Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/01/2026

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:35 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r cyfarfod yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Pontydd Hafren

1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda National Highways ynglŷn â'r gwaith parhaus ar y ddwy bont dros yr Hafren? OQ63637

Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â National Highways i drafod ac i herio a deall eu cynigion, ac i eirioli dros y cyhoedd sy'n teithio a busnesau yng Nghymru. Rhoddir sylw rhanbarthol helaeth a chyhoeddir cylchlythyrau i randdeiliaid bob mis gan National Highways i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb.

Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Rhagfyr, cafwyd tagfeydd difrifol ar yr M4 a'r M48 ar ddwy ochr yr afon, wedi'u hachosi gan storm berffaith o waith ffordd a gynlluniwyd, damweiniau ac atgyweiriadau brys. Arweiniodd gwaith atgyweirio brys ar golofnau goleuadau ar yr M4 at gau pedair o'r chwe lôn ar y bont newydd, tra bo gwyntoedd cryfion wedi gorfodi cau pont yr M48 ar yr un pryd. Gadawodd hyn werth dwy draffordd o draffig yn teithio ar un lôn i bob cyfeiriad. Tynnodd y sefyllfa hon sylw at fregusrwydd y rhan hon o Gymru a pha mor gyflym y gall ddirywio i fod yn hunllef o dagfeydd. I ychwanegu at y dryswch, bu'r cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar bont yr M48 ar waith drwy gydol y cyfnod, a chafodd ei godi dros dro yn hwyrach yn y dydd, gyda chyfyngiadau'n cael eu rhoi'n ôl ar waith y diwrnod wedyn.

Mae cymunedau lleol yn deall bod yn rhaid gwneud gwaith hanfodol ar y pontydd, ond mae eu rhwystredigaeth yn gwbl gyfiawn pan fydd y rhwydwaith cyfan yn cael ei barlysu. Maent yn gofyn pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i atal hyn rhag digwydd eto, yn enwedig pan fydd gwaith ffurfiol ar yr M48 yn dechrau. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn felly a fyddwch chi'n gwneud sylwadau i'ch swyddogion cyfatebol yn San Steffan i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn cadarn ar waith ar gyfer pontydd yr M4 a'r M48 fel ein bod yn osgoi ailadrodd yr anhrefn a welwyd ym mis Rhagfyr pan fydd y gwaith yn ailddechrau?

A gaf i ddiolch i Peter Fox a rhoi sicrwydd iddo y byddaf yn gwneud hynny? Mae ein hymgysylltu'n gadarnhaol iawn, ond byddaf yn codi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd sy'n teithio a'r cymunedau ar hyd y ddwy draffordd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth gyda'r hyn a oedd, fel y nododd yr Aelod, yn storm berffaith.

Cynhaliodd y BBC ddadansoddiad manwl o'r rhwydwaith ffyrdd ledled y DU yn ddiweddar; mae'r adroddiad ar gael ar-lein. Mae'n dangos pa mor fregus yw'r rhwydwaith ffyrdd cyfan, o ystyried ei oedran cyfartalog. Adeiladwyd llawer o'n ffyrdd, llawer o'n strwythurau allweddol, yn y 1960au, y 1970au a'r 1980au, ac mae angen gwaith cynnal a chadw arnynt. Mae'r rhaglen gynnal a chadw honno—. Yn amlwg, mae ôl-groniad, sy'n dra hysbys, ond mae'r rhaglen gynnal a chadw honno bellach wedi cyflymu, felly mae arnaf ofn y byddwn yn gweld mwy o waith cynnal a chadw ledled y DU, ac nid yw Cymru'n rhydd o hynny—rydym am drwsio ein ffyrdd a'n strwythurau allweddol.

Fel y mae'r Aelod wedi'i amlinellu, cyfrifoldeb National Highways, ac felly Llywodraeth y DU, yw'r ddwy bont. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â National Highways i bwysleisio pwysigrwydd cadw Cymru ar agor. Credaf fod oddeutu 10 y cant o draffig dyddiol y bont—pont yr M48—yn cael ei effeithio gan y cyfyngiad, ac rwy'n ymwybodol fod busnesau lleol, yn enwedig yng Nghas-gwent ac yn Avonmouth, wedi codi pryderon ynghylch amseroedd teithio hirach, costau uwch a thagfeydd. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda chymunedau i liniaru sefyllfaoedd sy'n codi o ganlyniad i achosion a gynlluniwyd ac achosion heb eu cynllunio o gau ffyrdd, ac mae hynny'n cynnwys y coridorau allweddol hyn i mewn ac allan o Gymru.

Ydy, Ysgrifennydd y Cabinet, mae cau pontydd Hafren a'r cyfyngiad o ran dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm o'r bont Hafren wreiddiol i'r ail bont Hafren yn peri llawer o drafferth i fy etholwyr ym Magwyr, Gwndy, Rogiet a Chil-y-coed, er enghraifft. Yn aml, pan fydd y tagfeydd a grëir ar eu gwaethaf, mae traffig yn llonydd ar y ffyrdd lleol hynny, y B4245. Un ateb posib a awgrymwyd yw goleuadau traffig rhan-amser ar gylchfan gwasanaethau Magwyr ar yr M4, cyffordd 23A. Gwn eich bod yn ymwybodol o'r ateb hwnnw a argymhellwyd, Ysgrifennydd y Cabinet. A yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried o ddifrif?

13:40

A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn atodol? Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod gwaith yn mynd rhagddo i National Highways ddarparu'r signalau dros dro y cyfeiriodd John atynt ar gyffordd 23A yr M4, fel rhan o'r mesurau i liniaru effeithiau'r cyfyngiad pwysau ar y bont Hafren gyntaf, a dylai hyn alluogi mynediad llawer gwell i'r system gylchu o ffordd fynediad y gwaith dur yn enwedig mewn gwyntoedd cryfion.

Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt

2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag atgyfeirio cleifion o Ogledd Cymru i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Ngobowen? OQ63663

Rydym yn benderfynol o leihau amseroedd aros hir a gwella mynediad at wasanaethau'r GIG i bawb yng Nghymru. Ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod ystod eang o faterion, gan gynnwys darpariaeth gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru ac ar gyfer dinasyddion y gogledd.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch eich bod yn cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Un o'r materion y mae nifer o fy etholwyr wedi'u codi gyda mi yn ddiweddar yw, pan gânt eu hatgyfeirio i ysbyty Gobowen ar gyfer y triniaethau orthopedig hynny, eu bod wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddynt aros yn hirach am y triniaethau hynny na chleifion ar yr un rhestr sy'n byw yn Lloegr, sy'n amlwg yn peri cryn dipyn o ofid iddynt. Ond pan gysylltais â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â hyn, roeddent yn dweud nad yw hynny'n gywir, felly mae rhywun yn amlwg yn camddehongli'r gwir, a dweud y lleiaf. Ac ar y meinciau hyn, fe fyddwch wedi clywed y pryderon a godwyd gennym ynglŷn ag adroddiadau fod cleifion y GIG yng Nghymru sy'n aros am driniaeth yn Lloegr yn cael eu gorfodi i ddioddef oedi hirach ar ôl i'r bwrdd iechyd Cymreig ddweud wrth yr ysbytai hynny am alinio'r amseroedd aros â'r amseroedd aros llawer hirach yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno nad yw'n dderbyniol i fy nhrigolion yn y gogledd fod cleifion yn y gogledd yn gorfod aros yn hirach mewn poen, nid oherwydd nad yw'r capasiti yno, ond am nad yw'n cael ei ddefnyddio'n iawn, ar gais byrddau iechyd Cymru. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i sicrhau nad yw cleifion y gogledd yn cael eu gorfodi'n fwriadol i aros yn hirach am driniaethau yn Lloegr er mwyn cuddio methiannau GIG Cymru?

Yn sicr, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud unrhyw newidiadau i'w trefniadau cytundebol gydag ysbyty Gobowen. Rwy'n creu bod rhywfaint o ddryswch, a chredaf y gellir mynd i'r afael â'r dryswch hwnnw drwy friff ffeithiol y byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei ddarparu i bob Aelod. Rwyf hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod ag ysbyty Gobowen ei hun, a bwrdd Betsi Cadwaladr, gyda chi, Sam Rowlands, a gwn hefyd fod gan James Evans ddiddordeb yn y cyfleuster penodol hwn, o ystyried ei fod yn cael ei ddefnyddio gan lawer o gyn-filwyr yn ei etholaeth. Felly, byddai croeso iddo yntau ymuno hefyd.

Yn gryno, mae pobl sy'n cael eu hatgyfeirio'n uniongyrchol am lawdriniaethau yn ysbyty Gobowen yn wynebu amseroedd aros hir. Ond nid pobl yn dod o Gymru sy'n gyfrifol am yr amseroedd aros hir yn ysbyty Gobowen. Rwyf wedi cael yr un sicrwydd, a chredaf mai dyma pam y byddai cyfarfod ag ysbyty Gobowen a bwrdd Betsi Cadwaladr yn fuddiol iawn yn wir. Mae cleifion o ogledd Cymru’n cael eu trin—cefais sicrwydd o hyn—ochr yn ochr â chleifion o Loegr, gyda'r un targedau o ran amseroedd aros. Ond credaf y byddai cyfarfod yn ddefnyddiol, fel y gallwn roi sicrwydd i'n hetholwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Wel, diolch, Lywydd. Mae wedi bod yn rhy hir, Ysgrifennydd y Cabinet, ers y tro diwethaf inni ddadlau yn y Siambr hon. [Chwerthin.] Fel y gwyddom, mae ASau yn San Steffan wrthi'n ystyried y Bil Rheilffyrdd drafft. Elfen ganolog o'r ddeddfwriaeth honno yw'r berthynas yn y dyfodol rhwng Great British Railways, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, ymddengys bod llawer o'r berthynas hon yn seiliedig ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth, ond ychydig iawn o eglurder sydd wedi bod ynghylch yr hyn y bydd hynny'n ei gynnwys mewn gwirionedd. Hoffwn ddeall beth yw'r gofynion rydych chi a Llywodraeth Cymru’n ystyried eu cynnwys yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw. Ac fel y mae'r Bil wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Cyffredin, nid oes unrhyw fecanwaith i sicrhau bod trethdalwyr Cymru’n cael cyfran deg o refeniw o wasanaethau Great British Railways sy'n gweithredu'n rhannol yng Nghymru. Yn yr un modd, nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer elw o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru sy'n rhedeg yn Lloegr i fod o fudd i drethdalwyr Lloegr. Felly, fel Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod problem gyda thegwch, ac a wnewch chi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU?

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Rwy'n croesawu'r Bil fel ymdrech gydlynol i gael trefn ar wasanaethau rheilffyrdd sydd wedi bod yn rhy dameidiog, ac i integreiddio traciau a threnau yn y DU. Dyna a wnaethom gyda llinellau craidd y Cymoedd, ac rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Dylwn nodi, o ran elw rheilffyrdd, mai ychydig iawn o lwybrau sy'n cynhyrchu elw mewn gwirionedd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn tueddu i gael ei sybsideiddio, ac mae hynny'n wir am rwydwaith cyfan Trafnidiaeth Cymru i bob pwrpas. Ond mae'n wasanaeth cyhoeddus—gwasanaeth cyhoeddus hollbwysig, yn fy marn i—felly mae cyfiawnhad cryf dros ei sybsideiddio.

O ran y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae'r penawdau telerau drafft yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae ein perthynas waith yn gryf iawn yn wir, ac mae ein hamcan hirdymor o ddatganoli rheilffyrdd trwm yn parhau, ond mae hyn yn rhan o broses a fydd yn sicrhau mwy o gydweithio ac yn grymuso Trafnidiaeth Cymru ac uned fusnes Cymru o fewn Great British Railways, gan ddiwallu anghenion teithwyr ar draws rhwydwaith Cymru a’r gororau.

13:45

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rhan sylweddol o'r Bil Rheilffyrdd yw ymbellhau oddi wrth y model masnachfreinio sydd wedi bodoli ers amser maith yma yn y DU. Ond wrth ymbellhau oddi wrth hynny, credaf ei bod yn hanfodol nad ydym yn colli'r arloesedd, y gystadleuaeth a'r gwelliannau sy'n canolbwyntio ar y teithwyr sydd wedi dod o rannau eraill o'r rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae hynny'n fy arwain at y gwasanaethau mynediad agored, sydd, yn fy marn i, wedi profi bod ganddynt hanes o ehangu dewis, gwella cysylltedd a hybu twf economaidd, yn enwedig ar gyfer rhanbarthau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Mae gwasanaethau mynediad agored hefyd yn hanfodol i sicrhau bod gan deithwyr ledled Cymru lais go iawn yn y gwasanaethau a gânt. Maent yn annog cystadleuaeth, yn denu buddsoddiad newydd ac yn darparu opsiynau teithio hyblyg y mae masnachfreintiau traddodiadol yn aml yn methu eu darparu. Ac fe fyddwch yn gwybod am wasanaethau arfaethedig fel gwasanaeth Wrexham, Shropshire and Midlands Railway o Wrecsam i Lundain, sy'n dangos sut y gall mynediad agored fod o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, gan hybu pethau fel twristiaeth a chryfhau cysylltiadau economaidd y rhanbarth â gweddill y DU. Felly, gyda'r posibilrwydd y bydd y system fasnachfreinio'n dod i ben yn y Bil Rheilffyrdd, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i fynd yn fwy ac yn well gyda mynediad agored, fel y gwasanaeth teithwyr hanfodol o Wrecsam i Lundain, i hybu cysylltiadau gogledd-ddwyrain Cymru â gweddill y DU?

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn a datgan buddiant gan y byddai'r gwasanaeth rhwng Wrecsam a Llundain o fudd amlwg i fy etholwyr? Byddai'n wasanaeth gwych, a fyddai'n ategu gwasanaethau eraill rhwng gogledd Cymru a Llundain. Yr her fawr sy'n ein hwynebu yw cyfyngiadau capasiti ar y rhwydwaith, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o hyn, ac mae'r Aelod wedi bod yn ddigon caredig i gynnull cyfarfod i drafod gwasanaethau mynediad agored.

Rwy'n falch fod y Gweinidog rheilffyrdd, yr Arglwydd Peter Hendy, yn benderfynol o fynd i'r afael â phroblemau capasiti ar brif lein Arfordir Gorllewin Lloegr. Dyna'r rhwystr mwyaf i gael gwasanaethau mwy rheolaidd rhwng gogledd Cymru a Llundain. Ac wrth ddiogelu buddiannau teithwyr drwy fynd i'r afael â chyfyngiadau capasiti, rwy'n credu y gwelwn fwy o wasanaethau yn y dyfodol, mwy o wasanaethau rheolaidd, yn gweithredu rhwng gogledd Cymru a Llundain drwy ganolbarth Lloegr. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto pa un a ydynt yn wasanaethau mynediad agored neu'n wasanaethau a reolir yn uniongyrchol, ond os gellir mynd i'r afael â'r cyfyngiadau capasiti, credaf mai'r pwynt allweddol yma yw y gall mwy o wasanaethau, drwy ba fodd bynnag, weithredu ar brif lein Arfordir Gorllewin Lloegr.

Blwyddyn newydd dda. 

Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn fwy na pharod i siarad am reilffyrdd, felly gadewch inni wneud hynny. Mae Llafur wedi addo £45 biliwn ar gyfer prosiect rheilffyrdd Northern Powerhouse. Mae fy nghwestiwn yn syml iawn: a fydd hwn yn cael ei ddynodi'n brosiect Cymru a Lloegr, ac os felly, a ddylem anfon map at y Trysorlys?

Wel, mae nifer o bwyntiau da iawn ar hyn. Yn gyntaf oll, nid yw'r Aelod yn cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, felly efallai nad yw'n ymwybodol o faint o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol mewn gwirionedd. Gadewch imi nodi rhai ffeithiau. Mae'n anhygoel, onid yw, fod mwy na miliwn o deithiau'n cael eu gwneud gan ddinasyddion Cymru o Faes Awyr Manceinion? Ar hyn o bryd, mae'n cymryd mwy na dwy awr i fynd o orsaf Wrecsam i Faes Awyr Manceinion. Mae'n cymryd mwy nag awr a hanner i gyrraedd maes awyr Lerpwl, y mae nifer enfawr o ddinasyddion Cymru’n hedfan ohono. Mae llawer o bobl—credaf fod 30,000 ohonynt ar hyn o bryd—yn croesi'r ffin i weithio, ac eto, pe baech chi'n mynd ar drên o'r Fflint i Lerpwl, gallai gymryd awr a hanner. Pe baech y mynd ar drên o Wrecsam i Fanceinion, gallai gymryd hyd at awr a 50 munud. Yr hyn y mae'r cyhoeddiad yn paratoi'r ffordd ar ei gyfer yw mwy o wasanaethau, gwasanaethau mwy rheolaidd, a gwasanaethau cyflymach, ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Nid yw Cymru'n dod i ben ar y ffin.

Lee Waters a wnaeth ymateb i chi nid fi.

Dywedodd y Prif Weinidog wrthym y dylem ddisgwyl llif o fuddsoddiad yn y dyfodol agos. Felly, pe bai'r £45 biliwn hwnnw wedi'i Farnetteiddio, byddem yn edrych ar werth £2 biliwn o fuddsoddiad yn dod i Gymru. Felly, a fydd Cymru'n gweld ceiniog o'r arian hwnnw? Os na fydd, a wnewch chi feirniadu eich cyd-Aelodau ar lefel y DU am drin Cymru'n annheg unwaith eto?

13:50

Eisoes, rydym wedi cael £445 miliwn wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaith adeiladu a gwaith datblygu ar brosiectau seilwaith trwm mawr yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys gorsafoedd a fydd yn costio llawer iawn mwy na'r hyn a ddyrannir yn y cyfnod presennol. Felly, byddwn yn tynnu cyllid ychwanegol i lawr. Yr hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yw cyllid datblygu o fewn y cyfnod rheoli hwn a fyddai, pe bai'r rheilffyrdd yn cael eu datganoli, yn cynhyrchu oddeutu £50 miliwn yn y cyfnod hwn. Bydd dyraniad llawn y cyllid yn dod gan Lywodraethau'r dyfodol. Byddwn yn cyhoeddi cyfres o brosiectau, prosbectws, yn debyg iawn i brosbectws rheilffyrdd Northern Powerhouse, yn yr wythnosau nesaf. Mae hwnnw'n brosbectws hynod uchelgeisiol a fydd yn dangos dwy Lywodraeth sy'n buddsoddi mwy nag erioed mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

Diolch. Byddaf yn edrych ar hwnnw gyda chryn ddiddordeb pan ddaw. Cyfaddefodd Prif Weinidog y DU fod pobl yn Lerpwl, Manceinion a swydd Efrog wedi cael eu siomi gan addewidion gwag, ond mae Cymru wedi dioddef yr un peth ers 25 mlynedd, system ariannu rheilffyrdd gamweithredol sy'n gorfodi Llywodraeth Cymru i dalu am seilwaith nad yw'n ei reoli'n llawn. Rhaid i hynny newid. Y mis diwethaf, fe wnaeth San Steffan wahodd awdurdodau datganoledig Lloegr i wneud cais am gyfrifoldeb statudol ac ariannol llawn dros reilffyrdd. A yw Cymru wedi cael ei gwahodd i'r trafodaethau hyn? Os na, pa gamau fydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau nad yw Cymru'n cael ei gadael ymhellach ar ôl?

Mae a wnelo hyn â rhwydweithiau rheilffyrdd lleol a rhwydweithiau trafnidiaeth lleol. Mae gennym brosiect tebyg ar y gweill yng Nghaerdydd gyda Cledrau Croesi Caerdydd, ac mae hwnnw'n cael ei arwain gan Gyngor Caerdydd yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae cynnig tebyg iawn yn cael ei wneud i faeryddiaethau Lloegr, a chredaf ei bod yn iawn fod awdurdodau lleol—ac yng nghyd-destun Cymru, Cyngor Caerdydd yn yr achos hwn—yn gallu arwain ar brosiectau trafnidiaeth lleol sy'n cynnwys rheilffyrdd. Gyda Cledrau Croesi Caerdydd, bydd yn defnyddio gorsafoedd fel Caerdydd Canolog. Felly, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig i faeryddiaethau Lloegr yn debyg i'r hyn y mae Caerdydd yn ei gynllunio, gyda'r cledrau croesi'n cael eu hintegreiddio i'w system drafnidiaeth ranbarthol.

Mynediad at Wasanaethau'r GIG i Gyn-filwyr

3. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau nad yw cyn-filwyr yn wynebu anfanteision wrth gael mynediad at wasanaethau'r GIG? OQ63631

Rwy'n gweithio gyda fy holl gyd-Aelodau o'r Cabinet ar fater pwysig llesiant cyn-filwyr. Cyflwynais eitem i'r Cabinet ar gyfamod y lluoedd arfog ar 14 Tachwedd, a chyfarfûm â'r Gweinidog iechyd a gofal cymdeithasol cyn hynny.

Roedd hwnnw'n ateb byr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond dyna ni. Gwn eich bod wedi cael y drafodaeth hon yn gynharach gyda Sam Rowlands, ond mae llawer o fy etholwyr yn gyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad ac wedi helpu i'n cadw'n ddiogel. Maent yn cael clywed dro ar ôl tro, oherwydd eu gwasanaeth i'n gwlad, y byddant yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer mynediad at driniaeth y GIG ledled Cymru—rhywbeth rwy'n falch iawn ohono. Fodd bynnag, mae realiti'r profiad ar lawr gwlad yn wahanol iawn, gydag amseroedd aros hir a dim cydnabyddiaeth i'w hymrwymiad. Mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn dweud wrth gyn-filwyr, 'Wel, nid yw'r ffaith eich bod yn gyn-filwr yn golygu eich bod yn cael unrhyw driniaeth ffafriol.' Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu beth y mae triniaeth flaenoriaethol i gyn-filwyr yn ei olygu'n ymarferol, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â chamwybodaeth? Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw gyn-filwyr yn gorfod aros yn ddiangen ledled ein gwlad, gan eu bod yn haeddu'r gydnabyddiaeth sydd ei hangen arnynt am eu gwasanaeth i'n gwlad?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Buaswn yn dweud, yn gyntaf oll, na allwn orfodi byrddau iechyd Cymru i atgyfeirio cleifion at unrhyw wasanaeth penodol. Fodd bynnag, lle ceir cyflwr sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth, gall bwrdd iechyd ystyried blaenoriaethu, ac yn fy marn i, fe ddylent ystyried hynny. Gall y rhwydwaith trawma cyn-filwyr gefnogi byrddau iechyd ledled Cymru i asesu'r achos dros flaenoriaethu. Nawr, os nad yw hyn yn digwydd i'r safon uchaf ac yn gyson ledled Cymru, bydd angen i Weinidogion fynd i'r afael â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ymgymryd â gwaith mewn perthynas â hyn. Bydd yna ymateb i adolygiad GIG Cymru hefyd, y gobeithiaf y gall fynd i'r afael â rhai o bryderon yr Aelod, ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod achosion sy'n peri pryder yn lleol yn ei etholaeth.

Diogelwch ar yr A470

4. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch yr A470? OQ63661

13:55

Wel, rydym o ddifrif ynghylch diogelwch ar y ffyrdd, ac yn adolygu data'r heddlu ar wrthdrawiadau yn rheolaidd i nodi gwelliannau. Fe wnaethom gynnal astudiaeth diogelwch cerddwyr yn Nhrawsfynydd ac rydym wedi comisiynu adolygiad cyflymder o gyffordd yr A470-A4212, a byddwn yn aros am ganfyddiadau'r adolygiad cyflymder parhaus i lywio gwelliannau yn y dyfodol.

Mae'n dda clywed am yr asesiadau yna o gyflymder ddaru chi sôn amdanynt yn Nhrawsfynydd, a gan nad ydych chi'n cynrychioli Gwynedd, gwnaf i gymryd eich bod chi ddim yn adnabod yr A470 yn y rhan yna o Gymru. Ond os ydych chi'n teithio o Gellilydan i'r gogledd drwy Drawsfynydd, heibio'r rhan yna sy'n cael ei alw'n Stesion, mae o'n ffordd syth iawn ac mae ceir yn mynd yn andros o sydyn. Mae yna bobl yn byw yn ochr Stesion sydd yn gorfod teithio a chroesi ffordd yr A470 er mwyn mynd i'r pentref i wneud eu siopa, er mwyn gweld eu hanwyliaid ac yn y blaen, ond yn benodol, felly, y plant sy'n gorfod croesi er mwyn mynd i Ysgol Bro Hedd Wyn. Mae o'n beryglus iddyn nhw, ac maen nhw'n gorfod cymryd eu bywydau i'w dwylo bob bore a bob prynhawn, felly mae angen gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod y plant a phawb sydd yn gorfod croesi'r ffordd yna'n cael eu diogelu. A wnewch chi, ymhellach i'r asesiadau o gyflymder, edrych i weld pa gamau y gellir eu cymryd er mwyn gwneud y croesi yna'n fwy diogel i bobl ardal Stesion o Drawsfynydd, os gwelwch yn dda?

Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried unrhyw sylwadau gan yr Aelod ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a diogelwch cerddwyr. Rwy'n ymwybodol o bryderon ynghylch diogelwch ar y darn penodol hwn o ffordd, a gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn cynnal astudiaeth o anghenion trafnidiaeth a gwydnwch ar yr A470, gan gynnwys y darn penodol hwn o ffordd. Nawr, bydd yr astudiaeth honno'n canolbwyntio ar nifer o feysydd, gan gynnwys gwydnwch, ond yn hollbwysig, bydd yn ymdrin â diogelwch. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n cael ei wneud cyn gynted â phosib.

Ysgrifennydd y Cabinet, ymgynghorodd eich rhagflaenydd ar gyflwyno tollau ar yr A470 y tu allan i Gaerdydd yng Nglan-bad. Achosodd yr ymgynghoriad hwn gryn dipyn o bryder a dicter. Rwy'n awyddus i wybod a gyflwynwyd tollau ar hyd y rhan hon o'r A470 er mwyn gwella diogelwch gyrwyr, neu ai dim ond cynllun arall gan y Blaid Lafur oedd hyn i gael mwy o arian gan drigolion gweithgar sydd dan bwysau? A wnewch chi achub ar y cyfle nawr hefyd i ddiystyru'r cynnig gwirion hwn yn llwyr a rhoi sicrwydd i drigolion na fydd tollau'n cael eu cyflwyno ar yr A470? Diolch.

Gwasanaethau Bysiau yng Ngogledd Cymru

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru? OQ63639

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr i sicrhau bod rhanbarth gogledd Cymru'n parhau i gael ei wasanaethu gan rwydwaith helaeth o wasanaethau bysiau lleol. Gan edrych tua'r dyfodol, ein nod yw gwella gwasanaethau ymhellach drwy ein cynigion masnachfreinio bysiau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn y Nadolig, codais bwysigrwydd trawsadrannol trafnidiaeth gyhoeddus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, gan ei bod yn sicrhau mynediad at gyfleoedd iechyd, addysg, cyflogaeth a hamdden, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig.

Fel y gwyddoch yn iawn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaethau da ledled y gogledd wedi'u darparu gan rwydwaith TrawsCymru, a'u hariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y T8. Mae'n wasanaeth amhrisiadwy o Gorwen i Gaer trwy bentrefi gwledig Clwyd a'r Wyddgrug—neu sir Ddinbych a'r Wyddgrug, dylwn ddweud—yn ogystal â Gwynedd. Codais bryderon ynghylch cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn yn y dyfodol, a hoffwn ofyn ichi fynd ar drywydd hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i ddiogelu hyfywedd y T8 wrth inni edrych ar gyflwyno masnachfreinio ledled gogledd Cymru, a thybed a oes gennych unrhyw ddiweddariad ynghylch y gwasanaeth T8.

Wel, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiwn a'r sylwadau a wnaed ynghylch y T8, a'r rhwydwaith bysiau ehangach hefyd? Gwn fod Carolyn wedi bod yn gefnogwr mawr, er enghraifft, i gapio prisiau, ac ar y penwythnos roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi ein bwriad, os cawn ein hailethol, i gyflwyno cap prisiau o £2 i oedolion ar wasanaethau bysiau yng Nghymru.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi darparu cyllid i Trafnidiaeth Cymru ac i Gyngor Sir Dinbych i'w galluogi i weithredu'r bws treial T8. Mae'n wasanaeth hynod bwysig ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'n cysylltu Corwen, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer, ac mae'r gwasanaeth yn gweithredu unwaith bob awr i bob cyfeiriad, yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn. Mae'n cysylltu â llwybrau TrawsCymru eraill yng Nghorwen a Rhuthun, felly mae'n rhan o'r pecyn cyffredinol o wasanaethau sydd wedi gwella safonau byw yn y gogledd yn fawr. Credaf fod oddeutu 120,000 o deithiau wedi'u gwneud ar y llwybr dros y 12 mis diwethaf, felly mae wedi bod yn hynod boblogaidd a llwyddiannus. Hefyd, rwy'n deall y bydd tendr yn cael ei gynnig i barhau â'r llwybr. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â chyllid ar gyfer y gwasanaeth penodol hwn. Rwyf wedi cyfarfod â'r Gweinidog cyllid, sy'n cytuno ei fod yn wasanaeth hanfodol bwysig—fel pob gwasanaeth TrawsCymru ledled Cymru. Rwy'n falch o ddweud bod y cyllid wedi'i sicrhau i barhau â'r gwasanaeth hanfodol bwysig hwn. Mae hefyd yn cysylltu pobl â chyrchfannau cyflogaeth allweddol. Rhywbeth a glywais yn glir ac yn groch dros y blynyddoedd yw'r angen i wella gwasanaethau bysiau i ac o fannau cyflogaeth. Yn hyn o beth, mae Brychdyn yn ganolfan gyflogaeth allweddol i lawer o bobl, ac rwy'n falch iawn fod y gwasanaeth hwn mor boblogaidd.

14:00

Tamaid bach o newid cyfeiriad, ond mae gweithredwyr bysiau bach a chanolig sy'n gweithredu ledled gogledd Cymru yn poeni am effaith eich Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ar fusnesau bach, cymunedau gwledig a theithwyr, sydd ond eisiau gwasanaeth dibynadwy a fforddiadwy. Er bod llawer o sôn yn eich Bil am lunio gwasanaethau er budd y teithiwr, mae Bus Users UK yn dweud nad oes llawer o sôn am ymgynghori â theithwyr i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.

Er y bydd yr eithriad yn y Bil ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol yn galluogi gwasanaethau ar alw i barhau, ni fydd hynny'n digwydd fel rhan o rwydwaith masnachfraint mewn ardal. O ystyried eich datganiadau blaenorol y bydd eich model masnachfraint yn wahanol i'r model ym Manceinion, lle codwyd y dreth gyngor i ariannu eu cynllun, sut rydych chi'n ymateb i bryderon fod eich cynigion yn creu perygl o yrru gweithredwyr bysiau bach teuluol yng ngogledd Cymru allan o fusnes? 

Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn, oherwydd mae'n rhoi cyfle imi roi sicrwydd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n darparu gwasanaeth hanfodol. Rydym eisiau tyfu'r rhwydwaith ac ni allwn wneud hynny oni bai ein bod yn cefnogi gweithredwyr bysiau o bob maint, gan gynnwys busnesau bach a chanolig. Mae busnesau bach a chanolig mewn etholaethau gwledig yn enwedig yn achubiaeth y mae cymunedau'n dibynnu arni.

Byddwn yn gweithio gyda'r sector i sicrhau y manteisir ar bob cyfle i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn gallu cael contractau sy'n mynd i gael eu cynllunio nid yn unig ar gyfer y gweithredwyr mawr, ond ar gyfer mentrau bach a chanolig. Byddwn yn gweithio gyda gweithredwyr unigol hefyd. Rwy'n gadarnhaol iawn am y rhagolygon ar gyfer gwasanaethau bysiau yn y dyfodol. Dros y penwythnos, ochr yn ochr â'r cap prisiau o £2, fe wnaethom gyhoeddi y byddem yn cyflwyno o leiaf 100 o lwybrau newydd os cawn ein hailethol. Ni ellid cyflawni hynny heb y rhwydwaith BBaChau sydd ar waith ar hyn o bryd.

O ran gwasanaethau bws ar alw, maent yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn gwasanaethu cymunedau sy'n anodd eu gwasanaethu gan lwybrau sefydlog confensiynol. Yng Nghymru, wrth gwrs, rydym wedi datblygu'r brand Fflecsi, sy'n hynod boblogaidd mewn rhai ardaloedd. Gyda'r cynllun Fflecsi, codir prisiau bws lleol, ac mae holl wasanaethau Fflecsi, rwy'n falch o ddweud, yn derbyn y tocyn teithio consesiynol.

Rydym wedi gwneud cynnydd da ar gyflwyno cynlluniau Fflecsi ar draws gogledd Cymru, gyda gwasanaethau wedi eu sefydlu'n dda yn Nyffryn Conwy, yn Ninbych, yn Rhuthun, Prestatyn, Treffynnon, Bwcle, Pen Llŷn, Dolgellau a Machynlleth—rhwydwaith helaeth o wasanaethau Fflecsi. Yn rhan o'n paratoadau ar gyfer masnachfreinio bysiau, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chynghorau ledled gogledd Cymru i nodi lleoliadau ychwanegol ar gyfer cynlluniau Fflecsi newydd posib yn y rhanbarth. Felly, os rhywbeth, rwy'n credu bod masnachfreinio bysiau yn cynnig dyfodol cadarnhaol iawn i farchnad BBaCh mewn bysiau.

Maes Awyr Caerdydd

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl Maes Awyr Caerdydd ym mholisi hedfan Llywodraeth Cymru? OQ63653

Mae polisi hedfan yn fater wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Maes Awyr Caerdydd yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru oherwydd y manteision y mae'n eu dwyn i dde Cymru. Amcangyfrifwyd y bydd yn cynhyrchu dros £200 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros bob blwyddyn, gan gefnogi miloedd o swyddi yn y rhanbarth. 

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gofyn i amryw o Ysgrifenyddion Cabinet—a'r Prif Weinidog yn wir—mewn perthynas â Qatar Airways yn dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd. Pan oeddech chi'n Weinidog yr economi, roedd hwn yn gyfrifoldeb portffolio allweddol i chi. Chi sy'n gyfrifol am bolisi hedfan, ac rydych chi newydd ei gysylltu â pholisi economaidd. A allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Maes Awyr Caerdydd i sicrhau bod y llwybr hwnnw'n cael ei ailsefydlu, gan ei fod yn allweddol i faes awyr mawr yn y dwyrain canol, i sicrhau bod y cysylltiad hwnnw'n bwrw ymlaen â'r cynnydd yr ydym i gyd am ei weld ym Maes Awyr Caerdydd ac yn enwedig sicrhau bod Caerdydd yn colli'r enw o fod yn unig faes awyr y DU nad yw wedi ailsefydlu llwybr Qatar Airways? 

14:05

Gallaf gofio'n glir iawn y gwaith caled a wnaed i sicrhau'r llwybr penodol hwnnw. Rhoddodd gyfleoedd i ni gael mynediad at farchnad economaidd hynod bwysig. Rwy'n falch fod y maes awyr wedi bod yn tyfu. Mae wedi bod yn adrodd cynnydd cadarnhaol yn nifer y teithwyr am y 12 mis diwethaf. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y maes awyr lansiad llwybr trawsatlantig newydd i Ganada gyda WestJet. Mae hynny'n hynod gyffrous i allu cael mynediad i Ganada o Gaerdydd.

Rydym yn edrych ar gefnogi'r maes awyr ym mhob ffordd y gallwn, gan gynnwys nodi llwybrau newydd ac adfer llwybrau sydd wedi bodoli yn y gorffennol. Mae hynny'n cynnwys y gwasanaeth a gâi ei ddarparu gan Qatar Airways. Rydym yn barod i weithio gyda nhw yn y dyfodol i sicrhau gwasanaethau ac i ailsefydlu cysylltiadau hanfodol bwysig â'r dwyrain canol a thu hwnt.

Diogelwch Cerddwyr ym Mhowys

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i wella diogelwch cerddwyr, gan gynnwys pont droed newydd ar bont Caersŵs? OQ63647

Drwy ein grantiau teithio llesol, diogelwch ar y ffyrdd a thrafnidiaeth leol, mae fy swyddogion a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chyngor Powys i wella diogelwch cerddwyr. Mae'r asiant cefnffyrdd hefyd yn gweithio gyda'r cyngor i fwrw ymlaen ag opsiynau i wella llwybrau cerddwyr ar draws yr afon yng Nghaersŵs, gan gynnwys pont droed newydd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn o glywed hynny. Efallai y byddwch chi'n cofio 10 mlynedd yn ôl i eleni fe ymweloch chi a minnau â'r bont i gyfarfod ag ymgyrchwyr lleol, ac roedd y ddau ohonom yn cytuno bod angen prosiect gwella diogelwch. Rwy'n sylweddoli fy mod wedi codi hyn gyda chi fis diwethaf mewn gohebiaeth, ac fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i wella llwybrau cerddwyr ar draws yr afon, gan gynnwys pont droed newydd. Roedd hyn yn gadarnhaol, ac roeddwn yn falch o glywed yr ymateb hwnnw a'ch ymateb heddiw. Fodd bynnag, fe fyddwch yn deall, ar ôl 10 mlynedd, fod rhwystredigaeth y bobl leol yn uwch nag erioed oherwydd arafwch y cynnydd. Wrth gwrs, byddai'n rhaid i unrhyw brosiect newydd alinio â chynigion cyffordd Lôn y Clawdd hefyd—byddai'n rhaid i'r prosiectau alinio. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi a'r bobl sy'n byw yn ardal Caersŵs ar gynnydd y ddau brosiect, gyda dyddiadau posib ar gyfer dechrau adeiladu'r prosiectau hefyd.

Diolch i Russell George am ei gwestiwn atodol. Rwy'n cofio'r ymweliad 10 mlynedd yn ôl. Roedd yn ymweliad gwych; fe wnaethom gyfarfod ag aelodau o'r gymuned a thrafod yr angen am welliannau yn yr ardal. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys i wella diogelwch cerddwyr. Y flwyddyn ariannol hon yn unig rydym yn darparu symiau sylweddol o arian ar gyfer rhaglenni teithio llesol yn yr ardal. Hefyd, rydym yn darparu £1.5 miliwn i wella'r stryd fawr yn Aberhonddu i'w gwneud yn fwy cyfeillgar i gerddwyr. Bydd hynny'n hynod boblogaidd ymhlith thrigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

O ran pont i gerddwyr Caersŵs, rydym wedi cyfarfod â Chyngor Sir Powys ac wedi adolygu'r cynlluniau ar gyfer y bont droed dros yr afon. Rydym hefyd wedi bod yn archwilio aliniad â'n gwelliannau diogelwch i gyffordd Lôn y Clawdd. Rwy'n falch iawn o hysbysu'r Aelod fod y ddau gynllun yn alinio'n dda iawn mewn gwirionedd. Y camau nesaf yw dod â'r ddau dîm prosiect at ei gilydd. Mae disgwyl i hynny ddigwydd y mis hwn. Rwy'n awyddus i symud mor gyflym â phosib gyda'r gwaith, o ystyried ei fod wedi cymryd 10 mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn. O ran cyffordd Lôn y Clawdd, mae'r arfarniad WelTAG ar gyfer y gyffordd wedi'i gwblhau, ac rydym yn bwriadu dechrau ymgynghori ar yr opsiynau diogelwch cyn y Pasg eleni.

Gwasanaethau Bysiau a Threnau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63654

Bydd y Bil Bysiau, a basiodd Gyfnod 4 y broses graffu yn ddiweddar, yn cyflwyno rhwydwaith bysiau wedi'i fasnachfreinio ar draws de-orllewin Cymru a chanolbarth Cymru. Ar reilffyrdd, bydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno ar lein y Cambrian yn ddiweddarach eleni, yn dilyn ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau newydd.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd yn syndod i chi fod Plaid Cymru yn siomedig iawn ynghylch sylwadau diweddar a wnaed gan eich cyd-Aelod y Cwnsler Cyffredinol ar ddatganoli rheilffyrdd. Dyma'r un Lywodraeth Lafur a gydnabu'n flaenorol fod angen datganoli rheilffyrdd yn llawn i fynd i'r afael â thanariannu cronig yng Nghymru. Ond dywedir wrthym nawr y dylai Cymru fod yn fodlon am fod gan Weinidogion berthynas waith dda iawn gyda Llywodraeth y DU ar fuddsoddiad rheilffyrdd.

Fe wyddom i ble y mae'r dull hwn o weithredu wedi ein harwain. Gyda HS2, mae Cymru wedi colli biliynau o bunnoedd o gyllid canlyniadol, ac nid yw Llywodraeth Lafur San Steffan yn gwneud unrhyw beth am hynny. Pe bai Cymru'n cael y pwerau a'r cyllid teg sy'n ddyledus iddi, gallem gyflawni newid gwirioneddol—er enghraifft, buddsoddiad hirddisgwyliedig mewn rheilffyrdd ymhellach i'r gorllewin na Chaerdydd a'r Cymoedd, gan gynnwys metro'r Cymoedd gorllewinol, y bu sôn amdano ers blynyddoedd, a gorsafoedd newydd mewn ardaloedd fel Sanclêr. A allwch chi esbonio pam y mae rhai yn eich Llywodraeth, drwy wrthwynebu datganoli rheilffyrdd, yn dewis rhwystro buddsoddiad yn hytrach na sefyll dros Gymru, o ystyried nad yw'r swm a gafwyd eisoes ond yn rhan fach iawn o'r hyn sydd ei angen arnom? 

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n credu ei bod yn annheg portreadu'r hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn y modd hwnnw. Cododd y Cwnsler Cyffredinol bwyntiau gwerthfawr am yr angen i gael dull graddol o ddatganoli rheilffyrdd i negodi'n llawn, ac i fod yn gyfrifol ac i fynd i mewn i'r broses gyda'n llygaid yn llydan agored. Rydym yn gwybod hynny o'n profiad o uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd. Mae yna nifer o faterion allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw, a dyna pam mai proses yw datganoli seilwaith rheilffyrdd, nid un digwyddiad mawr.

Yn gyntaf oll, rhaid penderfynu beth yn union yr hoffech ei weld yn cael ei ddatganoli. Ai'r seilwaith cyfan yng Nghymru, neu'r seilwaith cyfan ar lwybr Cymru a'r gororau? Yn amlwg, rhaid iddo fod yn llwybr Cymru a'r gororau, oherwydd mae cymaint o wasanaethau'n drawsffiniol, ac mae angen inni sicrhau bod y llwybr cyfan yn cael ei uwchraddio ac yn cael buddsoddiad. Yr ail bwynt sydd angen ei ystyried yw sut y byddech chi wedyn yn mynd ati i fod yn atebol i aelodau etholedig nid yn unig yng Nghymru ond y tu allan i Gymru hefyd. Sut y byddai'r broses ddatganoli'n gweithio o ystyried y pwerau sydd gan feiri metro, er enghraifft? Sut y byddem ni'n gweithio gyda nhw?

Clywsom anghytuno heddiw ynglŷn ag a ddylid buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd ar sail drawsffiniol. Rwy'n credu y byddai'n anodd iawn sicrhau cytundeb gan unrhyw feiri metro i ni gael pwerau dros seilwaith yn eu rhanbarthau os ydym yn dadlau na ddylid buddsoddi ynddo. Rhaid inni gael cydweithrediad trawsffiniol er mwyn datganoli'r rhwydwaith cyfan. Fel arall, dim ond yng Nghymru y byddai modd datganoli'r rhwydwaith.

Wedyn, mae cwestiwn yn codi ynghylch pa fath o setliad cyllido teg sydd ei angen. Ai ar sail nifer y teithwyr a gludir, neu ar sail nifer cilomedrau y teithiwr, neu fetrig arall? Yn seiliedig ar amcangyfrifon y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yr her sydd gennym yw bod y buddsoddiad fesul teithiwr yng Nghymru yn sylweddol uwch na Lloegr a'r Alban, a hynny oherwydd bod llawer o'n gwasanaethau'n cynhyrchu llawer llai o ran refeniw, am ein bod yn cario llai o deithwyr ar lawer o'n gwasanaethau. Felly, sut yr aem i'r afael â'r her ariannol honno yn y dyfodol?

Nid yw'r rhain yn heriau anorchfygol, ond mae'n rhaid inni ystyried yn aeddfed y broses o ddatganoli seilwaith trwm. Yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o brofiad llinellau craidd y Cymoedd, fy marn bersonol i yw bod proses fesul cam yn un synhwyrol a diogel, ac felly hefyd proses sy'n edrych ar agweddau unigol y rhwydwaith. Er enghraifft, efallai mai'r cam nesaf fydd datganoli rhan allweddol fel prif linell gogledd Cymru, neu linell Wrecsam i Lerpwl, neu lein y Cambrian, yn hytrach na'r rhwydwaith cyfan ar unwaith.

Y rheswm pam rwy'n dweud hyn yw oherwydd pan fydd digwyddiadau trychinebus na ellir eu rhagweld yn digwydd, os yw wedi ei ddatganoli, ni fydd yn ysgwyddo'r gost o dalu am eu hadfer. Er enghraifft, rwy'n credu bod adfer pont Abermaw wedi costio oddeutu £30 miliwn. Mae llinell dyffryn Conwy y mae Janet Finch-Saunders yn ei hadnabod yn dda iawn yn cael ei tharo bob blwyddyn gan stormydd, digwyddiadau newid hinsawdd. Byddai'n rhaid inni dalu am unrhyw waith yno o dan setliad datganoledig, felly a fyddem am weld y darn penodol hwnnw o lein yn cael ei ddatganoli?

Mae'r rhain i gyd yn faterion pwysig iawn sydd eto i'w trafod yn helaeth. Nid wyf yn dweud bod angen inni eu hanwybyddu. Mae angen inni eu gwyntyllu er mwyn penderfynu ar y broses a'r camau ar gyfer datganoli seilwaith rheilffyrdd trwm. Mae'r rhain yn gwestiynau synhwyrol sydd angen eu gofyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rhywbeth yr wyf wedi'i godi yma o'r blaen yw'r angen i wella gwasanaethau bysiau o dref Caerfyrddin i Aberystwyth. Yn amlwg, mae ymchwiliad wedi bod ynglŷn ag a yw ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn bosib ai peidio, felly buaswn yn gwerthfawrogi barn gan Lywodraeth Cymru ar hynny. Ond yr hyn y gelwais amdano yw llwybr bws cyflym o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn lle'r gwasanaethau rheilffordd hynny, yn hytrach na bod gwasanaeth rhwydwaith TrawsCymru yn aros ym mhob pentref a gwneud y daith yn llawer hirach nag sydd angen iddi fod i'r rhai sy'n dymuno teithio rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ac ar drydydd pwynt, y mater ynglŷn â pharcio a theithio ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin, rwyf wedi codi hyn: mae bysiau'n aros yno i wefru am eu bod yn fysiau trydan, ond ni all teithwyr fynd ar y bysiau ar faes y sioe. Mae angen iddynt fynd i Stryd Lammas yn nhref Caerfyrddin a mynd ar y bws yno. Mae hyn i'w weld yn anomaledd rhyfedd iawn, yr anallu i deithwyr gael mynediad i'r gwasanaeth bws trwy system parcio a theithio ar faes y sioe Caerfyrddin. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen a chlywais lawer o gytundeb ynghylch yr egwyddor, ond byddai ymchwiliad pellach yn dderbyniol iawn.

14:15

Rwy'n hapus i ymchwilio ymhellach i'r mater hwnnw. Rwy'n cofio bod yr Aelod wedi ei godi yn y gorffennol. Mae angen edrych arno eto. Ac o ran gwasanaethau ar y trên neu ar fws rhwng cymunedau allweddol, credaf fod rôl TrawsCymru wedi bod yn hynod o bwysig. Rydym yn buddsoddi rhywbeth tebyg i £7.3 miliwn i ddarparu gwasanaethau bws TrawsCymru o safon ar lwybrau strategol ledled Cymru, ac rydym wedi datblygu rhwydwaith helaeth iawn o wasanaethau ledled canolbarth a gorllewin Cymru yn enwedig, yn gynnwys y gwasanaeth T1 sy'n cysylltu Aberystwyth â Chaerfyrddin, a'r gwasanaeth T4 sy'n cysylltu'r Drenewydd a Merthyr Tudful. Mae'r gwasanaeth T5 yn cael defnydd da hefyd, felly hefyd y gwasanaeth T6 rhwng Bangor ac Abertawe. Ac rwy'n falch o ddweud, ym mis Medi, gallasom adfer amlder llwybrau TrawsCymru T5 allweddol sy'n cysylltu Hwlffordd ag Aberystwyth, ynghyd â gwasanaeth dydd Sul newydd hefyd, sy'n sicrhau cynnydd sylweddol yn niferoedd teithwyr.

O ran gwasanaethau cyflym, rydym yn cynnal adolygiad o'r posibilrwydd o gyflwyno mwy o wasanaethau bysiau gyda nifer cyfyngedig o fannau aros i gysylltu gogledd, canolbarth a de Cymru a gorllewin Cymru. Mae hynny dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio cael newyddion cadarnhaol ar hynny yn lled fuan.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o ddarllen eich diweddariad a gyhoeddwyd cyn toriad y Nadolig ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd. Mae'r cyfleuster profi rheilffyrdd o'r radd flaenaf yn addo bod o fudd i Ystradgynlais ac yn hwb i ddatblygiad economaidd ar draws y rhanbarth hwnnw. Roedd eich datganiad yn amlinellu'r rhwystrau a'r atebion a arweinir gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r prosiect, sef y costau adeiladu terfynol. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynllunio a datblygu y mae eich adran yn ei ariannu i gadw'r prosiect ar y trywydd iawn ac yn symud yn ei flaen? 

Wel, diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn, Mae'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn un o'r prosiectau arloesi mwyaf cyffrous sydd wedi'u cynllunio yng Nghymru ar hyn o bryd. Byddai'n gyfleuster enfawr mewn ardal o Gymru sydd angen cyfleoedd cyflogaeth, a chyfleoedd cyflogaeth o'r safon uchaf. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr y ganolfan ragoriaeth a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, gyda Gweinidogion y DU hefyd, a gwn fod gan y Gweinidog rheilffyrdd, Peter Hendy, ddiddordeb mawr iawn yn y cynllun, gan y gallai gyfrannu at drenau mwy dibynadwy a phrydlon ar draws rhwydwaith y DU. Mae hwn yn brosiect a fydd nid yn unig yn sicrhau bod traciau'n cael eu profi a threnau'n cael eu profi, ond hefyd y gellir profi signalau ac offer uwch-dechnoleg a newydd yn ddiogel oddi ar y prif linellau. Felly, mae'n ddarpariaeth hanfodol bwysig i'r diwydiant rheilffyrdd. Mae potensial i gysylltu ag elfennau eraill o ddatblygiad economaidd, megis technolegau mewn meysydd eraill, a data hefyd o bosib. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni. Rydym yn sicrhau ei fod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen iddo fuddsoddi'n derfynol, ac rwy'n optimistaidd iawn ynghylch ei ragolygon.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths. 

Tlodi yn Nwyrain De Cymru

1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ63657

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ63640

Member
Jane Hutt 14:19:51
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i grwpio cwestiynau 1 a 2. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru, gan gynnwys yn Nwyrain De Cymru, fel blaenoriaeth. Ers 2022, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn mewn ymyriadau sy'n lleihau costau, yn gwella incwm teuluoedd a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru. Ym mis Chwefror, bydd y bwndeli babi cyntaf yn cael eu dosbarthu i deuluoedd cymwys.

14:20

Diolch am yr ateb yna.

Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Lafur y DU ar ddileu'r terfyn dau blentyn ar fudd-daliadau. Fel llawer o bobl, rwy'n meddwl tybed pam y cymerodd eich cyd-bleidwyr gymaint o amser i roi diwedd ar bolisi mor greulon. Mae miloedd o deuluoedd ledled Cymru wedi cael eu gwthio i dlodi, neu'n ddyfnach i dlodi, o ganlyniad i'r polisi hwn ers ei gyflwyno yn 2017. Mae Sefydliad Bevan wedi dangos yn eu hymchwil y byddai cynyddu mynediad at ofal plant wedi'i ariannu a chyflwyno taliad plant i'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf yn elfennau hanfodol yn y frwydr hon. Mae'r ddau bolisi yn ymrwymiadau gan Blaid Cymru os enillwn etholiad nesaf y Senedd. A ydych chi'n difaru nad yw eich Llywodraeth wedi gweithredu polisïau o'r fath a llwyddo i leihau rhywfaint ar y lefelau tlodi annerbyniol ledled y wlad?

Diolch yn fawr, Peredur. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o weld y Canghellor yn gweithredu yn y gyllideb i ddileu'r terfyn dau blentyn, fel y gwnaethant alw arni i'w wneud, ac mae'n bwysig inni allu dweud hynny eto heddiw. Nid yw'n iawn fod plant wedi cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth flaenorol y DU. Rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau ar draws y Siambr eisiau gwybod y bydd y cyhoeddiad, yn ôl Llywodraeth y DU, yn gwella bywydau 69,000 o blant yng Nghymru a amddifadwyd o gymorth ariannol gan system fudd-daliadau'r DU. Yn Nwyrain De Cymru, ac rydym yn edrych ar hynny'n benodol, mae tua 5,900 o blant ar hyn o bryd wedi'u heithrio o hawliad credyd cynhwysol eu rhieni oherwydd y terfyn dau blentyn. Ond o fis Ebrill ymlaen, mae hynny'n newid. Am y tro cyntaf, bydd gan rieni a gwarcheidwaid hawl i gael elfen plentyn ar gyfer y plant hyn wedi ei chynnwys wrth gyfrifo'r mwyafswm o gredyd cynhwysol. Mae'r elfen plentyn yn werth £303.94 y mis ar gyfer pob plentyn, ac rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig gosod mewn persbectif y gallai rhiant yn Nwyrain De Cymru sydd â phedwar o blant, dau ohonynt wedi'u geni ar ôl Ebrill 2017, weld lefel eu credyd cynhwysol misol yn codi £607.88—hwb sylweddol i incwm eu cartrefi. Felly, rwy'n falch o allu cofnodi hynny.

Wrth gwrs, fel y gwyddoch ac fel y nodais eisoes, nid oes gennym bwerau i gyflwyno neu weithredu taliad plant yng Nghymru, ond rydym yn edrych yn fanwl ar y trefniadau yn yr Alban o ran eu pwerau nhw a'r hyn y byddai ei angen—y gwaith a wnawn ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau yng Nghymru, a fyddai'n rhoi'r pŵer hwnnw.

Ond mewn perthynas â gofal plant, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y £25 miliwn i ehangu Dechrau'n Deg—ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ymhellach—a'r £120 miliwn i ofal plant fod ar gael. Ond unwaith eto, gallwn groesawu'r hwb gwirioneddol i deuluoedd yn sgil dileu'r terfyn dau blentyn. 

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn i'n gwrando'n astud. Mae ymyrraeth gynnar ac atal yn allweddol i fynd i'r afael ag achos sylfaenol tlodi. Fel y dywed strategaeth gwrth-dlodi Cyngor Dinas Casnewydd ei hun, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae'n bwysig bod y Cyngor, cyrff cyhoeddus eraill, a sefydliadau yn gallu adnabod, a darparu'r ymyrraeth gynnar angenrheidiol i atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng a syrthio i dlodi.'

Fodd bynnag, mae'r elusen sydd wedi'i lleoli yng Nghasnewydd o'r enw Sparkle, sy'n cefnogi cannoedd o blant a phobl ifanc Gwent ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd, gan eu hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng, yn cynnwys tlodi hefyd. Maent wedi bod yn wynebu sefyllfa ariannol ansicr yn ddiweddar. Mae gan Sparkle ddiffyg o £200,000 o un flwyddyn i'r llall ac mae'n dibynnu ar roddion mawr annisgwyl i'w hachub, sydd yn ôl eu natur yn anrhagweladwy ac nid ydynt yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr elusen. Mae llawer o rieni, gofalwyr a theuluoedd yn dweud bod Sparkle yn achubiaeth na allent wneud hebddi, ac mae rhestr aros yr elusen yn parhau i dyfu'n gyflym. Felly, hoffwn wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwireddu'r rhethreg ynghylch ymyrraeth gynnar ac yn mynd ati go iawn i gefnogi ein helusennau a'n cyrff trydydd sector i ymladd tlodi ar draws de-ddwyrain Cymru unwaith ac am byth? Diolch.

Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Rwyf am ddweud fy mod innau hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwaith gwych a wneir gan Sparkle a'r gwaith y mae Jayne Bryant a John Griffiths, fel cynrychiolwyr Casnewydd, wedi tynnu sylw ato. Hoffwn edrych eto ar ffyrdd y gall nid yn unig cyngor Casnewydd, fel awdurdod, ond Llywodraeth Cymru hefyd, edrych ar anghenion Sparkle fel elusen ac yn amlwg, y mynediad at grantiau sydd ar gael yn lleol, yn genedlaethol a thrwy gyllid ymddiriedolaeth. Felly, rwy'n credu mai'r cam nesaf fydd i'n cymheiriaid yn y trydydd sector a'n swyddogion edrych ar hynny.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd bwysig o fynd i'r afael â thlodi yw helpu pobl i symud i mewn i waith. Pan fydd gan deuluoedd rieni mewn gwaith, mae'n drawsnewidiol i'r teuluoedd hynny o ran eu safon byw a'u rhagolygon. Yng Nghymru, rwy'n credu bod mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru weithio'n agos iawn gyda Chanolfan Byd Gwaith Llywodraeth y DU a chyda pholisi lles yn wir. Beth y byddech chi'n ei ddweud am y berthynas waith honno, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran sut y gellir ei chryfhau i sicrhau bod y cydweithio angenrheidiol hwnnw'n helpu i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn hwnnw, John Griffiths. Dyma lle rwy'n credu bod yna gyhoeddiadau eraill, nid codi'r terfyn dau blentyn yn unig, y rhoddais wybodaeth amdanynt sydd i'w groesawu am niferoedd y plant a fydd yn elwa yn eich etholaeth. Ac a gaf i ddweud mai'r hyn sy'n bwysig hefyd, o ran y ffigurau hynny, yw nifer y plant y rhagwelir y byddant yn dod allan o dlodi—galwad allweddol gan Sefydliad Bevan? Rwy'n gwybod y byddech chi'n croesawu hefyd ymrwymiad Llywodraeth y DU i wneud i waith dalu trwy gynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol. Mae hyn hefyd yn bwysig i annog pobl yn ôl i mewn i'r gweithlu, fel y dywedwch. A'r hyn sy'n dda am y codiadau i'r cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog cenedlaethol yw eu bod yn seiliedig ar argymhellion y Comisiwn Cyflog Isel annibynnol, sy'n edrych ar anghenion costau byw yn ogystal â sefydlogrwydd y farchnad lafur. Ond rydym yn gweithio ar y rhaglen Trailblazer sy'n cael ei harwain i raddau helaeth gan Jack Sargeant, gan ymgorffori dysgu yn ein rhaglenni cymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ein hunain.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafwyd—. Rwyf ychydig yn ddryslyd, roeddwn i i fod ar ôl Peredur. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â thlodi plant, a dau gwestiwn, fel llefarydd wedyn. A yw hynny'n gywir, Lywydd?

Fe wneuthum eich galw am gwestiwn atodol. Mae'n iawn i chi ofyn cwestiwn atodol ar y pwynt hwn—

Na, gallwch ofyn eich cwestiwn atodol nawr, os dymunwch, ac fe alwaf arnoch am dri yn ystod eich—

Na, fi sydd wedi camgymryd ar y pwynt hwn. Rwy'n drysu fy hun yn hytrach nag unrhyw un arall. A ydych chi eisiau gofyn cwestiwn atodol, neu a ddylwn i ei adael nes i ni fynd ymlaen at y llefarwyr?

Ie, parhewch gyda hynny ac fe feddyliaf i am—[Chwerthin.]

Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, mae strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau nad yw plant yn tyfu i fyny yn byw mewn llety gwely a brecwast. Yn anffodus, treuliodd llawer gormod o blant yn Nwyrain De Cymru ac ar draws Cymru gyfan y Nadolig yn byw yn yr hyn sydd i fod yn llety dros dro. A fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl Llywodraeth y DU ac yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i dreulio mwy nag wythnos neu ddwy mewn llety dros dro? Diolch.

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Fe wnaethom ymgysylltu â strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU, fel y gwnaeth pob un o'r pedair gwlad. Rwy'n credu bod y mewnbwn a gawsom, a arweiniodd yn uniongyrchol at ddileu'r terfyn plant, a gyflwynwyd gan eich plaid chi a'ch Llywodraeth flaenorol chi, ac yn anffodus iawn nid yw eich plaid wedi cefnogi—. Ond mae'n hollol allweddol ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gwneud atal digartrefedd yn flaenoriaeth ar gyfer plant. Mae'n allweddol iawn i'n strategaeth tlodi plant, yn ogystal â strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU. Ac yn amlwg, i fy nghyd-Aelod Jane Bryant, mae atal digartrefedd yn flaenoriaeth hanfodol i leihau llif y bobl sydd angen llety dros dro, er enghraifft. Eleni'n unig, rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn atal digartrefedd a chymorth tai. Rwy'n credu bod yn rhaid inni droi nawr at y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) newydd i drawsnewid yr ymateb i'r rhai sy'n ddigartref yng Nghymru, ac edrych ar hyn o safbwynt plant a'u teuluoedd, a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal.

14:30

Cyn imi alw ar Rhianon Passmore i ofyn cwestiwn atodol i'r cwestiwn hwn, hoffwn gadarnhau i Altaf Hussain y bydd gennych ddau gwestiwn fel llefarydd. Rwy'n gweithredu canllawiau newydd ar y cwestiynau heddiw, ac rwyf wedi llwyddo i ddrysu fy hun yn llwyr ar y canllawiau hynny. Felly, er eglurder, bydd gennych ddau gwestiwn, Altaf Hussain. Rhianon Passmore.

Diolch, Lywydd. Roeddwn yn falch iawn o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y bwndeli babi cyntaf yn cael eu danfon i deuluoedd cymwys ledled Cymru o fis Chwefror ymlaen, ac o ystyried y tywydd ar hyn o bryd, byddant yn cynnwys dillad a blancedi cynnes hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw wybodaeth bellach heddiw ynglŷn â sut y bydd bydwragedd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r fenter werthfawr ac ymarferol hon i'n rhai mwyaf agored i niwed?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwy'n falch iawn y gallwn, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn—. Rydym yn sicrhau bod ymwybyddiaeth go iawn o'r fenter newydd hon, a fydd yn mynd i'r afael â thlodi plant yn uniongyrchol, gan ein bod yn cynnig bwndel babi i lawer o deuluoedd ledled Cymru. Bydd bwndel babi'n cynnwys eitemau fel blanced a dillad cynnes, gwybodaeth ddefnyddiol am ble i droi am gymorth pellach, ac mae bydwragedd bellach yn cefnogi teuluoedd cymwys i gwblhau'r broses gofrestru. Dechreuodd hynny ar 25 Tachwedd, mewn apwyntiadau cynenedigol 25 i 28 wythnos.

Rwy'n credu y bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn dweud mwy am hyn ddechrau mis Chwefror, pan fydd y bwndel babi cyntaf yn cael ei ddarparu. Roeddwn hefyd eisiau dweud, o ran Dwyrain De Cymru, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch o glywed mai cwmni Elite Clothing Solutions, sydd wedi'i leoli yng Nglynebwy, sydd wedi cynhyrchu'r bibiau, yr hetiau, y tywelion cwflog, y padiau bron amldro. Sefydliad Pobl Ddall Merthyr Tudful sy'n gyfrifol am gydosod a darparu'r bwndeli, a Case-UK yw'r partneriaid a ddewiswyd i weithredu'r ganolfan alwadau. Felly, rwy'n gobeithio y bydd mwy o ddiddordeb o ganlyniad i'r cwestiynau heddiw am fanteision a chyfraniad ein cynllun bwndeli babi newydd yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, cyhoeddodd INQUEST, yr elusen sy'n ymchwilio i farwolaethau sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth, eu hadroddiad ar hunan-niweidio a hunanladdiad ymhlith carcharorion benywaidd. Yn frawychus, mae dros draean o farwolaethau yn y carchar yn deillio o hunanladdiad, ac mae achosion o hunan-niweidio ymhlith carcharorion benywaidd wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Tynnodd INQUEST sylw at nifer o achosion lle anwybyddwyd arwyddion rhybudd, gan gynnwys un achos lle anwybyddwyd nifer o lythyrau hunanladdiad. Yn anffodus, llwyddodd y sawl a ysgrifennodd y llythyrau i ladd ei hun. Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ddiogelu iechyd a lles carcharorion Cymru. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu'r carcharorion benywaidd agored i niwed hyn?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn sobreiddiol a phwysig i mi y prynhawn yma. Fel y dywedwch, er bod cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, mae llawer o'r gwasanaethau sy'n hanfodol i weithredu cyfiawnder oedolion ac ieuenctid, yr ystad ddiogel a'r gwasanaeth prawf wedi'u datganoli i ni. Diolch am dynnu sylw at yr adroddiad hwnnw, y byddaf yn ei drafod gyda swyddogion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle i godi hyn gyda'r Arglwydd James Timpson; mae gennyf gyfarfod ag ef yn yr wythnosau nesaf. Felly, rwy'n arbennig o awyddus, yn fy nghyfarfod ag ef, i godi mater menywod a chyfiawnder. Ef sy'n cadeirio'r bwrdd cyfiawnder menywod, ac rwy'n gobeithio y bydd hwnnw'n cyfarfod cyn bo hir, ac y caf yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ganolfan breswyl i fenywod.

Gwyddom fod cymaint o fenywod sydd yn y carchar yno oherwydd amgylchiadau yn eu bywydau—cam-drin domestig, tlodi—a'i fod ef ei hun wedi dweud na ddylai'r menywod hynny, llawer o'r menywod hynny, fod yn y carchar a'u bod wedi cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol. Yn sicr, dyna fy marn innau pan wyf wedi ymweld â charchardai—Carchar EF y Parc yn arbennig—a gwn fod y pwyllgor, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, wedi gwneud gwaith da ar hyn.

14:35

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Galwodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y marwolaethau hyn yn enghraifft drasig o sut nad yw'r system garchardai yn gweithio i'r rhan fwyaf o fenywod. Yn sicr, nid yw'n gweithio i fenywod Cymru sy'n cael eu gorfodi i fwrw'r dedfrydau hyn y tu allan i Gymru, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o gartref yn aml. Mae hyn er gwaethaf dull ystyriol o drawma o weithredu eich Llywodraeth sy'n ffafrio dewisiadau amgen cymunedol yn lle dedfrydau carchar byrrach. Mae bron i ddau ddegawd hefyd ers i adroddiad Corston argymell unedau diogel bach yn lle carchardai menywod. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe? A ydym yn debygol o weld y ganolfan 12 gwely hon yn 2026?

Diolch. Credaf imi ymateb i hynny'n gynharach yn fy nghyfraniad ar y cyfarfod y byddaf yn ei gael gyda'r Arglwydd Timpson. Ond hefyd, cyfarfûm cyn y Nadolig â Dr Rob Jones, a gynhyrchodd ffeil ffeithiau bwysig iawn, a oedd yn edrych yn benodol ar garcharu menywod yng Nghymru. Byddwn yn cael cyfarfod bord gron gyda Dr Rob Jones, a'r rhai sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, yn benodol o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Mae a wnelo hyn â chyfiawnder cymdeithasol, a'n gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder, sy'n rhywbeth rydym yn ceisio ei ddatganoli fel y gwyddoch, yw dull ataliol sy'n ystyriol o drawma.

Rydym yn gweithio i wireddu'r weledigaeth hon drwy fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder. Ac rydym hefyd eisiau gweld y gwaith da, y byddwn yn ei drafod pan gawn y cyfarfod bord gron, sydd â'r nod o gadw menywod allan o garchar, er mwyn galluogi menywod i gael mynediad at ganolfannau dydd hefyd, fel sydd gennym yng Nghymru, yn ogystal â mynd ar drywydd achos a chynnydd y ganolfan breswyl i fenywod.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi am yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ychydig cyn y Nadolig ac sydd wedi peri cryn dipyn o ofid. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad fod hawliau dynol mewn perygl o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru, a bod Cymru'n methu cyflawni sawl un o'i hymrwymiadau hawliau dynol rhyngwladol.

Mae un o'r methiannau cliriaf a nodwyd yn ymwneud â hawliau pobl anabl. Mae'r canfyddiadau hynny'n cael eu hadleisio gan bobl anabl eu hunain ar draws arolygon diweddar a gynhaliwyd gan Anabledd Cymru. Mae pobl anabl yng Nghymru wedi codi pryderon dwfn yn gyson ynghylch diffyg gorfodaeth mewn perthynas â'u hawliau. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn tynnu sylw at yr angen brys i Lywodraeth Cymru wella mynediad pobl anabl at wasanaethau iechyd. Nawr, er fy mod yn croesawu cyhoeddi'r cynllun hawliau pobl anabl wrth gwrs, mae pryderon yn parhau, yn enwedig ynghylch diffyg targedau clir, mesuradwy ac adnoddau ychwanegol i gefnogi ei nodau. Ni allwn anwybyddu effaith y methiant parhaus i weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau chwaith, er gwaethaf ymrwymiad y Llywodraeth i wneud hynny.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni canfyddiadau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a'r neges gan bobl anabl eu hunain, a allwch chi nodi sut rydych chi'n mynd i ymateb i'r adroddiad hwn? Diolch.

Diolch, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cyfeirio at y cynllun hawliau pobl anabl, a lansiwyd gennym ar 15 Rhagfyr. A lansiwyd hwnnw mewn cydweithrediad â phobl anabl a helpodd i ddod â'r cynllun hwnnw at ei gilydd—aelodau o'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl a'r tasglu hawliau pobl anabl. Ac rydych chi'n ymwybodol o hanes hyn, ei fod wedi'i sefydlu mewn ymateb uniongyrchol i adroddiad 'Drws ar Glo', gan adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio gyda phobl anabl i herio anghydraddoldebau. A chredaf fod yr argymhellion a wnaed wedi llywio ein cynllun hawliau pobl anabl, sy'n cynnwys ystod eang o faterion, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cynllun cyfan wedi'i ategu gan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl ag anableddau—yr hawl i fyw'n annibynnol, diogelwch cymdeithasol, a safon byw addas heb wahaniaethu. Mae'n gynllun trawslywodraethol, mae'n uchelgais 10 mlynedd. Pan gyfarfuom ag Anabledd Cymru, rwy'n gwybod mai rhan o'u maniffesto i bob plaid wleidyddol yw y byddant yn ymrwymo i weithredu'r cynllun hawliau pobl anabl, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n wir i'r Llywodraeth nesaf fel y gall pobl anabl ffynnu yn y gymdeithas Gymreig.

Rwy'n credu hefyd iddi fod yn werthfawr iawn fod pob un ohonom wedi mynychu, ar draws y pleidiau, lansiad 'Mynediad at Wleidyddiaeth: Siarter ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol' ddoe, gan mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau bod pobl anabl yn cymryd rhan weithredol yn ein Senedd ac mewn gwleidyddiaeth. Mae hynny'n gyfrifoldeb i bob un ohonom ar draws y Siambr hon.

14:40

Diolch. Mae ymgysylltu â'r gwaith o lunio polisïau yn allweddol, onid yw? Ac roedd y llynedd, wrth gwrs, yn flwyddyn ddigalon iawn i bobl anabl, gyda Llywodraeth y DU yn eu targedu ar gyfer toriadau i'r cymorth y maent yn dibynnu arno. Mae adolygiad Timms o les sydd ar y gweill yn parhau i achosi pryder eang, gydag unrhyw gynigion yn y dyfodol yn debygol o effeithio'n anghymesur ar bobl anabl yma. Er bod ymgynghori'n digwydd o'r diwedd â sefydliadau pobl anabl Cymru, ceir pryderon difrifol o hyd ynghylch ansawdd yr ymgysylltiad ac allgáu pobl anabl, yn enwedig yn y gogledd, rhag cymryd rhan ystyrlon.

Pan godais y materion hyn ddiwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi y byddech chi'n monitro'r adolygiad hwn yn agos i sicrhau bod unrhyw newidiadau'n deg ac yn gyfiawn ac yn cael eu llunio gan bobl anabl eu hunain. Felly, yng ngoleuni'r pryderon parhaus a godwyd gan sefydliadau pobl anabl, a wnewch chi nodi sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod Llywodraeth Lafur y DU yn cynnwys pobl anabl yn ystyrlon ar draws pob rhan o Gymru wrth wneud penderfyniadau? Pa mor aml rydych chi'n cyfarfod â'r Gweinidog a'i swyddogion? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw canlyniad yr adolygiad yn niweidiol i bobl anabl yng Nghymru?

Wel, rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, gan ei fod yn rhoi cyfle i mi roi sicrwydd unwaith eto i chi ac i'r Aelodau ar draws y Siambr fy mod yn ymwneud yn agos â'r gwaith o fonitro'r datblygiadau a'r cynnydd gyda'r adolygiad o daliadau annibyniaeth personol. Rwy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gweinidog—Syr Stephen Timms. Rwy'n falch iawn ei fod wedi achub ar y cyfle nid yn unig i gyfarfod â mi yn yr haf—yr haf diwethaf, 2025, pan lansiwyd hyn—ond hefyd i gyfarfod ag Anabledd Cymru, i gyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, y cyfarfu â nhw gyda mi, a hefyd i agor ei dîm adolygu i geisiadau gan bobl anabl yng Nghymru.

Nawr, yr hyn a ddywedwyd yn glir iawn drwy'r cyfarfodydd hyn yw ein bod am i bobl Cymru gael eu cynrychioli yn y tîm adolygu hwnnw. Mae wedi dweud wrthym fod Llywodraeth y DU a'i swyddogion wedi dysgu gan Gymru am y ffordd yr aethom ati i gydgynhyrchu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n rhywbeth lle teimlwn fod pobl anabl wedi cael dylanwad enfawr ar y ffordd ymlaen. A byddaf yn ei fonitro'n ofalus iawn, ac rwy'n falch o'r craffu heddiw hefyd.

Diolch. Rydym bellach, wrth gwrs, yng nghanol y gaeaf a newydd brofi cyfnod o dywydd oer iawn, a fydd wedi gwaethygu effaith tlodi tanwydd, y gwyddom ei fod yn effeithio'n anghymesur ar bobl anabl. I bobl anabl, gall canlyniadau methu cynhesu eu cartrefi fod yn ddifrifol iawn. Mae nifer o anableddau'n ei gwneud yn ofynnol i bobl gadw'n gynnes er mwyn rheoli poen, symudedd ac iechyd cyffredinol. Pan fydd gwresogi'n anfforddiadwy, gall iechyd ddirywio'n gyflym, mae ansawdd bywyd yn lleihau, ac mewn rhai achosion difrifol wrth gwrs, gall roi bywyd yn y fantol.

Cyhoeddwyd cynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2021. Ac fe gyhoeddoch chi ddiweddariad ar gynnydd y cynllun ym mis Mehefin, o dan gamau gweithredu newydd, gan restru'r angen i gyflwyno targedau dros dro yn seiliedig ar effeithlonrwydd ynni, gan ddatgan y byddai'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r targedau hyn. Ceir pryder cynyddol na fydd y targedau hyn yn cael eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd hon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi ateb clir i ni p'un a yw'n dal i fod yn fwriad gan eich Llywodraeth i gyflwyno targedau tlodi tanwydd dros dro yn nhymor y Senedd hon? Diolch.

14:45

Mae hwnnw hefyd yn gwestiwn pwysig iawn, yn dilyn eich ffocws ar bobl anabl yn ystod misoedd y gaeaf a threchu tlodi tanwydd. Wrth gwrs, rydym wedi gwneud trechu tlodi tanwydd yn flaenoriaeth absoliwt, gan fuddsoddi mewn rhaglenni wedi'u targedu, a hoffwn achub ar y cyfle i roi hysbysrwydd unwaith eto i'r ffaith ein bod wedi nodi'r cwmpas ar gyfer taliad arian parod untro wedi'i dargedu i nifer o aelwydydd anabl incwm isel. Bydd hynny'n darparu cymorth i'r garfan benodol honno, i bobl yn y cynllun gostyngiad band anabl ar gyfer y dreth gyngor sydd hefyd yn hawlio gostyngiad y dreth gyngor. Mae hwnnw'n daliad costau byw o £100. Mae'n daliad gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n dangos sut y gall Cymru weithredu'n uniongyrchol i ddiwallu'r anghenion hyn. Ond wrth gwrs, rydym yn trafod nawr, yn enwedig gyda'n grŵp cynghori ar dlodi tanwydd, yr ymateb i'r ffigurau a'r amcangyfrifon digalon iawn a gyhoeddwyd o ran aelwydydd, y ffaith fod 25 y cant o aelwydydd mewn tlodi tanwydd, yn ôl amcangyfrifon ym mis Hydref 2024, ac edrychaf ymlaen at ddweud mwy am hynny wrth inni weithio drwy'r ymgynghoriadau hynny.

Tlodi Tanwydd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau tlodi tanwydd yng Nghymru? OQ63655

Diolch yn fawr, Peter. Yn fy natganiad llafar ar 7 Hydref ar gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn, amlinellwyd ein dull amlweddog o helpu deiliaid tai i gadw'n gynnes. Mae ffigurau swyddogol a ryddhawyd ym mis Awst yn amcangyfrif bod 25 y cant o gartrefi yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r cartrefi hynny yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng ynni byd-eang.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y gwir trist amdani yw bod oddeutu chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd, gan effeithio nid yn unig ar sefyllfa ariannol pobl, ond hefyd ar eu hiechyd, gan y gall bod yn oer am gyfnodau hir gael effeithiau niweidiol iawn. Felly, mae'n destun cryn bryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chynllun trechu tlodi tanwydd ers bron i dair blynedd. Y gwir amdani yw bod amcangyfrifon swyddogol ar nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd wedi'u cyfrifo ddiwethaf yn 2021, rwy'n credu, ac maent sawl blwyddyn allan ohoni erbyn hyn. Os nad yw Llywodraeth Cymru’n casglu data'n effeithlon, ni fyddwn yn gallu mynd at wraidd yr argyfwng a dechrau mynd i'r afael ag ef yn effeithiol. Mae'n amlwg yn llawer rhy hwyr i alw am gyflwyno cynllun newydd, gyda dim ond misoedd o'r Llywodraeth hon ar ôl, felly a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu gweithredu'n effeithiol i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn?

Diolch am eich cwestiwn dilynol, Peter. Rydych chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod llawer o achosion sylfaenol tlodi tanwydd allan o reolaeth Llywodraeth Cymru, ond fe amlinellais, fel y nodais yn fy natganiad llafar yn ôl ym mis Hydref, y dull trawslywodraethol rydym yn ei ddefnyddio i helpu deiliaid tai i gadw'n gynnes. Rwyf newydd adrodd eto ar y taliad gan Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn, y taliad costau byw o £100 mewn perthynas â phobl anabl. Fe wnaethom gyhoeddi cynllun trechu tlodi tanwydd diwygiedig ym mis Mehefin. Roedd yn cynnwys camau gweithredu blaenoriaethol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Nawr, rydym yn adolygu'r cynllun, fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach. Rydym yn adolygu'r cynllun yn dilyn cyhoeddi'r amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf, ac mae'r camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun yn bwysicach fyth yng nghyd-destun yr amcangyfrifon diweddaraf.

Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

4. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy'r cynllun hawliau pobl anabl? OQ63648

Diolch, Carolyn Thomas. Mae ein cynllun hawliau pobl anabl 10 mlynedd yn nodi camau ymarferol a nodau hirdymor i fynd i'r afael â rhwystrau ar draws cyflogaeth, trafnidiaeth, addysg, gofal iechyd, tai, mynediad digidol a gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwneud taliad costau byw o £100 i bobl yn y cynllun gostyngiad band anabl ar gyfer y dreth gyngor sydd hefyd yn hawlio gostyngiad y dreth gyngor.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich ymrwymiad i sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddo. Gwn fod Llywodraeth Cymru newydd lansio menter newydd i fynd ati'n rhagweithiol i nodi pobl yng Nghymru sy'n colli gwerth £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio. A wnewch chi nodi sut y bydd yr ymgyrch hon o fudd uniongyrchol i bobl anabl yng Nghymru?

14:50

Diolch, Carolyn Thomas. Rydym yn cyflwyno ein chweched ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi' y gaeaf hwn i annog pobl i hawlio budd-daliadau. Mae negeseuon hygyrch a chreadigol yn cael eu cyflwyno drwy bob prif sianel—rwy'n gobeithio eich bod wedi'u gweld—gan gynnwys y teledu, y radio a'r cyfryngau cymdeithasol. Anogwch bobl i ymateb, gan eu bod yn canolbwyntio ar yr holl fudd-daliadau sydd ar gael, yn enwedig, o ran eich cwestiwn cyntaf, i bobl anabl a'u gofalwyr. Gall pobl gysylltu â'n gwasanaeth Advicelink Cymru. Nid pwl untro o weithgarwch yn ystod misoedd y gaeaf yn unig yw hwn; mae'n weithgaredd parhaus. Ond rydym yn canolbwyntio'n arbennig ar y bobl sydd fwyaf o'i angen.

I roi rhywfaint o adborth i chi, rhwng 2020 a 2025, nododd bron i hanner y bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau eu bod yn unigolyn anabl neu'n unigolyn â chyflwr iechyd hirdymor. Ond mae ein holl waith ar weithredu pwyslais ar incwm yn ymwneud â rhoi arian ym mhocedi pobl, arian y mae ganddynt hawl iddo, arian a fydd hefyd o fudd i'r gymuned a'r economi leol, gan helpu teuluoedd i dalu biliau'r cartref, osgoi dyled a gwella eu llesiant ariannol.

Er ichi ddweud, pan gyhoeddoch chi'r 'Cynllun hawliau pobl anabl 2025 i 2035' terfynol ar 15 Rhagfyr, ei bod yn hanfodol, er mwyn sicrhau cynnydd ystyrlon i bobl anabl,

'ein bod ni a gweinyddiaethau'r dyfodol yn cael ein dal i gyfrif am gyflawni camau gweithredu a chanlyniadau clir a mesuradwy sy'n gwella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru',

a bod y cynllun ei hun yn nodi ei fod yn datgan bwriad i gyflawni newid gwirioneddol, mesuradwy ar draws ystod o feysydd polisi sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl anabl yng Nghymru, mae'r manylion am hyn yn dal ar goll. Sut, felly, y mae'r cynllun a gyhoeddwyd yn mynd i'r afael â'r datganiadau blaenorol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod y cynllun drafft yn brin o ganlyniadau clir, mesuradwy, camau gweithredu o fewn amser penodol a mecanweithiau atebolrwydd, a chan sefydliadau pobl anabl a gynrychiolir yn eich tasglu hawliau pobl anabl, ei bod yn anodd iawn gweld, heb gyllid a thargedau clir, cadarn i weithredu'r cynllun, sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar bobl anabl yr wyf yn ei fynychu'n rheolaidd. Rydych chi'n cyfeirio at sylwadau am y cynllun drafft gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud. Dyna pam y cewch ymgynghoriad yn dilyn cynlluniau drafft. Fe wnaed llawer o gynnydd i gyhoeddi'r cynllun hawliau pobl anabl llawn a lansiais gyda phobl anabl. Fel y dywedais, mae hwn yn gynllun 10 mlynedd. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ac mae gennyf gyfle i roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, yw bod pobl anabl eisiau monitro sut y caiff y cynllun hwn ei roi ar waith. Mae hynny'n cynnwys gwaith trawslywodraethol, ac mae'n amlwg yn cynnwys ymrwymiadau ariannol a wnaed, a gwelsoch hynny yn fy natganiad llafar ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl. Felly, rydym yn sefydlu bwrdd cynghori annibynnol allanol i chwarae rhan allweddol yn llunio cyfeiriad, monitro cynnydd a chynyddu effaith y cynllun i'r eithaf. Bydd y bwrdd hwnnw'n cael ei sefydlu cyn diwedd y weinyddiaeth hon, felly bydd ganddo ran allweddol yn ymgysylltiad y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyflawniad y cynllun 10 mlynedd.

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei pholisïau ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yn annog pobl i ddod i mewn i'r DU drwy ddulliau anghyfreithlon? OQ63630

Diolch am eich cwestiwn. Mae mewnfudo, lloches a rheoli ffiniau yn faterion a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu pwy sy'n dod i mewn na'r llwybrau a ddefnyddir. Pan fydd pobl wedi'u lleoli yng Nghymru, ein ffocws yw cymorth hanfodol a chydlyniant cymunedol, gan helpu'r rhai sydd eisoes wedi'u lleoli yma i ymgartrefu a chyfranogi'n ddiogel.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae gweithredoedd rhai cynghorau ledled Cymru’n gyfrifoldeb, yn rhannol, i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae Cyngor Sir Powys, o dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, wedi mynegi diddordeb mewn cynllun peilot gan y Swyddfa Gartref lle bydd tai'n cael eu hadeiladu neu eu caffael gyda chyllid cyhoeddus ac yna'n cael eu lesio'n ôl i'r Swyddfa Gartref am hyd at 10 mlynedd i gartrefu ceiswyr lloches. Er bod y cyngor yn honni na fydd hyn yn effeithio ar y rhai sydd ar restrau aros am dai, mae pobl leol sy'n mynd o soffa i soffa ac mewn llety dros dro sy'n daer am dai ar hyn o bryd yn cysylltu â mi ac yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu o blaid pobl sy'n cyrraedd y wlad hon yn anghyfreithlon ac sy'n ceisio lloches. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro sut nad oes perygl fod cynnig llety gwarantedig yn y ffordd hon yn gweithredu fel ffactor i ddenu pobl i ddod i'r DU yn anghyfreithlon drwy wahanol lwybrau? A yw'n derbyn y bydd llawer o bobl yn gweld hyn yn annheg ar adeg pan fo teuluoedd lleol yn dal i aros am gartref? Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gyfarwyddo cynghorau ledled Cymru i beidio ag ymuno â'r cynllun hwn, gan y credaf y bydd yn niweidiol i bobl leol yn fy nghymuned?

14:55

Rwy'n falch iawn fy mod yn cyd-gadeirio bwrdd trosolwg cenedl noddfa yr wythnos hon. Rwy'n ei gyd-gadeirio gydag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby. Mae'n gyfarfod pwysig iawn, bwrdd trosolwg ar y ffordd y gweithiwn gyda'n gilydd i gyflawni ein dyhead i Gymru fod yn genedl noddfa. Wrth gwrs, mae'r dull cenedl noddfa o weithredu wedi'i gynllunio i gynorthwyo pobl sy'n cyrraedd Cymru i integreiddio, gan eu galluogi i wneud cyfraniadau ystyrlon i gymunedau Cymru.

Rwyf am fynd yn ôl at—. Nid wyf yn gwybod a wrandawoch chi ar fy ateb i'r cwestiwn, ond dywedais fod mewnfudo, lloches a rheoli ffiniau yn faterion a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Nid ni sy'n penderfynu pwy sy'n dod i mewn na'r llwybrau a ddefnyddir, ac yn wir, o ran llety i geiswyr lloches, dyna fel y mae. Ond rydym yn falch iawn o weithio gyda'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU, sydd hefyd yn chwarae rhan ar ein bwrdd trosolwg cenedl noddfa o ran llety i geiswyr lloches.

Rydym yn dadlau, fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n cyd-Aelodau yn ei ddadlau, dros fodel gwasgaru cymesur yng Nghymru mewn cydweithrediad â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Gadewch inni edrych hefyd ar yr ateb a roddais. Mae a wnelo hyn â chydlyniant cymunedol. Mae a wnelo â sicrhau cymorth a diogelu, diwallu anghenion sylfaenol, meithrin cydlyniant cymunedol i bawb sy'n cael eu gwasgaru neu eu hadsefydlu yma. Rydym yn condemnio camfanteisio troseddol yn gryf, a gwn y byddech chi'n cytuno â hyn, a llwybrau mudo anniogel. Yr hyn sy'n bwysig yw bod Llywodraeth y DU yn profi ystod o fodelau peilot cymorth a llety i geiswyr lloches, ac rydym yn cymryd rhan yn y gwaith hwn, fel y mae awdurdodau lleol Cymru. Rwyf wedi annog hynny. Mae cyfranogiad yn caniatáu i awdurdodau lleol weld manteision gwasgaru ceiswyr lloches yn effeithiol, a sut y gall integreiddio ffoaduriaid gyfoethogi cymunedau.

Diolch am godi'r mater hwn, James, gan ei fod yn mynd at wraidd hyder y cyhoedd. Wrth gwrs y dylai Cymru fod yn dosturiol, ond nid polisi yw tosturi heb reolaeth, ond gwahoddiad. Ni all Llywodraeth Cymru esgus nad oes gan ei rhethreg a'i phenderfyniadau unrhyw effaith, ac yn sicr, ni allwn esgus, fel Plaid Cymru, nad oes y fath beth â mewnfudo. I bob pwrpas, mae eich polisi cenedl noddfa hunangyfiawn yn dal arwydd neon uwchben Cymru sy’n dweud, 'Dewch i mewn.' Pe bai gennym ormodedd o dai—ac nid oes—pe bai rhestrau aros ein GIG yn fyr—ac nid ydynt—yna digon teg. Ond mae Cymru ar ei gliniau, mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u hymestyn i'r eithaf, diolch i reolaeth Llafur a Phlaid Cymru dros y 26 mlynedd diwethaf. Felly, onid ydych chi'n credu, Lywodraeth Cymru, ei bod yn bryd ichi roi teuluoedd Cymru yn gyntaf? Mae angen inni ofalu am ein cyn-filwyr, ein pobl agored i niwed a'n pobl ddigartref, cyn inni ddechrau gwahodd mwy o bobl i'r wlad hon.

Wel, rwy'n tybio—buaswn yn dychmygu—na wnaeth Laura Anne Jones fanteisio ar y cyfle, fel y gwnaeth llawer ohonom yn y Siambr hon, i gyfarfod â Sanctuary Coalition Cymru. Bydd cyd-Aelodau'n cofio inni gyfarfod â nhw cyn y Nadolig a'r neges—ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru’n ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru—gan Sanctuary Coalition Cymru yw bod noddfa'n gweithio i Gymru. Fel y gwnaethant rannu gyda ni, pam ei bod yn gweithio i Gymru? Pam ei bod yn gweithio i bawb? Mae'n gweithio i gymunedau, arweinyddiaeth onest a pharchus, gan feithrin ymddiriedaeth rhwng cymdogion, lleihau tensiynau, creu lleoedd mwy diogel a mwy unedig i fyw ynddynt. Mae'n gweithio i'r economi, yn atal camwybodaeth, yn osgoi creu ofn diangen a all atal buddsoddiad, atal twristiaeth a datblygu cymunedol. Mae'n gweithio er diogelwch y cyhoedd, gan leihau lledaeniad casineb, a thanseilio recriwtio eithafwyr ac yn lleihau'r risg o drais neu anhrefn. Mae'n gweithio i'r Llywodraeth ac arweinwyr, mae'n dangos uniondeb, mae'n cryfhau hyder y cyhoedd, ac wrth gwrs, ni allwn fforddio cadw gweithwyr talentog, parod ar yr ymylon. Cryfder, balchder cenedlaethol, yw hanfod y genedl noddfa.

15:00

Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n cytuno nad yw ceiswyr lloches yn gwneud y penderfyniad i ddod i'r wlad hon yn ysgafn? Nid ydynt yn peryglu eu bywydau, gan adael aelodau o'r teulu ar ôl a gwneud teithiau peryglus yma, am ddim rheswm gwell na'n bod ni'n genedl noddfa. Rwy'n credu bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu cymaint at ein cymdeithas yma yng Nghymru, gan gynnwys y swyddi proffesiynol, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w gofio pan fyddwn yn siarad am adnoddau prin. Gofal cymdeithasol hefyd: mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu staffio, mewn sawl ffordd, gan bobl sydd wedi ceisio noddfa yma. Ac maent hefyd yn dod â thraddodiadau diwylliannol gwych yr ydym i gyd yn eu dathlu ac yn eu mwynhau. Felly, oni ddylem barhau i adeiladu ar ein cenedl noddfa, gan groesawu a chefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid er ein budd ni i gyd fel unigolion, a Chymru fel cenedl?

Julie Morgan, diolch am y pwyntiau pwysig hynny. A faint ohonom yn y Siambr hon sydd wedi rhannu mewn cymaint o'r digwyddiadau diwylliannol pwysig hynny—digwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn? A bydd mwy ar y gweill yn yr wythnosau nesaf.

Ond a gaf i hefyd dalu teyrnged arbennig i bobl Affganistan ac Wcráin sydd wedi dod i fyw yng Nghymru, gan ddianc rhag y trais, y gwrthdaro, nad oedd ganddynt unrhyw ran ynddo, na llais na dewis yn ei gylch? Fe wnaethant ddianc, a chefnogodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU y cynlluniau ailsefydlu, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar ein rôl lwyddiannus yn ein canolfannau croeso ledled Cymru ym maes ailsefydlu ffoaduriaid a gwasgaru ceiswyr lloches. Cefais y fraint fawr o gael ymweliad ar 27 Rhagfyr gan Wcreiniaid a ddaeth i ganu carolau y tu allan i fy nhŷ yn ein cymuned. A'r cyfraniad gwych sy'n cael ei wneud gan bobl Wcráin sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, sy'n gweithio ym maes addysg, yn gweithio yn ein hysgolion, yn gweithio yn ein busnesau, a nawr ein dinasyddion o Affganistan sydd wedi dod i Gymru, gan ddianc o'r gwrthdaro hwnnw. Mae angen cynlluniau ailsefydlu diogel a chyfreithlon arnom, a dyna'r neges rwy'n ei rhoi i Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd y Siambr hon yn cefnogi hynny.

Cyllid y Loteri Genedlaethol yn Islwyn

6. Pa gyllid mae cymunedau yn Islwyn wedi'i gael gan y Loteri Genedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf? OQ63662

Diolch, Rhianon Passmore. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Islwyn wedi derbyn cyfanswm o £2.4 miliwn o arian loteri. Mae hyn yn cynnwys £1.5 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, £367,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, £190,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £332,000 gan Chwaraeon Cymru.

Mae'r Loteri Genedlaethol wedi rhoi gwybod i mi yn ddiweddar ar ôl ymchwiliad, mai dim ond £137,892 a ddyfarnodd y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol yn Islwyn yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Awst 2025. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod Islwyn yn cynnwys nifer o drefi a phentrefi glofaol Gwent a ddioddefodd o'r datgymalu diwydiannol a ysgogwyd gan Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Loteri Genedlaethol yn estyn allan at bobl Islwyn i hybu ymwybyddiaeth o'r meini prawf cyllido—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, a gaf i barhau? Mae cymaint o sŵn.

Sut y gallwn ni sicrhau bod y Loteri Genedlaethol yn estyn allan at bobl Islwyn i hybu ymwybyddiaeth o'r meini prawf cyllido a bod ymgeiswyr yn cael eu cefnogi i wneud cais am gyllid mawr ei angen gan y Loteri Genedlaethol? Ac yn hollbwysig, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae'r swm prin hwn dros y cyfnod hwnnw yn cymharu â phrosiectau cymunedol eraill ledled Cymru? 

Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwyf wedi amlinellu'r buddsoddiad sy'n digwydd, ac mae'n bwysig fod hynny wedi'i gofnodi. Fe fyddwch yn gwybod bod gan Lywodraeth Cymru ddylanwad ar Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn gosod y cyfeiriadau polisi ac rydym yn glir iawn am y blaenoriaethau, yr amodau y mae'n rhaid eu cryfhau ar gyfer cymunedau cryfach, mwy diogel a mwy cydlynol, i wella cyfiawnder cymdeithasol, lliniaru effaith tlodi. Ond rwyf hefyd eisiau dweud, o ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ei bod wedi ymrwymo i ddyfarnu mwy na 50 y cant o gyfanswm y grantiau i gymunedau sy'n wynebu'r lefelau uchaf o amddifadedd, fel y nodoch chi yn eich etholaeth, erbyn diwedd cyfnod y cynllun corfforaethol ar gyfer 2024-27.

15:05
Yr Hawl i Fwyd

7. Ydy Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgorffori’r hawl i fwyd yng nghyfraith Cymru? OQ63642

Diolch yn fawr, Adam Price. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at fwyd iach, cynaliadwy. Rydym yn cyflawni hyn drwy fforwm bwyd Llywodraeth Cymru, ein strategaeth bwyd cymunedol, partneriaethau bwyd lleol a chefnogaeth gadarn i'r diwydiant bwyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfraith hawliau dynol ryngwladol eisoes yn cydnabod hawl i fwyd digonol, gan gynnwys yn y cyfamod rhyngwladol ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Mae Cymru wedi dangos y gallwn ymgorffori hawliau cytuniad y Cenhedloedd Unedig mewn cyfraith ddatganoledig, fel y gwnaethom gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, er mewn ffordd gyfyngedig. O ystyried bod y liferi allweddol wedi'u datganoli—iechyd y cyhoedd, ysgolion, gofal cymdeithasol a llawer o bolisi bwyd—a wnewch chi gefnogi deddfu ar gyfer hawl i fwyd yng Nghymru, naill ai drwy Fil hawliau dynol Cymru neu Fil hawl i fwyd annibynnol, gyda dyletswyddau clir ar Weinidogion i atal a lleihau diffyg diogeledd bwyd ac adrodd yn flynyddol i'r Senedd ar gynnydd? Onid yw hwn yn gyfle arall i'r Senedd hon ac i Gymru arwain y ffordd ar fater sydd mor hanfodol bwysig i'n pobl?

Mae'n hanfodol bwysig fod ein pobl yng Nghymru, a'n diwydiant bwyd yn wir, yn elwa o'r polisïau a amlinellais. Rydym yn credu, ar hyn o bryd, o ran yr hyn a wnawn nawr, fod cynnydd ystyrlon ar fynediad at fwyd yn cael ei gyflawni orau trwy ymyriadau ymarferol wedi'u targedu sy'n cefnogi cynhyrchwyr, yn diogelu'r amgylchedd ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hwn yn gyfrifoldeb trawslywodraethol a rannaf gyda'r Dirprwy Brif Weinidog, gan gryfhau partneriaethau a systemau bwyd lleol. Ac rwy'n eich annog chi, Adam Price, a'r holl Aelodau i gyfarfod â'ch partneriaethau bwyd lleol, a ariannir gennym ni. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n edrych yn ôl ac roedd dadleuon ar hyn, ar yr hawl i fwyd, yn ôl yn 2022. Mae'n bwysig eich bod wedi dod â hyn yn ôl i ni edrych arno o ran yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny. Rydym wedi gwario dros £29 miliwn ers 2019 i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol. Mae gennym y strategaeth fwyd gymunedol newydd, y partneriaethau bwyd lleol, felly nid ydym yn teimlo bod angen ymgorffori'r hawl i fwyd yng nghyfraith Cymru ar hyn o bryd oherwydd ein mesurau presennol, ond yn amlwg, mae angen inni edrych ar hyn yng nghyd-destun yr uchelgeisiau sydd gennym i sicrhau ein bod yn cyflawni o ran cyfiawnder bwyd, y credaf ei fod yn nod ac yn amcan hollgynhwysfawr i'r Llywodraeth hon. 

Cyfleusterau Cymunedol yng Nghanolbarth Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleusterau cymunedol yng nghanolbarth Cymru? OQ63645

Diolch, Russell George. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth cyfalaf ar gyfer cyfleusterau cymunedol ledled Cymru drwy ein rhaglen cyfleusterau cymunedol a'n cronfa benthyciadau asedau cymunedol. Yn ogystal, mae seilwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn darparu cymorth a chyngor ar gyllid cynaliadwy, llywodraethu da, diogelu a rheoli gwirfoddolwyr i holl sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Canolfan y Celfyddydau Minerva yn Llanidloes yn gyfleuster gwerthfawr. Yn anffodus, yn ddiweddar gwnaed difrod sylweddol gan ddŵr yn gollwng uwchben y brif oriel. Yr hyn sy'n gadarnhaol yw eu bod fel sefydliad wedi cael cyllid grant yn ddiweddar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd wrth gwrs yn newyddion cadarnhaol, ond mae'r difrod diweddar yn achosi rhai anawsterau i allu parhau â'r prosiectau a gynlluniwyd. Fel elusen, a chyda Chymdeithas y Cwilt sydd wedi'i lleoli yn y ganolfan, maent wedi trefnu digwyddiadau codi arian, i ddechrau gyda digwyddiad ar 7 Chwefror i godi'r £20,000 sydd ei angen. Yn ogystal ag annog pobl i helpu gyda'r ymdrechion codi arian, pa gyngor arall y gellir ei roi neu sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo sefydliad ac elusen o'r fath i godi'r arian angenrheidiol?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion ymgysylltu'n uniongyrchol â chi ynghylch cefnogaeth i Ganolfan Gelfyddydau Minerva. Mae'n ddiddorol eu bod wedi cael cyllid treftadaeth y Loteri Genedlaethol, oherwydd yn aml mae hynny'n agor y drws ar gyllid arall, a hoffwn dynnu sylw arbennig at y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwyf wedi sôn amdani. Mae'n darparu grantiau o hyd at £25,000 a hyd at £300,000. Grant uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yw hwnnw. Mae'n canolbwyntio'n arbennig ar gyfalaf, ond rwy'n siŵr fod—. Ac yn wir byddwn yn ymgysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys i weld a allwn ddod o hyd i ffordd ymlaen i gefnogi'r sefydliad hwn.

15:10
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd sydd nesaf. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Hannah Blythyn.

Cytundebau Peidio â Datgelu

1. Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio cytundebau peidio â datgelu? OQ63650

Nid oes gan y Comisiwn bolisi penodol ar gytundebau peidio â datgelu. Pan fydd aelod o staff y Comisiwn yn gadael y sefydliad, y disgwyliad yw i'r ddwy ochr gadw manylion yn gyfrinachol am gyflogaeth gweithwyr unigol.

Diolch am eich ateb, Llywydd.

Mae'n drueni na allaf eich gweld chi ar hyn o bryd yn y Siambr hon. [Chwerthin.]

Rwy'n deall hynny. Bydd Aelodau yma'n gwybod mai pwrpas gwreiddiol cytundebau peidio â datgelu oedd diogelu eiddo deallusol neu wybodaeth fasnachol a sensitif arall, ond yn anffodus maent wedi dod i gael eu defnyddio'n fwy cyffredin i atal pobl rhag siarad am brofiadau erchyll iawn, yn y gweithle yn aml. Rydym i gyd wedi gweld a chlywed nifer o achosion proffil uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf ledled y byd, yn enwedig mewn cysylltiad â phethau fel y mudiad #MeToo. Yn bersonol, nid wyf erioed wedi defnyddio cytundeb peidio â datgelu, ac nid wyf erioed wedi rhagweld amgylchiad y byddwn yn dymuno gwneud hynny, ac rwy'n croesawu'n fawr y newidiadau diweddar yn neddfwriaeth hawliau cyflogaeth y DU a fydd yn gwahardd y defnydd o gytundebau peidio â datgelu i dawelu gweithwyr sydd wedi dioddef aflonyddu a chamdriniaeth.

Felly, yr hyn roeddwn eisiau ei ofyn heddiw, gyda hynny mewn golwg, yw: pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn yn ei rhoi i unrhyw ganllawiau i fynd gyda'r ddeddfwriaeth newydd honno? Hefyd, a oes unrhyw wybodaeth sy'n ein dwyn ni i gyfrif o ran unrhyw baramedrau lle byddai Aelodau yn gallu, a lle byddant wedi defnyddio cytundebau peidio â datgelu? Ac a ydych chi'n cytuno â mi, wrth edrych ar y gwaith a wnawn fel Senedd i gryfhau'r lle hwn, y dylem fynd y tu hwnt i lythyren y deddf newydd honno ac y dylai'r Senedd fabwysiadu'r safbwynt na ddylid defnyddio cytundebau peidio â datgelu mewn achosion fel bwlio yn y gweithle? Diolch.

Wel, mae'r ddeddfwriaeth honno bellach ar waith ac yn arwain pob Aelod a'r Comisiwn ar yr hyn y gallant ei wneud ac na allant ei wneud. Bydd unrhyw Aelod sy'n gofyn am gyngor gan y Comisiwn a'n gwasanaeth cymorth i Aelodau ar gytundebau cyflogaeth yn cael y cyngor hwnnw yn unol â'r gyfraith. Weithiau, yn anffodus, mae angen cytundebau cyflogaeth a setlo, ac mae cymalau cyfrinachedd yn y cytundebau setlo hynny'n bwysig i'r cyflogwr a'r gweithiwr. Ond mae'r pwynt y mae Hannah Blythyn yn ei wneud o'r ochr arall i'r piler yn bwynt pwysig i bob un ohonom ei gofio, a'r Comisiwn hefyd: ein bod yn gweithredu o fewn y gyfraith a bod angen inni bob amser gymryd y cyngor cyfreithiol gorau posib ar gydymffurfio â'r gyfraith honno a sicrhau ein bod ni fel Aelodau unigol a staff Comisiwn yn trin ein holl staff yn deg ac yn briodol ac yn gyfreithlon, yn ein holl waith.

Grwpiau Trawsbleidiol

2. Pa gefnogaeth mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i Grwpiau Trawsbleidiol? OQ63634

Unwaith eto, Aelod arall ar yr ochr draw i'r piler i mi.

Mae'r rheolau ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn nodi'r gefnogaeth y mae'r Comisiwn yn ei darparu i grwpiau trawsbleidiol. Mae gan grwpiau trawsbleidiol fynediad at gyfleusterau ac adnoddau'r Senedd, gan gynnwys ymneilltuo ystafelloedd a'r trefniadau sy'n gysylltiedig ar gyfer cyfarfodydd a darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Mae'r rheolau ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol yn cael eu gweinyddu gan y Swyddfa Gyflwyno, sydd bob amser ar gael i gynghori Aelodau os oes ganddynt unrhyw ymholiadau. Ond mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, taw Aelodau sy'n arwain a hwyluso'r grwpiau trawsbleidiol, nid y Comisiwn.

Diolch yn fawr am eich ateb, Lywydd. Hoffwn gael arweiniad gennych ynglŷn ag a all grŵp trawsbleidiol dderbyn nawdd ariannol gan gorff allanol i alluogi Aelodau i fynd ar deithiau neu i helpu i hwyluso gyda chostau trafnidiaeth neu gostau gwesty. Oherwydd yr hyn a welwn weithiau, os yw Aelodau eisiau mynd ar deithiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau grwpiau trawsbleidiol, yw na chaniateir i ni wneud hynny na'u hawlio'n ôl, er eu bod weithiau'n gysylltiedig â'n gwaith fel Aelodau o'r Senedd. Felly, hoffwn glywed a allwch chi ddarparu canllawiau wedi'u diweddaru ar ba nawdd ariannol y gall cyrff allanol ei ddarparu i grwpiau trawsbleidiol.

15:15

Fel y dywedais yn fy ateb, y lle gorau i'r Aelodau gael cyngor ar grwpiau trawsbleidiol yw'r Swyddfa Gyflwyno neu, yng nghyd-destun cymorth ariannol, gan wasanaeth busnes yr Aelodau. Efallai mai peth o'r gwaith hwnnw, fel y nodoch chi, fydd ymgymryd â dyletswyddau seneddol yng nghyd-destun grŵp trawsbleidiol, a bydd y penderfyniad, wrth gwrs, yn rhoi arweiniad ynglŷn ag a yw hynny'n rhywbeth y gellir ei ariannu.

Ar gymorth ariannol allanol gan drydydd partïon, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y gall aelodau grŵp trawsbleidiol fanteisio arno, ond byddai angen iddynt ofyn am gyngor gan y Swyddfa Gyflwyno er mwyn sicrhau bod hynny'n cydymffurfio â'r holl fuddiannau a gaiff eu datgan a'u hadrodd yn rhan o'r canllawiau i grwpiau trawsbleidiol ar adrodd a thryloywder. Felly, mae cyngor ar gael i Aelodau. Fel sy'n digwydd yn aml, nid fi yw'r person gorau i roi'r cyngor hwnnw. Mae yna bobl sy'n gallu gwneud hynny'n uniongyrchol i chi. Rwy'n eich cyfeirio at y cyfarwyddyd a'r gefnogaeth i Aelodau a'r Swyddfa Gyflwyno.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn yn unig, gan Siân Gwenllian.

Consumer Energy Solutions Cyf

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar Consumer Energy Solutions yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ1425

Rydym mewn cysylltiad â'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net ac Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yr effeithir arnynt gan gau'r cwmni ECO yn cael prosiectau ôl-osod o safon, gan gynnwys y rhai lle nad yw eu gosodwyr gwreiddiol bellach yn masnachu. Ochr yn ochr â'n partneriaid, Canolfan Byd Gwaith, Cymru'n Gweithio, awdurdodau lleol a TUC Cymru, byddwn yn cefnogi staff CES drwy'r cyfnod anodd hwn.

Diolch yn fawr. Mae bron i 300 o bobl wedi colli eu swyddi, heb rybudd, yn sgil y newyddion fod Consumer Energy Solutions wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae hyn yn newyddion hynod anodd ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd, a dwi yn mawr obeithio, fel rydych chi'n amlinellu, fod yna gymorth yn cael ei roi iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd a phryderus yma.

Mae'r newyddion hefyd, wrth gwrs, yn anodd ac yn bryderus i'r aelwydydd hynny sydd wedi cael ei gadael yn sydyn efo gwaith ar ei hanner neu efo gwaith sydd yn is-safonol, ac maen nhw eisiau gwybod sut maen nhw i unioni'r problemau hynny rŵan fod y cwmni ddim ar gael. Mae fy nghyd-Aelod yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn delio efo nifer fawr o achosion o'r math yna yn ei hetholaeth hi. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am sut i sicrhau y bydd y gwaith ddechreuwyd gan CES yn cael ei gwblhau, fod y gwaith adfer sydd ei angen ar rai tai yn digwydd, neu fod pobl yn derbyn yr iawndal maen nhw yn ei haeddu?

Mae yna enghreifftiau cwbl annerbyniol o bobl yn byw heb wres a heb ddŵr. Ac mae'n rhaid i ni gofio bod y rhain ymhlith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni. Beth all y Llywodraeth ei wneud i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi cael eu effeithio? Mae Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad i'r holl sefyllfa. Ydy Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymchwiliad, neu a fedrwch chi bwyso am ymchwiliad gan gorff megis y swyddfa cyfrifo cenedlaethol?

Mae ECO4 yn dod i ben heb y sicrwydd o gynlluniau amgen yn rhoi pwysau enfawr ar bob busnes yn y maes yma hefyd. Felly, sut ydych chi'n mynd i fynd ati i ailadeiladu hyder yn y gymuned fusnes ac ymhlith y cyhoedd fel bod buddsoddi yn parhau i ddigwydd i ddatblygu'r sgiliau a'r cadwyni cyflenwyr lleol sydd eu hangen i gyflawni rhaglenni ôl-ffitio Llywodraeth Cymru?

15:20

Yn amlwg, bydd hwn yn amser pryderus iawn i'r bron i 300 o staff a gafodd eu diswyddo gan Consumer Energy Solutions ddydd Gwener. Rydym wedi rhoi camau ar waith eisoes i'w cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth amgen neu ailhyfforddiant. Fel y soniais, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid, gan gynnwys Canolfan Byd Gwaith, yr awdurdodau lleol, Cymru'n Gweithio, a TUC Cymru i sicrhau bod pobl yn cael yr holl wybodaeth, y cyngor, y gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt am yr hyn sydd ar gael iddynt.

Mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi cysylltu'n uniongyrchol â'r gweinyddwyr penodedig, KR8 Advisory Ltd, i drefnu bod manylion ein cymorth ar gael i'r aelodau staff unigol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfarfod â chyfarwyddwyr City Energy Group. Ddoe, fe wnaethant gadarnhau bod bron bob un o'r staff yr effeithir arnynt wedi'u lleoli yn ardal Abertawe. Ar gyfer y tua 60 o staff sy'n cael eu cyflogi yn y ganolfan gyswllt honno, byddwn yn gweithio gyda Cnect Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd amgen iddynt.

Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r holl faterion ansawdd sydd wedi'u dwyn i'n sylw. Mewn gwirionedd, cafwyd archwiliad yn 2025, ac roedd yr archwiliad o waith inswleiddio waliau solet a gynhaliwyd trwy'r cynllun ECO yn tynnu sylw at lefelau uchel iawn o waith gwael. Rhoddodd Llywodraeth y DU gamau ar waith ar unwaith. Fe wnaethant atal rhai o'r gosodwyr sy'n perfformio waethaf a chynnig arolwg o'u heiddo i bob cartref i nodi unrhyw broblemau sydd angen eu cywiro. Mae'n ofynnol i osodwyr wneud y gwaith hwnnw ar eu cost eu hunain.

Nid oes gennym fanylion ar hyn o bryd am lefel y cwynion neu'r gwaith adfer sy'n gysylltiedig â CES, ond o ystyried maint y gweithgaredd o dan ECO, rydym yn disgwyl y bydd cwynion eraill yn codi. Rydym wedi clywed am rai enghreifftiau, a bydd llawer ohonom wedi darllen am yr enghreifftiau hynny yn y wasg. Gwyddom fod yna achosion lle nad yw'r gwaith wedi'i ddatrys. Rydym wedi codi achosion penodol gyda Llywodraeth y DU a chydag Ofgem, ac rydym yn aros am gadarnhad nawr o'r raddfa ac unrhyw gyfathrebiadau rhagweithiol sydd ar y gweill gyda'r aelwydydd hynny.

Dylai holl waith ECO4 a gwaith Cynllun Inswleiddio Prydain ddod o dan warant. Er bod y mwyafrif o achosion yn cyfeirio at senario lle mae'r gosodwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae rhai'n caniatáu ar gyfer methiant i gywiro, a dylai aelwydydd yr effeithir arnynt gysylltu â'r darparwr gwarant perthnasol am gymorth o fewn terfynau'r polisi. Hefyd, os caf ychwanegu, mae'r holl fesurau sydd wedi'u gosod o dan y cynllun ECO presennol o dan warant, a chaiff darparwyr y warant eu hadolygu a'u cymeradwyo gan y panel diogelu ariannol.

Rwy'n amlwg yn cydymdeimlo â'r holl bobl hynny yn CES sydd wedi colli eu swyddi. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf etholwr sydd wedi bod heb ddŵr  neu wresogi ers pythefnos. Mae'r gwaith hwnnw'n dal i fynd rhagddo. Nid yw'n waith sydd wedi'i gwblhau, felly nid wyf yn hollol siŵr sut y mae'r cynllun gwarantu'n mynd i'w helpu hi. Mae hi'n brin iawn o arian, a dyna pam ei bod wedi defnyddio'r cynllun hwn. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, trwy siarad â Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr fod rhywfaint o gymorth ariannol yn cael ei roi ar waith i'n holl etholwyr sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y broblem hon?

Mae fy nghyd-Aelodau Jayne Bryant a Jane Hutt gyda'i gilydd wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU. Maent wedi bod yn gwneud yr achos fod y goblygiadau i aelwydydd yng Nghymru yn anghymesur o ystyried lefel y gweithgarwch ECO a oedd yn cael ei wneud yma, am yr union resymau a nodir o ran bod mwy o aelwydydd angen y gwaith hwnnw.

Rydym wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU fod angen iddynt hwy ac Ofgem ystyried a chyfathrebu sut y bydd aelwydydd yn yr amrywiaeth o sefyllfaoedd yn cael eu cefnogi, a sut y gallant ofyn am y cymorth hwnnw. Mae ein swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion Llywodraeth y DU ac wedi cytuno i rannu'r gwahanol senarios y mae cyd-Aelodau wedi bod yn eu dwyn i'n sylw. Mae angen i ni gael ymateb y gallwn ei rannu ar draws y timau a chyda'n darparwyr gwasanaeth cyngor Nyth, fel y gallwn fynd i'r afael ag unrhyw bryderon penodol sy'n cael eu codi.

Mae'r ffaith bod Consumer Energy Solutions yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr wedi bod yn sioc fawr i'w gweithwyr. Yn ffodus, mae gan gwmni o Abertawe ddiddordeb mewn cyflogi rhai o'r staff. Gan weithio gyda'r ASau lleol, rwyf wedi rhoi gwybod i'r ganolfan waith am y cwmni a'r cymysgedd sgiliau y mae'n chwilio amdano. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu atoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o leiaf ddwywaith, yn gofyn pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei ddarparu i'r rhai na chânt eu cyflogi gan y cwmni sydd â diddordeb mewn cyflogi pobl oddi yno. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y gellir ei ddarparu i'r staff na chânt eu cyflogi gan y cwmni lleol arall sydd â diddordeb, ond sy'n poeni'n ddirfawr am eu dyfodol?

15:25

Soniais fod tua 60 o'r 300 o staff yn cael eu cyflogi yn y ganolfan gyswllt. Rydym yn gweithio gyda Cnect Cymru i geisio dod o hyd i gyflogaeth amgen i'r unigolion hynny—Cnect Cymru yw'r fforwm cyflogwyr sy'n cynrychioli canolfannau cyswllt pan-ddiwydiant, ac sydd wedi bod yn gwneud hynny ers 20 mlynedd. Byddant yn bartneriaid pwysig iawn i'r 60 aelod staff hynny.

Ar gyfer y tua 40 o syrfewyr a 200 o osodwyr, rydym yn casglu rhagor o fanylion am rolau a sgiliau penodol fel y gellir eu paru â chyflogwyr lleol—diolch yn fawr am rannu'r wybodaeth am y cyflogwr lleol yr ydych chi'n gyfarwydd â nhw—gan gynnwys cyflogwyr yn y sector tai cymdeithasol a busnesau yn y sector ôl-osod. Mae swyddogion yn trefnu digwyddiad i ddod ag aelodau staff yr effeithir arnynt i gysylltiad â darpar gyflogwyr. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau lleol pan fydd y digwyddiad wedi'i drefnu.

Er nad yw'r cynllun ECO'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, mae ei waith ar leihau tlodi tanwydd, fel y nodoch chi, yn sicr yn cael ei effeithio gan ddileu'r cynllun hwn. Ar ôl cyhoeddi'r penderfyniad yng nghyllideb mis Tachwedd, codais hyn sawl gwaith gyda Llywodraeth Cymru—gyda'ch cyd-Aelodau, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros dai—am y risg o golli swyddi, colli cyllid, sydd wedi bod, i bob pwrpas, yn sybsideiddio lefel y buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei chynlluniau tlodi tanwydd ei hun. Wrth gwrs, fe gollir sgiliau hanfodol sydd eu hangen yn y dyfodol i gefnogi'r cynllun trechu tlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd. Gofynnais iddynt a allent gadarnhau fod asesiad effaith wedi'i gynnal ar yr hyn y byddai'r penderfyniad hwnnw'n ei olygu i weithgareddau Llywodraeth Cymru, ond ni allent gadarnhau hynny. A yw Llywodraeth Cymru'n mynd i adolygu effeithiolrwydd y rhaglen Cartrefi Clyd nawr a'r lefelau o fuddsoddiad ynddi yng ngoleuni cau'r cynllun ECO?

Mae etholwyr wedi cysylltu â mi am eu bod yn wynebu anawsterau o ganlyniad i gau Consumer Energy Solutions yn Llansamlet yn ddirybudd. Maent yn gwneud eu gorau i ddatrys y problemau, gyda'r gwaith yn cael ei wneud mewn cyfnod o dywydd oer. Torrodd pwmp gwres un etholwr dros wythnos yn ôl. Roeddent yn synnu ac yn bryderus nad oedd y cyhoeddiad hwn ym mis Tachwedd wedi caniatáu i'r cwmni hwn lunio strategaeth ymadael amserol, a fyddai wedi golygu bod llai o bobl—cwsmeriaid, staff ac isgontractwyr—yn wynebu'r anawsterau a drafodir gennym y prynhawn yma.

A ydych chi'n cytuno mai cyhoeddi cynllun Cartrefi Cynnes y DU, sydd wedi'i wthio ymlaen o ddiwedd 2025 i ddechrau 2026—rydym yn dal i aros amdano—sydd wedi creu'r ansicrwydd hwn i berchnogion tai a gosodwyr fel ei gilydd, a'i fod yn achosi i swyddi gael eu colli ac yn tarfu ar gadwyni cyflenwi? Pa gamau rydych chi'n eu cymryd gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet a'ch cymheiriaid yn San Steffan i liniaru hyn?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ill dwy wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth y DU, ac maent wedi dweud yn glir iawn wrthynt mai'r profiad ar lawr gwlad yw bod gwaith newydd ddod i ben yn nhai pobl. Mae cymaint o gwynion heb eu datrys, tystysgrifau anghyflawn, gwaith adfer heb ei orffen a chontractau heb ddechrau eto hyd yn oed. Maent wedi dweud yn glir iawn fod hyn wedi gadael cymaint o aelwydydd—llawer ohonynt â phreswylwyr agored i niwed—dan straen ac yn bryderus iawn. Rydym wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y DU fod yn fwy clir ynglŷn â'r cymorth sydd ar gael i'r aelwydydd hynny a sut a phryd y byddant yn cysylltu â nhw, fel y gallant ddeall beth yw'r camau nesaf a beth yw eu hawliau o dan delerau'r cynllun.

Hefyd, un o'r pwyntiau pwysig y buom yn eu codi gyda Llywodraeth y DU yw pa gamau y gofynnir i Ofgem eu cymryd i reoleiddio'r busnesau sy'n gysylltiedig ag ECO i sicrhau eu bod yn cyflawni gwaith o ansawdd derbyniol ac nad ydynt yn gadael y farchnad gydag elw mawr, gan adael llwybr o waith anorffenedig ac aelwydydd mewn limbo a gofid ar eu holau. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelodau'n ei godi'n uniongyrchol gydag Ofgem, yn ogystal â thrwy Lywodraeth y DU.

O ran ein cefnogaeth ein hunain, yn amlwg, rydym yn pryderu am dlodi tanwydd yma yng Nghymru. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio'i wneud, wrth gwrs, yw gwella incwm a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae honno'n flaenoriaeth i ni. Bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r gwaith ar gefnogi mentrau ynni, gan gynnwys y £13 miliwn y flwyddyn yng nghynllun Nyth Cartrefi Clyd, ond hefyd y £7 miliwn i'r Sefydliad Banc Tanwydd, a roddwyd gennym ers 2022, i helpu cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Felly, ar gwestiwn ehangach tlodi tanwydd, rydym yn annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru, i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt, a bod modd eu cyfeirio wedyn at gymorth parhaus posib drwy'r cynlluniau lliniaru tlodi ynni.

15:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi dweud heddiw nad ydych yn siŵr o faint y broblem, felly fy nghwestiwn yw sut ydych chi'n canfod beth yw maint y broblem. Oherwydd mae etholwyr wedi cysylltu â mi, ac maent yn dal i gysylltu â mi ar hyn o bryd—er enghraifft, etholwr 66 oed â phroblemau iechyd heb wres am wythnos. Mae llawer o bobl o hyd nad ydynt yn ymwybodol fod y gwaith a wnaed yn gysylltiedig â'r cynllun. Mae llawer o bobl nad ydynt ar y cyfryngau cymdeithasol, neu efallai nad ydynt wedi gweld y newyddion, i wybod ble i droi. Yn aml, y rhain yw'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Felly, rwy'n deall yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am y gweithlu, a hoffwn gael rhagor o fanylion ynglŷn â sut rydych chi'n eu cefnogi, ond gyda'r etholwyr hynny mewn golwg, rydym wedi clywed llawer o enghreifftiau ohonynt heddiw, mae cymaint mwy allan yno yr wyf yn pryderu nad ydynt yn cael eu cynrychioli na'u cefnogi. Felly, sut y gallwn sicrhau bod pawb sy'n wynebu anawsterau oherwydd methiant y cynllun hwn, ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd, gan eu gadael heb wres ar hyn o bryd—? Sut y mae sicrhau eu bod yn cael y cymorth hwnnw cyn gynted â phosib, a bod pawb yr effeithir arnynt—ein bod yn gwybod pwy ydynt?

Diolch. Ar y pwynt hwnnw ynglŷn â deall beth yw maint posib yr effaith ar aelwydydd a busnesau, mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, a deall nifer yr aelwydydd sydd wedi cael mynediad at y gosodiadau eco. Rydym yn deall ei fod ymhell uwchlaw ein cyfran o'r boblogaeth, os mynnwch, o osodiadau, o ystyried yr hyn a ddywedais yn gynharach am y lefel gymharol o angen yma yng Nghymru. Felly, rydym yn deall hynny. Ond un o'r pethau y mae fy nghyd-Aelodau yn mynd ar eu trywydd gyda Llywodraeth y DU yw sut y maent yn ymgysylltu, a beth yw eu cynlluniau ar gyfer ymgysylltu'n uniongyrchol â phob un o'r aelwydydd sydd wedi'u heffeithio, fel eu bod yn deall y llwybr sydd ar gael iddynt, ond hefyd beth yw eu hawliau. Credaf fod angen darparu'r wybodaeth honno mewn ffordd sy'n hawdd ei deall hefyd, gan fod hwn yn faes cymhleth, ac ni fyddai pobl wedi disgwyl gorfod delio â gwarantau ac ati wrth gytuno i'r gwaith gael ei wneud.

Rydym hefyd yn pryderu am yr effaith ehangach ar is-gontractwyr a chyflenwyr. Felly, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â'r busnesau hynny pan fyddwn yn deall ble mae'r cadwyni cyflenwi a sut olwg sydd arnynt. Mae gennych y ddau warws—yn Nhreorci, ac i fyny ym Mangor. Gwyddom fod llai na 10 o weithwyr ym mhob un o'r lleoliadau hynny, ond bydd swyddogion yn hysbysu'r aelodau staff hynny hefyd am y cymorth sydd ar gael.

5. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy yma yng Nghymru, i dynnu sylw at yr her hirsefydlog a dwys yn ein canlyniadau canser. Canserau'r ymennydd, yr ysgyfaint, yr afu, yr oesoffagws, y pancreas a'r stumog sy'n gyfrifol am oddeutu 40 y cant o'r holl farwolaethau canser cyffredin, ond un rhan o bump o'r arian ymchwil canser a ariennir gan y Llywodraeth yn y DU a gânt. Yng Nghymru, mae effaith yr anghydbwysedd hwn yn amlwg. Bydd mwy na hanner y bobl sy'n cael diagnosis o ganser llai goroesadwy yn marw o fewn blwyddyn i'r diagnosis. Mae buddsoddiad ymchwil annigonol yn cyfrannu at ddiagnosis diweddarach, llai o opsiynau triniaeth a mynediad cyfyngedig at dreialon clinigol, gan greu cylch sy'n parhau i gostio bywydau. Dyna pam fod mynd i'r afael â'r bwlch cyllid ymchwil ar gyfer canserau llai goroesadwy yn hanfodol os ydym o ddifrif ynglŷn â gwella cyfraddau goroesi a chanlyniadau i gleifion yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i alluogi'r ymchwil hanfodol hon ac yn ystyried pa gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, gan weithio gyda phartneriaid ar lefel y DU, i helpu i gau'r bwlch hwn ac achub bywydau.

15:35
6. Dadl ar ddeiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas. 

Cynnig NDM9101 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.', a gasglodd 11,790 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Deiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg'. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tina Collins, ar ôl casglu cyfanswm o 11,790 o lofnodion. Mae'r deisebwyr wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o broblemau gyda chludiant i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf, ond mae hwn yn fater sy'n effeithio ar fyfyrwyr ysgol a theuluoedd ledled Cymru. Felly, rwy'n croesawu penderfyniad y Pwyllgor Busnes i ymestyn yr amser a neilltuwyd i'r ddadl hon i awr, er mwyn caniatáu digon o amser i Aelodau ar draws y Siambr gyfrannu ati.

Mae geiriad y ddeiseb yn nodi:

'Dylai pob plentyn sy’n cael addysg allu cyrraedd ysgol neu goleg yn gwbl ddi-drafferth.

'Nid yw ein strydoedd yn ddiogel i bobl ifanc dan 19 oed gerdded ar eu pennau eu hunain mwyach.

'Heb gludiant uniongyrchol ar gyfer addysg i’r rhai y mae RHAID iddynt hyd yn oed fynychu tan eu diwrnod olaf ym mlwyddyn 11. Mae’r myfyrwyr hyn yn brwydro drwy salwch isorweddol, salwch cudd, neu hyd yn oed salwch heb ddiagnosis.

'Y myfyrwyr sy’n byw mewn tlodi ac yn ei chael yn anodd teithio ar fws cyhoeddus hyd yn oed.'

Mae'r deisebwyr yn pwysleisio pwysigrwydd cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, neu deithio gan ddysgwyr, fel y'i gelwir yn y ddeddfwriaeth, i blant sy'n paratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU a Safon Uwch.

Rhoddasant enghraifft o fyfyriwr blwyddyn 8 a oedd yn gorfod teithio ar droed am awr a 10 munud bob ffordd:

'Nid oes ganddo salwch isorweddol ac mae’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar ôl ysgol. Roedd yn cario 6kg yn ei fag cefn yn ogystal â’i gôt.

'Ar ôl y daith hon, cwynodd am draed dolurus, roedd ei ysgwyddau yn brifo ac roedd yn teimlo’n flinedig iawn.

'Roedd hyn cyn diwrnod 6 awr ac mewn tywydd oer a sych.

'Nid oes lle i gadw dillad sbâr na hyd yn oed ystafell sych i sychu dillad.'

Dywed y deisebwyr y bydd lefelau absenoldeb yn cynyddu, gan nodi bod gwella presenoldeb yn yr ysgol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Maent yn tynnu sylw at effaith negyddol mwy o geir ar y ffyrdd, a'r pwysau ar rieni a gofalwyr i fynd â'u plant i'r ysgol ac yn ôl drwy ddefnyddio trafnidiaeth breifat pan fo diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, neu pan fo'n annigonol. Nid yw hynny ond yn opsiwn realistig i rieni sydd â mynediad at gerbyd, sy'n gallu cludo eu holl blant i'w gwahanol ysgolion, ac sy'n gallu rhoi'r amser angenrheidiol heb iddo effeithio ar oriau gwaith, cyflogaeth ac incwm y teulu. Er bod y deisebwyr yn croesawu'r ffi bws o £1, maent hefyd wedi tynnu sylw at rai problemau gyda gweithredu anghyson.

Codwyd pryderon diogelwch yn aml hefyd yng nghanlyniadau arolwg o fyfyrwyr a rhieni a ddarparwyd i ni gan yr ymgyrchwyr—diogelwch ffyrdd a diogelwch personol—yn enwedig oherwydd daearyddiaeth unigryw Cymru, ond hefyd am lawer o resymau eraill. Yn aml, yr unig ddewis arall yn lle bws ysgol yw cerdded.

Mae'r deisebwyr yn tynnu sylw at yr anawsterau penodol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai sy'n dioddef o orbryder.

Mae fforddiadwyedd yn fater allweddol yma. Mae'n arbennig o bwysig cydnabod yr effaith ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd gyda chostau byw. Mae hynny'n cael ei osod yn erbyn yr heriau ariannol i awdurdodau lleol o geisio darparu cludiant digonol i'r ysgol. Dangosodd arolwg y deisebwyr ddisgwyliad y byddai 90 y cant o'r 565 o fyfyrwyr eisiau bws uniongyrchol i addysg.

Ystyriwyd y ddeiseb gan y pwyllgor ochr yn ochr ag ail ddeiseb, sef deiseb P-06-1533, 'Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008', a gyflwynwyd gan Rebecca Smart ac a gasglodd 2,185 o lofnodion. Ac mae'r ddeiseb honno'n nodi:

'Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu a diweddaru darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Sef, dyletswydd awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr a threfniadau trafnidiaeth, gan gynnwys terfynau teithio. Teithio ôl-16 ac addysg feithrin. Cydraddoldeb mewn trefniadau teithio a hyrwyddo'r Gymraeg.'

'Yn 2021, ymrwymodd gweinidogion Cymru i adolygu'r Mesur, gan dynnu sylw at y problemau; fodd bynnag, nid yw wedi newid.'

Wrth drafod y ddwy ddeiseb, cydnabu'r Pwyllgor Deisebau y teimladau cryf ynghylch y mater, yn enwedig ei effaith ar ysgolion ffydd, ysgolion cyfrwng Cymraeg a disgyblion o deuluoedd incwm isel. Nododd yr aelodau, er bod y mater wedi'i archwilio o'r blaen gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac wedi'i godi yn ystod dadl fer fis Hydref diwethaf dan arweiniad Heledd Fychan, fod pryderon yn parhau. I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i deuluoedd, cytunodd y pwyllgor i ofyn am ddadl heddiw.

Gwyddom fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwbl ymwybodol o gryfder y teimladau ynghylch teithio gan ddysgwyr, a thynnodd ei hymateb sylw at y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ar adolygu a diwygio'r canllawiau, gan gynnwys yr ymgynghoriad o fis Mehefin diwethaf tan ddiwedd mis Tachwedd i helpu i lywio'r broses a'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr a gynhaliwyd gyda chyrff cynrychioliadol fis Mai diwethaf i drafod yr heriau a'r atebion ymarferol ar gyfer gwella teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.

Roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys adroddiad yr uwchgynhadledd teithio, yn amlinellu ffrydiau gwaith a sefydlwyd i weithredu ar argymhellion, a nododd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ei hymrwymiad i ddigwyddiad dilynol yn gynnar eleni. Yn ogystal â'r pryderon a godwyd gan y deisebwyr eu hunain, cododd adroddiad yr uwchgynhadledd faterion hefyd ynghylch yr heriau ariannol a'r costau uchel sy'n gysylltiedig â chludiant i'r ysgol.

Ymddengys bod diffyg cysondeb yn thema fawr: anghysondeb mewn polisi ac ymarfer rhwng awdurdodau lleol; anghysondeb yng nghostau a phrisiau darparwyr trafnidiaeth; effaith anghymesur ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'r rhai sy'n teithio ymhellach i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r ffaith bod problemau gyda chludiant i'r ysgol yn effeithio ar ddewisiadau myfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-16 yn achos pryder mawr arall. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am waith partneriaeth llawer gwell rhwng awdurdodau lleol ac mae hefyd yn nodi cyfleoedd i wneud gwelliannau, gydag astudiaethau achos o gamau gweithredu ac ymyriadau effeithiol.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi sicrwydd i'r pwyllgor ei bod yn gwrando, ac yn ystyried hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer cynyddu gweithio mewn partneriaeth rhwng yr holl bartneriaid cyflawni, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ddarparu cludiant i ddysgwyr cymwys.

Nawr, wrth ymateb i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r deisebwyr yn dadlau:

'Mae'r ymgynghoriad cyfredol ar y canllawiau'n awgrymu ei bod yn rhesymol i blentyn 5 i 10 oed gerdded 45 munud un ffordd i'r ysgol, felly 90 munud y dydd i'r ysgol ac yn ôl o bosib, ac i blentyn 11 i 19 oed gerdded 75 munud un ffordd, felly cyfanswm o 150 munud y dydd i'r ysgol ac yn ôl. Mae hyn yn hurt, yn enwedig yn y gaeaf pan fo'n dywyll yn y bore a chyda'r nos, a hefyd mewn tywydd gwlyb. Nid yw llawer o'r llwybrau y bernir eu bod yn ddiogel yn ddiogel yng ngolwg disgyblion na'u rhieni, ac mae'n amlwg—ni fyddem yn disgwyl i oedolion gerdded pellteroedd o'r fath a llwybrau o'r fath i gyrraedd eu gweithle.'

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y pryderon sy'n cael eu codi, gan gynnwys gan Gomisiynydd Plant Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau heddiw. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet wedyn am y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella'r sefyllfa. Diolch.

15:40

Rwyf yma heddiw i siarad o blaid y ddeiseb hon, ac yn bwysicach fyth, i gefnogi ein plant—plant y mae eu hawl i addysg wedi'i thanseilio gan y cam trychinebus hwn o gael gwared â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Ni ddylai addysg byth fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i blentyn ymladd i gael mynediad ati, ond dyna'n union y gofynnwn iddynt ei wneud.

Ledled Cymru, mae newidiadau diweddar i bolisïau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol wedi arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol o ran presenoldeb, lles, cydraddoldeb a chyfle. Mae arolygon yn dangos yn gyson mai cludiant yw un o'r rhwystrau mwyaf cyffredin i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Mewn gwirionedd, mae oddeutu dwy ran o dair o rieni sydd wedi nodi anawsterau gyda phresenoldeb yn crybwyll problemau'n ymwneud â chludiant i'r ysgol. Mae Comisiynydd Plant Cymru ei hun wedi rhybuddio bod y baich hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â lefelau presenoldeb is, ac rydym eisoes wedi gweld y canlyniadau.

Yn Rhondda Cynon Taf, disgrifiodd rhieni y trefniadau bysiau newydd y llynedd fel 'llanast llwyr'. Roedd bysiau'n orlawn, roedd plant yn hwyr, a bu nifer o ddamweiniau a phryderon diogelwch. Mae straen hyn wedi arwain at orbryder a phyliau o banig hyd yn oed i rai ar eu taith i'r ysgol. Nid cwynion ynysig yw'r rhain, maent yn arwyddion rhybudd fod llai o ddarpariaeth trafnidiaeth yn tanseilio gallu plant i fynychu'r ysgol yn gyson.

Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw presenoldeb. Mae llesiant myfyrwyr, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn y fantol. Mater hollbwysig yw diogelwch. Er y gellir asesu risg y daith bws, nid felly'r llwybr cerdded neu feicio i'r ysgol. Bydd llawer o blant yn mynd ar yr hyn y maent yn ei ystyried yn llwybr cyflymaf, ond nid hwn fydd y llwybr mwyaf diogel bob amser. Cafwyd adroddiadau am blant yn cerdded ar ffyrdd prysur a thraffig mewn tywydd gwael, ac weithiau yn y tywyllwch.

15:45

Mae’n ddrwg gennyf, ni allaf eich gweld o'r fan hon. Mae'r ddeiseb yn nodi eu bod yn credu bod cerdded i'r ysgol yn anniogel i blant dan 19 oed. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r ddadl honno, gan nad yw'r cyfraddau troseddu yn adlewyrchu hynny. Efallai na fydd pobl eisiau cerdded i'r ysgol, efallai na fyddant yn hoffi cerdded yn y tywydd gwael os nad ydynt wedi arfer gwneud hynny, ond nid yw'r canfyddiad fod hyn yn anniogel wedi'i gefnogi gan unrhyw dystiolaeth rwy'n ymwybodol ohoni.

Fel rhywun sydd wedi cerdded y llwybrau y disgwylir i'r plant eu cerdded, gallaf dystio bod rhai llwybrau'n anniogel. Nid yw'n ymwneud â throseddoldeb, mae'n ymwneud â thraffig yn goryrru, mae a wnelo â diffyg palmentydd. [Torri ar draws.] Ewch amdani.

Diolch am ildio. A wnaiff yr Aelod gytuno â mi fod llawer o dystiolaeth ar gael gan lawer o rieni sydd wedi ysgrifennu at bob Aelod yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, am lwybrau anniogel i'r ysgol? Nid yw'n golygu—. Rydych chi'n awgrymu y bydd rhyw fath o drosedd yn digwydd ar y ffordd i'r ysgol. Rydym yn sôn am sawl ffurf wahanol ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Oni fyddech chi'n cytuno?

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod. Rwy'n credu y bydd yn rhaid ichi gael cryn dipyn o hunanhyder i fynd at riant pan fyddant yn mynegi pryderon a dweud wrthynt, 'Profwch hynny.' Ni chredaf mai dyna rydym yma i'w wneud. Rydym yma i'w cefnogi.

Mae rhieni'n ofni mwy o berygl ar y ffyrdd, a hynny'n gywir ddigon. Pan gaiff bysiau ysgol eu diddymu, mae rhieni'n gyrru. Mae hynny'n golygu mwy o dagfeydd, mwy o allyriadau a mwy o risg o ddamweiniau ar y ffyrdd sy'n cynnwys plant. Er bod dadl i'w chael dros annog cerdded a beicio o ran iechyd, mwy o hyder a chreu aer glanach o amgylch ysgolion, rhaid inni gydnabod na fydd hyn yn bosib ledled Cymru gyfan. Mae ardaloedd trefol a gwledig yn wynebu heriau gwahanol iawn, ac nid yw'n realistig disgwyl i bawb allu gwneud hyn. Ni all annog teithio llesol olygu gorfodi plant i gerdded pellteroedd afresymol o hir heb asesiad na chymorth priodol. I deuluoedd, yn enwedig y rhai ar incwm isel, gall colli cludiant am ddim fod yn ddinistriol. Nododd hyd at 41 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru gludiant fel y rhwystr mwyaf i addysg neu waith. Pan ddaw'r cymorth i ben ar lefel TGAU, y bobl ifanc sy'n byw mewn tlodi sy'n cael eu taro galetaf. Rwy'n cyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol. Mae'r cynllun peilot tocynnau bws £1 i bobl ifanc wedi helpu llawer i fforddio teithio, ac mae grantiau ar gael ar gyfer dysgwyr ôl-16. Mae'r mesurau hyn i'w croesawu, ond nid ydynt yn cymryd lle cludiant sicr a dibynadwy i blant oedran ysgol.

Yn aml, mae diwygio trafnidiaeth yn cael ei drafod yng nghyd-destun nodau hinsawdd. Gall prisiau rhatach a rhwydweithiau bysiau integredig leihau allyriadau carbon a moderneiddio fflydoedd. Gall annog llai o deithiau car wella ansawdd aer a diogelwch ffyrdd. Ond y gwir amdani yw bod lleihau cymhwysedd i fysiau ysgol yn creu perygl o wneud y gwrthwyneb. Pan fydd cludiant am ddim yn diflannu, mae rhieni'n gyrru ac mae tagfeydd yn cynyddu. O ganlyniad, mae allyriadau'n codi, a'r manteision amgylcheddol yn cael eu colli.

Mae rhieni a dysgwyr wedi siarad yn glir. Mae miloedd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Nid yw teuluoedd yn protestio dros hwylustod. Maent yn protestio dros ddiogelwch, tegwch a mynediad at addysg. Mae'r neges yn glir, Ddirprwy Lywydd: mae trafnidiaeth yn allweddol i fynediad at addysg, ac mae pobl wedi cael llond bol ar y newidiadau sydd wedi'u cynnig.

Y blynyddoedd cyn TGAU a Safon Uwch yw'r rhai mwyaf hollbwysig ym mywyd unigolyn ifanc. Dyma'r blynyddoedd sy'n siapio hyder, cyfleoedd a rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Dylai myfyrwyr ganolbwyntio ar ddysgu, ar wersi, arholiadau ac uchelgais, nid ar a allant gyrraedd yr ysgol ai peidio. Gyda hynny mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn gobeithio y bydd pawb yma'n cefnogi'r ddeiseb hon. Diolch.

Rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Deisebau wedi cyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf hefyd yn falch iawn fod y deisebau hyn wedi'u cyflwyno gan y ddau ddeisebydd, gan ei bod yn amlwg iawn nad yw cludiant i'r ysgol yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd. Ac nid fi sy'n dweud hyn, ond etholwyr sy'n gallu gweld sut y mae'n cael ei roi ar waith. Mae un o'r deisebwyr, Tina Collins, yn etholwr i mi. Rwy'n falch o'i gweld yma heddiw, yn gwylio'r ddadl hon. Rwy'n siŵr y byddai'n hoffi bod yma yn siarad am y pwyntiau ei hun, ond mae wedi cael ei chefnogi gan grŵp gwych o rieni a dysgwyr, ac mae wedi bod yn allweddol yn cydlynu'r ymgyrch i 'Achub cludiant rhwng y cartref a'r ysgol' yn Rhondda Cynon Taf.

Maent wedi casglu corff enfawr o dystiolaeth ac roeddent yn ceisio atal cyngor RhCT rhag newid y darpariaethau i fod yn unol â chanllawiau statudol ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd a cholegau, ond fel y gwyddom, fe wnaed y newidiadau. Ac mae'n amlwg o'r dystiolaeth y maent wedi'i chasglu ers i'r newidiadau ddod i rym fis Medi diwethaf, ac o dystiolaeth a glywsom mewn mannau eraill nifer o weithiau yn y Siambr hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fod problemau gyda'r trothwyon statudol a'r canllawiau eu hunain. Felly, sut ydym yn gwybod hyn? Wel, am ein bod yn gwybod bod rhai plant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at addysg oherwydd y system sydd ar waith ar hyn o bryd, ac mae rhieni'n gorfod rhoi'r gorau i weithio neu leihau eu horiau gwaith er mwyn cynorthwyo eu plant i gael mynediad at addysg.

Gwn fod Carolyn Thomas wedi rhestru nifer o bwyntiau yn gynharach, ond hoffwn fynd drwy'r rhestr a rannwyd gyda mi o bryderon etholwyr a dysgwyr. Rydym wedi clywed am ddysgwyr yn gorfod gadael addysg cyfrwng Cymraeg, gan adael ffrindiau gydol oes, neu rieni'n gwneud y dewis yn gynnar i beidio ag anfon eu plentyn i ysgol cyfrwng Cymraeg, am eu bod yn gwybod na fyddant yn gallu cael mynediad at gludiant am ddim yn y dyfodol, ac felly'n gwneud y dewis o ran iaith yn seiliedig ar argaeledd cludiant, oherwydd pam na fyddech chi'n dewis gallu cerdded i'r ysgol agosaf, yn hytrach na gorfod cerdded 2.9 milltir efallai i ysgol cyfrwng Cymraeg, neu orfod talu, neu fod eich rhieni'n gorfod mynd â chi?

Rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau o ddysgwyr yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb at eu crwyn ac yn gorfod eistedd drwy wersi mewn dillad gwlyb a'u llyfrau ysgol wedi'u difetha. Mae hyn yn rhywbeth y mae athrawon wedi dweud wrthyf sy'n digwydd dro ar ôl tro. Rydym wedi gweld amlder stormydd hefyd, a llifogydd ar ffyrdd fel bod rhaid i ddisgyblion gerdded drwy ddŵr llifogydd budr. Nid yw hyn yn iawn ac nid yw'n ffafriol i ddysgu. Rydym wedi clywed am ddysgwyr yn cyrraedd wedi blino'n lân ar ôl cerdded am ymhell dros awr—nid yw hynny'n rhesymol—rhieni'n gorfod cyfyngu ar nifer y dyddiau y mae eu plentyn yn mynd i'r ysgol am na allant fforddio cost ddyddiol trafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf wedi codi hyn nifer o weithiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac ydy, mae'n dal i ddigwydd.

Rydym wedi clywed am ddysgwyr yn gwrthod mynd i'r ysgol pan fydd y tywydd yn wael, neu pan fydd hi'n dywyll, oherwydd ofnau ynghylch eu diogelwch. Hoffwn ymateb i bwynt Lee Waters yn benodol ar hyn, oherwydd efallai nad yw'r data'n ei ddangos o ran ymosodiadau ar bobl, ond fel menyw yn cerdded yn y tywyllwch, gallwch fod yn ofnus. Faint o fenywod sy'n ofnus, ac rydych chi'n gafael yn allweddi eich car, os oes gennych rai, wrth gerdded y pellter byr i'ch car. Ond mae gorfod cerdded am dros awr yn y tywyllwch—. Rydym yn clywed am sylwadau y mae gyrwyr sy'n pasio ac ati yn eu gwneud i ferched ifanc. Felly, mae a wnelo â sut rydych chi'n teimlo. Efallai na fydd unrhyw un yn ymosod arnoch, ond mae'r ofn y bydd rhywun yn ymosod arnoch, neu orfod dioddef dynion yn syllu arnoch neu'n eich heclo ac ati yn real iawn. Ac nid yw hynny wedi'i gofnodi yn y data, ond dyna'r dystiolaeth a glywn. Felly, buaswn yn annog unrhyw un sy'n credu bod hynny'n rhesymol i gerdded gyda merch ifanc ar ei phen ei hun yn y tywyllwch a dweud wrthi ei bod yn ddiogel, gan na fydd hi'n teimlo'n ddiogel, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei golli yn y ddadl hon weithiau. O ran iechyd meddwl dysgwyr sy'n dioddef a chynnydd mewn gorbryder, yn enwedig ymhlith dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r rhain oll yn bethau a glywsom; dysgwyr yn gorfod rhoi'r gorau i gael gwersi cerddoriaeth neu weithgareddau eraill am na allant gario'r offeryn am hyd at dair milltir neu gario'r offer hwnnw.

Felly, gwyddom fod pob un o'r rhain yn broblemau. Mae Llywodraeth Cymru’n gwybod bod hyn yn wir. Dyna pam eu bod wedi bod yn adolygu'r canllawiau. Credaf mai'r hyn y mae rhieni a dysgwyr yn gobeithio ei glywed heddiw yw sut yr awn i'r afael â'r rhain nawr. Sut rydym yn datblygu hyn? Rydym wedi siarad yn flaenorol am yr angen i gydweithio ar draws y pleidiau i ddod o hyd i atebion. Sut y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd? Oherwydd nid yw beth bynnag sydd wedi'i roi ar waith nawr yn gweithio. Mae angen inni wrando ar ddysgwyr a'u teuluoedd. Ond yn bwysicach fyth, mae angen inni weld y newidiadau hynny fel y gall pob plentyn gael mynediad at addysg yn ddiogel.

15:55

Diolch o galon i'r deisebydd am y ddeiseb yma ac am ei chymorth i mi wrth baratoi'r araith y prynhawn yma. Mae'n rhaid i fi ddweud o'r cychwyn dwi'n ddigon ffodus i allu cerdded fy merch bum mlwydd oed i'r ysgol ar hyd ffordd ddiogel, neu, i fod yn fanwl gywir, rhedeg ar ei hôl hi wrth iddi hi seiclo o fy mlaen i i'r ysgol. Ac mae hyn yn gam enfawr ymlaen, wrth gwrs, i addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, achos roeddwn i ar y bws am dros awr i'r ysgol gynradd nôl yn y 1990au. Mae'n deg i ddweud bod y mater yma wedi cael ei godi yn gyson yn y lle hwn, a dwi'n cydnabod nad yw e'n fater syml. Mae'r gost yn fawr ac mae'n rhaid tynnu'r llinell yn rhywle, ac mae'r llinell yn mynd i adael rhai yn hapus ac eraill yn anfodlon. [Torri ar draws.]

Mae’n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl mai ymyriad oedd hwnnw.

Lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o drefniadau teithio gan ddysgwyr nôl yn 2019, cafwyd dadl gan wrthblaid yma nôl yn 2021, Papur Gwyn yn 2023, dadl arall gan wrthblaid yn 2023, ac yna gyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2024, adroddiad ynglŷn â mynediad i addysg. Flwyddyn ddiwethaf, cafodd hwn ei godi mewn dadl fer yn y lle hwn. Y diweddaraf, wrth gwrs, yw ein bod ni'n aros i gael gwybod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaed ym Mehefin a Thachwedd 2025. Mae cysondeb y materion yma yn codi yn dangos, yn amlwg, fod yna broblem, ac mae hyn yn cael ei ategu yn y ffaith, fel mae Carolyn Thomas wedi dweud, fod y comisiynydd plant wedi sôn am hyn, mae'r Comisiynydd y Gymraeg wedi sôn am hyn yn gyson, a heddiw mae gyda ni ddeiseb sydd gyda bron i 12,000 o lofnodion. Dyw hwnna ddim yn beth sy'n digwydd mor aml â hynny, fod y teimladau mor gryf eu bod nhw'n cael 12,000 o lofnodion.

Ond y ddadl gryfaf, yn fy marn i, yw tystiolaeth y bobl ifanc eu hunain. Dyma ond ychydig o'r 500 o ymatebion gan blant Rhondda Cynon Taf, rhai o'r plant mor ifanc â blwyddyn 1. Dyma un ohonyn nhw: 'Mae fy nhad mewn trafferth yn y gwaith gan fod yn rhaid iddo adael yn gynnar i'm casglu a gweithio o gartref, sydd ddim yn ddelfrydol, a dyw fy mam ddim yn gyrru.' Dyna bwysau ar blentyn ifanc, fod ei dad mewn trafferth yn y gwaith. Un arall: 'Mae gennyf i ofn y bydd yn rhaid imi gerdded i Bonty yn y tywyllwch. Mae yna bobl yn cymryd cyffuriau'—yn ymwneud â phwynt Lee Waters a Heledd Fychan. Un arall: 'Nid oes palmant ar y briffordd.' Mae hyd yn oed y tri llais yma yn profi pa mor eang yw'r broblem, a hefyd pa mor heriol, efallai, yw'r datrysiad.

Yn ddealladwy, mae cwestiynau’n codi am oriau ysgol a sut maent yn cyd-fynd ag oriau gwaith. Fel pob Aelod, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod am y gwaith gwych mae ysgolion, gan gynnwys ysgol fy merch i, yn ei wneud gyda chlybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Ond, yn aml iawn, mae'n anodd cael llefydd yn y clybiau yma. A oes modd inni wneud mwy i helpu ein hysgolion? Mae angen inni barhau i gydweithio â'r heddlu—pwynt Joel, dwi'n credu. Yn amlwg, mae rôl bwysig i'r ysgolion gydweithio gyda'r heddlu, fel gwnaeth ysgol fy merch yn ddiweddar, trwy ddweud wrth yr heddlu, 'Mae yna broblem wrthgymdeithasol yn digwydd yn y fan yma.' Ac mae'r heddlu wedyn yn gallu mynd i'r lle yn ystod yr oriau mae plant a phobl ifanc yn cerdded nôl ac ymlaen o'r ysgol.

Hefyd, dwi ddim yn deall pam mae rhieni'n cael eu gwrthod rhag gallu talu am le pan mae yna le gwag ar fws. Os oes lle gwag ar fws, dyw e ddim yn gwneud dim sens i fi bod rhieni'n cael eu gwrthod rhag hyd yn oed talu am y lle yna.

Yn olaf, dwi'n credu bod yn rhaid inni adolygu'r ddeddfwriaeth er mwyn creu mwy o hyblygrwydd pan mae'n dod i reolau dwy filltir ysgol gynradd a thair milltir i ysgol uwchradd. Nawr, wrth gwrs dwi'n ymwybodol bod modd gwneud apêl, ond nid yn aml mae'r apeliadau yma yn llwyddiannus, ac yn sicr barn rhieni yw bod cost yn cael y flaenoriaeth dros ddiogelwch. So, dwi'n credu cam mawr i helpu fyddai adeiladu ar ganllawiau gweithredol, 'Teithio gan Ddysgwyr, Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol', Mehefin 2014, i'w wneud nid dim ond yn argymhelliad ond yn ofynnol i lwybrau fod yn droetffordd addas barhaus ar ffyrdd sydd â llif traffig cymedrol i drwm; i lwybrau fod â mannau camu ar ffyrdd sydd â llif traffig isel a llinellau gweld addas i roi digon o rybudd ymlaen llaw i yrwyr a cherddwyr; ac, yn olaf, i lwybrau ar ffyrdd â llif traffig isel iawn fod â llinellau gweld sy’n ddigon da i roi rhybudd ymlaen llaw.

Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau, yn enwedig yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae llawer o oedi wedi digwydd ac mae angen gweithredu. Diolch yn fawr.

16:00

Diolch am ymestyn y ddadl hon fel y gallwn drafod y materion sydd wedi'u codi yma. Nodaf yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr. Mae'n codi sawl mater i mi, ond mae'n gwella'r wybodaeth a gefais ddoe, pan ymwelais ag un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth, wrth imi geisio ei ddefnyddio fel cyfle i siarad â disgyblion blwyddyn 11 am bwysigrwydd defnyddio'u pleidlais ym mis Mai. Nid oes unrhyw bwynt inni roi'r bleidlais i bobl os nad ydynt yn ei defnyddio wedyn.

Synnais glywed bod nifer o ddisgyblion 16 oed yn dal i gael eu cludo i'r ysgol mewn car. A fydd yr aelod hwnnw o'r teulu'n dal i'w cludo i'r gwaith yn y dyfodol? Beth a wnawn i'n pobl ifanc drwy eu babaneiddio yn y modd hwn? Mae angen inni ei gwneud hi'n hawdd iddynt wneud dewisiadau ynghylch sut y maent yn mynd i'r ysgol. Rwyf am siarad dros hawliau pobl ifanc i allu mynd i'r ysgol yn annibynnol, fel y gallant ddewis gyda phwy i gerdded neu feicio ac erbyn pryd y maent eisiau cyrraedd yno. A ydynt eisiau cyrraedd yno mewn pryd ar gyfer y clwb brecwast ai peidio, ac yn bwysicaf oll i ddisgyblion ysgol uwchradd, pa bryd y maent eisiau gadael? A ydynt eisiau mynychu clybiau ar ôl ysgol neu a ydynt bob amser yn mynd i fod yn ddibynnol ar yr amser y mae'r bws ysgol yn mynd â nhw'n ôl i'r ardal lle maent yn byw?

Rwyf hefyd eisiau siarad am bwysigrwydd diwygio'r llwybrau a gymerir gan fysiau mewn dinasoedd fel Caerdydd, fel bod bws ar gael i ysgafnhau'r baich os yw disgybl yn cario 6 kg o lyfrau ar ddiwrnod penodol, neu'n cario offeryn cerdd, fel y soniodd Aelod arall. Ond rwy'n credu hefyd fod neges yma i ysgolion: a oes angen i blant gario 6 kg o lyfrau? Mae hynny'n drwm.

Rwy'n credu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd am yr unigolyn ifanc yr oedd yn rhaid iddo gerdded 3 milltir, a'i fod yn cymryd awr a 10 munud iddo—llai na 3 milltir. Mae hynny'n awgrymu rhywun nad yw fel arfer yn cerdded. Dylai ysgolion fod yn meddwl, 'A yw ein disgyblion—?'

Rwy'n gwybod, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, fod rhai o'r llwybrau i fyny bryniau serth iawn. Nid ydynt yn wastad, felly mae'n cymryd mwy o amser yn yr amgylchiadau hynny, gydag offer pellach ac yn y blaen, ac nid yw rhai o'r llwybrau'n uniongyrchol. Maent ychydig o dan y 3 milltir, ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall ei bod hi'n arafach pan fyddwch chi'n mynd i fyny'r rhiw, ac i fyny ac i lawr, a heb fod ar arwyneb gwastad hefyd.

Rwy'n cydnabod hynny. Mae rhai mannau uchel yn fy etholaeth i hefyd—un o'r rhannau llai gwastad o fy etholaeth. Nid wyf yn awgrymu eu bod yn mynd i gael gwasanaeth o ddrws i ddrws o reidrwydd, ond gallant neidio ar fws ac yna neidio ar un arall os ydynt yn cario gormod o bethau. Rwy'n credu hefyd fod yna her i ysgolion. A oes angen iddynt gludo 6 kg o lyfrau, neu a oes cwpwrdd clo lle gallant adael eu llyfrau a mynd â'r rhai sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu gwaith cartref adref?

Yn gyflym ar hynny, rwy'n gwybod eich bod chi'n ceisio cyfiawnhau rhai o'r pethau sydd wedi'u dweud, ond mae fy mab yn 15 oed ac weithiau nid yw'n gallu cael cwpwrdd clo yn yr ysgol ac mae'n rhaid iddo gario bag enfawr gyda llawer iawn o lyfrau TGAU. Felly, rhaid imi ddweud bod yna achosion lle nad yw'n bosib cario llai.

Iawn, mae hwnnw'n ymyriad ddefnyddiol iawn, ond rwy'n credu mai her i ysgolion yw honno. A ddylem ddisgwyl i bobl gario 6 kg o datws bob dydd i'r ysgol, neu mewn amgylchiadau arbennig yn unig? Rwy'n credu bod angen i ysgolion edrych ar eu polisïau cypyrddau clo, ynghyd â'r dull y maent yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwaith cartref, oherwydd mae llawer o'r gwaith yn cael ei wneud ar-lein y dyddiau hyn—mae gwaith cartref yn cael ei wneud ar-lein.

Rwy'n falch iawn o weld Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yma, oherwydd rwy'n credu bod hon yn broblem y mae angen ichi weithio arni gyda'ch gilydd, oherwydd nid yw'r system yn gweithio ar hyn o bryd. Mae'r swm o arian a wariwn ar gludiant ysgol yn hollol syfrdanol, ac rwyf wedi clywed bod cynnydd enfawr wedi bod yn y gost ers COVID. Rydym yn gwario £1,200 y disgybl, rwy'n credu; dyna a ddywedodd rhywun wrthyf, ac mae'n siŵr y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau hynny.

Yng Nghaerdydd yn unig, mae'r cyngor yn gwario £18.7 miliwn ar ei gyllideb trafnidiaeth ysgol prif ffrwd. Canran fach ydyw o gyllideb ysgolion ddirprwyedig o £330 miliwn. Ond mae £19 miliwn yn prynu llawer o athrawon, cynorthwywyr addysgu neu gyfoethogi'r cwricwlwm. Ac fel y soniais yng Nghyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), mae'r gyllideb trafnidiaeth addysg arbennig o £11.1 miliwn bron yn fwy na chyfanswm y swm a werir ar ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion arbennig. Dylai honno fod yn her i ni i gyd. Ni all hyn barhau. Rhaid inni ddod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o gael disgyblion i ac o'r ysgol.

Wrth gwrs, mae yna anghenion arbennig a rhaid rhoi sylw i'r anghenion hynny ar sail achosion unigol, ac i rai plant, nid yw'n ddiogel iddynt deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, rwy'n cytuno, yn enwedig lle ceir achosion llys ac ati. Mae angen iddynt fynd mewn tacsi yn yr amgylchiadau arbennig hynny. Ond rwy'n credu bod angen inni herio'r ffordd yr awn ati i ddarparu'r gwasanaeth cyhoeddus penodol hwn, oherwydd nid yw'n darparu gwerth am arian.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r deisebydd a'r rhai sydd wedi siarad o blaid y ddeiseb hyd yma. Mae hyn yn amlwg yn galw am adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau bod pob plentyn yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg heb anhawster diangen, yn enwedig trwy well mynediad at drafnidiaeth. Casglodd 12,000 o lofnodion, ac mae hynny'n dangos cymaint o bryder sydd yna ymhlith y cyhoedd. Rhaid i'r Llywodraeth roi sylw i hyn.

Canfu'r adolygiad diweddaraf, a gynhaliwyd yn 2021, fod 109,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn teithio i'r ysgol mewn cerbyd bob dydd. Roedd gan 65 y cant o'r rhain fynediad at gludiant ysgol. Mae hynny'n golygu nad oedd gan 35 y cant fynediad. O'r 9,288 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, roedd 3,500 yn dibynnu ar fws ysgol pwrpasol. Fel y nododd Jenny, ac rwy'n cytuno, mae gennym ormod o blant yn dod i ysgolion mewn tacsis unigol. Rhaid bod ffordd well na hynny.

Fel y nodwyd am yr adolygiad yn 2021, mae sawl awdurdod lleol ledled Cymru wedi gwneud toriadau pellach i'r ddarpariaeth cludiant ysgol. Rydym wedi siarad am oriau yma am lefelau absenoldeb ysgolion, a cheisio cael ein plant i'r ysgol mewn ffordd ddiogel ac ymarferol. Dyna'r cyfan y mae'r ddeiseb hon yn gofyn amdano. Rwy'n gwybod, Jenny, eich bod chi wedi cyfeirio at Gaerdydd, ond rwy'n cynrychioli etholaeth lle mae gennyf ffermydd. Mae'r busnes tair milltir hwn yn fy nghynddeiriogi oherwydd rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Maent wedi dweud wrthym mai fel yr hed y frân y caiff ei gyfrif.' Cefais wybod mai mesur y ffordd rydych chi'n gyrru yno a wneir. A'r peth yw, rwyf hyd yn oed wedi cael rhieni yn tynnu tâp mesur allan a mesur y llwybr. Mae rhai o'r plant hyn, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.

Diolch yn fawr. Gallaf ddweud wrthych fod penaethiaid yn gwneud y llwybr yn rheolaidd oherwydd mae'n rhaid iddynt benderfynu pa ddisgyblion sy'n byw agosaf at y giât, a phwy sy'n cael eu derbyn neu eu gwrthod. Felly, mae'r wyddoniaeth honno'n bendant wedi'i sefydlu'n dda. Y pwynt yw, os ydych chi yn yr ysgol uwchradd, dylech chi allu prynu beic os ydych chi'n dod o fferm. Nid yw tair milltir yn bell. Os gallaf i ei wneud, gall yr unigolyn ifanc hwn ei wneud hefyd.

Gall rhai o'r traciau fferm hyn, o giât y fferm i'r brif ffordd, fod yn ddwy neu dair milltir eu hunain weithiau, ac nid ydynt—. Maent yn dywyll. A fyddech chi mewn gwirionedd—? Fel plentyn, a hoffech chi gerdded adref yn y tywyllwch o giât fferm? Mae'r ddadl fod unrhyw un—. Nid all neb yn y Siambr amddiffyn y sefyllfa bresennol.

Rydym ni, fel grŵp, yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cludiant ysgol diogel, dibynadwy a hygyrch yn ei chwarae yn cefnogi iechyd disgyblion. Ac er fy mod i'n deall, Jenny, eich bod chi eisiau i bobl feicio a cherdded, nid yw'n ddiogel i rai disgyblion—nid pawb, ond nid yw'n ddiogel. Ac i mi, fel mam a nain, ni fyddwn eisiau i fy mhlant—. Ac rydym yn Aelodau yma, felly pam y dylem ni ddisgwyl i blant eraill—? Pam y dylem ni roi'r pwysau hwnnw ar y tad, sy'n methu mynd â'i fab i'r ysgol neu sy'n hwyr yn mynd i'r gwaith ar ôl mynd â'u plentyn i'r ysgol? Dylai fod yn un o'r pethau sylfaenol sy'n rhaid i'r Llywodraeth Lafur hon eu sicrhau—[Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf, ni allaf dderbyn rhagor. Mae'n ddrwg gennyf.

Mae angen inni allu paratoi ein plant ar gyfer y dyfodol yn academaidd, a'r sylfaen sgiliau, ond mae'n rhaid inni ddarparu gofod cymdeithasol mawr ei angen iddynt hefyd, lle gallant ddysgu rhyngweithio â phobl o bob rhan o gymdeithas. Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at y profiad, profiad brawychus, ac rwy'n ei gredu. Nid yw'n gor-ddweud. Rwy'n cael y rhain yn aml, Ddirprwy Lywydd, lle rwy'n herio fy awdurdod lleol a chael, 'O, mae ein dwylo wedi'u clymu, nid oes gennym arian.' Nid yw'n esgus digon da. Ac mae hyn am blant sy'n sôn am draed dolurus, poen ysgwydd, blinder eithafol; mae'n effeithio ar eu perfformiad ysgol. Mae'n effeithio ar y sefyllfa gartref hefyd. Rhaid inni geisio cadw ein teuluoedd gyda'i gilydd gyda chyn lleied o straen â phosib. Yn rhy aml bellach, mae teuluoedd yn chwalu a hoffi hynny neu beidio, gall fod am achos pitw, wrth fagu plant nawr, yn yr oes hon.

Fel swyddogion etholedig, rydym yn clywed yn rheolaidd gan rieni sy'n cael trafferth sicrhau lle i'w plentyn ar fws ysgol am ddim. Mae'n hunllef. Mae yna broblemau o ran diogelwch y cyhoedd hefyd, gyda'r plant hyn. Roeddwn i'n arfer cerdded i'r ysgol bob dydd, ond roeddwn i'n gallu. Ond mae gennym lonydd gwledig unig, tywyll, gwledig iawn nad ydynt yn addas o gwbl.

O'm rhan i, rwy'n gofyn i'r Llywodraeth gefnogi'r deisebydd, cefnogi pob un o'r 12,000 o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb. Mae'n amlwg yn effeithio arnynt hwy, ond rwyf bob amser wedi dweud, am bob unigolyn sy'n cael ei effeithio gan rywbeth, fel arfer mae yna gannoedd o rai eraill.

16:10

Iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet nawr i weithio gyda'n Hysgrifennydd addysg, i weithio gyda'n hawdurdodau lleol, a rywsut, nid oes ots gennyf sut rydych chi'n ei wneud, i ddod o hyd i ffordd o ddarparu cludiant diogel ac ymarferol i'n holl blant yng Nghymru. Diolch. 

Fel y mae pawb arall wedi gwneud, hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a phawb arall sydd wedi llofnodi. Mae pob un ohonom wedi clywed gan etholwyr am gludiant o'r cartref i'r ysgol, rhieni sy'n pryderu, pobl ifanc flinedig, a theuluoedd sy'n teimlo bod y system yn gweithio yn eu herbyn yn hytrach nag ar eu rhan.

Nid braint yw addysg, ond hawl, ac eto o dan y canllawiau presennol yng Nghymru ar deithio gan ddysgwyr, mae gormod o blant yn cael eu rhwystro'n dawel ond yn gyson rhag cael mynediad at yr addysg y maent yn ei haeddu. I rai dysgwyr, fel y clywsom eisoes gan lawer o siaradwyr, mae cyrraedd yr ysgol yn golygu cerdded pellteroedd hir bob dydd ym mhob tywydd—glaw, eira, tywyllwch—ac wynebu peryglon go iawn weithiau. Ac rydym wedi clywed persbectif cymunedau trefol, ond credwch fi, mewn rhannau gwledig o Gymru, efallai nad oes palmentydd. Gall goleuadau stryd fod yn achlysurol neu heb fod yno o gwbl. Mae ffyrdd yn gul, ceir yn gyrru'n gyflym arnynt a dim lle i gamu o'r ffordd. Mae plant yn cerdded ar hyd llwybrau prysur yn gynnar yn y bore pan fo'n dywyll, nid am ei bod hi'n ddiogel neu'n synhwyrol iddynt wneud hynny, ond oherwydd bod y canllawiau'n eu gadael heb unrhyw opsiwn arall.

Mae'r teithiau hyn yn creu niwed go iawn. Rydym yn gweld mwy o blant yn mynd yn sâl, mwy o ddyddiau'n cael eu colli o'r ysgol, a phobl ifanc yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth wedi blino cyn i wersi ddechrau hyd yn oed, ac yn aml yn gorfod eistedd am oriau mewn dillad gwlyb. Ac fel erioed, plant o aelwydydd incwm is sy'n teimlo hyn fwyaf: teuluoedd sy'n methu fforddio talu am fws dyddiol, sydd heb fynediad at gar, ac sy'n cael eu gadael heb fawr o ddewis.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, dwi am ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r canllawiau hyn yn creu rhwystr i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Heledd wedi cyfeirio at nifer o'r pwyntiau dwi eisiau eu codi yn barod, felly dwi'n mynd i fod yn gryno.

Yn aml iawn, rŷn ni'n siarad gyda balchder yn y Siambr yma am yr iaith, ei dyfodol a'n huchelgais ni i gyd i greu o leiaf 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn wir, fe gafodd yr uchelgais honno ei chyflawni drwy ddeddfwriaeth pan basiwyd yn unfrydol Fil y Gymraeg gan Aelodau yn y lle hwn. Rydyn ni am weld pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwr Cymraeg yn hyderus, ond dyw'r ddeddfwriaeth yma ar ei phen ei hun ddim yn ddigon.

Ar draws Cymru, mae rhieni'n dweud wrthym ni dro ar ôl tro eu bod nhw eisiau anfon eu plant i addysg Gymraeg, ond dyw'r daith i'r ysgol Gymraeg leol agosaf ddim yn un ymarferol a hwylus. O ganlyniad, mae gormod o deuluoedd yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwthio i ddewis addysg trwy gyfrwng y Saesneg—nid oherwydd mai dyna yw eu dymuniad nhw, ond oherwydd dyna'r unig opsiwn realistig sydd ar gael iddyn nhw o dan yr amgylchiadau maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddynt.

Nid rhoi dewis go iawn yw hynny, ond, mewn gwirionedd, cyfyngu ar ddewis i rieni mae hynny'n ei wneud. Os ydyn ni o ddifrif am gryfhau'r iaith Gymraeg, yna mae'n rhaid i fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg weithio yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Nid yw system sy'n hyrwyddo addysg Gymraeg ar y naill law, ond tynnu trafnidiaeth i ffwrdd o addysg Gymraeg ar y llaw arall, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Dyna pam mae angen adolygu'r canllawiau hyn.

Mae'n rhaid iddyn nhw adlewyrchu realiti teuluoedd a realiti Cymru, ein daearyddiaeth ni, ein cymunedau gwledig ni a'n huchelgais genedlaethol ar gyfer yr iaith. Mae'n rhaid inni dderbyn nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn ychwanegol ond yn rhan ganolog o ddyfodol y genedl hon. Os na fyddwn yn cael gwared ar y rhwystrau trafnidiaeth hyn, byddwn yn methu â chefnogi'r teuluoedd hynny sy'n dymuno magu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac, yn y pen draw, byddwn ni'n methu â chyflawni'n huchelgais o ran creu 1 miliwn o siaradwyr.

I gloi, Dirprwy Lywydd, dylai addysg agor drysau, nid gosod rhwystrau. Mae'n bryd i'n system teithio i ddysgwyr wneud yr un peth. 

16:15

Rwy'n siarad heddiw, wrth gwrs, mewn cefnogaeth lwyr i'r ddeiseb hon. Hefyd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses o gyflwyno'r ddeiseb i'r Senedd heddiw. Mae'n wych eu gweld yn yr oriel. Rydym yn eu croesawu yma. A da iawn bawb a lofnododd y ddeiseb—mae 12,000 o lofnodion yn wych.

Nid oes dim yn bwysicach na sicrhau diogelwch ein plant a'n pobl ifanc, a dylem wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn brydlon. Mae cludiant ysgol yn fater hanfodol sy'n effeithio ar deuluoedd ar draws fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, a Chymru hefyd. Rwyf wedi colli cyfrif ar faint o weithiau rydym wedi siarad am hyn yn y Siambr ers i mi fod yma—yr holl faterion sydd wedi cael eu trafod heddiw. Ond nid oes unrhyw beth wedi newid mewn gwirionedd. Rwy'n clywed gan rieni ar draws fy rhanbarth bob wythnos am y straen a'r baich ariannol o gael eu plant i'r ysgol yn ddiogel ac mewn pryd. Mae'n bryd inni fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol a chael atebion synnwyr cyffredin.

Yr wythnos hon, cefais wybod am deulu a chanddynt dri o blant y tu allan i fy ardal i sy'n teithio i Ysgol Ysbyty Ifan yng Nghonwy—[Torri ar draws.]—diolch—lle mae dau o'r plant yno, bechgyn, yn cael cludiant am ddim i'r ysgol—i lawr lôn fferm hir iawn, fel mae'n digwydd—ond nid yw'r ferch ifanc, sydd newydd ddechrau addysg yn yr ysgol hon, yn cael y cludiant hwnnw, sy'n hollol wallgof. Mae'n golygu bod yn rhaid i'r rhiant ddilyn y bws i'r ysgol gyda hi, am nad yw'n ddiogel iddi gerdded i'r ysgol. Rydym yn gweld pethau hurt o'r fath yn digwydd ledled Cymru.

Mae yna nifer fawr o enghreifftiau yn fy ardal i hefyd lle mae un ochr i'r stryd yn gallu cael addysg am ddim, ac yn llythrennol yr ochr arall i'r stryd—cludiant am ddim i'r ysgol, mae'n ddrwg gennyf—a'r ochr arall i'r stryd yn gorfod talu cannoedd a'r gannoedd o bunnoedd i gyrraedd yr ysgol bob blwyddyn. Nid wyf yn ei ddeall. Mae'n nonsens llwyr. Dylid ei wneud ar sail achosion unigol.

O dan y gyfraith bresennol yng Nghymru, sef Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim i'r ysgol addas agosaf os yw'n fwy na 2 filltir i ffwrdd ar gyfer ysgolion cynradd neu 3 milltir i ffwrdd ar gyfer ysgolion uwchradd. Ond dyma'r gwirionedd: mae llawer o ysgolion yn torri'n ôl ar gymorth yn ôl disgresiwn oherwydd pwysau cyllidebol a achosir gan Lywodraeth Lafur Cymru'n gwthio cyfarwyddyd ar gynghorau a pheidio â darparu arian i ddilyn y cyfarwyddyd hwnnw. Mewn ardaloedd fel sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf, mae teuluoedd yn colli bysiau ysgol pwrpasol, gan orfodi plant i fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus orlawn neu i gerdded pellteroedd hir mewn tywydd, fel y clywsom—

16:20

Diolch. Mae hwn yn fater anodd. Mae Nigel Farage wedi dweud bod gormod o arian yn cael ei wario ar gludiant ysgol. Yng Nghyngor Sir Caint, dywedodd ei bod yn anghredadwy faint o arian sy'n cael ei wario ar gludiant ysgol a dywedodd y byddai eu hadran effeithlonrwydd llywodraethol yn ei dorri. A phan ofynnwyd iddo pwy ddylai ddarparu cludiant ysgol, dywedodd:

'Mae yna bethau o'r enw rhieni sydd ers gwawrio'r oes fodern wedi ysgwyddo'r baich o gludo'u plant i'r ysgol'.

Felly, rydych chi'n awyddus i gefnogi'r ddeiseb hon am fwy o arian i gludiant ysgol, ond y gwir amdani yw, pan fydd eich plaid chi'n cael grym, mae'n gwneud y gwrthwyneb.

Yng Nghymru, rydym yn byw mewn gwlad wledig iawn, rhywbeth nad ydych chi'n ei gydnabod heddiw o gwbl gydag unrhyw un o'ch ymyriadau. Gwlad wledig iawn gyda phryderon real iawn ynglŷn â'r ffordd y mae plant yn cyrraedd yr ysgol. Efallai ei fod yn fater gwahanol; efallai ei fod ef yn siarad am fater penodol—pwy a ŵyr? Ond yng Nghymru, mae yna bethau y mae angen i chi eu deall, ac mae'n amlwg nad ydych chi, fel Aelod—

Rydych chi'n rhagrithiwr—dyna beth rwy'n ei ddeall.

—am yr hyn sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru—[Torri ar draws.]

Pwynt o drefn. Nid yw 'rhagrithiwr' yn—. Gallwch ddweud, 'Rwy'n eich cyhuddo o ragrith'; ni allwch ddweud 'rhagrithiwr' yn y Siambr hon.

Ni wnaethoch ei glywed? Wel, gwiriwch y cofnod. Fe welwch ei fod newydd alw Aelod benywaidd o'n Siambr—

Fe wnaf wirio'r cofnod, Janet, ond ni wneuthum ei glywed, iawn? Fe wnaf wirio'r cofnod, Laura.

Yr hyn y mae colli bysiau ysgol pwrpasol yn ei olygu yw gorfodi pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerdded ym mhob math o dywydd. Mae'r bysiau, fel y mae etholwyr yn aml yn dweud wrthyf, yn annibynadwy ac weithiau nid fyddant yn dod o gwbl, a chânt eu gorfodi ar lwybrau cerdded nad ydynt yn ddiogel. Byddai'n wych pe baem yn byw mewn byd lle mae pob llwybr cerdded yn ddiogel, lle nad oes ynddynt dyllau a lle gallai pawb fynd ar feic ar hyd lôn. Yn anffodus, nid dyna'r realiti yn 2026 ar ôl 26 mlynedd o'ch Llywodraeth mewn grym.

Nid yw'r sefyllfa'n iawn mewn ardaloedd gwledig. Nid yw merched ifanc ar eu pen eu hunain, ar foreau a nosweithiau oer, tywyll, ar fws cyhoeddus neu'n cerdded ar eu pen eu hunain yn dderbyniol. Nid yw'n iawn i blant ifanc sy'n dioddef o ryw fath o angen dysgu ychwanegol neu anabledd, neu orbryder yn wir. Ac mae llawer o safleoedd bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, heb fod yn addas i'r rhai sydd ag anabledd, gyda nifer o'r safleoedd hynny yn fy etholaeth fy hun yn fannau lle cewch eich gollwng yn llythrennol mewn gwrych ar ffordd brysur. Nid yw hynny'n iawn. Caiff plant eu gadael i gerdded pellteroedd annerbyniol, mewn perygl o gael eu hanafu gan draffig sy'n dod i'w cyfarfod, fel y noda'r ddeiseb. Mae rhai'n mynd i'r ysgol yn flinedig, yn wlyb neu'n oer. Jenny Rathbone, fe ddywedoch chi, 'Ewch ar eich beic', ond fel y dywedais o'r blaen, mae tyllau yn y ffyrdd, dyddiau tywyll, ardaloedd gwledig, oedran plant, rhyw plant, anableddau, mae yna lawer o bethau—

A gaf i ein hatgoffa mai dim ond am bobl sy'n byw lai na 3 milltir o'r ysgol y siaradwn? Mae gan unrhyw un sy'n byw dros 3 milltir o'r ysgol hawl i gludiant am ddim, ac nid oes cynnig i newid hynny. 

Rydym yn ymwybodol iawn o hynny, Jenny, ond os ydych chi'n byw mewn ardal wledig, mae croeso i chi ddod—

Ni fydd sgwrs rhwng yr Aelodau. Rydych chi wedi cael yr ymyriad a lle'r Aelod yw ymateb.

Hoffwn groesawu'r Aelod i'm rhan i o sir Fynwy, lle dangosaf iddi sefyllfa real iawn o achos etholaethol sydd gennyf ar hyn o bryd lle mae'r 3 milltir neu 2 filltir yn hollol wahanol i gerdded yng Nghaerdydd, lle mae'r Aelod yn byw.

Hefyd, pan fydd plant yn cyrraedd yr ysgol yn chwerthinllyd o gynnar a bod yr ysgol ar gau, rhaid iddynt aros tu allan yn y glaw am amser annerbyniol o hir cyn ac ar ôl ysgol, ac mae fy mab yn un ohonynt. Mae rhieni hefyd yn cael eu gadael i dalu'r pris weithiau, talu am fysiau, tacsis, a gyrru eu hunain hyd yn oed, fel y dywedais, tra bod eraill mewn codau post gwahanol yn cael darpariaeth am ddim. Mae hyn yn creu gwahaniaethau annerbyniol ledled Cymru. Efallai na fydd un teulu'n talu ceiniog am fod eu plentyn yn gymwys o dan y rheolau llym, tra bod eu cymydog yn talu cannoedd o bunnoedd y flwyddyn. Mae'n annheg, mae'n anghyson ac yn taro teuluoedd gweithgar, yn enwedig y rhai ar incwm is na allant fforddio'r costau ychwanegol.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael, fel y clywsom, yn uniongyrchol gysylltiedig â lefelau absenoldeb uchel ac mae'n atal pobl ifanc rhag dewis addysg ôl-16. Ni ddylai rhieni wynebu loteri cod post mewn perthynas ag addysg eu plentyn. Mae angen inni wneud mwy i gynyddu mynediad at ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru'n sôn llawer am hyrwyddo'r Gymraeg—

16:25

Rwyf wedi rhoi dau funud o amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau hynny.

Ond mae rhwystrau fel costau trafnidiaeth yn atal rhieni. Mae llawer o deuluoedd eisiau i'w plant ddysgu Cymraeg, ac mae'n rhan falch o'n treftadaeth, ond mae'r costau hyn yn atal pobl, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Diolch.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw, ac yn arbennig i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r deisebau pwysig hyn. Hefyd, hoffwn gydnabod gwaith caled ymgyrchwyr a grwpiau lleol y mae eu lleisiau wedi helpu i roi lle blaenllaw i'r materion hyn yn ein sgwrs genedlaethol. Mae cryfder y teimlad ynghylch teithio gan ddysgwyr yn glir iawn, ac yn briodol felly—mae hwn yn fater sy'n cyffwrdd â bywydau teuluoedd, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi clywed heddiw am yr heriau sy'n wynebu dysgwyr a'u teuluoedd, a hoffwn sicrhau pob Aelod a'r deisebwyr fod Llywodraeth Cymru'n gwrando. Mae'r deisebau o'n blaenau yn galw am adolygu canllawiau a deddfwriaeth cludiant ysgol, ac rwy'n cydnabod y pryderon a'r dyheadau a nodwyd. Rwyf wedi bod yn glir fod yn rhaid i'n dull o weithredu fod yn gydweithredol, ar draws y Llywodraeth. Mae Gweinidogion yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd yma yn Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion, ond mae angen gwaith trawsbleidiol yn ogystal. Yn hollbwysig, mae angen gweithio gyda'n partneriaid cyflawni mewn cynghorau, ysgolion a darparwyr trafnidiaeth. Nid oes atebion hawdd, ond trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud cynnydd.

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â rhai o heriau teithio gan ddysgwyr, ac er efallai na fyddant yn ateb galwadau'r deisebau, credaf ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith sydd wedi digwydd. Rydym wedi cynnal adolygiad mewnol o'r Mesur teithio gan ddysgwyr, ac rwy'n clywed bod rhai yn y Siambr a thu hwnt yn credu nad aeth yr adolygiad yn ddigon pell, ond mae'n rhaid inni gofio'r cyd-destun ariannol yr ydym yn gweithio o'i fewn.

Y llynedd, cynhaliais uwchgynhadledd ar deithio gan ddysgwyr, gan ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd am y tro cyntaf i drafod atebion ymarferol, ac rwy'n ymrwymedig i sefydlu ffrydiau gwaith i fwrw ymlaen â chamau blaenoriaeth. Rydym hefyd wedi ymgynghori ar ganllawiau gweithredu diwygiedig. Dyma'r diweddariad cyntaf mewn dros ddegawd i'r ddogfen bwysig hon. Ac roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r tocyn bws o £1 i bob person ifanc, y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn genedlaethol. Hyd yn hyn, mae dros 36,000 o bobl ifanc wedi cofrestru ar Fy Ngherdyn Teithio, gan wneud addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn fwy hygyrch a fforddiadwy.

Ar ben hynny, yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi buddsoddi'n helaeth i wneud teithiau ysgol yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy. Mae'r grant llwybrau diogel mewn cymunedau yn gwella llwybrau cerdded, olwyno a beicio i ysgolion ochr yn ochr â'r rhaglen teithiau teithio llesol a'r rhaglen cerdded i'r ysgol. Gyda'i gilydd, mae'r gwelliannau seilwaith a'r mentrau newid ymddygiad hyn yn creu strydoedd mwy diogel ac yn cefnogi opsiynau teithio cynaliadwy ar gyfer teithiau ysgol—yn ogystal â 20 mya awr o amgylch ysgolion.

Tybed a ydych chi'n ymwybodol o waith y mudiad bysiau beicio, oherwydd yng Nghaerdydd, maent yn ardderchog am gael pobl ifanc, plant ysgol gynradd, i ddysgu sut i feicio gyda'i gilydd yn ddiogel i'r ysgol. Mae'n sicr dros filltir, i lawr ffyrdd bryniog. Ac oherwydd y ffordd y cânt eu trefnu, mae'n gwbl ddiogel.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r cynlluniau hynny. Maent yn gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi. Rwyf wedi cymryd rhan mewn cynlluniau bws cerdded hefyd yn fy etholaeth fy hun, sy'n boblogaidd iawn gyda phobl ifanc. 

Hefyd, rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi codi'r trothwy incwm aelwydydd ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg, gan ddarparu cymorth i 3,500 o fyfyrwyr ychwanegol a buddsoddi £6.5 miliwn eleni'n unig mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i helpu i hybu lefelau presenoldeb.

Fe wnaethom weithio gyda'n gilydd i wella'r Bil bysiau ar draws y Siambr hon. Hoffwn ddiolch i'r rhai ohonoch a helpodd i roi lle blaenllaw i deithio at addysg yn y ddeddfwriaeth. Nid newid bach i bolisi oedd hwn. Mae'n ymrwymiad beiddgar i sicrhau bod model gwasanaeth bysiau newydd Cymru'n gallu darparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion. Nid dim ond siarad am newid a wnawn, ond gwneud iddo ddigwydd, gan sicrhau bod cludiant hygyrch, dibynadwy yn realiti i bob dysgwr.

Fel rhan o'n hymrwymiad i welliant parhaus, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai o'r ffrydiau gwaith pwrpasol a sefydlwyd yn dilyn yr uwchgynhadledd ar deithio gan ddysgwyr. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad cryno cyn bo hir yn dilyn yr ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig. Ein nod yw cyhoeddi'r canllawiau terfynol erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Yn ogystal, gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn cynnull cyfres o sesiynau strwythuredig, wyneb yn wyneb ac ar-lein, sy'n canolbwyntio ar dri maes her: trafnidiaeth ôl-16, trafnidiaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a thrafnidiaeth i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd y sesiynau hyn yn dod â chynrychiolwyr awdurdodau lleol ynghyd gyda'r holl bartneriaid cyflawni allweddol.

16:30

A wnaiff yr Aelod ildio? Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau gofyn cwestiwn i chi, mewn gwirionedd. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen yn fy ardal i, ac mae'n gyfleuster addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gyrraedd yno o'r tair etholaeth gyfagos, roedd pob disgybl o bob etholaeth wahanol yn talu ffioedd gwahanol i gyrraedd yno. Roedd disgyblion o un etholaeth yn talu dwbl y swm a dalai disgyblion o un o'r etholaethau eraill. Sut y mae hynny'n deg? A ydych chi'n gweithio gyda'r gymdeithas llywodraeth leol i fynd i'r afael â hynny? Diolch.

Ydym, rydym yn gweithio gyda chynghorau ledled Cymru a chyda darparwyr trafnidiaeth i wneud yn siŵr fod anghysondebau'n cael eu lleihau, a bod dull cyson o weithredu. Mae'n debyg y byddai'n werth mynd â'ch arweinydd eich hun yno, gan ei fod, fel y nododd Lee Waters, yn addo lleihau'r cymorth i gludiant ysgol. Mae wedi ei alw'n wastraff arian anhygoel, a phe bai'n cael cyfrifoldeb dros fwy o gynghorau yn Lloegr, rwy'n meddwl y byddem yn gweld mwy o doriadau yno trwy ei fenter DOGE.

Nawr, bydd canlyniadau'r gwaith i'w hystyried gan y Llywodraeth nesaf i sicrhau bod lleisiau ac arbenigedd yr holl bartneriaid yn llywio'r camau nesaf yn ein strategaeth deithio gan ddysgwyr, ac yn ganolog i'n dull gweithredu—[Torri ar draws.] Iawn.

A gaf i ofyn ble mae profiad dysgwyr a'u rhieni yn rhan o'r ffrydiau gwaith hyn? Oherwydd, yn amlwg, mae rhai o'r ymatebion a welais gan Lywodraeth Cymru ac yna gan awdurdodau lleol—mae'n ymddangos bod awdurdodau lleol yn beio Llywodraeth Cymru; mae Llywodraeth Cymru yn beio sut y caiff pethau eu gweithredu gan awdurdodau lleol. Felly, pryd y cawn ni weld y cydweithrediad hwnnw'n cynnwys rhieni a disgyblion sy'n profi'r realiti ar lawr gwlad?

Wel, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl ifanc, drwy'r Senedd Ieuenctid a thrwy fforymau fel Citizens Cymru Wales. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli'n llawn mewn digwyddiadau yn y dyfodol, ar ôl yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr gyntaf, a'u rhieni hefyd. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod fod llais a phrofiad bywyd pobl ifanc a'u rhieni'n cael eu hystyried yn rhan o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud. Mae eu syniadau eisoes wedi siapio ein polisïau, er enghraifft cyflwyno'r cynllun tocynnau £1 i bobl ifanc a'r gwaith sydd ar y gweill i adnewyddu'r cod ymddygiad teithio, yn ogystal â'r panel ieuenctid a sefydlwyd gennym o fewn Trafnidiaeth Cymru. Mae pobl ifanc ar y panel hwnnw'n darparu profiad bywyd a syniadau ac atebion i'r problemau y maent yn eu hwynebu, ac rydym yn gweithredu beth bynnag a allwn.

Ac wrth siarad am grŵp Citizens Cymru Wales, cyfarfûm â nhw yn ddiweddar, ac roeddent yn dadlau—yn angerddol, rhaid imi ddweud—dros leihau'r trothwy milltiredd i blant ysgol uwchradd. Ond roeddent hefyd yn deall yr heriau ymarferol ac ariannol sy'n gysylltiedig â phenderfyniad o'r fath. Roedd yn wych clywed faint oeddent wedi elwa o'n buddsoddiad i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni'r cynllun tocynnau £1, gan annog mwy o bobl ifanc i ddewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ei fod yn fwy fforddiadwy.

Mae nifer o Aelodau wedi tynnu sylw at gostau heddiw. Mae'r costau bob blwyddyn bellach yn fwy na £205 miliwn, ac rwy'n deall, pe baem yn gweithredu polisi o 2 filltir yn hytrach na'r trothwy 3 milltir, y byddai hynny'n gyfystyr ag £80 miliwn ychwanegol. Dyma arian y dylid ei wario ar addysg. Mae'n dod o gyllidebau addysg. Mae'n amddifadu pobl ifanc o athrawon, o gyfleoedd addysg estynedig. [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf yr ymyriad.

Diolch. Rwy'n siŵr eich bod wedi gweld y dadansoddiad, fel finnau, o sut y caiff hwnnw ei wario, ac mae llawer o'r arian hwnnw'n cael ei wario ar gludiant preifat, h.y. tacsis, nid ar fysiau go iawn. A yw'r asesiad wedi'i wneud—oherwydd y newidiadau, faint sy'n rhaid ei wario ar gludiant tacsi am nad yw'r bysiau yno, a phe bai darpariaeth ar gael, a fyddai hynny'n arbed arian? Rwyf eisiau deall, a bod yn glir, dyna'r cyfan: nid yw hynny i gyd yn cael ei wario ar fysiau, sef yr hyn rydym yn edrych arno'n benodol yma.

Na. Mae swm enfawr o arian yn cael ei wario ar dacsis, ac un o'r problemau sydd gennym yw nad yw'r farchnad yn ddigonol i allu cynhyrchu prisiau cystadleuol, felly mae'n gyrru'r costau cyffredinol i fyny. Ond pe baech chi'n gostwng y trothwy, rydych chi'n mynd i gynyddu nifer y bobl a fydd yn defnyddio'r tacsis. Mae'r nifer o fysiau y bydd eu hangen, ac nid y bysiau'n unig, mae'r seilwaith bysiau o amgylch ysgolion yn waharddol hefyd. Mae'r rhain i gyd yn heriau y buom yn ymlafnio drostynt yn yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr a byddwn yn parhau i weithio arnynt.

Nid oes unrhyw atebion syml. Janet, rwy'n gwybod eich bod wedi galw am ddatrys y broblem mewn unrhyw ffordd sy'n bosib, ond nid un ateb sydd i hyn. Mae'n amlweddog, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ar y cyd ar draws y Llywodraethau a chyda darparwyr gwasanaethau. 

Nawr, hoffwn gydnabod y rôl hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae yn darparu cludiant i ddysgwyr. Rydym yn cydnabod y pwysau enfawr y maent yn eu hwynebu, gan gynnwys cyfyngiadau ariannol a'r angen i gydbwyso blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, a dyna pam ein bod yn cefnogi rhannu arferion gorau, cydweithredu ac arloesi i helpu i reoli costau a gwella darpariaeth. Rydym yn parhau i gefnogi CLlLC a'r Gymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth i rannu'r arferion gorau a'r adnoddau hyn, fel y gall awdurdodau lleol sy'n llwyddo i ddarparu cludiant ysgol i dros 92,000 o ddysgwyr o ddydd i ddydd ddysgu oddi wrth ei gilydd. Gwn fod awdurdodau lleol yn ceisio gwella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn barhaus. Roedd hi'n galonogol iawn clywed bod rhai cynghorau wedi bod yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd i weld a all ymchwil a wneir helpu i gefnogi a gwella eu gwasanaethau teithio i ddysgwyr, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. 

I'r rhai sydd wedi deisebu am newid, rwy'n dweud hyn: mae eich lleisiau'n cael eu clywed. Mae adolygiad mewnol y Llywodraeth hon o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) eisoes wedi arwain at gyhoeddi adroddiad o argymhellion ac rydym yn gweithredu ar ei gynigion allweddol. Bydd y canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf a'r arferion gorau diweddaraf ac rydym wedi ymrwymo i ddeialog barhaus gydag ymgyrchwyr, cynghorau a'r holl bartïon â diddordeb. Er nad oes gennym yr adnoddau i wneud popeth yr hoffech i ni eu gwneud, rwyf wedi ymrwymo i gyfarfod â grŵp ymgyrchu RhCT i barhau â'r sgwrs hon. 

I gloi, hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad i a Llywodraeth Cymru i leihau rhwystrau i addysg a sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl oherwydd anawsterau cludiant. 

16:35

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a hoffwn ddiolch i'r deisebwyr hefyd am gasglu nifer enfawr o enwau ar gyfer eu deiseb ac am fod yma heddiw. I ddechrau, cafwyd trafodaeth ynglŷn ag ofn. Felly, nid yw rhai llwybrau y gellid eu hystyried yn rhai nad ydynt yn beryglus yn lleddfu ofn rhieni a disgyblion sy'n gorfod cerdded i'r ysgol. Mae'n broblem fawr. Sut y mae goresgyn ac ystyried hynny? Cafwyd trafodaeth hefyd am rieni'n gorfod rhoi'r gorau i weithio er mwyn iddynt allu cludo eu plant i'r ysgol, ac mae effaith ariannol i hynny. 

Nid yw dysgwyr yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg am fod rhaid iddynt gael cludiant i'r ysgol agosaf, nad yw'n un gyfrwng Cymraeg ond sy'n ysgol cyfrwng Saesneg. Ond rwy'n gwybod bod rhai ysgolion yn cadw hynny fel polisi, felly mae anghysondeb ar draws awdurdodau lleol, lle byddant yn cludo disgyblion i'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf. Felly, efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried, wrth symud ymlaen. 

Mae'r disgyblion yn cyrraedd yn wlyb at eu crwyn, gyda llyfrau, a soniodd Jenny am y bagiau trwm—6 kg. Efallai, gan weithio gydag ysgolion, y gellid gwneud rhywbeth i wneud yn siŵr fod gan blentyn gwpwrdd clo neu ryw ddarpariaeth i storio eu llyfrau. Ac os ydynt yn mynd i glybiau ar ôl ysgol, dylai plant allu mynd i'r clybiau ar ôl ysgol a chael gwersi cerddoriaeth. Ar un adeg, roedd ysgolion yn arfer darparu cludiant ar ôl ysgol hefyd, ond mae toriadau a chyfyngiadau ariannol wedi effeithio ar hynny. Hoffwn ddatgan fy mod yn arfer bod yn aelod cabinet a oedd yn gyfrifol am drafnidiaeth, gan gynnwys cludiant ysgol, felly mae gennyf brofiad o hyn. 

Soniodd Rhys am ei blant yn gallu cerdded yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi gweld plant yn gallu cerdded a sgwtio yng Nghaerdydd ar lwybrau diogel, sy'n wych i'w weld, a'r llwybrau beicio hynny. Ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn buddsoddi lle mae plant yn gallu gwneud hynny. Ymwelais ag ysgol yn y Rhyl, lle roedd problem gyda cheir yn parcio y tu allan i ysgolion ac roedd yn beryglus iawn. Felly, maent wedi gweithredu llwybr cerdded a beicio gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a chan weithio gyda theithio llesol hefyd, sy'n dda iawn i'w weld, os gall hynny ddigwydd, a llefydd diogel. Ond rydym yn deall bod angen ystyried daearyddiaeth, oherwydd mewn rhai ardaloedd mae'n rhy fryniog. Rwy'n gwybod ei fod wedi'i drafod a bod hynny'n newid o 2.5 milltir i 3 milltir yn Rhondda Cynon Taf, ond mae'n ardal fryniog iawn, yn enwedig wrth gerdded. 

Soniodd Rhys hefyd pam na all disgyblion brynu sedd ar fws gwag. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth a wnaeth un awdurdod lleol, a gofynnais am hynny. Roedd yn £350 y flwyddyn, sy'n llawer o arian, ond dywedwyd wrthyf fod hynny'n cael ei sybsideiddio mewn gwirionedd. Ar y pryd, roedd hi'n costio £700 y disgybl i'w cludo i'r ysgol. Ac rwy'n gwybod o fod yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ers COVID, ei fod wedi cynyddu 40 y cant i tua £1,200 y disgybl y flwyddyn ar gyfartaledd i'w cludo i'r ysgol. Laura Anne, gwn eich bod wedi sôn y dylai pawb gael mynediad at drafnidiaeth, ond mae goblygiad cost, ac os nad oes cyllid, am fod trafnidiaeth ysgol yn aml iawn yn cael ei ariannu drwy'r gyllideb trafnidiaeth addysg, ac mae'n aml iawn yn 25 y cant o'r gyllideb, sy'n rhywbeth sydd wedi'i ystyried hefyd, felly—.

Soniodd Janet am blant sy'n cyrraedd mewn gwahanol dacsis, a chostau hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol yn ceisio gwneud adolygiad bob hyn a hyn i weld a ellir gwneud hynny'n wahanol, ac mae hynny'n fater sy'n codi.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch iawn o'ch ymateb, fod adolygiad yn digwydd. Dywedodd Laura Anne ac eraill fod hyn wedi cael ei drafod sawl gwaith yma yn y Siambr. Ond mae yna adolygiad. Nid oes atebion hawdd, ond rydych chi'n gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion. Soniodd Heledd am bwysigrwydd dod â rhieni a phlant i mewn i hynny hefyd. [Torri ar draws.] Heledd, oeddech chi eisiau gwneud ymyriad?

16:40

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n falch iawn eich bod wedi ei amlinellu mor glir, ac mae'n wych gweld bod y Pwyllgor Deisebau yn ymgysylltu ag ymgyrchwyr. Rwy'n credu mai'r broblem yw'r diffyg cynnydd dros dymor cyfan yn y Senedd ar hyn o bryd, a'r ffaith ei fod yn cael ei adael i'r Llywodraeth nesaf. Tybed a oes yna bethau y gallwn eu rhoi fel ymrwymiadau heddiw.

Un mater nad wyf wedi gallu ei godi, neu nad ydym wedi ei glywed, yw bod rhai disgyblion a dysgwyr yn cael eu cosbi am gyrraedd yr ysgol yn hwyr, felly os nad yw bysiau'n cyrraedd, maent yn cael pwyntiau negyddol neu gael eu cadw ar ôl ysgol. A oes pethau y gallwn eu gwneud ar unwaith i sicrhau nad yw plant yn cael eu cosbi am nad oes mynediad at addysg, neu os oes llifogydd ar ffordd ac na allant fynd ar eu llwybr arferol ac yn y blaen? Mae yna rai pethau lle maent yn cael eu cosbi ar hyn o bryd heb fod unrhyw fai arnynt hwy, ac maent yn gwneud eu gorau glas i gael mynediad at addysg.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma heddiw ac yn gwrando ar y ddadl hon, ac mae hyn yn rhywbeth y gallem ei godi hefyd. Diolch am yr ymyriad.

Fel y dywedais, nid oes atebion hawdd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid. Gobeithio—. Mae angen inni ystyried barn plant a rhieni. I grynhoi, rwyf am ddyfynnu'r hyn a ddywedodd Cefin yn gynharach, y dylai 'addysg agor drysau', ond ni ddylai trafnidiaeth fod yn rhwystr. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod un gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyn inni symud ymlaen at yr eitem nesaf, cododd Janet Finch-Saunders bwynt o drefn yn ystod y ddadl. Rydym wedi gwirio'r cofnod a'r darllediad, ac er na wneuthum ei glywed, mae wedi ei gofnodi fel sylw sy'n cyfeirio at aelod fel rhagrithiwr ('hypocrite'). Nid yw'n iaith briodol yn y Siambr hon i unrhyw Aelod alw Aelod arall yn rhagrithiwr. Mae gan bob un ohonom ein barn ein hunain, ac nid yw'r farn honno o reidrwydd yr un fath â barn y blaid y maent yn ei chynrychioli. Felly, nid oes y fath beth â rhagrithiwr; rydych chi'n gwneud eich safbwyntiau eich hun. Felly, gofynnaf i'r Aelod a wnaeth y sylw dynnu'r sylw yn ôl, os gwelwch yn dda, i sicrhau bod honno'n broses gywir, briodol.

Gadeirydd, rwy'n ystyried dweud un peth a gwneud rhywbeth arall yn ddiffiniad o ragrithiwr, ond clywaf yr hyn a ddywedwch am weddustra yn y Siambr, ac rwy'n hapus i dynnu'r iaith yn ôl.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth Trafodiadau Tir

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dreth trafodiadau tir. Galwaf ar Joel James i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9100 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon yn enw fy nghyd-Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Rhaid inni fod yn onest am y realiti sy'n wynebu gormod o bobl yng Nghymru heddiw. Mae gormod o bobl yn byw mewn cartrefi nad ydynt yn addas i'w hanghenion mwyach, ac maent yn aros yn y cartrefi hyn, nid oherwydd eu bod eisiau, ond oherwydd bod symud wedi dod yn rhy anodd, yn rhy ddrud, ac yn rhy frawychus, a bod yn onest. Mae yna rwystr seicolegol go iawn yma. Mae pobl yn edrych ar y gost o symud ac yn penderfynu nad yw'n werth gwneud hynny. Mae trethi eiddo, fel y dreth trafodiadau tir, yn codi costau yr eir iddynt ymlaen llaw wrth symud cartref, ac mae hyn yn atal pobl rhag gwneud newidiadau y byddent fel arall yn eu gwneud.

Pan fo'n costio miloedd a hyd yn oed degau o filoedd o bunnoedd i symud, mae pobl yn aros lle maent. Mae pobl hŷn yn aros mewn cartrefi teuluol mawr ymhell ar ôl i'w plant symud allan, tai sy'n costio swm anghymesur o fawr i'w gwresogi a'u cynnal. Nid yw teuluoedd sydd angen mwy o le yn gallu dod o hyd iddo, ac ni fydd pobl yn symud ar gyfer gwaith hyd yn oed pan fo'r cyfle yno. Y canlyniad yw system dai wedi'i thagu: cartrefi yn y dwylo anghywir, yn y lleoedd anghywir ar yr adeg anghywir.

Os ydym yn dileu'r rhwystrau hyn, dengys y dystiolaeth fod pethau'n dechrau symud eto—yn llythrennol. Mae ymchwil sy'n edrych ar y dreth gyfatebol yn Lloegr yn awgrymu y gallai cael gwared ar y dreth drafodiadau eiddo gynyddu symudedd perchnogion cartrefi fwy na 50 y cant. Mae hynny'n golygu y byddai degau o filoedd yn fwy o gartrefi'n dod ar y farchnad bob blwyddyn, mae'n datgloi eiddo nad yw'n cael ei werthu ar hyn o bryd, yn rhoi hwb i weithgarwch ailwerthu, ac yn annog cartrefi newydd i gael eu hadeiladu hefyd. Mae marchnad dai sy'n symud yn fwy rhydd hefyd yn helpu pobl i symud i ble mae'r swyddi, gan wella cynhyrchiant a chyfleoedd ar draws yr economi. [Torri ar draws.] Gadewch imi barhau am ychydig, ac yna fe ddof â chi i mewn.

Ddirprwy Lywydd, rwyf i a fy mhlaid yn credu bod hyn yn bwysig i dwf. Mae trethi trafodiadau'n gweithredu fel llyffethair yn y system dai. Maent yn atal trosiant ac yn caethiwo pobl mewn cartrefi nad ydynt yn gweithio iddynt mwyach. Tynnwch y llyffethair ac rydych chi'n rhyddhau cyflenwad. Mae gan ddatblygwyr fwy o hyder i adeiladu, mae pobl yn fwy parod i symud, ac mae'r economi ehangach yn elwa. Mae ymchwil ar dreth stamp yn Lloegr yn awgrymu y gallai ei dileu roi hwb o hyd at £20 biliwn y flwyddyn i weithgarwch economaidd trwy waith adeiladu, gwariant defnyddwyr a symudedd llafur. Mae'n bosib fod y niferoedd yn wahanol yma yng Nghymru, ond mae'r fecaneg sylfaenol yn union yr un fath. O safbwynt economeg pur, mae'r trethi hyn hefyd yn cael eu hystyried yn aneffeithlon, maent yn creu'r hyn y mae economegwyr yn ei alw'n 'golled ddifuddiant', neu mewn geiriau eraill, niwed economaidd sy'n fwy na'r refeniw y maent yn ei godi, am eu bod yn atal trafodiadau synhwyrol, cydfuddiannol rhag digwydd. O'i gymharu â threthi ar incwm neu wariant, mae trethi trafodiadau eiddo ymhlith rhai o'r trethi mwyaf niweidiol i effeithlonrwydd economaidd.

Mae yna gwestiwn yn codi hefyd mewn perthynas â thegwch. Rhaid talu treth trafodiadau tir ymlaen llaw. Mae hynny'n golygu bod angen llawer mwy o arian parod ar brynwyr ar y diwrnod y maent yn cwblhau. Ar gyfer prynwyr tro cyntaf ac aelwydydd iau heb gynilion mawr, mae hynny'n rhwystr enfawr. Gall gaethiwo pobl mewn cartrefi, cymdogaethau a hyd yn oed swyddi nad ydynt bellach yn gweddu i'w bywydau.

Rhaid inni fod yn realistig. Ni fyddai diddymu treth trafodiadau tir yn datrys pob problem fforddiadwyedd, ond byddai'n dileu un o'r rhwystrau llif arian mwyaf y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio symud. A thu hwnt i'r economeg, mae'r system ei hun yn magu dicter a dryswch. Nid casáu talu'r dreth yn unig y mae pobl—yn aml, maent yn cael trafferth ei deall. Mae hyd yn oed gwleidyddion proffil uchel wedi methu dilyn y rheolau hyn. Canfuwyd bod y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur, Angela Rayner, er enghraifft, wedi tandalu £40,000 o dreth stamp. Mae hyn yn dangos pa mor gymhleth a didrugaredd yw'r system mewn gwirionedd.

Mae treth trafodiadau tir yn dibynnu ar hunanasesiad, rhyddhadau lluosog a rheolau cymhleth sy'n hawdd eu cael yn anghywir ac yn gostus i'w herio. Byddai cael ei gwared yn symleiddio'r system dreth, yn lleihau anghydfodau a chostau gweinyddol, ac yn gwneud prynu a gwerthu cartref yn broses lawer mwy tryloyw a hawdd ei rhagweld i bobl gyffredin. Byddai costau trafodiadau is hefyd yn dod â buddion cymdeithasol ehangach. Byddent yn ei gwneud hi'n haws i bobl adleoli ar gyfer gwaith ac yn cefnogi marchnad lafur fwy hyblyg. Byddent yn ei gwneud hi'n haws i berchnogion tai hŷn symud i gartref llai, gan ryddhau cartrefi mwy i deuluoedd a gwneud gwell defnydd o'r stoc dai sydd gennym eisoes.

Rydym hefyd yn gwybod o waith ymchwil, gyda llawer ohono wedi'i amlygu yn ystod y seibiant treth stamp, nad mater syml o newid brics a morter yw symud cartref. Mae symud yn sbarduno gwariant uwch hefyd. Mae pobl yn adnewyddu, maent yn gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, maent yn prynu dodrefn, carpedi, offer. Mae astudiaethau'n dangos bod pobl sy'n symud yn llawer mwy tebygol o wario ar welliannau i'r cartref a nwyddau cartref, cyn ac ar ôl symud. Mae gwariant yn cyrraedd uchafbwynt yn fuan ar ôl symud ac yn aros yn uwch am oddeutu blwyddyn. Dyna weithgarwch economaidd go iawn yn llifo trwy fusnesau a chadwyni cyflenwi lleol.

Wrth gwrs, mae beirniaid yn codi pryderon, ac maent yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif. Un ddadl gyffredin yw bod cael gwared ar dreth drafodiadau'n gwthio prisiau i fyny. Mae rhywfaint o wirionedd yn y syniad fod prisiau'n ymateb yn y tymor byr, ond mae'r dystiolaeth o'r seibiant treth stamp yn dangos, er y gall prisiau godi, fod trafodiadau'n codi'n sydyn hefyd. Mae mwy o bobl yn symud, mwy o gartrefi'n newid dwylo. Y gwir amdani, dros y tymor hir, yw bod prisiau tai'n cael eu gyrru lawer mwy gan gostau cyflenwi, cynllunio a benthyca na threthi trafodiadau'n unig. Mae dileu treth trafodiadau'n lleihau rhwystr. Nid yw'n esgus datrys y prinder tai ar ei ben ei hun.

Mae eraill yn poeni am golli refeniw cyhoeddus. Mae treth trafodiadau tir yn codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae edrych ar y brif golled yn unig yn colli golwg ar y darlun ehangach. Mae mwy o drafodiadau'n golygu mwy o adeiladu, mwy o swyddi, mwy o wariant a mwy o refeniw treth o dreth incwm, TAW, treth gorfforaeth ac enillion cyfalaf. Credaf y byddai'r effeithiau deinamig hynny'n mwy na gwneud iawn am y refeniw a gyflwynir gan dreth trafodiadau tir.

Heb amheuaeth, bydd y sosialwyr yma'n codi pryderon mai aelwydydd cyfoethocach fyddai'r enillwyr, fel y clywsom ein Prif Weinidog yn ceisio ei wneud ddoe. Ond nid yw hynny'n wir. Mae marchnad dai fwy hylifol o fudd i bawb. Mae trosiant cynyddol yn rhyddhau cartrefi ar bob pwynt pris; mae gallu symud yn haws i dai llai yn rhyddhau cartrefi teuluol. Mae tystiolaeth o seibiant treth stamp yn dangos mwy o weithgarwch, nid yn unig yn y pen uchaf ond ar draws rhannau canol ac isaf y farchnad hefyd. Ni fydd cael gwared ar y dreth trafodiadau tir yn gwneud tai'n fforddiadwy dros nos, ac nid oes unrhyw ddiwygiad difrifol yn honni y bydd, ond mae'n gwneud i'r system weithio'n well, mae'n helpu pobl i symud pan fyddant angen, mae'n gwella sut y defnyddiwn y cartrefi sydd gennym eisoes, ac mae'n cefnogi twf tra bod diwygiadau cyflenwi mwy hirdymor yn dod yn weithredol.

Felly, pan fyddwch chi'n ei roi i gyd at ei gilydd, mae'r darlun yn glir: nid codi refeniw yn unig y mae treth trafodiadau tir yn ei wneud, mae'n siapio ymddygiad, ac ar hyn o bryd mae'n annog pobl i aros lle maent. Byddai cael gwared arni yn helpu i greu marchnad dai sy'n gweithio'n well i bobl Cymru ar bob cam ac yn helpu i greu economi sy'n fwy deinamig, yn fwy cynhyrchiol ac yn decach o ganlyniad. A dyna pam rwy'n annog pawb yma i gefnogi ein cynnig. Diolch.

16:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliant 1 yn ei henw ei hun.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy; a

b) mynnu datganoli pellach o bwerau treth i Gymru gan San Steffan, gan gynnwys y gallu i gyflwyno treth tir gwag a'r gallu i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, yn amlwg, o'r cyfraniad hwnnw, ymagwedd y blaid Dorïaidd at lunio polisïau yng Nghymru yw, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr', oherwydd roedd yr holl dystiolaeth a glywais yno yn seiliedig ar asesiadau yn Lloegr, nid yma yng Nghymru, lle mae'r trothwyon yn wahanol, lle mae prisiau tai cyfartalog yn wahanol, a hoffwn weld y Blaid Geidwadol yn seilio eu polisïau ar y realiti go iawn yma yng Nghymru. Roedd James Evans ar Sharp End neithiwr yn cyhuddo pobl o economeg ffantasi. Wel, llunio polisi ffantasi yw hwn, yn seiliedig ar ddim realiti a dim sylwedd yma. [Torri ar draws.] Na, ni wnaf, oherwydd fe gewch chi eich cyfraniadau, a gwrthododd y siaradwr cyntaf dderbyn fy ymyriad i lle roeddwn eisiau gwneud y pwyntiau hyn. Fe gewch chi eich cyfle—eich dadl chi yw hi. Ac yn wahanol i—[Torri ar draws.] Na. Yn wahanol i neithiwr, lle gwnaethoch chi geisio dominyddu Sharp End, nid wyf yn mynd i dderbyn yr ymyriad. Efallai yr hoffech chi wrando ar yr hyn sydd gennyf i'w ddweud, oherwydd yr hyn y mae'r cynnig hwn yn ei amlinellu'n glir yw nad ydych chi'n wrthblaid ddifrifol. Nid ydych chi'n wrthblaid ddifrifol. Ac nid ydych chi o ddifrif ynglŷn â llywodraethu, oherwydd pan fyddwch chi'n dadlau dros doriad treth sylweddol a heb ei ariannu, yn seiliedig ar ffigurau yn Lloegr, nid yma yng Nghymru, mae'n profi nad ydych chi o ddifrif. Ac nid dyma'r unig doriad treth rydych chi wedi galw amdano yn ystod y misoedd diwethaf, a fyddai wedi arwain at dros £860 miliwn wedi'i dynnu allan o gyllideb Cymru ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol.

Ac ar wahân i fradychu pobl Wcráin a chwarae i ddwylo Putin trwy ddweud y byddant yn cael gwared ar y rhaglen cenedl noddfa, sydd, peidiwch ag anghofio, yn 0.01 y cant o gyfanswm cyllideb Cymru, ac sy'n rhaglen, gyda llaw, yr oedd hyd yn oed arweinydd y Ceidwadwyr yn arfer dweud ei fod yn ei chefnogi, nid ydynt wedi esbonio ble y byddant yn dod o hyd i'r arian. Yn y cyfamser, maent yn hynod o dawel am y miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Cymru sy'n dal i gael ei wario ar reoli biwrocratiaeth sy'n lladd busnes eu prosiect porthi balchder Brexit, ac mae'n dangos, er eu holl siarad gwag am dorri gwastraff, nad oes ganddynt goes i sefyll arni. Edrychwch ar ble rydych chi yn yr arolygon barn. Mae hynny'n dangos beth y mae pobl yn ei feddwl ohonoch chi fel plaid ac fel gwrthblaid.

Heledd, arhoswch funud. Rwyf am wrando ar gyfraniad yr Aelod, ac ni allaf glywed oherwydd y sŵn sy'n dod oddi ar y meinciau ar fy llaw dde. Felly, gadewch i'r cyfraniad gael ei glywed fel y gallwn ni i gyd ei fwynhau.

Mae'n amlwg nad ydynt eisiau gwrando ar ffeithiau, a dyna pam y maent yn gweiddi. Felly, efallai ei bod hi'n flwyddyn newydd, ond mae'r un hen Dorïaid yn gamblo'n ddi-hid gyda'n cyllid cyhoeddus, a diolch byth fod pobl Cymru'n gallu gweld trwyddynt.

Felly, nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw rinwedd o gwbl yn perthyn i'r egwyddor o gael gwared ar y dreth trafodiadau tir, neu o leiaf ei diwygio. Yn wir, mae consensws eang ymhlith economegwyr y gall trethi o'r fath fod yn aneffeithlon, gan greu effaith afluniol ar farchnadoedd tai a swyddi fel ei gilydd, ac yn hyn o beth ceir dadl gref yn erbyn trethu trafodiadau, ac felly dros ddyrannu adnoddau'n effeithlon, a thargedu cyfoeth ac asedau'n well fel ffynonellau refeniw Llywodraeth, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod llawer o'r asedau hyn heb fod yn cyfrannu'n gadarnhaol at weithgarwch economaidd. Ond nid yr ateb i'r broblem hon yw'r toriadau anymarferol a gynigir heddiw a'r dull 'talu yfory' sy'n cael ei argymell gan y Torïaid, ond yn hytrach, rhoi dewisiadau amgen hyfyw ar waith fel y gallwn gael refeniw yn lle'r hyn a gollir mewn modd cynaliadwy heb roi ein gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl. Felly, un dewis arall posib y dylid ei archwilio ymhellach yw treth ar werth tir, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am yr astudiaethau dichonoldeb ar gyflwyno treth o'r fath yng Nghymru yn ystod y gynhadledd yr wythnos nesaf yng Ngerddi Sophia.

A thu hwnt i hyn, mae angen inni hefyd weld gweithredu o'r newydd gan yr hyn a elwir yn bartneriaeth mewn grym i ddiwygio ein pensaernïaeth ariannol wan sydd wedi dyddio. A dylai hyn gynnwys arfogi Cymru â phwerau trethiant sy'n gydradd â rhai'r Alban fel lleiafswm pur fel y gallwn o'r diwedd wireddu potensial ein liferi treth incwm a llunio system sy'n adlewyrchu natur ein sylfaen dreth yn fwy teg. Mae angen inni hefyd weld cynnydd hirddisgwyliedig ar ddatganoli trethi newydd, fel y dreth ar dir gwag, ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus yn flaenorol y byddai'r pŵer hwn yn nwylo'r Senedd cyn diwedd y tymor hwn, felly buaswn yn croesawu diweddariad ganddo pan fydd yn ymateb i'r ddadl.

Gyda'r geiriau hynny, rwy'n cloi fy nghyfraniad. Ond gobeithio, wrth gloi'r ddadl, y gall y Ceidwadwyr gynnig eu syniadau ar y pwyntiau a godais ac esbonio pam eu bod hefyd yn gwrthwynebu gweld Cymru'n sicrhau pwerau trethiant cydradd â'r Alban fel lleiafswm pur os ydynt o ddifrif am ddiwygio'r system dreth yma yng Nghymru. Ond maent wedi dangos, onid ydynt, hyd yn oed yn y cyfraniad hwn heddiw, nad ydynt yn blaid ddifrifol ac nad ydynt o ddifrif ynglŷn â chynnig unrhyw beth i bobl Cymru.

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Hoffwn pe na bai Plaid Cymru mor ddig drwy'r amser. Nid oes angen i chi fod yn ddig. Dadl yw hon. Rwy'n awgrymu bod pobl yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd Joel James, oherwydd fe nododd rai o'r problemau sydd ynghlwm wrth dreth trafodiadau tir yn huawdl iawn. Ac nid oedd yn ymosodol, roedd yn glir iawn, ac yn gwneud dadleuon cryf ynghylch pam y mae'n anghywir ar hyn o bryd.

Oherwydd heb unrhyw amheuaeth, mae'n sicr yn dreth ormesol. Nid yw'n gwneud unrhyw beth heblaw atal dyhead, gan weithredu fel rhwystr arall eto i bobl ledled Cymru—boed yn deulu ifanc sy'n ceisio prynu eu cartref cyntaf neu'n bâr hŷn sy'n gobeithio symud i gartref llai. Yn anffodus, dim ond un o'r rhwystrau niferus sy'n wynebu perchnogion tai yng Nghymru yw'r dreth trafodiadau tir. Y gwir amdani yw bod ein cenedl yng nghanol argyfwng tai wedi ei yrru gan Lywodraethau Llafur olynol sy'n methu adeiladu'r cartrefi y mae cymaint o'u hangen.

Ar yr un pryd, mae Cymru'n agosáu at bwynt di-droi'n-ôl i'r economi ehangach. Ers mwy na 25 mlynedd, mae Llywodraethau Llafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi mygu twf ac wedi niweidio ein rhagolygon economaidd hirdymor. Ers bron i ddwy flynedd bellach, rydym wedi gweld yr un dull aflwyddiannus yn cael ei ailadrodd yn San Steffan—polisïau trethu a gwario byrbwyll sydd wedi codi dyledion y wlad i'r entrychion a gadael teuluoedd sy'n gweithio i dalu'r pris drwy drethi uwch, diweithdra cynyddol a gwasanaethu cyhoeddus gwannach.

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yn lle hynny yw hwb gwirioneddol i deuluoedd gweithgar—polisïau sy'n adfer gobaith ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Ond mae pobl ifanc yn parhau i fod dan anfantais dim ond am ddewis byw yma. Cymerwch gwpl ifanc â phlentyn sy'n byw yng Nghas-gwent, er enghraifft, o'u cymharu â theulu ychydig filltiroedd i lawr y ffordd—wel, filltir i lawr y ffordd hyd yn oed—yn Lloegr. Yng Nghymru, maent yn wynebu diffyg cymorth ystyrlon i brynwyr tro cyntaf a dim cymorth gofal plant cyfatebol yn ystod y blynyddoedd cynnar tyngedfennol. Nawr, o ganlyniad, yn seiliedig ar bris tŷ cyfartalog yn ein hardal ni o oddeutu £350,000 am gartref, gallai'r un eiddo gostio hyd at £5,000 yn fwy mewn treth yn unig i brynwr tro cyntaf yma yng Nghymru. Ar ben hynny, os oes gan y cwpl blentyn, gallent dalu mwy na £4,000 ychwanegol bob blwyddyn mewn costau gofal plant o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr ychydig filltiroedd i ffwrdd. Sut y deuaf at hynny yw bod y gofal plant yn seiliedig ar blentyn dwy oed, rhan amser, 25 awr yr wythnos. Yn Lloegr, mae hynny'n £66 yr wythnos; mae'n £146 yr wythnos yng Nghymru. Nawr, dyna dros £9,000 y bydd yn rhaid i'r cwpl ifanc ei dalu am fyw yng Nghymru—enghraifft glir arall o sut y mae dyheadau teuluoedd ifanc yn cael eu mygu.

Nawr, mae cymunedau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn teimlo'r anghyfiawnder hwn yn fwy dwys na llawer o rannau eraill o Gymru ac yn gofyn cwestiwn syml: pam y cânt eu cosbi am ddewis byw yma? Ond nid pobl ifanc yn unig a fyddai'n elwa o'r newid polisi beiddgar ac angenrheidiol hwn a gynigir gennym. Mae perchnogion tai hŷn yn cael eu dal yn ôl hefyd. Cymerwch gwpl oedrannus y mae eu plant wedi symud allan ers amser maith ac sydd bellach yn dymuno symud o'u cartref teuluol i gartref llai, yn rhy aml maent dan anfantais enfawr wrth wneud hynny, nid oherwydd nad oes ganddynt yr ewyllys, ond oherwydd bod y lefel gosbol o dreth yn annheg, gan eu hamddifadu o arian mawr ei angen ar gyfnod diweddarach yn eu bywydau. O dan ein polisi ni, byddai cwpl sy'n prynu cartref llai yng Nghymru yn arbed tua £7,500, pe baent yn prynu tŷ gwerth £350,000, tra byddai teulu ifanc sy'n prynu cartref mwy, gwerth £450,000 dyweder, yn talu tua £14,000 o dreth trafodiadau tir. Dyna £7,500 y gellid ei ddefnyddio i gefnogi eu hymddeoliad, gwella ansawdd eu bywydau neu ei drosglwyddo i'w plant, yn hytrach na chael ei lyncu gan faich treth annheg a diangen. Nid yn unig y byddai hyn yn help i symud i gartref llai, byddai hefyd yn darparu stoc dai fawr ei hangen o gartrefi mwy i deuluoedd symud iddynt.

Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â thegwch, cyfle a dyhead. Drwy dorri trethi cosbol a chefnogi teuluoedd gweithgar, gallwn adfer hyder yn ein marchnad dai a sicrhau nad yw dewis byw, gweithio a magu teulu yng Nghymru yn anfantais ariannol bellach, ond yn gyfle. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig a chael gwared ar y dreth trafodiadau tir gosbol hon ar brif breswylfeydd yng Nghymru.

17:00

Un peth rydym yn sicr wedi'i ddysgu unwaith eto yw bod y Ceidwadwyr yn casáu trethiant. Rydym hefyd yn gwybod mai'r hyn y maent yn ei gasáu fwyaf yw'r trethi hynny fel y dreth gyngor, ardrethi masnachol a threth trafodiadau tir sy'n anodd iawn eu hosgoi yn gyfreithlon.

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnal cyfraddau cyfredol ar gyfer treth incwm Cymru a threth trafodiadau tir, yn newid rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir, ac yn cynyddu'r gyfradd safonol o dreth gwarediadau tirlenwi ar gyfer 2026-27. Roedd treth trafodiadau tir yn un o'r trethi, ochr yn ochr â chyfradd dreth incwm Cymru a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru. Y rheswm y cawsant eu datganoli oedd eu bod yn haws eu nodi mewn ardal ddaearyddol. Er gyda pheth eiddo a thir trawsffiniol, rydym yn gwybod mai'r awdurdodau lleol sy'n casglu'r dreth gyngor, ac os oes rhaid ei rannu, y fformiwla ar gyfer gwneud hynny.

Er bod angen rhannu'r dreth rhwng lleoliadau daearyddol ar gyfer trafodiadau busnes mawr sy'n digwydd yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, roedd hynny'n wir o'r blaen pan ddigwyddai'r trafodiad mewn eiddo yn y DU a thramor. Disodlodd treth trafodiadau tir dreth dir y dreth stamp yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Awdurdod Refeniw Cymru sy'n casglu ac yn rheoli'r dreth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r dreth trafodiadau tir yn daladwy wrth brynu neu lesio adeilad neu dir dros bris penodol. Roedd y dreth trafodiadau tir, pan gafodd ei chyflwyno, at ei gilydd yn gyson â strwythur treth dir y dreth stamp sy'n bodoli yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynlluniwyd y newidiadau a gyflwynwyd i ddechrau i wneud y dreth yn decach, gwella effeithiolrwydd trethiant, a'i gwneud hi'n bosib canolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau Cymru. O dan y system dreth trafodiadau tir bresennol, mae gordal yn gymwys i bob trafodiad sy'n ymwneud â phrynu eiddo ychwanegol. Mae mathau ychwanegol o eiddo yn cynnwys buddsoddiadau prynu i osod ac ail gartrefi.

Beth fyddai diddymu treth trafodiadau tir yn ei gyflawni? Nid wyf yn credu y byddai'n lleihau'r gost o brynu tŷ. Pan fydd pobl gyffredin, nid pobl gyfoethog, yn dechrau'r broses o brynu tŷ, maent yn cynnwys ystyriaeth o ffioedd cyfreithiol, arolygon a threth trafodiadau tir. Mae hyn yn rhoi'r arian sydd ganddynt ar gael i brynu'r eiddo. Yr hyn a fydd yn digwydd os caiff ei ddiddymu yw y bydd yr arian cyfatebol yn cael ei ychwanegu at y pris gwerthu. Byddai'r newid yn lleihau incwm y Llywodraeth ac yn darparu ffawdelw bach i werthwr yr eiddo. Byddai'n lleihau gallu'r Llywodraeth i wario—[Torri ar draws.] A gaf i orffen y darn hwn? Byddai'n lleihau gallu y Llywodraeth i wario, oherwydd byddai ganddi lai o incwm. A fyddai'r Ceidwadwyr yn hoffi egluro ble maent eisiau i'r toriadau ddigwydd?

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Mike. Rwy'n sylwi eich bod wedi honni yno y byddai gwerth marchnad eiddo yn codi. Rwy'n chwilfrydig pa dystiolaeth sydd gennych i awgrymu y byddai hynny'n digwydd.

Wel, croeso i fyd y bobl gyffredin. Pan fyddwn ni'n mynd allan i geisio prynu tŷ, rydym yn cyfrif faint y gallwn ei fforddio. Rydym yn rhoi treth trafodiadau tir i mewn, rydym yn rhoi treth stamp neu dreth trafodiadau tir i mewn, rydym yn rhoi'r swm y bydd yn rhaid inni ei dalu i'r cyfreithwyr i mewn. Ar ôl cyfrif hynny i gyd, rydym yn gwybod faint o arian y gallwn ei fenthyca a'i dalu. 

Nid oes gwerth gwirioneddol i dŷ; yr hyn a geir yw swm y gall y prynwr ei godi a'r swm y bydd y gwerthwr yn ei dderbyn. Pan fyddwch chi'n darparu mwy o arian i'r prynwr, naill ai gan ddefnyddio Cymorth i Brynu neu ddiddymu treth trafodiadau tir, yr hyn sy'n digwydd yw y bydd prisiau tai yn anochel yn cynyddu. Rydych chi'n aflunio'r system bresennol, ond yr unig enillwyr yw gwerthwyr yr eiddo drutach.

Ar drethiant, gallwch drethu incwm, cyfoeth neu wariant. Mae treth trafodiadau tir yn trethu gwariant. Fel pob treth sy'n anodd ei hosgoi, cânt eu casáu gan y cyfoethog. Amcangyfrifir y bydd treth trafodiadau tir yn codi £401 miliwn yn 2026-27. Y trothwy y daw'r dreth trafodiadau tir yn daladwy yw £225,000, sy'n uwch na'r pris cyfartalog yng Nghymru o £217,000, ac ymhell uwchben y cyfartaledd o £188,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Nid yw chwech o bob 10 trafodiad prif gartref yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o gwbl. Yn y gyllideb ddrafft, mae'r cyfraddau'n mynd i aros yr un fath.

Cynigir dau newid yn y gyllideb ddrafft i'r cynllun rhyddhad anheddau lluosog: rheol cydraddoliad newydd, a fydd yn gwella tegwch i drethdalwyr sy'n prynu mwy nag un annedd yn yr un trafodiad neu mewn trafodiadau cysylltiedig, a chynnydd yn isafswm presennol y gyfradd ar gyfer rhyddhad o 1 y cant i 3 y cant. Y bwriad hefyd yw cyflwyno ad-daliad newydd o'r gyfradd breswyl uwch o dreth trafodiadau tir pan fydd trethdalwr yn prynu annedd ac yn ei osod ar les i awdurdod lleol drwy Gynllun Lesio Cymru.

Mae'n dreth hynod gyfnewidiol ac yn ddibynnol iawn ar y sefyllfa economaidd. Gall y swm a godir o werthu tir ac eiddo masnachol, un ganolfan siopa fawr, godi chwarter neu bumed ran o gyfanswm y dreth trafodiadau tir yng Nghymru.

Gan droi at welliant Plaid Cymru,

'archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy',

mae pawb eisiau dod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o godi trethi, ond rydym hefyd eisiau dod o hyd i drethi na all pobl ei osgoi.

Treth ar werth tir, y mae pobl yn siarad amdani, beth y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Mae'n golygu na fyddwch chi byth yn gweld tai cymdeithasol, ni fyddwch chi byth yn gweld tai cyngor yn unrhyw un o'r ardaloedd tir drutach yng Nghymru. Rwy'n credu ein bod ni o ddifrif eisiau gwell na, 'Rydym eisiau newid, cefnogwch ni.'

17:05

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw o blaid diddymu'r dreth trafodiadau tir, fersiwn Cymru o'r dreth stamp yn y bôn, oherwydd mae'r dreth hon yn dal ein gwlad yn ôl, yn caethiwo pobl ifanc rhag bod yn berchnogion ar gartrefi, yn cosbi teuluoedd sydd angen lle, ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl hŷn symud i gartrefi llai a rhyddhau cartrefi yn ein cymunedau.

Fel llawer o bethau yn y wlad hon, mae'r farchnad dai wedi torri ac ni allwn barhau fel pe na bai dim o'i le. Ym 1991, roedd tua 67 y cant o bobl ifanc 25 i 34 oed yn y DU yn berchen ar eu cartrefi, ond symudwch ymlaen at 2023 ac mae'r nifer yn ddim ond 39 y cant. Mae perchnogaeth ar gartref yn dod yn freuddwyd bell yn hytrach na dyhead cyraeddadwy. [Torri ar draws.] Fe wnaf. Fe wnaf gorffen y sylw penodol hwn. Mae hyn yn dorcalonnus i Brydain, lle dylai perchnogaeth ar gartref fod yn rhan allweddol o fywyd Prydain bob amser.

Hoffwn ofyn: pa Lywodraeth oedd mewn grym yn ystod y cyfnod hyd at 2023?

Diolch am yr ymyriad byr, sydyn hwnnw, ond mae'n effaith gronnol dros flynyddoedd lawer, Mike. Os cymerwch y bwlch amser rhwng 1991 a 2023, roedd yna 13 mlynedd o Lywodraeth Lafur o fewn hynny, ac yna'n wir yng nghyd-destun datganoli, rydym bellach 26 mlynedd i mewn i Lywodraeth Lafur lle mae'r maes tai wedi'i ddatganoli'n llwyr.

Rydym bob amser eisiau i'n plant gael mwy o gyfleoedd na'n cenhedlaeth ein hunain, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir. Rydym yn gadael gwlad waeth iddynt gyda llai o gyfleoedd, ac mae'r anallu i brynu eiddo yn symbolaidd iawn o'r dirywiad hwnnw. Mae cyplau ifanc yn gaeth mewn cylch o eiddo rhent, nid yw rhieni'n gallu symud yn agosach at ysgolion neu waith, ac mae preswylwyr hŷn eisiau symud i gartrefi llai ond ni allant gyfiawnhau'r gost o symud. Dylem fod yn glir fod y maes tai wedi'i ddatganoli yng Nghymru, a gallai Llafur, ynghyd â'u ffrindiau ym Mhlaid Cymru, fod wedi newid y sefyllfa, ond yn hytrach fe wnaethant dynnu eu troed oddi ar y sbardun a chaniatáu i'n marchnad eiddo arafu i stop: poblogaeth sy'n tyfu ynghyd â phrisiau tai cynyddol a methiant i adeiladu digon o dai i fodloni'r galw.

Ffordd glir a phendant o dorri oddi wrth yr hen fodel fyddai diddymu'r dreth trafodiadau tir. Mae'r dreth hon yn codi tua £147 miliwn y flwyddyn o brif breswylfeydd. Efallai fod hynny'n swnio'n ffigur mawr, ond nid yw ond hanner 1 y cant o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, ac yn hollbwysig, mae'r arian i ariannu'r diddymu yno. Gadawodd y Gweinidog cyllid arian heb ei ddyrannu yn y gyllideb eleni, ond dewisodd Llafur a Phlaid Cymru beidio â'i ddefnyddio i helpu pobl gyffredin i gael troed ar yr ysgol dai. Yn hytrach, fe wnaethant ddewis mwy o wastraff, mwy o fiwrocratiaeth a mwy o'r un blaenoriaethau aflwyddiannus.

Mae treth stamp yn cael ei chydnabod yn eang fel treth wael. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei galw'n dreth fwyaf economaidd niweidiol Lloegr, a dywedodd Pwyllgor Dethol y Trysorlys y dylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer diwygio. Mae arbenigwyr treth annibynnol wedi dweud ei bod yn aflunio'r farchnad dai, yn cyfyngu ar symudedd llafur ac yn atal twf economaidd. Os yw hynny'n wir yn Lloegr, mae'n sicr yn wir yma yng Nghymru.

Edrychwch ar y dystiolaeth: mae gweithgarwch adeiladu tai yng Nghymru yn gostwng, nid yn codi. Y llynedd, cwblhawyd dros 4,600 o gartrefi newydd, gostyngiad o 3 y cant ers y flwyddyn flaenorol ac un o'r ffigurau isaf a gofnodwyd. Mae nifer y tai y dechreuwyd eu hadeiladu wedi gostwng fwy na chwarter, ac mae Llywodraeth Cymru ar fin methu ei tharged tai cymdeithasol ei hun o filoedd o gartrefi. Ac ar yr un pryd, mae oedran cyfartalog y prynwr tro cyntaf yn parhau i godi. Nid yw hyn yn ddamweiniol. Mae'n ganlyniad i benderfyniadau gwael.

Mae treth trafodiadau tir yn ei gwneud hi'n anos symud. Mae'n atal pobl rhag cymryd swyddi mewn ardaloedd newydd. Mae'n cloi'r cartrefi teuluol allan, tai a allai ddod yn ôl ar y farchnad fel arall, ac mae'n mynd â miloedd o bunnoedd o bocedi pobl ar yr union adeg pan fyddant ei angen fwyaf. Byddai dileu'r dreth hon ar gyfer prif breswylfeydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, byddai'n lleihau'r gost ymlaen llaw o brynu cartref, yn gwella symudedd yn y farchnad dai, yn helpu pobl ifanc i gael troed ar yr ysgol eiddo, a byddai'n helpu pobl hŷn i symud i gartrefi llai gydag urddas. Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud y cyfoethog yn gyfoethocach. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i brif gartrefi yn unig, nid i ail gartrefi. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddemocratiaeth sy'n berchen ar eiddo.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn bwysig, fod yna ymdeimlad o falchder a diogelwch yn gysylltiedig â bod yn berchen ar eich cartref eich hun. Ac i'r rhai yn y Siambr hon sy'n credu bod y dreth stamp yn effeithio ar y cyfoethog neu'r rhai sy'n prynu eiddo mawr yn unig, rydych chi'n talu'r dreth ar gartrefi sy'n costio mwy na £225,000, a chyda chost gyfartalog cartref yng Nghymru dros £236,000, mae'r mwyafrif o bobl Cymru yn talu'r dreth wrth brynu cartref. Mae'n cryfhau teuluoedd a chymunedau, ac ni ddylid gwneud hynny'n anos drwy dreth sy'n lladd uchelgais a osodir gan Lywodraeth sydd wedi colli cysylltiad â'r realiti sy'n wynebu pobl ledled Cymru. Mae'n bryd dileu'r dreth trafodiadau tir a rhoi cyfle i bobl Cymru fod yn berchen ar eu dyfodol eu hunain.

17:10

Cyn imi ddechrau siarad am dreth trafodiadau tir, hoffwn ddechrau trwy ddweud, Michael, Heledd, mae eich cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru a barhaodd am dair blynedd wedi gweld rhagolygon economaidd Cymru yn plymio'n ddyfnach nag ar unrhyw adeg arall y gwn amdani. Mae gennym y cyflog canolrifol isaf yma o'i gymharu â Lloegr. Rydych chi'n gwneud pwynt am—[Torri ar draws]. Ie, y tro cyntaf.

Tair blynedd? Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl bod Peter Fox wedi dweud 25.

Rwy'n siarad nawr am eich tair blynedd drychinebus chi. 

O, iawn. Dywedodd Peter Fox 25 mlynedd. 'Mae Plaid Cymru a Llafur wedi bod mewn rheolaeth ers 25 mlynedd.' Roedd yn anghywir.

Nid yw'n anghywir, mewn gwirionedd mae bron yn 27. Mae'n anghywir am ei fod bron yn 27 mlynedd. [Torri ar draws.] Un funud. Un funud. Rydych chi wedi bod mewn Llywodraeth ers un tymor. Rydych chi bob amser wedi glynu at Lafur ym mhob tymor ers i'r Cynulliad fod—y Senedd, dylwn ddweud. Ond mae'n wir.

Hynny yw, rydych chi'n dwli ar eich treth. Eich ideoleg asgell chwith ydyw. Treth dwristiaeth. Rydych chi wedi niweidio'r rhagolygon o ffyniant economaidd. Rydych chi'n mynd ar ôl ein busnesau. Nid ydych yn cefnogi'r rhai sydd eisiau camu ymlaen yng Nghymru gydag uchelgais, dyhead. Rydych chi—. Mae mor rhwystredig bod yn Aelod a gweld y ffordd rydym wedi plymio dros y pum mlynedd diwethaf, ac am dair o'r blynyddoedd hynny, rydych chi a'ch grŵp yn gwbl—[Torri ar draws.] Fe af ymlaen am ychydig—yn gwbl gyfrifol amdano. Ac nid wyf yn ymddiheuro am nodi'r hyn sy'n amlwg iawn. [Torri ar draws.]

Mae'n dod yn fwyfwy anodd prynu yng Nghymru, yn enwedig fel prynwr tro cyntaf yng Nghymru. Rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun, bydd teulu ifanc yn prynu eu cartref cyntaf, bydd cwpl ifanc yn prynu eu cartref cyntaf, yna maent yn cael teulu, wedyn maent eisiau lle mwy. Rydych chi'n rhoi'r holl rhwystrau yn eu ffordd rhag gallu gwneud hynny. Y costau byw yng Nghymru nawr a'r straen economaidd sydd wedi'i achosi gan Lywodraethau'r DU a Llafur Cymru; maent wedi twyllo a dweud celwydd wrth bobl y DU.

Nawr, mae £147 miliwn y flwyddyn yng Nghymru yn cael ei godi gan dreth trafodiadau tir. Edrychwch ar yr holl wariant gwastraffus ar Faes Awyr Caerdydd. Felly, cwblhawyd 4,631 o gartrefi newydd yng Nghymru, i lawr o 4,771. Dyma'r ffigur isaf ond un a gofnodwyd ac eto rydym i fod i gael 20,000 o gartrefi newydd. Ble maent? Cafodd 3,800 o anheddau eu dechrau yn 2024-25, gostyngiad o 20 y cant. Mae'r rhain yn fethiannau difrifol wrth geisio edrych ar sut rydych chi'n adeiladu economi cenedl fel Cymru.

Rydym ni'n gwybod fel y Ceidwadwyr Cymreig pa mor bwysig yw bod yn berchen ar gartref, oherwydd mae'n dod â sefydlogrwydd yn ei sgil. Mae gallu cael troed ar yr ysgol dai yn uchelgais i lawer. Nid ydym yn ymddiheuro am fod eisiau diddymu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd. Mae arweinydd ein Plaid Geidwadol yn y DU, Kemi Badenoch, eisoes wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn diddymu treth stamp, sef yr hyn sy'n cyfateb yn Lloegr. Mae ein marchnad dai'n anobeithio, ac mae angen ei thrwsio. Mae gormod o'n pobl ifanc yn rhentu ar hyn o bryd. Mae rhieni sy'n gweithio'n cael eu cosbi os ydynt eisiau mwy o le i fagu teulu. Ar hyn o bryd, yr oedran cyfartalog ar gyfer prynwr tro cyntaf yng Nghymru yw 31. Mae angen gwneud mwy i sicrhau eich bod chi'n adeiladu'r tai, ond gobeithio mai 'ni' fydd yn adeiladu'r tai ar ôl mis Mai.

Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru, wrth dynnu Cymru i lawr yn ystod eich cytundeb cydweithio tair blynedd, wedi blaenoriaethu eich prosiectau porthi balchder eich hun, fel diwygio'r Senedd. Cant ac ugain o filiynau—

17:15

Diolch yn fawr. A fyddech chi'n cytuno â mi, y tro diwethaf i Gymru gael Llywodraeth Geidwadol mewn gwirionedd, yn yr 1980au, mai'r ddiweddar Margaret Thatcher, y Prif Weinidog gorau a gafodd y wlad hon erioed, a fuddsoddodd yn nyfodol pobl trwy adael i bobl fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain a rhoi'r rhyddid y maent yn ei haeddu iddynt? A fyddech chi'n cytuno â mi ar y sylw hwnnw?

Buaswn. A bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser eisiau cefnogi—. Roedd yr hawl i brynu yn gynllun da. Adeiladodd pob tŷ a werthwyd dri thŷ arall. Sut y mae honno'n economeg wael? [Torri ar draws.] Mae hynny'n wir—o, ydy. [Torri ar draws.] Mae tymor y pantomeim wedi dod i ben. Yn ogystal â sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi—

Rydych chi wedi derbyn rhai ymyriadau ac rydych chi wedi gwrando ar leisiau eraill hefyd. Fe wnaf ganiatáu 30 eiliad nawr i chi orffen eich cyfraniad.

Diolch. Byddwn yn cyflawni hyn trwy gynllun Ceidwadol cryf. Byddwn yn darparu economi gryfach, gwlad gryfach a marchnad dai gryfach. O dan arweinyddiaeth Darren Millar, gallwn gyflawni hyn.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwrando gyda diddordeb ar gyfraniadau yn y ddadl, ond mae'n bwysig dweud ar y dechrau bod trethi yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol ar gyfer ein cymunedau. Mae'r refeniw o drethi'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod ein cymdeithas yn gyffredinol yn gallu gweithredu a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys tai fforddiadwy, athrawon, nyrsys, ffyrdd, cludiant cyhoeddus a chefnogi grwpiau bregus. Mae refeniw treth hefyd yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a datblygu, gan ddarparu amodau ar gyfer llwyddiant. Mae gan Lywodraeth Cymru egwyddorion craidd sy'n sail i'n gwaith ar drethi. Pwrpas y rhain yw gwneud ein system dreth gyffredinol yn gyson ac yn glir drwy sicrhau bod trethi Cymru'n codi refeniw yn deg, eu bod yn cefnogi polisïau ehangach a'u bod yn glir, sefydlog a syml, yn annog cysylltu eang ac yn helpu i greu Cymru fwy cyfartal i genedlaethau'r dyfodol.

Lywydd, gwrandewais yn ofalus iawn ar y siaradwr agoriadol yn y ddadl. Clywais Aelod arall yn dweud ei fod wedi bod yn gyfraniad meddylgar, ac rwy'n cytuno ei fod. Aeth ar ei oriwaered yn gyflym ar ôl hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr. Y rheswm pam yr oedd y cyfraniad agoriadol yn feddylgar oedd oherwydd bod cyflwynwr y cynnig yn rhagweld gwendidau'r cynnig mor glir. 

Dyma bedwar rheswm pam y bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu'r cynnig. Yn gyntaf oll, mae'r ymrwymiad hwn heb ei ariannu o gwbl. Rwyf innau hefyd wedi gweld barn economegwyr sy'n credu bod yna ddewisiadau amgen gwell i'w cael yn lle treth trafodiadau tir, ac rwy'n cytuno y dylem feddwl yn ofalus am y dewisiadau amgen hynny. Ond ychydig iawn o bobl yn wir a fyddai'n dadlau y dylid rhoi'r gorau'n gyfan gwbl i'r refeniw a gynhyrchir trwy dreth trafodiadau tir—dim dewis arall, dim ond ei ddiddymu. Wel, mae'r band annhebygol hwnnw heddiw wedi'i chwyddo gan y Blaid Geidwadol Gymreig.

Efallai na fydd fawr o syndod ynglŷn â hyn, oherwydd mae ganddynt hanes yn y maes. Nid yn unig eu bod yn barod i wneud heb y £176 miliwn a godir gan dreth trafodiadau tir, maent eisoes wedi cyhoeddi y byddent yn torri cyfraddau treth incwm Cymru 1 geiniog yn y bunt. Bydd hynny'n costio £299 miliwn. Maent hefyd wedi dweud y byddent yn diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach ac yn adfer rhyddhadau ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch. Dyna £300 miliwn arall mewn refeniw a gollir.

Clywais arweinydd y Blaid Geidwadol yn honni, pan dynnodd Heledd Fychan sylw at effaith gronnol yr addewidion hyn, nad oedd yr hyn a ddywedodd yn wir, ond os ydych chi'n adio'r tri addewid, mae'n £0.75 biliwn wedi'i golli i wasanaethau cyhoeddus Cymru, heb geiniog i'w godi mewn mannau eraill. Mae gan y polisïau hyn dri pheth yn gyffredin. Mae pob un ohonynt yn brin o hygrededd. Gallai pob un ohonynt fod wedi cael eu gweithredu yn ystod y 14 mlynedd hir o Lywodraeth Geidwadol, ac ni ddigwyddodd yr un ohonynt mewn gwirionedd.

Dyma ail reswm pam y mae'n rhaid inni wrthod y cynnig: mae'r cynnig yn llawn o broblemau ac anghysonderau. Mae'n methu deall mecanweithiau sylfaenol y dreth a sut y mae'r dreth wedi'i strwythuro. Byddai'r cynllun Ceidwadol yn cyflwyno cysyniad goddrychol o brif breswylfa a fyddai'n berthnasol ar y diwrnod y prynir yr eiddo. Beth sy'n digwydd os bydd y brif breswylfa'n cael ei newid ar y diwrnod ar ôl y pryniant, neu'r diwrnod ar ôl hwnnw? A fyddai pob pryniant cartref i'w ddefnyddio fel prif breswylfa yn cael ei eithrio hyd yn oed pe bai hen brif breswylfa yn dal i fod ym mherchnogaeth yr un unigolyn? Sut y byddai Awdurdod Refeniw Cymru, sy'n gyfrifol am weithredu'r system newydd, yn gallu nodi dim o hynny?

17:20

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Yn gyflym iawn, oherwydd mae'n bwynt pwysig. Rwy'n derbyn y mater rydych chi wedi'i godi, ond mae hwnnw'n fater sydd eisoes yn cael ei brofi ar hyn o bryd, onid yw, ar gyfer pob math o ddibenion eraill gan y Llywodraeth, o ran premiymau treth gyngor, er enghraifft, o ran mathau eraill o drethiant: prif breswylfa rhywun neu a oes ganddynt ail neu drydydd eiddo.

Lywydd, mae hynny'n berffaith gywir, ond mae hynny oherwydd bod llyfr o reolau ac nid oes gan eich cynnig unrhyw reolau o gwbl. Rwyf newydd ofyn i chi sut y byddech chi'n gwybod. Nid oes unrhyw beth yn yr hyn rydych chi wedi'i ddweud neu ei gyhoeddi a fyddai'n ateb y cwestiynau syml rwyf newydd eu gofyn i chi. Mae gennych gynnig ac nid oes gennych unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes pwynt i arweinydd yr wrthblaid nodi'r ffaith bod pobl wedi datrys problemau eraill; rwy'n gofyn i chi sut y gwnewch chi ddatrys y broblem hon, a'r gwir amdani yw nad oes gennych atebion i'r cwestiynau hynny. Rydych chi eisiau—[Torri ar draws.]

Fe ddywedoch chi ar ddechrau eich cyfraniad eich bod wedi gwrando ar y ddadl, a'r hyn a amlinellais yn fy nghyfraniad oedd sylwadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a ddywedodd ei bod yn dreth niweidiol mewn termau economaidd. A dyna oedd y farn y daeth Pwyllgor y Trysorlys iddi yn Senedd y DU. Felly, a ydych chi'n fwriadol yn anwybyddu'r rheini, neu a ydych chi'n cydnabod y sylwadau hynny ac a ydych chi mewn sefyllfa i gynnwys y rheini fel ffactor yn eich safbwyntiau ar y mater?

Rwyf eisoes wedi dweud bod y dreth trafodiadau tir wedi bod yn destun beirniadaeth ddifrifol. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y polisi rydych chi'n ei gynnig yn gwbl brin o hygrededd, oherwydd nid ydych chi'n gallu ateb hyd yn oed y cwestiynau mwyaf syml ac ymarferol am y ffordd y byddai eich polisi'n gweithredu ar lawr gwlad. Mae'n rysáit ar gyfer dryswch gweinyddol a chamgymeriadau trethdalwyr, ac fel y mae wedi'i datblygu ar hyn o bryd, ni fydd yn gweithio.

Gadewch imi wneud naid fawr yn y dychymyg, a chymryd yn ganiataol am eiliad y gellir goresgyn y rhwystrau ymarferol hynny. Mae'r polisi wedyn yn wynebu'r trydydd gwrthwynebiad, yn yr ystyr na fydd yn gwneud yr hyn y mae ei gefnogwyr yma yn ei honni. Un o'r pethau y mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno yn ei gylch yw bod rhy ychydig o dai wedi'u hadeiladu ar draws y Deyrnas Unedig yn y cyfnod ôl-Thatcher. Mewn marchnad gwerthwr, mae unrhyw ostyngiad mewn treth trafodiadau tir, fel yr esboniodd Mike Hedges, yn gweithredu er budd, nid y person sy'n ceisio prynu tŷ, ond y person sy'n gwerthu. Bydd y dreth yn gostwng, bydd y pris yn codi. Bydd y gwahaniaeth yn mynd i boced y gwerthwr, ni fydd y prynwr yn well ei fyd. Mae mor syml â hynny. Bydd y trethdalwr wedi darparu bonws o £176 miliwn i'r rhai sydd eisoes yn gyfoethog mewn asedau—

17:25

Unwaith eto, rydych chi'n gwneud pwynt diddorol, ond onid ydych chi'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tŷ yn gwerthu un hefyd? Felly, mewn gwirionedd, y budd net yw'r ffaith bod arian parod yn cael ei gyflwyno a'i ryddhau pan fydd pobl yn symud eiddo ac yn symud cartref gyda'r holl grefftwyr hynny, yr holl arian sy'n cael ei wario ar geginau newydd, ystafelloedd ymolchi, carpedi, siopau dodrefn ar strydoedd mawr lleol sy'n elwa. Felly, pan fyddwch chi'n dweud mai dim ond y gwerthwyr a fydd yn elwa—. Nid wyf yn derbyn mai dim ond y gwerthwyr sy'n elwa, ond y gwerthwyr yn aml yw'r prynwyr hefyd, yn y mwyafrif o achosion.

Ac maent yn prynu tai nawr sy'n ddrytach nag y byddent wedi bod yn sgil cyflwyno eich polisi. Nid yw'n fudd. Nid yw'r polisi o fudd i brynwyr, ac yn sicr nid yw o fudd i brynwyr tro cyntaf, pwynt y mae cymaint o'ch Aelodau wedi ceisio ei bwysleisio y prynhawn yma.

Daw hyn â mi at y gwrthwynebiad terfynol a mwyaf arwyddocaol i'r polisi. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn talu treth trafodiadau tir o gwbl. Nid yw chwech o bob 10 prynwr yn talu treth trafodiadau tir, oherwydd mae natur flaengar ein polisi, sy'n wahanol iawn i'r un yn Lloegr, yn golygu ein bod bob amser wedi cadw'r trothwy lle mae'r dreth yn dechrau uwchlaw pris tŷ cyfartalog yng Nghymru, ac ymhell uwchlaw'r pris cyfartalog a delir gan brynwr tro cyntaf.

Cyn y Nadolig, trafododd y Senedd rinweddau treth ar gyfoeth. Roedd pob plaid heblaw am y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno y dylid gofyn i'r rhai sydd â'r mwyaf o gyfoeth gyfrannu'r swm mwyaf, a dyna beth y mae'r dreth trafodiadau tir yn ei wneud yng Nghymru. Po fwyaf o gyfoeth sydd gennych ar gael i chi, po ddrytaf yr ased y gallwch ei brynu, y mwyaf y disgwylir i chi gyfrannu mewn treth trafodiadau tir. Enghraifft syml o'r dull blaengar ar waith.

Yma eto, Lywydd, rhaid inni wneud naid yn y dychymyg i fyd polisi dychmygol lle mae'r polisi hwn yn gweithredu er budd prynwyr. Pa fath o brynwyr a fyddai'n cael eu helpu gan y polisi hwn? Drwy ddiffiniad, y rhai sydd â'r adnoddau mwyaf eisoes. Adnoddau sy'n fwy na'r £225,000 lle dechreuir codi'r dreth yng Nghymru, ac ymhell uwchlaw'r £181,000 sy'n cael ei dalu gan y prynwr tro cyntaf cyfartalog. Mewn geiriau eraill, mae hwn yn doriad treth sydd ond yn helpu'r rhai sydd â'r cyfoeth mwyaf eisoes. Po fwyaf sydd gennych, y mwyaf y byddai'r polisi hwn yn eich helpu. Mae'n llwyr i'r gwrthwyneb i'r dull polisi a weithredwyd gan Lywodraethau Cymru olynol. Mae'n mynd ag arian oddi wrth y gwasanaethau sydd ei angen fwyaf ac yn ei arllwys i bocedi'r rhai sydd ei angen leiaf. Felly, yr hyn y gofynnir i'r Senedd ei gymeradwyo heddiw yw polisi lle mai'r peth caredicaf y gellid ei ddweud amdano yw na fyddai'n gweithio, oherwydd pe bai'n gweithio, byddai'n amlwg yn gwneud mwy fyth o niwed. Rwy'n gofyn i gyd-Aelodau bleidleisio yn ei erbyn.

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu yn y ddadl y prynhawn yma, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet am ei gyfraniad mewn ymateb i'r ddadl yma heddiw. Agorodd Ysgrifennydd y Cabinet trwy ddisgrifio'r ddadl fel un a aeth ar ei goriwaered yn eithaf cyflym. Rwy'n teimlo, fodd bynnag, ei fod wedi mynd â ni i ddyfnderoedd anobaith gyda'i gyfraniad, gan ein tywys trwy'r cariad sosialaidd at drethi a pham ei fod yn beth mor wych i bobl Cymru.

Roedd safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet trwy gydol ei gyfraniad yn un a oedd yn cymryd yn ganiataol fod treth trafodiadau tir, neu dreth stamp yn Lloegr, wedi bodoli erioed ac na ddylid byth bythoedd ystyried ei dileu, ei bod yn rhywbeth sy'n sanctaidd a chanddi bob hawl i barhau am byth. Ond yr hyn a wnaeth Joel James yn ei agoriad oedd nodi bod hyn yn ymwneud â mwy na'r dreth ei hun yn unig; mae'n ymwneud â chyfle a rhoi pŵer yn ôl yn nwylo teuluoedd yma yng Nghymru, oherwydd, fel Ceidwadwyr, nododd, rydym yn credu bod bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn cynnig rhan go iawn i chi ym mywyd eich cymdeithas a gwreiddiau yn eich cymuned. Mae cenedl o berchnogion tai yn genedl o randdeiliaid.

Ac mae a wnelo hyn â mwy na pherchnogaeth tai yn unig, er hynny, fel rhywbeth a ddylai fod o fewn cyrraedd i bobl ifanc ledled Cymru, gan roi sefydlogrwydd a diogelwch iddynt, mae hefyd yn rhywbeth sy'n caniatáu i berchnogion tai hŷn symud i gartref llai os ydynt yn dymuno. Ond o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, wedi'i chynnal gan eu ffrindiau ym Mhlaid Cymru, mae hyn yn gynyddol amhosib, ac mae hynny'n hollol wir yn wrthrychol. Nid yw ein marchnad dai'n gweithio cystal ag y dylai heddiw. Nid oes dewis gan bobl ifanc ond rhentu, mae rhieni sy'n gweithio yn cael eu cosbi os ydynt eisiau mwy o le i fagu teulu, ac mae rhwystrau i bensiynwyr sydd eisiau symud i gartref llai. Mae hyn yn gwneud ein heconomi'n wannach, a gwnaeth nifer o gyfranwyr sylwadau ar economeg hyn, ac mae economegwyr ar draws y sbectrwm yn disgrifio'r dreth stamp fel un o'r trethi mwyaf economaidd niweidiol sydd gennym, ac maent bron yn unfrydol ar y pwynt hwn.

Clywais gyd-Aelodau'n tynnu sylw at yr astudiaeth gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy'n disgrifio'r dreth stamp fel nonsens economaidd, gan ei bod yn gwobrwyo pobl am aros lle maent ac yn eu cosbi am symud. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi tynnu sylw at sut y mae'r dreth hon yn gweithredu fel rhwystr i symudedd llafur, pan fo cost symud yn cael ei chwyddo'n artiffisial gan filoedd o bunnoedd o drethi, ac mae adolygiad Mirrlees yn awgrymu mai'r dreth stamp yw un o'r trethi mwyaf niweidiol, ac yn llawer mwy niweidiol na TAW neu dreth incwm—yn llythrennol, treth ar rywun sy'n ceisio gwella eu bywyd.

Felly, drwy gael gwared ar y rhwystr hwn, rydym yn gwneud tai yn rhatach, ac rydym yn gwneud yr economi gyfan yn fwy bywiog, effeithlon a deinamig. A Peter Fox a nododd y ffaith nad yw Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn deall yr economi o hyd, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd, ar ôl llywodraethu yma'n uniongyrchol yng Nghymru am bron i 27 mlynedd. Nid ydynt yn cydnabod y cyfleoedd economaidd go iawn o'u blaenau, gyda phethau fel diddymu'r dreth trafodiadau tir—tystiolaeth bellach nad ydynt o ddifrif yn gwybod beth y maent yn ei wneud gyda'r economi. Maent wedi gwneud perchnogaeth tai'n anos ac yn llai fforddiadwy, gan greu system sy'n cadw pobl hŷn mewn cartrefi sy'n rhy fawr i'w hanghenion. Maent wedi creu marchnad dai farwaidd, wedi rhwystro symudedd, ac wedi sicrhau economi wannach yng Nghymru o ganlyniad.

Ac mae bargen glòs Plaid Cymru â Llafur yn golygu mwy o wariant ar eu prosiectau porthi balchder eu hunain, yn hytrach na rhoi arian ym mhocedi teuluoedd gweithgar, neu ryddhau'r farchnad dai i weithio i bobl Cymru. Nid toriad treth yn unig yw hyn; mae'n hwb i'r economi, yn gyfle i wneud tai yn fwy fforddiadwy, ac yn ffordd o ddatgloi marchnad dai Cymru, miliynau o bunnoedd wedi'i gloi mewn treth ar hyn o bryd sy'n rhwystro teuluoedd rhag prynu, gwerthu a symud yn rhydd. Mae hwnnw'n arian y gellir ei ddefnyddio i dyfu ein heconomi, i gefnogi busnesau a chaniatáu i deuluoedd wario mwy yn eu cymunedau. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru a Llafur Cymru’n honni eu bod yn malio am bobl ifanc, ond o dan eu goruchwyliaeth, mae oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf, fel y nododd Gareth Davies, wedi codi eto. Mae lefelau adeiladu tai newydd, fel y nododd Janet Finch-Saunders, wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae disgwyl i'r targed ar gyfer tai cymdeithasol carbon isel gael ei fethu eto.

Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i drwsio'r farchnad dai doredig yma yng Nghymru, i ryddhau cyflenwad, ac i roi'r urddas i bobl o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Mynegodd Mike Hedges nifer o bryderon gyda'n polisi arfaethedig yma heddiw, yn enwedig—nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei bryderon hefyd—mewn perthynas â'r risg ganfyddedig o gynnydd yng nghost tai, ond rwy'n siŵr y byddai'r ddau aelod o'r Blaid Lafur yn deall dynameg cyflenwad a galw, a'r hyn y byddai diddymu'r dreth trafodiadau tir yn ei wneud yw cynyddu'r cyflenwad. A beth y mae cyflenwad mwy yn ei wneud? Mae'n gwneud pethau'n fwy fforddiadwy yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod y ddadl honno'n un sydd wedi'i gwrthbrofi.

Fel y nododd Gareth Davies, bydd diddymu'r dreth trafodiadau tir yn rhyddhau degau o filoedd o gartrefi ar y farchnad, gan greu gweithgarwch economaidd, a chefnogi busnesau lleol. Bydd yn hybu symudedd, yn cynyddu buddsoddiad, ac yn cryfhau economi Cymru ar adeg pan fo polisïau a roddwyd ar waith gan Lafur, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi ein dal yn ôl, fel y nododd Janet Finch-Saunders.

Ac mae Plaid Cymru’n sôn am ddiogelu Cymru, ond mae eu hanes yn dangos ei bod yn well ganddynt rwystro cynnydd, cynnal Llafur a chadw ein heconomi'n wan. Ac roedd y cyfraniadau gan yr Aelod o Blaid Cymru'n ymwneud mwy â chyfraniad rhagorol James Evans ar Sharp End neithiwr nag unrhyw beth arall yn ôl pob golwg.

Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid sy'n rhoi cyfran i bobl yn eu cymunedau, mwy o arian yn eu pocedi ac economi gryfach sy'n tyfu. Mae'r dewis yn glir: bydd Plaid Cymru a Llafur yn parhau i rwystro newid, llesteirio'r farchnad dai a gwanhau ein heconomi. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn diddymu'r dreth trafodiadau tir, yn bywiogi'r farchnad dai, yn hybu gweithgarwch economaidd ac yn darparu cyfleoedd go iawn i deuluoedd Cymru. Er lles Cymru gryfach a marchnad dai decach, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i ddiddymu'r dreth trafodiadau tir ar brif breswylfeydd. Ceir cynllun Ceidwadol clir ar gyfer gwlad uchelgeisiol i ddarparu economi gryfach a Chymru gryfach.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais, felly. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Etholiad y Senedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru yw hon ar etholiad y Senedd, a Rhun ap Iorwerth sy'n cyflwyno'r cynnig. 

Cynnig NDM9102 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.

3. Yn galw am weithredu cynigion Plaid Cymru i:

a) cyflwyno cynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad presennol, i roi'r GIG ar sylfaen fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw cleifion yn aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth;

b) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, gan ddarparu 'siop un stop' ar gyfer cymorth busnes, gan gefnogi a thyfu busnesau Cymreig ym mhob cam o'u datblygiad;

c) cyflwyno cynnig gofal plant sy’n darparu o leiaf 20 awr yr wythnos i bob plentyn, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a chaniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith;

d) cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cefnogaeth wedi'i thargedu, a sicrhau addysgu o ansawdd uchel a thracio cynnydd tryloyw; ac

e) cyflwyno bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb pwerau datganoledig â'r Alban, fel dull angenrheidiol i ddatgloi potensial Cymru.

4. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at:

a) dros 8,700 o lwybrau gofal yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf y targed i ddileu amseroedd aros o'r fath yn llwyr erbyn mis Mawrth 2023;

b) cyfraddau incwm gwario gros isaf y pen ac incwm sylfaenol y pen yng Nghymru sydd yr ail isaf o holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU, gyda'r ddau yn gostwng fel cyfran o gyfartaledd y DU; ac

c) sgoriau PISA Cymru mewn llythrennedd a rhifedd sydd yr isaf erioed ers cymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf yn 2006, a'r isaf ymhlith cenhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol.

5. Yn gresynu ymhellach fod partneriaeth mewn pŵer Llafur wedi gadael Cymru i lawr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch o agor dadl gyntaf Plaid Cymru yn 2026, blwyddyn sy'n addo bod yn un arwyddocaol iawn yn hanes gwleidyddiaeth ein cenedl a'r gred go iawn, rŵan, bod newid cyfeiriad yn bosib ym mis Mai. Ac rydyn ni'n ymddiried ym mhobl Cymru i wneud y dewis iawn. Ydyn, mae'r arolygon barn yn adrodd stori. Maen nhw'n rhoi blas o farn y cyhoedd ar hyn o bryd, ond tra fy mod i'n sicr yn cymryd dim yn ganiataol, beth sydd gennym ni ydy stori am ba mor eiddgar ydy pobl rŵan am newid positif, pa mor barod ydyn nhw i droi eu cefnau ar status quo Llafur, ac arwyddion mor glir sydd yna eu bod nhw yn barod i gefnogi gweledigaeth Plaid Cymru fel Llywodraeth sydd yn benderfynol o sefyll bob amser dros fuddiannau Cymru, a hynny yn ddiamod. Ac fel mae cynnig Plaid Cymru yn gosod allan y prynhawn yma, rhwng y methiannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus, absenoldeb polisïau arloesol a beiddgar i fynd i'r afael â'r heriau o fewn ein cymunedau a'r amharodrwydd parhaus yna i sefyll i fyny i Keir Starmer, does yna ddim syndod bod pobl Cymru wedi colli ymddiriedaeth yn arweinyddiaeth Llafur. 

Ym mhobman rydych chi'n edrych nawr, boed yn y system iechyd, yn ein heconomi, yn ein hysgolion, yn y gymdeithas yn ehangach, rydym ymhell o ble rydym eisiau bod fel cenedl: mae ein GIG gwerthfawr yn anghynaliadwy, yn gwegian o dan bwysau ôl-groniad rhestr aros sydd wedi tyfu oddeutu 200,000 ers yr etholiad diwethaf yn unig; economi sydd wedi bod yn farwaidd yn rhy hir ac sydd ymhlith y gwaethaf yn y DU o ran cyflogaeth, cynhyrchiant a thwf cyflogau; traean o blant yn byw mewn tlodi; argyfwng costau byw yn dal i frathu, wrth gwrs, heb unrhyw arwydd o lacio; cyrhaeddiad disgyblion—y lefelau hynny'n dirywio i'r graddau fod Cymru wedi cofnodi ei sgoriau PISA gwaethaf erioed yn ddiweddar, ac mae un rhan o bump o blant Cymru yn weithredol anllythrennog erbyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.

Ac nid yn unig fod taith ddatganoli Cymru wedi'i hatal gan bartneriaid mewn grym honedig y Llywodraeth, gan wadu'r cyfle inni reoli ein tynged ein hunain ar faterion fel cyfiawnder ac Ystad y Goron, cafodd ei gwrthdroi'n weithredol mewn sawl maes, fel y nododd 11 Aelod Llafur yn gywir ddigon yn hwyr y llynedd. [Torri ar draws.] Rhowch ychydig eiliadau i mi, os gallwch, Gareth. Dyma gyflawniad y Blaid Lafur a fydd yn cael ei farnu yn etholiad mis Mai, ac mae'n llwm. Gareth Davies.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ildio. Fe dynnoch chi sylw'n fedrus iawn at fethiant y Blaid Lafur dros 26 mlynedd, ond o ystyried eich rhan yn hynny, drwy gefnogi Llafur dros y blynyddoedd, a ydych chi'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am rywfaint o hynny, o ystyried eich bod mewn Llywodraeth gyda Llafur rhwng 2007 a 2011, tair blynedd o'r cytundeb cydweithio a chefnogaeth i lawer o bethau rhwng 1999 a heddiw?

17:40

Wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at adeg pan oeddech chi'n dal yn yr ysgol, mae'n debyg. Rwy'n falch iawn o fod wedi dylanwadu fel gwrthblaid ar y Llywodraeth i wneud pethau, ac rwy'n edrych ar y Blaid Geidwadol yma a gwelaf blaid sydd wedi llwyddo i wneud dim byd o gwbl mewn 26 mlynedd o ddatganoli, ac rwy'n hyderus na fyddant yn gallu cynnig unrhyw beth o gwbl ar ôl etholiad mis Mai chwaith.

Nawr, mae gwelliant y Llywodraeth—[Torri ar draws.] Rwyf am wneud rhywfaint—[Torri ar draws.] Rwyf am wneud rhywfaint o gynnydd, os caf. Mae gwelliant y Llywodraeth yn brin o hunanystyriaeth ac unrhyw ymdeimlad o newid cyfeiriad. Mae'n sôn am fod â'r pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU, fel pe na bai polisi ffioedd prifysgol am ddim ar waith yn yr Alban. Mae'n safbwynt detholgar ar berfformiad y GIG, nad yw'n ystyried y targedau di-rif a fethwyd a byrddau iechyd diffygiol, ac ar oes newydd o fuddsoddi, er gwaethaf adolygiad o wariant a fydd yn cyflawni'r twf isaf mewn termau real mewn gwariant dydd i ddydd ar gyfer cyllideb Cymru y tu hwnt i flynyddoedd uniongyrchol y cyni ariannol, heb sôn am y setliad sarhaus ar y rheilffyrdd a gawsom ychydig fisoedd yn ôl.

Nid yn unig ein bod wedi dioddef blynyddoedd o gamreoli, ond blynyddoedd o gyfleoedd a gollwyd hefyd. [Torri ar draws.] A phwy fyddai wedi meddwl—

Rhun, dwy eiliad, os gwelwch yn dda. Mae llawer o sŵn yn y Siambr, ac mae'n gorfodi'r Aelod sy'n siarad i siarad yn uwch nag sydd angen. Felly, a gawn ni rywfaint o barch yn y Siambr, os gwelwch yn dda? [Torri ar draws.] Wedyn, iawn. Wedyn, iawn. Felly, a gawn ni ddangos rhywfaint o barch fel y gallwn glywed yr hyn sy'n cael ei ddweud, ac fel nad oes angen i'r Aelodau godi eu lleisiau'n ddiangen?

Rwy'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth, Ddirprwy Lywydd. Nid yn unig ein bod wedi dioddef blynyddoedd o gamreoli, ond blynyddoedd o gyfleoedd a gollwyd hefyd, a phwy fyddai wedi meddwl y byddai'r ffaith bod Llafur wedi ennill etholiad y DU yn 2024 wedi gwneud pethau'n waeth?

Nawr, rwy'n optimydd naturiol, a chredaf y gallwn ennill Cymru newydd, fel y gallwn feithrin gobaith am well yfory—a mawredd, mae angen y gobaith hwnnw arnom. Ar y naill law, mae gennym wleidyddiaeth ymrannol, rwgnachlyd Reform, sy'n ceisio plesio Putin ac sydd wedi'u cynnal gan fwy a mwy o'u ffrindiau yn y Blaid Geidwadol. Mae'n domen sbwriel, onid yw, i Dorïaid aflwyddiannus, y mae eu holion bysedd dros drychinebau Brexit a mini-gyllideb Liz Truss a ddinistriodd ein heconomi, a achosodd gwymp mewn safonau byw, ac a roddodd hwb enfawr i'r argyfwng costau byw—y blaid sy'n fwy ystyriol o fuddiannau Llundain a Washington—gallwn ychwanegu Moscow hefyd—na chymunedau Cymru.

Ac ar y llaw arall, mae'r dewis o arweinyddiaeth newydd gadarnhaol, flaengar lle nad mater o gyfleustra etholiadol yn unig yw gwneud Cymru'n flaenoriaeth; yn llythrennol, dyma ein rheswm dros fodoli fel plaid—rydym yn dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn ddi-ymddiheuriad na fyddwn byth yn cymryd cam yn ôl pan fydd buddiannau pobl Cymru yn y fantol. Nawr, fel y crynhowyd mor dda yn strategaeth etholiadol Llafur: mae Reform yn diffinio'r dicter; mae Plaid Cymru’n diffinio'r gobaith. Ond nid diffinio gobaith yn unig a wnawn. Rydym yn barod—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd. Ond nid diffinio gobaith yn unig a wnawn. Rydym yn barod i'w gyflawni, fel y mae cynnig heddiw yn ei ddangos yn glir.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau trawsnewid ein GIG sydd dan bwysau, i'w adfer i'w le cywir fel rhywbeth y gall ein cenedl fod yn wirioneddol falch ohono. Mae hynny i'w weld yn ein cynllun beiddgar ar gyfer rhestrau aros, gan ddarparu canolfannau gofal a gynlluniwyd o'r radd flaenaf ledled Cymru, ond mae hefyd—yn bwysicach fyth, gellid dadlau—i'w weld yn ein dull newydd o ymdrin ag iechyd a gofal cynaliadwy, a'n hagwedd at ofal iechyd ataliol. Byddwn yn cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, gwerth mwy na £30,000 ar gyfer pob plentyn. Bydd strategaeth llythrennedd a rhifedd newydd yn darparu sylfaen fwy cadarn ar gyfer dysgu pob plentyn. A byddwn yn rhoi cymelliadau i athrawon newydd y gwyddom y byddant yn ysgogi ein disgyblion. Byddwn yn hybu adnewyddiad economaidd drwy sefydlu awdurdod datblygu newydd, gan gefnogi ein cymuned fusnes yn ddomestig a chefnogi brand busnes byd-eang Cymru. Mae'r status quo wedi methu, ac mae Cymru'n cwympo ymhellach ar ei hôl hi oherwydd hynny. [Torri ar draws.] James Evans.

17:45

Roeddech chi'n tynnu sylw yn gynharach at bleidiau ac o ble maent yn cael eu cyllid. A ydych chi'n derbyn ac yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb ac yn ymddiheuro i'r bobl fod Plaid Cymru wedi derbyn arian gan y Cyrnol Gaddafi?

Mae popeth rydym wedi'i ddioddef yn bethau sydd wedi ein dal yn ôl fel cenedl. A'r hyn sydd bwysicaf yw'r hyn sy'n dod nesaf. Ac yn y ddadl a'r syniadau rwyf wedi'u cyflwyno heddiw, mae gobaith am yr adnewyddu a'r gwobrau a ddaw yn sgil canlyniad gwahanol. Diolch, Ddirprwy Llywydd.

Rwyf wedi dethol gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.

3. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi arwain at:

a) un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros GIG;

b) y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig;

c) canlyniadau PISA Cymru yn gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl wledydd y DU am y pumed tro yn olynol;

d) arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar wariant nad yw'n ddatganoledig ac ehangu'r Senedd;

e) economi Cymru yn cael ei ddal yn ôl gyda'r cynnig ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain Fawr, y terfyn cyflymder 20mya diofyn, a chyfraddau treth trafodiadau tir sy'n mygu'r farchnad dai;

f) teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu taro â'r costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr; a

g) y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n peryglu colli swyddi a bywoliaethau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i:

a) datgan argyfwng iechyd yn y GIG yng Nghymru, dileu amseroedd aros gormodol mewn adrannau brys, ar gyfer ambiwlansys, profion a thriniaeth, cyflwyno gwarant aros meddygon teulu, a hyrwyddo dewis cleifion fel sbardun ar gyfer gwella gofal iechyd;

b) sicrhau bod economi Cymru yn symud drwy dorri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya, buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd, a dileu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer prif gartrefi;

c) gwella deilliannau addysg yng Nghymru drwy adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion yng Nghymru, bod yn llym ynghylch trais ac ymddygiad gwael, gwahardd ffonau symudol yn ystafelloedd dosbarth Cymru, grymuso athrawon, a galluogi sefydlu ysgolion academi;

d) rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a gwrthdroi ehangu'r Senedd;

e) cefnogi teuluoedd sy'n gweithio trwy gael cynnig gofal plant cyfatebol i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr; ac

f) dileu a disodli'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda chynllun gwirioneddol gynaliadwy sy'n diogelu swyddi gwledig ac sydd â diogelwch bwyd wrth wraidd y cynllun.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant sydd wedi'i gyflwyno yn enw Paul Davies.

Rhaid imi ddweud nad oeddwn yn fodlon gyda'r gwahaniaethu ar sail oedran a welsom yn y Siambr yn ystod cyfraniad arweinydd Plaid Cymru yn y ddadl hon. Nid yw gwahaniaethu ar sail oedran yn dderbyniol. Mae oedran yn nodwedd warchodedig, a phan fyddwch yn diystyru barn pobl oherwydd eu hoedran, sef yr hyn a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, nid yw hynny'n dderbyniol yn y Siambr hon nac mewn unrhyw Senedd nac mewn unrhyw weithle yn y Deyrnas Unedig. A buaswn yn ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, am eich barn a'ch dyfarniad ar y mater hwn, o ystyried bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylech wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran. Gallaf eu gweld yn chwerthin ac yn clegar, fel y maent yn aml yn ei wneud pan wneir cyfraniadau yn y Siambr hon, ond mae hyn yn bwysig, a buaswn yn gwerthfawrogi eich dyfarniad cyn imi fynd ymhellach.

Diolch yn fawr. Nawr, os caf droi at weddill y ddadl hon, mae cynnig Plaid Cymru yn datgan yn glir, yn gywir ddigon, fod yr etholiad sydd ar y ffordd ym mis Mai yn gyfle am newid gwirioneddol, newid cyfeiriad. Ond ni chawn y newid cyfeiriad hwnnw byth os bydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda yn yr etholiad. Oherwydd yn y pen draw, rydych chi yr un mor gyfrifol am y methiannau a welsom yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Y gwir amdani yw eich bod wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth erchyll a welsom yn y Senedd hon dros y blynyddoedd. Rydych wedi cefnogi'r cyllidebau ofnadwy a welsom yng Nghymru dros y blynyddoedd hyn: y cynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion, y cynlluniau ar gyfer mwy o fiwrocratiaid, y cymorth ychwanegol a roddwn dramor, y swyddfeydd tramor, y gostyngiad chwerthinllyd yn y terfyn cyflymder diofyn o 30 mya i 20 mya, mwy o goed yn Uganda, gwariant ar brosiectau gwastraffus a diangen fel cynllun y genedl noddfa. [Torri ar draws.] A dyna pam y bydd pobl Cymru, pan fyddant yn dod i wybod am y gwirioneddau hyn—

—pan fyddant yn dod i wybod am y gwirioneddau hyn, byddant yn gweld y golau.

Cyn ichi ofyn am ymyriad, ar ran arweinydd Plaid Cymru gofynnais am barch yn y Siambr, fel y gallem ei glywed heb iddo orfod codi ei lais. Gofynnaf am yr un parch i arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Siambr, fel y gallaf ei glywed yntau heb iddo orfod codi ei lais.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaf dderbyn ymyriad mewn ychydig eiliadau. Fe wnaf dderbyn ymyriad mewn ychydig eiliadau. Gwn eu bod yn wirioneddau nad ydynt yn hoffi i'r cyhoedd allu eu clywed, ond pan edrychwch ar gyflwr economi Cymru a'n gwasanaeth iechyd a'n system addysg, rydych chi wedi bod yr un mor gyfrifol am y niwed a wnaed. Dyna pam y mae Cymru wedi torri, ac mae angen ei thrwsio. Rydych chi'n unigolyn, fel arweinydd plaid, nad yw hyd yn oed yn credu bod mewnfudo anghyfreithlon yn bodoli. Mae'n gwbl chwerthinllyd. A phan fydd pobl yn edrych ar eich cynlluniau, eich gobaith honedig ar gyfer y dyfodol, mae'n seiliedig ar y ffantasi y byddai annibyniaeth yn beth da i Gymru, gan ein gwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig, a fyddai'n costio miloedd ar filoedd o bunnoedd i'n trethdalwyr yn y wlad hon, biliynau o bunnoedd i'n heconomi. Byddai'n peryglu'r pensiynau a delir i'n pensiynwyr, gyda'r posibilrwydd o godi ffin, llen lechi ar hyd y ffin rhwng Cymru â Lloegr, gan achosi pob math o broblemau i'n heconomi. A byddai'r biliynau y byddai'n ei gostio yn arwain at y math o godiadau treth syfrdanol—y mae llawer ohonynt wedi'u crybwyll gennych—codiadau treth enfawr, er mwyn cynnal y lefelau gwariant presennol ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw'n gynllun credadwy o gwbl.

Ond y sefyllfa yw eich bod yn un o'r ceffylau pantomeim sydd wedi bod yn rhedeg Cymru ers blynyddoedd, onid ydych? Nid wyf yn gwybod pa ben o'r ceffyl pantomeim ydych chi, y blaen neu'r cefn, ond yr un peth sy'n dod allan o'r ddau yn ein barn ni—yr un math o sbwriel sy'n dod o bob pen, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei egluro i'r cyhoedd. Os ydych chi eisiau amddiffyn eich cyflawniad, os ydych chi eisiau amddiffyn y cyllidebau hynny, os ydych chi eisiau amddiffyn y gwastraff, os ydych chi eisiau amddiffyn perfformiad yr economi, os ydych chi eisiau amddiffyn perfformiad y system addysg ac amddiffyn perfformiad y GIG, mater i chi yw hynny. Ond cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau deffro a deall nad ydych chi'n cynrychioli newid, eich bod chi'n cynrychioli mwy o'r un peth, ni welwn unrhyw wahaniaeth go iawn yng Nghymru.

17:50

Roedd hwnnw'n swnio fel y pwynt lle roeddech chi'n mynd i dderbyn yr ymyriad. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod arweinwyr gwleidyddol yn gyson. Felly, wrth ymosod yn benodol ar fater y genedl noddfa, sut y gallwch chi esgus bod yn hyrwyddwr yr asgell dde eithafol fel y gwnaethoch gyda'r genedl noddfa, mewn ffordd ddu a gwyn, pan fo'ch gwefan eich hun yn dweud eich bod bob amser wedi ymfalchïo mewn bod yn genedl noddfa?

Rydych chi'n camddyfynnu. A gaf i gywiro'r cofnod? Rwy'n Geidwadwr, iawn? Nid wyf yn unigolyn asgell dde eithafol mewn unrhyw ffordd. Rwy'n falch eich bod yn dangos llawer o ddiddordeb yn fy ngwefan. Rhowch fwy o sylw iddi, oherwydd efallai y dysgwch chi rywbeth os darllenwch chi ychydig ymhellach. Mae Cymru bob amser wedi bod, fel y Deyrnas Unedig, yn fan lle mae pobl wedi ceisio lloches. Ond nid oes angen inni wastraffu degau o filiynau o bunnoedd ar gynllun cenedl noddfa pan nad ydym yn gyfrifol yng Nghymru am fewnfudo ac nad ydym yn gyfrifol am y materion hynny. Nid ydynt yn faterion datganoledig. Gwn eich bod eisiau cyfrifoldeb am bopeth. [Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad arall. Rydym wedi clywed digon o nonsens gennych chi. [Torri ar draws.] Iawn.

Darren, er gwaethaf y sŵn yn y Siambr, rydych chi a fi bob amser wedi cytuno ar rai pethau. Roeddwn yn falch o ymweld â Kyiv gyda chi y llynedd, ac roeddwn yn falch o'ch gweld yn sefyll dros y buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth hon a chan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig o bob lliw i gefnogi pobl Wcráin. Mae'r arian rydych chi newydd ei gondemnio wedi'i wario ar gefnogi pobl Wcráin.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am faterion mewnfudo yn y wlad hon, a dylent barhau i fod yn gyfrifol am y materion mewnfudo hynny. Ac wrth gwrs, rwy'n cefnogi Wcráin ac yn uniaethu â'r rhai sy'n cefnogi'r genedl honno yn erbyn meddiannaeth anghyfreithlon y wlad honno a'r goresgyniad sydd wedi digwydd.

Ond gadewch inni fynd yn ôl at y sefyllfa o'n blaenau. Nid yw Plaid Cymru yn cynnig unrhyw newid cadarnhaol i Gymru. Maent yn cynnig mwy o'r un peth—yr un ceffyl pantomeim sydd wedi bod yn rhedeg Cymru am y 27 mlynedd diwethaf: chwith, chwith, chwith, er mai'r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw newid cyfeiriad go iawn, gyda pholisïau credadwy i drwsio'r Gymru doredig y mae pobl yn ei phrofi o ddydd i ddydd, ac i fynd i'r afael â'r heriau sydd ganddynt. Ac yn sicr, nid oes angen y math o wahaniaethu a welsom yn y Siambr hon heddiw gan arweinydd yn y ffordd honno.

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at:

a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol;

b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi;

c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol;

d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd;

e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni;

f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a

g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn system metro fodern.

3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member
Huw Irranca-Davies 17:53:31
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Cynnig yn ffurfiol.

Mae Cymru, ynghyd â gweddill y DU, bob amser wedi ymfalchïo mewn bod yn genedl noddfa i'r rhai sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro, erledigaeth a thrais.

'Fe wnaeth Annie, Zaina, Niloha ac Almas o Kenya, Syria, Venezuela ac Irac, yn y drefn honno, rannu eu straeon pwerus gyda mi, ac mae'n fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o helpu'r rhai mewn sefyllfaoedd tebyg.

'Mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynnig y lloches, y noddfa, y cariad a'r gofal sydd eu hangen ar bobl sy'n ffoi rhag perygl.'

Dyna ddyfyniad gan Darren Miller, gyda llaw, ac rwy'n cefnogi ac yn cytuno â'r dyfyniad hwnnw.

Ychydig wythnosau yn ôl, siaradais ag etholwr sydd wedi bod yn aros am dair blynedd am lawdriniaeth i gael clun newydd. Ers dros 1,000 o ddiwrnodau, mae ei byd wedi crebachu i bedair wal ei hystafell fyw. Dywedodd wrthyf ei bod yn teimlo fel pe bai ei bywyd wedi'i oedi'n barhaol wrth iddi aros am alwad ffôn nad yw byth yn dod. Dyna wyneb dynol yr ôl-groniad mwyaf erioed hwn. Nid llwybr nac ystadegyn mohoni, mae'n un o'r 800,000 o bobl yng Nghymru sy'n sownd mewn system sydd wedi dod i stop ar hyn o bryd. Mae hynny'n un rhan o bump o'n poblogaeth. Mae'r oediadau hyn wedi dod yn nodwedd o gyfnod Llafur mewn grym. Maent yn crynhoi 26 mlynedd o Lywodraeth ddisymud, gan adael ein cenedl mewn limbo.

Ers yr etholiad diwethaf, mae Llafur wedi gwario £1.5 biliwn ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad, dim ond i'w weld yn cynyddu gyda bron i 200,000 o lwybrau ychwanegol. Mae hynny'n £375 miliwn y flwyddyn—digon i dalu cyflogau cychwynnol 6,000 o nyrsys—wedi'i wastraffu, gan waethygu sefyllfa wael. Nid mater o ddiffygion unigol yw hyn, ond nodwedd o DNA Llafur Cymru. Ar y meinciau gyferbyn, mae pum cyn-Weinidog iechyd sydd wedi methu cael rheolaeth ar yr argyfwng hwn. Mae'r pyst gôl yn symud, mae'r unigolion yn newid, ond mae'r hanes o fethiant yn parhau. I'r GIG yng Nghymru, mae bellach yn ddiamheuol—y Blaid Lafur yw'r broblem, a newid yn y Llywodraeth yw'r feddyginiaeth.

Mae Plaid Cymru yn barod i dorri'r patrwm o atebion dros dro. Byddwn yn sefydlu canolfannau gofal a gynlluniwyd i leihau ôl-groniadau ac yn creu canolfannau rhagoriaeth. Byddwn yn cyflwyno brysbennu gweithredol i godi'r baich gweinyddol oddi ar feddygon teulu sydd o dan bwysau gormodol, a byddwn yn defnyddio deddfwriaeth i ymgorffori cydweithio rhwng byrddau iechyd a rhoi diwedd ar y loteri cod post mewn gofal. Ond dim ond y camau cyntaf yw'r rhain. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn edrych y tu hwnt i gatiau'r ysbyty at achosion gwirioneddol afiechyd. Gwyddom nad yw prif achosion salwch yng Nghymru yn fiolegol yn unig, maent yn gymdeithasol. Fe'u ceir mewn tai gwael, yn y lleithder ar waliau ystafell wely plentyn ac yn straen ddi-ildio tlodi. Byddwn yn prif ffrydio dealltwriaeth o'r penderfynyddion hyn ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth. Byddwn hefyd yn rhoi'r gorau i gladdu ein pennau yn y tywod mewn perthynas â'r newidiadau demograffig sydd i ddod. Oedran yw ein penderfynydd iechyd mwyaf, ond nid oes gennym y seilwaith pwrpasol i fynd i'r afael â hynny. Byddwn yn adeiladu'r sylfeini ar gyfer arbenigeddau o'r radd flaenaf mewn gofal i'r henoed ac iechyd gwledig, gan sicrhau nad yw mynd yn hŷn a byw mewn cymuned wledig yn golygu colli mynediad at gymorth arbenigol.

Rydym yn cynnig newid sylweddol mewn iechyd ataliol. Ers gormod o amser, rydym wedi rhedeg gwasanaeth salwch nad yw ond yn ymateb pan fo pethau'n mynd o chwith. Byddwn yn grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain—gan fynd i'r afael â'r cynnydd mewn gordewdra a diabetes cyn iddynt gyrraedd drws y clinig. Bydd hyn yn cael ei bweru gan naid enfawr ymlaen mewn technoleg ddigidol. Mae cleifion yn disgwyl i'w cofnodion eu dilyn. Maent yn disgwyl systemau sy'n siarad â'i gilydd. Byddwn yn darparu GIG digidol di-dor lle mae llif gwybodaeth ac arloesi'n cael eu croesawu, nid eu hofni.

Ym mis Mai 2026, mae gan bobl Cymru ddewis clir—mwy o'r un dirywiad wedi'i reoli o dan Lafur neu wasanaeth iechyd beiddgar, ataliol a modern o dan Blaid Cymru. Cefnogwch y cynnig.

17:55

Rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi cyflwyno rhan o'u polisi economaidd. Rwy'n aros am yr ail hanner, lle maent yn dangos ble fydd yr arian ychwanegol yn cael ei godi a'r meysydd a fydd yn cael eu torri i dalu am y gwariant ychwanegol.

Yn aml, mae Plaid Cymru yn anwybyddu'r ffaith bod Cymru’n fuddiolwr net o'r undeb o safbwynt ariannol. Gwyddom hynny gan fod David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif bod Cymru’n cael rhwng £12 biliwn a £15 biliwn o elw net o'r undeb. Os yw Cymru'n cadw ei refeniw, yn ariannu ei gwariant cyhoeddus ei hun ac yna'n gwneud cyfraniad yn seiliedig ar y boblogaeth at y sefyllfa ledled y DU, o leiaf, fel y saif pethau, bydd hynny'n arwain at ddiffyg cyllidol mawr i Gymru. Hefyd yn ôl David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'r amcangyfrif diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gwariant cyhoeddus yng Nghymru oddeutu 10 y cant yn uwch na'r hyn ydyw ar draws y DU gyfan—a hyn er ein bod yn codi llawer llai o arian y pen. Cynhyrchwyd amcangyfrifon sy'n dangos bod Cymru'n codi oddeutu 75 y cant y pen o refeniw treth cyfartalog y Deyrnas Unedig. Rwyf o blaid datganoli Ystad y Goron, ond ni fyddai'n cynhyrchu unrhyw arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

Cytunodd Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU sy'n nodi trefniadau ariannu Llywodraeth Cymru i gefnogi ei phwerau cyllidol datganoledig. Mae hyn yn cynnwys model addasu grant bloc ar gyfer pennu sut y mae grant bloc Cymru’n cael ei addasu i ystyried datganoli trethi Cymru. Mae hyn, er gwaethaf honiadau mynych Plaid Cymru i'r gwrthwyneb, yn golygu bod y budd ariannol nesaf o ddatganoli unrhyw dreth i Gymru’n cael ei dynnu o'r grant bloc, sy'n golygu nad yw Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol. Pan gafodd treth incwm ei datganoli'n rhannol neu pan gafodd y dreth stamp ei datganoli'n llawn, addaswyd y grant bloc yn unol â hynny.

Ni chredaf fod yna unrhyw Aelod o'r Senedd nad yw eisiau GIG cynaliadwy, sy'n sicrhau nad yw cleifion yn cael eu gadael i aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth. Y cwestiwn yw, sut rydym yn gwella iechyd pobl yng Nghymru? Mae gennym broblem ddifrifol o ran gorbwysau a gordewdra, ac mae pobl sydd dros bwysau ac yn ordew o gymharu â'r rhai sydd â phwysau iach mewn perygl llawer mwy o afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol: pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, strôc, diabetes math 2, sawl math o ganser ac osteoarthritis. Mae angen cynllun colli pwysau arnom a pharodrwydd i ddarparu tabledi colli pwysau. Mae tystiolaeth wyddonol gref hefyd y gall bod yn gorfforol egnïol eich helpu i fyw bywyd iachach a hapusach. Gall ymarfer corff leihau eich risg o afiechydon mawr fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2 a chanser, a lleihau'r risg o farwolaeth gynnar 30 y cant. Yr her yw gwella iechyd pobl yng Nghymru. Mae angen inni gefnogi presgripsiynu cymdeithasol sy'n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfeirio cleifion at weithgareddau cymunedol.

O ran datganoli, nid yw datganoli anghymesur wedi gweithio. Yn y DU, rydym wedi gweld setliadau datganoli gwahanol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwahanol gyfrifoldebau wedi'u datganoli i Lundain a rhai o'r dinasoedd a'r rhanbarthau mwyaf. Er nad oes angen datganoli popeth i Gymru, yr Alban ac Iwerddon a meiri Lloegr ar yr un pryd, yr hyn y dylem ei gael yw rhestr o eitemau sydd ar gael i'w datganoli, gyda phob Senedd a phob ardal faerol angen o leiaf dwy ran o dair o'r Aelodau'n pleidleisio o blaid cyn i'r maes gael ei ddatganoli. Dyna a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon pan ddatganolwyd plismona. Mae gennym yr hyn sydd i fod yn fodel cadw pwerau yng Nghymru yn dilyn y setliad diweddaraf, ond mae llu o faterion a gedwir yn ôl mewn meysydd sydd i fod wedi'u datganoli yn tanseilio diffiniadau o'r fath.

Yn yr Unol Daleithiau, mae gan Rhode Island a Montana yr un cyfrifoldebau â California ac Efrog Newydd. Mae angen inni gael pwynt terfynol lle mae pwerau'n cael eu datganoli i Gymru, ond hefyd cynllun datganoli yng Nghymru lle mae pwerau'n cael eu trosglwyddo i gynghorau a rhanbarthau Cymru. Y cwestiwn yw—i Blaid Cymru—beth nad ydych chi eisiau ei ddatganoli? Credaf mai'r ateb yw 'dim byd'. Maent eisiau i bopeth fod wedi'i ddatganoli. Fe'i gelwir yn ymwahaniaeth.

Mae angen cynllun datblygu cenedlaethol arnom—[Torri ar draws.] Mae angen cynllun datblygu cenedlaethol arnom sy'n gweithio, gyda phrifysgolion a Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn cydweithio. Rwy'n codi pwysigrwydd gwyddorau bywyd a TGCh, yn enwedig deallusrwydd artiffisial, fel meysydd twf posib yng Nghymru, yn rheolaidd yn y Siambr, wrth ysgrifennu mewn papurau lleol, wrth ysgrifennu yn Nation.Cymru. Mae angen ymchwil prifysgol arnom sy'n arwain twf cwmnïau lleol. Mae CyDen a Veeqo yn Abertawe yn ddwy enghraifft. Rydym wedi rhoi cynnig ar fewnfuddsoddiad mawr. A ydych chi'n cofio LG a Bosch? Yn Abertawe, mae gennym hen safle Ford, hen safle 3M, hen safle Valeo, hen safle Siliconix. Gallwn gwblhau'r rhestr, ond bydd hynny'n cymryd mwy o amser i mi nag sydd gennyf. Mae hyn yn cael ei ailadrodd ledled Cymru. Admiral yw'r enghraifft orau o gwmni sy'n dechrau ac yn tyfu yng Nghymru.

A gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen at gael dadl ar annibyniaeth i Gymru ac at drafod y gyllideb amgen gyda Phlaid Cymru? Dywedwch wrthym faint y byddech yn ei wario. Dywedwch wrthym sut y byddech yn rhedeg Cymru annibynnol. Rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau gwneud hynny, gan y byddai'n dychryn rhai pobl sy'n ystyried pleidleisio drosoch ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Dywedwch wrthym. Dywedwch wrthym sut y byddech yn gwneud hynny. Fel y dywedodd rhywun, 'Cawn refferendwm'. Pe byddech chi'n cyflwyno cynnig i gael refferendwm nawr ar annibyniaeth, buaswn yn ei gefnogi, a byddai'r rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon yn ei gefnogi. A ydych chi'n fodlon gwneud hynny, neu a oes gormod o ofn arnoch?

18:00

Ar 7 Mai eleni, bydd pobl Cymru'n mynd i'r blwch pleidleisio yn yr etholiad mwyaf arwyddocaol i'r Senedd ers dechrau datganoli. Nid dewis rhwng pleidiau'n unig fydd hynny, ond dewis ynghylch cyfeiriad ein gwlad, ein heconomi a'n lle yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae'r cynnig hwn yn honni bod yr etholiad yn cynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru. Ar hynny, o leiaf, rwy'n cytuno. Ar ôl 26 mlynedd, mae angen newid mawr ar Gymru. Ond gadewch inni fod yn hollol glir: nid adnewyddiad yw cael ideoleg Plaid Cymru i gymryd lle methiant Llafur, ond cam yn ôl, gan mai Llafur ydynt hwythau, ond gwaeth na hynny hefyd.

Mae arolygon barn diweddar yn dangos posibilrwydd gwirioneddol o glymblaid adain chwith galed rhwng Plaid Cymru a'r Gwyrddion. Dylai hynny beri pryder i bob teulu sy'n gweithio, pob pensiynwr, pob perchennog busnes a phob ffermwr ym mhob rhan o Gymru, oherwydd ni fyddai clymblaid o'r fath yn canolbwyntio ar drwsio'r hyn sydd wedi torri, byddai'n gwthio Cymru ar hyd llwybr cyfansoddiadol ac economaidd peryglus tuag at annibyniaeth. Oherwydd prosiect canolog Plaid Cymru yw annibyniaeth—nid ysbytai gwell, nid cyflogau uwch, nid cymunedau mwy diogel, ond annibyniaeth. A byddent yn ariannu'r obsesiwn ideolegol hwnnw trwy drethu mwy ar y Cymry, trwy fenthyca mwy a chlymu Cymru'n dynnach fyth wrth fiwrocratiaeth Bae Caerdydd gan ein rhwygo oddi wrth y Deyrnas Unedig, ein partner masnachu mwyaf a'n rhwyd ddiogelwch economaidd gryfaf. [Torri ar draws.] Fe wnaf, Gareth, iawn.

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Rhywbeth a godais o'r blaen, oherwydd, yn fy etholaeth i, rwy'n cynrychioli gorllewin y Rhyl, ac mae rhai gwleidyddion Plaid Cymru yn hapus iawn i orymdeithio drwy'r ward dlotaf yng Nghymru gyfan gyda Yes Cymru i wneud y pwynt hwnnw—a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r cymunedau hynny sy'n byw mewn tlodi a fyddai'n teimlo canlyniadau economaidd negyddol annibyniaeth yn fwy na neb arall?

18:05

Buaswn, Gareth, oherwydd rydym i gyd yn gwybod y ffeithiau economaidd. Byddai annibyniaeth yn gwneud Cymru'n dlotach, a dyna beth y byddent yn ei wneud i'n gwlad. Felly, gadewch inni edrych ar gyflawniad y Llywodraeth hon. Mae un o bob pedwar o bobl Cymru ar restr aros y GIG. Mae dros 8,700 o lwybrau'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Nid llywodraethu tosturiol yw hynny, ond methiant sefydliadol. Cymru sydd â'r incwm gwario y pen isaf ond un yn y DU. Mae ein pobl ifanc yn gadael, mae ein busnesau'n ei chael hi'n anodd, mae ein cynhyrchiant yn llusgo ar ôl, ac eto ateb Plaid Cymru yw, 'Ie, gadewch inni wthio agenda annibyniaeth a fyddai'n ein gwneud ni'n dlotach.'

Ar addysg, sgoriau llythrennedd a rhifedd Cymru yw'r isaf erioed ers dechrau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Bum gwaith yn olynol rydym ar waelod tablau cynghrair y DU, ac eto yn hytrach na chanolbwyntio ar safonau, disgyblaeth a chanlyniadau cadarn i ddisgyblion, beth ydym yn ei gynnig heddiw? Strategaethau amwys a chynlluniau canolog na fydd byth bythoedd yn cyrraedd yr ystafelloedd dosbarth.

Ac mae'r un peth yn berthnasol i ofal plant. Teuluoedd Cymru sy'n wynebu rhai o'r costau uchaf am ddarpariaeth gofal plant ym Mhrydain. Mae rhieni eisiau mynd yn ôl i'r gwaith. Maent eisiau hyblygrwydd, maent eisiau cefnogaeth ymarferol, nid cynlluniau mawreddog sy'n swnio'n dda ond nad ydynt yn darparu unrhyw beth i'r bobl hynny.

A'r pwynt cyfansoddiadol wedyn. Mae Plaid Cymru yn galw am Fil Cymru newydd i ddatgloi potensial Cymru. Ond gadewch imi ddweud hyn yn glir: nid yw Cymru'n brin o bwerau; mae'n brin o gymhwysedd. Mae gan yr Alban fwy o bwerau ac mae'n dal i gynnal diffygion—fferïau sy'n methu, gwasanaethau cyhoeddus sy'n chwalu. Ni fydd rhagor o ddatganoli heb ddiwygio'n datrys problemau Cymru.

A Ddirprwy Lywydd, y gwir amdani yw hyn. Mae Cymru'n dlotach nid oherwydd ein bod ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig ond oherwydd ein bod wedi cael ein llywodraethu'n wael ers 26 mlynedd. Mae Llafur wedi gwneud cam â Chymru, ac mae Plaid Cymru wedi ei gwneud hi'n bosib i'r methiant hwnnw barhau. A nawr maent eisiau rhagor o'r un peth, wedi'i lapio yn iaith tynged y genedl, gobaith. Nid ydynt yn gwerthu gobaith. Maent yn gwerthu addewidion ffug i bobl Cymru.

Dyna pam y mae'n rhaid i'r rhai ohonom sy'n credu yn y Deyrnas Unedig gydnabod beth sydd yn y fantol. Efallai na fyddwn yn cytuno ar bopeth, ond dylem gytuno ar hyn: fod dyfodol Cymru'n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus o fewn y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu bod y dyfodol hwnnw'n werth ei amddiffyn, a chyda'n gilydd fe allwn ei amddiffyn.

Rhaid i'r etholiad hwn ymwneud â'r pethau sy'n bwysig i'r bobl ledled Cymru—trwsio ein GIG, codi cyflogau, adfer safonau mewn addysg, cefnogi teuluoedd, adeiladu economi sy'n gwobrwyo gwaith ac nid eistedd gartref. Os ydym yn ei adael i ffawd, beth fyddai gennym? Llywodraeth Plaid Cymru adain chwith galed, a fyddai'n arwain at drethi uwch, gwasanaethau gwannach, a mwy o amser wedi'i dreulio'n dadlau am annibyniaeth, nid gwella bywydau pobl Cymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.

Diolch am dderbyn ymyriad. Rwy'n gwerthfawrogi. Gallwn gytuno i anghytuno ar y pethau cyfansoddiadol, ond onid ydych chi'n derbyn ychydig o gyfrifoldeb am gyflwr Cymru heddiw, o ystyried bod eich plaid wedi llywodraethu ar lefel y DU am 14 mlynedd?

Nid wyf am dderbyn unrhyw wersi ar gyfrifoldeb gan Blaid Cymru, sydd wedi cynorthwyo i gadw Llafur Cymru mewn grym ers 26 mlynedd. Rydych chi wedi bod mewn Llywodraeth. Rydych chi wedi bod mewn cytundebau cydweithio. Rydych chi wedi eistedd ar eich dwylo ac wedi pasio cyllidebau sydd wedi dinistrio Cymru. Dylech ymddiheuro i bobl Cymru a pheidio â gwerthu gobaith ffug iddynt, oherwydd mae Cymru'n haeddu gwell. Mae'n haeddu arweinyddiaeth gyfrifol ag iddi ffocws—

—ac sy'n cadw Llywodraeth ddifrifol wrth ei gwraidd. Ac mae angen arweinyddiaeth sy'n rhoi pobl sy'n gweithio yn gyntaf ac yn cadw Cymru'n gryf o fewn y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu yng Nghymru. Ac rydym yn well gyda'n gilydd.

Wrth gwrs, mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r hyn y gallai Llywodraeth nesaf Cymru ei gyflawni a'i wneud ar gyfer pobl Cymru. Ac rwy'n chwerthin wrthyf fy hun bob amser pan glywaf bobl yn dweud bod gan Blaid Cymru obsesiwn ag annibyniaeth, oherwydd yr unig bobl sydd wedi bod ag obsesiwn ag annibyniaeth yn y ddadl hon, yn hollol onest, yw'r Ceidwadwyr a Llafur. Maent yn sôn am annibyniaeth a chefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth fel pe bai'n gyfrinach enfawr. Nid ydym erioed wedi cadw hynny'n gyfrinach. Mae pobl Cymru yn gwybod hynny eisoes.

A Mike, rydych chi'n sôn am y niwed, y niwed economaidd, y byddai annibyniaeth yn ei wneud i Gymru, ond rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain am y sefyllfa economaidd bresennol yr ydym ynddi yng Nghymru. Yma yng Nghymru mae gennym un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi. Mae gennym y gyfran uchaf o bobl ifanc nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant o gymharu ag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y DU. Mae cynhyrchiant, cyfoeth ac incwm yn parhau i fod yn isel, tra bod anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uchel. Nawr, nid yw hynny i'w weld yn ddarlun apelgar i mi. Nid yw'n edrych fel economi sy'n ffynnu, sy'n deg i bobl Cymru, felly maddeuwch i mi os edrychaf ar ddewisiadau amgen eraill a allai roi cyfle inni wella bywydau pobl yng Nghymru. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am hynny, ac fe ildiaf i Mike Hedges.

18:10

Pam y credwch y bydd Cymru'n gwneud yn well gyda £12 biliwn i £15 biliwn yn llai? 

Mae bob amser yn ddiddorol iawn gwrando ar eich cyfraniadau, Mike, a'r amddiffyniad brwd i system ar hyn o bryd sydd wedi cadw pobl yng Nghymru mewn tlodi am y rhan orau nid o'r 26 mlynedd yr ydym wedi cael datganoli yng Nghymru, ond y rhan orau o ganrif, yn hollol onest. Am y rhan orau o ganrif rydym wedi gweld cyfoeth ac elw'n cael eu hidlo allan o Gymru i lefydd yn Llundain, nid er budd pobl Cymru, ond er budd y bobl sy'n eistedd yn Llundain. Felly, chwarae teg i chi, Mike. Chwarae teg i chi. Mae'n gyfraniad sy'n orlawn o anghysonderau, os caf ddweud.

Ond edrychwch, rwy'n credu y gall pob un ohonom yma gytuno ar un peth: mae angen inni weld cyfeiriad y Llywodraeth ar yr economi yn cael ei ailosod. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi mynd rywfaint o'r ffordd i wneud hynny gyda chyhoeddi ein strategaeth economaidd. Nawr, yn y strategaeth honno, fe wnaethom nodi ein bwriad, ymhlith pethau eraill, i sefydlu awdurdod datblygu newydd i Gymru, fel y mae'r cynnig hwn yn nodi—nawr, nid copi carbon o'r blaenorol ydyw, oherwydd roedd llawer o'i le gyda'r iteriad blaenorol o Awdurdod Datblygu Cymru, ond un sy'n addas ar gyfer y presennol, un sydd wedi dysgu gwersi yr Awdurdod Datblygu Cymru blaenorol ac sy'n ymdrechu i ddatblygu busnesau Cymru yn rhan greiddiol o'i gylch gorchwyl. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch yn fawr. A ydych chi'n cofio bod adfer rhannau o Awdurdod Datblygu Cymru mewn gwirionedd yn bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig a oedd ym maniffesto 2021? A allwch chi roi unrhyw sicrwydd nad ydych chi wedi copïo a gludo hwnnw o un o'n syniadau blaenorol ni? 

Ie, diolch am eich cefnogaeth ar y polisi ar Awdurdod Datblygu Cymru. Rwy'n disgwyl eich gweld yn pleidleisio o blaid ein cynnig.

Wrth gwrs, fe'i clywsom ddoe, mewn gwirionedd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—mae sefydlu Awdurdod Datblygu Cymru yn ateb nodweddiadol gan Blaid Cymru i bob problem sydd gennym: sefydlwch gwango newydd, sefydlwch awdurdod datblygu newydd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n eithaf pwysig atgoffa'r Siambr nad rhywbeth y mae Plaid Cymru'n unig yn galw amdano yw hyn, fel y clywsom eisoes, mae hefyd yn rhywbeth y mae llawer o wahanol bobl wedi cytuno yn ei gylch. Mae'r achos dros olynydd i Awdurdod Datblygu Cymru wedi'i amlinellu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ymhlith eraill. Mae'n syniad sy'n cael ei gefnogi gan fusnesau. Cafwyd consensws eang fod datblygiad economaidd yng Nghymru wedi dioddef ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru, a bod yr ecosystem cymorth busnes yn brin o gydlyniant ac undod o ran pwrpas ers hynny. Mae Cwmpas a'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi tynnu sylw, er enghraifft, at yr angen am gymorth arbenigol pwrpasol i fusnesau bach a chanolig a busnesau cymdeithasol. Mae adroddiad mapio busnesau cymdeithasol Cwmpas yn dangos mai busnesau newydd yw'r rhai mwyaf tebygol o weld gwerth yn y math hwn o gymorth. Felly dyna pam y byddwn yn sefydlu awdurdod datblygu newydd i Gymru, nid oherwydd ei fod yn ateb nodweddiadol gan Blaid Cymru, ond oherwydd ei fod yn cael ei godi dro ar ôl tro, yr angen am siop un stop, am concierge ar gyfer busnes.

Ac wrth gwrs, mae'r Llywodraeth eisoes hanner ffordd yno i gytuno â ni, gyda llaw. Roedd gan Ysgrifennydd y Cabinet hyn i'w ddweud wrth gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad busnes i'r Siambr:

'mae'r adolygiad hefyd yn nodi meysydd lle gallwn ni wella. Mae'r ecosystem cymorth busnes yng Nghymru yn gymhleth, ac mae'n cynnwys llu o bartneriaid ar lefel genedlaethol, ranbarthol, leol a sector preifat. Mae polisïau a ffrydiau cyllido Llywodraeth y DU, sydd wedi'u cynllunio'n aml gyda Lloegr mewn golwg, yn ychwanegu cymhlethdod arall ac nid ydynt bob amser yn ymdrin ag anghenion penodol Cymru. Y canlyniad yw tirwedd dameidiog, gyda busnesau yn gorfod llywio amrywiaeth ddryslyd o fentrau gwahanol.'

Geiriau Ysgrifennydd y Cabinet oedd y rheini wrth gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad busnes. Rwy'n cytuno'n llwyr. Rydym wedi cyflwyno opsiwn i fynd i'r afael â hynny, felly pryd fydd y Llywodraeth yn gwneud hynny?

Fe wneuthum groesawu'r ddadl heddiw er mwyn atgoffa pobl Cymru fod etholiad cyffredinol pwysig iawn yng Nghymru yn dod ym mis Mai, ac rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn eu hatgoffa o'r cysylltiad rhwng y ffordd y maent yn pleidleisio a phwy sydd ganddynt i'w cynrychioli. Mae'r gwelliant sydd wedi'i gyflwyno yn y ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys rhai yn unig o gyflawniadau Llafur Cymru, ond wrth gwrs mae yna lawer mwy, a hoffwn ganolbwyntio ar un neu ddau o feysydd yn fy nghyfraniad.

Mae iechyd a lles anifeiliaid bob amser wedi bod yn rhan ganolog o bolisïau, deddfwriaeth a chyflawniadau Llafur Cymru. Mae'n amlwg iawn i mi fod Cymru'n wlad sy'n hoff o anifeiliaid, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yma sydd â bag post sylweddol ar iechyd a lles anifeiliaid, ac mae etholwyr yn aml yn dweud wrthyf ei bod yn well ganddynt eu hanifeiliaid na bodau dynol. Nid oes unrhyw blaid a gynrychiolir yn y Siambr hon, neu sy'n awyddus i gael ei chynrychioli yn y Siambr hon, yn malio mwy am iechyd a lles anifeiliaid na Llafur Cymru. Ac os edrychwch ar y cyflawniadau dros dymor diwethaf y Llywodraeth, mae yna lawer: cyfundrefnau trwyddedu newydd i ddiogelu ein hanifeiliaid; Cynllun Trwyddedu Anifeiliaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru; prosiect gorfodi dan arweiniad awdurdodau lleol; model cenedlaethol newydd wedi'i gyflwyno ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid; gwaith pwysig a mawr ei angen ar fridio a chadw cŵn yn gyfrifol, gan sicrhau bod cydweithrediad rhwng ein hawdurdodau lleol, yr heddlu a'r trydydd sector, ac ymgyrchwyr hefyd, sy'n bwysig; fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, sydd wedi nodi gwelliannau parhaus a pharhaol i'n hanifeiliaid a gedwir. Arweiniodd Cymru y ffordd ar draws y DU trwy fod y wlad gyntaf i wahardd maglau a thrapiau glud. Yr orfodaeth i gyflwyno teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru—rheoliadau a groesawyd yn eang. A chyn diwedd y sesiwn seneddol hon, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn pleidleisio i wahardd rasio milgwn, hen weithgaredd creulon nad oes iddo le yn y Gymru fodern.

18:15

Ar y pwynt hwnnw—ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi—mae hanes yma gan Adam Price, pan bleidleisiodd yn y Senedd yn 2002 yn erbyn gwahardd hela gyda chŵn. I ni gael pethau'n gywir. Rwy'n credu ei bod hi'n deg ein bod ni'n gwneud hynny. 

Diolch, Joyce. Wel, fel y dywedaf, rwy'n gobeithio ar draws y Siambr—rwy'n sicr yn credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i bleidlais ar wahardd rasio milgwn.

Ond wrth gwrs, nid ar anifeiliaid yn unig y mae gwella iechyd anifeiliaid yn effeithio, mae'n cael effaith enfawr ar iechyd y cyhoedd, ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i arwain y ffordd gyda dull 'un iechyd', gan sicrhau ein bod yn integreiddio iechyd pobl, anifeiliaid, planhigion ac ecosystemau. Mae cymaint o heriau byd-eang yn bygwth ein hiechyd, ac mae rhyng-gysylltiad y pedwar piler hynny'n allweddol. Yn anffodus, fe wnaethom brofi hynny'n glir iawn yn ystod pandemig COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad hefyd gyda'r polisi i leihau camddefnydd o wrthfiotigau yn ein hanifeiliaid.

Ar bwnc gwahanol, un cyflawniad rwy'n awyddus i dynnu sylw ato, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei gydnabod am ei fod wedi rhychwantu'r 27 mlynedd gyfan ers datganoli, yw ein cyfraddau ailgylchu. Yn ôl ym 1999, pan ddechreuodd datganoli, roeddem yn nesaf at y gwaelod yng nghyfraddau ailgylchu'r byd. Nawr, dros dymor diwethaf y Llywodraeth hon, rydym yn ail yn y byd. Ni fyddai hyn wedi digwydd, wrth gwrs, heb i bobl Cymru gydnabod y gallant chwarae eu rhan yn lliniaru newid hinsawdd trwy ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau. Ni fyddai wedi digwydd heb i awdurdodau lleol ledled Cymru gyflwyno'r glasbrint a staffio'r nifer o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref ardderchog sydd gennym. Ond yn bendant ni fyddai wedi digwydd heb yr arweinyddiaeth ac yn bwysig iawn, heb y miliynau ar filiynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru, y gwnaethant sicrhau ei fod yno flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dros holl flynyddoedd cyni hyd yn oed.

Felly, fel y dywedodd rhywun o Blaid Cymru yn un o'u cyfraniadau, mae'r etholiad nesaf yn ymwneud â'r hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weld maniffesto Llafur Cymru yn cael ei gyflwyno i bobl Cymru a'r polisïau a gaiff eu cynnig. Diolch.

Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac i ymateb yn uniongyrchol i gynnig Plaid Cymru a'r gwelliannau sydd ger ein bron. Oherwydd er bod y ddadl hon wedi'i fframio fel un sy'n ymwneud ag etholiad nesaf y Senedd, mae'n ymwneud go iawn â Phlaid Cymru'n bwydo eu hego eu hunain ac yn ceisio twyllo'r cyhoedd yng Nghymru.

Ar ôl 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae pobl Cymru'n ddig, maent yn dlotach ac maent yn aros yn hirach. Ac eto mae'r rhai mewn grym yn dweud wrthynt fod popeth yn gwella. Mae cynnig Plaid Cymru'n sôn am newid, ond ni all Plaid Cymru gyflwyno'u hunain fel y dewis arall a hithau wedi bod yn alluogwr. Ni allwch bleidleisio Llafur i rym dro ar ôl tro, cefnogi eu cyllidebau, cefnogi eu blaenoriaethau, cefnogi eu deddfwriaeth, ac esgus wedyn nad oes gennych unrhyw gyfrifoldeb am y canlyniadau. Mae angen i chi berchnogi'r ffaith mai chi oedd y galluogwr, ac mae'r canlyniadau'n amlwg i'w gweld. Mae rhestrau aros yn parhau i fod allan o reolaeth, mae diweithdra drwy'r to, mae ein canlyniadau addysgol yn is nag yn unman arall yn y DU, mae busnesau'n ei chael hi'n anodd, mae'r Gymru wledig yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, ac nid damwain yw hynny, ond cynnyrch 26 mlynedd o benderfyniadau gwleidyddol a gefnogwyd yn gyson gan Blaid Cymru.

Mae Plaid Cymru eisiau i bleidleiswyr gredu mai annibyniaeth yw'r ateb i broblemau Cymru, ond ni fyddai annibyniaeth yn rhyddhau Cymru rhag methiant; byddai'n ei wreiddio. Mae rhai ffynonellau'n amcangyfrif y byddai Cymru annibynnol yn etifeddu tua £130 biliwn o ddyled, sef tua £42,000 i bob dyn, menyw a phlentyn yng Nghymru. Nid yw'n syndod eich bod chi'n ceisio ei guddio rhag yr etholwyr. Dyna yw eich raison d'être, ac mae angen atgoffa pobl o hynny, a chredwch fi, rhwng nawr a mis Mai, fe fyddwn ni'n eu hatgoffa o hynny. Ar yr un pryd—[Torri ar draws.] Ni wnaf os yw hynny'n iawn. Ar yr un pryd, pe bai Plaid Cymru'n arwain Cymru i annibyniaeth, byddent yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar gost amcangyfrifedig o £10 biliwn, yn gwbl groes i'r penderfyniad democrataidd a wnaed gan bobl Cymru, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r bobl a bleidleisiodd drosoch chi, yn cynnwys yr Aelod dros Flaenau Gwent, sy'n aml yn groch iawn ar y pwynt hwn. Nid cynllun ar gyfer adnewyddu yw hwnnw, ond cynllun ar gyfer byrbwylltra economaidd.

Mae arweinydd Plaid wedi dweud yn agored nad yw'n credu bod yna broblem fewnfudo. Byddai llawer o gymunedau ledled Cymru'n anghytuno'n gryf, Rhun. Mae Plaid Cymru'n cefnogi ffiniau agored yn ymarferol, gan wrthod cydnabod y pwysau y mae hyn yn ei roi ar dai—

18:20

Na, mae'n ddrwg gennyf.

—gwasanaethau a chydlyniant cymunedol yng Nghymru. Maent eisiau torri Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig, gan wadu'r heriau real iawn y mae pobl yn eu codi ar garreg y drws heddiw. Nid yw pobl eisiau bogailsyllu cyfansoddiadol. 

Mae eich raison d'être wedi'i leoli mewn cwmwl o ffantasi ac mae methiant y bartneriaeth Lafur a Phlaid Cymru ar ei gliriaf yn ein GIG. Ar ôl 26 mlynedd, mae cleifion yn aros yn rhy hir, mae staff wedi ymlâdd ac mae arian yn cael ei lyncu gan haenau o fiwrocratiaeth. Byddai Reform yn diwygio'r GIG, ond byddai hefyd yn ei gadw'n rhad ac am ddim yn y man darparu. Nawr, rydym yn siarad am ledaenu celwyddau yr wythnos hon—[Torri ar draws.] Rydym yn sôn am ledaenu celwyddau yr wythnos hon, Joyce Watson, ond mae pob plaid yn y Siambr hon wedi lledaenu'r celwydd y byddai Reform yn preifateiddio'r GIG yng Nghymru—[Torri ar draws.] Nid yw'n wir. Byddai Reform yn torri rheolaeth ddiangen, yn rhoi adnoddau yn ôl ar y rheng flaen—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, a ydych chi'n mynd i ofyn i bawb fod yn dawel?

Diolch yn fawr. Rwy'n gwerthfawrogi.

Byddai Reform yn lleihau'r rheolaeth ddiangen honno, yn rhoi adnoddau yn ôl ar y rheng flaen ac yn canolbwyntio ar gadw a pharchu ein staff GIG. [Torri ar draws.] Byddwn yn cadw presgripsiynau am ddim. Byddwn yn rhoi cleifion o flaen ideoleg. Tra bod Plaid Cymru'n siarad am gynlluniau, mae pobl yn siarad am y biliau na allant eu fforddio na'u talu. Tra bod Plaid Cymru'n siarad am werthoedd, mae pobl yn siarad am eu bywydau'n mynd yn anos. Ac er bod y Ceidwadwyr yn dweud llawer o'r pethau cywir nawr, mae'r ymddiriedaeth yno wedi'i thorri—

Na wnaf, mae arnaf ofn.

Mae pobl yn cofio cael eu siomi ar draws y DU gyfan, a dyna pam y mae'r etholiad hwn yn bwysig. Nid yw Cymru angen mwy o ddirywiad wedi'i reoli wedi'i wisgo fel cynnydd; mae angen newid go iawn. Byddai Reform yn dileu'r terfyn cyflymder o 20 mya lle nad oes ei angen ac yn cael Cymru i symud eto, oherwydd ni allwch dyfu economi sy'n sownd yn mewn traffig drwy'r amser. Byddwn yn darparu seilwaith hanfodol, gan gynnwys ffordd liniaru'r M4, ar ôl i Lafur a Phlaid Cymru wastraffu cannoedd o filiynau ar adroddiadau a diffyg penderfyniad. Byddwn yn dileu'r polisïau sero net afrealistig a osodwyd gan Lafur a Phlaid Cymru sy'n cynyddu biliau ynni gan gosbi teuluoedd cyffredin. Byddwn yn buddsoddi mewn ynni fforddiadwy, dibynadwy, fel nad yw pobl yn dewis rhwng gwresogi a bwyta a chyda hynny, byddwn yn cynhyrchu swyddi. Byddwn yn sefyll dros ffermwyr, gan roi lle canolog i gynhyrchiant bwyd yn ein polisïau, yn mynd benben â TB, ac yn cefnogi ein cymunedau gwledig—[Torri a draws.] Fe welwch yn fuan. Byddwn yn gweithredu'n llym ar dai amlfeddiannaeth heb eu trwyddedu a allai fod yn gartref i fudwyr anghyfreithlon—

—a gorfodi'r gyfraith yn briodol a diogelu cymunedau sy'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u llethu.

Mae Aelodau ar draws y Siambr—er budd y bobl gartref—yn gofyn i mi pryd y bydd ein polisïau'n cael eu cynhyrchu. Nawr, gadewch imi wneud hyn yn hollol glir: bydd y manylion sy'n sail i'r hyn rwyf newydd ei gyhoeddi nawr yn dod yn fuan iawn, ond rydym yn paratoi i fod yn y Llywodraeth. Yn wahanol i bobl o gwmpas y Siambr sy'n gallu dweud unrhyw beth, rydym ni'n paratoi i fod yn y Llywodraeth nawr.

Mae'r arian sy'n cael ei wario yma ar y Gymru—. Nid oes a wnelo'r etholiad hwn â sloganau na brolio rhinweddau, mae a wnelo â chyfrifoldeb. Mae Llafur wedi torri Cymru, cafodd ei galluogi gan Blaid Cymru, gwnaeth y Ceidwadwyr gam â'r DU, mae Reform yma i roi diwedd ar y nonsens. Ni fyddwn—

Laura, rwyf wedi gofyn dair gwaith i chi ddod i ben a bydd yn rhaid imi ddiffodd y meicroffon os nad ydych chi'n gwneud hynny.

Rydym wedi clywed llawer o bobl yn dweud nad ydym yn delio â'r pethau—. Rwy'n credu bod James Evans wedi dweud y dylai'r etholiad hwn ymwneud â phethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Wel, dyna'n llythrennol beth sydd yn ein cynnig. Yn llythrennol beth sydd yn y cynnig. Felly, efallai y gallwn gael dadl ar y cynnig. Ac rwyf am siarad am un o'r pethau yn y cynnig, sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb.

Mae sylfeini anghydraddoldeb yn cael eu gosod yn gynnar. Pan fyddwn yn gwneud cam â phlant yn y blynyddoedd cynnar, rydym yn talu'r pris yn ddiweddarach, yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn foesol. Ac rydym yn siarad am werthoedd, Laura Anne Jones; maent yn hen niwsans, onid ydynt, gwerthoedd? Ond gwerthoedd yw'r hyn y dylai gwleidyddiaeth gael ei adeiladu arnynt. Dyna pam mai un o'r polisïau cyntaf y cyhoeddodd Plaid Cymru y byddem yn eu deddfu pe baem yn Llywodraeth oedd treialu taliad uniongyrchol i gefnogi ein plant tlotaf, gan ddilyn arweiniad Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, a gyhoeddodd ddoe yn eu cyllideb y byddent yn adeiladu ar lwyddiant y ffordd honno o fynd i'r afael â thlodi plant drwy gynyddu taliadau ar gyfer y plant ieuengaf i £40. Maent yn dangos uchelgais. Rydym ninnau eisiau dangos yr un uchelgais.

Dyna pam y byddem yn buddsoddi mewn cynnig gofal plant newydd i Gymru, am mai galluogi mynediad at ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gan unrhyw Lywodraeth i fynd i'r afael â thlodi—[Torri ar draws.] Na, rwy'n mynd i wneud rhywfaint o gynnydd—lleihau anghydraddoldeb a thrawsnewid cyfleoedd bywyd ar draws y cenedlaethau. Ydy, mae'n ddrud, ond mae buddsoddi mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar yn cael ei nodi'n gyson fel un o'r buddsoddiadau a all greu'r enillion mwyaf y gall Llywodraeth eu gwneud. Mae'r dystiolaeth fyd-eang yn enfawr. Mae pob punt a fuddsoddir mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn darparu enillion o tua 13 y cant dros y tymor hir. Mae'n mwy na thalu amdano'i hun trwy well canlyniadau addysgol, enillion oes uwch, gwell iechyd a llai o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus, gan leihau costau i deuluoedd a chynyddu eu mynediad at incwm uwch. I lawer o deuluoedd, mae costau gofal plant yn fwy na'u rhent neu eu morgais.

Mewn adroddiad diweddar ar fynd i'r afael â thlodi trwy wella gofal plant, nododd Sefydliad Bevan, er enghraifft, fod yn rhaid i weithiwr benywaidd â phlentyn o dan ddwy oed sy'n gweithio'n llawn amser ar y pumed canradd ar hugain o enillion wario bron i 60 y cant o'i henillion wythnosol ar gostau gofal plant. Mae hynny'n annheg, ond mae hefyd yn afresymol yn economaidd. Mae Oxfam Cymru yn dweud wrthym fod 92 y cant o rieni a gwarcheidwaid yn credu bod costau gofal plant yn rhy uchel o'i gymharu â'u hincwm. Mae 70 y cant yn dweud nad oes ganddynt unrhyw incwm neu gynilion dros ben o gwbl ar ôl talu am ofal plant. Nid yw honno'n system sy'n cefnogi teuluoedd, mae'n system sy'n eu hamddifadu.

Mae ymchwil gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn dangos bod 59 y cant o rieni wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith oherwydd pwysau gofal plant, tra bod 14 y cant wedi cael eu gorfodi i roi'r gorau i'w gwaith yn gyfan gwbl. Felly, mae hon yn ergyd uniongyrchol i incwm teuluoedd, cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac economi Cymru yn gyffredinol, a phan fyddwn yn cymharu Cymru â gwledydd cyfagos, mae'r angen i weithredu ar hyn yn amlwg. Mae data Coram yn dangos bod rhieni plant dwy oed ac iau yng Nghymru yn talu, ar gyfartaledd, £2,600 yn fwy y flwyddyn am ofal meithrin amser llawn na'r rhai yn Lloegr, bron i £4,400 yn fwy am ofal rhan-amser. O gymharu â'r Alban, mae rhieni yng Nghymru'n talu tua £1,700 yn fwy bob blwyddyn. Nid methiant polisi yn unig yw hynny, mae'n fethiant cenedlaethol yn y wlad lle mae gennym ddyletswydd statudol i ystyried lles cenedlaethau'r dyfodol.

Diolch i Blaid Cymru, dechreuodd y tymor hwn yn y Senedd gydag uchelgais. Drwy'r cytundeb cydweithio, fe wnaethom sicrhau ymrwymiad i gynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed drwy Dechrau'n Deg, ac roedd hwnnw'n gam sylweddol ymlaen. Ond ar yr union adeg pan fo teuluoedd o dan bwysau digynsail, ar yr union adeg pan ragwelir y bydd lefelau tlodi plant yn codi yng Nghymru, ar yr union adeg y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth tlodi plant newydd, mae'r uchelgais wedi dod i stop. Oherwydd mae mynd i'r afael â thlodi plant yn golygu cefnogi rhieni i weithio os ydynt eisiau gweithio ac os gallant weithio. Mae rhoi'r dechrau gorau posib i blant mewn bywyd yn golygu cydnabod gofal plant nid fel rhyw gost feichus ychwanegol, ond fel seilwaith cenedlaethol hanfodol.

Byddai Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen newydd drawsnewidiol o ofal plant am ddim i bob plentyn o naw mis oed ymlaen. Byddwn yn adeiladu tuag at ddarparu o leiaf 20 awr yr wythnos am 48 wythnos o'r flwyddyn, y cynnig gofal plant mwyaf hael a wnaed erioed yng Nghymru a'r mwyaf hael yn y DU. Mae'n ymyrraeth sy'n newid popeth gydag effaith amlgenhedlaeth a hirdymor. Mae'n bolisi drud, ond os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi yng Nghymru, rhaid i ofal plant fod yn rhan ganolog o'n gweledigaeth genedlaethol. Beth allai fod yn ased mwy gwerthfawr i'r genedl na'i phlant, ei dyfodol go iawn, yn llythrennol? Maent yn werth pob ceiniog.

18:25

Fel gyda Lesley Griffiths pan siaradodd yn gynharach, roeddwn yn falch iawn pan welais deitl y ddadl hon, oherwydd roeddwn i'n meddwl y gallem drafod y diwygiadau pwysig a radical yr ydym wedi'u gwneud i'r Senedd Gymreig hon sy'n ymwneud â gwella'r gallu a'r capasiti i ddeddfu, i ddatblygu polisi ac i wella ein democratiaeth. Yn lle hynny, wrth ddarllen y cynnig, nid yw'n fawr mwy na rhagflas driphlith draphlith o faniffesto Plaid Cymru, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle a gollwyd. 

Rwy'n mynd i ddechrau trwy ganolbwyntio ar bwysigrwydd yr etholiadau eu hunain. A gaf i ddechrau trwy ddweud pa mor siomedig wyf i na fyddwn yn gallu sicrhau bod pawb yng Nghymru yn awtomatig ar y gofrestr etholiadol? Serch hynny, rwy'n deall y rhesymau a'r cymhlethdodau, ac y bydd hyn yn cael ei weithredu'n fuan. Mae'n ddiwygiad etholiadol arloesol yn y DU y dylem fod yn falch iawn ohono. Er hynny, etholiadau mis Mai 2026 fydd yr etholiadau mwyaf democrataidd i unrhyw un o Seneddau'r Deyrnas Unedig. Bydd yr etholfraint a'r system bleidleisio gyfrannol yn sicrhau y bydd canlyniad yr etholiad yn cynrychioli dewisiadau dilys pobl Cymru ac y bydd pob pleidlais yn cyfrif.

Mae'n amherthnasol a wyf i'n hoffi'r canlyniad ai peidio; yr hyn sy'n bwysig yw bod yna fandad democrataidd go iawn. Rydym yn gweld o bob cwr o'r byd—dim ond o edrych ar y sefyllfa, er enghraifft, yn Unol Daleithiau America, ond gwledydd eraill hefyd—beth sy'n digwydd pan fydd canlyniad etholiadau yn dod yn bwysicach na'r broses ddemocrataidd. Felly, gadewch inni ddechrau trwy gydnabod pwysigrwydd y newidiadau a wnaethom yn rhan o'r broses o ailymgysylltu â phobl Cymru a phawb sydd naill ai wedi syrthio oddi ar y gofrestr etholiadol neu'r fyddin gynyddol o bobl nad ydynt yn meddwl y gall pleidleisio wneud gwahaniaeth i'w bywydau.

Pan fydd pobl yn ymddieithrio, mae'r drws yn agor i'r rhai y mae pŵer yn unig amcan iddynt, y rhai a fyddai'n manipiwleiddio'r system, a fyddai trwy gamwybodaeth a thwyll yn ystumio'r dadleuon, a'r rhai a fyddai'n defnyddio casineb a rhaniadau i rannu pobl a chymunedau er mwyn ennill mantais neu gyfle gwleidyddol. Gwelsom gymaint o enghreifftiau o hyn yn ddiweddar, oni wnaethom? Pobl yn barod i aberthu eu hegwyddorion a'u credoau er mwyn rhyw bŵer dychmygol neu gynnig o bŵer. Democratiaeth a rheolaeth y gyfraith yw sylfeini rhyddid, a thrwy gynyddu ein gallu i ddwyn Llywodraeth i gyfrif drwy'r diwygiadau a wnaethom a thrwy wella ein democratiaeth etholiadol, fe gymerwn rai o'r camau cyntaf tuag at adfer ymddiriedaeth ac atebolrwydd. Dylem ymfalchïo ein bod wedi arwain ar hyn yng Nghymru.

Mae gweddill y cynnig yn wleidydda cyn etholiad, fel y dywedais, felly rwy'n gadael hynny i'r cyflwynwyr. Yr hyn rwyf am siarad amdano yw sut, o ganlyniad i etholiadau a democratiaeth a maniffestos, y gallwn gyflawni, ac yr ydym yn cyflawni ar ran pobl Cymru. Mae fy etholaeth i ym Mhontypridd yn enghraifft nid yn unig o'r hyn y gall partneriaeth rhwng Llywodraeth Lafur Cymru ac awdurdod lleol Llafur a chymuned leol ei wneud i greu newid go iawn, maent hefyd wedi llwyddo i greu newid go iawn.

Pan gefais fy ethol gyntaf, 15 mlynedd yn ôl, roedd Pontypridd ar ei gliniau. Roedd trafnidiaeth yn wael, roedd y dref mewn cyflwr gwael ac roedd busnesau wedi digalonni. Mae hynny wedi newid, ac mae yn newid. Gan weithio gyda'r Gweinidog ar y pryd, Lesley Griffiths, a chyfarfod â Ken Skates wedyn ac arweinydd y cyngor Andrew Morgan, mae'r dref wedi cael ei thrawsnewid a'i hadfywio. Cafwyd grant syml gan Lywodraeth Cymru i brynu rhydd-ddaliad hen adeilad adfeiliedig Taf, y penderfyniad wedyn i leoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, gan alluogi'r cyngor yn sgil hynny i gael yr achos busnes i'w alluogi i ailddatblygu'r dref, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Yn ogystal â hynny, dros y 15 mlynedd diwethaf, fe wnaed gwaith gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth yr UE ar adfer y lido poblogaidd, pedestreiddio a moderneiddio'r orsaf, y trenau newydd, y trenau rheolaidd, adfer a datblygu'r YMCA, a elwir bellach yn YMa, adfer y Miwni a buddsoddiadau eraill. Mae'r rhain wedi creu tref fywiog, ffyniannus, fodern a diwylliannol yn wir ym Mhontypridd. Rwy'n edrych ar y Miwni, rwy'n edrych ar YMa, rwy'n edrych ar Glwb y Bont i bawb sydd bellach yn cofleidio diwylliant go iawn yn nhref Pontypridd. Wrth gwrs, fe geir heriau enfawr o hyd, ond gadewch inni o leiaf gydnabod llwyddiant sylweddol pan fyddwn yn ei weld.

Mae'r 10 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Lafur yn gweithio gydag awdurdodau Cymru wedi arwain at drawsnewid ein hysgolion. Yn lle'r adeiladau gwael, hynafol, llaith, adfeiliog y bu'n rhaid i lawer o'n plant eu mynychu—

18:30

Ddirprwy Lywydd, roeddwn i'n mynd i sôn am y £2.4 biliwn sydd wedi'i fuddsoddi—

18:35

Rwy'n derbyn hynny. A gaf i orffen ar un peth? Yn y dadleuon gwleidyddol pwysig sy'n mynd i ddigwydd dros y misoedd nesaf—yr ymagweddu a'r ormodiaith a fydd—gadewch inni beidio ag anghofio ein bod wedi gwneud cyflawniadau enfawr a'n bod yn cyflawni, ac mae gennym lawer i'w gyflawni o hyd. A dyna pam y byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth Lafur nesaf yng Nghymru.

Un o ddyletswyddau sylfaenol unrhyw lywodraeth ddylai fod sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol a rhoi iddyn nhw'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer datblygiad personol, diogelwch swyddi a chyfleoedd bywyd gwell.

Yn anffodus, ar y metrig hollbwysig hwn, does dim amheuaeth bod Llafur dros y 26 mlynedd diwethaf wedi methu ein plant a'n pobl ifanc yn ofnadwy, ac yn eu tro wedi gwastraffu potensial anferthol ein cenedl ni. Fe ddylai'r canlyniadau PISA diweddaraf, sydd yn dangos Cymru ar ei lefel isaf erioed o ran cyrhaeddiad llythrennedd a rhifedd, gael eu hystyried fel gwarth cenedlaethol ac adlewyrchiad damniol o gamreolaeth Llafur ar y sector allweddol hwn.

Dim ond un arwydd o broblemau ehangach yw hyn. Mae gyda ni argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru sy'n parhau yn ddi-baid—sefyllfa sydd wedi gwaethygu oherwydd diffyg strategaeth glir gan y Llywodraeth. Mae'r costau cynnal a chadw hanesyddol yn ein hysgolion wedi cyrraedd lefelau arswydus o uchel, gyda llawer gormod o adeiladau addysgol ar draws y wlad mewn cyflwr truenus. Mae ein prifysgolion ni'n wynebu argyfwng ariannol dirfodol yn sgil diffyg gweledigaeth a chynllun gan y Llywodraeth i annog mwy o fyfyrwyr Cymreig i astudio yma yng Nghymru.

Mae'n hen bryd i ni newid cyfeiriad ac i droi tudalen lân ar ôl chwarter canrif a mwy o fethiannau gan Llafur. Plaid Cymru sy'n arwain y ffordd at ddyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc drwy ein strategaeth drawsnewidiol i adnewyddu safonau addysg. Mi fyddwn ni'n datblygu cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd a fydd yn cynnwys meincnodau cenedlaethol, cefnogaeth dargedig, addysgu o ansawdd uchel, a thracio cynnydd yn gyson.

Mi fyddwn ni'n darparu llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru er mwyn meithrin dwyeithrwydd a chariad gydol oes at ddarllen ymysg ein plant. Byddwn hefyd yn hybu dulliau darllen ar draws y cwricwlwm gan ymgyrffori llythrennedd ym mhob pwnc yn ein hysgolion uwchradd, a chefnogi hefyd ddisgyblion yn ystod y cyfnod pontio hollbwysig hwnnw o addysg gynradd i addysg uwchradd. Bydd Llywodraeth Paid Cymru'n buddsoddi yn nyfodol addysg Cymru drwy gynnig cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw'r athrawon sydd eu hangen ar ein hysgolion ni, gan gau'r bwlch â Lloegr yn raddol, gan sicrhau nad yw athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru dan unrhyw anfantais ariannol os ydyn nhw'n dewis astudio a gweithio yma.

Nid mesurau dros dro yw'r rhain, fel rydym ni wedi dod i hen arfer o dan Llafur, ond rŷn ni am osod sylfeini angenrheidiol cyntaf tuag at greu system addysg fwy cynaliadwy, sy'n rhoi'r cyfle i'n plant a'n pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn. Dim ond Llywodraeth dan arweiniad Paid Cymru all gynnig y gobaith hwn i'n cenhedlaeth bresennol o blant. Diolch yn fawr iawn.

Galwaf nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 18:39:14
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. O'r ddadl y prynhawn yma, mae un peth yn glir iawn: rydym i gyd yn cydnabod bod etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 yn foment hollbwysig i Gymru. Ond mae hefyd yn amlwg fod gennym gynnig arall yma gan waesgrolwyr diddiwedd y byd gwleidyddol Cymreig ar feinciau Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru unwaith eto'n dewis lladd ar Gymru, fel y Torïaid. Efallai eu bod nhw'n hapus i wneud hynny, ond nid dyna yw ffordd Llafur Cymru, oherwydd rydym yn gwybod bod gennym fwy i'w wneud, ond rydym hefyd yn credu yng Nghymru a phobl Cymru, a photensial Cymru hefyd.

Yr hyn sy'n drawiadol am gynnig Plaid Cymru yw'r hyn y mae'n ei anwybyddu, nid yr hyn y mae'n ei gynnwys. Mae'n anwybyddu'n llwyr y cyd-destun gwleidyddol ac economaidd y mae'r Llywodraeth Lafur hon a Llywodraethau Llafur diweddar wedi bod yn gweithredu o'i fewn. Dros y degawd a mwy diwethaf, gwelsom Lywodraeth Dorïaidd y DU yn llywodraethu dros doriadau llym ac anhrefn. Fe wnaethant dorri gwasanaethau cyhoeddus, chwalu'r economi, achosi i gyfraddau llog godi i'r entrychion, fe'i gwnaethant hi'n llawer anos ac yn ddrytach i adeiladu cartrefi, buddsoddi mewn seilwaith neu gefnogi'r gwasanaethau hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

Yn erbyn cefndir o doriadau ac anhrefn gan y Torïaid, mae Llafur Cymru wedi darparu Llywodraeth aeddfed a sefydlog, gan sefyll dros Gymru ac amddiffyn Cymru rhag niwed gwaethaf anhrefn y Torïaid. Camodd Llafur Cymru i mewn i roi mwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd pan oedd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn torri niferoedd yr heddlu. Fe wnaethom ddarparu a diogelu presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai. Pan wnaeth y cyni ariannol fywydau plant yn fwy llwm, fe wnaethom ddarparu brecwastau ysgol am ddim i wneud yn siŵr fod plant yn cael eu bwydo ac yn barod i ddysgu. Gyda chymheiriaid llywodraeth leol, fe wnaethom gadw gwasanaethau craidd i redeg yn erbyn ymosodiadau di-baid y Torïaid. Ac am dros ddegawd, fe wnaethom amddiffyn pobl cymaint ag y gallem rhag y toriadau a oedd yn cael eu gorfodi arnynt gan y meistri Torïaidd. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yna ymyriad.

18:40

Rydych chi wedi llwyddo heddiw i chwalu enw da Plaid Cymru, enw da y credant ei fod ganddynt. Ond os ydynt mor ddrwg, pam eich bod chi, bob tymor, yn mynd i bartneriaeth gyda nhw neu glymblaid neu gytundeb cydweithio? Pam y gwnaethoch chi hynny, hyd at 18 mis yn ôl?

Gadewch imi ganolbwyntio ar gyflawniadau Llafur. Oherwydd hyd yn oed yn erbyn y cefndir o anhrefn a thoriadau Torïaidd, fe wnaethom ddewis buddsoddi, cyflawni a sefyll wrth ein haddewidion.

Gadewch imi ddechrau gyda thai. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi darparu'r amgylchedd anoddaf mewn cenhedlaeth ar gyfer adeiladu tai, ond er hynny, rydym wedi buddsoddi dros £2 biliwn mewn tai cymdeithasol. Dyma'r lefel uchaf ers dechrau datganoli. Gwnaethom addewid: 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w gosod ar rent. A hyd yn oed yng nghysgod chwalfa economaidd y Torïaid, gyda chostau adeiladu cynyddol, byddwn yn cyflawni'r targed hwnnw erbyn diwedd eleni. Mae hynny'n golygu mwy o gartrefi i bobl sydd eu hangen yn fawr, mwy o blant gyda rhywle diogel a chynnes i wneud eu gwaith cartref, mwy o bobl yn byw mewn man diogel a chyda chyfle i ffynnu. Ni ddigwyddodd hyn am fod yr amodau'n hawdd, fe ddigwyddodd oherwydd bod y Llywodraeth hon—y Llywodraeth Lafur hon—wedi dewis blaenoriaethu tai pan fyddai eraill wedi troi cefn ar hynny, oherwydd ein bod yn gwybod ei fod yn bwysig.

Rydym hefyd yn gwybod mai bod yn ddiogel mewn gwaith ar gyflog da yw'r ffordd orau allan o dlodi a'r ffordd i wella bywydau pobl, a dyna pam ein bod wedi canolbwyntio ar dyfu'r economi. Drwy fuddsoddiad wedi'i dargedu, rydym wedi cefnogi'n uniongyrchol dros 46,000 o swyddi ledled Cymru ym maes gweithgynhyrchu uwch, amddiffyn, gwyddorau bywyd, arloesedd, yr economi gylchol ac yn ein diwydiannau lleol hanfodol. 

Ar iechyd, mae Plaid Cymru wedi galw am gynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad presennol. Wel, Ddirprwy Lywydd, maent yn amlwg wedi methu'r cynllun £120 miliwn a fu'n darparu mwy o apwyntiadau, mwy o brofion a mwy o lawdriniaethau dros y naw mis diwethaf. Mae'n gynllun—[Torri ar draws.] Fe ddof atoch mewn eiliad. Mae'n gynllun a fydd wedi darparu bron i 100,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol ledled Cymru erbyn diwedd mis Rhagfyr. Bydd wedi darparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Mae hynny'n fwy, gyda llaw, nag yn 2024-25 ar ei hyd. Ac mae'n gynllun sydd wedi cyflawni gostyngiad arall yn y rhestrau aros cyffredinol ym mis Hydref, gyda gostyngiadau pellach yn y rhestrau aros cyffredinol a'r arosiadau hiraf i'w disgwyl ym mis Tachwedd. Fe ildiaf i rywun y tu ôl i mi. 

Diolch. Mae'r cyferbyniad yn eithaf clir, onid yw? Pan oeddent mewn grym yn y DU, addawodd y Ceidwadwyr drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe ac fe wnaethant dorri eu haddewid mewn maes datganoledig. Beth a wnaethom ni? Fe wnaethom gyflwyno system fetro fodern, gan fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, nad oedd yn gyfrifoldeb i ni, i wella bywydau'r bobl a gynrychiolwn. Dyna'r gwahaniaeth.

Yn hollol, a phob clod i Weinidogion blaenorol, oherwydd os edrychwch ar drafnidiaeth, mae'r trawsnewidiad £1 biliwn i linellau craidd y Cymoedd yn un o'r prosiectau seilwaith mwyaf arwyddocaol a welodd Cymru erioed—yn ailgysylltu cymunedau a datgloi cyfleoedd economaidd. Rydym wedi darparu tocynnau bws am ddim i bobl dros 60 oed, tocynnau bws £1 i bobl ifanc, rydym wedi rhoi mwy o arian drwy hynny yn ôl ym mhocedi pobl, gan gynorthwyo pobl i gyrraedd gwaith, addysg a hyfforddiant, a byddwn yn mynd ymhellach yn y dyfodol. A chyda'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a fydd yn Ddeddf cyn bo hir, rydym yn ail-siapio gwasanaethau bysiau o amgylch pobl, nid elw, gan gael gwared ar ddadreoleiddio bysiau trychinebus y Torïaid. 

Gadewch imi droi at yr amgylchedd, Ddirprwy Lywydd, fy mhortffolio fy hun. Rydym wedi gwneud newidiadau a fydd o fudd i'n cenedl am ddegawdau—

Rwyf wedi cael ceisiadau gan ddau berson am ymyriadau. A ydych chi'n dymuno derbyn unrhyw un ohonynt?

18:45

Ar yr amgylchedd, Ddirprwy Lywydd—fy mhortffolio fy hun—rydym wedi gwneud newidiadau a fydd o fudd i'n cenedl am ddegawdau i ddod, fel y goedwig genedlaethol newydd, sydd bellach yn ymestyn dros 90,000 hectar o Gymru, 38 o goetiroedd ystadau, 72 o safleoedd newydd wedi'u hychwanegu ers 2023. A gadewch inni beidio ag anghofio ein bod wedi cymryd camau pendant i gadw ein cymunedau'n ddiogel gyda Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 a'r buddsoddiad sy'n sail iddi hefyd. 

Ddirprwy Lywydd, rydym wedi defnyddio pob lifer sydd ar gael i ni i adeiladu dyfodol tecach, gan gynnwys i blant yng Nghymru. Bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi'u cyflwyno, oherwydd ni ddylai unrhyw blentyn ei chael hi'n anodd dysgu am eu bod yn llwglyd. Ac rydym wedi ymrwymo i wella ein system addysg. Gadewch inni beidio ag anghofio ein bod wedi cyflawni'r rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf yn y DU ers y 1960au. Ac mae'r ystadegau diweddaraf ar gyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd yn dangos cynnydd. Mae gennym fwy i'w wneud, ond roedd cyrhaeddiad yn uwch ar gyfer pob grŵp blwyddyn mewn darllen Saesneg o'i gymharu â 2022-23. Rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Rydym yn benderfynol o ddal i fynd, oherwydd dylai pob person ifanc gael y cyfle hwnnw. Mae Llafur Cymru mewn grym wedi darparu'r cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad incwm aelwydydd sy'n penderfynu i ble rydych chi'n mynd i'r brifysgol. Nawr, mae rhai pleidiau eraill eisiau newid hyn, i greu system ddwy haen lle byddai incwm eich teulu yn cyfyngu ar eich uchelgais. Ni fuaswn i'n bersonol yn galw hynny'n 'flaengar' mewn unrhyw ffordd.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, rydym bob amser wedi dadlau bod gennym fwy i'w wneud. Nid oes unrhyw Lywodraeth yn berffaith. Ond Ddirprwy Lywydd, rydym yn falch o gyflawniadau Llywodraeth Lafur Cymru i bobl Cymru. Nid oedd y rhain byth yn anochel. Dyma ganlyniadau dewisiadau gwleidyddol difrifol. Ac nid yw'r gwaith ar ben. Mae pobl yng Nghymru yn dal i wynebu heriau dyddiol, ac mae llawer mwy i ni ei wneud. Ac rydym yn edrych ymlaen at bennod newydd ac at adeiladu dyfodol tecach. Ar ôl mwy na degawd o amddiffyn Cymru rhag anhrefn a thoriadau Torïaidd, gallwn droi'r dudalen nawr, gallwn fynd ymhellach. Gallwn greu twf newydd a chyfleoedd newydd yma yng Nghymru. 

Ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog, cyhoeddwyd £16 biliwn o gyllid busnes yn dilyn uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru—£16 biliwn. Ardal twf deallusrwydd artiffisial yn ne Cymru, pwerdy ynni glân yn y gogledd, ymgyrch i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan adeiladu ar y sylfeini yr ydym eisoes wedi'u gosod i greu swyddi a phrentisiaethau ym mhob rhan o Gymru. [Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn un neu ddau o ymyriadau—

Yn wir. Mae gennym y gyllideb fwyaf yn hanes datganoli, sy'n golygu hwb enfawr o gyllid i fynd i'r afael â rhestrau aros, i roi codiad cyflog i'n GIG, i dalu am driniaethau newydd a buddsoddi mewn ymchwil sy'n achub bywydau.

Ac rydym eisoes wedi trawsnewid teithio ar y trenau, wedi dod â bysiau'n ôl i ddwylo cyhoeddus. Byddwn yn mynd ymhellach, gyda chap prisiau o £2 ar deithiau bws sengl a 100 o lwybrau bws newydd—

Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yn nhymor y Senedd hon, a'r tymhorau blaenorol, fe wnaethom ddiogelu Cymru rhag toriadau Torïaidd ac anhrefn, ac fe wnaethom osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol. Nawr mae Cymru'n barod nid yn unig ar gyfer etholiad, ond ar gyfer y bennod nesaf o arweinyddiaeth Lafur, sy'n sefyll dros a chyda phobl Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw.

Mi wnaf i ddechrau, dwi'n meddwl, drwy fyfyrio eto ar y cynnig mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno y prynhawn yma, gan ei fod o'n gosod allan y dewis fydd yn wynebu pobl Cymru mewn llai na phedwar mis. Ar yr un llaw, mae gennym ni restr yma sydd yn crisialu record y Llywodraeth bresennol—y gwasanaeth iechyd ar ei liniau, system addysg sy'n methu ein pobl ifanc ni, economi yn tanberfformio, a'r berthynas unochrog yna efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n caniatáu iddyn nhw danseilio datganoli ar bob cyfle.

Ar y llaw arall, beth sydd gennym ni yma ydy cynnig, neu flas o gynigion uchelgeisiol Plaid Cymru i bobl Cymru, polisïau arloesol yn barod i’w rhoi ar waith—y cynnig gofal plant, fel clywon ni, fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, yn newid bywydau a newid cyfleon i deuluoedd; cynllun rhestrau aros i daclo backlog y gwasanaeth iechyd; asiantaeth ddatblygu newydd i dyfu busnesau Cymreig; cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i godi safonau addysg; a Bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb efo’r Alban a dechrau datgloi potensial ein cenedl.

Rŵan, rydyn ni i gyd yn ei weld o, ar lawr gwlad—

Pryd y credwch y gallwch chi gyflwyno'r cynllun gofal plant, oherwydd byddai croeso iddo, ond mae'n rhaid inni adeiladu'r gweithlu yn gyntaf, a'r cyfleusterau? Felly, pryd y credwch chi y gallai hynny ddigwydd?

18:50

Mae dechrau'r gwaith hwnnw'n dechrau yn ein cynllun 100 diwrnod. Mae'n dechrau ar unwaith.

Rydyn ni'n gweld, onid ydyn ni, ar garreg y drws—bob un ohonom ni, feiddiaf i ddweud, o ba bynnag blaid—rydyn ni'n ei weld o mewn arolygon barn: mae mwy a mwy o bobl yn troi at weledigaeth Plaid Cymru er mwyn sicrhau'r arweinyddiaeth newydd y mae Cymru ei hangen. Rydyn ni i gyd yn gweld bod pobl eisiau newid. Dyna'r neges glir gan bobl Cymru. Ond fyddech chi ddim yn credu hynny wrth ddarllen gwelliant y Llywodraeth heddiw nac wrth glywed cyfraniadau Aelodau Llafur.

Rwy'n credu bod gwelliant Llafur y prynhawn yma, a chymaint o gyfraniadau gan Aelodau Llafur yn crynhoi pam y mae'n rhaid i amser y Llywodraeth hon ddod i ben: methiant i gyfaddef camgymeriadau, methiant i gydnabod rhwystredigaethau pobl a methiant llwyr i gynnig unrhyw obaith mai nhw yw'r blaid sydd â'r syniadau i newid ffawd Cymru. Ac mae i'r Dirprwy Brif Weinidog gyhuddo Plaid Cymru o waesgrolio—beth sy'n waesgrolio ynglŷn â chynnig dyfodol i deuluoedd trwy gynllun gofal plant newydd? Beth sy'n waesgrolio ynglŷn â chynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd a chyflogau gwell drwy awdurdod datblygu i Gymru? Beth sy'n waesgrolio am hynny? A rhaid na chafodd y Dirprwy Brif Weinidog femo mewnol y Blaid Lafur. Mae'r memo mewnol hwnnw gan y Blaid Lafur—

—yn dweud yn glir iawn mai Plaid Cymru bellach yw'r blaid sy'n cynrychioli gobaith i Gymru.

A ydych chi'n derbyn fy ymyriad, neu a ydych chi—?

Rydych chi'n gwneud yn union yr hyn rydych chi newydd ddweud nad ydych chi'n ei wneud. A'r hyn rydych chi wedi methu ei wneud—mae dau beth rydych chi wedi methu eu gwneud—yw costio eich rhestr ddymuniadau—dim ohono, dim ohono—ac rydych chi wedi methu'n llwyr â cydnabod y fantais o gael dwy Lywodraeth Lafur. Mae cyhoeddiad mawr wedi'i wneud heddiw am ffermydd gwynt Cymru yn ennill cyllid, gyda bonws disgwyliedig o 7,000 o swyddi. Rydych chi wedi methu sôn bod Llywodraeth Lafur y DU wedi rhoi'r setliad datganoli mwyaf erioed i Gymru. Rydych chi wedi methu sôn am unrhyw fuddsoddiad o gwbl sydd wedi dod gan—

Rwy'n credu ei bod ond yn deg eich bod chi'n cydnabod y pethau hynny, felly gofynnaf i chi wneud hynny pan fyddwch chi'n dirwyn i ben.

Buaswn yn awgrymu bod yr Aelod yn rhoi ei henw i lawr i siarad mewn dadl os oes ganddi gymaint o bwyntiau i'w gwneud. Mae hyn i gyd wedi'i gostio—dyna'r holl bwynt. Mae hon yn Llywodraeth sy'n barod i fynd.

Ac rwy'n anobeithio—[Torri ar draws.]—rwy'n anobeithio os yw'r Aelod yn credu bod y dystiolaeth yn dangos, ers mis Gorffennaf 2024, fod y bartneriaeth mewn grym rhwng Llafur yng Nghaerdydd a Llafur yn Llundain yn cyflawni i Gymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos i'r gwrthwyneb, a dyna pam y mae ffydd pobl yn Llafur wedi cael ei danseilio i'r fath raddau.

Nid oes gennyf ddim i'w ddweud am gyfraniad yr Aelod Reform oherwydd nad oes gan Reform na hithau ddim i'w ddweud dros Gymru o gwbl. Fe wnaf droi at y blaid sy'n dod fwyfwy'n gynorthwywyr bach iddynt, sy'n cynnal Reform—fwy a mwy ni allwch weld y llinell rhyngddynt a'r Ceidwadwyr. Wrth fyfyrio ar eu cyfraniadau ac yn wir—[Torri ar draws.] Fe wnaf gynnydd—Mike Hedges o Lafur hefyd, fe wnaf sôn amdanynt gyda'i gilydd am mai'r un safbwyntiau a gafwyd yn y bôn oddi ar y meinciau Llafur a'r Ceidwadwyr: mae'r diffyg ffydd yn ein cenedl, yn yr hyn y gall Cymru fod, a'u parodrwydd i gadw'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli mewn tlodi, i'w llwgu o ddyhead doed a ddêl, yn rhywbeth y maent yn haeddu celpen amdano yn y blwch pleidleisio yn yr etholiad ar 7 Mai, oherwydd mae Cymru'n haeddu gwell na hynny.

Mae pleidlais dros gynnig Plaid Cymru heddiw yn bleidlais i gefnogi'r hyn y mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn awgrymu eu bod ei eisiau nawr. Mae pobl Cymru eisiau Llywodraeth a fydd yn mynd ati'n ddi-ildio i wireddu potensial enfawr Cymru, Llywodraeth nad yw'n ystyried uchelgais yn rhywbeth i'w ofni na'i anwybyddu ond yn hytrach yn rhywbeth i'w gofleidio bob amser, gyda'r syniadau i newid Cymru a'r egni i gyflawni hynny, a Llywodraeth nad yw byth, mewn unrhyw amgylchiadau, yn gorfod ildio i benaethiaid y blaid yn Llundain ar draul sefyll dros ein cenedl a thros bobl Cymru. Ac fel y dengys y cynnig heddiw, mae'n amlwg mai dim ond Plaid Cymru sy'n barod i drosi gobaith yn ganlyniadau go iawn, ac rwy'n eich annog chi i gyd i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.

18:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn inni droi at y pleidleisio, cododd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd bwynt o drefn. Rwyf wedi adolygu'r cofnod, ac rwyf am wneud y pwynt hwn, fod rhaid i bob Aelod wrth siarad yn y Siambr fod yn ymwybodol o gyfeirio neu gael eu dehongli fel pe baent yn cyfeirio at oedran Aelod arall ar unrhyw adeg mewn amser. Gellid dehongli cyfraniadau o'r fath fel beirniadaeth o Aelod oherwydd eu hoedran yn unig, hyd yn oed ar gyfnod arall mewn amser. Felly, hoffwn ofyn i arweinydd Plaid Cymru ystyried ei gyfraniad agoriadol mewn perthynas â'r pwynt hwnnw.

Fe wnaf ymateb drwy ddweud fy mod yn cyfeirio at ba mor hir yn ôl oedd hynny, nid at ei oedran.

Rwy'n sylweddoli hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n sylweddoli hynny, ond fel y dywedais, mae sut y gellid ei ddehongli yn bwysig hefyd.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Treth Trafodiadau Tir. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Treth Trafodiadau Tir. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar etholiad y Senedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

19:00

Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9102 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.

2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at:

a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol;

b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi;

c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol;

d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd;

e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni;

f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a

g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn system metro fodern.

3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rwy'n gweld bod Aelodau'n gadael. Cofiwch nad yw hyn yn golygu bod y busnes ar ben am heddiw. Bydd yna broses Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn ddiweddarach.

10. Dadl Fer: Codi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14 yng Nghymru

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl fer. Galwaf ar Adam Price i siarad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yng Nghymru heddiw, gellir dwyn plentyn i gyfrif am drosedd o'r adeg y bydd yn 10 oed. Gall plentyn sy'n dal yn yr ysgol gynradd gael ei arestio, ei holi dan rybuddiad, ei erlyn, ei euogfarnu a'i farcio, am flynyddoedd weithiau, gan gysylltiad â'r llysoedd troseddol. Rwy'n credu y dylem godi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14. Nid ymateb meddal i droseddu yw hynny, fel y byddai rhai'n ei weld, ond ymateb clyfar i droseddu, ymateb clir, gyda ffocws cadarn ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym. Oherwydd dyletswydd fwyaf difrifol unrhyw system gyfiawnder yw diogelu'r cyhoedd, ac ni chaiff y cyhoedd eu diogelu gan bolisïau sy'n teimlo'n llym ond sy'n cynyddu'r perygl y bydd y niwed yn ailadrodd yn nes ymlaen. Os ydym eisiau llai o ddioddefwyr y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, rhaid inni ofyn cwestiwn ymarferol: beth sy'n lleihau aildroseddu ymhlith plant? Mae'r dystiolaeth i gyd yn mynd i un cyfeiriad: mae troseddoli pobl ifanc 10, 11, 12 a 13 oed yn creu llif o droseddu yn y dyfodol, gan dynnu plant yn ddyfnach i mewn i'r system, gan ehangu'r rhwyd, a throi un digwyddiad yn ddechrau gyrfa hirach o droseddu.

Mae plant yn wahanol i oedolion—mae'r rhan fwyaf o bobl yn deall hynny'n reddfol—ac mewn unrhyw faes polisi arall fe gaiff ei gydnabod yn glir. Mae plant yn dal i ddatblygu, maent yn fwy mympwyol, yn haws eu harwain ar gyfeiliorn ac yn fwy tebygol o gymryd risgiau er mwyn ennill statws neu i deimlo eu bod yn perthyn, yn llai abl i feddwl am yr hyn sy'n dod nesaf. Nid oes dim o hynny'n esgusodi camwedd, ond dylai newid y ffordd y meddyliwn am gyfrifoldeb ac am yr hyn sy'n gweithio. Nid ffigur yn unig yw oedran cyfrifoldeb troseddol, mae'n llinell sy'n penderfynu a ydym yn trin plentyn yn bennaf fel plentyn sydd angen help neu fel troseddwr i'w brosesu.

Nid ydym bob amser wedi bod mor anfanwl ynglŷn â hyn ag yr ydym nawr. Am amser hir, roedd y gyfraith yn cydnabod na ddylai plant rhwng 10 a 13 oed gael eu trin yn awtomatig fel rhai cwbl gyfrifol. Roedd yna ddiogelwch—doli incapax; roedd yn rhaid i chi brofi dealltwriaeth ychwanegol gan y plentyn cyn y gellid apelio at gyfraith droseddol. Cafodd y diogelwch hwnnw ei ddileu ar ddiwedd y 1990au; ac ni chafwyd unrhyw beth gwell yn ei le. Felly, nawr mae gennym y gwaethaf o ddau fyd—trothwy isel iawn heb unrhyw rai o'r hen amddiffyniadau, a system sydd wedyn yn ceisio, weithiau'n arwrol, i feddalu'r effeithiau trwy ddargyfeirio. Nid yw hynny'n gydlynol ac nid yw'n deg.

Mae Cymru mewn sawl ffordd wedi bod yn symud i gyfeiriad gwell, drwy'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Rydym wedi adeiladu dull mwy ataliol o weithredu cyfiawnder ieuenctid, sy'n canolbwyntio ar ddargyfeirio, ar gymorth cynnar, ar weithio ar draws asiantaethau, ar fynd i'r afael â'r hyn sy'n ysgogi niwed. Mae'r newid hwnnw wedi helpu i gadw plant allan o drafferthion dyfnach. Dyma'r reddf gywir: camwch i mewn yn gynnar ond gwnewch hynny mewn ffyrdd sy'n newid ymddygiad yn hytrach na dim ond cosbi. Ond cyn belled â bod yr oedran cyfreithiol ar gyfer cyfrifoldeb troseddol yn dal i fod yn 10 oed, mae'r oedran isel hwnnw'n creu tynfa gyson tuag at y llys, er mai'r hyn sydd ei angen ar blentyn mewn gwirionedd yw rhywbeth arall: amddiffyniad, cefnogaeth, goruchwyliaeth, help gydag iechyd meddwl, a lle bo angen, gofal diogel.

Mae rhai pobl yn dweud bod angen oedran cyfrifoldeb troseddol isel fel y gallwn ymyrryd yn gynnar. Mae hynny'n swnio'n rhesymol nes i chi feddwl am y peth. Nid yw ymyrraeth gynnar yn galw am droseddu cynnar. Nid oes gan y rhan fwyaf o'r hyn sy'n atal aildroseddu mewn plant unrhyw beth i'w wneud â llysoedd—mae'n ymwneud â'r ysgol, sefydlogrwydd teuluol, cymorth iechyd meddwl, mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, delio â thrawma, diogelu plant rhag cael eu hecsbloetio. Nid oes dim o hynny'n dibynnu ar frandio plentyn 10 oed yn droseddwr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

19:05

Mae yna rywbeth arall sy'n cael ei golli mewn dadl gyhoeddus. Mae llawer o blant sy'n dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder yn cael anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, sy'n aml heb eu nodi, yn aml heb eu cefnogi. Meddyliwch beth y mae hynny'n ei olygu. Mae'n effeithio ar allu plentyn i ddeall rhybuddiad yr heddlu, a allant ddweud eu stori'n glir, a allant ddilyn yr hyn sy'n digwydd yn y llys, cael cyfarwyddiadau, deall canlyniadau, neu ymgysylltu ag unrhyw beth sydd wedi'i gynllunio i newid eu hymddygiad. Felly, mae'n ymwneud â mwy na gallu plentyn i wybod bod rhywbeth yn anghywir, mae'n ymwneud â'i allu i gymryd rhan ystyrlon mewn proses a allai eu labelu, eu cosbi a siapio eu dyfodol. Os ydym yn malio am gyfiawnder, dylem falio am hynny.

Nid dadl dros wneud dim yw hon, mae'n ddadl dros wneud y peth iawn. Ac rwyf eisiau delio'n uniongyrchol â'r cwestiwn anoddaf: beth am droseddau difrifol? Beth am ddioddefwyr? Beth am hyder y cyhoedd? Mae dioddefwyr yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a'r gwirionedd. Mae cymunedau'n haeddu diogelwch. Rhaid i blant sy'n achosi niwed wynebu canlyniadau. Ond nid yw codi oedran cyfrifoldeb troseddol yn golygu bod niwed yn cael ei anwybyddu, mae'n golygu nad cyfraith droseddol yw'r ymateb cyntaf i rai dan 14 oed. Mae'n system sy'n addas i'r oedran a gall ddal i fod yn gadarn, gall ddal i fod yn gyflym a gall ddal i ddiogelu'r cyhoedd trwy oruchwyliaeth ddwys, rhaglenni strwythuredig, gwaith adferol lle mae'n gweddu, a lleoliadau diogel pan fydd risg yn galw am hynny. Ac weithiau, mae'r niwed mwyaf difrifol gan blant ynghlwm wrth ecsbloetio. Gall troseddwyr hŷn feithrin perthynas amhriodol â phlant i'w cymell i droseddu, neu eu gorfodi, eu bygwth, eu rheoli. Pan fydd hynny'n digwydd, mae ymateb drwy gosbi'n unig yn methu'r pwynt. Mae'n trin y plentyn sy'n cael ei ecsbloetio fel y broblem yn hytrach na fel plentyn mewn perygl. Nid gwendid yw ei weld trwy lens amddiffyn plant, dyna'r ffordd gywir o edrych arno.

Mae yna ddadl ymarferol hefyd. Mae oedran cyfrifoldeb troseddol isel iawn yn creu risg sy'n anaml yn cyrraedd y penawdau—lledu'r rhwyd, fel y'i gelwir. Os ydych chi'n troseddoli plant iau, rydych chi'n tynnu mwy ohonynt i mewn i gamau prosesu ffurfiol am ymddygiad a allai fel arall gael ei drin yn anffurfiol, yn adferol neu drwy gymorth. Pan fydd cofnod troseddol gan blentyn, caiff ei drin yn wahanol gan ysgolion, gan weithwyr proffesiynol, ganddynt hwy eu hunain weithiau. Mae camymddwyn bach yn dechrau edrych fel patrwm. Caiff y label 'mynych' ei atodi. Mae'r system yn dechrau ymateb i'r cofnod yn hytrach nag i'r plentyn. Ac mae'r hyn a ddechreuodd fel un digwyddiad yn dod yn gam cyntaf ar risiau symudol. Nid dyfalu yw hynny. Mae'n cael ei ddeall yn dda. Po gynharaf y byddwch chi'n troseddoli, y mwyaf yw'r risg eich bod chi'n ei wreiddio.

Yn rhyngwladol, mae'r cyfeiriad yn glir. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud y dylai'r isafswm oedran fod yn 14 o leiaf. Dyna'r safon y dylai Cymru anelu ati. Mae'r un symud i'w weld ar waith ym Mhrydain. Mae'r Alban eisoes wedi symud y tu hwnt i safbwynt Cymru a Lloegr trwy godi oedran cyfrifoldeb troseddol i 12, ac mae Gweinidogion yno bellach yn ystyried argymhelliad gan grŵp cynghori i godi'r oedran i 14. Yn San Steffan, mae'r momentwm yn cynyddu gyda gwelliant i'r Bil Troseddu a Phlismona ar hyn o bryd i godi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14, gyda chefnogaeth cyn-farnwyr amlwg fel y Farwnes Hale a'r Farwnes Butler-Sloss.

Ond ble mae hynny'n gadael Cymru? Roedd comisiwn Thomas yn glir. Mae 10 yn rhy ifanc, meddai. Argymhellodd y dylid codi'r oedran ar y pwynt hwnnw i o leiaf 12, a oedd yn unol ag argymhelliad y Cenhedloedd Unedig ar y pryd. Dadleuai dros hyn ochr yn ochr â setliad mwy cydlynol wrth gwrs, a datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl. Mae'r achos dros 14 wedi cryfhau ymhellach ers hynny, a hoffwn pe gallai'r Gweinidog nodi safbwynt Cymru, yn gyntaf oll, mewn perthynas ag egwyddor yr argymhelliad gan gomisiwn Thomas. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i godi oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru, ac a ydych chi bellach yn derbyn y dylai fod yn 14, yn unol â chanllawiau'r Cenhedloedd Unedig?

Mae pwynt ehangach yma sy'n ymarferol ac yn gyfansoddiadol. Os yw cyfiawnder ieuenctid yn cael ei ddatganoli ond bod oedran cyfrifoldeb troseddol yn cael ei adael i'w benderfynu yn rhywle arall, rydym yn creu setliad anghyfartal. Bydd disgwyl i Gymru ddarparu gwasanaethau atal, dargyfeirio, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ond heb reolaeth dros y trothwy sy'n penderfynu pryd y mae plant yn cael eu trin fel troseddwyr. Dyna gyfrifoldeb heb bŵer dros yr union beth sy'n diffinio'r system. Os yw Cymru o ddifrif ynglŷn â dull cydlynol o weithredu, nid ychwanegiad dewisol yw'r trothwy oedran, ond ystyriaeth sylfaenol.

Ni allwn anwybyddu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dweud dro ar ôl tro nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i newid yr oedran ar lefel Cymru a Lloegr, ac un o'r pwyntiau eraill y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â nhw yw: beth y maent yn ei ddweud am argymhelliad Thomas i ddatganoli'r pŵer i Gymru? Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi trafod oedran cyfrifoldeb troseddol gyda Llywodraeth y DU. Beth y maent wedi'i ddweud? Oherwydd ar hyn o bryd, nid ydym yn glir am gwestiwn datganoli. Os nad yw San Steffan eisiau symud, mae gan Gymru fwy fyth o gyfrifoldeb i ddatgan ei barn ei hun yn glir, dadlau dros newid ac adeiladu'r achos cryfaf, a mwyaf moesol, ymarferol, cyfansoddiadol, dros rywbeth gwell.

Lywydd, gadewch imi orffen gyda'r pwynt craidd. Nid yw codi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14, fel y dywedais, yn fater o fod yn galon feddal, mae'n ymwneud â bod yn effeithiol, mae'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd, mae'n ymwneud ag atal rhywun rhag dod yn ddioddefwr nesaf trwy ymateb mewn ffordd sy'n newid llwybr plentyn. Mae'n ymwneud â derbyn yr hyn a ddysgwyd ynglŷn â'r ffordd y mae plant yn datblygu, mae'n ymwneud â chydnabod bod gan lawer o blant yn y system anghenion heb eu diwallu a bod yn rhaid i gyfiawnder fod yn deg yn ogystal â chadarn. Mae'n ymwneud â pheidio â lledu'r rhwyd a chynhyrchu troseddwyr mynych yn y ffordd yr eir ati i gynllunio'r union system honno. Mae'n ymwneud â bod o ddifrif ynghylch yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill ym Mhrydain a ledled y byd ac mae'n ymwneud ag eglurder moesol y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei rannu pan fyddant yn meddwl yn ddwfn am y materion hyn. Ni ddylem fod yn rhoi cofnodion troseddol i blant cyn iddynt gyrraedd eu harddegau pan fo'r dystiolaeth yn dweud bod gwneud hynny'n gwneud pawb yn llai, nid yn fwy diogel. Dylai Cymru fod yn glir, yn uchelgeisiol a chael ei harwain gan y dystiolaeth, a dyna pam y dylem ymrwymo i godi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14.

19:10

Ysgrifennyd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 19:12:40
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Adam Price am fanteisio ar y cyfle i godi'r pwnc pwysig hwn yn ei ddadl fer. Wrth gwrs, fel y mae'r Aelod yn amlwg yn gwybod, nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru ar hyn o bryd ac felly mae oedran cyfrifoldeb troseddol wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Rwyf am nodi eto mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y gyfraith, ac mae'n sail i'n holl bolisïau plant. Yn unol â dull ystyriol o drawma sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar y plentyn—a dyna'r pwynt allweddol—mae'n iawn ein bod nid yn unig yn ystyried ond hefyd yn cefnogi galwadau i godi oedran cyfrifoldeb troseddol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon ar yr adeg hon pan fo'r mater hwn yn cael ei ystyried yn ehangach. Rwy'n ymwybodol iawn o'r dystiolaeth helaeth o blaid codi oedran cyfrifoldeb troseddol. Rwyf hefyd wedi nodi barn yr Arglwyddes Hale fod erlyn plant dan 14 oed yn anghywir. Pan fydd prif farnwyr yn galw ar Gymru a Lloegr i godi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14, fel sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd, fel rydych chi wedi nodi, rydym yn awyddus i glywed safbwyntiau'r Senedd yn y ddadl hon.

Ond Lywydd, yn ein dull o weithredu ar sail hawliau plant, a chan ganolbwyntio ar y drafodaeth hon a'r pwyntiau a wnaethoch, Adam, rwyf am ddweud bod ein ffocws wedi bod ar gynnal a chryfhau mesurau ataliol sy'n atal plant rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn ffurfiol gan gynllunio a pharatoi ar gyfer y diwygiadau mwy hirdymor hyn sy'n gyraeddadwy ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a diolch am gyfeirio at gomisiwn Thomas a'r dystiolaeth a'r argymhellion hynny. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfiawnder troseddol yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu a chefnogi pobl sydd mewn perygl o droseddu tuag at fywydau boddhaol sy'n rhydd o droseddu, a gall y dull hwn atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau datganoledig yn deg ac yn gyfartal, fel bod pawb yn y system cyfiawnder troseddol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw bywydau llwyddiannus yn rhydd o droseddu. Ac yn ogystal â sicrhau bod y system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid yn y DU i wella'r system gyfiawnder ac i hyrwyddo fersiwn benodol Gymreig o gyfiawnder troseddol. Mae'r gwaith hwn yn gwella canlyniadau i'r bobl ifanc a phlant agored i niwed yn aml sy'n cael eu dal yn y system gyfiawnder. Mae'n helpu i gadw pobl Cymru'n ddiogel a chadw'r rhai sy'n rhan o'r system gyfiawnder rhag troseddu.

Rwy'n falch o gael y cyfle y mae'r ddadl hon yn ei roi i fyfyrio ar gyflawniadau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, ar y llwybrau yr ydym wedi'u datblygu. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sydyn a pharhaus dros y 15 mlynedd diwethaf yn nifer y rhai a ddaw i gysylltiad â'r system gyfiawnder am y tro cyntaf, sy'n dyst i effeithiolrwydd y dull ataliol. Mae hefyd yn adlewyrchiad o ymrwymiad, gwydnwch a thosturi ein gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder ieuenctid—gadewch inni feddwl amdanynt heddiw—sy'n gweithio'n ddiflino i wella canlyniadau i blant a allai fod yn torri'r gyfraith. Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid bellach yn ymgysylltu â llawer llai o blant sy'n ddarostyngedig i orchmynion llys statudol, gyda'r rhan fwyaf o'u hymdrechion yn canolbwyntio ar atal ac fel y nodoch chi, ar ymyriadau dargyfeirio. Mae'n galonogol fod llai o bobl ifanc 10 i 14 oed hefyd yn cael rhybuddiadau ac euogfarnau. Mae'r data cyfredol yn dangos bod 75 y cant rhwng 15 a 17 oed.

Rydym yn cydnabod yr anghenion a'r gwendidau sydd gan blant yn y system gyfiawnder, gyda llawer o blant yn dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yn ffurfiol oherwydd y problemau sydd wedi codi y tu allan iddi. Ceir tystiolaeth fod atal plant rhag dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf yn debygol o leihau'r tebygolrwydd y byddant yn cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol pellach. Felly, mae'n amlwg fod darparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth, deall a diwallu eu hanghenion, mynd i'r afael â'u bregusrwydd ac ymateb yn systematig i'w hatal a'u hamddiffyn nhw ac eraill rhag niwed yn darparu canlyniadau cadarnhaol. O atal ac ymyrraeth gynnar i ailsefydlu o'r ddalfa, fel y dywedais, rydym yn mabwysiadu ymagwedd ystyriol o drawma. Mae llawer o blant, fel y nodwyd gennych, yn ddioddefwyr eu hunain ac wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a dylid cydnabod hyn. Yn wir, mae ein deddfwriaeth ein hunain yn ei adlewyrchu, ac rwy'n falch o nodi, wrth gwrs, a'n hatgoffa am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi gofynion pellach i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu darparu i atal plant rhag troseddu ac i hyrwyddo eu llesiant yn y dyfodol.

Lywydd, yn 2011 fe wnaethom ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng nghyfraith Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae hwn yn ddatganiad clir o'n hymrwymiad parhaol i hawliau plant, ac rwy'n gwbl ymwybodol fod pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn argymell y dylai isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol fod yn 14 oed o leiaf. Wedi'i chefnogi gan y dirwedd ddeddfwriaethol hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu dull ataliol mewn perthynas â phlant sydd mewn perygl neu'n wynebu risg o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Mae'n rhagdybio dull plentyn yn gyntaf o weithredu mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar anghenion unigol plant yn y system gyfiawnder neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder, yn hytrach na mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth, gan ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i blant, adeiladu ar eu cryfderau a'u galluoedd, eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas, creu cymunedau mwy diogel a llai o ddioddefwyr.

Mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, plismona yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid y trydydd sector. Mae'n arddangos manteision gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys darparu hyfforddiant ystyriol o drawma i dros 300 o ymarferwyr cyfiawnder yng Nghymru, a chefnogi'r gwaith o ehangu dulliau gwell o reoli achosion i'r holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Nawr, wrth gwrs, mae'r glasbrint wedi symud i gyfnod newydd, gan adeiladu ar y fframwaith a'r egwyddorion presennol i barhau i ymgorffori arferion gorau yn y system gyfiawnder i blant yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n cynorthwyo gwasanaethau datganoledig a phartneriaid i ddeall eu rôl yn atal troseddu, gan nodi pwysigrwydd defnyddio'r dull plentyn yn gyntaf ar draws gwasanaethau Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'n cymheiriaid mewn llywodraeth leol, gan gydnabod sut y mae'r fframwaith atal yn cydnabod y dirwedd bwysig honno yng Nghymru, sefyllfa unigryw cyfiawnder ieuenctid, y modd y mae'n gorgyffwrdd â systemau cyfiawnder a gwasanaethau sy'n ymwneud â lles, iechyd a llesiant plant, sy'n ein harwain at yr achos clir dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid. 

Fe ddof i ben gyda'r pwyntiau hyn, yn olaf, Lywydd. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar eu hymrwymiad maniffesto a'n hymrwymiad ni tuag at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid yr wythnos hon, ac rwy'n mynd i roi gwybod iddo am y ddadl hon a'n trafodaethau, y ddadl hon ar oedran cyfrifoldeb troseddol a galwad yr Aelod am ei godi, fel y mae wedi cael ei drafod nawr yma heddiw ac yn San Steffan.

Yn olaf, Lywydd, hoffwn unwaith eto groesawu'r ddadl hon. Mae'n rhoi cyfle inni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ddarparu gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid sy'n canolbwyntio ar y plentyn yng Nghymru, ar ein symudiad tuag at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid. Ond yn bwysicaf oll, mae'r Aelod wedi ein hatgoffa o'r dystiolaeth am yr achos dros godi oedran cyfrifoldeb troseddol yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad yr Aelod heddiw. Byddwn yn ei ystyried yn ein trafodaethau polisi yng Nghymru gyda'n partneriaid a Llywodraeth y DU. Diolch.

19:20
11. Dadl: Cyfnod 3 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Yr eitem nesaf fydd Cyfnod 3 y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). 

Grŵp 1: Hyfforddiant ar gyfer aelodau meddygol nad ydynt yn ymarfer (Gwelliannau 2, 1)

Grŵp 1 o welliannau ar hyn yw'r grŵp sy'n ymwneud â hyfforddiant ar gyfer aelodau meddygol nad ydynt yn ymarfer. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y prif welliant.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Adam Price).

Diolch yn fawr, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn y grŵp hwn yn fy enw i. Mae'r gwelliant cyntaf, gwelliant 1, yn welliant hwyluso i newid y teitl hir. Nid yw'n newid sylwedd y Bil. Yn syml, mae'n rhoi'r fformiwleiddiad safonol yn lle'r geiriad penodol at ddibenion cysylltiedig, yn bennaf er mwyn i'r Bil allu darparu'n briodol ar gyfer y gwelliant sylweddol.

Y gwelliant sylweddol hwnnw yw gwelliant 2, sy'n creu dyletswydd newydd ar Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o'r trefniadau hyfforddi a gynhelir gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer aelodau meddygol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru nad oes ganddynt drwydded i ymarfer, ac i gyhoeddi adroddiad o fewn 12 mis i gychwyn y ddeddfwriaeth. Mae'r rhesymeg ar gyfer y gwelliant yn adlewyrchu'r ddadl a nodais yn ein trafodion cynharach ar Gyfnod 2, oherwydd mae'r Bil yn dileu'r angen am drwydded gyfredol i ymarfer. Rydym yn deall y brys sy'n sail i hynny, ond wrth wneud hynny, mae'n bwysig sicrhau cleifion a theuluoedd fod gwrandawiadau'n cael eu llywio gan arbenigedd clinigol cyfredol. Felly, dyna'r ffocws, mewn gwirionedd, ar gyfer y gwelliant hwn.

Fe wnaethom rannu'r gwelliant cynharach gyda rhanddeiliaid, ac roedd cefnogaeth unfrydol i ysbryd yr ateb, fod hon yn broblem sydd angen datrysiad. Yr hyn sy'n amlwg ei angen arnom yw mesur diogelwch i sicrhau bod lefel yr wybodaeth yn cael ei chadw'n gyfredol i'r rhai nad ydynt yn ymarfer mwyach. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant hwn yng Nghyfnod 3.

Yn ystod ein trafodaethau Cyfnod 2, ac wedi hynny, daethom yn ymwybodol fod y cynnig yng Nghyfnod 2, sef rhoi dyletswydd uniongyrchol ar lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yn broblemus oherwydd bod llywydd Tribiwnlysoedd Cymru—gall hyn fod yn syndod i rai pobl—yn cael ei drin at y dibenion hyn fel awdurdod neilltuol. Mae hynny'n golygu, os ydym yn rhoi dyletswydd i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae angen caniatâd gweinidogol y Goron gan Lywodraeth San Steffan. Ac yn amlwg, yng nghyd-destun deddfwriaeth frys, mae hynny'n eithaf anodd, a gallai olygu oedi sylweddol cyn derbyn Cydsyniad Brenhinol. O ystyried y risg y gallai hynny ei chreu o ran gallu'r tribiwnlys, fel y clywsom, i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, teimlem nad oedd honno'n risg a oedd yn dderbyniol yn y cyd-destun hwn. Felly, fe wnaethom archwilio opsiynau eraill, gan osod dyletswydd, er enghraifft, ar lywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ei hun, ond nid oes gan ddeiliad y swydd honno y math o swyddogaethau statudol diffiniedig ar hyn o bryd sy'n ei gwneud hi'n hawdd atodi dyletswydd hyfforddi benodol newydd o fewn cwmpas cul ac amserlen dynn y Bil hwn.

Nawr, mae'r ddwy broblem yr wyf newydd eu hamlinellu yn broblemau o'r math a gaiff eu datrys gan y Bil tribiwnlysoedd, oherwydd bydd y Bil tribiwnlysoedd yn gwneud llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yr hyn y dylai fod, yn amlwg, sef deiliad swydd ddatganoledig, ond nid ydym yno ar hyn o bryd. Felly, yr ateb interim a luniwyd gennym, Lywydd, fel y dywedais, yw cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu'r prif fater yma, y trefniadau hyfforddi, y rhai sy'n bodoli eisoes a'r hyn sydd ar waith o ran aelodau meddygol nad ydynt yn ymarfer, a chyhoeddi'r canlyniad fel y gallwn gael asesiad tryloyw i weld a yw'r trefniadau hyfforddi hynny'n ddigonol ar gyfer y garfan sydd, yn amlwg, yn eithaf pwysig o ran y Bil hwn ac o ran gweithrediad y tribiwnlys. Ac rwy'n credu bod hynny'n creu llinell welediad, os mynnwch, i'r cyhoedd a fydd yn caniatáu inni symud o ateb brys neu interim i ateb mwy parhaol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi'r ddau welliant.

19:25

Diolch, Lywydd. Yn amlwg, fel gydag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, mae'n bwysig ein bod yn ei chael yn iawn, a hyd yn oed mewn amgylchiadau brys, mae'r broses y bydd y ddeddfwrfa yn ei dilyn i adolygu a cheisio diwygio deddfwriaeth yn un allweddol. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am y ffordd gydweithredol y mae wedi mynd i'r afael â'r ddadl ac am yr ysbryd y cyflwynwyd y gwelliannau ynddo. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i Adam Price am y trafodaethau a gawsom heddiw ynghylch gwelliannau gyda'r nod o gryfhau trefniadau ar gyfer hyfforddi aelodau meddygol heb drwydded i ymarfer.

Lywydd, dylwn gofnodi nad wyf yn credu bod y pryderon y mae'n eu codi yn ddamcaniaethol o reidrwydd yn rhai sy'n codi yn ymarferol. Rwy'n gwybod pa mor ddifrifol y mae llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ystyried ei ddyletswydd i ddarparu hyfforddiant digonol i holl aelodau pob tribiwnlys, a'r gofal a gymerir gan lywyddion tribiwnlys unigol i sicrhau bod eu haelodau yn gallu, ac yn parhau i allu cyflawni eu cyfrifoldebau yn llawn.

Rydym wedi siarad o'r blaen hefyd am y cymwysterau helaeth y mae'n rhaid i bob aelod meddygol feddu arnynt a'r gweithdrefnau a'r prosesau trwyadl y maent yn eu cyflawni cyn iddynt ddod yn aelodau o'r tribiwnlys. Serch hynny, i gydnabod y risg ddamcaniaethol y mae Adam Price wedi'i nodi a'r sgyrsiau y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda phobl fel Mind Cymru ac Adferiad, rwy'n hapus i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd i'r Bil yn ei enw.

Fel y mae wedi nodi, mae'r gwelliant yn ceisio ateb y pryderon a godwyd drwy ymrwymo Gweinidogion Cymru i adolygu'r drefn hyfforddi ar gyfer yr aelodau dan sylw. Mae'r adolygiad hwnnw i'w gynnal heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, sydd, wrth gwrs, yn amserol, gan y bydd yn caniatáu i unrhyw ganlyniadau o'r adolygiad gael eu hystyried gan y Senedd yng ngoleuni Bil tribiwnlysoedd, gan ragdybio, Lywydd, fel rwy'n hoff o wneud, y bydd unrhyw Lywodraeth newydd yn bwrw ymlaen â Bil o'r fath. Mae'r gwelliant hwn felly yn bodloni'r awydd i sicrhau bod gennym y drefn hyfforddi hollol gywir ar gyfer y categori penodol hwn o aelodau yng ngoleuni eu dyletswyddau hanfodol, heb ymyrryd â phrif swyddogaeth y Bil, sef adfer capasiti'r tribiwnlys cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny.

Lywydd, hoffwn hefyd fynd i'r afael â'r maes arall lle trafodwyd gwelliant yng Nghyfnod 2 ac na chafodd ei gynnig gan yr Aelod ar gyfer pleidlais ar fy nghais i, sef aelodau meddygol a allai gael eu hatal dros dro neu sy'n destun amodau neu ymgymeriadau. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn cytuno â llawer o'r bwriad y tu ôl i welliant cynharach Adam Price. Rwy'n gwybod ei fod wedi bwriadu cyflwyno'r gwelliant hwnnw ac yn anffodus canfuwyd ei fod y tu allan i gwmpas y Bil, ond rwyf am gofnodi nawr ein bod yn hapus i wneud yr hyn y byddai'r gwelliant hwnnw wedi rhoi mandad arnom i'w wneud. Felly, gadewch imi nodi hynny'n glir. Mae Deddf Meddygaeth 1983 yn cynnwys darpariaeth lle mae'n ofynnol i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol hysbysu personau penodol, er enghraifft, Gweinidogion Cymru a chyflogwyr y person, ynghylch ymchwiliad ganddynt i addasrwydd ymarferydd meddygol i ymarfer. Dylai'r gofyniad hwnnw mewn egwyddor ymestyn i gynnwys bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn hysbysu'r tribiwnlys, ond ni allwn fod yn sicr fod hyn yn digwydd ym mhob achos, gan nad oes gofyniad penodol iddynt wneud hynny. Rydym o'r farn ei bod yn bwysig cael trefniadau llywodraethu cadarn ar waith, felly fy ymrwymiad i yw y byddwn yn rhoi proses ar waith i sicrhau, pan hysbysir Gweinidogion Cymru gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, yn gweithredu fel y gwasanaeth iechyd, fod ymarferydd sy'n aelod meddygol o Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn destun ymchwiliad, y bydd Gweinidogion Cymru yn eu tro yn hysbysu llywydd y tribiwnlys.

Rwyf wedi cael cyfle i drafod hyn gyda llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru y prynhawn yma, ac mae hi'n cytuno bod proses o'r fath, er efallai nad yw'n hollol angenrheidiol, yn rhagofal synhwyrol. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau hefyd fod y llywydd wedi cytuno i gynnal adolygiad o'r amodau a/neu ymgymeriadau presennol sy'n berthnasol i gofrestru aelodau meddygol cyfredol y tribiwnlys. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyfuniad hwn o adolygu unrhyw amodau neu ymgymeriadau sy'n bodoli eisoes, a hysbysiad ynghylch unrhyw achosion newydd sy'n dechrau a allai arwain at amodau neu ymgymeriadau yn y dyfodol, yn rhoi'r sicrwydd angenrheidiol y bydd llywydd y tribiwnlys yn ymwybodol o unrhyw gwestiynau am addasrwydd unigolion i ymarfer, ac y bydd yn gallu gweithredu'n briodol i adlewyrchu amgylchiadau unigol unrhyw achosion gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Diolch.

19:30

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol ac i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r gwelliannau hyn ac yn wir, am yr ymrwymiadau pellach y mae hi newydd eu rhoi mewn perthynas â'r gwelliant nad oeddem yn gallu eu cyflwyno ar y cam hwn.

Os caf ddweud ychydig am yr hyn a ddysgwyd mewn mater o oriau trwy'r broses honno, roedd yn ymwneud â'r mater o gadw'n gyfredol â statws aelodau cofrestredig y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Yr hyn a sefydlwyd gennym yw bod y sefyllfa ymhell o fod yn syml. Mae atal dros dro, efallai, yn gymharol glir. Os yw cofrestriad Cyngor Meddygol Cyffredinol meddyg yn cael ei atal dros dro, ni fyddent fel arfer yn cyfrif fel aelodau cofrestredig llawn mwyach ac felly ni allent fod yn aelod o'r tribiwnlys neu barhau i wneud hynny. Ond mae amodau ac ymgymeriadau, i ddefnyddio'r termau technegol, yn fwy cymhleth. Mae rhai'n negyddol ac yn gyfyngol yn yr ystyr honno, ond gall eraill fod yn gadarnhaol. Felly, gallai anghymhwyso statudol moel yn ymwneud ag amod fod yn rhy eang, gan y gallai leihau capasiti tribiwnlys yn anfwriadol, gan dorri ar draws diben y Bil.

Rwy'n credu ei fod yn codi cwestiwn ynglŷn â pham y mae'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn defnyddio'r ymadrodd 'cofrestru diamod', nad yw'n ymddangos bod iddo sail statudol yn unrhyw le y gallwn ddod o hyd iddo, am y rhesymau rwyf newydd eu hamlinellu, oherwydd ei fod yn ymddangos yn anghyson. Felly, mae angen gwneud gwaith pellach yno ac mae sgyrsiau i'w cael. Ond mae angen inni ddod o hyd i ryw fecanwaith ar gyfer llif gwybodaeth a throsolwg er mwyn cadw gwybodaeth y tribiwnlys am statws rheoleiddiol aelod meddygol yn gyfredol. Rwy'n credu bod yr ymrwymiadau a roddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, ac yn wir, gan lywydd y tribiwnlys wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.

A gaf i felly gynnig y gwelliannau? Rwy'n credu ein bod wedi profi bod y Senedd yn gallu symud yn gyflym pan fo angen inni wneud hynny.

Os gwrthodir gwelliant 2, bydd gwelliant 1 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 2 yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 1 (Adam Price).

Rydym ni wedi clywed Adam Price yn dweud ei fod yn symud gwelliant 1. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 1 hefyd wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bill wedi eu derbyn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, dwi'n gallu cadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

12. Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Eitem 12, felly, yw Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Y Cwnsler Cyffredinol nawr sydd yn gwneud y cynnig yma. Julie James.

19:35

Motion

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.48:

Yn cymeradwyo'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, rydym wedi gweithio ar yr amserlen gyflymaf erioed ar gyfer ystyried Bil gan y Senedd hon. Ddoe—dim ond ddoe oedd hi—fe nodais pam y mae cymaint o frys am y Bil hwn a pham y mae mor bwysig fod ei daith drwy'r Senedd mor gyflym â phosib. Ers hynny, rydym wedi trafod y canlyniadau yn y byd go iawn i bobl agored i niwed pe baem yn methu cywiro'r mater technegol y mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Rydym wedi dadlau a thrafod sut y cododd y sefyllfa hon, pam na sylwyd arno tan nawr ac a ddylid bod wedi sylwi arno'n gynt a chan bwy. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau eraill o'r Senedd sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac wedi rhannu eu barn, yn enwedig Adam Price, y teimlaf fy mod wedi cael deialog gadarnhaol ac adeiladol gydag ef ynghylch gwelliannau posib. Rydym wedi gwneud un gwelliant i'r Bil o ganlyniad i'r ddeialog hon, ac wedi rhoi ymrwymiad pellach ar fater cysylltiedig, a nodais ychydig funudau'n ôl.

Yn y pen draw, mae'r sefyllfa o'n blaenau wedi bod yn un syml. Mae yna fater pwysig y mae angen mynd i'r afael ag ef, a phwy bynnag a'i hachosodd, mater i ni yw mynd i'r afael ag ef. Mae angen inni adfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i'w gapasiti gweithredu llawn. Os na wnawn hynny, rydym yn creu risg o niwed sylweddol i unigolion pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Mae'r Llywodraeth wedi gweithredu mor gyflym ag y gallai yn dilyn penderfyniad y llywydd na allai ganiatáu i aelodau meddygol nad oes ganddynt drwydded i ymarfer fod yn aelodau o dribiwnlysoedd mwyach. Rwy'n hynod ddiolchgar hefyd i'r Llywydd ac i staff Comisiwn y Senedd, y mae eu hymgysylltiad adeiladol a'u gwaith sylweddol wedi caniatáu inni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mor gyflym ag y gwnaethom.

Yn dilyn y bleidlais hon, rwy'n gobeithio'n fawr y byddaf yn ddiolchgar iawn i'r Senedd am basio'r ddeddfwriaeth. Yn amodol ar basio'r Bil gan y Senedd, mae gan y Twrnai Cyffredinol hawl i gyfeirio'r ddeddfwriaeth i'r Goruchaf Lys. Mae'r hawl honno gennyf innau hefyd, ond ni fyddaf yn ei harfer. Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru bŵer hefyd, mewn rhai amgylchiadau, i wneud gorchymyn i atal y Bil rhag mynd rhagddo i gydsyniad Brenhinol. Rwyf wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau ein bod i gyd yn datgan ein bwriad yn glir i beidio ag arfer y pwerau hynny ac i ganiatáu i'r Bil basio ar unwaith i Gydsyniad Brenhinol. Fy mwriad yw sicrhau bod y Bil hwn yn dod i rym cyn gynted â phosib, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am gydnabod y brys i'w gael a'i bwysigrwydd. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno'r Bil hwn ac i Adam Price am gyflwyno gwelliannau, sy'n cryfhau'r Bil hwn yn fy marn i, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n falch iawn o glywed mai fy sylwadau ar y Bil hwn yw: rwy'n cyfeirio'r Aelodau at y sylwadau a wneuthum yn ei gylch ddoe. [Chwerthin.]

Lywydd, bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Bil hwn yng Nghyfnod 4, ac rwyf am ddechrau gyda diolch. Rwyf am ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hymgysylltiad cadarnhaol â ni yn gyflym, yn y Siambr ac yn y sgyrsiau y gallasom eu cael rhwng cyfnodau. Rwyf hefyd am gofnodi ein gwerthfawrogiad o waith clercod y Senedd a staff y Comisiwn a thimau deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru a staff grŵp Plaid Cymru, sydd oll wedi gweithio o dan bwysau sylweddol i symud deddfwriaeth frys drwodd yn briodol. Mewn proses gyflym, mae proffesiynoldeb y timau hyn yn bwysig.

Hoffem ddiolch hefyd i randdeiliaid a ymgysylltodd yn gyflym ac mewn ewyllys da, yn enwedig Mind Cymru, Adferiad a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Helpodd eu mewnbwn i hogi'r hyn a oedd ar goll o'r Bil fel y'i cyflwynwyd gyntaf. Rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau gwelliant y cytunir arno sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r pryder a rannant fod angen sicrwydd ar gleifion a theuluoedd y bydd gwrandawiadau'n parhau i gael eu llywio gan arbenigedd clinigol cyfredol. Mae'r gwelliant hyfforddi hwnnw a gytunwyd gennym heddiw yn gam ymarferol i'r cyfeiriad hwnnw, ac mewn Bil brys gyda chraffu cywasgedig, mae'r math hwnnw o dryloywder a dilyniant yn bwysig iawn.

Fe gaf gymeradwyaeth ar y pwynt hwn pan ddywedaf, 'yn olaf'. [Chwerthin.] O, rydych chi mor hawdd eich darllen, ond dyna ni. [Chwerthin.] Rwy'n eich caru chithau hefyd, Lee Waters. [Chwerthin.] 

Nid wyf eisiau taflu dŵr oer ar bethau, ond rwy'n credu ei fod yn bwysig: dysgu yw'r allwedd i unrhyw ddemocratiaeth, onid e? Felly, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu Uned Tribiwnlysoedd Cymru i gynnal adolygiad arbennig byr o'r ffordd y gwnaethom gyrraedd yma, oherwydd fel y gallwn ddweud yng Nghyfnod 2, dywedwyd wrthym fod y tribiwnlys wedi cael gwybod am hyn flynyddoedd lawer yn ôl. Mewn gwirionedd, dywedwyd wrthyf nawr fod yr wybodaeth honno wedi'i rhannu'n uniongyrchol â chyn-lywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ei hun. Felly, mae angen ymchwilio i hynny ac edrych arno'n iawn. Sut y cafodd y rhybudd hwnnw ei drin? Pryd y daeth i law? Sut y cafodd ei gofnodi? Pa gamau, os o gwbl, a gymerwyd? Oherwydd mae'n ddyletswydd arnom, onid yw, ac rwy'n credu ein bod wedi gweithio'n dda o dan bwysau i gynhyrchu'r ddeddfwriaeth frys hon a datrys y broblem, ond ni ddylem fod yn y sefyllfa hon mewn gwirionedd. Felly, a allwn ni gael yr adolygiad hwnnw, i ddarganfod beth a ddigwyddodd, beth na ddigwyddodd, fel nad ydym yn y sefyllfa hon eto?

19:40

Diolch, Lywydd. Cyn inni bleidleisio, rwyf am ddiolch unwaith eto i holl Aelodau'r Senedd am eu hystyriaeth a'u cefnogaeth i'r Bil. Dros y ddau ddiwrnod diwethaf, rydych chi wedi clywed yr achos dros y ddeddfwriaeth hon a pham y mae angen ei phasio'n gyflym. Drwy basio'r Bil hwn, byddwn yn adfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru i'w gapasiti gweithredol llawn ac yn sicrhau ei fod yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau statudol ar ran rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, fel byddwch chi'n gwybod. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, dwi'n barod i symud i'r bleidlais ar Gyfnod 4. Gallwn ni felly, ar gymeradwyo'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r bleidlais yna ar Gyfnod 4 y Bil yna wedi'i chymeradwyo. 

Eitem 12. Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:42.