Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/11/2024

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.

Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar fetro bae Abertawe a gorllewin Cymru? OQ61825

Diolch yn fawr. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynlluniau ar gyfer hyd at saith gorsaf reilffordd newydd ar gyfer ardal drefol bae Abertawe, ac mae'r rhain yn rhan o'n cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-orllewin, a fydd yn cael eu llunio gan y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Diolch am yr ateb yna. Mae metro bae Abertawe a gorllewin Cymru wedi cael cryn dipyn yn llai o sylw yn y Senedd ac yn y cyfryngau na metro dinas-ranbarth Caerdydd a metro gogledd Cymru. Mae trafnidiaeth yr un mor bwysig i ddinas-ranbarth Abertawe ag unrhyw le arall yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi amlinelliad o'r cynllun cyfredol ar gyfer metro rhanbarth dinas Abertawe a gorllewin Cymru? A all gynnwys y gorsafoedd rheilffordd, adrannau cyfnewid bysiau, a lle gellir cydgysylltu bysiau a threnau i gynorthwyo symudiad teithwyr? Yn fy etholaeth i, mae gen i orsaf reilffordd—yr unig orsaf reilffordd Trafnidiaeth Cymru—ac mae'r bws yn stopio tua chwarter milltir i ffwrdd, sy'n iawn yn yr haf, ond ddim cystal pan fo'n bwrw glaw. A all hefyd gynnwys rhaglen waith i nodi pryd y bwriedir cychwyn a chwblhau pob cam? Eto, rwy'n ail-bwysleisio bod y cynllun hwn yn bwysig iawn i'r ardal yr wyf i'n ei chynrychioli, ac, a gaf i ddweud, i'r ardal yr ydych chi'n ei chynrychioli, Prif Weinidog.

Wel, diolch yn fawr iawn, Mike, a dim ond i ddweud fy mod i'n meddwl eich bod chi'n iawn—nid wyf i'n meddwl bod y metro yn Abertawe yn cael yn agos at gymaint o sylw â metro de Cymru, ac yn sicr fe ddylai. Felly, diolch am dynnu ein sylw at hynny. Y newyddion da yw bod yr ardal hon wedi cael ei dewis fel yr ardal gyntaf i weithredu masnachfreinio bysiau, wrth ddisgwyl i bwerau masnachfreinio bysiau gael eu mabwysiadu. A gadewch i ni beidio ag anghofio, pan fyddwn ni'n sôn am y metro, rydym ni'n sôn am drenau a bysiau, ac mae'n bwysig iawn. Ond, fel y soniais, mae'n gyffrous iawn bod cynllun yn cael ei ddatblygu, eu bod nhw'n mynd i wella'r cysylltiadau rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn, gan gynnwys gorsaf newydd yn y Cocyd. Mae hefyd yn cynnwys cyswllt rheilffordd newydd rhwng Abertawe a Phontarddulais, ac o bosibl gorsafoedd newydd ym Mhont-lliw, Felindre, Treforys, Llandarcy, Winch Wen a Glandŵr. Felly, mae hynny i gyd yn gyffrous, ond, yn amlwg, mae'n rhaid i'r arian ddod o'r Deyrnas Unedig gan mai nhw sy'n gyfrifol am y mathau hyn o gronfeydd strwythurol. Felly, yn amlwg, rydym ni'n cael sgwrs a thrafodaeth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu achos busnes amlinellol ar gyfer y gorsafoedd rheilffordd arfaethedig hynny. Fe wnaethoch chi ofyn llawer o gwestiynau manwl eraill; mae'n debyg y byddai orau os byddwn ni'n cael briff priodol i chi ar y rheini.

Mae Mike yn iawn—nid wyf i'n meddwl ein bod ni'n siarad digon am botensial trawsnewidiol prosiect metro bae Abertawe a gorllewin Cymru. Nawr, yn amlwg, wrth i ranbarth metro de Cymru ddechrau datblygu, a'n bod ni'n dechrau gweld prosiectau yn ymddangos ar y grid—yn ymddangos ar y cledrau, os mynnwch—mae'n debyg y bydd pobl yn edrych yn rhanbarth bae Abertawe â rhywfaint o genfigen ar y prosiectau hynny yn cychwyn. Felly, un o'r pethau y cyfeiriodd Mike ato, na roddwyd sylw iddo, yw'r amserlenni a'r cyfnodau amser ar gyfer rhai o'r prosiectau hyn, sy'n ymddangos yn amhendant, i'w roi yn garedig. Felly, a wnewch chi sicrhau y cyfathrebir â thrigolion ynghylch yr amserlenni a'r cyfnodau amser ar gyfer y gwaith hwn, fel eu bod nhw'n gwybod pryd y disgwylir i'r prosiect hwn a allai fod yn drawsnewidiol gael ei gyflawni?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd trafnidiaeth wedi cyfarfod â llawer o Aelodau o'r rhanbarth ynghylch metro Abertawe ar 11 Hydref. Fel y dywedais, mae'r rhain yn sicr yn y cyfnod datblygu, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu gwneud gan yr awdurdodau lleol yn cydweithio. Dyna'r rhan hanfodol o hyn, mynd y tu hwnt i ardal uniongyrchol yr awdurdod lleol. Felly, ar yr amserlen, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni lunio cynnig manwl iawn, sef yr achos busnes amlinellol hwnnw y soniais amdano ar gyfer y gorsafoedd rheilffyrdd arfaethedig hynny. Ac yna, mewn ffordd, mae'n rhaid i ni ei drosglwyddo i Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid iddyn nhw ei drosglwyddo i Lywodraeth y DU gyda ni, a mater iddyn nhw wedyn yw ei gynnwys yn eu rhaglen eu hunain. Rwy'n gwybod bod y trafodaethau hynny eisoes yn digwydd. Rwy'n credu ei bod hi'n werth sôn hefyd bod Trafnidiaeth Cymru hefyd yn datblygu cynlluniau treialu graddfa fawr ar gyfer bae Abertawe a fydd yn arwain at gyflwyno fflyd o fysiau celloedd tanwydd hydrogen, sydd hefyd yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y gwnewch chi ei groesawu.

Trydan Gwyrdd Cymru a GB Energy

2. Pa berthynas y mae'r Prif Weinidog yn ei rhagweld rhwng Trydan Gwyrdd Cymru a GB Energy? OQ61834

13:35

Yn dilyn trafodaethau cynnar gyda Gweinidogion y DU, rwy'n rhagweld perthynas gadarnhaol iawn gyda Great British Energy, Trydan Gwyrdd Cymru a'n cyrff cyflenwi ynni eraill, gan gynnwys Ynni Cymru. Maen nhw i gyd yn ceisio gweld sut y gallwn ni gydweithio wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â buddsoddiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Iawn. Mae'n ddiddorol eich bod chi'n cynnwys Ynni Cymru, ac mae hynny'n wych. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod y cyhoedd yn wyliadwrus iawn o ynni adnewyddadwy, er ei fod yn llawer rhatach na nwy. Felly, yn fy marn i, mae angen i'r sector cyhoeddus arwain y ffordd o ran dangos yn union pa mor wych yw'r manteision. Yn anffodus, dim ond rhai enghreifftiau sydd o'r gwaith rhagorol a wneir gan Ysbyty Treforys a'i fferm solar, sy'n cynhyrchu o leiaf traean o'i ynni ac wedi arbed dros £2 filiwn iddyn nhw eisoes. Rhoddwyd targed o sero net erbyn 2030 i bob adeilad sector cyhoeddus. O siarad â sefydliadau sector cyhoeddus, byddech chi'n meddwl nad oedden nhw hyd yn oed yn ymwybodol ohono. Felly, sut mae Trydan Gwyrdd Cymru yn mynd i roi mwy o frys i'r sector cyhoeddus groesawu technoleg fodern, lleihau eu biliau ynni a chyrraedd eu targedau carbon sero net?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n gwbl gywir i dynnu sylw at yr enghraifft dda iawn y mae Ysbyty Treforys wedi ei dangos. Maen nhw wedi cael hynny gan ddefnyddio cymorth gan wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru. Felly, am fuddsoddiad o £5.7 miliwn yn y fferm solar honno, maen nhw'n llwyddo i arbed tua £0.5 miliwn y flwyddyn ar filiau. Ond, ar ben hynny, maen nhw'n arbed mil tunnell o garbon y flwyddyn. Felly, nid yw hynny'n ddibwys. Mae'n fodel da iawn. Mae gennym ni'r model hwn o fuddsoddi i arbed, a byddwn yn annog eraill i fanteisio ar y cyfleoedd y mae Treforys wedi eu rhoi. Mae'n debyg ei bod hi'n bwysig i ni danlinellu'r brys i gyrff sector cyhoeddus gydnabod bod ganddyn nhw ymrwymiad i sicrhau sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030. Bu diddordeb gan bob un ohonom ni mewn gweld Prif Weinidog y DU yn Baku heddiw, yn yr hyn sy'n uwchgynhadledd bwysig, hefyd yn gwneud ymrwymiad i dargedau mwy uchelgeisiol fyth. Mae'r byd yn newid—does ond rhaid i chi edrych ar yr hinsawdd o'n cwmpas i weld bod y newid yn yr hinsawdd gyda ni yma a nawr. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at annerch cynhadledd Dyfodol Ynni Cymru y prynhawn yma, lle, yn amlwg, y byddwn ni'n trafod ein huchelgeisiau o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae'n dod i'r amlwg yn gyflym nad oedd maniffesto etholiad cyffredinol Llafur werth y papur y'i hysgrifennwyd ef arno. Addawyd biliau rhatach i ni, ond cynyddodd y cap prisiau ynni 10 y cant fis diwethaf. Dywedir bod yr hawliad biliau rhatach o £300 y mis a wnaed gan gwmni modelu Ember yn annibynnol, ond sefydlwyd Ember gan y Farwnes Worthington, a gafodd ei gwneud yn arglwyddes Lafur gan neb llai nag Ed Miliband. Ond gan roi o'r neilltu y ffaith na all neb ddeall mewn gwirionedd a yw GB Energy yn creu ei ynni ei hun ai peidio, a all defnyddwyr ddisgwyl biliau rhatach o dan y Llywodraeth Lafur hon, neu ai dim ond celwydd maniffesto arall oedd hwnnw?

Edrychwch, ar hyn o bryd, rydym ni mewn sefyllfa lle, mewn gwirionedd, y cafodd rhyfel yn Wcráin effaith uniongyrchol ar y biliau—[Torri ar draws.]—arhoswch am funud—ar y biliau yn ein gwlad, ac mae rhywbeth y mae angen i chi ei wneud ynglŷn â hynny o ran diogelwch cyflenwad. Ac os gallwch chi sicrhau diogelwch cyflenwad a mynd i'r afael â'r broblem hinsawdd ar yr un pryd, yna dyna'r ffordd i fynd. A dyna pam mae gennym ni dargedau uchelgeisiol iawn, a'n bod wedi cyflawni llawer iawn o ran ynni adnewyddadwy eisoes. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n gallu rhagweld wedyn yn y tymor hwy—ac rydych chi'n gwbl gywir, nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos—y mater diogelwch cyflenwad a mympwyon y farchnad sy'n dylanwadu ar hynny, byddwn ni'n gallu rheoli hynny gan ein bod ni'n agosach ac maen nhw o dan ein dylanwad ni nawr i'w rheoli. Dyna pam mae GB Energy, rwy'n credu, yn gyfraniad sylweddol iawn, ac rwy'n falch iawn bod y trafodaethau rhwng ein Llywodraeth ac GB Energy yn mynd yn dda iawn.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn? Rwy'n credu bod osgoi'r grid, fel Ysbyty Treforys, gan ddefnyddio ffrwd uniongyrchol, yn bwysig iawn. Mae'r tâl sefydlog yn y gogledd yn un o'r uchaf ar draws y DU, ac rwy'n cael fy hysbysu ei fod oherwydd seilwaith y grid. Rwy'n croesawu, yng Nghymru, bod tai cymdeithasol wedi cael eu hadeiladu a'u hôl-osod â storfeydd solar a batris, gan osgoi'r grid, diolch i gyllid a pholisi Llywodraeth Cymru i helpu gydag ynni rhad hefyd. Prif Weinidog, rwyf i wedi gweld seilwaith ynni mawr yn digwydd yn y gogledd, gan gynnwys ffermydd gwynt a solar a pharciau batri. Hoffai'r bobl weld budd biliau llai yn ogystal â diogelwch ynni. A ydych chi'n cytuno, yn y dyfodol, y gallai GB Energy ddatblygu ethos Trydan Gwyrdd Cymru yng Nghymru i sicrhau budd cymunedol o ddatblygiadau cynllunio mawr ar ffurf, efallai, grantiau cyllid adran 106 i wneud eu cartrefi yn gynhesach ac yn hunangynhaliol gydag ynni adnewyddadwy?

13:40

Diolch yn fawr iawn, Carolyn. Mae ein polisi yn gwbl eglur: rydym ni'n disgwyl i bob datblygiad ynni newydd ddarparu budd lleol, beth bynnag yw natur y datblygwr. Dylid defnyddio buddion cymunedol a lleol i ddiwallu anghenion a chyflawni blaenoriaethau lleol, ac rydym ni'n trafod gyda Llywodraeth y DU sut y gall cymorth gan GB Energy, o dan y cynllun pŵer lleol, adeiladu ar y 15 mlynedd o gymorth i ynni lleol yng Nghymru a'i chwyddo. Mae gennym ni lawer o brofiad yma drwy'r gwasanaeth ynni a nawr drwy Ynni Cymru. Byddem ni'n disgwyl i brosiectau mawr hefyd gael eu datblygu drwy Trydan Gwyrdd Cymru a gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth bod y cyfraniad lleol yn angenrheidiol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae eich canfed diwrnod yn y swydd ddydd Iau, ac fe wnaethoch chi amlygu'n briodol ar ddechrau eich cyfnod yn y swydd lleihau amseroedd aros fel un o'r prif flaenoriaethau i'r Llywodraeth ac y byddai holl asiantaethau'r Llywodraeth yn gweithio i'r perwyl hwnnw. Rydych chi wedi rhestru sawl menter yr ydych chi wedi eu cyflwyno, a'r diweddaraf yw'r her 50 diwrnod a gyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddoe, ynghylch cael rhyddhad cynnar o'r ysbyty i'r rhai y gellir eu gwasanaethu yn well yn eu cartrefi eu hunain neu mewn lleoliad cymunedol, gan greu mwy o gapasiti gwelyau ar gyfer llawdriniaethau dewisol. A allwch chi amlygu i mi ar ddiwedd y 50 diwrnod hwnnw pa fath o amseroedd aros y byddwn ni'n eu gweld a pha fath o ganran o welyau fydd yn cael eu meddiannu gan bobl a fyddai'n well eu byd mewn lleoliad cymunedol, oherwydd, ar hyn o bryd, mae bron i 20 y cant o welyau ysbyty mewn rhai ysbytai wedi'u meddiannu gan bobl na ddylen nhw fod mewn ysbyty ond a allai gael eu trin yn well mewn mannau eraill?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir—mae hon yn broblem ddyrys iawn, gallaf eich sicrhau chi. Treuliais lawer o amser yn ceisio ei datrys. Nid yw'n rhywbeth unigryw i Gymru; mae'n rhywbeth y mae pobl ledled y Deyrnas Unedig yn cael trafferthion â hi—pobl sy'n barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ond na ellir eu rhyddhau, yn rhannol oherwydd breuder y sector gofal, ac mae hynny'n anodd. Yn amlwg, yng Nghymru, rydym ni wedi cynyddu faint o arian yr ydym ni'n ei dalu i weithwyr gofal. Fe wnaethom ni gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth, ac rydym ni'n gwario llawer iawn mwy ar ofal yng Nghymru nag y maen nhw yn Lloegr. Mae'r berthynas rhwng iechyd a gofal yn gwbl hanfodol.

Rwy'n credu y bydd yr her 50 diwrnod y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ei hamlinellu yn mynd i fod yn rhan hollbwysig o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud dros y gaeaf hwn. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod rhai rhannau o'r system sy'n gweithio'n dda iawn, a'r cynllun yma yw cymryd y rhannau da a'u cyflwyno—gwneud iddyn nhw i gyd wneud yr hyn yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio. Ceir rhai agweddau y mae pobl yn eu gwneud yn dda iawn, agweddau eraill nad ydynt. Sut ydym ni'n gwneud hynny? Mae'n fater o fwrw ymlaen â'r her honno, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod beth ddylen nhw fod yn ei wneud, pryd, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n bwrw ymlaen â hynny. Felly, yn amlwg, bydd cael pobl allan o'r ysbyty yn golygu bod mwy o welyau i ni fwrw ymlaen â gofal wedi'i gynllunio, ond ceir y fenter gofal wedi'i gynllunio hefyd, ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi oddeutu £27 miliwn yn ychwanegol i geisio helpu i leihau'r arosiadau hiraf, ac yn amlwg rydym ni'n awyddus iawn i weld yr arosiadau hynny yn lleihau. Mae'n fater o'r sylw â phwyslais hwnnw, gwneud yn siŵr os na fyddan nhw'n cyflawni, nad ydyn nhw'n cael yr arian. Mae'n ddull gwahanol iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Diolch am y cawl geiriau, Prif Weinidog; roeddwn i'n chwilio am dargedau cadarn a phendant, oherwydd yn y 100 diwrnod hynny ers i chi ddod yn Brif Weinidog, ychwanegwyd 9,000 o lwybrau ychwanegol at restrau aros yma yng Nghymru, ychwanegwyd bron i 4,000 o gleifion at y 600,000 o gleifion sy'n aros am driniaeth yn ysbytai Cymru, ac ychwanegwyd bron i 1,000 o gleifion at yr arhosiad o ddwy flynedd, y gwnaethoch chi addo y byddai'n cael ei ddileu ar ddechrau'r flwyddyn hon. Felly, rwy'n deall y pwysau; rydym ni i gyd yn deall hynny. A dweud y gwir, rwy'n dymuno'n dda i chi yn eich ymdrechion i geisio lleihau'r amseroedd aros hyn, oherwydd wrth wraidd yr holl ystadegau amseroedd aros hyn y mae unigolion. Ac, yn bwysig hefyd, ceir staff sydd ar ben eu tennyn. Felly, rwy'n gofyn cwestiwn syml yn unig: pan fydd y Cabinet yn cael y papurau briffio hyn, siawns nad oes papur canlyniadau sy'n dweud, 'Os gwnewch chi A, fe gewch chi B. Os gwnewch chi C, fe gewch chi D. Felly, a allech chi, mewn termau syml, i bobl gyffredin, ddweud sut yn union y bydd y ffigurau yn edrych ar ddiwedd yr her 50 diwrnod? Mae angen seibiant ar bobl, ac mae angen seibiant ar y staff yn arbennig o'r pwysau erchyll y maen nhw'n eu hwynebu. Rhowch rywfaint o obaith iddyn nhw; rhowch y ffigurau hynny i ni.

13:45

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, edrychwch, rwy'n deall yn llwyr rhwystredigaeth pobl sydd ar restrau aros hir. Mae pobl mewn poen, a'n cyfrifoldeb ni yw lleihau hynny. A bu camau enfawr o ran yr arosiadau hiraf. Maen nhw wedi gostwng yn sylweddol. Mae'r arosiadau hiraf wedi lleihau llawer, yn sicr o'r adeg pan ddechreuais i fel Ysgrifennydd iechyd. Ond ni allwch chi wneud unrhyw beth oni bai fod y staff yno i'w wneud. Felly, un o'r pethau yn ystod fy 100 diwrnod cyntaf oedd gwneud yn siŵr ein bod ni'n sicrhau dyfarniad cyflog uwch na chwyddiant i'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n gweithio yn y GIG sy'n mynd i gyflawni'r llawdriniaethau hynny mewn gwirionedd, oherwydd mae'r ysbryd yn y GIG yn bwysig iawn. Digwyddodd hyn yn ystod y 100 diwrnod cyntaf.

Ac wrth gwrs, ceir pethau eraill yr ydym ni wedi eu cyflawni yn ystod y 100 diwrnod cyntaf hynny: cyflwynwyd prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd a gynhelir; gwelsom Tata, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y cyllid ychwanegol hwnnw—£13.5 miliwn; cawsom fuddsoddiad lleol mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd; cysylltedd band eang, £12 miliwn yn y fan honno; rydym ni wedi gweld buddsoddiad o £1 biliwn yn Shotton; rydym ni wedi cael gwasanaeth cyswllt toresgyrn Cymru gyfan, a mis Medi yn unig yw hynny. Felly, ceir llwyth o bethau yr ydym ni wedi eu cyflawni yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, ac mae'n bwysig mewn gwirionedd ein bod ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol o ran lleihau'r rhestrau aros hynny. Bydd y cyhoeddiad hwnnw yn arwain at fanteision sylweddol ac, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio ar yr union ffigurau, pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud. Os na fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth, yna ni fyddan nhw'n cael yr arian. Mae hynny'n hollbwysig. Ac rydym ni'n gweithio ar yr hyn sy'n digwydd nesaf, a allwn ni edrych ar y gyllideb y flwyddyn nesaf, er enghraifft, i wneud mwy a beth allwn ni ei ddisgwyl am hynny.

Nid wyf i wedi cael yr un ffigur gennych chi o hyd, er i mi ofyn ddwywaith a dymuno'n dda i chi yn eich ymdrechion, oherwydd dangoswyd canlyniadau'r rhwystrau yn ein gwasanaeth iechyd eto i lawr yn y gorllewin, yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig, lle gadawyd chwaraewr ar y cae am chwe awr oherwydd na allai unrhyw ambiwlans ddod oherwydd eu bod nhw'n brysur gyda galwadau brys eraill neu y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys. 

Nawr, ni all fod y tu hwnt i grebwyll y Prif Weinidog a'r Llywodraeth gyflwyno rhifau fel y gall pobl wir fod yn hyderus—[Torri ar draws.]—nad ydych chi'n mynd ar drywydd neges cyfryngau cymdeithasol. Clywais y Gweinidog cyflawni yn gwneud sylwadau yn y fan yna. Efallai yr hoffech chi sefyll i fyny, Gweinidog cyflawni, a dweud wrthym ni beth rydych chi'n ei gyflawni, oherwydd nid yw'r Llywodraeth hon yn cyflawni gostyngiad i amseroedd aros.

Gofynnaf i chi nawr am y trydydd tro: o gofio'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu cyflwyno yn eich 100 diwrnod cyntaf, o'r £28 miliwn hwn, o'r her 50 diwrnod hon, sut allwn ni fod yn hyderus y bydd amseroedd aros yn gwella a bydd pwysau yn lleihau ar ein hysbytai a'n gofal sylfaenol? Fel y dywedais wrthych chi, ychwanegwyd 9,000 o lwybrau at amseroedd aros, ychwanegwyd cyfanswm o 4,000 o gleifion at yr amseroedd aros, ac ychwanegwyd bron i 1,000 o gleifion at yr arhosiad o ddwy flynedd. Mae'r ffigurau yn symud i'r cyfeiriad anghywir, Prif Weinidog. Rydym ni'n curo ar ddrws canol gaeaf; rhowch rywfaint o obaith i'n gweithwyr iechyd a rhowch rywfaint o obaith i gleifion Cymru.

Wel, rydym ni wedi gweld yr arhoswyr hiraf yn lleihau, a gallaf ddweud wrthych chi, o ran yr her 50 diwrnod, ein bod ni'n gofyn i'r timau dargedu'r bobl sydd wedi bod yn yr ysbyty am y 25 y cant hiraf o'r amser. Felly, mae hynny'n 350 o bobl yn erbyn oddeutu 1,500 o ran oedi cyn rhyddhau. Felly, dyna eich ffigurau ac, yn amlwg, rydym ni'n dwyn yr awdurdodau iechyd i gyfrif o ran y mathau hynny o dargedau.

Diolch, Llywydd. Mae'r Prif Weinidog ei hun, cyn Weinidog iechyd, wrth gwrs, yn derbyn dyw'r NHS yng Nghymru ddim lle dylai fo fod ar ôl 25 mlynedd o Lywodraethau wedi’u harwain gan Lafur: y rhestrau aros; yr angen am ymyrraeth yn y byrddau iechyd; ac mae staff, wrth gwrs, yn gorfod gweithio mewn amgylchiadau mwy a mwy anodd. Nhw ydy curiad calon yr NHS, ac mae recriwtio effeithiol, y gallu i gadw talent, yn allweddol, efo cyflogau teg wrth wraidd hynny. Yr wythnos diwethaf mi wnaeth nyrsys wrthod cynnig cyflog diweddaraf y Llywodraeth Lafur. Mae'r Royal College of Nursing yn dweud hyn: 

'mae hyn yn methu â chyfateb i natur eu gwaith lle mae diogelwch yn hanfodol a'r sgiliau helaeth y maen nhw'n eu cynnig i'r GIG.'

Oes gan y Prif Weinidog gynllun ar gyfer datrys yr anghydfod yma? Ac os oes yna gynllun, beth ydy o?

13:50

Wel, rydym ni'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae ein nyrsys yn ei wneud yng Nghymru, yn y GIG, ac maen nhw'n gwneud cymaint i helpu i ddarparu'r gofal hwnnw sy'n achub bywydau ac yn newid bywydau i bobl yn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn briodol sy'n amgylchedd lle ceir pwysau mawr, a dyna pam roeddem ni'n falch ein bod ni wedi gallu cynnig codiad cyflog uwch na chwyddiant y flwyddyn ariannol hon—cynnydd o 5.5 y cant—sef yr un faint â'r hyn a dderbyniodd yr undebau eraill yng Nghymru. Roedd staff 'Agenda ar gyfer Newid' mewn rheolaeth o hynny. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar sut rydym ni wedi newid nifer y bobl sy'n weithwyr asiantaeth, felly rydym ni'n gwneud yr hyn y gofynnodd yr RCN i ni ei wneud, i roi mwy o bobl mewn swyddi parhaol, yn hytrach na thalu asiantaethau. Felly, mae hynny i gyd yn gwella, ac, wrth gwrs, byddwn ni bob amser yn agored i drafod, gyda'r RCN, sut y gallwn ni ddod i gasgliad o ran y mater anodd iawn hwn. Ond, yn amlwg, mae cyllidebau'n dynn, mae 5.5 y cant yn godiad cyflog uwch na chwyddiant, ac, wrth gwrs, dyna'r ydym ni wedi ei gynnig i bobl eraill yn y GIG.

Rydym ni wedi cael disgrifiad o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod wedi ei wneud, ond, yn amlwg, dim cynllun, ac ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw hi fod cynllun nawr ar gyflog, ac ar elfennau fel hyfforddiant a recriwtio. Roedd y bil asiantaethau nyrsio, er ei fod wedi gostwng rhyw fymryn, dal i fod yn swm syfrdanol o £142 miliwn y llynedd. Mae adroddiad 'Niferoedd Nyrsio' RCN, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dweud wrthym ni y gallai hynny dalu am 4,677 o nyrsys llawn amser, sydd newydd gofrestru, ac, os bydd Llafur yn methu â mynd i'r afael â'r argyfwng staffio, dim ond tyfu gall y bil asiantaeth hwnnw.

Nawr, rwy'n falch bod y fwrsariaeth nyrsio wedi cael ei hymestyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, er nad oes dim y tu hwnt i hynny, ond, yn yr hyn y gellir ond ei ddisgrifio fel cam yn ôl, mae Llywodraeth Cymru wedi torri lleoedd ar bob cwrs nyrsio israddedig am y tro cyntaf mewn degawd. Mae nifer y lleoedd gradd nyrsio y cytunwyd arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru eleni yn cynrychioli rhwng 50 y cant a 69 y cant yn unig o'r hyn y gofynnodd byrddau iechyd amdanyn nhw. Pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peryglu gwaethygu'r argyfwng staffio trwy dorri lleoedd myfyrwyr?

Wel, yn gyntaf oll, ar fater asiantaethau, y ffaith yw ei fod wedi gostwng yn sylweddol—faint o arian yr ydym ni'n ei wario ar asiantaethau—ac mae'r RCN wedi bod yn groesawgar iawn o'r ffaith bod hynny yn sicr wedi gostwng.

O ran bwrsariaeth nyrsys, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod gennym ni gynifer o leoedd hyfforddi eleni ag a lenwyd y llynedd. Felly, os meddyliwch chi am faint ddaeth allan y llynedd, rydym ni'n rhoi'r un nifer i mewn. Felly, gallwch gael targedau uchelgeisiol iawn. Os na allwch chi lenwi gyda'r nifer y bobl sy'n mynd i mewn, oherwydd nad ydyn nhw'n ymgeisio amdano, yna, yn amlwg, mae hynny'n dod yn broblem. Felly, rydym ni'n llenwi, rydym ni'n darparu, cynifer ag a lenwyd y llynedd.

Ble mae'r cynllun i ddod â mwy o bobl i mewn? A pham capio'r nifer hwnnw nawr, oni bai eich bod chi'n teimlo nad oes unrhyw obaith o osod targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer dod â myfyrwyr newydd i mewn? Gadewch i mi dynnu sylw at fwy o ffigurau o'r adroddiad 'Niferoedd Nyrsio'. Ceir tua 2,000 o swyddi nyrsio gwag yn y GIG yng Nghymru. Dyna pam mae angen i ni ddod â mwy o nyrsys i mewn. Mae nyrsys yng Nghymru yn gweithio dros 73,000 o oriau ychwanegol yr wythnos. Does ryfedd fod yr RCN yn dweud bod gwaith cynllunio'r gweithlu yng Nghymru wedi'i dan-ymchwilio ac nad oes ganddo ddigon o adnoddau. Am flynyddoedd, nid oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cyhoeddi ystadegau ar gyfer niferoedd y swyddi gwag yng Nghymru, ac maen nhw wedi methu â rhoi cynllun gweithlu cynhwysfawr a chynaliadwy ar waith.

Nawr, roedd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn arloesol, ond gallwn a dylem fynd ymhellach. Rydym ni'n dal i aros, onid ydym, am y canllawiau statudol ynghylch y Ddeddf y mae'r RCN wedi dadlau drostyn nhw ers amser maith, yn nodi sut y dylai byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gyflawni eu holl gyfrifoldebau oddi tano. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i gryfhau'r gyfraith ar lefelau staff nyrsio diogel yng Nghymru, fel bod y GIG yn darparu amgylchedd sy'n fwy diogel i gleifion ac yn decach i staff?

13:55

Wel, diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, mae nifer y swyddi gwag yng Nghymru o ran nyrsio wedi gostwng yn sylweddol o gymharu â'r sefyllfa o'r blaen. Rydym ni'n amlwg wedi recriwtio cannoedd o nyrsys rhyngwladol newydd, yn rhannol oherwydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yr oedd gennym ni gyda Kerala, yr oeddwn i'n falch iawn o'i lofnodi, ac fe wnes i gyfarfod llawer o'r nyrsys hynny yn y digwyddiad Diwali yr oeddwn i'n bresennol ynddo yr wythnos diwethaf. 

O ran y Ddeddf lefelau staff nyrsio, lluniodd bwyllgor y Senedd hon adroddiad ar hyn—fe wnaethon nhw gymryd tystiolaeth gan nifer o bobl—ac ni wnaeth yr adroddiad pwyllgor hwnnw argymell ymestyn y lefelau staffio fel yr argymhellwyd gan yr RCN, ac roedd hynny ar ôl clywed tystiolaeth o nifer o ffynonellau, oherwydd rydym ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod pobl yn gweithio i frig eu trwydded. Mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio, efallai, pobl sy'n gallu helpu o fewn y ward, nad ydyn nhw o reidrwydd yn nyrsys, i wneud rhywfaint o'r gwaith sy'n rhyddhau nyrsys i wneud y gwaith mai dim ond y nhw sy'n gallu ei wneud. Felly, nid yw hynny yn rhywbeth a argymhellwyd gan y pwyllgor ac nid yw'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno ar hyn o bryd.

Amseroedd Aros Ysbytai

3. A wnaiff y Prif Weinidog nodi nifer y cleifion a arhosodd am fwy na 24 awr am wely ar ôl cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans? OQ61857

Ym mis Medi 2024, roedd 1,497 o achosion lle roedd yn rhaid i gleifion aros am wely mewn ysbyty am fwy na 24 awr ar ôl cyrraedd adran frys mewn ambiwlans. Rŷn ni wedi nodi'n glir i'r byrddau iechyd beth yw ein disgwyliadau ni o ran gwelliant, a ddoe cafodd her 50 diwrnod y gaeaf ar gyfer gofal integredig ei lansio i gefnogi hyn.

Diolch am yr ymateb.

Felly, dim ond i ddod â hyn i lawr i bobl, yr wythnos diwethaf cysylltodd u'n o'm trigolion i ddweud bod ei bartner wedi aros 36 awr er mwyn cael ei dderbyn i'r ysbyty. Siaradodd ei bartner â'r gyrwyr ambiwlans a chanfod bod 11 o'r 12 ambiwlans yn sir Gaerfyrddin yn aros y tu allan i ysbyty Glangwili i'w cleifion gael eu derbyn. Mae hon yn sefyllfa y mae pob un ohonom, rwy'n gwybod, ar draws y Siambr hon, yn gweld na all barhau. Mae pobl yn aros mewn ambiwlansys. Mae pobl yn aros i allu mynd i mewn i ysbytai, ac yna mae pobl yn aros i ambiwlansys gyrraedd i ymateb iddyn nhw.

Un o'r problemau allweddol yr ydym ni'n eu gwybod yw na allwn ni ryddhau pobl o ysbytai ychwaith, felly mae gennym ni broblemau ar ddau ben ysbytai. Er mwyn cael pobl i mewn, mae angen i ni ryddhau pobl, ac mae hynny'n ymwneud â mynediad ac argaeledd pecynnau gofal cymdeithasol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi roi gwybod i ni sut rydych chi'n cynorthwyo awdurdodau lleol yma yng Nghymru i allu rhoi pecynnau gofal cymdeithasol at ei gilydd a chael gofalwyr cymdeithasol yn barod i helpu'r bobl hynny i adael yr ysbyty? Diolch yn fawr iawn.

Diolch, ac a gaf i ddweud bod aros 36 awr yn gwbl annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau, ac mae'n bwysig bod byrddau iechyd yn ymwybodol o hynny? Gwn fod yr Ysgrifennydd iechyd yn gweithio'n agos iawn, gan ei gwneud yn gwbl eglur beth yw ein disgwyliadau fel Llywodraeth, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae wedi cyflwyno'r her 50 diwrnod hon.

Mae gennym ni bolisi cartref yn gyntaf, ac mae'n bwysig bod dealltwriaeth o'r angen i fyrddau iechyd weithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol mewn system integredig. Mae gennym ni'r gronfa integreiddio ranbarthol, £144 miliwn—£180 miliwn nawr—wedi ei wario i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Nid yw hwnnw'n swm dibwys o arian. Ac un o'r pethau y gwnes i eu cyflwyno pan oeddwn i'n Weinidog iechyd oedd y pwyllgor gweithredu gofal, grŵp sy'n canolbwyntio'n fawr ar weithredu, a oedd yn ymarferol iawn o ran sut rydym ni'n cael iechyd ac awdurdodau lleol i gydweithio. Ar y dechrau, bu'n rhaid i ni weithio allan lle roedd y broblem, oherwydd byddai rhai pobl yn dweud, 'Nhw yw'r broblem, nid ni.' Iawn, gadewch i ni gael rhywfaint o ddata. Gadewch i ni gael yr holl ddata yn y lle iawn.' Mae hyn i gyd wedi cael ei ddatrys erbyn hyn. Rydym ni'n gwybod ble mae'r problemau. Rydym ni wedi nodi'r hyn sy'n debygol o weithio'n gyflym. Y 10 'Dyma'r pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud, ac, os nad ydych chi'n eu gwneud nhw, esboniwch eich hunain'—mae'n rhaid gwneud hynny yn yr her 50 diwrnod nesaf hon, a'r gobaith yw y bydd hynny yn dechrau symud y system. Rydych chi'n gwbl gywir; mae'n fater o'r berthynas honno gyda llywodraeth leol, gwneud yn siŵr bod y pecynnau gofal hynny ar gael, ac mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o weithwyr gofal yn ein cymunedau, bod gennym ni ddigon o weithwyr ailalluogi yn ein cymunedau hefyd, gan helpu pobl i ddod yn ôl ar eu traed, fel nad ydyn nhw'n ddibynnol ar becynnau gofal mawr, ond eu bod nhw mewn gwirionedd yn gallu mynd yn ôl a gweithio yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r holl bethau hynny yn cael eu trafod yn gyson gydag awdurdodau lleol trwy bethau fel y pwyllgor gweithredu gofal.

14:00

Rwy'n ddiolchgar i Jane Dodds am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr yma heddiw, oherwydd rwy'n siŵr bod gan lawer gormod ohonom ni o amgylch y Siambr hon straeon brawychus tebyg i'r un y mae Jane Dodds newydd ei hamlinellu. Yn wir, rhannodd un o'm hetholwyr, Mr Binns, ei arhosiad o 27 awr gyda mi mewn adran damweiniau ac achosion brys tra oedd yn dioddef poenau difrifol yn y frest, ac rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am gydnabod nad yw hynny yn dderbyniol a bod angen i ni weld y newid hwnnw.

Fel rydych chi wedi ei amlinellu yn eich ymateb i Jane Dodds, mae materion systemig ar waith yma, ac mae'r system gyfan angen lefel benodol o ganolbwyntio ac ymdrech i newid. Ond ceir rhywfaint o newyddion da a cheir sefydliadau eraill, boed yn y trydydd sector neu yn y sector preifat, sydd â'r capasiti ac sy'n barod ac yn abl i ddarparu cymorth a chapasiti i oresgyn rhai o'r rhwystrau hyn yr ydym ni'n eu gweld ar hyn o bryd. Ond maen nhw'n rhannu gyda mi eu bod nhw'n wynebu, yma yng Nghymru, rywfaint o wrthwynebiad unigryw i ymgysylltu â'r sectorau eraill hyn, fel y gellir cael gwared ar y rhwystrau hynny yn gyflym iawn, iawn.

Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo heddiw, Prif Weinidog, i wneud datganiad sy'n amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio ar sail draws-sector a thraws-ffiniol i sicrhau bod capasiti yn cael ei greu, fel nad yw cleifion yn aros am y cyfnodau diangen hyn o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n ymwybodol bod yr anhawster hwnnw yn bodoli, ac os oes gennych chi unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ei hanfon at yr Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, mewn gwirionedd, yw lle mae angen i ni weithio'n drawsffiniol, mae hynny'n gweithio yn rhesymol dda, a hefyd o ran y trydydd sector, mae honno'n agwedd bwysig ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a dyna pam mae gennym ni'r gronfa integreiddio ranbarthol hon, sydd wir yn cynorthwyo pobl, yn enwedig y trydydd sector—rwy'n credu bod ganddyn nhw tua 19 y cant neu fwy wedi'i glustnodi o fewn hynny. Felly, nid yw hwn yn swm dibwys o arian, ac mae'r rhain yn bobl sy'n gwneud gwaith anhygoel ar ein rhan.

Y peth y mae'n rhaid i ni ei gofio yn gyson yw bod y galw yn dal i gynyddu. Ym mis Medi, gwelsom yr ail niferoedd dyddiol uchaf o alwadau coch a adroddwyd ers i ni ddechrau'r broses adrodd benodol sydd gennym ni nawr bum mlynedd yn ôl, felly mae'n bwysig cydnabod hynny. Ac un o'r pethau yr wyf i'n siŵr fydd yn digwydd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf yw bod gennym ni'r grŵp cynghori gweinidogol hwn, sy'n dod o'r tu allan i Gymru, sy'n gallu dod i mewn a bod â barn wrthrychol arno. Mae gennym ni Dr Tara Sood, sy'n gynghorydd arbenigedd cenedlaethol GIG Lloegr ar gyfer gofal brys ar yr un diwrnod, ac Adam Roberts, sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr mewnwelediad gweithredol gofal brys ac argyfwng. Felly, gallan nhw ddod i ddweud wrthym ni beth y gallem ni fod yn ei wneud yn wahanol. Ond, a dweud y gwir, o ran rhai o'r meysydd hyn, rydym ni'n gwneud yn well na Lloegr mewn gwirionedd, credwch neu beidio.

Asesu Plant am Gyflyrau Niwroddatblygiadol

4. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o amseroedd aros ar gyfer asesu plant am gyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth ac ADHD yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61861

Rŷn ni’n cymryd camau i leihau'r amseroedd aros hiraf. Mae'r galw am wasanaethau niwrowahaniaeth yn tyfu o hyd. Yn nes ymlaen y mis yma, bydd nifer o asiantaethau yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad ailddylunio cyflym cenedlaethol. Bydd hwn yn gosod y sylfeini i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy a fydd yn diwallu anghenion plant.

Diolch ichi am yr ateb. Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, dwi wedi cael fy syfrdanu, a dweud y gwir, gan y lefel o aros y mae plant yn y gogledd yn gorfod ei wneud. Mae 62 y cant o'r holl blant sydd wedi cael eu 'refer-io' am asesiad wedi gorfod aros dros flwyddyn am yr asesiad hwnnw. Mae 50 o blant wedi bod yn aros dros bedair blynedd, ac mae un plentyn wedi aros dros bum mlynedd a hanner am yr asesiad. Nawr, mae hynny’n hirach na gyrfa ysgol uwchradd y rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae'r plant yma yn amlwg yn cael eu gadael i lawr—ie, gan y bwrdd iechyd, ond hefyd, os caf i ddweud, gan eich Llywodraeth chi, am fethu â mynd i'r afael â'r sefyllfa. Felly, pa mor fuan y gwelwn ni hyn yn newid, oherwydd dyma rai o blant mwyaf bregus Cymru ac maen nhw wedi blino aros, Prif Weinidog, ac maen nhw’n haeddu gwell?

Na, dwi'n deall, a dwi'n deall pa mor frustrated bydd rhai o’r plant a’u rhieni nhw. Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig inni ystyried y cyd-destun ŷn ni'n gweithio ynddo. Rŷn ni wedi gweld cynnydd o 59 y cant yn y galw am driniaeth am ADHD rhwng 2018 a 2026. Felly, mae hwnna yn alw eithriadol o uchel, ac yn amlwg mae’n cymryd amser i ni gynyddu nifer y bobl, achos mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn—£6 miliwn yn ychwanegol wedi mynd i mewn. Dwi’n gwybod bod Betsi, er enghraifft, yn defnyddio’r arian ychwanegol maen nhw’n ei gael i gefnogi symudiad plant gydag ADHD o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd. Felly, nid jest ynglŷn ag asesiad yw e, ond mae peth o’r arian yna yn mynd tuag at sicrhau eu bod nhw'n gallu cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw pan fyddan nhw’n mynd trwy’r newidiadau pwysig yna yn eu bywydau nhw. Felly, nid jest i mewn i’r asesiadau ac ati mae’n mynd, ond mae’n mynd i mewn i bethau ehangach na hynny.

14:05

Mae'n deg dweud fy mod i'n cytuno â Llyr Gruffydd. Yn Aberconwy, rwy'n cael fy hysbysu dro ar ôl tro bellach bod plant yn gorfod aros cryn dipyn o amser. Codais y mater hwn flwyddyn yn ôl a soniodd Lynne Neagle, ar y pryd, nad oedd yn gywir, nad oedd pobl yn aros dros 12 mis, hyd yn oed. Wel, rydym ni wedi gweld bod byrddau iechyd ledled Cymru wedi adrodd cynnydd sylweddol i atgyfeiriadau i wasanaethau niwroddatblygiad. Ym mwrdd Betsi, cynyddodd y rhestr aros ar gyfer asesiadau ADHD neu anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth o 2,753 ym mis Chwefror 2022 i 5,163 erbyn mis Rhagfyr 2023, yr uchaf yng Nghymru. Felly, gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, beth ydych chi'n meddwl ei wneud i ostwng y niferoedd hyn yn gyflym, ac a wnewch chi ystyried cydweithio â chanolfannau triniaeth yn Lloegr i leihau'r amseroedd aros hyn?

Wel, os ydych chi'n meddwl bod Lloegr wedi datrys hyn, byddai'n well i chi gymryd golwg arall, oherwydd y ffaith yw eu bod hwythau hefyd wedi gweld ymchwydd enfawr i nifer y bobl sydd angen asesiadau a thriniaethau—

Rwy'n falch bod Dawn Bowden yn meddwl bod hyn yn ddoniol.

—o ran ADHD. A gaf i ddweud wrthych chi mai un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio ei wneud, oherwydd yr ymchwydd enfawr yr ydych chi'n sôn amdano, yw, mewn gwirionedd, y bydd yn rhaid i ni feddwl am sut rydym ni'n gwneud pethau yn wahanol? Oherwydd mae'n amlwg nad yw gwneud mwy o'r un peth yn mynd i fynd â ni i ble'r ydym ni angen bod. Felly, mae angen i ni ailfeddwl sut mae'r llwybr yn edrych, a dyna pam mae gennym ni'r digwyddiad ail-ddylunio gwasanaethau'n gyflym hwn sy'n cael ei gynnal ddiwedd y mis hwn. Mae'n mynd i ddod â 180 o bobl o'r holl sectorau ynghyd, a phobl sydd â phrofiad bywyd, i ddod o hyd i atebion o ran lleihau amseroedd aros ac, yn bwysicach, sicrhau gwasanaethau cynaliadwy. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru hefyd wedi cynnal adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol plant. Felly, rydym ni'n cydnabod bod problem yma, ac mae'r broblem, os unrhyw beth, yn fwy sylweddol yn Lloegr, ond rydym ni'n ceisio gweld sut rydym ni'n mynd i wneud pethau yn wahanol yn y dyfodol, oherwydd mae'n amlwg na fydd mwy o'r un peth o ran hyn yn gallu mynd i'r afael â'r ymchwydd enfawr hwnnw i alw y gwnaethoch chi eich hun gyfeirio ato.

Dull Partneriaeth Gymdeithasol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo dull partneriaeth gymdeithasol o ran cyflogwyr ledled Cymru? OQ61850

Mae gennym ni ymrwymiad hirsefydlog a llwyddiannus i'r ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rydym ni wedi bod yn hyrwyddo hyn ledled Cymru drwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a chynadleddau, yn ogystal â phecynnau dysgu ar-lein ac adnoddau eraill.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod balch o undeb Unite. Rwyf i wir yn croesawu dull partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru a'ch gwaith, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yn hyrwyddo'r Bil Hawliau Cyflogaeth nodedig newydd. Yn anffodus, fodd bynnag, fel yr wyf i wedi ei amlygu yn y Siambr o'r blaen, mae arferion diswyddo ac ailgyflogi yn dal i ddigwydd yng Nghymru wrth i ni siarad. Ar hyn o bryd, mae undeb Unite mewn anghydfod ag Oscar Mayer yn Wrecsam, gan fod y cwmni yn bygwth diswyddo unrhyw un na wnaiff lofnodi cytundeb newydd a allai olygu y bydd yn colli hyd at £3,000 y flwyddyn mewn seibiannau â thâl a thâl gŵyl y banc premiwm. Byddai hyn yn effeithio ar 800 aelod o staff, ac rwy'n credu eu bod nhw wedi diswyddo tri chyflogai dros y penwythnos, sydd bellach yn dod â'r cyfanswm i 35 o gyflogeion. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio Oscar Mayer a'u triniaeth o weithwyr yn Wrecsam? A pha gamau fyddwch chi'n eu cymryd i bwysleisio i'r cwmni nad oes unrhyw le i arferion gwarthus o'r fath yma yng Nghymru?

14:10

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a diolch am eich gwaith ar hyn ac am dynnu sylw'r Senedd ato. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn o fod wedi cael fy ngwahodd i annerch cynhadledd Unite, y gynhadledd polisi gyntaf i Gymru, ddoe. Ac yno, cefais gyfle i fynegi eto ein pryderon difrifol ynghylch y cwmni. Rydym ni wedi gofyn am gyfarfod gyda'r cwmni, fel y gallan nhw ddarparu cyfrif llawn o'r sefyllfa bresennol. Rwy'n credu'n bendant nad yw gorfodi telerau ac amodau israddol ar weithwyr drwy'r dacteg o ddiswyddo ac ailgyflogi yn cyd-fynd â'n gwerthoedd o waith teg a phartneriaeth gymdeithasol.

Fodd bynnag, y ffaith yw mai Llywodraeth y DU sydd mewn sefyllfa i newid y fframwaith cyfreithiol o ran arferion diswyddo ac ailgyflogi, ac rwy'n falch iawn o weld bod hynny yn rhywbeth a fydd yn cael sylw yn y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd. Ac yn amlwg, rydym ni'n siarad yn agos iawn â nhw am hynny.

Ar gyfer y cofnod, nid wyf i'n derbyn unrhyw roddion gan yr undebau llafur. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, er gwaethaf ymdrechion diweddar y Llywodraeth hon i werthu partneriaeth gymdeithasol fel ffordd unigryw Gymreig o weithio, ei bod wedi bod yn gonglfaen i economïau Ewropeaidd ers yr ail ryfel byd, heb fod angen deddfwriaeth i'w gorfodi. Yn wir, er enghraifft, yn Lloegr, mae Scape, a sefydlwyd bron i—

Os gallwn ni gael rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda, i glywed cwestiwn Joel James. Rydym ni'n cael trafferth clywed ar hyn o bryd. Diolch, Joel.

Diolch, Llywydd. Yn wir, er enghraifft, yn Lloegr, mae Scape, a sefydlwyd bron i 20 mlynedd yn ôl, wedi datblygu porth partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y diwydiant adeiladu, sy'n caniatáu i brynwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid weld eu cadwyni cyflenwi lleol a chenedlaethol yn gyflym ac yn hawdd ac yn cyflwyno amrywiaeth ehangach o gyflenwyr, yn ogystal â rhoi cyfle i ddod o hyd i gontractau gyda mentrau cymdeithasol ledled y wlad gyfan. Felly, fel y gwelwch chi, Prif Weinidog, rydym ni ymhell ar ei hôl hi. Nid wyf i'n ymwybodol bod unrhyw borth tebyg o'r fath yn bodoli yng Nghymru, wedi'i greu gan Lywodraeth Cymru, ond rwy'n ymwybodol o'r llawer iawn o amser a dreuliwyd a'r gost a wariwyd ar gael cyfarfodydd a chreu'r ddeddfwriaeth hon. A oes porth partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, Prif Weinidog, fel yr un a ddatblygwyd gan Scape, ac os nac oes, pam ddim? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae gennym ni lawer o byrth yn Llywodraeth Cymru, lle gall pobl fynd i weld beth sydd ar gael iddyn nhw. Ac mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n annog cyflenwyr, yn enwedig pobl fel Airbus, sy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael mwy o gyflenwyr o Gymru i'w helpu gyda'u cadwyn gyflenwi. Felly, bydd rhai cwmnïau unigol yn gwneud hynny ac, yn amlwg, y cwmnïau hynny, os ydyn nhw'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y mae cwmni fel Airbus yn ei wneud, yna byddem ni'n annog pobl a chwmnïau i fynd i'r pyrth penodol hynny hefyd.

Tlodi Tanwydd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd y gaeaf hwn? OQ61863

Rydym ni'n buddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yn y cynllun Cartrefi Clyd Nyth newydd i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rydym ni hefyd yn parhau i ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i gefnogi'r ddarpariaeth o gynllun talebau tanwydd a chronfa wres cenedlaethol i'r rhai sydd mewn argyfwng tanwydd.

Diolch, Prif Weinidog. Bydd penderfyniad dideimlad Llywodraeth y DU i roi terfyn ar daliad tanwydd cyffredinol y gaeaf yn gwthio llawer o bobl oedrannus i dlodi tanwydd y gaeaf hwn. Diolch byth, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.7 biliwn ychwanegol drwy Barnett. Bydd y cyllid ychwanegol hwn bellach yn rhoi'r hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r argyfwng hwn sydd ar fin ein cyrraedd. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio cyfran fach o'r cyllid ychwanegol hwn sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i helpu'r rhai a fydd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwres a bwyta y gaeaf hwn?

Wel, diolch yn fawr iawn, Altaf. Rydym ni'n ymwybodol iawn o faint o bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau, a sut mae costau ynni wedi cynyddu. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod swyddogion yn ymgysylltu'n llawn â'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynyddu nifer y rhai sy'n gymwys i hawlio credyd pensiwn. A'r hyn yr wyf i'n falch o'i ddweud, yn rhan o hynny, yw y bydd 6,600 o bobl sy'n gymwys ar aelwydydd yng Nghymru yn derbyn llythyr yn gofyn iddyn nhw wneud cais am y budd-dal. Os byddan nhw'n gwneud cais am y budd-dal, a'u bod yn gymwys i gael y budd-dal, yn amlwg byddan nhw'n gallu cael y lwfans tanwydd gaeaf hwnnw yn awtomatig. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y byddwch chi'n ei groesawu. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd ar ben ein cynigion eraill fel Llywodraeth Cymru, fel cynllun Cartrefi Clyd Nyth a chyngor am ddim i bobl drwy'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, er enghraifft.

14:15
Argyfwng Costau Byw

7. Pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar gyfer y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru? OQ61864

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyda chostau byw, gan fuddsoddi bron i £5 biliwn rhwng 2022 a 2025 mewn rhaglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi pobl. Fis diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi £1.5 miliwn arall ar gyfer canolfannau clyd, i gadw pobl yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf yma.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Plaid Lafur Cymru yn bodoli ar gyfer cyfle cyfartal a mwy o gydraddoldeb o ran canlyniadau, i ymdrin â'r anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, sy'n dal i fod yn rhy eang o lawer. Ond ar ôl 14 mlynedd o gyni Llywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei chael hi'n anodd ac maen nhw o dan straen mawr, ac mae teuluoedd yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ni'n wynebu her ddyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd, a llawer gormod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu clywed ac, yn aml, eu bod wedi'u hesgeuluso a'u hanwybyddu.

Gwnaeth gipolwg ar dlodi Sefydliad Bevan yr hydref hwn ddarganfod bod un o bob saith o bobl ledled Cymru yn aml, neu bob amser, yn ei chael hi'n anodd fforddio'r hanfodion. Mae'r amgylchiadau hyn, Prif Weinidog, yn cyfrannu at ddieithrio ac yn caniatáu i wleidyddion a phleidiau gwleidyddol sydd â thuedd atchweliadol i bedlera safbwyntiau poblyddol a gor-syml wrth chwilio am fantais wleidyddol. A fyddech chi'n cytuno, gan nad yw etholiadau nesaf y Senedd yn bell i ffwrdd, ei bod yn hanfodol bod ein Llywodraeth Lafur Cymru ni, a phleidiau gwleidyddol blaengar eraill, yn gwrando ar y pryderon a materion hyn ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â nhw? Rhaid i ni wneud hyn i wella gwasanaethau cyhoeddus a safon byw y rhai mwyaf difreintiedig, oherwydd dyma'r peth iawn i'w wneud, ac i sicrhau mwy o wleidyddiaeth flaengar yng Nghymru ar ôl 2026.

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir, John, ein cyfrifoldeb ni yw sefyll gyda'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd, ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd heddiw gyda'r argyfwng costau byw. Nid yw wedi diflannu. Mae wedi cael ei ymgorffori erbyn hyn, ac mae hynny'n anodd iawn i bobl allu ei reoli. Dyna pam mae'r cyfraniad sylweddol y mae ein Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi fwyaf anodd yn rhywbeth y dylem ni dynnu sylw ato. Mae gennym ni ein cronfa gynghori sengl, ac mae hynny wedi helpu mwy na 280,000 o bobl o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac ymylol i hawlio £137 miliwn ychwanegol. Mae hwn yn arian mawr, dim ond drwy ddweud wrth bobl, 'Ewch i hawlio'r hyn y mae gennych hawl iddo.' Mae gennym ni bethau fel cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor hefyd—eto, mae hwn yn rhywbeth nad yw'n bodoli yn Lloegr—lle nad oes rhaid i chi dalu'r dreth gyngor. Mae dros chwarter miliwn o bobl yng Nghymru yn elwa ar hynny.

A hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nodi nad ydyn ni ond yn poeni am y rhai nad ydyn nhw'n gweithio; rydyn ni hefyd yn poeni am bobl dlawd sydd yn gweithio. Mae yna lawer o'r rheini y dyddiau hyn, ac mae'n bwysig eu bod yn cydnabod sut yr ydyn ni'n cymryd camau i'w cefnogi nhw hefyd, yn enwedig y rheini, efallai, gyda theuluoedd ifanc. Rwy'n credu bod prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd yn bwysig. Mae yna'r ffaith, yng Nghymru, hefyd, eich bod yn cael pàs bws am ddim os ydych chi dros 60 oed. A rhywbeth y mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol yng Nghymru heddiw yw'r presgripsiynau am ddim. Wel, peidiwch â'i gymryd yn ganiataol. Mae'n rhywbeth sy'n costio swm sylweddol o arian i ni, ond sydd yno i gefnogi a diogelu pawb yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall mai Llywodraeth Lafur sydd wedi sicrhau bod hynny'n digwydd—Llywodraeth Lafur ydy hi—ac nid yw hynny'n digwydd ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.FootnoteLink

Cyllid Llywodraeth Leol

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyllid llywodraeth leol? OQ61860

Mae’r awdurdodau lleol yn parhau i reoli eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn a datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn ddiweddar, mae Archwilio Cymru wedi gwneud gwaith ar gynaliadwyedd ariannol pob awdurdod.

14:20

Diolch yn fawr am yr ymateb yna.

'Mae cyni ar ben'—dyna oedd eich geiriau yn y Cyfarfod Llawn ychydig wythnosau yn ôl. Gadawodd hynny lawer ohonom ni'n fud gan syndod, ond rwy'n siŵr nad yw hynny'n ddim o'i gymharu â'r ymateb y gwnaeth ei ysgogi ymhlith cydweithwyr llywodraeth leol. Er enghraifft, ystyriwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cael ei reoli gan Lafur, lle mae'r penderfyniad i gau plasty Tuduraidd annwyl yr awdurdod lleol, Llancaiach Fawr, wedi'i wneud. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ystyried dod â'r gwasanaeth pryd ar glud i ben, sy'n darparu ar gyfer rhai o'r trigolion mwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol, nes i'r brotest dyfu'n rhy daer. Yn y cyfamser, mae cynigion ar wahân i ddileu cludiant i'r ysgol a darpariaeth llyfrgelloedd wedi eu cyhoeddi. Dyma rai o'r penderfyniadau anodd sy'n cael eu gwneud ac sy'n cael eu hysgogi gan gyni. Felly os yw cyni ar ben, Prif Weinidog, pryd fydd fy etholwyr i yn dechrau ei weld a'i deimlo? Pryd allwn ni ddisgwyl i lywodraeth leol gael yr arian sydd ei angen arni i ddod â chyni lleol i ben? Ni wnaiff ddweud hynny'n unig ei wneud iddo ddigwydd.

Diolch am hynny, ond efallai eich bod chi wedi nodi mai dim ond tua phythefnos oed yw'r gyllideb. Mae'n cymryd amser i ddod drwy'r system. Yr hyn y byddwch chi wedi'i weld yw ein bod ni wedi cael y cynnydd mwyaf mewn termau gwirioneddol ers i ddatganoli ddechrau. Felly bydd yn dod drwodd, bydd yn gwneud gwahaniaeth, bydd mwy o arian, ac wrth gwrs fel Llywodraeth nawr, rydyn ni'n ceisio penderfynu ble yn union y dylai hynny gael ei flaenoriaethu. Ond mewn gwirionedd, wrth gwrs, nid yw hynny'n cyrraedd tan fis Ebrill, fel yr ydych chi'n ymwybodol iawn fel rhywun sy'n gwybod sut mae'r systemau cyllideb hyn yn gweithredu. Felly, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn cyflwyno'u hachos i ni, fel y mae llawer o sefydliadau eraill yng Nghymru, ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r mathau o bwysau sydd arnyn nhw, yn enwedig y math o gynnydd yn y galw y maen nhw'n gorfod ymdrin ag ef, yn enwedig o ran gofal a phlant mewn gofal a thai, a phob math o feysydd eraill. Felly rydyn ni'n ymwybodol iawn eu bod nhw o dan bwysau, ond yng Nghymru, nid ydyn nhw wedi gweld unrhyw beth tebyg i'r toriadau y maen nhw wedi'u gweld yn Lloegr, mewn awdurdodau lleol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:22:32
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn arwain dadl ar y cofio. Mae hyn yn lle datganiad llafar. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am nifer o ddatganiadau heddiw? Y cyntaf yw datganiad y mae ei angen gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ymadawiad cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i wedi gwylltio'n llwyr, a dweud y gwir, bod y cyfarwyddwr cyllid yn mynd i adael ar delerau ffafriol tua diwedd y flwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod pethau ysgytwol wedi'u nodi yn adroddiad Ernst & Young a wnaeth ddarganfod bod cyfrifyddu anwir, afreoleidd-dra a gwallau bwriadol yn cael eu gwneud gan unigolion yn y tîm cyllid. A dweud y gwir, mae'n frawychus bod pobl yn cael gadael pan ddylen nhw fod wedi cael eu diswyddo. Mae hi nawr dros ddwy flynedd ers i'r adroddiad hwn fod ar gael i'r bwrdd. Mae'n fwrdd sydd mewn mesurau arbennig o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, ac a dweud y gwir, mae'r ffaith eich bod chi'n caniatáu hyn yn gwbl annerbyniol. Felly, a gawn ni ddatganiad yr wythnos hon gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drefniadau'r mesurau arbennig fel y gallwn ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei methiant i weithredu ar y mater hwn?

A gaf i hefyd alw am ddatganiad arall gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran yr angen am ymgyrch cam NESA yn aml o ran symptomau strôc? Fe wnaeth Lywodraeth Cymru addo i'r Gymdeithas Strôc fis Hydref diwethaf y byddech chi'n cynnal ymgyrch er mwyn hybu ymwybyddiaeth o'r materion wyneb, breichiau, lleferydd ac amser sy'n gysylltiedig â strôc er mwyn inni allu atal pobl rhag dod i niwed. Maen nhw'n bwrw ymlaen â hyn mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n ymddangos bod Cymru'n llusgo'i thraed, ac nid oes arwydd bod unrhyw ymgyrch benodol yn digwydd yn y dyfodol agos. Felly, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ymdrin â hyn? Diolch. 

14:25

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, mater cyflogaeth yw ymddiswyddiad y cyfarwyddwr cyllid gweithredol ac felly mae'n fater i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ymateb iddo.

Rydyn ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr ymgyrch strôc cam NESA. Wrth gwrs, mae gennym ni ein llwybr strôc yng Nghymru, sydd wedi'i hen sefydlu a'i brofi o ran tystiolaeth, ond, yn amlwg, mae pwysigrwydd gweithredu o ran ymateb i strôc yn allweddol. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i fyrddau iechyd ymateb iddo, ac, yn wir, yr ydym ni yn ei gefnogi.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am iechyd. Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig ddoe ynglŷn â'r her 50 diwrnod i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol, mae yna gymaint o gwestiynau gan Aelodau ar hyn. Dwi'n meddwl y byddem ni'n hoffi'r cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd, yn enwedig o ystyried yr heriau rydyn ni'n eu clywed o ran awdurdodau lleol. 

Buaswn i hefyd yn hoffi gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dai ynglŷn â RAAC mewn tai preifat. Mi wnes i godi hyn efo'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ond mae yna broblemau yn parhau o ran y rhai sydd ddim gyda'r cyllid er mwyn talu am drwsio eu tai, yn arbennig felly pan fyddan nhw mewn stad o dai lle mae yna dai cymdeithasol, neu'n rhannu to, er enghraifft, gyda thŷ sydd gan gyfrifoldeb, dywedwch, Trivallis yn fy rhanbarth i, ond sydd hefyd yn eiddo i rywun efo tŷ preifat. Mae angen eglurder ar hyn. Mae yna arian ar gael yn yr Alban, a dwi yn pryderu bod y bobl sy'n dioddef oherwydd RAAC yn cael eu hanghofio gan y Llywodraeth hon. Byddwn i yn hoffi'r cyfle i ni gael trafodaeth ar lawr y Senedd o ran beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cefnogi nhw. 

Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn. 

Diolch yn arbennig am ei godi eto—mae wedi'i godi y prynhawn yma—her 50 diwrnod y GIG, sy'n bwysig. Rwyf i eisoes wedi rhannu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y cais i symud hwn ymlaen i ddatganiad llafar. Roedd datganiad ysgrifenedig, wrth gwrs, ar y diwrnod y cafodd ei chyhoeddi, ond byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn falch iawn o gael datganiad llafar ar hyn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai cynllun gweithredu 10 pwynt yw hwn i gefnogi mwy o bobl sydd wedi wynebu oedi hir yn yr ysbyty i ddychwelyd adref. Mae'n her i bob rhan o Gymru fabwysiadu'r 10 peth yr ydyn ni'n gwybod sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran rhyddhau cleifion yn ddiogel, gan wneud y system gyfan yn fwy cydnerth ac yn gallu gweithio'n fwy ddidrafferth. Felly, rwy'n siŵr, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Busnes, y byddwn ni'n cyflwyno hynny ar gyfer datganiad llafar cyn gynted â phosibl. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi clywed eich cwestiwn hefyd am RAAC mewn tai preifat. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud â phob math o dai preifat—y sectorau perchen-feddianwyr a rhentu preifat. Yn sicr, fe wnaf i drafod gyda'r Ysgrifennydd Cabinet y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac ymateb i'r cwestiwn hwnnw.    

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r un cyntaf am gau canolfannau ymwelwyr sydd wedi'u rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y cawsom ni ddadl deisebau arno yn ddiweddar. Mae ymwelwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau sydd â diddordeb yn eu cynnal yn bryderus iawn bod bwrdd CNC, mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf, wedi cytuno i'w cau o dan yr 'Achos dros Newid' heb drafod nac ymgynghori â'r rhai sydd â buddiant. A allai'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet roi eglurder, gan iddo ein sicrhau ni yn ystod y ddadl na fydden nhw'n cau ac y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal? 

Mae'r ail yn ymwneud â gorfod adnewyddu bathodynnau glas bob tair blynedd ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau gydol oes. Rwy'n gwybod bod hyn wedi cael ei godi a'i drafod sawl gwaith, ond ar ôl cwrdd a chlywed trallod torcalonnus pobl y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, y trawma o orfod llenwi ffurflenni bob tair blynedd, gan ddweud pa mor sâl yw eu person ifanc sydd byth yn mynd i wella, pan nad oes ganddyn nhw lawer o amser i ganolbwyntio ar y dasg ac eisoes yn byw bywydau llawn straen, mae'n ymddangos i mi fod hwn mewn gwirionedd yn fater cyfiawnder cymdeithasol sy'n digwydd cael ei ddarparu trwy drafnidiaeth. Felly, a wnewch chi gyfarfod â mi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i drafod sut y mae modd cyflawni hyn o'r diwedd?

14:30

Diolch yn fawr, Carolyn Thomas—cwestiynau pwysig iawn hefyd.

O ran eich cwestiwn cyntaf ar achos dros newid CNC, maen nhw wedi gwneud y penderfyniad terfynol hwnnw o ran darparu gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn eu tair canolfan ymwelwyr. A'n dealltwriaeth ni yw bod tîm masnachol CNC yn ymgysylltu â busnesau lleol a grwpiau cymunedol wrth iddyn nhw archwilio darparu cyfleoedd i sefydliadau reoli'r gwasanaethau hyn. Rwyf i hefyd yn deall bod CNC wedi derbyn mynegiadau o ddiddordeb anffurfiol gan fusnesau lleol a grwpiau cymunedol i gymryd cyfrifoldeb dros gynnal y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn y canolfannau. Felly, rwy'n gwybod y bydd—. Fe wnaf i rannu hyn, wrth gwrs, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, ond rydyn ni'n disgwyl y bydd ymgysylltu â phartïon â buddiant yn digwydd, er mwyn sicrhau bod y tarfu ar y gwasanaethau yn gyfyngedig. Ac mae tair sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu cynnal ar 25, 26 a 27 Tachwedd, lle y bydd mynegiadau o ddiddordeb ffurfiol yn cael eu hagor. Er mwyn ei wneud yn glir, Llywydd, bydd CNC yn parhau i reoli'r safleoedd hyn, a bydd y canolfannau eu hunain yn parhau i fod ar agor ar gyfer cerdded, beicio, mannau chwarae, parcio ceir a darparu toiledau.

O ran eich ail gwestiwn ar fathodynnau glas, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddai parodrwydd i gwrdd â'r Ysgrifennydd Cabinet. Ac fel y dywedwch chi, mae'n fater sydd wedi'i godi yn y Siambr hon. Mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n fater o ran cyfrifoldebau llywodraeth leol. Mae wir yn fater trawslywodraethol. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n gofyn i ddeiliaid bathodynnau glas ailymgeisio bob tair blynedd, i gynnal uniondeb y cynllun, gan sicrhau bod gan y rhai sy'n gymwys fynediad ato. Ac mae hynny'n cynnwys yr angen i ail-gadarnhau hunaniaeth, tystiolaeth breswylio wrth ailymgeisio bob tro, a gall fod yn heriol, y broses ymgeisio; rydyn ni'n deall hynny. Ac, wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yno i helpu. Mae llawer o adolygiadau wedi bod i'r cynllun bathodynnau glas—adolygiadau sydd hefyd wedi'u cynnal yn y Senedd—gan ganolbwyntio ar gymhwysedd, gweinyddu a gorfodi. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni weld ei fod yn rhywbeth lle mae heriau sylweddol i bobl sy'n byw gydag amhariadau penodol, fel cyflyrau dirywiol. O ran symudedd gwell a mwy o annibyniaeth, mae bathodynnau glas yn hanfodol, felly fe awn ni ymlaen â hyn o ran edrych ar ble'r ydyn ni o ran dealltwriaeth a thystiolaeth.

Hoffwn i hefyd alw am ddatganiad llafar yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar drwyddedau parcio bathodynnau glas, oherwydd bod pobl yn cael eu brifo. Dydyn nhw ddim yn cael gwybod gan awdurdodau lleol eu bod yn gallu apelio. Pan fyddan nhw'n dod at Aelodau'r Senedd a chael gwybod y gallan nhw apelio, ac yn ei gyfeirio, maen nhw wedyn yn wynebu ffurflen 15 tudalen y mae llawer yn ei chael hi'n anodd delio â hi.

Yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ym mis Gorffennaf, siaradais i am yr anghysonderau difrifol o ran effeithlonrwydd a'r anghyfiawnderau sy'n deillio o ganllawiau cynllun bathodyn glas Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, a chyfeiriais i at ddeiseb y Senedd i wneud ceisiadau am fathodynnau glas am oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes, wedi'i gyflwyno gan gwmni buddiannau cymunedol Stronger Together for Additional Needs and Disabilities yn y gogledd, a ddywedodd wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod wedi darganfod trwy ymchwil nad oedd awdurdodau lleol naill ai'n ymwybodol o ddyfarniadau am oes, neu fod ganddyn nhw ddealltwriaeth wahanol o'r hyn yr oedd yn ei olygu. Ar ôl cyfarfod â STAND y gogledd yn gynharach y mis hwn, pan drafododd teuluoedd eu profiadau gan fynegi arwyddocâd dyfarniad am oes iddyn nhw, dywedodd y gwas sifil yn nhîm Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, sydd â'r cyfrifoldeb am bolisi cynllun y bathodyn glas, wrthyn nhw y bydd nawr yn treulio amser yn gweithio drwy'r materion a gafodd eu codi, a'u trafod gyda'r Ysgrifennydd Cabinet fel y gall Llywodraeth Cymru ymateb yn fanwl iddyn nhw. Ond mae'r mater hollbwysig hwn yn haeddu mwy na hynny. Mae'n gofyn am ddatganiad i'r Senedd lawn, a chyfle i Aelodau ar draws y Siambr holi'r Ysgrifennydd Cabinet ynghylch hyn.

Yn fyr, os caf i, rwy'n galw hefyd am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch cynnwys pobl fyddar yn strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Cymru. Ddoe, ysgrifennodd Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Byddar Cymru Gyfan—grŵp o weithwyr proffesiynol ac elusennau byddar ac sy'n clywed—at y Gweinidog, gan ddweud eu bod yn awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru wir yn rhan o'r strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru. Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i bobl fyddar, ac eto, mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu problem iechyd meddwl na phoblogaethau sy'n clywed. Fe wnaethon nhw gyfarfod fel grŵp gyda chi a Gweinidogion eraill ym mis Hydref 2022, ac maen nhw wedi cael gwybod sawl tro i aros am y strategaeth iechyd meddwl newydd. Ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n nerfus y gallai pobl fyddar gael eu gadael ar ôl, sydd wedi digwydd gymaint o weithiau o'r blaen. Yn olaf, yn ystod cyfnod ymgynghori'r strategaeth iechyd meddwl drafft, ni chafodd pobl fyddar yng Nghymru eu nodi'n grŵp sydd wedi'i ymyleiddio, ac yn ystod datganiad y Gweinidog ar iechyd meddwl a llesiant yma yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref, nid oedd sôn am iechyd meddwl pobl fyddar. Felly, maen nhw'n annog y Gweinidog i wirio'r strategaeth iechyd meddwl yn unol â hynny. Ac mae hyn, unwaith eto, yn fater mor ddifrifol, mae'n haeddu datganiad gan y Gweinidog i'r Senedd lawn yn unol â hynny. Byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi geisio hwyluso'r ddau ddatganiad llafar hynny i'r Senedd lawn yn unol â hynny.

14:35

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch i chi hefyd am ategu'r cwestiwn y gwnaeth Carolyn Thomas ei gyflwyno ar fathodynnau glas. Mae gennyf i ddiddordeb hefyd yn y mater a'r amgylchiadau sy'n ymwneud ag apeliadau, a'r pryderon sydd wedi'u mynegi ynghylch deall y meini prawf, a chyfleoedd ar gyfer dyfarniadau am oes hefyd. Fel y dywedais i, rydyn ni wedi cyflwyno diweddariadau ac addasiadau, yr ydych chi'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, ar ôl bod yn rhan o lawer o'r gwaith craffu ar gynllun y bathodyn glas. Ond hefyd, mae'r newidiadau hynny wedi digwydd o ganlyniad i ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â llywodraeth leol. Ac, yn amlwg, mae gennych chi rywfaint o adborth o gyfarfod â phobl, wedi'i lunio yn y gogledd. Felly, byddaf i'n tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru at hyn. Ac, wrth gwrs, bydd ganddo hefyd ei gwestiynau llafar yn y Senedd yr wythnos nesaf, felly mae cyfle i'w godi yno hefyd. Ond mae sylw'r Llywodraeth yn cael ei dynnu eto at bryderon am y ffordd mae'r bathodyn glas—. Mae'n hollbwysig bod y cynllun yn sicrhau bod y rhai sy'n wynebu rhwystrau i'w symudedd yn gallu cael mynediad at gonsesiynau parcio ar y stryd.

Felly, byddwn i hefyd, o ran eich ail gwestiwn—. Rwy'n credu y gallaf i eich sicrhau chi, ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant hefyd eisiau ymateb yn gadarnhaol i'r alwad am gynnwys pobl fyddar yn y strategaeth iechyd meddwl newydd. Mae'n gyfle, wrth i ni weithio, i raddau helaeth, yn yr un modd ag y gwnaethon ni yn y tasglu hawliau anabledd, er mwyn cyd-gynhyrchu, ac rwy'n siŵr mai dyna fydd y ffordd ymlaen o ran y strategaeth iechyd meddwl newydd.

Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, am bwysigrwydd llyfrgelloedd i addysg a llesiant, a hoffwn i'r datganiad hwnnw nodi pa gymorth y mae modd ei roi i awdurdodau lleol i gadw llyfrgelloedd ar agor. Ar draws fy rhanbarth i, mae gwasanaethau llyfrgell yn wynebu gorfod cau oherwydd toriadau gan y cyngor. Mae cyngor Caerffili yn cynnig cau 12 llyfrgell ar draws y fwrdeistref. Rwyf i wedi cael negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n poeni am golli eu llyfrgelloedd yn Nelson a Threcelyn, Abertridwr, Aberbargod. Nid llefydd i fenthyg llyfrau yn unig yw llyfrgelloedd: maen nhw'n ganolfannau i'r gymuned, yn fan lle y gall pobl hŷn fynd i ddianc rhag unigrwydd, ac yn lloches i blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn ystod gwyliau neu ar ôl ysgol. Nawr, mae gennyf i bryderon ynghylch sut y gallai cau'r llyfrgelloedd hyn ehangu rhaniadau, gallai gosbi pobl am fod yn dlawd. Ond yr hyn rwy'n poeni fwyaf amdano yw sut y gallai gwtogi dychymyg a dyhead pobl ifanc, sut y gallai gau drysau ym meddyliau plant, wrth iddyn nhw gael eu ffurfio. Felly, a all y Llywodraeth nodi pa gymorth fydd ar gael, ac, ar frys—mae'r ymgynghoriad yng Nghaerffili yn cau ym mis Rhagfyr?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn, Delyth Jewell, o ran dyfodol ein llyfrgelloedd cymunedol. Mewn gwirionedd, dyma un o nodweddion allweddol effaith cyni a lleihau cyllidebau dros y 14 mlynedd diwethaf, pan oedd yn rhaid i awdurdodau lleol wneud dewisiadau anodd iawn am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu a'r hyn y gallen nhw ei ddiogelu. Ond hefyd, fe wnaeth ysgogi, wrth gwrs, gamau i ystyried ffyrdd eraill y byddai modd darparu llyfrgelloedd trwy ein proses o drosglwyddo asedau cymunedol. Felly, ar draws Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth i, mae llawer o'r llyfrgelloedd cymunedol bach erbyn hyn yn cael eu cynnal gan elusennau lleol gyda chefnogaeth y gwasanaeth llyfrgelloedd. Mae'n amrywio o amgylch Cymru; mae yna lawer o wahanol fodelau. Ond mae gennych chi ymgynghoriad, ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r modelau hyn ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried.

Ac mae'n wir iawn, fel y dywedwch chi, fod llyfrgelloedd yn allweddol nid yn unig i'n plant a'n pobl ifanc a mynediad at ddarllen llyfrgelloedd y plant, ond i bobl hŷn, i bob cenhedlaeth. Yn ddiweddar, ymwelais i â hyb Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd, sydd yn llyfrgell, ond mae ganddo gaffi hefyd, mae ganddo lyfrgell i blant hefyd, mae ganddo glwb swyddi, mae ganddo Gyngor ar Bopeth, mae ganddo'r holl bethau sydd eu hangen ar gymuned, ac rwy'n deall bod mwy o lyfrau yn cael eu benthyg nawr oherwydd ei fod yn rhan o hyb. Rwy'n credu bod rhai enghreifftiau da y mae awdurdodau lleol wedi'u datblygu ledled Cymru, a gobeithio y bydd y rhain yn cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwnnw.

14:40

Hoffwn i ymuno â Carolyn Thomas a Mark Isherwood i ofyn am ddatganiad ar y bathodynnau glas. Rwy'n siŵr bod pawb eisiau sicrhau nad yw bathodynnau glas yn cael eu cam-ddefnyddio. A all y datganiad egluro pam mae angen i bobl sydd â chyflwr dirywiol lenwi'r holl ffurflen gais eto, yn hytrach na chadarnhau bod ganddyn nhw yr un cyflwr o hyd? Mae yna nifer o gyflyrau nad yw pobl yn gwella ohonyn nhw. Byddai 'Rwy'n ddall o hyd' yn ateb—nid oes angen iddyn nhw lenwi'r ffurflen gyfan—neu 'Mae gennyf i MS o hyd.' Fe wnes i ei llenwi ar ran fy nhad-yng-nghyfraith sy'n 93 oed ychydig flynyddoedd yn ôl, a oedd wedi'i gofrestru'n ddall ac na allai fod wedi mynd unrhyw le'n agos at gwblhau'r ffurflen honno ei hun. Os ydyn ni eisiau helpu'r bobl sydd angen help, yna mae gwir angen datganiad llafar arnom ni yn esbonio sut y gallwn ni ei symleiddio ar gyfer y rhai sydd â chyflyrau difrifol.

Mae'r ail ddatganiad llafar yr wyf i'n gofyn amdano ar ddatblygiad SA1 yn Abertawe. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithredu fel yr angor datblygu, gyda thai a busnesau—gan gynnwys datblygiadau technolegol, gwestai a manwerthu—yn agor ar y safle. Mae'n ddatblygiad llwyddiannus iawn ar safle tir llwyd ac mae modd ei ddefnyddio fel enghraifft. Yn olaf, a allai gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar basio'r datblygiad i Gyngor Abertawe, a chefnogaeth i'r lesddeiliaid ar y safle, a'r gwaith y mae angen ei wneud ar yr adeiladau uchel? A allwch chi sicrhau bod y bobl yn yr adran sy'n gyfrifol amdani wir yn gwybod eu bod yn gyfrifol amdano, yn hytrach na throsglwyddo fy nghwestiynau i rywun arall?

Diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn yna, Mike Hedges. Fe wnaethoch chi ddilyn trywydd cwestiynau am y bathodyn glas. Rwy'n credu fy mod i eisoes wedi ymateb am yr heriau penodol ar gyfer cyflyrau dirywiol a all, wrth gwrs, fod yn barhaol neu a all waethygu o ran yr effaith ar fywyd rhywun. Ond hefyd, y gwir amdani yw ei bod yn anodd iawn i'r person hwnnw allu gwneud y cais heriol hwnnw, ar yr adeg honno. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, ar adeg y diagnosis, hyd yn oed os yw cyflwr yn gynyddol ac yn ddirywiol, efallai na fydd yn effeithio eto ar symudedd unigolyn i'r graddau sy'n ofynnol i fodloni'r meini prawf ar gyfer bathodyn glas, oherwydd ei fod yn ymwneud â, fel rydych chi'n ymwybodol, sut mae hyn yn effeithio ar symudedd ar hyn o bryd yn hytrach nag ar y diagnosis yn unig. Ond un pwynt pwysig, yn ddiweddar, yw bod swyddogion wedi cwrdd ag unigolion â phrofiad bywyd i ddeall eu safbwyntiau'n well, ac rydyn ni wrthi'n archwilio'r materion a godwyd i weld lle y mae'n bosibl gwneud gwelliannau. Ond, yn sicr, mae hyn eto yn arwain at sylw yn y Senedd hon o ran craffu a diweddaru'r gwaith hwnnw.

O ran eich cwestiynau am brosiect SA1 Glannau Abertawe, sydd, wrth gwrs, ydy, yn hynod lwyddiannus, gan ddenu buddsoddiad sylweddol, £250 miliwn o gyllid cyhoeddus preifat, datblygiad Matrics newydd gwych Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Coastal Housing yn adeiladu 104 o unedau fforddiadwy newydd wrth ymyl Afon Tawe, wedi'u hariannu'n rhannol drwy'r rhaglen grant tai cymdeithasol—. O ran lesddalwyr, gall y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau helpu lesddeiliaid i ddeall eu hawliau a'u rhwymedigaethau, naill ai o ran telerau unigol eu les neu o ran deddfwriaeth a allai fod yn berthnasol, er enghraifft, o ran eu taliadau gwasanaeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny'n cael ei brofi gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau ac, wrth gwrs, o ran tenantiaid sy'n ymrwymo i gytundebau les yn SA1, mae telerau cytundebol wedi'u nodi a gofyniad i denantiaid gyfrannu at dâl gwasanaeth yr ystad ehangach. Ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflawni, fel y gwyddoch chi, y gwasanaethau tâl gwasanaeth ar draws yr ystad fel landlord, gan gynnwys cynnal a chadw ac iechyd a diogelwch, ac mae hynny'n cael ei gaffael yn gyhoeddus. Ond, yn wir, rydych chi wedi'i godi nawr, a gobeithio y gall lesddeiliaid ddod o hyd i gymorth ac ymateb arbenigol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar sgrinio canser y prostad yng Nghymru? Ar hyn o bryd, wrth gwrs, nid oes darpariaeth ar gyfer sgrinio yng Nghymru ac yn yr un modd mewn rhannau eraill o'r DU, er mai canser y prostad, wrth gwrs, yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion. Nawr, yn ôl yr elusen ganser Prostate Cymru, mae canllawiau hen ffasiwn y GIG mewn gwirionedd yn peryglu bywydau oherwydd, er bod gan bob dyn dros 50 oed yr hawl i gael prawf antigen penodol i'r prostad am ddim, ac yn iau, wrth gwrs, os oes yna hanes teuluol, mae meddygon teulu yn cael gwybod i beidio â chodi'r pwnc gyda dynion oni bai bod ganddyn nhw symptomau. Nawr, fel y cafodd ei amlygu'n ddewr, wrth gwrs, gan Syr Chris Hoy yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn y rhan fwyaf o achosion nid oes unrhyw symptomau ac erbyn i rywun ddangos symptomau, yna bydd y canser wedi datblygu'n fwy o lawer ac o bosibl ni fydd modd ei wella. Nawr, rwy'n deall mai risg bresennol canser y prostad yw un o bob wyth dyn; os oes hanes teuluol, mae'n un o bob tri. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, wrando ar alwadau Syr Chris Hoy ac ystyried eto eich safiad ar sgrinio canser y prostad yng Nghymru? 

Y prynhawn yma, cefais i'r anrhydedd o gyfarfod â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís, pobl frodorol sy'n byw yn ardal Amazon Periw, sydd ar reng flaen y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Fe wnaethon nhw gyflwyno argymhellion i ni i'w cyflwyno i chi fel Llywodraeth, gan gynnwys galw am ofyniad bod cadwyni cyflenwi yn rhydd o ddatgoedwigo, cefnogi pobloedd brodorol yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, cefnogi a hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu rhwng ein gwledydd priodol, a hefyd annog cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru i sicrhau bod unrhyw fenthyciadau neu fuddsoddiadau yn rhydd nid yn unig o danwydd ffosil, ond o ddatgoedwigo hefyd. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn ymateb i'r galwadau hynny gan Genedl y Wampís, yn y gobaith, wrth gwrs, y gallwn ni chwarae ein rhan yn fwy effeithiol wrth wynebu'r her newid hinsawdd y mae cymaint o bobl yn ei hwynebu yn rhan honno'r byd? 

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Mae'ch pwynt cyntaf, rwy'n credu, yn bwysig iawn, sef i ni edrych eto ar ganser y prostad, pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i sgrinio a rôl meddygon teulu a'r cyngor iddyn nhw. Clywais i gyfweliad gyda Syr Chris Hoy hefyd ac mae'n galonogol iawn ond hefyd yn annog dynion i fynd ymlaen ac i gael yr asesiadau hollbwysig hynny. Rydych chi hefyd wedi cyfrannu at godi ymwybyddiaeth y prynhawn yma, Llyr, mewn ffordd hynod bwysig. Yn amlwg, fe wnaf i yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ble'r ydyn ni arni, yn enwedig o ran gwrando ar yr elusen canser y prostad am ein sefyllfa. Ond codi ymwybyddiaeth yw'r pwynt allweddol—y man cychwyn—onid ydyw, o ran arwain at gydnabyddiaeth bod hynny'n rhywbeth y gallen nhw ddymuno'i rannu, neu fod angen iddyn nhw ei rannu â'u meddygon teulu os oes unrhyw bryderon.

Mae gennyf i ddiddordeb mawr yn eich ail gwestiwn hefyd. Rheng flaen newid hinsawdd—. Ni fu modd i mi glywed y sylwadau hynny, ond rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol a'r Dirprwy Brif Weinidog eu hunain wedi cymryd rhan. Y sefydliad hwnnw yw'r rheng flaen, fel y dywedwch chi, ond, yn bwysig—. Rwy'n cofio bod y Cwnsler Cyffredinol, pan oedd hi'n Weinidog newid hinsawdd yn flaenorol, wedi gallu helpu i roi grant i'r y sefydliad—rwy'n credu mai £50,000 ydoedd—sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran galluogi rhai cyfleusterau dŵr—cwch, canŵ—i alluogi plant i gael addysg. Rydw i ond yn adrodd ar yr hyn yr oedd hi'n ei ddweud wrthyn ni'n gynharach heddiw mewn cyfarfod arall. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod, gyda COP 29 yn digwydd heddiw, fod hyn ar flaen y gad yn ein dealltwriaeth o effaith newid hinsawdd ar y rheng flaen. Dyma'r dinistr y mae cymaint o gymunedau'n ei wynebu, ond mae gennym ni gyfrifoldeb, ac mae'r cyfrifoldeb am Gymru yn y byd ac yn ein strategaethau rhyngwladol yn glir i'r Llywodraeth hon.

14:50

A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynnydd mewn cyfraddau tipio anghyfreithlon yn sir Ddinbych ar hyn o bryd, mewn ymateb i'r cam ofnadwy o gyflwyno system Trolibocs? Fe wnes i gerdded o amgylch y Rhyl yn fy etholaeth i ddydd Gwener a chefais fy siomi'n fawr gan gyflwr canol y dref, ar dir preifat a thir cyhoeddus. Mae yna sbwriel, mewn rhai achosion, hyd at 6 troedfedd o uchder, ac mae hyn oherwydd bod y cyngor mewn cylch dieflig, lle mae pobl yn mynd yn rhwystredig oherwydd y diffyg casgliadau biniau sy'n digwydd yn yr ardal leol ac yn troi at ddulliau anghyfreithlon o dipio anghyfreithlon yn yr ardal leol, sy'n achosi pryderon enfawr ynghylch iechyd y cyhoedd a materion amgylcheddol. Rydych chi wedi dweud o'r blaen, Trefnydd, mewn ymateb i gwestiynau tebyg yr wyf i wedi'u gofyn i chi, mai ni yw'r ail ymhlith y cenhedloedd sy'n ailgylchu fwyaf yn y byd. Wel, ni fyddai'n wir yn y Rhyl ac ar draws sir Ddinbych ar hyn o bryd. Costiodd hyn dros £1.2 miliwn ac roedd yn rhywbeth a gafodd ei drefnu gan Lywodraeth Cymru cyn belled yn ôl â 2017-18. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar ba gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn uniongyrchol ei hun a thrwy WRAP Cymru er mwyn datrys y problemau hyn, sydd, yn anffodus, ond yn gwaethygu ac yn achosi llawer o bryder wrth i ni nesáu at y Nadolig?

Diolch am godi'r cwestiwn hwnnw. Nid yw wedi cael ei godi ers sawl wythnos, felly byddwn i wedi deall bod y newidiadau ar gyfer trefniadau ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych wedi'u hymgorffori ac yn cael eu rheoli'n fwy effeithiol erbyn hyn. Ond, yn anffodus, o'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, mae yna faterion mawr sy'n dod i'r amlwg o hyd. Byddaf i'n codi hyn gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd fel y gallwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amgylchiadau yn sir Ddinbych. 

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch y toriadau arfaethedig i linell Calon Cymru? Mae llinell Calon Cymru, i'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod, yn rheilffordd wledig 120 milltir. Mae'n mynd o Abertawe i'r Amwythig ac yn galw mewn 29 gorsaf. Yr wythnos diwethaf, daeth dros 100 o drigolion ac arweinwyr cymunedol ynghyd yn Nhrefyclo, gan godi llais yn erbyn cynlluniau Trafnidiaeth Cymru i dorri'r gwasanaethau o bum trên i bedwar. Mae llawer o bobl yn meddwl mai dim ond i dwristiaid y mae llinell Calon Cymru, ond mae'n achubiaeth hanfodol i gymunedau gwledig. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai'n ailystyried y cynllun i dorri'r pumed gwasanaeth ac i fynd allan a gwrando ar drigolion, y siaradodd pob un ohonyn nhw am bwysigrwydd y gwasanaeth trên hwn i'w bywydau. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Yn amlwg, o ran llinell Calon Cymru, mae'n gyfleuster trafnidiaeth mor bwysig o ran nid yn unig eich etholaeth chi, ond i Gymru gyfan. Mae'n destun gofid mawr pan fydd gwasanaethau'n cael eu dileu, ac mae hefyd yn bwysig iawn bod gwasanaethau, mewn gwirionedd, yn cael eu gwella ar linell Calon Cymru. Rwy'n deall y byddan nhw'n cael eu gwella drwy ddarparu seddi ychwanegol a mwy o le ar gyfer beiciau, er enghraifft, ar y gwasanaethau. Ond gallaf eich sicrhau chi fod Trafnidiaeth Cymru yn gwrando ar deithwyr, rhanddeiliaid allweddol, a bod newidiadau i'w cynlluniau gwasanaeth yn seiliedig ar yr adborth hwn, ond byddwn i'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cwrdd â chi, er mwyn sicrhau y gallwch chi godi'r materion hyn fel Aelod o'r Senedd. Ac, wrth gwrs, fe wnaethon nhw gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo ar 7 Tachwedd. Ond unwaith eto, mae'n fater o ba allu y mae modd ei flaenoriaethu a sut y gallwn ni ddiogelu a gwella'r gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru.

14:55

Yn dilyn eich sylwadau i Llyr Gruffydd am ddirprwyaeth Cenedl y Wampís a gafodd ei derbyn gan amryw o bobl, roeddwn i eisiau dathlu'r arddangosfa Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd sydd wedi cael cefnogaeth CAFOD, Cymorth Cristnogol, Oxfam a Send My Friend to School, ac angerdd y disgyblion hyn wrth iddyn nhw egluro pam mae cyfiawnder hinsawdd mor bwysig, a'r sgiliau cyflwyno rhagorol oedd ganddyn nhw, sy'n glod i bob un ohonon ni. Maen nhw wir yn ei ddeall, ac mae'n dda iawn eu bod nhw'n gwneud y cyfraniad hwn at Wythnos Hinsawdd Cymru, i gyd-fynd â COP29.

Ar nodyn llai optimistaidd, roeddwn i eisiau nodi fy mhryder am y nifer cynyddol o ymosodiadau ar ddyfarnwyr pêl-droed ar lawr gwlad. Arweiniodd yr un digwyddiad yn Llaneirwg yng Nghaerdydd at streic gan y dyfarnwyr hyn yn gynharach y mis hwn i brotestio am y nifer sylweddol iawn o ymosodiadau maen nhw'n eu hwynebu. Mae un o bob pedwar dyfarnwr wedi dioddef cam-drin corfforol ac mae bron i naw o bob 10 wedi dioddef cam-drin geiriol. Nid yw'r bobl hyn yn gwneud hyn am yr arian; maen nhw'n gwneud hyn oherwydd eu bod yn caru'r gêm, felly mae'n wirioneddol ddigalon, yn hytrach na chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer chwarae chwaraeon awyr agored, mae'n ymddangos ein bod ni'n crebachu'r cyfleoedd hynny oherwydd ymddygiad gwael rhai pobl. Meddwl oeddwn i tybed a allem ni gael datganiad gan y Gweinidog diwylliant, sy'n gwbl angerddol am bêl-droed ar lawr gwlad, rwy'n gwybod, am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda'r sefydliadau pêl-droed llawr gwlad hyn, yn ogystal â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, i ddiogelu dyfarnwyr a cheisio cynyddu ymdrechion i atal cam-drin i sicrhau y gall pêl-droed llawr gwlad barhau i ffynnu.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, ac a gaf i ddweud 'diolch' yn gyflym iawn eto am gydnabod dirprwyaeth Cenedl y Wampís, gan ddilyn ymlaen o'r hyn ddywedodd Llyr Gruffydd, a hefyd hyrwyddwyr Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd, gall y bobl ifanc, yn ein hysgolion ni, yr ydym ni'n gwybod, ein haddysgu ni am eu dealltwriaeth a'u hymwybyddiaeth, ac yn amlwg mae eraill o amgylch y Siambr hefyd yn gallu gwerthfawrogi hynny?

Gwnawn, fe wnawn ni godi gyda'r Gweinidog diwylliant yr amgylchiadau trist iawn o ran y dyfarnwyr ac effaith ymddygiad cwbl amhriodol. Dylai pawb deimlo'n ddiogel iawn pan fyddan nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae hynny'n cynnwys gwirfoddolwyr a swyddogion yn ogystal â'r rhai sy'n ei chwarae fel y chwaraewyr. Mae'n anadl einioes chwaraeon llawr gwlad. Rwy'n deall mai awdurdodaeth Cymdeithas Bêl-droed De Cymru yw'r dyfarnwr yn y sefyllfa hon, o ran yr hyn sydd wedi digwydd i ddyfarnwyr, ac maen nhw'n cymryd camau yn erbyn drwgweithredwyr honedig y digwyddiadau. Mae Heddlu De Cymru hefyd yn ymchwilio. Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithas Bêl-droed De Cymru a Chymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd ar 31 Hydref, ac mae'r ddeialog honno yn dal yn agored i ddarparu cefnogaeth a thrafodaeth ynghylch polisïau ac ymgyrchoedd i osgoi'r canlyniad hwn yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, a'r cyntaf gan y Dirprwy Brif Weinidog ar ganfyddiadau cyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Achos dros Newid'? Fe fyddwch chi'n ymwybodol erbyn hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi eu bod nhw am gau gweithrediadau arlwyo a manwerthu Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas? Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod y canolfannau yma yn denu dros £30 miliwn i mewn i economi canolbarth Cymru. Mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ffeindio toriadau o £13 miliwn y flwyddyn yma, ac mae 10 y cant o hynny'n dod a gau'r gweithrediadau yma, felly mi fydd yna impact anferthol ar yr economi leol. Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi cael datganiad efo asesiad o impact yr argymhellion yma, os gwelwch yn dda, yn y Siambr yma.

Yn ail, os caf i ddilyn ymlaen o'r cwestiwn ddaru iddo gael ei ofyn yn gynharach ar linell trên Calon Cymru, mae'r un fath yn wir efo llinell trên y Cambrian, lle mae yna doriadau'n mynd i fod ar y llinell yna sydd yn mynd i effeithio ar allu pobl i fynd i'w lle gwaith nhw. Mi ydw i wedi derbyn dwsinau o e-byst gan bobl sydd yn defnyddio'r trên yna i fynd i'w gwaith, ac maen nhw'n pryderu am eu gallu i gyrraedd eu gweithle, felly mi fydd yna effaith andwyol ar economi gorllewin Cymru efo'r toriadau arfaethedig yma. Felly, mi fuaswn i'n gwerthfawrogi eich bod chi'n edrych ar y ddwy elfen yna o ran llinell Calon Cymru a llinell y Cambrian, a gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ddod ymlaen â datganiad, os gwelwch yn dda.

15:00

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Wrth gwrs, fe gafodd y cwestiwn ynglŷn â'r achos dros newid ei godi gan Carolyn Thomas yn gynharach, ac fe wnes i egluro bod CNC wedi dweud y byddan nhw'n parhau i reoli'r safleoedd hyn, gan gynnwys y tair canolfan i ymwelwyr, gan gynnwys y safleoedd yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, wrth gwrs. Fe fyddan nhw'n dal yn agored ar gyfer cerdded, beicio, meysydd chwarae, parcio ceir a darparu toiledau, ond maen nhw'n chwilio am fynegiannau o ddiddordeb erbyn hyn gan fusnesau a grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhedeg y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn y canolfannau. 

Diolch i chi unwaith eto am godi mater ynglŷn â thrafnidiaeth yng nghefn gwlad Cymru, yn dilyn cwestiwn Jane Dodds am lein Calon Cymru. Rydych chi wedi codi lein y Cambrian nawr a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw. Fe fyddaf i'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynglŷn â hyn i wneud yn siŵr y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwrando ar deithwyr, rhanddeiliaid, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi roi adborth am ar achosion y gwnaethoch chi eu cyflwyno ger bron—a gyflwynwyd ger eich bron—a diolch i chi unwaith eto am roi hyn ar y cofnod heddiw.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cofio
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Wythnos Gwrthfwlio: Iechyd meddwl a llesiant meddyliol dysgwyr

Felly, symudwn ymlaen at eitem 4, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Wythnos Gwrthfwlio: iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad, Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am y cyfle i drafod mater sy'n effeithio ar gynifer o blant a phobl ifanc. Fel rwyf i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, rwy'n awyddus i'n plant ni gael profiadau adeiladol yn yr ysgol a ffynnu yn yr amgylchedd o feithriniad a chefnogaeth y mae ysgol yn ei gynnig. Yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion mwyaf ni, nid yw ysgol yn brofiad adeiladol i bob plentyn ac unigolyn ifanc. Mae bwlio yn dal i fod yn broblem ac mae hynny ag effaith wirioneddol iawn, yn enwedig ar lesiant emosiynol plant.

Yr wythnos hon, rydym ni'n nodi Wythnos Gwrth-fwlio, wythnos bwysig yn ein calendr ni, sy'n rhoi cyfle i ni aros i ystyried yr effaith mae bwlio yn ei chael. Heddiw, rydym ni'n nodi Diwrnod Hosanau o Bob Pâr, pryd rydym ni'n annog pawb i wisgo hosanau annhebyg i'w gilydd, i ddathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni'n unigryw. Ni ddylai ein gwahaniaethau ni fyth fod yn rheswm dros fwlio neu gam-drin unigolyn.

Pan dderbyniais i swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fe ddywedais mai llesiant ac iechyd meddwl da fydd y llwyfan y bydd ein system addysg ni'n cael ei hadeiladu arni. Mae mynd i'r afael â bwlio a'i effaith yn flaenoriaeth allweddol i mi. Rwyf i eisiau datgan y genadwri fod bwlio yn annerbyniol ac na ellir goddef hynny. Rwy'n awyddus i egluro hefyd y byddwn yn cefnogi'r dioddefwyr, ac yn gweithio gyda'r troseddwyr i gydnabod y niwed y maen nhw'n ei wneud, gan eu helpu nhw i ganfod ffordd ymlaen sy'n adeiladol.

I unrhyw un sy'n ansicr am effeithiau posibl bwlio, gellir darllen y data diweddar sy'n llwm iawn. Fis diwethaf, cyhoeddwyd canfyddiadau allweddol dangosfwrdd ysgolion uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion. Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r gwaith hwn, gan ddarparu dros £800,000 yn y flwyddyn bresennol, ac rwyf i o'r farn mai hwn yw un o'r arolygon mwyaf cynhwysfawr o blant a phobl ifanc yn y DU. Roedd cant a thri deg o filoedd o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 hyd 11 yn cymryd rhan ynddo, o 200 o ysgolion uwchradd Cymru. Mae'n darparu toreth o wybodaeth am iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, ac rydym ni wedi ymestyn yr arolwg i blant mewn ysgolion cynradd erbyn hyn.

O ran bwlio, mae'n tynnu sylw at y ffaith bod bron i 38 y cant o blant a phobl ifanc wedi dweud eu bod nhw wedi cael eu bwlio yn ystod y misoedd diwethaf, 32 y cant yn uwch nag yn 2021. Dywedodd mwy na 40 y cant o ferched eu bod nhw'n cael eu bwlio, o'i gymharu â dros 30 y cant o fechgyn.

Mae'r data yn dangos hefyd fod y tueddiadau ar i fyny yn yr holiadur cryfderau ac anawsterau, sy'n mesur problemau seicolegol: 42 y cant o ferched yn sgorio yn uchel neu'n uchel iawn, o'i gymharu â 27 y cant o fechgyn; roedd dros 26 y cant o fyfyrwyr yn sgorio yn uchel neu'n uchel iawn ar gyfer problemau cyfoedion; mae pobl ifanc sydd â chyfradd isel o gyfoeth teulu yn adrodd am gyfraddau boddhad bywyd is, cyfraddau llesiant meddyliol is a mwy o anawsterau seicolegol, o'i gymharu â phobl ifanc sydd â chyfraddau canolig neu uchel o gyfoeth teulu; ac, er bod llesiant meddyliol wedi gwella ychydig ers 2021, gyda 22 y cant o bobl ifanc yn nodi cyfraddau isel o lesiant, o'i gymharu â 25 y cant yn 2021, mae hynny'n parhau i fod yn waeth nag yn 2017 a 2019, pan oedd 18 y cant a 21 y cant o bobl ifanc yn mynegi cyfraddau isel o lesiant.

Mae'r tueddiadau hyn yn peri pryder ac yn dangos nad ydym ni'n gallu canolbwyntio llai ar iechyd meddwl a llesiant plant. Rydym ni'n gwneud cynnydd drwy gyfrwng ein canllawiau statudol ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol. Rydym ni wedi buddsoddi yn sylweddol i gefnogi'r gwaith, gan gynnwys £13.6 miliwn yn y flwyddyn bresennol. Mae cyllid yn cefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, a darparu ymyriadau llesiant cyffredinol wedi'u targedu, a chefnogi ein gwasanaeth mewngymorth iechyd meddwl plant a'r glasoed mewn ysgolion.

Serch hynny, fe geir rhagor i ni ei wneud bob amser, ac mae cefnogi ysgolion i weithredu'r canllawiau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod pob ysgol uwchradd heblaw am 24 yn weithredol ar hyn o bryd o ran gwneud cynlluniau i gefnogi eu hanghenion llesiant. Serch hynny, mae'r cynnydd mewn ysgolion cynradd yn arafach, gyda dim ond 669—ychydig dros hanner—ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n parhau i ganolbwyntio arno dros y misoedd nesaf i weld sut y gallwn ni gau'r bwlch.

Mae'r cysylltiad rhwng bwlio ac iechyd meddwl yn adnabyddus. Ar ei waethaf, mae pobl ifanc wedi cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i fwlio. Mae hwnnw'n drychineb oherwydd colli bywyd ifanc, i'r teulu a'r ffrindiau, a chymunedau yn eu cyfanrwydd. Fe ŵyr Aelodau'r Senedd hon, ers blynyddoedd lawer, i mi fod yn hyrwyddo ymgyrchoedd, sefydliadau ac unigolion sy'n ceisio atal hunanladdiad, yn enwedig hunanladdiadau'r ifanc. Ym mis Ebrill, fe gynhaliais i ddigwyddiad dysgu proffesiynol ar-lein er mwyn i athrawon a staff eraill deimlo yn hyderus a chymwys wrth ymdrin â'r materion dirdynnol iawn hyn a all godi mewn ysgolion. Roedd y digwyddiad yn darparu sgiliau cychwynnol o ran gwrando er mwyn i staff eu defnyddio nhw i fagu eu hyder wrth wynebu'r materion hyn. Fe ymunodd pedwar cant a deg ar hugain o unigolion â'r digwyddiad ar-lein, 'Dod o hyd i'r geiriau: atal hunanladdiad a hunan-niweidio mewn ysgolion', sydd ar gael o hyd i'w wylio ar ein platfform Hwb, sy'n dangos pa mor gryf yw'r teimlad a graddfa'r broblem sy'n wynebu'r rhai sy'n gweithio yn ystafelloedd dosbarth ein hysgolion.

Rwy'n awyddus i ddal ati i flaenoriaethu'r mater hwn, ac fe fyddaf i'n ymchwilio i'r hyn y gallwn ni ei wneud fel arall yn 2025 i gefnogi ysgolion yn unol â'n strategaeth ddrafft atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n ymrwymo heddiw i ddiweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio statudol, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb'. Fe gafodd y ddogfen wreiddiol ei chyhoeddi yn 2019, ac, er bod llawer ohoni hi'n berthnasol o hyd, mae angen iddi fyfyrio ar y sefyllfa wirioneddol nawr o ran bywyd yn y Gymru gyfoes.

Rwy'n credu bod Cymru yn wlad gynhwysol a goddefgar. Eto i gyd, rwy'n cydnabod hefyd yr angen i ni fod yn wyliadwrus o'r rhai a fyddai'n hoffi lledaenu amheuaeth a drwgdybiaeth yn ein plith. Mae materion sy'n digwydd yn y gymdeithas yn codi yn aml ym microcosm ein hysgolion hefyd. Wrth ddiweddaru'r canllawiau, rwy'n bwriadu ei rymuso a sicrhau ei fod o gymorth wrth fynd i'r afael â hiliaeth o bob math, ac yn cefnogi gofynion 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac yn mynd i'r afael â chasineb crefyddol, ac yn mynd i'r afael â chasineb tuag at ein cymunedau LHDTC+ a thrawsryweddol. Fe fyddaf i'n cyflwyno'r ddogfen ddiwygiedig ar gyfer ymgynghori cyn gynted ag y gallwn ni.

Nid oes neb ohonom ni'n dymuno gweld bwlio yn ein hysgolion. Mae Wythnos Gwrth-fwlio yn tynnu sylw at y mater, ac rwy'n annog Aelodau'r Senedd i gyd i ymgysylltu a chefnogi ysgolion yn ein hetholaethau ni yn ystod yr wythnos hon, ar gyfer ysbrydoli ein plant i ddathlu ein gwahaniaethau a hyrwyddo cydberthynas adeiladol. Diolch.

15:10

Fe hoffwn i gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'ch datganiad chi'r prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet, ar gyfer nodi Wythnos Gwrth-fwlio. Mae hynny'n amserol ac yn bwysig iawn ac rwy'n credu fy hunan nad oes unrhyw le i fwlio mewn unrhyw sefyllfa, yn arbennig yn y cyd-destun hwn beth bynnag. Cafodd y datganiad hwn ei roi ger bron yn y Senedd heddiw, yng nghyd-destun Wythnos Gwrth-fwlio, ac wrth gwrs mae hyn yn cydblethu ag iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Ond mae iechyd meddwl a llesiant gwaeth ymhlith dysgwyr yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ffactorau na ellir eu hystyried nhw ar eu pennau eu hunain. Felly, rwy'n croesawu dull sy'n canolbwyntio ar y llu o faterion yn system addysg Cymru, sydd i gyd yn croestorri â llesiant disgyblion ac athrawon. O ran hanes Llywodraeth Cymru am wrthsefyll bwlio mewn ysgolion, yn anffodus nid yw'r canlyniadau wedi cyd-fynd â disgwyliadau'r Llywodraeth. Roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiadau'r Senedd 2021 yn addo

'amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag troseddau casineb a bwlio',

gan weithio yn benodol gyda sefydliadau fel Google, Facebook a Twitter i gyflawni hynny. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet, pan oedd yn Gadeirydd pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Senedd yn 2021, yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion i ystyried iechyd meddwl a llesiant plant. Ers i hynny gael ei ymgorffori, serch hynny, mae iechyd meddwl disgyblion wedi gwaethygu, ac mae adroddiadau o fwlio mewn ysgolion dim ond wedi cynyddu, felly mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni o ran y ddyletswydd honno, yn anffodus.

Roedd arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion o 130,000 o ddysgwyr rhwng blynyddoedd 7 ac 11 ar draws y 200 o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn arddangos bod atchweliad rhwng 2021 a 2023 o ran pob metrig o lesiant disgyblion, bron â bod. Roedd yr adroddiad yn canfod ymdeimlad cynyddol o unigedd cymdeithasol, gyda llai o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw'n gallu dibynnu ar eu ffrindiau, o'i gymharu â data o 2017. Mae hi'n ymddangos bod honno'n duedd gynyddol yn dilyn COVID, ac rydym ni wedi gweld cynnydd siomedig o ran cymhathu disgyblion yn ôl i'w hysgolion yn dilyn hunan-ynysu. Ac mae'r diffyg hwn o gymorth yn cael ei adlewyrchu hefyd yn y cynnydd ysgytwol o ran materion ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae llesiant addysgwyr yn gostwng hefyd, gyda 95 y cant o athrawon Cymru yn dweud yn 2023 eu bod nhw wedi profi camdriniaeth gorfforol neu drais gan ddisgyblion. Mae 86 y cant o athrawon yn mynegi bod hyn wedi effeithio ar eu hyder a'u brwdfrydedd yn eu gwaith, gyda mwy na hanner yr athrawon yng Nghymru yn profi straen a gofid. Mae hi'n bwysig, felly, fod ymagwedd gyfannol gan Lywodraeth Cymru sy'n ystyried llesiant addysgwyr a dysgwyr ac yn mynd i'r afael â'r holl ffactorau sy'n cyfrannu at y dirywiad, ac fe fyddai hynny'n cynnwys bwlio, ynysu cymdeithasol, defnyddio ffonau yn yr ystafelloedd dosbarth ac ymddygiad drwg.

I ganolbwyntio ar fwlio, mae'r ffigurau'r un mor siomedig, gyda nifer y disgyblion yng Nghymru sy'n adrodd eu bod nhw'n cael eu bwlio yn cynyddu 6 y cant rhwng 2021 a 2023, a nifer y disgyblion a oedd yn nodi eu bod nhw wedi profi seiberfwlio wedi cynyddu 3 y cant rhwng 2021 a 2023. Mae'r canlyniadau hyn yn yr arolwg yn waeth nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n peri cryn bryder, yn enwedig dair blynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymgorffori dyletswydd gyfreithiol i ystyried llesiant meddyliol plant a'u hamddiffyn nhw rhag casineb. Mae'r adroddiadau yn dangos cyfradd uwch o ferched yn cael eu bwlio na bechgyn hefyd, gyda dros 40 y cant o ferched yn dweud eu bod nhw'n profi bwlio mewn ysgolion yng Nghymru. Felly, er gwaethaf geiriau teg Llywodraeth Cymru, fe welsom ni ddiffyg mawr o ran cyflawni wrth wella llesiant meddyliol ein pobl ifanc a gostwng cyfraddau bwlio mewn ysgolion.

Fe hoffwn i glywed oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet am gynlluniau mwy penodol ar gyfer cyflawni a sut y mae'n disgwyl gweld canlyniadau, ac fe hoffwn i weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyflwyno cynllun mwy eang hefyd o sut y rhoddir sylw i'r holl faterion hyn sy'n cydblethu. Mae'r cynnydd sy'n peri pryder mewn ymddygiad drwg yn gysylltiedig â llesiant disgyblion mwy difreintiedig hefyd, felly mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn i gyd gyda'i gilydd. Roedd maniffesto Llafur Cymru yn addo gweithio gyda sefydliadau cyfryngau cymdeithasol hefyd i fynd i'r afael â chasineb ac amddiffyn ein pobl ifanc rhag bwlio, felly rwy'n awyddus i glywed gan y Llywodraeth pa waith a wnaeth Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw. Ac yn olaf, fe hoffwn i glywed sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â llesiant yr addysgwyr yn ogystal â llesiant y myfyrwyr. Mae'r data sy'n peri pryder yn dangos dirywiad o ran boddhad athrawon, a fydd ag effaith ddinistriol ar addysg dysgwyr ac a fydd, yn yr hirdymor, yn achosi problemau sylweddol gyda recriwtio a chadw staff addysgu ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb chi, a diolch unwaith eto am eich datganiad y prynhawn yma.

15:15

A gaf i ddiolch i Gareth Davies am ei groeso i'r datganiad a'i sylwadau ef, yr oeddwn i'n cytuno â rhai ohonyn nhw? Yn arbennig, rwy'n cytuno â'r ffaith fod llawer o'r materion a welwn ni mewn ysgolion yn cysylltu â'i gilydd, ac un o'r pethau a ddywedais i wrth ddod i'r swydd hon oedd fy mod i'n dymuno gweld ystod o bethau yr ydym ni'n eu gwneud yn cyd-fynd â'i gilydd yn well; felly, mae ymddygiad yn cysylltu ag iechyd meddwl sy'n cysylltu â gwaharddiadau sy'n cysylltu â phresenoldeb, ac rydym yn ceisio cydgysylltu'r gwaith hwnnw. Rhan o'r gwaith y mae'r bwrdd cyflawni ar gyfer dull ysgol gyfan, sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan Sarah Murphy a minnau, yn ei wneud yw bod â ffrwd waith yn y fan honno sy'n rhoi ystyriaeth ar draws y system gyfan o'r hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y mentrau hyn yn cysylltu â'i gilydd.

Roeddech chi'n sôn am y ddyletswydd o ran iechyd meddwl. Roedd yna ddyletswydd yn rhan o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ar gyfer rhoi sylw i iechyd meddwl plant a phobl ifanc wrth lunio unrhyw gwricwlwm. Honno oedd yr un gyntaf drwy'r byd, hyd y gwn i, ac yng Nghymru y digwyddodd hynny. Ac rwy'n credu bod gennym ni hanes da yma; mae gennym ni bethau sy'n digwydd yng Nghymru nad ydyn nhw'n digwydd o gwbl dros y ffin. Felly, mae gennym ni ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, gwaith sydd ar y gweill ydyw hwnnw, ond mae hwnnw'n digwydd gennym ni, ac rydym ni wedi ymgorffori hwnnw yn y canllawiau statudol. Rydym wedi sicrhau bod cwnsela ar gael yn yr ysgolion i bobl ifanc yng Nghymru o flwyddyn 6 hyd at ddiwedd yr ysgol uwchradd. Mae gan bobl ifanc yng Nghymru hawl iddo; unwaith eto, nid yw hynny'n digwydd dros y ffin. Mae gennym ni fewngymorth CAMHS mewn ysgolion yng Nghymru, rydym ni wedi buddsoddi dros £5 miliwn yn hynny, gyda gweithwyr proffesiynol CAMHS yn mynd i mewn i ysgolion, gan weithio gyda'r staff yno, i ddarparu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc sydd â mwy o gymhlethdodau, ac rydym ni wedi buddsoddi dros £13 miliwn eleni yn unig yn y gwaith hwnnw. Felly, rwy'n credu bod enw da gennym ni, ond mae mwy o waith i'w wneud eto.

Ac nid yw'r cynnydd y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn niferoedd y plant a phobl ifanc sy'n adrodd am lesiant gwael yn bodoli oherwydd diffyg ymrwymiad gan y Llywodraeth hon na chamau gan y Llywodraeth hon; rwy'n gwybod bod hynny o ganlyniad i gymhlethdodau ym mywydau plant a phobl ifanc heddiw. Fe wyddom ni fod pandemig COVID wedi cael effaith ar blant a phobl ifanc ac rydym ni'n dal i ailgryfhau ar ôl hynny, gan gynnwys yn yr ysgolion. Felly, rwy'n credu bod enw da gennym ni, ond mae angen i ni ddal ein troed i lawr ar y sbardun yn hynny o beth.

Ac os caf i ddweud wrthych chi, Gareth, mae llawer o'r materion iechyd meddwl sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc—ac yn wir, sy'n cyfrannu at fwlio—o achos tlodi, ac mae hwnnw'n ganlyniad uniongyrchol i'ch Llywodraeth yn San Steffan—[Torri ar draws.] Na, na, na: mae honno'n ffaith. Mae hynny wedi arwain at laweroedd o blant yn tyfu i fyny mewn cartrefi lle maen nhw'n byw mewn tlodi. Mae hynny'n arwain at warthnod ac allgáu cymdeithasol. Mae hi'n ffaith. Mae Llywodraeth Lafur gennym ni yn San Steffan nawr, er ei bod hi'n gynnar iawn, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n gweld pethau yn newid, gan weithio gyda'r Llywodraeth Lafur yn y fan hon.

Roeddech chi'n gwneud rhai pwyntiau pwysig am y gweithlu addysg. Fe ddywedais i bob amser—yn wir, fe ddywedais i hynny wrth gynhadledd y penaethiaid wythnos diwethaf—na all y gweithlu addysg gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant mewn ysgolion os nad ydyn nhw mewn  sefyllfa dda eu hunain, felly dyna pam mae ein dull ysgol gyfan yn berthnasol i'n gweithlu addysg hefyd. Rydym ni'n buddsoddi yn y gefnogaeth i'r gweithlu, nid yn unig drwy gyfrwng Cymorth Addysg, sef sefydliad yr ydym ni'n ei ariannu i gefnogi'r gweithlu, ond mae staff yr ysgolion wedi gallu cael mynd at y gwasanaeth cwnsela hefyd.

Rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi am yr hanes ynglŷn â mater bwlio hefyd. Fel roeddwn i'n dweud heddiw, rydym ni'n bwriadu diweddaru'r canllawiau statudol ynghylch bwlio. Mae canlyniadau'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn bryderus iawn. Rwy'n falch iawn fod y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion gennym ni yng Nghymru; mae hwnnw'n cael ei ariannu ar y cyd ar draws y Llywodraeth ac mae'n cynnig dull grymus iawn o wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, ac mae'r hyn a ddywedodd am fwlio yn peri pryder mawr. Fe fyddaf i'n cwrdd â thîm y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fuan i siarad am y canfyddiadau a siarad am—. Mae ysgolion yn gallu cael gafael ar y data hwnnw, mae ganddyn nhw'r adroddiadau am eu hysgolion unigol oddi wrth y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ond rwy'n awyddus i ni allu, yn y Llywodraeth, geisio defnyddio'r data hwnnw i sicrhau ein bod ni'n mireinio ein polisïau ni'n fwy effeithiol. Diolch i chi.

15:20

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ymdrechion i leihau bwlio lle bynnag mae’n codi ei ben a gwella llesiant plant a phobl ifanc. Mi fyddwn ni yn craffu yn agos iawn ar waith y Llywodraeth yn y maes yma, gan ei fod yn faes mor eithriadol o bwysig.

Os caf i droi at y datganiad yn benodol, mae’n bryder bod nifer y plant, fel ŷn ni wedi clywed yn barod, sydd wedi dioddef bwlio wedi cynyddu o 6 y cant ers 2021, ond ar y llaw arall mae’n galonogol bod llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yn gyffredinol wedi gwella ers 2021. Ond dydyn ni ddim wedi, wrth gwrs, dychwelyd i’r lefelau isel a welon ni cyn y pandemig.

Rwy’n nodi ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ddiweddaru’r canllawiau gwrth-fwlio, ond dyw hyn ddim yn ymrwymiad newydd gan y Llywodraeth. Yn wir, dywedodd y cyn-Weinidog addysg ym mis Mawrth eleni, yn y Siambr yma, fod Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dyfnynnu,

‘wrthi'n diweddaru ein canllawiau statudol ar wrth-fwlio i ysgolion’.

Felly, a fyddai modd i’r Ysgrifennydd Cabinet roi gwybod i ni pa gynnydd yn benodol mae’r Llywodraeth wedi ei wneud dros yr wyth mis diwethaf ar hyn, ac a allwn ni ddisgwyl canllawiau drafft wedi eu cyhoeddi cyn y Nadolig? Os na, wel, pryd, felly?

Dwi eisiau ffocysu yn fyr iawn yn fy nghyfraniad i ar effaith tlodi ar lesiant pobl ifanc a’r mater hefyd o hiliaeth mewn ysgolion. Fel y nododd y sefydliad Plant yng Nghymru mewn nodyn briffio:

‘Gall gwisg ysgol helpu i greu ymdeimlad o gymuned, perthyn a hunaniaeth.’

Ond i lawer o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, mae gwisg ysgol yn achosi straen ac yn gallu arwain at fwlio hefyd, yn enwedig pan fo costau gwisg ysgol gyda bathodyn yn gallu bod llawer uwch na gwisgoedd heb fathodyn. Rwy’n gwybod bod gan y Llywodraeth ganllawiau polisi gwisg ysgol, ond rwy’n pryderu a ydy’r polisi yn cael ei weithredu yn ddigon effeithiol, o ystyried bod nifer o blant yn wynebu stigma os nad ydyn nhw yn gwisgo’r gwisg ysgol gywir.

Dyma brofiad un disgybl sydd wedi dioddef y stigma yma. Fe ddywedodd, ‘Os wyt ti heb y wisg ysgol gywir, rwyt ti’n cael slip gwisg ysgol i fynd adref, ac os nad yw’r wisg yn cael ei chywiro, rwyt ti’n cael pwynt ymddygiad negyddol sy’n gallu codi i gael dy gadw i mewn ar ôl ysgol.’ Mae’n annerbyniol yn fy marn i fod disgyblion yn derbyn cosb fel hyn o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth â pholisi gwisg ysgol, sydd yn gallu bod yn gostus i’r rhai sydd yn byw mewn tlodi. Felly, a fyddech chi fel Llywodraeth yn ystyried sicrhau bod gan bob ysgol fannau ailgylchu gwisg ysgol? A pha gefnogaeth arall gallwch chi ei rhoi i’r rhai sydd yn ei gweld hi’n anodd prynu’r wisg ysgol gywir gan gynnwys bathodyn? Ac a fyddwch chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried cryfhau gweithredu’r canllawiau ar wisg ysgol, er mwyn lleihau nifer y plant sydd yn wynebu bwlio o ganlyniad i hyn?

Yn olaf, i gloi, mae hiliaeth mewn ysgolion hefyd yn fater sydd yn anffodus wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn adroddiad gan y comisiynydd plant yn ddiweddar ar brofiad plant o hiliaeth, rhannwyd nifer o brofiadau erchyll gan ddisgyblion ar draws Cymru. Yn fy rhanbarth i, er enghraifft, dywedodd un person ifanc, a dwi'n dyfynnu, 'Cafodd fy ffrind sydd â chroen tywyllach na fi ei bwlio llawer, byddai pobl yn defnyddio'r gair N—yr N-word—yn ei herbyn hi.' A dywedodd unigolyn arall, a dwi'n dyfynnu eto, 'Dywedodd rhywun eu bod nhw ddim eisiau i fi eistedd drws nesaf iddyn nhw oherwydd lliw fy nghroen i. Fe wnes i jest symud i ffwrdd.' Mae hynny'n gwbl, gwbl annerbyniol yn ein hysgolion ni.

Felly, dwi’n siŵr byddech chi, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, a phawb yn y Siambr yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r profiadau ofnadwy yma mae rhai plant yn eu dioddef. Felly, a fyddwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn ystyried yr argymhellion a geir yn yr adroddiad gan y comisiynydd plant ar y mater yma, wrth ddiweddaru’r canllawiau newydd ar wrth-fwlio? Diolch yn fawr iawn.

15:25

Diolch yn fawr iawn i chi, Cefin, am eich croeso i'r datganiad, ac rwy'n croesawu'r craffu manwl ar ein camau gweithredu yn y cyswllt hwn. A diolch i chi hefyd am gydnabod y gwelliant a fu o ran llesiant, ond fel rydych chi'n dweud, nid ddaeth yn ôl i'r cyfraddau cyn y pandemig. Felly, mae rhai negeseuon cymysg yn hynny o beth y mae angen i ni eu hystyried nhw'n ofalus iawn.

Rwyf i wedi bod yn y swydd hon ers mis Mawrth. Rwy'n gallu dweud wrthych chi ein bod ni'n gweithio ar y canllawiau bwlio ar hyn o bryd, ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â hynny. Fe fyddwn ni'n gwneud felly cyn gynted ag y gallwn ni, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n mynd allan i ymgynghoriad ar y canllawiau newydd wedi'r Nadolig.

Roeddech chi'n cyfeirio at effaith tlodi, sy'n berthnasol dros ben, ac yn enwedig o ran y materion sy'n ymwneud â dillad ysgol. Mae gen i broblem hirsefydlog iawn ynglŷn â gwisg ysgol; mae'n rhywbeth sydd wedi peri llawer o ofid i mi. Bob tro rwyf i wedi cyhoeddi rhywbeth ynglŷn â gwisg ysgol yn rhinwedd bod yn AS yr etholaeth, fe gafodd hynny lawer iawn o ymgysylltiad, sy'n dweud wrthyf i fod hwnnw'n fater sy'n pryderu fy etholwyr i'n wirioneddol. Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol ein bod ni wedi adolygu'r canllawiau i'r ysgolion ar gyfer gwisgoedd ysgol flwyddyn yn ôl, ond fel chwithau, nid wyf i'n teimlo bod y sicrwydd gennyf i ynghylch gweithrediad hynny. Felly, rydym ni'n edrych ar y gwaith gweithredu ar hyn o bryd, i sicrhau bod y canllawiau hynny'n gweithio. Mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol fod Llywodraeth Lafur y DU yn ystyried deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn, ac rwy'n cadw'r dewis yn agored o weithio gyda nhw ar hynny, pe byddem ni o'r farn nad yw ein canllawiau ni'n cael eu gweithredu. Mae llawer o ysgolion yn ailgylchu gwisgoedd eisoes ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn parhau i'w annog. Ond rwy'n awyddus iawn, pe byddai angen, i ystyried cryfhau'r canllawiau hynny. Nid wyf i'n dymuno i unrhyw blentyn gael ei gosbi oherwydd nad oes gan ei rieni ddigon o arian i roi'r eitem gywir o'r wisg iddo, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'r ysgolion ynglŷn â hynny i sicrhau eu bod nhw mor gynhwysol â phosibl.

Roeddech chi'n cyfeirio at faterion hiliaeth, ac yn bendant fe fydd ein hadolygiad ni o'r canllawiau yn ystyried yr hyn y gwyddom ni sy'n ganfyddiadau pryderus iawn oddi wrth y comisiynydd plant ynglŷn â hiliaeth. Yn amlwg, yn y Llywodraeth, rydym ni'n gweithio ar 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n cael ei arwain gan Jane Hutt. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol yn y 1980au, ychydig iawn o blant oedd gennym ni yn yr ysgolion bryd hynny a oedd yn dod o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, ond mewn gwirionedd, fe gefais i sioc fawr pan welais rai o'r pethau sy'n digwydd yn yr ysgolion heddiw. Roeddwn i'n wir yn credu bod pethau wedi dod yn eu blaenau i raddau helaeth iawn, felly mae hyn yn ddychrynllyd. Rydym ni wedi ystyried yr argymhellion a nodir yn adroddiad y comisiynydd plant. Rydym ni wedi derbyn neu dderbyn yn rhannol y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae rhai o'r argymhellion yn heriol ac fe fyddan nhw'n cymryd peth amser, am eu bod nhw'n ymdrin â data ac yn aml, wrth i chi gasglu data, mae hynny'n golygu newid rheoliadau. Ond rwyf i wedi ymrwymo i wneud hyn yn iawn ac fe fydd yn rhan allweddol o'r adolygiad o'r canllawiau er mwyn sicrhau ein bod ni'n eu diweddaru nhw a'i gwneud hi'n eglur nad yw hiliaeth yn dderbyniol mewn ysgolion a'n bod ni'n eiddgar i sathru ar hynny.

15:30

Mae iechyd meddwl plant yn waeth nag erioed o'r blaen, gyda ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol yn ffactorau sy'n cyfrannu yn eang at hynny. Fe ellir eu defnyddio nhw i fwlio, trin a rheoli, sy'n gyrru pobl ifanc i fyd ynysig o anobaith, ac nid ydyn nhw'n credu bod dihangfa yn bosibl na throi at rywun arall am gymorth. Fe geir deiseb agored ar hyn o bryd yng Nghymru ar gyfer gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol, gydag eithriadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol. Mae'r deisebydd yn nodi y gall ffonau clyfar amharu ar hunan-barch, achosi pryder, a thynnu sylw oddi wrth y cyfleoedd sydd i siarad â phobl wyneb yn wyneb. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn bwriadu cynnal ymchwiliad i'r mater hwn. Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n cytuno bod gwaharddiad ar ffonau clyfar mewn ysgolion yn rhywbeth y dylid ei ystyried wrth symud ymlaen?

Diolch yn fawr iawn i chi, Carolyn, am y sylwadau yna. Rwy'n croesawu'r ffaith yn fawr iawn fod y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y materion hyn. Mae'r materion sy'n ymwneud â ffonau symudol yn rhai cymhleth, rwy'n credu. Ar hyn o bryd, mae pob ysgol yn gallu gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion os ydyn nhw'n dymuno, ac yn wir, nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn caniatáu defnyddio ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth. Roedd hi'n ddiddorol, serch hynny, yng nghynhadledd y penaethiaid wythnos diwethaf, pan oeddem ni'n edrych ar ymddygiad, eu bod nhw o'r farn y dylai ffonau symudol fod yn fater i bob ysgol yn unigol. Felly, mae'r farn yn amrywio ar hyn, ond rwy'n edrych ymlaen at glywed y dystiolaeth a ddaw o'ch pwyllgor chi. Dim ond gair i'ch sicrhau chi, fel dywedais i wythnos diwethaf, ein bod ni am gyhoeddi pecyn cymorth ymddygiad i fod o gymorth i ysgolion, ac fe fydd hwnnw'n cynnwys strategaethau rheoli ystafelloedd dosbarth ac ymchwil ar reoli ymddygiad, gan gynnwys y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion.

A dim ond gair bach hefyd i ddweud eich bod chi'n gwneud pwyntiau pwysig am y cyfryngau cymdeithasol. Ni fyddwn i'n dymuno bod yn fy arddegau ac yn tyfu i fyny heddiw. Mae'r amgylchedd yn heriol iawn. Nid yw hi'n eglur gyda'r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd fe geir manteision yn ogystal ag anfanteision i blant a phobl ifanc, yn enwedig gyda'r rhai sy'n teimlo yn ynysig. Un o'r pethau y mae ein cwricwlwm yn ceisio ei wneud, drwy bethau fel ein gwaith ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddeallus. I mi, mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gwybod sut i ofyn am gymorth hefyd pe bydden nhw'n pryderu am rywbeth a welon nhw. Rydym ni'n gwneud llawer o waith i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae gennym ni safle penodol yn Hwb. Mae gennym ni grŵp cyfeirio ar gyfer pobl ifanc, yr ydym ni'n ei ddiweddaru ar hyn o bryd, ac fe geir llawer o wybodaeth ddefnyddiol i rieni hefyd ynglŷn â dulliau o gadw eu plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Ond rydych chi'n iawn i godi hyn, ac mae'n rhywbeth y bydd angen i ni ei adolygu trwy'r amser. Dyna pam mae'r dull ysgol gyfan mor bwysig, oherwydd os yw plant yn ei chael hi'n anodd, rydym ni'n awyddus iddyn nhw ddweud wrth rywun eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd, pe byddai hwnnw'n un o'u ffrindiau nhw, yn athro, yn ofalwr mewn ysgol; nid oes unrhyw wahaniaeth, cyn belled â'u bod yn gofyn i rywun am gymorth.

Diolch am eich datganiad chi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n falch fod yr Wythnos Gwrth-fwlio hon yn dod ag ymwybyddiaeth y mae taer angen amdani o ran pa mor ddifrifol yw effaith bwlio ar iechyd meddwl y rhai sy'n ei ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogaeth, ond rwy'n pryderu nad yw'r broblem wedi ei datrys o bell ffordd. Yr wythnos hon, roeddwn i'n siarad ag etholwr pryderus iawn yr oedd ei blentyn wedi cael ei fwlio mewn ysgol yn sir Fynwy dros gyfnod maith iawn. Fe gododd y teulu eu pryderon gyda'r ysgol, ond roedd y bwlio yn parhau. Arweiniodd hyn at y plentyn yn cael pyliau o banig. Yn y pen draw, fe gafodd ei chadw'r tu allan i weithgareddau'r ysgol, a oedd yn golygu nad oedd hi'n mynychu sawl gwers am fisoedd lawer cyn ei harholiadau TGAU. Roedd hi'n teimlo nad oedd hi'n gallu aros yn yr ysgol i astudio ar gyfer safon uwch, ac mae ei rhieni ni'n argyhoeddedig bod hynny wedi bod ag effaith ddifrifol ar ei hiechyd meddwl. Yn anffodus, nid hwnnw yw'r unig achos yn yr ysgol hon.

Heddiw, fe ddylem gofio bod bwlio yn ymestyn y tu draw i faes chwarae'r ysgol. Fe all ddigwydd mewn unrhyw leoliad, hyd yn oed y gweithle, ac mae ei ganlyniadau yn para am amser maith. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau y bydd yr ysgolion wedi cael paratoadau digonol, bod hyfforddiant ar gael, a bod pobl yn cael eu cefnogi i fynd i'r afael â bwlio mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn gallu atal sefyllfaoedd fel hyn yn gyfan gwbl, a sicrhau bod yr ysgolion yn gweithio yn agos gyda rhieni hefyd? Fel gwyddom ni, mae rhai ysgolion ac awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â hyn yn fwy effeithiol na rhai eraill. Felly, sut fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod arfer gorau yn cael ei ymestyn ledled Cymru yn hyn o beth? Diolch i chi.

15:35

A gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am y sylwadau yna? Mae hi'n flin iawn gennyf i glywed am eich etholwr chi. Nid oes neb yn hoffi clywed am blant a phobl ifanc mewn sefyllfa fel honno. Mae ein canllawiau ynglŷn â bwlio yn statudol, ac rydym ni'n disgwyl i bob ysgol fod â chynlluniau ar waith i fynd i'r afael â bwlio, oherwydd mae'n cael effaith aruthrol, fel gwnaethoch chi ei amlinellu. Ac fel y gwnaethoch chi ddweud hefyd, nid yw'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn unig, yn enwedig o ran y cyfryngau cymdeithasol. Nid fel yr oedd hi flynyddoedd yn ôl, pan oedd rhywun yn mynd adref, ac yn cau'r drws, a dyna hi wedyn. Fe all pobl gael mynediad at blant a phobl ifanc trwy'r amser, ac mae hynny'n peri pryder mawr, a dyna pam y mae'r gwaith diogelwch ar-lein yr wyf i wedi sôn amdano mor bwysig. Roeddech chi'n sôn am rieni hefyd, ac fe all rhieni helpu yn hyn o beth, ond maen nhw'n gallu bod ag effaith negyddol gyda chyfryngau cymdeithasol weithiau, wrth i bethau fynd o gwmpas Facebook, a phethau o'r fath.

Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol bod ymrwymiad gennym ni i ysgolion bro, yr ydym ni'n buddsoddi miliynau o bunnoedd ynddyn nhw, ac rwy'n awyddus i weld y gwaith hwnnw'n cael ei gyflwyno. Mae hi'n hanfodol bod ysgolion yn gallu gwneud y cyswllt â chymunedau a theuluoedd. Rydym ni wedi buddsoddi £6.5 miliwn eleni hefyd mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, sy'n gallu gweithio gyda theuluoedd ynghylch y materion cymhleth sy'n atal rhai o'r plant a'r bobl ifanc hynny rhag mynd i'r ysgol a ffynnu yn yr ysgol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu ymestyn y gwaith hwnnw hefyd, i geisio cynnig mwy o gysondeb ledled Cymru. Yr hyn y gallaf i roi sicrwydd i chi yn ei gylch yw, wrth i ni adnewyddu'r canllawiau hyn nawr, y byddaf i'n ystyried y materion sy'n ymwneud â chysondeb a gweithrediad, oherwydd nid yw hi'n ddigon da i fod â'r polisïau cywir, mae'n rhaid eu rhoi nhw ar waith ar lawr gwlad hefyd.

Fe aeth fy mhlentyn pedair oed i'r feithrinfa heddiw yn gwisgo hosanau o bob pâr. A phan welodd hi fy mod i'n gwisgo'r hyn yr oedd hi'n eu disgrifio fel 'sanau du diflas', fe benderfynodd hi y byddai'n dewis sanau newydd i mi. Felly, dyna pam rwy'n gwisgo sanau lliwgar ac yn gwisgo sanau Nadoligaidd hefyd—nid wyf i am eu dangos nhw i chi, Cefin; peidiwch ag edrych—un gyda dyn eira a'r llall gyda Siôn Corn. Ond diolch i chi am eich datganiad pwysig, oherwydd fe all bwlio effeithio ar bobl am ddegawdau wedyn, ar ôl dyddiau ysgol. Fel y gwnaethoch chi nodi yn eich datganiad, mae bwlio yn broblem sy'n gallu effeithio ar bob dysgwr yng Nghymru, ond mae'n fater nad yw'n effeithio ar bob dysgwr yn yr un ffordd. Yng Nghaerdydd, mae tua thraean o ddysgwyr yn dod o gefndiroedd ethnig amrywiol. Ac fe gefais i fy syfrdanu o ddarllen arolwg o 2020, a oedd yn nodi bod 61.5 y cant o ddysgwyr wedi mynegi stereoteipiau oherwydd lliw croen, crefydd a chenedligrwydd. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwneud mwy o ymchwil er mwyn mesur ehangder y mater hwn yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn i chi. A da iawn chi am eich hosanau o bob pâr—rwy'n falch eich bod chi wedi gwrando ar eich merch bedair oed; mae hi'n amlwg fod gennych chi blentyn pedair oed call iawn acw. Felly, ie, yn hollol, a'r hyn y mae'r hosanau o bob pâr yn ei ddangos yw mai ymwneud â gwahaniaeth y mae hyn, a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld yw ysgolion sy'n gynhwysol ni waeth beth a allai'r gwahaniaethau hynny fod. Fe ddywedais mewn ymateb i Cefin pa mor ddifrifol yw'r ystyriaeth yr ydym ni'n ei roi i adroddiad ac argymhellion y comisiynydd plant, ac rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol mai un o'r argymhellion a wnaeth hi oedd cofnodi achosion o hiliaeth. Mae'n rhaid i chi fod â data ar gyfer newid pethau, yn fy mhrofiad i—mae'n ymwneud â bod â'r data synhwyrol hwnnw. Felly, dyna un o'r meysydd yr ydym ni'n gweithio arno. Fe fydd hynny'n cymryd rhywfaint o amser, oherwydd mae yna bryderon hefyd o ran sut y byddwch chi'n gwneud hyn, a'r llwyth gwaith, ac ati, ond rwy'n awyddus iawn i fod â darlun mwy eglur ynglŷn â hynny. Ac nid ymwneud â hiliaeth yn unig y mae hyn. Fe wyddom ni o'r data a ddaeth drwy'r rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion fod pobl ifanc nad ydyn nhw yn uniaethu fel gwryw neu fenyw hefyd yn mynegi llaweroedd o adroddiadau am achosion o fwlio. Rwy'n awyddus i'n hysgolion ni i gyd fod yn lleoedd cynhwysol a chroesawgar i'n pobl ifanc ni i gyd. Oherwydd fel rydych chi'n dweud, fe all y profiadau hynny o fwlio bara am oes a bod yn ddirdynnol iawn.

15:40

Diolch yn fawr iawn i chi, a diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich ymrwymiad o flynyddoedd lawer iawn i'r mater hwn. Rwy'n credu bod gwerthfawrogiad mawr o hynny, a'r buddsoddiad yr ydych chi'n ei wneud wrth geisio mynd at wraidd y mater.

Fe hoffwn i roi teyrnged hefyd i bawb sy'n ymladd yn erbyn bwlio, hiliaeth a ffobia LHDT sy'n digwydd mewn ysgolion, fel yng ngweddill y gymdeithas, oherwydd mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi yn fawr. Mewn rhai ysgolion, efallai y bydd rhywun sy'n cael ei fwlio yn oedi cyn ceisio cymorth gan yr ysgol honno rhag ofn y byddai hynny'n ysgogi bwlio ymhellach. Nid ydyn nhw'n dymuno i neb eu gweld nhw'n mynd i swyddfa'r pennaeth na swyddfa rhywun arall mewn awdurdod. 

Fe hoffwn i dynnu sylw at fy ngwerthfawrogiad i o'r Hangout yng nghanol dinas Caerdydd, sy'n cael ei ariannu gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ac a ddarperir gan Platfform, sef elusen iechyd meddwl. Mae'n agored i unrhyw un yng Nghaerdydd rhwng 11 a 18 oed, rhwng 3 p.m. a 9 p.m. yn ystod yr wythnos a rhwng 12 p.m. a 6 p.m. ar y penwythnosau. Fe all rhywun droi i fyny ac mae hi'n gyfeillgar iawn yno, nid oes unrhyw un am fynnu eich bod chi'n gwneud datgeliad, maen nhw'n aros i chi fod yn barod i siarad. Felly, mae hwnnw'n wasanaeth rhagorol.

Fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n bwriadu ei wneud am y 24 ysgol nad oes polisi llesiant ganddyn nhw fyth. Oherwydd mae'r syniad bod hyn yn berthnasol yn unig i ysgolion lle ceir nifer sylweddol o bobl mewn tlodi yn anghywir; mae'n berthnasol i bob ysgol. Felly, mae angen i bob ysgol fod â strategaeth ar gyfer gwella llesiant ac ymdeimlad o gymuned ym mhob un o'n hysgolion ni.

Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny, a diolch i chi am y geiriau caredig. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi cael y cyfle i ymweld â'r Hangout. Rwy'n gwybod am hwnnw ac rwyf i wedi clywed pethau gwych amdano. Ni chefais i gyfle i fynd yno fy hunan eto, ond mae sefydliadau fel yna'n bwysig iawn, lle gall plant a phobl ifanc fynd i ofyn am gymorth.

Dyma un o'r rhesymau pam y mae'r Llywodraeth, fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, wedi buddsoddi mewn darpariaeth o noddfa, ac mae rhai o'r rhain yn ddarpariaethau o'r fath sy'n cynnig man yn y gymuned i alw heibio, fel yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Hefyd, rydym ni'n ariannu pethau fel Meic, sef y llinell gymorth i blant a phobl ifanc, ac fe wyddoch chi am '111, Pwyso 2', y gall plant a phobl ifanc ei defnyddio hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n estyn cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant a phobl ifanc ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae hynny'n gwbl hanfodol.

O ran yr ysgolion nad ydyn nhw ar y cam cywir o ran bod â dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a gweithredu'r canllawiau hyn, fe fyddwn ni'n parhau i ysgogi'r gwaith hwnnw. Rwy'n awyddus i weld mwy o gynnydd. Roeddwn i'n tynnu sylw yn fy natganiad fod bwlch o ran y ddarpariaeth oedran cynradd hefyd, ond rwy'n teimlo bod llawer o ysgolion cynradd yn gwneud y gwaith hwn eisoes mewn ffordd naturiol iawn. Cafodd ein dull ysgol gyfan ei seilio ar gydberthynas gadarn, ac yn naturiol mae cydberthynas gadarn ganddyn nhw am eu bod yn yr un dosbarth trwy'r amser. Iechyd Cyhoeddus Cymru yr ydym ni'n ei ariannu—tua £700,000 yw hynny—i weithredu'r canllawiau ar ein cyfer ni. Rwyf i wedi egluro fy mod i o'r farn mai yn yr ysgolion uwchradd yr oedd yr angen mwynaf i ni weld cynnydd. Mae gan Sarah Murphy a minnau ein bwrdd cyflawni yfory lle byddwn ni'n craffu ar Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r ffrydiau eraill o waith, ac rwy'n wir awyddus i weld pawb yng Nghymru yn gwneud hyn.

Fe wn i ein bod ni'n gofyn llawer gan ein hysgolion. Ni fwriadwyd i hyn fod yn fwrn. Nid yw'n ymwneud â gwneud athrawon yn therapyddion. Mae'n ymwneud â chydnabyddiaeth gyffredin mai ysgol lle ceir ymdeimlad o berthyn, galluogedd a pherthynas gadarn sy'n galluogi ffyniant iechyd meddwl da.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad. Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 15:44:41
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fy mod heddiw yn gallu cyhoeddi ein canllawiau drafft ar gyfer pleidiau gwleidyddol, gyda'r nod o sicrhau bod ein cyrff democrataidd yn cynrychioli pawb yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Ionawr.

Bydd y canllawiau terfynol, pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi'r gwanwyn nesaf, yn cyflawni dyletswydd Gweinidogion Cymru yn adran 30 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae'r canllawiau hefyd yn mynd i'r afael ag argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd yn ei adroddiad yn 2022 y dylai pleidiau gael eu hannog i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hefyd yn ymateb i alwadau am fwy o dryloywder o ran y wybodaeth am amrywiaeth a roddir am ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd. Yn ogystal, mae'r canllawiau'n annog pleidiau gwleidyddol i ystyried pa gamau y gallan nhw eu cymryd tuag at sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd trwy ddefnyddio cwotâu gwirfoddol, gan ystyried y dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg wrth graffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), oedd yn dangos yn glir iawn y bydd Senedd fwy cynrychioliadol yn Senedd fwy effeithiol. 

Mae'r canllawiau'n rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau i sicrhau bod y Senedd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac, yn bwysig, i wneud democratiaeth yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol ac amrywiol, ar lefel leol a lefel y Senedd. O 2026 ymlaen, bydd y Senedd hon yn edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn. Rwy'n credu y bydd y canllawiau'n helpu pleidiau gwleidyddol i geisio sicrhau ei bod yn cynrychioli amrywiaeth y bobl rydym yma i'w gwasanaethu ac i'w cynrychioli. Rydym wedi ymgysylltu â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys cacws menywod y Senedd, dros yr wythnosau diwethaf, i wrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud a'i weld fel rhwystrau i gyfranogiad ac i godi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad rydym yn ei lansio heddiw. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am eu hymgysylltiad, a hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chefnogaeth werthfawr wrth gwrdd â chynifer o randdeiliaid â phosibl. 

Rwy'n hyderus y bydd y canllawiau'n arf pwysig y gall pleidiau ei ddefnyddio i ystyried y camau y gallan nhw eu cymryd i gyfrannu tuag at ein huchelgais cyffredin o Senedd fwy cynrychioliadol a mwy effeithiol. Byddwn i'n annog pleidiau i ystyried hynny nawr, wrth iddyn nhw gynllunio eu prosesau dethol ar gyfer 2026. Mae'r canllawiau'n nodi rhai o'r egwyddorion a'r arferion sy'n gyffredin mewn sefydliadau sy'n ceisio meithrin diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cyfeirio pleidiau gwleidyddol at wybodaeth am rwymedigaethau cyfreithiol perthnasol y dylen nhw eu hystyried wrth gymryd camau i gynyddu amrywiaeth.

Mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n dair rhan, pob un â'i phwrpas ei hun, ond gyda'r nod cyffredinol o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus. Bydd Rhan 1 o'r canllawiau yn helpu pleidiau gwleidyddol i ddatblygu a chyhoeddi eu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant. Byddem yn disgwyl i'w strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi o leiaf chwe mis cyn etholiad Senedd 2026. Mae Rhan 2 yn nodi sut y gall pleidiau gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth sy'n ymwneud ag ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd, a bydd yr wybodaeth hon yn sefydlu llinell sylfaen ac yn sicrhau bod pleidiau yn gallu olrhain a monitro dros amser. Bydd hefyd yn eu helpu i nodi a mynd i'r afael â thangynrychiolaeth. Mae Rhan 3 o'r canllawiau'n nodi sut y gallai pleidiau weithredu cwotâu gwirfoddol ar gyfer menywod.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gael Senedd sy'n gytbwys o ran rhywedd. Mae cryn dipyn o dystiolaeth ryngwladol bod cael mwy o fenywod mewn seneddau yn eu gwneud yn fwy effeithiol ac y gall cwotâu fod yn effeithiol wrth wella cynrychiolaeth menywod. Mae rhai pleidiau wedi cael llwyddiant wrth sicrhau bod mwy o fenywod yn cael eu hethol, ond mae tipyn o ffordd i fynd eto. Mae menywod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd hon. Drwy gynnwys yr adran ar gwotâu rhywedd gwirfoddol yn y canllawiau, rwyf am i bob plaid gydnabod pa mor bwysig ydyw eu bod yn ystyried pa gamau y gallan nhw eu cymryd i gynyddu cynrychiolaeth menywod. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni wneud cynnydd o ran cynrychiolaeth grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae dwy ran gyntaf y canllawiau'n ymwneud â chynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwleidyddiaeth ar draws ystod eang o nodweddion ac amgylchiadau, gan gynnwys gwella canlyniadau i'r rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol a hefyd gwireddu ein gweledigaeth o Gymru ddwyieithog. Nod y canllawiau yw sicrhau bod pleidiau gwleidyddol, a'r cyhoedd y maen nhw'n ceisio eu cynrychioli, yn cael gwell gwybodaeth am sut mae cynrychiolaeth yn edrych ar gyfer gwahanol grwpiau, fel bod pleidiau gwleidyddol ac eraill yn gallu ystyried beth allai fod y mecanweithiau mwyaf effeithiol ar gyfer cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad.

Wrth ddatblygu'r canllawiau drafft, rydym wedi ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol ac wedi clywed llawer o rai eraill yn siarad am y rhwystrau sy'n gwneud cyfranogiad yn anodd i rai pobl. Fe wnaeth sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Biliau Diwygio, Dirprwy Lywydd, ei gwneud hi'n glir iawn bod angen i bethau newid, gan gynnwys o fewn pleidiau, os ydym am agor y drws i fwy o amrywiaeth o ddifrif. Mae ein rhanddeiliaid wedi ein helpu i nodi egwyddorion eang y gall pleidiau eu mabwysiadu i fod yn fwy cynhwysol, i gael gwared ar y rhwystrau y mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn eu hwynebu ac i sicrhau newid.

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi'r canllawiau hyn cyn 1 Mai 2025. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol ei bod yn ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol ar etholaethau'r Senedd ar gyfer etholiad 2026 cyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf a'r gwaith y mae pleidiau yn ei wneud i benderfynu ar y prosesau dethol ar gyfer eu hymgeiswyr, felly rwy'n anelu at alinio cyhoeddi'r canllawiau terfynol â ffiniau terfynol yr etholaethau.

Rydyn ni i gyd yn gwybod nad yw canllawiau'n unig yn ddigon i sicrhau ein bod ni'n cyflawni amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â mesurau eraill, gan gynnwys gweithredu darpariaethau yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i greu gwleidyddiaeth fwy cynhwysol. Gan adeiladu ar ein cronfa mynediad i swyddi etholedig beilot, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer cynllun cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr anabl sydd am sefyll etholiad. Mae'r Ddeddf hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cymorth ychwanegol i bobl sy'n rhannu nodweddion penodol, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol neu amgylchiadau eraill sefyll.

Yn y ddogfen 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', a ddiweddarwyd yn ddiweddar, gwnaethom ymrwymo hefyd i gydweithio â phobl du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ledled Cymru i ddatblygu cymorth wedi'i deilwra ar sail tystiolaeth i ymgeiswyr, ac i adeiladu piblinell ehangach o unigolion sydd â diddordeb mewn ymgeisio am swydd ar yr un pryd. Rydym wedi darparu cyllid i'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal ac rydym yn archwilio sut y gallwn ni barhau i'w chefnogi. Mae'r cyllid hwn wedi talu ar ei ganfed, gyda straeon llwyddiant yn cynnwys mentoreion yn cael swyddi fel cynghorwyr. Yn bwysig, mae'r rhaglen yn groestoriadol ar draws nodweddion gwarchodedig gwahanol. Mae hyn yn hanfodol i'n holl waith cydraddoldeb nawr ac yn y dyfodol, o ran sicrhau bod mentoreion o bob cefndir yn gallu cael eu cefnogi.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r mater difrifol iawn o gam-drin ac aflonyddu ar ymgeiswyr etholiadol a'r ffaith bod mwy o hyn yn cael ei weld, gan gynnwys yn yr etholiad cyffredinol diweddar. Mae'n hanfodol ein bod ni'n mynd i'r afael â'r mater hwn er mwyn rhoi'r hyder i bob ymgeisydd sefyll ar gyfer etholiad, gan wybod y bydd yn cael ei ddiogelu os bydd yn gwneud hynny. Rydym yn cydweithio ochr yn ochr â gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i hyrwyddo diogelwch ymgeiswyr, ac mae'r canllawiau drafft yn tynnu sylw at y rôl sydd gan bleidiau gwleidyddol wrth gefnogi eu hymgeiswyr.

Rwyf wedi cael fy nghalonogi dros y misoedd diwethaf gan awydd gwirioneddol yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon i weld nid yn unig mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth, ond mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws nodweddion ac amgylchiadau eraill. Cafwyd cydnabyddiaeth gan bleidiau a rhanddeiliaid bod angen gweithredu mewn sawl ffordd i sicrhau newid parhaol. Rhaid i ni ddefnyddio'r ymrwymiad hwn i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer etholiad nesaf y Senedd ac ar gyfer holl etholiadau Cymru y tu hwnt i hynny, ac rwy'n annog pleidiau i ddefnyddio'r canllawiau hyn i'w cefnogi yn yr uchelgais hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn pobl ar y canllawiau drafft dros yr wythnosau nesaf.

15:50

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac, yn wir, am y briff y gwnaethoch chi ei roi i mi cyn heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel y soniais wrthych chi yn ystod y sesiwn friffio a gawsom, fy mod i braidd yn siomedig gyda'r diffyg ymgysylltu sydd wedi bod ers y datganiad y gwnaethoch chi eich bod chi'n tynnu'r ddeddfwriaeth cwota rhywedd yn ôl. Fe ddywedoch chi wrthym bryd hynny eich bod am ymgysylltu'n gadarnhaol â phleidiau gwleidyddol i roi rhywfaint o arweiniad, ac eto yr unig gyswllt a gefais gan eich swyddfa cyn cyhoeddi'r canllawiau heddiw oedd cais i fynychu sesiwn friffio gyda chi, a gynhaliwyd ddoe. Nid dyna'r math o ymgysylltu roeddwn i eisiau ei weld. Roeddwn i eisiau iddo fod yn llawer mwy cydweithredol. Fodd bynnag, dyna lle'r ydym ni ar hyn o bryd.

Nawr, fel y gwyddoch chi, rwyf wedi bod yn galw ers tro am arweiniad fel adnodd i allu cynorthwyo pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i helpu i sicrhau eu bod yn dewis rhestr o ymgeiswyr amrywiol yn etholiad nesaf y Senedd, ac, yn wir, mewn etholiadau lleol ac etholiadau seneddol y DU yn y dyfodol. Ac ar ôl darllen y canllawiau drafft, rwy'n credu bod yna rywfaint o waith pwysig iawn wedi'i wneud wrth eu datblygu, ond rwyf ychydig yn siomedig ei bod hi'n ymddangos, unwaith eto, eu bod yn gorbwysleisio yn benodol amrywiaeth rhywedd yn fwy na nodweddion gwarchodedig eraill. Nawr, dydy hynny ddim yn golygu nad oes cyfeiriadau at nodweddion gwarchodedig eraill yn y canllawiau, oherwydd, wrth gwrs, fel rydych chi newydd ei ddweud, ac fel sy'n amlwg iawn i unrhyw un sy'n darllen y canllawiau, mae yna gyfeiriadau at agweddau eraill ar amrywiaeth, ond does dim digon o bwyslais arnyn nhw, yn fy marn i.

Rydych chi wedi dweud eich bod chi wedi cael rhywfaint o ymgysylltiad â rhanddeiliaid wrth ddatblygu'r canllawiau. Fel y dywedais, rwy'n rhanddeiliad gwleidyddol—dydych chi ddim wedi cael unrhyw ymgysylltiad â mi, yn llythrennol, tan neithiwr, ac yna heddiw yn y Siambr hon. Allech chi roi ychydig mwy o amlinelliad o'r ymgysylltu rydych chi wedi'i gael gyda rhanddeiliaid? Fe gyfeirioch chi at rywfaint o'r ymgysylltu a oedd wedi mynd rhagddo neithiwr, ond, unwaith eto, roedd hi'n ymddangos mai grwpiau â diddordeb mewn amrywiaeth rhywedd oedd y rhain yn bennaf, ac roedd hi'n ymddangos mai ychydig iawn o ymgysylltu oedd wedi bod gydag eraill, fel grwpiau ffydd, grwpiau anabledd, er eich bod chi wedi ymgysylltu rhywfaint ag Anabledd Cymru, y comisiynydd pobl hŷn, grwpiau pobl ifanc. Roedd hi'n ymddangos, unwaith eto, nad oedd unrhyw ymgysylltiad difrifol wedi bod gydag unrhyw un ohonyn nhw—y math o ymgysylltiad difrifol y byddwn i wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio bwrw ymlaen ag ef.

Rwy'n gwybod mai canllawiau gwirfoddol fydd y rhain. Er bod yna ddyletswydd arnoch chi, yn amlwg, fel Gweinidog i gyhoeddi'r canllawiau hyn, a rhwymedigaeth statudol yw honno, mae hyn, yn amlwg, yn mynd i fod yn wirfoddol. Ond hoffwn eich sicrhau o hyn, Gweinidog: byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog fy mhlaid wleidyddol i fabwysiadu rhai o'r syniadau a'r awgrymiadau sydd yn y canllawiau drafft hyn. Wrth gwrs, byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad. Byddwn yn gwrando, hefyd, ar leisiau rhanddeiliaid eraill wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgynghoriad parhaus nawr, a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr hefyd. Rydym yn gobeithio'n fawr, pan fydd y canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi, y byddan nhw'n adlewyrchu'r ystod ehangach honno o nodweddion rwyf wedi cyfeirio atyn nhw yn well. 

Un o'r pethau yr hoffwn eich gwahodd i'w wneud, Gweinidog, yw ymuno â mi mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn y dyfodol er mwyn ymgysylltu â'r grwpiau ffydd sy'n mynychu'r cyfarfodydd hynny; rwy'n credu ei fod yn fforwm defnyddiol iawn. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o ymdrech wedi'i wneud i estyn allan, o leiaf, i Cytûn ac i Gyngor Rhyng-ffydd Cymru; fe wnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn ein trafodaethau neithiwr. Ond rwy'n credu bod ymgysylltiad mwy difrifol â grwpiau fel yna, gyda rhai o'r grwpiau sy'n gysylltiedig ag oedran a chyda rhai o'r grwpiau sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael ag anfanteision eraill y mae angen i ni eu hystyried hefyd, a'r rhwystrau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, yn rhywbeth yr hoffwn i helpu Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen ag ef.

Yn olaf, os caf i, roeddwn i'n falch iawn o glywed y cyfeiriad at barhad y gronfa mynediad i swyddi etholedig i'r rhai ag anableddau. Rwy'n credu bod y peilot wedi bod yn llwyddiant, er bod angen i ni wneud mwy i godi ymwybyddiaeth am argaeledd y gronfa honno er mwyn helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddod yn ymgeiswyr ar gyfer etholiad. Rhaid i ni hefyd sicrhau ei bod yn ehangach yn y dyfodol fel ei bod yn cynnwys y cyfle i oresgyn rhai o'r rhwystrau eraill hynny i fynd i'r afael â'r her rydym i gyd yn ei hwynebu o ran amrywiaeth. Felly, byddwn i'n falch iawn pe gallech chi gadarnhau bod hynny'n rhywbeth y byddwch chi'n ei ystyried—ehangu'r gronfa benodol honno—yn y dyfodol yn eich ymateb i mi. Diolch.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Roeddwn i'n falch iawn o allu cwrdd â chi a rhoi gwybodaeth i chi cyn i mi gyflwyno'r datganiad hwn, a hefyd i ddweud, yn bwysicaf oll, mai canllawiau drafft yw'r rhain, ac mae gennym ni'r cyfle hwn nawr dros yr wythnosau nesaf i ymgysylltu'n llawn a chael yr adborth. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr holl bleidiau yma yn trafod hyn o fewn eu grwpiau, o fewn eu rhwydweithiau i gyd a chyda phwyllgorau gweithredol eu plaid, oherwydd, yn amlwg, mae hyn ar gyfer y pleidiau gwleidyddol rydym yn aelodau ohonyn nhw.

Rwy'n credu, dim ond i ddweud, oherwydd bod hyn yn ddyletswydd statudol yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a gafodd, fel y byddwch chi'n cofio, ei phasio gennym ym mis Gorffennaf eleni, 2024—adran 30—roedd swyddogion eisoes wedi dechrau ar y gwaith. Yn wir, Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, oedd yn arwain y gwaith ar y cam hwnnw pan aeth â'r Bil drwy'r Senedd. Felly, er enghraifft, roedd swyddogion eisoes wedi ymgysylltu â nifer o randdeiliaid ar gynigion ar gyfer y canllawiau drafft. Roedd yna ddogfen lefel uchel ddrafft, a rannwyd gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru—WEN Cymru—a'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ym mis Mehefin, ac, ar gyfer adborth cychwynnol, cynhaliwyd gweithdy rhanddeiliaid ym mis Gorffennaf; y rhannwyd amlinelliad drafft o'r canllawiau cyn pob un. Ac, wrth gwrs, swyddogion oedd yn ymgysylltu â'r sefydliadau hyn. Dyma'r math o gydbwysedd pwysig, dyletswydd ar y Llywodraeth yw hon—felly, mae swyddogion a gweision sifil wedi bod yn gysylltiedig, er mwyn helpu i'n hysbysu ni fel Gweinidogion o ran datblygu'r canllawiau.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn dweud, o ran rhai o'r rhanddeiliaid a'r grwpiau buddiant rydych chi wedi'u crybwyll, yn ystod yr ymgysylltiad lefel uchel hwnnw yn yr haf, roedd Anabledd Cymru a Cytûn yn—. Fe wnaethon nhw gwrdd â Cytûn. Fe wnaethon nhw gwrdd â Stonewall Cymru, WEN Cymru, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Elect Her, y grŵp cynghori ar hawliau dynol. Panel pleidiau gwleidyddol y Senedd—mae hynny'n bwysig iawn. Mae'r panel hwnnw'n cael ei hwyluso gan y Comisiwn Etholiadol. Rwyf wedi cwrdd â nhw ar fwy nag un achlysur, ac, wrth gwrs, nhw yw'r swyddogion arweiniol cyflogedig yn eich pleidiau gwleidyddol, ac maen nhw'n cymryd eu tro i fod yn gadeirydd. Ond hefyd fe edrychon ni at Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru. Fe wnaethon ni estyn allan er mwyn ceisio cael eu barn i'n helpu ni i ddatblygu'r canllawiau drafft hyn, ond nawr, wrth gwrs, mae gan bob un ohonyn nhw, a llawer mwy, gyfle i roi adborth.

Byddwn i'n sicr yn falch iawn o gael cyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol, y grŵp trawsbleidiol ffydd. Yn wir, ddydd Iau, rwy'n mynd i ddigwyddiad Cyngor Rhyng-ffydd Cymru, ac rwy'n credu bod rhai eraill yn mynd hefyd. Rwyf wedi bod yn rhoi hyn yn fy areithiau, lle bynnag y gallaf, i raghysbysu ac ymgysylltu a chael adborth. Rwy'n credu bod siom enfawr wedi bod ynghylch y ffaith nad oes gennym ni gwotâu rhywedd statudol, ond fe wnes i ymrwymiad y bydden ni'n ymgynghori ac yn helpu i arwain—sef yr hyn mae'r canllawiau yn ei wneud, arweiniad ydyn nhw—ar gwotâu gwirfoddol, ac i wneud y pwynt eto am ein hymrwymiad i Senedd gytbwys o ran rhywedd, ac i fynd yn ôl at yr holl waith ardderchog a wnaed, a gadeiriwyd, wrth gwrs, gan y Dirprwy Lywydd, o ran y Bil diwygio, y Bil ymgeiswyr etholiadol. Felly, mae'n sicr yn bwydo i mewn i'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Dim ond i ddweud, o ran y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ehangach, mae rhan 1 a rhan 2 yn cyflawni'n llwyr ar y strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant honno, oherwydd mae'n ymwneud â—. Mae yna lawer o ganllawiau manwl, fel y gwelsoch chi, Darren, ynghylch sut y gall pleidiau ddatblygu eu strategaethau, ac maen nhw'n cwmpasu popeth o ran sut y gallan nhw eu harwain, er mwyn sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu'n llawn â nhw a'u harwain o ran y ffyrdd y gallan nhw ddatblygu'r strategaethau hynny. Ac rwy'n credu y byddwch chi'n gweld bod yna ganllawiau manwl yno ar gynllunio strategol, diwylliant sefydliadol, asesu a dewis ymgeiswyr, cefnogaeth i ymgeiswyr. Rwy'n credu eu bod nhw'n eithaf—. Maen nhw'n unigryw, maen nhw'n torri tir newydd. Maen nhw wedi ystyried, er enghraifft, lle y gallan nhw, lle mae gwaith arall wedi'i wneud. Ond fe fyddwn i'n dweud mai un o'r camau pwysicaf i bleidiau eu hystyried yw pennu cydlynydd neu hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth penodol â statws priodol. Rhaid i bob plaid wleidyddol wneud hyn i sicrhau ei bod yn gallu helpu i ddatblygu'r strategaeth hon.

Yn ogystal â chamau gweithredu, mae'r canllawiau'n edrych ar fuddion posibl hefyd. Hefyd, mae gennym ni, wrth gwrs, fel rydych chi wedi'i ddweud, ddyletswyddau statudol nawr i sicrhau ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hynny sydd wedi dal pobl yn ôl. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod ni'n mynd i fod yn lledaenu'r canllawiau drafft yma—y comisiynydd pobl hŷn—ar gyfer pob cenhedlaeth, a phob buddiant a nodwedd.

Hoffwn ddiolch i chi am eich sylwadau cadarnhaol ar y canllawiau drafft. Rwy'n credu ei bod yn gyfle i ni fel Senedd ddod ynghyd, i gydnabod bod gennym ni gyfle yma, ac rwy'n awyddus iawn, nid yn unig o ran y gronfa mynediad i swyddi etholedig i bobl anabl, sy'n cael effaith, ond ein bod ni'n edrych ar hynny o ran pob cyfle—mae hyn wedi dod drwy ein trafodaethau gydag EYST, gyda Race Council Cymru, nid Anabledd Cymru yn unig, sydd wedi dangos i ni sut mae'r gronfa honno'n cael ei defnyddio—ond gan edrych hefyd ar ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau eraill hynny. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith pan oeddech chi, rwy'n credu, yn cymryd tystiolaeth yn y Pwyllgor Biliau Diwygio, fod yna gydnabyddiaeth nad oedd yn ymwneud â chwotâu yn unig, roedd yn mynd y tu hwnt i gwotâu, roedd yn ymwneud â'r holl strategaethau eraill y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, rwyf wedi nodi eu bod nhw'n glir iawn yn y canllawiau o ran polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd, anghenion gofalu, yr holl amgylchiadau, ac, yn arbennig o bwysig, amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

16:05

Mae hyn i gyd yn dda, ond nid oes ganddo ddannedd, a dyna'r drafferth. Allwn ni ddim gwybod y bydd yn gwneud unrhyw newid, ac rydych chi hyd yn oed yn cydnabod hynny yn eich datganiad. Ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, hoffwn achub ar y cyfle hwn unwaith eto i ailadrodd, er bod unrhyw gamau, wrth gwrs, i geisio sicrhau bod yna amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth yn cael eu croesawu bob amser, fy mod i'n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'n ôl y camau a fyddai wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol a mwyaf uniongyrchol i amrywiaeth ac felly i effeithiolrwydd democratiaeth yng Nghymru, a'ch bod, yn lle hynny, yn cyhoeddi'r canllawiau hyn, sydd ddim yn ddigon ac sy'n rhy hwyr, yr ydym yn gwybod, y rhai ohonom ni sydd o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwleidyddiaeth, na fyddan nhw mor effeithiol. Rydych chi wedi tanseilio nid yn unig eich nodau polisi datganedig eich hun wrth gael gwared ar y mesurau cryfaf hynny, ond hefyd y siawns y byddwn ni byth yn gallu cyflawni'r nodau hynny, o ystyried y mwyafrif blaengar presennol yn y Senedd hon. Dylai Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru fyfyrio ar hynny.

Mae methu ag adlewyrchu ein cymdeithas yn briodol nid yn unig yn gwneud y penderfyniadau a wneir gan ein Senedd yn llai effeithiol, fel y gwnaethoch ei nodi, mae hefyd yn eu gwneud yn llai cyfiawn ac yn atgyfnerthu'r rhwystrau hynny i swydd etholedig, gan waethygu'r canfyddiad bod gwleidyddiaeth etholedig yn rhywbeth i fath penodol o berson yn unig ar draul y lleill, sy'n arwain at ddrwgdybiaeth beryglus a phryderus mewn gwleidyddiaeth. Mae'r bwlch cynrychiolaeth hwnnw yn treiddio i'n polisïau a'n democratiaeth. Felly, rwy'n cytuno â'r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a nodir yn y canllawiau, ac mae'r pwyslais ar amrywiaeth economaidd-gymdeithasol hefyd yn hanfodol. Mae'r nenfwd dosbarth, fel y'i gelwir, yn cael ei ostwng yn rhannol gan y ffaith bod angen adnoddau, amser ac arian arnoch chi i ddod yn ymgeisydd ac i gynnal ymgyrch. Mae mantais amlwg i'r rhai sy'n gallu fforddio cymryd absenoldeb di-dâl i ymgyrchu o gymharu â'r ymgeiswyr posibl hynny na allen nhw byth fforddio gwneud hynny. Mae'r canllawiau'n cynnig bod pleidiau yn ystyried ffyrdd—yn ystyried ffyrdd—i gefnogi ymgeiswyr sydd ddim yn gallu ariannu rhannau o'u hymgyrch—gofal plant, trafnidiaeth—i gael eu dewis neu eu hethol, ond does dim llawer o fanylion yno. Mae'r rhwystrau ariannol hyn sy'n atal ymgeiswyr o bob cefndir sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn effeithio ar fenywod yn arbennig. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ariannu cynlluniau newydd i liniaru hyn, yn unol â'r dyletswyddau yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)?

Rydych chi'n sôn bod y Ddeddf yn paratoi'r ffordd i ehangu'r cynllun swyddi etholedig, cynllun cymorth y Ddeddf. Dydy e' ddim yn teimlo fel bod llawer o frys, felly allech chi roi mwy o fanylion i ni ar hynny? Ydych chi'n cytuno ag argymhellion adroddiad y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ar y mater hwn yn 2022, a oedd yn awgrymu y dylai'r Llywodraeth ddeddfu hawl i sefyll mewn etholiad sy'n sicrhau bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i ganiatáu i bobl gymryd amser i ffwrdd i ymgeisio ar gyfer swydd etholedig, nad yw'n annhebyg i'r model ynghylch gwasanaeth rheithgor?

Rwy'n croesawu'r ffocws ar aflonyddu. Rydyn ni'n gwybod y gall hyn ddod o'r cyhoedd ac o fewn pleidiau. Mae'r canllawiau'n mynd i'r afael â'r mater hwn, gan ddweud y dylai'r pleidiau lunio canllawiau, ond hefyd eich bod chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar fesurau i fynd i'r afael â hyn. Felly, beth yn union yw'r mesurau hynny? Ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r gyfran isaf o gynghorwyr benywaidd o holl wledydd y DU, ac mae diffyg data ar y rolau sydd gan fenywod a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn pleidiau, fel swyddogion pwyllgorau lleol ac ati, ac mae'r rhain yn rhan o biblinellau'r ymgeiswyr, onid ydynt? Felly, pam nad yw'r canllawiau'n mynd ymhellach ar hyn, a sut y bydd yr awgrym i gasglu a chyhoeddi data yn cael ei fonitro?

Sut y bydd y canllawiau'n gweithio ar y cyd â phrosiectau cyfredol i gynyddu amrywiaeth, fel rhwydwaith llawr gwlad mynediad at wleidyddiaeth Anabledd Cymru, ac yn cyd-fynd â nhw? A pha gyllid ychwanegol fydd ar gael i grwpiau sy'n gwneud y math yma o waith i hwyluso nodau'r canllawiau? 

Felly, rwyf wedi amlinellu pam rwy'n credu nad yw'n ddigon. Nawr byddaf yn egluro pam rwy'n credu ei bod yn rhy hwyr: oherwydd mae pleidiau gwleidyddol, fel y gwelwn yn y newyddion bob dydd, eisoes yn trafod, hyd yn oed yn gweithredu, penderfyniadau ar ddewis ymgeiswyr. Mae ymgeiswyr eisoes yn datgan eu bwriad i sefyll. Dydy canllawiau gwirfoddol fydd ddim yn barod am fisoedd ddim yn mynd i gyflawni'r newid hwnnw ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026. Felly, pa sgyrsiau a gynhaliwyd gydag aelodau pleidiau sy'n debygol o sefyll yn etholiadau Cymru cyn cynhyrchu'r canllawiau hyn, ac a ydych chi'n cytuno nad yw cynnal yr ymgynghoriad hwn dros gyfnod y Nadolig yn ddelfrydol o bell ffordd? 

Dydy cyfreithiau sy'n sicrhau cynrychiolaeth deg ddim yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yn unig; maen nhw'n ymwneud ag adfer ymddiriedaeth mewn sefydliadau gwleidyddol, gan ddangos eu bod yn sefyll gyda ac ar ran pob cymuned. Ar hyn o bryd, mae Plaid Cymru, rwy'n falch o ddweud, yn gweithio ar gynnig i geisio sicrhau cydraddoldeb rhywedd o ran yr ymgeiswyr fydd yn cael eu dewis ar gyfer etholiad 2026 fel cam cyntaf tuag at gynrychiolaeth deg. Bydd ein cyrff llywodraethu yn penderfynu ar hyn yn fuan. Felly, pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran mabwysiadu system gwota wirfoddol fel yr un y byddem wedi'i gweld mewn deddfwriaeth, yn eich plaid eich hun, Ysgrifennydd Cabinet?

16:10

Diolch yn fawr am y cwestiynau pwysig iawn. 

Rwy'n sicr yn cydnabod y pwynt cychwynnol rydych chi'n ei wneud, am y ffaith y byddech chi wedi ceisio sail statudol ar gyfer y cwotâu rhywedd, ond, wrth gwrs, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod gennym ni nawr—. Roedd gennym ni'r ddyletswydd bob amser beth bynnag, yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, i gynhyrchu'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant hon. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol yn y canllawiau, a byddwch chi'n gweld o'r cefndir, ein bod ni'n mynd yn ôl i 'Senedd sy'n gweithio i Gymru' a hefyd y pwyllgor pwrpas arbennig, sydd i gyd yn galw am yr amrywiaeth ehangach honno, yn ogystal â bod yn ymrwymedig iawn i gwotâu rhywedd a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. 

Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod gan bleidiau—. Does dim i atal pleidiau gwleidyddol rhag cyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant na gwybodaeth am amrywiaeth ymgeiswyr, ac rydym am i bob plaid, rydym am annog pob plaid wleidyddol, i gymryd y camau hyn yn wirfoddol. Ond gyda'r canllawiau hyn, rydym am gael, gobeithio, rywfaint o gysondeb o ran eu hymagwedd at hyn, a dyna pam rydym yn cyhoeddi'r canllawiau heddiw.

Rydym yn credu eu bod yn gatalydd ar gyfer newid, y canllawiau hyn. Mae awydd, wrth gwrs, ymhlith pleidiau i wneud mwy yn y maes hwn, ond, pan oeddem yn bwrw ymlaen â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), roedd awydd gwirioneddol yn dod yn ôl gan bob plaid i weld nid yn unig mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth ond mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws nodweddion eraill. Ac roedd hi'n dda clywed bod pleidiau gwleidyddol eisoes yn datblygu strategaethau, ac rydych chi wedi sôn am Blaid Cymru yn datblygu ei strategaeth o ran cynrychiolaeth menywod. Mae'r canllawiau hyn, rwy'n credu—. Maen nhw'n fanwl. Maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth. Maen nhw'n mynd i helpu pleidiau gwleidyddol i gymryd y camau ymarferol hynny i wella amrywiaeth ymgeiswyr. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, o ran monitro'r canllawiau, y bydd cyfle ar ôl etholiad Senedd 2026, drwy'r broses adolygu a ddarperir yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, i bwyso a mesur ble rydym ni. Yn fy natganiad ac yn y canllawiau, byddwn ni'n disgwyl i bleidiau allu adrodd ar y data o ran amrywiaeth ymgeiswyr o fewn chwe wythnos i'r etholiadau. Mae llywodraeth leol eisoes wedi sefydlu hynny o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  

Ac rwy'n cytuno'n llwyr ein bod ni—. Mae'r rhain yn ganllawiau ar gyfer holl etholiadau Cymru. Maen nhw ar gyfer holl etholiadau Cymru, felly mae hynny ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni enghreifftiau da mewn llywodraeth leol o rannu swyddi yn y cabinet, ac rydym yn trafod hynny ac mae e' yn y canllawiau, ac rydym yn trafod hynny beth bynnag o ran cynllun peilot ar rannu swyddi ar gyfer Cadeiryddion pwyllgorau. Rydym am sicrhau y bydd y seithfed Senedd yn adlewyrchu amrywiaeth yr ymgeiswyr sydd wedi dod ymlaen ac sydd wedi'u hethol, a dysgu beth sydd wedi gweithio'n dda, lle credwn fod angen cymryd camau pellach. A bydd asesiadau effaith llawn yn cael eu cynnal o ran darpariaethau deddfwriaethol, sy'n sail i'r canllawiau hyn, fel bod gennym ni ddealltwriaeth eang o'r effaith ar bleidiau gwleidyddol ac ar wahanol gymunedau a grwpiau. Mae'n bwysig iawn, fel rydych chi'n ei ddweud—ac fe wnaeth Darren Millar, wrth gwrs, y pwynt hwn hefyd—ein bod ni'n cefnogi pobl sydd â nodweddion heb gynrychiolaeth ddigonol, heriau economaidd-gymdeithasol neu amgylchiadau penodol, ac felly rydym yn ariannu ymchwil i rwystrau, yn enwedig y rhwystrau hynny a achosir gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

Yn olaf, oherwydd fy mod i'n gwybod bod gennym ni lawer o gwestiynau eraill, byddwn ni'n cynnig sesiwn friffio dechnegol i'r holl Aelodau. Mae yna sesiwn friffio dechnegol ar gyfer pleidiau gwleidyddol, a bydd sesiwn friffio i'r cawcws menywod hefyd. Bydd gweithdai—gweithdai sydd wedi'u trefnu'n allanol—yn ystod y cyfnod hwn, felly rydym yn mynd i weithio'n gyflym o heddiw ymlaen, ac rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni yn yr ymdrech honno.

16:15

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet.

Rwy'n croesawu cyhoeddi'r canllawiau hyn heddiw, ac er nad wyf wedi cael y cyfle eto i edrych arnyn nhw'n fanwl iawn, mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn annog eraill a sefydliadau i ymgysylltu ag ef ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Un o'r rhesymau pam y dewisais sefyll yn y lle hwn, yn y Senedd, oedd ei bod yn llawer mwy cynrychioliadol nag mewn mannau eraill. Ac er bod hynny wedi llithro'n ôl, efallai, yn ddiweddar, rydym am fod yn rhan o adeiladu hynny yn y dyfodol. Oherwydd, yn ogystal â newid wyneb ein gwleidyddiaeth, mae hefyd yn newid ei ffocws hefyd. Rydym wedi siarad am nodweddion gwarchodedig eraill hefyd, ac fel lesbiad sydd wedi dod allan, rwyf yn y lleiafrif yn y lle hwn o hyd, a hoffwn weld yr amrywiaeth honno'n tyfu yn y Senedd nesaf, oherwydd yn ogystal â sicrhau gwell gwleidyddiaeth, mae hefyd yn sicrhau polisïau gwell yn seiliedig ar ein profiad bywyd.

Hoffwn sôn am y pwyntiau a wnaed o ran amseru'r canllawiau, a bod pleidiau gwleidyddol naill ai wedi dechrau ar y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer y Senedd fwy yn 2026 eisoes, neu'n edrych ar y broses honno. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn a ydych chi'n ymwybodol o'r awydd sydd yno, neu pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael, gan bob plaid sy'n cael ei chynrychioli yn y lle hwn ar hyn o bryd ar gyfer ymrwymiad nid yn unig i gytuno mewn egwyddor, ond i roi rhan 3 o'r canllawiau ynghylch cwotâu rhywedd gwirfoddol ar waith?

Diolch yn fawr, ac mae'r ymatebion a'r pwyntiau y gwnaethoch chi wrth arwain at y cwestiwn hollbwysig hwnnw ynglŷn â ble rydyn ni'n meddwl ein bod ni'n mynd i symud ymlaen o ran sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Senedd ac yn etholiadau'r seithfed Senedd, yn rhai i'w croesawu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn o bwynt tystiolaeth grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd hon. Yn amlwg, o ran grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, dydyn ni ddim yn adlewyrchu poblogaeth Cymru o ran amrywiaeth. Mae menywod yn cyfrif am 51.1 y cant o boblogaeth Cymru, felly, yn amlwg, cwotâu rhywedd a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yw'r hyn y dylem ni ei gyflawni ar gyfer Senedd sy'n gwbl gynrychioliadol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod nad yw hyn yn mynd i newid oni bai bod gennym ni'r ymrwymiad hwnnw gan bleidiau gwleidyddol. Yn amlwg, mae ein gwahanol bleidiau gwleidyddol yn mynd i fynd â hyn i ffwrdd, a'r pwynt am ran 3 oedd nodi'r canllawiau ar gwotâu rhywedd gwirfoddol, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n fuddiol i chi.

Fe wnes i hefyd—. Felly, fe fyddwn, rwy'n siŵr, yn clywed gan ein pleidiau gwleidyddol, wrth i ni symud drwy'r wythnosau nesaf, gwestiynau ynghylch gweithredu cwotâu rhywedd, a bydd yna gyfleoedd, yn amlwg, gyda sesiynau briffio technegol a'n hymgysylltiad ein hunain i edrych ar hynny. Hefyd, rwyf am edrych ar hyn o safbwynt croestoriadol o ran menywod amrywiol Cymru, yn enwedig o ran edrych ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynrychiolaeth menywod. Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod ni'n ariannu Elect Her. Rydym wedi dyfarnu cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau, gyda chydlynydd rhaglen amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn unig. Rwy'n credu bod rhai ohonom ni yn nigwyddiad Elect Her pan gymerodd menywod y Senedd drosodd y llynedd.

Gweithgareddau allgymorth, sefydliadau llawr gwlad, hwyluso rhwydwaith o fenywod o Gymru mewn swydd etholedig, a datblygu cyfres o adnoddau a chyrsiau hyfforddi hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd hynny'n helpu i symud pethau ymlaen. Ond mater i'r pleidiau gwleidyddol yw ystyried y dystiolaeth, y canllawiau. Rhai drafft ydyn nhw, felly edrychwn ymlaen at yr ymateb, a byddwn yn dymuno cyhoeddi hwn cyn gynted â phosib—ac mae hynny'n rhyw fath o ymateb i gwestiwn Sioned hefyd—ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori ym mis Ionawr. Ond cofiwch na fyddwn, fel y dywedais, yn cael y cadarnhad terfynol o ran ffiniau tan ddiwedd mis Mawrth, fwy na thebyg—mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny erbyn 1 Ebrill—ond mae pleidiau eisoes yn dechrau eu prosesau dethol.

16:20

Mae risg sylweddol mai'r Senedd nesaf fydd y lleiaf cytbwys o ran rhywedd mewn hanes. Nid fi sy'n dweud hynny ond cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol. Felly, mewn gwirionedd, efallai na fydd eich gobaith chi, Ysgrifennydd Cabinet, y bydd yn fwy cytbwys o ran rhywedd yn cael ei gadarnhau. Mae yna un blaid wleidyddol sydd ddim yn y Senedd ar hyn o bryd lle mae yna risgiau sylweddol na fydd gennym fenywod yn dod ymlaen o bosibl.

Mae'r dystiolaeth yn glir: cwotâu rhywedd deddfwriaethol yw'r unig ffordd o sicrhau Seneddau Cymru a seneddau'r DU sy'n gytbwys o ran rhywedd. Yn ôl ym mis Medi, fe fynegais fy chwerwder dwys, tristwch a gofid bod hwylustod gwleidyddol a buddiannau pleidiau yn cael eu blaenoriaethu dros gynrychiolaeth menywod a diwygio democrataidd o ran cyflwyno cwotâu rhywedd. Heb gwotâu, bydd Cymru'n cael ei gadael gyda system bleidleisio sy'n cwtogi ar ddewis, yn lleihau atebolrwydd, ac yn methu â gwarantu'r gynrychiolaeth deg honno. 

Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd Cabinet—ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad chi i'r maes hwn; rwy'n gwybod eich bod chi'n bersonol wedi ymrwymo, ond nid felly eich Llywodraeth—yw: beth yw eich ymateb? Pan fyddwch chi'n siarad am ganlyniadau mesuradwy ac yn adolygu'r hyn y mae pleidiau gwleidyddol wedi'i wneud yn 2026, a gaf i ofyn i chi, a fydd hynny'n statudol neu'n wirfoddol, oherwydd os mai'r olaf ydyw, yna ni fydd yn dal dŵr o gwbl? Diolch.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch am y rhybudd hwnnw. Byddwn i'n dweud bod y rhybudd hwnnw gan gyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn rhybudd i'r Senedd hon, yn rhybudd i'r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma a'r rhai nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli yma, ond a allai gael eu cynrychioli yma yn 2026. Dyna pam mae'r canllawiau hyn, yr ymgynghoriad hwn, mor bwysig, ac mae'n rhaid i ni brofi pleidiau gwleidyddol yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn o ran eu hymrwymiad i sicrhau bod hon yn Senedd amrywiol a chynhwysol. Dim ond dyletswydd statudol i gynhyrchu'r canllawiau hyn sydd arnom drwy adran 30 o'r Ddeddf, ond mae'r gweithredu, fel y dywedais i ac fel y gwyddoch chi, yn wirfoddol. Ar y llaw arall, gallai pleidiau gwleidyddol, os ydyn nhw'n ymrwymo i ddilyn y canllawiau hyn, ddarparu Senedd amrywiol a chynhwysol, a mater i bleidiau gwleidyddol yw meddwl, unwaith eto, am roi sail statudol cwotâu rhywedd yn eu maniffestos ar gyfer yr etholiad nesaf.

Yn wir, fel y gwyddoch chi, ac rwy'n gwybod ei fod yn siomedig, ond roedd y materion o ran cymhwysedd ac amseru yn golygu nad oeddem hyd yn oed yn mynd i gael cwotâu rhywedd statudol ar gyfer 2026; roedd yn mynd i fod ar gyfer 2030. Felly, mae'r rhain i gyd yn bwyntiau pwysig i'w gwneud, ond rwy'n credu bod y canllawiau rwyf wedi'u rhoi, rydyn ni wedi'u cynhyrchu heddiw ar gyfer ymgynghori, mewn gwirionedd—. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod pobl yn teimlo, 'Ydy hyn yn golygu eu bod nhw eisiau ni yma?', y bobl allan yna sydd ddim yn cael eu cynrychioli yma, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yma, ac mae hynny'n cynnwys nid yn unig menywod amrywiol, ond pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl, pobl hŷn, pobl iau, pobl LHDTC+, ac rydyn ni'n gwybod bod amgylchiadau economaidd-gymdeithasol—. Fe wnaethon ni ddeddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw wedi'i deddfu o hyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r canllawiau hyn hefyd i adeiladu'r holl fecanweithiau cymorth hynny, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno ar hynny. Mae angen mentora arnom, mae angen cymorth arnom, Elect Her, Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, ac mae angen ymrwymiad arnom i gymorth ariannol, ond mae angen i ni hefyd ddangos ein bod ni'n Senedd wrth-hiliol, bod ein pleidiau'n wrth-hiliol, a'n bod ni o ddifrif ynglŷn â dod â phobl ymlaen, annog pobl i ddod ymlaen a sefyll mewn etholiad yma.

Rwy'n sicr yn gobeithio, ac rwy'n siŵr eich bod chi—. Rydym i gyd, yn ein plaid, yn mynd allan ac yn galw ar bobl i ddod i sefyll. Rydym yn cynnal cyfarfodydd. Ond oni bai ein bod ni'n mynd i'r afael â rhai o'r rhesymau pam nad yw pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn sefyll i gael eu hethol, hyd yn oed pe bai dyletswydd statudol, mewn statud, ar gyfer cwotâu rhywedd, rwy'n dal i feddwl y byddai gennym heriau, oherwydd dydy gwleidyddiaeth ddim yn lle y mae llawer o bobl yn teimlo eu bod am fod, yn enwedig oherwydd yr achosion cynyddol o gam-drin gwleidyddion, ac fe godwyd y pwynt hwnnw'n gynharach, ac rwy'n sicr yn gweithio gyda phob Llywodraeth yn y DU ar y mater hwnnw. Felly, gadewch i ni geisio gwneud hyn yn alwad gadarnhaol i bobl amrywiol Cymru ddod ymlaen a sefyll dros ein pleidiau gwleidyddol. Mae angen cannoedd o bobl arnom i ystyried heddiw, 'Ydw, rwy'n credu y gallai'r seithfed Senedd honno fod i mi.'

16:25

Roeddech chi'n sôn am gael eich arwain gan dystiolaeth, ond fe ddangosodd y dystiolaeth, wrth i ni graffu ar y Bil, fod cwotâu rhywedd yn gwbl angenrheidiol a'r budd y bydden nhw'n ei gael o ran mwy o amrywiaeth yn y Senedd. Felly, dydw i ddim yn deall y cam hwn yn ôl gan y Llywodraeth, ac rwy'n bryderus iawn, oherwydd fydd yna ddim ôl-effeithiau, dim cosbau os na fydd pleidiau yn rhoi'r canllawiau ar waith. A hoffwn wybod pa gyllid sy'n cael ei neilltuo i gefnogi pleidiau gwleidyddol yn yr ymdrech hon. Oherwydd nid pob plaid sydd ag arianwyr mawr i gefnogi'r gwaith hwn, a gwneud hynny ar sail wirfoddol, gallwn, fe allwn ni ofyn i bobl ddod ymlaen, ond fe welais i'r cyffro o siarad â menywod, na fyddai erioed wedi meddwl am sefyll, pan oedden nhw'n meddwl bod y Bil hwn yn mynd i gael ei ddeddfu, oherwydd roedden nhw'n ei weld fel rhywbeth a fyddai'n newid pethau yn sylweddol.

Felly, mae gen i lawer o bryderon o ran yr hyn rwyf wedi bod yn ei glywed heddiw am y mecanweithiau cymorth hynny. Beth ydyn nhw os nad ydyn nhw'n cael eu hariannu? Oherwydd does dim sicrwydd y bydd pethau fel Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal yn parhau, ac yn y blaen. Felly, beth yw'r camau ymarferol a'r cymorth ariannol sydd ar gael i bleidiau i roi'r canllawiau hyn ar waith, fel ein bod ni'n gallu gweithredu arnyn nhw?

Diolch yn fawr iawn, a gobeithio, Heledd—. Ymgynghoriad drafft yw hwn, ac mae'n bwysig eich bod chi'n codi'r materion hyn ynghylch cymorth. Yn hollol. Pa gymorth fyddwn ni'n ei roi i bleidiau gwleidyddol? Ond yn fwy na hynny, pa gymorth rydyn ni'n mynd i'w roi i'r bobl rydyn ni am iddyn nhw ddod ymlaen a sefyll? Mae hyn yn rhywbeth lle rydym eisoes wedi sôn am y gronfa a ddatblygwyd ar gyfer pobl anabl—y gronfa mynediad i swyddi etholedig—ac rwyf eisoes wedi dweud yn fy natganiad ein bod ni nawr yn edrych ar sut y gallem ddefnyddio'r gronfa honno a'i hehangu i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae'r heriau a'r cwestiynau hyn, maen nhw eisoes yn bwydo i mewn i'r ymgynghoriad heddiw, felly rwyf am i chi gydnabod bod y rheini'n bwyntiau pwysig i'w gwneud.

Ond, yn amlwg, nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig; mae'n ymwneud â phleidiau gwleidyddol yn cofleidio neges amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y seithfed Senedd. Ac nid cyfrifoldeb arnom ni yn y Llywodraeth a phleidiau gwleidyddol yn unig yw hwn; mae hefyd yn gyfrifoldeb ar Gomisiwn y Senedd a phwyllgor y seithfed Senedd sy'n cyfarfod. Mae'n bwysig i fwrdd taliadau annibynnol y Senedd. Mae'n bwysig i'n holl gyrff etholedig a'u haelodau ein bod ni'n edrych ar hyn o safbwynt amrywiaeth.

Felly, mae'n ofynnol i ni, ac rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig i'w wneud, mae'n ofynnol i ni o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gynnwys mesurau sy'n anelu at greu amgylchedd gwleidyddol mwy cynhwysol, gan gynnwys sefydlu a chynnal y gronfa hon, nid yn unig ar gyfer costau ychwanegol ymgeiswyr anabl, ond hefyd i sicrhau bod yna wasanaethau a chynlluniau ychwanegol i gefnogi pobl sydd â nodweddion heb gynrychiolaeth ddigonol, heriau economaidd-gymdeithasol, neu amgylchiadau penodol eraill i sefyll. Rydyn ni'n edrych ar hyn nawr o ran y rhwystrau i sefyll etholiad a achosir gan yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol hynny, a byddwn ni'n gallu adrodd ar hynny yn fuan iawn.

Mae'n ddiddorol hefyd, o ran y seithfed Senedd, fod y bwrdd taliadau annibynnol yn edrych ar gyflog a chymorth personol yr Aelodau, oherwydd nid mater o gael pobl i deimlo eu bod nhw'n mynd i sefyll, eu bod nhw'n gallu cael eu dewis yn unig yw hyn; mewn gwirionedd, rydych chi'n gwneud y penderfyniadau hynny o ran, 'Alla i ffitio hyn i mewn i fy mywyd? Gyda fy mywyd a fy mhlant a fy nheulu, os oes gen i rai, neu fy amgylchiadau neu'r materion sy'n fy wynebu yn fy mywyd'—a allai fod yn wahaniaethol, yn economaidd-gymdeithasol—'a yw'n werth i mi roi fy enw ymlaen?'

Felly, mae gennym ni arweinyddiaeth amrywiol a chyfartal, hawliau menywod, cyfrifoldebau gofalu. Mae WEN Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith rydyn ni'n ei ariannu. Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru hefyd yn edrych ar brofiadau bywyd menywod ac yn ystyried sut y dylai hynny effeithio ar bolisi. Rydym yn ariannu WEN Cymru a Thriniaeth Deg i Ferched Cymru. Mae Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal; rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni eu cefnogi nhw yn y dyfodol. Ac rwyf newydd sôn am y grant ymgysylltu democrataidd Elect Her. Ond mae hyn yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant croestoriadol ehangach, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pleidiau gwleidyddol ac Aelodau heddiw yn bwrw ymlaen â hyn ac yn ymateb yn gadarnhaol i'r cyfle hwn.

16:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n egwyddor bwysig iawn, Ysgrifennydd Cabinet, bod Senedd yn adlewyrchu ac yn cynrychioli pob rhan o'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi pwysleisio amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, oherwydd rwy'n credu eu bod nhw'n sail i'r holl nodweddion gwarchodedig, ac os byddwn ni'n cael pethau'n gywir, fel petai, o ran dosbarth cymdeithasol, yna byddwn ni'n gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r gynrychiolaeth honno ac adlewyrchu ein cymunedau.

Rwy'n falch, hefyd, eich bod chi wedi pwysleisio'r gost sy'n gysylltiedig â sefyll etholiad, oherwydd mae hynny'n amlwg yn berthnasol iawn i'r rhai sydd mewn amgylchiadau economaidd-gymdeithasol anoddach. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am sut rydych chi'n credu y byddai'n gweithio o ran dosbarth cymdeithasol, Ysgrifennydd Cabinet. Pa fath o grwpiau fyddech chi'n disgwyl gweithio gyda nhw, neu fyddech chi'n disgwyl i'r pleidiau gwleidyddol weithio gyda nhw? Mae'r undebau llafur, y grwpiau gwirfoddol, y grwpiau cymunedol, y sefydliadau hynny y byddai eu haelodau a'u gweithredwyr yn cynnwys pobl yn yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol hynny y mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli'n llawn yma yn y Senedd nesaf. 

Diolch, John Griffiths. Byddwn i'n tynnu eich sylw at yr atodiad i'r canllawiau. Wna i ddim mynd dros yr holl fecanweithiau, y cymorth ariannol ac ati rydym eisoes yn edrych arnyn nhw ac yn eu hystyried. Rwyf wedi sôn am y ffaith ein bod ni wedi deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac mae hynny er mwyn gwella canlyniadau i bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Ac wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â dosbarth, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gallu—. Ac i lawer o bobl â nodweddion gwarchodedig, maen nhw'n aml yn profi anfantais economaidd-gymdeithasol hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni edrych nid yn unig ar un math o rwystr, ond edrych arno o ran nodweddion croestoriadol. Efallai y bydd pobl yn wynebu sawl rhwystr hefyd, ac rydym yn gwybod bod hynny'n rhwystr enfawr, er enghraifft i fenywod, sydd â'r prif gyfrifoldebau gofalu efallai, a rhieni sengl—mae'n anodd ystyried y ffordd ymlaen o ran 'Alla i sefyll?' Fe wnaethon ni lenwi'r Siambr y llynedd, gydag Elect Her, gyda menywod o bob cwr o Gymru. Roedd yn grŵp amrywiol iawn o fenywod. Roedd e'n ddigwyddiad gwych, ac fe ddywedodd pobl y bydden nhw'n sefyll i gael eu hethol i'r Senedd, ar gyfer gwahanol bleidiau gwleidyddol, sef yr hyn rydym ei eisiau. Ond mae hyn hefyd yn ymwneud â dynion yn ogystal â menywod o ran dosbarth ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

Dim ond i ddweud, mae gennym ni hefyd amcan cydraddoldeb cenedlaethol i greu Cymru lle gall pawb o amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, lleisio eu barn, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arweinyddiaeth. Rwy'n credu i Sioned sôn am y ffaith ein bod ni dal yn eithaf gwael o ran cynrychiolaeth amrywiol mewn llywodraeth leol. Ac fe fyddwch chi'n gweld, oherwydd rwyf wedi rhoi rhai ystadegau yn y canllawiau, y ffaith bod tipyn o ffordd gyda ni i fynd o hyd o ran yr holl nodweddion gwarchodedig. Ond bydd yr un peth yn cael ei ddweud am y Senedd hon hefyd. Felly, oni bai ein bod ni'n cymryd y mathau hyn o gamau, oni bai ein bod ni'n cael ein pleidiau i ymateb i'r ymgynghoriad ac i ddatblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant, i fabwysiadu'r cwotâu rhywedd gwirfoddol, a dyna beth rydyn ni'n galw amdano—. Os gwnawn ni hynny, efallai y byddwn ni'n gweld y seithfed Senedd amrywiol honno rydym i gyd yn ceisio ei chofleidio a'i hethol.

16:35
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch adeiladau

Eitem 6 ar ein agenda ni heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adroddiad cam 2 ymchwiliad Tŵr Grenfell a gyhoeddwyd ym mis Medi yn ailadrodd yr angen am weithredu brys a phendant. Mae swyddogion yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus, ond ein barn gychwynnol yw bod yr argymhellion yn cyd-fynd yn dda â'n diwygiadau arfaethedig yng Nghymru. Felly, rwy'n falch o gael y cyfle hwn i rannu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru, gan gynnwys cynnydd i ddiwygio dyluniad, adeiladwaith a meddiannaeth adeiladau, yn ogystal â chynnydd o ran unioni adeiladau yng Nghymru.

Fe hoffwn i ddechrau gyda diweddariad ar y drefn rheoli adeiladu newydd yng Nghymru. Fel y gŵyr yr aelodau, cynhaliwyd adolygiad o ddiogelwch adeiladau yng Nghymru gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a chyhoeddwyd ei argymhellion ym mis Awst 2024. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion ac rydym ni'n adolygu'r canfyddiadau i symud y gwaith angenrheidiol yn ei flaen. Hyd yma, rydym ni wedi cyflwyno rheoliadau llymach o ran adeiladau risg uwch, yn ogystal â system reoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn rheoli adeiladu, gan gynnwys archwilwyr rheoli adeiladu ac arolygwyr adeiladu sy'n gweithio yn y sector preifat ac awdurdodau lleol.

Bydd cam nesaf y diwygiadau i'r drefn rheoli adeiladu yng Nghymru yn ymdrin â swyddogaethau deiliaid dyletswydd, pyrth, gwybodaeth allweddol, adrodd a chydymffurfio gorfodol ar ddigwyddiadau, a hysbysiadau terfynnu. Mae ymgynghoriad ar y diwygiadau hyn wedi'i drefnu ar gyfer gwanwyn 2025. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru) yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf yn 2025. Bydd y Bil yn sefydlu trefn newydd yng Nghymru gan ganolbwyntio ar gyfnod meddiannu cylch bywyd adeilad. Bydd yn ymdrin â rheoleiddio risgiau diogelwch adeiladau mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Bydd y drefn newydd yn cynnwys, gyda rhai eithriadau, pob adeilad preswyl sy'n cynnwys dwy uned breswyl neu fwy, ac nid dim ond rhai 18m ac uwch.

Dirprwy Lywydd, atebolrwydd sydd wrth wraidd ein cynigion. Mae ein cynlluniau'n cynnwys cyflwyno unigolion atebol, a fydd yn gyfrifol am asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau yn yr adeiladau hyn. Bydd y cyfrifoldebau'n amrywio yn dibynnu ar uchder adeiladau, ond gyda phob adeilad perthnasol bydd y cynigion yn gosod dyletswyddau statudol ar bobl atebol, gyda phrif berson atebol am bob adeilad gyda dyletswyddau allweddol penodol. Bydd rhai tai amlfeddiannaeth yn cwmpasu darpariaethau diogelwch tân y Bil. Fodd bynnag, ni fyddant yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau ehangach a fydd yn cael eu cyflwyno drwy'r Bil, megis cofrestru, gan eu bod eisoes wedi'u rheoleiddio.

Rwy'n falch o gadarnhau y bydd awdurdodau lleol yn rheoleiddio'r drefn cyfnod meddiannaeth newydd, gan gynnwys dal y gofrestr o adeiladau sy'n dod o fewn cwmpas y Bil. Byddant yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau tân ac achub, a fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio llawer o'r mesurau diogelwch tân a fydd yn rhan o'r Bil. Fel rheoleiddwyr y drefn newydd, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn cyfrannu at ddatblygu ein polisi ar gyfer y Bil. I'r perwyl hwn, rydym ni wedi cynnal cyfres o weithdai, a fynychwyd gan awdurdodau lleol a'r awdurdodau tân ac achub, sydd wedi helpu i ffurfio ein ffordd o feddwl. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi mynychu'r sesiynau hyn am yr amser a roeson nhw i gefnogi'r gwaith hwn.

Y mis hwn, byddwn yn cyflwyno gweithdai pellach gydag awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar ddarparu'r adnoddau i fynd i'r afael â goblygiadau'r dyletswyddau rheoleiddio newydd. Byddwn yn trafod strategaethau sydd eu hangen i sicrhau bod awdurdodau lleol yn barod i ymgymryd â'u dyletswyddau newydd. Rydym ni wedi comisiynu dadansoddiad o oblygiadau cost ac adnoddau y cynigion, a fydd yn llywio'r trafodaethau parhaus hyn. Bu cryn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr lesddalwyr, asiantau rheoli a phreswylwyr, hefyd. Cynhaliodd swyddogion sesiynau gweminar yn ddiweddar, a deallaf y daeth niferoedd teilwng iawn iddyn nhw. Mae'r ymgysylltiad hwn yn hanfodol i sicrhau bod gennym ni drefn sy'n diwallu anghenion preswylwyr ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i sicrhau bod y drefn newydd yn grymuso preswylwyr drwy roi eu profiad bywyd, eu diogelwch a'u lles wrth ei chalon. Bydd y drefn yn nodi gofynion clir i gefnogi preswylwyr gan roi iddyn nhw fwy o hawliau a llais cryfach mewn materion diogelwch adeiladau sy'n effeithio ar eu cartrefi. I gefnogi'r dull hwn, bu inni gomisiynu ymchwilwyr annibynnol i ymgysylltu â thrigolion sy'n byw mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yn y sectorau cymdeithasol a phreifat. Roedd y canfyddiadau'n atgyfnerthu pwysigrwydd gosod preswylwyr wrth wraidd ein cynigion. Rwy'n eich annog i ddarllen adroddiad y gwaith ymgysylltu hwn, a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 5 Tachwedd.

Rwy'n falch o adrodd bod y tîm arolygu ar y cyd wedi cynnal eu harolygiad cyntaf ym mis Medi 2024, yng Nghaerdydd. Mae offeryn asesu risg wedi'i ddatblygu i flaenoriaethu adeiladau i'w harchwilio. Rhagwelir y bydd tua 30 o adeiladau yn cael eu harolygu erbyn mis Mawrth 2026. Mae gwerthusiad o'r tîm arolygu ar y cyd wedi'i gynllunio, gyda gwaith caffael ar y gweill, i sicrhau yr ymgorfforir gwersi a ddysgwyd o'r arolygiadau yn y drefn newydd. Dirprwy Lywydd, hyd yma, rydym ni wedi nodi 407 o adeiladau yn ein rhaglen adfer diogelwch adeiladau, ond fe wyddom ni fod yna fwy. Bydd gwaith y tîm arolygu ar y cyd yn cefnogi'r gwaith o adnabod adeiladau newydd, gan eu cyfarwyddo i gyflwyno datganiad o ddiddordeb fel cam cyntaf i gael cefnogaeth gan y rhaglen.

Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen unioni diogelwch adeiladau. Mae 43 y cant o'r adeiladau hyn naill ai wedi'u cwblhau, gwaith wedi dechrau arnyn nhw, neu nad oes angen gwaith diogelwch tân arnynt. Mae cynlluniau unioni yn cael eu datblygu ar 37 y cant o'r adeiladau, ac rydym yn gweithio gyda'r 20 y cant sy'n weddill o'r adeiladau i adnabod gwaith unioni. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau mai Watkin Jones plc yw'r deuddegfed datblygwr i lofnodi ein contract. Rwy'n edrych ymlaen at Watkin Jones yn gweithio'n gyflym i gywiro materion diogelwch tân mewn adeiladau y maen nhw wedi'u datblygu yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, byddaf yn cwrdd â datblygwyr yr wythnos hon ac yn pwysleisio iddyn nhw y brys sydd yna i unioni materion diogelwch tân mewn adeiladau. Gallwn eich sicrhau, hyd yn oed os nad ydych yn gweld pobl mewn hetiau caled yn gwneud gwaith, ein bod yn gweithio'n agos gydag asiantau rheoli a datblygwyr i sicrhau bod contractwyr ar y safle a bod gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Mae diweddariadau rheolaidd ar ein rhaglen adfer ar gael yn ein cylchlythyr diogelwch adeiladau, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhaglen i gofrestru ar gyfer y diweddariadau hyn. Diolch.

16:40

Yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, roedd angen clir a brys i fyfyrio ar drefniadau ar gyfer diogelwch adeiladau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, ac i weld a yw'r sector diogelwch adeiladau yn cyflawni ei bwrpas. Roedd ymateb Llywodraeth y DU i ymchwiliad Hacitt wedi'i gynnwys yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022, y mae Rhan 3 ohoni hefyd yn berthnasol i Gymru, gan gynnwys caniatáu i Weinidogion Cymru ddiffinio adeilad risg uwch, ei gwneud yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru wneud gwaith ar adeiladau risg uwch a gofyn am gofrestru staff rheoli adeiladau. Y prif wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yw rôl rheoleiddiwr diogelwch adeiladau newydd, a fydd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, nododd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru y llynedd nad yw cyrff cyfrifol, yn enwedig awdurdodau lleol a thân ac achub, yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol a sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn ddiogel. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan yr archwilydd cyffredinol ynghylch absenoldeb cynlluniau cadarn, gwneud penderfyniadau clir ac adnoddau digonol, fel y gallan nhw sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn ddiogel?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ail gam y drefn rheoli adeiladau newydd yng Nghymru, sydd i'w lansio tua diwedd 2024, i gynnwys swyddogaethau deiliad dyletswydd, gan gynnwys ar gyfer contractwyr, cleientiaid a dylunwyr, mecanweithiau porth yn ystod y broses ddylunio ac adeiladu, a gwybodaeth ac adrodd gorfodol am ddigwyddiadau. Bydd ymgynghoriad hefyd yn cael ei lansio ynghylch y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 arfaethedig, ac mae canllawiau newydd ar gyfer diogelwch tân mewn blociau o fflatiau pwrpasol yn cael eu datblygu. Pa ddiweddariad y gallwch ei ddarparu felly ar y llinellau amser ar gyfer y rhain, pa un ai a phryd y bydd unrhyw gamau dilynol a sut y caiff y rhain wedyn eu monitro a'u gwerthuso?

Fe wnaethoch chi gadarnhau heddiw y bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf yn 2025, a fydd yn ôl pob tebyg yn golygu rheoliadau adeiladau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr. Sut fyddwch chi felly yn sicrhau na fydd hyn yn llesteirio datblygwyr ac adeiladwyr rhag adeiladu yng Nghymru, yn enwedig o ystyried adroddiad diweddar y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a ganfu fod yn well gan rai cwmnïau Cymreig geisio gwaith dros y ffin oherwydd llyffetheiriau biwrocrataidd, tra nad gwmnïau adeiladu llai yn ymwybodol o ddeddfwriaeth newydd? Diwedd y dyfyniad.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, yr wyf yn ei gadeirio, ei adroddiad 'Diogelwch Adeiladau yng Nghymru' ym mis Awst. Fe glywsom ni am faterion cynllunio gwasanaethau a gweithlu sy'n wynebu'r diwydiant sy'n gofyn am ymyrraeth a buddsoddiad pellach. Mae'n hanfodol bwysig bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod y diwydiant yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio ac yn denu ymgeiswyr newydd a all fod yn ddyfodol y sector. Credwn fod angen ymyrraeth gan y Llywodraeth ganolog i sicrhau newid cadarnhaol yn y maes hwn ac mae'r pwyllgor yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru gael effaith gadarnhaol yn gyflym. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r datganiad yn adroddiad y pwyllgor bod llif staff o'r cyngor i hyfforddwyr cymeradwy wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r archwilydd cyffredinol yn nodi bod cwmnïau'r sector preifat bellach hefyd yn dechrau cael trafferth recriwtio staff digon cymwys a phrofiadol?

Fel y dywed ein hadroddiad, mae marchnad gymysg o wasanaethau rheoli adeiladau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat wedi bodoli yng Nghymru a Lloegr ers 1984, a nododd Llywodraeth Cymru y byddai'n adolygu dull y farchnad gymysg ymhellach, gan ddisgwyl gwaith ymchwil gan Lywodraeth y DU, a bod penderfyniad wedi'i wneud i ganiatáu i awdurdodau lleol ryddhau swyddogaethau rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau a ddosbarthir fel rhai sydd â risg uwch yn unig, yn unol ag argymhellion ymchwiliad Hackitt. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad y dylai ddatblygu cynllun gweithlu diogelwch adeiladu cenedlaethol, beth yw'r amserlenni ar gyfer hyn? Pryd fydd yn cael ei weithredu? A sut gaiff ei werthuso a'i fonitro? Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad y dylai weithio gyda rhanddeiliaid yn y sector rheoli adeiladu i weithredu cynllun cenedlaethol ar gyfer recriwtio hyfforddeion a phrentisiaid. Beth yw'r amserlenni ar gyfer hyn a phryd y bydd yn cael ei weithredu a sut wedyn gaiff ei fonitro a'i werthuso?

Yn olaf, pa gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu hargymell i fynd i'r afael â'r sefyllfa lle gall lesddeiliaid yn Lloegr weithredu i orfodi datblygwyr i dalu eu cyfran deg o gostau unioni, ond mae'r rhai yng Nghymru yn gorfod ymdopi â haenau o fiwrocratiaeth er mwyn sicrhau canlyniadau tebyg?

16:50

Diolch, Mark, a diolch am y gyfres o gwestiynau yn rhan o hynny. Fe ddechreuoch chi gyda'r materion sy'n ymwneud â Grenfell, ac rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch adeiladau i drigolion Cymru. Rydym ni'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad cam 2 hwnnw ar gyfer ymchwiliad Grenfell, ac rydym ni'n ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn ofalus. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth y DU, a chyhoeddir rhagor o wybodaeth am ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hynny yn y flwyddyn newydd.

Fe wnaethoch chi symud ymlaen i rai materion eraill yn ymwneud ag ymgysylltu a'r adroddiad archwilio. Mae Llywodraeth Cymru yn hyderus yn y dull rydym wedi'i ddefnyddio i nodi adeiladau, gyda phersonau cyfrifol yn cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i raglen diogelwch adeiladau Cymru ers mis Medi 2021. Fodd bynnag, os oes mwy o waith i'w wneud i nodi pob adeilad o fewn cwmpas yn rhan o hynny, byddwn yn gwneud hynny. Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantau rheoli, yn ogystal â'n tîm arolygu ar y cyd a ffurfiwyd yn ddiweddar, i dargedu a nodi adeiladau pellach, a byddwn yn annog pobl gyfrifol nad ydynt eto wedi cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Unwaith eto, gyda nifer o bwyntiau, fe wnaethoch chi siarad am awdurdodau lleol. Mae ein tirwedd o adeiladau a chwmpas ein cynigion yn wahanol i Loegr. Dim ond 171 o adeiladau 18m ac uwch sydd gennym ni, gyda hyd at bum adeilad newydd o'r uchder hwn yn flynyddol. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hyn wedi'u crynhoi yn Abertawe a Chaerdydd. Yn wahanol i Loegr, mae ein cynigion yn ymestyn i adeiladau preswyl amlfeddiannaeth o lai na 18m, felly mae angen i ni deilwra'r swyddogaeth reoleiddio i ddiwallu anghenion Cymru. Rydym yn gweld awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau i arwain rheoleiddio ar gyfer diogelwch adeiladau ehangach. Mae gan awdurdodau lleol eisoes brofiad sylweddol o ymgysylltu â thrigolion a goruchwylio gofynion cofrestru ar gyfer cyfundrefnau eraill, felly credaf mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud y gwaith hwnnw.

Unwaith eto, roedd pwyntiau eraill a godwyd gennych chi ynghylch y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi ymateb i'r holl argymhellion hynny a'u derbyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff ategol eraill i ddatblygu'r argymhellion hynny. Rwy'n falch o gadarnhau bod wyth hyfforddai rheoli adeiladu wedi'u recriwtio yng Nghymru ers yn gynharach eleni, gyda chyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru a rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol. Mae'n dda iawn gweld y rheini yn cael eu cyflawni, ac edrychaf ymlaen at fwy yn y dyfodol, oherwydd mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r sgiliau hynny o fewn ein hawdurdodau lleol.

Siân Gwenllian. Siân, rydych chi yn dal wedi eich tawelu—nawr fe allwch chi gychwyn.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad heddiw ar ddiogelwch adeiladau, testun sy'n cario pwysigrwydd ac arwyddocâd enfawr, yn enwedig yng ngoleuni'r gwersi trasig a ddysgwyd o'r tân yn Nhŵr Grenfell. Mae'n hanfodol cadw golwg ar effaith y gwaith hwn ar fywydau preswylwyr, ac ar bwysigrwydd ymagwedd dryloyw a thrylwyr tuag at ddiogelwch adeiladau yma yng Nghymru.

Yn gyntaf, mi hoffwn i groesawu'r cytundebau diweddar sydd wedi'u harwyddo gyda datblygwyr i sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud ar adeiladau risg uchel. Dwi'n falch o glywed bod cwmni Watkin Jones wedi arwyddo'r cytundeb o'r diwedd, a dwi'n gobeithio, felly, gweld cynnydd buan iawn i'r gwaith o ddiogelu eiddo yn Noc Fictoria, Caernarfon, yn fy etholaeth i.  Fodd bynnag, mae llwyddiant y cytundebau yma yn dibynnu ar atebolrwydd. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gorfodi cynnydd efo'r gwaith atgyweirio yma i sicrhau ei fod o'n cael ei gyflawni, a hynny o fewn yr amserlen ofynnol?

Mae llawer o denantiaid a thrigolion wedi bod yn byw o dan gymylau ansicrwydd a risg ers gormod o amser, felly nid yn unig mae angen sicrhau bod datblygwyr yn cadw at eu hymrwymiadau, ond hefyd fod gan y Llywodraeth ganlyniadau clir ar gyfer unrhyw ddatblygwr sy'n methu â chyrraedd y safonau. Felly, mi fyddwn i'n hoffi clywed pa gamau fydd yn cael eu cymryd yn achos unrhyw ddatblygwr sy'n methu â chyflawni ei gyfrifoldebau yn brydlon.

Mae cyllid yn amlwg yn ganolog i lwyddiant yr ymdrechion yma i gyd yn y maes yma, a dŷn ni’n gwybod bod cyllideb ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dyrannu arian ychwanegol ar gyfer diogelwch adeiladau. A fedrith y Gweinidog gadarnhau a fydd yna gyllid canlyniadol ar gael i Gymru, ac os felly, faint? Mae angen atebion clir yma, gan sicrhau digon o gyllid fydd yn penderfynu a ellir cwblhau’r gwaith atgyweirio i’r safon angenrheidiol ac o fewn amserlen resymol. Mae’n rhaid inni osgoi unrhyw sefyllfa lle mae diffyg ariannol yn gadael rhai adeiladau’n anniogel.

Yn olaf, dwi hefyd yn mynd i sôn am adroddiad diweddar Archwilio Cymru, ‘Craciau yn y Sylfeini’. Mae yna lawer o waith o hyd i’w wneud i gyflawni fframwaith diogelwch adeiladau effeithiol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae adroddiad yr archwilydd yn tynnu sylw at yr angen am systemau sicrwydd gwell, a chynllunio gweithlu digonol—y ddau yn hanfodol i gyflawni’r safonau uchel sydd eu hangen. Dŷch chi wedi dechrau trafod hyn, ond a fedrwch chi ymhelaethu ar ba gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau gweithlu mewn rheolaeth adeiladau, a hefyd y gwaith sydd yn digwydd o ran sefydlu meincnodau cenedlaethol a mesurau canlyniad ar gyfer diogelwch adeiladau? 

Mae’r mater yma’n ymwneud â bywydau pobl, eu cartrefi a’u heddwch meddwl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynllun cadarn sydd yn mynd i’r afael nid yn unig â’r angen brys am waith atgyweirio, ond hefyd efo’r newidiadau strwythurol a deddfwriaethol ehangach sydd eu hangen i sicrhau nad ydy methiannau o’r fath yn cael eu hailadrodd. Dwi’n falch, felly, o glywed y symudiadau o ran yr ochr ddeddfwriaethol. Dwi yn annog y Gweinidog i gadw tryloywder a’r angen am y newidiadau strwythurol mawr yma ar waith er mwyn sicrhau tryloywder, atebolrwydd a digon o adnoddau ar bob cam o’r diwygiadau hollbwysig yma.

16:55

Diolch yn fawr, Siân, a diolch am y cwestiynau hynny. Fel y soniais i yn gyntaf yn fy ymateb ac yn fy atebion i Mark Isherwood, rydym yn ystyried canfyddiadau adroddiad cam 2 Grenfell a'r drasiedi a ddigwyddodd yn ofalus. Rydym ni eisoes wedi cymryd camau sylweddol a chadarn wrth fynd i'r afael ag argymhellion adroddiadau blaenorol, ac fel y dywedais i heddiw, rydym ni wedi ymrwymo i gyflawni'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Rydym ni hefyd wedi dechrau rhannau perthnasol Deddf Diogelwch Adeiladau 2022, i sicrhau diwygio dyluniad a gwaith adeiladu adeiladau risg uchel a newidiadau i reoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladau. Ar ben hynny, lansiwyd ein cronfa diogelwch adeiladau yng Nghymru hefyd i fynd i'r afael â materion diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl 11m a throsodd. Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn edrych ar faterion diogelwch tân mewnol ac allanol, ac nid yw'n gyfyngedig i adeiladau sydd â chladin anniogel yn unig.

Rwy'n falch o ymuno â chi i groesawu'r ffaith bod Watkin Jones wedi arwyddo'n ddiweddar, gan ddod y deuddegfed datblygwr mawr i lofnodi ein contract datblygwyr, gan gadarnhau eu hymrwymiad i unioni materion diogelwch tân maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw. Rwy'n disgwyl iddyn nhw symud yn gyflym nawr, deall y gwaith sydd ei angen a datblygu'r cynlluniau adfer hynny cyn gynted â phosibl, a byddaf yn dilyn hynny'n frwd iawn.

Fe wnaethoch chi godi pwynt mwy cyffredinol ynghylch datblygwyr. Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn glir y dylai datblygwyr ysgwyddo eu cyfrifoldebau a rhoi materion diogelwch tân cywir mewn adeiladau y maen nhw wedi'u datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae rhaglen unioni y datblygwyr yn datblygu'n dda. Ar hyn o bryd mae 150 o adeiladau wedi'u cynnwys gan y contract datblygwyr, gyda dros draean o'r adeiladau hyn naill ai wedi'u cwblhau, ar y safle neu nad oes angen gwaith arnyn nhw. Mae'r cynnydd a wnaed gan ddatblygwyr wrth gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y contract datblygwr yn cael ei fonitro gan swyddogion ac, fel rhan o'r broses fonitro, os bydd swyddogion yn amau bod tor-amod materol wedi digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn y camau cyfreithiol priodol. Ni fydd hyn yn gyfrifoldeb i lesddalwyr. Hyd yn hyn ni fu unrhyw dor-amod o delerau'r contract rhwng Llywodraeth Cymru a datblygwyr. Mae'r holl ddatblygwyr yn rhoi gwybod i ni am y cynnydd a wnaed, ac rydym yn cadw llygad barcud ar hynny, a gallaf sicrhau'r holl Aelodau bod hynny'n wir.

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fel y gwyddoch chi, mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi ymrwymo i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau'r safonau uchaf posibl ar gyfer diogelwch adeiladau i drigolion Cymru. Rwy'n falch o atgyfnerthu rhai o'r negeseuon yr ydym ni wedi'u clywed heddiw a gennych chi'ch hun hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, o ran pa mor bwysig yw hi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai yr effeithir arnyn nhw. Fe wyddom ni fel pwyllgor pa mor bryderus yw hi i bobl sy'n byw mewn adeiladau uchel yng Nghymru.

Rydym ni wedi cwrdd â'r Welsh Cladiators ar fwy nag un achlysur, wedi ymweld â Celestia yma ym Mae Caerdydd i weld drosom ein hunain beth sydd angen ei wneud, ac rydym ni hefyd wedi clywed gan dystion sy'n cynrychioli lesddeiliaid anabl y mae'r argyfwng yn effeithio arnyn nhw. Fe glywsom ni y gall gwaith unioni gael effaith anghymesur ar lesddeiliaid anabl, o ran cost unioni a'r tarfu y mae'n ei achosi. Felly, tybed, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, yn enwedig i'r lesddeiliaid anabl hynny.

Rydym ni hefyd wedi derbyn llythyr gan y Welsh Cladiators yr wythnos hon yn nodi eu trafferthion a'u pryderon am weithredoedd datblygwyr, neu ddiffyg gweithredoedd, o ran y gwaith unioni angenrheidiol hwnnw. Mae disgwyl i'r gwaith o unioni cyfadeilad Celestia yr ymwelwyd â hi gymryd tair blynedd erbyn hyn, er bod lesddeiliaid wedi cael gwybod bod y prosiect ar y trywydd iawn i'w gwblhau mewn dwy flynedd. Fis diwethaf, fe wnaethom ni ofyn faint o adeiladau sydd ar ei hôl hi o ran amserlen ar gyfer gwaith unioni pan oeddech ger ein bron ni, Ysgrifennydd Cabinet, ac fe ddywedoch chi fod disgwyl i'r gwaith barhau dros y pum mlynedd nesaf. A allwch gadarnhau a oes unrhyw un o'r datblygwyr ar ei hôl hi gyda'u hamserlen o ran gwaith unioni ac, os felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried neu a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried camau cyfreithiol? Diolch yn fawr.

Diolch, John, a diolch i chi am eich cwestiynau a'r gwaith rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi'i wneud ar hyn, a'r Aelodau, yr ydych chi'n Gadeirydd arno.

Yn gyntaf oll, yn hollol, rwy'n cytuno'n llwyr ei bod hi mor hanfodol ein bod yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bobl. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pa mor anodd yw hi os yw pobl yn y sefyllfa honno, a pha mor bryderus a phoenus y bydden nhw. Felly, rydym ni i gyd yn deall hynny'n fawr. Mae diweddariadau o'r rhaglen a'r cynnydd ar gael trwy'r cylchlythyr diogelwch adeiladau, a gyhoeddir bob chwarter, a byddwn yn annog yr holl Aelodau i sicrhau, os oes ganddyn nhw breswylwyr yn cysylltu â nhw, bod ganddyn nhw fynediad at y cylchlythyr diogelwch adeiladau hwnnw.

O fis Rhagfyr byddwn yn cynnwys perfformiad datblygwyr sydd wedi ymrwymo i'r contract, felly credaf fod hynny hefyd yn gam mawr ac y bydd pobl mewn gwirionedd yn gallu gweld pa mor gyflym neu beidio mae'r datblygwyr yn gwneud y gwaith hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n gam arall tuag at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bobl.

O ran y cwestiwn a godwyd gennych chi yn benodol ynghylch pobl anabl, unwaith eto, ein safbwynt bob amser yw na ddylai lesddeiliad fod yn talu am waith unioni diogelwch tân ar adeiladau. Byddem yn disgwyl i'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith diogelwch tân ymgysylltu â'r person cyfrifol ynghylch anghenion penodol preswylydd sydd â bregusrwydd neu/ac anabledd.

Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn ystyried fforwm lesddaliad. Cyfarfûm â chynrychiolwyr y Cladiators yr wythnos diwethaf a chroesawais y cyfle i drafod gyda nhw eu pryderon ynghylch diogelwch tân adeiladau yng Nghymru. Roedd y cyfarfod yn gynhyrchiol ac yn addysgiadol, ac yn ystod y cyfarfod hwnnw fe wrandawais yn ofalus iawn ar y galwadau am fforwm dioddefwyr. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion archwilio sut y gallwn ni helpu lesddeiliaid i gysylltu a rhannu profiadau a dysgu am ddiogelwch tân. Felly, rwy'n credu, unwaith eto, bod hynny'n rhywbeth a ddaeth o'r cyfarfod hwnnw rwy'n awyddus i edrych arno.

O ran a yw datblygwyr ar ei hôl hi gyda'r amserlen o ran gwaith unioni, mae'r rhaglen, fel y dywedais i, yn mynd yn ei blaen yn dda. Ar hyn o bryd mae 150 o adeiladau wedi'u cynnwys gan y contract datblygwyr, fel y dywedais i, gyda dros traean o'r adeiladau hyn naill ai wedi'u cwblhau, ar y safle, neu nad oes angen gwaith arnynt. Mae'r cynnydd a wnaed gan ddatblygwyr yn cael ei fonitro'n agos gan swyddogion ac, unwaith eto, os bydd swyddogion yn amau y bu tor-amod materol, bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn y camau cyfreithiol priodol. Does dim tor-amod, unwaith eto, wedi digwydd hyd yn hyn.

Lle mae materion yn effeithio ar gyflymder cyflawni, mae swyddogion yn gweithio gyda phartïon cysylltiedig i gael gwared ar y rhwystrau hynny fel y gall gwaith ddechrau cyn gynted â phosibl. Felly, rydym ni'n cadw llygad barcud ar hyn, ac, fel y dywedais i yn y datganiad, efallai nad yw pobl yn gweld y bobl hynny mewn hetiau caled ar lawr gwlad, ond mae gwaith yn digwydd y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar frys.

Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am ymweliad y pwyllgor â Celestia. Rwy'n ymwybodol o'r amserlen waith wedi'i diweddaru a gynigir ar ddiwedd proses dendro gystadleuol. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r ddwy ochr, gan annog eu bod yn cydweithio i ddatblygu gwaith cyn gynted â phosibl.  

17:05

Wyddoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, rydw i wedi bod yn gweithio ar hyn nawr ers tua phedair blynedd, cyn fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood? Ac mae'n rhaid dweud bod pobl sy'n dweud eu bod yn teimlo eu bod mewn sefyllfa enbyd yn dal i gysylltu â mi yn rheolaidd, maen nhw'n dweud bod y sefyllfa'n ei gwneud hi'n amhosib iddyn nhw allu ymladd, maen nhw'n hollol ddigalon. Ac na foed inni anghofio—mae'r bobl yma'n byw mewn eiddo anniogel, mewn perygl o dân, does dim modd eu gwerthu, ac maen nhw'n sownd yn y sefyllfa yna. 

Yn ystod y pedair blynedd, rydym ni wedi cael addewid am y contract, mae Llywodraeth Cymru wedi addo llawer inni. Rwy'n sylweddoli bod y portffolio hwn yn un newydd ichi, ond dim ond yn 2 y cant o'r adeiladau hyn y cwblhawyd gwaith diogelwch angenrheidiol. Mae'r datganiad ym mis Medi yn sôn am gynnydd ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i wella diogelwch mewn adeiladau amlfeddiannaeth ac i reoleiddio'r gwaith adeiladu. Fodd bynnag, ni fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno a'i chwblhau mewn gwirionedd tan 2026. Mae hynny wyth mlynedd ar ôl Grenfell a dwy flynedd o nawr. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi gyflymu'r broses hon? 

Yn olaf, rwy'n ymwybodol bod bwrdd rheoli Celestia wedi gofyn yn daer am weld y tri chyflwyniad tendr ar gyfer y gwaith unioni sydd i'w wneud yn Celestia. A wnewch chi ymrwymo'n bersonol i sicrhau y rhoddir y gallu i'r bwrdd rheoli hwnnw weld y tri chyflwyniad tendr hynny ar gyfer y gwaith adfer?  

Diolch, Janet, ac am y gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud dros nifer o flynyddoedd yn y maes hwn. Fel y dywedais i, cwrddais â'r Cladiators yr wythnos diwethaf ac roedd yn gyfle da i drafod eu pryderon am ddiogelwch tân adeiladau yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cwrdd â'r grŵp rhanddeiliaid ehangach. Dyna'r cyfarfod cyntaf a gefais pan ddes i i'r swydd tua mis yn ôl nawr, neu efallai bron i ddau fis yn ôl nawr. Roeddwn i'n awyddus i glywed gan bawb o fewn y sefyllfa yna, achos mae'n rhywbeth rydym ni'n ei wneud—. Unwaith eto, fel yr wyf yn tynnu sylw ac yn pwysleisio, nid oes yr un ohonom ni eisiau bod yn y sefyllfa honno, yn enwedig o'r holl bobl sy'n meddwl am hyn o ddydd i ddydd, felly rydw i wir yn cydnabod hynny.

Fe wnaethoch chi godi rhai pwyntiau ynghylch cyflymder, rwy'n credu, y gwaith sy'n digwydd. Unwaith eto, ailadroddaf, nid y ffaith ein bod ni—. Efallai nad oes pobl mewn hetiau caled na phobl yn gwneud y gwaith, ac rwy'n sylweddoli bod hynny'n beth eithaf gweledol, ond mae gwaith yn mynd rhagddo, a gallaf sicrhau'r Aelodau yma fod swyddogion yn canolbwyntio mewn difrif ar hyn ac yn cadw golwg agos iawn arno.

Mae ein cynnydd yn debyg i Loegr, ac mae'r cynnydd yng Nghymru yn sylweddol ar y blaen i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r cynnydd yng Nghymru yn ymwneud â deiliadaethau cymdeithasol a phreifat a materion diogelwch tân mewnol ac allanol. Felly, nid yw'n gyfyngedig i adeiladau â chladin anniogel, fel mewn mannau eraill. Unwaith eto, fe hoffwn i roi sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i gyflawni'r rhaglen unioni yn gyflym, ac mae cynnydd yn cael ei wneud, gyda gwaith yn dechrau ar fwy o adeiladau.

Unwaith eto, bu Llywodraeth Cymru yn glir erioed y dylai'r datblygwyr ysgwyddo'u cyfrifoldeb ac unioni materion diogelwch tân. Rwy'n cwrdd â datblygwyr yr wythnos nesaf, felly bydd hynny'n rhoi cyfle i mi bwysleisio hynny iddyn nhw fy hun yn bersonol hefyd. Felly, unwaith eto, gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn gwneud hynny pan fyddaf yn cwrdd â'r datblygwyr.

17:10

Prynhawn da, Ysgrifennydd Cabinet. Digwyddodd Grenfell saith mlynedd yn ôl. Cafodd adroddiad cam 2 Grenfell ei ryddhau ym mis Medi. Gallwch ddeall maint y rhwystredigaeth sydd ymhlith y rhai sy'n dioddef ar hyn o bryd bod hyn yn cymryd cymaint o amser. Mae'r iechyd meddwl a'r trallod a brofir ar hyn o bryd gan y bobl yn yr adeiladau hynny—ac mae hyn yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer, fel rydych chi wedi clywed gan Janet, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n clywed gan eraill hefyd—yn sylweddol. Un o'r materion maen nhw'n ei godi yw cyfathrebu, nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd, dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae'n mynd i ddigwydd na beth yw'r amserlenni.

Rwy'n gwybod eich bod wedi cwrdd â'r Welsh Cladiators unwaith. A allwch ddweud wrthym ni beth yw eich cynlluniau wrth gwrdd â nhw eto, beth yw eich cynllun ar gyfer cyfathrebu â phawb yr effeithir arnyn nhw, wrth symud ymlaen, iddyn nhw wybod yn union beth yw'r sefyllfa a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w cefnogi i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag y gall? Fel y dywedodd Janet, bydd hi'n wyth mlynedd ers i 72 o bobl farw yn Grenfell, ac nid yw'n dderbyniol ei bod wedi cymryd cymaint o amser â hyn yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane. Yn bendant, amlygodd y gwersi o drasiedi Grenfell yr angen am atebolrwydd clir mewn perthynas â'r rhai sy'n berchen ar adeiladau perthnasol ac yn eu rheoli. Fel y dywedais i, rwy'n cadw mewn cof o hyd, pan fyddaf yn meddwl am hyn, y bobl sy'n byw yn yr eiddo hynny. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddeall hynny, a'r angen a'r awydd i weld hyn yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Rwy'n siŵr bod ar bob un ohonom ni eisiau i hynny gael ei wneud cyn gynted â phosibl, a gallaf eich sicrhau fy mod mor ddiamynedd ag y mae Aelodau eraill yma.

Unwaith eto, rydym ni'n gwneud rhai pethau da iawn yma yng Nghymru. Mae ein cynnydd yn debyg i Loegr, ac unwaith eto, mae cynnydd yng Nghymru yn sylweddol ar y blaen i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rwyf wedi gallu trafod hyn gyda chyd-Aeodau sy'n dal portffolios yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, pan ddeuthum i'r swydd gyntaf, felly rwy'n awyddus i wrando ar a dilyn unrhyw syniadau da a'r hyn y mae Aelodau mewn gwledydd eraill yn ei wneud. Ond roedden nhw'n awyddus iawn i wrando arnom ni hefyd.

O ran y cyfathrebu, hoffwn dynnu sylw eto at y cylchlythyr sydd ar gael i'r holl breswylwyr. Mae'n un chwarterol, a byddwn yn annog Aelodau i ddarllen hynny hefyd, yn ogystal â rhannu hynny, oherwydd, unwaith eto, mae'n ffordd inni gyfathrebu mor glir â phosibl. Ac, fel y dywedais i, yn ystod fy nghyfarfod a gefais gyda'r Cladiators, fe wnaethon nhw godi mater fforwm dioddefwyr. Unwaith eto, rwy'n awyddus iawn i feddwl am sut y gallwn ni fynd ar drywydd hynny. Felly, fel y dywedais i, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion archwilio sut y gallwn ni helpu lesddeiliaid i gysylltu a rhannu'r profiadau hynny a dysgu am ddiogelwch tân, felly gallaf yn sicr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd hwnnw hefyd, ond mae'n rhywbeth yr wyf i—. Gwrandawais yn ofalus iawn pan gododd y Cladiators hynny.

17:15

Rwy'n cytuno â cham ymchwiliad Tŵr Grenfell ynghylch yr angen am weithredu brys a phendant. Rwy'n falch bod y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i gyflwyno'r Bil Diogelwch Adeiladau cyn toriad yr haf yn 2025 ac i gynnwys awdurdodau lleol, a fydd yn rheoleiddio, wrth ddatblygu'r Bil. Mae croeso amlwg i gyfranogiad rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys lesddalwyr, cynrychiolwyr asiantau rheoli, ac yn bwysicaf oll preswylwyr. Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i adeiladau lle mae angen gwaith unioni. 

A gaf i siarad am adeilad Altamar yn Abertawe, sydd yn fy etholaeth i? Mae'n un o'r adeiladau sydd angen gwaith unioni. Mae fy etholwyr sy'n byw yno yn rhwystredig ynghylch faint o amser y mae Bellway yn ei gymryd i wneud y gwaith angenrheidiol. Rwy'n croesawu eich bod yn cwrdd â datblygwyr ac yn pwysleisio iddyn nhw bwysigrwydd unioni materion diogelwch tân. A fyddwch chi'n gofyn i ddatblygwyr am amserlen wedi'i diweddaru ar gyfer gwaith unioni ar bob adeilad, oherwydd mae'n ymddangos ei bod hi'n amser hir iawn ers Grenfell?

Diolch yn fawr, Mike. Yn hollol. Rydym yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion cam 2 ymchwiliad Grenfell yn ofalus, fel yr wyf wedi sôn, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y flwyddyn newydd. 

Yn hollol, Mike, rwy'n croesawu eich geiriau cynnes ar gyfer y datganiad y prynhawn yma. Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n codi Altamar, Mike. Gwn eich bod wedi gwneud o ran hyn, a siarad dros eich etholwyr ar bob cyfle ar hyn. Ac mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, roeddwn i'n meddwl fy mod yn cwrdd â'r datblygwyr yr wythnos nesaf, ond gallaf weld yma fy mod i mewn gwirionedd yn cwrdd â nhw yfory, felly mae hynny wedi symud ymlaen, felly rydw i'n mynd hyd yn oed yn gyflymach nag yr oeddwn i'n meddwl y byddwn i. Felly, yfory, ac fe hoffwn i ddweud mai dyma effaith Aelodau'r Senedd yma sydd wedi fy annog i drefnu'r cyfarfod hwnnw ynghynt, ond yfory mae o. Nid yw'n briodol i mi drafod materion penodol yr adeiladau heddiw. Mae swyddogion yn ymwybodol o'r pwyntiau rydych chi'n eu codi, Mike, gydag Altamar, ac maen nhw'n gweithio gyda phob parti i symud y gwaith hwnnw ymlaen mor gyflym â phosibl, a gallaf eich sicrhau y byddaf yn codi hynny yn fy nghyfarfod yfory hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae'n amlwg o bob cyfraniad ac o siarad â lesddeiliaid mai atebolrwydd a thryloywder yw'r ddau fater mawr. Enghraifft o hynny, fel y codwyd gan Gadeirydd y pwyllgor tai, yw Celestia, sydd ychydig rownd y gornel. Ddiwedd mis Hydref, fe wnaethon nhw ddarganfod mewn cyfarfod a fynychwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru fod y gwaith unioni yn mynd i gymryd dwy flynedd a hanner yn hytrach na dwy flynedd. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd wedi cynyddu i dair blynedd. Ni roddwyd unrhyw reswm pam. Soniodd Janet Finch-Saunders am y broses dendro yn Celestia. Rwy'n sylwi na wnaethoch chi ateb y cwestiwn, efallai na allwch chi, ond roedd tair proses dendro ar gyfer y gwaith adfer yn Celestia. Mae Redrow wedi gwrthod cyhoeddi'r broses dendro. Nawr, dychmygwch gael gwaith yn eich cartref, mae tri chwmni wedi tendro am y gwaith hwnnw, ac ni chaniateir i chi weld y tendrau o gwbl. Mae'n magu sinigiaeth, mae'n magu pryder, ac nid dyna'r tryloywder sydd ei angen arnom ni. Felly, pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod datblygwyr yn dryloyw ac yn cael eu dal yn atebol? Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Rhys, a diolch am godi hyn eto ar ran eich etholwyr. Yn bendant, atebolrwydd sydd wrth wraidd ein cynigion, ac mae arnom ni eisiau sicrhau y bydd person neu bobol y mae modd eu hadnabod yn gyfrifol am asesu a rheoli risgiau diogelwch adeiladau yn yr adeiladau hyn, a bydd y cynigion yn rhoi dyletswyddau statudol ar waith i asesu a rheoli risg diogelwch adeiladau ar y person atebol hwnnw. Felly, gallaf eich sicrhau bod atebolrwydd yno mewn gwirionedd yn ein cynigion.

O ran y gwaith a'r materion a godwyd gennych chi o ran Celestia, rwy'n ymwybodol o'r amserlen waith wedi'i diweddaru a gynigir ar ddiwedd proses dendro gystadleuol. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r ddau barti i'w hannog i gydweithio i symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Ystyriodd y broses dendro sawl ffactor, megis diogelwch preswylwyr, ansawdd a safon y gwaith, ac nid cost yn unig. Bydd gofyn i bob datblygwr gael unrhyw gydsyniadau rheoli adeiladu gofynnol sy'n ymwneud â'r prosiect, yn ogystal â darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru sy'n dangos bod y gwaith wedi'i gwblhau i'r safon ofynnol.

Ond hefyd, efallai y gallwn i ddim ond ychwanegu fy mod i'n edrych—. Gan fy mod yn gwybod bod yr Aelodau wedi codi materion penodol gydag adeiladau, un o'r pethau yr wyf wedi gofyn i swyddogion edrych arno yw sut y gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau rhwng sesiynau holi, felly rydym yn edrych ar rai sesiynau briffio anffurfiol, efallai. Felly, byddaf yn sicrhau bod Aelodau'n cael eu diweddaru ar hynny.

17:20
7. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Mae angen cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes, felly Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig y cynnig yn ffurfiol i atal Rheolau Sefydlog.

Cynnig NNDM8716 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8715 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Ac os nad oes unrhyw un yn gwrthwynebu hynny, fe wnawn ni— . Does yna ddim. Ac felly rŷn ni'n derbyn y cynnig i ohirio Rheolau Sefydlog, sy'n caniatáu inni gynnal y ddadl ar y cofio.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Cofio

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, felly, i wneud y cynnig. Ken Skates.

Cynnig NNDM8715 Jane Hutt, Darren Millar, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Llywydd, diolch. Mae'r ddadl hon yn gyfle blynyddol i Aelodau ar draws y Senedd sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed wrth i ni gofio am bawb a fu farw neu a anafwyd yn gwneud eu dyletswydd wrth amddiffyn y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod o fyfyrio personol, ac hefyd i Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn sydd wedi gwasanaethu eu hunain neu sydd ag aelodau o'r teulu sydd wedi neu sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ledled y byd heddiw. Ac mae'r ddadl hon yn dod ar adeg lle, yn rhyngwladol, gwelwn y drasiedi a'r golled a achosir gan ryfela. Mae hyn yn cynnwys yr effaith ddinistriol ar sifiliaid diniwed sy'n cael eu dal mewn gwrthdaro.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod prysur i Aelodau'r Senedd a chymunedau ledled Cymru, sydd wedi dod ynghyd, fel y maent yn ei wneud bob blwyddyn, i gofio. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Rhaid i ni hefyd dalu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd bellach yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, a chydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-filwyr y lluoedd arfog ledled Cymru.

O ran pwysigrwydd parhaus cofio i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, bob blwyddyn mae digwyddiadau sylweddol i'w nodi. Ym mis Mehefin, fe wnaethom nodi 80 mlynedd ers D-day, ac roedd ein Prif Weinidog yn bresennol yn nigwyddiad coffa'r DU wrth gofeb Prydain yn Normandi. Roedd D-day yn nodi dechrau ymgyrch hir i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop. Yn ddiweddar, roedd y Dirprwy Brif Weinidog ac Aelodau'r Senedd yn bresennol mewn digwyddiad i nodi 80 mlynedd ers i Adran 53 Y Milwyr Traed (Cymru) ryddhau tref 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd. Ac rydym hefyd yn cofio ehangder cefndiroedd y rhai a wasanaethodd. Roedd fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, Jane Hutt, yn bresennol yn y digwyddiad blynyddol i gofio pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, gyda henuriaid Windrush a Butetown yn siarad yn emosiynol ar ran eu cymunedau.

Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o genhedlaeth yr Ail Ryfel Byd wedi marw. Mae gennym genhedlaeth iau o gyn-filwyr y mae gwrthdaro diweddar, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, Ynysoedd Falkland, y Gwlff, y Balcanau, Kosovo ac Afghanistan, yn parhau i fod yn atgofion ffres ac anodd.

O ran pwysigrwydd parhaus y cofio, eleni darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer adnewyddu a phaentio'r gofeb yn Pilckem Ridge, Langemark. Ac rydym hefyd yn darparu cyllid parhaus i Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ar gyfer cynnal ac adnewyddu'r cofebion yn Langemark, Gheluvelt, St. Jean-les-Ypres a choedwig Mametz.

Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cydnabod natur unigryw, gwasanaeth ac aberth bywyd gwasanaeth i'r rhai sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, tra byddant yn gwasanaethu, a hefyd fel cyn-filwyr. Ac mae'r cyfamod yno hefyd i'r rhai sydd mewn profedigaeth. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ysgolion i roi sylw dyledus i gymuned y lluoedd arfog. Mae'n ddyletswydd barhaus, ac yn un y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w chefnogi.

Yn ei adroddiad blynyddol, cynigiodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru'r pennawd bod Cymru'n parhau i fod yn lle eithaf da i fod yn gyn-filwr. Roedd hon yn ganmoliaeth amodol. Roedd ei asesiad o wasanaethau i gyn-filwyr yn cwmpasu ystod o feysydd, llawer wedi'u datganoli a rhai a gedwir, ac mae'n tynnu sylw at feysydd lle hoffai weld mwy o weithredu, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth drwy gymuned ein lluoedd arfog, trwy GIG Cymru i Gyn-filwyr, a thrwy ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rwy'n gwybod faint mae'r ddau yn cael eu gwerthfawrogi. Nid oes angen i bob menter fod yn benodol ar gyfer cyn-filwyr neu'r lluoedd arfog, ond yn sicr dylem fod yn meddwl am anghenion y gymuned hon wrth ddatblygu polisi, a'r ddyletswydd gyfreithiol y mae'n ei rhoi ar gyrff cyhoeddus.

Mae ein hadolygiad o ddeddfwriaeth digartrefedd yn enghraifft dda o'r ffordd y mae wedi nodi cymuned y lluoedd arfog fel grŵp penodol. Mae ein gwaith yn cefnogi cyn-filwyr a gollodd aelodau'r corff, a ddisgrifiwyd gan Blesma, yr elusen i gyn-filwyr a gollodd aelodau'r corff, fel gwaith sy'n 'arwain y ffordd' yn y DU, yn enghraifft arall o'r ffordd yr ydym yn cyflawni. Ac rwyf hefyd yn falch o allu rhannu sut rydym wedi diweddaru ein canllawiau cymorth ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth a chysylltiadau ar gyfer cymuned y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru. Fe wnaethom gyhoeddi ein fersiwn newydd ddoe, y byddwn yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid i'w hyrwyddo.

Roeddwn hefyd yn falch o gwrdd ag Alistair Carns, fy ngweinidog cyfatebol yn y DU yn ddiweddar, i drafod anghenion personél y lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr yng Nghymru. Mae gwasanaethau datganoledig—iechyd, tai, addysg a chyflogaeth—yn allweddol i'r rhai sy'n gwasanaethu, y rhai sy'n dod i ddiwedd eu gwasanaeth, a'r rhai sydd wedi gwasanaethu.

Ac felly, wrth gydnabod gwaith diflino unigolion, sefydliadau a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i nodi gwaith parhaus y Lleng Brydeinig Frenhinol i gefnogi cofio yn genedlaethol ac yn lleol. Mae aelodau ein canghennau a'n gwirfoddolwyr ledled Cymru yn haeddu ein diolch a'n parch am yr amser a'r ymdrech maent yn eu rhoi yn casglu ar gyfer apêl y pabi ac yn cydlynu gweithredoedd coffa lleol. Rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn o gael llu o sefydliadau'r trydydd sector yn gweithio i gefnogi cyn-filwyr drwy hybiau, canolfannau galw heibio, a llawer o weithgareddau gwahanol, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau hefyd yn dymuno nodi enghreifftiau o'r gwaith rhyfeddol sy'n digwydd yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau.

Yn y sector cyhoeddus, mae gennym seilwaith cryf a chefnogol iawn. Mewn awdurdodau lleol ac ym maes iechyd, mae gennym hyrwyddwyr y lluoedd arfog, a gefnogir gan swyddogion arweiniol, swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, a swyddi eraill. Mae Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yn parhau i gefnogi plant milwyr yn ein hysgolion ledled Cymru ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru. A dylem hefyd ddathlu ein cyflogwyr cefnogol, y rhai a lofnododd gyfamod y lluoedd arfog, a'r rhai a ddewisodd fod yn rhan o gynllun cydnabod cyflogwyr y weinyddiaeth amddiffyn. Llywydd, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ac at ymateb maes o law.

17:25

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Llywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant.

Roedd yn anrhydedd i mi fod yn bresennol yn y gwasanaeth coffa cenedlaethol ddydd Sul yma ar ran Plaid Cymru, yn ogystal â gwasanaeth lleol yng Nghaerffili wedyn. Roedd y ddau wasanaeth yn emosiynol iawn a chawsant eu cefnogi'n dda. Gosododd Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban dorch ar y cyd yn y Senotaff hefyd i gydnabod gwasanaeth ac aberth y rhai ledled Cymru sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwasanaethu, yn y lluoedd arfog. Hoffwn ganolbwyntio'n bennaf yn fy natganiad heddiw ar y gefnogaeth sydd ar gael i'n cyn-filwyr.

Mae gormod o bobl yn gadael ein lluoedd arfog ac yn wynebu caledi ariannol, problemau iechyd meddwl, ynysigrwydd a digartrefedd. Mae'r materion hyn yn llawer mwy cyffredin ymhlith y boblogaeth cyn-filwyr nag yn y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru. Ar draws Cymru a Lloegr, mae cyn-filwyr yn gorfod mynd heb bethau hanfodol. Dros y 12 mis diwethaf, amcangyfrifir bod tri o bob 10 oedolyn sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU o'r blaen wedi dweud eu bod yn poeni am fwyd yn mynd i gyd cyn iddyn nhw gael arian i brynu mwy. Mae hyn bron i ddwywaith nifer y bobl sy'n profi diffyg diogeledd bwyd lle nad oes neb yn eu cartref erioed wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU. Nid yw'n dderbyniol i adael i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint i'w gwlad lwgu. Canfu ymchwil gan Ymddiriedolaeth Trussell fod bron i un o bob 10 cyn-filwr yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â'u biliau a'u hymrwymiadau credyd.

Yn y cyfamser, mae'r elusen Helping Homeless Veterans UK yn honni bod 80 y cant o'r achosion y mae'n ymdrin â nhw yng Nghymru a Lloegr yn gyn-filwyr sydd wedi cael eu troi allan o lety rhent preifat. Mae'r sefyllfa ariannol y mae llawer o gyn-filwyr yn eu cael eu hunain ynddi nid yn unig yn effeithio ar eu llesiant materol, ond mae hefyd yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi canfod bod bron i un o bob pum cyn-filwr wedi cael trafferth cysgu oherwydd eu sefyllfa ariannol. O ystyried bod mwy na 77 y cant o gyn-filwyr yng Nghymru wedi dioddef o leiaf un trawma milwrol, mae angen iddynt fod yn gwneud mwy i ddiogelu iechyd meddwl a llesiant ein cyn-filwyr, nid ychwanegu ato. Mae'n fy nhristáu ein bod yn cael y dadleuon hyn bob blwyddyn, ond rydym yn clywed am gyn lleied o welliant yn y ffigurau. Mae'n rhaid i Lywodraethau'r DU a Chymru wneud mwy i wella'r gwasanaethau a gynigir i'n gweithwyr a oedd yn y lluoedd arfog. Clywais yr hyn a ddywedoch, Ysgrifennydd Cabinet, am gyfamod y cyn-filwyr, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn mynd yn ddigon pell. Mae'n rhaid i ni wneud yn well. 

Yn olaf, hoffwn gydnabod rhai o'r achosion o wrthdaro a'r rhyfeloedd sy'n digwydd ar draws y byd ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, fe wnaethom nodi blwyddyn ers ymosodiad erchyll 7 Hydref yn Israel, ac yna bomio Palesteina, gyda gwrthdaro cynyddol yn Libanus. Rwy'n poeni ein bod yn agosáu at dair blynedd o ryfel yn Wcráin, ac mae'r gwrthdaro yn Sudan yn dwysáu, heb sôn am achosion eraill o wrthdaro ledled y byd. Rhaid i ni barhau i sefyll yn gadarn wrth alw am gadoediad a diwedd i ryfel yn y lleoedd hyn, rhyddhau gwystlon, darparu cymorth dyngarol parhaus a rhoi diwedd ar werthu arfau. Rhaid i ni beidio ag anghofio dioddefwyr rhyfel a dylem wneud mwy fel gwlad i sicrhau atebion heddychlon i wrthdaro, wrth i ni symud ymlaen. Mae'r byrdwn a glywsom dros y penwythnos yn adleisio o ddiwedd y rhyfel byd cyntaf. Mae'n dweud, 'Byth eto'. Onid yw'n bryd inni wrando ar y geiriau hynny a'u troi'n weithred? Diolch.

17:30

A gaf i ddatgan buddiant fel aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru?

Rwyf eisiau adleisio llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y Siambr eisoes y prynhawn yma am yr angen i ni fel cenedl barhau i ymrwymo i'n cyn-filwyr a sicrhau bod Cymru yn genedl sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog. Rwy'n credu ein bod ni mewn gwirionedd. Rydyn ni wedi gwneud gwelliannau enfawr dros yr 17 mlynedd rydw i wedi bod yn Aelod o'r Senedd wrth ymgysylltu â'n cymuned cyn-filwyr a theulu'r lluoedd arfog, ac rydyn ni wedi gwireddu gwelliannau gwirioneddol yn y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw i gyd. 

Fel llawer o bobl yn y Siambr hon, roeddwn i'n bresennol ger senotaff, ym Mae Colwyn, fel mae'n digwydd, yn fy etholaeth fy hun, eleni, ond gwn y bydd llawer o bobl eraill wedi bod mewn digwyddiadau yn eu rhai nhw er mwyn cymryd rhan mewn gweithredoedd coffa. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud hynny a'n bod ni'n cymryd rhan, a'n bod ni'n dangos ein cefnogaeth a'n parch tuag at bawb sydd wedi colli eu bywyd, i bawb a gafodd eu hanafu, pawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i ryfel ac, yn wir, wedi goroesi rhyfeloedd hefyd.

Rhaid i ni beidio ag anghofio chwaith nad yw hyn yn ymwneud â'r rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd yn unig, ond mae'n ymwneud â'r holl achosion eraill o wrthdaro ers hynny, lle mae dynion a menywod Cymru, yn anffodus, wedi cael eu hunain yng nghanol yr helyntion a'r trafferthion. Nodwyd rhai digwyddiadau allweddol eleni y cawsom ein hatgoffa ohonyn nhw gan ein cyfeillion yn y Lleng Brydeinig Frenhinol, mewn cyfarfod briffio, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i mi restru'r rheini, os caf i. Yr un cyntaf yw 80 mlynedd ers D-day, yr ydym wedi'i nodi eleni. Yna, mae 80 mlynedd ers brwydr Kohima, yr ydym wedi'i nodi eleni; 80 mlynedd ers brwydr Imphal yr ydym wedi'i nodi eleni. Ac yna gwrthdaro mwy diweddar: pum mlynedd ar hugain ers gwrthdaro Kosovo a deng mlynedd ers Ymgyrch Herrick, sef y gweithrediadau milwrol yn Afghanistan, a effeithiodd hefyd ar bobl ar draws yr ynysoedd hyn yr ydym yn eu cynrychioli.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyfeirio'n benodol at ddigwyddiad coffa a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ninas 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd, lle gwnaethant nodi 80 mlynedd ers Ymgyrch Alan. Ac roedd yn briodol iawn, felly, fod Alun Davies yn bresennol gyda mi yn y coffadwriaethau hynny, ynghyd â'r Dirprwy Brif Weinidog, er mwyn gweld pa mor bwysig yw hi i'r ddinas benodol honno, sy'n honni mai hi yw'r ddinas fwyaf Cymreig yn yr Iseldiroedd—a gallaf ddweud wrthych, roedd digon o faneri Cymru yn cael eu chwifio o gwmpas y ddinas honno, a gwn fod y cyn-Brif Weinidog yno i nodi saith deg pump o flynyddoedd ers y digwyddiadau hyn—ond pa mor falch a pha mor ddiolchgar oedd y ddinas honno am gael ei rhyddhau gan y milwyr hynny o Adran 53 Cymru yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Roeddem yn westeion y maer, Jack Mikkers, a ddywedodd wrthym, bob dydd, pan fydd yn neuadd y dref, ei fod yn cael ei atgoffa o'r rhyddhau hwnnw, oherwydd bod enwau'r milwyr a ryddhaodd y ddinas honno wedi'u hysgythru ar ffenestri neuadd y dref. Ysgythrwyd nhw ar ôl rhyddhau'r dref honno o fallau'r gyfundrefn Natsïaidd a oedd wedi ei gormesu am gyfnod mor hir.

Rwy'n credu ei bod hi'n anodd i ni yn y wlad hon, na chafodd ei meddiannu gan fallau'r Natsïaid, i ddeall neu amgyffred sut brofiad oedd byw o dan y math hwnnw o orthrwm. Felly, mae'n rhaid i ni bob amser wneud yn siŵr ein bod yn cofio'r amgylchiadau anodd iawn y mae ein milwyr yn mynd i mewn iddynt yn aml. Roedd rhai o'r ffigurau a nodwyd o ran rhyddhau 's-Hertogenbosch yn eithaf rhyfeddol. Nid yn unig lladdwyd 146 o filwyr, yr ieuengaf ohonynt yn 19 oed, yr hynaf ohonynt yn ddim ond 39, yn y frwydr honno i ryddhau'r dref honno, ond roeddent yn rhan o adran o 15,000 a ddechreuodd yng ngogledd Ffrainc ac aeth yr holl ffordd i Hambwrg yn y pen draw. Erbyn iddi gyrraedd Hambwrg, dim ond 5,000 o'r milwyr hynny nad oeddent wedi'u lladd neu eu hanafu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Meddyliwch am yr effaith y mae'n rhaid bod hynny wedi'i chael ar bob un ohonynt o dan arweiniad yr Uwch-frigadwr Robert Knox Ross, ac roedd rhai o aelodau ei deulu yno yn 's-Hertogenbosch eleni.

Dyma rai o'r pethau y mae'n rhaid i ni bob amser sicrhau ein bod yn eu cofio a rhaid i ni bob amser sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r ffaith bod gwelliannau y gellir eu gwneud bob amser i'r gwasanaethau a ddarparwn, heb amheuaeth. A byddwn yn dweud yn bendant ar gofnod, Peredur, fy mod yn credu bod angen i ni wneud mwy o ran datrysiadau tai cyn-filwyr, a oedd yn rhywbeth y cyfeirioch ato'n benodol. Ond yn fwy na hynny, mae angen i ni sicrhau bod Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn nodwedd a phenodiad parhaol yn ein gwlad, fel y gallwn sicrhau bod y person hwnnw'n sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gynnal cyfamod y lluoedd arfog. Rhaid i ni barhau i fuddsoddi yn GIG Cymru i Gyn-filwyr a sicrhau bod y mentoriaid cymheiriaid hynny, nad ydynt ar gael mewn rhai rhannau o'r wlad, yno yn y dyfodol. Ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu hefyd i gydweithio ar y pethau hyn ar sail drawsbleidiol er mwyn gwireddu'r gorau oll i'r rhai yr ydym yn eu cynrychioli.

17:35

Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw.

Mae'n bwysig o hyd ein bod ni i gyd yn oedi i fyfyrio a chofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu, ac, wrth gwrs, y rhai a wnaeth yr aberth eithaf, ochr yn ochr ag ailymrwymo ein hymdrech ar y cyd i hyrwyddo'r galwadau am heddwch, ac eirioli am ddod â phob gwrthdaro i ben. Mae'n briodol ein bod yn cael y ddadl flynyddol hon yn y lle hwn yn ogystal â dangos ein parch ein hunain mewn cymunedau ar draws ein hetholaethau dros benwythnos y cofio. Mae'r cyfnod cofio hwn yn dod yn bwysicach byth wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ers y rhyfeloedd y mae'r gweithredoedd coffa yn deillio ohonynt.

Roeddwn i'n myfyrio dros y penwythnos sut, pan oeddwn i'n blentyn ac yn cymryd rhan yn y gwasanaeth coffa yn senotaff Cei Connah, yn gyntaf gyda'r Brownies ac yn ddiweddarach gyda'r Guides, faint o gyn-filwyr oedd yno bryd hynny a oedd wedi ymladd yn yr ail ryfel byd. Nid yw hynny'r un fath heddiw, ac os nad yw hanes am ailadrodd ei hun, ac rydym am werthfawrogi democratiaeth a pheidio â gweld heddwch fel rhodd, yna mae'n rhaid i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd o gofio. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn dalu teyrnged heddiw i waith Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, a sefydlwyd gan fy etholwyr Viv ac Eifion Williams, gyda chefnogaeth tîm o wirfoddolwyr gwych ac ymchwilwyr cynhyrchiol fel Mavis Williams. Y nod oedd sicrhau bod y rhai a roddodd eu bywydau nid yn enwau ar gerrig yn unig, trwy ymchwilio a rhannu gwybodaeth am ddynion ifanc sir y Fflint yn bennaf a roddodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd.

Trwy waith Mavis, mae Mam a minnau wedi dysgu mwy am ein teulu ein hunain. Listiodd James a John Brockley gyda'i gilydd yn 8fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd ganddynt rifau gwasanaeth olynol ac fe wasanaethon nhw yn Dardanelles. Cafodd James ei ladd gan saethwr cudd. Cafodd John ei anafu, ac, ar ôl mynd i'r ysbyty, dychwelodd adref heb ei frawd. Dilynodd brawd arall, Harold, ar ôl i James gael ei ladd a gwasanaethu ym Mataliwn 17 y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc. Cafodd Harold ei wenwyno gan nwy a'i anfon adref. Roedd cyfanswm o 11 o blant Brockley; bu tri ohonynt—James, John, a Harold—yn gwasanaethu yn y rhyfel byd cyntaf, a'u dau frawd iau, Roger ac Arthur, yn yr ail ryfel byd. Dim ond Arthur ddaeth adref o'r rhyfel hwnnw, a chollodd fy hen nana Hannah, roedd hi o'r un enw â mi, frawd hŷn mewn un rhyfel, a brawd iau mewn un arall.

Llywydd, rwyf wedi crybwyll sut, gyda phob blwyddyn sy'n mynd heibio, mae llai o'r genhedlaeth ddewr honno o'r ail ryfel byd gyda ni. Byddai cyd-Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad o'r blaen am fy hen ewythr Tom. Gwasanaethodd y Preifat Thomas Edward Oldfield yng Nghorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin, ac roedd yn rhan o laniadau D-day yn Arromanches. Mewn gwirionedd, cyfarfu Tom â'i ewythr Arthur Brockley ar y traeth yn Ffrainc. Gofynnodd ei ewythr i Tom, 'Beth wyt ti'n ei wneud yma?' Daeth yr ateb yn ôl, yn debyg i hwn, 'Yr un peth â chi.' Rwy'n deall, o ystyried y lleoliad a'r amgylchiadau, y byddem yn galw'r ffeirio geiriau hyn yn iaith anseneddol. Am flynyddoedd lawer, roedd Tom yn wyneb cyfarwydd mewn gwasanaethau coffa yng Nghei Connah, ac arhosodd, yn gywir ddigon, yn hynod falch o'i wasanaeth. Mae'n iawn fy mod yn talu teyrnged i Tom yma eto heddiw, gan y bu farw yn 97 oed ym mis Medi eleni yn anffodus. Byddwn yn ei gofio, byddwn yn eu cofio. Rhag inni anghofio.

17:40

Heddiw, fel y gwnaethom ddydd Sul, fel y gwnaethom ddoe, yr unfed ar ddeg o'r unfed ar ddeg am 11 a.m., rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd i ddangos ein parch ac i anrhydeddu aberthau dynion a menywod dewr di-ri a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid. Collodd un pwynt dwy filiwn o filwyr Prydeinig eu bywyd yn ystod y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac mae fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi dweud yn huawdl am y rhyfeloedd niferus yr ydym wedi'u gweld ers hynny. Rhaid i ni nid yn unig gofio, ond mae angen i ni ddysgu o'u haberth.

Ledled Cymru, cymerodd nifer ohonom ran mewn seremonïau wedi'u hamgylchynu gan symbolau cofio, y pabïau, y torchau a'r tawelwch dwys a oedd yn ein hatgoffa o gost ddifrifol rhyfel ac etifeddiaeth o ddewrder sy'n parhau. Yma yn Llandudno, rydym wedi gweld arddangosfeydd rhyfeddol. Mae Llandudno wedi bod yn gartref i'r 'longest yarn', a dyna oedd teyrnged fis o hyd Llandudno, o 2 i 27 Hydref 2024, i'r ymdrech ryfel y tu ôl i laniadau D-day ym 1944. Bu pob cymuned dan reolaeth y Cynghreiriaid, gan gynnwys y rhai yng ngwledydd y Gymanwlad heddiw, a oedd gynt o dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, yn chwarae rhan hanfodol wrth wthio yn ôl yn erbyn lluoedd y Natsïaid, a gyflymodd ddiwedd yr ail ryfel byd yn Ewrop yn y pen draw ac ennill heddwch bryd hynny.

Bu tapestri tri dimensiwn modern yn cyfateb i dapestri Bayeux yn darlunio D-day mewn 80 o baneli ar daith ledled y DU ac Unol Daleithiau America, tanc AVRE Churchill maint llawn wedi ei wau, gŵn o babïau, topiau blychau post wedi eu haddurno'n syfrdanol â thema D-day, jest yr arddangosfa gyfan. Aeth miloedd drwy'r eglwys i weld yr holl babïau wedi'u gwneud â llaw a'r gwaith y mae pobl o bob cwr o'r byd wedi cyfrannu ato.

Cant a deg ac wythdeg o flynyddoedd yn ôl, cododd cenhedlaeth i wynebu heriau na ellir eu dychmygu. Roeddent yn bobl gyffredin a ddangosodd ddewrder eithriadol, meibion a merched, tadau a mamau, brodyr a chwiorydd, ffrindiau a chyd-ddinasyddion. Gadawodd rhai eu cartrefi a'u hanwyliaid i wasanaethu ar feysydd brwydrau pell, gweithiodd eraill yn ddiflino gartref, gan gefnogi ymdrechion eu cenedl ym mhob ffordd, pob un yn chwarae ei ran, wedi'u huno gan bwrpas cyffredin: amddiffyn ein gwerthoedd o ryddid, cyfiawnder a heddwch. Mae'r un peth yn wir, yn anffodus, heddiw, wrth i ddynion a menywod o Gymru ac ar draws y DU barhau i ateb galwad dyletswydd. I lawer, y cam cyntaf trwy ddrysau eu—.

O, y cyn-filwyr dall yn Llandudno, roeddwn i eisiau sôn amdanyn nhw. Roedd y cyn-filwyr allan; roedd hi'n ddiwrnod oer, gwlyb a gwyntog, ddydd Sul, ac roedden nhw yno. Maen nhw'n gorfod ceisio dysgu sut i ailadeiladu eu bywydau ar ôl colli eu golwg. Mae'r elusen lluoedd arfog hon yn ffynhonnell ddibynadwy o gefnogaeth i bersonél sy'n gwasanaethu. Wedi'i sefydlu ym 1885, rydym yn hynod falch o'u treftadaeth hirsefydlog a'r holl waith maent yn ei wneud.

Trwy feithrin deialog, tosturi a chyfiawnder, gallwn anrhydeddu cof y rhai a laddwyd trwy weithio tuag at fyd lle mae cenedlaethau'r dyfodol yn byw'n rhydd o ddinistr rhyfel. Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r rhai a fu farw yw adeiladu byd sy'n deilwng o'u haberth a byd o heddwch sy'n aros mewn heddwch. Ac a gaf i ddweud hefyd, yn ystod rhyfeloedd, ein bod ni wedi gweld sawl ceffyl yn cario dynion a fu farw yn anffodus—dyna pam mae pobl yn gwisgo'r pabi piws nawr—a chŵn a laddwyd yn ystod y rhyfel hefyd? Gadewch i ni beidio ag anghofio'r un ohonyn nhw; byddwn yn eu cofio nhw i gyd. Diolch.

17:45

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. A gaf i ddatgan buddiant hefyd fel aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru? Rwy'n credu bod cofio'n brofiad personol ac ar y cyd i bob un ohonom. Yn sicr, roeddwn i'n meddwl am fy nheulu, ffrindiau, cymdogion a chymunedau wrth i mi sefyll yn dawel gyda phobl Abertyleri fore Sul diwethaf, ac eto, yn sefyll gyda phobl Nant-y-glo a Blaenau ychydig oriau yn ddiweddarach, gan feddwl hefyd am y cymunedau sydd wedi colli yn sgil rhyfel a'r bobl sy'n parhau i ddioddef o ganlyniad i ryfel. I bob un ohonom, mae'n brofiad personol iawn. Roedd fy meddyliau hefyd gyda'r bobl yn y dwyrain canol sydd wedi dioddef ac sy'n dioddef heddiw wrth i ni drafod y materion hyn.

Mae fy meddyliau hefyd gyda'r bobl roeddwn i gyda nhw yn Wcráin bythefnos yn ôl—minnau, Mick Antoniw a llawer o rai eraill—yn eistedd mewn lloches, yn gwrando ar gri seiren cyrch awyr mewn prifddinas Ewropeaidd. Yn rhy aml, nid yw cofio yn ymwneud â'r gorffennol yn unig, ond am y presennol a'r effaith ar bobl heddiw. Bydd cyrch arall ar Kyiv heno, bydd mwy o golled yn Gaza a Libanus yn yr wythnos nesaf, a gobeithio y byddwn ni i gyd, mewn ffordd bersonol a chyfunol, yn cofio pawb sy'n dioddef oherwydd realiti rhyfel ar ein cyfandir ac mewn mannau eraill heddiw.

Roeddwn i hefyd yn meddwl—roeddwn i'n gwrando ar Hannah Blythyn yn siarad—am genhedlaeth y rhyfel, sy'n prinhau heddiw. Fel Hannah, roeddwn i'n Sgowt yn Nhredegar rai blynyddoedd yn ôl bellach, ac fe sefais o flaen y senotaff ac edrychais ar y dynion canol oed hynny a oedd wedi ymladd yn yr ail ryfel byd, pob un ohonynt yn iau nag yr wyf innau heddiw, a phob un ohonynt yn sefyll yno gyda'u meddyliau eu hunain, yn dawel, yn meddwl am eu colledion ac yn meddwl am eu cydfilwyr a'u cymdeithion nad oeddent yno o amgylch y senotaff gyda nhw. Ond hefyd, mae'n ymwneud â dod at ein gilydd yn dorfol. Wrth ymweld ag Ynysoedd Falkland yn gynharach eleni, fe safon ni o flaen cofeb Ynysoedd Falkland, gyda'r ynyswyr oedd yn cofio rhyfel yn eu cartref ac a oedd yn cofio'r bobl oedd wedi eu rhyddhau, ac sy'n cofio, heddiw, y bobl sy'n gorwedd, na adawodd Ynysoedd Falkland erioed, ond sy'n gorwedd ym mhridd yr ynysoedd—pobl wnaeth eu rhyddhau a cholli eu bywyd drwy wneud hynny. Ac mae'r cof cyfunol hwnnw a diolchgarwch cyfunol pobl mor real heddiw ag y bu ar unrhyw adeg.

Ac yna i gerdded strydoedd 's-Hertogenbosch yn gynnar y mis diwethaf, ynghyd â Darren Millar a'r Dirprwy Brif Weinidog, i weld diolchgarwch pobl y ddinas Iseldiraidd honno tuag at Gymru a'r milwyr Cymreig ifanc hynny a oedd wedi eu rhyddhau o Natsïaeth 80 mlynedd yn ôl. I lawr y cenedlaethau, mae'r cof hwnnw yn gof go iawn. Mae'n gof sy'n cael ei anrhydeddu bob blwyddyn yn y ddinas honno, lle mae pobl yn sefyll ac yn ymgrymu eu pennau o flaen y gofeb honno i Adran 53 Y Milwyr Traed (Cymru). A phan gerddodd y Sgowtiaid a'r cadetiaid o Gymru ac o'r Iseldiroedd gyda'i gilydd, gyda channwyll yn yr eglwys gadeiriol, cannwyll yn cynrychioli pob un o'r milwyr a fu farw i ryddhau'r ddinas honno, fe welsoch chi genhedlaeth arall, yn ymuno â'r cofio, a rhywbeth y byddan nhw eu hunain yn ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Ac i bob un ohonom heddiw, fel gwleidyddion mewn gwahanol bleidiau gwleidyddol ac yn estyn allan ar draws y Siambr, cyfamod y lluoedd arfog yw'r ffordd yr ydym yn dweud 'diolch' i bob cenhedlaeth o'r lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu a cholli ac aberthu er mwyn pob un ohonom, fel y gallwn drafod y materion hyn ac anghytuno mewn heddwch yn y Siambr hon. Y gwerthoedd y buom yn ymladd drostynt yn yr ail ryfel byd, y gwerthoedd y buom yn ymladd drostynt yn Ynysoedd Falkland, yw'r gwerthoedd y mae pobl yn Wcráin yn ymladd drostynt heddiw: gwerthoedd rhyddid a democratiaeth, o barch. Y gwerthoedd y mae cenedlaethau o bobl wedi rhoi eu bywyd drostynt yw'r ffordd y mae'n rhaid i ni hefyd, nid yn unig ar 11 Tachwedd, nid yn unig ar Sul y Cofio, ond bob dydd o'r flwyddyn trwy'r cyfamod, ddweud 'diolch'.

Diolch yn fawr i bob un ohonoch chi sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a gydag eraill: pobl sydd wedi colli, pobl sy'n colli ar hyn o bryd a phobl sy'n cofio'r golled. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni gofio, ac fel cenedl ac fel gwlad rydyn ni yn cofio, ac yn cofio am byth. Diolch yn fawr.

17:50

Dros y penwythnos, ddoe a heddiw, rydym wedi ymgynnull ac yn ymgynnull yma â phabïau sy'n agos at ein calonnau, symbol cyfarwydd sy'n cynrychioli gwirionedd dwys, dilafar yn aml: mae'r blodau hyn yn anrhydeddu aelodau'r lluoedd arfog a fu farw. Ond mae'r pabïau hyn hefyd yn gwasanaethu fel tystion i sifiliaid di-rif y mae eu bywyd wedi cael ei greithio yn anadferadwy gan ryfel. 

Yng Nghymru, rydyn ni'n gwybod y gwir hwn yn dda. Yn ystod yr ail ryfel byd, agorodd ein cymunedau eu drysau i fwy na 110,000 o blant a gafodd eu symud er mwyn ffoi rhag gwrthdaro. Dangosodd cyrchoedd bomio dros Gaerdydd ac Abertawe yn uniongyrchol pa mor bell y mae rhyfel yn cyrraedd y tu hwnt i faes y gad, gan oresgyn bywydau cyffredin a phylu'r llinell rhwng milwr a sifiliad.

Dros ganrif ers y Diwrnod Cofio cyntaf, mae gwirionedd poenus rhyfel yn parhau i fod yn bresennol mewn lleoedd fel Wcráin, Gaza, Sudan, Libanus a gormod o gorneli eraill o'n byd: mae'r rhai heb unrhyw ran mewn gwrthdaro yn dal i ddioddef ei gostau llymaf. Yn ôl Action on Armed Violence, yn 2023 cyrhaeddodd nifer yr anafusion sifil yn sgil ymosodiadau awyr, bomiau a magnelau, lefelau na welwyd mewn dros ddegawd, ac mae ar fin mynd y tu hwnt i hynny eleni eisoes.

Ar draws y byd, mae rhyfel yn parhau i ddadwreiddio teuluoedd, torri cymunedau a datgymalu'r hyn y mae cenedlaethau wedi'i adeiladu. Wrth i ni gofio'r colledion hynny, rhaid i ni fyfyrio ar yr ystyron dyfnach hyn. Rhaid i'n coffadwriaeth fod yn fwy na thawelwch, rhaid iddi ein galw i weithredu. Yma yn y Senedd, mae gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo diplomyddiaeth, meithrin dealltwriaeth a chefnogi pob ymdrech i atal gwrthdaro. Felly, wrth i ni anrhydeddu aberthau'r rhai a fu farw, gadewch i ni hefyd benderfynu dweud, 'Dim mwy.' Er na allwn newid y gorffennol, mae'n rhaid i ni ymdrechu am ddyfodol lle nad gweddi yn unig yw heddwch, ond addewid yr ydym yn ei gadw. Yng ngeiriau Eleanor Roosevelt:

'Nid yw'n ddigon i siarad am heddwch. Mae'n rhaid i rywun gredu ynddo. Ac nid yw'n ddigon i gredu ynddo. Mae'n rhaid i rywun weithio arno.'

Diolch yn fawr iawn.

Roeddwn yn teimlo'n wirioneddol ostyngedig ac roedd yn fraint enfawr i mi gymryd rhan, fel yr wyf yn ei wneud bob blwyddyn, mewn nifer o ddigwyddiadau Wythnos y Cofio yn fy ninas enedigol ac etholaeth Wrecsam, ac roedd yn dda eich cael chi, Ysgrifennydd Cabinet, ochr yn ochr â mi a chyd-Aelodau eraill yn gosod torch wrth y senotaff ddydd Sul ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd y cyfle i sefyll gyda chynifer o bobl o'n lluoedd arfog, ein cyn-filwyr a theulu ehangach ein lluoedd arfog i anrhydeddu'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i helpu i gynnal y rhyddid rydym yn ei fwynhau yn wirioneddol ysbrydoledig.

Nid yw rhyddid yn fater i'w gymryd yn ysgafn. Mae'n rhy hawdd, efallai, i ni golli golwg ar ba mor ffodus ydym ni o gael y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau, rhyddid nad yw ar gael i gynifer o bobl ledled y byd. Wrth gwrs, nid dim ond y rhai a wnaeth yr aberth eithaf yr ydym yn eu cofio. Rydym hefyd yn cofio'r rhai sydd wedi dioddef anafiadau sydd wedi newid eu bywyd, yn feddyliol ac yn gorfforol, wrth sicrhau bod ein rhyddid yn cael ei gynnal, ac rydym hefyd yn cofio eu teuluoedd a'u ffrindiau. Rydym hefyd yn rhannu ein balchder a'n diolch diffuant i'r rhai sy'n gwasanaethu ym mhob cangen o'n lluoedd arfog ar hyn o bryd.

Mae Wrecsam yn ddinas sydd â thraddodiad milwrol balch, ac roedd yn galonogol gweld cynifer o bobl yn mynychu'r gwasanaethau wrth y senotaff ar Sul y Cofio, a gwasanaeth Dydd y Cadoediad ddoe. Ac mae'n ymddangos bod nifer y bobl sy'n cymryd rhan bob blwyddyn yn cynyddu. Mae'n wych hefyd gweld y genhedlaeth iau yn mynychu mewn niferoedd mor fawr. Mae gweld cynifer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ddymunol ac yn galonogol, ac mae'n ffactor pwysig o ran sicrhau, fel gwlad, ein bod yn parhau i anrhydeddu'r geiriau o'r gerdd enwog 'For the Fallen', o adeg y rhyfel byd cyntaf ym 1914:

'Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore / Ni â’u cofiwn hwy.'

Daeth y cyfnod coffa hwn ar ddiwedd blwyddyn arbennig o deimladwy pan nodwyd wythdeg mlynedd ers glaniadau D-day a ddigwyddodd, wrth gwrs, yn Normandi ar 6 Mehefin 1944. Ynghyd â chymaint o ddyddiadau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd pwysig eraill drwy'r cenedlaethau, gan gynnwys, yn fwy diweddar, Afghanistan, roedd yn dda gweld yr amlygrwydd a roddwyd i laniadau D-day yn ystod gŵyl y cofio a gafodd ei darlledu nos Sadwrn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r nifer mawr o bobl sydd wedi siarad â mi, ar ôl gwylio'r rhaglen honno, bod y digwyddiad eleni yn wirioneddol ryfeddol.

Hoffwn ddweud 'diolch' personol i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, nid yn unig am eu gwaith yn lleol, ond hefyd am gynnal gŵyl mor ysgogol, gofiadwy ac, ar adegau, wirioneddol dorcalonnus, ond hefyd ŵyl ddyrchafol iawn. Rwy'n falch o gymunedau'r lluoedd arfog a'r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud, ac rwy'n falch o'r gefnogaeth haeddiannol yr ydym ni yng Nghymru yn ei ddarparu ar gyfer ein cyn-filwyr, y mae llawer ohonynt, nid yn unig yn Wrecsam a'r cyffiniau, ond ledled ein gwlad. Ac rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ynghylch cefnogaeth barhaus i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Maen nhw'n darparu gwasanaeth ardderchog i'n cyn-filwyr ar lawr gwlad, ac rydw i'n bersonol yn dweud 'bydded iddo barhau am amser hir'. Diolch.

17:55

Fe ges i fy enwi ar ôl brawd fy nhad-cu, Dafydd Rhys Thomas o Dreorci, a buodd farw ym mrwydr gyntaf y Somme, dim ond yn 25 mlwydd oed. Roedd ei frawd hŷn, y Parchedig Degwel Thomas o Gastell-nedd, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd recriwtio. Mewn araith ar y Gnoll yn ystod hanner amser gêm rygbi rhwng Castell-nedd ac Abertawe yn 1915, fe ymhyfrydodd bod 368 o fechgyn ei gapel wedi ymuno â’r lluoedd arfog. O fewn blwyddyn, roedd ei frawd wedi marw. Ni chafodd gyfle i briodi ei ddyweddi, ac ni chafodd gyfle i brofi unwaith eto gwmnïaeth yr aelwyd yn Nhreorci, fel roedd e'n dweud yn ei lythyron adref o'r ffosydd. Hefyd, erbyn diwedd y rhyfel, roedd 20 o aelodau capel Degwel Thomas yng Nghastell-nedd wedi marw.

Mewn llythyr at fy hen daid a nain, ysgrifennodd cydfilwr Dafydd Rhys Thomas am sut y bu farw o glwyfau shrapnel. A dyma'r hyn mae'n ei ddweud, 'Fe wnaethon ni ei gladdu cystal ag y gallom, ond yna glaniodd siel.' Does dim bedd i Dafydd Rhys.

Mae'n un o’r miliynau o bobl a fuodd farw mewn rhyfel dibwrpas.

Yng nghapel y Tabernacl yng nghanol Caerdydd, mae plac pren ar y wal, wedi'i gerfio gan gyllell boced carcharor rhyfel yng ngharchar drwgenwog Changi yn Singapore. Arno mae 17 o enwau dynion o Gaerdydd a chwm Rhondda a fu farw yn ystod cwymp Singapore. Fel bachgen, rwy'n cofio cyn-filwyr yn ymweld â'r capel i weld enwau eu cydfilwyr a fu farw. Rwy'n cofio gweld hen ddyn yn mynd i weld enw ei dad yr oedd prin yn ei gofio—dim ond atgofion plentyndod niwlog oedd ganddo ohono. A hoffwn dalu teyrnged i Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe sy'n cofnodi'r cofebion rhyfel hyn, sydd yn aml dan fygythiad y dyddiau hyn gyda chau capeli ac eglwysi. Ac mae'n gwneud mwy na dim ond eu cofnodi, mae'n rhoi wynebau i'r enwau, straeon i'r enwau, sydd mor bwysig.

Mae etifeddiaeth yr ail ryfel byd yn parhau. Fis yn ôl, cwrddais â Bill Lazenby. Mae Bill Lazenby yn Sais o dde Llundain. Ond mae Bill Lazenby yn siaradwr Cymraeg rhugl oherwydd am bedair blynedd bu'n byw fel faciwî yng Ngarnant yn nyffryn Aman ac mae'n falch iawn o'i gysylltiadau Cymreig ond mae hefyd yn Sais go iawn.

Am 11 o'r gloch ar Sul y Cofio roedd dinas Caerdydd yn brysur, yn swnllyd, yn llawn siopwyr, yn llawn cefnogwyr rygbi. Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio a chyn-filwyr y rhyfeloedd mawr yn marw, rwy'n poeni ein bod ni'n anghofio pwysigrwydd cofio. Mae'n rhaid i ni gofio. Ydych chi'n cofio diwedd Dad's Army, adeg y glodrestr ac rydych chi'n clywed y seiren ar y diwedd? Roedd fy nhad wastad yn teimlo'n sâl pan glywai'r seiren oherwydd roedd yn ei atgoffa o'i blentyndod yn ystod y Blitz yng Nghaerdydd, ac mae mor drist clywed heddiw gan Alun Davies am gri'r seirenau yn Wcráin. Ydy, mae'n hawdd anghofio cyfraniadau pobl eraill. Rwyf wedi cwrdd â chyn-filwyr sy'n byw ar y strydoedd. Mae gan gapel y Tabernacl yn yr Aes yng Nghaerdydd ddwy gofeb rhyfel sy'n anrhydeddu'r meirw, ac eto mae'n bwydo cyn-filwyr digartref yn y neuadd drws nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, fel y clywsom, i gyfamod y lluoedd arfog, sy'n nodi na ddylai unrhyw gyn-filwr ddioddef niwed oherwydd ei wasanaeth milwrol. Ond oherwydd union natur bywyd y lluoedd arfog a symud tŷ mor rheolaidd, mae arhosiad llawer o'r cyn-filwyr hyn yn yr un lle yn fyrhoedlog ac nid oes ganddynt wreiddiau cadarn mewn unrhyw gymuned benodol mwyach. Rhwystr sy'n atal cyn-filwyr y lluoedd arfog rhag cael mynediad at dai cymdeithasol yw'r rheol cysylltiad lleol. Yn 2016, mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar ddyrannu tai a digartrefedd yn dangos cefnogaeth glir i gyn-filwyr a'u hanghenion tai. Roedd y comisiynydd cyn-filwyr, yn ei adroddiad eleni, yn cydnabod bod polisi tai Llywodraeth Cymru yn destun adolygiad. Wel, un peth y gallem ei wneud yw dilyn esiampl Lloegr a chael gwared ar y rheol cysylltiad lleol i gyn-filwyr. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, siarad â'i gyd-Aelodau a gwneud ymrwymiad cadarn, a rhoi amserlen i ni, y bydd y cysylltiad lleol yn cael ei ddileu ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru? Diolch yn fawr.

18:00

Yn ystod wythnos y Cadoediad, rydym yn cofio ac yn talu teyrnged i holl aelodau lluoedd arfog Prydain sydd wedi rhoi eu bywydau trwy'r rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd i'r holl ryfeloedd a ddilynodd. Fe wnaeth dynion a menywod Cymru yr aberth eithaf. Ac mae llawer o'r rhai a wasanaethodd ac a ddychwelodd adref i Gymru yn byw gyda chreithiau corfforol ac emosiynol rhyfel a gwrthdaro am weddill eu hoes. Felly, mae'n anrhydedd i mi fod cynrychiolwyr cyn-filwyr o Age Cymru Dyfed yn ymuno â ni heddiw. Mae Owen Dobson o Rydaman yn gyn-filwr a wasanaethodd yn Bosnia a Kosovo, tra bod Jim Glass o Lanymddyfri yn gyn-filwr a wasanaethodd am 37 mlynedd yn y fyddin a'r RAF, ac mae'r ddau ohonynt yn gweithio ar y prosiect Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn. Hoffwn ddiolch hefyd i gyn-filwr yr RAF Neil Davies o Aberystwyth, a Hugh Morgan OBE, cydlynydd cyn-filwyr Age Cymru Dyfed, ac Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru, a oedd yn gobeithio ymuno â ni ond nad oeddent yn gallu gwneud hynny heddiw.

Yn ddiweddar iawn, roeddwn yn bresennol mewn bore brecwast i gyn-filwyr a drefnwyd gan Owen gyda Chlwb Cyn-filwyr Milwrol Cymru yng nghanolfan gymunedol Cwmaman. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad, gan gynnwys Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips, a chawsom ein serenadu gan gôr ysgol o Ysgol y Bedol. Siaradais â llawer o gyn-filwyr, gan gynnwys Idwal Davies, 98 oed o Lanelli, a oedd ym 1945 gyda Bataliwn 1af Hwsariaid y Frenhines yng ngogledd yr Eidal. Aeth fy nhad fy hun, Bill Roberts, fel y gwyddoch, o fod yn weithiwr fferm yn Llanbrynmair i wasanaethu yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, lle daeth yn garcharor rhyfel.

Nid yw tîm cyn-filwyr Age Cymru Dyfed yn darparu cymorth ymarferol i gannoedd o gyn-filwyr yn unig; maent hefyd yn casglu straeon uniongyrchol am y rhai sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn y lluoedd arfog. Gwnaethant ddatblygu Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru, a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac mae'r archif honno'n cynnwys bron i 1,000 o gofnodion hyd yn hyn, gan gynnwys cyfweliad gyda Dennis Tidswell o Ddoc Penfro a gymerodd ran ym Mrwydr Prydain ac a fu'n ymladd dramor wedyn. Cafodd cyn-filwr yr RAF John Martin o Dan-y-groes ei saethu i lawr ar gyrch dros Berlin yn Ionawr 1944, a daeth yn garcharor rhyfel. Ac yn ddiweddar fe wnaeth Archie Thomas o Aberafan, comando traeth olaf y Llynges Frenhinol sydd wedi goroesi, ymuno â chystadleuaeth saethu ar gyfer cyn-filwyr mewn gwersyll saethu yng Nghaerfyrddin. Yno, ymunodd Archie â chyn-filwyr D-day fel Tony Bird o Freshwater East, a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol, Neville Bowen o Rydaman, gynnwr y Llynges Frenhinol ym mrwydr yr Iwerydd, a chyn-filwr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Duncan Hilling o Saundersfoot. Roedd Duncan yn y parti Prydeinig a aeth i mewn i Hiroshima yn fuan ar ôl i'r bom atomig gael ei ollwng.

Mae archif y cyn-filwyr hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda menywod byddin y tir Cymru a phlant Kindertransport a roddwyd ar drenau gan eu rhieni i ddianc rhag goresgyniad y Natsïaid, a ddaeth o hyd i hafan ddiogel yng nghartrefi Cymru. Ac mae'r archif yn cynnwys consgriptiaid y gwasanaeth cenedlaethol a wasanaethodd ym Malaya, Korea, Borneo a phrofion niwclear ar Ynys y Nadolig rhwng 1947 a 1963, a'r rhai a ymunodd fel milwyr parhaol, gan wasanaethu yn Aden, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd Falkland a llawer o rai eraill. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfweliadau a roddwyd yn y 1970au gan gyn-filwyr sir Gaerfyrddin o'r rhyfel byd cyntaf.

Ni ddylem byth anghofio cost ddynol gwrthdaro. Fel y dywed cerdd o'r rhyfel byd cyntaf:

'Ar gyfer eich yfory, fe roddon ni ein heddiw'.

18:05

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.  

Diolch, Llywydd. Wrth gloi a chyn i mi ymateb i'r cyfraniadau a'r gwelliant, hoffwn ddiolch hefyd i'r cyn-filwyr hynny sydd yn bresennol heddiw am eu gwasanaeth—i Jim ac i Owen, a gyflwynwyd yn garedig i mi gan Joyce Watson yn gynharach heddiw.

Nawr, fel eraill yn y Siambr hon, rwy'n dod o deulu lle mae pobl wedi gwasanaethu, ac mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd mawr iawn i mi fy mod wedi gwasanaethu fel Gweinidog y lluoedd arfog a chyn-filwyr ers mis Mawrth. Wrth ymateb i'r gwelliant yn gyntaf, mae'r alwad am ddatrysiadau heddychlon i wrthdaro a diwedd ar ryfel yn un y credaf y gallwn ni i gyd ei chefnogi, gan gofio hefyd am bawb sydd wedi colli eu bywydau, gan gynnwys anafusion sifil.

Mae cymaint o gyfraniadau gwych a theimladwy wedi bod heddiw, mae'n anodd ymateb i bawb yn fanwl. Agorodd Peredur Owen Griffiths y ddadl drwy siarad am effaith unigrwydd, ynysigrwydd ac ansicrwydd y mae llawer o gyn-filwyr yn eu hwynebu, ac mae'n rhywbeth y mae Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael ag ef. Mynegodd Hannah Blythyn a Rhys ab Owen hefyd werth henebion a mannau crefyddol wrth sicrhau bod atgofion pobl a gollon ni'n cael eu cofio yn y dyfodol.

Siaradodd Darren Millar am yr angen i Gymru fod yn genedl sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog. Allwn i ddim cytuno mwy, ac rwy'n credu bod camau enfawr wedi'u cymryd yn hyn o beth, ac rwy'n credu dangoswyd hynny ddydd Sul—yn sicr, fe ddangoswyd hynny yn Wrecsam. Rwy'n cytuno'n llwyr â Lesley Griffiths yn ei hasesiad bod mwy o bobl wedi mynychu Sul y Cofio yn Wrecsam nag y gallwn ei gofio. Yr hyn oedd yn eithaf trawiadol—ac roeddwn i'n trafod hyn gyda Sam Rowlands, a osododd dorch hefyd—oedd bod mwy o sefydliadau nag erioed yn gosod torchau, a mwy o bobl ifanc yn bresennol nag y gallai unrhyw un ohonom gofio.

Mae'n ddiddorol, gyda 's-Hertogenbosch, mewn gwirionedd, ym Marics Hightown mae yna ddarlun o filwyr Cymreig ar ddyletswydd a gomisiynwyd yn ddiweddar, a'r hyn y mae'n ei ddangos yw nifer o filwyr dewr y bu'n rhaid iddynt godi drwy'r rhengoedd yn llawer cyflymach nag a fyddai'n digwydd fel arfer, ac fe wnaethant hynny i arwain ein cenhadaeth yno. Darlunnir dewrder anhygoel yn y llun hwn, a byddwn yn annog Aelodau i fynd i'w weld drostynt eu hunain.

Amlinellodd Janet Finch-Saunders ymdrechion arwrol y lluoedd arfog, a'r coffáu nid yn unig am bobl, ond hefyd, ie, am geffylau rhyfel a chŵn. Ac amlinellodd Alun Davies effaith barhaol gwrthdaro ar gymunedau, gwrthdaro sy'n digwydd heddiw yn ogystal ag yn y gorffennol. Joyce Watson, wel, ychydig iawn sydd yn fwy angerddol am faterion cyn-filwyr na chi, ac mae'r hyn oedd gennych i'w ddweud am yr archif rwy'n credu wedi taro tant ymhlith llawer o bobl—ni ellir gorbwysleisio ei gwerth. Ac amlinellodd Jane Dodds erchyllter rhyfel a'r angen i atal gwrthdaro â'n holl egni. Soniodd Lesley Griffiths am ba mor werthfawr yw rhyddid a pha mor bwysig yw hi fod pobl ifanc yn cofio'r colledion yn sgil gwrthdaro.

Llywydd, rwy'n siŵr nad oedd un llygad sych mewn unrhyw gartref nos Sadwrn a oedd yn gwylio Gŵyl y Cofio y Lleng Brydeinig Frenhinol, a pha mor anhygoel oedd gweld Catherine, Tywysoges Cymru, yn ôl ar ddyletswydd ar gyfer yr achlysur hwnnw. Yn y digwyddiad hwnnw, rhannodd cynifer o gyn-filwyr a'u hanwyliaid eu straeon a'u profiadau, na ddylem fyth eu hanghofio, oherwydd, Llywydd, rydym yn cofio eu colledion fel y gallwn ymdrechu i osgoi amgylchiadau lle mae'n rhaid iddyn nhw roi eu hyfory ar gyfer ein heddiw ni. Diolch.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A'r cwestiwn nesaf fydd: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio?

Cynnig NNDM8715 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.

2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.

3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.

4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24

Eitem 9 sydd nesaf. Y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24 yw'r eitem yma, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg sydd i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8714 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Pleser yw agor y ddadl yma heddiw a gofyn ichi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Dyma ail adroddiad Efa Gruffudd Jones fel comisiynydd, a chefais y pleser o drafod yr adroddiad gyda hi yn ddiweddar.

Mae'r adroddiad yn mynd â ni ar daith drwy waith y comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'n cynnwys uchafbwyntiau o beth sydd wedi ei wneud mewn meysydd fel sicrhau tegwch a hawliau i siaradwyr Cymraeg, dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisïau, cynnal a chynyddu cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau statudol, cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat ac elusennau, a'r gwaith mae hi'n ei wneud i gynghori ar enwau lleoedd a chydweithio gyda'r Llywodraeth yn y maes yma. Mae'r adroddiad yn cynnwys cipolwg defnyddiol iawn ar waith y comisiynydd ar enwau lleoedd—er enghraifft, y gwaith mae'n ei wneud gyda'r Arolwg Ordnans i adolygu mapiau.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac felly mae sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd yn bwysig i ni. Mae'r adroddiad blynyddol yn cofnodi llwyddiant ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg y comisiynydd, ac yn galonogol yn adrodd bod 23 y cant o ymatebwyr arolwg barn yn credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wedi cynyddu dros y flwyddyn flaenorol.

Mae'n dda gweld enghreifftiau go iawn yn yr adroddiad lle mae cynnydd wedi bod mewn gwasanaethau Cymraeg, diolch i waith y comisiynydd. Er enghraifft, mae mwy o ddeunydd Cymraeg ar dudalennau gwefannau y sector iechyd, a mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg wrth ymgynghori ar bolisïau o fewn awdurdodau lleol. Hefyd, mae byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau pum mlynedd i gynnig mwy o wasanaethau clinigol yn y Gymraeg.

Llywydd, mae'r comisiynydd wedi adolygu ei ffyrdd o weithio i wneud yn siŵr bod y gwaith rheoleiddio'n cael yr effaith fwyaf. Dwi'n croesawu ei bod wedi cyflwyno ffordd fwy rhagweithiol o gydreoleiddio yn ystod 2024. Mae'r dull hwn yn torri tir newydd ac yn parhau i gael ei ddatblygu. Mae'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau'n unig. Mae'n dda gweld y comisiynydd ar flaen y gad o ran meddwl o'r newydd wrth weithredu ei chyfrifoldebau craidd. Mae'r ffordd newydd yn golygu gweithio'n agosach gyda chyrff sy'n dod o dan safonau i adnabod cyfleoedd i ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg a helpu cyrff sy'n profi anawsterau. Dwi'n siŵr y bydd y newid hwn yn sicrhau bod y comisiynydd yn parhau i reoleiddio'n effeithiol ac adeiladu perthynas dda gyda'r cyrff i gynyddu defnydd o'r Gymraeg. 

Mae ffocws amlwg ar gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd er mwyn galluogi staff i weithio yn y Gymraeg. Mae datblygu sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle yn arbennig o bwysig. Mae'n dda gweld, felly, fod y comisiynydd yn gweithio ar broject i adnabod arferion da wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Roedd yn dda hefyd darllen yr adroddiad ymchwil diweddar a gyhoeddwyd gan y comisiynydd ar lais dysgwyr yn y sector ôl-16, lle cymerodd 1,000 o ymatebwyr ran. Tra bo dysgwyr yn parhau i adrodd am rwystrau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig fel cyfrwng astudio, roedd ymatebwyr hefyd o'r farn bod y Gymraeg yn hollol bwysig ac yn ei hystyried fel mantais economaidd wrth ddatblygu gyrfa.

Dirprwy Lywydd, fel Llywodraeth, mae gyda ni gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl drwy gynyddu faint o Gymraeg sy'n cael ei defnyddio gan ein gweithlu ein hunain. Nod ein strategaeth defnydd mewnol, 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd' yw cael gweithlu cwbl ddwyieithog erbyn 2050. Drwy ailedrych ar y cynnig dysgu Cymraeg i staff, rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y staff sy'n dilyn rhaglen ffurfiol o ddysgu. Yn 2020, roedd 73 aelod o staff yn dysgu drwy raglen ffurfiol. Erbyn 2024, mae 627 aelod o staff yn dysgu Cymraeg. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno rhaglen o ddysgu gorfodol i ddau grŵp o brentisiaid sydd wedi treulio pythefnos yn gwneud cyrsiau Cymraeg wrth ddechrau ar eu gyrfa yn Llywodraeth Cymru.

Wrth gyflawni ei chyfrifoldebau am ymchwil, mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn gosod y gwaith hwn mewn cyd-destun hanfodol. Ychydig iawn o achosion a nodwyd lle gafodd pobl eu hatal rhag defnyddio'r iaith, ond nodwyd mwy o brofiadau lle'r oedd pobl yn sefyll yn ôl o ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl cael eu cywiro gan eraill. Fe wnaeth siaradwyr Cymraeg o bob gallu adrodd y profiad hwn, ond roedd yn fwy cyffredin ymysg dysgwyr. Mae'r comisiynydd yn gwneud rhagor o waith ar y mater hwn ar hyn o bryd.

Mae rôl gan y comisiynydd o ran dylanwadu ar bolisi, sy’n bwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o fewn meysydd fel addysg a sgiliau, cymwysterau, iechyd a gofal, amaeth, darlledu, tai, datblygu economaidd, a chymunedau Cymraeg. Dwi’n ddiolchgar i’r comisiynydd am ymateb i ymgynghoriadau ar bolisïau a Biliau newydd. Mae’n ffordd dda o’n hatgoffa ni yn y Llywodraeth am beth y gallwn ni ei wneud i ddod â’r Gymraeg i mewn i’n holl feysydd gwaith. Mae prif ffrydio 'Cymraeg 2050' o’r cychwyn wrth ddatblygu polisi mor bwysig. Mae’r gwaith mae hi wedi’i wneud, ar y cyd gyda Chomisiynydd Plant Cymru, o ran anghenion dysgu ychwanegol, wedi arwain at gamau i gefnogi darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg. Mae mewnbwn y comisiynydd wrth i ni ddatblygu deddfwriaeth fel Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), ac ymateb i’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, yn hollbwysig. Dwi’n siŵr y bydd y comisiynydd yn parhau i gyfrannu yn adeiladol wrth i’r gwaith yma symud ymlaen yn ystod y cyfnod nesaf.

Dwi’n siŵr y bydd gan Aelodau yma ddiddordeb yng ngwaith rhyngwladol y comisiynydd. Rydym, yn briodol, yn canolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i gefnogi’r Gymraeg a sicrhau ei dyfodol, ond rydym weithiau’n anghofio ei bod yn cael ei hystyried fel llwyddiant ar lefel ryngwladol. Y Gymraeg yw’r unig iaith Geltaidd nad yw UNESCO yn ei hystyried mewn perygl. Mae’r adroddiad blynyddol yn nodi gwaith y comisiynydd gyda Chymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, ac, er nad yw’r adroddiad yn sôn am hyn, roedd yn foment falch eleni pan gynhaliwyd wythfed gynhadledd y gymdeithas yma yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, wrth edrych at y dyfodol, dwi’n edrych ymlaen at ddod â mwy o gyrff o dan safonau’r Gymraeg. Rydyn ni newydd ymgynghori ar ychwanegu mwy o gyrff i reoliadau sydd eisoes yn bodoli. Dwi’n gobeithio gallu cyflwyno is-ddeddfwriaeth i wneud hyn yn gynnar yn 2025. Mae’r comisiynydd hefyd wedi gwneud gwaith pwysig gyda busnesau ac elusennau. Mae 109 o sefydliadau wedi cymryd rhan yn y cynllun Cynnig Cymraeg. Derbyniwyd ystod eang o sefydliadau newydd i Cynnig Cymraeg yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Aldi, Samariaid Cymru, Tenovus a Versus Athritis. Roedd Wythnos y Cynnig Cymraeg yn gyfle i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg o fewn y sectorau hynny.

Ar yr ochr arall, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn siomedig i weld rhai cwmnïau preifat yn penderfynu stopio cynnig gwasanaethau Cymraeg. Ond dwi’n ddiolchgar i’r comisiynydd am fod mor barod i atgoffa cyrff pa mor bwysig yw cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’n dda gweld bod cefnogaeth benodol ar gael i’r sectorau yma, trwy ganllawiau a sesiynau hyfforddi, er mwyn eu hannog i ddarparu a datblygu gwasanaethau Cymraeg.

Wrth edrych ymlaen, mae’r sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol. Mae’r comisiynydd, fel nifer o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod rhannu’r baich hwn, ac fe wnaeth pob comisiynydd gael toriad o 5 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. A dwi wedi cwrdd gyda’r comisiynydd, ac yn gwybod ei bod hi wedi edrych ar ein blaenoriaethau er mwyn targedu adnoddau i gael yr effaith mwyaf cadarnhaol. Byddaf yn cyfarfod eto â’r comisiynydd yn ystod y flwyddyn i drafod ei gwaith, a hoffwn ddiolch iddi am fod mor gadarnhaol wrth ystyried ei hymateb i’r her gyllidol hon.

Dirprwy Lywydd, mae rôl y comisiynydd yn hollol bwysig i roi llais annibynnol ar y Gymraeg, i'n herio ni fel Llywodraeth a chyrff eraill, ac i gynnig cymorth lle'n briodol i ddatblygu'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda hi i gynyddu defnydd o'r Gymraeg a gwireddu amcanion 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr. 

18:25

Diolch i Lywodraeth Cymru am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd y prynhawn yma. Dwi'n ddiolchgar i'r comisiynydd am yr adroddiad. Dwi'n credu ei fod yn adroddiad diddorol iawn. Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod—. Pryd bynnag dŷn ni'n sôn am yr iaith Gymraeg, y targed canolog yw'r 1 filiwn o siaradwyr, a dwi'n ddiolchgar bod hwnnw'n rhywbeth y mae pob plaid yn y Siambr hon yn credu ynddo ac yn credu ei fod yn bwysig ac yn moyn i Lywodraeth Cymru lwyddo. Ac mae hwnnw'n rhywbeth, gobeithio, dŷn ni ddim yn cymryd for granted, ac am sicrhau bod hynny'n datblygu yn y dyfodol. 

Roedd hi'n ddiddorol clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am enghreifftiau rhyngwladol yn beth ddywedoch chi, oherwydd aethon ni, flwyddyn ddiwethaf, gyda'r pwyllgor diwylliant—Delyth yw Chair y pwyllgor—i Iwerddon. Dwi wastad yn meddwl, 'Beth mae pobl o wledydd eraill yn meddwl am Gymru? Beth maen nhw'n sylweddoli am Gymru?' A beth wnaeth bron pob un, dwi'n credu, Delyth, ddweud wrthym ni oedd yr iaith, ac roedden nhw'n dweud wrthym ni, 

'Wel, hoffwn i pe bai gennym ni yr hyn sydd gennych chi o ran ein cymunedau Gaeleg eu hiaith, a hoffem pe bai gennym ni hynny yn Iwerddon. Mae llawer iawn y gallwn ni ei ddysgu oddi wrthych chi.' Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni fod yn falch ohono. 

Dylem ni ddangos pa mor falch ŷn ni i gael gweld hynny'n digwydd yng Nghymru a bod gwledydd eraill yn edrych ar Gymru fel enghraifft i'r byd. Ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. 

Gan droi at yr adroddiad, dwi'n credu bod yr adroddiad yn meddwl—. Yng nghalon yr adroddiad, y peth mwyaf pwysig yw addysg, dwi'n credu, i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed hwnnw. Ac mae gan y comisiynydd hefyd rôl bwysig, bwysig iawn o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ond beth sy'n glir, os ydych chi'n edrych ar y stats—. Rydyn ni'n gwybod bod y census diwethaf yn dweud bod llai o bobl nawr yng Nghymru yn siarad Cymraeg, o'i gymharu â'r census cyn hynny. Ac os ydych chi'n edrych y tu allan i'r adroddiad hwn, ar stats eraill, beth rydych chi'n ei weld yw bod llai o athrawon nawr yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg—27.2 y cant yn 2020 a 26.5 y cant yn 2024. Hefyd, mae 6.2 y cant o athrawon, yn ôl school workforce census y flwyddyn ddiwethaf, yn dweud eu bod nhw'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond dydyn nhw ddim yn gwneud hynny yn y swydd maen nhw'n ei wneud nawr. Felly, mae llawer mwy o waith, dwi'n creu, i'w wneud inni sicrhau, os ydyn ni'n mynd i gyrraedd y filiwn o siaradwyr, fod gennym ni'r athrawon i'w wneud e a bod yr athrawon yn ganolog at wneud hynny, ond eu bod nhw'n dysgu yn y Gymraeg hefyd yn nosbarthiadau ar draws Cymru. 

Felly, dwi'n gobeithio gweld strategaeth nawr, gan ein bod ni'n gweld y Bil yn dod, Bil y Gymraeg ac addysg yn dod, fod pob ysgol—ac rydyn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi beth mae'r Bil yn trio ei wneud—fod pob ysgol ar ryw fath o gontinwwm i sicrhau bod mwy o Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion. Mae hynny'n beth da. Mae hynny'n rhywbeth dŷn ni'n ei groesawu, er bod cwpwl o bwyntiau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod amdanyn nhw o ran sut yn union mae hwn yn mynd i weithio. Ond mae'r aims yn rhywbeth rydyn ni'n ei gefnogi. 

Hefyd, roeddwn i'n moyn sôn am rywbeth arall o ran polisïau Llywodraeth Cymru y mae'r adroddiad wedi sôn amdanyn nhw, yn enwedig yr SFS, ac fe wnaf i orffen ar hyn, Dirprwy Lywydd. Dywedodd yr adroddiad,

'Roedd asesiad effaith y Llywodraeth yn amcangyfrif y byddai dirywiad sylweddol i faint yr economi wledig ac effaith negyddol ar gymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.'

Felly, bydd yn werth clywed, dwi'n credu, gan Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd polisïau sydd ddim ar y surface, os ŷch chi’n moyn, yn ymwneud â'r iaith Gymraeg—. Sut y mae polisïau fel hyn, fel yr SFS, yn cael eu datblygu i sicrhau eu bod nhw ddim yn cael yr effaith negyddol y mae'r adroddiad hwn gan y comisiynydd wedi'i nodi?

Ond diolch yn fawr i'r comisiynydd, a diolch yn fawr i'r tîm sy'n gweithio gyda'r comisiynydd, a dwi'n gobeithio gweld y gwaith da hwn dŷn ni'n ei weld yn yr adroddiad yn cario ymlaen yn y dyfodol. Diolch.

18:30

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â'r ddadl hon gerbron. Hoffwn innau hefyd ategu fy niolch i i'r comisiynydd a'i thîm am y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud, fel sydd wedi ei grynhoi yn yr adroddiad swmpus ond darllenadwy hwn, sy'n dipyn o gamp. Mae’r gwaith yn hanfodol o ran hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg wrth inni weithio, wrth gwrs, tuag at y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu’r defnydd, a hefyd o ran amddiffyn a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg.

Mae yna nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad hwn, ac mae yna nifer o bethau cadarnhaol wedi bod yn digwydd o ran y Gymraeg ers sefydlu’r Senedd hon. Ond wrth gwrs, mae'r adroddiad hwn unwaith eto yn dangos bod yna heriau yn parhau. Mi wnaethoch chi gyfeirio, Ysgrifennydd Cabinet, at y rhai sydd wedi profi rhywun yn ymyrryd â'u rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg dros y 12 mis diwethaf—18 y cant wedi nodi hynny, ond gyda hynny'n cynyddu i 29 y cant o'r rheini a holwyd rhwng 16 a 34 oed.

Byddwn i'n hoffi deall yn well pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r comisiynydd o ran sut ydyn ni'n cael y neges yna drosodd. Rydyn ni'n sôn yn aml yn y Siambr hon fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac yn sicr dwi'n cytuno'n llwyr efo'r pwyntiau a wnaethoch chi o ran dysgwyr a'r math o agweddau, a chywiro iaith—dwi'n casáu hynny'n llwyr. Wrth gwrs, mae yna rôl bwysig i gael Cymraeg cywir ar adegau—wrth gwrs bod yna—ac rydyn ni eisiau sicrhau bod yna safon i'r Gymraeg, ond i unrhyw un sy'n ceisio efo'r Gymraeg, does yna ddim byd gwaeth na chael eich cywiro—dwi'n gwybod hynny. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn deall bod cywiro yn gallu bod yn niweidiol ar yr adegau hynny pan fydd pobl yn ceisio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw.

Un peth roeddwn i eisiau tynnu sylw ato fo oedd ynglŷn â'r 100 o gwynion am fethiant honedig i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod 95 ohonyn nhw'n ddilys. Wrth edrych ar y gofrestr o'r camau gorfodi, mae yna 126 o gyfeiriadau at Weinidogion Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae hynna dros nifer fawr o feysydd: mae'n gallu bod yn Trafnidiaeth Cymru—llu o feysydd gwahanol. Ond, ar ddiwedd y dydd, Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am fonitro cynnydd a chydymffurfiaeth o ran y camau gorfodi hynny. Felly, gaf i ofyn sut ydych chi'n mynd ati i wneud hynny fel Gweinidogion? Yn bellach, wrth gwrs, mae yna sawl cyfeiriad hefyd at awdurdodau lleol yn methu â chydymffurfio.

Yn ddiweddar, mi oeddech chi wedi ein gwahodd ni fel Aelodau’r Senedd i fod yn llysgenhadon dros y Gymraeg yn ein cymunedau. Ydy hi’n fwriad i ofyn i bob awdurdod lleol wneud yr un peth? Oherwydd mae’n amlwg o’r adroddiad hwn, os ydych chi'n edrych ar y camau gorfodi yn benodol, fod rhai cynghorau yn methu â chydymffurfio’n flynyddol—bod yna batrwm o ran pa gynghorau sydd efallai ddim yn cyrraedd y safon. Pa waith sy’n cael ei wneud felly i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn rhannu uchelgais y Senedd hon o ran y Gymraeg? Yn amlwg, mae gwaith y comisiynydd a'i thîm yn ofnadwy o drylwyr pan fydd yna gwynion yn dod i mewn, felly, os oes yna repeat offenders, fel petai, pan fydd hi'n dod i gynghorau lleol, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn hytrach na'n bod ni'n gweld yr un un problemau yn dod o'n blaenau ni dro ar ôl tro.

Yn amlwg, mi oedd y sylwadau gan y comisiynydd yn yr adroddiad hwn ynglŷn â Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn dweud ei bod hi'n gweld—. Wel, os ydw i'n dyfynnu fan hyn:

'Nid yw’n ormodiaeth dadlau fod hwn yn ddatblygiad hanesyddol i’r Gymraeg ym myd addysg'.

Felly, gaf i ofyn sut ydych chi'n yn cydweithio â’r comisiynydd a’i thîm ar ddatblygiad y Bil? 

Mi wnaethoch chi dynnu sylw hefyd at ddau adroddiad eithriadol o bwysig: un ar anghenion dysgu ychwanegol ar y cyd â’r comisiynydd plant, ac, yn ail, yr adroddiad ar addysg ôl-orfodol a’r Gymraeg. Mi wnaethoch chi sôn bod yna gamau wedi’u cymryd yn sgil y rhain. Fedrwch chi amlinellu'r rheini, os gwelwch yn dda?

Dwi'n falch iawn o’r sylwadau y gwnaethoch chi o ran HSBC. Dwi’n meddwl ei fod o'n arbennig o bwysig o ran gwasanaethau ar-lein hefyd, ein bod ni’n parhau i sicrhau bod cwmnïau yn deall gwerth y Gymraeg.

Un o’r pryderon sydd, efallai, o ran y toriadau sydd wedi bod yng nghyllideb y comisiynydd, ac roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith eu bod nhw wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau, ond pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o ran effaith y toriadau cyllidol ar waith y comisiynydd, a sut mae lliniaru yr effaith hwnnw?

Felly, ambell i gwestiwn, ond dwi’n gobeithio eich bod chi’n deall eu bod nhw’n dod o le cadarnhaol o ran sut ydyn ni’n gweld gwaith y comisiynydd yn datblygu er mwyn cefnogi uchelgais unedig y Senedd hon o ran y Gymraeg.

18:35

Dwi hefyd yn ategu fy niolch i Gomisiynydd y Gymraeg am ei hadroddiad, am ei chyfraniad pwysig hefyd dros y Gymraeg. Hoffwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, drafod rhywbeth penodol iawn yn yr adroddiad heddiw, sef y gwasanaethau Cymraeg i blant ag anghenion dysgu. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae nifer y plant sydd â diagnosis o autism a phlant ag anghenion arbennig yng Nghymru wedi cynyddu dair gwaith ers 2001. Mae hyn yn golygu bod tua 20 y cant o ddisgyblion yng Nghymru nawr bellach ag anghenion dysgu ychwanegol.

Nawr, dwi’n cofio—a dwi wedi sôn am hyn o’r blaen yn y Senedd—hen fodryb i fi yn Llanelli yn dweud wrthyf i ei bod hi wedi cael ei chynghori gan yr awdurdod lleol yn ôl yn y 1960au i beidio ag anfon ei mab i Ysgol Gymraeg Dewi Sant oherwydd bod anghenion dysgu ychwanegol gyda fe—byddai e'n methu ymdopi gyda dwy iaith. Dros nos wedi hynny, fe newidiwyd iaith yr aelwyd, fe newidiwyd iaith ei frawd a’i chwaer e, ac mae’r teulu yna wedi cael ei golli ar hyn o bryd i’r Gymraeg. Diolch byth, rŷn ni wedi symud ymlaen lot ers y 1960au, ond mae adroddiad y comisiynydd yn dangos yn bwerus iawn fod bwlch clir yn bodoli o hyd rhwng y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o ran anghenion dysgu ychwanegol, ac mae’r mater yma wedi cael ei godi gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol Cymru.

Mae hynny’n golygu bod rhieni a dysgwyr yn aml yn cael eu gorfodi i geisio cefnogaeth ac addysg cyfrwng Saesneg o hyd, ac, fel dŷch chi’n gwybod, mae hwn yn mynd yn groes i erthygl 30 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy’n golygu bod gan blentyn yr hawl i ddefnyddio iaith o’i ddewis, a hefyd yn mynd yn erbyn deddfwriaeth y lle hwn, sy’n dweud y dylem ni drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Dyw hyn ddim yn digwydd ar hyn o bryd pan fydd hi'n dod i’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

Trwy’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, y WESPs, mae disgwyl i gynghorau lleol ddatgan a yw anghenion dysgwyr sy’n siarad Cymraeg yn cael eu diwallu ar hyn o bryd. Ond mae llawer iawn o’r WESPs a gyflwynwyd wedi methu cynnal adolygiadau cynhwysfawr o’u harferion fel rhan o greu y WESPs, ac fel rhan o greu WESPs ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu nad yw  cynghorau lleol, nad yw awdurdodau lleol yn dysgu o’u camgymeriadau, a dŷn nhw ddim, wedi hynny, yn adeiladu darlun cliriach o’r hyn sydd ei angen ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg.

Roeddwn i’n falch i weld y cydweithio rhwng Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, a’u bod nhw’n dod i’r casgliad bod angen tasglu cenedlaethol i gydlynu’r ymgyrch i wella’r ddarpariaeth ynglŷn ag anghenion dysgu ychwanegol. Dwi’n gwybod bod hynny heb gael ei gytuno gyda’r Llywodraeth, ond eich bod chi wedi apwyntio arweinydd anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg. A’r hyn dwi’n ei ddeall, a'r hyn dwi wedi'i glywed, yw bod yr arweinydd yna’n gwneud gwaith arbennig o dda, ond dyw’r ddarpariaeth ar hyn o bryd ddim yn hafal, a fedrwn ni ddim dweud bod yr iaith Gymraeg yn iaith i bawb pan fo hyn yn dal yn digwydd—fedrwn ni ddim sicrhau nad oes cyfle i bethau ddigwydd fel digwyddodd i’m cefnder i, nad ydyn nhw'n gallu derbyn yr addysg a’r gefnogaeth yn eu mamiaith. Diolch yn fawr.

18:40

Wrth ddiolch am yr adroddiad, dwi eisiau codi dau fater, os gwelwch yn dda. Amcan 2 y comisiynydd ydy sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn polisi a deddfwriaeth, ac rydych chi wedi sôn am hynny. Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dan gadeiryddiaeth Simon Brooks, yn annog y Llywodraeth i alluogi penderfyniadau am anghenion tai lleol ar lefel micro, sy’n ymateb i anghenion lleol, yn hytrach nag arddel polisïau rhanbarthol neu genedlaethol yn unig. Gaf i jest dynnu eich sylw chi at ddisgord posib allai godi rhwng argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ym maes tai a’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd sydd ar y gweill, a hynny o gwmpas y rheol cysylltiad lleol? Dwi ddim yn mynd i fanylu ar hyn rŵan, ond a gaf i eich annog chi, Ysgrifennydd Cabinet, i edrych ar hyn er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng dau bolisi i’r dyfodol?

A throi at yr ail fater, sef y safonau, mewn llythyr a gefais i gan Eluned Morgan ddiwedd yr haf, pan oedd hi’n Ysgrifennydd y Cabinet y Gymraeg, roedd hi yn dweud mai’r flaenoriaeth gan y Llywodraeth o ran ymestyn trefn safonau’r Gymraeg ydy i’w hymestyn nhw i’r sectorau cymdeithasau tai a thrafnidiaeth gyhoeddus. Tybed a fedrwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith hwnnw. Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod y Llywodraeth wedi cychwyn ystyried pa sectorau y dylid eu blaenoriaethu ar ôl cyfnod y Senedd yma. Ydy’r gwaith yma’n parhau ac a fedrwch chi roi syniad o beth mae’r gwaith hwn wedi'i adnabod fel sectorau o flaenoriaeth ar gyfer y Senedd nesaf? Mi fyddwch chi’n ymwybodol iawn ein bod ni wedi cael ymrwymiad rhwng ein dwy blaid ni i lunio rhestr gyflawn i gwblhau’r gwaith o gyflwyno safonau’r Gymraeg. Pryd fydd y rhestr honno yn cael ei chyhoeddi, os gwelwch yn dda?

Buaswn i'n dweud, fel arfer, byddwn i’n siarad mewn dadl fel hon fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant a’r iaith Gymraeg, ond oherwydd amseru’r adroddiad eleni, dŷn ni ddim wedi cael cyfle eto i edrych ar yr adroddiad. Bydd e’n eithriadol o ddiddorol a defnyddiol i ni ar gyfer y dyfodol, ond dwi eisiau ei gwneud hi'n glir fy mod i’n siarad fel Aelod unigol yn y ddadl hon.

Hoffwn i ddiolch i’r comisiynydd a’i thîm am y gwaith eithriadol o bwysig maen nhw wedi ei wneud fan hyn, a hefyd diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r ddadl hon gerbron y Senedd. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn ddoe yn y grŵp trawsbleidiol ar undod rhwng cenedlaethau gyda’r Ysgrifennydd Cabinet am yr iaith Gymraeg, lle gwnaethon ni drafod nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys yr hanesion teuluol sydd gan gynifer ohonom ni, lle gwnaeth un genhedlaeth benderfynu peidio â phasio’r iaith ymlaen a’r sgil-effeithiau mae hynna wedi'i gael am flynyddoedd. Mae’n rhywbeth wnaeth effeithio ar fy nheulu i, yn sicr, a dwi'n meddwl bod trafodaethau am yr iaith Gymraeg a’r angen i blant gael mynediad at yr iaith, y cyfleon yna, yn destun eithriadol o bersonol, emosiynol, i gymaint ohonom ni, oherwydd hynny. Weithiau, rŷn ni’n gwerthfawrogi pethau’n fwy pan ŷn ni’n sylweddoli pa mor fregus maen nhw’n gallu bod.

Rwyf i’n meddwl weithiau bod yna densiwn rhwng y ffaith—ie, fel roedd Tom wedi sôn amdano—fod Cymru yn destun cenfigen gan wledydd Celtaidd eraill, oherwydd cymaint o statws sydd gan yr iaith, cymaint mewn sefyllfa well ydyn ni na’n gorffennol ni, ond bod yna densiwn rhwng hynny a’r ffaith bod heriau i statws yr iaith, fel busnesau fel HSBC yn cwtogi ar y gwasanaethau iaith Gymraeg sydd ar gael, ac ie, hefyd, y ffigurau sensws. Dwi'n meddwl mai perl o werth enfawr ydy’r Gymraeg, neu efallai diamond, rhywbeth sydd wedi cael ei wasgu gan a dan bwysau eithriadol, ond dŷn ni ddim eisiau rhoi’r Gymraeg fel tlws jest mewn cas gwydr, i edrych arni hi. Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr ei bod hi’n cael ei gweld, ein bod ni’n ei thrysori hi bob dydd, ein bod ni'n ei gwisgo hi bob dydd. Felly, mae'r tensiwn yna, dwi'n meddwl, yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gydnabod.

Rwy'n cytuno â'r rhai sydd wedi sôn am fynediad at addysg Gymraeg. Dyna un o'r heriau mwyaf, ac mae'r comisiynydd wedi amlygu hwnna hefyd. Rwy'n ofni y gallai’r newidiadau y mae cymaint o gynghorau ar draws Cymru'n edrych i'w gwneud, o ran pa mor anodd y bydd hi i blant gael mynediad at addysg Gymraeg o ran cludiant ysgol, ddod â sgil-effeithiau negyddol o ran mynediad i'r iaith—y nifer o deuluoedd di-Gymraeg, efallai y rhai nad oeddent wedi cael y tlws hwn o'r genhedlaeth ddiwethaf, os ydyn nhw'n mynd i benderfynu cymryd y naid honna er mwyn rhoi'r trysor hwnnw i'w plant. Dwi wedi siarad â nifer o bobl sydd yn poeni am hyn yn sir Fynwy ac yng Nghaerffili; bydd hwn yn rhywbeth sydd yn digwydd dros Gymru, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r her yna.

Dyma’r pwynt olaf y buaswn i eisiau ei wneud, Dirprwy Lywydd. Roedd Heledd wedi sôn am ba mor bwysig yw hi, os yw'r Gymraeg yn mynd i fod yn iaith ar gyfer pawb yng Nghymru, ein bod ni'n clodfori Cymraeg pawb. Rwy'n gwybod bod y comisiynydd wedi gwneud gwaith yn ddiweddar ar hyder a'r Gymraeg a'r ffaith bod angen inni newid ein diwylliant ni, efallai, gyda'r iaith os ydym ni am weld y cynnydd yna, a chynnydd digonol yn y nifer o bobl sydd yn defnyddio'r iaith bob dydd. Achos dydyn ni ddim eisiau i bobl allu medru'r iaith yn unig; dŷn ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn iaith fyw, rhywbeth sydd yn cael ei siarad bob dydd, yn ei holl gymhlethdodau, ei gwahaniaethau ac, ie, ei gwallau ysblennydd. Efallai na fydd pobl yn hoffi'r ffaith fy mod i'n dweud hwnna, ond pan fo pobl yn gwneud gwallau, mae hwnna'n dangos eu bod nhw'n siarad Cymraeg a bod yr iaith yn un sydd yn fyw. Mae pobl yn dysgu'r iaith. Dŷn ni i gyd yn dal i ddysgu'r Gymraeg bob dydd rŷn ni'n ei siarad hi. Dysgwyr ydym ni oll. Yr her hyder, efallai, ydy'r her fwyaf cymhleth ac ystyfnig, ond hefyd yr her fydd fwyaf pwysig i'w orchfygu. Cawsom iaith, mae angen inni ei cheisio hi.

18:45

Diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a diolch am yr ysbryd adeiladol sydd wedi bod o ran y cyfraniadau i gyd.

Diolch i Tom Giffard am beth y dywedodd e am y gwaith rhyngwladol y mae e wedi'i weld yn mynd ymlaen. Roedd Llywydd Llydaw wedi bod yma yn y Senedd y prynhawn yma; mae e wedi bod lan lofft yn edrych ar y gwaith rŷn ni'n ei wneud fan hyn. Ces i gyfle i siarad ag e yn gynharach a gofynnodd i fi faint o Aelodau'r Senedd oedd yn gallu siarad Cymraeg ac sy'n cyfrannu yn y Gymraeg, a dywedodd e mai dim ond tri o bobl yn y Senedd yn Llydaw sy'n cyfrannu yn Llydaweg. So, mae tensiynau, fel yr oedd Delyth yn dweud—rŷn ni'n pryderu am yr iaith Gymraeg, rŷn ni'n gwybod bod lot fwy o waith gennym i'w wneud i helpu'r iaith i ffynnu yn y dyfodol, ond hefyd, rŷn ni'n lwcus, onid ydym? Rŷn ni'n gallu cael dadl fel hyn ble mae pob un wedi cyfrannu yn y Gymraeg ac mae hwn yn rhywbeth naturiol i ni. Dyw pobl eraill yn y byd Celtaidd ddim cweit yn yr un sefyllfa.

Wrth gwrs, fel yr oedd Tom Giffard yn dweud, mae addysg yn hollbwysig i ni a'n cynlluniau am y dyfodol. Dyna pam rŷn ni'n dod â'r Bil addysg Gymraeg o flaen y Senedd, i gryfhau'r iaith ym mhob agwedd ar y system addysg sydd gyda ni. Dirprwy Lywydd, dwi'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg a dwi'n arwain ar y berthynas rhwng y Llywodraeth a'r comisiynydd, ond mae gwaith y comisiynydd yn bwysig i bob Aelod o'r Cabinet, ac mae perthynas uniongyrchol rhwng y Gweinidog dros addysg, y Gweinidog dros iechyd a'r comisiynydd, a'r gwaith mae hi'n ei wneud yn y meysydd maen nhw'n gyfrifol amdanynt.

Fel roedd Heledd Fychan yn dweud, Dirprwy Lywydd, mae heriau yn parhau i ni o ran yr iaith Gymraeg, ac un o'r pethau pwysicaf i ni yw cadw'r ffaith bod y comisiynydd yn annibynnol. Dyna pam mae hi'n gallu adrodd ar y gwaith rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Ac, fel dywedodd Heledd, mae nifer o enghreifftiau yn yr adroddiad ble mae hi wedi rhoi cyngor i ni, fel Llywodraeth, am sut gallwn ni wella safonau'r pethau dŷn ni'n eu gwneud. Dwi'n hapus i drafod y pwynt wnaeth Heledd ei godi am y repeat offenders yn dod mas o'r gwaith mae'r comisiynydd yn ei wneud, i weld os oes mwy y gallwn ni ei wneud i helpu awdurdodau lleol pan fyddan nhw yn y sefyllfa yna, ond hefyd i fod yn glir gyda nhw am y dyletswyddau sydd arnyn nhw. 

Roedd Rhys ab Owen, Dirprwy Lywydd, yn tynnu sylw at blant gydag anghenion dysgu. Wrth gwrs, rŷn ni eisiau i bob plentyn, o bob cefndir, o bob cymuned, gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg pan fydd teuluoedd eisiau hynny i ddigwydd. Dyna pam roedd yr adroddiad ar y cyd gyda'r comisiynydd plant a chomisiynydd yr iaith Gymraeg yn bwysig i ni, a dwi'n gwybod bod hwnna wedi cael ei gymryd o ddifrif gan y Gweinidog. 

I Siân Gwenllian, dwi'n hapus, wrth gwrs, i edrych ar y pwynt roedd Siân yn ei godi am ble dyw polisïau ddim cweit yn cyd-fynd ac i weld beth allwn ni ei wneud. Dwi'n fodlon ysgrifennu at Siân Gwenllian jest i setio mas popeth rŷn ni'n ei wneud yn y maes safonau. Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl, Dirprwy Lywydd. Ac, wrth gwrs, dwi eisiau gofyn ichi i gyd i nodi'r gwaith pwysig mae'r comisiynydd yn ei wneud a nodi'r adroddiad blynyddol hwn yn ffurfiol.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Does dim pleidleisiau heno. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:52.