Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf heddiw fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Gwasanaethau Trên a Bws

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hygyrchedd gwasanaethau trenau a bysiau yn Nwyrain De Cymru? OQ62418

Wrth gwrs. Hoffem ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n hygyrch i bawb yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn deddfu i fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau, pam ein bod yn buddsoddi £800 miliwn i uwchraddio ein fflyd drenau, ac rwyf wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y tasglu hawliau pobl anabl.

Diolch am hwnna.

Rai misoedd yn ôl, cefais gynnig wedi'i basio yn y Senedd a oedd yn ymwneud â gwella mynediad at fysiau a threnau mewn gorsafoedd, a hefyd ar y gwasanaethau hynny. Rwy’n poeni bod gormod o’n mannau cyhoeddus wedi’u cynllunio mewn ffyrdd sy’n eithrio pobl—gorsafoedd sy’n dibynnu ar allu pobl i weld rhwystrau neu newidiadau i amserlenni, llwybrau cerdded wedi’u goleuo’n wael sy’n gwneud i fenywod deimlo’n fwy agored i niwed yn y nos, a gwasanaethau y gellir eu canslo ar fyr rybudd, gan adael teithwyr heb ffordd adref. Oherwydd nid yw menywod, pobl ag anableddau, yn agored i niwed yn eu hanfod—y ffordd y mae ein mannau cyhoeddus wedi'u cynllunio sy'n peri iddynt fod felly. Nawr, rwyf wedi gwthio am newidiadau gyda Trafnidiaeth Cymru i newid y prosesau y maent yn eu dilyn wrth ganslo gwasanaethau i fod yn wahanol yn ystod misoedd y gaeaf, fel nad yw teithwyr yn cael eu gadael mewn ardaloedd anghysbell ar ôl iddi dywyllu. Ond mae angen inni newid y ffordd y cynlluniwn y gofodau yr ydym i gyd i fod i'w rhannu. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi ynglŷn â hynny, sut rydych chi'n gwthio’r newidiadau hynny yn eu blaen, os gwelwch yn dda, ac a allem gael cyfarfod i drafod sut y gellir gwneud y newidiadau hyn?

Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod yr amryw faterion y mae wedi'u codi heddiw, ac y mae wedi'u codi gyda mi yn gyson. Credaf fod gorsaf fysiau Caerdydd yn enghraifft eithaf da o sut y gellir cynllunio drwy gynnwys pobl sydd â phrofiadau bywyd penodol, o’r cychwyn cyntaf, fel nad oes yn rhaid ôl-osod rhai systemau a nodweddion cynllunio ar ôl adeiladu seilwaith. Mae gennym banel mynediad a chynhwysiant yn Trafnidiaeth Cymru. Mae wedi gwneud gwaith rhagorol. Cyfarfûm â hwy yn y mis diwethaf, ac rwyf wedi ymrwymo i ddarparu'r cymorth cywir i'r panel er mwyn cynyddu ei effaith a'i ddylanwad yn y maes hwn. Ond byddwn yn gwerthfawrogi cyfarfod i drafod y materion amrywiol ynghylch diogelwch a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer o etholwyr o fy rhanbarth sy'n teithio'n rheolaidd ar y bws rhwng Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân a Chasnewydd wedi cysylltu â mi. Yn dilyn cau ffordd ym Mhont-y-pŵl, roedd anhrefn yn yr ardal, gan achosi oedi difrifol i wasanaethau bysiau, gan gynnwys un gwasanaeth penodol, yr X24. Mae hyn yn effeithio ar fy etholwyr sy'n teithio i'r gwaith, y rheini sy'n teithio i golegau, mae rhai'n mynd i apwyntiadau ysbyty, rhai'n teithio i Gasnewydd i ddal cysylltiadau ar amser penodol—hyd yn oed y rheini sy'n dal cysylltiadau i fynd ar wyliau hefyd. Nawr, dywedir wrthyf fod hyn yn cael effaith ganlyniadol, gan fod y gwasanaeth, ar ôl cyrraedd Casnewydd, yn dod yn wasanaeth 151 i'r Coed-duon. Datgelodd un etholwr penodol y siaradais â hi ei bod yn aml yn cymryd mwy nag awr iddi deithio oddeutu pedair milltir o’i chartref yng Nghwmbrân i’w gwaith yng Nghasnewydd, sy'n golygu ei bod yn aml yn hwyr ac yn amhoblogaidd gyda’i chyflogwr—a hynny os yw hi’n lwcus. Un bore, treuliodd awr a hanner yn aros am fws na chyrhaeddodd. Er eu bod yn dewis dal gwasanaethau cynharach, dywedir wrthyf nad yw hyn wedi gwella'r broblem i fy etholwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda Stagecoach, ond a fyddech cystal ag ymchwilio i'r mater hwn hefyd a gweithio gyda'r gweithredwr bysiau i archwilio atebion posibl, os gwelwch yn dda? Byddai fy etholwyr a minnau’n hynod ddiolchgar. Diolch.

Rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i'r heriau gyda gwasanaethau bws X24 a 151. Credaf y bydd masnachfreinio, yn y tymor hwy, yn helpu i sicrhau bod rhwydweithiau’n cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion teithwyr. A hefyd, gyda masnachfreinio, byddwn yn gallu gweithredu mwy o wasanaethau yn lle bysiau pan fydd systemau'n methu. Ond yn y tymor byr, fe edrychaf ar y mater, ac fe adroddaf yn ôl i'r Aelod.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hygyrchedd sylfaenol gwasanaethau trên yn amlwg yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaethau hynny, ac yn wir, gorsafoedd trên. Mae gwaith comisiwn Burns, a bellach yr uned cyflenwi, yn cynnig y pum gorsaf newydd hynny ar gyfer yr ardal honno yn ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys tair gorsaf yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd. Mae llawer iawn o bobl am gael mynediad at wasanaethau trên i gyrraedd y gwaith ac yn canfod nad yw’r gwasanaethau hynny’n hygyrch mewn ffordd a fyddai’n caniatáu iddynt wneud hynny, ac o ganlyniad, mae llawer o dagfeydd ar y ffyrdd, gan gynnwys yr M4 wrth gwrs. Felly, tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, Ysgrifennydd y Cabinet, am y pum gorsaf newydd a'ch trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

13:35

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol, a byddwn yn cytuno, pan fyddwch yn darparu capasiti ychwanegol, y bydd pobl yn ei ddefnyddio. Rydym wedi gweld cynnydd o 13 y cant yn nifer y teithwyr ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, sy'n dangos y galw enfawr sydd yno am drafnidiaeth.

Roeddwn yn falch iawn o weld yr Athro Simon Gibson, cadeirydd uned cyflenwi Burns, yn cyfarfod â’r Arglwydd Hendy, y Gweinidog rheilffyrdd, yn ddiweddar i drafod y prosiectau yr ydych newydd eu hamlinellu. Credaf fod y trafodaethau’n gadarnhaol iawn, yn anad dim am fod gennym bellach welliannau arfaethedig y cytunwyd arnynt i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, sy’n cynnwys y gorsafoedd penodol hynny a gynigiwyd gan yr Arglwydd Burns, yn ogystal â’r gwaith arall sy'n ymwneud â chomisiwn trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru, ac yn wir, comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru.

Diogelwch ar y Ffrydd

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62412

Ledled Cymru, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i osod y terfynau cyflymder cywir ar y ffyrdd lleol cywir. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rydym yn gwella seilwaith, yn ariannu mentrau diogelwch ar y ffyrdd, yn cefnogi gorfodaeth, ac yn sicrhau bod mesurau diogelwch ar y ffyrdd yn cael eu hintegreiddio yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol i greu cymunedau mwy diogel ac iachach.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni ellir gorbwysleisio llwyddiant y gwelliannau ar gyffordd Mynegbost Nash ar yr A477, a diolch i Lywodraeth Cymru am eu hymyrraeth i wneud y gyffordd honno’n ddiogel. Ond hefyd ar yr A477, mae’r gyffordd i Ros-goch—cyffordd 90-gradd ar briffordd brysur, lle bu nifer o ddamweiniau dros y blynyddoedd. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn o'r blaen, ac rwyf wedi cyfarfod â chi. Er bod y gyffordd hon ei hun yn cydymffurfio â'r rheolau, mae synnwyr cyffredin yn dweud nad yw'n ddiogel. Gellid dweud yr un peth am y gyffordd newydd ar ffordd osgoi Llanddewi Felffre-Croesffordd Maencoch—unwaith eto, cyffordd 90 gradd arall heb unrhyw ffordd ymadael ar ffordd brysur. A gaf i ofyn i’r ddwy gyffordd hon gael eu harchwilio ymhellach, a bod y rheoliadau a ddefnyddir i adeiladu’r cyffyrdd hyn yn cael eu diweddaru, gan ei bod yn amlwg o synnwyr cyffredin nad yw’r cyffyrdd hyn yn ddiogel, ond maent yn parhau i gael eu hadeiladu nid yn unig yn fy etholaeth i, ond ledled Cymru?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n falch iawn o glywed bod y gwaith ar gyffordd Mynegbost Nash wedi'i groesawu. Rwy'n ymwybodol o'r problemau y mae’r Aelod yn eu codi mewn perthynas â Rhos-goch a Maencoch. Rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau â swyddfa'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Eluned Morgan, ynghylch yr union bryderon hyn. O ran Rhos-goch, er bod cyffordd Rhos-goch ar yr A477 wedi’i cynllunio yn unol â'r safonau cyfredol ac yn cydymffurfio pan gafodd ei hadeiladu, dangosir bod ymddygiad gyrwyr yn ffactor mawr yn y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma. Felly, rydym wedi ychwanegu cynllun at raglen 2025-26 i nodi ymyriadau diogelwch tymor byr posibl ar yr union gyffordd honno.

Ar gyffordd Croesffordd Maencoch, gwthiwyd hyn i gael ei gynnwys yn ystod cyfnod allweddol 2 yr ymchwiliad cyhoeddus, ac adolygwyd yr holl opsiynau fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw. Nawr, rwy'n cydnabod bod materion diogelwch ar gyffordd wreiddiol Croesffordd Maencoch a bod pryderon parhaus, gyda rhai ohonynt wedi'u codi mewn gohebiaeth gan Gyngor Tref Arberth. Felly, gall Llywodraeth Cymru addo y bydd archwiliad diogelwch yn cael ei gynnal, cyn bod yr holl fesurau rheoli traffig yn cael eu diddymu a'r cynllun hwn yn cychwyn, a bydd hyn yn asesu’r gwaith adeiladu ac yn tynnu sylw at unrhyw faterion diogelwch ffyrdd. Ond rwyf hefyd wedi gofyn am friff cynhwysfawr ar y mater.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn ymwybodol o’r cynnydd pryderus mewn troseddau cludo llwythi ledled y Deyrnas Unedig. Gwelsom adrodd am 5,500 o ddigwyddiadau yn 2023—cynnydd o 5 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod gwerth £68.3 miliwn o nwyddau wedi’u dwyn, ar gost o £700 miliwn i economi’r DU, ac wrth gwrs, mae llawer o’r cwmnïau cludo nwyddau hynny'n fentrau bach a chanolig eu maint, ac o’r herwydd, mae troseddau cludo llwythi'n arbennig o niweidiol iddynt. Clywais straeon dirdynnol iawn, oherwydd yn aml, mae’r pethau hyn yn digwydd mewn cilfannau lle caiff tanwydd ei ddwyn, neu caiff llenni lorïau eu sleisio ar agor a chynnyrch yn cael ei ddwyn o’r cefn. Ond mater allweddol nad yw’n helpu’r duedd siomedig hon yng Nghymru yw’r diffyg mannau i yrwyr orffwys yn ddiogel gyda chyfleusterau sylfaenol, megis toiledau. Pe bai'r rhain ar gael, byddai nifer y troseddau'n lleihau'n aruthrol a byddai anghenion lles sylfaenol gyrwyr yn cael eu diwallu. Hyd yn hyn, nid yw'n ymddangos bod fawr ddim yn digwydd ar hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, beth sy’n cael ei wneud i ddarparu'r mannau hanfodol hyn, a phryd y gall y diwydiant cludo nwyddau ddisgwyl gweld rhywfaint o’r rhain?

13:40

Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae’n un hynod werthfawr, ac mae’n amserol iawn, gan y bûm yn trafod y mater hwn gyda chynrychiolwyr o’r sector cludo llwythi yn Nulyn dros y penwythnos, ac rwyf hefyd wedi’i drafod â chynrychiolwyr o’r mudiad cludo llwythi yng Nghymru, gan gynnwys y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le fod y cynnydd mewn troseddu wedi achosi pryder anhygoel. Rwyf hefyd yn pryderu bod diffyg arosfannau lorïau diogel a hygyrch a fforddiadwy yn rhwystr i fenywod rhag ymuno â'r sector hefyd. Mae’n sector sy’n cael ei ddominyddu’n fawr iawn gan ddynion, a chlywais ar y penwythnos, ac rwyf wedi clywed o’r blaen, mai un o’r rhesymau yw bod gormod o ofn ar fenywod sydd am gael gwaith yn y sector oherwydd y diffyg cyfleusterau. Nawr, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y bydd hyn yn cael ei drafod nid yn unig fel rhan o dasglu Caergybi, o ystyried y rôl hanfodol y mae arosfannau lorïau yn ei chwarae i sicrhau bod llwybrau’n ddeniadol i’r sector cludo llwythi, ond bydd hefyd yn nodwedd allweddol yn y strategaeth cludo llwythi sydd ar y ffordd, y byddwn yn dysgu gwersi ohoni mewn perthynas â thasglu Caergybi ac yn eu rhoi ar waith o fewn y strategaeth honno.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol ein bod ar yr un dudalen ar hynny. Credaf mai brys yw’r mater allweddol i’r diwydiant. Maent wedi bod yn aros ers amser hir iawn, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’ch safbwynt ynghylch gyrwyr benywaidd a’r anawsterau sy'n eu hwynebu. Felly, gadewch inni obeithio y byddwn yn gweld y pethau hyn yn digwydd, ond credaf fod angen iddynt ddigwydd ledled Cymru hefyd, nid o reidrwydd yn y porthladdoedd neu’r parthau newydd neu beth bynnag yn unig.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ymgais i gyflawni sero net yn wych—mae pob un ohonom, at ei gilydd, yn cytuno ynglŷn â hynny—ac mae angen buddsoddiad os ydym am wneud hynny'n dda. Nawr, yng Nghymru ar hyn o bryd, nid oes seilwaith ar gyfer gwefru chwim na phwyntiau ail-lenwi hydrogen i’r diwydiant cludo llwythi eu defnyddio ledled Cymru. Nawr, mae hyn yn cyfyngu’n ddifrifol ar allu neu ymarferoldeb y sector i fuddsoddi yn ei fflyd a lleihau ei ôl troed carbon ei hun, yn enwedig mewn sector sydd â gorbenion mor uchel. Mae cynllun cyflawni cenedlaethol eich Llywodraeth ar gyfer trafnidiaeth yn amlinellu rhai pwyntiau gweithredu, ond dim targedau diriaethol ar gyfer gweithredu polisi. Ysgrifennydd y Cabinet, pa dargedau a gaiff eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan Gymru ddigon o bwyntiau gwefru chwim a gorsafoedd tanwydd hydrogen i alluogi’r rheini yn y diwydiant cludo llwythi sydd angen neu sydd am fuddsoddi mewn ffordd wyrddach o gludo llwythi ar gyfer y dyfodol i wneud hynny?

Wel, unwaith eto, mae’r Aelod yn codi pwynt hynod werthfawr. Hoffwn ychwanegu ato, fodd bynnag, fod angen i ni hefyd ystyried, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig, cost afresymol cerbydau amgen o gymharu â lorïau ag injans tanio mewnol traddodiadol. Ac mae honno’n nodwedd o drafodaethau sy’n cael eu cynnal ar lefel rynglywodraethol. Yn ystod y pythefnos diwethaf mewn gwirionedd, buom yn trafod, fel Gweinidogion o bob un o’r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU, yr union angen hwn, fel rhan o’r ras tuag at sero net, a sut y gallwn sicrhau y gall gweithredwyr y sector preifat fforddio’r cerbydau hynod ddrud hyn. Mae’r un her yn effeithio ar y diwydiant bysiau, a dyma pam fy mod yn awyddus i Trafnidiaeth Cymru chwarae rhan fwy ymyraethol wrth gaffael bysiau trydan a bysiau hydrogen, fel y gallant wedyn eu prydlesu i weithredwyr—rhai presennol a newydd-ddyfodiaid i’r farchnad hefyd, yn rhan o fasnachfreinio. Felly, gallwn wneud peth gwaith cyffrous, arloesol yn y meysydd hyn.

Gwn fod llawer o arloesi yn digwydd yn yr hyb hydrogen yng ngogledd Cymru. Yn yr un modd, mae llawer iawn o arloesi wedi bod yn digwydd ym mae Abertawe. Felly, nid oes prinder syniadau ac arloesedd yng Nghymru. Yr allwedd yw manteisio ar ddatblygiadau newydd mewn technoleg. Ac mae datblygiad newydd pwysig iawn mewn technoleg yn y maes hwn, sef datblygiad y batri cyflwr solet cell sych a allai fod mewn cerbydau erbyn diwedd y degawd. Bydd hynny'n chwyldroadol. Mae Toyota eisoes, allan yn Japan, yn profi eu technoleg batri cyflwr solet cell sych, a chanfuwyd eisoes fod cerbydau'n gallu teithio dros 600 milltir. Y gobaith yw y bydd y pellter teithio'n cynyddu i oddeutu 900 milltir gyda'r dechnoleg hon, ac y gellir gwefru o fewn 15 i 20 munud. Mae hynny'n chwyldroadol o ran y seilwaith y bydd ei angen. Mae’n hynod gyffrous, yn anad dim am fy mod eisiau gweld y moduron trydan newydd hynny’n cael eu hadeiladu yma yng Nghymru, lle mae gennym hanes balch o adeiladu injans gyda Toyota. A bydd yn ateb llawer o'r pryderon sydd gan bobl ar hyn o bryd ynghylch seilwaith i gefnogi'r fflyd drydan bresennol, gan mai'r hyn y mae angen inni edrych arno mewn gwirionedd yw'r dechnoleg newydd a'r dechnoleg ddatblygol. Mae braidd fel betio ar Betamax pan wyddom mai VHS sy'n mynd i ennill y rhyfel.

13:45

Diolch eto am hynny. Wrth gwrs, mae injans tanio sy'n cael eu pweru gan hydrogen yn mynd i fod yn hollbwysig i'r diwydiant cludo llwythi, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf lle mae gwir angen inni weld datblygiadau'n cyflymu, gan fod angen i'r buddsoddiadau hirdymor hynny fod yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gan symud ymlaen, rhan allweddol arall o ddatgarboneiddio yw lleihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat. Rydym wedi clywed rhywfaint am hynny heddiw. Yn anffodus, nid oes gan Gymru drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol i bobl ei defnyddio, ac felly maent yn parhau i ddefnyddio'u ceir fel mater o ymarferoldeb. Nodaf y cafwyd adroddiad yr wythnos diwethaf fod gan Gymru ddwy o’r 10 gorsaf sy’n perfformio waethaf ym Mhrydain, gyda bron i 12 y cant o deithiau’n cael eu gohirio neu eu canslo. Byddech yn cytuno â mi nad yw hyn yn ddigon da, yn enwedig o ystyried bod cynghorau fel Caerdydd, er enghraifft, yn ystyried cyflwyno taliadau atal tagfeydd. Felly, mae'n rhaid cael dulliau trafnidiaeth gyhoeddus amgen a dibynadwy ar waith yn fuan. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch amlinellu pam fod gan Gymru ddwy o’r gorsafoedd sy’n perfformio waethaf ym Mhrydain, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn?

Iawn. Mae'r ddwy orsaf hynny ar yr un llinell reilffordd. Cyfarfûm â Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i gwestiynu’r rhesymau dros y perfformiad gwael ar y llinell honno. Cefais sicrwydd eu bod yn mynd i'r afael â'r mater.

Nawr, ar draws y rhwydwaith mae’r perfformiad wedi bod yn gwella'n raddol ac yn gyson. Er bod siwrneiau teithwyr wedi cynyddu 13 y cant eleni, mae'r un peth yn wir am ddibynadwyedd; mae bellach yn 83.5 y cant. Dyna 83.5 y cant o holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn cyrraedd o fewn tri munud i'r amser a drefnwyd. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y buddsoddiad enfawr, yr £800 miliwn a wariwn ar drenau newydd, gan gynnwys y trenau trydan sy'n gweithredu ar linellau craidd y Cymoedd. Erbyn diwedd y prosiect £800 miliwn, byddwn wedi cynyddu’r fflyd o'r 270 o drenau a etifeddwyd gennym yn ôl yn 2018 i 484, gan greu un o fflydoedd trenau mwyaf newydd Prydain, ac un o’r mwyaf eu maint hefyd yn ein gwlad.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â rheilffordd cyflymder uchel 2 a fersiwn ddiweddaraf Llafur o'ch polisi. Pam fod Llafur wedi cael gwared ar yr alwad benodol i ailddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig, er ichi bleidleisio’n benodol dros hynny yn 2023?

Mae HS2 wedi bod yn her barhaus, rwy'n cyfaddef hynny. Rydym wedi galw'n rheolaidd am gyllid canlyniadol ac am fuddsoddiad teg, ac rwyf wrth fy modd, o ganlyniad i’r galwadau rheolaidd hynny, fod gennym bellach ymrwymiad, ni waeth beth fo’r dosbarthiad, i fuddsoddi mewn gwelliannau arfaethedig sy’n werth swm enfawr o arian i fynd i’r afael â thanariannu hanesyddol mewn perthynas â buddsoddi yn y rheilffyrdd ac i fynd i’r afael â’r diffyg cyllid canlyniadol mewn perthynas â HS2, sy’n gyfanswm o oddeutu £400 miliwn hyd yma. Rhoddaf hynny yn ei gyd-destun: mewn Cymru annibynnol, byddai hynny wedi'i golli o fewn deufis.

Ond nid yw hynny'n berthnasol i annhegwch cynhenid y safbwynt cychwynnol. Mae'n edrych fel pe bai Rhif 10 wedi dweud wrthych am leddfu'ch safbwynt. A chwarae teg i chi, rydych chi wedi cydymffurfio drwy roi teyrngarwch i'ch plaid o flaen Cymru.

Mae gwelliant Llafur i'r ddadl y byddwn yn ei chael yn nes ymlaen yn sôn am lefel briodol o gymharedd â rhaglenni Llywodraeth y DU. A yw hynny'n golygu derbyn llai na'r cyllid canlyniadol llawn ar gyfer cyfanswm gwariant HS2, y cofnodwyd eich bod wedi galw am £5 biliwn? Pam fod gofyn am y cyllid canlyniadol llawn wedi’i ddileu o bolisi presennol Llywodraeth Lafur Cymru?

Rydych yn dewis pwynt technegol penodol iawn am y dosbarthiad a'r cymharedd. Mae a wnelo hynny â’r ffaith ein bod wedi caffael llinellau craidd y Cymoedd, fel y gellir gosod unrhyw ystyriaeth yn y dyfodol o gyllid canlyniadol Barnett yn erbyn y ffaith bod gennym bellach seilwaith rheilffyrdd, neu o leiaf fod gan ran o Gymru seilwaith rheilffyrdd, yn ein dwylo ni. Bydd hynny’n rhoi budd i ni o ran cyllid canlyniadol, ni waeth a yw’n HS2 neu’n unrhyw raglen arall a ddosberthir fel un i Loegr yn unig, wrth symud ymlaen. O ran cyllid HS2, hyd yn hyn, byddai oddeutu £400 miliwn wedi dod i ni. Ar sail ar eich ffigurau eich hun y dywedaf y byddai hynny wedi'i golli mewn deufis yn unig mewn Cymru annibynnol. Mae hynny ar sail eich ffigurau eich hun. Mae’r diffyg cyllidol blynyddol o fwy na £2 biliwn yn golygu y byddai £400 miliwn yn cael ei golli, nid ar welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd, ond ar gynnal gwasanaethau presennol yn unig. Wrth symud ymlaen, yr hyn a wnawn yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â thanariannu hanesyddol, a gyfaddefwyd am y tro cyntaf erioed gan Weinidogion Llafur y DU, ac maent yn benderfynol, fel ninnau, o godi safon y seilwaith ar ein rhwydwaith rheilffyrdd.

13:50

Rwyf mor siomedig na wnaiff Llafur yng Nghymru gadw at ei safbwynt ei hun hyd yn oed. Dim ond Plaid Cymru sy’n sefyll o blaid Cymru yn gyson. Rydych wedi cael cyfle i weithio gyda'ch plaid i gyflawni newid trawsnewidiol, fel yr addawyd yn yr etholiad cyffredinol, ond yn hytrach, fe wnaethoch setlo am ddatrysiadau dros dro. Mae gwelliant Llafur yn nes ymlaen yn cael gwared ar yr alwad i ddarparu ffigurau wedi’u diweddaru ar y diffyg buddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru. Mae’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o danariannu, ond yn dileu'r alwad benodol am yr arian hwnnw.

A yw hyn yn golygu bod Llafur yng Nghymru yn gwneud esgusodion dros San Steffan? A ydych chi nawr yn hapus i ymateb i gwestiynau’r Prif Weinidog a chwestiynau’r llefarwyr drwy ddweud, 'Dyna swydd Keir Starmer’, er mor uchel eich cloch oeddech chi pan oedd rhywun arall wrth y llyw? Mae'r cyhoedd yn gweld drwy hyn; maent yn gweld drwy'r rhagrith. Yn etholiadau 2026, byddant yn cofio pwy roddodd Gymru'n gyntaf a phwy roddodd eu plaid yn gyntaf. A yw'n bryd gwneud tro pedol ar dro pedol, neu a ydym ni ar y ffordd i unman?

Rwyf wedi fy siomi gan yr hyn a glywais. Mae'n nonsens. Rydych chi eisiau annibyniaeth, onid ydych? A ydych chi eisiau bod yn annibynnol? A ydych chi eisiau gweld annibyniaeth yn digwydd?

Wrth gwrs. Felly, rydych chi'n fodlon achosi mwy na £2 biliwn o niwed—[Torri ar draws.] Dau biliwn o bunnoedd o niwed yng Nghymru bob blwyddyn. [Torri ar draws.] O ran HS2 a’r rheilffyrdd, am y tro cyntaf—

Edrychwch, gadewch i'r Gweinidog ateb y cwestiwn a ofynnwyd gan Peredur Owen Griffiths.

Rydych chi'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth eich ffigurau eich hun.

A gaf i ofyn i Aelodau eraill Plaid Cymru, os gwelwch yn dda—

Rydych chi eisiau annibyniaeth, felly rydych chi'n fodlon achosi mwy na—. Yn ôl eich ffigurau eich hun. Ac mewn gwirionedd, mae'n well gennyf ddibynnu ar ffigurau arbenigwyr academaidd, a nododd fod y ffigur oddeutu £13 biliwn, ac os felly, byddai £400 miliwn wedi mynd mewn dyddiau—[Torri ar draws.] Mewn dyddiau. Yn hytrach, yr hyn rydym ni'n ei wneud yw canolbwyntio ar gyflawni, ar weithio mewn partneriaeth â’r rheini yn San Steffan i fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd mewn ffordd na fyddech chi byth yn gallu ei gwneud mewn Cymru annibynnol. Byddai'n dioddef o ganlyniad i'r hyn rydych chi ei eisiau.

Trafnidiaeth Cymru

3. Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cael ei redeg fel busnes cystadleuol ac effeithlon? OQ62424

Rwy’n adolygu’n barhaus sut yr awn ati i fonitro perfformiad Trafnidiaeth Cymru, ac yn ddiweddar rwyf wedi cryfhau trefniadau craffu drwy gynyddu amlder fy sesiynau herio gyda’r cadeirydd a’r prif swyddog cyfrifyddu fel eu bod yn digwydd yn fisol, ac wedi comisiynu diweddariadau rheolaidd ychwanegol ar linellau craidd y Cymoedd a pherfformiad rheilffyrdd, a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol a chorfforaethol.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hynny'n swnio'n addawol iawn. Ond yn dilyn pryder a godwyd gyda mi gan yrrwr trên Trafnidiaeth Cymru, cyflwynodd fy swyddfa gais rhyddid gwybodaeth i Trafnidiaeth Cymru mewn perthynas â’i yrwyr a’i gasglwyr tocynnau a’u patrymau gyrru. Am y cyfnod y gofynnwyd amdano, roedd gan Trafnidiaeth Cymru, yn ôl eu ffigurau eu hunain, 89 o yrwyr a 70 o gasglwyr tocynnau, mwy na sydd ei angen i redeg y gwasanaeth. Mae hyn yn cyfateb i fil cyflog gormodol o dros £8 miliwn y flwyddyn. Mae gyrwyr wrth gefn yn gweithio shifftiau, ond ni ddyrennir llwybr iddynt y diwrnod hwnnw; maent wrth law yn y depo rhag ofn na all y gyrrwr a drefnwyd wneud y llwybr hwnnw am ba bynnag reswm. Ar gyfartaledd, mae 11 o yrwyr a chwe chasglwr tocynnau ychwanegol y dydd, ond dywedir wrthyf fod ganddynt deirgwaith y nifer hwnnw yn aml yn eistedd yn y depo.

Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n derbyn pam fod angen y gyrwyr a'r casglwyr tocynnau wrth gefn hyn i leihau nifer y gwasanaethau sy'n cael eu canslo neu sy'n hwyr, ond dywedir wrthyf fod y niferoedd yn sylweddol uwch nag yn y dyddiau pan oedd Arriva yn rhedeg y gwasanaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymchwilio i hyn i weld a yw Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg mor effeithlon â phosibl, ac ar yr un pryd, yn cynnal y gwasanaeth gorau posibl? Diolch yn fawr.

Fe edrychaf ar y mater hwn. Wrth gwrs, mae gennym gasglwr tocynnau ar bob trên, sy'n eithaf unigryw ym Mhrydain, ac rydym yn gwneud hynny am ein bod yn gwerthfawrogi'r rôl y mae casglwyr tocynnau yn ei chwarae yn gwarantu diogelwch ar ein trenau. O ganlyniad i gael cymaint o aelodau gwerthfawr o staff, rydym hefyd yn gallu gweithredu gan ganslo llai o wasanaethau na llawer iawn o weithredwyr trenau eraill. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae gan Avanti gyfradd ganslo o oddeutu 13.5 y cant, o gymharu â 5.5 y cant ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Felly, yn amlwg, mae cael staff wrth gefn yn helpu i osgoi canslo gwasanaethau, ond wrth gwrs, fe godaf y mater gyda Trafnidiaeth Cymru.

13:55

Ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor nad oedd y cynnydd a gafwyd yn ddigon a bod angen i refeniw tocynnau gynyddu. Fodd bynnag, i rai teithwyr, fel y nodwyd yn yr arolwg defnyddwyr rheilffyrdd diweddaraf, mae prisiau tocynnau trên Trafnidiaeth Cymru eisoes yn cael eu hystyried yn ddrud. A gwn fod y tocyn o Gyffordd Llandudno i Gaerdydd, a oedd yn £110, bellach yn £117, a dywedodd y dyn yn y swyddfa docynnau wrthyf, 'Ac maent yn codi eto cyn bo hir.' Felly, hoffwn gael eglurhad ar hynny.

Cydnabyddir a derbynnir mai prisiau fforddiadwy yw'r ateb allweddol i gynyddu nifer y teithwyr rheilffordd, ac y byddant, yn eu tro, yn lleihau’r angen am gymhorthdal cyhoeddus. Nawr, rwy’n deall eich bod wedi taro bargen, wrth basio cyllideb y Llywodraeth, gyda'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig, i gael cynllun peilot gwerth £15 miliwn i gynnig teithio ar fysiau am £1 yn unrhyw le yng Nghymru i bobl 16 i 21 oed. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r gostyngiad hwn ym mhrisiau tocynnau bws a pha effaith a gaiff hynny ar y defnydd o drenau? A chyda cholled o bron i £300 miliwn y llynedd, sut yr ewch chi i'r afael â hynny, fel bod Trafnidiaeth Cymru yn cael llai o gymhorthdal, gyda mwy o ddefnydd gan deithwyr, a gwneud yr hyn y dylai fod yn ei wneud mewn gwirionedd?

Mae’r Aelod yn codi nifer o bwyntiau a chwestiynau pwysig. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch iddi am dynnu sylw at y fargen gyllidebol gyda'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig, a fydd yn golygu bod 0.25 miliwn o bobl ifanc yng Nghymru yn elwa ar docyn wedi’i gapio ar £1 yn unig a phris tocyn dyddiol wedi’i gapio ar £3—hwb enfawr i bobl ifanc yng Nghymru sy’n dymuno cael mynediad at addysg a chyflogaeth. Mae’r refeniw tocynnau a gasglwyd gan Trafnidiaeth Cymru ar fin pasio £200 miliwn y flwyddyn, felly mae’r refeniw tocynnau wedi cynyddu’n eithaf sylweddol, ynghyd â nifer y gwasanaethau—mwy o wasanaethau trên yn cael eu gweithredu nag erioed o’r blaen a llawer iawn o wasanaethau ar drenau newydd sbon o ganlyniad i’n buddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau.

Wrth gwrs, mae yna brisiau siwrneiau wedi'u rheoleiddio a heb eu rheoleiddio, ac rwyf wedi dadlau ers amser maith dros ddiwygio'r drefn brisiau gymhleth iawn hon sydd weithiau'n annheg. Rwy'n falch iawn o ddweud, yn rhan o gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio'r rheilffyrdd, gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo i greu Great British Railways, y byddwn o'r diwedd yn gweld mater prisiau annheg ac anghysondeb y drefn brisiau siwrneiau yn cael sylw.

Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch gwell cysylltedd trafnidiaeth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam? OQ62421

Mae trafodaethau’n parhau rhwng yr Eisteddfod, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynglŷn â chynllun trafnidiaeth cydgysylltiedig. Gwelsom y llynedd ym Mhontypridd sut y sicrhawyd darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ragorol drwy ddull cydweithredol, a honno oedd yr Eisteddfod wyrddaf erioed. Felly, hoffwn weld yr un lefel o ddarpariaeth yn Wrecsam.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedwch, yn seiliedig ar y profiad ym Mhontypridd y llynedd, ond hefyd y tro diwethaf i Wrecsam gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl yn 2011, fe wyddom pa mor bwysig yw cysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy ac effeithlon i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu cyrraedd y maes yn hawdd. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gyda Trafnidiaeth Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o glywed am y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, fel y dywedwch, ganddynt hwy, gan Arriva UK Bus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd eto ym mis Awst. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod y trafodaethau cadarnhaol hyn yn parhau, a bod gennym gyllid digonol i sicrhau bod ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol yn gallu cael y cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol hynny?

A gaf i ddiolch i Lesley am ei chwestiwn atodol? Rwy’n ddiolchgar iawn iddi am godi’r mater hwn heddiw. Mae gennyf atgofion melys o Eisteddfod 2011, pan ddaeth Mark Drakeford i aros gyda mi, ac nid oedd gennym drafnidiaeth gyhoeddus o'r un safon ag sydd gennym heddiw, felly bu'n rhaid inni yrru i'r maes. Ond gyda’r Eisteddfod hon, rwy'n credu y bydd pethau'n wahanol. Nawr, wrth gwrs, mae’r safle ymhellach i ffwrdd o orsaf drenau nag ym Mhontypridd. Ym Mhontypridd, rwy'n credu ei bod yn cymryd oddeutu saith munud i gerdded i'r maes o'r orsaf drenau. Credwn y byddai'n cymryd dwy awr yn Wrecsam, felly ni fydd cerdded yn opsiwn fel yr oedd ym Mhontypridd. Felly, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gynllunio gwasanaethau gwennol yn ôl ac ymlaen o'r orsaf reilffordd, ac i sicrhau bod y rhwydwaith bysiau’n gweithredu’n effeithlon er mwyn darparu cyfleoedd i gynifer o bobl â phosibl fynd a dod o’r Eisteddfod ar fws.

14:00

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Wrecsam am godi hyn heddiw, oherwydd mae pobl yng ngogledd Cymru—a Wrecsam yn arbennig—yn gyffrous iawn fod yr Eisteddfod yn dod i'w hardal hwy yn yr haf. Y tu hwnt i'r haf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym am barhau i weld digwyddiadau mawr yn Wrecsam oherwydd ei fod yn lle mor groesawgar, ond mae heriau ynghylch rhai o'r cysylltiadau trafnidiaeth yno.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddoch am gynigion gan WSMR mewn perthynas â chysylltiad rheilffordd uniongyrchol o orsaf drenau Wrecsam drwodd i Lundain, sy'n agor Wrecsam i'r byd y tu hwnt i'w hardal leol, i ddenu mwy o ymwelwyr, a gobeithio, i ddenu mwy o ddigwyddiadau i'r ardal, i gefnogi'r economi leol. Fe fyddwch yn gwybod hefyd ei fod yn gwneud cynnydd da, ac a fyddech chi'n gallu parhau heddiw, yn y Siambr hon, i roi gair o gefnogaeth i'r prosiect hwnnw, fel y gallwn weld y cyswllt rheilffordd uniongyrchol hwnnw—llawer mwy rheolaidd, llawer mwy hygyrch i bobl—o Wrecsam drwodd i Lundain. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Yn wir, mae llawer iawn o gyffro yn Wrecsam am yr Eisteddfod a datblygiadau eraill wrth gwrs—yr amgueddfa bêl-droed, cynnydd y clwb pêl-droed ei hun, datblygiad porth Wrecsam, llwyddiant parhaus y banc datblygu, sydd â'i bencadlys yno, buddsoddiad, a chynnydd enfawr mewn twristiaeth. Mae llawer iawn yn digwydd yn Wrecsam y gallwn fod yn falch ohono. 

Rwy'n cefnogi mwy o wasanaethau rheilffordd sy'n cysylltu ein cymunedau yn well. Byddai cael y gwasanaeth y mae Sam Rowlands newydd ei amlinellu yn hwb enfawr i Wrecsam. Mae un cafeat y byddwn yn ei roi, sef na ddylai unrhyw wasanaeth newydd beryglu gwasanaethau presennol. Rhaid iddynt allu gweithio mewn ffordd gydnaws â'i gilydd. Siaradais â nifer o sefydliadau yr wythnos hon am y fenter honno, gan gynnwys yr aelod arweiniol dros drafnidiaeth ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston. Mae yna lawer iawn o frwdfrydedd yn ei gylch. Rwy'n gwybod bod heriau i'w datrys o hyd, ac rydym yn codi llais dros weld hynny'n digwydd.

Croesiad Pont Britannia

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau gwytnwch croesiad Pont Britannia? OQ62446

Gwnaeth adroddiad comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru ar wella gwytnwch croesfannau Menai 16 argymhelliad penodol. Nodwyd y chwe argymhelliad cyntaf fel blaenoriaethau, ac mae gwaith dichonoldeb manwl bellach ar y gweill. Mae hyn yn cynnwys gwella cyffyrdd ac aliniadau cerbytffyrdd, cyflwyno taflwyr gwynt ar bont Britannia, a gwelliannau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio.

Diolch am yr ateb yna. 

Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb, ond rwy'n rhwystredig iawn fod pethau'n cymryd cymaint o amser. Mae'n 15 mis ers i'r comisiwn gyflwyno'i adroddiad. Derbyniais lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yn esbonio bod astudiaethau dichonoldeb ar y gweill. Mae dros flwyddyn ers i'r Gweinidog trafnidiaeth blaenorol ddweud bod astudiaethau dichonoldeb yn cael eu caffael. Mae dros 10 mlynedd ers imi ofyn am astudio'r opsiwn tair lôn yn fanwl.

Yna fe wnaethom ennill yr achos dros bont newydd. Cawsom ein hamddifadu o honno, ac mae gennym groesfan agored i niwed yma sy'n creu perygl o ynysu Ynys Môn ar adeg pan ydym yn gweld stormydd mwy a mwy ffyrnig a all arwain at gau'r bont, a hyn ar ffordd allweddol at borthladd y mae Ysgrifennydd y Cabinet am ei weld yn cael ei gefnogi ar gyfer y dyfodol.

Dro ar ôl tro, fe gaf y teimlad—nid fis ar ôl mis ond flwyddyn ar ôl blwyddyn—fod yma Lywodraeth sy'n gohirio gweithredu ar hyn. Pa bryd y cawn ni amserlen ar gyfer symud ymlaen, ac a allwn ni gael sicrwydd fod hynny'n dal i gynnwys opsiwn tair lôn fel posibilrwydd ar unwaith hefyd?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwyntiau pwysig yma: yr ymyrraeth yr ydym yn bwrw ymlaen â hi ar bont Britannia, ar bont Menai, a hefyd yr angen i barhau i ystyried y posibilrwydd o drydedd groesfan dros y Fenai. Nid yw'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd yn diystyru trydedd groesfan. Rwy'n credu bod angen inni wneud mwy yn y tymor byr i'r tymor canolig i wella gwytnwch y croesfannau presennol. Dyna pam y mae'r gwaith ar bont Menai yn dechrau eto y mis hwn, a bydd yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer daucanmlwyddiant y bont. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol hefyd, sy'n destun ymgynghori ar hyn y bryd, yn nodi pa mor fregus yw Ynys Môn o ganlyniad i gael dwy groesfan, gyda'r naill fel y llall yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu batrymau tywydd garw. Rwyf wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r chwe blaenoriaeth, ond byddaf yn darparu amserlen ddangosol i'r Aelod ar gyfer cyflawni, oherwydd fy mod yn credu mai dyna'n union sydd angen i bobl ei gael. Mae angen i bobl wybod ar Ynys Môn pryd y gallant ddisgwyl i'r Fenai gael set fwy gwydn o groesfannau.

14:05
Y Rhwydwaith Priffyrdd a Llifogydd

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau cadernid y rhwydwaith priffyrdd yn erbyn llifogydd? OQ62434

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i wella gwytnwch y rhwydwaith priffyrdd rhag llifogydd. Mae'r bartneriaeth hon yn cynnwys cynllunio strategol, dyraniadau ariannol a gweithredu prosiectau penodol gyda'r nod o liniaru risgiau llifogydd.

Mae llawer o lonydd a ffyrdd gwledig yn cael eu difrodi gan ddŵr ffo o gaeau, ffosydd wedi'u blocio, ceuffosydd a thir preifat arall. O dan gyfraith glannau afon, tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am reoli'r rhain, gan gynnwys ar ochr priffyrdd, ac efallai na fydd llawer ohonynt yn gwybod hynny. Mae swyddogion draenio a phriffyrdd mewn cynghorau wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth i roi gwybod i dirfeddianwyr mai eu cyfrifoldeb hwy yw hyn. Mae'n ymddangos bod dryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol amdanynt. Awgrymwyd y gellid rhoi taflen neu adnodd arall i dirfeddianwyr. Byddai'n offeryn defnyddiol iawn yn hyn o beth, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oedd yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Yn gynharach, yn y pwyllgor, fe wnaethom holi CNC am hyn ac roeddent yn dweud bod gwybodaeth ar eu gwefan, ond nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon fel offeryn. Felly, a wnewch chi ystyried gwneud hyn, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru?

Yn bendant. A gaf i ddiolch i Carolyn am ei chwestiwn atodol? Mae sawl math o ddeddfwriaeth ar waith sy'n tynnu sylw at gyfrifoldebau tirfeddianwyr glannau afon mewn perthynas â llifogydd, ac mae unrhyw un sy'n berchen ar dir neu eiddo sydd naill ai'n cynnwys neu sydd wrth ymyl afon, nant neu ffos yn dirfeddiannwr glannau afon. Rwy'n credu mai y llynedd y darparodd y Gweinidog newid hinsawdd ar y pryd ddatganiad ysgrifenedig ynghylch y mater hwn, ond mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a byddaf yn gofyn iddynt adolygu'r sefyllfa, pan fyddant yn cyfarfod nesaf, i drafod y ffyrdd gorau o hysbysu tirfeddianwyr am eich pryderon a'u cyfrifoldebau.

Llwybrau Teithio Llesol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod llwybrau teithio llesol yn hygyrch i bobl ag anableddau? OQ62441

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cerdded, olwyno a beicio yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer seilwaith cynhwysol, megis croesfannau diogel, cyrbau is, palmant botymog, ac integreiddio gwell â thrafnidiaeth gyhoeddus, gan hyrwyddo mynediad cyfartal o fewn a rhwng cymunedau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, un o'r rhwystrau mwyaf i deithio llesol i bobl ag anableddau yw malltod parcio ar balmentydd. Addawodd y cyn-Weinidog trafnidiaeth y byddai'n mynd i'r afael â'r broblem, ond mae parcio anystyriol yn dal i fod yn rhwystr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, yn ogystal â'r rhai sydd wedi colli eu golwg, rhag dewis opsiynau teithio llesol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am ymdrechion i fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd ac unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio ynghylch sicrhau bod tai newydd yn cynnwys cyfleusterau parcio digonol i gael gwared ar yr angen i barcio ar balmentydd? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Altaf Hussain am godi'r mater hwn heddiw yn y Siambr? Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i edrych ar sut y gallwn fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ganfod a oes modd datblygu dull cyfunol o weithredu ar y mater hwn. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn y flwyddyn sydd i ddod, y byddwn yn mynnu bod 60 y cant fan lleiaf o'r dyraniadau craidd ar gyfer teithio llesol yn cael eu gwario ar lawr gwlad, ar welliannau ffisegol, ar welliannau seilwaith, megis cyrbau is, palmentydd botymog a mesurau ataliol i rwystro pobl rhag parcio ar balmentydd. Mae hynny'n arwydd o'r cyfeiriad y byddwn yn anelu tuag ato fel Llywodraeth, ond byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol a Llywodraeth y DU i sicrhau, gyda'n gilydd, y gallwn fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd.

14:10
Y Rhwydwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

8. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ62416

Ein blaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru yw gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, adeiladu ffyrdd gwell, datganoli'r broses o wneud penderfyniadau i'r gogledd drwy ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol, a darparu metro gogledd Cymru.

Wrth eich holi yma yn 2018 yn ystod eich cyfnod cyntaf fel Ysgrifennydd trafnidiaeth, nodais weledigaeth dwf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer dogfen cynnig drafft gogledd Cymru, a nodai fod y rhanbarth yn gwahodd Llywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol ac ariannu'r gwaith o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig wedi'i gynllunio'n dda, ac y bydd angen pwerau ychwanegol i alluogi'r gwaith o gynllunio rhwydweithiau cludo teithwyr integredig. Yn eich ymateb, fe wnaethoch chi gyfeirio am y tro cyntaf yn lle hynny at fetro gogledd Cymru. Fel y gwyddoch, rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer gogledd Cymru, ac yn ein cyfarfod ym mis Chwefror 2023 roeddech chi'n dadlau o blaid datganoli'r broses o wneud penderfyniadau ar ystod o faterion trafnidiaeth i'r rhanbarth, ac fe ddywedoch chi y gallai hyn gynnwys datganoli cyllid i gyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru. Gan eich bod bellach ar eich ail gyfnod fel Ysgrifennydd trafnidiaeth, sut y gallwch chi gysoni eich datganiad fis diwethaf y bydd penderfyniadau ynghylch cyllido grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cael eu gwneud gan gyd-bwyllgorau corfforedig yn seiliedig ar gynllun cyflawni y cytunwyd arno, gyda Llywodraeth Cymru, rwy'n tybio, â'r dull gweithredu a argymhellwyd gan y bwrdd uchelgais o'r cychwyn sef rhanbartholdeb a datganoli go iawn?

Rwy'n falch iawn o ddweud, yn fy ail gyfnod, ein bod yn gwneud yr hyn y dywedais y dylem ei ddechrau yn fy nghyfnod cyntaf, sef datganoli'r adnodd ariannol a'r broses o wneud penderfyniadau i'r rhanbarth—ie, i'r cyd-bwyllgor corfforedig, ond fe allai'r cyllid fod yn mynd yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mater i'r cyd-bwyllgorau corfforedig yw penderfynu sut y mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu yn erbyn eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol y cytunwyd arnynt. Hoffwn weld y rhai sy'n adnabod y rhanbarthau orau yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth. Dyna a wnawn gyda datganoli.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at adroddiad diddorol saith mlynedd yn ôl. Rwy'n meddwl hefyd—ac rydym yn mynd yn ôl ymhellach byth nawr—fod Elizabeth Haywood wedi argymell cynllun tebyg o ymyrraeth, creu awdurdod trafnidiaeth, yn ei hadroddiad ar ddinas-ranbarthau. Rwy'n awyddus i edrych ar hyn fel proses yn hytrach nag un digwyddiad, ac yn y dyfodol mae'n ddigon posibl y gwelwn esblygu tuag at hynny, gan ddefnyddio strwythurau a roddwyd ar waith gennym drwy'r cyd-bwyllgor corfforedig. Ni fyddwn yn disgrifio datganoli i'r rhanbarthau fel pen draw, serch hynny. Mae'n rhan o broses.

Seilwaith Trafnidiaeth

9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella seilwaith trafnidiaeth ar draws Gorllewin De Cymru? OQ62426

Mae ein strategaeth drafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn nodi ein gweledigaeth i wella trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon yn ne-orllewin Cymru drwy'r prosiectau a nodir yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a chynllun trafnidiaeth rhanbarthol de-orllewin Cymru, sy'n destun ymgynghori ar hyn o bryd.

Diolch am eich ateb. Fe wyddoch fy mod, ychydig dros fis yn ôl, wedi tynnu sylw'r Prif Weinidog at ganslo gwaith uwchraddio allweddol ar gyffyrdd ar yr M4, o gwmpas Abertawe yn enwedig, a chyffordd 47 ym Mhenlle'r-gaer a chyffordd 45 yn Ynysforgan yn benodol. Gwyddom y byddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r llif traffig ar yr M4, y tagfeydd a all fodoli ar y cyffyrdd ac ar draws y cymunedau hynny, yn enwedig ar adegau prysur. Dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i fy nghwestiwn y byddech yn edrych ar hyn yn fanylach i weld a ellid atgyfodi'r cynlluniau hyn a gafodd eu canslo gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol. A gaf i ofyn am ddiweddariad gennych chi ar eich gwaith ar yr adolygiad hwnnw a pha waith arall y gallaf i fel Aelod rhanbarthol dros yr ardal, ac ymgyrchwyr lleol hefyd, ei wneud i helpu i gyflwyno'r achos i chi ein bod angen gwella'r cyffyrdd hyn fel y gallwn gael Abertawe i symud? 

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei gwestiwn? Rwy'n cydnabod y tagfeydd y mae pobl yn eu profi ar yr M4 ar gyffyrdd 45 a 47. Rwy'n cofio'r Aelod yn codi'r mater gyda'r Prif Weinidog yn ddiweddar. Mae'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yn cynnwys ymrwymiad i wella diogelwch, gwytnwch a newid dulliau teithio ar yr M4. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gydag awdurdodau lleol, y cyd-bwyllgor corfforedig a rhanddeiliaid ehangach i ystyried lle mae angen gweithredu ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol a byddant yn edrych ar y cyffyrdd hyn. Byddaf yn adrodd yn ôl cyn gynted ag y caf fwy o wybodaeth.

Cysylltedd Trafnidiaeth

10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cysylltedd trafnidiaeth da cyn gwyliau a digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd? OQ62442

Rydym yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd, awdurdodau lleol eraill a threfnwyr y digwyddiadau eu hunain i gytuno ar gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer digwyddiadau mawr. A diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gallu darparu llawer mwy o gapasiti i deithwyr cyn ac ar ôl digwyddiadau o'r fath.

14:15

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae Caerdydd yn cynnal nifer cynyddol o ddigwyddiadau mawr sydd, heb os, yn dod â refeniw i lawer o fusnesau yn y ddinas a'r cyffiniau sy'n darparu gwasanaethau lletygarwch. Yn ddiweddar, mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd wedi siarad ynglŷn â sut y bydd Caerdydd yn ystyried cyflwyno treth dwristiaeth, a hyd yn oed sut y gallent edrych ar gyflwyno premiwm ar ddiwrnodau digwyddiadau. Os caiff hyn ei gyflwyno, heb os, bydd pobl a fyddai wedi gwneud hynny fel arall yn dewis peidio ag aros yn y ddinas dros nos, a gallwn ddisgwyl felly y bydd hyn yn rhoi mwy o straen ar seilwaith trafnidiaeth y ddinas yn ystod ac o gwmpas diwrnodau digwyddiadau. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i bennu'r cynnydd posibl mewn traffig a defnydd trenau mewn digwyddiadau mawr pan fydd y dreth dwristiaeth a phremiwm posibl ar ddiwrnodau digwyddiadau wedi'u cyflwyno? Diolch.

Mae dwy ran i'r cwestiwn. Yn gyntaf oll, yr honiad fod ychydig mwy o bunnoedd ar gost ystafell ar anterth y tymor a phan fydd digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yn atal pobl rhag dod i Gaerdydd—nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Os yw pobl yn talu mwy na £250 am ystafell mewn gwesty, rwy'n credu bod ychydig mwy o bunnoedd yn rhan o ardoll i wella'r lle yn rhywbeth y byddai'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn ei dalu, mae'n debyg; nid wyf yn siŵr y byddent o reidrwydd yn sylwi arno os ydynt yn talu £200, £300, £400 am ystafell mewn gwesty. Ond mae Llywodraeth Cymru yn rheolaidd yn mynychu—ar yr union bwynt yr oedd yr Aelod yn gofyn yn ei gylch mewn gwirionedd, ac asesiadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud—grŵp cyswllt digwyddiadau'r stadiwm. Mae hynny'n cynnwys cynrychiolwyr o'r heddlu, y sector rheilffyrdd, y gwasanaeth ambiwlans, Cyngor Caerdydd ei hun wrth gwrs, Undeb Rygbi Cymru a llawer o sefydliadau eraill. Mae'n cyfarfod yn rheolaidd i drafod effeithiau posibl y gallai digwyddiadau yn y ddinas eu cael ar y rhwydwaith trafnidiaeth, ac i gynllunio yn unol â hynny. Bydd hynny'n digwydd beth bynnag fydd lefel yr ardoll twristiaeth sy'n cael ei gosod ar ymwelwyr, ond fel y dywedais, pan fydd digwyddiadau mawr arwyddocaol yn digwydd, nid wyf yn credu y byddai cynnydd bach yn yr ardoll ymwelwyr yn cael effaith sylweddol ar nifer yr ymwelwyr.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone. 

Tlodi Plant

1. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch lleddfu tlodi plant? OQ62440

Member
Jane Hutt 14:17:46
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys trwy grŵp gweinidogol y pedair gwlad ar strategaeth tlodi plant y DU, i drafod sut y gallant ddefnyddio eu dulliau i gefnogi ein strategaeth tlodi plant a helpu i fynd i'r afael â thlodi plant yma yng Nghymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn clywed adroddiadau diweddar fod Gweinidogion y DU yn bwriadu eithrio plant o dan bump oed, plant anabl a phlant rhieni sydd mewn gwaith o'r terfyn dau blentyn a osodwyd ar blant dros y saith neu wyth mlynedd diwethaf. Nid oes gan blant bleidlais ac maent yn byw yng nghysgod y terfyn dau blentyn hwn, tra bo pensiynwyr yn cael eu diogelu gan y clo triphlyg a gallant ddefnyddio eu pleidlais yn erbyn unrhyw blaid sy'n bygwth ei ddileu. Gan fod gennym y Cenhedloedd Unedig bellach yn gofyn i Lywodraeth y DU ddiddymu'r polisi gwahaniaethol hwn, a Sefydliad Joseph Rowntree yn rhagweld y bydd 32,000 o blant ychwanegol yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn 2029, pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd os yw'r apeliadau am newid yn disgyn ar glustiau byddar?

Diolch, Jenny Rathbone. Wrth gwrs, fe wyddom y gallai polisïau nawdd cymdeithasol effeithio ar dlodi plant. Dyma fan cychwyn fy nhrafodaethau a fy nghyfraniadau i dasglu pedair gwlad Llywodraeth y DU, ac rwy'n ymwybodol o'r trafodaethau sydd wedi cael eu darlledu a'r adroddiadau sydd wedi eu cyflwyno ynghylch opsiynau sydd dan ystyriaeth ar gyfer newidiadau i'r terfyn dau blentyn presennol.

I gadarnhau, rwyf i'n bersonol wedi codi mater y terfyn dau blentyn a diwygio lles yn ehangach gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Mae'n bwysig ein bod yn archwilio effaith y polisi nawdd cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na dull tameidiog o edrych ar bolisïau unigol. Ond mae'r adroddiadau diweddar, fel y dywedoch chi, y cap dau blentyn i'w adolygu neu ei ddiddymu, gan gynnwys yr adroddiad pwysig gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, materion a godwyd gan y Resolution Foundation ac adroddiadau Cyngor ar Bopeth—. Felly, yn amlwg, rydym yn aros am y canlyniad. Mae gennym gyfarfod o'r tasglu pedair gwlad yr wythnos nesaf hefyd, felly edrychaf ymlaen at godi'r mater hwn unwaith eto, yn fwyaf arbennig i gael eglurhad ynglŷn â beth a allai fod ar y ffordd o ran strategaeth tlodi plant y DU. Oherwydd fe wyddom fod polisïau nawdd cymdeithasol, fel y dywedais, yn cael effaith arbennig ar dlodi plant, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi fel blaenoriaeth lwyr fel Llywodraeth Cymru.

14:20

Ysgrifennydd y Cabinet, mae data'n dangos yn gyson bod tlodi ac anghydraddoldeb yn effeithio ar oes gyfan plentyn. Mae'n effeithio ar eu haddysg, sy'n cyfyngu ar eu rhagolygon cyflogaeth, mae'n effeithio ar eu sefyllfa dai a'u hamgylchedd cymdeithasol, ac mae hyn yn ei dro yn effeithio ar eu canlyniadau iechyd, sydd, unwaith eto, yn y tymor hir, hefyd yn effeithio ar eu gallu i weithio. Gwyddom fod hyn yn creu cylch dieflig sy'n gorfodi tlodi ar y genhedlaeth nesaf, ac mae'n anodd torri allan o'r cylch hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae lleihau tlodi plant o fudd i bawb, ac rwy'n cydnabod faint o waith ac arian sydd wedi'i fuddsoddi i helpu i'w leihau. Fodd bynnag, erys y ffaith bod y cyfraddau'n parhau i fod yn ystyfnig o uchel. O siarad ag elusennau ac ysgolion, un o'r ffactorau a grybwyllir yn aml yw diffyg cydweithio rhyngasiantaethol ar y mater hwn. Mae angen gwell cydgysylltiad ar wasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd a'r trydydd sector, nid yn unig i gyflymu ymyrraeth pan fo angen, ond i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ganddynt. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa strategaeth sydd gan Lywodraeth Cymru i wella rhyng-gysylltedd asiantaethau sy'n cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, Joel James. Fel y gwyddoch, wrth gwrs, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth tlodi plant drawslywodraethol ein hunain y llynedd, ac un o'r pwyntiau allweddol yn y strategaeth honno, a gasglodd ynghyd, mewn ymgynghoriad, nid yn unig yr holl sefydliadau statudol sy'n gyfrifol, y rhai sydd â chyfrifoldeb ac sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau a phrofiadau plant, ond hefyd y trydydd sector a'r plant eu hunain. Cyfarfûm â Cymru Ifanc dros y penwythnos, ac roeddem yn sôn—yn arbennig, roeddent am siarad am effaith tlodi plant a'r ffyrdd y gallem fynd i'r afael â hyn. Felly, rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â phlant a phobl ifanc a'u sefydliadau cynrychioliadol. Ond mae'n sicr yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth.

Felly, rwy'n credu mai dyna pam ei bod mor bwysig mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim. Pan ddeuthum i'r swydd, roedd sylwadau gan sefydliadau allanol a'r dystiolaeth yn glir, pe gallem gynnig prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd, fel rydym bellach yn ei wneud—dros 35 miliwn o brydau ychwanegol wedi'u gweini ers y lansiad ym mis Medi 2022—mae hyn yn cefnogi aelwydydd incwm isel. Mae'n cefnogi disgyblion cymwys, mae'n cefnogi pob disgybl gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, ac yn wir, mae ymrwymiad i gynnal brecwast am ddim yn yr ysgol gynradd hefyd.

Ond hoffwn ymateb hefyd i'r ymgysylltiad trawslywodraethol a'r ymgysylltiad polisi traws-sectoraidd i nodi ein bod, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod â strategaeth arloesi tlodi plant hefyd, gydag arloesedd a grantiau ategol ar gyfer 2024-25, ac rwy'n credu bod yr enghreifftiau, yn enwedig yn eich rhanbarthau, yn bwysig i ddangos y gwahaniaeth y gall ei wneud. Caiff rhai o'r prosiectau hyn eu harwain gan awdurdodau lleol, rhai gan y gwasanaeth iechyd, a rhai gan sefydliadau plant a sefydliadau cymunedol i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thlodi plant.

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn pwysig hwn. Mae fy nghwestiwn atodol, Drefnydd, yn ymwneud â phlant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi ar aelwydydd sy'n gweithio. Nawr, yn ôl data Llywodraeth Cymru, yn 2010 nid oedd gan 50 y cant o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol riant mewn gwaith. Fodd bynnag, mae'r ffigur bellach wedi codi i 75 y cant o blant yn byw mewn tlodi cymharol gyda rhiant yn gweithio. Mae data'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos mai'r ffigur cyfatebol ledled y DU yw 63 y cant. Felly, mae'r ffigur yn llawer gwaeth yng Nghymru, yn llawer mwy difrifol yng Nghymru. Mae plant sy'n byw mewn tlodi hyd yn oed pan fyddant yn byw ar aelwyd sy'n gweithio yn fater difrifol yma yng Nghymru, a byddwn yn awgrymu bod angen ateb penodol i Gymru. Felly, beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i wyrdroi'r duedd bryderus hon? Diolch yn fawr.

14:25

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Ac mae hyn hefyd wedi'i godi yn ein tasglu pedair gwlad a rhyngweinidogol ar fynd i'r afael â thlodi plant, fod y rhai sydd mewn gwaith yn aml yn hawlio credyd cynhwysol ac mewn gwaith. Mae'r rhai sydd mewn gwaith yn aml yn cael eu harwain gan deuluoedd un rhiant hefyd. Felly, dyma pam y mae ein holl waith i sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—. Ac mae ganddynt hawl i fudd-daliadau a fyddai ar gael iddynt os ydynt mewn gwaith hefyd. Mae'n hanfodol bwysig gweld, er enghraifft, yn rhanbarth Caerdydd a'r Fro, fod gwasanaethau wedi helpu mwy na 63,000 o bobl o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac ymylol i hawlio incwm ychwanegol o dros £9.2 miliwn. Digwyddodd hynny drwy'r gronfa gynghori sengl a gyflwynwyd gennym ym mis Ionawr.

Wrth gwrs, os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, gall prydau ysgol am ddim a'r brecwast ysgol am ddim helpu'r rhiant sy'n gweithio. Ond hefyd, ceir manteision eraill yr ydym yn annog ein holl rieni i fanteisio arnynt, er enghraifft y taleb Cychwyn Iach, sy'n fudd-dal y DU. Nawr, gall taliadau Cychwyn Iach helpu i brynu ffrwythau, llysiau a llaeth, er enghraifft. Mae'n £4.25 yr wythnos ar gyfer menywod beichiog cymwys ac i blant o'u pen-blwydd cyntaf tan eu pen-blwydd yn bedair oed, ac £8.50 yr wythnos i fabanod hyd at flwydd oed. Mae'n bwysig iawn, unwaith eto, ein bod yn cael cyfle drwy'r cwestiynau hyn i atgoffa ein cyd-Aelodau, a phawb a gynrychiolir gennych yn wir, am yr hawliau hyn er mwyn sicrhau bod pobl wedi cael—. Hynny yw, arian yn y boced sydd ei angen arnynt.

Yn anffodus, ceir pryderon hefyd fod llawer o rieni sy'n gweithio, yn yr oes sydd ohoni, o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni ariannol, yn gorfod troi at fanciau bwyd. Ac rydym yn gwybod bod rhieni sy'n gweithio yn troi at fanciau bwyd. Felly, mae hyn yn mynd yn ôl at y cwestiwn cyntaf un am y system nawdd cymdeithasol, a galluogi rhieni sy'n gweithio i gael cyflogau gwell, gwaith teg, y cyflog byw gwirioneddol, oherwydd gwyddom y bydd hynny'n sicrhau bod llai o blant yn byw mewn tlodi. Felly, mae'n ymateb trawslywodraethol i raddau helaeth.

Taliadau Sefydlog

2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ofgem ynghylch taliadau sefydlog? OQ62429

Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi galw ar gyfarwyddwyr Ofgem i ddiwygio taliadau sefydlog gan eu bod yn sylfaenol annheg i bobl yng Nghymru. Rwy'n credu fy mod wedi codi hyn ar 24 Chwefror hefyd pan gyfarfûm â chyfarwyddwyr Ofgem i drafod effaith y cap diweddaraf ar brisiau a gyhoeddwyd y diwrnod hwnnw.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Ar hyn o bryd gogledd Cymru sydd â'r tâl sefydlog dyddiol uchaf am drydan yn unrhyw ran o'r DU. Ar ychydig dros 69 ceiniog, mae'n sylweddol uwch na mewn rhanbarthau eraill, gyda Llundeinwyr yn wynebu tâl o ychydig dros 46 ceiniog a thrigolion de Cymru ychydig dros 51 ceiniog. Ond nid yw'r baich hwn yn dod i ben yno; cyfradd yr uned ar gyfer trydan yng ngogledd Cymru yw'r uchaf yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'n deg, nid yw o fudd i fy etholwyr ac mae angen ei gywiro. Er fy mod yn cydnabod bod newid y tu allan i bwerau'r lle hwn a Llywodraeth Cymru, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn sefyllfa annerbyniol i bobl gogledd Cymru.

Un ffordd o fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn ac effaith ehangach costau ynni cynyddol fyddai trwy dariff cymdeithasol ystyrlon. I fod yn glir, dylai hwn fod yn ychwanegol at unrhyw gymorth presennol i ddefnyddwyr ac nid cymryd ei le, a dylai fod wedi'i anelu at y bobl a'r lleoedd sydd ei angen fwyaf. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith archwilio a gweithredu pellach i gryfhau tariffau cymdeithasol fel ffordd o liniaru effaith costau ynni uchel a sicrhau tegwch i fy etholwyr a'r rhan hon o'r wlad? Ac yn ogystal, a ydych chi'n credu y dylai fod rhwymedigaeth gymdeithasol ar gyflenwyr i drosglwyddo pobl yn awtomatig i'r gyfradd rataf?

Diolch am y cwestiwn pwysig hwn. Ac mewn gwirionedd, cododd y cwestiwn yr wythnos diwethaf yn y grŵp trawsbleidiol ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ac fel y dywedwch, cwsmeriaid yng ngogledd Cymru sy'n talu'r taliadau sefydlog uchaf ym Mhrydain, ac maent dan anfantais o'r fath oherwydd eu bod yn byw mor agos at ffynonellau o drydan adnewyddadwy fforddiadwy, sy'n cael ei allforio drwy'r grid cenedlaethol. Felly, unwaith eto, rwyf wedi bod yn cael y trafodaethau hyn gydag Ofgem—fe'u cawsom yn y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom bwysleisio'r angen am adolygiad cyfannol o daliadau manwerthu. Wrth gwrs, mae mater taliadau sefydlog yn hanfodol, ac rydym wedi galw am eu diddymu ond fel y dywedwch, y ffordd ymlaen ar gyfer diwygio yw cyflwyno tariff cymdeithasol.

Felly, rwyf wedi codi hyn, nid yn unig bob tro y byddaf yn cyfarfod ag Ofgem, ond pan gyfarfûm â Gweinidog Defnyddwyr Ynni y DU ym mis Hydref y llynedd—y Gweinidog Fahnbulleh—i drafod a allwn weithio gyda'n gilydd dros fath effeithiol parhaol o ddiogelwch i ddeiliaid tai mewn angen. Maent yn adolygu eu strategaeth tlodi tanwydd. Rwy'n credu y bydd eu cynllun cartrefi cynnes sydd ar y ffordd yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. A chodais gyda Llywodraeth y DU y posibilrwydd o dariff cymdeithasol a mathau eraill o ddisgownt cymdeithasol, gan ein bod yn credu mai dyna'r ffordd flaengar a all gefnogi ein haelwydydd mwyaf agored i niwed. Ond hefyd fe wyddom fod tariff cymdeithasol yn gweithio yn y diwydiant dŵr; mae'r tariff cymdeithasol yn gweithredu trwy lawer o'n cwmnïau dŵr. Ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth lle mae'n rhaid inni gyflwyno'r achos: rydym wedi cefnogi tariff cymdeithasol, ac rwy'n credu bod llawer o gefnogaeth ar draws y Siambr hon i dariff cymdeithasol. Felly, diolch am roi hyn ar yr agenda eto heddiw.

14:30

Fel y gwnaethom ei drafod yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, aelwydydd gogledd Cymru a Glannau Mersi sy'n dal i dalu’r taliadau sefydlog uchaf yn y DU am ynni, ni waeth faint y maent yn ei ddefnyddio. Ar ôl ichi orfod gadael y cyfarfod, dywedodd Ofgem wrthym fod hyn yn rhannol oherwydd dwysedd y rhwydwaith, ac yn rhannol oherwydd nodweddion cynllunio gogledd Cymru, a bod yr amrywiad rhanbarthol hwn yn rhywbeth roeddent yn ei edrych arno. Ar ôl nodi bod gogledd Cymru yn gynhyrchydd ac yn allforiwr ynni, gofynnais i Ofgem a ydynt yn ystyried sut y gall y rhanbarthau sydd â’r taliadau sefydlog uchaf, sydd hefyd yn gynhyrchwyr ynni net, elwa ar hynny yn eu biliau. Yn eich trafodaethau ag Ofgem, pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi felly i’w hymateb nad ydych, ar hyn o bryd, yn cael unrhyw fudd rhanbarthol ar gyfanwerthu ond eich bod yn cael cost ranbarthol ar y rhwydwaith? Rwy'n credu eu bod wedi dweud, 'Wyddoch chi, byddem yn ceisio dod â'r ddau benderfyniad hynny yn unol â'i gilydd.'

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am y rôl y mae’n ei chwarae yn y grŵp trawsbleidiol, fel y cadeirydd, a hefyd am y profiad enfawr sydd gennych a’r ymgysylltu a wnewch gyda’r sefydliadau sydd â’r holl dystiolaeth, sy’n gweithio ar y rheng flaen? Ac wrth gwrs, clywsom gan National Energy Action, sy’n gwasanaethu ac yn cefnogi’r gweithgor, y grŵp trawsbleidiol. Ond credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn eich bod wedi cael y drafodaeth honno, eich bod wedi cael y dirprwy gyfarwyddwr yno o Ofgem, a bod gennych arbenigwyr o amgylch y bwrdd—y rheini ar y rheng flaen. Felly, byddaf yn ystyried hyn, o ran y cwestiynau a’r materion a godwyd gennych ac y buoch yn eu harchwilio gyda hwy, a'r amrywio rhanbarthol a chost ranbarthol ar y rhwydwaith. Rwy'n ddiolchgar am hynny.

Y pwynt am daliadau sefydlog yw nad ydynt yn ystyried gallu defnyddwyr i dalu, ac ni all aelwydydd leihau effaith taliadau sefydlog. Mewn gwirionedd, cawsom gryn dipyn o wybodaeth am ddyled ynni yn y cyfarfod hwnnw, oni chawsom, Mark, ac roedd yn warthus clywed bod pobl yn talu taliadau sefydlog pan nad ydynt hyd yn oed yn cael cyflenwad tanwydd, gan eu bod wedi'u datgysylltu, drwy fesuryddion rhagdalu yn fwyaf arbennig. Felly, diolch am eich cyfraniad; byddaf yn mynd ar drywydd y mater.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid Cymru yn blaenoriaethu dull system gyfan o atal plant a phobl ifanc rhag troseddu. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos ei fod yn gweithio. Rydym wedi gweld ffrwydrad o droseddau treisgar gan bobl ifanc yn ddiweddar, gyda’r digwyddiad ofnadwy yn Ysgol Dyffryn Aman, a dynnodd sylw at y troseddau cyllyll a gyflawnir gan bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld pa mor gyffredin yw hyn, gyda thri o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu harestio mewn maes awyr am geisio llofruddio rhywun. Ond nid yw'n gyfyngedig i'n dinasoedd: trywanodd bachgen 16 oed lanc arall yn ei arddegau yn y canolbarth dros y penwythnos. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau sydd wedi’u cynnal yn y Cabinet, gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y troseddau treisgar sy’n cael eu cyflawni gan bobl ifanc?

14:35

Diolch am eich cwestiwn, Altaf Hussain. Ac rwy'n credu bod y glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2019—ac mae'n cynnwys dull gweithredu ataliol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac yn rhoi'r plentyn yn gyntaf i ddiwallu anghenion plant yn y system gyfiawnder—wedi bod yn effeithiol. Mae wedi bod yn effeithiol am ei fod wedi lleihau nifer y bobl ifanc sy’n mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r meysydd polisi hollbwysig yn ymwneud ag atal, ac mae’n rhaid imi ddweud bod y glasbrint hwn ar gyfer cyfiawnder ieuenctid wedi’i ddatblygu gyda’r Llywodraeth Geidwadol flaenorol, gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a Llywodraeth Cymru, plismona yng Nghymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr. Ond gyda’n gilydd, fe wnaethom ddatblygu’r cynllun hwn, ac wrth gwrs, mae’n canolbwyntio ar atal, dargyfeirio cyn achos llys a'r ddalfa. Mae atal yn hollbwysig, wrth gwrs. Felly, mae angen inni atal y mathau hynny o ddigwyddiadau. Rydych wedi crybwyll ac wedi ein hatgoffa am ddigwyddiadau ofnadwy heddiw—digwyddiadau mewn gwahanol amgylchiadau. Ond maent yn ddigwyddiadau. O ran y darlun cyffredinol, gallwn weld ein bod wedi lleihau nifer y bobl ifanc sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn sylweddol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, nid gan bobl ifanc ar bobl ifanc yn unig y bydd troseddau treisgar yn cael eu cyflawni; cawsom achos o saethu angheuol yn Nhonysguboriau ddydd Sul, sy'n tanlinellu’r ffaith bod Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ymhlith yr unig ardaloedd heddlu sydd wedi gweld cynnydd mewn troseddau treisgar. Ledled Cymru a Lloegr, mae heddluoedd yn gweld gostyngiad mewn troseddau treisgar yn erbyn unigolion, ac eto, yng Nghymru, mae’n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Heddlu De Cymru yw'r unig heddlu i weld cynnydd mewn trais rhywiol. Maent hefyd yn ofnadwy am droi adroddiadau am droseddau'n euogfarnau—cafodd mwy na 3,400 achos o dreisio a throseddau rhywiol eu hadrodd wrth Heddlu De Cymru, ond 155 yn unig o'r achosion hyn a arweiniodd at gyhuddiadau. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynyddu praesept yr heddlu ar gyfer talwyr y dreth gyngor. A ydych chi'n credu eu bod yn darparu gwerth am arian? Pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â'u cynlluniau i fynd i’r afael â throseddau treisgar a thrais rhywiol yn benodol?

Diolch am eich cwestiwn. Ac unwaith eto, rydych chi'n tynnu sylw at ddigwyddiadau. Nid wyf am ymateb iddynt ar hyn o bryd, ond hoffwn ddweud—. A chredaf ei bod yn arwyddocaol iawn, ddoe, yn ein dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fod pob un ohonom, fwy neu lai, ar draws y Siambr—pawb—wedi codi’r ffaith bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn barhaus ac yn endemig, a bod yn rhaid inni weithio arno i fynd i’r afael ag ef. Unwaith eto, mae a wnelo â fy sylwadau ar y system cyfiawnder ieuenctid hefyd o ran atal, ymyrraeth gynnar, ac yn wir, system cyfiawnder troseddol gadarn i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Nawr, nid yw plismona wedi'i ddatganoli. Hoffem iddo gael ei ddatganoli, ond nid yw wedi'i ddatganoli. Ond mae gennym ddull partneriaeth gyda phlismona i fynd i'r afael â hyn. Felly, credaf fod yr uned atal trais yn effeithiol iawn. Rwy’n cyd-gadeirio’r bwrdd strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gyda’r comisiynydd heddlu a throseddu, Emma Wools, fel y dywedais ddoe. Ond rwyf hefyd yn cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona. Cefais gyfarfod gwta bythefnos yn ôl gyda’r Gweinidog plismona, Diana Johnson, gan eu bod yn edrych ar ddiwygio plismona, ac rydym am fod rhan o hynny. Yn wir, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob un o'n comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd.

Ond credaf fod hyn yn ymwneud â phartneriaeth. Mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar. Mae’n ymwneud â system cyfiawnder troseddol gadarn. Ond rydym yn teimlo bod llawer o ymgysylltiad cyfrifoldebau datganoledig, gwasanaethau datganoledig, boed yn iechyd, tai, addysg—yn ôl at addysg—a gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol, yn hanfodol inni allu cael Cymru ddi-drosedd, mor ddi-drosedd â phosibl, lle rydym yn buddsoddi yn y gwasanaethau hynny a all atal troseddu, a helpu i gefnogi system cyfiawnder troseddol gadarn.

14:40

Rwy’n ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae methiant yr heddlu i fynd i'r afael â throseddau difrifol yn erydu ymddiriedaeth yn ein heddlu a'n system cyfiawnder troseddol. Ond mae gweithredoedd swyddogion unigol hefyd yn cael effaith iasol ar ymddiriedaeth. Rydym wedi gweld cyfres o achosion camymddwyn proffil uchel yn erbyn swyddogion yn ne Cymru a Gwent, gyda'r mwyaf diweddar yn ymwneud â mynediad twyllodrus at gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu a darparu gwybodaeth freintiedig i aelodau'r cyhoedd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi wedi trafod mynd i’r afael â llygredigaeth yn yr heddlu gydag unrhyw un o’r comisiynwyr heddlu a throseddu, neu’r Ysgrifennydd Cartref? Diolch.

Diolch. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom wedi ein syfrdanu gan adroddiadau am swyddogion heddlu twyllodrus. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed am hyn, ei fod yn dryloyw, ei fod yn agored a'n bod yn clywed amdano a bod y prif gwnstabliaid yn gweithredu—mae'n fater gweithredol—a gallwn weld canlyniadau hynny. Hefyd, mae hyn yn berthnasol i ymddygiad ein heddluoedd yn ogystal. Ac unwaith eto, rwy’n cadeirio bwrdd y bartneriaeth blismona, ac rwy’n parchu'n fawr rôl y prif gwnstabliaid, y comisiynwyr heddlu a throseddu, wrth inni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Os yw pobl a’n cymunedau yn mynd i ymddiried yn yr heddluoedd, sydd yno ar gyfer pawb, mae’n rhaid inni ddadwreiddio, nid yn unig yr hyn a welsom—gweithgareddau twyllodrus echrydus, fel y'u disgrifiwyd gennych—ond hefyd casineb at fenywod, rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia o'n heddluoedd.

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Lafur y DU yn cynllunio diwygiadau lles a fydd yn torri biliynau o bunnoedd oddi ar daliadau nawdd cymdeithasol, a fydd yn taro miloedd o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd iawn, yn enwedig pobl anabl. Mae'n wirioneddol syfrdanol i mi, heb sôn am siomedig, fod y Llywodraeth Lafur hon yn gwneud y mathau hyn o ddewisiadau gwleidyddol, gan dargedu'r lleiaf cefnog, y lleiaf gwydn—pobl anabl—a pharhau â pholisïau'r Torïaid. Ac eto, yng Nghymru, rydym yn mynd i orfod codi'r darnau, ceisio gwarchod pobl Cymru rhag San Steffan, gan y gwyddom nad yw'r rhwyd ddiogelwch yn ddigonol fel y mae. Mae Trussell, sy’n dweud eu bod wedi’u dychryn gan y cynlluniau hyn, yn dweud bod 68 y cant o bobl sy’n hawlio credyd cynhwysol wedi mynd heb hanfodion yn y chwe mis diwethaf—68 y cant.

Nawr, ar sawl achlysur, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaethoch ddwy flynedd yn ôl, rydych chi wedi condemnio'r un diwygiadau lles fel toriadau lles, gan resynu at y ffaith bod gennym wladwriaeth les fregus. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru herio’r cynlluniau hyn? Ni chawsom ateb gan y Prif Weinidog ar hynny ddoe. A ydych chi'n dal i’w hystyried yn doriadau sy’n niweidio’r wladwriaeth les? A pha asesiad a wneir i baratoi ar gyfer nodi pa fylchau newydd a fydd yn cael eu creu yn y rhwyd ddiogelwch, a pha fesurau y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i liniaru effaith hyn?

Diolch am eich cwestiwn, Sioned Williams. Ac wrth gwrs, rydym yn aros nawr am gyhoeddiad Papur Gwyrdd ar yr hyn a amlygwyd fel newidiadau posibl ar gyfer diwygiadau lles. Pan ddaw drwodd, byddwn yn ystyried yn ofalus beth yw effaith diwygiadau lles arfaethedig ar bobl yng Nghymru, ac yn darparu ymateb trawslywodraethol. Rwy’n teimlo mai dyma ble rydym wedi ymateb i newidiadau a chynigion blaenorol gan Lywodraethau blaenorol y DU ar effaith diwygio lles ar bobl anabl yng Nghymru. Felly, gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar hyn. Mae angen inni sicrhau bod gennym system les sy'n cefnogi pobl anabl, ond rydym yn cydnabod bod angen inni sicrhau ei bod hefyd yn cefnogi pobl yn effeithiol i mewn i waith, gan gynnig rhwyd ddiogelwch ariannol effeithiol i bobl na allant weithio. Rwy'n credu bod y rheini'n egwyddorion allweddol ac yn rhywbeth y mae llawer o'r elusennau sydd wedi bod yn gwneud sylwadau ar hyn wedi'i ddweud eu hunain, ond ar hyn o bryd, rydym yn aros am y cynigion.

14:45

Wrth gwrs, oherwydd nid yw'r taliadau annibyniaeth personol yn ddim i’w wneud â chyflogaeth; maent yn ymwneud â chreu mwy o degwch i bobl anabl, a rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau annibynnol, ac o bosibl felly, eu cefnogi i mewn i waith.

Yn eu papur briffio ‘Cyflwr Cymru’ ar anweithgarwch economaidd ac afiechyd, nododd Sefydliad Bevan sut y byddai cynigion ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU, ‘Get Britain Working’, yn cael effaith ddwys ar Gymru gan fod gennym gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU, ac mae pump o’r 10 awdurdod lleol yn y DU sydd â’r cyfraddau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor yng Nghymru. Mae cyfran y boblogaeth o oedran gweithio sy'n anabl mewn rhai awdurdodau lleol hyd yn oed yn uwch na'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan. Mae mwy nag un o bob tri o bobl yn anabl mewn dwy o’r ardaloedd awdurdod lleol rwy'n eu cynrychioli, ac mae arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn rhybuddio y bydd toriadau lles yn cael effaith iasol ar ymgysylltiad â chymorth, gan arwain nid at gynnydd mewn cyflogaeth ond at gynnydd mewn tlodi. Felly, mae Sefydliad Bevan yn pwysleisio y bydd angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r hyn y maent yn ei alw’n anfantais ddwbl enfawr y mae pobl yng Nghymru yn ei hwynebu, oherwydd nid yn unig y ceir lefelau uchel o anabledd a salwch hirdymor yn y boblogaeth oedran gweithio, maent hefyd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth ac i ddweud mai iechyd yw’r rheswm. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r angen i ganolbwyntio ar yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, megis Cymru, a chynyddu adnoddau ar gyfer gwasanaethau datganoledig? A ydych chi'n cytuno â Sefydliad Bevan na fyddai’n briodol defnyddio fformiwla Barnett, gan y byddai’r fformiwla sy’n seiliedig ar boblogaeth yn llawer is na’r angen?

Diolch am eich cwestiwn. Mae gennym gyfarfod rhyngweinidogol pedair gwlad ag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU. Mae wedi cael ei sefydlu, ac mae'n bedair cenedl. Roedd trefniant dwyochrog blaenorol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond mae’n dda ei fod bellach yn gyfarfod pedair gwlad. Rydym yn mynd i fod yn trafod materion fel unrhyw ddiwygiadau i’r system fudd-daliadau, felly mae hwnnw’n gyfle. Ond byddwn hefyd yn dweud fy mod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithio gyda phobl anabl yng Nghymru fel bod eu barn a’u lleisiau yn y canol mewn unrhyw newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd a salwch.

Credaf fod ein cynllun hawliau pobl anabl, y byddwn yn ei lansio cyn bo hir ar gyfer ymgynghoriad, yn mynd i’r afael â sut y dylem ni, yng Nghymru, o fewn ein pwerau a’n cyfrifoldebau, weithio i sicrhau y gellir cefnogi pobl anabl sydd am weithio ac sy’n chwilio am waith. Yn amlwg, unwaith eto, mae’n rhaid i hynny ryngwynebu a rhyngweithio â chanolfannau gwaith, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Ond mae’r ffaith ein bod bellach, ers sawl blwyddyn, wedi cyflogi pum hyrwyddwr cyflogaeth i bobl anabl, yn golygu eu bod yn dod â phrofiad bywyd a dealltwriaeth ymarferol o’r model cymdeithasol o anabledd, a fydd yn sail i’n cynllun hawliau pobl anabl.

Yn wir, gan weithio gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr cyflogwyr—ac wrth gwrs, mae'n cysylltu'n fawr iawn â'n hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol—ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae'n ymwneud â hyrwyddo recriwtio, cadw a datblygiad pobl anabl sy'n dymuno gweithio ond sy'n wynebu rhwystrau. Dyna y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.

Diolch. Mae Sefydliad Bevan hefyd yn tynnu sylw at sut y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut i gefnogi pobl anabl yng Nghymru os gwneir newidiadau i fudd-daliadau iechyd a lles, gan ei bod yn anochel y bydd hynny'n arwain at alw cynyddol am gyngor lles, ac os bydd y newidiadau i fudd-daliadau’n cynnwys gostyngiadau mewn cymhwysedd neu werth budd-daliadau, gallai fod mwy o alw am grantiau a lwfansau datganoledig, megis y gronfa cymorth dewisol a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, a byddai costau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector yn uwch felly yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Clywodd yr ymchwiliad diweddar i’r bwlch cyflogaeth anabledd a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wyf yn aelod ohono, bryder dwfn ac eang am y diffyg cynnydd ar gyhoeddi a gweithredu gwaith y tasglu hawliau pobl anabl a’r diffyg cynnydd hefyd ar ymrwymiad eich rhaglen lywodraethu i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Felly, pa asesiadau a gwaith trawslywodraethol a wnaed i sicrhau bod cymorth gwell yn gyflawnadwy? A phryd y gwelwn y cynllun gweithredu ar anabledd a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn cael ei ymgorffori?

14:50

Diolch am sawl cwestiwn yno, Sioned Williams. Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Os yw’r gefnogaeth yn gywir, amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'—roeddwn yn falch iawn o roi tystiolaeth. Ni allai'r adroddiad hwnnw fod wedi dod ar adeg well. Ond fel y dywedais, rwyf wedi rhoi sicrwydd i chi fod y cynllun hawliau pobl anabl ar y ffordd; bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn. Bydd yn destun ymgynghoriad. Bûm yn cyd-gadeirio’r tasglu hawliau pobl anabl gyda’r Athro Debbie Foster. Roedd gennym saith ffrwd waith, wedi'u cydgynhyrchu â phobl anabl. Ac yn wir, wrth fynd i'r afael â'r materion a godwyd gennych heddiw, rwy'n credu y bydd y gwaith a wnawn gyda siarter budd-daliadau Cymru, gyda'r gronfa cymorth dewisol, a gweithio'n agos gyda'n partneriaid a rhanddeiliaid a phawb sy'n dylanwadu, yn gywir ddigon, ar bolisi yng Nghymru, fel Sefydliad Bevan, yn bwysig iawn wrth inni ymateb i'r heriau sydd ar y ffordd.

Carcharorion sy'n cael eu Rhyddahu o Garchardai Cymru

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth priodol i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau o garchardai Cymru? OQ62420

Diolch am eich cwestiwn, Lesley Griffiths. Er bod cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl ar hyn o bryd, mae llawer o wasanaethau sy’n hanfodol i weithredu’r system gyfiawnder yng Nghymru wedi’u datganoli, gan gynnwys iechyd, addysg a thai. Rydym yn gweithio’n agos felly gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi i leihau aildroseddu a chefnogi teuluoedd i adeiladu cymunedau cryf a gwydn yng Nghymru.

Yn ddiweddar, wrth aros am drên yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol, cynorthwyais garcharor a oedd newydd ei ryddhau o garchar Berwyn. Roedd wedi'i ollwng yn yr orsaf gyda gwarant deithio i ddychwelyd i ogledd-ddwyrain Lloegr. Dywedodd wrthyf na allai ysgrifennu ac nad oedd ganddo unrhyw syniad sut i ddefnyddio'r system reilffordd, gan fod angen iddo wneud nifer o newidiadau i gwblhau ei daith. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol, a bod y system bresennol yn condemnio unigolion o'r fath i fethu? Os felly, a wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, yn eich trafodaethau â Gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU, fod cymorth priodol a digonol yn cael ei ddarparu i unigolion o’r fath i sicrhau eu bod yn dychwelyd i’w cyrchfan ddewisol yn y ffordd fwyaf priodol a chywir, lle dylai gwasanaethau cymorth perthnasol fod ar gael hefyd?

Diolch am dynnu sylw at hynny, ac nid yw’r sefyllfa a ddisgrifiwyd gennych yn dderbyniol. Ac os na fyddech chi wedi bod yno, beth fyddai wedi digwydd i'r carcharor hwnnw a oedd newydd ei ryddhau? Nid yw darparu cludiant i rai sy'n gadael carchar yn rhan o gylch gwaith ein gwasanaethau, ac mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau, sef cyfrifoldeb y gwasanaeth prawf. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, mewn ymateb ac i'r Aelodau, yw ein bod wedi sefydlu—nid yw wedi'i ddatganoli; hoffem i'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli, fel y gwyddoch—gweithgor llety i rai sy'n gadael carchar, a gyd-gadeirir gan uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Ac mae hwnnw hefyd yn edrych ar beth o'r ddeddfwriaeth arfaethedig rydym ar fin ei thrafod i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Ond mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio ar yr heriau uniongyrchol a wynebir gan bobl sy’n gadael carchar, gan ei fod yn ymwneud ag ailsefydlu llwyddiannus, a byddaf yn sicr yn dwyn hyn i sylw’r grŵp.

Yn anffodus, mae’r hyn a glywais gan Lesley Griffiths ar draws y Siambr nawr yr un stori'n union ag a glywais pan ymwelais â Byddin yr Iachawdwriaeth yn ddiweddar, a ddywedodd wrthyf fod argyfwng digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael carchar. Y llynedd, cynyddodd nifer y rhai a reolir gan wasanaethau prawf Cymru a oedd yn ddigartref ar ôl eu rhyddhau 51 y cant, sy’n cyfateb i 500 o bobl, ac mae oddeutu pump o bobl sy’n cael eu rhyddhau o garchar Ei Fawrhydi yng Nghaerdydd bob wythnos yn cael eu cofnodi’n ddigartref wedi hynny.

Yn amlwg, nid yw’r pecyn cymorth presennol ar gyfer pobl sy’n gadael carchar yn ddigonol. Dylid rhoi cymorth ar waith i bobl, a bod yn rhagweithiol cyn iddynt adael carchar, er mwyn sicrhau rhywle i fyw, a sicrhau cyflogaeth o bosibl, oherwydd, fel y dywedodd Lesley, cânt eu gollwng cyn gynted ag y dônt allan o garchar a’u gadael i ofalu amdanynt eu hunain, ac mae’n rhaid iddynt ruthro o gwmpas am 12 awr a mynd i’r ganolfan waith, mynd i’r holl wasanaethau gwahanol sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt gael rhywle i gysgu y noson honno a threfnu rhywbeth er mwyn iddynt gael rhywfaint o arian. Fel arall, yr hyn a welwn yw eu bod yn llithro'n ôl. Fel y dywedodd Byddin yr Iachawdwriaeth wrthyf, a’r bobl y cyfarfûm â hwy yno, yn anffodus, mae’r bobl hynny’n llithro’n ôl i ddefnyddio cyffuriau, alcohol ac yn y blaen, ac nid yw'n iawn. Gwn eich bod wedi dweud bod hwn yn fater a gadwyd yn ôl, ond mae llawer o'r gwasanaethau a nodwyd gennych wedi'u datganoli ac mae gennym gyfrifoldeb i wneud hynny er mwyn atal y bobl hyn rhag mynd i mewn i'r system, ac i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

14:55

Diolch, Laura Anne Jones. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedwch. Mae angen i'r Aelodau o amgylch y Siambr roi gwybod i ni am unrhyw dystiolaeth sydd ganddynt fel y gallwn ei rhannu. Er nad yw wedi’i ddatganoli, rydym yn gwneud cymaint ar y cyd—. Rwyf eisoes wedi sôn am y gweithgor llety i rai sy'n gadael carchar, gweithgor a gyd-gadeirir, ac mewn gwirionedd, mae'n dysgu o gynlluniau cynharach sydd wedi bod yn llwyddiannus. Fe fyddwch yn gefnogol iawn, rwy’n siŵr, i’r Papur Gwyn diweddar ar roi diwedd ar ddigartrefedd, a oedd yn cynnig gwelliannau pwrpasol i Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gyda’r nod o wella canlyniadau i ddynion a menywod yn y ddalfa, oherwydd oni bai—. Dylid rhoi'r trefniadau hyn ar waith cyn rhyddhau, oherwydd yr heriau uniongyrchol sy’n wynebu carcharorion pan fyddant yn gadael carchar. Hefyd, fe welwyd peth gwaith da. Mae grŵp gorchwyl a gorffen bach yn edrych ar y llwybr cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd i blant, pobl ifanc ac oedolion yn yr ystad ddiogel, a bu newidiadau yn y gwasanaeth prawf a gwasanaethau digartrefedd ers y cyhoeddiad hwnnw, ond mae hon yn dystiolaeth werthfawr iawn i ni ei hystyried yn y gweithgorau hyn a gweithredu, gan mai dyma sut y mae angen inni sicrhau nid yn unig fod pobl yn cael eu rhyddhau'n effeithiol, gan atal digartrefedd, ond bod yna lwybrau tuag at waith a llety, ac oddi wrth y system cyfiawnder troseddol.

Rwy'n cytuno'n gryf â’r pwyntiau a wnaed gan Lesley Griffiths a Laura Anne Jones y prynhawn yma, a’r ymateb gennych chi, Weinidog. Wrth ei wraidd, mae datganoli’r system cyfiawnder troseddol a phlismona yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a chydlyniant cymdeithasol, ac fe’i cefnogir gan Blaid Lafur Cymru a chan y Llywodraeth hon, ac rwyf bob amser wedi bod yn gefnogol iawn i’r dull yr ydych chi wedi’i fabwysiadu yn hyn o beth, Weinidog. Yn y cyd-destun hwn, roeddwn yn siomedig o glywed yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ddydd Llun nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi unrhyw ddiweddariadau pellach i’r Senedd ar ei rhaglen Sicrhau Cyfiawnder i Gymru cyn yr etholiad nesaf. Hoffwn ofyn ichi ailystyried hyn, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y gwaith da iawn yr ydych chi a Gweinidogion eraill yn ei wneud yn ymgyrchu dros ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru, fel y gallwn fynd i’r afael â’r pynciau a godwyd gan Lesley Griffiths a chan Laura Anne Jones.

Diolch, Alun Davies, a diolch am yr holl waith a wnaethoch yn flaenorol mewn rolau gweinidogol hefyd. Cyfrifoldeb y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yw hyn nawr—materion cyfansoddiadol—felly rwy'n siŵr y byddwch yn codi hynny gydag ef yn uniongyrchol. Byddaf yn ei rannu gydag ef. Rwy'n ymwneud yn agos â hyn, serch hynny, gan weithio ar lefel fwy gweithredol ar archwilio datganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, sy'n ymwneud, i raddau helaeth, â'r hyn sy'n gwneud synnwyr a'r hyn sy'n gweithio o ran cyfiawnder cymdeithasol a chanlyniadau da.

15:00
Cefnogi Pensiynwyr

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr ar draws Gorllewin De Cymru? OQ62427

Diolch, Tom Giffard. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cefnogi pensiynwyr ledled Cymru, gan gynnwys de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi yn y gronfa integreiddio ranbarthol, cyllid ar gyfer y canolfannau clyd, codi ymwybyddiaeth o gredydau pensiwn a budd-daliadau eraill, mesurau i ddod â cham-drin i ben, a chreu cymunedau sy'n ystyriol o oedran.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai mai penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i 500,000 amcangyfrifedig o bensiynwyr yng Nghymru, polisi sy'n rhoi bywydau mewn perygl, yw un o'r penderfyniadau mwyaf creulon a dideimlad y gallai Llywodraeth y DU fod wedi'i wneud mewn grym. Nawr, fe wyddom, Lywydd, fod tlodi tanwydd yn effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn, ac y gallai'r penderfyniad hwnnw yn unig fod yn gyfrifol am gymaint â 4,000 o farwolaethau yng Nghymru. A nawr, o ganlyniad, rydym wedi gweld tlodi'n cynyddu yng Nghymru, gydag un o bob pump o bobl hŷn bellach yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Yn wir, datgelodd arolwg blynyddol Age Cymru 2024 'Beth sy'n bwysig i chi?' ymatebion digalon a thorcalonnus iawn o bob rhan o Orllewin De Cymru, gydag etholwyr ledled y rhanbarth bellach yn nodi pryderon ynghylch costau byw a'i effaith ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â'u pryder fod ganddynt lai o arian i fyw arno ers i Lywodraeth y DU wneud y penderfyniad hwnnw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth inni adael y gaeaf ar ein holau am eleni, a wnewch chi sicrhau mai dyna oedd y gaeaf olaf y bydd ein pensiynwyr yn dioddef oerfel, a mabwysiadu polisi'r Ceidwadwyr Cymreig o daliad tanwydd y gaeaf Cymreig i'w diogelu?

Diolch am y cwestiwn atodol. Wel, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, oherwydd rwyf wedi ei ddweud fwy nag unwaith yn y Siambr hon, fel y mae eraill wedi gwneud, fod taliad tanwydd y gaeaf wedi'i ddatganoli i Ogledd Iwerddon, ac y bydd yn cael ei ddatganoli i'r Alban o 2025, ond nid yw wedi'i ddatganoli i Gymru—[Torri ar draws.] Felly, ni allwn ddeddfu ar—[Torri ar draws.] A ydych chi'n mynd i wrando ar fy ateb, os gwelwch yn dda, Darren Millar?

Diolch, Lywydd. Yr hyn sy'n hanfodol, a'r pwynt difrifol yw, oherwydd fe ofynnoch chi gwestiwn i mi ynglŷn â sut y cefnogwn bensiynwyr yn ne-orllewin Cymru, ac fe wneuthum adrodd yn ôl ar y ffyrdd y'u cefnogwn, o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau, ac rwyf am ganolbwyntio ar un maes yn unig, gan ei fod wedi'i godi gan Aelodau, am rôl y gronfa cymorth dewisol. Oherwydd mae'n bwysig fod pobl wedi gofyn i mi a yw'n cyrraedd pobl hŷn, yn arbennig. Gallaf ddweud bod y gronfa cymorth dewisol yno i bawb mewn argyfwng ariannol, a gallwch rannu hyn gyda'ch etholwyr. Mae ar gyfer pobl na allant ddiwallu eu hanghenion sylfaenol uniongyrchol ac nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o gael cymorth. Mae'n bwysig fod dros 800 o bartneriaid cofrestredig y gronfa cymorth dewisol yn gallu gwneud ceisiadau. Felly, rydym wedi cyfarfod ag Age Cymru, yr awdurdodau lleol, Cyngor ar Bopeth, cymdeithasau tai, a hefyd, Tom, fe wnaethom gyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar i weld sut y gallwn sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'r gronfa cymorth dewisol.

Mentrau Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Dyma'r ffyrdd yr awn ati i geisio cefnogi ein pensiynwyr. Ac nid yn unig y gronfa cymorth dewisol wrth gwrs, ond y cynllun talebau tanwydd, y rhaglen Cartrefi Clyd a'r Sefydliad Banc Tanwydd. Yn bwysig iawn yng ngorllewin Cymru, mae cynllun y gronfa gwres hefyd, a gall pobl sydd oddi ar y grid gael arian o'r gronfa cymorth dewisol. Felly, ar wahân i'n strategaeth, 'Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio', rydym yn rhoi arian i awdurdodau lleol, sesiynau cadw'n iach sir Benfro, Abertawe'n ymgysylltu â phobl hŷn, a hyrwyddo heneiddio'n iach a chysylltu pobl hŷn â gwasanaethau cynghori. Dyma beth a wnawn yng Nghymru i gefnogi pensiynwyr yn ne-orllewin Cymru. 

Mae ein hamser eisoes ar ben ar gyfer y sesiwn gwestiynau hon, a dim ond ar gwestiwn 4 ydym ni, felly os gallwn gyflymu rhywfaint, a bod yn gryno hyd yn oed, yn y cwestiynau a'r atebion, byddai hynny'n briodol, i geisio cael cymaint ag y gallwn o gwestiynau wedi'u gofyn a'u hateb.

Cwestiwn 5, Carolyn Thomas.

Bathodynnau Glas

5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch y broses o wneud cais am fathodynnau glas? OQ62435

Diolch, Carolyn Thomas. Rwy'n cael trafodaethau parhaus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pwnc hwn, ac wedi cyfarfod ag ef ei hun a chithau, Carolyn, ddoe. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall pobl anabl sydd â'r angen mwyaf elwa o gonsesiynau parcio a bod y broses o gael bathodyn mor deg ac effeithlon â phosibl.

15:05

Diolch am eich ateb. I bobl sy'n byw gyda chyflyrau gydol oes a dirywiol, gan gynnwys cyflyrau gwybyddol, mae gorfod ailymgeisio gyda chais llawn bob tair blynedd, a lanlwytho eu holl wybodaeth feddygol, eu lluniau, llythyrau a phresgripsiynau eu meddygon yn cymryd llawer o amser, yn anodd ac yn drawmatig. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y gall awdurdodau lleol nodi 'ddim i'w ailasesu' ar gyfrif cwsmer. Byddai'n golygu y gellid ailgyflwyno'r bathodyn heb gyflwyno'r holl wybodaeth feddygol eto—dim ond llun, prawf adnabod a chyfeiriad. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym fod y term 'ddim i'w ailasesu' yn cael ei hepgor ac nad oes gallu i'w ychwanegu at y ffurflen. Mae angen iddo fod yno yn ogystal ag ar arweiniad a gwybodaeth i ddefnyddwyr. Mae cymorth yn anghyson ac mae angen i'r canllawiau fod yn gliriach i'r rhai sy'n darparu'r bathodynnau glas. Ysgrifennydd y Cabinet, mater cyfiawnder cymdeithasol yw hwn. Mae wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Senedd gan lawer o Aelodau ac yn y Siambr drwy'r Pwyllgor Deisebau. A wnewch chi helpu i'w ddatrys, gan gynnwys cynrychiolwyr cwmni buddiannau cymunedol STAND Gogledd Cymru, a gyflwynodd y ddeiseb, ac sy'n rhanddeiliaid pwysig, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru? Diolch.

Diolch, Carolyn Thomas, ac fel y gwnaethom ddysgu ddoe o'n cyfarfod defnyddiol iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, bydd gweithdy'n cael ei gynnal gydag awdurdodau lleol yn fuan iawn. Fe wnaethom awgrymu, neu fe awgrymais i yn sicr, y gallai hwnnw gynnwys—ac rwy'n meddwl eich bod chi wedi cefnogi hyn—mudiadau pobl anabl hefyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd yr holl bwyntiau a wnaethoch am yr angen i sicrhau ein bod ni'n lleihau rhwystrau biwrocratiaeth i gael mynediad at fathodynnau glas yn cael eu codi yn y gweithdy hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn parhau i fod yn rhywbeth y byddwn yn ei godi yn y Senedd.

Gweithdrefnau Penodiadau Cyhoeddus

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithdrefnau penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OQ62437

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Yn unol â'r cod llywodraethu ar benodiadau cyhoeddus, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud penodiadau gyda mesurau diogelu i gynnal tryloywder a hyder y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus amrywiol a chynrychioliadol. Rydym wedi ymrwymo i wella tryloywder, ehangu mynediad, cryfhau amrywiaeth a sicrhau proses ddethol drwyadl ond cynhwysol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae sicrhau amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn hanfodol er mwyn helpu i lunio Cymru gynhwysol, deg a chynrychioliadol. Mae annog mwy o fenywod a phobl o bob cefndir i wneud cais am y penodiadau hyn yn hanfodol os bwriedir cyflawni hyn. Mae angen cymysgedd amrywiol o leisiau arnom sy'n dylanwadu ar benderfyniadau allweddol i ysgogi newid. Mae cynnydd yn cael ei wneud, ond mae rhwystrau'n parhau. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £185,000 o gyllid ar gyfer rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal dros dair blynedd, ac mae honno wrth gwrs yn cael ei chyd-ariannu gyda chronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod rhaglenni fel hyn yn hanfodol i helpu i gynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru?

Diolch. Mae hwn yn gwestiwn mor bwysig, ac rydym yn falch iawn o gefnogi'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal am y tair blynedd nesaf. Hynny yw, i atgoffa cyd-Aelodau yn ei chylch, mae'n helpu unigolion i ennill sgiliau a gwybodaeth, i ymgymryd â rolau cyhoeddus a gwleidyddol, ac mae'n llwyddiant mawr iawn yn yr ystyr fod y rhai sy'n cael eu mentora yn dod yn llywodraethwyr ysgol, cynghorwyr, ASau ac aelodau o fyrddau cyhoeddus hefyd, ac mae yno ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Ond roeddwn hefyd eisiau adrodd yn ôl i'r Aelodau ein bod yn ymchwilio i weld sut y gallwn gynhyrchu system monitro data amrywiaeth fwy cadarn, er mwyn fy ngalluogi i adrodd yn rheolaidd am amrywiaeth ein penodiadau cyhoeddus. Erbyn hyn, menywod yw 60 y cant o'r rhai a benodir o'r canfyddiadau diweddaraf, sy'n galonogol iawn, ond mae lle maent yn y penodiadau cyhoeddus hynny ac ar ba lefel yn bwysig. Rydym wedi gwella o ran ethnigrwydd. Ymgeiswyr du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yw 22.3 y cant o'r gronfa o ymgeiswyr ac 20 y cant o'r rhai a benodir. Ond mae'n rhaid inni gael mwy o effaith ar annog ymgeiswyr anabl, gan fod 21.1 y cant o boblogaeth Cymru wedi eu nodi yn bobl anabl, ond maent yn dal i fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn penodiadau ar 10.9 y cant. 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru' yw'r strategaeth y gweithiwn arni gyda phenodiadau cyhoeddus.

15:10
Llochesi ar gyfer Menywod

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am hygyrchedd llochesi yng ngogledd Cymru ar gyfer menywod sy'n dioddef ymosodiad rhywiol ac sy'n gwella o ddefnyddio sylweddau? OQ62439

Diolch am y cwestiwn, Janet Finch-Saunders. Mae llochesi menywod ar gael ar draws gogledd Cymru ar gyfer menywod sy'n ffoi rhag trais uniongyrchol neu'r bygythiad o drais a niwed. Mae anghenion cymhleth menywod, fel iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, bob amser yn cael eu hystyried.

Diolch. Wrth ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ynghylch pam nad oes llochesi menywod yng ngogledd Cymru a all gartrefu menywod sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, camfanteisio a dibyniaeth ar gyffuriau, fe ddywedoch chi hyn,

'Fe all, ac y mae nifer o lochesi ledled Cymru, gan gynnwys yng ngogledd Cymru, yn darparu ar gyfer unigolion sydd â'r profiadau hyn.'

Fodd bynnag, euthum ar drywydd hyn, yr ymateb hwnnw, trwy ofyn am enw lloches o'r fath, ond dywedwyd wrthyf gan Lywodraeth Cymru, trwy gais rhyddid gwybodaeth,

'Yn dilyn chwiliad o'n cofnodion papur a'n cofnodion electronig, sefydlais nad yw'r wybodaeth y gofynnoch chi amdani yn cael ei chadw gan Lywodraeth Cymru.'

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi egluro sut y gallech chi ddweud ar 22 Ionawr fod yna lochesi ar gael—ac rydych chi newydd ei ddweud nawr—pan fo Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydych chi'n cadw gwybodaeth o'r fath?

Wel, rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol inni gael cyfarfod dilynol am hyn, Janet Finch-Saunders, oherwydd mae bob amser yn anffodus pan fydd rhywbeth yn mynd i gais rhyddid gwybodaeth ac na allwn roi'r adborth llawn yr hoffem ei roi i chi. Rydym am ddeall beth yw'r problemau oherwydd mae yna o leiaf bum darparwr lloches y byddwch yn gwybod am sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru sy'n darparu nifer o safleoedd ac unedau. Ac wrth gwrs, rydym yn dyrannu cyllid. Mae gan bob lloches ei feini prawf cymhwysedd ei hun, ac mae hynny'n dibynnu ar fynediad at gymorth proffesiynol ar unrhyw adeg benodol. Ond rydym am sicrhau bod menywod neu bobl, goroeswyr, yn gallu cael y math o gefnogaeth y soniwch amdani. Ond os ydych chi'n cytuno, Janet, hoffwn yn fawr gael cyfarfod am hyn, i ni weld lle gallai fod materion y gallwn roi eglurhad yn eu cylch. 

Asiantaeth Atal Troseddau

8. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu asiantaeth atal troseddau newydd i wella diogelwch cymunedol? OQ62445

Diolch yn fawr, Adam Price. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda phartneriaid yn yr heddlu ac yn uned atal trais Cymru i atal troseddu ac i ddiogelu ein cymunedau. Rydyn ni’n trafod y rhaglen Strydoedd Mwy Diogel gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Sefydliad yr Heddlu wedi argymell sefydlu asiantaeth atal troseddau bwrpasol i ganoli arbenigedd a chydlynu mentrau lleihau troseddau yn strategol ar draws gwahanol adrannau'r Llywodraeth. Mae'r profiad rhyngwladol, yn enwedig o wledydd Nordig, fel Sweden a Denmarc, wedi dangos effeithiolrwydd asiantaethau o'r fath yn integreiddio ymdrechion ataliol ar draws cyfiawnder, iechyd, addysg a llywodraeth leol, gan helpu i leihau cyfraddau troseddu a gwella hyder y cyhoedd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai mabwysiadu'r model rhyngwladol llwyddiannus hwn yng Nghymru yn yr un modd ddarparu mesurau atal troseddau mwy cydlynol, mwy rhagweithiol, mwy seiliedig ar dystiolaeth? Ac os felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynnal adolygiad dichonoldeb cynhwysfawr i archwilio sefydlu asiantaeth debyg yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr, Adam Price. Cyn bo hir, rwy'n cyfarfod â Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, felly fe gaf fwy o wybodaeth am hyn. Wrth gwrs, mae gennym ddiddordeb mawr mewn modelau rhyngwladol a dysgu gan y rheini. Lywydd, gyda'ch amynedd, fe ddywedaf fy mod wedi sôn am uned atal trais Cymru, sy'n bartneriaeth rhwng comisiynydd heddlu a throseddu de Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru, sy'n gweithredu dull iechyd y cyhoedd o atal trais, gan sicrhau dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fynd i'r afael â thrais, sy'n fwy tebyg i'r model rhyngwladol. Felly, hoffwn gyfarfod â Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, a chael y dystiolaeth i weld lle rydym arni, o ystyried nad yw wedi'i ddatganoli, ond mae hefyd yn helpu i feithrin ein dealltwriaeth wrth inni symud tuag at gyflawni mewn partneriaeth â'r heddlu a symud tuag at ddatganoli plismona yng Nghymru yn y pen draw, gobeithio. 

15:15
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 eiliad

Eitem 5 sydd nesaf, y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Cefin Campbell.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fe achubaf ar y cyfle hwn i longyfarch dau enillydd Oscar o ranbarth Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru y cafodd eu llwyddiant ei gydnabod yn ystod seremoni'r Oscars yn Hollywood ychydig dros wythnos yn ôl. Yn gyntaf oll, Laurie Crawley, a fagwyd yn Llansantffraid-ym-Mechain ym Mhowys, a enillodd y wobr sinematograffi gorau am y ffilm The Brutalist. Da hefyd oedd clywed am ei fwriad i ymweld â'i hen ysgol, Ysgol Llanfyllin, i siarad â disgyblion yn eu gwasanaeth boreol yn y dyfodol agos. Enillydd arall oedd Rhys Salcombe, o Aberystwyth yn wreiddiol, a oedd yn un o bedwar a rannodd y wobr effeithiau gweledol gorau am ei waith ar y ffilm Dune: Part Two. Mae Rhys eisoes wedi ennill gwobrau eraill am ei waith ar ffilmiau mawr fel Blade Runner 2049 a Star Trek Beyond. Dylwn sôn hefyd am drydydd enwebai Oscar o Gymru, Trevor Matthews o Gasnewydd a enwebwyd ar gyfer y wobr am y ffilm orau am ei waith ar y ffilm The Brutalist. Llongyfarchiadau i Laurie a Rhys am arddangos y gorau o dalent Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y llwyfan mwyaf oll. Pob lwc i'r ddau, ac i Trevor, wrth gwrs, yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd. 

Bydd y Senedd yn uno, dwi'n gwybod, i longyfarch Lauren Price ar ei buddugoliaeth yr wythnos diwethaf, y diweddaraf yn unig o'r teitlau di-ri mae'r fenyw ifanc ysbrydoledig hon wedi eu hennill ar lwyfan y byd.

Nid yw llwyddiant yn beth dieithr i Lauren Price. Cyn dechrau bocsio'n broffesiynol, enillodd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2020, ac aur yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018. Hyd yn oed cyn hynny, arferai Lauren chwarae pêl-droed i fenywod Dinas Caerdydd a chynrychiolodd Gymru o dan 19 ac ar y lefel uwch. Ond mae ei buddugoliaeth yn y Royal Albert Hall wedi ei saethu'n uwch byth. Mae 'Unstoppable' i'w weld yn deitl mor addas i'r fenyw ifanc hon o Ystrad Mynach. A dyna lawenydd oedd ei gweld yn mynd i mewn i'r cylch wrth i 'Yma o Hyd' Dafydd Iwan chwarae, a'r ddraig goch yn ogoneddus y tu ôl iddi. Mae Price yn fenyw y mae ei balchder dros ei chenedl yn glir ym mhopeth a wna, ac mae ei chymuned yn Ystrad Mynach mor falch ohoni. Am deyrnged yw ei llwyddiant i'w gwytnwch ei hun, ei phenderfyniad, a'r gefnogaeth a ddangoswyd iddi gan ei thad-cu a'i mam-gu a'i ffrindiau annwyl. Y fenyw hon â theitlau byd nad yw erioed wedi anghofio ei gwreiddiau. Felly, gan un o ferched Ystrad i un arall: llongyfarchiadau, Lauren, mae cymaint o bobl mor falch ohonoch.

Rwy'n credu y dylem i gyd ddechrau siant o 'Pricey, Pricey' o gwmpas y Siambr. Gallaf eich arwain; roeddwn i yno. Fe welais ei buddugoliaeth. Da iawn, bawb. 

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Atebolrwydd Aelodau Unigol: Adalw'

Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw hwn, 'Atebolrwydd Aelodau Unigol: Adalw'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i ddechrau'r ddadl hon ar adroddiad pwysig iawn gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Mae gweithio i sicrhau bod gan y Senedd brosesau ar waith i gynnal uniondeb unigol a sefydliadol yn gonglfaen i'n democratiaeth ddatganoledig ac yn ganolog i waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae'r adroddiad adalw yn rhan o becyn o ddiwygiadau parhaus sydd â'r nod o adeiladu ymddiriedaeth a thryloywder yn ein prosesau, ein gwleidyddion a'n gwleidyddiaeth. Fel pwyllgor, rydym am weld mwy o hyder yn y system wleidyddol, ac mae prosesau priodol yn hanfodol i hyn. Mae ein hargymhelliad ynghylch cyflwyno system adalw yn gam sylweddol ymlaen ar y daith hon.

Rwyf am fod yn glir fod hyn yn rhan o'r gwaith y mae'r pwyllgor wedi ymrwymo iddo ar ystyried y fframwaith safonau cyfan yn y lle hwn ac i gryfhau'r systemau pŵer yma yn y Senedd i rymuso pobl yn well i gyflwyno pryderon am ymddygiad a materion difrifol ac annerbyniol fel aflonyddu rhywiol. I wneud hyn, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig gallu cael pwerau digonol i atal ac ymdrin â chamymddwyn difrifol, ac mae'r sancsiwn adalw yn ffactor pwysig yn hynny. Mae cyflwyno system adalw yn sicrhau bod eglurder a dealltwriaeth ynghylch y mesurau y gellir eu defnyddio i ddwyn Aelodau i gyfrif.

Rydym wedi gwneud naw argymhelliad gyda'r nod o gyflwyno'r system mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd, fel y bydd yr holl Aelodau a etholir i'r Senedd honno yn cael eu cynnal i safon gyson o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn ein holl argymhellion naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae'n cael ei groesawu ac yn sicrhau ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i roi deddfwriaeth mor bwysig ar waith yng Nghymru.

Fel cam cyntaf, edrychodd y pwyllgor ar y model a fabwysiadwyd yn San Steffan ynghylch adalw, sydd wedi cael derbyniad da a'i ddefnyddio'n effeithiol i alluogi'r cyhoedd i ddwyn i gyfrif Aelodau sydd wedi gweithredu mewn ffyrdd nad oedd yn cyrraedd y safonau a oedd yn ddisgwyliedig ganddynt. Fodd bynnag, yn hytrach na dyblygu'r system hon, daethom i'r casgliad fod angen model a oedd yn gweddu i Gymru a'r system etholiadol a fydd ar waith ar gyfer ac yn dilyn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Mae'r pwyllgor wedi mabwysiadu ymagwedd bragmatig ac ymarferol tuag at y gwaith hwn, ac wedi datgan mai symlrwydd a natur ddealladwy yw'r ddwy egwyddor bwysicaf wrth lunio'r system. Roedd yn ymddangos i ni mai proses un cam, un bleidlais sy'n gofyn a ddylai Aelod ildio'i le i'r unigolyn nesaf ar y rhestr neu gadw ei swydd yw'r ffordd orau o gyflawni'r egwyddorion hynny. Argymhellwyd gennym hefyd fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol i ddatblygu papur pleidleisio i gyflwyno'r wybodaeth mewn modd clir a hawdd ei deall, a'i bod yn gweithio gyda'r gymuned etholiadol i sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud ag adalw yn glir i bleidleiswyr. Mae'r argymhellion hyn i gyd wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â phroses un cam, daethom i'r casgliad mai proses undydd, yn debyg i isetholiad, gan gynnig pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy, oedd y dull symlaf a mwyaf uniongyrchol. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad i ymgynghori â gweinyddwyr etholiadol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ar oblygiadau ymarferol cynnal y bleidlais ar un diwrnod ar draws sawl man pleidleisio mewn etholaeth.

Gan symud nawr at yr argymhellion a dderbyniwyd mewn egwyddor, fel pwyllgor, nid oeddem yn teimlo bod 'adalw' yn enw ystyrlon na chywir ar y broses yr oeddem yn ei hargymell. Er ein bod yn cydnabod bod yna lefel o ddealltwriaeth o'r term ymhlith y cyhoedd, nid yw'n cyd-fynd â'r broses a argymhellir, a gall fod yn ddryslyd yng ngoleuni'r gwahaniaeth rhwng Cymru a San Steffan. Roeddem am sicrhau bod yr enw'n disgrifio'r broses yn well ac yn fwy cywir ac argymhellwyd yr ymadrodd 'pleidlais diswyddo a disodli'. Fodd bynnag, rydym yn derbyn efallai nad dyma'r derminoleg orau ychwaith, ond mae'n fan cychwyn ar gyfer trafodaethau am yr hyn y'i gelwir. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth wrth iddi roi ystyriaeth bellach i'r mater hwn.

Er mwyn gweithredu system safonau effeithiol a theg, mae gofyn cael hyblygrwydd wrth gymhwyso sancsiynau ac ystod o opsiynau. Fel pwyllgor, credwn mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy beidio â chynnwys sbardunau penodol ar gyfer adalw mewn deddfwriaeth sylfaenol. Cafwyd llawer o feirniadu ar y Senedd am na all ymateb yn ddigon cyflym, ac o'r herwydd, roeddem o'r farn ei bod yn ddoeth caniatáu i'r Senedd allu penderfynu beth allai fod yn sbardun ar gyfer adalw. Credwn y bydd hyn hefyd yn helpu i ddiogelu'r broses ar gyfer y dyfodol, gan na fyddai angen diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Er mwyn sicrhau dealltwriaeth hawdd, argymhellwyd y dylid nodi pob sbardun ar gyfer adalw yn y canllawiau, ond rydym yn derbyn y bydd y Llywodraeth am roi mwy o ystyriaeth i hyn ac y gellir cynnwys rhai materion mewn deddfwriaeth.

Ymhellach, roeddem yn argymell y dylai adalw fod yn sancsiwn ar ei ben ei hun sydd ar gael i'r pwyllgor sydd â chyfrifoldeb am faterion o dan Reol Sefydlog 22 i'w ddefnyddio. Roedd llawer o'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod y ddarpariaeth 10 diwrnod eistedd sydd ar waith yn San Steffan yn rhy isel, ac roedd yn ymddangos i ni yn dorbwynt rhy bendant. Mae hyn yn rhan o'r rhesymeg dros gael sancsiynau i ddeillio o'r pwyllgor cyfrifol, gan ganiatáu iddo ystyried ffactorau cynsail a lliniarol eraill. Rydym yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ystyried yr argymhelliad hwn yn fanylach, yn ogystal â'i haddewid i archwilio union ffurf y canllawiau ar gyfer defnyddio adalw. Mae'r pwyllgor yn gefnogol i'r holl waith manwl ychwanegol ar y meysydd hyn, ac ni fyddai'n disgwyl llai gan y Llywodraeth wrth fwrw ymlaen â deddfwriaeth mor bwysig.

Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r pwyllgor presennol a'r rhai a ddechreuodd y gwaith hwn—gan gynnwys y Cadeirydd blaenorol, Vikki Howells, a'r cyn-aelodau Mark Drakeford a Natasha Asghar—am eu gwaith caled yn y maes. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd amser i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad. Fe gasglwyd cryn dipyn o dystiolaeth gymhleth dros gyfnod byr o amser, ac mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy i helpu ein hystyriaeth o'r mater hwn ac i'n galluogi i wneud yr argymhellion ystyriol a gwybodus a nodwyd heddiw.

I gloi, fel Cadeirydd y pwyllgor, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y cynigion hyn yn awgrymu dull ymarferol o gynyddu atebolrwydd o fewn y cyd-destun gwleidyddol yr ydym ac y byddwn yn gweithredu ynddo.

Rwy'n arbennig o falch hefyd bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r egwyddor o fabwysiadu system adalw mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd, a'i bod wedi'i derbyn yn gyffredinol gan y Llywodraeth. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau Aelodau yn y ddadl. Diolch.

15:25

Gwnaf i ddechrau gan ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei gwaith yn ein harwain ni fel pwyllgor yn yr ymchwiliad yma.

Rwy'n credu bod cadeiryddiaeth Hannah o'r pwyllgor hwn yn dilyn gwaith y Cadeirydd blaenorol i'w chanmol, fel y mae gwaith aelodau eraill y pwyllgor ar hyn, wrth i mi fy hun barhau'r gwaith a wnaed gan fy nghyd-Aelod Natasha Asghar.

Ond rwy'n credu bod hwn yn waith da iawn. Rwy'n credu bod hwn yn ganolog iawn i ble rydym fel Senedd yn ein hanes, a lle rydym am fod, wrth symud ymlaen. Onid yw'n iawn fod gwleidyddion sy'n methu cyrraedd y safonau sy'n ddisgwyliedig ganddynt yn cael eu cosbi yn unol â hynny? Rwy'n credu bod adalw, neu ddiswyddo a disodli—argymhelliad 4—rwy'n eithaf agored i hynny, Gwnsler Cyffredinol, ar beth yw'r geiriad, ond rwy'n credu bod unrhyw beth sy'n glir i etholwyr o fewn y rhanbarthau etholaethol newydd ynglŷn â beth yw'r broses yn wirioneddol hanfodol. Dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor yr argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor.

Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol hanfodol, pan fydd—os yw—hyn yn digwydd yn y dyfodol, fod yr etholwyr hynny'n mynd i orsafoedd pleidleisio, ei fod yn teimlo mor debyg â phosibl i etholiad cyffredinol, i etholiad Senedd, yn yr ystyr fod y bleidlais yn edrych mor glir â phosibl a bod yr orsaf bleidleisio'n teimlo fel gorsaf bleidleisio yn ystod etholiad cyffredinol neu etholiad Senedd, a'i fod yn etholiad i bob pwrpas. Efallai mai proses adalw fydd hi, ond i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi ac yn mynd allan i arfer eu dyletswydd ddemocrataidd drwy bleidleisio o blaid neu yn erbyn Aelod unigol, credaf ei bod yn bwysig ei fod yn teimlo mor debyg â phosibl i etholiad arferol o fewn y cylch etholiadol. Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig yn hyn o beth.

I ddod yn ôl at y syniadau ynghylch pam y mae angen hyn arnom, rwy'n credu bod y dystiolaeth a gyflwynwyd gennym yn bwysig. Ac er bod hwn yn sefydliad cymharol ifanc o'i gymharu â'r hyn a geir ar draws Clawdd Offa yn Llundain, rydym yn cyflwyno hyn yn gynt o lawer yn ein hanes nag a wnaeth San Steffan, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ganmol, wrth inni symud ymlaen i'r seithfed Senedd.

Rwy'n cadw fy nghyfraniad yn gymharol gryno ar hyn, Lywydd, ond rwy'n falch mai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni sy'n ymateb heddiw ar hyn, ac yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ar gyfer y seithfed Senedd. Oherwydd mae amser yn allweddol yn hyn; os ydym am ei wneud mewn pryd ar gyfer y seithfed Senedd, mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithio'n gyflym i'w gyflwyno. Byddai'n cael cefnogaeth gennyf i ac eraill i gyflwyno etholiad adalw ar gyfer hyn a gwn mai dyna un o'r trafodaethau a gafodd y pleidiau yn y drafodaeth gychwynnol ynghylch diwygio'r Senedd yn ehangach.

Rwy'n cymeradwyo'r pwyllgor am eu gwaith ar hyn, nid yn unig oherwydd fy mod yn aelod o'r pwyllgor, Lywydd, ond rwy'n ei ganmol oherwydd bod hwn yn waith diddorol iawn, a mwynheais gymryd rhan ynddo. Rwy'n credu bod y gadeiryddiaeth yn rhagorol ac roedd cyfraniad aelodau'r pwyllgor ar hyn yn wych. A diolch yn olaf i'r tîm clercio a'r tîm cyfan ar ystad y Senedd a'n cefnogodd i wneud hyn. Rwy'n credu y dylem fod yn falch fel Senedd ein bod yn cyflwyno rhywbeth fel hyn mor gynnar yn hanes ein sefydliad. Diolch, Lywydd.

Dwi'n ategu beth yr oedd Sam yn ei ddweud.

Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon, i'r Cadeirydd, y clercod a'r aelodau. Mae wedi bod yn ymddangosiadol hawdd i'w wneud, ond y munud y dechreuwch chi edrych arno, rydych chi'n sylweddoli bod iddo lawer o wahanol elfennau a llawer o wahanol agweddau. A chyda rhywfaint o'r gwaith arall y mae'r pwyllgor yn ei wneud—ar dwyll, ar fwlio ac aflonyddu rhywiol—mae'n rhan o ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, a sicrhau bod ymddiriedaeth gan y sefydliad hwn ac eraill, yn enwedig yng Nghymru, yn y system wleidyddol, fel y gallwn o leiaf symud pethau ymlaen yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae angen ei wneud mewn modd amserol, ac mae angen cyflwyno'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau ei bod wedi'i hymgorffori mewn pryd ar gyfer etholiad 2026. Mae hynny'n mynd i fod yn her, ond rwy'n adleisio eto yr hyn a ddywedodd Sam mai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni sy'n bwrw ymlaen â hyn, felly mae gobaith y caiff ei gyflawni. Felly, arhoswn i weld hynny, ond fe wnawn ein rhan fel pwyllgor i hwyluso hynny.

Un peth yr oedd angen i ni ei ystyried yw bod y system newydd yng Nghymru, yn 2026, yn mynd i fod yn wahanol i Loegr, ac yn wahanol i unrhyw beth a wnaethom o'r blaen, ar wahân i'r ffaith mai dyna'r ffordd y cefais fy ethol. Felly, mae'r system etholiadol yn mynd i fod yr un ffordd yn union ag y mae pob Aelod rhanbarthol yma wedi cael ei ethol. Felly, ar un ystyr, fe fuom yn gwneud hyn ers 25 mlynedd, ond y bydd yn berthnasol i bawb nawr. Ond yn hynny o beth, wedyn, mae angen system adalw sy'n adlewyrchu hynny, ac nid yw efelychu San Steffan o reidrwydd yn gweithio. Dyna pam y bu'n rhaid i ni edrych ar hynny. Yn amlwg, cafwyd ambell ddarn o dystiolaeth lle bu peth pryder—a byddwn yn cydnabod y pryderon hynny gan bobl fel y Gymdeithas Diwygio Etholiadol—ynglŷn â sut y byddai'n gweithio, a mynegwyd rhai o'r pryderon hynny. Ond mae'n anochel y bydd y realiti wrth gydbwyso mecanwaith atebolrwydd effeithiol â nodweddion y system etholiadol newydd yn galw am beth cyfaddawdu, a dyna beth y gwnaethom geisio ei wneud yn yr argymhellion a ddaeth gan y pwyllgor.

Felly, rwy'n galw ar y Llywodraeth nawr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn rheolaidd ynglŷn â sut y mae hyn yn datblygu ac i sicrhau bod y Senedd yn cael ei hysbysu. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y dadleuon ar dwyll sydd ar y ffordd, a hefyd at fwrw ymlaen nawr â gwaith yr ydym eisoes wedi'i ddechrau ar rai o'r agweddau y soniais amdanynt yn gynharach, sydd wedi gorfod cael ei ohirio er mwyn gwneud y gwaith hwn, ond a fydd yn parhau nawr. Felly, diolch yn fawr, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn. Diolch.

15:30

Fel y mae eraill wedi’i ddweud, mae hwn yn adroddiad rhagorol, ac rwy'n cymeradwyo'r Cadeirydd—neu’r Cadeiryddion, efallai—am y gwaith y maent wedi’i arwain ar ddadlau a thrafod a symud y mater hwn yn ei flaen. Credaf fod cytundeb cyffredinol—rwy'n sicr yn gobeithio bod—ar draws pob rhan o'r Siambr hon, ni waeth pa enw a ddefnyddiwn, boed yn 'adalw' neu'n enw gwahanol—nid oeddwn yn disgwyl clywed hynny yn yr araith; mae wedi fy nhaflu—yn cael ei dderbyn fel pwynt o egwyddor. Derbynnir yr egwyddor, a’r hyn rydym yn ei drafod nawr, a thros y misoedd nesaf, gobeithio, yw’r broses a ddefnyddiwn i gyflawni’r egwyddor gymeradwy honno. Credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'n bwysig inni gydnabod bod democratiaeth y lle hwn yn dibynnu nid yn unig ar un etholiad, ond ar sut rydym yn cyflawni ac ymddygiad Aelodau dros dymor cyfan, dros y pedair blynedd lawn. Rwy'n credu bod y pwyllgor wedi gwneud dadansoddiad o’r radd flaenaf o hynny, ac wedi awgrymu rhai ffyrdd ymlaen.

Yr hyn yr hoffwn ei wneud yn yr ychydig eiliadau y byddaf yn siarad y prynhawn yma yw amlinellu opsiynau amgen posibl i ni eu hystyried hefyd. Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y pwyntiau ynghylch trothwyon—credaf eu bod yn glir iawn, a chredaf fod y pwynt a wnaed yn adroddiad y pwyllgor am benderfyniadau blaenorol y pwyllgor yn creu cyd-destun y gallwn ei ddefnyddio i ddeall hynny. Ond credaf y bydd angen inni ymgorffori hynny yn y gyfraith. Yr hyn sy’n bwysig i mi, felly, yw’r broses a ddilynwn. Mae’n bwysig fod elfennau o degwch yn rhan annatod o unrhyw broses y mae Aelod yn ei hwynebu, a bod y broses yn parhau i fod yn un lled-farnwrol, gyda thegwch wrth ei gwraidd. Mae'n rhaid i atebolrwydd a thegwch fod wrth wraidd hyn oll. A’r hyn yr hoffwn ei weld yw proses ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch ymddygiad yn y lle hwn, yn y Siambr hon, fel ein bod yn parhau i ddwyn ein gilydd i gyfrif am ein gweithredoedd a’n hymddygiad a’n hymarweddiad, a’n bod yn gwneud hynny gydag ystyriaeth ddifrifol, a goruchwyliaeth farnwrol o bosibl, os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol.

I mi, mae rôl yr etholwyr mewn lle gwahanol. Mae’n ymwneud ag etholiadau ac atebolrwydd, ac i mi, mae hynny’n golygu bod angen inni gynnal is-etholiadau mewn unrhyw system. Nawr, rwy'n credu ac yn mawr obeithio, y bydd y system bresennol sydd gennym, a ddefnyddir i ethol Aelodau y flwyddyn nesaf, ar waith am gyfnod byr yn unig. Nid wyf yn hoffi’r cyfaddawd a wnaed. Fe’i derbyniais, dadleuais drosto, pleidleisiais drosto, ond nid yw hynny’n golygu fy mod yn ei hoffi. I mi, mae’n well gennyf y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a byddaf yn dadlau yn y misoedd nesaf y dylai’r Senedd nesaf fabwysiadu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel y dull o ethol yn y tymor hir.

Ond gallwn hefyd gynnal is-etholiadau o dan system rhestr gaeedig, gan y gallwn gynnal is-etholiad gan ddefnyddio’r bleidlais amgen, sy’n cynnal ein cyfranoldeb, a’n hymrwymiad i gyfranoldeb. Ac mae'n golygu mai'r etholwyr, ac nid plaid, sy'n dewis pwy sy'n eistedd yma. A chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Mae'n bwysig am mai un o nodweddion system San Steffan, a chredaf fod pob un ohonom yn cael ein dylanwadu gan system San Steffan, yw mai'r system adalw a welwn yn cael ei defnyddio fwyaf, ac mae'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Aelod yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ond credaf fod angen inni gynnal yr egwyddor fod yr etholwyr yn gallu lleisio eu barn, nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar bwy sy’n eu dilyn. Ac mae hynny'n golygu, yn y rhan fwyaf o systemau pleidlais sengl drosglwyddadwy, hyd y deallaf—ac yn sicr, yn y system rwy'n fwyaf cyfarwydd â hi yng Ngweriniaeth Iwerddon—y system a ddefnyddir, yn ei hanfod, yw'r system bleidlais amgen, ar gyfer is-etholiadau yn y Dáil, lle maent yn digwydd yn ystod cyfnod y swydd. A chredaf y gallwn ddefnyddio honno yma, fel ein bod ni, lle mae sedd wag yn cael ei datgan, yn dilyn y broses, yn cynnal is-etholiad er mwyn llenwi'r sedd honno, a bod hynny’n digwydd drwy’r bleidlais amgen.

Ond mae’r rhain yn ddadleuon a thrafodaethau y gallwn eu cael. Mae angen inni symud yn weddol gyflym, am y rhesymau y mae Sam Kurtz eisoes wedi’u hamlinellu. Ond credaf y dylem gael y ddadl hon yn onest ac yn llawn fel Aelodau, nid o reidrwydd gan bleidiau gwleidyddol, neu'n cynrychioli safbwyntiau gwleidyddol, ond fel Aelodau unigol, gan y derbynnir egwyddor adalw, neu beth bynnag—yr hyn rydym yn ei ddadlau ac yn ei drafod nawr yw sut rydym y cyflawnwn hynny, a sut y gwireddwn y lefel honno o atebolrwydd. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd, fod angen inni wneud hynny'n gyflym, ond hefyd drwy'r drefn briodol.

15:35

A hefyd dwi’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor, ac i Gadeirydd y pwyllgor hefyd, am yr adroddiad yma. Mae o’n adroddiad o safon uchel iawn, felly diolch yn fawr iawn i chi.

Ac mae'n dod ar adeg, onid yw, pan wyddom fod y cyd-destun ar gyfer gwleidyddiaeth yn is nag erioed. Mae sgandalau gwleidyddol wedi cyfrannu’n sylweddol at ddadrithiad y cyhoedd gyda ni fel gwleidyddion. Aethom drwy sgandal treuliau 2009, y contractau dadleuol ar gyfer cyfarpar diogelu personol, straeon yn cael eu datgelu am bartïon yn ystod y cyfyngiadau symud—gadewch inni beidio ag anghofio’r rheini—a chafwyd rhagor, yn anffodus, yn fwy diweddar. Hefyd, mae gennym argyfwng ymddieithrio, ac mae’r ddau beth yn mynd gyda’i gilydd. Felly, nid yw ein pobl ifanc yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth. Clywsom yr wythnos hon gan y Comisiwn Etholiadol mai dim ond 62 y cant o bobl ifanc Cymru sy’n teimlo bod ganddynt wybodaeth dda am ddemocratiaeth, sy’n llawer is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Ond ar gynnwys yr adroddiad hwn, ac adalw, sydd yn ei hanfod, i mi, yn ymwneud ag adfer y contract rhwng cynrychiolwyr etholedig a’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu. Pan fydd ymddiriedaeth yn cael ei thorri, pan fydd safonau’n cael eu tanseilio, mae'n sicrhau bod gan bleidleiswyr lais ystyrlon, fel y clywsom, yn y penderfyniad a ddylai unigolyn barhau yn ei swydd. Nid yw'n ymwneud ag oportiwnistiaeth wleidyddol, mae'n ymwneud â chryfhau ein democratiaeth. Ac rydym eisoes wedi gweld grym adalw yn San Steffan. Pan gyflwynwyd y system gyntaf, roedd rhai’n amau a fyddai’n cael ei defnyddio o gwbl, ac ers hynny, rydym wedi gweld nifer o achosion pan fo deisebau adalw wedi llwyddo. Ac i ddatgan buddiant yma, yn amlwg, chwaraeais ran mewn un ddeiseb adalw benodol.

Nid ei allu i gael gwared ar gynrychiolydd etholedig yn unig yw grym adalw, ond y neges y mae'n ei chyfleu: fod yn rhaid i wleidyddion gael eu dal i safonau ymddygiad uchel, neu fod yn atebol i'r bobl. Rwy’n falch o weld bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gefnogol ar y cyfan. Dylid canmol parodrwydd y Llywodraeth i ymgysylltu â’r argymhellion a’u parodrwydd i addasu i’r system, felly rwy’n croesawu hynny.

Ond mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar y brys yn hyn o beth. Mae gennym etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf yn cael eu cynnal drwy broses wahanol, fel y clywsom, ac mae’n bwysig iawn fod pobl yn teimlo eu bod yn gallu deall y broses newydd a deall y system newydd hon. Felly, rwy’n annog y Llywodraeth i ystyried sut y gallwn roi gwybod i'r cyhoedd am y broses newydd o ethol eu cynrychiolwyr, ond hefyd am y broses adalw hefyd. Felly, hoffwn glywed rhagor o fanylion, os oes modd, ynglŷn â sut y bwriadwn ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau bod pleidleiswyr yn deall y system adalw yn llawn—sut y mae'n gweithredu a'r amodau ar gyfer ei sbarduno. Ond rwy'n croesawu'r adroddiad, a diolch i bob aelod o’r pwyllgor.

Diolch yn fawr i chi i gyd.

Ac edrychaf ymlaen at ei weld yn symud ymlaen. Diolch.

15:40

Wrth inni symud tuag at etholiad cyffredinol Cymru ym mis Mai 2026, hwn fydd yr etholiad mwyaf radical a democrataidd yn hanes datganoli a holl Seneddau’r DU: pobl dros 16 oed yn pleidleisio, cofrestru awtomatig—a fydd yn ychwanegu, o bosibl, hyd at 0.5 miliwn o bobl at y gofrestr etholiadol—adalw a diswyddo, darpariaethau twyll, a system bleidleisio gwbl gyfrannol.

Yr argymhelliad yw creu proses ar gyfer diswyddo Aelod, ac mae’n un lle credaf fod undod llwyr yn y Senedd ar yr amcan hwnnw. Mae'n seiliedig ar egwyddor cyfrifoldeb personol Aelodau am eu huniondeb a safon eu hymddygiad. Mae’n fodel penodol i Gymru, sy'n creu proses ar gyfer diswyddo Aelod y mae eu hymddygiad wedi disgyn yn is na’r hyn sy’n dderbyniol a lle dylid caniatáu i’r etholwyr allu dewis cael gwared ar yr unigolyn hwnnw. Ac mae'n rym i'w arfer gan yr etholwyr. Mae'n iawn mai hwy fydd yn penderfynu yn y pen draw. Ysgrifennodd Thomas Paine:

'Ni ddylai unrhyw un ymddiried mewn corff o ddynion nad ydynt yn dal eu hunain yn atebol i neb.'

Yr hyn y credaf fod y prosesau a gyflwynwn yn ei wneud yw cynyddu ein hatebolrwydd personol, ond atebolrwydd gwleidyddol y Senedd hon hefyd i etholwyr Cymru. Mae’n gam dewr a radical, a bydd yn creu'r sefydliad mwyaf democrataidd o bob un o Seneddau’r Deyrnas Unedig. Diolch.

Y Cwnsler Cyffredinol nawr i ymateb i'r ddadl, i gyfrannu—Julie James.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am ei waith diwyd iawn ar yr adroddiad hollbwysig hwn. Er bod y Senedd yn dal i fod yn ifanc iawn, rwy'n credu bod hyn yn brawf ein bod wedi dod yn bell iawn dros 25 mlynedd ein bodolaeth. Credaf fod datganoli wedi dod â llywodraeth yn nes at bobl Cymru, ac wrth inni barhau i esblygu, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein strwythurau democrataidd yn parhau i fod yn gryf, yn dryloyw ac yn atebol. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn anodd ei hennill ond yn hawdd ei cholli, a'n dyletswydd ni yw ei diogelu.

Yn gywir ddigon, mae pobl yn disgwyl safonau uchel gan eu cynrychiolwyr etholedig, a phan na chaiff y safonau hynny eu cyrraedd, maent yn disgwyl canlyniadau. A dyna pam fod angen system deg a thryloyw arnom sy'n caniatáu i bleidleiswyr—yr union bobl a'n rhoddodd ni yma—gael y gair olaf. Heb hynny, credaf ein bod mewn perygl o danseilio hyder yn ein sefydliadau ac yn ein democratiaeth. Ac mewn democratiaeth, hyder yw popeth.

Felly, i fynd i’r afael â’r materion hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol cyn yr etholiad nesaf i gyflwyno system adalw ar gyfer y Senedd. Mae amser yn brin iawn, ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Senedd a'i phwyllgorau i gyflawni hyn. Ac os llwyddwn, Lywydd, bydd yn garreg filltir yn hanes ein Senedd. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod gan bobl Cymru fecanwaith bob amser i ddwyn eu cynrychiolwyr i gyfrif, ni waeth beth fo’u plaid, ni waeth beth fo’u gwleidyddiaeth, gan fod hyn yn fwy nag unrhyw Lywodraeth.

Ar y sail honno, rydym yn derbyn argymhelliad 1 mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n angenrheidiol i sefydlu’r system hon. Yn dilyn hynt y Bil, bydd angen canolbwyntio ar roi is-ddeddfwriaeth ar waith a chytuno ar ganllawiau pwyllgorau i sicrhau y caiff ei chyflwyno’n ddidrafferth, a bydd peth o hynny o anghenraid i'w wneud gan ein holynwyr yn y Senedd nesaf.

Mae'n rhaid i’r cynnig hwn hefyd alinio â’n system etholiadol newydd, fel y mae pob Aelod sydd wedi cyfrannu wedi crybwyll—system gyfrannol, seiliedig ar restr y cytunwyd arni gan y Siambr hon y llynedd—ac rwy’n llwyr gefnogi argymhelliad 2, sy’n hyrwyddo pleidlais un cam i ofyn i bleidleiswyr a ddylai Aelod aros neu fynd. Bydd unrhyw sedd wag o ganlyniad yn cael ei llenwi gan ddefnyddio’r prosesau presennol, gan sicrhau parhad ac eglurder i’r Senedd a’r etholwyr.

Mae’r pwyllgor, yn gywir ddigon, yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth glir a hygyrch i bleidleiswyr. Rydym yn derbyn argymhellion 3, 8 a 9, i sicrhau bod papurau pleidleisio, cardiau pleidleisio a gwybodaeth i bleidleiswyr wedi’u cynllunio’n dda ac yn darparu gwybodaeth. Mae'n rhaid i'r cyhoedd allu deall y broses adalw yn hawdd. Byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, Aelodau’r Senedd a’r Comisiwn Etholiadol i wneud hyn yn iawn.

Rwy'n cytuno â’r pwyllgor safonau fod enwi’r broses yn bwysig. Ac er fy mod yn cydnabod yr angen i wahaniaethu rhyngddi a system y DU, mae gennyf amheuon ynghylch cyfeirio ati fel pleidlais 'ddiswyddo a disodli'. Credaf fod y Cadeirydd wedi mynegi peth amheuaeth ynglŷn â hynny yn ei chyfraniad hefyd. Ni fydd y system yn disodli Aelodau'n uniongyrchol; bydd yn eu diswyddo, gydag olynwyr yn cael eu dewis drwy weithdrefnau safonol. O ystyried bod dealltwriaeth eang o ‘adalw’ fel mecanwaith ar gyfer diswyddo gwleidyddion, bydd angen inni ailystyried y derminoleg hon yn ofalus wrth inni ddatblygu’r Bil. Lywydd, rwy’n mawr obeithio y bydd yr Aelodau’n cymryd rhan yn y broses honno er mwyn cynorthwyo pob un ohonom i ddod i gasgliad sy’n dderbyniol i bawb, gan fod eglurder yr iaith yn arwain at eglurder y broses.

Ac yna, Lywydd, mae argymhelliad 5 yn cyflwyno dull newydd, sef y gallu i adalw Aelod fel sancsiwn ar ei ben ei hun, i fynd i'r afael â'r materion dybryd a welwyd yn San Steffan. Credaf fod hwn yn syniad addawol, ac rwy'n ei gefnogi mewn egwyddor, ond gan ei fod yn syniad newydd, mae’n rhaid inni weithio'n ofalus drwy'r manylion cyfreithiol ac ymarferol. Mae'n hanfodol nad yw'n dod yn fesur mympwyol ond yn hytrach ei fod yn darparu ffordd ystyrlon o gynnal safonau heb greu canlyniadau anfwriadol. Mae'r gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo a byddwn yn symud yn gyflym i'w ddatblygu. Ac wrth inni ddatblygu’r system adalw, rhaid inni sicrhau ei bod yn ddigon hyblyg i addasu i heriau’r dyfodol. Nid mater ar gyfer heddiw'n unig yw hyn; mae a wnelo â chreu fframwaith cadarn a all esblygu gyda'n democratiaeth.

Lywydd, os gallwn wneud i hyn weithio, mae’n gwneud synnwyr i’r pwyllgor ddatblygu canllawiau clir ar ymddygiadau a allai arwain at adalw, gan gynnwys ffactorau gwaethygol a lliniarol. Mae angen i'r cyhoedd fod â hyder yn y broses, a gwybod na fydd yn cael ei chamddefnyddio er budd gwleidyddol. Rydym yn archwilio sut y gall y Bil ffurfioli’r broses hon yn effeithiol.

Rwy'n anghytuno i raddau â safbwynt y pwyllgor yma, gan y credaf y dylid rhestru rhai troseddau clir a benderfynir yn allanol yn benodol yn y Bil, megis achosion lle caiff Aelod eu dedfrydu i garchar ond nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer anghymhwyso awtomatig. Mae'r eglurder hwn yn hanfodol i bleidleiswyr ac Aelodau. Mae angen i bobl wybod ble mae'r llinell ac y bydd camau o'r fath yn arwain at bleidlais adalw. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen am sicrwydd cyfreithiol ym mhob agwedd ar y broses adalw. Bydd hyn yn sicrhau bod pleidleiswyr ac Aelodau yn deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau yn glir. System deg yw un lle nad oes gan unrhyw un amheuaeth ynglŷn â'r rheolau.

Yn olaf, Lywydd, rydym yn cefnogi pleidlais undydd syml sy’n adlewyrchu etholiad y Senedd mor agos â phosibl, gan dderbyn argymhelliad 7. Po fwyaf cyfarwydd yw’r broses, y mwyaf hygyrch y bydd i bleidleiswyr. Dylai pleidlais adalw fod yn syml ac yn bendant, gan ganiatáu i’r cyhoedd arfer eu hawliau democrataidd yn effeithlon.

Lywydd, nid wyf wedi sôn am fater twyll bwriadol heddiw, gan fod y pwyllgor wedi darparu adroddiad ar wahân ar y mater hwnnw, ac fe gaiff ei drafod ar ei ben ei hun. Mae’r gwahanu hwn yn caniatáu inni ganolbwyntio ar safbwynt y Llywodraeth yn gliriach a sicrhau bod y ddwy drafodaeth yn cael y sylw y maent yn ei haeddu.

Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am y ddadl heddiw a’r holl Aelodau a gyfrannodd at y gwaith hanfodol hwn. Mae cefnogaeth drawsbleidiol glir i gyflwyno system adalw, ac mae gennym dasg sylweddol o’n blaenau. Ond Lywydd, mae a wnelo hyn â chryfhau ein democratiaeth, gwella atebolrwydd, a rhoi'r grym lle dylai fod: yn nwylo pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â phob un ohonoch i gyflawni’r newid pwysig hwn. Diolch.

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Llywydd. A gaf i ymateb drwy groesawu cyfraniadau pawb mewn ffordd feddylgar a thrylwyr? Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol, fel fy nhasg fawr gyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, i wneud rhywbeth y gallem wneud cynnydd arno a all chwarae rhan a chyfrannu at y gwaith o gryfhau ein democratiaeth yma yn y Senedd. Gofynnwyd i mi, pan oeddem yn trafod yr adroddiad yn gyhoeddus, pan gafodd ei gyhoeddi, pam ei fod wedi cymryd cymaint o amser. Dywedais ei fod wedi bod yn llawer cyflymach na San Steffan mewn gwirionedd: roedd wedi cymryd cwpl o ganrifoedd iddynt hwy; nid oedd ond wedi cymryd chwarter canrif i ni. Ond fel rhan o'r ddemocratiaeth esblygol honno ac ochr yn ochr â'r gwaith arall a wnawn fel y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda'r holl randdeiliaid, a chyda phob cyd-Aelod yn y Siambr mewn gwirionedd. Diolch.

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Plant sydd ar yr ymylon'

Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Plant sydd ar yr ymylon', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Buffy Williams. 

Cynnig NDM8847 Buffy Williams

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Plant sydd ar yr ymylon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Dychmygwch blentyn sydd ar goll, a neb yn gwybod ble maent. Efallai eu bod yn rhedeg oddi wrth rywbeth—camdriniaeth, esgeulustod neu drawma—neu efallai fod rhywun yn camfanteisio arnynt, a'u bod yn cael eu gorfodi i wneud gweithgareddau troseddol peryglus. Nid plant damcaniaethol yw'r rhain; maent yn blant go iawn sy'n byw yng Nghymru heddiw. Ac maent ar ymylon cymdeithas, yn agored i fanipiwleiddio, trais a chamdriniaeth. Rydym wedi clywed hanesion pwerus a thorcalonnus gan y plant hynny: straeon sy’n anodd eu clywed, profiadau sy’n anos byth i fyw drwyddynt. Mae'r plant sydd wedi mynd ar goll neu blant y camfanteisir arnynt yn aml yn dioddef trawma na ellir ei ddychmygu, gan gynnwys trais ciaidd. Mae rhai'n cael eu gorfodi i gyflawni troseddau eu hunain, mae eraill yn agored i sefyllfaoedd peryglus, yn gorfforol ac yn emosiynol, na ddylai unrhyw blentyn mo'u profi byth. Dyma'r plant yr aethom ati i'w deall yn well yn ein hymchwiliad, 'Plant sydd ar yr ymylon'. Yn ein hymchwiliad, fe wnaethom ganolbwyntio ar ddau o’r grwpiau mwyaf agored i niwed o blant yng Nghymru heddiw: y rheini sy’n mynd ar goll, nad oes neb yn gwybod ble y maent, a’r rheini y camfanteisir arnynt yn droseddol—plant sy’n cael eu manipiwleiddio, eu twyllo neu eu gorfodi i gyflawni gweithgarwch troseddol. Sut y mae’r systemau a ddylai eu diogelu yn gwneud cam â'r plant hyn? A sut y gallwn wneud yn well?

Mae ein hadroddiad yn adlewyrchu tystiolaeth real gan blant sydd wedi profi'r heriau hyn. Rhannodd rhai plant eu profiadau o gael eu masnachu a’u gorfodi i gymryd rhan yng ngweithgarwch troseddol llinellau cyffuriau, fel y’u gelwir. Soniodd eraill am gael eu manipiwleiddio gan gangiau lleol, neu gamfanteisio gan aelodau o’u teuluoedd eu hunain hyd yn oed. Fe wnaethant fanylu ar y modd y mae gangiau troseddol yn mynd ati'n fwriadol i dargedu plant sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol neu'r rheini nad ydynt yn mynychu'r ysgol o gwbl. I'r plant hyn, mae cael eu gwahardd o'r ysgol yn aml yn borth i gamfanteisio a thrais. Efallai mai’r stori fwyaf ddirdynnol a glywsom oedd yr un gan blentyn y meithrinwyd perthynas amhriodol â hwy am fisoedd, gydag addewid o ddiogelwch a gofal, ond yn lle hynny, cawsant eu caethiwo mewn byd o droseddu, trais ac ofn. Nid yw'r rhain yn achosion prin; mae'r niferoedd yn cynyddu. Ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal camfanteisio o'r fath rhag parhau.

Ar ôl clywed gan y plant hyn a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i'w cefnogi, fe wnaethom nodi nifer o ganfyddiadau allweddol. Rwyf am dynnu sylw at rai o’r pwyntiau pwysicaf heddiw. Mae gweithio amlasiantaethol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod plant sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu. Dyma'r edefyn sy'n clymu ymdrechion yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, gwelsom fod trefniadau rhannu gwybodaeth gwael ar draws asiantaethau yn arwain at fylchau mewn cymorth, ac yn rhy aml, at drasiedi. Mae hon yn broblem systemig y mae angen mynd i’r afael â hi. Mae'r ymateb i blant y camfanteisir yn droseddol arnynt yn aml ymhell ar ôl yr ymateb i blant eraill sy'n agored i niwed. Mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamfanteisio troseddol yn anghyson ledled Cymru. Mae rhai gweithwyr proffesiynol yn gwneud gwaith eithriadol, ond mae amrywio eang yn y ffordd y caiff y plant hyn eu nodi a’u cefnogi, gan adael llawer o blant mewn perygl o niwed pellach. Hefyd, fe wnaethom nodi ffactorau risg clir sy'n gwneud plant yn fwy tebygol o ddod yn darged i gamfanteisio. Mae gwahardd o'r ysgol yn risg allweddol. Mae plant sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol neu sy'n ei chael hi'n anodd aros mewn addysg yn arbennig o agored i niwed. Mae trawma, boed yn sgil camdriniaeth, esgeulustod neu’r profiad o fod mewn gofal, hefyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd plentyn yn dod yn darged i gamfanteisio.

Ond efallai mai'r peth pwysicaf i'w gofio yw y gall unrhyw blentyn gael eu gwthio i'r ymylon. Nid ymwneud â phlant o gefndiroedd anodd yn unig y mae hyn. Gall unrhyw blentyn, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau personol, gael eu gwthio i'r ymylon a'u gadael yn agored i rywun gamfanteisio arnynt. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r materion hyn. Hoffwn dynnu sylw at bedwar maes allweddol lle credwn y gellir gwneud cynnydd sylweddol.

Pan fydd plentyn yn mynd ar goll, mae'n hanfodol ein bod yn deall pam. Mae cyfweliadau dychwelyd, lle mae gweithiwr proffesiynol yn siarad â’r plentyn ar ôl iddynt ddychwelyd, yn rhan hanfodol o hyn. Mae'r cyfweliadau hyn yn rhoi cyfle inni nodi'r risgiau y mae'r plentyn yn eu hwynebu, ac ymyrryd yn gynnar. Fodd bynnag, canfuom nad yw cyfweliadau dychwelyd bob amser yn cael eu cynnig. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y cynnig o gyfweliad dychwelyd yn orfodol, ar ôl pob cyfnod o fynd ar goll. Yn anffodus, gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddadlau na ddaeth yr ymchwil i gonsensws ynglŷn ag a ddylai cyfweliadau dychwelyd fod yn orfodol.

Gwyddom y gall rhai pobl ifanc, yn aml y rheini mewn gofal, deimlo’n rhwystredig pan roddir gwybod i'r heddlu eu bod ar goll. Efallai eu bod wedi bod allan yn gweld ffrindiau a heb gyrraedd adref cyn cyrffyw, fel sy'n digwydd yn aml gyda phobl ifanc yn eu harddegau. Iddynt hwy, efallai na fydd cyfweliad dychwelyd yn briodol. Ond gadewch imi ddweud yn glir: ni wnaethom argymell cyfweliadau gorfodol ar gyfer pob plentyn. Fe wnaethom alw am gynnig gorfodol o gyfweliad. Mae hwn yn gam syml i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i siarad â gweithiwr proffesiynol am eu profiad. Mae’r angen am hyn yn glir, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru heddiw am ragor o eglurder ynghylch eu safbwynt ar gynnig gorfodol o gyfweliadau dychwelyd a pham y byddai hyn yn beth gwael.

Argymhelliad allweddol arall oedd strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â chamfanteisio troseddol ar blant, er mwyn cael ymateb cyson a chydgysylltiedig ledled Cymru. Ers inni ysgrifennu ein hadroddiad, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i’w gwneud yn drosedd i oedolyn ddefnyddio plentyn i gyflawni trosedd. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig, ond mae angen strategaeth genedlaethol glir arnom yma yng Nghymru o hyd. Tra bo Llywodraeth Cymru wedi mynegi rhai amheuon ynghylch strategaeth genedlaethol, mae llawer o arbenigwyr yn y maes yn credu ei bod yn hanfodol. Byddem yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am syniadau'r Llywodraeth, os o gwbl, yng ngoleuni deddfwriaeth newydd Llywodraeth y DU.

Yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom ymweld â chanolfan ddiogel Hillside, a siarad â staff a phobl ifanc yno. Roedd yn ymweliad dirdynnol iawn. Yn dilyn yr ymweliad hwn, nododd y pwyllgor yr angen am well trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Roedd traciwr diogelu Gorllewin Morgannwg, platfform digidol sy’n rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid diogelu, yn un enghraifft o sut y gall technoleg wella cyfathrebu a chydgysylltu. Nododd y traciwr 93 o bobl a gafodd rhwng 16 a 25 rhyngweithiad â'r GIG mewn blwyddyn yn unig. Nododd rai pobl ifanc a oedd mewn cysylltiad â'r gwasanaethau plant a'r heddlu, lle nad oedd y cyswllt hwnnw wedi'i wneud o'r blaen gan weithwyr proffesiynol. Weinidog, rydym yn croesawu eich cydnabyddiaeth i’r potensial i blatfformau digidol wella trefniadau rhannu gwybodaeth. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ei hun i wella trefniadau rhannu gwybodaeth? Rydych chi'n sôn am raglen Cysylltu Gofal yn eich ymateb. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwnnw, os gwelwch yn dda?

Yn olaf, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng gwahardd plant o’r ysgol a chamfanteisio troseddol. Mae plant sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol neu sy'n gwrthod mynychu mewn mwy o berygl o gael eu targedu gan gangiau troseddol. Mae hwn yn fater brys. Mae angen inni wneud mwy i gadw plant mewn addysg ac i gefnogi ysgolion i gadw diddordeb plant agored i niwed mewn dysgu. Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i dreialu cronfa ddata plant sy’n colli addysg i olrhain plant sydd mewn perygl o ddod yn darged i gamfanteisio. Edrychwn ymlaen at weld y peilot yn dechrau ym mis Ebrill eleni, a gobeithio y bydd yn arwain at ymyrraeth fwy rhagweithiol ar gyfer y plant hyn.

I gloi, hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad hwn. Gwn nad yw’n hawdd ail-fyw’r profiadau trawmatig hyn. I’r plant a’r bobl ifanc a rannodd eu profiadau'n ddewr, diolch. Mae eich straeon wedi bod yn anodd eu clywed, ond maent yn amhrisiadwy i'n helpu i ddeall yr heriau a wynebir gan y rheini ar yr ymylon. I'r gweithwyr proffesiynol, gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, athrawon a gweithwyr gofal iechyd, diolch am eich ymroddiad i gefnogi plant agored i niwed. Bydd ein pwyllgor yn parhau i flaenoriaethu ein gwaith craffu er budd y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth i’r plant hyn a sicrhau na chaiff unrhyw blant yng Nghymru eu gadael ar ôl. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr Aelodau ar draws y Senedd.

16:00

A gaf i ddiolch i Gadeirydd fy mhwyllgor, Buffy, am agor y ddadl hon, a'r tîm clercio am lunio adroddiad mor gynhwysfawr? Rwyf hefyd eisiau diolch a thalu teyrnged i bawb a roddodd dystiolaeth. 

Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ei fod yn amlygu heriau difrifol i Lywodraeth Cymru o ran gwella effeithiolrwydd y systemau cymorth presennol i blant ar yr ymylon, ac mae'n dangos pa gamau sydd eu hangen, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Yn anffodus, mae'r adroddiad yn tynnu sylw unwaith eto at y problemau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda chasglu data. Rydym yn gweld hyn ar draws llawer o wahanol feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, yn enwedig iechyd, ac mae'n rhywbeth sy'n peri pryder difrifol ymhlith llawer o weithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau. Yn y pen draw, mae'n rhaid i ni gydnabod bod methiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod data dibynadwy a chadarn yn cael ei gasglu bellach yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl yng Nghymru. Mae'r ffaith bod awdurdod lleol wedi adrodd bod mwy o blant unigol ar goll o ofal na chyfanswm y plant a oedd mewn gofal ar y pryd yn dangos pa mor ddiofal yw'r gwaith o gasglu data bellach, a'r gwir yw, pa un a yw Llywodraeth Cymru am gyfaddef hynny ai peidio, yw nad yw wedi mynd ati'n ddigon diwyd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn casglu, yn adrodd ac yn diweddaru data.

Rwy'n falch o weld argymhellion y pwyllgor y dylid gweithredu ar unwaith ar hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn. Credaf hefyd fod y llinell amser o chwe mis ar gyfer cyflawni hyn yn eithaf teg mewn gwirionedd, ac mae cymryd mwy o amser yn dangos nad yw'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i hyn ac nid parhau i ohirio? Mae data gwell yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau gwell, gellir defnyddio adnoddau'n ddoethach, ac yn bwysicaf oll, mae'n golygu y gellir datblygu systemau gwell a mwy effeithiol, a all atal llawer o blant rhag mynd ar goll yn y lle cyntaf.

Mae'n rhaid inni gydnabod bod llawer o blant yng Nghymru yn agored i niwed, ac rwy'n cytuno â'r pwyllgor fod cyfweliadau dychwelyd yn rhan hanfodol o helpu'r rhai sydd wedi bod ar goll i allu dychwelyd o'r diwedd i ymdeimlad o normalrwydd a bywyd bob dydd. Mae'n benderfyniad mawr i blentyn neu unigolyn ifanc ddewis gadael cartref, ac mae'n rhaid i'r digwyddiadau sy'n arwain at hyn a lles meddyliol y plentyn neu'r unigolyn ifanc fod yn flaenllaw wrth ddarparu gwasanaethau cymorth. Ni allaf weld unrhyw reswm pam na allwn gynnig cyfweliad dychwelyd. Mae gennym weithwyr proffesiynol medrus sy'n gallu asesu cyflwr meddwl a'r amgylchiadau a arweiniodd at rywun yn dewis gadael cartref, ac mae'n bwysig ein bod yn deall yn barhaus yr amgylchedd cymdeithasol ac amgylchedd y cartref y mae plant a phobl ifanc yn byw ynddynt.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd hawl statudol plant a phobl ifanc mewn gofal i gael mynediad at eiriolwyr annibynnol, yn cynnwys pan adroddir eu bod ar goll. Oni bai bod hyn yn ofyniad cyfreithiol, bydd rhai ohonynt bob amser yn parhau i fod ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, na fyddant yn datgan, yn trafod neu'n ceisio cymorth ar gyfer y problemau y maent yn eu hwynebu.

Mae llinellau cyffuriau yn broblem difrifol. Nid yn unig y mae'n anodd iawn olrhain y bobl sy'n gyfrifol, ond maent yn targedu plant mewn gofal yn fwriadol. Y gwir trist yw bod plant ifanc yn cael eu hudo gan y posibilrwydd o ennill symiau cymharol enfawr o arian am gludo cyffuriau. Fe'u gwneir i deimlo'n rhan o rywbeth o'r diwedd, felly nid ydynt yn gweld y perygl na'r agwedd droseddol ar yr hyn a wnânt. Fel y mae sesiynau tystiolaeth yr adroddiad wedi nodi, mae'r rhai sy'n gyfrifol am recriwtio yn drefnus ac yn fanwl yn eu technegau recriwtio. Oherwydd bod plant a phobl ifanc mewn gofal wedi colli eu byffer amddiffynnol o deulu a ffrindiau i bob pwrpas, mae'n hawdd iawn camfanteisio arnynt.

Mae'n destun pryder mawr bod camfanteisio troseddol ar blant yn cael ei nodi mor aml fel ffurf ar gamfanteisio yng Nghymru. Cefais sioc o glywed gan y Gweinidog fod 59 y cant o'r atgyfeiriadau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024 ar gyfer plant, ac roedd 49 y cant o'r atgyfeiriadau ar gyfer camfanteisio troseddol. Felly, cefais fy synnu o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 12, i ddatblygu offeryn asesu risg camfanteisio troseddol ar blant Cymru i’w ddefnyddio gan staff y rheng flaen. Rwy'n dadlau'n gryf yn erbyn ymateb Llywodraeth Cymru yma. Pe bai'r mecanweithiau presennol yn addas i'r diben, ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi.

Byddai offer asesu nid yn unig yn cynorthwyo hyfforddiant, byddent hefyd yn annog dull cyson o weithredu ar draws gwahanol sectorau, fel plismona ac iechyd. Ar ben hynny, ar ôl eu datblygu, gellir datblygu offer asesu'n hawdd ac yn gymharol gyflym i ymateb i ddulliau newydd o gamfanteisio a rhai sy'n dod i'r amlwg, sef hanner y frwydr yn y pen draw. Nid yw troseddwyr sy'n camfanteisio ar bobl agored i niwed yn rhoi'r gorau iddi pan fyddant wedi perffeithio eu techneg. Maent yn ceisio datblygu dulliau newydd yn barhaus, ac at ei gilydd, byddai offer asesu'n helpu yn fy marn i.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn orffen drwy ddweud bod hwn yn adroddiad trylwyr ac mae'n dda gweld bod cymaint o argymhellion wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Diolch.

16:05

Gaf i ddiolch i'r Cadeirydd am gyflwyno'r adroddiad yma? Mae'n adroddiad sydd o bwys mawr, sef lles a dyfodol ein plant, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu heithrio o gymdeithas. Mae'r adroddiad yn nodi yn glir y peryglon maen nhw'n eu hwynebu wrth fod ar ymylon cymdeithas, allan o ofal arferol, yn gadael eu hunain yn agored i niwed, yn gadael eu hunain yn agored i gael eu hecsbloetio. Mae'r adroddiad yma yn ein hatgoffa ni hefyd o'r angen brys am newid systemig i ddiogelu a chefnogi'r plant hyn.

Er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor o'r dechrau, fe ddes i mewn ar ddiwedd yr ymchwiliad a chael fy syfrdanu gan y dystiolaeth a welais i a gweddill y pwyllgor ynglŷn ag effaith cael eu hecsbloetio ar bobl ifanc. Gwnaf sôn ychydig am hynny cyn y diwedd. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni fel pwyllgor, er mor anodd oedd hynny i nifer o'r tystion, a'r sefydliadau hefyd sydd wedi cyflwyno ymatebion ysgrifenedig yn ogystal.

Wrth gwrs, dyw'r ystadegau moel am gamfanteisio a cham-drin sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw yn yr adroddiad ddim yn dweud y stori yn llawn, achos ystadegau ydyn nhw. Beth sydd y tu ôl i'r ystadegau yna yw trasiediau bywyd go iawn sy'n siapio bywydau plant, a newid bywydau am byth, a hefyd effaith hynny ar eu teuluoedd a'u cymunedau. Gall y profiadau hyn gael effeithiau dinistriol a hirdymor mewn rhai achosion, ac efallai bydd y plant yma byth yn gallu dod dros y boen a'r dioddefaint yna maen nhw wedi'u profi. Dyma'r realiti allwn ni ddim ei anwybyddu, ac mae'r cyfrifoldeb arnom ni i sicrhau bod eu bywydau nhw yn well ar gyfer y dyfodol.

Un peth a oedd yn glir i mi o'r adroddiad oedd yr angen i gasglu data, ac efallai yn bwysicach na chasglu'r data, rhannu'r data yna hefyd, a sicrhau bod cydweithio cadarn yn digwydd ar draws sefydliadau ac awdurdodau lleol. Gallai rhannu data yn effeithiol wella canlyniadau yn sylweddol i bobl ifanc sydd mewn perygl, a drwy rannu data a systemau, gallwn ni sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn disgyn trwy'r craciau. Dyna beth sydd yn digwydd yn llawer rhy aml. Gallem greu rhwydwaith o gymorth sy'n ddi-dor ac yn gynhwysfawr, lle mae'r gweithwyr proffesiynol yn gyson yn canolbwyntio ar les pob plentyn, ar sail data, gwybodaeth a thystiolaeth. Byddai'r dull cydweithredol hwn yn ein galluogi i ymateb yn effeithiol ar adegau critigol, ac i ddal ein hunain yn atebol am ofal a diogelwch ein pobl ifanc. 

Ymhellach i hyn, er nad yw'r adroddiad yn galw yn benodol am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, rwy'n credu yn gryf ei fod yn gam hanfodol y dylem ni ei ystyried. Mewn sgyrsiau anffurfiol, roedd nifer o'r pwyllgor yn cytuno â hyn, achos trwy ddod â chyfiawnder ieuenctid o dan ein rheolaeth ni yma, gallem ni fod wedyn yn teilwra ein dull ni o weithredu ar gyfer anghenion unigryw plant Cymru. Gallem ni ddatblygu polisïau ac arferion sy'n fwy ymatebol, ie, ac yn fwy tosturiol ac yn fwy effeithiol wrth fynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymylu a chamfanteisio. Wrth gwrs, i Blaid Cymru, fe hoffem ni weld yr holl system gyfiawnder yn cael ei datganoli, ac yna fyddem ni ddim yn colli’r bobl ifanc yma o'n system wrth iddynt fynd o'r system ieuenctid i’r system oedolion, ond trafodaeth ar gyfer rhyw ddiwrnod arall yw hynny.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n gobeithio bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r argymhellion yma o'r adroddiad ar frys. Does gennym ni ddim amser i'w golli. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein plant mwyaf agored i niwed. A gadewch i ni sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru y cyfle i dyfu i fyny yn ddiogel, wedi'u cefnogi ac wedi'u grymuso. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i'r Cadeirydd, Buffy Williams, am yr ymrwymiad a'r angerdd rydych chi wedi'i ddangos wrth dynnu sylw at y mater penodol hwn. Rydych chi wedi dangos angerdd go iawn ac wedi bod yn sbardun i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau'r plant hyn yn cael eu cyflwyno i'r Senedd ac i'r cyhoedd, felly diolch yn fawr iawn.

Mae teitl yr adroddiad, 'Plant sydd ar yr ymylon', yn rhywbeth y dylem fod â chywilydd ohono oherwydd ni ddylai plant fod ar yr ymylon; dylent fod yn blant yng nghanol popeth y meddyliwn amdano ac a wnawn, oherwydd dyma'r rhai mwyaf agored i niwed, y rhai y camfanteisir arnynt fwyaf, y rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf, ac weithiau, rwy'n gwybod, y plant a'r bobl ifanc mwyaf heriol. Mae eu profiadau o dyfu i fyny, o gael ein cam-drin, a'r camfanteisio troseddol arnynt yn rhywbeth y dylem fod â chywilydd mawr ohono yma yng Nghymru.

Fe wnaethoch chi fel Cadeirydd adrodd stori am gyfleoedd a gollwyd, sgyrsiau y methwyd eu cael, ymyriadau na chafodd eu gwneud, penderfyniadau na weithredwyd arnynt. Disgrifiodd un gweithiwr proffesiynol yn yr adroddiad ddarllen am fywydau plant y camfanteisiwyd arnynt yn droseddol fel

'edrych ar ddamwain car gyda'r llun wedi'i arafu'. 

Rwy'n gobeithio na fydd yr adroddiad hwn yn gyfle arall a gollwyd i'r grwpiau bregus hyn. Rhaid inni weithredu ar hyn. Rhaid inni weithredu'n bendant a rhaid inni symud ymlaen ar hyn. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Lywodraeth Cymru pam nad ydynt wedi gweithredu pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn. 

Hoffwn gyfeirio at ambell un, os caf. Yn gyntaf, un y gwn fod y Cadeirydd wedi tynnu sylw ato, y cyfweliadau dychwelyd adref. Ym mharagraff 62 o'ch adroddiad, rydych chi'n dweud: 

'Felly, cawsom ein synnu pan ddywedodd y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wrthym nad oes consensws ynghylch a ddylid cael cynnig gorfodol o gyfweliad dychwelyd.'  

Rwy'n synnu'n fawr at hynny. Hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda. Rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar bobl ifanc â phrofiad o ofal a'r grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd. Mae gennym lu o randdeiliaid yn dod i'r cyfarfodydd hynny ac nid wyf wedi clywed un llais yn dweud nad ydynt eisiau'r cynnig gorfodol. Felly, os gwelwch yn dda, a allai'r Gweinidog fod ychydig yn fwy penodol ynghylch ble y daw'r llais hwnnw ohono a pham nad oes consensws? A hyd yn oed os oes un llais sy'n dweud, 'Na, nid ydym ei eisiau', fe edrychwn ar arfer gorau a gweld yn glir iawn mai cynigion gorfodol o gyfweliadau dychwelyd yw'r hyn sy'n helpu plant. Ac rwy'n siarad o brofiad; rwyf wedi gweithio yn Lloegr lle mae'n gweithio—lle mae plant yn croesawu'r cyfle i gael y cynnig hwnnw. Efallai na fyddant yn manteisio arno y tro cyntaf, ond gallent wneud hynny yn nes ymlaen, ac mae hynny'n ein helpu ni fel ymarferwyr. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n mynd i fod yn benodol yma ac rwy'n mynd i ymyrryd, os caf, Weinidog, os na chawn eglurder ynghylch pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhelliad penodol hwnnw. 

A gaf i hefyd dynnu sylw at argymhelliad 6, ar blant digartref yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profiad o ofal? Ym mis Ionawr 2024, roedd gennym dros 3,000 o blant dan 16 oed yn byw mewn llety dros dro yma yng Nghymru. Mae gennym gyfrifoldeb uniongyrchol i'r plant a'r bobl ifanc hynny. Ni yw eu rhieni corfforaethol. Ni fyddai'r un ohonom ni yma eisiau gweld y plant hynny, ein plant ni, yn byw mewn llety o'r fath. Felly, a gawn ni weld ymateb gwell? Hyd yn hyn, mae'r ymateb i'r argyfwng wedi bod yn annigonol, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried beth arall y gellir ei wneud i ddarparu rhwyd ddiogelwch sicr i rai sy'n gadael gofal ym maes tai y tu hwnt i'r Papur Gwyn ar ddigartrefedd.

Rydym wedi siarad am fod yn rhieni corfforaethol—diolch am godi hynny. Rwyf am orffen ar faes arall yr wyf yn angerddol yn ei gylch, sef plant sydd wedi cael eu gwahanu. Nid wyf yn eu galw'n 'blant ar eu pen eu hunain'. Plant yw'r rhain sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy'n rhoi gofal iddynt, a dyna'r teitl cywir, yn fy marn i: plant sydd wedi cael eu gwahanu. Mae angen inni weld system briodol yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Ond yn yr Alban, mae ganddynt system hollol wych, y mae angen i ni ei hefelychu yma yng Nghymru. System warcheidiaeth yw hi, sy'n cael ei hariannu'n dda, ac mae'n rhoi i'r plant sydd wedi cael eu gwahanu y rhiant sydd ar goll. Felly, hoffwn glywed dau beth penodol gan Lywodraeth Cymru: pam ein bod ar ei hôl hi o gymharu â'r Alban, ond yn fwyaf perthnasol, pam ein bod ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr drwy beidio â chael cyfweliadau dychwelyd statudol? Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi am fy ngalw, ac rwy'n ymddiheuro am fethu munud gyntaf y ddadl hon.

Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y ddadl hon a hefyd o fod wedi cymryd rhan yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth inni edrych yn fanwl iawn ar hyn. Diolch i Buffy Williams am ei gwaith fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Oherwydd rwy'n credu bod hwn yn adroddiad hynod o effeithiol, ac ni allaf feddwl am adroddiad arall a wneuthum i, yn sicr, yn fy amser cymharol fyr yn y Senedd hon, sydd wedi cael effaith mor ddwys arnaf i'n bersonol, ac wedi newid y ffordd rwy'n meddwl am fater, mae'n debyg, wrth orffen yr ymchwiliad hwnnw, ac fe agorodd fyd hollol newydd o brofiadau bywyd pobl ifanc a'r pethau y gallwn eu gwneud fel gwleidyddion ac Aelodau'r Senedd er mwyn eirioli'n well drostynt. Rwy'n credu bod gwaith y pwyllgor a'r adroddiad terfynol a ddeilliodd ohono yn adlewyrchiad o'r gwaith hwnnw, a'r gwaith trawsbleidiol a wnaethom. Mewn gwirionedd, byddai Buffy a minnau'n aml yn cellwair, yn ystod yr ymchwiliad hwn, cymaint yr oeddem i'n gweld yn cytuno ar lawer o faterion, rhywbeth a oedd yn destun cryn anesmwythder i'r ddau ohonom, onid oedd, Buffy?

Roeddwn eisiau canolbwyntio fy sylwadau ar un neu ddau o'r argymhellion yn yr adroddiad, gan fod amser yn brin. Roedd y cyntaf ar gyfweliadau dychwelyd, nad af i mewn iddynt mewn gormod o fanylder, oherwydd gwn fod Aelodau eraill wedi crybwyll hyn yn llawer mwy manwl na fi, yn enwedig Jane Dodds, yn y cyfraniad blaenorol, a wnaeth y pwynt yn dda iawn ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyfweliadau dychwelyd hynny. Yn sicr, ni chlywsom dystiolaeth na ddylai'r cynnig o gyfweliad dychwelyd gorfodol i bobl ifanc sy'n mynd ar goll neu sy'n gadael gofal am unrhyw reswm fod yn gynnig ar y bwrdd. Mae gennyf feddwl agored iawn ynghylch y syniad y gallai'r safbwyntiau hynny fodoli yn Llywodraeth Cymru, ond fel y gofynnodd Jane Dodds, hoffwn yn fawr glywed mwy am hynny, a chlywed y lleisiau hynny. Oherwydd nid ydynt yn lleisiau, safbwyntiau a barn a glywsom yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ac o ganlyniad, rwy'n eithaf siomedig o weld Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr argymhelliad penodol hwnnw.

Roeddwn eisiau canolbwyntio'n benodol hefyd ar argymhelliad 12, sy'n awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr â byrddau iechyd, heddluoedd ac asiantaethau statudol ac anstatudol perthnasol eraill i ddatblygu offeryn asesu risg camfanteisio troseddol ar blant Cymru i'w ddefnyddio gan staff y rheng flaen, gan gynnwys mewn lleoliadau gofal iechyd, sy'n rhywbeth a gododd gryn dipyn yn ystod yr ymchwiliad hwn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried bod mecanweithiau presennol yn addas at y diben ac felly, yn eu barn hwy, ni fyddai angen datblygu'r offeryn hwnnw. Rwy'n credu bod y tîm cysylltu â dinasyddion wedi hwyluso cyfweliadau â phobl ifanc ar ein cyfer, pobl ifanc a oedd wedi goroesi camfanteisio troseddol, er mwyn cefnogi gwaith ymchwiliad y pwyllgor. Mae un o'r cyfweliadau hynny rwy'n eu cofio'n datgelu stori am unigolyn ifanc a gafodd eu rhoi mewn hostel ar ôl rhedeg i ffwrdd oherwydd amgylchiadau byw anodd. Fe wnaethant fanylu ar yr hyn y teimlent fod ei angen arnynt a mynegi'r gefnogaeth y teimlant y dylent fod wedi'i chael gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, yn dorcalonnus, roeddent yn dweud eu bod yn teimlo nad oedd neb yno ar eu cyfer. Roeddent yn dweud—ac fe wnaeth y dyfyniad hwn aros gyda mi—fod ganddynt

'holl gyfrifoldebau bod yn hŷn a dim o'r rhyddid.'

Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn gwrando ar enghreifftiau felly a dal i gredu yn y syniad fod y mecanweithiau presennol yn addas i'r diben, pan fo rhai o'r bobl ifanc bregus hynny'n amlwg yn llithro drwy'r bylchau, ac ar yr ymylon.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith parhaus yn y maes hwn ac erfyn ar y Llywodraeth i barhau i adolygu a yw'r swyddogaethau hynny'n addas i'r diben, a yw plant yn syrthio drwy'r bylchau ar yr ymylon a'r hyn y gallwn ei wneud fel deddfwyr i sicrhau nad yw pobl ifanc byth yn y sefyllfa honno eto. Diolch yn fawr.

16:20

Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma ac i Jane Dodds am y gwaith y mae hi'n ei wneud yn y grwpiau trawsbleidiol dwi'n aelod ohonyn nhw. Mae'r gwaith yn hollbwysig. Diolch, Jane, am gadw ffocws ar y pwnc yma yn eich gwaith yn y Senedd.

Roeddwn eisiau cyfrannu at y ddadl hon gan fy mod wedi siarad droeon am yr angen am ddull cyson o weithredu ar gyfer plant sy'n agored i niwed i sicrhau mesurau ataliol mwy effeithiol ar gyfer plant sydd mewn perygl.

Hoffwn ganolbwyntio'n gyntaf ar y modd y mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen brys am ddull cenedlaethol cyson o fynd i'r afael â chamfanteisio troseddol ar blant. Ar hyn o bryd, mae'r ymatebion yn amrywio. Fel y clywsom, ar draws awdurdodau lleol, nid oes asesiad risg safonol na strategaeth gydlynol ac mae llawer o blant yn cael eu trin fel troseddwyr yn hytrach na dioddefwyr. Heb ddigon o ymyrraeth gynnar, maent yn parhau i fod mewn perygl. Byddai fframwaith cenedlaethol yn gwella prosesau rhannu gwybodaeth—fel y clywsom gan Cefin Campbell, cydweithio amlasiantaethol, casglu data—gan sicrhau gwell diogelwch a chefnogaeth. Wrth gwrs, er nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli, yn anffodus, gallai Llywodraeth Cymru gryfhau polisïau diogelu a sbarduno ymateb mwy unedig.

Mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamfanteisio troseddol ar blant, mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

'Nid ydym yn ystyried ei bod yn hanfodol datblygu strategaeth genedlaethol i sicrhau mwy o gysondeb yn ymarferol.'

A wnewch chi ymhelaethu ar y rhesymau pam, Weinidog, ac amlinellu pa ddulliau eraill sy'n cael eu gweithredu felly i wella cysondeb ymarfer, gyda'r Swyddfa Gartref?  

Hoffwn droi at argymhellion 6 a 7, gan fod digartrefedd ymhlith pobl ifanc â phrofiad o ofal yn fater pwysig arall y mae'r adroddiad yn mynd i'r afael ag ef, a hynny'n briodol. Mae'n gwbl annerbyniol fod un o bob tri unigolyn sy'n gadael gofal yng Nghymru yn wynebu digartrefedd o fewn dwy flynedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn amlinellu sut y gallai cynlluniau i ddileu'r prawf angen blaenoriaethol eu gwneud yn fwy agored i niwed.

Er mai mwy o gydraddoldeb mewn cymorth digartrefedd yw nod y Llywodraeth, yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor, mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn nodi'n briodol fod cael gwared ar statws angen blaenoriaethol heb fesurau diogelu priodol yn creu risg o adael mwy o bobl ifanc heb ddarpariaeth dai sefydlog, yn deillio, wrth gwrs, o'r prinder cronig o dai fforddiadwy ac addas yng Nghymru. Mae Plaid Cymru, felly, yn cefnogi galwad y pwyllgor i gynnal statws angen blaenoriaethol a chyflwyno dewis tai gorfodol i unigolion â phrofiad o ofal.

Er bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor, nid yw'n glir a yw'r derbyniad hwn yn ymrwymiad i gynnal statws angen blaenoriaethol i rai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gadw'r asesiad ar gyfer pobl sy'n gadael gofal sy'n wynebu risg o ddigartrefedd neu sy'n profi digartrefedd ar hyn o bryd, ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y llinell amser ar gyfer y Bil sy'n dilyn o'r Papur Gwyn i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith ieuenctid ym mis Hydref 2023?

Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgoffa Llywodraeth Cymru fod gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn un o alwadau adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ddiwygio radical i wasanaethau ar gyfer plant â phrofiad o ofal, 'Os nad nawr, pryd?', a gyhoeddwyd pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor.

Galwodd y pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i lobïo Llywodraeth y DU ar y pryd i ddiwygio adran 4 Deddf Cydraddoldeb 2010 i ychwanegu profiad o ofal fel nodwedd warchodedig; cafodd ei wrthod bryd hynny. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod i ni a fyddai'n ailasesu hyn, yn enwedig yng nghyd-destun yr adroddiad hwn, ac yn enwedig o ystyried bod y cyn Ddirprwy Weinidog, er yn datgan na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu newid y gyfraith gan ei fod yn fater a gadwyd yn ôl, wedi dweud wrthym ar y pryd fod ganddi ddiddordeb ym marn y pwyllgor ar y mater hwn ac y byddai,

'yn hoffi edrych arno ymhellach'?  

A edrychwyd arno ymhellach, gan fod gennym ddwy Lywodraeth Lafur mewn grym erbyn hyn? A fydd y sgwrs hon yn digwydd? Diolch.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r ddadl y prynhawn yma? Mae'n ddadl hynod bwysig, ac rwyf eisiau diolch i bawb am eu cyfraniadau craff. Yn yr amser a neilltuwyd i mi nid wyf yn credu y byddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau a godwyd. Rydym wedi cyflwyno ymateb manwl i argymhellion y pwyllgor, ond rwyf bob amser ar gael i gael sgyrsiau pellach gyda'r pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am unrhyw un o'r argymhellion.

Rydym wedi derbyn 21 allan o'r 23, ac mae nifer o'r rheini'n cael eu derbyn mewn egwyddor, felly rwy'n deall bod yna drafodaeth sylweddol y mae angen iddi ddigwydd rhyngof i a'r pwyllgor ynglŷn â sut yr awn ati i ddatblygu lle rydym wedi derbyn mewn egwyddor, oherwydd mae llawer o'r rheini'n waith sy'n mynd rhagddo ond sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Ond hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith ymroddedig ar y pynciau hollbwysig hyn, ac yn arbennig, diolch i chi, Gadeirydd, am eich dull cadarn o gyflawni'r ymchwiliad.

Ond yn bwysig, fel y dywedodd eraill, hoffwn ddiolch hefyd i'r rheini a rannodd eu profiadau a rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor. Dyma bobl, yn enwedig y plant a'r bobl ifanc, y deuaf ar eu traws bron bob dydd yn y rôl rwy'n ei chyflawni fel Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ac mae eu tystiolaeth bob amser yn anodd gwrando arni, ond mae wedi siapio argymhellion y pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt, felly rwy'n gwerthfawrogi ac yn croesawu'r dystiolaeth a'r mewnbwn y mae'r bobl hyn wedi'u rhoi i'r ymchwiliad hwn.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd yn llwyr â'n huchelgeisiau i ddod â newid ystyrlon i fywydau plant ar yr ymylon, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar goll o gartref neu ofal, a'r rhai sy'n agored i gamfanteisio troseddol a rhywiol. Mae adroddiad y pwyllgor wedi cynnig cyfle pellach i ystyried ac adolygu'r gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni yn y maes hwn, a'n cynorthwyo i ganolbwyntio ar ein hamcanion yn y dyfodol. Ein nod yw sicrhau bod y mesurau a gyflawnwyd gennym, a'n cynlluniau wrth symud ymlaen, yn trosi'n welliannau pendant a diriaethol ym mywydau plant agored i niwed. 

Fel y dywedais, derbyniwyd 21 o'r 23 o argymhellion, naill ai'n gyfan gwbl neu mewn egwyddor, ac mae ein hymateb i argymhellion adroddiad 'Plant sydd ar yr ymylon' yn amlinellu'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, ochr yn ochr â'n cynlluniau i ddatblygu'r maes gwaith pwysig. A manylir ar hynny i gyd, fel y dywedais, yn ein hymateb i'r pwyllgor. Ond maent yn cynnwys datblygu canllawiau i ymarferwyr i lywio eu gwaith gyda phlant sy'n mynd ar goll o gartref neu ofal ac y camfanteisir arnnt yn rhywiol a/neu'n droseddol; datblygu hyfforddiant camfanteisio troseddol ar-lein i ymarferwyr; lansio'r storfa ddiogelu a'r adolygiad diogelu unedig sengl; adolygu'r canllawiau ar ddiogelu plant sy'n cael eu masnachu a/neu sy'n destun camfanteisio troseddol—ac rydym yn parhau i ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref ar ein dull o ymdrin â hyn; a hyrwyddo'r defnydd o becyn cymorth diogelu cymhleth i ymarferwyr drwy wefan gweithdrefnau diogelu Cymru.

Fel bob amser, mae gweithio mewn partneriaeth â'r sector yn allweddol i sbarduno newid ystyrlon, felly rydym wedi sefydlu grŵp llywio rhanddeiliaid diogelu plant a phobl ifanc yr adroddir eu bod ar goll o gartref neu ofal, sy'n cynnwys cynrychiolwyr allweddol sy'n ymroddedig i ddiogelu plant agored i niwed. Mae gan y grŵp llywio genhadaeth glir, wedi'i yrru gan fewnwelediadau o'r ymchwil, gan gynnwys adroddiad y pwyllgor. Mae eu hamcanion yn cynnwys adeiladu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr i fod yn sail i argymhellion trawsnewidiol a gweu rhwydweithiau o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ffurfio cymuned o ymarfer, i ganolbwyntio ar les plant a phobl ifanc sydd ar goll. 

Rwyf am gyfeirio at argymhelliad 3 a'r pwynt a gododd Jane Dodds ein bod wedi gwrthod argymhelliad 3. Mewn gwirionedd, nid ydym wedi ei wrthod; rydym wedi derbyn argymhelliad 3 mewn egwyddor. Roeddwn i'n sôn sut y mae'r grŵp rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i edrych ar hyn. Felly, bydd y grŵp yn mapio ffynonellau ariannu cyfredol ar gyfer gwasanaethau sy'n darparu'r cyfweliadau dychwelyd adref yn dilyn cyfnod yr unigolyn ifanc o fod ar goll, a bydd y grŵp hwnnw'n defnyddio'r wybodaeth hon i ystyried sut y gellir comisiynu'r rhain yn y dyfodol, gan wneud y mwyaf o'r adnoddau y gallwn eu cyrchu, oherwydd mae hawl statudol eisoes i gyfweliad dychwelyd adref o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, mae hyn yn ymwneud â symud y tu hwnt i hynny i weld sut y gallwn sicrhau ei fod yn digwydd yn fwy effeithiol yn ymarferol. Jane.

16:30

Diolch am dderbyn fy ymyriad, ac nid yw’n syndod fy mod am ganolbwyntio ar y cyfweliadau dychwelyd a’r cynnig statudol. Gallaf weld eich bod wedi derbyn mewn egwyddor, ond nid yw hynny yr un peth â derbyn. Ac er bod gennych y gweithgor sy'n edrych ar y dystiolaeth, does bosibl nad yw'r dystiolaeth yno. Rwy'n deall bod y gweithgorau’n bwysig mewn rhai ardaloedd, ond mewn gwirionedd, mae’r dystiolaeth yn glir, o’r adroddiad ac o’r profiad mewn gwlad fwy o lawer, sef Lloegr. Po hiraf yr arhoswn, y mwyaf o blant sy'n mynd ar goll a heb y gwasanaeth hwn. Felly, a gaf i ofyn i chi, yn glir iawn, i ddweud wrthym beth yw eich llinellau amser o ran disgwyliadau ar gyfer y grŵp hwn, ar gyfer adrodd yn ôl, ac yn bwysicach fyth, o ran gweithredu? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane, ac rwy'n deall y pwynt pwysig a wnewch. Rwy'n ailadrodd, mae gennym rwymedigaeth statudol neu gynnig statudol i blant a phobl ifanc sy'n mynd ar goll, i gael cyfweliad dychwelyd adref. Mae’r grŵp hwn yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu hynny’n fwy effeithiol. Dyna’r pwynt roeddwn yn ceisio’i wneud.

Mae nifer o bobl wedi tynnu sylw at y ffaith bod mwy o waith i'w wneud ar gasglu data. Ac felly, er fy mod yn deall y brys a'r angen inni symud ymlaen gyda hyn, mae'n rhaid inni fapio tirwedd y data hwnnw. Mae pawb heddiw wedi bod yn gwneud y pwynt nad ydym yn gwneud digon o gasglu data. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr hyn a wnawn yn cael ei lywio'n briodol, a dyna mae'r grŵp hwn yn mynd i'w wneud. Byddant yn mapio tirwedd casglu data'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd ar goll, gan nodi'r deiliaid data allweddol a systemau adrodd i ddefnyddio'r wybodaeth honno'n well i gynllunio ac i ddarparu'r gwasanaethau hynny.

Maent yn adolygu ac yn mireinio canllawiau ymarfer diogelu Cymru gyfan a'r canllawiau trawsffiniol ar blant sy'n mynd ar goll o ofal, a bydd y dogfennau wedi'u diweddaru yn y canllawiau ar gynnal cyfweliadau dychwelyd adref yn egluro'r diffiniadau a'r prosesau hynny. Ni allaf roi amserlen bendant i chi ar hynny eto, ond cyn gynted ag y bydd gennyf syniad cliriach o ba bryd y bydd gwaith y grŵp rhanddeiliaid hwn wedi’i gwblhau, byddaf yn sicr yn rhoi gwybod i’r Senedd. Ond yn y pen draw, byddant yn gwneud argymhellion i sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru yn cael ymateb teg pan fyddant yn mynd ar goll o gartref neu o ofal.

Ac ochr yn ochr â hynny, byddwn yn ymgynghori cyn bo hir ar ein strategaeth genedlaethol 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gwmpasu pob math o niwed rhywiol, gan gynnwys camfanteisio. Mae pedwar edefyn i'r strategaeth honno: atal; diogelu; cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd; a chefnogi oedolion sy'n oroeswyr. Felly, rydym yn parhau i weithio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda Llywodraeth y DU i ddiogelu plant rhag camfanteisio troseddol a rhywiol.

Mae ein hymateb i’r argymhellion yn tanlinellu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r materion hyn, a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Drwy adeiladu ar yr ymdrechion hyn, gallwn greu amgylchedd mwy diogel, mwy cefnogol i holl blant Cymru. Ond i gloi, gwn fod pob un ohonom am sicrhau'r gorau i bob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru, ac rwy’n parhau i fod yn gwbl ddiwyro wrth gefnogi’r gwaith hanfodol hwn, a byddaf yn parhau i hyrwyddo ein gweledigaeth gyffredin o ddyfodol gwell i holl blant Cymru. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Soniodd Joel a Cefin am ddata. Yn ein pwyllgor, rydym bob amser, bob amser, yn chwilio am y data. Yn anffodus, nid yw bob amser ar gael, a gwyddom yn iawn pa mor bwysig yw rhannu data i blant ar yr ymylon. Ni allwn adael i unrhyw blentyn lithro drwy'r rhwyd am nad yw'r wybodaeth gywir ar gael. Nid yw hynny'n iawn.

Tom, rwy'n credu y bydd yr ymchwiliad hwn yn aros gyda ni ymhell y tu hwnt i’n cyfnod yn y Senedd, a gallwn gytuno ar un peth arall: mae angen inni wneud mwy. Tynnodd Jane sylw at gyfleoedd a gollwyd; gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu i roi diwedd ar golli cyfleoedd. A Sioned—mae Sioned bob amser yn siarad mor angerddol—diolch am eich cyfraniad pwerus heddiw. Pan oeddem ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyda’n gilydd, yn debyg i mi a Tom, rwy'n gwybod ein bod yn cytuno ar fwy nag yr oeddem yn anghytuno arnynt gyda'r pethau hyn, ac mae mor bwysig fod pob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd i wneud y newidiadau cadarnhaol hyn. Rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno ar hynny.

Nid yw pob plentyn sy'n mynd ar goll yn cael eu niweidio, ac nid yw pob cyfnod o fod ar goll yn arwydd o gamdriniaeth. Pan fyddwn yn sôn am blant y camfanteisir arnynt yn droseddol, rydym yn sôn am nifer cymharol fach o blant, ond ni ddylem ddiystyru'r effaith ddinistriol a llethol ar fywydau’r plant y camfanteisir arnynt neu sy'n cael eu cam-drin. Mae plant y camfanteisir arnynt yn droseddol yn aml yn dioddef cam-drin corfforol a meddyliol ofnadwy. Mae rhai plant yn marw o ganlyniad i'r camfanteisio arnynt. I lawer o oroeswyr, bydd trawma eu camdriniaeth yn newid eu bywydau am byth. Hyd yn oed os ceisiwn edrych heibio i'r effaith emosiynol, bydd cofnod troseddol gan lawer o bobl ifanc sy’n dianc rhag y rheini sy’n camfanteisio arnynt. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer anos iddynt ddod o hyd i waith a symud ymlaen â'u bywydau. Ni ddylem ychwaith ddiystyru cymhlethdod rhai o'r rhwydweithiau troseddol sy'n gyfrifol am gam-drin y plant hyn. Mae llawer o’r gangiau'n soffistigedig ac yn broffesiynol, a byddant yn targedu ac yn meithrin perthynas amhriodol â phlant sydd mewn perygl, cyn eu caethiwo mewn gweithgareddau troseddol. Mae hwn yn faes polisi cymhleth, risg uchel a thrawsffiniol y mae angen iddo gael sylw priodol gan Lywodraethau ledled y DU.

Mae rhai arwyddion fod camfanteisio troseddol ar blant yn dechrau cael y sylw gwleidyddol y mae’n ei haeddu ar lefel y DU. Mae'r diffiniad statudol o gamfanteisio troseddol sydd ar y ffordd yn ddatblygiad pwysig. Clywsom y dylai’r diffiniad hwn gynorthwyo asiantaethau gorfodi’r gyfraith i erlyn pobl sy'n camfanteisio. Rydym hefyd yn cydnabod bod cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd gan Lywodraeth Cymru—yr adolygiadau diogelu unedig sengl, er enghraifft, a’r potensial ar gyfer y gronfa ddata plant sy’n colli addysg—ond yr hyn sydd bwysicaf i blant unigol a’u teuluoedd yw argaeledd ac ansawdd y diogelwch a’r cymorth a gânt. Ac yn rhy aml o lawer, clywsom nad yw'r cymorth hwnnw mor gyson ag y dylai fod o bell ffordd.

Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i harneisio'r momentwm newydd a geir ledled y DU i ysgogi gwelliannau yn yr ymateb i blant sydd ar goll a phlant sy'n cael eu troseddoli ledled Cymru, ac rydym yn annog pleidiau ar draws y Senedd i gefnogi’r ymgyrch honno, i sicrhau bod asiantaethau’n gwrando ar blant a theuluoedd ac yna’n cydweithio’n effeithiol; sicrhau bod asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant yn cymryd camau pendant i wella arferion pan fydd pethau'n mynd o chwith ac yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny; sicrhau bod gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn deall y ffactorau risg allweddol a'r arwyddion o gamfanteisio troseddol, a sut a phryd i ymateb. Oherwydd mae goblygiadau peidio â gwneud hyn yn iawn, i’n plant mwyaf agored i niwed, yn rhai na ellir eu dychmygu. Diolch.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig y unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllid seilwaith rheilffyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar gyllid seilwaith rheilffyrdd. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8852 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o wariant ar welliannau dros nifer o flynyddoedd;

b) bod y tanariannu systematig hwn yn ychwanegol at gadw cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac

c) yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU a hyd llwybr y rhwydwaith rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau Llywodraeth y DU dros y cyfnod rhwng 2019 I 2029.

2. Yn gresynu:

a) bod adroddiadau yn nodi bwriad Canghellor y DU i rewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny am o leiaf bedair blynedd arall; a

b) bod addewidion blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain yn annigonol i wneud iawn am danariannu hanesyddol, megis yr addewid i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi methu â chael eu gwireddu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu ffigyrau wedi’u diweddaru ar y diffyg mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru;

b) cadarnhau ei safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan mewn gwrthblaid; ac

c) ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o gael cynnig y cynnig yma yn enw Heledd Fychan heddiw.

Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar gynnig sy'n mynd at wraidd anghyfiawnder sylfaenol—tanariannu systemig seilwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraeth y DU. Mae ein cynnig yn nodi’r ffeithiau diymwad: mae Cymru wedi cael cyfran fach iawn o’r cyllid gwella rheilffyrdd sy’n ddyledus iddi, mae ein seilwaith wedi dioddef o ddegawdau o esgeulustod, ac mae Llywodraeth y DU wedi methu darparu’r cyllid teg sydd ei angen ar Gymru i wella ei rhwydwaith trafnidiaeth.

Mae Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth wedi cydnabod bod Cymru'n hanesyddol wedi profi lefelau isel o wariant ar wella rheilffyrdd. Ond nid hanesyddol yn unig yw'r tanariannu hwn, mae'n parhau. Mae San Steffan, boed yn goch neu’n las, yn parhau i wrthod y cyllid canlyniadol sy’n ddyledus i Gymru yn sgil HS2, er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn eu cyfran deg. Pe bai Cymru wedi cael ei thrin yn deg ac yn gyfartal, byddai gennym hawl i oddeutu £4 biliwn.

Mae’r ffigur hwnnw wedi’i ailadrodd yn y gorffennol gan nifer o aelodau’r Llywodraeth hon, Aelodau o'r Senedd Llafur, Aelodau Seneddol Llafur, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru nawr. Distawodd y galwadau hyn ar feinciau’r Llywodraeth gyferbyn wrth iddynt ddod yn nes at rym yn San Steffan, lle byddai ganddynt allu i wneud rhywbeth am yr anghyfiawnder parhaus a wynebwn ar gyllid. Nid ymwneud â gwariant yn y gorffennol yn unig y mae, mae'n ymwneud â dyfodol Cymru.

Clywn adroddiadau fod Canghellor y DU yn bwriadu rhewi gwariant ar brosiectau rheilffyrdd mawr newydd tan ar ôl etholiad nesaf y DU. Honnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai datblygu rheilffyrdd yng Nghymru oedd ei phrif flaenoriaeth, ac eto, ddyddiau’n unig yn ddiweddarach, daeth adroddiadau fod Llywodraeth y DU yn atal buddsoddiad newydd. Yn amlwg, ni all pobl Cymru ymddiried yn y Blaid Lafur hon i gadw at eu gair.

Beth a wnawn o'r gwelliant heddiw? Mae'n welliant 'dileu popeth', sy'n gwneud tro pedol ar safbwyntiau polisi blaenorol. Gwelliant gwan nad yw’n gwneud dim i fynnu cyllid teg i Gymru ac sydd, yn lle hynny, yn croesawu addewidion amwys gan Lywodraeth y DU. A gadewch inni fod yn glir, mae hwn yn dro pedol llwyr o safbwynt blaenorol Llafur. Yn y gorffennol, mae Aelodau Llafur o'r Senedd yn yr union Siambr hon wedi pleidleisio’n unfrydol dros gyllid canlyniadol HS2 i Gymru. Maent wedi sefyll ar blatfformau yn addo ymladd dros gyllid teg i'r rheilffyrdd. Maent wedi cytuno â phopeth a ddywedwn heddiw. Hynny yw, nes i Keir Starmer gymryd yr awenau a phenderfynu rhoi ei blaid o flaen buddiannau Cymru. Nawr, pan fydd o bwys, mae ganddynt amnesia torfol. Beth sydd wedi newid? Mae’r ffeithiau yr un fath, mae’r anghyfiawnder cyllido yr un fath, mae fformiwla ddiffygiol Barnett yr un fath. Yr unig beth sydd wedi newid yw parodrwydd Llafur i sefyll dros Gymru a hwythau o'r diwedd wedi cael cyfle i wneud rhywbeth amdano. Rwyf mor siomedig. Diolch yn fawr.

16:40

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig yn ffurfiol welliant 1 yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a

b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:

a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;

b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;

c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a

d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b).

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraethau Llafur olynol yma ym Mae Caerdydd wedi chwarae gwleidyddiaeth gyda bron bob mater sy'n codi. Fe wnaethant chwarae gwleidyddiaeth pan gynigodd Llywodraeth Geidwadol y DU gymorth ar gyfer rhestrau aros, fe wnaethant chwarae gwleidyddiaeth gyda chyllid ar gyfer ffordd liniaru’r M4, ac unwaith eto mewn perthynas â gofal plant, ac nid yw buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn wahanol. Gadewch inni edrych ar HS2, fel y clywsom eisoes. Mae'n rhaid ei fod yn chwithig i Aelodau Llafur ar y meinciau cefn—a dyna pam nad oes llawer ohonynt yma—lle, cyn yr etholiad diwethaf, roedd gwleidyddion Llafur yng Nghymru a Lloegr yn galw—

Roedd gwleidyddion Llafur yng Nghymru—[Torri ar draws.]

Gadewch inni beidio â chael sgwrs ar draws yr ystafell, gadewch inni ganiatáu i'r cyfraniad gael ei wneud.

Mae bob amser yn ei wneud. Felly, roedd gwleidyddion yng Nghymru a Lloegr yn galw am biliynau o bunnoedd, fel y clywsom, o gyllid canlyniadol ar gyfer HS2, ond gan fod Llafur mewn grym yn San Steffan bellach, dim ond £400 miliwn yw eu galwad bellach. Am gic yn y dannedd. Dylem fod yn cael o leiaf £1.5 biliwn, gan gydnabod y £38 biliwn a wariwyd hyd yma ar HS2. Nid yw hynny'n dweud mai dyna'r cyfan rydym ei eisiau—[Torri ar draws.] Iawn.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. A fyddech chi'n cytuno, felly, fod methiant cyson y Llywodraeth ddiwethaf dros 14 mlynedd i dalu cyllid canlyniadol i Gymru yn gic yn y dannedd a barhaodd am 14 mlynedd?

Rydym ni, fel grŵp, fel y gwyddoch, wedi sefyll yn erbyn ein plaid ein hunain ar fater cyllid canlyniadol HS2, ac rydym yn sôn am eich cyfle chi nawr, ac mae’n gic yn nannedd Cymru eich bod yn troi eich cefn ar eich Aelodau.

Cafodd Keir Starmer ei gyfle i gyhoeddi cyllid ychwanegol yng Nghymru o ganlyniad i wariant ar HS2 yng nghyllideb yr hydref, ond yn lle hynny, dewisodd drethu ein ffermwyr, cael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr a tharo busnesau a gweithwyr â chynnydd i yswiriant gwladol. Gallai fod wedi trydaneiddio prif reilffordd y gogledd, prosiect gwerth £1 biliwn a addawyd gan y Ceidwadwyr, ond na, yn hytrach, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur—[Torri ar draws.] Roeddwn yn gwybod eich bod yn mynd i wneud hynny.

16:45

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny? Oherwydd rydych chi'n llygad eich lle, y Ceidwadwyr a addawodd hynny. Yr hyn na wnaethant oedd cyllidebu ar ei gyfer, ac rydym wedi gweld gohebiaeth gan Network Rail sy’n gwrth-ddweud yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Rishi Sunak yn ei araith ym Manceinion. Dywedodd fod yr arian yno; nid oedd yno. Fe wnaeth gamarwain pobl. A ydych chi'n ei gondemnio am hynny?

Roeddwn yn amau na fyddech. Roeddwn yn amau na fyddech.

Mae hyn yn ymwneud â dewisiadau a phenderfyniadau. Pe bai Keir Starmer a Rachel Reeves am ei wneud, pe baent yn meddwl o ddifrif, byddent wedi dod o hyd i ffordd o'i wneud. Byddem wedi ei wneud, ac yn amlwg, nid yw eich plaid am wneud hynny nawr. Ond yn hytrach, mae’r Llywodraeth Lafur—. Fel y clywsom hefyd, mae San Steffan wedi penderfynu rhewi pob prosiect rheilffordd newydd. Onid yw hynny'n annoeth? Sut y mae hyn yn gydnaws â'r angen am fwy o drafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus well, neu'r angen i leihau allyriadau carbon? Nid yw'n gydnaws. Mae Llafur yn ei chael hi'n anodd deall bod angen inni fuddsoddi yn ein seilwaith os ydym am weld twf, felly mae’n rhaid cael strategaeth gydgysylltiedig ar draws meysydd polisi sydd wedi’i halinio â nodau strategol, yn hytrach na pholisi ad hoc sy'n cael ei lunio wrth fynd. Ac rydym yn gweld Plaid Cymru yn gweiddi’n barhaus am fwy o arian ni waeth beth fo’r cyd-destun. Ni waeth faint y mae Llywodraeth y DU yn ei anfon at Lywodraeth Cymru, ni fydd byth yn ddigon i Blaid Cymru, a gallaf weld pam eu bod yn gwneud hynny.

Ac wedi dweud hynny, wedi dweud hynny, rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'u cynnig. Rwy'n cytuno â’r rhan fwyaf o’u cynnig, ar wahân i’r cwyno parhaus am Lywodraethau Ceidwadol y gorffennol. Rwy'n gwybod mai dyna yw eich gwaith—[Torri ar draws.] Ond mae'n hawdd. Mae'n hawdd—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, mae'n hawdd achwyn o'r meinciau cefn, gan wybod ei bod yn annhebygol y bydd yn rhaid iddynt byth gyflawni unrhyw beth, yn sicr nid yn Llywodraeth y DU, ac nid yma yn ôl pob tebyg. Mae geiriau'n rhad. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Mabon.

A ydych chi'n derbyn ein bod wedi cael degawdau o danfuddsoddi yn ein gwasanaeth rheilffyrdd, a bod y Blaid Geidwadol yn rhan o’r broblem honno?

Rwy'n credu y gallem fod wedi cael mwy yng Nghymru dros flynyddoedd lawer, gallem. Ond rydym yn sôn am nawr. Rydym yn sôn am nawr. Rydym yn sôn am 25 mlynedd o Lafur. Gallech fod wedi ailbroffilio eich gwariant cyfalaf eich hun a gwneud mwy gyda gwahanol bethau.

Nawr, yn wahanol i—[Torri ar draws.] Nawr, yn wahanol i'r Llywodraeth Lafur, roeddem ni fel Ceidwadwyr yn fwy na pharod i ddweud wrth ein cymheiriaid yn San Steffan pan oeddem yn anghytuno â hwy, ac ni wnaethom gam â Chymru. Credaf fod cyllid teg yn ddyledus i Gymru o hyd am HS2, yn wahanol i’r Blaid Lafur, nad ydynt yn credu hynny, fel sy'n amlwg. Pan edrychwn ar eu gwelliant, nid oes unrhyw gyfeiriad uniongyrchol at HS2, ac nid yw’n galw’n benodol am gyllid teg, heb sôn am roi ffigur arno.

Clywn Brif Weinidog Cymru'n dweud yn rheolaidd nad yw’n gyfrifol am yr hyn y mae Keir Starmer yn ei wneud, ond ni ddylai hynny atal y Blaid Lafur yma rhag ei feirniadu. Mae Prif Weinidogion yma bob amser wedi bod yn fwy na pharod i feirniadu pob Prif Weinidog Ceidwadol; pam na all Llafur Cymru wrthwynebu Llywodraeth bresennol y DU, gan gydnabod sut y maent yn twyllo Cymru a phobl Cymru?

Ddirprwy Lywydd, rwy’n mawr obeithio y bydd Cymru’n cael y buddsoddiad rydym yn ei haeddu gan Lywodraeth y DU, ond mae’n amlwg fod gan Keir Starmer syniadau eraill, ac mae hefyd yn amlwg na fydd Llywodraeth Cymru yn dadlau dros bobl Cymru. Mae Llafur Cymru yn amlwg wedi blino; mae'n bryd iddynt sefyll o'r neilltu a gadael i ni unioni pethau.

Po agosaf y down at etholiad, y gwaethaf y mae safon y ddadl yn digwydd bod yn y Siambr hon.

Byddech yn tyngu o’r hyn a glywsoch—ac rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, gan y credaf fod fy nghyd-Aelod Mick Antoniw yn mynd i siarad, yn sôn am bwysigrwydd yr hawl i ddatganoli’r cyllid hwnnw—ond byddech yn tyngu o’r hyn a glywsoch yn y ddadl hon na fu unrhyw gynnydd o gwbl ar y rheilffyrdd yng Nghymru, ac yn amlwg, nid yw hynny’n wir. Gallaf fynd â chi’n ôl i fy swyddfa yn Gilfach yn 2016 pan wahoddais Ian Bullock o Trenau Arriva Cymru i’r swyddfa i ofyn iddo pam y bu’n rhaid inni deithio i’r gwaith ar drenau Pacer drewllyd, gorlawn, gwichlyd lle roedd pawb fel sardinau ar y daith i’r gwaith. Mae Peredur yn nodio ei ben; rwy'n cymryd eich bod wedi teithio ar y rheini. Rwy’n cofio Leanne Wood yn codi yn y Siambr ac yn dweud pa mor ffiaidd oedd hi fod pobl yn gorfod teithio ar y trenau hyn, ac roeddwn yn cytuno. Ac yna, fe wnaethom lwyddo i berswadio Tom Joyner, pan ddaeth yn gyfrifol am Trenau Arriva Cymru, i brynu cerbydau ychwanegol, trenau 769 hen ffasiwn, ond fe wnaethom lwyddo i’w cael, eu prynu a’u trosi o drydan i ddiesel i redeg ar y rheilffordd. Fe wnaeth hynny helpu Trafnidiaeth Cymru—[Torri ar draws.] Wel, roedd yn mynd yn dda iawn. Fe wnaethoch chi dorri ar draws—. Ewch amdani.

16:50

Roeddech yn cwestiynu pam y bu’n rhaid ichi deithio mewn trenau mor wael yn ôl yn 2016. Y rheswm pam y bu’n rhaid ichi deithio ar drenau mor wael yn 2016 oedd, pan gyhoeddodd Stephen Byers y fasnachfraint gyntaf ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru—

—roedd twf o 0 y cant—0 y cant—wedi'i ymgorffori mewn masnachfraint 15 mlynedd. Eich Llywodraeth chi a roddodd y fasnachfraint ar waith, ac roedd ganddi dwf o 0 y cant wedi’i ymgorffori ynddi.

Dyma broses Mark Isherwood o fynd yn ôl dros areithiau'r gorffennol. Roedd yn ateb da, ond y ffaith amdani yw nad wyf yn sôn am y sefyllfa hanesyddol, rwy’n sôn am yr hyn a ddigwyddodd gyda’r Gweinidog, Ysgrifennydd y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet sy’n eistedd ar y fainc flaen nawr, a’r newidiadau a welsom.

Felly, os dof yn ôl at Tom Joyner, a chyflwyno'r cerbydau hynny ar y rheilffordd, fe wnaeth hynny helpu wedyn i fewnlenwi tra bo'r trenau newydd yn cael eu hadeiladu ac maent wedi ymddangos ar y rheilffordd. Felly, os edrychwch chi ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd nawr, mae'r trenau mwyaf newydd yn Ewrop gyfan—y trenau mwyaf newydd yn Ewrop gyfan—yn rhedeg ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd. Mae'r trawsnewidiad yn anhygoel. Mae'r trawsnewidiad yn anhygoel. Pe baech chi'n teithio ar y trên heddiw, ni fyddech yn adnabod y gwasanaeth hwnnw. Ni waeth beth a ddigwyddodd gyda Stephen Byers, ni fyddech wedi adnabod y gwasanaeth hwnnw, gan fod llinellau craidd y Cymoedd wedi’u datganoli, gan fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi gallu gwneud y newidiadau hynny, ac mae’r newidiadau hynny’n mynd i gael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd ar ffurf y metro—

Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, ac mae’n dda gweld y trenau newydd hynny, er y gallem wneud â rhywfaint yng ngogledd-orllewin Cymru hefyd—

—ond y cyllid y bu'n rhaid i chi ei ddyrannu ar gyfer hynny, gallai’r arian hwnnw, pe byddem wedi cael ein cyfran deg, fod wedi’i dalu o’r arian sy’n ddyledus i ni gan Lywodraeth y DU, a gallai’r arian y bu'n rhaid i chi ei wario fod wedi’i wario ar brosiectau cyfalaf eraill. Ond nid ydych yn derbyn hynny—

Na, rwy'n derbyn hynny. Rwy’n derbyn hynny, ac fel y dywedais, mae fy nghyd-Aelod yn mynd i wneud yr un pwynt, ond y pwynt rydych chi wedi’i wneud mewn gwirionedd yw bod Llywodraeth Lafur Cymru yn haeddu clod am yr hyn y mae wedi’i gyflawni gydag adnoddau cyfyngedig ar y llinell reilffordd hon; mae £1.5 biliwn wedi’i wario ar y metro, ac rydym wedi’i weld yn cael ei gyflwyno. Felly, rwy'n croesawu canmoliaeth Mabon ap Gwynfor i lwyddiant Llywodraeth Lafur Cymru yn wyneb yr her. Ac fel y mae Alun Davies yn mwmian, mae wedi'i ddatganoli. Mae hyn oherwydd ei fod wedi'i ddatganoli; dyna lle daw'r pŵer. Felly, roeddech yn llygad eich lle yn dweud bod angen iddo gael ei ddatganoli a bod datganoli i’w groesawu.

Felly—. Amharodd Mabon ap Gwynfor ar fy llif. Daw hyn o fy nghof beth bynnag, felly nid yw'n helpu. Mae'n ffaith y bydd y trenau’n cael eu cyflwyno ar draws gweddill y rhwydwaith, ac rwy'n aml wedi cymharu Trafnidiaeth Cymru a’r rhwydwaith â blodyn sy’n egino ar reilffordd Rhymni ac sydd bellach yn hadu ar draws y rhwydwaith, a byddwch yn gweld hynny. Mae’r trawsnewidiad hwnnw wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’r hyn a ddigwyddodd.

Ddoe—. Hoffwn sôn am un peth arall. Ddoe, buom yn sôn am y ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Credaf fod cyfle yn hynny o beth hefyd, ac unwaith eto, pam fod datganoli cyllid yn bwysig, gan y credaf fod cyfle yno i Lywodraeth y DU wneud rhagor o fuddsoddiad uniongyrchol, yn ychwanegol at yr £20 miliwn hyd yma, i gefnogi hynny, ar yr amod y gall y ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd ddenu cyllid ychwanegol i mewn.

Y pwynt allweddol yw y bydd y ganolfan yn dod â chryfder economaidd newydd i Onllwyn ac i'r ardal y mae'n gweithredu ynddi, gan gynnwys holl Gymoedd de Cymru. Credaf y gall ddod yn fagned i dalent o safon fyd-eang a'r rheilffordd weithredol sero net gyntaf erioed, gan gefnogi'r datblygiadau arloesol sydd eu hangen i gyflymu datblygiad technoleg yn y diwydiant rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, os ydym am brofi ein cerbydau sy'n rhedeg—y cerbydau newydd sbon hyn sy'n rhedeg—ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, mae’n rhaid i ni eu hanfon i Sbaen. Oni fyddai'n haws pe baem yn gallu eu hanfon draw i Gastell-nedd? Dyna gyfle sydd gennym ac mae'n gyfle rwy'n mynd i fod yn pwyso amdano wrth i amser fynd yn ei flaen. Gyda hynny, gyda'r holl ymyriadau, rwy'n credu y byddai'n well imi ddirwyn i ben, Ddirprwy Llywydd. Diolch.

Yn syml iawn, dydy ein system reilffordd ni yng Nghymru ddim yn ffit i bwrpas. Dwi'n gobeithio cael trên cymharol gall i fyny o Gaerdydd i'r gogledd heno; rydym ni sy'n byw yn y gogledd yn gwybod sut brofiad ydy'r siwrnai honno. Mae'r amserlen yn dweud mai pum awr a naw munud fydd y siwrnai gartref i fi heno ar y trên. Ac mae'r geiriau 'rail replacement bus' yn ddigon i godi dychryn ar rywun, ond dyma ydy'r profiad rydym ni'n ei gael mor aml. Faint o weithiau mae trenau syth trwodd yn gorfod newid yng Nghaer ac yn y blaen? Dydy'r system ddim yn ddigon da.

Mae’n amlwg i unrhyw un sy’n defnyddio’r system reilffyrdd yng Nghymru nad yw’n addas i'r diben. A wyddoch chi, ym marwor ymgyrch yr etholiad cyffredinol y llynedd, mae llawer o addewidion wedi'u torri, ond ychydig sydd wedi bod yn fwy nodweddiadol, efallai, o frad Llafur na'i thro pedol syfrdanol ar HS2. Aeth Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru, Jo Stevens, i’r blwch dogfennau a dyfynnu’r un ffigurau â Phlaid Cymru a’r £4 biliwn sy’n ddyledus i Gymru. Ond nawr fod Llafur mewn grym, mae wedi newid ei meddwl, ac nid yw Llafur yn gwneud dim yn wahanol i’r Ceidwadwyr o’u blaenau o ran mynd i’r afael ag anghyfiawnder HS2. Hefin David.

16:55

Hoffwn gywiro camsyniad ynglŷn â gwasanaethau yn lle trenau, y gwasanaethau bysiau yn lle trenau, yn sicr ar linell graidd y Cymoedd. Y rheswm pam eu bod yno yw bod y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael ei uwchraddio ac yn cael ei wella, felly mae'n rhan o'r broses wella mewn gwirionedd; dim ond dros dro y bydd yno. Felly, pan ddywedwn, 'gwasanaethau bysiau yn lle trenau', mae hynny at ddiben cadarnhaol iawn weithiau.

Nid yw gwasanaethau yn lle trenau yn rhan o'r broses wella, wrth gwrs; mae a wnelo â thrwsio pethau ac mae a wnelo â chynnal a chadw. Nid yw'n ymwneud â gwella rheilffyrdd. Nid yw'n ymwneud â gwella’r system reilffyrdd sydd gennym yng Nghymru, sef yr hyn rydym yn sôn amdano yma heddiw.

Ond clywsom Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel y dywedaf, yn dadlau'r achos dros y £4 biliwn. Mae Mick Antoniw yn eistedd yma heddiw:

'Mae angen i Lywodraeth y DU wneud y peth iawn a thalu'r arian',

meddai. Mae'n llygad ei le. Mae Jenny Rathbone yma hefyd:

'Mae'n sicr yn mynd i gostio'—

HS2—

'dros £100 biliwn…a beth mae Cymru'n mynd i'w gael amdano? Dim byd o gwbl.'

Nid yw Huw Irranca-Davies yma heddiw, ond roedd yntau'n llygad ei le hefyd, cyllid:

'HS2 a chyllid arall, dros nifer o flynyddoedd, a chynlluniau Northern Powerhouse Rail hefyd. Mae hynny i gyd yn anghywir, ac ni ddylai ddibynnu ar newid Llywodraeth, gyda llaw.

'Clywch, clywch' i bob un ohonynt; rwy'n cytuno'n llwyr.

Ond mae dau fater ar wahân ond cydgysylltiedig ar waith yma: a yw Cymru'n cael cyllid canlyniadol teg yn sgil HS2? Wel, nid yn unig nad yw'n cael cyllid canlyniadol teg, nid yw'n cael cyllid canlyniadol o gwbl i Gymru. Gan ei fod wedi'i ddynodi’n brosiect i Gymru a Lloegr, po fwyaf o wariant a wneir ar HS2, y lleiaf o arian sydd ar gael i bob pwrpas i'w fuddsoddi mewn gwariant ar reilffyrdd yng Nghymru. Ond y tu hwnt i hynny, a yw’r system bresennol yn trin Cymru’n deg pan fo Network Rail yn gwario ar brosiectau mawr, nid atgyweirio pethau wrth fynd, ond gwella’r rheilffyrdd? Yn sicr, nac ydy. Ac unwaith eto, yn y gorffennol, roedd Aelodau'r meinciau Llafur yn cytuno â ni ar y mater hwn. Ers y flwyddyn 2000, dim ond 2 y cant o gyfanswm y buddsoddiad i wella’r rheilffyrdd y mae Cymru wedi’i gael o'r arian i wella rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a Lloegr. Yr unig gynllun mawr a gyflawnwyd yw trydaneiddio prif linell reilffordd de Cymru, ond dim ond cyn belled â Chaerdydd yr aeth, pan oedd bob amser i fod i fynd cyn belled ag Abertawe, ynghyd â chyfraniad bach i fetro de Cymru, gyda Llywodraeth Cymru yn gorfod mynd i’w phocedi heb fod yn rhy ddwfn ei hun i wneud iawn am yr arian na ddôi o San Steffan.

Nawr, i roi hyn mewn persbectif, mae oddeutu 10 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU yng Nghymru, a 5 y cant o'r boblogaeth, ac eto dim ond cyfran fach iawn o'r buddsoddiad sy'n ddyledus i ni a gawn. Rhwng 2011-12 a 2019-20, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif bod Cymru wedi ei hamddifadu o oddeutu £0.5 biliwn o wariant ar y seilwaith rheilffyrdd, ac nid oes unrhyw arwydd fod yr anghyfiawnder yn dod i ben.

Does yna ddim arwydd bod yr anghyfiawnder ar fin gorffen. Yr Athro Mark Barry—gymaint o awdurdod ar hyn—yn cyfrifo, dan y fformiwla Barnett bresennol, bydd Cymru ar ei cholled o £2.7 biliwn o gyllid pellach ar gyfer ein rheilffyrdd erbyn y 2040au. Mae'r biliynau o bunnoedd yma sydd yn mynd ar goll yn golygu biliynau o bunnoedd yn peidio â'u cael eu buddsoddi yn nyfodol Cymru.

Oherwydd nid ymwneud â'r methiannau yn y gorffennol i wario'n deg yn unig y mae hyn, mae'n ymwneud â'n dyfodol. Os na weithredwn nawr, bydd Cymru’n parhau i gael ei hamddifadu o fuddsoddiad hollbwysig yn y dyfodol, gan adael ein rhwydwaith trafnidiaeth mewn cyflwr gwael tra bo biliynau’n cael eu tywallt i mewn i seilwaith mewn mannau eraill. A’r cyfan y gofynnwn amdano yn y bôn yw tegwch. Rhaid i Lywodraeth Cymru wrthwynebu Keir Starmer a dadlau'r achos, mynnu ei fod yn unioni’r hyn y mae eraill yn y Blaid Lafur yn cytuno â ni yn ei gylch, neu’n sicr yn arfer cytuno â ni yn ei gylch, a’r hyn rydym mor benderfynol ag erioed ar y meinciau hyn i’w unioni. Ni allwn ganiatáu i San Steffan barhau i drin Cymru fel ôl-ystyriaeth. Meddyliwch am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'r buddsoddiad coll hwn.

17:00

Rhaid inni gael uchelgais ar gyfer ein seilwaith rheilffyrdd: trydaneiddio—gogledd yn ogystal â'r de; gwell cysylltedd; rhwydwaith trafnidiaeth modern ac effeithlon sy'n cefnogi ein heconomi, ein cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'r status quo yn dderbyniol mwyach.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ar bwnc cyllid seilwaith rheilffyrdd—pwnc sydd, er gwaethaf ei bwysigrwydd, wedi profi esgeulustod ac oedi yng ngogledd Cymru. Bu tanariannu hanesyddol ar reilffyrdd Cymru, yn enwedig o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ond mae realiti yr un mor ofidus yng Nghymru ei hun, un sy'n gweld gogledd Cymru yn gyson yn cael ei thrin yn wael o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth.

Dywedir wrthym fod Cymru wedi dioddef degawdau o danariannu gwelliannau rheilffyrdd. Mae hyn yn wir. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod cyllid teg ar gyfer HS2, a gefnogwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, gan ein bod yn credu y dylai HS2 fod wedi cael ei ddynodi'n brosiect i Loegr yn unig o'r dechrau, a Llafur hefyd hyd nes y daethant i rym.

Yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y de, gan adael y gogledd heb fawr mwy nag addewidion gwag. Tra bo de Cymru wedi—

Fe wnaf orffen fy mrawddeg ac fe wnaf adael i chi ddod i mewn wedyn. Tra bo de Cymru wedi gweld mwy na £1 biliwn yn cael ei wario ar ei system metro—rhwydwaith integredig o reilffyrdd trwm, rheilffyrdd ysgafn a thramiau—darparwyd £50 miliwn pitw i ogledd Cymru. Alun.

Diolch i chi am hynny. A ydych chi'n credu mai'r twyll mwyaf y gallwch ei chwarae ar bobl neu grŵp neu gymuned yw addo rhywbeth iddynt gan wybod eich bod chi'n dweud celwydd noeth, a phan wnaeth Rishi Sunak hynny ym Manceinion gyda'r £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, ei fod yn fwriadol yn twyllo'r bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli? 

Nid wyf yn cytuno. Rwy'n credu ei fod yn amodol ar ganlyniad yr etholiad. Yn anffodus, ni chafodd y Ceidwadwyr eu dychwelyd yn Llywodraeth ac nid oedd modd i ni barhau â'n cynlluniau. Roedd hynny'n rhan o strategaeth Network North, a oedd yn cysylltu trefi a dinasoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac roedd gogledd Cymru yn rhan o'r prosiect hwnnw. Felly, rwy'n credu eich bod braidd yn anonest gyda'ch ymyriad yno, Alun.

Nid ychydig bach o anghydbwysedd yw hynny; mae'n sgandal llwyr. Mae metro gogledd Cymru, a gafodd ei hyrwyddo'n groch gan weinidogion ym mae Caerdydd, yn parhau i fod yn fawr mwy nag ymarfer ailfrandio, heb fawr ddim gwelliannau ystyrlon i deithwyr. A beth am y prisiau? Mae'r gwahaniaethau'n syfrdanol. Yn ne Cymru, gallwch deithio rhwng Abertawe a Chaerdydd am £5.50. Mae taith o hyd tebyg yn y gogledd—o Gyffordd Llandudno i Gaer er enghraifft—yn costio mwy na dwywaith cymaint â £5.50. Pam y dylai pobl gogledd Cymru gael eu gorfodi i dalu mwy am wasanaethau gwaeth? Lle mae'r tegwch yn hynny?

Ar HS2, dadleuodd hyd yn oed Gweinidogion Llywodraeth Lafur y DU, pan oeddent yn wrthblaid, y dylid dynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig. A hwythau bellach mewn grym, mae'n ymddangos nad ydynt yn awyddus i barchu'r egwyddor honno. Rwy'n dweud wrthynt: os ydych chi wir yn credu mewn tegwch, ac os ydych chi wir eisiau gweld Cymru'n ffynnu, darparwch y cyllid canlyniadol sy'n ddyledus i ni.

Ond gadewch inni beidio ag esgus mai Llywodraeth y DU yn unig sydd ar fai. Mae gan Lywodraeth Cymru gwestiynau i'w hateb hefyd. Un peth yw hi i Weinidogion ym mae Caerdydd resynu at danariannu o San Steffan, ond beth a wnaethant â'r pwerau a'r adnoddau sydd ganddynt eisoes? Dro ar ôl tro, pan roddir y dewis iddynt, maent wedi dewis cyfeirio buddsoddiad tua'r de, gan adael pa bynnag friwsion a oedd ar ôl ar gyfer y gogledd.

Pan nad ydynt yn cyfeirio arian at gynlluniau porthi balchder ac ymarferion sy'n wastraff anghyfrifol ar arian trethdalwyr, maent yn cyfeirio'r arian tuag at y de, a hynny nid yn unig ar y rheilffyrdd, ond ar bob math o seilwaith trafnidiaeth. Mae prosiectau ffyrdd mawr yng ngogledd Cymru wedi cael eu dileu, tra bo symiau enfawr yn cael eu harllwys i mewn i gynlluniau yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Nid mater o wleidyddiaeth bleidiol yw hyn. Mae'n fater o degwch sylfaenol.

Os ydym yn credu o ddifrif mewn Cymru gyfartal ac unedig, mae'n rhaid inni roi diwedd ar yr anghydbwysedd gwrthun sy'n gweld hanner ein gwlad yn cael ei anwybyddu'n systematig. Mae perchnogaeth Llywodraeth Cymru ar Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn drychineb llwyr: diffyg prydlondeb, gorlenwi, gwasanaethau rhy ddrud. Nawr, bydd teithwyr ledled Cymru yn gweld prisiau teithiau trên rheoledig yn codi 6 y cant o'r mis hwn ymlaen, yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Er bod prisiau teithio ar y rheilffyrdd yn uchel ac er bod Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cymhorthdal mawr gan y trethdalwr, mae'r cwmni'n rhedeg ar golled. Ond sut y gallem ddisgwyl unrhyw beth arall gan Lywodraeth o Weinidogion sector cyhoeddus nad ydynt erioed wedi rhedeg busnes?

Mae cynnig Plaid Cymru yn nodi, ym mhwynt 2(b), na wireddwyd cyllid ar gyfer prif reilffordd gogledd Cymru, ond pam na ddigwyddodd hynny? Oherwydd ein bod wedi cael Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Ac fel y soniwyd, addawodd Rikki Sunak £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru fel rhan o gytundeb Network North, a gafodd ei anghofio, ynghyd â'r agenda codi'r gwastad, wrth i'r Blaid Lafur geisio pwmpio arian i'w cadarnleoedd mewn mannau eraill.

Felly, beth yw'r ateb? Yn gyntaf, gadewch inni fynnu'n ddiamwys fod HS2 yn cael ei ailddynodi'n brosiect i Loegr yn unig a bod Cymru'n cael yr arian canlyniadol sy'n ddyledus iddi. Rhaid gwario'r arian hwnnw'n ddoeth—

17:05

—gan sicrhau ei bod yn cael ei chyfran deg. Nid mater o gystadleuaeth ranbarthol yw hyn, nid yw'n ymwneud â gosod y gogledd yn erbyn y de, mae'n ymwneud â sicrhau bod Cymru gyfan yn cael y cyfle i dyfu a ffynnu ac elwa o'r arian y maent yn ei dalu mewn trethi. Mae'n ymwneud â thegwch, cyfiawnder a synnwyr cyffredin economaidd. Felly, gadewch inni gytuno—

Rwy'n gorffen nawr. Felly, gadewch inni gytuno i ymrwymo i gyflawni'r buddsoddiad sydd ei angen mor daer ar ein rheilffyrdd ledled Cymru, ac nid un rhan ohoni'n unig.

Rwyf wedi bod yn darllen llyfr o'r enw Derailed: How to fix Britain's broken railways, yn dweud wrthym am hanes ein rheilffyrdd.  Nid ydynt erioed wedi bod yn addas at y diben mewn gwirionedd. Prydain oedd y wlad gyntaf i ddatblygu rheilffyrdd ar gyfer teithwyr, ond ni fu ein taith i'r presennol erioed yn un syml. Os ewch yn ôl i'r dechrau, roedd y gwasanaeth rheilffordd cyntaf rhwng Lerpwl a Manceinion. Agorodd yn 1830 ac ysgogodd lwyddiant enfawr ym maes adeiladu rheilffyrdd. Dechreuodd rheilffyrdd cystadleuol ddatblygu, gan adeiladu seilwaith dyblyg yn aml. Felly, roeddent yn cystadlu â'i gilydd ac nid yn cysylltu â'i gilydd. Roeddent yn gwasanaethu teithwyr, a diwydiant trwm Prydain hefyd, fel glo, haearn a dur.

Arweiniodd y rhyfel byd cyntaf at wasanaeth rheilffordd mwy cydlynol gyda rhai rhannau'n cysylltu, a gwladolwyd y system dros dro cyn cael ei throsglwyddo i'r pedwar mawr gan Ddeddf Rheilffyrdd 1921, ei breifateiddio eto, a'i ailwladoli eto ar ôl yr ail ryfel byd, wrth i ddefnydd dwys a bomio alw am fuddsoddiad sylweddol gan y wladwriaeth. Felly, nid ydym wedi cael llif cyson o gyllid priodol dros y 200 mlynedd. Erbyn y 1990au, British Rail oedd y mwyaf effeithlon yn economaidd o blith systemau rheilffyrdd gorllewin Ewrop gyda lefelau isel yn unig o gymhorthdal gan y wladwriaeth, ond nid oedd hynny'n dderbyniol bryd hynny i Dorïaid dogmatig y 1990au cynnar, ac yn fuan, gwerthodd Thatcher British Rail a mynd â ni wysg ein cefnau eto. Yr hyn nad oeddent yn ei ddeall oedd na fydd rheilffyrdd byth yn fusnes sy'n cael ei yrru'n fasnachol, ond yn hytrach y dylent fod yn wasanaeth cyhoeddus y mae ei gymhorthdal gwladol yn cael ei gyfiawnhau gan y buddion cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr y mae'r rheilffyrdd yn eu darparu i bawb.

Mae'r buddion hyn yn cynnwys trenau cludo nwyddau, yn ogystal â theithwyr. Gall un trên cludo nwyddau gludo digon o ddeunyddiau i adeiladu tua 30 o dai, o'i gymharu â hyd at 136 o gerbydau nwyddau trwm. Mae'n hanfodol ar gyfer yr amgylchedd, tai a chreu swyddi. Roedd cyfanswm buddion rheilffyrdd i Gymru yn 2018-19 yn £260 miliwn, sef 11 y cant o gyfanswm y buddion i Brydain. Mae hyn yn cynnwys £200 miliwn mewn buddion defnyddwyr a £60 miliwn mewn buddion cymdeithasol. Cymru sydd â'r buddion cyffredinol ail uchaf y pen ym Mhrydain.

Rwy'n falch o ddweud bod gennym Lywodraeth Lafur nawr yn y DU sydd wedi ymrwymo i roi diwedd ar fasnachfreinio rheilffyrdd ac i ddod â gwasanaethau rheilffyrdd yn ôl i'r sector cyhoeddus, lle maent i fod. Yng Nghymru, rydym eisoes yn gwneud hynny, a gallwn ddangos manteision gweithredwr rheilffyrdd sy'n eiddo cyhoeddus yn Trafnidiaeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar ddarparu ar gyfer teithwyr yn hytrach nag elw. Rwy'n cofio pan gawsom y streiciau a dywedodd Trafnidiaeth Cymru, 'Rydym yn mynd i gadw ein swyddfeydd tocynnau ar agor; ni fyddwn yn cau. Rydym yn mynd i sicrhau bod gardiaid a gwasanaethau o hyd, sy'n bwysig iawn i'n holl deithwyr', ac roeddwn yn falch iawn fod gennym Trafnidiaeth Cymru yma yng Nghymru sy'n malio am bobl.

Byddaf yn parhau i alw am fuddsoddiad seilwaith sylweddol sy'n ddyledus i Gymru. Rwy'n credu bod gennym hawl i'n cyfran deg o HS2, ac rwyf wedi galw amdano. Roedd yn anghywir iddo gael ei wrthod i ni'n flaenorol. Gwnaed ceisiadau am gyllid codi'r gwastad hefyd, ar gyfer llawer o gynlluniau yng ngogledd Cymru, a gwrthodwyd hwnnw i ni hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd cynlluniau'n cael eu cyflwyno'n fuan. Rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi cael cyllid i wella'r amserlenni ar draws gogledd Cymru a Wrecsam i Bidston. Rwy'n gwybod bod gennym gyllid i wella gorsafoedd. Rwy'n gwybod mai ychydig ar y tro ydyw, ond mae croeso i'r cyfan ohono.

17:10

Rwy'n falch o glywed eich bod yn cefnogi mwy o fuddsoddiad a mwy o gyllid ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru. A allwch chi egluro pam y mae eich Llywodraeth wedi rhoi 'dileu popeth' ar y cynnig hwn a pham nad yw'n cefnogi'r hyn rydych chi'n ei ddweud heddiw? 

Rwyf am ddweud y byddaf yn cefnogi pob cyllid, unrhyw arian ychwanegol y gallwn ei gael, boed yn dameidiau ar gyfer gwella gorsafoedd, rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr, neu'r ffaith ein bod yn buddsoddi yn Trafnidiaeth Cymru, £800 miliwn ar gerbydau trên newydd. Os gallwn gael mwy o'r arian a ddynodwyd o dan HS2 hefyd, digon teg, a dyna lle rwyf i'n sefyll, iawn?

Rwy'n deall bod cynnydd yn cael ei wneud nawr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynghylch buddsoddiad rheilffyrdd, ac er bod niwed y 14—[Torri ar draws.]

Anwybyddwch y sylwadau gan bobl yn eu seddi. Gallwch barhau â'ch cyfraniad.

Dylwn eu hanwybyddu, oni ddylwn? Mae'r ddwy Lywodraeth wedi dod i gyd-ddealltwriaeth ynghylch y gofynion sydd eu hangen yn benodol. Nid oes angen trydaneiddio lein gogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae angen inni gael capasiti ychwanegol yng Nghaer. Mae angen inni adeiladu'r orsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae angen inni gael trefn ar brif lein gogledd Cymru, fel nad oes gennym lifogydd arni. Mae'r pethau hyn yn bwysicach i ni, ein bod yn cael y rheini yn eu lle. Felly, mae llawer y mae angen inni ei wneud, i fynd yn ôl, i alluogi cyllid HS2 mewn gwirionedd. Cyn belled â'n bod ni'n cael peth arian yn dod i mewn ar hyn o bryd, rwy'n falch iawn. Mae angen inni ei gadw i fynd, a gwn fod y pwyntiau hynny'n cael eu gwneud ar hyn o bryd, ac mae angen inni barhau i ymladd. Diolch. 

Mae Hefin yn iawn: yn wrthrychol, mae gwasanaethau trên wedi gwella, yn enwedig o fy safbwynt i fel rhywun sy'n byw ym Mhencoed. Mae gennyf ddau drên yr awr nawr; nid wyf yn edrych ar y cloc pan fyddwn ni'n hwyr gyda'r nos ac yn meddwl, 'A wyf i'n mynd i ddal y trên nesaf? A wyf i'n mynd i orfod aros awr a hanner ychwanegol i gael y trên nesaf?' Mae dau drên erbyn hyn; maent yn lanach, maent yn fodern, ond nid yw hynny'n wir ym mhobman.

Ym Mhencoed, rydym yn gweld gwelliant. Os ewch chi i ochr arall y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, i Gymoedd y gorllewin, wel, nid yw'r ddarpariaeth yno o gwbl. Os awn i rannau eraill o Gymru, i ogledd Cymru, i orllewin Cymru, unwaith eto mae'r ddarpariaeth yn hynod o anghyson, a dyna lle rwy'n poeni braidd y gallai pwynt y ddadl hon gael ei golli, oherwydd y gwir amdani yw, pe byddem wedi cael y buddsoddiad hwnnw, pe byddem wedi cael yr arian sy'n ddyledus, gallem fod wedi buddsoddi yng Nghymoedd y gorllewin. Gallem fod wedi buddsoddi mewn lein trên o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Gallem fod wedi buddsoddi mewn gwell darpariaeth yng ngogledd Cymru, a'r gwir amdani yw bod y diffyg buddsoddiad yn y seilwaith wedi llesteirio ein heconomi.

Bob blwyddyn, mae ein heconomïau lleol yn colli biliynau o bunnoedd gyda'i gilydd oherwydd aneffeithlonrwydd rheilffyrdd, y seilwaith a'r darpariaethau gwasanaeth gwael. Yma yng Nghymru, mae'r rheini'n taro ein heconomïau lleol yn arbennig o galed. Mae cost cynhyrchiant a gollwyd a datblygiad economaidd a fygwyd yn syfrdanol hyd yn oed cyn ystyried anghydraddoldebau dyfnach y buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd. Mae gwledydd eraill fel Tsieina, Japan a'r Almaen yn trin seilwaith fel asgwrn cefn i dwf economaidd, ond yma yng Nghymru, nid yw'n fater o beidio â bod eisiau blaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith, ond yn hytrach, na allwn roi'r un lefel o flaenoriaeth iddo. Ac i fod yn deg, gallai fod gan hynny rywbeth i'w wneud â'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth y dulliau sy'n angenrheidiol i ddatblygu ein rhwydwaith trafnidiaeth ein hunain. Mae'n amlwg nad yw San Steffan wedi dangos unrhyw fwriad i gamu i'r adwy, ond nid yw hynny'n ei esgusodi.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwrthod mwy o bwerau dros y rheilffyrdd. Gadewch inni beidio ag anghofio, gan fod Llywodraeth Lafur yn Llundain bellach, fod y ffigur sy'n ddyledus i Gymru yn llai na'r hyn ydoedd cyn yr etholiad. A ydych chi'n gwybod beth yw hynny? Jôc lwyr, dyna ydyw. Mae Aelodau Llafur yma wedi mynd yn ôl ar eu gair cyn yr etholiad. Mae'n embaras a dweud y gwir, ac mae'r esgeulustod yn dangos yr anghydraddoldebau rhanbarthol mewn undeb camweithredol, gan roi Cymru dan anfantais ddifrifol o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae'n cyfyngu ar ein potensial economaidd, mae'n atal buddsoddiad ac mae'n hel gweithwyr medrus i fannau eraill, ac rydym yn gweld canlyniadau'r esgeulustod hwn mewn amser real.

Mae wedi'i grynhoi'n berffaith gydag adeiladu Old Oak Common yn rhan o HS2. Bydd y gwaith hwnnw'n achosi aflonyddwch enfawr i deithwyr sy'n teithio ar reilffyrdd yn ne Cymru, ac eto nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi unrhyw eglurhad ynghylch pa orsafoedd yr effeithir arnynt a pha mor aml y gall teithwyr ddisgwyl aflonyddwch. Efallai y gallwn gael rhywfaint o eglurder ar hynny heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro a fydd Cymru'n cael unrhyw iawndal am yr aflonyddwch, oherwydd mae'n gost arall i Gymru yn sgil y prosiect hwn yr ydym yn talu amdano ond na fyddwn yn cael unrhyw fudd ohono. Os yw Cymru'n mynd i ffynnu, rhaid inni gael rheolaeth dros ein seilwaith trafnidiaeth ein hunain i adeiladu ein seilwaith ein hunain a sicrhau na all San Steffan unwaith eto ddal eu gafael ar arian y mae gennym ni hawl iddo. Mae mor syml â hynny. 

17:15

Mae'r ddadl hon yn dorcalonnus am ddau reswm. Un yw bod y ddwy blaid ond eisiau lladd ar ei gilydd am beidio â gwneud yr hyn y mae'r llall yn credu y dylent ei wneud. A'r ail reswm—ac rwy'n rhwystredig iawn gyda Llywodraeth Cymru—yw'r 'dileu'r cyfan' a roesoch ar y cynnig, oherwydd rwy'n herio pob un ohonoch chi yma i ailddarllen yr hyn y mae'r cynnig yn galw amdano. Gyda'r parch mwyaf at fy nghyd-Aelodau Llafur, gadewch inni atgoffa ein hunain. Dywedwch wrthyf beth yr anghytunwch ag ef yma. Rwy'n croesawu'r cynnig. Mae'n dweud: 

'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ffigurau diweddaraf ar y diffyg buddsoddiad i wella rheilffyrdd yng Nghymru'.

Beth sydd o'i le ar hynny? Yn ail:

'cadarnhau ei safbwynt y dylid ailddynodi HS2 yn brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â ffigurau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan oedd yn wrthblaid'.

Beth sydd o'i le ar hynny? Ac yn drydydd:

'ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i ofyn i'r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.'

Dyna yw'r ffocws a'r hyn y mae'r ddadl hon yn gofyn amdano. Rydym i gyd yn derbyn y gallai gwasanaethau fod yn well yn rhywle arall, yn 'lle rwy'n byw' neu beth bynnag, ond nid yw'n ymwneud â hynny. Rwy'n teimlo mai'r hyn sy'n digwydd yn y dadleuon prynhawn Mercher hyn mewn gwirionedd yw bod y gwrthbleidiau'n cyflwyno cynnig a Llywodraeth Cymru yn dweud 'dileu popeth', ac mae'n teimlo ar yr achlysur hwn nad oes mwy o bwynt na hynny iddo. Mae hynny'n fy nigalonni'n enfawr, oherwydd byddai mor hawdd i chi ei dderbyn neu o leiaf ei wella mewn rhyw ffordd. Felly, os gwelwch yn dda, a allai Ysgrifennydd y Cabinet, y mae gennyf y parch mwyaf tuag ato, ddweud wrthym pam eich bod wedi penderfynu dileu popeth a pheidio â derbyn unrhyw un o'r materion a'r ceisiadau gan Blaid Cymru yn y cynnig hwn, cynnig rwy'n ei groesawu?

Rwy'n credu bod rhaid i chi dderbyn bod Llywodraethau Ceidwadol y DU a Llywodraethau Llafur y DU wedi gwneud cam â ni yma yng Nghymru drwy fynd ati i beidio â dynodi HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig a mynnu ein bod yn cael y symiau o arian ohono—[Torri ar draws.] A gaf i orffen y pwynt hwn? Fe ddof atoch chi. A mynnu ein bod yn cael yr arian ohono. Ie, diolch. 

Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu ei bod yn drueni mawr na wnaeth y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth ddynodi hwn yn brosiect i Loegr yn unig, fel y gwnaethant gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, a bod Cymru'n cael y symiau canlyniadol Barnett. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ond rwy'n teimlo eich bod braidd yn hy, oherwydd fe gawsoch chi bum mlynedd yn y Llywodraeth. Roedd gennych Weinidog trafnidiaeth yno—Norman Baker, rwy'n credu—a dros y pum mlynedd, pan oedd HS2 yn cael ei adeiladu, ni wnaeth yr un Democrat Rhyddfrydol gais i wneud y prosiect yn un ar gyfer Lloegr yn unig mewn pum mlynedd yn rhan o'r Llywodraeth. 

Diolch. Fe wnaf dderbyn hynny. Nid wyf yn mynd i sefyll yma a gwneud fel rydych chi'n ei wneud, a dweud 'Nid fy mai i'. Ond diolch am ddweud y byddech yn ei dderbyn. Rwy'n credu ei bod yn warthus ein bod yn dal i fod yn y sefyllfa rydym ynddi gyda HS2. Rwyf wedi dweud erioed, lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwarae rhan yn hynny, rwy'n derbyn cyfrifoldeb am hynny. Felly, nid wyf am godi fy ysgwyddau a dweud 'Nid fy mai i', oherwydd rwy'n derbyn hynny.

Rwyf eisiau gwneud pwyntiau eraill cyflym, os caf. Fe glywsom, onid wnaethom, y newyddiadurwr Will Hayward yn dweud mai hwn oedd lladrad trên mawr Cymru, a dyna ydyw. Gadewch inni ei dderbyn am yr hyn ydyw. Mae'n gwbl annerbyniol ein bod yn dal i weld y sefyllfa yr ydym ynddi yma yng Nghymru. Hoffwn glywed gan Lywodraeth Cymru beth y bwriadant ei wneud i gael symiau canlyniadol HS2 yma. Nid yw'n llawer i'w ofyn. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni wella ansawdd y dadleuon a gawn yma ar brynhawn Mercher, a hon yn enwedig, trwy dderbyn efallai nad yw'r hyn y gofynnwyd amdano yn y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn afresymol, ac y byddai'n helpu pob plaid yn y Senedd hon ac yn helpu pobl Cymru? Diolch yn fawr iawn.

17:20

Rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau sydd newydd gael eu gwneud. Mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn dod i'r Siambr hon ers blynyddoedd lawer gyda gwelliannau 'dileu popeth'; nid wyf yn credu ei fod erioed wedi gwella'r ddadl nac wedi gwella statws y Llywodraeth ymhlith yr holl Aelodau. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd gywir o fynd i'r afael â'r dadleuon hyn. Dylem chwilio am gonsensws, lle bo'n bosibl—a daw hynny oddi wrthyf i—ar draws y Siambr. Nid yw'n mynd i bara, peidiwch â phoeni. Ond dylem edrych ar ddiwygio cynigion yn hytrach na'u dileu. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor dda. Oherwydd mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn gwbl hapus â'r cynnig na'r gwelliant. Rwy'n credu bod yna argyfwng real iawn yn ein hwynebu yng Nghymru pan siaradwn am ein seilwaith rheilffyrdd. Mae'n argyfwng i Gymru ac mae'n argyfwng i'r undeb.

Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd heb bŵer i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Yr unig ran o'r DU. Gallant ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, gallant ei wneud yn yr Alban, gallant ei wneud mewn rhannau o Loegr, yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Yng Nghymru, rhaid inni fynd i ymbil wrth Lywodraeth y DU ac erfyn am friwsion oddi ar y bwrdd, ac rydym i gyd yn gwybod ble mae hynny'n mynd â ni yn amlach na pheidio. Mae'n argyfwng, oherwydd mae tanariannu rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi bod yn digwydd yn systematig dros ddegawdau. A gallwn bwyntio bysedd ar draws y Siambr hon. Mae'r Blaid Lafur yr un mor euog am hynny â'r Blaid Geidwadol. Ond cyfrifoldeb y blaid hon, fel y blaid sydd â mwyafrif yma, yw bod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae angen newid. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Diolch, Alun. Roeddwn eisiau gofyn i chi am y pwyntiau ar HS2, oherwydd mae yna lawer y credaf ein bod yn cytuno yn ei gylch yma. A ydych chi'n rhannu fy rhwystredigaeth ynglŷn â safbwynt presennol Llywodraeth Cymru, sydd i'w weld yn aneglur ar biliynau HS2? Yn ôl y sôn, Keynes a ddywedodd

'Pan fo'r ffeithiau'n newid, rwyf innau'n newid fy meddwl.'

Mae'n ymddangos i mi, pan fydd meddyliau San Steffan wedi newid, fod yna ymgais i newid y ffeithiau yn ogystal.

Nid wyf am i'r ddadl hon ddirywio'n ddadl ynglŷn â faint o filiynau ydyw. Yr hyn sydd ei angen arnom yw newid strwythurol—newid strwythurol sy'n golygu, pryd bynnag y bydd arian yn cael ei wario gan Lywodraeth y DU, fod Cymru'n cael swm canlyniadol Barnett teg ohono, fel y mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael, a bod hynny'n cael ei wneud yn rhan o setliad sy'n golygu bod Cymru'n cael ei thrin fel rhan gyfartal o'r undeb hwn. Mae tanariannu strwythurol rheilffyrdd yng Nghymru yn golygu bod gan fy etholaeth, neu'r etholaeth rwy'n gobeithio sefyll ynddi yn yr etholiad nesaf, un rheilffordd wedi'i datganoli, sef llinell cwm Rhymni—ac rydym wedi clywed gan Hefin David ar rai o'r materion hynny—sy'n rhan o linellau craidd y Cymoedd, sy'n golygu y bydd yn cael ei thrydaneiddio a bydd gennym drenau newydd a system metro yn rhedeg yno, ond mae hanner arall yr etholaeth yn cael ei gwasanaethu gan linell Glynebwy, nad yw wedi ei datganoli, a lle rydym wedi brwydro ers dau ddegawd i gael cyllid ar ei chyfer. Dywedwch wrth bobl cwm Ebwy Fach pam nad oes ganddynt hawl i'r un gwasanaeth â'r bobl yng nghwm Rhymni, a dywedwch wrth y bobl hynny fod gennym setliad sy'n gweithio i Gymru. Nid yw'n bosibl. Ni ddylai ddigwydd, ac mae angen setliad sy'n deg i bawb yng Nghymru. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.

Alun, diolch am ildio. Rwy'n derbyn eich galwad fod angen newid strwythurol; rwy'n credu eich bod chi'n iawn yno. Ond a ydych chi felly yr un mor rhwystredig â minnau, a ninnau, fod eich Llywodraeth eich hun wedi rhoi gwelliant 'dileu popeth' ac na fydd yn cefnogi hyn? A ydych chi'n cefnogi safbwynt eich Llywodraeth?

Mabon, dylech fod wedi gwrando ar fy sylwadau agoriadol: dywedais hynny yn y 10 eiliad cyntaf. Rwy'n gwybod fy mod yn cymryd amser i gynhesu, ond roeddwn i'n gobeithio y gallech fod wedi bod yno o fy mlaen.

Y gwir amdani yw mai'r unig rannau o Gymru sydd wedi gweld buddsoddiad go iawn—ac nid yw Gareth yn deall hyn, wrth gwrs; pe bai wedi gwneud ei ymchwil, fe fyddai—yw'r rhannau o Gymru lle mae'r cyfrifoldeb dros wneud y penderfyniadau hynny wedi'i ddatganoli. Dyna'r realiti. Nid oes cynllwyn, Gareth. Dywedodd eich Llywodraeth gelwyddau noeth am hyn ac ni ddylech ei hamddiffyn; ni ddylech wneud hynny. Dylech wneud eich ymchwil yn lle hynny. Yr unig rannau o Gymru sy'n gweld y buddsoddiad yw'r rhannau o Gymru lle mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli. [Torri ar draws.] Fe wnaf un pwynt arall cyn imi ganiatáu ymyriad. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni gael cyfrifoldeb yma. Mae angen datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn i'r lle hwn er mwyn galluogi ein Llywodraeth i gyflawni'r addewidion y mae'r Llywodraeth hon am eu gwireddu.

17:25

Mae gennych chi lu o ASau yn San Steffan nawr, cawsom gwestiynau Cymru yn Senedd y DU y prynhawn yma, mae yna Swyddfa Cymru. Onid yw'n gwneud i chi gwestiynu beth y mae'r ASau Llafur Cymreig hyn yn ei wneud os nad yw'n ymddangos eu bod yn gallu dylanwadu ar y Llywodraeth i fuddsoddi yn ein gwasanaethau rheilffyrdd—yng ngogledd Cymru yn fy achos i, ac yng nghwm Ebwy Fach, er enghraifft? Beth y mae eich AS yn ei wneud i lawr yno?

Ni wneuthum sefyll etholiad i'r lle hwn i dreulio fy amser yn gwneud sylwadau am berfformiad ASau San Steffan. Nid dyna pam rwyf i yma. Rwyf yma i ddadlau'r achos dros safbwynt y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, ac rwy'n credu y dylai hynny fod yn glir iawn. Rwyf am orffen gyda hyn—

—cyn profi mwy ar amynedd y Dirprwy Lywydd.

Os ydym o ddifrif—a dyma'r pwynt difrifol yma—am newid dulliau teithio, am newid y ffordd y mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn gweithio, am gysylltedd ledled Cymru, am sicrhau ein bod yn gallu datblygu trenau wrth ymyl bysiau gyda theithio llesol a'r holl bethau a glywsom gan Weinidogion Cymru dros y 18 mlynedd y bûm yn Aelod yma, yr unig ffordd y caiff hynny ei gyflawni yw os oes gan y Gweinidogion hynny ddulliau o gyflawni'r newid hwnnw. Gallwn greu cymaint o bwyllgorau a byrddau trawsffiniol ag y dymunwn, ond y gwir amdani yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gyfartal; ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymbil am ei chyfran yn y wledd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar haelioni Gweinidogion sydd, yn hanesyddol, fel y gwelsom, wedi gosod anghenion Cymru yn olaf. Dyna pam y mae angen datganoli; nid ymhonni cyfansoddiadol mohono, mae'n ymwneud â chyflawni ar ran y bobl a wnaeth fy ethol i ac a etholodd bob un ohonom yma i gyflawni'r addewidion a wnaethom iddynt. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ymgyrchu dros hynny, dylai Llywodraeth Cymru fod yn helpu i'w gyflawni—

—a dylai Llywodraeth y DU gydnabod ei chyfrifoldebau.

Ceir dau naratif sy'n cystadlu i egluro tanddatblygiad economaidd cymharol Cymru yn yr oes fodern. Mae'r cyntaf yn honni bod ein tynged wedi'i phennu gan ddaearyddiaeth—pentrefi anghysbell, dyffrynnoedd ynysig a mynyddoedd garw yn ein condemnio i anfantais barhaol. Dywedir bod ein hanfanteision economaidd wedi'u hysgrifennu ar y dirwedd ei hun. Mae'r ail naratif, yr un rwy'n ei arddel, yn cydnabod nad oes unrhyw beth yn anochel am ein tanddatblygiad. Nid yw'n deillio o ddaearyddiaeth, ond o esgeulustod gwleidyddol systematig, yr hyn a alwodd yr economegydd Andre Gunder Frank yn 'ddatblygiad tanddatblygiad'. Nid yw datblygiad economaidd llwyddiannus yn ymwneud â natur na daearyddiaeth, mae'n ymwneud â dewisiadau sefydliadol strategol a buddsoddiadau sy'n galluogi rhai lleoedd i ffynnu tra bod eraill wedi eu condemnio i fethu.

Roeddwn mewn cynhadledd economaidd unwaith lle'r oedd economegydd Cymreig eithaf blaenllaw'n honni bod Cymru'n tanberfformio oherwydd ei thopograffeg. Gormod o fynyddoedd a gormod o bentrefi. Fe ddaeth llais dewr o'r cefn a ofynnodd, 'Beth am y Swistir?' Gadewch inni wynebu'r peth, mae mynyddoedd y Swistir yn gwneud i'n rhai ni edrych fel bryniau. Mae eu pentrefi wedi'u gwasgaru ar draws tir amhosibl o serth. Ac eto mae'r Swistir yn ffynnu'n economaidd, gyda chymunedau llewyrchus a chyflawniadau sy'n ennyn edmygedd y byd.

Cyfrinach y Swistir? Wel, yn gyntaf, mae'n genedl annibynnol sy'n gallu blaenoriaethu ei hanghenion seilwaith ei hun heb gystadlu am sylw o brifddinas bell. Fe wnaethant fuddsoddi mewn trenau; ac nid unrhyw drenau, ond rhwydwaith a adeiladwyd gydag ymroddiad bron yn grefyddol i gysylltedd. Mae eu hamserlen wyneb y cloc yn golygu bod trenau'n cyrraedd ac yn gadael ar yr un funud bob awr ym mhobman. Maent yn drenau sydd nid yn unig yn cludo pobl, maent yn trawsnewid pentrefi bach ynysig yn gymdogaethau mewn un genedl lewyrchus.

Nawr, cymharwch hynny â Chymru: gweddillion diwydiannol yw ein rheilffyrdd at ei gilydd, wedi'u hadeiladu nid i gysylltu pobl ond i echdynnu adnoddau, symud cyfoeth Cymru allan, nid rhwymo pobl a chymunedau ynghyd. Ychwanegwch at hynny y degawdau o esgeulustod gan San Steffan. Fel y clywsom, maent wedi ein gadael, bron—wel, yn unigryw, rwy'n credu, ymhlith cenhedloedd Ewrop—heb gysylltiad rheilffordd priodol rhwng y gogledd a'r de. Mae'r Cymoedd wedi cael rhywfaint o fuddsoddiad, wedi ei yrru, ie, gan Lywodraeth Cymru, ond maent yn dal yn brin o gysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin onid ydynt? Y Cymoedd gorllewinol mewn cymunedau gwledig—waeth iddynt fod yn ynysoedd o ran y diffyg cysylltedd rheilffordd.

Ac eto, pan edrychwn o gwmpas y byd, mae'r dystiolaeth yn glir, onid yw? Mae rheilffyrdd da yn creu ffyniant. Mae buddsoddi mewn rheilffyrdd yn sbarduno creu swyddi, yn hybu cynhyrchiant, yn denu buddsoddiadau trwy ehangu marchnadoedd llafur a thorri costau cludiant. Nid dod yn sgil ffyniant economaidd yn unig y mae rheilffyrdd gwell, mae'n eu creu. Felly, meddyliwch am yr hyn a gollwyd gennym yng Nghymru, yn gronnol, ddegawd ar ôl degawd, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth: ni allodd busnesau ddechrau am na allai sefydlwyr busnesau gyrraedd cwsmeriaid; methodd myfyrwyr fynychu colegau. Ein datgysylltiad yw ein hanfantais, ac nid yw'r naill na'r llall yn anochel; maent yn ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol a wnaed yn Llundain.

Nawr, nid ydym yn chwilio am gardod, dim ond parch cydradd; nid cymhorthdal, dim ond cydraddoldeb. Mae'n alw cymedrol a glywsom yn cael ei adleisio ar draws y Siambr, onid yw, y dylai cymunedau Cymru gael yr un ystyriaeth, yr un buddsoddiad a chyfle i ffynnu â chymunedau mewn rhannau eraill o'r DU. A phan glywn y Canghellor yn cyhoeddi cefnogaeth barhaus i'r trên bwled i Birmingham, y trên cyflym Dyffryn Silicon o Rydychen i Gaergrawnt, rhedfeydd newydd ym meysydd awyr Llundain a chronfeydd dŵr yn ne-ddwyrain Lloegr, gan ohirio buddsoddiad ym mhobman arall ar yr un pryd, caf fy atgoffa o lyfr yr economegydd Koreaidd Ha-Joon Chang, Kicking Away the Ladder, lle mae'n dadlau bod rhanbarthau a chenhedloedd cyfoethog yn adeiladu eu ffyniant trwy fuddsoddiad seilwaith dan arweiniad y wladwriaeth cyn pregethu cyni i eraill, gan gicio'r ysgol a ddringwyd ganddynt ymaith.

Datblygodd canolfannau economaidd de-ddwyrain Lloegr, ac maent yn parhau i ddatblygu, trwy fuddsoddiad cyhoeddus enfawr, gan amddifadu Cymru o'r un llwybr. Bydd y bwlch economaidd yn parhau cyhyd â bod yr annhegwch cronig hwn yn parhau. Yr ateb sydd orau gennyf i, Ddirprwy Lywydd, yw torri'r cylch trwy wneud dewis y Swistir, datrys ein problemau ein hunain fel cenedl annibynnol. Ond i unoliaethwyr, mae ein dadl yn syml: rydych chi'n dweud eich bod chi'n credu yn yr undeb, profwch hynny, oherwydd i Gymru, bydd tegwch neu ryddid yn dod yn ddewis i genhedlaeth y bydd rhaid i ni ei wynebu yn hwyr neu'n hwyrach.

17:30

Ddirprwy Lywydd, mae gennyf dair thema yr oeddwn am wneud sylwadau arnynt. Y brif thema yr hoffwn wneud sylwadau arni yw sut y gallem ddefnyddio'r buddsoddiad hwnnw, yn fwyaf arbennig gydag agor llinellau rheilffordd coridor y gogledd-orllewin. Ond mae'n rhaid imi wneud sylwadau ar rai o'r materion a godwyd yn gynharach. Yn sicr, mae fy etholaeth i, fel y nododd Alun, yn un o'r ardaloedd sydd wedi elwa'n fawr o'r buddsoddiad yn y pethau sydd o dan ein rheolaeth: y metro o ran Pontypridd, y trenau a llinellau'r Cymoedd, lle bu trawsnewidiad enfawr o ganlyniad i ddatganoli, ac mae'r pethau a wnaethom yn gwbl anhygoel. Y pwyntiau sy'n cael eu codi am y pethau nad ydym yn eu rheoli, yw'r pethau lle rydym yn cael trafferth.

Ond rwyf am wneud sylw ar fater ariannu, oherwydd mae'r tanariannu wedi cael ei gydnabod, mae'n hanesyddol: mae undod ynghylch y mater hwnnw, ac nid wyf yn derbyn ymateb Llywodraeth y DU i gyllid HS2. Gallwn dderbyn dadl sy'n dweud na allwn ariannu holl waddol canlyniadau economaidd trychinebus yr 14 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Dorïaidd, ond credaf fod gennym hawl gyfansoddiadol i gyllid canlyniadol Barnett, ac mae'r ymateb gan Lywodraeth y DU wedi bod yn annerbyniol, mae wedi bod yn anghywir, mae wedi bod yn wallus, ac nid wyf yn credu ei fod yn dal dŵr. Fe wnaeth y Torïaid fynd ati'n fwriadol i ddwyn cyllid oddi ar Gymru, cyllid yr oedd gennym hawl iddo o fewn system o ddegawdau o danariannu enfawr, a dim ond oherwydd datganoli y gallwn bellach ddechrau gwrthdroi peth o'r niwed a wnaed dros ddegawdau, ac yn enwedig ers preifateiddio, ac rwy'n credu bod gennym hawl i gael gwell na hynny. A'r hyn nad yw'n dderbyniol yw bod y cyllid canlyniadol y dylem fod â hawl iddo yn ddarostyngedig i fympwy Llywodraeth. Mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth sydd â sylfaen gyfansoddiadol a strwythurol glir, a dyna sydd angen ei newid. Nawr, wedi dweud hynny, rwy'n croesawu'r ffaith bod sgyrsiau a thrafodaethau ar y gweill a allai'n hawdd arwain at gyllid ychwanegol yn dod i mewn. Rwy'n ei groesawu'n fawr, ond nid dyna'r sylfaen y dylai fod yn digwydd arni.

Nawr, un o'r mannau lle gallem fuddsoddi, pe baem yn cael y cyllid hwnnw, yw'r buddsoddiad yng nghoridor y gogledd-orllewin. Mae'n debygol y bydd Taf Elái, Gorllewin Caerdydd, fy etholaeth i ac etholaeth Mark Drakeford, yn cael datblygiad o tua 10,000 o gartrefi newydd. Nid oes gan chwarter yr aelwydydd yn ein dwy etholaeth fynediad at gar. Ni cheir unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus realistig nad yw'n gar heblaw am drên tram, ac rwy'n credu mai dyna'r opsiwn. Mae'r achos busnes dros hwnnw wedi'i wneud, mae'n bodloni'r holl feini prawf datgarboneiddio a chodi'r gwastad. Ac mae angen penderfyniad arnom nawr ar ailagor rheilffordd coridor y gogledd-orllewin, sydd wedi'i chadw at y diben penodol hwnnw. Fe'i nodwyd yn y dogfennau a'r ymchwil a nodwyd gennyf i a'r Aelod dros Orllewin Caerdydd. Llwybr trên tram newydd trwy lein y Ddinas ac o bosibl, defnyddio llwybr y coridor a ddiogelwyd rhwng Canol Caerdydd, cyffordd 33 a Creigiau, estyniad o'r llwybr trên tram o Creigiau i Pont-y-clun trwy Cross Inn, ac estyniad i'r llwybr trên tram o Creigiau i Beddau trwy Cross Inn, Meisgyn, Llantrisant a Thonysguboriau—dyna'r unig ateb i ddatblygu'r nifer enfawr o gartrefi, sydd eu hangen arnom, ond na ellir ei ddatrys gan unrhyw ateb ffordd. Ac un o'r rhesymau pam y mae mater cyllid strwythurol i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru mor bwysig yw oherwydd bod yna bethau fel hyn a ddylai fod wedi digwydd, y mae angen iddynt ddigwydd, lle mae'r gwaith yn cael ei wneud nawr i'w alluogi i ddigwydd, ac ni fydd ond yn digwydd pan gawn ymrwymiad i'r buddsoddiad hwnnw—buddsoddiad a fydd yn sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus am y 100 mlynedd nesaf mewn ardal lle ceir datblygu enfawr. Diolch.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, ac rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau a wnaed. Byddaf yn ymdrin â rhai penodol mewn eiliad, ond mae'n rhaid imi ddechrau drwy ddweud mai Llywodraeth sy'n cyflawni yw hon. Mae Llafur Cymru yn cyflawni. Fe wnaethom gymryd perchnogaeth ar linellau craidd y Cymoedd a chreu system metro drawsnewidiol. Fe wnaethom droi'r hyn a oedd yn rhwymedigaeth yn ased, ac rydym yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ar draws y rhanbarth.

A chan fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU erbyn hyn, byddwn yn trawsnewid gwasanaethau ar draws gogledd Cymru hefyd, gan gynyddu gwasanaethau 50 y cant—50 y cant—erbyn y flwyddyn nesaf. Mae hynny o ganlyniad i gytundeb rhyngom ni a Llywodraeth y DU a ddigwyddodd y llynedd. Buddsoddiad ym mhrif reilffordd gogledd Cymru. Yn wahanol i'r addewid ffug i drydaneiddio gan Rishi Sunak, mae'r arian yno, mae'r addewid yn real, byddwn yn cyflawni. Ac erbyn y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweld 50 y cant yn fwy o wasanaethau ar draws gogledd Cymru.

Ac rydym wedi cytuno ar lif o welliannau rheilffyrdd gyda'r Adran Drafnidiaeth a Swyddfa Cymru a fydd yn trawsnewid ein rhwydwaith rheilffyrdd ac yn mynd i'r afael ag anghyfiawnder cyllid neu ddiffyg cyllid yn ein rhwydwaith rheilffyrdd dros nifer o flynyddoedd. Rydym wedi ymgyrchu ers tro am fuddsoddiad teg yn y rheilffyrdd yng Nghymru, ac am y tro cyntaf, Ddirprwy Lywydd, mae Gweinidogion Adran Drafnidiaeth y DU a Swyddfa Cymru wedi cydnabod bod Cymru wedi dioddef o danariannu hanesyddol ar y seilwaith rheilffyrdd. Maent wedi cytuno â ni fod yn rhaid iddo gael sylw, ac y bydd yn cael sylw. Cadarnhaodd yr Arglwydd Hendy yr wythnos diwethaf yn y Pwyllgor Materion Cymreig fod yr Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno ein blaenoriaethau rheilffyrdd i'w cynnwys yn yr adolygiad o wariant. Cyfeiriodd at adolygiad Burns fel un a oedd yn llywio ei adolygiad o gysylltedd yr undeb a'r sylfaen—y sylfaen—i'w gyflwyno i'r Adran Drafnidiaeth.

Mae'r llif o welliannau y cytunwyd arnynt yn seiliedig ar gomisiynau trafnidiaeth gogledd Cymru a de-ddwyrain Cymru a'r adolygiad o gysylltedd yr undeb. Ceir gorsafoedd newydd a gwelliannau capasiti arfaethedig i gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd newydd ar draws cymunedau yng Nghymru, ac nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Yr hyn a wnawn yw adeiladu ar rai o'r cynlluniau rheilffyrdd mwyaf datblygedig yn unrhyw le yn y DU, ond a gafodd eu hanwybyddu, yn anffodus, gan Lywodraethau Torïaidd y gorffennol. Heddiw cânt eu croesawu gan Weinidogion Llafur y DU.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, a'n cynghreiriaid yn wir, sef y meiri metro yn Lloegr, i gytuno ar adolygiad o brosesau llyfr gwyrdd buddsoddiadau Network Rail, i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran deg o'r holl fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol, a fyddai, o'r diwedd, yn sicrhau'r newid strwythurol y soniodd Alun Davies amdano.

Dylwn ddweud ein bod eisoes wedi sicrhau £39 miliwn i'n grant bloc blynyddol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu parhaus ar y seilwaith rheilffyrdd yr ydym yn berchen arno—llinellau craidd y Cymoedd. Dyna'r hyn y gall partneriaeth mewn grym ei wneud. Ac rydym yn chwilio am gymharedd â rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU yn fformiwla Barnett, gan gydnabod ein bod bellach yn berchennog ar seilwaith rheilffyrdd. Rwy'n credu bod Hefin David yn gywir i dynnu sylw at sut yr aethom ag un o'r fflydoedd hynaf o drenau ym Mhrydain—un o'r hynaf, a etifeddwyd yn 2018, gyda 270 o drenau yn unig—a'n bod yn mynd i fod yn darparu un o'r fflydoedd mwyaf newydd o drenau ym Mhrydain, cynnydd enfawr o drenau hefyd, i 484. Mae trenau newydd mewn gwasanaeth ar draws Cymru; yng ngogledd Cymru, de Cymru, dwyrain Cymru a gorllewin Cymru, rydym yn cyflwyno nifer enfawr o drenau newydd ar draws y wlad.

Nawr, soniodd Carolyn Thomas am hanes rheilffyrdd yn hyn, eu daucanmlwyddiant. Yn ddiweddar roeddwn yn darllen am hanes gwasanaethau rheilffordd yn ei rhanbarth hi. Roedd yn ddiddorol iawn fod lein y gororau, a elwir hefyd yn lein Wrecsam-Bidston, yn arfer cael ei hadnabod fel 'llinell gogledd Cymru a Lerpwl' tan ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ac o ganlyniad i'r llif o welliannau a gytunwyd, byddwn yn creu gwasanaethau metro uniongyrchol a di-dor rhwng Wrecsam a Lerpwl. Dyna ganlyniad partneriaeth mewn grym. A bydd y gwaith yn dechrau ar ofynion seilwaith o amgylch Padeswood.

Mae ein blaenoriaethau rheilffyrdd yn gwella cysylltedd, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws ein ffiniau yn y DU yn ehangach. Mae'n hanfodol i bobl gyffredin, ac yn wir i fusnesau, fod gennym gysylltiadau da â dinasoedd mawr a meysydd awyr mawr y DU. A bydd ein blaenoriaethau'n gwella cysylltedd ar draws ffiniau ac yn gwella ein cystadleurwydd. Yng ngogledd Cymru, mae angen cyflunio gwasanaethau rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi economïau trawsffiniol gweithredol, fel y mae Growth Track 360 yn ei hyrwyddo. Yn yr un modd yng nghanolbarth Cymru, mae partneriaeth Porth y Gorllewin yn argymell dull trawsffiniol tebyg ar gyfer de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Ddirprwy Lywydd, mae diwygio'r rheilffyrdd ar y ffordd. Mae'r system sydd wedi bod yn doredig ers gormod o amser yn newid. Bydd yn sicrhau newid mawr ei angen i'r diwydiant rheilffyrdd, ac wedi'i gryfhau gan ein partneriaeth â'r DU, bydd yn gosod y llwyfan ar gyfer buddsoddi a gwelliannau pellach yng Nghymru. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

17:40

Diolch am ildio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad yn dda iawn, a maddeuwch i mi os wyf i wedi ymyrryd yn rhy fuan a'ch bod chi'n dod at hyn, ond nid ydych wedi sôn am unrhyw ffigurau o gwbl—y math o fuddsoddiad y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei roi i mewn, i wneud iawn am y biliynau a gollwyd, ynghyd â gwneud iawn am y biliynau yn y dyfodol y rhagwelir y byddwn yn eu colli o dan amcanestyniadau gwariant Barnett cyfredol. Hefyd, ni fu unrhyw gydnabyddiaeth fod HS2 a'r symiau canlyniadol sy'n ddyledus i ni yn hollol ar wahân i hynny, a bod mwy, cannoedd o filiynau yn ei lygaid ef—biliynau yn fy llygaid i, a'i gyd-Aelodau—hefyd yn ddyledus i Gymru ar ben hynny. Efallai y gwnaiff ymdrin â'r ddau beth hynny.

A gaf i ofyn cwestiwn felly? A fyddech chi'n cefnogi buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru sy'n cynnwys nid yn unig symiau canlyniadol HS2, ond sydd hefyd yn cefnogi llif o welliannau i adlewyrchu'r tanfuddsoddi a fu yn y gorffennol ac anghenion y dyfodol? Dyna'n union beth rydym yn ei gytuno gyda'r DU—

Yr hyn rwy'n ei ofyn yma yw i'r ddau beth—. Dywedais eu bod yn ddau beth ar wahân ond yn rhyng-gysylltiedig. Oes, mae angen inni weld y llif—yn hollol. Nid ydym wedi gallu datblygu llif o welliannau am nad yw'r arian wedi bod yno. Rydym eisiau gwybod faint o arian sydd yno. Ond ar ben yr hyn a fyddai'n dod yn sgil hynny, mae angen y cyllid HS2 arnom hefyd.

Ac mae hyn yn hollbwysig. Mae hyn yn hollbwysig, oherwydd pan ddywedwch, 'Gadewch inni weld y ffigurau ar gyfer pob un o'r cydrannau hynny', mae'r ffigurau ar gael. Ond yn hytrach na chyfyngu cyflawniad y prosiectau hynny i'r gost amcangyfrifedig o gyflenwi, rydym am weld y prosiectau hynny'n cael eu cyflawni ni waeth faint y maent yn ei gostio yn y pen draw, oherwydd stori'r rheilffyrdd, nid yn unig yma, ond o gwmpas y byd, yw bod prosiectau sy'n ymwneud â'r seilwaith rheilffyrdd yn mynd ymhell dros y cyllidebau ar eu cyfer. Maent yn mynd dros y gyllideb. Felly, ni fyddwn am gyfyngu ein huchelgeisiau i swm syml o arian, ond yn hytrach, cytuno y bydd y prosiectau'n cael eu cyflawni. [Torri ar draws.] Ac mae'r raddfa'n enfawr.

17:45

Mae'r raddfa'n enfawr. Mae'r llif o brosiectau sy'n gysylltiedig â Burns yn unig yn enfawr—enfawr—ac rydym yn buddsoddi hefyd. Rydym yn buddsoddi mewn technolegau newydd, rydym yn buddsoddi mewn staff, rydym yn buddsoddi mewn pobl, rydym yn buddsoddi mewn gorsafoedd ledled Cymru. A thrwy bartneriaeth mewn grym, rydym yn dechrau gweithio i drawsnewid yr hyn sydd ar hyn o bryd yn rhwymedigaeth yn ased. [Torri ar draws.] Ie, Delyth Jewell. 

Diolch. Edrychwch, mae llawer iawn yma yr ydym yn cytuno yn ei gylch ac yr ydym yn ei groesawu. A gaf i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, a allech chi ateb yn benodol beth oedd yn ein cynnig yr oeddech chi'n anghytuno ag ef gan olygu bod yn rhaid i chi gyflwyno gwelliant 'dileu popeth', o ystyried bod cymaint yr ydym yn cytuno yn ei gylch?

Wel, rwy'n gobeithio felly y gwnewch chi gefnogi ein gwelliant ni. Rwy'n gobeithio hynny'n fawr.

Nid wyf yn gweld problem o gwbl gyda'r hyn a gyflwynwyd gennym, ond rydym yn anghytuno'n sylfaenol a ydym am fod yn rhan o undeb ac a ydych chi'n dymuno—[Torri ar draws.] Na. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhyngom, oherwydd clywsom y prynhawn yma gan Aelodau—clywsom y prynhawn yma gan nifer o Aelodau—sydd wedi dweud, ar eich meinciau chi, pe baem wedi cael y symiau canlyniadol HS2, y byddem wedi gallu ei wario ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ond y gwir amdani yw, mewn Cymru annibynnol, fel y dywedais yn gynharach y prynhawn yma—[Torri ar draws.] Mewn Cymru annibynnol, byddai hyd yn oed swm canlyniadol llawn, yn seiliedig ar eich amcangyfrif chi o £4 biliwn—

Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn—. Mae angen i Ysgrifennydd y Cabinet orffen ei gyfraniad, ac mae'n ymwybodol o'r amserlen, ond mae angen i'r meinciau adael iddo wneud hynny hefyd, os gwelwch yn dda, oherwydd ni allaf glywed ei gyfraniad oherwydd y sŵn ar fy ochr chwith. 

A dyma'r gwirionedd anochel, y gwirionedd gwrthrychol, ac i chi eich hunain, y gwirionedd anghysurus iawn, y byddai unrhyw swm canlyniadol HS2, yn y Gymru annibynnol y byddech chi am ei gweld, yn cael ei golli mewn mater o fisoedd, yn seiliedig ar eich ffigurau eich hun—y ffigurau rydych chi eich hunain wedi'u derbyn. A byddai'n cael ei golli heb unrhyw welliannau i'w dangos amdano yn y seilwaith rheilffyrdd. Yn hytrach, rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, a byddwn yn cyflawni'r llif o welliannau ledled Cymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os ydych chi eisiau dadl am annibyniaeth, fe gawn ddadl am annibyniaeth. Cyflwynwch un yn amser y Llywodraeth, oherwydd nid dadl am annibyniaeth yw hon heddiw. A diolch hefyd am gadarnhau'r hyn y mae pawb ohonom wedi'i ofni ers yr etholiad, mai llefarwyr ar ran Llywodraeth y DU yw Llywodraeth Cymru yma yn y Siambr. Roedd Jane Dodds yn gwbl gywir i ofyn y cwestiwn perthnasol iawn ynglŷn â beth sydd o'i le ar y galwadau yn y cynnig. Ac roedd Alun Davies yn hollol gywir; dylem chwilio am dir cyffredin. Ar bethau sy'n bwysig i bobl yn ein cymunedau, ar bethau sy'n gwneud gwahaniaeth, dylem chwilio am dir cyffredin, oherwydd rydym i gyd yn gwybod am y problemau sydd yno. Nid dadl yw hon ychwaith am Trafnidiaeth Cymru. Nid am hynny y mae'r ddadl hon. Felly, gallwn geisio datgan rhai o'r pethau sy'n digwydd, gallwn, a chroesawu peth o'r buddsoddiad a welsom, ond nid yw hynny'n tynnu oddi wrth y ffaith bod Cymru wedi dioddef tanariannu hanesyddol ac nad oes golau ym mhen draw'r twnnel i unioni hynny ar hyn o bryd. 

Rydych chi wedi clywed y dadleuon. Maen nhw'n ddadleuon sydd wedi eu selio ar ffeithiau. Rydym ni wedi gweld y Llywodraeth Lafur hon, yn anffodus, trwy gyflwyno'r gwelliant hwn a cheisio ei gyfiawnhau—a dweud y gwir, ddim hyd yn oed wedi ceisio ei gyfiawnhau yn yr ymateb—yn troi eu cefn ar eu hegwyddorion, yn troi eu cefn ar bobl Cymru, ac, yn anffodus, yn rhoi buddiannau Keir Starmer a'r Blaid Lafur o flaen buddiannau Cymru. A does dim gwadu un gwirionedd sydd wrth wraidd y ddadl hon: mae Cymru yn cael ei hamddifadu o'r buddsoddiad yn ein rheilffyrdd rydym ni ei angen ac yn ei haeddu.

Mae Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y Deyrnas Unedig wedi cyfaddef bod Cymru yn hanesyddol wedi dioddef lefelau isel o wariant ar wella ein rheilffyrdd, ac mae'r ffigurau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Rhwng 2019 a 2029, bydd Cymru yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid i wella rheilffyrdd o'i gymharu â’n poblogaeth a maint ein rhwydwaith. Mae'r tangyllido systematig hwn hyd yn oed yn fwy syfrdanol o gofio bod yr arian canlyniadol HS2 hefyd heb ei roi i ni, anghyfiawnder y mae'n rhaid i'r Llywodraeth bresennol ei unioni.

Ac eto, er gwaethaf y cyfaddefiadau damniol hyn, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddyfnhau'r annhegwch. Nid yw'r rhewi y soniwyd amdano ar brosiectau rheilffyrdd mawr newydd tan ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU ond yn dyfnhau'r tanfuddsoddiad yng Nghymru am flynyddoedd i ddod, ac mae hyd yn oed yr addewidion a wnaed i bobl yng Nghymru—ymrwymiadau hollbwysig gan Lywodraeth y DU, megis trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru—maent yn parhau heb eu cyflawni. Yr hyn sy'n gwneud pethau hyd yn oed yn fwy annerbyniol yw bod Aelodau Llafur o'r Senedd yn y Siambr hon wedi galw'n flaenorol am roi symiau canlyniadol HS2 i Gymru, ac eto heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliant yn dileu'r alwad hon. Maent wedi cydnabod, heddiw yn ystod y ddadl hyd yn oed, pa mor annheg yw'r sefyllfa bresennol. Ni chlywsom hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet. Eto i gyd, mae arweinyddiaeth y blaid yn San Steffan yn gwrthod gofyn—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf.

17:50

Diolch am ddweud hynny, ac a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n ymddangos y gallai fod cytundeb ar draws y meinciau Llafur ynghylch symiau canlyniadol HS2 yn dod yma i Gymru, ac y gallai'r cynnig a gyflwynwyd gennych fod yn rhywbeth y mae Llafur Cymru yn cytuno yn ei gylch ac yn ei dderbyn? Felly, a fyddai'n wir y byddech chi'n disgwyl y gallai fod newid meddwl yma ac mewn gwirionedd, efallai y gwelwn Lafur Cymru yn pleidleisio dros eich cynnig ac felly'n dangos y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd ar rywbeth mor bwysig â hyn? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am yr ymyriad, Jane. Rwy'n wleidydd tebyg i chi yn yr ystyr y byddwn yn gobeithio y byddai'r rhesymeg honno'n gweithio, lle'r ydym yn cytuno, y gallwn uno, a gofynnaf i gyd-Aelodau Llafur a fynegodd eu hymrwymiad heddiw i'r hyn sydd yn ein cynnig ni mewn gwirionedd, nid y gwelliant, fyfyrio ar hynny wrth bleidleisio. Cawn ein cyfyngu weithiau gan y ffaith y dywedir wrthym am bleidleisio mewn ffordd benodol. Mae hyn yn bwysig i'n cymunedau ac rwy'n gobeithio nad yw'n rhy hwyr i Lafur ddweud na fyddant yn bwrw ymlaen â'u gwelliant. Felly, efallai yr hoffech chi fyfyrio ar hynny fel y gallwn uno, oherwydd mae'r rhain yn bethau yr arferem gytuno yn eu cylch. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, roeddech chi'n cytuno â ni, felly pam pleidleisio yn erbyn cynnig yr oeddech chi'n arfer cytuno ag ef? Ac mae rhai ohonoch chi'n dal i wneud. Felly, rwy'n eich annog, os gallwn gael un llais unedig heddiw—. Oni fyddai'n gymaint cryfach, pe baem ni fel Senedd yn gallu uno? Anfonwch y neges glir honno: mae'r sefyllfa fel y mae'n annerbyniol ac rydym yn mynnu gwell.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Unwaith eto, ar y syniad o uno, fe allaf i'n bendant uno, fel y dywedais yn gynharach, y tu ôl i uchelgeisiau Ysgrifennydd y Cabinet am lif o brosiectau, ond y gwir amdani yw ei fod yn llif o brosiectau a ddylai fod yn digwydd beth bynnag, ac mae'r ffaith inni gael ein hamddifadu o gyllid dros y blynyddoedd yn gwneud inni deimlo rywsut fod rhaid inni fod yn hynod ddiolchgar am yr hyn y dylem ei gael beth bynnag.  

Yn hollol. Dyna hanfod y mater. Dylem ddatgan yn gadarn fod HS2 yn brosiect i Loegr yn unig a bod rhaid i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol. Dyna un peth yr oedd y Ceidwadwyr yn fodlon sefyll drosto yn erbyn Llywodraeth Geidwadol y DU. Hoffwn pe baech chi'n gallu gwneud yr un peth, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi trwy gefnogi ein cynnig heddiw.

Ymhellach, rwy'n gobeithio y gallwn uno i fynnu bod Llywodraeth y DU yn gwrthdroi degawdau o danariannu ac o'r diwedd yn sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae hyn yn ymwneud ag uchelgais, mae'n ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â chydraddoldeb, ac mae'n ymwneud â sefyll dros Gymru a'n cymunedau. Ni allwn ganiatáu i San Steffan barhau i'n trin fel ôl-ystyriaeth. Mae'r status quo yn siomi ein pobl, fel y nododd Luke Fletcher, mae'n gwneud cam â'n heconomi, mae hefyd yn gwneud cam â'n dyfodol. Mae'n bryd i Gymru gael y seilwaith rheilffyrdd yr ydym ei angen ac yn ei haeddu. Gofynnaf i bob Aelod o'r Senedd hon: cefnogwch y cynnig heddiw heb ei ddiwygio. Anfonwch y neges honno. Rhaid inni fod yn unedig ar hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Ac yr ydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio hwnnw nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Bydd yr unig bleidlais heddiw ar eitem 8, a galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid—[Torri ar draws.]

Rwyf wedi cau'r bleidlais ar hyn o bryd, Janet. Fel mae'n digwydd, nid wyf yn credu y bydd yn newid canlyniad y bleidlais. Ond a gawn ni ei wirio cyn inni fynd ymlaen at y set nesaf o bleidleisiau, os gwelwch yn dda, iawn?

O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

17:55

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Cyn i mi symud ymlaen, rwyf am wirio bod y system yn gweithio i Janet. Ydy. O'r gorau.

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 28, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8852 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y lefelau hanesyddol o isel o wariant ar y rheilffyrdd yng Nghymru; a

b) y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi cyfres o flaenoriaethau ar gyfer gwella’r rheilffyrdd a bennwyd gan fwrdd Rheilffyrdd Cymru.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau:

a) cyllid ar gyfer cyfres uchelgeisiol o welliannau i’r rheilffyrdd, gan gychwyn gyda chyflawni argymhellion Comisiynau Trafnidiaeth Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru;

b) adolygiad o brosesau buddsoddi Network Rail er mwyn sicrhau bod Cymru’n derbyn cyfran deg o fuddsoddiad Network Rail yn y dyfodol;

c) cyllid ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd; a

d) lefel briodol o gymhared gyda rhaglenni perthnasol Llywodraeth y DU o fewn fformiwla Barnett, gan gydnabod bod y cyfrifoldeb am y rhan hon o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru bellach wedi’i ddatganoli.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Sicrhau bod gan Gymru sector prifysgol lewyrchus

Symudwn ymlaen. Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer. Galwaf ar Jenny Rathbone.

Os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.

Ers diwedd mis Ionawr, mae Prifysgol Caerdydd wedi wynebu argyfwng dirfodol a allai fygwth ei dyfodol fel y brifysgol fwyaf, ac sydd â'r adnoddau gorau, yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan enfawr yng ngwaith y Senedd a Llywodraeth Cymru. Dyma'r ysgol hyfforddi fwyaf i feddygon, deintyddion, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru. Ganddi hi y mae'r unig ysgol gynllunio ledled Cymru hefyd, ac o ystyried y gwahaniaeth cynyddol rhwng cyfraith gynllunio Cymru a Lloegr, mae'n amlwg fod angen llif o gynllunwyr yn ein hawdurdodau lleol sy'n gyfarwydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a manylion cyfraith gynllunio Cymru i drafod y cytundebau gorau posibl gydag ymgeiswyr ac i wneud argymhellion cadarn i'w haelodau etholedig.

Mae ei hadrannau mathemateg a cherddoriaeth yn darparu nifer fawr o athrawon arbenigol i'n hysgolion uwchradd, ac rwy'n gwybod o brofiad ei bod eisoes yn hynod heriol i recriwtio athrawon mathemateg arbenigol mewn ysgolion uwchradd. O ble felly y daw mathemategwyr disglair y dyfodol oni bai bod ganddynt athrawon ysbrydoledig? Sut ar y ddaear y gwnawn ni gynnal canolfan ragoriaeth ar gyfer lled-ddargludyddion yn ne Cymru oni allwn ddatblygu a chadw'r sgiliau i gadw'r sefydliadau rhyngwladol hynny rhag codi pac a symud i ran arall o'r byd lle mae'r mathau hynny o sgiliau ar gael yn rhwydd? Os nad oes gennym adran ieithoedd tramor modern yn y dyfodol, pa effaith y bydd hynny'n ei chael ar strategaeth Cymru ar gyfer mewnfuddsoddi a gwerthu nwyddau a gwasanaethau o Gymru i wledydd eraill? A ydym yn hyderus y bydd dibynnu ar barodrwydd pobl mewn gwledydd eraill i siarad Saesneg yn ddigon?

Rwy'n derbyn nad yw dim newid yn opsiwn. Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi £31 miliwn y flwyddyn tuag at ei gweithrediadau o ddydd i ddydd o'i chronfeydd wrth gefn, ac a dweud y gwir, nid ydym yn gwybod faint o heriau ariannol y mae'n ymrafael â hwy. Mae pob prifysgol yn ei chael hi'n anodd, gyda Llywodraeth y DU yn colli budd ffioedd uwch i fyfyrwyr tramor, a oedd yn galluogi prifysgolion i groes-sybsideiddio cost eu haddysgu am nad yw'r ffioedd a delir gan fyfyrwyr cartref bellach yn talu cost y cyrsiau y mae angen iddynt eu cwblhau. Ac mae'r argyfwng costau byw wedi lleihau'r niferoedd sy'n barod i ysgwyddo'r dyledion a etifeddant cyn gynted ag y byddant yn graddio.

Dim ond crib y rhewfryn yw'r heriau hynny. Efallai fod gan brifysgolion statws elusennol o hyd, ond maent wedi gallu defnyddio pob math o offerynnau ariannol ers amser maith i ariannu eu huchelgeisiau. Ym mis Chwefror 2016, cododd Caerdydd fenthyciad o £300 miliwn ar y farchnad bondiau ar log o 3.1 y cant, a ddôi'n ad-daladwy yn 2055—ymhell i'r dyfodol. Pan ofynnais i Weinidog addysg Cymru ar y pryd beth a wyddai am y bond, ni allai gofio cael gwybod amdano hyd yn oed, heb sôn am beth oedd ei bwrpas. Codwyd swm ychwanegol mwy cymedrol o £126 miliwn wedi hynny trwy fond. Mae dyled gyfunol Prifysgol Caerdydd bellach yn £321 miliwn, yn ôl ei chyfrifon diweddaraf.

Mae llawer o Aelodau wedi nodi bod gan Gaerdydd gronfeydd wrth gefn llawer mwy na phrifysgolion eraill Cymru, ac mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau'n dadlau y gellid sicrhau sefydlogrwydd ariannol Caerdydd trwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, yn hytrach na lleihau niferoedd staff a myfyrwyr y brifysgol yn ddifrifol. Mae'n anodd iawn i bobl ar y tu allan asesu faint o anhawster ariannol y mae Caerdydd ynddo, neu'n wir, beth yw atebolrwydd ariannol prifysgolion eraill Cymru. Beth sy'n lefel gynaliadwy o ddyled i sefydliadau dielw mawr fel prifysgolion? Beth sy'n cael ei ariannu gyda'r benthyciadau, ac a yw'n creu ffrydiau refeniw newydd sylweddol y gellir eu defnyddio i dalu'r ddyled honno? A yw'r dybiaeth y bydd gwerth prifsymiau mawr yn cael ei erydu gan chwyddiant yn y blynyddoedd sy'n dilyn? Nid ydym eto yn y sefyllfa a welir yn yr Unol Daleithiau, lle mae gennych ailariannu treigl, ond efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn gwybod llawer mwy na ni a'r cyhoedd. Ond yn amlwg, hyd nes y bydd gan Lywodraeth Cymru syniad clir o'r sefyllfa ar draws ein holl brifysgolion, mae'n anodd iawn gwybod beth y gallai ei rôl fod, ac nid yw galwadau gan yr wrthblaid am ddarparu arian i'w thynnu o'i hanawsterau yn ddigon.

Rwyf wedi siarad ag ystod eang o academyddion Caerdydd ac nid wyf eto wedi dod o hyd i unrhyw gefnogaeth i gynigion academaidd y brifysgol yn y dyfodol. Efallai mai'r foment fwyaf darostyngol oedd siarad â dau athro mathemateg, yr Athro Marklof, sy'n llywydd Cymdeithas Fathemategol Llundain, a'r Athro Terry Lyons o brifysgolion Rhydychen, Bryste a Chaerdydd. Rhyngddynt, maent wedi llunio llythyr agored at y brifysgol, a lofnodwyd gan bron i 4,000 o fathemategwyr o bob cwr o'r byd. Yn amlwg, nid yw hyn yn gwneud unrhyw les i enw da Caerdydd. Mae ysgolion rhagoriaeth unigol yn arswydo y gallent gael eu huno'n golegau newydd, gyda llawer ohonynt yn colli'r proffil ymchwil ac addysgu y maent wedi'i ddatblygu dros flynyddoedd. Mae senedd prifysgol Caerdydd bellach wedi gwrthod y cynigion hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr is-ganghellor a'i bwrdd gweithredol yn myfyrio ac yn meddwl eto, oherwydd, pan fyddwch mewn twll, rhowch y gorau i dyllu.

Mae'n ymddangos i mi fod gallu prifysgolion i gydweithio, i weithio fel tîm, i atgyfnerthu egwyddorion cyffredin ar bethau fel ehangu mynediad neu symleiddio arbenigedd ymchwil yn hanfodol i sicrhau bod gan Gymru sector prifysgolion ffyniannus, sy'n gwasanaethu Cymru gyfan. Rwy'n deall mai dyna sut y mae'n gweithio yn yr Alban, ac mae'n amlwg fod angen dull tîm Cymru arnom os ydym i gyd eisiau i'n prifysgolion oroesi a ffynnu. Ni allwn adael i adrannau cerddoriaeth gael eu torri, cyrsiau nyrsio cyfan wedi'u dileu, heb drafodaeth nac archwilio dewisiadau amgen, naill ai yng Nghaerdydd neu mewn sefydliad addysg uwch arall. Pam na ddigwyddodd hyn yn flaenorol? Wel, mae'n debyg fod Universities UK wedi dweud wrthynt na allent siarad â'i gilydd hyd nes eu bod wedi cyhoeddi cynigion, oherwydd gallent dramgwyddo'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Holais brif weithredwr Universities UK yn y derbyniad yn Techniquest lle'r oedd y Gweinidog yn siarad. Addawodd ddod yn ôl ataf, ond nid wyf wedi clywed ganddi eto, felly mae gwir angen inni ddeall beth y mae cydweithio'n ei olygu, ac os yw'n bosibl cydweithio yn yr Alban a chytuno ar bwyntiau sylfaenol o egwyddor, pam nad yw'n bosibl yng Nghymru, neu unrhyw le arall yn wir.

Mae digon o gydweithio ar ymchwil yn digwydd rhwng prifysgolion ar draws y DU. Er enghraifft, mae gan Gaerdydd bartneriaeth â phump o brifysgolion eraill: Caerfaddon, Bryste, Caerwysg, Southampton a Surrey. Gyda phortffolio ymchwil o dros £600 miliwn, mae SETsquared Partnership wedi cynhyrchu dros 230 o gwmnïau allgynhyrchu trwy gydweithio ar draws ecosystemau arloesi rhanbarthol. Oni bai bod prifysgolion Cymru'n cydweithio â'i gilydd, yng Nghymru ac ar draws Ewrop, ni fyddwn byth yn goresgyn yr anghydbwysedd sylweddol mewn cyllid ecwiti sy'n golygu bod cwmnïau newydd yn y rhanbarth yn codi, ar gyfartaledd, bum gwaith yn llai ar y camau cynnar nag yn nhriongl euraidd Rhydychen, Caergrawnt a Llundain.

Felly, rwy'n gobeithio y cawn glywed gan y Gweinidog sut yn union y byddwn yn symud ymlaen ar hyn. Yn amlwg, rhaid i Gaerdydd wneud rhai newidiadau. Ni allant wario arian nad yw ganddynt. Ond yn amlwg, rhaid cytuno ar y cynigion hyn mewn partneriaeth gymdeithasol â'u prif randdeiliaid, sef eu staff yn bennaf, sydd i gyd yn unigolion hynod ddeallus a chanddynt safbwyntiau cadarn, yn ogystal â'r myfyrwyr. Gobeithio, felly, y gallwn unioni llawer o'r niwed a welsom yn digwydd dros y misoedd diwethaf.

Ddirprwy Lywydd, anghofiais ddweud fy mod wedi cytuno i roi munud i Julie Morgan a Cefin Campbell. Diolch.

18:05

Diolch, Jenny, am roi munud o'ch amser i mi, ac rwy'n datgan buddiant am fod fy mab-yng-nghyfraith yn gweithio yn y brifysgol. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi ein syfrdanu'n llwyr gan y cynigion gan Brifysgol Caerdydd, wedi'u dilyn gan doriadau sydd wedi'u hargymell gan Brifysgol De Cymru a Bangor. Mae colli cymaint o swyddi yn y sector prifysgolion yn ddigalon iawn yn fy marn i, a cholli'r myfyrwyr sy'n mynd i'r prifysgolion hynny. Y myfyrwyr yw ein bywyd. Pobl ifanc yw ein bywyd, ac mae hyn yn dileu cyfleoedd iddynt.

Mae fy nghysylltiadau agosaf, wrth gwrs, gyda Chaerdydd, ac rwyf wedi fy siomi'n arw gan ba mor eang yw'r toriadau. Fel eraill, cefais lu o lythyrau gofidus iawn gan staff, y mae llawer ohonynt yn byw yn fy etholaeth. Rwyf wedi siarad â nifer o wahanol sefydliadau myfyrwyr, ac rwyf wedi cael myfyrwyr yn dod i'r etholaeth. Yn sicr, mae'r gofid yn enfawr. Felly, mae'n debyg mai fy apêl i yw y dylid cael ymgynghoriad go iawn, ac y bydd yn cydnabod yr holl deimladau a nodwyd ac sydd wedi'u datgan yn gyhoeddus yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad hyd yma.

Rydym hanner ffordd drwy'r cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r pwyntiau hyn yn cael eu hystyried, ac y bydd mwy o ffocws ar gydweithio, gweithio ar y cyd go iawn gyda staff a myfyrwyr, fel bod unrhyw benderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud am ddyfodol y brifysgol yn cynnwys mewnbwn gan y bobl ar lawr gwlad sy'n gwybod beth sy'n digwydd go iawn? Hebddynt, a heb fwy o deimlad o gydweithio a symud gyda'n gilydd, rwy'n ofni'n fawr y bydd y penderfyniadau hyn yn cael effaith negyddol iawn ar ein sector prifysgolion yng Nghymru.

Mae ein prifysgolion yn rhan o'n DNA fel cenedl. Roedd hyd yn oed Owain Glyndŵr, 500 mlynedd yn ôl, yn cydnabod pwysigrwydd addysg bellach, uwch—parhad addysg—er budd y genedl. Felly, roedd yn sioc enfawr i ni pan glywsom y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd—y perygl o golli 400 o swyddi, a chyrsiau'n cael eu torri mewn meysydd allweddol i dwf y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym sector sydd, gyda'i gilydd, yn dangos diffyg o tua £70 miliwn. Nid yw hynny'n cynnwys ergyd bellach o £20 miliwn o gyfraniadau yswiriant gwladol ac ergyd arall o tua £70 miliwn i £80 miliwn o golled trwy'r newidiadau fisa a cholli recriwtio rhyngwladol.

Yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl, galwais am adolygiad trawsbleidiol, gan gynnwys arbenigwyr yn y sector, i'n helpu i ddeall sut y gallem drwsio'r model ariannol toredig hwn, gan ei bod yn amlwg nad yw'n gweithio. Gwrthodwyd hynny gan y Gweinidog; mae hi wedi dweud ei bod yn cynnal ei hadolygiad ei hun. Felly, fel Jenny Rathbone, hoffwn ddeall ychydig mwy am fanylion yr adolygiad hwnnw, oherwydd yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn hytrach na chuddio y tu ôl i adolygiad San Steffan, ni fydd Cymru'n cael ei chynnwys yn ffurfiol mewn adolygiad o addysg uwch ar gyfer y DU. 'Ble mae hynny'n ein gadael ni yng Nghymru?' yw fy nghwestiwn innau hefyd i'r Gweinidog.

Yn amlwg, mae angen inni weithio'n gyflym oherwydd yr effaith ddomino a welsom ar draws ein holl brifysgolion sy'n wynebu diswyddiadau gwirfoddol, diswyddiadau gorfodol, campysau dan fygythiad o gau. Ni allwn barhau fel hyn, neu fe fydd y sector cyfan yn cael ei anrheithio. Felly, mae angen inni weithio'n gyflym i ddiogelu'r sector uwch a gwireddu breuddwydion Owain Glyndŵr 500 mlynedd yn ôl.

18:10

Galwaf ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i ymateb i’r ddadl—Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl fer hon. Hoffwn ddechrau drwy ddweud mai teitl y ddadl fer a gyflwynwyd yw 'Sicrhau bod gan Gymru sector prifysgol llewyrchus', ac felly mae'r sylwadau a baratois yn ymwneud â hynny, ac rwy'n credu mai dyna'r defnydd mwyaf priodol o'r amser.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud, wrth i'n prifysgolion wynebu cyfnod anodd o drawsnewid, ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn meddwl i'r dyfodol am yr hyn rydym am ei weld gan ein prifysgolion yng Nghymru a sut y gallem gyflawni hynny. Os caf ailadrodd yn fyr y mesurau a roddwyd ar waith gennym i fynd i'r afael â'r heriau tymor byr a mwy hirdymor hyn, cyn troi wedyn i roi sylw i alwadau a glywais o rai mannau i newid ein polisi cymorth i fyfyrwyr, ac rwyf am orffen gyda'r camau pellach y byddwn yn eu cymryd dros y misoedd nesaf yn ein proses o ddiwygio addysg uwch.

Yn gyntaf, rydym eisoes ar daith hir i ddiwygio addysg drydyddol yng Nghymru. Yn nhymor presennol y Senedd, fe wnaethom basio'n unfrydol fel Senedd Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae'r Ddeddf honno'n nodi, ar ei brig, yr egwyddorion a fydd yn sylfaen i ddyfodol ein sector addysg drydyddol, gan gynnwys hyrwyddo dysgu gydol oes, cyfle cyfartal ac ehangu mynediad, mwy o gyfranogiad ar draws pob math o addysg ôl-16, a mwy o gydweithio a chydlyniant yn ein sector addysg drydyddol. Ddirprwy Lywydd, lluniwyd y Ddeddf a'r egwyddorion hyn gyda'r heriau sydd bellach yn wynebu'r sector yn gadarn mewn cof. Heddiw, cyrhaeddwn gam newydd yn y daith barhaus i ddiwygio addysg drydyddol gyda chyhoeddi cynllun strategol Medr, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf 2022, a byddaf yn siarad ychydig mwy am hynny yn nes ymlaen.

Ddirprwy Lywydd, i fynd i'r afael â'r heriau mwy uniongyrchol sy'n wynebu'r sector addysg uwch, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth a mwy o refeniw ar gael i'n sefydliadau. Rydym wedi cynyddu'r cap ar ffioedd dysgu ddwy flynedd yn olynol, a chyda'i gilydd, rydym bellach wedi cynyddu cyllid addysg uwch Medr £28.5 miliwn eleni, o'i gymharu â'r gyllideb a osodwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Rydym hefyd wedi cadarnhau ein buddsoddiad parhaus yn Cymru Fyd-eang am flwyddyn arall er mwyn hyrwyddo ein prifysgolion yn rhyngwladol, ac rydym wedi nodi ein cynlluniau i ailsiapio Academi Seren, gan gynnwys mwy o ymgysylltiad rhwng tîm Seren a'n prifysgolion i sicrhau ein bod yn hyrwyddo Cymru fel lle i astudio ar gyfer ein dysgwyr sydd â'r potensial uchaf, ni waeth beth fo'u cefndir.

Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y cyllid cynhaliaeth mwyaf hael yn y DU i fyfyrwyr israddedig amser llawn, gyda'r lefelau uchaf o gymorth grant nad yw'n ad-daladwy yn cael ei ddarparu i'r rhai mwyaf anghenus. Mae ein model cyllido addysg uwch yn sicrhau bod ein prifysgolion yn cael lefelau cymharol o gyllid fesul myfyriwr i'r hyn a gânt yn Loegr, tra bod ein cyfraniad cyffredinol at gostau addysg uwch drwy grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr yn golygu ein bod yn gwario mwy na dwywaith cymaint â Llywodraeth y DU fesul myfyriwr. Credwn fod y dull hwn o ariannu addysg uwch yn gwneud defnydd effeithiol o arian cyhoeddus a chydbwysedd teg o gyllid i fyfyrwyr a sefydliadau, ond rhaid inni wneud popeth yn ei gallu, a dyna pam ein bod ar hyn o bryd yn gwerthuso pecyn cymorth myfyrwyr Diamond, gyda'r canfyddiadau cychwynnol i ddod yn yr hydref.

Ddirprwy Lywydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi clywed galwadau cynyddol o rai mannau i fenthyciadau i fyfyrwyr gymryd lle peth neu'r cyfan o'n cynllun grantiau myfyrwyr, ac i ailgyfeirio'r cyllid hwn i brifysgolion. Heb fynd i ystyried ai dyma'r peth iawn i'w wneud, hoffwn roi amser yn y Siambr i nodi pam ei bod yn annhebygol ar hyn o bryd y byddai polisi o'r fath yn fforddiadwy heb doriadau i gyllid cynhaliaeth myfyrwyr. Mae ein cyllideb benthyciadau myfyrwyr wedi'i chyfyngu gan Drysorlys EF, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'n gwariant benthyciadau myfyrwyr gostio'r un faint neu lai na phe baem yn cymhwyso polisi Lloegr. Mae bellach yn debygol ein bod wedi cael y swm llawn o wariant ar fenthyciadau y bydd Trysorlys EF yn ei ddarparu, oherwydd bod ein pecyn cynhaliaeth myfyrwyr wedi cynyddu mwy na'r hyn a geir yn Lloegr dros sawl blwyddyn drwy ei gyswllt â'r cyflog byw cenedlaethol, polisi sydd wedi'i gefnogi gan bleidiau ar draws y Senedd hon.

Felly, byddai unrhyw doriadau i grantiau yn galw am dorri hawl i gyllid cynhaliaeth myfyrwyr yn gyffredinol, ac o ystyried dosbarthiad ein hawliau i grant myfyrwyr, byddai'r toriadau hyn yn taro'r myfyrwyr tlotaf yn waeth. Byddai gan fyfyrwyr lai o arian yn eu pocedi ac rwy'n credu ei bod yn debygol y byddai'n niweidio yn hytrach na helpu ein huchelgais i gynyddu cyfranogiad ac ehangu mynediad. Nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n barod i'w wneud, ac rwy'n siŵr nad yw'n rhywbeth yr hoffai Aelodau o'r Siambr hon ei weld ychwaith.

Ddirprwy Lywydd, mae gosod cyllidebau benthyciadau myfyrwyr yn faes polisi technegol iawn gyda rhyngddibyniaeth sylweddol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ceir agweddau pwysig ar y maes polisi hwn lle credwn y gallai fod mwy o eglurder rhyngom ni a Llywodraeth y DU ynghylch y gyllideb y cytunwyd arni er mwyn inni gael mwy o sicrwydd ynglŷn â'n gallu i wneud unrhyw newidiadau i gymorth myfyrwyr yn y dyfodol. Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 3 Mawrth, rwyf wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth i mi a swyddogion ei drafod gyda Llywodraeth y DU dros y misoedd nesaf.

Ddirprwy Lywydd, fel y nodais mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar ac mewn datganiadau ysgrifenedig, ceir meysydd eraill hefyd lle'r ydym yn bwrw ymlaen â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU i lywio polisi yn y dyfodol yma yng Nghymru. Mae is-gangellorion wedi pwysleisio wrthyf pa mor hanfodol bwysig yw bod yn glir ynghylch y terfyn ffioedd dysgu disgwyliedig dros y blynyddoedd nesaf er mwyn iddynt allu cynllunio. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth y DU nodi ei pholisi ffioedd ar draws tymor seneddol presennol y DU cyn gynted â phosibl, fel y gallaf innau, yn fy nhro, roi eglurder o'r fath i brifysgolion yng Nghymru. Mae prifysgolion hefyd wedi mynegi eu pryderon fod y gofynion cyflog ar gyfer y fisa graddedigion yn rhy uchel o'i gymharu â chyflogau cyfartalog yng Nghymru, gan niweidio Cymru ymhellach fel cyrchfan ddeniadol i fyfyrwyr rhyngwladol. Byddaf yn cyfleu'r pryder hwn i Lywodraeth y DU, fel y gwn y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn ei wneud hefyd, ac yn ailadrodd ein cred fod myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol bwysig i fywyd ariannol a diwylliannol ein prifysgolion yn y dyfodol.

Os caf droi at rai o'r cwestiynau penodol a ofynnodd Jenny Rathbone: Jenny, fe ofynnoch chi a oes gennym syniad clir o sefyllfa ariannol prifysgolion Cymru, a gallaf gadarnhau hynny, yn sicr. Mae prifysgolion yn adrodd wrth Medr, sydd yn ei dro yn adrodd wrthyf i, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd cyfrinachol un i un gyda phob is-ganghellor hefyd. Mae Medr yn gwbl bendant eu cred nad oes unrhyw brifysgol yng Nghymru mewn perygl o fynd yn fethdalwr, ac nid ydym ychwaith yn edrych ar unrhyw uno.

Ar y pwyntiau a wnaed gan sawl Aelod am Brifysgol Caerdydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gofio mai ymgynghoriad yw hwn. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dal i fod ar y gweill, ac rwy'n deall o fy sgyrsiau gyda staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig gyda'r undebau llafur, eu bod wedi cyflwyno ymatebion ystyrlon iawn i'r ymgynghoriad, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n sicrhau rhywfaint o symud ar rai o'r cynigion y mae'r brifysgol wedi'u cyflwyno.

Fe gyfeirioch chi hefyd, Jenny, at gwmnïau allgynhyrchu a chwmnïau newydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau ac mewn gwirionedd, roedd yn bwnc a gododd yn ein bord gron gyda'r is-gangellorion a fynychwyd gennyf i a'r Prif Weinidog. Mae'n amlwg fod arferion da iawn eisoes ymhlith nifer o'n prifysgolion yma yng Nghymru, ond mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni geisio gwneud cymaint ag y gallwn ohono, gan ein bod yn gwybod bod ein prifysgolion yn allweddol i economïau rhanbarthol ledled Cymru. 

Ddirprwy Lywydd, wrth edrych tua'r dyfodol felly, rwyf am nodi'r camau y gallwn ac y byddwn yn eu cymryd wrth symud ymlaen i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer diwygio addysg drydyddol ymhellach, a sicrhau bod y sector yn addasu mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn diwallu anghenion Cymru. Yn gyntaf, fel y soniwyd eisoes, cynlluniwyd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a sefydlu Medr gyda'r nod o sicrhau mwy o gydweithio a chydlyniant rhwng darparwyr addysg drydyddol. Mae'r heriau presennol sy'n wynebu ein prifysgolion yn dangos i ni nad opsiwn yw cydweithio o'r fath mwyach, ond anghenraid.

Bydd cydweithio rhwng sefydliadau yn gwneud y dewisiadau strategol anodd y gallent fod yn eu hwynebu yn llai niweidiol a phoenus i sefydliadau, staff a myfyrwyr, ac ni allwn ganiatáu i'r risg ganfyddedig o dorri cyfraith cystadleuaeth fod yn rhwystr i hynny. Felly, mae Medr wedi bod yn gofyn am gyngor ar y mater ac wedi cael cyfarfod gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i helpu i egluro i brifysgolion beth sydd, a beth nad yw'n cael ei ganiatáu, ac rwy'n disgwyl gwaith pellach ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn ail, fel y soniais yn y Siambr hon o'r blaen, rwyf wedi gofyn i Medr gynnal trosolwg o'r galw am bynciau a'r ddarpariaeth o bynciau er mwyn deall y risgiau yn y dyfodol mewn unrhyw feysydd pwnc yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried ble mae angen ac a oes angen gweithredu gan y naill Lywodraeth neu'r llall neu gan Medr i gefnogi neu gymell prifysgolion, sy'n gwbl ymreolaethol, ar faterion yn ymwneud â darpariaeth a chynnwys pynciau i barhau i gynnig darpariaeth hanfodol yng Nghymru.

Yn drydydd, ceir darpariaeth benodol lle mae gan y Llywodraeth ddiddordeb mwy uniongyrchol mewn cynnal darpariaeth hanfodol, gan gynnwys addysg gychwynnol athrawon, iechyd a darpariaeth cost uchel a drud a gefnogir yn rhannol ar hyn o bryd gan Medr, megis gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a phynciau conservatoire. Rwy'n bwriadu cynnal trosolwg o anghenion ariannu'r ddarpariaeth hon a sicrhau ei bod yn gynaliadwy.

Yn bedwerydd, mae darpariaeth ran-amser wedi bod yn llwyddiant mawr i ni yma yng Nghymru, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr addysg uwch rhan-amser ers 2018. Rydym am sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn gynaliadwy, felly yn dilyn galwadau gan y Brifysgol Agored, rydym yn archwilio dichonoldeb a fforddiadwyedd cynyddu'r benthyciad ffioedd rhan-amser i adlewyrchu costau darparu cynyddol, gan sicrhau ar yr un pryd fod astudio rhan-amser yn parhau i fod yn ffordd ragorol a hygyrch i mewn i addysg uwch i filoedd o bobl ledled Cymru.

Yn bumed, dylai cynyddu cyfranogiad addysg ôl-16 yng Nghymru yn gyffredinol arwain at wella cyfraddau ymgeisio a mynediad at addysg uwch. Mae hon yn her fwy hirdymor, yn enwedig gyda thystiolaeth yn awgrymu bod mwy o fynediad at addysg ôl-16 islaw lefel 3 yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyna pam ei bod yn hanfodol nad ydym yn gwyro oddi wrth ein nod blaenoriaethol o wella presenoldeb a chyrhaeddiad mewn ysgolion a cholegau cyn ac ar ôl 16 oed er mwyn sicrhau bod gennym y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr sy'n gweld addysg uwch yn rhan o'u dyheadau. 

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddychwelyd at y cyhoeddiad yn gynharach heddiw ynghylch cynllun strategol Medr, ac mae hwn yn nodi'r nodau strategol allweddol ar gyfer Medr wrth iddo ymwreiddio'n gorff rheoleiddio ac ariannu effeithiol ac uchel ei barch. Wrth wneud hynny, mae'n nodi sut y bydd Medr yn gweithio tuag at yr uchelgeisiau a bennwyd gennym ar ei gyfer yn y Ddeddf addysg drydyddol ac ymchwil. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd Medr yn cyflawni rhaglen waith eang i gyflawni'r nodau hyn, ond rwy'n credu bod ymrwymiadau penodol a nodir ganddo yn ei gynllun sy'n berthnasol i'r pynciau a godwyd yn y ddadl heddiw.

Bydd Medr yn cyflwyno'r system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, gan sicrhau gwell goruchwyliaeth ar ansawdd sefydliadol, llywodraethiant a chyllid. Bydd Medr yn gwella ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer goruchwylio'r sector addysg drydyddol a sicrhau bod gennym y data angenrheidiol i alluogi cynllunio, cydweithredu a chydlyniant ar draws addysg drydyddol. Bydd Medr yn ymgynghori ar ei systemau a'i brosesau cyllido, ac yn sicrhau ein bod yn sicrhau'r gwerth mwyaf posibl am y symiau sylweddol o fuddsoddiad cyhoeddus yn ein prifysgolion a'n colegau. Bydd Medr yn gyrru cyfle cyfartal cynyddol mewn addysg uwch ac addysg bellach, trwy oruchwyliaeth well a rheoleiddio gweithgareddau i ehangu mynediad. A bydd Medr yn gwneud buddiannau dysgwyr a myfyrwyr yn ganolog i'w waith, ac yn creu fforwm llais dysgwyr i lywio ei bolisïau a'i benderfyniadau. A bydd yr holl waith hwn yn cael ei gyflawni gyda disgwyliad Llywodraeth Cymru a Medr y bydd ein sefydliadau trydyddol yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur. Mae hynny'n gwbl allweddol.

Felly, hoffwn fynegi fy nghytundeb â chadeirydd a phrif weithredwr Medr, yn rhagair eu cynllun: mae'n bryd gwneud pethau'n wahanol yn ein sector addysg drydyddol. Felly, galwaf ar yr arweinwyr yn ein sector addysg drydyddol, ar draws prifysgolion, colegau ac ysgolion, i gefnogi uchelgeisiau Medr, fel y'u nodir yn ei gynllun strategol, a gwireddu ein gweledigaeth gyfunol, os caf ddyfynnu eto o'r rhagair:

'Sector mwy cydgysylltiedig a chynhwysol, gyda llwybrau mwy eglur a mwy hyblyg i ddysgwyr. Sector mwy cydweithredol, gyda darparwyr yn cael eu hannog i ganolbwyntio ar eu cryfderau a darparu dysgu ac ymchwil o’r ansawdd gorau'.

A sector trydyddol

'sy’n diwallu anghenion ein cymdeithas a’n heconomi, gyda chyfraddau cyfranogi uwch a llai o bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.'

Diolch.

18:25

Daeth y cyfarfod i ben am 18:27.