Y Cyfarfod Llawn

Plenary

13/05/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Toriadau Lles Llywodraeth y DU

1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl yng Nghymru y mae toriadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt? OQ62715

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan ddiwygiadau lles yn gallu cael mynediad at gymorth. Gallai hynny fod yn gymorth i gael gwaith addas a chadw swydd, neu gyngor diduedd ac arbenigol am eu hawliau drwy wasanaethau’r gronfa gynghori sengl.

13:35
13:40
Plant sydd wedi cael eu Cam-drin

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin? OQ62696

13:45

Fel y gwyddoch chi, cafwyd achos erchyll o gamdriniaeth rywiol mewn ysgol yn fy etholaeth i, a bellach mae'r pedoffeil Neil Foden yn y carchar. Mae'r dioddefwyr ar ein meddyliau ni'n gyson, ac mae Cyngor Gwynedd wedi pasio cynnig yn ddiweddar i gefnogi ymgyrch o'r enw 'Not My Shame/Nid Fy Nghywilydd'. Mae'r ymgyrch am i ni ddatgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr ydy camdriniaeth rywiol, ond cywilydd y troseddwr. Gisèle Pelicot ddywedodd, 'Mae'n rhaid i gywilydd newid ochrau.' Yn aml iawn, mae dioddefwyr trais rhywiol yn cario cywilydd y drosedd yn ogystal â phoen dwfn efo nhw am weddill eu hoes. A wnewch chi felly ystyried rhoi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ymgyrch 'Not My Shame/Nid Fy Nghywilydd' er mwyn rhoi'r cywilydd yn ôl lle dylai fod, sef ar ysgwyddau'r troseddwr? Mi fyddai cefnogi'r ymgyrch yn cynnwys nodi diwrnod ym mis Mai fel diwrnod i gofio am ddioddefwyr bob blwyddyn. Diolch.

Diolch yn fawr, Siân. Mae nifer o bobl wedi dioddef yn eich ardal chi o ganlyniad i'r pethau erchyll sydd wedi digwydd yn yr ysgol yn fanna. Rŷch yn eithaf reit fod angen i ni sicrhau bod y cywilydd ar y troseddwyr, ac nid ar y bobl sydd wedi dioddef. Gaf i edrych mewn i hwnna jest i weld pa mor bell gallwn ni fynd ac a oes yna rywbeth arall rŷn ni'n ei wneud sydd yn golygu ein bod ni'n methu ei wneud e? O ran egwyddor, does dim gyda fi yn erbyn e, ond cawn ni weld os yw'n bosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

13:50

Diolch, Llywydd, a dwi hefyd yn anfon cydymdeimlad dwysaf Plaid Cymru i deulu ac anwyliaid Claire O'Shea, a dwi am ddiolch iddi hi am bopeth y gwnaeth hi i roi gwell cyfle i eraill yn y frwydr yn erbyn canser.

13:55

I droi at bwnc arall fu unwaith yn agos at galon y Prif Weinidog, mae hi'n ddwy flynedd i'r wythnos yma ers iddi agor labordy monitro dŵr gwastraff newydd ym Mhrifysgol Bangor yn dilyn buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mi wnaeth y ganolfan gwaith amhrisiadwy, wrth gwrs, yn ystod y pandemig COVID, yn monitro lledaeniad y feirws ac adnabod streiniau gwahanol ohono fo'n gynnar ac ati, ond mae o'n gallu gwneud gymaint mwy na hynny. Mi ddywedodd y Prif Weinidog ar y pryd fod y dechnoleg yma, sy'n flaenllaw drwy'r byd, yn mynd i allu bod yn allweddol yn llywio sut y byddwn ni'n ymateb i heriau iechyd yn y dyfodol. All y Prif Weinidog gadarnhau faint o gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r ganolfan heddiw?

Wel, rŷn ni wedi rhoi cefnogaeth i'r ganolfan, ond y ffaith oedd mi wnaethon nhw waith arbennig o dda yn ystod y pandemig ym Mangor gydag asesu'r dŵr gwastraff a beth oedd yn y dŵr, fel ein bod ni'n gallu bod yn ymwybodol am faint o COVID oedd yn y gymuned, ond mi oedd yn rhaid inni wneud penderfyniadau caled iawn ar ôl y pandemig, achos bod cymaint o doriadau wedi dod ar ôl hynny o gyfeiriad Llywodraeth y Torïaid. Felly, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau caled, ond rŷn ni'n dal i fuddsoddi yn y ganolfan.

Nac ydych. Y gwir ydy bod y Llywodraeth wedi tynnu ei chefnogaeth ariannol yn ôl yn llwyr, a dwi'n cofio perswadio'r Gweinidog iechyd ar y pryd i adfer ar ôl torri arian y tro diwethaf. Dwi'n gorfod gwneud hynny eto. Tra bod Llywodraethau eraill yn dal i ddibynnu ar y dechnoleg, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd o fod yn un o'r prif bartneriaid i beidio chwarae rhan o gwbl, enghraifft wych o weithio mewn seilo a meddylfryd byr dymor sydd wedi bod mor nodweddiadol, onid ydy, o'r Llywodraeth Lafur yma.

14:00
Diffodd y Rhwydwaith Ffôn Copr

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diffodd y rhwydwaith ffôn copr ar drigolion Cymru? OQ62706

Mae diffodd y rhwydwaith ffôn cyhoeddus analog yn waith sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am delathrebu—telecommunications. Er hynny, mae fy swyddogion yn arwain ar waith i sicrhau bod cyrff cyhoeddus Cymru a’u gwasanaethau yn barod ar gyfer y diffodd.

Mae'n bwysig i gydnabod, wrth gwrs, fod Cymru yn fwy bregus o ran y diffodd yma, gan fod yna ganran uwch o bobl hŷn gyda ni ac mae yna ganran uchel o bobl yn byw mewn cymunedau gwledig sydd heb ffeibr o gwbl. Ydy'r Llywodraeth wedi edrych yn benodol ar y broblem o ran dyfeisiadau teleofal, er enghraifft, a sut mae'r rheini'n mynd i weithio, yn arbennig mewn sefyllfa o doriadau pŵer, sy'n mynd i fod yn fwyfwy cyffredin yn y dyfodol, gan fod yr amserlen wedi ei gohirio unwaith yn barod oherwydd bod pobl ddim yn teimlo'n sicr ar hyn o bryd fod y problemau yna wedi eu datrys? A fyddwch chi'n cael addewid gan Openreach ac Ofcom y bydd gohiriad pellach oni bai bod y materion hyn yn cael eu datrys?

Hefyd, o ran cysylltu mwy o gymunedau i ffeibr, a ydych chi'n gallu cadarnhau bod y prosiect Allwedd Band Eang Cymru, oedd wedi ei oedi, wedi ei ailagor o ran grantiau? Hefyd, pa bryd y bydd y prosiect dilynol o ran Cyflymu Cymru, y £70 miliwn sydd yn dal yn y pot, yn cael ei ddefnyddio er mwyn cysylltu cymunedau sydd yn dal heb ffeibr ar draws Cymru?

Diolch yn fawr. Bydd y rhwydwaith ffôn yn cael ei ddiffodd erbyn mis Ionawr 2027—hynny yw, y gwifrau sydd fel arfer yn mynd mewn i dai pobl yn y ffordd draddodiadol roedd ffonau yn cael eu defnyddio. Rŷn ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ar bethau fel larymau teleofal, lifftiau, ac yn y blaen. Felly, mae lot fawr o waith yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer hyn. Mae diffodd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan y diwydiant. Mae'r cyfrifoldeb polisi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae gennym ni'r public sector readiness working group wedi ei sefydlu, ac rŷn ni'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn aml iawn, rŷn ni'n codi cwestiynau fel sut mae hwnna'n cysylltu o ran y larymau teleofal yma, ac am sut mae'n cysylltu â phŵer hefyd. Felly, mae'r rhain i gyd, cyd-gysylltu'r rheini, yn rhan bwysig hefyd.

14:05
Buddsoddiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo? OQ62694

Ariannu Gwasanaethau Iechyd Cynradd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu gwasanaethau iechyd cynradd? OQ62718

Yn ystod 2024-25, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi cyllid gwerth dros £1.1 biliwn i fyrddau iechyd i fuddsoddi yn y pedwar gwasanaeth gofal sylfaenol, sef gwasanaethau meddygol cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol cyffredinol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd iechyd Llywodraeth San Steffan dros £100 miliwn er mwyn buddsoddi mewn i feddygfeydd teuluol yn Lloegr. Fe gyfeiriodd Wes Streeting at arian sy’n dod drwy godiadau cyfraniadau yswiriant gwladol fel ffynhonnell yr ariannu yma. A all y Prif Weinidog gadarnhau os ydy’r gwariant yma am gael ei Barnett-eiddio, os oes yna swm cyfatebol am ddod i Gymru, hynny ydy, a pha gynrychiolaeth y mae’r Llywodraeth yma wedi’i gwneud i Lywodraeth San Steffan ynghylch hyn?

Diolch yn fawr. Rŷn ni wedi buddsoddi lot mewn meddygaeth teulu. Y ffaith yw bod yna £52 miliwn yn ychwanegol i GPs eleni. Rŷn ni wedi bod yn helpu ariannu ac mae gennym ni bot sylweddol sydd yn helpu i ddatblygu surgeries ar draws Cymru, ac mae hwnna’n rhedeg i lot mwy na £100 miliwn. Felly, rŷn ni eisoes yn gwneud y gwaith yma yng Nghymru.

14:10
Mentrau Diogelwch ar y Ffyrdd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar fentrau diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd? OQ62717

14:15
Teuluoedd sy'n Magu Plant Anabl

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i deuluoedd sy'n magu plant anabl? OQ62676

Cyflenwi Darpariaeth Hamdden

8. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â chyflenwi darpariaeth hamdden? OQ62678

14:20
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf, eitem 2, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Rhys ab Owen.

Y Gweithgor Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62685

14:25
Diogelwch Tomenni Glo

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau'r ffaith bod glo yn fater a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ei gallu i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo? OQ62690

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard. 

14:35
For Women Scotland Ltd v. Gweinidogion yr Alban

3. Pa asesiad cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r newidiadau y bydd angen i'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu gweithredu mewn ymateb i'r dyfarniad yn yr achos For Women Scotland Ltd v. Gweinidogion yr Alban? OQ62674

14:40
Gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

4. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rôl awdurdodau lleol wrth weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016? OQ62683

Diwygiadau Arfaethedig i Dribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd Cymru? OQ62686

14:45
Ymgyrch Pensiynau Menywod

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ62677

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 sydd nesaf, a'r datganiad a chyhoeddiad busnes yw hwn. Y Trefnydd, felly, sy'n gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:49:29
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd adroddiad damniol am gyfres o ffaeleddau yn ymwneud ag arweinyddiaeth, diwylliant, ymddygiad a methiant i gadw at bolisïau a threfniadau diogelwch yn ysbyty athrofaol Caerdydd. Er y bu trafodaeth fer am hyn yn ystod y cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos diwethaf, gyda Mabon ap Gwynfor yn gofyn cwestiwn, dwi'n credu, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ein bod ni angen cyfle ar lawr y Senedd hon i'w drafod, a byddwn i'n ddiolchgar pe baech chi'n creu amser yn yr amserlen i sicrhau hynny.  

14:55

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch eich bwriad i sicrhau bod cyfnod COVID-19 a phenderfyniadau'r Llywodraeth am gael eu craffu yn llawn? Wrth gwrs, dylem fod wedi gweld ymrwymiad gan y Llywodraeth yma i gael ymchwiliad annibynnol i ddechrau, ond fe wrthodwyd hynny, ac fe ddaeth y Llywodraeth a'r Ceidwadwyr i fyny â ffordd o osgoi craffu yn llwyr gan warchod buddiannau y ddwy Lywodraeth ar y pryd trwy greu pwyllgor arbennig yma yn y Senedd a gobeithio y byddai'r cyfan yn cael ei gicio lawr y ffordd. Ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r pwyllgor, drwy waith prifysgolion Abertawe a Nottingham Trent, wedi adnabod naw bwlch amlwg yn ymchwiliad y Deyrnas Gyfunol—bylchau sydd yn haeddu cael eu craffu. Canlyniad hyn? Wel, y canlyniad ydy bod y ddwy blaid sydd am osgoi cael eu Gweinidogion wedi craffu wedi arwain at sefyllfa lle nad oes craffu o unrhyw fath yn digwydd ar hyn o bryd. A gawn ni, felly, ddatganiad am beth ydy bwriad y Llywodraeth yma i sicrhau bod y penderfyniadau a wnaed adeg COVID yn cael eu craffu a bod y gwersi yn cael eu dysgu?

15:00
15:05
15:10
15:15
15:20
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefi ac Adfywio Canol Trefi

Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Trawsnewid Trefi ac adfywio canol trefi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

15:25
15:30
15:35

Diolch am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r cyllid ychwanegol—mae ei angen yn fawr ar gyfer adfywio trefi ledled y wlad. Dwi'n arbennig o falch o'r arian ar gyfer cynllun GISDA yng Nghaernarfon, yn fy etholaeth i. Ro'n i'n digwydd bod yn un o sylfaenwyr yr elusen GISDA, rai blynyddoedd yn ôl. Gaf i ofyn i chi am ddiweddariad ar y cynllun canolfan iechyd a llesiant ym Mangor, os gwelwch yn dda?

Yn anffodus, mi fydd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn ergyd drom i'n strydoedd mawr a'n busnesau bach. Ydych chi wedi gwneud asesiad o'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar gynaliadwyedd busnesau yng nghanol ein trefi ni? Mae'r cynnydd yswiriant gwladol wedi dod yn ychwanegol, wrth gwrs, at ostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes, felly cosb ddwbl i fusnesau, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Os ydy'r Llywodraeth yma wir eisiau adfywio strydoedd mawr, un o'r prif arfau sydd gan Lywodraeth Cymru ydy amrywio ardrethi busnes. Dwi'n methu deall pam nad ydy'r Llywodraeth ddim wedi mynd ati i amrywio'r lluosydd i roi mantais i fusnesau bach lleol dros ddatblygiadau mawr y tu allan i'r dref. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn bod angen diwygio'r system, ac rŵan mae angen symud ymlaen i ddefnyddio ardrethi busnes i'r pwrpas penodol o annog twf yn y sector busnesau bach lleol yng nghanol ein trefi ni.

Mae eiddo gwag yn graith ar ein strydoedd mawr, gydag un o bob chwe uned yn wag. Yng nghanol yr argyfwng tai, rydym yn gweld lleoedd gwag, lleoedd y gellid eu trawsnewid yn dai y mae mawr eu hangen, a thai cymdeithasol hefyd. Mae angen cyflymu'r broses o ddod â'r lleoedd gwag yma yn ôl i ddefnydd. Mae cymdeithas y tenantiaid, TPAS, wedi awgrymu bod angen hyblygrwydd o ran dod ag eiddo yng nghanol ein trefi ni sydd yn wag ac sydd yn addas ar gyfer bod yn gartrefi yn y sector tai cymdeithasol i fyny i safon. Ydych chi'n ystyried hynny?

Rydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau angori fel y banciau a swyddfeydd post yn hollbwysig, ond mae hi yn warthus, onid ydy, gweld y ffordd y mae Swyddfa'r Post yn troi ei chefn ar wasanaethau yn ein trefi ni. Mae hynny'n cynnwys yng Ngwynedd, lle rydyn ni wedi gweld y swyddfa bost yng Nghricieth yn cau a'r bygythiad i swyddfa bost y Goron yng Nghaernarfon, yn ogystal â gwasanaethau symudol yn cael eu torri. Beth ydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i herio Swyddfa'r Post a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu gwasanaethau ar ein strydoedd mawr ni?

Yn olaf, dwi'n troi at fater pwysig arall, sef cludiant. Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn allweddol i alluogi pobl i wneud defnydd o'r stryd fawr a'i gwasanaethau. Mae gwaith gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn dangos pa mor bwysig ydy hyn i ddinasyddion a pherchnogion busnes, ac mae'n rhy hawdd mynd i unedau manwerthu tu allan i'r dref, efo parcio am ddim ac yn y blaen, o'i gymharu efo cyrraedd canol ein trefi. Dwi yn gobeithio bod y Bil bysiau yn cynnig cyfle mawr i fynd i'r afael â'r materion yma a chefnogi trafnidiaeth gynaliadwy. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau ydych chi'n eu cael efo'r Ysgrifennydd Cabinet trafnidiaeth i sicrhau bod y Mesur bysiau yn cefnogi datblygiad economaidd yng nghanol ein trefi ni. Mae nifer o themâu yn fanna; os cawn ni atebion i'r rheini, os gwelwch yn dda. Diolch. 

15:40
15:45
15:50
15:55
16:00
5. Datganiad gan y Prif Weinidog: Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Prif Weinidog, fframwaith gwydnwch Cymru a’r cynllun cyflawni. Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

16:05

Rŷn ni wedi symud ymlaen yn sylweddol yn barod o ran ein prif addewidion. Er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau, mae'n rhaid i ni ddeall yn iawn pa fath o risgiau mae Cymru'n eu hwynebu. Mae'r dystiolaeth newydd sydd gyda ni yn helpu gwella'r ffordd rŷn ni ac ymatebwyr brys yn rheoli risgiau ac yn arwain blaenoriaethau strategol yn genedlaethol ac yn lleol. Rŷn ni wedi symleiddio trefniadau llywodraethu a goruchwylio Llywodraeth Cymru a Chymru gyfan er mwyn cael arweiniad strategol cadarn sydd wedi'i ffocysu. Rŷn ni hefyd wedi gwella'n trefniadau rheoli argyfwng ein hunain ac wedi cryfhau'r bartneriaeth gyda'r ymatebwyr lleol. Fel rhan o hyn, rŷn ni'n rhoi arian sydd ei angen i'w helpu gyda'r gwaith hanfodol sy'n digwydd ar draws Cymru i gynllunio ac ymarfer ar gyfer argyfyngau.

Ond mae'n bwysig peidio ag eistedd nôl, achos gallwn ni wneud mwy. Mae'r camau gweithredu sy'n cael eu cynnig wedi cael eu nodi mewn cynllun cyflawni sy'n cael ei gyhoeddi gyda'r fframwaith. Mae'r cynllun cyflawni yn nodi blaenoriaethau a'r camau gweithredu sydd angen sylw dros y misoedd nesaf a'r blynyddoedd sydd i ddod. Byddwn ni'n gwneud hyn fesul cam, gyda rhai camau gweithredu penodol i ddigwydd dros y 12 mis nesaf, wedyn y pum mlynedd nesaf ac ymlaen. Bydd y camau gweithredu hyn yn cael eu rhoi ar waith gyda chefnogaeth trefniadau llywodraethiant cryfach o dan arweiniad fforwm gwydnwch Cymru er mwyn gwella atebolrwydd a sicrwydd.

Os ŷn ni am lwyddo, rhaid inni ystyried gwydnwch neu resilience ym mhob agwedd ar wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae gwydnwch yn effeithio arnom ni i gyd ac mae'n rhaid i'r gymdeithas gyfan chwarae rhan er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb—unigolion, cymunedau, busnesau—ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn deall ac yn cymryd cyfrifoldeb am leihau risg a chryfhau'r cymunedau rŷn ni'n byw ynddyn nhw.

Mae hefyd yn hanfodol i ni, fel Llywodraeth, gymryd camau i fod yn fwy atebol ac i fod yn fwy agored. Felly, mae'r fframwaith gwydnwch yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad i'r Senedd pob pedair blynedd, gyda datganiad blynyddol i'r Senedd yn nodi'n parodrwydd a'n gallu i ymateb.

Mae'n rhaid i ni hefyd gryfhau ein cymunedau er mwyn iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o'r risgiau a gwella eu gwydnwch a'u gallu i ddibynnu ar eu hunain yn ystod argyfyngau. Byddwn ni'n cyhoeddi'r wybodaeth i'r cyhoedd er mwyn eu helpu nhw i ddeall yn well sut y gall unigolion a theuluoedd baratoi ar gyfer risgiau, a gwella eu gwydnwch nhw eu hun. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid a'r sector gwirfoddol i helpu'n cymunedau baratoi ar gyfer digwyddiadau mawr, ymateb iddyn nhw ac adfer eu hunain.

16:10
16:15
16:20

Diolch i'r Prif Weinidog. A ninnau mewn byd cynyddol ansefydlog, dwi'n croesawu'r datganiad yma. Dwi am ganolbwyntio ar dri maes penodol ac, yn gyntaf, paratoadau ar gyfer argyfwng iechyd cyhoeddus arall, a'r gwersi sydd wedi neu sydd eto i'w dysgu o'r pandemig COVID. Dwi'n siŵr nad fi oedd yr unig un oedd wedi drysu braidd yn gwrando ar brif weithredwr NHS Cymru ar y pryd, Dr Andrew Goodall, yn ceisio egluro wrth ymchwiliad COVID y Deyrnas Gyfunol yr holl grwpiau, y fforymau, a'r cyrff gwahanol oedd yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Gwnaeth cadeirydd yr ymchwiliad eu disgrifio nhw fel:

Dirprwy Lywydd, mae'r heriau unigryw yma'n cryfhau'r angen am waith paratoi gofalus, dwi'n meddwl, gan y Llywodraeth, nid yn unig ar gyfer y pandemig nesaf, sydd yn siŵr o ddod, ond hefyd er mwyn bod yn barod ar gyfer argyfyngau amgylcheddol, stormydd a llifogydd, sef yr ail fater dwi am droi ato fo. Mae yna gymunedau fel rhai yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft—roeddwn i'n trafod efo Heledd Fychan yn gynharach—sy'n byw mewn ofn y byddan nhw unwaith eto'n wynebu difrod os ydy gwersi ddim yn cael eu dysgu ar frys. 

Fis Hydref diwethaf, fe gyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad dan yr enw 'Meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050', ac mi argymhellon nhw ddatblygu strategaeth gwytnwch tair blynedd yn erbyn llifogydd ac erydu arfordirol. Wrth ymateb i'r argymhelliad, mi ddywedodd pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru fod achos cryf wedi cael ei wneud dros ddechrau paratoi strategaeth newydd o'r fath, felly ateb cadarnhaol. Ym mis Ionawr y cafwyd yr ymateb cadarnhaol hwnnw, ond o ystyried ei bod hi rŵan yn ganol mis Mai, ac mai’r argymhelliad oedd i ddatblygu'r strategaeth erbyn 2026, mi fuaswn i yn croesawu diweddariad gan y Prif Weinidog ar y gwaith penodol hwnnw.

16:25
16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Brif Weinidog, yn dilyn storm Dennis yn 2020 a'r llifogydd dinistriol a welwyd adeg hynny, mi ddaeth hi'n amlwg nad oedd y gwasanaethau brys na'r awdurdodau yn gallu ymdopi, ond hefyd nad oedd hi'n bosib iddyn nhw gyrraedd rhai cymunedau oherwydd difrifoldeb y sefyllfa a'n bod ni'n gwybod am rai cymunedau rŵan na fydd hi'n bosib i wasanaethau brys eu cyrraedd nhw mewn pryd. Felly, mae hi'n hanfodol, fel rydych chi'n nodi yn eich datganiad, ein bod ni'n ymbweru cymunedau i fedru ymateb, nid dim ond cyfathrebu iddyn nhw sut maen nhw'n gallu gwneud, ond rhoi cefnogaeth ymarferol. Un peth sy'n fy mhryderu i ydy o ran un enghraifft yn fy rhanbarth i, Clydach Terrace yn Ynysybwl; mae hi wedi cymryd pum mlynedd bron i gael cynllun argyfwng o'r fath yn ei le, ac mae yna gymaint o gymunedau eraill angen cynlluniau brys a'r hyfforddiant parhaus hwnnw i sicrhau eu bod nhw'n gallu ymateb. Felly, a fedrwch chi roi ymrwymiad? Oes yna amserlen i gyd-fynd efo sut rydyn ni'n mynd i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r ymbweriad yma i wirfoddolwyr, yn gweithio gyda'r Groes Goch, er enghraifft, a sefydliadau eraill? Oherwydd heb ymateb yn y gymuned, mae yna risg posib byddwn ni ddim yn gallu cefnogi pobl a bod bywydau pobl yn mynd i fod mewn peryg.

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ymbweru cymunedau ac unigolion i ymateb, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn datblygu'r gwytnwch yna sydd ei angen arnyn nhw, ac mae'n ddiddorol, achos bydd pethau'n newid gyda newid hinsawdd. Fydd hi ddim yn bosibl i ddiogelu pob tŷ yng Nghymru. Mae pethau'n mynd i newid, ond beth fyddwn ni'n gallu gwneud, fel y gwelon ni ym Mhontypridd, er enghraifft, roedd un flwyddyn ble roedd yna lifogydd, gwnaeth y siopau gael eu heffeithio, cymron nhw wythnosau i ailagor. Ar ôl i ni roi arian iddyn nhw i'w helpu nhw, gyda llywodraeth leol, mi newidion nhw y ffordd rôn nhw wedi datblygu y siopau, ac o fewn diwrnod neu ddau ar ôl y llifogydd y tro yma, rôn nhw wedi ailagor. Felly mae hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod angen datblygu'r gwytnwch yna, ond ambell waith fydd hi ddim yn bosibl i'w diogelu nhw yn llwyr, ond mi allwn ni eu helpu nhw i addasu. Beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n gweithio gyda'r local resilience forum, a tu fewn i'r delivery plan bydd yna fesurau i sicrhau bod hynny'n digwydd.

16:35
16:40

Rwyf fi eisiau gofyn i chi am domenni glo hefyd. Rwy’n croesawu’r buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i hyn, ac rwyf i yn croesawu'r ddeddfwriaeth newydd hefyd. Ond mae’r cwestiwn yn dal yna, mae e wedi cael ei godi yn barod gyda chi y prynhawn yma: pwy fydd yn talu? Dŷch chi wedi cydnabod cyn heddiw a hefyd yn ystod eich ymateb i Alun Davies fod yn rhaid i San Steffan roi mwy inni, achos, yn amlwg, dyw £25 miliwn ddim yn mynd i fod yn ddigon o gwbl achos bydd bron yr holl swm yna yn cael ei gymryd, efallai, gydag un tomen lo, fel oedden ni'n gweld gyda chlirio'r llanast wedi Tylorstown. Allwch chi ddweud, plis, pa drafodaethau buan a brys byddwch chi’n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau’r arian ychwanegol rŷn ni ei angen? Oherwydd cyfrifoldeb San Steffan ydy glo o hyd, mae e'n reserved matter o dan ddeddfwriaeth, felly pam nad ydyn nhw yn gallu talu i glirio olion cywilyddus y tomenni?

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Eitem 6 sydd nesaf, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn, diweddariad ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Mae beichiogrwydd a geni plant yn ddigwyddiadau sy'n newid bywydau menywod a'u teuluoedd. Mae gan staff gofal mamolaeth a newyddenedigol rôl unigryw wrth helpu menywod, eu partneriaid a'u babanod drwy'r rhain. Rhaid i wasanaethau'r NHS sicrhau bod pob menyw a babi yn cael gofal diogel a thosturiol, a sicrhau eu bod nhw'n cael y profiadau a'r canlyniadau gorau posib yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. 

Rwyf i am amlinellu heddiw y gwaith parhaus ŷn ni a'r NHS yn ei wneud i wella gofal mamolaeth a newyddenedigol gan ddysgu o'r adolygiadau sydd wedi eu cynnal ar draws Cymru ac yn ehangach yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau dweud ar y dechrau fel hyn mae'n ddrwg gen i i unrhyw deulu sydd heb gael y gwasanaeth roedden nhw'n ei ddisgwyl neu yn ei haeddu.

Rwy'n gwneud y datganiad hwn gan fod Llais heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar brofiadau mewn gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Er bod rhai teuluoedd yn disgrifio gofal tosturiol a phroffesiynol, mae adroddiad Llais yn cynnwys canfyddiadau anodd a phrofiadau uniongyrchol gofidus gan fenywod sydd wedi cael gofal gwael. Roedd rhai menywod yn dweud eu bod yn teimlo nad oedd eu llais yn cael ei glywed, nad oedden nhw'n cael cefnogaeth neu nad oedden nhw'n ddiogel ar wahanol adegau yn ystod eu gofal wrth esgor, ar ôl genedigaeth neu wrth geisio codi pryderon.

16:50
16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

17:00
17:05
17:10
17:15
17:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r tôn rydych chi'n ei gymryd a'r empathi rydych chi'n ei ddangos yn yr ymatebion. Rwy'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth rili pwerus i bobl ei glywed.

Dydy'r bwrdd iechyd yma ddim yn rhan o fy rhanbarth, ond roeddwn i eisiau siarad achos mae'r straeon yn seinio cymaint. Mae cymaint o'r menywod a'r mamau hyn oedd yn mynd trwy un o'r cyfnodau mwyaf bregus yn eu bywydau nhw wedi profi poen annerbyniol a thrawma, a'r ffaith bod cymaint ohonyn nhw yn mynd trwy boen difrifol ac yn cael cynnig paracetamol yn unig, neu roedden nhw'n teimlo, roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, eu bod nhw'n cael eu cosbi achos y poen roedden nhw ynddo fe, ac roedden nhw'n teimlo, fel mae Sioned Williams wedi dweud, eu bod nhw ddim yn cael eu credu am y poen.

Ydych chi'n cytuno ei fod yn destun cywilydd ar ein cymdeithas ni? Mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn cymaint o ffyrdd yn y gwasanaeth iechyd yn rhy aml, ac mae e'n rhywbeth am ein cymdeithas ni hefyd, ein bod ni'n derbyn poen menywod fel rhan anochel o fywyd. Dyw e ddim yn normal i deimlo poen yn y ffordd yma. Dwi wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y cynllun iechyd menywod yn mynd i'r afael â'r broblem hon i sicrhau bod meddygon yn cael hyfforddiant arbenigol i sicrhau nad ydyn ni'n gallu normaleiddio poen menywod mwyach. Ydych chi'n cytuno â hynny ac ydych chi'n cytuno bod yr esiamplau hyn yn dangos pam mae hynny mor angenrheidiol o hyd?

17:25

Ie, byddwn i'n dweud, yr wythnos hon, rwy'n teimlo bod amryw bethau wedi ein hatgoffa ni o bwysigrwydd iechyd menywod a chymryd lleisiau menywod o ddifrif yn y gwasanaeth iechyd, am resymau amlwg yng nghyd-destun yr wythnos hon, ac mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o hynny hefyd, wrth gwrs, felly byddwn i'n cytuno â'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud.

Beth fyddwn i hefyd yn ei ddweud, ac mae hyn wedi dod yn glir i fi yn y trafodaethau rwy wedi eu cael gyda chadeirydd newydd y bwrdd, yw fy mod yn credu bod dealltwriaeth glir o hynny yn sut mae'r bwrdd yn mynd i'r afael ag ymateb i'r her hon o ran profiadau menywod, o ran y gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda Llais, ond hefyd yr adolygiad fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.

7. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar y Rhaglen Dileu TB Buchol

Eitem 7 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: diweddariad ar y rhaglen dileu TB buchol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ychydig dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i ni lansio ein cynllun cyflawni newydd ar gyfer y rhaglen dileu TB. Rwy'n croesawu’r cyfle yma i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hynt y gwaith.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

I gloi, Llywydd, mae llawer o waith i'w wneud o hyd,

I gloi, Llywydd, mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n parhau i gredu y gallwn gyflawni camau sylweddol trwy gydweithio. Gan fod rhanddeiliaid wrth wraidd ein holl waith, mae gennym bellach raglen gryfach a mwy gwydn ar gyfer dileu TB. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno mwy o diweddariadau wrth i'r rhaglen barhau. Diolch yn fawr.

17:35
17:40
17:45

Mae yna berygl ein bod ni’n mynd lawr twll cwningen, dwi’n meddwl, yn sôn am ystadegau, oherwydd rŷch chi wedi rhestru rhai ystadegau, ond dŷn nhw ddim yn gyson gyda rhai o’r ystadegau fy mod i wedi’u gweld. Roeddech chi’n sôn bod herd incidence lawr yn y tymor byr; wel, y ffigwr y gwelais i oedd 6.8 y cant yn 2023 a 6.8 y cant 12 mis yn ddiweddarach. Felly, dyw hwnna ddim wedi mynd lawr. Mae herd prevalance wedi mynd lan—er dim ond o gyfran fach iawn, ond mae e wedi cynyddu.

Ac fel rŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod am y ffaith ein bod ni wedi difa yng Nghymru'r nifer fwyaf erioed o wartheg yn y cyfnod 12 mis yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae gyda ni ffigurau ar ei gyfer e nawr. Rŷch chi wedi rhoi esboniad pam fod hynny yn eich barn chi, ond y neges dwi'n ei chlywed yw ein bod ni ddim yn ennill y frwydr yn erbyn TB. Dŷn ni ddim yn mynd yn unlle. Rŷn ni’n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd unwaith eto, fel rŷn ni wedi gwneud ers degawd a mwy ar y mater yma. Pa ryfedd, felly, bod pobl yn colli ffydd, colli hyder ac yn tynnu gwallt eu pennau mewn rhwystredigaeth? A hynny, wrth gwrs, yn dangos eu hunain drwy broblemau iechyd meddwl.

Nawr, rŷn ni'n parhau yng Nghymru i dynhau'r rheolau ar wartheg a symud gwartheg. Fel Llywodraeth, rŷch chi’n parhau i gyflwyno cyfyngiadau pellach ar ffermydd, ond rŷch chi'n parhau hefyd i wrthod mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt. Nawr, mi ddywedoch chi ar Ffermio rhai misoedd yn ôl—ac mi sylwais i, mi gofia i hyn—petai'r grŵp cynghori technegol yn dod yn ôl gydag argymhelliad i chi fod angen mynd i'r afael o ddifri â TB mewn bywyd gwyllt, byddai hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Os atebwch chi ddim ond un cwestiwn i fi brynhawn yma, fe wnewch chi gadarnhau mai dyna yw'ch barn chi o hyd, ac y byddech chi, petai'r cyngor yn dod yn ôl fod angen symud y cyfeiriad yna, y byddech chi'n barod i wneud hynny.

Dwi'n croesawu'r ffaith bod y gwaith project sir Benfro yn cael ei estyn i ogledd Cymru, ac wrth gwrs mewn cyd-destun ychydig yn wahanol, ond yn bwysig, yn yr un ffordd. Efallai y gallwch chi awgrymu a ydych chi'n teimlo bod hwn yn gam nesaf mewn ymdrech yn y pen draw i sicrhau bod y math yna o approach ar gael i bob rhan o Gymru. Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod y ffermwyr ifanc yn mynd i gael lle ar y bwrdd yn ogystal, wrth gwrs, â FCN. Efallai y byddwch chi hefyd yn ymwybodol o waith sydd wedi digwydd yn sir Benfro drwy grŵp Agriscôp, sydd wedi dod â’r rheini sydd o dan gyfyngiadau TB at ei gilydd. Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i'w gilydd wrth drafod, efallai, 

wrth drafod, efallai, rhai o'r elfennau ymarferol ar y fferm, yn rhannu profiadau ond hefyd yn rhannu'r baich emosiynol yna, ac mae o wedi cael impact positif o ran iechyd meddwl. A ydy hwnna'n rhywbeth y byddech chi fel Llywodraeth yn gallu edrych arno i geisio ei ariannu er mwyn annog hynny i ddigwydd mewn ardaloedd eraill, oherwydd yr impact positif mae'n gael yn ymarferol ar y fferm, ond hefyd o safbwynt emosiynol yn ogystal? 

Ac yn olaf, rŷch chi'n sôn am y resolved standard inconclusive reactor cattle a sut mae'r profi yna yn dangos ei hun, efallai, yn wahanol mewn rhai sefyllfaoedd. Beth mae hynny'n ei wneud i fi yw amlygu'r ffaith bod y system brofi sydd gyda ni ddim mor effeithiol ag y byddem ni i gyd eisiau, ac y dylai hi fod. Efallai y gallwch chi sôn wrthom ni am ba waith sydd yn digwydd er mwyn ceisio sicrhau bod gennym ni brosesau profi yng Nghymru sydd yn rhoi canlyniadau i ni y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw. Diolch. 

17:50
17:55
18:00
8. Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Eitem 8 sydd nesaf, Cyfnod 4 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yw'r eitem yma. Cyn i ni fwrw ymlaen â'r trafodion yma, dwi'n credu ei fod e'n bwysig i ni jest nodi a chydnabod fod trafodion Cyfnod 3 yr wythnos ddiwethaf wedi cael eu cynnal yn y Gymraeg yn unig, ac mae hwnna siŵr o fod—neu bownd o fod—y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn y Senedd yma, ac yn wir unrhyw Senedd yn y byd, i drafod Cyfnod 3 yn y Gymraeg yn unig. Felly, diolch i bawb a gyfrannodd ar hynny. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg nawr i wneud y cynnig, gobeithio yn y Gymraeg eto.

Cynnig NDM8900 Mark Drakeford

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da. Rwy'n symud y cynnig ac yn galw heddiw i'r Senedd basio Bil hanesyddol, sef Bil y Gymraeg ac Addysg, Bil a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddyn nhw orffen addysg orfodol, Bil a fydd yn agor drysau i'n disgyblion, Bil i gynnig cyfleoedd swyddi newydd, yn rhoi mynediad i ddiwylliant cyfoethog y Gymraeg, ac yn eu galluogi i fwynhau defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.  

Nawr, Llywydd, dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yma yn y Senedd bresennol eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu. Mae strategaeth 'Cymraeg 2050', a'r targed uchelgeisiol o 1 filiwn o siaradwyr, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, ac mae'r Bil yma wedi cael ei drafod yn yr un ysbryd. 

Llywydd, rydw i wedi dweud sawl gwaith yn y Senedd nad ydw i erioed wedi gweld Bil sydd heb ei wella a'i gryfhau o ganlyniad i'r broses graffu. Mae'r Bil yma yn brawf o hynny. Mae gwelliannau'r Llywodraeth wedi ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a'r dystiolaeth a gafodd ei chlywed yng Nghyfnod 1, ac rydw i wedi bod yn falch o gael y cyfle i gydweithio gyda Cefin Campbell

gyda Cefin Campbell o Blaid Cymru, a Sam Kurtz a Tom Giffard o'r Ceidwadwyr Cymreig wrth drafod gwelliannau pellach. Mae'n rhaid inni hefyd, heddiw, ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi'r Bil. Hoffwn ddiolch: i'r holl randdeiliaid sydd wedi cynnig barn ar y Papur Gwyn ac sydd wedi cyfrannu at dystiolaeth Cyfnod 1; i aelodau'r pwyllgorau craffu yn y Senedd; i'r tîm bach o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu'r Bil o'r cychwyn cyntaf dros y blynyddoedd diwethaf; ac i staff y Senedd sydd wedi cefnogi'r broses ac wedi hwyluso'r gwaith craffu, yn arbennig felly gan mai Cymraeg oedd iaith drafftio'r Bil drwyddi draw. Mae yna gymaint o wahanol lefelau i'r gwaith o lunio unrhyw Fil, ac felly mae'r ffaith mai Cymraeg oedd iaith gweinyddu'r Bil—o ddrafftio'r Papur Gwyn ddwy flynedd yn ôl, hyd at ddrafftio'r geiriau sydd ar wyneb y Bil sydd o'n blaen ni heddiw—yn rhywbeth pwysig, ac rydw i'n falch iawn ohono. 

Rydw i'n gobeithio yn fawr y bydd y Senedd yn pasio'r Bil heddiw. Bydd y ffocws wedyn yn symud yn syth i weithredu'r Bil a phennod newydd yn hanes addysg Gymraeg. Ac mae'r gwaith yma yn dechrau ar sylfeini cadarn. Bydd nifer o ysgolion yn dechrau ar y daith mewn llefydd gwahanol. Mae'r Bil yn golygu y gallwn ni ffocysu'r gefnogaeth i ysgolion yn ôl yr angen, fel bod pawb yn cael yr help sydd ei angen. Mae enghreifftiau o arfer da i'w gweld ledled Cymru, ac mae yna wersi y gallwn ni i gyd ddysgu gan ein gilydd. Ac yna, wrth gwrs, mae heriau rydyn ni angen delio gyda nhw, gan gynnwys sicrhau bod gennyn ni'r gweithlu sydd ei angen i ddelifro'r Bil. Mae angen atebion deinamig, arloesol i sicrhau bod pob ysgol yn llwyddo i gyrraedd y nod. Ac mae angen inni barhau i ddatblygu dulliau dysgu effeithiol a fydd yn galluogi i'n disgyblion ddod yn siaradwyr hyderus.

Mae'r Bil yn creu strwythur a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Nid dros nos, wrth gwrs, ond byddwn ni'n dechrau ar y gwaith ar unwaith. Bydd hyn yn cynnwys cychwyn gyda datblygu’r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, sy'n seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio yn ein system addysg ac yn ein economi yn y dyfodol. A bydd sefydlu'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gam pwysig ymlaen. Yr athrofa fydd canolbwynt dysgu Cymraeg, a bydd yn help wrth gynllunio i ddatblygu'r gweithlu addysg. Bydd yn hybu arloesedd a gwelliant parhaus wrth ddysgu Cymraeg, ac yn helpu i godi safonau o ran dysgu Cymraeg. 

Dirprwy Lywydd, dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad Aelodau eraill y prynhawn yma, a dwi'n gobeithio cael cefnogaeth y Senedd i basio'r Bil hanesyddol sydd o'n blaen ni heddiw.

18:05

Alla i ddechrau gan ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet ac i Cefin Campbell am ei waith trawsbleidiol i sicrhau ein bod ni wedi dod yma heddiw ar adran 4 y Bil addysg a'r iaith Gymraeg? Dwi'n credu bod hyn yn gam pwysig, a dŷn ni fel Ceidwadwyr Cymreig wastad wedi dweud dŷn ni o blaid beth mae'r Bil hwn yn drio ei wneud. Os ydy mwy o bobl moyn cael addysg yn y Gymraeg, mae'n bwysig bod provision-au ar gael i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud hynny. Dwi'n ddiolchgar dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'n gwelliannau ni yng ngrŵp 8 o ran rhieni sydd eisiau mwy o gefnogaeth 

sydd eisiau mwy o gefnogaeth os nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ond mae eu plant nhw yn mynd i ysgolion Cymreig, a dwi'n credu bod y Bil, fel dywedodd Mark Drakeford, yn fwy cryf heddiw o ran y gwelliannau rŷn ni wedi eu rhoi yn y Bil hwn o ran y gefnogaeth nawr sydd ar gael i rieni ar draws Cymru sydd moyn helpu eu plant nhw gyda gwaith ysgol a gwaith cartref hefyd.

Nid yw pob gair yn y Bil hwn yn eiriau buasem ni wedi moyn drafftio, os oedd y Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth ac os byddem ni'n dod â'r Bil hwn ymlaen. Ond, mae'n bwysig ein bod ni'n dangos ein cefnogaeth ni am y rhan fwyaf o beth mae'r Bil hwn yn ei wneud, a dyna pam byddwn ni'n cefnogi adran 4 y Bil yma heno, oherwydd rŷn ni'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cyrraedd y targed yna o 1 miliwn o siaradwyr.

Ac rŷn ni wedi gweld heddiw, onid ydym ni, nad yw pob plaid yng Nghymru heddiw moyn gweld y targed hynny—nad yw pob Plaid moyn gweld mwy o bobl yn siarad Cymraeg. Yn fy mhrofiad i, yn mynd ar draws Cymru, os mae rhywun yn siarad Cymraeg, neu os maen nhw ddim, maen nhw wastad moyn gweld yr iaith yn llwyddo, ac maen nhw wastad moyn dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg. Weithiau, mae pobl sydd heb y cyfle o gael siarad Cymraeg, neu o gael addysg yn Gymraeg yn dweud wrthyf i, ac rwy'n siŵr i bobl eraill, eu bod nhw moyn cael y cyfle pan oedden nhw yn yr ysgol. A beth rŷn ni'n gwneud heddiw, dwi'n credu, yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg pan maen nhw'n dewis gwneud hynny yn ein hysgolion ni ar draws Cymru.

Ond y gwaith trawsbleidiol hynny, sydd yn dechrau gyda ni moyn gweld mwy a mwy o bobl yn siarad Cymraeg ar draws Cymru—. Mae hwn yn risg, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y dyfodol. Mae rhai o'r pleidiau tu allan i'r Senedd hyn ond efallai tu fewn i'r Senedd hyn moyn gweld ni'n cael gwared o'r datblygiad rydym ni wedi'i weld, a dwi'n credu bydd hynny yn fy mhoeni i yn enfawr, dros y blynyddoedd i ddod. So, dwi'n ddiolchgar i'r Llywodraeth ac i Blaid Cymru am eu gwaith trawsbleidiol, a dwi'n gobeithio ei bod ni'n gwneud gwahaniaeth enfawr heddiw i ddyfodol Cymru.

18:10

Dwi'n hynod o falch, os ydw i'n iawn, yn rhagweld y bydd yna gefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil arbennig yma. Ym 1962, yn y pamffled 'Cyfle Olaf y Gymraeg', fe ddywedodd Gwynfor Evans mai'r peth sy'n hanfodol i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg yw addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd, meddai fe, i ddiogelu'r iaith, gan ychwanegu mai dyna hefyd yr addysg orau i blentyn o Gymru, p'un ai yw ei rhieni yn siarad Cymraeg neu beidio. A dyma ni, dros 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn trafod Bil wir hanesyddol sydd yn garreg filltir bwysig ar daith yr iaith at 1 miliwn o siaradwyr a thu hwnt.

Cred Plaid Cymru y dylai bod gan bob plentyn yr hawl i gael y rhodd gwerthfawr yna o ddwyieithrwydd drwy'r system addysg, ac fel rŷn ni i gyd yn gwybod, addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg hyderus a rhugl. Wrth gyflwyno a chraffu ar gyfraith gwlad, mae sôn yn aml am y 'daith ddeddfwriaethol' mae Bil yn ei dilyn, ac yn wir, mae'r Bil y Gymraeg ac Addysg sydd o'n blaenau ni heddiw wedi bod ar daith.

Yn dilyn galwadau gan ymgyrchwyr a Phlaid Cymru, sicrhawyd ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i gyflwyno Bil addysg Gymraeg. Ond wrth gwrs, ar ôl cydweithio ar y Papur Gwyn a cheisio ei gryfhau, fe gyflwynwyd y Bil drafft ar ei ffurf wreiddiol ar ôl i'r cytundeb ddirwyn i ben.

Mae'n wir i ddweud nid dyma'r Bil fyddai Plaid Cymru eisiau ei gyflwyno mewn byd delfrydol, ond mae'r Bil—ac mae'n rhaid i fi gydnabod hyn—yn sicr lawer cryfach nag oedd e'n wreiddiol, o ganlyniad i ddylanwad Plaid Cymru dros y misoedd diwethaf, ac, mae'n bwysig i fi nodi hyn hefyd, gydweithrediad parod y Llywodraeth yn hynny o beth.

Ar draws y ddau gyfnod craffu, fe gyflwynais i dros 180 o welliannau, a derbynwyd dros 10 ohonynt ar wyneb Bil, a chafwyd ymateb cadarnhaol mewn nifer o feysydd eraill ar y record gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a dwi'n ddiolchgar iawn iddo fe am hynny. Un o'r prif newidiadau, wrth gwrs, yw'r diffiniad clir

diffiniad clir sydd yn y Bil ar gategorïau iaith ysgolion. Rwy’n falch o weld ymrwymiad yn y Bil y bydd rhaid i ysgolion prif iaith Gymraeg gyflwyno o leiaf 80 y cant o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan alinio’r categori newydd yma i’r categori 3P presennol, a rhaid i ysgolion dwy iaith gyflwyno o leiaf 50 y cant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roeddwn i hefyd eisiau sicrhau targed ar wyneb y Bil i sicrhau fod 50 per cent o ddisgyblion yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050. Er na chafodd y gwelliant hwnnw ei gymeradwyo, roeddwn i’n falch derbyn sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet wythnos diwethaf o fwriad y Llywodraeth i ymgynghori ar y targed 50 y cant fel rhan o'r ymgynghoriad ar strategaeth y Gymraeg newydd.

Wel, y cam nesaf wrth gwrs fydd gweithredu’r Bil, i mewn a thu hwnt i dymor nesaf y Senedd. Yn greiddiol i hyn wrth gwrs fydd sicrhau gweithlu addysg dwyieithog safonol a digonol. Os bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth ym mis Mai y flwyddyn nesaf, byddwn ni yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth sicrhau ein bod yn trawsnewid addysg Gymraeg ar draws Cymru, a byddwn yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phob un o awdurdodau addysg Cymru i gyflawni’r nod hwnnw. Wrth gwrs, amser a ddengys os bydd y Bil hwn yn llwyddo yn ei uchelgais i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Ar hyn o bryd, mae’n rhaid dweud ei bod yn edrych fel tipyn o fynydd i’w ddringo â’r copa’n teimlo’n bell i ffwrdd, ond un o bwrpasau mynyddoedd yw eu dringo nhw, felly beth am roi esgidiau iaith am ein traed a mynd amdani.

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil hwn fel y mae heddiw, nid oherwydd ei fod yn berffaith, ond gan ei fod yn gosod sylfaen y gellid adeiladu arno ar gyfer y dyfodol, fel y gall bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i siarad iaith eu mamwlad neu’r wlad y maent wedi ymgartrefi ynddi. Dyna yw eu hawl, a’n cyfrifoldeb ni fel Senedd yw sicrhau ein bod ni'n parchu’r hawl honno.

Dwi am gloi, unwaith eto, gyda geiriau Gwynfor Evans, y mae Cymru Gymraeg, o Fôn i Fynwy, eto’n bosibilrwydd. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Tom Giffard a Cefin Campbell am y gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi y prynhawn yma, a diolch iddyn nhw am y cyfleoedd i gydweithio i baratoi'r Bil sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma. Roedd Tom wedi dweud nad ydy pob gair yn y Bil ddim lle'r oedd y Blaid Geidwadol eisiau eu gweld, ac mae Cefin wedi dweud bod rhai pethau yn y Bil roedd e eisiau iddyn nhw gael eu cryfhau, ond pwrpas y broses craffu yma yn y Senedd, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg, yw trio ein tynnu ni gyda'n gilydd tu ôl pwrpas y Bil. Ac mae popeth dwi wedi ei glywed y prynhawn yma yn dweud wrthyf i ein bod ni wedi llwyddo tynnu pobl at ei gilydd i wneud hynny. 

Ac rydyn ni i gyd yn gallu cyfeirio at bobl ar draws y pleidiau sydd wedi bod yn rhan o daith yr iaith dros y blynyddoedd. Clywais i Gwynfor Evans yn siarad nifer o weithiau pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerfyrddin, ond dwi'n cofio hefyd Wyn Roberts a'i bwysigrwydd e o ran yr iaith Gymraeg yn yr 1980au, ac wrth gwrs pobl fel Cledwyn Hughes a John Morris ar ochr y Blaid Lafur hefyd. Pan rydyn ni'n gallu dod at ein gilydd fel hyn, rydyn ni'n gallu gwneud rhywbeth pwysig, nid jest yng Nghymru heddiw ond Cymru'r dyfodol hefyd. Yn fy marn i, rydyn ni wedi llwyddo fel Senedd i greu Bil pwysig, pellgyrhaeddol a fydd yn galluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Yn ôl beth dwi wedi ei glywed, mae'n edrych fel y cawn ni basio'r Bil heddiw yn unfrydol, ac mae hynny'n rhywbeth pwerus. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio pellach wrth inni weithredu'r Bil. Diolch yn fawr. 

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad. Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 4: Gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru (Gwelliant 7)

Grŵp 4 sydd nesaf. Mae'r pedwerydd grŵp a'r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud â gweithgareddau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Gwelliant 7 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp hwn. Galwaf ar Adam Price i gynnig y gwelliant ac i siarad amdano.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Adam Price).

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ystod Cyfnod 2, cyflwynes i welliant a fyddai wedi galluogi cywiriad gweinyddol i offerynnau statudol Cymru ar unrhyw adeg, gyda gofyniad ar yr awdurdodau cyfrifol i hysbysu'r Llywydd am unrhyw gywiriadau o'r fath, yn ogystal â gwelliant arall a fyddai wedi creu cyfrifoldeb ar Weinidogion i baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar gywiriadau i offerynnau statudol Cymru bob 12 mis. Byddai hyn wedi sefydlu trefn newydd, modern, i gymharu â'r confensiwn weddol feichus bresennol o orfod cyflwyno slipiau cywiro, sydd yn golygu diddymu, gwella neu ailgyflwyno deddfwriaeth yn ei chyfanrwydd, ta waith beth yw barn y Senedd.

Cefais i fy ysbrydoli yn hyn o beth gan feini prawf yng nghymal dau Bil yr Arglwydd Thomas o Gresffordd, gyda'r bwriad o hybu gwell effeithiolrwydd a thryloywder yn y broses o gywiro mân wallau ar offerynnau statudol Cymreig—rhywbeth a gafodd ei argymell hefyd gan ein pwyllgor ni. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol a gefais i gyda'r Cwnsler Cyffredinol ers Cyfnod 2. Ac yn ystod y trafodion ar y mater ehangach, bydd rhaid inni drafod yn ehangach ynglŷn â sut i wella sylwedd offerynnau statudol a rhoi gwell cyfle i'r Senedd wneud hynny.

Ond, o ran y gwelliant yma rydym ni wedi dod ag ef gerbron—hynny yw, y cytundeb rhyngon ni—nid yw'n cyflawni fy mwriad gwreiddiol o greu grym penodol i'r Senedd fedru gwneud mân gywiriadau, ond bydd yn sicrhau, ym mhob rhaglen y mae Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud o dan adran 2 o ddeddfwriaeth Cymru 2019, fod yn rhaid cael set o weithgareddau sydd wedi'u hanelu at ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru.