Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/10/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb.

Rydyn ni'n dechrau nawr gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Lyn Ackerman.

Oedolion ag Anableddau Dysgu

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r niferoedd sy'n manteisio ar wiriadau iechyd blynyddol ymhlith oedolion ag anableddau dysgu? OQ64798

13:35
Cydweithrediad â Gweriniaeth Iwerddon

2. Sut mae'r Prif Weinidog yn cryfhau cydweithrediad â Gweriniaeth Iwerddon? OQ64788

Wel, i Ddulyn yr es i ar fy ymweliad cyntaf 'dros y môr', fel petai, fel Prif Weinidog, yn ôl ym mis Mehefin. Mi oeddwn i’n falch iawn o allu, ar yr ymweliad hwnnw, cadarnhau ymrwymiad fy Llywodraeth i i ddatganiad ar y cyd Iwerddon a Chymru ar gyfer 2030. Fframwaith partneriaeth ydy hwn, sy’n cynnwys chwech o feysydd blaenoriaeth, yn cynnwys hinsawdd ac ynni, economi a masnach, iaith a diwylliant. Ac Iwerddon, yn syml iawn, ydy un o’n cysylltiadau rhyngwladol mwyaf gwerthfawr ni yng Nghymru. Mae e’n gysylltiad sydd wedi’i wreiddio yn yr hanes, y ddaearyddiaeth, wrth gwrs, a’r gwerthoedd dwi'n credu rydyn ni’n eu rhannu, a dwi’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith o gyflawni nodau'r datganiad hwnnw rhwng ein dwy wlad.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner.

13:45
13:50
13:55
Plant a Phobl Ifanc Mabwysiedig a'r Rhai sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc mabwysiedig a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal? OQ64755

14:00
Lefelau Staffio yn GIG Cymru

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd lefelau staffio yn GIG Cymru? OQ64794

14:05
14:10
Clefyd Niwronau Motor

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd niwronau motor ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni? OQ64781

Gwasanaethau Trafnidiaeth Cyhoeddus

6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn Fflint Wrecsam? OQ64787

14:15
Busnesau'r Stryd Fawr

7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Ngŵyr Abertawe? OQ64730

Effeithlonrwydd a Gostyngiad mewn Gwastraff

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau effeithlonrwydd a gostyngiad mewn gwastraff wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian i drethdalwyr? OQ64796

14:20
Strwythur Byrddau Iechyd

9. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddiwygio strwythur byrddau iechyd? OQ64795

14:25
Cartrefi Cymdeithasol

10. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun y Llywodraeth i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030? OQ64783

Yn olaf, Brif Weinidog, cwestiwn 11, Gareth Thomas.

Cyn-filwyr

11. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru sy'n wynebu ymchwiliad neu erlyniad mewn perthynas â'u gwasanaeth yng Ngogledd Iwerddon? OQ64774

14:30
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Cwestiynau nawr i'r Cwnsler Cyffredinol. Cwestiwn 1, Catherine Cullen.

Plant Mabwysiedig

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau cyfreithiol plant mabwysiedig i geisio cymorth arbenigol os bydd eu hanghenion yn parhau i oedolaeth? OQ64742

14:35

Tynnwyd cwestiwn 2 [OQ64747] yn ôl. Cwestiwn 3, Jane Dodds. 

Gwasanaethau Cyhoeddus Datganoledig

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o ddigonolrwydd pwerau cyfreithiol Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig? OQ64735

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Llefarydd Reform UK, Adrian Mason.

14:45
14:50

Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.

Gangiau Grŵmio

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â’r ymchwiliad annibynnol i gangiau grŵmio? OQ64725

14:55
Datganoli Darlledu

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli darlledu i Gymru? OQ64746

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio tuag at ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, i oruchwylio ac i sicrhau bod atebolrwydd dros ddarlledu a hefyd dros gyfathrebu yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb. Mi fuaswn i'n hoffi meddwl y gallem ni i gyd gytuno ei bod hi'n bwysig i gael sector darlledu cryf sy'n adlewyrchu ein gwlad a'n systemau ni. Mae'n hysbys i ni fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael eu newyddion o du allan i Gymru, ac mae'n bwysig i ddemocratiaeth yma yng Nghymru fod pobl yn ymwybodol o beth sy'n digwydd yma. Ond mae hefyd yn bwysig i gael llais a safbwynt Cymreig ar faterion allanol. A ydych chi'n cytuno efo fi am yr angen i ddatganoli darlledu a'i fod yn gam pwysig wrth gryfhau bywyd sifig yng Nghymru?   

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi gwneud datganiadau i'r Senedd hon am ei gwaith yn y maes yn casglu gwybodaeth a cheisio argymhellion ar y ffordd ymlaen. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn datgan yn glir ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd ar drywydd datganoli pwerau darlledu, ac yn gofyn am ddeialog bellach ar y pwnc. 

Ac mi fuaswn i'n ychwanegu drwy ddweud ei bod hi'n glir bod cenedl wybodus yn angenrheidiol i ddemocratiaeth a hefyd i drafodaeth gyhoeddus ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn deall yr hyn sydd o gwmpas a'n rhan ni ynddo. Mae'r panel arbenigol ar ddarlledu, y Sefydliad Materion Cymreig a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i gyd wedi cydnabod yr angen am lais cryfach i Gymru ar faterion darlledu. I Llywodraeth Cymru, mae datganoli darlledu yn rhan hollbwysig o'r siwrnai honno. 

15:00
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw dileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol? OQ64740

Polisïau Llywodraeth Cymru

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cydnawsedd llunio polisïau Llywodraeth Cymru â Deddf Cydraddoldeb 2010? OQ64736

15:05
Canolfannau Data ar Raddfa Fawr

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru i alw ceisiadau cynllunio i mewn ar gyfer datblygiadau canolfannau data ar raddfa fawr, gan gynnwys y meini prawf statudol o dan y ddeddfwriaeth gynllunio berthnasol a'r dyletswyddau cyfreithiol sy'n gymwys pan geir cais o'r fath? OQ64745

Sbectolau Clyfar

9. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch defnyddio sbectolau clyfar a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial mewn adeiladau cyhoeddus megis llyfrgelloedd a phyllau nofio, yn sgil y gwaharddiadau sydd mewn grym mewn llysoedd a thribiwnlysoedd? OQ64749

15:10
Gangiau Grŵmio

10. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei rôl yn yr ymchwiliad cenedlaethol i gangiau grŵmio? OQ64737

Sefydlu Awdurdodaeth Gyfreithiol Benodol neu ar Wahân

11. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau cyfreithiol sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân i Gymru? OQ64744

15:15
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn yn nawr at y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Member
Heledd Fychan 15:17:25
Trefnydd, Chief Whip and Cabinet Minister for Culture and Sport

Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael fel arfer i'r Aelodau yn electronig.

Diolch am godi mater fydd o bwys i nifer fawr ohonom ni, os nad pob Aelod yma. Mi fyddaf i'n sicr o wneud y Gweinidog Cabinet yn ymwneud eich bod chi wedi codi hyn, sef Siân Gwenllian, a gweld pa ddiweddariadau sydd ar gael i'r holl Aelodau.

Diolch. Dwi'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yna waith wedi'i wneud rhwng eich plaid chi a'm plaid i drwy'r cytundeb cydweithio ar y mater hwn, a nifer o fesurau wedi'u rhoi mewn lle sydd o fewn gallu awdurdodau lleol i fod yn medru eu gweithredu. Yn sicr, mae hwn yn fater byw iawn; mae o'n berthnasol hefyd wrth gwrs i'r adroddiad sydd wedi'i gyflwyno i'r Llywodraeth flaenorol, ond rydym ni'n mynd i fod yn gweithredu'r argymhellion hynny, o ran cymunedau Cymraeg yn benodol, ond dwi'n cydnabod mae hi yn broblem, a dyna pam mae yna gydweithio wedi bod i edrych am ddatrysiadau yn y maes hwn, a byddwn ni'n parhau i edrych ar hynny.

15:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a'r ceisiadau hynny. Mi fyddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn flaenorol, ond hefyd mi fyddwch chi yn ymwybodol o ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb o ran y meysydd hyn. Mi oedd hi, yn y Senedd ddiwethaf, yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol oedd yn edrych ar nifer o'r pethau rydych chi wedi'u codi. Mi wnaf i sicrhau ei bod hi yn ymwybodol eich bod chi wedi codi'r materion pellach hyn heddiw a sicrhau bod yna ddiweddariad i chi o ran y gwaith sy'n mynd rhagddo.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi fyddwn i'n gofyn i chi, gan fod yna nifer o gwestiynau i'r Gweinidog yn yr hyn wnaethoch chi'n ei godi efo fi, ysgrifennu at y Gweinidog fel eich bod chi'n gallu cael ymateb llawn ar y pwyntiau penodol hynny. Ond yr hyn fedraf i ddweud ydy bod lles anifeiliaid yn rhywbeth sydd o bwys mawr i'r Llywodraeth hon, a byddwn ni yn gweithredu yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi'r ddau fater yna. O ran y cwrwgl, yn sicr, mae hwnna yn rhywbeth sy'n rhan o'n traddodiad ni fel cenedl, onid ydy? Rhywbeth unigryw yw, ac, yn sicr, byddwn i yn awgrymu eich bod chi yn ysgrifennu yn benodol at y Gweinidog, ond, o ran yr ochr treftadaeth dwi'n gyfrifol amdano fo hefyd, mi wnaf i weld beth ydy'r hyn sydd yn berthnasol o ran fy mhortffolio i.

O ran yr ail beth hefyd, efo ffisiotherapi, yn amlwg rydym ni yn cydnabod pa mor bryderus ydy'r sefyllfa hon. Byddwch chi yn gweld bod yna gyhoeddiad ddoe o ran rhai o'r swyddi o ran nyrsys yn benodol. Ond rydym ni yn cydnabod bod yna rai eraill lle mae'r sefyllfa wedi bod yn ofnadwy o bryderus iddyn nhw, a'r diffyg cynllunio hwnnw yn dod drosodd yn gryf. Mi ydym ni'n ymrwymo i helpu graddedigion i gael cyflogaeth a chadw eu sgiliau o fewn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Maen nhw'n sgiliau sydd dirfawr eu hangen. Felly, dwi'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei godi ac mi fyddaf yn sicr yn gwneud y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn ymwybodol eich bod chi wedi codi'r pwyntiau hyn y prynhawn yma.

15:25

Wel, yr hyn oedd yr Aelod yn ei godi oedd am ddatganiad; fel y Gweinidog efo'r cyfrifoldeb am hynny, dwi eisoes wedi gwneud datganiadau sydd yn sôn am y gwaith dwi wedi'i gomisiynu ynghylch edrych ar yr holl strwythurau o ran chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio, i ddeall beth ydy'r sefyllfa ledled Cymru, beth ydy maint y buddsoddiad sydd ei angen a lle mae'r bylchau yn bodoli, gan gynnwys, wrth gwrs, ar gyfer pyllau nofio o faint y byddai'n gallu cynnal cystadlaethau, neu ar gyfer y rhai sydd yn mynd ati'n broffesiynol. Mi welsom ni nifer fawr o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nglasgow, er enghraifft, ac ennill nifer o fedalau.

Dwi'n deall ac yn cydnabod y materion y mae'r Aelod wedi eu codi, ond mae'n rhaid i fi gael gwneud y gwaith trylwyr hwnnw ar y funud o wneud y gwerthuso hwnnw i ddeall beth ydy'r angen ledled Cymru—ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd—i sicrhau bod gennym ni gynllun cyfalaf hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn cyfleusterau o'r fath.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r ddau fater yna. O ran yr uwchgynhadledd tanau gwyllt, mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r agenda, papurau a chofnodion yr uwchgynhadledd unwaith y bydd hi wedi digwydd—ac, wrth gwrs, bydd Gweinidogion yn hysbysu'r Senedd yn llawn am gynnydd. Mi fydd hwn yn waith trawsbleidiol, efo nifer o bartneriaid, felly, yn sicr, mi fydd yna ddiweddariadau.

15:30

Diolch. Dwi'n gobeithio bod pob Aelod yn y Senedd hon yn ymrwymo i ddileu tlodi ac eisiau gweld yr hyn y mae Trussell ei hun yn ymgyrchu arno fo, sef cael gwared ar fanciau bwyd. Rydyn ni wedi bod yn glir iawn fel Llywodraeth, a dwi'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog yn glir iawn, am ddileu tlodi a sicrhau bod gan bawb fynediad at yr anghenion hanfodol hynny. Ond, yn y cyfamser, mi fydd gennym ni strategaeth fwyd. Rydyn ni'n cydweithio gyda Trussell a banciau bwyd eraill i sicrhau bod y buddsoddiad sydd eisoes wedi'i gyhoeddi yn cael ei dargedu. Ond, yn sicr, mae yna ymrwymiad i gydweithio, a dwi'n gobeithio gweld pob Aelod yn ein cefnogi ni yn ein gwaith. Mae yna amryw o rymoedd y byddem ni'n hoffi eu cael o fewn grym y Llywodraeth hon. Rydyn ni'n ddibynnol, er enghraifft, ar y system lles yn San Steffan, system sydd ddim yn gweithio i bobl yma yng Nghymru. Felly, byddwn i yn gobeithio gweld cefnogaeth i'r hyn rydyn ni'n galw amdano fo gan y rheini sydd hefyd eisiau dileu tlodi a dileu'r angen am fanciau bwyd yn ein cymunedau ni.

15:35

Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiynau hynny. Dwi’n meddwl, oherwydd bod gennych chi amryw o gwestiynau, byddwn i yn eich annog chi i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Ac yn sicr, os bydd angen diweddariad i’r Senedd oll, mi fyddaf i yn trafod hynny efo fo. Mae’n beth prin fod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ddim yma; mae o fel arfer mewn ar gyfer y sesiynau hyn. Ond byddwn i yn gofyn i chi amlinellu’r cwestiynau hynny iddo fo mewn llythyr hefyd.

O ran y cais cyntaf, mae yna gwestiynau i’r Gweinidog ar 4 Tachwedd. Mae yna nifer o ddatganiadau wedi bod gan y Gweinidog hefyd, ond byddwn i yn eich annog chi i fod yn rhoi y cwestiynau hynny gerbron y Gweinidog ar 4 Tachwedd. Felly, mi fydd yna gyfle ar lawr y Senedd i chi fod yn holi’n uniongyrchol.

O ran yr ail ddatganiad rydych chi wedi’i godi, mi fyddwch chi’n ymwybodol ein bod ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i fod yn gweithredu yn unol â’r gyfraith ac yn disgwyl i bob un o’r cyrff cyhoeddus i fod yn gweithredu yn unol â’r gyfraith.

Diolch. Dwi’n gwerthfawrogi bod yna gais ar ddiwedd hynny am ryw fath o ddatganiad, ond nid dyna’r math o wybodaeth a fyddai mewn datganiad. Os oes gennych chi bryderon o’r fath, yn amlwg mae yna opsiynau i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ar 11 Tachwedd. Mi fedrwch chi hefyd ysgrifennu ato fo. Ond byddwn i'n awgrymu hefyd fod nifer o’r materion a godoch chi yn rhai perthnasol i’r bwrdd iechyd, ac mai cwestiynau i’r bwrdd iechyd ydynt. Dwi’n credu bod craffu ar weithredoedd y bwrdd iechyd yn gyfrifoldeb i bob un ohonom ni, ond mae’n bwysig bod yn glir o ran lle mae’r cyfrifoldeb yn bodoli—beth sydd yn gyfrifoldeb i’r Gweinidog iechyd, a beth rydyn ni’n ei ddisgwyl i fyrddau iechyd fod yn gyfrifol amdano.  

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan

Symudwn nawr at yr eitem nesaf, datganiad gan y Prif Weinidog: nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth. 

Cenedl yn un, nid yn unig yn ein galar, ond yn yr addewid rydyn ni wedi ei wneud efo'n gilydd i gofio bob amser. Rydyn ni'n cofio'r effaith a gafodd y drychineb ar gymuned Aberfan a'r hyn a ddaeth wedyn. Mae'r effaith honno'n dal i gael ei theimlo hyd heddiw. Ond rhaid inni beidio fyth ag anghofio'r annhegwch a brofodd y gymuned honno chwaith. Cyn y drychineb, mi wnaeth esgeulustod y Bwrdd Glo Cenedlaethol adael i domenni gwastraff gronni uwchben cartrefi ac ysgolion—nid un domen, ond nifer ohonyn nhw. Ac wedyn, ar ôl y drychineb, mi gafodd arian a oedd i fod i gefnogi'r gymuned ei gymryd o'r gronfa. Mi oedd hynny'n gwbl warthus ac mi fu'n rhaid aros llawer yn rhy hir cyn i hynny gael ei gydnabod.

Yn gynharach y mis yma, mi ges i gyfle i fynd i Aberfan. Braint oedd clywed rhai o'r bobl a wnaeth oroesi'r drychineb yn rhannu eu hatgofion a chlywed hefyd gan y bobl sy'n dal i fyw efo effaith yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Ar ran y Senedd gyfan, hoffwn ddiolch i'r ymddiriedolwyr, Gwragedd Aberfan, a'r holl grwpiau sy'n gwneud cymaint i gadw'r cof yn fyw ac i ofalu am feddau y rhai a fu farw, ac i gefnogi'r gymuned wrth iddi fyw efo canlyniadau'r drychineb. Ac mae'n rhaid i ninnau, efo nhw, ddal ati i adrodd hanes Aberfan i genedlaethau newydd.

Mae arddangosfa deimladwy Amgueddfa Cymru, sy'n nodi 60 mlynedd ers y diwrnod hwnnw, yn dangos yn glir iawn gymaint o effaith a gafodd trychineb Aberfan yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'n amhosib peidio â chael eich cyffwrdd wrth weld y cloc a gafodd ei achub o'r rwbel wedi stopio ychydig cyn 09:15, y llythyrau a gafodd eu hanfon i'r ysgol gan blant yn Santa Rosa, Califfornia, a oedd tua'r un oed â'r rhai a gollodd ei bywydau. Hyd yn oed 60 mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw'n ein hatgoffa ni o'r effaith a gafodd Aberfan ar bobl ledled y byd.

Bore yfory, am 09:15, mi fydd pobl mewn sefydliadau ledled Cymru yn nodi munud o dawelwch. Mi fydd yn gyfle i gofio, i fyfyrio ac i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau. Mi fydd y Dirprwy Brif Weinidog a minnau yn Aberfan hefyd, ynghyd â llawer iawn o bobl eraill, gan gynnwys y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru, i dalu ein teyrnged. Mi fydd yn achlysur arbennig o deimladwy i'r Dirprwy Brif Weinidog. Mi roedd ei diweddar fodryb, Bopa Hettie, Hettie Williams, yn athrawes 23 oed ym Mhantglas y diwrnod hwnnw. Mi wnaeth hi arwain y plant ifanc yn ei dosbarth i fan diogel, ac yna mi fuodd hi'n cefnogi'r plant a'r gymuned gyfan yn dilyn y drychineb.

Ond wrth inni gofio, mae'n rhaid inni edrych tua'r dyfodol hefyd.

15:45

Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad i nodi'r achlysur difrifol hwn. Chwe deg mlynedd yn ôl, ar 21 Hydref, aeth staff a disgyblion Pantglas i'r ysgol am y diwrnod olaf cyn hanner tymor. Yn drasig, i gynifer ohonyn nhw, hwnnw fyddai diwrnod olaf eu bywydau. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan yn un o'r trychinebau mwyaf dinistriol yn hanes Cymru ac yn un o'r trychinebau tywyllaf yn ein hanes glofaol. Collodd 144 o bobl eu bywydau yn Aberfan, gan gynnwys 116 o blant a phum athro. Gadawyd rhieni a theuluoedd i fyw gyda'r galar annirnadwy am weddill eu bywydau. Ac eto, roedd modd osgoi'r drychineb hon. Roedd D.C.W. Jones, peiriannydd o Ferthyr, wedi rhybuddio am y peryglon am fwy na thair blynedd. Ond methodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn drychinebus â sicrhau bod safonau diogelwch priodol yn cael eu dilyn. Fe wnaeth erchyllter Aberfan ddinistrio nid yn unig y pentref, ond effeithiodd ar gymunedau ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac, yn wir, ledled y byd.

Cynhyrchodd Cymru beth o’r glo gorau yn y byd. Am genedlaethau, bu glowyr Cymru yn cynnal ein cymunedau, ein diwydiannau a’n heconomi. Roedden nhw’n cynrychioli’r gorau o’r hyn y gallem ni heddiw ei alw’n 'alarm clock Britain'—pobl oedd yn codi, yn mynd i’r gwaith, ac yn gwneud gwaith anodd a pheryglus iawn er mwyn cynnal eu teuluoedd a’u gwlad. Ond wrth i ni ddathlu eu cyfraniad, rhaid inni byth anghofio’r pris ofnadwy a dalwyd ar adegau. Rhaid inni ddysgu o’r trychinebau hynny. Rhaid inni gofio’r cymunedau a ddioddefodd. Ac, yn anad dim, rhaid inni byth anghofio’r rhai a aeth i’r gwaith neu a aeth i’r ysgol ac na ddaeth adref byth eto. Diolch yn fawr.

15:50
15:55
16:00

Diolch, Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i arweinyddion a llefaryddion y pleidiau am eu sylwadau nhw, am eu teyrngedau nhw ac am eu cwestiynau nhw.

Ond mae'r deyrnged a'i thôn hi yn bwysig iawn gennym ni yma, onid ydy, fel Senedd heddiw, ac mae'r pwynt wedi'i wneud gan sawl un: mi oedd modd osgoi hyn. Rhywbeth wedi'i greu gan ddyn oedd hyn, ac mi oedd y camgymeriadau yn yr ymateb a'r anghyfiawnderau yn yr ymateb yn anghyfiawnderau wedi'u creu gan ddyn. Dyma'r trychineb yr ydyn ni yn ei gofio a'r anghyfiawnder dŷn ni i gyd yma yn mynnu sicrhau na chaiff ddigwydd eto. Ond, do, mi wnaeth y gymuned ac unigolion ddangos dewrder rhyfeddol. Mae rhes o enwau wedi'u crybwyll yma heddiw. Pleser mawr oedd siarad efo Gareth a'i ferch, Emma, yma yr wythnos diwethaf, â'i gof o am Stephen yn ei dynnu fo i ddagrau 60 mlynedd yn ddiweddarach. Dŷn ni'n cofio bopa Hettie a Nansi a Len.

16:05
16:10

Diolch i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Ac yn wir, mae'r gair yna, 'undod', unwaith eto, onid ydy, yn adlewyrchu'r negeseuon dŷn ni wedi eu clywed yma yn Senedd Cymru heddiw ac yn y dyddiau yn arwain at yfory. Efo'n gilydd fel cenedl mae wynebu'r her wrth symud ymlaen, o sicrhau ein bod ni'n dal i gofio, ond, ie, i fynd i'r afael â'r bygythiad sydd yn bodoli o hyd o'n treftadaeth ddiwydiannol ni.

Dŷn ni'n gwybod beth ydy'r gwaith sydd angen ei wneud. Mae'r gwaith mae'r Llywodraeth yn ymwneud â fo yn waith ymarferol, pwysig o adnabod y tomenni hynny sydd yn achosi mwyaf o fygythiad. Mae hynny wedi ei wneud. Gwneud yn siŵr bod y gwaith archwilio yn digwydd; gwneud yn siŵr bod yr arian yn dod, yn rhannol o goffrau'r Llywodraeth yma, ond hefyd o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, gan fod hwn yn fater o ddyddiau ymhell cyn datganoli; sicrhau bod y camau ymarferol yn cael eu cymryd wedyn i ddiogelu—mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Mae o'n gorfod digwydd fel mater o flaenoriaeth, ond ein blaenoriaeth ni yma rŵan, fel mae pawb yn myfyrio arno fo, ydy i gofio'r erchylltra yn Aberfan yn 1966, a gwneud yr addewid y gwnawn ni bopeth y gallwn ni i sicrhau na all hyn ddigwydd eto.

16:15
16:20
5. Datganiad y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Bil Trethiant (Cymru)

Symudwn nawr at yr eitem nesaf, datganiad y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Bil trethiant. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Lywydd, rwy'n falch o gyflwyno Bil Trethiant (Cymru) i'r Senedd, y pecyn hwn o newidiadau sy'n gam ar hyd taith datganoli trethi Cymru. Naw mlynedd yn ôl, pasiodd y Senedd hon ddeddfwriaeth yn cyflwyno'r Ddeddf trafodiadau tir a'r Ddeddf gwarediadau tirlenwi. Cefnogwyd hyn drwy sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi datblygu hanes cryf o gyflawni, ac enw da am degwch sy'n seiliedig ar lefel uchel o ymddiriedaeth a pherthynas gydweithredol â threthdalwyr a'r rhai sy'n eu cynghori. Mae wedi ennill profiad gweithredol gwerthfawr o weinyddu trethi datganoledig ac wedi gwrando'n ofalus ar adborth gan drethdalwyr. Er nad yw gweinyddu trethi'n dda yn cael llawer o sylw mewn penawdau newyddion, mae'n sylfaenol i system dreth sy'n gweithredu'n dda. Mae'n falch gen i ddweud fod datganoli trethi yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus. Ers 2018, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu mwy na £2.7 biliwn mewn trethi datganoledig, gan gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein trigolion yn dibynnu arnyn nhw.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys dyletswydd i sicrhau trethi teg, a thrwyddi mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod refeniw yn cael ei godi mewn ffordd deg a syml. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd angen i ni sicrhau bod ein deddfwriaeth drethi yn cael ei hadolygu a'i gwella'n rheolaidd a bod newidiadau technegol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn gwneud yn siŵr bod y trethi yn gweithredu yn unol â'r bwriad.

Mae trethi effeithiol yn dibynnu ar ansawdd y ddeddfwriaeth a'r gwaith sylfaenol o'u gweinyddu. Mae trethdalwyr yn haeddu deddfwriaeth sy'n eglur ac yn syml. Mae angen i gyrff cyhoeddus gael pwerau sy'n gymesur ac yn ymarferol, ac mae cyfrifoldeb ar Lywodraethau i ddysgu o brofiad ac i wneud gwelliannau lle mae angen eu gwneud. Dyna yw union bwrpas y Bil a gyflwynais i ddoe.

Gadewch i mi fod yn glir: dyw'r Bil ddim yn cyflwyno trethi newydd; dyw e ddim chwaith yn newid cyfraddau treth na throthwyon treth, nac yn cyflwyno mathau newydd o ryddhad treth. Yn hytrach, mae'r Bil yn cyflwyno pecyn o newidiadau technegol a gweinyddol wedi'u targedu'n fanwl i dair Deddf trethi Cymru, sef Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Pwrpas y Bil yw sicrhau bod ein trethi datganoledig yn parhau i weithredu mewn ffordd deg ac effeithiol. Mae'n Fil ymarferol sy'n canolbwyntio ar egluro system dreth ddatganoledig Cymru, ei chryfhau, a'i diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'r mesurau sydd ynddo yn ymateb i faterion ymarferol a thechnegol a nodwyd dros amser gan Awdurdod Cyllid Cymru, trethdalwyr, cynghorwyr proffesiynol a phartneriaid cyflawni. Mae'r Bil yn cynnwys mesurau fydd yn cefnogi Awdurdod Cyllid Cymru i gyflawni ei swyddogaethau mewn ffordd fwy effeithiol. Bydd yn egluro agweddau ar drefniadau llywodraethu yr awdurdod cyllid, bydd yn gwella'r ffordd y mae ei bwerau treth yn gweithio mewn gwirionedd, bydd yn cywiro problemau technegol sydd wedi dod i'r amlwg drwy brofiad ymarferol, a bydd yn mynd i'r afael â meysydd amwys o ran cymhwyso'r trethi datganoledig fel eu bod yn parhau i weithredu mewn ffordd briodol ac yn ei gwneud hi'n llai posib i anghydfodau diangen neu ganlyniadau anfwriadol ddigwydd.

Bydd hefyd yn sicrhau bod deddfwriaeth Cymru yn cyd-fynd â datblygiadau gweinyddol neu ddeddfwriaethol perthnasol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, pan fo hynny'n briodol. Bydd y Bil yn gwella'r ffordd y bydd prosesau ad-dalu ac ymholiadau trethi i Awdurdod Cyllid Cymru yn cael eu gweithredu, gan fynd i'r afael â bylchau presennol o ran gwybodaeth a phwerau arolygu. Bydd hefyd yn gwella tryloywder ac yn diogelu refeniw trethi.

Bydd y cynigion hefyd yn fuddiol i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, bydd y Bil yn egluro sut y bydd rheolau llog talu hwyr yn cael eu cymhwyso fel na fydd trethdalwyr yn talu mwy na'r swm sy'n ddyledus. Bydd hefyd yn ymdrin ag achosion lle mae perchennog tŷ o dan y dreth trafodiadau tir yn ychwanegu partner at weithredoedd teitl eiddo, er enghraifft yn dilyn ail forgeisio. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, gallent wynebu cyfraddau preswyl uwch. Bydd y Bil hwn yn atal hynny.

Mae'n bwysig nodi bod y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wella ffyrdd o rannu gwybodaeth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru ac awdurdodau lleol. Bydd y mesurau hyn yn cefnogi'r broses o ddatblygu sylfeini trethi mwy cywir, yn cryfhau gweithgarwch cydymffurfio, ac yn cyfrannu at ymdrechion ehangach ar draws y Llywodraeth i ddefnyddio data'n well wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth wneud hynny, fe fyddan nhw'n helpu i sicrhau bod gan gyrff cyhoeddus fynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, wrth gynnal mesurau diogelu priodol i drethdalwyr. Mae mesurau diogelu priodol i drethdalwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynigion hyn, rŷn ni wedi parhau i ymrwymo i sicrhau bod amddiffyniadau priodol yn cyd-bwyso unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar bwerau Awdurdod Cyllid Cymru.

Gyda'i gilydd, mae'r newidiadau a gynigir gan y Bil hwn yn ffurfio rhaglen bwysig o fireinio a gwella, gan sicrhau bod trefniadau trethi datganoledig Cymru yn parhau i fod yn gadarn, yn effeithlon ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Dyw'r cynlluniau hyn ddim wedi cael eu datblygu yn gwbl ar wahân. Maen nhw wedi'u seilio ar drafodaethau â threthdalwyr, cynghorwyr proffesiynol a chynrychiolwyr y diwydiant. Y llynedd, bu Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgynghori ar y cyd ar y cynigion ar gyfer newidiadau deddfwriaethol i Ddeddfau trethi Cymru, a liciwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith. Cafwyd ymatebion manwl i'r ymgynghoriad gan drethdalwyr, cyrff proffesiynol a chynrychiolwyr y diwydiant. Roedd yr adborth yn gefnogol ar y cyfan ac yn cadarnhau y byddai'r newidiadau arfaethedig yn helpu i sicrhau bod trethi datganoledig yng Nghymru yn parhau i gael eu gweinyddu mewn ffordd effeithiol.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd yn ystod y broses o graffu ar y Bil hwn nawr ac at glywed barn pawb ar sut y gallwn ni barhau i gryfhau trefniadau treth Cymru. Lywydd, felly, mae'n bleser gen i gyflwyno Bil Trethiant (Cymru) i'r Senedd yma.

16:25
16:30
16:35

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a'i llongyfarch hi ar gyflwyno deddfwriaeth gyntaf y seithfed Senedd?

Wrth i'r Bil fynd rhagddo, bydd cyfleoedd pellach i graffu ar fanylion y Bil hwn yn fwy manwl, ond heddiw hoffwn ofyn rhai cwestiynau cychwynnol i'r Gweinidog Cabinet. Ynglŷn â rhannu gwybodaeth, mae'r Bil yn caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru rannu gwybodaeth gydag awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o gasglu trethi. Bydd y Gweinidog Cabinet yn cytuno ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y ffordd y caiff y data ei gasglu a'i ddefnyddio. Pa sicrwydd y gall hi ei roi y bydd y wybodaeth ddim ond yn cael ei rhannu pan fo hynny yn angenrheidiol? Ac a all hi roi enghreifftiau ymarferol o sefyllfaoedd lle gall y wybodaeth honno gael ei rhannu o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth newydd? Yna, a all hi amlinellu rhai o'r manteision ymarferol i awdurdodau lleol, a faint o refeniw ychwanegol y mae hi'n disgwyl y bydd yn cael ei gynhyrchu drwy rannu gwybodaeth yn fwy effeithiol? A pha gymorth a fydd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w hysbysu am y trefniadau newydd ar gyfer rhannu gwybodaeth?

Mae asesiad effaith rheoleiddiol y Llywodraeth yn dangos bod y Bil yn debygol o sicrhau manteision cadarnhaol cyffredinol o ryw £310,000. A all y Gweinidog Cabinet amlinellu mewn termau mor syml â phosibl, termau bob dydd, o ble y daw y manteision hyn, a sut y byddan nhw yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog Cabinet wedi gwneud asesiad o lefelau o osgoi trethi o fewn trefniadau trethi datganoledig Cymru? Ac wrth i system drethi Cymru barhau i ddatblygu, beth arall gall y Llywodraeth ei wneud i roi gwell gwybodaeth i'r cyhoedd am sut mae trethi datganoledig yn gweithredu o fewn Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am y croeso i hwn fel y Bil cyntaf ar gyfer y Senedd yma. Mae'n ddrwg gyda fi nad yw e'n un o'r rhai mwyaf headline grabbing y gellid bod wedi ei greu, ond mae e'n dangos beth yw gwaith dydd i ddydd Llywodraeth, beth yw gwaith dydd i ddydd ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a sicrhau bod gennym ni'r gyfundrefn fwyaf effeithiol i weithredu ein trethi ni a'n casglu trethi ni, er mwyn gallu ariannu'n gwasanaethau cyhoeddus ni. Dyna yw pwrpas y Bil yma. Fe fydd y craffu manwl rŷch chi wedi sôn amdano, fydd yn dilyn nawr ar ôl y datganiad yma heddiw, yn ffordd o destio rhai o'r materion rŷch chi wedi'u codi yn eich cyfraniad fanna, a'r un mater a godwyd ynghynt hefyd, ar sut mae diogelu'r data yna fydd yn cael ei rannu rhwng awdurdodau perthnasol er mwyn sicrhau bod popeth yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sydd eisoes mewn lle i ddiogelu data, ond hefyd o ran yr hyn y byddai'r rhai sy'n rhannu eu manylion personol yn ei ddisgwyl oddi wrth awdurdodau cyhoeddus. Dwi'n credu bod yr hyn sydd yn y Bil yma, o ran sicrhau taw dim ond at ddibenion penodol iawn y gellir rhannu gwybodaeth o'r math yma, fod hynny yn diogelu'r hyn y byddai trethdalwyr yn ei ddisgwyl ohonom ni.

Wrth gwrs, un o'r enghreifftiau cynnar yna o rannu data, a phwysigrwydd gwneud hynny o ran y trethi yn ymarferol, fydd wrth gyflwyno'r levy twristiaeth, a'r bartneriaeth yna sydd rhwng Awdurdod Cyllid Cymru ac awdurdodau lleol, neu un awdurdod lleol yn benodol. Felly, bydd honno'n enghraifft o'r defnydd o rannu gwybodaeth. Mae'r rhannu gwybodaeth yma nid dim ond er mwyn hwylustod i'r awdurdodau cyhoeddus eu hunain sydd yn gweinyddu yn y cyd-destun yma, ond bydd e hefyd o fudd i'r trethdalwyr oherwydd byddan nhw wedyn ddim ond yn gorfod cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n fwy effeithiol iddyn nhw hefyd. Felly, mae hynna'n bwysig.

Ar rai o'r cwestiynau manwl ynglŷn â'r costau sy'n deillio o rannu gwybodaeth, ac yn y blaen, byddai'n rhaid imi gyfeirio yn fanwl at y regulatory impact assessment sydd wrth fy ochr i fan hyn ar gyfer yr atebion hynny. Mae'n siŵr, wrth graffu ar yr angen i gyllido'r darn yma o ddeddfwriaeth—sydd ddim angen llawer o gyllid, hyd yn oed o sefydlu'r cyfundrefnau newydd yma—y cawn ni fwy o drafodaeth ar hynny yn y pwyllgorau.

O ran y gwaith ar sut mae'r Llywodraeth yma neu a ydy'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o faint o osgoi ar dalu treth sy'n digwydd yng Nghymru, dwi ddim yn ymwybodol o waith penodol rŷm ni wedi ei wneud yn ddiweddar ar hynny, a byddai'n rhaid imi edrych ymhellach yn ôl cyn fy nghyfnod i ar unrhyw waith ychwanegol.

Ond dwi'n meddwl efallai taw'r neges bwysig yn y darn yma o ddeddfwriaeth yn ei chyfanrwydd yw taw beth rŷm ni'n treial ei roi mewn lle fan hyn yw system sy'n fwy tryloyw i bawb—y rhai sy'n talu'r dreth a'r rhai sy'n casglu'r dreth—sydd yn deg i bawb, fel bod y wybodaeth yn glir ac yn gryno i bawb o beth yw'r anghenion. A phan fo'r system angen her neu ad-dalu, bod y gofynion o gwmpas hynna hefyd yn glir i bawb.

16:40
16:45

Symudwn yn awr at gyfraniadau un funud. Yn gyntaf, Peredur Owen Griffiths.

Diolch yn fawr, Lywydd. Dwi'n croesawu'r Bil yma a'r camau i foderneiddio a chryfhau'r system drethi datganoledig yng Nghymru. Fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n ymwybodol o bwysigrwydd llywodraethu effeithiol a deddfwriaeth sydd yn ymateb i brofiad ymarferol. Felly, mae gennyf gwpl o gwestiynau. Un o'r cwestiynau yna roedd Huw wedi'i ofyn yn barod, felly dwi ddim am ailofyn hwnna, gan eich bod chi wedi'i ateb yn barod. Mae gen i ddau gwestiwn arall. Pa waith sydd wedi cael ei wneud gydag HMRC i wneud yn siŵr bod y WRA rŵan yn alinio efo systemau yn Lloegr, i wneud yn siŵr bod y systemau hynny yn alinio? Ac wedyn, yn ail, rydyn ni wedi galw ers blynyddoedd am ddatganoli pwerau i gyflwyno treth ar dir gwag—vacant land tax. A oes diweddariad ar hwn, ac a fydd y ddeddfwriaeth newydd yn hwyluso gweinyddu trethi datganoledig fel y rheini pan ddôn nhw i lawr y lein? 

16:50

O ran y gwaith gydag alinio prosesau a sicrhau bod yna weithdrefnau sy'n galluogi unrhyw groesgyffwrdd sydd ei angen rhwng HMRC ac Awdurdod Cyllid Cymru, mae'r gwaith yna yn mynd yn ei flaen lle mae angen i hynny ddigwydd. Felly, mae hwnnw'n fater sy'n rhan o waith beunyddiol Awdurdod Cyllid Cymru.

O ran y vacant land tax, y dreth ar dir gwag, fel y dywedais i wrth Sam Rowlands, dyw'r Mesur penodol yma ddim yn Fesur sy'n cael ei ragdybio neu ei gynllunio mewn unrhyw ffordd i baratoi ar gyfer trethi newydd i Gymru. Mae gwaith y Bil yma yn sefyll yn ei hawl ei hun, ac yng nghyd-destun y trethi sydd eisoes yn weithredol yng Nghymru, ac yn eu gwneud nhw yn fwy effeithiol.

O'n safbwynt ni fel Llywodraeth, yn sicr, rŷn ni'n parhau i ddisgwyl oddi wrth Lywodraeth San Steffan am y cadarnhad terfynol o ddatganoli'r dreth tir gwag, y vacant land tax. Mae'r ymrwymiad yna wedi’i roi gan Lywodraeth San Steffan, ond mae'r cadarnhad terfynol i ddatganoli hwnnw yn dal yn cael ei ddisgwyl gan y Llywodraeth. Rydym ni yn dal yn pwyso ar hynny, ac rydw i wedi gwneud hynny yn fy ymwneud i gyda'r Trysorlys yn ystod y misoedd diwethaf. Mae cyfle gyda nhw, hyd yn oed yn y gyllideb yr wythnos nesaf gan y Canghellor, i fod yn cyhoeddi penderfyniad ar hyn. Cawn weld a fydd hynny yn y gyllideb.

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog.

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Diweddariad ar y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Eitem 6, datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, diweddariad ar y rhaglen gwasanaeth gofal cenedlaethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.

Member
Delyth Jewell 16:58:08
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gofal cymdeithasol yn helpu plant a theuluoedd trwy gyfnodau anodd, yn galluogi pobl anabl i fyw'n annibynnol, yn cefnogi pobl hŷn i aros yn y lle maen nhw'n ei alw'n gartref, ac yn helpu gofalwyr di-dâl i allu parhau i roi'r gofal amhrisiadwy maen nhw'n ei ddarparu bob dydd. Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i lesiant ein cenedl. Ond dyw gofal cymdeithasol, a'r bobl ymroddedig sy'n gweithio yn y sector, ddim bob amser wedi cael y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu. 

Ddirprwy Lywydd, gall y Llywodraeth ddim gwneud hyn ar ei phen ei hun. Heddiw, rŷn ni'n cyhoeddi camau sy'n esbonio ein huchelgais, y camau rŷn ni'n bwriadu eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon a beth gall hyn ei olygu i bobl. Mae hyn yn nodi dechrau sgwrs genedlaethol ehangach am ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru, nid ymarfer ymgynghori unigol. Rŷn ni am i'r sgwrs honno fod yn agored, yn gynhwysol a chael ei llywio gan ystod eang o leisiau, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, gofalwyr di-dâl, y gweithlu, partneriaid ar draws iechyd a llywodraeth leol, darparwyr a chynrychiolwyr gwleidyddol o bob rhan o'r Senedd. Trwy gynnal y trafodaethau hynny, dŷn ni'n gobeithio meithrin gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol a nodi meysydd lle y gallai fod uchelgais gyffredin ar gyfer dyfodol gofal a chymorth yng Nghymru.

Dylai pobl allu disgwyl cymorth o ansawdd uchel ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru, tra bod gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu'n lleol, wrth gwrs, ac yn cael eu siapio gan eu cymunedau. Mae sefydlu'r swyddfa genedlaethol gofal a chymorth o dan arweiniad y prif swyddog gofal cymdeithasol wedi rhoi llwyfan cryfach o ran arweinyddiaeth genedlaethol, gwella a chydweithio.

Mae dadansoddiad yn dangos bod pob £1 sy'n cael ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn cynhyrchu tua £2.78 mewn gwerth cymdeithasol ac economaidd. 

Yn bedwerydd, Ddirprwy Lywydd, byddwn ni'n cryfhau data, technoleg ddigidol a chanlyniadau. Mae penderfyniadau da yn dibynnu ar wybodaeth sy'n dda. Os ydym am wella gwasanaethau, adnabod pwysau yn gynnar a chynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol, mae angen dealltwriaeth gryfach o brofiadau pobl a'r heriau sy'n wynebu'r system. Byddwn ni'n sefydlu hwb gwybodaeth gofal cymdeithasol o fewn y swyddfa genedlaethol, yn gwella ansawdd a chysondeb data gofal ac yn cryfhau adroddiadau cenedlaethol a goruchwyliaeth o'r farchnad. Bydd gwell deallusrwydd yn ein helpu i adnabod risg yn gynharach, targedu gweithgarwch gwella yn fwy effeithiol a darparu mwy o dryloywder ynghylch lle mae'r system yn gweithio'n dda a lle mae angen gweithredu pellach. Ochr yn ochr â hyn, byddwn ni'n parhau i gefnogi'r defnydd o ddatrysiadau digidol a thechnolegol sy'n helpu i wella canlyniadau i bobl, cefnogi'r gweithlu a galluogi darparu gofal a chymorth yn fwy effeithiol.

Yn bumed, byddwn ni'n rhoi pwyslais o'r newydd ar atal, diogelu a chymunedau cryfach. Byddwn ni'n datblygu dull cenedlaethol cryfach ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar, yn bwrw ymlaen â'r strategaeth 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol ac yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl. Rhaid i hynny wneud gwahaniaeth ymarferol trwy sicrhau cefnogaeth gynharach, gwell cydnabyddiaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl a gwasanaethau cymunedol cryfach sy'n helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a'u llesiant.

Ac yn olaf, mae gofal cymdeithasol a chymorth di-dor.

17:05

Diolch, Ddirprwy Weinidog. James Evans.

17:10
17:15
17:20
17:25
17:30
17:35

Dwi'n gorfod datgan diddordeb: dwi wedi gweithio yn y maes ac mae gen i aelod o’r teulu yn gweithio yn y maes.

Diolch am y datganiad. Dwi'n croesawu’n fawr ymrwymiad Llywodraeth Plaid Cymru i wneud y sector yma yn fwy deniadol drwy well cyflogau, hyfforddiant, llwybrau gyrfa a sefydlu academi gofal cenedlaethol. Mae hefyd yn dangos y gwahaniaeth rhwng dull Plaid Cymru o weithredu drwy ddiwygio gwasanaethau nawr a'r dull a welwn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, lle mae addewidion am ddiwygio yn parhau i gael eu gohirio. 

Fel cyn-weithiwr yn y sector, credaf fod pedair colofn allweddol i ofal cymdeithasol: gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac eiriolwyr. Mae’n bwysig i mi fod holl leisiau'r colofnau hyn yn cael eu clywed yn y broses hon. Gyda hynny mewn golwg, a fyddai’r Dirprwy Weinidog yn barod i gyfarfod â mi, fel darpar gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ofal cymdeithasol, i drafod y materion hyn ymhellach? 

Diolch i chi, Elfed. Mae'n flin gen i fy mod i'n gorfod cael fy nghefn tuag atoch chi wrth ymateb. Dwi'n cytuno y dylem ni sicrhau bod y system yn un llawer mwy deniadol ar gyfer cael mwy o bobl i mewn i'r gweithlu, a dwi'n cytuno hefyd y bydd angen i'r holl leisiau rŷch chi newydd fod yn sôn amdanyn nhw i gael eu clywed yn rhan o'r foment yma, achos mae yna gyfle. Ac eto, dwi'n gobeithio y bydd y cyfuniad o'r gwaith rŷn ni wedi'i wneud yn barod yng Nghymru, y gwaith rŷn ni'n parhau i'w wneud, a'r momentwm sydd yn cael ei hybu oherwydd beth sy'n digwydd ar lefel San Steffan—. Oes, mae lot o ohirio, ond dal, dylem ni gymryd mantais o'r foment yma, a dwi'n gobeithio bydd y ddau beth yn gallu plethu mewn ffordd fydd yn dda ar gyfer pawb, a buaswn i'n croesawu'r drafodaeth gyda chi fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, yn sicr. Felly, diolch i chi, a diolch am eich gwaith yn y maes.

17:40
17:45
7. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Diweddariad ar y Dreth Gyngor

Symudwn ymlaen, felly, i eitem 7: datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, diweddariad ar y dreth gyngor. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi eisiau rhoi diweddariad i'r Aelodau am ein hystyriaethau ynglŷn â system y dreth gyngor, mater sy'n bwysig i aelwydydd, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ym mhob rhan o Gymru.

Mae yna gydnabyddiaeth gyffredinol bod y sail ar gyfer bandiau'r dreth gyngor wedi dyddio a'i bod wedi'i seilio ar brisiadau eiddo yn 2003. Yn Lloegr ac yn yr Alban, mae'r eiddo wedi'i seilio ar brisiadau 1991. Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 wedi sefydlu amserlen ar gyfer cylchoedd ailbrisio'r dreth gyngor, gan gynnal yr un cyntaf yn 2028, ac yna bob pum mlynedd wedi hynny. Heddiw, gallaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am ein bwriadau o ran ailbrisio, a sut y byddwn ni’n archwilio ffyrdd o wneud y dreth gyngor yn decach. Rwy'n cydnabod y gwaith a wnaed ar y pwnc hwn ar draws y Llywodraeth yma a chynt, ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio. 

Dros yr haf, fel Llywodraeth Cymru, sy'n newydd, rŷn ni wedi bod yn gwneud gwaith pellach i ddeall beth fyddai bwrw ymlaen â'r ailbrisio yn ei olygu i aelwydydd ar hyd a lled Cymru. Mae'r gwaith hwnnw wedi tynnu sylw'n glir at faterion a heriau allweddol y mae angen i ni eu hystyried. I fod yn glir, dyw ymrwymiad y Llywodraeth hon i system dreth gyngor tecach ddim wedi newid. Rŷn ni'n cydnabod y dadleuon o blaid diweddaru'r system, fel y gwnaethom y tymor diwethaf. Ac rŷn ni’n cydnabod y farn bod angen inni ystyried sut y gall y dreth gyngor adlewyrchu'r amodau economaidd yng Nghymru ar hyn o bryd yn fwy effeithiol. Ond, fel y gwyddon ni, mae unrhyw ailbrisio yn anochel yn arwain at newid i aelwydydd. Mae hyn yn amlwg o'r ailbrisio diwethaf a ddigwyddodd yn 2005. Mae'n werth atgoffa ein hunain mai Cymru yw'r unig genedl sydd wedi ailbrisio eiddo ers cyflwyno'r dreth gyngor, ac o ganlyniad, gwyddom na ellir cyflawni ailbrisiadau yn deg heb gefnogi aelwydydd sy'n symud i fyny bandiau.

Mae gwaith ymchwil yn amcangyfrif y gallai tua chwarter yr aelwydydd weld eu band treth gyngor yn cynyddu, y gallai chwarter arall weld eu band yn gostwng, ac na fyddai hanner yr aelwydydd yn gweld fawr ddim newid. Pe baem ni am weithredu newid ar y raddfa hon mewn ffordd gyfrifol, dwi'n credu y byddai'n rhaid inni, fel Llywodraeth, ddarparu cymorth ariannol eto i liniaru'r effeithiau ar aelwydydd a fyddai'n symud i fand treth uwch, fel y gwnaethpwyd yn 2005. Allwn ni ddim cyfiawnhau'r risg o gyflwyno annhegwch newydd i'r system, yn enwedig ar adeg pan mae aelwydydd eisoes yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Y dull y byddem ni'n ei ffafrio byddai cynnydd graddol dros amser, fyddai'n helpu aelwydydd i addasu i newidiadau yn eu biliau, yn debyg i'r ffordd rŷn ni'n cefnogi busnesau drwy ailbrisiadau ardrethi annomestig.

Byddai'r cymorth y byddwn i eisiau ei ddarparu i aelwydydd, ochr yn ochr ag ailbrisio'r system dreth, yn golygu cost sylweddol i'r Llywodraeth. Ein hasesiad yw y gallai darparu'r rhyddhad dros dro y byddai'r Llywodraeth hon eisiau ei gyflwyno costio hyd at £80 miliwn yn y flwyddyn gyntaf ar ôl yr ailbrisio. Mae fy nghydweithwyr i yn y Cabinet a finnau'n cytuno bod hyn yn rhywbeth hynod heriol i'w ariannu, o ystyried y rhagolygon cyllidol presennol a'r pwysau rŷn ni'n eu hwynebu ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

18:05
18:35

gan gyflwyno targed ynni sy’n seiliedig ar allyriadau. Bydd y targed diwygiedig hwn yn golygu na fydd ynni’n cael ei drin fel polisi trydan adnewyddadwy yn unig, neu fel polisi hinsawdd yn unig, a’i fod wedi’i osod o fewn gweledigaeth system gyfan. Bydd hyn yn darparu mesur mwy cyflawn o gynnydd tuag at ein cyllidebau carbon ac yn adlewyrchu’n well rôl ynni wrth ddatgarboneiddio adeiladau, gwres, trafnidiaeth a diwydiant. Yn ogystal â hyn, byddwn yn diwygio ein targed perchnogaeth leol fel ei fod yn cefnogi ein huchelgais i gadw mwy o’r gwerth wrth newid y mathau o ynni rŷn ni’n eu defnyddio yng Nghymru. 

Ni ddylid trin ynni fel mater hinsawdd yn unig. Mae’n seilwaith economaidd hanfodol ac yn ganolog i’n hamcanion i wella cynhyrchiant a hyrwyddo ailddiwydiannu yng Nghymru. Nid yw ein nod yn syml i ddatgarboneiddio’r economi, ond i ddefnyddio'r trawsnewid ynni i gryfhau sefyllfa gystadleuol Cymru, denu buddsoddiad, cefnogi diwydiannau strategol a chreu swyddi o ansawdd uchel. Dylid defnyddio ynni fel mantais gystadleuol i sicrhau bod busnesau Cymru'n ffynnu. Byddwn yn gosod camau gweithredu a fydd yn sicrhau ein bod yn cadw'r gwerth yng Nghymru.

Gall system ynni garbon isel ddibynadwy roi hyder i fusnesau i fuddsoddi a thyfu, cefnogi ein sylfaen ddiwydiannol, denu buddsoddiad newydd a chreu cyflogaeth fedrus a hirdymor. Mae hynny'n golygu nodi prosiectau ynni strategol bwysig, cydgysylltu cyflenwadau â phrif ganolfannau galw a chlystyrau diwydiannol, a datblygu'r sgiliau a'r cadwyni cyflenwi sydd eu hangen i droi buddsoddi yn swyddi gwerth uchel a chymunedau cryfach. 

Mae'n rhaid datblygu ynni glân gyda phobl a chymunedau Cymru. Gall perchnogaeth leol gadw mwy o werth economaidd, cryfhau gwydnwch y gymuned a rhoi cyfran ystyrlon i bobl wrth drawsnewid. Nid cynnal seilwaith newydd yn unig y dylai cymunedau. Dylen nhw gael cyfleoedd gwirioneddol i siapio prosiectau a manteisio drwy berchnogaeth, buddsoddiadau, cyflogaeth a gwerth hirdymor i'r gymuned. Rydyn ni wedi dechrau casglu tystiolaeth ar berchenogaeth gymunedol drwy ein hymgynghoriad ar gynigion ar gyfer cwmni trydan cyhoeddus cenedlaethol sy’n eiddo i bobl Cymru, ac rŷn ni'n annog pobl Cymru, busnesau, sefydliadau cymunedol a phartïon eraill sydd â diddordeb i gymryd rhan yn hwn. Rydyn ni eisoes yn ystyried cyfleoedd eraill i ddatblygu’r polisi hwn o ran rhoi prosesau gorfodol ar waith, a byddwn yn ceisio tystiolaeth bellach ac yn ymgynghori ar faterion cysylltiedig unwaith y bydd gennyn ni eglurder ar dargedau.

Byddwn yn cyhoeddi strategaeth ynni genedlaethol lefel uchel yn ystod mis Tachwedd. Bydd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â chynllunio strategol gan Weithredwr y System Ynni Cenedlaethol, NESO, a bydd y dystiolaeth a blaenoriaethau Cymru yn ganolog iddi. Bydd cyflawni hyn yn gofyn am gydweithredu ar draws y Llywodraeth. Mae penderfyniadau am dai, trafnidiaeth, cynllunio, yr economi, amaethyddiaeth a diwydiant i gyd yn effeithio ar y galw am ynni yn y dyfodol, a bydd y strategaeth yn cysylltu’r penderfyniadau hynny yn hytrach na’u trin ar wahân. 

Mae’r trawsnewid yr ydym yn ei wynebu yn sylweddol, ond mae’r cyfle yr un mor sylweddol. Bydd strategaeth ynni genedlaethol yn darparu'r cyfeiriad a'r ddisgyblaeth sydd eu hangen i greu system ynni glanach a mwy diogel sy’n cefnogi cynhyrchiant, diwydiant cynaliadwy a swyddi da. Mae ein nod yn glir: ynni glân, fforddiadwy o dan berchnogaeth Cymru, sy’n cael ei ddarparu’n gyfrifol ac yn cael ei ddatblygu gyda phobl a chymunedau Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelodau, cymunedau, diwydiant a phartneriaid ledled Cymru wrth inni symud y gwaith hwn yn ei flaen.

19:10