Y Cyfarfod Llawn

Plenary

25/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn dechrau, dwi eisiau hysbysu’r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weindiog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.  

Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62490

Y byrddau iechyd sy’n gyfrifol am sicrhau bod pobl leol yn gallu cael mynediad diogel ac amserol at wasanaethau clinigol o ansawdd da. Wrth wneud hynny, bydd angen iddyn nhw ystyried gwahanol opsiynau a gwneud penderfyniadau anodd, o bosib, ar sut i gyflawni hyn gyda’r adnoddau sydd ar gael.

Prif Weinidog, mae angen gwelliannau yn daer i gynorthwyo pobl sy'n aros am ddiagnosis o arthritis gwynegol yn sir Benfro. Hysbyswyd etholwr i mi mai 13 wythnos yw'r amser aros am apwyntiad brys gyda'r adran rhewmatoleg yn ysbyty Llwynhelyg, a 15 mis am apwyntiad nad yw'n frys. Ac mae'r staff a'r gweithwyr proffesiynol yn yr ysbyty yn gwneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd iawn. Nawr, mae gan yr un etholwr frawd-yng-nghyfraith yn Barnsley, sydd hefyd wedi cael diagnosis o arthritis gwynegol yn ddiweddar, ac fe'i gwelwyd ef gan ei adran rhewmatoleg leol a dechreuodd driniaeth o fewn mis i'w atgyfeirio.

Prif Weinidog, nid yw'n dderbyniol bod pobl yn sir Benfro yn aros cymaint yn hirach na'u perthnasau mewn rhannau eraill o'r DU am yr un driniaeth. Mae'r bobl hyn yn aros mewn poen, ac maen nhw'n ddig, a hynny'n ddealladwy. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n aros am ddiagnosis arthritis gwynegol yn ei gael cyn gynted â phosibl? A pha esboniad sydd gennych chi pam maen nhw'n aros cymaint yn hirach na'u perthnasau mewn mannau eraill yn y DU am yr un driniaeth?

Diolch yn fawr iawn. Mae'n wir bod ein rhestrau aros yn llawer rhy hir. Rwy'n falch iawn o ddweud eu bod nhw'n lleihau, ac maen nhw wedi lleihau am yr ail fis yn olynol. Ac, yn sicr, yn Hywel Dda, maen nhw ar y trywydd iawn i ddileu'r arhosiad 104 wythnos o hyd. Felly, rhestrau aros dwy flynedd yw'r rheini. Felly, maen nhw'n mynd i gael gwared ar y rheini erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Felly, mae hynny yn gynnydd enfawr o'i gymharu â lle'r oedden nhw gynt. Rwy'n sicr yn cofio, ychydig flynyddoedd yn ôl, cnocio ar ddrysau pobl, ac roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw wedi bod yn aros am chwe blynedd neu fwy. Nid yw hynny'n wir mwyach.

Mae'n bwysig iawn bod pobl yn cydnabod, oherwydd yr arian ychwanegol a roddwyd o ganlyniad i'r ffaith fod gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan erbyn hyn, bod hynny'n golygu bod gennym ni £600 miliwn yn ychwanegol i'w wario arno—mae £50 miliwn wedi mynd i mewn eleni i leihau'r rhestrau aros hynny. Nid yw'n ymwneud â'r rhestrau aros hiraf hynny yn unig; mae hefyd yn ymwneud â'r ffaith fod yr arosiadau cleifion allanol cyntaf—mae pobl yn aros amser maith iawn am y rheini weithiau—hefyd yn debygol bellach o gael eu dileu yn Hywel Dda erbyn diwedd mis Mawrth eleni, o ran arosiadau blwyddyn o hyd.

Rhestrau Aros y GIG

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhestrau aros y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62517

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi rhoi £7.6 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i leihau’r amseroedd aros am ofal sydd wedi'i gynllunio, a helpu i ddarparu mynediad diogel ac amserol i drigolion.

Diolch, Brif Weinidog. O ddarllen yr holl e-byst dwi’n eu cael gan etholwyr, dyw hi ddim yn cymryd amser hir iawn i sylweddoli beth yw eu prif bryderon nhw. Ac mae’r negeseuon yn eithaf clir eu bod nhw’n poeni am restrau aros yn y gwasanaeth iechyd ar gyfer pob math o gyflyrau. Ond mae’r negeseuon yma yn gwrthddweud y stori gafodd ei chyhoeddi gan eich Llywodraeth chi yr wythnos diwethaf y bydd lefel monitro bwrdd iechyd Hywel Dda yn cael ei ddad-ddwysáu o lefel 4 i lefel 3, a ddaeth, yn rhannol, yn ôl y cyhoeddiad, o ganlyniad i wella ei ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl. Ond, er gwaetha’r cyhoeddiad, cafwyd adroddiad oriau yn ddiweddarach bod darpariaeth ar gyfer achosion iechyd meddwl nad oedd yn frys yng ngogledd Ceredigion yn dod i ben. Dim ond 56 y cant o’r 147 o achosion iechyd meddwl yng ngogledd Ceredigion sydd â chynlluniau gofal a thriniaeth ar waith, sy'n bell iawn yn brin o'r targed o 90 y cant rŷch chi wedi ei osod. Dim ond microcosm yw hyn, Brif Weinidog, o'r sefyllfa ddybryd o ran rhestrau aros annerbyniol yn fy rhanbarth i. Felly, pryd ydych chi a'ch Llywodraeth am fynd i'r afael o ddifrif â'r sefyllfa yma, ac ydy'r dystiolaeth ar gyfer newid lefelau monitro byrddau iechyd yn ddigon cadarn?

13:35

Diolch yn fawr. Dwi'n siŵr eich bod chi'n falch hefyd i glywed bod y ffaith ei bod hi'n edrych yn debygol y byddan nhw'n cyrraedd y targed yna o gael gwared ar bobl sy'n aros am ddwy flynedd i gael eu gweld yn rhywbeth sy'n cael ei groesawu. Mae'n dda gweld, achos bod pethau wedi gwella o ran iechyd meddwl, ein bod ni wedi gallu gweld y de-escalation yna yn y bwrdd iechyd. Dwi'n gwybod bod yna broblem unigryw yn ardal Cerdigion ar hyn o bryd, a dwi'n ymwybodol o hynny. Nawr, y pwynt ar hyn o bryd yw bod lot o vacancies ar gael—maen nhw wedi mynd mas ac wedi methu â phenodi substantive consultant psychiatrist. Felly, beth maen nhw wedi ei wneud yw dod â nyrs arbenigol i fewn dros y tymor byr. Mae'r postiau yma allan ar gyfer adverts ar hyn o bryd. Ond mae'n bwysig iawn bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, a dyna pam mae'n bwysig, os oes angen, os nad yw'r gwasanaeth ar gael yna, fod yn rhaid iddyn nhw fynd i rywle lle maen nhw'n gallu cael y gofal, yn y tymor byr yma, tra'u bod nhw'n recriwtio.

Prif Weinidog, fel yr ydych chi'n gwbl ymwybodol, roedd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys gynigion i roi terfyn ar lawdriniaeth ddewisol ac arafu llawdriniaeth ddewisol ar draws y ffin yn Lloegr. Rwy'n falch iawn, yn ogystal ag eraill yn y Siambr hon, bod y cynnig hwnnw wedi cael ei roi o'r neilltu gan y bwrdd iechyd. Fodd bynnag, mae'r bwrdd iechyd hwnnw yn parhau i fod mewn mesurau arbennig oherwydd anawsterau ariannol. Felly, nid yw'r problemau wedi diflannu, ac mae rhywfaint o bryder o hyd yn y cymunedau yn fy etholaeth i—ac yn etholaeth Russell George, rwy'n gwybod, hefyd—y gallai'r cynnig hwn ymddangos eto. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn clywed gennych chi pa drafodaethau yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i wneud yn siŵr bod arian ar gael, i wneud yn siŵr bod pobl sy'n manteisio ar ofal yn Lloegr yn gallu cael y gofal hwnnw pan fydd ei angen arnyn nhw ac nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i aros yn ddiangen ar restrau aros?

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n falch iawn bod y bwrdd iechyd wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r cynigion hynny. Rwy'n gwybod bod trafodaethau yn parhau rhwng yr Ysgrifennydd iechyd a bwrdd iechyd Powys, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu nid yn unig cyflawni dros bobl Powys, ond hefyd cyflawni yn unol â'r cyfyngiadau cyllideb yr ydym ni wedi eu nodi. Rydym ni wedi achub y byrddau iechyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r amser hwnnw ar ben. Mae angen iddyn nhw reoli eu cyllid yn llawer gwell oherwydd, fel arall, mae'n rhaid i bob adran arall eu hachub nhw. Digon—nid yw hynny'n digwydd mwyach. Ac mae'n bwysig iawn bod Powys yn cymryd hynny o ddifrif. Maen nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn. Rydym ni'n deall hynny; mae'r gofynion ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd yn wirioneddol enfawr. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld eu bod nhw wedi tynnu'n ôl o'r awgrym hwnnw eu bod nhw'n mynd i fwrw ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos hon, mae biliau'r dreth gyngor yn cyrraedd mewnflychau a matiau drysau ledled Cymru, ac mae llawer o drethdalwyr wedi'u gwylltio, a dweud y gwir, gan y cynnydd mawr i'w biliau, tra eu bod nhw'n gweld gwasanaethau lleol yn cael eu torri. Mae cyfleusterau fel llyfrgelloedd, toiledau cyhoeddus, cyfleusterau hamdden a chanolfannau cymunedol yn cael eu cau. Pam mae pobl yng Nghymru yn talu mwy mewn treth gyngor ond yn cael llai, ac a ydych chi'n derbyn cyfrifoldeb eich Llywodraeth Cymru chi am y benbleth honno?

Allaf i ddim credu bod y Torïaid yn siarad â ni am lefelau uchel o drethiant. Fe wnaeth eich Llywodraeth chi ein gadael ni ag etifeddiaeth o rai o'r cyfraddau trethiant uchaf yr ydym ni wedi eu gweld yn y wlad hon ers blynyddoedd, ers degawdau. A'r gwir amdani, rydych chi'n gwbl gywir, yw ein bod ni eisiau gweld gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar lefel awdurdod lleol, a dyna pam roeddem ni'n gallu rhoi'r cynnydd ychwanegol sylweddol hwnnw yn y gyllideb eleni, y gwnaethoch chi, a gaf i eich atgoffa, bleidleisio yn ei herbyn. Pe baech chi wedi pleidleisio drosti—. Pe na bai honno wedi cael ei phasio, byddech chi wedi gweld y cynnydd lleol hwnnw i dreth incwm yn mynd llawer iawn ymhellach, pe baech chi wedi cael eich ffordd yn y gyllideb honno.

13:40

Prif Weinidog, rydych chi'n ceisio osgoi cyfrifoldeb drwy'r amser. Mae hon yn broblem o dan oruchwyliaeth Llafur, y cynnydd mawr hwn i'r dreth gyngor. Dyma'r ffeithiau: er i chi bopio'r cyrc siampên am y setliad llywodraeth leol eleni, mae cynnydd i'r dreth gyngor leol ar gyfer eiddo band D 7.2 y cant yn uwch yn 2025-26 o'i gymharu â 5 y cant yn uwch yn Lloegr. Ac ar ben hynny, mae'r dreth gyngor yng Nghymru bellach yn fwy na 3.5 gwaith yn uwch nag yr oedd ym 1999 pan gymerodd y Blaid Lafur reolaeth o Lywodraeth Cymru. Mae pobl yng Nghymru bellach yn talu mwy fel canran o'u hincwm mewn treth gyngor na dros y ffin yn Lloegr, er gwaethaf y ffaith bod ganddyn nhw incwm is yma yng Nghymru na'r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr, oherwydd record ofnadwy eich Llywodraeth o ran economi Cymru. Nawr, fel y byddwch chi'n gwybod, un o'r rhesymau pam mae cynnydd i'r dreth gyngor wedi cael eu cadw i lawr ac wedi bod yn is yn Lloegr yw oherwydd bod gan bobl leol fwy o lais ynghylch y dreth gyngor, oherwydd, pan fydd cynnydd gormodol yn cael ei gynnig, mae'n rhaid iddyn nhw fynd at y cyhoedd, cynghorau, i'w wneud yn destun pleidlais mewn refferendwm lleol. Pam ydych chi'n atal talwyr y dreth gyngor yma yng Nghymru rhag cael y cyfle hwnnw?

Mae'n rhaid i ni dalu am wasanaethau cyhoeddus, onid oes? Ceir perthynas rhwng trethiant a'r hyn yr ydych chi'n ei gael, ac yng Nghymru rydych chi'n cael llawer mwy mewn rhai meysydd nag yr ydych chi yn Lloegr. Cymerwch rywbeth fel y cap ar ofal, y cap o £100 ar ofal. Nid oes cap ar ofal yn Lloegr. Mae pobl yn cael eu gwthio i dalu miloedd o bunnoedd yr wythnos. Nid yw hynny'n digwydd yma yng Nghymru, ond ceir cost iddo. Ac mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod perthynas rhwng trethiant a'r hyn yr ydych chi'n ei gael o ran gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n sosialydd. Rwy'n aelod o'r Blaid Lafur. Rwy'n credu yn y berthynas honno rhwng gwasanaethau cyhoeddus a threthiant. Ac, ydw, rwy'n credu y dylai'r bobl sydd â'r ysgwyddau ehangaf dalu mwy, a dyna un o'r rhesymau pam, yng Nghymru, yr ydym ni wedi addasu eisoes ac wedi ail-werthuso cost tai fel ei bod yn adlewyrchu'n fwy cywir y swm y mae pobl yn ei dalu, gwerth y cartref, a'r swm y maen nhw'n ei dalu o ran trethiant lleol.

Rydych chi'n sôn am etholiadau a refferenda. Edrychwch, mae gennym ni etholiadau—dyna'r system ddemocrataidd y mae pawb yn ei deall. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ydy, cael y cyfle hwnnw i bobl gyflwyno eu hunain pan fyddan nhw wedi cyflwyno—. Ond mae'n nifer o flynyddoedd. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud eisoes. Nid wyf i'n siŵr a yw'r cyhoedd yng Nghymru yn mynd i fod yn ddiolchgar am hyd yn oed mwy o etholiadau. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod rheswm am hyn, a'r rheswm am hyn yw oherwydd 13 mlynedd o gyni cyllidol gan y Llywodraeth Dorïaidd.

Wel, rydym ni'n gwybod eich bod chi'n sosialydd, ac rydym ni'n gwybod effaith Llywodraeth sosialaidd: trethi uwch, gwasanaethau gwaeth a chanlyniadau gwaeth i'n trigolion. Gan eich bod chi wedi cyfeirio at y 14 mlynedd diwethaf a'r Llywodraeth Geidwadol, mae trethi cyngor yma wedi codi 30 y cant yn fwy na'r cynnydd yn Lloegr dros yr un cyfnod hwnnw. Pam mae hynny? Mae oherwydd gwahanol benderfyniadau a blaenoriaethau gwleidyddol a fabwysiadwyd gan eich Llywodraeth o'i chymharu â'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr. Pe bai'r dreth gyngor wedi codi ar yr un gyfradd yng Nghymru ag a ddigwyddodd yn Lloegr ers 2010, byddai trigolion yng Nghymru, pob aelwyd yng Nghymru, £350 y flwyddyn yn well eu byd nag y maen nhw heddiw. Felly, a gaf i ofyn i chi eto pam ydych chi'n ofni rhoi mwy o lais i'r cyhoedd ynghylch eu lefelau treth gyngor? A yw oherwydd eich bod chi'n deall na fyddan nhw'n derbyn y gwasanaethau gwael, y trethi uchel, tra bod £2,000 miliwn yn cael ei gelcio mewn cronfeydd wrth gefn gan ein cynghorau yng Nghymru? A wnewch chi roi llais i'r cyhoedd?

Fe ddywedaf i wrthych chi beth, maen nhw'n mynd i gael llais yn Lloegr yn fuan a myn Duw, maen nhw'n dod amdanoch chi. Maen nhw'n dod amdanoch chi. Maen nhw'n dod amdanoch chi. [Cymeradwyaeth.] Felly, rydych chi eisiau etholiad? Rydych chi'n mynd i gael etholiad, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld pa mor dda y byddwch chi'n ei wneud yn yr etholiadau hynny. Rydych chi'n iawn—rydych chi'n sôn am dreth gyngor ac, ydy, mae wedi codi rhyw fymryn yng Nghymru, ond, wyddoch chi beth, mae'n dal i fod yn is yn gyffredinol nag y mae yn Lloegr, ac rydych chi'n cael llawer mwy o ran eich gwasanaethau nag yr ydych chi yn Lloegr. Mae'r system yn Lloegr wedi cael ei gwagio'n llwyr ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol. Ac fe gewch chi eich haeddiant yn yr etholiadau yn fuan iawn, iawn.

13:45

Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, yng nghynhadledd Plaid Cymru, mi gyhoeddais i addewid y byddai llywodraeth Plaid Cymru o’r flwyddyn nesaf yn cyflwyno taliad plant uniongyrchol, yn dysgu o brofiad yr Alban, fel y dull unigol mwyaf effeithiol i fynd i’r afael â thlodi plant.

Nid yw'r pwerau gennym ni i gyflwyno taliad plant uniongyrchol yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi gallu ei wneud yn yr Alban, lle mae ganddyn nhw fwy o bwerau, ond rydym ni wedi nodi ffordd o wneud hyn. Gallai'r Trysorlys helpu, fodd bynnag, trwy beidio â rhoi rhwystrau yn ein ffordd. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i wneud y ddadl i'r Trysorlys i'n helpu, neu, o leiaf, i beidio â'n rhwystro, wrth geisio cyflawni'r hyn a allai fod yn fesur gwrth-dlodi trawsnewidiol yn y Llywodraeth o'r flwyddyn nesaf?

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, mae tlodi plant yn rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif iawn, ac yr ydym ni'n ei gymryd o ddifrif. Y gwir yw ein bod ni wedi gwario dros £5 biliwn, o ran lleddfu tlodi yn y wlad hon, dros y blynyddoedd diwethaf. Ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu. Nawr, pe baech chi wedi cael eich ffordd ac na bai'r gyllideb wedi cael ei phasio, yna, yn amlwg, byddai'n rhaid i ni dorri hynny, ac roedd hynny'n rhywbeth a fyddai wedi bod yn drychineb i dlodi plant yn y wlad hon. Ond fe wnes i nodi bod eich awgrym wedi dod heb unrhyw awgrym o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod. Dyna sut mae Llywodraeth gyfrifol yn edrych.

Rwy'n siomedig. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r Prif Weinidog wedi bod yn fwy parod i ymgysylltu o ran sylwedd y mesur gwrth-dlodi plant hwn. Efallai mai cymryd mater tlodi plant o ddifrif wnaeth orfodi Llafur i gael gwared ar unrhyw dargedau tlodi plant ddegawd yn ôl. Yn y bôn, rydym ni'n gofyn i'r Prif Weinidog ddefnyddio'r dylanwad y mae'n dweud sydd ganddi. Yr un peth o ran toriadau lles. Dywedodd wrthyf i yr wythnos diwethaf ei bod wedi siarad â Rhif 10 am y toriadau lles Llafur hynny. A wnaiff hi gadarnhau ai Keir Starmer y gwnaeth hi siarad ag ef? Dywedodd hefyd ar bodlediad The Political Party ychydig ddyddiau yn ôl bod parch rhyngddi hi a Keir Starmer. Popeth yn iawn, ond yr hyn y ydym ni'n chwilio amdano, wrth gwrs, yw parch at bobl Cymru. 

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser maith dros fformiwla ariannu tecach newydd; mae rhagflaenwyr y Prif Weinidog wedi cytuno â ni. Yn ei datganiad gwanwyn yfory, gallai Rachel Reeves, y mae'r Prif Weinidog wedi ei disgrifio fel ffrind, ddechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â chyllid teg i Gymru: cydraddoldeb â Gogledd Iwerddon, er enghraifft, y mae ei chyllid seiliedig ar anghenion 9 y cant yn uwch na chyllid Cymru, neu'r Alban, y mae ei gallu i fuddsoddi yn cael ei helpu gyda therfyn benthyg cyfalaf dair gwaith yn fwy nag un Cymru. Felly, a yw'r Prif Weinidog wedi gwneud cais i'r datganiad gwanwyn ddechrau unioni'r cam hanesyddol o ran cyllid teg? Neu a yw parch Keir Starmer a chyfeillgarwch Rachel Reeves yn ymestyn i gydweithwyr Llafur yn unig, yn hytrach nag i bobl Cymru yn ei chyfanrwydd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, dim ond i ateb rhan gyntaf eich cwestiwn, edrychwch, fy niddordeb gwirioneddol yw ceisio cael a helpu pobl i gael swyddi o ansawdd, fel y gallan nhw gefnogi eu teuluoedd a magu eu plant allan o dlodi. Ac rwy'n credu bod angen i ni sefyll gyda nhw drwy wneud hynny a'u galluogi i ymuno â'r gweithlu, a dyna pam roeddwn i'n meddwl bod y cynnydd o ran ein cynnig o ran gofal plant yn y gyllideb yn bwysig ac yn arwyddocaol iawn, oherwydd mae'n caniatáu i bobl fynd yn ôl i'r gwaith ac i gefnogi eu teuluoedd. Ond gadewch i mi eich atgoffa bod hynny'n rhywbeth y gwnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid yn ei erbyn.

Nawr, pan fyddwch chi'n sôn am barch, daeth y parch ar ffurf £1.6 biliwn ychwanegol sy'n mynd at—[Torri ar draws.]—sy'n mynd at gefnogi gwasanaethau rheng flaen. Rwyf i wedi cyflwyno yn eglur iawn i'r Canghellor yr hyn yr hoffem ni ei weld yn y dyfodol, o ran cyllid i Gymru, ac mae'n cynnwys pethau fel cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd, mae'n cynnwys pethau fel gweld Ystad y Goron yn cael ei datganoli i Gymru. Yr holl bethau hynny, rwyf i wedi eu cyflwyno'n eglur iawn. Rydym ni yn yr un blaid wleidyddol, ond mae datganoli yn golygu bod adegau pan na fyddwn ni'n cytuno. A byddaf yn parhau i wneud y ddadl dros Gymru, oherwydd mae'r blaid yn ail i'r wlad, sy'n wahanol i'r ffordd y gwnaethoch chi bleidleisio yn y bleidlais honno ar y gyllideb. 

13:50

Rwy'n cael trafferth deall pam mae'r Prif Weinidog yn ei chael hi mor anodd ateb y cwestiynau hyn, oherwydd, oes, o fewn ei chyllideb yma mae'n rhaid iddi weithio gyda chydweithwyr Cabinet i geisio cael gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi torri yn ôl ar eu traed o fewn ei chyllideb bresennol—gwasanaethau a dorrwyd gan y Llywodraeth Lafur hon—ond ei chyfrifoldeb hi yw bod yn gwbl benderfynol bob amser i negodi dros Gymru gyda Llywodraeth y DU, rhoi Cymru yn gyntaf. Ac mae'n sicr yn teimlo fel plaid o flaen gwlad pan fo gennym ni Brif Weinidog yn amddiffyn dro ar ôl tro penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Trysorlys Llafur. Onid yw hi'n meddwl mai dyma ei swyddogaeth—dim ond gadael pethau i siawns, Cymru ar drugaredd Llywodraeth y DU yn llwyr?

Mae HS2 yn un arall yr ydym ni'n parhau i ddychwelyd iddo, y gallai Rachel Reeves fynd i'r afael ag ef yfory—y cyfle perffaith i Lywodraeth Lafur y DU nodi ei bod yn bwriadu rhoi'r cyllid canlyniadol i Gymru y gwnaeth ei addo pan oedd yn wrthblaid. Nawr, mewn sesiwn graffu yn San Steffan yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog wrth fy nghydweithiwr, Ben Lake AS, ei bod hi'n meddwl bod meddalu o ran safbwynt Llywodraeth y DU. Dywedodd

'Nid wyf i'n siŵr a fyddan nhw'n mynd mor bell â dweud, "Rydym ni'n mynd i ailddosbarthu HS2," ond...fe wnawn ni barhau i wthio.'

Nawr, gan dybio bod y Prif Weinidog wedi parhau i wthio, fel yr addawodd ei wneud, a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt diweddaraf Llywodraeth y DU? Ac, os nad oes cynnydd, beth fydd ei cham nesaf?

Wel, diolch yn fawr iawn. Gallwch barhau i ddweud nad wyf i'n sefyll dros Gymru, ond byddaf yn parhau i ddweud wrthych fy mod i. HS2, Ystad y Goron, y fformiwla ariannu—yr holl bethau hynny, rwy'n galw amdanyn nhw. Beth ydych chi'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd os byddwch chi byth yn dod i rym yma? A ydych chi'n meddwl bod gweiddi'n uwch yn mynd i helpu? A ydych chi'n meddwl, pan fyddwch chi'n mynd—[Torri ar draws.] A ydych chi'n meddwl pan fyddwch chi'n mynd i—[Torri ar draws.] A ydych chi'n meddwl pan fyddwch chi'n mynd i siarad â Rachel Reeves—? A bydd Rachel Reeves yn troi o gwmpas ac yn dweud wrthych chi, 'Wyddoch chi beth? Roedd £4 biliwn ar y bwrdd, ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn.' Mae eich hygrededd pan ddaw i negodi gyda'r Trysorlys yn hollol racs.

Plant ag Anghenion Addysgol Arbennig

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62537

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Penfro i’w galluogi i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer y maes a chyfarfodydd bob tymor i drafod cyflawni. Hefyd, mae gwybodaeth, canllawiau ac arferion effeithiol yn cael eu rhannu i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y fframwaith deddfwriaethol.

Cefais y pleser yn ddiweddar o ymweld â Chanolfan Elfed, uned arbenigol yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, lle cwrddais â disgyblion a staff, cefais daith o gwmpas eu cyfleuster a dysgu am eu hymdrechion i godi arian ar gyfer ardal chwarae synhwyraidd newydd. Ar hyn o bryd, mae'r ganolfan hon yn cynorthwyo 92 o blant ag anghenion addysgol arbennig o bob rhan o sir Gaerfyrddin, sir Benfro a Cheredigion, er ei bod wedi cael ei hadeiladu ar gyfer 65 o ddisgyblion yn unig. Oherwydd y galw cynyddol, mae eu prosiect gwerth £275,000, dan arweiniad y rheolwr cynhwysiant, Lisa Thomas, Nigel Cooke, rheolwr busnes yr ysgol, ac mewn partneriaeth â Mary Adams o'r Clwb Rotari lleol, yn hanfodol i ddarparu dysgu ymarferol i'r plant mwyaf agored i niwed a gwneud gwell defnydd o fannau awyr agored na ellir eu defnyddio. Er gwaethaf y swyddogaeth hanfodol ar draws y tair sir y mae Canolfan Elfed yn ei chwarae, mae wedi cyrraedd ei chapasiti ac mae'n dibynnu ar godi arian a haelioni gan fusnesau lleol ar gyfer y cyfleuster hwn y mae mawr ei angen. Felly, pa gymorth ariannol all Llywodraeth Cymru ei ymrwymo i helpu i ddarparu'r ardal chwarae synhwyraidd newydd hwn y mae mawr ei angen?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed am gyfleusterau fel Canolfan Elfed, ac rydym ni'n deall yn llwyr pam mae angen gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl sydd ag anghenion ADY wir yn dysgu mewn ysgolion a gynhelir—mae gan 11 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir anghenion ADY. Nawr, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw mae gennym ni raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi arllwys arian nid yn unig i ysgolion prif ffrwd ond hefyd i ysgolion arbennig ac ysgolion lle ceir yr anghenion dysgu ychwanegol hynny. Ac yn amlwg, mater i gyngor Caerfyrddin fydd cyflwyno cynigion o ran hynny, ac yna byddan nhw'n cael eu hasesu. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi fod y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud bellach dros ddegawdau yn gwneud gwahaniaeth mewn llawer iawn o gymunedau ledled Cymru gyfan. Gwelais enghraifft wych yr wythnos diwethaf yn Llantrisant, gan agor ysgol newydd yn Llantrisant, ac un yr wythnos cynt gyda'r Llywydd yng Ngheredigion. Mae'r rhain yn digwydd ledled y wlad diolch i'r buddsoddiad y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi ei wneud.

13:55
Gwasanaethau Bancio'r Stryd Fawr

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi mynediad at wasanaethau bancio'r stryd fawr yng nghanol trefi ledled Delyn? OQ62538

Mae colli llawer o ganghennau banc wedi dod yn destun pryder mawr. Nawr, y mis yma mae Llywodraeth Cymru yn cynnull ail ddigwyddiad bancio yng nghymunedau Cymru, gan ddod â rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector ariannol ynghyd ochr yn ochr â'r rhai sydd â buddiant gweithredol yn y ddarpariaeth o wasanaethau bancio yn ein cymunedau.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog.

Fel y dywedwch chi, rydym ni wedi gweld patrwm llawer rhy gyfarwydd o fanciau adnabyddus yn cau canghennau ar strydoedd mawr ledled y wlad ac nid yw fy etholaeth i, yn anffodus, yn unrhyw eithriad. Dim ond yr wythnos diwethaf, clywodd trigolion a busnesau yn Nhreffynnon a'r cyffiniau y newyddion siomedig bod Santander bellach yn bwriadu cau ei gangen yn y dref. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr faith o ymadawiadau, a fydd yn gadael pobl Treffynnon heb yr un gangen banc. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod fy etholwyr a'm cymuned yn haeddu gwell na hyn, a cheir ymgyrch weithredol, yn gwbl briodol, i geisio achub y banc.

Ond, pan fo canghennau banc wedi gadael strydoedd mawr mewn mannau eraill, rydym ni weithiau wedi gweld canolfannau bancio swyddfa bost newydd yn cael eu sefydlu. Mae'r rhain nid yn unig yn llenwi bwlch a adawyd gan ddiffyg canghennau banc stryd fawr traddodiadol, ond hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gwerthfawr a chyngor wyneb yn wyneb, rhywbeth a welais fy hun yn bersonol ar ymweliad â chanolfan bancio swyddfa bost Prestatyn. Mae'r mathau hyn o wasanaethau ar ein strydoedd mawr nid yn unig yn achubiaeth i unigolion, ond i ganol ein trefi eu hunain hefyd. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod banciau yn rhan bwysig o fywyd lleol, ac a wnewch chi ymuno â mi, ynghyd â'r Aelod Seneddol ac aelodau Cyngor Tref Treffynnon, i wneud y ddadl eglur dros ganolfan fancio yng nghanol Treffynnon? Ac yn olaf, er bod mandadu ein banciau i wasanaethu cymunedau y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru, a allech chi nodi sut mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi canol ein trefi ymhellach, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu ymhell i'r dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Er fy mod i'n gwybod eich bod chi'n cydnabod bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli, nid yw'n golygu ein bod ni'n golchi ein dwylo o'r mater, a dyna pam rydym ni wedi bod yn weithgar iawn o ran cychwyn deialog i adeiladu atebion newydd. Hoffwn nodi pa mor ddiolchgar wyf i i'r Ysgrifennydd sy'n gyfrifol o ran cyfiawnder cymdeithasol am ei gwaith yn y maes hwn.

Mae'n drist iawn gweld Santander yn cau'r gangen honno yn Nhreffynnon. Fel y dywedais i, un o'r pethau yr ydym ni'n mynd i fod yn ei wneud yw cynnal y digwyddiad bancio yn y cymunedau hwn. Bydd hwnnw'n cael ei gynnal gan Gymdeithas Adeiladu Principality ddiwedd y mis hwn, felly ar y ffordd yn fuan iawn, iawn.

O ran canolfannau bancio, ceir chwe chanolfan a rennir eisoes ar agor yng Nghymru, a thair canolfan dros dro arall yn aros am leoliadau parhaol ac mae canolfannau bancio a rennir pellach yn y broses o gael eu sefydlu yn y Fflint a sir Fynwy ac Ystradgynlais.

Yr un diwrnod ag yr anfonodd Link, y corff sy'n argymell gwasanaethau mynediad at arian parod newydd pan fo angen, e-bost yn dweud eu bod nhw wedi cytuno bod bwlch mewn gwasanaethau mynediad at arian parod yng Nghaergybi, ond nid yng Nghaernarfon, Bae Colwyn na Threffynnon, cyhoeddodd banc Santander ei fod yn cau canghennau ym mhob un o'r pedwar lleoliad hynny. Yna e-bostiodd etholwyr, 'Mae hyn yn gadael dim banc yn Nhreffynnon, Maes-glas a'r cyffiniau. Y Rhyl neu'r Wyddgrug fydd y gangen agosaf. Awr i ffwrdd yw'r amser ar y bws.' Felly, ble mae hyn yn gadael y rhai sydd wedi'u datgysylltu'n ddigidol, y bobl hŷn ac eraill? Gwahaniaethu yw hyn ac mae'n rhaid ei ymladd.

Wrth siarad yma ar ôl cau canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn olynol ar draws y gogledd dros y ddau ddegawd diwethaf, rwyf i wedi pwysleisio bod bod â changen leol hygyrch yn bwysig i bobl hŷn, pobl anabl, y rhai heb drafnidiaeth, y rhai heb fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr a busnesau bach. Felly, pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phrotocol mynediad at fancio wedi'i ddiweddaru, a beth yw'r sefyllfa bresennol o ran cynigion banc cymunedol gohiriedig Llywodraeth Cymru gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy?

Diolch yn fawr iawn. Rwyf i eisiau gweld Cash Access UK, sef y sefydliad sy'n edrych ar ganolfannau bancio, rwyf i eisiau eu gweld nhw'n cyflymu eu gwaith yng Nghymru. Mae'r pwyslais ar y sector i gynorthwyo cwsmeriaid, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r cyfrifoldeb hwnnw arnyn nhw. Nhw yw'r bobl sydd hefyd yn elwa o'r ffaith bod ganddyn nhw bobl yn eu cymunedau, ac mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhoi gwasanaeth iddyn nhw. Felly, os oes gan bobl bryderon, mae'n bosibl iddyn nhw gysylltu â Link ac yna maen nhw'n cyflwyno cais am adolygiad mynediad at arian parod. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi awgrymu nad oeddech chi'n hapus gyda'r casgliadau a wnaed ganddyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, efallai, yr wyf i'n siŵr fydd yn cael ei drafod yn y digwyddiad ar 31 Mawrth.

14:00
Cofnodion Iechyd Cleifion

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddigido cofnodion iechyd cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ62500

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu cofnodion iechyd meddwl digidol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'r gwaith eisoes ar y gweill. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo byrddau iechyd i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gofal mamolaeth digidol yng Nghymru hefyd erbyn mis Mawrth 2026.

Diolch. Yn 2020, ariannwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i arwain rhaglen bum mlynedd gwerth £4.8 miliwn ar gyfer gofal llygaid. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio cofnod cleifion electronig ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg, yn gweithio ochr yn ochr â byrddau iechyd eraill. Bwriad y cofnod electronig hwn oedd iddo fod yn gynnyrch a ddefnyddir yn genedlaethol, gyda bwrdd Betsi yn rhan o'i gwmpas. Er i OpenEyes gael ei roi i adrannau offthalmoleg ar draws y gogledd cyn y pandemig, mae'r defnydd yn parhau i fod wedi'i oedi. Mae pedair miliwn o bunnoedd o'r gyllideb o £4.8 miliwn wedi cael eu defnyddio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer defnyddio OE, ond ym mis Mehefin 2023, nid oedd pum bwrdd iechyd hyd yn oed wedi rhoi'r system hon ar waith. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylid cynnal adolygiad manwl o gynnydd y rhaglen hon i sicrhau bod OpenEyes wedi cael ei rhoi ar waith ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Mae hon wedi bod yn sefyllfa sydd wedi bod yn parhau ers cyfnod hir o amser a gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cadw llygad agos ar y sefyllfa benodol hon. Roedd rhai problemau o gwmpas OpenEyes a'r gallu i'w gyflwyno ledled y wlad. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â hyn, ond mae angen i ni symud yn gyflymach ac ymhellach o ran rhaglenni gofal llygaid digidol, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod gyda'r rhaglen a'r prosiect priodol sy'n mynd ochr yn ochr ag ef. Ond roedd rhai problemau, rwy'n gwybod, gyda'r prosiect OpenEyes.

Diolch i Janet am y cwestiwn yma. Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i wedi codi'r mater o ddigideiddio sawl gwaith yn y Siambr a'r diffygion sydd gennym ni yn y maes hwnnw—fod meddygon a sectorau iechyd yn y gogledd yn parhau i ddefnyddio papur a ffacs ac yn gorfod 'ferry-o' papur o un man i'r llall, sydd yn gwbl annerbyniol yn 2025. Rai wythnosau nôl, ges i'r fraint o fynd i ymweld â phroject OneLondon yn Llundain, sydd yn gwasanaethu 12 miliwn o bobl, ac maen nhw wedi llwyddo i uno'r gwasanaethau digidol, dod â nhw at ei gilydd er mwyn bod y cyfrifiaduron yn siarad gyda'i gilydd. Mae Manceinion hefyd yn gwneud project tebyg o'r enw Hive, lle maen nhw yn llwyddo i gael cyfrifiaduron i siarad gyda'i gilydd.

Rŵan, mae nifer o bobl yn poeni bod hyn yn mynd i fod yn gostus, ond yn achos OneLondon, dros wyth mlynedd mae wedi costio £45 miliwn yn unig iddyn nhw, oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud ydy datblygu rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, sef patches sy'n golygu bod cyfrifiaduron yn medru siarad gyda'i gilydd. Pa ystyriaeth a ydych chi wedi ei gwneud o brojectau fel OneLondon a Hive, ac a ydych chi'n fodlon siarad efo nhw er mwyn dysgu'r arferion da yna? 

Diolch yn fawr. Rŷm ni'n ymwybodol iawn fod angen i ni symud yn gyflymach yn y maes yma. Dyw hwn ddim o achos diffyg ymdrech; mae'r peth yn gymhleth. Mae cael y sgiliau cywir yn bwysig. Ond rŷm ni'n fodlon edrych ar beth sy'n digwydd mewn llefydd eraill a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog, efallai, i ddilyn i fyny ar y syniad yna. 

Mannau Chwarae Awyr Agored

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mannau chwarae awyr agored i blant? OQ62520

Byddwn yn buddsoddi £5 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2025-26 i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant. Bydd y cyllid yn rhoi'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol wella ansawdd mannau chwarae, ailwampio meysydd chwarae a chymorth i greu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.

Rwy'n gobeithio y gallwch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Caerdydd ar ei gynllun digonolrwydd chwarae manwl, sy'n ddefnyddiol iawn i nodi pethau sy'n mynd yn dda, ond hefyd lle mae'r bylchau mewn pethau fel mannau chwarae Sipsiwn a Theithwyr, cyfleusterau i bobl anabl a hefyd a yw mannau chwarae awyr agored wir mor groesawgar â hynny i ferched.

Roeddwn i eisiau ei gysylltu â'r 20 mya, sy'n amlwg wedi gwneud ein ffyrdd yn llawer mwy diogel i blant, ond nid yw wedi'i gysylltu'n iawn o hyd â hawliau'r plentyn i deithio i'r ysgol ar sail lesol, boed hynny trwy fynd ar sgwter, beicio neu gerdded. Ac mae'n ymddangos bod bwlch yn yr wybodaeth sydd ar gael am hyn. Dim ond arolwg blynyddol sy'n cael ei gynnal, yn seiliedig ar Teithio i'r Ysgol Arolwg Dwylo Fyny, unwaith y flwyddyn ym mis Mehefin, ynghylch pwy sy'n teithio sut. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthyf i sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r gyllideb teithio llesol i sicrhau bod gan blant yr hawl i gael mynediad at ysgolion a mannau chwarae yn ddiogel, heb ofni cael eu taro gan gar, oherwydd rwy'n credu bod bwlch sylweddol yn hyn o beth ar hyn o bryd.

14:05

Wel, diolch yn fawr iawn. Hoffwn ganmol adroddiad digonolrwydd chwarae Cyngor Caerdydd, a hoffwn hefyd longyfarch y cyngor Llafur hwn ar y gydnabyddiaeth fyd-eang fel y ddinas gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ennill statws dinas ystyriol o blant UNICEF. Mae hyn yn rhywbeth y dylen nhw fod yn falch iawn ohono. Cyngor Llafur yn cyflawni dros bobl yng Nghaerdydd.

Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni, fel Llywodraeth, yn sicr yn croesawu unrhyw gefnogaeth a gweithredoedd sy'n gwneud mannau cymunedol yn fwy deniadol i blant, gan ganiatáu iddyn nhw chwarae'n ddiogel yn eu cymunedau. Rwy'n credu ein bod ni wedi cymryd camau breision o ran gwella amodau i blant, o ran teithio i'r ysgol yn ddiogel ac yn llesol, ac rydym ni'n dechrau gweld rhai canlyniadau calonogol yn hyn o beth. Bydd cyhoeddiad, yn fuan, o ran y dyraniadau ar gyfer awdurdodau lleol, o ran y gronfa teithio llesol, ac mae'r grant llwybrau diogel yn canolbwyntio'n llwyr ar greu amodau gwell ar gyfer cerdded, mynd ar olwynion a beicio i'r ysgol. Felly, mae'n rhaid i ni barhau i annog hyn, ac, wrth gwrs, mae ceisio cael plant yn egnïol yn bwysig o ran mynd i'r afael â gordewdra a gwneud yn siŵr eu bod nhw yn yr awyr agored ac yn anadlu awyr iach. Felly, cyfleoedd go iawn yma i fynd i'r afael â llawer iawn o faterion yr wyf i'n gwybod eich bod chi, Jenny, yn ymwneud â nhw.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod am godi cwestiwn mor bwysig. Fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae'r mwyafrif llethol o feysydd chwarae newydd yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr tai, yn rhan o'r cytundebau y maen nhw'n eu cytuno â chynllunwyr y cyngor. Yn anffodus, fy mhrofiad i, fel cyn-gynghorydd, fu eu bod nhw'n gwneud hynny gydag amharodrwydd mawr. Ceir diffyg ymgysylltiad â'r gymuned a'r cyngor, mae'r offer yn aml o safon na all y cyngor ei fabwysiadu i gychwyn, ac maen nhw'n aml yn cael eu hadeiladu mewn lleoliadau amhriodol—maen nhw naill ai wedi'u hynysu neu mae ganddyn nhw broblemau draenio, er enghraifft. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru a ydyn nhw'n cytuno â fy asesiad, ac os felly, beth ellir ei wneud amdano. Diolch.

Diolch. Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid i ni geisio cael mwy o blant oddi ar eu sgriniau ac i mewn i feysydd chwarae. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl wedi gwylio'r gyfres Adolescence yr wythnos hon, ac mae wedi bod yn wirioneddol dorcalonnus meddwl bod cynifer o blant yn treulio hyd at chwe awr y dydd ar eu sgriniau. Mae'n rhaid i ni roi'r cyfleoedd a'r cyfleusterau iddyn nhw allu chwarae yn yr awyr agored, yn enwedig pan fyddan nhw'n iau. Dyma pryd maen nhw'n creu'r cysylltiadau hynny, ac mae'r mathau o gysylltiadau yr ydych chi'n eu creu mewn maes chwarae yn wahanol iawn i'r cysylltiadau yr ydych chi'n eu creu ar-lein, ac mae'r mathau hynny o bethau yn eich arfogi am oes. Felly, rydych chi'n iawn, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cymdeithasau tai i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif o ran adeiladu meysydd chwarae priodol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y cymunedau yn cymryd rhan, fel eu bod nhw'n teimlo dyletswydd, pan fydd eu plant yn tyfu i fyny, i'w hannog i fynd i ddefnyddio'r cyfleusterau hynny.

Gwarantau ar gyfer Mynediad i Dir

7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch cyhoeddi gwarantau ar gyfer mynediad i dir yn nyffryn Tywi gan Green GEN Cymru? OQ62534

Dwi ddim wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Green GEN Cymru am fynediad i dir.

Gallaf roi gwybod i'r Prif Weinidog fy mod i wedi cael fy hysbysu y bu nifer o geisiadau, yn yr wythnos ddiwethaf, am gyhoeddi gwarantau i ganiatáu i Green GEN Cymru gael mynediad at dir heb ganiatâd. Bydd hyn yn sicr yn gwaethygu tensiynau cymunedol yn nyffryn Tywi, sydd eisoes ar lefel uchel iawn. Rydym ni'n wynebu'r posibilrwydd o anufudd-dod sifil torfol, nad ydym wedi gweld ei fath yn sir Gaerfyrddin ers dechrau'r 1960au, wrth gwrs, pan rwystrodd pobl Llangyndeyrn lwybr syrfewyr a oedd yn dymuno adeiladu cronfa ddŵr. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai'n llawer gwell i'r cwmni, yn hytrach na mabwysiadu strategaeth gyfreithiol gynyddol ymosodol, gymryd rhan mewn deialog ystyrlon gyda chynrychiolwyr cymunedol i ddod o hyd i wahanol ffordd ymlaen?

14:10

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n cydnabod bod tensiynau yn y gymuned; rwy'n cydnabod bod llawer o bobl sy'n gwrthwynebu hyn. Mae Deddf Trydan 1989, fodd bynnag, yn eglur iawn bod

'unigolyn sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan ddeiliad trwydded, ar unrhyw adeg resymol, i fynd ar ac arolygu unrhyw dir at y diben o ddarganfod pa un a fyddai'r tir yn addas i'w ddefnyddio at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â chyflawni'r gweithgareddau y mae deiliad y drwydded wedi'i awdurdodi gan ei drwydded i'w gyflawni.'

Felly, mae ganddyn nhw hawl gyfreithiol i wneud hyn. Nawr, nid yw'r ffaith bod ganddyn nhw hawl gyfreithiol yn golygu na ddylen nhw fod yn synhwyrol ac yn sensitif a chysylltu a cheisio gweithio gyda'r cymunedau. Rwy'n credu ei bod er budd pawb ceisio lleihau'r tensiynau yn hyn o beth. Ond rwy'n credu hefyd ei bod hi'n werth cydnabod yn ôl pob tebyg y byddwn ni'n gweld dair gwaith cymaint o alw o ran trydan yng Nghymru erbyn 2050, ac y bydd angen seilwaith newydd arnom ni. Mae hwn yn gydbwysedd anodd, ac rydym ni hefyd yn wynebu problemau o ran tlodi tanwydd. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr holl ystyriaethau hynny yn cael sylw pan fyddwn ni'n edrych ar ddatblygu'r math o seilwaith y bydd ei angen arnom ni er mwyn pweru ein gwlad yn y dyfodol.

Yr Economi Las yng Ngogledd Cymru

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi las yng Ngogledd Cymru? OQ62533

Rwyf i wedi ymrwymo i dyfu'r economi las yn gynaliadwy, sef y defnydd cynaliadwy o adnoddau môr ar gyfer twf economaidd, yn y gogledd, gan sicrhau ein bod ni'n harneisio cyfleoedd economaidd yn y dyfodol. Mae gogledd Cymru yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau morol, gan gynnwys gwynt ar y môr, porthladdoedd, twristiaeth arfordirol a physgota. Mae buddsoddiad parhaus yn ein hecosystemau morol a lles cymunedau arfordirol yn ganolog i ddatblygu cynaliadwy.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Mae ein hardal leol yn Nyffryn Clwyd wedi'i bendithio â rhai o'r morlinau gorau yn y wlad, felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn chwarae ei rhan o ran helpu i dyfu ein heconomi o'u cwmpas ar gyfer ei phobl yn y gogledd. Ni fydd eich cynlluniau dinistriol ar gyfer treth dwristiaeth yn sicr yn helpu'r achos hwn. Mae cymunedau arfordirol fel y Rhyl a Phrestatyn yn fy etholaeth ar bwynt tyngedfennol, ac mae'r Rhyl, trysor twristiaeth Cymru ar un adeg, bellach ymhlith ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU. Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gan Orllewin y Rhyl gyfraddau tlodi plant o 62 y cant yn 2023, tra bod unedau siopau gwag wedi codi'n aruthrol o 12 y cant yn 2007 i dros 25 y cant y llynedd. Fe wnaeth hynna eich deffro. Mae Prestatyn yn gwneud yn well, ond mae'n dal mewn trafferthion, â nifer yr ymwelwyr manwerthu yn gostwng 18 y cant rhwng 2019 a 2023, â bwytai poblogaidd yn cau eu drysau, gan feio costau ynni cynyddol, masnach farwaidd, a'ch toriad i ryddhad ardrethi busnes y llynedd, cyn eich llwyddiant yn yr etholiad cyffredinol. Twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi las yn Nyffryn Clwyd. Mae'r trefi hyn yn haeddu mwy na geiriau gwresog gan Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog. Mae angen gweithredu arnyn nhw. Felly, beth yw eich cynllun, Prif Weinidog?

Waw, fe wnaethoch chi orffen yn flodeuog yn y fan yna, on'd do fe? Diolch. Edrychwch, mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig i economi Cymru. Mae tua 12 y cant o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth, ac rydym ni'n ei gymryd o ddifrif iawn, ac rwy'n gwybod bod neu y bu cynhadledd dwristiaeth ddydd Iau a fydd yn ystyried hyn, ac mae'n cael ei chynnal yn y gogledd. Bydd llawer o'r materion yr ydym ni'n gwybod y mae pobl yn bryderus yn eu cylch yn cael eu trafod yn y gynhadledd honno.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod nid yn unig ein bod ni'n gwario cryn dipyn ar hyrwyddo Cymru dramor, ond hefyd yn Lloegr, ond rydym ni hefyd yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn cydnabod, mewn gwirionedd, o ran pethau fel ardrethi busnes a phethau, bod gostyngiadau enfawr—enfawr—iddyn nhw a busnesau eraill ledled Cymru nad oes yn rhaid i ni eu rhoi iddyn nhw, ond yr ydym ni'n eu rhoi iddyn nhw. Rydym ni'n eu cynorthwyo. Mae pobl yn cymryd y pethau hyn yn ganiataol, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n cydnabod bod yr holl bethau hyn yn gyfranwyr at yr economi.

Rwy'n awyddus iawn i gynyddu twristiaeth o ansawdd yng Nghymru. Rwy'n credu mai dyna lle ceir cyfleoedd gwirioneddol i ni. Mae'n bwysig i ni ganolbwyntio nid yn unig ar dwristiaeth pan ddaw i'r economi las, fodd bynnag. Mae'n bwysig i ni gydnabod bod pethau fel ynni adnewyddadwy morol, a allai fod yn drawsnewidiol, yn ogystal â phethau fel y cyfleoedd gwynt ar y môr sy'n bodoli yn y gogledd.

14:15
Cyllid i Drwsio Ffyrdd a Phalmentydd

9. Sut y bydd y £120 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i drwsio ffyrdd a phalmentydd yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol? OQ62504

Fe gaiff cyllid ei ddyrannu i bob awdurdod lleol gan ddefnyddio'r fformiwla cynnal a chadw ffyrdd safonol o fewn y setliad i lywodraeth leol. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol fuddsoddi £120 miliwn i drwsio ffyrdd a phalmentydd yn lleol.

Mae ein hawdurdodau lleol yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn yn fawr. Maen nhw'n ysu i ddechrau nawr mae'r tywydd yn sych. Rwy'n falch iawn nad yw'n broses fiwrocrataidd i gael y cyllid hwnnw. Fel cyn-aelod cabinet dros briffyrdd, mae priffyrdd wedi bod yn flaenoriaeth i mi dros y tair blynedd diwethaf, ac rwyf wedi bod yn pwyso am gyllid. Prif Weinidog, beth achosodd iddi fod yn un o'ch blaenoriaethau chi fel Prif Weinidog Cymru? Diolch i chi.

Diolch yn fawr i chi. Pobl yn eich etholaeth chi a achosodd hynny, mewn gwirionedd. Roeddech chi'n bresennol pan ddaeth un ar ôl y llall ataf a gofyn, 'Beth ydych chi am ei wneud ynglŷn â'r tyllau?' Ac nid dim ond rhywbeth unigryw i'r gogledd oedd hynny—roedd hwnnw'n rhywbeth a godwyd drwy'r wlad i gyd. Mewn gwirionedd, rydym yn gwybod bod hon yn broblem. Mae llawer o bobl yn defnyddio ceir yn y wlad hon, ac mae'n achosi difrod i'w ceir nhw. Mae llawer o feicwyr wedi cael damweiniau difrifol o ganlyniad i balmentydd gwael. Dyna pam mae hi'n wych gweld y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario nawr. Rydym yn disgwyl y bydd tua 30,000 o ddiffygion ar ffyrdd yn cael eu trwsio yn y flwyddyn newydd, felly nid nifer dibwys o dyllau mo hynny. Ond mae hi'n hyfryd gweld hefyd fod rhai awdurdodau lleol yn buddsoddi yn yr offer diweddaraf. Fe dreuliais i'r penwythnos yn edrych ar fideos YouTube o beiriant Pothole Pro i weld yn union beth y gall technoleg fodern ei gyflawni, oherwydd mae hwnnw hyd at dair neu bedair gwaith yn fwy effeithlon na'r dulliau arferol. Felly, tra bod pawb arall yn cael amser braf ar eu penwythnosau, rwy'n edrych ar y peiriant Pothole Pro.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Cymorth i Bobl Anabl a Phobl sy'n Cael Budd-daliadau Salwch Hirdymor

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran y pwerau sydd ganddi i liniaru ar effaith cynigion Llywodraeth y DU i newid y cymorth sydd ar gael i bobl anabl a phobl sy'n cael budd-daliadau salwch hirdymor? OQ62502

Er bod cynlluniau nawdd cymdeithasol wedi'u cadw yn ôl o dan y setliad datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o syrthio i dlodi a chynorthwyo pobl i gael gwaith. Byddwn ni'n parhau i fod â rhan lawn a chymesur wrth gefnogi pobl anabl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau perthnasol. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch i chi am hynna. Onid yw'r penderfyniad hwn, serch hynny, yn gadael Cymru a Llywodraeth Cymru yn agored iawn i niwed. Mae toriadau arfaethedig y Blaid Lafur i fudd-daliadau anabledd a salwch wedi cael eu galw'n greulon ac yn ddi-hid. Byddan nhw'n gwneud pobl yn dlotach, ond byddan nhw'n agor y drws i atgasedd hefyd. Mae Tanni Grey-Thompson wedi rhybuddio bod y rhethreg sy'n ymwneud â'r toriadau hyn eisoes yn arwain at gam-drin pobl anabl ar y stryd, eu targedu a gweiddi arnynt, a bydd yn ein taro ni yma yng Nghymru galetaf. Mae Sefydliad Bevan wedi canfod mai Cymru sydd â'r ail gyfradd uchaf o bobl anabl o oedran gweithio yn y DU. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno â mi; nid yw'r bobl hyn yn haeddu cael eu difrïo neu gael pobl yn ymosod arnyn nhw—ein cymdogion, ein cyfeillion ydyn nhw. Maen nhw'n haeddu cael eu trin â pharch, nid â'r creulondeb erchyll hwn sy'n dod unwaith eto o San Steffan. Ac fe ddylai'r Blaid Lafur wybod yn well. A fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu ceisio am yr un pwerau i weinyddu lles ag sydd i'w cael yn yr Alban i lunio cyfundrefn sy'n fwy tosturiol? Ac a ydych chi'n bryderus ynglŷn â'r effaith y gallai'r toriadau hyn ei chael ar Gymru?

Diolch i chi, Delyth. Rwy'n edmygu eich ymgais i wneud hwn yn gwestiwn cyfreithiol, ond nid cwestiwn cyfreithiol mohono. Felly, fe gymerais i ofal i drafod ymlaen llaw gyda'r Gweinidog polisi ynglŷn â'r pwynt hwn, oherwydd doeddwn i ddim eisiau dweud, 'Nid cwestiwn cyfreithiol mohono' yn unig. Rydym yn parhau gyda'n deialog â Llywodraeth y DU ar natur a chwmpas y diwygiadau arfaethedig o systemau budd-daliadau salwch ac anabledd. Rydym wedi gofyn am asesiad o'r effaith ar bobl Cymru, ac fe fyddwn ni'n dal ati i bwyso am hwnnw.

Rydym yn parhau â'r trafodaethau hefyd ynglŷn â rôl a diwygiad y system fudd-daliadau gydag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn y cyfarfodydd rhyngweinidogol pedair gwlad, ac yn amlwg fy nghyd-Aelod Jane Hutt sy'n arwain y rhan fwyaf o'r gwaith yn hyn o beth. Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni o fewn y pwerau sydd gennym i gefnogi pobl yng Nghymru, ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny. Yn arbennig, fel y clywson ni'r Prif Weinidog yn ei ddweud, rydym am sicrhau bod pobl sy'n gallu gweithio yn gallu dod o hyd i waith o safon a'u bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.

Cyn bo hir, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r cynllun gweithredu hawliau anabledd, sydd wedi'i gyd-gynhyrchu â phobl mewn grwpiau gweithredu anabledd ledled Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, hoffwn dalu teyrnged i'm cyd-Aelod a'm cyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Roeddwn i yno ar ddechrau'r trafodaethau hynny, ac roedden nhw ymhlith y cyfarfodydd mwyaf dyrys, oherwydd roedd pobl o'r farn bod eu bywydau nhw'n galed iawn, ac roedden nhw eisiau i ni wneud rhywbeth am y peth. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu llunio cynllun gweithredu y cytunwyd arno gan gymaint o bobl sydd â phrofiad bywyd. Fe fyddwn ni'n gallu dod â hwnnw ymlaen cyn bo hir, ac rwy'n siŵr y bydd croeso mawr iddo.

Rydym yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth i aelwydydd. Rydym yn darparu'r gronfa cymorth dewisol, cyllid ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd, a chyllid ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rydym yn darparu cymorth i gael help mewn argyfwng. Rydym yn darparu cymorth gyda chostau cartrefi, ar atal digartrefedd. Mae ein cynllun Cymorth i Aros yn helpu pobl sy'n mynd i drafferthion gyda'u morgeisi. Mae gennym ni gynllun gostyngiad treth gyngor. Mae gennym ni raglen Cartrefi Clyd. Mae gennym ni ymgyrch i annog manteisio ar fudd-daliadau. Mae gennym ni Yma i Helpu, credyd pensiwn, y gronfa gynghori sengl, a chyllid i undebau credyd. Mae gennym ni gymorth gyda chostau'r diwrnod ysgol, ar gyfer bwyd mewn ysgolion, prydau ysgol am ddim, grantiau datblygu disgyblion, grantiau hanfodion ysgol, lwfans cynhaliaeth addysg, ac rydym yn helpu pobl gyda chymorth pellach, gyda lleoedd diogel a chynnes, hyfforddiant i weithwyr rheng flaen, hyfforddiant arweiniad ariannol a chynlluniau Cychwyn Iach.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddarllen yr holl bethau rydym wedi bod yn eu gwneud i helpu. Rydym yn cymryd hyn o ddifrif. Ac wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth lle bo modd gwneud hynny, i sicrhau bod gennym ni fodel cymdeithasol o anabledd, lle rydym yn anelu at ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag byw bywyd normal. Rydym yn gwybod pa mor gostus y gall bod yn anabl fod, ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio'n ddiflino gyda hyn mewn golwg.

14:20
Prentisiaethau Cyfreithiol

2. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'w gwneud yn bosibl ennill prentisiaeth gyfreithiol Lefel 7 yng Nghymru, er mwyn atal darpar brentisiaid y gyfraith rhag gorfod adleoli i Loegr? OQ62498

Diolch, Rhys. Mater i'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yw prentisiaethau. Serch hynny, rwyf wedi bod yn trafod prentisiaethau cyfreithiol gyda'r Gweinidog a chyda chynrychiolwyr o'r sector cyfreithiol yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae prentisiaethau lefel 7 yn cyfateb i radd Meistr, ac mae'n llwybr pwysig ar gyfer cymhwyso yn y proffesiwn cyfreithiol yn Lloegr, ond nid yw ar gael i ni yma yng Nghymru. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, Cwnsler Cyffredinol, o'r symiau syfrdanol o arian sydd eu hangen i fod yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol yma yng Nghymru a Lloegr.

Nid oes angen i mi addysgu'r Llywodraeth am fanteision prentisiaid gyda'ch cyd-Weinidog Jack Sargeant yn bresennol, ond mae prentisiaeth yn dileu rhwystrau ariannol rhag mynd i weithio yn y sector cyfreithiol. Mae'n cefnogi cwmnïau bach gyda recriwtio, ac fe all helpu i leihau'r diffeithdiroedd cyfreithiol sy'n ehangu yng Nghymru. Mae ymchwil wedi canfod bod 40 y cant o brentisiaid a gafodd brydau ysgol am ddim wedi dweud na fydden nhw wedi mynd i mewn i'w diwydiant oni bai am y brentisiaeth a gawsant. Felly, Cwnsler Cyffredinol, pryd y bydd pobl yng Nghymru yn gallu cymhwyso fel cyfreithiwr yn gyfan gwbl drwy'r llwybr prentisiaeth, fel maen nhw'n gallu ei wneud yn Lloegr? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys. Fe wnes i gyfarfod â Chymdeithas y Cyfreithwyr ym mis Hydref, yn fuan ar ôl ymgymryd â swydd y Cwnsler Cyffredinol, i drafod prentisiaethau cyfreithiol yn fwy eang, ni rhai lefel 7 yn unig. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ar addysg a hyfforddiant cyfreithiol yn ystod tymor y Senedd. Ers 2022, mae cyflogwyr wedi gallu cofrestru gweithwyr gyda darparwyr hyfforddiant i gymhwyso fel paragyfreithwyr neu baragyfreithwyr uwch ac ennill cymwysterau Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol.

Mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i'n gyfarwyddwr gwasanaethau cyfreithiol yn Abertawe, er enghraifft, roeddwn i'n falch iawn o fod wedi gallu mynd â phobl a ddaeth i mewn yn syth wedi gadael yr ysgol i mewn i'r cyngor a'u cael nhw'r holl ffordd drwodd i fod yn gyfreithwyr cymwysedig gan ddefnyddio llwybr cymhwyso Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac yna eu noddi nhw drwy'r cyfnod olaf. Felly, rwy'n ymwybodol iawn y gall fod o gymorth mawr o ran symudedd cymdeithasol.

Mae o gymorth hefyd o ran cadw a recriwtio staff sy'n anodd eu cael, oherwydd mae pobl sydd wedi dod i fyny trwy'r llwybr hwnnw yn tueddu i aros yn yr un lle. Rwy'n deall eich safbwynt chi'n llwyr ar hynny. Rwyf wedi gofyn i'n swyddogion weithio gyda Medr a'r sector cyfreithiol i ystyried sut y gallwn ni adeiladu ar y fframwaith prentisiaeth paragyfreithiol er mwyn darparu sector cyfreithiol sy'n fwy amrywiol a symudol yn gymdeithasol gyda gweithlu sy'n cynrychioli cymdeithas Cymru.

Rydym eisiau gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda'r rhanddeiliaid yn y sector i asesu'n feirniadol yr angen am brentisiaeth ar gyfer cyfreithwyr, gan gynnwys nodi ychwanegedd i'r llwybrau presennol i'r proffesiwn. Fe ofynnais i'n arbennig i Gymdeithas y Cyfreithwyr gyflwyno papur i mi i'r perwyl hwnnw. Rwy'n deall bod y drafft yn mynd trwy eu gwiriadau terfynol erbyn hyn trwy eu proses ffurfiol; mae hi'n cymryd ychydig mwy o amser nag y byddwn i wedi gobeithio y byddai hi iddyn nhw roi'r papur hwnnw i mi, ond rwy'n disgwyl ei gael ef yn fuan ac yna fe allwn ni barhau i gael y sgwrs honno.

Rwy'n awyddus ein bod ni'n edrych ar ddatblygu talent yn y sector cyfreithiol mewn cyd-destun ehangach hefyd. Fe gefais i sgwrs ddefnyddiol iawn gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ynghylch sicrhau bod sgiliau cyfrifyddu, busnes a thechnoleg arbenigol yn cael eu hystyried hefyd. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chwmnïau cyfreithiol ledled Cymru lle roedden nhw'n dymuno cael mwy na chyfreithwyr yn unig, roedden nhw eisiau cael gwasanaethau arbenigol eraill hefyd. A dweud y gwir, po bellaf yr oeddech chi'n mynd i'r gorllewin, yr anoddaf oedd hi i wneud hynny. Roeddwn i eisiau sicrhau, trwy Gymdeithas y Cyfreithwyr, fod cwmnïau cyfreithiol yn gwybod sut i gael mynediad i'r llwybr prentisiaeth.

Rwyf wedi cael rhai sgyrsiau diddorol iawn gyda Jack ynglŷn â sicrhau bod yr agwedd ar symudedd cymdeithasol ynghlwm wrth hynny, yn ogystal â sicrhau bod y mathau cywir o wasanaethau cynghori ar waith gennym. Rwy'n awyddus iawn i gwmnïau cyfreithiol fod â mynediad at yr ystod gyfan o gymorth sy'n bosibl, ac yna, wrth gwrs, rydym eisiau ystyried yr adnoddau sydd ar gael yn gyffredinol. Rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda swyddogion Jack hefyd ynglŷn â sut y gallwn ni wneud hynny, ac rwy'n gwybod eu bod nhw'n ymgysylltu â'r sgwrs hon.

Felly, mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo. Yn sicr, nid wyf wedi diystyru prentisiaethau lefel 7, ac nid yw'r Gweinidog cyfrifol wedi gwneud hynny chwaith, ond rydym eisiau gweld hynny yng nghyd-destun y proffesiwn cyfreithiol yn ei gyfanrwydd, lle mae'r bylchau, a'r hyn rydym yn ei weld. Ac wrth gwrs, rydym newydd newid i'r llwybr cymhwyso arholiadau cymhwyso cyfreithwyr hefyd, felly fe fydd hi'n ddiddorol iawn gweld beth ddaw o hynny. Rwy'n disgwyl adroddiad ar brentisiaethau lefel 7 yn Lloegr hefyd, a sut mae hynny wedi gweithio allan. Felly, mae yna gryn dipyn o bethau'n digwydd, ond nid oes ateb gennym eto.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, pan wnes i eich holi chi ddiwethaf am eich rôl fel Gweinidog Cyflawni, fe ddywedoch chi mai eich rôl chi yw sicrhau bod y rhaglen lywodraethu yn cael ei chyflawni a dwyn cynghrair o bobl at ei gilydd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. Allwch chi ddweud wrthym sut ydych chi'n mesur llwyddiant yn eich rôl a sut ydych chi'n eich dwyn eich hun i gyfrif yn rhinwedd eich rôl fel Gweinidog Cyflawni?

Gallaf, wrth gwrs, Paul. Fe allaf wneud hynny'n rhwydd. Rwyf wrthi'n llunio adroddiad a fydd yn caniatáu i ni ystyried yr hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni rhannau olaf ein hymrwymiadau maniffesto fel y nodir yn y rhaglen lywodraethu. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i chi, rwy'n rhoi ystyriaeth arbennig i feysydd yn y rhaglen lywodraethu sy'n gofyn am waith ar draws y Llywodraeth, themâu trawsbynciol, a sicrhau ein bod ni'n gallu mesur hynny. Rwyf wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda fy Ngweinidogion polisi i sicrhau eu bod nhw'n deall yr hyn y maen nhw'n gofyn amdano. Yna fe fydd trafodaeth yn y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o sicrhau'r adnoddau hynny. Mae gennym ni gyfres o gyfarfodydd wedi'u cynllunio i wneud hynny, oherwydd fel Llywodraeth ac, yn wir, fel plaid wleidyddol, rydym yn cymryd ein haddewidion i bobl Cymru o ddifrif. Rwyf wedi cael fy rhoi yn y fan yna i sicrhau ein bod ni'n cyflawni cymaint ohonyn nhw yn y ffordd orau bosibl i bobl Cymru.

Gweinidog, hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi gweld sut y caiff llwyddiant ei fesur. O'r hyn y gallaf ei weld, does dim atebolrwydd yn rôl y Gweinidog Cyflawni. Er enghraifft, ym mis Hydref y llynedd, fel Gweinidog Cyflawni, fe wnaethoch chi addo gwneud beth bynnag oedd ei angen i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy cyn yr etholiad nesaf i'r Senedd. Mewn ymateb i hynny, mae'r Aelod dros Lanelli wedi cael ei dynnu i mewn i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o ran tai. Allwch chi ddweud wrthym pa arbenigedd penodol sydd gan yr Aelod hwnnw yn y sector tai i helpu i gyrraedd y targed hwn? O ystyried mai eich swydd chi yw dwyn ynghyd bobl sy'n gallu mynd i'r afael â rhwystrau, allwch chi gadarnhau pa ran a oedd gennych wrth ddod â'r Aelod dros Lanelli i mewn i ddelio â'r ymrwymiad arbennig hwn?

Rwyf wir yn credu bod y cwestiwn hwnnw'n dweud llawer am eich agwedd chi at y ffordd y mae gwleidyddiaeth a'r Llywodraeth yn gweithio, Paul—

Wel, ie, ac fe wnaethoch chi ofyn i mi sut rwyf yn cael fy nwyn i gyfrif wrth fy nwyn i gyfrif, sy'n eironi diddorol iawn ynddo'i hun, yn fy marn i.

Mae'r syniad bod yn rhaid i wleidydd fod yn rhyw fath o arbenigwr er mwyn ymgynnull panel o arbenigwyr a chadeirio'r panel hwnnw i gael canlyniad yn anhygoel, yn gwbl anhygoel. A ddylwn i fod yn gofyn i chi am eich holl lefarwyr unigol chi a beth yw eu harbenigedd arbennig nhw yn eu swyddi yn yr wrthblaid? Wrth gwrs, nid dyna sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Y ffordd mae gwleidyddiaeth yn gweithio yw mai ni yw'r cynullwyr ac rydym yn cael yr arbenigwyr i ddod i'n helpu i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei gyflawni. 

Mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y targed tai, mae'r eironi yr aethpwyd heibio iddo yno, draw ar feinciau'r Ceidwadwyr, yn gwbl syfrdanol. Un o'r rhesymau pam rydym yn cael trafferth i gyflawni'r targed hwnnw yw oherwydd yr argyfwng costau byw a achoswyd yn gyfan gwbl gan eich Llywodraeth chi, ac, yn benodol, gan gyfnod trychinebus Liz Truss yn Brif Weinidog y DU. Pan ddechreuon ni yn 2021 gyda'r ymrwymiad maniffesto hwn, gallem adeiladu saith tŷ am bob £1 filiwn, ac wedi'r ymyriad costau byw trychinebus gan y Ceidwadwyr—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim eisiau clywed e, ydych chi? Ond mae'n wir. Ar ôl y—

14:30

Rwy'n credu bod angen i'r Aelodau roi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ymateb heb fwy o weiddi o'u seddi, os gwelwch yn dda.

Ar ôl y cynnydd costau byw—y cynnydd costau byw trychinebus hwnnw—a ysgogwyd gan eich Llywodraeth chi, dim ond pedwar y gallwn ni eu hadeiladu fesul £1 filiwn erbyn hyn. Ac yn y fan honno, yn gryno iawn, mae'r union ateb i'ch problem.

Wel, yn sicr, dydw i ddim am wrando ar unrhyw ddarlithoedd gan y Gweinidog o ran—

—doethineb ariannol, pan mai eich Llywodraeth chi, yn ôl yn 2010, a ddywedodd nad oedd unrhyw arian ar ôl am eich bod chi wedi gwario'r arian i gyd. Felly, dydw i ddim yn mynd i wrando ar unrhyw ddarlithoedd gan y Gweinidog Cyflawni.

Nawr, Gweinidog, gallwch chi ddweud wrthych chi eich hun fod yr Aelod dros Lanelli yn benodiad addas, ond rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn meddwl fel arall.

Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod amseroedd aros yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Pwy ydych chi'n bwriadu ei dynnu i mewn i ddatrys hynny? Yr Aelod dros Flaenau Gwent, efallai. Rwy'n methu gweld sut mae rôl y Gweinidog Cyflawni yn un gredadwy, os nad yw'n gwneud dim ond dod ag Aelodau'r meinciau cefn i mewn i helpu Gweinidogion sy'n cael trafferthion. Yn sicr, fe ddylai Llywodraeth Cymru fod yn penodi arweinydd o'r sector tai i helpu i arwain y gwaith cyflawni, nid gwleidydd arall.

Felly, Gweinidog, pa mor hyderus ydych chi mai gwleidydd arall yw'r hyn sydd ei angen i gyrraedd targed y Llywodraeth o ran tai, ac a allwch chi ddweud wrth bobl Cymru pam y dylen nhw fod â hyder yn rôl y Gweinidog Cyflawni, os yw'r rôl honno'n gwneud dim ond rhoi rhagor o swyddi i wleidyddion?

Dyna'r set fwyaf cywilyddus ac anhygoel o ragdybiaethau rwyf wedi'u clywed ers tro byd. A wnaethoch chi wrthwynebu pan wnaethon ni ddod â David Melding i mewn i'n helpu ni gyda thlodi plant? Nid wyf yn credu i chi wneud hynny. Rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio eu gallu i ymgynnull i ddod ag arbenigwyr at ei gilydd. Rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr wedi mynd i arfer ofnadwy o ddweud nad oes angen arbenigedd, ond nid yw hynny'n rhywbeth rydym yn cytuno ag ef ar y meinciau hyn. Rydym yn gofyn i'n gwleidyddion ymddwyn fel gwleidyddion, i ddefnyddio eu gallu i ymgynnull i ddod ag arbenigedd i'r Llywodraeth, fel y gallwn ni wneud y penderfyniadau iawn. Dydyn ni ddim yn rhoi llwyth o gytundebau i'n ffrindiau ni, heb unrhyw broses o gwbl.

Gweinidog, fe hoffwn i aros gyda'r thema cyflawni, ac, mewn gwirionedd, gyda thema Lee Waters, oherwydd yn ddiweddar fe wnaeth e gyfres, rwy'n credu, o gyfweliadau diddorol gyda ffigurau allweddol sydd â llawer o brofiad yn Llywodraeth Cymru, cyn-Weinidogion, fel Kirsty Williams a Lesley Griffiths, a chyn-swyddogion, fel Owain Lloyd a John Howells. Ac fe ddaeth rhywfaint o ddarlun i'r golwg, rwy'n credu, o'r cyfweliadau hynny, a oedd, yn fy marn i, yn pwyntio at broblem systemig o ran cyflawni, nad yw'n unigryw i Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i mi ddweud; mae'n rhywbeth y mae Llywodraethau ledled y byd yn ei wynebu. Mae Owain Lloyd yn tynnu sylw at orfod gweithredu llawer o ddiwygiadau gydag ychydig iawn o staff, ac mae e'n cyfeirio at hynny fel tasg amhosibl. Fe wnaeth eich cyd-Aelod, Mark Drakeford, gydnabod yr hyn a allai, ar adegau, fod yn ddiwylliant rhwystredig o 'fethu gwneud', tra bod John Howells yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi codi gormod ar ei phlât. Ydych chi'n derbyn bod y dystiolaeth gyfunol honno'n awgrymu bod peiriannau mewnol Llywodraeth Cymru weithiau, yn aml hyd yn oed, yn arafu hyd yn oed eich polisïau mwyaf beiddgar yn barhaus?

Wel, rwy'n credu, Adam, mai'r ateb i hynna yw'r gair 'weithiau'. Wrth gwrs fod hynny'n digwydd weithiau—wrth gwrs ei fod e. Mae'n digwydd ym mhob Llywodraeth ledled y byd. A dyna pam yn rhannol y gofynnodd y Prif Weinidog i mi wneud gwaith y Gweinidog Cyflawni, sef ceisio darganfod y rhwystrau a cheisio dod o hyd i lwybr trwy'r rhwystrau hynny. Ac weithiau mae hwnnw'n llwybr eithaf amlwg, ac weithiau mae'n set gymhleth iawn o bethau y mae'n rhaid i chi allu eu gweld nhw drwyddi draw, rhyw olwg o un pen i'r llall, os mynnwch chi, er mwyn gallu gweld ym mhle mae'r rhwystr hwnnw.

Fe ddywedais i wrth Lee Waters yn ei bodlediad fod safbwyntiau eraill i'w cael, ac nad wyf i'n cytuno â'r holl safbwyntiau sy'n cael eu mynegi yno. Rwy'n cytuno â rhai ohonyn nhw, wrth gwrs. Rwyf wedi profiad rhwystredigaeth fy hun pan yw wedi dod i'r amlwg fod yr hyn a oedd yn ymddangos yn berffaith syml i mi yn fater llawer mwy cymhleth yn y pen draw. Ac mae wir yn rhwystredig pan fydd hynny'n digwydd.

Ar y llaw arall, rwy'n credu ein bod ni wedi cyflawni rhaglen radical, ac rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn hynny o beth. Felly, fe fydd y Prif Weinidog yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol, yr adroddiad blynyddol diwethaf, ar y rhaglen lywodraethu wedi toriad y Pasg, ac fe fyddwch chi'n gallu gweld cymaint rydym wedi gallu ei gyflawni mewn gwirionedd. Rwyf i'n bersonol yn falch iawn o rai o'r darnau o ddeddfwriaeth rydym wedi'u pasio, yn y Senedd ddiwethaf ac yn y Senedd hon. Mae gennym beth ffordd i fynd o hyd. Roedd gennym y Bil digartrefedd, y Bil llywodraethu amgylcheddol, a'r Bil diogelwch adeiladu yn filiau polisi mawr i fynd drwyddyn nhw. Fe wnaethom ni hynny fel rhan o'r cytundeb cydweithio, wrth gwrs. O ran pob un o'r rhain, yr wyf yn falch iawn ohonynt, fe gafodd Siân a minnau lawer iawn o sgyrsiau am y ffordd orau o gael yr hyn sy'n gyfres gymhleth a thrawsbynciol iawn o ddeddfwriaeth drwodd. Ond i ddweud, wrth gwrs, nad oes unrhyw rwystredigaethau yn y ffordd—wrth gwrs fod yna. Ond fy ngwaith i, ac, mewn gwirionedd, ein gwaith ni ar y cyd, yw ceisio lleihau'r rhwystredigaethau hynny.

14:35

Wel, y llynedd, o ran plannu coetiroedd, neu'r flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, dim ond 12 y cant o'r targed y gwnaethoch chi ei gyflawni—rywbeth felly, ontife? Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn annhebygol o gyflawni ei tharged ar gyfer 2030. Nododd Lesley Griffiths ddiffyg sylfaenol o ran pam mae yna fethiant i gyflawni yn aml, ac mae'n berthnasol i'ch dwy rôl chi, mewn gwirionedd. Mae'r cyfreithwyr yn dod i mewn yn llawer rhy hwyr, meddai hi. Erbyn i chi feddwl eich bod wedi datrys y peth, mae'r cyfreithwyr yn dweud, 'Na, allwch chi ddim gwneud hynny.' Roedd eraill yn sôn am ddiffyg drafftwyr cyfreithiol a gweision sifil polisi hefyd. Roedd Owain Lloyd yn disgrifio canolfan gorfforaethol Llywodraeth Cymru fel un sydd yno i ddod o hyd i 99 o resymau pam na chewch chi wneud rhywbeth, yn hytrach na chanfod yr un rheswm neu'r un ffordd o fynd â rhywbeth yn ei flaen. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod cynnal archwiliad dwfn mewn maes penodol yn gyfan gwbl—. Mae'n un o amrywiaeth o arfau sydd gan Lywodraethau. Ond a ydych chi'n derbyn bod hyn yn rhan o broblem systemig fwy eang, fwy ymwreiddedig y mae angen datrysiadau system gyfan arnom i'w datrys?

A bod yn onest, dydw i wir ddim yn meddwl ei fod yn broblem systemig drwy'r system i gyd. Mae yna glystyrau o broblemau, os mynnwch chi, yn sicr, lle gall rhai materion cymhleth gael eu dal yn ôl, os hoffech chi, tra bod pobl yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Rydym yn gofyn llawer o'n staff—gwasanaeth sifil gweddol fychan sydd gennym ni, ac rydym yn gofyn llawer ganddo. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod fy mhrofiad i yn hollol i'r gwrthwyneb, ac rwyf wedi dweud hyn wrth Lee. Fy mhrofiad i yw, os gwnewch chi roi'r arweiniad i grŵp o weision sifil sydd eisiau gwneud rhywbeth, ac yn eu rhyddhau nhw, maen nhw'n fwy na hapus i gael eu rhyddhau. Felly, gallaf eich cyfeirio at lawer iawn o achlysuron yn fy ngyrfa weinidogol lle, oherwydd fy mod i wedi gallu dweud, 'Gadewch i ni wneud hyn', mae'r gweision sifil hynny wedi dod at ei gilydd ac wedi gwneud rhywbeth eithriadol. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno, Siân, pan gawson ni rai o'r sgyrsiau ynglŷn â bioamrywiaeth, fod y gweision sifil hynny mor gyffrous i gael y cyfle i wneud rhywbeth, er enghraifft o ran y rhaglen cadwraeth mawn. Fe aethon ni i weld—rwyf wedi anghofio ei enw—prosiect cymunedol anhygoel, gyda rhaeadr enfawr a thyrbinau ar ei gwaelod, ac roedd y brwdfrydedd dros hynny yn amlwg.

Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, Adam, yw wrth gwrs nad yw hynny'n gyffredinol ar draws y Llywodraeth—wrth gwrs nad yw e. Gwasanaeth adnoddau dynol yw e, ac mae bodau dynol yn wahanol ac maen nhw'n mynd i'r afael â'r dasg yn wahanol. Ond rwyf yn credu bod gennym ni gyfoeth o dalent yng ngwasanaeth sifil Cymru, a'n gwaith ni, ar y cyd fel gwleidyddion, yw sicrhau ein bod ni'n rhoi'r prosesau cywir ar waith i'w rhyddhau.

Ond onid yw'r profiad gyda'r Bil bysiau a'r Bil tacsis, y cyfeirir atyn nhw yn y podlediadau, yn y trawsgrifiadau, yn dangos, hyd yn oed pan fydd gennych chi'r arweinyddiaeth wleidyddol, oni bai bod gennych chi'r newidiadau strwythurol a diwylliannol, yna dydych chi dal ddim yn cael y newid gwleidyddol. Mae'r rhai sydd â phrofiad rheng flaen, mewn gwirionedd, yn cynnig, rwy'n credu, rhai datrysiadau ymarferol i'r broblem hon. Roedd Lesley Griffiths, er enghraifft, yn cefnogi timau Biliau yn arddull Whitehall sy'n dod â swyddogion polisi a chyfreithwyr at ei gilydd o'r cychwyn cyntaf. Roedd eich cyd-Aelod, Mark Drakeford, eto, yn awgrymu gwasanaeth cyhoeddus unigol mwy hylifol i Gymru, gyda secondiadau i ddod â safbwyntiau i mewn a'u diweddaru. Mae Dafydd Trystan wedi galw am ysgol lywodraethu genedlaethol, i feithrin gallu a dulliau mwy arloesol. Ydych chi'n barod i gytuno o leiaf y gallai'r atebion ymarferol hynny, yn ogystal â'r gwaith rydych chi'n ei wneud mewn meysydd polisi unigol, gynnig etifeddiaeth a fydd yn caniatáu i weinyddiaethau'r dyfodol gyflawni yn llawer cynt nag y bu'n bosibl ei wneud hyd yn hyn?

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, mewn gwirionedd. Felly, yr un pwynt o ran gwasanaeth i'r cyhoedd, y mae Mark a minnau wedi'i drafod ar sawl achlysur, yn enwedig pan oedd e'n Brif Weinidog a minnau'n Weinidog llywodraeth leol, ac roeddwn i'n cadeirio un o'r cynadleddau mawr ar geisio dileu'r rhwystrau sy'n atal trosglwyddo—. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem wneud mwy o ymdrech yn ei gylch. Mae yna gyfres gyfan o rwystrau biwrocrataidd o ran pensiynau, cydraddoldeb a'r gweddill i gyd, a'r comisiynwyr gwasanaeth sifil, a rhestr hirfaith o bethau. Ond wrth weithio drwyddo mewn ffordd systematig, fe allem gyrraedd y pwynt lle mae gennym ethos un gwasanaeth cyhoeddus i Gymru, ac fe fyddai hynny'n helpu, yn bendant.

Ac yna'r mater arall, wrth gwrs, yw mai polisi mae'r Llywodraeth yn ei gyflawni, nid yw wir yn cyflawni ar lawr gwlad. Mae gennym bartneriaid cyflawni i wneud hynny. Mae gennym ni ystod eang ohonyn nhw, o awdurdodau lleol i fyrddau iechyd i Cyfoeth Naturiol Cymru i Trafnidiaeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru—mae yna ystod eang o bartneriaid cyflawni. Gweithio ar y rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a'r partneriaid cyflawni yw un o'r pethau sydd wir yn helpu, ac rwyf wedi gwneud cryn dipyn o hynny yn fy ngyrfa, yn sicr. Felly, fe allwch chi ryddhau potensial partneriaid cyflawni os ydych chi'n llunio'r polisi mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr iddyn nhw. Mae gallu cyfnewid personél rhwng y ddau bartner yn help mawr, fel eich bod chi'n gallu gweld pethau o safbwynt eich gilydd. 'Pan fydd y polisi hwn yn glanio ar eich sefydliad chi, pam nad yw'n gweithio?' 'Wel, mae'n teimlo fel hyn i ni, a phe byddech chi wedi ei osod fel hyn fe fydden ni wedi gallu gweithredu arno'n gynt.' Mae'r math yna o ddeialog yn help mawr.

O ran timau Biliau, un o'r pethau y dechreuais i eu gwneud cyn gynted ag y des i'n Gwnsler Cyffredinol oedd siarad â'r gweision sifil yng nghanol y sefydliad am sut y gallwn ni ddod â thîm Bil at ei gilydd o'r cychwyn. Yn wir, rydym wrthi'n edrych ar adolygiad o un pen i'r llall, y gwnes i ei rannu gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder. Dydw i ddim yn barod i ryddhau'r adroddiad, mae arna' i ofn, oherwydd rwyf am iddi fod yn drafodaeth lawn a gonest, a phe byddai'r cyhoedd yn ei weld, mae'n debyg na fyddai, ond rwy'n hapus i drafod y cysyniad. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw edrych ar, o'r foment mae'r Gweinidog yn dod i mewn, yn cael ei benodi, yn sgleiniog ac yn frwdfrydig ac yn cael fflach o syniad ynglŷn â'r hyn yr hoffai ei wneud—sut mae trosi'r fflach honno o syniad yn rhywbeth diriaethol? Felly, gadewch i ni edrych o un pen i'r llall ar bwy sydd angen bod yno ar y dechrau, pwy sydd angen gwneud y gwaith yn y canol, pwy sydd angen bod ar bob cam a phryd, a beth yw'r ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny. Rwy'n credu mai ymgynnull tîm Bil ar y dechrau yn hytrach na thua dwy ran o dair o'r ffordd drwodd, sef yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, yw un o'r pethau a allai fod yn drawsnewidiol, fwy na thebyg.

Ond allaf i ddim pwysleisio digon, mae hefyd yn ymwneud â defnyddio adnoddau yn effeithlon. Dydych chi ddim eisiau tîm Bil yn eistedd yn gwneud dim byd chwaith. Felly, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n meithrin arbenigedd yn y gwasanaeth sifil ynghylch rheoli Biliau. Mae'n rhywbeth ynddo'i hun. Mae'n rhywbeth sydd—. Wyddoch chi, mae rhai pobl yn dda am ysgrifennu areithiau, mae rhai pobl yn dda iawn am reoli Biliau. Mae'n ymwneud â cheisio gwobrwyo hynny, ac mae llunio strwythur i ganiatáu i hynny ddigwydd yn un o'r pethau rydym wedi bod yn eu gwneud hefyd.

14:40
Cyngor Cyfraith Cymru

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chyngor Cyfraith Cymru ynghylch cyflawni ei amcanion? OQ62499

Corff annibynnol yw Cyngor Cyfraith Cymru ac mae'n gyfrifol am bennu a chyflawni ei amcanion ei hunan, felly ni chefais i unrhyw drafodaeth ynglŷn â'u cyflawniad nhw.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Cafodd sefydlu cyngor y gyfraith ei grybwyll yn rheolaidd gan eich rhagflaenydd chi fel un o lwyddiannau'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Serch hynny, heb wefan, heb gofnodion cyhoeddedig, heb wybodaeth gyhoeddedig am ei aelodau, mae gennym ni sefydliad cyfreithiol yng Nghymru sydd, i bob pwrpas, yn gwbl anweledig i'r cyhoedd. Rwy'n deall hefyd, er i chi fod â gwahoddiad sefydlog i'w mynychu nhw, nad ydych chi wedi mynychu unrhyw gyfarfod hyd yn hyn.

Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru i godi ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru, a gwella cydweithrediad rhwng ysgolion y gyfraith yng Nghymru, y proffesiynau cyfreithiol a Llywodraeth Cymru—rhestr drawiadol o amcanion. Ond pa gefnogaeth ymarferol a roddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr amcanion pwysig hyn yn cael eu cyflawni? Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Rhys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, ac fe wn eich bod chi'n ymwybodol o hynny, oherwydd eich ceisiadau a'ch cwestiynau ysgrifenedig amrywiol, mai corff annibynnol yw hwn, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac, yn fwriadol iawn, rydym ni'n dewis peidio â bod yn aelod ohono er mwyn amddiffyn ei annibyniaeth. Felly, nhw sy'n pennu ac yn cyflawni eu hamcanion a'u rhaglen waith eu hunain. Mae gen i gyfres o swyddogion sy'n mynychu cyfarfodydd pwyllgor gwaith cyngor y gyfraith i drafod y gwaith a rhoi diweddariadau ar ein gwaith ni sy'n berthnasol iddyn nhw, fel bod gwybodaeth yn mynd y ddwy ffordd. Rydym ni wedi bod yn eu hannog nhw, ac yn wir maen nhw wedi dod yn llawer mwy clòs o ran cydweithio ag ysgolion y gyfraith yng Nghymru hefyd ac o ran cynllunio olyniaeth i'r proffesiwn. Rwy'n falch iawn o weld hynny. Maen nhw wedi arwain rhywfaint o waith defnyddiol iawn ar addysg gyfreithiol, a nhw oedd y catalydd ar gyfer lansio Canolfan Datrys Anghydfodau Cymru. Fe wn i eich bod chi'n gwybod hyn i gyd yn barod, ond rwy'n credu nad yw'r set honno o wybodaeth yn hysbys yn eang.

Mewn gwirionedd, fe fyddaf i'n cwrdd ag arweinwyr cyngor y gyfraith yn fuan i gael diweddariad ar eu gwaith nhw a'r cynlluniau i'r dyfodol. Fe fyddaf i'n falch iawn o gael gwneud hynny, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwneud yn siŵr eu bod yn ffitio yn iawn i'r lle'r ydym ni'n disgwyl iddyn nhw fod ynddo. Mae angen i gyngor y gyfraith, Cymdeithas y Gyfraith, Llywodraeth Cymru, a'r proffesiwn, fod yn gorwedd ar eu rhan berthnasol o'r gadwyn, os mynnwch chi, neu'r cylch, ac mae angen i ni i gyd wneud yn siŵr fod y wybodaeth yn llifo yn iawn yn ein plith ni a'n bod yn gwneud pethau sy'n gyflenwol. Ond nid fy lle i yw pennu eu hagenda; yn hytrach na hynny, ystyr ein gwaith ni yw cyflawni hyn drwy gydweithio â'r gweddill.

14:45
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:45:33
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar bolisi TB buchol Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n datgan diddordeb, oherwydd fe effeithiwyd ar fferm deuluol fy ngwraig gan TB buchol ers blynyddoedd lawer iawn. Nawr, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i 4,580 o wartheg gael eu lladd yn sir Benfro yn 2024. Mae hynny'n gynnydd o bron i 25 y cant ar ffigurau'r flwyddyn flaenorol sef 3,690. Trefnydd, nid wyf i'n gallu dechrau pwysleisio pa mor ddinistriol yw TB buchol, yn emosiynol yn ogystal ag yn ariannol, i ffermwyr yn fy etholaeth i. Mae ffermwyr yn cael trafferthion o ran iechyd meddwl, ac mae rhai yn ymadael â'r diwydiant, ac mae'r methiant i fynd i'r afael â'r clefyd ofnadwy hwn yn gorwedd yn gyfan gwbl gyda Llywodraeth Cymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai datganiad yn dod cyn gynted â phosibl ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru, er mwyn i Lywodraeth Cymru fod yn atebol am ei diffyg cynnydd, ac er mwyn i ninnau gael clywed pa fesurau newydd a gaiff eu cyflwyno i atal lladd mwy fyth o wartheg eto bob blwyddyn.

Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies, am y cwestiwn pwysig iawn hwn. A dim ond ymateb ar ran y Dirprwy Brif Weinidog—ond fe fydd ef, wrth gwrs, yn ymateb yn fwy uniongyrchol i'ch cwestiynau chi—rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol bod y duedd gyffredinol ar gyfer lladd gwartheg oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Gellir priodoli llawer o'r cynnydd a welsom ni ers 2014 i ragor o ddefnydd o brofion sensitifrwydd uchel, megis y prawf gwaed gama interfferon. Trwy ddefnyddio profion sy'n fwy sensitif, rydym ni'n gobeithio nodi gwartheg heintiedig yn gynharach, a lleihau'r risg gan hynny y byddant yn aros yn y fuches ac yn ymledu'r clefyd. Ac er ein bod ni wedi gweld cynnydd yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd oherwydd TB yn ystod y cyfnod o 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2024, fe welsom ni ostyngiad o 3.9 y cant yn nifer yr achosion newydd o TB, ac mae hyn yn adlewyrchu'r duedd hirdymor sef gostyngiad yn nifer yr achosion. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu bwrdd y rhaglen dileu TB a'r grŵp cynghori technegol i gynnig strwythur llywodraethu cynhwysol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth i ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041.

Trefnydd, mi fyddwch chi a phawb yma, dwi'n siŵr, yn ymwybodol y bydd, yfory, ddatganiad gwanwyn y Canghellor. Yn amlwg, mae yna nifer o bethau wedi eu cyhoeddi neu’n ymddangos yn mynd i fod yn cael eu cyhoeddi, yn arbennig felly o ran y toriadau lles. Eisiau gofyn oeddwn i os ydy hi’n fwriad gan y Llywodraeth i sicrhau bod yna gyfle gennym ni fel Senedd i drafod y datganiad, unwaith mae’r wybodaeth yn wybyddus yfory. Pe bai yna gyfle cyn toriad y Pasg, dwi’n meddwl y byddem ni i gyd yn gwerthfawrogi’r cyfle hynny. Diolch. 

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn hefyd. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn datganiad y gwanwyn ac fe fydd ef, wrth gwrs, yn ateb cwestiynau llafar yn y Senedd yr wythnos nesaf. 

Gyda'r etholiadau i'r Senedd ymhen dim ond 13 mis, a chyda Senedd fwy yn dod i fodolaeth, mae'r pleidiau gwleidyddol yn dechrau rhoi ystyriaeth i ddewis eu hymgeiswyr nhw yn yr etholiadau hynny, ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau y bydd y Senedd yn wirioneddol gynrychioliadol o'r cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y canllawiau a oedd, rwy'n gwybod, yn cael eu paratoi ar amrywiaeth a chynhwysiant? Beth yw ein sefyllfa ni o ran y canllawiau hynny oherwydd, yn amlwg, mae hi'n bwysig iawn bod y rhain yn cael eu hanfon at y pleidiau gwleidyddol cyn gynted â phosibl?  

Diolch yn fawr iawn i chi, Julie Morgan, am y cwestiwn pwysig hwn, oherwydd rydym ni'n bwriadu cyhoeddi'r canllawiau hynny—rwyf i'n bwriadu cyhoeddi'r canllawiau hynny—yn gynnar yr wythnos nesaf, fel y byddan nhw ar gael, fel rydych chi'n dweud, i'r pleidiau gwleidyddol cyn gynted â phosibl cyn y Senedd nesaf, ac maen nhw'n berthnasol i etholiadau llywodraeth leol hefyd, yn ogystal ag etholiadau'r Senedd. Ond, mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd mae'r prosesau ar y gweill i ddewis ymgeiswyr. Ac rwy'n credu bod yr amseru yn allweddol. Fe gefais fy annog gan awydd gwirioneddol mewn ymateb gan y pleidiau gwleidyddol sydd yn y Senedd i gyd i weld nid dim ond rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth ond mwy o amrywiaeth a chynhwysiant hefyd ar draws nodweddion eraill. Ac, wrth i ni nesáu at yr etholiad i'r Senedd yn 2026, nawr yw'r amser i bob plaid sicrhau bod eu prosesau nhw i ddewis ymgeiswyr ar gyfer ein Senedd ni yng Nghymru sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o Gymru gyfoes ac amrywiol.

14:50

Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, os gwelwch chi'n dda? Mae'r cyntaf ar yr oedi diangen a'r diffyg gorfodi gan swyddogion cynllunio ledled Cymru, hyd yn oed pan fydd ceisiadau cynllunio wedi cael eu gwrthod gan yr union swyddogion hynny neu'r pwyllgorau cynllunio lleol, mewn gwirionedd. Mae sefyllfa yn fy etholaeth i, yn Llandrillo-yn-Rhos, lle bydd trigolion ar Ffordd Tan-y-bryn yn gorfod byw yng nghysgod yr hyn sydd i fydd yn anghenfil o ystafell ardd ar gefn eiddo Airbnb. A bod yn onest, mae'n edrych fel Stalag Luft ac yn dipyn o dŵr gwylio, ac mae pobl yn gallu gwylio gerddi cefn pawb sydd o dan yr eiddo arbennig hwnnw, ac mae hyn yn peri pryder i drigolion lleol, ac yn enwedig i rai sydd â'u plant yn chwarae yn y gerddi. Felly, a gawn ni syniad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau gorfodi pan fo angen gwneud hynny? Ac, yn gryno iawn, gan mai Airbnb yw hwn, yn amlwg fe hoffwn i'n fawr pe cawn i'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y lletyau Airbnb hynny'n cael eu rheoleiddio yn briodol er mwyn atal camddefnydd o'r fath mewn ardal breswyl yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn i chi, Darren Millar. Rydych chi wedi tynnu sylw at y broses gynllunio, ac, wrth gwrs, mae gorfodi yn gyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol, a'r cynghorwyr lleol a etholwyd yn ddemocrataidd ac, rwy'n siŵr, yr aelodau yr ydych chi'n ymgysylltu â nhw ac y mae'r bobl leol yn ymgysylltu â nhw, ac mae hi'n bwysig eu bod nhw'n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Ac, wrth gwrs, rydych chi wedi tynnu sylw at y ffaith mai llety Airbnb yw hwn, ac rwy'n gwybod bod barn am hyn a'u rôl wedi'i mynegi, yn amlwg, ar draws y Siambr hon, ac rydym ni'n ymwybodol o'r agwedd honno o ran symud ymlaen gyda rheoleiddio.

Roeddwn i'n falch i'ch clywed chi'n sôn, wrth ymateb i Julie Morgan, y bydd y canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yr wythnos nesaf. Hoffwn i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad llafar neu ddadl, plis, yn amser y Llywodraeth ar hynny, achos rydyn ni wedi bod yn aros tipyn amdanyn nhw. Does dim sôn amdanyn nhw yn y datganiad busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf. Fe wnaethoch chi sôn, er enghraifft, y byddech chi'n ceisio alinio'r cyhoeddi gyda chyhoeddi'r ffiniau terfynol ar gyfer yr etholaethau. Wel, mae hynny wedi digwydd ers pythefnos. Rydyn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod ceisio sicrhau amrywiaeth o Aelodau Senedd yn ei dro yn mynd i sicrhau democratiaeth well i Gymru, a byddai'n dda, felly, cael dadl neu ddatganiad llafar er mwyn i'r Llywodraeth fedru mynegi'r pwys y mae'n ei roi ar y canllawiau hyn, yn enwedig o ystyried bod y canllawiau wedi cymryd lle Bil a oedd i fod i wella cynrychiolaeth rhywedd a rhoi hynny ar sail statudol. Felly, ydych chi'n cytuno bod angen cymryd pob cyfle ac anfon neges gref at y pleidiau a'r cyhoedd am bwysigrwydd y canllawiau hyn a'r angen i wella amrywiaeth yn ein democratiaeth er mwyn ei gryfhau?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae hi'n bwysig iawn y bydd canllawiau hyn yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i ymgynghoriad. Fe gafwyd 49 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft ar gyfer pleidiau gwleidyddol. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd amser i gyflwyno eu hadborth. Mae wedi dylanwadu ar y canllawiau y byddaf i'n eu cyhoeddi. Mae wedi hysbysu a chryfhau y canllawiau terfynol. Fe fyddaf i'n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig gyda'r canllawiau o ran amrywiaeth a chynhwysiant yr wythnos nesaf, ac rwy'n falch iawn hefyd fod cawcws y menywod wedi cymryd diddordeb yn hyn. Fe fu'n rhaid i ni ohirio cyfarfod ein cawcws menywod heddiw oherwydd anhwylder siaradwr, ond rwy'n gobeithio y byddaf i'n gallu dod yn ôl i gawcws y menywod i fyfyrio ar hynny, oherwydd mae hwnnw wedi mynd yn gawcws menywod gwirioneddol drawsbleidiol, sydd o ddefnydd mawr.

Ond rwy'n credu mai'r mater yr hoffwn i fyfyrio yn gyflym iawn arno, Dirprwy Lywydd, yw mai canllawiau gwirfoddol yw'r rhain. Fel gwyddoch chi, canllawiau gwirfoddol ydyn nhw'n unol ag adran 30 Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, ond mewn gwirionedd maen nhw'n caniatáu i bleidiau yng Nghymru achub y blaen cyn y gofyniad cyfreithiol a fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU, ac fe hoffwn i gyflwyno sylwadau ynglŷn â hynny. Yn ddiweddar, maen nhw wedi ymrwymo i ddechrau adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn rhoi gofyniad cyfreithiol ar bleidiau gwleidyddol cofrestredig i gyhoeddi data dienw ar amrywiaeth eu hymgeiswyr i'r Senedd, oherwydd rydym ni'n gofyn, trwy gyfrwng ein canllawiau gwirfoddol ni, am gamau gweithredu ar draws pedwar maes eang, er mwyn i bleidiau annog pobl o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i gyflwyno eu hunain i'w dewis yn ymgeiswyr. Y pedwar maes yw cynllunio strategol, diwylliant sefydliadol, asesu a dethol ymgeiswyr, a chefnogaeth i ymgeiswyr. Rwy'n gwybod bod y pleidiau yn ymgysylltu â hyn. Mae angen iddyn nhw hefyd—ac rwy'n siŵr bod llawer ohonyn nhw'n gwneud—ymgymryd â hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, bod â phaneli dethol amrywiol neu gwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod, er enghraifft, fel bydd yr ymgeiswyr y byddan nhw'n eu cyflwyno yn adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n ceisio eu gwasanaethu. Felly, o ganlyniad i'r ddau gwestiwn heddiw, Dirprwy Lywydd, fe gawsom ni ragolwg o'r canllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf, ac fe fyddaf i'n ystyried a fydd amser gennym ni ar gyfer dadl ac ymgysylltiad pellach yn y Siambr hon. Diolch yn fawr.

14:55

Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ba ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl pan gaiff cynigion tawelu traffig neu lwybrau beicio eu cyflwyno. O'r profiad a gefais i o ran Heol Clasemont, Treforys, fe gaiff cynllun ei gynnig gan staff adran priffyrdd y cyngor, fe ofynnir i'r trigolion am eu safbwyntiau, ac mae'r trigolion yn mynegi eu safbwyntiau, ond fe gaiff y safbwyntiau hyn eu hanwybyddu gan staff yr adran priffyrdd. A gawn ni ddatganiad ar yr hyn y mae 'ymgynghoriad ystyrlon' yn ei olygu?

Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad gan y Llywodraeth ar hyrwyddo ailgylchu ffonau symudol, iPads a gliniaduron. Mewn ffonau symudol, fe geir copr, fe geir lithiwm, fe geir telwriwm, a chobalt, manganîs a thwngsten, a'r cyfan i gyd y tu mewn i'r ffôn symudol. Fe ellid ac fe ddylid ailgylchu popeth. Nid ydym ni'n dymuno cloddio rhagor o lithiwm, nid ydym ni'n dymuno cloddio rhagor o dwngsten. Yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yw defnyddio'r hyn sydd gennym ni'n barod, ac felly a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut bydd yn sicrhau y bydd y dyfeisiau electronig hyn i gyd yn cael eu hailgylchu?

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau hynny, Mike Hedges, ac, wrth gwrs, o ran tawelu traffig, mae gan awdurdodau lleol rwymedigaethau cyfreithiol i ddilyn prosesau a chyfnodau ymgynghori rhagnodedig o ran cynlluniau trafnidiaeth, sy'n gynnwys tawelu traffig neu greu llwybrau beicio, a nodir yn y gyfraith.

O ran ailgylchu dyfeisiau electronig, mae rheoliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynhyrchwyr cyfarpar trydanol ac electronig helpu i ariannu'r gwaith o gasglu, trin, adfer, ailddefnyddio, ailgylchu a gwaredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff er budd yr amgylchedd. Yn rhan o hyn, mae'n ofynnol i fanwerthwyr nwyddau electronig a thrydan gymryd eitemau diangen eu cwsmeriaid yn ôl ar sail debyg pan fyddan nhw'n prynu nwyddau newydd. Fe geir cynllun hefyd i ddosbarthwyr gymryd hen nwyddau ar gyfer  manwerthwyr ar-lein yn unig, ac mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol nawr o Material Focus, sef sefydliad annibynnol, nid er elw, a ariennir dan gyfundrefnau ledled y DU, sy'n ceisio atal nwyddau trydanol rhag cael eu cronni a'u taflu i ffwrdd a sicrhau eu bod nhw'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na hynny. Maen nhw'n cynnal ymgyrchoedd i annog ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bychan, ac mae eu gwefan nhw'n helpu cartrefi i ddod o hyd i'w safleoedd ailgylchu agosaf. A gaf i ddweud fy mod i'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n siŵr nad oedd llawer ohonom yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r rheoliadau hynny, a'i bod hi'n bwysig i'w dilyn nhw?

Trefnydd, mae gan chwaraeon ran hanfodol wrth greu cymunedau cadarn a chynhwysol, ac ni cheir enghraifft lawer gwell o hyn na'r gwaith y mae Chris McEwen yn ei wneud yng Nghlwb Bocsio Amatur Penfro a Doc Penfro. Mae ei ymroddiad ef i wneud bocsio yn hygyrch i bawb, yn enwedig i'r rhai ag anableddau, yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'r clwb nid yn unig yn ganolfan ar gyfer datblygiad athletaidd, ond yn ganolfan o gynhwysiant, cyfle ac ymgysylltiad â'r gymuned. Serch hynny, fel sy'n wir am lawer o gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad, mae cyfyngiadau ariannol yn heriol bob amser. I ehangu a gwella ei gyfleusterau, mae buddsoddiad yn hanfodol. Mae gan Chris gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu'r lle ymhellach, gan sicrhau ei fod yn parhau i roi gwasanaeth i'r gymuned mewn ffyrdd newydd ac effeithiol. Mae Chris a'r clwb ar fin ymddangos mewn rhaglen ddogfen gan Netflix, Fighters, felly fe geir cyfle unigryw i daflu goleuni byd-eang ar bwysigrwydd hygyrchedd mewn chwaraeon a'r unigolion sy'n ysgogi newid gwirioneddol. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar sut y gallwn ni sicrhau cyllid a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer sicrhau y bydd cyfleusterau chwaraeon cynhwysol, fel clwb bocsio Penfro a Doc Penfro, yn dal i ffynnu er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.

15:00

Wel, diolch yn fawr iawn am dynnu hyn i'n sylw. A gawn ni ddiolch i Chris McEwen am y gwaith y mae'n ei wneud a chydnabod y gwaith hwnnw? Rwy'n siŵr bod llawer o'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn wirfoddol, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr eraill hefyd, felly mae hyn yn rhan o ddiben fy mhortffolio o ran cefnogi'r sector gwirfoddol, ond hefyd, yn amlwg, o ran hygyrchedd i chwaraeon, canolbwynt cynhwysiant, fel yr ydych wedi'i disgrifio, ac sy'n galluogi pobl ifanc anabl i gael mynediad i'r gamp hon. Nawr, mae hwn yn rhywbeth lle mae cyllid ar gael o ran Chwaraeon Cymru, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi cyfeirio'r trefnwyr tuag at Chwaraeon Cymru, ond hefyd byddaf yn codi hyn gyda'r Gweinidog diwylliant a chwaraeon, gyda'i gyfrifoldeb ef. Ac yn wir, wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddai'r cyngor lleol ar gyfer gweithredu gwirfoddol—PAVS, rwy'n credu, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro—hefyd yn dymuno ymgysylltu, oherwydd rydym yn eu hariannu i helpu pobl a sefydliadau i gael gafael ar gyllid ar gyfer y math hwn o ddiben.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyda diweddariad ynghylch tystysgrifau colli babanod? Cyflwynwyd deiseb gan Angharad Cousins, yn dilyn cyflwyno tystysgrifau ar gyfer teuluoedd yn Lloegr sydd wedi colli babanod o flaen 24 wythnos oed—cyn 24 wythnos, mae'n ddrwg gennyf. Yn ddiweddarach, cytunodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno menter wirfoddol debyg yng Nghymru, ond rydym yn dal i aros, ers peth amser bellach, heb unrhyw ddiweddariad. Mae colli babanod yn brofiad trawmatig iawn, sydd, yn anffodus, yn effeithio ar gymaint o deuluoedd ledled Cymru bob blwyddyn, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, Trefnydd, y dylai sicrhau bod y tystysgrifau hyn ar gael yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, felly byddai datganiad yn cael ei groesawu'n fawr. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Mae hwn yn faes colled sensitif iawn—sensitif iawn o ran profedigaeth i lawer o bobl. Ac rydym yn gwybod faint o bobl sy'n profi beichiogrwydd a cholli babi allai ddioddef galar ac maen nhw'n dioddef galar, ac efallai y byddant yn teimlo nad yw eu profedigaeth yn cael ei gydnabod, ei gefnogi, ac weithiau mae'n cael ei guddio hyd yn oed. Felly, rydym eisiau sicrhau bod rhieni mewn profedigaeth yn cael cynnig gofal o ansawdd uchel, personol a sensitif trwy gydol unrhyw brofiad o golli babi. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau rhieni, gan gynnwys Sands, ac arbenigwyr yn y maes hwn i weithredu'r llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol ledled Cymru, yn benodol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babanod.

Ond mae eich cwestiwn yn ymwneud â'r tystysgrifau colli babanod, ac rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod y tystysgrifau hynny ar gael yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r tîm gweinidogol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod proses dystysgrif wirfoddol yn cael ei chyflwyno ledled Cymru i gydnabod colli babanod yn ffurfiol, ac rydym ar hyn o bryd yn aros am wybodaeth gan ddarparwyr am yr opsiynau o ran sut y gellir gweithredu hyn.

Trefnydd, hoffwn ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar therapi amnewid ensymau pancreatig. Rydym yn gweld prinder cenedlaethol o'r therapi hwnnw ar draws y wlad ac nid yw 90 y cant o bobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad i'r therapi hwnnw ar hyn o bryd. Heb y therapi hwnnw, mae pobl yn dechrau dioddef o gamfaethiad ac yn llwgu i farwolaeth mewn gwirionedd. Felly, hoffwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael y driniaeth amserol sydd ei hangen arnynt.

Hoffwn hefyd ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru. Mae llawer o bobl yn sir Faesyfed wedi'u ffieiddio'n ofnadwy oherwydd bod y comisiwn ffiniau wedi penderfynu tynnu sir Faesyfed o etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd—rhywbeth a oedd yn dorcalonnus iawn i mi fel dyn balch o sir Faesyfed fy hun. Sefydlwyd sir Faesyfed yn y 1500au ac mae'n ymddangos bod y comisiwn ffiniau yn mathru hanes lleol dan draed, rhywbeth nad wyf yn ei dderbyn ac nid yw trigolion sir Faesyfed yn ei dderbyn chwaith. Felly, pe gallem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y comisiwn ffiniau, fel y gallwn ni i gyd gwestiynu'r penderfyniadau hyn a sut mae'r comisiwn ffiniau wedi penderfynu ar y cynigion chwerthinllyd hyn mewn gwirionedd.

15:05

Diolch yn fawr, James Evans, a diolch am godi'r mater o fynediad i'r therapi hwnnw, y therapi amnewid ensymau. Wrth gwrs, rwy'n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisiau clywed am unrhyw enghreifftiau penodol o hyn, o ran materion yn ymwneud â mynediad i'r therapi hwnnw. 

Oedd, roedd gan y comisiwn ffiniau fwy nag un ymgynghoriad dros ffiniau'r etholaethau newydd, felly rwy'n siŵr bod sylwadau wedi'u gwneud. Fe ddaethon nhw'n ôl gyda chynigion drafft, ac yna mwy o ymgynghori cyn dod i'w penderfyniad terfynol. Felly, mae eich pwyntiau wedi'u gwneud a'u gwyntyllu yn y Siambr heddiw.

A gawn ni ddadl ar farn Llywodraeth Cymru ar adroddiad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ynglŷn â hunanladdiadau cam-drin domestig? Ers 2020, y ffurf fwyaf cyffredin o farwolaeth a gofnodwyd mewn lleoliadau domestig erbyn hyn yw hunanladdiad yn dilyn cam-drin domestig. Mae nifer y bobl sy'n cymryd eu bywydau eu hunain yn dilyn cam-drin domestig yn uwch na nifer y dioddefwyr a laddwyd gan gyn-bartner neu bartner presennol. Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2024, amheuwyd bod 98 o bobl wedi cymryd eu bywyd eu hunain yn dilyn cam-drin domestig, tra bod 80 o bobl wedi'u lladd gan bartner.

Ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yw'r dangosydd risg uchaf ar gyfer hunanladdiad cam-drin domestig. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae data'n dangos bod 92 y cant o'r rhai dan amheuaeth mewn achosion o hunanladdiadau cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr eisoes yn hysbys i'r awdurdodau, ac mewn 79 y cant o achosion hunanladdiad a amheuir roedd naill ai'r dioddefwr neu'r troseddwr yn hysbys i asiantaethau eraill fel gwasanaethau iechyd meddwl neu arbenigwyr cam-drin domestig. Mae angen gweithio ar y cyd ar frys, gyda chefnogaeth ac ymyrraeth ragweithiol a allai achub bywydau yn llythrennol. Mae dioddefwyr yn cael meddyliau hunanladdol oherwydd nad ydynt yn gallu gweld ffordd allan, a phan fydd pobl yn adrodd am eu camdriniaeth—

—nid ydynt yn teimlo eu bod wedi'u diogelu, a gall y weithred o adrodd ei hun achosi trawma eto, a fydd yn aml yn cynnwys adrodd eu straeon mwyaf personol dro ar ôl tro wrth wahanol asiantaethau, gan wneud iddynt ail-fyw eu poen wrth geisio rhoi cyfrif clir a chyson o'r hyn a ddigwyddodd. Felly, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, pa waith y byddwch chi'n ei wneud i ddod â'r asiantaethau hynny at ei gilydd i leihau straen y broses yn gyntaf oll, ac yna'r gefnogaeth frys sydd ei hangen ar y dioddefwyr fel nad oes rhaid i mi sefyll yma eto yn darllen ystadegau sydd hyd yn oed yn uwch?

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson, a diolch am dynnu sylw heddiw at brosiect cam-drin domestig Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, a gynhaliwyd, fel y dywedwch chi, rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Diolch am dynnu sylw at ganfyddiadau'r prosiect hwn a ryddhawyd heddiw, sy'n datgelu bod 262 o bobl wedi marw yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i gam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—roedd 71 y cant o'r rheiny yn fenywod—ac ers 2020 mai'r achos mwyaf cyffredin o hunanladdiad yw cam-drin domestig, gan gynnwys cyfeiriad at ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol sef un o'r ffactorau allweddol.

Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed ar Radio Wales, fel y gwnes i y bore 'ma, y dystiolaeth deimladwy gan un o'r goroeswyr, Ruth Dodsworth, sy'n siarad yn agored am ei phrofiad, ac, o ganlyniad, yn galluogi ac yn cefnogi ac yn grymuso llawer i ddod ymlaen—llawer o fenywod i ddod ymlaen. A allaf dalu teyrnged, yn fy etholaeth, i wasanaethau cam-drin domestig y Fro, a gynhaliodd ddigwyddiad yn ddiweddar lle siaradodd yn bwerus, gyda goroeswyr eraill?

Dim ond i ateb eich cwestiwn, mae'n rhaid i ni gael pob partner yn y sector statudol—. Mae'n rhaid i lywodraeth leol, iechyd ac addysg i gyd ddod at ei gilydd, gyda'r heddlu, ac mae hynny'n digwydd, wrth gwrs, yn ein bwrdd strategaeth partneriaeth, yr wyf yn ei gyd-gadeirio gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu Emma Wools. Rydym yn ei alw'n ddull system gyfan gynaliadwy, oherwydd mae'n ymwneud â'r holl sectorau cyhoeddus a'r sectorau arbenigol, Cymorth i Ferched Cymru, Bawso a Thrive, a gafodd ddigwyddiad pwerus iawn a gynhaliwyd gan Sioned Williams yr wythnos diwethaf yn y Pierhead. Mae angen i ni edrych ar hyn yn nhermau sut y gallwn fynd i'r afael â hyn, ac mae'r ystadegau hyn yn dod â chymaint i'r amlwg.

Roeddwn hefyd eisiau dweud y byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth newydd atal hunanladdiad a hunan-niweidio ar gyfer Cymru cyn bo hir, sydd unwaith eto yn ddull traws-lywodraethol, sy'n mynd i'r afael â'r materion sylfaenol a all arwain at hunanladdiad yn yr achosion mwyaf trasig, a bydd hynny'n cynnwys mynd i'r afael â mater cam-drin domestig. Ond diolchaf i Joyce Watson eto, ac Aelodau ar draws y Siambr hon, am godi hyn. Mae'n argyfwng cenedlaethol. Mae trais yn erbyn menywod a merched erbyn hyn yn endemig, yn treiddio i bob lefel o gymdeithas. O gam-drin domestig a thrais rhywiol i reolaeth orfodaethol ac aflonyddu cyhoeddus, mae'r argyfwng yn eang, a'r realiti llym yw bod menywod a merched nid yn unig mewn perygl mewn digwyddiadau ynysig, maen nhw'n byw o dan gysgod ofn parhaus yn eu cartrefi, gweithleoedd a chymunedau. 

15:10

Hoffwn dynnu sylw at y cynnydd a'r heriau parhaus mewn buddsoddiad addysg ar draws Dyffryn Clwyd. Trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweld cyllid sylweddol yn trawsnewid ysgolion yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig. Agorodd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl, prosiect gwerth £23 miliwn, yn 2019, ac fe wnaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl, ychydig flynyddoedd cyn hynny, hefyd elwa ar fuddsoddiad cam cyntaf o £90 miliwn, gan ddarparu adeilad o'r radd flaenaf i'w chymuned. Mae'r rhain yn gamau i'w croesawu'n fawr, sy'n mynd i'r afael ag anghenion hirsefydlog mewn ardaloedd sydd wedi wynebu caledi economaidd mawr. Ond nid yw'r buddsoddiad wedi cyrraedd pob ysgol yn Nyffryn Clwyd, yn anffodus. Mae Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Prestatyn, ill dau â hanes ysgolheigaidd cryf, yn parhau i ymdopi â seilwaith sy'n heneiddio. Er gwaethaf eu llwyddiant wrth godi safonau, mae eu hadeiladau ar ei hôl hi, gan rwystro datblygiad staff a disgyblion fel ei gilydd.

Roedd ail gam rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn addo £52 miliwn ar gyfer sir Ddinbych, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych, ond mae angen eglurder arnom ar amserlenni ac ymrwymiadau i sicrhau nad yw'r ysgolion hyn yn cael eu gadael ar ôl. Felly, a all y Trefnydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu'n fwy cyfartal ar draws ein darparwyr addysg, ac nid yn unig y rhai mwyaf difreintiedig, ond pawb sydd ei angen? Ac a all Llywodraeth Cymru ddarparu amserlen ar gyfer cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Prestatyn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gareth Davies, a diolch am gydnabod effaith rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Y ffaith bod hon wedi bod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon a'n bod wedi gweld ysgolion—ac roedd y Prif Weinidog yn cyfeirio atynt ychydig yn ôl—ledled Cymru, ar draws ein hetholaethau—. Ac, wrth gwrs, mae'r rhaglen adeiladu yn parhau. Mewn gwirionedd, mae'n parhau oherwydd bod gennym bellach gynnydd yn y rhaglen gyfalaf sydd wedi'i chymeradwyo yn y gyllideb, cyllideb nad oeddech chi'n ei chefnogi. Mewn gwirionedd, dim ond £1 miliwn o gyfalaf a gawsom o gyllideb ddiwethaf eich Llywodraeth, ond y ffordd adeiladol ymlaen yw i chi gefnogi'r mesurau y mae'r Ysgrifennydd dros Addysg yn eu cymryd i ehangu'r rhaglen oherwydd y cynnydd hwnnw yn y gyllideb gyfalaf, ac, wrth gwrs, Cyngor Sir Ddinbych fydd, rwy'n siŵr, yn cyflwyno'r cynlluniau hynny ar gyfer yr ysgolion hynny yr ydych chi wedi'u hamlygu.

Galwaf am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Siambr ar ganser yr ofarïau. Dyma Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau. Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o'r clefyd hwn bob blwyddyn yng Nghymru. Mae ychydig dros draean yn cael diagnosis yn gynnar, camau 1 neu 2, lle bydd y canlyniadau'n well. Rwyf innau fel eraill yma yn hyrwyddwr Targedu Canser yr Ofarïau, ac, fel y dywed yr elusen:

'Heb unrhyw raglen sgrinio hyfyw, mae'n hanfodol bod pob menyw yn gwybod am y symptomau a'n bod yn mynd i'r afael â'r camdybiaethau ynghylch canser yr ofarïau i sicrhau bod menywod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i gysylltu â'u meddyg teulu cyn gynted â phosibl.'

Mae pedwar prif symptom: chwyddo parhaus, poen yn y pelfis a'r abdomen, teimlo'n llawn a/neu golli chwant bwyd, a'r angen i basio dŵr yn amlach. Byddant yn symptomau parhaus a newydd. Er gwaethaf rhai gwelliannau, mae ymwybyddiaeth o symptomau yn parhau i fod yn bryderus o isel yng Nghymru, gyda dim ond 27 y cant o fenywod yn gallu adnabod chwyddo fel symptom a 42 y cant yn credu yn anghywir y bydd sgrinio ceg y groth yn canfod canser yr ofarïau. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wella ymwybyddiaeth, fel y dywed yr elusen. Galwaf am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn unol â hynny.

15:15

Diolch yn fawr, Mark Isherwood, a diolch am dynnu hyn i'n sylw heddiw. Diolch am fod yn llysgennad canser yr ofarïau. Rwy'n gwybod bod eraill o gwmpas y Siambr hon a fyddai'n cytuno. Diolch am dynnu sylw ato o ran y ffaith bod angen i ni godi ymwybyddiaeth, fel y dywedwch chi, ymhlith menywod i chwilio am y symptomau hyn, ac mae hyn yn rhywbeth lle mae'r adnabod yn gynnar o ran canser yr ofarïau mor hanfodol, mor hanfodol o ran gallu cael diagnosis a thriniaeth wedyn.

Mae gennym gynllun iechyd menywod erbyn hyn, sydd wrth gwrs yn rhoi cyfle i ni edrych ar yr holl ganserau hynny sy'n effeithio ar fenywod yn arbennig, ac rwy'n credu, gan eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofarïau, y byddaf yn sicr yn codi hyn gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o ran cynllun iechyd menywod, ond hefyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet. Ond rydych chi'n ei godi mor gyhoeddus heddiw, rwy'n diolch i chi am hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r datgeliadau syfrdanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, lle roedd aelodau o'r cyhoedd, mae'n ymddangos, mewn theatrau llawdriniaeth pan oedd cleifion yn cael eu llawdriniaeth? Ni all fod yn iawn fod y bwrdd iechyd yn cynnal ei ymchwiliad mewnol ei hun. Mae angen ymchwiliad annibynnol i ddilyn hwn i'w wraidd. Ni allaf feddwl am sefyllfa fwy agored i niwed y byddai rhywun ynddi nag ar fwrdd llawdriniaeth, lle dylid parchu urddas y person hwnnw, a phroffesiynoldeb y meddyg ymgynghorol a dylid caniatáu i'r staff meddygol eraill sy'n cyflawni'r llawdriniaeth wneud y gwaith y maent yn cael eu talu i'w wneud, yn hytrach na meddwl, 'Pwy sydd y tu ôl i'r mwgwd yna, ac a ydyn nhw'n bobl feddygol neu a ydyn nhw'n aelodau o'r cyhoedd?' Mae hynny'n hollol annerbyniol ac yna i weld y Gweinidog iechyd yn siarad ar y BBC am hyn yn hytrach na dod â datganiad yma er mwyn i'r Aelodau ei holi yn ei gylch, a'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i adfer hyder y cyhoedd mewn gwasanaeth sydd, fel y dywedais i, yn rhoi'r claf yn y sefyllfa fwyaf agored i niwed, ac mae'n rhywbeth y mae angen i'r Gweinidog iechyd fyfyrio arno a'i unioni'n gyflym iawn, ac ysgogi ymchwiliad annibynnol fel mater o frys.

Diolch, Andrew R.T. Davies, am ddod â'r cwestiwn hwn i mi heddiw fel y Trefnydd. Rhaid cymryd unrhyw bryder am ddiogelwch cleifion, fel y dywedwch chi, o ddifrif. Rwy'n ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi dweud ei fod yn cynnal adolygiad mewnol yn dilyn yr honiadau pryderus iawn, felly mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal adolygiad o'r digwyddiadau a adroddwyd. Mae'n bwysig bod hwn yn cael ei gwblhau a'r canlyniadau yn cael eu hystyried, ond wrth gwrs bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol nawr o'ch cwestiwn i mi y prynhawn yma. 

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cynhwysiant Digidol

Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar gynhwysiant digidol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 15:19:25
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn gweithredu gan fuddsoddi mewn cynhwysiant digidol i ddod â chymunedau at ei gilydd. 

Mae allgáu digidol yn rhwystr sy'n effeithio ar bob maes o fywyd ac yn aml yn arwydd o rwystrau eraill, fel allgáu cymdeithasol ac ariannol. Gyda mwy a mwy o wasanaethau'n symud ar-lein, mae'n fwyfwy hanfodol o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol fod gan bobl sgiliau digidol, mynediad at ddyfeisiau a'r ffaith y gallant aros yn ddiogel ar-lein. Gall unrhyw rwystr rhag cysylltedd digidol, mynediad neu sgiliau digidol olygu bod rhywun dan anfantais ariannol, gymdeithasol ac o ran eu llesiant yn ehangach. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gan Gymru raglen gynhwysiant ddigidol bwrpasol sy'n cael ei hystyried gan weddill y DU yn arweinydd ym maes cynhwysiant digidol, gwybodaeth ac ymarfer, gan gynnwys ein gwaith arloesol ar y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.

Mae ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, a ddarperir gan Cwmpas, wedi cefnogi dros 182,000 o bobl i feithrin y cymhelliant a'r hyder i fynd ar-lein, boed hynny i drefnu apwyntiadau meddygon teulu, gwneud cais am swyddi, rheoli cyllid neu gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. Ers 2019, rydym wedi gweithio gyda 2,100 o sefydliadau, gan hyfforddi 9,400 o staff rheng flaen a 4,200 o wirfoddolwyr i gefnogi pobl a allai fod yn cael trafferth gyda mynediad digidol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i'r Good Things Foundation, prif elusen cynhwysiant digidol y DU, i sicrhau mynediad at adnoddau dwyieithog ar-lein a thrwy gydol y rhwydwaith o ganolfannau cynhwysiant digidol sydd wedi'u lleoli mewn cymunedau ledled Cymru. Rydym hefyd wedi cymryd camau ymarferol i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed i gael y dyfeisiau sydd eu hangen arnynt i fynd ar-lein. Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ddarparu 1,100 o lechi digidol i gartrefi gofal, gan sicrhau bod preswylwyr yn gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a chael mynediad at wasanaethau ar-lein hanfodol. Rwy'n falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni ac wrth i'r rhaglen bresennol ddod i ben, mae'n bryd edrych ar sut olwg sydd ar gam nesaf y gefnogaeth i sicrhau ein bod yn cefnogi'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, sy'n aml hefyd y mwyaf difreintiedig ac o bosibl y mwyaf agored i niwed. 

Gan gydnabod pwysigrwydd y maes hwn mewn cymdeithas gynhwysol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y 'Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol: Camau Cyntaf' yn ddiweddar, sy'n amlinellu meysydd ffocws allweddol ar gyfer cynhwysiant digidol ar lefel y DU. Mae'n cydnabod bod hon yn ymdrech ar y cyd ar draws pob rhan o'r DU ac mae llawer i'w ddysgu o gamau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar gynhwysiant digidol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein hymdrechion cyfunol yn darparu'r gorau y gallwn i bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, ble bynnag y maent yn byw. 

Dirprwy Lywydd, nid gweithredu yn fy mhortffolio yn unig yw hyn; gweithredu yw hyn sy'n cael ei gyflawni ar draws y Llywodraeth. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw seilwaith digidol, gan gynnwys band eang a chysylltedd symudol, ond oherwydd tanfuddsoddiad hanesyddol ar lefel y DU dros y degawd diwethaf neu fwy, rydym wedi helpu i ddarparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Cyn i ni gymryd camau i fynd i'r afael â methiant y farchnad, dim ond 45 y cant o eiddo yng Nghymru oedd â mynediad at fand eang cyflym iawn. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw'n 97 y cant, diolch yn bennaf i'r rhaglen Cyflymu Cymru gwerth £200 miliwn a ariennir yn gyhoeddus, sydd wedi darparu rhyngrwyd cyflym i 733,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru.

Ond roeddem ni'n gwybod nad oedd hynny'n ddigon. Dyna pam y cymerodd y Llywodraeth hon gamau pellach, gan ddod â band eang ffeibr llawn i fwy na 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru, gyda £50 miliwn o gyllid cyhoeddus, gan ddiogelu cymunedau i'r dyfodol a sicrhau bod Cymru'n aros ar y blaen yn yr economi ddigidol. I'r rhai sy'n cael trafferth gyda chysylltedd gwael, mae ein cynlluniau grant band eang ein hunain wedi darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol, gan helpu miloedd o gartrefi a busnesau i gael mynediad wrth iddynt aros am y cyflwyniad masnachol neu a ariennir yn gyhoeddus. Rydym hefyd wedi bod yn arloesol yn y ffordd yr ydym yn defnyddio seilwaith presennol. Mae lansiad Ffeibr Trafnidiaeth Cymru yn adeiladu ar ein buddsoddiad ym Metro De Cymru i ddarparu gwell cysylltedd digidol. Bydd buddsoddiad o £12 miliwn mewn seilwaith digidol yn creu cynlluniau teithiau di-dor a thocynnau integredig ar draws rheilffyrdd a bysiau, gan ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ledled Cymru.

Mae technoleg ddigidol hefyd yn ein helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yng Nghymru. Mae cyflwyno e-bresgripsiynu, y gwasanaeth presgripsiwn electronig, ar y gweill, gan leihau biwrocratiaeth, lleihau gwallau a gwneud bywyd yn haws i gleifion. Ers yr wythnos diwethaf, mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn fyw mewn 43 o bractisau meddygon teulu a 266 o fferyllfeydd cymunedol ar draws pob bwrdd iechyd. Mae dros 1 filiwn o bresgripsiynau eisoes wedi'u dosbarthu'n ddigidol ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gwblhau'r cyflwyniad erbyn mis Medi 2027.

Rydym hefyd wedi lansio porth mynediad deintyddol Cymru, system ddigidol newydd i ddarparu ffordd decach a mwy tryloyw i bobl gofrestru eu hangen am ddeintyddiaeth y GIG. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn defnyddio'r porth, sy'n rhoi data amser real ar alw ac yn helpu i sicrhau bod lleoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu'n deg, ac yn dileu'r angen i bobl ffonio sawl practis i ddarganfod a ydyn nhw'n derbyn cleifion newydd. Ond gadewch i mi fod yn glir: rydym ni'n gwybod nad yw'r gwaith wedi'i orffen. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda byrddau iechyd a'r sector deintyddol i ehangu'r ddarpariaeth a mynd i'r afael â heriau gweithlu hirdymor, oherwydd gall arloesedd digidol helpu, ond nid yw'n cymryd lle buddsoddiad priodol mewn gwasanaethau.

I'n pobl ifanc, rydym yn sicrhau nad yw mynediad digidol yn fraint ond yn hawl. Drwy ein rhaglen Hwb, mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi dros £200 miliwn mewn addysg ddigidol, gan drawsnewid y dirwedd ddigidol yn ysgolion Cymru. Ers 2020, rydym wedi darparu bron i 292,000 o ddyfeisiau digidol newydd i ysgolion ledled Cymru, ac wedi sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir fynediad at fand eang cyflym iawn. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan bob plentyn, ni waeth beth fo'i gefndir, yr offer sydd ei angen arno i ffynnu yn yr oes ddigidol.

Mae cyfleusterau cymunedol yn allweddol i ddarparu lleoedd lle gall pobl fynd i gael mynediad digidol a chael cefnogaeth i wneud hynny. Mae cyllid cyfalaf ar gyfer llyfrgelloedd, er enghraifft, wedi galluogi llyfrgell Ystradgynlais i ddatblygu cyfleusterau gweithio o bell gydag ardaloedd cyfrinachol, podiau cyfarfod y gellir eu harchebu ar gyfer apwyntiadau corfforol/digidol, ystafelloedd Zoom, a mannau dysgu cysylltedd digidol. 

Dirprwy Lywydd, mae hon yn Llywodraeth Lafur Cymru sy'n cyflawni. O dan Brif Weinidog Eluned Morgan, rydym ni'n defnyddio arloesedd digidol i gael Cymru fwy teg a chysylltiedig.

Nid ydym yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i fuddsoddi, gwella a gwthio am fwy o gynhwysiant digidol, oherwydd yng Nghymru fodern, nid yw bod ar-lein yn foethusrwydd, mae'n angenrheidiol. Ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb ym mhob cymuned yn elwa ar y chwyldro digidol. 

15:25

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Mae allgáu digidol yn arbennig o gyffredin ymhlith y ddemograffeg sy'n agored i niwed, er enghraifft, yr henoed, y rhai sy'n byw mewn tlodi a'r rhai y mae digartrefedd yn effeithio arnynt. Er bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein, sy'n naturiol yn dod â manteision hefyd, mae'n bwysig nodi bod hyn hefyd yn dod ag amrywiaeth o anfanteision, yn enwedig i'r sectorau mwy agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n hanfodol y dylai Aelodau etholedig fel ni daflu goleuni ar y rhai sydd wedi'u hepgor yn ddigidol, er mwyn sicrhau nad ydynt mewn byd nad yw'n ddigidol. Cymerwch, er enghraifft, y goblygiadau sylweddol o fod yn berchen ar fodelau cyfoes o ffonau clyfar, gliniaduron a llechi, rhywbeth nad wyf yn credu, yn anffodus, bod gweision sifil yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau i gyfeirio strategaethau sy'n ysgogi nodau canmoladwy iawn o gyflawni lefel uchaf o effeithlonrwydd.

Mae gennyf i bryderon eraill ynghylch darparu gwasanaethau. Er bod gan ddefnyddwyr hyfedredd cyfyngedig naill ai yn Saesneg neu Gymraeg, byddai strategaeth sy'n cefnogi mwy o ddefnydd o gyfieithu ar-lein yn gweithio i frysbennu lefel o ynysu sy'n bodoli eisoes, yr ydym yn peryglu ei waethygu trwy ddwyn llawer mwy o'n bywydau bob dydd y tu hwnt i gyrraedd corfforol. Mae'n bwysig bod atebion ar bapur sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn parhau i fod yn opsiwn os oes angen, neu bydd perygl i'r trawsnewid hwn adael grwpiau cyfan ar ôl.

Er fy mod yn croesawu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda 2,100 o sefydliadau ers 2019 i helpu'r rhai sy'n cael trafferth gyda mynediad digidol, gwyddom y bydd rhai na fyddant yn deall y dechnoleg gyfoes hon. Mae'n bwysig nodi bod dulliau cyfathrebu ar bapur yn dal i fod yn hanfodol i lawer yn ein cymunedau, boed hynny'n ymwneud â gohebiaeth o'u banciau neu ysbytai lleol.

Wrth siarad am waith Llywodraeth Cymru gyda sefydliadau, byddwn yn awyddus i wybod pa waith sydd wedi'i wneud sy'n gweithio'n dda yma. Rwy'n nodi cynllun Everyone Connected cwmni Vodafone, sy'n cynnwys unigolion yn cyfrannu technolegau ail-law sy'n cael eu hadnewyddu cyn cael eu rhoi i'r rhai sydd angen dyfeisiau. Ar ben hynny, derbyniodd ffoaduriaid y DU gardiau SIM trwy raglen Charities Connected Vodafone, a ddarparodd 40GB o ddata bob mis dros chwe mis, ochr yn ochr â galwadau a negeseuon testun diderfyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried helpu i gyflwyno cynlluniau cenedlaethol sy'n cefnogi'r math hwn o ddarpariaeth ddyngarol gynhwysol yn ddigidol ledled Cymru gyfan?

Yn olaf, mae'n bwysig, gyda phoblogaeth sydd eisoes yn heneiddio, nad gofal iechyd yw ffin nesaf y rhaniad digidol. Eisoes mae e-bresgripsiynau wedi bod yn ofyniad ar feddygon teulu yn Lloegr ers 2019, ond ni fydd Cymru yn gorffen tan fis Medi 2027. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod pobl yn cadw hyder yn ystod y trawsnewidiad hwn? Mae'n rhy hawdd anwybyddu ofnau pan fyddwn ni'n gwybod beth yw'r peryglon pe bai'n mynd o chwith. Diolch.

15:30

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau treiddgar yna ynghylch sut rydym yn cyflawni o ran cynhwysiant digidol ar gyfer ein holl ddinasyddion yma yng Nghymru, oherwydd, fel y dywedais i yn fy natganiad, mae hwn yn fater allweddol o gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl, yn syml, yn hyderus i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol mewn ffyrdd a fydd yn gwella eu bywyd, ond mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, oherwydd mae cymaint o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar-lein nawr, fel y dywedais i yn fy natganiad, ac fel y gwnaethoch chi gydnabod. Mae'n ymwneud â sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn cyrraedd y rhannau hynny o gymdeithas a allai gael eu heithrio, neu sydd wedi'u heithrio, o ran cynhwysiant digidol.

O ran arolwg cenedlaethol Cymru 2022-23, mae data'n dangos bod 7 y cant o oedolion 16 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru yn parhau i fod wedi'u hallgáu'n ddigidol ac nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol. Mae hynny'n swnio fel ffigur bach, ond mewn gwirionedd mae'n 170,000 o oedolion 16 oed a hŷn, ac rydym yn gwybod y byddant yn cael eu heithrio'n ddigidol. Rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl wrth i ni gofleidio'r dull digidol yn gyntaf hwnnw.

Dyna pam mae Cymunedau Digidol Cymru mor bwysig. Fe'i gelwir yn 'Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant', ac mae'n cael ei ariannu gan £2 filiwn y flwyddyn. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan gynhwysiant digidol, trwy fy nghyllideb, a thrwy iechyd, oherwydd rydym eisoes wedi trafod y prynhawn yma bwysigrwydd mynediad digidol ym maes iechyd. Ond mewn gwirionedd ei fwriad yw helpu i gyrraedd pobl sydd wedi'u heithrio'n ddigidol—y 170,000 hynny. Rwyf wedi rhoi llawer o ystadegau am gyrhaeddiad y rhaglen honno. Ond y pwysigrwydd heddiw ar gyfer y datganiad hwn yw clywed y safbwyntiau hyn o bob rhan o'r Siambr o ran opsiynau ar gyfer cymorth cynhwysiant digidol yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym wedi cael gwerthusiad annibynnol o'n rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, ac roedd yn dangos llawer iawn o agweddau cadarnhaol ar y rhaglen, am ddysgu defnyddiol wrth lywio gweithgareddau yn y dyfodol.

Hefyd, o ran gallu ymgysylltu â'r sefydliadau pwysig hynny fel y Good Things Foundation, rydym wedi ariannu'r cyfieithiad Cymraeg o Learn My Way. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod hyn yn bwysig o ran cenedl ddwyieithog. Felly, mae'r platfform sgiliau digidol sylfaenol ar-lein wedi'i gyfieithu. Ond mae hefyd yn cynnwys adnoddau ar gadw'ch data personol yn ddiogel, cadw'ch dyfais yn ddiogel, bod yn ddiogel ar-lein, a helpu i gael mynediad at sgiliau digidol sylfaenol am ddim ar gyflymder ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddyn nhw.

Mae'r banc data cenedlaethol yn darparu SIMs data am ddim i bobl mewn angen ledled y DU trwy hybiau cynhwysiant digidol, mewn partneriaeth â Virgin Media O2, Vodafone a Three. Trwy'r bartneriaeth â Cymunedau Digidol Cymru a'r Good Things Foundation, mae bellach 165 o hybiau cynhwysiant digidol yng Nghymru, gyda dros 19,800 o SIMs wedi'u harchebu ym mis Hydref 2024. Ond mae'n rhaid i ni estyn allan o ran yr hyn yr ydym yn bwriadu ei gael, sef—unwaith eto, Cymru ar flaen y gad—y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Dyna waith rydym ni wedi'i gomisiynu gan Brifysgol Lerpwl, i archwilio'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.

Yn olaf, mae'n bwysig bod y strategaeth ddigidol yn rhoi pobl wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud, a'n bod yn ymgysylltu'n barhaus ac yn cael adborth gan y rhai a allai fod wedi'u heithrio'n arbennig. Mae gennyf i ddiddordeb mewn rhannu gyda chi y ffaith bod gennym y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, fel y gwyddoch chi, a sefydlwyd yn 2020. Mae'n gorff hyd braich. Mewn partneriaeth â thîm niwrowahaniaeth ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru, mae'n archwilio sut y gall digidol wella profiad pobl o brosesau atgyfeirio ac asesu niwrowahaniaeth. Mae'r ganolfan wedi gwneud argymhellion ac mae bellach yn profi atebion i ddiwallu anghenion defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.

15:35

Mae canlyniadau allgáu digidol yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sydd ar incwm isel ac sydd â gwendidau eraill, yn enwedig ar adeg pan fo cefnogaeth y Llywodraeth i'r mathau hynny o bobl wedi'i dorri, yn cael ei dorri, a phrisiau a biliau yn codi. Fel y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi nodi, mae nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru, gan gynnwys traean o'r rhai sy'n 75 oed neu'n hŷn, wedi'u heithrio'n ddigidol. Mae hyn yn rhwystr rhag cael mynediad at wasanaethau a hawliau hanfodol, a gall wneud y costau cynyddol hynny hyd yn oed yn uwch. Amlinellodd y comisiynydd pobl hŷn blaenorol argymhellion clir ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol ymhlith pobl hŷn, ond rydym yn dal i aros i glywed a yw'r rhain wedi'u gweithredu'n llawn. Felly, a allwch chi heddiw gadarnhau pa un a yw'r holl argymhellion hynny bellach wedi'u gweithredu, ac, os nad ydynt, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu?

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd wedi amlygu nad oes gan lawer o lety lloches yng Nghymru Wi-Fi. Hebddo, mae ceiswyr lloches yn wynebu rhwystrau enfawr wrth geisio cael mynediad at ddosbarthiadau Cymraeg a Saesneg, cymorth argyfwng, gwasanaethau cyfreithiol, a gwybodaeth hanfodol a allai eu helpu i ailadeiladu eu bywydau. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri'r prosiect rhyngrwyd lloches, a gafodd ei alw'n hanfodol bwysig gan y rhai sy'n cefnogi ceiswyr lloches, fis Mai diwethaf. Dim ond ddoe, mewn sesiwn ford gron gyda swyddogion arweiniol ailsefydlu a mudo llywodraeth leol, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pa mor hanfodol yw mynediad i'r rhyngrwyd i sicrhau bod pobl yn cael mynediad nid yn unig at wasanaethau a chyngor, ond hefyd wrth feithrin cydlyniant—gwersi iaith, cyrsiau addysgol.

Mewn gwlad sy'n ymfalchïo mewn bod yn genedl noddfa, mae hyn yn annerbyniol ac nid yw'n unol â'r egwyddorion a amlinellir yn eich pennod adnewyddedig ar genedl noddfa yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', megis egwyddor 4:

'atal canlyniadau niweidiol fel digartrefedd, cyflyrau iechyd gwael, a chamfanteisio trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau hygyrch angenrheidiol.'

Rydych chi wedi siarad am Hwb. Dylai plant ffoaduriaid allu cael mynediad at Hwb. Y pyrth iechyd hynny rydych chi wedi siarad amdanynt—dylent allu cael mynediad i'r rheini. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau bod mynediad Wi-Fi yn safon sylfaenol ym mhob llety lloches yng Nghymru?

Rwyf wedi annog yr Ysgrifennydd Cabinet o'r blaen i gymryd camau i sicrhau nad yw pobl ag anableddau dysgu yn cael eu trin yn annheg wrth i Gymru symud yn agosach at ddod yn economi heb arian parod. Cyflwynodd Mencap Cymru ddeiseb i'r Senedd, gan dynnu sylw at yr effaith ar lawer o bobl ag anableddau dysgu, sy'n gynyddol yn methu talu am nwyddau a gwasanaethau, yn aml yn gorfod gadael busnesau yn waglaw ac yn teimlo eu bod yn cael eu bychanu ac y gwahaniaethir yn eu herbyn. Teithiais ar bedwar trên Trafnidiaeth Cymru y penwythnos diwethaf, ar deithiau a barodd y rhan fwyaf o'r dydd. Ni fyddwn wedi gallu prynu unrhyw luniaeth o gwbl pe na bai gen i gerdyn banc digyswllt neu ffurf o dalu'n ddigidol. Felly, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gorchymyn nad yw'r gwasanaethau y mae'n eu rhedeg, y sectorau y mae'n eu hariannu, yn cyfrannu at y rhaniad digidol sy'n tyfu'n barhaus?

Mae cynhwysiant digidol, fel y dywedoch chi, yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n ymwneud â thegwch, cydraddoldeb, uniondeb, a sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl. Wrth i ni symud i fyd digidol, rhaid i gynhwysiant a hygyrchedd a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i ni hefyd ddatblygu, felly pa gamau ydych chi'n eu cymryd er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd? Diolch.

15:40

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Wrth gwrs, canlyniadau allgáu digidol yw anghyfiawnder cymdeithasol, gwaharddiad o wasanaethau cyhoeddus, ac eithrio o'r holl gyfleoedd y mae cynhwysiant digidol yn ei ddarparu. Yn amlwg, mae hwn yn faes polisi lle rydym yn edrych yn fanwl am dystiolaeth. Rwyf wedi sôn am y ffaith ein bod wedi gwerthuso Cymunedau Digidol Cymru, gwerthusiad annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni. Fe wnaethom gymryd ystod eang o dystiolaeth, nid yn unig o adolygiad llenyddiaeth, ond hefyd o weithdai a chyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid, i gyrraedd y sefyllfa wybodus honno. Mae'r ymgysylltiad â'n holl gomisiynwyr yn hanfodol i hynny—yn wir, rydych chi wedi cyfeirio at y comisiynydd pobl hŷn.

Rwyf eisiau ymateb yn arbennig ar y pwynt hwnnw o ran pobl hŷn. Er enghraifft, blaenoriaethodd Cymunedau Digidol Cymru hyfforddiant gofal digidol ysbrydoledig ar gyfer cydlynwyr gweithgareddau cartrefi gofal y llynedd, yn ystod 2024, oherwydd rydym yn gwybod, i lawer o bobl oedrannus, o ran eu hamgylchiadau bywyd, os ydyn nhw mewn cartref gofal, o ran cael mynediad at eu hanghenion dyddiol a hefyd gwasanaethau cyhoeddus, maent yn derbyn gofal da, ond wrth gwrs yr hyn sydd wedi bod yn wirioneddol bwysig i'r rhai mewn cartrefi gofal yw y gall preswylwyr ddefnyddio offer digidol ar gyfer hel atgofion, ymgysylltu creadigol, cerddoriaeth, gemau, apiau natur, cymorth Cymraeg. Bu lefel uchel iawn o alw ac adborth cadarnhaol, gan gynnwys sesiynau pwrpasol ar gyfer staff gofal cymdeithasol oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r staff sy'n ymwneud â hynny yn bwysig hefyd. Ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth sy'n un rhan o'r boblogaeth, lle mae cynhwysiant digidol, fel yr ydym wedi cydnabod, yn uwch ymhlith pobl hŷn.

Rwy'n falch eich bod wedi codi'r mater ynglŷn â'r prosiect rhyngrwyd lloches, oherwydd am dair blynedd, gan ddechrau yn ystod y pandemig, darparodd Llywodraeth Cymru fynediad i'r rhyngrwyd am ddim i sicrhau bod ceiswyr lloches yn gallu cael mynediad at negeseuon iechyd cyhoeddus, ymgyfarwyddo mewn cymunedau newydd, cael mynediad at wasanaethau integreiddio o bell. Clearsprings Ready Homes, darparwr preifat y Swyddfa Gartref, ym mis Mawrth 2024 a benderfynodd ddod â'n partneriaeth i ben, gan ei gwneud yn ofynnol i ni ddod o hyd i ddull amgen. Yn amlwg, rydym ni'n siarad am lety, sy'n cael ei ddarparu yn bennaf gan Clearsprings.

Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi brocera cytundeb rhwng y Good Things Foundation a Sanctuary Coalition Cymru, y byddwch yn ymwybodol iawn ohono, i sicrhau rhyngrwyd am ddim unwaith eto. Rydym nawr yn cael sgyrsiau i geisio sicrhau ei fod ar gael ar draws Cymru, ynghyd â gwybodaeth i geiswyr noddfa. Rydym yn cydnabod bod hyn yn rhan fawr o'n huchelgais i fod yn genedl noddfa. Gobeithio y bydd yr ymgysylltiad hwnnw a'r bartneriaeth newydd honno yn cael eu rhannu â phawb a fydd yn cael budd, a bydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ymwybodol o'r datblygiadau hynny.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd eich bod wedi cyfeirio at y cyfleoedd gydag ymgysylltiad Mencap Cymru. Rwyf wedi cwrdd â Mencap Cymru yn dilyn y ddeiseb a dderbyniom ac y gwnaethom ei thrafod—a'm hymrwymiad a wnes i ddilyn hyn. Rydym bellach yn cydnabod hynny, ac yn fuan iawn byddwch yn gweld ein cynllun hawliau pobl anabl, lle rydym yn cydnabod heriau'r gymdeithas heb arian parod a'r gwaith rydym ni'n ei wneud, yn enwedig gyda'r rhai sy'n gyrff cyhoeddus sy'n cael eu hariannu, i sicrhau mynediad at arian parod.

Bydd cyfeiriad at hynny, oherwydd yn ein cynllun hawliau pobl anabl rydym yn cydnabod bod hwn yn bwynt cyfiawnder. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder a mynediad at yr hyn sy'n gynhwysiant ariannol. Rwyf wedi sôn am y gwaith yr ydym yn ei wneud hefyd gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol mewn perthynas â'r safonau gwasanaethau digidol gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a rhaid i hynny gynnwys pob dinesydd o ran mynediad i'r anghenion hynny. Felly, gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd hefyd—. Rwy'n hapus iawn i rannu rhai o'r prosiectau sy'n cael eu hariannu. Rwy'n siŵr eich bod eisoes yn gwybod amdanynt yn eich cymunedau, yn eich llyfrgelloedd. Mewn gwirionedd, rwy'n ymweld â llyfrgell yfory gyda'r Prif Weinidog i weld yr hyfforddiant hyrwyddwr digidol ar waith, hyfforddiant sy'n cael ei gyflawni gan staff y llyfrgell. A hefyd y ffaith bod gennym hyrwyddwyr digidol gwirfoddol i drafod cynhwysiant digidol a'i effaith gyda staff a gwirfoddolwyr—. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn hyn hefyd.

15:45

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Mae allgáu digidol yn rhwystr sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd, ond mae'n effeithio yn bennaf ar y rhai sy'n anabl, ifanc neu'n hen. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan 97 y cant o eiddo fynediad at fand eang cyflym, ond rydym yn gwybod bod mynediad sydd ar gael yn wahanol i fynediad corfforol. Ac er y gallai fod ar gael i chi, a oes gennych y gallu i gael mynediad iddo? A gall hyn ymwneud â phethau elfennol megis p'un a oes gennych y gallu i wefru eich dyfais electronig, oherwydd os na allwch wefru eich dyfais electronig, ni allwch ei ddefnyddio. Mae'n bwysig i blant, ni waeth beth fo'u cefndir, gael yr offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn oes ddigidol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod gan bob plentyn ddyfais i roi mynediad ar-lein iddynt a mynediad i fand eang cyflym, fel nad oes unrhyw blentyn dan anfantais? A fydd y gwariant yn golygu y byddwn yn gweld presgripsiynau yn cael eu hanfon yn awtomatig at fferyllwyr, gan osgoi'r broblem a gafodd un o'm hetholwyr yr wythnos diwethaf gyda'i bresgripsiwn rheolaidd yn mynd ar goll? Mae yna bobl, yn bennaf rhai hŷn ond nid nhw yn unig, sydd eisiau gwybodaeth yn gorfforol, h.y. ar bapur, nid yn unig yn ddigidol ar-lein. Wrth groesawu'r argaeledd digidol, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu copïau papur a'r gallu i ddefnyddio arian parod i'r rhai sydd eisiau hynny?

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Ac fel y dywedwch chi, mae yna rwystrau o hyd y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw a'u goresgyn. Dydw i ddim wedi sôn am fand eang; rydych chi wedi ei godi. Yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd, ond rydym bob amser, fel y dywedais yn fy natganiad—ni fyddaf yn ei ailadrodd—wedi cymryd cyfrifoldeb, buddsoddi mewn cysylltedd, oherwydd y tanfuddsoddiad hanesyddol hwnnw ar lefel y DU dros y degawd diwethaf. Ac rydym wedi helpu i ddarparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.

A gaf i ymateb yn arbennig i'ch pwynt am fynediad i blant? Daw hynny trwy ein rhaglen Hwb. Mae gennym ystod o wasanaethau digidol i ysbrydoli dysgwyr ac ymarferwyr i ymgorffori arferion digidol yn hyderus—dysgu a datblygu cymhwysedd, sgiliau a gwybodaeth ddigidol. Mae angen y sgiliau a'r wybodaeth arnom i helpu i gyflwyno'r holl ddigideiddio yn y gwasanaeth iechyd, onid oes? Mae angen i hynny ddod trwy ein haddysg. Ers 2020, mae dros £200 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ysgolion i drawsnewid eu tirwedd ddigidol, ond mae hyn yn cynnwys y ffaith y byddai angen seilwaith digidol cadarn arnoch i hwyluso dysgu digidol. Mae hefyd wedi darparu dyfeisiau i ddysgwyr ac ymarferwyr i gefnogi uniondeb mynediad i dechnoleg ddigidol, ac mae £12 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Ond Hwb yw'r platfform digidol cenedlaethol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru, ac mae'n cefnogi Cwricwlwm Cymru.

Ond fe af ymlaen yn gyflym at eich pwyntiau am iechyd hefyd. Fel y dywedais i, ac fel y trafodwyd yn gynharach heddiw, mae digideiddio'r gwasanaeth iechyd yn hanfodol ac mae ar y gweill. Rwyf wedi sôn am y gwasanaeth presgripsiynau electronig, sydd bellach yn dod yn weithredol mewn llawer o bractisau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol ar draws holl ardaloedd bwrdd iechyd yng Nghymru. Ond hefyd rydych chi'n gwneud y pwynt ynglŷn â mynediad i—. Mae yna bobl o hyd sy'n gyfforddus gyda darn o bapur a pha un a allant—. Rwy'n credu mai dyma sydd i'w ddysgu, ond mae cyfeiriad wedi cael ei wneud at yr hyn sy'n digwydd yn Llundain a Manceinion. Gallwn ddysgu, wrth gwrs, o leoedd y tu allan i Gymru am sut mae hyn yn cael ei reoli.

Wrth gwrs, mae'r gwasanaeth presgripsiwn electronig yn gwneud rhoi presgripsiwn a dosbarthu meddyginiaethau yn llawer haws i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon, ac yn wir nid oes rhaid i feddygon teulu argraffu, llofnodi a rhoi ffurflen bresgripsiwn papur gwyrdd i'r claf yn gorfforol. Ac, wrth gwrs, nid yw'n golygu ailymweld â'r feddygfa i godi ffurflenni presgripsiwn rheolaidd ac ati, ac mae'n arbed ffurflenni papur rhag cael eu hargraffu a'u trin. Nawr, mae'n bwysig bod y prif gynghorydd gwyddonol ar gyfer iechyd wedi adrodd ar y datblygiad hwn, wedi rhoi tystiolaeth o sut mae angen i ni adnewyddu camau gweithredu o ran sut i gyflawni 'Cymru Iachach'. Ac, wrth gwrs, dyma lle mae ap GIG Cymru mor bwysig o ran y ffordd ymlaen.

15:50
5. Dadl: Teithio gan Ddysgwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar deithio gan ddysgwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Ken Skates. 

Cynnig NDM8859 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â'r holl bartneriaid ac ar draws adrannau’r llywodraeth i archwilio cyfleoedd i wella'r ddarpariaeth teithio ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.

2. Yn cydnabod awydd Llywodraeth Cymru i weithio mewn ffordd drawsbleidiol sy'n ymateb i'r heriau a wynebir wrth ddarparu cludiant i ddysgwyr, a gaiff ei hamlygu drwy'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr sydd ar ddod.

3. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wrando ar blant a phobl ifanc ac ymgysylltu â nhw ar faterion sy'n ymwneud â chludiant.

4. Yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad arfaethedig Llywodraeth Cymru ar y canllawiau diwygiedig ynghylch teithio gan ddysgwyr, a gyhoeddir yn dilyn yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr.

5. Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfradd safonol i bobl ifanc ar gyfer pris siwrnai gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, sy'n cynnig ffordd ychwanegol a mwy fforddiadwy o gyrraedd lleoliadau addysg, hyfforddiant, gwaith a gwasanaethau eraill drwy’r rhwydwaith bysiau cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y cyfle i drafod teithio gan ddysgwyr yn amser y Llywodraeth heddiw. Mae ein cynnig yn adlewyrchu'r diwylliant a'r ffyrdd o weithio yr hoffwn eu creu wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau a fydd yn sicr yn cael eu codi trwy gydol y ddadl. Mae hwn yn gyfle i ddangos i bobl ifanc yng Nghymru sut y gallwn ystyried gyda'n gilydd yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ond hefyd y cyfleoedd i wella teithio gan ddysgwyr, ac rwy'n awyddus i glywed eich barn a'ch atebion fforddiadwy yr hoffech eu gweld yn cael eu datblygu. Wrth gwrs, mae barn plant a phobl ifanc hyd yn oed yn bwysicach, a byddaf yn sicrhau bod eu barn yn parhau i fod yn ganolog i'n syniadau.

Dangosodd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gennym yng Nghymru, ein hymrwymiad i ddarparu fframwaith deddfwriaethol cadarn, ac mae wedi cyflawni hyn. Rwy'n gwybod y bydd galwadau heddiw i ni ailedrych ar drothwyon milltiroedd ac agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth, ond mae'n werth cofio bod y trothwyon milltiroedd y mae'r Mesur yn eu nodi yn parhau i fod yn fwy hael na'r rhai yn Lloegr a'r Alban. Mae'r Mesur yn diffinio dyletswyddau statudol ond hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu atebion lleol yn ôl anghenion eu dysgwyr a'u cymunedau eu hunain. Mae'n datganoli pŵer i'r lefel leol, ond nid yw hyn yn golygu ein bod yn disgwyl i gynghorau weithio ar wahân. Fel y nodir yn ein cynnig, rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â'n holl bartneriaid. Rydym yn cydnabod yr angen am ddull traws-lywodraethol ac eisiau annog mwy o ddulliau cydweithredol ar draws yr holl bartneriaid cyflawni, gan gynnwys cynghorau, ysgolion, colegau a gweithredwyr trafnidiaeth. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wirioneddol gyflawni'n wahanol i'n dysgwyr, ac mae ein partneriaid wedi dweud wrthym y gellir gwella'r ffordd y gallwn wneud hyn.

Mae'n rhaid i ni gydnabod, rwy'n credu, bod teithio gan ddysgwyr yn gostus i gynghorau ac i golegau. Eleni, mae cynghorau'n disgwyl gwario dros £204 miliwn ar deithio gan ddysgwyr. Ac er ei bod yn hollol iawn ein bod yn buddsoddi ar y cyd i helpu plant a phobl ifanc i gael mynediad at addysg, rwy'n awyddus i archwilio a oes unrhyw gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol i helpu i reoli costau. Dyna pam rydym ni'n cynllunio uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr. Yn ysbryd gweithio trawsbleidiol a chydweithredol, gwahoddir cynrychiolwyr o'r gwrthbleidiau, ac rydym yn awyddus iawn bod yr holl bartneriaid yn gallu bod yn bresennol. Yn anffodus, cafwyd gwrthdaro gyda chyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a oedd yn golygu na allai arweinwyr awdurdodau lleol, uwch aelodau'r cabinet a swyddogion ddod ar y dyddiad gwreiddiol, felly rydym wedi aildrefnu'r uwchgynhadledd ar gyfer 9 Mai.

Rwyf i, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch gyda'n gilydd yn cydnabod bod gennym rôl i'w chwarae yn y maes polisi hwn. Nid oes atebion hawdd, ond byddwn yn archwilio'r materion yn yr uwchgynhadledd a byddwn yn chwilio am ffyrdd o gyflawni'n wahanol i wella cludiant dysgwyr yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr heriau, Ond rydym eisoes yn chwilio am gyfleoedd i wella. Bydd canllawiau wedi'u hadnewyddu, fel y nodir yn ein cynnig, yn destun ymgynghoriad ar ôl yr uwchgynhadledd. Rwyf wedi penderfynu peidio â chyhoeddi'r ymgynghoriad hwn tan ar ôl yr uwchgynhadledd oherwydd rwyf am fanteisio ar y cyfle y mae'r digwyddiad yn ei roi i ni i sicrhau bod y canllawiau mor effeithiol ag y gallant fod.

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi addasu'r trothwyon ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg, gan sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed, ac mae'r grant wythnosol o £40 ar gyfer aelwydydd cymwys, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ystod o gostau a allai gynnwys cludiant, yn fwy hael nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Hefyd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi cynlluniau ar gyfer cyflwyno cap o £1 ar deithiau bws sengl a chap o £3 ar deithiau lluosog ar gyfer pob person ifanc 16 i 21 oed. Mae pobl ifanc wedi bod yn galw am gymorth er mwyn iddynt gael mynediad at addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau. Bydd y cynllun hwn yn eu helpu i wneud hynny'n syml ac yn fforddiadwy. Dyma'r fargen fws fwyaf i bobl ifanc yn ddiweddar. Ac, wrth gwrs, byddaf yn cyflwyno'r Bil bysiau i'r Senedd. Mae ganddo gylch gwaith ehangach na—[Torri ar draws.

15:55

Mae'n rhaid imi wneud datganiad budd fan hyn: mae fy mab i'n fyfyrwyr mewn coleg addysg bellach. Dŷch chi wedi sôn yn fanna fod myfyrwyr 16 i 21 oed yn mynd i gael teithio am £1, ond dydy'r bysus fel maen nhw ar y foment ddim yn teithio ar amser sydd yn addas i nifer fawr o fyfyrwyr. Felly, sut ydych chi'n mynd i ymateb i anghenion y myfyrwyr yna sydd yn methu â theithio ar fws sydd yn mynd i dref neu ddalgylch coleg efo bws addas ei bwrpas?

Wel, mae hwn yn bwynt diddorol iawn y byddwn yn ei archwilio yn yr uwchgynhadledd. Mae'n her sydd wedi'i hamlygu'n arbennig gan Goleg Cambria yn ddiweddar, gan fod penderfyniadau anodd iawn i sefydliadau AB ynghylch talu am gludiant, a gall trosglwyddo costau ymlaen i bobl ifanc sy'n cael mynediad at addysg fod yn anodd iawn, iawn, ond rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer cefnogi sefydliadau AB, drwy Medr hefyd, gan gasglu'r dystiolaeth a'r data, cynnal ymarfer mapio fel bod rhwydweithiau'n cael eu cynllunio'n well ac y darperir ar eu cyfer yn well. Ond, wrth gwrs, bydd y Bil bysiau yn bwysig yn hyn o beth hefyd. Mae ganddo gylch gwaith ehangach na dim ond mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â theithio gan ddysgwyr, ond unwaith y byddwn yn cael rheolaeth o'r rhwydwaith bysiau, gallwn edrych ar gyfleoedd, mwy o gyfleoedd i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o fysiau ar y rhwydwaith cyhoeddus i gefnogi teithio effeithiol a fforddiadwy gan ddysgwyr, i sicrhau bod mwy o bobl sy'n cael mynediad at addysg yn gallu cael bysiau sy'n rheolaidd, llwybrau wedi'u trefnu sy'n diwallu anghenion teithwyr yn gyntaf yn hytrach nag anghenion y rhai sy'n gwneud elw.

Nawr, rydym wedi ymrwymo i gadw plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn, a hoffwn ganmol gwaith Senedd Ieuenctid Cymru, y gwnaeth ei hadroddiad 'Ffyrdd Cynaliadwy' helpu i lywio ein meddylfryd ar gyfer teithio gan ddysgwyr, ein pris o £1 i bobl ifanc, a hefyd y Bil Bysiau ei hun. Mae gwrando ar farn plant a phobl ifanc a gweithredu arno yn rhywbeth rydw i'n angerddol amdano, a dyna pam mae'n rhan o'n cynnig. Hoffwn ddiolch i'r bobl ifanc sydd wedi gweithio gyda ni yn ddiweddar ar deithio gan ddysgwyr a diwygio bysiau ehangach, ac mae'r gwaith hwn yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru a swyddfa'r comisiynydd plant, y grŵp a siaradodd â swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddar mewn sesiwn drafnidiaeth bwrpasol yn y digwyddiad preswyl Cymru Ifanc yn y Bala, a hefyd plant sydd wedi bod yn rhan weithredol drwy Plant yng Nghymru yn adnewyddu cod ymddygiad teithio Cymru gyfan.

Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw cludiant dysgwyr, gan helpu dros 100,000 o blant a phobl ifanc i gael mynediad at yr addysg a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i fanteisio i'r eithaf ar eu potensial. Mae yna heriau, gan gynnwys rhwystrau ymarferol ac ariannol, rhag i ni wneud popeth y dymunem ei wneud, ond mae yna gyfleoedd clir hefyd, a hoffwn ailadrodd y teimlad yn ein cynnig i geisio dull gweithredu trawsbleidiol o ran yr heriau hyn a pharodrwydd i weithio ar draws y Siambr hon i ddarparu atebion. Hoffwn ddefnyddio'r amser sydd gennym heddiw i fod yn gynhyrchiol, adeiladol a chydweithredol ar gyfer ein pobl ifanc.

Rwyf wedi dethol y dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu na ddylai unrhyw ddysgwyr wynebu rhwystrau trafnidiaeth i gael mynediad i addysg.

2. Yn gresynu:

a) nad yw’r ddarpariaeth teithio bresennol i ddysgwyr yn ddigonol, a bod hyn yn effeithio’n negyddol ar bresenoldeb, a bod hyn yn effeithio’n anghymesur ar blant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan waethygu anghydraddoldeb addysgol; a

b) bod mater cludiant ysgol yn cael ei godi’n rheolaidd gyda Chomisiynydd y Gymraeg fel rhwystr i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu argymhellion ‘Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru Dadansoddi a gwerthuso: adroddiad argymhellion Rhagfyr 2023’; a

b) sicrhau bod darpariaeth cludiant ysgol yn cael ei gynnwys yn y Bil Bysiau sydd ar y gweill.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon a hefyd diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y gwahoddiad i'r uwchgynhadledd. Bydd yn ddiddorol, ac mae'n drueni ei bod yn gorfod symud oherwydd roeddwn i'n edrych ymlaen at fod yn bresennol. Mae teithio gan ddysgwyr wedi bod yn flaenoriaeth i mi a'm cyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr dros dymor y Senedd hon, felly rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw.

Nawr, mae gwelliant Plaid Cymru yn agor drwy ddweud na ddylai unrhyw ddysgwr wynebu rhwystrau cludiant rhag cael mynediad at addysg, ac rwy'n credu na fyddai neb yn y Siambr hon yn anghytuno ag ef. Fodd bynnag, i ormod o'n dysgwyr ifanc yng Nghymru heddiw, dyma'r realiti y maent yn ei wynebu. Yn Ysgol Uwchradd Llanisien, canfu cyn-Aelod o'r Senedd Ieuenctid fod 39 y cant o rieni wedi nodi bod eu plentyn wedi gorfod colli'r ysgol oherwydd nad oeddent yn gallu fforddio cost y bws. Roedd y mwyafrif o'r disgyblion hyn yn byw ychydig o dan y trothwy o dair milltir, sef y trothwy ar gyfer cludiant am ddim. Nodwyd bod un disgybl wedi colli naw diwrnod eleni a 15 y flwyddyn flaenorol oherwydd nad oedd ei theulu yn gallu fforddio cost y bws. Ledled Cymru, mae lefelau absenoldeb yn sylweddol uwch na chyn y pandemig, yn enwedig ymhlith disgyblion o gefndiroedd tlotach, gydag un o bob pum rhiant yn nodi cost cludiant ysgol fel un o'r costau anoddaf i'w rheoli. Mae hyn yn dangos nad yw'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn ddigonol. Mae hyn yn cael effaith ar lefelau presenoldeb, sy'n effeithio'n anghymesur ar blant yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, gan waethygu anghydraddoldeb addysgol.

Roeddwn wedi dychryn wrth ddarllen bod Save the school transport RCT wedi canfod bod rhai disgyblion yn gorfod cerdded am ddwy awr i gyrraedd yr ysgol oherwydd y polisi cludiant ysgol presennol yng Nghymru. Roeddwn i'n siomedig hefyd o ddarllen bod uwch gynghorydd Llafur yng Nghymru wedi dweud nad ydyn nhw'n derbyn nad yw rhieni yn gallu fforddio anfon eu plant i'r ysgol pan fydd cludiant am ddim yn dod i ben. Mae hyn yn enghraifft o golli gafael yn llwyr ar realiti llym y mae teuluoedd a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ledled y wlad yn ei wynebu.

Nawr, o ran symud ymlaen, mae nifer o argymhellion wedi'u gwneud yn 'Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru Dadansoddi a gwerthuso: adroddiad argymhellion Rhagfyr 2023' Llywodraeth Cymru sydd eto i'w gweithredu. Amcan clir i'r Llywodraeth fyddai gorffen gweithredu'r argymhellion hyn mewn modd amserol. Ychydig iawn o weithredu sydd yng nghynnig y Llywodraeth heddiw, felly byddwn yn eu hannog i symud ymlaen ar frys. Nawr, yn y cynnig mae'r Llywodraeth yn llongyfarch eu hun am wrando ar blant a phobl ifanc ac ymgysylltu â nhw ar faterion sy'n gysylltiedig â chludiant, ac mae hyn i'w annog, ond mae angen y weithred honno arnom. Er bod y gostyngiad i bris bws i bobl ifanc yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae'n methu o ran yr hyn y mae pobl ifanc wedi bod yn gofyn amdano. Argymhellodd yr adroddiad 'Ffyrdd Cynaliadwy' gan Bwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod am ddim i bobl dan 25 oed. Dyma beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio tuag ato. Mae'n ymddangos bod hyd yn oed y Torïaid wedi deall hyn yn eu gwelliant heddiw.

Nawr, dros y flwyddyn ddiwethaf, pan godais y mater fod teithio gan ddysgwyr yn annigonol, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai'r Bil bysiau yn dod â gwelliannau. Ac, fel y mae Mabon wedi amlygu, hoffwn ddeall—. Mae'r adroddiad dadansoddi a gwerthuso teithio gan ddysgwyr yng Nghymru yn nodi mai un o'r rhesymau pam na ddylai fod diwygiadau ar unwaith i'r ddeddfwriaeth sy'n sail i deithio gan ddysgwyr yng Nghymru yw oherwydd y Bil bysiau sydd ar ddod. Felly, a fyddwn yn disgwyl gweld gwell darpariaeth ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod yn fuan? Ac os gellid darparu mwy o fanylion ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio yn ymarferol heddiw, byddem yn gwerthfawrogi hynny yn fawr. Diolch yn fawr.

16:00

A galwaf ar Tom Giffard i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) wedi'i ddiweddaru'n sylweddol ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008.

2. Yn nodi'r anawsterau y mae pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn eu cael wrth gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer addysg a hyfforddiant.

3. Yn gresynu bod Comisiynydd Plant Cymru wedi disgrifio adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) fel cwbl annigonol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun teithio ar fws am ddim i bobl ifanc 16–24 oed.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae pwysigrwydd teithio i leoliadau addysg ac yn ôl yn sylfaenol i fywyd plentyn. Fodd bynnag, mae llawer gormod o'n plant yn wynebu rhwystrau rhag y teithio hanfodol hwn, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Nawr, fel y gwyddom ni i gyd, mae gennym wasanaethau bysiau sy'n cael trafferthion, yn ogystal ag awdurdodau lleol heb eu hariannu'n ddigonol, sy'n creu heriau uniongyrchol i'n pobl ifanc. Pam ddylai plant orfod ymdrin â chanlyniadau penderfyniadau cyllidebol? Nid yw'r Mesur teithio gan ddysgwyr bellach yn addas i'r diben a dylid ei adolygu, gan fod bron i 20 mlynedd ers iddo ddod i rym.

Mae'r gyfraith yn nodi bod plant yn yr ysgol gynradd yn cael cludiant ysgol am ddim os ydynt yn byw dwy filltir neu fwy o'r ysgol addas agosaf, a disgyblion ysgol uwchradd dair milltir neu fwy. Mae'r rhain yn bellteroedd hir i ddisgwyl i blant ymgymryd â nhw ym mhob tywydd. Yn anffodus, fodd bynnag, gwelwn fwy o gynghorau yn symud i'r gofynion cyfreithiol sylfaenol ledled Cymru. Wrth siarad â Peter Fox, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae bob amser yn ei wrthsefyll yn sir Fynwy, sef cadw pob trothwy hanner milltir yn fwy hael na'r lleiafswm, oherwydd ei fod yn gwybod nad oedd yn iawn nac yn deg i'n pobl ifanc. Ac yn aml roedd hynny oherwydd diffyg llwybrau cerdded diogel a thrafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy, ynghyd â chostau seddi consesiynol a thaliadau a godir ar fysiau cyhoeddus. Nawr, yn anffodus, mae'r weinyddiaeth Lafur yno yn sir Fynwy bellach hefyd wedi symud ymlaen i isafswm terfynau statudol. Yn anffodus—. Wrth gwrs.

16:05

Yn gynharach, fe wnaethoch chi gwyno am gost y dreth gyngor yn cynyddu. Rydym ni wedi cael 14 mlynedd o gyni Llywodraeth Dorïaidd. Nid ydych chi eisiau gweld y dreth gyngor yn codi. Nid ydych chi'n gweld eisiau gweld treth yn codi. Rydych chi eisiau torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi eisiau torri gwasanaethau cyhoeddus a swyddogion sy'n gweithio i wasanaethau cyhoeddus. Ond rydych chi eisiau gweld mwy o bethau wedi'u hariannu, fel y cludiant am ddim hwn i bobl ifanc 16 i 25 oed, yr wyf yn cytuno ag ef, ond rwyf i'n ymladd am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Pam nad ydych chi?

Wel, fel y clywsoch Darren Millar yn ei ddweud yn gynharach, clywsom fod gan gynghorau ledled Cymru £2 biliwn wedi eu rhoi o'r neilltu mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ac nad ydynt yn cael eu defnyddio gan gynghorau ledled y wlad. Nid yw'n dderbyniol o gwbl i wneud hynny. Yn anffodus, mae'n ymddangos mai trethi uwch i bobl sy'n gweithio yw ateb Llafur. Rydym ni'n ei weld yn San Steffan, rydym ni'n ei weld ym Mae Caerdydd, ac rydym ni'n ei weld mewn cynghorau ledled Cymru. Nid dyna ein datrysiad ni, ond rwy'n fodlon iawn eich bod wedi datgan ar gyfer y cofnod mai dyna yw un chi.

Yn anffodus, mae cyflwr y sefyllfa drafnidiaeth yng Nghymru wedi arwain Comisiynydd Plant Cymru i fygwth heriau cyfreithiol i'r Llywodraeth ar ôl iddi ddisgrifio adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Mesur fel un cwbl annigonol, ac rwy'n cytuno â hi, yn enwedig o ran diffyg dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i ddarparu cludiant i fyfyrwyr dros 16 oed neu i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae angen cymhellion a chyfle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar bobl ifanc sy'n dysgu fel y gallant barhau â'u haddysg. Fel y mae nawr, bydd yn rhaid i bobl ifanc ailystyried eu llwybrau gyrfa oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ac amserol. Ni ddylai fod loteri cod post pan ddaw i opsiynau i bobl ifanc ôl-16 sydd eisiau cael mynediad at addysg bellach yn academaidd neu'n alwedigaethol. Dyma pam rydym wedi galw am gyflwyno teithio ar fws am ddim i bobl ifanc 16 i 24 oed, gan ganiatáu i'n myfyrwyr coleg ehangu eu gorwelion a chyrraedd eu potensial llawn. Cyflwynwyd cynllun tebyg yn yr Alban, lle gall pob person ifanc a phlentyn rhwng pump a 21 oed deithio am ddim. Mae'r mathau hyn o gynlluniau yn allweddol. Fel y gwyddom, yng Nghymru, nid oes gan gynghorau'r adnoddau i fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr, boed hynny'n ddigon o lwybrau cerdded diogel neu brisiau bysiau cyhoeddus â chymhorthdal, heb sôn am yr angen absoliwt i sicrhau darpariaeth ddigonol i'r rhai ag anableddau. Felly, rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am wahoddiad i'r uwchgynhadledd teithio i ddysgwyr—rwy'n gwybod y bydd Peter Fox yn bresennol ar ran y grŵp—sydd bellach yn cael ei chynnal ym mis Mai, a bydd hynny'n ddigwyddiad pwysig lle gellir ceisio consensws trawsbleidiol ar y mater hwn. Trwy'r consensws hwnnw, gallwn fynd i'r afael â'r anawsterau sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc o ran teithio, ac rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bob parti a'u pryderon a phryderon y comisiynydd plant hefyd. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'n fawr ddull trawsbleidiol yr Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn, ac ni ddylem adael i wleidyddiaeth plaid fod yn rhwystr i hyn. Rwyf eisoes wedi rhoi 9 Mai yn fy nyddiadur.

Felly, rydym yn gwario £204 miliwn ar deithio gan ddysgwyr, ac mae'n rhaid bod ffyrdd mwy cost-effeithiol o ddod ag anghenion y cyhoedd yn gyffredinol sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ynghyd ag anghenion myfyrwyr, ac i alluogi'r llwybrau i fynd heibio'r ysgolion uwchradd yn arbennig, oherwydd mae'n amlwg fod yn rhaid i bobl deithio ymhellach pan fyddant yn mynd i'r ysgol uwchradd.

Rwy'n credu bod faint o wybodaeth sydd gennym am yr opsiynau sydd gan bobl ac a ydyn nhw'n cymryd yr opsiwn rhesymegol ai peidio yn brin. Mae Living Streets yng Nghaerdydd wedi gwneud cryn dipyn o waith ar geisio darganfod sut mae pobl yn mynd i'r ysgol, ac mae'n seiliedig ar arolwg Dwylo i Fyny unwaith y flwyddyn ym mis Mehefin. Dim ond ychydig dros chwarter yr holl ddisgyblion y mae'n cwmpasu, oherwydd eu bod yn gwbl ddibynnol ar ysgolion yn trosglwyddo'r wybodaeth. Dydyn nhw ddim yn yr ystafell pan fydd yr ymateb yn digwydd. Rwy'n gwbl ymwybodol bod rhai ysgolion yn weithgar iawn wrth annog eu disgyblion i fynd i'r ysgol mewn modd llesol, oherwydd maen nhw'n darparu sticeri a phethau tebyg i annog pobl i feddwl mai dyna'r ffordd orau i fynd.

Mewn llawer o'r ysgolion yn fy etholaeth i, mae bron pob un o'r disgyblion yn byw yn agos iawn, iawn at yr ysgol, ond mae'r anhrefn sy'n cael ei greu gan bobl sy'n defnyddio ceir i ollwng eu plant, yn anffodus, yn rhy amlwg i'w weld ac rwy'n ofni bod hynny oherwydd nad yw eu rhieni eisiau cerdded i'r ysgol; nid y plant sy'n gwrthod cerdded i'r ysgol. Nawr, mae hynny ar gyfer ysgolion lleol iawn. Yn amlwg, os ydych chi'n mynychu ysgol arbennig, mae'n stori hollol wahanol; wrth gwrs, bydd angen teithio arnoch chi, a bron yn sicr teithio pwrpasol mewn bws os nad yw'ch rhiant neu'ch gwarcheidwad yn gallu mynd â chi i'r ysgol eu hunain. Ond rwy'n credu bod yna wahanol ffyrdd. Mae angen i ni dreulio llawer mwy o amser yn gweithio ar y llwybrau teithio llesol er mwyn i blant mewn ardaloedd trefol allu mynd i'r ysgol mewn modd llesol, ac yna eu hyrwyddo trwy'r ysgolion.

16:10

Pan wyf yng Nghaerdydd, rwy'n cerdded yma i'r Senedd, ac rwy'n cwrdd â phobl ifanc sy'n cerdded i'r ysgol—neu ar sgwteri hefyd, sgwteri, beicio—ac mae'n tueddu i fod trwy'r ardaloedd â gerddi neu strydoedd trefol tawelach hefyd, sy'n wych. Felly, ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn buddsoddi yn y llwybrau mwy diogel hynny i'r ysgol ar hyd y mannau gwyrdd hynny, os gallwch chi, y strydoedd tawelach? Gwelais fod yna arwyddion ar gyfer llwybr bws cerdded hefyd, sy'n wych, ond ydych chi'n meddwl bod hynny'n rhan o hyn, wrth fynd ymlaen?

Rwy'n credu eich bod chi'n gofyn, 'A yw'r Pab yn Gatholig?' Yn hollol, rwy'n cefnogi llwybrau teithio llesol i'r ysgol. Ond rwy'n credu nad yw cynghorau yn rhoi cymaint o ymdrech i mewn i hyn ag yr hoffwn ei weld. Rwy'n deall yn glir bod y sefyllfa, mewn ardal wledig, yn llawer mwy cymhleth a hoffwn weld, er enghraifft, myfyrwyr ysgol uwchradd sy'n gorfod teithio rhywfaint o bellter, dyweder 10 neu hyd yn oed 15 milltir, o bosibl, yn gallu defnyddio beiciau trydan yn yr oedran hwnnw, oherwydd byddai hynny'n ei gwneud yn bosibl, hyd yn oed pe baent yn byw mewn llefydd gyda bryniau.

Rwy'n canmol sir Fynwy am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud gyda'r bysiau lleol, oherwydd eu bod wedi eu galluogi i newid yr amserlenni i fod yn addas i deithio gan ddysgwyr fel y gallant ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Ac rwy'n deall hefyd eu bod nhw hefyd wedi gwneud gwaith gyda rhieni sydd angen cludo eu plentyn i'r ysgol oherwydd eu hanghenion arbennig. Maen nhw'n gweithio gyda nhw i roi swm o arian iddyn nhw i fynd â'u plentyn i'r ysgol fel y gallant dalu i'r rhiant hwnnw i fynd â'r plentyn yn ei gar eu hun os yw hynny'n fwy addas nag ei roi ar fws. Felly, rwy'n credu bod y dull partneriaeth hwnnw'n gweithio yn sir Fynwy ac rwy'n credu y gallai awdurdodau lleol eraill fod yn gweld hynny.

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu cynllun beiciau wedi'u hailgylchu ers mis Medi diwethaf lle mae pobl yn cael eu hannog i roi beiciau plant fel y gellir eu hadnewyddu a'u rhoi i ddisgyblion, ac maent yn cael eu cyfeirio gan yr ysgol, ac, hyd yma, mae 72 o ddisgyblion eisoes wedi derbyn beiciau yn ogystal â chael helmed, clo beic, pwmp, hyfforddiant cynnal a chadw beici sylfaenol a hyfforddiant beicio, a phan fydd y disgybl yn tyfu'n rhy fawr i'r beic hwnnw, gellir ei ddychwelyd yn gyfnewid am un newydd. Yn amlwg, mae plant ysgol uwchradd yn tyfu'n gyflym. Mae'r hen feic wedyn naill ai'n cael ei ailddefnyddio neu mae rhannau yn cael eu hailgylchu ar gyfer beiciau wedi'u hadnewyddu, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r ateb, yn enwedig pan fydd plant yn tyfu mor gyflym. Nid yw'n ddefnyddiol buddsoddi swm enfawr o arian yn y beic newydd perffaith a fydd wedyn yn rhy fach i'r plentyn o fewn blwyddyn neu ddwy.

Felly, rwy'n credu, o ran disgyblion ysgol uwchradd, bod angen i ni weld mwy o ddefnydd o feiciau trydan i alluogi myfyrwyr i fynd ymhellach. Rwy'n cytuno, mae'n gwbl annerbyniol fod pobl yn cerdded i'r ysgol am ddwy awr—

—a byddwn wedi hoffi siarad ychydig mwy am Ysgol Uwchradd Llanisien a pham y mae honno'n sefyllfa mor anodd.

Rwyf eisiau gwneud cyfraniad byr i'r ddadl heddiw. Rydym i gyd yn gwybod bod problemau gyda'r rheolau cludiant o'r cartref i'r ysgol presennol sy'n effeithio ar lawer o'n hetholwyr y mae angen mynd i'r afael â nhw. Byddaf yn anghytuno, fodd bynnag, â sylwadau Jenny Rathbone am feiciau trydan. Efallai eu bod yn addas mewn lleoliadau mwy trefol, ond nid oes unrhyw siawns y byddaf i'n awgrymu i rieni yng nghefn gwlad Conwy a sir Ddinbych fod beic trydan yn ateb effeithiol i lawer o'r rhieni. Nid oes gennych unrhyw syniad, a bod yn onest, beth yw'r topograffi a beth yw cyflwr ffyrdd mewn llawer o'r rhannau gwledig hynny o fy etholaeth. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n ymwelydd rheolaidd â de sir Ddinbych, ond byddaf yn dweud ei bod mewn llawer o achosion—yn enwedig mewn tywydd garw—yn gwbl anaddas i unrhyw un neidio ar feic trydan er mwyn mynd i'r ysgol. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i gymryd yr ymyriad.

16:15

Edrychwch, nid wyf yn awgrymu eich bod chi'n symud o ddim beic i feic trydan, mae'n rhaid i chi fod yn feiciwr cymwys i wneud hynny, ond wir, gallwch chi fynd i fyny bryniau serth iawn, iawn, hyd yn oed yn anterth mis Awst mewn lle fel yr Eidal, lle maen nhw'n tueddu i adeiladu'r holl drefi ar ben bryn, heb unrhyw anhawster o gwbl. Felly, dylai hyd yn oed person ifanc nad yw'n ffit allu mynd i'r ysgol ar feic trydan.

Bydd pobl yn gorfod ymdopi â thywydd garw, cyflwr y ffyrdd, ffyrdd cul. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ateb derbyniol, ac yna, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennych y gost sylweddol o brynu beic trydan, na fydd llawer o deuluoedd yn gallu ei fforddio, yn enwedig os oes ganddynt ddau neu dri o blant yn yr ysgol.

Rydym wedi cael problemau sydd wedi cael cyhoeddusrwydd eang yn fy etholaeth fy hun, rhwng cymuned Llysfaen ac ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn, lle dywedwyd wrth blant y byddai disgwyl iddynt gerdded am awr i gyrraedd yr ysgol ar hyd rhannau o ffyrdd lle nad oes palmentydd, dim mannau sy'n cynnig lloches diogel, a heibio'r hyn yr oedd yr heddlu wedi ystyried yn ardaloedd anodd o safbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn rhoi pobl mewn sefyllfa lle ceir lefelau annerbyniol o risg. Rwy'n falch o ddweud bod yr awdurdod lleol wedi edrych ar y sefyllfa honno eto, ac wedi dod i'r casgliad cywir, y dylent barhau i ddarparu'r cludiant hwnnw. Ond roedden nhw wedi gwneud y penderfyniad cychwynnol hwnnw ar y sail ei fod yn llythrennol ar ffiniau'r rheol 3 milltir, fel bod plant nifer fach o drigolion yn cael eu cludo i'r ysgol ac oddi yno, ond i'r mwyafrif llethol o bobl a oedd yn teithio ar hyd yr un llwybr roedd yn amhriodol i ddarparu'r cludiant hwnnw o'r cartref i'r ysgol.

Ac mae materion fel yna, lle mae gennych lwybrau peryglus, ac rwy'n gwybod bod llwybrau peryglus yn rhan o'r meini prawf asesu y mae'n rhaid eu hystyried ar gyfer cymhwysedd, ond nid oes cysondeb yn y ffordd y mae pobl yn mesur y rheini, yn fy marn i. Rwyf wedi gweld penderfyniadau anghyson iawn wedi'u gwneud o fewn yr un awdurdod lleol, a hyd yn oed yn fwy eang penderfyniadau anghyson a wneir o un awdurdod lleol i'r llall. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i'n canllawiau, fel cenedl, fod yn glir iawn er mwyn helpu rhieni i ddeall y disgwyliadau sy'n cael eu gosod a'r hyn y gallant eu disgwyl o ran cludiant am ddim, a hefyd, wrth gwrs, bod awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau sy'n cael eu hystyried yn deg.

Rwy'n credu mai mater pwysig iawn arall yw'r un sy'n ymwneud â'r bobl hynny y mae angen, am ba bynnag reswm, eu symud o'r ardal leol a hynny am resymau da iawn weithiau. Fe roddaf enghraifft i chi: mae gennyf i etholwr sydd, oherwydd sefyllfa trais domestig, wedi'i rhoi mewn lloches, gyda'i phlentyn, filltiroedd lawer i ffwrdd o ble roedd cartref y teulu. Mae angen i'w phlentyn nawr allu cyrraedd yr ysgol, ond mae hi wedi cael gwybod nad oes ganddi hawl i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol oherwydd nad dyma'r ysgol agosaf i ble mae hi'n byw ar hyn o bryd. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae'n blentyn sydd, heb unrhyw fai, wedi gorfod cael ei hadleoli gyda'i mam oherwydd sefyllfa trais domestig. Mae hi yng nghanol ei blwyddyn TGAU, yn gobeithio sefyll ei harholiadau terfynol. Mae ei holl gefnogaeth cyfoedion yn yr ysgol honno, o ran ei ffrindiau a'r gefnogaeth y mae'n ei chael gan yr athrawon hynny y mae'n ymddiried ynddynt, ac mae hi wedi cael gwybod nad yw'n gallu cael cludiant o'r cartref i'r ysgol. Nid oes disgwyl i'r awdurdod lleol newydd y mae hi wedi'i lleoli ynddo na'r awdurdod lleol y mae hi wedi cael ei symud ohono, dalu'r costau hynny. Mae'r ddau yn syml yn gwrthod talu'r costau hynny. Mae hynny, unwaith eto, yn sefyllfa annerbyniol y mae angen i ni allu ei goresgyn gyda rhywfaint o arweiniad clir, rwy'n credu, yn y canllawiau newydd a allai ddod i'r amlwg.

Dim ond un pwynt i orffen, sef: yn amlwg, mae heriau i rai darparwyr cludiant cartref i ysgol o ganlyniad i'r cynnydd mewn costau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae hynny'n gwneud rhai o'r teithiau yn ddrytach i'w cyflawni i ddarparwyr ac yn arwain at nifer llai o ddarparwyr sydd ar gael a oedd wedi sicrhau bod cystadleuaeth briodol o fewn y farchnad i sicrhau prisiau teg i awdurdodau lleol. Byddwn yn annog y Llywodraeth i edrych ar yr hyn y gallai ei wneud i leddfu effaith y codiadau mewn yswiriant gwladol cyflogwyr i wneud yn siŵr y gellir talu prisiau teg. 

Fel ŷn ni i gyd yn gwybod, trafnidiaeth yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu disgyblion a rhieni pan fo hi’n dod i sicrhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Cludiant ysgol yw un o’r materion mwyaf cyson y mae Comisiynydd y Gymraeg yn clywed amdano, fel cwynion gan rieni.

Nawr, dyw trefniadau teithio awdurdodau lleol ddim bob amser yn adlewyrchu'r realiti mewn rhai ardaloedd fod llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg na rhai Saesneg, ac felly, ar gyfartaledd, mae disgyblion yn tueddu i fyw ymhellach i ffwrdd o ysgolion Cymraeg. Mae hyn yn golygu bod mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn opsiwn anoddach a mwy costus i lawer o deuluoedd.

Drwy roi rhwystrau diangen o flaen ein disgyblion, ein plant a’u rhieni, rŷn ni'n galluogi system ble, yn aml iawn, y penderfyniad hawsaf yw anfon y plant i’r ysgol Saesneg agosaf, yn hytrach na gwireddu gwir ddymuniad y rhieni. O ganlyniad i ddiffyg trafnidiaeth addas, mae gormod o lawer o rieni yn dewis yr ysgol Saesneg agosaf, sydd yn golled, wrth gwrs, i'r sector addysg Gymraeg. Ni all hyn parhau os ŷm ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau mynediad cyfartal a theg i bawb sydd am addysg Gymraeg i’w plant, fel sydd yn ddyhead i'r Llywodraeth fel rhan o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Os yw targedau Llywodraeth Cymru ar addysg Gymraeg am gael eu cyflawni, yna mae'n rhaid sicrhau trafnidiaeth gyfleus i ysgolion cyfrwng Cymraeg, a bod hynny'n chwarae rhan allweddol i'r perwyl hwnnw.

Roedd yn syndod, felly, i mi nad oedd unrhyw ddarpariaethau ar wyneb y Bil—hynny yw, y Bil addysg Gymraeg—i ymdrin â’r mater hwn, a dyna pam wnes i gyflwyno gwelliannau ar hyn yn ystod Cyfnod 2 y Bil yn ddiweddar. Yn anffodus, doedd dim modd cymeradwyo’r gwelliannau hynny, ond fy mwriad heddiw, yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, yw rhannu fy nadleuon ar lawr y Senedd, fel y gall yr Ysgrifennydd trafnidiaeth eu hystyried nhw maes o law.

Nawr, mae adran 10 y Mesur teithio—[Torri ar draws.] Sori, ie.

16:20

Roeddwn i'n meddwl—. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod yr un broblem yn berthnasol i'r rhai sy'n dymuno dewis ysgol enwad crefyddol, naill ai'r Eglwys yng Nghymru, neu Gatholig, neu yn wir, Mwslimaidd, a bod yn rhaid iddynt hefyd deithio ymhellach oherwydd bod llai ohonynt na sydd o ysgolion uwchradd y sir. Ond nid yw hynny'n golygu na ddylem fod yn disgwyl i bob disgybl ysgol uwchradd allu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, pe baem ond yn gallu cael y Bil bws drwodd, yna gallem ddechrau cyfeirio traffig i ble mae angen iddo fynd.

Wel, byddwn yn cytuno bod angen strategaeth ar gyfer ysgolion ffydd hefyd, felly rwy'n canolbwyntio heddiw ar gyfrwng Cymraeg, ond byddwn yn dadlau bod angen strategaeth arnom i ymdrin ag ysgolion ffydd hefyd.

Felly, roeddwn i'n mynd i sôn, yn adran 10 y Mesur teithio gan ddysgwyr, mae yna ddyletswydd gyffredinol, a dwi'n dyfynnu, fod yn

'Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.'

Mae’r ddyletswydd i ddarparu trafnidiaeth yn rhad ac am ddim yn seiliedig ar y cysyniad o, mewn dyfynodau, ‘ysgol addas agosaf’. Yn y ddogfen ganllaw, 'Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Mehefin 2014', sef 10 mlynedd yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod angen i awdurdodau lleol weithredu eu dyletswydd i hybu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth benderfynu ar yr ysgol addas agosaf.

Ond mae'r awgrym yn y Mesur dan sylw fod yr ysgol agosaf yn gallu bod yn addas er nad yw'n darparu'r cyfrwng iaith o ddewis rhieni yn gyfeiliornus ac yn deillio o'r ffaith bod y cysyniad o ysgol addas yn cael ei ddiffinio yn y Mesur mewn perthynas ag oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo. Dim sôn am gyfrwng iaith. Nid oes cyfeiriad o gwbl yn y Mesur ychwaith at addasrwydd o ran cyfrwng iaith yr addysg a ddarperir gan yr ysgol agosaf, ac felly mae hwn yn ymddangos fel gwendid sylfaenol wrth geisio pennu'r ddyletswydd sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth.

Yn bersonol, hoffwn weld addasiad i’r Mesur teithio fel y mae er mwyn sicrhau bod cyfrwng iaith yr addysg yn ddiamwys o fewn y diffiniad o 'ysgol addas agosaf', yng nghyd-destun trefniadaeth teithio i ddysgwyr. A dwi'n cloi gyda hyn, Dirprwy Lywydd. Yn fwy cyffredinol, hoffwn hefyd weld gweithredu mwy eang gan y Llywodraeth ar y mater o gludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod yr ystyriaethau hynny'n cael eu clywed a'u gweithredu arnynt fel rhan o waith y Llywodraeth yn y maes hwn. Diolch.

16:25

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar deithio gan ddysgwyr. Trwy gydol fy 14 mlynedd fel cynghorydd sir ac yna'n aelod cabinet dros briffyrdd a thrafnidiaeth, gallaf ddweud wrthych ei fod bob amser wedi bod â heriau, yn enwedig yn ystod blynyddoedd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a chostau cynyddol. Fe wnaethom amcangyfrif ei fod yn costio £700 y plentyn ar gyfartaledd i'w gludo i'r ysgol; y cyfartaledd bellach yw £1,200. Gyda 450 o gontractau cludo i'w rheoli ar gyfer un ardal gyngor yn unig—350 o ysgolion—roedd bob amser yn anodd sicrhau bod digon o weithredwyr ac nad oedd unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl, sy'n fy mhoeni i, os yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn cymryd trafnidiaeth drosodd.

Pe bai cwmni bysiau ar fin mynd i'r wal, byddai panig ynglŷn â sut y byddem yn llenwi'r bwlch a chael y miloedd o blant i'r ysgol. Pan aeth un i'r wal, cynyddodd y gost gannoedd o filoedd o bunnau. Helpodd Llywodraeth Cymru—efallai fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cofio—oherwydd nad oedd gan y cyngor y cyllid. Roedd un gweithredwr yn cael trafferth gyda gwaith papur a chydymffurfiaeth â'r comisiynydd trafnidiaeth, felly camodd swyddogion awdurdodau lleol i mewn a chynnig helpu gydag arbenigedd i sicrhau ei fod yn cadw ei drwydded nes ei fod yn ôl ar ei draed. Roeddem hefyd yn cael trafferth cael digon o hebryngwyr ysgol i blant ac oedolion ag anableddau; mae'n swydd ar gyflog isel, anghyfleus, a dyna pam mae talu rhieni yn gweithio.

Mae'r bil ar gyfer cludo plant yn bwyta i mewn i'r gyllideb addysg; parhaodd i dyfu nes ei fod tua 25 y cant, felly roedd bob amser her gan swyddogion addysg pan oeddem eisiau ei adolygu i'w wneud yn fwy hael. 'Ydyn ni eisiau ariannu athrawon neu gludiant ysgol?' oedd y cwestiwn i mi fel aelod cabinet. Rwy'n cofio y llynedd, ar bwyllgor yma, aelod arweiniol CLlLC yn dweud wrthym sut roedd hi'n dal i fod yn frwydr bron yn ddyddiol i sicrhau bod llwybrau cludiant ysgol yn cael eu cwmpasu, a bod costau wedi cynyddu 40 y cant.

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn y gogledd yn defnyddio gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â bysiau preifat. Yn Ynys Môn, clywais sut mae trosglwyddo arian o gyllideb addysg i drafnidiaeth wedi helpu i roi cymhorthdal i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus; yn aml yr un bws sydd ar y llwybr trwy'r dydd. Gall y prisiau cludiant ysgol helpu i roi cymhorthdal i'r gwasanaeth cyhoeddus am weddill y dydd. Dyna'r rheswm pam rydym ni'n aml yn gweld bysiau deulawr mewn ardaloedd gwledig: oherwydd eu bod ar y llwybr hwnnw pan fydd angen capasiti yn ystod amseroedd ysgol neu goleg, neu pan fydd yn agosach at y brif dref neu'r ganolfan.

Y broblem arall oedd gennym oedd bod dau bolisi gwahanol ar gyfer addysg a chludiant ysgol. Gall rhieni ddewis anfon eu plentyn i unrhyw ysgol cyn belled â bod lle, yn ôl dewis rhieni. Fel arfer, dyma'r agosaf, ond y polisi cludiant ysgol oedd 'i'r ysgol agosaf', a dim ond os oedd yn fwy na 2 filltir ar gyfer ysgol gynradd neu 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd, oni bai ei fod yn cael ei ystyried yn llwybr peryglus neu ar sail feddygol; neu os oedd rhieni yn derbyn cymorth incwm neu gredyd treth gwaith; neu i'r ysgol gyfrwng Cymraeg agosaf neu'r ysgol ffydd ar ôl cyflwyno tystysgrif prawf o fedydd—mae'n eithaf cymhleth.

Ar hyn o bryd mae yna hefyd gludiant ôl-16 am ddim yn sir y Fflint, ond rwy'n cofio bod yng nghanol brwydr, gan ein bod yn mynd i orfod cyflwyno ffioedd fel cabinet pan nad oeddwn yn gallu dioddef gwneud hyn. Roedd yn llinell goch i mi, ond cefais fy atgoffa o gyfrifoldeb ar y cyd, ac roedd yn ddewis rhwng hynny neu dorri cyllid addysg craidd, a gwrthodais ei wneud. Fodd bynnag, daeth y rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaethau cyhoeddus, PSVAR, ymlaen, ac fe wnaeth y dyfarniad hwnnw achub y dydd, felly ni allwn godi tâl, a oedd yn dda i mi, ond fe wnes i greu gorwariant enfawr yn y gyllideb y flwyddyn honno. Ni allwn godi tâl oni bai bod y cludiant yn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Mae'r cynllun treialu £1 y daith neu £3 drwy'r dydd i bobl ifanc 16 i 20 oed yn cael ei groesawu'n fawr. Mae cludiant yn cael ei godi fel un o'r materion mwyaf gan bobl ifanc. Mae gweithredwyr hefyd wedi ei groesawu, oherwydd bydd yn helpu i dyfu a chynnal eu busnes, yn enwedig gyda llawer o deithwyr consesiynol nad ydynt yn dychwelyd—y rhai 60 oed a hŷn. Fodd bynnag mae angen cyflwyno'r cynllun treialu drwy ymgynghori â gweithredwyr, defnyddwyr gwasanaethau, undebau, gyrwyr a CLlLC; pe na bai hynny'n digwydd, gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol. Mae'r hyn sy'n ymddangos yn syml yn aml yn fwy cymhleth. Er enghraifft, pan fydd bysiau'n llawn—er enghraifft, mynd i'r coleg—yna ni ellir bodloni unrhyw alw ychwanegol o fewn yr adnoddau presennol. Mae hyn wedi digwydd ym Manceinion, a bu'n rhaid dod â bysiau ychwanegol i mewn. Nid oes gan weithredwyr fysiau sbâr. Bydd angen tocyn adnabod, gan na fydd gyrwyr yn gwybod a yw person yn 21 neu'n 23.

Gobeithio bod fy mhrofiad wedi bod yn ddefnyddiol yma yn y ddadl hon, er nad yw pob un yn gadarnhaol. Mae yna faterion pwysig i'w hystyried wrth fod yn awyddus i wneud y gwelliannau yr wyf wir yn gobeithio y gallant ddigwydd. Diolch.

16:30

Ychydig fisoedd yn ôl, cefais wahoddiad i siarad â senedd ysgol Ysgol Cwm Brombil ym Margam. Roedden nhw'n bryderus iawn am dlodi trafnidiaeth ac yn rhannu gyda mi brofiadau rhai o'u cyd-ddysgwyr sy'n ei chael hi'n anodd iawn fforddio cost cludiant gan nad ydyn nhw'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Mae dros 70 y cant o ddisgyblion Ysgol Cwm Brombil yn byw yn y 40 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'r disgyblion hyn yn haeddu ac angen cymorth i allu cael mynediad at eu haddysg, ac i leddfu pwysau ariannol ar eu teuluoedd, fel y gallant gael y cyfle gorau mewn bywyd.

Mewn ateb i gwestiwn ar gynnydd o ran adolygu sut mae cymorth gyda chludiant yn cael ei ddarparu dros flwyddyn yn ôl, dywedodd y Gweinidog trafnidiaeth blaenorol Lee Waters wrth y Senedd fod y Llywodraeth yn agos at bwynt lle gall gyhoeddi adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr. Felly, hoffwn wybod pam mae oedi wedi bod ar adeg pan oedd brys o ran gweithredu mewn argyfwng costau byw. Ai dyna'r rhwystr yn y peiriant selsig deddfwriaethol a gafodd ei ddarlunio mor fywiog yn ei bodlediad diweddar, Y Pumed Llawr? Y pwynt difrifol yw hyn: pryd fydd aelodau senedd Ysgol Cwm Brombil yn gweld gweithredu go iawn gan y Llywodraeth ar eu pryderon, ac, wrth gwrs, miloedd o ddysgwyr eraill, fel yr ydym wedi clywed, a'u teuluoedd ledled Cymru sydd ar hyn o bryd yn gorfod cerdded pellteroedd hir, ar hyd ffyrdd prysur ac unig mewn tywydd gwael, neu orfod dod o hyd i'r arian i gael mynediad at gludiant drud?

Mae'r Gymdeithas Plant wedi dweud bod y Bil bysiau sydd ar ddod yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â thlodi plant trwy wneud teithio am ddim gan ddysgwyr yn fwy hygyrch i fwy o ddysgwyr, yn ogystal â chynnig mynediad cyffredinol mwy fforddiadwy i drafnidiaeth gyhoeddus i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a byddai gwneud hynny'n golygu gweithio yn unol â strategaeth tlodi plant y Llywodraeth. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allwch chi amlinellu sut mae eich gwaith yn y polisi hwn yn cyd-fynd â'r strategaeth tlodi plant?

Achos y gwir plaen yw bod tlodi trafnidiaeth yn cloi plant mas o addysg ac yn dyfnhau difrod yr argyfwng costau byw. Ac ni fydd hyd yn oed y tocynnau bws yna, y £1 yna sydd wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o'r gyllideb yn ddiweddar, yn helpu ein dysgwyr o dan 16 oed, sef y rhan fwyaf o'n dysgwyr, llawer ohonyn nhw, yn ôl y comisiynydd plant, yn gorfod talu bron i £20 yr wythnos i gyrraedd yr ysgol, ac, wrth gwrs, dŷn nhw ddim yn gymwys am EMA chwaith.

Mae adroddiad tlodi plant a theuluoedd diweddaraf Plant yng Nghymru yn datgan bod bron i 20 y cant o rieni wedi dweud mai costau cludiant ysgol yw un o'r costau ysgol mwyaf anodd iddynt ei fforddio. Yn syml, ni all rhai teuluoedd ddim ei fforddio, sy'n achosi bod plant yn colli ysgol neu'n mynd heb hanfodion eraill fel cinio twym. Mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd, yn enwedig y rheini sydd â mwy na dau o blant, sy’n cael eu gwthio i dlodi gan y terfyn dau blentyn, polisi lles erchyll y Torïaid, y mae Llafur yn San Steffan wedi dewis ei gadw, er gwaethaf gwybod yn iawn am y difrod dynol ac economaidd y mae’n ei achosi.

Mae adroddiad Estyn yn 2024 yn cadarnhau bod cysylltiad uniongyrchol rhwng cludiant ysgol ac absenoldeb. Felly, mae'r dystiolaeth yno. Mae rhieni yn dweud hyn wrthym ni—bob un ohonom ni. Mae plant yn dweud hyn wrthym, fel y rhai yn senedd Ysgol Cwm Brombil.

Mae Barnardo’s Cymru wedi mynegi pryder am hyn hefyd, felly hefyd Comisiynydd Plant Cymru, sydd wedi nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi methu â chymryd hawliau dynol plant i ystyriaeth yn y maes polisi hwn a’i bod yn hen bryd ar gyfer newidiadau radical. Mae'r comisiynydd hefyd yn pwysleisio bod angen i'r Llywodraeth archwilio sut mae’r trefniadau presennol yn effeithio’n arbennig ar grwpiau penodol o blant, fel plant anabl a’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae system addysg deg yn golyg bod angen sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag eu cefndir neu eu cod post, yn gallu cael mynediad i’r ysgol heb fod hynny’n achosi caledi ariannol. Dyw'r diffyg cysondeb ledled Cymru o ran argaeledd, fforddiadwyedd a phwy sy’n derbyn trafnidiaeth am ddim neu beidio ddim yn sefyllfa gynaliadwy.

Rwyf wedi clywed cymaint o sôn yn y lle hwn am gau'r bwlch cyrhaeddiad. Os ydyn ni o ddifrif am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb addysgol, mae angen inni gydnabod bod mynediad i’r ysgol yn dechrau ymhell cyn i blentyn ddod mewn i'r ystafell dosbarth. Mae'n dechrau gyda sicrhau eu bod nhw'n gallu cyrraedd yna yn gorfforol, wrth gwrs, a bod y costau sy'n gudd mewn addysg hefyd yn cael eu dileu neu eu lliniaru.

Felly, mae angen i ni gael ffocws ar hyn, ar y plant hyn sydd eisoes dan anfantais economaidd a chymdeithasol yn ein cymdeithas. Ni ddylai unrhyw ddyfodol neu gyfleon bywyd plentyn yng Nghymru ddim cael eu penderfynu yn ôl eu gallu i fforddio'r costau sydd ynghlwm wrth addysg. Felly, mae'n rhaid i ni wneud mynediad at addysg yn hawl i bob plentyn yng Nghymru, nid yn fraint.

16:35

Rwy'n falch iawn ein bod ni'n cael y ddadl hon heddiw ar y mater pwysig iawn hwn. Rwyf wedi cael gwybod gan fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd bod llawer ohonynt wedi profi problemau wrth i'w plant fynd i'r ysgol, ac mae llawer ohonynt yn profi problemau ar hyn o bryd. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gyflwyniad ei bod hi'n bwysig iawn gwrando ar lais y plant. Rwyf hefyd am dynnu sylw at yr hyn a ddywedodd Peredur yn ei gyfraniad am yr adroddiad a wnaed gan gyn-Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Ogledd Caerdydd, Ruben Kelman, a wnaeth arolwg rhyngweithiol gyda'i gyfoedion yn yr ysgol a hefyd gyda'r rhieni. Roedd rhywfaint o'r wybodaeth honno mor bwysig, a hoffwn ganmol Ruben am y gwaith a wnaeth ar hyn. Mae'r plant sy'n mynd i'r ysgol honno, Ysgol Uwchradd Llanisien, yn dod o etholaeth Jenny Rathbone a minnau. Rwy'n ildio.

Roeddwn i eisiau tynnu sylw at y ffaith bod llawer ohonynt yn dod o Ganol Gaerdydd, ac maen nhw'n dod o ran ogleddol ward Pentwyn oherwydd nad ydyn nhw'n gallu mynd i mewn i unrhyw un o'r ysgolion lleol. Maen nhw'n byw yn rhy bell i ffwrdd o'r giât. Does dim cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n mynd â nhw i Ysgol Uwchradd Llanisien ac nid oes unrhyw ymdrech wedi'i wneud gan y cyngor nac unrhyw un arall i nodi'r llwybrau cerdded na'r llwybrau beicio er mwyn galluogi pobl i gyrraedd yno heb orfod ariannu'r £400 hwn y flwyddyn. Felly rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaed gan Ruben, ond mae angen i ni ddod o hyd i ateb. Mae angen i ni ddod o hyd iddo nawr. 

Ie, diolch, Jenny. Rwy'n cytuno â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, oherwydd roedd arolwg Ruben yn dangos yn glir bod plant tlotach sy'n dod o Lanedeyrn yn dioddef, oherwydd bod eu presenoldeb wedi gostwng ac fe allech chi ei fesur mewn gwirionedd. Rwy'n credu, ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n rhaid i ni ystyried hyn. Mae'r disgyblion yn dioddef mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy o ymdrech i sicrhau bod yna ffyrdd cerdded a beicio diogel, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd gofio bod yna blant sy'n dioddef mewn gwirionedd.

Roedd yn ddiddorol iawn, rhai o'r pwyntiau a wnaeth. Mae ei arolwg gennyf yma. Dywedodd un fenyw, 'Bob wythnos rwy'n dewis p'un ai talu bil neu anfon fy merch i'r ysgol', ac rwy'n meddwl mai dyna'r sefyllfa mewn gwirionedd i lawer o blant, yn sicr y rhai sy'n mynd i Lanisien. Yn ddiddorol, arolygodd 70 o rieni a dywedodd 57 ohonynt fod tocynnau bws am ddim yn bwysicach iddyn nhw na phrydau ysgol am ddim, a oedd eto yn ystadegyn diddorol.

Bydd cael pellter penodol ar gyfer hawl i gludiant ysgol am ddim bob amser yn golygu yr effeithir ar bobl sydd ychydig yn is na'r trothwy yn andwyol iawn. Rwy'n derbyn yn llwyr nad oes ateb syml i hyn, ac rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio ag adolygu trothwyon milltiroedd, ond hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob cyfle i ystyried profiadau fel y rhai y mae Ruben wedi'u cofnodi pan fyddant yn dod o hyd i atebion i wneud pethau'n llawer mwy diogel.

Rwy'n credu bod yna broblem fawr gydag ysgolion Cymraeg hefyd. Cododd mater tebyg y llynedd ynghylch plant sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Ngogledd Caerdydd. Fel y dywedwyd eisoes, mae gan yr ysgolion cyfrwng Cymraeg dalgylch llawer ehangach, felly mae'r materion hyn yn codi'n aml. Ar ddiwedd y llynedd, cysylltodd llawer o rieni plant sy'n byw yn Rhiwbeina ac yn mynychu Glantaf, ac mae'r galw yn llawer mwy na chapasiti'r bysiau ysgol sy'n rhedeg trwy Riwbeina, felly penderfynwyd caniatáu i blant sydd â thocynnau bws am ddim yn unig ddefnyddio'r gwasanaeth bws. Roedd hyn yn golygu bod plant sy'n byw ychydig islaw'r trothwy 3 milltir, a oedd yn talu i ddefnyddio'r bws, yn cael eu gadael heb unrhyw gludiant i'r ysgol, ac roedd hyn wedi achosi gofid mawr.

Rydym ni eisiau i bobl ifanc fynychu'r ysgol yn rheolaidd a defnyddio ffurfiau cynaliadwy o drafnidiaeth ac rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ond rwy'n credu bod anghydraddoldebau mawr yn y mater cludiant hwn. Rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen, cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd pobl ifanc 16 i 21 oed bellach yn cael teithiau bws am £1, felly rwy'n credu bod hwn yn bendant yn gam i'r cyfeiriad yr ydym eisiau mynd, ac rwy'n gwybod y bydd hyn yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol. Ond rwy'n gwybod bod yna lawer o sefyllfaoedd lle mae teuluoedd yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw a phlant yn dioddef mewn gwirionedd.

Rwy'n gobeithio y gallwn ddod o'r uwchgynadleddau a'r holl drafodaethau gyda chynllun strategol sy'n edrych ar lwybrau bysiau, sy'n edrych ar gost, sy'n edrych ar deithio llesol. Rwy'n credu bod teithio llesol yn ffordd hollol allweddol o fynd i'r afael â'r materion hyn. Ond, ar hyn o bryd, rwy'n credu bod y rhiant sy'n cael trafferth talu'r biliau eisiau i'w phlentyn gyrraedd yr ysgol ar fws y gall hi fforddio talu amdano, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar y realiti hwnnw ar hyn o bryd hefyd. Diolch.  

16:40

Gellid bod wedi sôn am lawer o'r materion sydd wedi cael eu codi a'u trafod heddiw pan oeddwn i yn yr ysgol dros 20 mlynedd yn ôl. Roedd yr hyn y mae Ruben wedi'i amlygu yn wir ymhell cyn i Reuben gael ei eni; roedd yn wir ar ddiwedd y 1990au ac yn ôl pob tebyg cyn hynny hyd yn oed. Trwy gydol hanes datganoli yng Nghymru, mae'r materion hyn wedi parhau ac nid ydynt wedi'u datrys am ba reswm bynnag. Roedd yn drist iawn darllen dadansoddiad y comisiynydd plant o'r adolygiad diweddaraf, pan ddywedodd nad oes newid ystyrlon, ac nad yw pethau'n mynd i wella.

Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, mae'r bwlch yn dal i fodoli sy'n golygu nad oes angen i awdurdodau lleol asesu risg llwybrau trafnidiaeth. Nid yw hynny'n ddiogelu priodol. Roedd y rhain yn faterion a oedd yn wir pan oeddwn yn yr ysgol—sef nad oedd y llwybrau yn ddiogel i'w cerdded—ac mae'n dal i fod yn fater sy'n cael ei godi heddiw. Mae tystebau gan rieni am blant yn gorfod cerdded hyd at chwe milltir bob dydd i dderbyn eu haddysg yn unig. Yn sicr, nid yw hynny'n iawn.

Fel y nododd Jenny Rathbone, mae hyn yn effeithio'n anghymesur nid yn unig ar addysg cyfrwng Cymraeg ond ar ysgolion ffydd, llawer ohonynt yma yng Nghaerdydd. Lle rwy'n byw, byddwch yn gweld bysiau beiciau yn mynd â'r plant i'r ysgol yn rheolaidd. Mae yna orymdaith o fysiau beiciau sy'n cau'r ffyrdd, sy'n wych i'w gweld, ond nid yw hynny'n bosibl ym mhobman. Hyd yn oed mewn rhai mannau yng Nghaerdydd, ni fyddech chi'n gallu gwneud hynny. Fyddech chi ddim yn gallu cael bws beiciau i fyny rhiw Pen-y-lan, er enghraifft, Jenny Rathbone. 

Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol o Ganol Caerdydd i Ogledd Caerdydd i Glantaf, roeddem ni ar y bws am dair awr bob dydd. Yna, yn 16 oed, stopiodd hynny, ac nid oedd llwybr bws uniongyrchol o Ben-y-lan, o Gyncoed, o'r Mynydd Bychan, i Ystum Taf. Roedd yn rhaid i chi fynd ar sawl bws neu efallai cyfuniad o fws a thrên, ac yna cerdded cryn bellter i gyrraedd yr ysgol. Yr hyn oedd hynny'n ei olygu oedd y collwyd pobl o addysg cyfrwng Cymraeg. Gadawodd pobl Glantaf i fynd i golegau chweched dosbarth neu chweched dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae hynny'n dal i fod yn wir nawr. Mae pobl yn dal i orfod teithio o dde Caerdydd i fyny i Glantaf, o Ganol Caerdydd i Glantaf, ac eto mae'r cludiant bws am ddim yn cael ei gymryd oddi wrthynt yn 16 oed, ac mae hynny'n dal i olygu bod plant yn gadael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'n anhygoel yn yr oes hon nad oes canllawiau cenedlaethol i roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol neu bobl ifanc nad ydynt yn oedran ysgol gorfodol. Tynnodd y grŵp anghenion addysg arbennig a gweithredwyr trafnidiaeth anabledd sylw at y materion hyn gyda mi, ac rwyf wedi ysgrifennu llythyr yn ddiweddar at yr Ysgrifennydd Cabinet. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r materion hyn ers 2021 gyda chyhoeddi'r adolygiad interim teithio gan ddysgwyr, lle gwnaethant addo mynd i'r afael â'r mater, ond nid yw hynny wedi digwydd eto. Mae hyn i gyd yn golygu na allwn gysoni'r sefyllfa hon â'ch strategaeth tlodi plant na'ch strategaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg, oherwydd ni fydd yn bosibl. Bydd y dyheadau hyn yn aros fel geiriau yn unig, fel uchelgeisiau yn unig, oni bai y gellir eu defnyddio i sicrhau newid gwirioneddol yn ein cymunedau. Diolch yn fawr. 

16:45

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon? Rwy'n credu eich bod wedi gweld bod yna awydd enfawr i drafod y mater hwn. O ran yr uwchgynhadledd, rwy'n ddiolchgar eich bod yn defnyddio dull trawsbleidiol, ac, yn sicr, rwy'n credu bod yr ysbryd a amlygwyd wrth i chi agor y ddadl yn un rwy'n ei groesawu, sef y ffaith bod angen i ni weithio i ddod o hyd i atebion. Ond rwy'n credu mai'r un peth sydd efallai ar goll yw brys ar gyfer y plant hynny sydd ar eu colled o ran mynychu ysgol ar hyn o bryd.

Felly, os ydym yn dewis dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn—soniodd Sioned Williams am hawliau—mae angen i ni fod â dull sy'n ymwneud â hawliau. Rwy'n bryderus iawn ein bod ni'n clywed yn gyson trwy waith achos plant sy'n colli'r ysgol oherwydd costau, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw beth wedi'i roi ar waith i fynd i'r afael â'r angen uniongyrchol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud o ran teithio llesol, wrth gwrs, ond mae angen newid cymdeithasol enfawr er mwyn ei weithredu hefyd. A hefyd mae yna gyfyngiadau. Fe wnaethoch chi sôn am feiciau trydan, Jenny. Wel, mae'n rhaid i chi gael cartref sy'n gallu cael beic trydan y tu mewn iddo; os ydych chi mewn fflat, mae'n gyfyngedig ac ati. Wyddoch chi, mae rhai teuluoedd yn cael trafferth cael hyd yn oed un beic mewn cartref oherwydd ei fod yn lle mor fach i'r teulu hwnnw. Felly, mae cyfyngiadau ar waith yno.

Rydych chi'n iawn, ond, wrth gwrs, gallwch gael y siediau beiciau hyn ar y stryd, lle bo hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i atebion i'r problemau hyn. Rwy'n cyfaddef bod y problemau hyn yn bodoli, ond gellir dod o hyd i atebion bob amser, os ydym yn ewyllysgar.

Maen nhw gennym ni, ond rydym ni mewn sefyllfa nawr lle mae llawer o deuluoedd yn gorfod byw mewn cartrefi aml-feddiannaeth. Mae cael gardd yn cael ei ystyried fel moethusrwydd nad oes gan lawer, felly rwy'n poeni. Mae angen i ni feddwl am rywbeth a fyddai'n mynd i'r afael â'r rhwystrau hefyd. Ydych chi'n ceisio ymyrryd, Ysgrifennydd Cabinet? O, roeddwn i'n meddwl eich bod chi, mae'n ddrwg gennyf. Ond o ran edrych ar y rheini, ni fyddant ychwaith yn gweithio mewn rhai mannau oherwydd—. Rwy'n cynrychioli'r Cymoedd, ac nid oes unrhyw lwybr diogel i rai ysgolion o gwbl.

Yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Llywodraeth—. Yn ôl argymhellion y comisiynydd plant, gwyddom fod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn fwy hael yn eu darpariaethau. Felly, mae Rhondda Cynon Taf yn un o'r awdurdodau lleol hynny. Maen nhw'n ceisio, dim ond oherwydd y costau sy'n gysylltiedig, newid i'r canllawiau statudol nawr. Felly, newid y 2 filltir y maen nhw'n darparu ar gyfer ysgolion uwchradd ar hyn o bryd i 3 milltir. Un o'r pethau y mae'r comisiynydd plant wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych arno yw sut ydym ni'n cynnal y ddarpariaeth fwy hael honno sydd ar waith ar hyn o bryd, fel nad ydym yn gwaethygu'r sefyllfa yn yr ardaloedd lle, yn hanesyddol, maen nhw wedi bod yn fwy hael, a byddwn yn gwerthfawrogi ymateb ar y mater hwnnw yn arbennig. Oherwydd mewn ardaloedd fel Rhondda Cynon Taf, rwy'n clywed cymaint, oherwydd y newid hwn sy'n dod i mewn, pa mor bryderus yw rhieni nad yw'r llwybrau diogel yno. Ond hefyd rydym yn gwybod bod presenoldeb yn broblem go iawn ar hyn o bryd, ac mae'r rhai o'r teuluoedd tlotaf eisoes yn cael trafferth o ran presenoldeb, ac mae hyn yn mynd i wneud y sefyllfa'n waeth.

Mae yna hefyd rai plant a phobl ifanc nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ond sydd â chyflyrau iechyd—epilepsi yw un o'r cyflyrau sydd wedi'u codi gyda mi—a'r pryder yno yw os disgwylir iddyn nhw gerdded 2.9 milltir yno ac yn ôl, mae yna rai cyflyrau y gallai gweithgarwch corfforol eu gwaethygu, ac mae rhieni yn pryderu beth allai hynny ei olygu. Ond mae'n ymddangos nad oes gan awdurdodau lleol ddull sy'n canolbwyntio ar blant chwaith o ran unrhyw ddisgresiwn ar gyfer lleoedd ysgol. Mae gennym hyd yn oed sefyllfaoedd lle mae bysiau'n mynd heibio plant sy'n cerdded, ac nid yw hynny'n ymddangos yn deg iawn nac yn rhesymegol i mi.

Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi am y diffyg penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar y plentyn gan awdurdodau lleol. Rwy'n credu ei bod yn warthus eu bod yn aml iawn yn asesu'r llwybrau hyn heb gael plentyn yn cerdded y llwybr gyda'r swyddogion sy'n ymgymryd â'r asesiadau, i weld drostynt eu hunain beth yw'r risgiau. A fyddech chi'n rhannu'r pryder hwnnw gyda mi ac yn annog y Llywodraeth i gymryd camau i fynd i'r afael ag ef?

Yn sicr, byddwn i, ac os edrychwch ar wefan Comisiynydd Plant Cymru, maen nhw wedi cerdded rhai o'r llwybrau hynny mewn gwirionedd, ac fel oedolion yn teimlo'n anniogel wrth gerdded y rheini. Felly, rydym ni'n caniatáu i blant gerdded llwybrau nad yw oedolion yn teimlo'n ddiogel yn eu cerdded. Rwy'n credu bod yna ragdybiaeth bod gan bawb gar, ond, mewn gwirionedd, i lawer o bobl yn y cymunedau rydw i'n eu cynrychioli, nid oes ganddyn nhw gar, neu mae ganddyn nhw un car, ac mae'r car hwnnw'n hanfodol i'r un oedolyn hwnnw allu mynd i'r gwaith. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar atebion sy'n adlewyrchu'r problemau yn ein cymdeithas. Felly, os edrychwn ar rai o'r pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud nawr, os caf ofyn, beth am y ddarpariaeth honno sydd yno ar hyn o bryd sy'n mynd i gael ei cholli oherwydd cyllid—sut allwn ni gynnal honno yn hytrach nag ychwanegu at y sefyllfa? A sut ydym ni'n sicrhau bod ysgolion yn cael mynediad at gronfeydd o gyllid yn ôl disgresiwn i'r teuluoedd hynny sy'n cael eu nodi fel rhai nad ydynt yn gallu fforddio anfon eu plant i'r ysgol? Yn sicr, dylem fod mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw blentyn yn colli un diwrnod o ysgol oherwydd nad yw ei deulu yn gallu fforddio'r teithio hwnnw.

16:50

Rydym ni wedi clywed llawer o dystiolaeth huawdl y prynhawn yma o ran y broblem gyda thrafnidiaeth ysgol, ond rwy'n credu y dylem gamu yn ôl ychydig a gofyn y cwestiwn, 'Sut mae da yn edrych?' Oherwydd dydw i ddim yn siŵr bod consensws ynghylch yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym wedi clywed gan wahanol ochrau y prynhawn yma: clywsom gan Tom Giffard o'r Ceidwadwyr a oedd yn meddwl y dylai pobl ifanc 16 i 24 oed gael teithio am ddim; rydym wedi clywed dyfyniad o adroddiad pwyllgor y Senedd yn dweud y dylai pawb dan 25 oed gael teithio am ddim; rydym wedi clywed gan Blaid Cymru y dylai pob plentyn ysgol cyfrwng Cymraeg a phob plentyn ysgol ffydd gael cludiant ysgol am ddim; rydym wedi clywed gan y Comisiynydd Plant a Chomisiynydd y Gymraeg, sydd eisiau darpariaeth fwy hael.

Rwyf yn teimlo dros swyddogion yr awdurdodau lleol oherwydd rydym wedi clywed amryw o enghreifftiau o sut y maen nhw'n gorfod mynd allan i fesur llwybrau a gwneud asesiadau o ddiogelwch, oherwydd rydym ni'n eu rhoi yn y sefyllfa o orfod dogni cyllid cyhoeddus—dyna beth yw hyn. Gallwn wneud cymaint ag y dymunwn os yw'r arian gennym ni, a chymaint ag yr ydym yn beirniadu Llywodraeth â meddylfryd ynysig, wel, mae gennym Senedd â meddylfryd ynysig yma heddiw, onid oes, oherwydd rydym ni'n gwneud pob math o argymhellion ynghylch yr hyn yr hoffem ei gael heb unrhyw ystyriaeth o beth fydd yr adnoddau.

Rydym eisoes yn gwario chwarter yr holl gyllidebau ysgol ar gludiant ysgol. Nawr, rydym ni i gyd yn ymweld ag ysgolion, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw'r pwysau sydd ar ysgolion o ran y ddarpariaeth ADY; rydym ni i gyd yn gwybod bod maint y dosbarthiadau yn rhy fawr, nad oes digon o gynorthwywyr cymorth dysgu. Rydym yn gwybod bod cyllidebau ysgolion o dan bwysau. Ac a ydym ni'n dweud y dylai hyd yn oed mwy o'r gyllideb ysgol fynd tuag at gludiant ysgol? Oherwydd dyna effaith ymarferol yr hyn rydym ni'n ei ddweud. Neu a ydym ni'n dweud y dylai cyllid cyhoeddus ychwanegol o gyllideb Cymru fynd o rywle arall i'r gyllideb gludiant i dalu am y ddarpariaeth ychwanegol hon y soniwyd amdani? Nid wyf wedi clywed unrhyw atebion gan unrhyw un heddiw ar hynny heblaw am y Ceidwadwyr yn dweud y dylid talu am y cyfan allan o gronfeydd llywodraeth leol, sydd ddim yn gynnig difrifol. Felly, gadewch i ni fod o ddifrif yma: sut mae da yn edrych, a sut allwn ni gyflawni hynny? Beth yw'r trothwy yr ydym yn ei ystyried yn drothwy rhesymol? [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i Darren Millar.

Rwy'n ddiolchgar i chi gymryd yr ymyriad. Un o'r pethau rydw i wedi'i awgrymu yw nad yw awdurdodau lleol bob amser yn cael y fargen orau o ran cost y drafnidiaeth maen nhw'n ei darparu mewn gwirionedd. Un ffordd, rwy'n credu, y gallem geisio mynd i'r afael â'r broblem hon yw gweithio'n fwy clyfar gyda gweithredwyr yn lleol. Ac yn sicr rydych chi'n derbyn bod yna amgylchiadau anarferol, fel rhai o'r rheini yr ydwyf wedi'u disgrifio, yn enwedig gyda'r achos trais domestig, lle mae angen canllawiau clir er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc fel y rheini yn cael eu cosbi o ganlyniad i drais domestig yn eu teuluoedd.

Edrychwch, rydym ni i gyd wedi cael gwaith achos, ac yn sicr roedd gennyf i lawer o lythyrau pan oeddwn i'n Weinidog trafnidiaeth, gydag achosion y byddech chi'n meddwl y dylid defnyddio disgresiwn, ac mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn hwnnw. Yr hyn nad oes ganddyn nhw yw'r arian, ac maen nhw'n cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Rydych chi'n iawn ynglŷn â'r mater o gyflenwad cwmnïau bysiau lleol, a dyna sydd wrth wraidd y broblem, a dyma'r broblem y cynlluniwyd y Bil bysiau i fynd i'r afael â hi, oherwydd ar hyn o bryd mae gennym ysgarmes bron iawn. Mae gennym rai rhannau o'r wlad lle mae awdurdodau yn derbyn dim ond un tendr ac mae'r awdurdod lleol yn gallu enwi ei bris i bob pwrpas. Mae yna rai lle nad ydyn nhw hyd yn oed yn derbyn un tendr, ac yna, wrth gwrs, mae'r dinasoedd lle mae gennych rywfaint o ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus lle gall pobl ddal bws gwasanaeth ac yna rhai wedi'u comisiynu, ac mae'n costio swm enfawr o arian. Ac oherwydd y system fysiau wasgarog iawn sydd gennym, mae'r rhain yn llwybrau bysiau nad ydynt ar agor i'r cyhoedd. Felly, os ydym yn gwario mwy na £200 miliwn y flwyddyn yn rhoi cymhorthdal i gludiant am ddim i ysgolion, oni ddylid gwario hynny'n well ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gydlynol sydd ar gael i bawb, nid plant ysgol yn unig? [Torri ar draws.] Hapus i ildio.

A fyddech chi'n cytuno, wrth siarad am y Bil bysiau a'r llwybrau, y dylem fod yn edrych ar y data a cheisio mapio'r llwybrau hyn, ond efallai defnyddio rhai o'n staff ymchwil prifysgol sy'n gallu ein helpu i wneud y llwybrau hynny mor effeithlon â phosibl i allu cyrraedd lleoedd, a disgyblion yn gallu cyrraedd y safleoedd bws hynny, cyn gynted â phosibl?

16:55

A dyna yw addewid y Bil bysiau. Mae'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud nawr, a dyna pam y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i gyflwyno hyn, yn ymwneud â chynllunio'n strategol ble y dylai bysiau fynd. Maen nhw'n mapio, gan ddefnyddio data ffôn symudol ar ble mae pobl yn teithio mewn car, ac i ble yn ddelfrydol dylai llwybrau bysiau fynd. A chefais sgwrs ddiddorol iawn amser cinio gydag athro peirianneg o Brifysgol Abertawe yma yn y Senedd sy'n creu gefell digidol o Gymru, mapio'r galw am drafnidiaeth. Felly, mae llawer y gall technoleg ei gynnig i ni er mwyn mapio galw a chyflenwad mewn modd mwy clyfar. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd, does dim o hynny yn digwydd, oherwydd yn syml, 'A yw'r farchnad rydd eisiau ei ddarparu mewn dinasoedd?' ac 'A all awdurdodau lleol fforddio rhoi cymhorthdal iddo y tu allan i hynny?' Mae honno'n system wallgof. Ond rydym yn gwario swm enfawr o arian ar system hynod aneffeithlon ac, fel yr ydym wedi clywed o ran teimlad y Senedd y prynhawn yma, system sy'n plesio neb.

Ond rwy'n dychwelyd at y cwestiwn: beth yw'r trothwy gorau posibl ar gyfer cludiant bws am ddim? 1 filltir? 2 filltir? 3 milltir? Soniodd Heledd Fychan fod gan Rhondda Cynon Taf â 2 filltir pan oedd y trothwy statudol yn 3 milltir. Fe wnaethon nhw dalu am hynny eu hunain. Maen nhw nawr dan bwysau gwirioneddol i gynnal hynny. Ond yr hyn a ddarganfuwyd oedd bod y rhai a oedd ar eu colled oherwydd y 2 filltir yr un mor flin â'r bobl sydd ar hyn o bryd ar eu colled oherwydd y 3 milltir. Felly, ble bynnag y byddwch chi'n gosod y trothwy hwnnw, mae rhywun yn mynd i fod ar ei golled. Felly, beth yw'r trothwy gorau i'w osod?

Os caf i, fy mhwynt oedd yr effeithir ar 2,000 o fyfyrwyr gan y newid hwn ar adeg pan ydym ni'n ceisio dod o hyd i atebion, felly mae'n ymwneud â cheisio gweld a allwn ni gadw darpariaeth sydd yno ar hyn o bryd gan hefyd archwilio atebion tymor hwy a thymor canolig.

Wel, i fod yn deg i Rhondda Cynon Taf, maen nhw wedi mynd y tu hwnt i ble roedd angen iddynt fynd ers amser maith, ac yn sicr byddent eisiau gwneud hynny. Ond y symiau yw'r symiau, ac mae hynny'n rhywbeth, mae gennyf ofn, mae'n rhaid i bob plaid yn y Siambr hon ei wynebu. Mae'n hawdd dweud wrthym beth yr hoffem ni ei weld yn digwydd, ond mae'n rhaid talu amdano, ac mae hynny'n golygu symud arian o rywle arall. O ble mae'r arian hwnnw'n mynd i ddod? Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr arian rydym ni'n ei wario nawr, £200 miliwn, chwarter holl gyllidebau ysgolion, yn cael ei wario yn y modd gorau. Ond rwy'n dal i ofyn y cwestiwn i'r Siambr, sydd heb gael ei ateb: beth yw'r llinell resymol i'w thynnu? Pryd y mae'n rhesymol dweud, 'Gallech gerdded neu feicio i'r ysgol'?

Neu 'Gallech rannu lifft.' Nid ydym wedi ateb y cwestiwn hwnnw oherwydd mae'n gwestiwn sydd bron yn amhosibl i'w ateb, oherwydd lle rydych chi'n tynnu llinell, rydych chi'n creu anfantais i rywun, ac os ydych chi'n creu anfantais i rywun, maen nhw'n anhapus. Bydd gennym system well, rwy'n ffyddiog o hynny, oherwydd y Bil bysiau, ond nid ydym yn mynd i fodloni pawb.

A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i ymateb i'r ddadl.

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am lawer o gyfraniadau gwerthfawr heddiw, ac rwy'n cydnabod yr heriau sydd wedi'u codi, ac rwy'n ymrwymedig i wneud popeth y gallaf i wella cludiant dysgwyr lle bynnag y gallwn. Bydd hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, gan ein bod yn derbyn ei fod yn faes hynod gymhleth, gyda chysylltiadau rhwng meysydd polisi.

Nawr, rwy'n cefnogi llinell agoriadol gwelliant Plaid Cymru. Nid wyf eisiau gweld cludiant yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg i unrhyw ddysgwyr yng Nghymru, a dyna pam rydym yn ceisio dod â phartneriaid at ei gilydd i chwilio am atebion. Mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y realiti ariannol na allwn gyfarwyddo cynghorau i ddarparu cludiant am ddim i bob lleoliad ac ym mhob senario. Mae'n rhaid i ni osod paramedrau a chydnabod bod teithio gan ddysgwyr yn costio £204 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol. Rhannodd Carolyn Thomas rywfaint o fewnwelediad i sut mae cynghorau wedi cael cymaint o drafferth wrth ddarparu cefnogaeth, yn enwedig dros y degawd diwethaf o bwysau ariannol. Ac mae Lee Waters yn iawn yn tynnu sylw at y gyfran o gyllid a ddylai fod yn mynd i addysg, ond sy'n cael ei wario ar gludiant. Mae'n rhaid i ni wneud arbedion costau. Mae'n rhaid i ni. Ac fel y dywedodd Julie Morgan yn gywir, mae symud y trothwy pellter mewn gwirionedd yn symud y broblem yn hytrach na'i datrys.

Nawr, cefais fy nghyffroi gan yr hyn a ddywedodd nifer o Aelodau, gan gynnwys Darren Miller a Heledd Fychan, am gysondeb y dull gweithredu ar draws awdurdodau lleol, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r uwchgynhadledd ei ystyried, ond mae'n rhaid iddi ystyried mewn ffordd sy'n cydymdeimlo â phwysau awdurdodau lleol ar hyn o bryd a dros nifer o flynyddoedd, fel y mae Lee Waters wedi nodi. Nid oes un ateb syml wrth geisio datrys yr heriau sy'n gysylltiedig â theithio gan ddysgwyr. Mae angen atebion lluosog, ac mae'r Bil bysiau yn sicr yn un ohonynt. Nawr, o ystyried y bil enfawr hwnnw o £204 miliwn ar gyfer teithio gan ddysgwyr, rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar ffyrdd o leihau costau os ydym am ymestyn gwasanaethau ymhellach, ac mae hynny'n golygu cofleidio technolegau arloesol, sydd wedi dangos eu bod yn lleihau costau trwy ddadansoddi a monitro llwybrau ac amserlenni yn ddeallus, yn ogystal â chydweithio ar draws ffiniau a rhaglenni ymyrraeth buddsoddi i arbed fel hyfforddiant teithio annibynnol. Mae hefyd yn cynnwys manteisio i'r eithaf ar y rheolaeth y bydd deddfwriaeth drwy'r Bil bysiau yn ei roi i ni dros y rhwydwaith bysiau.

Nawr, o ran arloesi ac yn benodol mewn ymateb i gwestiwn Peredur, cyfarfûm yn ddiweddar â Dr Rhydian Lewis o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi datblygu algorithm i fapio llwybrau effeithlon ar gyfer cludiant ysgol. Yn dilyn y cyfarfod, rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Sir Fynwy bellach yn helpu i fireinio'r system benodol honno ymhellach, a allai fod yn hynod werthfawr ar draws cynghorau. Mae'r dechnoleg yn dod i'r amlwg, ac mae Trafnidiaeth Cymru, fel y nododd Lee Waters, gyda'r defnydd o ddata ffôn symudol, yn dod i'r amlwg a bydd yn ein galluogi i wneud arbedion. Ond heb reolaeth dros y rhwydwaith bysiau ni fydd yn bosibl, a dyna pam mae'r Bil bysiau mor bwysig. Ydi wrth gwrs.

17:00

Rwyf hefyd wedi cael cyfarfodydd gydag ef. Un o'r rhwystrau oedd rhannu gwybodaeth a data. A yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n gallu gweithio gyda'n prifysgolion arno i ddefnyddio'r arbenigedd hwnnw i allu gweithio drwy hyn?

Ydi. A gallai hon fod yn rôl hanfodol hefyd i Trafnidiaeth Cymru, i gasglu'r wybodaeth, casglu'r data a sicrhau eu bod yn cael eu rhannu. Felly, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch y dechnoleg, ond mae'r dechnoleg yn ddiwerth oni bai bod gennym reolaeth dros y rhwydwaith, a dyna beth fydd deddfwriaeth yn ei roi i ni. Felly, gallai'r effaith gyfunol o gael y dechnoleg newydd a'r pŵer dros y rhwydwaith fod yn chwyldroadol.

Ac o ran y pwysigrwydd a roddir ar ddata gan Jenny Rathbone, rydym yn gweithio gyda'r bwrdd teithio llesol i ystyried sut y gallwn wella ein data a chynyddu'r gyfradd ymateb ar gyfer yr arolwg Dwylo i Fyny, a fydd yn dweud wrthym faint o blant ysgol gynradd sy'n cerdded, yn olwyno ac yn beicio i'r ysgol. Rwy'n falch o ddweud, yr wythnos hon, ein bod ni'n mynd i noddi cynhadledd teithiau ysgolion llesol ac egnïol. Byddaf yn siarad ynddi, yn ogystal â'r comisiynydd plant, ac rwy'n credu y bydd hynny'n gyfle gwych i swyddogion awdurdodau lleol gael mewnwelediadau a rhannu arferion gorau ac i gydweithio ar fentrau sy'n hyrwyddo teithio llesol i'r ysgol.

Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yr alwad i weithredu'r mwyafrif o'r argymhellion yn adolygiad 2023. Ac fel y dywedais yn gynharach, bydd yr ymgynghoriad canllawiau teithio gan ddysgwyr yn dechrau ar ôl yr uwchgynhadledd. Mae gwaith yn parhau, gyda mewnbwn sylweddol gan blant a phobl ifanc, i ddiweddaru'r cod ymddygiad teithio, a byddwn yn defnyddio'r uwchgynhadledd i hyrwyddo arfer gorau a gwella cydweithredu, a bydd ein cynnig tocynnau bws gwell i bobl ifanc yn annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, a gobeithio y bydd yn gynaliadwy ac yn arwain at lawer mwy o bobl ifanc yn tyfu i fod yn oedolion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel dewis amgen i gerbydau preifat.

Nawr, rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a RhAG i ddeall y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â dysgwyr sy'n cael mynediad i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd y diweddariad i'r ddogfen ganllawiau teithio gan ddysgwyr yn ymhelaethu'r ddeddfwriaeth sydd wedi'i rhoi ar waith ers cyhoeddi'r ddogfen ganllawiau wreiddiol, a bydd hyn yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion, rwy'n credu, i weithio ar y cyd ac, lle bo angen, ar draws ffiniau, i ddarparu atebion. Gallaf sicrhau Aelodau y bydd dewis rhieni mewn perthynas ag iaith, ffydd a ffactorau eraill yn elfen allweddol o'r uwchgynhadledd; felly, hefyd, her natur wledig.

Fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth wledig i raddau helaeth, rwy'n gwybod y gall fod yn anodd iawn i ddysgwyr mewn ardaloedd gwledig gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi gweld effaith rhwydwaith bysiau wedi'i ddadreoleiddio dros nifer o flynyddoedd, ac mae hyn wedi cael ei deimlo fwyaf, rwy'n credu, yn ein cymunedau gwledig. Nid wyf yn honni y gallwn sicrhau bod bysiau'n rhedeg i bob pentref yng Nghymru drwy gymryd rheolaeth o'r rhwydwaith bysiau, ond bydd gennym y rheolaeth dros y cymhorthdal sylweddol a ddarparwn i'r sector, ac rydym eisiau datblygu rhwydwaith sy'n gwasanaethu teithwyr yn well, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Nawr, er gwaethaf yr heriau, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno bod cyfleoedd i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer teithio gan ddysgwyr mor effeithiol ag y gall fod. Byddwn yn mynd â'r cyfraniadau o'r ddadl heddiw i'r uwchgynhadledd ar gyfer yr hyn rwy'n hyderus y bydd yn drafodaeth ffrwythlon ac adeiladol gyda phawb sy'n gallu, gyda'i gilydd, gyflawni'n well ac yn fwy i'n plant a'n pobl ifanc. Nid oeddwn o reidrwydd yn rhagweld heddiw y byddai dewislen o atebion yn cael ei darparu gan yr Aelodau, ond rwy'n ddiolchgar am y diffyg anghytuno a'r penderfyniad i ni symud i'r uwchgynhadledd mewn cytundeb mor amlwg ynghylch yr hyn sy'n bwnc hynod bwysig i bobl ifanc yng Nghymru. Diolch.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diwygio Diwylliant a Llywodraethiant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub

Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, diwygio diwylliant a llywodraethu yn y gwasanaeth tân ac achub, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis diwethaf, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru adroddiadau adolygu diwylliannol annibynnol. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys canfyddiadau gofidus yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu, casineb at fenywod a gwahaniaethu. Hoffwn unwaith eto ganmol dewrder y rhai sydd wedi rhannu eu profiadau yn yr adroddiadau hyn. Ni ddylai unrhyw un deimlo'n anniogel yn ei weithle, ac rwyf wedi ei gwneud yn glir i'r ddau awdurdod bod angen gweithredu ar frys i sicrhau nad yw profiadau o'r fath byth yn cael eu hailadrodd. Rwyf wedi nodi fy nisgwyliad y dylai arweinwyr yn y ddau wasanaeth gymryd camau clir a phendant i chwalu'r diwylliannau niweidiol hyn ar unwaith a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gweithle.

Cyhoeddwyd yr adroddiadau hyn flwyddyn yn unig ar ôl ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Roedd y cam gweithredu hwnnw'n ddigynsail. Roedd graddfa'r ymyrraeth honno'n ymwneud â'n pryderon sylweddol am y gallu i redeg y sefydliad yn effeithiol. Canfu adroddiad Fenella Morris CB ar ddiwylliant nid yn unig fod camymddwyn yn gyffredin, ond ei fod wedi'i ategu gan fethiannau arweinyddiaeth a rheoli ac absenoldeb strwythurau a pholisïau o ran y diwylliant o fewn y gwasanaeth. Roedd hyn yn adlewyrchu ein pryderon presennol am dueddiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i oddef arferion gwael ac i fod yn amddiffynnol yn wyneb beirniadaeth neu gyfleoedd i wella.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Awdurdodau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru wedi cydnabod angen clir i wella'r diwylliant yn eu sefydliadau. Fe wnaethon nhw gomisiynu adroddiadau annibynnol ac maen nhw wedi ymrwymo i ddatblygu cynlluniau manwl i gyflawni eu hargymhellion. Mae'r ddau awdurdod wedi dechrau gweithredu ac, fel y cyfryw, nid wyf yn bwriadu ymyrryd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dylid nodi bod hwn yn ddarlun sy'n esblygu ac mae'n un rwyf yn ei fonitro'n agos.

Fe wnes i gyfarfod â chadeiryddion a phrif swyddogion tân yr awdurdodau tân ac achub yr wythnos diwethaf, pan geisiais a derbyniais sicrwydd llawn bod camau gweithredu cyflym a chadarn ar y gweill. Byddaf i a fy swyddogion yn cael cyfarfodydd pellach o'r fath yn rheolaidd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda'r awdurdodau i gefnogi eu rhaglenni gwella. Bydd ein cefnogaeth yn cynnwys rhaglen hyfforddi Cymru gyfan ar gyfer aelodau'r awdurdodau ac ar gyfer staff, yn ogystal â manteisio ar wybodaeth arbenigwyr diwylliant a datblygu sefydliadol.

Rydym yn gwybod bod materion difrifol sydd wedi'u codi mewn adroddiadau i wasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau mewn mannau eraill hefyd. Mae adroddiad panel her a chymorth annibynnol y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror, yn dangos bod y sector ledled y DU yn sefydliadol hiliol, misogynistaidd a homoffobig. Yn fy marn i, mae sicrhau newid diwylliannol ledled y DU yn hanfodol, ac rwy'n awyddus i archwilio cydweithio a dysgu ledled y DU o ran yr heriau hyn. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau cynnar gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraeth y DU ac rwy'n bwriadu cymryd camau dilynol mewn perthynas â'r rheini fel blaenoriaeth.

Rwyf eisoes wedi cyfeirio at yr ymyrraeth yn ne Cymru. Bedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach, mae'r comisiynwyr yn adrodd bod 38 o'r 82 o argymhellion a wnaethpwyd gan Fenella Morris wedi'u gweithredu'n llawn, a bod gweithgarwch sylweddol ar y gweill i gyflawni'r argymhellion eraill.

17:10

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Fodd bynnag, nid yw newid polisi neu raglen hyfforddi ar ei ben ei hun yn newid diwylliant sefydliad. Mae angen arweinyddiaeth gref ar bob lefel i wneud hynny, gan ymgorffori diwylliant sy'n newid arferion drwg ac yn ymdrechu am ragoriaeth. Nod rhaglen drawsnewid y comisiynwyr yw ymgorffori'r dull hwn. Mae'n cynnwys gweithredu argymhellion yr adolygiad o ddiwylliant a gwelliannau sefydliadol ehangach, gan gynnwys rhaglen o drawsnewid digidol, meithrin sgiliau arweinyddiaeth a sefydliadol, a gwella ymgysylltiad â staff a rhanddeiliaid.

Mae'r comisiynwyr wedi ailstrwythuro a chryfhau eu huwch dîm arweinyddiaeth. Maen nhw wedi ailosod y berthynas â staff ac undebau, gan wneud yn siŵr bod gweithwyr yn gallu ymgysylltu â'r rhaglen newid sy'n mynd rhagddi a chyfrannu ati. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cwblhau ei adolygiad o achosion cwynion hanesyddol, gan arwain at ailagor rhai o'r achosion hyn. Byddaf yn ceisio sicrwydd gan y comisiynwyr bod yr ymyriadau hyn yn ysgogi newid hirdymor ystyrlon.

Mae cylch gorchwyl y comisiynwyr hefyd yn cynnwys cyflawni gwelliannau gweithredol. Maen nhw wedi cyflwyno polisi newydd o beidio â mynd i larymau tân awtomatig oni bai bod galwad 999 hefyd. Nawr, gall diffoddwyr tân a arferai ddelio â digwyddiadau o'r fath ymateb i argyfyngau go iawn neu ymgymryd â gwaith atal a hyfforddiant. Er bod y comisiynwyr wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, mae ganddyn nhw waith pellach i'w wneud o hyd. Rwy'n disgwyl i'r tri gwasanaeth tân ac achub fynd i'r afael ag arferion gwaith diffoddwyr tân i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gynhyrchiol.

Mewn ymateb i adroddiad 'Seinio'r Larwm', rwyf wedi dweud fy mod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â diwygio llywodraethiant. Rwy'n bwriadu ymgynghori ar newidiadau y gellir eu gwneud trwy ddeddfwriaeth bresennol yn yr haf gyda'r bwriad o gyflwyno diwygiadau cyn diwedd tymor y Senedd. Os oes achos dros weithredu mwy radical—ac efallai y bydd yna—yna bydd hynny'n fater i'r Senedd newydd. Fy nod yw y bydd y comisiynwyr yn trosglwyddo rheolaeth yn ôl i ffurf newydd, fwy effeithiol o lywodraethiant pan fydd y cynnydd angenrheidiol wedi'i wneud.

Byddaf hefyd yn cyflwyno fframwaith cenedlaethol newydd cyn diwedd tymor y Senedd, gan osod blaenoriaethau ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Bydd y rhain yn adlewyrchu heriau strategol difrifol i'r gwasanaeth, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a gwersi yn sgil Grenfell. Bydd y fframwaith yn nodi'n glir yr angen am y safonau uchaf o lywodraethiant, diwylliant, diogelwch ac atebolrwydd ar draws yr awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, a'n disgwyliadau parhaus.

Rwy'n bwriadu datblygu fy holl gynlluniau trwy ethos partneriaeth gymdeithasol a byddaf yn trafod manylion sy'n dod i'r amlwg trwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol tân ac achub, a fydd yn cyfarfod nesaf ym mis Mai. Rwy'n disgwyl i ymagwedd debyg gael ei mabwysiadu'n lleol, gyda'r holl randdeiliaid allweddol yn chwarae eu rhan i sicrhau bod ysbryd ac ethos partneriaeth gymdeithasol yn ffurfio sylfaen prosesau gwneud penderfyniadau. Diolch.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Cafodd gwasanaeth tân ac achub De Cymru ei drosglwyddo i reolaeth Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024; 14 mis yn ddiweddarach, dim ond 38 o'r 82 o argymhellion a wnaed gan Fenella Morris sydd wedi'u gweithredu yn y cyfnod hwn. Mae'n ymddangos, yn hanesyddol, bod yna amharodrwydd gwirioneddol o fewn y gwasanaeth i ddiswyddo, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf difrifol o gamymddwyn, fel y datgelwyd gan yr adroddiad hwn. Rydym yn gweld cynnydd araf; nid wyf yn gwybod pryd y byddwn yn gweld popeth wedi'i gyflawni.

Ysgrifennydd Cabinet, ni ddylai gweithwyr sy'n rhoi eu bywydau mewn perygl wynebu'r diwylliant gwenwynig hwn byth eto. Tra bod menywod yn wynebu diwylliant rhywiaethol a misogynistaidd mewn sawl man yn y gwasanaeth hwn, yn bryderus, gwnaeth adolygiad annibynnol ofnadwy o'r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddatgelu bod yna ddiwylliant clicaidd o fewn y sefydliadau, a bod ffafriaeth a nepotiaeth yn ffynnu hefyd: os ydych chi'n ffrindiau gyda'r bobl iawn, all neb eich cyffwrdd chi. Ar yr un pryd, roedd 47 y cant wedi profi bwlio ac aflonyddu ynddo ers 2021. Doedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fawr gwell, gyda 42 y cant o staff yn profi ymddygiad tebyg. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru bwysleisio'r angen clir i awdurdodau tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru a gogledd Cymru fynd i'r afael â'r ymddygiad hwn. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn croesawu'r datganiad hefyd, ond i fod yn hollol onest, ni ddylem fod yn croesawu'r newyddion bod yr ymddygiad hwn yn cael ei feirniadu; dylid ond ei feirniadu. 

Gwnaeth tystion a dystiodd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dynnu sylw at sut roedd diffygion mewn awdurdodau tân ac achub yn peri pryder iddyn nhw, gan nodi'n benodol yr annigonolrwydd o ran y ffaith bod ein cynghorwyr sir yn meddu ar wybodaeth ragofynnol yr oedd ei hangen arnyn nhw fel arfer i graffu ar sefydliadau mor hanfodol bwysig, fel y byddai sefydliad sector cyhoeddus mawr yn disgwyl i gyfarwyddwyr feddu arni fel arfer. Mae hi ymhell wedi'r amser pan ddylai Llywodraeth Cymru ystyried newidiadau i'w llywodraethiant, wrth i sgandalau olynol gael effaith niweidiol ar berfformiad, gan danseilio hyder yn llwyr.

Yn y pen draw, mae'n anhygoel bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi penderfynu mabwysiadu polisi o beidio â mynd i larymau tân awtomatig, gan fod angen ailhyfforddi diffoddwyr tân. Nid oes unrhyw ran arall o Gymru wedi gwneud hynny. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ailwampio'r awdurdodau tân ac achub gydag un bwrdd goruchwylio yn unig yn cynnwys pobl broffesiynol, nid gwleidyddion cyflogedig, a mabwysiadu strwythurau tebyg i'r arolygiadau hynny yn Lloegr sy'n digwydd o dan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF? Cyhoeddwyd y fframwaith tân ac achub cenedlaethol diwethaf yn 2015 —bron i ddegawd yn ôl erbyn hyn. Fe wnaethon ni groesawu hyn. Ysgrifennydd Cabinet, pryd bydd dogfen wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi o'r diwedd? Diolch.

17:15

Diolch, a diolch, Altaf, am eich cwestiynau a'ch sylwadau chi. Dim ond i ddweud, o ran y gwaith gyda gwasanaeth tân de Cymru, mae cynnydd yn y de yn cael ei fonitro gan fy swyddogion drwy gyfarfodydd misol gyda chomisiynwyr drwy ein bwrdd goruchwylio ymyrraeth. Rwyf hefyd wedi ei gwneud yn glir i awdurdodau tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru a gogledd Cymru fy mod yn disgwyl iddyn nhw ofyn am gyngor gan arbenigwyr allanol sydd â'r sgiliau a'r profiad priodol i gynorthwyo i weithredu eu cynlluniau gweithredu newid diwylliannol. Ac rwyf am gael fy niweddaru wrth i gynnydd gael ei wneud yn hyn o beth. Ac rwy'n awyddus iawn fy mod i'n dilyn hynny yn ogystal â fy swyddogion.

Rwyf hefyd wedi cwrdd â'r prif swyddogion tân, cadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub a chomisiynwyr de Cymru. Rwy'n cwrdd â nhw bob chwarter ac rwy'n disgwyl derbyn diweddariadau gan bob un ohonyn nhw yn y cyfarfodydd hynny hefyd. Yn amlwg, byddaf yn parhau i drafod cynnydd yn y fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub i sicrhau bod newid diwylliannol yn cael ei weithredu'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Ac rwy'n disgwyl i'r awdurdodau tân ac achub ddarparu diweddariadau yn y cyfarfodydd hynny. Ond ar yr un pryd, byddaf yn disgwyl i'r undebau, hefyd, godi materion sy'n peri pryder parhaus, ac i weithio gyda ni a'r awdurdodau tân ac achub i gefnogi'r cynnydd cadarnhaol hwnnw sydd angen ei wneud.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at argymhellion Fenella Morris a'r niferoedd, yr amserlenni o ran hynny a'r pwyntiau cyflawni. Roedd yr amserlenni ar gyfer cyflwyno argymhellion yr adroddiad diwylliannol hwnnw yn heriol iawn. Mae'n amlwg yn ymwneud â deall eu bod yn heriol oherwydd difrifoldeb y canfyddiadau, ond, yn amlwg, roedd y problemau yn ne Cymru yn mynd y tu hwnt i'r canfyddiadau hynny a dyna pam wnaethon ni ymyrryd. 

Cafodd y problemau ehangach hynny eu datgelu ymhellach gan y comisiynwyr, a ganfu fod angen cryn dipyn o waith i roi sylfeini cadarn ar gyfer newid ar waith yn gyntaf, er mwyn helpu i gefnogi gwelliant hirdymor a chynaliadwy, ac mae hynny wedi cynnwys ailstrwythuro a chryfhau'r tîm arweinyddiaeth yn ne Cymru; ailosod y berthynas â staff ac undebau; a rhaglen newid o amgylch systemau technoleg gwybodaeth y gwasanaeth, trefniadau llywodraethiant mewnol a setiau sgiliau sylfaenol, gan gynnwys arweinyddiaeth a rheoli rhaglenni. Mae'r comisiynwyr yn benderfynol o sicrhau eu bod yn cyflawni'r argymhellion yn y fath fodd fel nad yw cyflwyno polisi newydd neu gyflwyno system newydd yn ddigon. Maen nhw'n edrych ar y newidiadau y mae angen iddyn nhw eu cyflwyno i wneud gwelliant gwirioneddol amlwg a chynaliadwy i'r diwylliant yn ei gyfanrwydd.

Yn olaf, o ran y pwyntiau a wnaethoch chi am adroddiad y pwyllgor—adroddiad 'Seinio'r Larwm'—yn amlwg, rwyf wedi dweud yn fy natganiad heddiw bod diwygio llywodraethiant—wyddoch chi, dyna beth rwy'n ceisio ei gyflwyno. Rwyf eisoes wedi cael sawl trafodaeth am ddiwygio llywodraethiant trwy ein fforwm partneriaeth gymdeithasol tân ac achub. Fel y dywedais, rwy'n bwriadu gwneud hynny eto ym mis Mai, a bydd yr holl safbwyntiau hyn, ynghyd ag adroddiadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac Archwilio Cymru, yn bwydo i mewn i ddatblygu cynigion manylach, ac yna, byddan nhw'n destun ymgynghori, fel y dywedais i, yn yr haf.

17:20

Mae angen gwasanaeth tân ac achub iach, effeithlon ac effeithiol arnom sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i'n cymunedau. Mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn gynharach i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddamniol. Roedd yn hynod ofidus darllen bod yr adroddiadau wedi dod o hyd i dystiolaeth o fwlio, aflonyddu, casineb at fenywod, gwahaniaethu, arddulliau rheoli amhriodol a dyrchafu yn seiliedig ar ffafriaeth. Fis diwethaf, fe ofynnais i i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau roedd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn cyhoeddi'r adolygiadau o ddiwylliant yng ngwasanaethau tân ac achub gogledd Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru, felly rwy'n falch o glywed y datganiad hwn heddiw.

Byddwn i'n ddiolchgar, yn dilyn hyn, pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau y mae hi wedi'u gweld dros y mis diwethaf. Fe wnes i amlinellu rhai ffigurau syfrdanol o'r adroddiadau yn flaenorol: mae un o bob 10 menyw yng ngwasanaeth canolbarth a gorllewin Cymru wedi adrodd eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol; yng ngwasanaeth tân gogledd Cymru, adroddodd 42 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg brofiadau personol o fwlio neu aflonyddu ers mis Mehefin 2021, ac roedd y ffigur cyfatebol ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru hyd yn oed yn uwch, sef 47 y cant. Mae'r amgylchedd gwaith hwn yn wobr wael i ddynion a menywod dewr sy'n rhoi eu bywydau mewn perygl i ddiogelu'r cyhoedd.

Fe ofynnais i i'r Ysgrifennydd Cabinet fis diwethaf, ond ces i ddim ateb go iawn, felly fe ofynnaf i eto: beth yn union mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud tra bod y diwylliannau hyn yn datblygu o fewn y brigadau tân? A allai'r Ysgrifennydd Cabinet roi cyfrif am y diffyg monitro dros y blynyddoedd, a beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw'r un camgymeriadau yn cael eu gwneud o dan eich gwyliadwriaeth chi? Hefyd, mae gofyniad statudol arnoch i archwilio ac adolygu perfformiad, ond mae hyn wedi bod yn absennol i raddau helaeth, ar wahân i rai metrigau sylfaenol iawn ar ddigwyddiadau a geir. Sut yn union ydych chi'n bwriadu gwella atebolrwydd rheolwyr a pherfformiad o ddydd i ddydd? O siarad â chyn-ddiffoddwyr tân, rwy'n gwybod bod dryswch hefyd ynghylch pam nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi gweithredu ei rhaglen newid ei hun o 2018, rhywbeth a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol ar y pryd. Ydych chi'n gallu ein goleuo ynghylch pam mae hynny, os gwelwch yn dda?

Diolch, Peredur. Yn hollol, pan fyddwn ni'n siarad am rai o'r canfyddiadau hyn, rwy'n credu bod angen i ni gofio na ddylai'r rhai nad ydyn nhw'n credu bod gan fenywod le yn y gwasanaeth tân ac achub gael lle ynddo eu hunain, ac rwy'n glir iawn, iawn ar hynny. Fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd â phrif swyddogion tân y canolbarth a'r gorllewin a'r gogledd, ac rwyf wedi derbyn sicrwydd eu bod nhw'n benderfynol o gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r materion sy'n cael eu codi yn eu hadroddiadau—yr adroddiadau y gwnaethon nhw eu dechrau ac y gofynnon nhw amdanynt, ac y gwnaethon nhw ymgymryd â nhw trwy Crest.

Yn amlwg, er ei bod yn amlwg bod llawer i'w wneud, mae'r adroddiadau diwylliant yn dangos bod y ddau wasanaeth tân ac achub wedi dechrau gwneud cynnydd eisoes i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â diwylliant. Mae gogledd Cymru, yn arbennig, wedi gwneud camau mawr o ran gwella cydbwysedd rhywedd ei weithlu. Yn amlwg, mae gweithredu yn y maes hwn yn hir ddisgwyliedig. Dynion sy'n cyfrif am y mwyafrif llethol o ddiffoddwyr tân o hyd ac mae diffyg amrywiaeth o ran y gweithlu. Yn amlwg, roedd yn siomedig, a dweud y lleiaf, i ddarllen, yn adroddiad Crest, bod rhai o'r farn nad oes angen gweithredu a'i fod yn adlewyrchu arddull rheoli awtocratig, ond, i'r gwrthwyneb, dyna sut mae arweinyddiaeth dda yn edrych: cymryd camau clir ac effeithiol i fynd i'r afael â heriau difrifol a hirsefydlog. Ond mae Crest eu hunain wedi dweud wrthym fod y camau cadarnhaol yng ngogledd Cymru yn enghraifft o arfer da i wasanaethau tân ac achub eraill y DU. Mae'r ddau brif swyddog tân wedi ymddiheuro'n gyhoeddus yn ddiamod; mae'r prif swyddogion tân wedi derbyn y canfyddiadau hefyd. Felly, er fy mod i'n meddwl bod llawer o ffordd i fynd o hyd, a bod mwy i'w wneud, ac maen nhw'n cydnabod hynny eu hunain, rwyf yn cwrdd â nhw'n rheolaidd, fel y mae swyddogion, ac mae'r sicrwydd hwnnw'n cael ei roi. Bydd hyn yn cymryd amser, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod hynny, ond mae'n bwysig bod y gwaith yn ei le.

O ran—gan fynd yn ôl i 2018—y gwaith a wnaed yn 2018, mae sylw yn cael ei roi i'r materion llywodraethiant nawr—rhesymau gwahanol iawn, cyd-destunau gwahanol iawn. Yn amlwg, mae'r methiannau yn ne Cymru wedi tynnu sylw at bryderon sylweddol yn nhrefniadau llywodraethiant yr awdurdod tân ac achub, i'r graddau fy mod wedi defnyddio'r holl bwerau sydd gennyf i ymyrryd. Dyna pam rwy'n bwrw ymlaen nawr â diwygio llywodraethiant. Rwy'n credu y bydd newidiadau y gellir eu cyflawni trwy is-ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae hyn yn cael ei wneud trwy ddull partneriaeth gymdeithasol, sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Dydw i ddim wedi diystyru diwygio llywodraethiant mwy radical, a bydd unrhyw gynlluniau yn y dyfodol yn cwmpasu ein nod gwreiddiol yn 2018 o fodel llywodraethiant sy'n cefnogi rôl newidiol y gwasanaeth. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi galw amdano eisoes. Ond dyma beth rwy'n ei wneud. Dyma beth rwyf wedi'i weld o'r adroddiadau hyn. Rwy'n ceisio'r sicrwydd ac rwy'n cadw llygad agos iawn ar y cynnydd mae pawb yn ei wneud.

17:25

Hoffwn longyfarch comisiynwyr gwasanaeth tân de Cymru ar weithredu 32 o'r 82 o argymhellion a wnaed gan Fenella Morris yn llawn. Yn wahanol i fy nghyd-Aelod Altaf Hussain, rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad mawr, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a glywsom yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, dydw i ddim yn credu y bydden nhw wedi cyrraedd mor bell â hyn heb yr ymyrraeth radical honno.

Rwy'n gobeithio y bydd gwasanaethau tân ac achub gogledd Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru yn deall yn llawn yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i weithio mewn partneriaeth, fel y disgwylir gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel ein bod ni'n gweld newid gwirioneddol, ond mae'n rhaid i ni gydnabod nad problem Gymreig yn unig yw hon. Fel y gwelsom o'r adroddiad gan y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol, mae casineb at fenywod, bwlio a hiliaeth, yn anffodus, yn broblem yn y rhan fwyaf o'r gwasanaethau tân.

Roeddwn i eisiau gofyn i chi a allech chi ymhelaethu ychydig mwy ar faint yr ymgynghoriad rydych chi'n mynd i'w lansio yn yr haf, oherwydd fe dderbyniodd eich rhagflaenydd argymhelliad 6, lle rydym yn eich annog i ystyried diwygio mwy radical, sydd, yn amlwg, yn gofyn am ymgynghoriad. Felly, a yw hyn yn ein galluogi i ddarparu digon o wybodaeth, os bydd angen, i gyhoeddi Papur Gwyn cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, fel y gallwn ni gynnwys deddfwriaeth mewn maniffestos pleidiau mewn pryd i'r cyhoedd ystyried unrhyw newid radical, os bydd ei hangen?

Diolch, Jenny, ac, unwaith eto, dim ond i roi ar gofnod fy niolch i'r pwyllgor am ei holl waith yn y maes hwn, ac am fynd ar drywydd hyn hefyd. Felly, diolch am y gwaith rydych chi i gyd wedi'i wneud, a chi fel Cadeirydd. Yn sicr, rwy'n cytuno ynglŷn â'r cynnydd mae'r comisiynwyr wedi'i wneud yn ne Cymru. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn bwysig iawn gweld y gwaith hwnnw'n digwydd. Maen nhw wedi dod i mewn ac maen nhw'n gweithio'n galed iawn, rwy'n gwybod, i roi'r holl ddiwygiadau ar waith. Unwaith eto, rwy'n cwrdd â nhw yn rheolaidd, a'r prif swyddog tân hefyd, i drafod hynny, ac mae fy swyddogion yn cwrdd â'r comisiynwyr yn fisol, fel y dywedais i, trwy'r bwrdd goruchwylio ymyrraeth hwnnw. Rwy'n ceisio sicrwydd gan y comisiynwyr bod ymyriadau newid diwylliannol yn effeithiol wrth ysgogi'r newid hwnnw, ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn yn fy marn i.

Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol, yr wyf am ei hamlygu eto. Mae gennym y fforwm partneriaeth gymdeithasol, sy'n dod â phawb at ei gilydd, ac roeddem yn gallu profi a siarad am rai o'r diwygiadau arfaethedig a chlywed barn pobl ar y diwygiadau hynny. Ond rwy'n disgwyl bod partneriaeth gymdeithasol yn golygu partneriaeth gymdeithasol nid yn unig yn y cyfarfod hwnnw, ond y tu allan iddo, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn disgwyl ei weld yn bendant, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn ni wneud hyn, yntyfe? Trwy weithio gyda'n gilydd yn y bartneriaeth gymdeithasol honno, ac mae'n rhaid iddo olygu hynny go iawn. Hefyd, fe wnes i gyfarfod â'r FBU a'r TUC yr wythnos diwethaf i siarad am bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol, gan fy mod i wedi cwrdd â'r penaethiaid a'r cadeiryddion hefyd, felly mae hynny'n rhywbeth i'w ddweud yn y fan yna.

O ran y gwaith llywodraethiant pellach, fel y dywedais i, byddwn ni'n trafod hynny yn ein cyfarfod partneriaeth gymdeithasol ym mis Mai, yna byddwn ni'n ceisio mynd allan i ymgynghori yn yr haf. Efallai nad wyf am ddweud gormod ar hyn o bryd ynghylch a fyddwn ni'n gallu gwneud unrhyw beth cyn hynny o ran Papur Gwyn, ond eto, rwy'n credu y bydd yr holl drafodaethau hyn yn mynd rhagddynt ym mis Mai, ac yn amlwg byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i hyn fynd ymlaen.

17:30

Ysgrifennydd Cabinet, mae Undeb y Brigadau Tân wedi codi pryderon sylweddol am y newidiadau arfaethedig i batrymau shifft yn ardal awdurdod tân canolbarth a gorllewin Cymru. Mae'r undeb wedi rhybuddio y gallai'r newidiadau hyn gael effaith negyddol ar ddiffoddwyr tân sydd â theuluoedd, cyfrifoldebau gofalu, ac y gallent hefyd effeithio ar ganlyniadau pobl sydd mewn trafferth y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb iddynt. Felly, o ystyried y nerfusrwydd y mae'r undeb tân wedi'i fynegi, mae gen i ddiddordeb mewn clywed gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn i wneud yn siŵr nad yw unrhyw batrymau shifft yn cael effaith negyddol ar fywyd teuluol pobl, eu cyfrifoldeb gofalu, a'u gallu i ddarparu'r gwasanaeth rydym i gyd eisiau ei weld?

Diolch, James, am godi hynny. Fel y dywedais i, fe gwrddais i â'r FBU a'r TUC yr wythnos diwethaf, ac rwyf wedi cwrdd â'r holl awdurdodau tân ac achub, y penaethiaid a'r cadeiryddion, yn ystod yr wythnos diwethaf hefyd. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw bod diogelwch diffoddwyr tân yn hollbwysig, ac rwyf wedi bod yn glir bod yn rhaid i bob diffoddwr tân gael system waith diogel a chynhyrchiol. Mae trefniadau gwaith manwl fel patrymau shifft yn fater i reolwyr ac undebau gytuno arnyn nhw, nid y Llywodraeth, ac mae yna hefyd fecanwaith clir trwy'r cyd-gyngor cenedlaethol ar gyfer hyn. Ond fel y dywedais i, rwy'n disgwyl i bawb weithio mewn partneriaeth gymdeithasol pan fydd hyn yn cael ei drafod hefyd.

Diwygio llywodraethiant y gwasanaethau tân ac achub yw'r prif fater yma, rwy'n credu, i Lywodraeth Cymru afael ynddo. Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'r angen i ddiwygio'r llywodraethiant hwnnw, a ysgogwyd, wrth gwrs, gan y canfyddiadau syfrdanol ar ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac a gadarnhawyd yn anffodus eleni gan ganfyddiadau adolygiadau o ddiwylliant gogledd a chanolbarth a gorllewin Cymru, yn galw ar i'r Lywodraeth weithredu ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu. Ac fe'i gwnaethpwyd yn glir yn ein hadroddiad bod canlyniadau cwbl annerbyniol y diffyg gweithredu hwnnw wedi gorfod cael eu dioddef gan staff ac wedi niweidio hyder y cyhoedd mewn gwasanaeth mor bwysig, sydd, wrth gwrs, yn llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth.

Mae'r methiant i gyflawni ar eich Papur Gwyn eich hun yn 2018 yn golygu bod yn rhaid i gamau fod yn radical nawr, ac yn rhai brys. Derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 6 o'n hadroddiad i'r perwyl hwn, ond mae'n swnio fel bod y can yn cael ei gicio i lawr y ffordd unwaith eto. Felly, a allwch chi nodi'n gliriach amserlen o ran y diwygio radical y gallwn ni ddisgwyl ei weld i strwythur gwasanaethau tân ac achub a'u darpariaeth yn y tymor hir? A hefyd yn y tymor byr, sut y byddwch chi'n gwella gallu aelodau awdurdodau tân ac achub i ddwyn gwasanaethau tân ac achub i gyfrif? Mae'n ddigon hawdd dweud 'gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol'—wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn cymeradwyo hynny—ond mae'n rhaid i ni weld rhywfaint o arweinyddiaeth hefyd. 

17:35

Diolch, Sioned. Pan ddywedaf ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, dydw i ddim jest yn dweud hynny—rwy'n golygu hynny, ac rwy'n disgwyl i hynny ddigwydd. Fel y dywedais i, byddwn yn ymgynghori ar y diwygiadau hynny i lywodraethiant dros yr haf. O fy safbwynt i, rydym yn gwneud hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn glir ynghylch lle mae'r amserlen yn dod i ben o ran y Senedd, oherwydd rydym yn dod yn agos iawn. Rwy'n ymrwymedig i wneud popeth rwy'n gallu ei wneud o fewn yr amser sydd gennym yma yn y Senedd hon, felly rwy'n edrych trwy sut allwn ni newid diwygio llywodraethiant trwy is-ddeddfwriaeth, ac, fel y dywedais i, dydw i ddim yn diystyru unrhyw ddiwygiadau pellach chwaith. 

O ran y cymorth rydym yn ei roi i wasanaethau tân canolbarth a gorllewin Cymru a gogledd Cymru, mae'r trafodaethau ar gam cynnar, ond mae'r cynigion sy'n dod i'r amlwg yn cwmpasu ystod o faterion a chymorth ar draws aelodau ac arweinwyr y gwasanaeth tân ac achub ar bob lefel. Fe wnaf i sôn am gwpl o'r cynigion. Un ohonyn nhw yw gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar becyn newydd o hyfforddiant a chymorth i aelodau'r awdurdodau tân ac achub, hyfforddiant i bawb o fewn gwasanaethau tân ac achub sy'n ymwneud â phrosesau disgyblu a chwyno, adolygiad allanol o bolisïau a gweithdrefnau awdurdodau tân ac achub i sicrhau eu bod yn gyson â'r gyfraith ac arferion da cyfredol, cefnogi canolbarth a gorllewin Cymru a gogledd Cymru i sefydlu paneli sicrwydd unigol sy'n cynnwys arbenigwyr sefydliadol a diwylliannol, ac archwilio cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel trwy'r sefydliadau. 

Mae'r rhain yn fentrau pwysig y gellir eu datblygu ar sail Cymru gyfan, felly rwyf wedi agor y rheini i fyny i gomisiynwyr de Cymru hefyd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ac mae'r cymorth hefyd yn cynnwys meysydd mae'r FBU wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru hefyd.

7. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 7, sef Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025. Dwi'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Dawn Bowden. 

Cynnig NDM8860 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Arhoswch am funud ac fe wnaf i gyrraedd fy rhan i. Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein huchelgeisiau o dan y Ddeddf yn cynnwys gwella ansawdd gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig, a sicrhau bod gwybodaeth hygyrch, wrthrychol ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd. Mae'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan y Ddeddf yn ddigon aeddfed i'n galluogi i ddechrau gweithredu system o raddau arolygu cyhoeddedig ar gyfer rhai gwasanaethau rheoleiddiedig fel rhan o weithgarwch arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Mae'r rheoliadau sydd o'ch blaen heddiw, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Sgoriau Arolygu) (Cymru) 2025, yn darparu gofynion ar gyfer graddau arolygu cyhoeddedig ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion a phlant, a gwasanaethau cymorth cartref. Mae'r rheoliadau'n ymdrin â thair agwedd ar y system: arddangos graddau arolygu, apelio yn erbyn graddau arolygu, a throseddau. 

Mae graddau arolygu yn bwysig oherwydd mae pobl yn bwysig, ac mae eu gwasanaethau gofal a chymorth yn bwysig. Bydd graddau yn annog diwylliant o welliant parhaus lle mae darparwyr gwasanaethau yn cael eu hannog i edrych y tu hwnt i gydymffurfiaeth, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bawb maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Bydd graddau yn arddangos rhagoriaeth trwy gydnabod a dathlu gofal o ansawdd uchel. Bydd graddau yn darparu eglurder i bobl sy'n ceisio gofal a chymorth a'u teuluoedd, gan eu galluogi i gymharu ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar yr olwg gyntaf. 

Hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad i'm cyd-Aelodau ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a gallaf gadarnhau bod yr holl faterion a godwyd wedi cael sylw. Rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau i'r Aelodau. 

Does gen i ddim siaradwyr ar yr eitem hon. Rwy'n tybio nad yw'r Gweinidog eisiau ychwanegu unrhyw beth arall. 

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 8, sef Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jeremy Miles. 

Cynnig NDM8862 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

17:40

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o gyflwyno Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 i'r Senedd. Gordewdra yw un o'r prif risgiau i'n hiechyd yng Nghymru. Dyma brif achos nifer o gyflyrau difrifol, gan gynnwys diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd, a rhai mathau o ganser. Mae cysylltiadau hefyd gyda phroblemau orthopaedig, iechyd meddwl gwael ac iselder. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr amgylchedd rŷn ni'n siopa ynddo yn dylanwadu'n sylweddol ar ein dewisiadau bwyd. Mae'r strategaeth hyrwyddo a marchnata sy'n cael ei defnyddio gan y diwydiant bwyd yn dylanwadu ar yr hyn rŷn ni'n ei fwyta ac yn cyfrannu yn y pen draw at lefelau uchel o ordewdra a chanlyniadau iechyd gwael mewn cymundedau.

Er bod y diwydiant bwyd wedi cymryd mesurau gwirfoddol i wella eu hamgylcheddau bwyd, sydd i'w groesawu, mae'r mesurau hyn wedi cael effaith gyfyngedig, gan nad ydynt yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws y diwydiant. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau chwarae teg i fusnesau bwyd ac yn cynyddu cyflymder newid. O dan y rheoliadau, bydd hyrwyddo rhai bwydydd a diodydd sy'n llawn o fraster, halen a siwgr, a'u cyflwyno mewn lleoliadau gwerthu allweddol, yn cael eu cyfyngu mewn busnesau manwerthu canolig a mawr. Bydd ail-lenwi diodydd siwgr am ddim hefyd yn cael eu cyfyngu yn y sectorau manwerthu a thu allan i'r cartref.

Mae'r rheoliadau'n dod â Chymru, i raddau helaeth, yn gyson â'r mesurau sydd eisoes ar waith yn Lloegr. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd heddiw, byddan nhw'n dod i rym y flwyddyn nesaf, ar ôl cyfnod gweithredu o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni'n cefnogi'r diwydiant bwyd a chyrff gorfodi i baratoi, gan gynnwys trwy gyhoeddi canllawiau technegol.

Hoffwn orffen trwy dynnu sylw at le'r rheoliadau hyn wrth amddiffyn ein GIG a lleihau anghydraddoldebau iechyd yma yng Nghymru. Mae adeiladu system iechyd gynaliadwy yn dechrau gyda chefnogi pobl i fyw bywydau iachach heb glefydau neu anabledd. Mae'r rheoliadau hyn yn gam cyntaf cadarnhaol wrth ymgorffori mesurau ataliol yn ein system fwyd.

Rwy'n siarad heddiw nid yn erbyn y nod o fynd i'r afael â gordewdra, rhywbeth yr wyf yn angerddol amdano—rwy'n gwybod bod pob Aelod yn gwybod hynny—ond yn erbyn y dull gweithredu hwn gan Lywodraeth Cymru. Fel rhywun sy'n eirioli'n gryf dros fwy o gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, rwy'n credu bod angen i ni fod yn gwneud mwy i greu amodau sy'n cefnogi byw'n iachach. Mae hynny'n golygu cefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, cynyddu mynediad at weithgarwch corfforol yn yr ysgol a'i gwneud hi'n haws, nid yn anoddach, i bobl wneud dewisiadau iachach.

Gadewch i mi fod yn glir: mae gordewdra yn fater real a chynyddol; does neb yn gwadu hynny. Ond nid y rheoliadau sy'n cael eu cynnig yma heddiw gan y Llywodraeth yw'r ateb. Maen nhw'n cynrychioli dull trwm, o'r brig i lawr a allai greu canlyniadau anfwriadol, yn enwedig i'r teuluoedd hynny sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Bydd y rheolau hyn yn cyfyngu ar sut y gall rai bwydydd—y rhai sy'n uchel mewn braster, sy'n uchel mewn siwgr a halen—gael eu hyrwyddo mewn siopau: gwahardd aml-fargeinion, blocio arddangosfeydd diwedd yr eil, a gwahardd ail-lenwi diodydd siwgr am ddim mewn rhai lleoliadau.

Bydd effaith y rheoliadau hyn yn gwthio cost siopa i deuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru i fyny, yn enwedig i'r rhai sydd ar incwm is, yr union bobl sydd eisoes yn gorfod gwneud dewisiadau anodd wythnos ar ôl wythnos. Os ydym o ddifrif am iechyd y cyhoedd, yna mae angen i ni gefnogi pobl i wneud dewisiadau gwell, nid cymryd dewisiadau oddi wrthyn nhw. Mae hynny'n cynnwys rhoi'r offer a'r wybodaeth i deuluoedd tlotach gael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i fwyta'n dda—boed hynny'n gwella sgiliau coginio, ehangu mynediad at gynnyrch ffres mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, neu wneud bwydydd iach yn fwy fforddiadwy. Dyna lle dylai ffocws y Llywodraeth fod yn fy marn i, nid ar wahardd pethau trwy reoleiddio.

Rydym ni ar y meinciau hyn ar ochr y Ceidwadwyr Cymreig o'r Siambr hon yn credu mewn cyfrifoldeb personol. Rydym yn credu mewn rhoi dewisiadau go iawn i bobl, nid cyfyngu arnyn nhw, ac os ydym am fynd i'r afael â gordewdra yn iawn, yna fe ddylem ni, fel y dywedais i, fod yn buddsoddi mewn chwaraeon, sicrhau bod plant yn cael mwy o gyfleoedd i fod yn weithgar mewn ysgolion, a hyrwyddo'r atebion hynny a arweinir gan y gymuned, nid dim ond atal hyrwyddiadau mewn archfarchnadoedd. Mae hwn yn ddull amlochrog, ond unwaith eto mae'n ymddangos fel darn o ddeddfwriaeth lawdrwm iawn.

Allwn ni ddim anwybyddu rhai o'r pryderon cyfreithiol a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud yn gwirio'r holl reoliadau hyn. Roedd rheoliad 15 yn cyfeirio at y Ddeddf anghywir yn y testun Saesneg. Mae'n gamgymeriad syml, ond mae'n rhywbeth na ddylai ddigwydd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hynny ac wedi addo ei gywiro. Maen nhw wedi diystyru pryderon mwy difrifol am yr amwysedd yn Atodlen 2, lle nad yw'n glir a all cyrff gorfodi dynnu hysbysiadau cosb cychwynnol neu derfynol yn ôl. Mae'r diffyg eglurder hwnnw yn broblem, ac mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn ei anwybyddu. Nid dyna'r ffordd i wneud cyfraith dda yn y wlad hon. Rydym eisiau gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, ac rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fod yn dod â phethau ymlaen sy'n eglur ac sy'n fwy hygyrch mewn gwirionedd o ran y gyfraith, a dydw i ddim yn credu bod diystyru pryderon y pwyllgor yn beth da.

Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: gallwn wneud mwy a rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â gordewdra, ond mae'n rhaid i ni ei wneud mewn ffordd sy'n cefnogi pobl ac sy'n mynd â phobl ar hyd y daith honno, nid mewn ffordd sy'n cosbi pobl, a dydw i ddim yn credu mai gwneud hynny trwy'r pŵer hwn i wneud rheoliadau yw'r ffordd orau o wneud hynny. Mae angen system arnom sy'n gwrando ar bobl ac sydd ddim yn pregethu arnyn nhw, ac am y rhesymau hynny, heddiw, allwn ni ddim cefnogi'r rheoliadau hyn sy'n cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr hon i'n cefnogi ni a gwrthwynebu'r rheoliadau hyn heddiw.

17:45

Wel, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, gordewdra ydy un o'r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein hiechyd cyhoeddus heddiw. Mae'n rhoi pwysau anferthol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, ac yn arwain at ddioddefaint llawer gormod o bobl, gyda chyflyrau angheuol eraill yn dod yn ei sgil. Mae angen gweld camau cadarnhaol er mwyn mynd i'r afael â hyn, ac mae agenda ataliol yn greiddiol i'r perwyl yma. Yn anffodus, mae'r Llywodraeth yma yn ein gadael ni i lawr yn sylweddol yn hyn o beth. Y gwir ydy mai hanner datrysiad sydd yn cael ei gynnig yma heddiw, ac mae'n beryg, heb yr ystod gyfan o bolisïau, mai aflwyddiannus fydd rheoliadau fel yma. Mae'r pren, wrth gwrs, yn arf ddefnyddiol, ond mae'n rhaid cael moron—o gyfieithu term Saesneg—hefyd.

Mae'r rheoliadau, felly, yn gwbl annigonol. Fe soniodd Rhun ap Iorwerth heddiw am gynlluniau Plaid Cymru i wneud taliad uniongyrchol i blant. Dyma bolisi trawsnewidiol a fyddai'n gallu sicrhau bod plant yn cael mynediad at fwyd iach. Mae bwyd â lefelau uchel o halen, siwgr, braster ac yn y blaen yn rhatach na llawer o fwydydd iachach, ond does dim yma yn y rheoliadau ger ein bron i wneud bwyd iach yn rhatach.

Ond yn bwysicach na hyn, mae'r Llywodraeth yma wedi methu â chynyddu'r gyllideb ataliol, ac, yn wir, mae'r gyllideb honno wedi cael ei thorri dros y blynyddoedd, gyda chanolfannau hamdden o dan fygythiad o gau mewn rhannau o Gymru heddiw, wrth ein bod ni'n siarad. Dyma'r camau sydd angen eu cymryd law yn llaw â'r hyn sy'n cael ei awgrymu yma heddiw er mwyn iddyn nhw lwyddo. Mae'r rheoliadau yma'n cynnig newid sylweddol a phellgyrhaeddol, ac mae'n enghraifft berffaith o drafferthion deddfu trwy reoliadau. Felly, maen nhw'n haeddu craffu dwys, a chyfle i bobl Cymru gael rhannu eu barn mewn proses ymgynghorol. Yn anffodus, fel rydyn ni wedi gweld yn llawer rhy aml, mae'r Llywodraeth yma'n gwadu i bobl Cymru yr hawl i graffu polisi mor bwysig er mwyn eu cael nhw i'w ddeall yn well. Dydy'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, er enghraifft, ddim hyd yn oed wedi cael cyfle i'w craffu, a dim ond chwarter awr yn y Siambr heddiw. Mae hyn yn gwbl annigonol. 

Mi wnaf i esbonio pam fod hyn yn bwysig. Fe ges i gyfarfod yn ddiweddar gydag uned gweithredu—yr implementation unit—yn King's College London, ac roedd eu neges nhw'n glir: mae'n rhaid gosod allan yn glir beth ydy pwrpas a bwriadau unrhyw bolisi, a dod â phobl ar y daith er mwyn ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dydy hynny ddim wedi digwydd yn yr achos yma, ac, o ganlyniad, dwi'n ofni y bydd pobl yn gweld hwn fel dim byd mwy na'r Llywodraeth yma unwaith eto yn atal pobl rhag gwneud pethau. Dyna fydd yr argraff gyhoeddus. Mae'r syniad yna wedi cael ei hyrwyddo'n barod dros y misoedd diwethaf, a'r unig sylw cyhoeddus sydd wedi bod ydy mai bwriad y Llywodraeth ydy banio pethau. Mae'n rhaid fframio'r drafodaeth yn glir ac yn gywir, ond mae'r Llywodraeth yma wedi methu â gwneud hynny ac felly'n debygol o golli cefnogaeth gyhoeddus ar fater sydd mor bwysig. Mae yna rhy ychydig o fanylion yma hefyd am sut y bydd y polisi yma'n cael ei weithredu.

Mae iechyd cyhoeddus ein pobl ni'n rhy bwysig i'w gael yn anghywir. Rwy'n eich annog chi i dynnu'r rheoliadau yma yn ôl heddiw, sicrhau proses ymgynghorol gyhoeddus drylwyr er mwyn dod â phobl gyda chi, cydweithio gyda ni i'w gael yn gywir, a chydgyflwyno rhaglen ataliol gynhwysfawr fydd yn golygu argaeledd bwyd iach rhatach, prydau ysgolion ac ysbytai iachach a gwell mynediad at gyfleusterau ymarfer corff, er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn medru mynd i'r afael â gordewdra mewn modd ystyrlon. Diolch.

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

17:50

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfraniadau i'r ddadl. Cymerodd llefarydd y Ceidwadwyr yr ymagwedd arferol o gytuno â'r egwyddor, ond gwrthod dilyn y camau ymarferol sy'n ofynnol i gyflawni'r egwyddor honno. Mae'r cyfyngiadau yn y rheoliadau wedi'u cynllunio, i bob pwrpas, i gyfyngu ar brynu bwyd afiach, fel creision a siocledi, ar fympwy. Nid yw'r safbwyntiau y cyfeiriodd atyn nhw yn ei gwestiwn yn cael eu hadlewyrchu ym marn y mwyafrif o fanwerthwyr, sydd wedi croesawu cydweithio â'r Llywodraeth mewn perthynas â'r cyfyngiadau hyn. Fe alwodd am ymagwedd amlochrog, tra'n gwrthwynebu un o'r agweddau allweddol ar gyflwyno dull o'r fath, ac yna rhestrodd ystod o bethau rwy'n cytuno ag ef sy'n bethau sy'n elfen angenrheidiol i sicrhau'r math o ddull cytbwys o fynd i'r afael â gordewdra. Mae'r holl bethau a restrodd yn bethau mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud. Felly, mae'n iawn i ddweud bod angen ystod o ysgogiadau er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sy'n fater cymhleth, felly mae'n siomedig ei fod, fel mater o egwyddor, yn gwrthod cefnogi un o'r ysgogiadau allweddol hynny.

O ran cyfraniad llefarydd Plaid Cymru, byddwn i'n nodi, mewn perthynas â'i alwadau am gyllid ar gyfer atal, pe bai ei blaid wedi llwyddo yn eu hymdrechion i flocio cyllideb y Llywodraeth, ni fyddai ceiniog wedi bod ar gael i ariannu atal. Gall Aelodau ysgwyd eu pennau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am ganlyniad eu penderfyniadau, a dyma un o'r canlyniadau hynny. Rwy'n siŵr, yn anfwriadol, bod cyfraniad llefarydd Plaid Cymru yn gamarweiniol o ran natur yr ymgynghoriad. Mae dau ymgynghoriad 12 wythnos llawn wedi bod mewn perthynas â'r cynigion rheoleiddio. Cafwyd 422 o ymatebion. [Torri ar draws.] Cafwyd 422 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar amgylchedd bwyd iach, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u hystyried. Mae'n iawn i ddweud y dylai'r cyhoedd allu lleisio eu barn mewn perthynas â'r rhain, ac maen nhw wedi lleisio eu barn, ac mae'r ymatebion hynny wedi'u hystyried yn llawn, fel y mae'n iawn i'w wneud. Yng ngoleuni'r cyfraniadau hynny, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Aelodau yn cefnogi'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 9, sef Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025, a dwi'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Dawn Bowden.

Cynnig NDM8861 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r rheoliadau sydd o'ch blaen heddiw yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac maen nhw'n diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015. Mae'r diwygiadau yn gwneud newidiadau i reoliad 19 o'r prif reoliadau sy'n ymwneud â sefydlu a chynnal cronfeydd cyfunol i alluogi cyrff partneriaeth i fod yn fwy hyblyg yn y ffordd maen nhw'n cronni arian wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â llety cartrefi gofal i bobl hŷn. Nod y diwygiadau hyn yw cryfhau trefniadau partneriaeth ranbarthol ac, yn benodol, rôl byrddau partneriaeth rhanbarthol. Diolch, Llywydd.

Diolch am y cyflwyniad yna. Dwi yn pryderu ychydig am y newidiadau arfaethedig o'n blaenau ni heddiw, oherwydd, unwaith eto, dwi am fynegi fy mhryder am y broses yma o ddeddfu, a deddfu trwy reoliadau heb broses graffu fwy llawn, heb fod yna fwy o lais cyhoeddus yn cael cymryd rhan yn y broses honno.

I fynd i fanylion y rheoliadau sydd ger ein bron ni, mae'r cynnig yma sy'n cael ei gyflwyno yn rhoi hyblygrwydd i gyrff partneriaethau rhanbarthol wrth edrych ar eu cyllidebau. Ac mae'n edrych, felly, fel cam yn ôl, o beth dwi'n ei weld. Mae'r holl waith dwi wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod methiant byrddau rhanbarthol i 'pool-io' cyllideb yn arwain at drafferthion yn y ddarpariaeth o wasanaeth. Oherwydd bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cael eu mesur yn ôl eu gwaith a'u llwyddiannau yn ôl y ffiniau y maen nhw'n gweithio oddi mewn iddynt, does yna ddim incentive, felly, iddyn nhw gydweithio gyda'i gilydd. Gall hyn arwain at fwy o bobl yn disgyn rhwng y bylchau yna dŷn ni wedi'u gweld gan nad ydy byrddau yn cydweithio gyda'i gilydd. Gall hyn hefyd fod yn gam yn ôl yn ein bwriad ni i uno iechyd a gofal cymdeithasol. Dyna fy mhryderon i. Dwi'n edrych ymlaen at glywed beth fydd yr ateb i'r pryderon yna.

Dwi yn pryderu fod yna oblygiadau, felly, anfwriadol i'r rheoliadau yma heddiw. Felly, ydy'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod hyn? Ac oes gyda chi gynlluniau er mwyn atal hyn rhag digwydd, a sicrhau bod cyrff yn cydweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau cysondeb darpariaeth ar draws Cymru? Diolch.

17:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod hyn yn ymwneud â rhoi mwy o hyblygrwydd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nid endidau cyfreithiol mohonyn nhw, ac felly maen nhw'n dibynnu ar greu perthynas a gweithio mewn partneriaeth i'r partneriaid gyflawni ar gyfer ein cymunedau, a dyna beth mae'r rheoliadau diwygiedig hyn yn gweithio tuag ato, i'w helpu i gynyddu eu trefniadau cyllidebu cyfunol. Bwriad y rheoliadau mewn gwirionedd yw helpu i gyflawni dull mwy cyson o gyflawni comisiynu ar y cyd ar draws ein holl gymunedau. Felly, yr hyn y mae'r rheoliadau yn bwriadu ei wneud yw'r union beth rydych chi newydd ei nodi yn eich cyfraniad, i helpu partneriaid i weithio'n fwy cydweithredol gyda'i gilydd, ond o fewn yr hyblygrwydd sy'n caniatáu iddyn nhw gyfuno eu hadnoddau mewn ffordd sy'n bodloni gofynion eu cymuned leol. Felly, rhoddodd y broses ymgynghori gyfle i bob partner roi eu barn, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried eu barn wrth gynnal yr adolygiad ôl-ymgynghorol o'r rheoliadau, sydd wedi arwain at y rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ger eich bron heddiw. A Rhan 9 o'r canllawiau diwygiedig sy'n cefnogi'r rheoliadau a fydd yn darparu ystyriaeth bellach o farn ac adborth y partneriaid ehangach, er mwyn sicrhau newid effeithiol.

Mae hefyd yn bwysig dweud bod y rheoliadau hyn a'r rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth ehangach wedi bod yn destun asesiad effaith cadarn iawn, ac mae'r rheoliadau ehangach hefyd wedi'u hasesu o ran eu heffaith, ac nid oes unrhyw effeithiau andwyol wedi'u nodi yn y meysydd a ardystiwyd gan yr asesiad.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Dadl: Ystad y Goron

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 10 heddiw yw'r ddadl ar Ystad y Goron, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8863 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r cyfle ar gyfer ynni gwynt ar y môr, 4.5 GW ar ffurf arnofiol ac o leiaf 3 GW ar sylfeini, o broses lesio Ystad y Goron.

2. Yn galw ar Ystad y Goron i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a’r manteision i bobl Cymru yn sgil ei gweithgareddau.

3. Yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, yn unol ag argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac yn nodi'r trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU ar y pwnc hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Croesawaf y cyfle i agor y ddadl hon. Rydym ni o'r farn ers tro byd y dylid datganoli Ystad y Goron yng Nghymru i Gymru. Mae eisoes wedi'i datganoli i Lywodraeth yr Alban, ac mae amryw o gomisiynau annibynnol wedi argymell y dylid ei datganoli yng Nghymru. Mae'n amlwg o nifer y cynigion sy'n cael eu pasio ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol ledled Cymru bod gwir gonsensws yn ffurfio. Mae Gweinidogion Cymru wedi codi hyn gydag amryw o Weinidogion Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Ariannol i'r Trysorlys, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a Changhellor y Trysorlys.

Fodd bynnag, ni fydd datganoli Ystad y Goron yn digwydd dros nos, rwy'n ymwybodol iawn ein bod ni ar gam tyngedfennol ar gyfer prydlesu rownd 5 o gynlluniau ynni gwynt yn y Môr Celtaidd. Mae hyder buddsoddwyr yn o ran yr hinsawdd a pholisi gwleidyddol yn hanfodol i ddod â graddfa'r buddsoddiad rydym ni am ei weld i Gymru. Mae Ystad y Goron wedi chwarae rhan bwysig wrth ddenu buddsoddiad rhyngwladol i Gymru, i gefnogi targed sero net y DU, a bydd yn parhau i wneud hynny drwy rowndiau prydlesu ar gyfer datblygiadau gwynt ar y môr yn y dyfodol. Mae'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi blaenoriaethau ar y cyd, gan sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu rheoli'n gynaliadwy am y tymor hir. Byddaf yn awr yn tynnu sylw at rai o'r meysydd hyn.

O ran cynllunio morol, mae gan Ystad y Goron 20 mlynedd o brofiad mewn cynllunio gofodol morol ac mae'n defnyddio data a dulliau arloesol i greu canllaw cyflenwi morol a fydd yn ein cefnogi o ran y posibiliadau ar gyfer defnyddio gwely'r môr yn y dyfodol. Mae'r dystiolaeth hon yn rhan annatod o'n gwaith i gynllunio ar gyfer datblygu gwynt ar y môr a diwydiannau allweddol eraill a fydd yn cefnogi ein trawsnewidiad i ddyfodol ffyniannus, carbon isel. Mae hyn yn cynnwys datblygu meysydd adnoddau strategol cynllunio morol arloesol, i ddarparu sicrwydd ar argaeledd tymor hir ardaloedd allweddol sydd â photensial i gefnogi gweithgarwch yn y dyfodol.

Mae gennym ni berthynas ardderchog ag Ystad y Goron, ac rydym ni'n cefnogi'r gwaith o gyflawni polisïau a buddsoddiadau yng Nghymru drwy ddeialog adeiladol a thrwy waith ar y cyd lle bynnag y bo modd. Rydym ni wedi galw ers amser maith am fwy o eglurder ynghylch y cynllun buddsoddi ar gyfer datblygiadau gwynt ar y môr yn y dyfodol. Mae Ystad y Goron wedi gwrando ac wedi rhoi arwydd o hyd at 12 GW arall yn y Môr Celtaidd, fel y nodir yn yr adroddiad 'Dyfodol Gwynt ar y Môr', ochr yn ochr â nodi ffyrdd y byddant yn lleihau risg projectau. Ac mae hwn yn faes lle byddaf yn parhau i weithio gydag Ystad y Goron unwaith y bydd y prydlesu rownd 5 presennol hwn wedi dod i ben.

Mae sefydlu cynlluniau ynni gwynt llwyddiannus yn y Môr Celtaidd nid yn unig yn ymwneud â chefnogi'r trawsnewidiad ynni neu'r arloesedd technolegol wrth symud i strwythurau arnofiol, ond am sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno i'r economi a'n cymunedau yng Nghymru. Ac mae gwobr sylweddol iawn ar gael, gydag ymchwil yn dangos y gellid creu mwy na 5,000 o swyddi drwy gam adeiladu prosiectau rownd 5 yn unig, ynghyd â chyfleoedd di-ri trwy gadwyn gyflenwi newydd.

Mae'r rownd brydlesu bresennol hon yn edrych yn wahanol iawn i rowndiau blaenorol. Mae ei ddyluniad yn newid sylweddol mewn dull gweithredu ac mae wedi gweld Ystad y Goron yn buddsoddi mewn nifer o gamau pwysig i leihau rhai o'r risgiau y gallai datblygwyr eu hwynebu wrth geisio defnyddio technoleg newydd ar raddfa sylweddol. Mae dyluniad y rownd brydlesu yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygwyr ddangos sut y bydd y prosiectau yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol, er enghraifft trwy eu cynlluniau ar gyfer datblygu sgiliau, caffael cynaliadwy a diogelu'r amgylchedd morol. Dyluniwyd pecyn cyllido i gyflymu'r gadwyn gyflenwi gwerth £50 miliwn gan Ystad y Goron i gataleiddio datblygiad cam cynnar prosiect i ddatblygu capasiti cadwyn gyflenwi newydd, ac yn y rownd gyntaf gwelwyd pum prosiect llwyddiannus a allai gael effaith yng Nghymru yn elwa o'r cyllid hwn. Edrychwn ymlaen at weld y gadwyn gyflenwi hon yn cyflymu yn y dyfodol ac yn annog busnesau Cymru i wneud cais.

Fel rhan o'r strategaeth o liniaru risgiau, mae Ystad y Goron wedi gweithio i sicrhau y bydd cysylltiad grid ar gael ac mae hefyd yn gweithio i leihau effaith y Môr Celtaidd ar unrhyw grid ar y tir, a byddwn yn parhau i eiriol dros wneud y mwyaf o'r cyfleoedd o fewn Ystad y Goron. Yn ogystal, yn dilyn y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystad y Goron. Does dim rheswm i Gymru gael ei thrin yn wahanol i'r Alban. Argymhellodd y comisiwn trawsbleidiol ddatganoli ac fe wnaeth y Senedd gymeradwyo'r farn honno. Ac rwy'n gobeithio y gellir cynnal y gefnogaeth honno trwy gefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.

18:00

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 1, yn enw Heledd Fychan. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymhellach fod dros dri chwarter o awdurdodau lleol Cymru wedi pleidleisio o blaid datganoli Ystad y Goron, ac mai £853 miliwn oedd gwerth ei hasedau yng Nghymru yn 2023.

Yn gresynu am y cyfleoedd a gollwyd yn ystod proses Bil Ystad y Goron a bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i ddatganoli.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i dylanwad ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Ystad y Goron yn cael ei datganoli'n llawn i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd gan Heledd Fychan. Mae'n ddadl i'w chroesawu mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod yn rhaid dweud, pe bawn i'n aelod o Lywodraeth Cymru, y byddwn i'n cywilyddio ac yn hynod o flin ar hyn o bryd. Dyma ni eto, dadl arall ar Ystad y Goron, a byddwn yn gweld yr hyn rydym ni'n ei weld bob amser: byddwn yn gweld Aelodau Llafur o'r Senedd yn codi i leisio eu cefnogaeth gref i'w ddatganoli, dim ond iddyn nhw wedyn gael eu tanseilio gan gyd-Aelodau Llafur yn San Steffan. Nawr, mae hi wedi cyrraedd sefyllfa lle nad wyf yn credu mewn gwirionedd bod y gwrthwynebiad gan Aelodau Seneddol Llafur yn unig oherwydd ideoleg; mae i'w weld nawr nad ydyn nhw'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru i'w rheoli'n iawn, sy'n amlwg yn y ffaith y byddai'n well ganddyn nhw benodi comisiynydd Ystad y Goron na rhoi rheolaeth yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Mae'n hollol gywilyddus, ond gadewch i ni, wrth gwrs, weld a oes gan unrhyw Aelod Llafur o'r Senedd yr asgwrn cefn i gondemnio'r ffordd y pleidleisiodd eu cyd-Aelodau yn erbyn y gwelliant a gyflwynwyd gan Llinos Medi i Fil Ystad y Goron, a oedd yn galw am ei datganoli. Heb os, byddwn yn eu gweld yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Plaid Cymru a fyddai'n gwneud yn union hynny. Mae'n eithaf anghredadwy bod Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw pan ei fod yn rhan o bolisi eu plaid. Mae'n eithaf anghredadwy, yn wyneb y ffaith bod 17 o 22 awdurdod lleol y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gywir eu bod yn cefnogi ei datganoli, bod Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn- wedi pleidleisio yn erbyn mwyafrif y cyhoedd yng Nghymru. Mae saith deg pump y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi ei datganoli.

Nawr, nid yw dadleuon Llywodraeth y DU yn erbyn datganoli yn dal dŵr o graffu arnyn nhw. Maen nhw'n honni y byddai'n darnio'r farchnad ynni ac yn oedi'r broses o ddiwygio cysylltedd grid, ond, mewn gwirionedd, mae'r system bresennol eisoes yn oedi prosiectau. Byddai gan Ystad y Goron yn nwylo Cymru o leiaf y gallu i ddechrau datblygiadau newydd, gosod telerau buddsoddi a sicrhau bod cyfyngiadau seilwaith yn cael eu datrys er budd Cymru. Gellid cyflawni popeth a ddywedwn ni yr hoffem ni ei ariannu'n well o'r refeniw a gynhyrchir. Ac wrth gwrs rydw i wedi clywed y ddadl y byddai'r grant bloc yn cael ei leihau pe cai Ystad y Goron ei datganoli—mae'n debyg y byddwn yn clywed hynny heddiw ar ryw adeg. Do, fe ddigwyddodd yr un peth i'r Alban—gostyngwyd grant bloc yr Alban £10 miliwn, ond, yn 2023-24, y refeniw a gynhyrchwyd o'i datganoli oedd £113 miliwn. Felly, nid yw'n cymryd llawer i weld y budd net i'r Alban.

Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro dros ddatganoli Ystad y Goron yn llawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldeb a chyflawni rhywfaint o fudd o'r bartneriaeth rym honedig hon. Nid mater cyfansoddiadol yn unig yw hwn; mae'n fater o degwch, buddsoddiad a hawl Cymru i reoli ei hadnodd ei hun, hawl sydd wedi'i gwrthod yn hanesyddol ond y gellir ei chywiro, yn y dyfodol.

18:05

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 3.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn fyr, hanfod y ddadl hon yw'r cwestiwn canolog a ddylai Ystad y Goron gael ei datganoli i Gymru. Yn bendant ddim. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, fe hoffwn i weld y £1.4 biliwn hwnnw i'n heconomi. Nid ydym ni yn barod i beryglu hynny, y risg o ddarnio marchnad, o danseilio neu o bosibl dinistrio hyder datblygwyr mewn llif, ac yna mae'n rhaid i ni wylio'r buddsoddiad hwnnw'n mynd i rywle arall yn y byd. Eisoes, mae gan y DU sector gwynt ar y môr sy'n arwain y byd. Mae pedwar deg tri y cant o holl gapasiti gwynt ar y môr Ewrop bellach yn seiliedig ar ddyfroedd y DU. Mae pob gigawat o wynt newydd ar y môr yn ychwanegu gwerth o £2 biliwn i £3 biliwn i economi'r DU. Fodd bynnag, fel y mae RenewableUK, Cyngor y Diwydiant Gwynt ar y Môr, Ystad y Goron ac Ystad y Goron yr Alban wedi rhybuddio, mae'r byd wedi deffro i'r llwyddiant rydym ni wedi'i arloesi yma yn y DU, ac mae'r cynlluniau byd-eang o brojectau gwynt ar y môr wedi mwy na dyblu ers 2022. Yn fyd-eang, mae 120 o genhedloedd wedi ymrwymo i dreblu capasiti ynni adnewyddadwy erbyn diwedd y degawd. Mae angen i gadwyni cyflenwi ehangu'n gyflym i fodloni'r galw newydd hwn, ac mae gwledydd eisoes yn dechrau dod i'r amlwg mewn rhai elfennau allweddol. Mae sicrhau'r gadwyn gyflenwi angenrheidiol yn hanfodol, nid darnio marchnad aeddfed y genedl hon. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd galw am fwy na 900 o lafnau a 300 o dyrau rhwng 2024 a 2030, felly mae'n rhaid i'n cenedl sicrhau'r capasiti hwnnw. Rhagwelir y bydd oedi gyda cyflenwad-galw byd-eang mor gynnar â 2026 ar gyfer sylfaeni gwaelod tyrbinau sefydlog ac yn 2029 ar gyfer cynlluniau arnofio. Rhaid i ni ganolbwyntio ar gynyddu'r capasiti hwnnw. Disgwylir i gyfyngiadau cyflenwi effeithio ar Ewrop a chyflenwad byd-eang yn y ddwy i dair blynedd nesaf ar gyfer ceblau allforio arae ac alltraeth, felly mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar gynyddu'r capasiti hwnnw.

Mae'r sector adnewyddadwy yn dod hyd yn oed yn fwy cystadleuol yn fyd-eang, ond mae arnoch chi eisiau tynnu sylw oddi wrth y gwir broblem o angen cynyddu capasiti drwy beryglu twf cyflym yn y sector yma yng Nghymru yn y dyfodol drwy ddatganoli Ystad y Goron. Ac nid gwynt yn unig ydyw—[Torri ar draws.] Ie.

Wel, yn gyntaf, ar hyn o bryd, rydym yn cael—. Mae ad-daliad i Gymru o—[Torri ar draws.] Oes, mae yna. O, oes, mae yna.—[Torri ar draws.] Oes, o ran y grant bloc, ac mae hynny'n dod i Gymru. Bydd hynny'n cael ei leihau os bydd Ystad y Goron yn cael ei datganoli. Ond ni fyddwn i—[Torri ar drws.]

Janet, arhoswch funud. Dim sgyrsiau ar draws y Siambr, os gwelwch yn dda. Mae'r Aelod wedi ymateb i ymyriad a gadewch iddi felly barhau â'i chyfraniad.

Diolch. Mae'r prosiect storio carbon HyNet gwerth £17.7 biliwn yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru. Dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yn y DU, gan ei fod yn defnyddio seilwaith presennol. Fel y profir gan y prosiect cyffrous hwnnw, mae Ystad y Goron bellach yn gweithio i ddatblygu cyfleoedd prydlesu ar gyfer storio carbon fel blaenoriaeth yn rhan o'i rôl fel rheolwr gwely'r môr o amgylch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid gofyn mewn difrif, pe bai Ystad y Goron eisoes wedi'i datganoli i Gymru, a fyddai HyNet wedi mynd ymlaen yn y ffordd wych y mae wedi hyd yma? Dydw i ddim yn meddwl. Mae Ystad y Goron wedi derbyn mewnbwn gan 15 o 22 o ddatblygwyr sy'n ymwneud ar hyn o bryd â storio carbon ar draws y DU. Mae'r ymatebion cyfunol yn datgelu dyhead clir i ddatblygu nifer fawr o safleoedd storio carbon deuocsid ar draws gwahanol leoliadau ar wely'r môr y DU - gallai fod cymaint â 37 erbyn 2035. Ond maen nhw wedi ei gwneud yn glir eu bod am weld prosesu mwy syml ar gyfer prydlesu a thrwyddedu safleoedd storio. Felly, yn hytrach na gwneud y system yn fwy syml, yr hyn y mae Aelodau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn y Senedd hon yn gobeithio amdano yw gwneud y broses yn fwy biwrocrataidd a chymhleth. Rydym ni i gyd yn gwybod bod Ystad y Goron yn rheoli rowndiau prydlesu yn effeithlon ac wedi profi perthynas gadarnhaol â datblygwyr. Er gwaethaf y llwyddiant mawr hwnnw, er bod Cymru a'r DU yn arwain y byd o ran ynni adnewyddadwy, ac er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol gan 120 o genhedloedd eraill, mae Plaid a Llafur yma yn y Senedd yn credu ei bod yn ddoeth dechrau Cymru o'r dechrau. Fel y gwyddom ni o brofiad Ystad y Goron yn yr Alban, mae angen deddfwriaeth yn Senedd y DU i ddatganoli'r cyfrifoldeb hwnnw, ac maen nhw wedi ei gwneud hi'n glir nad oes ganddyn nhw ddiddordeb. Yna bydd angen deddfwriaeth yn Senedd Cymru i sefydlu corff Ystad y Goron Cymru . Bydd yn rhaid i chi benodi bwrdd, swyddogion gweithredol, uwch reolwyr a thîm cyfan o staff—

18:10

Iawn, o'r gorau. Dylid treulio ein hamser yn Senedd Cymru ar fynd i'r afael â'r problemau gwirioneddol sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru, nid eich obsesiwn cyson â datganoli pellach fel y gallwch chi gymryd cam yn nes at weld Cymru yn annibynnol, ond, ar yr un pryd, gan ein gadael ni mae'n debyg â thwll du blynyddol o £13 biliwn. Diolch.

Nid yw'n syndod, wrth gwrs, i Geidwadwr gyflwyno safbwynt Ceidwadol; byddai'n fwy o syndod pe na bai hi. Yr hyn sy'n fwy o syndod yw'r ffaith ei bod yn ymddangos ei bod wedi darllen araith gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i Dŷ'r Cyffredin bythefnos yn ôl. Yr hyn sy'n siomedig yw bod y Prif Ysgrifennydd wedi cyflwyno dadleuon tebyg iawn i Dŷ'r Cyffredin. Gofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf ar Pawb a'i Farn ar S4C pam mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu datganoli Ystad y Goron, ac roedd yn rhaid i mi ddweud y gwir, wrth gwrs, a'r gwir yw nad wyf yn gwybod yr ateb i hynny. Nid wyf yn gwybod pam mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu datganoli Ystad y Goron, oherwydd, i mi, mae'r cwestiwn o ddatganoli Ystad y Goron yn hynod ymarferol, ond hefyd yn hynod athronyddol.

Aeth aelodau'r pwyllgor diwylliant bythefnos yn ôl i Big Pit, ac fe aethom ni ar y daith danddaearol. Wrth i chi fynd trwy'r twneli hynny ac wrth i chi ddilyn y llwybrau cerdded hynny, rydych chi'n cofio eto sut y cafodd pobl neu ddynion de Cymru, yn enwedig o fy nghefndir i, eu hecsbloetio am y cyfoeth a grëwyd ganddyn nhw ar gyfer perchnogion y pyllau glo, yr ymerodraeth a phopeth arall. A beth oedd ar ôl, Janet? Beth oedd ar ôl yng Nghymoedd de Cymru? Fe ddyweda i wrthych chi: salwch, afiechyd a thlodi. Dyna oedd y gwaddol. Adeiladwyd y neuaddau lles, neuaddau y gweithwyr a phopeth arall gan y glowyr eu hunain. Adeiladwyd popeth o werth yn y Cymoedd hynny a adawyd gan y diwydiant gan weithwyr y diwydiant hwnnw a'r cymunedau hynny eu hunain.

Ac, eto, ganrif a dwy ganrif yn ddiweddarach, mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylid ecsbloetio adnoddau naturiol Cymru er budd eraill. Nid yw'r Ceidwadwyr wedi newid eu barn ers canrif, ac nid oedden nhw'n mynd i wneud hynny y prynhawn yma. Rydym ni wedi gweld gan Janet y prynhawn yma yn union y dadleuon hynny. Nid yw Cymru'n ddigon da, nid ydym yn gallu cefnogi a chynnal ein hadnoddau naturiol ein hunain. Rwy'n ildio.

Rydych chi wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr yn gwbl gywir yn y fan yna. Ydych chi'n derbyn bod hynny'n wir am Aelodau Llafur yn San Steffan hefyd?

Dywedais ar ddechrau fy araith nad wyf yn deall safbwynt Llywodraeth Lafur y DU, ac rwy'n siomedig ynddo. Rydw i wedi bod yn hollol glir ar hynny. I mi, mae hyn yn ymwneud â'r hyn y mae sosialaeth yn ei olygu, a'r fan yma—ac rwy'n cofio'r dadleuon yn y 1990au a'r 1980au ynglŷn â sefydlu Senedd i Gymru. Roedd yn ymwneud â'n hadnoddau fel gwlad a'n hadnoddau fel cenedl, a phwy sy'n elwa o'u hecsbloetio. Mae'n ymarferol a hefyd yn hynod athronyddol ynglŷn â phwy ydym ni fel gwlad, ac ai pobl Cymru, ai ein pobl ni, ein cymunedau ni a ddylai elwa o ecsbloetio ein hadnoddau? Ac, i'r Llywodraeth hon, yr ateb yw 'ie' syfrdanol—ein pobl ni a'n cymunedau ni ddylai elwa o hynny.

Darllenais y ddadl—mae'n amser hir ers i mi ddarllen Hansard, mae'n rhaid i mi ddweud; efallai y dylwn i ei ddarllen yn amlach, wn i ddim—a ddigwyddodd yn Nhŷ'r Cyffredin rai wythnosau yn ôl. Mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wrando ar y Prif Ysgrifennydd, y byddech chi wedi meddwl mai'r cynnig oedd bod rheolaeth Ystad y Goron yng Nghymru yn cael ei drosglwyddo nid i Ystad y Goron Cymru neu o dan reolaeth y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, ond i reolaeth rhyw bŵer tramor gelyniaethus, oherwydd cyflwynwyd yr holl ddadleuon a gyflwynwyd gan Janet: darnio'r farchnad—wrth gwrs, mae hynny'n effeithio ar Gymru, ac nid yw'n effeithio ar yr Alban; yr holl anawsterau o greu endid newydd, y mae Janet wedi'i esbonio—yn y modd hwnnw, ni fyddai gennych chi unrhyw sefydliad Cymreig o gwbl, wrth gwrs, pe baech chi'n dilyn y ddadl honno; niwed i hyder buddsoddwyr rhyngwladol—fel pe baem ni erioed wedi clywed am Liz Truss; tarfu ar gysylltedd y grid—pam mae er budd Cymru i amharu ar gysylltedd y grid?; arafu'r broses o gyrraedd sero net—fel pe byddai gan y Senedd hon a'r Llywodraeth hon yr un amheuaeth ynghylch sero net ag a welsom ni gan blaid Janet ac eraill; tarfu ar fuddsoddiadau presennol; peryglu'r cynlluniau arfaethedig o ddatblygu cynlluniau gwynt ar y môr; creu amgylchedd gweithredu cymhleth; ddim yn fasnachol hyfyw. Wyddoch chi, mae'n rhaid bod y gweision sifil yn yr adran honno wedi troi at eu teclyn deallusrwydd artiffisial neu beth bynnag, a dweud, 'Rhowch i mi bob dadl bosibl i wrthwynebu datganoli Ystad y Goron', ac fe wyntyllwyd pob un ohonyn nhw; cânt eu hargraffu a'u darllen ar y cofnod.

Y gwir amdani yw bod hon yn ddadl syml iawn ac mae'n ddadl y mae'n rhaid i ni ei chael ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd y cyflwynodd y ddadl hon. Nid wyf yn credu rhai o'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno, y bydd datganoli Ystad y Goron yn arwain at gyfoeth diddiwedd, di-rif. Ond rwyf yn credu y bydd yn rhoi pwerau sylweddol i ni greu polisi ynni yng Nghymru sydd o fudd i bobl Cymru. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn bwynt ac egwyddor bwysig iawn. Credaf fod yna bwynt o egwyddor ynglŷn â phwy sy'n berchen ar Gymru. Rwy'n credu y dylai'r Senedd hon ac rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth hon fod â'r gallu i fanteisio ar yr adnoddau hynny, ac yna rwy'n credu bod yna'r ffordd rydym ni'n symud yn y farchnad. Ac nid wyf yn derbyn y dadleuon bod, rywsut, yr unig ffordd y gall y farchnad hon weithio yw os gwneir pethau ar sail Cymru a Lloegr—

18:15

Byddaf yn gorffen nawr. Defnyddiodd Janet y term 'y Deyrnas Unedig' dro ar ôl tro yn ei haraith. Nid corff y Deyrnas Unedig mohono; mae gan yr Alban, wrth gwrs, ei chyfleusterau ei hun ac felly dylai Cymru. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n cefnogi datganoli Ystad y Goron ac rwy'n credu y dylem ni ymuno gyda'n gilydd—a byddwn yn estyn llaw cyfeillgarwch i'n ffrindiau Ceidwadol. Rydych chi wedi cael dwy ganrif o wrthwynebu bod Cymru'n elwa o'n hadnoddau naturiol; efallai ei bod yn bryd i chi ailystyried rhai o'r dadleuon hynny erbyn hyn.

Ddechrau mis Chwefror eleni, fe wnes i dynnu sylw’r Siambr hon at yr arian y mae siroedd y gorllewin rhyngddyn nhw yn ei dalu i Ystad y Goron yn flynyddol er mwyn cael caniatâd a mynediad cyhoeddus i’w tir—ffigur a ddatgelwyd gan geisiadau rhyddid gwybodaeth gan fy swyddfa i. Mae dros £100,000 yn llifo o gynghorau Ceredigion, sir Benfro a sir Gâr i goffrau’r Trysorlys yn Llundain a’r teulu brenhinol bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, £27,000 y flwyddyn ar gyfer mynediad at afon ac arfordir Teifi yng Ngheredigion, ac mae sir Benfro yn talu £59,000 y flwyddyn, gan gynnwys am farchnadoedd, canolfannau hwylio, pontydd a meysydd parcio. Anfonwyd y ceisiadau FOI gan fy swyddfa i yn sgil y stori, hefyd, fod Cyngor Gwynedd wedi talu dros £160,000 o arian cyhoeddus i Ystad y Goron yn 2023, ac roedd hyn yn cynnwys rhyw £35 ar yr ochr isaf am ddarn o draeth Bangor, £8,500 ar gyfer darnau o draethau yn Nwyfor, a swm enfawr o £144,000 am farina hafan Pwllheli.

Nawr, daw’r ddadl hon ar adeg pan fo sefyllfa ariannol ein cynghorau ar ei gwaethaf ers cenedlaethau. Ers 15 mlynedd bellach, oherwydd toriadau ariannol dan Lywodraethau glas a choch yn San Steffan, mae awdurdodau lleol wedi cael eu gorfodi i gwtogi gwasanaethau cyhoeddus a chodi treth cyngor. Mae hyn, wrth gwrs, wedi cael ei waethygu gan yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Y neges syml dwi’n ei chlywed gan gynghorau yw hyn: does dim ceiniog ar ôl i’w dorri. 

Sut ar y ddaear, felly, mae posibl cyfiawnhau, yn yr oes o lymder rŷm yn ei hwynebu, anfon dros £100,000 y flwyddyn dros y ffin i Lywodraeth Prydain ac i un o’r teuluoedd mwyaf cyfoethog yn y Deyrnas Unedig, os nad y byd? Yn fwy na hynny, mae ein cymunedau ar eu colled oherwydd diffyg rheolaeth leol dros yr adnoddau naturiol, fel yr oedd Alun Davies yn sôn yn huawdl amdano, a ddylai fod yn perthyn iddyn nhw, yn arbennig cyfleoedd i ddatblygu ynni gwynt ar y môr.

Os ydyn ni am wireddu economi werdd y dyfodol, wedi’i seilio ar berchnogaeth leol o eiddo, yr hyn yr oedd y diweddar Sel Williams o Brifysgol Bangor yn ei ddisgrifio fel 'cymunedoli’, mae rheolaeth ganolog o dir Cymru gan Lundain yn rhwystr enbyd i hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ers amser maith, fel yr ydym ni wedi clywed eto heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, yr egwyddor o ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi dweud y byddai datganoli'r ystad yn rhoi mwy o ymreolaeth i Gymru ac yn galluogi cydlynu refeniw yn well, gyda'r incwm ar gael i Lywodraeth Cymru gyflawni ein blaenoriaethau.

Yn anffodus—unwaith eto, mae wedi cael ei adleisio eisoes y prynhawn yma—nid yw ei chymheiriaid yn Llundain o'r un farn. Pan gafodd yr Aelodau Llafur yn San Steffan gyfle i bleidleisio o blaid cynnig Llinos Medi i ddatganoli Ystad y Goron i Gymru, fe wnaethant bleidleisio yn erbyn. Aeth Henry Tufnell, sy'n cynrychioli Canolbarth a De Sir Benfro, yn fy rhanbarth fy hun, mor bell â dweud bod y syniad, ac rwy'n dyfynnu, 'ar gyfer yr adar'. Felly, pa Blaid Lafur ydym ni'n ei chredu—y gwrth-ddatganolwyr yn San Steffan neu'r Aelodau Llafur blaengar yn y Siambr hon, sy'n credu yn y manteision enfawr y byddai Cymru yn eu mwynhau drwy ddatgloi miliynau o bunnoedd i economi Cymru?

Nawr, sicrhaodd yr Alban ddatganoli Ystad y Goron flynyddoedd yn ôl, o dan Janet, Llywodraeth Geidwadol - do, fe roeson nhw hynny i'r Alban oherwydd bygythiad annibyniaeth. Mae'n rhaid i'r hyn sy'n ddigon da i'r Alban, Janet, fod yn ddigon da i Gymru. Ac i'r Llywodraeth Lafur: pam mae'n gymaint o her i chi wneud yr un peth i Gymru hefyd? Ydym ni, yng Nghymru, yn rhy anghyfrifol? Ydym ni'n rhy dwp, yn rhy fach, i gael rheolaeth dros ein tir a'n harfordir ein hunain? Naill ai nid yw'r cyd-Aelodau Cymreig yma yn y Senedd yn dda iawn am gyflwyno'r achos i'ch cyd-Aelodau yn San Steffan, neu nid ydynt yn gwrando. Pa un ydyw? Ydych chi, yn y bôn, yn ddwy blaid yn esgus bod yn un?

Gyfeillion, mae hi’n hen bryd i’r Blaid Lafur yng Nghymru—a dwi yn gorffen gyda hwn—ddysgu bod eu strategaeth 'gofyn yn neis' i’w meistri yn Llundain wedi methu ar sawl, sawl cyfrif, ac iddyn nhw ddechrau rhoi beth sydd orau i Gymru yn gyntaf, a’u plaid yn ail. Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher am arwain y ddadl hon ar ran Plaid Cymru, ac rwy’n hynod falch ein bod ni'n galw, gobeithio gyda mwyafrif y prynhawn yma, am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru cyn gynted â phosib.

18:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er fy mod i wedi siarad yn gyson o blaid datganoli Ystad y Goron, nid yw'n ffynhonnell o arian ychwanegol. Mae camddealltwriaeth, os caiff Ystad y Goron ei datganoli, y gallwn ni ychwanegu cyllid Ystad y Goron at gyllideb bresennol Cymru. Rydym ni'n gwybod, bob tro y mae ffrwd refeniw, fel Ystad y Goron, yn cael ei ddatganoli gan Lywodraeth y DU, mae angen i Lywodraeth y DU wneud gostyngiad i'r grant bloc i ystyried yr incwm y byddwn yn ei dderbyn yn uniongyrchol o Ystad y Goron ddatganoledig.

Rydym ni wedi gweld hyn o ddatganoli pwerau cyllidol eraill, ac mae yna ystod o ffyrdd y gellir cyfrifo hyn. Fe welsom ni hyn pan gafodd y 10 ceiniog o'r gyfradd treth incwm ei ddatganoli. Nid oedd hynny yn ogystal â'r grant bloc; daeth hynny oddi ar y grant bloc. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau ac maen nhw'n gosod cyfradd treth incwm yng Nghymru bob blwyddyn, unwaith y bydd Llywodraeth y DU yn tynnu 10 ceiniog o bob cyfradd. Dyna'r sefyllfa, oherwydd fel arall byddai arnoch chi eisiau i bopeth gael ei ddatganoli—gadewch i ni gael treth ar werth, oherwydd fe allwn ni gadw'r holl arian a gawn ni o dreth ar werth ac fe allwn ni ychwanegu hynny at yr hyn sydd gennym ni. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl fel dadl, yn nac ydy?

Cytunodd Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU, sy'n nodi trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei phwerau cyllidol datganoledig. Mae hyn yn cynnwys model addasu grant bloc ar gyfer penderfynu sut mae grant bloc Cymru yn cael ei addasu i ystyried datganoli trethi Cymru. Defnyddir fformiwla Barnett gan Drysorlys Ei Fawrhydi i addasu'r dyraniad cyllid i Gymru fel bod y grant bloc yn adlewyrchu'r newidiadau yng ngwariant gwasanaethau cyhoeddus gan Lywodraeth y DU yn Lloegr. Mae'r fframwaith cyllidol yn nodi fformiwla Barnett wedi'i haddasu ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys ffactor sy'n seiliedig ar anghenion, sydd ar hyn o bryd wedi'i osod dros dro ar 105 y cant. Pan fydd cyllid o'i gymharu â Lloegr wedi'i gydgyfeirio i lefel y cytunwyd arno, bydd y ffactor hwn yn cael ei gynyddu i 115 y cant. 

Beth ddigwyddodd yn yr Alban pan gafodd Ystad y Goron ei datganoli? Mae cyfeiriad at hyn ym memorandwm ariannol Bil Ystad y Goron yr Alban. Mae Deddf yr Alban 2016 yn ei gwneud hi'n ofynnol i refeniw o asedau'r Alban gael ei dalu i gronfa gyfunol yr Alban. Mae'r cytundeb fframwaith cyllidol yn gofyn am ostyngiad i'r grant bloc gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar refeniw net Ystad y Goron yn yr Alban yn y flwyddyn drosglwyddo. Rwy'n credu mai'r gair allweddol yw 'net', nid gros. Ni fyddai'r colledion posibl i weinyddiaeth yr Alban a amlinellwyd yn effeithio ar yr addasiad i'r grant bloc y cytunwyd arno o dan y cytundeb fframwaith cyllidol. Roedd y refeniw gros oddeutu £15 miliwn yn 2016-17. Nid oes cyfrifon archwiliedig ar wahân ar gyfer yr Alban, ac roedd rhai o'r gwasanaethau a gefnogwyd i fusnesau yn yr Alban yn 2016-17, fel cymorth adnoddau dynol, yn cael adnoddau o'r tu allan i'r Alban. Amcangyfrifwyd bod y refeniw net blynyddol yn £6.1 miliwn yn 2016-17, fel rhan o'r fframwaith cyllidol a drafodwyd gyda Llywodraeth y DU. Mae fframwaith cyllidol 2023 wedi'i ddiweddaru ar gyfer yr Alban yn cyfeirio yn adran Ystad y Goron at gyfrifoldebau ar gyfer y gronfa cymunedau arfordirol, a gafodd ei datganoli i Lywodraeth yr Alban yng nghytundeb 2016, ac y byddai didyniad sylfaenol newydd yn cael ei gymhwyso i grant bloc Llywodraeth yr Alban. Nid yw hyn wedi'i fynegeio, ond mae'n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, o £10 miliwn i £15 miliwn i £20 miliwn i £40 miliwn. Mae'r cyfrifiad incwm wedi'i nodi yn y memorandwm ariannol i Fil Ystad y Goron yr Alban. Er y caiff bellach ei reoli a'i redeg o'r Alban, gyda refeniw yn aros yn yr Alban, mae'r sawl sy'n teyrnasu ar yr orsedd yn cadw perchnogaeth gyfreithiol o Ystad y Goron yn yr Alban ar yr un sail â gweddill Ystad y Goron yng ngweddill y DU.

Yng Nghymru, mae Ystad y Goron yn berchen ar 65 y cant o flaendraethau a gwelyau afon Cymru, a dros 50,000 erw o dir. Ers degawdau, mae datganoli yng Nghymru wedi llusgo y tu ôl i'r Alban mewn perthynas â'r cyfrifoldeb dirprwyedig sydd ganddi. Ni allwn ni barhau â'r system bresennol o ddatganoli anghymesur, lle mae gwahanol swyddogaethau yn cael eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn awr i feiri Lloegr, lle mae gennym ni sefyllfa lle mae gan feiri Lloegr bwerau nad oes gan Lywodraeth Cymru, dros bethau fel plismona. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr ac ni allwch chi barhau gyda hyn. Fel y gwelsom ni yn Sbaen, sef yr unig wlad arall sydd wedi datganoli'n anghymesur, fe gawson nhw anhrefn. Rwy'n siŵr bod rhai pobl ar feinciau Plaid Cymru yn cefnogi rhai o'r pethau sy'n digwydd yn rhai o'r rhanbarthau neu wledydd neu genhedloedd llai o fewn ffiniau Sbaen, sut bynnag yr hoffech chi eu disgrifio, ond nid yw wedi gweithio. Nid yw'r datganoli anghymesur hwn wedi gweithio, a dydw i ddim yn deall pam na allwn ni gael system ddatganoli lle rydyn ni'n dweud, 'Dyma beth sy'n cael ei ddatganoli', ac yn rhoi'r gorau iddi yn y fan yna. Mae'r syniad y gall rhai lleoedd gael gwahanol drefniadau datganoli yn creu anhrefn llwyr. Mae Plaid Cymru yn cefnogi datganoli popeth, mae'r Ceidwadwyr yn cefnogi datganoli dim, ac mae yna dir canol yna lle rydym ni am weld datganoli yn dod i ben. Nawr, mae yna rai pobl sydd eisiau ei weld yn dod i ben mewn annibyniaeth, ac mae pobl eraill eisiau ei weld yn dod i ben gyda diddymu'r Senedd. Dydw i ddim eisiau gweld y naill beth na'r llall. [Torri ar draws.] Mae gen i wyth eiliad, ond ewch ymlaen.

18:25

Rwy'n ceisio dehongli'r naratif rydych chi'n ei gyflwyno yma y prynhawn yma. Yn syml: ydych chi o blaid datganoli Ystad y Goron ai peidio?

Wel, ydw, dywedais i hynny. Y darn cyntaf a ddywedais oedd, 'Rwyf wedi siarad yn gyson o blaid datganoli Ystad y Goron.' Fy mhryder yw—[Torri ar draws.] Na, doeddwn i ddim yn cyflwyno dadl yn erbyn, dim ond dweud oeddwn i mai'r ddadl sydd gen i yw bod yn rhaid i ni gael math o ddatganoli sy'n gymesur, sydd yr un peth ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn hytrach na chael fersiynau gwahanol ar gyfer gwahanol ardaloedd, a Gogledd Iwerddon, er enghraifft, gyda fformiwla ariannu gwahanol oherwydd eu bod yn cael yr hyn sy'n cyfateb bron i iawndal.  

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yma yng Nghymru, credaf fod achos cryf y dylid datganoli Ystad y Goron, ond rwy'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar yr hyn y byddem yn ei wneud pe bai Ystad y Goron yn cael ei datganoli. Roedd Alun Davies yn bur onest yn gynharach, a byddaf i'n onest nawr: doeddwn i ddim wedi clywed am Ystad y Goron tan tua phum mlynedd yn ôl. I mi, mae'n swnio fel rhywbeth o'r ddeunawfed ganrif yn hytrach na'r unfed ganrif ar hugain. Ac rwy'n siŵr, pe baem yn cerdded dim ond pum munud i lawr y ffordd yma i Butetown, neu ymhellach i ffwrdd i Grangetown neu Treganna, a gofyn iddyn nhw am Ystad y Goron, ni fydden nhw'n gwybod beth yw Ystad y Goron chwaith. Mae angen i ni ddangos sut, mewn gwirionedd, y byddai'r datganoli yn gwella bywydau pobl Cymru. Mae angen i ni ddangos nad rhywbeth 'i'r adar' mohono, fel y dywedwyd heb unrhyw sail o gwbl.

Nawr, nid yw'n syndod nad yw Aelodau'r Blaid Lafur seneddol yn wedi eu perswadio. Rwy'n credu ei fod yn ideolegol, ac nid wyf yn credu bod Alun Davies yn onest pan ddywedodd nad yw'n gwybod. Yr ateb gonest yw eu bod yn amheus o ddatganoli ar y gorau. Maen nhw'n olynwyr Neil Kinnock a George Thomas, o'i gymharu ag olynwyr Cledwyn Hughes a Ron Davies yma. Nawr, gyda'r dadleuon rydym ni wedi'u clywed gan Lafur yn San Steffan a chan Janet yma—doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n dweud hynny, 'Llafur yn San Steffan and Janet'; am gyfuniad—fe allech chi fod wedi dileu 'Ystad y Goron' a rhoi 'cyfiawnder' neu 'plismona'. Yr un dadleuon ydyn nhw.

Fe wnaethoch chi argraff fawr arna i, Janet, gan faint o weithiau y llwyddoch chi i gael y geiriau 'Y Deyrnas Unedig' yn eich araith. I fod wedi sôn am y Deyrnas Unedig mor aml heb gynnwys yr Alban, roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n cyhoeddi bod yr Alban yn genedl annibynnol a'ch bod bellach yn cefnogi annibyniaeth yr Alban. Ond, i fod o ddifrif, mae angen i ni ddadlau dros yr achos. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddangos sut y byddai datganoli Ystad y Goron o fudd i bobl Cymru mewn gwirionedd? Oherwydd rwy'n credu mai dyna'r broblem sylfaenol sy'n wynebu datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd: nid yw llawer o bobl, yn gam neu'n gymwys, yn credu bod chwarter canrif o'r fan yma wedi gwella eu bywydau. Mae'n debyg bod hyn yn ffactor pwysig pam mae plaid wleidyddol benodol yn gwneud mor dda yn y polau piliwn ar hyn o bryd, ac mae angen i ni fod o ddifrif am y bygythiad hwnnw.

Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol i Gymru a'i phobl. Wythnos ar ôl wythnos rydym ni'n dadlau yn y fan yma lle daw'r gwirionedd ariannol yn boenus o glir. Rydym ni'n ei glywed gan ysgolion, rydym ni'n ei glywed gan fyrddau iechyd, gan awdurdodau lleol, rydym ni'n ei glywed gan Lywodraeth Cymru nad oes gennym ni ddigon o arian i adeiladu'r Gymru mae arnom ni ei heisiau. Yn Norwy, datblygodd y Llywodraeth rywbeth o'r enw cronfa gyfoeth sofran Norwy, cronfa bensiwn y Llywodraeth sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Gan ddefnyddio arian sy'n deillio o feysydd olew Norwy, mae'r gronfa gyfoeth yn cael ei hail-fuddsoddi mewn tua 8,000 o gwmnïau ledled y byd. Ym mis Ionawr eleni, roedd y gronfa wedi cronni elw blwyddyn lawn o $222.4 biliwn a chaiff ei phrisio ar oddeutu $1.7 triliwn. Trwy fuddsoddi'r gronfa yn fyd-eang, mae Llywodraeth Norwy wedi osgoi unrhyw anwadalrwydd ym mhrisiau olew, sy'n golygu setliad ariannol mwy sefydlog i bobl Norwy.

Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu'n glir ei chynlluniau ar gyfer refeniw Ystad y Goron yng Nghymru. Sut gaiff ei fuddsoddi? Sut allwn ni mewn difrif wneud yn fawr o bosibiliadau Cymru? Gyda galluoedd gwynt a llanw enfawr Cymru, mae gennym ni gyfle i greu rhywbeth trawsnewidiol yma yng Nghymru. Gallai Ystad y Goron ddatganoledig yng Nghymru fuddsoddi'r refeniw a gynhyrchir o brosiectau gwynt mewn cronfa bensiwn fyd-eang. Byddai unrhyw amrywiadau ym mhrisiau ynni adnewyddadwy yn cael eu gwrthbwyso gan allu cronfa o'r fath. Gallai hyn greu symiau enfawr o dwf economaidd a sefydlogrwydd i bobl Cymru. Mae angen i ni ddangos y gall ynni adnewyddadwy wella bywydau beunyddiol pobl Cymru—y bobl yn Butetown, y bobl yn Grangetown, y bobl yn Nhreganna—ac nid yn unig ariannu cyflogau a difidendau anhygoel cwmnïau rhyngwladol mawr, oherwydd dyna beth rydym ni'n ei weld ar hyn o bryd gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae'r system bresennol yn siomi Cymru ac nid oes unrhyw arwydd o welliant. Mae pobl yn teimlo eu bod yn mynd yn dlotach, bod ganddyn nhw lai o arian yn eu pocedi. O fewn y DU, mae gan Gymru'r gyfradd gyflogaeth isaf, yr ail incwm sylfaenol isaf y pen, ac mae pob rhanbarth yng Nghymru yn sgorio'n is na chyfartaledd y DU ar gyfer incwm gwario gros y pen. Mae angen newid rhywbeth. Diolch yn fawr. 

18:30

Mae hyn yn fater o degwch a chydraddoldeb. Nid yw'n ymwneud â datganoli rhywbeth oherwydd bod gan yr Alban y pŵer hwnnw eisoes. Nid datganoli mohono er mwyn datganoli. Pan fyddwch chi'n gofyn i bobl am Ystad y Goron, rwy'n cytuno cyn yr ymgyrchoedd diweddaraf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud, 'Does gen i ddim syniad beth yw hynny.' Ond, pan fyddwch chi'n gofyn i bobl am adnoddau naturiol Cymru, mae pobl yn deall hynny, a phan fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw pwy ddylai fod yn berchen arnyn nhw neu'n gofyn i bobl pwy sy'n berchen arnyn nhw ar hyn o bryd, a byddan nhw'n dweud, 'Pobl Cymru, yn sicr.' A phan fyddwch chi'n nodi nad yw hynny'n wir, yna mae pobl yn teimlo ymdeimlad o anghyfiawnder ac rwy'n credu mai dyna rydym ni wedi'i weld gyda chynghorau ledled Cymru, waeth beth fo'r rhaniad gwleidyddol, mewn gwirionedd yn ystyried y mater, nid ei wleidyddoli, ond mewn gwirionedd yn gofyn y cwestiwn: pwy ddylai fod yn berchen arni? A'r pwynt allweddol hwnnw gan Rhys hefyd: beth ddylem ni ei wneud gyda'r pŵer hwnnw a sut ydym ni'n manteisio arno?

Nid wyf yn derbyn wylofain a rhincian dannedd Janet Finch-Saunders o ran meddwl y bydd pethau'n waeth pe baem yn rheoli ein hadnoddau naturiol yma yng Nghymru. I'r gwrthwyneb, gallai datganoli gyflymu'r datblygiad hwnnw: rydym ni'n llai, rydym ni'n fwy ystwyth, fe allem ni wneud pethau'n wahanol. Nid mater o feddwl, mewn gwirionedd, bod Lloegr yn gwneud pethau'n well drwy'r amser—dydyn nhw ddim, yn amlwg. Fe allwn ni wneud pethau'n wahanol. Mae cael cynllun yn bwysig, ond mae angen i ni gael y pwerau hynny yma ar yr un pryd.

Fy nghwestiwn i i Lywodraeth Cymru yw: mae'n rhwystredig nad yw eich cyd-Aelodau yn San Steffan yn cytuno â'ch safbwynt yma, felly beth sy'n digwydd i geisio eu perswadio? A oes trafodaethau o fewn eich plaid ar hyn o bryd i ddadlau'r achos, eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynllun hwnnw? Pa drafodaethau a fu gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn? Oherwydd mae teimladau cryfion ynghylch hyn amlwg, nid yn unig o ran dwy blaid, neu dair plaid, yn y Siambr hon, ond ledled Cymru. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw Llafur yn dweud un peth yma, ond yn gwneud rhywbeth hollol wahanol mewn Siambr wahanol.

Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Mike Hedges, o ran y grant bloc—. Roeddwn i wir yn ceisio dehongli'ch dadleuon, oherwydd roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n ceisio dweud eich bod wedi newid eich meddwl yn ystod hynny. Oherwydd bod rhywfaint o'r dystiolaeth yno, gyda'r Alban, wedi'i hamlinellu mewn gwirionedd gan Luke Fletcher yn ei gyfraniad, o ran lleihau'r grant bloc. Ond mae'n—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, Mike, dydw i heb hyd yn oed wedi gwneud y pwynt eto, ond os hoffech chi ymyrryd.

18:35

Na, ewch chi ymlaen, fe wnaf ymyrryd pan fyddwch chi wedi gorffen.

Fe wnaf i ymyrryd unwaith yn unig yn hytrach na dwywaith.

Felly, o ran y pwyntiau a godwyd gan Luke Fletcher, roedd o gwmpas, ie, y gostyngiad o tua £10 miliwn, ond wedyn y refeniw a gynhyrchwyd oedd £113 miliwn. Ond nid yw'n ymwneud â'r incwm a gynhyrchir yn unig; mae ynglŷn â sut rydych chi'n ei fuddsoddi, ac yn sicr byddai'n well ein bod ni'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny yma.

Y pwynt roeddwn i'n ei wneud oedd y byddai'n dod oddi ar y grant bloc, ac rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi drysu gros a net. Mae'r gros tua £113 miliwn. Cyn belled ag y gallaf weld, o'r holl ffigurau rydw i wedi'u gweld, roedd y net tua £10 miliwn, ac mae hynny yn y dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi.

Oeddem, roeddem ni'n edrych ar yr un ffigurau, ond mae hefyd yn ymwneud â sut rydych chi'n buddsoddi'r rheini. Nid yw o reidrwydd yn naill ai/neu. Ac mae cael rheolaeth mewn gwirionedd yn rhoi grymoedd a ffyrdd eraill i ni wneud pethau'n wahanol. Felly, yn sicr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ydych chi eisiau ymyrryd?

O, byddwn i'n hapus derbyn eich ymyriad. Dydw i ddim yn meddwl mai dim ond mater o, 'Byddai'n lleihau gan hyn', mae'n ymwneud â sut mae'r rheolaeth honno—. Felly, byddwn yn gofyn: sut ydym ni'n datblygu hyn? Rydych chi'n dweud eich bod chi'n cytuno â ni, fel Llafur Cymru yma yn y Senedd, ond mae rhwystr o ran Llafur yn San Steffan. Felly, sut allwn ni ddatblygu hyn? Bydd ein cynghorau eisiau gwybod sut rydyn ni'n symud ymlaen hyn. Felly, fe hoffwn i glywed gan Lywodraeth Cymru beth yw'r camau pendant sy'n cael eu cymryd i wneud hyn yn realiti, oherwydd rydw i wedi blino ar drafod; mae angen i ni weld cynnydd.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl. Rebecca.

Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf ddechrau gyda darn o newyddion, mewn gwirionedd, i gyd-Aelodau, a hynny yw bod gan Lafur Cymru ymreolaeth polisi, felly mae'n naturiol y bydd yna bwyntiau lle bydd gennym ni safbwynt gwahanol i'n cyd-Aelodau yn San Steffan. Ond y pwynt yw bod angen i ni gael y dadleuon hynny, ac ennill y dadleuon hynny. Dyna pam rydw i wedi bod yn cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, y bu trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a'r Canghellor, gan wneud y pwyntiau o hyd yr ydym ni wedi'u clywed yn huawdl iawn, rwy'n credu, gan lawer o gyd-Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma, ynghylch pam mae'n fater o degwch ond hefyd yn fater o sicrhau bod Cymru yn gwneud y gorau o'r holl gyfleoedd economaidd sydd ar gael i ni.

Er mwyn datblygu rhywfaint o'r gwaith hwnnw, rwyf eisoes wedi sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, sy'n edrych o ddifrif ar argymhellion ynghylch sut rydym ni'n mynd ati i gyflawni'r manteision sydd eu hangen arnom ni ar gyfer y porthladdoedd, ar gyfer y sgiliau a'r cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod cryn hyder a phositifrwydd a rhywfaint o fomentwm gwirioneddol ynghylch hynny i gyd, oherwydd mae gennym ni'r cyfleoedd hynny eisoes ar y gorwel: cynlluniau ynni gwynt sefydlog ar y môr yng ngogledd Cymru, ac yna datblygiadau gwynt ar y môr yn Iwerddon, a chyfle i'r môr Celtaidd hefyd. Ac mae Ystad y Goron yn rhan werthfawr o'r grŵp hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi cyflawni camau gweithredu a fydd yn dod o'r grŵp hwnnw, ac rwy'n addo diweddaru'r Senedd ar hynny maes o law.

Ac yn absenoldeb datganoli, rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i benodi'r comisiynydd newydd i Ystad y Goron, i gynrychioli buddiannau Cymru. Bydd y comisiynydd hwnnw'n gyfrifol am roi cyngor ar weithrediad Ystad y Goron yng Nghymru, gan sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed, ac rydym ni'n awyddus sicrhau bod y comisiynydd hwnnw'n adrodd i Weinidogion Cymru a'r Senedd. Wrth gwrs, nid yw'n ddigon; nid datganoli mohono, ond mae'n sicr yn gam i'w groesawu i'r cyfeiriad cywir.

Byddai datganoli rheolaeth asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael mwy o ymreolaeth dros gyflymder a chyfeiriad datblygu prosiectau, ac wrth gwrs byddem wedyn yn cael y cyfle i gysoni rheolaeth o asedau'r Goron yng Nghymru yn well ag anghenion dinasyddion Cymru. Mae rheoli Ystad y Goron yn cynhyrchu refeniw sylweddol i Drysorlys y DU, felly byddai datganoli Ystad y Goron yn cysoni'r refeniw hynny'n well â'r incwm sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei ddatblygu ar ein blaenoriaethau ar gyfer dinasyddion Cymru, a dyna'r pryderon sydd wir yn sail i gefnogaeth gref Llywodraeth Cymru i'r datganoli.

Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall holl effaith datganoli Ystad y Goron a'r hyn y byddai hynny'n ei olygu i Gymru. Er enghraifft, mae Deddf Ystad y Goron 2025 y bu cydsyniad iddi'n ddiweddar yn caniatáu i Ystad y Goron fenthyca a rhoi ei hasedau fel sicrwydd, a allai ddod â buddion buddsoddi i Gymru. Felly, mae angen i ni nawr ymgymryd â rhywfaint o waith pellach i ddeall sut y gellid gwireddu'r cyfleoedd hynny drwy ddatganoli Ystad y Goron.

Ac yna hefyd ar gyfer y cyfleoedd yn y dyfodol yn y Môr Celtaidd, mae'r data yn yr adroddiad 'Dyfodol Gwynt ar y Môr' yn dangos bod y rhan fwyaf o'r ardal brydlesu y tu allan i ddyfroedd tiriogaethol Cymru, ac felly mae angen i ni ddeall yno a allai datganoli Ystad y Goron gael effaith niweidiol ar y manteision i gymunedau lleol. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod, wrth gwrs, nad oes gennym ni'r un math o gyfleoedd o ran datblygiadau ar wely'r môr ag y gallai fod gan yr Alban, felly, unwaith eto, mae'n rhaid i ni ddeall yn llawn effaith datganoli Ystad y Goron yn hynny o beth, a chynnwys yr ystadau sy'n eiddo ar y tir.

Felly, rwy'n credu, fel y mae cyd-Aelodau wedi cydnabod yn y Siambr y prynhawn yma, bod llawer mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n derbyn bod cwestiynau pellach i'w hateb. Ond dyma'r mathau o gwestiynau y mae angen i ni eu hystyried, ac mae arna i eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU i'w hateb.

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]

Mae wedi ei alw. Canwch y gloch.

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:45
11. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 5, dadl ar deithio gan ddysgwyr. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 13 yn ymatal a 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 5. Dadl: Teithio gan Ddysgwyr. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 25, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

18:50

Eitem 5. Dadl: Teithio gan Ddysgwyr. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 23, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, 24 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 5. Dadl: Teithio gan Ddysgwyr. Cynnig: O blaid: 25, Yn erbyn: 0, Ymatal: 24

Derbyniwyd y cynnig

Mae’r bleidlais nesaf ar eitem 8, y rheoliadau bwyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025: O blaid: 25, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.  

Eitem 9. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Mae’r bleidlais derfynol heddiw ar eitem 10, y ddadl ar Ystad y Goron. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.   

Eitem 10. Dadl: Ystad y Goron. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Eitem 10. Dadl: Ystad y Goron. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, 11 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 10. Dadl: Ystad y Goron. Cynnig: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.