Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/05/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Mae cwestiwn 1 gan Altaf Hussain.

Dioddefwyr Gwrywaidd Cam-drin Domestig, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol? OQ62748

Member
Jane Hutt 13:30:34
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae Dyn, prosiect Cymru Ddiogelach, yn gweithio gyda dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, ac yn rhoi mynediad iddynt at wasanaethau cymorth a diogelwch. Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi cynnydd sylweddol i brosiect Dyn yn eu dyfarniad refeniw ar gyfer 2025-26.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais y pleser o gyfarfod â Jonathan's House Ministries, sy'n darparu mannau diogel i ddynion a bechgyn sy'n cael eu cam-drin. Fe wnaethom drafod eu cynnig i sefydlu lloches breswyl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y gwasanaeth cymorth i ddynion yn unig cyntaf o'i fath yng Nghymru. Fe wnaethant dynnu sylw at yr anhawster i gael grantiau'r Llywodraeth, sydd yn draddodiadol yn canolbwyntio llawer mwy ar drais yn erbyn menywod a merched. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech chi'n barod i gyfarfod â Jonathan's House i drafod eu cynigion?

Diolch am yr adborth hwnnw o'ch cyfarfod diweddar ynghylch Jonathan's House—ac adborth diddorol iawn. O ran lleoedd ar gyfer llochesi, gallwn roi darlun i chi yma: ar 1 Mawrth 2023, ledled Cymru a Lloegr, roedd 43 o sefydliadau a 92 o leoedd pwrpasol ar gyfer goroeswyr gwrywaidd cam-drin, neu 183 ar gyfer dynion neu fenywod. Mae'n bwysig gweld bod lloches ar gael i oroeswyr gwrywaidd, darpariaeth lloches. Byddaf yn sicr yn gofyn i'm swyddogion gyfarfod â Jonathan's House.

Mae cwestiwn 2 [OQ62730] wedi ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 3, Natasha Asghar.

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw ar Ddwyrain De Cymru? OQ62738

Diolch am eich cwestiwn. Byddwn yn rhoi amser i ystyried y dyfarniad a'r canllawiau statudol sydd ar y ffordd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan barchu urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymatebion Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i'r dyfarniad clir hwn wedi bod yn ddi-fflach, a dweud y lleiaf. Eich camgymeriad angheuol fel Llywodraeth oedd ceisio peidio â phechu unrhyw un, ac eto, rydych chi wedi pechu pawb, gan roi eich hunain yn y sefyllfa unigryw o beidio â chadw unrhyw un yn hapus. Yr hyn sy'n fy synnu yw bod plaid wleidyddol sy'n dweud ei bod yn gofalu am fenywod wedi anwybyddu'r cais sylfaenol y mae menywod wedi bod yn galw amdano: mannau diogel a chydnabyddiaeth. Nid yw hwn yn gais newydd. Rydym wedi cael deddfwriaeth o dan eich Llywodraeth Lafur, fel Deddf Cydraddoldeb 2010, a hyd yn oed Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, sydd â'r nod, yn y pen draw, o ddiogelu menywod. Ni allwch hyd yn oed ddiffinio beth yw menyw yma yn Senedd Cymru, ac mae hynny'n fy nhristáu'n fawr iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf i, yn ogystal â'r Senedd yma heddiw, pryd y bydd y dyfarniad nodedig hwn yn cael ei gyflwyno ym mhob lleoliad gofal iechyd a man cyhoeddus yma yng Nghymru? Diolch.

Mae'n bwysig ein bod yn rhoi amser i ystyried goblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys. Roeddwn yn falch iawn o weld llythyr agored gan y pwyllgor trawsbleidiol ar gydraddoldeb menywod yn San Steffan yn gofyn am estyniad i'r cyfnod ymgynghori, er mwyn sicrhau y bydd gan bob rhanddeiliad ddigon o amser i ymgysylltu'n briodol â'r ymgynghoriad. Ymgynghoriad yw hwn, wrth gwrs, a fydd yn cael ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mae'n rhaid inni aros am sicrwydd cod ymarfer wedi'i ddiweddaru er mwyn ymateb yn llawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig—. Cynhelir yr ymgynghoriad o 19 Mai 2025 tan 30 Mehefin. Byddwn yn ystyried ein hymateb bryd hynny, pan fydd gennym eglurder ar y cod ymarfer. Ond rydym yn gweithio'n gyflym i ddeall, ar draws y Llywodraeth, ac mae sawl Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb i gwestiynau yn y Siambr, sy'n hollbwysig. Mae angen inni ddeall goblygiadau'r dyfarniad hwn ar gyfer y sector cyhoeddus ac ar gyfer Cymru gyfan. Ond fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, rydym yn disgwyl i'r cod ymarfer ystyried hawliau dynol yr holl bobl yr effeithir arnynt gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yn llawn.

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi na ddylai sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus fod yn gwneud datganiadau gwleidyddol?

Wel, mae arnaf ofn fy mod yn credu y bydd yn rhaid ichi ymhelaethu ar eich cwestiwn, Altaf. Yn amlwg, mae'n arwain i rywle.

Wel, dyna fy ail gwestiwn. Rwy'n croesawu eich ymateb, yr hyn a ddywedoch chi, nad ydych yn gwybod popeth am hyn. Mae penderfyniad Pride Cymru i wahardd gwleidyddion rhag mynychu digwyddiadau Pride yn gam enfawr yn ôl. Mae'r rhai ohonom sy'n cefnogi Pride a'r mudiad LHD yn cael ein gwrthod fel cynghreiriaid am ein bod hefyd yn cefnogi hawliau menywod. Mae'r agenda draws radical yn lleihau hawliau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol drwy bennu pwy all a phwy na all gael eu cynrychioli mewn digwyddiadau Pride. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio trefnwyr Pride Cymru am gymryd y cam hwn yn ôl? Ac a wnewch chi ailystyried darparu cyllid cyhoeddus iddynt os ydynt yn parhau â'r safbwynt hwn?

Diolch am ymhelaethu ac egluro eich cwestiwn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu ariannu Pride Cymru dros y blynyddoedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi ymrwymo £25,500 i barhau â'n cymorth i Pride Cymru, gan ein bod yn cefnogi digwyddiadau Pride ar lawr gwlad, ac maent wedi cael trydedd flwyddyn lwyddiannus. Mae llawer mwy o ddigwyddiadau lleol. Rwy'n deall bod un wedi'i gynnal yn Abertawe dros y penwythnos. Hefyd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi'r cyllid ar gyfer digwyddiadau Pride lleol, fel y gall sefydliadau Pride lleol wneud cais am y cyllid hwn.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni barchu'r sefyllfa o ran y gymuned LHDTC+ yn arbennig. Mae'n ymwneud â'r cwestiwn blaenorol, gan fod pryder ynghylch dyfarniad y Goruchaf Lys. Credaf fod yn rhaid inni barchu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen inni ddeall, ac yn wir, rwy'n cyfarfod â Pride. Byddwch yn falch o glywed, Altaf, fy mod yn cyfarfod â Pride, gan fy mod am ddeall eu pryderon, ond hefyd i roi sicrwydd iddynt ynglŷn â'r ffaith bod angen inni ymateb yn llawn ac ystyried eu pryderon, eu tystiolaeth, yn enwedig ynglŷn â dyfarniad y Goruchaf Lys.

Oes, mae gennym gynllun gweithredu LHDTC+, yr oeddem yn falch iawn o'i lansio yng Nghymru, ac wrth gwrs, fe'i hystyrir gan lawer yn enghraifft o gynllun sydd wedi'i ddatblygu a'i gydnabod fel enghraifft o lunio polisïau hawliau dynol.

Roeddwn eisiau dweud, yn fy natganiad ysgrifenedig, ein bod yn cydnabod yr ofn a'r ansicrwydd y mae pobl draws ledled Cymru yn ei deimlo. Ond yr hyn y mae angen inni ei wneud, fel y dywedodd dyfarniad y Goruchaf Lys a'r barnwr, yw sicrhau bod dealltwriaeth, y gallwn wrando ar bawb, y gallwn ei ddeall. Ac fel y dywedodd y Barnwr Hodge, nid buddugoliaeth i un grŵp ar draul y llall oedd hon. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod â Pride, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom fynychu digwyddiadau Pride yn unigol os dymunwn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ddiolchgar i Natasha am godi'r mater hwn yn gynharach. Nawr, ers i ddyfarniad hynod synhwyrol y Goruchaf Lys egluro'r diffiniad o ryw yn y Ddeddf Cydraddoldeb, bu llawer o hysteria gan rai grwpiau. Nid yw croesawu ailgyflwyno mannau diogel i fenywod biolegol yn drawsffobig. Rwy'n deall bod eich Llywodraeth yn awyddus i ystyried dyfarniad y Goruchaf Lys yn ofalus. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ar unwaith, ac mae llawer o gyrff yn methu fforddio aros am ganllawiau Llywodraeth Cymru. Er gwaethaf yr eglurder a ddarparwyd gan ganllawiau dros dro'r Goruchaf Lys a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae llawer o sefydliadau'n ei chael hi'n anodd deall yr effaith. Mae'r Blaid Lafur yn canslo eu cynhadledd fenywod gan eu bod yn credu y bydd eu safbwynt ar hunanddiffinio yn eu gwneud yn agored i her gyfreithiol. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gynghori cyrff a sefydliadau yng Nghymru ar effaith dyfarniad y Goruchaf Lys?

13:40

Wel, diolch eto am eich cwestiwn dilynol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, i fynd yn ôl at fy ymatebion blaenorol, fod yn rhaid inni aros am y cyfle i ystyried yr hyn a fydd yn god ymarfer drafft. Agorodd yr ymgynghoriad ar 19 Mai, a bydd ar agor tan 30 Mehefin. Ac mae pob sefydliad—. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, eisoes yn edrych yn helaeth ar effaith dyfarniad y Goruchaf Lys. Ac mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr holl dystiolaeth sy'n dod o bob rhan o'r Llywodraeth, ar draws cymdeithas sifil, ac yn wir, cydnabod yr effaith y gallai hyn ei chael ar sut rydym yn symud ymlaen. Nid wyf yn credu bod angen gwneud penderfyniadau ar unwaith, ond yn amlwg, ni allwn ateb dros bob un o'r rheini lle gallai penderfyniadau effeithio ar y trefniadau a'r polisïau sydd ar y ffordd ac y gallai fod yn rhaid eu gweithredu.

Ond rwy'n hyderus ein bod yn cymryd y camau cywir i sicrhau bod—. Ac mae'n bwysig fod craffu yn y Siambr hon, a'ch bod yn gofyn y cwestiynau hyn i mi, a'ch cyd-Aelodau y prynhawn yma, gan ei bod yn bwysig ein bod yn dysgu o'r cwestiynau hyn—rydym yn dysgu am y pryderon, yr ystyriaethau, yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bawb sydd wedi cael eu heffeithio, a'n bod hefyd yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gywir o'r dyfarniad hwn. Ac wrth gwrs, mae'r dyfarniad yn egluro mai dim ond fel cyfeiriad at ryw biolegol y gellir dehongli'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n cyfeirio at y termau 'dyn', 'menywod' a 'rhyw'. Nid yw'r dyfarniad yn dileu amddiffyniadau i bobl draws pa un a oes ganddynt dystysgrif cydnabod rhywedd ai peidio. Felly, mae'n bwysig ein bod yn ystyried holl oblygiadau'r dyfarniad hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae briff ymchwil gan Dr Rhian Croke, o Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru, a Saqib Deshmukh a Yasmin Begum ac eraill o Insaafi CIC, wedi datgelu bod yr arfer o noeth-chwiliadau o blant yn parhau ar lefel annerbyniol o uchel yng Nghymru, er ei fod yn drawmatig ac yn groes i'r hawliau plant yr ydym ni wedi'u hymgorffori i'n cyfreithiau. Dyw plismona ddim wedi'i ddatganoli, ond, ers blynyddoedd, mae yna alwadau wedi bod gan ymgyrchwyr hawliau plant i atal hyn. Fe ofynnais i chi yn ôl yn 2023 am hyn ac fe sonioch chi eich bod chi'n, a dwi'n dyfynnu,

'cymryd y mater...o ddifrif',

a nodi eich bod chi wedi cwrdd â'r comisiynwyr heddlu i wella data ac i gytuno, yn eich geiriau chi,

'camau pellach i'w cymryd'.

Ers hynny, mae Comisiynydd Plant Lloegr wedi cyhoeddi trydydd adroddiad ar y mater gan ddatgelu bod lefel uwch o'r arfer yma yng Nghymru a bod Heddlu De Cymru ar restr o bum ardal heddlu sydd â'r nifer uchaf o noeth-chwiliadau o blant dros y Deyrnas Gyfunol.

A ydych chi'n cytuno, felly, fod angen dod â'r arfer yma i ben? Pam nad oes mwy o weithredu wedi bod ar hyn? Ac a wnewch chi alw ar eich chwaer Lywodraeth Lafur yn San Steffan i ddatblygu canllawiau statudol a dulliau amgen o chwilio sy'n ffocysu ar hawliau ac anghenion penodol plant?

Diolch, Sioned Williams. Diolch am eich cwestiwn pwysig iawn ac am ein hatgoffa o'r adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr—comisiynydd plant Llywodraeth y DU—o ran y dystiolaeth a roddodd ac a gyflwynwyd ganddi, sydd wrth gwrs yn destun cryn bryder o ran noeth-chwilio plant. A byddwn yn gwybod, wrth gwrs, am achos amlwg iawn, sy'n wirioneddol anodd o ran amgylchiadau'r bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt—mae'n dod i'r parth cyhoeddus, ac yna mae'n mynd allan o'r parth cyhoeddus, ac ni cheir y craffu, y cwestiynau, yr wyf yn eu croesawu y prynhawn yma.

Byddaf yn codi hyn gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu, y prif gomisiynydd—rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â Dafydd Llywelyn—ond gyda holl gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru. Byddaf yn codi hyn i weld beth sy'n digwydd yng Nghymru o ran ein heddluoedd. Mae gennym gyfarfod bwrdd plismona a phartneriaeth ym mis Gorffennaf. Byddaf yn rhoi hyn ar yr agenda, ond wrth gwrs, byddaf hefyd yn codi hyn gyda'r Gweinidog plismona, yr wyf yn cyfarfod â hi—y Fonesig Diana Johnson. Byddaf yn ei godi gyda hithau hefyd, pan fyddaf yn cyfarfod â hi yr wythnos nesaf.

13:45

Dwi’n ddiolchgar eich bod chi’n mynd i godi hyn eto. Mae e’n bwnc pwysig, onid yw e, ond y siom yw eich bod chi wedi dweud ddwy flynedd yn ôl eich bod chi’n mynd i weithredu ar hyn, ac rŷn ni wedi gweld y sefyllfa, mae’n debyg, yn gwaethygu.

Rhaid cwestiynu, felly, cyfeiriad a chyflawniad y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sydd i fod i ganolbwyntio ar amddiffyn pobl ifanc rhag niwed, nid achosi iddyn nhw ddioddef mwy o niwed. A rhaid hefyd, efallai, gwestiynu effeithiolrwydd y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', achos mae’r ymchwil yma wedi amlygu bod plant du a phlant o gefndir ethnig lleiafrifol yn llawer mwy tebygol o gael eu noeth-chwilio—bedair gwaith yn fwy tebygol—a bod y rhelyw o heddluoedd Cymru heb gyflwyno data cynhwysfawr ar yr arfer, sydd hefyd yn nodi ethnigrwydd.

Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu anghysondebau mawr yn y data sydd wedi cael ei adrodd gan heddluoedd Cymru. A wnewch chi felly bwyso ar heddluoedd yng Nghymru i gyhoeddi data cynhwysfawr, wedi ei ddatgrynhoi, ar noeth-chwiliadau plant, a chefnogi adolygiad annibynnol brys i ddefnydd chwiliadau noeth ar blant ledled Cymru, gyda ffocws penodol ar anghymesuredd hiliol?

Diolch eto.

Unwaith eto, diolch am eich cwestiynau pwysig iawn.

Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y data, fel y dywedwch, ac yn deall y sefyllfa gan yr holl heddluoedd, a byddaf yn ceisio sicrhau hynny. Ac rwyf eisoes wedi dweud y byddaf yn rhoi hyn ar agenda'r bwrdd plismona a phartneriaeth, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr holl gomisiynwyr heddlu a throseddu, a'r prif gwnstabliaid, yn ogystal â chynrychiolwyr y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU yn wir. Mae'n hanfodol ein bod yn cael y wybodaeth, a chredaf hefyd ei bod yn bwysig eich bod yn gwneud y cysylltiad hwnnw â'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, a hefyd 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar y glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ôl y toriad hanner tymor ar gynnydd y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, a'r glasbrint troseddwyr benywaidd. Felly, byddaf yn sicrhau y gallaf gael yr adborth cyn hynny, gobeithio, ond byddaf yn mynd i'r afael â hyn o ran y datganiad hwnnw. Ond hefyd, o ran 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', fel y gwyddoch, ochr yn ochr â'n cynllun, darparodd y gymuned polisi cyfiawnder troseddol yng Nghymru ail gynllun cefnogol i fynd i'r afael â hiliaeth mewn cyfiawnder troseddol yng Nghymru. A gwn y byddant wedi clywed y cwestiynau hyn heddiw, a byddaf am godi hyn gyda hwy.

A gaf i wneud un pwynt olaf ar y mater hwn ynglŷn â data? Oherwydd, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn galw am ddadgyfuno data, ac rydych yn gywir ddigon yn galw am y data. Mae llawer o'r data hwnnw'n cael ei gadw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac yn wir, gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, a nawr gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rydym angen y data wedi'i ddadgyfuno. Mae gwaith parhaus yn mynd rhagddo ar hyn, sy'n dangos cynnydd, ond byddaf yn adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnawn ar gael y data wedi'i ddadgyfuno, yn rhan o'r datganiad.

Ond yn ôl at y pwynt: mae a wnelo hyn â sicrhau ein bod yn deall, ac rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r wybodaeth anffodus hon sydd gennym—ac fe ddaeth gan y comisiynydd plant—ynglŷn â noeth-chwilio plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Diolch. Ie, Cymru oedd cenedl gyntaf y Deyrnas Gyfunol i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'w chyfreithiau, ac fe ddylai Cymru ddangos arweiniad ar ddod â'r defnydd o noeth chwiliadau o blant i ben. Ddwy flynedd yn ôl, gwnes i ofyn i chi sut byddech chi'n sicrhau, os byddai eich plaid chi yn dod i rym yn San Steffan, na fyddech chi'n fodlon ar ddull tameidiog o ddatganoli cyfiawnder yn sgil yr anghyfiawnder a niwed sy'n cael ei achosi i blant, pobl ifanc, menywod a phobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac yn sgil min yr ymyl arw, finiog honno o rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig a chadwedig.

Wrth ymateb i'm cwestiynau, fe ddywedoch chi, o ran datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf, eich bod, fel Llywodraeth, nid yn unig wedi gwneud yr achos dros hynny, ond yn paratoi ar eu cyfer. Felly, hoffwn i gael diweddariad ar hynny. Ac ydych chi'n cytuno, heb ddatganoli pwerau ar gyfiawnder a phlismona'n llawn i Gymru, nad oes modd ichi honni eich bod yn cynnal hawliau ein plant a nod polisi y 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'? 

13:50

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n ddrwg gyda fi. 

Gallai fod wedi dod gan Heledd. Sioned, mae'n wirioneddol bwysig fod eich cwestiwn ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf—. Wrth gwrs, y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am hyn, ond roedd datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn rhan o faniffesto Llywodraeth Lafur y DU. Mae i fod i gyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor i drafod cynnydd, ac yn wir, mae gennym grŵp rhyngweinidogol sy'n cyfarfod o fewn Llywodraeth Cymru. Cawsom gyfarfod ddoe, pan oeddem yn siarad am y camau nesaf ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, sy'n hollbwysig i'ch dau gwestiwn cyntaf, o ran cynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a sicrhau bod gennym gymaint o reolaeth â phosibl yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, sy'n canolbwyntio'n bendant iawn ar wasanaethau ataliol, ar roi'r plentyn yn gyntaf, ar hawliau plant. Fel y gwyddoch, mae hyn yn y glasbrint cyfiawnder ieuenctid.

Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael llawer o dystiolaeth ar hyn gan y gymuned academaidd, ond hefyd gan yr undebau cyfiawnder, y cyfarfûm â hwy gyda'r Cwnsler Cyffredinol ychydig wythnosau yn ôl, ac a oedd, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, ac Unsain—fe wnaethom gyfarfod a thrafod llawer o faterion cyfiawnder—yn awyddus iawn i weld cynnydd ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.

Polisïau Fisa

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethedig i bolisïau fisâu ar y gweithlu yng Nghymru? OQ62746

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Y bore ma, mynychais y grŵp rhyngweinidogol ar ddiogelwch, gwarchodaeth a mudo. Pwysleisiais sut y gallai newidiadau i'r system fewnfudo effeithio ar Gymru a'r angen am gysylltu parhaus.

Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw. 

Mae'n wych clywed hynny. Beth oedd yr ymateb yw'r cwestiwn y credaf yr hoffai pob un ohonom wybod yr ateb iddo, oherwydd yn amlwg, gallai'r effaith fod yn ddinistriol. Gwyddom am y gwahaniaeth enfawr ac arwyddocaol y mae cael y gweithwyr hyn yn dod i Gymru wedi'i wneud i iechyd a gofal cymdeithasol, y ffordd y maent wedi cyfoethogi ein cymunedau ledled Cymru hefyd, a bellach yn wynebu dyfodol ansicr: y newidiadau, o ran cael aelodau o'u teuluoedd yma yng Nghymru gyda hwy, ar ôl rhoi'r gorau i'w bywydau mewn gwledydd eraill i wneud cyfraniad yma yng Nghymru, a bod y dyfodol hwnnw wedi'i beryglu. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu gwneud y sylwadau hynny. A gawsant eu clywed? A beth sy'n mynd i ddigwydd? A pha sicrwydd y gallwn ei roi i'r bobl sydd yma nawr yn ein cymunedau, yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, na fyddant yma o bosibl?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Roedd yn gyfle pwysig. Roedd yn gyfarfod pedair gwlad, felly ymunodd Gweinidogion a'r Dirprwy Brif Weinidog o Lywodraeth yr Alban, a Gweinidogion o Ogledd Iwerddon, â ni. Fe'i cadeiriwyd gan yr Arglwydd Hanson, sy'n Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref, ond sydd hefyd, wrth gwrs, yn un o gyn-Aelodau Seneddol Cymru. Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaethom yw bod angen inni gymryd rhan a gallu rhoi tystiolaeth, ac asesu asesiad effaith y Papur Gwyn 'Restoring Control over the Immigration System', gan fod angen inni fod yn gwbl sicr fod safbwynt Cymru yn cael ei ystyried yn llawn. Mae'r ffaith bod gennych dair gwlad yn dweud yr un peth wrth Lywodraeth y DU bob amser yn ddefnyddiol iawn, o ran y peirianwaith rhynglywodraethol hwnnw.

Fe wneuthum ddau bwynt allweddol. Gwneuthum y pwynt ynglŷn â'r effaith ar y gweithlu gofal cymdeithasol, ac yn wir, cefais fy nghynorthwyo gan y ffaith bod fy nghyd-Aelod Dawn Bowden, sy'n amlwg yn arwain o ran edrych ar effeithiau'r Papur Gwyn ar fewnfudo—. Fe lwyddais i godi yn y cyfarfod yr holl bryderon a godwyd mewn perthynas â'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud asesiad o nifer y gweithwyr tramor, ac yn wir, fe wnaethom golli llawer o weithwyr tramor drwy weithredoedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, a gyfyngodd ar aelodau'r teulu hefyd, mewn gwirionedd, ac roedd hynny'n berthnasol i addysg uwch hefyd. Cawsom ymrwymiad y gallem gymryd rhan lawn yn hyn.

Maent hefyd wedi sefydlu grŵp ymgysylltu â'r farchnad lafur. Roedd Gweinidogion eraill yn codi materion tebyg. Bydd y grŵp ymgysylltu â'r farchnad lafur yn edrych ar anghenion sgiliau a'r effaith ar ein marchnad lafur. Soniais, wrth gwrs, am y ffaith ein bod yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol a'n bod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol ac yn cofrestru'r gweithlu, a'n bod yn edrych ar gyfleoedd gyda'r cytundeb cyflog teg. Ond gwyddom hefyd fod problemau gyda recriwtio a chadw staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Yn ail, codais y pwynt ynglŷn ag addysg uwch ac a fyddai'r ardoll a grybwyllwyd yn y cynigion hyn yn cael effaith ar Gymru—a fyddai'n berthnasol i Gymru? Hefyd, gwneuthum y pwynt ynglŷn â pha mor bwysig oedd hi fod Cymru yn genedl noddfa a bod gennym—. Yn ein harolwg cenedlaethol o bobl yng Nghymru, mae 80 y cant yn teimlo eu bod yn cyd-dynnu gyda phobl yn eu cymunedau ni waeth beth fo'u cefndir. Gwneuthum y pwynt hwnnw heddiw, fod cydlyniant cymunedol yn bwysig a bod Cymru yn elwa o fudo o ran ein poblogaeth.

13:55
Y Sector Gwirfoddol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yng nghanolbarth Cymru? OQ62720

Diolch, Russell George. Bydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru yng Nghymru yn derbyn cyllid craidd o £8.6 miliwn yn 2025-26 i ddarparu seilwaith cymorth i’r trydydd sector ledled Cymru—bydd £408,000 o’r cyllid hwn yn mynd i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys i helpu sefydliadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe sonioch chi yn eich ateb am Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, neu PAVO fel y'i gelwir yn aml. Yn ddiweddar, mae wedi lansio menter, Gwirfoddoli ym Mhowys, sy'n sicr yn tynnu sylw at waith gwirfoddolwyr ac yn tanlinellu pwysigrwydd gwirfoddolwyr hefyd, yn enwedig mewn sefydliadau unigol ac unigolion eu hunain, er enghraifft gwirfoddolwyr hyb y Trallwng, sy'n darparu gwasanaethau, mannau cynnes a digwyddiadau cymdeithasol eraill, ac yn tynnu sylw hefyd at unigolion fel Carl Hyde a Bob Jones, sy'n hyfforddi tîm rygbi dan-13 y Drenewydd, gan addysgu rygbi, wrth gwrs, a sgiliau bywyd ehangach hefyd.

Ond yn nodedig, mae gan Bowys gyfradd cyfranogiad gwirfoddolwyr o 42 y cant, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru o 30 y cant, felly dylid dathlu hynny, wrth gwrs. Ond yn aml, ac mae hyn yn cael ei godi gyda mi'n rheolaidd, mae sefydliadau'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wirfoddolwyr ac i gadw gwirfoddolwyr hefyd, ac nid oes angen dweud bod eu cyfraniad yn enfawr. Felly, pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i gefnogi recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yng nghanolbarth Cymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr?

14:00

Diolch am y cwestiwn positif iawn hwnnw. A gaf i longyfarch Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys am eu mentergarwch yn annog recriwtio gwirfoddolwyr? Mae'r gyfradd wirfoddoli o 42 y cant yn drawiadol. A gaf i longyfarch Carl a Bob a'r sefydliad yn y Trallwng y cyfeirioch chi ato? Mewn gwirionedd, yfory, rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Mind yng nghanolbarth a gogledd Powys, sydd newydd elwa o ychydig o dan £300,000 o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o hyn. Mae yn Llandrindod, ond mae'n fenter ar gyfer Powys.

Yr wythnos nesaf yw Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn lansio menter wirfoddoli newydd i Gymru. Felly, mae hyn yn cyd-fynd yn dda â'r hyn y mae Powys yn ei wneud ac rwy'n siŵr y bydd yn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gwirfoddoli.

Caethwasiaeth Fodern

6. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiweddu caethwasiaeth fodern yng Nghymru? OQ62745

Diolch, Mabon ap Gwynfor. Rydym yn defnyddio ein dylanwad i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern yn ei holl ffurfiau. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â phartneriaid drwy fforwm gwrth-gaethwasiaeth Cymru, codi ymwybyddiaeth o arwyddion o gaethwasiaeth fodern a sut i roi gwybod amdano, gweithio i ddatblygu dysgu ar-lein, a hyrwyddo arferion cyflogaeth moesegol.

Diolch am yr ateb. Mae'r gweithlu gofal tramor wedi cael tipyn o sylw dros yr wythnos neu ddwy diwethaf oherwydd ein dibyniaeth ni arnyn nhw yn y sector gofal. Ond wrth gydnabod eu gwaith caled, rhaid hefyd gydnabod gwirionedd anghyfforddus arall, sef bod nifer ohonyn nhw'n cael eu hecsbloetio gan eu cyflogwyr. Maen nhw'n gweithio yma oherwydd y fisa gofal ac maen nhw'n dibynnu ar eu cyflogwyr am yr hawl i aros yma. Rŵan, mae tystiolaeth dwi wedi'i gweld yn dangos bod nifer yn gweithio sifftiau hir, tua 16 awr y diwrnod, ac yn gweld arferion drwg iawn yn y gweithle. Ac os ydyn nhw'n gadael eu cyflogwyr nhw, yna maen nhw'n wynebu 60 diwrnod cyn gorfod mynd yn ôl adref. Ac os ydyn nhw'n cyhoeddi camweddau'r cwmni, yna maen nhw am golli nawdd y cwmni hwnnw. Mewn geiriau eraill, mae gan y cyflogwyr rym llwyr dros y staff a'u teuluoedd.

Rŵan, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dirwyn y fisas yma i ben, ond, yn y cyfamser, mae pobl sy'n gweithio yn y sector yma yn parhau'n gaeth i'r cwmnïau ac o dan fygythiad. Felly, pa gymorth sydd yma gan Lywodraeth Cymru i'r bobl sydd yn parhau i weithio efo'r fisas yma, a pha gymorth byddwch chi'n ei roi iddyn nhw wrth eu bod nhw'n symud ymlaen o'u cyflogwyr presennol?

Diolch, Mabon ap Gwynfor. Ystyriaeth bwysig iawn o'r sector gofal hollbwysig—y sector gofal cymdeithasol—yr ydym newydd fod yn ei drafod, a rôl hanfodol ein gweithwyr rhyngwladol, ein gweithwyr tramor, yn y sector gofal. Mae codi'r cwestiwn hwn heddiw yn bwysig oherwydd dylai'r cyflogwyr hynny fod yn ymwybodol o'r ffaith nad ydynt yn cadw at Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, sydd, wrth gwrs, yn ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU. Mae'n troseddoli gwahanol fathau o gaethwasiaeth fodern ac yn darparu mecanweithiau ar gyfer diogelu a chefnogi dioddefwyr. 

Yr hyn rydym yn annog sefydliadau i'w wneud yw ymrwymo i'n cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac mae dros 700 wedi gwneud hynny. Ond mewn perthynas â'r sector gofal cymdeithasol, byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod Dawn Bowden ynglŷn â hyn. Rwy'n gwybod ei bod hi'n cael cyfarfod cyn bo hir, gydag Unsain, gyda rhai gweithwyr gofal tramor sy'n gweithio yn y system. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hyn; maent yn tynnu hyn i'n sylw. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn croesawu ein gweithwyr tramor i'r sector gofal, ac y dylai'r cyflogwyr hynny gadw at y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol.

Rwy'n ddiolchgar i Mabon ab Gwynfor am ofyn y cwestiwn pwysig hwn i Ysgrifennydd y Cabinet yma heddiw. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn cytuno o amgylch y Siambr fod caethwasiaeth fodern yn bla ac y dylid achub ar bob cyfle i'w ddileu. Ni ddylem byth gymryd ein rhyddid personol yn ganiataol, a dylid cefnogi rhyddid personol pobl yn ein cymunedau bob amser hefyd, ac yn enwedig yn y sector gofal, fel y soniwyd. Mae enghraifft yn ddiweddar, lle cafodd naw gweithiwr gofal eu hachub o gaethwasiaeth fodern yn Llangollen yng ngogledd Cymru, sy'n dangos y gall caethwasiaeth fodern ddigwydd ym mhob math o amgylchiadau, ym mhob math o le—tref hardd fel Llangollen—ac mae'n digwydd o flaen ein trwynau ar adegau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â'r ateb a roddwyd gennych i Mabon ap Gwynfor, beth yn fwy y gellid ei wneud i ledaenu'r neges fod caethwasiaeth fodern yn digwydd yma yng Nghymru, yn anffodus, a bod pobl cyfle i bobl pan fyddant yn ei weld, os ydynt yn ei weld, fynegi eu pryderon wrth yr awdurdodau perthnasol fel y gallwn weld y pla hwn yn cael ei ddileu yn ein cymunedau?

14:05

Diolch, Sam Rowlands. Rwy'n falch, unwaith eto, fod y cwestiwn hwn wedi'i godi heddiw, ac i ymateb ar y persbectif o Ogledd Cymru gan ein dau Aelod o'r Senedd, cafwyd achosion amlwg iawn o gaethwasiaeth fodern yng Ngwynedd, mewn cartrefi gofal, yn arbennig, a hefyd, fel y sonioch chi, yn Llangollen. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn edrych i weld a oes unrhyw enghreifftiau mwy diweddar o achosion amlwg iawn o gaethwasiaeth fodern ledled Cymru, ac mae eich cwestiynau heddiw yn bwysig iawn i daflu goleuni ar hyn. O ran nifer y bobl yng Nghymru y cyfeirir atynt fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern, mae'n parhau i fod heb newid i raddau helaeth. Yn ôl data gan y Swyddfa Gartref, roedd 563 o atgyfeiriadau yng Nghymru yn 2024. Dyna gynnydd o lai na 2 y cant ar y ffigur cyfatebol ar gyfer 2023.

Rwyf wedi sôn am yr undeb llafur Unsain. Mae gennym hefyd fforwm gofal Cymru. Mae hwn yn fater partneriaeth gymdeithasol. Mae angen inni gael cyflogwyr, y gweithlu, undebau llafur ac awdurdodau lleol yn wir a'r rhai sy'n gyfrifol am ariannu ein sector gofal i gymryd rhan yn hyn, a byddaf yn gofyn i fy swyddogion a fforwm gwrth-gaethwasiaeth Cymru ganolbwyntio ar y mater penodol hwn.

Teuluoedd sy'n Magu Plant Anabl

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sy'n magu plant anabl? OQ62727

Diolch, Mark Isherwood. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol fel y rhai sydd â dyletswydd statudol, a rhanddeiliaid eraill, i gefnogi teuluoedd, gan gynnwys y rhai sy'n magu plant anabl. Gwneir hyn drwy ddatblygu polisi a chyllid grant wedi'i dargedu ar draws meysydd fel gofal plant, addysg, gofal cymdeithasol, chwarae a seibiant oddi wrth ofalu.

Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod awtistiaeth fel anabledd, ac fe soniais yma'n flaenorol am adroddiad ymchwil ysgol y gyfraith Prifysgol Leeds ar nifer achosion ac effaith honiadau o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, o greu neu orliwio anawsterau plentyn. Mae hyn yn cynnwys Cymru, ac mae'n nodi bod hyn wedi bod yn bryder arbennig i rieni awtistig a phlant awtistig, gyda mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio mewn perthynas â salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill gan wasanaethau plant. Daeth adroddiad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Lloegr ar awtistiaeth a beio rhieni i gasgliadau tebyg.

Ym mis Mawrth, mynychais ymgynghoriad yn St George's House, castell Windsor, ar salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill. Roedd casgliad yr adroddiad dilynol yn cynnwys bod honiadau ffug o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill yn risg gyson i'r cyhoedd, i deuluoedd, ac yn enwedig i blant bregus, sy'n cael eu methu'n gyson gan ymatebion diogelu ymosodol sy'n anwybyddu tystiolaeth ac empathi. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthyf bum mis yn ôl y byddai'n gweithio trwy'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth i gydnabod y pryderon, ysgrifennodd etholwr o sir y Fflint ddydd Gwener diwethaf i ddweud bod pobl niwroamrywiol yn cael eu targedu'n weithredol gyda'r honiadau arferol o salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru felly yn rhoi camau ar waith i atal y cam-drin creulon hwn? Mae angen gweithredu ar frys.

Diolch. Unwaith eto, cwestiynau pwysig iawn y prynhawn yma, a diolch am y cwestiwn hwn, Mark Isherwood. Mae'n rhywbeth lle bydd yn rhaid i mi ymgynghori â fy nghyd-Aelod Sarah Murphy ar gynnydd ar fynd i'r afael â hyn, yn enwedig mewn perthynas â'r rhaglen gwella niwroamrywiaeth. Yn wir, diolch eto am dynnu sylw nid yn unig at yr hawliau a'r amddiffyniad deddfwriaethol yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ond hefyd at yr ymchwil o Leeds, ac am rannu gyda ni hefyd y dystiolaeth ddiweddaraf sydd gennych gan rieni a theuluoedd yr effeithir arnynt. Felly, fe af â hyn yn ôl a sicrhau bod yna waith dilynol yn digwydd, ac mae wedi dod i sylw cyhoeddus nawr eto, Mark, felly rwy'n ddiolchgar am hynny.

14:10

Mae llawer o deuluoedd â phlant anabl yn fy etholaeth wedi dod ataf yn dweud pa mor anodd yw hi i gael mynediad at gyfleusterau hamdden iddynt, ac rwyf wedi ceisio gwneud arolwg a chysylltu â busnesau i weld a fyddent yn ystyried amseroedd agor hirach neu amseroedd penodol, amseroedd dynodedig, ar gyfer plant anabl, yn enwedig plant sy'n niwroamrywiol. O ran gwneud cynnydd, rwy'n credu ei fod yn araf iawn, ac rwy'n gwybod bod llawer o rieni'n anobeithio yn ystod cyfnodau hir y gwyliau, ac wrth gwrs, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Felly, a oes unrhyw beth arall y gallai'r Llywodraeth ei wneud i wneud cyfleusterau hamdden i blant anabl yn fwy hygyrch?  

Diolch am y cwestiwn hwnnw, Julie Morgan. Rwy'n credu bod mynediad at wasanaethau hamdden yn hanfodol, a dyma un o'r pwyntiau a ddaeth i'r amlwg yn ein cynllun hawliau pobl anabl, a lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf, a oedd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, a chyfrannodd plant a phobl ifanc â phrofiad bywyd at hynny. Felly, mae ymgynghoriad ar y gweill ar hwnnw ac mae'n bwysig fod y materion hyn yn cael sylw o ran mynediad at wasanaethau hamdden.

Wrth gwrs, mae yna raglenni a chanllawiau statudol eraill sy'n berthnasol i hyn: 'Cymru: gwlad sy'n gyfeillgar i chwarae', sy'n cyfarwyddo awdurdodau lleol i gynnig cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac yn hygyrch. Dylem annog pob plentyn i chwarae a chyfarfod â'i gilydd, gan adlewyrchu'r model cymdeithasol o anabledd. Hefyd Chwarae Cymru—fe wnaethom ariannu'r pecyn cymorth creu mannau chwarae hygyrch, o dan chwarae a chynhwysiant Chwarae Cymru. Rydym wedi cefnogi teuluoedd â phlant niwroamrywiol. Rydym newydd fod yn trafod sut y gallwn eu cefnogi ymhellach, ac mae'n bwysig fod hyn yn edrych ar y materion sy'n codi gyda mynediad at ganolfannau hamdden, gwasanaethau hamdden, ac mae hynny'n bwysig iawn mewn perthynas â chyfrifoldebau llywodraeth leol.

A gaf i ddweud i orffen fod y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae gwerth £1 filiwn yn elfen o'r grant plant a chymunedau i gynyddu cyfleoedd chwarae i bob plentyn ac unigolyn ifanc, gan gynnwys, yn hollbwysig, darpariaeth gwaith chwarae cynhwysol?

Troseddu mewn Ysgolion

8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â mynd i'r afael â throseddu mewn ysgolion? OQ62751

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Rydym o ddifrif ynglŷn ag unrhyw fath o drais, yn enwedig mewn ysgolion. Mae Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â phartneriaid plismona, yn hwyluso mentrau fel Ymgyrch Sceptre. Mae swyddogion ysgol yn cynnal sesiynau a gweithdai ar droseddu, gan addysgu myfyrwyr ar ganlyniadau cario cyllyll, gyda'r nod o atal troseddau a thrais mewn ysgolion.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna? Mi oeddwn i a llawer o'm hetholwyr i'n bryderus iawn o glywed adroddiadau yn yr wythnosau diwethaf am ddisgyblion ysgol ar Ynys Môn yn cario cyllyll i mewn i'r ysgol ac o gwmpas y gymuned wedyn mewn mannau cymdeithasol, er enghraifft. Mae'n rhaid i'n hysgolion ni, wrth gwrs, fod yn lleoedd diogel i bawb, yn ddisgyblion ac yn athrawon, ac mae'r achosion niferus o'r math yma sy'n codi ar draws Cymru ar hyn o bryd yn awgrymu nad dyna'r achos bob amser. 

Rŵan, dwi'n derbyn mai cyfrifoldeb y Gweinidog addysg ydy mynd i'r afael â throseddau mewn ysgolion, ond mae gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol gyfrifoldebau dros ddiogelwch y gymuned, ac mae mynd i'r afael â'r problemau sy'n bodoli o fewn ein hysgolion yn dylanwadu ar ddiogelwch ein cymunedau yn ehangach. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo galwadau Plaid Cymru am gyflwyno strategaeth gadarn i wella disgyblaeth yn ein hysgolion, a pha drafodaethau y mae hi wedi eu cael efo Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i sicrhau adnoddau digonol i'r heddlu i gefnogi'r ymdrech honno?  

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Rwyf wedi sôn am Ymgyrch Sceptre, ymgyrch genedlaethol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn, ac mae'r gwaith yng ngogledd Cymru yn cynnwys atal trais a throseddau cyllyll gyda phobl ifanc oedran ysgol. Yn ystod yr ymgyrch honno, mae wythnos o weithredu, fel y dywedais—ymgysylltu mewn ysgolion, ymweliadau â chlybiau ieuenctid, ymweliadau ag ardaloedd lle ceir cyfraddau uwch o droseddau cyllyll, a chafwyd rhai canlyniadau cadarnhaol yn sgil hynny. Dadorchuddiodd Coleg Cambria gerflun, y Ddraig Gyllyll, a gafodd ei chreu o gyllyll a gasglwyd trwy finiau amnest yr heddlu mewn gorsafoedd heddlu. Ond mae'n bwysig. Mae eich pwynt yn ymwneud yn arbennig â thrais a diogelwch mewn ysgolion, ac fe fyddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal ein huwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad yfory, i edrych ar fater ehangach ymddygiad gwael yn ein hysgolion a'n colegau.

14:15

Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OQ62742].

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Eitem 2 heddiw yw Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Cwestiwn 1, Sioned Williams.

Mannau Gwyrdd

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu mynediad cymunedau at fannau gwyrdd? OQ62750

Member
Huw Irranca-Davies 14:16:15
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Sioned. Mae mannau gwyrdd a pharciau o safon yn darparu cyfleoedd go iawn ar gyfer hamdden iach, maent yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Yn ystod 2025 i 2027, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £18 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o greu mannau gwyrdd lleol a gwella hygyrchedd.

Diolch. Mae'r mis hwn yn Fis Cenedlaethol Cerdded, ond yn anffodus mae llawer o rwystrau yn atal pobl rhag cael mynediad at fannau gwyrdd yn hawdd, ac wrth gwrs, at y manteision iechyd a ddaw yn eu sgil. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn sicrhau bod gan bawb fynediad diogel a chyfleus i fannau gwyrdd lleol. Mynydd Cilfái yn Abertawe fydd safle atyniad hamdden Skyline. Bydd miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe yn cefnogi'r datblygiad, ac er gwaethaf sicrwydd gan y datblygwyr, mae llawer o drigolion yn pryderu am yr effaith y bydd y cynllun hwn yn ei chael ar eu gallu i fwynhau eu man gwyrdd lleol, y coetir, ac o ganlyniad, mae yna rai rhannau y bydd angen eu ffensio, eu torri neu adeiladu drostynt.

Mae Mynydd Cilfái hefyd yn barth tawel dynodedig, a fwriadwyd yn wreiddiol i ddiogelu a gwarantu y gall trigolion gael mynediad at fannau gwyrdd unigryw, heb eu difetha. Er bod Skyline a'r cyngor yn honni mai dim ond 9 y cant o'r bryn cyfan fydd wedi'i gynnwys ac y bydd mynediad yn parhau i fod yn ddirwystr i'r cyhoedd, mae trigolion yn dadlau y bydd dros 30 y cant o'r gofod mynediad agored yn cael ei osod ar les i'r datblygiad. Felly, a yw'r Llywodraeth yn gyfforddus fod ganddi'r ymagwedd gywir gyda'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn mewn perthynas â'r angen i ddiogelu a hyrwyddo hygyrchedd i fannau gwyrdd i bob preswylydd a gwrando ar eu safbwyntiau? Diolch.

Yn gyntaf oll, Sioned, a gaf i ddiolch i chi am godi'r materion hynny ar ran etholwyr a fydd wedi siarad â chi hefyd? Rwy'n siŵr y bydd Cyngor Abertawe a'r darpar ddatblygwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clywed y pryderon hynny, a'ch bod chi'n gwneud y sylwadau'n uniongyrchol i'r gwahanol sefydliadau hynny hefyd. Fy nealltwriaeth i, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yw bod trafodaethau'n mynd rhagddynt, ond rwy'n credu ei bod yn iawn eu bod yn fyw i'r pryderon hyn, a sut rydych chi'n cynnal mynediad i'r cyhoedd a'r mannau gwyrdd hefyd. Ond rwy'n gwybod y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r rheini hefyd.

Rydych chi'n hollol iawn ar yr egwyddor: mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cynnal a gwella mannau gwyrdd a mynediad at fannau gwyrdd hefyd. Mae hynny'n cynnwys pethau fel y rhwydwaith hawliau tramwy lleol ledled Cymru, yn ogystal â'r llwybrau pellter hirach ac yn y blaen. Mae'r lleoedd lleol hynny y gall pobl fynd iddynt yn bwysig iawn.

Diolch hefyd am nodi'r ffaith ei bod yn Fis Cerdded Cenedlaethol. Fel y gwyddoch, rwy'n gerddwr brwd iawn; rwyf wedi bod ers blynyddoedd lawer. Ac eto, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran hynny yw bod hyn yn ymwneud â mynediad i bobl leol hefyd, nid dim ond y rhai sy'n gwisgo gwarbac ac esgidiau cerdded a sanau gwlanog ac yn y blaen, ac yn mynd ar lwybrau pellter hir. Ond rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n codi'r pryderon hynny yma yn y Senedd, ac rwyf am ddweud wrthych hefyd i fwydo'r pryderon hynny'n uniongyrchol i'r sefydliadau dan sylw yn ogystal.

Yn amlwg, rwy'n cytuno'n llwyr fod mynediad at fannau gwyrdd cymunedol yn bwysig a dylid ei ddathlu, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd uchel sydd â llai o fynediad at y mannau gwyrdd hynny.

Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rydym wedi clywed y newyddion y bydd parc poced y Rhyl yn cael ei osod ar gornel Ffordd Brighton a'r Stryd Fawr yn y Rhyl, mater sydd wedi hollti barn ynglŷn ag ai dyma'r defnydd gorau o fan gwyrdd, o ystyried bod gennym lwyddiant y gerddi botanegol, gerddi'r coroni a mannau gwyrdd eraill sydd wedi digwydd trwy waith caled cynghorwyr lleol yn yr ardal. Felly, a oes unrhyw ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch y defnydd gorau o fannau gwyrdd cyhoeddus a sut y gallwn osgoi pethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sut y dylid plismona'r pethau hynny ar lefel gymunedol a lleol? 

14:20

Gareth, diolch am godi hyn, ac oes, mae canllawiau gennym ar gael, ac mae'n mynd ochr yn ochr â'r cyllid a ddarparwn hefyd. Ac rwy'n credu bod pob Aelod yma yn debygol o fanteisio ar y cyfle i ymweld â rhai o'r lleoedd lleol hyn ar gyfer natur mewn cymunedau—yn ddwfn mewn cymunedau—yn aml gyda thir a oedd gynt yn ddiffaith neu wedi'i danddefnyddio, neu ardaloedd gwastraff sydd wedi cael eu trawsnewid yn fannau cymunedol aruthrol ar gyfer mynediad lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o weld cymunedau'n perchnogi mannau gwyrdd, ac mae'n ariannu'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol—CLAS Cymru—i ddarparu cefnogaeth i grwpiau lleol nid yn unig ar nodi a chymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a phethau fel tyfu bwyd, ond hefyd ar sut i fynd ati i wneud hynny a sut i wneud y gwaith ymgysylltu â'r gymuned hefyd.

Ond Ddirprwy Lywydd, yn y flwyddyn i ddod hyd at 2026, byddwn yn bwrw ymlaen unwaith eto â £16 miliwn o gyllid i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn cael ei wneud. I atgoffa'r Aelodau, bellach mae gennym fwy na 4,000—4,000—o fannau gwyrdd sydd wedi'u creu neu eu gwella ers i ni ddechrau'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae'r rhain yn safleoedd peillio, safleoedd tyfu bwyd, perllannau cymunedol a gerddi therapiwtig gydag iechyd a lles meddyliol hefyd. Ond mae angen iddo gynnwys y gymuned ac ymgysylltu ac ymgynghori'n dda wrth ddatblygu'r rhain. Maent yn gyfle gwych ac rwy'n siŵr fod pob Aelod o'r Senedd yma wedi bod allan yn eu gweld.

Wel, mae cysylltu cymunedau â mannau gwyrdd a natur yn dda i iechyd meddwl ac i natur. Y penwythnos hwn, fel rhan o Mai Di-dor, cefais wahoddiad gan Plantlife Cymru i ymweld ag ymyl ffordd yn sir Ddinbych, sydd, diolch i'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur rydych chi newydd ei grybwyll, wedi gweld y rhywogaethau'n cynyddu 300 y cant o ran eu hamrywiaeth dros y pedair blynedd diwethaf, sy'n wych i'w weld. Ac o bell, efallai ei fod yn edrych fel glaswellt wedi gordyfu a'r hyn y gallai pobl ei alw'n chwyn, ond rwy'n gwybod bod y blodau gwyllt yn wych ar gyfer pryfed ac mae'r hadau glaswellt yn bwydo'r adar. Roedd yn fwrlwm o fywyd.

A wnewch chi longyfarch cyngor sir Ddinbych, sydd wedi lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth dôl blodau gwyllt i ysgolion, a fydd yn annog pobl ifanc i dynnu lluniau o fywyd gwyllt o amgylch sir Ddinbych a llawer o'r dolydd bywyd gwyllt y maent wedi gofalu amdanynt? Rwy'n credu y bydd yn eu helpu i fod yn chwilfrydig a chysylltu â natur.

Ac a ydych chi'n cymryd rhan ym Mai Di-dor, Ysgrifennydd y Cabinet? [Chwerthin.]

Dan y chwyddwydr. Dan y chwyddwydr. [Chwerthin.] Bydd fy nghymdogion yn edrych i weld nawr; byddant yn tynnu eu binocwlars allan. Ydw, gallaf gadarnhau, unwaith eto, fy mod i'n cymryd rhan. Y llynedd, fe aethom drwy'r haf cyfan; felly fe wnaethom dorri'n gynnar iawn ac fe wnaethom dorri'n hwyr iawn. A nawr, gallaf ddweud wrthych, yn fy ngardd fy hun, nid yn unig mae gennym dri math o feillion, mae gennym y ffacbysen yn dod trwodd, fel y mae bob amser, ac mae'r pryfed a'r peillwyr a'r bywyd adar yn dwli arni—fel y mae fy nghrwban mawr a hen iawn gyda llaw, sydd wrth ei fodd yn crwydro drwyddo a chnoi arno.

Nawr, mae lle go iawn i hyn. Ac a gaf i ganmol y gwaith, nid yn sir Ddinbych yn unig yn yr hyn a wnânt—? A'u menter ddiweddaraf—. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae partneriaeth natur leol sir Ddinbych, gyda'n cefnogaeth ni, bellach wedi darparu dros £1 filiwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Maent yn gwneud llu o bethau ac un o'r pethau diweddaraf yn wir yw'r gystadleuaeth ffotograffiaeth dôl bywyd gwyllt i ysgolion. Rwy'n credu ei bod hi'n wych ennyn diddordeb pobl ifanc yn y ffordd hon, gan mai hwy fydd hyrwyddwyr natur y genhedlaeth nesaf.

Ond a gaf i ddweud hefyd—? Rwy'n gwybod bod llawer o hyrwyddwyr yn y Siambr hon, ond mae'r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud, Carolyn, gyda'r is-grŵp ar y cynllun gweithredu ar gyfer y tasglu peillwyr i ddatblygu'r ymgyrch 'Iddyn Nhw' yn rhan o hyn hefyd, felly mae angen i bawb ohonom ei hyrwyddo.

Felly, mae gwaith gwych yn digwydd. Rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth Cymru, i'w barhau, ac mae'n wych gweld llefydd fel sir Ddinbych yn bwrw ymlaen â hyn hefyd, gyda grwpiau lleol.

Mae hwn yn fater lle rwy'n ofni, fodd bynnag, fod y system gynllunio yn rhy aml yn blaenoriaethu'r pethau anghywir. Oherwydd mae mynediad at fannau gwyrdd cymunedol mor bwysig i ansawdd bywyd pobl, ond yn rhy aml mae mannau gwyrdd yn cael eu bygwth gan ddatblygiadau, hyd yn oed mewn ardaloedd lle ceir safleoedd tir llwyd y gellid eu datblygu yn lle hynny.

Yng Ngelligaer, mae nifer o fannau gwyrdd hyfryd wedi'u clustnodi i'w datblygu gan gynllun datblygu lleol y cyngor, ac yn Nhretomas, cafodd trigolion eu siomi'n fawr yn ddiweddar pan gafodd eu hymdrechion i gynnal man gwyrdd ar gyfer y gymuned eu hanwybyddu gan y cyngor, a chafodd y safle ei neilltuo ar gyfer tai yn lle hynny. Nawr, mae'r ddwy enghraifft yn lleol iawn, ond maent yn dangos sut y mae'r system gynllunio'n ein siomi. Oherwydd, yn Nhretomas, cafodd ymdrechion amgylcheddol arobryn trigolion a'u cynllun i droi'r gofod hwnnw'n berllan gymunedol eu hanwybyddu, ac yng Ngelligaer ychwanegwyd nifer o safleoedd mannau gwyrdd at y cynllun datblygu lleol ar ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad, gan atal trigolion rhag cael unrhyw fewnbwn. Yn sicr, mae angen newid ein system gynllunio i gryfhau lleisiau cymunedol er mwyn diogelu mannau gwyrdd y mae pobl mor hoff ohonynt, oherwydd er mwyn ecoleg a lles pobl, ansawdd bywyd y mae pawb ohonom yn ei fwynhau, rhaid diogelu'r mannau hyn.

14:25

Delyth, diolch am y cwestiwn hwnnw. Y peth gwych am hyn yw'r cyfle i Aelodau godi materion lleol ar garreg eu drws. Ac er nad wyf am wneud sylwadau ar faterion unigol a phenodol, yr hyn y gallaf ei ddweud, rydych chi'n iawn, yw bod tensiynau'n aml rhwng pwysau datblygu, nad ydynt ohonynt eu hunain yn beth drwg, oherwydd rydym eisiau datblygu tai fforddiadwy i bobl ifanc, rydym eisiau'r seilwaith cywir ar waith, boed hynny ar gyfer priffyrdd neu ar gyfer teithio llesol, ond rhaid sicrhau cydbwysedd â gwarchod natur, a datblygu natur hefyd. Felly, os gwelwch, er enghraifft, yr hyn a wnawn nawr gyda datblygu systemau draenio trefol cynaliadwy, mae honno'n ffordd dda o ddatrys blaenoriaethau datblygu, tai a natur, oherwydd mae'n gwella natur ac nid yw'n arwain at ollyngiadau'n mynd i i mewn i'n system garthffosiaeth Fictoraidd hynafol. Felly, mae yna ffyrdd o wneud hyn, ac mae'n rhaid inni barhau i weithio arno.

Ar ymgysylltu â'r gymuned, mae'n hanfodol, ond mae amseroldeb yn hanfodol hefyd. Felly, rwy'n hen ddyn trist sydd, pan fydd iteriadau'r cynllun datblygu lleol yn cael eu cyhoeddi, yn dweud wrth fy nghynghorwyr cymuned lleol ac yn ysgrifennu atynt a dweud, 'Gwnewch yn siŵr fod gennych fewnbwn nawr. Pa fannau gwyrdd rydych chi am eu gwarchod, eu gwella? Pa fannau gwyrdd newydd rydych chi eu heisiau? Ble mae'r datblygiadau'n mynd? Ble mae'r mentrau busnes yn mynd?' Ac ati, ac ati. Ac mae angen i ni fod i mewn ar yr adeg honno. Ac rwy'n credu bod gan bob un ohonom rôl yn y gofod hwnnw, fel sydd gan ein cynghorwyr lleol ac eraill, i fachu'r cyfle hwnnw. Nid swyddogion cynllunio sy'n gwneud y cynlluniau datblygu lleol, neu nid hwy ddylai eu gwneud, mewn cyngor. Dylent fod yn ddogfennau gweithredol y byddwn i gyd, ar yr adeg iawn, yn dweud, 'Iawn, gadewch inni fwrw iddi nawr, oherwydd gallwn helpu i lunio ein cymunedau lleol.'

Mae cwestiwn 2 [OQ62743] wedi'i dynnu'n ôl. Felly, cwestiwn 3, Mark Isherwood.

Ymrwymiadau Biomrywiaeth

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl y cynllun ffermio cynaliadwy o ran cyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth Cymru ar gyfer 2030 a gwarchod rhywogaethau sydd dan fygythiad, fel y gylfinir? OQ62726

Diolch, Mark. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn allweddol yn ymateb Cymru i'r argyfwng natur, gyda chynigion ar gyfer rheoli 10 y cant o bob fferm fel cynefin. Bydd hyn o fudd i ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y gylfinir, a bydd yn gam arwyddocaol tuag at gyflawni ein hymrwymiadau bioamrywiaeth 2030.

Wel, ar hyn o bryd nid oes gofyniad i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ffermio cynaliadwy gael eu rheoli. Mae hyn er gwaethaf yr angen amlwg i hyn ddigwydd er mwyn i Gymru allu bodloni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth 2030. Bydd un o'r rhywogaethau sydd o dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru, y gylfinir, yn diflannu erbyn 2033 yng Nghymru oni bai bod rheolaeth cynefinoedd wedi'i dargedu yn cael ei gynnwys nawr. Felly, bydd yn hanfodol fod cyllideb ddigonol yn cael ei dyrannu i haenau dewisol a chydweithredol y cynllun i allu adfer bywyd gwyllt Cymru yn effeithiol. Gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy i'w gyhoeddi yn y Sioe Frenhinol ac i fod yn barod ar gyfer Ionawr 2026, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi y bydd diogelu, rheoli ac adfer y gylfinir, a'r manteision lluosog ac amlrywogaeth y byddai hyn yn eu cyflawni, yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac y bydd ffermwyr, nid tirfeddianwyr yn unig, yn cael eu cefnogi i gyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen ar raddfa'r dirwedd?

Mark, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol hwnnw, a diolch hefyd am gyfarfod â mi yn ddiweddar. Cyfarfûm â Gylfinir Cymru yn ddiweddar hefyd, grŵp Gylfinir Cymru, i drafod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd sydd gennym i atal y gostyngiad yn niferoedd y gylfinir.

Yn gyntaf oll, mae'n werth dweud bod y gylfinir o dan fygythiad gwirioneddol yma. Bygythiad go iawn. Mae'n un o'r rhywogaethau sydd o dan fygythiad sylweddol yng Nghymru. Ond rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn mewn prosiectau drwy gronfa Rhwydweithiau Natur i hyrwyddo adferiad y gylfinir yng Nghymru. Mae cynnydd yn cael ei wneud drwy gynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir, sy'n parhau i fod yn gynllun a gefnogir gan y Llywodraeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr allbynnau o adolygiad 2025. Rwyf hefyd yn mynd i ymweld, fel y gwneuthum eisoes mewn ardal wahanol, ag un arall o'r ardaloedd pwysig ar gyfer y gylfinir yr haf hwn, i weld y gwaith sy'n cael ei ddatblygu. Ac mae partneriaeth Gylfinir Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr ar ran y ffermwyr, gyda llaw, wedi cyflwyno syniadau da iawn.

Rydych chi'n sôn yn benodol am y cynllun ffermio cynaliadwy, felly gadewch imi fynd i'r afael â hynny'n benodol. Rydym wedi cadw gofyniad y cynllun i 10 y cant o'r ffermydd fod yn gynefin. Mae hyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol rhwng natur a'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd yn broffidiol a chynaliadwy. Rydym yn datblygu'r camau gweithredu dewisol a chydweithredol nawr, a bydd nifer ohonynt ar gael o 2026 ymlaen.

Rwy'n nodi eich cefnogaeth i wneud yn siŵr fod y swm priodol o gyllid yn yr haenau dewisol a chydweithredol hynny, i yrru'r gwaith ar natur ymlaen ynddynt, y gwerth ychwanegol. Mae gwahaniaeth barn ynglŷn â beth ddylai'r gyfran fod rhwng yr haen gyffredinol, ac yn y blaen. O dan y cynllun ffermio cynaliadwy, bydd cyfleoedd i ymgymryd â chamau wedi'u targedu i wella cynefinoedd o dan yr haen ddewisol a gwella cynefinoedd ar raddfa'r dirwedd o dan yr haen gydweithredol, er budd ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y gylfinir.

Ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae gwella cyflwr safleoedd felly, ein hardaloedd cynefin mwyaf gwerthfawr, o fewn y gweithredoedd cyffredinol mewn gwirionedd. Mae'n weithred gyffredinol benodol sydd wedi'i hanelu at ddod â'r safleoedd hyn o dan gytundeb rheoli a chefnogi ffermwyr i weithredu'n gadarnhaol i wella eu cyflwr. Felly, mae yno eisoes. Ond nid ydym wedi lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy eto, fel y nodoch chi. Mae hynny ychydig wythnosau i ffwrdd—mis neu ddau i ffwrdd.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda bod yn ôl. Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, moment hanfodol i fyfyrio ar lesiant y rhai yn ein sectorau mwyaf agored i niwed, yn enwedig ein ffermwyr. Datgelodd astudiaeth ddiweddar gan y Sefydliad Diogelwch Fferm fod 91 y cant o ffermwyr y DU bellach yn ystyried bod iechyd meddwl gwael yn un o'r peryglon cudd mwyaf y maent yn eu hwynebu. Efallai fod ffermio yn un o'r swyddi sy'n rhoi'r boddhad mwyaf, ond heb os, mae'n un o'r anoddaf. Mae'r heriau iechyd meddwl y mae'r gymuned ffermio yn eu hwynebu—pwysau ariannol, baich rheoleiddiol, ynysu gwledig, a thywydd anrhagweladwy—yn dra hysbys. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi sicrwydd i ni fod eich adran o ddifrif ynghylch hyn, a pha fesurau penodol sy'n cael eu rhoi ar waith i leddfu'r pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu?

Sam, croeso'n ôl. Rwy'n golygu hynny hefyd, oherwydd er ein bod yn anghytuno weithiau, rwy'n credu bod ein hymwneud â'n gilydd hefyd yn adeiladol ac yn heriol iawn, ond yn y ffordd iawn hefyd.

Yn gyntaf, fel rwyf wedi'i ailadrodd sawl gwaith yma, rydym yn cydnabod bod cyfres o wahanol fathau o bwysau ar ffermio, o TB ac iechyd anifeiliaid, ac amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chlefydau ac iechyd anifeiliaid, sy'n ychwanegu pwysau, y pwysau ariannol, ond ar ben hynny, yr awydd i gael eglurder nawr ynglŷn â'r dyfodol, dyfodol ffermio cynaliadwy, y gall pobl gael eglurder ar fodelau buddsoddiadau busnes a sut y maent yn ffermio eu tir hefyd.

Ond yn sail i hynny oll, byddwn yn parhau â'n cymorth, fel rydym wedi'i ddweud yn glir bob amser, o ran ein cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles yn uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru a chefnogaeth gysylltiedig y rhwydwaith ffermio, ond hefyd i gefnogi eraill, fel Sefydliad DPJ ac eraill.

Mae'n bwysig, gyda llaw, eu bod yn cael eu cynrychioli yn y cyfarfod bord gron gweinidogol—ac maent wedi bod arno ers y cychwyn cyntaf—gan ein bod yn cydnabod bod angen i ran o ddatblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, ac agweddau eraill ar ein gwaith yn y Llywodraeth, gael ei lywio gan y pwysau sydd ar ffermwyr a'u teuluoedd.

A gaf i awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, na chafwyd unrhyw beth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr adran faterion gwledig i gefnogi'r elusennau iechyd meddwl hynny. Credaf fod angen inni edrych ar yr elfen gyfathrebu yn hyn o beth hefyd, wrth gyfeirio ffermwyr at y cymorth rydych chi'n ei gefnogi.

Ond gyda phob parch, mae hefyd yn anodd credu bod y Blaid Lafur ehangach yn cymryd hyn o ddifrif, gan fod adroddiad diweddar gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi nodi arolwg a ddangosai, yn dilyn cyllideb yr hydref, mai dim ond 12 y cant o ffermwyr a oedd yn teimlo'n obeithiol am y dyfodol—cwymp sylweddol o 70 y cant cyn y gyllideb.

Nid ystadegyn yn unig yw hynny, mae'n arwydd o anobaith eang yn y sector. Ac i wneud pethau'n waeth, awgrymodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Steve Reed, yn ddiweddar y byddai refeniw o'r dreth arfaethedig ar ffermydd teuluol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl i ffermwyr.

Serch hynny, polisïau Llafur eu hunain, fel y dreth ar y fferm deuluol, sy'n cyfrannu at y gofid. Nid yw ei sylwadau'n gwneud dim mwy na dibwyllo'r diwydiant. Rydym hyd yn oed wedi clywed straeon trasig am ffermwyr yn gwrthod triniaeth ganser yn y gobaith y byddent yn marw cyn i'r dreth hon gael ei gweithredu, ac yn dorcalonnus, mae rhai eisoes wedi cyflawni hunanladdiad.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi'r dreth ar y fferm deuluol, neu a ydych chi'n cytuno ag argymhelliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylid oedi'r polisi niweidiol hwn?

14:35

A gaf i ddweud ychydig o bethau mewn ymateb i hynny? Yn gyntaf oll, fel rydym wedi'i ailadrodd sawl gwaith yma o'r blaen, mae'r sylwadau rwyf wedi'u gwneud dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU mewn grwpiau rhyngweinidogol, mewn gohebiaeth rwyf wedi'i hanfon ac ati, wedi nodi nid yn unig y pwysau ond hefyd yr angen i ddiogelu'r gwaith datblygu yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac i sicrhau, yn eu treth etifeddiant a'u diwygiadau cysylltiedig, nad ydynt yn tanseilio'r cynnydd yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru.

Nodais adroddiad Pwyllgor Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac rwyf eisoes wedi darllen drwyddo. Rwy'n sylwi bod y pwyllgor yn gwneud awgrym diddorol, lle dywedant y gallai Llywodraeth y DU ystyried y cynigion ymhellach i sicrhau eu bod yn deg, yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn adlewyrchu amgylchiadau penodol y gwledydd datganoledig. Rwy'n credu fy mod yn cytuno â hynny, a dyna'r sylwadau y buom yn eu gwneud hefyd.

Nid Rachel Reeves wyf i, nid fi yw Gweinidog Trysorlys y DU, ond rydym yn gwneud y sylwadau hynny'n gyson fel eu bod yn gwneud hyn yn iawn. Yn y cyfamser, byddwn yn darparu'r cymorth i gymuned ffermio Cymru i'w galluogi i wneud pethau fel cynllunio ar gyfer olyniaeth i gynllunio eu ffordd drwy hyn fel y saif pethau ar hyn o bryd.

Rwy'n derbyn bod sylwadau'n cael eu gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid ydych chi ar unrhyw adeg wrth gael eich herio heddiw nac yn y gorffennol wedi rhoi eich barn chi na barn Llywodraeth Cymru ynglŷn ag a ydych chi'n cefnogi gorfodi'r polisi hwn ar ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig. Byddai'r eglurder hwnnw ynghylch cyfeiriad yr hyn rydych chi'n ei gredu, fel cynrychiolydd y gymuned amaethyddol yma yng Nghymru o fewn y Llywodraeth, yn gogwyddo'n glir tuag at Lywodraeth y DU.

Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan Sioe Frenhinol Cymru, moment hollbwysig i'n cymunedau gwledig, ac o bosibl, y llwyfan ar gyfer lansio fersiwn derfynol y cynllun ffermio cynaliadwy cyn ei weithredu yn 2026. Rydych chi wedi dweud eich hun y byddech yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn iawn. Ac eto, ac eithrio i'r rhai sydd yn yr ystafell, ychydig sy'n hysbys am gynnydd y cynllun. Mae llawer yn y gymuned ffermio yn teimlo eu bod yn cael eu cadw yn y tywyllwch, yn enwedig ynghylch cyllid.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod pryderon ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy a'i ddadansoddiad economaidd, methiant y Llywodraeth i ddileu TB buchol, a'r rheoliadau parthau perygl nitradau byrbwyll ar gyfer Cymru gyfan wedi cyfrannu at brotestiadau'r ffermwyr y llynedd. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol:

'[Ni] fyddaf yn gwneud penderfyniadau terfynol ar ddyluniad y Cynllun cyn bod y dystiolaeth wedi dod i law',

wrth gyfeirio at y dadansoddiad economaidd. Felly, gydag wyth wythnos yn unig i fynd tan y sioe, Ysgrifennydd y Cabinet, ble mae'r dadansoddiad economaidd?

Gallaf gadarnhau ein bod ar y trywydd iawn. Mae'r holl waith yn mynd rhagddo. Cawsom gyfarfod bord gron gweinidogol yr wythnos hon, rwy'n credu, lle rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r cyfarfod bord gron gweinidogol.

Rwy'n deall y rhwystredigaeth, Sam, nad yw'r cyfan yn cael ei wneud ar sail sylwebaeth fyw a bod popeth yn cael ei gyhoeddi ar unwaith. Natur y gwaith a wnawn yw bod ymddiriedaeth o amgylch y bwrdd hwnnw, fod hygrededd ymhlith y bobl yno. Fe wnaethom drafod hyn yn fanwl ymhlith aelodau'r cyfarfod bord gron gweinidogol, ac mae'n rhaid imi ddweud, ymhlith y grŵp swyddogion.

Rwy'n canmol y gwaith a wnaed, nid yn unig oherwydd maint yr ymdrech, ond y ffordd y maent wedi bod yn fodlon—nid y tu ôl i'r llen, nid yn y tywyllwch, ond drwy ymddiriedaeth a hyder gyda'i gilydd—i weithio ar y dystiolaeth gyda'i gilydd, gan gynnwys yr asesiad effaith economaidd, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd, gan gynnwys y sefyllfa gyllidebol derfynol rydym ynddi. Mae'r rheini oll yn dod at ei gilydd wrth inni siarad.

Bu bron ichi ateb eich cwestiwn eich hun: rwyf bob amser wedi dweud na fyddem yn cyflwyno'r peth hyd nes bod popeth wedi'i gwblhau a phob elfen wedi'i chyflawni. Rydym bob amser wedi cael amserlen i gyflawni hyn ac amserlen i weithio drwyddi. Rydym wedi cyrraedd pob carreg filltir ar hyn. A chyn bo hir, fe fyddwch chi, a'r gymuned ffermio ehangach—. A hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, y gymuned amgylcheddol ehangach sy'n gweld hyn yn cyflawni ar draws y pedwar amcan ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy: ffermydd a busnesau fferm cynaliadwy, mentrau bwyd cynhyrchiol iawn hefyd, darparu gwerth am arian yma yng Nghymru, a hefyd mynd i'r afael â phethau fel yr anghenion natur a hinsawdd.

Felly, rydym ar y trywydd iawn. Rwy'n canmol gwaith y grŵp a'r swyddogion, a byddwn yn cyflawni hyn yn fuan iawn wir.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod dip defaid yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr i reoli a thrin ectoparasitiaid fel y clafr, llau, trogod, a chlefyd pryfed. Gallant achosi problemau iechyd sylweddol a phroblemau lles os na chânt eu rheoli.

Rydym yn agosáu at yr adeg o'r flwyddyn pan fo fwyaf o angen am y dip. Tybed a ydych ch'n ymwybodol o rai pryderon mawr nad oes unrhyw safleoedd gwaredu trwyddedig yma'n derbyn dip defaid gwastraff ar hyn o bryd, sy'n golygu mai'r unig opsiwn hyfyw ar gyfer ei waredu yw gwasgaru'r dip gwastraff ar dir—rhywbeth y gellir ei wneud, wrth gwrs, yn gyfreithiol ac yn ddiogel o dan drwydded. Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi dweud eu bod yn rhoi'r gorau i roi trwyddedau ar gyfer hyn, yn rhannol, dywedant, oherwydd diffyg galw, ond mae'r diffyg galw hwnnw wedi cyd-daro â'r cynnydd enfawr a welsom ym mhris y trwyddedau hynny, sydd wedi codi o oddeutu £400 i dros £3,700.

Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod triniaeth parasitiaid yn parhau'n ddiogel ac yn effeithiol os nad oes gan ffermwyr lwybr gwaredu cyfreithiol na fforddiadwy ar gyfer dip defaid gwastraff? Rydych chi'n talu llawer o arian am Gwaredu Scab, er enghraifft, ond mae'r polisi di-drefn hwn yn tanseilio'r mathau hynny o ymdrechion, ac wrth gwrs, mae'n creu risg o achosi mwy o ddioddefaint i lawer o'r anifeiliaid hynny.

14:40

Diolch. Byddwn yn dweud mai dull gweithredu Gwaredu Scab, gan weithio gyda'r sector a than arweiniad y sector, yw'r union ffordd y mae angen inni fynd i'r afael â'r materion ehangach yma. Ond o ran dip defaid, fe fyddwch yn gwybod o'ch rôl fod her anodd yma oherwydd effeithiau amgylcheddol ei wasgaru ar y tir. Mae hyn wedi'i ddogfennu'n dda a thystiolaeth dda ar gael ac fe fyddwch yn ymwybodol o hyn.

Yr agwedd arall yw ein bod yn aml, nid yn anghytuno ond yn ymgysylltu ar y pwysau ar Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud tuag at fodel adennill costau dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer amryw o bethau, ac mae hwn yn un ohonynt. Rwy'n sylweddoli ei fod yn golygu bod cost y trwyddedau hynny wedyn yn codi, ond y dewis arall yw dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rhaid iddynt ei sybsideiddio. Rwy'n credu mai gweithio gyda'r sector yw'r ffordd ymlaen ar hyn, ond os oes gennych unrhyw achosion unigol yr hoffech eu rhannu gyda mi, gwnewch hynny, gan fy mod yn fwy na pharod i'w codi gyda swyddogion.

Diolch am hynny, ond rwy'n credu bod anghysondeb o ran polisi yma gydag un polisi yn milwrio yn erbyn y llall. Ni allai'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru nodi cysylltiad uniongyrchol rhwng presenoldeb diazinon a'r arfer o ledaenu dip gwastraff. Felly, rwy'n eich annog efallai i edrych ar y sefyllfa honno a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen yma, oherwydd yn y pen draw, lles yr anifeiliaid fydd yn dioddef yn fwy nag unrhyw beth arall.

Mae pob un ohonom am wneud popeth yn ein gallu i gadw feirws y tafod glas allan o Gymru. Ehangwyd y parth dan gyfyngiadau yn Lloegr ymhellach i'r gogledd yr wythnos hon, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, ac mae'n hysbys fod y feirws yn parhau i ddod yn agosach ac yn agosach. Mae'n debygol fod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ystyried gweithredu parth cyfyngu ar gyfer Lloegr gyfan. Os digwydd hynny, gwn fod pryderon ynghylch yr angen i ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n cefnogi parhad masnachu a symud anifeiliaid rhwng Lloegr, yr Alban a Chymru.

Tybed a allech chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y posibilrwydd o ehangu'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr hyd at ffin Cymru, a pha drafodaethau a gawsoch gyda rhanddeiliaid fel perchnogion ffermydd ac arwerthiannau da byw sydd ar y ddwy ochr i'r ffin neu sy'n agos at y ffin, i'w helpu i ddeall sut y gallwn liniaru'r tarfu y gallai hyn ei achosi. Mae angen i bawb fod yn barod ar gyfer posibilrwydd o'r fath—roeddwn yn mynd i ddweud, 'Os yw'n digwydd', ond byddai llawer yn dweud, 'Pan fydd yn digwydd'.

Llyr, diolch. Mae'n fater mor bwysig. Ein safbwynt ni, fel rydym wedi'i fynegi mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb gwerthfawr a chynhyrchiol ar hyn gyda Gweinidog y DU dros y misoedd diwethaf, yw mai ein dewis ni fyddai ei gadw dan gyfyngiadau a ddwy sir i ffwrdd, os mynnwch, oddi wrth ffin Cymru. Dyna'r ffordd i wneud hyn. Dyna ein safbwynt o hyd. Dyna'r safbwynt delfrydol, gan y credaf ein bod wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac wedi gweithio gyda'r sector hefyd i gadw hyn allan. Byddai rhai'n dadlau ein bod wedi bod yn ffodus i wneud hynny hefyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod y wyliadwriaeth wedi bod yn rhagorol a bod y gwaith a wnaed gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'n gwasanaeth milfeddygol hefyd wedi bod yn aruthrol. Lle rydym wedi nodi achosion amheus, rydym yn mynd i mewn ar unwaith ac wedi ymdrin â hwy ac yn y blaen. Mae angen inni barhau ar y sail honno.

Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn yn y trafodaethau, gyda'r diwydiant a chyda Gweinidog y DU, fod ganddynt rai heriau yma hefyd a'u bod efallai'n ystyried newid y ffin, ond nid yw hynny wedi'i benderfynu eto. Ein safbwynt ni o hyd yw y byddem yn ffafrio, a phopeth yn gyfartal, ei gadw draw, am reswm da iawn, oddi wrth ffin Cymru, nid yn unig er lles Cymru, ond er mwyn ynysu'r clefyd. Os yw hynny'n digwydd, rwyf eisoes yn cael y trafodaethau hynny gyda'r sector, gyda'r undebau ffermio ac eraill, a chyda phobl fel Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ac ati, ynglŷn â beth fyddai'r goblygiadau bryd hynny, fel y gallwn ymdrin â hyn ar sail 'dim byd annisgwyl'. Felly, rydym yn meddwl drwy hyn, y 'beth os?', ond rydym yn ceisio cynnal—. Ac os yw'r Gweinidog yn gwrando ar y dadleuon hyn heddiw, fe fydd yn gwybod mai dyma'r safbwynt rwyf wedi'i fynegi iddi hi, ac mae fy swyddogion wedi cynghori'n gryf, 'Yn ddelfrydol, a allwn ei gadw ddwy sir i ffwrdd oddi wrth Gymru?' Byddai hynny o gymorth i Loegr hefyd, wrth ynysu'r clefyd, ond rydym yn ymwybodol y gallai pethau eraill ddigwydd.

14:45

Wel, diolch i chi am hynny. Dwi’n credu mai bod yn barod sy’n bwysig, os oes rhywbeth yn digwydd, yn hytrach nag, efallai, fod pobl yn edrych ar ei gilydd pan fydd angen gweithredu ar frys.

Mae’r newidiadau i dreth etifeddiant yn rhywbeth sydd wedi cael ei godi fan hyn yn y Siambr sawl gwaith, wrth gwrs. Rŷn ni’n poeni am yr effaith y bydd e’n ei gael ar hyfywedd y sector yng Nghymru, ac mae wedi bod yn destun dadleuon gan Plaid Cymru fan hyn, wrth gwrs, yn Senedd Cymru, ond hefyd, yn San Steffan. Ac un mater dwi wedi codi gyda chi cyn hyn yw’r effaith, wrth gwrs, y bydd y newid yma’n ei gael ar yr iaith Gymraeg. Nawr, rŷn ni’n gwybod bod 43 y cant o ffermwyr yn siarad Cymraeg, o’i gymharu â dim ond 19 y cant o’r boblogaeth yn gyffredinol. Felly, amaeth yw cadarnle mwya’r iaith Gymraeg pan fyddwch chi’n edrych ar y sectorau economaidd sydd gennym ni yng Nghymru. Nawr, byddai cyflwyno'r newidiadau treth etifeddiant yma, wrth gwrs, yn ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd ifanc barhau i ffermio, neu i aros yng nghefn gwlad, ac mi fyddai hynny'n tanseilio dyfodol yr iaith.

Felly, a gaf i ofyn pa achos rydych chi wedi’i wneud i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i amlinellu eich gofid chi am effaith y newid yma ar yr iaith Gymraeg? Ac a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r mater yma, a’r posibilrwydd, efallai, y gallech chi gyflwyno achos ar y cyd â’r comisiynydd— rhwng y comisiynydd a’r Llywodraeth—i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych eto ar y cynigion?

Nid yw Comisiynydd y Gymraeg a minnau wedi cyfarfod, ac nid oes cyfarfod wedi'i geisio. Ond rwy'n fwy na pharod i gael un, oherwydd wedyn, gallwn drafod rhai o'r ffyrdd rydym yn sicr yn ceisio diogelu dyfodol y Gymraeg, gan gydnabod natur hollbwysig ffermio a busnesau gwledig i'r Gymraeg, a bydd ein cynllun ffermio cynaliadwy, wrth symud ymlaen, yn rhan o hynny. Felly, mae'r iaith Gymraeg yn thema yn y trafodaethau yn y cyfarfod bord gron gweinidogol, yn y grŵp swyddogion, ochr yn ochr â'r gwerth cymdeithasol ehangach. Ond mae'r iaith Gymraeg yn cael ei chodi'n benodol iawn dro ar ôl tro. Gwyddom fod hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni. Ac yn y sylwadau a wneuthum i Lywodraeth y DU, rwyf wedi egluro na ddylai hyn effeithio ar yr hyn a wnawn gyda hynny, gan gynnwys agweddau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg hefyd. A byddaf yn parhau i wneud y sylwadau hynny. Gyda llaw, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod sylwadau tebyg yn cael eu gwneud gan yr undebau ffermio ac eraill, a chithau yma heddiw. Mae ffermio'n fwy na—beth fyddech chi'n ei alw?—yr hyn y byddai lleygwyr yn ei alw'n 'ffermio'n unig' neu 'gynhyrchu bwyd' a beth bynnag; mae wedi'i wreiddio'n ddwfn yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig hefyd. Felly, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, ac os yw Comisiynydd y Gymraeg yn gwrando ar hyn ac yn croesawu cyfarfod, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny hefyd, gan y byddai'n gyfle da i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gomisiynydd y Gymraeg am yr hyn a wnawn fel rhan o'r gymuned amaethyddol.

Ynni Glân

4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ynni glân erbyn 2030 ar yr amgylchedd a newid hinsawdd yng Nghymru? OQ62747

Diolch yn fawr, Vaughan. Mae ynni adnewyddadwy, fel y gwyddoch, yn rhan allweddol o ddyfodol Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Ac rwy'n hyderus fod gennym brosesau cadarn ar waith i ystyried yr effeithiau amgylcheddol yma yng Nghymru.

Diolch. Mae pŵer glân, fel y gwyddoch, yn addewid maniffesto pwysig gan Lywodraeth y DU, a etholwyd lai na blwyddyn yn ôl. Dylai wneud gwahaniaeth sylweddol o ran cyfle economaidd, os cawn hynny'n iawn yn y cadwyni cyflenwi, ac wrth gwrs, diogeledd ynni i Gymru a'r DU. Ond mae hefyd yn newyddion da i'r amgylchedd a'r dyfodol cynaliadwy sydd ei angen ar bob un ohonom. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn sut rydych chi'n bwriadu asesu effaith amgylcheddol gwneud cynnydd tuag at bŵer glân, hynny yw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i allyriadau carbon, a'r cynnydd hwnnw a'i effaith yma yng Nghymru ar gyflawni cenhadaeth pŵer glân y DU? Felly, pa waith rydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i ddeall yr effeithiau hynny, a sut y byddwch chi'n nodi cynnydd i'r Senedd a'r cyhoedd ehangach yng Nghymru ar sut y mae'r genhadaeth pŵer glân yn gwneud gwahaniaeth yma yng Nghymru?

Wel, yn gyntaf oll, credaf fod hwn yn faes lle mae lle gwirioneddol i ymgysylltu da, gan adeiladu, gyda llaw, ar yr hyn rydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru—mae ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy yn cyd-fynd yn agos iawn â'r llwybr pŵer glân a osodwyd ar gyfer 2030. Mae hynny oherwydd, yn union fel y dywedwch, fod hyn yn ymwneud â diogeledd ynni, gwydnwch ynni, a gwydnwch hinsawdd o ran ynni hefyd. Mae a wnelo hefyd â pheidio â bod yn agored i niwed a chael ein dal yn wystlon i ffactorau geowleidyddol allanol mewn perthynas ag ynni, fod gennym lawer mwy o reolaeth dros yr adnodd hanfodol hwn ein hunain. Ond rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol iawn ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU—fi, ond hefyd, mae darpariaeth pŵer glân, wrth gwrs, yn rhan o gyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—ymgysylltiad rhagorol iawn ar ddarparu pŵer glân. Cawn ein cynrychioli ar y pwyllgor i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r cynllun gweithredu wrth fwrw ymlaen â hyn, ac mae grŵp newydd wedi'i sefydlu, sy'n ymwneud â'r cyfleoedd economaidd a'r cyfleoedd i'r gweithlu mewn perthynas â phŵer glân, lle mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i chynrychioli. Mae angen inni fanteisio ar y cyfleoedd mawr hynny yma yng Nghymru, a sicrhau eu bod yma yn ogystal ag mewn rhannau o Loegr hefyd. Mae'n ymdrech wirioneddol gyfunol.

Byddaf yn sicr yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar ein hymgysylltiad, gan mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau, wrth fwrw ymlaen â hyn, ein bod hefyd yn gwneud ein gorau glas ar gyfer natur, ar gyfer gwasanaethau ecosystem ac yn y blaen, a pheidio â chael canlyniadau anfwriadol o'i herwydd. Ond mae ffordd o wneud hynny—gallwch ddatrys y tensiynau hynny drwy gynllunio ac ymgysylltu da. Felly, byddaf yn rhoi diweddariadau rheolaidd, a gwn y bydd Rebecca Evans, fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, yn gwneud hynny hefyd. Ond mae hwn yn gyfle, nid yn faich—mae'n gyfle, ac mae'n dda i bobl Cymru.

14:50

I gyflawni 'Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030', bydd angen sicrhau capasiti ynni glân newydd yn gyflym ledled y DU, gyda'r nod o gynhyrchu gwerth 43 i 50 GW o ynni gwynt ar y môr. Nawr, gwyddom eisoes fod cynllun enfawr, prosiect Awel y Môr, ar fin cychwyn fel rhan o brosiectau'r môr Celtaidd. Nawr, rwyf wedi galw ers tro am leoli'r datblygiadau hyn ymhell o'r ardaloedd morol mwyaf sensitif yn ecolegol, ond ar hyn o bryd, gall unrhyw ddatblygwr bwyntio at ardal o wely'r môr, yn y bôn, a chyn pen dim, mae cynllun ar y gweill—un eithaf mawr. Ac rwy'n pryderu am ein cynefinoedd a'n rhywogaethau morol agored i niwed. Nawr, mae blwyddyn wedi bod hefyd ers i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym, a phan fyddwn yn sôn am ynni adnewyddadwy, mae gennym Wylfa, wrth gwrs, onid oes, yn y gogledd? Ac nid wyf yn clywed llawer o gynnydd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, ar sut y mae gorsaf Wylfa yn dod yn ei blaen. Felly, byddai diweddariad o gymorth. Ond a wnewch chi wneud sylwadau i Lywodraeth y DU, i sicrhau, gydag unrhyw ddatblygiad morol enfawr ar gyfer ynni gwynt, y cynhelir asesiad effaith llawn o'r amgylchedd morol mewn perthynas â'r cynllun, a'n bod yn sicrhau, er bod gennym yr ynni adnewyddadwy ar un llaw, fod gennym adfer a diogelu ein rhywogaethau morol rhyfeddol hefyd? Diolch.

'Gwnaf', i ateb eich cwestiwn olaf, gan fod angen i unrhyw gynnig a wneir—ac mae hyn yn adeiladu ar y cwestiwn gan Vaughan yn gynharach—fynd drwy broses gydsynio a thrwyddedu, ac mae angen iddo ystyried ein rhwydwaith cynllunio morol a'n hardaloedd dynodedig yn y môr. Ond mae a wnelo hyn oll, mewn gwirionedd, yng ngwir ystyr y term hwn, â manteisio'n gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol, diogelu'r amgylchedd naturiol ac yna symud i'r dyfodol adnewyddadwy hwn. A'r rheswm pam mae'n rhaid inni wneud hyn—ac rydym wedi gweld adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud hyn—yw am fod angen inni gyflymu'r daith at ddyfodol trydanol, di-garbon. Golyga hynny fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae ynddo ledled y DU, a bod angen inni fanteisio ar y cyfleoedd, gan y bydd y galw am drydan, yn y ceir yr ydym yn eu gyrru a'r ffordd yr ydym yn cynhesu ein cartrefi a phopeth arall, yn treblu erbyn 2050. Felly, mae angen i hynny fod drwy ynni glân, nid hen danwydd ffosil. Ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o gyfleoedd yma yng Nghymru wrth wneud hynny. Ein huchelgais yw i Gymru gyrraedd yr hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd blynyddol o drydan drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2050, ac yna i barhau i gadw i fyny â'r defnydd wedi hynny. Ond edrychwch, mae yna broses gydsynio a thrwyddedu. Mae angen iddi fod yn effeithlon, ond yn dda iawn i ddiogelu natur hefyd. Felly, mae hyn eisoes ar y gweill gennym.

Fe sonioch chi am Wylfa. Nid wyf yn uniongyrchol gyfrifol am hynny; fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am hynny. Ond fe drosglwyddaf eich sylwadau iddi, gan fod yr elfen ddatgarboneiddio a'r elfen dwf gwyrdd yn elfennau trawslywodraethol. Fel y gwyddoch, fi sy'n gyfrifol am gyllidebau carbon, ac rydym yn siarad â phob Gweinidog, llywodraeth leol, addysg, iechyd ac yn y blaen, ynglŷn â sut rydym yn datgarboneiddio pob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

14:55
Tanau Mynydd

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn tanau mynydd yn Rhondda dros yr wythnosau diwethaf? OQ62729

Diolch, Buffy. Fel y gwyddoch, mae'r mater hwn yn bennaf ym mhortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai. Fodd bynnag, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod cynnydd mewn tanau gwyllt yn debygol yn ystod cyfnodau hir o dywydd cynnes a sych, fel rydym wedi'u cael y gwanwyn hwn. Mae gwasanaeth tân ac achub de Cymru wedi ymateb yn effeithiol ac wedi cynnal ymchwiliadau dilynol i ystyried yr achosion, lle bo angen.

Diolch. Mae tanau mynydd yn peri risg ddifrifol i fywyd, eiddo a'n hamgylchedd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r criwiau yn Nhonypandy, Treorci, Glynrhedynog a Gilfach sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod â thanau diweddar yn y Rhondda dan reolaeth. Er mai llosgwyr bwriadol sydd ar fai i raddau helaeth am y tanau mynydd diweddar, rhaid inni edrych hefyd ar y cyd-destun ehangach sy'n caniatáu i'r tanau hyn ledaenu mor hawdd. Mae methiant hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli tocion ar ôl torri coed wedi cyfrannu at lifogydd dinistriol yn ystod cyfnodau gwlyb yn y gorffennol. A nawr, gyda newid hinsawdd yn arwain at gyfnodau hirach a sychach, mae'r un arfer, ynghyd â diffyg gwaith cynnal a chadw ar rwystrau tân, yn ei gwneud yn haws i danau ledaenu. Mae'n teimlo fel pe na bai gwersi'r gorffennol wedi cael eu rhoi ar waith. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i gyfarfod â mi a chriwiau lleol i drafod y pryderon hyn ac eraill? Mae angen inni weld newidiadau ar frys er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel.

Diolch, Buffy. Edrychwch, rwy'n cydnabod bod cynnydd enfawr wedi bod yn y nifer o danau gwyllt dros y misoedd diwethaf. Bydd gennym ddata llawn ar hyn erbyn mis Medi, ond rwy'n credu y gallwn weld beth sy'n digwydd yn barod, ac mae hynny'n cynnwys rhai o'r tanau mawr a fu yn Nhreorci, yn ardal Maerdy, ac mewn ardaloedd eraill. A'r peth trist iawn yw bod y rhan fwyaf o'r rhain wedi'u cynnau'n fwriadol yn ôl pob golwg, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn hynny o beth, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ond mae angen inni gadw rheolaeth ar hynny.

Ond o ran cyfarfod, os ydych chi'n fodlon, fe drafodaf hyn gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, ac fe allwn drafod sut i fwrw ymlaen â hyn. Yr unig beth yw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser yn edrych ar sut i ddysgu'r gwersi am eu dull o weithredu, o ran plannu coed, rhwystrau tân ac ati, ac maent yn dod yn well ac yn well am wneud hynny, ond hefyd, gwasanaeth tân ac achub de Cymru yn ogystal, sydd, mae'n rhaid imi ddweud, ymhlith y gorau yn y byd am fynd i'r afael â thanau gwyllt. Bydd ganddynt farn ar hyn hefyd. Felly, os ydych chi'n fodlon, byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet, ac fe ddown yn ôl atoch. Rwy'n siŵr y byddwn yn barod i gyfarfod. Y cwestiwn yw a fydd y ddau ohonom neu un ohonom yn cyfarfod, ond gyda'r criwiau tân a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i edrych ymlaen, yn enwedig yn eich etholaeth chi, fel y gallwch edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno a sut y gallant gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol. Dylai fod parodrwydd bob amser i ddysgu gwersi ac yna i wella'r ffordd y gwnawn hyn.

Parc Morol Cenedlaethol

6. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i sefydlu parc morol cenedlaethol? OQ62737

Prif nod parciau morol cenedlaethol yw cysylltu pobl â'r môr. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y cysylltiad hwn, ac rydym eisoes yn rhoi camau ar waith drwy ein fframwaith 'Y Môr a Ni'. Mae gan Gymru sylfaen gref ar gyfer cadwraeth forol gyda'n rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol wedi lansio menter i Aelodau'r Senedd ddod yn hyrwyddwyr parciau morol cenedlaethol, gan fanteisio ar y dirwedd arfordirol wych sydd gennym yma yng Nghymru. Ar ôl ymweld â Plymouth Sound, parc morol cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig, gwelais â fy llygaid fy hun y potensial o sefydlu un yng Nghymru a'i allu i gysylltu rheolaeth ar ein tir a'n môr, i arwain at well stiwardiaeth ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn y pen draw, i alluogi gwell ymwybyddiaeth o'r angen am gadwraeth. Pa rwystrau a welwch chi i gefnogi'r gwaith o greu un neu fwy o barciau morol cenedlaethol yng Nghymru? Diolch.

Diolch, Joel. Nid wyf yn gweld unrhyw rwystrau; mae'n fater o sut rydym yn cyflawni'r amcan a nodir gan y rhai sy'n cefnogi'r cysyniad o barciau morol, sef, yn ôl yr hyn a ddeallaf, hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o dreftadaeth arfordirol a morol ac adferiad morweddau, er mwyn gallu mwynhau manteision hamdden a gwireddu'r manteision amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol i gymunedau arfordirol. Felly, yng Nghymru, yma, nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r bartneriaeth moroedd ac arfordiroedd. Yn wir, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn aelod ohoni, ac maent yn gweithio tuag at nodau tebyg iawn, yn enwedig drwy'r gwaith ar lythrennedd cefnforol ac adeiladu capasiti mewn cymunedau arfordirol. Ddirprwy Lywydd, bûm yno, oddeutu chwe wythnos yn ôl rwy'n credu, ar ddiwrnod heulog iawn, i'w lansiad digwyddiadau llythrennedd cefnforol, gan gynnwys yn Theatr Torch. [Torri ar draws.] Yn wir—roeddwn yn fy nghanŵ, ac roeddwn yn mynd i fyny cilfach, ond gyda rhwyf, nid heb rwyf [Chwerthin.] Ac fe rwyfais yn ôl gyda rhywun a oedd yn awyddus iawn i sgwrsio. Roedd newydd lansio ei fusnes ei hun y diwrnod hwnnw o'r cei, busnes padlfyrddio—. Mae’n ddrwg gennyf, rwy'n crwydro. Rwy'n crwydro, Ddirprwy Lywydd.

15:00

Rwy'n gwybod, rwy'n gwybod. Ond mae'r gwaith llythrennedd cefnforol yn bwysig iawn i ni. Cyhoeddodd y Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd strategaeth llythrennedd cefnforol gyntaf Ewrop yn gynharach eleni—'Y Môr a Ni'. Mae ynddo gyfres o gamau gweithredu a fyddai'n bwrw ymlaen â'r weledigaeth hon o bobl yn cael eu cysylltu â'r moroedd a'r holl fanteision hamdden, cymdeithasol ac amgylcheddol hynny. Felly, mae yna ffordd wahanol o'i wneud. Rydym hefyd, gyda llaw, yn nodi bod geiriad yn ymwneud â llythrennedd cefnforol bellach wedi'i gynnwys yn natganiad cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y drydedd gynhadledd cefnforoedd yn Nice ym mis Mehefin. Mae Cymru'n dangos sut y gellir cyflawni hyn ar y cyd yma nawr.

Tanwydd Ffosil

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw Cymru yn allforio ei hallyriadau i wledydd eraill drwy gynyddu dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio? OQ62722

Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bontio'n gyflym oddi wrth danwydd ffosil, gan gynnwys mewnforion. Er mwyn cefnogi'r pontio hwn, rydym yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol i ddarparu mwy o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy a mesurau effeithlonrwydd ynni i'n helpu i sicrhau diogeledd ynni glân a fforddiadwy i bobl Cymru.

Diolch. Rydych chi'n aml wedi siarad am bontio teg ac un lle rydym yn sicrhau bod gennym ynni am bris fforddiadwy i'n trigolion. Fodd bynnag, rydym wedi cael y ddadl yma am lo yn y gorffennol. Mae Llafur a Phlaid Cymru a hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau inni ddibynnu'n llwyr ar fewnforio 3.4 miliwn tunnell bob blwyddyn. Fel y gwelwyd gyda ffatri ddur Scunthorpe, mewnforiodd y DU 55,000 tunnell o lo golosg o Awstralia. Rydym hefyd yn mewnforio glo o Kazakhstan, Canada a'r UDA. Mae gennym reilffyrdd treftadaeth bellach yn dibynnu ar lo o'r ochr arall i'r byd.

Mae hydrogen carbon isel hefyd yn cael ei gydnabod fwyfwy gan y Llywodraeth fel rhywbeth sydd â rôl bwysig i'w chwarae yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gall cynhyrchu hydrogen yng Nghymru ddigwydd trwy ystod o brosesau a ffynonellau. Felly, pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud? Sut rydych chi'n ystyried ei bod yn rhagrithiol braidd, a ninnau'n mewnforio cymaint o danwydd ffosil, er bod gennym danwydd ffosil yn lleol? Yn enwedig yn ystod camau'r gwaith adfer tomenni glo, a allai helpu i liniaru faint o danwydd ffosil a glo a fewnforiwn. Felly, sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â hyn, oherwydd ar hyn o bryd mae anghydbwysedd—eich safbwyntiau ar hynny? Mae braidd—. Ni chaniateir inni ddefnyddio'r gair 'rhagrith'. Mae'n rhagrithiol yn ei ymdrechion i gyflawni'r agenda rydych chi eisiau iddo ei wneud mewn gwirionedd.

O'r gorau. Diolch, Janet. Gan roi'r cyhuddiad o ragrith i un ochr, pan oeddwn i'n meddwl ein bod i gyd wedi ymrwymo yma i weithio tuag at ddyfodol di-garbon a dyfodol di-danwydd ffosil, un o'r heriau yma yn yr hyn rydych chi wedi'i gyflwyno, Janet, yw'r safbwynt cydnabyddedig a ddywedodd fy nghyd-aelod o'r Cabinet, Rebecca Evans, wrthych mewn ymateb i gwestiwn tebyg yn ddiweddar, mai polisi sefydledig Llywodraeth Cymru yw dod â chloddio am lo a defnyddio glo i ben mewn modd wedi'i reoleiddio. Byddai agor pyllau glo newydd ac ymestyn gweithgarwch glo presennol yng Nghymru yn ychwanegu at y cyflenwad byd-eang o lo, gan effeithio'n sylweddol—ac rwy'n dweud hyn wrthych chi fel aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd—ar gyllidebau carbon cyfreithiol rwymol Cymru a'r DU, yn ogystal â'r ymdrechion rhyngwladol i gyfyngu ar effaith newid carbon.

A hefyd, mae cyngor y pwyllgor hinsawdd yn glir iawn—nid y pwyllgor hinsawdd yma, ond y pwyllgor newid hinsawdd ar sail y DU—lle maent yn dweud, ar draws economi Cymru, y bydd lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil yn cynyddu gwydnwch economaidd yn erbyn siociau prisiau mewn marchnadoedd tanwydd ffosil rhyngwladol anwadal. Felly, mewn gwirionedd, ymhell o fod yn rhagrithiol, yr hyn rwy'n ceisio ei wneud yw bod yn gyson, ac yn gyson gydag Aelodau a bleidleisiodd yn flaenorol dros lwybr tuag at bontio teg i ddyfodol wedi'i ddatgarboneiddio. Felly, rydym yn ceisio cadw glo yn y ddaear. Yn bendant, nid ydym, drwy'r Bil presennol sy'n cael ei gyflwyno ar domenni glo nas defnyddir, yn mynd yn agos at fater cloddio am lo yn hwnnw. Rwy'n credu eich bod chi'n dadlau dros gloddio am lo at ddibenion masnachol. Nid yw hynny'n rhan ohono. Mae'r Bil hwnnw'n canolbwyntio ar les cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan waddol ein tomenni glo a sefydlogrwydd y tomenni hynny. Dyna beth yw nod y Bil.

15:05
Treth Etifeddiaeth Amaethyddol

8. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith newid Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiaeth amaethyddol ar wragedd gweddw yng Nghymru? OQ62741

Diolch, Siân. Mae’r dreth etifeddiaeth yn un sydd wedi ei chadw yn ôl, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n ei goruchwylio. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am gynnal unrhyw asesiad o’r newidiadau, o ran cydraddoldeb.

Diolch am yr ateb yna. Ar ddiwedd Ebrill, fe wnes i holi'r Prif Weinidog am fater a oedd wedi'i dynnu i'm sylw i gan etholwyr am effaith anghymesur y newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar weddwon ffermio, a hynny yn sgil y newidiadau i ryddhad. Mae hyn oherwydd na fyddai rhyddhad treth y gŵr sydd wedi marw yn trosglwyddo i'r weddw er mwyn darparu dwbl y rhyddhad ar farwolaeth y weddw. Ac, wrth gwrs, mae'n gweithio'r ffordd arall hefyd, sef os ydy'r wraig yn marw, byddai'r gŵr gweddw ddim yn cael rhyddhad. 

Mae'r teuluoedd yma—ac mae yna nifer ohonyn nhw yn fy etholaeth i—felly wedi colli allan ar gyfleoedd i gynllunio ystadau a llunio ewyllysiau a fyddai'n rhoi sicrwydd i'r plant ar gyfer y dyfodol ac felly sicrwydd i ddyfodol y ffermydd teuluol yma. Yn ei hateb, nôl ym mis Ebrill, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd hi wedi clywed am yr ongl yma o'r blaen ac y byddai hi'n edrych i mewn i'r mater. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo'r Prif Weinidog, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael am y mater penodol yma efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig? 

Diolch, Siân. Nodaf eich bod wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog o'r blaen, ac rwy'n credu mai'r bwriad, Siân, yw trefnu cyfarfod, o bosibl gyda chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, sydd â'r llinell uniongyrchol honno i ddeialog â'r Trysorlys hefyd. Felly, efallai fod peth gwrthdaro yn y dyddiadur a phroblemau amserlennu, ond rwy'n credu mai'r bwriad yw aildrefnu'r cyfarfod hwnnw fel y gallwn ddeall mwy gennych chi ar y mater hwn.

Ond fe wnaethoch chi godi'r mater hefyd am y cymorth sydd ar gael a'r cynllunio olyniaeth, ac os caf ailadrodd, yn rhan o'r gefnogaeth a roddwn i ffermwyr a'u teuluoedd i ddeall a gweithredu ar oblygiadau'r newidiadau, mae Cyswllt Ffermio wedi cael cyfres o weithdai ledled Cymru. Fe'u mynychwyd gan dros 1,500 o ffermwyr hyd yma. Maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ond dim ond dechrau'r gefnogaeth yw hynny. Felly, mae Cyswllt Ffermio hefyd yn darparu mynediad at gyfarfodydd olyniaeth teuluol wedi'u hwyluso, adolygiadau olyniaeth, i ddeall y goblygiadau treth a chyngor busnes a chyfreithiol wedi'i sybsideiddio ar hyn hefyd. Felly, Siân ac eraill, cyfeiriwch hwy tuag at Cyswllt Ffermio a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno, ond yn y cyfamser fe af â'r neges yn ôl at y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gael y cyfarfod hwnnw gyda chi.

Diogelwch ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar gyfer gweithgareddau awyr agored? OQ62740

Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi hyrwyddo diogelwch, gyda phwyslais ar atal a lliniaru risg ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae Croeso Cymru yn gweithio gyda darparwyr achrededig o dan ei gynllun sicrwydd gweithgareddau antur ar gynnwys ac ar ymgyrchoedd sy'n cynnwys gweithgareddau antur, i sicrhau bod arferion gorau'n cael eu dilyn.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod am y gwaith da sy'n digwydd drwy'r grŵp trawsbleidiol ar y sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, ac fe fyddwch hefyd yn cytuno â mi fod gennym rai o'r sefydliadau gweithgareddau awyr agored gorau y gallech feddwl amdanynt yma yng Nghymru. Fodd bynnag, cafwyd achosion trasig amlwg iawn yn ddiweddar lle mae safonau diogelwch sylfaenol yn yr awyr agored wedi cael eu hanwybyddu ac wedi arwain at amgylchiadau trasig. Ond mae yna bwysau o ddydd i ddydd hefyd ar sefydliadau fel achub mynydd, sy'n cefnogi pobl yn yr awyr agored mewn sefyllfaoedd gwael. 

Mae'r sector yn pryderu ar hyn o bryd am ei ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, oherwydd nid yw'n ymddangos bod arweiniad clir o gwmpas bwrdd y Cabinet ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch awyr agored ac unrhyw ddeddfwriaeth neu bolisi cysylltiedig. Tybed a allech chi egluro heddiw pwy ddylai'r sector ymgysylltu â hwy wrth iddynt geisio parhau i dawelu meddwl y cyhoedd yn eu gwaith i sicrhau bod pobl, pan fyddant yn mwynhau'r awyr agored, yn gallu gwneud hynny mewn ffordd mor ddiogel â phosibl gan wneud y gorau o'r rhan anhygoel o'r byd yr ydym yn byw ynddi. Diolch.

15:10

Yn wir, diolch, Sam. A gaf i ganmol y grŵp rydych chi'n ei gadeirio, y grŵp trawsbleidiol ar y sector gweithgareddau awyr agored, am y ffocws a roddodd i hyn? Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn estyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dioddefwyr a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi a ddigwyddodd yn Hwlffordd ym mis Hydref y llynedd.

Rydym eisiau hyrwyddo anturiaethau awyr agored da, effeithiol yn y maes chwarae awyr agored sydd gennym yng Nghymru, ond mae angen ei wneud yn ddiogel gyda phobl, unigolion a gweithredwyr medrus, ac mae angen i bobl sy'n dod yma wybod eu bod mewn dwylo da ac yn cael gofal diogel. Mae'r drasiedi hon, un y gellid bod wedi ei hosgoi, fel y clywsom bellach yn yr achos llys, yn atgyfnerthu pwysigrwydd negeseuon ataliol effeithiol wrth hyrwyddo gweithgareddau awyr agored. Rydym am i ymwelwyr fod yn ddiogel. Rydym yn dweud wrthynt, 'Edrychwch ar Croeso Cymru', lle mae'r negeseuon cyfrifol ar weithgareddau awyr agored yn cael eu cyfathrebu i'r cyhoedd i'w helpu i wneud hynny'n ddiogel. A hefyd, edrychwch ar y cyngor sydd gennym ar AdventureSmartUK am fwy o gyngor ac arweiniad, a hefyd i liniaru'r risg y gallai darparwyr fod yn gweithredu heb drwydded—dylai fod ganddynt drwydded—felly, yn yr achos hwnnw, mae Croeso Cymru hefyd yn sicrhau bod ei gynnwys ei hun yn gyfrifol ac yn briodol, ac mae'n gweithio gyda darparwyr sydd wedi'u hachredu o dan y cynllun sicrwydd gweithgareddau antur, a Croeso Cymru: Diwydiant hefyd ar gynnwys ac ymgyrchoedd sy'n cynnwys gweithgareddau antur. Mae gan Croeso Cymru berthynas sefydledig ag AdventureSmartUK, gan weithio gyda hwy ar ymgyrchoedd, a lledaenu gwybodaeth am ddiogelwch a ble y dylai pobl fynd ar gyfer y gweithgareddau awyr agored hynny.

Mae'r cyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru yn cael ei rannu rhwng gwahanol Weinidogion, oherwydd mae rhai yn mynd ati i hyrwyddo'r sector gweithgareddau awyr agored, ac mae eraill, fel fi, yn canolbwyntio ar ddiogelwch a hyrwyddo diogelwch dŵr, a diogelwch awyr agored hefyd. Felly, ar bob cyfrif, cysylltwch â mi ar yr agwedd benodol honno, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol yn ei wneud i dynnu sylw at hyn yn ganmoladwy, ac mae'n angenrheidiol iawn hefyd, yng ngoleuni'r drasiedi drist a ddigwyddodd, y gellid bod wedi'i hosgoi.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Bydd y cwestiwn amserol cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Gwaith Atgyweirio Pont Menai

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai yn ei chael ar Ynys Môn? TQ1339

Rwy'n hynod siomedig fod y rhaglen gynllunio-adeiladu-ariannu-gweithredu wreiddiol gan UK Highways A55 Ltd wedi ei hoedi. Cawsom wybod am yr oedi y mis hwn, a heriodd fy swyddogion eu methodoleg i geisio lleihau'r rhaglen gyffredinol. Ond pan ddaeth yn amlwg y byddai oedi'n anochel, cyhoeddais y datganiad ysgrifenedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna, ond alla i wir ddim gorbwysleisio'n siom i a'm rhwystredigaeth i efo'r cyhoeddiad diweddaraf yma, a fydd yn golygu y bydd yr aflonyddwch a'r problemau i gymunedau, nid yn unig rhai sydd reit wrth ymyl y bont, ond ar draws yr ynys ac ar y tir mawr, yn parhau am lawer hirach nag oedden ni yn ei ddisgwyl. Mi fydd y gost yn glir i fusnesau, y gost i gymudwyr yn teithio i'w gwaith, pryder trigolion lleol ynglŷn â'r effaith ar fynediad cerbydau brys ac ati.

Ac mae o, wrth gwrs, yn bwysig cofio nad dyma yr oedi mawr sylweddol cyntaf i'r prosiect yma. Fis Awst eleni roedd y gwaith i fod wedi'i gwblhau; mi gafodd ei wthio nôl tan fis Rhagfyr. Rŵan dŷn ni'n gwybod y gallai gymryd tan fis Gorffennaf 2026 i'r gwaith gael ei gwblhau, a prin iawn oedd y gydnabyddiaeth yn y briefing yr wythnos diwethaf mai oedi dwbl oedd hwn. Mae o'n golygu bron i flwyddyn o oedi ar broject oedd i fod i bara dwy flynedd, ac mae o hefyd yn golygu, o'r adeg y caeodd y bont yn wreiddiol ym mis Hydref 2022 hyd at ddiwedd y project, y bydd bron i bedair blynedd wedi pasio. Dydy hynny ddim yn dderbyniol o gwbl.

Mae o hefyd yn golygu, wrth gwrs, fod y bont ddim yn mynd i fod yn barod ar gyfer ei dathliadau daucanmlwyddiant ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, er gwaethaf beth addawodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn bendant wrth ohirio dechrau cam 2 y project ym mis Hydref y llynedd. Mae'r newyddion yma wedi achosi cymaint o siom yn lleol, a dwi'n rhannu rhwystredigaethau grwpiau cymunedol sydd eisoes wedi rhoi cymaint o waith i mewn i ddathlu'r hyn a ddylai fod wedi bod yn achlysur arbennig iawn ar Ynys Môn ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Dwi hefyd eisiau nodi fy rhwystredigaeth am y ffordd y cafodd y cyhoeddiad ei wneud. Mae datganiad ysgrifenedig ar brynhawn dydd Gwener yn arwydd o Lywodraeth sydd eisiau osgoi sgrwtini, mae gen i ofn, yn enwedig pan gawson ni wybod mewn sesiwn briffio rhanddeiliaid ddydd Llun fod Llywodraeth Cymru yn gwybod am yr oedi tebygol am wythnosau cyn y cyhoeddiad, sydd ond yn codi cwestiynau a phryderon pellach ynglŷn ag amseriad y cyhoeddiad.

Mae gen i ofn bod hyn hefyd yn ychwanegu at y gred rywsut dyw'r Llywodraeth Llafur yma ddim yn gwneud digon i ddeall ac ymateb i heriau Ynys Môn a'r gogledd yn fwy cyffredinol. Rydym ni'n sôn am bont y Borth, rydym ni'n sôn am borthladd Caergybi dros gyfnod y Nadolig, a'r methiant llwyr o hyd i sicrhau gwydnwch hirdymor pont Britannia. Rydym ni eisiau gweld Llywodraeth sy'n ymateb efo llawer mwy o frys.

Gaf i ofyn felly i'r Ysgrifennydd Cabinet am esboniad mor fanwl â phosib o'r rhesymau pam mae'r prosiect yma wedi ei ohirio hyd yn oed ymhellach? Pryd yn union oedd y Llywodraeth yn gwybod a beth mae swyddogion wedi ei wneud i drio cyflymu'r prosiect o hyn ymlaen? Gaf i ofyn eto pa arian compensation fydd yn cael ei roi i bobl sydd yn dioddef yn sgil hyn? Ac a allaf i hefyd ofyn unwaith eto a ydy Llywodraeth Cymru'n bwriadu gweithredu mesurau ar bont Britannia ar frys i geisio lleddfu pwysau traffig yn ystod y cyfnodau prysur sydd i ddod? Achos, er gwaethaf addewidion, does yna ddim byd i weld yn digwydd yno.

15:15

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau atodol? Yn gyntaf oll, roedd toriad y gaeaf yn doriad. Roedd yn doriad a gyflawnwyd mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac roedd yn doriad i sicrhau bod busnesau'n gallu gweithredu dros gyfnod prysur y Nadolig, a gweithredu mewn ffordd a fyddai'n gwarantu'r incwm mwyaf posibl iddynt. Roedd hefyd yn caniatáu inni greu gwydnwch yn ystod cyfnod o ddigwyddiadau tywydd eithafol. Pe na baem wedi ailagor y bont ar y pryd, byddai wedi golygu y byddai mwy o berygl na fyddai modd mynd i Ynys Môn yn ystod cyfnodau o wynt cryf. Roedd yna gyfleoedd hefyd, a chawsant groeso mawr gan sefydliadau fel Always Aim High, i ddefnyddio ailagor y bont yn ystod yr egwyl hwnnw. Mae'r sesiwn nesaf hon wedi ei hoedi, ond roedd y cyfnod cyntaf yn doriad er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd yr ynys mewn tywydd garw ac er mwyn inni allu defnyddio cyfnod y Nadolig er budd busnesau.

Nawr, ar y rhesymau pam yr achoswyd yr oedi, mae sawl rheswm, ac rwy'n fwy na hapus i roi briff technegol mwy manwl i unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y mater. Ond un o'r rhesymau, er enghraifft, oedd yr amser y cymerodd UK Highways A55 DBFO Ltd i gael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, os gallwn ddod o hyd i unrhyw ffordd o gael y gwaith wedi'i wneud yn gynt, fe fyddwn yn gwneud hynny. Mae fy swyddogion mewn deialog reolaidd iawn a heriol gyda'r contractwyr i wneud yn siŵr y gellir cyflawni'r gwaith cyn gynted â phosibl.

Pan ddeallom y gallai fod oedi, roeddwn eisiau holi ynghylch y rhesymau'n llawn a'u herio i sicrhau ein bod yn nodi unrhyw fodd posibl o gael dyddiad cynt ar gyfer cwblhau'r gwaith. Nawr, mae wedi'i raglennu i'w gwblhau ym mis Ebrill, yn y gwanwyn. Hyd yn oed os yw, yn y pen draw, yn gorffen erbyn dechrau'r haf, bydd yn dal mewn pryd ar gyfer pen-blwydd Telford a dathliadau daucanmlwyddiant codi'r bont. Bydd hwnnw'n achlysur rhyfeddol.

Ar y pwynt y mae Rhun ap Iorwerth yn ei wneud am bont Britannia, rwy'n credu ei bod yn hanfodol cydnabod nad ydym wedi diystyru croesfan arall dros afon Menai, ond rydym am fwrw ymlaen â'r gwaith ar fesurau gwydnwch i wneud yn siŵr y gallwn wella cysylltedd i ac o'r ynys yn y tymor byr, ac nid yn y tymor hir yn unig. 

Rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am ofyn y cwestiwn amserol hwn heddiw. Mae'r newyddion am oedi pellach i waith atgyweirio ar bont Menai yn hynod rwystredig, a dweud y lleiaf. Rwy'n ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn teimlo'r un peth. Rwy'n ddiolchgar hefyd fod briff technegol wedi'i roi yn gynharach yr wythnos hon.

Yn gywir ddigon, mae pobl ar yr ynys yn disgwyl seilwaith sy'n ddibynadwy, yn wydn ac o ddifrif yn gwasanaethu anghenion yr ynys, ond dro ar ôl tro, cânt eu siomi. Ac nid anghyfleustra bach yw'r oedi parhaus hwn; mae'n fethiant i ddarparu'r gwydnwch sylfaenol y mae gan bobl ar Ynys Môn bob hawl i'w ddisgwyl. Mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr oll yn haeddu gwell na'r cynnydd sy'n digwydd ar hyn o bryd. Yn wir, mae effaith a risg yr aflonyddwch yn mynd ymhell y tu hwnt i ffiniau'r ynys ei hun. Rwy'n ymwybodol fod gan fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders fusnesau yn Aberconwy sydd hefyd yn pryderu am effaith hyn. Ac mae'r effeithiau'n cael eu teimlo nid yn unig ar Ynys Môn ac yn Aberconwy, ond ar draws rhwydwaith trafnidiaeth gogledd Cymru, gan estyn hyd teithiau a thanseilio datblygiad economaidd.

Rwyf am aros gyda'r pwynt hwn am eiliad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod busnesau'n ffynnu ar sicrwydd a gwydnwch. Mae'r ddau beth yn cael eu tanseilio ar hyn o bryd gyda'r oedi hwn ar yr ynys. Ac yn sicr nid yw'n adlewyrchu'n dda ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yng ngogledd Cymru. I mi, mae'n enghraifft nodweddiadol o'r diffyg brys mewn perthynas â seilwaith pwysig yng ngogledd Cymru. Ni ddylai fod yn ormod i'w ofyn i gysylltiadau hanfodol o'r ynys i'r tir mawr gael eu cynnal a'u trwsio gyda'r brys angenrheidiol. Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Caerdydd. Mae'n teimlo fel pe bai gogledd Cymru, unwaith eto, wedi cael ei gadael i ddihoeni, nid yn unig gyda hyn ond gyda phrosiectau eraill hefyd.

Felly, i ddod at fy nghwestiynau, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddeall sut rydych chi'n dwyn y bobl sy'n cyflawni hyn i gyfrif ar ran Llywodraeth Cymru. Fe wnaethoch chi sôn yn eich ymateb i Rhun ap Iorwerth am oedi a achoswyd gan CNC, gyda thrwyddedau. Hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd ar hyn, yn hytrach na'i fod yn brosiect seilo. Hoffwn wybod hefyd pa amcanestyniadau a wnaed o'r effaith economaidd negyddol y mae'r oedi parhaus hwn i bont Menai yn ei chael ar fusnesau lleol a'r economi ehangach. Diolch yn fawr iawn.

15:20

Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiynau? Fel y dywedais, rwy'n hynod siomedig fod y rhaglen wreiddiol gan UK Highways A55 DBFO Ltd wedi ei hoedi. Cawsom sicrwydd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025, a dim ond y mis hwn y cawsom wybod y bydd oedi, am rai o'r rhesymau a amlinellais. Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth, os yw'r Aelodau'n dymuno hynny, ynglŷn â'r gwahanol resymau dros yr oedi, sy'n cynnwys caffael, yn ogystal ag ennill trwyddedau angenrheidiol. Ond os gallwn gael dyddiad cwblhau cyn mis Ebrill, rwy'n gwbl benderfynol o sicrhau hynny. Rwy'n gwbl argyhoeddedig ein bod yn ymgysylltu'n briodol, yn drylwyr ac mewn ffordd heriol iawn, hefyd, gyda UK Highways A55 DBFO Ltd.

Rwyf wedi mynegi fy siom, fy anfodlonrwydd, â'r hyn sydd wedi digwydd ac na chafodd y wybodaeth ei rhoi i ni tan yn hwyr yn y dydd, ond cyn gynted ag y cawsom wybod am hyn, fe wnaethom ymrwymo i weld a allwn leihau'r cyfnod o oedi a chael yr agoriad yn gynt na'r dyddiad a ragwelwyd. Ond cyn gynted ag y daeth yn amlwg nad oedd hynny'n mynd i fod yn bosibl, fe wnaethom drefnu'r briff technegol a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig.

Byddwn yn amlwg yn gweithio gyda'r gymuned fusnes a'r awdurdod lleol i bennu'r effaith a byddwn yn rhoi mesurau ar waith, os gallwn, i sicrhau y gall busnesau ffynnu yn ystod yr hyn y gwn ei fod yn gyfnod anodd iawn. A byddwn yn gwneud popeth a allwn hefyd i sicrhau bod modurwyr yn parhau i symud trwy gyfnod siomedig iawn o oedi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Y cwestiwn amserol nesaf gan Rhys ab Owen.

Dŵr Cymru

1. Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i ddefnyddwyr? TQ1341

Member
Huw Irranca-Davies 15:24:35
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Rhys. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â chwmnïau dŵr a rheoleiddwyr y diwydiant i drafod pob maes gweithgarwch. Yn dilyn penderfyniad diweddar yr adolygiad pris dŵr, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi £6 biliwn yng Nghymru rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £1.2 biliwn i gyflawni gwelliannau amgylcheddol yn benodol, gan gynnwys mynd i'r afael â llygredd maethynnau.

15:25

Diolch am yr ateb, Dirprwy Brif Weinidog.

Rydym i gyd yn ymwybodol o'r ddirwy o £1.3 miliwn a gafodd Dŵr Cymru yr wythnos diwethaf am fethu monitro ansawdd dŵr mewn 300 o wahanol safleoedd ac am gyflawni 800 o droseddau. Mae hyn ar ben y carthion a ollyngwyd y llynedd dros 118,000 o weithiau—dyna ollyngiad carthion bob pum munud, y nifer uchaf o ollyngiadau carthion gan unrhyw gwmni dŵr yn y DU. Nawr, mae hyn yn gwneud newidiadau CNC i'r ffordd y rheolant adroddiadau o lygredd yn gwbl ddryslyd, neu'n 'bryderus tu hwnt', fel y cawsant eu disgrifio gan Llyr Huws Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Ac eto, er gwaethaf y methiannau amlwg hyn, mae etholwyr yn ei chael hi'n anodd iawn credu—mae'n anodd ei ddirnad, Ddirprwy Brif Weinidog—fod swyddogion gweithredol yn cael cyflogau syfrdanol o uchel, fod trafodaeth ar y gweill i roi cyflogau uwch eto iddynt, a hyn ar yr adeg pan fo Dŵr Cymru yn cynyddu biliau aelwydydd 27 y cant eleni, cyfartaledd o £86 yr aelwyd. Fel y gwyddoch yn dda, Ddirprwy Brif Weinidog, mae costau i ddeiliaid tai yn codi, ond mae'n ymddangos bod lefelau craffu'n gostwng oherwydd diffyg cyllid a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ddirprwy Brif Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i gefnogi pob cartref gan ddwyn CNC a Dŵr Cymru i gyfrif? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn atodol. Y peth cyntaf i'w ddweud yn glir iawn yw fy mod wedi bod yn gyson glir gyda'r cwmnïau dŵr ac yn wir, y rheoleiddiwr, Ofwat, fod cwsmeriaid yng Nghymru yn disgwyl gweld gwelliannau gwirioneddol a diriaethol mewn gwasanaethau, seilwaith a chanlyniadau amgylcheddol, ac i gael hynny cyn gynted â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r cwmnïau dŵr a'n rheoleiddwyr i weld y gwelliannau y mae pobl eisiau eu gweld, fel rydych chi'n dweud yn gywir ddigon, gwelliannau y maent hefyd yn haeddu eu gweld yn digwydd. 

Nawr, rydych chi'n iawn i nodi'r buddsoddiad, fel y gwneuthum yn fy ymateb cychwynnol i chi, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, sydd wedi arwain at filiau uwch i ddefnyddwyr am ei fod wedi'i flaenlwytho. Felly, mae angen inni weld hynny'n cael ei droi'n weithredu; mae angen inni weld gwelliant mewn perfformiad amgylcheddol yn digwydd a hynny'n gyflym. Os yw'r buddsoddiad wedi'i flaenlwytho, rydym yn disgwyl gweld y buddiannau'n digwydd yn gynt hefyd, ac mae hynny'n iawn ar ran talwyr biliau yng Nghymru.

Ond i fod yn glir hefyd, mae Dŵr Cymru, nid yn unig yn yr achos llys diweddar—. Fy nealltwriaeth i, gan ei fod wedi'i gwblhau bellach, yw eu bod wedi cydnabod eu methiannau yma, ac mae eu dirwy'n sylweddol, rhaid imi ddweud, ond hefyd eu hymrwymiad yn y dyfodol i leihau'r niwed ecolegol o orlifoedd stormydd 90 y cant, ac maent yn anelu at 100 y cant erbyn 2032. Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf gyfarfod yn fuan gyda chadeirydd Dŵr Cymru. Gan fod yr achos llys wedi dod i ben erbyn hyn, gallaf warantu y bydd hyn yn un o'r materion ar yr agenda gyda'r cadeirydd, a byddaf yn ceisio sicrwydd ynghylch trywydd cynllun gwella perfformiad Dŵr Cymru, oherwydd dyna'r gwelliant y mae pobl eisiau ei weld.

Diolch am gyflwyno hyn, Rhys. Ni allaf gredu ein bod ni'n dal i drafod hyn. Tra bôm yn siarad amdano, mae dwsinau o ddigwyddiadau llygredd yn digwydd ar hyn o bryd yn ôl pob tebyg. Mae bil dŵr cyfartalog cwsmeriaid Dŵr Cymru eisoes wedi gweld cynnydd o 27 y cant ar gyfartaledd. Bydd cwsmer ar fesurydd arferol yn gweld eu bil yn codi o £437 i £575, a chwsmer heb fesurydd o £693 i £913, a hyn er nad ydynt yn dod allan pan fo sawl gollyngiad dŵr neu pan fydd digwyddiadau llygredd—sy'n niferus, fel y dywedwyd.

Yn gynharach eleni, gwelodd fy etholwyr yn Aberconwy ddigwyddiad oherwydd methiannau seilwaith gwael ac aethant heb ddŵr am bron i bum diwrnod—roedd yn anhrefn ac roedd yn argyfwng. Er bod cynllun iawndal ar waith, cafodd nifer o fy etholwyr eu biliau uwch am ddŵr cyn iddynt gael eu taliadau iawndal. Ac rwyf wedi ei godi sawl gwaith: fe gymerodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, sy'n cael £892,000 o gyflog, sy'n sgandal, fonws o £91,000 yn 2024. Mae'n anodd i mi ei ddirnad, heb sôn am ein holl etholwyr.

15:30

Ac i Mike. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu bod angen ichi fod yn llawer mwy cadarn yn eich cyfarfod gyda'r cadeirydd, pan fyddwch yn cyfarfod. Mae'n rhaid rhoi diwedd ar hyn, ac mae'n rhaid rhoi diwedd ar hyn ar unwaith, gan fod pobl yn haeddu gwell. Maent yn haeddu gwell gan Lywodraeth Lafur Cymru, maent yn haeddu gwell gan Dŵr Cymru, ac maent yn haeddu gwell gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd i mi, os gwelwch yn dda, Weinidog, eich bod o leiaf yn gwrando arnom ni, os nad ar bobl Cymru? Ni all hyn barhau. Diolch.

Wel, ar fater gwrando ar bobl Cymru, a gwrando ar dalwyr biliau, a gwrando ar y rhai sydd eisiau gweld gwelliant amgylcheddol, rydym yn sicr yn gwneud hynny, ac fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithredu hefyd. Mewn gwirionedd, mae rhai o'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd yn digwydd ar y cyd â Llywodraeth y DU, felly mae ein cytundeb i fwrw ymlaen â deddfwriaeth dŵr sy'n cynyddu'r gallu i fynd yn uniongyrchol at arweinyddiaeth cwmni dŵr a gweithredu yn erbyn cyfarwyddwyr pan nad yw'r perfformiad yn ddigon da—[Torri ar draws.]—o fewn hynny. Nid wyf yn siŵr a ydych yn cymeradwyo hynny ai peidio, ond rydym ni'n sicr yn cymeradwyo'r dull hwnnw o fynd ati.

Ond yn ail, rydym wedi nodi'n glir iawn drwy ein datganiad blaenoriaeth strategol i Ofwat, y rheoleiddiwr, ac fe wnaethom nodi'n glir iawn yn ystod y broses adolygu pris yn ddiweddar hefyd, fod angen i gwmnïau dŵr gael y cydbwysedd yn iawn rhwng gweithredu'n effeithiol dros yr amgylchedd gan sicrhau hefyd eu bod yn cadw biliau'n fforddiadwy i gwsmeriaid. Mae Ofwat wedi nodi y bydd mwy o graffu nawr ar gyflawniad cwmnïau dŵr ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, gan ddechrau yn 2025, ac maent wedi dweud os na fydd cwmnïau dŵr yn cyflawni'r perfformiad, y dylid rhoi'r arian hwnnw yn ôl i dalwyr biliau dŵr. Nid wyf yn siŵr beth sy'n fwy cadarn na hynny, ac rydym yn cytuno â hynny hefyd.

Nawr, dros y cyfnod 2025 i 2030, fel rwyf wedi'i ddweud, bydd £6 biliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Mae llawer ohono wedi'i flaenlwytho. Bydd talwyr biliau eisiau gweld bod hynny'n arwain at ganlyniadau: cynnydd mewn perfformiad, llai o ollyngiadau, llai o lygredd ac yn y blaen. Mae'r neges honno'n glir fel grisial. O'r swm hwn—gyda llaw, mae'n gynnydd o £3.8 biliwn o gymharu â'r cyfnod blaenorol—mae mwy na £1.2 biliwn ohono wedi'i ymrwymo'n uniongyrchol i leihau niwed o orlifoedd storm ac atal llygredd maethynnau. Felly, mae'r arian yno, mae'r cyfeiriad yn glir iawn. Byddaf yn codi hyn pan fyddwn yn cyfarfod nesaf â chadeirydd Dŵr Cymru hefyd, ond mae angen inni barhau i roi pwysau, ac mae angen inni eu dal at eu hymrwymiadau i wella'r perfformiad hwnnw. Oherwydd, gyda'r cynnydd yn yr arian, sy'n effeithio ar filiau pobl, mae angen inni weld gwelliant mewn perfformiad.

Eleni, mae cwsmeriaid Cymru yn wynebu'r cynnydd mwyaf mewn biliau dŵr yn yr ynysoedd hyn, ymysg y rheini, tra bod carthion, fel rydyn ni wedi clywed, yn cael eu gollwng i'n hafonydd ni, i'n llynnoedd a'n moroedd, bob pum munud ar gyfartaledd. Rwy'n poeni ychydig ein bod ni wedi dod i arfer â dweud bod hynny'n digwydd, a dylai fe ddim bod yn beth normal. Mae e'n rhywbeth sydd mor—. Dwi ddim yn siŵr sut i'w ddweud e: mae e mor disgraceful yn y ffordd mae e'n digwydd.

Dyma'n hadnodd naturiol mwyaf gwerthfawr. Mae e wedi cael ei orfasnacheiddio a'i ddiraddio'n ddifrifol ar yr un pryd. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, rydyn ni wedi clywed bod ystyriaeth nawr yn cael ei rhoi i uwchraddio tâl y prif weithredwr. Nawr, y system sydd ar fai yma; mae'n rhaid edrych arni hi eto. Dwi ddim yn meddwl bod gorbersonoleiddio pethau yn mynd i fod yn help yma. Yr optics, wrth gwrs bod hynny'n bwysig, ond y system sydd yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd. Dyna beth sydd angen ei newid yma, yn enwedig gan fod bron i 115,000 o dai yng Nghymru wedi eu dosbarthu fel rhai sydd mewn tlodi dŵr.

Ydych chi'n cytuno â mi bod y cynigion ynglŷn â thal y prif weithredwr gan bwyllgor taliadau Dŵr Cymru yn mynd yn groes i ysbryd y Ddeddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025, a bod angen, fel rydych chi efallai wedi cynnig fan hyn, adolygiad brys o'r modd y mae cyflogau gweithredol yn cael eu gwneud yn gysylltiedig â pherfformiad? Buaswn i'n mynd ymhellach na hynny: ydych chi'n cytuno efallai fod angen i ni edrych eto ar sut y mae'r system yma yn gweithio? Achos dwi'n meddwl bod y cysylltiad yna wedi cael ei dorri o ran sut mae pobl yn ei weld e, a—.

Wel, buaswn i eisiau gwybod: allwch chi gadarnhau'r dyddiad diwethaf gwnaeth tasglu gwella ansawdd afonydd Cymru gwrdd? Dwi'n meddwl bod hybu tryloywder yn mynd i fod yn rhywbeth pwysig er mwyn gweld atebolrwydd. Ydych chi'n gallu diweddaru'r Senedd cyn gynted â phosibl ar gynnydd y gwaith o gyflawni camau allweddol y tasglu yna, gan gynnwys gosod sgriniau gorlif stormydd? Ydych chi'n cytuno â mi y dylai Dŵr Cymru gyflwyno cynllun fforddiadwyedd dŵr cyffredinol, yn unol â'r rhai sydd eisoes ar gael gan gwmnïau dŵr eraill, i liniaru effaith tlodi dŵr? 

Ond eto, ynghyd â hyn oll, ydych chi'n cytuno efallai fod yn rhaid i ni fynd ymhellach ac edrych eto ar y system? Achos dyw e ddim dim ond am yr esiamplau unigryw, ond y system sydd yn caniatáu i bethau fel hyn ddigwydd. Mewn ffordd, erbyn hyn, mae cymaint o bobl jest yn meddwl, 'Dyma ydy'r norm', a dylai fe ddim fod.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

15:35

Diolch, Delyth. Fe ofynnoch chi sawl cwestiwn. Gadewch imi geisio eu hateb yn gryno. Yn gyntaf oll, rydym yn mynd ymhellach nid yn unig o ran y monitro a'r llymder a'r pwerau i wthio'n galed ar berfformiad cwmnïau dŵr, ond hefyd ar y rhai sydd yn y swyddi allweddol ar frig y cwmnïau hynny.

Mae Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025, a gafodd gydsyniad ym mis Chwefror, yn rhoi pwerau newydd i reoleiddwyr gymryd camau llymach a chyflymach yn erbyn cwmnïau dŵr pan fyddant yn methu yn eu cyfrifoldebau i'r cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae mesurau newydd yno, ac rydym wedi cytuno i gyflwyno llawer ohonynt yng Nghymru. Weithiau, cawn ddadleuon yma ynglŷn ag, 'A yw'n iawn gweithio ar sail Cymru a Lloegr?' Weithiau, os yw'n iawn i'r defnyddiwr a'r bobl sy'n poeni am ansawdd dŵr, yna mae'n iawn. Felly, mae'r rheini'n cynnwys mwy o bwerau gorfodi, gwaharddiad ar fonysau i swyddogion gweithredol cwmnïau dŵr, rhoi'r gallu i reoleiddwyr ddefnyddio cosbau'n fwy parod, yn ogystal â monitro allfeydd carthion yn annibynnol. Mae pob un o'r pethau hynny'n rhan o hyn. Credaf fod hwn yn ddatblygiad go nodedig. Mae'n newid sylweddol yn y ffordd y gwnawn hyn.

Nawr, mae hyn, gyda llaw, ar ben y buddsoddiad ychwanegol rydym wedi'i roi i Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gallant fynd ar drywydd hyn. Un feirniadaeth a wneir gan rai yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad ydynt yn rhuthro allan i asesu pob digwyddiad y rhoddir gwybod amdano. Yr ymateb i hynny, ac mae gwerth yn hyn, yw bod angen iddynt ganolbwyntio ar y digwyddiadau llygredd gwaethaf, y rhai sy'n achosi difrod ecolegol gwirioneddol. Os ydynt yn mynd ar drywydd pob digwyddiad unigol, mae'n golygu byddin o bobl yn treulio llawer iawn o amser ar bob digwyddiad unigol y rhoddir gwybod amdano. Mae ganddynt ddadansoddiad diddorol o hyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn seiliedig ar ddata, ond rydym wedi rhoi arian ychwanegol iddynt fel y gallant fynd ar drywydd hyn.

Rwy'n eu canmol am fynd ar drywydd y cwmni dŵr yn y sefyllfa hon, ac mae wedi mynd drwy'r llys. Rwyf wedi gweld penderfyniadau'r Barnwr Jones ar hyn, a'i ddadansoddiad o'r hyn a aeth o'i le, gan ddweud yn glir y dylai fod cynlluniau wrth gefn wedi bod ar waith i liniaru'r hyn y mae Dŵr Cymru wedi'i nodi fel y rhesymau pam y digwyddodd hyn. Barn y Barnwr Jones yw, 'Na, dylai fod cynlluniau wedi bod ar waith gennych i liniaru hynny.' Felly, mae'n rhaid dysgu gwersi yno.

Ond edrychwch, yr hyn rwy'n cytuno â chi yn ei gylch, ac yn enwedig pan fo biliau'n codi mor gyflym hefyd, yw bod pobl eisiau'r buddsoddiad mewn gwelliannau ansawdd dŵr. Rwyf innau hefyd. Ond os yw'r biliau'n codi'n gymesur er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid inni fynnu cynnydd mewn perfformiad. Nid un digwyddiad fel hyn yn dilyn dyfarniad llys, ond y newid sylweddol hwnnw bob blwyddyn nawr am y pum mlynedd nesaf.

Mae talwyr biliau dŵr, aelodau'r cyhoedd ledled Cymru, yn mynd i ddweud, 'Dangoswch i ni sut y defnyddiwyd yr arian a dangoswch i ni'r gwelliant, nad yw'r gollyngiadau hyn yn digwydd, nad yw'r digwyddiadau llygredd hyn yn digwydd', ac maent hefyd yn mynd i ddweud am Cyfoeth Naturiol Cymru, 'Dangoswch i ni eich bod yn gorfodi ac yn dilyn y camau cywir.' Ac mae'n rhaid imi ddweud, gan ichi sôn amdano, gweithio gyda'r tasglu afonydd, ac nid oes gennyf ddyddiad y tasglu diwethaf wrth law, ond mae'n cyfarfod yn rheolaidd.

Fe wnaethom gyfarfod yr wythnos diwethaf yn y gynhadledd afonydd, ac rydym wedi diweddaru ac ailfywiogi'r rheini wrth symud ymlaen, gan fod iddynt werth. Ond un o'r pethau y gwnaethom ganolbwyntio arnynt yn y cyfarfod hwnnw—. Fe'i cynhaliwyd ar y cyd gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ac roedd yn canolbwyntio ar sut y maent yn defnyddio hyn nawr, nid yn unig mewn atebion pendant ac i ymdrin â'r gorlifoedd carthffosiaeth gyfun Fictoraidd ac yn y blaen, ond sut y maent yn rhoi cyllid i'r seilwaith gwyrdd i fyny'r afon, datblygu'r mawnogydd neu beth bynnag i atal yr effeithiau hyn rhag mynd i mewn i'r system. Felly, er clod iddynt, er gwaethaf y penawdau hyn yma nawr, maent yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â'r gwelliannau hynny. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw eu hannog, eu perswadio, a bydd ein rheoleiddiwr yn eu dwyn i gyfrif amdano neu'n mynd â hwy i'r llys.

15:40

Rydym wedi cael cynnydd enfawr mewn taliadau dŵr a charthffosiaeth, sy'n brifo fy etholwyr. Mewn mannau eraill, mae cynnydd o draean o hynny wedi'i alw'n 'syfrdanol', felly credaf fod yn rhaid bod y rhain yn 'syfrdanol iawn'.

Mae carthion amrwd yn cael ei ollwng yn rheolaidd i afon Tawe, a phan fydd lefel yr afon yn gostwng, mae gennym garthion amrwd ar ôl ar lannau'r afon. Os caf eich atgoffa mai'r unfed ganrif ar hugain yw hon, nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae gennym brif weithredwr ar gyflog uchel a swyddogion gweithredol eraill ar gyflogau uchel iawn yn Dŵr Cymru. Rydym wedi gweld y gwaith o adeiladu cronfeydd dŵr newydd yn dod i ben bron yn llwyr ers i ddŵr ddod allan o reolaeth y cyngor. O ran dirwyo Dŵr Cymru, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw ein dirwyo ni, gan mai'r unig le y gallant gael yr arian yw gennym ni. Pe bai'r dirwyon yn cael eu rhoi i'w prif weithredwr a'r swyddogion gweithredol eraill, byddwn yn sicr o blaid hynny, ond y cyfan a wnewch yw mynd ag arian oddi wrthym ni, sy'n talu amdano. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai'r unig ateb hirdymor yw perchnogaeth gyhoeddus ar ddŵr, ar Dŵr Cymru, fel y byddwn ni'n ei reoli yn hytrach na dibynnu ar rywun arall?

Mike, rydych chi'n fy nhemtio i feysydd trafod strwythurau perchnogaeth ar gwmnïau dŵr. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod Syr Jon Cunliffe—rydych chi'n fy nhemtio, ond nid wyf am fynd yno—yn cynnal adolygiad o'r strwythur rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Mae'n edrych ar fodelau perchnogaeth mewn perthynas â hynny. Mae hefyd yn edrych ar bethau, fel rheoli dalgylchoedd, sut rydym yn gwella'r strwythur rheoleiddio cyffredinol, ac nid model perchnogaeth ar gwmnïau dŵr yn unig. Ac mae'n dechrau o'r sail nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn foddhaol. Felly, dylai'r adolygiad gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Ac rwy'n obeithiol, yn seiliedig ar ein deialog gyda Syr Jon Cunliffe, nad yw hynny'n berthnasol i Loegr yn unig—mae hefyd yn adlewyrchu'r hyn y gellid ei wneud yma yng Nghymru. Felly, cadwch lygad ar hynny. Ond na, peidiwch â'm temtio i ddweud a ddylid gwladoli'r holl gwmnïau dŵr—mae'n debyg fod hynny y tu hwnt i'r hyn y caf fy nghyflogi i'w wneud.

Roeddwn eisiau gwneud sylwadau ar y cwestiwn hwn heddiw gan fod y cynnydd o 27 y cant ym miliau dŵr aelwydydd wedi cael effaith ddwys ar fy etholwyr am nifer o wahanol resymau, yn bennaf gan fy mod yn cynrychioli poblogaeth â lefel uchel o bobl oedrannus, a phobl ar incwm isel hefyd.

Y rheswm arall yw bod gennym ddwysedd uchel o systemau dŵr cymhleth yn Nyffryn Clwyd, gyda'r môr yn y Rhyl a Phrestatyn, a gollodd ei statws baner las yn ddiweddar o ran ansawdd y dŵr ymdrochi, a hefyd Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy'n cael eu rheoli gan Dŵr Cymru ac sy'n dibynnu ar nifer fawr o orsafoedd pwmpio ar hyd y llinell, nad ydynt bob amser yn cael eu cadw i'r safonau gorau. Mae sïon ar led fod carthion yn cael ei ddympio'n anghyfreithlon yn afon Clwyd yn Llanelwy a Rhuddlan. Yn amlwg, mae hynny wedi'i gadarnhau gan y ffeithiau y gwyddom amdanynt am ddympio gwastraff yn anghyfreithlon ledled Cymru gyfan, felly mae'n arwain fy etholwyr i gredu'r sïon, a hynny'n briodol ddigon. Hefyd, bu methiannau i fynd i'r afael â'r problemau llifogydd hirsefydlog yn rhaeadr Dyserth a'r systemau dŵr o'i chwmpas.

Felly, rydym yn cael synnwyr fod pobl yn gweld y methiannau hyn ar garreg eu drws, yn ei chael hi'n anodd talu'r biliau hynny, ac yn gweld y problemau mwy cyffredinol gyda Dŵr Cymru. Felly, pa sylwadau rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud neu y byddwch chi'n eu gwneud, yn benodol ynghylch pobl ar incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd fforddio'r biliau hynny, a'r rhagrith ehangach o gwmpas hynny, gan nad ydynt yn cael y ddarpariaeth, er eu bod yn gweld y biliau'n codi? Mae'n rhoi halen ar y briw pan fyddant yn gweld y problemau hynny'n digwydd ar garreg eu drws ac nad ydynt yn cael gwerth am arian.

Diolch, Gareth. Mae hwnnw'n fater pwysig iawn. Rydym yn trafod fforddiadwyedd yn rheolaidd gyda'n dau gwmni dŵr yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni'r cynnydd y mae cwsmeriaid yn ei weld yn eu biliau. Mae'n bwnc trafod cyson gennym. Ar hyn o bryd, mae 145,000 o gartrefi yng Nghymru yn cael cymorth ychwanegol drwy wahanol gynlluniau, drwy Hafren Dyfrdwy a thrwy Dŵr Cymru.

Rydym yn glir iawn fod cymorth i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu'r biliau yn allweddol, a byddwn yn gweithio gyda'r cwmnïau dŵr i sicrhau bod y cynlluniau hynny ar waith ganddynt a bod biliau'n fforddiadwy, yn enwedig i'r cwsmeriaid agored i niwed. Credaf ei bod yn bwysig fod y Siambr hon yn anfon neges glir heddiw, ac yn ein trafodaethau unigol ag etholwyr hefyd, y dylai unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd talu eu bil dŵr gysylltu â'u cwmni dŵr, a gwneud hynny'n gynnar. Cysylltwch â hwy, gofynnwch am eu cynlluniau, gan fod digon o gymorth a chyngor ymarferol ar gael, ac mae cymorth ariannol ar gael i aelwydydd bregus hefyd. Mae Dŵr Cymru yn cynnig £73 miliwn nawr, dros y pum mlynedd nesaf, i gefnogi cwsmeriaid a fyddai'n ei chael hi'n anodd talu fel arall. Mae Hafren Dyfrdwy, cwmni llai, sydd ag ôl troed llai yng Nghymru, yn cynnig arian yn gymesur â hynny hefyd.

Ond rwyf am awgrymu rhywbeth hefyd, neu ofyn rhywbeth i bob Aelod yn y Siambr hon: rydym wedi sôn am raddfa'r buddsoddiad a'i fod wedi'i flaenlwytho, sy'n effeithio ar filiau, felly gwnewch fel y gwnaf i, sef cysylltu â Dŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy a dywedwch, 'Soniwch wrthyf am flaenoriaethu gwaith yn eich ardal leol. Beth yw'r rhai risg uchel rydych chi'n mynd i'w gwneud yn gyntaf? Beth yw'r rhai â llai o flaenoriaeth am na ellir eu gwneud i gyd ar unwaith? Ym mha flwyddyn y byddant yn cael eu gwneud? Beth gaf i ei ddweud wrth fy etholwyr?' Mae gennyf rôl i'w chwarae fel Gweinidog Llywodraeth Cymru yn fy nhrafodaethau a thrafodaethau fy swyddogion gyda Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, ond yn yr un modd, gallwn fynd ati fel unigolion i fonitro eu perfformiad hefyd—i ble mae'r buddsoddiad hwnnw'n mynd, a yw'n cyflawni canlyniadau amgylcheddol, ac a ydynt yn cadw'r biliau'n fforddiadwy i gwsmeriaid bregus.

15:45
4. Datganiadau 90 eiliad

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Carolyn Thomas. 

Diolch. Mae dydd Iau yn Ddiwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth, a'r thema yw 'Cytgord â natur a datblygu cynaliadwy'. Mae bioamrywiaeth yn golygu'r holl fathau o fywyd a welwch mewn un ardal—yr amrywiaeth o anifeiliaid, planhigion, ffyngau. Mae pob un o'r rhywogaethau ac organebau hyn yn gweithio gyda'i gilydd mewn ecosystemau, fel gwe gymhleth, i gynnal cydbwysedd a chefnogi bywyd. Rydym yn rhan o'r ecosystem honno hefyd, ac mae'r hyn a wnawn yn effeithio arni. Heb natur, nid oes gennym fwyd, nid oes gennym economi.

Rydym wedi gweld dirywiad enfawr oherwydd y ffordd y mae tir wedi cael ei reoli, y defnydd o gemegau, ac effaith newid hinsawdd. Rydym hefyd yng nghanol mis Mai Di-dor ar hyn o bryd. Drwy adael i lawntiau dyfu, bydd pobl yn synnu pa fanciau hadau sydd yno mewn gwirionedd, ac sydd eisiau tyfu os rhoddir cyfle iddynt. Weithiau, nid yw newid yn digwydd dros nos, fel y gwelais gyda llain yn ddiweddar pan gafodd ei gadael am bedair blynedd. Datblygodd nifer y rhywogaethau yno—fe wnaethant luosogi 300 y cant o ran amrywiaeth.

Gall tyfu gardd fioamrywiol edrych yn wyllt ac yn flêr, am nad yw natur yn daclus mewn gwirionedd. Mae angen yr holl ardaloedd hyn o laswellt a dail ar adar, draenogod a phryfed i lochesu ac i gysgodi. Mae angen dŵr ar bob math o fywyd. Bydd ychwanegu pwll, bath adar, pwll dŵr tymhorol neu hyd yn oed dysgl fas ar gyfer pryfed a gwenyn yn helpu. Tyfwch flodau pêr gydag wynebau agored. Gadewch i goed a llwyni ffynnu. Rwy'n annog mwy o bobl ledled Cymru i helpu ac i gysylltu â bioamrywiaeth yn eu gerddi, ac wrth gerdded yng nghanol natur. Diolch.

Gall anafiadau i'r ymennydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Yma yng Nghymru, gwelwn dderbyniadau i'r ysbyty bob dydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i’r Ymennydd, ymgyrch sy'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ar unigolion a'u teuluoedd.

Thema eleni yw 'Diwrnod da', ac annog gwell dealltwriaeth o sut olwg sydd ar ddiwrnodau da a drwg i rywun sy'n byw gydag anaf i'r ymennydd, gan ganolbwyntio ar y natur amrywiol ac anrhagweladwy, a'r effaith ar alluoedd. Gall diwrnod drwg olygu blinder, cur pen, hwyliau cyfnewidiol, problemau gallu a gwybyddiaeth, a gall pob un ohonynt gael effaith enfawr ar weithgareddau dyddiol unigolyn, eu gallu i weithio, a'u perthynas â ffrindiau, teulu ac eraill.

Heddiw, bydd Fforwm Anafiadau Caffaeledig i'r Ymennydd y DU, ac eraill, yn cyhoeddi adroddiad newydd, yn nodi costau blynyddol anafiadau i'r ymennydd, yr amcangyfrifir eu bod yn £43 biliwn y flwyddyn, sy'n 1.5 y cant o gynnyrch domestig gros. Bydd hefyd yn galw am hawl statudol i adsefydlu, o dan arweiniad arbenigwyr ledled y DU, a gwell defnydd o ddata, a diwedd ar y loteri cod post presennol ar gyfer gwasanaethau niwro-adsefydlu.

Lywydd dros dro, mae’n rhaid inni wneud yn well ar ran y rhai sydd ag anafiadau i'r ymennydd a'u teuluoedd. Gadewch inni wneud adroddiad heddiw ac Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i'r Ymennydd eleni yn gatalydd ar gyfer newid.

15:50

Unigryw, personoliaeth gadarn, cawr o ddyn. Dyma ddisgrifiadau dwi wedi eu clywed ers i ni glywed cyhoeddi marwolaeth y cyfreithiwr a’r ymgyrchydd iaith Michael Jones. Fe'i magwyd mewn cymdeithas Gymraeg, ddiwylliedig, anghydffurfiol yn Sgiwen. Fel nifer o Gymry ei genhedlaeth, roedd dylanwad ei fam-gu a’i hen fodryb yn gryf iawn arno, a hynny sicrhaodd bod y Gymraeg yn rhugl ar ei wefusau. 

Nid oedd croeso i blant ag anghenion arbennig i dderbyn addysg Gymraeg, ond ni dderbyniodd Michael a’i annwyl wraig Ethni ‘na’ fel ateb. Drwy eu hymgyrchu, sicrhawyd uned yng Nghoed y Gof a Glantaf, ac mae miloedd o blant wedi derbyn addysg drwy’r Gymraeg oherwydd eu hymdrechion. Roedd Michael yn dueddol o fod yn hwyr i gyfarfodydd, ond roedd e ar flaen y gad, o flaen ei amser fan hyn, a sicrhaodd fod addysg Gymraeg ar gael i bawb. 

Bu’n brwydro â sawl awdurdod lleol ledled Cymru hyd y diwedd am eu diffyg darpariaeth addysg Gymraeg. Roedd yn ddoeth ei gyngor i Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac fe gynorthwyodd cannoedd o deuluoedd yn rhad ac am ddim mewn apeliadau mynediad. Mae’n amhosib pwyso a mesur cyfraniad enfawr Michael Jones. Roedd llawer o’i waith dros ei annwyl iaith yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig, mewn swyddfeydd cynghorau sir ac mewn apeliadau mynediad. Ond, wythnos nesaf, mi welwn ffrwyth ei lafur yn Eisteddfod yr Urdd, ym mro ei febyd. Diolch yn fawr. 

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned'

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 5, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths. 

Cynnig NDM8903 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Mae dros 700 o gynghorau tref a chymuned yn gwasanaethu eu hardaloedd lleol ledled Cymru. Hwy yw'r haen o lywodraeth agosaf at y bobl. Gallant ddarparu ystod o wasanaethau lleol, o ddigwyddiadau cymunedol a chynnal a chadw parciau i redeg llyfrgelloedd lleol, caffis a chanolfannau cymunedol. Mae maint cynghorau a'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn amrywio'n sylweddol, ond mae pob un ohonynt yn rhannu'r amcanion o fod eisiau cyflawni a sicrhau'r canlyniadau gorau i'w cymunedau.

Mae ein hadroddiad yn gwneud 11 o argymhellion, a byddaf yn trafod rhai o'r rhain heddiw. Yn gyntaf oll, o ran archwilio, mae llywodraethu da yn hanfodol ar gyfer rhedeg unrhyw sefydliad yn effeithiol. Fodd bynnag, awgrymodd y dystiolaeth gonsensws eang fod y drefn archwilio bresennol yn rhy anhyblyg i'r sector. Clywsom fod oddeutu 30 y cant o gynghorau yn darparu cyfrifon blynyddol sy'n cynnwys gwallau rhifyddol neu weithdrefnol sylfaenol. Mae achos i'w gael dros ailedrych ar y system. Felly, argymhellwyd bod Llywodraeth Cymru a'r archwilydd cyffredinol yn gweithio gyda'r sector i gydgynhyrchu system archwilio bwrpasol newydd. Rwy'n falch fod hyn wedi'i dderbyn, ac edrychwn ymlaen at glywed sut olwg a fyddai ar system ddiwygiedig. Rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn cymryd amser, ond hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pryd y gallai'r gwaith hwn ddechrau.

Mater allweddol arall a godwyd oedd ymddygiad cynghorwyr. Rwyf wedi siarad yn y Siambr hon sawl gwaith am bwysigrwydd cynyddu amrywiaeth ar draws y sector llywodraeth leol, a gwyddom fod ymddygiad gwael yn un o'r ffactorau allweddol sy'n atal pobl rhag sefyll neu barhau mewn rôl etholedig. Er bod nifer y cwynion ffurfiol a wneir yn erbyn cynghorwyr yn isel iawn yn ôl cyfran, maent yn ddigon sylweddol i fod yn destun pryder. Testun pryder arbennig yw'r nifer fach o gynghorau lle gwnaed cwynion lluosog, ac mae sefyllfa o'r fath yn rhoi rhesymau i gwestiynu gweithrediad y cynghorau hynny.

Clywsom fod y rhan fwyaf o'r cwynion a ymchwiliwyd gan yr ombwdsmon yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch. Er y gall dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol arwain at anghytundeb, dylai dangos parch at gydweithwyr, ni waeth beth y bo'r gwahaniaethau, fod yn hollbwysig. Er gwaethaf gofynion i gydymffurfio â chod ymddygiad eu cyngor, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar gynghorwyr cymuned ar hyn o bryd i ymgymryd â hyfforddiant, a hynny er bod hyfforddiant ar gael yn rhwydd a bwrsariaethau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r ddarpariaeth.

Clywsom dystiolaeth lethol i gefnogi cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, ac rydym yn cytuno y gallai hyn arwain at lai o gwynion yn ymwneud â cydraddoldeb a pharch. Felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r opsiynau ac i ymgynghori â'r sector. Mae'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gwerth mewn gweithredu ymhellach ar hyn. Fe wnaethom hefyd argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnig bwrsariaeth i alluogi cynghorau i fynychu hyfforddiant cod ymddygiad Un Llais Cymru, a'i fod yn cael ei gynnal ar y lefelau presennol. Unwaith eto, rwy'n falch fod hyn wedi'i dderbyn.

Wrth gwrs, gallai rhoi’r offer a’r cymorth i glercod cynghorau lleol ymdrin ag anghydfodau’n lleol atal problemau rhag gwaethygu yn y lle cyntaf. Hoffem weld awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol yn ei gwneud yn haws i glercod gael mynediad at gymorth o’r fath. Credwn fod rhinwedd mewn archwilio mecanweithiau i alluogi’r sector i gael mynediad at gymorth gan swyddogion monitro prif awdurdodau a gwasanaethau adnoddau dynol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn, ond nododd mai cyfrifoldeb y sector llywodraeth leol yw hwyluso hyn drwy ei femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

O ran rhesymoli posibl, nid oedd unrhyw awydd cryf gan randdeiliaid i resymoli nifer y cynghorau tref a chymuned. Ni allem anwybyddu'r ffaith, serch hynny, mai dim ond 22 y cant o seddi a ymladdwyd yn yr etholiadau diwethaf. Mae hyn yn awgrymu, mewn llawer o ardaloedd, fod ymdeimlad o ddifaterwch neu ddatgysylltiad â'r ffurf fwyaf lleol o lywodraeth. Fe wnaeth hyn ein harwain i gwestiynu a yw'r strwythur presennol yn briodol.

Yn fwyaf arbennig, rydym yn ymwybodol iawn fod maint cynghorau cymuned yn amrywio'n sylweddol, ac yn meddwl tybed a allai cynghorau cyfun ddarparu gwell cyfleoedd mewn rhai ardaloedd ar gyfer cyflawni'n effeithiol gyda mwy o adnoddau ac arbenigedd. Fodd bynnag, o ystyried bod y dystiolaeth a glywsom yn amrywio, nid oes gennym farn gadarn ar hyn, er ein bod yn credu y byddai ystyriaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r sector yn fuddiol. Hoffem weld mwy o archwilio cyfleoedd i gynghorau glystyru a rhannu arferion da.

Fe wnaethom hefyd archwilio capasiti digidol y sector ac rydym yn pryderu bod llawer o gynghorau yn brin o'r ddarpariaeth TG fwyaf sylfaenol, fel cyfeiriadau e-bost corfforaethol ar gyfer clercod ac aelodau. Rydym hefyd yn pryderu bod rhai cynghorau'n cael eu hatal rhag cynnal cyfarfodydd hybrid oherwydd diffyg seilwaith yn eu hadeiladau, sydd wedi arwain at rai cynghorau'n cynnal cyfarfodydd rhithwir yn unig. Hoffem weld mwy o gydweithredu rhwng y sector ac awdurdodau lleol ar gymorth TG a rhannu cyfleusterau cyfarfodydd hybrid.

Pan ystyriodd ein pwyllgor rhagflaenol Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd bellach yn Ddeddf, yn ôl yn 2020, dywedwyd wrthynt fod y sector cynghorau lleol yn cefnogi'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol, ac y byddai'n lleihau'r tebygolrwydd y byddai cynghorau tref a chymuned yn gweithredu'n anghyfreithlon. Roeddem yn synnu, felly, mai ychydig iawn o gynghorau sydd wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r pŵer hwn. Er bod y sector yn parhau i groesawu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, clywsom fod y meini prawf cymhwysedd bellach yn cael eu hystyried yn rhy gyfyngol, gan eithrio llawer o gynghorau cymwys a reolir yn dda. Mater penodol oedd y gofyniad i ailddatgan cymhwysedd yn flynyddol. Cafodd ein hargymhelliad y dylid gwneud newidiadau deddfwriaethol i alluogi cynghorau i gadarnhau cymhwysedd unwaith yn unig yn ystod tymor etholiadol ei dderbyn mewn egwyddor. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw golwg ar hyn.

Nod ein hargymhellion yw mynd i'r afael â llawer o'r heriau sy'n wynebu'r sector a sicrhau ei gynaliadwyedd yn y dyfodol. Yn ogystal â'r argymhellion a wnaed mewn adroddiadau eraill yn ddiweddar ynglŷn â chynaliadwyedd y sector yn y dyfodol, rwy'n credu y gall ein hargymhellion ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr, mewn partneriaeth â'r sector llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol eraill, yw rhoi'r argymhellion hyn ar waith.

Diolch eto i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr.

16:00

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i gyn-Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am agor y ddadl hon. Fel y gwyddoch, rwy'n gynghorydd cymuned ac rwyf wedi gwasanaethu ers nifer o flynyddoedd. Gallaf ddweud yn onest ei fod wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac wedi fy ngalluogi i gymryd rhan weithredol ym mywyd fy nghymuned. Gall cynghorwyr tref a chymuned wneud llawer iawn o waith i'w hardaloedd, yn enwedig o ystyried yr adnoddau prin iawn sydd gan rai at eu defnydd. O ystyried ei bod yn rôl wirfoddol yn bennaf, credaf ei fod yn dangos y cryfder cymunedol anhygoel sydd gennym, sydd o fudd aruthrol i bobl, heb amheuaeth.

Wedi dweud hynny, a bod yn onest, rwy'n ymwybodol hefyd y gall cynghorau tref a chymuned fod yn fannau lle ceir llawer o fwlio ac aflonyddu, gydag ymddygiad na fyddai'n cael ei oddef yn unman arall. Mae ymddygiad a welais gan rai cynghorwyr cymuned ar adegau yn ofnadwy, ac yn anffodus mae'n ymddangos i mi mai clercod cynghorau yn amlach na pheidio sy'n gorfod dioddef yr ymddygiad hwn. Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth o hyn a gwneud y gwahanol godau ymddygiad sy'n bodoli yn orfodol. O fy mhrofiad personol fy hun, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod casineb at wragedd yn chwarae rhan yn hyn hefyd.

Mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned yn un hirddisgwyliedig, a hoffwn ddiolch iddynt am ei gynhyrchu. O ystyried fy sylwadau agoriadol, rwy'n cefnogi eu hargymhellion ar gyfer hyfforddiant cod ymddygiad gorfodol, ac mae bob amser wedi fy synnu faint sy'n gwrthod ymgymryd â hyn wrth ddod yn gynghorwyr. Felly, rwy'n sicr yn croesawu llwybr llawer cliriach ar gyfer gweithredu pan fydd cynghorwyr yn methu bodloni'r safonau sy'n ddisgwyliedig ganddynt.

Mae'r broblem hon wedi codi am nad yw'r iaith a'r ymddygiad mewn cyfarfodydd yn cael eu monitro'n effeithiol, a chamau cyfyngedig sydd ar gael i gynghorwyr tref a chymuned i fynd i'r afael â'r pethau hyn. Felly mae adrodd yn rheolaidd am hyn yn hanfodol yn y pen draw, fel y gall y cyhoedd gael eu hysbysu pan nad yw ymddygiad yn ddigon da. Ond hefyd, rwy'n credu bod angen i'r cyhoedd gymryd mwy o ran yn hyn, a rhoi sylw i bwy yw eu cynghorwyr tref a chymuned. Yn anffodus, fel y gwyddom i gyd ac fel sydd eisoes wedi'i grybwyll eisoes, caiff y mwyafrif helaeth eu cyfethol, neu eu hethol yn ddiwrthwynebiad fel y cefais i. Yn fy mhrofiad i, gwelais fod gan bleidiau gwleidyddol fwy o reolaeth dros ymddygiad cynghorwyr gan fod yn rhaid iddynt fod yn aelodau a chael eu dewis yn ffurfiol i gynrychioli'r blaid, ac unwaith eto yn fy mhrofiad i, ymddygiad cynghorwyr annibynnol nad oes yn rhaid iddynt gadw at reolau plaid—eu hymddygiad hwy sydd wedi bod waethaf. Hoffwn wybod beth yw profiadau Aelodau eraill yma.

Ar glercod a staff, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am dderbyn fy ngwelliant i'r ddeddfwriaeth ddiweddar na ddylai clercod tref a chymuned ddal swyddi etholedig mwyach. Rwy'n credu bod hyn yn helpu i gryfhau annibyniaeth y rôl, yn ogystal â darparu sicrwydd nad yw'r clerc yn gaeth i gysylltiadau gwleidyddol wrth gyflawni eu rôl. Fodd bynnag, yn aml iawn nid yw clercod yn cael digon o gymorth ac ni cheir digon o wybodaeth gyson a fyddai'n helpu, nid yn unig gan sefydliadau fel Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ond hefyd gan swyddogion monitro neu eu rhiant-awdurdodau lleol, nad oes yr un ohonynt, yn fy marn i, yn barod i helpu pan fo sefyllfaoedd difrifol yn codi.

Dylid gwneud mwy hefyd i gynyddu'r cymwysterau proffesiynol sydd gan glercod, ac fel y byddai llawer yma'n cytuno, mae'n ymddangos bod lefel uchel o amrywiaeth yng ngallu clercod, ac mae hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at effeithiolrwydd cyffredinol y cyngor tref neu gymuned. Bydd codi safonau'n sicr yn helpu i wella cysondeb y gefnogaeth y bydd y cyngor yn ei chael, ac yn helpu gyda meddylfryd mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â llywodraethiant a chraffu.

Yn yr oes hon, mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o gefnogi cynghorau'n briodol gyda seilwaith digidol. Mae hyn yn helpu i gyflymu cyfarfodydd, ond mae hefyd yn golygu bod y rhai sy'n cael trafferth mynychu cyfarfodydd yn cael mwy o gyfleoedd i wneud hynny, sy'n sicr o helpu i annog mwy o bobl i sefyll fel cynghorwyr tref neu gymuned, ac mae'n golygu bod aelodau o'r cyhoedd yn cael mynediad haws at yr hyn sy'n digwydd. Mae hefyd yn golygu y gellir cofnodi'r cyfarfodydd hyn, gan helpu eto i hwyluso mwy o graffu ac ymgysylltu, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyn fel gofyniad mewn gwirionedd.

Nodir yn yr adroddiad fod angen gwaith sylweddol o hyd i wella capasiti digidol cynghorau tref a chymuned. Hefyd, mae cynghorau nad ydynt mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau digidol yn her. Rwy'n credu y gallai rhiant-awdurdodau lleol chwarae rôl yn helpu i ddarparu hyn. Nid yn unig y bydd yn helpu i rannu adnoddau, bydd yn golygu hefyd fod cynghorau tref a chymuned llai o faint yn gallu canolbwyntio mwy ar y rôl y cawsant eu hethol i'w chyflawni.

Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad hwn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Gyda gwell trefniadau llywodraethu a mwy o allu i gefnogi cynghorau tref a chymuned, rwy'n credu y gallwn wneud cymaint mwy i'r cymunedau, a gadewch inni fod yn onest, mae hon yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Bydd yn golygu mwy i gymunedau, bydd yn helpu i adeiladu mwy o wydnwch, yn gwella eu hardaloedd ac yn hybu cydlyniant cymunedol.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor unwaith eto am yr adroddiad. Rwy'n cefnogi ei nodi ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ei argymhellion cyn gynted â phosibl. Diolch.

16:05

Darllenais yr adroddiad hwn gyda diddordeb oherwydd fy mod wedi dechrau yn y byd gwleidyddol ar y lefel sylfaenol hon, a byddaf yn ddiolchgar am hynny am byth. Yn ystod fy nghyfnod ar Gyngor Cymuned Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn, dysgais lawer mewn cyfnod byr o amser, yn enwedig pwysigrwydd cysylltu â chymuned a gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud. Mae'r rhain yn wersi sydd wedi bod o werth mawr i mi yn y Senedd.

Diolch byth, mae fy marn ar gynghorau tref a chymuned yn cyd-fynd â barn fy mhlaid. Wedi'r cyfan, mae Plaid Cymru'n credu bod Cymru'n gymuned o gymunedau ac y dylid datganoli pŵer mor agos at y bobl â phosibl. Rydym eisiau gweld cynghorau tref a chymuned yn ffynnu ac yn gwasanaethu pobl yn dda, ond nid yw hyn yn digwydd trwy ddamwain. Cynghorau tref a chymuned yw'r haen agosaf o lywodraeth at fywydau pobl. Mae angen y pwerau, y gefnogaeth a'r gallu arnynt i ddarparu arweiniad lleol cryf yn eu cymuned.

Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld diwygio cynghorau tref a chymuned er mwyn rhoi llais go iawn i'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Pan fydd pobl yn gweld eu syniadau'n cael eu datblygu'n lleol, maent yn cymryd rhan, maent yn cael profiad o'r broses ddemocrataidd ac yn cael perchnogaeth ar y canlyniad terfynol. Gall hyn helpu i adfer ymddiriedaeth yn ein gwleidyddiaeth a'n sefydliadau ar adeg pan fo fwyaf o'i hangen. Gall cynghorau cryf helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth ar fannau, ar benderfyniadau, ar y dyfodol. Nid yw hynny'n gweithio oni bai bod pobl yn cymryd rhan ac yn teimlo bod eu cyngor yn gweithio'n dda.

Mae gennym dros 730 o gynghorau. Fel y clywsom gan John Griffiths, fodd bynnag, yn 2022 dim ond 22 y cant o'r seddi a ymladdwyd, ac mae hynny'n dweud wrthym fod rhywbeth nad yw'n gweithio. Mae gormod o gynghorau heb allu, mae gormod yn cael trafferth llenwi seddi gwag. Gallai cynghorau mwy o faint, gyda gwell adnoddau wasanaethu eu cymunedau'n fwy effeithiol, ac mae angen edrych ymhellach ar ba fecanweithiau y gellid eu defnyddio i edrych ar y ffordd y gallai hyn ddigwydd, yn enwedig y syniad a gyflwynwyd ynglŷn â hyb.

Rydym yn cefnogi rôl fwy i gynghorau, ond mae angen cefnogaeth arnynt i gyd-fynd â hynny. Ac fel y dywedodd Joel James, gofynnir i glercod rhan-amser sydd â mynediad cyfyngedig at adnoddau dynol, cymorth cyfreithiol a hyfforddiant wneud gormod. Mae angen systemau cymorth craffach, rhannu gwasanaethau a mentora, a seilwaith digidol i wneud i bethau weithio. Rydym yn croesawu llawer yn yr adroddiad hwn, ond mae angen inni ei weld yn cael ei weithredu nawr ar lawr gwlad, os ydym am weld gwleidyddiaeth lawr gwlad yn cryfhau yn hytrach na chrebachu. Felly, hoffwn ddeall pa gamau pendant pellach y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w cymryd i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn a pha amserlenni y mae'n eu dilyn. Diolch yn fawr.

16:10

Rwyf i hefyd am gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn, ac rwy'n hapus iawn i fod yn gysylltiedig â'r adroddiad a'i argymhellion fel aelod o'r pwyllgor. Fel y clywsom eisoes, ac fel y gŵyr pawb, mae cynghorau tref a chymuned yn chwarae rôl hynod bwysig yn ein cymunedau, yn darparu ystod eang o wasanaethau. Ond wrth gwrs, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Roeddwn i'n gynghorydd cymuned am 25 mlynedd, ac rwy'n gwybod faint o waith a wnânt yn eu cymunedau. Er y gallai fod rhai sydd heb fod yn berffaith yn eu cymuned, mae yna lawer o gynghorau cymuned sy'n gwneud gwaith gwych i'w cymunedau, ac mae angen inni gydnabod hynny hefyd.

Un o'r argymhellion a nododd ein Cadeirydd oedd mater technoleg yn y sector, a thynnwyd sylw at y ffaith bod Un Llais Cymru wedi nodi, i lawer o gynghorau tref a chymuned, fod darparu'r gwasanaethau digidol yn heriol iawn. Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r prif swyddog digidol llywodraeth leol gyhoeddi eu hadroddiad ar barodrwydd digidol yn y sector. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu hefyd, ond ymddengys nad oes fawr ddim wedi newid. Fel y mae'r adroddiad hwn yn nodi, nid yw traean y cynghorau tref a chymuned wedi sicrhau'r ddarpariaeth technoleg gwybodaeth fwyaf sylfaenol i'w staff a'u cynghorwyr eto, ac mae angen inni weld gwelliant ar hynny. Fel y clywsom, mae llawer gormod o fusnes cyngor yn cael ei wneud gan ddefnyddio cyfeiriadau e-bost personol, ac mae hynny'n codi cwestiynau difrifol ynglŷn â rheoleiddio diogelu data cyffredinol. Ar ben hynny, mae gormod o gynghorau heb gyfleusterau i weithredu cyfarfodydd hybrid ac maent yn dal i gyfarfod ar-lein yn unig. Nid yw hynny'n helpu cynghorwyr sy'n ei ystyried yn rhwystr ac a fyddai'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfarfod yn y cnawd.

Rwy'n credu y byddai croeso i ddiweddariad gan y Llywodraeth ar weithrediad ei chynllun gweithredu digidol, er mwyn deall pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella digideiddio cynghorau tref a chymuned Cymru. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid cael cyfleoedd i gydweithredu mwy, fel y nododd John, rhwng cynghorau tref a chymuned, i alluogi'r arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen a rhannu adnoddau a gwybodaeth, ac rwy'n credu y gall cynghorau sir fod yn allweddol i hwyluso hyn maes o law.

Lywydd dros dros, mae cyllid yn brin. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau felly fod mentrau a chefnogaeth ar gael i gefnogi ein cynghorau tref a chymuned, er mwyn sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o'u cyllid, a bod ganddynt y darpariaethau TG sylfaenol angenrheidiol i gyflawni eu rolau yn y ffyrdd sy'n ddisgwyliedig yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu gweithredu. Diolch.

Mi fues i yn gynghorydd cymuned hefyd, ac yn gadeirydd cyngor cymuned, cyn cael fy ethol yn gynghorydd sir ac wedyn yn Aelod o'r Senedd, ac mi oedd o yn brofiad hynod werthfawr o ran dysgu sgiliau pwysig o geisio creu consensws o blith croestoriad eang o safbwyntiau, ac o ran cadeirio cyfarfodydd oedd yn gallu bod yn dymhestlog iawn ar adegau yn lleol. Felly, dwi yn ffan o gynghorau cymuned, fel yr haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl, ac felly roeddwn i'n falch o fod yn rhan o'r ymchwiliad pwyllgor yma.

Ond does yna ddim dwywaith bod yna broblemau a heriau yn y sector yma. Fe glywodd y pwyllgor fod tua 30 y cant o gynghorau tref a chymuned yn cyflwyno cyfrifon blynyddol sy'n cynnwys gwallau rhifyddeg sylfaenol. Mae llawer o gynghorau'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau statudol oherwydd eu bod nhw'n gwneud gwallau gweithdrefnol eithaf sylfaenol. Mae'r dystiolaeth gawson ni yn y pwyllgor yn awgrymu consensws eang fod y drefn archwilio bresennol yn rhy anhyblyg ar gyfer y sector, ac mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r sector, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, fynd ati i gyd-gynhyrchu system archwilio bwrpasol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru yn agored i'r argymhelliad yma.

Elfen allweddol arall o ymchwiliad y pwyllgor oedd ymddygiad cynghorwyr, ac fe glywodd y pwyllgor nad yw hyn, ar adegau, yn cyd-fynd â'r disgwyliadau ar gyfer y rhai sy'n cyflawni swyddi cyhoeddus. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth sylweddol o blaid cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr opsiynau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ymchwilio, ond mae'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno'r newid yma, ond mi fydd ymgynghoriad, oni bydd, ac mi fydd adolygiad o'r canllawiau statudol, felly, gobeithio fe wnawn ni weld gwelliant mawr ar yr elfen yma o bethau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi darparu cyllid i'r sector i gefnogi cynnydd o ran eich cynllun gweithredu iechyd digidol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gyfleoedd i rannu cymorth technoleg gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned, a dwi'n meddwl yn sicr mae hwn yn rhywbeth dwi a'r pwyllgor yn awyddus iawn i weld, gan nodi y dylai fod disgwyliad bod awdurdodau lleol yn darparu cymorth technoleg gwybodaeth i gynghorau lleol drwy gytundebau lefel gwasanaeth.

Mae yna nifer fawr o heriau mae angen i gynghorau tref a chymuned fynd i'r afael â nhw ac mae'r sector i weld yn ymwybodol iawn o'r rhain. Mae llawer ohonyn nhw'n ymarferol eu natur, ac, efo digon o adnoddau a chefnogaeth, fe ellid ymdrin â nhw yn gymharol gyflym, ond mae yna heriau eraill sydd yn rhai mwy pellgyrhaeddol ac yn gofyn am ymyrraeth a threfnu a chyllid tymor hir. Er enghraifft, efo cyfran sylweddol o glercod yn gweithio ychydig o oriau yr wythnos yn unig, mi fyddai sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cymwysterau cywir i ymdopi â'r heriau sydd o'u blaenau yn faes allweddol i bob partner fynd i'r afael ag o.

Ac yn olaf, yn sicr, mae angen rhoi ystyriaeth fanwl i annog clystyru neu fodelau cydweithio amgen fel sydd yn llwyddiannus yn nyffryn Ogwen yn fy etholaeth i. Dwi'n gobeithio y bydd yr adroddiad yma yn sbarduno moderneiddio'r haen bwysig hon o'n ddemocratiaeth. Diolch yn fawr.

16:15

Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.

Diolch. Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Ac yn gyntaf, hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn a'r holl Aelodau sydd wedi rhannu eu profiadau heddiw—rwy'n credu bod pob Aelod, Ddirprwy Lywydd, wedi rhannu eu profiad o fod yn gynghorydd cymuned. Ac fel Cadeirydd y pwyllgor, hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r pwyllgor.

Mae'r gwaith hwn wedi bod yn amserol iawn. Mae'n cyd-fynd â'r adroddiadau diweddar ar iechyd democrataidd y sector cynghorau cymuned ac adroddiad Archwilio Cymru ar reolaeth ariannol a threfniadau llywodraethu'r sector. Mae'n amlwg ym mhob un o'r adroddiadau hyn fod yna agweddau penodol ar y sector sydd angen eu cryfhau, ac rwy'n ddiolchgar am ystyriaethau'r pwyllgor o sut i alluogi cynghorau tref a chymuned i gefnogi eu cymunedau lleol yn effeithiol.

Er bod Cymru a'r byd yn wahanol iawn i'r hyn oeddent ym 1974, fel y dywedodd John Griffiths a Siân Gwenllian, cynghorau tref a chymuned yw'r ffurf agosaf ar lywodraeth i'r bobl o hyd. Yn fwy felly nag unrhyw haen arall o lywodraeth, maent yn y sefyllfa orau i gynrychioli ac ymgysylltu â phobl ar y lefel leol ac i'w helpu i deimlo'n falch o'r lleoedd y maent yn byw ynddynt.

Rwy'n credu bod cefnogi'r sector yn waith tîm. Mae ein dull o weithredu'n seiliedig ar gydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth, nid hierarchaeth. Rwy'n falch o amlinellu ein hymateb, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo llywodraethiant ac atebolrwydd ein cynghorau tref a chymuned.

Un o'r meysydd a ystyriodd y pwyllgor oedd rôl cynghorau tref a chymuned. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sector cynghorau cymuned ffyniannus a deinamig, gydag aelodaeth sy'n adlewyrchu ei chymunedau. Rydym eisiau gweld sector sy'n cael ei reoli'n dda ac wedi'i lywodraethu'n dda, a sector sydd wedi'i gyfarparu i wneud yr hyn y mae'r gymuned eisiau iddo ei wneud. Mae'r pwyllgor wedi rhoi ei safbwyntiau defnyddiol ar sut i alluogi hynny.

Rwyf am ei gwneud yn glir fod gweithgarwch parhaus wedi bod gan bartneriaid i gefnogi'r sector, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Un Llais Cymru a'r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol am ddarparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i gynghorau. Ein rôl ni oedd buddsoddi yn y partneriaid hynny i gynyddu capasiti a chynyddu diddordeb yn y gefnogaeth honno. Dylai Aelodau wybod bod gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth rhwng ein sefydliadau. Mae hyn yn gwneud ymateb i'r adroddiad hwn yn llawer haws.

Fe ystyriodd yr adroddiad y system lywodraethu, yn enwedig mewn perthynas ag archwilio. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod llawer o gynghorau yn methu bodloni'r gofynion archwilio presennol ac mae'n taflu cipolwg ar yr achosion. Rwy'n agored i weld Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Archwilio Cymru a'r sector i edrych ar sut y gallwn gydbwyso symleiddio'r broses archwilio â sicrwydd llywodraethiant. Mae cynghorau tref a chymuned yn awdurdodau cyhoeddus, ac mae'n hanfodol fod gan gynghorau cymuned drefniadau llywodraethu cadarn a'u bod yn dilyn arferion priodol i gyfrif am yr arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt. Rwy'n pryderu ynghylch yr adroddiad diweddaraf ar reolaeth ariannol a llywodraethiant y sector gan Archwilio Cymru, ac ni ddylai symleiddio trefniadau llywodraethu edrych fel pe baem yn troi llygad ddall, ac mae'n bwysig fod cynghorau'n glir ac yn dryloyw ynglŷn â sut y maent yn gwario praeseptau eu cymuned.

Mae safonau ac ymddygiad yn cael sylw yn yr adroddiad, yn ogystal ag yn yr adroddiad ar iechyd democrataidd, a hoffwn ddiolch i Joel James am rannu ei brofiadau fel cynghorydd tref a chymuned. Mae'n bryder byw a sylweddol, ac yn y ddau achos rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am wneud argymhellion y gellir gweithredu arnynt.

Soniodd Siân Gwenllian am hyfforddiant gorfodol. Rwy'n gefnogol i'r egwyddor o hyfforddiant gorfodol ar y cod ymddygiad, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio gyda'r sector a phartneriaid allweddol pa mor ymarferol yw gorfodi hyfforddiant cod ymddygiad, gan ystyried sut y gellir ei weithredu a'i orfodi, ochr yn ochr ag unrhyw effeithiau.

Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i'n partneriaid, sef Un Llais Cymru a'r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Ar gyfer 2025-26, rwyf wedi dyfarnu £440,000, gan ganiatáu i'r ddau sefydliad fwy o hyblygrwydd i arloesi i ymateb yn well i anghenion a gofynion cynghorau, a darparu mwy o gefnogaeth i'r sector yn yr hyn a ystyriant yn feysydd pwysicaf.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod cyfleoedd real ar gyfer clystyru a rhannu arferion da na fanteisiwyd arnynt eto, ac rwy'n falch fod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi dechrau bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac rwy'n deall y bydd ymarfer caffael i gomisiynu'r gwaith hwn yn dechrau cyn bo hir. Mewn ysbryd o bartneriaeth a gwaith tîm, rwyf am gydnabod y gweithio agosach rhwng y prif sector a'r sector cynghorau cymuned, a ffurfiolwyd gan femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru. Mae'r cydweithrediad yn hanfodol.

Mae'r argymhellion sy'n weddill yn cynnwys materion yn ymwneud ag adolygiadau cymunedau, hyfforddiant i glercod, diweddariad ar gamau gweithredu digidol, siarteri a phŵer cymhwysedd cyffredinol. Bydd yr Aelodau yn nodi fy mod yn cytuno â'r rhain ac yn ceisio gweithredu neu'n cefnogi partneriaid i weithredu fel y bo'n briodol.

Byddaf yn parhau i ystyried adroddiad y pwyllgor, ochr yn ochr â'm hystyriaeth o adroddiad iechyd democrataidd y sector ac adroddiad Archwilio Cymru ar reolaeth ariannol a llywodraethiant y sector. Mae'r dogfennau hyn yn darparu mewnwelediad hanfodol a byddant yn llywio ein hymdrechion parhaus i wella llywodraethiant, atebolrwydd a rheolaeth ariannol ar draws ein cynghorau tref a chymuned. Mae'r amser i werthuso'n drylwyr a phenderfynu ar gamau gweithredu ar gyfer y sector yn gwneud hwn yn waith pwysig, gan nodi y bydd angen i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried. Diolch yn fawr.

16:20

Dwi'n galw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl. 

Diolch unwaith eto, Llywydd dros dro.

A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl? Mae'n dda iawn cael y mewnbwn o brofiad personol Aelodau sydd, neu sydd wedi bod yn aelodau o gynghorau tref a chymuned, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, fod hynny'n eu rhoi mewn sefyllfa dda iawn i ddeall y materion sy'n codi, ac yn wir, i ddeall yr atebion posibl. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n dda iawn myfyrio ar y ddadl a'r consensws cyffredinol, fel y dywedais, nid ar y materion sy'n codi yn unig, ond ar yr ymatebion sy'n briodol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n werthfawr i ni yma yn y Senedd, ac i Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi ddatblygu'r argymhellion, gyda'r gefnogaeth eang yma yn y Senedd i'r adroddiad a'i gasgliadau.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n dda cael enghreifftiau hefyd, onid yw? Felly, mae'n dda clywed Siân Gwenllian yn siarad am ddyffryn Ogwen, a'r clystyru a'r cydweithio sy'n digwydd yno, oherwydd er bod llawer o amrywiaeth yn rôl a maint a chapasiti cynghorau tref a chymuned, yn aml iawn, lle gwelwn arfer da, fe fydd yn bosibl lledaenu hynny i rannau eraill o Gymru. Felly, mae'n dda iawn cael yr enghreifftiau hynny wedi'u nodi, a gweld gwerthfawrogiad cyffredinol o bwysigrwydd y prif awdurdodau a'r hyn y gallant hwy ei gynnig, boed hynny'n gefnogaeth ddigidol a'r adnoddau y soniwyd amdanynt, neu rôl eu swyddogion monitro yn mynd i'r afael â materion arwyddocaol yn ymwneud ag ymddygiad a all fod, ac sydd wedi bod ar adegau yn niweidiol iawn i'r sector cynghorau tref a chymuned a chanfyddiadau'r cyhoedd o'r gwaith a wnânt a'r rôl a gyflawnant.

Rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig iawn myfyrio ar yr hyn a ddywedodd yr Aelodau am bwysigrwydd cael yr haen agosaf at y ddaear o ddemocratiaeth leol yn gweithredu'n dda ac wedi ei chefnogi mor effeithiol â phosibl, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r her i ennyn diddordeb cymunedau mewn gwleidyddiaeth. Maent yn dweud bod pob gwleidyddiaeth yn lleol, ac i raddau helaeth, rwy'n credu bod hynny'n wir. Os ydym am fynd i'r afael yn effeithiol â'r ymdeimlad o ddieithrio a datgysylltiad o'r broses wleidyddol a welwn, nid yn unig yng Nghymru wrth gwrs, ond ar draws llawer o'r byd yn anffodus, mae'n rhaid iddo ddechrau ar y lefel leol hon. Felly, mae yna rôl real iawn i gynghorau tref a chymuned ei chwarae i argyhoeddi eu cymunedau lleol fod ymgysylltu â'r broses wleidyddol yn werth chweil, yn bwysig ac yn cynhyrchu canlyniadau. Lle gwelwn gynghorau tref a chymuned yn gweithio'n dda, rwy'n credu ein bod ni'n gweld yr effaith honno ymhlith eu poblogaethau lleol. Yr her wedyn yw trosglwyddo hynny i lefelau eraill o lywodraeth.

Felly, mae'r rhain yn faterion pwysig iawn. Maent yn wirioneddol bwysig i'n cymunedau lleol ledled Cymru. Gan fod gennym bellach gonsensws eang o beth yw'r materion sy'n codi a'r gwaith sydd angen ei wneud, ac nid o'r adroddiad hwn a'i gasgliadau'n unig, ond fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir ddigon, o adroddiadau pwysig eraill a gwaith pwysig arall sydd ar y gweill, rwy'n credu bod hynny o fudd wrth inni fwrw ymlaen â gwaith angenrheidiol. Fel y dywedodd eraill hefyd, y prawf asid, wrth gwrs, fydd ei weithrediad. Felly, rwy'n credu ein bod i gyd yn edrych ymlaen nawr at weld gweithredu'n digwydd ar lawr gwlad. Diolch yn fawr.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024'

Fe symudwn ni ymlaen felly i eitem 6, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Delyth Jewell.

Cynnig NDM8904 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gen i agor y ddadl heddiw. Hoffwn i ddiolch i dîm fy mhwyllgor ac i'r holl aelodau am y gwaith maen nhw yn ei wneud, a'r rhai sydd yn rhoi tystiolaeth i ni. Mae e'n siomedig nad ydy'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r ddadl. Rwy'n deall, wrth gwrs, os oes rhesymau, byddem ni yn deall y rheini, er ein bod ni heb eu clywed, ond mae e yn anffodus. Rwy'n gobeithio bydd y Trefnydd yn gallu ymateb i'n pwyntiau ni.

Gwnaethom ni wyth o argymhellion yn yr adroddiad yma. Er bod chwech argymhelliad wedi cael eu derbyn, dydy'r naratif sy'n dod ohonynt ddim yn rhoi llawer o hyder i'n pwyllgor y bydd y Llywodraeth, yn ystod 10 mis olaf y chweched Senedd, yn cymryd y camau rydym ni wedi bod yn galw amdanynt dro ar ôl tro, i gael rhagor o wybodaeth, a gwella'r wybodaeth, hefyd, sydd ar gael inni fel pwyllgor, ac sydd wedi ei chyhoeddi, fel tystiolaeth o gyflawni'r strategaeth ryngwladol.

Unwaith eto, nodwn benderfyniad Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor, tra bod yr ymateb naratif cysylltiedig yn gwrth-ddweud y derbyniad hwnnw. Galwodd ein pwyllgor am ddiweddariadau cynnydd ar y 270 o gamau gweithredu a restrir yn y strategaeth ryngwladol a'i chynlluniau gweithredu cysylltiedig. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu diweddariad yn erbyn y 15 nod allweddol a nodir yn y cynllun cyflawni rhyngwladol, ond nid yw hyn yn gyfystyr â derbyn ein hargymhelliad. Yn wir, mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio yma yn tanseilio atebolrwydd. Rwy'n credu bod y diffyg adroddiadau cynnydd manwl ar yr ystod lawn o gamau gweithredu hefyd yn rhwystro ein gallu i graffu ar gyflawniad effeithiol y strategaeth ryngwladol.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom fynegi pryder am y diffyg manylder parhaus yn y dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer y gyllideb ddrafft. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn is na'r safon yr ydym nid yn unig yn ei disgwyl, ond y safon yr ydym wedi galw amdani'n gyson mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r manylion hyn—y cyflwyniad ysgrifenedig cadarn a thryloyw hwn i ni fel pwyllgor. Rhaid i'r rhain gynnwys mynegiant clir o allbynnau arfaethedig, canlyniadau mesuradwy, effaith arddangosadwy a gwerth am arian.

Nawr, mae'n anffodus fod penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â mynychu ein pwyllgor yn y cnawd i roi tystiolaeth lafar, ynghyd â'r diffyg manylion hanfodol mewn tystiolaeth ysgrifenedig, wedi tanseilio ein gallu i graffu'n ystyrlon. Mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf yn fawr y bydd yn newid yn y dyfodol.

Nesaf, rwyf am droi at y strategaeth ryngwladol. Ers 2023, rydym wedi trafod dyfodol strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru y tu hwnt i 2025 gyda'r ddau gyn-Brif Weinidog. Yn gyntaf, ymrwymodd Mark Drakeford i ddiweddaru'r strategaeth eleni, a chadarnhaodd Vaughan Gething yn ddiweddarach fod gwaith ar y diweddariad ar y gweill. Nawr, yn bwysig, addawodd y ddau gyn-Brif Weinidog gynnwys ein pwyllgor yn y broses hon.

Ym mis Tachwedd, cadarnhaodd y Prif Weinidog newid sylfaenol yn y dull o ddiweddaru'r strategaeth a addawyd gan ei rhagflaenwyr. Yn hytrach na diweddaru, ar 3 Ebrill cyhoeddodd y Prif Weinidog gynllun cyflawni, yn amlinellu 15 nod allweddol i'w cyflawni yn yr amser sy'n weddill cyn yr etholiad nesaf. Roedd ein pwyllgor yn falch o dderbyn briff technegol ar y cynllun hwnnw ar 2 Ebrill, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gynnwys diweddariad ar gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau allweddol y mae'n eu nodi yn ei hadroddiadau blynyddol, ond mae ymrwymiadau pwysig a wnaed i'n pwyllgor ar gyfranogiad wedi'u tynnu'n ôl.

Er gwaethaf yr arwyddion cychwynnol, nid yw'r cynllun cyflawni wedi cymryd lle'r strategaeth ryngwladol. Mae'r ddau'n rhedeg yn gyfochrog, ac mae hynny wedi creu dryswch. Hefyd, nid yw'r 15 blaenoriaeth allweddol yn cyd-fynd â nodau neu gamau gweithredu craidd y strategaeth, ac mae hynny wedi gwneud y berthynas rhyngddynt yn aneglur. Unwaith eto, mae'r diffyg cydlyniant hwn yn tanseilio atebolrwydd ac yn gwneud craffu effeithiol hyd yn oed yn anos.

Wrth inni gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol diweddaraf, fe wnaethom lansio ymchwiliad newydd ar ddyfodol strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae rhanddeiliaid eraill hefyd wedi wynebu heriau tebyg wrth geisio cael syniad o'r berthynas rhwng y strategaeth a'r cynllun cyflawni. Mae ein pwyllgor yn parhau i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn monitro'n agos y cynnydd ar gyflawni dros weddill tymor y Senedd.

Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhestr o'r dulliau y mae'n eu defnyddio i adrodd ar ganlyniadau. Mae'n siomedig nad yw'r ymateb a gawsom ond yn ailadrodd y dulliau sydd eisoes yn gyfarwydd i'n pwyllgor a'i fod yn cyfeirio at brosesau monitro mewnol yr ofnaf nad ydynt yn cynnig tryloywder mewn unrhyw ffordd ystyrlon.

Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhestr gyflawn a chyfredol o gytundebau dwyochrog rhyngwladol Cymru ar dudalen we bwrpasol. Ni fyddwn yn dweud bod hwnnw'n gais allan o'r cyffredin. Mae'r cytundebau hyn yn creu canlyniadau yn y byd real sy'n effeithio ar ein cysylltiadau â lleoedd eraill mewn meysydd cydweithredu pwysig, fel addysg, yr amgylchedd a'n bywydau bob dydd.

Ddirprwy Lywydd dros dro, mae cymaint o waith da'n digwydd y dylid ei ddathlu ac y dylid gwybod amdano'n ehangach. Y rheswm pam y mae'r tryloywder hwn mor hanfodol yw oherwydd bod y gwaith mor hanfodol. Fel pwyllgor, rydym am ddathlu llwyddiannau yn ogystal â thynnu sylw at yr hyn sydd angen ei newid. Mae hyrwyddo presenoldeb Cymru ar lwyfan y byd yn hanfodol bwysig. Mae gennym stori wych i'w hadrodd; dylai mwy o bobl ei chlywed. Fel y dywedais yn fy rhagair i'r adroddiad,

'Mae gan ein cenedl hanes hir o gysylltiad â phobloedd eraill a lleoedd eraill. Mae ein daearyddiaeth...ar gyrion cyfandir, yn mynnu ein bod yn cofleidio’r cysylltiadau hyn, ond gochelwn rhag y perygl o’u cymryd yn ganiataol.'

Yng ngeiriau Philip King, rydym yn bobl 'edgy', a bydd ein ffocws wrth inni edrych ar y cysylltiadau hynny bob amser yn ein harwain tuag adref, oherwydd, i ddyfynnu'r Gwyddel arall hwnnw, y Celt arall hwnnw, Joyce,

'Y ffordd hiraf o amgylch yw'r ffordd fyrraf adref'.

Felly, gadewch inni wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r angerdd a'r brwdfrydedd sy'n sail i gymaint o'r teithio er mwyn sicrhau nad yw'r cysylltiadau hynny'n cael eu colli nac ond yn digwydd ar hap. 

Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn y ddadl yma y prynhawn yma ac i glywed gan y Llywodraeth, yn absenoldeb y Prif Weinidog.

16:35

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ar 'Adroddiad Blynyddol Cysylltiadau Rhyngwladol 2024', a diolch i'r pwyllgor am ei waith manwl. Mae'r adroddiad hwn yn archwiliad amserol o faes polisi sydd, er yn tyfu o ran ei broffil, yn codi cwestiynau difrifol am ffocws, atebolrwydd a gorgyrraedd cyfansoddiadol.

Gadewch imi ddechrau gyda phwynt sylfaenol: nid yw cysylltiadau rhyngwladol wedi eu datganoli. Maent yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac mae'n rhaid iddynt barhau i fod felly, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gofio bod hyn yn rhan o'r setliad datganoli. Ac mewn ymateb i argymhelliad 4, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y rhesymeg dros y newid enw yn deillio o dwf yn y maes polisi hwn, sydd ychydig yn bryderus. Mae glynu at y setliad datganoli yn sicrhau bod Cymru yn gweithredu'n rhan o bolisi tramor cydlynol y DU a'n bod yn osgoi negeseuon sy'n ddryslyd, neu sy'n gwrthdaro hyd yn oed, ar lwyfan y byd. 

Nodaf argymhellion 5 a 6 yn yr adroddiad, sy'n annog eglurder ynghylch natur a statws cytundebau dwyochrog a gaiff eu cytuno gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n rhannu'r angen am eglurder. Pan fydd Gweinidogion yn ymrwymo i gytundeb gyda Gwlad y Basg, Catalwnia neu Quebec, rhanbarthau gyda mudiadau ymwahanol gweithredol, rhaid inni ofyn a yw hyn yn ddoeth yn ddiplomyddol neu'n gyfansoddiadol briodol. Pa neges y mae hynny'n ei anfon i Lywodraethau Sbaen neu Ganada, er enghraifft, dau o'n cynghreiriaid hirsefydlog gyda'u heriau cyfansoddiadol eu hunain? Rhaid i Lywodraeth Cymru droedio'n ofalus. Dylem fod yn adeiladu pontydd, nid alinio ein hunain ag achosion ymwahanol a allai greu risg o niwed hirdymor i'n henw da rhyngwladol a'n cysylltiadau diplomyddol. 

Yr ail fater, Lywydd dros dro, yw cost. Felly, rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet beth yn union y mae trethdalwyr Cymru yn ei gael yn gyfnewid am yr 20 swyddfa dramor ar gost o £4.684 miliwn yn ystod 2024, ac rwy'n ofni mai'r ateb yw, 'ychydig iawn'. A dyna pam y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cau swyddfeydd tramor ac ailgyfeirio'r arian yn ôl i wasanaethau rheng flaen, lle mae ei angen fwyaf. Mae'r rhwydwaith hwn yn ddrud ac mewn llawer gormod o achosion, mae'n ymddangos ei fod yn dyblygu gwaith a wneir eisoes gan lysgenadaethau a chomisiynwyr masnach y DU. Ac nid yw'n ymddangos yn werth am arian ac ar adeg o bwysau economaidd gartref, pan fo gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn crefu am gymorth, dylem fod yn gofyn ai dyma'r defnydd gorau o arian cyfyngedig.

Wedi dweud hynny, Lywydd dros dro, rwy'n cydnabod ei bod hi'n bwysig i Gymru gael hunaniaeth fyd-eang gref, yn enwedig er mwyn hyrwyddo masnach, buddsoddiad ac addysg. Os oes unrhyw flaenoriaeth achubol yn y strategaeth ryngwladol hon, rhaid mai'r uchelgais i ddenu buddsoddiad rhyngwladol i Gymru yw honno. Hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu darparu canlyniadau real a mesuradwy. 

Mae gennym gyfle hefyd i fanteisio ar y diaspora Cymreig, gwaith nad wyf yn credu ei fod yn cael ei gyflawni'n llawn. Felly, gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: ble mae'r cynllun i ymgysylltu â'n diaspora Cymreig, ein rhwydwaith byd-eang o entrepreneuriaid, pobl greadigol, gwyddonwyr ac academyddion fel ysgogiad gwirioneddol i fuddsoddiad a dylanwad? Mae'r adroddiad yn cyffwrdd â hyn yn fyr yng nghyd-destun pŵer meddal, ond mae'n drysorfa na chaiff ei defnyddio.

Hefyd, Lywydd dros dro, hoffwn dynnu sylw at yr angen am well tryloywder a chraffu ar ymweliadau gweinidogol. Rwy'n cytuno y dylai pob taith dramor ddod gydag adroddiad cyhoeddus ar bwy y cyfarfuwyd â hwy, beth a drafodwyd, ac yn hollbwysig, beth a gyflawnwyd. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu hynny. Mae casgliad 6 yn adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at y cyferbyniad rhwng dull Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban o weithredu, ac rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried mabwysiadu'r arfer o gyhoeddi'r un wybodaeth ar ymweliadau tramor ag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei wneud.

Ar argymhelliad 8, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, felly rwy'n awyddus i gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae'r trafodaethau hynny'n mynd gyda Llywodraeth y DU.

I gloi, Lywydd dros dro, gall cysylltiadau rhyngwladol a wneir yn dda fod yn ased, ond nid heb eu seilio ar barch cyfansoddiadol, pwrpas clir a chanlyniadau mesuradwy, a darbodusrwydd ariannol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ailadrodd yr un wybodaeth ag y mae Llywodraeth yr Alban yn ei chyhoeddi ynglŷn ag ymweliadau tramor, ac a all Ysgrifennydd y Cabinet ddangos gwerth am arian mewn perthynas â'r 20 swyddfa dramor? Ac yn olaf, gyda buddsoddiad rhyngwladol yn ganolog i'r strategaeth a gyhoeddwyd bum mlynedd yn ôl, a all Llywodraeth Cymru esbonio sut y defnyddiwyd y diaspora Cymreig ar gyfer mewnfuddsoddi? Diolch.

16:40

A gaf i ddiolch, fel aelod o’r pwyllgor, i’m cyd-Aelodau a’r clercod am eu gwaith yn cefnogi’r adroddiad hwn?

Rydw innau’n ategu nifer o’r pwyntiau a godwyd gan y Cadeirydd am ein rhwystredigaeth ni fel pwyllgor ynglŷn â pha mor anodd ydy craffu’r maes hwn. Buaswn i hefyd yn hoffi mynegi fy siom nad ydy'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'n anodd iawn cael yr amser i drafod maes sydd yn gyfrifoldeb i'r Prif Weinidog, felly i beidio â chael y Prif Weinidog yma heddiw, a ninnau’n gwybod bod y ddadl yma'n digwydd, mae o'n rhwystredig dros ben. Oherwydd nid yn unig y mae cysylltiadau rhyngwladol yn rhan o’i phortffolio, ond mewn cyfnod o ansefydlogrwydd rhyngwladol, mi fyddai wedi bod yn dda gweld y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ac amlinellu'n glir safbwynt Llywodraeth Cymru ar ganfyddiadau'r adroddiad.

Fel plaid sydd â hanes hir o wthio am ddyfnhau safle Cymru o fewn y gymuned ryngwladol, mae perthynas Cymru gyda gweddill y byd, boed yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn addysgol neu yn wleidyddol, yn bwysig i ni ar y meinciau yma. Ac fel soniais yn gynt, mewn cyfnod o ansefydlogrwydd cynyddol, a gyda heddwch o fewn a rhwng gwledydd a draws y byd mor fregus, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni yma yng Nghymru yn parhau i chwarae ein rhan fel aelod o'r gymuned ryngwladol ac yn cydsefyll â'n cymheiriaid ledled y byd sydd yn wynebu erchyllterau.

Wrth droi at rai o ganfyddiadau'r adroddiad, mi oedd hi’n siomedig gweld yn glir fod tangyflawni wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn y maes yma dros y flwyddyn diwethaf. A thra fy mod i'n falch o weld cynllun gweithredu newydd yn ei le o'r diwedd, prin iawn ydy'r manylder ar hyn o bryd, ac mae absenoldeb targedau a cherrig milltir clir yn dilyn patrwm truenus o fewn cynlluniau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Wn i ddim faint o weithiau, wrth graffu ar y maes yma, rydym ni wedi gofyn am y manylion a methu â'u cael nhw. Mae'n amhosib i bwyllgor wneud craffu effeithiol heb dryloywder llwyr gan y Llywodraeth.

O ran beth sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun, mae yna elfennau, wrth gwrs, y gallwn ni eu croesawu a chytuno arnyn nhw hefyd. Un o'r rheini ydy’r angen i hybu proffil Cymru er mwyn denu buddsoddiad drwy ddigwyddiadau, fel ymddangosiad hanesyddol tîm merched pêl-droed Cymru yn yr Ewros eleni, er enghraifft. Mi fyddwn i'n ddiolchgar, felly, am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar eu cynlluniau o gwmpas hynny, ac yn benodol o ran pa wersi maen nhw wedi eu dysgu o gystadlaethau rhyngwladol yn y gorffennol.

Dwi’n siŵr bod nifer ohonom ni'n cofio gwylio'r Ewros yn Ffrainc yn 2016, neu rhai ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i fod yna, lle tra bod Cymru'n cael ei chynrychioli'n gampus ar y cae, doedd presenoldeb Cymru oddi ar y cae ddim mor haeddiannol ac amlwg. Mae angen dysgu o'r gorffennol er mwyn sicrhau bod ein cymdogion Ewropeaidd yn gweld Cymru a phopeth sydd gennym ni i’w gynnig ar eu gorau, a’n bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleon mae platfform o'r fath yn ei ddarparu, nid dim ond yn rhyngwladol, ond hefyd yma yng Nghymru, i ysgogi pobl, er enghraifft, i fod yn ymwneud efo chwaraeon. Mae'n rhan bwysig o strategaeth ataliol Llywodraeth Cymru hefyd.

Mae'r adroddiad hefyd yn canfod bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau cysylltiadau Ewropeaidd, sydd yn amserol iawn o ystyried y cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Llun, ond mae’n pryderon ni ar y meinciau yma am y diffyg mewnbwn a gafodd y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn y sgyrsiau yna yn parhau. Mae nifer o’r meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb yn feysydd datganoledig, ac mae’n hanfodol felly bod gan Gymru sedd o gwmpas y bwrdd mewn unrhyw drafodaethau, er mwyn gallu dylanwadu arnyn nhw. Mi wnes i ofyn ddoe am gyfle i ni drafod hwn yn benodol yn bellach, a byddwn i yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi'r cyfle hwnnw ac i'r Prif Weinidog fod yn bresennol ar gyfer hynny, unwaith rydyn ni'n dychwelyd ar ôl y toriad.

Dwi'n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig ein bod ni'n cael cadarnhad ynglŷn â barn y Llywodraeth, a fynegodd y Prif Weinidog yn y gorffennol, ynghylch a ddylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Byddwn i yn hoffi gwybod safbwynt y Llywodraeth ar hynny.

Ac i gloi, wrth gwrs, fedrwn ni ddim trafod materion rhyngwladol heb adlewyrchu ar yr erchyllterau di-baid yn Gaza. Mi wnaethon ni ym mis Chwefror gyflwyno dadl yn galw am gadoediad parhaol, rhyddhad pob un gwystl ac i gymorth dynol gael ei adael i mewn i’r diriogaeth heb rwystr. Mae'n rhaid i ni adleisio’r galwadau yma ac uno efo pawb sydd yn gwneud yr un galwadau. Mi fyddai datganiad swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi’r gydnabyddiaeth i wladwriaeth Palesteina yn bwerus, ac yn datgan yn glir ein cydsafiad cadarn gyda phobl Palesteina. Mae gennym ni ddyletswydd ryngwladol, ac mae'n rhaid i ni ddangos arweiniad ar adegau fel hyn.

16:45

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Fel eraill, hoffwn ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma trwy ddiolch i gyd-aelodau o'r pwyllgor sydd i gyd wedi gweithio'n galed ar yr ymchwiliad hwn a hefyd ysgrifenyddiaeth y pwyllgor sydd wedi darparu cymorth o'r radd flaenaf i ni yn y gwaith yr ydym wedi ceisio ei wneud.

Rwyf am gyfyngu fy sylwadau i ychydig o bwyntiau byr y prynhawn yma, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn craffu'n galed, yn herio'r Llywodraeth yn deg a'n bod yn cael cyfle i sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario'n dda ac yn cyflawni'r uchelgeisiau y credaf y bydd llawer ohonom yn eu rhannu ar gyfer y gwaith yn y maes hwn. Ond rwyf am ddweud bod craffu'n golygu mwy na gofyn cwestiynau'n unig, mae'n cynnwys dealltwriaeth, a'r hyn a glywsom gan lefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma yw diffyg dealltwriaeth, diffyg gwybodaeth a diffyg uniondeb wrth geisio deall y maes pwnc.

Y peth hawsaf yn y byd yw dod i'r lle hwn a darllen araith heb ddeall y cynnwys, ond nid craffu yw hynny na chyfraniad i ddemocratiaeth yn y lle hwn. Mae'r Senedd hon a'n pobl yn haeddu gwell gan y Blaid Geidwadol nag ymagwedd o'r fath ac os yw'r Ceidwadwyr yn gweld eu hunain fel plaid a all lywodraethu go iawn, mae'n bryd iddynt fod o ddifrif ynglŷn â'u rôl fel gwrthblaid. Mae'r hyn a welsom y prynhawn yma yn enghraifft arall o'r Blaid Geidwadol yn methu o'r cychwyn cyntaf. Os na allwch fod yn wrthblaid go iawn, ni chewch gyfle i fod yn Llywodraeth go iawn. Gan fy mod wedi sôn am lefarydd y Ceidwadwyr, rhaid imi ildio iddo.

Wel, mae'n fwy o hawl i ymateb, mewn gwirionedd, yn y ffordd rydych chi'n—. Ond a ydych chi o ddifrif yn meddwl bod £4.684 miliwn neu rywbeth tebyg i'r ffigur hwnnw ar swyddfeydd tramor yn dderbyniol? Craffu yw hynny. Craffu ar arian trethdalwyr y gall unrhyw Aelod o'r Senedd hon ei wneud. Pan fo'n fater o gyllid cyhoeddus, nid oes ots ai'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru neu hyd yn oed chi, Alun, sy'n ei wneud. Hawl llefarwyr pleidiau yw gwneud y sylwadau y mae pobl yn cysylltu â ni'n aml iawn yn eu cylch. Mater o ddyletswydd fel Aelodau etholedig o'r Senedd hon yw hynny, ac rydych chi'n gwybod hynny'n iawn. 

Cyfle i wneud ymyriad ydyw, nid araith. Ond o ran yr hyn a ddywedais, dyna'n union ydyw. Mae £4.8 miliwn o bunnoedd yn werth am arian arbennig o dda am hynny mewn gwirionedd, ac os ydych chi am inni ddilyn esiampl yr Alban, byddem yn gwario cryn dipyn yn fwy na hynny. Pe baech chi wedi ymweld ag un o'r swyddfeydd tramor hynny—nid wyf yn gwybod sawl un ohonynt rydych chi wedi ymweld â hwy, mae'n edrych yn debyg nad ydych wedi ymweld ag unrhyw un—byddech chi'n deall beth a wnânt. Mae gennym Zoom, mae gennym fodd o wneud hyn. Gallwch eistedd yn y swyddfa yn y Rhyl neu yma a siarad â'r bobl sy'n gweithio yno, ond nid ydych wedi gwneud hynny ychwaith. Nid ydych wedi gwneud hynny. Nid ydych wedi gwneud y gwaith sylfaenol i seilio eich craffu arno. Rwy'n hapus i ildio os ydych chi wedi gwneud hynny, ond nid ydych wedi gwneud hynny, felly dyna ni. Gallwn i gyd wneud hyn. Rwyf i wedi ei wneud, ac rwyf wedi siarad â'r bobl hynny; rwyf wedi siarad â hwy am y gwaith a wnânt.

Dyma un o'r pwyntiau yr oeddwn eisiau ei wneud, Lywydd dros dro, yn fy sylwadau y prynhawn yma, oherwydd rwyf wedi siarad â'r bobl sy'n gweithio yn y swyddfeydd hynny am eu rhaglenni, beth yw eu dangosyddion perfformiad, pa gamau gweithredu y maent yn eu cyflawni a sut y maent wedi cyflawni'r amcanion hynny. Rwyf wedi gwneud fy ngwaith. Rwyf wedi gwneud fy ngwaith cartref cyn dod yma, ac rwy'n eich cynghori chi i wneud yr un peth. A'r hyn a ddysgais oedd eu bod yn gwneud llawer o'r pethau rydych chi newydd ofyn iddynt eu gwneud. Os siaradwch â'r bobl yn Washington, er enghraifft, am y gwaith a wnânt gyda'r diaspora Cymreig yno, maent yn chwilio am gyfleoedd newydd i ddod â gwaith a swyddi i'r wlad hon, i gynyddu proffil Cymru yn y lleoedd hyn. Dyma'r gwaith sydd angen inni ei wneud os yw Cymru am gael ei chymryd o ddifrif fel cenedl fyd-eang. Dyna'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth hon.

Yr hyn yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma yw dweud bod y rhwydwaith swyddfeydd rhyngwladol yn hanfodol i'r gwaith a gyflawnir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—ac rwy'n falch ei bod hi yn y Siambr ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma—oherwydd mae hynny'n hanfodol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgeisiau economaidd ehangach a'n huchelgeisiau fel gwlad ar lwyfan y byd. Mae ein swyddfeydd yn cyflawni'r swyddogaeth honno. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith eithriadol o dda ac rwy'n credu eu bod yn darparu gwerth eithriadol am arian yn ogystal. Mae angen inni allu dweud hynny. Rwy'n dweud hynny ar y sail fy mod wedi craffu arnynt ac wedi gwneud y gwaith.

Ond mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniad yr oeddwn am ei wneud y prynhawn yma'n ymwneud â datblygiadau'r wythnos hon a sut rydym am fwrw ymlaen â'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gweld gwelliant pwysig a sylweddol yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn ystod y misoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld uwchgynhadledd bwysig iawn a chyfres o gytundebau wedi'u llofnodi yr wythnos hon. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn edrych yn galed ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru, ac yn cynyddu ei hymgysylltiad â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.

Yr wythnos diwethaf, gallais siarad yn Senedd Ewrop ym Mrwsel fel cynrychiolydd o grŵp cyswllt y DU, gan siarad ym Mhwyllgor y Rhanbarthau. Yr hyn y gallais ei ddweud yno oedd ein bod am roi trychineb Brexit y tu ôl i ni, ac rydym eisiau dyfnhau a chryfhau ein perthynas a'n cysylltiadau strwythurol â sefydliadau'r UE. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny—[Torri ar draws.] Fe dderbyniais ymyriad hir iawn gan eich cyd-Aelod.

I gloi, hoffwn ddweud ei bod yn bwysig, wrth inni fynd i mewn i flwyddyn olaf y Senedd hon, ein bod yn cynhyrchu strategaeth ar gyfer ymgysylltu â'r UE y gallwn ei defnyddio i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond un y gall y Llywodraeth ei defnyddio ei hun er mwyn cryfhau a dyfnhau ei hymgysylltiad ei hun â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd.

16:50

Rwyf innau hefyd yn croesawu'r cyfle i gyfrannu ar ychydig o bwyntiau yn hyn. Fe wnaf ychydig o sylwadau ar y cyfraniad a wnaed gan yr ochr Geidwadol, y credwn ei fod yn llawn o wrth-ddweud a dryswch. Dywedai nad yw cysylltiadau rhyngwladol wedi eu datganoli. Nid yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gadwyd yn ôl. Mae cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â chefnogi buddiannau Cymru mewn meysydd datganoledig. Er i'r Aelod ddweud ei fod eisiau gweld hunaniaeth fyd-eang gref i Gymru, ni allwch ddatblygu hunaniaeth fyd-eang gref heb gael a datblygu cysylltiadau rhyngwladol.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, yn dilyn rhai o'r cyfraniadau, yw fy mod yn credu bod angen dadl lawn ar strategaeth ryngwladol, sy'n dod yn fwyfwy allweddol i Gymru. Rwy'n credu bod ei hangen arnom yn amser y Llywodraeth ac mae angen inni allu archwilio a siarad am y ffordd y dylai Cymru fod yn cyflwyno ein hunain.

Ar yr adroddiad, yn gyntaf, rwy'n croesawu'r adroddiad. Mae'n ymdrin â nifer o faterion eithaf technegol sydd eisoes wedi'u trafod. Y peth cyntaf, wrth gwrs, yw fy mod yn cefnogi'n llwyr y syniad y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl gyhoeddus; fe ddylai fod. Dylai hynny fod yn fater i ni ei benderfynu. Mae'n siomedig nad ydyw, ond gobeithio, ar ryw adeg, y bydd hynny'n digwydd.

Rydym ni, y DU a Chymru, ar groesffordd geowleidyddol. Mae'r economi yn y byd yn datblygu'n bedair prif uned: Tsieina, UDA, India ac Ewrop. Mae ein dyfodol ni'n amlwg yn gorwedd mewn llawer mwy o gysylltiad ac integreiddio ag Ewrop—mae'n rhaid iddo fod, nid yn unig ar yr ochr economaidd a chymdeithasol, ond ar yr ochr wleidyddol ac amddiffyn. Gwelwn hynny nawr oherwydd yn Ewrop mae gennym ryfel mawr ac rydym yn wynebu bygythiad mawr gan Ffederasiwn Rwsia ffasgaidd ar hyn o bryd, a rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â hynny.

Dyna pam fy mod hefyd yn croesawu'r datganiad bod y camau cyntaf tuag at fwy o ymgysylltiad â'r UE yn y cytundeb masnach a chydweithredu yn hollol hanfodol, oherwydd mae cannoedd o biliynau o bunnoedd yn y fantol gyda phethau fel amddiffyn y dylem fod yn cymryd rhan ynddynt. Mae yna lawer iawn o filiynau o bunnoedd ar gael ar gyfer ymchwil, ac ni ellir gwneud ymchwil ar sail untro. Dyna lle mae ein dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni, fel Cymru, wella ein proffil yn rhyngwladol unwaith eto.

Yn ddiweddar, mynychais gyfarfod bord gron a drefnwyd gan Lywodraeth y DU ar bŵer meddal—y gydnabyddiaeth y gall llawer o'r meysydd yr ydym yn ymwneud â hwy, addysg, chwaraeon, diwylliant a cherddoriaeth, y celfyddydau ac yn y blaen, gael effaith uniongyrchol ar ddatblygiadau gwleidyddol, ar fuddsoddiad, ac ar ein hymgysylltiad gwleidyddol a'n proffil. Fe wnaeth y cyfarfod bord gron a drefnwyd ar gyfer Cymru argraff fawr arnaf, ac rwyf wedi gwneud y pwynt yn y pwyllgor, rwy'n credu, y dylem fod yn meddwl am ddatblygu rhyw fath o gyngor pŵer meddal ein hunain, nid er mwyn bod ar wahân i'r DU, ond er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein llethu gan faint llawer mwy Lloegr—a bod Cymru'n parhau i fod ar y radar hwnnw.

A gaf i ddweud un peth olaf am wleidyddiaeth hyn? Cawsom ddirprwyaeth drawsbleidiol i Wcráin o Gymru yn ddiweddar. Fe wnaethom fynychu nifer o weinidogaethau Wcráin ym maes diwylliant, datblygu, seilwaith—pethau sydd o ddiddordeb uniongyrchol i Gymru. Rwy'n credu mewn gwirionedd y dylem ni, fel Senedd, a Llywodraeth Cymru hefyd, fod yn mynd allan lawer mwy, a chyfarfod â gwledydd eraill, cyfarfod â gweinidogaethau ac ymgysylltu.

Rwy'n credu bod yr archwiliad o swyddfa Brwsel, a'r rôl allweddol y bydd honno'n ei chwarae yn economaidd, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, ac o ran ein buddiannau amddiffyn cyffredin, yn mynd i fod yn hollbwysig. Felly, Weinidog, hoffwn pe gallwn ystyried cael dadl benodol ar ryw adeg yn amser y Llywodraeth lle gallwn archwilio'n fanwl y materion sy'n gysylltiedig â phroffil rhyngwladol Cymru a'n strategaeth ryngwladol. Diolch yn fawr.

16:55

Dwi nawr yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:57:55
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad blynyddol ac yn canmol ymroddiad y pwyllgor i weithio ochr yn ochr â'r Llywodraeth i gefnogi ein huchelgeisiau rhyngwladol a chodi proffil Cymru ar lwyfan y byd. Diolch yn fawr, Delyth Jewell, am agor y ddadl hon ac am gadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, sy'n gyfrifol am yr adroddiad cysylltiadau rhyngwladol blynyddol yn y ddadl hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i argymhellion yr adroddiad, ond hoffwn eich sicrhau bod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r pwyllgor ym mis Mehefin i drafod eich gwaith a'n gwaith ni, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd mewn perthynas â'r strategaeth cysylltiadau rhyngwladol. Wrth gwrs, mae craffu'n hanfodol bwysig, a bydd yn digwydd nid yn unig yng nghyfarfod y pwyllgor hwnnw ond yma heddiw wrth i ni dderbyn eich adroddiad. Ond bydd yn gyfle i'r Prif Weinidog drafod y gwaith a wnawn i wella ein cysylltiadau byd-eang a sut rydym yn ceisio cyflawni ein nodau. 

Mae wedi bod yn bum mlynedd ers inni gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. Mae'n ddatganiad beiddgar o fwriad, sy'n ymrwymo i godi proffil ein gwlad, tyfu'r economi a dweud wrth y byd ein bod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae hynny'n bwysig iawn, o gofio ei bod yn ddengmlwyddiant ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol—ein bod yn addysgu ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae'n nod allweddol yn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i fod yn genedl gyfrifol ar lefel fyd-eang, yn barod i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd sy'n diffinio'r dyfodol.

Fel y dywedodd Delyth Jewell, mae llawer i'w ddathlu, ond ers lansio'r strategaeth bum mlynedd yn ôl, mae'r byd wedi newid mewn ffyrdd na allem fod wedi'u rhagweld. Mae pandemig byd-eang, newidiadau geowleidyddol a gwrthdaro wedi galw am ddull hyblyg ac ymaddasol o weithredu. Mae hefyd wedi golygu ein bod wedi bwrw ymlaen â chamau gweithredu wrth i gyfleoedd godi, fel diplomyddiaeth chwaraeon a chydraddoldeb rhywiol yn Affrica Is-Sahara. Rwy'n credu bod y mentrau a'r gweithredoedd hynny'n werthfawr. Mae cyflawni llwyddiant rhyngwladol, wrth gwrs, yn dibynnu ar waith tîm rhagorol. Mae Tîm Cymru yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i wneud gwahaniaeth.

Rwyf am ymateb i Gareth Davies i ddweud—ac yn wir, fe ymatebodd Alun Davies yn huawdl iawn ar hyn—bod y swyddogion tramor wedi gweithio'n ddiflino—wedi gweithio'n ddiflino—i gefnogi teithiau masnach, i helpu cwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor, wedi hyrwyddo bwyd a diod o Gymru, wedi agor marchnadoedd newydd i allforwyr, wedi denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru. Mae'n siarad drosto'i hun. Maent wedi sefydlu cysylltiadau newydd ar draws y sector addysg, wedi arddangos y gorau o Gymru ar adegau fel Dydd Gŵyl Dewi. [Torri ar draws.] Ac rwy'n cydnabod eich pwynt am Ddydd Gŵyl Dewi, ac rwy'n siŵr ei fod yn cael ei rannu ar draws y Siambr. Gareth.

17:00

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A ydych chi wedi cael unrhyw wybodaeth ynglŷn â beth yw'r ffigur net, felly, rhwng y gwariant ar gyfer y swyddfeydd rhyngwladol a'r hyn y mae Cymru'n ei gael yn ôl yn gyfnewid? A oes unrhyw ffigur y mae Llywodraeth Cymru'n ei wybod ar hynny, y gellir ei gyhoeddi a'i rannu gydag ASau? 

Fel y dywedais, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud trwy ein swyddfeydd tramor, y teithiau masnach—ac yn wir, fe gafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio daith fasnach lwyddiannus iawn i Japan yn ddiweddar—yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru. Ac wrth gwrs, gallwch archwilio hyn ymhellach, rwy'n siŵr, gyda'r Prif Weinidog, pan fydd hi'n mynychu'r pwyllgor.

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol, gan ehangu masnach. Mae'n ymwneud ag ehangu masnach, nid ei gwestiynu. Mae'n ehangu cyfleoedd masnach a buddsoddi ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru yn fyd-eang. Dyna sy'n wych bob amser gyda Dydd Gŵyl Dewi ledled y byd, sy'n dathlu diwylliant Cymru yn fyd-eang.

Pwynt arall yr oeddwn eisiau ymateb iddo oedd ynghylch y diaspora. Yn ystod blwyddyn Cymru yn India 2024 daeth cytundeb gyda Llywodraeth Kerala yn India, a arweiniodd at fwy na 300 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael swyddi ar draws GIG Cymru, gyda 200 arall yn y flwyddyn i ddod. Rwy'n gwybod bod ein Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, BAPIO, yn gweithio'n agos iawn, yn chwarae rôl allweddol, a hoffwn gydnabod hynny heddiw, yn hyrwyddo'r cysylltiadau a'r cyfleoedd hynny. Roedd y Prif Weinidog yn India i lofnodi'r cytundeb, a gallwn weld manteision ei weithredu. Rydym wedi bod yn falch hefyd o weld cynnydd sylweddol yn y canfyddiad cadarnhaol o Gymru a'r wybodaeth amdani ar draws y sector addysg, a chynnydd yn y diddordeb mewn astudio yng Nghymru.

Gan droi at Ewrop, ein partner masnachu mwyaf, a chroesawu'r cyhoeddiadau ar 19 Mai a wnaed yn uwchgynhadledd y DU-UE ar fasnach—[Torri ar draws.] Mark.

Gan eich bod wedi crybwyll India, noddais lansiad amser cinio yn y Senedd ar The History of Indentureship and South Asian Slavery, llyfr gan Dr Sibani Roy. A gaf i ei argymell i chi, a'ch annog i edrych arno a'r gwersi y mae'n eu cynnig i'r byd rydym yn byw ynddo heddiw?

Wel, diolch i chi am hynny, Mark, a hoffwn yn fawr ei ddarllen. Diolch am noddi a galluogi hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn cael ei rannu gyda chymunedau ac yn wir, yn ein hysgolion, wrth inni geisio dysgu am y dreftadaeth honno a'i deall, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach gaethweision. Diolch am hynny, Mark.

Fe af ymlaen at bwysigrwydd y datblygiadau gydag Ewrop. Mae ailosod y berthynas DU-UE, fel y'i gelwir, ac mae Mick Antoniw wedi gwneud pwyntiau cryf am ei phwysigrwydd, pwysigrwydd y berthynas hon sy'n cryfhau, cysylltiadau Ewropeaidd sy'n cryfhau—. Felly, fe wnaethom benodi cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop i helpu i gryfhau'r cysylltiadau hynny ar draws sefydliadau'r UE a rhwydweithiau rhanbarthol Ewropeaidd ar lefel uwch. Rydym yn y man cychwyn, onid ydym, o ran beth y mae hyn yn ei olygu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd. Symudedd ieuenctid, alinio cynlluniau masnachu allyriadau, cytundebau iechydol a ffytoiechydol a rhaglenni'r UE—rydym wedi galw am gynnydd yn y meysydd hyn ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn credu y bydd cyhoeddiadau dydd Llun yn mynd rywfaint o'r ffordd o leiaf i gael gwared ar rai o'r rhwystrau a roddwyd yn eu lle o ganlyniad i Brexit.

Ond yn agosach at adref hefyd, o ran y rôl y mae'r Prif Weinidog wedi'i chwarae ar Ewrop—. Mae hi wedi teithio o Ddulyn i Frwsel, Paris a Copenhagen i hyrwyddo Cymru. Mae hyn yn ymwneud â phwysleisio'r neges fod Cymru'n ymrwymedig i'w pherthynas â'r UE a'n partneriaid Ewropeaidd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni nawr yn bwrw ymlaen â hyn. Yn dilyn ein cais llwyddiannus, cynhaliodd Caerdydd Hotspot Economi Gylchol Ewrop fis Hydref diwethaf, digwyddiad mawreddog sy'n cydnabod cenhedloedd sy'n arwain y ffordd gydag arloesi yr economi gylchol.

I symud ymlaen, bydd ein timau chwaraeon menywod, fel y soniwyd, yn perfformio ar y cam uchaf—Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yn y Swistir a Chwpan Rygbi'r Byd yn Lloegr. Mae'r cyhoeddiadau am y pencampwriaethau yn 2028 mor bwysig o ran yr hyn rydym yn ei gynnal.

Yn olaf, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei chynllun cyflawni rhyngwladol. Mae'n darparu eglurder ar ein dull o weithredu—cyflawni, nid ysgrifennu adroddiadau, cydweithio ystyrlon i gyflawni canlyniadau. Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau ar gyfer adrodd ar ganlyniadau, a gallaf sicrhau'r pwyllgor a'r Cadeirydd fod y—[Torri ar draws.]

17:05

Na, rwy'n ofni bod amser Ysgrifennydd y Cabinet ar ben.

Rwyf wedi derbyn sawl un; rwy'n mynd i orfod bwrw ymlaen â hyn. Ond rwy'n deall y bydd swyddogion yn cyflwyno hyn i'r pwyllgor cyn bo hir, cyn ymddangosiad y Prif Weinidog ym mis Mehefin. Rydym yn parhau i gyhoeddi ein cytundebau rhyngwladol trawsbynciol gweithredol ac yn rhoi mecanweithiau ar waith i hysbysu'r pwyllgor pan fydd cytundebau dwyochrog rhyngwladol trawsbynciol newydd yn cael eu llofnodi.

Mae yna lawer o bwyntiau eraill nad wyf wedi gallu ymateb iddynt. Rwy'n falch o ymateb i hyn fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn ymateb trawslywodraethol ac mae'n bwysig. Ar y digwyddiadau erchyll yn Gaza, rwy'n ddiolchgar eto nawr ein bod yn gweld gweithredu gan Lywodraeth y DU. Fe gyflwynais ddatganiad 10 diwrnod yn ôl ar hyn, a'r ffaith bod angen inni sicrhau bod cymorth dyngarol yn mynd i Balesteina, i Gaza. Ac wrth gwrs, mae hwn yn gyfle inni godi'r materion hyn gyda dadl ryngwladol, ond rwy'n credu bod Mick Antoniw yn iawn: mae angen dadl ryngwladol ehangach arnom ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ystyried hynny. Diolch yn fawr.

Dwi'n galw nawr ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl.

Soniodd Gareth am rai o'r rhwystredigaethau rŷn ni wedi'u profi fel pwyllgor o ran diffyg atebolrwydd. 

Ni chafwyd llawer o safbwyntiau eraill gan Gareth sy'n cyd-fynd â barn y pwyllgor na'r dystiolaeth a ddaeth i law. Ar Wlad y Basg a rhanbarthau eraill, byddwn i'n dweud, fodd bynnag, fod hwn yn bwynt pwysig. Mae'r cysylltiadau sy'n cysylltu Cymru â'r rhanbarthau hynny yn rhai ieithyddol, yn rhai diwylliannol. Dylid eu dathlu am y rhesymau hynny. Rwy'n gobeithio mai dyna farn y Senedd hon.

Soniodd Heledd am yr arweiniad ein bod ni fel pwyllgor eisiau ei weld gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn. Roedd Heledd wedi sôn am y cyd-destun bregus o ran rhyfel ac erchyllterau. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn ategu'r neges yna o solidariaeth a heddwch. Soniodd Heledd ac Alun am y datblygiadau rydyn ni wedi'u gweld rhwng yr ynysoedd hyn a'r Undeb Ewropeaidd. Hoffwn i nodi ar ran y pwyllgor ein gobaith y bydd mwy o sicrwydd ar gyfer artistiaid, sy'n dal yn wynebu fisas a biwrocratiaeth ddi-ri. Dyw hwnna ddim wedi bod yn un o'r pethau lle rŷn ni wedi gweld lot o newid, ac mae hynny'n rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor wedi bod yn gwthio amdano fe.

Alun a Gareth—nid wyf am fynd ar drywydd y ddadl a gafwyd yno. Fel rhan o araith Alun, fe soniodd am y gyllideb gynyddol y mae cenhedloedd eraill o faint tebyg yn ei buddsoddi mewn swyddfeydd tramor. Nawr, clywsom dystiolaeth heddiw ar y pwynt hwn yn cymharu'r gwariant yn Iwerddon ar rai o'r pethau hyn â'n gwariant ni. Unwaith eto, efallai fod yn rhaid inni edrych ar ein cefndryd Celtaidd a dysgu o'r ffordd y maent yn elwa'n ariannol ac yn ddiwylliannol o'r gwaith diaspora hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth y mae gennym ni fel pwyllgor ddiddordeb mawr ynddo.

Ar bwynt Mick nad yw cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gadwyd yn ôl, mae hynny'n arwyddocaol yn gyfansoddiadol, rwy'n credu. Ar y pwynt am Ddydd Gŵyl Dewi, mae hynny'n rhywbeth o leiaf—. Oherwydd adeiladwaith Siambr Tŷ Hywel, ni allaf weld Mick nac Alun wrth imi siarad â hwy. Rwy'n codi llaw ar Mick nawr. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt lle mae undod ar draws y Senedd hon, ac rwy'n falch ei fod wedi sôn am y pwynt hwnnw. Yna rhoddodd Mick olwg macro ar y byd, gan edrych ar rai o'r erchyllterau a welwn yn rhyngwladol. Efallai ein bod ar ynys, Ddirprwy Lywydd dros dro, ond mae cnul gwrthdaro a rhyfel yn canu yn ein clustiau ni i gyd. Ac os caf siarad yn bersonol, gobeithio, dros bawb ar y pwyllgor a phawb yn y Senedd, rwy'n talu teyrnged i'r gwaith y mae Mick ac Alun wedi'i wneud yn cefnogi dinasyddion Wcráin, a'r cysylltiadau diwylliannol sy'n ein cysylltu yno. Mae cnul y clychau hyn yn canu i bob un ohonom.

Rwy'n ddiolchgar i'r Trefnydd am ymateb i'r ddadl. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen at y sesiwn dystiolaeth honno gyda ni ym mis Mehefin. Mae'r teimlad yn sicr yr un fath ar y ddwy ochr ar hynny, rwy'n eich sicrhau. Bydd yn sesiwn bwysig, oherwydd fel y dywedodd y Trefnydd, mae'r byd wedi newid ers lansio'r strategaeth gyntaf, a dyna pam y mae craffu arni mor bwysig. Nawr, roedd yn ddefnyddiol clywed cymaint sy'n cael ei wneud, er fy mod yn ofni nad oes unrhyw reswm gwirioneddol wedi'i roi o hyd pam y mae'r dystiolaeth a gawsom wedi bod mor brin, nac yn wir pam nad oedd y Prif Weinidog yn gallu ymateb i ni heddiw. Unwaith eto, byddwn yn deall os ydynt yn rhesymau personol, ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y dyddiad hwnnw ym mis Mehefin.

Ac i gloi, Dirprwy Lywydd dros dro, mi fuaswn i'n atgyfnerthu'r pwynt bod argymhellion ein pwyllgor wedi'u gwreiddio mewn ymrwymiad cadarn i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang. I gyflawni hyn, mae angen fframwaith eglur a chynhwysfawr arnom. Wrth inni nesáu at fisoedd olaf y Senedd hon, dŷn ni fel pwyllgor yn pwyso ar y Llywodraeth i fanteisio ar y cyfle hwn i ddarparu'r eglurder sydd wedi bod ar goll cyhyd. Yn yr amser sy'n weddill i ni, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos yn glir ac yn gyhoeddus sut maen nhw am godi proffil Cymru, sut maen nhw wedi codi proffil Cymru yn rhyngwladol, wedi cynyddu allforion ac wedi gosod Cymru yn genedl sydd yn gyfrifol yn fyd-eang. Oherwydd dim ond trwy wir dryloywder ac atebolrwydd y gallwn ni sicrhau bod cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn adlewyrchu'n gwerthoedd ni, ein huchelgeisiau ni a buddion gorau ein pobl ni. Diolch.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Fe symudwn ni nawr ymlaen at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar bensiynau, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8906 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.

2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i:

a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt;

b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac

c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal.

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i:

a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au;

b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol â chwyddiant; ac

c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Cyfiawnder ydy sail ein dadl heddiw—cyfiawnder i’r rhai sydd wedi dioddef anghyfiawnderau pensiwn, ac sydd wedi gweld Llywodraethau dilynol yn San Steffan yn gwrthod unioni’r anghyfiawnder hwn. Gwn fod nifer ohonynt yn gwylio’r ddadl hon heddiw, rhai o’r oriel gyhoeddus ac eraill o gartref, a hoffwn felly ddechrau drwy dalu teyrnged iddynt oll am y brwydro maent wedi ei wneud am flynyddoedd bellach i geisio sicrhau’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw. Mae Plaid Cymru yn cydsefyll gyda chi, ac yn eich cefnogi chi gyda'ch ymdrechion.

Mae tri grŵp penodol yn ganolbwynt i’r ddadl hon heddiw. Yn gyntaf, y grŵp 1950s Women of Wales ac eraill sy’n brwydro am gyfiawnder i’r menywod wedi eu geni yn y 1950au a gafodd eu heffeithio arnynt gan newidiadau i’r oedran pensiwn, ac sydd wedi wynebu caledi oherwydd hynny, a hynny heb unrhyw rybudd i nifer ohonyn nhw, a heb ffordd i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Yn ail, cyn-lowyr oedd o dan gronfa bensiwn y British Coal staff superannuation scheme sy’n galw am yr un cyfiawnder â’r hyn a roddwyd i aelodau’r miners pension scheme ym mis Hydref y llynedd. Ac yn olaf, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire, sydd wedi gweld gwerth eu pensiynau yn erydu am dros ddau ddegawd o ganlyniad i fethiant Llywodraethau San Steffan i’w huwchraddio gyda chwyddiant.    

Mae yna un peth yn gyffredin rhwng y tri grŵp. Mae’r aelodau o’r ymgyrchoedd i gyd yn unigolion sydd wedi gweithio yn galed trwy gydol eu bywydau, ac maen nhw’n haeddu yr hawl sylfaenol o sefydlogrwydd yn eu hymddeoliad. Wnaethon nhw ddim byd o’i le, ac mae o’n warth o beth eu bod nhw yn eu hymddeoliad yn gorfod ymgyrchu dros rywbeth y dylent fod gyda hawl i'w dderbyn.

Peidied neb ag anghofio mai penderfyniadau gwleidyddol sy’n gyfrifol am yr anghyfiawnderau hyn, ac y gall penderfyniadau gwleidyddol wneud yn iawn am hyn. A dyna pam heddiw rydym yn gofyn i holl Aelodau'r Senedd gefnogi cynnig Plaid Cymru heb ei ddiwygio, fel ein bod ni fel Senedd yn uno yn ein cefnogaeth, ac i fynnu gweithredu gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

Wedi'r cyfan, Llywodraeth Tony Blair a wnaeth y penderfyniad yn 2002 i ddim ond sicrhau 90 y cant o werth pensiynau gweithwyr Allied Steel and Wire ar ôl i'w cyflogwyr fynd i'r wal, ac i beidio uwchraddio'r canran yma gyda chwyddiant am bron i dair degawd. A thra mae'r Llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i unioni'r anghyfiawnder hirfaith o ran pensiynau aelodau'r miners pension scheme, rhywbeth wrth gwrs rydym ni'n ei groesawu'n fawr, mae'r diffyg ystyriaeth o ran aelodau'r British Coal staff superannuation scheme yn rhywbeth y dylem i gyd ei gondemnio.

Ac o ran menywod y 1950au, sawl gwaith a ydyn nhw wedi cael eu gobeithion wedi'u codi ac yna eu chwalu? Mi oedden nhw'n llawn gobaith y byddai'r anghyfiawnder yn cael ei unioni gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, wedi i nifer o aelodau blaenllaw'r Llywodraeth, gan gynnwys Keir Starmer a Liz Kendall, fod mor barod i'w cefnogi cyn dod i rym. Yn wir, fe wnaeth gwleidyddion blaenllaw yma yng Nghymru, gan gynnwys ein Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, addo y byddai Llywodraeth Lafur yn unioni'r anghyfiawnder hwn. Ond ymddengys bod rhai yn fodlon dweud un peth pan yn wrthblaid, ond gweithredu'n wahanol iawn pan fyddan nhw mewn grym. A phwy sy'n dioddef? Pobl hŷn a ddylai fod yn cael eu cefnogi ym mlynyddoedd olaf eu bywydau, wedi oes o wasanaeth.

Wrth gwrs, nid dim ond yr anghyfiawnderau dwi eisoes wedi'u nodi sy'n effeithio arnyn nhw chwaith. Beth am y newidiadau rydym wedi'u gweld i'r taliad tanwydd gaeaf, sy'n peryglu bywydau pobl hŷn? Efallai y bydd tro pedol, yn ôl penawdau heddiw, ond nid oes cadarnhad eto o'r manylion hynny. Ac rydym ni'n gwybod faint o ofn sydd wedi bod gan bobl hŷn o weld y cyhoeddiad hwnnw. Mi ddylai fod yn destun cywilydd i'r rhai sydd wedi bod mewn grym bod un allan o bob chwech o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, rhywbeth sy'n anodd dirnad pan fo eraill yn byw mor fras.

Fel y dywedais i wrth agor y ddadl heddiw, cyfiawnder sydd wrth wraidd ein cynnig, cyfiawnder i filoedd o bobl sy'n byw yma yng Nghymru, sydd wedi cael eu siomi a'u gadael i lawr gan system a ddylai fod yn eu cynnal fel eu bod yn gallu mwynhau ymddeoliad teg a sefydlog, rhywbeth dwi'n siŵr bod pawb ohonom ni yn ei ddeisyfu. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod am gymaint o bobl sydd wedi marw tra'n dal i frwydro, wedi gorfod treulio'u blynyddoedd olaf, weithiau'n sâl ofnadwy, yn gorfod brwydro am gyfiawnder. Felly, dwi'n gofyn i Aelodau'r Senedd heddiw gefnogi'n cynnig ni a gadael inni ailddatgan ein cefnogaeth i'r rhai sy'n brwydro am gyfiawnder, a mynnu gweithredu ar unioni hyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:15

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:

a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;

b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac

c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd.

Wel, diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am osod cynnig y ddadl ger ein bron yma heddiw. Ac rydym yn ymuno â phlaid Plaid Cymru ar y meinciau hyn i gydnabod y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o bensiynwyr yng Nghymru, fel yr amlinellir yn y cynnig. Mae'r materion a godir heddiw yn rhychwantu sawl degawd a Llywodraeth, ac mae'n iawn fod pob plaid yn ymdrechu i gael canlyniadau teg.

Hoffwn agor fy nghyfraniad ar sefyllfa menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI), a datgan hefyd fod fy mam yn un o'r bobl hynny yr effeithir arnynt yn y categori hwn. Ychydig cyn yr etholiad y llynedd, cyhoeddodd yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd eu canfyddiadau ar y mater. Ymatebodd Llywodraeth Lafur y DU ym mis Rhagfyr, gyda'r Ysgrifennydd dros waith a phensiynau Liz Kendall yn dweud nad oedd hi'n cytuno â'r canfyddiadau ar fater menywod WASPI. Ac mae rhagrith y Blaid Lafur ar gwestiwn WASPI yn rhyfeddol. Fel gwrthblaid, roedd llu o uwch ffigyrau Llafur yn baglu dros ei gilydd i brofi eu cefnogaeth i ddigolledu menywod WASPI. Galwodd y Prif Weinidog Keir Starmer y sefyllfa yn 'anghyfiawnder enfawr'. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy feirniadu 'ymyl y dibyn', meddai, a oedd yn wynebu menywod WASPI. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper ei bod yn

'ymladd am fargen deg i fenywod WASPI'. 

Honnodd y Canghellor Rachel Reeves ei bod 'eisiau cyfiawnder i fenywod WASPI'. Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, ei bod

'yn falch y bydd Llywodraeth Lafur yn y DU yn dod â'r anghyfiawnder pensiwn hanesyddol i fenywod y 1950au i ben.'

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn hyderus y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn 'unioni hyn'.

Ond fel y gwelwn nawr, nonsens llwyr oedd y cyfan. Roedd Llafur yn hapus i ddweud un peth fel gwrthblaid, cyn gwneud tro pedol llwyr a throi cefn ar eu haddewidion  wrth iddynt ddod yn Llywodraeth. Roedd hi'n amlwg nad oedd yr holl luniau o ASau ac ymgeiswyr Llafur yn gwenu gydag arwyddion yn cefnogi menywod WASPI yn golygu dim. Rwy'n siŵr y bydd pobl yn meddwl ddwywaith cyn ymddiried yn y Blaid Lafur ar hyn eto.

17:20

Nid yn unig hynny, ond unwaith eto, mae Llafur Cymru wedi methu'n llwyr â defnyddio eu llais yn y Llywodraeth i herio ar hyn. Maent yn honni eu bod yn sefyll dros weithwyr a phensiynwyr, ond pan fyddant mewn ystafell gyda phobl mewn grym maent yn cadw'n ddistaw. Yn onest, nid yw'n ymddangos bod Keir Starmer yn poeni beth sydd gan Lywodraeth Cymru i'w ddweud ac nid yw'n ymddangos bod Eluned Morgan yn gallu dylanwadu ar bethau gydag ef beth bynnag. A heddiw eto, fel y nododd Heledd Fychan, clywsom y Prif Weinidog Starmer ar chwâl i gyd unwaith eto, pan fo'n dweud y bydd yn 'edrych' ar daliadau tanwydd trychinebus y gaeaf i bensiynwyr—dim ymrwymiad ganddo, dim sicrwydd, dim syniad.

Yna deuwn at Blaid Cymru, sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, ac rwy'n eu cymeradwyo am bwyntio bys at fethiannau'r DU a Llywodraeth Lafur Cymru. Ond fy mhryder i yw y gallai Plaid fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn waeth na Llafur ar gyllid pensiwn. Mae dyhead Plaid Cymru am annibyniaeth yn dibynnu ar economeg ffantasïol a fyddai'n gwneud pobl Cymru'n dlawd. Pe bai Plaid Cymru yn cael eu ffordd, byddai annibyniaeth yn chwythu twll yn yr amddiffyniadau pensiwn y mae pobl Cymru'n dibynnu arnynt. Mae'r gwir yn glir: mae pensiynau'n seiliedig ar gryfder economi Prydain a gwarantau gan Lywodraeth y DU. Os caiff honno ei chwalu, fel y mae Plaid Cymru eisiau, rydych chi'n tynghedu pensiynau'r Cymry i ansicrwydd ac argyfwng go iawn. Nid cyfiawnder yw hynny, ond diofalwch.

Mae pensiynau'n galw am ymagwedd ddifrifol, nid dicter ffug Llafur na fandaliaeth gyfansoddiadol Plaid Cymru. Mae pobl Cymru'n haeddu Llywodraethau, ar y naill ben a'r llall i'r M4, sy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru, nid rhai sy'n canolbwyntio ar ailysgrifennu hanes na gamblo gyda'r dyfodol. Rhoddodd Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU gamau mawr ar waith i ddiogelu pensiynau pobl weithgar ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r clo triphlyg, a roddwyd ar waith gan y Ceidwadwyr, yn sicrhau bod pensiynwyr yn gallu cael sicrwydd yn eu henaint ar ôl bywydau gwaith hir—sy'n arbennig o bwysig i'n dinasyddion ar incwm is—ac mae'r clo triphlyg yn gweithio i'w diogelu.

Cyn ymgyrch yr etholiad cyffredinol, cafwyd addewid pellach o lwfans pensiwn di-dreth, gyda'r clo triphlyg a mwy. Y Ceidwadwyr sydd wedi gwarchod pensiynwyr o ddifrif rhag penderfyniadau economaidd caled, gan roi urddas a sicrwydd ariannol iddynt yn eu henaint. Mae'r hanes yn glir: ni allwch ymddiried yn y Blaid Lafur nac ym Mhlaid Cymru gyda phensiynau. Diolch yn fawr iawn.

Mae ein cynnig ni heddiw yn rhestru sawl enghraifft o anghyfiawnder pensiwn, ond mae un ohonyn nhw, fodd bynnag, yn enghraifft o gamwahaniaethu ar sail rhywedd a'r methiant i unioni'r cam yma yn enghraifft bellach o gamwahaniaethu ar sail rhywedd ac annhegwch cywilyddus. 

Mae gwelliant y Llywodraeth, dwi'n meddwl, yn siarad cyfrolau unwaith eto am eu diffyg dylanwad ac, yn wir, eu hamharodrwydd i alw ar eu partneriaid honedig yn San Steffan i ymddwyn mewn modd egwyddorol a chyfiawn. Unwaith eto, roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn fodlon mynegi ei siom gyda diffyg gweithredu'r Ceidwadwyr ar hyn, yn ddigon parod i fynychu'r protestiadau gan fenywod a chafodd eu trin yn annheg, yn ddigon parod i ddal y placardiau, traddodi'r areithiau, ond pan ddaethant i rym yn San Steffan—. Wel, mae'n stori gyfarwydd erbyn hyn, onid yw hi? Newid eu cân.

Rwyf am osod mas yn fy nghyfraniad i pam mae achos y menywod a aned yn yr 1950au a chafodd eu heffeithio'n annheg gan y newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth yn un sydd a'i seiliau mewn anghydraddoldeb rhywedd, anghydraddoldeb y gallai Llywodraeth Lafur San Steffan ei unioni, y dylai ei unioni, ac y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fynnu eu bod yn ei unioni er lles menywod Cymru.

Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r grwpiau lleol yn ein hetholaethau sydd wedi bod yn ymgyrchu mor galed ac mor hir dros gyfiawnder. Mewn cyfarfod cyhoeddus a alwais yn Abertawe y llynedd gyda Cyfiawnder Pensiwn i Fenywod Abertawe, clywsom amcangyfrif bod tua 15,000 o fenywod yr effeithir arnynt yn rhanbarth Abertawe yn unig. Clywsom am fenywod sy'n gorfod parhau i weithio, yn aml mewn swyddi heriol yn gorfforol, fel glanhau, gofalu, llenwi silffoedd mewn archfarchnadoedd, ymhell y tu hwnt i'r oedran y disgwyliai unrhyw un ohonynt y byddai angen iddynt wneud hynny, menywod y bu'n rhaid iddynt werthu eu cartrefi am na allant fforddio eu cynnal mwyach, menywod sy'n cysgu yn eu ceir neu'n mynd o soffa i soffa hyd nes y gall y cyngor eu hailgartrefu.

Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, mae'r methiant i weithredu ar yr anghyfiawnderau hyn yn rhan o batrwm ehangach, oherwydd mae achos menywod y 1950au yn sefyll allan fel enghraifft arbennig o amlwg o sut y mae Llywodraethau DU olynol wedi gwneud cam â menywod. Mae hefyd yn dangos methiant ehangach i gynnal ymrwymiadau rhyngwladol. O dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i sicrhau cydraddoldeb llawn i fenywod, gan gynnwys hawliau economaidd a chymdeithasol. Mae'r ffordd y gweithredwyd y newidiadau hyn, a'r gwrthodiad i ddarparu iawndal teg, yn mynd yn groes i'r rhwymedigaethau hyn.

A'r hyn sydd hyd yn oed yn fwy cythruddol i lawer o'r menywod hyn yw bod Llafur ar un adeg wedi sefyll gyda hwy. Ond ers hynny, maent wedi troi cefn ar yr addewidion hynny, gyda'r Canghellor Rachel Reeves hyd yn oed yn mynd mor bell â dweud y byddai cydnabod eu hawliadau'n gamddefnydd o arian trethdalwyr, er bod adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wedi canfod bod y menywod hyn wedi cael eu heffeithio'n anghymesur gan bolisïau Llywodraeth y DU, ac mae methiant i weithredu ar adroddiad o'r fath yn rhywbeth nad yw bron byth yn digwydd.

Wrth ymateb i'r penderfyniad gwarthus a siomedig hwnnw, mae arbenigwyr ar gydraddoldeb rhywedd yn tanlinellu pwysigrwydd ei weld yng nghyd-destun anghydraddoldebau systemig ym mywydau gwaith menywod, sy'n cyfrannu at y bwlch cyflog rhywedd ac sy'n cael effaith uniongyrchol ar y bwlch pensiwn rhywedd. Pedair ar bymtheg. Dyna'r nifer o flynyddoedd, ar gyfartaledd, y mae'n rhaid i fenyw weithio yn hirach na dyn i gronni'r un lefel o gyfoeth pensiwn, yn ôl adroddiad 'Bwlch Pensiynau Rhywedd' 'Gender Pensions Gap' NOW: Pensions, a gyhoeddwyd y llynedd.

Ac rŷn ni'n gyfarwydd iawn yng Nghymru, yn anffodus, gyda'r rhwystrau byd gwaith sy'n gysylltiedig â rhywedd, yn enwedig o ran dyletswyddau gofal, sy'n cael effaith hirdymor ar sefyllfa ariannol menywod, gan gynnwys eu pensiwn gwladol. Roedd y sefyllfa, wrth gwrs, lawer gwaeth o ran bywydau gwaith menywod a aned yn yr 1950au o ran cyfleon gyrfa, diffyg tâl cyfartal, ac agweddau cymdeithasol tuag at waith a rôl menywod. I'r menywod yma, mae'r materion systemig hyn, ynghyd â'r ffordd y gweithredwyd cyfartalu oedran pensiwn y wladwriaeth, wedi dwyn y cyfle i lawer o fenywod gronni lefel ddigonol o incwm pensiwn oddi arnynt, ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau maen nhw wedi eu profi gydol eu hoes.

Dyw'r menywod hyn ddim yn gofyn am driniaeth arbennig nac am elusen. Maen nhw'n gofyn am gyfiawnder—cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu. Dyw safbwynt Plaid Cymru erioed wedi newid. Rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth, nid jest mewn gair, ond mewn gweithred: i sefyll gyda menywod yr 1950au a galw ar ei chwaer Lywodraeth Lafur yn San Steffan i unioni'r cam a wnaed iddyn nhw.

17:25

'Y cyfan rwyf i eisiau yw'r hyn y talais amdano, fy mhensiwn.'

Dyma eiriau rhesymol John Benson, sy'n eistedd y tu ôl i mi yn yr oriel gyhoeddus. Y cyfan y mae ei eisiau yw'r hyn y talodd amdano. Am hynny, mae wedi bod yn ymgyrchydd diflino ers bron i chwarter canrif i geisio cywiro'r camweinyddiad cyfiawnder yn ei erbyn ef ac yn erbyn llawer o deuluoedd dosbarth gweithiol eraill. Dylai John Benson, Phil Jones, ac eraill y tu ôl i ni, fod yn mwynhau eu hymddeoliad, yn treulio amser gydag anwyliaid, ac yn gorffwys ar ôl oes o waith caled a pheryglus. Ond mae'r 23 mlynedd diwethaf wedi golygu caledi ariannol, gwneud gwaith tymhorol ymhell ar ôl oedran ymddeol, a brwydr ddiddiwedd am yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Maent wedi ymweld â llawer o gydweithwyr ar eu gwely angau, cydweithwyr sydd wedi erfyn arnynt i barhau â'r frwydr, cydweithwyr nad oeddent yn gwybod a fyddai eu hanwyliaid yn gallu talu am eu hangladd neu aros yng nghartref y teulu. Maent wedi cael eu hanwybyddu a'u sarhau gan Lywodraethau dirifedi o wahanol liwiau gwleidyddol—Llafur, Torïaidd a Democratiaid Rhyddfrydol—wedi cael pryd o dafod gan wleidyddion am gywair eu negeseuon e-bost; wedi cael pryd o dafod gan bobl nad oes ganddynt syniad pa mor galed yw eu bywydau wedi bod, pobl na fyddent yn gallu ymdopi eu hunain, rwy'n siŵr, pe bai eu pensiwn yn cael ei gymryd oddi wrthynt.

Ers dechrau'r ymgyrch, mae 14 gwahanol Weinidog pensiwn wedi'u penodi yn y DU, heb fod yr un ohonynt yn gallu, neu efallai hyd yn oed yn barod i helpu i ad-dalu'r hyn y mae'r gweithwyr hyn a'u teuluoedd yn ei haeddu. Yr agosaf y daethant oedd yn 2005, pan sefydlwyd y cynllun cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU ar y pryd i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan fethiannau pensiwn rhwng 1997 a 2005. Ond y sgandal yw nad oedd hwnnw ond yn cynnig 90 y cant o werth y pensiwn, nid oedd yn cyfrif chwyddiant o gwbl, nac unrhyw bensiwn a gronnwyd cyn 1997. I lawer o bensiynwyr, fel Phil Jones y tu ôl i mi, mae'r ffigur 90 y cant bellach wedi gostwng i 50 y cant—hanner ei werth. Mae'n hollol anghredadwy. Mae'r anghyfiawnder yn amlwg. Mae pawb y siaradaf â hwy am hyn yn gweld yr anghyfiawnder yn amlwg, ond mae'n parhau. Efallai y dylid cymhwyso'r un peth i Weinidogion y DU. Efallai y dylai hynny ddigwydd i'w pensiwn hwythau, oherwydd rwy'n hyderus y byddem yn gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio yn San Steffan yn gyflym iawn pe bai hynny'n digwydd i'w pensiynau hwy.

O'r 140,000 o bensiynwyr yn y cynllun, mae dros 40,000 eisoes wedi marw—40,000—gyda llawer ohonynt heb weld un geiniog o'r pensiynau y gwnaethant eu talu'n llawn ffydd, a hyd yn oed yn waeth, pensiynau y cawsant eu hannog i dalu tuag atynt. Roedd fy niweddar dad yn gwbl gefnogol i weithwyr ASW. Roedd yn adnabod llawer ohonynt, aeth i'r ysgol gyda hwy, fe chwaraeodd gyda hwy. Yn anffodus, mae'r camweinyddu cyfiawnder wedi para'n hwy na'i oes ef, ac mae wedi para'n hwy nag oes ei ffrindiau yn ASW. Nid yw'n ddigon da fod hyn wedi para ers chwarter canrif. Nid yw'n deg, oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio, fod yr ymgyrchu bellach yn disgyn ar ysgwyddau llai a llai o bobl oherwydd marwolaeth a salwch.

Ond nid yw John, Phil a gweddill yr ymgyrchwyr erioed wedi rhoi'r gorau iddi. Ym mis Ionawr eleni, ymunais â hwy ar gyfer cyfarfod yn Llundain gyda'r Gweinidog pensiwn diweddaraf, Torsten Bell, a chawsom eiriau cynnes gan Torsten Bell, digonedd o wenu, ambell sylw nawddoglyd, ac yna dim byd. Dim byd o gwbl. Maent yn dal i aros i'r anghyfiawnder gael ei gywiro. Mae fy swyddfa wedi dechrau deiseb yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ac i dalu'r hyn sy'n ddyledus i'r dynion hyn. Fe gafodd pob Aelod y ddeiseb honno ychydig wythnosau yn ôl, ond efallai y caf ei hail-anfon eto ar ôl y ddadl hon, ac rwy'n eich annog i gyd i'w llofnodi a'i rhannu ar eich cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood a Natasha Asghar am ei rhannu eisoes ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Beth bynnag sy'n cael ei ddweud yma heddiw, a beth bynnag fydd y camau y gallai Llywodraeth y DU benderfynu eu cymryd neu beidio â'u cymryd, mae un peth yn ddiamheuol: nid yw John, Phil a'r holl bobl eraill y tu ôl i mi heddiw yn mynd i ddiflannu. Ni wnânt roi'r gorau i ymladd am y pensiynau y maent yn eu haeddu, a'n lle ni yma heddiw yw sefyll gyda hwy a chwyddo eu llais. Diolch yn fawr.

17:30

Credaf mai'r pwynt cyffredinol y mae angen i ni ei gofio wrth siarad am yr holl anghyfiawnderau pensiwn hyn yw nad bonws yw pensiynau, ond cyflog wedi'i ohirio, sy'n seiliedig ar ddisgwyliad y bydd pobl yn cael sicrwydd a chymorth pan fydd yn bryd iddynt ymddeol. Nawr, rwy'n datgan buddiant hefyd. O ran menywod y 1950au, fel Sam, mae fy mam yn cael ei heffeithio gan y newid hwnnw.

Mae menywod a anwyd yn y 1950au wedi cael eu bradychu gan y rhai mewn grym. Dywedwyd celwyddau wrthynt. Dywedwyd wrthynt y byddai Llafur yn San Steffan yn gwneud y peth iawn, fel y Torïaid o'u blaenau, ac yn sicrhau y byddai menywod yn cael yr arian a oedd yn ddyledus iddynt ar ôl iddynt ddod i rym. Maent wedi torri'r addewid hwnnw ac wedi dangos, mae arnaf ofn, nad yw eu cydwybod ond yn ymestyn cyn belled ag sy'n gyfleus iddynt. Maent wedi rhoi'r gorau i ystyried yr anghyfiawnder hwn yn rhywbeth sy'n haeddu cael ei unioni. Ni fyddwn ni ym Mhlaid Cymru yn cefnu ar y menywod hyn—menywod sydd wedi blino aros am gyfiawnder, wedi blino aros am yr arian sy'n ddyledus iddynt. Mae cymaint o fenywod wedi marw heb gael yr arian hwnnw. Rhag cywilydd i Lafur y DU am dorri eu gair.

Mae angen ymchwiliad cyhoeddus arnom, mae angen inni weld camau cyfryngu, ac mae angen i leisiau'r menywod hyn gael eu clywed hyd nes eu bod yn atseinio ym mhob siambr yn Whitehall a San Steffan. Ni ellir eu tawelu mwyach. Gwyddom fod ymchwiliad yr ombwdsmon yn ddiffygiol. Mae gan Weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau ddyletswydd i fynychu sesiynau cyfryngu, ond ni chafodd y cais diweddaraf am gyfryngu a anfonwyd gan grŵp 1950s Women of Wales ac ymgyrchwyr eraill, sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y mater hwn, ddim mwy na chydnabyddiaeth fod y neges wedi'i derbyn. Mae arnaf ofn fod hyn yn swnio'n debyg i'r hyn y mae Rhys ab Owen newydd fod yn sôn wrthym amdano gyda gweithwyr Allied Steel and Wire. Hoffwn dalu teyrnged i'r nifer o grwpiau menywod, yn yr achos hwn, a'r materion eraill y rhoddwn sylw iddynt hefyd, sydd wedi ymgyrchu, sydd wedi ymddiried dro ar ôl tro y byddai pethau'n wahanol y tro hwn. Mae'n hanfodol fod eu lleisiau'n cael eu clywed gan y rhai sydd mewn grym a bod cynrychiolwyr ar eu rhan yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth y DU drwy gyfryngu.

Nawr, gyda menywod y 1950au, gwn fod rhai grwpiau wedi deisebu am ddull amgen o ddatrys anghydfod, am iawndal ariannol sy'n canolbwyntio ar wahaniaethu profedig a chamweinyddu llawn. Mae grŵp arall, CEDAWinLAW, wedi darparu tystiolaeth o rwymedigaethau statudol y wladwriaeth o dan gyfreithiau'r DU a chyfreithiau rhyngwladol. Rwy'n gwybod y byddent am wybod a yw'r Llywodraeth yma'n cefnogi'r galwadau hynny am gyfryngu. Mae llawer o grwpiau hefyd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn, yn union fel y rhoddwyd i'r is-bostfeistri. O na bai modd i ITV greu drama am yr holl anghyfiawnderau hyn, ond ni ddylem orfod aros i ddarlledwyr ddweud wrth y Llywodraeth beth y dylent fod yn ei wneud, Ddirprwy Lywydd.

Mae ein cynnig hefyd yn canolbwyntio ar bensiynau glowyr, sef mater arall y mae llawer o bobl ddewr wedi ymgyrchu yn ei gylch. Mae cyn-lowyr yn dal i aros am gyfiawnder gyda'u pensiynau. Mae gan gynllun pensiwn y glowyr slogan sy'n crynhoi'r anghyfiawnder chwerw hwnnw: 'Gydag anadl olaf dynion a dorrwyd.' Cafodd y dynion hyn eu hanablu gan eu llafur, a'u gadael ag ysgyfaint wedi'u gwenwyno, ac mae'r wladwriaeth a San Steffan wedi dod o hyd i ffyrdd o wrthod yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Addawodd Llafur gyfiawnder i gyn-lowyr gyda'u pensiynau y llynedd, ond nid oedd unrhyw sôn am gynllun pensiwn staff Glo Prydain, sy'n cynnwys cyn-lowyr. Ac mae San Steffan bellach yn llusgo eu traed. Maent yn gwrthod dweud wrthynt a fyddant hwy'n cael eu harian hefyd, tra bo mwy a mwy o lowyr yn marw bob blwyddyn o gyflyrau anadlol a chanlyniadau'r llwch a lenwai eu hysgyfaint. Ni ddylai gymryd yr anadl olaf honno gan ddynion neu fenywod i fynnu cyfiawnder.

Hoffwn dalu teyrnged yma i'r nifer o ymgyrchwyr, ac i Steffan Lewis, y mae hiraeth mawr ar ei ôl, ac y rhannaf fy sedd ag ef mewn ysbryd, am ei holl waith ar yr ymgyrch honno. Ddirprwy Lywydd, gyda menywod a anwyd yn y 1950au, gyda glowyr, gyda gweithwyr Allied Steel and Wire, mae'r rhain yn faterion sy'n mynnu iawn. Gwn nad yw'r Llywodraeth yma'n hoffi inni ddefnyddio'r gair 'mynnu', ond mae’n rhaid inni fynnu bod San Steffan yn rhoi mwy na dim ond eu hamynedd. Rhaid iddynt wneud yr hyn sy'n iawn a thalu'r hyn a addawyd i'r bobl hyn.

17:35

Y glo o dan bridd Cymru a bwerodd gynnydd Prydain. Pan gawsant eu gwladoli ym 1947, roedd gennym 250 o byllau glo gweithredol ledled Cymru. Roedd pob un yn cynrychioli bywydau dirifedi a fyrhawyd gan lwch, gan berygl, gan aberth. Yna, pan breifateiddiwyd Glo Prydain ym 1994, sefydlodd y Llywodraeth drefniadau pensiwn a oedd yn caniatáu iddynt gymryd hanner unrhyw warged. Fe wnaethant addo bod hyn yn gyfnewid am warantu'r pensiynau pe bai buddsoddiadau'n tanberfformio. Nawr, dyma'r ffeithiau oer, caled. Ers hynny, mae'r Trysorlys wedi mynd â £3.1 biliwn o gynllun pensiwn staff Glo Prydain. Maent yn bwriadu mynd ag £1.9 biliwn arall erbyn 2033. A faint y maent wedi'i roi i mewn? Dim ceiniog. Nid yw'r warant wedi costio dim iddynt. Yn y cyfamser, mae'r cynllun yn parhau i ddal £2.3 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn—arian sy'n perthyn i'r 45,000 o aelodau a buddiolwyr, gan gynnwys mwy na 4,000 yma yng Nghymru. Yr ystadegyn mwyaf damniol yw hwn: oedran cyfartalog aelodau'r cynllun yw 76, ac ar gyfartaledd, mae chwe aelod yn marw bob dydd. Dyna bron i 2,200 o farwolaethau bob blwyddyn—pobl a fydd, wrth i'r niferoedd godi, yn parhau i gael eu hamddifadu o gyfiawnder os na weithredwn.

Yr hydref diwethaf, o'r diwedd, fe gydnabu'r Llywodraeth yr anghyfiawnder hwn i gynllun pensiwn y gweithwyr glo. Fe wnaethant drosglwyddo £1.5 biliwn o'r gronfa fuddsoddi wrth gefn, gan roi cynnydd cyfartalog o 32 y cant yn eu pensiwn i 112,000 o gyn-lowyr. Ond beth am aelodau'r cynllun staff? Nid dim ond gweithwyr gweinyddol a weithiai mewn swyddfeydd pell oedd y rhain, ond y syrfëwyr a fyddai'n sicrhau na fyddai toeau'n cwympo, y trydanwyr a gadwodd systemau awyru'n gweithio pan oedd nwy yn cronni, y swyddogion diogelwch a weithiai i leihau marwolaethau. Dechreuodd llawer o dan y ddaear cyn symud i'r rolau arbenigol hyn drwy brofiad a hyfforddiant. Fe wnaethant anadlu'r un llwch, fe wnaethant wynebu'r un peryglon, roeddent yn byw yn yr un cymunedau, a nawr, dywedir wrthynt nad ydynt yn haeddu'r un cyfiawnder.

Mae'r Gweinidog diwydiant wedi cyfarfod ag ymddiriedolwyr ac wedi siarad am ddatrys y mater, ond heb ymrwymiad cadarn a heb amserlen, dim ond geiriau gwag yw'r rhain. Mae pob diwrnod o oedi yn golygu na fydd chwe aelod arall o'r cynllun byth yn gweld cyfiawnder. Boed drwy fwriad neu ddifaterwch biwrocrataidd, mae'r effaith yr un fath: llai a llai o fuddiolwyr wrth i amser fynd heibio a llai o gost i'r Trysorlys o ganlyniad.

Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn cynrychioli'r gweithwyr hyn, rwyf wedi eistedd yn eu cartrefi ac wedi clywed eu straeon—dynion a menywod balch nad ydynt byth yn gofyn am gardod, dim ond am yr hyn y maent hwy neu eu partneriaid wedi ei ennill drwy ddegawdau o wasanaeth. Nawr, maent yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, tra bo'r Trysorlys yn eistedd ar y biliynau sy'n ddyledus iddynt. Byddai trosglwyddo'r gronfa wrth gefn o £2.3 biliwn yn rhoi hwb o oddeutu 50 y cant i bensiynau. Nid arian ar gyfer moethau yw hwn, mae ar gyfer urddas sylfaenol, ar gyfer bwyd addas, ar gyfer cadw'n gynnes yn y gaeaf, ar gyfer cysuron bach yn eu henaint. A gadewch inni fod yn glir, ni fyddai'r arian hwnnw'n diflannu i gyfrifon tramor, byddai'n cael ei wario yn ein cymunedau, yn ein siopau, yn ein heconomïau lleol sy'n dal i ddioddef yn sgil dinistr cau'r pyllau glo.

Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddangos gwir arweinyddiaeth, i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i chi—sianeli ffurfiol, awdurdod y Siambr hon a grym moesol cenedl a adeiladwyd ar lo—i fynnu bod y £2.3 biliwn llawn hwnnw'n cael ei drosglwyddo ar unwaith. Rwy'n dweud hyn yn y Siambr a thrwom ni wrth San Steffan: rhowch yn ôl yr hyn a gymerwyd, talwch yr hyn sy'n ddyledus, anrhydeddwch y gweithwyr hyn nawr tra byddant yn dal i fod yn fyw i allu teimlo'r gwahaniaeth. Nid yn unig fod cyfiawnder a gaiff ei ohirio yn gyfiawnder wedi'i wrthod, mae'n gyfiawnder a gollir am byth i bob aelod o'r cynllun sy'n marw wrth aros am yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Mae'r amser i siarad ar ben, mae'n bryd cael cyfiawnder pensiwn nawr.

17:40

Bydd fy nghyfraniad heddiw'n canolbwyntio ar yr anghyfiawnder y mae cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ei wynebu. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith caled a'r ymgyrchu diflino gan gyn-weithwyr Allied Steel and Wire, ac mae nifer ohonynt yn yr oriel heddiw. Maent wedi ymladd yn barhaus dros gyfiawnder, ac nid yn unig iddynt eu hunain, ond i'w cymheiriaid. Mae Plaid Cymru yn cydsefyll gyda chi ac yn eich cefnogi.

Nid ffigurau ar daenlen yn unig yw'r cynnig hwn heddiw, mae'n ymwneud ag addewidion wedi'u torri a bywoliaeth pobl wedi'i dwyn, methiant moesol gan Lywodraethau olynol y DU a distawrwydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu partneriaeth mewn grym i unioni'r anghyfiawnder. Talodd gweithwyr Allied Steel and Wire i mewn, addawyd eu pensiynau iddynt. Nid bonws yw pensiwn, ond cyflog wedi'i ohirio—cyfraniadau a wneir gan weithwyr dros nifer o flynyddoedd yn gyfnewid am y disgwyliad o sicrwydd ar ôl ymddeol. A nawr, cânt eu cosbi, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth i'w pensiynau erydu'n araf am nad ydynt wedi'u cysylltu â chwyddiant. Lladrad araf yw hyn. Ac fel y clywsom, mae'r ymgyrchydd diflino John Benson yn yr oriel, a bu'n ddigon caredig i rannu ei stori gyda mi, a hoffwn rannu rhai rhannau ohoni gyda chi heddiw, yn ei eiriau ef.

'Roedd ar fin peri chwalfa nerfol i mi, ac ar un adeg, roeddwn yn credu y gallwn fynd dros y dibyn. Ar ôl yr holl flynyddoedd o weithio mewn diwydiant trwm, sŵn o ffwrneisiau arc drydan, llwch, mygdarth, oriau anghymdeithasol, nid oedd gennyf unrhyw beth i edrych ymlaen ato. Dylwn fod wedi ymddeol yn 65 oed, ond bu'n rhaid imi weithio tan oeddwn yn 67 oed, ac fe wnaeth 41 mlynedd mewn diwydiant trwm adael ei ôl ar fy nghorff. Yn ystod y blynyddoedd hynny, ar ôl inni golli ein gwaith a'n pensiynau, fe wnaethom benderfynu ymladd yr anghyfiawnder ofnadwy ac annynol hwn, gan drefnu protestiadau ledled y DU, Llundain, Caerdydd, cynadleddau pleidiau. Fe wnaethom ddal baner wrth y fynedfa i lysoedd Ewrop yn Lwcsembwrg, lle bu'r undebau llafur yn dadlau ein hachos. Roeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid imi werthu fy nhŷ. Ar un adeg, roeddwn yn meddwl y byddai fy mhriodas yn chwalu wrth ymladd yr ymgyrch hon, gan iddi feddiannu pob agwedd ar fy mywyd. Sut y gallai'r gwleidyddion yr oeddem wedi ymddiried ynddynt drin gweithwyr â chymaint o annhegwch a dirmyg? Yn ffodus, fe wnaeth fy ngwraig aros wrth fy ochr, ac rwy'n siŵr fod achosion mwy torcalonnus na fy un i.

'Bymtheg mlynedd yn ôl, bu farw cyn-gydweithiwr i mi—fe ddechreuom ni’n dau weithio yn y gwaith dur ym mis Gorffennaf 1961, fe gollodd y ddau ohonom ein gwaith gyda’n gilydd ym mis Gorffennaf 2002, ar ôl teithio i’r gwaith ac yn ôl gyda’n gilydd am 26 mlynedd—yn 59 oed, heb briodi, ac ni welodd geiniog o’r pensiwn y bu'n talu i mewn iddo am yr holl flynyddoedd hynny. Ar ôl yr holl flynyddoedd hir ac anodd hyn, rydym wedi bod yn ymladd yn erbyn yr anghyfiawnder pensiwn annynol hwn. O dan arweinyddiaeth newydd a chyda mainc flaen newydd, mae Llafur yn San Steffan wedi rhoi gobaith i ni y gallai’r holl aberthau hynny a wnaethom yn ystod y 19 mlynedd diwethaf ddwyn ffrwyth, nid yn unig i ni, ond i’r dioddefwyr diniwed hynny.'

Rwy'n credu y byddwch yn cytuno bod hanes John yn un pwerus, ac yn cyfleu'r anghyfiawnder a ddioddefodd ef a chydweithwyr eraill. Dyma pam ein bod yn cynnal y ddadl hon ac yn galw ar y Llywodraeth hon i chwarae ei rhan. Nid yw'n ddigon codi pryderon yn unig; mae angen i Lywodraeth Cymru fynnu bod camau'n cael eu cymryd. Os gallant ddod o hyd i'w llais yng ngwelliannau'r Llywodraeth i'n cynnig i ganmol Llywodraeth y DU ar ddiwygio pensiynau, gallant ddod o hyd i'w hasgwrn cefn i sefyll dros weithwyr ASW ac eraill yng Nghymru. Boed yn fenywod y 1950au, gweithwyr dur ASW, neu staff Glo Prydain, mae'r rhain yn bobl a chwaraeodd yn ôl y rheolau. Cawsant eu siomi nid yn unig gan bolisi ond gan wleidyddion a addawodd eu diogelu. Nid ydym ni ym Mhlaid Cymru yn mynd i adael i'r distawrwydd hwnnw barhau. Diolch yn fawr.

17:45

Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma?

Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y cynnig hwn ar bensiynau, yn enwedig menywod y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire, ac aelodau cynllun pensiwn y glowyr a chynllun pensiwn staff Glo Prydain. Mae'r grwpiau hyn wedi dangos gwydnwch a phenderfynoldeb rhyfeddol yn eu hymgyrch am gyfiawnder, trwy godi ymwybyddiaeth ac eirioli dros ddiwygiadau. Mae eu gwaith yn parhau i fod yn allweddol. Rwy'n cydnabod ac yn talu teyrnged i'w hymroddiad, eu dyfalbarhad a'u heiriolaeth ar ran miloedd o bensiynwyr.

Er y gallwn gytuno â phwyntiau 1 a 2 yn y cynnig a gyflwynwyd heddiw, rydym wedi cyflwyno gwelliant i bwyntiau 3 a 4, gan fod yr anghyfiawnderau a drafodwn heddiw wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd. Ni wnaethant ddechrau ar ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024; maent yn rhan o waddol a adawyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac ni ellir unioni blynyddoedd o ddiffyg gweithredu o fewn 10 mis. Rydym wedi gweld cynnydd—

Diolch. Cyfeiriais at yr hyn a ddigwyddodd o dan Tony Blair, felly mae'n Llywodraethau DU olynol, Llafur a Cheidwadol.

Diolch. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd, Gadeirydd. Fel y dywedais, ni all Llywodraeth newydd y DU unioni hyn mewn 10 mis, ond rydym wedi gweld cynnydd, a dylem gydnabod a chroesawu hynny. Yn benodol, mae'r diwygiadau a wnaed i gynllun pensiwn y glowyr, gan gynnwys yr elw ar y gronfa fuddsoddi wrth gefn, wedi arwain at daliadau pensiwn uwch i gyn-lowyr. Gwn fod y newidiadau hyn yn rhyddhad i'w groesawu i'r rhai sydd wedi bod yn aros ers amser am driniaeth deg.

Mae cynllun pensiwn y glowyr o arwyddocâd arbennig i lawer o gymunedau yng Nghymru, ac mae'n fater y gwnaeth Llywodraeth Cymru sylwadau arno i Lywodraethau blaenorol y DU. Rwy'n croesawu, a dylai'r Senedd groesawu, y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid maniffesto drwy drosglwyddo £1.5 biliwn o'r gronfa fuddsoddi wrth gefn yn ôl i aelodau'r cynllun. Mae effaith y newid hwnnw'n sylweddol. Mae'n golygu cynnydd o 32 y cant i bensiynau blynyddol dros 100,000 o gyn-lowyr ledled y DU, cynnydd cyfartalog o £29 yr wythnos i bob aelod.

Rydym wedi codi ein pryderon yn gyson ynghylch anghyfiawnder pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae'r ffordd goch Gymreig yn golygu ein bod yn rhoi gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, ni waeth pa blaid sydd yn Rhif 10. Mewn perthynas â phensiynau Allied Steel and Wire, rydym wedi nodi nad rhodd yw'r pensiynau hyn. Cyflog wedi'i ohirio ydynt, a gwnaed y cyfraniadau mewn ffydd gan weithwyr ASW, gan ddisgwyl y byddent yn cael sicrwydd ar ôl ymddeol.

Hoffwn dalu teyrnged arbennig i gyfraniad Rhys ab Owen y prynhawn yma, a'i ddiweddar dad, am y gwaith ymgyrchu y mae'n ei wneud gydag ymgyrchwyr ASW, yn enwedig John a Phil. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi cyfarfod â hwy yn rhinwedd gwaith etholaethol personol y Gweinidog. Mae'r gweithwyr hyn wedi gweithio'n galed, ac fel y dywed John Benson, fe wnaethant dalu i mewn a gwneud darpariaeth ar gyfer eu hymddeoliad. Ond fel y clywsom, maent wedi gweld pŵer prynu eu pensiynau'n cael ei erydu gan chwyddiant.

Rydym wedi annog Llywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod pensiynau cyn-weithwyr ASW yn gysylltiedig â chwyddiant fel eu bod yn cadw eu gwerth dros amser. Rydym hefyd yn cydnabod, er bod y diwygiadau diweddar i gynllun pensiwn y glowyr yn gam pwysig, fod aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain wedi profi anghyfiawnder a hanes tebyg. Gwyddom fod rhywfaint o ymgysylltu wedi bod rhwng ymgyrchwyr a Llywodraeth y DU, ond rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i adolygiad teg a thryloyw o warged y cynllun a'i ddosbarthiad posibl.

Fel Aelodau etholaethol, bydd pob un ohonom yn ymwybodol o sut y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio'n anghymesur ar fenywod a anwyd yn y 1950au. Maent wedi wynebu oedi annisgwyl cyn cael eu pensiynau ac wedi profi straen ac ansicrwydd ariannol. Ers i Lywodraeth y DU ddod i rym, rwy'n gwybod eu bod wedi ystyried o ddifrif y materion cymhleth a godwyd gan adroddiad yr ombwdsmon, gan gynnwys gwybodaeth nad oeddent yn gallu ei gweld cyn iddynt ddod yn Llywodraeth. Fel Llywodraeth Cymru, rydym bob amser wedi bod yn glir fod cyflymu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod heb fawr ddim rhybudd yn anghywir. Rydym yn pryderu am yr effaith honno, ac rydym wedi dweud hynny'n glir wrth Lywodraeth y DU.

Mae pensiynau gwladol, personol a galwedigaethol yn fater a gedwir yn ôl. Nid oes gennym y pwerau, yn gyfreithiol nac yn ariannol, i ddarparu iawn i'r rhai sy'n profi anghyfiawnder pensiwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yr effeithiau ar lesiant a lles y pensiynwyr hyn a'u teuluoedd. Mae'r rhain yn faterion hirsefydlog, ac maent yn rhan o waddol heriol a etifeddwyd gan Lywodraeth newydd y DU. Ond rydym ymhell o fod yn dawel ar y materion hyn, a byddwn yn parhau i ddadlau dros newid a chamau ystyrlon sy'n sicrhau dyfodol teg a sicr i bawb. Diolch.

17:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd hwnnw'n amddiffyniad dewr gan y Gweinidog o Lywodraeth Lafur y DU. Nid yw'r 'ffordd goch Gymreig' yn golygu llawer os yw'n amddiffyn yr anamddiffynadwy, gan fod yn rhaid inni gydnabod bod hyn wedi bod yn datblygu ers degawdau. Nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y dangosais, roedd gan Tony Blair ei hun rôl allweddol i'w chwarae yma. Felly, rwy'n credu bod gennym ddyletswydd i uno fel Senedd i gynrychioli ein hetholwyr.

Er nad wyf yn cymeradwyo rhan y Llywodraeth Geidwadol yn y peth, gan fy mod yn cefnogi'r achos bryd hynny hefyd, a ydych chi'n cydnabod, o ganlyniad i weithredoedd Gordon Brown ym 1997, pan ddiddymodd gredydau treth ar ddifidendau, fod y gyfradd dreth ar bensiynau wedi costio dros £250 biliwn i gronfeydd pensiwn ledled y DU bellach?

17:55

A dyna pam y credaf fod angen inni gyfaddef y camgymeriadau a wnaed gan Lywodraethau DU olynol. Nid rhoi'r bai ar un blaid yn unig yw hyn, a dyna pam fy mod yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog.

Rwy'n credu ein bod wedi clywed mewn ffordd huawdl a phwerus heddiw pam mae hyn yn bwysig—y gwaith achos a gawn, yr unigolion y tu ôl i bob un o'r achosion hyn, y mae pob un ohonom wedi cyfarfod â hwy. A diolch i'r rhai ohonoch sydd wedi rhannu eich straeon a hefyd wedi rhannu eich profiadau o ymgyrchu ar y mater.

Rwy'n gwerthfawrogi pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Mae'r anghyfiawnderau'n amlwg. Rwy'n credu hefyd y dylem gofio pawb sydd wedi marw cyn i'r camwedd hwn gael ei unioni, ac a dreuliodd flynyddoedd olaf eu bywydau'n ymgyrchu ac yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd, gan wneud y dewisiadau anodd hynny, neu heb allu fforddio'r pethau sylfaenol mewn bywyd.

Sam Rowlands, rwy'n croesawu eich cefnogaeth i'r cynnig. Roedd yn ymdrech ddewr i gyfiawnhau dinistr y Llywodraeth Dorïaidd ac anwybyddu'r ffaith y gallai'r Torïaid fod wedi unioni hyn hefyd. Mae atebolrwydd a chyfrifoldeb yn bethau y dylai pob un ohonom fyfyrio arnynt. O ran Sam a Delyth yn rhannu straeon eu mamau eu hunain, fe fydd llawer ohonom yn adnabod pobl yr effeithiwyd arnynt yn ein teuluoedd ein hunain. Mae hyn wedi bod yn bellgyrhaeddol yn ein holl gymunedau.

Sioned, o ran y camwahaniaethu ar sail rhywedd, mae hwnna yn eithriadol o bwysig, ein bod ni yn cofio am yr hyn sydd wedi effeithio y tu hwnt i ddim ond y mater pensiynau yma, ar ferched. Mae’n bwysig iawn bod hwnna’n cael ei unioni.

Rhys, dwi’n gwybod dy fod wedi ymgyrchu’n galed iawn ar y mater o Allied Steel and Wire. Ac mi oedd yr hyn roeddet ti’n ei ddweud am John Benson, mi fyddwn i’n hoffi ategu hynny, a hefyd diolch i ti am dy ymgyrchu, a dy dad hefyd. Mae’n bwysig ein bod ni’n nodi pawb sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch bwysig hon. Mae’r mater o gyfiawnder yn rhywbeth a ddylai ein huno ni i gyd ar draws y Siambr yma; dydy o ddim yn rhywbeth sy’n bleidiol wleidyddol, mae o’n gyfrifoldeb arnon ni i unioni hynny.

Delyth, mi oeddet ti’n llygad dy le:

'Nid bonws yw pensiwn, ond cyflog wedi'i ohirio.'

Yn sicr. A byddwn i’n hoffi ategu’r hyn roeddet ti’n ei ddweud am Steffan Lewis a oedd yn ymgyrchu ar y mater hwn. Mae yna nifer o bobl o’n blaenau ni sydd wedi ymgyrchu’n galed a dwi eisiau ategu fy niolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.

Adam, o ran y gorffennol diwydiannol ac aberth ein cymunedau, mae'n bwysig cydnabod yr aberth a wnaed. Ni ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Ni ellir anwybyddu eironi'r ffaith eu bod yn gweithio yn y diwydiant glo ac wedi gorfod gwneud y dewis hwnnw. Mae a wnelo hyn ag urddas sylfaenol, ac rwy'n cytuno, dangos arweinyddiaeth go iawn yw'r hyn rydym yn galw amdano heddiw, ac i Lywodraeth Cymru nid yn unig eirioli, ond defnyddio pob ysgogiad, pob llwybr posibl i gywiro'r camwedd hwn.

Peredur, fe wnaethoch chi rannu geiriau John Benson—rwy'n siŵr y byddai John yn hoffi neidio i mewn i'r Siambr hon o'r cefn a dweud y geiriau hynny ei hun. Rwy'n ategu'r teyrngedau hynny i chi, a'ch tystiolaeth bwerus hefyd, ynglŷn ag effaith ymgyrchu dros yr hyn y mae gennych hawl iddo. Ni ddylech byth orfod gwneud hynny, ond rwy'n talu teyrnged i chi a phawb arall sydd wedi gwneud hynny.

I gloi, hoffwn atgoffa pawb fod y ddadl hon yn ymwneud â chydsefyll â'r rhai sydd wedi dioddef anghyfiawnder pensiwn, y mae pob un ohonom yma yn y Senedd hon wedi cael ein hethol i'w cynrychioli. Mae a wnelo â galw ar ein Llywodraeth yma yng Nghymru i bwyso ymhellach ac yn gryfach ar eu cymheiriaid Llafur yn San Steffan i weithredu.

Os yw'r ffordd goch Gymreig yn golygu unrhyw beth, profwch hynny. Os yw'r bartneriaeth mewn grym yn golygu unrhyw beth, profwch hynny. Mae a wnelo â galw ar bawb i wneud popeth sy'n bosibl, a dyna pam fy mod wedi gobeithio y gallem uno a chefnogi'r cynnig. Ond yn anad dim, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn gwrando nid yn unig ar y Senedd, ond ar y miliynau o bobl ledled y DU y mae cyfiawnder wedi'i wrthod iddynt hyd yma. Ac i bob ymgyrchydd, hoffwn gloi drwy ddweud hyn: mae eich brwydr yn bwysig i ni. Rydym yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg. Rydych chi'n haeddu cyfiawnder.

18:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Pleidleisiwn ar eitem 7, dadl Plaid Cymru: pensiynau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 12 yn ymatal a 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 24, Ymatal: 12

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff—

Na, mae hynny'n anghywir.

Gwelliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8906 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.

2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.

3. Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:

a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;

b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac

c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 23 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru: Pensiynau. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cymru ac Ewrop: Chwalu'r rhwystrau

Symudwn yn awr i'r ddadl fer heddiw, a galwaf ar Mick Antoniw i siarad.

Ddirprwy Lywydd, diolch am allu dod â'r pwnc pwysig hwn i'w drafod, ac rwyf wedi cytuno i neilltuo munud o amser i fy nghyd-Aelodau Rhianon Passmore, Carolyn Thomas ac Alun Davies. Gyda fy nghyd-aelodau o grŵp trawsbleidiol Cymru dros Ewrop, rwy'n croesawu'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU ar ddechrau'r broses o atgyweirio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Ar adeg pan fo'n ymddangos bod systemau gwleidyddol ac economaidd y byd wedi eu nodweddu gan ansicrwydd a gwrthdaro, a'r bygythiad gan Rwsia Putin, mae ymgysylltiad rhagweithiol Llywodraeth y DU a'r awydd am berthynas agosach eto â'n cyfeillion yn Ewrop yn cynnig rhywfaint o obaith go iawn.

Mae'r rhwystrau y dewisodd y DU eu codi o ganlyniad i Brexit wedi costio'n ddrud i ni i gyd. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, mae Brexit wedi dileu 4 y cant oddi ar ein cynnyrch domestig gros, mae allforion 15 y cant yn is ac mae nifer y busnesau sy'n methu wedi codi 52 y cant rhwng 2021 a 2023. Yn waeth byth, mae hyn i gyd yn effeithio ar Gymru'n anghymesur, ac mae bron i 60 y cant o'n masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, o'i gymharu ag ychydig dros 50 y cant ar gyfer y DU gyfan.

Er bod y bar yn isel i'w fesur yn ei erbyn o ystyried syrthni ac analluogrwydd y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol, serch hynny mae'r cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd a gyhoeddwyd ddydd Llun gan Lywodraeth Lafur y DU yn foment bwysig i'r DU ac i Gymru. Bydd cael gwared ar fiwrocratiaeth a'r gallu i fasnach bwyd a diod lifo'n haws yn cael ei groesawu gan fusnesau yng Nghymru, ac mae'n cael ei groesawu gan fusnesau yng Nghymru. Bydd y posibilrwydd o dreulio llai o amser yn ciwio ym meysydd awyr yr UE yn sicr yn rhyddhad i lawer, er bod bron bob un o'r cefnogwyr Brexit rwy'n eu hadnabod eisoes wedi cael eu pasbortau Undeb Ewropeaidd.

Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun symudedd ieuenctid arfaethedig yn dod yn realiti cyn bo hir, a dros amser, yn arwain yn amlwg at ryddid i symud i holl ddinasyddion y DU a'r UE. Mae datganiad Llywodraeth y DU yn dangos mai dyma ddechrau'r daith a ddaw â ni'n agosach ac yn agosach at Ewrop. Mae'n daith y mae'n rhaid inni ei gwneud gyda'n gilydd, gyda Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan lawn mewn perthynas â'r materion sydd wedi eu datganoli i Gymru. 

Bydd parch ac ymddiriedaeth rhwng yr UE a'r DU yn hanfodol wrth i'r broses ddatblygu, a rhaid i'r parch a'r ymddiriedaeth honno hefyd ymestyn i berthynas Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r rhwystrau Brexit yn atal gallu pobl i astudio, i ennill profiadau bywyd ac ennill bywoliaeth. Mae'r broses o ddatgymalu'r rhwystrau wedi dechrau, ac rwy'n siŵr y caiff ei chroesawu gan fusnesau, undebau llafur a sefydliadau'r trydydd sector ledled Cymru.

Rhaid i fasnach a diogelwch fod yn flaenoriaeth uchel, ond hefyd rhaid cael gwared ar y rhwystrau o ddydd i ddydd sy'n cyfyngu ar allu pobl i deithio, gweithio ac astudio yn Ewrop. Yng Nghymru, fel gyda'r DU gyfan, mae effaith economaidd a diwylliannol ynysu ein hunain oddi wrth ein partner masnachu mwyaf wedi bod yn enfawr. Nododd adroddiad 2024 UK Music fod y diwydiant cerddoriaeth wedi cyfrannu £4.6 biliwn mewn allforion ac wedi cyflogi dros 200,000 o bobl. Dyma sector sydd wedi cael ei daro'n wael gan Brexit yma yng Nghymru ac ar draws y DU. Datgelodd arolwg blynyddol UK Music o'i aelodau yn 2023 fod 87 y cant o'r ymatebwyr wedi gweld eu henillion yn lleihau ers gadael yr Undeb Ewropeaidd. Chwe mis yn ôl, fe wnaeth adroddiad 'Sioc ddiwylliannol: Diwylliant a'r berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd' y pwyllgor diwylliant nodi'r rhwystrau Brexit i artistiaid teithiol. Rhaid i weithwyr creadigol y DU sy'n teithio yn yr UE weithio drwy 27 set o reolau sy'n aml yn gymhleth. Mae'n straen enfawr ar adnoddau, amser ac arian. Mae'r rheol Schengen 90 o 180 diwrnod, er enghraifft, yn arwain naill ai at golli gwaith neu at yr angen i adnewyddu fisâu artist sawl gwaith. Mae'n ofynnol i artist perfformio, er enghraifft, gaffael pasbort nwyddau ar gyfer, dyweder, offeryn sy'n costio rhwng £200 a £500, ynghyd â blaendal diogelwch yn seiliedig ar ei werth. 

Mae mynediad i'r UE yn hynod bwysig i artistiaid Cymru, ac fel y mae'r undeb llafur Bectu wedi nodi, nid yw unrhyw gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael yn y DU yn cydbwyso'r gwaith a gollir yn yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ffordd, ond mae'r rhwystrau'n niferus. I artistiaid ifanc, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol gan fod cyflogwyr yn Ewrop yn aml yn anfodlon ysgwyddo'r costau gweinyddol ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflogi dinesydd o'r DU. Roedd Tom Kiehl, prif weithredwr UK Music, yn glir am effaith Brexit ar y diwydiant cerddoriaeth, gan ddweud, 'I gerddoriaeth, roedd Brexit yn Brexit "heb gytundeb". Mae angen cytundeb gwell ar frys i weithwyr creadigol, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i'r mater hwn yn ei rownd nesaf o drafodaethau.'

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â llawn cymaint o ffocws ar gefnogi ein diwydiannau creadigol, ac fel rhan o'i hawydd i gael perthynas mor agos â phosibl, mae'r Prif Weinidog wedi nodi ailymuno ag Ewrop Greadigol a mynd i'r afael â phroblemau'n gysylltiedig â symudedd gweithwyr fel amcanion allweddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog y DU i ailymuno â'r rhaglen Erasmus+ ac i gydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol.

Efallai mai pobl iau sydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i Brexit. Maent wedi'u hamddifadu o'r rhyddid i deithio a'r rhyddid addysgol a fwynhawyd gan ein cenhedlaeth ni. Nid oedd gan y mwyafrif lais, wrth gwrs, gan mai dim ond saith oed oedd pobl ifanc 16 oed heddiw pan gynhaliwyd refferendwm Brexit. Ein lle ni yw unioni pethau i'n pobl ifanc, a dyna pam y mae angen i bawb ohonom ei gwneud yn flaenoriaeth i'r DU ailymuno â chynllun Erasmus. Roedd cyflwyno rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Taith gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i gymryd lle Erasmus+ yn fenter bwysig sydd wedi caniatáu i fyfyrwyr a staff Cymru astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor. Rydym hefyd wedi elwa o'r ffaith bod dysgwyr ac addysgwyr ledled y byd yn parhau i ddod i Gymru. Fodd bynnag, ni all Taith ddarparu'r un cwmpas a nifer o gyfleoedd ag y mae Erasmus+ yn ei gynnig. Bydd ymuno ag Erasmus+ a chynllun i ieuenctid allu symud yn rhydd yn helpu i ddatblygu pobl ifanc fwy hyderus, mwy galluog, a fydd, yn ei dro, o fudd i'n heconomi, ein diwylliant a'n statws fel cenedl Ewropeaidd.

Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir: mae rhwystrau Brexit fel llindag diangen wedi'i glymu am wddf y wlad, gan dagu masnach, mygu cyfleoedd a chyfyngu ar ein dylanwad ledled y byd. Mae Llywodraeth y DU ar drywydd a ddaw â rhyddhad yn gyntaf, a chyfle a ffyniant yn sgil hynny. Mae Llywodraeth y DU i'w llongyfarch ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn barod i weithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynnydd yn digwydd mor gyflym â phosibl a bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli'n gadarn. Rwy'n annog pob Aelod yma a phobl sy'n gwylio i gefnogi'r dechrau newydd hwn i Gymru a'r DU wrth inni leihau'r rhwystrau. Diolch yn fawr.

18:10

Diolch i Mick Antoniw, yr Aelod dros Bontypridd, am roi cyfle i mi gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw.

Roedd cerddorion, myfyrwyr ac ensembles o Gymru unwaith yn rhan o ddeialog ddiwylliannol ffyniannus gydag Ewrop, ond mae Brexit caled wedi adeiladu rhwystrau sydd bellach yn tawelu'r llais hwnnw, er gwaethaf ein rhagoriaeth ryngwladol enwog ledled y byd. Rhaid i gerddorion sy'n teithio Ewrop ymrafael â biwrocratiaeth a chostau mawr wrth wneud cais am fisâu unigol neu drwyddedau gwaith ar gyfer pob gwlad yn yr UE y byddant yn ymweld â hi. Ar ben hynny, mae angen trwyddedau unigol ar wahân, fel y nodwyd, i gludo offerynnau ac offer. Meddyliwch beth y mae hynny'n ei olygu i Opera Cenedlaethol Cymru neu gynhyrchiad cerddorfa symffoni BBC Cymru os gwnawn y fathemateg. Ar ben hynny, mae'r rheolau'n wahanol ym mhob gwlad, gan wneud teithiau Ewropeaidd yn gymhleth, yn gostus ac yn anymarferol. Yn ôl Undeb y Cerddorion, cofnododd 72 y cant o gerddorion ostyngiad mewn incwm UE ers Brexit ac mae 59 y cant wedi nodi nad oedd teithio'r UE bellach yn ymarferol yn ariannol iddynt.

Mae'r presenoldeb diwylliannol hwnnw ledled Ewrop yn pylu. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y cynllun symudedd ieuenctid a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Lafur y DU, cynllun a fydd yn mynd rywfaint o'r ffordd i leihau'r anawsterau presennol. Mae synnwyr cyffredin yn dechrau gwreiddio. Bydd yn symleiddio logisteg teithio i gerddorion ac yn ehangu cyfleoedd addysgol i'n myfyrwyr yn Ewrop. Ond bydd angen gwneud llawer mwy. Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jack Sargeant, 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024-2030' Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi:

'Dylai...datblygu cysylltiadau diwylliannol drwy gyfnewid arferion a phrofiad diwylliannol, creadigol ac artistig fod yn rhan annatod o’r ffordd y mae Cymru’n datblygu cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol gyda rhanbarthau a gwledydd eraill.'

Mae proffil diwylliant yn cael ei godi trwy ddathlu a hyrwyddo diwylliant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Felly, gyda'n gilydd mae'n rhaid inni frwydro dros ddyfodol lle mae creadigrwydd a phobl greadigol Cymru yn gallu teithio'n rhydd, astudio'n eang a chael eu dathlu ar lwyfannau Ewrop unwaith eto. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod am ei gyflwyniad i'r ddadl hon. Rwy'n credu bod Mick Antoniw wedi nodi llawer o'r trychinebau sydd wedi digwydd i bobl Cymru a mannau eraill o ganlyniad i Brexit yn glir iawn. Mae'n drueni na allai unrhyw un o'n cyfeillion Ceidwadol fod wedi aros i glywed y ddadl yn ei chyfanrwydd. Edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyntiau a wnaeth Mick Antoniw ac rwy'n gobeithio, wrth wneud hynny—rwy'n gwybod ei bod hi'n Ewropead cadarn ac mae hi wedi siarad yn bwerus iawn am ei phrofiad fel Gweinidog a'r ffordd y mae Brexit wedi tanseilio masnach ac economi Cymru—y bydd hi'n gallu amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith nawr i gryfhau lle Cymru yn Ewrop ac i lunio strategaeth Ewropeaidd, strategaeth yr UE ar gyfer ymgysylltu â'r sefydliadau ar ôl y cytundebau a luniwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan fod gennym gyfle nawr, rwy'n credu, i gywiro rhai o gamgymeriadau'r blynyddoedd diwethaf, ac i ddechrau rhoi ein perthynas â sefydliadau a gwledydd, cenhedloedd a rhanbarthau Ewrop yn ôl ar sail gadarn. Rwy'n gobeithio ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet a ffrindiau eraill yn y Siambr hon sy'n ymgyrchu i ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd.

18:15

Diolch am funud o'ch amser, Mick. Gwnaed addewidion i bobl Cymru adeg y bleidlais Brexit. Cawsom addewid y byddem yn adfer rheolaeth ac na fyddem geiniog yn waeth ein byd, gydag arian ychwanegol i'r GIG wedi'i argraffu ar ochr bws. Gwelsom nad oedd y sloganau hyn yn ddim byd mwy na rhyfyg, a rhoddodd y Torïaid draed moch o Brexit i ni na chreodd ddim byd heblaw mwy o rwystrau i ffyniant.

Roedd Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o'r UE. Mae torri dros £1 biliwn o gyllid yr UE i Lywodraeth Cymru wedi effeithio ar sefydliadau a phobl ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Mae hyn wedi cynnwys diwedd ar £243 miliwn y flwyddyn o'r UE ar gyfer taliadau ffermio. Mae ffrydiau cyllido newydd fel arian ffyniant bro wedi rhoi straen enfawr ar adnoddau awdurdodau lleol, ac wedi methu darparu'r hwb y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.

Gwrthodwyd dau gais blaenoriaeth uchel yn Wrecsam a sir y Fflint ddwy waith wrth i'r gystadleuaeth boethi ac wrth i arian ddod yn fwy cyfyngedig. Rydym wedi colli llawer iawn o gyllid Ewrop Greadigol hefyd. Mae'r holl botiau hyn wedi cynyddu ar gyfer aelodau sy'n rhan o'r UE. Yr UE yw ein cymydog agosaf ac rwy'n falch fod Llywodraeth Lafur y DU yn ôl yn adeiladu cysylltiadau ac yn chwalu rhwystrau masnach, gan droi traed moch o Brexit yn un sy'n dda i Gymru, ein heconomi a'n pobl.

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans. 

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i Mick Antoniw am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma, ac am roi cyfle i Lywodraeth Cymru nodi sut rydym yn chwalu'r rhwystrau a adeiladwyd dros y pum mlynedd diwethaf pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein perthynas wedi'i hadeiladu ar werthoedd a rennir, parch ac ymrwymiad cyfunol i fynd i'r afael â heriau dybryd ein hoes. Fel cenedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, mae Cymru bob amser wedi ceisio meithrin cysylltiadau ystyrlon â'n cymdogion. Er gwaethaf cymhlethdodau'r blynyddoedd diwethaf, mae hyn sy'n ein rhwymo wedi tyfu'n gryfach mewn gwirionedd, ac yn seiliedig ar gydweithio mewn meysydd hanfodol fel yr economi, masnach ac awydd am well symudedd ieuenctid.

Wrth gwrs, mae'r ddadl yn amserol iawn. Ddydd Llun roeddwn yn 10 Stryd Downing gyda'r Prif Weinidog, Cabinet y DU ac arweinwyr busnes o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru, a chynrychiolwyr yr UE. Roeddem yn ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn gynharach y diwrnod hwnnw yn yr uwchgynhadledd rhwng arweinwyr y DU a'r UE pan wnaed nifer o gyhoeddiadau pwysig iawn, gan gynnwys mwy o gydweithredu mewn perthynas ag amddiffyn a diogelwch, ar fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, masnach a thwf economaidd a symudedd ieuenctid. Mae'r cytundebau hyn yn dyst i'r awydd ar y ddwy ochr a phob ochr i ailosod y berthynas â'r UE, ac adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru ac i weddill y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fanteisio ar bob cyfle i wneud yr achos dros well perthynas rhwng y DU a'r UE, ac rydym wedi defnyddio ein strwythurau rhynglywodraethol yn effeithiol iawn, fel y grŵp rhynglywodraethol ar yr UE, i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer ailosod y berthynas rhwng y DU a'r UE. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig nawr yw beth sy'n dod nesaf. Mae llawer o'r pethau sydd wedi'u cytuno, a fydd yn arwain at drafodaethau pellach gyda'r UE, mewn meysydd sydd i'w cyflawni gan y Llywodraethau datganoledig, yn enwedig yn y maes iechydol a ffytoiechydol, lle byddwn yn gweld gwelliannau o ran amaethyddiaeth, bwyd a diod.

Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd hynny nawr i archwilio beth yw'r strwythurau cywir i wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i ddylanwadu ar y trafodaethau hynny ac i fod yn rhan o'r trafodaethau hynny, ac i ddatblygu ein perthynas â'r UE ymhellach nawr. Rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau wedi sôn am y syniad o strategaeth o'r blaen, ac rwyf wedi dweud yn flaenorol ei fod yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb mawr yn ei archwilio ymhellach. Wrth inni symud i'r cam nesaf yn y berthynas, rwy'n credu mai dyma'r amser iawn i archwilio beth fyddai'r ffordd orau o gael perthynas fwy strategol gyda'r UE, o ystyried y byddwn yn gyfrifol am gyflawni llawer nawr, neu rai rhannau fan lleiaf, o'r hyn a gytunwyd yn yr uwchgynhadledd.

Ac wrth gwrs, yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf o hyd, a thrwyddi y ceir y gyfran fwyaf o'n hallforion a'n mewnfuddsoddiad. Wrth gwrs, mae'r berthynas economaidd hon yn ymwneud â mwy na thrafodiadau ariannol yn unig, mae'n dyst i dynged gydblethedig ein cenhedloedd. Er mwyn sicrhau bod y cysylltiadau hyn yn parhau i fod yn gadarn, fe wnaethom gadw ein presenoldeb penodol ym Mrwsel, gan ymgysylltu'n weithredol â sefydliadau'r UE, i gynrychioli buddiannau Cymru mewn polisi, masnach a buddsoddiad. Un enghraifft yn unig o ble mae gan Gymru rôl flaenllaw yn llunio'r cysylltiadau hynny ag Ewrop a'u rhoi ar sail gadarnhaol yw llwyddiant parhaus Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol.

Yn 2023 fe wnaethom gynnal cynulliad cyffredinol Comisiwn Bwa'r Iwerydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, a ddaeth â Gweinidogion ac arweinwyr rhanbarthol ynghyd i drafod cydweithrediad rhyng-ranbarthol yn ardal yr Iwerydd. Roedd y digwyddiad hwnnw'n garreg filltir, nid yn unig ar gyfer arddangos ymrwymiad Cymru i'r Gymuned Ewropeaidd, ond hefyd o ran ffurfio partneriaethau sy'n tanio arloesedd economaidd a thwf. Ymwelodd Comisiwn Bwa'r Iwerydd â gogledd Cymru yn gynharach y mis hwn, fel rhan o'r prosiect peilot dwy flynedd a ariennir gan yr UE, ac roedd yno 25 o gynrychiolwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o Bortiwgal, Sbaen, Gwlad y Basg ac Iwerddon. Fe wnaethant ymweld â'n Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, Prifysgol Bangor a phorthladd Mostyn i ddysgu am ddull Cymru o weithredu ar bynciau fel ynni adnewyddadwy a'n heconomi gylchol.

Rydym yn buddsoddi'n helaeth yn yr economi werdd. Mae cyhoeddiadau diweddar, megis buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Copenhagen Infrastructure Partners mewn prosiectau gwynt ar y tir yng Nghymru, yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn helpu Cymru i gyflawni ein nodau sero net erbyn 2050, bydd hefyd yn creu swyddi a grymuso cymunedau lleol, gan arddangos sut y gall cydweithio alinio â'n hamcanion amgylcheddol ehangach. Ac wrth gwrs, newid hinsawdd yw un o broblemau mwyaf dybryd ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ef yn galw am weithredu ar y cyd. Rydym wedi rhoi sefydlogrwydd amgylcheddol a chynaliadwyedd wrth wraidd ein polisïau, gyda'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn fodel sy'n torri tir newydd. Wrth gwrs, eleni yw dengmlwyddiant y ddeddfwriaeth arloesol honno, y gwyddom ei bod wedi dal dychymyg llunwyr polisi ledled Ewrop. Fe wyddom ei bod yn fwy na dim ond deddfwriaeth, mae'n feddylfryd, ac mae'n ymrwymiad parhaol i adael byd gwell i genedlaethau'r dyfodol.

Felly, mae masnach yn parhau i fod yn gonglfaen i berthynas Cymru ag Ewrop, er ei bod wedi wynebu heriau gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn darparu fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhwng y DU a'r UE, ond wrth gwrs, nid yw heb ei gyfyngiadau. Rydym wedi dadlau'n gyson dros addasiadau i leihau rhwystrau masnach ac i wella mynediad i'r farchnad i fusnesau. Dyna pam fy mod mor falch fod rhai o'n prif flaenoriaethau allweddol yn y gofod masnach wedi'u hadlewyrchu yn y cyhoeddiadau a wnaed ddydd Llun. Bydd y cytundeb iechydol a ffytoiechydol yn allweddol i gael gwared ar y rhwystrau i gynhyrchion bwyd a diod amaethyddol, a bydd y camau hyn yn lliniaru beichiau rheoleiddiol ac yn dileu rhai o'r rhwystrau i gynhyrchwyr Cymru, gan sicrhau y gellir allforio ein nwyddau Cymreig o ansawdd uchel i Ewrop yn haws.

Efallai mai un o'r ffyrdd mwyaf dwys y gallwn gryfhau ein perthynas ag Ewrop yw buddsoddi yn ein pobl ifanc, ac mae llai o ryddid i symud o fewn yr UE wedi creu heriau, ond mae Cymru wedi ymateb gyda gwydnwch a dyfeisgarwch. Mae ein rhaglen Taith yn enghraifft ddisglair o'r ymrwymiad hwn, oherwydd mae wedi galluogi miloedd o ddysgwyr i brofi pŵer trawsnewidiol symudedd addysgol. Mae'r profiadau hyn yn helpu i ehangu eu gorwelion, gan feithrin ymdeimlad o bosibiliadau ac uchelgais a fydd yn siapio dyfodol ein pobl ifanc. Rydym wedi eirioli dros sefydlu cynllun symudedd ieuenctid rhwng y DU a'r UE, ac rydym yn gwybod y byddai'r cynllun hwnnw'n caniatáu i bobl ifanc gael cyfleoedd amhrisiadwy i astudio, gweithio a chysylltu ar draws ffiniau. Felly, roeddem yn falch iawn o weld y gydnabyddiaeth i hynny. Ac mae'n sylfaen ar gyfer dealltwriaeth ddiwylliannol ddyfnach ac undod rhwng cenhedloedd, yn ogystal â buddsoddiad yn eu dyfodol. Felly, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd gwaith yn digwydd i sefydlu ymrwymiad ar y cyd i negodi cynllun symudedd ieuenctid. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y cynllun hwnnw o fudd i Gymru, ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl ifanc o'r UE i Gymru i weithio, i astudio ac ar gyfer interniaethau ac arosiadau pwrpasol eraill. 

Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi profi gwydnwch ein perthynas ag Ewrop. Cawsom Brexit, y pandemig byd-eang a'r rhyfel yn Wcráin, ac mae'r rhain i gyd wedi creu aflonyddwch digynsail, ond yng nghanol yr holl heriau hyn, rydym wedi parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i gydweithio ac i gefnogi ein gilydd. Ac mae'r rhyfel yn Wcráin wedi tynnu sylw at bwysigrwydd yr undod rhyngwladol hwnnw. Mae Cymru wedi gweithredu fel cenedl noddfa, gan ddarparu lloches i filoedd o bobl yr effeithiwyd arnynt gan wrthdaro, ac mae ein partneriaethau â chenhedloedd Ewrop wedi bod yn hollol allweddol wrth gydlynu'r ymdrechion hyn ac ailddatgan ein dynoliaeth gyffredin mewn cyfnod o argyfwng.

Felly, gan edrych tua'r dyfodol, mae ailosod y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn cynnig cyfle i ni greu llwybrau newydd. Mae Cymru'n falch o fod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein cysylltiadau yn y blynyddoedd i ddod. Boed hynny trwy bartneriaethau economaidd, arweinyddiaeth amgylcheddol, masnach neu drwy gynnig y cyfleoedd gorau i'n pobl ifanc, bydd ein cydweithrediad ag Ewrop yn parhau i ysbrydoli cynnydd a ffyniant. A thrwy ganolbwyntio ar atebion ymarferol i heriau cyffredin, gallwn adeiladu dyfodol gyda'n gilydd sydd o fudd i bawb.

18:25

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch, Mick. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26.