangach sydd eu hangen i sicrhau bod AI yn darparu gwerth cyhoeddus ac o fudd i gymunedau ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Cwestiwn 1, Darren Millar.

Deilliannau Addysgol

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol dysgwyr? OQ64729

Member
Anna Brychan 14:18:09
Cabinet Minister for Education and the Welsh Language

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

14:20

Weinidog, rydym yn gwybod bod gweithlu addysg sy'n cael ei gefnogi a'i werthfawrogi yn hanfodol er mwyn codi safonau a gwella canlyniadau ein dysgwyr. Felly, rwy'n croesawu’r dyfarniad cyflog o 3.5 y cant, sydd wedi'i ariannu'n llawn ac yn sicrhau cydraddoldeb â Lloegr, yn ogystal â'r buddsoddiad ychwanegol rŷch chi newydd sôn amdano fe i leddfu'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ADY. Mae ASCL Cymru, sydd hefyd yn cynrychioli arweinwyr ysgolion, wedi derbyn y dyfarniad cyflog o 3.5 y cant. A yw'r Gweinidog yn cytuno gyda fi ei bod hi er budd staff ysgolion a disgyblion fel ei gilydd i'r rheini sydd yn parhau mewn anghydfod i ymgysylltu'n adeiladol â'r cynigion hyn a cheisio dod o hyd i ddatrysiad heb weithredu diwydiannol? Diolch.

14:25

Diolch yn fawr. Mae gweithio yn agos gyda'r gweithlu i sicrhau eu bod nhw'n cael eu talu a'u cefnogi yn ddigonol ar gyfer y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud yn flaenoriaeth greiddiol i fi. Rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith mae ASCL wedi ei wneud gyda ni, er enghraifft i symud ymlaen y ddadl ehangach ynglŷn ag ariannu ysgolion. Pan ddes i i fy swydd ym mis Mai, roedd yna drafodaethau manwl yn y cyfnod hwnnw er hwyluso cael yr un math o ddyfarniad o ran codiad cyflog i athrawon yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac roedd hwnna'n ofyn pendant gan yr undebau. 

Rwyf wastad yn agored i siarad gydag unrhyw un ar sut rŷm ni'n symud y ddadl yma ymlaen ynglŷn â chefnogaeth addas i'r gweithlu, ac rwy'n benodol yn frwd iawn i drafod baich gwaith a'r moddion y gallwn eu rhoi yn eu lle er lleihau y faich honno. Dwi'n gweld nad yw arweinydd yr wrthblaid yma heddiw. Dwi wedi cael sgyrsiau gyda hi, a phob athro neu athrawes rwyf wedi cwrdd â nhw ers 20 mlynedd, yn trafod, yn benodol, baich gwaith. Mae angen symud y ddadl honno yn ei blaen, ac rwy'n barod i siarad ag unrhyw un sydd â syniadau grymus er hwyluso'r drafodaeth honno. Mae'r drws bob amser yn agored.  

Addysg Bellach

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth addysg bellach yn Abertawe? OQ64724

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Stephen Senior.

14:35
14:40

Llefarydd Llafur Cymru, Lynne Neagle.

14:45

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn i mi ofyn fy nghwestiynau, hoffwn gofnodi fy niolch i Efa Gruffudd Jones am ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg. Mae hi wedi bod yn eiriolwr cadarn dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

Weinidog, mae adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, 'Cyrraedd pob cymuned, cryfhau'r Gymraeg', yn nodi y dylid ystyried gweithleoedd yn fannau allweddol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg, ac mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sydd â'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y mannau yma. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran gweithredu'r argymhellion hynny, a pha dystiolaeth sydd gyda chi fod mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd yn eu gweithleoedd o ganlyniad i hynny?

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Hoffwn i ategu fy niolch innau hefyd i Gomisiynydd y Gymraeg am ei gwaith hithau.

Mi fyddwn ni, ym mis Rhagfyr, yn cyhoeddi ymgynghoriad ar strategaeth y Gymraeg, Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, a'r cod ar y gallu i siarad Cymraeg. Byddwn i'n gofyn i chi edrych ar y pwynt hwnnw ar yr hyn rŷn ni'n ei gyhoeddi achos byddwn ni'n dangos y taflwybr i sicrhau bod defnydd o'r Gymraeg, mynediad at y Gymraeg, Cymraeg yn ein cadarnleoedd, Cymraeg yn ein hysgolion ni, yn clymu at ei gilydd i un strategaeth gydlynus, yn seiliedig ar y cysyniad bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn ni'n dangos siẁd rydyn ni'n mynd i gyrraedd y nodau priodol o ran y cyfleoedd hyn, gan gynnwys y gweithle. Mi fydd yna fanylder yn dangos y ffordd ymlaen, yn cynnwys, felly, dargedau mwy penodol.

Dwi'n diolch i chi am yr ymateb yna. Dwi'n edrych ymlaen i'r cyhoeddiad hynny ym mis Rhagfyr.

Nawr, daeth y comisiwn i'r casgliad hefyd nad yw'r gyllideb bresennol ar gyfer cryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol yn ddigonol, a thynnodd sylw at yr angen am fwy o gefnogaeth i helpu sefydliadau i ddatblygu gweithleoedd lle siaredir y Gymraeg. Galwodd hefyd am adolygiad o'r modd y gellir defnyddio cyllid cyhoeddus a mecanweithiau cymorth i hyrwyddo nodau 'Cymraeg 2050'. Yn sgil hynny, a allwch chi ddweud wrthym ni ba gyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi defnyddio'r Gymraeg mewn gweithleoedd ledled Cymru, ac a allwch chi ddweud a ydych chi'n credu bod y lefel bresennol o fuddsoddiad yn ddigonol i gyflawni'r newidiadau diwylliannol a sefydliadol y mae'r comisiwn yn eu rhagweld yn ei adroddiad?

Efallai y bydd angen i fi ysgrifennu atoch chi gyda manylder y cwestiwn cyntaf. Ond ar yr hyn a fydd yn ofynnol er mwyn gwireddu'r uchelgais yn y strategaeth y byddwn ni yn ei chyhoeddi—byddwn ni'n cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Rhagfyr, i mewn i'r flwyddyn nesaf—fel rhan o hynny, er mwyn ei chyflawni hi, mi fyddwn ni'n edrych ar yr hyn sydd ei angen o ran adnoddau i'w gwireddu hi. Bydd y ddau beth yn mynd law yn llaw.

Mae cwestiwn 3 [OQ64738] gan Vikki Howells. Yn anffodus, mae'r Aelod wedi'i hoedi ar y ffordd nôl o ddigwyddiad yn Aberfan, felly symudaf ymlaen i gwestiwn 4, Anna Nicholl.

Ysgolion a Gynhelir gan yr Eglwys yng Nghymru

4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol ysgolion a gynhelir gan yr Eglwys yng Nghymru yng Ngheredigion Penfro? OQ64786

Diolch. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch dyfodol ysgolion, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddilyn gweithdrefnau statudol wrth gyflwyno cynigion. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori â chymunedau, darparu digon o wybodaeth i bobl allu dod i farn ddeallus, ymgysylltu â phartneriaid perthnasol, gan gynnwys cyrff crefyddol, a rhoi sylw i ddymuniadau rhieni.

14:50
Ysgolion Gwledig

5. Pa asesiad y mae’r Gweinidog Cabinet wedi’i wneud o’r pwysau ariannol sy’n wynebu ysgolion gwledig yng Ngwynedd Maldwyn? OQ64722

Rydyn ni'n cydnabod y pwysau sylweddol ar draws ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol ni, yn ogystal ag ymrwymiad y gweithlu addysg i barhau i gefnogi dysgwyr. Mae penderfyniadau ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion, gan gynnwys ysgolion gwledig, yn cael eu gwneud gan bob awdurdod lleol wrth bennu eu cyllideb gyffredinol.

Diolch yn fawr. Rydyn ni'n gwybod yn iawn pa mor bwysig yw ysgolion i'n cymunedau gwledig, ac yng nghyd-destun ysgolion llai, er enghraifft, mae yna ofynion manwl iawn ynglŷn ag ymgynghori ynglŷn ag aildrefnu mewn unrhyw fodd. Mi fydd yr Aelod hefyd yn gwybod bod fy nghydweithiwr y Gweinidog dros ddygnwch gwledig yn edrych ar fesurau i feithrin a gwarchod dygnwch cymunedau gwledig, a bod ystyriaethau ynglŷn â chynnal gwasanaethau gyda phoblogaeth mwy gwasgaredig, er enghraifft, yn rhan o'r ystyriaethau hynny. Dwi'n credu mai'r ateb ehangach yw, o edrych ar y gofynion mewn cymunedau gwledig, fod yna gyfrifoldeb yn ehangach ar draws y Llywodraeth ar gyfer sicrhau ein bod ni'n deall yr heriau penodol yn yr ardaloedd hynny ac yn ymateb yn briodol iddyn nhw.

Mae heriau ysgolion gwledig fel y rhai yn fy etholaeth i yn symptom o heriau ehangach ein hardaloedd gwledig, gyda'r boblogaeth yn heneiddio, teuluoedd yn symud i ffwrdd, a gwasanaethau llywodraeth leol yn ddrutach i'w rhedeg ac yn anoddach i'w gweithredu. Er mwyn i ysgolion gwledig ffynnu, mae angen swyddi o ansawdd, cartrefi digonol a thrafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, a dwi'n falch o weld y Llywodraeth yn gweithredu ar y materion hyn. Os bydd cymunedau gwledig yn ffynnu, yna bydd ysgolion gwledig yn ffynnu. Sut, felly, bydd y cynllun Ysgolion Cymunedol a Mwy yn grymuso’n hysgolion gwledig, yn ogystal â grymuso'r cymunedau maen nhw’n perthyn iddynt?

14:55

Diolch yn fawr. Mi fydd yr Aelod efallai'n ymwybodol ein bod ni'n peilota'r cynllun ysgolion hynny ar hyn o bryd i edrych ar ddatblygu ein dealltwriaeth ni o'r heriau sydd yn eu hwynebu nhw, ac yn tynnu, fel roeddwn i'n dweud ynghynt, yr elfennau gwahanol yma o bolisïau at ei gilydd. Mi fydd hi'n ymwybodol hefyd fod trafnidiaeth ysgol yn flaenoriaeth benodol i'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, bod y Gweinidog dygnwch gwledig yn edrych ar y materion yma hefyd, a fy mod i innau hefyd yn edrych yn gyson ar yr heriau demograffig sydd mynd i effeithio ar sut rŷn ni'n darparu gwasanaethau ac addysg mewn cymunedau cefn gwlad, ac yng Nghymru yn ehangach, i ddweud y gwir.

Felly, beth fydden i'n annog yr Aelod i edrych arno fe yw'r gwaith manwl ar draws nifer o feysydd gwahanol rŷn ni'n symud arno fe'n gyflym ac sydd yn bethau sydd yn berthnasol i'r cwestiwn a gododd hi, ond nad sydd o angenrheidrwydd wedi eu hynysu i'r portffolio addysg yn unig, ac rŷn ni wedi mynd ati'n fwriadus i sicrhau nad ydyn ni'n edrych ar y gofynion hyn trwy un lens yn unig.

Dysgwyr sy'n Oedolion

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgwyr sy'n oedolion sy'n ailhyfforddi ar gyfer gyrfaoedd newydd? OQ64766

Diolch am y cwestiwn.

15:00
Athrawon sy'n Gadael y Proffesiwn

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ganfod y rhesymau pam y mae athrawon yn gadael y proffesiwn? OQ64775

Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth, cyfaddefodd cynllun gweithlu Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw ddata ynghylch pam mae athrawon yn gadael. Nododd Estyn yn union yr un broblem 19 mlynedd yn ôl. Mae ffigurau diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg yn dangos bod mwy na 3,000 o athrawon ysgol wedi gadael y gofrestr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, y nifer uchaf mewn pum mlynedd. Ond dydyn ni ddim yn gwybod pam. Does yna ddim system genedlaethol i ofyn i’r athrawon eu hunain pam maen nhw wedi gadael. Mae Lloegr a’r Alban yn gwneud hynny. Pan nad yw Cymru? A wnaiff y Gweinidog ofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg ddechrau gofyn i athrawon sy’n gadael y gofrestr pam yr aethant, er mwyn inni ddeall sut fedrwn ni stopio mwy o athrawon rhag gadael yn y dyfodol?

Diolch. Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n gywir i ddweud nad oes dystiolaeth gyda ni. Mae nifer o adroddiadau wedi ymchwilio i’r broblem benodol hon—un yn gymharol ddiweddar gan Cardiff Met, er enghraifft, y brifysgol yng Nghaerdydd, a gyhoeddwyd yn 2024. Mae’r OECD hefyd wedi edrych ar yr heriau yma yng nghyd-destun y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yng Nghymru. Mae un o bwyllgorau’r Senedd hefyd wedi edrych yn fanwl ar y broblem yma.

Yr un casgliad maen nhw i gyd wedi dod iddo, i bob pwrpas, sef bod y baich gwaith yn ormodol ac yn drwm. Mae teimlad hefyd nad yw cymdeithas yn gwerthfawrogi ymdrechion athrawon fel yr oedd ar un cyfnod. Rwy’n credu bod dyletswydd arnom i gyd i edrych ar siẁd rydyn ni yn siarad am y proffesiwn addysgu; gallwn ni i gyd fod o gymorth yn y cyd-destun hwnnw o leiaf. Mae hefyd cwestiynau ynglŷn â’r llwybr proffesiynol—dyrchafiadau felly, wrth i rywun symud drwy’r system. Wedyn, mae yna feysydd a phynciau penodol lle mae’n arbennig o anodd i recriwtio a chadw athrawon. Mae dibyniaeth hefyd ar athrawon sydd efallai wedi’u cymhwyso i ddysgu un pwnc, ond sydd yn cael eu gofyn yn gynyddol i addysgu un arall.

Mae’r rhain i gyd yn faterion sydd yn dylanwadu ar ein gallu ni i recriwtio a chadw athrawon, ac mae hwn wedi bod, yn amlwg, yn flaenoriaeth i mi dros y cyfnod diwethaf. Dyna pam, er enghraifft, gwnaethom ni roi taliadau ychwanegol yn eu lle i recriwtio i rai pynciau sydd yn arbennig o anodd, ac wedyn yn edrych ar y gofynion ehangach gyda chynrychiolyddion o’r gweithlu eu hunain.

A'r cwestiwn olaf, cwestiwn 8—Llŷr Powell.

Diogelwch Disgyblion

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch disgyblion? OQ64768

15:05

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog a Dirprwy Weinidog.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Awn ymlaen i eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Cwestiwn 1, Carmelo Colasanto.

Cefnogi Busnesau

1. Sut mae caffael y Comisiwn yn cefnogi busnesau yng Nghymru? OQ64772

15:10
Sbectolau Clyfar

2. Pa fesurau diogelu y bydd y Comisiwn yn eu rhoi ar waith o ran defnyddio sbectolau clyfar ar ystad y Senedd? OQ64771

15:15
Polisi Darlledu

3. A yw'r Comisiwn wedi cael cyngor annibynnol ynghylch a yw ei bolisi darlledu yn deg, yn gymesur ac yn cael ei gymhwyso'n gyson? OQ64743

15:20
Hyfforddiant Diogelu

4. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i gyflwyno hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer yr holl Aelodau o'r Senedd a'u staff cymorth? OQ64741

15:25
Gwaith Adnewyddu yn Nhŷ Hywel

5. A wnaiff y Comisiwn nodi costau'r gofod swyddfa dros dro i staff yn ystod y gwaith adnewyddu yn Nhŷ Hywel? OQ64763

15:30
Mannau Manwerthu'r Senedd

6. Beth yw proses y Comisiwn ar gyfer penderfynu pa eitemau sydd ar gael i'w gwerthu i'r cyhoedd ym mannau manwerthu'r Senedd? OQ64769

Dyfodol Tŷ Hywel

7. A wnaiff y Comisiwn gyhoeddi'r arfarniad o gostau oes gyfan ac opsiynau ar gyfer dyfodol Tŷ Hywel cyn llofnodi unrhyw gontractau rhwymol pellach? OQ64760

15:35

Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, Lindsay Whittle. 

Gwaith Allgymorth

8. Sut mae'r Comisiwn yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd yn Blaenau Gwent Caerffili Rhymni i wella gwaith allgymorth a helpu pobl i ddeall beth mae'r Senedd yn ei wneud a sut mae'n effeithio ar eu bywydau? OQ64776

Diolch, Lindsay. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwaith allgymorth cymunedol o ran helpu pobl i ddeall gwaith y Senedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi cyflwyno 29 o sesiynau allgymorth mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid yn yr ardal, gan weithio gyda mwy na 2,000 o bobl ifanc. Mae 11 o sesiynau addysg eraill wedi’u cynnal yma ym Mae Caerdydd, a hynny gyda 337 o bobl ifanc o’r ardal.  

Yn ystod cyfnod yr etholiad, fe wnaethom ni waith allgymorth mewn cymunedau ar draws pob etholaeth, gan ddefnyddio sesiynau sydyn a sgyrsiau mewn lleoliadau cymunedol cyfarwydd i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl leol, ateb eu cwestiynau, a gwella’u dealltwriaeth o rôl y Senedd. Roedd hwn yn cynnwys gweithgarwch ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Diolch am yr ateb, Gomisiynydd, ond rydw i’n gwybod bod teimlad cryf ymysg llawer o bobl yn ein cymunedau ni, o Fryn-mawr a Thredegar, hyd at Gaerffili a Rhymni, a Thorfaen hefyd, bod y Senedd yn teimlo fel rhywbeth sydd 'draw yno yng Nghaerdydd' ac yn bell oddi wrth eu bywydau bob dydd. A fydd y Comisiwn yn ymrwymo i drio cynyddu’r nifer o ymweliadau wyneb yn wyneb—achos mae hynny’n bwysig, dwi’n credu—a phrosiectau allgymorth uniongyrchol yn y meysydd lleol hyn, yn lle dibynnu ar ddeunyddiau digidol yn unig, i sicrhau nad yw pobl leol yn teimlo eu bod wedi eu hanghofio?

4. Cwestiynau Amserol

Symudwn ymlaen i eitem 4, cwestiynau amserol. Nick Carter. 

Yr Afon Taf

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad am y gollyngiad tanwydd eang yn Afon Taf? TQ1507

Member
Llyr Gruffydd 15:39:29
Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability
15:40
15:45
15:50

Ac yn olaf, Weinidog, Leticia Gonzalez.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Roeddwn i'n disgwyl i chi ratlo off y rhif ffôn am yr hotline yna. [Chwerthin.] Diolch yn fawr iawn.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen ar gyfer y datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Peter Fox.

15:55

Diolch. Ac yn olaf, Alun Cox.

16:00
6. Dadl Ddeddfwriaethol Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Bil y GIG yn gyntaf

Eitem 6 ar yr agenda heddiw, dadl ddeddfwriaethol Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), Bil y GIG yn gyntaf. Cyn i mi alw ar Gwyn Williams, mae nifer fawr o siaradwyr yn gobeithio dod i mewn heddiw. Dwi'n mynd i ofyn i chi a ydych chi'n fodlon trio cwtogi er mwyn bod yn deg i'ch cyd-Aelodau er mwyn i mi drio galw cymaint â dwi'n gallu mewn hanner awr. Galwaf ar Gwyn Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9275 Gwyn Williams

Cefnogwyd gan Cristiana Emsley, Gareth Beer, Huw Thomas, Jane Dodds, Janet Finch-Saunders, John Davies, Kiera Marshall, Leticia Gonzalez, Lindsay Whittle, Lis McLean,
Lyn Ackerman, Mike Hedges, Niamh Salkeld, Nick Carter, Paul Rock, Safa Elhassan, Sarah Cooper-Lesadd, Sera Evans, Shav Taj, Zaynub Akbar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil y GIG yn gyntaf.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cynyddu, lle bynnag y bo'n bosibl, ddarpariaeth meddygfeydd a chlinigau menter rhestr aros yn y GIG yn hytrach na thrwy'r sector preifat;

b) ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd geisio a datblygu cynlluniau wedi'u costio ar gyfer gweithgareddau clinigol ychwanegol gan adrannau o fewn eu sefydliadau eu hunain cyn llunio contractau gyda darparwyr preifat;

c) sefydlu rhagdybiaeth o blaid cynlluniau a arweinir gan y GIG dros ddarpariaeth y sector preifat mewn ymdrech i leihau rhestrau aros;

d) rhoi awdurdod i arweinwyr clinigol y GIG wrthod cynigion darparwyr preifat pan gânt eu hystyried yn anniogel yn glinigol neu os oes diffyg trefniadau dilynol priodol; ac

e) cyflwyno dyletswydd ar fyrddau iechyd i gyhoeddi data yn dryloyw ar ddefnyddio darpariaeth y sector preifat.

Cynigiwyd y cynnig.

16:05
16:10
16:15
16:20
16:25

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma ac ymateb i'r cynnig sydd o'n blaenau ni. Dwi hefyd am ddiolch i'r Aelod dan sylw am fod yn eiriolwr diflino dros ein gwasanaeth iechyd, a dwi'n gwybod ei fod yn dod â phrofiad proffesiynol gwerthfawr iawn i'r ddadl hon heddiw.

Mae yna lawer iawn yn y cynnig y gall y rhan fwyaf o Aelodau ar draws y Siambr ei gefnogi, fel rydyn ni wedi ei glywed. Rydyn ni oll eisiau gwasanaeth iechyd gwladol cryfach yng Nghymru, gyda mwy o ofal yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau NHS lle bynnag y bo modd, a chleifion yn cael gofal amserol, diogel ac o safon uchel. Fel Llywodraeth, rydyn ni'n gadarn yn ein cred bod y gwasanaeth iechyd yn perthyn i bobl Cymru, ac er y byddai rhai cymeriadau gwleidyddol a'u noddwyr cyfoethog amheus ac anatebol yn hoffi meddwl fel arall, dyw ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr ni ddim ar werth a fydd o byth ar werth tra byddwn ni wrth y llyw.

Fe wnaethon ni etifeddu ôl-groniad sylweddol o gleifion sydd wedi aros yn rhy hir am driniaeth. Ein blaenoriaeth ni felly yw adeiladu capasiti'r NHS, cynyddu gweithgarwch a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar dimau clinigol i drin mwy o gleifion yn ddiogel o fewn NHS Cymru. Mae'r Llywodraeth yn cytuno â'r egwyddorion canolog y tu ôl i'r cynnig. Mi ddylai capasiti'r NHS gael ei ddatblygu a'i ddefnyddio bryd bynnag y bo modd. Dylai penderfyniadau gael eu harwain gan ystyriaethau clinigol. Mae'n rhaid rhoi diogelwch cleifion yn gyntaf a rhaid i gapasiti ychwanegol bod yn dryloyw efo mesurau llywodraethiant priodol ar waith.

Y cwestiwn yw: beth yw'r ffordd orau o gyflawni'r ymrwymiadau rydyn ni wedi'u gwneud i bobl Cymru, yn enwedig ein hymrwymiad i leihau amseroedd aros a chael gwared ar yr arosiadau hiraf?

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mi rydym ni'n cefnogi egwyddorion y cynnig, sef gwneud y mwyaf o gapasiti'r NHS a chryfhau darpariaeth gynaliadwy oddi mewn iddo lle bynnag mae hynny'n briodol yn glinigol. Mae'r gyfraith bresennol, gan gynnwys Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, eisoes yn cefnogi darparu cydweithredol a chomisiynu hyblyg. Trwy ddisgwyliadau cenedlaethol clir, llywodraethiant cryf a rheoli perfformiad tryloyw, gellir cyflawni'r nodau hyn gan ganiatáu i'r byrddau iechyd sicrhau gofal diogel ac amserol. Felly, does dim rheidrwydd, fel y saif pethau, i gyflwyno Deddf newydd eto.

Mae yna le i edrych ar gryfhau llywodraethiant, ac mi ydyn ni'n gwneud hynny, a sicrhau tryloywder, sydd yn rhywbeth rydym ni hefyd yn ei wneud. Os ydym ni'n gweld nad yw hyn yn cael y canlyniadau rydym ni'n eu dymuno, efallai y gellir dod yn ôl ac edrych eto ar Ddeddf newydd. Ond mae yna bethau y gellir eu gwneud ar hyn o bryd, ac yr ydym ni fel Llywodraeth newydd yn eu gwneud, sydd ddim yn golygu bod angen deddfu—ac wrth gwrs, does dim angen deddfu yn ddiangen chwaith.

Mae Cymru hefyd wedi dilyn dull gwahanol o fuddsoddi mewn seilwaith, gan wneud llai o ddefnydd o PFI na Lloegr yn y gorffennol. Mae Cymru hefyd wedi datblygu modelau eraill i gryfhau rôl y sector cyhoeddus, gwella tryloywder a sicrhau mwy o fudd i gymunedau. All cleifion ddim aros os oes camau gweithredu y gellir eu cymryd rŵan. Maen nhw'n dyheu am weld newid positif rŵan, ac mae eu galwadau nhw'n gwbl gyfiawn. Y prawf yw a yw'r gofal yn ddiogel, yn amserol, yn rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnyddio, ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau lle bynnag mae'n cael ei gomisiynu. Mi fyddwn ni bob amser yn ceisio cryfhau darpariaeth yr NHS, gan gydnabod hefyd bod rhaid i fyrddau iechyd allu gweithredu'n gyfrifol pan fydd angen capasiti ychwanegol i atal niwed y gellir ei osgoi.

Am y rhesymau hynny, rydym ni'n cefnogi'r cynnig. Rydym ni'n gwneud hynny ar y sail bod modd cyflawni ei egwyddorion o gryfhau capasiti'r NHS, gwarchod diogelwch cleifion, sicrhau arweinyddiaeth glinigol a gwella tryloywder, a hynny heb ddefnyddio deddfwriaeth o reidrwydd eto. Mi fyddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, sef cynyddu capasiti'r NHS, lleihau'r ôl-groniad yr ydym ni wedi'i etifeddu, a galluogi penderfyniadau diogel sy'n cael eu llywio gan farn glinigol ac sydd er budd gorau cleifion. Diolch.

Diolch, Weinidog Cabinet. Galwaf ar Gwyn Williams i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Lywydd. Diolch, Weinidog Cabinet. Faint o amser sydd gen i ar ôl? Munud a hanner. Ocê. 

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Reform UK: Strategaeth canser y prostad

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen nawr at yr eitem nesaf, dadl Reform UK, strategaeth canser y prostad. Galwaf ar Benjamin Hodge Mckenna i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9334 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Art Wright, Cristiana Emsley, Gareth Beer

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys canser y prostad yn y strategaeth ganser genedlaethol ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

16:40

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun. 

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.

Cynigiwyd gwelliant 1.

16:45
16:50
16:55
17:00
17:05
17:10

Diolch am ddod â'r ddadl yma ymlaen heddiw. Fel rydym eisoes wedi'i glywed, mae'r ystadegau ynghylch nifer y dynion sy'n cael eu heffeithio gan y clefyd creulon hwn bob blwyddyn yn peri cryn bryder. Mae'n bwysig cydnabod nad yw ein cymunedau gwledig yn imiwn i'r her hon. Yn wir, fel nodai sawl astudiaeth, gall y baich fod yn arbennig o drwm ar ddynion mewn ardaloedd gwledig, lle gall mynediad at wasanaethau iechyd fod yn fwy heriol. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at hyn: y pellter y mae'n rhaid i rai dynion ei deithio i gyrraedd meddygfa; y pryderon ynghylch y gostyngiad mewn gwasanaethau meddygon teulu, fel y gwelwn ym Mhowys ar hyn o bryd; a'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Gall y rhwystrau hyn ei gwneud yn anoddach i ddynion gael cyngor meddygol a'r diagnosis cynnar hollbwysig.

Nid heriau ymarferol yn unig sydd angen inni fynd i'r afael â nhw, ychwaith. Yn aml, gall stigma ac amharodrwydd i drafod materion iechyd personol hefyd arwain at oedi. Gwyddom fod rhai dynion mewn cymunedau amaethyddol yn fwy parod i boeni am iechyd a lles eu hanifeiliaid nag am eu hiechyd eu hunain. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei newid. Rhaid meithrin diwylliant lle gall dynion deimlo'n gyfforddus i siarad am eu hiechyd a bod yn barod i ofyn am gyngor pan fydd rhywbeth yn peri pryder iddynt.

Mae nifer o fudiadau eisoes yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn i fynd i'r afael â'r stigma hwn. Mae gwaith diweddar elusen FCN, ar y cyd â Macmillan, i dynnu sylw at yr heriau o ran mynediad at wasanaethau canser mewn ardaloedd gwledig yn enghraifft bwysig o hynny. Yn yr un modd, roeddwn yn falch iawn o weld Undeb Amaethwyr Cymru yn mabwysiadu Prostate Cymru fel elusen llywydd yr undeb eleni. Gobeithiaf yn fawr bydd y bartneriaeth hon yn helpu i gyrraedd mwy o ddynion yn ein cymunedau ffermio a phwysleisio pwysigrwydd adnabod symptomau posibl a chanfod cyngor meddygol yn brydlon.

Er mwyn sicrhau newid gwirioneddol, mae'n hanfodol bod unrhyw strategaeth i wella ymwybyddiaeth a mynediad at ddiagnosis a thriniaeth yn cyd-fynd â chynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd gwledig. I'r perwyl hwn, rwy'n mawr obeithio y bydd strategaeth o'r fath yn gweithio law yn llaw â dyhead blaengar Llywodraeth Cymru i sefydlu canolfan diagnosis cyflym newydd ym Mhowys.

Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i'r rhanbarth. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i rai cleifion deithio y tu allan i Bowys i gael asesiadau arbenigol, gan nad oes gwasanaethau diagnostig priodol ar gael yn lleol. Gall hyn olygu teithiau hir, costau ychwanegol a straen pellach i gleifion a'u teuluoedd ar adeg sydd eisoes yn llawn pryder. Byddai canolfan newydd yn gyfle i wella mynediad at asesiadau amserol, lleihau rhwystrau daearyddol, a helpu i sicrhau bod cleifion yn cael yr ymchwiliadau sydd eu hangen arnynt cyn gynted â phosibl.

Gwyddom fod ymwybyddiaeth a diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn gwella canlyniadau triniaeth ar gyfer canser y prostad. Drwy sicrhau bod anghenion cymunedau gwledig wrth galon unrhyw strategaeth, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dynion ledled Cymru. Diolch yn fawr.

17:15
17:20

Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl yma ac i gydnabod pwysigrwydd canser y prostad i'r nifer fawr o ddynion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru y mae e'n effeithio arnyn nhw. Canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru, ac mae canser y prostad bellach yn un o'r canserau mwyaf cyffredin y mae dynion yn cael diagnosis ohonyn nhw. Mae gormod o ddynion yn dal i wynebu oedi cyn cael diagnosis, triniaeth a gofal, ac mae gormod o deuluoedd yn dal i brofi ansicrwydd a phryder wrth aros am atebion. Mae'n rhaid i ni wneud yn well.

Gaf i fod yn glir? Dwi'n deall y pryderon sydd wedi ysgogi'r ddadl hon. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gwasanaethau canser yng Nghymru yn flaenoriaeth fawr i mi. Ym maes canser, mae'r perfformiad o ran amseroedd aros yn parhau i fod yn is na'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl, ac mae hynny'n cynnwys rhannau o'r llwybr wroleg. Er bod staff yr NHS yn parhau i weithio'n ddiflino o dan bwysau sylweddol, dwi ddim yn fodlon efo ble rydyn ni heddiw a dylai neb arall yn y Siambr yma fod yn fodlon chwaith. Mae gwellau canlyniadau a phrofiadau i bawb sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth yma.

Dyna'n union pam rydyn ni'n datblygu strategaeth ganser genedlaethol 10 mlynedd newydd, y cyntaf o'i bath ers 2006. Bydd y gwaith hwn yn gosod gweledigaeth strategol, hirdymor a blaenoriaethau cenedlaethol i lywio gwaith cynllunio'r NHS a thrawsnewid gofal canser dros y ddegawd nesaf. Mae'r nod yn syml ond yn arwyddocaol: bod mwy o bobl yn goroesi canser, bod mwy o ganserau yn cael diagnosis yn gynharach, nad yw mynediad at ofal yn dibynnu ar ble mae rhywun yn byw, a bod pobl yn cael cymorth amserol wedi'i bersonoli drwy gydol eu taith canser. Rhaid i'r un nod gael ei wireddu ar gyfer dynion sy'n cael diagnosis o ganser y prostad ag i bawb sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru.

Dwi'n cydnabod y pryder y mae canser y prostad yn achosi i ddynion a'u teuluoedd a pham y byddai llawer yn croesawu sgrinio. Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol ac, ar hyn o bryd, dyw'r pwyllgor ddim yn argymell sgrinio poblogaeth ar gyfer canser y prostad. Er hynny, mae wedi argymell sgrinio wedi ei dargedu ar gyfer dynion rhwng 45 a 61 oed gyda'r gennyn BRCA2 a hanes teuluol gradd gyntaf o ganser y fron, yr ofari, y pancreas neu'r prostad. Rydyn ni wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried sut y gallai hyn gael ei gyflawni yng Nghymru.

Mae'n arfer clinigol sefydledig eisoes i gleifion â chanser prostad lleol risg isel gael cynnig gwyliadwriaeth weithredol, ac rydyn ni'n monitro cyfraddau triniaeth radical drwy archwiliad cenedlaethol canser y prostad, i gefnogi gwelliannau mewn gofal. Mae meddygon teulu yn cefnogi gwneud penderfyniadau a rennir gydag unrhyw ddyn sy'n pryderu am ei risg o ddatblygu canser y prostad. Mi fyddwn ni'n gweithio gyda'r NHS i ystyried a oes angen canllawiau ychwanegol i gefnogi meddygon teulu i gynnal y trafodaethau hyn.

Dwi am roi sicrwydd i'r Aelodau nad ydyn ni'n aros i'r strategaeth i wella'r data canser. Gan weithio gyda sefydliadau'r NHS, rydyn ni eisoes yn cryfhau argaeledd, ansawdd a defnydd o'r data i osod amodau llwyddiant ar gyfer pan fydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu a bydd yn parhau i weithredu ar ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru, gyda cham nesaf y gwaith hwn yn cael ei yrru gan y strategaeth.

Lywydd, mae pawb yn y Siambr yn rhannu'r un amcan eang: canlyniadau gwell, profiadau gwell a gwasanaethau gwell i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru. Mae'r strategaeth ganser genedlaethol yn darparu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau'r gwelliant hwnnw, nid yn unig i ddynion sydd wedi cael diagnosis o ganser y prostad, ond i bawb y mae canser yn effeithio arnyn nhw yng Nghymru. Dyna'r ymrwymiad sy'n gyrru'r gwaith yma, a dwi'n edrych ymlaen at barhau â'r daith honno gyda chleifion, clinigwyr, elusennau ac Aelodau ar draws y Siambr hon. Diolch.

17:25
17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Llafur Cymru: Yr M4 o amgylch Casnewydd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Yr eitem nesaf yw dadl Llafur Cymru, yr M4 o amgylch Casnewydd. Galwaf ar Jayne Bryant i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9335 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn annigonol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddiystyru cau cyffyrdd; a

b) dechrau ar y gwaith o adeiladu ffordd liniaru briodol ar gyfer yr M4.

Cynigiwyd y cynnig.

17:45

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth flaenorol Cymru i fynd i’r afael â phroblem hirdymor tagfeydd a gwydnwch gwael ar yr M4 o amgylch Casnewydd, sy’n parhau i effeithio ar gymunedau, busnesau a gweithgarwch economaidd ar draws de-ddwyrain Cymru.

2. Yn nodi mai penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru oedd gwaredu cynllun ffordd liniaru’r M4, ac felly nid yw’r llwybr arfaethedig bellach yn hyfyw.

3. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i welliannau i ffyrdd a pheirianneg fod yn rhan o’r ymateb hirdymor i dagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd a’i hymrwymiad i bennu datrysiad ymarferol a ffefrir.

4. Yn nodi’r rhaglen o fesurau i’w cyflwyno ar unwaith ac yn y tymor canolig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys buddsoddi yn y draffordd bresennol, gwelliannau i wydnwch y rhwydwaith, cymorth ar gyfer cysylltedd trenau a bysiau a mesurau i hwyluso cludo nwyddau.

5. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn awr i wella dibynadwyedd a chysylltedd tra bo datrysiad hirdymor yn cael ei ddatblygu.

6. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau yng Nghasnewydd a’r cyffiniau wrth i ddatrysiadau gael eu datblygu a’u gweithredu.

Cynigiwyd gwelliant 1.

17:50
17:55
18:00
18:05
18:10
18:15