Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/03/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da. As we start our Senedd this afternoon, I’d like to inform Members that, last week, we heard of the death of Alison Halford, the former Assembly Member, Senedd Member, who represented the Delyn constituency in the first Assembly, between 1999 and 2003. I’m sure that our thoughts are with her friends and family at this time.
Prynhawn da. Wrth i ni ddechrau ein Senedd y prynhawn yma, hoffwn hysbysu'r Aelodau ein bod ni wedi clywed yr wythnos diwethaf am farwolaeth Alison Halford, y cyn Aelod Cynulliad, Aelod o'r Senedd, a gynrychiolodd etholaeth Delyn yn y Cynulliad cyntaf, rhwng 1999 a 2003. Rwy'n siŵr bod ein meddyliau gyda'i ffrindiau a'i theulu ar yr adeg hon.
Cwestiynau nesaf, felly, i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Andrew R.T. Davies.
Next we have questions to the First Minister. The first question is from Andrew R.T. Davies.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i brifysgolion Cymru? OQ62403
1. Will the First Minister provide an update on what support the Welsh Government is providing to Welsh universities? OQ62403

The Minister for Further and Higher Education and I met with university leaders yesterday, and the Minister has set out the action we are taking in a written statement. The Welsh Government has provided £28.5 million in additional grant funding during the current financial year, and twice increased the tuition fee cap.
Fe wnaeth y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a minnau gyfarfod ag arweinwyr prifysgolion ddoe, ac mae'r Gweinidog wedi nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd mewn datganiad ysgrifenedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £28.5 miliwn o gyllid grant ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ac wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu ddwywaith.
Thank you for that update, First Minister. When I put a topical question to the Minister for higher education just before the half term recess, I highlighted to her the blocks that have been put on universities discussing potential mergers of courses, so that those courses could be provided in a certain geographical area, by the Competition and Markets Authority. The Minister highlighted that this was an important issue. I have to say I was surprised that the Welsh Government hadn’t been more up on this issue, helping the universities to overcome the barriers, so that support could be offered to make sure that courses could have been provided. Representing South Wales Central, having three universities, this is a particularly acute problem, and in particular when it comes to nursing and other key courses that some universities have announced the closure of. So, can you update us today, please, on what role the Welsh Government have played to make sure that there is clarity on the guidance that the markets authority has issued, because, as the Minister’s response to that topical question highlighted, there are different interpretations across the United Kingdom of the rules that the Competition and Markets Authority exercises when it comes to universities?
Diolch am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Pan ofynnais gwestiwn amserol i'r Gweinidog addysg uwch ychydig cyn y toriad hanner tymor, tynnais ei sylw at y rhwystrau a roddwyd ar brifysgolion o ran trafod achosion posibl o uno cyrsiau, fel y gellid darparu'r cyrsiau hynny mewn ardal ddaearyddol benodol, gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Dywedodd y Gweinidog fod hwn yn fater pwysig. Mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy synnu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy cyfarwydd â'r mater hwn, gan helpu'r prifysgolion i oresgyn y rhwystrau, fel y gellid cynnig cymorth i wneud yn siŵr y gallai cyrsiau fod wedi cael eu darparu. Yn cynrychioli Canol De Cymru, sydd â thair prifysgol, mae hon yn broblem arbennig o ddifrifol, ac yn enwedig o ran nyrsio a chyrsiau allweddol eraill y mae rhai prifysgolion wedi cyhoeddi eu bod yn cau. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw, os gwelwch yn dda, am ba ran y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chwarae i wneud yn siŵr bod eglurder ynghylch y canllawiau y mae'r awdurdod marchnadoedd wedi'u cyhoeddi, oherwydd, fel yr amlygodd ymateb y Gweinidog i'r cwestiwn amserol hwnnw, ceir gwahanol ddehongliadau ar draws y Deyrnas Unedig o'r rheolau y mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn eu harfer o ran prifysgolion?

Thanks very much. I think this is an issue that has been highlighted as a result of the announcement that came from Cardiff University and why they couldn't discuss more broadly prior to the announcement. And part of the answer to that was that the Competition and Markets Authority might have restricted their ability to do that. We are looking at whether that is an overinterpretation of what the Competition and Markets Authority is saying, and we are certainly interested as a Government to make sure that we do more all-Wales, pan-Wales planning, where people can co-ordinate and work together for the benefit of the nation. But we do have to, obviously, make sure that we comply with the Competition and Markets Authority rules, without gold-plating, and that is something I know that the higher education Minister is undertaking.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn fater y tynnwyd sylw ato o ganlyniad i'r cyhoeddiad a ddaeth gan Brifysgol Caerdydd a pham na allen nhw drafod yn ehangach cyn y cyhoeddiad. A rhan o'r ateb i hynny oedd y gallai'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod wedi cyfyngu ar eu gallu i wneud hynny. Rydym ni'n edrych ar ba un a yw hynny yn orddehongliad o'r hyn y mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ei ddweud, ac yn sicr mae gennym ni ddiddordeb fel Llywodraeth mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy o gynllunio Cymru gyfan, ar draws Cymru gyfan, lle gall pobl gydgysylltu a chydweithio er budd y genedl. Ond mae'n rhaid i ni, yn amlwg, wneud yn siŵr ein bod ni'n cydymffurfio â rheolau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, heb euro, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog addysg uwch yn ei wneud.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddigideiddio cofnodion meddygol ar draws y GIG? OQ62388
2. Will the First Minister provide an update on the digitisation of medical records across the NHS? OQ62388

Digitisation of medical records will deliver greater standardisation of clinical pathways and improved productivity, and support clinicians and professionals in decision making. The Welsh Government is developing a national business case for the next generation electronic health record system in Wales, in partnership with NHS Wales.
Bydd digideiddio cofnodion meddygol yn sicrhau bod llwybrau clinigol yn cael eu safoni mwy a gwell cynhyrchiant, ac yn cynorthwyo clinigwyr a gweithwyr proffesiynol wrth wneud penderfyniadau. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu achos busnes cenedlaethol ar gyfer system cofnodion iechyd electronig y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, mewn partneriaeth â GIG Cymru.
The digital divide between the NHS in Wales and England is growing ever bigger, First Minister. The vast majority of patient records in Wales are still physical, a bit like the 1970s. I’m aware that the Welsh Government have announced the digitisation of maternity patient records by 2026, and the chair of Betsi Cadwaladr informed me of their plans to digitise mental health records. This is still way behind where we should be. In England, patients will have the ability to view their full patient records through the NHS app, and digitisation of records is vital to improve service, cut costs and overcome the problem of missing medical records. In 2020, a report by the public services ombudsman found that a shocking 70 per cent of NHS complaints he looked into could not be properly investigated due to lost documents. This report came out five years ago, and we still have not seen sufficient progress made on this. The roll-out of records needs to be prioritised in order to bring our health service up to the twenty-first century. So, can the First Minister provide an update on the Welsh Government’s plans to digitise patient records and begin closing that giant digital rift between the health services in England and Wales?
Mae'r bwlch digidol rhwng y GIG yng Nghymru a Lloegr yn tyfu'n fwy drwy'r amser, Prif Weinidog. Mae'r mwyafrif llethol o gofnodion cleifion yng Nghymru yn dal i fod yn rhai ffisegol, ychydig fel y 1970au. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi digideiddio cofnodion cleifion mamolaeth erbyn 2026, a dywedodd cadeirydd Betsi Cadwaladr wrthyf am eu cynlluniau i ddigideiddio cofnodion iechyd meddwl. Mae hyn yn dal i fod ymhell y tu ôl i le ddylem ni fod. Yn Lloegr, bydd gan gleifion y gallu i weld eu cofnodion cleifion llawn drwy ap y GIG, ac mae digideiddio cofnodion yn hanfodol i wella'r gwasanaeth, i dorri costau ac i oresgyn y broblem o gofnodion meddygol coll. Yn 2020, canfu adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nad oedd modd ymchwilio i gyfran frawychus o 70 y cant o gŵynion y GIG yr ymchwiliodd iddyn nhw yn iawn oherwydd dogfennau coll. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn bum mlynedd yn ôl, ac nid ydym ni wedi gweld cynnydd digonol yn cael ei wneud ar hyn o hyd. Mae angen blaenoriaethu cyflwyno cofnodion er mwyn dod â'n gwasanaeth iechyd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddigideiddio cofnodion cleifion a dechrau cau'r bwlch digidol enfawr hwnnw rhwng y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr?

Thanks very much. What we do know is that implementing an electronic health records system is very complex and very expensive. But there is a huge amount of work being undertaken, including that pathfinder project that is happening in Betsi Cadwaladr specifically on mental health, due to those unique local pressures. But what I will tell you is that, today, we'll be voting on £600 million of additional funding to go into health, with a significant amount of that money going into digital technology, and you intend to vote against.
Diolch yn fawr iawn. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod cyflwyno system cofnodion iechyd electronig yn gymhleth iawn ac yn ddrud iawn. Ond mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud, gan gynnwys y prosiect braenaru hwnnw sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr yn benodol ar iechyd meddwl, oherwydd y pwysau lleol unigryw hynny. Ond yr hyn y gwnaf i ddweud wrthych chi yw y byddwn ni'n pleidleisio heddiw ar £600 miliwn o gyllid ychwanegol i fynd i faes iechyd, â swm sylweddol o'r arian hwnnw yn mynd tuag at dechnoleg ddigidol, ac yr ydych chi'n bwriadu pleidleisio yn ei erbyn.
Fel y dywedodd Gareth Davies, mae digideiddio'r gwasanaeth iechyd yn hanfodol—dwi wedi eich clywed chi'n dweud rhywbeth tebyg sawl gwaith o'r blaen. Ond mae'n deg dweud bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi wynebu ei siâr o broblemau ar draws y blynyddoedd, o broblemau llywodraethiant i broblemau risgiau seiber. Nawr, mae hyn yn bwysig ac, mewn erthygl ddiweddar yn The Guardian, roedd sôn mawr am y problemau i sicrhau mynediad at gofnodion cleifion, a hynny hyd yn oed ar ambell achlysur wedi arwain at farwolaeth cleifion. Mae hyn yn cael ei ategu gan y coroners ar draws Cymru a Lloegr—fe wnaethon nhw roi, y llynedd yn unig, 36 rhybudd am y diffyg rhannu manylion, y diffyg siarad rhwng systemau cyfrifiadurol gwahanol, a bod hyn wedi arwain at farwolaethau cleifion. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod problemau o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu datrys er mwyn digideiddio ein system iechyd a gofal? Diolch yn fawr.
As Gareth Davies said, digitising the health service is essential, and I've heard you say something similar several times previously. But it's fair to say that Digital Health and Care Wales has faced its share of problems across the years, from governance issues to cyber risk issues. Now, this is important, and a recent article in The Guardian mentioned significant problems in securing access to patient records, and, on occasions, that that had even led to patient deaths. This is supported by coroners throughout Wales and England—last year alone, they issued 36 alerts about the lack of information sharing, the lack of communication between different computer systems, which has led to patient deaths. What action is the Government taking to ensure that problems within Digital Health and Care Wales are resolved in order to digitise our health and care system? Thank you.

Diolch yn fawr. Dŷch chi'n eithaf reit—dŷn ni'n ymwybodol iawn bod y coroner wedi dweud ar sawl achlysur fod angen i'r systemau gyd-siarad, a dyna beth sydd wedi digwydd yn Betsi Cadwaladr, a oedd â phroblemau yn y maes yna, yn arbennig gyda iechyd meddwl, ac rŷn ni wedi dechrau yn Besti Cadwaladr o achos y problemau roedd y crwner wedi dweud wrthyn ni amdanyn nhw yn fanna. Ond, unwaith eto, dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod angen lot o arian i wneud hyn, ac, er mwyn cael yr arian, mae'n rhaid i ni gael pleidlais—mae lot o arian ar y bwrdd heddiw—ac mi fyddwch chi hefyd yn pleidleisio yn erbyn hynny.
Thank you. You're quite right—we are highly aware that the coroner has said on a number of occasions that the systems do need to communicate with each other, and that's why we've seen what's happened at Betsi Cadwaladr, because they did have problems in that area, particularly in the area of mental health, and we have started in Betsi Cadwaladr because of the problems that the coroner had outlined to us there. But, once again, I do think it's fair to say that we need a lot of money to do this, and, in order to get that money, we must have a vote—there's a lot of money on the table today—and you too will be voting against that.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. The leader of the Conservatives, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Can I first of all, First Minister, welcome the Welsh Government statement that you issued earlier on today regarding Ukraine? Like you, these Welsh Conservatives stand full square behind Ukraine in the face of the illegal invasion by Russia of its sovereign territory, and that will not waver.
First Minister, yesterday I visited Nigel, a farmer in Monmouthshire. With nothing but determination, he started with a rented plot, worked every hour that God sent and built a farm of his own. His wife, children and, later, his grandchildren joined in these endeavours, securing a future for the next generation—or so they thought. Because just as Nigel, who's now in his 80s, allowed himself to dream of stepping back and hanging up his wellies, and watching with quiet pride as his family carried out his life's work, and continued it, to feed this country, that dream was shattered by the UK Government's hammer-blow decision to tax more family farms by making changes to inheritance tax. So, First Minister, can I ask you: what do you have to say to Nigel, and thousands like him across Wales, who now see their children and grandchildren robbed of a future in the farming industry that they love?
Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf oll, Prif Weinidog, groesawu datganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw ynglŷn ag Wcráin? Fel chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig hyn yn sefyll yn gwbl gadarn y tu ôl i Wcráin yn wyneb ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar ei thiriogaeth sofran, ac ni fydd hynny'n pallu.
Prif Weinidog, ymwelais ddoe â Nigel, ffermwr yn sir Fynwy. Heb ddim ond penderfyniad, dechreuodd gyda phlot wedi'i rentu, gweithiodd bob un awr a oedd ar gael ac adeiladodd fferm ei hun. Ymunodd ei wraig, ei blant ac, yn ddiweddarach, ei wyrion a'i wyresau yn yr ymdrechion hyn, gan sicrhau dyfodol i'r genhedlaeth nesaf—neu felly roedden nhw'n meddwl. Oherwydd ar yr union adeg y gwnaeth Nigel, sydd bellach yn ei 80au, ganiatáu i'w hun freuddwydio am gamu yn ôl a rhoi ei esgidiau glaw yn y cwpwrdd, a gwylio gyda balchder tawel wrth i'w deulu wneud gwaith ei fywyd, a'i barhau, i fwydo'r wlad hon, cafodd y freuddwyd honno ei chwalu gan benderfyniad cwbl ddinistriol Llywodraeth y DU i drethu mwy o ffermydd teuluol trwy wneud newidiadau i dreth etifeddiant. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi: beth sydd gennych chi i'w ddweud wrth Nigel, a miloedd tebyg iddo ledled Cymru, sydd bellach yn gweld eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau yn cael dyfodol yn y diwydiant ffermio y maen nhw'n ei garu yn cael ei ddwyn oddi wrthynt?

Thanks very much. Well, as you're aware, inheritance tax is a reserved tax, which is overseen by the UK Government. They've taken some very tough decisions as a part of their budget as a result of the legacy left to us by 14 years of Tory Government. Now, what I can tell you is that the Deputy First Minister has had very constructive conversations with the farmers unions, has made sure that the farmers unions of Wales have been able to make representations directly to the Treasury, and I know that he's very keen to make sure that he follows up on those conversations.
Diolch yn fawr iawn. Wel, fel y gwyddoch chi, mae treth etifeddiant yn dreth a gadwyd yn ôl, sy'n cael ei goruchwylio gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn yn rhan o'u cyllideb o ganlyniad i'r etifeddiaeth a adawyd i ni gan 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn gyda'r undebau ffermwyr, wedi gwneud yn siŵr bod undebau ffermwyr Cymru wedi gallu gwneud sylwadau yn uniongyrchol i'r Trysorlys, a gwn ei fod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ei fod yn cymryd camau dilynol ar y sgyrsiau hynny.
First Minister, you were all very quick when there was a UK Conservative Government to leap up and scream about things that were non-devolved matters, yet, on this issue, you've been absolutely silent. It's high time, I think, that your Welsh Labour Government stood up for our Welsh farmers, rather than standing up for the UK Labour Government that is seeking to milk them dry. Now, on this side of the Chamber, we’re absolutely clear: no farmers, no food, no future. A few months ago, when you were asked about changes to inheritance tax on farms, you suggested that it’s only very wealthy people that would have to pay, but both you and I know that that is absolutely not the case. Farmers have had to borrow, beg and invest—often lending—significant sums, millions of pounds, to keep their businesses running. And that’s not because they want to; they have no choice if they’re going to survive. And they’ve done so whilst being absolutely clobbered by your Welsh Government’s Wales-wide nitrate vulnerable zones, your botched sustainable farming scheme, and a failure to get to grips with the challenge and scourge of bovine TB in our countryside. And now, to add insult to injury, Rachel Reeves stands ready with her calculator to fleece them once again, in spite of a pre-election promise not to change agricultural property relief. First Minister, will you now apologise to Welsh farmers for that broken promise, and what action are you going to take to fix this problem?
Prif Weinidog, roeddech chi i gyd yn gyflym iawn pan oedd Llywodraeth Geidwadol yn y DU i neidio i fyny a sgrechian am bethau nad oedden nhw'n faterion wedi'u datganoli, ond eto, ar y mater hwn, rydych chi wedi bod yn hollol dawel. Mae'n hen bryd, rwy'n credu, i'ch Llywodraeth Lafur Cymru sefyll dros ein ffermwyr yng Nghymru, yn hytrach na sefyll dros Lywodraeth Lafur y DU sy'n ceisio eu godro'n sych. Nawr, ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym ni'n gwbl eglur: dim ffermwyr, dim bwyd, dim dyfodol. Ychydig fisoedd yn ôl, pan ofynnwyd i chi am newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd, fe wnaethoch chi awgrymu mai dim ond pobl gyfoethog iawn fyddai'n gorfod talu, ond rydych chi a minnau'n gwybod yn sicr nad yw hynny'n wir. Bu'n rhaid i ffermwyr fenthyg, ymbil a buddsoddi—benthyca yn aml—symiau sylweddol, miliynau o bunnoedd, i gadw eu busnesau yn weithredol. Ac nid yw hynny oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud hynny; does ganddyn nhw ddim dewis os ydyn nhw'n mynd i oroesi. Ac maen nhw wedi gwneud hynny tra'u bod yn cael eu dyrnu'n llwyr gan barthau perygl nitradau Cymru gyfan eich Llywodraeth Cymru, eich cynllun ffermio cynaliadwy y gwnaed llanast ohono, a methiant i fynd i'r afael â her a phla TB buchol yn ein cefn gwlad. A nawr, i roi halen ar y briw, mae Rachel Reeves yn sefyll yn barod gyda'i chyfrifiannell i'w hysbeilio unwaith eto, er gwaethaf addewid cyn yr etholiad i beidio â newid rhyddhad eiddo amaethyddol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro nawr i ffermwyr Cymru am yr addewid hwnnw a dorrwyd, a pha gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i drwsio'r broblem hon?

First of all, I want to recognise the valuable contribution that agriculture makes to the economy of Wales and to the communities in particular in those rural areas. We have made it clear that they’re Treasury figures. It is an attempt, I think, by the UK Government—it’s up to them to defend their own policy, but they were trying to make sure that those rich investors who were abusing the system actually were not able to take advantage of the tax loopholes that existed in relation to that. Now, I am very aware that we needed to make sure, as a Government, that any changes in relation to inheritance tax and agricultural relief did not impact on the future of sustainable farming in Wales, and I’m very pleased that we got those assurances from the UK Government.
Yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae amaethyddiaeth yn ei wneud at economi Cymru ac at y cymunedau yn yr ardaloedd gwledig hynny yn arbennig. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur mai ffigurau'r Trysorlys ydyn nhw. Mae'n ymgais, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU—mater iddyn nhw yw amddiffyn eu polisi eu hunain, ond roedden nhw'n ceisio gwneud yn siŵr nad oedd y buddsoddwyr cyfoethog hynny a oedd yn camddefnyddio'r system mewn gwirionedd yn gallu manteisio ar y bylchau treth a oedd yn bodoli o ran hynny. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni wneud yn siŵr, fel Llywodraeth, nad oedd unrhyw newidiadau o ran treth etifeddiant a rhyddhad amaethyddol yn effeithio ar ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU.
First Minister, I didn’t hear an apology for the broken promise. I don’t think you gave us any clarity on your Welsh Government’s position. And no matter what you try to say in order to spin this issue, the truth is this: these changes are going to cost lives and livelihoods in rural Wales. Just yesterday, I was informed of a tragic case of a farmer who was diagnosed with terminal cancer just shortly after the budget last October. He was so concerned about the implications of the inheritance tax changes for him and his farm that he decided to decline all treatment because he wanted to ensure that he died before the changes are implemented in April. That is an absolute tragedy. He passed away just days ago. Do not underestimate the distress that many farmers in Wales are in as a result of this particular policy. It’s no wonder that some of your own party members in Westminster, your own Welsh Labour MPs, are distancing themselves from this policy and opposing it. At least they’ve got some guts. Now, for the sake of clarity, I want to ask you a straightforward question: can you tell us, do you and your Welsh Government support the inheritance tax changes for Welsh family farms—yes or no?
Prif Weinidog, ni chlywais ymddiheuriad am yr addewid a dorrwyd. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi rhoi unrhyw eglurder i ni ynghylch safbwynt eich Llywodraeth Cymru. Ac ni waeth beth rydych chi'n ceisio ei ddweud er mwyn sbinio'r mater hwn, y gwir amdani yw hyn: mae'r newidiadau hyn yn mynd i gostio bywydau a bywoliaethau yng nghefn gwlad Cymru. Dim ond ddoe, cefais fy hysbysu am achos trasig o ffermwr a gafodd ddiagnosis o ganser terfynol yn fuan ar ôl y gyllideb fis Hydref diwethaf. Roedd mor bryderus am oblygiadau'r newidiadau i'r dreth etifeddiant iddo ef a'i fferm iddo benderfynu gwrthod pob triniaeth oherwydd ei fod eisiau sicrhau ei fod yn marw cyn i'r newidiadau gael eu gweithredu ym mis Ebrill. Mae hynny'n drasiedi lwyr. Bu farw ychydig ddyddiau yn unig yn ôl. Peidiwch â bychanu'r gofid y mae llawer o ffermwyr yng Nghymru yn ei ddioddef o ganlyniad i'r polisi penodol hwn. Nid yw'n syndod bod rhai o aelodau eich plaid eich hun yn San Steffan, eich ASau Llafur Cymru eich hun, yn ymbellhau oddi wrth y polisi hwn ac yn ei wrthwynebu. Mae ganddyn nhw ychydig o ddewrder o leiaf. Nawr, at ddiben eglurder, hoffwn ofyn cwestiwn syml i chi: a allwch chi ddweud wrthym ni, a ydych chi a'ch Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r newidiadau i dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol Cymru—ydych neu nac ydych?

This is a matter that is reserved to the United Kingdom Government. What I can tell you is I recognise that this is causing anxiety in the agricultural community, and that’s why we will continue putting significant support into supporting people with their mental health and well-being. We’ve also put substantial money into Farming Connect to make sure that people can look to how they can pass things on to the next generation. But what I can tell you is, in the budget that we’ll be voting on today, there will be £350 million for agricultural support, and you will be voting against it. Don’t come to me and say that you’re speaking up for the agricultural community, because, if it doesn’t go through today, you will have to account to them, because that money will be cut.
Mae hwn yn fater sydd wedi ei gadw yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cydnabod bod hyn yn achosi pryder yn y gymuned amaethyddol, a dyna pam y byddwn ni'n parhau i roi cymorth sylweddol i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl a'u llesiant. Rydym ni hefyd wedi rhoi arian sylweddol i Cyswllt Ffermio i wneud yn siŵr y gall pobl edrych ar sut y gallan nhw drosglwyddo pethau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw y bydd £350 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol yn y gyllideb y byddwn ni'n pleidleisio arni heddiw, a byddwch chi'n pleidleisio yn ei herbyn. Peidiwch â dod ataf i a dweud eich bod chi'n codi llais dros y gymuned amaethyddol, oherwydd, os na fydd yn cael ei phasio heddiw, bydd yn rhaid i chi fod yn atebol iddyn nhw, oherwydd bydd yr arian hwnnw'n cael ei dorri.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r adroddiad cynnydd heddiw mewn perthynas â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, tra'n cofio, wrth gwrs, mai'r cyd-destun ydy bod yna bron i 10 mlynedd ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig. Ers hynny, mae pedwar Gweinidog iechyd Llafur wedi ceisio a methu sicrhau bod y bwrdd yn gallu gweithredu heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does yna'r un bwrdd iechyd ym Mhrydain wedi bod dan oruchwyliaeth fel hyn am mor hir. Ond pan oedd y bwrdd yn methu yn ôl yn 2023, mi ddywedodd y Prif Weinidog, tra roedd yn Weinidog iechyd, nad ei chyfrifoldeb hi oedd cael gafael cadarn ar bethau, gan bwyntio bys at benaethiaid y bwrdd iechyd. Mi gafodd wared ar y bwrdd ei hun. Felly, dwy flynedd yn ddiweddarach, ac efo pethau'n dal i symud, yn anffodus, yn y cyfeiriad anghywir mewn sawl maes—ac yng ngeiriau yr adroddiad heddiw,
'mae meysydd o fregusrwydd parhaus o hyd'—
ydy’r Prif Weinidog yn derbyn cyfrifoldeb erbyn hyn, neu a ydy hi'n parhau i bwyntio bys at eraill?
Thank you, Llywydd. I welcome the progress report in relation to Betsi Cadwaladr health board, whilst bearing in mind, of course, that the context is that it's been almost 10 years since the board was placed in special measures. Since then, four Labour health Ministers have tried and failed to ensure that the board can operate without Government intervention. No other health board in Britain has been under such supervision for so long. But when the board was failing back in 2023, the First Minister, who was health Minister at the time, said that it wasn't her responsibility to get a firm grip on things, pointing the finger at the heads of the health board. She scraped the board itself. So, two years later, and with things still, unfortunately, moving in the wrong direction in many areas—and in the words of today's report,
'there are areas of continuing fragility'—
does the First Minister accept responsibility now, or is she continuing to point the finger at others?

Well, he clearly doesn’t understand how the structure of the NHS works in Wales. We set out the strategic direction of travel, we give the money, and it is up to the health boards to determine how that should be spent, in accordance with the health priority needs in their areas. And I don’t think it’s fair to say that things haven’t improved in Betsi.
Let me just give you some examples: if you look at local primary mental health support services, they were in a difficult situation. But by today, 88 per cent of people are being seen within the 28-day target. That is a huge and significant difference, compared to where we were before. Over the last 12 months, there’s been a 21 per cent reduction in two-year trauma and orthopaedics, and that is before we bring on the new orthopaedic centre based in Llandudno. The number of pathways of care delayed discharges decreased by almost 10 per cent, when compared to the same month last year.
So, it’s not fair to say that things aren’t improving in Betsi; they are improving. We never said it was going to be done overnight. And it is absolutely right, and I stand by the fact, that the health board, the non-executive members, were dismissed, because, actually, we are seeing a change in the system now.
Wel, mae'n amlwg nad yw'n deall sut mae strwythur y GIG yn gweithio yng Nghymru. Rydym ni'n nodi'r cyfeiriad teithio strategol, rydym ni'n rhoi'r arian, a mater i'r byrddau iechyd yw penderfynu sut y dylid gwario hwnnw, yn unol ag anghenion blaenoriaeth iechyd yn eu hardaloedd. Ac nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw pethau wedi gwella yn Betsi.
Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi: os edrychwch chi ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, roedden nhw mewn sefyllfa anodd. Ond erbyn heddiw, mae 88 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed o 28 diwrnod. Mae hwnnw'n wahaniaeth enfawr a sylweddol, o'i gymharu â lle'r oeddem ni gynt. Dros y 12 mis diwethaf, bu gostyngiad o 21 y cant i drawma ac orthopaedeg dwy flynedd, ac mae hynny cyn i ni gyflwyno'r ganolfan orthopedig newydd yn Llandudno. Gostyngodd nifer yr achosion o ryddhad gohiriedig llwybrau gofal bron i 10 y cant, o'i gymharu â'r un mis y llynedd.
Felly, nid yw'n deg dweud nad yw pethau'n gwella yn Betsi; maen nhw'n gwella. Ni wnaethon ni erioed ddweud ei fod yn mynd i gael ei wneud dros nos. Ac mae'n gwbl gywir, ac rwy'n cadw at y ffaith honno, bod y bwrdd iechyd, yr aelodau anweithredol, wedi cael eu diswyddo, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld newid yn y system nawr.
It’s disappointing to hear the First Minister take the attitude that, 'It's nothing to do with me.' Yes, of course, there are examples of progress, though progress is slow. And that progress we can see around governance, for example, that is to be welcomed. But today’s progress report is also very clear that operational performance—I’m quoting here—is
'an area of challenge for the health board',
and,
'more focus and action is needed to deliver timely access to care for people across north Wales.'
Waits of over 52 weeks are up by over 2,000; 2,000 more hours have been lost because of delays in ambulance handovers; and fewer accident and emergency patients are seen within the target time. What patients want to see are those operational improvements—steady, sustainable improvements. Special measures should be a backstop, an emergency backstop, rather than the norm. And we want a health service, frankly, don’t we, that performs normally.
The First Minister knows that Plaid Cymru have published our plans. But given a decade of intervention, given those continued and, in some cases, worsening elements of performance, when does the First Minister believe that that normally performing health service will emerge in the north of Wales?
Mae'n siomedig clywed y Prif Weinidog yn cymryd yr agwedd, 'Nid yw'n ddim i'w wneud â mi.' Oes, wrth gwrs, mae enghreifftiau o gynnydd, er bod cynnydd yn araf. A'r cynnydd hwnnw y gallwn ni ei weld ynghylch llywodraethu, er enghraifft, mae hwnnw i'w groesawu. Ond mae'r adroddiad ar gynnydd heddiw hefyd yn eglur iawn bod perfformiad gweithredu—rwy'n dyfynnu yma—yn
'faes heriol i'r bwrdd iechyd',
ac
'mae angen mwy o ffocws a chamau gweithredu i sicrhau mynediad amserol i ofal ar gyfer pobl ledled y gogledd.'
Mae arosiadau o fwy na 52 wythnos wedi cynyddu dros 2,000; collwyd 2,000 yn rhagor o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys; ac mae llai o gleifion damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Yr hyn y mae cleifion eisiau ei weld yw'r gwelliannau gweithredu hynny—gwelliannau cyson, cynaliadwy. Dylai mesurau arbennig fod yn opsiwn olaf, opsiwn olaf mewn argyfwng, yn hytrach na'r norm. Ac rydym ni eisiau gwasanaeth iechyd, a dweud y gwir, onid ydym ni, sy'n perfformio'n normal.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi cyhoeddi ein cynlluniau. Ond o gofio degawd o ymyrraeth, o gofio'r elfennau perfformiad parhaus ac, mewn rhai achosion, sy'n gwaethygu hynny, pryd mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd y gwasanaeth iechyd sy'n perfformio'n normal yn dod i'r amlwg yn y gogledd?

Well, I just think it's nonsense to say, 'Nothing to do with us'; we've never said that. But what I can tell you is that operational work is up to the health board itself, and our role is to make sure that we appoint people to the board. I'm very pleased that we've got a very good chair in Betsi Cadwaladr health board and an excellent board to support him. What we have seen are significant improvements when it comes to governance. Of course, we’ve got a long way to go when it comes to operational improvements, but, as I quoted to you, there are improvements when it comes to operational work as well. And you talk about Plaid Cymru’s plans: there was nothing original in your plans. We were doing all of those things already.
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n nonsens dweud, 'Dim byd i'w wneud â ni'; nid ydym ni erioed wedi dweud hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai mater i'r bwrdd iechyd ei hun yw gwaith gweithredu, a'n swyddogaeth ni yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n penodi pobl i'r bwrdd. Rwy'n falch iawn bod gennym ni gadeirydd da iawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd rhagorol i'w gefnogi. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gwelliannau sylweddol o ran llywodraethu. Wrth gwrs, mae gennym ni ffordd bell i fynd o ran gwelliannau gweithredu, ond, fel y dyfynnais i chi, mae gwelliannau o ran gwaith gweithredu hefyd. Ac rydych chi'n sôn am gynlluniau Plaid Cymru: doedd dim byd gwreiddiol yn eich cynlluniau. Roeddem ni'n gwneud yr holl bethau hynny eisoes.
Says the First Minister, who spent a whole summer talking to people throughout Wales and hearing back that health is a priority. I think that’s pretty obvious too.
I’d like to turn, if I can, to global events to finish. At the United Nations, in September, Keir Starmer promised that the UK would be a leading contributor to development. But, five months on, he slashes international aid to its lowest level this century, and remember we’re talking about budgets that keep people, that keep children, alive, in many cases. We live in an interconnected and interdependent world, and for us in Plaid Cymru, protecting the international aid budget is something that appeals to both the head and the heart. It’s the right thing to do, as one of the wealthiest nations on earth. Whilst working to eradicate poverty at home, of course, we should help others too. But strategically, as the principled Labour MP, Anneliese Dodds, set out when resigning as international development Minister last week:
'The cut will also likely lead to a UK pull-out from numerous...nations at a time when Russia has been aggressively increasing its global presence.'
Cutting international influence will be costly. Now whilst the First Minister, I'm sure, will agree with me that the debate around increased defence spending has taken on a new significance in light of the new global context, does she also agree with me that that shouldn't be at the expense of international aid, and that the international aid budget cut announced by Keir Starmer should be reversed?
Meddai'r Prif Weinidog, a dreuliodd haf cyfan yn siarad â phobl ledled Cymru ac yn clywed bod iechyd yn flaenoriaeth. Rwy'n credu bod hynny'n weddol amlwg hefyd.
Hoffwn droi, os caf i, at ddigwyddiadau byd-eang i gloi. Yn y Cenhedloedd Unedig, ym mis Medi, addawodd Keir Starmer y byddai'r DU yn gyfrannwr blaenllaw at ddatblygiad. Ond, bum mis yn ddiweddarach, mae'n torri cymorth rhyngwladol i'w lefel isaf y ganrif hon, a chofiwch ein bod ni'n sôn am gyllidebau sy'n cadw pobl, sy'n cadw plant, yn fyw, mewn llawer o achosion. Rydym ni'n byw mewn byd rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol, ac i ni ym Mhlaid Cymru, mae diogelu'r gyllideb cymorth rhyngwladol yn rhywbeth sy'n apelio i'r pen ac i'r galon. Dyma'r peth iawn i'w wneud, fel un o'r gwledydd mwyaf cyfoethog ar y ddaear. Tra ein bod yn gweithio i ddileu tlodi gartref, wrth gwrs, dylem ni helpu eraill hefyd. Ond yn strategol, fel y nododd yr AS Llafur egwyddorol, Anneliese Dodds, wrth ymddiswyddo fel Gweinidog datblygu rhyngwladol yr wythnos diwethaf:
'Mae'n debygol hefyd y bydd y toriad yn arwain at y DU yn tynnu allan o nifer o...wledydd ar adeg pan fo Rwsia wedi bod yn cynyddu ei phresenoldeb byd-eang yn frwd.'
Bydd torri dylanwad rhyngwladol yn gostus. Nawr, er y bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod y ddadl ynghylch cynnydd i wariant amddiffyn wedi datblygu arwyddocâd newydd yng ngoleuni'r cyd-destun byd-eang newydd, a yw hi hefyd yn cytuno â mi na ddylai hynny fod ar draul cymorth rhyngwladol, ac y dylid gwrthdroi'r toriad i'r gyllideb cymorth rhyngwladol a gyhoeddwyd gan Keir Starmer?

Well, thanks very much. I think the Prime Minister made it very clear that he thought, as I think we would all agree, that it was an incredibly difficult decision for him to cut that overseas development budget, but the first duty of a Government is to keep people safe, and the fact is that the world has just changed very significantly. And we have to recognise, I think, that we do need, as I made clear in the statement today, and we want to stand by and with the people of Ukraine, particularly now that the USA have suspended their support.
Europe has depended to a large extent for cover on defence from the US for a long time, and there's no assurance that that will continue. So, my question to you is: if you don't cut it from there, where would you cut, because you never give an answer to these things?
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n eglur iawn ei fod yn meddwl, fel yr wyf i'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno, ei fod yn benderfyniad eithriadol o anodd iddo dorri'r gyllideb datblygu rhyngwladol honno, ond dyletswydd gyntaf Llywodraeth yw cadw pobl yn ddiogel, a'r ffaith yw bod y byd newydd newid yn sylweddol iawn. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod, rwy'n credu, bod angen i ni, fel y dywedais i yn eglur yn y datganiad heddiw, a'n bod ni eisiau sefyll wrth a gyda phobl Wcráin, yn enwedig nawr bod yr Unol Daleithiau wedi gohirio eu cymorth.
Mae Ewrop wedi dibynnu i raddau helaeth am gymorth wrth gefn o ran amddiffyn gan yr Unol Daleithiau ers amser maith, ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd hynny'n parhau. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: os nad ydych chi'n ei dorri o'r fan honno, ble fyddech chi'n torri, oherwydd nid ydych chi byth yn rhoi ateb i'r pethau hyn?
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant gwyrdd yn Nelyn? OQ62411
3. How is the Welsh Government supporting the green industry in Delyn? OQ62411

The Welsh Government's economic mission focuses on the green economy as one of our four priority areas, aiming to create a stronger economy through sustainable practices and investments that will drive our transition to a circular economy, whilst accelerating decarbonisation in Delyn and throughout Wales.
Mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar yr economi werdd fel un o'n pedwar maes blaenoriaeth, gyda'r nod o greu economi gryfach trwy arferion a buddsoddiadau cynaliadwy a fydd yn ysgogi ein trosglwyddiad i economi gylchol, gan gyflymu datgarboneiddio yn Delyn a ledled Cymru.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog.
Thank you for your response, First Minister.
Since first being elected, I've met with and worked to make the case for the potential of the port of Mostyn in my constituency. Mostyn is actually the birthplace of the UK's offshore renewable energy sector, leading the way in the construction of commercial windfarms and the sector continues to do so with the recent announcement giving the go-ahead to build a new berth to cater for the next generation of much larger floating offshore wind turbines. The construction phase will create 130 jobs, and 300 permanent ones will hopefully follow in the operational phase.
The communities I serve have a proud industrial heritage, from coal to steel to iron. In fact, part of the port of Mostyn site sits on the old site of Mostyn ironworks, where my taid first worked before moving down the road to Point of Ayr colliery. So, we're proud of our past, but my constituency and the coast of north Wales has real potential to be at the forefront of future industry and the green industrial revolution, and to do so in a way that brings multiple benefits for the economy, local communities and for the country.
I understand that Jim O'Toole, the chief executive officer of the port of Mostyn, will be joining you at a round-table in Brussels tomorrow and will be setting out the port's development and the pivotal part it plays in my corner of the country. So, First Minister, will you, too, join us in recognising the potential of the port of Mostyn and north Wales? And, importantly, how is the Welsh Government committed to working with industry, education providers and trade union partners to ensure that this investment brings both decent jobs for the people of the area, but also that the workforce of the future are able to develop the skills that could unlock their potential too? Diolch.
Ers cael fy ethol gyntaf, rwyf i wedi cyfarfod ac wedi gweithio i wneud y ddadl dros botensial porthladd Mostyn yn fy etholaeth i. Mostyn mewn gwirionedd yw man geni sector ynni adnewyddadwy ar y môr y DU, gan arwain y ffordd o ran adeiladu ffermydd gwynt masnachol ac mae'r sector yn parhau i wneud hynny gyda'r cyhoeddiad diweddar yn rhoi sêl bendith i adeiladu angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol llawer mwy. Bydd y cyfnod adeiladu yn creu 130 o swyddi, a'r gobaith yw y bydd 300 o rai parhaol yn dilyn yn y cyfnod gweithredu.
Mae gan y cymunedau yr wyf i'n eu gwasanaethu dreftadaeth ddiwydiannol falch, o lo i ddur i haearn. Yn wir, mae rhan o safle porthladd Mostyn wedi'i lleoli ar hen safle gwaith haearn Mostyn, lle gwnaeth fy nhaid weithio gyntaf cyn symud i lawr y ffordd i bwll glo y Parlwr Du. Felly, rydym ni'n falch o'n gorffennol, ond mae gan fy etholaeth i ac arfordir y gogledd botensial gwirioneddol i fod ar flaen y gad o ran diwydiant y dyfodol a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n dod â manteision lluosog i'r economi, i gymunedau lleol ac i'r wlad.
Rwy'n deall y bydd Jim O'Toole, prif swyddog gweithredol porthladd Mostyn, yn ymuno â chi mewn cyfarfod bord gron ym Mrwsel yfory a bydd yn nodi datblygiad y porthladd a'r rhan ganolog y mae'n ei chwarae yn fy nghornel i o'r wlad. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chithau, hefyd, ymuno â ni i gydnabod potensial porthladd Mostyn a'r gogledd? Ac, yn bwysig, sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda diwydiant, darparwyr addysg a phartneriaid undebau llafur i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn dod â swyddi gwerth chweil i bobl yr ardal, ond hefyd bod gweithlu'r dyfodol yn gallu datblygu'r sgiliau a allai ddatgloi eu potensial hwythau hefyd? Diolch.

Well, diolch yn fawr iawn. This, of course, is very much in keeping with those four key priority areas, one of which, of course, was securing green jobs and growth, and the port of Mostyn is stepping up to our plans in relation to that. And I, of course, welcome the potential for 130 construction jobs, 300 permanent jobs, and that demonstrates commitment to the green economy here in Wales. And of course, that was partly because of the engagement work that happened between the port and Natural Resources Wales, which allowed them to access a marine works licence, which meant that the company can now build a 350m quay and reclaim 13 acres of operational land behind it. So, I very much welcome this announcement and very much look forward to meeting Jim tomorrow in Brussels.
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyd-fynd yn llwyr â'r pedwar maes blaenoriaeth allweddol hynny, ac un ohonyn nhw, wrth gwrs, oedd sicrhau swyddi a thwf gwyrdd, ac mae porthladd Mostyn yn camu ymlaen i'n cynlluniau yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu'r potensial ar gyfer 130 o swyddi adeiladu, 300 o swyddi parhaol, ac mae hynny'n dangos ymrwymiad i'r economi werdd yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, roedd hynny'n rhannol oherwydd y gwaith ymgysylltu a ddigwyddodd rhwng y porthladd a Cyfoeth Naturiol Cymru, a ganiataodd iddyn nhw gael mynediad at drwydded gwaith morol, a oedd yn golygu y gall y cwmni adeiladu bellach cei 350 medr ac adennill 13 erw o dir gweithredu y tu ôl iddo. Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â Jim yfory ym Mrwsel.
The port of Mostyn and its tenacious managing director, Jim, who is known to many of us, are to be congratulated on their announcement of a new berth to cater for the next generation of larger floating offshore wind turbines and on their purchase of the adjoining former Warwick International site, as we've heard, creating opportunities for investment, growth and jobs.
Of course, energy security requires sustainable back-up for weather-based energy. The new HyNet carbon capture pipeline, critical to plans for the Parc Adfer energy-from-waste facility at Deeside industrial park, the cement works in Padeswood and the Connah's Quay low-carbon power station project, will run to nearby Talacre beach. The port of Mostyn has also led calls for a tidal lagoon stretching from Mostyn to Point of Ayr in Flintshire. Further, Pembroke Dock is hosting both floating offshore wind turbines and the green hydrogen facility, powered by renewable energy sources, for the transport and construction industries. What consideration have you therefore given to supporting Mostyn and surrounding areas as a hub for marine energy and engineering? And critically, how will you ensure involvement and benefit for local communities?
Mae porthladd Mostyn a'i reolwr gyfarwyddwr dygn, Jim, y mae llawer ohonom ni'n ei adnabod, i'w llongyfarch ar eu cyhoeddiad o angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol mwy ac am brynu hen safle cyfagos Warwick International, fel yr ydym ni wedi clywed, gan greu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad, twf a swyddi.
Wrth gwrs, mae diogeledd ynni yn gofyn am opsiwn wrth gefn cynaliadwy ar gyfer ynni sy'n seiliedig ar y tywydd. Bydd piblinell dal carbon newydd HyNet, sy'n hanfodol i gynlluniau ar gyfer cyfleuster ynni o wastraff Parc Adfer ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y gwaith sment yn Padeswood a phrosiect gorsaf bŵer carbon isel Cei Connah, yn rhedeg i draeth cyfagos Talacre. Mae porthladd Mostyn hefyd wedi arwain galwadau am forlyn llanw yn ymestyn o Fostyn i'r Parlwr Du yn sir y Fflint. Hefyd, mae Doc Penfro yn gartref i dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol a'r cyfleuster hydrogen gwyrdd, wedi'i bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, ar gyfer y diwydiannau trafnidiaeth ac adeiladu. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi, felly, i gefnogi Mostyn a'r cyffiniau fel canolfan ar gyfer ynni a pheirianneg forol? Ac yn hollbwysig, sut wnewch chi sicrhau cyfranogiad a budd i gymunedau lleol?

Thanks very much. I am delighted to see that development, and I look forward to meeting this Jim—he sounds like an absolute legend, up there in the port of Mostyn—because part of what he's interested in doing is the fabrication and assembling of wind turbine structures and the supporting services, and that is something I know that you, Mark, also welcome.
You talked about the HyNet project, and of course that's a cross-border project, which is being worked along with the Deeside decarbonisation forum. I think these are really important developments and it has real potential for the development of hydrogen hubs across north Wales. We need to make sure that we take advantage of that, but also make sure we've got the skills to come behind it, and that people are working with our further education colleges and our universities to make sure we have people with the skills available to take advantage of these new opportunities.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o weld y datblygiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Jim yma—mae'n swnio fel arwr llwyr, i fyny ym mhorthladd Mostyn—oherwydd rhan o'r hyn y mae ganddo ddiddordeb yn ei wneud yw adeiladu a chydosod strwythurau tyrbinau gwynt a'r gwasanaethau ategol, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn eich bod chi, Mark, yn ei groesawu hefyd.
Fe wnaethoch chi sôn am brosiect HyNet, ac wrth gwrs mae hwnnw'n brosiect trawsffiniol, sy'n cael ei weithio ochr yn ochr â fforwm datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau pwysig iawn ac mae ganddo botensial gwirioneddol ar gyfer datblygu hybiau hydrogen ar draws y gogledd. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar hynny, ond hefyd gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sgiliau i'w gefnogi, a bod pobl yn gweithio gyda'n colegau addysg bellach a'n prifysgolion i wneud yn siŵr bod gennym ni bobl sydd â'r sgiliau ar gael i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn.
Thank you, Llywydd. It's great that RWE are working with Rhyl college on wind turbine maintenance apprenticeship programmes, which will be much needed. It's a really good facility. Jim O'Toole from Mostyn has said that we also need marine skills for the transfer vessels, and there's a big shortage in that, and he's hoping that he could have a unit on the site, and he's willing to work with a local college to give students proper practical skills, because there's nothing like learning on the job there. First Minister, would you agree that colleges need a clear vision and guidance to effectively meet the needs of employers and individuals going forward?
Diolch, Llywydd. Mae'n wych bod RWE yn gweithio gyda choleg y Rhyl ar raglenni prentisiaeth cynnal a chadw tyrbinau gwynt, y bydd wir eu hangen. Mae'n gyfleuster da iawn. Mae Jim O'Toole o Fostyn wedi dweud ein bod ni angen sgiliau morol hefyd ar gyfer y llongau trosglwyddo, ac mae prinder mawr o ran hynny, ac mae'n gobeithio y gallai gael uned ar y safle, ac mae'n barod i weithio gyda choleg lleol i roi sgiliau ymarferol priodol i fyfyrwyr, oherwydd does dim byd tebyg i ddysgu yn y swydd yno. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod angen gweledigaeth a chanllawiau eglur ar golegau i ddiwallu anghenion cyflogwyr ac unigolion yn effeithiol yn y dyfodol?

Thanks very much. And of course that is the intention of the regional skills partnership boards. They should be making sure that they are listening to people like Jim O'Toole, coming back to the colleges, and making sure that that is being delivered. I think we've got a bit more work to do to tighten up the relationship between the needs of businesses and the provision of courses in Wales.
Diolch yn fawr. Ac wrth gwrs dyna fwriad y byrddau partneriaeth sgiliau rhanbarthol. Dylen nhw fod yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ar bobl fel Jim O'Toole, yn dod yn ôl i'r colegau, ac yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gyflawni. Rwy'n credu bod gennym ychydig mwy o waith i'w wneud i dynhau'r berthynas rhwng anghenion busnesau a darparu cyrsiau yng Nghymru.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar argaeledd triniaeth ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ62408
4. Will the First Minister provide an update on the availability of NHS dental treatment in North Wales? OQ62408

Yn y flwyddyn 2023-24, roedd 117 o gontractau deintyddol yn gweithredu ar draws 83 o leoliadau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
In 2023-24, there were 117 dental contracts operating across 83 locations in the Betsi Cadwaladr University Health Board area.
Wel, Brif Weinidog, dyma ni, wythnos arall a chytundeb deintyddol NHS arall yn cael ei roi yn ôl, yn Ninbych y tro yma—y seithfed o fewn dim ond cwpwl o fisoedd, a hynny ar fyr rybudd. Mae'r cytundeb yn dod i ben ar 1 Ebrill, sy'n golygu bod yna lai na mis gan drigolion i ffeindio gwasanaeth amgen, a rheini wrth gwrs yn cael eu hychwanegu at y miloedd eraill sydd wedi cael eu hamddifadu o wasanaeth deintyddol o dan yr NHS yn ddiweddar.
Well, First Minister, here we are, another week and another NHS dental contract handed back, in Denbigh this time—the seventh within just a few months, and this one at short notice. The agreement comes to an end on 1 April, which means that residents have less than a month to find alternative services, and those are added to the thousands of others who have been deprived of dental services under the NHS recently.
You'll be very aware that in a scathing recent statement, the British Dental Association accused your Government of 'spin', 'half-truths' and 'doublespeak' on dentistry, and they went on to say,
'Minsters claim investment and patient numbers are breaking records. The reality is that investment in dentistry has stalled, and numbers of patients seen in a year remain depressed by 30% compared to 2019 figures.'
So, will you admit that the current situation is unacceptable and indeed quite shambolic? And what do you say to my constituents in Denbigh, in Rhos-on-Sea, in Colwyn Bay, in Valley, in Coedpoeth, in Buckley, in Llandudno, all of whom have lost their NHS dentists under your Government and are not able to access a dentist on the NHS? And all of those are across north Wales, and they've all given their contracts back in the last couple of months.
Byddwch yn ymwybodol iawn, mewn datganiad deifiol diweddar, bod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi cyhuddo eich Llywodraeth o 'sbin', 'hanner gwirioneddau' a 'siarad dwbl' ar ddeintyddiaeth, ac aethon nhw ymlaen i ddweud,
'Mae Gweinidogion yn honni bod buddsoddiad a niferoedd cleifion ar eu huchaf erioed. Y gwir amdani yw bod buddsoddiad mewn deintyddiaeth wedi arafu, ac mae nifer y cleifion a welwyd mewn blwyddyn yn parhau i fod 30% yn is o gymharu â ffigurau 2019.'
Felly, a wnewch chi gyfaddef bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol ac yn eithaf anhrefnus, yn wir? A beth ydych chi'n ei ddweud wrth fy etholwyr yn Ninbych, yn Llandrillo-yn-Rhos, ym Mae Colwyn, yn y Fali, yng Nghoedpoeth, ym Mwcle, Llandudno, y mae pob un ohonyn nhw wedi colli deintyddion y GIG o dan eich Llywodraeth ac nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at ddeintydd ar y GIG? Ac mae'r rheini i gyd ar draws y gogledd, ac maen nhw i gyd wedi rhoi eu contractau yn ôl yn ystod y mis neu ddau ddiwethaf.

Wel, dwi'n meddwl bod e'n werth cydnabod bod 63,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers 2022, yn ogystal â’r ffaith fod 15,000 o urgent treatments wedi cael eu gwneud.
Nawr, rŷn ni'n cydnabod bod yna gap, ac mae'n anodd llenwi'r gap yna o ran y tymor byr, ond dwi'n falch i ddweud bod Betsi wedi llwyddo i ailosod y llynedd £1.5 miliwn o ran contractau, ac mae £5 miliwn wrthi'n cael ei gontractio ar hyn o bryd, a bydd hynny yn cael ei fuddsoddi, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n dangos lle mae pethau'n agor ac yn gweithredu'n well.
Well, I think it's worth recognising that 63,000 new patients have received a full course of treatment since 2022, as well as the fact that 15,000 urgent treatments have been made.
Now, we recognise that there is a gap, and it's very difficult to fill that gap in the short term, but I'm pleased to say that Betsi has succeeded in resetting last year £1.5 million in terms of contracts, and there is £5 million being contracted at present, and that will be invested, and I think it's also important that we do show where things are operating better.
We have examples in Amlwch, Connah's Quay, Dolgellau, Caernarfon, Colwyn Bay, where these are new practices that have been rewarded. And let's not forget that when they hand the contract back, that's not the end of it; we re-contract them, we resubmit those programmes, so you don't lose it altogether. And I think it is really important that there is an understanding that we are in that process—£5 million very, very soon about to be determined in Betsi Cadwaladr in relation to dentistry.
Mae gennym ni enghreifftiau yn Amlwch, yng Nghei Connah, yn Nolgellau, yng Nghaernarfon, ym Mae Colwyn, lle mae'r rhain yn bractisau newydd sydd wedi cael eu dyfarnu. A gadewch i ni beidio ag anghofio, pan fyddan nhw'n rhoi'r contract yn ôl, nid dyna'i diwedd hi; rydym ni'n eu hail-gontractio, rydym ni'n ailgyflwyno'r rhaglenni hynny, felly nid ydych chi'n ei golli yn gyfan gwbl. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod dealltwriaeth ein bod ni yn y broses honno—£5 miliwn ar fin cael ei benderfynu yn fuan, fuan iawn yn Betsi Cadwaladr o ran deintyddiaeth.
I'm grateful to Llyr Gruffydd for raising the question here, because he's absolutely right: far too many people in north Wales are unable to access the NHS dentists and NHS dental treatment that they need. And forgive me, First Minister, there seems to be a difference between what you're saying and the potential spin and positive rhetoric that you're attempting to share in this Chamber versus the reality of which residents in north Wales are experiencing week in and week out. They cannot access the NHS dentist that they need, they're not able to have the treatment that they're absolutely desperate to receive, and the BDA, the British Dental Association, as has already been quoted by Llyr Gruffydd, seemed to be correct when they stated that the Welsh Government are peddling half-truths.
So, what is the truth, First Minister? And is the truth that the first step to making change happen is to admit that there's a problem there in the first place? And how will you restore your relationship with the British Dental Association so my residents can access the dental treatment that they need?
Rwy'n ddiolchgar i Llyr Gruffydd am godi'r cwestiwn yma, gan ei fod yn llygad ei le: mae llawer gormod o bobl yn y gogledd yn methu â chael mynediad at ddeintyddion y GIG a thriniaeth ddeintyddol y GIG sydd eu hangen arnyn nhw. A maddeuwch i mi, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod gwahaniaeth rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud a'r sbin posibl a'r rhethreg gadarnhaol yr ydych chi'n ceisio eu rhannu yn y Siambr hon yn erbyn y realiti y mae trigolion y gogledd yn ei wynebu o un wythnos i'r nesaf. Ni allan nhw gael mynediad at ddeintydd y GIG sydd ei angen arnyn nhw, nid ydyn nhw'n gallu cael y driniaeth y maen nhw angen ei dderbyn yn daer, ac mae'n ymddangos bod y BDA, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, fel y dyfynnwyd eisoes gan Llyr Gruffydd, yn gywir pan wnaethon nhw ddweud bod Llywodraeth Cymru yn gwerthu hanner gwirioneddau.
Felly, beth yw'r gwir, Prif Weinidog? Ac ai'r gwir mai'r cam cyntaf tuag at gyflawni newid yw cyfaddef bod problem yno yn y lle cyntaf? A sut wnewch chi adfer eich perthynas â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain fel y gall fy nhrigolion gael mynediad at y driniaeth ddeintyddol sydd ei hangen arnyn nhw?

Well, thanks very much. The truth, let me be clear, is what I told you, but I also recognised in my answer that we recognise that there's a gap that is difficult for us to bridge in the short term. We can't force dentists to work for the NHS, and that's the bottom line. They work independently; that is the way it is. And let me tell you, in relation to the contract, that we have given them last year a 6 per cent increase when it came to their contract, which is not a small amount of an increase, and also we are just about to go out to consult them on a contract that we've been working on for a very long time, and we are hoping that we will be able to move on with a new contract next year that will be acceptable to all parties.
Wel, diolch yn fawr iawn. Y gwir, gadewch i mi fod yn eglur, yw'r hyn a ddywedais i wrthych chi, ond fe wnes i hefyd gydnabod yn fy ateb ein bod ni'n cydnabod bod bwlch sy'n anodd i ni ei bontio yn y byrdymor. Allwn ni ddim gorfodi deintyddion i weithio i'r GIG, a dyna'r ffaith amdani. Maen nhw'n gweithio'n annibynnol; dyna sut y mae hi. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y contract, ein bod ni wedi rhoi codiad o 6 y cant iddyn nhw y llynedd o ran eu contract, nad yw'n swm bach o gynnydd, ac rydym ni hefyd ar fin dechrau ymgynghori â nhw ar gontract yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno ers amser maith, ac rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â chontract newydd y flwyddyn nesaf a fydd yn dderbyniol i bob parti.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau ynysig yn ne-ddwyrain Cymru? OQ62396
5. What is the Welsh Government doing to support isolated communities in south-east Wales? OQ62396

We are supporting isolated communities in Wales in many ways, including work to improve transport connectivity, digital connectivity and access to education.
Rydym ni'n cynorthwyo cymunedau ynysig yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwaith i wella cysylltedd trafnidiaeth, cysylltedd digidol a mynediad at addysg.
Thank you, First Minister. An isolated community, as we know, doesn’t necessarily mean you are cut off, but a bit further away from towns and other settlements—basically remote. Communities like that are all around my constituency, but recently I became aware of an issue where a post box, a simple post box, was allegedly defaced in a rural area. And what was the response to this? Well, it was just taken away without any notice—a vital amenity. Unfortunately, it’s an example of how rural communities feel isolated and disregarded, and if you couple that with the lack of public transport, connections, their roads, access to internet and all of those things we take for granted in more urbanised communities, you can see why they’re so frustrated. So, First Minister, can I ask what more can the Welsh Government do to ensure that isolated communities are given as much support as possible, but to also guarantee that they have access to the vital amenities and other resources so they feel connected and supported?
Diolch, Prif Weinidog. Nid yw cymuned ynysig, fel yr ydym ni'n gwybod, o reidrwydd yn golygu eich bod wedi'ch gwahanu, ond ychydig ymhellach i ffwrdd o drefi ac aneddiadau eraill—anghysbell yn y bôn. Ceir cymunedau fel hyn o gwmpas fy etholaeth i gyd, ond yn ddiweddar fe wnes i ddod yn ymwybodol o fater lle honnwyd bod blwch post, blwch post syml, wedi cael ei ddifrodi mewn ardal wledig. A beth oedd yr ymateb i hyn? Wel, aethpwyd ag ef i ffwrdd heb unrhyw rybudd—amwynder hanfodol. Yn anffodus, mae'n enghraifft o sut mae cymunedau gwledig yn teimlo'n ynysig ac wedi'u diystyru, ac os gwnewch chi gyplysu hynny gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltiadau, eu ffyrdd, mynediad at y rhyngrwyd a'r holl bethau hynny yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol mewn cymunedau mwy trefol, gallwch weld pam maen nhw'n teimlo cymaint o rwystredigaeth. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y rhoddir cymaint o gefnogaeth â phosibl i gymunedau ynysig, ond hefyd i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at yr amwynderau hanfodol ac adnoddau eraill fel eu bod yn teimlo eu bod wedi'u cysylltu a'u cefnogi?

Thanks very much, Peter. I don’t think I'm responsible for post boxes, so I'd suggest you take that up with the appropriate body. But I will answer your broader question, which is in relation to isolated communities, because I do think it is something we have to take very seriously. That's one of the reasons, for example, that we have invested considerable amounts of money in terms of digital connectivity. So, with broadband connectivity, if you think about what we've done over a prolonged period of time, with the Superfast Cymru project, for example, we went from about 45 per cent of homes having broadband to 97 per cent. That's 733,000 people who were helped, and part of that was because the UK Tory Government wasn't doing their job. We had to actually step in. So, we do care about connectivity and those isolated communities, and we do recognise that, today, being connected is fundamental to those areas. But I do hope that you will transmit that to your constituents: that, actually, the Welsh Government stepped in where the Tories failed.
Diolch yn fawr iawn, Peter. Nid wyf i'n credu fy mod i'n gyfrifol am flychau post, felly byddwn yn awgrymu eich bod chi'n codi hynny gyda'r corff priodol. Ond fe wnaf i ateb eich cwestiwn ehangach, sy'n ymwneud â chymunedau ynysig, gan fy mod i'n credu ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif. Dyna un o'r rhesymau, er enghraifft, yr ydym ni wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian o ran cysylltedd digidol. Felly, gyda chysylltedd band eang, os meddyliwch chi am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud dros gyfnod estynedig, gyda phrosiect Cyflymu Cymru, er enghraifft, aethom ni o tua 45 y cant o gartrefi â band eang i 97 y cant. Mae hynny'n 733,000 o bobl a gynorthwywyd, ac roedd rhan o hynny oherwydd nad oedd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud eu gwaith. Roedd yn rhaid i ni gamu i mewn. Felly, mae ots gennym ni am gysylltedd a'r cymunedau ynysig hynny, ac rydym ni'n cydnabod, heddiw, bod â chysylltiad yn hanfodol i'r ardaloedd hynny. Ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi rannu hynny gyda'ch etholwyr: bod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi camu i'r adwy lle methodd y Torïaid.
One of the reasons that people feel isolated in communities across south-east Wales and elsewhere, of course, is because of the impact of the Thatcherite deregulation of buses. Well, the Tories—[Interruption.] The Tories might not like it, but the reality is that communities are not isolated by accident or act of God, they're isolated because of the decisions taken by politicians, and supported by the Conservative Party in this Chamber today.
First Minister, can you tell me when you expect to see the bus Bill published by the Welsh Government so we can start to take control of our connectivity and control of our bus services, and also assure me that there is sufficient money in the budget this afternoon to ensure that we can continue supporting bus services to connect communities in Blaenau Gwent and elsewhere?
Un o'r rhesymau pam mae pobl yn teimlo wedi'u hynysu mewn cymunedau ar draws y de-ddwyrain ac mewn mannau eraill, wrth gwrs, yw oherwydd effaith y dadreoleiddio bysiau Thatcheraidd. Wel, y Torïaid—[Torri ar draws.] Efallai nad yw'r Torïaid yn ei hoffi, ond y gwir amdani yw nad yw cymunedau yn cael eu hynysu drwy ddamwain neu weithred Duw, maen nhw'n cael eu hynysu oherwydd y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion, ac sy'n cael eu cefnogi gan y Blaid Geidwadol yn y Siambr hon heddiw.
Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i pryd y byddwch chi'n disgwyl gweld y Bil bysiau yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni ddechrau cymryd rheolaeth o'n cysylltedd a rheolaeth o'n gwasanaethau bysiau, a hefyd fy sicrhau bod digon o arian yn y gyllideb y prynhawn yma i sicrhau y gallwn ni barhau i gefnogi gwasanaethau bysiau i gysylltu cymunedau ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill?

Thanks very much. I can assure you that the new bus Bill will be introduced imminently, and I do hope that Members in this Chamber, particularly those in rural areas, will actually support the Bill when it comes through, because this is about the Government being able to direct bus companies in a way that they haven't been able to since that deregulation that happened under Thatcher.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau chi y bydd y Bil bysiau newydd yn cael ei gyflwyno'n fuan, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn y Siambr hon, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig, yn cefnogi'r Bil pan ddaw, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn gallu cyfarwyddo cwmnïau bysiau mewn ffordd nad ydyn nhw wedi gallu ei wneud ers y dadreoleiddio hwnnw a ddigwyddodd o dan Thatcher.
6. Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ62389
6. What is the First Minister doing to support young farmers in Brecon and Radnorshire? OQ62389

The Wales Federation of Young Farmers Clubs has received funding of £236,000 from the strategic voluntary youth work organisation grant as well as the Cymraeg 2050 Welsh language promotion grant in 2024-25. The Welsh language grant includes funding of £1,100 to both the Brecknock federation and Radnor federation.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi derbyn cyllid o £236,000 gan y grant sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol strategol yn ogystal â grant hybu'r Gymraeg Cymraeg 2050 yn 2024-25. Mae grant y Gymraeg yn cynnwys cyllid o £1,100 i ffederasiwn Brycheiniog a ffederasiwn Maesyfed.
Thank you, First Minister. Before I start, I'd just like to thank you for that and also to Erwood YFC and Penybont YFC for winning the pantomime competitions respectively over the last couple of weeks.
First Minister, with the removal of agricultural inheritance relief and business property relief threatening the future of family farms across my constituency, young farmers in Brecon and Radnor are left facing an uncertain future. These changes were announced on 30 October last year, the Welsh Conservatives here led a debate on inheritance tax on 27 November, and yet it took the Deputy First Minister until 28 January to write an e-mail to his Westminster colleagues, three months after the Welsh farming unions had raised their concerns about the changes. First Minister, does your Government truly grasp the devastating impact that this delay and inaction will have on our rural communities and our young farmers, and what urgent steps will this Government take now to protect our generational farms from the UK Labour Government's changes and to protect the future of young farmers in Brecon and Radnorshire? You'll probably mention money for schemes, but without our farmers and without those farms there, those schemes aren't worth the paper they're written on.
Diolch, Prif Weinidog. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i chi am hynna a hefyd i CFfI Erwood a CFfI Penybont am ennill y cystadlaethau pantomeim yn y drefn honno dros yr wythnosau diwethaf.
Prif Weinidog, wrth i'r cam o gael gwared ar ryddhad etifeddiaeth amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes fygwth dyfodol ffermydd teuluol ar draws fy etholaeth, mae ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Maesyfed yn wynebu dyfodol ansicr. Cyhoeddwyd y newidiadau hyn ar 30 Hydref y llynedd, arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yma ar dreth etifeddiant ar 27 Tachwedd, ac eto cymerodd tan 28 Ionawr i'r Dirprwy Brif Weinidog ysgrifennu e-bost at ei gydweithwyr yn San Steffan, dri mis ar ôl i undebau ffermio Cymru godi eu pryderon am y newidiadau. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth wir yn deall yr effaith ofnadwy y bydd yr oedi a'r diffyg gweithredu hyn yn ei chael ar ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr ifanc, a pha gamau brys y gwnaiff y Llywodraeth hon eu cymryd nawr i ddiogelu ein ffermydd cenhedlaeth rhag newidiadau Llywodraeth Lafur y DU ac i ddiogelu dyfodol ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? Mae'n debyg y gwnewch chi sôn am arian ar gyfer cynlluniau, ond heb ein ffermwyr a heb y ffermydd hynny yno, nid yw'r cynlluniau hynny'n werth y papur y maen nhw wedi eu hysgrifennu arno.

Thanks very much. I can reassure you that the Deputy First Minister raised this issue in meetings prior to that e-mail being sent, but I can also reassure you that there is a substantial amount of support through Farming Connect for people to go and work out how it is possible to work with the next generation of farmers. Of course, you might write off the sustainable farming scheme. Actually, it's fundamental to the future of farming in this country, and it is important, and I'm really pleased, that we have had those reassurances from the UK Government that that will be respected in relation to inheritance tax.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi codi'r mater hwn mewn cyfarfodydd cyn i'r e-bost hwnnw gael ei anfon, ond gallaf eich sicrhau hefyd bod cryn dipyn o gymorth drwy Cyswllt Ffermio i bobl fynd i weithio allan sut mae'n bosibl gweithio gyda'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Wrth gwrs, efallai y gwnewch chi ddiystyru'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mewn gwirionedd, mae'n hanfodol i ddyfodol ffermio yn y wlad hon, ac mae'n bwysig, ac rwy'n falch iawn, ein bod ni wedi cael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU y bydd hynny'n cael ei barchu o ran treth etifeddiant.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OQ62373
7. Will the First Minister make a statement on the teaching of modern foreign languages in Wales? OQ62373

International languages can play a crucial part in education and present life-changing opportunities to our learners. Our Global Futures plan sets out a clear vision to support international languages in our schools, and we have extended this for a further year to demonstrate our commitment to supporting schools.
Gall ieithoedd rhyngwladol chwarae rhan hanfodol mewn addysg a chynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i'n dysgwyr. Mae ein cynllun Dyfodol Byd-eang yn cyflwyno gweledigaeth eglur i gefnogi ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgolion, ac rydym ni wedi ymestyn hwn am flwyddyn arall i ddangos ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion.
Thank you for that answer, First Minister. We have, however, seen a decline in the numbers studying modern foreign languages in schools in Wales. The most recent figures I have found show that GCSE entries of modern foreign languages in Wales have declined substantially. And at A-level, entries for modern foreign languages have halved since 2001. Several universities have closed their modern foreign languages departments due to declining student numbers. When school pupils choose their GCSE subjects, they only have three, or at most four, options after the mandatory subjects. I suggest to the First Minister that, if we want to halt this decline, we give pupils the choice of single science and double languages, and if the First Minister does not support that option, what is the Welsh Government going to do to increase the number of pupils studying modern foreign languages, because there's only one direction it is going in?
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fodd bynnag, rydym ni wedi gweld gostyngiad i'r niferoedd sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi eu canfod yn dangos bod cofrestriadau TGAU ieithoedd tramor modern yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol. Ac ar Safon Uwch, mae cofrestriadau ar gyfer ieithoedd tramor modern wedi haneru ers 2001. Mae sawl prifysgol wedi cau eu hadrannau ieithoedd tramor modern oherwydd gostyngiad i nifer y myfyrwyr. Pan fydd disgyblion ysgol yn dewis eu pynciau TGAU, dim ond tri opsiwn, neu bedwar ar y mwyaf, sydd ganddyn nhw ar ôl y pynciau gorfodol. Awgrymaf i'r Prif Weinidog, os ydym ni eisiau atal y dirywiad hwn, ein bod yn rhoi'r dewis i ddisgyblion o wyddoniaeth sengl ac ieithoedd dwbl, ac os nad yw'r Prif Weinidog yn cefnogi'r opsiwn hwnnw, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern, oherwydd dim ond i un cyfeiriad y mae'n mynd?

Thanks very much. I'm very aware of the decrease in the number of learners studying international languages in schools in Wales. I think it's got to be recognised that this is part of a very complex picture and it's an issue that's shared across the whole of the United Kingdom. It makes me particularly sad as somebody who studied international languages at university. But we are starting to see some positive indicators. Last year, for example, we saw a 27 per cent increase in learners choosing to study German at GCSE, alongside increases in entries for French, so we are at least heading in a better direction. And the other good news is that we're starting to see performance in these subjects being quite strong in comparison to many other subjects. I know that the modern foreign languages mentoring programme that works with 100 secondary schools across Wales to boost the take-up of languages at GCSE—since around 2015, around 20,000 learners have engaged with that project.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gostyngiad i nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru. Rwy'n credu bod yn rhaid cydnabod bod hyn yn rhan o ddarlun cymhleth iawn ac mae'n broblem sy'n cael ei rhannu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n fy ngwneud i'n arbennig o drist fel rhywun a astudiodd ieithoedd rhyngwladol yn y brifysgol. Ond rydym ni'n dechrau gweld rhai dangosyddion cadarnhaol. Y llynedd, er enghraifft, gwelsom gynnydd o 27 y cant i nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio Almaeneg ar lefel TGAU, ochr yn ochr â chynnydd i nifer y cofrestriadau ar gyfer Ffrangeg, felly rydym ni'n symud i gyfeiriad gwell o leiaf. A'r newyddion da eraill yw ein bod ni'n dechrau gweld perfformiad yn y pynciau hyn yn bod yn eithaf cryf o'i gymharu â llawer o bynciau eraill. Rwy'n gwybod bod y rhaglen fentora ieithoedd tramor modern sy'n gweithio gyda 100 o ysgolion uwchradd ledled Cymru i hybu'r nifer sy'n astudio ieithoedd ar lefel TGAU—ers tua 2015, mae tua 20,000 o ddysgwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect hwnnw.
There is a great partnership, First Minister, running between Swansea University and local schools that sees university students go to a primary and secondary school to ignite young people's passion for languages. This initiative not only benefits the pupils but offers university students an opportunity to make practical use of the skills that they've been taught. It has been very well received and it's something that I would love to see rolled out in my region of South Wales East and the surrounding areas, including Cardiff. But I know that the ambition may not be achievable due to the drastic proposed cuts at Cardiff University, which include stopping teaching foreign language degrees. Equipping our young people with various languages, including Spanish, French and German brings real great benefits; it enhances cognitive abilities and cultural understanding and provides numerous practical and personal advantages as well. To that end, First Minister, are you proud of the fact that Cardiff could soon become the only UK capital city not offering foreign language degrees if the cost-saving measures go ahead? And what steps is the Welsh Government going to be taking to mitigate this, going forward? Thank you.
Mae partneriaeth wych, Prif Weinidog, yn rhedeg rhwng Prifysgol Abertawe ac ysgolion lleol lle mae myfyrwyr prifysgol yn mynd i ysgol gynradd ac uwchradd i ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn ieithoedd. Nid yn unig y mae'r fenter hon o fudd i'r disgyblion, ond mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr prifysgol wneud defnydd ymarferol o'r sgiliau a addysgwyd iddyn nhw. Mae wedi cael croeso da iawn ac mae'n rhywbeth y byddwn wrth fy modd yn ei weld yn cael ei gyflwyno yn fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Caerdydd. Ond rwy'n gwybod efallai na fydd modd cyflawni'r uchelgais oherwydd y toriadau llym arfaethedig ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n cynnwys rhoi'r gorau i addysgu graddau ieithoedd tramor. Mae darparu gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg, i'n pobl ifanc yn cynnig manteision mawr go iawn; mae'n gwella galluoedd gwybyddol a dealltwriaeth ddiwylliannol ac yn darparu nifer o fanteision ymarferol a phersonol hefyd. I'r perwyl hwnnw, Prif Weinidog, a ydych chi'n falch o'r ffaith ei bod yn bosibl yn fuan mai Caerdydd fydd yr unig brifddinas yn y DU nad yw'n cynnig graddau ieithoedd tramor os bydd y mesurau arbed costau yn cael eu gweithredu? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn eu cymryd i liniaru hyn yn y dyfodol? Diolch.

Thanks very much. I know that the introduction of international languages in primary schools, as part of the Curriculum for Wales—and you talked about primary schools—has happened since 2022, which means that more learners than ever are learning to speak a modern foreign language at a much earlier age. And this is something that happens automatically on the continent; it's something that's a bit strange for us in the United Kingdom, but I'm really pleased that our new curriculum leads us down that path.
But you're quite right, we do want to make sure that those opportunities that you talked about in Swansea are extended. That was, of course, a Welsh Government initiative; it was part of what we set out in our Global Futures strategic plan and that was to support modern foreign language learning in Wales. We are in discussions with Cardiff University, because they have been valuable Global Futures partners and we're discussing the implications of their proposals and their ongoing role in the Global Futures plan with them.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod cyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru—ac fe wnaethoch chi sôn am ysgolion cynradd—wedi digwydd ers 2022, sy'n golygu bod mwy o ddysgwyr nag erioed yn dysgu siarad iaith dramor fodern yn llawer cynharach. Ac mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn awtomatig ar y cyfandir; mae'n rhywbeth sydd braidd yn rhyfedd i ni yn y Deyrnas Unedig, ond rwy'n falch iawn bod ein cwricwlwm newydd yn ein harwain ni i lawr y llwybr hwnnw.
Ond rydych chi'n gwbl gywir, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn Abertawe yn cael eu hymestyn. Menter Llywodraeth Cymru oedd honno, wrth gwrs; roedd yn rhan o'r hyn a gyflwynwyd gennym yn ein cynllun strategol Dyfodol Byd-eang a diben hwnnw oedd cefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Phrifysgol Caerdydd, gan eu bod nhw wedi bod yn bartneriaid Dyfodol Byd-eang gwerthfawr ac rydym ni'n trafod goblygiadau eu cynigion a'u swyddogaeth barhaus yn y cynllun Dyfodol Byd-eang gyda nhw.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gostyngiad o 12 y cant mewn prisiau tai yng ngogledd-orllewin Cymru yn y flwyddyn i fis Tachwedd 2024? OQ62382
8. Will the First Minister make a statement on the 12 per cent fall in house prices in north-west Wales in the year to November 2024? OQ62382

We want people to be able to afford to live in the communities that they grew up in and we’re investing a record £1.4 billion this term to support affordable housing. Our approach, we think, is balanced and innovative. For example, we've introduced powers so local authorities can respond to local circumstances and housing needs.
Rydym ni eisiau i bobl allu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddyn nhw ac rydym ni'n buddsoddi £1.4 biliwn y tymor hwn i gefnogi tai fforddiadwy. Mae ein dull, yn ein barn ni, yn gytbwys ac yn arloesol. Er enghraifft, rydym ni wedi cyflwyno pwerau fel y gall awdurdodau lleol ymateb i amgylchiadau lleol ac anghenion tai.
In terms of affordable housing, it's more the rented social sector that concerns me, because many of those who are living in temporary accommodation now, in hotels in Llandudno and other parts of the constituency, are those who need rented social. And homelessness is still a significant challenge across the whole of Wales. By November 2024, there were 11,466 homeless individuals in Wales living in temporary accommodation, with 422 individuals living in temporary accommodation in Gwynedd and a further 612 living in Conwy.
We've all read recently how some of this is now being—. You know, article 4 direction is causing property values to fall. Instead of pushing home owners in Gwynedd into negative equity and failing to address homelessness, you need to do more to empower—. Sorry, the ex-First Minister keeps looking at me—[Laughter.] There needs to be more done to be able to build much more affordable houses quickly. Under your failed planning system, however, you're just not delivering anywhere near the numbers you should be doing. So, what do you have to say to those people who you are allowing their home prices to drop now as a result of all of the regulatory burdens that you have brought in, but also the many homeless people we see trapped in temporary accommodation for not just months but years?
O ran tai fforddiadwy, y sector rhentu cymdeithasol sy'n achos mwy o ofid i mi, oherwydd mae llawer o'r rhai sy'n byw mewn llety dros dro nawr, mewn gwestai yn Llandudno ac mewn rhannau eraill o'r etholaeth, yn rhai sydd angen rhentu cymdeithasol. Ac mae digartrefedd yn dal i fod yn her sylweddol ledled Cymru. Erbyn mis Tachwedd 2024, roedd 11,466 o unigolion digartref yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, gyda 422 o unigolion yn byw mewn llety dros dro yng Ngwynedd a 612 yn rhagor yng Nghonwy.
Mae pawb ohonom ni wedi darllen yn ddiweddar am sut mae cyfran o hyn nawr—. Wyddoch chi, mae cyfarwyddyd erthygl 4 yn peri i werthoedd tai ostwng. Yn hytrach na gwthio perchnogion tai yng Ngwynedd i ecwiti negyddol a methu â mynd i'r afael â digartrefedd, mae angen i chi wneud mwy i rymuso—. Mae'n ddrwg gennyf i, mae'r cyn-Brif Weinidog yn edrych arna i o hyd—[Chwerthin.] Mae angen gwneud mwy i ganiatáu adeiladu tai llawer mwy fforddiadwy ar gyflymder. O dan eich system gynllunio ffaeledig chi, er hynny, nid ydych chi'n cyflawni niferoedd sy'n agos at y rhai y dylech chi fod yn eu cyflawni. Felly, beth sydd gennych chi i'w ddweud wrth y bobl hynny yr ydych chi'n caniatáu i brisiau eu cartrefi ostwng nawr o ganlyniad i'r holl feichiau rheoleiddiol yr ydych wedi'u cyflwyno, ond wrth y nifer fawr o bobl ddigartref hefyd yr ydym ni'n eu gweld wedi eu dal mewn llety dros dro nid dim ond am fisoedd ond am flynyddoedd?

Well, thanks very much. This is a deliberate policy by our Government. We want local people to be able to afford to buy houses locally. You're shaking your head, but that's actually a very deliberate approach on our behalf. You talk about the need to invest in housing. My God are we investing in housing. We are investing vast sums in housing—£1.4 billion this Senedd term—and that includes a record £340 million in social housing grant for 2024-25. And do you know what you're going to do today? You're going to vote against additional money going into that. So, don't come asking us and telling us what to do when you will not even support the money that we're putting into trying to correct a problem that is absolutely essential and urgent and is a priority for the people of this country.
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn bolisi bwriadol gan ein Llywodraeth. Rydyn ni eisiau i bobl leol allu fforddio prynu tai yn lleol. Rydych chi'n ysgwyd eich pen, ond mewn gwirionedd mae hwnnw'n ddull bwriadol iawn ar ein rhan ni. Rydych chi'n sôn am yr angen i fuddsoddi mewn tai. Rydyn ni'n buddsoddi beth wmbreth mewn tai. Rydyn ni'n buddsoddi symiau enfawr mewn tai—£1.4 biliwn y tymor Seneddol hwn—ac mae hynny'n cynnwys y swm uchaf erioed o £340 miliwn mewn grant tai cymdeithasol ar gyfer 2024-25. A wyddoch chi'n gwybod beth ydych chi am ei wneud heddiw? Rydych chi am bleidleisio yn erbyn rhoi arian ychwanegol i mewn i hynny. Felly, peidiwch â dod i'n holi ni a dweud wrthym ni beth i'w wneud pan nad ydych chi hyd yn oed am roi cefnogaeth i'r arian yr ydym ni'n ei roi i geisio unioni problem gwbl sylfaenol a brys ac sy'n flaenoriaeth i bobl y wlad hon.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.
The next item will be the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There are no changes to this week's business. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I'd be grateful if we could have a statement from the Welsh Government on air quality and the need for waste operators to comply with environmental regulations. It has recently been reported that the operator at the Withyhedge landfill site in my constituency has recorded two non-compliances just days after reopening earlier this year. Trefnydd, this is unacceptable, and the operator cannot be allowed to continue when there's a disregard for environmental regulations. Local residents have complained that they have smelled odours coming from the site, and, as you know, I support their valid calls for a public inquiry and for the place to be closed down. I believe that the Welsh Government could and should have done more before reaching this point, and it can certainly do something now. Therefore, I'd be grateful if we could have a statement from the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, or even from the First Minister, given the significant national press this site has attracted. It's vital that we hear from the Welsh Government on this issue as a matter of urgency.
Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddem ni'n gallu cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ansawdd aer a'r angen i weithredwyr gwastraff gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol. Adroddwyd yn ddiweddar fod gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i wedi cofnodi dau fater o ddiffyg cydymffurfio ddyddiau yn unig wedi ailagor y safle yn gynharach eleni. Trefnydd, mae hyn yn annerbyniol, ac ni ellir caniatáu i weithredwr barhau â'i waith pan geir achosion o ddiystyru rheoliadau amgylcheddol. Mae trigolion lleol wedi cwyno eu bod wedi gwynto arogleuon o'r safle, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n cefnogi eu galwadau dilys nhw am ymchwiliad cyhoeddus ac i'r lle gael ei gau i lawr. Rwy'n credu y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy cyn cyrraedd y sefyllfa hon, ac yn sicr fe all wneud rhywbeth nawr. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, neu hyd yn oed gan y Prif Weinidog, o ystyried y sylw sylweddol a gafodd y safle hwn yn genedlaethol. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n clywed oddi wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn a hynny ar fyrder.
Diolch yn fawr, Paul Davies. It is very regrettable to hear about the air quality issues in terms of the waste operation that you refer to, because, obviously, we've raised this, you've raised this on many occasions, and those concerns have been addressed. Of course, the regulator, Natural Resources Wales, is very aware and very engaged in monitoring that, as they have to, in terms of their regulator role in terms of environmental regulations. So, clearly, you've raised this again, and the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs has heard that today on the record, and we will, obviously, look to a response from NRW in terms of those concerns that have been raised with you.
Diolch yn fawr, Paul Davies. Mae hi'n drist iawn clywed am y materion o ran ansawdd aer gyda'r gwaith gwastraff yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd, yn amlwg, rydyn ni wedi codi hyn, rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur, ac mae'r pryderon hynny wedi cael sylw. Wrth gwrs, mae'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymwybodol iawn o'r mater ac yn ymgysylltu llawer iawn â monitro hyn, fel mae'n rhaid iddyn nhw, o ran eu swyddogaeth rheoleiddio o ran rheoliadau amgylcheddol. Felly, yn amlwg, fe wnaethoch chi godi hyn unwaith eto, ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi clywed hyn heddiw ac mae ar y cofnod, ac fe fyddwn ni, yn amlwg, yn edrych tuag at CNC i ymateb i'r pryderon hynny a godwyd gyda chi.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
Trefnydd, buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ynghylch adroddiad diweddar Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ynglŷn â meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth wrthi'n ystyried hyn, ond, ar y trydydd ar hugain o fis yma, mi ddaeth hi'n agos eithriadol unwaith eto i gael llifogydd difrifol yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli.
Mae'r trawma parhaus mae'r cymunedau hyn yn ei wynebu yn golygu bod pobl jest methu cysgu; maen nhw'n poeni gymaint rŵan am fisoedd drwy'r gaeaf. Dwi'n sylweddoli bod y Dirprwy Weinidog yn llwyr ymwybodol o hyn, ond y ffaith ydy bod cymaint o bobl angen cymorth gan eu doctoriaid, maen nhw ar feddyginiaeth. Dydy o ddim jest ynglŷn â chael llifddorau erbyn hyn. Felly, dwi'n meddwl ein bod ni wir angen cael trafodaeth ar lawr y Senedd hon ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael, pa gymorth ddylai fod ar gael, ar gyfer pobl sydd yn gorfod byw mewn ofn.
Trefnydd, I'd like to request a statement from the Deputy First Minister on the recent report by the National Infrastructure Commission for Wales on developing the ability to deal with flooding in Wales by 2050. Now, I know that the Government is currently considering this issue, but, on the twenty-third of this month, we came very, very close again to having serious flooding in the region that I represent.
The ongoing trauma that these communities face does mean that people simply can't sleep at night; they are so concerned now for months through the winter. I understand that the Deputy First Minister is fully aware of this, but the fact is there are so many people who need support from their doctors, they're on medication. It's not just about floodgates now. So, I do think that we truly need to have a debate on the floor of the Chamber as to what support is available and what support should be available for people who do have to live in fear in that way.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Of course, as you say, the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs is very aware of the concerns and of the issues, and, indeed, as you say, I think many of us have had constituents across Wales who have been through flooding events that have been very traumatic. Of course, the investment—the huge investment—we're making now in flood prevention and flood alleviation is making an impact, but, of course—. And I think it's really interesting and useful that the climate change committee is doing on this work as well, and this has been raised by the infrastructure commission. But this is something where I think our investment in flooding defence, alleviation and prevention has really been so extensive that it will, hopefully, provide that kind of comfort to residents affected, as, indeed, the works take place, and they will do with that investment.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Wrth gwrs, fel rydych chi'n dweud, mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol iawn o'r pryderon a'r problemau hyn, ac, yn wir, fel rydych chi'n dweud, rwy'n credu bod llawer iawn ohonom ni wedi bod ag etholwyr ledled Cymru sydd wedi bod drwy ddigwyddiadau llifogydd a fu'n ysgytiol iawn. Wrth gwrs, mae'r buddsoddiad—y buddsoddiad enfawr—yr ydym ni'n ei wneud nawr i atal llifogydd a lliniaru llifogydd yn cael effaith, ond, wrth gwrs—. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol iawn fod y pwyllgor newid hinsawdd yn gwneud y gwaith hwn hefyd, ac fe godwyd hyn gan y comisiwn seilwaith. Ond mae hwn yn rhywbeth lle mae ein buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd, lleddfu ac atal wedi bod mor helaeth yn fy marn i fel y bydd hynny, gyda gobaith, yn rhoi cysur i breswylwyr yr effeithir arnyn nhw, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ac fe fydd hynny'n digwydd gyda'r buddsoddiad hwnnw.
I recently visited Coleg Cambria in Deeside to learn about their active well-being programme, which promotes fitness, wellness and inclusion for both students and staff. It's an excellent initiative that offers a range of activities that all students and staff can participate in. They've started a 'new you, new start' pilot scheme, which has helped many disengaged students adopt healthier lifestyles, with their programme yielding excellent results. The benefits of a programme like this, which empowers young people to live healthier lives, are limitless, with a positive impact not just on their physical health, but their mental health too. With 20 per cent of children going to school obese or overweight by the age of five, and 62 per cent of adults in Wales over 16 being overweight or obese, the health impact of an active well-being programme by education providers across Wales could be huge, reducing the growing strain on the NHS. So, can I receive a statement from the Cabinet Secretary for Education on what the Welsh Government are doing to work with schools to promote health and fitness, and are they are looking to pre-existing schemes, such as Coleg Cambria's active well-being programme, as a model for other schools to follow? Thank you.
Yn ddiweddar, fe fues i ar ymweliad â Choleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy i ddysgu am eu rhaglen gweithgareddau lles, sy'n hyrwyddo ffitrwydd, lles a chynhwysiant i fyfyrwyr a staff. Mae honno'n fenter ardderchog sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau y gall pob myfyriwr a staff gymryd rhan ynddyn nhw. Maen nhw wedi dechrau cynllun peilot 'chi newydd, dechrau newydd', sydd wedi helpu llawer o fyfyrwyr sydd wedi colli diddordeb yn eu lles i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, ac mae eu rhaglen wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol. Mae manteision rhaglen fel hon, sy'n grymuso pobl ifanc i fyw bywydau iachach, yn ddiderfyn, gydag effaith gadarnhaol nid yn unig ar eu hiechyd corfforol, ond ar eu hiechyd meddwl hefyd. Gyda 20 y cant o blant yn mynd i'r ysgol yn ordew neu dros bwysau erbyn cyrraedd pump oed, a 62 y cant o oedolion yng Nghymru dros 16 oed dros bwysau neu'n ordew, fe allai effaith rhaglen gweithgareddau lles gan ddarparwyr addysg ledled Cymru fod yn enfawr, gan leihau'r straen cynyddol ar y GIG. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gydag ysgolion i hybu iechyd a ffitrwydd, ac a ydyn nhw'n rhoi ystyriaeth i gynlluniau sy'n bodoli eisoes, fel rhaglen gweithgareddau lles Coleg Cambria, fel model i ysgolion eraill ei ddilyn? Diolch i chi.
Thank you for raising this and also telling us about that new start active fitness and well-being programme that is being developed. I think this is something that the education Cabinet Secretary and, indeed, the Minister for Further and Higher Education will be very interested in, and, of course, it's very much part of our curriculum as well. Thank you for enabling us to hear about that particular initiative, which I think can be reflected across the rest of Wales in terms of other such schemes in our schools and in our colleges.
Diolch i chi am godi hyn ac am sôn wrthym ni hefyd am y rhaglen ffitrwydd a lles newydd hon sy'n cael ei datblygu. Rwyf i o'r farn y bydd hyn yn rhywbeth y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ddiddordeb mawr ynddo, ac, wrth gwrs, mae'n rhan bwysig o'n cwricwlwm ni hefyd. Diolch i chi am roi gwybod i ni am y fenter arbennig honno, yr wyf i o'r farn y gellir ei hadlewyrchu ledled Cymru o ran sefydlu cynlluniau eraill o'r fath yn ein hysgolion ac yn ein colegau.
I'd like to request a Government debate, please, on the importance of library services. Libraries sustain our villages and towns. They are more than buildings. They are crucibles of our communities. They feed the imaginations of children and provide a space of comfort and warmth for the lonely. But, across Caerphilly borough, 10 libraries are at risk of closure. Now, there is surely more the Government could and should be doing to stop this from happening. There are statutory duties on councils to provide libraries and there is a duty on the Government to oversee that responsibility, but how can those powers be strong enough if so many libraries are at risk?
This Thursday will mark World Book Day. Now, that is a day when children celebrate their favourite stories and characters. If these libraries close, more than a building will shut for those children. It will close down windows onto other worlds. Now, I realise this is a council responsibility, but the Government surely has a duty here to oversee the right to library services. So can we have a debate, please, reaffirming the need to keep these cornerstones of our communities open?
Hoffwn ofyn am ddadl gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar bwysigrwydd gwasanaethau llyfrgell. Mae llyfrgelloedd yn cynnal ein pentrefi a'n trefi. Maen nhw'n fwy nag adeiladau yn unig. Maen nhw'n rhoi cnewyllyn i'n cymunedau ni. Maen nhw'n bwydo dychymyg plant ac yn darparu lle o gysur a chynhesrwydd i'r unig. Ond, ar draws bwrdeistref Caerffili, mae 10 llyfrgell mewn perygl o gau. Nawr, mae'n sicr y gallai ac y dylai'r Llywodraeth fod yn gwneud rhagor i rwystro hyn rhag digwydd. Mae dyletswyddau statudol ar gynghorau i ddarparu llyfrgelloedd ac mae dyletswydd ar y Llywodraeth i oruchwylio'r cyfrifoldeb hwnnw, ond sut all y pwerau hynny fod yn ddigon cadarn gyda chymaint o lyfrgelloedd mewn perygl?
Mi fydd hi'n Ddiwrnod y Llyfr ddydd Iau. Nawr, hwnnw yw'r diwrnod pan fydd plant yn dathlu eu hoff straeon a chymeriadau. Os bydd y llyfrgelloedd hyn yn cau, fe fydd mwy yn digwydd nag adeilad yn cau i'r plant hynny. Fe fydd ffenestri i fydoedd eraill yn cau. Nawr, rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb i'r cyngor yw hwn, ond mae hi'n siŵr fod gan y Llywodraeth ddyletswydd yn hyn o beth i oruchwylio'r hawl i gael gwasanaethau llyfrgell. Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, i ddatgan o'r newydd yr angen i gadw'r conglfeini hyn o'n cymunedau ni ar agor?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. In fact, I know you've raised this before in terms of the consultation that is being carried out by a local authority, by Caerphilly County Borough Council, in terms of the ways in which they are trying to meet the needs of their local communities. And no-one would disagree with the importance of the role of libraries. I think you can see across Wales—. And really this goes back to the start of austerity, I have to say, over the last 14 years, when local authorities have been particularly hard pressed, and there have been some really important examples of how there have been community asset transfers, and community councils have taken over and shared the responsibility with local authorities for the provision of libraries, and indeed so have community groups and charities as well. I'm sure these will all be looked at in terms of the role and the contributions that libraries can make, taking account of the fact that there is a lot of evidence and experience across Wales about how the provision of libraries can be sustained.
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Yn wir, fe wn i eich bod chi wedi codi hyn o'r blaen o ran yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan un awdurdod lleol, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o ran y ffyrdd y maen nhw'n ceisio diwallu anghenion eu cymunedau lleol. Ac ni fyddai unrhyw un yn anghytuno â phwysigrwydd gwaith y llyfrgelloedd. Rwy'n credu y gallwch chi weld ledled Cymru—. Ac mewn gwirionedd mae hyn yn mynd yn ôl at ddechrau cyni, mae'n rhaid i mi ddweud, dros y 14 mlynedd diwethaf, pan fu'r awdurdodau lleol dan bwysau arbennig o galed, ac fe gafwyd rhai enghreifftiau pwysig iawn o sut y digwyddodd trosglwyddo asedau cymunedol, ac mae cynghorau cymunedol wedi cymryd drosodd ac wedi rhannu'r cyfrifoldeb ag awdurdodau lleol am ddarparu llyfrgelloedd, ac mae hynny'n wir hefyd felly am grwpiau cymunedol ac elusennau. Rwy'n siŵr y bydd pob un o'r rhain yn cael eu hystyried o ran eu swyddogaeth a'r cyfraniad y gall llyfrgelloedd ei wneud, gan ystyried y ffaith bod llawer o dystiolaeth a phrofiad i'w gael ledled Cymru ynghylch sut y gellir cynnal y ddarpariaeth o lyfrgelloedd.
Good afternoon, Trefnydd. Could I request, please, two statements from the First Minister, firstly on the alarming cut to the UK overseas development assistance budget? Slashing aid to 0.3 per cent isn't just a financial decision; it has devastating human consequences. As Anneliese Dodds has warned, these cuts will take food and healthcare away from those in desperate need. Welsh charities, faith groups and communities have long played a vital role in international aid and have rightly condemned this historic £6 billion cut as an absolute dereliction of duty.
The second statement I would like is regarding the President of the United States. In the light of Trump's deeply offensive and provocative remarks, as well as the disgraceful decision to cut aid to Ukraine, I do appreciate and welcome the First Minister's statement this morning. Given the royal family's invitation to Trump, I'd be grateful if the First Minister and the Welsh Government could clarify your position, please, on any potential visit to Wales and commit to ensuring, firstly, that this doesn't happen, but most certainly to engaging with affected communities on any wisdom around a visit. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Prif Weinidog, yn gyntaf ynglŷn â'r toriad brawychus i gyllideb cymorth datblygu tramor y DU? Nid penderfyniad ariannol yn unig yw torri cymorth i 0.3 y cant. Mae i hynny ganlyniadau dinistriol i bobl. Fel rhybuddiodd Anneliese Dodds, fe fydd y toriadau hyn yn tynnu bwyd a gofal iechyd oddi ar y rhai hynny sydd mewn angen dybryd. Mae elusennau, grwpiau ffydd a chymunedau yng Nghymru wedi bod â rhan hanfodol yng nghymorth rhyngwladol ers amser maith ac maen nhw wedi condemnio'r toriad hanesyddol hwn o £6 biliwn fel esgeuluso dyletswydd yn llwyr.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw ynghylch Arlywydd yr Unol Daleithiau. Yng ngoleuni sylwadau hynod sarhaus a chythruddol Trump, yn ogystal â'r penderfyniad gwarthus i dorri cymorth i'r Wcráin, rwy'n gwerthfawrogi ac yn croesawu datganiad Prif Weinidog Cymru y bore 'ma. O ystyried gwahoddiad y teulu brenhinol i Trump, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru egluro eich safbwynt chi, os gwelwch chi'n dda, ar unrhyw ymweliad posibl â Chymru ac ymrwymo i sicrhau, yn gyntaf, nad yw hyn yn digwydd, ond yn fwyaf sicr i ymgysylltu â chymunedau yr effeithir arnyn nhw ar unrhyw ddoethineb ynghylch ymweliad. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.
Thank you very much, Jane Dodds, for your very important questions.
I think you will have heard earlier on this afternoon from the First Minister in response to the question about international aid, recognising that this was an incredibly difficult decision that was made by the UK Government, and, as the First Minister said, this was of course, in terms of the UK Government, which we respect and support, that the first duty of any Government is to keep people safe. And it's a very critical moment, isn't it, for UK and European security, and, indeed, an incredibly difficult decision that—. I think, again, the UK Government said very clearly it was not an announcement they were happy to make, and very proud of the record in overseas development and the importance of playing a key role, and a key humanitarian role, as we've discussed in this Chamber, in war-torn countries, in which of course we play our part as we can.
So, the world is changing around us, and it is important that we recognise how difficult that decision was, but of course it is also very important to look at the situation in terms of our very strong support for Ukraine and for those Ukrainians who are living with us in Wales. You commented on the statement from the First Minister on Ukraine, and I think it’s important, for those who haven’t perhaps been able to see it yet, that I just read from that:
'We, in Wales, have offered the hand of friendship to Ukraine and to Ukrainians who have lost their homes because of Russian aggression. We remain committed to helping Ukrainians who have been forced to leave their country.
'Our solidarity with Ukraine and its people is unequivocal, and we must continue to stand by our friends in Ukraine in these difficult times.'
These are, I think, the issues and the concerns and the thoughts that we have with our Ukrainian people here, and, of course, in Ukraine as well, also recognising the courageous and brave roles of Mick Antoniw and, indeed, Alun Davies, in terms of the recent visit, and hearing from them as well, in terms of the circumstances, and recognising what this also means for our Ukrainian citizens here in Wales.
Rwy'n credu eich bod chi wedi clywed yn gynharach y prynhawn 'ma oddi wrth y Prif Weinidog wrth ymateb i'r cwestiwn ynglŷn â chymorth rhyngwladol, a oedd yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad anhygoel o anodd a wnaeth Llywodraeth y DU, ac fel dywedodd Prif Weinidog Cymru, wrth gwrs, roedd hyn wrth gwrs, o ran Llywodraeth y DU, yr ydym yn ei pharchu a'i chefnogi, mai dyletswydd gyntaf unrhyw Lywodraeth yw cadw ei phoblogaeth yn ddiogel. Ac mae hon yn foment dyngedfennol iawn, onid yw hi, ar gyfer diogelwch y DU ac Ewrop, ac, yn wir, mae'n benderfyniad anhygoel o anodd fel hynny—. Rwyf o'r farn, unwaith eto, fod Llywodraeth y DU wedi dweud yn eglur iawn nad oedd hwnnw'n gyhoeddiad yr oedden nhw'n hapus i'w wneud, ac yn falch iawn o'r enw da ym maes datblygu tramor a phwysigrwydd cyfranogiad allweddol, a gwaith dyngarol allweddol, fel y gwnaethom ni drafod yn y Siambr hon, mewn gwledydd a rwygwyd gan ryfel, lle, wrth gwrs, rydym ni'n cyfranogi hyd eithaf ein gallu.
Felly, mae'r byd yn newid o'n cwmpas ni, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pa mor anodd oedd y penderfyniad hwnnw, ond wrth gwrs mae hi'n bwysig iawn edrych ar y sefyllfa hefyd o ran ein cefnogaeth gadarn iawn i Wcráin ac i'r Wcreiniaid hynny sy'n byw gyda ni yng Nghymru. Fe wnaethoch chi sylwadau ar y datganiad gan y Prif Weinidog ar Wcráin, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, i'r rhai nad ydyn nhw efallai wedi cael cyfle i weld hyn eto, fy mod i'n darllen ychydig o'r geiriau hynny:
'Rydym ni yng Nghymru wedi estyn llaw cyfeillgarwch i Wcráin, ac i’w phobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd ymddygiad ymosodol Rwsia. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu'r bobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad.
'Mae ein cydsafiad ag Wcráin a'i phobl yn ddiamwys, a rhaid inni barhau i fod yn gefn i'n ffrindiau yno yn ystod y cyfnod anodd hwn.'
Y rhain, yn fy marn i, yw'r materion a'r pryderon a'r ystyriaethau sydd gennym ni o ran pobl o Wcráin sydd yma, ac, wrth gwrs, yn Wcráin hefyd, gan gydnabod gwaith eofn a dewr Mick Antoniw, ac Alun Davies yn wir, o ran yr ymweliad diweddar, a chlywed ganddyn nhw hefyd, am yr amgylchiadau, a chydnabod beth mae hyn yn ei olygu i'n dinasyddion Wcreinaidd ni sydd yma yng Nghymru hefyd.
Trefnydd, care homes across Wales are being concerningly adversely affected, of course, by the national insurance hikes. Yesterday, I visited Regency care home in Torfaen, who are anticipating an increase in their bills of £100,000 just for national insurance alone. It’s deeply concerning. And they can weather the storm—they’re an established business—but there are others out there who can’t, especially the newer ones, the newer people setting up care homes across Wales. This will inevitably lead to fewer and fewer care homes, with all the extra bills that are seen, of course coupled with the national minimum wage rises and the real wage rises as well. The costs are almost unmanageable for care homes at the moment. And it feels like they’re often being left out. So, can I please request a statement on what assessment the Welsh Government is making of the changes to national insurance and other tax rises, on care homes specifically, as well as all the other pressures they have with recruitment and retention and so forth? Thank you.
Trefnydd, mae cartrefi gofal ledled Cymru yn cael eu heffeithio mewn ffordd bryderus o andwyol, wrth gwrs, gan y codiadau mewn yswiriant gwladol. Ddoe, fe fues i'n ymweld â chartref gofal Regency yn Nhorfaen, sy'n rhagweld cynnydd o £100,000 yn eu biliau yswiriant gwladol yn unig. Mae'r sefyllfa yn bryderus iawn. Ac fe allan nhw ddygymod â'r storm—mae'r busnes wedi ymsefydlu ganddyn nhw—ond fe geir rhai eraill nad ydyn nhw'n gallu gwneud felly, yn enwedig y rhai sy'n fwy newydd, y bobl sydd newydd sefydlu cartrefi gofal ledled Cymru. Mae hi'n anochel y bydd hyn yn arwain at leihad cynyddol yn nifer y cartrefi gofal, gyda'r holl filiau ychwanegol a ragwelir, wrth gwrs ynghyd â'r isafswm cyflog cenedlaethol yn cynyddu a'r codiadau cyflog byw gwirioneddol hefyd. Mae'r costau bron yn anymarferol ar gyfer cartrefi gofal ar hyn o bryd. A'r ymdeimlad yw eu bod nhw'n cael eu hanghofio yn aml. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar ba asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o'r newidiadau i yswiriant gwladol a chodiadau treth eraill, ar gartrefi gofal yn benodol, yn ogystal â'r holl bwysau sydd arnyn nhw fel arall o ran recriwtio a chadw staff ac ati? Diolch i chi.
Well, you have raised this issue before, Laura Anne Jones, in terms of the situation, of course, for care homes themselves, in the independent sector, and, indeed, as part of local authorities, for many care homes. And I hope you will, this afternoon, recognise that this is a key opportunity to support our budget, which, of course, is going to be putting more money not just into local authorities, but into social care as well. And I think we must take this very seriously in terms of the contribution that’s going to come forward as a result of this budget this afternoon, which, for my portfolio, I also see the uplift that’s going in terms of the third sector, the voluntary sector, which also, of course, very much plays its part in terms of social care and the provision of care.
Wel, rydych chi wedi codi'r mater hwn o'r blaen, Laura Anne Jones, o ran y sefyllfa, wrth gwrs, i'r cartrefi gofal eu hunain, yn y sector annibynnol, ac, yn wir, yn rhan o'r awdurdodau lleol, ar gyfer llawer o gartrefi gofal. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, prynhawn 'ma, yn cydnabod bod hwn yn gyfle allweddol i gefnogi ein cyllideb ni, fydd, wrth gwrs, yn rhoi mwy o arian nid yn unig i'r awdurdodau lleol, ond ar gyfer gofal cymdeithasol hefyd. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ystyried hyn yn ddifrifol o ran y cyfraniad a gaiff ei gyflwyno o ganlyniad i'r gyllideb hon y prynhawn yma, sydd, ar gyfer fy mhortffolio i, rwyf hefyd yn gweld y cynnydd sy'n mynd rhagddo o ran y trydydd sector, y sector gwirfoddol, sydd, wrth gwrs, yn sicr yn chwarae ei ran hefyd o ran gofal cymdeithasol a'r ddarpariaeth o ofal.
Yn debyg i Laura Anne Jones, dwi hefyd am ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar y mater yma o gynnydd mewn yswiriant gwladol, ond mae’r ffocws gen i ar sut fydd y Llywodraeth yn cefnogi mudiadau yn y trydydd sector sy’n wynebu heriau mawr yn sgil y cynnydd yma. Mi wnaf i roi un enghraifft i chi. Mae Antur Waunfawr yn rhoi lle canolog i oedolion efo anableddau dysgu yn ein cymunedau ni a’r byd gwaith yn Arfon. Mae’r antur yn wynebu sefyllfa ariannol heriol, ac angen talu £71,684 o gyfraniadau yswiriant gwladol. Mae mudiadau tebyg yn wynebu heriau tebyg ar draws Cymru, efo pobl fregus yn wynebu toriadau i wasanaethau yn sgil hyn. Felly, mi fyddai datganiad ar hyn yn sôn am effaith y cynnydd, ond, yn bwysicach, pa gefnogaeth y gellid ei gynnig i’r trydydd sector gan y Llywodraeth yma—.
Ac yn ail, mater arall: a gaf i ofyn i chi drafod efo’r Ysgrifennydd tai a llywodraeth leol yr angen iddi ateb fy llythyrau diweddar i ati hi yn holi am y gwaith adferol i dai mewn pedair cymuned yn fy ardal i a gymerodd ran yng nghynllun Arbed? Mi wnes i anfon llythyr ddiwedd Ionawr—hwn oedd y diwethaf mewn cyfres hir o ohebiaeth sy’n dyddio nôl o leiaf wyth mlynedd efo’r Llywodraeth yma, sy’n ceisio cael tegwch i dros 50 o deuluoedd a wnaeth roi ei ffydd yn y cynllun yma gan y Llywodraeth. Ond er gwaethaf sawl addewid, sawl adroddiad a sawl arolwg, mae'r trigolion yn dal i ddisgwyl am newyddion da, ac rydych chi'n clywed y rhwystredigaeth yn fy llais i hefyd am y diffyg cynnydd. Diolch.
Like Laura Anne Jones, I also want to ask for a statement from the Cabinet Secretary for finance on this issue of the increase in national insurance contributions, but my focus is on how the Government will support third sector organisations who are facing grave challenges as a result of this increase. I will give you one example. Antur Waunfawr provides a centre for adults with learning difficulties in our communities and in the workplace in Arfon. The antur is facing a challenging financial situation and needs to pay £71,684 in national insurance contributions. Similar organisations face similar challenges across Wales, with vulnerable people facing cuts to services as a result of that. So, a statement on this issue covering the impact of the increase, but, more importantly, what support can be provided to the third sector from this Government—.
And secondly, another issue: may I ask you to discuss with the Secretary for housing and local government the need for her to answer my recent letters to her, asking about the remedial work to homes in four communities in my area that were involved in the Arbed scheme? I did send a letter at the end of January. This was the latest in a long series of correspondence that goes back over eight years with the Government, trying to seek fairness for over 50 families who put their faith in this Welsh Government scheme. But despite a number of pledges, a number of reports and a number of surveys, the residents are still awaiting good news, and you can hear the frustration in my voice too about the lack of progress. Thank you.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. As I've just said in response to a question from Laura Anne Jones, I'm very pleased with the uplift that I have received in my portfolio in terms of support for the third sector. Clearly, decisions were not made by this Government, but those pressures that are coming forward are something where we are looking to hear some update for those in the public sector. But, particularly, I think the uplift I've given to the infrastructure of Wales will help the third sector infrastructure for Wales, which includes our county voluntary councils, and will be beneficial to those in the third sector. You've mentioned one particular centre, and I would hope that they would get advice and support from their local voluntary council, which we're supporting, but also to recognise that there have been uplifts in the employment allowance for smaller employers in the third sector, and in terms of numbers of employees as well.
Clearly, I will raise—and you have raised it today and put on the record—expectations for response about the remedial work that needs to be carried out in terms of the response to the Arbed scheme in your constituency.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Fel rwyf i newydd ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn gan Laura Anne Jones, rwy'n falch iawn o'r cynnydd yn fy mhortffolio i o ran y gefnogaeth i'r trydydd sector. Yn amlwg, nid y Llywodraeth hon a wnaeth y penderfyniadau hyn, ond mae'r pwysau hynny sydd yn dod i'r amlwg yn fater yr ydym ni'n disgwyl clywed rhywfaint o ddiweddariad yn ei gylch i'r rhai sydd yn y sector cyhoeddus. Ond, yn arbennig felly, rwy'n credu y bydd y cynnydd a roddais i seilwaith Cymru yn helpu seilwaith y trydydd sector ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys ein cynghorau gwirfoddol sirol, ac a fydd yn llesol i'r rhai yn y trydydd sector. Fe wnaethoch chi sôn am un ganolfan benodol, ac fe fyddwn i'n gobeithio y bydden nhw'n cael cyngor a chefnogaeth gan eu cyngor gwirfoddol lleol nhw, yr ydym ni'n ei gefnogi, ond gan gydnabod hefyd fod cynnydd wedi bod yn y lwfans cyflogaeth i gyflogwyr llai yn y trydydd sector, ac o ran niferoedd gweithwyr hefyd.
Yn amlwg, fe fyddaf i'n codi—ac rydych chi wedi codi hyn heddiw a'i roi ar y cofnod—disgwyliadau ar gyfer ymateb ynglŷn â'r gwaith adfer y bydd angen ei wneud o ran yr ymateb i gynllun Arbed yn eich etholaeth chi.
I call for a single statement on the COVID-19 Day of Reflection. Sunday 9 March is the day of reflection across the UK for the COVID-19 pandemic, marking five years since the pandemic began. However, despite the Welsh Government creating a COVID memorial woodland on the National Trust's Erddig estate in Wrexham, which recently opened, I'm advised that the Welsh Government refused to mark the day with an event—. Do you want me to stop?
Rwy'n galw am un datganiad ar Ddiwrnod o Fyfyrdod COVID-19. Dydd Sul 9 Mawrth yw'r diwrnod ledled y DU i fyfyrio ar bandemig COVID-19, a fydd yn nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig. Serch hynny, er i Lywodraeth Cymru lunio coetir coffa COVID ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, a agorodd yn ddiweddar, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nodi'r diwrnod gyda digwyddiad—. Ydych chi eisiau i mi stopio?
Sorry. I heard it all.
Mae'n ddrwg gen i. Fe glywais i'r cyfan.
—to mark the day with an event at the woodland. As the COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru state, it's bad enough that the COVID bereaved have been denied a Wales inquiry and are almost invisible in the UK one, but to then ignore the day is truly insulting to all those that died and their families. They added that the Welsh Government aren't having events at the other two COVID memorial woodlands they created either, but they have been told that someone from the Welsh Government will attend the private event for them in Caerphilly. Although the Welsh Government have issued a short announcement for the day, the families comment that stating that the day is for people to mark the day in Wales in ways that feel meaningful for them is incorrect. If the Welsh Government had consulted the bereaved, they would have told them that they wanted a formal commemorative event run by them. I call for a statement accordingly, in response to that concern, so expressed.
—i nodi'r diwrnod gyda digwyddiad yn y coetir. Fel y mae COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn ei ddweud, mae'n ddigon drwg bod y rhai mewn profedigaeth oherwydd COVID wedi gweld gwrthod ymchwiliad i Gymru a'u bod bron yn anweledig yn yr un ar gyfer y DU gyfan, ond mae anwybyddu'r diwrnod yn sarhad gwirioneddol ar bob un a fu farw a'u teuluoedd. Gwnaethon nhw ychwanegu nad yw Llywodraeth Cymru am gynnal digwyddiadau yn y ddwy goedwig arall a luniwyd ganddyn nhw i goffáu COVID chwaith, ond maen nhw wedi cael gwybod y bydd rhywun o Lywodraeth Cymru yn dod i'r digwyddiad preifat ar eu cyfer yng Nghaerffili. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad byr ar gyfer y diwrnod, mae'r teuluoedd yn mynegi bod datgan mai diwrnod i bobl yng Nghymru ei nodi mewn ffyrdd sy'n teimlo yn ystyrlon iddyn nhw eu hunain yn anghywir. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r rhai a gafodd brofedigaeth, fe fydden nhw wedi dweud eu bod nhw'n dymuno cael digwyddiad o goffâd ffurfiol wedi'i drefnu ganddyn nhw. Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny, mewn ymateb i'r pryder hwnnw, a fynegwyd yn y ffordd honno.
Thank you very much indeed, Mark Isherwood, for raising that today. I'm very pleased that you've raised this in the business statement because, this weekend, we in Wales, along with the rest of the UK, will mark five years, as you said, since the start of the COVID pandemic, which had such a major impact on all of our lives. Can I start responding to your question by saying that those bereaved must be uppermost in our minds, as the anniversary will be particularly difficult and poignant for them? You have referred to the fact that there's a day of reflection that's taking place on Sunday. The Ynys Hywel commemorative woodlands in Caerphilly are, as you said, welcoming visitors on Sunday to mark the COVID-19 Day of Reflection. I will be attending that event. The newly opened Hafod y Bwch commemorative woodlands, on the National Trust Erddig estate in Wrexham, are also welcoming visitors this Sunday. I think there will be other Ministers also engaging on that day.
Of course, there are other commemorative events taking place in Wales, which can be found on the COVID-19 Day of Reflection map—'Get involved', 'COVID Day of Reflection'—where individuals and organisations are able to post events they're planning, or to find public events to attend. And, on Sunday evening, the Welsh Government buildings in Cathays Park will be lit in yellow to mark the day. It is an important weekend, it’s an important day, it’s an important time. Clearly, this is something where we will reflect, I’m sure, across the Senedd, but also from the Welsh Government’s perspective, engaging fully in terms of recognition of the poignancy and of the particularly difficult time for those bereaved relatives.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am godi hynna heddiw. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi codi hyn yn y datganiad busnes oherwydd, dros y penwythnos, fe fyddwn ni yng Nghymru, ynghyd â gweddill y DU, yn nodi pum mlynedd, fel roeddech chi'n dweud, ers dechrau pandemig COVID, a gafodd effaith mor fawr ar ein bywydau ni i gyd. A gaf i ddechrau'r ymateb i'ch cwestiwn trwy ddweud ei bod hi'n rheidrwydd i'r bobl a gafodd brofedigaeth fod bennaf yn ein hystyriaethau ni, gan y bydd y coffâd pum mlynedd yn arbennig o anodd a dirdynnol iddyn nhw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod y diwrnod o fyfyrdod yn digwydd ddydd Sul. Bydd coetiroedd coffa Ynys Hywel yng Nghaerffili, fel roeddech chi'n dweud, yn croesawu ymwelwyr ddydd Sul i nodi Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19. Fe fyddaf i'n mynychu'r digwyddiad hwnnw. Bydd coetiroedd coffa Hafod y Bwch, sydd newydd gael eu hagor, ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, yn croesawu ymwelwyr ddydd Sul hefyd. Yn ogystal â hynny, rwy'n credu y bydd Gweinidogion eraill yn ymgysylltu â'r coffáu ar y diwrnod hwnnw.
Wrth gwrs, bydd digwyddiadau eraill i goffáu yn cael eu cynnal yng Nghymru, sydd i'w gweld ar fap Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19—'Cymryd rhan', 'Diwrnod o Fyfyrdod COVID'—lle gall unigolion a sefydliadau gyhoeddi digwyddiadau y maen nhw'n eu cynllunio, neu ddod o hyd i ddigwyddiadau cyhoeddus i fod yn bresennol ynddyn nhw. A, nos Sul, fe fydd adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yn cael eu goleuo â golau melyn i nodi'r diwrnod. Mae'r penwythnos yn bwysig, mae'r diwrnod yn bwysig, mae'r amser yn bwysig. Yn amlwg, mae hwn yn ddigwyddiad y byddwn ni'n myfyrio arno, rwy'n siŵr, ar draws y Senedd, ond o safbwynt Llywodraeth Cymru hefyd, a fydd yn ymgysylltu yn llawn o ran cydnabod dwyster ac anhawster arbennig y cyfnod i'r perthnasau hynny a gollodd anwyliaid.
Diolch i'r Trefnydd.
Thank you, Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Item 3 is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care—update on Betsi Cadwaladr University Health Board. I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni nodi dwy flynedd ers y penderfyniad i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Mae pawb yn ymwybodol o’r rhesymau dros y penderfyniad. Ymateb uniongyrchol oedd hwn i bryderon ynglŷn â llywodraethiant, arweinyddiaeth a pherfformiad. Rydyn ni wedi craffu ar y materion a’u trafod nhw yn y Siambr hon sawl gwaith.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r ail adroddiad cynnydd blynyddol. Mae hwn yn edrych ar y cynnydd dros y ddwy flynedd diwethaf ers i’r bwrdd gael ei uwchgyfeirio i statws mesurau arbennig. Ers imi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf wedi cwrdd gyda chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o leiaf unwaith y mis. Rwyf hefyd wedi cwrdd gyda’r prif weithredwr, a gyda aelodau’r bwrdd yn ehangach, nifer o weithiau. Rwyf wedi gweld eu hymrwymiad a’u penderfyniad nhw i fynd ati i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl y gogledd, a hynny mewn ffordd sydd yn ystyrlon ac yn gynaliadwy.
Rwyf wedi ymweld â phob un o’r tri phrif ysbyty ac â llawer o leoliadau gofal iechyd cymunedol ar draws y rhanbarth. Hoffwn i gydnabod gwaith caled staff ar draws y bwrdd iechyd, yn y gymuned ac yn yr ysbyty. Mae gan aelodau o staff ran bwysig a chwbl annatod yn y daith i wella’r bwrdd iechyd.
Nid nawr, Dirprwy Lywydd, yw’r amser i isgyfeirio statws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig. Ond, gadewch inni gadw mewn cof bod llawer iawn o waith da yn mynd rhagddo ar draws y gogledd. Gaf i felly ddefnyddio’r datganiad hwn heddiw i dynnu sylw at y gwaith da hwnnw, yn ogystal â’r meysydd y mae angen i’r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio arnyn nhw?
Yn gyntaf, hoffwn i rannu rhai enghreifftiau o’r gwaith da, a sôn hefyd am y datblygiadau sy’n torri tir newydd. Y fan awdioleg gymunedol: cefais i’r fraint o ymweld â hwn yn gynharach eleni. Dyma’r trefniant cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae tîm awdioleg oedolion y bwrdd iechyd wedi cael ei enwi’n dîm y flwyddyn gan yr Academi Awdioleg Brydeinig. Ysbyty Gwynedd: dyma leoliad canolfan hyfforddiant robotig gyntaf y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Yma, maen nhw’n rhoi hyfforddiant mewn llawfeddygaeth drwy gymorth robot ar y pen-glin. Ysbyty Abergele: mae llawfeddygon yn yr ysbyty hwn yn treialu technoleg realiti estynedig ar gyfer llawdriniaethau i osod pengliniau newydd. Plas Gororau yn Wrecsam: mae hwn yn gyfleuster pwrpasol ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau iechyd cymunedol. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys apwyntiadau fflebotomi, adran cleifion allanol iechyd meddwl, a chanolfan frechu. Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd: am yr ail flwyddyn o’r bron, fe ddywedodd meddygon dan hyfforddiant mai dyma’r lle gorau i hyfforddi yng Nghymru.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Last week, we marked two years since the decision to place Betsi Cadwaladr University Health Board under special measures. Everyone is aware of the reasons for that decision. This was a direct response to concerns about governance, leadership and performance. We have scrutinised the issues and rehearsed them in this Chamber many times.
Today, I have published the second annual progress report. This looks at the progress made over the last two years since the board was upgraded to special measures status. Since I was appointed Cabinet Secretary for Health and Social Care, I have met with the chair of Betsi Cadwaladr University Health Board at least once a month. I have also met the chief executive, and the board members more widely, a number of times. I've seen their commitment and determination to improve health services for the people of north Wales in a way that is meaningful and sustainable.
I have visited all three main hospitals and many community healthcare settings across the region. I would like to acknowledge the hard work of staff across the health board, in the community and in the hospital. Staff members have an important and entirely integral part in the journey to improve the health board.
Dirprwy Lywydd, now is not the time to downgrade the status of Betsi Cadwaladr University Health Board from special measures. But let us also bear in mind the fact that a great deal of good work is happening across the north. I will, therefore, use this statement today to highlight that good work, as well as the areas that the health board needs to continue to focus on.
First, I would like to share some examples of the good work, and also mention some groundbreaking developments. The community audiology van: I had the privilege of visiting this earlier this year. This is the first arrangement of its kind in Wales, and the health board's adult audiology team has been named team of the year by the British Academy of Audiology. Ysbyty Gwynedd: this is the location of the health service's first robotic training centre in Wales. Here, they provide training in robot-assisted knee surgery. Abergele Hospital: surgeons at this hospital are trialling augmented reality technology for knee replacements. Plas Gororau in Wrexham: this is a purpose-built facility for a range of community health services. Provision includes phlebotomy appointments, a mental health out-patient department and a vaccination centre. The accident and emergency department at Ysbyty Gwynedd: for the second straight year, trainee doctors have said that this is the best place to train in Wales.
Dirprwy Lywydd, I understand the frustration that people feel when they are faced with long waiting times for appointments, care and treatment. It's not good enough. One of the reasons the health board was put into special measures was because of issues with performance. Unfortunately, Betsi Cadwaladr University Health Board has the highest proportion of long waits and is some way currently behind other health boards in reducing them, even with the extra funding we've provided. There is still a long way to go to ensure people have the timely access to care that we expect, especially for emergency care.
Dirprwy Lywydd, rwy'n deall y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo wrth iddyn nhw wynebu amseroedd aros hir am apwyntiadau, gofal a thriniaethau. Nid yw hynny'n ddigon da. Un o'r rhesymau pam y rhoddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig oedd oherwydd ei broblemau o ran perfformiad. Yn anffodus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran uchaf o arosiadau hir ac mae beth ffordd y tu ôl i fyrddau iechyd eraill ar hyn o bryd o ran eu lleihau, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol y gwnaethom ni ei roi. Mae llawer i'w wneud eto i sicrhau y bydd pobl yn cael gofal mewn da bryd fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yn enwedig ar gyfer gofal brys.
But there has been some notable progress over the last two years, including, the number of people waiting more than two years for orthopaedic treatment has fallen by almost two thirds, and the health board is using additional Welsh Government funding to halve the total number of people waiting more than two years for all specialties by the end of this month. If those plans are achieved, that will mean a reduction of over 5,600, compared to February 2023. There’s been a 10 per cent increase in local primary mental health assessments completed within 28 days for adults and a 33 per cent increase for under-18s. The health board has the highest number of consultations carried out under the pharmacist independent prescribing services in Wales, and, in the last year, the health board has agreed new NHS dental contracts worth more than £5 million.
Dirprwy Lywydd, before the health board was placed in special measures, it struggled with ineffective leadership and governance. An Audit Wales report in 2023 referred to 'dysfunctional board dynamics' and called for immediate remedial action. The board now has a full complement of independent members, including a new chair and vice-chair, a permanent chief executive and an ongoing recruitment drive to fill the remaining executive director posts. Before the special measures were put in place, corporate governance systems lacked coherence. There were significant challenges in compliance with the corporate governance code, and decision-making processes were hindered by inadequate information flow. By June 2023, all committee structures had been reinstated, supported by clear terms of reference and enhanced cross-membership between committees to improve oversight.
Dirprwy Lywydd, when I was appointed health Secretary, I was briefed about the findings of a series of Welsh Government independent reviews about Betsi Cadwaladr University Health Board. They exposed some serious, deep-rooted issues. The majority of the actions and recommendations from these reviews have been completed, and the health board has clear plans and timescales in place to complete the outstanding ones. The health board has strengthened its financial governance and financial control.
In 2023, the health board was dealing with serious legacy issues, including failures to act promptly in response to complaints, insufficient or ineffective strategic planning, the timeliness of health board investigations, and the continued reliance on paper patient records. A new integrated concerns policy for incidents, complaints and mortality reviews was approved in July last year. By October, the health board achieved—and has maintained—the target of closing 75 per cent of complaints within 30 days. The number of prevention of future deaths notices issued to the health board by His Majesty’s coroners has been of real concern. But it has improved its investigations process and is identifying and embedding learning from incidents. The health board received 10 such notices in 2024, compared to 22 in 2023. So far, this year, there has been one notice issued.
Inspections undertaken by Healthcare Inspectorate Wales have also highlighted improvements, including in a number of mental health settings. At the time of the escalation to special measures, two services had been classed as services requiring significant improvement by HIW. But in June last year, HIW was satisfied with the improvements made to vascular services and de-escalated the service. In August 2024, the emergency department at Ysbyty Glan Clwyd was also de-escalated, in recognition of improvements.
In November 2024, the health board made the decision to temporarily pause direct provision of planned and emergency open abdominal aortic aneurysm vascular surgery in north Wales. Clinical arrangements have been put in place, as Members will know, for people to be treated at the Royal Stoke University Hospital.
The leadership and management of mental health services has been strengthened over the last two years, and an expert advisory group has been established to review, check and challenge evidence of progress in relation to mental health.
Dirprwy Lywydd, the organisation has come a long way over the last two years. The first year saw marked improvements in corporate governance and board leadership. The second year has seen a real focus on quality and safety, with the board responding to many legacy issues in an open and transparent manner. As we move into the third year of special measures, the focus will be on operational grip and control, agreeing and implementing a new operating model, improving performance and embedding the necessary foundations for the organisation to be successful in the long term.
We will continue to provide support and constructive challenge to Betsi Cadwaladr University Health Board to deliver on its core purpose, to provide excellent care to the people of north Wales and support their health and well-being. Diolch.
Ond fe fu yna beth cynnydd nodedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth orthopedig o ddwy ran o dair bron iawn, ac mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio cyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru i haneru cyfanswm y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd o ran pob arbenigedd erbyn diwedd y mis hwn. Os bydd y cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni, fe fyddai hynny'n golygu gostyngiad o dros 5,600, o gymharu â mis Chwefror 2023. Mae cynnydd o 10 y cant wedi bod mewn asesiadau lleol iechyd meddwl sylfaenol yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod ar gyfer oedolion a chynnydd o 33 y cant ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Y bwrdd iechyd sydd â'r gyfradd uchaf yng Nghymru o gynnal ymgynghoriadau dan wasanaethau rhagnodi annibynnol fferyllwyr yng Nghymru, ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gontractau deintyddol newydd y GIG gwerth mwy na £5 miliwn.
Dirprwy Lywydd, cyn i'r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig, roedd yn cael anawsterau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu aneffeithiol. Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yn 2023 yn cyfeirio at 'ddeinameg bwrdd sy'n gamweithredol' ac roedd yn galw am gamau ar unwaith i unioni hynny. Mae gan y bwrdd gyflenwad llawn o aelodau annibynnol erbyn hyn, sy'n cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd newydd, prif weithredwr parhaol ac ymgyrch recriwtio barhaus i lenwi'r swyddi cyfarwyddwyr gweithredol sydd ar ôl. Cyn sefydlu'r mesurau arbennig, nid oedd yna systemau llywodraethu corfforaethol cydlynol. Roedd heriau sylweddol o ran cydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol, ac roedd prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cael eu rhwystro gan lif annigonol o wybodaeth. Erbyn mis Mehefin 2023, cafodd pob strwythur pwyllgora ei ailsefydlu, gyda chefnogaeth cylch gwaith pendant a chynrychiolaeth well o ran aelodau ar fwy nag un pwyllgor ar gyfer gwella'r oruchwyliaeth.
Dirprwy Lywydd, pan gefais fy mhenodi yn Ysgrifennydd Iechyd, fe gefais wybod am ganfyddiadau cyfres o adolygiadau annibynnol gan Lywodraeth Cymru ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd y rhain yn amlygu rhai materion difrifol a oedd wedi ymwreiddio yn ddwfn iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu a'r argymhellion yn sgil yr adolygiadau hyn wedi eu cwblhau, ac mae gan y bwrdd iechyd gynlluniau ac amserlenni eglur ar waith i gwblhau'r rhai sydd ar ôl. Mae'r bwrdd iechyd wedi cryfhau ei lywodraethu ariannol a'i reolaeth ariannol.
Yn 2023, roedd y bwrdd iechyd yn ymdrin â materion difrifol a etifeddwyd o'r gorffennol, a oedd yn cynnwys methiannau o ran gweithredu yn gyflym wrth ymateb i gwynion, cynllunio strategol a oedd yn annigonol neu'n aneffeithiol, amseroldeb ymchwiliadau'r byrddau iechyd, a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion cleifion ar bapur. Cymeradwywyd polisi pryderon integredig newydd ar gyfer digwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau ym mis Gorffennaf y llynedd. Erbyn mis Hydref, roedd y bwrdd iechyd wedi cyflawni—ac wedi cynnal—y targed o gau 75 y cant o gwynion o fewn 30 diwrnod. Mae nifer yr achosion o hysbysiadau atal marwolaethau yn y dyfodol a roddwyd i'r bwrdd iechyd gan grwneriaid Ei Fawrhydi wedi bod yn destun pryder gwirioneddol. Ond mae'r broses ymchwiliadau wedi gwella ac mae'r bwrdd yn nodi ac yn ymwreiddio yr hyn a ddysgwyd yn sgil digwyddiadau. Derbyniodd y bwrdd iechyd 10 rhybudd o'r fath yn 2024, o gymharu â 22 yn 2023. Hyd yn hyn, eleni, fe gyhoeddwyd un hysbysiad.
Mae arolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at welliannau hefyd, yn cynnwys mewn nifer o safleoedd iechyd meddwl. Yn y cyfnod a arweiniodd at fesurau arbennig, cafodd dau wasanaeth eu dynodi yn wasanaethau gan AGIC ag angen gwelliant sylweddol. Ond ym mis Mehefin y llynedd, roedd AGIC yn fodlon â'r gwelliannau a fu gyda gwasanaethau fasgwlar a chafodd y gwasanaeth ei isgyfeirio. Ym mis Awst 2024, cafodd yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd ei hisgyfeirio hefyd, i gydnabod y gwelliannau.
Ym mis Tachwedd 2024, penderfynodd y bwrdd iechyd ar oediad dros dro yn y ddarpariaeth uniongyrchol o lawdriniaeth fasgwlaidd anewrysm aortig yn yr abdomen agored a gynlluniwyd ac mewn argyfwng yn y gogledd. Rhoddwyd trefniadau clinigol ar waith, fel gŵyr yr Aelodau, i bobl gael eu trin yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.
Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu grymuso dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac fe sefydlwyd grŵp cynghori arbenigol ar gyfer adolygu, gwirio a herio tystiolaeth o gynnydd o ran iechyd meddwl.
Dirprwy Lywydd, mae'r sefydliad wedi teithio cryn bellter dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y flwyddyn gyntaf fe welwyd gwelliannau amlwg o ran llywodraethu corfforaethol ac arweinyddiaeth y bwrdd. Mae'r ail flwyddyn wedi gweld pwyslais gwirioneddol ar ansawdd a diogelwch, gyda'r bwrdd yn ymateb i lawer o faterion o'r gorffennol mewn ffordd agored a thryloyw. Wrth i ni symud i drydedd flwyddyn y mesurau arbennig, fe fydd y pwyslais ar afael a rheolaeth weithredol, cytuno ar fodel newydd o weithredu a'i roi ar waith, gwella perfformiad ac ymwreiddio'r sylfeini angenrheidiol er mwyn i'r sefydliad lwyddo yn yr hirdymor.
Fe fyddwn ni'n parhau i roi cefnogaeth a her adeiladol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn iddo gyflawni ei ddiben creiddiol, sef darparu gofal rhagorol i bobl y gogledd a chefnogi eu hiechyd a'u lles. Diolch.
Thank you, Minister, for your statement. It was disappointing to have received it at such short notice in advance of your statement today. And I note that you were only referring to the last two years of the special measures regime, when we all know that this is a health board that has been struggling for almost 10 years now, having first gone into special measures back in June 2015. So, it is a little disappointing that we're still having these regular updates on failings at the Betsi Cadwaladr University Health Board almost 10 years on, and that there has been insufficient progress on the ground in terms of the services that people are receiving. I want to thank all of those NHS staff who are working hard in the system, trying to deliver the best quality care that they can, but the reality is, I'm afraid to say, that all too frequently, patients in my constituency and in other places across north Wales feel let down by this health board and the services that they have been receiving.
You made reference to progress on two-year-plus waits; you didn't mention the three-year-plus waits that people are suffering in the Betsi Cadwaladr health board. Ninety one per cent of people who wait for more than three years for their treatment in Wales are in the Betsi Cadwaladr University Health Board area. That is a shameful statistic. And we know that people, typically, are still waiting more than two years, if they're referred today, for ophthalmology treatment, dermatology treatment, orthopaedic treatment, and we've got people waiting up to five years—young people, children waiting up to five years—for neurodivergence assessments. These are young people who need those assessments in order to get the proper support that they need in their education. It simply isn't good enough.
You talked about improvements in emergency departments having been de-escalated. The reality is that the performance of the emergency departments in our hospitals in north Wales is the worst in the whole of Wales. Just 45 per cent of people are in and out of the emergency departments, the main emergency departments in north Wales, within the four-hour target. And we have the worst performance against the 12-hour target as well. I'm afraid it smacks of complacency, your response, when one in four people are not being seen and discharged within that 12-hour target. It isn't good enough.
And we've had lots of promises of jam tomorrow. You promised us just now that more than half of the two-year waits will be eliminated by the end of March. Well, I look forward to seeing you at the end of March in order to compare those figures, because I find it difficult to believe that they will be achieved. We know also that you promised jam tomorrow a number of years back, when you said that you would invest in a brand-new hospital in the Rhyl area to take pressure off the hospital down the road in Bodelwyddan. Over 12 years ago now, that was a promise that was made to the people of north Wales by the then Secretary for health, Mark Drakeford, who went on to become First Minister, but still didn't deliver on those promises—always made, by the way, before an election and then never actually delivered. I suspect we'll get more of the same today, with more hopes being built up about the delivery of that project.
We were also told about a brand-new project in terms of a mental health unit. Back in 2018, we were told that the Ablett unit would be completely demolished or remodelled and we'd have a brand-new mental health unit for in-patients with 60 beds on the Glan Clwyd Hospital site. Where is it? We've seen absolutely nothing, completely nothing. So, you keep promising these things in order to improve services, not delivering, which then doesn't improve services, and, in fact, if you look at this whole 10-year period from when it first went into special measures in June 2015, the performance on almost every single measure is worse now than it was 10 years ago. It's worse now than it was 10 years ago, and this is in spite of so-called intervention by the Welsh Government. Well, I'm afraid your intervention is not working. It is not working. Things are getting no better in terms of patient experiences and they are what really, really matter.
What is also shameful is that we've had failing executives at the health board who have left their jobs without being dismissed. People find that absolutely galling that we've had these years of failure, but not one head has rolled as a result of those failures. People have been able to leave either with compromise agreements or on their own terms. It is frankly disgusting.
You made reference to governance and leadership and, of course, I want to work as closely as I can with the board, with the chair and with the executive team to deliver the improvements that we need to see, but we're not actually seeing them.
On prevention of future deaths reports, you seem complacent again. Eleven since the start of last year, that's the highest in Wales of any health board, and still disproportionately higher than the population of north Wales when compared to the populations of other health boards. I'm afraid this complacency isn't good enough. We need to see real change and I want to see a clear timetable from you as a Government, with a clear set of actions that you will take as a Government that we can measure you against, because what's been published to date by the health board and by the Welsh Government isn't giving us any confidence that things are going to get significantly better.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Roedd hi'n siomedig ein bod ni wedi ei dderbyn mor fyr rybudd cyn eich datganiad heddiw. Ac rwy'n nodi mai dim ond hyd at ddwy flynedd olaf y drefn o fesurau arbennig yr oeddech chi'n cyfeirio, tra ein bod ni i gyd yn gwybod fod hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn trafferthion ers bron i 10 mlynedd erbyn hyn, wedi mynd i fesurau arbennig yn ôl ym mis Mehefin 2015 am y tro cyntaf. Felly, mae ychydig yn siomedig ein bod yn dal i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach, ac na fu digon o gynnydd ar lawr gwlad o ran y gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn. Fe hoffwn ddiolch i holl staff y GIG sy'n gweithio yn galed yn y system, yn ceisio darparu'r gofal o'r ansawdd gorau y gallan nhw, ond y gwir amdani, mae arna' i ofn dweud, yn rhy aml, yw bod cleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill ar draws y gogledd yn teimlo eu bod yn cael eu siomi gan y bwrdd iechyd hwn a'r gwasanaethau y maen nhw wedi bod yn eu cael.
Roeddech chi'n cyfeirio at gynnydd o ran arosiadau am dros ddwy flynedd a rhagor; ni wnaethoch chi sôn am yr arosiadau o dair blynedd a rhagor mae pobl yn eu dioddef ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae naw deg un y cant o'r bobl sy'n aros am fwy na thair blynedd am eu triniaeth yng Nghymru yn gwneud hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n ystadegyn cywilyddus. Ac fe wyddom ni fod pobl, fel arfer, yn parhau i aros am fwy na dwy flynedd, pe bydden nhw'n cael eu hatgyfeirio heddiw, am driniaeth offthalmoleg, triniaeth dermatoleg, triniaeth orthopedig, ac mae gennym ni bobl sy'n aros hyd at bum mlynedd—pobl ifanc, plant yn aros hyd at bum mlynedd—am asesiadau niwrowahaniaeth. Pobl ifanc yw'r rhain sydd angen yr asesiadau hynny i gael y cymorth priodol sydd ei angen arnyn nhw gyda'u haddysg. Nid yw hynny'n ddigon da.
Roeddech chi'n sôn am welliannau o ran adrannau brys sydd wedi gweld isgyfeirio. Y gwir amdani yw mai perfformiad yr adrannau brys yn ein hysbytai yn y gogledd yw'r gwaethaf yng Nghymru gyfan. Dim ond 45 y cant o bobl sy'n cael mynd i mewn ac allan o'r adrannau brys, sef y prif adrannau brys yn y gogledd, o fewn y targed pedair awr. Ac mae gennym y perfformiad gwaethaf yn erbyn y targed 12 awr hefyd. Rwy'n ofni bod hyn yn arwydd o hunanfodlonrwydd, yn eich ymateb chi, pan nad yw un o bob pedwar o bobl yn cael ei weld a'u rhyddhau o fewn y targed hwnnw o 12 awr. Nid yw hynny'n ddigon da.
Ac fe gawsom ni lawer o addewidion am bethau da i ddod eto. Fe wnaethoch chi addo i ni nawr y bydd mwy na hanner yr arosiadau o ddwy flynedd yn cael eu diddymu erbyn diwedd mis Mawrth. Wel, rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi ar ddiwedd mis Mawrth er mwyn gallu cymharu'r ffigurau hynny, oherwydd rwy'n ei chael hi'n anodd credu y byddan nhw'n cael eu cyflawni. Fe wyddom ni hefyd eich bod wedi addo pethau da i ddod eto sawl blwyddyn yn ôl, pan oeddech chi'n dweud y byddech chi'n buddsoddi mewn ysbyty newydd sbon yn ardal y Rhyl i dynnu pwysau oddi ar yr ysbyty i lawr y ffordd ym Modelwyddan. Dros 12 mlynedd yn ôl erbyn hyn, roedd honno'n addewid a gafodd ei gwneud i bobl y gogledd gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, a aeth yn ei flaen i fod yn Brif Weinidog, ond na chyflawnodd yr addewidion hynny o hyd—a gafodd eu gwneud bob tro, gyda llaw, o flaen etholiad ac wedyn byth yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Rwy'n amau y byddwn ni'n gweld mwy o'r un peth heddiw, gyda mwy o obeithion yn cael eu codi ynglŷn â chyflawni'r prosiect hwnnw.
Fe gawsom ni wybod hefyd am brosiect newydd sbon o ran uned iechyd meddwl. Yn ôl yn 2018, fe ddywedwyd wrthym ni y byddai uned Ablett yn cael ei dymchwel neu ei hailfodelu yn llwyr ac fe fyddai uned iechyd meddwl newydd sbon gennym ni ar gyfer cleifion mewnol gyda 60 o welyau ar safle Ysbyty Glan Clwyd. I ble'r aeth honno? Ni welsom unrhyw beth o gwbl, dim yw dim. Felly, rydych chi'n dal ati i addo'r pethau hyn i wella gwasanaethau, heb eu cyflawni nhw, ac nid oes gwelliant i wasanaethau wedyn, ac, mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar y cyfnod hwn o 10 mlynedd yn ei gyfanrwydd o'r adeg y cafodd ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2015, mae'r perfformiad ar bron pob un mesur yn waeth erbyn hyn nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl. Mae hi'n waeth yno erbyn hyn nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl, a hynny er gwaethaf ymyrraeth honedig Llywodraeth Cymru. Wel, rwy'n ofni nad yw eich ymyrraeth chi'n gweithio. Nid yw'n gweithio. Nid yw pethau'n gwella o ran profiadau cleifion a dyna pwy sy'n bwysig mewn gwirionedd.
Yr hyn sy'n gywilyddus hefyd yw i ni fod â swyddogion gweithredol diffygiol yn y bwrdd iechyd sydd wedi gadael eu swyddi heb gael eu diswyddo. Mae pobl yn ystyried hynny'n gwbl resynus sef ein bod ni wedi gweld blynyddoedd o fethiant fel hyn, ond nid oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif o ganlyniad i'r methiannau hynny. Mae pobl wedi gallu gadael naill ai gyda chytundebau cyfaddawdu neu ar eu telerau eu hunain. A dweud y gwir, mae hynny'n warthus.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at lywodraethu ac arweinyddiaeth ac, wrth gwrs, fe hoffwn i weithio mor agos gyda'r bwrdd ag sy'n bosibl, gyda'r cadeirydd a chyda'r tîm gweithredol i gyflawni'r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld, ond nad ydym ni'n eu gweld mewn gwirionedd.
O ran adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol, rydych chi'n ymddangos yn hunanfodlon unwaith eto. Un ar ddeg ers dechrau'r llynedd, dyna'r mwyaf o blith unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny'n dal i fod yn anghymesur fwy na phoblogaeth y gogledd o'i gymharu â phoblogaethau byrddau iechyd eraill. Rwy'n ofni nad yw'r hunanfodlonrwydd hwn yn foddhaol. Mae angen i ni weld newid gwirioneddol ac fe hoffwn i weld amserlen eglur gennych chi yn y Llywodraeth, gyda set glir o gamau y byddwch yn eu cymryd yn y Llywodraeth y gallwn eich mesur yn eu herbyn, oherwydd nid yw'r hyn a gyhoeddwyd gan y bwrdd iechyd a chan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn yn rhoi unrhyw hyder i ni y bydd pethau yn gwella yn sylweddol.
I'm sorry if the Member felt he didn't have enough time to read the statement in advance. He might have made up for my deficiency by listening to the statement that I actually gave in the Chamber itself.
Mae'n ddrwg gen i os oedd yr Aelod yn teimlo na chafodd ddigon o amser i ddarllen y datganiad ymlaen llaw. Fe allai fod wedi gwneud iawn am fy ngwendid trwy wrando ar y datganiad a roddais yn y Siambr ei hun.
I did listen.
Fe wnes i wrando.
I don't think that the way he's characterised the statement is entirely fair. The statement is very clear, as the Government is, that there is a very, very long way to go, but it is important in taking the steps that the health board needs to take, in accordance with the escalation criteria that they're subject to, for there to be a candid reflection on where there is a long way to go and where there has been progress made to date, and that is what my statement set out. There is a long way to go.
I set out in my statement that the focus to date—and he has acknowledged this, and I'm grateful to him for that—has been in relation to establishing a better and more robust approach to corporate governance and board membership. The executive team that you referred to has been almost entirely transformed in the course of the last two years. There are a small number of posts that are still out for recruitment, but the majority of those posts have been recruited and there are people in place undertaking those responsibilities.
As I mentioned to him, the focus for the second year was on quality and safety, and the points that he makes in relation to performance, many of them I would recognise, as would the health board, and that is absolutely where the board itself is clear that focus needs to be in the year ahead. So, it is a progressive system, designed to put the health board on the resilient footing that we need it to be on to deliver the kind of services that we want to see for people right across north Wales.
He mentioned long waits. Actually, the plan that the health board has provided to us, and that we have been funding and working closely with them on over a number of months, will show, if, as I hope, it is achieved by the end of this month, a very significant reduction in the number of two-year-plus waits, and that includes the longest waits of three years and above as well, to be clear about the point that he made in his statement. Clearly, people waiting for more than two years is not acceptable—we know that—but I think we also should recognise that if those plans are fulfilled, as we very much hope they will be, that will have demonstrated a really significant decrease. There will be a way to go, but I want to support the health board to continue on that trajectory, so that we can move even further away from the sorts of numbers that he was referring to.
In relation to the points he was making on emergency waiting times, in particular, I think it is really important to acknowledge where there has been progress. He is right to say that those targets are not being met. They need to be met, clearly—they need to be met in all parts of Wales—but there has been progress in those areas. And actually, whether it's in the development of discharge in Ysbyty Glan Clwyd, the expansion of the emergency department in Wrexham Maelor Hospital, the new medical day unit at Glan Clwyd, there are developments that we know can provide a more robust basis for better emergency department performance in the future, which is obviously what we want to see.
He challenged me in relation to actions. The steps that we are taking and the expectation that we have of the health board are all matters in the public domain, as they absolutely should be, and that is the basis on which he's challenging me today. So, that is information that is already in the public domain. Escalation isn't a sanction, it is a mechanism that we have to provide the support that the health board needs.
For all the points that the Member made in his statement, I would remind him that actions speak louder than words, and in order to be able to continue to support the health board and the NHS, the funding that the budget that we are laying for debate today needs to be passed, and the public will watch when they see his party voting against that funding for the health service, voting against that increase that will partly go to Betsi Cadwaladr health board.
Nid wyf yn credu bod ei bortread o'r datganiad yn un cwbl deg. Mae'r datganiad yn eglur iawn, fel mae'r Llywodraeth, bod ffordd bell iawn, iawn i'w theithio eto, ond mae'n bwysig, wrth i'r bwrdd iechyd gymryd y camau y mae angen eu cymryd, yn unol â'r meini prawf uwchgyfeirio y maen nhw'n ddarostyngedig iddyn nhw, bod yna adlewyrchu diffuant o ran y ffordd bell i'w theithio eto a lle bu unrhyw gynnydd hyd yn hyn, a dyna'r hyn yr oedd fy natganiad i'n ei amlinellu. Mae yna ffordd bell i fynd eto.
Fe nodais yn fy natganiad y bu'r pwyslais hyd yn hyn—ac mae e' wedi cydnabod hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny—o ran sefydlu dull gwell a mwy cadarn o lywodraethu corfforaethol ac aelodaeth y bwrdd. Mae'r tîm gweithredol y gwnaethoch chi gyfeirio ato wedi ei drawsnewid bron yn gyfan gwbl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae yna nifer fechan o swyddi allan o hyd ar gyfer recriwtio, ond mae'r rhan fwyaf o'r swyddi hynny wedi'u recriwtio ac mae pobl yn eu swyddi yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau hynny.
Fel y soniais wrtho, roedd y pwyslais ar gyfer yr ail flwyddyn ar ansawdd a diogelwch, a'r pwyntiau mae'n ei gwneud o ran perfformiad, fe fyddwn innau'n cydnabod llawer ohonyn nhw, fel y byddai'r bwrdd iechyd, a dyna lle mae'r bwrdd ei hun yn eglur ynglŷn â'r angen i ganolbwyntio ar hynny yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Felly, mae'n system flaengar, a gynlluniwyd i roi'r bwrdd iechyd ar y sylfaen gadarn y mae ei hangen arnom ar gyfer darparu'r math o wasanaethau yr ydym ni eisiau eu gweld ar gyfer pobl ledled y gogledd.
Roedd e'n sôn am arosiadau hir. Mewn gwirionedd, fe fydd y cynllun y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddarparu ar ein cyfer ni, ac rydym wedi bod yn ei ariannu ac yn gweithio'n agos gyda nhw dros nifer o fisoedd, yn dangos, os, fel rwy'n gobeithio, y caiff ei gyflawni erbyn diwedd y mis, gostyngiad sylweddol iawn yn nifer yr arosiadau o ddwy flynedd a rhagor, ac mae hynny'n cynnwys yr amseroedd aros hwyaf o dair blynedd a rhagor hefyd, i fod yn eglur ynghylch y pwynt a wnaeth yn ei ddatganiad. Yn amlwg, nid yw pobl yn gorfod aros am fwy na dwy flynedd yn dderbyniol—fe wyddom ni hynny—ond rwy'n credu y dylem ni gydnabod hefyd os caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni, fel rydym ni'n gobeithio'n fawr iawn y byddan nhw, y bydd hynny'n amlygu gostyngiad sylweddol iawn. Fe fydd yna ffordd i fynd eto, ond rwyf eisiau cefnogi'r bwrdd iechyd i barhau ar y trywydd hwnnw, er mwyn i ni symud ymhellach i ffwrdd fyth oddi wrth y mathau o rifau yr oedd yn cyfeirio atyn nhw.
O ran y pwyntiau a wnaeth am amseroedd aros mewn achosion brys, yn benodol, rwyf o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod lle mae cynnydd wedi bod. Mae'n gywir i ddweud nad yw'r targedau hynny'n cael eu cyflawni. Mae angen eu cyflawni, yn amlwg—mae angen eu cyflawni ym mhob cwr o Gymru—ond fe fu yna gynnydd yn y meysydd hynny. Ac mewn gwirionedd, boed hynny o ran datblygu rhyddhau cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, ehangu'r adran frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yr uned ddydd feddygol newydd yng Nglan Clwyd, mae datblygiadau wedi bod y gwyddom ni y gallan nhw roi sylfaen fwy cadarn ar gyfer perfformiad gwell mewn adrannau brys yn y dyfodol, sef yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld, yn amlwg.
Fe wnaeth fy herio i o ran camau gweithredu. Mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd a'r disgwyliad sydd gennym ni o'r bwrdd iechyd yn faterion sydd i gyd ar gael i'r cyhoedd, fel y dylen nhw fod, a honno yw'r sail y mae e'n fy herio i arni heddiw. Felly, mae honno'n wybodaeth sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Nid cosb yw uwchgyfeirio, ond mecanwaith y mae'n rhaid i ni ei ddarparu i roi'r gefnogaeth angenrheidiol i'r bwrdd iechyd.
Ar gyfer yr holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei ddatganiad, fe hoffwn ei atgoffa ei bod hi'n haws dweud na gwneud, ac er mwyn gallu dal ati i gefnogi'r bwrdd iechyd a'r GIG, mae angen pasio'r cyllid yr ydym ni'n ei roi gerbron ar gyfer y ddadl heddiw, ac fe fydd y cyhoedd yn gwylio pan welan nhw ei blaid ef yn pleidleisio yn erbyn y cyllid hwnnw ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn pleidleisio yn erbyn y cynnydd hwnnw y bydd cyfran ohono'n mynd at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y diweddariad yma, a dwi'n ategu y canmoliaeth i'r gweithlu yn ardal Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae bwrdd iechyd y gogledd wedi bod mewn mesurau arbennig am dros ddwy ran o dair o’i holl fodolaeth, sy’n tanlinellu’n glir i ba raddau mae’r eithriadol wedi cael ei normaleiddio o dan y Llywodraeth hon.
Wrth gwrs, mae’r cynnydd sydd wedi cael ei sôn amdano heddiw i’w groesawu. Fe gyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y fan awdioleg. Ces i'r fraint o fynd efo nhw a'u gweld nhw ar waith. Ac mae gwasanaeth y galon, sydd yn un cymunedol, hefyd i'w groesawu. Felly, mae angen gweld yr arfer da sydd wedi datblygu yn cael ei rolio allan ar draws Cymru gyfan.
Felly, gwnaf i ddim craffu ar y pethau da sydd wedi digwydd, ond mi wnaf i graffu a threulio ychydig o amser yn craffu ar rai o'r gwendidau sydd yn parhau yn y rhanbarth. Ac nid ar chwarae bach yr ydw i’n nodi rhai o’r gwendidau hynny, oherwydd mae fy anwyliaid i yn gleifion o dan ofal y bwrdd iechyd, ac felly mae o yn fy niddordeb i i weld y sefyllfa yn gwella mor fuan â phosib.
Nôl ym mis Hydref, eich blaenoriaethau chi am y chwe mis dilynol oedd:
'gwella amseroedd aros 52 wythnos adeg y cam cleifion allanol cyntaf o fis i fis'—
a dwi'n dyfynnu—
'dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am driniaeth, dim achosion o aros mwy na 4 awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a pherfformiad gwell o ran amseroedd aros 4 awr a 12 awr mewn adrannau achosion brys.'
Dyna yr oeddech chi wedi'i addo. Ond yn ystod y tri mis oedd yn dilyn y datganiad yma, fe wnaeth arosiadau triniaeth o dros flwyddyn gynyddu o dros 2,300. Fe gynyddodd nifer yr oriau sy’n cael eu colli oherwydd gohiriadau yn nosbarthiadau ambiwlans gynyddu o bron i 2,000, a gwelwyd gostyngiad yn y canran o gleifion oedd yn aros yn yr adrannau gofal brys am lai na’r targedau o bedair a 12 awr. A thra bod mân ostyngiad yn rhestrau aros wedi’i weld ar lefel genedlaethol yn ystod mis Rhagfyr, fe wnaeth cyfanswm rhestrau aros Betsi Cadwaladr gynyddu, gyda Betsi Cadwaladr bellach yn gyfrifol am bron i chwarter o’r ôl-groniad ar draws Cymru.
Mae arosiadau ar gyfer pobl ifanc hefyd wedi cynyddu ymhellach dros y 12 mis diwethaf, gyda Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 57 y cant o bob arhosiad o dros ddwy flynedd ymysg cleifion o dan 18 oed. Felly, yn erbyn y cerrig milltir a osodwyd gennych chi, yr Ysgrifennydd Cabinet, eich hunan, ydych chi'n ystyried y data yma fel tystiolaeth o gynnydd? Pam fod amcanion mis Hydref wedi syrthio mor bell y tu ôl i'r nod, a phwy sy’n atebol am y methiant i gyrraedd y targedau? Wrth gwrs, mae’n deg meddwl bod y Llywodraeth wedi gosod y targedau yma yn seiliedig ar ragamcanion neu ar addewidion, felly tybed all yr Ysgrifennydd Cabinet osod allan i ni beth oedd sail y targedau a osodwyd nôl ym mis Hydref.
Fe wnaeth adroddiad mis Hydref hefyd sôn am yr angen i wella cydweithio rhwng y bwrdd iechyd a gwasanaethau yn y sector cynradd a’r sector gofal, rhywbeth sydd yn broblem gyfarwydd dros Gymru ers blynyddoedd. Ond er gwaetha’r uchelgais yma, yr hyn yr ydw i’n ei glywed ydy fod gan y bwrdd iechyd ddyledion ariannol i awdurdodau lleol am gostau darpariaeth gofal ar y cyd, sydd yn gyfwerth â channoedd o filoedd o bunoedd. Fe ofynnais i gwestiwn ysgrifenedig ar yr union bwnc yma rai wythnosau yn ôl a chael fy siomi nad oes gan y Llywodraeth unrhyw wybodaeth beth yn union ydy maint dyledion y bwrdd iechyd i’r awdurdodau lleol. Rŵan bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael amser i gasglu’r wybodaeth ynghyd, tybed a fedrith e ein diweddaru ni ar union swm yr arian sydd yn ddyledus i awdurdodau lleol gan y bwrdd iechyd. Ac ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon gyda’r sefyllfa?
Fe wnaeth y diweddariad ym mis Hydref hefyd sôn am yr angen am gynnydd tuag at
'lywodraethiant ariannol cadarn ac amgylchedd rheoli ariannol cadarn',
ond mae’n anochel y bydd yr ymdrechion yma, sydd wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth dros y flwyddyn ddiwethaf, er tegwch, yn cael eu tanseilio'n sylweddol gan benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, yn enwedig gan y bydd dyraniad ad-daliadau'r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail y system Barnett yn gadael Cymru ar golled o'i chymharu â Lloegr.
Fe gyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid at y sefyllfa gyda'r yswiriant gwladol fel anghyfiawnder sylfaenol, ac mae'n gywir, oblegid bydd sawl darparwr gwasanaethau iechyd a gofal yn gorfod ffeindio arian i dalu'r cynnydd yma yn y dreth. Felly, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r costau ychwanegol i'r bwrdd iechyd o ganlyniad i'r codiadau yswiriant gwladol sydd i ddod o fis Ebrill ymlaen? Ac os ydy'r ad-daliadau yn seiliedig ar Barnett, fel y disgwylir, faint o arian ychwanegol bydd angen i'r bwrdd iechyd neilltuo er mwyn gwneud iawn am y diffyg?
Ac yn olaf, fe sonioch yn eich cyflwyniad am ofal fasgwlar. Mae'n bechod bod y gwasanaeth wedi cael ei dynnu o Ysbyty Gwynedd yn y lle cyntaf, ond rŵan mae disgwyl i nifer o gleifion dderbyn eu gofal yn Stoke. Ai allanoli gwasanaethau i ysbyty yn Lloegr ydy pinacl uchelgais y Llywodraeth hon?
I thank the Cabinet Secretary for this update, and I do echo the praise paid to the workforce in the Betsi Cadwaladr area. Of course, the north Wales health board has been in special measures for over two thirds of its entire existence, which clearly underlines the extent to which the exceptional has been normalised under this Government.
Of course, the progress that has been mentioned today is to be welcomed. The Cabinet Secretary referred to the audiology van. I had the privilege of going with them and seeing them at work. And the cardiac service, which is a community service, is also to be welcomed. So, we need to see that good practice that has been developed being rolled out across Wales.
So, I won't scrutinise the good things that have happened, but I will spend some time scrutinising some of the weaknesses that continue in the region. And it is no small matter that I note some of the weaknesses, because my loved ones are patients under the board’s care, and it's therefore in my interests to see the situation improve as soon as possible.
Back in October, your priorities for the subsequent six months were:
'improvement in 52-week waits at first outpatient stage month-on-month'—
and I quote—
'zero patients waiting over 156 weeks for treatment, zero 4-hour ambulance handovers and improved 4 and 12-hour emergency department waiting time performance.'
That's what you promised. But during the three months following that statement, treatment waits of over a year increased by over 2,300. The number of hours lost due to delays in ambulance transfers increased by almost 2,000, and a reduction was seen in the percentage of patients waiting in emergency care departments for less than the targets of four and 12 hours. And while a small reduction in waiting lists was seen at a national level during December, the total waiting-list numbers at Betsi increased, with Betsi now responsible for almost a quarter of the backlog across Wales.
Waits for young people have also increased further over the last 12 months, with Betsi Cadwaladr responsible for 57 per cent of all waits of more than two years among patients under the age of 18. So, against the milestones set by you, Cabinet Secretary, do you consider these data as evidence of progress? Why have October's objectives fallen so far short of the mark, and who is responsible for the failure to meet those targets? Of course, it's fair to think that the Government has set these targets based on projections or promises, so I wonder whether the Cabinet Secretary could set out what the targets were based on back in October.
The October report also mentioned the need to improve collaboration between the health board and services in the primary sector and the care sector, something that has been a familiar problem for Wales for many years. But despite this ambition, what I am hearing is that the health board is indebted financially to local authorities for the costs of joint care provision—debts that equate to hundreds of thousands of pounds. I asked a written question on this very subject some weeks ago, and I was disappointed that the Government had no information as to exactly what the health board's debt levels are to local authorities. Now that the Cabinet Secretary has had time to gather that information, I wonder whether he could update us on the exact amount of money owed to the local authorities by the health board. And is the Cabinet Secretary satisfied with this situation?
The October report also mentioned the need for progress towards
'robust financial governance and a robust financial control environment',
but it's inevitable that these efforts, which have borne some fruit over the last year, in fairness, will be significantly undermined by the decision of the Westminster Labour Government to increase national insurance contributions, particularly as the allocation of Treasury refunds to core public services based on the Barnett system will leave Wales facing a loss compared to England.
The Cabinet Secretary for finance referred to the situation regarding national insurance as a fundamental injustice, and he's right, because many providers of health and care services will have to find money to fund this increase in tax. So, what assessment has the Government made of the additional costs to the health board resulting from the national insurance rises to come from April onwards? And if the reimbursements are based on Barnett, as expected, how much additional money will the health board need to set aside in order to make up for the shortfall?
And finally, you mentioned in your speech about vascular care. It's a shame that this service has been withdrawn from Ysbyty Gwynedd in the first place, but now a number of patients are expected to receive their treatment in Stoke. Is outsourcing the services to an English hospital the pinnacle of the ambition of this Government?
Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y croeso mae wedi'i roi i'r cynnydd sydd wedi cael ei ddangos yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac i'r diolch mae wedi'i roi i waith staff y bwrdd iechyd, sydd i'w groesawu. Mae'n gwbl greiddiol ein bod ni'n cydnabod yr holl waith sy'n digwydd o ran y gweithle, ac rwy'n gwybod bod y gweithlu a'i gynrychiolwyr yn edrych ar y drafodaeth hon heddiw, felly byddan nhw wedi clywed ac yn gwerthfawrogi'r pwynt mae'r Aelod wedi'i wneud.
O ran y targedau, mae'r targedau sydd wedi'u gosod yn rhan o ystod o dargedau cenedlaethol sydd yn ddisgwyliedig o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel pob bwrdd iechyd arall. Fel gwnes i sôn yn fy ymateb i gwestiwn Darren Millar, o ran y gwaith i leihau'r rhifau sy'n aros yr hiraf am driniaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cydweithio gyda ni'n agos dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod yr arosiadau hiraf yn cael eu lleihau, ac os byddwn ni'n gweld, fel y byddwn ni, ymhen rhyw wythnosau ar ôl diwedd y mis hwn, beth yw'r perfformiad ar gyfer diwedd Mawrth, os ydy'r cynlluniau'n cael eu gwireddu, fel rwy'n gobeithio y byddan nhw, bydd hynny wedi dangos gostyngiad sylweddol iawn o fewn y rhifau sy'n aros am yr amseroedd hiraf.
Does neb yn credu bod miloedd o bobl yn aros am ddwy flynedd a mwy yn dderbyniol. Dyw'r bwrdd iechyd yn sicr ddim yn credu hynny; dŷn ni ddim yn credu hynny fel Llywodraeth. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd rŷn ni yn eu gweld nhw'n gwneud ar hyn o bryd fel bod hynny'n parhau. Ar ddiwedd y dydd, nid cwestiwn o ddata nac ystadegau yw hyn, ond cwestiwn o fywydau a phrofiadau cleifion. Felly, rŷn ni gyd yn gytûn bod angen sicrhau bod y cynnydd hwnnw'n parhau, a bod cyflymder y cynnydd yn parhau hefyd. Mae'r bwrdd iechyd yn sicr yn cytuno gyda hynny.
O ran y gwaith i wneud gyda'r adrannau brys, gwnes i sôn yn fy ymateb i Darren Millar am beth o'r gwaith sydd wedi digwydd yn y maes hwnnw. Gwnaeth yr Aelod sôn am wasanaethau i bobl ifanc. Mae'n werth nodi—gwnes i ddim dweud hyn yn fy natganiad—o ran asesiadau iechyd meddwl ar gyfer pobl o dan 18, fod 91 y cant o'r rheini'n cael eu gweld erbyn hyn o fewn y cyfnod gofynnol o 28 diwrnod, sydd yn ffigur i'w groesawu, dwi'n credu.
Gwnaeth e ofyn beth oedd sail y targedau yma. Mae'r targedau yma'n rai cenedlaethol sydd yn berthnasol ar gyfer pob bwrdd. Un o'r rheini yw sicrhau ein bod ni'n lleihau'r rhifau o bobl sy'n aros mewn ysbytai yn rhy hir, fel eu bod nhw'n barod i fynd adref ac yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen. Ac mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cydweithio gyda'r chwe chyngor sydd yn rhan o'r footprint rhanbarthol i wella'r profiadau sydd gan gleifion yn y sefyllfa honno. Rŷn ni wedi gweld cynnydd ar draws y gogledd o ran y rhifau sydd yn goraros, os hoffwch chi, yn yr ysbyty, sydd yn barod yn feddygol i fynd adref a bod angen gofal arnyn nhw. Mae cynnydd wedi bod yn hynny, ac mae gwaith da wedi bod yn digwydd gyda'r cartrefi preswyl i sicrhau bod llai o bobl yn cael mynediad i'r ysbyty yn y lle cyntaf, sydd hefyd yn beth pwysig. Felly, dwi'n credu mai mwy o angen ar gyfer hynny sydd.
Gwnaeth yr Aelod sôn am y sefyllfa ariannol. Wrth gwrs, mae pwysau ar bob bwrdd iechyd o ran y gyllideb. Mae angen edrych ar ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau bod y cynnydd yn y rhestrau aros ddim yn mynd ymhellach, fel ein bod ni'n gallu darparu system sydd mewn cydbwysedd. Dyna yw'r nod; dyna yw'r nod yn Betsi, fel ymhob rhan o Gymru. Ond o ran yr arian a'r gefnogaeth ariannol sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd a'r gwasanaeth iechyd, mae cyfle heddiw i'r Aelod gefnogi cyllideb fydd yn cynyddu hynny ac yn rhoi cefnogaeth bellach i'r bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf. Felly, bydd y cyhoedd yn edrych ar bleidlais yr Aelod a Phlaid Cymru pan ddaw hi at y gyllideb nes ymlaen.
Well, I'm grateful to the Member for the welcome that he has given to the progress that has been made over the past two years, and in thanking the staff of the health board, which is to be welcomed. It's crucial that we recognise all of the work that is done by the workforce, and I know that the workforce and its representatives are viewing this debate today, so they will have appreciated the point made by the Member.
In terms of the targets, the targets set are part of a range of national targets that are expected of Betsi Cadwaladr University Health Board, like all other health boards. As I mentioned in my response to Darren Millar's questions about the work to reduce the numbers waiting longest for treatment, the health board has been working with us very closely over recent months to ensure that the longest waits are reduced, and if we see, as we will in a few weeks after the end of this month, what the performance is in March, and if the plans are being delivered, as I hope that they will, then that will have shown a very significant reduction in the numbers waiting for the longest times.
Nobody thinks that thousands of people waiting for two years and more is acceptable. The health board certainly doesn't think that, and we as a Government don't believe that. But it's also important that we support the health board in making the progress that we are seeing them make at the moment and for that to continue. At the end of the day, it's not a question of data or statistics; it's a matter of the lives of patients and their experience. So, we are all agreed that that progress needs to continue, and that the pace of the progress also continues. The health board would certainly agree with that.
In terms of the work related to emergency departments, I mentioned in my response to Darren Millar some of the work that's happened in that area. The Member mentioned services for young people. It's worth noting—and I didn't refer to this in my statement—in terms of mental health assessments for those under the age of 18, that 91 per cent of those are now being seen within the expected time of 28 days, which is a figure that we should welcome, I think.
He asked what the basis of these targets are. Well, these are national targets that apply to all health boards, and one of those is to ensure that we reduce the numbers of people waiting in hospitals for too long, so that when they're ready to go home, they get the support that they need. The health board has been working with the six councils that are part of the regional footprint to improve patient experience in that situation. We have seen progress across north Wales in terms of the numbers who are waiting too long in hospital and are medically ready to return home. There has been progress made in that regard, and good work has been done with care homes in order to ensure that fewer people have to go to hospital in the first instance, which is also important. So, I think that we need to do more of that.
The Member mentioned the financial situation. Of course, there is pressure on every health board in terms of budgets. We need to look at new ways of working, and ensure that the increase in waiting lists doesn't go further, so that we can develop a balanced system. That's the aim; that's the aim in Betsi, as it is elsewhere in Wales. But in terms of the finance and the financial support required by the health board and the health service more generally, there's an opportunity this afternoon for the Member to support a budget that will increase that and will provide further support to the health board over the next year. So, the public will be looking at the Member's vote and Plaid Cymru's vote when it comes to the budget later on this afternoon.
Thank you very much, Cabinet Secretary, for this very important update. It is really good to see the progress being made by the health board, but as you say yourself, there's still a long way to go.
I'd just like to raise two areas. Firstly, the infant feeding support service, which has been based at the Maelor hospital for about four years, and this service has been transformational in improving the quality of service delivery, with an evaluation of service outcomes consistently showing overwhelming satisfaction from the women involved and, most importantly, improving breastfeeding rates overall. So, I'm just interested to know what the Welsh Government is doing to ensure that that important service continues with access for all.
Secondly, I've been contacted by some concerned constituents regarding future funding arrangements for a metastatic cancer nurse specialist post in Wrexham. It's a really important role, which was originally set up as part of Welsh Government support for transformation of our health services, and I'd be grateful again for an update on what discussions you and your officials have been having around this post. You and I have discussed in the Chamber before that transformation and innovation is so important for our health boards going forward. They can't just keep doing the same things differently, they really have to do different things.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am y diweddariad pwysig iawn hwn. Mae'n dda iawn gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan y bwrdd iechyd, ond fel rydych chi'n ei ddweud eich hun, mae tipyn o ffordd i fynd eto.
Hoffwn i sôn am ddau faes. Yn gyntaf, y gwasanaeth cymorth bwydo babanod, sydd wedi'i leoli yn ysbyty Maelor ers tua phedair blynedd, ac mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn drawsnewidiol o ran gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, gyda gwerthusiad o ganlyniadau'r gwasanaeth yn dangos yn gyson foddhad ysgubol ymhlith y menywod dan sylw, ac, yn bwysicaf oll, cyfraddau bwydo ar y fron sy'n gwella yn gyffredinol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth pwysig hwnnw'n parhau a bod mynediad i bawb.
Yn ail, mae rhai etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi ynglŷn â threfniadau cyllido yn y dyfodol ar gyfer swydd arbenigol nyrs canser metastatig yn Wrecsam. Mae'n rôl bwysig iawn a gafodd ei sefydlu'n wreiddiol fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd, a byddwn i'n ddiolchgar eto am yr wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rydych chi a'ch swyddogion wedi bod yn eu cael ynghylch y swydd hon. Rydych chi a minnau wedi trafod yn y Siambr o'r blaen pa mor bwysig yw trawsnewid ac arloesi i'n byrddau iechyd wrth symud ymlaen. Allan nhw ddim parhau i wneud yr un pethau'n wahanol, mae'n wir rhaid iddyn nhw wneud pethau gwahanol.
I thank the Member for the two important points that she raises, and both those are good examples of innovation happening in Maelor hospital in her constituency. I was also there at the end of last year discussing with them the launch at that point of a new rapid chemotherapy service there, actually, which came into action at the end of September and that enables a specially trained nurse to deliver treatments for patients, with up to 10 patients a day being able to be seen in that way. So, it is absolutely important, as the Member rightly says, to find innovative ways to deliver services.
On the two specific points that she asked me about, on the breastfeeding support service in particular, that service started, as the Member mentioned, as a pilot at the Maelor in 2021—the first in Wales to introduce a baby-feeding team within the maternity unit. That service was then extended, actually, to Glan Clwyd in 2023. The health board absolutely does recognise the importance of being able to support families in that way and is currently looking at plans for these services within both hospitals and looking at long-term plans for the service across all of its sites as part of its broader commitment to support a healthy start to families across north Wales.
In relation to the metastatic cancer nurse specialist at the Maelor, it's one of a number of roles that are being funded using temporary funding, which we've provided as a Government, to support enhanced cancer performance. The board is considering the future of the role as part of its workforce planning more generally, and recognises, in the way that the Member has said today, the positive feedback that patients and patient groups have provided in relation to that service, and it would be taking that into account as it's planning how that can be integrated into its service more broadly.
Diolch i'r Aelod am y ddau bwynt pwysig mae'n eu codi, ac mae'r ddau bwynt hynny yn enghreifftiau da o'r arloesi sy'n digwydd yn ysbyty Maelor yn ei hetholaeth. Yn wir, roeddwn i yno hefyd ddiwedd y llynedd yn trafod gyda nhw lansio, ar yr adeg honno, wasanaeth cemotherapi cyflym newydd yno, a ddaeth yn weithredol ddiwedd mis Medi ac sy'n galluogi nyrs sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig i ddarparu triniaethau i gleifion, ac mae hyd at 10 o gleifion y dydd yn gallu cael eu gweld yn y ffordd honno. Felly, mae'n wirioneddol bwysig, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau.
Ar y ddau bwynt penodol y cododd hi gyda mi, o ran y gwasanaeth cymorth bwydo ar y fron yn benodol, dechreuodd y gwasanaeth hwnnw, fel y soniodd yr Aelod, fel peilot yn ysbyty Maelor yn 2021—y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno tîm bwydo babanod yn yr uned famolaeth. Cafodd y gwasanaeth hwnnw ei ymestyn wedyn, a dweud y gwir, i Glan Clwyd yn 2023. Mae'r bwrdd iechyd yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd gallu cefnogi teuluoedd yn y ffordd honno ac ar hyn o bryd mae'n ystyried cynlluniau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y ddau ysbyty ac yn ystyried cynlluniau hirdymor ar gyfer y gwasanaeth ledled ei holl safleoedd fel rhan o'i ymrwymiad ehangach i gefnogi dechrau iach i deuluoedd ar draws y gogledd.
O ran yr arbenigwr nyrsio canser metastatig yn ysbyty Maelor, mae'n un o nifer o rolau sy'n cael eu hariannu gan ddefnyddio cyllid dros dro, yr ydym wedi'i ddarparu fel Llywodraeth, i gefnogi gwell perfformiad ym maes canser. Mae'r bwrdd yn ystyried dyfodol y rôl fel rhan o'i waith cynllunio'r gweithlu yn fwy cyffredinol, ac mae'n cydnabod, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i ddweud heddiw, yr adborth cadarnhaol y mae cleifion a grwpiau cleifion wedi'i roi o ran y gwasanaeth hwnnw, ac fe fyddai'n ystyried hynny wrth gynllunio sut y gellir integreiddio hynny yn ei wasanaeth yn ehangach.
I just endorse everybody else's thanks for bringing this statement, but the first sentence, with reference to marking the fact that it's two years since the decision to place the Betsi Cadwaladr University Health Board into special measures, seems to evade the issue that I've been here 14 years, and the health board has been in special measures for a large part of that—some 10 years. Also, I'm really concerned about where you mention the target of closing 75 per cent of complaints within 30 days. I've got to be honest—I'd like to challenge that, because I know, on many complaints that I raise, they do not get solved within that time frame. And if people are referred to Putting Things Right, it can take several months before they get a response. Quite often, those responses then don't have the information or the question responses that people are asking about treatment they or one of their loved ones have had. We still see ambulances stuck outside hospitals, losing nearly 2,000 extra hours due to handover delays. Things are improving in some of the areas. I won't dispute that I have seen some good work, and it's only right that we, as politicians, acknowledge that. But you've still got a long way to go, and really this health board should not and would not have been in special measures had we, the Welsh Conservatives, been running Wales in terms of the health service. Thank you.
Rwy'n ategu'r diolch mae pawb arall wedi'i roi am gyflwyno'r datganiad hwn, ond mae'r frawddeg gyntaf, sy'n cyfeirio at nodi'r ffaith ei bod hi'n ddwy flynedd ers y penderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, i'w weld yn osgoi'r mater fy mod i wedi bod yma 14 mlynedd, ac mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig am ran helaeth o'r amser hynny—rhyw 10 mlynedd. Hefyd, rwy'n pryderu'n fawr ynghylch lle rydych chi'n sôn am y targed o gau 75 y cant o gwynion o fewn 30 diwrnod. Mae'n rhaid i mi fod yn onest—hoffwn i herio hynny, oherwydd rwy'n gwybod, o ran llawer o gwynion yr wyf i'n eu codi, nad ydyn nhw'n cael eu datrys o fewn yr amserlen honno. Ac os yw pobl yn cyfeirio at Gweithio i Wella, gall gymryd sawl mis cyn iddyn nhw gael ymateb. Yn eithaf aml, nid oes gan yr ymatebion hynny wedyn yr wybodaeth na'r ymatebion i'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn am driniaeth y maen nhw, neu un o'u hanwyliaid, wedi'i chael. Rydyn ni'n dal i weld ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai, gan golli bron i 2,000 o oriau ychwanegol oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae pethau'n gwella mewn rhai ardaloedd. Wnaf i ddim dadlau fy mod i wedi gweld rhywfaint o waith da, ac nid yw ond yn iawn ein bod ni, fel gwleidyddion, yn cydnabod hynny. Ond mae gennych chi gryn dipyn o ffordd i fynd ac, mewn gwirionedd, ni ddylai ac ni fyddai'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig pe baem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn rhedeg Cymru o ran y gwasanaeth iechyd. Diolch.
Well, I thank the Member for the points that she has made in relation to the progress that the health board has shown. It is important, as the Member has done, to acknowledge where positive developments are happening. We need to have an honest reflection, don't we, on what's working well and where there is further to go. That is definitely the space, in my experience, in which the board and the senior executive team at the health board are—that sense of honest evaluation. I won't repeat the points I've made, which I think reflect a number of the questions that the Member has made in her contribution, just to say that she has the opportunity to show us what the Conservative Party intends to do in relation to the NHS by supporting the Government's budget today, which increases the budget to the NHS by many, many hundreds of millions.
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud o ran y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddangos. Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae'r Aelod wedi'i wneud, lle mae datblygiadau cadarnhaol yn digwydd. Mae angen i ni fyfyrio'n onest, onid oes, ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae mwy o ffordd i fynd. Yn bendant, dyna lle mae bwrdd ac uwch dîm gweithredol y bwrdd iechyd, yn fy mhrofiad i—yr ymdeimlad hwnnw o werthuso gonest. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu nifer o'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yn ei chyfraniad hi, dim ond i ddweud bod ganddi'r cyfle i ddangos i ni yr hyn mae'r Blaid Geidwadol yn bwriadu ei wneud o ran y GIG trwy gefnogi cyllideb y Llywodraeth heddiw, sy'n cynyddu'r gyllideb i'r GIG gan gannoedd lawer o filiynau.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, dwi'n croesawu unrhyw arwyddion o gynnydd o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a dwi'n ddiolchgar iawn am y briefing a roddwyd gan gadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd i Aelodau'r gogledd ychydig wythnosau yn ôl, ond y gwir amdani ydy ers llawer gormod o amser mae diffygion o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael effaith andwyol iawn ar y bobl dwi'n eu cynrychioli yn Ynys Môn, ac mae o'n dal yn broblem. Rydyn ni'n dal i aros am feddygfa newydd yng Nghaergybi ac mae pethau'n symud yn affwysol o araf. Mae rhestrau aros am wasanaethau fasgwlar, rydyn ni'n gwybod, a iechyd meddwl, diagnosis ar gyfer cyflyrau niwrowahanol i blant ac oedolion, yn rhy hir o lawer, ac mae apwyntiadau deintyddol yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i'w cael, dim ots beth rydyn ni'n ei glywed gan Lywodraeth Cymru, a dydy'r gwasanaeth iechyd menywod ddim yn hafal ar draws y gogledd. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi bod y llusgo traed yma yn annerbyniol a'i fod o yn arwain at anobaith o hyd gan gleifion, ac ydy o'n cytuno bod angen amserlen glir a disgwyliadau eglur iawn wrth inni symud ymlaen?
Thank you, Dirprwy Lywydd. Of course, I welcome any signs of progress within the Betsi Cadwaladr health board and I'm very grateful for the briefing provided by the chair and chief executive for Members from north Wales a few weeks ago, but the truth of the matter is that for far too long deficiencies within the Betsi Cadwaladr health board have had a very detrimental impact on the people that I represent on Ynys Môn, and it remains a problem. We are still awaiting a new surgery in Holyhead and things are moving appallingly slowly. Waiting lists for vascular services, we know, and mental health services, diagnoses of neurodiversity for children and adults, are far too long, and dental appointments are becoming more and more difficult to access, no matter what we hear from the Welsh Government, and women's health services are not equal across north Wales. So, would the Cabinet Secretary agree with me that this dragging of feet is unacceptable and that it leads to a loss of hope among patients, and does he agree that there needs to be a clear timetable and very clear expectations as we move forward?
Wel, rwy'n gwybod bod hwn o bwys penodol i'r Aelod o ran ei etholaeth, ond mae datblygiadau wedi bod yng Nghaergybi ers diwedd y flwyddyn ddiwethaf, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac mae'r cynlluniau hynny yn cael eu cysidro ar y cyd gyda'r cyngor ar hyn o bryd.
Fe wnes i sôn o ran asesiadau pobl ifanc fod cynnydd sylweddol wedi bod o ran asesiadau iechyd meddwl yn benodol, fod 91 y cant o'r rheini yn cael eu gweld o fewn 28 diwrnod, sydd yn ffigur sylweddol iawn o ran cynnydd, felly rŷn ni'n croesawu hynny hefyd.
Fel mae'r Aelod yn ei ddweud, mae llawer o waith i'w wneud—llawer iawn o waith—ac mae'r bwrdd yn sicr yn cydnabod hynny. Fel fe wnes i sôn yn fy natganiad, wedi edrych ar llywodraethiant, wedi edrych ar ansawdd a diogelwch, perfformiad yw'r ffocws ar gyfer y cyfnod o'n blaenau ni a dyna sydd angen inni ei weld, wrth gwrs.
O ran amserlen, dwi ddim yn mynd i roi amserlen ar hyn o beth. Beth dwi eisiau ei weld yw bod y bwrdd iechyd yn gallu dod allan o fesurau arbennig cyn gynted â bod hynny'n addas. Nid sanction yw'r system hon, ond ffordd o roi cefnogaeth i'r bwrdd iechyd. Rŷn ni eisiau gweld hynny yn digwydd yn gyflym. Mae'r bwrdd iechyd eisiau gweld hynny yn digwydd yn gyflym. Ond y peth pwysig yw bod hyn yn digwydd mewn ffordd bwrpasol sydd yn gynaliadwy ac sydd yn rhoi sicrwydd i bobl yn ei etholaeth ef ac ar draws y rhanbarth fod y gwasanaeth iechyd ar sail gynaliadwy yn gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Dwi ddim yn barod i roi amserlen ar hwnnw. Byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau pan fydd y sefyllfa yn barod ar gyfer hynny.
Well, I know that this is of specific importance to the Member in terms of his constituency, but there have been developments in Holyhead since the end of last year, as the Member knows, and those plans are being considered jointly with the council at present.
I mentioned in terms of young people's assessments that there has been significant progress in terms of the mental health assessments, specifically that 91 per cent of those are being seen within 28 days, which is a very significant figure in terms of progress, so we welcome that as well.
As the Member says, there is a lot of work to be done—a great deal of work—and the board certainly recognises that. As I mentioned in my statement, having looked at governance and quality and safety, performance is the focus for the period before us, and that is what we need to see, of course.
In terms of a timetable, I'm not going to provide a timetable on this. What I want to see is that the health board can emerge from special measures as soon as is appropriate. This system is not a sanction, but a way of providing support to the health board. We want to see that happen quickly. The health board wants to see that happening quickly. But the important thing is that this does happen in a purposeful way that is sustainable and that provides assurance to people in his constituency and across the region that the health board is on a sustainable footing and can provide the services that are needed. I'm not prepared to give a timetable for that. We'll be making the decisions when the situation is ready for that.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddiweddariad heddiw.
Thank you, Dirprwy Lywydd, and thank you for this afternoon's update.
We've heard in here that it's been some time since Betsi Cadwaladr University Health Board was first placed in special measures, and, whilst I recognise the positive steps set out in this two-year update, I would welcome any additional assurance you could give to my constituents on those areas where further progress is needed or noted—for example, on cancer performance and urgent care.
But, from the conversations and correspondence I have, more often than not, once people get into the system, their treatment experience is second to none, and that is very much down to the dedicated workforce, working, at times, under what we know is severe pressure. So, Cabinet Secretary, do you acknowledge that the progress that's been made possible at Betsi Cadwaladr University Health Board is in no small part due to the dedication of staff across all grades who work tirelessly to make sure patient care is done in a kind, caring and professional way, and that it is only meaningful partnership working with trade union partners that makes this difference, for the benefit not just of staff, but of patients in the service as a whole, and also agree with me that the workforce, through their trade unions, must be front and centre of creating change at Betsi Cadwaladr University Health Board? Diolch.
Rydyn ni wedi clywed yn y fan yma bod cryn amser wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf, ac, er fy mod i'n cydnabod y camau cadarnhaol sydd wedi'u nodi yn y diweddariad dwy flynedd hwn, byddwn i'n croesawu unrhyw sicrwydd ychwanegol y gallech chi ei roi i fy etholwyr ar y meysydd hynny lle mae angen cynnydd pellach, neu lle mae wedi'i nodi—er enghraifft, ar berfformiad canser a gofal brys.
Ond, o'r sgyrsiau a'r gohebiaethau rwyf i'n eu cael, yn amlach na pheidio, unwaith y bydd pobl yn mynd i mewn i'r system, mae eu profiad o driniaeth yn ddi-ail, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y gweithlu ymroddedig, sy'n gweithio, ar adegau, o dan yr hyn rydym yn ei wybod sy'n bwysau difrifol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cydnabod bod y cynnydd sydd wedi bod yn bosibl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w briodoli i raddau helaeth i ymroddiad staff ar draws pob gradd sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gofal cleifion yn cael ei wneud mewn ffordd garedig, ofalgar a phroffesiynol, ac mai dim ond gweithio mewn partneriaeth ystyrlon gyda phartneriaid undebau llafur sy'n gwneud y gwahaniaeth hwn, er budd nid yn unig staff, ond cleifion yn y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd, ac a ydych chi hefyd yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r gweithlu, drwy eu hundebau llafur, fod yn flaenllaw ac yn ganolog wrth greu newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Diolch.
I thank Hannah Blythyn for that question. I absolutely think the health board believes as well that, in relation to the areas that she set out, planned care, urgent and emergency, cancer, but in those other areas as well, there is absolutely a need for performance to improve. Having established clear governance and the focus on quality and safety, the focus on performance will help us improve the outcomes in each of those areas and in others.
I think the point she makes is a very important point. The scale of the change in the health board is very, very significant and it needs to be, and there isn’t any part of the service that that wholesale change isn’t touching, and what that means on the ground, as she says rightly in her question, is staff delivering those services that people depend on right across north Wales, and I absolutely join with her in paying tribute to the work that they do and to the work of their representatives in the trade union movement in particular, and I absolutely think that working in that social partnership way, which is at the heart of how this Government works and how public services right across Wales work, is absolutely essential to delivering the kind of progress that we all want to see.
Diolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn yna. Rwy'n sicr yn credu bod y bwrdd iechyd yn credu hefyd, o ran y meysydd y mae hi wedi'u nodi, gofal wedi'i gynllunio, gofal brys ac argyfwng, canser, ond yn y meysydd eraill hynny hefyd, fod angen i berfformiad wella yn sicr. Ar ôl sefydlu llywodraethu clir a chanolbwyntio ar ansawdd a diogelwch, bydd y ffocws ar berfformiad yn ein helpu ni i wella'r canlyniadau ym mhob un o'r meysydd hynny ac mewn meysydd eraill.
Rwy'n credu bod y pwynt mae hi'n ei wneud yn bwynt pwysig iawn. Mae graddfa'r newid yn y bwrdd iechyd yn arwyddocaol iawn, iawn ac mae angen iddo fod, ac nid oes unrhyw ran o'r gwasanaeth nad yw'r newid hwnnw ar raddfa eang yn ei chyffwrdd, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar lawr gwlad, fel y mae hi'n ei ddweud yn briodol yn ei chwestiwn, yw staff yn darparu'r gwasanaethau hynny y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ledled y gogledd, ac rwy'n sicr yn ymuno â hi i dalu teyrnged i'r gwaith maen nhw'n ei wneud ac i waith eu cynrychiolwyr yn y mudiad undebau llafur yn benodol, ac rwy'n sicr yn credu bod gweithio yn y ffordd honno, mewn partneriaeth gymdeithasol, sydd wrth wraidd y ffordd mae'r Llywodraeth hon yn gweithio a'r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn gweithio, yn gwbl hanfodol i gyflawni'r math o gynnydd rydym i gyd eisiau ei weld.
Thank you very much for your statement this afternoon, Cabinet Secretary. I just wanted to note a couple of omissions from the statement. You mentioned Abergele hospital and the great work that is going on there in terms of the knee replacement surgery, but 80 per cent of that building two years ago was classed as unsafe, and generally across the health board there is an ageing suite of estates across all of north Wales, coming at a significant cost. Are you satisfied with that current state of affairs within the health board and, if not, what support are you offering to executives and the board in regard to this? And could you provide an update on the North Denbighshire Community Hospital in Rhyl, or indeed the lack of, as my constituents would appreciate a latest update on that current state of affairs?
And can I just mention, as a footnote as well, that the grammar is really terrible on this statement? I know it was a late statement, but please could you notify and guide your officials to improve the grammar? Because a lot of them are in lower case, and if this is on the public website and publicly accessible, it doesn’t show a great reflection of the Welsh Government’s quality of statements in terms of public documents. Thank you.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf eisiau nodi cwpl o bethau sydd wedi'u hepgor o'r datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am ysbyty Abergele a'r gwaith gwych sy'n digwydd yn y fan honno o ran y llawdriniaeth gosod pengliniau, ond roedd 80 y cant o'r adeilad hwnnw ddwy flynedd yn ôl yn cael ei ystyried yn anniogel ac, yn gyffredinol, ledled y bwrdd iechyd, mae cyfres o ystadau sy'n heneiddio ar draws y gogledd i gyd, sy'n gost sylweddol. Ydych chi'n fodlon â'r sefyllfa bresennol honno o fewn y bwrdd iechyd ac, os na, pa gymorth rydych chi'n ei gynnig i swyddogion gweithredol a'r bwrdd o ran hyn? Ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, neu'r diffyg gwybodaeth ddiweddaraf, am Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl, gan y byddai fy etholwyr yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol honno?
Ac a gaf i sôn, fel troednodyn hefyd, fod y gramadeg yn wael iawn yn y datganiad hwn? Rwy'n gwybod ei fod yn ddatganiad hwyr, ond a fyddech cystal â rhoi gwybod i'ch swyddogion a'u harwain o ran gwella'r gramadeg? Oherwydd mae llawer ohonyn nhw mewn llythrennau bach, ac os yw hyn ar y wefan gyhoeddus ac ar gael i'r cyhoedd, nid yw'n adlewyrchiad da o ansawdd datganiadau Llywodraeth Cymru o ran dogfennau cyhoeddus. Diolch.
I'm grateful to the Member for the care that he’s taken in reading the statement. In relation to capital investment, he will know that the NHS in Wales has faced constrained circumstances in relation to capital over many years because of decisions taken by his Government in Westminster to underfund public services and that’s had a consequence in all parts of Wales. It is inescapable that the health service in Wales will not have had access to the level of capital that we as a Government wanted to have been able to provide. The Member has an opportunity to help redress that for the year ahead in casting his vote today in support of the budget, and, given his protestations, his constituents will struggle to understand why he doesn’t do that.
On the specific point that he raised—[Interruption.] On the specific point that he has raised in relation to the plans for the hospital, the health board is reviewing proposals at the moment in partnership, as I think he may know, with local stakeholders, and I look forward to receiving a proposal from the health board in due course, which I can then consider, recognising the points that the Member made in his question.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y gofal y mae wedi'i gymryd wrth ddarllen y datganiad. O ran buddsoddiad cyfalaf, bydd yn gwybod bod y GIG yng Nghymru wedi wynebu amgylchiadau cyfyngedig o ran cyfalaf dros nifer o flynyddoedd oherwydd penderfyniadau a wnaed gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan i dangyllido gwasanaethau cyhoeddus ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau ym mhob rhan o Gymru. Mae'n anochel nad yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cael mynediad at lefel y cyfalaf yr oedden ni fel Llywodraeth eisiau ei ddarparu. Mae gan yr Aelod gyfle i helpu i unioni hynny am y flwyddyn sydd i ddod wrth fwrw ei bleidlais heddiw i gefnogi'r gyllideb, ac, o ystyried ei brotestiadau, bydd ei etholwyr yn ei chael hi'n anodd deall pam nad yw'n gwneud hynny.
Ar y pwynt penodol y mae ef wedi'i godi—[Torri ar draws.] Ar y pwynt penodol y mae wedi'i godi o ran y cynlluniau ar gyfer yr ysbyty, mae'r bwrdd iechyd yn adolygu cynigion ar hyn o bryd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol, fel y mae'n ei wybod o bosibl, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cynnig gan y bwrdd iechyd maes o law, y gallaf wedyn ei ystyried, gan gydnabod y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn.
Diolch yn fawr iawn. Ac er bod peth newyddion da, mae’n amlwg bod y sefyllfa wedi gwaethygu mewn rhai meysydd pwysig, ac mae meysydd o fregustra parhaus o hyd, meddai'r Prif Weinidog wrth ddyfynnu o'r adroddiad yn gynharach y prynhawn yma. Fel yr ydych chi'n gwybod, mae Ysbyty Gwynedd yn fy etholaeth i, a llawer o’r gweithwyr yn byw yn ein cymunedau ni yn Arfon, ac mae fy inbox i yn gynyddol llenwi efo pryderon gan staff yr NHS sydd ar ben eu tennyn. Maen nhw dan straen rhyfeddol ac yn methu ymdopi ar adegau. Dwi yn falch, felly, eich bod chi yn cydnabod gwaith caled staff ar draws y bwrdd iechyd yn y gymuned ac yn yr ysbyty, a’ch bod chi yn cydnabod eu rhan hollbwysig a chwbl annatod yn y daith i wella’r bwrdd iechyd.
Fy nghwestiwn, felly, ydy: sut byddwch chi yn gwella’r ffordd mae’r Llywodraeth yn gwrando ar leisiau pwysig staff y rheng flaen, sydd yn awyddus i gyfrannu i greu gwelliant, ac ydyn nhw’n rhan digonol o’r disgwrs? Oes yna le i wella cyfleon ar gyfer cyfraniad y staff ar y daith o wella yn Betsi, ond ar draws y sector iechyd?
Thank you very much. And although there is some good news, it’s clear that the situation has deteriorated in some important areas, and there are ongoing areas of vulnerability, according to the First Minister in referring to the report earlier on this afternoon. As you know, Ysbyty Gwynedd is in my constituency, and much of the workforce lives in our communities in Arfon, and my inbox is increasingly filling with concerns expressed by NHS staff who are at the end of their tether. They are under exceptional pressure and can’t cope at times. I am pleased, therefore, that you do recognise the hard work of staff across the health board in hospitals and in the community, and that you recognise their crucial and integral role in the journey to improve the health board.
My question, therefore, is: how will you improve the way in which the Government does listen to the important voices of the staff, those front-line workers who are eager to contribute to improvements, and are they an adequate part of the discourse? Is there room to improve opportunities for staff contribution to the improvement journey in Betsi, but also across the health sector more generally?
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw. Fel wyf i wedi trafod gyda hi mewn cyd-destunau eraill, ces i gyfle i ymweld gydag Ysbyty Gwynedd a siarad gyda'r staff oedd yn gweithio mor galed yno, a hefyd siarad gyda chleifion i drafod gyda nhw y gofal roedden nhw’n ei gael, a gwnes i gael yr argraff glir, fel mae hi wedi'i ddweud yn ei chwestiwn, fod synnwyr o gymuned yno, sydd yn bwysig iawn, fod y staff a’r cleifion yn aml yn nabod ei gilydd yn dda iawn. Felly, mae'n rhywbeth prin iawn, efallai, yn yr amgylchiad hwnnw.
Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod cydweithio gyda’r staff sydd ar y rheng flaen yn ffordd bwysig o allu penderfynu ar y gwelliannau y gallwn ni eu gwneud yn seiliedig ar brofiad, fel ein bod ni’n gallu deall impact ymarferol y newidiadau rŷn ni’n sôn amdanyn nhw, ond hefyd gwrando ar awgrymiadau am welliannau sydd yn dod o lawr yr ysbyty neu’r gwasanaeth iechyd yn ehangach na hynny.
Beth byddwn i yn ei ddweud yw rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ran yr arolygon staff ar draws y bwrdd iechyd, cynnydd sylweddol yn y rheini sy’n ymateb a chynnydd sylweddol yn yr ystyr bod pobl yn teimlo yn fwy hapus gyda’r datblygiadau dros y ddwy flynedd diwethaf. Felly, mae hynny yn bwysig, rwy’n credu. Rwy’n credu bod hynny’n arwydd bod pobl yn cydnabod bod newidiadau yn digwydd. Yn sicr, nid yw pobl yn meddwl bod pethau lle dylen nhw fod, ond rwy’n credu bod hynny’n arwydd positif o ymrwymiad y bwrdd iechyd i gydweithio gyda staff, ond hefyd, rwy’n gobeithio, ymdeimlad ymhlith y staff fod pethau yn gwella—cydnabyddiaeth bod mwy i'w wneud ond bod pethau yn dechrau gwella.
I thank Siân Gwenllian for that question. As I've discussed with her in other contexts, I had an opportunity to visit Ysbyty Gwynedd and to speak to the staff who are working so hard there, and also I spoke to patients about the care that they were receiving, and I had the clear impression, as she said in her question, that there's a sense of community there, which is very important, that staff and patients know each other very well very often. And that's something quite rare in that setting.
The Member is right to say that collaborating with front-line staff is an important way of being able to decide on the improvements that we can make based on experience, so that we can understand the practical impact of the changes that we are talking about, but also listen to suggestions about improvements that emanate from the floor of the hospital or the health service more broadly.
What I would say is that we've seen significant progress in terms of staff surveys across the health board, an increase in those responding and also progress in terms of people expressing the fact that they're more satisfied with developments over recent years. So that is important, I think. I think that's a sign that people do recognise that changes are happening. Certainly, people don't think that things are where they should be, but I do think that that is a positive sign of the health board's commitment to work with the staff, but also, hopefully, a feeling among the staff that things are improving—a recognition that there is more to do, but things are starting to improve.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
And finally, Mark Isherwood.
Diolch. I spent New Year's Eve in accident and emergency, Wrexham Maelor, as a patient. I must start by saying that, when I arrived and from the moment I arrived, the staff were all brilliant. I sat down in the packed waiting room, the screen on the wall said half and hour to triage, then two and a half hours to treatment. I did get my triage after half an hour, and was told, 'Ignore the screen on the wall, it's at least eight hours to treatment.' I was eventually admitted to the majors ward and spent the night on a trolley there. I had to ask for a blanket at 3 o'clock in the morning. I was probably the youngest person on the ward that night. I mentioned to a cardiologist that it must be particularly bad because it was the new year, and he said, 'No, this is not exceptional.'
I also attended the 20 February briefing for Members of the Senedd by the campaigning organisation EveryDoctor, which included powerful testimony by a Betsi Cadwaladr University Health Board emergency medicine consultant, with important facts and contextual information and their explanation of what needs to change to safeguard lives and support NHS staff. She explained how even she had to personally search the hospital for trolleys when she should be treating patients at times when ambulances were queueing up outside accident and emergency. So, behind your assurances, when will you finally start engaging with front-line NHS staff such as those we heard from and I referred to to establish what really needs to change and how to deliver this?
Diolch. Fe dreuliais i Nos Galan yn adran damweiniau ac achosion brys Maelor Wrecsam fel claf. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud, pan gyrhaeddais i ac o'r eiliad y cyrhaeddais, roedd y staff i gyd yn wych. Fe eisteddais i yn yr ystafell aros lawn, roedd y sgrin ar y wal yn dweud bod hanner awr o aros ar gyfer brysbennu, yna dwy awr a hanner o aros i gael triniaeth. Fe ges i fy mrysbennu ar ôl hanner awr, ac fe ges i wybod, 'Anwybyddwch y sgrin ar y wal, mae hi'n o leiaf wyth awr o aros i gael triniaeth.' Yn y pen draw, fe ges i fy nerbyn i'r ward trawma mawr gan dreulio'r nos ar droli yno. Roedd yn rhaid i mi ofyn am flanced am 3 o'r gloch y bore. Mae'n debyg mai fi oedd y person ieuengaf ar y ward y noson honno. Fe wnes i sôn wrth gardiolegydd bod yn rhaid ei fod yn arbennig o wael gan mai'r flwyddyn newydd ydoedd, ac fe ddywedodd ef, 'Na, dydy hyn ddim yn eithriadol.'
Roeddwn i hefyd yn bresennol yn y sesiwn friffio i Aelodau'r Senedd ar 20 Chwefror gan y sefydliad ymgyrchu EveryDoctor, a oedd yn cynnwys tystiolaeth bwerus gan un o feddygon ymgynghorol meddygaeth frys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda ffeithiau pwysig a gwybodaeth gyd-destunol a'u hesboniad nhw o'r hyn sydd angen newid er mwyn diogelu bywydau a chefnogi staff y GIG. Eglurodd sut roedd yn rhaid iddi hi ei hun hyd yn oed chwilio'r ysbyty am drolïau pan ddylai fod yn trin cleifion ar adegau pan oedd ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly, y tu ôl i'r sicrwydd rydych chi'n ei roi, pryd fyddwch chi'n dechrau ymgysylltu â staff rheng flaen y GIG o'r diwedd, fel y rhai y gwnaethom glywed ganddyn nhw ac y cyfeiriais i atyn nhw, er mwyn nodi'r hyn sydd wir angen newid a sut i gyflawni hyn?
Thank you for sharing your experience, Mark, with us in the Maelor hospital. I can assure you that I do speak to front-line staff, and I've done that, actually, on more than one visit to the Maelor hospital myself. One often hears very challenging accounts of experiences, but you also hear the level of commitment that staff are bringing to provide the care that we know the NHS provides day in, day out to patients right across Wales, including in north Wales.
There is pressure on emergency departments right across north Wales. I set out earlier in my answer to Darren Millar some of the support that we are providing to help alleviate some of that pressure. One of the things that I'm optimistic about in relation to the developments that Betsi has put in place, the board has put in place, is a hub that enables them to co-ordinate better pressures on hospitals, and a system escalation hub, which is now in place across the health board, which has a focus on admissions to ED to make sure that there is a consistent approach, and which, I hope, enables us to improve patient safety, patient experience and, generally, improve urgent care services.
Diolch am rannu'ch profiad yn ysbyty Maelor gyda ni, Mark. Gallaf eich sicrhau fy mod i'n siarad â staff rheng flaen, ac rwyf wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd, ar fwy nag un ymweliad ag Ysbyty Maelor fy hun. Mae rhywun yn clywed adroddiadau heriol iawn am brofiadau yn aml, ond rydych chi hefyd yn clywed am lefel yr ymrwymiad ymhlith staff i ddarparu'r gofal rydym yn gwybod y mae'r GIG yn ei ddarparu bob dydd i gleifion ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd.
Mae pwysau ar adrannau brys ar draws y gogledd. Fe nodais yn gynharach yn fy ateb i Darren Millar rywfaint o'r cymorth rydym yn ei roi i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw. Un o'r pethau rwy'n obeithiol yn ei gylch o ran y datblygiadau y mae Betsi wedi'u rhoi ar waith, mae'r bwrdd wedi'u rhoi ar waith, yw hwb sy'n eu galluogi i gydlynu'r pwysau ar ysbytai yn well, a hwb uwchgyfeirio system, sydd bellach ar waith ledled y bwrdd iechyd, sy'n canolbwyntio ar dderbyniadau i adrannau achosion brys i sicrhau bod dull gweithredu cyson, ac sydd, gobeithio, yn ein galluogi ni i wella diogelwch cleifion, profiad cleifion a gwasanaethau gofal brys yn gyffredinol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Cabinet Secretary.
Eitem 4 heddiw yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 4 this afternoon is the Non-Domestic Rating (Withdrawal of Charitable Relief for Independent Schools) (Wales) Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8836 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.
Motion NDM8836 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Non-Domestic Rating (Withdrawal of Charitable Relief for Independent Schools) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 28 January 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I move the motion to approve the Non-Domestic Rating (Withdrawal of Charitable Relief for Independent Schools) (Wales) Regulations 2025.
Dirprwy Lywydd, we consulted last year on the Welsh Government’s proposal to withdraw charitable non-domestic rates relief from independent schools in Wales. On 28 January, I announced the outcome of that consultation and confirmed that the Welsh Government’s intention was to implement the proposal on 1 April 2025. The withdrawal of relief will bring independent schools with charitable status in line with other independent schools in Wales for the purposes of non-domestic rates.
There are currently 83 independent schools registered in Wales. Of these, 17 receive charitable rate relief and will be affected by this policy change. The policy aim is to make additional funding available for local services in Wales by withdrawing a tax reduction for private education that is paid for by public funds. The consultation sought to identify whether any of the independent schools affected by the proposal are especially organised to make additional learning provision. These are often referred to as ‘independent special schools’. Following careful consideration of the responses, we have refined our approach to include an exception from the withdrawal of relief. This exception will apply to independent special schools where most or all of their pupils have an individual development plan maintained by the local authority in order to meet their additional learning needs. The schools that will be affected by the withdrawal of charitable rate relief have low numbers of pupils with additional learning needs—less than 1 per cent on average, compared to 11 per cent for maintained schools.
Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ymgynghori y llynedd ar gynnig Llywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol yn ôl o ysgolion annibynnol yng Nghymru. Ar 28 Ionawr, fe gyhoeddais i ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw a chadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd gweithredu'r cynnig ar 1 Ebrill 2025. Bydd tynnu rhyddhad yn ôl yn sicrhau bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn gyson ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig.
Ar hyn o bryd mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru. O'r rhain, mae 17 yn derbyn rhyddhad ardrethi elusennol a bydd y newid polisi hwn yn effeithio arnyn nhw. Nod y polisi yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru drwy dynnu gostyngiad treth ar gyfer addysg breifat y mae arian cyhoeddus yn talu amdano yn ôl. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio nodi a yw unrhyw un o'r ysgolion annibynnol y mae'r cynnig yn effeithio arnyn nhw wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol. Yn aml, cyfeirir at yr ysgolion hyn fel 'ysgolion arbennig annibynnol'. Ar ôl ystyried yr ymatebion yn ofalus, rydym wedi mireinio ein dull i gynnwys eithriad rhag tynnu rhyddhad yn ôl. Bydd yr eithriad hwn yn berthnasol i ysgolion arbennig annibynnol lle mae gan y rhan fwyaf neu bob un o'u disgyblion gynllun datblygu unigol a gynhelir gan yr awdurdod lleol er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae gan yr ysgolion y bydd dileu rhyddhad ardrethi elusennol yn effeithio arnyn nhw niferoedd isel o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol—llai nag 1 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu ag 11 y cant ar gyfer ysgolion a gynhelir.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
The Llywydd took the Chair.
Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o’r rheoliadau, a gofynnaf i’r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.
I’m grateful to the Legislation, Justice and Constitution Committee for their consideration of the regulations, and I ask Members to support the regulations this afternoon.
Here we are, yet again, with another Labour attack on private and independent schools. Not content with enforcing VAT on private independent schools and implementing a hugely damaging national insurance hike, Labour now wants to take away the 80 per cent business rate relief for charity-run private schools. Independent schools are being punished by Labour’s triple whammy on higher taxes.
But, Presiding Officer, this incessant campaign against private and independent schools runs the risk of increasing the burden ultimately on the taxpayer. Parents are withdrawing their children from these schools in light of higher cost, and where are they going to go? They will be heading to state schools, which are already under immense pressure as it is. I’d like to know whether the Welsh Government has carried out an impact assessment to see how this decision will, indeed, affect state schools, because I sincerely fear that this will lead to an increase in class sizes, and more pressure being piled on our hardworking teachers and school staff. A recent report found that 23 per cent of parents are toying with the idea of removing their children from private education. That’s a huge 140,000 children moving into state schools in England and Wales alone. After 26 years of Labour mismanagement, we have the worst educational outcomes of anywhere else in the United Kingdom, and this decision will only add to the already crippling pressures facing our schools.
Removing charitable status from independent schools may seem like a quick fix, but it risks creating more problems than it actually solves. It could lead to fewer options for parents, increased costs for families, and, more importantly, it risks shifting the focus away from the real issue, which is improving education for all children, regardless of their background. That’s why the Welsh Conservatives will be voting against these regulations, because it’s clear that the Welsh Conservatives are the only ones who can be trusted to fix the Welsh education system once and for all. Thank you.
Dyma ni, unwaith eto, gydag ymosodiad arall gan Lafur ar ysgolion preifat ac annibynnol. Heb fod yn fodlon â gorfodi TAW ar ysgolion annibynnol preifat a gweithredu cynnydd hynod niweidiol mewn yswiriant gwladol, mae Llafur nawr eisiau dileu'r rhyddhad ardrethi busnes o 80 y cant ar gyfer ysgolion preifat sy'n cael eu rhedeg gan elusennau. Mae ysgolion annibynnol yn cael eu cosbi gan ergyd driphlyg Llafur ar drethi uwch.
Ond, Llywydd, mae risg y bydd yr ymgyrch ddi-baid hon yn erbyn ysgolion preifat ac annibynnol yn cynyddu'r baich ar y trethdalwr yn y pen draw. Mae rhieni'n tynnu eu plant allan o'r ysgolion hyn yn sgil cost uwch, ac i ble maen nhw'n mynd i fynd? Byddan nhw'n mynd i ysgolion gwladol, sydd eisoes dan bwysau aruthrol fel y mae. Hoffwn i wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith i weld sut y bydd y penderfyniad hwn, yn wir, yn effeithio ar ysgolion gwladol, oherwydd rwy'n ofni'n ddiffuant y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn maint dosbarthiadau, a mwy o bwysau yn cael ei bentyrru ar ein hathrawon a staff ysgol gweithgar. Yn ôl adroddiad diweddar, mae 23 y cant o rieni yn ystyried tynnu eu plant allan o addysg breifat. Mae hynny'n swm enfawr o 140,000 o blant yn symud i ysgolion gwladol yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ar ôl 26 mlynedd o gamreolaeth Lafur, mae gennym ni'r canlyniadau addysgol gwaethaf o unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, a bydd y penderfyniad hwn ond yn ychwanegu at y pwysau andwyol sydd eisoes yn wynebu ein hysgolion.
Efallai bod cael gwared ar statws elusennol ysgolion annibynnol yn ymddangos fel ateb cyflym, ond mae risg y bydd yn creu mwy o broblemau nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Gallai arwain at lai o ddewisiadau i rieni, costau uwch i deuluoedd, ac, yn bwysicach, mae risg y bydd yn symud y ffocws i ffwrdd oddi wrth y mater gwirioneddol, sef gwella addysg i bob plentyn, beth bynnag fo'i gefndir. Dyna pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, oherwydd mae'n amlwg mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig rai y gellir ymddiried ynddyn nhw i drwsio'r system addysg yng Nghymru unwaith ac am byth. Diolch.
Rydyn ni’n croesawu’r rheoliadau yma. Mi fyddwn ni, fel aelodau Plaid Cymru, yn eu cefnogi y prynhawn yma. Rydyn ni wedi codi hyn yn flaenorol, ac rydyn ni’n gresynu nad yw hyn wedi digwydd yn flaenorol, ond yn falch ei fod o’n digwydd rŵan.
O edrych ar y ddogfen ymgynghori, dim ond 17 allan o’r 83 o ysgolion annibynnol yng Nghymru a oedd yn cael eu heffeithio. Yn amlwg, rydych chi wedi dweud, o ran yr ymgynghoriad, fod yna newidiadau wedyn o ran ysgolion sy'n rhoi mwyafrif o addysg anghenion dysgu ychwanegol. Felly, fedrwch chi gadarnhau sawl ysgol benodol fydd yn gorfod talu erbyn hyn? Ac, wrth gwrs, mater cysylltiedig ydy polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod treth ar werth ar ysgolion preifat. Oes modd i'r Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad o ran faint o arian canlyniadol fydd yn dod i Gymru, a phryd ydych chi'n disgwyl y bydd yr arian hwn yng nghoffrau Llywodraeth Cymru?
We welcome these regulations and we, as Plaid Cymru members, will be supporting them this afternoon. We have raised this previously, and we regret that it hasn’t happened earlier, but we are pleased that it is happening now.
In looking at the consultation document, only 17 of the 83 independent schools in Wales were to be impacted. Obviously, you've said that there will be changes following the consultation in terms of schools at which the majority of the education is for those with special educational needs. So, can you confirm how many schools will now have to pay? And, of course, a related issue is the UK Government's policy of putting VAT on private school education. So, can the Cabinet Secretary provide an update in terms of how much consequential funding will come to Wales, and when do you expect that funding to be available in the Welsh Government's coffers?
Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i ymateb i'r ddadl.
The Cabinet Secretary for finance to reply to the debate.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am fwriad Plaid Cymru i gefnogi'r rheoliadau. Ar hyn o bryd, rŷn ni'n disgwyl mai dim ond un mas o'r 17 o ysgolion sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y rheoliadau sy'n mynd i fod y tu fas i'r system newydd, achos maen nhw'n rhoi addysg i blentyn ag anawsterau dysgu.
Thank you, Llywydd. I thank Heledd Fychan for what she said about the intention of Plaid Cymru to support the regulations. At present, we expect that just one school out of the 17 that will be affected by the regulations is going to be outwith the new system, because they provide education to a child with additional learning needs.
Llywydd, of course I'm not surprised to hear the contribution from the Welsh Conservatives—not at all. Of course, they would rather that my constituents in Ely and in Riverside pay the £1.6 million that goes in charitable rate relief to schools whose parents are well able to pay the fees out of their own pockets. That's what you would prefer—you would prefer, as ever, to support the few and the privileged against those who otherwise pay their bills. And I resent, Llywydd—I absolutely resent—the point that the Member makes that it is somehow a problem to have more young people receiving state education in Wales. If there are children who move from the independent sector to the state sector in Wales, I welcome every one of them, and they will receive an education there that befits their needs and circumstances. So, to claim, as the Member did, that somehow this would be a terrible problem for these young people I think betrays a cast of mind that demonstrates, as we know, just how far away from the main stream of public opinion in Wales the Welsh Conservatives are. Their defence of privilege on the floor of the Senedd once again this afternoon is ample demonstration of why they have lost the confidence of the Welsh people and why they absolutely—absolutely—do not deserve to have that confidence either. I urge Members to support the regulations in front of the Senedd—they support the many, they support the few.
Llywydd, wrth gwrs nid yw'n syndod clywed cyfraniad y Ceidwadwyr Cymreig—ddim o gwbl. Wrth gwrs, byddai'n well ganddyn nhw fod fy etholwyr yn Nhrelái ac yng Nglan-yr-afon yn talu'r £1.6 miliwn o ryddhad ardrethi elusennol sy'n mynd i ysgolion y mae eu rhieni'n gallu talu'r ffioedd allan o'u pocedi eu hunain. Dyna fyddai'n well gennych chi—byddai'n well gennych chi, fel bob amser, gefnogi'r ychydig a'r breintiedig yn erbyn y rhai sydd fel arall yn talu eu biliau. Ac rwy'n ddig, Llywydd—rwy'n gwbl ddig—ynghylch y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ei bod rhywsut yn broblem bod mwy o bobl ifanc yn cael addysg wladol yng Nghymru. Os oes yna blant sy'n symud o'r sector annibynnol i'r sector gwladol yng Nghymru, rwy'n croesawu pob un ohonyn nhw, ac fe fyddan nhw'n cael addysg yno sy'n addas i'w hanghenion a'u hamgylchiadau. Felly, i honni, fel y gwnaeth yr Aelod, y byddai hyn, rywsut, yn broblem ofnadwy i'r bobl ifanc hyn yn datgelu, yn fy marn i, ffordd o feddwl sy'n dangos, fel y gwyddom ni, pa mor bell i ffwrdd oddi wrth brif ffrwd y farn gyhoeddus yng Nghymru y mae'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae eu hamddiffyniad o fraint ar lawr y Senedd unwaith eto'r prynhawn yma yn ddigon i ddangos pam eu bod wedi colli hyder pobl Cymru a pham eu bod nhw'n annheilwng—yn gwbl annheilwng—o gael yr hyder hwnnw hefyd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau o flaen y Senedd—maen nhw'n cefnogi'r llawer, maen nhw'n cefnogi'r ychydig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is objection, so we will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Eitem 5 sydd nesaf. Y ddadl ar gyfraddau treth incwm 2025-26 yw'r eitem yma, a'r Gweinidog cyllid unwaith eto i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Item 5 is next. This item is the debate on rates of income tax 2025-26, and I call on the finance Minister once again to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8833 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2025-26 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Motion NDM8833 Jane Hutt
To propose that the Senedd in accordance with section 116D of the Government of Wales Act 2006, agrees the Welsh rate resolution for the 2025-26 Welsh rates of income tax as follows:
a) the Welsh rate for the purpose of calculating the basic rate of income tax is 10p in the pound;
b) the Welsh rate for the purpose of calculating the higher rate of income tax is 10p in the pound; and
c) the Welsh rate for the purpose of calculating the additional rate of income tax is 10p in the pound.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. Welsh rates of income tax were introduced in April 2019, and they apply to the non-savings and non-dividend element of income earned by Welsh residents. Welsh rates of income tax are forecast to raise nearly £3.5 billion in the next financial year. This is a vital element of resourcing public services here in Wales, and the proposed Welsh rates for the next financial year were announced in the draft budget in December. This rate resolution, if agreed, will mean that Welsh taxpayers will continue to pay the same income tax as their counterparts in England and Northern Ireland.
Making a significant change to our resources through income tax rises would require an increase to the basic rate—that's the only way you can raise significant resources in Wales—and that at a time when too many people still face issues paying bills. This is why I do not believe now is the right time to increase the income tax levels in Wales, because the consequences would fall most heavily on those least able to afford it.
But, as a fiscally responsible Government, we're mindful always of the need to ensure that the fiscal levers available to us provide the right balance between risk and reward. I believe, Llywydd, that the income tax powers devolved to Wales are currently too blunt to deliver a more progressive tax system. I intend, therefore, to commission an external review of our current income tax powers, exploring, for example, the more flexible set of powers available to the Scottish Parliament, as well as other reform possibilities. This work will consider the opportunities as well as the risks of these different models, working within the tax principles we have set ourselves in Wales. The research will provide a clear evidence base to inform future decisions about tax powers to benefit people in Wales.
All of this, Llywydd, is highlighted by the performance of Welsh rates of income tax to date under those existing powers. The budget in front of the Senedd this afternoon is hundreds of millions of pounds higher because of the stewardship of devolved taxes in this Senedd, and Welsh rates of income tax alone contribute an additional £253 million to the expenditure we will be able to make in Wales next year. WRIT itself is expected to continue to make a positive impact over the forecast period to 2029-30, where the cumulative net budgetary impact to that year, and including the next financial year, is forecast to be over £600 million.
Now, Llywydd, I will focus more on our final budget plans in the debate later this afternoon. However, the proposed WRIT rates reflect the need to ensure that we deliver a budget that is properly costed and balances spending needs with the revenues available to us. Retaining Welsh rates of income tax for each band at 10p in the £1 will allow us to do that. Moreover, the positive performance means that the budget overall will be higher than would otherwise be the case.
Finally, Llywydd, ensuring we make the most of our devolved tax responsibilities also means working closely with HMRC on the administration of Welsh rates of income tax. As highlighted in the National Audit Office’s most recent report, the robust processes and governance arrangements with HMRC are providing a strong basis for the effective and efficient collection and administration of Welsh rates of income tax today and into the future.
The Senedd is asked today to agree the Welsh rates resolution, which will set the Welsh rates of income tax for 2025-26, and I ask Members for their support in doing so.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019, ac maen nhw'n berthnasol i'r elfen nad yw'n gynilion ac nad yw'n difidendau o incwm y mae trigolion Cymru yn ei ennill. Rhagwelir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi bron i £3.5 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hon yn elfen hanfodol o ddarparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a chafodd cyfraddau arfaethedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Bydd y penderfyniad hwn ynghylch cyfraddau, os cytunir arno, yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Byddai gwneud newid sylweddol i'n hadnoddau drwy gynyddu treth incwm yn gofyn am gynnydd i'r gyfradd sylfaenol—dyna'r unig ffordd y gallwch chi godi adnoddau sylweddol yng Nghymru—a hynny ar adeg pan fo gormod o bobl yn dal i gael trafferth yn talu biliau. Dyna pam nad wyf i'n credu mai nawr yw'r amser iawn i gynyddu'r lefelau treth incwm yng Nghymru, gan y byddai'r canlyniadau'n syrthio fwyaf ar y rhai sydd lleiaf abl i'w fforddio.
Ond, fel Llywodraeth sy'n gyllidol gyfrifol, rydyn ni bob amser yn ystyriol o'r angen i sicrhau bod y dulliau cyllidol sydd ar gael i ni yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng risg a gwobr. Llywydd, rwy'n credu bod y pwerau treth incwm sydd wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd yn rhy ddi-fin i ddarparu system dreth fwy blaengar. Felly, rwy'n bwriadu comisiynu adolygiad allanol o'n pwerau treth incwm presennol, gan archwilio, er enghraifft, y gyfres fwy hyblyg o bwerau sydd ar gael i Senedd yr Alban, yn ogystal â phosibiliadau eraill ar gyfer diwygio. Bydd y gwaith hwn yn ystyried y cyfleoedd yn ogystal â risgiau'r modelau gwahanol hyn, gan weithio o fewn yr egwyddorion treth rydym wedi'u gosod i'n hunain yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn darparu sylfaen dystiolaeth glir i lywio penderfyniadau am bwerau treth yn y dyfodol er budd pobl yng Nghymru.
Mae hyn oll, Llywydd, yn cael ei amlygu gan berfformiad cyfraddau treth incwm Cymru hyd yma o dan y pwerau presennol hynny. Mae'r gyllideb o flaen y Senedd y prynhawn yma gannoedd o filiynau o bunnoedd yn uwch oherwydd stiwardiaeth trethi datganoledig yn y Senedd hon, ac mae cyfraddau treth incwm Cymru ar eu pennau eu hunain yn cyfrannu £253 miliwn ychwanegol i'r gwariant y byddwn ni'n gallu ei wneud yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Y disgwyl yw y bydd y cyfraddau CTIC eu hunain yn parhau i gael effaith gadarnhaol dros gyfnod y rhagolwg hyd at 2029-30, lle rhagwelir y bydd yr effaith gyllidebol net gronnol hyd at y flwyddyn honno, a chan gynnwys y flwyddyn ariannol nesaf, dros £600 miliwn.
Nawr, Llywydd, byddaf yn canolbwyntio mwy ar ein cynlluniau o ran y gyllideb derfynol yn y ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'r cyfraddau CTIC arfaethedig yn adlewyrchu'r angen i sicrhau ein bod ni'n darparu cyllideb sydd wedi'i gostio'n briodol ac sy'n cydbwyso anghenion gwario â'r refeniw sydd ar gael i ni. Bydd cadw cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer pob band ar 10c yn y £1 yn ein galluogi ni i wneud hynny. Ar ben hynny, mae'r perfformiad cadarnhaol yn golygu y bydd y gyllideb yn gyffredinol yn uwch nag y byddai'n fel arall.
Yn olaf, Llywydd, mae sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau o'n cyfrifoldebau treth datganoledig hefyd yn golygu gweithio'n agos gyda CThEF ar weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Fel yr amlygwyd yn adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn sylfaen gref ar gyfer casglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac effeithlon heddiw ac i'r dyfodol.
Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar benderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2025-26, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i wneud hynny.
Does gyda fi ddim siaradwyr eraill yn y ddadl yma. Felly, os nad yw'r Ysgrifennydd eisiau ymateb mewn unrhyw ffordd, fe awn ni'n syth i'r cynnig. A'r cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n cymeradwyo'r cynnig yna.
I have no further speakers in this debate. So, if the Cabinet Secretary doesn't want to respond in any way, we'll go straight to the motion. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No, there is no objection. The motion is, therefore, agreed.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 6. Y ddadl ar gyllideb derfynol 2025-26 yw hon, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n cyflwyno'r ddadl yma—Mark Drakeford.
The next item is item 6. This is the debate on the final budget for 2025-26, and I call on the Cabinet Secretary for finance to move the motion—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8834 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 20 Chwefror 2025.
Motion NDM8834 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 20.25, approves the Annual Budget for the financial year 2025-26 laid in the Table Office by the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language on 20 February 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr unwaith eto, Llywydd. Llywydd, cafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 ei chyhoeddi ar 20 Chwefror. Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu £1.6 biliwn yn ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i fywydau ein cyd-ddinasyddion.
Thank you once again, Llywydd. Llywydd, the Welsh Government's final budget for 2025-26 was published on 20 February. I'm pleased that we are able to provide an additional £1.6 billion for our public services and the difference that they make to the lives of our fellow citizens.
Llywydd, I want to say that figure once again: £1.6 billion of additional investment. For those of us who have lived through the long, bleak years of austerity, we finally have the opportunity to turn the corner, to begin the process of repair, to restore a sense of hope that improvement can begin, because, Llywydd, austerity was insidious—it crept into our lives, blighting communities, shrinking ambitions, eroding confidence in our struggling services, and leaving behind a failing economy and a divided and sharply unequal society. Now, during those years, we had to make very difficult decisions here in the Senedd to reshape our spending plans and sometimes to reduce budgets. But, today, with this budget, we turn the corner, moving beyond austerity to investment and to growth. And while we cannot undo all the damage inflicted on Wales during the austerity years, we can begin to rebuild our services and create an economy that truly offers prosperity for all, because, Llywydd, this is a £26 billion budget, a budget where our capital spending will exceed £3 billion for the first time ever, a budget where that additional £1.6 billion will see an increase in revenue and capital funding for every single area of our public services.
Now, Llywydd, as everyone here knows, we are a Government without a majority. No party has ever had a majority since devolution began, so we have always had to craft a path to stability in Wales. When there is so much at stake, and no single vote called each year in the Senedd has more at stake than at the final budget, we have always found a way to work together in this institution to find a way forward by identifying those areas where we can reach agreement. I was always confident that we could do so again this year, working together quietly and carefully in the Welsh way, because these are decisions of such consequence for people throughout Wales.
I’d like to thank Jane Dodds, the leader of the Welsh Liberal Democrats, for the constructive way she has worked with us to identify those areas we agree should be prioritised. Throughout this process, we have worked together, not always agreeing, but always searching for the common ground where consensus can be found. We know that, beyond this Chamber, those who send us here believe it is a strength to see different political parties working together, and so do I. So, I’m grateful to Jane for putting the interests of the people of Wales above the daily clash of politics.
The agreement we have reached means that all the funding announced in our draft budget in December can be unlocked and passed to our public services. It also means that there will be more than £100 million extra invested in those areas where we have those shared ambitions, including an extra £30 million for social care to target delayed hospital discharges and provide more care and support in local communities; £30 million more to extend Flying Start childcare to two-year-olds in all parts of Wales—[Applause.]—completing one of the key ambitions of the co-operation agreement from earlier in this Senedd term, and to go beyond that, to increase the hourly rate to childcare providers to £6.40 each hour; and a guaranteed floor, a funding floor for all our local authorities, set now at 3.8 per cent, equivalent to £8.24 million extra and supporting nine local authorities in Wales. And I’m very pleased to say, Llywydd, that the budget now includes that £15 million to fund a pilot £1 flat bus fare scheme for young people—[Applause.]—aged 21 and under throughout Wales.
And now, Llywydd, we will move forward with a ban on greyhound racing, as the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs announced a couple of weeks ago—[Applause.]
Llywydd, rwyf am ddweud y ffigur hwnnw unwaith eto: £1.6 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol. I'r rhai ohonom sydd wedi byw trwy'r blynyddoedd hir, llwm o gyni, mae gennym gyfle o'r diwedd i droi'r gornel, i ddechrau'r broses atgyweirio, i adfer ymdeimlad o obaith y gall gwelliant ddechrau, oherwydd, Llywydd, roedd cyni yn llechwraidd—fe sleifiodd i mewn i'n bywydau, gan ddifetha cymunedau, lleihau uchelgeisiau, erydu hyder yn ein gwasanaethau a oedd yn wynebu trafferthion, a gadael economi ddiffygiol a chymdeithas ranedig ac anghyfartal iawn ar ei ôl. Nawr, yn ystod y blynyddoedd hynny, bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn yma yn y Senedd i ail-lunio ein cynlluniau gwariant ac weithiau i leihau cyllidebau. Ond, heddiw, gyda'r gyllideb hon, rydym yn troi'r gornel, gan symud y tu hwnt i gyni i fuddsoddiad ac i dwf. Ac er na allwn ni ddadwneud yr holl ddifrod a achoswyd i Gymru yn ystod y blynyddoedd cyni, gallwn ni ddechrau ailadeiladu ein gwasanaethau a chreu economi sydd wir yn cynnig ffyniant i bawb, oherwydd, Llywydd, mae hon yn gyllideb o £26 biliwn, cyllideb lle bydd ein gwariant cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf erioed, cyllideb lle bydd yr £1.6 biliwn ychwanegol hwnnw yn gweld cynnydd mewn cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer pob un o feysydd ein gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, Llywydd, fel y gŵyr pawb yma, rydym yn Llywodraeth heb fwyafrif. Nid oes yr un blaid erioed wedi cael mwyafrif ers dechrau datganoli, felly rydym bob amser wedi gorfod llunio llwybr i sefydlogrwydd yng Nghymru. Pan fo cymaint yn y fantol, ac nid oes gan yr un bleidlais unigol a elwir bob blwyddyn yn y Senedd fwy yn y fantol nag yn y gyllideb derfynol, rydym bob amser wedi dod o hyd i ffordd o gydweithio yn y sefydliad hwn i ddod o hyd i ffordd ymlaen trwy nodi'r meysydd hynny lle gallwn ddod i gytundeb. Roeddwn i wastad yn hyderus y gallem wneud hynny eto eleni, gan gydweithio'n dawel ac yn ofalus yn y ffordd Gymreig, oherwydd mae'r rhain yn benderfyniadau mor bwysig i bobl ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, am y ffordd adeiladol y mae hi wedi gweithio gyda ni i nodi'r meysydd hynny y cytunwn y dylid eu blaenoriaethu. Trwy gydol y broses hon, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd. Nid ydym wedi cytuno bob amser, ond rydym wastad wedi chwilio am y tir cyffredin lle gellir dod o hyd i gonsensws. Rydym yn gwybod, y tu hwnt i'r Siambr hon, bod y rhai sy'n ein hanfon yma yn credu ei bod yn gryfder gweld pleidiau gwleidyddol gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n credu hynny hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar i Jane am roi buddiannau pobl Cymru uwchlaw gwrthdaro beunyddiol gwleidyddiaeth.
Mae'r cytundeb rydym wedi'i gyrraedd yn golygu y gellir datgloi'r holl gyllid a gyhoeddwyd yn ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr a'i drosglwyddo i'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn golygu y bydd mwy na £100 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y meysydd hynny lle mae gennym yr uchelgeisiau cyffredin hynny, gan gynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a darparu mwy o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol; £30 miliwn yn fwy i ymestyn gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy oed ym mhob rhan o Gymru—[Cymeradwyaeth.]—gan gwblhau un o uchelgeisiau allweddol y cytundeb cydweithio o ddechrau'r tymor Senedd hwn, ac i fynd y tu hwnt i hynny, i gynyddu'r gyfradd fesul awr i ddarparwyr gofal plant i £6.40 yr awr; a chyllid gwarantedig, cyllid gwaelodol ar gyfer ein holl awdurdodau lleol, wedi'i osod nawr ar 3.8 y cant, sy'n cyfateb i £8.24 miliwn yn ychwanegol ac yn cefnogi naw awdurdod lleol yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o ddweud, Llywydd, bod y gyllideb bellach yn cynnwys y £15 miliwn hwnnw i ariannu cynllun peilot tocyn bws safonol o £1 i bobl ifanc—[Cymeradwyaeth.]—21 oed ac iau ledled Cymru.
A nawr, Llywydd, byddwn ni'n symud ymlaen gyda gwaharddiad ar rasio milgwn, fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ychydig wythnosau yn ôl—[Cymeradwyaeth]
Okay. That’s the third set of applause now. I did have to tell people off in the public gallery for applauding the other day. I'm not going to tell Members off, but I suggest, quietly, that if we can hear without applause, then we can hear everything the Minister has to say.
Ocê. Dyna'r drydedd gymeradwyaeth nawr. Roedd yn rhaid i mi ddweud wrth bobl yn yr oriel gyhoeddus i beidio â chymeradwyo y diwrnod o'r blaen. Dydw i ddim yn mynd i roi pryd o dafod i'r Aelodau, ond rwy'n awgrymu, yn dawel, os gallwn ni glywed heb gymeradwyaeth, yna fe allwn ni glywed popeth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud.
Llywydd, as well as that ban on greyhound racing, we will strengthen 'Planning Policy Wales'. So, all energy developers must, in future, consider all alternative options, including undergrounding, as part of any environmental impact assessment when making planning applications in Wales. And in support of that, we will also create a £1 million visual impact innovation fund to trial and gather data on new undergrounding technologies in the coming financial year.
And while this final budget reflects that agreement with the Welsh Liberal Democrats, it also responds to the intensive scrutiny of the Government’s draft budget proposals. I’d like to thank the Finance Committee and all of the Senedd’s committees for their careful, serious and detailed engagement with our spending plans. Those committees have raised childcare, have raised services for young people, social care, arts and culture, and local government, and in this final budget every one of those areas is getting more investment over and above everything we had already announced at the draft budget stage.
And that draft budget, Llywydd, as you know, included more than £3 billion of capital funding; a 4.3 per cent uplift for local government, now increased to 4.5 per cent at the final budget stage; £175 million in additional capital for the NHS alone to invest in building, infrastructure, equipment and digital technology. Many of us here remember that, last year, under a Conservative Government in London, we were offered £1 million for everything. One million pounds is what Jeremy Hunt provided for us in the autumn budget of last year for everything that this country needs. Now, £175 million in capital simply for the NHS alone. And that is on top of more than £400 million in revenue to support NHS service delivery and pay, and more than £100 million for education.
Llywydd, in the draft budget debate, I quoted Lloyd George, in his famous Limehouse speech, when he warned those who opposed his people’s budget that they would face a day of reckoning. Today, the words of that great Welshman echo down more than a century, because, Llywydd, make no mistake that this is the only budget before this Senedd. There is no other budget that can be endorsed here this afternoon, and a vote against this budget is not a vote for something else, it is a vote against the thousands of extra treatments that the NHS will now be able to provide next year because of this budget; it’s a vote against the employment of those teachers and teaching assistants whose jobs are secured by this budget; it’s a vote against the childcare places that families will now have available as a result of this budget; the roads and pavements repaired; the children’s play areas improved; the buses made available and affordable for all of our young people, and so much more.
Llywydd, yn ogystal â'r gwaharddiad hwnnw ar rasio milgwn, byddwn ni'n cryfhau 'Polisi Cynllunio Cymru'. Felly, rhaid i bob datblygwr ynni, yn y dyfodol, ystyried pob opsiwn arall, gan gynnwys opsiynau tanddaearol, fel rhan o unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol wrth wneud ceisiadau cynllunio yng Nghymru. Ac i gefnogi hynny, byddwn ni hefyd yn creu cronfa arloesi effaith weledol gwerth £1 filiwn i dreialu a chasglu data ar dechnolegau tanddaearol newydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ac er bod y gyllideb derfynol hon yn adlewyrchu'r cytundeb hwnnw gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae hefyd yn ymateb i'r gwaith craffu dwys ar gynigion cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a holl bwyllgorau'r Senedd am eu hymgysylltiad gofalus, difrifol a manwl â'n cynlluniau gwariant. Mae'r pwyllgorau hynny wedi codi gofal plant, wedi codi gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, gofal cymdeithasol, y celfyddydau a diwylliant, a llywodraeth leol, ac yn y gyllideb derfynol hon mae pob un o'r meysydd hynny'n cael mwy o fuddsoddiad yn ychwanegol at bopeth yr oeddem eisoes wedi'i gyhoeddi yn ystod y cam cyllideb ddrafft.
Ac roedd y gyllideb ddrafft honno, Llywydd, fel y gwyddoch chi, yn cynnwys mwy na £3 biliwn o gyllid cyfalaf; cynnydd o 4.3 y cant ar gyfer llywodraeth leol, sydd bellach wedi cynyddu i 4.5 y cant ar y cam cyllideb derfynol; £175 miliwn mewn cyfalaf ychwanegol i'r GIG yn unig i fuddsoddi mewn adeiladu, seilwaith, offer a thechnoleg ddigidol. Mae llawer ohonom ni yma yn cofio, y llynedd, o dan Lywodraeth Geidwadol yn Llundain, ein bod ni wedi cael cynnig £1 filiwn am bopeth. Miliwn o bunnoedd yw'r hyn a roddodd Jeremy Hunt i ni yng nghyllideb yr hydref y llynedd ar gyfer popeth sydd ei angen ar y wlad hon. Nawr, £175 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer y GIG yn unig. Ac mae hynny ar ben mwy na £400 miliwn mewn refeniw i gefnogi darparu gwasanaethau a chyflogau'r GIG, a mwy na £100 miliwn ar gyfer addysg.
Llywydd, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, dyfynnais Lloyd George, yn ei araith Limehouse enwog, pan rybuddiodd y rhai a oedd yn gwrthwynebu cyllideb ei bobl y bydden nhw'n wynebu dydd o brysur bwyso. Heddiw, mae geiriau'r Cymro mawr hwnnw yn adleisio dros fwy na chanrif, oherwydd, Llywydd, rhaid cofio mai hon yw'r unig gyllideb sydd gerbron y Senedd hon. Nid oes yr un gyllideb arall y gellir ei chymeradwyo yma y prynhawn yma, ac nid yw pleidlais yn erbyn y gyllideb hon yn bleidlais dros rywbeth arall, mae'n bleidlais yn erbyn y miloedd o driniaethau ychwanegol y bydd y GIG yn gallu eu darparu nawr y flwyddyn nesaf oherwydd y gyllideb hon; mae'n bleidlais yn erbyn cyflogaeth yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu hynny y mae eu swyddi wedi'u sicrhau gan y gyllideb hon; mae'n bleidlais yn erbyn y lleoedd gofal plant a fydd ar gael i deuluoedd nawr o ganlyniad i'r gyllideb hon; y ffyrdd a'r palmentydd a gaiff eu trwsio; yr ardaloedd chwarae i blant a gaiff eu gwella; y bysiau a fydd ar gael ac a fydd yn fforddiadwy i'n holl bobl ifanc, a llawer iawn mwy.
Thank you for taking an intervention. Llywydd, this is a spurious argument. The Cabinet Secretary is suggesting—[Interruption.] The Cabinet Secretary is suggesting that by voting against a flawed budget as a whole, Plaid Cymru is voting against individual spending decisions. And if you follow the same logic—[Interruption.]
Diolch am gymryd ymyrraeth. Llywydd, mae hon yn ddadl gyfeiliornus. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn awgrymu—[Torri ar draws.] Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn awgrymu, drwy bleidleisio yn erbyn cyllideb ddiffygiol yn ei chyfanrwydd, fod Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn penderfyniadau gwariant unigol. Ac os ddilynwch chi'r un rhesymeg—[Torri ar draws.]
I cannot hear anything that's being said at the moment. Can we have some quiet, please, so that we can hear?
Alla' i ddim clywed unrhyw beth sy'n cael ei ddweud ar hyn o bryd. Allwn ni gael ychydig o dawelwch, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni allu clywed?
And if you follow the same logic, Labour MPs who voted against Conservative finance Bills at Westminster because they thought it was a flawed budget were somehow voting against giving Welsh Government any budget at all. They weren't. Plaid Cymru voted with them, saying that it was a flawed budget. What we're saying today is that whilst we can agree with elements of the budget—of course we can—this is a flawed Labour budget and that is why we'll vote against it today.
Ac os ddilynwch chi'r un rhesymeg, roedd ASau Llafur a bleidleisiodd yn erbyn biliau cyllid y Ceidwadwyr yn San Steffan oherwydd eu bod yn credu ei bod yn gyllideb ddiffygiol rywsut yn pleidleisio yn erbyn rhoi unrhyw gyllideb o gwbl i Lywodraeth Cymru. Doedden nhw ddim. Pleidleisiodd Plaid Cymru gyda nhw, gan ddweud ei bod hi'n gyllideb ddiffygiol. Yr hyn rydyn ni'n ei ddweud heddiw yw, er y gallwn ni gytuno ag elfennau o'r gyllideb—wrth gwrs y gallwn ni—mae hon yn gyllideb Lafur ddiffygiol a dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn ei herbyn heddiw.
Llywydd, I understand why the leader of Plaid Cymru needs to strive so hard to justify the actions of his party here this afternoon, but it doesn't hold water for a single moment. When you vote against this budget, the only impact, were you to succeed—and I assume that you vote that way because you intend to succeed—so if you were to succeed, everything that I have outlined this afternoon would be lost to people here in Wales. That's what they will see. That's what they will remember. And when you say to me that my argument here is a spurious argument, believe me, people will see through the argument that you make that, somehow, because this budget doesn't deliver everything that you would like to see in it, you would rather deny people in Wales all the investment that comes with this budget. It is a shameful argument that you try to make to us this afternoon.
Instead, Llywydd, the only responsible vote that can be cast this afternoon will be a vote to allow this budget to pass. And that is why every Labour Member here will cast our votes to make that happen, and that is because the eyes of our public services, those who work in them and those who depend on them, are on the Senedd this afternoon. There are those of us here who are determined to stand alongside them by passing this budget. I urge every Member here to do so the same.
Llywydd, rwy'n deall pam mae angen i arweinydd Plaid Cymru ymdrechu mor galed i gyfiawnhau gweithredoedd ei blaid yma y prynhawn yma, ond nid yw'n dal dŵr am un eiliad. Pan fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, yr unig effaith, pe byddech chi'n llwyddo—ac rwy'n cymryd eich bod chi'n pleidleisio y ffordd honno am eich bod chi'n bwriadu llwyddo—felly pe byddech chi'n llwyddo, byddai popeth rwyf wedi'i amlinellu y prynhawn yma yn cael ei golli i bobl yma yng Nghymru. Dyna beth fyddan nhw'n ei weld. Dyna beth fyddan nhw'n ei gofio. A phan ddywedwch wrthyf fod fy nadl yma yn ddadl gyfeiliornus, credwch chi fi, bydd pobl yn gweld trwy'r ddadl rydych chi'n ei gwneud sef, rywsut, am nad yw'r gyllideb hon yn cyflawni popeth yr hoffech chi ei weld ynddi, y byddai'n well gennych weld pobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'r holl fuddsoddiad sy'n dod gyda'r gyllideb hon. Mae'n ddadl gywilyddus rydych chi'n ceisio ei gwneud i ni y prynhawn yma.
Yn hytrach, Llywydd, yr unig bleidlais gyfrifol y gellir ei bwrw y prynhawn yma fydd pleidlais i ganiatáu i'r gyllideb hon basio. A dyna pam y bydd pob Aelod Llafur yma yn bwrw ein pleidleisiau i wneud i hynny ddigwydd, a hynny am fod llygaid ein gwasanaethau cyhoeddus, y rhai sy'n gweithio ynddyn nhw a'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, ar y Senedd y prynhawn yma. Mae rhai ohonom yma sy'n benderfynol o sefyll ochr yn ochr â nhw drwy basio'r gyllideb hon. Rwy'n annog pob Aelod yma i wneud yr un peth.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr—Peredur Owen Griffiths.
The Chair of the Finance Committee now—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Dwi'n falch i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.
Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 39 o argymhellion a dwi’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, y rhan fwyaf ohonyn nhw. Rwyf hefyd yn falch o weld nifer o newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, yn enwedig mewn meysydd gafodd eu cwmpasu gan ein hargymhellion. Yn benodol, rydyn ni’n croesawu’r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant, a fydd yn sicrhau cyllid ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg i ddarparu gofal plant i blant dwy oed ledled Cymru. Gwnaethon ni alw am ddiweddariad ar y gwaith o gyflwyno Dechrau’n Deg yn ein hadroddiad, ac rydyn ni’n falch o weld cynnydd yn hyn o beth.
Roedd y pwyllgor hefyd yn glir wrth alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried cyllido gwaelodol ar gyfer awdurdodau lleol, felly mae’n dda gweld bod cyllido gwaelodol gwarantedig o 3.8 y cant ar gael ar gyfer pob awdurdod lleol. Hefyd, gwnaethon ni nifer o argymhellion yn ymwneud â lefelau priodol o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, ac rydyn ni’n croesawu’r cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu yn y maes hwn. Rydyn ni hefyd yn falch o weld y cyhoeddiad y bydd arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynllun peilot i bobl ifanc 21 oed ac iau i dalu £1 yn unig am docyn bws unffordd yng Nghymru. Cafodd cymorth wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc yn y gyllideb ei nodi gan y pwyllgor fel blaenoriaeth allweddol yn dilyn ein gwaith ymgysylltu a’n dadl yr haf diwethaf, ac mae’n gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn y maes hwn.
Mae’r rhain i gyd yn welliannau clodwiw ac rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi bod y newidiadau i gynlluniau Llywodraeth Cymru yn dangos gwerth craffu effeithiol a chadarn.
Diolch, Llywydd. I am pleased to contribute to this debate today as Chair of the Finance Committee on the Welsh Government’s final budget.
The committee’s report on the draft budget included 39 recommendations and I'm pleased that the Cabinet Secretary accepted, or accepted in principle, the majority of them. I am also pleased to see a number of changes between the draft and final budget, particularly those in areas covered by our recommendations. In particular, we welcome the additional £30 million for childcare, which will ensure funding for the Flying Start programme to deliver childcare to two-year-olds across Wales. We called for an update on the roll-out of Flying Start in our report, and we are pleased to see some progress in this area.
The committee was also clear in calling on the Cabinet Secretary to consider a funding floor for local authorities, so it's good to see that a guaranteed 3.8 per cent funding floor is available for all local authorities. We also made a number of recommendations relating to appropriate levels of funding for social care, and we welcome the additional funds being allocated in this area. We are also pleased to see the announcement relating to the allocation of funds for a pilot scheme for young people aged 21 and under to pay only £1 for a single bus fare in Wales. Targeted support for young people in the budget was identified by the committee as a key priority following our engagement work and our debate last summer, and it is positive to see the Welsh Government taking action in this key area.
These are all laudable improvements and I hope that the Cabinet Secretary agrees with me that the changes made to the Welsh Government’s plans prove the value of effective and robust scrutiny.
Turning now to the Cabinet Secretary’s response to our recommendations, on funding to mitigate the impact of increased national insurance contributions on public services, it is disappointing that the Government has not yet had confirmation from the Treasury of how much money to expect to cover these costs, although we welcome the Cabinet Secretary's commitment to keep us updated on this point, hopefully by late spring.
It was also heartening to hear that the Government is responding positively to our recommendations relating to preventative spending, in particular that embedding a preventative approach will be key to the Welsh spending review. I also welcome the work being done by the Government to press for further funding flexibilities within the fiscal framework and look forward to hearing about progress in this area.
The committee will shortly be hearing from the Chief Secretary to the Treasury at the next meeting of the Interparliamentary Finance Committee Forum in Belfast later this month, and I look forward to raising these issues directly with him during those discussions.
Gan droi nawr at ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n hargymhellion, ar gyllid i liniaru effaith cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar wasanaethau cyhoeddus, mae'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cael cadarnhad gan y Trysorlys eto ynghylch faint o arian y gellir ei ddisgwyl i dalu am y costau hyn, er ein bod ni'n croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i'n diweddaru ar y pwynt hwn, gobeithio erbyn diwedd y gwanwyn.
Roedd hefyd yn galonogol clywed bod y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion yn ymwneud â gwariant ataliol, yn enwedig y bydd ymgorffori dull ataliol yn allweddol i adolygiad gwariant Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i bwyso am hyblygrwydd ariannol pellach o fewn y fframwaith cyllidol ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am gynnydd yn y maes hwn.
Bydd y pwyllgor yn clywed gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn fuan yng nghyfarfod nesaf Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol yn Belfast yn ddiweddarach y mis hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at godi'r materion hyn yn uniongyrchol gydag ef yn ystod y trafodaethau hynny.
Llywydd, hoffwn orffen fy nghyfraniad drwy edrych ymlaen at y cylch cyllidebol nesaf, sef yr olaf o’r Senedd bresennol hon. Byddaf i’n ysgrifennu’n fuan at bwyllgorau’r Senedd, fel yr ydw i wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol, i ystyried ffyrdd o wneud y defnydd gorau o waith craffu ar y gyllideb yn y Senedd, er mwyn lliniaru’r effaith os caiff y cyfnod craffu ei gwtogi ar gyfer cylch cyllideb 2026-27.
Hefyd, yn naturiol, mae gennym ddiddordeb yng nghanlyniadau'r adolygiadau gwariant ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru ac rydym yn gobeithio clywed mwy am y rhain gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn ein dadl flynyddol—a sefydlog erbyn hyn—ar flaenoriaethau cyllidebol yn yr haf a sesiwn rag-gyllidebol y pwyllgor a fydd yn cael ei chynnal ddechrau’r hydref.
Rwyf hefyd yn nodi ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r argymhelliad ar ddiweddaru protocol y gyllideb, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth i wneud newidiadau hanfodol cyn yr adolygiad mwy sylfaenol ar ôl 2026.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad parhaus â’r pwyllgor ac am ei ymateb adeiladol i'n hargymhellion. Diolch yn fawr.
Llywydd, I'd like to finish my contribution by looking ahead to the next budget round, which will be the last of this current Senedd. I will shortly be writing to Senedd committees, as I have done in previous years, to explore ways to maximise budgetary scrutiny in the Senedd, in order to mitigate the impact of a potentially curtailed scrutiny window for the 2026-27 budget round.
Also, naturally, we are interested in the outcomes of both the UK and Welsh spending reviews and hope to hear more about these from the Cabinet Secretary before our annual—and now well-established—budget priorities debate in the summer and our pre-budget session in committee, which will be held in early autumn.
I also note the Cabinet Secretary's response to the recommendation on updating the budget protocol, and I look forward to working with the Government to make essential changes before the more fundamental review after 2026.
To conclude, I would like to thank the Cabinet Secretary for his ongoing engagement with the committee and for his constructive response to our recommendations. Thank you.
We know this budget today, of course, sets a direction of travel for the delivery of public services in Wales, and sets the tone for investment and growth in Wales. But in terms of the direction of travel, the starting point for that travel is a result of a quarter of a century of previous budgets from a Labour-led Government here in Cardiff Bay. Let's see what the results of the last 26 years of Labour budgets look like: Wales by far has the longest NHS waiting lists in the United Kingdom and the worst educational outcomes, stunting the futures of our children and young people, despite the Welsh Government receiving £1.20 in funding for every £1 spent on these services in England. Not only that, but people in Wales have the lightest pay packets in the UK and businesses are slammed with the highest business rates in Britain. It's not a pretty picture.
We were desperate to see a budget today that changed the course of the Welsh Government and the prospects of the people of Wales; a budget that sought to fix Wales instead of ploughing on with the same old failed orthodoxy. What we've been presented with today, though, is merely a sticking plaster over the problems that far too many people face in Wales. The budget before us today won't chart a new course, it won't fix the deep-seated problems that 26 years of Labour have given us, it won't lead to greater prosperity for our people, it won't put more money in people's pockets and it won't give us the public services that the people of Wales are crying out for.
But it's no great surprise, of course, that Labour are happy to carry on like they have since 1999, even if the opinion polls are telling them that the next Senedd election may well be a very rough one for them; it's no wonder that so many are standing down ahead of the next election. Instead of tackling the big issues, they've increased the bureaucracy budget by a third in two years. They want to channel funding towards 36 more politicians in this place, and rather than putting forward and funding a Welsh winter fuel allowance, which they argue is outside of their remit, they spend millions and millions of pounds on international relations, which have nothing to do with the Welsh Government's remit. These are just some of the reasons why we, as Welsh Conservatives, have been clear that we would not support this continued waste and misallocation of spending priorities.
Coming on to the passing of this budget today, because, of course, it looks like it will go through, it was disappointing to see the sole Liberal Democrat propping up this failing Labour administration through a pretty weak deal, and I say that with all respect and fondness for the Member. But perhaps it's not surprising, given that the Liberals have happily propped up the Labour Government in this place at various points during devolution. Instead of endorsing Labour's quarter of a century of failure, it would have been very welcome if the Liberal Democrats instead stood up for farmers and rural communities across Wales, instead of siding with the very Labour Party in Cardiff and London that is undermining the rural way of life and placing unbearable burdens on farmers.
Rydym yn gwybod bod y gyllideb hon heddiw, wrth gwrs, yn gosod cyfeiriad teithio ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn gosod y naws ar gyfer buddsoddi a thwf yng Nghymru. Ond o ran y cyfeiriad teithio, mae'r man cychwyn ar gyfer y teithio hwnnw yn ganlyniad i chwarter canrif o gyllidebau blaenorol gan Lywodraeth dan arweiniad Llafur yma ym Mae Caerdydd. Gadewch i ni weld sut olwg sydd ar ganlyniadau'r 26 mlynedd diwethaf o gyllidebau Llafur: Cymru sydd â rhestrau aros hiraf o bell ffordd y GIG yn y Deyrnas Unedig a'r canlyniadau addysgol gwaethaf, sy'n llesteirio dyfodol ein plant a'n pobl ifanc, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £1.20 mewn cyllid am bob £1 sy'n cael ei wario ar y gwasanaethau hyn yn Lloegr. Nid yn unig hynny, ond pobl yng Nghymru sydd â'r pacedi tâl ysgafnaf yn y DU ac mae busnesau'n cael eu gwasgu gyda'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain. Dydy e ddim yn ddarlun braf.
Roeddem yn ysu am weld cyllideb heddiw a oedd yn newid cwrs Llywodraeth Cymru a rhagolygon pobl Cymru; cyllideb oedd yn ceisio trwsio Cymru yn lle bwrw ymlaen â'r un hen uniongred aflwyddiannus. Yr hyn a gyflwynwyd i ni heddiw, serch hynny, yw plastr glynu dros y problemau y mae llawer gormod o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru. Ni fydd y gyllideb sydd ger ein bron heddiw yn olrhain cwrs newydd, ni fydd yn trwsio'r problemau dwfn y mae 26 mlynedd o Lafur wedi'u rhoi inni, ni fydd yn arwain at fwy o ffyniant i'n pobl, ni fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl ac ni fydd yn rhoi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Cymru yn crefu amdanynt.
Ond nid yw'n syndod mawr, wrth gwrs, bod Llafur yn hapus i barhau fel maen nhw wedi bod yn ei wneud ers 1999, hyd yn oed os yw'r arolygon barn yn dweud wrthyn nhw y gallai etholiad nesaf y Senedd fod yn un anodd iawn iddyn nhw; does dim rhyfedd bod cynifer yn sefyll i lawr cyn yr etholiad nesaf. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion mawr, maen nhw wedi cynyddu'r gyllideb fiwrocratiaeth draean mewn dwy flynedd. Maen nhw eisiau sianelu cyllid tuag at 36 yn fwy o wleidyddion yn y lle hwn, ac yn hytrach na chyflwyno ac ariannu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru, y maen nhw'n dadlau sydd y tu hwnt i'w cylch gwaith, maen nhw'n gwario miliynau ar filiynau o bunnoedd ar gysylltiadau rhyngwladol, nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â chylch gwaith Llywodraeth Cymru. Dyma rai o'r rhesymau pam ein bod ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn glir na fyddem yn cefnogi'r gwastraff parhaus hwn a chamddyrannu blaenoriaethau gwariant.
Gan ddod at basio'r gyllideb hon heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n edrych fel y bydd yn mynd drwodd, roedd yn siomedig gweld yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn cynnal y weinyddiaeth Lafur hon sy'n methu trwy gytundeb eithaf gwan, ac rwy'n dweud hynny gyda phob parch a hoffter tuag at yr Aelod. Ond efallai nad yw'n syndod, o ystyried bod y Rhyddfrydwyr wedi bod yn hapus i gynnal y Llywodraeth Lafur yn y lle hwn ar wahanol adegau yn ystod datganoli. Yn hytrach na chymeradwyo chwarter canrif o fethiant gan Lafur, byddai croeso mawr pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll i fyny dros ffermwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru yn lle, yn hytrach na chefnogi'r union Blaid Lafur yng Nghaerdydd a Llundain sy'n tanseilio'r ffordd wledig o fyw ac yn gosod beichiau annioddefol ar ffermwyr.
Would the honourable Member take an intervention?
A wnaiff yr Aelod anrhydeddus gymryd ymyriad?
Certainly.
Wrth gwrs.
I'm really interested in your last comment that I've failed to stand up for farmers, when I've secured £10 million in this budget for our farming communities, and time after time again, as you well know, I have stood up to Labour in order to ensure that our farmers have the voice that they need, so, please, could you give me the evidence for that? Thank you very much. Diolch yn fawr iawn.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn eich sylw diwethaf fy mod i wedi methu â sefyll dros ffermwyr, pan wyf wedi sicrhau £10 miliwn yn y gyllideb hon ar gyfer ein cymunedau ffermio, a thro ar ôl tro, fel y gwyddoch chi, rwyf wedi sefyll i fyny i Lafur er mwyn sicrhau bod gan ein ffermwyr y llais sydd ei angen arnynt, felly, allech chi roi'r dystiolaeth i mi ar gyfer hynny, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn.
I believe, and we believe, that a much stronger deal could have been brokered between the Lib Dems and Labour in this place—[Interruption.] They failed to do that.
Rwy'n credu, ac rydym ni'n credu, y gallai cytundeb llawer cryfach fod wedi ei frocera rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn y lle hwn—[Torri ar draws.] Fe fethon nhw â gwneud hynny.
I'm very happy to clarify—[Interruption.] I'm very happy to clarify.
Rwy'n hapus iawn i egluro—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i egluro.
Can we hear Sam Kurtz in silence, please?
Gawn ni glywed Sam Kurtz mewn distawrwydd, os gwelwch yn dda?
I'm very happy to clarify for the Member from the Liberal Democrats why I believe, like you, that the Lib Dems have failed farmers and agriculture in this budget, because if you follow the inflation index of the Bank of England, it's not £330 million that should be allocated to Welsh farmers, it's over £500 million, which Jane Dodds did not get in this budget.
Rwy'n hapus iawn i egluro i'r Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol pam rwy'n credu, fel chi, bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu ffermwyr ac amaethyddiaeth yn y gyllideb hon, oherwydd os dilynwch chi fynegai chwyddiant Banc Lloegr, nid £330 miliwn ddylai fod yn cael ei ddyrannu i ffermwyr Cymru, mae'n fwy na £500 miliwn, na wnaeth Jane Dodds ei sicrhau yn y gyllideb hon.
Thank you. I agree with those comments.
Welsh Governments have a different way. We'll stand up for Welsh pensioners by backing the implementation of a fully costed Welsh winter fuel allowance, which was slashed by the UK Labour Government, meaning 400,000 Welsh pensioner households will be going without the allowance thanks to London Labour. Let's not forget that Cardiff Labour have refused to stand up for Wales and rolled over when Starmer and Reeves chose to impoverish older people here in Wales.
We would deliver a fairer funding formula for our local authorities, which delivers for all of Wales and puts more money in people’s pockets, so they can choose to spend their money on the things that matter to them. We’d unleash our economy and abolish business rates for small businesses, who currently labour under the highest rates in Britain, and we’d work hard to tackle waste and misspending by dealing with things like the £250 million spent on NHS agency fees, which is far too high—a result of the lack of long-term healthcare planning from this tired Labour Welsh Government.
Llywydd, this budget won’t fix Wales. Wales needs change, and the Welsh Conservatives are the only party who can offer a real positive alternative to the past quarter century of a failed Labour Government. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n cytuno â'r sylwadau hynny.
Mae gan Lywodraethau Cymru ffordd wahanol. Byddwn ni'n sefyll dros bensiynwyr Cymru drwy gefnogi gweithredu lwfans tanwydd gaeaf wedi'i gostio'n llawn yng Nghymru, a dorrwyd gan Lywodraeth Lafur y DU, sy'n golygu y bydd 400,000 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn mynd heb y lwfans diolch i Lafur yn Llundain. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Llafur yng Nghaerdydd wedi gwrthod sefyll dros Gymru ac wedi rolio drosodd pan ddewisodd Starmer a Reeves dlodi pobl hŷn yma yng Nghymru.
Byddem yn darparu fformiwla ariannu decach i'n hawdurdodau lleol, sy'n darparu ar gyfer Cymru gyfan ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, fel y gallan nhw ddewis gwario eu harian ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Byddem yn rhyddhau ein heconomi ac yn diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach, sy'n talu'r cyfraddau uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd, a byddem yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â gwastraff a chamwariant trwy ddelio â phethau fel y £250 miliwn sy'n cael ei wario ar ffioedd asiantaeth y GIG, sy'n llawer rhy uchel—o ganlyniad i'r diffyg cynllunio gofal iechyd hirdymor gan y Llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghymru.
Llywydd, ni fydd y gyllideb hon yn trwsio Cymru. Mae angen newid ar Gymru, a'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid all gynnig dewis cadarnhaol go iawn i'r chwarter canrif diwethaf o Lywodraeth Lafur fethedig. Diolch yn fawr iawn.
Wedi llymder y blynyddoedd diwethaf, roedd disgwyliadau pobl Cymru yn uchel o ran cyllideb heddiw, a’n disgwyliadau ni fel Senedd. Wedi’r cyfan, slogan y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol y llynedd oedd 'Newid'. Ac am flynyddoedd cyn hynny, faint o weithiau dŷn ni wedi clywed yn y Siambr hon pa mor wahanol fyddai pethau ar Gymru gyda’r newid hwnnw? Ond dydy pethau ddim mor wahanol â hynny, nac ydyn? Efallai bod y setliad ariannol yn well nag oedd o dan y Ceidwadwyr, ond dydy o ddim yn ddigonol. O basio’r gyllideb hon heddiw, dyma fydd y realiti: bydd gwasanaethau mae pobl yn ddibynnol arnyn nhw yn dal i gael eu torri, a rhai yn diflannu’n llwyr; bydd y dreth gyngor yn mynd i fyny’n sylweddol; bydd gormod o lawer o bobl yn dal yn methu fforddio bwyd, methu fforddio cynhesu eu tai ac yn byw mewn tlodi.
Lle mae arian HS2? Lle mae’r cannoedd o filiynau sydd eu hangen tuag at glirio a diogelu'r tomenni glo? Lle mae’r fformiwla cyllido teg? Ac o ran Ystad y Goron—wel, mae barn Llafur Cymru yn amlwg yn dra gwahanol tu hwnt—
After the austerity of recent years, the expectations of the people of Wales were high in respect of today's budget, and our expectations as a Senedd. After all, the slogan of the Labour Party in last year's general election was ‘Change’. And for many years before that, how many times have we heard in this Chamber how different things would be in Wales with that change? But things are not so different, are they? Perhaps the financial settlement is better than it was under the Conservatives, but it is not enough. If this budget is passed today, this will be the reality: services that people depend on will continue to be cut, and some will disappear entirely; council tax will rise significantly; far too many people will still be unable to afford food, unable to afford to heat their homes and will be living in poverty.
Where is the HS2 money? Where are the hundreds of millions needed towards clearing and protecting the coal tips? Where is the fair funding formula? And as for the Crown Estate—well, Welsh Labour's views are clearly very different outside—
Will you take an intervention? Thank you for taking an intervention. If this budget isn't passed, and we lose £1.6 billion, where, in your opinion, do you think this £1.6 billion should be taken away from? Which budget should lose that money?
A wnewch chi gymryd ymyriad? Diolch am gymryd ymyriad. Os na chaiff y gyllideb hon ei phasio, ac rydym yn colli £1.6 biliwn, lle, yn eich barn chi, y dylid cymryd yr £1.6 biliwn hwn, yn eich barn chi? Pa gyllideb ddylai golli'r arian hwnnw?
It is being passed. You have a deal. We're talking about the billions of pounds missing that are owed to Wales, and I will get to that, if you let me continue.
Mae'n cael ei phasio. Mae gennych chi gytundeb. Rydyn ni'n sôn am y biliynau o bunnoedd sydd ar goll sy'n ddyledus i Gymru, ac fe wna' i sôn am hynny, os byddwch chi'n gadael i mi barhau.
O ran Ystad y Goron, mae barn Llafur Cymru yn amlwg yn dra gwahanol tu hwnt i furiau'r Senedd hon, gyda dim un o Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron yn San Steffan yr wythnos diwethaf. Dim un. Ac yn hytrach na derbyn ein gwahoddiad ni i gydweithio er mwyn mynnu setliad ariannol teg i Gymru, a gweithredu ar y meysydd hyn, beth mae’r Llywodraeth hon wedi ei wneud ers i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod, ac yn parhau i wneud heddiw? Ymosod ar Blaid Cymru am fynnu gwell i Gymru, amddiffyn penderfyniadau niweidiol Llafur yn San Steffan, megis parhau gyda’r polisi creulon cap dau blentyn sy’n effeithio ar 65,000 o blant yma yng Nghymru, ac amddiffyn y newidiadau i’r taliadau tanwydd gaeaf sy’n mynd i effeithio ar filoedd o bensiynwyr. A gwrthod cydnabod yr ansicrwydd a’r niwed sydd wedi ei greu gan y newidiadau i yswiriant gwladol. A dyna pam dŷn wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn gefnogi’r gyllideb hon heddiw.
In terms of the Crown Estate, Welsh Labour’s views are clearly very different outside the walls of this Senedd, with none of the Welsh Labour MPs supporting Plaid Cymru's motion on the devolution of the Crown Estate in Westminster last week. None—not one. And instead of accepting our invitation to work together in order to demand a fair financial settlement for Wales, and take action on these areas, what has this Government done since the draft budget was laid, and continues to do today? It has attacked Plaid Cymru for demanding better for Wales. It has defended Labour's harmful decisions in Westminster, such as continuing with the cruel two-child cap policy, which affects 65,000 children here in Wales, and it has defended the changes to the winter fuel payments, which are going to affect thousands of pensioners. And it has refused to recognise the uncertainty and harm that has been created by the changes made to national insurance. And that’s why we have reached a situation where we cannot support this budget today.
Plaid Cymru will always seek to find common ground where possible, and voting against the budget is not a decision taken lightly; neither is it a vote against everything in the budget. There are, of course, elements that are to be welcomed, especially the continuation of some of the policies and investments secured by the co-operation agreement. The scrutiny work of some of the Senedd’s committees has also evidently influenced the last iteration of the budget, such as the increase for arts and culture—still inadequate, but a step in the right direction—and the subsidised bus travel for young people, which the last cohort of the Welsh Youth Parliament strongly advocated for.
But delving deeper, and beyond the headlines, what is clear is that the budget still falls short of adequately addressing the challenges we face as a nation. Whilst we accept, as outlined by the Cabinet Secretary, that undoing 14 years of damage caused by the Conservatives is not going to be possible overnight, we have seen nothing from the UK Labour Government to signal that Wales matters to them. Not a single penny of HS2 consequential is reflected in this budget, and the lowest real-term increase of all the devolved nations in resource funding up to 2025-26, at just 1.3 per cent. In fact, when you look at the £1.7 billion in additional funding for the Welsh budget over the next two financial years, a large proportion will have to be swallowed up to offset the UK Government's short-sighted decision to increase employer national insurance contributions, with no plans to reimburse the cost for third sector organisations, charities and even GP surgeries. In fact, even the reimbursements that will come for public services will likely leave Wales facing a shortfall compared to England, something described as a fundamental unfairness by the Cabinet Secretary himself.
So, whilst the Conservatives have gone, austerity hasn't gone with them, and Wales continues to be short-changed—hardly the brighter future for Wales promised when the draft budget was announced. But it's not just about the money available either. It is about how it is spent, and on this the Welsh Government's record leaves a lot to be desired. While the health budget in particular has grown significantly in recent years, we've seen little to no improvement on waiting lists, ambulance response times and targets for cancer treatment. Our universities face an existential crisis. Our schools are struggling. The arts and culture sectors are, even with the additional funding, trailing at the bottom of the European nations when it comes to investment, and are in crisis.
So today it is for these reasons that Plaid Cymru is voting against the budget. But even so, the offer still stands to work cross-party to secure fairness and parity for Wales in terms of funding and powers. The question for Labour here in Wales and for this Welsh Government is: are you willing to do so, and put Wales before party?
Bydd Plaid Cymru bob amser yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin lle bo hynny'n bosibl, ac nid yw pleidleisio yn erbyn y gyllideb yn benderfyniad a wneir yn ysgafn; nid yw ychwaith yn bleidlais yn erbyn popeth yn y gyllideb. Wrth gwrs, mae yna elfennau i'w croesawu, yn enwedig parhad rhai o'r polisïau a'r buddsoddiadau a sicrhawyd gan y cytundeb cydweithio. Mae'n amlwg bod gwaith craffu rhai o bwyllgorau'r Senedd hefyd wedi dylanwadu ar iteriad olaf y gyllideb hefyd, megis y cynnydd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant—sy'n dal i fod yn annigonol, ond sy'n gam i'r cyfeiriad cywir—a'r teithio â chymhorthdal ar fysiau i bobl ifanc, yr oedd carfan olaf Senedd Ieuenctid Cymru yn eirioli'n gryf drosto.
Ond wrth edrych yn ddyfnach, a thu hwnt i'r penawdau, yr hyn sy'n amlwg yw bod y gyllideb yn dal i fethu â mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl. Er ein bod ni'n derbyn, fel yr amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, na fydd modd dadwneud 14 mlynedd o ddifrod a achoswyd gan y Ceidwadwyr dros nos, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw beth gan Lywodraeth Lafur y DU i ddangos bod Cymru'n bwysig iddyn nhw. Nid oes yr un geiniog o gyllid canlyniadol HS2 yn cael ei hadlewyrchu yn y gyllideb hon, a'r cynnydd tymor real isaf o'r holl wledydd datganoledig mewn cyllid adnoddau hyd at 2025-26, sef dim ond 1.3 y cant. Yn wir, pan edrychwch chi ar yr £1.7 biliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, bydd yn rhaid llyncu cyfran fawr i wrthbwyso penderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, heb unrhyw gynlluniau i ad-dalu'r gost i sefydliadau trydydd sector, elusennau a hyd yn oed meddygfeydd. Mewn gwirionedd, bydd hyd yn oed yr ad-daliadau a ddaw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn debygol o adael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr, rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun yn ei ddisgrifio fel annhegwch sylfaenol.
Felly, er bod y Ceidwadwyr wedi mynd, nid yw cyni wedi mynd gyda nhw, ac mae Cymru'n parhau i fod ar ei cholled—nid y dyfodol mwy disglair i Gymru a addawyd pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft. Ond nid yw'n ymwneud â'r arian sydd ar gael yn unig. Mae'n ymwneud â sut mae'n cael ei wario, ac ar hyn mae record Llywodraeth Cymru ymhell o fod yn foddhaol. Er bod y gyllideb iechyd yn benodol wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychydig iawn o welliant, os o gwbl, rydym wedi'i weld o ran rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlans a thargedau ar gyfer trin canser. Mae ein prifysgolion yn wynebu argyfwng dirfodol. Mae ein hysgolion mewn trafferthion. Mae sectorau'r celfyddydau a diwylliant, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, yn cael llai o fuddsoddiad na gwledydd Ewropeaidd eraill, ac mewn argyfwng.
Felly, heddiw, am y rhesymau hyn y mae Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb. Ond er hynny, mae'r cynnig yna o hyd i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i Gymru o ran cyllid a phwerau. Y cwestiwn i Lafur yma yng Nghymru ac i'r Llywodraeth Cymru hon yw: ydych chi'n fodlon gwneud hynny, a rhoi Cymru o flaen plaid?
Mike Hedges. [Interruption.] Mike Hedges.
Mike Hedges [Torri ar draws.] Mike Hedges.
Thank you, Presiding Officer. I did hear you, but there was an awful lot of noise.
Diolch, Llywydd. Fe glywais i chi, ond roedd llawer iawn o sŵn.
Yes, and it was surrounding you.
Oedd, ac mi roedd o'ch cwmpas chi.
But it wasn't me this time.
Ond nid fi oedd hi y tro hwn.
You're right.
Rydych chi'n iawn.
This is a good-news budget. There’s an extra £1.5 billion for our public services, and the priority is putting Wales on the path to growth. Every department will benefit from an increase in revenue and capital funding. Capital spending exceeds £3 billion for the first time at final budget stage. This will improve infrastructure and minimise spend on the expensive mutual investment model. This is in contrast to previous years, when very difficult decisions were made and budgets cut, affecting key public services. We cannot undo all the damage inflicted on Wales over the last 14 years in just one budget, but this budget shows the power of two Governments with the same shared values working together for the benefit of public services.
What do I want the budget to achieve? Improve health outcomes by early intervention, primary care availability, diagnostics and health promotion. We continue to hold health debates, and be it dementia or cancer, we unanimously agree on the importance of early diagnosis. This means spending more on diagnostic tools. Health improvement is critical. Social prescribing leads to reduced obesity. Increased fitness reduces demands on the health service. Improved education outcomes, not in meaningless data such as PISA, but in qualifications achieved—. The weakness of the Welsh economy is that we have too few high-paid jobs in the high-wage economic sectors and growth sectors such as ICT, life sciences and green energy. This works well around the world, driven by Governments supporting the university sector. Education is the key to a successful economy. Support by Government for schools and colleges improves skills, and economic success should follow.
Yet again the Conservatives and the Plaid Cymru are critical of the budget. They are either incapable or unwilling to produce an alternative budget. The Conservative policy is straightforward. They oppose all tax rises, they oppose all new taxes, they oppose borrowing. They support additional money being spent across portfolios with their suggestion savings being incredibly small.
More surprisingly, Plaid Cymru can produce a budget for an independent Wales but not for the Senedd this year. Their budget for an independent Wales does not include funding state pensions. The SNP in Scotland offered to collect all taxes in Scotland and provide their share of the costs incurred by the Westminster Government on areas such as state pensions and defence. Do Plaid Cymru want to offer this? They have the figures, they can produce a budget. If you do not produce a budget, you cannot promise more money to everyone without removing it elsewhere in the system.
To help, I've got some suggestions. Cap basic farm payments at £50,000. There are 381 farm businesses receiving between £50,000 and £100,000 a year and 60 receiving over £100,000 a year. On the economy, to quote Russell George, the economy committee has concluded:
'On the whole, the enterprise zone concept has not proved itself to date in Wales despite the Welsh Government spending over £200 million on them',
to provide any success. I would end enterprise zone funding. Enterprise zones did not work in the 1980s. Why do people think they're going to work now?
Health takes over half the Welsh budget. Is money spent on health effective and efficient? I do not know. Nobody knows. We have waiting list targets but how many surgical interventions do we expect for each surgeon? How can we increase activity? How can investment in artificial intelligence improve productivity? I don't believe the share of expenditure between primary and secondary care is correct. We need to protect the share of health expenditure spent on primary care this year, and reverse the direction of travel that is reducing primary care's share of health expenditure since primary and secondary care were, unfortunately, merged. When patients cannot get to a primary care appointment, what do they do? They go to A&E and clog up the A&E system.
What happens if a budget motion is not passed before 1 April of the upcoming fiscal year? Well, section 127 of the Government of Wales Act 2006 automatically takes effect. This would give the Welsh Government and directly funded bodies authority to spend resources, retain income and draw cash from the Welsh consolidated fund of up to 75 per cent of the limit approved in the previous fiscal year, or £7 billion less than this budget provides. That is what people are voting against. They are voting against an additional £7 billion for Welsh public spending. If the budget is not passed at the end of June, up to 90 per cent of the previous fiscal year's limit is deemed authorised. This means that additional funding given to Wales in the Westminster budget would not be able to be spent. Also, we get to spend 10 per cent less than we spent last year. That is what austerity looks like.
Mae hon yn gyllideb newyddion da. Mae £1.5 biliwn yn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r flaenoriaeth yw rhoi Cymru ar y llwybr at dwf. Bydd pob adran yn elwa ar gynnydd mewn cyllid refeniw a chyfalaf. Mae gwariant cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf ar y cam cyllideb derfynol. Bydd hyn yn gwella seilwaith ac yn lleihau gwariant ar y model buddsoddi ar y cyd drud. Mae hyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, pan wnaed penderfyniadau anodd iawn a thorrwyd cyllidebau, gan effeithio ar wasanaethau cyhoeddus allweddol. Allwn ni ddim dadwneud yr holl ddifrod a achoswyd i Gymru dros y 14 mlynedd diwethaf mewn un gyllideb yn unig, ond mae'r gyllideb hon yn dangos pŵer dwy Lywodraeth sydd â'r un gwerthoedd cyffredin yn cydweithio er budd gwasanaethau cyhoeddus.
Beth ydw i eisiau i'r gyllideb ei gyflawni? Gwella canlyniadau iechyd trwy ymyrraeth gynnar, argaeledd gofal sylfaenol, diagnosteg a hybu iechyd. Rydym yn parhau i gynnal dadleuon iechyd, a boed yn ddementia neu'n ganser, rydym i gyd yn cytuno ar bwysigrwydd diagnosis cynnar. Mae hyn yn golygu gwario mwy ar offer diagnostig. Mae gwella iechyd yn hanfodol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn arwain at lai o ordewdra. Mae mwy o ffitrwydd yn lleihau'r galw ar y gwasanaeth iechyd. Gwell canlyniadau addysg, nid mewn data diystyr fel PISA, ond mewn cymwysterau a gyflawnir—. Gwendid economi Cymru yw bod prinder swyddi cyflog uchel yn y sectorau economaidd cyflog uchel a'r sectorau twf fel TGCh, gwyddorau bywyd ac ynni gwyrdd. Mae hyn yn gweithio'n dda ledled y byd, wedi'i yrru gan Lywodraethau sy'n cefnogi'r sector prifysgolion. Addysg yw'r allwedd i economi lwyddiannus. Mae cefnogaeth gan y Llywodraeth i ysgolion a cholegau yn gwella sgiliau, a dylai llwyddiant economaidd ddilyn.
Unwaith eto mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn feirniadol o'r gyllideb. Maen nhw naill ai'n analluog neu'n amharod i gynhyrchu cyllideb amgen. Mae polisi'r Ceidwadwyr yn syml. Maen nhw'n gwrthwynebu pob codiad treth, maen nhw'n gwrthwynebu pob treth newydd, maen nhw'n gwrthwynebu benthyca. Maen nhw'n cefnogi gwario arian ychwanegol ar draws portffolios ac mae'r arbedion a awgrymir ganddyn nhw yn fach iawn.
Yn fwy rhyfeddol, gall Plaid Cymru gynhyrchu cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol ond nid ar gyfer y Senedd eleni. Nid yw eu cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol yn cynnwys ariannu pensiynau'r wladwriaeth. Cynigiodd yr SNP yn yr Alban gasglu pob treth yn yr Alban a darparu eu cyfran nhw o'r costau yr eir iddynt gan Lywodraeth San Steffan ar feysydd fel pensiynau'r wladwriaeth ac amddiffyn. Ydy Plaid Cymru eisiau cynnig hyn? Mae ganddyn nhw'r ffigurau, maen nhw'n gallu cynhyrchu cyllideb. Os nad ydych chi'n cynhyrchu cyllideb, allwch chi ddim addo mwy o arian i bawb heb ei dynnu o fannau eraill yn y system.
I helpu, mae gennyf rai awgrymiadau. Capio taliadau fferm sylfaenol ar £50,000. Mae 381 o fusnesau fferm yn derbyn rhwng £50,000 a £100,000 y flwyddyn a 60 yn derbyn dros £100,000 y flwyddyn. O ran yr economi, i ddyfynnu Russell George, mae'r pwyllgor economi wedi dod i'r casgliad:
'Nad yw cysyniad yr ardaloedd menter, ar y cyfan, wedi cyfiawnhau ei hun hyd yma yng Nghymru er i Lywodraeth Cymru wario dros £200 miliwn arnynt',
i ddarparu unrhyw lwyddiant.Bydden i'n rhoi terfyn ar gyllid ar gyfer ardaloedd menter. Wnaeth ardaloedd menter ddim gweithio yn yr 1980au. Pam mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n mynd i weithio nawr?
Mae iechyd yn cymryd dros hanner cyllideb Cymru. A yw'r arian sy'n cael ei wario ar iechyd yn effeithiol ac yn effeithlon? Dydw i ddim yn gwybod. Does neb yn gwybod. Mae gennym ni dargedau rhestrau aros ond faint o ymyriadau llawfeddygol rydym yn eu disgwyl ar gyfer pob llawfeddyg? Sut allwn ni gynyddu gweithgarwch? Sut gall buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial wella cynhyrchiant? Dydw i ddim yn credu bod cyfran y gwariant rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd yn gywir. Mae angen i ni ddiogelu'r gyfran o wariant iechyd sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol eleni, a gwrthdroi'r cyfeiriad teithio sy'n lleihau cyfran gofal sylfaenol o wariant iechyd ers i ofal sylfaenol a gofal eilaidd gael eu huno, yn anffodus. Pan na all cleifion fynd i apwyntiad gofal sylfaenol, beth maen nhw'n ei wneud? Maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn tagu'r system damweiniau ac achosion brys.
Beth sy'n digwydd os na chaiff cynnig cyllidebol ei basio cyn 1 Ebrill y flwyddyn ariannol sydd i ddod? Wel, mae adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dod i rym yn awtomatig. Byddai hyn yn rhoi awdurdod i Lywodraeth Cymru a chyrff a ariennir yn uniongyrchol wario adnoddau, cadw incwm a thynnu arian parod o gronfa gyfunol Cymru o hyd at 75 y cant o'r terfyn a gymeradwywyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol, neu £7 biliwn yn llai na'r hyn y mae'r gyllideb hon yn ei ddarparu. Dyna beth mae pobl yn pleidleisio yn ei erbyn. Maen nhw'n pleidleisio yn erbyn £7 biliwn ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Os na chaiff y gyllideb ei phasio ddiwedd mis Mehefin, ystyrir bod hyd at 90 y cant o derfyn y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i awdurdodi. Mae hyn yn golygu na fyddai modd gwario'r arian ychwanegol a roddir i Gymru yng nghyllideb San Steffan. Rydym hefyd yn cael gwario 10 y cant yn llai na'r llynedd. Dyna sut mae cyni yn edrych.
Today, I feel a deep sense of responsibility. This budget is crucial not just for the progress we've made but for securing vital funding. If we don't pass this budget, we risk losing billions for the people of Wales, and I cannot in good conscience let that happen. Let me be clear: this is not the budget I would have chosen for Wales. It doesn't, for me, deliver the bold, ambitious future we deserve, but I am proud of the key victories of the Welsh Liberal Democrats, wins that will improve lives and spark real, meaningful change. We've secured additional funding for childcare and social care, critical services for our most vulnerable. I'm proud that we've prioritised these often overlooked fields. Our children and elderly deserve the greatest investments, and I'm pleased that we've directed more resources towards their care.
There's always more to fight for. Take childcare. Securing 12.5 hours of free childcare for every single two-year-old across the whole of Wales is a good start, but it can't be the end, not when the cost of care remains one of the most pressing issues for all our families. Our ultimate goal must be 30 hours of free high-quality childcare for all children from nine months onwards. This is not just about early childhood development; it's about tackling child poverty and empowering parents, particularly mothers, to return to work. I'm proud of what we've achieved so far here in Wales, but I won't stop demanding more.
On social care, the £30 million we've secured will help streamline the healthcare journey, stopping people from ending up in hospital and smoothing the shift from hospital to home. For me, this is about dignity, ensuring everyone gets the right care in the right place, where they can heal and thrive. I have to be honest—this is just a sticking plaster on a system in crisis. Social care, we know, is chronically underfunded and understaffed, with the Welsh Local Government Association warning of a £646 million funding gap over the next three years. And I am pleased that we have secured a significant agreement for local authorities on a funding floor for our local authorities. It should have been more, of course, and I'll continue to fight for that.
Beyond that, I've secured a series of commitments that will genuinely improve lives across Wales: the groundbreaking bus fare cap for young people aged 21 and under; £5 million to help leisure centres cut energy costs, and another £5 million to upgrade playgrounds; the restoration of the Heart of Wales line, with five daily services; increased funding for local roads, pavements and public toilets; £5 million to improve water pollution; and specific investments in Mid and West Wales, including the Wyeside Arts Centre, north Powys well-being campus, and Brynaman Lido. By putting people before politics, I hope to have shown that meaningful change is possible.
And I’m also very pleased that I’ve secured a ban on greyhound racing in Wales, one which will secure us—[Interruption.]—I’ll just finish this sentence, James, if I may—one which will secure us as a nation and a country that puts animal welfare first. Thank you, James.
Heddiw, rwy'n teimlo ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb. Mae'r gyllideb hon yn hanfodol nid yn unig ar gyfer y cynnydd rydym wedi'i wneud ond ar gyfer sicrhau cyllid hanfodol. Os na fyddwn ni'n pasio'r gyllideb hon, rydym mewn perygl o golli biliynau i bobl Cymru, ac ni allaf mewn cydwybod dda adael i hynny ddigwydd. Gadewch imi fod yn glir: nid dyma'r gyllideb y byddwn i wedi'i dewis ar gyfer Cymru. Nid yw, i mi, yn sicrhau'r dyfodol beiddgar, uchelgeisiol rydym yn ei haeddu, ond rwy'n falch o fuddugoliaethau allweddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, enillion fydd yn gwella bywydau ac yn sbarduno newid ystyrlon, go iawn. Rydym wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant a gofal cymdeithasol, gwasanaethau hanfodol i'n rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rwy'n falch ein bod ni wedi blaenoriaethu'r meysydd hyn sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae ein plant a'n henoed yn haeddu'r buddsoddiadau mwyaf, ac rwy'n falch ein bod ni wedi cyfeirio mwy o adnoddau tuag at eu gofal.
Mae mwy i ymladd drosto bob amser. Cymerwch ofal plant. Mae sicrhau 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed ar draws Cymru gyfan yn ddechrau da, ond all o ddim gorffen fanna, nid pan fo cost gofal yn parhau i fod yn un o'r materion pwysicaf i'n teuluoedd i gyd. Rhaid i ni anelu, yn y pen draw, at sicrhau 30 awr o ofal plant o ansawdd uchel am ddim i bob plentyn o naw mis ymlaen. Nid yw hyn yn ymwneud â datblygiad plentyndod cynnar yn unig; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant a grymuso rhieni, yn enwedig mamau, i ddychwelyd i'r gwaith. Rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru, ond wna' i ddim rhoi'r gorau i fynnu mwy.
O ran gofal cymdeithasol, bydd y £30 miliwn rydym wedi'i sicrhau yn helpu i symleiddio'r daith gofal iechyd, gan atal pobl rhag mynd i'r ysbyty a llyfnhau'r symud o'r ysbyty i'r cartref. I mi, mae hyn yn ymwneud ag urddas, sicrhau bod pawb yn cael y gofal iawn yn y lle iawn, lle gallan nhw wella a ffynnu. Mae'n rhaid i mi fod yn onest—dim ond plastr glynu ar system mewn argyfwng yw hwn. Mae gofal cymdeithasol, rydym yn gwybod, yn cael ei danariannu'n gronig ac yn brin o staff, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio am fwlch ariannol o £646 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi sicrhau cytundeb sylweddol i awdurdodau lleol ar gyllid gwaelodol ar gyfer ein hawdurdodau lleol. Dylai fod wedi bod yn fwy, wrth gwrs, a byddaf yn parhau i ymladd am hynny.
Y tu hwnt i hynny, rwyf wedi sicrhau cyfres o ymrwymiadau a fydd wir yn gwella bywydau ledled Cymru: y cap arloesol ar brisiau bysiau ar gyfer pobl ifanc 21 oed ac iau; £5 miliwn i helpu canolfannau hamdden i leihau costau ynni, a £5 miliwn arall i uwchraddio meysydd chwarae; adfer llinell Calon Cymru, gyda phum gwasanaeth dyddiol; mwy o arian ar gyfer ffyrdd lleol, palmentydd a thoiledau cyhoeddus; £5 miliwn i wella llygredd dŵr; a buddsoddiadau penodol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Wyeside, campws lles gogledd Powys, a Lido Brynaman. Drwy roi pobl o flaen gwleidyddiaeth, rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos bod newid ystyrlon yn bosibl.
Ac rwyf hefyd yn falch iawn fy mod i wedi sicrhau gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru, un fydd yn sicrhau—[Torri ar draws.]—Fe wnaf i orffen y frawddeg yma, James, os caf i—un fydd yn sicrhau ein bod ni'n genedl ac yn wlad sy'n rhoi lles anifeiliaid yn gyntaf. Diolch, James.
I’m grateful to you for taking an intervention. On the civic ban on greyhound racing in Wales, can you tell us what assurances you got from the Government about the people who are going to lose their jobs and livelihoods in that racetrack because of this ban?
Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd ymyriad. O ran y gwaharddiad dinesig ar rasio milgwn yng Nghymru, a allwch chi ddweud wrthym pa sicrwydd a gawsoch gan y Llywodraeth ynghylch y bobl sy'n mynd i golli eu swyddi a'u bywoliaeth yn y trac rasio hwnnw oherwydd y gwaharddiad hwn?
James, you may well or may not know that there are hardly any people working at that—[Interruption.] No, no. And if you heard—[Interruption.] If you heard—. If you heard our Deputy Minister say that there’s going to be a group that will be coming together to look at those jobs and those people, to look at how we improve and implement the racing ban, then you will realise that there is a commitment to that. James, I know that you feel that greyhounds, like your dog, perhaps don’t deserve the start in life that all dogs should have. I do, and I know many of us do as well. Carolyn.
James, efallai eich bod yn gwybod neu efallai nad ydych yn gwybod nad oes llawer o bobl o gwbl yn gweithio—[Torri ar draws.] Na na. Ac os clywsoch chi—[Torri ar draws.] Os clywsoch chi—. Os clywsoch chi ein Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd grŵp a fydd yn dod at ei gilydd i edrych ar y swyddi hynny a'r bobl hynny, i edrych i weld sut rydym yn gwella ac yn gweithredu'r gwaharddiad rasio, yna byddwch yn sylweddoli bod ymrwymiad i hynny. James, gwn eich bod yn teimlo nad yw milgwn efallai, fel eich ci chi, yn haeddu'r dechrau mewn bywyd y dylai pob ci ei gael. Rwy'n credu hynny, ac rwy'n gwybod bod llawer ohonom yn credu hynny hefyd. Carolyn.
Jane, will you take an intervention? I just want to stand in solidarity with you. A lot of what's in this budget today, we share those values with you, and we really welcome the extra funding—me personally for roads, for public bus transport, for many things, but to ban greyhound racing. We had two cross-party debates in this Senedd. So, I just want to say you do not stand alone in this. Thirty-five thousand people signed that petition. We had the short debate on it, and it impacts on thousands and thousands of dogs. It’s a cruel sport. At that racecourse, a quarter were injured. So, I’d like to just say I stand in solidarity, thank you very much.
Jane, a wnewch chi gymryd ymyriad? Rwyf i eisiau sefyll mewn undod gyda chi. O ran llawer o'r hyn sydd yn y gyllideb hon heddiw, rydym ni'n rhannu'r gwerthoedd hynny gyda chi, ac rydym ni wir yn croesawu'r cyllid ychwanegol—fi yn bersonol ar gyfer ffyrdd, ar gyfer trafnidiaeth bysiau cyhoeddus, ar gyfer sawl peth, ond i wahardd rasio milgwn. Cawsom ddwy ddadl drawsbleidiol yn y Senedd hon. Felly, rwyf eisiau dweud nad ydych chi'n sefyll ar eich pen eich hun yn hyn. Llofnododd 35,000 o bobl y ddeiseb honno. Cawsom y ddadl fer ar hyn, ac mae'n effeithio ar filoedd ar filoedd o gŵn. Mae'n gêm greulon. Yn y cae rasio hwnnw, cafodd chwarter eu hanafu. Felly, hoffwn ddweud fy mod yn sefyll mewn undod, diolch yn fawr iawn.
Thank you. Llywydd, I'll just carry on; I don't have much further to go. Whilst these are all positive changes, I cannot ignore the fact that, as a nation, we are still being let down by Labour in Westminster. The UK Government’s failure to deliver a fair financial settlement for Wales limits our potential. I’ve always said that we need the devolution of the Welsh Crown Estate and we need the HS2 consequential funds to be delivered in Wales.
I’ve made the difficult decision to abstain on the budget vote. I cannot fully support a budget that falls short of delivering the investment and radical change that Wales needs. Our fight must be for more: for better childcare, for better social care, for a greener environment, and for better funding to our local authorities.
In closing, ahead of International Women’s Day, I want to share the words of the former President of Liberia and Nobel Peace Prize winner Ellen Johnson Sirleaf. She said:
'If your dreams do not scare you, they are not big enough.'
Let's dream big. Let's deliver big. Let's do more for Wales. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Llywydd, fe wnaf barhau; nid oes gennyf lawer mwy ar ôl. Er bod y rhain i gyd yn newidiadau cadarnhaol, ni allaf anwybyddu'r ffaith, fel cenedl, ein bod yn dal i gael ein siomi gan Lafur yn San Steffan. Mae methiant Llywodraeth y DU i sicrhau setliad ariannol teg i Gymru yn cyfyngu ar ein potensial. Rwyf wastad wedi dweud bod angen datganoli Ystad y Goron yng Nghymru ac mae angen i ni gael cyllid canlyniadol HS2 yng Nghymru.
Rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymatal ar bleidlais y gyllideb. Ni allaf wir gefnogi cyllideb sy'n methu â chyflawni'r buddsoddiad a'r newid radical sydd ei angen ar Gymru. Rhaid i'n brwydr ni fod am fwy: ar gyfer gofal plant gwell, ar gyfer gofal cymdeithasol gwell, ar gyfer amgylchedd gwyrddach, ac am gyllid gwell i'n hawdurdodau lleol.
Wrth gloi, cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf am rannu geiriau cyn-Arlywydd Liberia ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Ellen Johnson Sirleaf. Dywedodd hi:
'Os nad yw eich breuddwydion yn eich dychryn, nid ydynt yn ddigon mawr.'
Gadewch i ni freuddwydio'n fawr. Gadewch i ni gyflawni'n fawr. Gadewch i ni wneud mwy dros Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Let’s be clear about this: if the Welsh Government lost this vote today, it would effectively bring to an end 26 years of a failing, tired, clapped-out Labour Government that's devoid of the right ideas to fix the problems and the challenges that Wales faces. That is a good thing, and that is why all of us on these benches will be voting against this budget today.
We’ve heard, of course, the fantasy economics from the Plaid spokesperson, a person who believes that Wales is better off outside the United Kingdom, as an independent nation, whereby we would either have to slash our public services budgets in half or double taxation in order to ensure that people got the services that they need. And, of course, we've heard a victory speech from the single Liberal Democrat in this Chamber, who had her short shopping list, which she presented to the Cabinet Secretary for finance, which, no doubt, he was delighted to be able to sign off, because he had that money already prearranged down the back of his sofa to be able to deliver. But let’s be straight about this: the Welsh Labour Government is failing the people of Wales. Whether it's on the health service, with the appalling situation whereby over 20,000 people are still waiting more than two years plus for their treatment, compared to just fewer than 150 over the border in England, or whether it's on the economy, where people take home those lighter pay packets, or pay the worst business rates, or whether it's on the situation in our schools, where our young people are not getting the quality of education all of the time that they deserve, Wales is being let down.
These things have to change, and they're not going to change by what we've seen announced in today's budget. Our money is being frittered away. People are paying more for services—£1.20 per head, remember, that is what's received by the Welsh Government: for every £1 spent per head on a devolved service in England, £1.20. We're paying 20 per cent more, but we're getting far less for our money in terms of value for money. And where is this money disappearing to? Well, we know that hundreds of millions of pounds have been frittered away and burnt through on a loss-making, nationalised airport that should never have been nationalised in the first place; we have a nationalised Transport for Wales train company, one of the worst-performing train companies in the whole of the United Kingdom, losing hundreds of millions of pounds each and every year; £32 million spent on a nationwide default 20 mph speed limit that hundreds of thousands of people opposed, and you as Government put your fingers in your ears. And, of course, you cancelled, at great expense—because lots of money has been spent already on trying to progress these—you cancelled new road projects and capital investment projects and you froze projects, pushing up costs for motorists and businesses. Whether it's planes, trains or automobiles, Labour's transport policy has been an absolute disaster in every single direction. I'll take the intervention.
Gadewch i ni fod yn glir ynghylch hyn: pe bai Llywodraeth Cymru yn colli'r bleidlais hon heddiw, byddai i bob pwrpas yn dod â 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur fethedig, flinedig, dreuliedig, sydd heb y syniadau cywir i ddatrys y problemau a'r heriau sy'n wynebu Cymru i ben. Mae hynny'n beth da, a dyna pam y bydd pob un ohonom ar y meinciau hyn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw.
Rydym wedi clywed, wrth gwrs, economeg ffantasi llefarydd Plaid Cymru, person sy'n credu bod Cymru yn well ei byd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, fel cenedl annibynnol, lle byddai'n rhaid i ni naill ai dorri ein cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yn eu hanner neu ddyblu trethiant er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Ac, wrth gwrs, rydym wedi clywed araith fuddugoliaeth gan y Democrat Rhyddfrydol unigol yn y Siambr hon, a oedd â'i rhestr siopa fer, a gyflwynodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, sydd, heb os, yn falch iawn o allu cymeradwyo, oherwydd roedd yr arian hwnnw eisoes wedi'i drefnu ymlaen llaw i lawr cefn ei soffa er mwyn gallu ei gyflawni. Ond gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hyn: mae Llywodraeth Lafur Cymru yn siomi pobl Cymru. Boed hynny ynghylch y gwasanaeth iechyd, gyda'r sefyllfa echrydus lle mae dros 20,000 o bobl yn dal i aros mwy na dwy flynedd a mwy am eu triniaeth, o'i gymharu ag ychydig llai na 150 dros y ffin yn Lloegr, neu ynghylch yr economi, lle mae pobl yn mynd â'r pecynnau cyflog ysgafnach hynny adref neu'n talu'r cyfraddau busnes gwaethaf, neu ynghylch y sefyllfa yn ein hysgolion, lle nad yw ein pobl ifanc yn cael addysg o ansawdd y maent yn ei haeddu drwy'r amser, mae Cymru'n cael ei siomi.
Mae'n rhaid i'r pethau hyn newid, ac nid ydyn nhw'n mynd i newid yn ôl yr hyn rydym ni wedi'i weld a gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw. Mae ein harian yn cael ei daflu i ffwrdd. Mae pobl yn talu mwy am wasanaethau—£1.20 y pen, cofiwch, dyna sy'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru: am bob £1 y pen ar wasanaeth datganoledig yn Lloegr, £1.20. Rydym ni'n talu 20 y cant yn fwy, ond rydym ni'n cael llawer llai am ein harian o ran gwerth am arian. I ble mae'r arian hwn yn diflannu? Wel, gwyddom fod cannoedd o filiynau o bunnau wedi eu gwastraffu a'u hafradu ar faes awyr wedi'i wladoli, sy'n gwneud colled ac na ddylai fod wedi'i wladoli yn y lle cyntaf; mae gennym gwmni trenau Trafnidiaeth Cymru wedi'i wladoli, un o'r cwmnïau trenau sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gan golli cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn; gwariwyd £32 miliwn ar derfyn cyflymder 20 mya diofyn ledled y wlad y mae cannoedd o filoedd o bobl yn ei wrthwynebu, a chi fel Llywodraeth yn rhoi eich bysedd yn eich clustiau. Ac, wrth gwrs, roeddech chi'n canslo, ar gost fawr—oherwydd bod llawer o arian wedi'i wario eisoes ar geisio symud y rhain ymlaen—fe wnaethoch chi ganslo prosiectau ffyrdd newydd a phrosiectau buddsoddi cyfalaf ac rydych chi'n rhewi prosiectau, gan gynyddu costau i fodurwyr a busnesau. P'un a yw'n awyrennau, trenau neu gerbydau, mae polisi trafnidiaeth Llafur wedi bod yn drychineb llwyr ymhob cyfeiriad. Fe gymeraf yr ymyriad.
When will you publish the Conservative budget for Wales?
Pryd fyddwch chi'n cyhoeddi cyllideb y Ceidwadwyr ar gyfer Cymru?
Do you know what? I've requested access to the civil service from the Welsh Government's First Minister. As is always the case, the leader of the opposition, in advance of a Senedd election, should have access to the civil service in order to be able to lift up the bonnet and see the mess that the previous Government has left behind because of the lack of maintenance on and proper management of public finances. It's about time you signed that permission and gave me that access, First Minister.
So, what are we seeing in this budget? More of the same. More of Labour taxing, spending, frittering away our hard-earned cash. Paying more, getting less. Smoke and mirrors. Hundreds of millions coming in, and hundreds of millions going back down the M4 in national insurance contributions.
Here's what we would do differently. We would have a Welsh winter fuel allowance to support those pensioners, hundreds of thousands of them, who are losing out on hundreds of pounds this winter, because pensioners shouldn't have to choose between heating and eating. We would back those Welsh businesses. We would scrap business rates for those small businesses. We would support our high streets and invest in them. We'd boost our tourism industry. We'd scrap that horrible levy that is threatening them like a Damocles sword, threatening the future of those viable businesses. We'd help our motorists. We'd scrap those ridiculous 20 mph default speeds that you, of course, were fully responsible for. [Interruption.] I haven't got time to take your intervention.
And how do we pay for it? Well, we'd get rid of all of that waste, we'd get rid of all of that inefficiency, and we'd scrap some of those ridiculous things that you're spending money on: more bureaucrats; all of the Senedd reform costs; the heat and light that you're paying for in Welsh Government buildings that are practically empty across the country; you're so-called justice policy, which isn't even devolved, that you're spending money on; millions on overseas offices; a basic income scheme, giving £19,000 a year to people even if they're sat on their backsides doing absolutely nothing; unions getting millions—a big increase, by the way, Cabinet Secretary for finance, a big increase in the money for the unions. No doubt lots of that will be coming back in donors to all of your Members in advance of the next election. Is any of that going to fix the Welsh unemployment rate? Is any of that going to fix our schools? Is any of that going to deliver the improved services we need to see in our hospitals? Not one iota, and that's why we will be voting against this budget, and I hope everybody else does too.
Wyddoch chi beth? Rwyf wedi gofyn am fynediad i'r gwasanaeth sifil gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru. Fel sy'n digwydd bob amser, dylai arweinydd yr wrthblaid, cyn etholiad y Senedd, gael mynediad i'r gwasanaeth sifil er mwyn gallu codi'r boned a gweld y llanast y mae'r Llywodraeth flaenorol wedi'i adael ar ôl oherwydd diffyg cynnal a chadw a rheoli cyllid cyhoeddus yn briodol. Mae'n hen bryd i chi roi'r caniatâd hwnnw a rhoi'r mynediad hwnnw i mi, Prif Weinidog.
Beth a welwn ni yn y gyllideb hon? Mwy o'r un peth. Mwy o drethu gan Lafur a gwario a gwastraffu ein harian y buom yn gweithio'n galed amdano. Talu mwy, cael llai. Cuddio a chelu. Cannoedd o filiynau yn dod i mewn, a channoedd o filiynau yn mynd yn ôl i lawr yr M4 mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.
Dyma beth fyddem ni'n ei wneud yn wahanol. Byddai gennym lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru i gefnogi'r pensiynwyr hynny, cannoedd o filoedd ohonynt, sydd wedi colli cannoedd o bunnau y gaeaf hwn, oherwydd ni ddylai pensiynwyr orfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Byddem yn cefnogi'r busnesau Cymreig hynny. Byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer y busnesau bach hynny. Byddem yn cefnogi ein strydoedd mawr ac yn buddsoddi ynddynt. Byddwn yn rhoi hwb i'n diwydiant twristiaeth. Byddem yn cael gwared ar yr ardoll erchyll honno sy'n eu bygwth fel cleddyf Damocles, gan fygwth dyfodol y busnesau hyfyw hynny. Byddem yn helpu ein modurwyr. Byddem yn cael gwared ar y cyflymderau diofyn 20 mya chwerthinllyd hynny yr oeddech chi, wrth gwrs, yn gwbl gyfrifol amdanynt. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser i gymryd eich ymyriad.
Sut ydym ni'n talu amdano? Wel, byddem yn cael gwared ar yr holl wastraff hwnnw, byddem yn cael gwared ar yr holl aneffeithlonrwydd hwnnw, a byddem yn cael gwared ar rai o'r pethau chwerthinllyd hynny yr ydych yn gwario arian arnynt: mwy o fiwrocratiaid; holl gostau diwygio'r Senedd; y gwres a'r golau rydych yn talu amdanynt yn adeiladau Llywodraeth Cymru sydd bron yn wag ledled y wlad; eich polisi cyfiawnder fel y'i gelwir, nad yw wedi'i ddatganoli hyd yn oed, yr ydych yn gwario arian arno; miliynau ar swyddfeydd tramor; cynllun incwm sylfaenol, sy'n rhoi £19,000 y flwyddyn i bobl hyd yn oed os ydyn nhw'n eistedd ar eu penolau yn gwneud dim byd o gwbl; undebau yn cael miliynau—cynnydd mawr, gyda llaw, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, cynnydd mawr yn yr arian i'r undebau. Mae'n siŵr y bydd llawer o hwnnw'n dod yn ôl fel rhoddwyr i'ch holl Aelodau cyn yr etholiad nesaf. A oes unrhyw un o'r rheini yn mynd i drwsio cyfradd diweithdra Cymru? A fydd unrhyw un o'r rheini yn trwsio ein hysgolion? A fydd unrhyw un o'r rheini yn darparu'r gwasanaethau gwell y mae angen i ni eu gweld yn ein hysbytai? Dim un ddimai goch, a dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, a gobeithio y bydd pawb arall yn gwneud hynny hefyd.
Clywsom ni gan y Llywodraeth ar sawl achlysur fod cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn llywio blaenoriaethau'r gyllideb hon. Wel, petai hynny'n wir, byddai yna lot mwy o arian ar gyfer gofal plant, ac ar hynny dwi eisiau canolbwyntio.
Doedd yna ddim, unwaith eto, proses cyllidebu ar sail rhywedd ar gyfer y gyllideb hon, a dwi'n siŵr y byddem ni wedi gweld hynny'n siomedig iawn. Roedd e'n rhywbeth y gwnaeth ein pwyllgor ni, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ei nodi. Dyw e ddim wedi cael ei brif ffrydio. Mae angen i hynny ddigwydd, a dwi'n siŵr y byddem ni wedi gweld lot mwy o wahaniaeth yn y penderfyniadau y gwnaed ar wariant, fel gofal plant, petai hynny'n wir, achos mae'r angen ar gyfer darpariaeth well o ofal plant fforddiadwy yn alwad mae Plaid Cymru wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. Mae adroddiad ar ôl adroddiad yn dangos pam mae hyn allweddol o ran sicrhau bod gan ein plant y dechrau gorau mewn bywyd, i helpu teuluoedd i fedru manteisio ar gyfleoedd gwaith, yn enwedig menywod.
Mae arbenigwyr yn gytûn bod gofal plant, felly, yn fater cwbl allweddol o ran taclo'r lefelau cywilyddus o dlodi plant ac anghydraddoldeb sy'n creithio’n cymunedau yng Nghymru ac felly yn cyfyngu ar ein potensial fel cenedl. Dyna pam roedd ehangu gofal plant, fel soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn un o bolisïau creiddiol y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs, ac rydym felly yn croesawu'r cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer yr ymrwymiad i ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd, yn enwedig yn sgil y pryderon nad oedd y Llywodraeth yn mynd i gyflawni cam nesaf y polisi hwnnw.
Ddechrau'r flwyddyn, fe ddywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol nad cyllid yw'r her fwyaf o ran cyflawni hyn, ond sicrhau bod yna weithlu digonol, ac fe ddywedodd hefyd fod yr arolwg a gomisiynwyd o ran cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cam 3 wedi adnabod heriau sylweddol sydd ddim yn ymwneud â chyllid. Heb ddatrys yr heriau hynny, sut bydd y cyllid yma felly yn cael ei ddefnyddio'n effeithio i gyflawni'r nod polisi? Sut bydd y cyllid sydd wedi ei ddynodi yn y gyllideb yn helpu datrys y diffygion difrifol o fewn y system gofal plant presennol, gan gynnwys rhwystrau sy'n atal teuluoedd rhag cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a theuluoedd plant anabl yn enwedig? Dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol sydd â darpariaeth ddigonol ar hyn o bryd, yn ôl y ffigurau diwethaf rŷn ni wedi eu gweld, ar gyfer plant anabl. Pump y cant. Felly, pa asesiad sydd wedi cael ei wneud, ochr yn ochr â'r gwariant yma sydd yn y gyllideb, o effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ar y swm sy'n cael ei nodi?
Dyw gofal plant yng Nghymru ddim yn ffit i bwrpas.
We heard from the Government on several occasions that equality and social justice were steering the priorities of this budget. Well, if that were true, there would be a lot more money for childcare, and that's what I want to focus on.
Once again, there was no gender-budgeting process for this budget, and I'm sure that we would have felt that that was very disappointing. It was something that our committee, the Equality and Social Justice Committee, noted. It hasn't been mainstreamed. That needs to happen, and I'm sure we would have seen a great deal of difference in the decisions made on expenditure, such as childcare, if that was the case, because the need for better provision of affordable childcare is a call that Plaid Cymru has been making for many years. Report after report has shown why this is key in terms of ensuring that our children have the best start in life, to help families take advantage of work opportunities, particularly women.
Experts agree that childcare is an absolutely key issue in tackling the shameful levels of child poverty and inequality that scar our communities in Wales and that therefore limits our potential as a nation. That is why the expansion of childcare, as the Cabinet Secretary mentioned, was one of the core policies of the co-operation agreement with Plaid Cymru, of course, and we therefore welcome the additional funding in the budget for the commitment to expand childcare to all two-year-olds, especially amid concerns that the Government was not going to complete the next phase of that policy.
At the beginning of the year, the Minister for Children and Social Care said that funding was not the biggest challenge in terms of achieving this, but ensuring that there is an adequate workforce, and she also said that the survey commissioned in terms of local authority plans for phase 3 had identified significant challenges that are not related to funding. So, without solving those challenges, how will this funding be used effectively to achieve the policy aim? How will the funding that has been allocated in the budget help to solve the serious shortcomings within the current childcare system, including the barriers that prevent families from accessing the support that they need, and families with disabled children in particular? Only 5 per cent of local authorities have adequate provision at present, according to the most recent figures that we've seen, for disabled children. Five per cent. So, what assessment has been made, alongside the expenditure in the budget, of the impact of the increase in national insurance contributions on the sum that's been identified?
Childcare in Wales is not fit for purpose.
Ydych chi'n cymryd ymyrraeth, Sioned Williams?
Will you take an intervention, Sioned Williams?
Sori, ie.
Sorry, yes.
Whilst I agree with a lot of what you said, and thank you for taking the intervention, what puzzles me here is why you didn't sit around the table. Jane Dodds, to her credit, has sat around the table and has been listened to, and it's been reflected in our budget with things that we agree on. What I can't understand is why you flatly refused to sit around the table and just completely ignored the needs that you're outlining.
Er fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi, a diolch i chi am gymryd yr ymyriad, yr hyn sy'n fy nrysu yma yw pam na wnaethoch chi eistedd o gwmpas y bwrdd. Mae Jane Dodds, a phob clod iddi, wedi eistedd o gwmpas y bwrdd ac wedi cael gwrandawiad, ac mae wedi cael ei adlewyrchu yn ein cyllideb gyda phethau yr ydym yn cytuno arnynt. Yr hyn na allaf ei ddeall yw pam y gwnaethoch chi wrthod eistedd o gwmpas y bwrdd yn llwyr ac anwybyddu'r anghenion rydych chi'n eu hamlinellu'n llwyr.
Do you know, we wouldn't have so many holes to fill if we didn't have to constantly be picking up after the gaps that are left by the decisions the UK Government make, or the refusal that they have to give us the fair funding we need? The kind of money we need for childcare is nowhere near what's in this budget. We're talking hundreds of millions of pounds to really fix childcare in Wales. That kind of money, Joyce, wasn't on any table the Welsh Government had set.
Wyddoch chi, ni fyddai gennym gymaint o dyllau i'w llenwi pe na bai'n rhaid i ni fod yn codi'n gyson ar ôl y bylchau sy'n cael eu gadael gan y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, neu'r ffaith eu bod yn gwrthod rhoi'r cyllid teg sydd ei angen arnom? Nid yw'r math o arian sydd ei angen arnom ar gyfer gofal plant yn agos at yr hyn sydd yn y gyllideb hon. Rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau o bunnau i drwsio gofal plant yng Nghymru. Doedd y math yna o arian, Joyce, ddim ar unrhyw fwrdd roedd Llywodraeth Cymru wedi ei osod.
Mi wnaf i gario ymlaen. Dyw gofal plant yng Nghymru ddim yn ffit i bwrpas. Mae'r ymchwil a wnaed gan Oxfam Cymru a Make Care Fair wedi canfod bod 92 y cant o rieni yn dweud bod costau gofal plant yn rhy uchel mewn perthynas â'u hincwm, a 70 y cant yn dweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw arian sbâr o'u hincwm ar ôl talu am ofal plant.
Mae Sefydliad Bevan a sawl adroddiad pwyllgor y Senedd wedi tynnu sylw at y patrwm cymhleth o gefnogaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd, gyda chymysgedd o gymorth yn dod gan raglenni gwahanol drwy law'r Llywodraeth yn San Steffan a Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar oedran y plant, lleoliad y teuluoedd, a'u statws gwaith. Felly, mae yna broblem gyda'r ffaith bod ein cynnig gofal plant a'n cynnig Dechrau'n Deg yn ddau gynnig ar wahân. Mae angen un cynnig, cyffredinol, hawdd ei ddeall, hawdd ei gyrchu. Oni bai bod y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r heriau systemig hyn ac yn cyllido ar gyfer hynny, ni fydd y cyllid ar gyfer gofal plant yn y gyllideb hon yn gwneud llawer mwy na gweithredu fel rhyw fath o sticking plaster ar system sydd yn aneffeithiol, yn hytrach na darparu buddsoddiad ystyrlon, hirdymor i greu system gofal plant sy'n gweithio i blant, i rieni ac i Gymru.
I will carry on. Childcare in Wales is not fit for purpose. Research carried out by Oxfam Cymru and Make Care Fair has found that 92 per cent of parents say that childcare costs are too high in relation to their income, and 70 per cent say that they have no spare money left from their income after paying for childcare.
The Bevan Foundation and several Senedd committee reports have drawn attention to the complex pattern of support that currently exists, with a mixture of support coming from different programmes through the Government in Westminster and the Welsh Government, depending on the age of the children, the location of the families, and their work status. So, there is a problem with the fact that our childcare offer and our Flying Start offer are two separate offers. We need one universal offer that is easy to understand and easy to access. Unless the Government tackles these systemic challenges and funds for that, the funding for childcare in this budget will do little more than act as a sort of sticking plaster on a system that is ineffective, rather than providing a meaningful, long-term investment to create a childcare system that works for children, for parents and for Wales.
The problem with that argument is, of course, that by voting against the budget, you actually reduce the expenditure on that and all other matters as well. And we listened to the fire and fury from Darren Millar—he obviously learnt more when he was in Washington than simply what Donald Trump enjoys for breakfast. And, of course, he talks about closing overseas offices—he's the greatest travel agent we've had in this Chamber—and I very much welcome his contribution this afternoon.
The reality is that we haven't seen a real alternative, not today or at any point, during the scrutiny of this budget. It is perfectly fair and reasonable, of course, in any democracy, for people to say, 'We don't like what you're proposing here. We think you should be doing something different here. We would have different priorities.' That's the politics of our debate. What isn't reasonable, and what isn't a fair debate and a realistic debate, is saying, 'We don't want to spend money here, we want to spend it there, so we're going to vote in a way that will mean you won't spend money anywhere.' That's not reality. That's student politics. It's not the reality of political life.
And let me tell you, I can—[Interruption.] Even without my glasses—[Interruption.] Let me finish. Even without my glasses, I can see Rhun shouting at me. Let me tell you now, Rhun: I was in Cwmtillery last night, talking to people who'd been affected by the landslip in that community, talking to them about how we are going to invest in ensuring that we do have the funds available to put into that community to keep those people safe. Don't you dare go back to Cwmtillery and make promises to them if you vote against this budget today.
Y broblem gyda'r ddadl honno, wrth gwrs, yw, trwy bleidleisio yn erbyn y gyllideb, rydych mewn gwirionedd yn lleihau'r gwariant ar hynny a phob mater arall hefyd. Ac fe wnaethom ni wrando ar ddicter a llid Darren Millar—yn amlwg fe ddysgodd fwy pan oedd yn Washington na dim ond yr hyn mae Donald Trump yn ei fwynhau i frecwast. Ac, wrth gwrs, mae'n sôn am gau swyddfeydd tramor—ef yw'r asiant teithio mwyaf rydym ni wedi'i gael yn y Siambr hon—ac rwy'n croesawu'n fawr ei gyfraniad y prynhawn yma.
Y gwir amdani yw nad ydym wedi gweld dewis arall go iawn, nid heddiw nac ar unrhyw adeg, wrth graffu ar y gyllideb hon. Mae'n gwbl deg a rhesymol, wrth gwrs, mewn unrhyw ddemocratiaeth, i bobl ddweud, 'Nid ydym yn hoffi'r hyn rydych chi'n ei gynnig yma. Rydym ni'n meddwl y dylech chi wneud rhywbeth gwahanol yma. Byddai gennym ni flaenoriaethau gwahanol.' Dyna yw gwleidyddiaeth ein trafodaeth. Yr hyn nad yw'n rhesymol, a'r hyn nad yw'n ddadl deg ac yn ddadl realistig, yw dweud, 'Nid ydym am wario arian yma, rydym am ei wario acw, felly rydym ni'n mynd i bleidleisio mewn ffordd a fydd yn golygu na fyddwch chi'n gwario arian yn unrhyw le.' Nid dyna'r realiti. Dyna yw gwleidyddiaeth myfyrwyr. Nid dyna realiti'r bywyd gwleidyddol.
A gadewch i mi ddweud wrthych, gallaf—[Torri ar draws.] Hyd yn oed heb fy sbectol—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Hyd yn oed heb fy sbectol, gallaf weld Rhun yn gweiddi arnaf. Gadewch i mi ddweud wrthych nawr, Rhun: roeddwn i yng Nghwmtyleri neithiwr, yn siarad â phobl a oedd wedi dioddef effeithiau'r tirlithriad yn y gymuned honno, gan siarad â nhw am sut rydym ni'n mynd i fuddsoddi i sicrhau bod gennym yr arian sydd ar gael i'w roi yn y gymuned honno i gadw'r bobl hynny'n ddiogel. Peidiwch â meiddio mynd yn ôl i Gwmtyleri a gwneud addewidion iddynt os byddwch yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw.
Would you take an intervention? It's a £600 million bill that is needed to deal with the legacy of coal mining and the safety of coal tips. Welsh Government asked for £25 million, and that is all that UK Government has given Welsh Government specifically as a result of budget discussions.
A wnewch chi gymryd ymyriad? Mae angen bil o £600 miliwn i ymdrin â gwaddol cloddio am lo a diogelwch tomenni glo. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am £25 miliwn, a dyna'r cyfan y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i Lywodraeth Cymru yn benodol o ganlyniad i drafodaethau'r gyllideb.
I don't disagree with you on that point, as it happens, but there's a bigger point here, that if you vote in such a way as to reduce the expenditure available to this Government by either £3 billion or £1.5 billion—I'm not taking another intervention; you had your chance—you cannot then argue for additional expenditure elsewhere. You've lost that argument, and you've lost the ability to make that argument.
Now, I actually agree with much of what has been said by people in the debate this afternoon. I agreed with what Sam Rowlands said about the major problems facing Wales. I think we do need to see a re-engineering of the United Kingdom state to ensure that Wales gets a fair deal. I think you're right about that. But you never made that argument. For 14 years the Conservatives were in charge and you didn't make that argument for a moment, and making that argument today doesn't have the credibility that you believe it might have. And I would also say this very, very clearly to you, that you can argue about what you would do differently—and we heard some of that from Darren Millar—but the reality is, if this budget fails this afternoon, we won't be coming back in a few months to debate and to discuss your expenditure plans; we will be coming back to discuss the cuts that we will be making in the services that we want to protect. And that is the reality of the vote this afternoon.
I want to see more investment in the health service. I want to see more investment in our schools. I want to see the investment in industrial strategy for the Heads of the Valleys. I want to see the investment in transport infrastructure. I want to see a new station in Abertillery. I want to see lots of different things invested in my constituency and elsewhere, and we debate this matter every week on a Wednesday afternoon. But none of that will happen unless you vote for the budget today, because we won't next week be debating and discussing that long, long shopping list that opposition parties come with every week, we will be debating what cuts we wish to make, and that is not where I want to be.
But let me say this: I was very pleased to hear the finance Secretary in his introduction to the draft budget before Christmas. I felt that the points he made then were the points that we need to be debating today. We need to recognise the additional investment that is being made in our public services as a consequence of those of us who vote for the budget this afternoon. We need to see the additional investment in the fabric of our country and our communities and in the lives of our people by investing the £3 billion of capital investment. We need to see all of that, and those of you who vote against the budget have got no right to criticise that when this budget debate is done and the vote is taken.
But then I want to see the second part of the debate that the finance Secretary introduced, and he referred to it in an earlier debate this afternoon on Welsh rates of income tax, because we need to see the devolution of the Crown Estate, we need to see the devolution of rail infrastructure, we need a fairer funding settlement for Wales, and that should command the support of everybody on all sides of this Chamber, but voting against the budget today delivers none of that; it delivers nothing at all accept cuts to public services and you’ll never find me voting for that.
Nid wyf yn anghytuno â chi ar y pwynt yna, fel mae'n digwydd, ond mae pwynt mwy yma, os ydych chi'n pleidleisio yn y fath fodd â lleihau'r gwariant sydd ar gael i'r Llywodraeth hon naill ai £3 biliwn neu £1.5 biliwn—dydw i ddim yn cymryd ymyriad eto; cawsoch eich cyfle—ni allwch ddadlau wedyn dros wariant ychwanegol mewn mannau eraill. Rydych chi wedi colli'r ddadl honno, ac rydych chi wedi colli'r gallu i wneud y ddadl honno.
Nawr, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan bobl yn y ddadl y prynhawn yma. Cytunais â'r hyn ddywedodd Sam Rowlands am y problemau mawr sy'n wynebu Cymru. Rwy'n credu bod angen i ni weld ail-beiriannu gwladwriaeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Cymru'n cael bargen deg. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn ynghylch hynny. Ond dydych chi erioed wedi gwneud y ddadl honno. Am 14 mlynedd roedd y Ceidwadwyr wrth y llyw ac ni wnaethoch y ddadl honno am eiliad, ac ni fydd gennych unrhyw hygrededd o wneud y ddadl honno heddiw er eich bod yn credu hynny. A byddwn hefyd yn dweud hyn yn glir iawn, iawn wrthych chi, y gallwch ddadlau am yr hyn y byddech chi'n ei wneud yn wahanol—ac fe glywsom ni rywfaint o hynny gan Darren Millar—ond y gwir yw, os bydd y gyllideb hon yn methu y prynhawn yma, fyddwn ni ddim yn dod yn ôl mewn ychydig fisoedd i ddadlau ac i drafod eich cynlluniau gwariant; byddwn yn dod yn ôl i drafod y toriadau y byddwn yn eu gwneud yn y gwasanaethau yr ydym eisiau eu diogelu. A dyna realiti'r bleidlais y prynhawn yma.
Rwyf eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd. Rwyf eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn ein hysgolion. Rwyf eisiau gweld y buddsoddiad mewn strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Rwyf eisiau gweld y buddsoddiad mewn seilwaith trafnidiaeth. Rwyf eisiau gweld gorsaf newydd yn Abertyleri. Rwyf eisiau gweld llawer o wahanol bethau'n cael eu buddsoddi yn fy etholaeth ac mewn mannau eraill, ac rydym yn trafod y mater hwn bob wythnos ar brynhawn Mercher. Ond ni fydd hynny'n digwydd oni bai eich bod yn pleidleisio dros y gyllideb heddiw, oherwydd ni fyddwn yn dadlau a thrafod y rhestr siopa hir, hir honno y mae'r gwrthbleidiau'n ei chyflwyno bob wythnos, byddwn yn trafod pa doriadau yr ydym am eu gwneud, ac nid dyna'r sefyllfa yr wyf i eisiau bod ynddi.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd dros gyllid yn ei gyflwyniad i'r gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Roeddwn i'n teimlo mai'r pwyntiau a wnaeth bryd hynny oedd y pwyntiau y mae angen i ni fod yn eu trafod heddiw. Mae angen i ni gydnabod y buddsoddiad ychwanegol sy'n cael ei wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i'r ffaith bod rhai ohonom yn pleidleisio dros y gyllideb y prynhawn yma. Mae angen i ni weld y buddsoddiad ychwanegol yng ngwead ein gwlad a'n cymunedau ac ym mywydau ein pobl trwy fuddsoddi'r £3 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf. Mae angen i ni weld hynny i gyd, ac nid oes gan y rhai ohonoch sy'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb unrhyw hawl i feirniadu hynny pan ddaw'r ddadl hon ar y gyllideb i ben a bydd y bleidlais yn cael ei chynnal.
Ond yna rwyf eisiau gweld ail ran y ddadl a gyflwynodd yr Ysgrifennydd dros gyllid, a chyfeiriodd ati mewn dadl gynharach y prynhawn yma ar gyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd mae angen i ni weld Ystad y Goron yn cael ei datganoli, mae angen i ni weld seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, mae angen setliad cyllido tecach i Gymru, a dylai hynny ennyn cefnogaeth pawb ar bob ochr i'r Siambr hon, ond nid yw pleidleisio yn erbyn y gyllideb heddiw yn sicrhau dim o hynny; nid yw'n darparu dim o gwbl heblaw am doriadau i wasanaethau cyhoeddus ac ni fyddwch byth yn fy ngweld i yn pleidleisio dros hynny.
I’ll start by referring Members to my register of interests as a farmer. Llywydd, once again, Labour have failed to grasp the effects of their legacy of 25 years of poor management and this budget fails to address so much of that. Yes, there is some extra money this year, but it’s a short-term plan. What happens when the Chancellor runs out of borrowing in a couple of years' time and we see things flatline? You need to have a sustainable budget, one which will last the term.
And it’s a simple truth that it's the families and businesses across Wales who are having to live with the poor decisions and policies of the years gone by. We’ve heard of the obvious failures today, many times, within our health and social care system and our education provision, and there’s a lot of political posturing here today, because you know the budget is going to go through: you’ve done the deal. It’s political naivety to suggest all the arguments you’ve made; there’s no way on this earth that you would support a Conservative budget if we put one forward today, and that is a fact.
Look at the misguided policies you’ve brought forward. Look at 20 mph: £33 million to roll that out. Now, councils are having to deal with the cost of changing roads back to 30 mph, following that huge backlash. [Interruption.] Of course, Mick.
Dechreuaf drwy gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau fel ffermwr. Llywydd, unwaith eto, mae Llafur wedi methu â deall effeithiau eu hetifeddiaeth o 25 mlynedd o reolaeth wael ac mae'r gyllideb hon yn methu â mynd i'r afael â chymaint o hynny. Oes, mae yna ychydig o arian ychwanegol eleni, ond mae'n gynllun tymor byr. Beth sy'n digwydd pan fydd y Canghellor yn rhedeg allan o fenthyciadau ymhen cwpl o flynyddoedd a ninnau'n gweld pethau'n gwastatáu? Mae angen i chi gael cyllideb gynaliadwy, un a fydd yn para am y tymor.
Ac mae'n wirionedd syml mai'r teuluoedd a'r busnesau ledled Cymru sy'n gorfod byw gyda phenderfyniadau a pholisïau gwael y blynyddoedd a fu. Rydym ni wedi clywed am y methiannau amlwg heddiw, lawer gwaith, yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol a'n darpariaeth addysg, ac mae llawer o ymagweddu gwleidyddol yma heddiw, oherwydd eich bod chi'n gwybod bod y gyllideb yn mynd i gael ei phasio: rydych chi wedi gwneud y fargen. Naïfrwydd gwleidyddol yw awgrymu'r holl ddadleuon rydych chi wedi'u gwneud; does dim siawns o gwbl y byddech chi'n cefnogi cyllideb Geidwadol pe baen ni'n cyflwyno un heddiw, ac mae hynny'n ffaith.
Edrychwch ar y polisïau annoeth rydych chi wedi'u cyflwyno. Edrychwch ar 20 mya: £33 miliwn i'w gyflwyno. Nawr, mae cynghorau yn gorfod ymdrin â'r gost o newid ffyrdd yn ôl i 30 mya, yn dilyn yr adlach enfawr honno. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Mick.
Does that mean, effectively, that your whole position today is really nothing more than a posture?
A yw hynny'n golygu, i bob pwrpas, nad yw eich safbwynt cyfan heddiw yn ddim mwy nag ymarweddiad?
No, we are the official opposition. It is not our job to support you; our job is to hold you to account and drive the best policies possible out of this Government, and that is what we continue to do.
On 20 mph, local government need to have enough resources to put that back right and I know that is in question at the moment. And I want to reiterate the Conservative position: we are not against 20 mph zones. We will work with councils to put it right, but what we would do is revert the default back to 30 mph.
And moving to rail, and still—and we’ve heard it already today—still we are waiting for the HS2 consequential, and it’s clear that we might have to wait some time. We were told repeatedly—and this has been said lots of times, and it will continue to be said—we were told repeatedly that Wales was owed billions of HS2 money and now the story has changed. Why is that? Why is the Government now only asking for £400 million when £38 billion has been spent to date, owing us at least £1.5 billion, which we could spend on valuable infrastructure?
Look at agriculture and rural affairs: it’s clear how out of touch Labour continue to be when it comes to our farming community. This time last year, we saw the largest protest that the Senedd has ever seen—thousands of farmers protesting here—and since Labour have come into power in the UK Government, eight months ago, we have seen tens of thousands of farmers protesting outside Westminster. Even today, and I wish I could be there standing with them, thousands of farmers have marched on Westminster again to show their disappointment at the awful way in which they are being treated. It is clear that the voices and concerns of the farming community are not being heard at either end of the M4 by Labour.
To make matters worse, they seem happy to let their Westminster colleagues short-change rural affairs funding in Wales by subjecting it to the Barnett formula. This means that, going forward, Wales could lose out on up to £150 million in agricultural funding, a cut of 40 per cent. Where is the outrage? Where is the outrage, Alun, from the Government benches about this? Whilst there has been an increase in rural affairs, which is welcome, it goes nowhere to replacing the £62 million that has been sliced away over previous years.
The Welsh Government needs to ensure that rural affairs are funded properly to enable a long-lasting and sustainable future for rural communities and the industries within them, and stand against UK Labour's attack on family farms. We need this Welsh Labour Government to start standing up for the people of Wales, and not simply defending every poor and draconian decision made by their colleagues in Westminster, especially when they go against the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, such as the family farm tax. Sadly, the last 26 years of Labour management here in Wales does not fill me with any confidence.
Na, ni yw'r wrthblaid swyddogol. Nid ein gwaith ni yw eich cefnogi; ein gwaith ni yw eich dwyn i gyfrif ac ysgogi'r polisïau gorau posibl allan o'r Llywodraeth hon, a dyna beth rydym yn parhau i'w wneud.
Ar 20 mya, mae angen i lywodraeth leol gael digon o adnoddau i unioni hynny a gwn fod hynny dan sylw ar hyn o bryd. Ac rwyf am ailadrodd safbwynt y Ceidwadwyr: nid ydym yn erbyn parthau 20 mya. Byddwn yn gweithio gyda chynghorau i gywiro hyn, ond yr hyn y byddem yn ei wneud yw gwrthdroi'r cyflymder diofyn yn ôl i 30 mya.
A symud at reilffyrdd, ac o hyd—ac rydym ni wedi'i glywed yn barod heddiw—o hyd rydym ni'n aros am swm canlyniadol HS2, ac mae'n amlwg efallai y bydd yn rhaid i ni aros am beth amser. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro—ac mae hyn wedi cael ei ddweud sawl gwaith, a bydd yn parhau i gael ei ddweud—dywedwyd wrthym dro ar ôl tro bod biliynau o arian HS2 yn ddyledus i Gymru a nawr mae'r stori wedi newid. Pam felly? Pam y mae'r Llywodraeth bellach dim ond yn gofyn am £400 miliwn pan fo £38 biliwn wedi'i wario hyd yma, pan fo o leiaf £1.5 biliwn yn ddyledus i ni, swm y gallem ei wario ar seilwaith gwerthfawr?
Edrychwch ar amaethyddiaeth a materion gwledig: mae'n amlwg bod Llafur yn parhau i fod wedi colli cysylltiad â'r gymuned ffermio. Yr adeg hon y llynedd, gwelsom y brotest fwyaf a welodd y Senedd erioed—miloedd o ffermwyr yn protestio yma—a chan fod Llafur wedi dod i rym yn Llywodraeth y DU, wyth mis yn ôl, rydym wedi gweld degau o filoedd o ffermwyr yn protestio y tu allan i San Steffan. Hyd yn oed heddiw, a byddwn yn dymuno bod yno yn sefyll gyda nhw, mae miloedd o ffermwyr wedi gorymdeithio i San Steffan eto i ddangos eu siom yn y ffordd ofnadwy y maent yn cael eu trin. Mae'n amlwg nad yw lleisiau a phryderon y gymuned ffermio yn cael eu clywed ar naill ben yr M4 gan Lafur.
Er mwyn gwneud pethau'n waeth, ymddengys eu bod yn hapus i adael i'w cydweithwyr yn San Steffan wneud cam â chyllid materion gwledig trwy ei wneud yn destun fformiwla Barnett. Mae hyn yn golygu, wrth symud ymlaen, y gallai Cymru golli hyd at £150 miliwn mewn cyllid amaethyddol, toriad o 40 y cant. Ble mae'r dicter? Ble mae'r dicter, Alun, o feinciau'r Llywodraeth ynglŷn â hyn? Er y bu cynnydd mewn materion gwledig, sydd i'w groesawu, nid yw'n agos at gymryd lle'r £62 miliwn sydd wedi'i gymryd bob yn dipyn dros y blynyddoedd blaenorol.
Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod materion gwledig yn cael eu hariannu'n iawn i alluogi dyfodol hirhoedlog a chynaliadwy i gymunedau gwledig a'r diwydiannau ynddynt, a sefyll yn erbyn ymosodiad Llafur y DU ar ffermydd teuluol. Mae angen i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau sefyll dros bobl Cymru, ac nid amddiffyn pob penderfyniad gwael a llym a wneir gan eu cydweithwyr yn San Steffan yn unig, yn enwedig pan fyddant yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel y dreth fferm deuluol. Yn anffodus, nid yw'r 26 mlynedd diwethaf o reolaeth Lafur yma yng Nghymru yn fy llenwi ag unrhyw hyder.
I welcome this final budget, because it's a redistributive budget that will benefit those who need the money most, and that is one of the things that, obviously, the Equality and Social Justice Committee has focused on. That is our job. Obviously, I would like to say that the excellent £30 million extra for the Flying Start phase 3 roll-out is down to the letter we wrote to the Cabinet Secretary for finance, but, in the real world, I realise that this was down to the commitment that Jane Dodds has to enable all young children to get quality childcare, two and a half hours a day, five days a week, which is the way in which it most benefits children. So, that investment, £30 million, is to benefit children.
I agree with Sioned Williams that it doesn't benefit the women who want to go back to work, but we can't do everything at once. Plaid Cymru say this is a flawed budget, but they seem to want to only debate issues that we haven't yet achieved. Of course, we all want to see the consequential from HS2, and based on the £80 billion that is the current cost for HS2, that means we ought to get £4 billion, and we look forward to that money, but we haven't got it yet. Today we are debating the budget that we need to have to deliver for the next 12 months.
Therefore, I absolutely welcome the extra £9 million for buses, which is obviously going to mostly benefit those who don't have a car and rely on buses to get around to do their daily business. I welcome the £15 million for reduced bus fares for young people up to 21 years, because almost all of them will not have access to a private car, and therefore their ability to get to college, to get to jobs, to get to see their friends is really important.
I also want to focus on the importance of the budget for active travel, because it's interesting to note that the UK Government has just announced £300 million in active travel for English local authorities, following our example in ensuring that we are tackling the climate emergency, getting people out of their cars for short journeys and making the roads safer for those who are pedestrians and cyclists. Particularly, it is the entitlement of children to be able to go to school either walking, scooting or cycling, and to be able to do so safely. I appreciate that may not be possible if people are in a rural area where they have to travel more than a few miles to get there, but for those of us who represent urban areas, it is an incredibly important thing that people can actually go to school ready to start to learn by having walked or cycled to get there.
The second group who benefit from encouraging the modal shift to active travel are those who live on our congested roads who absolutely do not choose to live there, places like Newport Road in my constituency. Nobody chooses to live on Newport Road, it's just where people have to live because that's the only option open to them. So, I'm very keen to ensure that the £15 million we spent last year for active travel is what we are continuing to spend this year, so we can continue to ensure that there is that preventative approach in our budget that, quite rightly, the Finance Committee Chair spoke about.
I think, lastly, I want to highlight the correspondence that the Equality and Social Justice Committee has had with the Cabinet Secretary for Social Justice around the importance of investing further money where possible in the Warm Homes programme. Because I absolutely understand the argument that the Cabinet Secretary is making that we cannot spend more than the capacity of the skills that our workforce has to do a proper job in delivering the Warm Homes programme. But I'm very pleased to see that there is a commitment to utilise any unspent funding on investing further money in the Warm Homes programme if other budgets are underspent.
Rwy'n croesawu'r gyllideb derfynol hon, oherwydd mae'n gyllideb ailddosbarthu a fydd o fudd i'r rhai sydd angen yr arian fwyaf, a dyna un o'r pethau, yn amlwg, y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi canolbwyntio arno. Dyna yw ein gwaith ni. Yn amlwg, hoffwn ddweud bod y £30 miliwn ychwanegol ardderchog ar gyfer cyflwyno cam 3 Dechrau'n Deg wedi dod yn sgil llythyr a ysgrifennwyd gennym at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond, yn y byd go iawn, rwy'n sylweddoli bod hyn oherwydd yr ymrwymiad sydd gan Jane Dodds i alluogi pob plentyn ifanc i gael gofal plant o safon, dwy awr a hanner y dydd, pum niwrnod yr wythnos, sef y ffordd fwyaf manteisiol i blant. Felly, mae'r buddsoddiad hwnnw, £30 miliwn, er budd plant.
Rwy'n cytuno â Sioned Williams nad yw o fudd i'r menywod sydd eisiau mynd yn ôl i'r gwaith, ond ni allwn wneud popeth ar unwaith. Mae Plaid Cymru yn dweud bod hon yn gyllideb ddiffygiol, ond mae'n ymddangos eu bod nhw ond eisiau trafod materion nad ydym wedi'u cyflawni eto. Wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld y swm canlyniadol o HS2, ac yn seiliedig ar y £80 biliwn sef y gost bresennol ar gyfer HS2, mae hynny'n golygu y dylem gael £4 biliwn, ac rydym yn edrych ymlaen at yr arian hwnnw, ond nid ydym wedi'i gael eto. Heddiw, rydym yn trafod y gyllideb y mae angen i ni ei chyflawni dros y 12 mis nesaf.
Felly, rwy'n croesawu'n fawr y £9 miliwn ychwanegol ar gyfer bysiau, sy'n amlwg yn mynd i fod o fudd i'r rhai nad oes ganddynt gar yn bennaf ac sy'n dibynnu ar fysiau i fynd o gwmpas i gyflawni eu busnes bob dydd. Rwy'n croesawu'r £15 miliwn ar gyfer tocynnau bws rhatach i bobl ifanc hyd at 21 mlwydd oed, oherwydd ni fydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw gyfle i fod â char preifat, ac felly mae eu gallu i gyrraedd y coleg, cyrraedd swyddi, i gyrraedd eu ffrindiau, yn bwysig iawn.
Rwyf hefyd eisiau canolbwyntio ar bwysigrwydd y gyllideb ar gyfer teithio llesol, oherwydd mae'n ddiddorol nodi bod Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi £300 miliwn mewn teithio llesol i awdurdodau lleol yn Lloegr, gan ddilyn ein hesiampl o ran sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr a gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i'r rhai sy'n gerddwyr a beicwyr. Yn benodol, mae gan blant yr hawl i allu mynd i'r ysgol naill ai drwy gerdded, defnyddio sgwter neu feic, a gallu gwneud hynny'n ddiogel. Rwy'n sylweddoli efallai na fydd hynny'n bosibl os yw pobl mewn ardal wledig lle mae'n rhaid iddynt deithio mwy nag ychydig filltiroedd i gyrraedd yno, ond i'r rhai ohonom sy'n cynrychioli ardaloedd trefol, mae'n beth hynod bwysig bod pobl yn gallu mynd i'r ysgol yn barod i ddechrau dysgu gan gerdded neu feicio i gyrraedd yno.
Yr ail grŵp sy'n elwa ar annog newid dulliau teithio i deithio llesol yw'r rhai sy'n byw ar ein ffyrdd llawn tagfeydd nad ydynt yn dewis byw yno o gwbl, lleoedd fel Heol Casnewydd yn fy etholaeth i. Does neb yn dewis byw ar Heol Casnewydd, dyma lle mae'n rhaid i bobl fyw oherwydd dyna'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau mai'r £15 miliwn a wariwyd gennym y llynedd ar gyfer teithio llesol yw'r hyn yr ydym yn parhau i'w wario eleni, fel y gallwn barhau i sicrhau bod y dull ataliol hwnnw yn ein cyllideb y siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid amdano'n gwbl briodol.
Yn olaf, rwy'n credu fy mod eisiau tynnu sylw at yr ohebiaeth y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi'i chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ynghylch pwysigrwydd buddsoddi arian pellach lle bo hynny'n bosibl yn y rhaglen Cartrefi Clyd. Oherwydd rwy'n deall yn llwyr y ddadl y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gwneud na allwn wario mwy na chapasiti'r sgiliau sydd gan ein gweithlu i wneud gwaith priodol wrth gyflwyno'r rhaglen Cartrefi Clyd. Ond rwy'n falch iawn o weld bod ymrwymiad i ddefnyddio unrhyw gyllid sydd heb ei wario i fuddsoddi mwy o arian yn y rhaglen Cartrefi Clyd os yw cyllidebau eraill wedi tanwario.
May I just say how disappointed I was last week when I heard and saw that the Lib Dems had sold out and decided to support the budget? [Interruption.] You can make as many noises as you like, but by propping up this tired Labour Government and helping push the budget over the line, the Lib Dems have now been complicit in letting the country down. Just like my colleague Sam Rowlands said, I have tremendous respect for the Member—
A gaf i ddweud pa mor siomedig yr oeddwn yr wythnos diwethaf pan glywais a gwelais fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnu ar eu hegwyddorion a phenderfynu cefnogi'r gyllideb? [Torri ar draws.] Gallwch wneud cymaint o synau ag y dymunwch, ond trwy gefnogi'r Llywodraeth Lafur flinedig hon a helpu i wthio'r gyllideb dros y llinell, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol bellach wedi cyfrannu at adael y wlad i lawr. Yn union fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, mae gen i barch aruthrol at yr Aelod—
May I—?
A gaf i—?
You may.
Gallwch.
So, let's just concentrate on 21 and under. Have I let them down by creating a £1 bus fare? Is that what you think? Do you think it's unfair? Do you think I've let down all two and four-year-olds by giving them more childcare? Do you think I've let down people who are wanting to leave hospital, by getting more money into social care? You know, you need to be a bit more specific here. And actually, I think it's you, as the Conservatives, who've let the Welsh people down if you don't vote for this budget.
Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar 21 ac iau. A ydw i wedi eu siomi nhw drwy greu tocyn bws am £1? Ai dyna beth rydych chi'n ei feddwl? Ydych chi'n meddwl ei fod yn annheg? Ydych chi'n meddwl fy mod i wedi siomi'r holl blant dwy a phedair oed drwy roi mwy o ofal plant iddyn nhw? Ydych chi'n meddwl fy mod i wedi siomi pobl sydd eisiau gadael yr ysbyty, drwy gael mwy o arian i ofal cymdeithasol? Mae'n rhaid i chi fod ychydig yn fwy penodol yma. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu mai chi, fel y Ceidwadwyr, fydd wedi siomi pobl Cymru os nad ydych chi'n pleidleisio dros y gyllideb hon.
Okay. Thank you very much for your contribution. Coming to your 21-year-olds, that was our idea, not anyone else's, to begin with—[Interruption.] It was. It was our idea—[Interruption.] We have indeed. As my leader has said—[Interruption.] If I can continue—
Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad. Gan ddod at eich plant 21 oed, ein syniad ni oedd hwn, nid un neb arall, i ddechrau—[Torri ar draws.] Fe oedd. Ein syniad ni oedd e—[Torri ar draws.] Rydym wedi yn wir. Fel mae fy arweinydd wedi dweud—[Torri ar draws.] Os caf barhau—
I need to be able to hear the Member. Can we listen to what the Member has to say?
Mae angen i mi allu clywed yr Aelod. A allwn ni wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud?
Thank you. So, as my leader has just said and as I've just said, that was ours—[Interruption.]. And if you let me continue, I'll carry on as to how—
Diolch. Felly, fel mae fy arweinydd newydd ddweud ac fel rwyf i newydd ddweud, ein un ni—[Torri ar draws.]. Ac os gadewch i mi barhau, fe gariaf ymlaen o ran sut—
Can we please have a little quiet to hear the Member's contribution? Natasha Asghar.
A gawn ni ychydig o dawelwch i glywed cyfraniad yr Aelod? Natasha Asghar.
Thank you very much, Presiding Officer. Whilst the £1 bus fare scheme, reached in the backroom budget deal, has been welcomed by students and young people, I am disappointed that you didn't go further. You could have—[Interruption.] You could have secured free bus travel for under 25s in Wales, as the Welsh Conservatives have long campaigned for, and it's proved to be very successful in Scotland.
Turning to the details within the final budget, I'm afraid there is very little to get excited about from an educational point of view, or from any other point of view. I fear that this budget falls far short of what is required to provide our children and our young people with the education that they deserve. We need to see resources directed at making teaching in Wales a more attractive profession to boost our workforce numbers, and take targeted action to improve reading skills, mathematics and science. Wales already faces significant challenges in education and this budget fails to provide the necessary investment to address them. Our schools are being asked to do more with less and that is simply not sustainable. Our children deserve better than that, because this is about the futures of every single child and young person here in Wales. One of the most concerning aspects of this budget is the lack of support for vulnerable learners. We know that children from disadvantaged backgrounds face a range of significant barriers to education, yet this budget, in my view, does not allocate sufficient funding to bridge the gap for these vulnerable learners.
Now I want to turn to higher education. Whilst the Minister already recently announced a short-term funding boost for universities, this budget offers very little help for them going forward, and that's really very disappointing. Over the last few weeks and months, the troubling financial situation of our universities has been discussed and debated at great length here in the Chamber, yet it appears as though the Welsh Government isn't doing anything in the long term to help. Let me share the words of Universities Wales in response to this final budget:
'it is difficult to see how this budget provides a sustainable position for Welsh universities going forward.
'If nothing were to change, Welsh Government runs the risk of universities entering the next academic year without the required support in place.'
'Given the Welsh Government's focus on growing the economy across Wales, this budget would seem to have a backward step—not just for the higher education sector but for local economies and communities across the country.'
End quote. As we all know, the number of Welsh language teachers has been declining over the last five years and the Welsh Government is pushing ahead with a Bill to ensure that all children receive at least 10 per cent of their education through the medium of Welsh. Given this ambition, perhaps the Cabinet Secretary can explain the rationale behind the decision to slash £120,000 from the Welsh in education budget line.
In closing, Presiding Officer, as far as I'm concerned, this budget fails to adequately fund schools, it undervalues teachers, it ignores the needs of vulnerable learners and it neglects the vital role of further and higher education. Without a doubt, education is one of the most important areas for building a better society, but I fear that this budget proves that it is not high enough on the Government's agenda. Thank you.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Er bod y cynllun pris bws £1, a ddaeth i fodolaeth yn y cytundeb cyllideb ystafell gefn, wedi ei groesawu gan fyfyrwyr a phobl ifanc, rwy'n siomedig na wnaethoch fynd ymhellach. Gallech—[Torri ar draws.] Gallech fod wedi sicrhau teithio am ddim ar fysiau i bobl dan 25 oed yng Nghymru, fel y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymgyrchu drosto ers tro, ac mae wedi profi'n llwyddiannus iawn yn yr Alban.
Gan droi at y manylion o fewn y gyllideb derfynol, rwy'n ofni nad oes llawer iawn i fy nghyffroi ynddi o safbwynt addysgol, neu o unrhyw safbwynt arall. Rwy'n ofni nad yw'r gyllideb hon yn cyrraedd yr hyn sy'n ofynnol i ddarparu'r addysg i'n plant a'n pobl ifanc y maent yn ei haeddu. Mae angen i ni weld adnoddau'n cael eu cyfeirio at wneud addysgu yng Nghymru yn broffesiwn mwy deniadol i hybu niferoedd ein gweithlu, a chymryd camau wedi'u targedu i wella sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae Cymru eisoes yn wynebu heriau sylweddol ym myd addysg ac mae'r gyllideb hon yn methu â darparu'r buddsoddiad angenrheidiol i fynd i'r afael â nhw. Gofynnir i'n hysgolion wneud mwy gyda llai ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Mae ein plant yn haeddu gwell na hynny, oherwydd mae hyn yn ymwneud â dyfodol pob plentyn a pherson ifanc yma yng Nghymru. Un o'r agweddau mwyaf pryderus ar y gyllideb hon yw'r diffyg cefnogaeth i ddysgwyr agored i niwed. Gwyddom fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn wynebu amrywiaeth o rwystrau sylweddol o ran addysg, ac eto nid yw'r gyllideb hon, yn fy marn i, yn dyrannu digon o gyllid i bontio'r bwlch ar gyfer y dysgwyr agored i niwed hyn.
Nawr rwyf eisiau troi at addysg uwch. Er bod y Gweinidog eisoes wedi cyhoeddi hwb ariannol tymor byr i brifysgolion yn ddiweddar, ychydig iawn o gymorth sydd ar gael iddynt wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n siomedig iawn. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae sefyllfa ariannol ofidus ein prifysgolion wedi cael ei thrafod a'i thrafod yn helaeth iawn yma yn y Siambr, ac eto mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i helpu yn y tymor hir. Gadewch i mi rannu geiriau Prifysgolion Cymru mewn ymateb i'r gyllideb derfynol hon:
'mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb hon yn darparu sefyllfa gynaliadwy i brifysgolion Cymru wrth symud ymlaen.
'Pe bai dim yn newid, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o weld prifysgolion yn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf heb y cymorth sydd ei angen arnynt.'
O ystyried ffocws Llywodraeth Cymru ar dyfu’r economi ledled Cymru, mae’n ymddangos bod y gyllideb hon yn gam tuag yn ôl—nid yn unig i’r sector addysg uwch ond i economïau a chymunedau lleol ledled y wlad.'
Diwedd y dyfyniad. Fel y gwyddom i gyd, mae nifer yr athrawon Cymraeg wedi bod yn gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â Bil i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn o leiaf 10 y cant o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. O ystyried yr uchelgais hwn, efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i dorri £120,000 o linell gyllideb Cymraeg mewn addysg.
Wrth gloi, Llywydd, o'm safbwynt i, mae'r gyllideb hon yn methu ag ariannu ysgolion yn ddigonol, mae'n tanbrisio athrawon, mae'n anwybyddu anghenion dysgwyr agored i niwed ac mae'n esgeuluso rôl hanfodol addysg bellach ac uwch. Heb amheuaeth, addysg yw un o'r meysydd pwysicaf ar gyfer adeiladu cymdeithas well, ond rwy'n ofni bod y gyllideb hon yn profi nad yw'n ddigon uchel ar agenda'r Llywodraeth. Diolch.
I'm going to focus my remarks on the very serious implications for Wales if the Senedd today does not pass this critical budget. Put simply, a vote against this budget will deprive Welsh citizens of much-needed additional Welsh funds and public services. We would lose billions for Wales and everything that comes with that, including extra funding for schools, for the NHS, for public transport and for local council services. Without an approved budget by the start of the new financial year on 1 April, spending is automatically restricted to 75 per cent of the previous year's budget under the Government of Wales Act 2006. Wales cannot afford to lose a single penny of that public spending, especially after the massive loss of EU structural funding to Wales.
Although we all have priority areas we would wish to see funding increased on, myself included, to vote down this final budget as put would jeopardise the Welsh spend and be deeply irresponsible to the people of Wales. Moreover, it would also be illogical. To ensure deliberate—deliberate—reduced public spending in Wales by a Senedd where the majority of Members, yourselves included, repeatedly call for increased public spending—well, here it is; it's a direct mechanism to get it. So, to Plaid and the Conservatives, please do the right thing this afternoon and vote for this budget for Wales. Diolch yn fawr.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y goblygiadau difrifol iawn i Gymru os na fydd y Senedd heddiw yn pasio'r gyllideb hanfodol hon. Yn syml, bydd pleidlais yn erbyn y gyllideb hon yn amddifadu dinasyddion Cymru o gronfeydd a gwasanaethau cyhoeddus ychwanegol y mae mawr eu hangen. Byddem yn colli biliynau ar gyfer Cymru a phopeth a ddaw yn sgil hynny, gan gynnwys cyllid ychwanegol i ysgolion, i'r GIG, ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac ar gyfer gwasanaethau cynghorau lleol. Heb gyllideb gymeradwy erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd ar 1 Ebrill, cyfyngir gwariant yn awtomatig i 75 y cant o gyllideb y flwyddyn flaenorol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni all Cymru fforddio colli un geiniog o'r gwariant cyhoeddus hwnnw, yn enwedig ar ôl colli arian strwythurol yr UE i Gymru.
Er bod gan bob un ohonom feysydd blaenoriaeth, byddem eisiau gweld cyllid yn cynyddu, gan gynnwys fi fy hun, byddai gwrthod y gyllideb derfynol hon fel y mae hi yn peryglu gwariant Cymru ac yn rhywbeth anghyfrifol iawn i bobl Cymru. Ar ben hynny, byddai hefyd yn afresymol. Er mwyn sicrhau llai o wariant cyhoeddus yn fwriadol—yn fwriadol—yng Nghymru gan Senedd lle mae'r mwyafrif o Aelodau, gan gynnwys chi eich hunain, yn galw dro ar ôl tro am fwy o wariant cyhoeddus—wel, dyma fe; mae'n fecanwaith uniongyrchol i sicrhau hynny. Felly, i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, gwnewch y peth iawn y prynhawn yma a phleidleisio dros y gyllideb hon i Gymru. Diolch yn fawr.
I'm going to speak to the consequences of not agreeing this budget. I find that it's been really interesting here today, the arguments that are being put forward, and everybody agrees, except for the Tories, of course, that it's going to take more than one budget to fix 14 years of Tory neglect and mismanagement, but it's a start. The Tories' finance spokesperson says that the budget won't fix Wales. Well, we are, I will remind you, starting to fix the mess, or some of the mess, that your party left when it crashed the economy—I didn't hear you mention that, of course. I tell you what won't fix Wales: it's turning away £1.5 billion extra from the Labour UK Government. That won't fix Wales.
If this budget is not agreed, and I found it quite incredible what Peter was saying—that this was just a farce, just a fiasco. Well, it's not just a farce and just a fiasco about the budget, because, actually, what it's going to give is an extra £4.15 billion over the course of the financial year to Wales. But you're risking, quite happily, it seems to me, cutting that, not delivering it.
The Tories, of course, aren't the only ones at play here. They've been boosted by Plaid, and they're voting against £3 billion of capital funding for new schools, for the NHS, for more homes, for renewable energy, for road repairs—
Rwy'n mynd i siarad am ganlyniadau peidio â derbyn y gyllideb hon. Rwyf wedi gweld hi'n ddiddorol iawn yma heddiw, y dadleuon sy'n cael eu cyflwyno, ac mae pawb yn cytuno, heblaw am y Torïaid, wrth gwrs, ei bod yn mynd i gymryd mwy nag un gyllideb i drwsio 14 mlynedd o esgeulustod a chamreoli Torïaidd, ond mae'n ddechrau. Dywed llefarydd cyllid y Torïaid na fydd y gyllideb yn trwsio Cymru. Wel, rydym ni, fe wnaf i eich atgoffa, yn dechrau trwsio'r llanast, neu rywfaint o'r llanast, y gadawodd eich plaid ar ei hôl pan chwalodd yr economi—ni chlywais i chi'n sôn am hynny, wrth gwrs. Rwy'n dweud wrthych yr hyn na fydd yn trwsio Cymru: yw troi i lawr £1.5 biliwn yn ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU. Fydd hynny ddim yn trwsio Cymru.
Os na dderbynnir y gyllideb hon, ac roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a ddywedodd Peter yn anhygoel—mai ffars yn unig oedd hyn, ffiasgo yn unig. Wel, nid ffars a ffiasgo yn unig ynghylch y gyllideb mohono, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn y bydd yn ei roi yw £4.15 biliwn yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol i Gymru. Ond rydych chi'n risgio, yn eithaf hapus, mae'n ymddangos i mi, golli hynny, peidio â'i gyflawni.
Nid y Torïaid, wrth gwrs, yw'r unig rai sydd ar waith yma. Maen nhw wedi cael hwb gan Blaid Cymru, ac maen nhw'n pleidleisio yn erbyn £3 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion newydd, ar gyfer y GIG, ar gyfer mwy o gartrefi, ar gyfer ynni adnewyddadwy, ar gyfer atgyweirio ffyrdd—
Will you take an intervention?
A wnewch chi gymryd ymyriad?
—in a minute—for public transport and flood defences. Of course, they both seem to have this list of things that they want to invest in, but the point is that they haven't had any conversations about them. I could go to the shop with a shopping list, but if I don't pick anything up, it doesn't arrive in my basket. It's a very funny thing, you know—it just doesn't arrive there. And that's what you've done: you've got a shopping list, but you've got an empty basket, because you haven't bothered.
There's a guaranteed 3.8 per cent funding floor for all the local authorities, and I've looked at the authorities that are gaining from the fact that Jane has been around the table. I've looked at them, and quite a number of them are Plaid run. So, I'll write letters to them and ask if they don't want the money, because you're running some of them. In fact, you're running most of them. And I'll also do the same in Pembrokeshire—because you're going to vote against it—and ask them if they don't want the money. Because when you vote against it, that's what you're doing.
—mewn munud—ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Wrth gwrs, mae'n ymddangos bod gan y ddau ohonyn nhw'r rhestr hon o bethau y maen nhw eisiau buddsoddi ynddynt, ond y pwynt yw nad ydyn nhw wedi cael unrhyw sgyrsiau amdanyn nhw. Gallwn fynd i'r siop gyda rhestr siopa, ond os na fyddaf yn codi unrhyw beth i fyny, nid yw'n cyrraedd fy masged. Mae'n beth doniol iawn, wyddoch chi—nid yw'n cyrraedd o gwbl. A dyna beth rydych chi wedi'i wneud: mae gennych chi restr siopa, ond mae gennych chi fasged wag, oherwydd nad ydych chi wedi trafferthu gwneud unrhyw beth.
Mae yna gyllid gwaelodol o 3.8 y cant wedi'i warantu ar gyfer yr holl awdurdodau lleol, ac rwyf wedi edrych ar yr awdurdodau sy'n elwa ar y ffaith bod Jane wedi bod o amgylch y bwrdd. Rwyf wedi edrych arnyn nhw, ac mae cryn dipyn ohonyn nhw'n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru. Felly, byddaf yn ysgrifennu llythyrau atynt ac yn gofyn a ydyn nhw eisiau'r arian mewn gwirionedd, oherwydd rydych chi'n rhedeg rhai ohonyn nhw. Mewn gwirionedd, rydych chi'n rhedeg y rhan fwyaf ohonyn nhw. A byddaf i'n gwneud yr un peth yn sir Benfro hefyd—oherwydd eich bod chi'n mynd i bleidleisio yn ei erbyn—a gofyn iddyn nhw os ydyn nhw eisiau'r arian mewn gwirionedd. Oherwydd pan fyddwch chi'n pleidleisio yn ei erbyn, dyna fyddwch chi'n ei wneud.
Thank you very much for taking an intervention. There's a remarkable amount of political scaremongering going on this afternoon—
Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad. Mae 'na dipyn o godi bwganod gwleidyddol yn digwydd y prynhawn yma—
No, no, it's fact. [Interruption.] You can sit down now. You can sit down now. I'm not listening. I'm not listening now. You can sit down now.
Na, na, mae'n ffaith. [Torri ar draws.] Gallwch eistedd i lawr nawr. Gallwch eistedd i lawr nawr. Dydw i ddim yn gwrando. Dydw i ddim yn gwrando nawr. Gallwch eistedd i lawr nawr.
I agree entirely with the Cabinet Secretary—
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Ysgrifennydd Cabinet—
He's only got a few seconds to make his intervention. Let's hear what Rhun ap Iorwerth has to say.
Dim ond ychydig eiliadau sydd ganddo ar gyfer ei ymyriad. Gadewch i ni glywed beth sydd gan Rhun ap Iorwerth i'w ddweud.
I agree entirely with the point that the Cabinet Secretary for finance made earlier, that this is a Government without a majority that had to seek a means to get its budget through. We know it has a means to get its budget through, so this isn't about a debate today, is it not? But I'm serious—[Interruption.] I'm serious, and we're a party—[Interruption.]
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach, sef bod hon yn Llywodraeth heb fwyafrif a oedd yn gorfod ceisio modd i gael ei chyllideb drwodd. Rydym ni'n gwybod bod ganddi fodd i gael ei chyllideb drwodd, felly nid yw hyn yn ymwneud â dadl heddiw, nac ydi? Ond rwyf o ddifrif—[Torri ar draws.] Rwyf o ddifrif, ac rydym ni'n blaid—[Torri ar draws.]
I'm not listening now.
Dydw i ddim yn gwrando nawr.
I'm serious, and we're serious, about using our leverage as an opposition party. We have been in co-operation deals with Governments for a number of years, but Welsh Government this time around knew that our asks were too much. In putting the partnership in power to the test, this Labour Government has failed the test, because Plaid Cymru was asking for too much.
Rwyf o ddifrif, ac rydym o ddifrif, ynglŷn â defnyddio ein trosoledd fel gwrthblaid. Rydym wedi bod mewn cytundebau cydweithio â llywodraethau ers nifer o flynyddoedd, ond y tro hwn roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod bod ein gofyniadau'n ormod. Wrth roi'r bartneriaeth mewn grym ar brawf, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi methu'r prawf, oherwydd bod Plaid Cymru yn gofyn am ormod.
Thank you for the intervention, which told me nothing I didn't already know. The point here, quite clearly, is, in our shopping basket, which we actually did fill up, we've got a 3.8 per cent funding floor for all local authorities—and I will write to those and ask them if they welcome it and don't want it—an extra £30 million for childcare, £30 million more for social care and £10 million for rural investment schemes. That's what filling up your shopping basket looks like. That's what having a conversation looks like.
So, let's just take what's happening, and Jane does take credit for this. The Wyeside Arts Centre and north Powys well-being campus will have extra money, and I hope, James, when you go back, that you shout around, saying, 'I didn't vote for this, and I'm sure you don't want it.' So, I hope that you'll ask them if they want their money back, instead of standing up in the way that you have. I also hope that you'll ask the people at the Pontybat junction and refurbishment of Brynaman Lido if they don't want the money either. So, the Tories criticise our public services, but in the next breath they say they prioritise putting money in people's pockets. Well, you didn't really have a very good record of putting money in people's pockets when you were in Government. You jeer from the sidelines, but you offer nothing constructive—nothing at all. And, more than that, you don't even have the first idea of how you're going to pay for it.
Plaid complain that the extra funding isn't enough—we've just heard that. So, how would sending it back to Westminster help the people of Wales? I'd like you to explain to people the opportunities that you're denying their communities. You're not standing up for Wales, but you're playing pure party politics with people's lives, with people's jobs, with people's welfare, with the investment in the things that people need, and, by contrast, this Government and this budget represent clarity, it represents confidence, and I'll certainly be voting for that.
Diolch am yr ymyriad, a ddywedodd ddim wrthyf nad oeddwn yn ei wybod eisoes. Y pwynt yma, yn gwbl amlwg, yw ein basged siopa, y gwnaethom ei llenwi mewn gwirionedd, mae gennym ni gyllid gwaelodol o 3.8 y cant ar gyfer pob awdurdod lleol—a byddaf yn ysgrifennu atynt ac yn gofyn iddyn nhw a ydyn nhw'n ei groesawu ond nad ydyn nhw eisiau ei dderbyn—£30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant, £30 miliwn yn fwy ar gyfer gofal cymdeithasol a £10 miliwn ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig. Dyna beth yw llenwi eich basged siopa. Dyna beth yw cael sgwrs.
Felly, gadewch i ni gymryd yr hyn sy'n digwydd, ac mae Jane yn derbyn clod am hyn. Bydd gan Ganolfan Gelfyddydau Glannau Gwy a champws llesiant gogledd Powys arian ychwanegol, ac rwy'n gobeithio, James, pan ewch chi yn ôl, y byddwch chi'n gweiddi o gwmpas, gan ddweud, 'Wnes i ddim pleidleisio dros hyn, ac rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau hyn.' Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gofyn iddyn nhw a ydyn nhw eisiau eu harian yn ôl, yn hytrach na sefyll yn y ffordd fel y gwnaethoch chi. Gobeithio hefyd y byddwch chi'n gofyn i'r bobl yng nghyffordd Pont-y-bat a'r gwaith o adnewyddu Lido Brynaman a ydyn nhw'n gwrthod yr arian hefyd. Felly, mae'r Torïaid yn beirniadu ein gwasanaethau cyhoeddus, ond ar yr anadl nesaf maen nhw'n dweud eu bod nhw'n blaenoriaethu rhoi arian ym mhocedi pobl. Wel, doedd gennych chi ddim hanes da iawn o roi arian ym mhocedi pobl pan oeddech chi yn y Llywodraeth. Rydych chi'n gwawdio o'r cyrion, ond nid ydych chi'n cynnig unrhyw beth adeiladol—dim byd o gwbl. Ac, yn fwy na hynny, nid oes gennych chi unrhyw syniad sut rydych chi'n mynd i dalu amdano.
Mae Plaid Cymru yn cwyno nad yw'r cyllid ychwanegol yn ddigon—rydym ni newydd glywed hynny. Felly, sut byddai ei anfon yn ôl i San Steffan yn helpu pobl Cymru? Hoffwn i chi egluro i bobl y cyfleoedd rydych chi'n eu gwarafun i'w cymunedau. Nid ydych chi'n sefyll dros Gymru, ond rydych chi'n chwarae gwleidyddiaeth plaid gyda bywydau pobl, gyda swyddi pobl, gyda llesiant pobl, gyda'r buddsoddiad yn y pethau sydd eu hangen ar bobl, ac, ar y llaw arall, mae'r Llywodraeth hon a'r gyllideb hon yn cynrychioli eglurder, mae'n cynrychioli hyder, a byddaf yn sicr yn pleidleisio dros hynny.
Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid nawr i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
The Cabinet Secretary for finance to reply to the debate—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am beth ddywedodd ef am y newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma? Dwi'n cytuno gyda fe am bwysigrwydd y broses graffu, a dwi'n meddwl bod Aelodau'n gallu gweld, yn y gyllideb derfynol, nifer o bethau pwysig mae pwyllgorau wedi'u hawgrymu inni drwy'r broses graffu, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio â'r pwyllgor ar y gwaith mae'r Cadeirydd wedi'i amlinellu ym mlwyddyn olaf y tymor hwn.
Thank you very much, Llywydd. May I start by thanking the Chair of the Finance Committee for his comments on the changes made to the draft budget that brought us to the budget before the Senedd this afternoon? I agree with him on the importance of the scrutiny process, and I think that Members can see, in the final budget, a number of important things that committees have suggested to us through the scrutiny process, and I look forward to working with the committee on the work outlined by the Chair in the final year of this term.
Llywydd, I've listened carefully to what has been one of the more lively budget debates that I remember on the floor of the Senedd. I've listened carefully to contributions. I'm very grateful to Jane Dodds for her contribution this afternoon and ever since the draft budget was published before Christmas. When the Member said to the Senedd that it was her sense of responsibility that had led her to coming to the decision she's made this afternoon, I think that there is a lesson in that for many Members of this Senedd and I look forward to continuing the conversation with her on childcare ambitions, for the future of the implementation of the ban on greyhound racing, on how we can make sure that energy companies act responsibly when they come to Wales and do the things we know will be important to our futures.
Llywydd, rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn sydd wedi bod yn un o'r dadleuon cyllideb mwy bywiog rwy'n eu cofio ar lawr y Senedd. Rwyf wedi gwrando'n astud ar gyfraniadau. Rwy'n ddiolchgar iawn i Jane Dodds am ei chyfraniad y prynhawn yma ac ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Pan ddywedodd yr Aelod wrth y Senedd mai ei hymdeimlad o gyfrifoldeb oedd wedi ei harwain at ddod i'r penderfyniad y mae hi wedi'i wneud y prynhawn yma, rwy'n credu bod yna wers yn hynny i lawer o Aelodau o'r Senedd hon ac edrychaf ymlaen at barhau â'r sgwrs gyda hi ar uchelgeisiau gofal plant, ar gyfer dyfodol gweithredu'r gwaharddiad ar rasio milgwn, ar sut y gallwn sicrhau bod cwmnïau ynni yn ymddwyn yn gyfrifol pan ddônt i Gymru ac yn gwneud y pethau rydym yn gwybod y byddant yn bwysig i'n dyfodol.
I'm especially grateful, Llywydd, to my Labour colleagues for their contributions this afternoon: for Jenny Rathbone's drawing the attention of the Senedd to the redistributive nature of this budget, how it puts its help where it is most needed; to Mike Hedges for the ambitions that he set out, the Labour ambitions that we have for the future of Wales; to Alun Davies and Rhianon for focusing on the consequences of failing to pass this budget this afternoon; and to Joyce for pointing out that there are those of us who go about what we do in order to fill up that shopping basket, while others are just interested in manufacturing more and more shopping lists.
Llywydd, I said I listened carefully, and I listened carefully to the Welsh Conservatives, which puts me in a different position to almost anyone else in Wales, because nobody is listening to them, and their contributions this afternoon explain exactly why. The same tired clichés that I have heard manufactured in a quarter of a century in the political wilderness. Twenty-five years of being against everything and in favour of nothing. Now at least, Llywydd, the Conservative Party has the excuse of being the official opposition. As Peter Fox said, it's part of their duty to oppose. I understand that. In the conversations I had, three different conversations with Peter Fox and with Sam Rowlands, they explained to me that it was highly unlikely that the Welsh Conservative Party would be voting for the budget this afternoon. I understand that.
No such explanation can help us to understand the extraordinary decision of Plaid Cymru to oppose the budget today. And again, listening carefully to what Plaid Cymru Members have had to say, I thought I could discern three different and competing explanations for that decision. First of all, there are some suggestions that Plaid Cymru are opposing the budget because they think it doesn't go far enough. I'm always surprised that the party decide to use the example of childcare as their paradigm case, given that this budget delivers what Plaid Cymru agreed in the co-operation agreement. I agree that there's more to do, of course there's more to do, but how can you, how can you possibly, be voting against a budget that delivers one of your own major ambitions for this Senedd term? I'm absolutely baffled by it.
The second reason I thought I discerned in Plaid Cymru's contribution was that the budget didn't deliver on a series of things that this budget could not possibly have delivered on. They're going to vote against the budget because it doesn't deliver devolution of the Crown Estate, because it doesn't require the reform of the Barnett formula, because it doesn't produce consequentials for rail investment in Wales. Now those three things are all policies of this Labour Government, but they're not policies that you can pursue by voting against this budget, because none of those things are on the table in the basket of responsibilities that lie in front of the Senedd this afternoon. It's an argument of madness to vote against a budget that does the things it can do because it can't do the things that it can't possibly do.
But then I heard a third argument, I heard a third argument, and this now I think is probably the argument that I think is uppermost in Plaid Cymru Members' minds. They're going to vote against the budget because they think they can without it having any consequences. I've had the benefit sitting here of hearing the leader of Plaid Cymru say repeatedly through the debate, 'But you're going to win the vote; you're going to win the vote.' I can say this to you: King Herod would blush at the washing of hands that you have offered us this afternoon.
Rwy'n arbennig o ddiolchgar, Llywydd, i'm cyd-Aelodau Llafur am eu cyfraniadau y prynhawn yma: i Jenny Rathbone am dynnu sylw'r Senedd at natur ailddosbarthol y gyllideb hon, sut mae'n rhoi cymorth lle mae ei angen fwyaf; i Mike Hedges am yr uchelgeisiau a amlinellodd, yr uchelgeisiau Llafur sydd gennym ar gyfer dyfodol Cymru; i Alun Davies a Rhianon am ganolbwyntio ar ganlyniadau methu â phasio'r gyllideb hon y prynhawn yma; ac i Joyce am dynnu sylw at y ffaith bod yna rai ohonom yn gwneud yr hyn a wnawn er mwyn llenwi'r fasged siopa honno, tra bod gan eraill ddiddordeb mewn cynhyrchu mwy a mwy o restrau siopa yn unig.
Llywydd, dywedais fy mod yn gwrando'n ofalus, ac fe wrandewais yn ofalus ar y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n fy rhoi mewn sefyllfa wahanol i bron unrhyw un arall yng Nghymru, oherwydd nad oes neb yn gwrando arnyn nhw, ac mae eu cyfraniadau y prynhawn yma'n esbonio yn union pam. Yr un hen ystrydebau yr wyf wedi eu clywed dros chwarter canrif yn yr anialwch gwleidyddol. Pum mlynedd ar hugain o fod yn erbyn popeth ac o blaid dim. Nawr o leiaf, Llywydd, mae gan y Blaid Geidwadol yr esgus o fod yn wrthblaid swyddogol. Fel y dywedodd Peter Fox, mae'n rhan o'u dyletswydd i wrthwynebu. Rwy'n deall hynny. Yn y sgyrsiau a gefais i, tair sgwrs wahanol gyda Peter Fox a chyda Sam Rowlands, fe wnaethon nhw egluro i mi ei bod hi'n annhebygol iawn y byddai'r Blaid Geidwadol Gymreig yn pleidleisio dros y gyllideb y prynhawn yma. Rwy'n deall hynny.
Ni all unrhyw esboniad o'r fath ein helpu i ddeall penderfyniad rhyfeddol Plaid Cymru i wrthwynebu'r gyllideb heddiw. Ac eto, wrth wrando'n astud ar yr hyn y mae Aelodau Plaid Cymru wedi ei ddweud, roeddwn i'n meddwl y gallwn ddirnad tri esboniad gwahanol, yn cystadlu â'i gilydd, am y penderfyniad hwnnw. Yn gyntaf oll, mae rhai awgrymiadau bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r gyllideb oherwydd eu bod yn credu nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rwyf bob amser yn synnu bod y blaid yn penderfynu defnyddio'r enghraifft o ofal plant fel eu hachos paradeim, o gofio bod y gyllideb hon yn cyflawni'r hyn a gytunodd Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Rwy'n cytuno bod mwy i'w wneud, wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, ond sut y gallwch chi, o bosibl, bleidleisio yn erbyn cyllideb sy'n cyflawni un o'ch prif uchelgeisiau eich hun ar gyfer tymor y Senedd hon? Rwyf mewn dryswch llwyr.
Yr ail reswm yr oeddwn i'n meddwl fy mod i'n ei ddirnad yng nghyfraniad Plaid Cymru oedd nad oedd y gyllideb yn cyflawni cyfres o bethau na allai'r gyllideb hon fod wedi'u cyflawni o gwbl. Maen nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb gan nad yw'n sicrhau datganoli Ystad y Goron, oherwydd nid oes angen diwygio'r fformiwla Barnett, gan nad yw'n cynhyrchu symiau canlyniadol ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr mae'r tri pheth hynny i gyd yn bolisïau'r Llywodraeth Lafur hon, ond nid ydynt yn bolisïau y gallwch eu dilyn trwy bleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, oherwydd nid oes yr un o'r pethau hynny ar y bwrdd yn y fasged o gyfrifoldebau sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma. Mae'n ddadl wallgof pleidleisio yn erbyn cyllideb sy'n gwneud y pethau y gall eu gwneud oherwydd na all wneud y pethau na all eu gwneud o gwbl.
Ond yna clywais drydedd ddadl, clywais drydedd ddadl, a dyma nawr, mae'n debyg, y ddadl rwy'n credu sydd fwyaf blaenllaw ym meddyliau Aelodau Plaid Cymru. Maen nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd eu bod yn credu y gallan nhw wneud hynny heb unrhyw ganlyniadau. Rwyf wedi cael y fantais o eistedd yma a chlywed arweinydd Plaid Cymru yn dweud dro ar ôl tro drwy gydol y ddadl, 'Ond rydych chi'n mynd i ennill y bleidlais; rydych chi'n mynd i ennill y bleidlais.' Gallwn ddweud hyn wrthych chi: byddai'r Brenin Herod yn gwrido wrth wylio'r golchi'r dwylo yr ydych wedi'i gynnig i ni y prynhawn yma.
[Inaudible.] The Conservatives were very open in saying they wanted this budget to fall. We are not in the position of wanting the budget to fall. Our demand—[Interruption.] No, no. [Interruption.] I'll explain very, very clearly. But, in order for us to support a budget, our asks were too much for Welsh Government to stomach and you sought a deal with the Liberal Democrats. I'm not criticising the Liberal Democrats for it, but you got your deal. Our asks were greater, because we were putting the partnership in power to the test, and that is exactly what we promised we'd do and is what we did in practice.
[Anghlywadwy.] Roedd y Ceidwadwyr yn agored iawn wrth ddweud eu bod eisiau i'r gyllideb hon fethu. Nid ydym o'r safbwynt sy'n dymuno i'r gyllideb fethu. Rydym yn galw—[Torri ar draws.] Na na. [Torri ar draws.] Byddaf yn esbonio'n glir iawn, iawn. Ond, er mwyn i ni gefnogi cyllideb, roedd ein gofyniadau'n ormod i Lywodraeth Cymru eu stumogi ac fe wnaethoch chi geisio cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dydw i ddim yn beirniadu'r Democratiaid Rhyddfrydol am hynny, ond fe gawsoch eich cytundeb. Roedd ein gofyniadau'n fwy, oherwydd roeddem yn rhoi'r bartneriaeth mewn grym ar brawf, a dyna'n union yr hyn yr oeddem wedi addo y byddem yn ei wneud a dyma'r hyn a wnaethom yn ymarferol.
It's a piece of fantasy excuse, because you never came to tell us what would be required for you to support the budget. Three times I met with your party spokesperson and not once—not once—did Plaid Cymru return to discuss what you would have wanted in order to be able to have allowed this budget to go through.
Mae'n esgus llawn ffantasi, oherwydd ddaethoch chi ddim atom i ddweud wrthym beth fyddai ei angen er mwyn i chi gefnogi'r gyllideb. Tair gwaith cwrddais â llefarydd eich plaid ac nid unwaith—nid unwaith—y dychwelodd Plaid Cymru i drafod yr hyn y byddech wedi dymuno ei gael er mwyn caniatáu i'r gyllideb hon fynd drwodd.
Thank you again for taking an intervention. It's important; we want to have this discussion in the open. I've sat in a meeting with the First Minister, who didn't mention how we could work together on the budget. It's very, very clear—[Interruption.] It's very, very clear that we took a different approach to this budget from the Welsh Government. Our demands were too great in this instance.
Diolch unwaith eto am gymryd ymyriad. Mae'n bwysig; rydyn ni eisiau cael y drafodaeth hon yn agored. Rwyf wedi eistedd mewn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog, na soniodd sut y gallem weithio gyda'n gilydd ar y gyllideb. Mae'n amlwg iawn, iawn—[Torri ar draws.] Mae'n amlwg iawn, iawn ein bod wedi cymryd agwedd wahanol tuag at y gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru. Roedd ein gofynion yn rhy fawr yn yr achos hwn.
No, no. If you have demands—[Interruption.] If you have things—
Na na. Os oes gennych chi ofynion—[Torri ar draws.] Os oes gennych bethau—
I need to hear the Cabinet Secretary in his response now, please.
Mae angen i mi glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb nawr, os gwelwch yn dda.
If a party has things that they want to achieve through the budget process, your party has plenty of experience of knowing how that works. I have sat in rooms with Plaid Cymru Members who have very constructively done the heavy lifting of working through ideas, seeing what is possible and, in the end, allowing the budget to proceed. On this occasion, you were not prepared to do that at all. Instead, instead, you come here this afternoon and say that, because other people will do the heavy lifting, because other people will vote for the things that make such a difference—
Os oes gan blaid bethau y maen nhw eisiau eu cyflawni drwy'r broses gyllideb, mae gan eich plaid ddigon o brofiad i wybod sut mae hynny'n gweithio. Rwyf wedi eistedd mewn ystafelloedd gydag Aelodau Plaid Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn drwy syniadau, gweld beth sy'n bosibl ac, yn y pen draw, caniatáu i'r gyllideb fynd yn ei blaen. Ar yr achlysur hwn, nid oeddech yn barod i wneud hynny o gwbl. Yn hytrach, yn hytrach, rydych chi'n dod yma y prynhawn yma ac yn dweud hynny, oherwydd bydd pobl eraill yn gwneud y gwaith codi trwm, oherwydd bydd pobl eraill yn pleidleisio dros y pethau sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth—
Allow the Cabinet Secretary to complete his contribution now, please. Rhun ap Iorwerth, allow him to complete his contribution, please. You've had a lot of opportunity in intervening that have been accepted by a number of Members this afternoon. So, Cabinet Secretary to complete.
Gadewch i'r Ysgrifennydd Cabinet gwblhau ei gyfraniad nawr, os gwelwch yn dda. Rhun ap Iorwerth, gadewch iddo gwblhau ei gyfraniad, os gwelwch yn dda. Rydych chi wedi cael sawl cyfle i ymyrryd a gafodd eu derbyn gan nifer o Aelodau y prynhawn yma. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet i gwblhau.
Diolch, Llywydd. The position of Plaid Cymru is that because there are other people who will do the responsible thing, because there are other people who will vote for the things that matter to people in Wales, that you will—because you think it's a free hit—vote against the budget. But let me tell you: people in Wales will understand, if you vote against the budget, it can't be because you think that somehow that really will not matter. The only reason why a political party can vote against something is because you want to defeat it, and, if you didn't want to defeat it, you shouldn't be voting against it. It really, really is as simple as that, and the political cul-de-sac into which Plaid Cymru has backed itself over the weeks since the draft budget is a prime example of the Denis Healey first law of holes: if you're in one, stop digging. But you've been digging as though there was no end in sight.
Now, Llywydd, right across Wales when this budget is passed, as I believe it will be this afternoon, there will be a sigh of relief in our public services, in the health service, in our local authorities, amongst those organisations that work so hard to provide housing for our people, for all the things that this budget will do. That is why we've put it in front of the Senedd this afternoon. That's why it represents a turning of the corner away from those years of austerity, and in favour of an economy that can grow, public services that can be restored, opportunity that can be created again, and, most of all, hope for people here in Wales that the future really can be better than the past. That is why I ask you to vote for this budget this afternoon.
Diolch, Llywydd. Safbwynt Plaid Cymru yw, oherwydd bod yna bobl eraill a fydd yn gwneud y peth cyfrifol, oherwydd bod yna bobl eraill a fydd yn pleidleisio dros y pethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru, y byddwch chi—oherwydd eich bod chi'n meddwl ei fod yn ergyd rydd—yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb. Ond gadewch i mi ddweud wrthych: bydd pobl yng Nghymru yn deall, os ydych chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb, ni all fod oherwydd eich bod chi'n meddwl na fydd hynny o bwys rywsut. Yr unig reswm pam y gall plaid wleidyddol bleidleisio yn erbyn rhywbeth yw oherwydd eich bod am ei drechu, ac, os nad oeddech eisiau ei drechu, ni ddylech fod yn pleidleisio yn ei erbyn. Mae wir mor syml â hynny, ac mae'r ffordd wleidyddol i unman y mae Plaid Cymru wedi mynd iddi dros yr wythnosau ers y gyllideb ddrafft, yn enghraifft wych o reol gyntaf tyllau Denis Healey: os ydych chi mewn twll, stopiwch gloddio. Ond rydych chi wedi bod yn cloddio fel pe na bai diwedd mewn golwg.
Nawr, Llywydd, ar draws Cymru pan fydd y gyllideb hon yn cael ei phasio, fel y credaf y bydd y prynhawn yma, bydd ochenaid o ryddhad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn y gwasanaeth iechyd, yn ein hawdurdodau lleol, ymhlith y sefydliadau hynny sy'n gweithio mor galed i ddarparu tai i'n pobl, ar gyfer yr holl bethau y bydd y gyllideb hon yn eu gwneud. Dyna pam rydym ni wedi ei rhoi gerbron y Senedd y prynhawn yma. Dyna pam ei bod yn cynrychioli troi'r gornel i ffwrdd o'r blynyddoedd hynny o gyni, ac o blaid economi sy'n gallu tyfu, gwasanaethau cyhoeddus y gellir eu hadfer, cyfle y gellir ei greu eto, ac, yn anad dim, gobaith i bobl yma yng Nghymru y gall y dyfodol fod yn well na'r gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i chi bleidleisio dros y gyllideb hon y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd y bleidlais ar ddiwedd y sesiwn.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will, therefore, defer voting until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Heledd Fychan.
Eitem 7 sydd nesaf. Y ddadl ar setliad llywodraeth leol 2025-26 yw hon. Mae'r cynnig yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, Jayne Bryant.
Item 7 is next, which is debate on the local government settlement for 2025-26. The motion is to be moved by the Cabinet Secretary for Housing and Local Government, Jayne Bryant.
Cynnig NDM8835 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2025-26 (Setliad Terfynol—Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.
Motion NDM8835 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Section 84H of the Local Government Finance Act 1988, approves the Local Government Finance Report (No. 1) 2025-26 (Final Settlement—Councils), which was laid in the Table Office on 20 February 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer took the Chair.

Today I'm presenting to the Senedd, for its approval, the 2025-26 local government settlement for the 22 unitary authorities in Wales. First, I’d like to put on record my sincere thanks to local government, both elected members and staff across all local government services, for the critical work that they do for our communities, people and businesses across Wales.
Over the past few years, local authorities have had to navigate the pandemic, the cost-of-living crisis, and an extraordinary inflationary period and challenging financial circumstances. I want to pay tribute to the incredible amount of hard work and resilience shown by both officers and elected members in responding to the ongoing challenges councils have faced.
In preparing for the Welsh budget and this settlement, we have engaged closely with local government, and I'm grateful to all leaders for the discussions that we've had. The additional funding provided through the UK Government autumn budget is incredibly welcome, and I think it's important to remember that this could have been a very different day if we hadn't had a general election when we did and hadn't seen a Labour Government. Local authorities were preparing for a cash-flat budget. I'm mindful that 14 years of constrained public funding from the previous UK Government cannot be turned around in just one budget, and it'll take time for the public finances to recover. But our overall settlement for 2025-26 is more than £1 billion higher than it would have been under the previous UK Government, allowing more money to be directed to our public services and to Wales’s priorities. It'll help us put us back on the path to growth.
As we've developed the 2025-26 final budget, we have focused on delivering the First Minister’s priorities, supporting our public services and creating the conditions for growth and investment. We know that local authorities play a fundamental role in unlocking these opportunities and delivering services to people across Wales. That’s why, in 2025-26, local authorities in Wales will receive over £6.1 billion in general revenue allocations from core funding and non-domestic rates. This means the core revenue funding for local government in 2025-26 is 4.5 per cent higher than the current financial year on a like-for-like basis—a cash increase of £262 million.
I'm pleased that the budget agreement between the Welsh Government and Jane Dodds, leader of the Welsh Liberal Democrats, includes an additional £8.24 million to secure a funding floor in the settlement, at 3.8 per cent. This further supports nine authorities across Wales. I've provided indicative information on revenue and capital grants planned for 2025-26. These amount to over £1.3 billion for revenue and over £1 billion for capital, for our shared priorities for local government. As part of the agreement with Jane Dodds, we have been able to provide additional revenue grant funding for new pathways of care transformation in social services of £30 million, for children and communities of £30 million, and capital support for childcare and play of £5 million, which will support delivery of these specific local authority services.
The local government borrowing initiative has been increased by £1 million to £6 million in 2025-26, with a further £4 million in 2026-27, to support up to £120 million of capital investment for highways management. The agreement has also enabled an additional £5 million for the low-carbon heat grant, to increase the support available to local authorities to install low-carbon heating systems in their leisure centres, making them greener, warmer and more sustainable.
I'm pleased that the general capital funding for local government for 2025-26 has been increased by £20 million to support inflationary pressures and give authorities more flexibility to finance smaller capital projects. I'm proud that the Welsh Government has prioritised local government and other public services in its budget decisions, and I ask Members of the Senedd to support the motion today.
Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2025-26 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i lywodraeth leol, aelodau etholedig a staff ar draws yr holl wasanaethau llywodraeth leol, am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud ar gyfer ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau ledled Cymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol wedi gorfod llywio drwy'r pandemig, yr argyfwng costau byw, a chyfnod chwyddiant eithriadol ac amgylchiadau ariannol heriol. Rwyf am dalu teyrnged i'r gwaith caled a'r cydnerthedd a ddangoswyd gan swyddogion ac aelodau etholedig wrth ymateb i'r heriau parhaus y mae cynghorau wedi'u hwynebu.
Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym wedi ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl arweinwyr am y trafodaethau a gawsom. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir drwy gyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio y gallai hwn fod wedi bod yn ddiwrnod gwahanol iawn pe na baem wedi cael etholiad cyffredinol pan wnaethom ac nad oeddem wedi gweld Llywodraeth Lafur. Roedd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer cyllideb arian gwastad. Rwy'n ymwybodol na ellir newid 14 mlynedd o gyllid cyhoeddus cyfyngedig gan Lywodraeth flaenorol y DU mewn un gyllideb yn unig, a bydd yn cymryd amser i'r cyllid cyhoeddus adfer. Ond mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 dros £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU, gan ganiatáu i fwy o arian gael ei gyfeirio at ein gwasanaethau cyhoeddus ac at flaenoriaethau Cymru. Bydd yn ein helpu i'n rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at gynnydd.
Wrth i ni ddatblygu cyllideb derfynol 2025-26, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog, cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu'r amodau ar gyfer twf a buddsoddiad. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddatgloi'r cyfleoedd hyn a darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru. Dyna pam, yn 2025-26, y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn dros £6.1 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn golygu bod y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2025-26, 4.5 y cant yn uwch na'r flwyddyn ariannol gyfredol ar sail debyg-am-debyg—cynnydd o ran arian parod o £262 miliwn.
Rwy'n falch bod y cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn cynnwys £8.24 miliwn ychwanegol i sicrhau cyllid gwaelodol yn y setliad, sef 3.8 y cant. Mae hyn yn cefnogi naw awdurdod ar draws Cymru ymhellach. Rwyf wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2025-26. Mae'r rhain yn cyfateb i dros £1.3 biliwn ar gyfer refeniw a thros £1 biliwn ar gyfer cyfalaf, ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer llywodraeth leol. Fel rhan o'r cytundeb gyda Jane Dodds, rydym wedi gallu darparu cyllid grant refeniw ychwanegol ar gyfer llwybrau newydd o drawsnewid gofal mewn gwasanaethau cymdeithasol o £30 miliwn, ar gyfer plant a chymunedau, £30 miliwn, a chefnogaeth gyfalaf ar gyfer gofal plant a chwarae, £5 miliwn, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau awdurdodau lleol penodol hyn.
Mae'r fenter benthyca llywodraeth leol wedi cynyddu £1 miliwn i £6 miliwn yn 2025-26, gyda £4 miliwn arall yn 2026-27, i gefnogi hyd at £120 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer rheoli priffyrdd. Mae'r cytundeb hefyd wedi galluogi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant gwres carbon isel, i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol i osod systemau gwresogi carbon isel yn eu canolfannau hamdden, gan eu gwneud yn wyrddach, cynhesach ac yn fwy cynaliadwy.
Rwy'n falch bod y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2025-26 wedi cynyddu £20 miliwn i gefnogi pwysau chwyddiant a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau ariannu prosiectau cyfalaf llai. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ei phenderfyniadau cyllidebol, ac rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig heddiw.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
I have selected the amendment to the motion. I call on Peredur Owen Griffiths to move the amendment, tabled in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod methiant Llywodraeth Lafur y DU i gyflawni trefniant ariannu teg i Gymru yn golygu bod awdurdodau lleol wedi gorfod ymdopi â chynnydd sylweddol yn y dreth gyngor a thoriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.
Amendment 1—Heledd Fychan
Add as new point at end of motion:
Regrets that the Labour UK Government's failure to deliver a fair funding arrangement for Wales means that local authorities have had to deal with a significant increase in council tax and further cuts to public services.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant y prynhawn yma.
Thank you, Dirprwy Lywydd, and I move the amendment this afternoon.
I want to start my contribution by thanking all local government staff across Wales for their dedication and hard work in these tough times. With services being cut to the bone, you could forgive workers for deciding to cut and run, and seek employment elsewhere, but they choose to stay in local government because of their commitment to providing the best possible service for the communities they serve. A message to those workers is 'thank you', because the communities you serve need you more than ever. But, as I alluded to, things could be much better. Whilst this local government settlement is an improvement on what was originally earmarked for this forthcoming fiscal year, it falls far short of what is required. To pretend otherwise would be a denial of the true crisis we face in local government.
Given that there's an estimated 7 per cent increase in budgets needed across the board to ease pressure on council budgets, local authorities are being forced between a rock and a hard place. Services that are already ravaged by years of brutal Tory austerity have been cut further. Make no mistake, despite the improved funding settlement, hefty council tax increases are incoming. Something I hear when I'm conducting surgeries in my region is that the public are becoming even more disillusioned with diminishing local services whilst being charged higher council tax bills. This is why it's galling when the Westminster Labour Government say they are not raising taxes on working people. When they fail to fund local government properly, they are indirectly responsible for council taxes being raised on working people. Higher council tax bills are the inevitable consequence of successive Governments that have failed to provide settlements that reflect the need. Until the Labour Governments in Westminster or Cardiff ensure that local services are properly funded, they're going to have to levy one of the most inequitable taxes there is. I acknowledge and welcome the implementation of the funding floor, but we're still not in a position where the RSG floor is a regular and settled component of the budgetary process. This still needs to be formalised, and not down to the last-minute decision of Cabinet Secretaries or budgetary negotiations. The de facto funding floor does, however, fall short of what our councils need to just stand still.
That is before you consider the elephant in the room, which is the looming national insurance contribution burden on local authorities. The national insurance increase represents £109 million pressure in direct costs, with £44 million pressure for social care commissioning. Local authorities the length and breadth of Wales desperately need to know where they stand on national insurance contributions so that they can plan their own budgets and perhaps save some services earmarked for the axe. So, even though we don't know the quantum that has been promised from Westminster for the public sector, can the Cabinet Secretary confirm the mechanism she will use to share that funding out? Without that clarity, we will continue to see the downward trend of cherished services, cultural institutions and lifelines for communities being closed or diminished. I'd also like to see the Welsh Government explore further options for reforming how local government is financed. I'd like to see multi-annual funding cycles considered in order to better deliver financial planning, service delivery and enable long-term projects. This is the front line of delivery, and it deserves our full support and our full financial backing.
Finally, the ongoing injustice of the Barnett formula persists under this Labour Westminster administration. This was meant to be addressed, but there's no indication that it will be. Without fair funding for Wales, we will continue to lose out on the hundreds of millions of pounds our communities desperately need. A Labour Government at either end of the M4 was meant to be the cure for our funding ills, according to many across this Siambr, but we are yet to see the realisation of that promise. Diolch yn fawr.
Rwyf eisiau dechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r holl staff llywodraeth leol ledled Cymru am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn y cyfnod anodd hwn. Gyda gwasanaethau'n cael eu torri at yr asgwrn, gallech faddau i weithwyr am benderfynu gadael, a cheisio cyflogaeth mewn mannau eraill, ond maen nhw'n dewis aros mewn llywodraeth leol oherwydd eu hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Neges i'r gweithwyr hynny yw 'diolch', oherwydd mae'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu eich angen chi yn fwy nag erioed. Ond, fel y dywedais i, gallai pethau fod yn llawer gwell. Er bod y setliad llywodraeth leol hwn yn welliant ar yr hyn a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, mae'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen. Byddai esgus fel arall yn gwadu'r gwir argyfwng sy'n ein hwynebu mewn llywodraeth leol.
O ystyried bod amcangyfrif o gynnydd o 7 y cant yn y cyllidebau sydd eu hangen yn gyffredinol i leddfu'r pwysau ar gyllidebau cynghorau, mae awdurdodau lleol yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl. Mae gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu difetha gan flynyddoedd o gyni Torïaidd creulon wedi cael eu torri ymhellach. Peidied neb â chamgymryd, er gwaethaf y setliad ariannu gwell, mae cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor ar y ffordd i mewn. Rhywbeth rwy'n ei glywed pan fyddaf yn cynnal cymorthfeydd yn fy rhanbarth i yw bod y cyhoedd yn cael eu dadrithio hyd yn oed yn fwy gyda llai o wasanaethau lleol a chynnydd mewn biliau'r dreth gyngor. Dyna pam mae'n dân ar eich croen pan fo Llywodraeth Lafur San Steffan yn dweud nad ydyn nhw'n codi trethi ar bobl sy'n gweithio. Pan fyddan nhw'n methu ag ariannu llywodraeth leol yn iawn, maen nhw'n gyfrifol yn anuniongyrchol am godi'r dreth gyngor ar bobl sy'n gweithio. Biliau treth gyngor uwch yw canlyniad anochel llywodraethau olynol yn methu â darparu setliadau sy'n adlewyrchu'r angen. Hyd nes i'r Llywodraethau Llafur yn San Steffan neu Gaerdydd sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu hariannu'n iawn, maen nhw'n mynd i orfod codi un o'r trethi mwyaf annheg sy'n bodoli. Rwy'n cydnabod ac yn croesawu gweithredu'r cyllid gwaelodol, ond nid ydym mewn sefyllfa o hyd lle mae grant cynnal ardrethi gwaelodol yn elfen reolaidd a sefydlog o'r broses gyllidebol. Mae angen ffurfioli hyn o hyd, ac nid penderfyniad munud olaf gan Ysgrifenyddion y Cabinet neu drafodaethau cyllidebol. Fodd bynnag, nid yw'r cyllid gwaelodol de facto yn ddigonol er mwyn i gynghorau sefyll yn yr unfan hyd yn oed.
Mae hynny cyn i chi ystyried y broblem amlwg sydd wedi'i hanwybyddu, sef baich y cyfraniadau yswiriant gwladol ar awdurdodau lleol sydd ar y gorwel. Mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn cynrychioli pwysau o £109 miliwn mewn costau uniongyrchol, gyda £44 miliwn o bwysau ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol. Mae angen dybryd i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru wybod ble maen nhw'n sefyll o ran cyfraniadau yswiriant gwladol fel y gallant gynllunio eu cyllidebau eu hunain ac arbed rhai gwasanaethau sydd wedi'u clustnodi ar gyfer y fwyell. Felly, er nad ydym yn gwybod y cwantwm a addawyd gan San Steffan ar gyfer y sector cyhoeddus, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau'r mecanwaith y bydd yn ei ddefnyddio i rannu'r cyllid hwnnw? Heb yr eglurder hwnnw, byddwn yn parhau i weld y duedd i gwtogi gwasanaethau agos at ein calon, sefydliadau diwylliannol a gwasanaethau sy'n achubiaeth i gymunedau yn cael eu cau neu eu lleihau. Hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau pellach ar gyfer diwygio sut mae llywodraeth leol yn cael ei chyllido. Hoffwn weld cylchoedd cyllido amlflwydd yn cael eu hystyried er mwyn cyflawni cynllunio ariannol yn well, darparu gwasanaethau yn well a galluogi prosiectau tymor hir. Dyma'r rheng flaen cyflawni, ac mae'n haeddu ein cefnogaeth lawn a'n cefnogaeth ariannol lawn.
Yn olaf, mae anghyfiawnder parhaus fformiwla Barnett yn parhau o dan y weinyddiaeth Lafur hon yn San Steffan. Roedd hyn i fod i gael sylw, ond nid oes unrhyw arwydd y bydd hynny'n digwydd. Heb gyllid teg i Gymru, byddwn gannoedd o filiynau o bunnau ar ein colled, arian y mae ein cymunedau ei angen. Roedd Llywodraeth Lafur ar naill ben yr M4 i fod i wella ein dolur cyllido, yn ôl llawer ar draws y Siambr hon, ond nid ydym eto wedi gweld gwireddu'r addewid hwnnw. Diolch yn fawr.
I agree with much that has already been said, actually, from across the Chamber, and also want to take this opportunity to thank council staff up and down Wales for all that they do, and we as Welsh Conservatives will be supporting the Plaid amendment today, because it's right that we recognise the UK Government's role in forcing up council tax in Wales with their own poor funding arrangement.
But we will be voting against the Government motion today. The way we fund our local authorities has a direct impact on all the lives of the people across Wales. For far too long, we've seen decades of underfunding of local councils from this Welsh Government, creating growing disparities between Labour heartlands and rural Wales. The funding formula naturally creates a system of winners and losers by design—
Rwy'n cytuno â llawer sydd eisoes wedi'i ddweud, mewn gwirionedd, o bob rhan o'r Siambr, ac rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i staff cynghorau ledled Cymru am bopeth y maen nhw'n ei wneud, a byddwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw, oherwydd mae'n iawn ein bod yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU wrth gynyddu'r dreth gyngor yng Nghymru gyda'u trefniant cyllido gwael eu hunain.
Ond byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig y Llywodraeth heddiw. Mae'r ffordd yr ydym yn ariannu ein hawdurdodau lleol yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl ledled Cymru. Ers llawer rhy hir, rydym wedi gweld degawdau o danariannu cynghorau lleol gan Lywodraeth Cymru, gan greu gwahaniaethau cynyddol rhwng cadarnleoedd Llafur a chefn gwlad Cymru. Mae'r fformiwla ariannu yn naturiol yn creu system o enillwyr a chollwyr yn fwriadol—
Laura, will you take an intervention?
Laura, a wnewch chi gymryd ymyriad?
Yes, of course.
Gwnaf, wrth gwrs.
Thank you. You talk about councils in Wales, but, previously, before the new UK Labour Government was taking over, one in five councils across the UK and in England were at risk of bankruptcy. Is that not the case, Laura?
Diolch. Rydych chi'n siarad am gynghorau yng Nghymru, ond, cyn hynny, cyn i Lywodraeth Lafur newydd y DU gymryd yr awenau, roedd un o bob pum cyngor ar draws y DU ac yn Lloegr mewn perygl o fethdalu. Onid yw hynny'n wir, Laura?
You can't deny, I don't think—I know you've sat there in your seat for a long time—you can't deny that this Government has chronically underfunded our local authorities across Wales now for decades, and that has had a devastating impact in local communities across Wales. Yet, for far too long we've seen the funding formula being pushed by you and said it's okay by you, but we've seen that it's just not working for councils, and it isn't working for people that we look to serve. The local governments formula is broken, and has forced many local authorities to make difficult choices, especially in rural areas like Powys and Pembrokeshire, who have been asked to do more with less. Over the last decade, Powys council has had to make over £100 million of brutal cuts, taking away vital services from those who need it most.
It's good that there's been an agreement for a funding floor for this year—it's necessary—but it's very disappointing that it took a back-room deal with a single Liberal Democrat MS to achieve this rather than listening to the chorus of voices across Wales in local government and calls from the Welsh Conservatives. So, it would be useful to understand whether that funding-floor principle will continue in the future for future settlements, or whether it's a one-off bung to make sure that your budget passes. But we also need an explanation as to where this money for a 3.8 per cent funding floor was hiding in the first place, because you knew about the pressures that the councils are under, but this extra £8 million only seemingly magically appeared when it was politically convenient for Welsh Labour. I don't think that it is a particularly transparent way to conduct politics when it comes to local authorities and funding for some of our most key services in Wales. We also need to know where the Welsh Government got this 3.8 figure from, because Andrew Morgan from the WLGA called for at least a 4 per cent funding floor, and it's easy to see why, because it needs to be more.
Labour's national insurance rise has piled on pressures on local authorities, and they still don't know how much extra cash there will be available to each of our councils to meet those costs. How can we be in a situation where councils are voting for their final budgets but still waiting for clarity on how much money will be available to them? It's appalling that this Government hasn't been fighting harder to get answers for our councils. We do know that any extra cash won't cover the whole cost, leading to more cuts to vital services, more council tax rises for hard-working people.
Now, despite the new funding floor for this year, council tax is rising by inflation-busting amounts across much of Wales and 10 per cent of rural areas, making it harder for families to make ends meet. The simple truth is that high council taxes are unsustainable and put huge stress on household budgets. We were always told that a UK Labour Government would deliver better outcomes for Wales, but this settlement shows that isn't true. The Welsh Government's funding formula is in need of an urgent review and reform. We must address the issue of high council taxes, which are putting too much pressure on families.
We, the Welsh Conservatives, would deliver a fairer funding formula that's fair for all of Wales, putting the money back into people's pockets so they can decide how they want to spend it, because the inherent unfairness of this funding formula is leading to closed leisure centres, closed libraries, soaring council tax, stretched household budgets, and hollowed out communities. This is not just about pounds and pence. A failure to fund our local authorities properly will rip out the heart of our local communities. The funding settlement that you've produced today falls far short of what is needed. This Government must do better. Diolch.
Ni allwch wadu, nid wyf yn credu—rwy'n gwybod eich bod wedi eistedd acw yn eich sedd ers amser maith—ni allwch wadu bod y Llywodraeth hon wedi tanariannu'n barhaus ein hawdurdodau lleol ledled Cymru bellach ers degawdau, ac mae hynny wedi cael effaith ddinistriol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Ac eto, ers llawer rhy hir rydym wedi gweld y fformiwla ariannu yn cael ei gwthio gennych chi gan ddweud ei bod yn iawn, ond rydym wedi gweld nad yw'n gweithio i gynghorau, ac nid yw'n gweithio i bobl yr ydym yn bwriadu eu gwasanaethu. Mae fformiwla llywodraethau lleol wedi torri, ac mae wedi gorfodi nifer o awdurdodau lleol i wneud dewisiadau anodd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys a sir Benfro, y gofynnwyd iddynt wneud mwy gyda llai. Dros y degawd diwethaf, mae Cyngor Powys wedi gorfod gwneud dros £100 miliwn o doriadau difrifol, gan ddileu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae'n dda bod cytundeb wedi bod ar gyfer cyllid gwaelodol eleni—mae'n angenrheidiol—ond mae'n siomedig iawn ei fod wedi cymryd cytundeb ystafell gefn gydag un AS Democratiaid Rhyddfrydol i gyflawni hyn yn hytrach na gwrando ar y corws o leisiau ledled Cymru mewn llywodraeth leol a galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig. Felly, byddai'n ddefnyddiol deall a fydd yr egwyddor cyllid gwaelodol honno yn parhau yn y dyfodol ar gyfer setliadau yn y dyfodol, neu a yw'n gorcyn unwaith ac am byth i sicrhau bod eich cyllideb yn cael ei phasio. Ond mae angen esboniad arnom hefyd ynghylch lle roedd yr arian hwn ar gyfer cyllid gwaelodol o 3.8 y cant yn cuddio yn y lle cyntaf, oherwydd roeddech yn gwybod am y pwysau sydd ar y cynghorau, ond dim ond pan oedd yn wleidyddol gyfleus i Lafur Cymru yr ymddangosodd yr £8 miliwn ychwanegol hwn fel petai trwy hud. Nid wyf yn credu ei bod yn ffordd arbennig o dryloyw o gynnal gwleidyddiaeth o ran awdurdodau lleol a chyllid ar gyfer rhai o'n gwasanaethau mwyaf allweddol yng Nghymru. Mae angen i ni hefyd wybod o ble y cafodd Llywodraeth Cymru y ffigur 3.8 hwn, oherwydd galwodd Andrew Morgan o CLlLC am o leiaf 4 y cant o gyllid gwaelodol, ac mae'n hawdd gweld pam, oherwydd mae angen iddo fod yn fwy.
Mae cynnydd mewn yswiriant gwladol Llafur wedi pentyrru pwysau ar awdurdodau lleol, ac nid ydynt yn gwybod o hyd faint o arian ychwanegol fydd ar gael i bob un o'n cynghorau i dalu'r costau hynny. Sut allwn ni fod mewn sefyllfa lle mae cynghorau'n pleidleisio dros eu cyllidebau terfynol ond yn dal i aros am eglurder ynghylch faint o arian fydd ar gael iddyn nhw? Mae'n warthus nad yw'r Llywodraeth hon wedi bod yn brwydro yn galetach i gael atebion i'n cynghorau. Rydym yn gwybod na fydd unrhyw arian ychwanegol yn talu'r gost gyfan, gan arwain at fwy o doriadau i wasanaethau hanfodol, mwy o godiadau yn y dreth gyngor i bobl sy'n gweithio'n galed.
Nawr, er gwaethaf y cyllid gwaelodol newydd ar gyfer eleni, mae'r dreth gyngor yn cynyddu'n sylweddol iawn, symiau sy'n chwalu chwyddiant, ar draws rhan helaeth o Gymru a 10 y cant o ardaloedd gwledig, gan ei gwneud hi'n anoddach i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd. Y gwir syml yw bod trethi cyngor uchel yn anghynaladwy ac yn rhoi straen enfawr ar gyllidebau aelwydydd. Dywedwyd wrthym erioed y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn sicrhau gwell canlyniadau i Gymru, ond mae'r setliad hwn yn dangos nad yw hynny'n wir. Mae angen adolygu a diwygio fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar frys. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â mater trethi cyngor uchel, sy'n rhoi gormod o bwysau ar deuluoedd.
Byddem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn darparu fformiwla ariannu decach sy'n deg i Gymru gyfan, gan roi'r arian yn ôl ym mhocedi pobl fel y gallant benderfynu sut maen nhw eisiau ei wario, oherwydd mae annhegwch cynhenid y fformiwla ariannu hon yn arwain at ganolfannau hamdden caeedig, llyfrgelloedd caeedig, cynyddu'r dreth gyngor, cyllidebau aelwydydd yn tynhau, a chymunedau wedi'u rhwygo. Nid yw hyn yn ymwneud â phunnoedd yn unig. Bydd methiant i ariannu ein hawdurdodau lleol yn iawn yn rhwygo calon ein cymunedau lleol. Mae'r setliad cyllido rydych wedi'i gynhyrchu heddiw yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen. Rhaid i'r Llywodraeth hon wneud yn well. Diolch.
The budget does not provide enough money for local government. No budget has ever, or ever will, provide enough money for local government. This is, however, the best local government financial settlement for over 15 years. It is a good funding settlement for local government, certainly compared to funding settlements in recent years. It does not solve all the problems of the last 14 years, but it's definitely progress.
The Welsh Government is a major source of income for local authorities, but it's not the only source. Local authorities get money from council tax, and also from fees and charges. The core revenue funding comprises the revenue support grant and redistributed non-domestic rates, which together make the aggregate external finance. Aggregate external finance makes up the bulk of Welsh Government's funding to local authorities, and will be £6.1 billion next year—again, additional money comes in from other areas. After adjusting the figures to make them comparable, that's an increase of £261.7 million, or 4.5 per cent, compared to 2024-25.
The Welsh Government has implemented a funding floor in the final settlement. This means no authority gets less than a 3.8 per cent increase in 2025-26. This protects the income of local authorities against relative or actual population growth, because that's what drives the percentage increase. It's population growth, or lack of population growth. The key data is the standard spending assessments, and they are intended to reflect the variations in the need to spend that might be expected if all authorities responded in a similar way to the demand for services in their areas.
The data used to calculate the distribution of standard spending assessments across the service areas are collected from various sources, mostly on an annual basics. The exceptions are the settlement dispersion data, which is based on the census and selected indicators derived from censuses. Other data is collected directly from councils, including number of pupils, planning applications, street lighting units, length of road, length of coastline, homelessness and housing data. Data on the number of dwellings is provided by the Valuation Office Agency, along with the food and trading premises data. Population projection figures for local authorities are prepared by the Welsh Government knowledge and analytical services division. In a small number of cases, the actual or best estimate of expenditure on a service is used, where the expenditure is predetermined and is not directly under the control of an authority.
The formula for all services was reviewed ahead of the 2001-02 settlement, following a recommendation made by the independent review undertaken by Swansea University and Pion Economics. The recommendations were incorporated into 2001-02 and subsequent settlements, and the necessary analysis was completed through the mechanism of the distribution sub-group.
There are three main tables produced by Welsh Government on support for local government, and the one that generates the most interest is the percentage increases. For 2025-26, as we know, it varies from 5.6 per cent in Newport and 5.3 per cent in Cardiff to 3.8 per cent for those protected by the floor. These variations are driven by population change. We're all aware, especially the Cabinet Secretary, of the increase in population in Newport, and part of it is due, of course, to the bridge not having tolls any more. But they're having that increase in population.
The second table is the absolute amount provided to each council by the Welsh Government. And Cardiff gets the most. Rhondda Cynon Taf comes second. And why? Because these are the two biggest authorities. The lowest is the smallest, which is Merthyr Tydfil.
The third table, which I think is the most meaningful, shows Welsh Government expenditure per capita. This varies from the highest in Blaenau Gwent at £2,294, then second comes Merthyr, and third comes Denbighshire, going down to the lowest two, which are Monmouthshire and the Vale of Glamorgan, with support for other councils being between these extremes. This shows that Monmouthshire and the Vale of Glamorgan have substantially less than the other councils in Wales, with Blaenau Gwent, Merthyr and Denbighshire having substantially more.
Blaenau Gwent have, at 58 per cent, the highest proportion of dwellings in band A, with Merthyr Tydfil having over 50 per cent of its properties in band A. In contrast, Monmouthshire has 1 per cent of its properties in band A and the Vale of Glamorgan less than 3 per cent in band A. Monmouthshire has three quarters of its population in band D and above, while Blaenau Gwent has 10 per cent of its properties in band D and above. From the above, it is clear that Monmouthshire raises substantially more with a 1 per cent rise in band D council tax than Blaenau Gwent. The councils with the ability to raise more council tax on a band D property, which is what council tax is calculated on, get less support from the Welsh Government.
But can I just say a way the system would be improved? Why will the Welsh Government not publish the calculations for the standard spending assessments? You publish the actual results. Why would you not publish the calculation? They'd be very long, but you've got them. You must have them, otherwise you would not be able to provide the data at the end of it. And as some of my colleagues on the Finance Committee will say, I always use these words: show your workings.
Nid yw'r gyllideb yn darparu digon o arian i lywodraeth leol. Nid oes unrhyw gyllideb erioed, neu ni fydd byth yn darparu digon o arian ar gyfer llywodraeth leol. Fodd bynnag, dyma'r setliad ariannol llywodraeth leol gorau ers dros 15 mlynedd. Mae'n setliad ariannu da ar gyfer llywodraeth leol, yn sicr o'i gymharu â setliadau cyllido yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n datrys holl broblemau'r 14 mlynedd diwethaf, ond mae'n bendant yn gynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ffynhonnell incwm fawr i awdurdodau lleol, ond nid dyma'r unig ffynhonnell. Mae awdurdodau lleol yn cael arian o'r dreth gyngor, a hefyd o ffioedd a thaliadau. Mae'r cyllid refeniw craidd yn cynnwys y grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, sydd gyda'i gilydd yn gwneud y cyllid allanol cyfanredol. Cyfanswm cyllid allanol yw'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, a bydd yn £6.1 biliwn y flwyddyn nesaf—eto, daw arian ychwanegol i mewn o ffynonellau eraill. Ar ôl addasu'r ffigurau i'w gwneud yn gymharol, mae hynny'n gynnydd o £261.7 miliwn, neu 4.5 y cant, o'i gymharu â 2024-25.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu cyllid gwaelodol yn y setliad terfynol. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw awdurdod yn cael llai na chynnydd o 3.8 y cant yn 2025-26. Mae hyn yn diogelu incwm awdurdodau lleol rhag twf cymharol neu wirioneddol yn y boblogaeth, oherwydd dyna sy'n ysgogi cynnydd canrannol. Twf poblogaeth, neu ddiffyg twf poblogaeth yw e'. Y data allweddol yw'r asesiadau gwariant safonol, a'u bwriad yw adlewyrchu'r amrywiadau yn yr angen i wario y gellid eu disgwyl pe bai pob awdurdod yn ymateb mewn ffordd debyg i'r galw am wasanaethau yn eu hardaloedd.
Mae'r data a ddefnyddir i gyfrifo dosbarthiad asesiadau gwariant safonol ar draws meysydd y gwasanaeth yn cael eu casglu o wahanol ffynonellau, yn bennaf yn flynyddol. Yr eithriadau yw'r data gwasgariad setliad, sy'n seiliedig ar y cyfrifiad a'r dangosyddion dethol sy'n deillio o gyfrifiadau. Cesglir data arall yn uniongyrchol gan gynghorau, gan gynnwys nifer y disgyblion, ceisiadau cynllunio, unedau goleuadau stryd, hyd ffyrdd, hyd arfordir, digartrefedd a data tai. Darperir data ar nifer yr anheddau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ynghyd â'r data ar safleoedd bwyd a masnachu. Mae ffigurau amcanestyniad poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu paratoi gan is-adran gwybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru. Mewn nifer fach o achosion, defnyddir yr amcangyfrif gwirioneddol neu orau o wariant ar wasanaeth, lle mae'r gwariant wedi'i bennu ymlaen llaw ac nad yw'n uniongyrchol o dan reolaeth awdurdod.
Adolygwyd y fformiwla ar gyfer yr holl wasanaethau cyn setliad 2001-02, yn dilyn argymhelliad a wnaed gan yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Pion Economics. Ymgorfforwyd yr argymhellion yn 2001-02 a setliadau dilynol, a chwblhawyd y dadansoddiad angenrheidiol trwy fecanwaith yr is-grŵp dosbarthu.
Mae tri phrif dabl wedi eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i lywodraeth leol, a'r un sy'n creu'r diddordeb mwyaf yw'r cynnydd canrannol. Ar gyfer 2025-26, fel y gwyddom, mae'n amrywio o 5.6 y cant yng Nghasnewydd a 5.3 y cant yng Nghaerdydd i 3.8 y cant ar gyfer y rhai a ddiogelir gan y cyllid gwaelodol. Mae'r amrywiadau hyn yn cael eu hysgogi gan newid yn y boblogaeth. Rydym i gyd yn ymwybodol, yn enwedig yr Ysgrifennydd Cabinet, o'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghasnewydd, ac mae hyn yn rhannol wrth gwrs, oherwydd nad oes tollau ar y bont mwyach. Ond maen nhw'n gweld y cynnydd hwnnw yn y boblogaeth.
Yr ail dabl yw'r swm absoliwt a ddarperir i bob cyngor gan Lywodraeth Cymru. Ac mae Caerdydd yn cael y mwyaf. Rhondda Cynon Taf sy'n dod yn ail. A pham? Gan mai dyma'r ddau awdurdod mwyaf. Yr isaf yw'r lleiaf, sef Merthyr Tudful.
Mae'r trydydd tabl, sy'n fwyaf ystyrlon yn fy marn i, yn dangos gwariant Llywodraeth Cymru fesul pen. Mae hyn yn amrywio o'r uchaf ym Mlaenau Gwent sef £2,294, yna'n ail daw Merthyr, ac yn drydydd daw sir Ddinbych, gan fynd i lawr i'r ddau isaf, sef sir Fynwy a Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth i gynghorau eraill rhwng yr eithafion hyn. Mae hyn yn dangos bod gan sir Fynwy a Bro Morgannwg lawer llai na'r cynghorau eraill yng Nghymru, gyda Blaenau Gwent, Merthyr a sir Ddinbych â llawer mwy.
Mae gan Blaenau Gwent, ar 58 y cant, y gyfran uchaf o anheddau ym mand A, gyda Merthyr Tudful â thros 50 y cant o'i eiddo ym mand A. Mewn cyferbyniad, mae gan sir Fynwy 1 y cant o'i heiddo ym mand A a Bro Morgannwg llai na 3 y cant ym mand A. Mae gan sir Fynwy dri chwarter ei phoblogaeth ym mand D ac uwch, tra bod gan Blaenau Gwent 10 y cant o'i eiddo ym mand D ac uwch. O'r uchod, mae'n amlwg bod sir Fynwy yn codi llawer mwy gyda chynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor band D na Blaenau Gwent. Mae'r cynghorau sydd â'r gallu i godi mwy o dreth gyngor ar eiddo band D, sef yr hyn a ddefnyddir i gyfrifo'r dreth gyngor, yn cael llai o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ond a gaf i ddweud sut y gellir gwella'r system? Pam na fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cyfrifiadau ar gyfer yr asesiadau gwariant safonol? Rydych chi'n cyhoeddi'r canlyniadau go iawn. Pam na fyddech chi'n cyhoeddi'r cyfrifiadau? Fe fydden nhw'n hir iawn, ond maen nhw gennych chi. Mae'n rhaid i chi eu cael, fel arall ni fyddech yn gallu darparu'r data ar y diwedd. Ac fel y bydd rhai o fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid yn dweud, rwyf bob amser yn defnyddio'r geiriau hyn: dangoswch eich proses o weithio allan.
Our local authorities have a huge responsibility—I think we can all agree on that—providing services that we all take for granted. Over—well over—600 functions are provided, and we do thank them for all they do year in, year out. But they cannot undertake these responsibilities unless adequately funded, and I am very glad that a funding floor is to be put in place, something that I have advocated for right from the start of this budget process and which I believe the Government were minded to move forward with despite a deal, anyway. However, the fact that we need one—need a floor—again demonstrates that the current funding formula is flawed and does need urgent review. It can't be right for some councils to struggle to deliver their basic services while carrying minimal reserves while the formula gives others more than adequate resources, allowing them to deliver all they need while accruing significant reserves. This needs to be addressed. It's an unsustainable anomaly, which can't continue.
I also welcome the move by the Welsh Government to provide baselined revenue to enable councils to service capital borrowing. Utilising councils' borrowing powers to accelerate much-needed infrastructure work is a sensible step, one I would have taken, and one I welcome as an ex-leader of a local authority. However, despite the increases this year, the fact remains that the last 26 years of Labour have left our local authorities under extreme financial pressure.
Regarding council tax, currently in England, as we know, any council tax rises over 5 per cent are subject to local referendums. That is not the case in Wales and, as a result, it has allowed the Welsh Government to implement cuts on local authorities knowing that they, in turn, will be forced to increase council tax on hard-working families. I was really quite concerned when looking at Neath Port Talbot's budget consultation, where it stated, and I quote,
'the Welsh Government has assumed that Council Tax will rise by an average 9.3% across Wales.'
It then went on to say that their council tax is proposed to go up by 6.8 per cent. I was quite astonished that the Welsh Government would even publish an assumption at all, let alone one at a level of 9.3 per cent. Those assumptions are something I've never, ever seen in my whole life as a local government leader. And this in itself will drive up council tax and was a poor decision, because it creates a baseline for councils to work towards.
There shouldn't be a standing expectation for the public to keep paying, especially when times are so hard. Council tax increases should be the last resort after all other avenues have been exhausted. As a past council leader, my assumptions for council tax in budget builds was always set very low, to drive efficiency. Why would you play out your budget hand? I'm just surprised that the Welsh Government did this—and perhaps it's not across all councils, but I certainly saw it in Neath Port Talbot's consultation.
To conclude, Dirprwy Lywydd, our benches believe that local authorities should implement referendums if they are proposing council tax increases over 5 per cent. This is not to punish local authorities, rather it is to protect them from the cuts and ensure that they are funded adequately whilst ensuring the public have their say. At the end of the day, we need our local authorities to be sustainable without continued expectation for hard-working families to fund huge shortfalls. Sadly, under the current system, this simply doesn't look like it will be a possibility. Diolch.
Mae gan ein hawdurdodau lleol gyfrifoldeb enfawr—rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny—gan ddarparu gwasanaethau rydym ni i gyd yn eu cymryd yn ganiataol. Mae mwy na—llawer mwy na—600 o swyddogaethau yn cael eu darparu, ac rydym ni'n diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond ni allant ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn oni bai eu bod wedi'u hariannu'n ddigonol, ac rwy'n falch iawn y bydd cyllido gwaelodol yn cael ei roi ar waith, rhywbeth yr wyf i wedi eirioli drosto o ddechrau'r broses gyllidebol hon ac rwy'n credu bod y Llywodraeth yn bwriadu symud ymlaen ag ef er gwaethaf cytundeb, beth bynnag. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod angen un arnom—angen cyllid gwaelodol—eto yn dangos bod y fformiwla ariannu bresennol yn ddiffygiol ac angen adolygiad brys. Ni all fod yn iawn i rai cynghorau ei chael hi'n anodd darparu eu gwasanaethau sylfaenol tra bônt yn cario cronfeydd wrth gefn isel tra bod y fformiwla yn rhoi mwy nag adnoddau digonol i eraill, gan ganiatáu iddynt gyflawni'r cyfan sydd ei angen arnynt wrth gronni cronfeydd wrth gefn sylweddol. Mae angen mynd i'r afael â hyn. Mae'n anghysondeb anghynaladwy, na all barhau.
Rwyf hefyd yn croesawu'r cam gan Lywodraeth Cymru i ddarparu refeniw gwaelodol i alluogi cynghorau i gynnal benthyca cyfalaf. Mae defnyddio pwerau benthyca cynghorau i gyflymu gwaith seilwaith mawr ei angen yn gam synhwyrol, un y byddwn wedi'i gymryd, ac yn un rwy'n ei groesawu fel cyn-arweinydd awdurdod lleol. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd eleni, erys y ffaith bod y 26 mlynedd diwethaf o Lafur wedi gadael ein hawdurdodau lleol dan bwysau ariannol eithafol.
O ran y dreth gyngor, yn Lloegr ar hyn o bryd, fel y gwyddom, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor sydd dros 5 y cant yn destun refferenda lleol. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru ac, o ganlyniad, mae wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu toriadau ar awdurdodau lleol gan wybod y byddan nhw, yn eu tro, yn cael eu gorfodi i gynyddu'r dreth gyngor i'r teuluoedd sy'n gweithio'n galed. Roeddwn i'n eithaf pryderus wrth edrych ar ymgynghoriad cyllideb Castell-nedd Port Talbot, lle y nododd, ac rwy'n dyfynnu,
'mae Llywodraeth Cymru wedi tybio y bydd Treth y Cyngor yn codi 9.3% ar gyfartaledd ledled Cymru.'
Yna aeth ymlaen i ddweud y cynigir i'r dreth gyngor gynyddu 6.8 y cant. Roeddwn i'n synnu y byddai Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cyhoeddi rhagdybiaeth o gwbl, heb sôn am un ar lefel o 9.3 y cant. Mae'r rhagdybiaethau hynny'n bethau nad wyf erioed wedi'u gweld yn fy mywyd cyfan fel arweinydd llywodraeth leol. A bydd hyn ynddo'i hun yn cynyddu'r dreth gyngor ac yn benderfyniad gwael, oherwydd mae'n creu llinell sylfaen i gynghorau weithio tuag ati.
Ni ddylai fod disgwyliad sefydlog i'r cyhoedd barhau i dalu, yn enwedig pan fydd cyfnodau mor anodd. Dylai'r cynnydd yn y dreth gyngor fod y dewis olaf ar ôl i'r holl lwybrau eraill gael eu dihysbyddu. Fel cyn-arweinydd cyngor, roedd fy rhagdybiaethau ar gyfer y dreth gyngor wrth greu'r gyllideb bob amser yn isel iawn, i ysgogi effeithlonrwydd. Pam fyddech chi'n chwarae eich llaw gyllideb? Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn—ac efallai nad yw ar draws pob cyngor, ond yn sicr fe welais i hynny yn ymgynghoriad Castell-nedd Port Talbot.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae ein meinciau ni o'r farn y dylai awdurdodau lleol weithredu refferenda os ydyn nhw'n cynnig cynnydd o dros 5 y cant yn y dreth gyngor. Nid cosbi awdurdodau lleol yw hyn, yn hytrach, eu hamddiffyn rhag y toriadau a sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol wrth sicrhau bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud. Ar ddiwedd y dydd, mae angen i'n hawdurdodau lleol fod yn gynaliadwy heb ddisgwyliad parhaus i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ariannu diffygion enfawr. Yn anffodus, o dan y system bresennol, nid yw hyn yn ymddangos fel y bydd yn bosibilrwydd. Diolch.
Councils across Wales have been forced to do more with less, stretching every pound to keep essential services running. That's why, during the budget negotiations we had, I did manage to secure the funding floor. And I just really want to talk in my contribution very briefly about this, because it was something that I heard from the councils that I spoke to, from every political party, how important it is to have a funding floor. It's the first time, I understand, in six years that this has happened, and whatever the rate it's set at, it seems a much, much fairer way to me in order to ensure that councils actually know the income that they’re getting. That is a safety net, ensuring much more stability for local investment and for public services. In this budget, we’ve seen councils, from Ynys Môn to Monmouthshire, Conwy to the Vale of Glamorgan—nine, in total—getting more money because of that budget floor. Additionally, within the budget agreement we’ve managed to get £5 million for extra play facilities, £5 million to help our leisure centres, as you said, Cabinet Secretary.
But I’m really just going to finish with this really precise question, which I think has been raised a number of times in the contributions so far, and that is: will the Government please review the funding for local authorities and talk with them, because they are the experts around what is a fairer way of actually ensuring they have the funding in place? Because it sounds to me like a funding floor is the most obvious, but I’m not the expert, and I really feel it’s important that our services to all of us are run and delivered by our local authorities. We’re very lucky to have such committed people in those local authorities, but they absolutely do need fairness and security and a much fairer funding way forward. Diolch yn fawr iawn.
Mae cynghorau ledled Cymru wedi cael eu gorfodi i wneud mwy gyda llai, gan ymestyn pob punt i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg. Dyna pam, yn ystod y trafodaethau ar y gyllideb a gawsom, y llwyddais i sicrhau'r cyllid gwaelodol. Ac rwyf i wir eisiau sôn yn fy nghyfraniad yn fyr iawn am hyn, oherwydd roedd yn rhywbeth a glywais gan y cynghorau y siaradais â nhw, o bob plaid wleidyddol, pa mor bwysig yw bod â chyllid gwaelodol. Dyma'r tro cyntaf, rwy'n deall, mewn chwe blynedd i hyn ddigwydd, a beth bynnag fo'r gyfradd a osodir ar ei gyfer, mae'n ymddangos yn ffordd llawer tecach i mi er mwyn sicrhau bod cynghorau mewn gwirionedd yn gwybod beth yw'r incwm y maent yn ei gael. Mae honno'n rhwyd ddiogelwch, gan sicrhau llawer mwy o sefydlogrwydd ar gyfer buddsoddiad lleol ac ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yn y gyllideb hon, rydym ni wedi gweld cynghorau, o Ynys Môn i sir Fynwy, Conwy i Fro Morgannwg—naw, i gyd—yn cael mwy o arian oherwydd cyllid gwaelodol y gyllideb. Yn ogystal â hyn, o fewn y cytundeb cyllideb rydym wedi llwyddo i gael £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau chwarae ychwanegol, £5 miliwn i helpu ein canolfannau hamdden, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet.
Ond rydw i wir yn mynd i orffen gyda'r cwestiwn gwirioneddol fanwl hwn, a chredaf ei fod wedi cael ei godi nifer o weithiau yn y cyfraniadau hyd yn hyn, a hynny yw: a wnaiff y Llywodraeth adolygu cyllid awdurdodau lleol a siarad â nhw, oherwydd nhw yw'r arbenigwyr ynghylch beth yw'r ffordd decach o sicrhau bod ganddyn nhw'r cyllid ar waith? Oherwydd ei fod yn swnio i mi mai cyllid gwaelodol yw'r mwyaf amlwg, ond nid fi yw'r arbenigwr, ac rwy'n teimlo ei bod yn bwysig bod ein gwasanaethau i bob un ohonom yn cael eu rhedeg a'u darparu gan ein hawdurdodau lleol. Rydym yn ffodus iawn o gael pobl mor ymroddedig yn yr awdurdodau lleol hynny, ond mae angen tegwch a diogelwch arnynt a ffordd ymlaen o gyllido lawer tecach. Diolch yn fawr iawn.
I welcome this first budget where a Labour Government in Wales can work with a Labour Government in the UK. It was a huge relief when a return to investment in public services was announced by the Chancellor, when funding announced for services in England is also passported to devolved Governments as previously did not happen either.
The scars of the last decade and a half of cuts cannot be healed overnight. It’s incumbent on all of us to ensure that the UK Government succeeds in its task of national renewal, because only with this can we ensure that increased funding continues long term, which we need to have in place for our public services. It will take a while to rebuild and grow what people need, to establish childcare settings, and to recruit, to get those roads fixed, but I’m hopeful that people will start to see and feel a difference in their everyday lives.
We will also have to deal with a lot of roadworks this summer. After asking for funding for highways at every budget over the last three years, I’m pleased to see not only an extra £25 million for the strategic road network, but also significant investment now, increased to £120 million over two years, to have a proper programme of maintenance and resurfacing for our local highway network.
I welcome that the Cabinet Secretary for Finance clarified in the last budget debate that the additional capital investment will be cost-neutral to local authorities and there is revenue to cover that cost of borrowing, which is really important. I am concerned, though, that the governance of funding will involve the establishment of a programme board consisting of members from the Welsh Local Government Association, the County Surveyors Society Wales, the Welsh Government and the corporate joint committee transport committees. I just think that councils need to have that funding delivered directly to them. We’re in March already; they’ve got a short window to get those roads fixed while it’s dry and it’s warm enough for that tar to set. So, I’m just hoping it can be devolved directly to councils rather than going through another committee.
I also welcome the trial of a £1 bus ticket for young people, as the chair of the cross-party group on public transport, and welcome that shared-value working. It’s really welcome to have that there. It was a request from operators to help grow the industry, as well as providing transport for young people, making it more sustainable going forward. But we need to work with stakeholders, including local authorities, just in case there are any unintended consequences before it’s actually delivered; that’s really important.
Regarding a funding floor, I totally accept that we need to have a basic level of funding for councils to operate now. They’ve had 14 years of delivering cuts, reorganising, restructuring, they’ve taken out all the fat, so to deliver just the basic level of services now, they need that basic level of funding. A funding floor of 3.8 per cent was really welcome, but it could do with being a bit higher, and I think that’s what we need to look at going forward. There have been talks previously about having a basic level and maybe a ceiling, but if you have a ceiling in place, then that could impact on those areas that are most deprived. So, you need to just bear that in mind going forward.
Our public services, they are the building blocks of the economy and they provide education, transport, people, and they employ so many people across Wales. They're our biggest employer in many places, with each county employing about 6,000 people on average. So, by investing in them, we are investing in our economy, basically, and putting money in people's pockets, as keeps being discussed. So, thank you very much.
Rwy'n croesawu'r gyllideb gyntaf hon lle gall Llywodraeth Lafur yng Nghymru weithio gyda Llywodraeth Lafur yn y DU. Roedd yn rhyddhad enfawr pan gyhoeddodd y Canghellor bod buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn dychwelyd, pan fo cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer gwasanaethau yn Lloegr hefyd yn cael ei basbortio i Lywodraethau datganoledig, rhywbeth na ddigwyddodd o'r blaen chwaith.
Does dim modd iacháu creithiau y degawd a hanner diwethaf o doriadau dros nos. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn llwyddo yn ei thasg o adnewyddu cenedlaethol, oherwydd dim ond gyda hyn y gallwn sicrhau bod mwy o gyllid yn parhau yn y tymor hir, y mae angen i ni ei gael ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn cymryd amser i ailadeiladu a thyfu'r hyn sydd ei angen ar bobl, sefydlu lleoliadau gofal plant, a recriwtio, i drwsio'r ffyrdd hynny, ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dechrau gweld a theimlo gwahaniaeth yn eu bywydau bob dydd.
Bydd yn rhaid i ni hefyd ymdrin â llawer o waith ffordd yr haf hwn. Ar ôl gofyn am gyllid ar gyfer priffyrdd ym mhob cyllideb dros y tair blynedd diwethaf, rwy'n falch o weld nid yn unig £25 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol, ond hefyd buddsoddiad sylweddol erbyn hyn, wedi cynyddu i £120 miliwn dros ddwy flynedd, i gael rhaglen gynnal a chadw ac ailwynebu briodol ar gyfer ein rhwydwaith priffyrdd lleol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi egluro yn y ddadl ddiwethaf ar y gyllideb y bydd y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn niwtral o ran cost i awdurdodau lleol ac mae refeniw i dalu'r gost honno o fenthyca, sy'n bwysig iawn. Rwy'n pryderu, serch hynny, y bydd llywodraethu cyllid yn cynnwys sefydlu bwrdd rhaglen sy'n cynnwys aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, Llywodraeth Cymru a chyd-bwyllgorau trafnidiaeth y cydbwyllgor corfforedig. Rwy'n credu bod angen i'r cyllid hwnnw gael ei ddarparu'n uniongyrchol iddyn nhw. Rydym ym mis Mawrth yn barod; mae ganddyn nhw ffenestr fer i drwsio'r ffyrdd hynny tra bo'r tywydd yn sych ac mae'n ddigon cynnes i'r tar hwnnw galedu. Felly, rwy'n gobeithio y gellir ei ddatganoli'n uniongyrchol i gynghorau yn hytrach na mynd trwy bwyllgor arall.
Rwyf hefyd yn croesawu treialu tocyn bws gwerth £1 i bobl ifanc, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn croesawu'r gwaith gwerth a rennir hwnnw. Mae croeso mawr i hwnnw. Roedd yn gais gan weithredwyr i helpu i dyfu'r diwydiant, yn ogystal â darparu cludiant i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. Ond mae angen i ni weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, rhag ofn y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol cyn iddo gael ei gyflawni mewn gwirionedd; mae hynny'n bwysig iawn.
O ran cyllid gwaelodol, rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i ni gael lefel sylfaenol o gyllid i gynghorau weithredu nawr. Maen nhw wedi cael 14 mlynedd o gyflawni toriadau, ad-drefnu, ailstrwythuro, maen nhw wedi tynnu'r holl fraster, er mwyn darparu'r lefel sylfaenol o wasanaethau yn unig nawr, mae angen y lefel sylfaenol honno o gyllid arnynt. Croesawyd cyllid gwaelodol o 3.8 y cant yn fawr, ond dylai fod ychydig yn uwch, ac rwy'n credu mai dyna beth sydd angen i ni edrych arno wrth symud ymlaen. Bu trafodaethau o'r blaen am gael lefel sylfaenol ac efallai nenfwd, ond os oes gennych nenfwd yn ei le, yna gallai hynny effeithio ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf difreintiedig. Felly, mae angen i chi gadw hynny mewn cof wrth symud ymlaen.
Ein gwasanaethau cyhoeddus, nhw yw conglfeini adeiladu'r economi ac maen nhw yn darparu addysg, trafnidiaeth, pobl, ac maen nhw'n cyflogi cymaint o bobl ledled Cymru. Nhw yw ein cyflogwr mwyaf mewn sawl lle, gyda phob sir yn cyflogi tua 6,000 o bobl ar gyfartaledd. Felly, trwy fuddsoddi ynddynt, rydym yn buddsoddi yn ein heconomi, yn y bôn, ac yn rhoi arian ym mhocedi pobl, fel sy'n cael ei drafod o hyd. Felly, diolch yn fawr iawn.
A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl.
And I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to reply to the debate.

Diolch, Deputy Llywydd. I just want to thank everybody once again for all the contributions today and their interest in this important issue. I've had discussions with lots of you throughout this time I've been Cabinet Secretary, and I know this is something you all care passionately about. It was really good to hear everybody put on record their thanks to all local authorities, their staff and elected members, and I think that's really, really important. It was also good to hear that everybody had welcomed the addition of the funding floor, which came in in negotiations with Jane Dodds, and I know that this is something that all local authorities discussed with me as well.
Whilst this is an increased settlement, I recognise that demand for services, alongside cost pressures, means that local authorities will still need to make those difficult decisions on services, efficiency and council tax in setting their budget. Nevertheless, as I said, this is a settlement that does build on improved allocations from previous years.
I think that there are a number of things—. I know Peter Fox mentioned Neath Port Talbot, it's good to see a former leader of a local authority taking an interest in other local authorities, but we did not set the notional figure of 9 per cent for council tax, just to clarify that.
On the formula, the core funding we provide to local government is distributed through a well-established formula created and developed in collaboration with local government and agreed annually with local government through our finance sub-group of the partnership council for Wales. This formula is free from political agenda and driven by data. It does balance relative need and relative ability to raise income so that authorities across Wales are treated fairly and even-handedly. There is an ongoing work programme to maintain and update the funding formula, including how the formula needs to respond to our work to make council tax fairer in Wales and to other changing policies and circumstances.
So, again, I'd like to put on record my thanks for all the work from local authorities that they do day in, day out. I commend this settlement to the Senedd. It reflects our commitment to public service and it continues to support local government across Wales to deliver for the people of Wales.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am yr holl gyfraniadau heddiw a'u diddordeb yn y mater pwysig hwn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda llawer ohonoch drwy gydol y cyfnod hwn rwyf wedi bod yn Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonoch yn angerddol amdano. Roedd yn dda iawn clywed pawb yn diolch i'r holl awdurdodau lleol, eu staff a'u haelodau etholedig, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Roedd hefyd yn dda clywed bod pawb wedi croesawu ychwanegu'r cyllid gwaelodol, a ddaeth i mewn yn ystod trafodaethau gyda Jane Dodds, a gwn fod hyn yn rhywbeth y bu pob awdurdod lleol yn ei drafod gyda mi hefyd.
Er bod hwn yn setliad mwy, rwy'n cydnabod bod y galw am wasanaethau, ochr yn ochr â phwysau cost, yn golygu y bydd angen i awdurdodau lleol wneud y penderfyniadau anodd hynny o hyd ar wasanaethau, effeithlonrwydd a'r dreth gyngor wrth bennu eu cyllideb. Serch hynny, fel y dywedais i, mae hwn yn setliad sy'n adeiladu ar ddyraniadau gwell o flynyddoedd blaenorol.
Rwy'n credu bod nifer o bethau—. Rwy'n gwybod bod Peter Fox wedi sôn am Gastell-nedd Port Talbot, mae'n dda gweld cyn-arweinydd awdurdod lleol yn cymryd diddordeb mewn awdurdodau lleol eraill, ond ni wnaethom osod y ffigur tybiedig o 9 y cant ar gyfer y dreth gyngor, dim ond i egluro hynny.
Ar y fformiwla, mae'r cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sefydledig a grëwyd ac a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â llywodraeth leol ac a gytunir yn flynyddol gyda llywodraeth leol drwy ein his-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Mae'r fformiwla hon yn rhydd o agenda wleidyddol ac yn cael ei hysgogi gan ddata. Mae'n cydbwyso angen cymharol a gallu cymharol i godi incwm fel bod awdurdodau ledled Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Mae rhaglen waith barhaus i gynnal a diweddaru'r fformiwla ariannu, gan gynnwys sut mae angen i'r fformiwla ymateb i'n gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac i bolisïau ac amgylchiadau newidiol eraill.
Felly, unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch am yr holl waith gan awdurdodau lleol y maent yn ei wneud bob dydd. Rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac mae'n parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
The proposal is to agree the amendment. Does any Member object? [Objection.]

The amendment?
Y gwelliant?
Yes. Just checking to make sure. The first vote is on the amendment, not on the motion. Still an objection? [Objection.] Just making sure.
Ie. Dim ond gwirio i wneud yn siŵr. Mae'r bleidlais gyntaf ar y gwelliant, nid ar y cynnig. A oes gwrthwynebiad o hyd? [Gwrthwynebiad.] Dim ond gwneud yn siŵr.
Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
The following amendment has been selected: amendment 1 in the name of Heledd Fychan.
Eitem 8 heddiw yw dadl setliad yr heddlu 2025-26, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Item 8 this afternoon is a debate on the police settlement 2025-26, and I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion. Jayne Bryant.
Cynnig NDM8819 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2025-26 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2025.
Motion NDM8819 Jane Hutt
To propose that the Senedd, under Section 84H of the Local Government Finance Act 1988, approves the Local Government Finance Report (No. 2) 2025-26 (Final Settlement - Police and Crime Commissioners), which was laid in the Table Office on 31 January 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. Today I am presenting to the Senedd, for its approval, details of the Welsh Government’s contribution to the core revenue funding for the four police and crime commissioners in Wales for 2025-26. The core funding for the police in Wales is delivered through a three-way arrangement involving the Home Office, the Welsh Government and council tax. As policing policy and operational matters are non-devolved, the overall funding picture is determined by decisions made by the Home Office. We have maintained the established approach to setting and distributing the Welsh Government's component, based on a principle of ensuring consistency and fairness across England and Wales.
As outlined in my announcement on 30 January, the total unhypothecated revenue support for the police service in Wales for 2025-26 stands at £476.8 million. The Welsh Government’s contribution to this amount remains unchanged from last year at £113.5 million, and it is this funding that you are being asked to approve today.
As in previous years, the Home Office has overlaid its needs-based formula with a floor mechanism. This means that for 2025-26, PCCs across England and Wales will all receive an increase in funding of 3.705 per cent when compared with 2024-25 before an adjustment for special branch funding. The Home Office will provide a top-up grant totalling £73.9 million to ensure that all four Welsh police forces meet the floor level.
The motion for today’s debate is to agree the local government finance report for PCCs, which has been laid before the Senedd. If approved, this will allow the commissioners to confirm their budgets for the next financial year, and I ask Senedd Members to support this motion
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, er mwyn ei gymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2025-26. Mae'r cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, penderfynir ar y darlun cyllido cyffredinol gan benderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref. Rydym wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Fel yr amlinellwyd yn fy nghyhoeddiad ar 30 Ionawr, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2025-26 yw £476.8 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yn parhau i fod yn ddigyfnewid ers y llynedd ar £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2025-26, y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 3.705 y cant o'i gymharu â 2024-25 cyn addasiad ar gyfer cyllid y gangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant atodol gwerth cyfanswm o £73.9 miliwn i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.
Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi'i osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
I have selected the amendment to the motion, and I call on Peredur Owen Griffiths to move the amendment tabled in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gynnydd ym mhraesept yr heddlu o dreth gyngor o ganlyniad i ddiffygion mewn cyllid uniongyrchol o San Steffan i heddluoedd Cymru.
Amendment 1—Heledd Fychan
Add as new point at end of motion:
Regrets the increase in police precept of council tax as a result of shortfalls in direct funding from Westminster to Welsh police forces.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Amendment 1 moved.
Diolch yn fawr. Dwi'n symud y gwelliant hwnnw.
Thank you very much. I move the amendment.
The 2025-26 police settlement is yet another glaring example of Westminster's failure to properly fund Welsh police forces. Despite policing being a devolved matter in Scotland and Northern Ireland, Wales is once again left at the mercy of Westminster's underfunding and outdated financial models. The result? A chronic shortfall that forces local taxpayers to pick up the tab. Whilst Labour might boast about a 3.7 per cent increase in the total core support, bringing funding to £476.8 million, the rise is meaningless when measured against inflation, increased operational demands and the deep cuts of the past decade under the Tories.
The Welsh Government's contribution remains static at £113.5 million, offering no new money to address the crisis. Instead of properly funding our police forces, Westminster's strategy is clear: shift the burden on to Welsh households through the ever-rising council tax. That's why Plaid Cymru has included an amendment to this debate, which outlines the regret over the increase in police precept on council tax as a result of shortfalls in direct funding from Westminster to Welsh police forces. Police and crime commissioners have been left with no choice but to raise precepts to foot the bill that Westminster fails to pay fully. North Wales Police will see an increase of 6.44 per cent, while Dyfed Powys residents are facing an 8.6 per cent rise.
It is clear that the system is broken, with funding tied to a formula that ignores the realities facing our communities. This settlement is yet another reason why Wales must take control of its own policing and justice system. We are the only UK nation without this power, despite the 2019 Commission on Justice in Wales confirming that the current arrangement is unfit for purpose. To add insult to injury, the mayor of Manchester has additional powers over policing and justice policy not afforded to Wales. Whilst Scotland and Northern Ireland and even an English city shape their own policing priorities, Wales remains shackled to a failing system.
Plaid Cymru is clear that policing and justice should be fully devolved; only then can Wales ensure fair funding, deliver community-led policing and put public safety before Westminster's broken priorities. The people of Wales deserve a system that works for them, not one dictated by out-of-touch politicians in London. Diolch yn fawr.
Mae setliad yr heddlu 2025-26 yn enghraifft amlwg arall eto o fethiant San Steffan i ariannu heddluoedd Cymru yn iawn. Er bod plismona yn fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru unwaith eto yn cael ei gadael ar drugaredd modelau ariannol San Steffan sy'n tanariannu ac yn hen ffasiwn. Y canlyniad? Diffyg cronig sy'n gorfodi trethdalwyr lleol i ysgwyddo'r baich. Er bod Llafur efallai yn ymfalchïo mewn cynnydd o 3.7 y cant yng nghyfanswm y gefnogaeth graidd, gan ddod â chyllid i £476.8 miliwn, mae'r cynnydd yn ddiystyr wrth fesur chwyddiant, mwy o ofynion gweithredol a thoriadau llym y degawd diwethaf o dan y Torïaid.
Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru yn aros yn sefydlog ar £113.5 miliwn, gan gynnig dim arian newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng. Yn hytrach na chyllido'n heddluoedd yn iawn, mae strategaeth San Steffan yn glir: trosglwyddo'r baich i aelwydydd Cymru drwy'r dreth gyngor sy'n codi'n gyson. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi cynnwys gwelliant i'r ddadl hon, sy'n amlinellu'r gofid ynghylch y cynnydd ym mhraesept yr heddlu ar y dreth gyngor o ganlyniad i ddiffygion mewn cyllid uniongyrchol o San Steffan i heddluoedd Cymru. Nid oes dewis wedi bod gan gomisiynwyr heddlu a throseddu ond codi praeseptau i dalu'r bil nad yw San Steffan yn talu'n llawn. Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweld cynnydd o 6.44 y cant, tra bod trigolion Dyfed Powys yn wynebu cynnydd o 8.6 y cant.
Mae'n amlwg bod y system yn ddiffygiol, gyda chyllid ynghlwm wrth fformiwla sy'n anwybyddu'r realiti sy'n wynebu ein cymunedau. Mae'r setliad hwn yn rheswm arall eto pam fod yn rhaid i Gymru gymryd rheolaeth dros ei system plismona a chyfiawnder ei hun. Ni yw'r unig wlad yn y DU heb y pŵer hwn, er i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019 gadarnhau nad yw'r trefniant presennol yn addas i'r diben. Er mwyn ychwanegu halen at y briw, mae gan faer Manceinion bwerau ychwanegol dros bolisi plismona a chyfiawnder nad ydynt yn cael eu rhoi i Gymru. Tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon a hyd yn oed dinas yn Lloegr yn llunio eu blaenoriaethau plismona eu hunain, mae Cymru'n parhau i gael ei llyffetheirio gan system sy'n methu.
Mae Plaid Cymru yn glir y dylid datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn; dim ond wedyn y gall Cymru sicrhau cyllid teg, darparu plismona dan arweiniad y gymuned a rhoi diogelwch y cyhoedd o flaen blaenoriaethau diffygiol San Steffan. Mae pobl Cymru yn haeddu system sy'n gweithio iddyn nhw, nid un sydd wedi'i phennu gan wleidyddion di-ddeall yn Llundain. Diolch yn fawr.
I want to say at the outset that the Welsh Conservatives support the motion today, despite issues with the police settlement for 2025-26. We also welcome the UK Government's reaffirmation that policing and justice will not be devolved to Wales.
Our issue with the settlement stems from the fact that, despite an injection of hundreds of millions of pounds into neighbourhood policing from the UK Government, council tax payers across Wales will see police precepts double or triple. The three-way funding arrangement for policing in Wales relies upon contributions from the UK Government, Welsh Government and council tax payers across Wales. The UK Government has ensured that police forces in Wales will see a 3.7 per cent increase in funding for the next financial year, and this above-inflation increase is to be welcomed provided that the funding makes its way to the front line.
The Home Office funding has increased by 50 per cent over the past five years, whereas the Welsh Government's contribution has fallen by around 20 per cent, leaving council tax payers to foot the bill. My constituents, who are covered by South Wales Police, will see their precepts go up by 7.37 per cent, yet police numbers only went up by 0.8 per cent in the last 12 months and police community support officer numbers fell by a staggering 23 per cent. Before the Welsh Government and Plaid politicians point to the mythical austerity, between 2010 and 2024 police numbers in Wales rose by 8.2 per cent. The sad truth is that the Welsh Government are more focused upon what the Home Secretary calls breaking the links around policing and crime across England and Wales than they are on tackling criminal behaviour in Wales.
We have seen that Wales is the only part of the UK to have a rise in violence against women and sexual violence. The Welsh Government should focus their efforts on ensuring that police forces in Wales are adequately resourced to tackle violent crimes and hate crimes, rather than wasting money preparing for devolving policing and justice to Wales, something that the UK Government have ruled out. Hard-working families across Wales are having to fork out more for policing while the Welsh Government fail to fight their corner. I hope that the Cabinet Secretary will push the Home Secretary for additional funds for Wales, rather than additional powers. Diolch yn fawr.
Fe hoffwn i ddweud ar y dechrau bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig heddiw, er gwaethaf problemau gyda setliad yr heddlu ar gyfer 2025-26. Rydym ni hefyd yn croesawu cadarnhad Llywodraeth y DU na fydd plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli i Gymru.
Mae ein problem gyda'r setliad yn deillio o'r ffaith, er gwaethaf chwistrelliad o gannoedd o filiynau o bunnoedd i blismona cymdogaethol gan Lywodraeth y DU, y bydd talwyr y dreth gyngor ledled Cymru yn gweld praeseptau'r heddlu yn dyblu neu'n treblu. Mae'r trefniant cyllido tair ffordd ar gyfer plismona yng Nghymru yn dibynnu ar gyfraniadau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a thalwyr y dreth gyngor ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau y bydd heddluoedd yng Nghymru yn gweld cynnydd o 3.7 y cant mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae'r cynnydd hwn yn uwch na chwyddiant i'w groesawu ar yr amod bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen.
Mae cyllid y Swyddfa Gartref wedi cynyddu 50 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, tra bod cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi gostwng tua 20 y cant, gan adael talwyr y dreth gyngor i dalu'r bil. Bydd fy etholwyr, sy'n cael eu diogelu gan Heddlu De Cymru, yn gweld eu praeseptau yn cynyddu 7.37 y cant, ac eto dim ond cynnydd o 0.8 y cant yn y 12 mis diwethaf a welwyd yn nifer y swyddogion heddlu, ac mae swyddogion cymorth cymunedol wedi gostwng 23 y cant sy'n sylweddol. Cyn i Lywodraeth Cymru a gwleidyddion Plaid dynnu sylw at y cyni chwedlonol, rhwng 2010 a 2024 cynyddodd nifer y swyddogion heddlu yng Nghymru 8.2 y cant. Y gwir trist yw bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Cartref yn ei alw'n torri'r cysylltiadau o ran plismona a throseddu ledled Cymru a Lloegr nag ydyn nhw ar fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yng Nghymru.
Rydym ni wedi gweld mai Cymru yw'r unig ran o'r DU i weld cynnydd mewn trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol. Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio eu hymdrechion ar sicrhau bod gan heddluoedd yng Nghymru adnoddau digonol i fynd i'r afael â throseddau treisgar a throseddau casineb, yn hytrach na gwastraffu arian yn paratoi ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddiystyru. Mae teuluoedd gweithgar ledled Cymru yn gorfod gwario mwy am blismona tra bod Llywodraeth Cymru yn methu â sefyll eu cornel. Rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref am arian ychwanegol i Gymru, yn hytrach na phwerau ychwanegol. Diolch yn fawr.
Cabinet Secretary, the desire of the Welsh Government to protect front-line services and those delivering those services within our communities is to be congratulated. It's fair to say that that hasn't been the case, always, with the UK Government. Unfortunately, as you're well aware, the funding for the all-Wales schools programme, which has been provided by the Welsh Government when they stepped into the breach following cuts by the UK Government, was withdrawn in February of last year. Now, it shows the importance of this programme that three out of four of the police forces have continued with the programme, finding money elsewhere within their budget, and the fourth police force has amalgamated it with its neighbourhood policing, so they haven't got separate school officers within schools but they see it as part of the neighbourhood programme. So, all police forces see the importance of the link between schools and them.
A freedom of information request carried out by my office has also revealed that three of the police forces have seen a reduction in Welsh Government-funded PCSOs—another example of where the Welsh Government stepped in, despite policing not being devolved, following cuts by the UK Government, where the Welsh Government saw the importance of community policing. The forces must, though, be congratulated that they still see the importance of PCSOs, because they have kept their workforce—they've stabilised their workforce—but, of course, they've achieved that through reductions within other areas.
Cabinet Secretary, in July 2023 the four Welsh chief constables gave oral evidence at the Welsh Affairs Committee in Westminster. Dr Lewis, who's in the unique position of having previously been a chief officer at an English police force, described the additional complication when it came to funding of Welsh police forces—that they always had to ask where the funding was coming from, and then they had to follow this complicated thread. Now, he quite fairly said that the complication isn't insurmountable, but the complication is there nevertheless. The now-retired former chief constable of Gwent, Pam Kelly, described it as having to 'knock doors twice', which was, of course, a huge disadvantage for police forces in Wales.
In November 2023 the Welsh police and crime commissioners gave evidence to the same committee. All four of the commissioners commented that the funding formula of police forces in Wales needs to be reviewed. The funding formula for policing has to be addressed. Yes, policing is a reserved function, but policing cannot be left seeking out funding year after year, unsure what money they will receive year after year. Police and crime commissioners should not have to rely on the precept to fund their forces, and communities cannot keep funding forces on a postcode lottery of council tax rises. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd Cabinet, dylid llongyfarch awydd Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn ein cymunedau. Mae'n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir, bob amser, gyda Llywodraeth y DU. Yn anffodus, fel y gwyddoch yn iawn, dilëwyd y cyllid ar gyfer rhaglen ysgolion Cymru gyfan, a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru pan gamodd i'r adwy yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y DU, ym mis Chwefror y llynedd. Nawr, mae'n dangos pwysigrwydd y rhaglen hon bod tri o bob pedwar o'r heddluoedd wedi parhau â'r rhaglen, gan ddod o hyd i arian mewn mannau eraill o fewn eu cyllideb, ac mae'r pedwerydd heddlu wedi ei uno â'i gyllideb plismona cymdogaethol, felly nid oes ganddyn nhw swyddogion ysgol ar wahân o fewn ysgolion ond maen nhw'n gweld hynny yn rhan o'r rhaglen gymdogaeth. Felly, mae pob heddlu yn gweld pwysigrwydd y cysylltiad rhwng ysgolion a nhw.
Mae cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan fy swyddfa hefyd wedi datgelu bod tri o'r heddluoedd wedi gweld gostyngiad mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru—enghraifft arall o ble y camodd Llywodraeth Cymru i'r adwy, er nad oedd plismona wedi'i ddatganoli, yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y DU, lle gwelodd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd plismona cymunedol. Rhaid llongyfarch y lluoedd, serch hynny, am eu bod yn dal i weld pwysigrwydd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, oherwydd eu bod wedi cadw eu gweithlu—maen nhw wedi sefydlogi eu gweithlu—ond, wrth gwrs, maen nhw wedi cyflawni hynny drwy gwtogi mewn meysydd eraill.
Ysgrifennydd Cabinet, ym mis Gorffennaf 2023 rhoddodd y pedwar prif gwnstabl yng Nghymru dystiolaeth lafar yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan. Disgrifiodd Dr Lewis, sydd yn y sefyllfa unigryw o fod wedi bod yn brif swyddog mewn heddlu yn Lloegr o'r blaen, y cymhlethdod ychwanegol o ran ariannu heddluoedd Cymru—eu bod bob amser yn gorfod gofyn o ble roedd yr arian yn dod, ac yna roedd yn rhaid iddyn nhw ddilyn yr edefyn cymhleth hwn. Nawr, dywedodd yn eithaf teg nad yw'r cymhlethdod y tu hwnt i'w ddatrys, ond mae'r cymhlethdod yn bod serch hynny. Disgrifiodd cyn-brif gwnstabl Gwent, Pam Kelly, sydd bellach wedi ymddeol, y sefyllfa fel gorfod 'curo dwywaith ar ddrysau', a oedd, wrth gwrs, yn anfantais enfawr i heddluoedd yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2023 rhoddodd comisiynwyr heddlu a throseddu Cymru dystiolaeth i'r un pwyllgor. Dywedodd y pedwar comisiynydd fod angen adolygu fformiwla ariannu heddluoedd yng Nghymru. Rhaid mynd i'r afael â'r fformiwla ariannu ar gyfer plismona. Ydy, mae plismona yn swyddogaeth a gedwir yn ôl, ond ni ellir gadael plismona yn chwilio am gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ansicr pa arian y byddant yn ei dderbyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylai comisiynwyr heddlu a throseddu orfod dibynnu ar y praesept i ariannu eu lluoedd, ac ni all cymunedau barhau i gyllido heddluoedd ar loteri cod post o gynnydd i'r dreth gyngor. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch, Deputy Llywydd. I'd like to thank all Members for their interest and contributions today. I recognise that, against the backdrop of competing demand and increasing costs, the settlement will require the four police forces in Wales to make tough decisions on services, efficiencies and council tax precepts, which a number of Members have raised today. Unlike in England, we have retained the freedom for Welsh PCCs to make their own decisions about council tax increases. Setting the precept is a key part of the PCCs' role, which demonstrates accountability to the local electorate. All our police and crime commissioners have been consulting with their local communities on the level of local funding for 2025-26, and I know that they’ll be keenly aware of the cost-of-living pressures many households continue to face.
We all recognise the important work the police do for our communities across Wales. They’re a key part of an integrated public service, working with health boards, local councils and other partners as part of a joined-up approach to community safety in Wales.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw. Rwy'n cydnabod, yn wyneb y galw cystadleuol a chostau cynyddol, y bydd y setliad yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ar wasanaethau, effeithlonrwydd a phraeseptau'r dreth gyngor, y mae nifer o Aelodau wedi eu crybwyll heddiw. Yn wahanol i Loegr, rydym ni wedi cadw'r rhyddid i Gomisiynwyr Cymru wneud eu penderfyniadau eu hunain o ran cynyddu'r dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol. Mae ein holl gomisiynwyr heddlu a throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau lleol ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2025-26, a gwn y byddant yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w wynebu.
Rydym ni i gyd yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r heddlu yn ei wneud ar gyfer ein cymunedau ledled Cymru. Maen nhw'n rhan allweddol o wasanaeth cyhoeddus integredig, gan weithio gyda byrddau iechyd, cynghorau lleol a phartneriaid eraill fel rhan o ddull cydgysylltiedig o ymdrin â diogelwch cymunedol yng Nghymru.
Will you take an intervention on that?
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynna?
Yes, Alun.
Gwnaf, Alun.
I'm grateful to you for that, Cabinet Secretary. You make very eloquently the point that the police are integrated into public services across Wales. Well, of course, they’re not, because they’re not a devolved function, and therefore you do have a structural rupture in Welsh public services. We all know that the police work well with local government, with the other blue-light services, all of which are devolved. Do you not agree with me that now is a good time to devolve the policing service to ensure that we can have the coherence of public services that you describe?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Rydych chi'n gwneud y pwynt bod yr heddlu wedi'i integreiddio i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Wel, wrth gwrs, dydyn nhw ddim, achos dydyn nhw ddim yn swyddogaeth ddatganoledig, ac felly mae gennych chi rwystr strwythurol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym ni i gyd yn gwybod bod yr heddlu'n gweithio'n dda gyda llywodraeth leol, gyda'r gwasanaethau golau glas eraill, y mae pob un ohonyn nhw wedi'u datganoli. Onid ydych chi'n cytuno â mi fod nawr yn amser da i ddatganoli'r gwasanaeth plismona i sicrhau y gallwn ni gael cydlyniad y gwasanaethau cyhoeddus rydych chi'n eu disgrifio?
Diolch, Alun, for that intervention. We’ve been clear that policing should be devolved to Wales. It’s been advocated as long ago as the Silk commission and was reiterated by the Commission on Justice in Wales in 2019, and again by the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales earlier this year. So, we do believe, and I do agree, that devolution needs to be phased. We accept that policing will not just be devolved immediately. For now, we’re discussing the devolution of youth justice and probation with the UK Government, which I believe would be a significant step forward.
Just to go back to the point around community safety that Rhys ab Owen had mentioned, community safety has been maintained in our 2025-26 budget. As well as providing nearly £16 million of funding for policy community support officers in Wales, which is a 3 per cent increase, that delivers funding over and above what’s available to forces in England. Despite this being an area reserved to the UK Government, we’ve continued to prioritise funding for community safety in areas devolved to us. And we continue to make clear our support for policing to be devolved, as I’ve said, so we can deliver against the needs, the priorities and the values of the people of Wales. So, I commend this settlement to the Senedd.
Diolch, Alun, am yr ymyriad yna. Rydym ni wedi bod yn glir y dylid datganoli plismona i Gymru. Mae wedi cael ei argymell mor bell yn ôl â chomisiwn Silk a chafodd ei ailadrodd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, ac eto gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn gynharach eleni. Felly, rydym ni yn credu, ac rwy'n cytuno, bod angen cyflwyno datganoli'n raddol. Rydym ni'n derbyn na fydd plismona yn cael ei ddatganoli ar unwaith. Am y tro, rydym ni'n trafod datganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid gyda Llywodraeth y DU, y credaf y byddai'n gam sylweddol ymlaen.
Er mwyn mynd yn ôl at y sylw ynghylch diogelwch cymunedol yr oedd Rhys ab Owen wedi'i grybwyll, mae diogelwch cymunedol wedi'i gynnal yn ein cyllideb ar gyfer 2025-26. Yn ogystal â darparu bron i £16 miliwn o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru, sy'n gynnydd o 3 y cant, sy'n darparu cyllid y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael i heddluoedd yn Lloegr. Er bod hwn yn faes a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, rydym ni wedi parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i ni. Ac rydym ni'n parhau i amlygu ein cefnogaeth i blismona gael ei ddatganoli, fel y dywedais, fel y gallwn ni gyflawni yn unol ag anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd pobl Cymru. Felly, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the amendment. Does any Member object? [Objection.] Yes. I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Eitem 9 heddiw yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.
Item 9 today is a debate on the general principles of the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill. I call on the Counsel General and Minister for Delivery to move the motion— Julie James.
Cynnig NDM8837 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).
Motion NDM8837 Julie James
To propose that Senedd Cymru in accordance with Standing Order 26.11:
Agrees to the general principles of the Legislation (Procedure, Publication and Repeals) (Wales) Bill.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I move the motion. Today's debate follows the consideration of the Bill by both the Finance Committee and the Legislation, Justice and Constitution Committee. I'm very grateful to the Chairs and members of both committees, and their support staff, for their interest and work on the Bill. I would also like to place on record my appreciation to the stakeholders and other interested persons who took their time to help develop the Bill before introduction, and those who gave evidence to the Senedd during Stage 1.
The Finance Committee determined that they need not report on the Bill in light of the financial information we made available, and the Llywydd has determined that a financial resolution is not required for this Bill. The Legislation, Justice and Constitution Committee laid their report on 14 February and the Senedd should of course be mindful of its contents today. At the end of this debate, you are asked to agree to the general principles of the Bill and to allow it to progress to Stage 2.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn ystyriaeth y Bil gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeiryddion ac aelodau'r ddau bwyllgor, a'u staff cymorth, am eu diddordeb a'u gwaith ar y Bil. Fe hoffwn i hefyd gyfleu fy ngwerthfawrogiad i'r rhanddeiliaid a'r bobl eraill a roddodd o'u hamser i helpu datblygu'r Bil cyn ei gyflwyno, a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r Senedd yn ystod Cyfnod 1.
Penderfynodd y Pwyllgor Cyllid nad oes angen iddyn nhw adrodd ar y Bil yng ngoleuni'r wybodaeth ariannol a ddarparwyd gennym ni, ac mae'r Llywydd wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Cyflwynodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 14 Chwefror a dylai'r Senedd wrth gwrs fod yn ymwybodol o'i gynnwys heddiw. Ar ddiwedd y ddadl hon, gofynnir i chi gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil a'i alluogi i symud ymlaen i Gyfnod 2.
I'm pleased to see that the proposals in the Bill are welcomed by the committee in its report and I'm sure we will hear more from the Chair about some of the evidence received. I've written to the committee on the recommendations it made to Government, and I hope Members will understand if I focus on just a couple of the key points made in that report today.
The Bill codifies and modernises the Senedd's procedures for scrutinising subordinate legislation, and the committee has concluded that the Bill appropriately sets these out and supports the use of labels provided for the core procedures. The recommendations made by the committee on this part of the Bill are for the Business Committee, and we will see whether these are taken forward. If they are then the Government would wish to be involved in that process.
The committee also welcomed the provisions in the Bill on the publication and preservation of Welsh legislation. These provisions now reflect the current practice for Wales, but also formally confer functions on the King's Printer of Acts of Parliament, who is to be referred to as the King's Printer for Wales for that purpose. This is a suitable moment for me to take the opportunity to update Members and confirm that the relevant consent of the UK Government has been received in respect of those sections and Schedule 3 where this was needed.
Deputy Llywydd, turning back to the committee's report, they have recommended that we explain why we have not copied Scotland's arrangements, which involve the formal creation of the Office of the King's Printer for Scotland, despite that person also being in practice the King's Printer of Acts of Parliament. I've written to the committee to again set out my reasons. The Government, the King's Printer and the National Archives are satisfied that there are no practical differences that affect either the process of publishing legislation or access to that legislation. What we have done reflects the reality of the situation, and I am satisfied that the right approach is being taken in this Bill.
In relation to repeals in the Bill there is one particular aspect I would like to bring to the attention of Members. The Open Spaces Society take the view that the Bill should repeal sections 53 to 56 of the Countryside and Rights of Way Act 2000. That repeal was originally proposed in the draft Statute Law (Repeals) (Wales) Bill that we consulted upon in late 2023, but, for reasons I set out in the explanatory memorandum to the Bill, it was not subsequently included in the Bill on introduction. However, circumstances have now changed again and at paragraph 183 of the committee's report Members will see my evidence on this to them. Members will also see that I said I would be mindful to bring forward amendments at Stage 2 to reintroduce the repeal, but expressly said that I would do so only with the committee's support. Although the committee has not expressly stated that it would be content with these amendments, it has also not objected to them, and on that basis I am informing Members today that I intend to bring forward amendments at Stage 2 and the committee may then vote on their inclusion or otherwise. If any Member wishes to speak to me about this approach ahead of the Stage 2 proceedings I'm more than happy to hear from them, and I'm keen to ensure that, where we are repealing legislation, the Senedd is satisfied with the basis on which those repeals are being taken forward.
The committee also considered a couple of matters that are not part of the Bill, but nonetheless part of our legislation making processes. Recommendations 3 and 4 four stem from the committee's concerns about errors in subordinate legislation. Deputy Llywydd, let me be clear: the Government is fully committed to ensuring that legislation is easy to understand and certain in its effect. However, there are occasions when errors do occur. Whenever and however these are identified, the Government carefully considers the nature of the error and its likely impact. In some cases they can be left alone, in some cases a correction slip may be an appropriate remedy, or in others a formal amendment needs to be made. The committee is understandably interested in the timely remedy of these errors. There are a number of factors that determine when amendments are made. Therefore, whilst we do not accept recommendations 3 and 4, we are taking action on this. Before the summer recess the Government will lay an omnibus amending statutory instrument before the Senedd for approval. This will deal with amendments that need to be made to a number of statutory instruments in one go, rather than bringing forward a series of individual correcting instruments, as is the more traditional approach. Once that instrument has been made, I will then consider whether this is an effective and efficient method of addressing any future errors.
The committee has also asked about the impact on the Welsh language of our proposals to move away from the dual column format for the publication of printed and pdf statutory instruments. Our starting point is to improve the accessibility of the legislation in both languages, and is not to the detriment of either. Members will also be very aware of the proactive steps this Government is taking to develop and expand Welsh as the language of the law, and this Bill is one of those steps, of course.
Deputy Llywydd, I'm very aware that this is just a short summary of the Government's response to the committee's report. However, if the Bill does proceed today then it will be subject to further consideration in the Senedd at Stages 2 and 3. In order for that to happen, the Bill will need support from Members to proceed, and I very much hope that the Senedd will agree the general principles of the Bill today. Diolch.
Rwy'n falch o weld bod y cynigion yn y Bil yn cael eu croesawu gan y pwyllgor yn ei adroddiad ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy gan y Cadeirydd am rywfaint o'r dystiolaeth a dderbyniwyd. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor am yr argymhellion a wnaeth i'r Llywodraeth, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n deall os byddaf yn canolbwyntio ar ddim ond dau o'r pwyntiau allweddol a wnaed yn yr adroddiad hwnnw heddiw.
Mae'r Bil yn codio ac yn moderneiddio gweithdrefnau'r Senedd ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, ac mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod y Bil yn nodi'r rhain yn briodol ac yn cefnogi'r defnydd o labeli a ddarperir ar gyfer y gweithdrefnau craidd. Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ar y rhan hon o'r Bil ar gyfer y Pwyllgor Busnes, a byddwn yn gweld a yw'r rhain yn cael eu datblygu. Os ydynt, yna byddai'r Llywodraeth yn dymuno cymryd rhan yn y broses honno.
Croesawodd y pwyllgor hefyd y darpariaethau yn y Bil ar gyhoeddi a chadw deddfwriaeth Cymru. Mae'r darpariaethau hyn bellach yn adlewyrchu'r arfer presennol ar gyfer Cymru, ond maen nhw hefyd yn rhoi swyddogaethau ffurfiol ar Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, y cyfeirir ato fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru at y diben hwnnw. Mae hon yn adeg addas i mi fanteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a chadarnhau bod cydsyniad perthnasol Llywodraeth y DU wedi'i dderbyn mewn perthynas â'r adrannau hynny ac Atodlen 3 lle roedd angen hyn.
Dirprwy Lywydd, gan droi yn ôl at adroddiad y pwyllgor, maen nhw wedi argymell ein bod yn egluro pam nad ydym ni wedi copïo trefniadau'r Alban, sy'n cynnwys creu yn ffurfiol Swyddfa Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban, er bod y person hwnnw hefyd yn ymarferol yn Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor eto i nodi fy rhesymau. Mae'r Llywodraeth, Argraffydd y Brenin a'r Archifau Cenedlaethol yn fodlon nad oes unrhyw wahaniaethau ymarferol sy'n effeithio naill ai ar y broses o gyhoeddi deddfwriaeth na mynediad at y ddeddfwriaeth honno. Mae'r hyn rydym ni wedi'i wneud yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa, ac rwy'n fodlon bod y Bil hwn yn mynd ati yn y ffordd iawn yn hynny o beth.
O ran diddymiadau yn y Bil, mae un agwedd benodol yr hoffwn i ei dwyn i sylw'r Aelodau. Mae'r Gymdeithas Mannau Agored o'r farn y dylai'r Bil ddiddymu adrannau 53 i 56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Cynigiwyd y diddymiad hwnnw'n wreiddiol yn y Bil Cyfraith Statud (Diddymu) (Cymru) drafft yr ymgynghorwyd â ni arno ddiwedd 2023, ond, am resymau a nodais yn y memorandwm esboniadol i'r Bil, ni chafodd ei gynnwys yn y Bil ar ôl ei gyflwyno. Fodd bynnag, mae'r amgylchiadau wedi newid eto ac ym mharagraff 183 o adroddiad y pwyllgor bydd yr Aelodau'n gweld fy nhystiolaeth iddyn nhw ynghylch hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld fy mod wedi dweud y byddwn yn ymwybodol o gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ailgyflwyno'r diddymiad, ond dywedais yn benodol y byddwn yn gwneud hynny dim ond gyda chefnogaeth y pwyllgor. Er nad yw'r pwyllgor wedi datgan yn benodol y byddai'n fodlon â'r gwelliannau hyn, nid yw ychwaith wedi eu gwrthwynebu, ac ar y sail honno rwy'n hysbysu'r Aelodau heddiw fy mod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 ac yna gall y pwyllgor bleidleisio ar eu cynnwys neu fel arall. Os oes unrhyw Aelod yn dymuno siarad â mi am y dull hwn cyn y trafodion yng Nghyfnod 2, rwy'n fwy na pharod i glywed ganddyn nhw, ac rwy'n awyddus i sicrhau, lle rydym ni'n diddymu deddfwriaeth, bod y Senedd yn fodlon â'r sail dros ddatblygu'r diddymiadau hynny.
Bu'r pwyllgor hefyd yn ystyried ychydig o faterion nad ydyn nhw'n rhan o'r Bil, ond sy'n rhan o'n prosesau deddfu serch hynny. Mae argymhellion 3 a 4 yn deillio o bryderon y pwyllgor am wallau mewn is-ddeddfwriaeth. Dirprwy Lywydd, gadewch imi fod yn glir: mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod deddfwriaeth yn hawdd ei deall ac yn sicr yn ei heffaith. Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd camgymeriadau. Pryd bynnag a sut bynnag y sylwir ar y rhain, mae'r Llywodraeth yn ystyried natur y camgymeriad a'i effaith debygol yn ofalus. Mewn rhai achosion gellir eu gadael fel maen nhw, mewn rhai achosion gall slip cywiro fod yn rhwymedi priodol, neu mewn eraill mae angen gwneud gwelliant ffurfiol. Yn ddealladwy, mae ar y pwyllgor eisiau datrys y gwallau hyn mewn modd amserol. Mae yna nifer o ffactorau sy'n penderfynu pryd y gwneir gwelliannau. Felly, er nad ydym yn derbyn argymhellion 3 a 4, rydym yn gweithredu ar hyn. Cyn toriad yr haf bydd y Llywodraeth yn cyflwyno offeryn statudol diwygio omnibws gerbron y Senedd i'w gymeradwyo. Bydd hwn yn ymdrin â gwelliannau y mae angen eu gwneud i nifer o offerynnau statudol ar yr un pryd, yn hytrach na chyflwyno cyfres o offerynnau cywiro unigol, fel y dull mwy traddodiadol. Ar ôl llunio'r offeryn hwnnw, byddaf wedyn yn ystyried a yw hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o fynd i'r afael ag unrhyw wallau yn y dyfodol.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi gofyn am effaith ein cynigion ar y Gymraeg o ran cefnu ar y fformat dwy golofn ar gyfer cyhoeddi offerynnau statudol printiedig a pdf. Ein man cychwyn yw gwella hygyrchedd y ddeddfwriaeth yn y ddwy iaith, ac nid yw'n niweidiol i'r naill beth na'r llall. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r camau rhagweithiol y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i ddatblygu ac ehangu'r Gymraeg fel iaith y gyfraith, ac mae'r Bil hwn yn un o'r camau hynny, wrth gwrs.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn mai crynodeb byr yn unig yw hwn o ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, os bydd y Bil yn mynd rhagddo heddiw yna bydd yn cael ei ystyried ymhellach yn y Senedd yng Nghyfnodau 2 a 3. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen cymorth gan yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r Bil, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw. Diolch.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Before I turn to the committee’s report, I would like on behalf of the committee to thank everyone who contributed to the committee’s consideration of the Bill, and to the Counsel General for sharing the Government’s response ahead of today’s debate.
The overarching aim of this Bill is to improve the accessibility of Welsh law. It seeks to do so in three main ways, as provided by the three parts of the Bill. As a committee, we welcome the broad aims of the Bill and believe that its three main purposes will have a positive impact on the accessibility of Welsh law. We believe that it effectively brings together the main procedures that apply to subordinate legislation, and sets out for the first time the functions for what is to be known as the King’s Printer for Wales. Its repeal provisions will also help ensure the law that is in effect is clear and accessible to all. For these reasons, the committee recommends in its report that the Senedd should agree to the general principles of the Bill.
I will now turn to some of the other recommendations we made in our report. As Members will be aware, more and more often recently the committee has highlighted errors in statutory instruments made by Welsh Ministers. As part of our scrutiny of the Bill, we considered whether it would be possible to require correcting statutory instruments to be made within a set timescale. This would help ensure that defective legislation does not end up sitting on the statute book for longer than it needs to.
While we acknowledge in our report that there may be limitations to what could be inserted into this Bill to enable such a requirement, we recommended that the Welsh Government should consider how provision could be made to require corrections to be made in a timely manner. We also recommended that every 12 months the Government should lay a report before the Senedd setting out the progress it is making towards correcting defective statutory instruments.
I note that the Government does not consider it to be appropriate for provision to either prescribe a timescale or place a general duty to correct statutory instruments in a timely manner, and has set out the reasons for this in its response. However, I acknowledge that the Government has committed to bring forward an omnibus amending instrument and will consider whether this is an effective and efficient method of addressing corrections, and we will also be considering this as a committee.
The committee also explored ways to enable fuller scrutiny of statutory instruments, and as a result made two recommendations to the Business Committee. We recommended that it should consider reviewing the merits of having a sifting committee to determine the level of scrutiny for statutory instruments, and should also consider introducing a procedure to allow for amendable ‘think again’ motions to statutory instruments.
The committee also made recommendations in relation to the Bill’s provisions around a King’s Printer for Wales. Unlike in Scotland, where the King’s Printer for Scotland exists as a separate role in law, the Bill will confer functions on the King’s Printer of Acts of Parliament, who will be known as the King’s Printer for Wales when exercising those functions. While the committee acknowledges in its report that there would be no practical differences in taking this approach, we did however believe that creating a separate role of a King’s Printer for Wales would ensure parity in status with arrangements elsewhere in the UK.
We therefore called on the Welsh Government to explain why the Bill does not mirror the Scottish arrangements in this way, and to set out any assessment of the financial implications of doing so. In response, the Welsh Government has said that it is satisfied that the right approach has been taken in the Bill, and, because it does not believe that the Bill should mirror the arrangements for Scotland, the Government will not be undertaking a financial assessment.
As a general point, the committee also recommended that the Government should conduct a post-legislative review of the Bill. We believe this to be something that should be done for all Bills introduced in the Senedd. The Government has said in its response that it cannot support a review of this Bill itself, because it sees the Bill as a vehicle to amend other legislation. However, it has suggested that the next Government and Senedd may wish to consider whether a review of new Part 2A of the Legislation (Wales) Act 2019, as inserted by this Bill—which restates the scrutiny procedures for subordinate legislation—would be helpful as part of any consideration of future legislative reform.
Before I draw my comments to an end, I would like mention one other matter. In its report, the committee noted the views of the Counsel General and the Llywydd that the consents of a Minister of the Crown were required for this Bill to be within legislative competence. The Counsel General told us in January that the Welsh Government was expecting to receive these consents before the end of Stage 1 of the Bill’s passage through the Senedd. I would therefore welcome any information the Counsel General is able to provide on this matter.
I hope the work the committee has undertaken will help inform Members’ consideration of this Bill today and over the next few months, should it proceed to the amending stages. I also hope that the committee’s report will help contribute to a wider debate about potential future reform to the Senedd’s scrutiny procedures.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi droi at adroddiad y pwyllgor, fe hoffwn i ar ran y pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd at ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil, ac i'r Cwnsler Cyffredinol am rannu ymateb y Llywodraeth cyn y ddadl heddiw.
Nod cyffredinol y Bil hwn yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Mae'n ceisio gwneud hynny mewn tair prif ffordd, fel y darperir gan dair rhan y Bil. Fel pwyllgor, rydym ni'n croesawu amcanion eang y Bil ac yn credu y bydd ei dri phrif bwrpas yn cael effaith gadarnhaol ar hygyrchedd cyfraith Cymru. Credwn ei fod yn dwyn ynghyd y prif weithdrefnau sy'n berthnasol i is-ddeddfwriaeth, ac yn nodi am y tro cyntaf y swyddogaethau ar gyfer yr hyn sydd i'w alw'n Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Bydd ei ddarpariaethau diddymu hefyd yn helpu i sicrhau bod y gyfraith sydd mewn grym yn glir ac yn hygyrch i bawb. Am y rhesymau hyn, mae'r pwyllgor yn argymell yn ei adroddiad y dylai'r Senedd gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil.
Trof yn awr at rai o'r argymhellion eraill a wnaethom ni yn ein hadroddiad. Fel y gŵyr yr Aelodau, yn fwy ac yn fwy aml yn ddiweddar, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at wallau mewn offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru. Fel rhan o'n gwaith craffu ar y Bil, fe wnaethom ni ystyried a fyddai'n bosibl ei gwneud hi'n ofynnol i gywiro offerynnau statudol o fewn amserlen benodol. Byddai hyn yn helpu sicrhau nad yw deddfwriaeth ddiffygiol ar y llyfr statud am fwy o amser nag sydd ei angen.
Er ein bod yn cydnabod yn ein hadroddiad y gallai fod cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei fewnosod yn y Bil hwn i alluogi gofyniad o'r fath, argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwneud darpariaeth i fynnu bod cywiriadau'n cael eu gwneud mewn modd amserol. Argymhellwyd hefyd y dylai'r Llywodraeth gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd bob 12 mis yn nodi'r cynnydd y mae'n ei wneud tuag at gywiro offerynnau statudol diffygiol.
Nodaf nad yw'r Llywodraeth yn ystyried ei bod yn briodol i ddarpariaeth naill ai ragnodi amserlen neu osod dyletswydd gyffredinol i gywiro offerynnau statudol mewn modd amserol, ac mae wedi nodi'r rhesymau dros hyn yn ei hymateb. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno offeryn diwygio omnibws a byddwn yn ystyried a yw hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o fynd i'r afael â chywiriadau, a byddwn hefyd yn ystyried hyn fel pwyllgor.
Archwiliodd y pwyllgor hefyd ffyrdd o alluogi craffu llawnach ar offerynnau statudol, ac o ganlyniad gwnaeth ddau argymhelliad i'r Pwyllgor Busnes. Bu inni argymell y dylai ystyried adolygu rhinweddau cael pwyllgor sifftio i bennu faint o graffu a ddylai fod ar offerynnau statudol, a dylai hefyd ystyried cyflwyno gweithdrefn i ganiatáu cynigion 'meddwl eto' addasadwy i offerynnau statudol.
Gwnaeth y pwyllgor argymhellion hefyd mewn perthynas â darpariaethau'r Bil ynghylch Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Yn wahanol i'r Alban, lle mae Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban yn bodoli fel swyddogaeth ar wahân yn y gyfraith, bydd y Bil yn rhoi swyddogaethau i Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, a fydd yn cael ei adnabod fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru wrth arfer y swyddogaethau hynny. Er bod y pwyllgor yn cydnabod yn ei adroddiad na fyddai unrhyw wahaniaethau ymarferol o ran defnyddio'r dull hwn, roeddem yn credu fodd bynnag y byddai creu swyddogaeth ar wahân i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn sicrhau cydraddoldeb mewn statws â threfniadau mewn mannau eraill yn y DU.
Galwasom felly ar Lywodraeth Cymru i egluro pam nad yw'r Bil yn adlewyrchu trefniadau'r Alban yn hyn o beth, ac i nodi unrhyw asesiad o oblygiadau ariannol gwneud hynny. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn fodlon bod y dull cywir wedi'i fabwysiadu yn y Bil, a, gan nad yw'n credu y dylai'r Bil adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer yr Alban, ni fydd y Llywodraeth yn cynnal asesiad ariannol.
Fel pwynt cyffredinol, argymhellodd y pwyllgor hefyd y dylai'r Llywodraeth gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Bil. Credwn fod hyn yn rhywbeth y dylid ei wneud ar gyfer yr holl Filiau a gyflwynir yn y Senedd. Mae'r Llywodraeth wedi dweud yn ei hymateb na all gefnogi adolygiad o'r Bil hwn ei hun, gan ei bod yn gweld y Bil fel cyfrwng i ddiwygio deddfwriaeth arall. Fodd bynnag, mae wedi awgrymu efallai y bydd y Llywodraeth a'r Senedd nesaf am ystyried a fyddai adolygiad o Ran 2A newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fel y'i mewnosodir gan y Bil hwn—sy'n ailddatgan y gweithdrefnau craffu ar gyfer is-ddeddfwriaeth—yn ddefnyddiol fel rhan o unrhyw ystyriaeth o ddiwygio deddfwriaethol yn y dyfodol.
Cyn i mi ddirwyn fy sylwadau i ben, fe hoffwn i sôn am un mater arall. Yn ei adroddiad, nododd y pwyllgor farn y Cwnsler Cyffredinol a'r Llywydd bod angen cydsyniad Gweinidog y Goron er mwyn i'r Bil hwn fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym ni ym mis Ionawr fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl derbyn y cydsyniadau hyn cyn diwedd Cyfnod 1 hynt y Bil drwy'r Senedd. Felly, byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth y gall y Cwnsler Cyffredinol ei darparu ar y mater hwn.
Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud o gymorth pan fo'r Aelodau yn ystyried y Bil hwn heddiw a thros y misoedd nesaf, pe bai'n symud ymlaen i'r camau diwygio. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd adroddiad y pwyllgor yn helpu i gyfrannu at ddadl ehangach ynghylch diwygio gweithdrefnau craffu'r Senedd yn y dyfodol.
From the outset, I want to make it clear that we on this side of the Chamber support the general principles of this legislation, and we will constructively engage with the Welsh Government during the legislative process. This Bill provides an opportunity to effectively tidy up the law in this area and, as a result, procedures should be clearer and more accessible in the future. As my colleague Mark Isherwood said at the start of this process, there is merit in this Bill in terms of completeness, accessibility and accountability, as it will bring together and formalise the procedural arrangements for making and publishing Welsh subordinate legislation and improve the accessibility of Welsh law.
Now, as we've just heard from the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, the committee has done an excellent job of scrutinising this legislation at Stage 1, and I urge all Members to read their report. The committee has made several important recommendations in that report, which the Counsel General has referred to in her contribution this afternoon. Now, the committee has rightly argued that the Welsh Government should give further consideration to undertaking a post-legislative review of the Bill, and I want to echo that point. I'm a firm believer that all Bills should be subject to a post-implementation review of some kind, and this legislation should be no exception. Now, whilst the Welsh Government has accepted this recommendation in principle, I'm disappointed that the Counsel General does not share the view that the Bill itself will need reviewing at some point in the future. Therefore, I'd be grateful if she could tell us a bit more about the Welsh Government's position on this particular point.
The Bill also seeks to simplify the legislative process by providing labels to the three core scrutiny procedures that can be used in future legislation—again, an objectives that I believe everyone in this Chamber will support. As the Counsel General has said before, this Bill is largely a technical and administrative one, and I share the Legislation, Justice and Constitution Committee's view that the descriptions of these procedures are clear and accurate.
Now, I appreciate that the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee has already referred to this, but I wanted to echo the committee's view on the increasing number of pieces of subordinate legislation that contain defects, and whether there should be some requirement in legislation to ensure that statutory instruments that aim to correct defective legislation are brought forward by Welsh Ministers in a timely manner. I note that the Government has rejected this recommendation. However, I would urge the Counsel General to reconsider the Government's position on this specific matter.
Recommendation 4 of the report calls on the Welsh Government to lay a report before the Senedd every 12 months that sets out the progress being made towards correcting statutory instruments that are considered to be defective. The Welsh Government has accepted in writing this recommendation, but I think that the Counsel General did say earlier that the Government was rejecting it, so perhaps she can just clarify that in her response, when she responds to this debate. And perhaps she could also tell us a little bit more about the omnibus amending instrument that she intends to bring forward to address certain errors in statutory instruments.
Now, there has also been some discussion around the idea of a sifting committee to decide on the extent of scrutiny for individual statutory instruments. The Legislation, Justice and Constitution Committee are right to say that this would be a matter for the Business Committee, and, as a member of that committee, I hope we have the opportunity to consider this at some point before the end of this Senedd. Therefore, whilst this proposal for a sifting committee wouldn't be a matter for this specific piece of legislation, I certainly see merit in the Hansard Society's call for a sifting committee.
Now, in relation to the publication of legislation, I support the provisions in the Bill in respect of the King's Printer for Wales, and I'm pleased that the Welsh Government has now received consent from the UK Government to bring this section of the Bill within competence. The Bill does not provide for the creation of the King's Printer for Wales as a separate role, but I accept the Welsh Government's view that a separate administration is not needed.
Finally, I just want to briefly touch on repeals of Welsh legislation. The Bill brings forward a series of repeals to provisions that are no longer needed, and I very much welcome that. In the case of the Domestic Fire Safety (Wales) Measure 2011, for example, as the Counsel General has already said, building regulations have now superseded the Measure and it's no longer required. It's absolutely right that, therefore, when legislation is superseded by subsequent regulations or, indeed, other primary legislation, it's vital that the necessary repeals take place.
Therefore, Dirprwy Lywydd, in closing, I'd like to reiterate my party's commitment to constructively engage with the Welsh Government on this piece of legislation, and we look forward to the next step in the legislative process. Thank you.
O'r cychwyn cyntaf, rwyf am ei gwneud hi'n glir ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn trafod yn adeiladol â Llywodraeth Cymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle i dacluso'r gyfraith yn effeithiol yn y maes hwn ac, o ganlyniad, dylai'r gweithdrefnau fod yn gliriach ac yn fwy hygyrch yn y dyfodol. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, ar ddechrau'r broses hon, mae rhinweddau i'r Bil hwn o ran cyflawnrwydd, hygyrchedd ac atebolrwydd, gan y bydd yn dwyn ynghyd ac yn ffurfioli'r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer llunio a chyhoeddi is-ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Nawr, fel rydym ni newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'r pwyllgor wedi gwneud gwaith rhagorol o graffu ar y ddeddfwriaeth hon yng Nghyfnod 1, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i ddarllen eu hadroddiad. Mae'r pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad pwysig yn yr adroddiad hwnnw, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio atyn nhw yn ei chyfraniad y prynhawn yma. Nawr, mae'r pwyllgor wedi dadlau'n briodol y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Bil, ac fe hoffwn i adleisio'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu'n gryf y dylai pob Bil fod yn destun adolygiad ôl-weithredu o ryw fath, ac ni ddylai'r ddeddfwriaeth hon fod yn eithriad. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, rwy'n siomedig nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu'r farn y bydd angen adolygu'r Bil ei hun rywbryd yn y dyfodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud ychydig mwy wrthym ni am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y pwynt penodol hwn.
Mae'r Bil hefyd yn ceisio symleiddio'r broses ddeddfwriaethol drwy ddarparu labeli i'r tair gweithdrefn graffu graidd y gellir eu defnyddio mewn deddfwriaeth yn y dyfodol—eto, amcanion y credaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn eu cefnogi. Fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r Bil hwn yn un technegol a gweinyddol i raddau helaeth, ac rwy'n rhannu barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bod y disgrifiadau o'r gweithdrefnau hyn yn glir ac yn gywir.
Nawr, rwy'n sylweddoli bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eisoes wedi cyfeirio at hyn, ond roedd arna i eisiau adleisio barn y pwyllgor ynghylch y nifer cynyddol o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys diffygion, ac a ddylai fod rhyw ofyniad mewn deddfwriaeth i sicrhau bod offerynnau statudol sy'n ceisio cywiro deddfwriaeth ddiffygiol yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru mewn modd amserol. Nodaf fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol i ailystyried safbwynt y Llywodraeth ar y mater penodol hwn.
Mae argymhelliad 4 yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd bob 12 mis sy'n nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gywiro offerynnau statudol yr ystyrir eu bod yn ddiffygiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn ysgrifenedig, ond credaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud yn gynharach bod y Llywodraeth yn ei wrthod, felly efallai y gall egluro hynny yn ei hymateb, pan fydd hi'n ymateb i'r ddadl hon. Ac efallai y gallai hefyd ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr offeryn diwygio omnibws y mae'n bwriadu ei gyflwyno i fynd i'r afael â rhai gwallau mewn offerynnau statudol.
Nawr, bu rhywfaint o drafodaeth hefyd ynghylch y syniad o bwyllgor sifftio i benderfynu ar faint o graffu a ddylai fod ar offerynnau statudol unigol. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn iawn i ddweud y byddai hwn yn fater i'r Pwyllgor Busnes, ac, fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, rwy'n gobeithio y cawn gyfle i ystyried hyn rywbryd cyn diwedd y Senedd hon. Felly, er na fyddai'r cynnig hwn ar gyfer pwyllgor sifftio yn fater i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, rwy'n sicr yn gweld teilyngdod yng ngalwad Cymdeithas Hansard am bwyllgor sifftio.
Nawr, mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth, rwy'n cefnogi'r darpariaethau yn y Bil mewn perthynas ag Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach wedi derbyn cydsyniad gan Lywodraeth y DU i ddod â'r adran hon o'r Bil o fewn cymhwysedd. Nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer creu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru fel swyddogaeth ar wahân, ond rwy'n derbyn barn Llywodraeth Cymru nad oes angen gweinyddiaeth ar wahân.
Yn olaf, fe hoffwn i ddim ond crybwyll yn fyr diddymu deddfwriaeth Cymru. Mae'r Bil yn cyflwyno cyfres o ddiddymiadau i ddarpariaethau nad oes eu hangen mwyach, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Yn achos Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, er enghraifft, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi'i ddweud, mae rheoliadau adeiladu bellach wedi disodli'r Mesur ac nid oes ei angen mwyach. Mae'n gwbl gywir, felly, pan fydd deddfwriaeth yn cael ei disodli gan reoliadau dilynol neu, yn wir, deddfwriaeth sylfaenol arall, mae'n hanfodol y ceir y diddymiadau angenrheidiol.
Felly, Dirprwy Lywydd, wrth gloi, fe hoffwn i ailadrodd ymrwymiad fy mhlaid i drafod yn adeiladol â Llywodraeth Cymru y darn hwn o ddeddfwriaeth, ac edrychwn ymlaen at y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol. Diolch.
Mae yna lawer, wrth gwrs, yn y Bil yma, i'w groesawu, ond hoffwn i, yn yr amser sydd gyda fi, jest canolbwyntio ar y pethau dŷn ni'n gobeithio eu gwella drwy gamau gwahanol y Bil. Yn gyntaf, mae yna gyfeiriad, wrth gwrs, wedi bod at deitl 'Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru', sydd yn cael ei greu gan y Bil yma—teitl a rôl, ond nid swydd, ac mae hynny, dwi'n credu, yn wendid ar hyn o bryd. Roedd pwyllgor materion cyfansoddiadol, dwi'n credu, y Senedd, 10 mlynedd yn ôl, wedi galw am greu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Roedd yna Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru nôl yn y diwygiad Protestannaidd am ychydig ddegawdau, ond dydyn ni ddim wedi cael un ers hynny.
There's much in this Bill to be welcomed but, in the time available to me, I would like to focus on those areas that we hope to improve through the various amending stages of the Bill. First of all, reference has been made to the title of 'King's Printer for Wales', which is created by this Bill. It's a title and a role, but not a job or a function, and I do think that that is a weakness at the moment. The constitutional committee of the Senedd 10 years ago called for the creation of a King's Printer for Wales. There was a King's Printer for Wales back during the Protestant reformation for a few decades, but we haven't had one since then.
Roedd y Llywodraeth ei hunan wedi dod â Bil drafft ymlaen, sef Bil Llywodraeth a Chyfraith Cymru, ryw ddegawd yn ôl, wrth osod mas gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd o ran datganoli. Roedd hynny'n creu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ar wahân, felly, yn gydradd gydag Argraffydd y Brenin sydd wedi bodoli yn achos yr Alban ers 1998. Yn achos Gogledd Iwerddon, 'Argraffydd y Llywodraeth' yw'r enw sy'n cael ei arddel fanna—wedi bodoli ers 100 mlynedd, ers creu Stormont.
Rŷn ni, yn syml iawn, yn credu y dylai Cymru gael ei thrin yn gydradd—mi ddylai fod yna swydd ar wahân yn hytrach na dim ond teitl, ac mae hynny'n dilyn yr arferiad ar draws y byd, a dweud y gwir. Mae pob Senedd yng Nghanada ag argraffydd swyddogol, mae pob deddfwrfa ag argraffydd swyddogol, ac, yn anffodus, ar hyn o bryd, dyw'r Bil yn ei ffurf bresennol ddim yn creu swydd argraffydd penodol i gyd-fynd â'n dyletswyddau deddfwriaethol ni.
Mae'r Bil yn ceisio rhoi mwy o eglurder a hygyrchedd o ran y broses is-ddeddfwriaethol drwy ailenwi'r gwahanol brosesau yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth. Dwi'n credu bod cyfle yn fan hyn i fynd ymhellach a gwella ein gallu ni fel Senedd i graffu ar offerynnau statudol. Mae is-ddeddfwriaeth wedi dod cymaint yn fwy o ran greiddiol o'n democratiaeth ni, ac mae yna wagle o ran atebolrwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddwn ni'n ceisio rhoi gerbron, ar gyfer cefnogaeth Aelodau, dwy ffordd o roi mwy o gyfle i'r Senedd gael dylanwadu ar is-ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd, naill ai derbyn neu wrthod yn unig ydy'r opsiynau sydd gyda ni. Rŷn ni am gynnig dulliau a fydd, er enghraifft, yn rhoi opsiwn i ni wrthod rhannau penodol, ar batrwm yr hyn sydd yn bodoli eisoes yn Awstralia, yn hytrach na'n gorfod dileu'r offeryn statudol cyfan—felly, rhoi'r cyfle i'r Senedd ddiddymu adrannau penodol sy'n peri anhawster tra'n cadw'r diben polisi ehangach.
Y mecanwaith arall y byddwn ni'n ceisio cael cefnogaeth iddo fe yw mecanwaith o ddiwygio amodol, a fydd yn rhoi cyfle i ni ofyn i'r Llywodraeth ddod yn ôl gyda newidiadau ar sail y gwelliant i'r cynnig.
Yn olaf, dŷn ni eisiau mynd i'r afael â'r cwestiwn yma o gywiro. Mae yna Fesur yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd sydd yn cynnig opsiwn o greu ffenest o ryw 40 diwrnod neu 60 diwrnod er mwyn i'r Llywodraeth ddod â fersiwn ddiwygiedig o is-ddeddfwriaeth ymlaen er mwyn gwella unrhyw wallau technegol sydd wedi cael eu hadnabod, achos, yn rhy aml ar hyn o bryd, mae yna wallau'n cael eu hadnabod ond dŷn ni'n gorfod aros yn hir iawn i'r gwallau yna gael eu cywiro.
Felly, dyna'r gwelliannau y byddwn ni'n eu cyflwyno yn ystod y gwahanol gamau, a dŷn ni'n gobeithio ennyn cefnogaeth gan Aelodau a hefyd, gobeithio, gefnogaeth gan y Llywodraeth ei hun.
The Government itself had brought a draft Bill forward, namely the Government and Laws in Wales Bill, about a decade ago, in setting out the Welsh Government's vision in terms of devolution at that point, and that did create a King's Printer for Wales that would be separate, and would have equality with the King's Printer that's existed in the case of Scotland since 1998. And in the case of Northern Ireland, the title used there is the 'Government Printer', and that's existed for a century, since the creation of Stormont.
Quite simply, we believe that Wales should be treated equally, in that there should be a separate role rather than just a separate title, and that follows common practice across the globe. Every Parliament in Canada has an official printer, every legislature has an official printer, and, unfortunately, the Bill in its current form doesn't create a specific office of printer to align with our legislative responsibilities.
The Bill does seek to provide greater clarity and accessibility in terms of the process of making subordinate legislation by renaming the various processes relating to subordinate legislation. I think there's an opportunity here to go further and to improve our ability as a Senedd to scrutinise statutory instruments. Subordinate legislation has become much more a core part of our democracy, and there is a void in terms of accountability at the moment. I do believe that we will be seeking Members' support for two ideas or two ways of providing the Senedd with greater opportunity to influence subordinate legislation. At the moment, we either accept or reject—those are the two options available to us. We want to propose methods that will, for example, provide an option for us to reject specific sections, in line with the pattern followed Australia, rather than having to repeal or reject the whole statutory instrument, so that the Senedd will be able to focus on specific sections that cause difficulties whilst retaining the broader policy objective.
The other mechanism that we will seek support for is the mechanism of conditional amendment, which will provide us with an opportunity to ask the Government to return with amended versions on the basis of an amendment to the proposal.
Finally, we want to tackle this issue of correcting defects or errors. There is a Bill in the House of Lords at the moment that proposes an option of creating a window of some 40 or 60 days so that the Government can bring forward an amended version or a corrected version of subordinate legislation in order to correct any technical errors that have been identified, because, too often at the moment, errors are identified but we have to wait a very long time for those errors to be corrected.
So, those are the amendments that we will table during the amending stages, and we hope to garner support from Members and also, hopefully, support from the Government.
I should say at the outset of my remarks I'm grateful to the Counsel General for the way in which she addressed the issues that the committee put to her earlier this year, and also the way in which she has approached this piece of legislation. It is a piece of technical legislation—I accept that—but these things are important because they're important about how we legislate in this place and how Welsh law becomes accessible to people. We've heard the Law Commission—I think it was in their last report, nearly 10 years ago now—saying that the law in Wales is less accessible than the law available to citizens in any other part of the United Kingdom. Now, we have a Government committed to social justice. Now, there is no social justice to be found if people cannot access the law. The law is there to protect us and to enable us to achieve the rights that we have enacted on our behalf. But if people who administer the law don’t quite understand where the law sits, that is a really serious problem for all of us, no matter where in the Chamber we sit. So, I do believe that we need to look hard at how we legislate. In particular, over recent years, we’ve seen the increasing use of legislative consent motions both by this Government and by the Westminster Government. That means that Welsh law sits in different places. Now, the process, which has been led by this Government over a period of years, of consolidation has been a great innovation and has meant that we are able to make Welsh law more accessible to people. But the use of two Parliaments to routinely legislate for Wales on the same issue is a serious weakness in how we govern in this country, and we do need to look at all of those issues. I recognise that this Bill doesn't exist to do all of that today, but it does have at its heart an objective of increasing the accessibility of Welsh law.
The Counsel General, in her opening remarks, made reference to the legislation committee’s views on the King's Printer and the role of the King's Printer, which Adam Price has just referred to as well. I have to say, I do not understand why the Government is being sticky on this matter, because it appears to me that, whilst we started the process of devolution back in 1998 with very different, asymmetrical models of devolution, the process since then has been towards a more symmetrical framework for devolution. And I think the stability of the United Kingdom is better guaranteed by having very symmetrical models of governance across the whole of the kingdom, rather than having a Welsh fix on an English system. So, I do think that it's something that the Government may wish to consider in Stage 2 or a further amending stage.
Finally, on how we amend statutory instruments, statutory instruments are the way in which the Government has been increasingly legislating. There have been more framework Bills presented by the Welsh Government in this Senedd than either the last Parliament in Westminster or the Scottish Parliament. So, we're seeing more framework Bills passed here than in any other part of the United Kingdom. That means, as a Parliament, we are granting increasing power to the Executive, which can then be exercised in a relatively unchecked way. Now, if we are to exercise any level of scrutiny or a check on the Executive, then we have to increase the powers of this place to do that, and one way of doing that is through amending statutory instruments. The Welsh Government is not supportive of that at the moment, and I can understand why, and I can understand the difficulties of it, but we do need to look at how we legislate. I think it's one of those technical matters that most people prefer not to consider. But if we are passing increasing powers to the Executive without increasing our powers to scrutinise statutory instruments, through which the law we have passed is actually being implemented, then we have less control over the enactment of that law, and that is something that fundamentally weakens this Parliament. So, no matter what the answer to that conundrum is, for me, I would prefer to have far fewer framework Bills and far more detail on the face of the Bill, and Ministers not taking powers they do not require. We do need to look at how we administer and enact statutory instruments to ensure that we do have the powers held here in this Parliament and that we don't simply pass those hard-fought-for powers on to the Executive. Thank you very much.
Fe ddylwn i ddweud ar ddechrau fy sylwadau fy mod yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am y ffordd yr aeth i'r afael â'r materion a ddygodd y pwyllgor i'w sylw yn gynharach eleni, a hefyd y ffordd y mae hi wedi mynd i'r afael â'r ddeddfwriaeth hon. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth dechnegol—rwy'n derbyn hynny—ond mae'r pethau hyn yn bwysig oherwydd eu bod nhw'n bwysig o ran sut rydym ni'n deddfu yn y fan yma a sut mae cyfraith Cymru yn dod yn hygyrch i bobl. Rydym ni wedi clywed Comisiwn y Gyfraith—rwy'n credu ei fod yn eu hadroddiad diwethaf, bron i 10 mlynedd yn ôl nawr—yn dweud bod y gyfraith yng Nghymru yn llai hygyrch na'r gyfraith sydd ar gael i ddinasyddion mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Nawr, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol. Nawr, nid oes cyfiawnder cymdeithasol i'w gael os na all pobl gael mynediad at y gyfraith. Mae'r gyfraith yno i'n diogelu ac i'n galluogi i gyflawni'r hawliau a weithredir ar ein rhan. Ond os nad yw pobl sy'n gweinyddu'r gyfraith yn deall yn iawn union safbwynt y gyfraith, mae honno'n broblem ddifrifol iawn i bob un ohonom ni, ni waeth ble yn y Siambr rydym ni'n eistedd. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut rydym ni'n deddfu. Yn benodol, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld y defnydd cynyddol o gynigion cydsyniad deddfwriaethol gan y Llywodraeth hon a chan Lywodraeth San Steffan. Mae hynny'n golygu bod cyfraith Cymru mewn gwahanol leoedd. Nawr, mae'r broses, sydd wedi cael ei harwain gan y Llywodraeth hon dros gyfnod o flynyddoedd, wedi arloesi'n wych ac mae wedi golygu ein bod yn gallu gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch i bobl. Ond mae'r defnydd o ddwy Senedd i ddeddfu fel mater o drefn i Gymru ar yr un mater yn wendid difrifol yn y ffordd rydym ni'n llywodraethu yn y wlad hon, ac mae angen i ni ystyried yr holl faterion hynny. Rwy'n cydnabod nad yw'r Bil hwn yn bodoli i wneud hynny i gyd heddiw, ond mae ganddo amcan wrth ei wraidd sef gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.
Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei sylwadau agoriadol, at farn y pwyllgor deddfwriaeth ar Argraffydd y Brenin a swyddogaeth Argraffydd y Brenin, y cyfeiriodd Adam Price ato gynnau hefyd. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn deall pam y mae'r Llywodraeth yn hwyrfrydig ynghylch y mater hwn, oherwydd mae'n ymddangos i mi, er i ni ddechrau'r broses o ddatganoli yn ôl ym 1998 gyda modelau anghymesur gwahanol iawn o ddatganoli, mae'r broses ers hynny wedi bod tuag at fframwaith mwy cymesur ar gyfer datganoli. Ac rwy'n credu bod sefydlogrwydd y Deyrnas Unedig yn fwy sicr trwy gael modelau llywodraethu cymesur iawn ar draws y deyrnas gyfan, yn hytrach na chael gogwydd Cymreig ar system Seisnig. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallai'r Llywodraeth dymuno ei ystyried yng Nghyfnod 2 neu gam diwygio pellach.
Yn olaf, o ran sut rydym yn diwygio offerynnau statudol, offerynnau statudol yw'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi bod yn deddfu fwyfwy. Cafwyd mwy o Filiau fframwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd hon na naill ai'r Senedd ddiwethaf yn San Steffan neu Senedd yr Alban. Felly, rydym yn gweld mwy o Filiau fframwaith yn cael eu pasio yma nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae hynny'n golygu, fel Senedd, ein bod yn rhoi pŵer cynyddol i'r Weithrediaeth, y gellir ei arfer wedyn mewn ffordd gymharol ddi-reolaeth. Nawr, os ydym ni am graffu ar y Weithrediaeth, neu ei gwirio hi mewn unrhyw fodd, yna mae'n rhaid i ni gynyddu pwerau'r lle hwn i wneud hynny, ac un ffordd o wneud hynny yw trwy ddiwygio offerynnau statudol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny ar hyn o bryd, a gallaf ddeall pam, a gallaf ddeall yr anawsterau hynny, ond mae angen i ni ystyried sut rydym ni'n deddfu. Rwy'n credu ei fod yn un o'r materion technegol hynny y mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl beidio â'u hystyried. Ond os ydym ni'n pasio pwerau cynyddol i'r Weithrediaeth heb gynyddu ein pwerau i graffu ar offerynnau statudol, y mae'r gyfraith rydym ni wedi'i phasio yn cael ei gweithredu drwyddi mewn gwirionedd, yna mae gennym ni lai o reolaeth dros ddeddfu'r gyfraith honno, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gwanhau'r Senedd hon yn sylfaenol. Felly, ni waeth beth yw'r ateb i'r cyfyng gyngor hwnnw, i mi, byddai'n well gennyf gael llawer llai o Filiau fframwaith a llawer mwy o fanylion ar wyneb y Bil, a Gweinidogion ddim yn cymryd pwerau nad oes eu hangen arnyn nhw. Mae angen i ni ystyried sut rydym ni'n gweinyddu ac yn deddfu offerynnau statudol i sicrhau bod gennym y pwerau yma yn y Senedd hon ac nad ydym yn syml yn pasio'r pwerau hynny a frwydrwyd mor galed i'w cael i'r Weithrediaeth. Diolch yn fawr iawn.
Cwnsler Cyffredinol, I hope you don't take offence when I say that this might not be the most exciting of Bills, albeit Adam Price and Alun Davies have made a valiant effort to try and muster excitement surrounding the King's Printer for Wales and subordinate legislation. But what this legislation does do is tidy, it solves technical problems, it tidies up the statute book, it provides formal recognition for Welsh law and makes the publication more logical. I'm pleased that the legislation codifies how secondary legislation is scrutinised. It will make it far easier for people to understand the process, rather than just knowing what's slowly developed over the years.
Now, as Alun Davies mentioned, we all agree that good scrutiny leads to better legislation. How do you foresee the three new procedures will improve how secondary legislation is scrutinised, would give that greater opportunity for this Senedd to scrutinise secondary legislation, because they can be very important indeed? It was secondary legislation that enforced COVID lockdowns, for example. They can be life-changing. Therefore, there needs to be that opportunity to properly scrutinise them. Do you also believe that giving formal recognition to Welsh statutory instruments would lead to a greater number of them being published bilingually, which we aren't seeing at the moment?
I'm sure that we all here want to see a situation where legal aid and legal representation is available for everyone who needs it. However, that is not the situation, and it's unlikely to change any time soon. The law is complicated, very complicated, even for lawyers, let alone those unrepresented. And any work done by the Welsh Government to make the law more accessible can only be commended. I think I admitted to you before, Cwnsler Cyffredinol, how I was caught out around 15 years ago for relying on legislation published on the legislation.gov website that had been previously repealed many years beforehand. It just shows the complication, and just shows how we need to make it far more accessible.
As we are a fairly new legislature here in Wales, it is far easier for us to remove repealed Acts and to tidy up Acts than it is in England with the English statute book. How often do you foresee, Cwnsler Cyffredinol, that we'll see a repeal Act here in the Senedd, because I believe in Westminster they haven't seen a repeal Act in over 12 years?
I do think it's a shame that—. When Mick Antoniw was Cwnsler Cyffredinol, he mentioned publishing legislation in Welsh and in English side by side. I know there can be some developments in technology that will make the fact that we don't publish it side by side necessary, but I'm just concerned that not having the Welsh language side by side with the English language will make it far easier for the Welsh language to be ignored. How will you ensure that isn't the case?
And will you ensure that when the legislation is published that it is as accessible and as understandable to as many people as possible, especially those who are unrepresented and who are in a very vulnerable situation? Diolch yn fawr.
Cwnsler Cyffredinol, rwy'n gobeithio na fyddwch yn digio pan ddywedaf nad hwn yw'r Bil mwyaf cyffrous o bosibl, er bod Adam Price ac Alun Davies wedi gwneud ymdrech lew i geisio'n cyffroi ynghylch Argraffydd y Brenin ar gyfer Gymru ac is-ddeddfwriaeth. Ond mae'r hyn a wna'r ddeddfwriaeth hon yw tacluso, mae'n datrys problemau technegol, mae'n tacluso'r llyfr statud, mae'n rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i gyfraith Cymru ac yn gwneud y cyhoeddiad yn fwy rhesymegol. Rwy'n falch bod y ddeddfwriaeth yn codio sut y creffir ar is-ddeddfwriaeth. Bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ddeall y broses, yn hytrach na dim ond gwybod beth sydd wedi datblygu'n araf dros y blynyddoedd.
Nawr, fel y soniodd Alun Davies, rydym ni i gyd yn cytuno bod craffu da yn arwain at ddeddfwriaeth well. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y tair gweithdrefn newydd yn gwella sut y creffir ar is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n rhoi mwy o gyfle i'r Senedd hon graffu ar ddeddfwriaeth eilaidd, oherwydd gallant fod yn bwysig iawn yn wir? Deddfwriaeth eilaidd oedd yn gorfodi cyfnodau cyfyngiadau symud COVID, er enghraifft. Gallant newid bywydau. Felly, mae angen cael y cyfle hwnnw i graffu arnyn nhw'n iawn. Ydych chi hefyd yn credu y byddai rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i offerynnau statudol Cymru yn arwain at gyhoeddi nifer fwy ohonyn nhw yn ddwyieithog, nad ydym ni yn eu gweld ar hyn o bryd? Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yma eisiau gweld sefyllfa lle mae cymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gael i bawb sydd ei angen.
Fodd bynnag, nid dyna'r sefyllfa, ac mae'n annhebygol o newid unrhyw bryd yn fuan. Mae'r gyfraith yn gymhleth, yn gymhleth iawn, hyd yn oed ar gyfer cyfreithwyr, heb sôn am y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli. Ac ni ellir ond canmol unrhyw waith a wneir gan Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Rwy'n credu imi gyfaddef i chi o'r blaen, Cwnsler Cyffredinol, sut y cefais dro trwstan tua 15 mlynedd yn ôl am ddibynnu ar ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd ar wefan legislation.gov a oedd wedi cael ei ddiddymu flynyddoedd lawer ynghynt. Mae'n dangos y cymhlethdod, ac mae'n dangos sut mae angen i ni ei gwneud yn llawer mwy hygyrch.
Gan ein bod yn ddeddfwrfa weddol newydd yma yng Nghymru, mae'n llawer haws i ni ddileu Deddfau a ddiddymwyd a thacluso Deddfau nag ydyw yn Lloegr gyda'r llyfr statud Seisnig. Pa mor aml ydych chi'n rhagweld, Cwnsler Cyffredinol, y byddwn ni'n gweld Deddf ddiddymu yma yn y Senedd, oherwydd rwy'n credu yn San Steffan nad ydyn nhw wedi gweld Deddf ddiddymu ers dros 12 mlynedd?
Rwy'n credu ei bod hi'n drueni bod—. Pan oedd Mick Antoniw yn Gwnsler Cyffredinol, soniodd am gyhoeddi deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ochr yn ochr. Rwy'n gwybod y gall fod rhai datblygiadau mewn technoleg a fydd yn gwneud y ffaith nad ydym yn ei chyhoeddi ochr yn ochr yn angenrheidiol, ond rwy'n pryderu y bydd peidio â chael y Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg yn ei gwneud hi'n llawer haws anwybyddu'r Gymraeg. Sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd hynny'n digwydd?
A wnewch chi sicrhau, pan gyhoeddir y ddeddfwriaeth, ei bod hi mor hygyrch a dealladwy i gynifer o bobl â phosibl, yn enwedig y rhai sydd heb gynrychiolaeth ac sydd mewn sefyllfa fregus iawn? Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
I call on the Counsel General to reply to the debate.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'm very grateful to Members who spoke and will briefly respond to some of the points raised. I want to start by saying that I'm deeply distressed that you don't think this is an exciting Bill, Rhys. [Laughter.] I think it's a very exciting Bill, for this reason: for those of us who are parliamentarians at heart, actually having the right processes in place, processes that have the right names, that are easily accessible, that are understood by normal people, if you like, who are not perhaps as occupied every day with the doings of this place, is actually very important, and it's actually quite exciting to make sure that people can understand our processes without needing to refer to a thesaurus of some sort. I really do think the Bill does do that, and I'm grateful to Paul and Mike and others who have acknowledged that, because I think they just use the plain names in both languages for describing the procedure. So, I do think that it's an important Bill for that point, if no other.
I just want to address a couple of the points. I just want to confirm that we have all of the Crown consents that we require, so the Bill is good to go from that point of view. On the issue around a post-legislative review, our view is pretty straightforward: the Bill changes the processes and then its job is done. So, in effect, it won't have any effect after that. There is one insert into a previous Act that we do think should be subject to the legislative review, though, and we have responded in that way to the committee. So, it's just a very straightforward fact that, once we've changed the names of the processes and put that in place, its job is done. There is an annual review, though, of where we are on the accessibility of the law, and we can of course include anything that comes out of this Bill in that annual review. But, after the first year, it will have done its job. So, I think that's a pretty straightforward point of view from there.
On the timely correction of errors in statutory instruments, which I think everybody, pretty much, raised, I don't think that timeliness is the only factor that we need to consider. I would remind Members that errors can be identified at any point, not only by the committee when an SI is first made. They are actually often identified later on, and we have some litigation going on at the moment about errors in SIs that were identified long after implementation. So, there are other factors at play here. So, rather than amend the Bill, I want to take action to remedy the errors themselves and, as I said earlier, the Government will lay an omnibus amending SI before the summer recess to deal with a number of errors that need to be addressed at the moment. We can then look at the effectiveness of that. I know that the committee wants to look at the effectiveness of that as well, and I know that the Business Committee wants to. And if that works, then we would look to schedule that once a year, and that would solve the repeal problem as well, because we could do an omnibus Bill that tidied up the law, if you like. So, I very much hope it does work and I would very much want to recommend that. Indeed, I had a conversation with the Business Committee only this morning, was it? My days seamlessly blend into one. I think it was this morning, where we discussed with the Business Committee a series of things that we want to do about different types of legislation and how to deal with them, and that was one of the types of legislation under discussion.
On the sifting point, that's not a matter for the Government, that's a matter for the Business Committee, but I would just want to point out to Members that it is currently open to any committee to consider subordinate legislation laid before the Senedd, although it's rarely done in practice. I don't think it has been done in this Senedd or the one before. I'm also very conscious that Members are very frequently calling for the affirmative procedure, as its called at the moment, to be put into Bills as they pass through the committees, but actually when those are debated here in the Senedd, it's very commonly only the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee that actually contributes. So, I do think that a committee that looked at the actual merit of the SI and its content is not a bad idea, but it's not a matter for the Government, it's a matter for the Business Committee to take forward.
I just want to say that, from my point of view, the Government is not against amending SIs at all; it's about the process by which that's done and doing it in a timely way, as part of the passage of the SI in the first place. And, again, I think that that's a matter for the Business Committee to understand how that process might happen. [Interruption.] Yes, certainly.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau a siaradodd ac fe wnaf i ymateb yn fyr i rai o'r pwyntiau a godwyd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddweud fy mod yn ofidus iawn nad ydych chi'n credu bod hwn yn Fil cyffrous, Rhys. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei fod yn Fil cyffrous iawn, am y rheswm yma: i'r rhai ohonom ni sy'n seneddwyr yn y bôn, mae bod â'r prosesau cywir ar waith, prosesau sydd â'r enwau cywir, sy'n hygyrch, sy'n ddealladwy i bobl arferol, os mynnwch chi, nad ydyn nhw efallai wedi ymgolli bob dydd â gweithredoedd y fan yma, mae hi mewn gwirionedd yn bwysig iawn, ac mae hi mewn gwirionedd yn eithaf cyffrous sicrhau y gall pobl ddeall ein prosesau heb fod angen cyfeirio at thesawrws o ryw fath. Rwyf wir yn credu bod y Bil yn gwneud hynny, ac rwy'n ddiolchgar i Paul a Mike ac eraill sydd wedi cydnabod hynny, oherwydd rwy'n credu eu bod yn defnyddio'r enwau plaen yn y ddwy iaith ar gyfer disgrifio'r weithdrefn. Felly, rwy'n credu ei fod yn Fil pwysig yn hynny o beth, os nad am unrhyw reswm arall.
Fe hoffwn i ddim ond mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau. Fe hoffwn i gadarnhau bod gennym ni holl gydsyniadau'r Goron sydd eu hangen arnom ni, felly mae'r Bil yn barod yn hynny o beth. O ran mater adolygiad ôl-ddeddfwriaethol, mae ein barn yn eithaf syml: mae'r Bil yn newid y prosesau ac yna mae ei waith wedi ei wneud. Felly, mewn gwirionedd, ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae un mewnosodiad mewn Deddf flaenorol y credwn y dylai ddod o fewn cwmpas yr adolygiad deddfwriaethol, ac rydym ni wedi ymateb i'r pwyllgor i'r perwyl hwnnw. Felly, mae'n ffaith syml iawn, unwaith y byddwn ni wedi newid enwau'r prosesau ac wedi rhoi hynny ar waith, mae ei waith wedi ei wneud. Mae adolygiad blynyddol, serch hynny, o ble rydym ni arni o ran hygyrchedd y gyfraith, ac fe allwn ni wrth gwrs gynnwys unrhyw beth sy'n tarddu o'r Bil hwn yn yr adolygiad blynyddol hwnnw. Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd wedi gwneud ei waith. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n safbwynt eithaf syml o'r fan honno.
O ran cywiro gwallau mewn offerynnau statudol yn amserol, y credaf a grybwyllwyd gan bawb, bron, nid wyf yn credu mai amseroldeb yw'r unig ffactor y mae angen i ni ei ystyried. Byddwn yn atgoffa'r Aelodau y gellir nodi gwallau ar unrhyw adeg, nid yn unig gan y pwyllgor pan wneir offeryn statudol am y tro cyntaf. Maen nhw'n aml yn cael eu nodi yn nes ymlaen, ac mae gennym ni rywfaint o ymgyfreitha yn mynd rhagddo ar hyn o bryd am wallau mewn offerynnau statudol a ganfuwyd ymhell ar ôl eu gweithredu. Felly, mae ffactorau eraill ar waith yma. Felly, yn hytrach na diwygio'r Bil, rwyf am gymryd camau i unioni'r gwallau eu hunain ac, fel y dywedais yn gynharach, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno offeryn statudol diwygio omnibws cyn toriad yr haf i ymdrin â nifer o wallau y mae angen mynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd. Yna fe allwn ni edrych ar effeithiolrwydd hynny. Rwy'n gwybod bod ar y pwyllgor eisiau edrych ar effeithiolrwydd hynny hefyd, ac fe wn i fod y Pwyllgor Busnes am wneud hynny. Ac os yw hynny'n gweithio, yna byddem yn bwriadu trefnu hynny unwaith y flwyddyn, a byddai hynny'n datrys y broblem ddiddymu hefyd, oherwydd fe allem ni wneud Bil omnibws a daclusai'r gyfraith, os mynnwch chi. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn gweithio ac fe hoffwn i argymell hynny'n fawr. Yn wir, cefais sgwrs gyda'r Pwyllgor Busnes dim ond y bore yma, oedd e? Mae fy nyddiau'n rhedeg yn ddi-dor yn un. Rwy'n credu mai'r bore yma oedd hi, lle buom yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes gyfres o bethau mae arnom ni eisiau eu gwneud am wahanol fathau o ddeddfwriaeth a sut i ymdrin â nhw, a dyna oedd un o'r mathau o ddeddfwriaeth dan sylw.
O ran y pwynt sifftio, nid mater i'r Llywodraeth yw hynny, mater i'r Pwyllgor Busnes yw hynny, ond fe hoffwn i ddim ond tynnu sylw'r Aelodau bod modd i unrhyw bwyllgor ar hyn o bryd ystyried is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gerbron y Senedd, er mai anaml y gwneir hynny yn ymarferol. Nid wyf yn credu ei fod wedi'i wneud yn y Senedd hon na'r un o'r blaen. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod yr Aelodau'n aml iawn yn galw am y weithdrefn gadarnhaol, fel y'i gelwir ar hyn o bryd, mewn Biliau wrth iddyn nhw basio drwy'r pwyllgorau, ond mewn gwirionedd pan drafodir y rheini yma yn y Senedd, dim ond Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sy'n cyfrannu mewn gwirionedd. Felly, rwyf yn credu nad yw pwyllgor a edrychai ar rinweddau gwirioneddol yr offeryn statudol a'i gynnwys yn syniad gwael, ond nid mater i'r Llywodraeth mohono, mater i'r Pwyllgor Busnes yw bwrw ymlaen â hynny.
Fe hoffwn i ddweud, o fy safbwynt i, nad yw'r Llywodraeth yn erbyn diwygio offerynnau statudol o gwbl; mae'n ymwneud â'r broses o wneud hynny a gwneud mewn modd amserol, fel rhan o hynt yr offeryn statudol yn y lle cyntaf. Ac unwaith eto, credaf mai mater i'r Pwyllgor Busnes yw hynny i ddeall sut y gallai'r broses honno ddigwydd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs.
Can I say how much I very much welcome that remark and your confirmation there that the Government would not object to amending SIs? Would the Government therefore be willing to enter into a conversation about how that is done? Because it might well be that, during the passage of this legislation, we have the opportunity to actually change the way that we do things, and I think that that is something that would benefit everybody.
A gaf i ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r sylw yna a'ch cadarnhad yn y fan yna na fyddai'r Llywodraeth yn gwrthwynebu diwygio offerynnau? A fyddai'r Llywodraeth felly yn barod i ddechrau sgwrs ynghylch sut mae hynny'n cael ei wneud? Oherwydd mae'n ddigon posibl y cawn ni gyfle i newid y ffordd rydym ni'n gwneud pethau, yn ystod hynt y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai o fudd i bawb.
Yes, Alun, I'm very happy to agree that. It's one of the things that we have discussed as part of the Business Committee discussion as well. And just to say that it would be part of the process of deciding which committee should look at a particular statutory instrument and what process it should follow to do that. And then just to say, I don't entirely agree with what you said about framework Bills, you'll be unsurprised to find, but nevertheless, sometimes it is very appropriate for quite a large part of policy to be put into a statutory instrument because it might change on a very rapid basis, and you don't want to have to repeal primary legislation on an ongoing basis. So, the Infrastructure (Wales) Act 2024 is a very good example of that. The big SIs being brought forward by my colleague Rebecca Evans have a lot of policy in them, necessarily, because they are to do with the way that companies might apply for infrastructure consent, for example. At the moment, they would all be referred to the LJC committee and a subject committee. I think that is something that the Business Committee could take on board. And I just remind Members that any committee can call an SI in to look at it, but it's not regularly done. So, I think there are other processes that we could take advantage of right now without having to put additional in place—I just wanted to make that point.
And then there are only two other points, quickly, I wanted to have a look at. On the dual column format, which Rhys ab Owen mentioned, we're in discussion with the King's Printer about this. We want to understand what recent research may be able to tell us about user behaviours and what the viable options for change are. The only formal assessment of impact we've been able to undertake at the moment is just the cost of the typesetting and the costs of producing the Bill in that dual format, but these are set out in the explanatory memorandum to the Bill and we will be keeping a close eye on that. The idea is absolutely to make sure that the Welsh legislation has equal force and is equally accessible, just to be really plain.
And then on the matter of the King's Printer, the Government has taken the view that we are simply reflecting the reality. This is a single person, in fact, and they act in different roles: they act as the King's Printer for Scotland, they act as the King's Printer for England or the UK, and they act as the King's Printer for Wales. I take the point that Adam was making, but in reality, it is actually one person—it's one job. So, I think we're just reflecting the reality of the situation. I'm open to a discussion about the way that looks, but we're just reflecting the reality of the situation as we find ourselves today. So, I think we're sticking with that for the moment, but I'm happy to engage in a conversation about that. Diolch.
Ydw, Alun, rwy'n hapus iawn i gytuno ar hynny. Mae'n un o'r pethau rydym ni wedi ei drafod yn rhan o drafodaeth y Pwyllgor Busnes hefyd. A dim ond i ddweud y byddai'n rhan o'r broses o benderfynu pa bwyllgor ddylai edrych ar offeryn statudol penodol a pha broses y dylai ei dilyn i wneud hynny. Ac yna dim ond i ddweud, nid wyf yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi am Filiau fframwaith, ni fyddwch yn synnu, ond serch hynny, weithiau mae'n briodol iawn rhoi rhan eithaf mawr o bolisi mewn offeryn statudol oherwydd gallai newid yn gyflym iawn, a does arnoch chi ddim eisiau gorfod diddymu deddfwriaeth sylfaenol yn barhaus. Felly, mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn enghraifft dda iawn o hynny. Mae gan yr offerynnau statudol mawr sy'n cael eu cyflwyno gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, lawer o bolisi ynddyn nhw, o reidrwydd, oherwydd eu bod yn ymwneud â'r ffordd y gallai cwmnïau wneud cais am gydsyniad isadeiledd, er enghraifft. Ar hyn o bryd, byddent i gyd yn cael eu cyfeirio at Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a phwyllgor pwnc. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Busnes ei ystyried. Ac rwy'n atgoffa'r Aelodau y gall unrhyw bwyllgor alw am edrych ar offeryn statudol, ond nid yw'n cael ei wneud yn rheolaidd. Felly, rwy'n credu bod prosesau eraill y gallem ni fanteisio arnyn nhw ar hyn o bryd heb orfod rhoi rhai ychwanegol ar waith—dim ond eisiau gwneud y pwynt hwnnw oeddwn i.
Ac yna dim ond dau bwynt arall, yn gyflym, roedd arna i eisiau edrych arnyn nhw. O ran y fformat dwy golofn, a grybwyllwyd gan Rhys ab Owen, rydym yn trafod hyn gydag Argraffydd y Brenin. Mae arnom ni eisiau deall beth allai ymchwil ddiweddar ei ddweud wrthym ni am arferion defnyddwyr a beth yw'r dewisiadau ymarferol ar gyfer newid. Yr unig asesiad ffurfiol o'r effaith yr ydym ni wedi gallu ymgymryd ag ef ar hyn o bryd yw cost y cysodi a chostau cynhyrchu'r Bil yn y fformat dwy golofn hwnnw, ond nodir y rhain yn y memorandwm esboniadol i'r Bil a byddwn yn cadw llygad barcud ar hynny. Y syniad yn wir yw sicrhau bod gan ddeddfwriaeth Gymraeg rym cyfartal a'i bod yr un mor hygyrch, i fod yn gwbl glir.
Ac yna ar fater Argraffydd y Brenin, mae'r Llywodraeth o'r farn ein bod yn adlewyrchu'r realiti. Mae hwn yn berson unigol, mewn gwirionedd, ac maen nhw'n gweithredu mewn gwahanol swyddogaethau: maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban, maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Lloegr neu'r DU, ac maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Rwy'n derbyn y pwynt roedd Adam yn ei wneud, ond mewn gwirionedd, un person yw e mewn gwirionedd—mae'n un swydd. Felly, rwy'n credu nad ydym ni ond yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa. Rwy'n agored i drafodaeth am y ffordd y mae hynny'n edrych, ond rydym ni'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa fel y mae hi heddiw. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n cadw at hynny am y tro, ond rwy'n hapus i gymryd rhan mewn sgwrs am hynny. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ac mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio.
And that brings us to voting time.
I see that we have a full house, so I won't ask if you wish to ring the bell.
Rwy'n gweld bod gennym ni dŷ llawn, felly wnaf i ddim gofyn a ydych chi am ganu'r gloch.
Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 4: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
The first vote is on item 4: the Non-Domestic Rating (Withdrawal of Charitable Relief for Independent Schools) (Wales) Regulations 2025. And I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 42, no abstentions, 16 against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 4. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025: O blaid: 42, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Item 4. The Non-Domestic Rating (Withdrawal of Charitable Relief for Independent Schools) (Wales) Regulations 2025: For: 42, Against: 16, Abstain: 0
Motion has been agreed
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 6: cyllideb derfynol 2025-26. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 1 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
The next vote is on item 6: the debate on the final budget 2025-26. I call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 29, 1 abstention, 28 against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2025-26: O blaid: 29, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Item 6. Debate: The Final Budget 2025-26: For: 29, Against: 28, Abstain: 1
Motion has been agreed
Nesaf yw'r bleidlais ar eitem 7: setliad llywodraeth leol 2025-26. Byddwn yn pleidleisio yn gyntaf ar y gwelliant i'r cynnig. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 1 yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
The next vote is the vote on item 7: the local government settlement for 2025-26. We will vote first on the amendment to the motion. I call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 28, 1 abstention, 29 against. Therefore, the amendment is not agreed.
Eitem 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2025-26. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 28, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 7. Debate: The Local Government Settlement 2025-26. Amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 28, Against: 29, Abstain: 1
Amendment has been rejected
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 13 yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
I call for a vote now on the motion, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 29, 13 abstentions, 16 against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2025-26: O blaid: 29, Yn erbyn: 16, Ymatal: 13
Derbyniwyd y cynnig
Item 7. Debate: The Local Government Settlement 2025-26: For: 29, Against: 16, Abstain: 13
Motion has been agreed
Y nesaf yw eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2025-26. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 17 yn ymatal, 29 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Next, we come to item 8, a debate on the police settlement for 2025-26. And I call for a vote on amendment 1 tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 12, 17 abstentions, 29 against, therefore amendment 1 is not agreed.
Eitem 8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2025-26. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 29, Ymatal: 17
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 8. Debate: The Police Settlement 2025-26. Amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 12, Against: 29, Abstain: 17
Amendment has been rejected
A galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, 13 yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
And I now call for a vote on the motion tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 45, 13 abstentions, none against, therefore the motion is agreed.
Eitem 8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2025-26. Cynnig: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13
Derbyniwyd y cynnig
Item 8. Debate: The Police Settlement 2025-26. Motion: For: 45, Against: 0, Abstain: 13
Motion has been agreed
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.
And that brings today's proceedings to a close. Thank you very much.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.
The meeting ended at 18:46.