Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.

Penderfyniadau Gwario Llywodraeth Cymru

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl benderfyniadau gwario yn cynrychioli gwerth am arian? OQ62391

Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu gwerth am arian yn ein holl wariant. Mae'r asesiad effaith integredig strategol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb, yn archwilio pob penderfyniad gwariant i alinio canlyniadau polisi ac egwyddorion gwerth gorau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er fy mod yn derbyn y gall 'gwerth' fod yn derm goddrychol, mae’n rhaid inni seilio penderfyniadau'n ymwneud â gwerth am arian ar y rheini sy’n cynrychioli gwerth i'r rhan fwyaf o'r cyhoedd, nid y rheini y mae gwleidyddion yn rhoi gwerth arnynt. O edrych ar y gyllideb ddoe, cafwyd cynnydd ar gyfer pethau fel datblygu rhyngwladol, cafwyd gwariant parhaus ar lysgenadaethau tramor, ac ar yr un pryd, torrwyd cyllid ar gyfer y Gymraeg mewn addysg a Llais. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl i’w Llywodraeth drwsio Cymru, nid i esgus bod yn genedl annibynnol â chanddi genadaethau diplomyddol. Pa mor llwyddiannus oedd llysgenhadaeth Washington yn achub cynhyrchion dur ac alwminiwm Cymru rhag tariffau Trump? Gyda chyllid cyhoeddus yn dynn yma gartref a llu o broblemau'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a wnewch chi gytuno nawr i gau holl swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.

Lywydd, rwy’n dechrau o safbwynt gwahanol i’r un a fynegwyd gan yr Aelod. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ymateb, yn gywir ddigon, i ystod eang iawn o anghenion. Mae rhai o'r anghenion hynny'n rhai a brofir gan rannau helaeth o'r boblogaeth, ac mae rhai yn anghenion llawer mwy penodol. Ni fyddem yn dweud, 'Ni fyddwn yn gwario unrhyw arian ar bobl ag anableddau gan mai dim ond 20 y cant o boblogaeth Cymru sy'n dweud eu bod yn anabl'? Felly, credaf fod y gyllideb yn llawer mwy soffistigedig nag y byddai'r cwestiwn atodol hwnnw'n ei awgrymu. Rwy’n falch iawn o’r gwaith y mae Cymru yn ei wneud, yn ein ffordd gymedrol iawn, ym maes datblygu rhyngwladol. Mae Altaf Hussain yn iawn i ddweud bod £50,000 ychwanegol yn y llinell wariant datblygu rhyngwladol a gyhoeddwyd ddoe. Mae hynny er mwyn cyfrannu at y gwaith gwych y mae llawer o glinigwyr o Gymru, yn eu hamser eu hunain ac yn wirfoddol, yn ei wneud fel rhan o’n gwaith gydag Affrica—gan ganolbwyntio gan amlaf ar anghenion menywod, a menywod nad oes unrhyw le arall ganddynt i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac eithrio drwy ymdrech wirfoddol cymaint o glinigwyr yn GIG Cymru, gyda’r cymorth cymedrol iawn hwnnw gan Lywodraeth Cymru.

O ran cau ein holl swyddfeydd rhyngwladol, wel, wrth gwrs, nid wyf yn mynd i gytuno i wneud hynny. Mae ein swyddfeydd rhyngwladol, sydd bron bob amser wedi’u cydleoli â llysgenadaethau mewn rhannau eraill o’r byd, yno nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o Gymru—fel y mae pob un ohonynt wedi bod yn ei wneud yn ystod yr wythnos hon o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi—ond maent yno i ddod â busnes i Gymru. Deilliodd y buddsoddiad a welsom yn ddiweddar yng Nghasnewydd yn hen ffatri Newport Wafer Fab, buddsoddiad o America, yn uniongyrchol o gyswllt â’n swyddfa yn yr Unol Daleithiau. Nawr, rwy'n falch o weld arweinydd yr wrthblaid yn ei le, oherwydd, pan oedd yn Washington yn ddiweddar, dywedodd ei fod o ddifrif ynglŷn â'i rôl fel arweinydd yr wrthblaid—rwy'n siŵr fod hynny'n wir—a'i fod yn dymuno bod yn Brif Weinidog er mwyn cael presenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol. Ni fydd yn gwneud hynny dros Gymru os nad oes ganddo bobl mewn rhannau eraill o’r byd yn cynrychioli Cymru a'r Llywodraeth Cymru y mae’n gobeithio ei harwain.

Cynnydd Yswiriant Gwladol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith cynnydd yswiriant gwladol ar sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OQ62404

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, Lywydd. Rwyf wedi dyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru yn llawn, gan ddarparu £1.6 biliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ac adlewyrchu anghenion datganoledig. Pan fyddwn yn gwybod faint o gyllid a ddaw i Gymru i helpu gyda chyfraniadau cyflogwyr y sector cyhoeddus, bydd y gwasanaethau hynny'n cael gwybod am y cyllid hwnnw a bydd yn cael ei drosglwyddo iddynt ar unwaith.

13:35

Mae problem fawr yma, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet, sef bod llawer o wasanaethau cyhoeddus mewn gwirionedd yn cael eu contractio i eraill eu darparu yn hytrach na'u bod yn cael eu darparu’n uniongyrchol gan bobl sy’n cael eu cyflogi gan y sector cyhoeddus. Gwyddom eisoes fod y gost i’r sector cyhoeddus o weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol yn y cannoedd o filiynau o bunnoedd. A gwyddom ei bod yn debygol y bydd angen cannoedd o filiynau yn rhagor er mwyn cefnogi’r sefydliadau eraill hynny sy’n darparu gwasanaethau hanfodol bwysig—gwasanaethau cyhoeddus fel pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal cartref, unigolion sy'n casglu gwastraff o ymyl y ffordd, yn llenwi tyllau yn y ffyrdd, yn darparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol i bobl. Pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraeth y DU y bydd y costau sy’n gysylltiedig â darparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny, o ganlyniad i'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn cael eu talu gan eich cyd-aelodau o'r blaid Lafur yn Nhrysorlys y DU i sicrhau y gellir parhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny'n ddirwystr?

Diolch i Darren Millar am ei gwestiwn pellach, Lywydd. Y cadarnhad a gawsom gan Lywodraeth y DU yw y bydd y Canghellor yn defnyddio diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o 'weithwyr y sector cyhoeddus' pan fydd yn darparu arian i wasanaethau cyhoeddus i’w galluogi i dalu am ychwanegiad i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Nawr, wrth gwrs, mae Darren Millar yn llygad ei le nad yw’r diffiniad hwnnw’n berthnasol i rai o’r sefydliadau y mae wedi cyfeirio atynt. Ac fel rwyf eisoes wedi esbonio, yn y Pwyllgor Cyllid, ac yma ar lawr y Senedd, ni allaf ryddhau arian a ddaw i Gymru i’w fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu bil nad yw wedi’i greu yma yng Nghymru. Fodd bynnag, gan fod hon yn gyllideb lawer gwell, rydym yn gallu cynyddu’r cyllid rydym yn ei ddarparu i sefydliadau'r trydydd sector, ac er enghraifft, ddoe, ar lawr y Senedd, yn ystod y ddadl ar y gyllideb, tynnais sylw at y cynnydd pellach yn y gyfradd fesul awr ar gyfer darparwyr gofal plant. Roedd yn arfer bod yn £5 yr awr; mae bellach yn mynd i fod yn £6.40 yr awr. Nawr, mae hynny i gydnabod amrywiaeth o bwysau ariannol—o ran bwyd, hyfforddiant, adeiladau—y mae'r sector hwnnw'n ei wynebu, a mater i'r sectorau hynny fydd defnyddio'r adnoddau sydd ganddynt i fodloni'r gwahanol ofynion sydd arnynt.

Hoffwn ymateb i’r pwynt a wnaeth Darren Millar, serch hynny—mae’n bwynt pwysig—am y ffaith bod gwahanol awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn ag i ba raddau y maent wedi cadw gwasanaethau'n fewnol ac wedi'u gosod ar gontract allanol. A hoffwn gydnabod hynny yn y ffordd y byddwn yn trosglwyddo'r arian a ddaw i Gymru drwy Ganghellor y Trysorlys i lywodraeth leol. Felly, rydym yn mynd i wneud hynny drwy’r is-grwpiau dosbarthu a chyllid a sefydlwyd gennym. Mae fy swyddogion eisoes wedi cael trafodaethau gyda chyfarwyddwyr cyllid awdurdodau lleol. Nid oes gennyf amheuaeth, fel yn yr holl benderfyniadau a wnawn ynghylch ariannu awdurdodau lleol, y bydd rhai yn fwy bodlon nag eraill ar y canlyniad yn y pen draw, ond hoffwn roi sicrwydd i arweinydd yr wrthblaid ein bod yn cydnabod y pwynt y mae wedi’i wneud ac rydym yn ceisio dod o hyd i’r ateb gorau iddo mewn deialog gyda’n partneriaid awdurdod lleol.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ategu'r pwyntiau a wnaed gan Darren. Rwy'n deall nad ydych mewn sefyllfa ar hyn o bryd, gan nad ydych yn siŵr ynglŷn â’r math o faterion ariannol sydd o’n blaenau, ond credaf ei bod yn dal yn ddyletswydd ar bob un ohonom i barhau i feddwl am hyn, ar eich cyfer chi ac ar gyfer unrhyw arian a ddyrennir wrth symud ymlaen.

Dim ond dau faes arall: ddoe, clywsom fod Parc Thema Oakwood, parc thema mwyaf Cymru, wedi cyhoeddi ei fod yn cau ar ôl 40 mlynedd, ac maent wedi nodi newidiadau yswiriant gwladol fel ffactor allweddol, a hefyd fod elusennau mawr fel Platfform, Marie Curie a Tenovus Cancer Care yn wynebu mwy na £250,000 mewn costau blynyddol ychwanegol. Felly, mae gennym amrywiaeth o sefydliadau sy'n ei chael hi'n anodd iawn ac mae effaith uniongyrchol yma ar un o'r mannau adloniant mwyaf eiconig yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn am eich sicrwydd y byddwch, wrth symud ymlaen, yn meddwl am y sefydliadau hynny, ac o bosibl, yn gweld a oes cyfle, i estyn cymorth hefyd ac ystyried pecyn ar gyfer Oakwood ar unwaith. Diolch yn fawr iawn.

13:40

Diolch, Jane Dodds. Wel, wrth gwrs, rwyf i a fy nghyd-Aelodau'n rhoi llawer o ystyriaeth i effaith cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Codais y pwyntiau hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan oedd yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, fel y gwnaeth fy swyddogion cyfatebol o’r Alban a Gogledd Iwerddon. Dywedodd y Prif Ysgrifennydd yn glir: mae'r Llywodraeth, er mwyn darparu’r cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i fynd i'r afael â rhai o’r tyllau yn y gyllideb a etifeddodd y Llywodraeth newydd, yn gorfod codi arian. Maent wedi dewis gwneud hynny fel hyn. Maent wedi gwneud eu penderfyniadau ynghylch y graddau y bydd cymorth ar gael, ac ni roddodd unrhyw arwydd y dylem ddisgwyl cymorth y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi’i amlinellu.

Yr ymrwymiad a roddais, ac fe’i rhoddaf eto y prynhawn yma, yw at y dibenion hyn—ac mae hyn yn mynd yn groes i egwyddor sylfaenol datganoli, sef mai Cymru sydd i wneud penderfyniadau ynghylch unrhyw arian a ddaw i Gymru, gyda'r Cabinet yn cyflwyno cynigion i’r Senedd—ac yn yr achos hwn, rwy’n barod i roi ymrwymiad cyn y ffeithiau y bydd yr arian, pan ddaw, yn mynd yn syth i’r sefydliadau hynny, ac at y diben hwnnw a dim byd arall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Sam Rowlands.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r llwch newydd setlo ar drafodion ddoe, pan lwyddoch chi, wrth gwrs, i gael eich cyllideb wedi'i derbyn gan y Senedd. Ond hefyd, roedd un o’r dadleuon ddoe yn ymwneud â threth incwm, ac fe ddywedoch chi y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad allanol o’r pwerau treth incwm presennol. A allech chi roi amserlen i ni o’r adolygiad allanol hwn a rhagor o fanylion am yr hyn y bydd yn ei gynnwys?

Diolch i’r llefarydd swyddogol ar faterion cyllid am y cwestiwn hwnnw, Lywydd. Rwy'n cytuno bod pethau'n dawelach heddiw nag oeddent ddoe. Wel, gallwn ddweud wrtho yn gyntaf oll fod y gwaith eisoes wedi dechrau, gan imi achub ar y cyfle pan oedd Gweinidog cyllid yr Alban yma yng Nghymru ddydd Iau i gael ymdeimlad cyntaf ganddi o’r ffordd y mae’r Alban wedi defnyddio’r set ehangach o bwerau sydd ganddynt i amrywio treth incwm, o gymharu â’r pwerau sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i Weinidog yr Alban am ei pharodrwydd i rannu’r wybodaeth a oedd ganddi ac i ddweud y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni am y pwerau hynny a fu'n fwyaf defnyddiol iddynt a’r pwerau y maent wedi cael llai o lwyddiant o bosibl, wrth eu defnyddio.

Nawr, hoffwn recriwtio panel o bobl i'r adolygiad allanol a all ein helpu i lunio'r gwaith a wnânt. Nid wyf am roi cylch gwaith rhagosodedig iddynt, gan y byddant yn arbenigwyr ynddynt eu hunain, ac rwy’n fwy na pharod i gael trafodaethau gyda hwy ynghylch ble y byddant yn canolbwyntio eu hymdrechion. Rwy'n gobeithio cael adroddiad wedi'i ddarparu cyn diwedd tymor y Senedd hon. Nid yw hwn yn waith y credaf y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gwblhau ym mlwyddyn olaf y Senedd hon, ond rwyf am i Lywodraeth newydd allu elwa ar y gwaith hwnnw fel y gallant edrych i weld a oes pwerau mwy effeithiol na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Lywydd, nid yw’r pwerau sydd gennym erioed wedi cael eu defnyddio, a chyda phob blwyddyn a aiff heibio heb iddynt gael eu defnyddio, credaf mai’r hyn y mae hynny’n ei ddweud wrthym yw ei bod yn debygol nad oes modd defnyddio’r pwerau hyn fel y maent wedi'u llunio ar hyn o bryd. Os ydym am allu cymryd mwy o gyfrifoldeb yma am yr arian a wariwn, a thros wneud penderfyniadau ynghylch sut y codir yr arian hwnnw, mae arnom angen dulliau gweithredu sy'n wirioneddol bosibl eu defnyddio i'r Senedd. Hyd yma, ni chredaf fod y pwerau sydd gennym yn edrych yn debygol o fod yn y categori hwnnw. Dyna pam fod angen y gwaith arnom.

Rwy’n ddiolchgar am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlinellu rhai o’r manylion y gwnaethoch eu crybwyll ddoe hefyd, ac rwy’n cydnabod y sgwrs a gawsoch gyda Gweinidog cyllid yr Alban. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, o dan yr SNP yn yr Alban, fod pobl yn yr Alban yn talu rhai o’r trethi trymaf. Mae unrhyw un sy’n ennill dros £30,000 y flwyddyn yn yr Alban yn talu’r trethi mwyaf yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Felly, ai dyna’r math o weledigaeth sydd gennych mewn golwg ar gyfer gweithwyr yma yng Nghymru?

13:45

Wel, mae'r dulliau gweithredu eu hunain yn niwtral, Lywydd, onid ydynt? Os ydynt yn ddefnyddiadwy, gellir defnyddio'r dulliau gweithredu i leihau trethi yn ogystal â'u codi, ac ni ddylid cymryd bod dewisiadau gwleidyddol a wneir mewn mannau eraill yn creu goblygiadau uniongyrchol i'r ffordd y byddent yn cael eu defnyddio gan y Senedd. Yr hyn y mae gennyf ddiddordeb ynddo yw cael set ddefnyddiadwy o fesurau sy’n caniatáu inni ddefnyddio’r pwerau sydd gennym mewn ffordd sy’n ymateb yn well i anghenion pobl Cymru. A chawn weld beth y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud wrthym am hyn. Fel mae’n digwydd, mae defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru fel rydym wedi bod yn ei wneud hyd yma wedi codi mwy o arian yn gymesur i Gymru nag y mae pecyn yr Alban wedi’i godi ar gyfer yr Alban. Felly, mae rhai pethau diddorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwn eu dysgu nawr, o ystyried profiad cyferbyniol y ddwy wlad. Rwyf am i’n polisi gael ei lywio gan dystiolaeth. Hoffwn ddarparu set o opsiynau y gall Llywodraeth newydd eu hystyried, ond nid wyf am geisio darogan sut y byddai unrhyw Lywodraeth yn defnyddio’r dulliau gweithredu sydd, ynddynt eu hunain, yn niwtral.

Rwy’n ddiolchgar, unwaith eto, am eich ymateb i hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydych yn llygad eich lle y dylai Llywodraethau hefyd fod yn edrych i weld lle gellir lleihau trethi ac nid eu cynyddu bob amser. Wrth gwrs, byddai pobl ledled Cymru, serch hynny, yn poeni y byddai’r Blaid Lafur yn ceisio codi trethi, fel y maent wedi’i wneud gyda’r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn San Steffan, ac fel y maent yn ei wneud gyda’r dreth etifeddiant i ffermydd teuluol hefyd. Hanes Llywodraethau Llafur, ers yn rhy hir o lawer, yw cynyddu trethi ar bobl; yn enwedig ar hyn o bryd, pan fo taer angen mwy o arian yn eu pocedi ar bobl, mae'n bryder gwirioneddol iddynt pan fydd Llywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd yn ceisio ehangu ei phwerau ar drethiant. A’r unig blaid, wrth gwrs, a fyddai’n ceisio rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl yw’r Blaid Geidwadol, sy’n cydnabod mai pobl sy’n rheoli eu harian sy’n gwybod sut orau i wario eu harian, ac fel y dywedoch chi'n gywir ddigon, dylem fod yn edrych ar opsiynau i leihau treth lle bo angen hefyd. Felly, fe ddywedoch chi yn eich datganiad ddoe nad nawr yw'r adeg iawn i gynyddu lefelau treth incwm; pryd yn eich barn chi yw'r adeg iawn i gynyddu lefelau treth incwm?

Wel, rwy'n credu imi nodi mewn ateb cynharach, Lywydd, fy mod yn credu bod y pwerau fel y’u lluniwyd ar hyn o bryd yn annhebygol o arwain at y canlyniad hwnnw. Rwy'n credu y dylai'r Aelodau Ceidwadol feddwl yn ofalus am yr hyn y maent yn ei ddweud ar y mater hwn o ystyried bod eu Llywodraeth wedi cynyddu derbyniadau treth yn economi Prydain i'r lefel uchaf ers 60 mlynedd yn ystod eu cyfnod wrth y llyw. Mae'n un peth i'r blaid ddweud bod ganddynt uchelgeisiau i dorri trethi, ond mewn gwirionedd, fe wnaethant godi trethi, a'u codi eto. Mae llusgiad cyllidol wedi golygu, yma yng Nghymru, fod miloedd ar filoedd yn fwy o bobl yn talu treth na chyn i’w blaid wneud y penderfyniad hwnnw. Felly, nid wyf yn anghytuno ​​efallai mai dyna yw uchelgais y Blaid Geidwadol, ond fe wnaethant y gwrthwyneb yn ystod eu cyfnod wrth y llyw.

Mae’r Aelod yn llygad ei le, serch hynny, Lywydd, y gall trethi ostwng yn ogystal â chodi. Gwelaf fod Cyngor Sir Penfro eleni yn lleihau’r premiwm a osododd ar ail gartrefi yn y sir o 200 y cant i 150 y cant. Rwy’n falch o ddweud bod tri awdurdod lleol yng Nghymru wedi gostwng eu codiadau treth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf o ganlyniad i’r cyllid gwaelodol y cytunwyd arno rhwng y Llywodraeth ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Felly, fe geir enghreifftiau yng Nghymru lle mae trethi'n lleihau, ac mae hynny'n gwbl groes i'r hyn a ddigwyddodd pan oedd ei blaid ef mewn grym yn San Steffan.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, heddiw, mae eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, Rachel Reeves, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwerth biliynau o bunnoedd o doriadau gwariant, a fydd yn cwympo'n arbennig o drwm ar les, a daw hyn, wrth gwrs, yn dilyn y penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i filoedd o bensiynwyr Cymru, cam na feiddiai hyd yn oed pensaer gwreiddiol cyni, George Osborne, ei ystyried. A gaf i ofyn, felly: ddoe, fe wnaethoch agor eich araith ar y gyllideb drwy gyhoeddi y gallwn droi’r gornel ar waddol erchyll cyni; ar sail yr hyn a glywsoch heddiw, a hoffech chi ailystyried eich optimistiaeth fod cyni ar ei ffordd allan?

13:50

Wel, nid wyf wedi gweld unrhyw gyhoeddiad heddiw, Lywydd. Rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd drwy'r bore, felly os bu cyhoeddiad, nid wyf wedi'i weld. Rwyf wedi gweld dyfalu yn y wasg, ond mae hynny'n wahanol iawn i unrhyw gyhoeddiad gan y Trysorlys. Os oes cyhoeddiad i ddod, rwyf am aros hyd nes y'i gwelaf.

Wel, rwy'n siŵr y byddwn yn aros am y diweddariad hwnnw gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n cymryd o’ch ymateb, felly, nad oes unrhyw rybudd na thrafodaethau blaenorol wedi’u cynnal gyda Llywodraeth Cymru.

Os caf i droi at fater arall, mae gan apiau dysgu iaith fel Duolingo rôl bwysig i’w chwarae o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, rhywbeth y gwnaeth Carwyn Jones, fel Prif Weinidog, gydnabod, gan iddo fo ysgrifennu at y cwmni yn gofyn iddyn nhw sefydlu'r cwrs. Ers i’r cwmni roi’r gorau i ddatblygu y cwrs Cymraeg yn 2023, mae'r cwrs yn dal gyda 774,000 o ddysgwyr actif ar hyn o bryd, a dros 3 miliwn o bobl wedi rhoi cynnig ar y cwrs ers 2016. Fel y byddwch chi'n gwybod, lefel A2 CEFR ydy'r cwrs ar hyn o bryd, ond wrth gwrs nod y Llywodraeth drwy Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) ydy i bob disgybl gyrraedd lefel B2. Mewn ymateb i lythyr gan Gadeirydd y pwyllgor diwylliant a’r Gymraeg, fe wnaeth eich rhagflaenydd, Jeremy Miles, ddweud yn Nhachwedd 2023:

'Yn y tymor hirach rydym wedi cytuno i gwrdd yn rheolaidd wrth i ni ddatblygu'r cynigion yn y Bil Addysg Gymraeg ac un continwwm ar gyfer sgiliau Cymraeg, er mwyn ystyried a oes gan Duolingo rôl fel adnodd i gefnogi addysgu a dysgu wrth i bobl symud ymlaen ar hyd y continwwm.'

A gaf fi ofyn, felly: a ydych chi wedi cyfarfod efo Duolingo? A wnewch chi ymrwymo i ysgrifennu atyn nhw i ofyn iddyn nhw ailgydio efo'r cwrs, a thrio parhau efo'r drafodaeth yn unol â’r hyn yr amlinellodd Jeremy Miles fyddai yn digwydd?

Wel, diolch am y cwestiwn, wrth gwrs, ac mae'r cwrs Duolingo wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Dwi'n cofio yn ystod cyfnod COVID, darllenais mai cwrs Cymraeg Duolingo oedd un o’r cyrsiau yr oedd y mwyaf o bobl yn defnyddio, so mae’n siom i fi fod Duolingo wedi penderfynu peidio â buddsoddi mwy yn y cyrsiau maen nhw'n eu darparu. Maen nhw’n dweud eu bod nhw'n mynd i fwrw ymlaen gyda'r cyrsiau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Bydd y rheini'n dal i fod ar gael i bobl, ond dydyn nhw ddim yn mynd i fuddsoddi mwy ar ddatblygu’r cyrsiau sydd ganddynt yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, mae’r Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad gyda Duolingo, gan drio eu perswadio nhw i beidio â gwneud hynny, ac i fwrw ymlaen gyda'r cyrsiau llwyddiannus sydd gyda nhw ar hyn o bryd. Yr ymateb rŷn ni wedi ei gael yw eu bod nhw eisiau defnyddio'r adnoddau sydd gyda nhw i ddatblygu rhai cyrsiau eraill. Dydyn nhw ddim wedi cau’r drws ar bethau yn y dyfodol, ond yn bresennol, dydyn nhw ddim wedi newid beth maen nhw wedi cyhoeddi.

Diolch am yr ymateb yna, a dwi'n siŵr y byddai gennych chi gefnogaeth nifer fawr iawn o Aelodau'r Senedd hon o ran trio cael Duolingo i symud ar hynny, yn enwedig gan eu bod nhw wedi newid o ran Norwyeg, a hefyd gan fod cymaint o'r gwirfoddolwyr a oedd mor barod i fod yn rhoi o’u hamser yn dal yn awyddus i barhau i wneud hynny. Felly, os oes oedd modd inni barhau i annog Duolingo, byddem ni'n gefnogol iawn i hynny.

Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu'r iaith yn y byd o’n cwmpas ni, nid dim ond yn y byd rhithiol, ac mae gwarchod enwau lleoedd Cymraeg yn rhan annatod o hynny. Byddwch chi'n ymwybodol o’r cytundeb cydweithio yn ymrwymo i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys gwarchod enwau tirweddol, elfen y mae rhanddeiliaid gan gynnwys Cylch yr Iaith yn bryderus i weld sydd wedi cael llai o sylw fel rhan o’r gwaith y mae Cadw ac eraill yn ei wneud ar ran y Llywodraeth ar y mater hwn. Oes bwriad, felly, gan y Llywodraeth i gomisiynu gwaith pellach ar yr elfen hon, ac os felly, pryd, ac os nad yw'n fwriad gennych, pam ddim?

Wel, jest i ddweud i ddechrau fod beth mae Heledd Fychan wedi'i ddweud yn wir; mae'r gwaith rŷn ni wedi'i wneud yn barod wedi canolbwyntio ar enwau y mae pobl yn eu defnyddio—nid yng nghefn gwlad, nid yn dirweddol—ac roedd hynny am nifer o resymau. Pan oedd y bobl yn gwneud yr ymchwil yn bwrw ymlaen i'w wneud e, roedden nhw wedi dod ar draws pethau doedden nhw ddim yn gallu delio gyda nhw tu mewn i'r contract oedd ar gael iddyn nhw. Mae cyfarfod gyda fi yn y dyddiadur i siarad gyda Siân Gwenllian am yr adroddiad rŷn ni wedi ei gael yn barod, ac i weld sut allwn ni nawr symud ymlaen i wneud mwy o waith yn y maes ble mae'r ymchwil ar hyn o bryd ddim wedi torri'r tir roedden ni'n ei ddisgwyl i ddechrau.

So, mae lot o waith wedi cael ei wneud, a dwi'n meddwl y bydd hwnna'n help mawr i ni, ond mae mwy i'w wneud, a dwi'n awyddus i gario ymlaen i gydweithio gyda phobl mewn pleidiau eraill gyda diddordeb yn yr un maes.

13:55
Prosiectau Buddsoddi i Arbed

3. Sut y mae prosiectau buddsoddi i arbed wedi cael eu hefelychu gan sefydliadau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru? OQ62375

Diolch i Mike Hedges, Lywydd. Mae dros £200 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y gronfa buddsoddi i arbed, gydag oddeutu £3 yn cael ei chreu am bob £1 a fuddsoddir. Mae arferion gorau wedi’u rhannu drwy brosiectau o fewn byrddau iechyd lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ddiweddar, y rhwydwaith ffyrdd strategol drwy ei brosiect goleuadau LED ar gyfer ffyrdd a thwnelau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Rwy'n eiriolwr dros y defnydd o fuddsoddi i arbed. Gall buddsoddiad ymlaen llaw leihau costau yn y dyfodol. Ar wahân i'r adeg pan ddefnyddiwyd buddsoddi i arbed i dalu costau, yn bennaf costau TGCh, creu Cyfoeth Naturiol Cymru drwy uno, mae'r rhan fwyaf o'r gwariant wedi'i ddefnyddio i leihau costau yn y dyfodol. Mae enghreifftiau’n cynnwys systemau treuliau TGCh gwell sy’n talu’r milltiredd gwirioneddol, nid y milltiredd wedi'i dalgrynnu ar gyfer un bwrdd iechyd; mewn bwrdd iechyd arall, y defnydd o oleuadau LED i leihau costau ynni. Pam nad yw cynlluniau fel y rhain wedi’u defnyddio gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac a ellir defnyddio buddsoddi i arbed i ariannu buddsoddiad mewn deallusrwydd artiffisial mewn un bwrdd iechyd fel y gellir ei efelychu wedyn gan bob bwrdd iechyd arall?

Lywydd, a gaf i ddiolch yn gyntaf i Mike Hedges am ei ddiddordeb cyson yn y pwnc hwn? Credaf imi drafod gydag ef ar achlysur cynharach y ffaith ein bod yn edrych i weld sut y gellir cynllunio cam nesaf buddsoddi i arbed, o ystyried bod y pandemig COVID wedi tarfu arno pan nad oedd capasiti i gyflawni’r mathau o weithgareddau y mae’r gronfa wedi’u cefnogi yn gyffredinol. Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn gweld a allwn ddefnyddio'r gronfa at ddibenion deallusrwydd artiffisial ai peidio. Yn sicr, lle mae un bwrdd iechyd yn llwyddo i ddefnyddio strategaethau buddsoddi i arbed, fy ngobaith yw y byddai hynny’n dod yn berthnasol i fyrddau eraill hefyd. Rwy'n credu efallai fod yr Aelod wedi clywed datganiad Jeremy Miles ar Betsi Cadwaladr ddoe pan gyfeiriodd yn benodol at y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn y bwrdd iechyd ym meysydd canser y fron a chanser y prostad. Gwyddom fod gofal strôc ledled Cymru yn cael ei wella’n sylweddol iawn drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial wrth ddadansoddi sganiau. Mae dermatoleg eisoes wedi defnyddio'r math hwn o ddeallusrwydd artiffisial.

Ymddengys i mi fod iechyd, ac yn enwedig ochr ymchwiliol iechyd, yn faes addas iawn ar gyfer deallusrwydd artiffisial, gyda'r gallu i ddadansoddi miliynau o sganiau blaenorol, er enghraifft, yn gyflym iawn, ac i weld a yw'r sgan o'ch blaen yn dangos unrhyw arwyddion a ddylai fod o ddiddordeb clinigol. Mae cyfle gwirioneddol yma. Mae’r ddadl am ddeallusrwydd artiffisial wedi’i nodweddu, yn gwbl briodol, gan y cwestiwn a fydd o gymorth neu a fydd yn gwneud niwed i ni, ond yn y maes y mae Mike Hedges wedi tynnu sylw ato, credaf fod gobaith ar gyfer cynnydd; ar yr amod ei fod yn ddiogel ac yn foesegol yn ei ddefnydd, mae gan ddeallusrwydd artiffisial botensial gwirioneddol.

Ar hyn o bryd, wrth i bobl aros i’w biliau treth gyngor gwympo drwy'r blwch llythyrau, mae llawer o bryder ynghylch lefelau’r cynnydd yn y dreth gyngor ledled Cymru. Nawr, fel y gwyddom, gall cyllid Llywodraeth chwarae rhan sylweddol yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a sbarduno arloesedd, ond ar yr un pryd, mae'n rhaid iddo fod yn unol ag egwyddorion darbodusrwydd a gonestrwydd ariannol. Nawr, mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi bod yn weithredol ers 2009, ac mae Llywodraeth Cymru, fel rydych chi wedi'i ddweud yn gwbl briodol, wedi neilltuo £200 miliwn i dros 180 o brosiectau. Rydych chi am gefnogi hynny hyd yn oed ymhellach. Mae sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru bellach yn gorfod defnyddio'r gronfa hon i gefnogi rhai o'u mentrau eu hunain. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod achos i'w gael dros yr angen i ddarparu rhagor o opsiynau ariannu mwy hirdymor i’n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â sicrhau bod y cyllid hwn ac unrhyw gyllid a ddarperir i lywodraeth leol yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol, ei fod yn darparu'r gwerth gorau i’n trethdalwyr, a bod gonestrwydd ariannol yn cael ei gynnal bob amser?

14:00

Wel, rwy'n cytuno'n fawr â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud, Lywydd, am bwysigrwydd defnydd darbodus o adnoddau cyhoeddus, gonestrwydd yn y ffordd y cânt eu buddsoddi, a sicrhau bod y gwerth gorau yn cael ei gyflawni drwy hynny. Gwn y bydd Janet Finch-Saunders yn cofio, yr wythnos cyn y toriad hanner tymor, ein bod wedi mynd â rheoliadau drwy'r Senedd, yn deillio o Ddeddf Caffael 2023 Llywodraeth flaenorol y DU, a luniwyd i wneud yn union hynny—i wneud rhai o'r prosesau'n haws fel y gall awdurdodau lleol ac eraill fynd ar drywydd gwerth gorau yn y buddsoddiad a wnânt trwy wario symiau mawr iawn o arian cyhoeddus. Felly, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt diddorol hefyd am fuddsoddiadau mwy hirdymor a chyfnodau talu'n ôl hwy. I awdurdodau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, mae gennym gyfalaf trafodion ariannol, sy'n gweithredu yn y ffordd honno; rhaid i chi ei dalu'n ôl, ond weithiau mae'n cymryd cymaint â 30 mlynedd. Yn y gwaith a wnawn ar ail-lunio buddsoddiad i arbed ar gyfer y dyfodol, byddaf yn sicrhau bod y syniad hwnnw'n cael ei fwydo i mewn i'r trafodaethau hynny.

Bil Oedolion sydd â Salwch Terfynol (Diwedd Oes)

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Fil Oedolion sydd â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) San Steffan i sicrhau bod gofyniad i gofnodi a yw claf yn siarad Cymraeg ac, os felly, i gynnal yr asesiadau angenrheidiol yn Gymraeg? OQ62392

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Llywydd, mae’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn Fil Aelod preifat yn Senedd San Steffan. Os bydd y Bil yn mynd i’r cam nesaf, byddwn yn ystyried beth mae’n ei olygu i Gymru yn y broses cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys unrhyw ofynion iaith.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Gwnes i bleidleisio o blaid y Bil pan gafodd e ei drafod fan hyn yn y Senedd, ac mae'n deg i ddweud bod yna gonsérn am ddiogelu'n deillio o'r Bil a bod yn rhaid bod yn ofalus ynglŷn â hynny. Mae hefyd yn rhaid sicrhau bod y sefyllfa yng Nghymru, a sefyllfa'r iaith Gymraeg, yn cael ei hadlewyrchu yn y Bil yna.

Dwi'n siŵr eich bod chi wedi gweld y llythyr oddi wrth nifer o weithwyr meddygol a lliniarol ledled Cymru, sy'n codi pryderon ynglŷn â'r ffaith does dim gofyniad i gael yr asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg os yw rhywun yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, neu, mewn gwirionedd, mewn unrhyw iaith y mae'r claf yn ei siarad, ac maen nhw'n codi nifer o bryderon amlwg am hynny. A all yr Ysgrifennydd Cabinet sicrhau, os bydd pethau'n mynd ymlaen i'r cam nesaf, y byddwch chi yn sicrhau bod y sefyllfa unigryw yng Nghymru yn cael ei chynrychioli yn y Bil, gwneud yn siŵr eich bod chi'n dweud hynny wrth y Llywodraeth yn San Steffan, ond, yn bwysicach byth, fod pobl Cymru'n cael eu diogelu? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol. Gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau ychwanegol? Yn ddiweddar, ailddarllenais i ei gyfraniad ef—cyfraniad teimladwy iawn—yn y ddadl yn y Senedd ar farw â chymorth. Heddiw, mae'r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar un o'r materion ymarferol a gweithredol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw pe bai'r Bil yn llwyddo. Mae'r Llywodraeth yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg ac yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yng nghyd-destun marw â chymorth. 'Mwy na geiriau' yw cynllun Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac, yn ganolog i'n dull ni, mae egwyddor y cynnig gweithredol, sy'n gosod cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach nag ar y claf neu ddefnyddwyr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt.

Nawr, mae gwelliannau wedi cael eu rhoi i lawr dan enw Liz Saville-Roberts a Jack Abbot, un o Aelodau Seneddol Llafur, sydd yn mynd, os maen nhw'n llwyddo—. A does dim safbwynt gan y Llywodraeth yn San Steffan, achos private Members' Bill yw e, ond, os bydd y gwelliannau'n llwyddo, maen nhw yn mynd i roi dyletswyddau ar y cyrff iechyd i roi nid jest gwasanaethau yn Gymraeg ond pethau penodol yn y sefyllfa y mae'r Bil yn cyfeirio ati, a bydd cyfle i ni, pan fydd trafodaethau ar lawr y Senedd, gefnogi'r pethau y maen nhw wedi'u rhoi lawr.

14:05

Noswaith dda. Mae nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng ngogledd Cymru wedi fy nghopïo i mewn i'w llythyrau ymgyrchu am anghenion penodol siaradwyr Cymraeg yn gysylltiedig â'r Bil Oedolion sydd â Salwch Terfynol (Diwedd Oes). Ar ôl i mi gyfeirio hyn at y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol, a gadeirir gennyf, rhannodd Hospice UK hyn gyda'u cymheiriaid sy'n ymgysylltu â phwyllgor y Bil yn Senedd y DU ar welliannau, a bydd cymorth i farw yn eitem agenda allweddol yng nghyfarfod ar y cyd y grwpiau trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol ac ar angladdau a phrofedigaeth ar 2 Ebrill, pan fydd y Farwnes Finlay yn siarad.

Fel y dywed y llythyr, 'Ni fydd yn bosibl gwneud unrhyw asesiad o bresenoldeb neu absenoldeb gorfodaeth os yw'r meddygon cydlynol ac annibynnol ac unrhyw weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig yn cael y sgyrsiau angenrheidiol yn Saesneg gyda siaradwr Cymraeg.' Pa ymgysylltiad a gawsoch chi, felly, gyda phwyllgor y Bil yn San Steffan, neu y byddwch chi'n ei gael gyda Llywodraeth y DU, ynglŷn â hyn a phleidlais mis Hydref diwethaf yn y Senedd hon yn erbyn cefnogi'r ddeddfwriaeth honno yn Senedd San Steffan?

Wel, mae nifer o bwyntiau yno, Lywydd; yn gyntaf oll, diolch i Mark Isherwood am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol, ac i'r grŵp am y gwaith a wnânt, ac rwy'n siŵr y bydd y cyfarfod yn gynnar ym mis Ebrill gyda'r Farwnes Finlay yn un addysgiadol iawn. Mae angen i mi wneud y pwynt eto nad Bil Llywodraeth yw hwn, felly nid oes trafodaeth rhwng Llywodraethau yn ei gylch, oherwydd nid y Llywodraeth yn San Steffan sy'n gyfrifol am y Bil. Bil Aelodau preifat yw'r Bil, ac mae ein gweithdrefnau ein hunain ar gyfer ymdrin ag unrhyw gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn wahanol ar gyfer Biliau Aelodau preifat i'r hyn ydynt ar gyfer Biliau'r Llywodraeth.

Fel y dywedais yn fy ateb i Rhys ab Owen, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gwelliannau'n cael eu cyflwyno nawr i'r Bil sy'n gwneud nifer o bethau pwysig iawn wrth ateb rhai o'r pryderon sydd wedi eu codi. Byddai'r gwelliannau, er enghraifft, yn gosod gofyniad i ymarferwyr meddygol, pan fyddant yn cynnal trafodaethau rhagarweiniol, drafod gyda'r unigolyn beth yw eu dewis iaith, y Gymraeg neu'r Saesneg; os mai Cymraeg yw dewis iaith yr unigolyn, bydd gofyniad pellach i o leiaf un aelod o banel amlddisgyblaethol feddu ar hyfedredd rhugl yn y Gymraeg; ac os darperir gwasanaethau neu swyddogaethau i'r unigolyn hwnnw, bydd hawl i'r unigolyn sy'n ceisio cymorth i ddod â'u bywyd eu hunain i ben gael y gwasanaethau hynny yn eu dewis iaith, a byddai gofyniad pellach i'r cofnodion meddygol gofnodi'n benodol fod y dewisiadau hynny ar gael.

Rwy'n credu bod y pwyntiau a godwyd yn yr ohebiaeth yn rhai pwysig iawn. Mae camau ar y gweill nawr i roi mesurau diogelu newydd yn y Bil hwnnw. Fel Bil Aelodau preifat, ni fydd y Llywodraeth yn ffurfio barn arno, naill ai yn San Steffan nac yma, ond mae yna Aelodau Seneddol Cymreig sy'n rhan o Gyfnod Pwyllgor y Bil hwnnw, a bydd ganddynt y gwelliannau hynny o'u blaenau nawr.

Y Gyllideb Derfynol

5. Sut y bydd cyllideb derfynol 2025-26 Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer Delyn? OQ62407

Diolch i Hannah Blythyn, Lywydd. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys cyllid gwaelodol ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. Mae sir y Fflint yn un o fuddiolwyr y cyllid hwnnw, a bydd yn cynorthwyo'r cyngor i wasanaethu trigolion Delyn.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Diolch i chi am eich holl waith ar osod a chyflwyno'r gyllideb hon. Mae'n iawn dweud mai dyma'r gyllideb sy'n troi'r gornel i'n gwlad ac yn ein gosod ar y ffordd i adferiad yn sgil cyni, ac mae'n gyllideb a fydd yn gwneud gwahaniaeth i Delyn, o'r cyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant ac arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, i'r buddsoddiad tuag at drwsio ffyrdd. Mae'n sicr yn cyferbynnu'n llwyr â blynyddoedd blaenorol, pan fu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, wneud dewisiadau anodd ynglŷn â ble i wneud arbedion fel y'u gelwid. 

Ond yn anffodus, mae realiti'r 14 mlynedd o gyni'n golygu y bydd hi'n cymryd mwy nag un gyllideb yn unig, boed yma neu yn San Steffan, i ddadwneud yr effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n cydnabod y gwahaniaeth y bydd cyllid gwaelodol yn ei wneud i awdurdodau lleol fel fy un i yn sir y Fflint, ond maent yn dal i wynebu'r sefyllfa annymunol o orfod gwneud y penderfyniadau anodd hynny wrth osod cyllideb, ac rwy'n siŵr y gallwch gydymdeimlo â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Er fy mod yn sylweddoli nad ydych wedi cael cyfle i gael eich traed danoch ar ôl y gyllideb hon, hoffwn ofyn: a ydych chi'n dal i allu nodi'n glir eich ymrwymiad chi ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio mewn perthynas â setliadau cyllido yn y dyfodol, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sy'n eu darparu? 

14:10

Lywydd, diolch i Hannah Blythyn am y pwyntiau hynny, ac am y gefnogaeth a roddodd i'r gyllideb ddoe. Mae sir y Fflint yn cael budd o'r cyllid gwaelodol, ond nid yw hynny'n golygu nad oes penderfyniadau anodd iawn y bydd awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru yn eu hwynebu. Yr hyn rwy'n gofyn iddynt ei wneud bob amser yw sicrhau eu bod mewn deialog agos â'u cymunedau lleol, naill ai i esbonio pam eu bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethant, neu i sicrhau bod y penderfyniadau hynny'n adlewyrchu dylanwad eu poblogaethau lleol.

Diolch i Hannah Blythyn am dynnu sylw at ambell fater na lwyddasom i dreulio llawer o amser arnynt ddoe. Un o'r materion y byddwn yn sicr yn parhau i'w trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yw'r ffaith y bydd gwerth £120 miliwn o fenthyciadau i llywodraeth leol bellach, gyda chymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru, yn eu galluogi i roi sylw i anghenion ffyrdd a phalmentydd lleol. Nawr, rydym wedi dod i'r prif gytundeb hwnnw. Mae mwy i'w drafod gyda'n cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei rannu yn y ffordd orau bosibl, ac ar y gwaith pwysig iawn y mae'r is-grŵp cyllid yn ei wneud gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant dros y flwyddyn i ddod, bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i fod o gwmpas y bwrdd ac yn gweithio gyda'r rhai sy'n gwneud cymaint i ddarparu gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywyd pob dydd ym mhob rhan o Gymru. 

Ymgynghoriad Cydgrynhoi'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymgynghoriad cydgrynhoi'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a ddaeth i ben ym mis Ionawr? OQ62383

Llywydd, mae'r Gweinidog Gwladol dros Lywodraeth Leol a Datganoli Lloegr ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi gohebu ar yr ymgynghoriad 'Addas ar gyfer y dyfodol'. Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin â chynigion ar gyfuno asedau, buddsoddiad lleol a rhanbarthol a llywodraethu cynlluniau.

Diolch ichi am yr ymateb hwnnw, a diolch hefyd am y llythyr wnes i ei gael ddydd Llun, ynghyd â'r ymgynghoriad. Fe wnaethoch chi nodi yn y llythyr hwnnw fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod manteision cynllun pensiwn llywodraeth leol i Gymru a'u bod wedi rhannu'r cynigion ymlaen llaw gyda chi fel Llywodraeth. Gaf i ofyn a oedd unrhyw beth yn peri pryder i chi o'r hyn roedden nhw wedi sôn wrthych chi amdano'r adeg honno, ac unwaith y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gasgliadau terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad, oes bwriad ganddyn nhw i drafod ymhellach efo chi fel Llywodraeth?

Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Dwi'n siŵr y bydd bwriad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gario ymlaen i drafod pethau gyda ni fel Llywodraeth yma yng Nghymru, a gallaf ei ddweud wrth Aelodau eraill, achos mae rhai pobl wedi bod yn becso am hynny.

Roedd y llythyr a gawsom gan y Gweinidog yn Llundain yn glir iawn. Meddai: 'Hoffwn fanteisio ar y cyfle i'ch sicrhau nad wyf yn gweld yr angen i gronfa Cymru uno â chronfeydd Lloegr. Rwy'n credu y byddai gwneud hynny'n creu perygl o golli manteision cronfa sydd â diddordeb cryf mewn optimeiddio buddsoddiad o fewn economi Cymru.'

So, mae hwnna'n bwysig, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi gweld hynny. 

Mae un peth arall yn y Bil yn San Steffan rŷn ni'n dal i fod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig arno.

Hoffent weld pob cronfa bensiwn yn cael eu sefydlu fel cwmnïau rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae cronfa Cymru yn un o dair nad ydynt yn trefnu eu hunain yn y ffordd honno. Rwy'n credu yr hoffwn fod mewn deialog gyda Llywodraeth y DU i sicrhau, os bydd y dull a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dod yn orfodol ar gyfer pob cronfa, fod digon o amser i gronfa Cymru wneud yr addasiadau hynny. Nid wyf yn meddwl ein bod o reidrwydd yn erbyn y syniad, ond rydym am wneud yn siŵr fod gan gronfa Cymru amser i addasu ei waith er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag unrhyw rai o'r gofynion newydd hynny.

Y Sector Cerddoriaeth

7. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu cyllid i gefnogi'r sector cerddoriaeth wrth benderfynu ar gyllideb ddrafft 2025-26? OQ62387

14:15

Lywydd, roedd y buddsoddiad ychwanegol sylweddol ar gyfer sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru yn y gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r meysydd pwysig hyn. Mae'r gyllideb derfynol yn darparu £4.4 miliwn ychwanegol, sydd, gyda'i gilydd, yn gynnydd o 8.5 y cant i'r sector o'i gymharu â'r gyllideb refeniw eleni.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn fy etholaeth i mae gennym draddodiad hir o greu cerddoriaeth o'r radd flaenaf, ac mor aml mae hynny o ganlyniad i waith gwirfoddolwyr, fel Cerddorion Ifanc Maldwyn, sy'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn. Gwn hefyd fod gwaith gwych yn cael ei wneud gan y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth ym Mhowys, sy'n gwneud gwaith da iawn yn cefnogi'r gweithgaredd ar gyfer plant a phobl ifanc.

Nawr, rwy'n croesawu'r arian a grybwylloch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond tybed a allech chi nodi cynllun i sicrhau bod cyllid yn cael ei gynyddu mewn termau real dros y blynyddoedd nesaf i helpu i gefnogi'r sector o lawr gwlad, i ysgolion, i weithgareddau allgyrsiol. A beth arall y gallwch chi ei wneud, ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol, fel Cerddorion Ifanc Maldwyn, i sicrhau bod yr arian a ddyrannwyd yn effeithiol ac yn sicrhau'r effaith orau?

Diolch i Russell George am hynny, ac rwy'n siŵr fod bywydau llawer o bobl ifanc yn ei etholaeth yn cael eu siapio gan y cyfleoedd a gânt i gymryd rhan mewn cerddoriaeth ac i elwa o'r ymdrech wirfoddol wych y mae cymaint o bobl yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n parhau i fod ar gael. Ni allaf nodi cynllun heddiw, Lywydd, oherwydd nid oes gennyf gyllideb y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Ond ar 11 Mehefin, mae'r Canghellor yn addo y byddwn yn gweld canlyniadau'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, a bydd hwnnw'n darparu gorwel o dair blynedd ar gyfer gwariant refeniw a gorwel o bedair blynedd ar gyfer gwariant cyfalaf yma yng Nghymru, ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n credu y bydd gallu cynllunio llwyfan ariannu i'r dyfodol yn dod yn fwy posibl i ni.

Wrth gwrs, nid Gweinidogion sy'n gwneud y penderfyniadau ar ddyraniadau arian, cânt eu gwneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond pan fydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud, mae'r Llywodraeth yn parhau i fod yn awyddus i weithio ochr yn ochr â'n hawdurdodau lleol a'n prif gyrff celfyddydol i sicrhau eu bod yn parhau i gyfoethogi bywydau pobl yma yng Nghymru.

Cynnydd yn y Dreth Gyngor

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu cartrefi yng Nghymru rhag cynnydd yn y dreth gyngor? OQ62400

Lywydd, mae gosod cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor bob blwyddyn yn fater i'r awdurdodau lleol eu hunain. Gofynnaf i gynghorau ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd, ac i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau ar y penderfyniadau a wnânt.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nodais yn fy nghyfraniad ar y setliad llywodraeth leol ddoe fy mhryder fod ymgynghoriad Castell-nedd Port Talbot ar y gyllideb wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhagdybio y bydd y dreth gyngor yn codi 9.3 y cant ledled Cymru, ac awgrymwyd bod eu treth gyngor yn codi 7 y cant. Fel y dywedais yma ddoe, roedd yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi'i weld yn cael ei gyhoeddi o'r blaen, a rhywbeth ynddo'i hun a allai godi'r dreth gyngor yn ddiangen neu'n anghymesur. Cefais fy sicrhau gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw ragdybiaethau.

Mae gennyf ddiddordeb yn yr ymgynghoriad hwnnw am fod gennyf ferch sydd bellach yn byw yn yr ardal. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi fy sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagdybiaethau ar gynnydd yn y dreth gyngor, ac y byddwch yn edrych i weld pam y byddai cyngor yn cyhoeddi'r fath beth? Mae'n ymddangos o bosibl mai er mwyn cyfiawnhau eu cynnydd eu hunain yn y dreth gyngor y gwnaethant hynny.

Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, yn edrych i weld sut y cafodd hynny ei ddweud. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod nad yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi unrhyw ragdybiaeth o'r fath. Mae gweithgor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gwneud rhagdybiaeth eu hunain pan fyddant yn darparu cyngor drwy CLlLC. Fy nealltwriaeth i yw nad oedd yn debyg i'r ffigur a ddyfynnwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.

Y Sector Bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru

1. Beth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i gefnogi'r sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OQ62381

Member
Huw Irranca-Davies 14:19:48
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, Sam. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant bwyd a diod yng ngogledd Cymru drwy amrywiaeth o raglenni cymorth, gan gynnwys canolfan technoleg bwyd Grŵp Llandrillo Menai, cymorth datblygu cyfalaf a masnach helaeth, a rhwydweithiau arloesi a thechnoleg hefyd i gefnogi twf yn y dyfodol.

14:20

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod pwysigrwydd y sector bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru. Wrth gwrs, mae'n cynnwys pwysigrwydd cyfleoedd allforio i gynhyrchwyr bwyd a diod yn y rhanbarth, ac yn arbennig yn Wrecsam, lle mae'n ymddangos bod mwy o sylw rhyngwladol nag erioed oherwydd llwyddiant y clwb pêl-droed yn Wrecsam.

Rwyf am ganolbwyntio ar rai cyfleoedd penodol yno gydag allforion i'r Unol Daleithiau, a rhai o'r rhwystrau posibl a allai fod yn y dyfodol. Hoffwn dynnu sylw at gwmnïau fel Jones' Village Bakery, gyda'u crempogau Americanaidd, a Wrexham Lager, sydd bellach yn cael ei werthu mewn 29 talaith yn UDA, o Efrog Newydd i California. Mae'n wych i'r busnesau hynny, yn wych i weithwyr yng ngogledd Cymru ac yn dda i Gymru weld y brandiau hynny yn yr Unol Daleithiau hefyd. Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol fod Arlywydd newydd yn y Tŷ Gwyn yn UDA a pheth o'r rhethreg a welir ar dariffau a rhyfeloedd masnach posibl yn y dyfodol, a byddai'r rhwystrau masnach hynny'n ofnadwy i fusnesau Cymru hefyd, yn enwedig y busnesau y tynnais sylw atynt yn Wrecsam.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth Prydain a llysgenhadaeth Prydain yn Washington, i sicrhau bod lleisiau busnesau bwyd-amaeth Cymru yn cael eu clywed. A pha fesurau sy'n cael eu cymryd i atal y sector rhag cael ei effeithio gan unrhyw dariffau posibl yn y dyfodol? Diolch. 

Sam, diolch ac mae'n gwestiwn da. Yn wir, fel y nodais wrth y Senedd eisoes, y llynedd, roeddwn yng nghynhadledd newid hinsawdd Efrog Newydd, a oedd yn rhan hollbwysig o'n rôl fel cenedl lai sy'n gwneud yn well na'r disgwyl. Tra oeddwn yno, cyfarfûm â rhai o'r cyflenwyr yn y gadwyn fwyd ehangach ac edrychwyd ar y cyfleoedd a'r llwyddiant sydd gennym eisoes mewn marchnadoedd mewn lleoedd fel Texas. Mae Texas mor fawr â gwlad ynddi ei hun ac mae'r galw yno am gynnyrch Cymreig, gan gynnwys pethau fel caws, yn rhyfeddol. Rwy''n cymeradwyo'r brandiau sy'n cael eu hadnabod yn dda, fel y becws a grybwyllwyd gennych, Wrexham Lager, ac ati, ac mae rôl chwaraeon ynghlwm wrth y rheini yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i dyrchu'r marchnadoedd allforio hynny hefyd. Ac yn rhyfedd, yng ngoleuni'r drafodaeth gynharach am rôl Cymru yn rhyngwladol a gweithio gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â'n teithiau masnach ein hunain, i hyrwyddo hynny'n drwm iawn, felly ein marchnadoedd mawr yn y dwyrain canol, yn America, ac yn y blaen.  

Ond yn sicr, Sam, gallaf weld lle rydych chi'n mynd gyda'r cwestiwn hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu, fel y gwnawn bob amser, â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd clywed llais Cymru, a chynhyrchwyr sylfaenol a ffermwyr Cymru, ond hefyd y sector bwyd a diod cyfan yng Nghymru, sydd wedi bod yn gymaint o lwyddiant—tyfodd 10 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ddata ar ei chyfer, sef 2023; rydym yn gwneud yn well na'r disgwyl—ond gan sicrhau, mewn unrhyw gytundebau masnach, boed hynny gydag UDA neu gytundebau masnach eraill yn rhyngwladol, nad ydynt o anfantais, a'u bod mewn gwirionedd yn fuddiol i'n cynhyrchwyr a'n cadwyn gyflenwi.

Digwyddiadau Tywydd Garw

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am barodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau tywydd garw? OQ62406

Diolch, Pred. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid mewn fforymau lleol Cymru gydnerth ac ar draws y gymuned ymatebwyr yng Nghymru i gynllunio ar gyfer ystod eang o risgiau, i ymateb iddynt ac adfer yn eu sgil, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â risgiau tywydd garw.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. 

Mae'r stormydd a darodd Gymru dros y misoedd diwethaf wedi effeithio'n drwm ar y cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Wynebodd cartrefi na fu modd eu hyswirio ar ôl stormydd 2020 lifogydd eto ychydig cyn y Nadolig. Digwyddodd yr un peth i glybiau rygbi ar hyd a lled y Cymoedd o Gaerllion i Dredegar Newydd.

Un o'r pethau mwyaf annifyr i mi oedd ymddangosiad llyncdwll mawr a agorodd yng ngardd gefn pensiynwr gweddw yn Nhrecelyn. Cafodd ei archwilio gan swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a phenderfynwyd wedyn nad oedd unrhyw rwymedigaeth i atgyweirio'r llyncdwll. Daethpwyd i'r penderfyniad hwnnw er ei fod yn amlwg yn ffinio â lôn gyhoeddus, a'i bod yn ddigon posibl fod y broblem wedi deillio o ased cyhoeddus, a gallwn weld â fy llygaid fy hun ei fod yn hynod o beryglus. Dychmygwch straen hyn ychydig cyn y Nadolig pan fyddwch chi'n byw ar eich pen eich hun ac yn dibynnu ar eich pensiwn. Ar ôl i fy swyddfa ymyrryd, gwelodd yr awdurdod lleol synnwyr a gwneud y twll yn ddiogel i'r preswylydd, ac ar hyn o bryd maent yn gwneud gwaith atgyweirio parhaol i atal niwed pellach i'r rhwydwaith draeniau lleol.

A ydych chi'n cytuno bod angen adolygu'r ffordd yr awn i'r afael â digwyddiadau fel hyn ar frys, ac a ydych chi hefyd yn cytuno bod angen cyllid ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau a gwaith lliniaru o ganlyniad i'r tywydd cynyddol eithafol a wynebwn?

14:25

Diolch am hynny, ac rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn cydymdeimlo â'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiadau storm yn ddiweddar, oherwydd fe wyddom hefyd fod mwy ohonynt ar y ffordd. Mae hyn yn mynd i ddod, mewn rhai ffyrdd, yn gyffredin, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer y digwyddiadau hynny a sut yr ymatebwn iddynt. Roeddwn yn falch iawn, yng ngoleuni storm Bert, storm Darragh, ac yn wir y digwyddiadau gwahanol o ran eu nodweddion, ond yr un mor drawmatig mewn sawl ffordd, a gawsom yng Nghonwy hefyd, pan effeithiwyd ar hyd at tua 40,000 o bobl wedi i bibell dorri—tyfodd o 8,000 i 40,000 o bobl o fewn oriau, nid dyddiau—. Felly, rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt.

Rydych chi'n mynd â fi i faes—ni wnaf sylwadau ar yr amgylchiadau unigol, ac rwy'n falch eich bod chi fel cynrychiolydd wedi ymgysylltu â'r awdurdod lleol—ond y maes anodd rhwng atebolrwydd unigol a lle gall y Llywodraeth a'r wladwriaeth neu asiantaethau gamu i'r adwy mewn gwirionedd. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar, yn sgil y digwyddiadau diweddar, fod fy nghyd-Aelod a minnau wedi gallu trafod y gefnogaeth ychwanegol y gellid ei darparu i awdurdodau lleol i helpu. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i hon fod yn ddeialog barhaus, yn seiliedig ar broblemau lleol a'r hyn sy'n digwydd, ond hefyd ar y gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei darparu, ac roeddem yn falch o gamu i'r adwy a rhoi cyllid ychwanegol yn sgil digwyddiadau diweddar.

Rwy'n credu mai'r her yw y bydd angen i ni gadw'r momentwm hwnnw i fynd, gyda'r swm o gyllid sydd gennym ar gyfer parodrwydd ac ymateb, ond hefyd i edrych ar bob achos unigol sy'n digwydd a gweld beth y gallwn ei wneud, ond wedyn mae gennym faes anodd atebolrwydd unigol tirfeddianwyr, perchnogion tai ac yn y blaen hefyd. Fe fyddwch yn deall os na wnaf sylwadau ar yr achos unigol, ond rwy'n falch eich bod wedi ymwneud â'r trigolion yno gyda'r awdurdod lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy etholwyr sy'n byw yn Nhŷ Caer Castell ym Mracla wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur. Digwyddodd llifogydd difrifol yn 2012 ac eto ym mis Medi y llynedd. Nid y tywydd garw, hyd yn oed ar 6 Medi 2024, oedd yr unig dramgwyddwr a achosodd lifogydd o garthffosydd a adawodd bob un o'r 10 fflat ar y llawr gwaelod yn anghyfannedd ac a achosodd ddifrod difrifol i gerbydau a oedd yn eiddo i drigolion y 30 fflat yn yr adeilad. Fe wnaeth gwaith cynnal a chadw gwael yn ogystal ag esgeulustod parhaus gan yr adeiladwyr, methiannau'r cyngor lleol, Network Rail a datblygwyr eiddo i gyd chwarae rhan enfawr. Mae eu methiant i gynnal safonau seilwaith sylfaenol wedi gadael trigolion yn agored i lifogydd dro ar ôl tro. Nid yw trigolion wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chawsant eu siomi gan yr awdurdodau lleol, yn ogystal â Network Rail, a dderbyniodd gyfrifoldeb am y digwyddiad llifogydd yn 2012. Derbyniodd trigolion yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ym Mhontypridd £100,000 o gymorth, ac eto nid yw fy etholwyr i, y mae llawer ohonynt yn dal i fethu byw yn eu cartrefi hyd heddiw, wedi cael unrhyw gymorth o gwbl hyd yma, na chyngor hyd yn oed.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu preswylwyr sy'n byw mewn lleoedd fel Tŷ Caer Castell, sy'n dioddef llifogydd dro ar ôl tro er eu bod yn byw mewn ardal lle mae perygl llifogydd yn isel?

Diolch am y cwestiwn, Altaf. Rôl Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwn yw sicrhau bod gennym ddull strategol o ymdrin â llifogydd ledled Cymru, ond hefyd ein bod yn darparu'r swm o fuddsoddiad sydd ei angen—ar ffurf gywir, hefyd—fel y gall yr awdurdodau rheoli llifogydd, sef yr awdurdodau lleol yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a chyda thrigolion hefyd, rhaid i mi ddweud, wneud y penderfyniadau ar lawr gwlad i ddeall natur y mesurau lliniaru y byddai eu hangen arnynt. Felly, mewn rhai mannau—unwaith eto, nid wyf am wneud sylwadau ar y rhai unigol—gallai fod yn bympiau, mewn rhai llefydd gallai fod yn amddiffynfeydd caled ac argloddiau; gallai fod yn amrywiaeth o bethau. Ond rydym bellach wedi cael y cyllid mwyaf erioed ar gyfer rheoli perygl llifogydd, yn cynnwys eleni. Mae wedi cael ei gynnal ar £75 miliwn. Dyma'r ail neu'r drydedd flwyddyn inni ei gynnal ar y lefelau uchaf erioed. Byddaf yn cyhoeddi mwy am y rhaglen fuddsoddi ar gyfer llifogydd yn y dyfodol yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ar gyfer 2025-26 hefyd. Ond rydym yn gwybod bod yn rhaid inni barhau'r buddsoddiad hwnnw, a byddem yn gwerthfawrogi cefnogaeth Aelodau'r Senedd i wneud hynny hefyd.

Ond mae hefyd yn werth cyffwrdd â rhaglen rheoli risg arfordirol flaenllaw Llywodraeth Cymru, sydd, unwaith eto, wedi gweld £291 miliwn ychwanegol o gyllid buddsoddi dwys dros bum mlynedd. Bydd y cynllun hwnnw'n unig wedi cyllido 15 cynllun ledled Cymru, ac o fudd i 14,000 eiddo. Felly, gallwn roi'r cyllid ar waith, gallwn roi'r fframwaith ar waith, ond rwy'n eich annog chi, Altaf, ac Aelodau eraill, i ymgysylltu â'r asiantaethau rheoli llifogydd lleol, sef yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddweud, 'Sut y gallwn weithio gyda chymdogaethau unigol, strydoedd unigol ac yn wir, gydag eiddo unigol?', oherwydd nid buddsoddiad ar raddfa fawr yw peth ohono, ond materion llifogydd mewn eiddo unigol, pethau fel gatiau llifogydd, ac yn y blaen.

14:30

Mae hwn yn gwestiwn mor bwysig. Yn y Cymoedd, mae ein tirweddau yn ein gadael yn fwy agored i effeithiau stormydd. Nawr, mae rhywfaint o hynny'n naturiol, oherwydd ein bryniau, ond mae rhywfaint o'r perygl wedi'i achosi gan bobl, yn bennaf oherwydd tomenni glo sy'n gorwedd uwch ein pennau. Fis Tachwedd y llynedd, cafodd trigolion Cwmtyleri eu dychryn gan y domen lo a lithrodd i lawr y mynydd mewn glaw trwm. Gallai fod wedi bod cymaint yn waeth. Mae arolygiadau'n dal ar y gweill—mae hynny mor bwysig i dawelwch meddwl trigolion. Ond ni ddylai cymunedau sy'n byw o dan domenni glo orfod poeni bob tro y bydd hi'n storm. Dylai San Steffan fod yn talu i glirio'r tomenni hynny unwaith ac am byth. Bydd angen llawer mwy na'r £25 miliwn a addawyd inni gan Rachel Reeves. Ac er bod y ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy'r Senedd i'w chroesawu, nid yw'n mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw. Pa ddiweddariad y gallwch ei roi i'r Senedd, os gwelwch yn dda, a'r Cymoedd, ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod y ddyled sydd arnynt i ni yn cael ei thalu?

Rwy'n credu bod arnom ddyled i'r cymunedau hynny, yn sicr, yn cynnwys y gymuned rwy'n byw ynddi ym Maesteg, ac mewn mannau eraill, ond ledled holl Gymoedd de Cymru, ac mae'n cynnwys rhannau o ogledd Cymru hefyd, lle maent yn dal i fyw gyda tomenni glo sy'n dal i fod yno 20, 30, 40 mlynedd wedyn—mater y gwaddol diwydiannol y mae angen inni ymdrin ag ef. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy gyda'r arian y gwnaethom ofyn amdano ar gyfer eleni. Rwy'n gwybod bod galwadau wedi bod am £500 miliwn, £600 miliwn, £700 miliwn nawr, ond rwyf wedi egluro i'r Senedd o'r blaen, Lywydd, pan siaradais am hyn, nad yw'n fater o drin pob tomen ar unwaith; mae'n ymwneud â blaenoriaethu'r tomenni sydd angen gwaith arnynt, a bwrw ymlaen â hynny. Rwy'n falch iawn o ddweud, gyda llaw, ein bod wedi cael nifer enfawr o geisiadau o ansawdd da iawn gan sawl awdurdod lleol i dynnu'r gyfran nesaf o gyllid i lawr, ac rwy'n awyddus i gymeradwyo hynny. Rydym yn mynd yn ôl ac ymlaen at yr awdurdodau i sicrhau ei bod yn bosibl ei gyflawni o fewn yr amserlen y maent wedi'i ddweud hefyd. Ac rydym yn sôn am symiau gwerth miliynau o bunnoedd o arian a llawer o gymunedau lleol.

Mae gennym y ddyled honno i'w thalu. Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy ac yn dweud, 'Dyma'r rhandaliad cyntaf, ac rydym yn ei ystyried yn rhandaliad cyntaf'. Mae fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd cyllid, yn trafod gyda'r Trysorlys beth fydd y rhandaliad nesaf, a'r un ar ôl hwnnw a'r un ar ôl hynny, oherwydd gwelwn hyn fel partneriaeth angenrheidiol nawr, wrth symud ymlaen. Ond peidiwch â chamgymryd, rwyf wedi dweud yn glir wrth y cymunedau yr ymwelais â hwy y byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn i'r cymunedau hyn ac yn sefyll gyda hwy, oherwydd dyna'r lleiaf y maent yn ei haeddu. A bydd yn rhaid inni gyflymu'r cyllid hwn, wrth symud ymlaen. Ond bydd cyflwyno'r ddeddfwriaeth hefyd, a sefydlu'r awdurdod cyhoeddus newydd sydd â'r dasg benodol o wneud y cymunedau hyn yn ddiogel a gofalu am les y cymunedau hyn, hefyd yn gam enfawr ymlaen. Erbyn diwedd tymor y Senedd hon, byddwn wedi gwario £102 miliwn, ac am y tro cyntaf, mae gennym Lywodraeth y DU yn camu i'r adwy ac yn dweud, 'Mae gennym ran i'w chwarae.'

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddechrau drwy geisio cael rhywfaint o sicrwydd ar wytnwch a pharodrwydd ein gwlad pe baem yn cael ein taro gan—dyn a helpo—glwy'r traed a'r genau eto, neu unrhyw beth arall yn wir. Rydym eisoes wedi gweld ffliw adar ar ein ffiniau ac rydym yn gwybod, pan fydd y tywydd yn cynhesu, ein bod yn debygol o weld ymchwydd mewn achosion o'r tafod glas. Ac rwyf am gael sicrwydd i'r Senedd fod gan y Llywodraeth gynlluniau cadarn ar waith, a bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau, strategaethau, capasiti ac adnoddau priodol ar waith hefyd, pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Mae cynlluniau wrth gefn ar gyfer trychinebau a digwyddiadau yn gwbl hanfodol i'n diogelwch, ac rwy'n credu ein bod wedi dysgu hynny o COVID. Felly, rwy'n gofyn am y sicrwydd hwnnw i'r Senedd.

14:35

Gallaf roi'r sicrwydd hynny i chi, Peter. Rydym yn gwneud gwaith nid yn unig yng Nghymru, ond yn ymgysylltu ledled y Deyrnas Unedig gyda chymheiriaid, ac yn wir, ar faterion milfeddygol a bioddiogelwch, a chyda'n cymheiriaid Ewropeaidd hefyd, oherwydd yr hyn a wyddom, gyda rhai o'r clefydau hyn—ac rydym yn wynebu bygythiad triphlyg ar hyn o bryd, yn cynnwys y traed a'r genau, y tafod glas a'r ffliw adar hefyd, ond pwy a ŵyr beth a ddaw yn y dyfodol—yw nad o fewn ein ffiniau ni yn unig y mae'r ymgysylltu; mae'n ymestyn mor bell â ble y gwyddom y daw'r clefyd hwnnw ohono. Felly, o ran pethau fel y traed a'r genau ar hyn o bryd, lle cawsom yr achos diweddar yn yr Almaen, o fewn oriau, roeddem wedi ymgysylltu â'n prif filfeddygon, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac eraill, a hefyd Gweinidogion a swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd, i sicrhau bod yr achosion hynny wedi'u cyfyngu, yn ynysig, ac wedi'u trin. Ac rwy'n falch o ddweud iddo gael ei wneud yn effeithiol iawn.

Ond mae gennym gynlluniau cydnerthedd ar waith nid yn unig ar gyfer y traed a'r genau, ond ar gyfer clefydau eraill—sut yr ymatebwn, sut y trefnwn ein hadnoddau, ac nid yng Nghymru'n unig. Ond os oes digwyddiad mawr, i fod yn glir, digwyddiad mawr o'r math a welsom o'r blaen, yn anffodus, yn ôl yn 2001, bydd yr alwad uwchlaw a thu hwnt i'r hyn sydd gennyf fel arfer yn fy nghyllideb. Yr alwad fydd, 'Mae hwn yn ddigwyddiad y mae angen inni roi adnoddau tuag ato nawr, naill ai drwy Drysorlys Cymru neu ar sail y DU.' Ond mae'r cynlluniau yn eu lle. Mae'r strwythurau yn eu lle. Mae'r ymgysylltiad yn wythnosol. A'r peth cyntaf y mae'n rhaid inni geisio ei wneud yw cadw'r clefyd allan. Mae yna rôl i ni yn hynny. Mae yna rôl hefyd i'r ffermwyr da sydd allan yno i'n helpu i wneud hynny. Ond rydym yn barod, mor barod ag y gallwn fod, pe bai gennym achosion sylweddol a sefyllfa y mae'n rhaid inni ymdopi â hi.

Diolch am y sicrwydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y Senedd yn gallu clywed hynny, oherwydd rydym yn ofni y gallai'r pethau hyn ddigwydd, a gallant ein synnu ac mae angen inni fod yn barod i weithredu. Ac mae'n braf gwybod bod y pethau hynny yn eu lle.

Ysgrifennydd y Cabinet, gan symud yn ôl at rywbeth a gyhoeddwyd gan y Canghellor, gwyddom iddi gyflwyno codiad treth ar ffermydd teuluol, ond cyhoeddodd hefyd na fydd cyllid amaethyddol yn y dyfodol yn cael ei neilltuo mwyach. Mae hyn yn golygu y bydd ffermwyr Cymru yn colli £150 miliwn y flwyddyn, neu doriad 40 y cant yn y gyllideb honno. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn sesiwn graffu gyda Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, roedd yn ymddangos eich bod yn awgrymu mai'r penderfyniad hwn oedd yr un cywir, gan ddweud:

'mae'r arian yn cael ei basbortio inni...ac mae angen craffu arnaf am y penderfyniadau hynny. Mae'n cael ei basbortio inni ac rydym ni'n gwneud y penderfyniadau.'

Nawr, ymddengys bod hyn ychydig yn wahanol i safbwynt y Prif Weinidog yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ddiweddar, lle'r oedd y cam hwn, yn ddigon teg, yn ei phryderu. Mae'r ymraniad hwn yn hynod bryderus i'r gymuned ffermio, sydd angen camau cryf a phendant gan y Llywodraeth. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn union yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn? A ydych chi'n cefnogi Barnetteiddio cyllid materion gwledig, ac os nad ydych, pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cymheiriaid Llafur yn San Steffan ar y mater?

Diolch, Peter. Rwy'n hapus i egluro hynny, ac yn hapus i gadarnhau fy mod wedi cael sgyrsiau uniongyrchol ar hyn gyda fy nghymheiriaid ar lefel y DU, fel eu bod hwythau hefyd yn deall ein safbwynt clir.

Dau fater ar wahân: ynglŷn â'r neilltuo, ar egwyddor datganoli, nid ydym yn derbyn y dylai Llywodraeth y DU drosglwyddo arian i ni a dweud, 'Dyna sut y byddwch yn ei wario'. Ar egwyddor datganoli, nid yw'r hyn y dylem ei gael, yn rhyfedd ddigon, yn annhebyg i'r sefyllfa a oedd gennym cyn inni adael yr UE. Yr arian sydd gennym ar gael, rydym yn penderfynu sut i'w ddefnyddio yng Nghymru. Ein penderfyniad ni ydyw. Dyna beth rydych chi a minnau, Peter, yn cael ein hethol ar ei gyfer.

Fodd bynnag, mater ar wahân yw'r Barnetteiddio. Rydym ni, y Prif Weinidog a minnau, yn rhannu pryder ynghylch unrhyw awgrym y dylem fwrw yn ein blaenau nawr gyda dull arian canlyniadol Barnett ar gyfer amaethyddiaeth. Byddai hynny'n gwneud anghymwynas â chyfran o economi Cymru, ac nid yn unig y Gymru wledig, ond y peth yr oeddem yn sôn amdano gyda Sam yn gynharach, i'n llwyddiant mawr yn y maes hwn gyda'r diwydiant bwyd a diod. Byddai'n gwneud anghymwynas pe bai'n swm canlyniadol Barnett yn unig. Felly, rydym wedi mynegi ein barn yn glir i Lywodraeth y DU. Rydym yn croesawu'r ffaith nad ydynt yn ei neilltuo ac y gallwn fwrw ati—fel y dylem yn y Senedd hon; rydym yn Aelodau etholedig—i wneud ein penderfyniadau ar yr arian sy'n cael ei roi i Gymru drwy'r grant bloc, ond rydym wedi mynegi ein pryderon pe baent yn mynd ar drywydd Barnetteiddio setliadau yn unig yn y dyfodol.

14:40

Diolch am yr eglurhad. Mae'n dal i fy mhoeni bod perygl y gallai Barnetteiddio leihau ein cyllid i gymunedau gwledig, ac rwy'n erfyn arnoch i barhau i lobïo'n galed yn erbyn hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig dros flwyddyn yn ôl, gwelsom y brotest fwyaf a welodd y Senedd erioed, gyda ffermwyr, yn ddigon teg, wedi gwylltio oherwydd y cynllun ffermio cynaliadwy ar y pryd. Gwrandawodd Llywodraeth Cymru, a oedd yn beth da, ac fe aethoch yn ôl at y bwrdd. Ddoe, a thros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld miloedd yn protestio yn erbyn eich cymheiriaid yn San Steffan ynghylch effaith niweidiol iawn treth y Canghellor ar ffermydd teuluol. Mae angen iddynt wrando fel y gwnaethoch chi. Mae angen i ddiwydiant Cymru nawr godi llais yn gyhoeddus. Rwy'n gwybod mai'r ateb stoc yw bod rhyddhad eiddo amaethyddol yn fater a gadwyd yn ôl. Rydym i gyd yn gwybod hynny, ond mae gan Lywodraeth Cymru farn a gallant siarad yn gyhoeddus. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi wneud hynny heddiw, naill ai nawr yn eich ymateb neu yn eich ymateb yn ystod y ddadl ar y rhyddhad eiddo amaethyddol y prynhawn yma, a sicrhau'r gymuned ffermio eich bod yn sefyll gyda hwy?

Rwy'n sicr yn sefyll gyda'r gymuned ffermio ac rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd ac yn gyson â'r undebau ffermio i drafod y mater hwn dros y misoedd diwethaf, ac mewn gwirionedd, mor ddiweddar â'r dyddiau diwethaf hefyd, a byddwn yn cadw'r ddeialog honno i fynd. Ar sail ein sylwadau, sylwadau'r undebau ac mae'n rhaid imi ddweud, help Swyddfa Cymru hefyd, roeddem yn falch o froceru deialog gyda Thrysorlys y DU ar ran yr undebau ffermio, ac roedd NFU Cymru a FUW yn rhan o'r rheini. Ond fe adawsant y trafodaethau hynny'n siomedig. Felly, unwaith eto, rydym wedi mynegi i Lywodraeth y DU ein bod am sicrhau bod y dadansoddiadau amgen a gynigir, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith ein bod yn ceisio bwrw ymlaen â'r cynllun ffermio cynaliadwy, yn seiliedig ar yr egwyddorion rheoli tir cynaliadwy, sy'n cynnwys cael y model busnes bywiog hwnnw o fewn ffermio, yn enwedig ffermio ar raddfa fach a chanolig, gan gydnabod gwerth cymdeithasol ffermio—mae hwn yn fodel gwahanol iawn i'r hyn a roddwyd ar brawf mewn rhannau eraill o'r DU, ac rwy'n nodi bod hyn wedi cael ei gymeradwyo'n ddiweddar yng nghynhadledd yr NFU hefyd—ac y gallem gael cynllun yma sy'n llawer gwell nag unrhyw beth arall yn y DU—. Nawr, os ydym yn mynd i gyflawni hynny, mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau negyddol.

Felly, dyna'r mater a godwyd gennym yn dilyn y cyfarfodydd hynny a gafodd NFU Cymru a FUW gyda'r Trysorlys. Rydym wedi bod yn ôl mewn cysylltiad â Gweinidogion y DU i ddweud ein bod am sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed yn briodol, yn cael ei hystyried yn briodol, a hefyd eu bod yn ystyried y ffaith ein bod yn datblygu menter yma yng Nghymru a ddylai bara nid yn unig am nawr, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a'n bod am i hynny gael ei gyflwyno gyda chonsensws da iddo, gyda rhanddeiliaid yn ei gefnogi i'r carn a hefyd yn hyderus y gallant fuddsoddi yn eu busnesau. Nawr, rwy'n credu bod hynny mor glir ag y gallaf fod ein bod am i hyn gael ei wneud yn iawn yn y misoedd i ddod.

Diolch, Lywydd. Hoffwn eich holi ymhellach am y newid tuag at gymhwyso fformiwla Barnett ar gyllid amaethyddol yng Nghymru, oherwydd fel y gwyddoch, mae wedi bod yn destun pryder eang. Fel y cawsom ein hatgoffa nawr, disgrifiwyd hyn gan y Prif Weinidog fel rhywbeth sy'n fygythiad sylweddol i lefelau cyllido yn y dyfodol. Onid ydych chi'n derbyn ei bod yn drueni, pe bai gennym bartneriaeth mewn grym go iawn rhwng Llafur yma a Llafur yn San Steffan, nad ymgynghorwyd â chi am hyn cyn i'r penderfyniad gael ei wneud? Ac onid ydych chi'n gresynu, felly, eich bod bellach wedi eich gadael i geisio dadwneud y penderfyniad hwnnw trwy ofyn i'ch plaid eich hun wneud tro pedol ar bolisi a gyflwynwyd ganddynt, sy'n amlwg yn niweidiol i Gymru?

14:45

Rwy'n credu ein bod wedi gweld gweddnewidiad llwyr yn y cysylltiadau aeddfed bellach rhwng y Llywodraethau, cysylltiadau rhynglywodraethol priodol, gallu Gweinidogion i siarad â'i gilydd erbyn hyn. Ond nid yw hynny'n golygu na fydd unrhyw anghytundeb rhyngom, nid yw'n golygu nad oes ganddynt hawl yn y materion a gadwyd yn ôl i wneud penderfyniadau, ac yna mae'n rhaid inni fynd yn ôl atynt a dweud, 'Iawn, mae rhai canlyniadau gyda'r rhain y mae angen inni siarad amdanynt.' Ond o leiaf nawr rwy'n gallu gwneud hynny, Llyr. Rwy'n gallu cyfarfod, siarad yn rheolaidd. Mae'r grwpiau rhyngweinidogol yn y maes hwn yn cyfarfod yn rheolaidd, ond rwy'n gallu cael cyfarfodydd dwyochrog hefyd. Felly, mae hyn yn gadarn ar yr agenda, ond rwy'n parchu'r pwerau a gadwyd yn ôl iddynt a'r penderfyniadau y gallant eu gwneud yn hynny o beth, ond rwy'n disgwyl iddynt ymgysylltu â ni, wedyn, pan fyddwn yn codi materion sy'n berthnasol iawn i ddyfodol ffermio yng Nghymru.

Er hynny, byddwn yn disgwyl bod partneriaeth yn ymwneud â'i gael yn iawn yn y lle cyntaf ac nid partneriaeth pan fo angen ei drwsio—

—ond rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch. Felly, a gaf i ofyn i chi am y cynllun ffermio cynaliadwy? Oherwydd mae'r cyfan wedi mynd ychydig yn dawel, ond mae hynny'n iawn oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o waith yn digwydd yn y cefndir, ond mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn aros nawr i weld beth a ddaw, a pho hwyraf y daw'r manylion i'r golwg, y mwyaf tebygol yw hi na fydd pobl yn ymrwymo ym mlwyddyn 1. Efallai y byddant yn dal yn ôl, yn gweld sut y mae'n mynd a phenderfynu ar ôl blwyddyn 1, ar ôl blwyddyn 2 efallai, a ydynt am ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy ai peidio. Felly, fy nghwestiwn yn syml yw: sut y byddwch yn rheoli'r cyllid o amgylch hynny ym mlynyddoedd 1 a 2 yn fwyaf arbennig, ac os yw'r nifer sy'n ymuno'n isel, i ble mae'r arian hwnnw'n mynd?

Felly, Llyr, nid wyf yn rhagweld y bydd y nifer yn isel, oherwydd os ydym yn cynllunio hyn yn dda, a'i fod yn mynd yn dda y tu ôl i'r llenni, er ein bod mewn cyfnod o dawelwch cyhoeddus ar hyn o bryd, y tu ôl i'r llenni, mae'r coesau'n padlo'n gyflym, maent yn nofio yn eu blaen—. Mae'r grŵp o swyddogion ar waith eto ar yr iteriad nesaf, felly, rydym bellach yn edrych ar beth fydd yr elfennau dewisol a chydweithredol. Mae gennym y gwaith hwnnw i fwrw ymlaen ag ef ar fodelu'r elfennau unigol hefyd, ac yna mae gennym y modelu economaidd terfynol i'w wneud hefyd. Ond byddwn yn cyflwyno hyn erbyn yr haf oherwydd rydym wedi dweud y byddwn yn gwneud hynny, ac mae'n mynd rhagddo'n dda tuag at hynny. Ac yna, fe gawn y sicrwydd y gall ffermwyr flaengynllunio. Ond mae'n fwy na hynny. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Eisoes, y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad yn y cynllun adnoddau naturiol integredig, er enghraifft, y cynllun cydweithredol gofodol cyffredinol, felly mae pobl yn bwrw ymlaen â hynny. Rydym eisoes wedi nodi beth rydym yn ei wneud gyda'r safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Y gwanwyn hwn, byddwn yn cyflwyno meysydd eraill y bydd ffermwyr yn gallu optio iddynt ar unwaith. Felly, nid yw'n ddechrau mawreddog sydyn o 1 Ionawr. Bydd gennym ffermwyr sy'n rhan o elfennau cynharaf y cynllun, os mynnwch, ac sy'n gallu trosglwyddo'n syml i mewn iddo. Felly, rwy'n rhagweld y bydd y nifer sy'n ymuno â'r cynllun yn dda a gallwn roi sicrwydd wrth inni gyrraedd yr haf i ffermwyr ynglŷn â sut yn union mae'n edrych, ond rydym hefyd yn treialu'r cynlluniau hyn trwy gydol y flwyddyn fel bod mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn y math o ddulliau a fydd ar waith, wedyn, o fis Ionawr.

Iawn. Ond ni wnaethoch ddweud os nad yw cystal â hynny, lle byddai'r arian yn mynd; felly, efallai y gallwch ddod yn ôl ataf ar hynny yn nes ymlaen.

I gloi gennyf i, dros y tri mis diwethaf, wrth gwrs, fe wyddom fod 1.8 miliwn o adar a ffermir wedi cael eu difa ledled y DU oherwydd ffliw adar. Nawr mae'n symud yn nes at Gymru, wrth gwrs. Gwyddom fod rhai achosion ar hyd y ffin; rhai, mewn gwirionedd, yn effeithio ar dir yng Nghymru. Ac mae pryder mawr ymhlith ffermwyr dofednod ac eraill. Nawr, mae ffermwyr yn Lloegr wedi galw ar Lywodraeth y DU i ganiatáu brechu fel arf yn erbyn ffliw adar. Nid yw'n cael ei ganiatáu yn y DU ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae polisi'r Llywodraeth yn dibynnu ar ddifa a bioddiogelwch llym ar hyn o bryd, ond mae pwysau cynyddol am newid dull. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi annog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i flaenoriaethu cynllun brechu ymarferol, tra bod sefydliadau fel Cymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain yn cefnogi brechu'n gryf.

Nawr, rwy'n derbyn bod yna bryderon am gyfyngiadau masnach posibl a bod y feirws yn esblygu mewn ymateb i frechlynnau ac ati, ond a gaf i ofyn beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar frechu dofednod? A ydych chi'n credu y dylai brechiadau fod yn rhan o'r strategaeth hirdymor i ddiogelu'r sector dofednod yng Nghymru, a pha drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn?

Ie. Felly, nid trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn unig, ond rhai rhwng y prif swyddogion milfeddygol. Rwy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf ar hyn o leiaf ddwywaith yr wythnos, mae'n debyg, gyda fy mhrif swyddog milfeddygol. Nid ydym yn diystyru'r defnydd o frechlynnau wrth symud ymlaen fel strategaeth fwy hirdymor, ond ar hyn o bryd, ein dull, fel y byddwch wedi gweld, ac rwy'n dweud hyn gan fod yn rhaid imi ddatgan buddiant fel ceidwad dofednod ar raddfa fach fy hun, sydd, gyda llaw, wedi'i gofrestru—. Fe wnaf anfon y neges honno allan—os oes unrhyw Aelodau yma yn cadw ychydig ieir neu beth bynnag am yr wyau, cofrestrwch os nad ydych chi wedi gwneud hynny. Fe ddylech fod wedi gwneud erbyn hyn. Gallaf roi cyngor i chi ar sut i'w wneud, yn bersonol—mae'n hawdd iawn. Ond ein dull o weithredu yw gweithio gyda'r sector masnachol ar raddfa fawr ac eraill i sicrhau ein bod yn cadw'r clefyd hwn allan. Ond yn y dyfodol, efallai'n wir y bydd hynny'n rhan ohono. Ond ydy, mae'r ymgysylltu'n digwydd ledled y DU fel y gallwn geisio cadw'r clefyd hwn draw a'i gadw allan o Gymru.

14:50
Segura

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i frwydro yn erbyn segura mewn ardaloedd sydd eisoes yn dioddef ansawdd aer gwael? OQ62405

Diolch, Jenny. Diolch am y cwestiwn hwnnw. Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthuso'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â segura cerbydau llonydd, y cydnabyddir y gall gyfrannu at lefelau llygredd aer lleol. Felly, gallai'r rhain gynnwys, er enghraifft, gweithio gydag awdurdodau lleol ar orfodi cosbau ac ymgyrch godi ymwybyddiaeth, ynghyd â mesurau eraill i annog newidiadau yn ymddygiad gyrwyr.

Wel, mae angen ymgyrch godi ymwybyddiaeth yn sicr, oherwydd, yng Nghanol Caerdydd, fy etholaeth i, mae gennym eisoes sawl man problemus gydag ansawdd aer anghyfreithlon, yn ôl dosbarthiad Sefydliad Iechyd y Byd, ond rwy'n gyson yn gorfod herio gyrwyr sy'n gadael eu hinjans i redeg y tu allan i ysgolion, mewn safleoedd tacsis, neu mewn ardaloedd adeiledig eraill, lle bydd pobl yn rhoi'r esgus eu bod yn ceisio gwefru eu ffonau, sy'n anhygoel. Mae rhai'n gwneud y peth iawn ac yn diffodd eu hinjans, ac mae eraill yn sarhaus, hyd yn oed pan fyddaf yn eu hatgoffa eu bod yn torri'r gyfraith. Felly, mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi bod yn gyfraith ers blwyddyn bellach. Mae'n ddrwg gennyf ein bod yn dal i werthuso ac ystyried pan fo cymaint o frys i sicrhau y gellir gorfodi'r rheoliadau hyn yn briodol drwy allu nodi pobl heblaw'r heddlu, sydd â chymaint mwy i'w wneud, i gyflawni'r newid ymddygiad hwn. Felly, gallai pobl fel swyddogion parcio, pobl gyfrifol, roi dirwyon i bobl sy'n gwrthod diffodd eu hinjans, hyd yn oed pan ofynnir iddynt wneud hynny, ac yn syml er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r niwed y maent yn ei wneud i'r gymuned gyfan.   

Jenny, rwy'n credu eich bod yn iawn, mae codi ymwybyddiaeth o hyn i geisio sicrhau newid ymddygiad yn elfen hollbwysig. Mae yna bethau eraill y gallwn eu defnyddio, mesurau eraill, gan gynnwys cosbau ariannol ac yn y blaen, ac mae'n ddiddorol edrych ar amrywiaeth o gosbau ariannol hefyd, yn hytrach nag un di-awch, ac rydym yn awyddus i archwilio hynny. Ond mewn gwirionedd, newid ymddygiad yw'r peth anoddaf, ac rydym wedi gweld lle gall hyn lwyddo, yn anad dim lle mae gennych ymgyrchoedd, er enghraifft, gydag ysgolion lleol, i'r plant geisio dylanwadu ar ymddygiad rhieni ac yn y blaen, o ran segura a pharcio a gyrru i'r ysgol hefyd. Ond rwy'n credu bod yna waith sylweddol y mae angen inni ei wneud yn rhan o hynny.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol tynnu sylw hefyd at rai o'r syniadau sydd gennym, oherwydd credwn y gallai rhywbeth o fewn ystod gosb ariannol weithredu fel ataliad defnyddiol hefyd, lle bo angen, ochr yn ochr â'r newid ymddygiadol, rhywbeth cryfach na'r gosb bresennol o £20, ond rhywbeth ag ystod dda hefyd, yn dibynnu ar ei ddefnydd. Felly, yr hyn y gallem ei wneud, er enghraifft, yw edrych, ac rydym yn archwilio hyn ar hyn o bryd, i weld a allem roi rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol i deilwra swm y gosb i amgylchiadau'r drosedd yn yr ardal a difrifoldeb y drosedd. Felly, er enghraifft, gallech roi cosb benodedig ar ystod uwch pe bai'r drosedd yn digwydd wrth ymyl ardal dderbynle hynod sensitif, fel ysgol neu ysbyty neu glinig neu gartref gofal—pethau felly. Gallech roi swm is ar waith mewn ardal lai sensitif, i brocio, ond heb fod yn ormod o ergyd. Felly, rydym yn archwilio'r opsiynau hyn nawr, yn fewnol a chydag awdurdodau lleol, a hoffem gyflwyno rhywbeth nawr cyn diwedd tymor y Senedd hon fel y gallwn roi hyn ar waith ar lawr gwlad a gweld sut y mae'n gweithio. Ond rydych chi'n iawn, mae'n ymwneud â'r elfen ymddygiadol yn ogystal â'r ffyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y clywsom, mae'n hysbys iawn fod cerbydau sy'n segura yn cynyddu crynodiadau o lygryddion aer, yn enwedig deunydd gronynnol mân a charbon elfennaidd. Mae astudiaethau wedi dangos bod bysiau a cheir sy'n segura o amgylch ysgolion yn cael effaith enfawr, a bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth sy'n annog gyrwyr i ddiffodd eu hinjans yn gallu lleihau crynodiadau lleol o ddeunydd gronynnol mân hyd at 75 y cant, carbon elfennaidd 63 y cant a chrynodiad gronynnau yn gyffredinol 600 y cant, sy'n effaith syfrdanol. Ar ben hynny, dangoswyd yn Lloegr bod bysiau sydd â hidlwyr gronynnol ychwanegol wedi'u hôl-osod ar eu toeau yn gallu glanhau aer wrth iddynt deithio, gan helpu ymhellach i liniaru problemau ansawdd aer mewn ardaloedd adeiledig.

Rydych chi wedi sôn am hyn yn eich ymateb blaenorol, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ysgolion i gynnal ymgyrchoedd i atal segura, nid yn unig i helpu i wella ansawdd aer, ond hefyd i ennyn diddordeb disgyblion mewn deall achosion llygredd? A pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i annog cwmnïau bysiau i osod hidlwyr ychwanegol i lanhau aer wrth iddynt deithio? Diolch.

14:55

Joel, diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar bob ysgogiad posibl sydd gennym i leihau segura a pheryglon llygredd aer gyda hynny, ac mae hynny'n golygu annog a grymuso awdurdodau lleol i weithredu hefyd. Felly, nid ein lle ni yw eistedd yma a dweud beth ddylai ddigwydd yn sir y Fflint neu yng Nghaerdydd neu beth bynnag, ond yr hyn y mae angen inni ei roi iddynt yw'r offer y gallant eu defnyddio, a gallai hynny gynnwys cosbau ariannol, ond byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol, yn unol â'u dyletswyddau ansawdd aer, sydd bellach yn llym ac yn glir iawn, i gyflwyno eu cynigion eu hunain i sicrhau ansawdd aer gwell yn eu hardaloedd. Ac maent yn gwybod—. Mae ganddynt y mapiau o ble mae'r effeithiau mwyaf, ac mae angen iddynt gyflwyno eu cynigion, gan gynnwys ar ymgyrchoedd ymddygiad yn yr ardaloedd hynny, a gallai'r rheini gynnwys gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol a phreswylwyr ac eraill i wneud hynny.

Rwy'n credu bod angen hefyd—yn gysylltiedig â hyn, gyda llaw—i ni ymdrin â'r materion ehangach yn ymwneud â glanhau allyriadau o gerbydau. Rydych chi'n gywir. A byddaf yn cael y sgwrs honno, fel y byddaf yn ei chael yn rheolaidd, gyda fy nghyd-Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a gogledd Cymru. Ond hefyd ar leihau faint o deithiau diangen gan ddefnyddio cerbydau tanwydd ffosil, oherwydd mae hynny hefyd yn cael effaith, nid yn unig ar ansawdd aer ond ar dagfeydd ac effeithiau ansawdd bywyd, yn cynnwys ar rai o'r cymunedau tlotach sy'n byw ar hyd y priffyrdd hynny. Felly, mae angen defnyddio'r holl offer hyn, ar gyfer ansawdd aer a hefyd y pethau ehangach fel lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd.

Parc Cenedlaethol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddynodi parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ62399

Diolch, Carolyn. Mae dynodi parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Yn ddiweddar, cynhaliodd CNC ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y ffin fel rhan o'r gwaith asesu ac ymgysylltu angenrheidiol i sefydlu parc cenedlaethol. Bydd y canlyniadau'n llywio'r cynigion terfynol.

Diolch am eich ateb. A wnewch chi roi rhai enghreifftiau i mi o'r hyn y mae'r tri pharc cenedlaethol arall yn ei wneud yn dda gyda ffermwyr a sut y caiff twristiaeth ei reoli fel ei fod yn gynaliadwy yn y parciau cenedlaethol hynny? Diolch.

Gallaf. Mae'n gwestiwn gwych. Mae gennym rai enghreifftiau eisoes. Felly, er enghraifft—ac mae'n cysylltu, yn rhyfedd ddigon, â'r cwestiwn a ofynnodd Llyr yn gynharach, am yr hyn a wnawn cyn y cynllun ffermio cynaliadwy—fe lansiwyd cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf o'r enw Ffermio Bro. Mae dull Ffermio Bro yn cyflwyno cydweithio ar raddfa'r dirwedd ar gadwraeth mewn parciau cenedlaethol. Felly, rydym yn rhoi'r cyllid iddo. Rydym wedi ei lansio. Mae'n gyfeiriad y gallem fynd iddo gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy wrth symud ymlaen. Ond mae hynny'n adeiladu ar brosiectau amaeth-amgylcheddol eraill mewn parciau cenedlaethol, gan gydweithio gyda ffermwyr. Felly, er enghraifft, dan brosiectau'r cynllun rheoli cynaliadwy sydd wedi'u hariannu, rydym wedi cael pethau fel y prosiect ffiniau caeau traddodiadol, sydd wedi ymestyn rhywbeth fel 20 km yn ychwanegol o gloddiau a waliau cerrig, sydd eu hunain yn goridorau bywyd gwyllt hefyd. Felly, ar y math hwnnw o gydweithio, mae hanes cryf eisoes o barciau cenedlaethol yn gweithio gyda ffermwyr.

Fe wnaethoch chi gyffwrdd â thwristiaeth gynaliadwy hefyd. Rwy'n un o'r bobl hynny sy'n cymryd yr opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddaf yn teithio i Eryri, yr opsiwn parcio a theithio. Rwy'n credu ei fod yn hollol wych. Pam parcio ar hyd y briffordd a llenwi'r briffordd â cheir neu beth bynnag, ac ychwanegu at dagfeydd ac ychwanegu at broblemau ansawdd aer, pan allwch chi fanteisio ar y bartneriaeth a gafwyd gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i gael pobl allan o'u ceir a theithio yn y ffordd honno? Felly, trwy bethau fel hynny, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond hefyd fel rhan o gynlluniau grantiau cyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, mae pob un o'n tri pharc cenedlaethol eisoes wedi cymryd camau breision i wella eu darpariaeth ar gyfer gwefru cerbydau trydan hefyd. Felly, mae llawer o enghreifftiau da yno eisoes o barciau cenedlaethol yn gweithio gyda ffermwyr, ond yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy hefyd.

15:00

Diolch am y cwestiwn gan Carolyn Thomas. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn hynny, oherwydd mae gan fy etholwyr bryderon, a minnau hefyd, yn dilyn y cynigion i ymestyn y parc cenedlaethol i rannau o ogledd Powys, nad yw, wrth gwrs, yn rhan o’r cynnig gwreiddiol sydd wedi’i gynnwys gan Lywodraeth Cymru yn eu rhaglen lywodraethu. Ond ar y ddau bwynt a gododd Carolyn, pan ddaeth CNC i fy etholaeth ar 1 Rhagfyr ac annerch nifer fawr o bobl, nid oeddent wedi'u hargyhoeddi. Roedd ffermwyr yn bryderus am fethu arallgyfeirio yn yr un ffordd pe bai eu tir yn cael ei ddynodi'n rhan o barc cenedlaethol. Roedd pryder hefyd ynghylch ymwelwyr dydd, pryderon ynghylch seilwaith posibl ac enghreifftiau penodol mewn perthynas â hynny. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn fyddai: pam, yn eich barn chi, na lwyddodd CNC i argyhoeddi pobl yng ngogledd Powys o fanteision parc cenedlaethol? Ac yn wir, nid wyf innau'n argyhoeddedig ychwaith; rwy'n gweld mwy o anfanteision nag o fanteision. Ond ar yr amserlen, a gaf i ofyn yn gyflym—? Os yw’r Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen â’r parc cenedlaethol, fe fyddwch yn dynodi parc cenedlaethol, yn ôl yr hyn a ddeallaf, cyn etholiadau nesaf y Senedd, sef cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf i bob pwrpas. Ond a allech chi gadarnhau hefyd a fyddai’r parc cenedlaethol yn dod i fodolaeth bryd hynny, ac os na fyddai, beth fyddai nid yn unig y penderfyniad, ond pryd fyddai’r parc cenedlaethol yn dod i fodolaeth, a beth fyddai’r amserlen ar gyfer hynny?

Iawn. Diolch, Russell, a diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, wrth symud ymlaen. Heb wneud sylwadau ar y manylion—gan fod math o broses led-farnwrol yn dal i fynd rhagddi y byddwn i ac Ysgrifenyddion eraill y Cabinet yn ymwneud â hi, yn y pen draw—hoffwn ganmol CNC ar yr ymgynghoriad a'r gwaith ymgysylltu y maent wedi'i wneud, sydd wedi bod yn helaeth iawn. Felly, maent wedi clywed safbwyntiau o blaid, maent wedi clywed safbwyntiau yn erbyn. Mae'n ymwneud yn bennaf â mater y ffiniau, ond maent hefyd wedi clywed llawer o ddadansoddiadau eraill, tystiolaeth, sydd wedi deillio o hynny. Felly, y broses nawr yw y bydd CNC ei hun yn cynnal dadansoddiad o'r hyn y maent wedi'i glywed, goblygiadau—y safbwyntiau cadarnhaol a negyddol y maent wedi'u clywed—statws parc cenedlaethol i'r ardal ac yn ehangach, a bydd hynny'n cynnwys pethau fel effeithiau ar dwristiaeth, ar dai, ar gyflogaeth, ar y Gymraeg. A bydd hynny wedyn yn llywio penderfyniad terfynol, gyda chyngor yn cael ei roi i mi ac i Ysgrifenyddion eraill y Cabinet, y bydd angen iddynt wneud penderfyniad wedyn. Bydd angen i ni gael asesiad effaith integredig manwl hefyd, fel ein bod yn seilio ein penderfyniadau ar y set fwyaf cyflawn o dystiolaeth sydd ar gael.

Nawr, nid yw'n briodol i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet, na fy swyddogion o ran hynny, wneud sylwadau uniongyrchol ar faterion penodol sydd dan ystyriaeth yn rhan o'r broses statudol hon, ond wrth gwrs, mae'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mae'n rhaid inni aros nawr i'r cyngor hwnnw gael ei roi, ond ydy, mae Llywodraeth Cymru yn cadw at yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ac rydym yn aros nawr i'r cyngor hwnnw gael ei gyflwyno. Mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ei ychwanegu at hynny ar hyn o bryd, Russell.

Cefnogi Cymunedau Ffermio

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cymunedau ffermio yng Nghymru? OQ62401

Diolch, Tom. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â fy swyddogion cyfatebol ar lefel y DU ar nifer o faterion sy’n effeithio ar ffermwyr yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau a’u pryderon yn parhau i gael eu clywed. Mae fy swyddogion hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy grŵp monitro marchnad amaeth y DU a grŵp cydweithredu'r polisi amaethyddol.

Diolch am eich ateb. Yn ystod yr etholiad cyffredinol, clywsom dro ar ôl tro gan y Blaid Lafur, oni wnaethom, na fyddai unrhyw godiadau treth ar bobl sy’n gweithio, ac yna clywodd ffermwyr am dreth newydd arnynt hwy, ar eu ffermydd ac ar eu teuluoedd ar ffurf treth etifeddiant Llafur ar ffermydd, a orfododd lawer i ystyried a allent fforddio parhau hyd yn oed. Rwy’n sicr yn ystyried bod ffermwyr yn bobl sy’n gweithio, gwn fod fy mhlaid yn ystyried bod ffermwyr yn bobl sy’n gweithio, a dyna pam fod y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi dweud y byddent yn cael gwared ar y polisi hwn pe baent yn dod yn Llywodraeth ar ôl yr etholiad nesaf. Pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU os ydych chi hefyd yn credu bod ffermwyr yn bobl sy’n gweithio, neu a yw Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw ffermwyr yn bobl sy’n gweithio?

Na. Mike, mae hynny'n dweud y cyfan. Mae hynny'n dweud y cyfan. Dyna'r agwedd.

Felly, gallaf ymateb—. Mae'n ddrwg gennyf, Tom. Gallaf ymateb yn eithaf defnyddiol ar hynny. Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd, fel y soniais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, â Gweinidogion y DU ar hyn a materion eraill sy’n effeithio ar y gymuned amaethyddol.

Ond dylwn ddweud hefyd, yn y gyllideb ddoe, a oedd yn cynnwys £50 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y gyllideb newid hinsawdd a materion gwledig, £73 miliwn o gyllid cyfalaf hefyd, o ran cymorth amaethyddol, gyda'i gilydd, ddoe, fe basiodd y gyllideb honno £366 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol yma yng Nghymru, gan gynnwys £238 miliwn ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol i gefnogi’r pontio amaethyddol i'r cynllun ffermio cynaliadwy, a £11 miliwn i Cyswllt Ffermio, yn ogystal â chynnydd mewn cyllid hefyd ar gyfer pethau fel gwelliannau i ansawdd dŵr. Felly, gallaf roi sicrwydd llwyr fod Llywodraeth Cymru, yma yng Nghymru, yn cydsefyll yn gadarn gyda'r gymuned ffermio, ac roeddem yn falch o bleidleisio dros y gyllideb honno ddoe.

15:05

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio y gall pawb yn y Siambr weld y pwysau sydd ar ein ffermwyr, a’r pryderon gwirioneddol, yn enwedig ynghylch eu hiechyd meddwl ar hyn o bryd.

Eisteddais mewn ystafell yn ddiweddar ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed gyda phump o ffermwyr. Roedd y dreth etifeddiant newydd yn effeithio ar bob un ohonynt. Roeddent hefyd wedi gwneud dadansoddiad manwl, gyda chefnogaeth cyfrifwyr, o 15 o ffermydd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac roedd y rheolau newydd yn effeithio ar bob un ond un ohonynt. Mae’r polisi hwn yn effeithio fwyaf ar wŷr a gwragedd gweddw, pobl sy’n dioddef o salwch a allai arwain at farwolaeth gynnar, pobl hŷn. Mae hwn yn bolisi gwahaniaethol iawn, felly Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cydnabod bod heriau penodol i chi, ond mae gwir angen llais uchel yn Llundain ar ran ffermwyr Cymru i ddweud bod angen oedi hyn, a bod angen proses o ymgynghori a gwrando ar bob un o’r ffermwyr yr effeithir arnynt. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich cefnogaeth a'r gwaith ychwanegol a wnaethoch i ddenu cyllid ychwanegol ar gyfer materion gwledig ac o ran pethau fel ansawdd dŵr hefyd, yn y trafodaethau cyllidebol mewn perthynas â hynny, a fydd o gymorth?

O ran y pwysau ar ffermio, credaf eich bod yn llygad eich lle, a gwelaf hyn yn rheolaidd pan fyddaf yn siarad â ffermwyr a’u teuluoedd hefyd, gan gynnwys pan ymwelais â ffermwyr a sefydliadau cymorth yn eich etholaeth chi a chyfarfod â hwy, a’r gwaith anhygoel a wnânt, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau i fuddsoddi mewn cymorth i’r sefydliadau hyn. Dyna pam, yn rhyfedd ddigon, eu bod hefyd yn cael eu cynrychioli ar gyfarfod bord gron gweinidogol y cynllun ffermio cynaliadwy hefyd, fel ein bod yn clywed llais llesiant, sy'n hanfodol bwysig yma. Dyna hefyd pam ein bod wedi buddsoddi £45,000 i ddatblygu FarmWell Wales, sy’n hyb gwybodaeth ar wytnwch unigolion a busnesau i ffermwyr a’u teuluoedd. Rydym wedi cael dros 9,000 o ddefnyddwyr ers ei lansio ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae’n darparu cymorth amhrisiadwy, ochr yn ochr â’r sefydliadau trydydd sector sydd ar gael.

Yn dilyn atebion blaenorol rwyf wedi'u rhoi, ac i ailadrodd, nid yn unig fy mod wedi ymgysylltu'n uniongyrchol ar hyn â swyddogion o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn San Steffan drwy gydol y broses hon, o ran trafodaethau â'r grwpiau rhyngweinidogol, ond hefyd mewn sgyrsiau dwyochrog eraill, rwyf wedi ysgrifennu ar ddau achlysur bellach, gan gynnwys yn dilyn y cyfarfodydd diweddaraf lle cafodd yr undebau ffermio eu siomi, a lle teimlent eu bod wedi cyflwyno eu gwybodaeth ond nad oeddent wedi cael eu clywed yn llawn, felly euthum ar drywydd hynny. Oherwydd tra bo'r Trysorlys yn dechrau, yn gwbl ddealladwy, o'r ffigurau sydd ganddynt, rwyf eisiau iddynt ymgysylltu â thystiolaeth amgen sy'n cael ei chyflwyno, hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno â'r cyfan, gan ei bod yn bwysig sicrhau, mewn perthynas â ffermio yng Nghymru, fod y ffermydd bach a chanolig yn enwedig, sydd mor bwysig i wead ein cymunedau yn cael eu diogelu wrth symud ymlaen, ac yn gallu symud ymlaen i ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy—ac rwyf wedi rhoi hyn mewn llythyr hefyd—heb unrhyw rwystr.

Felly, edrychwch, un peth na allwn ei anwybyddu yw'r twll a wynebodd y Canghellor pan gychwynnodd yn ei rôl, a dyna yw trasiedi hyn, mynd i mewn i Lywodraeth a chanfod bod pethau wedi'u costio ond heb eu talu amdanynt, nad oedd arian wedi'i ymrwymo iddynt, ac roedd hynny oddeutu £20 biliwn. Nawr, ar y sail honno, mae'n rhaid i Ganghellor cyfrifol wneud penderfyniadau anodd i lenwi'r twll hwnnw a symud ymlaen.

15:10
Ansawdd Aer ym Mhreseli Sir Benfro

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ansawdd aer ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62385

Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i asesu ansawdd aer drwy gyfuniad o orsafoedd monitro sefydlog a thiwbiau tryledu sy’n mesur llygryddion amrywiol yn erbyn lefelau targed. Mae Cyngor Sir Penfro yn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd blynyddol ar ansawdd aer gan amlinellu’r camau y mae’n eu cymryd i wella ansawdd aer.

Ddirprwy Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae monitro ansawdd aer wedi dod yn broblem benodol i drigolion sy’n byw o amgylch safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth. Mewn gwirionedd, mae rhai trigolion lleol wedi disgrifio'r arogleuon o'r safle fel bom drewdod ar steroidau. Nawr, mae adroddiad diweddar gan Gyngor Sir Penfro yn argymell bod y cyngor yn cytuno i barhau i fonitro ansawdd yr aer yn ysgol Spittal am gyfnod pellach o hyd at 12 mis, sy'n dangos bod ofnau y bydd problemau posibl yn codi eto yn y dyfodol. Mae’r gymuned wedi galw, yn gwbl briodol, am ymchwiliad cyhoeddus ac am gau’r safle, galwadau yr wyf fi, fel y gwyddoch, yn eu cefnogi’n fawr. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwaith monitro aer yn parhau tra bo'r safle hwn yn weithredol, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru o leiaf gefnogi galwadau’r gymuned leol am ymchwiliad cyhoeddus?

Paul, fel y gwyddoch, mae CNC, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn parhau i weithio'n agos ar lawr gwlad gyda'r awdurdod lleol, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a bwrdd iechyd Hywel Dda mewn ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â materion o bryder cyhoeddus ar safle tirlenwi Withyhedge, a hoffwn eich cyfeirio chi ac eraill at y sefydliadau hynny ar lawr gwlad sy'n gweithio i leddfu'r pryderon ac i weithio gyda'r gweithredwr yno i sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw. Nawr, deallaf fod gweithredwr y safle wedi ailddechrau derbyn a gwaredu gwastraff ar y safle, felly mae CNC yn parhau i fod â phresenoldeb sylweddol ar y safle. Mae'n cynnal gwaith monitro arogleuon oddi ar y safle i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gweithdrefnau sydd wedi'u diweddaru ac amodau ehangach y drwydded tirlenwi. Mae swyddogion CNC wedi bod yn monitro allyriadau nwyon tirlenwi o wastraff a ddaw i mewn, ac maent wedi nodi nad oes lefelau uchel wedi'u canfod.

Fel y gwyddoch hefyd, mae CNC, fel rhan o’i waith rheoli ymchwiliadau yn rhyddhau diweddariadau rheolaidd, a bydd yr un nesaf ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf, ac yn cael ei roi i chi ac Aelodau eraill o'r Senedd yn yr ardal. Mae CNC yn pwysleisio eu bod ar gael i gyfarfod â chi ac eraill os dymunir.

Nawr, rwy'n ymwybodol hefyd o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynghylch diffyg cydymffurfiaeth â thrwyddedau o ran y gwaith papur yn ymwneud â gwastraff a ddaw i mewn. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan CNC, ac wedi'i gael, fod y diffyg cydymffurfio a nodwyd wedi’i unioni yn ystod yr arolygiad cychwynnol o'r safle ar 6 Ionawr, ac nad yw asesiad dilynol wedi nodi bod hyn wedi digwydd eto. Felly, mae swyddogion CNC wedi bod yn monitro allyriadau nwyon tirlenwi o’r gwastraff a ddaw i mewn a’r gwastraff a ddyddodir. Nid ydynt wedi nodi unrhyw arogleuon oddi ar y safle y cadarnheir eu bod yn gysylltiedig â’r tirlenwi eto, ond byddant yn parhau i fonitro hyn, ac fel y dywedaf, maent wedi cynnig ymgysylltu â’r Aelod.

Lleihau Llygredd Amaethyddol

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau llygredd amaethyddol? OQ62377

Diolch, Lesley. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd nifer o gamau i leihau llygredd amaethyddol. Mae’r rhain yn cynnwys ymrwymo £52 miliwn i gefnogi buddsoddiadau seilwaith ar ffermydd ers 2021, parhau i ddarparu cymorth ariannol i CNC ar gyfer gorfodi rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaethau strategol a’u hariannu.

Mae’r ffigurau a gefais mewn ateb ysgrifenedig gennych ar nifer yr achosion o lygredd amaethyddol dros y tair blynedd diwethaf yn frawychus. Ni fu unrhyw ostyngiad, er gwaethaf sicrwydd gan y sector amaethyddol a’r undebau ffermio dros nifer o flynyddoedd y byddai camau gweithredu gwirfoddol yn lleihau llygredd. Mae’r cyhoedd am weld camau pendant i wella ein crynofeydd dŵr, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dargedau COP15 o fewn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang i leihau risgiau ac effeithiau llygredd erbyn 2030. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r targed hwn a ninnau'n parhau i weld y fath lefelau annerbyniol o lygredd amaethyddol?

Rydym yn sicr wedi ymrwymo i’r targedau COP hynny, a chredaf mai’r gwaith a wnawn a’r buddsoddiad a wnawn yw’r ffordd gywir i symud ymlaen, a hefyd i weithio nid yn unig â'r trefniadau gorfodi a’r cosbau, ond i weithio ar y cyd hefyd, lle gallwn, gyda’r rheini sy'n barod i wneud hynny. Felly, rydym yn parhau i ariannu gwaith gorfodi rheoliadau CNC, ac aeth dros £1.5 miliwn o arian i mewn i hynny y llynedd. Mae gorfodi’r rheoliadau hynny’n hollbwysig er mwyn gorfodi arferion ffermio da, cydnabod y ffermio da sy'n digwydd a chosbi’r rhai nad ydynt yn cadw at y rheolau. Ac mae'n dda dweud, yn fy nhrafodaethau gydag undebau ffermio, eu bod yn gwerthfawrogi hynny hefyd, ac mai'r hyn yr ydym am ei wneud yw sicrhau ein bod yn hyrwyddo safonau da ac yn cydnabod y rheini sy'n gwneud y peth iawn, ond hefyd yn mynd ar ôl y rheini nad ydynt yn cyflawni arferion da.

Yn dilyn y rheoliadau, fel y soniais, y ffordd arall y gallwn wneud hyn, gan weithio gyda’r cymunedau ffermio, yw rhoi ein harian tuag at y modd o ymdrin â slyri ac yn y blaen—rheoli slyri, siediau, ac ati. Felly, rydym wedi rhoi £52 miliwn nawr, yn ddiweddar, tuag at hynny. Ceir heriau o ran adeiladu’r rheini ar lawr gwlad, weithiau gyda chynllunio ac ati, ond rydym wedi ymrwymo i hynny hefyd, gan y bydd yn helpu’r ffermwyr sydd am wneud y peth iawn i gyflawni'r prosesau rheoli cywir i osgoi problem dŵr ffo ac ati.

Ond yn bwysicaf oll, Lywydd a Lesley—ac rwy'n cydnabod eich ymrwymiad i hyn fel y cyn-Weinidog, yn sefyll yma yn fy lle i hefyd—rydym wedi cyrraedd y pwynt lle—. Rwyf bob amser yn cael hyn yn anghywir; rwyf bob amser yn ei galw’n ‘athro’, ond Dr Susannah Bolton, sy’n gyfrifol am yr adolygiad bob pedair blynedd o reoliadau llygredd amaethyddol. Mae'n waith a gadeirir yn annibynnol. Credaf fod ei hymgysylltiad â rhanddeiliaid wedi bod yn helaeth, yn ddwfn ac yn drylwyr, ac edrychaf ymlaen at yr hyn y bydd yn ei gyflwyno fel y ffordd ymlaen nawr, a chanolbwyntio ar y canlyniadau, sef canlyniadau clirio problemau ansawdd dŵr yn sgil llygredd amaethyddol. Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, mae angen i ni ymdrin â ffynonellau eraill o lygredd wedyn hefyd, o dai, o ddatblygiadau, o systemau hynafol cwmnïau dŵr ac yn y blaen. Ond mae ei gwaith yn canolbwyntio i raddau helaeth ar lygredd amaethyddol.

15:15
Cefnogi Ffermwyr yn Nwyrain De Cymru

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ62394

Diolch, Natasha. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ffermwyr yn y de-ddwyrain, ac yng Nghymru gyfan, yn wir. Mae ein grantiau ar gyfer gwelliannau ar y fferm, offer a thechnoleg, dysgu a datblygu drwy Cyswllt Ffermio, a chyngor drwy’r gwasanaeth cyswllt fferm oll yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli bod llawer o Aelodau o feinciau gwahanol wedi gofyn cwestiynau i chi heddiw mewn perthynas â ffermio, ond mae llawer o ffermwyr ledled Cymru, gan gynnwys fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, yn ddig, maent yn ofidus ac maent yn poeni am dreth arfaethedig Llafur ar y fferm deuluol. Mae’r dreth hon yn bygwth bywoliaeth ein cymunedau ffermio.

Rwy’n siŵr y gall pawb ddeall mai ffermydd teuluol, yn wir, yw asgwrn cefn ein heconomi wledig, gan ddarparu diogeledd bwyd a chefnogi diwydiannau lleol. Ac eto, gallai treth greulon Llafur ar y fferm deuluol ddadwneud hyn oll a dinistrio’r rhan bwysig hon o’n cymdeithas. Ni allaf ddirnad sut y gallai eich cyd-aelodau o'r blaid Lafur yn Llundain gyfiawnhau cyflwyno mesur mor llym, a fydd yn cynyddu’r baich sydd eisoes yn sylweddol ar ffermydd teuluol. Yn hytrach na helpu ein ffermwyr i ffynnu, bydd y dreth hon yn llesteirio eu gobaith o oroesi ac yn creu perygl o orfodi llawer i galedi ariannol neu eu gadael heb unrhyw ddewis ond gwerthu a gadael y proffesiwn yn llwyr. Rhaid inni gofio, Ysgrifennydd y Cabinet: dim ffermwyr, dim bwyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cefnogi treth Llywodraeth Lafur y DU ar y fferm deuluol, ac os nad ydych, beth a wnewch i liniaru'r effaith y bydd yn ei chael ar ffermwyr yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru a ledled y wlad? Diolch.

Mae pethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru, i ateb eich pwynt olaf. Ond gadewch imi fod yn glir hefyd—. Rwy'n credu ein bod yn ymarfer dadl y gallem fod yn ei chael yn nes ymlaen yma hefyd, yn rhai o'r cwestiynau, sy'n iawn. Ydy, mae treth etifeddiant yn dreth a gadwyd yn ôl, fel y gŵyr pawb; caiff ei goruchwylio gan Lywodraeth y DU. Ond rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU, ac wedi'i gael, y bydd undebau ffermio Cymru yn cael eu clywed ar y mater hwn, a byddaf yn parhau i ddadlau dros roi ystyriaeth lawn a phriodol i safbwyntiau ffermwyr Cymru. Mae'n bwysig. Mae’n rhaid inni sicrhau nad yw newidiadau i dreth etifeddiant a rhyddhad amaethyddol yn effeithio ar ddyfodol ffermio cynaliadwy yma yng Nghymru.

Felly, fel rhan o'r ymdrech i gefnogi ffermwyr i ddeall effaith a goblygiadau’r newidiadau o ran y dreth etifeddiant, mae Cyswllt Ffermio, a gefnogir yma gan Lywodraeth Cymru, wedi cynnal cyfres o weithdai ledled Cymru. Mae dros 1,200 o ffermwyr wedi mynychu hyd yma. Mae gennym gymorth ar gael hefyd i fusnesau fferm yn ystod y cyfnod pontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn 2026. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn darparu dros £350 miliwn i gymorth amaethyddol—dyna'r gyllideb y gwnaethom bleidleisio arni ddoe ac fe'i cefnogwyd yma gyda chymorth arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae gennym hefyd—. Fe ofynnoch chi yn eich cwestiwn, 'Sut arall y gallwn gefnogi?' Wel, rydym yn darparu amrywiaeth o gynlluniau cymorth yn ne-ddwyrain Cymru; er enghraifft, taliadau cynllun y taliad sylfaenol, a warantwyd gennym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac y parhawn i'w darparu ar hyn o bryd. Mae dros 99 y cant o hawlwyr wedi cael eu taliad sylfaenol llawn, ac mae hyn yn werth dros £14.3 miliwn. Mae taliadau cynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2024 i dde-ddwyrain Cymru yn werth £314,000; mae'r taliadau cymorth organig ar gyfer 2024 yn Nwyrain De Cymru yn werth £114,000 i ffermwyr; o dan y tair rownd gyntaf o daliadau'r cynllun grantiau bach ar gyfer effeithlonrwydd, maent yn werth £316,000 i ffermwyr yn eich rhanbarth chi hefyd, heb sôn am y cynllun buddsoddi mewn rheoli maethynnau, lle dyfarnwyd dros £300,000 i wyth busnes fferm yn Nwyrain De Cymru. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwn gynorthwyo ffermio yma yng Nghymru.

15:20
3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol, i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac i'w ofyn gan Samuel Kurtz.

Cau Parc Thema Oakwood

1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gau Parc Thema Oakwood yn Sir Benfro? TQ1313

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn aros am fanylion pellach am yr effaith ar golli swyddi ac ar ddyfodol y safle hwn. Rydym yn cydymdeimlo â’r rhai yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn ac yn barod i ddarparu cymorth i’r gweithlu ac i’r gadwyn gyflenwi.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n newyddion trist iawn, gan fod lle arbennig iawn i Oakwood yng nghalonnau llawer o bobl yn sir Benfro a ledled Cymru hefyd. Mae gennyf atgofion melys iawn o fy amser yn ymweld fel plentyn, a hyd yn oed yn fwy diweddar gydag Andrew R.T. Davies. Rhannodd y llun ohonom ni'n dau ar Megafobia, yn mwynhau ein hunain, ac fe'i mwynhaodd ychydig yn fwy na mi—nid wyf yn un am roler-costers. Ond mae wedi bod yn rhan wirioneddol bwysig o’n cynnig twristiaeth yng ngorllewin Cymru, a rhannodd pobl eu hatgofion ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad ddoe. Rhannodd Lee Day, yr oeddwn yn arfer gweithio gydag ef, stori am yr adeg pan fu’n rhaid iddo guddio’r actor o EastEnders, Dean Gaffney, mewn bwyty yn Oakwood am fod pobl ifanc yn eu harddegau yn ei ddilyn. Mae wedi bod yn braf iawn, ond fe ddaw yn sgil cau'r parc hwn, sy'n drist iawn.

Mae Aspro, y rhiant-gwmni, wedi cyfeirio at 'heriau economaidd di-ildio' fel y rheswm dros gau'r parc, ac maent wedi buddsoddi dros £25 miliwn yno—£1 filiwn yn y reid Megafobia y soniais amdani yn gynharach. Dywedant fod cyfraniadau yswiriant gwladol, costau chwyddiant bwyd a diod, a chost cydrannau reidiau a thrydan oll wedi bod yn ffactor. Ni allwn anwybyddu effaith yr hyn sydd wedi digwydd yn y gyllideb ar benderfyniad Aspro i gau Oakwood. Felly, tybed pa drafodaethau y bwriadwch eu cael, yn dilyn cau'r parc, gyda'ch swyddogion cyfatebol—gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU—ynghylch effaith cyfraniadau yswiriant gwladol. Ni allwn anwybyddu’r cysgod y mae’r dreth dwristiaeth yn ei daflu ar draws y mathau hyn o fusnesau ychwaith. Felly, a yw hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru adolygu ac ailosod y drafodaeth ar dreth dwristiaeth, o ystyried y cyhoeddiad ynghylch cau Oakwood?

Ar ail bwynt yn ymwneud â staff, rwyf wedi ysgrifennu at y tîm rheoli yn lleol a'r brif swyddfa ym Madrid, i ofyn iddynt sicrhau bod staff gael eu cefnogi. Rwy'n ymwybodol o fusnes y siaradais â hwy y bore yma sy'n gobeithio cyflogi staff a fydd yn colli eu swyddi, ond yr hyn yr hoffwn ei glywed gan Lywodraeth Cymru yw beth a wnânt i gefnogi staff yn yr ardal y mae cau'r parc yn effeithio arnynt, gan y gwyddom, heb staff, nad oes i'r mathau hyn o atyniadau galon ac enaid—hwy yw'r bobl sy'n poeni o ddifrif am hyn, ac roedd y staff y gwnaethom gyfarfod â hwy ar ein hymweliad mwyaf diweddar ag Oakwood yn hynod falch o fod yn rhan o stori Oakwood.

Ar ddyfodol y safle, mae hwn yn safle gwirioneddol wych ac mae wedi'i ddatblygu dros y blynyddoedd. Rwy'n ymwybodol y gallai fod prynwyr posibl eisoes yn edrych ar ddod i mewn a defnyddio'r safle at ddibenion masnachol, naill ai i'w gadw fel parc thema neu ar gyfer pethau eraill hefyd. Yr hyn rwy'n edrych amdano yw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda mi a rhanddeiliaid eraill—mae busnesau wedi cysylltu â mi, ac rwy'n siŵr y bydd busnesau wedi bod cysylltu â Llywodraeth Cymru hefyd—i geisio dod o hyd i brynwr cyn gynted â phosibl, gan mai'r peth olaf rydym am ei weld yn sir Benfro yw safle o'r maint hwn yn cael ei adael yn segur am nifer o flynyddoedd. Gwelsom hynny gyda hen safle CC2000, a ddaeth yn ddolur llygad, ac nid ydym am i hynny ddigwydd. Felly, byddai croeso mawr i unrhyw beth y gellir ei wneud i gefnogi a dod â mwy o bobl ynghyd i geisio prynu’r safle a pharhau i’w redeg.

Y pwynt olaf, felly: rwy’n mawr obeithio nad dyma ddechrau dirywiad atyniadau twristiaeth yng Nghymru, ac mai digwyddiad ac effaith ynysig yw hwn. Felly, yr hyn yr hoffwn ei weld yw i Lywodraeth Cymru gynnull uwchgynhadledd dwristiaeth gydag atyniadau mawr eraill o bob rhan o Gymru i glywed eu barn, i ailosod y berthynas â hwy, ac i glywed, 'Iawn, beth sy'n effeithio arnoch yn dilyn cau Oakwood?' i sicrhau bod y sector twristiaeth yng Nghymru yn cael ei gefnogi yn y ffordd orau bosibl, fel bod hwn yn parhau i fod yn ddigwyddiad ynysig ac nid yn ddechrau rhywbeth tristach.

15:25

Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn y prynhawn yma. Mae'n ddiwrnod trist yn wir. Gwn y bydd gan lawer o bobl ledled Cymru atgofion hapus iawn dros y 40 mlynedd diwethaf, ac mae’n atyniad sy’n annwyl i lawer, ac wedi bod felly ers degawdau lawer.

Credaf fod y busnes ei hun, fel y clywsom, wedi cydnabod bod amrywiaeth o ffactorau y tu ôl i’r penderfyniad heddiw. Soniodd hefyd am y costau ym mhob maes o'i waith. Rydym wedi clywed am gydrannau'r reidiau, ond roedd hefyd yn ymestyn i gost trydan a chwyddiant o ran bwyd a diod. Ni chredaf fod unrhyw beth mewn perthynas â'r cyhoeddiad heddiw sy'n awgrymu bod hwn yn fater sy'n benodol i Gymru; credaf fod y problemau a ddisgrifiwyd yn sicr yn ehangach na’r pethau y gall Llywodraeth Cymru gael effaith uniongyrchol arnynt. Credaf efallai fod y cyfeiriad at yr ardoll dwristiaeth yn ormodol y prynhawn yma, o ystyried na all ardoll twristiaeth ddod yn weithredol tan y flwyddyn nesaf, ar y cynharaf, a diben yr ardoll honno yw buddsoddi yn yr amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant yn lleol. Felly, gwn y bydd yn rhaid inni barhau i anghytuno ar y pwynt penodol hwnnw.

Rwy'n credu bod ein prif bryder—a chredaf fod hyn yn berthnasol i bob un ohonom—yn ymwneud â staff y safle. Wrth gwrs, mae ein tîm yn Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol a Cymru’n Gweithio i sicrhau bod pobl sydd mewn perygl o golli eu swyddi, neu mewn perygl o gael eu diswyddo, yn cael y wybodaeth, y cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt. Gwyddom fod llawer o’r tîm yn weithwyr tymhorol, felly cyfeiriaf at rai o’r datblygiadau arloesol sydd gennym, megis Syniadau Mawr Cymru, er enghraifft, sy’n gyfle gwirioneddol wych i’r bobl ifanc hynny a allai fel arall fod wedi cael eu cyflogi yn ystod y tymor twristiaeth yn Oakwood ei ystyried. Felly, dim ond un syniad yw hwnnw a allai fod yn ddefnyddiol i rai pobl.

Ond wedyn, o ran dyfodol y safle, rwyf innau hefyd yn rhannu’r pryder na fyddem am weld y safle’n segur. Hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r bobl a allai fod â diddordeb masnachol yn y safle, a byddwn yn sicr yn gwneud yr hyn a allwn i hwyluso gwerthiant cyflym, os gallwn gyfrannu at y trafodaethau hynny.

Ac yna, o ran y sector twristiaeth ehangach, rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym y math o uwchgynhadledd fawr y cyfeirioch chi ati ar y gorwel. Felly, ar 27 Mawrth, mae gennym ein cynhadledd dwristiaeth genedlaethol. Mae'n gynhadledd gan Lywodraeth Cymru a ddarperir drwy Croeso Cymru, a bydd yn cynnwys rhai o'r perchnogion atyniadau twristiaeth mawr hynny, ymhlith eraill. Rhai o'r materion allweddol y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â hwy yn y gynhadledd honno fydd cynaliadwyedd a chydnerthedd ar gyfer y sector.

Dwi am ategu'r teimlad o siom roedd Sam Kurtz yn cyfeirio ato fe am y newyddion disymwth iawn, ac annisgwyl hefyd neithiwr, fod Oakwood am gau. Mae gennym ni i gyd ein hatgofion melys iawn. Fel teulu, roedden ni'n mynd bron yn flynyddol i Oakwood ac roeddwn i'n cael fy ngorfodi, fel Sam, i fynd ar Megafobia a'r reids doeddwn i ddim yn gyfforddus i fynd arnyn nhw, ond roedd y plant yn teimlo bod yn rhaid i dad fynd gyda nhw. Felly, doedd dim llawer o ddewis yn hynny o beth. Ond diwrnodau da dros ben. Roedd tripiau ysgol Sul hefyd yn mynd i Oakwood yn gyson. Ac mae'n rhyfedd meddwl na fydd, o bosibl, Oakwood yn bodoli.

Mae rhywun yn meddwl am y staff, wrth gwrs, sy'n cael eu heffeithio'n fawr gan y newyddion yma. Mae rhywun hefyd yn sylweddoli nid yn unig bod Oakwood yn atyniad twristaidd pwysig iawn, iawn, ond yn atyniad oedd yn rhoi gymaint o hwb economaidd i'r ardal hefyd. Roedd yna gymaint mwy o gwmpas Oakwood, yn fusnesau cyflenwi, yn fusnesau lletygarwch ac yn y blaen a oedd elwa gymaint o'r parc yma.

Rŷn ni'n gwybod bod y parc wedi wynebu rhai trafferthion iechyd a diogelwch yn ddiweddar sydd ddim wedi helpu, a ddim efallai wedi buddsoddi'n ddigonol i barhau i fod yn barc sydd yn denu fel yr oedd. Ond efallai'r cwestiwn i'r Llywodraeth yw hyn: pryd, leicien i wybod, y cawsoch chi glywed gyntaf am drafferthion y parc? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda pherchnogion y parc, a pha gymorth o bosibl ydych chi'n gallu ei roi i'r parc er mwyn gweld a oes yna fodd i'w achub e, neu, yn sicr, fel roedd Sam yn awgrymu, ein bod ni'n cydweithio hefyd â phrynwyr newydd posibl, achos y peth olaf rŷn ni eisiau ei weld yw bod y safle yn cau ac nad oes yna atyniad twristiaeth o gwbl yn dod yn ei le fe, gan ei fod e wedi cyfrannu siẁd gymaint dros y blynyddoedd?

15:30

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Yn anffodus, roedd yn newyddion annisgwyl i Lywodraeth Cymru hefyd, felly cawsom wybod amdano ar yr un pryd ag eraill. Byddwn yn annog unrhyw fusnes mewn trafferth, neu unrhyw fusnes sy'n wynebu cyfnod economaidd neu heriau anodd iawn a allai eu harwain i ystyried gwneud dewisiadau fel hyn, i estyn allan at Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y gallant er mwyn inni allu archwilio opsiynau gyda'r busnesau hynny, i weld a oes ffyrdd y gallem weithio gyda'n gilydd i sicrhau cynllun mwy hirdymor a chynaliadwy ar gyfer y busnes hwnnw. Felly, dyna fyddai fy apêl i fusnesau y prynhawn yma—i estyn allan i weld a oes help ar gael iddynt yn y sefyllfaoedd hynny.

Rwy'n credu bod y rhiant-gwmni wedi bod yn eithaf clir yn ei fwriadau ar gyfer y safle, ond wrth gwrs, rydym wedi estyn allan atynt, drwy swyddogion, i weld a allwn gael sgyrsiau pellach gyda hwy. Mae ein sgyrsiau hefyd yn cynnwys sgyrsiau gyda'r staff, i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu yno. Felly, soniais am rai o'r partneriaethau yr ydym yn gweithio gyda hwy'n lleol i gefnogi staff, ond hoffwn nodi hefyd, lle caiff pobl eu heffeithio gan ddiswyddiadau a'u bod eisiau aros yn y farchnad lafur, gallant gael cymorth personol drwy raglen cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru, ReAct+, a hefyd Cymunedau am Waith a Mwy. Felly, bydd y cynlluniau hynny ar gael i'r unigolion a allai gael eu heffeithio. Ond fel y dywedais, gweithlu tymhorol sydd heb eu recriwtio eto ar yr adeg hon o'r flwyddyn yw mwyafrif helaeth y gweithlu.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod bod Oakwood yn barc eiconig. Rwy'n cofio mynd â fy mhlant yno—ac mae wedi bod yno ers peth amser—a hefyd, yn fwy diweddar, euthum â fy wyrion yno. Ond mae'r pwynt yn y fan hon yn bwysicach na hynny. Roeddech chi'n sôn nawr mai hwn oedd y tro cyntaf i chi glywed amdano, a hoffwn ategu'ch cais i fusnesau roi rhybudd cynharach, oherwydd mae hefyd yn rhoi rhybudd cynharach i'r cyflenwyr sy'n cyflenwi nwyddau i'r atyniad hwnnw, a hefyd i'r gweithwyr, fel y gallant chwilio am waith arall. Nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n wir o gwbl yma, ond rwy'n gobeithio ei fod, oherwydd mae cau busnesau'n sydyn yn eithaf dinistriol i'r holl bobl yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod oddeutu 200 o weithwyr yno. Nid wyf yn gwybod faint o'r rhain sy'n cael eu cyflogi'n llawn amser. Ond fy nghwestiwn i yw beth y gallwn ei wneud i gefnogi'r gweithwyr sy'n chwilio am waith arall.

Wrth gwrs, mae'n safle'n mawr. Rwy'n credu mai tir amaethyddol ydoedd cyn iddo fod yn barc thema—rwy'n credu mai felly oedd hi. Yn gynghorydd sir ers dros 30 mlynedd, pe bawn i'n dal i fod yno, rwy'n ei gofio'n cael ei ganiatâd cynllunio. Felly, mae'n debyg mai un peth a allai ddigwydd yw y gallai ddychwelyd i fod yn dir fferm. Ond bydd digon o opsiynau a bydd llawer o ddiddordeb, rwy'n siŵr o hynny. Ond mae'n rhaid sicrhau'r defnydd gorau o'r tir o ran y gymuned ehangach. Rwy'n cytuno â chi ei fod gam yn rhy bell ac yn ymgais hurt i gysylltu hyn â'r ardoll ymwelwyr. Hyd y gwn i, nid yw pobl fel arfer yn cysgu yn Oakwood—nid o fwriad, beth bynnag, rwy'n siŵr o hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny braidd yn hurt. Fodd bynnag, mae'n ergyd ddifrifol i'r gymuned. Fe gefnogodd bobl gyda'u gwaith yn fwy eang na'r parc ei hun, ac rwy'n teimlo y bydd angen cymorth ar y bobl hynny. Felly, hoffwn glywed beth a ddaw o hynny.

15:35

Rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto am y cwestiynau. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae cyfran y gweithlu a gyflogir drwy gydol y flwyddyn yn nifer cymharol fach o'i gymharu â'r cyfanswm, ond i'r gweithwyr unigol hynny, mae'r newyddion yn mynd i fod yn hollol ddinistriol. Felly, rydym yn barod i weithio, trwy ein rhaglen ReAct+ ac eraill, gyda phob un o'r unigolion hynny i geisio sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen i weithio ar ôl y cyhoeddiad heddiw. Ac yna, i gydnabod y pwynt am y lle fel safle pwysig iawn, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau canlyniad sy'n darparu swyddi ar gyfer y dyfodol ar y safle pwysig hwn. Ond heddiw, rwy'n credu bod ein meddyliau i gyd gyda'r gweithwyr sy'n cael newyddion anodd iawn, a'n bwriad yw eu cefnogi cystal ag y gallwn.

4. Datganiadau 90 eiliad

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiadau 90-eiliad, ac mae’r un cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.  

Mae pobl Ynys Môn a chynulleidfaoedd ar draws Cymru yn cofio’n annwyl iawn yr wythnos yma am Marged Esli, fu farw ddydd Gŵyl Dewi yn 75 oed. I’r rhai sy’n adnabod coridorau’r Senedd yma, mae yna lun ohoni hi. Yng nghyffiniau swyddfeydd Plaid Cymru mae o, yn digwydd bod—llun o Marged yn Eisteddfod yr Urdd, Porthmadog, 1964. Os ydy’n syms i’n iawn, mi oedd y ferch ifanc o Walchmai yn dal i fod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni ar y pryd, ond mi oedd y sbarc disglair, sy’n amlwg yn y llun hwnnw, yn gip ar dalent naturiol am actio a pherfformio a fyddai’n ei gweld hi’n serennu ar lwyfannau a sgriniau am ddegawdau i ddod.

Fel cyflwynydd ar raglen blant Bilidowcar, mi fyddai wedi bod yn un o’r wynebau cyntaf i fi ei gweld ar deledu fel plentyn, mae’n siŵr. Mi oedd ei chymeriad, Nansi Furlong, yn ffefryn ar Pobol y Cwm. Mi chwaraeodd y prif ran yn y ffilm Madam Wen ddechrau’r 1980au. Mae ei rhestr o rannau a pherfformiadau dros y blynyddoedd, yn Gymraeg a Saesneg, yn hirfaith, ond buodd hi’n ysgrifennu i’r sgrin hefyd. Mi oedd hi’n athrawes, a hefyd yn dangos ymroddiad i’w chrefft ac i’w bro fel gwirfoddolwr gweithgar yn Theatr Fach, Llangefni.

Yn 2023, mi gyhoeddodd hi ei hunangofiant, dan y teitl Ro'n i’n arfer bod yn rhywun, ond, wrth ei chofio heddiw, mi allwn ni ddweud yn bendant y byddwch chi wastad yn rhywun arbennig iawn i ni, Marged, ac mae Ynys Môn yn enwedig yn falch iawn, iawn o’ch llwyddiant.

Diolch, Lywydd dros dro. Rwyf am neilltuo'r amser hwn i ddathlu gwaith gwych Dolen Cymru, sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed eleni. Mae'r sefydliad hwn yn gwneud gwaith anhygoel yn cysylltu cymunedau yng Nghymru a Lesotho. Maent wedi gweithio'n galed iawn i hwyluso prosiectau, partneriaethau a chysylltiadau cynaliadwy sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau yn Lesotho ac yng Nghymru. Crynhodd y Gwir Anrhydeddus Mohlabe Tsekoa y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn hyfryd pan ddywedodd,

'Mae'r ddolen yn ffynhonnell gobaith i bobl Lesotho. Mae'n un o'r datblygiadau mwyaf sydd wedi dod i ni ar lefel ddynol... Mae'n enghraifft ddigynsail o ba mor ystyrlon y gall cysylltiadau fod... o ystyried ein lleoliad a'n maint bychan, mae angen gafael yn llaw eraill, ni waeth pa mor bell i ffwrdd, i helpu i wneud inni deimlo ein bod yn rhan go iawn o'r byd, yn rhan o'r gymuned ryngwladol'.

Mae hon yn enghraifft wych o'r cysylltiadau cryf y gall Cymru eu datblygu gyda gwledydd eraill ledled y byd. Y dyddiau hyn, pan fo cysylltiadau rhyngwladol mor fregus, mae mudiadau fel y rhain yn amhrisiadwy i ni yma yng Nghymru. Diolch yn fawr i Dolen Cymru. Diolch.

Mae’n siwr fod gan bob Aelod yma drac sain i’w hieuenctid. Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr oedd fy un i. Bu farw Geraint Jarman ddydd Llun, ond mae ei oes o gerddoriaeth a geiriau yn mynd i barhau am hir.

Ei gerddoriaeth o’r 1970au ymlaen ddaeth â rythm rege Riverside i’r sîn roc Gymraeg. Mi gyflwynodd Jarman fywyd y brifddinas i farddoniaeth gerddorol yn y Gymraeg. Mi oedd ei gigs yn chwedlonol, ac, wrth i fi siarad amdano, dwi’n teimlo fy hun nôl yng nghynnwrf torfol gig Jarman.

Yn ei gerddoriaeth, mi oedd y 'Sgip ar Dân', y 'tracsuit' yn wyrdd, a’r 'Tacsi i’r Tywyllwch'. Mi oedd 'Beirdd Gwleidyddol' byth yn golchi dillad brwnt, drws 'Merch Tŷ Cyngor' ar agor tan y wawr, ac mi oedd 'Ethiopia Newydd' yn dyfod cyn hir.

Cyn dod yn artist yn ei enw ei hun, mi oedd Jarman yn aelod gyda Heather Jones a Meic Stevens o’r grŵp dylanwadol Bara Menyn. Mi weithiodd ar y gyfres arloesol Fideo 9, a Jarman hefyd oedd llais gwreiddiol SuperTed.

Y tro diwethaf i fi glywed Geraint Jarman yn canu’n fyw oedd yn Neuadd y Senedd fan hyn yn 2019, ac mi ddywedodd wrthyf i, yn gwbwl ddiymhongar, taw braint a breuddwyd oedd cael canu ei anthem eiconig, 'Gwesty Cymru', yn Senedd Cymru.

Bydd caneuon Geraint Jarman yn ganolog i wead y sîn roc Gymraeg am hir eto. Mae ei eiriau wedi treiddio’n ddwfn i eneidiau gymaint ohonom ni. A meddyliwch yr ysbrydoliaeth gafodd y ferch 15 oed, gwrlog yma o’r llinell anfarwol,

'Y rocyrs â’r gwallte cwrlog yw dyfodol Gwalia nawr'.

Nos da, Jarman; Jarman, nos da.

15:40
5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Anghenion y gymuned fyddar

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 5, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar anghenion y gymuned fyddar. Dwi'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood.

Cynnig NDM8734 Mark Isherwood, Mike Hedges

Cefnogwyd gan Jane Dodds, Natasha Asghar, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd

1. Yn nodi:

a) yr angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar;

b) bod pobl sy’n byw â cholled clyw yn wynebu anfantais difrifol o gymharu â phobl nad yw hynny’n effeithio ar eu clyw;

c) mai Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw’r dull cyfathrebu a ffefrir gan lawer o bobl fyddar; a

d) pryder ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â chymhwyster TGAU iaith arwyddion.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i sicrhau bod y tasglu hawliau pobl anabl yn mynd ati’n benodol i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau pobl fyddar; a

b) i ymwneud yn fwy â’r gymuned fyddar i ganfod beth yw eu hanghenion.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae'r cynnig heddiw yn tynnu sylw at yr angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar, gan nodi bod pobl sydd â cholled clyw dan anfantais ddifrifol o gymharu â phobl heb golled clyw; mai Iaith Arwyddion Prydain, BSL, yw'r dull cyfathrebu a ffafrir gan lawer o bobl fyddar; a phryder ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â TGAU iaith arwyddion.

Mae'r cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y tasglu hawliau pobl anabl yn mynd ati'n benodol i nodi'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau pobl fyddar ac i ymwneud yn fwy â'r gymuned fyddar i ganfod beth yw eu hanghenion. Mae Ysgrifenyddion y Cabinet wedi cyfeirio at waith tasglu hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru yn rheolaidd fel ymateb cyffredin i unrhyw fater sy'n gysylltiedig ag anabledd. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau ynglŷn â'r modd y maent yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda'r gymuned fyddar, gan ddefnyddio hynny i gyfiawnhau eu datganiadau blaenorol nad oeddent yn cydnabod yr angen am Fil BSL yng Nghymru. Er enghraifft, ar ôl i mi godi'r penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i atal datblygiad TGAU BSL yng Nghymru yn y Siambr fis Hydref diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd,

'rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlwg, yn ymgysylltu, fel y byddaf i yn ei wneud, o safbwynt tasglu hawliau anabledd'

Y diwrnod wedyn, cefais ymateb rhyddid gwybodaeth i'r sawl a'i derbyniodd gan y tasglu hawliau pobl anabl, yn dilyn cais y derbynnydd am wybodaeth am y tasglu hawliau pobl anabl a'i is-bwyllgorau, sy'n sôn am Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Roedd yr ateb yn nodi bod llawer o gyfarfodydd y tasglu wedi cyfeirio at yr angen ehangach am wybodaeth fwy hygyrch, a fyddai'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain heb sôn amdani'n benodol. Wrth ymateb, dywedodd y derbynnydd, 'Gofynnais y cwestiwn am fy mod wedi cael llond bol ar ddarllen yr un cymal esgusodi yn cyfeirio unrhyw fater BSL at y tasglu hawliau pobl anabl neu'n ei ddefnyddio fel esgus i ohirio mynd i'r afael â BSL'. Mae'n dal i ddigwydd, ac eto mae yna dystiolaeth na fu'r nesaf peth i ddim trafod ar BSL o fewn y tasglu. A ellir herio hyn, os gwelwch yn dda?

Ar ôl i mi rannu hyn gyda chyd-gyflwynydd y cynnig hwn, Mike Hedges, a chyd-aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, cytunwyd y byddem yn chwilio am gyfle i gyflwyno hyn ar gyfer dadl Aelodau. Yn dilyn hynny, dywedwyd wrthyf gan gyfranogwyr â phrofiad bywyd yn y tasglu hawliau pobl anabl ei bod yn anodd cael slot i siarad yn y rhan fwyaf o gyfarfodydd oherwydd niferoedd y bobl eraill sy'n cymryd rhan. Cafodd rhai cyfeiriadau at BSL mewn argymhellion eu hychwanegu'n ddiweddarach.

Ond er fy mod yn croesawu sefydlu'r tasglu hawliau pobl anabl, mae ei natur a'i gylch gorchwyl yn cyfyngu ei waith i'r cyffredinol yn hytrach na'r penodol, pan fo angen y ddau ar bobl anabl sy'n wynebu rhwystrau'n gysylltiedig â'u cyflyrau penodol, yn cynnwys pobl fyddar.

Ar ôl y cyhoeddiad ym mis Tachwedd y llynedd y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp rhanddeiliaid BSL, adroddodd consortiwm newydd BSL Cymru o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl fyddar a phobl sy'n arwyddo wrthyf fod tîm polisi BSL Llywodraeth Cymru wedi bod yn holi unigolion a sefydliadau ynglŷn â hyn, a'u bod i gyd yn parhau i gefnogi fy Mil BSL (Cymru).

Mae tystiolaeth yn dangos bod gan bobl fyddar ddwywaith y gyfradd o broblemau iechyd meddwl a brofir gan boblogaethau sy'n clywed, ac eto Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar. Lansiodd grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru o academyddion, clinigwyr ac arbenigwyr, yn bobl fyddar a phobl sy'n clywed, sy'n gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, eu hadroddiad, 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd', yn y Senedd ym mis Mai 2022 mewn digwyddiad a gynhaliwyd gennyf i. Wrth gyflwyno strategaeth iechyd meddwl a lles ddrafft Llywodraeth Cymru, maent yn dweud nad oes unrhyw newidiadau wedi bod hyd yma ers i'r adroddiad ddod i law Llywodraeth Cymru, gan ychwanegu mai'r brif broblem yw diffyg mynediad at wasanaethau iechyd ac iechyd meddwl. Nid yw staff iechyd a gofal yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod ac nid ydynt yn gwybod sut i drefnu dehonglwyr BSL. Oherwydd bod gwasanaethau cwyno hefyd yn anhygyrch, ychydig o gwynion a gyflwynir i fyrddau iechyd.

Pan godais hyn eto gyda'r Prif Weinidog y mis diwethaf, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a chyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru gynnal adolygiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, i lywio'r cynllun cyflawni ochr yn ochr â'r strategaeth. Felly, mae angen inni wybod y bydd grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru yn rhan o'r adolygiad hwn a monitro'r cynllun dilynol.

Nid iaith yn unig yw BSL, mae hefyd yn borth i ddysgu, a modd i bobl fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed. Ym mis Hydref 2024 penderfynodd Cymwysterau Cymru atal datblygiad TGAU BSL. Rhan o'r cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn oedd nad oes gweithlu parod o athrawon cymwysedig yng Nghymru a allai ddysgu TGAU yn y pwnc hwn. Mae hyn yn mynd at wraidd y ddadl pam y mae angen Deddf BSL yng Nghymru. O ystyried y prinder o ddehonglwyr a chyfieithwyr BSL yng Nghymru, nid yw'n syndod fod prinder athrawon cymwysedig ar gyfer TGAU BSL.

Mae hyn yn ganolog i'r rheswm pam y mae arwyddwyr BSL yn cael eu gwahardd yn anuniongyrchol o gymdeithas yng Nghymru trwy ddiffyg ymwybyddiaeth o'r rhwystrau a wynebant, ac felly pam fod diffyg cynllunio rhagweithiol ac addasiadau yn cael eu gwneud ar gyfer pobl fyddar ac arwyddwyr BSL. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru wedi rhybuddio bod niferoedd llai o athrawon plant byddar a phroblemau eraill gyda diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru yn llesteirio disgyblion byddar. Pan godais hyn gyda'r Gweinidog addysg ar y pryd flwyddyn yn ôl, nododd fuddsoddiad i gefnogi hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer athrawon dysgwyr ag amhariad ar y synhwyrau sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol. Felly, siaradodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar â gwasanaethau ar lawr gwlad, a ddywedodd wrthynt fod hwn yn cael ei ddefnyddio i gadw lefel athrawon y gweithlu byddar yr un fath yn hytrach na'i ehangu, er bod un o bob pump wedi gadael y proffesiwn ers 2011. Dywedwyd wrthynt hefyd fod rhywfaint o'r cyllid wedi'i dargedu'n well at gydlynwyr ADY a staff ysgolion i helpu i godi ymwybyddiaeth o fyddardod yn hytrach nag ehangu'r ddarpariaeth, gan olygu nad yw'r proffesiwn yn tyfu i gefnogi plant byddar yng Nghymru.

Nid anhawster dysgu yw byddardod, ond mae plant byddar yn cael eu gwneud yn anabl gan yr anghydraddoldeb parhaus yn y canlyniadau gyda'r risg y bydd y bwlch rhwng plant byddar a'u cyfoedion sy'n clywed yn ehangu fwyfwy, yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ni fyddai fy Mil BSL (Cymru) yn ffordd o gyrraedd pen draw ynddo'i hun, ond byddai'n gweithredu fel llwyfan i sicrhau gwell gwasanaethau i'r gymuned fyddar a phobl â cholled clyw, a gwella'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd fel y gall pobl gymryd rhan lawn mewn pethau fel cyflogaeth, iechyd ac addysg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau o'r blaen nad oes angen deddfwriaeth BSL Cymru benodol arnom oherwydd bod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu archwiliad o'u darpariaeth BSL yn erbyn siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fodd bynnag, thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r gymuned fyddar yng Nghymru yw'r awydd am fwy o arweinyddiaeth gan bobl fyddar yng Nghymru o ran darparu gwasanaethau BSL, i wasanaethau BSL gael eu darparu gan arwyddwyr BSL eu hunain, ac am gymorth i alluogi cynllunio proffesiynol wedi'i arwain gan bobl fyddar a gosod cyllidebau ar gyfer materion BSL.

Mae'r ymgynghoriad cychwynnol ar y Bil hwn wedi cadarnhau cefnogaeth sylweddol i'r ddeddfwriaeth arfaethedig, gyda dim ond dau ymatebydd—un unigolyn ac un sefydliad—yn anghytuno â'r angen amdani. Mae'r rhesymau dros gefnogi'r Bil yn cynnwys mynd i'r afael â'r bylchau deddfwriaethol presennol o ran diogelu a chynnal hawliau pobl fyddar, a chreu cydraddoldeb â deddfwriaeth yn yr Alban a Lloegr. Fel y mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan, mae arwyddwyr BSL byddar o Gymru wedi gweld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, gyda'r ewyllys orau yn y byd, yn gwario arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau BSL ar dalu pobl nad ydynt yn arwyddwyr i lunio a darparu'r gwasanaethau BSL hyn, gyda chanlyniadau dealladwy ac anochel anghysondeb rhwng cynllun y gwasanaethau a'r angen gwirioneddol, gan leihau effeithlonrwydd a gwerth am arian. 

Mae Dr Rob Wilks, academydd cyfreithiol byddar o Gymru yn ysgol y gyfraith Bryste, yn dadlau nad yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn mynd i'r afael ag anghenion y gymuned fyddar yng Nghymru, gan ddod i'r casgliad fod y modd y mae'r Ddeddf yn anwybyddu darpariaethau penodol ar gyfer y gymuned fyddar yng Nghymru ar hyn o bryd yn tanlinellu bwlch allweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef i sicrhau cyfranogiad teg ac i elwa o ddatblygiadau cymdeithasol, ac er mwyn cau'r bwlch hwn, mae sawl cam allweddol yn hanfodol. Yn gyntaf, mae cyflwyno Deddf BSL wedi'i theilwra ar gyfer Cymru yn hanfodol. Gyda Deddf BSL yn Lloegr a'r Alban a Bil gweithredol wedi'i gynnig yng Ngogledd Iwerddon, os na fydd Deddf BSL yn dwyn ffrwyth yma hefyd, bydd yn gam ag arwyddwyr BSL ledled Cymru. Diolch yn fawr.

15:50

Hoffwn i ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno’r cynnig yma ac roeddwn i'n falch o'i gefnogi, a bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y cynnig. Hoffwn i hefyd ddiolch i Mark Isherwood am ei ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau ac anfanteision mae’r gymuned fyddar yn parhau i wynebu yn ein cymdeithas. Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd, mae pob un ohonom ni sy'n ymgysylltu gyda phobl anabl a sefydliadau pobl anabl yn gwybod mewn gwirionedd nad yw hynny'n realiti mewn llawer gormod o rannau o'u bywydau.

Mae Plaid Cymru felly yn falch i gefnogi’r cynnig i sicrhau y bydd pwyslais penodol ar anghenion y gymuned fyddar yng ngwaith tasglu y Llywodraeth ar hawliau pobl anabl, oherwydd er gwaethaf bod pobl fyddar ac anodd eu clyw yn cynrychioli tua 18 y cant o boblogaeth Cymru, mae’r gymuned yma yn aml yn anweladwy o ran trefniadau cymdeithasol ac argaeledd gwasanaethau. Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar ddangos bod dros 80 y cant o bobl fyddar yng Nghymru yn credu bod eu cyflwr yn ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus, a does dim syndod eu bod nhw’n teimlo felly. Mae hynny nid yn unig yn tramgwyddo eu hawliau a'u gallu i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas, ond mae'r anghydraddoldeb yma hefyd yn golygu eu bod yn dioddef yn anghymesur o afiechyd, er enghraifft, fel y ffaith fod pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl o gymharu â’r boblogaeth ehangach. Mae'n annerbyniol ac rwy'n cytuno ei bod yn annerbyniol bod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad sydd heb wasanaeth iechyd meddwl penodol ar gyfer pobl fyddar. 

Mae plant byddar hefyd 26 y cant yn llai tebygol o dderbyn gradd A* i C mewn pynciau craidd TGAU, sy'n adlewyrchiad o ddiffygion difrifol yn argaeledd arbenigedd perthnasol yn y gweithlu. Fe welsom ni arfer da yn ystod y pandemig trwy ddefnydd BSL yn niweddariadau dyddiol y Llywodraeth, a dwi’n croesawu’r cynigion deddfwriaethol diweddar i roi’r iaith ar sail statudol ffurfiol, ond mae penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â chynnig cwrs TGAU BSL yn gam anffodus yn ôl.

Dwi felly yn annog y Llywodraeth i adolygu’r penderfyniad, yn enwedig yng nghyd-destun deddfwriaeth hawliau dynol perthnasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i barhau i gefnogi ac i ddysgu o fentrau fel prosiect ymchwil Deaf Health and Well-being Wales, partneriaeth rhyngsefydliadol sy’n cynnwys prifysgolion Bangor ac Abertawe, sy’n asesu sut y gall defnydd ehangach o BSL helpu i ymateb i anghydraddoldebau yn y system iechyd. 

Mae'r cynnig yn crybwyll tasglu hawliau pobl anabl a'i rôl wrth danlinellu y rhwystrau sy'n effeithio'n andwyol ar fywydau pobl fyddar.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi wrthym, drwy ddatganiad ysgrifenedig ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl ddiwedd y llynedd, y caem ddatganiad llafar yn y flwyddyn newydd ar gynnydd y tasglu hawliau pobl anabl. Wel, ni chawsom un, ac o gofio bod y gwaith o gyhoeddi cynllun gweithredu hawliau pobl anabl gymaint ar ei hôl hi, mae hynny'n siomedig. Mae angen inni glywed hefyd am y diffyg cynnydd, a'r rhesymau dros hynny, ar eich ymrwymiad rhaglen lywodraethu i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, a pha waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â bwlch cyflogaeth pobl anabl, sy'n sylweddol fwy yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Clywodd yr ymchwiliad diweddar ar y bwlch cyflogaeth pobl anabl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, bryder dwfn ac eang am y diffyg cynnydd ar gyhoeddi a gweithredu gwaith y tasglu hawliau pobl anabl. Rydych chi'n cyd-gadeirio'r tasglu hwnnw gyda'r Athro Debbie Foster, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod pethau, yn ei geiriau hi, wedi llithro, a nododd y gallai ailgyfeirio adnoddau fod yn un o'r rhesymau dros hyn. Dywedodd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wrthym, 

'nid oes i anabledd yr un statws, efallai, â nodweddion gwarchodedig eraill.'

Ac

'nid ydym yn gweld yr un ffocws ac ysgogiad ym maes anabledd.'

Felly, sut y byddech chi'n ymateb i hyn, a phryd y cawn ni ddiweddariad a allai sicrhau cynnydd a chyflawni'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gymuned fyddar, fel y gelwir amdano yn y cynnig?

I gloi, rŷn ni angen ystyried sut mae effaith druenus llymder, a ddechreuwyd gan y Llywodraeth yn San Steffan gynt, ac sy’n parhau, i raddau helaeth, dan y Llywodraeth bresennol, wedi tanseilio effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus. Mae ymchwil ddiweddar gan RNID Cymru yn dangos bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gorfod torri gwariant ar offer a gwasanaethau i bobl fyddar gan dros 50 y cant ers 2010. Mae’n bwysig cofio nad yw’r anghydraddoldebau ac anfantais rŷn ni'n sôn amdanyn nhw yn ystod y ddadl hon yn bodoli mewn gwacter. Yn hytrach, maen nhw'n bodoli mewn sbectrwm ehangach o anghyfiawnderau cymdeithasol, rhywbeth a all ond dechrau cael ei adfer mewn difri drwy setliad newydd ariannol teg i Gymru gan San Steffan, ar sail anghenion ein poblogaeth.

15:55

Diolch i Mark Isherwood, ac a gaf i ddweud fy mod yn cytuno â phopeth a ddywedoch chi yn eich sylwadau agoriadol, Mark? Rwy'n credu eich bod chi wedi eu dweud yn huawdl iawn, ac nid wyf am geisio eu hailadrodd.

Ceir dau grŵp gwahanol o bobl fyddar: y rhai sy'n cael eu geni'n fyddar a'r rhai sy'n mynd yn fyddar wrth iddynt heneiddio. I'r rhai sy'n cael eu geni'n fyddar, mae'n dod fel sioc enfawr i'r teulu, nad ydynt erioed wedi cyfarfod â phlentyn byddar yn ôl pob tebyg. Daw fy ngwybodaeth am y pwnc gan fy chwaer sy'n ddwys-fyddar. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw na all glywed unrhyw beth; yr unig ffordd y gall adnabod sŵn yw drwy'r dirgryniadau y mae'n eu hachosi. Beth yw effeithiau bod yn fyddar? Rhowch gynnig arni eich hun. Ceisiwch wylio'r teledu heb isdeitlau a'r sain wedi'i fudo. Faint o'r rhaglen fyddwch chi'n ei deall mewn gwirionedd? Cerddwch o gwmpas yn gwisgo clustgapiau neu blygiau clust fel na allwch glywed unrhyw beth. Rydych chi'n colli sŵn natur, rydych chi'n colli clywed pobl yn siarad. Nid yw byd tawel yn fyd da. Er y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi iddo fod yn llai swnllyd ar adegau, y gwir amdani yw bod angen sŵn arnom. Pan fyddwn yn croesi ffyrdd, rydym yn defnyddio ein clyw yn ogystal â'n llygaid i osgoi damweiniau. Yr hyn y mae beicwyr yn ei wneud wrth nesáu at gerddwr o'r tu ôl yw canu eu cloch. Nid yw hynny o unrhyw ddefnydd i rywun sy'n fyddar. Os ydych chi'n gweld rhywun rydych chi'n eu hadnabod, rydych chi'n galw arnynt. Nid yw hyn yn gweithio pan fydd pobl yn fyddar. Os ydych chi y tu ôl iddynt, ni fyddant yn gwybod eich bod yn galw. Bydd gwaedd i nodi perygl posibl yn cael ei hanwybyddu, nid am nad ydynt yn malio, ond am nad ydynt yn clywed. Nid oes modd adnabod rhywun sy'n cerdded ar y stryd sy'n fyddar. Nid ydynt yn edrych yn wahanol i chi a minnau. Os bydd rhywun wedi colli eu golwg, fe welwch y ci tywys neu'r ffon wen. Os oes gan rywun broblemau symud, fe welwch y gadair olwyn neu'r ffyn sydd eu hangen arnynt. Nid oes unrhyw beth tebyg i'r rhai sy'n fyddar.

Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar. Mae angen darparu cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain pan nad oes gan rywun allu sylweddol i gyfathrebu'n effeithiol o ganlyniad uniongyrchol i golli clyw. Mae llawer o gyfleoedd yn cael eu colli i ddeall beth sy'n cael ei ddweud. Rwy'n cael hyn yn eithaf aml pan fyddaf i a phobl eraill yn siarad Cymraeg; dyna pam y byddaf bob amser yn defnyddio'r system gyfieithu pan ddywedir pethau sy'n gymhleth. Pan fyddwch chi'n fyddar, nid ydych chi'n cael y cyfle hwnnw.

Mae'r maes iechyd i fod i ddarparu pobl sy'n gallu cyfieithu mewn iaith arwyddion ar gyfer apwyntiadau meddygol. Fe ddylai; nid yw bob amser yn digwydd. Mae hyn yn bwysig fel bod yr unigolyn sy'n fyddar yn cael dealltwriaeth lawn o'r hyn a ddywedir wrthynt am eu hiechyd.

Mae pobl sydd â cholled clyw dan anfantais ddifrifol o gymharu â phobl sy'n clywed. Rwy'n ymuno â phlant a phobl ifanc byddar, ynghyd ag Auditory Verbal UK, i herio disgwyliadau o'r hyn y gall plant byddar ei gyflawni, ac yn galw am gynyddu mynediad at therapi llafar clywedol.

Mae cefnogaeth gynnar ac effeithiol yn hanfodol i bob plentyn byddar. Gall plant byddar gyflawni cyn belled â'u bod yn cael y cymorth y gallai fod ei angen arnynt, gan gynnwys esboniadau gan ddefnyddio iaith arwyddion. Pa mor aml y mae athrawon yn siarad â'r bwrdd gwyn? A siarad fel rhywun a oedd yn arfer darlithio—yn llawer rhy aml. Pan fyddwch chi'n siarad â'r bwrdd gwyn, fe wyddoch na fydd unrhyw un sy'n fyddar yn gwybod eich bod chi'n siarad hyd yn oed. Pan fydd hyn yn digwydd heb ddehonglwyr iaith arwyddion, ni fydd disgyblion yn gwybod beth sydd wedi ei ddweud, neu hyd yn oed os oes unrhyw beth wedi ei ddweud.

BSL yw'r dull cyfathrebu a ffafrir ar gyfer llawer o bobl fyddar. Roedd yna adeg yn y 1960au a'r 1970au pan gâi plant byddar eu dysgu i ddarllen gwefusau a siarad fel yr opsiwn a ffafrid. Lluniwyd geiriadur Iaith Arwyddion Prydeinig ar gyfer Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain gan yr uned ymchwil astudiaethau pobl fyddar ym Mhrifysgol Caeredin. Mae'n darlunio dros 1,800 o arwyddion cyffredin trwy luniau a diagramau, gyda diffiniad, esboniad a defnydd ar gyfer pob arwydd. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn sgìl defnyddiol i gyfathrebu'n effeithiol â phobl fyddar. Mae'n cynnwys symudiadau dwylo, siapiau dwylo, yn ogystal â mynegiant wyneb a phatrymau gwefusau i ddangos yr hyn y mae pobl eisiau ei ddweud. Amcangyfrifir bod 151,000 o bobl yn y DU yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a bod 87,000 o'r rheini'n bobl fyddar. Roeddwn yn hynod siomedig pan benderfynodd Cymwysterau Cymru beidio â bwrw ymlaen â thystysgrif gyffredinol addysg uwchradd mewn iaith arwyddion.

Mae'n bwysig fod y tasglu hawliau pobl anabl yn mynd ati'n benodol i nodi'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau pobl fyddar. Mae'n anodd iawn bod yn fyddar. Ni all pobl fyddar wneud yr hyn y mae'r rhai ohonom nad ydym yn fyddar yn ei gymryd yn ganiataol. Mae angen inni gael Deddf Iaith Arwyddion Prydain, oherwydd dyma'r unig iaith arall y mae pobl ei thaer angen fel modd o gyfathrebu. Mae angen inni gael sefydliadau mwy o faint, gan gynnwys y Llywodraeth, iechyd a llywodraeth leol, i gyflogi pobl sy'n gallu arwyddo'n hyderus ac yn gywir fel y gallant arwyddo a chael rhywun i ymateb iddynt gan ddefnyddio iaith arwyddion, pan fydd pobl fyddar yn dod atynt. Nid oes angen i bawb yn y sefydliad—nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn disgwyl i bawb yn y sefydliad—ddefnyddio iaith arwyddion ond dylai fod rhywun yno pan ewch yno sy'n gallu sgwrsio gan ddefnyddio iaith arwyddion fel bod y person sy'n fyddar yn gwybod beth sy'n digwydd. Dyna sut beth yw cydraddoldeb.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn gyntaf i Mark am gyflwyno’r ddadl hollbwysig hon ar anghenion y gymuned fyddar. Mae eich ymrwymiad parhaus, Mark, i hyrwyddo eu hawliau a galw am newid ystyrlon yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei gefnogi.

Rwyf am gadw fy sylwadau, os yw hynny'n iawn, i anghenion plant byddar. Yng Nghymru, mae oddeutu 2,260 o blant byddar a chanddynt amrywiaeth o anawsterau clyw, o fyddardod ysgafn i fyddardod dwys. Ac eto, yn rhy aml, cânt eu gadael heb y cymorth wedi’i deilwra sydd ei angen arnynt i ffynnu. Un o'r pethau mwyaf trallodus y maent yn eu hwynebu heddiw yw'r gostyngiad sydyn yn nifer yr athrawon plant byddar cymwys. Yng Nghymru, ers 2011, rydym wedi gweld gostyngiad syfrdanol o 20 y cant yn nifer y gweithwyr proffesiynol hanfodol hyn.

I wneud pethau’n waeth, mae’r gweithlu’n heneiddio ac ni ellir gorbwysleisio effaith hyn oll. Gan nad oes gan Gymru unrhyw ysgolion arbenigol ar gyfer dysgwyr byddar a bod 81 y cant o blant byddar yn mynychu ysgolion prif ffrwd, rydym mewn perygl o weld cenhedlaeth gyfan o blant byddar yn cael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg.

Dywed llawer o deuluoedd mai ychydig iawn o gymorth y mae eu plant yn ei gael, gyda rhai'n cael cyn lleied ag awr yr wythnos o gymorth gan athro plant byddar. Nid yw hyn yn ddigon da. Roedd yn hynod o siomedig felly fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 32 yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y llynedd a oedd yn galw am gynllun clir i fynd i’r afael â’r prinder athrawon arbenigol. Er gwaethaf deisebau cyhoeddus a chefnogaeth gref gan sefydliadau fel Cŵn Tywys Cymru a’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adael hyfforddiant arbenigol yn nwylo awdurdodau lleol, er gwaethaf tystiolaeth glir nad oes ganddynt adnoddau a gallu i ddarparu mynediad cyson a chyfartal. Fel y dangosodd ein hadroddiad, heb ddull gweithredu strwythuredig, cenedlaethol, bydd plant byddar yn parhau i fod yn gaeth i loteri cod post, gan wynebu rhwystrau i ddysgu, datblygiad a chyfleoedd yn y dyfodol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt, i ymgysylltu'n fwy trylwyr â phlant byddar a’u teuluoedd, ac i ymrwymo i gynllun clir, cyflawnadwy sy’n sicrhau na chaiff unrhyw blentyn eu gadael ar ôl.

Hoffwn dreulio gweddill fy amser yn canolbwyntio ar y rôl hanfodol y mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei chwarae ym mywydau plant byddar. Mae therapi lleferydd ac iaith yn golygu mwy nag addysgu plentyn i siarad yn unig; mae'n ymwneud â'u grymuso i gyfathrebu ym mhob agwedd ar eu bywydau. I blant byddar, gall nodi eu hanghenion cyfathrebu’n gynnar, gyda’r cymorth lleferydd ac iaith cywir, eu helpu i fynegi eu hunain, datblygu sgiliau iaith, a chymryd rhan lawn yn yr ysgol a’r gymdeithas. Ac eto, er gwaethaf yr angen clir hwn, mae mynediad at wasanaethau lleferydd ac iaith yn parhau i fod yn gwbl annigonol. Canfu adroddiad yn 2021 gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith mai anaml y bydd llawer o blant byddar, yn enwedig y rheini sy’n defnyddio BSL, yn dod ar draws gweithwyr proffesiynol sy’n rhannu eu hiaith, gan greu rhwystr sylfaenol i gyfathrebu effeithiol. Ar hyn o bryd, mae'n anghredadwy mai dim ond 0.2 o therapyddion iaith a lleferydd cyfwerth ag amser llawn i gefnogi plant byddar sydd gan Gymru, gydag un swydd arall yn wag. Nid oes agos digon ohonynt i ateb y galw hwnnw, yn enwedig o ystyried bod nifer cyfartalog y plant a phobl ifanc sydd ar y rhestrau therapi lleferydd ac iaith ar hyn o bryd wedi codi 31 y cant. Mae’n destun cryn bryder, felly, nad yw’r cynllun addysg a hyfforddiant sydd newydd ei gyhoeddi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cynyddu lleoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith, gan eu cadw ar 55, yr un fath â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r methiant hwn i fuddsoddi yn y gweithlu yn gyfle a gollwyd i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar blant ac oedolion byddar i gyfathrebu, dysgu a ffynnu. Ac er gwybodaeth i Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gwirio’r ffigurau hynny ddwywaith, gan imi gael ymateb gan y Prif Weinidog: nid yw nifer y lleoedd hyfforddi wedi cynyddu. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gydnabod yr angen am fwy o therapyddion lleferydd ac iaith arbenigol ac ymrwymo i gynllun clir ar gyfer cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro.

16:05

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno dadl mor bwysig heddiw, un sy’n agos iawn at fy nghalon? Yn anffodus, rydym wedi siarad cymaint o weithiau yn y Siambr, ond eto, rydym yn dal yma'n gofyn am yr un pethau: i'r gymuned fyddar gael ei chlywed, ac i'w hanghenion gael eu cydnabod. Yn ôl data’r GIG, mae oddeutu 480,000 o bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru, sy’n golygu bod un rhan o chwech o’n poblogaeth yn cael trafferth clywed, ac mae hyn yn cael effaith ddwys ar eu bywydau, gan eu rhoi dan anfantais aruthrol.

Mae’r hyn y mae llawer o bobl yn ei gymryd yn ganiataol—y gallu i gael mynediad at apwyntiadau meddygon teulu a deall eu diagnosis, i ddod o hyd i gyflogaeth addas a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus cyffredinol—yn frwydr barhaus ac anodd sy’n cael effaith aruthrol ar eu bywydau, yn enwedig eu hiechyd meddwl. Dychmygwch fyw o ddydd i ddydd, Lywydd dros dro, gyda’r rhwystredigaeth fod cymaint o dasgau cymharol syml yn anodd i chi, nid oherwydd na allwch eu gwneud, ond am fod y system wedi methu cydnabod eich anghenion penodol, ac nad yw'n gadael i chi eu gwneud. Gwyddom fod hyn yn achosi teimladau o unigedd, gwahaniaethu a straen yn y gymuned fyddar, sy’n cyfrannu at eu profiadau o orbryder ac iselder, ac sydd yn ei dro yn arwain at broblemau iechyd meddwl. Ac eto, mae’n dal yn frwydr i gael unrhyw welliant mewn gwasanaethau, iechyd meddwl neu fel arall, a chredaf fod hyn yn warth arnom fel gwlad. Mae gan 40 y cant o bobl fyddar broblemau iechyd meddwl, ffigur syfrdanol sy'n ddwywaith uwch na'r nifer ymhlith unigolion sy'n clywed. Mae’r diffyg cynnydd cadarnhaol ar wella mynediad pobl fyddar at wasanaethau iechyd meddwl a’u profiadau ohonynt, yn yr ystyr nad yw profiadau bywyd pobl wedi’u clywed wrth lunio a darparu gwasanaethau, yn drasiedi i gynifer o bobl. Yn syfrdanol, nid oes gan dde Cymru unrhyw rwydwaith iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar, ac mae’r gwasanaeth yn y gogledd, hyd y gwn i, wedi’i ddiddymu. Ac er bod Prifysgol Bangor wedi lansio prosiect iechyd a lles pobl fyddar yng Nghymru, sy'n fenter wych, yn y pen draw, nid yw'n mynd i'r afael yn ddigonol ag anghenion y gymuned fyddar. Ac eto, i mi’n bersonol, gwir drasiedi hyn oll yw ei fod yn fater cymharol syml i’w unioni, a gellid bod wedi gwneud hynny flynyddoedd yn ôl. Yr hyn sydd ei angen yw'r ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru i roi pwysau ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i wrando ar y rhwystrau sy’n effeithio ar y gymuned fyddar ac ymgorffori atebion iddynt. Lywydd dros dro, byddwn yn dadlau fod llawer o’r rhwystrau hyn ond yn bodoli am nad yw gwasanaethau cyhoeddus wedi talu unrhyw sylw iddynt o gwbl.

Yn olaf, hoffwn sôn am Fil Iaith Arwyddion Prydain. Mae plant, yn enwedig y rheini sy’n cael eu geni i rieni sy’n clywed, dan anfantais o’u genedigaeth, gan nad oes ganddynt fynediad at yr un cyfleoedd addysg ac iechyd â’u cyfoedion sy’n clywed. Yn y pen draw, mae'n annhebygol fod eu rhieni wedi cael profiad o BSL, ac maent yn annhebygol o fod wedi dod i gysylltiad â modelau rôl byddar. Ac oherwydd na all rhieni a brodyr a chwiorydd ddefnyddio BSL, caiff plant eu hynysu'n gyflym iawn, ac mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn amcangyfrif mai cyfanswm y bobl yn y DU sy'n defnyddio BSL yw 151,000, ac o'r rhain, mae 87,000 yn fyddar. Os ydym yn mynd i allu darparu’r gwasanaethau cyfieithu i bobl fyddar, os ydym yn mynd i ddysgu BSL i rieni a theuluoedd, mae angen inni fynd ati ar frys i gynyddu nifer y defnyddwyr BSL ac athrawon BSL. Rwy’n siomedig, felly, na wnaeth Cymwysterau Cymru fwrw ymlaen i ddatblygu TGAU mewn iaith arwyddion. Mae hyn yn annoeth yn fy marn i, a byddai wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i nifer y bobl a allai gael hyfforddiant BSL, ac yn y pen draw, i gael swyddi'n darparu gwasanaethau cyfieithu. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i roi’r cymhwyster TGAU hwn yn ôl ar yr agenda fel y gall unrhyw un sydd am ei astudio wneud hynny. Diolch.

16:10

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yma yn y ddadl hon heddiw, a diolch i Mark Isherwood am gyflwyno’r cynnig pwysig hwn, ac rwy’n falch iawn o’i gefnogi’n llawn. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod na fydd anghenion pob unigolyn byddar yr un peth. Er enghraifft, nid yw pob unigolyn byddar yn cyfathrebu yn yr un ffordd. Mae rhai'n dibynnu ar Iaith Arwyddion Prydain, ac eraill yn dibynnu ar ddarllen gwefusau, felly bydd angen dehonglwyr BSL ar rai, a bydd angen gwefuslefarwyr ar eraill. Fodd bynnag, gŵyr pob un ohonom fod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chydnabod fel iaith yma yng Nghymru, ac yn ôl cyfrifiad 2021, mae bron i 1,000 o bobl yng Nghymru yn defnyddio BSL fel eu prif iaith, ond rydym yn brin o athrawon BSL a dehonglwyr iaith arwyddion cofrestredig i ganiatáu i ddefnyddwyr BSL gyfathrebu yn eu hiaith ddewisol a’u hunig iaith.

Dylai anghenion y gymuned fyddar ac unrhyw gamau i wella’r sefyllfa sicrhau bod pobl fyddar yn ganolog i unrhyw benderfyniadau a wneir, a dylai cyfarfodydd fod yn gwbl gynhwysol fel y gall pobl fyddar gymryd rhan lawn. Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi’r grŵp rhanddeiliaid BSL, a gwn ei fod megis dechrau, ond rwy’n siŵr y bydd yn datblygu i fod yn gynhyrchiol iawn. Credaf mai'r peth allweddol am y grŵp hwnnw yw bod ganddo bobl â phrofiadau bywyd wrth ei wraidd, a chredaf mai dyna'r neges allweddol y dylem ei chyfleu heddiw, sef, beth bynnag a wnawn, dylem gael pobl sy'n gwybod am hyn yn arwain y trafodaethau a'r camau gweithredu.

Gwn fod cefnogaeth eang i wreiddio hawliau pobl fyddar yn y gyfraith gyda'r Bil BSL. Rwy'n cefnogi’r cam hwnnw, a fyddai’n helpu i gael gwared ar rwystrau i addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. Ac wrth gwrs, yn ogystal â hawliau iaith, mae hawliau diwylliannol hefyd, ac roeddwn yn falch iawn, ac rwyf wedi sôn am hyn yn y Siambr heddiw, o fynychu'r digwyddiad i ddadorchuddio plac porffor i Dorothy Miles yn y Rhyl. Rwy'n credu mai oddeutu blwyddyn yn ôl oedd hynny. Roedd Dorothy Miles yn fardd a pherfformiwr iaith arwyddion. A’r hyn a greodd argraff arnaf, wrth fynychu’r digwyddiad hwnnw, oedd bod pobl wedi dod o bob rhan o Gymru a Lloegr hefyd i weld beth oedd yn digwydd, gan eu bod wrth eu boddau fod rhywun yn rhoi cydnabyddiaeth i arwyddwr. Ac felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yw hi ein bod yn cael y ddadl hon a'n bod yn rhoi sylw i'r materion hyn yma.

Yn ôl adroddiad diweddar Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, ‘It does matter’, mae 65 y cant o bobl fyddar a phobl â cholled clyw yng Nghymru wedi profi agweddau neu ymddygiad negyddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd 44 y cant eu bod wedi cael profiadau negyddol gyda phobl mewn siopau, gyda gweithwyr siopau, a dywedodd bron i un o bob pump eu bod wedi profi agweddau negyddol gan gydweithwyr yn y 12 mis diwethaf. Ni chredaf y gallwn danamcangyfrif yr anawsterau a ddatgelodd Mike Hedges mor glir yn ei gyfraniad, a gwn o waith achos yn fy etholaeth fy hun nad yw gallu pobl fyddar i gael mynediad at ofal iechyd yn syml a'i bod yn aml yn anodd iawn cael cyfieithwyr addas ar gyfer apwyntiadau meddygol.

Gwyddom hefyd fod angen gwneud llawer mwy yma yn y Senedd i’w gwneud yn fwy cynhwysol i bobl fyddar a thrwm eu clyw, ond rwy’n falch iawn fod y Comisiwn yn barod iawn i dderbyn y galwadau hyn, ac rwyf wedi cael cyfarfod yn ddiweddar gyda Joyce Watson, ac rwy’n obeithiol iawn y byddwn yn gwneud gwaith y Senedd yn gwbl gynhwysol. Mae'n wych fod gennym arwyddwr yma heddiw, ond dylai fod gennym arwyddwr ar gyfer popeth sy'n digwydd yn y Senedd. Ond rwy'n obeithiol iawn, pan fydd y system newydd wedi'i sefydlu gennym cyn bo hir, y bydd yn cynnig arwyddo a thestun ysgrifenedig, ac y bydd yn gwbl gynhwysol. Felly, diolch yn fawr iawn i’r bobl sydd wedi ymateb mor gadarnhaol i hynny.

Felly, mae angen inni wrando ar yr hyn y mae pobl fyddar a thrwm eu clyw yn ei ddweud wrthym ynglŷn â beth sydd angen ei newid a beth sydd angen ei wella, ac mae angen iddynt fod yn ganolog yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'r gwelliannau y mae angen eu cyflwyno. Felly, yn amlwg, yn y ddadl hyd yma, rydym wedi dangos yr holl anawsterau sy'n bodoli, ond rwy'n credu bod pethau cadarnhaol yn digwydd, ac fel gwleidyddion gallwn wneud i bethau ddigwydd a gwella'r sefyllfa fel y gall pawb yn ein cymdeithas gymryd rhan lawn yn ein bywyd gwleidyddol, yn y bywyd diwylliannol, a’r holl bethau y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Diolch.

16:15

Diolch i Mark Isherwood ac i Mike Hedges am hyrwyddo’r achos hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod pob un ohonom yn ei gofleidio. Roeddwn yn darllen y 118 o ymatebion i’r ymgynghoriad a lansiwyd gan Mark Isherwood ymlaen llaw ar yr angen am Fil BSL, ac nid wyf wedi darllen pob un o’r 118, ond rwyf wedi darllen detholiad ohonynt, sy’n nodi’n glir fod yn rhaid inni weithredu. Ni allwn anwybyddu lefel y gwahaniaethu sy'n bodoli, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain.

Dywedodd rai o’r bobl a ymatebodd fod pobl fyddar sy’n byw yn Lloegr a’r Alban yn adrodd wrth eu ffrindiau yng Nghymru fod llawer o rwystrau wedi cael eu chwalu o ganlyniad i ddeddfwriaeth. Felly, mae’r gymuned fyddar yng Nghymru yn teimlo nad ydynt yn cael parchu a'n bod ar ei hôl hi, ac nad oes ganddynt statws cyfartal â'u cyfoedion byddar sy’n byw yn yr Alban neu Loegr. Heb rwymedigaeth i sicrhau bod gan BSL statws cyfartal ag unrhyw iaith arall a siaredir yng Nghymru, rwy’n teimlo’n gryf, ar ôl myfyrio ar hyn, y byddwn yn parhau i wahaniaethu yn erbyn gallu defnyddwyr BSL i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar sail gyfartal, gan y credaf fod llawer o bobl nad ydynt yn deall, i rai pobl, mai BSL yw eu hunig iaith. Hynny yw, os meddyliwch am rywun sy'n siarad Mandarin yn unig neu iaith arall sy'n llawer mwy anghyffredin na hynny, os na allwch gyfathrebu yn yr unig iaith rydych chi'n ei siarad, ni allwch wneud dim ond gwylio. A chredaf fod y perygl o wneud dim yn ddifrifol iawn, ac ni allwn adael i hynny ddigwydd o gwbl.

Wynebodd un unigolyn, myfyriwr ôl-raddedig, wahaniaethu wrth ymgeisio am swyddi, gweithio i wasanaeth cyhoeddus a defnyddio'r gwasanaeth iechyd. A dywedodd unigolyn arall y gofynnwyd iddi drefnu triniaeth mewn ysbyty, 'drwy ffonio'r rhif hwn'. Wel, yn amlwg, os ydych chi'n fyddar, nid ydych yn mynd i allu ffonio unrhyw un, neu fe allwch eu ffonio, ond ni fyddwch yn gwybod pan fyddant yn ateb, na pha gyfarwyddiadau i'w dilyn o ganlyniad. Bu'n rhaid i'r unigolyn, a oedd yn mynd i gael triniaeth fawr lle byddai'n rhaid iddynt gael tawelydd, wasgu botwm, siarad i mewn i'r intercom ac agor y drws pan fyddai'r seiniwr yn canu. Wel, ni fyddai wedi gallu gwneud dim o hyn. Yna, ni chaniatawyd i'r gofalwr fynd gyda'r unigolyn i'r ardal glinigol, ac ni wnaed unrhyw ymdrech i ddod o hyd i aelod o staff â hyd yn oed gwybodaeth sylfaenol o BSL. A phan gwestiynwyd hyn gan nyrs, yr ateb oedd, 'Gall ysgrifennu os bydd angen.' Ond ar ôl gorfod gadael ei ffôn gyda'i gofalwr, ni allai hyd yn oed ddefnyddio technoleg teipio a siarad. Felly, nid yw hon yn sefyllfa wych i rywun sydd ar fin cael triniaeth fawr.

Ond credaf mai un o’r pethau mwyaf problemus yw’r hyn y mae Sioned Williams ac eraill wedi sôn amdano, sef pan fydd rhywun yn cael eu geni’n fyddar, mae angen inni ymgynnull o amgylch y teulu cyfan i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi, er mwyn sicrhau bod plant byddar yn cael mynediad cyfartal fel y gallant ddysgu hyd eithaf eu gallu. Ac nid ydym yn gwneud hynny os nad ydym yn defnyddio'r holl offer yn y blwch i'w cefnogi hwy a'u teuluoedd. Mae angen i blentyn sy’n clywed ddod i gysylltiad â lleferydd er mwyn gallu dysgu siarad, ond mae hynny hefyd yn berthnasol i blentyn byddar, ac mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i rieni sy’n clywed. Felly, mae angen cymorth priodol ar y rhieni hynny i ddysgu arwyddo yn ogystal â'r plentyn, nid y plentyn yn unig. Ac yn wir, mae arwyddo'n arf pwysig iawn i'w ddefnyddio gyda phobl ag anghenion dysgu ychwanegol o fathau eraill hefyd, gan ei fod yn eu galluogi i ddeall yn gliriach y cyfarwyddiadau y gofynnir iddynt eu dilyn. Os na allwch ddeall yr athro, sut y gallwch ddysgu a sut y gallwch gael y cymwysterau sydd eu hangen i gael swydd dda? Ac mae Sioned Williams eisoes wedi rhoi ystadegau digon brawychus i ni am danberfformiad ar y lefel honno. A golyga hynny ein bod yn gorfodi pobl i fyw mewn tlodi oherwydd diffyg dehonglwyr BSL mewn ysgolion.

Mae’n destun pryder mai niferoedd cyfyngedig o athrawon cymwysedig sydd â chymhwyster ychwanegol mewn addysgu disgyblion byddar, ac efallai y gellir rhifo'r niferoedd sy’n siarad Cymraeg hefyd ar un llaw. Felly, mae gwir angen inni newid hynny, ac mae angen inni ailedrych ar benderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â TGAU mewn BSL, a gafodd ei ddiddymu y llynedd, gan fod yn rhaid inni sylweddoli bod cymorth annigonol i blant ifanc byddar a'u teuluoedd yn golygu bod gan rai pobl ifanc byddar salwch meddwl difrifol o ganlyniad i brofi unigedd a chael eu hamddifadu o wybodaeth yn eu lleoliadau addysgol.

Mae'n dra hysbys ei bod yn haws dysgu ieithoedd pan ydym yn iau. Bydd plant ifanc yn amsugno ieithoedd fel sbwng, ac mae'r ddarpariaeth addysg gynnar orau yn addysgu BSL i'w holl ddisgyblion. Dylai fod yn bosibl i bob plentyn mewn addysg ddysgu BSL. Dyna y dylem ei ddisgwyl gan addysg gynhwysol.

16:20

Rhaid i’r Aelod ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda.

Iawn. Felly, mae’n rhaid inni fwrw ymlaen nawr â Bil BSL, yn ogystal â gwneud rhai newidiadau a gwelliannau i'n gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau mynediad cyfartal i bobl fyddar.

Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 16:24:29
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood a Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl Aelodau hon. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y rhwystrau a wynebir gan y gymuned fyddar yng Nghymru, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar, ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â’r rhain. Ac mae’r ddadl hon wedi rhoi cyfle i ni ailddatgan ein hymrwymiad i gydnabod a hyrwyddo Iaith Arwyddion Prydain a’n penderfyniad i ysgogi newid cadarnhaol hirdymor i bobl fyddar ledled Cymru. Ac mae’r ymrwymiad hwnnw wedi'i gyfleu mor glir gan Aelodau ar draws y Siambr heddiw, felly dadl werthfawr iawn.

Ers gormod o amser, mae pobl fyddar a’u teuluoedd wedi wynebu rhwystrau sylweddol yn eu bywydau bob dydd, rhwystrau sy’n cynnwys problemau'n gysylltiedig â mynediad at addysg, at iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac at wasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru, sydd wedi’u nodi heddiw hefyd. Mae'n rhaid inni adeiladu cymdeithas sy'n parchu ac yn grymuso pob unigolyn byddar, i greu Cymru sy'n darparu mynediad teg ac sy'n cydnabod, yn hwyluso ac yn gweld gwerth BSL fel rhan annatod o dirwedd ieithyddol Cymru.

Mae deall profiadau bywyd y gymuned fyddar yn hanfodol i lunio ein polisïau trawslywodraethol, fel y mae'r Aelodau wedi'i nodi. Rydym wedi dechrau gwneud cynnydd ar sicrhau mwy o ymwneud ag aelodau o'r gymuned fyddar, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar, ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau'r ymgysylltiad hwn ymhellach. Mae gweithgorau’r tasglu hawliau pobl anabl wedi cwblhau eu gwaith, ac mae’r argymhellion wedi llywio datblygiad y cynllun hawliau pobl anabl newydd, a bu mwy na 200 o swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol—gan gynnwys aelodau o’r gymuned fyddar—yn cydweithio i ddatblygu’r argymhellion.

Nod y cynllun 10 mlynedd hwn, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn y gwanwyn, yw cael gwared ar rwystrau a chreu newid cadarnhaol hirdymor, ac mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod camau gweithredu, canlyniadau ac uchelgeisiau’r cynllun hawliau pobl anabl yn adlewyrchu safbwyntiau'r gymuned fyddar, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar. Drwy ein cynllun hawliau pobl anabl, byddwn yn nodi ac yn ymateb i'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl fyddar yng Nghymru. Bydd ein hymgynghoriad ar y cynllun yn sicrhau bod y gymuned fyddar yn cymryd rhan weithredol yn y cynllun a bod eu safbwyntiau'n cael eu cynnwys ac y gweithredir arnynt.

Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori allanol i roi cyngor a chymorth ac i fonitro gweithrediad, darpariaeth ac effaith y cynllun hawliau pobl anabl, gan gynnwys adrodd, wrth gwrs, ar ganlyniadau cadarnhaol i'r gymuned fyddar. Mae gwaith y tasglu hawliau pobl anabl wedi dangos bod angen mwy o ymdrech i sicrhau tegwch, cynhwysiant a chyfranogiad. Mae’n hollbwysig ein bod yn uno yn ein hymdrechion i greu Cymru fwy cyfartal, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac edrychaf ymlaen at wneud datganiad llafar ar y cynllun hawliau pobl anabl yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae fforwm cydraddoldeb Llywodraeth Cymru i bobl anabl yn parhau i gydweithio ag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio'n frwd tuag at sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl.

Rydym yn cydnabod fod yna lawer o bobl fyddar nad ydynt yn ystyried eu hunain yn anabl, ac mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r grŵp rhanddeiliaid BSL yn ddiweddar, a diolch i Julie Morgan am ein llywio tuag at hyn drwy ei hymgysylltiad gweithredol â’r gymuned fyddar. Mae hwn yn grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n gweithredu am oddeutu chwe mis, a bydd yn datblygu argymhellion allweddol i lywio gwaith Llywodraeth Cymru ar greu cynllun polisi BSL. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo a hwyluso BSL a gwella canlyniadau ar gyfer cymuned arwyddwyr BSL byddar Cymru. Bydd y grŵp yn cynghori ar flaenoriaethau BSL, bydd yn ystyried lle mae rhwystrau iaith, ac yn ystyried y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau mynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau ar gyfer arwyddwyr BSL byddar ar draws ystod eang o bolisïau trawslywodraethol. Bydd y cynllun BSL yn cyd-fynd â'r cynllun hawliau pobl anabl, gan gydnabod BSL gyda'i hunaniaeth ddiwylliannol, hanesyddol ac ieithyddol unigryw ei hun. Mae’r grŵp rhanddeiliaid BSL yn gyfle pwysig i gryfhau ein cydweithrediad fel y gellir ymgysylltu’n ystyrlon â rhanddeiliaid allweddol, gan weithredu ar unwaith, a chaniatáu inni nodi'r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan arwyddwyr BSL byddar, i gefnogi ein gwaith tuag at sicrhau Cymru gynhwysol a chyfartal.

Mae cymaint mwy i’w wneud o hyd, ond hoffwn adrodd ar rywfaint o gynnydd trawslywodraethol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i gefnogi gwaith ar adnewyddu ac ehangu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth. Bydd y safonau newydd yn cynnwys casglu a chadw gwybodaeth gywir am gleifion er mwyn galluogi darparwyr gwasanaethau i gyfathrebu â chleifion yn glir ac yn effeithiol. Bydd canllawiau cadarn a chlir hefyd ar gyfer comisiynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu BSL, ac wrth inni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau gwasanaethau gofal iechyd teg i bobl fyddar.

Dan arweiniad y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, mae’r strategaeth iechyd meddwl a llesiant sydd ar y ffordd, sydd hefyd i’w chyhoeddi yn y gwanwyn, yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod cymorth iechyd meddwl yn hygyrch i bawb, ac mae anghenion iechyd meddwl y gymuned fyddar wedi’u codi y prynhawn yma gan yr Aelodau. Bydd y strategaeth yn ystyried anghenion amrywiol y gymuned fyddar yng Nghymru, ac fel y dywedodd Mark Isherwood, mewn ymateb i’r cwestiwn i’r Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gydbwyllgor comisiynu GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gynnal adolygiad er mwyn gwneud argymhellion i wella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru. Byddaf yn adrodd ar bwysigrwydd cynnwys y gymuned fyddar, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar, yn yr adolygiad hwnnw.

Rwyf hefyd yn falch o weithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau bod ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn ddiogel, yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb, gan gynnwys pobl fyddar. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â SignVideo, ap ar gyfer dyfeisiau symudol sy’n darparu mynediad uniongyrchol at wasanaethau dehongli ar-lein. Mae hwn yn gam tuag at gael gwared ar rai o’r rhwystrau ieithyddol presennol i bobl fyddar wrth deithio ar y trên.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm. I gefnogi hyn, rydym wedi gweithio gydag ymarferwyr BSL ac arbenigwyr eraill, gan gynnwys aelodau o'r gymuned fyddar, i ddatblygu canllawiau ar lunio cwricwlwm sy'n cynnwys cynnydd mewn BSL. A diolch, Jane Dodds, am alw am ymgysylltiad pellach i edrych ar anghenion plant byddar ac am edrych ar y mater mewn perthynas â therapyddion lleferydd ac iaith, a byddwn yn ystyried hynny. Gwnaed y penderfyniad i roi'r gorau i ddatblygu TGAU BSL gan Cymwysterau Cymru yn eu rôl fel ein rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau’n cydnabod y siom a’r pryder ynghylch y penderfyniad hwn, ond rydym yn croesawu eu cadarnhad y byddant yn parhau i ddatblygu unedau BSL fel rhan o gyfres sgiliau newydd fel cymhwyster a fydd ar gael o 2027 ymlaen.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, mae cymaint mwy o waith i’w wneud o hyd i greu’r Gymru gyfartal honno, a bydd ennill profiad bywyd drwy ymgysylltu a chydweithio ag aelodau o’r gymuned fyddar ac arwyddwyr BSL byddar yn sicrhau bod ein polisïau’n diwallu eu hanghenion ieithyddol a diwylliannol. Diolch unwaith eto i Mark Isherwood a Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl hon. Diolch hefyd i chi, Mark, am rannu'r crynodeb drafft o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil BSL (Cymru) gyda ni yn ddiweddar, ynghyd â'r adroddiad drafft ar ganfyddiadau'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd. Byddwn yn ystyried y rhain yn ofalus ac yn parhau i weithio gyda chi mewn perthynas â’r Bil. Felly, drwy ein hymdrechion ar y cyd, byddwn yn parhau i weithio i gael gwared ar y rhwystrau a wynebir gan bobl fyddar. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol, a chanlyniadau gwell yn y pen draw i bobl fyddar ledled Cymru. Diolch yn fawr.

16:30

Dwi'n galw nawr ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Lywydd. Diolch i bawb am eu sylwadau caredig ac am eu cyfraniadau. Mae amser yn brin, felly ni allaf gynnwys popeth a ddywedoch chi, ond rhoddodd Sioned Williams sylw penodol i'r bwlch cyflogaeth, y gwahaniaethu, y methiant i arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ac y gallant eu cyflawni oherwydd methiant system a'r effaith ganlyniadol ar iechyd meddwl y gall hyn ei chael. Roedd Mike Hedges yn tynnu sylw at y ffordd roedd rhai'n cael eu geni'n fyddar, rhai'n mynd yn fyddar a goblygiadau hynny, yr angen i ddarparwyr gwasanaethau ddiwallu anghenion cudd y gymuned fyddar, a bod pobl â cholled clyw dan anfantais ddifrifol o gymharu ag eraill.

Yn fwyaf arbennig, pwysleisiodd Jane Dodds anghenion plant byddar sy'n cael eu gadael yn rhy aml heb y gefnogaeth wedi'i theilwra sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Unwaith eto, cyfeiriodd at y gostyngiad yn nifer athrawon plant byddar, er bod 81 y cant o blant byddar yn mynychu ysgolion prif ffrwd, gan greu rhwystrau i'w cyfleoedd bywyd, ac yn briodol iawn, unwaith eto, pwysleisiodd bwysigrwydd allweddol a rôl therapyddion lleferydd ac iaith, mewn cyferbyniad â'r gostyngiad yn nifer y lleoedd hyfforddi a'r rhai sydd mewn swydd.

Cyfeiriodd Joel James at y frwydr barhaus i gael mynediad at wasanaethau oherwydd bod y system wedi methu cydnabod anghenion penodol pobl fyddar, gan greu pryder a phroblemau iechyd meddwl. Cyfeiriodd at ddiffyg rhwydweithiau iechyd meddwl i bobl fyddar a'r angen am ewyllys wleidyddol gan Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar ddarparwyr gwasanaethau, a'r angen i gynyddu nifer y siaradwyr BSL a defnyddwyr gwasanaethau.

I Julie Morgan, diolch. Fel y dywedodd, nid yw anghenion pob unigolyn byddar yr un fath; mae rhai pobl yn defnyddio BSL, rhai yn wefuslefarwyr, ac mae rhai'n gwneud y ddau. A phrinder athrawon a dehonglwyr unwaith eto—thema a glywyd gan bob un ohonoch. Yr angen i'r Senedd ei hun fod yn gwbl gynhwysol, gydag arwyddwyr ar gyfer popeth sy'n digwydd, a manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i'r arwyddwr am y gwaith gwych y mae'n ei wneud yn ceisio dal i fyny â ni i gyd; bydd angen diod gref arno wedyn, rwy'n siŵr. Cyfeiriodd hefyd at grŵp rhanddeiliaid BSL—fe ychwanegaf fy mod wedi cael gwybod bod chwe phrif gyfarfod wedi'u trefnu, ni wnaeth y ddau gyfarfod cyntaf esgor ar unrhyw gamau ac mae pryder na fydd llawer o gynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae gobaith y bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn esgor ar gamau gweithredu gan fod cyd-gadeirydd sy'n defnyddio BSL, Dafydd Eveleigh, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru. Maent yn gwylio'n fanwl.

Diolch i Jenny Rathbone. Dywedodd ei bod yn bwysig ein bod i gyd yn cefnogi'r alwad hon. Cyfeiriodd at y 118 o ymatebion i'r ymgynghoriad—mae bellach yn 119 mewn gwirionedd; cafwyd ymateb hwyr gan Gomisiynydd Plant Cymru. Yn ogystal, cafwyd 77 o gyfranogwyr ar draws pedwar cyfweliad a phum grŵp ffocws, diolch i dîm allgymorth y Senedd. Ac o'r holl niferoedd hynny, dim ond dau wrthwynebiad: un unigolyn ac un sefydliad. Fel y dywedodd Jenny, mae perygl mewn gwneud dim byd. Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i rieni sy'n clywed ac mae angen i ni ddarparu cefnogaeth iddynt hwythau hefyd ddysgu arwyddo, a dylai fod yn bosibl i bob dysgwr ddysgu BSL.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gloi'r cyfraniadau. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl fyddar ledled Cymru, rhwystrau mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ehangach yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae yna bethau eraill fel cyflogaeth y clywsom gyfeirio atynt. Cyfeiriodd at y tasglu a'r cynllun hawliau pobl anabl a nododd fod hynny'n werthfawr ar gyfer materion pobl anabl yn gyffredinol. Ond mae angen gweithredu cyflwr-benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl fyddar hefyd, gan gynnwys deddfwriaeth. Cyfeiriodd at grŵp rhanddeiliaid gorchwyl a gorffen BSL—a chyfeiriaf eto at y sylwadau a wneuthum eiliad yn ôl—a phwysleisiodd fod angen gweithredu go iawn bellach. Fel y dywedodd, mae angen gwneud llawer mwy o waith.

Rwyf am orffen drwy ddweud, yn gwbl briodol, fod angen gwneud cymaint mwy o waith, gan efelychu'r camau gweithredu yn y Seneddau eraill ledled y DU lle mae hyn wedi arwain at gefnogaeth drawsbleidiol lawn i ddeddfwriaeth a chamau gweithredu, gan gyrraedd pwynt lle gall pawb gytuno ar y ffordd orau ymlaen, yn cynnwys, ond heb ddibynnu'n unig ar sylfaen ddeddfwriaethol i gyflawni hynny. Felly, diolch yn fawr, bawb.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllid llywodraeth leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf ar gyllid llywodraeth leol. Mae'r cynnig yn cael ei wneud gan Laura Anne Jones.

Cynnig NDM8838 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod rôl hanfodol cynghorau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.

2. Yn nodi bod cynghorau'n dal mwy na £2 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir ei ddefnyddio.

3. Yn gresynu at y cynnydd arfaethedig o 7.36 y cant yn y dreth gyngor ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla gyllido llywodraeth leol Cymru;

b) gweithio gyda chynghorau i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl;

c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sy'n cynnig codiad treth gyngor o 5 y cant neu fwy gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais ie cyn gweithredu'r cynnydd arfaethedig;

d) lleihau biwrocratiaeth llywodraeth leol Cymru i'w gwneud yn fwy effeithlon;

e) cydgysylltu â chynghorau i sicrhau gwaith traws-gyngor a rhannu adnoddau a gwasanaethau, ynghyd â chynnydd mewn digideiddio pan fo hynny'n bosibl, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithlon ac i dorri costau; ac

f) gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu diwylliant tebyg i fusnes i sicrhau defnydd effeithiol o gyllid trethdalwyr, gan dorri gwastraff a lleihau gwariant ar brosiectau gwagedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon heddiw ar gyllid llywodraeth leol, ac rwy'n cyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies.

Yn gyntaf, rwyf am ddechrau drwy gydnabod y rôl bwysig a hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae yn darparu gwasanaethau allweddol ledled Cymru. Efallai nad ydym yn gwybod digon am hyn. Yn hytrach, mae'r Llywodraeth hon yn anfon dictad ar ôl dictad at lywodraeth leol heb eu dilyn â'r arian sydd ei angen, fel prydau ysgol am ddim, lle mae disgwyl i gynghorau dalu'r diffyg. Ar ben hynny, mae'r fformiwla ariannu yng Nghymru bob amser wedi bod yn sylfaenol annheg, gan ffafrio ardaloedd dan reolaeth Llafur dros gefn gwlad Cymru a gogledd Cymru. Mae'n rhaid iddo newid. Rwy'n gwybod y byddai fel twrcïod yn pleidleisio dros y Nadolig i'r Llywodraeth hon, ond ni all barhau fel hyn. Y peth iawn i'w wneud yw comisiynu adolygiad annibynnol arno, ac rwy'n falch fod Aelodau Plaid Cymru ar y meinciau gyferbyn yn cytuno â ni ar hyn. Mae pa mor wledig eu natur yw ardaloedd yn fater sylfaenol, a rhaid rhoi diwedd ar gosbi cynghorau am fod yn wledig a phopeth sy'n gysylltiedig â hynny a phob dim y mae'n ei olygu i wasanaethau.

Rydym yn falch o weld cyllid gwaelodol o 3.8 y cant, ac fel y dywedais yn y Siambr ddoe, mae croeso mawr iddo gan y cynghorau sy'n cael eu taro galetaf gan y fformiwla ariannu annheg hon i lywodraeth leol. Ond pam 3.8 y cant, pan fo un o'ch plaid chi eich hunain, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi dweud bod angen iddo fod yn 4 y cant fan lleiaf? A beth am y cynnydd i yswiriant gwladol a'r baich enfawr sydd bellach wedi'i roi ar awdurdodau lleol, nad ydynt hyd yn oed yn gwybod faint o arian a gânt gennych i dalu'r baich treth ychwanegol enfawr y mae eich cymheiriaid yn San Steffan wedi ei roi arnynt? Bydd yn rhaid i gynghorau lleol, ac yn y pen draw, y trethdalwyr yng Nghymru, dalu'r diffyg y gwyddom y byddwn yn ei weld.

O dan gamreolaeth y Llywodraeth Lafur hon, mae'r dreth gyngor wedi codi i'r entrychion yng Nghymru. Cododd y dreth gyngor dros 200 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf ers i Lafur fod mewn grym; mae hynny'n cyfateb i £1,400 yn fwy y flwyddyn. Mae wedi tyfu o gyfraniad bach a delid gan bob preswylydd am wasanaethau lleol i fod yn fil anfforddiadwy sy'n cynnig gwasanaethau gwaeth yn gyfnewid amdano. Mae'n ymddangos mai dyma'r patrwm cyffredin ar draws Cymru, fod trigolion yn gorfod talu mwy am lai. Yn ddiweddar, mae cynghorydd Llafur yng Nghymru wedi ceryddu trigolion am roi eu sbwriel allan, gan honni eu bod yn byw'n rhy afradlon. Fel cosb, mae trigolion bellach yn wynebu cynnydd o 6.7 y cant i'w treth gyngor ac mae cyngor y ddinas bellach yn bwriadu lleihau eu casgliadau gwastraff i bob tair wythnos. Dyma y gallwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraethau Llafur blinedig: trethi uwch a safonau byw is.

Y cynnydd presennol yn y dreth gyngor yng Nghymru yw'r uchaf a welsom dros y blynyddoedd diwethaf, ymhell uwchlaw'r hyn sy'n cael ei ystyried yn normal. Er mwyn ei roi mewn persbectif, yn 2002-03, cododd y dreth gyngor ychydig dros 2 y cant; heddiw, mae'n 7.3 y cant ar gyfartaledd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod trethi uchel yn gam yn ôl ac yn arbennig o niweidiol i aelwydydd incwm isel. Rydym yn credu, yn union fel yn Lloegr, fod gan bobl leol hawl i ddewis cael refferendwm ar gynnydd o dros 5 y cant i'r dreth gyngor. Nid cosbi awdurdodau lleol mohono, ond eu diogelu hwy a'u preswylwyr. Byddai'n golygu na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol drwy beidio â rhoi digon o arian iddynt, gan eu gorfodi i godi eu harian eu hunain drwy drethi cyngor. Mae hefyd yn atal awdurdodau lleol rhag edrych ar y cyhoedd fel ffordd allan bob tro y byddant yn brin o arian neu'n camreoli eu cyllidebau eu hunain. Gobeithio y byddai'n annog rheolaeth gyllidebol iachach gan gynghorau.

A beth am y biliynau sy'n segur mewn cronfeydd wrth gefn? Mae gan Rhondda Cynon Taf £269 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn; ar hyn o bryd mae Cyngor Caerffili yn cadw £222 miliwn o gyllid wrth gefn, ond mae trigolion yno yn gweld cynnydd o 7.9 y cant yn eu treth gyngor. Gadewch imi atgoffa Llafur fod arian wrth gefn i fod i gael ei ddefnyddio ar adegau anodd iawn—y dyddiau glawog hynny. Wel, rwy'n dadlau ei bod hi ddiwrnod glawog, ac eto mae Llafur yn dal i betruso rhag annog cynghorau i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae'n hollol anfoesol—

16:40

Rwy'n credu eich bod ychydig yn anonest am gronfeydd wrth gefn. Dylech wybod erbyn hyn ac yn sicr, fe fyddwch wedi dysgu cymaint â hyn: mae cyllid wrth gefn, rywsut, wedi'i neilltuo ar gyfer y prosiectau cyfalaf sydd eto i ddod. Hefyd, mae'n rhaid i chi ddeall—mae'n gyfleus iawn, onid yw, eich bod chi newydd sôn am awdurdod sy'n cael ei redeg gan Lafur. Rwy'n siŵr ei fod yn fwriadol—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond yr hyn nad ydych chi wedi'i wneud hyd yma yw sôn am unrhyw arian ychwanegol sy'n mynd ac sy'n cael ei gyfeirio at awdurdodau lleol. Hefyd, rydych chi wedi methu sôn am y ffaith fod eu cyllidebau wedi lleihau ers 14 mlynedd o dan reolaeth y Torïaid. Ni ddywedoch chi unrhyw beth am hynny.

Diolch. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, nid yw hynny'n wir bob amser, a gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer pethau nad ydynt yn brosiectau cyfalaf. Byddai'n tynnu'r pwysau oddi ar gynghorau, oni fyddai? Byddai'n tynnu'r pwysau oddi arnynt ac nid eu gorfodi i godi'r dreth gyngor i'r entrychion yn Islwyn ac mewn mannau eraill ledled Cymru. Mae cynnydd cyngor Conwy o 8.9 y cant i'r dreth gyngor yn enfawr, ond eto maent yn dal i dorri gwasanaethau allweddol ac yn gwastraffu, er enghraifft, £2 filiwn hyd yma mewn rhent ar adeilad na ellir ei ddefnyddio. Dyma beth a welwn mewn cynghorau Llafur ar draws Cymru. Dylai arian cyhoeddus fod yn union hynny: arian sy'n cael ei ddefnyddio er budd gorau'r cyhoedd. Yn hytrach, fe'i defnyddir yn aml ar brosiectau porthi balchder neu brosiectau heb eu hystyried yn drwyadl ar bob lefel o lywodraeth, gan adael llai o arian i gadw'r dreth gyngor yn isel. Yn groes i bob rheswm, mae Llafur Cymru'n blaenoriaethu gwario miliynau o bunnoedd ar swyddfeydd rhyngwladol, er nad yw materion tramor wedi eu datganoli; gwastraffu £150 miliwn ar ffordd liniaru'r M4 na ddigwyddodd, a £18 miliwn ar fwy o wleidyddion i'r lle hwn. Mae eich blaenoriaethau'n hollol anghywir. Dylai'r arian hwn fynd i ble mae ei angen: i awdurdodau lleol, sy'n darparu'r gwasanaethau allweddol y mae pawb ohonom, dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn dweud eu bod mor bwysig. Maent ar y pen cyflenwi, felly dylai'r Llywodraeth hon fod yn gwneud popeth yn ei gallu i alluogi'r gwasanaethau hanfodol hynny i gael eu cyflenwi yn y ffordd orau, y gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau pobl Cymru. Mae'n amlwg fod angen ei hadran effeithlonrwydd ei hun ar Gymru i dorri gwasanaethau cyhoeddus—i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n effeithlon a bod gwastraff yn cael ei dorri, lle bo hynny'n bosibl.

Er mwyn cadw trethi mor isel â phosibl, mae angen i gynghorau gael eu rhedeg yn debycach i fusnesau. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn gweithio'n fwy cydweithredol, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol. Mae rhannu arferion gorau, fel y gwyddoch, Joyce, yn swnio fel synnwyr cyffredin i bob un ohonom rwy'n siŵr, ond nid yw'n digwydd. Mae enghreifftiau gwych o bethau'n digwydd ar draws yr awdurdodau lleol yng Nghymru, ond nid yw'n cael ei rannu rhwng y 22 awdurdod lleol, gan greu loteri cod post o ddarpariaeth ac addysg yng Nghymru.

Mae gofal cymdeithasol yn enghraifft wych o sut y mae rhannu adnoddau ar draws ffiniau yn gwneud synnwyr, a gallai olygu y gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd drwy dorri staff cyngor ar gyflogau enfawr hefyd, gan symleiddio strwythurau, gwneud un pennaeth adran dros ardal yn hytrach na dau neu dri. Mae angen mwy o hyn. Ond er mwyn cadw'r dreth gyngor yn isel, mae angen mwy na chydweithio'n unig; mae angen inni newid y ffordd yr edrychwn ar lywodraeth, gan annog meddylfryd busnes, fel y dywedais, fel eu bod yn trin yr arian, arian cyhoeddus, fel eu harian eu hunain. A hoffech chi gael ymyriad arall, Joyce? Lywydd—

16:45

Parhewch â'ch cyfraniad. Joyce Watson, rydych i lawr i gael eich galw yn nes ymlaen yn y ddadl, felly gallwn edrych ymlaen yn eiddgar at eich cyfraniad bryd hynny. Parhewch, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen at y datganiad hwnnw. Mae angen setliad teg gan y Llywodraeth, nad yw wedi digwydd, fel y gwelsom ddoe. Nid peiriant arian di-ben-draw ar gyfer methiannau Llafur yw pobl Cymru. Digon yw digon. Nid codiadau treth gyngor, cronfeydd wrth gefn gwastrafflyd a biwrocratiaeth ormodol yw'r ateb, ond system ariannu deg, disgyblaeth ariannol a pharch tuag at drethdalwyr. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell: trethi is, gwell gwasanaethau a Llywodraeth sy'n gwario eu harian yn ddoeth. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn clirio'r llanast, ni wnaiff Llafur, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Peredur Owen Griffiths, felly, i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu:

a) bod cynnydd cyfartalog arfaethedig yn y dreth cyngor yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-2026 yn 7.36 y cant;

b) effaith 14 blynedd o gyni dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus; ac

c) y bydd y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2025-26 yn golygu bod awdurdodau lleol yn gorfod ystyried codiadau sylweddol yn y dreth gyngor a rhagor o doriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla gyllido llywodraeth leol Cymru;

b) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU ynghylch y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i leihau’r baich ar gyllid cynghorau Cymru; ac

c) ymchwilio i ddichonoldeb cyflwyno isafswm cyllid gwaelodol fel rhan o’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2026-27.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n cynnig y gwelliant hwnnw. Diolch yn fawr, Llywydd.

Am 14 mlynedd, tangyllidodd y Ceidwadwyr ein cynghorau, gan eu gadael gyda dewisiadau amhosibl: torri gwasanaethau neu godi treth gyngor. Mae eu pryder yn sydyn iawn am godiadau treth gyngor ychydig yn rhagrithiol o gofio mai hwy a greodd yr argyfwng ariannol y mae cynghorau bellach yn ei wynebu. Mae Llafur yn San Steffan yn honni nad ydynt yn codi trethi ar bobl sy'n gweithio, ond trwy fethu ariannu gwasanaethau hanfodol yn iawn, maent yn gorfodi cynghorau i wneud hynny drostynt drwy godiadau treth gyngor—un o'r trethi mwyaf annheg sy'n bodoli.

Mae gwelliant Llafur heddiw yn dangos eu bod yn methu mynd i'r afael â'r mater mwy hwnnw. Mae angen iddynt bwyso ar frys ar eu cymheiriaid yn San Steffan er mwyn sicrhau cyllid teg i Gymru a fyddai'n lleihau'r baich ar gynghorau. Mae angen iddynt sicrhau hefyd fod ein hawdurdodau lleol yn cael eu had-dalu'n llawn am gynnydd yswiriant gwladol Llafur ar gyflogwyr. Ac fe wn nad ydym yn gwybod faint eto, ond gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet ddoe pa fecanwaith a gaiff ei ddefnyddio i ddosbarthu'r cyllid hwnnw, pan ddaw—y cyllid a addawyd—a hoffwn gael ateb i hynny heddiw, os yn bosibl.

Ochr yn ochr â fformiwla ariannu decach i Gymru, mae Plaid Cymru'n cefnogi adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu ac isafswm cyllid gwaelodol i ddiogelu cynghorau rhag toriadau digynsail. Mae cronfeydd wrth gefn yno ar gyfer argyfyngau a chynlluniau hirdymor; nid ydynt yno i gymryd lle cyllid priodol. Mae'r argyfyngau a wynebwn yn deillio o gyllido gan Lafur yng Nghymru a San Steffan. Nid yw'n debyg i COVID, er enghraifft. Nid yw gorfodi cynghorau i ddefnyddio arian wrth gefn yn ddim mwy na phapuro dros y craciau ac mae'n eu gadael yn agored i niwed argyfyngau yn y dyfodol.

Nid busnesau yw gwasanaethau cyhoeddus. Mae cynghorau'n bodoli i wasanaethu cymunedau, nid i fynd ar drywydd elw. Mae'r obsesiwn Torïaidd hwn—

16:50

Diolch, Peredur. Efallai eich bod yn cofio, yn 2013, fod David Cameron, ein Prif Weinidog—Prif Weinidog Ceidwadol y DU—wedi rhoi gwerth tair blynedd o arian i Gymru i rewi'r dreth gyngor. Ni, y Ceidwadwyr Cymreig, oedd yr unig rai i gefnogi hynny yn y Siambr hon, i Lywodraeth Cymru drosglwyddo hynny i'r trigolion. Felly, aeth gwerth tair blynedd o arian i rewi'r dreth gyngor at brosiectau porthi balchder eraill gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, a'u cefnogi gan Blaid Cymru.

Cawsom 14 mlynedd o gyni, ac mae neilltuo arian yn mynd yn groes i'r fframwaith cyllidol. Mae'n wir. Beth bynnag—. Nid yw'n—. Nid ydych yn deall sut y mae arian yn gweithio yn y lle hwn. Ni all San Steffan ddweud wrthych ar beth y caiff arian ei wario yma, felly nid wyf yn cytuno â chi yn hynny o beth.

Yr obsesiwn Torïaidd â rhedeg gwasanaethau cyhoeddus fel corfforaethau yw'r union reswm pam ein bod yn gweld gwasanaethau'n ei chael hi'n anodd heddiw. Ni ddylem geisio copïo Elon Musk a Donald Trump a cheisio gwneud yr hyn y maent yn ceisio'i wneud yn yr Unol Daleithiau. Yn amlwg, mae cyllid gwaelodol i'w groesawu, ond nid yw 3.8 y cant yn ddigon, o ystyried maint yr argyfwng y mae cynghorau'n ei wynebu. Dyna pam y mae Plaid Cymru yn galw am isafswm cyllid gwaelodol mewn setliadau yn y dyfodol sydd o ddifrif yn diogelu gwasanaethau.

Er bod y gwelliant Llafur heddiw yn nodi y bydd cynghorau'n derbyn dros £6 biliwn o'r setliad llywodraeth leol terfynol, mae'r prif ffigur yn anwybyddu'r pwysau cyllidebol y mae cynghorau'n eu hwynebu, y costau cynyddol, y galw cynyddol a'r toriadau mewn termau real ar ôl chwyddiant. Mae Plaid Cymru eisiau gweld adolygiad brys i sicrhau bod cynghorau'n cael yr arian y maent ei angen mewn gwirionedd. Mae angen adolygiad, ond rhaid iddo fod yn annibynnol ac yn dryloyw. Mae gwelliant Llafur yn awgrymu mwy o'r un broses araf sydd wedi methu cyflawni newid go iawn ers blynyddoedd.

Mae safbwynt Plaid Cymru yn glir: rhaid inni fynd i'r afael ag achos sylfaenol codiadau treth gyngor, cyni gorfodol San Steffan, sicrhau cyllid tecach, mwy hirdymor i lywodraeth leol, a rhoi'r gorau i orfodi cynghorau i wneud dewisiadau amhosibl rhwng codi trethi a thorri gwasanaethau. Diolch yn fawr.

Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod cynghorau’n gwneud penderfyniadau ynghylch y dreth gyngor yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol.

Yn croesawu’r ffaith bod cyllid gwaelodol 3.8 y cant wedi’i ddarparu yn y setliad llywodraeth leol.

Yn nodi:

a) y bydd cynghorau’n cael mwy na £6 biliwn drwy’r setliad llywodraeth leol terfynol ac £1.3 biliwn mewn grantiau penodol ychwanegol yn 2025-26; a

b) bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydadolygu ac yn cyd-ddatblygu’r fformiwla gyllido fel y bydd yn parhau i ateb y gofyn, gan gynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a hoffwn ganolbwyntio fy sylw ar Gyngor Sir Ddinbych, os caf. Y cynnydd o 6 y cant yn y dreth gyngor a gyhoeddwyd gan sir Ddinbych yn ystod yr wythnosau diwethaf yw'r cynnydd isaf yn dechnegol ar draws awdurdodau'r gogledd, ond yn anffodus dim ond hanner y stori y mae hynny'n ei roi. Dyma'r un awdurdod lleol sy'n lleihau amseroedd agor llyfrgelloedd, sydd ag uchelgais i gau toiledau cyhoeddus, ac mae cyflwyno'r system biniau newydd mewn ffordd sy'n parhau i fod yn anhrefnus ers ei chyflwyno ym mis Mehefin y llynedd yn ei gwneud hi'n anodd cyfiawnhau cynnydd o'r fath pan nad yw trigolion sir Ddinbych yn gweld unrhyw fudd diriaethol i godiadau treth a llai o wasanaethau. Dyma enghraifft glasurol o Lafur mewn grym: trethu mwy, rhoi llai, ac maent am i'r cyhoedd fod yn ddiolchgar amdano.

Mae hyder y cyhoedd yn lleol ar ei lefel isaf erioed yn sir Ddinbych, gyda llawer o fy etholwyr heb fawr o ffydd os o gwbl yn yr awdurdod lleol, fel y gwelwyd yn y ffordd wael y cyflwynwyd y system wastraff newydd. Mae diffyg hyder yn yr awdurdodau lleol sy'n gwasanaethu'r Rhyl a'r ardaloedd cyfagos wedi bod yn broblem hirsefydlog, yn dyddio'n ôl i 1974 o leiaf, pan aethant ati i ddymchwel hen Theatr y Pafiliwn gan nodi problemau gyda diogelwch yr adeiladau, ond yn eironig cymerodd sawl rownd o ffrwydradau dynameit i'w ddymchwel yn y pen draw.

Gyda datblygiad trychinebus y pentref i blant yn y 1990au, y penderfyniad cibddall i chwalu canolfan bywyd y môr, er gwaethaf diddordeb sector preifat yn yr adeilad yn fwy diweddar, a sterileiddio parhaus yr hyn y mae'r Rhyl yn enwog amdano trwy ymyrraeth gyson a rhy frwdfrydig awdurdodau lleol, mae perffaith hawl gan fy etholwyr yn yr ardal hon i fod yn amheus ynghylch perfformiad y cyngor ac i gwestiynu a yw eu harian prin yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol ac effeithlon er budd trigolion lleol.

Ac nid yw Llywodraeth Cymru yn ddi-fai yn hyn o beth. O dan Lafur ers datganoli ym 1999, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael eu rheoli mor dynn o'r fan hon ym Mae Caerdydd nes bod llawer o ymreolaeth leol wedi'i herydu'n araf, gan wneud awdurdodau lleol i bob pwrpas yn ganghennau o Lywodraeth Cymru yn hytrach na chyrff annibynnol sy'n gweithredu er budd trigolion lleol. Wrth gwrs bod angen rheolau, ynghyd ag archwiliadau gan y Llywodraeth genedlaethol, ond cafodd hynny ei or-wneud yma ym Mae Caerdydd, gan fynd ymhell y tu hwnt i'r hyn rwyf i a llawer o bobl eraill yn ei gredu sy'n lefel dderbyniol o ymyrraeth gan y wladwriaeth.

A'r bobl sy'n gorfod talu am hyn i gyd. Mae cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru wedi dyblu ers 2010 a mwy na hynny hyd yn oed ers diwedd y 1990au. Ond mae'r gwasanaethau'n gwaethygu. Mae tyllau yn y ffyrdd ym mhobman, baw cŵn ar hyd ein ffyrdd, mae'r ysgolion yn tangyflawni, mae'r gwasanaethau cymdeithasol ar fin chwalu, ymrwymiadau afrealistig, sero net erbyn 2030 yn costio ffortiwn ond heb fod yn agos at gael ei gyflawni. Gallwn barhau, ond mae fy amser yn brin. Mae'n bryd i'r bobl, yn hytrach na swyddogion cynghorau ar gyflogau rhy fras, gael dweud eu barn ar gyllid awdurdodau lleol yn y dyfodol. 

16:55

Nac ydw, yn anffodus. Dyna pam rwy'n cefnogi gwneud unrhyw gynnydd uwchlaw 5 y cant i'r dreth gyngor yn ddarostyngedig i ganlyniad refferendwm, ond ni fydd Llafur yn cytuno i hynny am eu bod yn gwybod beth fyddai'r canlyniad. Pleidleisiwch dros ein cynnig ni heno a rhyddhewch bobl wych Cymru o hualau awdurdodau glwth, sy'n gweithredu er eu budd eu hunain, ac nid er budd pobl Cymru. 

Gwelwyd diffyg cyllid hanesyddol gan Lywodraeth y DU i wasanaethau cyhoeddus dros y 14 mlynedd o gyni. Mae maint y gacen ariannol wedi crebachu'n sylweddol tra bo'r galw am wasanaethau wedi cynyddu. Mae llawer yn cael eu darparu gan—. Mae'n ddrwg gennyf. Fe wnaeth y cythrwfl economaidd a ddilynodd gyfnod byr Liz Truss fel Prif Weinidog y DU ym mis Medi 2022 wneud pethau'n waeth byth. Bu'n rhaid i'r GIG yng Nghymru ddod o hyd i £100 miliwn ychwanegol i dalu am gynnydd enfawr mewn costau gwresogi, er enghraifft. 

Cododd bwlch cyllidebol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i'r entrychion, o £6 miliwn i £30 miliwn mewn un flwyddyn. Ychydig o arian wrth gefn a adawyd ar ôl i'r weinyddiaeth newydd, a dim tai na gwasanaethau tai, a chafodd ei dorri i'r asgwrn. Ar ben hynny, mae toriadau i les wedi cael effaith, gan adael cynghorau i godi'r darnau lle bynnag y bo modd. Fel cyn-ddirprwy arweinydd awdurdod lleol yn ystod blynyddoedd cyni'r Torïaid, rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi i gynghorwyr. Rwy'n teimlo eu poen wrth iddynt geisio mantoli'r gyllideb. 

Diolch. Mae dros ddau ddegawd ers i mi gyfarfod ag arweinydd Llafur Cyngor Sir y Fflint am y tro cyntaf oherwydd y fformiwla ariannu llywodraeth leol wahaniaethol y ceisiai ymgyrchu yn ei herbyn. Dim ond dau neu dri mis sydd wedi mynd heibio ers imi godi pryderon arweinydd Llafur presennol Cyngor Sir y Fflint yn y fan hon. Oherwydd eu bod wedi cael y setliad cydradd isaf eleni, ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd—dau ddegawd neu fwy—o fod ar y gwaelod neu'n agos at y gwaelod, maent yn wynebu codiad o 9.5 y cant wrth i gyllidebau ysgolion gael eu torri—

—sydd wedi'i wrthwynebu hyd yn oed gan y Democratiaid Rhyddfrydol a gefnogodd y gyllideb yma. Onid ydych chi'n poeni am bobl sir y Fflint yr effeithir arnynt gan y fformiwla gyllido wahaniaethol ddarfodedig hon?

Rydych chi'n mynd â fy holl amser nawr. Mae gennyf—[Torri ar draws.] 

Diolch. Heb y newid yn Llywodraeth y DU y llynedd, byddai wedi parhau i fod yn llawer gwaeth i gynghorau. Yn y—[Torri ar draws.] O, Mark, os hoffech chi i mi—. Mae'n ddrwg gennyf, fe wnaf ymateb i chi. Iawn, mae gennyf y tabl o safleoedd sir y Fflint dros y 10 mlynedd diwethaf. Roeddwn i'n gynghorydd yn sir y Fflint. Nid yw bob amser wedi bod ar y gwaelod, yn aml iawn yn y canol. Mae'r gyllideb wedi effeithio'n fawr arnynt ac rwyf am siarad am hynny nawr, ac rwyf innau hefyd wedi bod yn lleisio eu pryderon yma. 

Heb y newid yn Llywodraeth y DU y llynedd, byddai wedi parhau i fod yn llawer gwaeth ar gynghorau. Yn natganiad yr hydref diwethaf y Ceidwadwyr, parhaodd Jeremy Hunt i wyntyllu'r mantra Torïaidd arferol, gan ddweud bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn fwy effeithlon a bod Llywodraeth y DU eisiau gwladwriaeth gyhoeddus hyd yn oed yn llai o faint, a pharhad cyni. Roedd un o bob pum cyngor yn Lloegr y llynedd yn wynebu methdaliad ar y pryd. Mae Llywodraeth y DU wedi arbed llawer o gynghorau rhag methdaliad. 

Roedd y setliad dros £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol yn San Steffan, ond mae hefyd yn dangos pa mor ddibynnol yw cyllid Cymru ar Lywodraeth y DU. Mae pwysau ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus na chânt eu darparu gan gynghorau: iechyd, trafnidiaeth, CNC, diwylliant, Trafnidiaeth Cymru, grantiau i ffermwyr, addysg uwch, Estyn—gyda llawer wedi eu heffeithio hefyd gan golli arian yr UE, a phawb yn ymladd am yr un arian. 

Rwy'n croesawu'r ffaith bod grantiau ychwanegol yn y gyllideb hon i helpu i lenwi'r bylchau sydd wedi'u gadael gan dangyllido hanesyddol, megis y buddsoddiad o £120 miliwn dros ddwy flynedd i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd a thrwsio priffyrdd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud popeth yn ei gallu i wella'r setliad ariannu llywodraeth leol a chodi'r cyllid gwaelodol, a diolch i Jane Dodds am weithio gyda Llywodraeth Cymru ar eu blaenoriaethau cyffredin fel ei fod wedi cynyddu i 3.8 y cant. Mae angen iddo fod yn uwch i helpu cynghorau sydd wedi ailstrwythuro, ad-drefnu, dileu swyddi gwag, cyflwyno taliadau fel nad oes unrhyw beth ar ôl ac eithrio'r gwasanaethau statudol sylfaenol; maent wedi torri popeth. Gall cynnydd o 3.8 y cant ymddangos yn rhesymol, ond nid yw'n cynnwys pwysau chwyddiant, codiadau cyflog a'r angen cynyddol am ofal iechyd cymdeithasol, digartrefedd neu ymdopi ag argyfwng fel llifogydd, fel yr hyn a ddigwyddodd yn Rhondda Cynon Taf, gwyntoedd cryfion, eira neu brinder dŵr, fel yr hyn a ddigwyddodd yng Nghonwy yn ddiweddar. Mae angen llinell sylfaen ar gynghorau mewn cyllid ac i rai, ni fu'n ddigon heb godi'r dreth gyngor i gau'r bwlch.

Yng ngogledd Cymru, mae sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy yn ei chael hi'n anodd iawn. Nid yw Gwynedd mewn sefyllfa wych, ond maent yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn, felly nid yw'r dreth gyngor wedi cael ei defnyddio i lenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r fformiwla ariannu awdurdodau lleol yn gymhleth, gyda llawer o fynegeion sydd wedi bod yn esblygu dros y blynyddoedd, a'r tri mesur pennaf sy'n effeithio ar lefel yr arian a roddir i gynghorau yw poblogaeth, amddifadedd ac ystyriaethau gwledig. Yn realistig, byddai'n rhaid i CLlLC gymeradwyo unrhyw newid i'r fformiwla ariannu a byddai'n arwain at enillwyr a chollwyr. Mae ardaloedd difreintiedig wedi bod yn derbyn cyllid uwch, felly os newidiwn hynny, gallent fynd yn fwy difreintiedig.

Ar ôl 14 mlynedd o gyni, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi troi dalen gyda chyllid, ond nid oes modd gwella creithiau'r degawd a hanner diwethaf o doriadau dros nos. Mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn llwyddo pan fo'n siarad am adnewyddiad cenedlaethol, oherwydd heb hynny, ni allwn sicrhau bod mwy o gyllid yn parhau yn y tymor hir. Diolch.

17:00

Felly, rwy'n sefyll o'ch blaen chi heddiw i siarad am fater sydd wedi bod yn tyfu ers llawer rhy hir, sef sefyllfa druenus cyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar bob un ohonom, boed yn ansawdd y gwasanaethau cyhoeddus y dibynnwn arnynt neu faich y trethi cyngor uwch sydd wedi dod yn realiti anffodus. Mae cynghorau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau, o addysg a gofal cymdeithasol i reoli gwastraff a thai, awdurdodau lleol yw calon darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond er mor bwysig yw'r gwasanaethau hyn, mae cynghorau ledled Cymru bellach yn wynebu her ariannol sylweddol. Gofynnir iddynt wneud mwy gyda llai, ac nid yw'n gynaliadwy.

Mae’n werth nodi, fel y mae fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones wedi gwneud, fod gan gynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd dros £2 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy, ac mae’r cronfeydd wrth gefn hyn wedi’u cadw, wedi cario drosodd, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, yn hytrach na chael eu gwario ar brosiectau cyfalaf. Roeddwn yn Weinidog yr wrthblaid yn 2013, ac roedd yn £1.4 biliwn; mae wedi codi i £2 biliwn ers hynny. Mae’n gwbl anfoesol fod gan awdurdodau fel Caerdydd dros £180 miliwn wedi cronni, £190 miliwn gan sir Gaerfyrddin, £250 miliwn gan y Rhondda, tra bo gan sawl awdurdod lleol, gan gynnwys Conwy, £15 miliwn. Yn amlwg, mae arian yn cael ei ddosbarthu’n annheg. Rwy'n cofio dweud ar y pryd, 'Pam nad yw’r arian hwnnw’n cael ei roi yn ôl mewn pot canolog a’i ddosbarthu ar draws yr awdurdodau lleol hynny?’, a Llafur Cymru a ddywedodd 'na'.

Felly, er bod y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor yng Nghymru yn 7.3 y cant, nawr fod gennym Lafur yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae'r cynnydd ymhell uwchlaw hyn, ar 8.95 y cant, ar ben y 9 pwynt rhywbeth y llynedd, a 10 y cant yn y flwyddyn cyn hynny. Mae bron yn 30 y cant mewn tair blynedd. Nid yw'r cyflog canolrifol wedi codi; nid yw pensiynau wedi codi i'r graddau hynny. A beth a gewch am y cynnydd? Toiledau'n cau, bygythiadau o gau llyfrgelloedd, cau canolfannau hamdden, chwyn yn cael ei adael i dyfu, biniau sbwriel yn cael eu gadael heb eu casglu, gwastraff domestig cartrefi yn cael ei gasglu bob pedair wythnos, nid bob tair wythnos fel y mae eich awdurdod chi yn bygwth ei gyflwyno. Mae'n warthus. Gofynnir i breswylwyr dalu mwy ar adeg pan nad yw'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt ar gael.

Mae’r sefyllfa’n ddifrifol, ac ni allaf—. Mae'n rhaid imi fod yn onest, pan oedd Lesley Griffiths yn Weinidog yma, mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn eithaf agored i'r syniad o roi 5 y cant—refferendwm, wyddoch chi, ar gap—[Torri ar draws.] Ond ewch amdani, Carolyn.

Mae'n rhaid imi nodi bod y casgliadau bob pedair wythnos wedi eu cyflwyno pan oedd Sam Rowlands yn arweinydd y cyngor.

Naddo. Na, na. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych chi; mae'n rhaid imi eich cywiro ar hynny. Fe'i cyflwynwyd, wyddoch chi, rydych chi'n gosod eich cyllideb ar gyfer y—. Fe’i cyflwynwyd cyn i Sam fod yn arweinydd y cyngor, cyn i’r Ceidwadwyr fod mewn grym. Roedd o ganlyniad i Blaid Cymru, Llafur a'r cynghorwyr annibynnol.

Rwy'n falch ichi dynnu sylw at yr arian cywilyddus sydd wedi'i wario gan Gonwy ar y depo cerbydau nwyddau trwm ym Mochdre. Rydym hefyd yn gweld costau cynyddol o ganlyniad i ddewisiadau gwael, a dim digon o adeiladu llety dros dro. Ac mae enghreifftiau o wastraff o'r fath: £250,000 ar bwll padlo Craig-y-Don ar adeg pan nad oedd hyd yn oed ar agor. Fe wnaethant ei agor, ar ôl llawer o gwynion gan drigolion a gwleidyddion etholedig, ar gyfer gwyliau'r haf y llynedd. Roedd yn ffiaidd.

Yr hyn sy’n peri rhwystredigaeth i mi, serch hynny, am awdurdodau lleol yng Nghymru yw’r diffyg atebolrwydd. Ac mae'n rhaid imi ddweud—ac maent yn gwybod—rwyf wedi bod yn pwyso ar Archwilio Cymru ers peth amser bellach, a chredaf ei bod yn ffiaidd, lle gallwch brofi bod arian yn cael ei wastraffu, na fyddant yn ymchwilio i lawer o enghreifftiau, Aelodau, os yw'r gwerth yn llai na £5 miliwn. Mae'n gywilyddus. Ar un adeg, byddai fy awdurdod lleol, erbyn hyn, yn wynebu arolygiad adran 10, yn fy marn i. Mae pob ceiniog yn cyfrif. Felly, dylai Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru anfon neges glir at Archwilio Cymru y dylid ymchwilio i achosion lle ceir enghreifftiau o wastraff gan awdurdodau lleol.

Yr un mor rhwystredig yw’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r fformiwla gyllido. Mae’r fformiwla bresennol dros 20 mlwydd oed ac mae’n arwain at fwlch cyllido sylweddol, hyd yn oed rhwng Conwy a sir Ddinbych, Carolyn, yr ardal rydych chi'n ei chynrychioli. Mae £34 miliwn o wahaniaeth, ac eto mae'r un ddemograffeg gan yr awdurdodau. Mae'n wallgof.

Ar ben hyn, gwyddom fod cynnydd Llywodraeth y DU i yswiriant gwladol yn gwaethygu'r argyfwng. Mae’r ffordd y mae eich Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi gorfodi’r cynnydd yswiriant gwladol yn warthus. Yng Nghonwy, mae 3.6 y cant o'r cynnydd o bron 9 y cant yn y dreth gyngor yn mynd tuag at dalu'r gost uwch hon yn unig.

Rwyf wedi clywed heddiw, Lywydd, fod lwfansau cynghorwyr yng Nghonwy yn cynyddu. Ar adeg pan fônt wedi cicio’r trigolion yn eu dannedd, mae aelodau’r Cabinet a’r rheini sy’n rhedeg yr awdurdod hwn—. Lwfansau aelodau'r Cabinet yn cynyddu i £40,000; dirprwy arweinydd, £45,000; arweinydd, £60,000. Mae wedi codi o £45,000 yn ddiweddar.

Mae arnom angen Llywodraeth Geidwadol Cymru yma ym Mae Caerdydd, dan arweiniad Darren Millar. Mae un peth yn gwbl glir: ein trigolion, ein trethdalwyr, ein teuluoedd gweithgar a'n pensiynwyr, lle mae Llafur ar unrhyw lefel o Lywodraeth, mae’n costio mwy i chi, ac yn rhoi llai i chi. Fis Mai nesaf, camwch draw; gadewch inni gael Darren Millar yn Brif Weinidog a Llywodraeth Geidwadol Cymru ac fe awn ati i drwsio llywodraeth leol yng Nghymru.

17:05

Diolch, Lywydd. Soniodd Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, am warth a chywilydd; dyna sut y byddwn yn disgrifio’r Ceidwadwyr yn gwrthod myfyrio ar 14 mlynedd o gyni a’r niwed y mae wedi’i wneud i bobl yn ein cymunedau. Gareth Davies, mae’n ddrwg iawn gennyf na dderbynioch chi fy ymyriad, gan ichi nodi bod y dreth gyngor wedi dyblu ers 2010. Beth a ddigwyddodd yn 2010? Beth a ddigwyddodd yn 2010? Efallai yr hoffech chi ymyrryd?

Fe enilloch chi etholiad? A beth a olygodd hynny—? [Torri ar draws.] Na, na, rwy’n mynd i—. Roeddwn yn gofyn i Gareth Davies; ni dderbyniodd fy ymyriad yn gynharach. Ond—[Torri ar draws.] Na, na, na, rwy'n mynd i barhau â fy mhwynt, diolch yn fawr.

Yn 2010, daeth y Ceidwadwyr i rym. Yn 2010, a wyddoch chi faint o bobl a oedd yn dibynnu ar fanciau bwyd yn y DU? Dosbarthwyd 40,898 o barseli. Yn 2024, dosbarthwyd 3,121,404. Os edrychwn ar ddangosfwrdd Cyngor ar Bopeth sy’n dod i’n mewnflychau’n aml, mae gan bobl ag ôl-ddyledion y dreth gyngor dros £500 yn fwy o ddyled bellach nag a oedd ganddynt yn 2019. Mae’n eithriadol o anodd i’r rhan fwyaf o bobl mewn cymdeithas, ac mae peidio â chymryd cyfrifoldeb am niwed cyni a'r effaith y mae wedi’i chael ar ein cynghorau yn anghyfrifol ac yn warthus ac yn gywilyddus.

A ydych chi'n ymwybodol nad agorodd y banc bwyd cyntaf yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Trussell, tan 2011? A phan agorwyd y banc bwyd cyntaf yn Lloegr yn 2004 gan Ymddiriedolaeth Trussell, y nod oedd cael banc bwyd ym mhob tref yn y DU. Felly, mae’r niferoedd wedi cynyddu wrth i fanciau bwyd agor; nid yw'n gymhariaeth syml fel y'i disgrifiwyd gennych chi.

Ond ni ddylai fod angen banciau bwyd arnom. Ni ddylai fod yn rhaid iddynt fodoli. A wyddoch chi faint o gynghorau sydd bellach yn gorfod darparu cyllid i fanciau bwyd am fod pobl mor llwglyd yn ein cymunedau? Dyna etifeddiaeth warthus a chywilyddus cyni, ac yn anffodus, rydym yn gweld parhad nawr gyda Llywodraeth Lafur y DU, gyda'r cyhoeddiadau heddiw ynghylch toriadau sydd ar y ffordd i les. Mae hyn yn mynd i wneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth i’n cynghorau, gan olygu bod yn rhaid iddynt wario mwy o arian ar helpu banciau bwyd.

Mae fy mhryder yn hyn oll, fel yr amlinellodd Peredur Owen Griffiths yn gynharach, yn ymwneud â chyfraniadau yswiriant gwladol: ni wyddom eto faint o arian a gaiff ei roi i’n cynghorau, beth yw’r bwlch cyllido hwnnw. Ac mae’r mater arall, wrth gwrs, yn ymwneud â’r trydydd sector ac elusennau, y gwyddom eu bod yn darparu gwasanaethau a chymorth lleol, gan fynd ati'n aml i ysgwyddo rhai o gyfrifoldebau’r cyngor sydd wedi’u colli oherwydd cyni. Mae Cyngor ar Bopeth, er enghraifft, yn chwarae rhan hollbwysig, a gwn fod nifer o’r awdurdodau lleol yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn wirioneddol bryderus fod cyfraniadau yswiriant gwladol yn mynd i olygu llai o wasanaethau gan y trydydd sector ac elusennau, lle bydd yn rhaid i gynghorau geisio llenwi’r bwlch wedyn, ond heb unrhyw arian ychwanegol.

Mae llawer ohonom yma yn gyn-gynghorwyr. Gwyddom pa mor galed y mae pobl yn gweithio yn ein hawdurdodau lleol, pa mor anodd yw pethau wedi bod oherwydd toriadau. Mae rhai adrannau heb fawr ddim staff, ac eto mae pwysau’n codi drwy’r amser. Rydym wedi gweld effaith Brexit gydag anawsterau recriwtio staff mewn gofal cymdeithasol. Mae'n anodd iawn. Gan edrych hefyd ar newid hinsawdd a’r effaith ar wasanaethau gyda thywydd mwy eithafol, mae fy awdurdod lleol i, lle rwy’n byw, cyngor Rhondda Cynon Taf, yn gwneud cymaint o waith i geisio helpu i atal llifogydd, ond hefyd i gefnogi cymunedau, ond gydag adnoddau cyfyngedig. Felly, mae angen inni gael sgwrs onest am y gwasanaethau statudol hynny, a gwasanaethau anstatudol, ond hefyd y gwasanaethau sydd o dan fwy o bwysau nag erioed oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, megis newid hinsawdd.

17:10

Gyda RhCT, dwy storm enfawr, un digwyddiad llifogydd enfawr, ac yna, wyddoch chi, priffyrdd a phethau, ac yna, llithriadau tomenni glo, felly roedd yn rhaid iddynt—. Fe wnaethant ddarparu miloedd o fagiau tywod, a bu'n rhaid i weithredwyr roi cymorth hefyd. Felly, a ydych chi'n cytuno bod angen cronfeydd wrth gefn weithiau ar gyfer yr argyfyngau hynny hefyd?

Yn sicr, ac un o'r heriau a welwn hefyd mewn awdurdodau lleol yw'r gallu i recriwtio a chynnig cyflogau cystadleuol. Er enghraifft, gyda thomenni glo, gwaith cyweirio, mae hwnnw'n waith arbenigol iawn, ac mae gallu denu pobl â'r lefel o arbenigedd yn anodd, ac nid oes ganddynt adnoddau i allu cyflogi pobl a rhannu'r arbenigedd hwnnw.

Felly, yr hyn y byddwn yn gobeithio y byddem yn ei wneud heddiw fel rhan o’r ddadl hon yw, ie, myfyrio ar y cyllid, ond hefyd, cytuno ar draws y pleidiau fod angen atebion arnom, gan mai dyma’r gwasanaethau sydd o bwys i bobl yn ein cymunedau, sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Ac yn sicr, fe allwn weld bai; rwy’n siŵr fod gwariant gwastraffus ar rai pethau, a gall pob un ohonom dynnu sylw at y rheini, ond ar y cyfan, mae’r amgylchiadau’n hynod heriol i awdurdodau lleol. Ni allwn gymryd arnom ychwaith fod y setliad yn mynd i fod yn newyddion da i wasanaethau lleol; mae toriadau'n mynd i gael eu gwneud o hyd. Hyd yn oed gyda'r cynnydd gan Lywodraeth Cymru, y pleidleisiwyd o'i blaid ddoe, mae'n mynd i ddal i fod yn heriol. Felly, gadewch inni ganolbwyntio nid ar alw enwau, ond ar ddod o hyd i atebion a bod yn onest am y sefyllfa y mae ein hawdurdodau lleol yn ei hwynebu, a bod yn onest ynglŷn â’r hyn y mae penderfyniadau gwleidyddol wedi’i olygu o ran gwasanaethau lleol. Mae cyni wedi cael effaith; mae wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus yn fregus ac wedi'u niweidio'n fawr. Mae angen inni ddod o hyd i atebion.

Joyce Watson. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn gyntaf, Joel James, wedyn chi, Joyce. Mae yna wahaniaeth mawr. Joel James.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cytuno ag awydd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan i ddod o hyd i atebion, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i hamser yn beio’r Llywodraeth Geidwadol yn hytrach na meddwl am unrhyw beth cadarnhaol.

Ond beth bynnag, os caf barhau, mae pob un ohonom yn cytuno yn y Siambr hon fod gan awdurdodau lleol rôl hollbwysig i'w chwarae yn darparu gwasanaethau ledled y wlad. Roeddwn yn gynghorydd am flynyddoedd lawer, ac er gwybodaeth, rwy'n dal i fod yn gynghorydd cymuned. Rwy’n deall cymhlethdod llawer o’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, a’r heriau y maent yn eu hwynebu. Er mai hwy sydd ar fai am rai o'r heriau hyn, mae'n rhaid inni gydnabod nad yw hynny'n wir bob tro. Mae heriau cyd-destunol, fel chwyddiant, er enghraifft, y tu allan i reolaeth awdurdodau lleol Cymru, ond mae hyn yn wir am bob cyngor yn y Deyrnas Unedig. Nid yw rhai o’r heriau a wynebant o reidrwydd yn deillio o ddiffyg cyllid ychwaith, ond o gynllunio a buddsoddi hirdymor gwael, sydd wedi lleihau cadernid ariannol cynghorau.

Ni all Aelodau o Blaid Cymru, na Llafur yn ddiau, ond amgyffred gyda'u byd-olwg cul mai bai’r Llywodraethau Ceidwadol blaenorol yw hyn, ond nid yw hyn yn wir. Yn wir, yr hyn a welsom yn ystod y 14 mlynedd diwethaf yw cynnydd o bron i 150 y cant yn yr arian y mae angen ei wario ar ofal cymdeithasol, 41 y cant ar anghenion dysgu ychwanegol, a chynnydd o bron i 80 y cant yn nifer y plant sy’n derbyn gofal gan gynghorau Cymru. Felly, mae'r pwysau ariannol wedi dod, yn syml iawn, am nad yw cynghorau wedi paratoi ar gyfer y cynnydd cyflym yn y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Yn rhannol, bai Llywodraeth Cymru yw hyn. Nid yw’r fformiwla gyllido a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid yn addas i'r diben, ac nid yw wedi bod ers peth amser. Mae'r asesiad o wariant safonol yn cynhyrchu gormod o amrywio rhwng cynghorau cyfagos ac nid yw'n rhoi digon o bwyslais ar ariannu gwasanaethau i bobl hŷn, er bod y gwasanaethau hynny'n aml yn arwain at gostau gofal cymdeithasol uwch. Yn ychwanegol at hynny, mae rhywfaint o'r data a ddefnyddiwyd yn yr asesiad wedi hen ddyddio. Mae’n dal i ddefnyddio data cyfrifiad o adeg cyn i rai o’r Aelodau yn y Siambr hon gael eu geni hyd yn oed. Yn ogystal â hyn, mae’r setliad, a gyhoeddir fel arfer ym mis Hydref a’i gwblhau ym mis Rhagfyr, bellach yn cael ei osod dros dro ym mis Rhagfyr a’i gwblhau ym mis Chwefror neu fis Mawrth, sy’n golygu nad oes gan gynghorau lawer o amser i gynllunio eu cyllidebau, ac mae hyn wedi arwain at y realiti rhyfedd weithiau fod yn rhaid i gynghorau benderfynu ar eu cyllidebau blynyddol—

17:15

—penderfynu ar eu cyllideb flynyddol cyn gwybod faint o gyllid y byddant yn ei gael gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi cynyddu'r risg y caiff cyllid ychwanegol ei ddyrannu heb asesiad priodol o'i effaith neu ddefnydd heb ei gynllunio o'r cronfeydd wrth gefn os yw'r cyllid yn is na'r lefel a gyllidebwyd. Mae'r ddwy senario yn cynyddu'n sylweddol y risg na chaiff cyllid ei ddefnyddio mewn ffordd a gynlluniwyd i sicrhau gwerth am arian.

Yr hyn y mae hefyd wedi arwain ato yw'r cynnydd sylweddol yn y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy sy'n gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am y cronfeydd wrth gefn anferthol sydd gan fy nghyngor fy hun, Rhondda Cynon Taf. Mewn llai na phum mlynedd, mae cyfanswm y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy mewn cynghorau yng Nghymru wedi cynyddu o £1.1 biliwn i £2.1 biliwn. Mae RhCT yn eistedd ar £255 miliwn o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy—y mwyaf o unrhyw awdurdod lleol yn y wlad. Yr hyn y mae'n ei olygu yw nad yw cynghorau'n buddsoddi mewn trawsnewid a gwella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, ac nid ydynt yn cynorthwyo trigolion sy'n ei chael hi'n anodd drwy leihau'r dreth gyngor ychwaith; dim ond bancio'r arian hwn a wnânt. Nid yw hyn yn helpu trigolion, nid yw'n helpu ysgolion ac nid yw'n helpu gwasanaethau cymdeithasol.

Fel y nodir yn y cynnig heddiw, mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio dull gweithredu sy'n sicrhau newid sylweddol. Mae angen inni gael fformiwla ariannu sy’n addas i'r diben, sy’n edrych ar gyflawni gwerth am arian a chynaliadwyedd ariannol dros y tymor canolig i’r tymor hir. Mae cynghorau'n dal eu gafael ar arian ac yn cynyddu eu cronfeydd wrth gefn rhag ofn i Lywodraeth Cymru leihau ei grant ar ôl iddynt osod eu cyllideb, ac nid yw hyn yn iawn. Dylai cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy fod yn gymesur â darparu cadernid ariannol, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn buddsoddi’r arian mewn gwasanaethau gwell. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn nodi heddiw y dylid gwneud hyn drwy adolygiad annibynnol, a gadewch inni fod yn onest, mae hyn o fudd i bawb. Nid yn unig y bydd yn helpu cynghorau, ond bydd hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru, ac yn bwysicaf oll, trigolion Cymru.

Fel llawer yn y Siambr hon, rwy'n credu'n gryf y dylem hyrwyddo arbedion effeithlonrwydd drwy rannu adnoddau ar draws cynghorau. Rwy'n credu mewn democratiaeth leol, ond daw pwynt pan fo gwasanaethau’n cael eu hailadrodd yn ddiangen o gyngor i gyngor. Derbynnir yn gyffredinol hefyd fod Cymru ar ei hôl hi gyda darparu digidoleiddio yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi cael tanfuddsoddiad mewn gwasanaethau digidol ers llawer rhy hir, ac mae hyn wedi dal i fyny â ni bellach. Mae angen arloesedd a chreadigrwydd i weithio, ac mae'n iawn fod llywodraeth leol yn cael eu hannog yn gryf i ddatblygu diwylliant tebyg i fyd busnes er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o gyllid trethdalwyr, gan dorri gwastraff a lleihau gwariant ar brosiectau porthi balchder.

Yn olaf, Lywydd—ac fe ddof â fy nghyd-Aelod i mewn mewn munud—hoffwn siarad am y dreth gyngor. Mae cynnydd yn y dreth cyngor yn anghymesur â chodiadau cyflog. Bob blwyddyn, mae gennym fil sy'n mynd yn fwy ac yn fwy. Nid oes gan ein trigolion unrhyw ffordd o'i leihau. Yn wahanol i filiau cyfleustodau, y gall pobl eu lleihau drwy wella effeithlonrwydd, gyda threthi cyngor, rydym yn gweld biliau mwy a gwasanaeth gwaeth bob blwyddyn. Mae trigolion yn cynddeiriogi hyd yn oed yn fwy pan fo'r arian hwn i'w weld yn cael ei wastraffu ar brosiectau nad ydynt yn flaenoriaethau iddynt. Mae'n annheg, gan fod gan gyngor allu i godi'r dreth gyngor i lefelau gormodol heb gymeradwyaeth trigolion, a chredaf fy mod yn siarad ar ran y wlad gyfan yma pan ddywedaf fod angen i'r rhai sy'n talu'r dreth gyngor gael pleidleisio ar unrhyw gynnydd o fwy na 5 y cant. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig cryf a dilys yn fy marn i, ac rwy'n annog pawb yma i’w gefnogi. A Lywydd, os oes gennyf amser, rwy'n fodlon derbyn—

Na, nid oes angen ichi wneud hynny. Rwyf ar fin galw ar Joyce Watson beth bynnag. O na, Rhianon ydoedd. Na, symudwn ymlaen at Joyce Watson.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a dod â rhywfaint o realiti yn ôl i'r ystafell. Ymddengys i mi, rywsut, fod y Torïaid wedi bod yn byw mewn byd gwahanol, byd nad yw'n cydnabod y cyni a orfodwyd ar Gymru gan eu camreolaeth o'r Trysorlys, a rywsut—rywsut—rydych chi wedi cael eich cludo i fydysawd arall sydd wedi anghofio'r 14 mlynedd o niwed a wnaeth eich cyllidebau i Gymru flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydych chi hefyd wedi methu cydnabod, rywsut, yn eich bydysawd amgen, fod y gyllideb yn darparu mwy na £6 biliwn i lywodraeth leol ac £1.3 biliwn mewn grantiau penodol ychwanegol. Ac rydych chi wedi methu cydnabod mai dyma'r setliad mwyaf ers i chi fod mewn grym.

Felly, rwy'n credu bod rhyw fath o thema yma, ac mae'n thema'n eithaf clir: Llafur mewn grym sy'n darparu arian i lywodraeth leol a hefyd i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Rwy'n bryderus braidd—[Torri ar draws.] Mewn munud, mewn munud. Rwy'n bryderus braidd wrth glywed y datganiad agoriadol y dylai cynghorau gael eu rhedeg fel busnesau. Nawr, os dechreuwn redeg cynghorau fel busnesau'n unig, ni ddylem ond edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd. Ac nid wyf yn gwybod pwy y bwriadwch ddod â hwy i mewn—nid wyf yn gwybod pa unigolyn roeddech chi'n ystyried dod â hwy i mewn—[Torri ar draws.] Mewn munud.

Felly, y pwynt yma yw fy mod i'n byw yn y byd go iawn, nid y bydysawd rydych chi'n byw ynddo, lle rydych chi'n methu cydnabod y niwed a wnaethoch. Byddai’n eithaf braf pe baech yn cydnabod y niwed o bryd i'w gilydd—[Torri ar draws.] Mewn munud. Gallem gael mwy o barch at y ddadl pe baech yn dweud, un waith, 'Rydym yn cyfaddef. Nid ydym erioed wedi gwneud datganiad fel hwn o'r blaen, rydym yn cydnabod hynny, a gwyddom ein bod wedi gwneud llawer o niwed.' Pe baech ond yn gwneud hynny, efallai y gallem fynd ymhellach. Ond y pwynt yw mai dyma’r setliad ariannol gorau i lywodraeth leol ers dros 15 mlynedd. Nid ydym yn byw yn y byd ffantasi rydych chi'n byw ynddo, drwy ddychmygu bod yr un gyllideb hon yn mynd i drwsio 14 mlynedd o ddifrod. Gwyddom nad yw'n mynd i wneud hynny. Ond rydym yn ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd. Rydym yn cefnogi’r aelwydydd sydd wedi’u taro galetaf, ac rydym yn blaenoriaethu swyddi. Roeddwn innau hefyd yn gynghorydd sir—[Torri ar draws.] Wyddoch chi, rydych chi fel pe baech yn siglo i fyny ac i lawr—[Torri ar draws.] Mewn munud, efallai y gadawaf i rywun siglo i fyny. Ond y pwynt yw, mae galwadau enfawr ar lywodraeth leol, ac mae'r galwadau hynny o osod cyllidebau, pwysau costau, cronfeydd y dreth gyngor yn heriau yr eir i'r afael â hwy gan benderfyniadau lleol.

Ar gronfeydd wrth gefn, ac rydym wedi clywed llawer am hyn yma, nid lle'r Siambr hon na'r Llywodraeth ganolog yw ymyrryd â phenderfyniadau lleol. Mae pennu cyllidebau, y dreth gyngor a lefelau cronfeydd wrth gefn yn fater i aelodau lleol ym mhob cyngor. A rhoddaf enghraifft i chi o gyngor lleol. Yn sir Benfro, nid yw pob plaid, rywsut, yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif. Mae’r grŵp Torïaidd yno newydd gyflwyno ei gynigion cyllideb ffantasïol ei hun. Maent wedi cynnig treth gyngor is ar draul swyddogaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol oedolion ac addysg cyn ysgol. Maent yn ychwanegu y gallent dalu am y rheini drwy'r premiwm ail gartref—yr union bremiwm y maent wedi'i wrthwynebu a'r union bremiwm y gwnaethant bleidleisio o blaid ei leihau. Ond ar y cyfan, mae aelodau etholedig lleol ledled Cymru yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Dylem ymddiried ynddynt—[Torri ar draws.] Mae'n drueni, mae fy amser newydd ddod i ben. Ni allaf dderbyn unrhyw ymyriadau.

17:25

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai nawr i gyfrannu—Jayne Bryant. 

Diolch, Lywydd. Diolch am y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch, unwaith eto, i aelodau etholedig llywodraeth leol a staff ar draws yr holl awdurdodau lleol am y gwaith hanfodol a wnânt ar ran ein cymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru o ddydd i ddydd. Hoffwn dalu teyrnged, unwaith eto, i waith caled anhygoel swyddogion ac aelodau etholedig dros nifer o flynyddoedd mewn ymateb i'r heriau parhaus y mae cynghorau wedi bod yn eu hwynebu. Ac fel y dywedodd Carolyn Thomas, gwyddom y bydd yn cymryd amser i gyweirio a dadwneud y niwed a wnaed i Gymru dros y 14 mlynedd diwethaf, ond mae pasio’r gyllideb ddoe yn gam cyntaf hollbwysig.

Mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 dros £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. A gallai hon fod wedi bod yn gyllideb wahanol iawn ddoe pe na baem wedi cael etholiad cyffredinol pan wnaethom a chael Llywodraeth Lafur yn y DU, gan fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn paratoi ar gyfer cyllideb heb unrhyw gynnydd. Fel yr amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddoe, mae £1.5 biliwn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a’n blaenoriaethau, gan roi Cymru yn ôl ar y llwybr at dwf. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn y penderfyniadau cyllidebol hynny. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd i lywodraeth leol yn 2025-26 yn cynyddu 4.5 y cant, o gymharu â 2024-25. Yn dilyn cytundeb y gyllideb, ni fydd unrhyw awdurdod yn cael llai na 3.8 y cant o gynnydd. Golyga hyn y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael cynnydd mwy y flwyddyn nesaf nag yn 2024-25.

Diolch am dderbyn ymyriad. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi egluro i'r Siambr sut y cyrhaeddoch chi'r ffigur o 3.8 y cant? Diolch yn fawr.

Iawn. Felly, un o'r pethau, o ran cael y cyllid gwaelodol y buom yn ei drafod gyda'n cyd-Aelod, Jane Dodds, o ran y trafodaethau cyllidebol, yw fy mod wedi clywed yn uniongyrchol gan lywodraeth leol, arweinwyr llywodraeth leol ac aelodau llywodraeth leol hefyd, am ba mor bwysig fyddai'r cyllid gwaelodol eleni yn arbennig, yn enwedig yn y naw awdurdod y gallasom eu helpu diolch i gytundeb y gyllideb eleni. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod—[Torri ar draws.] Hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod awdurdodau’n wynebu heriau o ran darparu gwasanaethau, mantoli eu cyllidebau a chefnogi eu cymunedau lleol drwy gadw'r cynnydd yn y dreth gyngor mor isel ag y gallant. Bydd cynghorau wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt wrth wneud y penderfyniadau hynny. Byddant wedi dyfarnu i ba raddau y gallant ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i helpu ym mhob un o'r penderfyniadau hynny heb beryglu eu sefyllfa hirdymor. Ac er fy mod yn cytuno bod £2 biliwn yn swm mawr, fel y dywedodd Joyce Watson, mae'n rhy syml cymryd y disgrifiad technegol o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy, sy'n cynnwys cronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a chronfeydd wrth gefn y cyfrifon refeniw tai, yn ogystal â chronfeydd cyfalaf a grantiau ar gyfer prosiectau penodol.

Mae'n werth nodi hefyd nad oes cysylltiad rhwng lefel y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a lefel y cynnydd i setliadau. Bydd cynghorau wedi gorfod ystyried holl effeithiau'r cynnydd yn y dreth gyngor ar eu cymunedau. Aelodau lleol sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd sy'n gwneud penderfyniadau ar wasanaethau, ar gronfeydd wrth gefn ac ar gynnydd yn y dreth gyngor. Yng Nghymru, mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i osod eu cyllidebau a phennu lefelau’r dreth gyngor i ymateb i flaenoriaethau lleol. [Torri ar draws.] Iawn.

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i’w ofyn i Aelod eich plaid ar y meinciau cefn yno'n ymwneud ag arbedion effeithlonrwydd. Yn amlwg, fel y dywedwch, penderfyniadau i awdurdodau lleol yw’r rhain, fe’u gwneir yn lleol, ond onid ydych chi'n cytuno bod gennych rôl i’w chwarae i gynorthwyo cynghorau lleol i ddod yn fwy effeithlon, i gael mwy o feddylfryd busnes ac i greu’r arbedion hynny drwy rannu’r adnoddau, drwy wella darpariaeth gwasanaethau a gostwng y costau hynny fel nad oes yn rhaid i drethi cyngor godi i'r fath raddau?

Mae awdurdodau lleol yn gwneud gwaith anhygoel i fod yn wirioneddol drawsnewidiol yn rhai o’u gwasanaethau; rwyf wedi gweld hynny drosof fy hun pan wyf wedi ymweld â gwahanol awdurdodau lleol. Hyd yn oed heddiw, euthum i ddigwyddiad lle roedd cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen yn sôn am eu model ffedereiddio newydd sydd wedi bod mor bwysig, ac maent yn rhannu'r arferion da hynny ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Ac ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud nad wyf yn mynd i wrando ar unrhyw bregeth gan y Torïaid ar hyn. Gwelsom yn rhy glir beth y mae’r Torïaid wedi’i wneud yn Lloegr mewn Llywodraeth, lle maent wedi torri cyllid llywodraeth leol i’r asgwrn, gan dorri 60c o bob punt ar gyfartaledd o grantiau'r Llywodraeth i gynghorau, a rhai cynghorau’n colli 70 y cant.

Felly, rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol mewn ysbryd o bartneriaeth ac ymddiriedaeth, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet ar ein hymagwedd at gyllid neilltuedig i ddarparu mwy o hyblygrwydd wrth reoli'r cyllid a ddarparwn iddynt. Mae'n hanfodol ein bod yn cael gwared ar unrhyw weinyddiaeth ddiangen fel bod mwy o'r arian yn cael ei wario ar gyflawni'r hyn sy'n bwysig i'n cymunedau.

Fel Heledd, rwy'n cytuno bod y trydydd sector yng Nghymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau a’r bobl sydd fwyaf o angen cymorth, ac yng nghyllideb ddrafft 2025-26, rydym wedi ymrwymo i gytundeb ariannu tair blynedd ar gyfer cymorth i'r trydydd sector yng Nghymru, gwerth £25.8 miliwn, sy’n gynnydd o 7 y cant. Ac ar y pwynt a gododd Peredur ynghylch yswiriant gwladol, yn amlwg, rydym yn aros am wybodaeth gan Lywodraeth y DU. Pan fyddwn yn gwybod beth fydd lefel y cyllid, byddwn yn defnyddio ein mecanweithiau sefydlog, yr is-grŵp dosbarthu a’r is-grŵp cyllid, i gytuno ar ddosbarthiad y cyllid, gan fy mod yn ymwybodol fod gan wahanol awdurdodau gyfrannau gwahanol o staff a gyflogir yn uniongyrchol, gwasanaethau a gomisiynir neu wasanaethau ar gontract allanol, felly mae’r is-grŵp dosbarthu wedi cael sgwrs gychwynnol i baratoi. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, iawn.

17:30

A fyddwch chi'n edrych ar gyfwerth ag amser llawn, neu ba fecanweithiau y maent yn eu hystyried?

Mater i'r is-grŵp dosbarthu yw hynny, felly rwy'n siŵr y bydd hynny'n dod, gan fod y trafodaethau'n digwydd ar hyn o bryd.

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer cyd-bwyllgorau corfforedig fel fframwaith i gefnogi gwaith rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol. Mae alinio datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynlluniau defnydd tir yn y cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhoi cyfle i gynghorau gronni adnoddau ac ystyried a manteisio ar gyd-ddibyniaethau rhwng y swyddogaethau hyn. Mae sicrhau effeithiolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Er ein bod yn cydnabod nad oes un dull gweithredu sy'n addas i bawb, mae swyddogion wedi dechrau gweithio gyda CLlLC a swyddogion llywodraeth leol i ddatblygu prosbectws sy'n nodi ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer cyd-bwyllgorau corfforedig.

Rydym hefyd wedi mynd ati gyda CLlLC i gyd-ddatblygu blaenoriaethau digidol a gwella ar gyfer llywodraeth leol ac rydym eisoes yn cefnogi trawsnewid digidol ac arloesedd cydweithredol ar draws cynghorau, gyda golwg ar wella ac arloesi i'n helpu i ddod o hyd i'r cyfeiriad cywir a'r datrysiad digidol at bob pwrpas. Mae arloesi gyda rhannu adnoddau a chydweithio yn fwy pwerus pan fyddant yn dod o'r gwaelod i fyny ac rwy'n awyddus iawn i annog hynny.

Yn olaf, Lywydd, rwyf am droi at y fformiwla llywodraeth leol. Mae'r fformiwla hon wedi'i hen sefydlu a'i chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol ac fe'i cytunir yn flynyddol gyda llywodraeth leol, trwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Mae dros dri chwarter yr arian sy'n cael ei ddosbarthu drwy fformiwla ariannu'r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, a cheir cytundeb fod angen adolygu a diweddaru elfennau hynaf y fformiwla, ac mae gwaith ar y gweill i wneud hynny. Ond mae'r fformiwla'n rhydd o agenda wleidyddol, wedi'i gyrru gan ddata ac yn cydbwyso angen cymharol a gallu cymharol i godi incwm fel bod awdurdodau ledled Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd wrthod y cynnig.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a siaradodd yn y ddadl heddiw, a hoffwn ddiolch hefyd i Laura Anne Jones am ei geiriau cynnes i'r holl swyddogion llywodraeth leol, a llywodraeth leol yn gyffredinol ledled Cymru, am bopeth a wnânt yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled ein gwlad. Cododd Laura Jones gwestiynau ynghylch Llywodraeth Cymru yn pasio deddfau yn y Senedd a rheoliadau heb drosglwyddo arian i awdurdodau lleol i'w cefnogi. Roeddwn yn y pwyllgor iechyd y bore yma yn siarad am fwy fyth o reoliadau y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio eu pasio, a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar lywodraeth leol, ond unwaith eto nid ydym yn gweld yr arian yn dilyn y rheoliadau hynny, felly unwaith eto mae'r Llywodraeth hon yn deddfu, ond heb roi arian tuag at weithredu'r ddeddfwriaeth honno.

Cafodd cyllid gwaelodol ei grybwyll gan nifer o'r Aelodau yma, ac mae'n rhywbeth cadarnhaol yn fy marn i, fod gennym gyllid gwaelodol i lywodraeth leol bellach; mae'n rhywbeth y gofynnwyd amdano, ond gallai fod wedi mynd ymhellach. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar y fainc gyferbyn yn dweud, 'Wel, sut ydych chi'n mynd i ariannu hynny?'  Ond dyna a wneir drwy ail-flaenoriaethu cyllideb, onid e? Yr hyn y byddem ni ar y meinciau hyn yn ei wneud yw ail-flaenoriaethu rhai o gyllidebau Llywodraeth Cymru, edrych ar linellau'r gyllideb i sicrhau bod hynny'n digwydd, oherwydd nid wyf yn ymwneud ag economeg ffantasi. Rwy'n credu mewn cyflwyno cynlluniau credadwy, yn wahanol i bleidiau eraill yn y lle hwn.

Codwyd cronfeydd wrth gefn gan Laura Anne Jones, Janet Finch-Saunders a Joel James, am yr awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n cadw symiau enfawr o gronfeydd wrth gefn. Ond rwyf bob amser yn dweud yr hyn y mae Aelodau eraill yn ei ddweud, nid yw pob cronfa wrth gefn yno i'w chlustnodi a'i defnyddio; mae rhai ohonynt yn cael eu defnyddio, fel y dywedodd y Gweinidog, ar gyfer y cyfrif refeniw tai, ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Ond mae yna elfennau o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio mewn awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod angen i Joyce Watson gael gwers am y ffordd y mae cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn cael eu dyrannu mewn gwirionedd, oherwydd dywedodd fod y cyfan ar gyfer cyfalaf, a gallaf eich sicrhau, fel rhywun a oedd mewn llywodraeth leol am gyfnod, nid ydynt i gyd yn gronfeydd cyfalaf, felly efallai y gallech gael gwers gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut y caiff eu cronfeydd wrth gefn eu gwario mewn gwirionedd.

Codwyd y cynnydd i yswiriant gwladol gan lawer o bobl yn y Siambr. Fe'i codwyd gan Janet Finch-Saunders, a Heledd Fychan hefyd. Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn gan yr Aelodau, sydd wedi'i fethu'n llwyr gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, am y pwysau enfawr y mae hyn yn mynd i'w roi ar lywodraeth leol. Soniodd y Gweinidog am yr arian ychwanegol sy'n mynd i lywodraeth leol. Mae hwnnw i gyd yn mynd i orfod mynd ar gyflogau a phwysau nawr, oherwydd os nad ydym yn ariannu ein hadrannau gwasanaethau cymdeithasol yn briodol, ac os nad ydym yn ariannu ein hadrannau gwasanaethau plant yn briodol, mae'r adrannau hynny'n rhedeg ar staff, ac mae cynnydd i yswiriant gwladol yno'n mynd i frifo'n fawr. Felly, Weinidog, ni fydd yr holl arian ychwanegol hwnnw'n cael ei wario ar wella gwasanaethau mewn gwirionedd, bydd yn cael ei wario ar gadw staff yn eu swyddi.

Roedd y dreth gyngor yn rhan fawr iawn o'r ddadl hon. Fe'i codwyd gan Joel James, Laura Anne Jones, Gareth Davies a Janet Finch-Saunders, a siaradodd pawb yn angerddol iawn am godiadau'r dreth gyngor yn eu hawdurdodau eu hunain, fel fy un i yng Nghyngor Sir Powys. Rwy'n credu bod angen i drigolion lleol gael dweud eu barn ar godiadau'r dreth gyngor, fel y gwnânt yn Lloegr—[Torri ar draws.] Yng ngeiriau Joyce Watson, 'Mewn munud.'  Felly, mae angen inni gael refferendwm lleol i sicrhau y gall pobl ddweud eu barn, oherwydd mae'n iawn i'r cyhoedd gael dweud eu barn ar y materion hyn. Fe wnaf dderbyn ymyriad, rwy'n fwy caredig nag Aelodau eraill yn y Siambr.

17:35

Rydych chi ac eraill wedi codi mater refferendwm os yw cynnydd treth gyngor dros 5 y cant. Nawr, beth bynnag yw eich barn am y dreth gyngor, o leiaf mae'r arian hwnnw'n cael ei wario'n lleol ar wasanaethau hanfodol. Pan gododd y Ceidwadwyr dreth ar werth i 20 y cant, pan gododd y Ceidwadwyr y dreth gorfforaeth o 19 y cant i 25 y cant, a ddylid bod wedi cael refferendwm bryd hynny?

Wel, y peth yw, mae'n siŵr nad ydych chi eisiau refferendwm ar y dreth gyngor, oherwydd y broblem gyda sosialaeth yw eu bod yn hoffi dweud wrth bobl sut i wario eu harian, nid ydynt yn hoffi pobl yn cael dweud eu barn ynglŷn â'r modd y caiff eu harian ei wario.

Ond fe gawsom yr un areithiau arferol yn y Siambr, oni chawsom, yr un hen siarad am '14 mlynedd'; pe byddem ni wedi bod yn Llywodraeth am ychydig bach hwy, byddech wedi ei groesi allan a nodi 15, neu 16 mlynedd. Yr un hen araith yw hi, onid e, gan Peredur Owen Griffiths, Carolyn, Heledd, Joyce, oherwydd maent i gyd yn anghofio, onid ydynt, pam y bu'n rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hynny yn 2010. Rhoddodd Heledd araith go angerddol am y newidiadau y bu'n rhaid eu gwneud yn 2010, ond hoffwn atgoffa Heledd, pan ddaeth fy mhlaid i rym, fod yna nodyn bach wedi ei adael ar ôl yn 2010 a ddywedai nad oedd y Blaid Lafur wedi gadael unrhyw arian ar eu holau. Roeddent wedi gwneud y wlad yn fethdalwr, a swyddogaeth—[Torri ar draws.] Swyddogaeth Llywodraeth gyfrifol yw gweithredu'n briodol pan fo'n trin arian cyhoeddus, a dyna a wnaethom pan oeddem ni mewn grym. [Torri ar draws.] Rwyf am fwrw ymlaen, Heledd, ac fe ddof â chi'n ôl i mewn. Mae'n iawn.

Gareth Davies, roeddwn yn meddwl bod eich araith yn angerddol iawn wrth ichi siarad am Gyngor Sir Ddinbych, a'r perfformiad a rhai o'r pethau sy'n digwydd yn eich ardal chi, yn enwedig yr holl faw cŵn ar y strydoedd. Rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei weld o ddydd i ddydd pan fyddwn yn cerdded o gwmpas, ond mae'n dangos unwaith eto, onid yw, nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yn ariannu ein hawdurdodau lleol yn iawn. Felly, dyna pam y gwelwn faw cŵn ym mhobman, ac ansawdd ein strydoedd yn gwaethygu.

Carolyn Thomas, oedd, roedd yr araith safonol allan eto, mae'n rhaid ei bod wedi dod o swyddfa'r grŵp Llafur, ynglŷn â sut nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim o'i le. Maent wedi disgleirio dros y 26 mlynedd diwethaf, onid ydynt, ond am 14 mlynedd yn San Steffan—pobl erchyll. Mae'n gymaint o drueni na wnaethoch feirniadu eich Llywodraeth eich hun yn San Steffan am y penderfyniadau a wnaethant i wneud i bensiynwyr rewi y gaeaf hwn [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad, iawn.

17:40

Diolch. Yn y niferoedd o weithiau yr ydych chi wedi sôn am y pethau sydd wedi'u dweud o un ochr i'r Siambr hon, a oes unrhyw ddealltwriaeth, ers 2010, fod grant bloc y cyllid i Gymru wedi bod ar lefelau 2010? Ac a oes unrhyw syndod, felly, mai dyna a drosglwyddwyd i lawr ledled Cymru?

Nid wyf yn hollol siŵr eich bod chi'n deall economeg ychwaith, oherwydd, mewn gwirionedd, cafwyd y lefelau uchaf erioed o gyllid y llynedd. A'r rheswm y dywedais pam y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau yw oherwydd bod eich plaid chi wedi gwneud y wlad yn fethdalwr.

Hefyd, codwyd y fformiwla ariannu yn y ddadl, sy'n fater allweddol iawn, ac yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom fod o ddifrif yn ei gylch. Dywedodd y Gweinidog nad oes ymyrraeth wleidyddol—wel, mae CLlLC yn cael ei arwain yn wleidyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain yn wleidyddol, ac maent ill dau'n cael eu harwain gan Lafur, felly, yn anffodus, mae yna ymyrraeth wleidyddol yn y fformiwla ariannu. Ond mae angen edrych ar y fformiwla ariannu oherwydd bod awdurdodau gwledig bob amser dan anfantais o'i herwydd, a chynghorau trefol dan arweiniad Llafur sydd bob amser i'w gweld yn elwa. Felly, mae angen inni weld adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu, a rhoi ystyriaeth annibynnol i bêl-droed wleidyddol ein fformiwla ariannu.

Os caf fynd ar drywydd rhai o sylwadau'r Aelodau, Janet Finch-Saunders—[Torri ar draws.] Diolch, Darren. Janet Finch-Saunders—

O, nid oeddwn yn sylweddoli bod fy amser ar ben; roeddwn i'n cael hwyl arni, Lywydd. Dyna ni—[Torri ar draws.]

Fe ddof i ben, felly, drwy ddweud fy mod yn annog pawb i gefnogi ein cynnig heddiw, oherwydd ni yw'r unig blaid ar yr ochr hon i'r Siambr a all drwsio ein system llywodraeth leol. Mae amser Llafur ar ben, ymdrin â ffantasi y mae Plaid Cymru; ni'n unig sy'n ymdrin â'r byd go iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Rhyddhad Eiddo Amaethyddol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Dadl Plaid Cymru sydd nesaf ar ryddhad eiddo amaethyddol. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8832 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ailystyried ac oedi’r dreth fferm deuluol hyd nes y byddant wedi cynnal ymgynghoriad ac adolygiad economaidd trylwyr o’i effaith ar ffermydd gweithredol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Ar y cychwyn, fel dwi'n siŵr mi fydd yn ofynnol i nifer ohonom ni wneud, mi ddylwn i ddatgan budd yn bennaf oherwydd, wrth gwrs, mae gen i blant sydd naill ai yn neu a fydd yn y dyfodol, efallai, yn rhan o'r diwydiant amaeth.

Dwi'n falch i gyflwyno'r cynnig yma yn enw Plaid Cymru heddiw, fod y Senedd yn galw ar ein Llywodraeth ni fan hyn i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i oedi ac i ailystyried y dreth fferm deuluol hyd nes y byddan nhw wedi cynnal ymgynghoriad ac adolygiad economaidd trylwyr ar ei effaith ar ffermydd gweithredol yng Nghymru. Byddwn i'n licio meddwl ei fod e'n gynnig rhesymol, yn gynnig pragmatig, yn syml iawn yn galw am gam yn ôl ac ystyried effaith yr hyn sydd yn cael ei gynnig. Yn wahanol, efallai, i'r hyn rŷn ni wedi clywed yn y munudau diwethaf, dwi yn gobeithio y bydd hwn yn gynnig fydd yn denu cefnogaeth y pleidiau i gyd, fel ein bod ni fel Senedd a Llywodraeth Cymru yn gallu anfon neges unedig ac adeiladol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn union fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i wneud, fy ngobaith i y prynhawn yma yw y bydd y Senedd yn siarad gydag un llais ar hyn.

Dwi wedi fy siomi gyda gwelliant y Llywodraeth. Mae unrhyw welliant sy'n dechrau gyda 'Delete all'—wel, dyw hwnna byth yn argoeli’n dda, ydy e? Rŷch chi'n iawn, mae e yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl, sydd ddim wedi'i ddatganoli, ond dyw hynny ddim wedi stopio’r Alban na Gogledd Iwerddon i ddweud eu barn. Rŷch chi'n dweud eich bod chi'n cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ffermwyr—wel, os ŷch chi'n eu cydnabod nhw, mae yna ddyletswydd arnom ni i wneud rhywbeth concrit i ymateb i hynny.

A gaf i ddweud ar y dechrau fan hyn, gyda llaw, nad cynnig yw hwn i annog peidio â thaclo’r rhai hynny sy’n cam-ddefnyddio’r system ac sy’n prynu tir er mwyn osgoi treth? Y broblem gyda'r polisi yma yw nad yw e’n gwahaniaethu rhwng y miliynyddion a’r biliwnyddion yna a’r diddordebau corfforaethol ac, wrth gwrs, y fferm deuluol Gymreig sy’n crafu bywoliaeth o’r tir ac sydd mor allweddol i Gymru o safbwynt economaidd, o safbwynt cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol.

Dwi'n cytuno gyda'r hyn rwyt ti'n ei ddweud yn fanna o ran y ffordd y mae rhai pobl wedi bod yn osgoi talu treth a defnyddio ffermydd, ond mae'r cynnig sydd o flaen San Steffan ar hyn o bryd wedi arwain at nifer fawr o gwmnïau rhyngwladol, bellach, venture capitalists, yswyrwyr ac yn y blaen yn sniffio o amgylch Cymru yn aros am dir i ddod i fyny oherwydd hyn, a nhw, mewn gwirionedd, fydd yn elwa. Wyt ti'n cytuno gyda hynny?

17:45

Wel, mi ydw i, ac mae hynny'n enghraifft o sut y mae'r polisi yma yn ddiffygiol ac yn rheswm arall pam y dylid adolygu a newid cyfeiriad.

Nawr, mae'r rhai ohonom sy'n gwybod pa mor fregus yw economeg ffermio yn gwybod y bydd gan gynigion Llywodraeth y DU ganlyniadau pellgyrhaeddol iawn i deuluoedd ffermio. Nid cenedl o ffermwyr sy'n filiwnyddion sy'n byw yn fras yw Cymru. Mae ein ffermydd teuluol yn gweithredu ar fawr ddim elw ac maent yn dlawd mewn arian parod; mae llawer yn byw o'r llaw i'r genau ac mae gormod mewn dyled, ac mae ystadegau incwm busnesau fferm Llywodraeth Cymru ei hun yn brawf o hynny. Nid oes gan ffermwyr Cymru gyfalaf i ysgwyddo'r baich treth ychwanegol hwn. Bydd yn gorfodi teuluoedd i werthu tir, gan dorri i mewn ymhellach i'w bywoliaeth a gwneud eu ffermydd yn llai hyfyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd hefyd yn annog ffermwyr rhag buddsoddi yn seilwaith ac arloesedd ffermydd, a fydd yn niweidio agenda twf economaidd Llafur ei hun. Mae'r polisi'n gwbl wrthgynhyrchiol ar adeg pan fo angen inni gryfhau ein diogeledd bwyd yn hytrach na'i danseilio.

Nawr, mae'r data y mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn seilio eu cynnig arno yn destun llawn cymaint o bryder. Fel y clywsom lawer gwaith yn y Siambr hon, mae'r Trysorlys yn amcangyfrif mai dim ond 500 o ffermydd y flwyddyn yn y DU yr effeithir arnynt gan y newidiadau. Ond rydym wedi gweld dadansoddiadau annibynnol dirifedi gan drydydd partïon yn nodi neu'n adrodd stori dra gwahanol i ni, ac mae rhai ohonynt yn dweud y bydd o leiaf dri chwarter y ffermydd yn cael eu heffeithio. Nawr, hyd yn oed yn y gwahaniaeth enfawr hwnnw, wel, mae yna achos yno, onid oes, sy'n cyfiawnhau'r angen i feddwl eto. Dyna pam y mae cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ac oedi eu cynlluniau ar y dreth fferm deuluol hyd nes eu bod wedi gwneud y gwaith hwnnw, hyd nes eu bod wedi cynnal ymgynghoriad trylwyr â'r sector ac adolygiad economaidd o'r effaith ar ein ffermydd gweithredol.

Oes, mae angen inni fynd i'r afael â'r aml-filiwnyddion sy'n prynu tir yn fwriadol at ddibenion osgoi treth—roedd hwnnw'n bwynt a wnaed gan y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe, ac yn bwynt rwy'n cytuno â hi yn ei gylch. Ond ni ddylai ein ffermydd teuluol gweithredol gael eu dal yn y canol. Mae'r difrod cyfochrog economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol o ganiatáu i hynny ddigwydd yn bris rhy uchel i'w dalu. Nawr, bydd beichiau treth etifeddiant ar y ffermydd hyn, fel yr awgrymais yn gynharach, yn gorfodi gwerthiannau tir, byddant yn tarfu ar gynhyrchiant bwyd a phan fydd angen inni gryfhau diogeledd bwyd domestig, byddant yn cael yr effaith groes i hynny. Bydd lleihau nifer y ffermydd gweithredol yn cynyddu ein dibyniaeth ar fewnforion bwyd, bydd yn codi pris bwyd ac yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn arferion ffermio cynaliadwy.

Ni fydd effaith y dreth hon yn gyfyngedig i'r ffermydd eu hunain. Rydym yn gwybod, ac rydym yn nodi'n rheolaidd yn y Siambr hon, yr elw o £9 ar fuddsoddiad am bob £1 sy'n mynd tuag at ffermio. Felly, nid newyddion drwg i ffermydd yn unig yw hyn, mae'n newyddion drwg i'r sector bwyd ehangach a'r economi wledig ehangach, i swyddi yn y gadwyn gyflenwi. Bydd yn lleihau gweithgarwch economaidd lleol—dyna'r pwynt rwy'n ei wneud—a bydd yn gwanhau gwead cymdeithasol ein hardaloedd gwledig.

Mi wnes i gyfeirio at yr effaith diwylliannol hefyd. Rŷn ni'n gwybod sut mae ffermydd yn chwarae rhan ganolog yn cynnal yr iaith Gymraeg. Mae 43 y cant o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg, ac mae hynny i'w gymharu â 19 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Felly, os ŷch chi'n tanseilio un o beuoedd cryfaf yr iaith Gymraeg, rŷch chi, wrth gwrs, yn tanseilio nod eich Llywodraeth chi eich hunan i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Nawr, mae'r undebau ffermio a llawer o grwpiau ffermio eraill, sefydliadau gwledig a busnesau, arbenigwyr proffesiynol a'r gadwyn fwyd ehangach oll wedi tynnu sylw at ddiffygion niferus, niweidiol iawn y polisi hwn gan Lywodraeth y DU. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o lythyr yn annog newid polisi, sydd wedi'i lofnodi gan dros 50 o brif fanwerthwyr, gan gynnwys busnesau amlwg, a gweithredwyr a phroseswyr ac ati yma yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi sôn am yr effaith y bydd yn ei chael ar fuddsoddi a lleihau proffidioldeb ffermydd, ond wrth gwrs, mae perygl y bydd yn cyfyngu ar y tir a fydd ar gael ar gyfer tenantiaethau hefyd, gan effeithio'n sylweddol arnom ni yma yng Nghymru, o ystyried faint o ffermydd tenant sydd gennym. Bydd y polisi'n tanseilio cynhyrchiant bwyd domestig a'n diogeledd bwyd, bydd yn dod â ffermydd teuluol aml-genhedlaeth i ben, heb sôn am y straen emosiynol eithriadol y mae'r polisi hwn eisoes yn ei achosi i ffermwyr a thyfwyr ledled y wlad.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod cynigion amgen wedi'u rhoi ar y bwrdd gan undebau ffermio ac eraill, gydag un ohonynt yn cael ei ddisgrifio fel yr 'adfachiad' sy'n caniatáu rhyddhad o 100 y cant ar asedau cymwys ond yn codi treth etifeddiant ar yr holl asedau hynny os cânt eu gwerthu wedyn gan y buddiolwr dan sylw o fewn ffrâm amser argymelledig o 7 mlynedd, dyweder. Byddai'r dull hwnnw'n lleihau'n sylweddol y nifer o ffermydd y byddai angen eu chwalu ar farwolaeth perchennog, yn enwedig lle ceir awydd, fel y byddai yn y mwyafrif helaeth o achosion, i'r fferm honno barhau i weithredu fel fferm weithredol. Nawr, mae'r dull hwnnw hefyd yn gymhelliant rhag prynu tir amaethyddol fel ffordd o leihau rhwymedigaethau treth etifeddiant yn unig. Dyna pam y mae adfachiad yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wledydd Ewropeaidd, fel arfer ar gyfer tir fferm, adeiladau, peiriannau, da byw, a chyfranddaliadau mewn busnesau amaethyddol teuluol hefyd weithiau. A gwrandewch ar hyn: byddai'r polisi hefyd yn codi mwy o arian i'r Trysorlys—tua 7 y cant yn fwy o refeniw nag y mae'r Trysorlys yn amcangyfrif y bydd ei gynnig presennol yn ei godi mewn gwirionedd.

Nawr, os nad yw hyn yn ddigon o reswm i oedi ac i ailedrych ar y polisi, yna mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu i mewn i ddelio gydag effaith emosiynol ac iechyd meddwl y polisi yma, yn enwedig ar y rheini sydd eisoes, wrth gwrs, mewn oed neu sydd â salwch sy’n golygu nad yw 'gift-io' etifeddiaeth yn opsiwn realistig iddyn nhw, gan na fyddan nhw, wrth gwrs, yn debygol o oroesi am saith mlynedd ac felly osgoi gosod y baich treth yma ar y genhedlaeth nesaf. Man lleiaf, mi ddylid fod yn ystyried cyfnod hirach cyn cyflwyno’r newid polisi, neu o leiaf caniatáu i eithriadau i'r rheini sydd dros ryw oed penodol neu sydd â chyflyrau iechyd fydd yn byrhau eu bywydau nhw pan fydd unrhyw bolisi newydd yn cael ei gyflwyno.

Mae yna destimoni dirdynnol wedi cael ei gyflwyno gan sawl unigolyn a sawl teulu am sut mae’r genhedlaeth hŷn nawr yn teimlo eu bod nhw’n faich ar y genhedlaeth nesaf. Nawr, dwi’n gwybod bod hynny wedi brawychu nifer ohonon ni fan hyn yn y Senedd, ond hefyd rŷn ni wedi clywed rhai Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan sydd wedi galw am yr un oedi a'r un edrych eto ar y polisi yn sgil y dystiolaeth sobreiddiol maen nhw wedi'i chlywed gan rai o'u hetholwyr.

Dwi’n erfyn, felly, ar bob Aelod o’r Senedd yma i gydnabod nad yw’r polisi yma sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i gyflawni’r hyn a fwriadwyd ac, yn wir, ei fod yn mynd i wneud drwg, yn hytrach na da. Oes, mae angen mynd i’r afael â’r rheini sy’n cam-ddefnyddio’r system i osgoi trethi—rŷn ni i gyd yn cydnabod hynny—ond mae modd gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn tanseilio dyfodol ffermydd teuluol Cymru. Y cam rhesymol, felly, yw i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i oedi, cymryd cam yn ôl ac edrych eto ar y cynigion. Dyna’r oll rŷm ni’n ei ofyn, a dyna’r lleiaf y dylai'r Senedd yma a Llywodraeth Cymru ei wneud.

17:50

Rwyf wedi dethol yr un gwelliant i’r cynnig. Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y gwelliant yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd yn: 

1. Nodi bod rhyddhad eiddo amaethyddol yn fater a gedwir yn ôl.

2. Cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ffermwyr Cymru am y newidiadau i rhyddhad eiddo amaethyddol.

3. Cydnabod bod Gweinidogion Cymru wedi annog Llywodraeth y DU, ac y byddant yn parhau i’w hannog, i roi ystyriaeth lawn a phriodol i farn ffermwyr Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Huw Irranca-Davies 17:52:41
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy muddiant cofrestredig, gan fy mod yn ffermwr, er fy mod yn ymddeol yn dawel. Rydym ni'r Ceidwadwyr yn croesawu'r ddadl bwysig hon. Mae'n dilyn ein dadl debyg fis Tachwedd diwethaf, a byddwn yn cefnogi'r cynnig. Roeddwn innau hefyd yn teimlo'n siomedig fod y Llywodraeth wedi cyflwyno eu gwelliant. Nid oedd angen hynny. Ond nid wyf am fod yn rhy wleidyddol, oherwydd mae'r pwnc hwn yn rhy bwysig. Mae angen inni fod yn unedig ar hyn.

Lywydd, mae miloedd o ffermwyr a phobl wledig wedi bod yn lleisio eu barn fel na wnaethpwyd erioed o'r blaen ynglŷn â'r penderfyniad llym i ddileu rhyddhad treth etifeddiant amaethyddol. Ddoe ddiwethaf, fe wnaethant orymdeithio unwaith eto yn Llundain, a bydd rhai o'r rheini yma heddiw rwy'n siŵr, ac rwy'n croesawu ein gwesteion y prynhawn yma. Nid yw ffermwyr eisiau bod allan ar y strydoedd, gydag ŵyna a lloea a gwaith ar y gweill yn y caeau, ond maent yn gorymdeithio ac yn protestio oherwydd eu hanobaith—ac ofn gwirioneddol am ddyfodol eu teuluoedd, eu plant a phlant eu plant.

Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch y dreth hon yn ddiffygiol ac nid oes ganddynt ddealltwriaeth o gymhlethdod a bregusrwydd y sector ffermio. Nid ydynt yn cydnabod yr effaith ddofn y bydd cael gwared ar ryddhad amaethyddol yn ei chael ar gefn gwlad, ar ein diogeledd bwyd, yn enwedig yma yng Nghymru lle mae ein gwlad mor ddibynnol ar ffermydd teuluol. Mae'r busnesau hyn nid yn unig yn ein bwydo ac yn gwarchod ein cefn gwlad, maent yn cynnal ein cymunedau gwledig, gan alluogi'r cenedlaethau nesaf i barhau â chydbwysedd bywyd yng Nghymru, fel y maent wedi'i wneud ers cannoedd o flynyddoedd. Daw cael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol ar ben effeithiau dinistriol TB, y cynllun ffermio cynaliadwy dadleuol, parthau perygl nitradau, rheoliadau dŵr a biwrocratiaeth ormodol. Ond y penderfyniad hwn i drethu ffermydd teuluol a chenedlaethau'r dyfodol o blant yw ei diwedd hi i rai. Mae llawer yn teimlo mai hon fydd yr hoelen olaf yn arch eu ffermydd a'u busnesau.

Ddydd Llun, gyda fy arweinydd, fe ymwelais â fferm laeth deuluol lle'r oedd tair cenhedlaeth yn gweithio, yn eu 80au, 60au a'r ŵyr yn ei 30au. Roeddent yn amlwg yn poeni, ac ni allaf gyfleu'r ofn hwnnw yn y cyfraniad byr hwn. Roeddent yn ofni y bydd eu fferm yn cael ei difetha gan y dreth etifeddiant, neu ddwy dreth etifeddiant o bosibl, pe bai'r gwaethaf yn digwydd, a byddai'n ddiwedd ar eu busnesau. Maent hyd yn oed wedi atal eu buddsoddiad parhaus mewn seilwaith. Mae ganddynt adeilad ar hanner ei godi, ond ni wnânt barhau oherwydd bydd yn cynyddu gwerth eu hasedau ac yn codi eu rhwymedigaeth, ac mae hynny'n wael. Caiff eu sefyllfa ei hailadrodd ledled Cymru, gan arwain at grebachu go iawn yn y diwydiant a chrebachu cynhyrchiant bwyd.

Roedd rhyddhad eiddo amaethyddol yn bolisi a gynlluniwyd yn benodol i ddiogelu ffermydd teuluol rhag cael eu gwerthu a'u chwalu. Am y rheswm hwn cafodd rhyddhad eiddo amaethyddol ei gadw gan Lywodraethau'r gorffennol o bob lliw, a oedd yn cydnabod pa mor bwysig ydoedd. Felly, beth sydd wedi newid? Mae'n wir fod ffermydd yn asedau gwerthfawr, ond nid yw'r rhain yn asedau a gaiff eu troi'n arian. Maent yn endidau a gedwir i alluogi ffermwyr i barhau i ffermio, a phan na allant wneud hynny mwyach neu os byddant yn marw, mae'r ased yn parhau i ganiatáu i'r genhedlaeth nesaf barhau i ffermio a chynhyrchu bwyd. Mae hon yn rhan sylfaenol o ecosystem sy'n sail i'n diogeledd bwyd, ein diwylliant Cymreig, ein hiaith a phopeth sy'n cynnal ein cymunedau gwledig.

Gadewch inni fod yn glir hefyd: mae incwm ffermydd ar gyfartaledd yn isel, ac yn sicr nid yw'n fwy na hanner yr hyn y mae unrhyw un ohonom ni'n ei gael yn gyflog yn y lle hwn. Nid oes unrhyw ffordd y gall y fferm gyffredin gynhyrchu digon o arian i dalu treth etifeddiant, hyd yn oed os caiff ei ymestyn dros 10 mlynedd. Y ffaith amdani yw y byddai'n rhaid chwalu ffermydd er mwyn rhyddhau arian i'w thalu.

Nawr, mae yna ffyrdd y gallai Llywodraeth y DU gau'r bylchau lle credant fod pobl yn ceisio osgoi treth etifeddiant heb daro ffermydd teuluol go iawn, ac fel y mae Llyr eisoes wedi crybwyll, mae opsiynau adfachu ymarferol wedi'u cyflwyno gan yr NFU, ac maent yn synhwyrol ac yn ymarferol. Mae angen i'r Canghellor ailystyried y rheini. Gallent gynnig atebion ymarferol.

Yn eironig, fel y soniais, mae cael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol eisoes yn lleihau buddsoddi ar ffermydd, buddsoddiad y mae ei angen yn ddybryd i sicrhau bod ein ffermydd yn gynaliadwy ac yn gallu cyflawni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau. Mae cael gwared ar ryddhad eiddo amaethyddol mor groes i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni. Hefyd, mae'r penderfyniad yn brin o dosturi, fel y clywsom, ac mae'n rhaid ei adolygu, fan lleiaf, i alluogi ffermwyr oedrannus a bregus—

17:55

Bydd y rhan fwyaf o'r bobl sy'n etifeddu'r fferm yn parhau i ffermio, a hwy yw'r rhai a fydd yn cael eu trethu. Onid syniad arall yw y gallwn ddefnyddio'r broses enillion cyfalaf, felly os yw pobl yn dewis gwerthu'r fferm pan fyddant yn ei hetifeddu, cânt eu trethu trwy'r broses enillion cyfalaf?

Yn hollol. Rwy'n credu bod set o atebion ymarferol y gellid eu cyrraedd, ac mae'n rhaid i'r Trysorlys ddeall y rheini, a'u harchwilio a rhoi diwedd ar hyn.

Ond mae angen i ffermwyr oedrannus a bregus gael amser o leiaf i gynllunio ar gyfer dyfodol eu busnesau fferm. Rwy'n erfyn ar bob un o'r meinciau i bleidleisio dros y cynnig hwn heb ei ddiwygio, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru yn ddiffuant, ac nid yn wleidyddol, i ddefnyddio ei dylanwad i annog Llywodraeth y DU i feddwl eto ac adolygu'r penderfyniad treth hwn. Diolch.

Mae yna ambell un wedi datgan buddiant heddiw yma yn barod, ac mi wnaf innau'r un fath—nid buddiant materol i fi, er bod yna fferm deuluol yn nheulu fy ngwraig, ond buddiant o ran fy nghymuned i ac o ran cenhedlaeth fy mhlant i, llawer ohonyn nhw sydd yn dymuno gweld dyfodol o fewn byd amaeth. Mae fy mab fy hun yn fyfyriwr amaeth, ac i'w gyfoedion o sydd yn ferched neu yn feibion fferm mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran treth etifeddiaeth yn cynrychioli newid pryderus iawn, iawn o ran y math o sicrwydd sydd yna i'w dyfodol nhw, ac i fuddsoddiadau y gallan nhw ddewis eu gwneud yn y dyfodol o fewn eu ffermydd teuluol. Mae yna bryder gwirioneddol bod yna lawer sydd ddim yn mynd i oroesi neu yn mynd i ddewis peidio mynd i mewn i'r sector yma, sydd mor bwysig i ni o ran cynhyrchu bwyd, heb sôn am warchodaeth cefn gwlad ac ati.

Yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, mi glywsom ni lot o sôn am y newid yr oedd Keir Starmer a'r Blaid Lafur yn ceisio ei gyflawni, a doedd ddim yn rhaid i ni aros yn hir iawn i weld beth oedd y newid hwnnw yn ei olygu i gefn gwlad Cymru, â'r cynlluniau o gwmpas etifeddiaeth wir yn bygwth hyfywedd hirdymor ffermydd teuluol. 

Mae'n bwysig, wrth gwrs, cyfeirio fel cyd-destun i'r ddadl hon heddiw at y ffaith bod y diwydiant amaeth yn wynebu straen sylweddol iawn cyn i Rachel Reeves godi ar ei thraed a chyhoeddi ei chyllideb gyntaf nôl ym mis Hydref. O NVZs i TB, o ansicrwydd am y cynllun ffermio cynaliadwy, mae'r diwydiant wir wedi teimlo o dan bwysau, onid ydy? Ac, oes, mae yna rywfaint o gynnydd wedi bod mewn rhai o'r meysydd yna yn fwy diweddar, ond mae yna'n dal ffordd mor hir i'w theithio, ac mi oedd y penderfyniad yma gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig o gwmpas y dreth etifeddiaeth wir yn teimlo fel y gwelltyn olaf i lawer.

Dwi'n ddiolchgar iawn i ffermwyr a'r undebau amaeth am wneud yr achos mor glir. Mae wedi bod yn braf croesawu llawer yma i'r Senedd heddiw, ac o siarad efo ffermwyr yn fy etholaeth i fy hun yn Ynys Môn ac ar draws Cymru, beth dwi wedi ei glywed dro ar ôl tro ydy bod cynlluniau a oedd gan deuluoedd sydd wedi bod yn gweithio'r tir yn ddiwyd am ddegawdau, am genedlaethau yn aml iawn, o dan fygythiad, a bod gobeithion y rheini a oedd yn bwriadu dilyn yn eu hôl traed nhw yn y fantol. 

Rydyn ni yn sôn, fel y dywedais i, am ddiogelwch bwyd, onid ydyn, rhywbeth sydd mor bwysig yn yr hinsawdd ryngwladol rydyn ni'n ei hwynebu ar hyn o bryd, ond wrth gwrs nid dyna'r unig beth sydd mewn perygl yn fan hyn. Mae penderfyniad byrbwyll Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig am gael effaith niweidiol a phellgyrhaeddol ar draws ein cymunedau gwledig ni, ar yr economi amaethyddol, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, y gadwyn gyflenwi, ac ar ddyfodol cymdeithas ac ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Y diwydiant amaeth ydy asgwrn cefn y Gymru wledig i raddau helaeth iawn, a'r fferm deuluol ydy curiad calon y gymuned honno.

Mae cynnig Plaid Cymru heddiw mor syml ag y gallai fod mewn gwirionedd, ac yn hollbwysig, mae mor rhesymol ag y gall fod hefyd. Yn eu hawr o angen, mae ffermydd teuluol yng Nghymru angen Llywodraeth Cymru sy'n sefyll drostynt ac sy'n dadlau y dylid gohirio'r newid i'r dreth etifeddiant hyd nes bod ei heffaith wedi ei hasesu'n onest ac yn ofalus. Mae'r anghysondeb rhwng ffigurau Trysorlys y DU a'r sector ffermio ei hun—a Llywodraeth Cymru ei hun, o ran hynny—yn siarad cyfrolau. Heb wybod gwir raddau effaith y polisi, ni ellir ei gyfiawnhau. 

Bydd y penderfyniad i gyflwyno'r dreth yn ergyd drom i ddiwydiant sydd eisoes wedi bod dan gymaint o bwysau. Fel y dywedodd Llyr, gallwn wneud newidiadau i chwynnu’r rhai sy'n ceisio camddefnyddio'r system drethiant, y rheini sy'n chwilio am fylchau yn y gyfraith i brynu tir—rhywbeth sydd, wrth gwrs, ynddo'i hun yn tanseilio ffermydd teuluol—ond y mater allweddol dan sylw yma yw na ddylem ganiatáu i fesurau gael eu rhoi ar waith sy'n peryglu dyfodol ffermydd teuluol Cymru. Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn sefyll gyda'r teuluoedd hynny, a gofynnwn i Lywodraeth Lafur Cymru sefyll drostynt heddiw hefyd a chefnogi ein cynnig.

18:00

Yn gyntaf, diolch i Blaid Cymru am sicrhau'r ddadl hon heddiw a byddwn yn ei chefnogi, fel y gwnaethoch chi gefnogi ein dadl cyn y Nadolig hefyd. Fodd bynnag, mae'n siomedig, fel y dywedwyd, fod y gwelliant 'dileu popeth' wedi'i gyflwyno gan y Llywodraeth ar hyn. Nid wyf yn credu bod hynny'n dangos gwir ddealltwriaeth o'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar ffermwyr ledled Cymru, ac mae'n chwalu unrhyw ymdrech yn y Senedd hon i geisio cael llais unedig i sefyll dros un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Ac rwy'n rhoi eiliad i ddatgan buddiant hefyd. Nid wyf yn honni fy mod yn ffermwr fy hun, mab i ffermwr yn unig wyf i, ac rwy'n falch o hynny ac yn falch o bob un o'r ffermwyr yn yr oriel a'r rhai sy'n gwylio gartref am bopeth a wnânt, doed law neu hindda.

Rydym wedi clywed y dadleuon ynghylch effaith y polisi hwn yn hollol glir. Mae'n bolisi gwallus, mae'n bolisi gwael, mae wedi ei lunio'n wael ac mae'n amlwg yn effeithio ar y bobl anghywir wrth geisio mynd ar ôl y rhai sy'n ceisio osgoi talu treth. Felly, mae hynny'n dangos nad adolygu'r polisi hwn yn unig sydd ei angen; mae angen cael gwared arno. Mae angen dechrau eto, ac mae gwaith caled yr NFU ar eu cynllun adfachu yn gyfle da i ddangos bod ffordd arall o wneud hyn. Rwy'n cymeradwyo'r NFU am eu gwaith ar hyn ac yn cefnogi ffermwyr a'u cymunedau, ac nid aelodau'r NFU yn unig, ond y gymuned amaethyddol ehangach, ynghyd ag undebau ffermio eraill hefyd. Ond yr hyn sy'n rhwystredigaeth wirioneddol i ffermwyr, yr hyn sy'n eu gwylltio go iawn, yw pan wneir iddynt edrych fel ffyliaid. Gadewch inni fynd yn ôl i'r adeg cyn yr etholiad, ac fe ddywedodd Keir Starmer bryd hynny,

'Rydych chi'n haeddu llywodraeth sy'n gwrando, sy'n talu sylw i rybuddion cynnar'.

Wel, onid yw hyn yn enghraifft o wrando? Onid yw'n enghraifft o dalu sylw i'r rhybuddion cynnar a roddwyd, fod cymaint o anghysondeb ym mha bynnag ffigurau y cymerwch eu bod yn rhai gwir ar hyn? Dywedodd hefyd yng nghynhadledd yr NFU,

'nid yw colli fferm yn debyg i golli unrhyw fusnes arall',

gan ddangos bod amaethyddiaeth yn wahanol, o ran yr elfennau trethiant sy'n gysylltiedig â hi, oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar y rhai sy'n gweithio'r tir, sawl pâr o ddwylo y'i trosglwyddwyd rhyngddynt, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Mae'n wahanol i fusnesau eraill ac felly mae angen ei thrin yn wahanol.

Dywedodd Steve Reed, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig erbyn hyn, nad oedd unrhyw gynlluniau i newid rhyddhad eiddo amaethyddol—dim cynlluniau o gwbl. Ac roeddwn yno mewn hysting lleol a gynhaliwyd gan NFU Cymru, yr FUW a'r ffermwyr ifanc yn sir Benfro yn ystod yr etholiad cyffredinol, pan gododd yr ymgeisydd Llafur, gan edrych i lygaid y ffermwyr hynny a dweud, 'Na, ni fydd unrhyw newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol.' Ac rwy'n falch ei fod wedi tynnu'n ôl a bellach yn galw am adolygu hyn. I mi, nid yw adolygiad yn mynd yn ddigon pell; mae angen cael gwared ar hyn yn gyfan gwbl. Ond rwy'n falch ei fod wedi codi a gwneud hynny dros ei etholwyr, oherwydd dyna'r peth iawn i wneud. A'r peth iawn i wneud yw dweud, 'Nid yw hyn yn gweithio, oherwydd y dystiolaeth a glywsom', ac mae'n hen bryd i fwy o Aelodau wneud hynny, a bod Llywodraeth Cymru'n gwneud hynny hefyd.

Ond beth a glywsom gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau Senedd Cymru ar hyn, oherwydd fe wyddom beth yw barn rhai o'r meinciau cefn Llafur am amaethyddiaeth? Fe'i clywsom yma heddiw: un Aelod yn dweud ein bod i gyd yn filiwnyddion, wrth sôn am ffermwyr. Fe'i cefais bythefnos yn ôl, fod angen i mi fynd yn ôl at y ffermwyr ifanc. Dywedodd Aelod arall, os oes gennych TB, 'Wel, dewch o hyd i swydd arall.' Dyna beth y mae Aelodau'r Senedd ar feinciau Llafur yn ei feddwl, ond gadewch inni weld beth yw barn y fainc flaen.

Rydym yn amlwg wedi gwthio'r Llywodraeth Lafur i ohebu â'u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, ac mae cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos bod un llythyr wedi bod—efallai fod rhagor erbyn hyn, ac rwy'n edrych ar y Dirprwy Brif Weinidog ar hyn. Cyflwynwyd un llythyr ar 28 Ionawr, ac mae'r llythyr yn gofyn am gadarnhad fod Llywodraeth y DU a Thrysorlys EF wedi ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau ffermio Cymru. Dyna yw'r hyn y mae'n gofyn amdano: mae'n gofyn am sicrhau bod yr undebau'n cymryd rhan, sy'n gymeradwy, ond nid yw'n rhoi barn. Nid yw'n rhoi barn ar beth yw Llywodraeth Lafur Cymru.

Ond fe awn ymlaen felly at gyfarfod a gafodd y Prif Weinidog gyda'r Canghellor—y Canghellor sy'n cyflwyno'r polisi hwn, sy'n osgoi cael y cyfarfod gyda'r NFU ac undebau ffermio eraill. Beth a wnaeth Prif Weinidog Cymru? A wnaeth hi godi hynny? Mewn cwestiwn ysgrifenedig, gofynnais iddi, 'A wnaethoch chi godi hynny, newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol, newidiadau treth etifeddiant, pan wnaethoch chi gyfarfod â'r Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru?' Yr ateb:

'Treth a gadwyd yn ôl yw treth etifeddiant, a mater i Lywodraeth y DU yw penderfyniadau am y dreth a rhyddhadau cysylltiedig.

'Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn parhau i godi'r mater gyda Llywodraeth y DU.'

Felly, mae'r Prif Weinidog, wrth gyfarfod â'r Canghellor sy'n cyflwyno'r polisi hwn yn gwrthod codi'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar ffermwyr Cymru. Esgeuluso dyletswydd yw hynny, yn yr ystyr y dylai barchu Cymru gyfan fel Prif Weinidog Cymru gyfan. Nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol.

Felly, beth allwn ni ei wneud? Beth allwn ni ei wneud? Ni allwn ei newid yma. Fe wyddom hynny. Rydym wedi ei glywed yn ein cwestiynau materion gwledig drwyddi draw heddiw: mae'n fater a gadwyd yn ôl; mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ydyw, iddynt hwy newid eu meddwl. Wel, ie, ond gallwn anfon y neges fel Senedd. Gallwn anfon y neges. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru yma. Byddai'n wych pe byddai'r Dirprwy Brif Weinidog yn diddymu'r gwelliant 'dileu popeth' sydd wedi'i gyflwyno, yn cefnogi llais unedig y Senedd, ac yn anfon y neges i ben arall yr M4, oherwydd nid yw'r bartneriaeth mewn grym y clywsom gymaint amdani yn gweithio i ffermwyr. Diolch.

18:05

Mae amaeth yn un o gonglfeini’r gymdeithas dwi'n ei chynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae'n bwysig, fel ŷn ni wedi'i glywed yn barod, i gofio bod rhyw 43 y cant o weithwyr y sector yn siaradwyr Cymraeg, yr uchaf o unrhyw ddiwydiant yng Nghymru. Ond yn fwy na hynny, fel ŷn ni wedi'i glywed eisoes, mae ein ffermydd teuluol yn cynnal ffordd o fyw a fu mewn bodolaeth ers canrifoedd; yn cynnal bywyd cymunedol yn ei amrywiaeth ac, wrth gwrs, yn cyfrannu'n helaeth i'r economi leol. Fel dywedodd Rhun, mae'r ffermydd teuluol yma yn guriad calon ein cymunedau gwledig ni.

Rai wythnosau yn ôl, ces i ac Ann Davies, Aelod Seneddol Caerfyrddin, gyfarfod gydag NFU sir Gâr a sir Benfro, yn Llandeilo, ac fe gwrddon ni â nifer o'r aelodau oedd yn mynegi pryder mawr am y polisi arfaethedig hwn a'i effaith arnyn nhw. Ac ymhlith yr aelodau oedd yn bresennol oedd cynrychiolwyr o'r genhedlaeth ifanc, y rhai fydd yn cael eu heffeithio fwyaf efallai gan y dreth etifeddiaeth.

Ysgrifennydd Cabinet, roedden nhw o dan deimlad mawr, yn emosiynol yn adrodd am eu pryderon a'u hofn o fethu talu'r dreth yma. Y methu parhau â'r olyniaeth sydd yn bwysig, a oedd yn ymestyn yn ôl dros genedlaethau maith. Roedd e'n brofiad torcalonnus i fod yn y cyfarfod hwnnw. Gallwch chi ddim â thanbrisio maint y teimlad ac effaith mae hyn yn cael ar ffermwyr ledled Cymru.

Fe ddywedon nhw wrthyf i beth rwy wedi'i glywed gan nifer fawr o ffermwyr yn fy rhanbarth i dros y misoedd diwethaf, sef bod hwn yn hoelen arall yn arch y sector amaeth yng Nghymru. Ac yn ychwanegu at y llu o heriau mae acronyms bach yn codi arswyd arnyn nhw: NVZs, SFS, TB; acronyms sydd yn mynd at galon y pryder maen nhw'n ei deimlo bob dydd. Ac mae'r dreth etifeddiant yma yn ychwanegu at y rhestr. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn mynd i allu arwain at orfodi gwerthiant tir, gwaethygu ansefydlogrwydd ariannol a thanseilio'r olyniaeth roeddwn i'n sôn amdano, a pharhad arferion ar sut i weithio tir sydd wedi cael eu meithrin dros ddegawdau maith.

Mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, wedi mynd ati i geisio tanfesur ei effaith, i ddweud mai dim ond cymharol fychan yw'r nifer sy'n cael eu heffeithio: rhyw 27 y cant, medden nhw. Ond mae'n werth nodi bod ymchwil NFU Cymru yn dangos bod bylchau mawr yn y ffordd mae hyn wedi cael ei fesur, a'i fod e'n seiliedig ar hen ddata sydd yn gamarweiniol, ac mai rhyw 75 y cant o ffermydd Cymru yw'r gwir ffigwr.

Mewn ffordd, dyma'r broblem sylfaenol, onid e, sef nad oes gennym ni lawer o syniad beth fydd goblygiadau'r newid polisi yma ar amaeth yng Nghymru, gan nad oes asesiad economaidd trylwyr o'r effaith wedi cael ei wneud.

18:10

Diolch. Mi ddylwn i ddatgan budd oherwydd fy mod i'n byw ar fferm deuluol. Ti'n sôn yn fanna am ddiffyg asesiad a'n bod ni ddim yn gwybod gwerth go iawn hyn oherwydd, wrth gwrs, mae gwerth tir wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf i dros tua £16,000 yr acr. Mae implements yn cael eu tynnu mewn i hyn, tractorau gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd. Ac os oes gan fferm, er enghraifft, system hydro maen nhw wedi ei chael i mewn, neu systemau tebyg, mae hynna i gyd yn cael eu tynnu i mewn, sy'n gwthio gwerth y fferm i fyny, ond does yna ddim gwerth cash i hwn i'r teulu. Felly, mae hynna'n mynd i olygu fod diffyg asesiad wedi cael ei wneud.

Certainly, that adds to that evidence that the data that's used by the Treasury is out of date. We need a current and up-to-date assessment, in our opinion, of the impact of these policies, and the risk—an assessment of the risk of undermining so many of our farms and communities, and that assessment has to be detailed and broad ranging.

So, to close, Llywydd, I'm very happy, as is Plaid Cymru, to have the Conservatives' support for the motion that was tabled by Llyr Huws Gruffydd this afternoon on behalf of Plaid Cymru, and we call on the Government to use the alleged partnership in power that they have to press on the UK Government to pause this tax until they have undertaken a consultation and a thorough economic review of the impact on our family farms.

Diolch i Blaid Cymru am osod y ddadl yma. Mi fyddaf yn cefnogi'r ddadl yma ac yn erbyn y gwelliant. Mae'n siomedig iawn, yn fy marn i, fod y Llywodraeth wedi rhoi'r gwelliant i lawr, achos os ydych chi'n edrych ar y geiriau yn y cynnig sydd wedi cael ei roi, mae—

'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i ailystyried ac oedi’r dreth fferm deuluol hyd nes y byddant wedi cynnal ymgynghoriad ac adolygiad economaidd trylwyr o’i effaith ar ffermydd gweithredol.'

Dim ond gofyn am oedi ac ymgynghoriad a wneir. Nawr, nid yw'n ymddangos yn llawer i ofyn amdano.

Roeddwn i'n meddwl bod y cynllun ffermio cynaliadwy yn wael pan welais ei effeithiau ar ffermwyr, a bod rhaid cyflawni 17 gweithred gyffredinol, a oedd yn orfodol i ffermwyr. Roeddwn i'n meddwl, o fewn hynny, fod y galw am 10 y cant o goed yn ddigon drwg, a gwelais yr effaith a gafodd hynny ar ffermwyr. Ond ni fu unrhyw beth mor ddrwg â'r hyn a welais dros y misoedd diwethaf gyda'r bygythiad i gyflwyno'r dreth fferm deuluol o ran ei heffaith ar ffermwyr a'u teuluoedd.

Mae teuluoedd yn poeni am eu dyfodol. Mae pobl ifanc yn poeni a allant barhau. Mae'r polisi hwn—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond rwy'n credu ei fod yn werth ei ailadrodd—yn gwahaniaethu yn erbyn gwŷr a gwragedd gweddw, pobl â salwch angheuol a ffermwyr hŷn. Mae'n amlwg iawn nad dyna'r ffordd y dylem weithredu yma yng Nghymru. Mae ffermwyr a'u teuluoedd wedi'u rhewi gan ofn. Nid ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd yn y dyfodol. Nid oes unrhyw fuddsoddi'n digwydd mewn offer fferm, mewn unrhyw beth ar ffermydd. Yn llythrennol, maent ond yn aros. 

Rwy'n awyddus i wybod gan Ysgrifennydd y Cabinet beth yw'r rhesymau yn ei farn ef y cyflwynodd y Llywodraeth Lafur hon y polisi, oherwydd, yn gynharach y prynhawn yma, fe ddywedodd mewn ymateb i fater a godwyd ynglŷn â'r dreth fferm deuluol,

'un peth na allwn ei anwybyddu yw'r twll a wynebodd y Canghellor pan gychwynnodd yn ei rôl, a dyna yw trasiedi hyn, mynd i mewn i Lywodraeth a chanfod bod pethau wedi'u costio ond heb eu talu amdanynt, nad oedd arian wedi'i ymrwymo iddynt, ac roedd hynny oddeutu £20 biliwn. Nawr, ar y sail honno, mae'n rhaid i Ganghellor cyfrifol wneud penderfyniadau anodd i lenwi'r twll hwnnw a symud ymlaen.'

Dyna a ddywedoch chi'n gynharach, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, hoffwn wybod, a yw'n ymwneud â'r arian, neu a yw'n ymwneud â dull tecach—ac rydym i gyd wedi cydnabod a derbyn hyn—o ymdrin â'r miliwnyddion sy'n prynu ffermydd er mwyn gwyrddgalchu?

Mae'n ddrwg gennyf ddweud mai'r hyn a welais hyd yma yn y Llywodraeth Lafur yn Llundain yw eu bod yn pigo ar y bobl fach. Maent yn pigo ar bobl hŷn drwy dynnu lwfans tanwydd y gaeaf yn ôl; maent yn pigo ar deuluoedd â thri o blant neu fwy drwy beidio â chael gwared ar y budd-dal dau blentyn; maent yn pigo ar fusnesau, ffermwyr, elusennau, drwy gynyddu'r terfyn yswiriant gwladol; maent yn pigo ar fenywod WASPI trwy beidio â'u digolledu; a nawr, maent yn pigo ar ffermwyr.

I fynd yn ôl at yr hyn y mae angen i'r Llywodraeth Lafur feddwl amdano os yw'n ymwneud â chyllid—a hoffwn gael ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw—mae llawer y gallai'r Llywodraeth Lafur yn Llundain ei wneud er mwyn llenwi'r pocedi yn sgil y twll £20 biliwn. Gallent drethu ein banciau mawr; gallent gynyddu'r doll hapchwarae o bell; gallent godi treth ar wasanaethau digidol neu ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau mawr eraill ym myd technoleg. Mae llu o bethau y gallent eu gwneud yn hytrach na cheisio cael yr arian o'n ffermydd teuluol.

Felly, i orffen, rwyf am ymuno â'r rhai ar draws y Siambr i alw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU, fel y dywedasom, i oedi ac ystyried y dreth hon ar y fferm deuluol. Dyna'r cyfan y gofynnwn amdano. Nid yw hynny'n afresymol. Rydym am i Lywodraeth Cymru sefyll dros y bobl fach. Rydym am i Lywodraeth Cymru sefyll dros ein ffermydd teuluol. Diolch yn fawr iawn.

18:15

Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, a datgan buddiant perthnasol hefyd yn yr ystyr fod gennyf deulu a ffrindiau sy'n ffermio, ac rwy'n gwneud ychydig o ffermio o bryd i'w gilydd pan fydd gennyf amser.

Nid dadl ar dreth yn unig yw hon heddiw; mae'n ddadl am ddyfodol ffermydd teuluol, asgwrn cefn economi Cymru, ein diwylliant a'n ffordd o fyw. Ac mae'n ffordd o fyw rwy'n ei charu, ac yn un o'r rhesymau pam fy mod i yma. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiwygio rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes o fis Ebrill 2026 yn un o'r ergydion mwyaf dinistriol o fewn cof i ffermio yng Nghymru. Os bydd y newidiadau hyn yn digwydd, bydd y canlyniadau'n drychinebus: bydd ffermydd yn cael eu gorfodi i werthu tir, bydd teuluoedd yn gorfod ysgwyddo baich biliau treth anghynaliadwy, a bydd dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru mewn perygl.

A gadewch inni fod yn glir, nid bwlch yn y gyfraith yw rhyddhad eiddo amaethyddol. Fe'i cyflwynwyd yn Neddf Treth Etifeddiant 1984 i ddiogelu ffermydd teuluol rhag cael eu chwalu gan feichiau treth annheg. Mae'r rhyddhad hwn wedi cael ei gadw gan Lywodraethau o bob lliw gwleidyddol ers nifer o flynyddoedd oherwydd eu bod yn cydnabod natur unigryw ffermio i gynhyrchu bwyd, i warchod diogeledd bwyd yn y wlad hon. Nid yw ffermydd yn debyg i fusnesau eraill. Maent yn fusnesau hirdymor sy'n pontio'r cenedlaethau. Maent yn gweithredu ar ychydig iawn o elw wrth fwydo ein gwlad. Mae Llywodraeth y DU yn honni mai dim ond 27 y cant o ffermydd yr effeithir arnynt gan y polisi hwn. Ond gadewch inni fod yn onest, mae'r ffigur hwnnw wedi dyddio ac yn gamarweiniol. Mae ymchwil NFU Cymru, gyda chefnogaeth economegwyr o'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn dangos y bydd 75 y cant o ffermydd teuluol masnachol yng Nghymru yn cael eu taro gan y dreth hon. Pam? Oherwydd bod gwerth ffermydd wedi codi'n sydyn, tra bod elw wedi aros yn beryglus o isel o fewn y diwydiant. Yn ôl yr arolwg o fusnesau ffermio gan Brifysgol Aberystwyth, mae gwerth net fferm yng Nghymru ar gyfartaledd dros £1,000,000 eisoes. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o ffermydd yn syrthio i fagl treth newydd y Canghellor erbyn hyn Ac eto, nid yw'r ffaith bod fferm yn uchel ei gwerth mewn asedau yn golygu bod y rhai sy'n gweithio ar y fferm honno yn gyfoethog neu'n filiwnyddion. I'r gwrthwyneb yn llwyr—mae llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd goroesi ar incwm sylfaenol iawn. Nid oes gan y ffermwyr hyn gronfeydd o arian parod i dalu biliau treth etifeddiant enfawr. Ni fydd ganddynt unrhyw ddewis ond gwerthu tir, ysgwyddo dyled neu roi'r gorau iddi'n llwyr. A gadewch inni beidio ag anghofio bod 40 y cant o ffermydd Cymru yn dibynnu ar ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes i gadw eu pennau uwchben y dŵr. Drwy gapio rhyddhad ar draws y ddau gynllun, mae Llywodraeth y DU yn trethu ein ffermydd teuluol ddwy waith. Nid tegwch yw hyn—mae'n ymosodiad uniongyrchol ar ein ffermwyr a'n ffordd wledig o fyw.

Ond ni fydd y polisi niweidiol hwn yn dod i ben wrth gât y fferm, Lywydd. Bydd chwalu ffermydd teuluol ledled Cymru yn cael effaith enfawr ar ein heconomi. Mae'r diwydiant ffermio yn sail i sector bwyd a diod Cymru gwerth £9.3 biliwn, sy'n cyflogi bron i 230,000 o bobl. Dyna 17 y cant o gyfanswm gweithlu Cymru, ac mae'r sector ffermio yng Nghymru yn prynu gwerth £1.5 biliwn o nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn, gan gefnogi miloedd o fusnesau lleol ledled Cymru. Mae'n syfrdanol fod y Trysorlys wedi dewis anwybyddu'r ffigurau hyn a'r rhybuddion dro ar ôl tro gan y diwydiant ynghylch y newidiadau hyn.

Pan gafodd y sector ei herio gan y Canghellor i gynhyrchu dewis arall, fe wnaeth hynny. Cyflwynodd NFU gynnig adfachu a fyddai'n codi refeniw i Lywodraeth y DU, yn atal osgoi treth gan dirfeddianwyr nad ydynt yn ffermio, ac yn diogelu ffermydd teuluol gweithredol rhag beichiau treth annheg. Ac eto, pan gyfarfu ein harweinwyr ffermio, sydd gyda ni heddiw, â'r Trysorlys ar 18 Chwefror, ni chafodd y cynigion hyn eu hystyried hyd yn oed gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi adeiladu'r polisi hwn ar hen hawliadau a data nad yw'n bodoli, oherwydd nid yw'n ystyried gwerthoedd tir cynyddol, chwyddiant a realiti economaidd ffermio. Mae wedi anwybyddu rhybuddion y diwydiant, wedi diystyru ymchwil arbenigol ac wedi gwrthod gwrando ar y rhai sy'n deall ffermio orau. Peidiwch â chamgymryd, os caiff y polisi hwn ei wireddu, bydd y canlyniadau'n ddinistriol: bydd 6,000 o ffermydd teuluol ledled Cymru yn cael eu colli, bydd mwy o fwyd yn cael ei fewnforio o dramor, gan godi pris bwyd, bydd llai o bobl ifanc yn dechrau ffermio a bydd dirywiad cefn gwlad yn cyflymu.

Felly, rwy'n annog yr Aelodau yn y Senedd heddiw, o bob plaid, i sefyll dros ffermio yng Nghymru, a rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau ar unwaith i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ofyn iddi ailystyried y polisi hwn a'i ddileu'n gyfan gwbl. Rhaid inni anfon neges glir ac unedig: nid asedau y gellir eu gwaredu yw ffermwyr Cymru, hwy yw enaid ein cenedl. Ac rwyf am ddweud wrth ffermwyr pan fyddaf yn gadael y lle hwn, rwyf am edrych i'w llygaid a dweud, 'Fe wneuthum eich cefnogi a gwneuthum fy ngorau drosoch', ac fe gaiff pob Aelod yn y Siambr gyfle i wneud hynny heddiw trwy gefnogi'r cynnig hwn. Rhaid inni ymladd dros ein ffermwyr. Rhaid inni frwydro am ein dyfodol, oherwydd, fel y dywedir: dim ffermwyr, dim bwyd.

18:25

Fel mae sawl siaradwr wedi sôn, y fferm deuluol ydy asgwrn cefn yr economi wledig. Mae'r fferm deuluol hefyd yn chwarae rôl gwbl ganolog—cwbl ganolog—o safbwynt cynnal yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol a chynnal ein diwylliant cyfoethog.

Dwi'n credu bod cynnig Plaid Cymru yn gwbl synhwyrol a rhesymol ac yn ymarferol. Mae'r cynnig yn galw am oedi'r newidiadau i'r dreth ar ffermydd teuluol nes bod dau beth wedi digwydd, a dau beth hollol deg a chall: yn gyntaf, fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal efo'r sector—mae ymgynghori yn rhan ganolog o greu polisi yn y lle yma, ond ddim y tro yma, fe ymddengys, a dwi ddim yn deall pam—ac, yn ail, fod adolygiad economaidd trylwyr o'r effaith ar ffermydd gweithredol yn cael ei gynnal.

Mae'n bwysig seilio pob penderfyniad polisi ar dystiolaeth glir. Dyna rydyn ni'n ei glywed yn aml gan y Llywodraeth yma. Felly, buaswn i'n licio gwybod pam nad ydy'r Llywodraeth yn credu bod angen adolygiad i wybod yn iawn beth fyddai canlyniadau'r newidiadau trethiannol. Mae'r Trysorlys yn dweud un peth, ond mae ymchwil gan eraill wedi canfod stori wahanol ac yn dweud y byddai 75 y cant o ffermydd teuluol yn cael eu heffeithio yn negyddol. Does bosib bod rhaid cael y darlun cywir drwy adolygiad trwyadl cyn dilyn llwybr allai fod mor ddinistriol i gefn gwlad ac i'r iaith Gymraeg.

Mae ffermydd teuluol yn gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg. Rydym ni wedi clywed prynhawn yma fod 43 y cant—43 y cant—o'r sector yn siarad Cymraeg, ac mi fyddai effaith negyddol y newid i ryddhad amaethyddol yn arwain at effaith negyddol gwbl anghymesur ar y Gymraeg, felly. Sut mae hynny yn gwneud synnwyr i'r strategaeth miliwn o siaradwyr, dwi ddim yn gwybod. Mae o'n syml: os bydd ffermwyr y dyfodol yn cael eu gorfodi allan o amaeth, fe fydd yna lai o deuluoedd Cymraeg eu hiaith.

Mae'n rhaid inni ddathlu rôl arbennig mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cefnogi a hyrwyddo y defnydd o'r Gymraeg. Mae yna dros 130 o glybiau ledled cefn gwlad a dros 8,000 o aelodau, a dros 60 y cant o'r rheini—60 y cant ohonyn nhw—yn medru'r Gymraeg. Ond efo'r fferm deuluol dan fygythiad, mae peryg gwirioneddol y bydd ffermwyr ifanc yn cael eu gorfodi allan o'r sector, a'r mudiad pwysig yma, sy'n eu dwyn nhw i gyd ynghyd ac yn gwneud cymaint dros y Gymraeg a'r diwylliant, yn edwino, yn diflannu hyd yn oed. Felly, dwi'n mynd yn ôl at synnwyr cyffredin: mae'r cynnig yn galw am gamau cwbl gall a synhwyrol—oedi, ymgynghori a chynnal adolygiad economaidd trwyadl. Dwi ddim yn gweld nad oes yna ddim byd yn y cynnig yma na all pawb yn y Siambr yma ei gefnogi y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig nawr i gyfrannu i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.

Member
Huw Irranca-Davies 18:28:53
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad am fater pwysig treth etifeddiant ac amaethyddiaeth heddiw. Fel y mae pob Aelod yn gwybod, mae hwn yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, o fewn ein pwerau datganoledig ac mewn cydweithrediad â ffermwyr, mae llawer y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermio yng Nghymru. Mae ffermydd teuluol wrth ganol cymunedau ledled Cymru, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi a chynhyrchu bwyd. Fel stiwardiaid ein tir, nhw hefyd yw'r amddiffynwyr rheng flaen wrth ddiogelu ac adfer natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Ar y cynnig heddiw, mae'n glir iawn—yn hollol glir—fod gan Lywodraeth newydd y DU, wrth iddynt gyrraedd Stryd Downing, ddewisiadau difrifol ac anodd iawn i'w gwneud, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud, rhywbeth nad yw wedi ei grybwyll yn iawn heddiw, y sefyllfa ariannol drychinebus a etifeddwyd ganddynt, fel y nodwyd. [Torri ar draws.] Mae cerdded i mewn a darganfod—nid wyf am dderbyn ymyriad ar y pwynt hwn—fod gennych dwll du gwerth £20 biliwn wedi'i adael i Lywodraeth newydd, ac wedi'i adael i drethdalwyr y DU hefyd, ac nad oedd gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddiad a gafodd ei ymrwymo wedi ei gyllido mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—na, ni wnaf ar y pwynt hwn—nad oedd yr arian wedi'i ddarparu, yn sefyllfa drychinebus i lanio'r wlad hon ynddi. A golygodd hynny ei bod hi'n amlwg fod gan y Llywodraeth newydd benderfyniadau anodd nad oeddent wedi rhagweld y byddai'n rhaid iddynt eu gwneud. Nid ydym wedi clywed unrhyw ymddiheuriad am hynny heddiw.

Rhaid imi ddweud ei bod hi hefyd yn glir fod y newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant amaethyddol wedi codi pryderon sylweddol yn ein cymunedau ffermio, fel y clywsom heddiw. A diolch, gyda llaw, i arweinwyr NFU Cymru a'r FUW am gyfarfod yn rheolaidd â mi ar y mater hwn ac am amlinellu'r pryderon hynny a'u syniadau. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r pryderon gydag eglurder, gydag empathi a chydag ymrwymiad ar y cyd i ddiogelu dyfodol ffermio yng Nghymru.

Nawr, fe glywais ac fe wrandewais ar bryderon real iawn ein cymuned ffermio. Mae llawer o ffermwyr wedi rhannu'n uniongyrchol ac wedi cyfarfod â mi i rannu eu pryderon am drosglwyddo eu ffermydd i'w plant, gan adlewyrchu pryder eang yn ein hardaloedd gwledig. Felly, dyna pam y bu imi wneud sylwadau a pham y byddaf yn parhau i wneud sylwadau cadarn i Lywodraeth y DU ynghylch yr angen i ddeall ac ymateb i bryderon penodol ein ffermwyr yng Nghymru. Yn wir, fe ddadleuais yr achos yn bersonol yn Whitehall mor ddiweddar â'r wythnos diwethaf. Rhaid imi ddweud hefyd fod fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynegi'r pryderon hyn i'w swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Fe wnaf ildio.

18:30

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Cyfeiriais at lythyr a ysgrifennwyd gennych yn fy nghyfraniad. A wnewch chi gyhoeddi'r llythyr felly, yn hytrach na dim ond yr amlinelliad o'r cais rhyddid gwybodaeth, a'r holl rai dilynol?

A gaf i ddiolch i chi am hynny, Sam? Oherwydd rwy'n gwybod, dros y dyddiau diwethaf, fod meinciau blaen y Ceidwadwyr yn ogystal ag eraill wedi bod yn cyfeirio at yr un llythyr hwnnw, sy'n anwybyddu'r trafodaethau a gawsom mewn cyfarfodydd dwyochrog, yn y grwpiau rhyngweinidogol hefyd, a thrafodaethau eraill a gawsom ar sawl achlysur, ar lefel swyddogol a gweinidogol. Felly, i fod yn glir, mae'r syniad na fûm yn gwneud y sylwadau hynny'n wallus.

Felly, o ganlyniad i'r ymdrechion hyn, ac mae'n rhaid imi gefnogi gwaith yr undebau a Swyddfa Cymru hefyd, cyfarfu DEFRA a Thrysorlys EF wyneb yn wyneb ag undebau ffermio Cymru ar 18 Chwefror. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn nad oedd yr undebau'n fodlon â chanlyniad y cyfarfod, ond hoffwn annog yr undebau i barhau i ymgysylltu'n adeiladol â'r Trysorlys a Gweinidogion eraill y DU, ac rydym yn parhau i fod yn barod i helpu i agor y drysau i'r trafodaethau hynny. [Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Gadewch imi wneud ychydig mwy o gynnydd, James.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein ffermwyr drwy eirioli ar eu rhan, gan ganolbwyntio, Lywydd, ar y meysydd lle mae gennym gyfrifoldeb uniongyrchol. Nawr, yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae Cyswllt Ffermio wedi cynnal cyfres o weithdai ledled Cymru, gyda bron i 1,500 o ffermwyr hyd yma, i'w helpu i ddeall ac ymateb i oblygiadau'r newidiadau i'r dreth etifeddiant. Un enghraifft yn unig yw'r gweithdai hyn o'r modd rydym yn darparu cymorth ymarferol iawn i'n cymunedau ffermio.

Ac oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad ein ffermwyr y diogelodd cyllideb Llywodraeth Cymru gynllun y taliad sylfaenol, gwerth £238 miliwn, ar gyfer 2025. Mae hwnnw wedi rhoi sefydlogrwydd ariannol i fusnesau fferm nas gwelwyd dros y blynyddoedd diwethaf dros y ffin, rhaid imi ddweud. Mae wedi sicrhau sefydlogrwydd ariannol i fusnesau fferm. Mewn gwirionedd, mae'r gyllideb yn darparu cyfanswm o dros £350 miliwn mewn cymorth amaethyddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Gadewch imi ddweud yn glir nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd o ystyried y pwysau cyllidebol a wynebwn ar draws pob maes, ond roedd yn ddewis rydym yn falch o'i wneud. Mae'n dangos cefnogaeth y Llywodraeth hon i ffermwyr yn glir. Fe wnaf ildio, ond mae'n siŵr y bydd pen draw i nifer yr ymyriadau y gallaf eu derbyn.

Diolch, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Fy nealltwriaeth i yw bod Cyswllt Ffermio, ar hyn o bryd, yn gorfod cynnal ymgynghoriad i drafod gyda ffermwyr, oherwydd mae ffermwyr eisoes yn paratoi ar gyfer hyn, a hynny ar gost o hyd at £5,000 efallai am bob ymgynghoriad. Felly, mae'n costio i'ch Llywodraeth ymgynghori a thrafod gyda ffermwyr. A yw'r ffigur hwnnw'n gywir o ran faint y mae hyn yn ei gostio i'ch Llywodraeth chi nawr?

18:35

Ni allaf roi'r ffigur ar ei ben i chi, ond mae'n gost—. Mae'n ddrwg gennyf, mae'n gost a ysgwyddwn o fewn Cyswllt Ffermio. Dyma'r math o wasanaeth y dylem fod yn ei ddarparu gyda Llywodraeth Cymru, ac rydym yn falch o wneud hynny, ac rydym yn falch o gyfarwyddo Cyswllt Ffermio i wneud hynny.

Mae'n rhaid i mi ganmol gwaith y ddwy undeb, sydd hefyd yn rhoi cyngor i ffermwyr. Ac mae'n bwysig, yn y pryderon a fynegwyd, fod ffermwyr yn gwybod, a bod eu teuluoedd yn gwybod, ble y gallant fynd i gael cymorth, naill ai gan yr undebau, neu gan eu cynghorwyr eu hunain, neu gan Cyswllt Ffermio, fel y gallant weithio drwy'r manylion.

Gyda llaw, dyma pam y mae ein huchelgais ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn parhau'n ddiysgog—y pethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i gefnogi diwydiant amaethyddol cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru, gan fynd i'r afael ag ymrwymiadau newid hinsawdd a natur. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy gydweithio â'n rhanddeiliaid, a byddwn yn parhau i fireinio'r cynllun i ddiwallu anghenion ffermwyr a'r amgylchedd. Ac felly, er enghraifft, gan iddo gael ei grybwyll yn gynharach, rydym wedi lleihau nifer y gweithredoedd cyffredinol o 17 i 12 yn seiliedig ar adborth gan y gymuned ffermio—[Torri ar draws.] Gadewch imi wneud ychydig mwy o gynnydd, os gwelwch yn dda. Mae'r camau hyn wedi'u cynllunio i fod yn ymarferol ac yn gyraeddadwy, gan adlewyrchu realiti beunyddiol ffermio yng Nghymru. Ac mae'r dull a fabwysiadir gennym yma yng Nghymru gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dangos sut rydym ni fel Llywodraeth, a sut rwyf i'n bersonol, bob amser yn ymdrechu i weithio trwy ddeialog, trwy gydweithio a thrwy ddod â phobl at ei gilydd. Felly, rwy'n annog yr undebau ffermio yn gryf i barhau i ymgysylltu'n weithredol â Thrysorlys EF a Llywodraeth y DU.

Yr wythnos diwethaf agorodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad technegol yn gofyn am safbwyntiau ar agweddau ar gymhwyso'r lwfans £1 filiwn i eiddo a roddwyd i ymddiriedolaeth sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol neu ryddhad eiddo busnes o 100 y cant. Nawr, rwy'n cydnabod nad yw ffocws yr ymgynghoriad yn mynd i'r afael â phryderon sylweddol y cymunedau ffermio, ond mae angen eu clywed yn yr ymgynghoriad hwnnw. Mae'n parhau i fod yn gyfle allweddol i leisiau gael eu clywed ac i siapio gweithrediad y newidiadau hyn. Mae'r cyfranogiad parhaus hwnnw'n hanfodol er mwyn sicrhau bod yr heriau unigryw sy'n wynebu ffermwyr Cymru, a nodweddion ffermio yng Nghymru, y ffermydd bach a chanolig hynny, yn cael eu deall yn llawn ac yn cael eu hystyried yn llawn. Fe ildiaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyflwynodd yr NFU gynnig adfachu i Drysorlys Ei Fawrhydi. Rydych chi wedi annog yr undebau ffermio i barhau i drafod â'r Trysorlys. Hoffwn wybod beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y cynnig adfachu, a pha sgyrsiau a gawsoch yn ei gylch mewn cyfarfodydd dwyochrog â'ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU? A ydych chi'n cytuno â'r cynnig adfachu fel dewis arall yn lle'r hyn a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU?

Yr hyn rwy'n ei ofyn i Lywodraeth y DU, yn fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU, Gweinidogion DEFRA ac wrth ymwneud yn ehangach ar draws Whitehall yw iddynt wrando ar yr holl awgrymiadau a'r syniadau a'u bod yn eu hystyried. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn gwybod o ble mae'r twrw'n dod. [Torri ar draws.] Fe wnaf barhau; rwyf wedi derbyn nifer o ymyriadau.

Diolch, Lywydd. Rwy'n deall yn iawn fod y newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant yn creu heriau a phryderon i lawer. Mae Llywodraeth Cymru, o'i rhan hithau, wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pryderon ein ffermwyr yn cael eu clywed, eu hateb, eu trin a'u hystyried. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth y DU ac undebau ffermio ar y mater hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU hefyd i dynnu sylw at y gwaith a wnawn yma i sicrhau dyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru, ac i bwysleisio pwysigrwydd gweithredoedd i gyflawni'r canlyniadau hyn yma yng Nghymru, oherwydd, fel y mae pobl wedi dweud, os cawn y cynllun hwn yn iawn, gallai fod y cynllun gorau o bell ffordd ledled y DU gyfan i'r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol o ffermwyr. 

Felly, gadewch inni ganolbwyntio ar ddeialog adeiladol a chymorth ymarferol i'n cymunedau ffermio. Gyda'n gilydd, gallwn lywio'r newidiadau hyn a sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermydd teuluol yng Nghymru. Mae ein ffermwyr yn wydn, yn ddyfeisgar ac ymroddedig i'w crefft. Rydym wedi ymrwymo i gynnal ein cymorth a'n dull cydweithredol yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

Gaf i ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu?

Diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon. Fel y cawsom ein hatgoffa gan nifer o'r cyfranwyr, mae llawer o ansicrwydd a phryder yn wynebu'r sector. Mae'n teimlo'n aml iawn fel sector dan warchae y dyddiau hyn. Ond mae'r cynnig hwn ar y dreth etifeddiant yn mynd yn ddyfnach. Mae'n mynd yn llawer dyfnach, oherwydd er gwaethaf yr holl heriau o ddydd i ddydd, a'r frwydr i barhau sy'n wynebu cymaint o ffermwyr, yr un peth y byddwch yn glynu wrtho yw eich gallu i drosglwyddo eich fferm i'r genhedlaeth nesaf, i roi bywoliaeth i'ch plant, i roi cyfle iddynt barhau â gwaith ffermwr, ac iddynt hwy ei throsglwyddo wedyn.

Er gwaethaf pawb a phopeth, mae'r ffarm yna o hyd. A dyna'r sicrwydd mae pob teulu fferm eisiau, a dyna'r sicrwydd mae cymdeithas eisiau, y sicrwydd bod yna fwy o ddiogelwch bwyd, fel dywedodd Rhun ap Iorwerth, fod yna asgwrn cefn i economi cefn gwlad, fod yna gefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi, fod yna fywoliaeth gymdeithasol, ieithyddol, diwylliannol. Mi glywson ni gan Siân am gyfraniad y ffermwyr ifanc. Y fferm deuluol, fel y dywedwyd, yw'r curiad calon yna sy'n dal y cyfan at ei gilydd. 

Ac rydych chi'n iawn, Sam, fe addawodd Steve Reed beidio â chyflwyno'r polisi hwn, a chafodd ei gyflwyno gan Llywodraeth y DU yn eu cyllideb gyntaf un.

Nawr, mae wedi bod yn brofiad torcalonnus i glywed pobl yn sôn am eu profiadau.

A Jane, rwy'n credu eich bod chi'n iawn fod pobl yn teimlo bod rhagfarn yn eu herbyn. Yr henoed, pobl â salwch angheuol, gweddwon. Ac roeddech chi'n sôn am bigo ar y bobl fach; wel, wyddoch chi, nid yw ffermwyr yn bobl fach. Maent yn ein bwydo. Maent yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae ganddynt gymaint i'w gyfrannu yn hynny o beth. Cawsom ein hatgoffa gan James hefyd mai hwy yw'r sylfaen i sector bwyd gwerth bron i £10 biliwn sydd gennym yng Nghymru, y bron i chwarter miliwn o swyddi sy'n ddibynnol arnynt. Ond bydd yna lawer o bobl na fyddant yn sylweddoli nad pobl fach ydynt hyd nes y bydd yn rhy hwyr. Dyna'r perygl.

Ond mae'n dda gweld eich bod chi hefyd, Ddirprwy Brif Weinidog, yn cydnabod hyn. Do, fe wnaeth Llywodraeth y DU etifeddu heriau a do, maent wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac mae'n siŵr y byddant yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Ond mae'n rhaid i chi dderbyn nad yw'r cynnig hwn yn cyflawni'r canlyniad a fwriadwyd. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n barod i eirioli ar ran ffermwyr mewn meysydd lle mae gennych gyfrifoldeb. Wel, bydd gennych gyfrifoldeb i godi'r darnau wedi'r niwed y bydd y polisi hwn yn ei achosi: niwed economaidd, niwed amgylcheddol, niwed cymdeithasol, niwed diwylliannol, ac fe fyddwch chi yno yn codi'r darnau. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud safiad cryf ar hyn. Mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd wedi gwneud datganiad cryf. Pam nad yw Cymru wedi gwneud hynny? Y cyfan a ofynnwn—y cyfan a ofynnwn yn ein dadl y prynhawn yma, yw eich bod chi'n annog Llywodraeth y DU i wneud yr un peth yn union ag a wnaethoch chi gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy: oedi ac adolygu. Nid oes unrhyw gywilydd mewn derbyn bod angen amser arnoch i edrych ar rywbeth eto a'i gael yn iawn. Dyna'r cyfan a ofynnwn.

Felly, rwy'n eich annog chi, Ddirprwy Brif Weinidog, a'r Aelodau eraill, i beidio â gwrthwynebu ein cynnig. Gadewch inni siarad fel Senedd ag un llais ar hyn, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi cynnig Plaid Cymru heno. Diolch.

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni fynd yn syth i bleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heno ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid llywodraeth leol. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cyllid llywodraeth leol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Cyllid llywodraeth leol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac mae'r bleidlais wedi ei chymeradwyo.

18:45

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllid llywodraeth leol. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Ac felly, y bleidlais olaf ar yr eitem yma ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM8838 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod rôl hanfodol cynghorau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.

2. Yn nodi bod cynghorau'n dal mwy na £2 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir ei ddefnyddio.

3. Yn nodi bod cynghorau’n gwneud penderfyniadau ynghylch y dreth gyngor yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol.

4. Yn croesawu’r ffaith bod cyllid gwaelodol 3.8 y cant wedi’i ddarparu yn y setliad llywodraeth leol.

5. Yn nodi:

a) y bydd cynghorau’n cael mwy na £6 biliwn drwy’r setliad llywodraeth leol terfynol ac £1.3 biliwn mewn grantiau penodol ychwanegol yn 2025-26; a

b) bod llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydadolygu ac yn cyd-ddatblygu’r fformiwla gyllido fel y bydd yn parhau i ateb y gofyn, gan gynnig sefydlogrwydd ac ymatebolrwydd i awdurdodau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllid llywodraeth leol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ryddhad eiddo amaethyddol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Rhyddhad Eiddo Amaethyddol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf; gwelliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Rhyddhad Eiddo Amaethyddol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8832 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd yn: 

1. Nodi bod rhyddhad eiddo amaethyddol yn fater a gedwir yn ôl.

2. Cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ffermwyr Cymru am y newidiadau i rhyddhad eiddo amaethyddol.

3. Cydnabod bod Gweinidogion Cymru wedi annog Llywodraeth y DU, ac y byddant yn parhau i’w hannog, i roi ystyriaeth lawn a phriodol i farn ffermwyr Cymru. 

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Y cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Rhyddhad Eiddo Amaethyddol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Llai o ddweud, mwy o wneud: Yr amser a'r offer i gyflymu camau gweithredu i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Byddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Hannah Blythyn. 

A gallwch ddechrau eich dadl fer pan fydd yr Aelodau wedi—mae rhai ohonynt wedi gwneud hynny—gadael y Siambr yn dawel. Hannah Blythyn.

Diolch, Lywydd. Ar y dechrau, hoffwn ddweud fy mod wedi rhoi munud o fy amser i Jenny Rathbone, Sioned Williams a Joyce Watson.

Dro ar ôl tro, rydym wedi codi a siarad yn y Siambr hon i gondemnio aflonyddu rhywiol yn ein cymunedau, yn ein gweithleoedd ac yn ein gwlad. Rydym wedi cefnogi ymgyrchoedd, rydym wedi cefnogi polisïau ac rydym wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau. Yn gwbl briodol, mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu, wedi sefydlu gweithgorau ac wedi cydweithio ag undebau llafur a phartneriaid eraill ar weithredu'r ddeddfwriaeth. Ond yn anffodus mae aflonyddu rhywiol yn parhau'n endemig yn y gymdeithas, ac rydym wedi gorfod ymateb dro ar ôl tro i broblem systemig aflonyddu rhywiol mewn gweithleoedd ac ar draws gwasanaethau yng Nghymru. 

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Mae dyletswydd arnom i godi llais, ond nid yw condemnio'n unig yn ddigon. Mae ymrwymiad corfforaethol neu safbwynt polisi i'w groesawu, ond nid yw'n cymryd lle newid diwylliannol eang. Ac mae'n rhaid inni beidio â bod ofn dwyn unigolion a sefydliadau i gyfrif am unrhyw ragrith: er enghraifft, eirioli neu fod yn llysgennad dros rywbeth fel ymgyrch y Rhuban Gwyn pan fydd ei weithredoedd ei hun neu weithredoedd sefydliadol ymhell o fod yn iawn. 

Bydd y ddadl fer heddiw yn nodi beth yw aflonyddu rhywiol yn y gweithle, rhai o'r amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac mewn rhyw ffordd yn gweithredu fel galwad i wneud ac i fod yn well. Ond fel rhywun a ddaeth yn wleidydd oherwydd fy mod yn arfer bod yn ymgyrchydd, rwyf am geisio nodi camau ymarferol ac awgrymiadau ar sut y gallwn symud yn ystyrlon o siarad i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith. Mae aflonyddu rhywiol yn ymddygiad diangen, sy'n golygu ei fod yn ymddygiad digroeso neu heb ei wahodd ac nid yw'r person sy'n ei gyflawni wedi cael cydsyniad na chaniatâd i wneud hynny gan y person sy'n ei brofi. Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle hefyd yn ymwneud ag ymyrryd â gofod proffesiynol, ac felly gall ymestyn y tu hwnt i deimladau dioddefwr unigol. Hefyd, ceir aflonyddu ar sail rhyw—cyswllt digroeso sy'n canolbwyntio ar ryw neu rywedd. 

Mae pawb sy'n profi aflonyddu yn ei brofi mewn ffordd wahanol, ond yr hyn sy'n ffactor cyffredin yw ei fod wedi ei wreiddio mewn pŵer ac yn aml mae'n camfanteisio ar anghydbwysedd pŵer. Yn y pen draw, yr hyn yw aflonyddu rhywiol yw arddangosiad ffiaidd o bŵer sy'n bygwth, yn gorfodi neu'n diraddio unigolyn arall, ac o safbwynt gweithiwr, gallai fod yn rhywun proffil uchel neu ddylanwadol yng nghyd-destun y gweithle neu'r amgylchedd gwaith. Ac mewn amgylchedd gwleidyddol fel ein hun ni, mae'r anghydbwysedd pŵer wedi'i chwyddo'n fawr. Ar y nodyn hwnnw, er fy mod yn cyfrannu heddiw yn rhinwedd fy swydd fel AS dros Delyn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwyf am gofnodi fy ymrwymiad i gryfhau'r prosesau sydd gennym ar waith ar gyfer ymdrin ag aflonyddu rhywiol er mwyn gwella hyder a chymorth yn ein Senedd a phawb sy'n gweithio ynddi.

Gall aflonyddu rhywiol yn y gweithle ymddangos mewn sawl gwahanol ffordd: gall fod yn gorfforol, wyneb yn wyneb, neu ar ffurf ddigidol, fel negeseuon WhatsApp neu bostiadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Felly, gadewch inni fod yn glir—

18:50

Mae'n ddrwg gennyf, Hannah—mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws. A wnaiff y rhai sydd yn yr oriel adael yn dawel os gwelwch yn dda? Diolch. Hannah Blythyn.

Diolch. Gadewch inni fod yn glir, nid yw aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn bodoli ar ei ben ei hun—microcosm yn unig ydyw a rhan o gasineb at fenywod yn y gymdeithas sydd wedi'i normaleiddio'n rhy aml ers llawer gormod o amser. Ond ni ellir byth mo'i ystyried yn lefel isel, oherwydd, i'r rhai sy'n ei ddioddef, gall achosi trawma difrifol a newid bywydau.

Ym mis Hydref 2023, pasiwyd Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) yn Senedd y DU a chyflwynodd ddyletswydd ataliol ar gyflogwyr i'w gwneud yn ofynnol iddynt roi pob cam rhesymol ar waith i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae'n cynnwys y gallu i gynyddu iawndal mewn hawliadau aflonyddu rhywiol, ac mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol roi camau gorfodi ar waith lle ceir tystiolaeth fod sefydliad yn methu cymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol. Er bod hyn i'w groesawu—a byddwn yn disgwyl i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ystyried hyn yn llawn mewn partneriaeth gymdeithasol—nid yw'r Ddeddf yn mynd yn ddigon pell. Nid yw'n cynnwys yswiriant ar gyfer aflonyddu gan drydydd parti, ac nid yw'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn gwirionedd.

Felly, sut y gallwn ni gryfhau amddiffyniadau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru? Nid yw polisïau atal yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol trwy bolisi a dull o weithredu ar aflonyddu rhywiol ar gyfer Cymru gyfan ar draws y sector cyhoeddus i gyd, un â dim goddefgarwch yn ganolog i fynd i'r afael â'r malltod hwn ar ein cymdeithas, ac i sicrhau bod gan weithleoedd fframweithiau a phrosesau cymorth cynhwysfawr y gall dioddefwyr aflonyddu rhywiol fod â hyder ynddynt o'r diwedd. Dylai hyn gynnwys mynediad at wasanaethau cwnsela, cymorth cyfreithiol a mecanweithiau adrodd cyfrinachol. Gallai Llywodraeth Cymru archwilio sut i ddefnyddio caffael cyhoeddus a phŵer y pwrs cyhoeddus i'r sector preifat yng Nghymru addasu i'r arferion hyn hefyd; cyfleuster chwythu'r chwiban ar gyfer Cymru gyfan ag iddo adnoddau priodol, arbenigedd a phrosesau a chanlyniadau tryloyw; ymgyrch gyhoeddus gadarn, gyda'r nod o wneud aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn fater tabŵ fel yfed a gyrru a helpu i gael gwared ar ymddygiad o'r fath; ac archwilio sut y gellid defnyddio pwerau datganoledig fel cynllunio a thrwyddedu i ddiogelu pobl yn well rhag aflonyddu rhywiol mewn gweithleoedd penodol—er enghraifft, mewn lletygarwch. Dylai ystyried yr hyn y mae ymgyrch 'Get ME home safely' undeb Unite yn gofyn amdano. Dylem hefyd gydnabod bod profiad pobl o gymunedau ymylol o aflonyddu rhywiol yn aml yn fwy difrifol, gyda rhwystrau mwy cymhleth i adrodd a mynediad at therapi neu gymorth. Mae hyn yn rhywbeth y bydd angen i'r sefydliad hwn a'n trefniadau ein hunain fynd i'r afael ag ef ochr yn ochr â'r ymrwymiad i Senedd fwy amrywiol.

Y tu hwnt i Gymru, gellid diwygio neu gyflwyno deddfwriaeth cyflogaeth i gryfhau rhwymedigaethau i ymdrin ag aflonyddu rhywiol ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr. Gellid gwarantu amser cyfleuster hefyd i gynrychiolwyr cydraddoldeb undebau llafur ac aelodau sydd eisiau hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol, ac i gynrychiolwyr sydd am gynrychioli gweithwyr mewn achosion o aflonyddu rhywiol. Rwy'n credu hefyd fod gwerth mewn cydweithio i archwilio potensial proses dribiwnlys ar wahân ar gyfer achosion o aflonyddu rhywiol, un sy'n cydnabod yr angen am sensitifrwydd ac arbenigedd priodol. Mae tribiwnlysoedd yn gostus ar hyn o bryd, sy'n rhwystr ychwanegol. Mae angen adolygu hyn, oherwydd ni allwn adael i gyfoeth ennill yn hyn o beth.

Gall mynediad at dribiwnlysoedd cyflogaeth fod allan o gyrraedd i'r rhan fwyaf o unigolion, a thrwy undebau llafur y bydd llawer yn cael mynediad at gyfiawnder yn y ffordd hon. Rôl undebau llafur yw sefyll dros weithwyr, ac maent yn chwarae rhan ganolog yn sicrhau y gall gweithwyr wneud eu gwaith yn ddiogel, yn rhydd o aflonyddu, mewn amgylchedd teg a chefnogol. Yn aml, cynrychiolwyr undeb yw'r person cyntaf i gael datgeliadau o aflonyddu rhywiol, a dylai undebau llafur, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol ystyrlon, fod yn gwbl ganolog i lunio'r camau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gweithwyr yn arbenigwyr yn sgil profiad ac yn y sefyllfa orau i lunio gwelliannau lle maent yn gweithio. Dylai pob cynrychiolydd undeb gael hyfforddiant ar sut i gefnogi a chynrychioli aelodau mewn achosion o aflonyddu rhywiol ac mae disgwyl i bob aelod weithio yn erbyn diwylliant sy'n caniatáu aflonyddu rhywiol.

Dywedais ar y dechrau nad yw'r hyn sy'n digwydd mewn gweithle yn annibynnol ar y gymdeithas ehangach. Ac fel unrhyw weithle arall, nid yw undebau llafur yn imiwn. Nid oes ond angen inni edrych ar benawdau mwy diweddar ynghylch yr heriau mewn sefydliadau fel TSSA, a GMB, a arweiniodd at gomisiynu adroddiad Monaghan ac adolygu pellach. Wedi dweud hynny fodd bynnag, mae undebau llafur unigol ledled y wlad yn gwneud eu rhan i ddileu aflonyddu rhywiol, boed hynny trwy ymgyrchoedd, cynlluniau gweithredu, neu ddull dim goddefgarwch. Rwyf am dalu teyrnged arbennig i Rhianydd Williams o Gyngres Undebau Llafur Cymru sydd wedi datblygu pecyn cymorth TUC Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac sy'n arwain y ffordd ar sicrhau ymrwymiad ystod o weithleoedd. Dylai pob gweithle yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu'r pecyn cymorth hwn.

Fodd bynnag, realiti bywyd yw bod llawer o dystiolaeth a phrofiad menywod yn dangos yn glir nad oes unrhyw weithle'n imiwn rhag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol, yn cynnwys fy mhrofiad fy hun. Ni wnaf ddefnyddio'r term 'lefel isel', oherwydd fe wneuthum ei ddiystyru ar y dechrau, ond at ei gilydd, mae'n gymharol ddiniwed, ond yn dweud llawer fel enghraifft. Flynyddoedd maith yn ôl bellach, pan oeddwn yn ymgyrchydd ifanc a brwdfrydig, euthum i un o fy nghynadleddau mawr cyntaf. Roeddwn yn un o'r digwyddiadau gyda'r nos y mae pawb ohonom yn gyfarwydd â hwy, a gwin gwyn cynnes yn cael ei gynnig. Cefais fy nghyflwyno i rywun a oedd ar y pryd yn uchel iawn yn y mudiad undebau llafur. Edrychodd arnaf o fy nghorun i fy sawdl a dweud, 'O na bawn i 20 mlynedd yn iau.' Ar y pryd, roeddwn mor newydd fel na wyddwn pwy ydoedd, felly atebais drwy ddweud, 'Ni fyddai gennych obaith hyd yn oed pe baech chi 20 mlynedd yn iau.' Fe gerddodd i ffwrdd, ond wedyn fe ddywedodd y bobl o fy nghwmpas, 'Ni allaf gredu eich bod wedi dweud hynny wrtho.' Yn anffodus, mae yna enghreifftiau y gallwn eu rhoi ers imi sefyll etholiad neu sydd wedi bod dan glo yn ddwfn yn fy ymennydd ers degawdau. Ond rhannais hynny heddiw am fy mod yn credu ei fod yn dangos cymaint o her yw newid diwylliant, dynameg pŵer, ac agweddau gwyliedyddion fel y'u gelwir, yn enwedig yn rhai o'r lleoliadau mwy gwleidyddol eu natur. Nid sylwadau amhriodol yr uwch swyddog hwnnw'n unig oedd hyn, ond ymateb eraill i mi.

Felly, wrth ddod i ben, mae'n bwysig myfyrio ar ein hagweddau ein hunain ac eraill, yn ogystal â gweithredu neu ddiffyg gweithredu. Dyna pam y mae unrhyw ddull o fynd i'r afael ag aflonyddu o'r fath mewn lleoliad gwaith yn ymwneud ag atal a sefydlu prosesau priodol ac annibynnol y gellir ymddiried ynddynt, ond hefyd, rwy'n credu, dylai ymgorffori atebolrwydd gwyliedyddion a'u hymddygiad. Yn sicr, nid camu'n ôl neu beidio â chael prosesau priodol ar waith, neu'n waeth, atal neu gelu ymddygiadau, yw'r peth iawn i'w wneud i'r unigolyn sydd wedi profi ymddygiad o'r fath, ond nid yw o unrhyw fudd i sefydliad ychwaith. Nid yw'n diogelu enw da'r sefydliad hwnnw—i'r gwrthwyneb yn llwyr. Dylem hefyd ystyried a chodi llais lle cafwyd gwybodaeth am ymddygiad amhriodol unigolyn neu unigolion a lle cafodd ei ddefnyddio fel rhyw fath o arf, gwleidyddol neu fel arall, i weithredu rhyw fath o reolaeth.

Dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a'r thema eleni yw 'cyflymu gweithredu', felly gadewch inni wneud hynny a chyflymu camau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle: llai o ddweud, mwy o wneud os gwelwch yn dda.

18:55

Rwy'n cynrychioli etholaeth sy'n cynnwys canol y ddinas i gyd, ac yn amlwg, mae nifer enfawr o leoliadau adloniant lle mae aflonyddu rhywiol yn ddigwyddiad bob dydd, yn anffodus. Mae camfanteisio ar fenywod yn parhau i fod yn broblem fawr. Mae gan gomisiynydd heddlu a throseddu newydd de Cymru brofiad sylweddol o frwydro yn erbyn trais yn erbyn menywod, ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd gan y sefydliadau sy'n gwneud arian o economi'r nos. Ar Ddydd Calan 2024, ymosodwyd ar un o fy etholwyr mewn clwb nos, yn ôl pob sôn am ei bod wedi gwrthod fflyrtian rhywiol digroeso gan unigolyn nad oedd hi'n ei adnabod. Bu'n rhaid mynd â hi i adran ddamweiniau ac achosion brys i drin yr anafiadau a ddioddefodd o botel oedd wedi torri. Ond yn anffodus, am nad oedd lluniau CCTV ar gael nac unrhyw dystion, unrhyw un a oedd yn barod i gamu ymlaen ac egluro beth oedd wedi digwydd, gwrthododd Gwasanaeth Erlyn y Goron fwrw ymlaen ag unrhyw erlyniad. Mae'n anffodus nad yw pobl fel porthorion, sy'n cael eu cyflogi i gadw pobl yn ddiogel yn y lleoliadau hyn, yn effro i'r hyn a allai fod yn digwydd ac yn barod i roi tystiolaeth i sicrhau bod pobl yn gweld bod cyflawni hyn yn amhosibl mewn lleoliadau adloniant o'r fath. Mae'n amlwg fod angen hyfforddiant ychwanegol i staff parhaol a staff dros dro fel bownsers i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol ac yn effro i aflonyddu rhywiol a gorfodaeth fel sbeicio, sy'n broblem fawr arall sy'n digwydd, ac mae angen rhoi camau priodol ar waith fel y gall pawb fwynhau mynd allan gyda'r nos heb ofni aflonyddu rhywiol.

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd, ac rwyf am ategu'r pwynt a wnaeth ar yr angen i gyflymu camau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cyd-gynhaliodd cawcws y menywod ddigwyddiad gwych amser cinio heddiw, 'Ysbrydola Hi yn y Senedd', gydag Etholwch Hi. Ac roedd yn wych cael siarad â chymaint o fenywod ifanc sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth; rhai ohonynt o fy hen ysgol, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. A bob amser yng nghefn fy meddwl yn y digwyddiadau hyn, pan fyddaf yn annog menywod i gymryd rhan, i ymgyrchu, i ddod yn ymgyrchwyr, i sefyll etholiad, mae'r angen i ninnau hefyd wneud y gwaith i wneud y Senedd hon yn weithle addas a diogel ar eu cyfer. Ac efallai ei bod hi'n haws gwneud y cam cyntaf heb wneud yr ail gam hanfodol hwnnw hefyd.

Felly, hoffwn wybod gan y Gweinidog beth yn benodol y gall y Llywodraeth ei wneud, yng nghyd-destun ehangu'r Senedd a chanllawiau'r Llywodraeth a fydd yn cael eu rhoi i bleidiau, i annog mwy o fenywod i sefyll, i gyflawni hyn. Oherwydd mae'n weithle gwahanol i bobman arall. Cyflogwyr yw'r Aelodau, nid cyflogeion. Mae'n eithaf anodd gwybod weithiau—. Pan fyddwch yn gyflogai ac yn aelod o undeb, gallwch fynd at eich cynrychiolydd; nid yw'r un fath yn hollol. Mae llawer ohonom yn aelodau o wahanol undebau—undebau etifeddol, os mynnwch, a llawer ohonynt o'n proffesiynau blaenorol. Fe wyddom fod angen gwneud rhywbeth am safonau; fe gyfeirioch chi at eich rôl fel Cadeirydd y pwyllgor safonau, ac rydym yn gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo yno. Unwaith eto, rwy'n credu bod angen cyflymu hynny. Oherwydd mae'r anghydbwysedd pŵer y sonioch chi amdano, sy'n chwarae rhan mor enfawr mewn aflonyddu rhywiol, yn bresennol iawn yn y lle hwn ac mewn gwleidyddiaeth. Felly, hoffwn gael atebion yn benodol ynglŷn â hynny efallai wrth inni edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o fenywod i'r lle hwn, ond mae'n rhaid iddo fod yn weithle sy'n addas ar eu cyfer.

19:00

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am gyflwyno pwnc hynod bwysig i'w drafod yma yn y Siambr.

Rydym wedi clywed bod aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn llawer rhy gyffredin a heb ei adrodd yn ddigonol. Mae llawer o ddioddefwyr yn credu y bydd rhoi gwybod amdano naill ai'n gwaethygu'r broblem neu y bydd yn cael ei anwybyddu'n llwyr. Rwy'n credu'n gryf y dylai pawb—menywod a dynion—deimlo'n ddiogel yn y gwaith, a bod aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gwbl annerbyniol.

Dyna pam, yn gynnar yng ngwanwyn 2023, y cytunais i gynnal digwyddiad lle lansiodd Cyngres yr Undebau Llafur eu pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol. Ac un o nodau'r pecyn cymorth hwnnw yw darparu gwybodaeth—ac rydych chi wedi sôn amdano, Hannah—i gynrychiolwyr undeb y gallant ei defnyddio i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a hefyd, yn bwysicach fyth, ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, fel y nodwyd nawr.

Felly, mae'n ymwneud â newid y diwylliant mewn perthynas ag aflonyddu a cham-drin rhywiol, mae'n ymwneud â chodi llais yn ei gylch ac mae'n ymwneud ag annog pobl i roi gwybod amdano. Ond mae hefyd yn ymwneud â diogelu'r bobl sy'n codi llais yn ei gylch, neu fel arall ni fyddwch chi byth yn newid y diwylliant yn y lle cyntaf. Felly, mae'r pecyn cymorth hwnnw'n ddefnyddiol am ei fod yn gadael i bobl ddeall eu rhwymedigaethau a hefyd i wneud rhywbeth o amgylch y fframwaith yn y gweithle. Ond rwy'n galw heddiw am ddiogelu'r chwythwr chwiban yn y gweithle hefyd. Oherwydd oni bai eu bod yn gwybod eu bod wedi'u diogelu, nid ydynt yn mynd i godi llais yn ei gylch, er mai dyna fyddent eisiau ei wneud.

Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Jack Sargeant.

Diolch, Lywydd dros dro. A gaf i ddechrau fy nghyfraniad i ymateb i'r ddadl bwysig heddiw trwy ddiolch i Hannah Blythyn, nid yn unig am gyflwyno'r ddadl, ond hefyd am rannu'r profiad gwirioneddol annerbyniol a ddioddefodd yr Aelod yn ei gwaith blaenorol, a hefyd am y gwaith y bydd Hannah Blythyn yn ei arwain fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Senedd hon? Ac rwy'n iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at dderbyn yr argymhellion gan y pwyllgor hwnnw ac i ymateb i rai o'r heriau, ond hefyd y cyfleoedd y bydd ehangu'r Senedd yn eu cynnig i ni wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r pethau y clywsom amdanynt heno.

Rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau Jenny Rathbone, Sioned Williams a Joyce Watson yn ystod y ddadl hon. Mae ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn gweithleoedd ledled Cymru yn hynod o bwysig. Yn gyntaf, mae mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn galw am fframwaith deddfwriaethol cryf; yn ail, gweledigaeth a strategaeth glir; ac yn drydydd, fel y soniodd Hannah Blythyn, newid diwylliannol ac ymddygiadol. Rwyf am geisio mynd i'r afael â'r ffactorau hynny yn fy ymateb y prynhawn yma.

Fel y soniwyd yn flaenorol yn y ddadl hon, mae Deddf diogelu gweithwyr y DU a ddaeth i rym ym mis Hydref yn gosod dyletswydd ragweithiol ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol ar weithwyr yn ystod eu cyflogaeth. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i dribiwnlysoedd cyflogaeth ddyfarnu iawndal ychwanegol pan fydd cyflogwr wedi methu cyflawni ei ddyletswyddau, ac mae'n rhoi awdurdod i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio a gorfodi cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau newydd.

Mae'r Ddeddf yn gam sylweddol ymlaen yn y broses o gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn y bydd yn cael ei gryfhau ymhellach gan y Bil Hawliau Cyflogaeth, sydd ar hyn o bryd yn symud trwy ei gyfnodau seneddol yn San Steffan. Bydd y Bil yn cryfhau'r darpariaethau yn y Ddeddf Diogelu Gweithwyr drwy ymestyn y ddyletswydd ragweithiol ar gyflogwyr fel bod gofyn iddynt roi pob cam rhesymol ar waith. Bydd hefyd yn ymestyn atebolrwydd i gyflogwyr mewn achosion lle mae trydydd partïon yn aflonyddu ar staff, cwsmeriaid neu gleientiaid, er enghraifft, yn ystod eu cyflogaeth.

Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn chwarae ein rhan i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r dyletswyddau hyn, a bod gweithwyr yn gwybod am yr amddiffyniad sydd ganddynt yn y gyfraith. Dyna pam ein bod wedi codi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf a'r canllawiau sydd ar gael ar ein gwefan Busnes Cymru. Dyna pam ein bod wedi gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys drwy ein fforwm hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle a chyngor partneriaeth y gweithlu, i godi ymwybyddiaeth o'r canllawiau a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. A dyna pam ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd i dynnu sylw at becyn cymorth rhagorol TUC Cymru, y cyfeiriodd yr Aelodau ato eisoes. Cefais y fraint o fod yn lansiad y pecyn cymorth yn ôl yn 2023 gyda Joyce Watson ac Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt. Dylem annog pob gweithle i gael y canllawiau, y wybodaeth a'r pecyn adnoddau ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Rydym bob amser wedi bod yn glir iawn am ein hymrwymiad, ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi cryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae bellach yn cynnwys ffrwd waith benodol ar aflonyddu yn y gweithle. Ei nod yw darparu'r arbenigedd a'r dulliau arloesol i sicrhau bod gweithleoedd yn rhydd o aflonyddu i weithwyr, a bod gan gyflogwyr offer, sgiliau a phrosesau i fod yn rhan o newid cymdeithas gyfan y mae pawb ohonom eisiau ei weld. Fel rhan o'r ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle rydym wedi cryfhau ein dealltwriaeth a'n sylfaen dystiolaeth. Mae wedi cynnwys comisiynu ymchwil ar brofiadau menywod du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig o aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Rydym yn ymgysylltu ag arweinwyr y sector cyhoeddus a phartneriaid allweddol yn uniongyrchol trwy gyfres o gynadleddau aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Trefnir y cynadleddau mewn partneriaeth gymdeithasol drwy ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle y glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Cynhaliwyd y gynhadledd ddiweddaraf ym mis Ionawr yn Wrecsam ac fe'i cyflwynwyd gan Shavanah Taj o TUC Cymru. Mae'r cynadleddau'n dwyn ynghyd arweinwyr sefydliadau'r sector cyhoeddus, ein harweinwyr a'n cynrychiolwyr undebau llafur, gyda phob un ohonynt yn ymrwymedig i fynd i'r afael â phroblem hollbresennol ac annerbyniol aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi yn y cynllun hyfforddiant ar ymyrraeth gan wyliedyddion, yn cynnig hyfforddiant am ddim sydd ar gael i ystod o sefydliadau, gan gynnwys gweithleoedd, i ymateb yn uniongyrchol i ymholiadau Jenny Rathbone ynglŷn â ble y gall pobl fynd i ddysgu sut i ymyrryd fel gwyliedyddion.

Rydym yn cydnabod nad lle rydym arni nawr yw lle mae angen inni fod. Rydym wedi gweld gormod o enghreifftiau brawychus ac annerbyniol o aflonyddu rhywiol yn y gwaith, gan gynnwys mewn rhai cyrff datganoledig yn y sector cyhoeddus. Gadewch imi fod yn glir: nid oes lle i aflonyddu rhywiol mewn gweithleoedd nac yn unman arall yng Nghymru. Mae hwn yn fater allweddol sy'n effeithio ar les a diogelwch ein gweithlu, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i greu amgylchedd gwaith lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu.

Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i gyflymu ein gweithredoedd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol a'i atal yn y gweithle ledled Cymru, gan gynnwys ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod a arweiniodd y ddadl, a'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heno. Gyda'n partneriaid, fe allwn wneud gwahaniaeth. Gallwn sicrhau bod gweithleoedd yn rhydd rhag malltod aflonyddu, a byddwn i gyd yn ymdrechu i wneud hynny. Diolch.

19:10

Diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.