Y Cyfarfod Llawn
Plenary
01/10/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r cyfarfod y prynhawn yma. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r eitem gyntaf ar yr agenda. Mae’r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Cefin Campbell.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar flaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer sir Gaerfyrddin? OQ61592
Diolch yn fawr. Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd diogel, o ansawdd ar gyfer y bobl leol.
Wel, Prif Weinidog, mae ymdeimlad pendant o ofid, dicter ac anghrediniaeth yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, ar hyn o bryd, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd darpariaeth uned mân anafiadau 24 awr Ysbyty'r Tywysog Philip yn cael ei haneru am chwe mis o 1 Tachwedd ymlaen. Nawr, collodd tref fwyaf gorllewin Cymru ei darpariaeth damweiniau ac achosion brys gwerthfawr dros 10 mlynedd yn ôl, ac mae hon yn ergyd arall i'r ddarpariaeth iechyd yn nhre'r sosban a'r cyffiniau. Nawr, y dewis arall i'r rhai sydd angen sylw meddygol y tu allan i oriau yw teithio i ysbytai Glangwili neu Dreforys, y mae'r ddau eisoes yn wynebu pwysau a gofynion enfawr ar eu gwasanaethau. Nawr, mae'n anochel y byddwch chi a gwleidyddion Llafur yn lleol yn bwrw'r cyfrifoldeb ymlaen i'r byrddau iechyd, ond gadewch i ni wynebu'r ffeithiau: mae'r toriad llym hwn i wasanaethau iechyd rheng flaen yn digwydd o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Lafur Cymru. Methiant i recriwtio mwy o feddygon, cynllunio gweithlu gwael, cyllidebau sy'n crebachu—methiannau Llywodraeth Cymru yw'r rhain, ond, yn y pen draw, pobl Llanelli a'r cyffiniau sy'n talu'r pris. Felly, Prif Weinidog, mae fy nghwestiwn yn syml: a ydych chi'n derbyn cyfrifoldeb, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gynorthwyo'r trigolion hynny yn ardal Llanelli wrth iddyn nhw ddioddef yr ad-drefniant llym hwn i ddarpariaeth gofal iechyd leol?
Wel, diolch yn fawr. Dwi’n ymwybodol bod llawer iawn o bryder lleol ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau. Wrth gwrs, gwaith Llywodraeth Cymru yw darparu cyfeiriad strategol. Mae lan i’r bwrdd iechyd i ddylunio a delifro gwasanaethau diogel. Dyna sut mae’r system yn gweithio. Nawr, wrth gwrs, mae angen i unrhyw newid i wasanaethau ddilyn canllawiau’r gwasanaeth cenedlaethol, a bydd angen iddyn nhw drafod gyda Llais a’r gymuned leol. Diogelwch yw’r prif flaenoriaeth, a dwi’n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi bod yn stryglo i gael y staff priodol, a bod y staff sy’n weddill—lot ohonyn nhw—wedi bod off gyda stres. Felly, mae yna reswm am y newid hwn.
A gaf i jest gywiro cwpwl o bethau ffeithiol? Rŷn ni wedi gweld cynnydd o 4 y cant yn faint roedden ni wedi'i rhoi i’r gwasanaeth iechyd eleni, o gymharu gyda 1 y cant o gynnydd yn Lloegr. A dyw’r cyllid ar gyfer yr NHS ddim yn gostwng; mae e wedi mynd i fyny lot dros y blynyddoedd diwethaf.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch mynediad at ofal iechyd yn Llanelli? OQ61613
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf a thrafod yr heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd, gan gynnwys y penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i'r bwrdd eu gwneud i sicrhau gofal clinigol diogel ac o ansawdd. Mae'r materion eraill a drafodwyd yn cynnwys cydbwysedd ariannol, gwasanaethau bregus, gofal wedi'i gynllunio, sylfaenol, brys ac argyfwng. Trafodwyd y rheini i gyd hefyd.
Diolch. Addawodd bwrdd iechyd Hywel Dda y llynedd y byddai gofal dros nos yn yr uned mân anafiadau yn Llanelli yn cael ei gynnal. Ond, heb fawr o rybudd o gwbl, a heb unrhyw ymgynghori nac ymgysylltu, maen nhw wedi newid eu meddyliau. Nawr, maen nhw'n dweud nad yw'r uned yn ddiogel gan na allan nhw recriwtio ymarferwyr cyffredinol. Ond mae staff yn dweud na fu unrhyw ymdrechion gweithredol ac mai rheolaeth wael yr uned sy'n rhwystro pobl. Pe bai cymorth dros nos yr heddlu neu'r gwasanaeth tân yn cael ei gymryd o un o drefi mwyaf Cymru, byddwn yn disgwyl ymyrraeth, a dydw i ddim yn gweld pam y dylai gofal iechyd fod yn ddim gwahanol. Mae gwersyll protest bellach wedi cael ei sefydlu y tu allan i'r ysbyty. Mae'n amlwg nad yw'r bwrdd iechyd yn deall Llanelli os ydyn nhw'n credu y bydd y bobl anghofio am hyn. A wnaiff y Prif Weinidog ofyn i'r bwrdd iechyd ailystyried?
Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais i, rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac rwy'n ymwybodol o'r ymdrechion y mae'r gymuned leol wedi eu gwneud i geisio cefnogi'r gwasanaethau yn yr ardal. Mae'r bwrdd iechyd wedi ceisio, fel yr wyf i'n ei deall, recriwtio meddygon cymwysedig i gefnogi'r uned, ond mae wedi bod yn aflwyddiannus, sy'n golygu bod yr uned wedi troi'n wasanaeth a arweinir gan ymarferwyr nyrsio brys. A rhan o'r broblem oedd, rhwng Chwefror a Gorffennaf, bod 42 o fylchau heb eu llenwi yn y rota. Nawr, prif gyfrifoldeb bwrdd iechyd yw gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig yn ddiogel mewn gwirionedd. Felly, dyna beth maen nhw'n ceisio ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r bwrdd iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ar y boblogaeth leol, a'u bod nhw'n gwneud ymdrechion i wneud yn siŵr bod y staff sydd eu hangen ar gael. Ond nid yw'r staff sydd yno ar hyn o bryd yn barod i ymdrin â phroblemau mawr, ac mae straen pobl sy'n cyrraedd â phroblemau mawr yn achosi nifer sylweddol o absenoldebau. Rwyf i yn credu bod yn rhaid i ni fod yn ymarferol ac yn realistig am y sefyllfa, ond, wrth gwrs, mater i'r bwrdd iechyd yw gwneud penderfyniad. Pobl sy'n ymddangos â chyflyrau difrifol na ddylen nhw fod yn dod i uned mân anafiadau mewn gwirionedd, yw tri deg dau y cant o'r gweithgarwch dros nos.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cafwyd adroddiad gan newyddion ITN a dynodd sylw at gyflwr ofnadwy sgiliau darllen yn ein hysgolion. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i 2012, oherwydd dyna'r data diweddaraf, a, bryd hynny, roedd yn dangos bod 20 y cant o blant yn anllythrennog wrth drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Rwy'n siŵr y byddech chi, fel Prif Weinidog, a'ch Llywodraeth, wedi dychryn cymaint â fi o weld y mathau hynny o ystadegau. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella'r ystadegau hynny a rhoi'r dechrau gorau posibl i blant fwynhau a gwerthfawrogi'r pleser o ddarllen?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n bryderus iawn bod angen i ni wneud gwelliannau i ansawdd a safonau darllen yn ein gwlad. Rwy'n gwybod bod hon yn flaenoriaeth bendant i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Bydd yn gwneud datganiad ar sut y mae'n credu y dylai pethau fod yn gwella yn ystod y mis neu ddau nesaf. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw sut rydych chi'n addysgu darllen, a bu trafodaeth ynglŷn â beth yw'r ffordd orau o wneud hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dilyn tystiolaeth, ac os byddwn ni'n dilyn tystiolaeth, fy nealltwriaeth i yw y dylid canolbwyntio mwy ar ffoneg. Fy nealltwriaeth i yw mai dyna'r canllawiau y gallai'r Gweinidog addysg fod yn eu rhannu yn fuan, dim ond i wneud yn siŵr bod canllawiau mwy cadarn o ran y dull ar gyfer addysgu yn ein hysgolion.
Y gwir ofid yma, Prif Weinidog, yw, ers blynyddoedd lawer, mae'r dystiolaeth wedi cyfeirio at symud oddi wrth y system ciw o addysgu darllen i ffoneg. Mae'r dystiolaeth yno, ac fe'i mabwysiadwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae wedi arwain at ganlyniadau rhagorol, lle cafodd plant a oedd yn cael trafferth yn darllen eu cynnwys yn y broses gan wella safonau ar draws y system addysg gyfan. Roedd gennym ni yng Nghymru y perfformiad gwaethaf o ran darllen yn sgoriau rhyngwladol y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Fe wnaethoch chi ddweud bod yn rhaid i ni aros am ddatganiad eto gan y Gweinidog addysg. Mae'r dystiolaeth yno. Beth am fwrw ymlaen a'i wneud fel nad oes cenhedlaeth arall yn cael ei cholli yn ein system addysg?
Wel, fel y dywedais i, mae'r canllawiau wedi cael eu cryfhau. Mae wedi bod yn eglur efallai y bu gormod o bwyslais ar yr athrawon efallai i allu gweithio yn unol â'r myfyrwyr eu hunain, pan fo dull profedig. Felly, bydd y math hwnnw o ddull sy'n fwy hyblyg, rwy'n credu, yn llai nag yr oedd yn arfer bod gan ein bod ni'n gwybod bod angen i ni ddilyn y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu y dylem ni fod yn addysgu mewn modd penodol, a dyna'r canllawiau yr wyf i'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd yn eu rhannu.
Ni all ddod yn ddigon cyflym, Prif Weinidog. Y pwynt arall sy'n anghysondeb o fewn ysgolion Cymru yw'r anallu i brofi perfformiad. Nawr, nid yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r drefn brofi ryngwladol fel y gallwn ni ddeall yn union beth yw perfformiad dysgwyr a'n system addysg yng Nghymru heddiw. Fel y dywedais i, os ewch chi drwy Estyn, mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i 2012 cyn bod data tebyg. Siawns, ynghyd â'r cyngor hwn y bydd yn rhaid i ni aros wythnos neu ddwy arall amdano—felly bydd wythnos neu ddwy arall y bydd plant yn parhau i gael eu haddysgu o dan system fethedig—bod angen i ni gael y drefn brofi honno fel y gallwn ni weld yn union y perfformiad sy'n digwydd yn ein hysgolion. A wnewch chi ymrwymo, fel rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, i gyflwyno'r drefn brofi honno fel y gallwn ni wella safonau darllen yma yng Nghymru a rhoi'r cyfle i bob dysgwr yr ydym ni i gyd eisiau ei weld? Gallaf weld y Gweinidog addysg yn ei basio draw, felly gobeithio ei bod yn wybodaeth gadarnhaol. Fe wnaf i eich gadael chi i ateb y cwestiwn.
Mae gennym ni asesiadau wedi'u personoli eisoes. Maen nhw eisoes yn bodoli yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, oherwydd rwy'n credu, fel rhieni, eu bod nhw eisiau gwybod ble mae eu plant o'u cymharu â phlant eraill. Ydyn nhw fwy neu lai yn y lle iawn? A oes angen iddyn nhw fod yn gwneud mwy o ymdrech? Hefyd, mae angen i athrawon wybod a ddylen nhw fod yn rhoi mwy o gymorth i rai myfyrwyr yn hytrach nag eraill. Dyna'n union sut y dylai fod. Wrth gwrs, mae gennym ni gwricwlwm newydd ac mae'n bwysig, yn rhan o'r cwricwlwm hwnnw, bod asesiadau yn cael eu gwneud ar y cwricwlwm newydd, fel bod gan bawb ddealltwriaeth o beth yw'r disgwyliad o fyfyrwyr yn ein hysgolion.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Ym Mumbai ym mis Mai, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol y byddai'n ymladd fel llew i achub swyddi Tata Steel. Yng nghynhadledd y Blaid Lafur, addawodd yr Ysgrifennydd busnes Jonathan Reynolds strategaeth ddiwydiannol i dynnu buddsoddiad byd-eang o afael gwledydd sy'n gystadleuwyr. Roedden nhw wedi rhoi'r argraff bod ganddyn nhw strategaeth wahanol i'r Torïaid, onid oedden nhw? Ond na. Ac mae terfyn cynhyrchu dur ffwrnais chwyth ddoe ym Mhort Talbot yn drychinebus, dim llai. Mae fy nghalon yn mynd allan i'r miloedd sy'n colli eu swyddi ac i'w teuluoedd ac i'w cymunedau. Gyda llaw, nid oedd hyn yn ymwneud â sero net, fel y mae rhai'n dweud; ffwrnais chwyth oedd hon â blynyddoedd lawer ar ôl i redeg yn rhan o gyfnod pontio. Mewn gwirionedd, mae hyd yn oed Greenpeace yn tynnu sylw at ragrith Llafur. Efallai eich bod chi wedi gweld eu ffilm yn dadlau dros ddur cartref ac yn ein hatgoffa o addewid Prif Weinidog y DU bod ganddo gynllun ar gyfer dyfodol hyfyw i ddur, y byddai'n ymladd dros bob un swydd yn Tata a thros ddyfodol dur yng Nghymru. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pam wnaeth Llafur gefnu ar y frwydr honno?
A gaf i ddechrau drwy ddweud diwrnod pa mor trist ac arwyddocaol oedd ddoe i bobl Port Talbot, yn benodol, ac i'r amgylchedd? Dyma ddiwedd y ffordd draddodiadol o wneud dur, ac rydym ni'n gwybod pa mor hollbresennol yw'r dirwedd ddiwydiannol honno yn yr ardal honno. Mae wir wedi llunio nid yn unig y sefyllfa yno o ran swyddi ond hefyd y diwylliant a'r gymuned yno, ac rwy'n gwybod y bydd effaith anodd iawn ar y gymuned. Ond y ffaith yw bod y Llywodraeth Lafur wedi dod i mewn ac rydym ni wedi gallu taro bargen well na'r Torïaid. Cafwyd gwell pecynnau dileu swyddi a sgiliau, cadwyd staff i gael eu hyfforddi, a bu sicrwydd y bydd y £500 miliwn sy'n mynd i gael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn cael ei adennill os na fydd swyddi'n cael eu darparu. Doedd dim o hynny yn y cytundeb a wnaed gan y Ceidwadwyr.
Mae'r Prif Weinidog yn awgrymu bod gweithredoedd Llafur wedi bod yn llwyddiannus mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs, mae angen gwneud popeth i amddiffyn y rhai sy'n colli eu gwaith, ond mae hyn wedi arwain at ddiwedd cynhyrchu dur ffwrnais chwyth. Mae'r Prif Weinidog yn dweud mai dyma ddiwedd gwneud dur traddodiadol fel pe bai'n fater o barhau i wneud yr un peth mewn ffordd fwy modern. Nid dyna'r achos. Mae'n fater o golli gwneud dur sylfaenol ym Mhort Talbot ac yn y DU yn strategol. Prin, rwy'n credu, fydd yr hyder y mae'r ymateb hwnnw yn ei roi bod y Llywodraeth yn dysgu gwersi o golli swyddi Tata. Cofiwch, nid gweithwyr prsennol Port Talbot yn unig sydd wedi cael eu siomi, ond eu plant hefyd. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth atgyfnerthu ymdrechion nawr i roi dyfodol economaidd iddyn nhw.
Wrth wraidd hynny, wrth gwrs, y mae'r angen i wella safonau addysg. Yn blwmp ac yn blaen, mae etifeddiaeth Llafur yn golygu bod mynydd i'w ddringo. Mae anllythrennedd yn drychinebus. Mae pobl sydd ddim yn gallu darllen yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, o fynd i'r carchar, o farw'n iau, hyd yn oed. Cododd adroddiad gan ITV yr wythnos diwethaf gwestiynau sylfaenol am y ffordd yr addysgir plant i ddarllen yng Nghymru. Fe wnaeth arbenigwyr ddiystyru canllawiau llythrennedd y Llywodraeth fel, ac rwy'n dyfynnu,
'ddim wedi'u seilio ar unrhyw dystiolaeth empirig o sut mae plant yn dysgu darllen, dim ond rhestr ddymuniadau ydyn nhw'.
Nawr, dewisodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg beidio â chael ei chyfweld ar gyfer y rhaglen honno, ond, yn absenoldeb ymateb ganddi hi, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn y gallai canllawiau presennol Llywodraeth Cymru fod yn cyfrannu at y ffaith mai Cymru yw'r wlad isaf yn y DU yn safleoedd PISA o ran darllen?
Wel, diolch yn fawr iawn. Dim ond i gloi ar fater Tata, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, y bydd buddsoddiad sylweddol yn y ffwrnais arc drydan newydd, felly nid dyma ddiwedd dur. Ceir proses—[Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr ei fod. Ond nid yw buddsoddiad o £1.25 biliwn yn rhywbeth y dylid ei anwybyddu. Y gwir amdani yw bod yn rhaid i ni edrych i'r dyfodol. Mae'n rhaid i ni gydnabod y gallai fod 500 o swyddi yn ystod gwaith adeiladu'r broses honno ac y bydd strategaeth ddiwydiannol. Pe bai strategaeth ddiwydiannol wedi bod o dan y Llywodraeth Geidwadol, efallai y byddem ni wedi bod mewn sefyllfa wahanol iawn, iawn. Ond rydym ni lle'r ydym ni nawr. Bydd strategaeth ddiwydiannol yn cael ei chyhoeddi yn fuan iawn, bydd y cynllun dur yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn—£2.5 biliwn yn y cynllun dur hwnnw—ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ymdrin â'r sefyllfa ym Mhort Talbot, yn Nhrostre, yn Llan-wern ac mewn cymunedau eraill yng Nghymru.
Nodais mewn ateb i arweinydd y Ceidwadwyr ein safbwynt o ran darllen a'r ymdrechion y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes yn eu gwneud, a nodais hefyd y bydd yn gwneud y datganiad hwnnw yn fuan iawn i'r Siambr, gan nodi'n eglur y disgwyliadau ar gyfer yr athrawon ledled Cymru.
Rwy'n ofni bod y Prif Weinidog, yn anfwriadol rwy'n siŵr, yn rhoi'r argraff nad yw'n deall arwyddocâd mawr cau'r ffwrnais chwyth honno gan hawlio, eto, llwyddiant yn rhai mesurau o'r drafodaeth ynghylch colli'r miloedd o swyddi hynny.
Rwy'n gobeithio'n fawr ei bod yn deall arwyddocâd gwendid ein sefyllfa o ran safonau addysg yng Nghymru. Daeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i'r casgliad yn ddiweddar bod perfformiad addysgol is yma yn adlewyrchu'r hyn sydd bellach wedi bod yn ddull polisi hirsefydlog o dan Weinidogion Llafur yn Llywodraeth Cymru. Nawr, mae clychau larwm yn canu ym mhobman, ac rydym ni'n dal i aros am fframwaith llythrennedd newydd gan y Llywodraeth. Mae nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn yn gynnar yn eu gyrfa ar ei lefel uchaf mewn 17 mlynedd. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi rhybuddio am argyfwng cyllid ysgolion sy'n gwaethygu. Nawr, mae pobl sy'n chwilio am gynhwysion dyfodol economaidd mwy disglair yng Nghymru, nid leiaf y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y miloedd o swyddi a gollwyd ym Mhort Talbot, eisiau i'r Llywodraeth fod yn buddsoddi yn y dyfodol hwnnw drwy addysg. Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, addawyd mwy o arian ar gyfer addysg yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur y DU. A yw'r Prif Weinidog newydd yn dal i wneud yr addewid hwnnw? Ac o ystyried rhybuddion arweinwyr addysg am yr angen am weithredu ar frys, beth mae Llafur yn aros amdano?
Wel, diolch yn fawr iawn. Hoffwn bwysleisio ein bod ni, mewn gwirionedd, yn sicr yn cydnabod arwyddocâd cau'r gwaith. Rwyf i wedi cyfarfod â gweithwyr yn y gwaith ac yn cydnabod y dinistr y mae'n ei achosi iddyn nhw, yr ansicrwydd, yr ansefydlogrwydd, nid yn unig iddyn nhw ond i bobl yn y gadwyn gyflenwi. A dyna pam rydym ni'n falch iawn o allu agor y cyfle yr wythnos hon i gwmnïau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi wneud cais am rywfaint o'r cyllid o £13.5 miliwn a roddwyd ar y bwrdd gan y bwrdd pontio.
Rwy'n credu, o ran sicrhau ein bod ni'n cael yr hanfodion yn iawn o ran tyfu'r economi, rwy'n credu bod addysg yn ddarn canolog yn hynny o beth. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hanfodion. Mae darllen yn rhan o'r hanfodion hynny. Gallaf eich sicrhau bod yr Ysgrifennydd addysg yn canolbwyntio'n llwyr ar y mater hwn ac yn bryderus iawn am y sefyllfa. A'r hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi yw bod Llywodraeth Lafur y DU, yn amlwg, wedi gwneud ymrwymiad y bydden nhw'n lleihau ac yn dileu'r sefyllfa TAW o ran ysgolion preifat. Byddai hynny'n rhyddhau rhywfaint o gyllid a fydd ar gael, felly, i ysgolion i gynorthwyo'r 93 y cant o bobl sy'n mynychu ysgolion cyhoeddus—wrth ddweud 'cyhoeddus', rwy'n golygu ysgolion gwladol—yn y Deyrnas Unedig.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y gwaharddiad ar ysmygu ar dir ysbytai? OQ61625
Daeth deddfwriaeth ddi-fwg sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon ysmygu ar dir ysbytai i rym ar 1 Mawrth 2021. Fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau i gefnogi gweithrediad ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gefnogi cydymffurfiad â'r gyfraith.
Diolch am yr ateb.
Rwy'n gefnogol iawn o'r polisi hwn i wahardd ysmygu ar dir ysbytai a'i fanteision iechyd amlwg. Ond a yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o rai o'r canlyniadau mewn unedau iechyd meddwl diogel, er enghraifft, lle'n aml y mae'n rhaid i staff ymdrin â lefelau uwch o orbryder, cynnwrf, ac weithiau ymddygiad ymosodol, pan ddywedir wrth gleifion na allan nhw ysmygu mwyach? Ac yn nodweddiadol, efallai fod cleifion wedi defnyddio'r cyfle i fynd allan i ysmygu i ddianc rhag sefyllfaoedd sy'n peri gofid. Polisi'r Llywodraeth yw'r polisi cywir, ond beth arall allwn ni ei wneud i helpu staff a chleifion i addasu i'r datblygiad newydd hwn?
Diolch yn fawr iawn, Julie, ac rwy'n cofio y tynnwyd fy sylw at hyn ar ymweliad â'r gogledd, lle'r oedden nhw'n esbonio i mi y straen a ddioddefwyd gan lawer o gleifion iechyd meddwl, a sut mai cael sigarét oedd eu rhyddhad, ac, a dweud y gwir, roedd methu â gwneud hynny yn agos at yr adeilad yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw ryddhau cleifion. Felly, roeddwn i'n deall y gallai hynny greu canlyniad anfwriadol, fel rydych chi'n ei ddweud, ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn, rwy'n credu bod y polisi yn gwbl gywir. Ond, er bod y gyfraith yn atal ysmygu dan do, gall rheolwr uned gyflwyno man ysmygu dynodedig i'w ddefnyddio gan gleifion ar dir uned iechyd meddwl, ac mae hwnnw'n benderfyniad lleol y gallan nhw ei wneud. Ond rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n parhau i gynyddu'r ymgais honno i atal pobl rhag ysmygu yng Nghymru. Rydym ni wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf; rwy'n credu bod gennym ni gyfradd ysmygu drwy'r amser o 13 y cant, sef yr isaf erioed. A'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw cyflwyno'r rhaglen Helpa fi i Stopio mewn ysbytai. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle gwirionedd. Ond y peth arall yw bod llawer o bobl yn dioddef symptomau diddyfnu ac weithiau gellir rheoli hynny'n effeithiol gyda therapi disodli nicotin, felly mae cyfle i hwnnw gael ei ddefnyddio hefyd yn yr unedau iechyd meddwl hynny.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi'r gwaharddiad cychwynnol ar ysmygu y tu allan i ysbytai, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cymryd gorfodi'r gwaharddiad hwn o ddifrif, gan fod llawer o bobl wedi parhau i anwybyddu'r gwaharddiad ers iddo gael ei gyflwyno yn 2021. Mae hefyd yn bwysig, fodd bynnag, hyrwyddo dulliau rhoi'r gorau i ysmygu, gan gynnwys cymorth y GIG i gynorthwyo pobl i oresgyn eu caethiwed. Mae gorfodi'r gwaharddiad hwn heb y cymorth angenrheidiol i roi'r gorau i ysmygu yn gosbol ac yn annheg, ac, er bod annog gwahardd yr arfer hwn yng nghyffiniau ysbyty yn gwneud synnwyr, dylai GIG Cymru hefyd ddarparu'r cymorth i'r unigolion hyn roi'r gorau iddi. Gall hyn gynnwys defnyddio dyfeisiau fepio a chynhyrchion nicotin eraill, sydd wedi cael eu stigmateiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru, sy'n wrthgynhyrchiol o ran symud Cymru tuag at fod yn ddi-fwg. Cyhoeddodd Keir Starmer hefyd ei gynlluniau cywilyddus ar gyfer gwahardd ysmygu yn yr awyr agored, â mesurau pellach ar y gweill i atal fepio dan do. Er ei fod yn amhoblogaidd iawn, mae hefyd yn gyfyngiad gwrthun ar ryddid pobl ac yn stigmateiddio ysmygwyr a defnyddwyr dyfeisiau nicotin ymhellach. Felly, a all y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd gorfodi gwaharddiadau ysmygu mewn ysbytai yn cael eu hategu gan gymorth rhoi'r gorau i ysmygu? Rwy'n cydnabod eich bod chi wedi nodi hynny yn eich ymateb i Julie Morgan, ond byddai gen i fwy o ddiddordeb mewn gweld sut y bydd hynny'n cael ei weithredu'n uniongyrchol, ac, yn ail, sut mae cynllun Cymru ddi-fwg Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â chynigion ysmygu awyr agored rhyfedd Prif Weinidog y DU. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Gellir priodoli un o bob 10 o'r holl farwolaethau yng Nghymru i ysmygu, ac mae hynny tua 3,800 o farwolaethau yng Nghymru y flwyddyn a'r hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod tua saith o bob 10 ysmygwr eisiau rhoi'r gorau iddi mewn gwirionedd, a dyna pam mae gennym ni'r gwasanaeth GIG am ddim hwn, Helpa Fi i Stopio, ac mae hwnnw ar gael i gynorthwyo ysmygwyr y tu mewn neu'r tu allan i'r ysbyty, ac, ers 2017, mae hwnnw wedi helpu dros 100,000 o ysmygwyr, gan ein bod ni'n gwybod bod cael cymorth y GIG yn cynyddu'r siawns o roi'r gorau i ysmygu 300 y cant, o'i gymharu â cheisio ei wneud ar eich pen eich hun.
Nawr, dim ond o ran yr hyn y mae byrddau iechyd yn ei wneud o ran gorfodi hynny, wel, maen nhw'n defnyddio rhywfaint o'r dyraniad, y cyllid atal o £6.8 miliwn sydd ar gael iddyn nhw, i gyflogi swyddogion i batrolio tiroedd ysbytai ac i siarad ag unrhyw un a ganfyddir yn ysmygu a'u cyfeirio at y gwasanaethau rhoi'r gorau iddi.
Mae problem sylweddol gydag ysmygu ar dir Ysbyty Maelor Wrecsam. Er enghraifft, os ewch chi tuag at y brif fynedfa, byddwch yn aml yn canfod pentyrrau enfawr o fonion sigaréts. Yn dilyn sylwadau gan sawl etholwr, cefais gyfarfod â'r bwrdd iechyd, a ddywedodd wrthyf i, er eu bod yn cyflogi swyddog amgylchedd di-fwg, mai'r awdurdod lleol sydd â'r cyfrifoldeb cyfreithiol am orfodi, felly nid ydyn nhw'n gallu cymryd camau gorfodi. Ar y llaw arall, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dweud wrthyf i mai'r bwrdd iechyd sydd â chyfrifoldeb o dan y ddeddfwriaeth i atal ysmygu ar ei dir. Felly, a allai'r Prif Weinidog egluro, os gwelwch yn dda, pwy sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus hon y mae mawr ei hangen?
Wel, diolch yn fawr iawn. Pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau manwl, fe wnaethom ni ddarparu hyfforddiant, fe wnaethom ni gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, a oedd yn cynnwys hysbysebion teledu a radio, i sicrhau bod pobl yn gwybod am y rheolau newydd. Rydym ni'n gwybod hefyd bod llawer o ysbytai wedi cymryd y mesur lleol arloesol hwnnw i gyfleu'r gofynion i ddefnyddwyr ysbytai. Felly, mae rhai ohonyn nhw'n ei wneud mewn ffordd arloesol, er enghraifft, defnyddio seinyddion i chwarae neges wedi'i recordio wrth fynedfa'r ysbyty. Fel y dywedais i, mae gan rai ohonyn nhw batrolau gorfodi, ac felly mae'n gwestiwn, wrth gwrs, i'r byrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n gorfodi'r camau y tu allan i'w hysbytai, ond rwy'n credu bod perswadio bob amser yn well na dirwyo pobl, os gallwch chi wneud hynny. Rydym ni'n sôn, yn gyffredinol, y tu allan i ysbytai, am bobl sydd mewn sefyllfa agored i niwed yn gyffredinol, felly rwy'n credu er, ar y naill law, bod angen i ni fod yn gefnogol ohonyn nhw, mae angen iddyn nhw ddeall hefyd bod rheolau y mae angen iddyn nhw gydymffurfio â nhw.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer rhyddhau cleifion y mae eu cyflyrau wedi’u hoptimeiddio’n feddygol o ysbytai yn rhanbarth Canol De Cymru? OQ61616
Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni yn cydweithio i flaenoriaethu ac ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy fwy o gyllid gan y Llywodraeth, mae gwasanaethau ychwanegol i wella llwybrau gofal wedi cael eu datblygu. Mae’r gwaith yma’n parhau i fod yn flaenoriaeth.
Diolch. Fel rydych chi’n ei ddweud, mae’r galw’n cynyddu, gyda’r ffigurau diweddaraf o Awst 2024 yn dangos bod nifer yr oedolion yn aros mwy na 48 awr yn 363 yn Nghwm Taf Morgannwg a 174 ym mwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro. Yn amlwg, beth dydy’r data ddim yn ei ddangos ydy pa mor hir mae'r cleifion hynny wedi bod yn aros yn yr ysbyty na chwaith faint ohonynt sydd yn gwaethygu drwy ddal salwch neu haint oherwydd eu bod yn yr ysbyty yn hirach na bod angen. Mae’n anodd deall felly pam mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chau dau gartref gofal. Yn ôl ffigurau y cyngor, dim ond 156 o’r 237 gwely sydd yn cael eu defnyddio ar y funud ar draws cartrefi gofal y cyngor. Ond dywed staff, fodd bynnag, mai’r rheswm eu bod yn wag ydy oherwydd nad oes yna ddigon o staff er mwyn cymryd mwy o bobl, nid oherwydd does yna ddim galw am lefydd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau yn fy rhanbarth i i sicrhau bod digon o staff ar gael i ddiwallu’r anghenion gofal fel nad oes gwelyau mewn cartrefi gofal yn aros yn wag, na chwaith pobl yn aros yn ddiangen ac yn hirach yn yr ysbyty?
Diolch yn fawr. Byddwch yn ymwybodol bod oedi wrth drosglwyddo gofal yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r GIG, ac, yn aml iawn, mae'n gyfrifoldeb a rennir rhwng y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol, a dyna pam y sefydlwyd y pwyllgor gweithredu ar ofal tua dwy neu dair blynedd yn ôl. Rwy'n falch o ddweud bod hwnnw wedi cyfarfod ddoe. Yr hyn y mae'r pwyllgor hwnnw yn ei wneud yw ceisio canolbwyntio mewn gwirionedd ar beth yw'r problemau. Mae gennym ni ddata manwl iawn, iawn nawr ar pam mae pobl yn yr ysbyty, pwy sy'n gyfrifol amdano, ac mae hynny i gyd yn helpu i sicrhau bod pobl o leiaf yn gwybod na ddylen nhw fod yn beio ei gilydd: mae'r claf hwnnw yno oherwydd mai eich cyfrifoldeb chi ydyw.
Nawr, yr hyn sy'n ddiddorol am hynny yw bod rhai byrddau iechyd yn gwneud yn well nag eraill o ran gallu symud pobl ymlaen. Felly, os edrychwch chi ar Ganol De Cymru, er enghraifft, mae Caerdydd wedi bod yn gwneud cynnydd da iawn o ran lleihau'r oediadau, ond nid yw Cwm Taf Morgannwg wedi bod cystal yn ddiweddar ar rai o'r rhai eraill. Ond rydym ni'n gwybod bod Cwm Taf, yn flaenorol, wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran gostwng y niferoedd hynny. Felly, beth sydd wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw? Ac rwy'n credu mai'r math hwnnw o edrych yn ofalus ar y manylion sy'n bwysig.
Y peth allweddol i'w wneud mewn gwirionedd yw ceisio cael pobl adref, i ofalu am bobl yn eu cartrefi; dyna'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn gyffredinol, a dyna pam, a dweud y gwir, mae pethau fel gwasanaethau ailalluogi yn wirioneddol hanfodol. Felly, y llety hanner ffordd hwnnw yn cynhyrchu ac yn gwneud yn siŵr bod y cymorth hwnnw ar gael wrth iddyn nhw gael eu hoptimeiddio, maen nhw'n barod i gael—. Maen nhw wedi'u hoptimeiddio'n glinigol, ond dydyn nhw ddim yn gwbl barod i fynd adref, a dyna pam mae'n ddefnyddiol cael rhai o'r lleoedd dros dro hynny. Ond dydyn nhw ddim yn rhad. Dydyn nhw ddim yn rhad; maen nhw'n ddrud iawn, iawn a rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod angen staff arnoch chi i sicrhau eu bod nhw'n cael eu monitro yn ofalus ac yn broffesiynol. Ond mae gennym ni raglen eglur iawn, sef, 'Gadewch i ni gael y cymorth i mewn i'r gymuned. Gadewch i ni fynd i'r maes atal. Gadewch i ni atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.' A dyna pam mae'r mathau hynny o becynnau ailalluogi, sydd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mor bwysig.
Prif Weinidog, yn ôl y data llwybr oedi gofal, y ddau reswm pennaf am y ffaith fod cleifion sydd wedi'u hoptimeiddio'n feddygol yn aros mewn gwelyau ysbyty ledled Cymru a rhanbarth Canol De Cymru yw, fel rydych chi wedi cyfeirio ato, amseroedd aros am asesiad gofal cymdeithasol, sydd oddeutu 42 y cant o achosion, ac amseroedd aros i drosglwyddo i gyfleusterau gofal, sydd oddeutu 22 y cant o achosion. Mae'r data hyn yn dangos yn eglur bod y ddau brif faes sy'n cael trafferth gyda niferoedd cleifion allan o reolaeth ysbytai yn y pen draw.
Prif Weinidog, byddwch yn gwbl ymwybodol nad yw hon yn broblem ddiweddar ac mae'r niferoedd hyn wedi bod yn gyson ers cryn amser. Ac o ystyried y pwysau ar recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol, mae'n deg dweud y gallwn ni ragweld y bydd hon yn broblem am gryn amser i ddod, ac mae'n debygol y bydd ond yn gwaethygu. Ers dros 20 mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhannu geiriau gwresog am sut y mae'n rhaid i'r ddau faes hyn wella, ond nid yn unig y mae'r problemau yn dal gyda ni, ond maen nhw'n gwaethygu. Ac felly, gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyflwyno o'r diwedd i ddatrys y sefyllfa hon? Diolch.
Wel, y ffaith yw ein bod ni mewn gwirionedd wedi darparu £144 miliwn bob blwyddyn i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd a llywodraeth leol yn cydweithio i geisio datrys y sefyllfa anodd iawn hon. Ac mae yn anodd; mae'n rhywbeth y mae byrddau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig yn cael trafferth ag ef. Ond rwy'n credu bod y data hyn y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn bwysig. Os edrychwch chi ar y rhesymau, gofal cymdeithasol ac oedi ar y cyd—dyna lle mae'n gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu rhwng awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd—yw tua 40 y cant. Felly, gofal cymdeithasol, 40 y cant; oedi ar y cyd, 40 y cant; ac oedi cysylltiedig ag iechyd yw'r 19 y cant sy'n weddill. Felly, mae'n bwysig iawn bod pawb yn deall bod ganddyn nhw ran i'w chwarae yma, ac na ddylem ni fod yn bwrw'r cyfrifoldeb ar ein gilydd. Canolbwyntio ar y darnau lle gallan nhw wneud gwahaniaeth, dyna'r hyn yr ydym ni'n parhau i'w ofyn a dyna pam mae'r pwyllgor gweithredu ar ofal mor bwysig, dim ond i wneud yn siŵr ein bod ni'n dangos drych iddyn nhw i ddangos yr hyn sy'n digwydd, a lle, mewn gwirionedd, mae arfer da yn digwydd a phwy all ddysgu gan y bobl hynny sy'n gwneud yn dda.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith priffyrdd presennol? OQ61626
Mae ein rhestr bresennol o welliannau strategol i'r rhwydwaith wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Byddwn yn parhau i fonitro rhannau o'r rhwydwaith lle ceir tagfeydd ac y mae angen eu trwsio, ac i nodi atebion sy'n cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Cymru, lle bo angen.
Diolch. Rwy'n cofio pan ymwelodd y Prif Weinidog â Chei Connah, tyllau yn y ffordd a godwyd fwyaf gan y trigolion. Pa un a ydych chi'n defnyddio pedair olwyn neu ddwy, neu'n cerdded, mae pawb yn elwa o ffyrdd a phalmentydd sydd wedi'u cynnal a'u cadw yn dda. Mae priffyrdd ledled y DU wedi cael eu taro gan doriadau cyllid San Steffan a glaw tebyg i fonsŵn yn golchi arwynebau i ffwrdd ac yn achosi difrod. Rwy'n ddiolchgar eich bod chi wedi addo y bydd trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth. A wnaiff y Prif Weinidog ein sicrhau y bydd cynghorau yn cael eu galluogi a'u grymuso i drwsio ein ffyrdd, a bod unrhyw gyllid canlyniadol posibl gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyllidebau cynnal ffyrdd yn cael ei glustnodi ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn. Wel, beth bynnag y maen nhw'n penderfynu ei wneud yn Lloegr, mae'n bwysig ein bod ni'n penderfynu ein hunain sut rydym ni'n gwario'r arian hwnnw ac yn penderfynu beth yw'r blaenoriaethau i'r bobl yn ein barn ni. Ond rydych chi'n iawn wrth ddweud, mewn gwirionedd, bod hwn yn fater a godwyd llawer yn yr ymarfer gwrando, yn enwedig yng Nghei Connah. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn edrych ar gyllidebau awdurdodau lleol yn y dyfodol o ran teithio llesol, cynnal a chadw ffyrdd—y pecyn cyfan o ran sut y gallai fod yn bosibl datganoli'r broses o wneud penderfyniadau a'r arian, fel y gall awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd orau o wario'r arian yn eu hardaloedd lleol, oherwydd nhw sy'n gwybod orau. Efallai mai'r broblem yng Nghei Connah yw tyllau yn y ffordd, ond efallai nad oes problem mor fawr mewn ardal wahanol, felly rwy'n credu bod rhoi'r hyblygrwydd hwnnw yn gwneud synnwyr, ond mae hynny'n rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn edrych arno.
Ond rwyf i'n credu bod unrhyw un sy'n gyrru car yn cydnabod, mewn gwirionedd, bod tyllau yn y ffordd yn costio arian i chi. Mae'n bwysig cydnabod hynny ac y gall beicwyr hefyd ddioddef anafiadau difrifol iawn o ganlyniad i hynny. Roeddwn i'n darllen dim ond neithiwr mai tua £120, ar gyfartaledd, yw'r gost o drwsio cerbyd o ganlyniad i dyllau yn y ffordd; mae'n syndod nad yw'n fwy, a bod yn onest. Ond mae'n bwysig cydnabod bod cost i'r defnyddwyr ffyrdd hynny os nad ydym yn trwsio ein ffyrdd.
Ar ôl naw mlynedd a chodi'r mater yma sawl gwaith, dydych chi ddim wedi gwneud unrhyw gynnydd o hyd o ran gwella'r cylchfannau peryglus a lletchwith iawn ar yr A55. Dim ond fis diwethaf, tynnais sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth at y mater hwn, a chefais fy synnu o glywed bod y gwaith ar y cylchfannau ar hyd yr A55 ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan wedi cael ei osod yn ôl i gam 0. Yn ôl ym mis Mehefin, fe gawsom ni ddamwain erchyll lle'r aeth gyrrwr â charafán yn syth dros y gylchfan ac achosodd hynny gau'r ffordd am 24 awr.
Tan dwy flynedd yn ôl, roedd tua £9 miliwn wedi cael ei wario ar ymchwil i hyn, gan brofi bod angen cael gwared ar y cylchfannau hyn. Wrth gwrs, mae hyn yn effeithio ar Aberconwy ac Ynys Môn, gyda llawer o gludwyr nwyddau ar y ffyrdd yn mynd i borthladd Caergybi ac oddi yno. Mae pobl y gogledd, a'n modurwyr, yn ysu am y gwelliannau hyn y mae mawr eu hangen, felly a wnewch chi, fel Prif Weinidog, ymrwymo i ddarparu'r adnoddau i gael gwared ar y cylchfannau hyn unwaith ac am byth i wella diogelwch ar y ffyrdd ar hyd y darn hwn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ymwybodol o'r sefyllfa benodol honno, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod prosiectau penodol yn y gogledd eisoes wedi derbyn dros £20 miliwn. Yn sir Ddinbych, bu cynlluniau i ddisodli pont Llanerch; yn sir y Fflint, mae'r cyngor wedi cytuno—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau i mi orffen? Yn sir y Fflint, mae'r cyngor wedi cytuno i wella gwytnwch ar yr A548; yng Ngwynedd—[Torri ar draws.]
A wnewch chi ganiatáu i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn?
Atebwch y cwestiwn, ie, os gwelwch yn dda.
Rwyf i wedi rhoi ateb i chi, ac rwyf i wedi dweud wrthych chi fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r sefyllfa a'i fod yn mynd i ymchwilio iddo. Nawr, rwy'n mynd ymlaen i ddweud wrthych chi am y buddsoddiad anhygoel yr ydym ni eisoes wedi ei wneud yn y gogledd: £20 miliwn. Nid yw'r cwbl am yr un ffordd honno; ceir llawer o ffyrdd eraill y mae pobl yn poeni amdanyn nhw yn y gogledd hefyd.
Ar hyd yr un trywydd, rydw i wedi codi'r mater sawl gwaith yma o ddiogelwch yr A494 o Ddolgellau i Gorwen a'r A470 yn Llanelltyd hefyd. Rydyn ni wedi cael addewidion sawl gwaith yn flaenorol y bydd yna asesu yn digwydd ar y ffyrdd yma er mwyn gweld beth fedrith gael ei wneud er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, ond hyd yma rydyn ni'n dal i aros a does yna ddim gwaith asesu wedi digwydd. O ganlyniad, mae pobl yn parhau i ddioddef anafiadau ac mae pobl yn ofni teithio ar y ffyrdd yna yn achlysurol. Felly, beth mae'ch Llywodraeth chi am ei wneud er mwyn diogelu'r A494 a'r A470 ger Dolgellau?
Diolch yn fawr. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb yn ymwybodol o'r sefyllfa. Mae'n rhaid inni wneud blaenoriaethau; mae rhai o'r blaenoriaethau, dwi'n gwybod, yn bwysig i chi yn eich etholaeth hefyd. Felly, mae'n rhaid inni benderfynu beth rŷn ni'n mynd i'w flaenoriaethu. Dwi'n gwybod, er enghraifft, fod y gwaith yn Llanbedr yn rhywbeth sydd o bwys i chi ac i bobl sy'n byw yn ardal. Nawr, mae'n rhaid inni wneud penderfyniad: ydy'r arian yn mynd i hwnnw neu i rywbeth arall? Dyna sy'n bwysig.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr ein bod ni'n gweithio gyda'r comisiwn—y North Wales Transport Commission. Maen nhw wedi gwneud rhaglen mewn i beth sy'n digwydd yn yr ardal, y blaenoriaethau maen nhw wedi'u rhagweld, a bydd hwnna wedyn yn helpu i benderfynu ble ddylai'r flaenoriaeth fod. Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr bod llywodraeth leol yn y gogledd yn cydweithredu i wneud yn siŵr bod y pwyslais a'r ffocws yn mynd ar yr hewlydd sydd fwyaf o bwys i'r bobl yn y gogledd.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth y ddinas? OQ61629
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth y ddinas. Er enghraifft, mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn un o'r naw oriel bartner yn Celf, yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
Prif Weinidog, mae gan Gasnewydd hanes diwylliannol cyfoethog, ac mae hefyd yn gartref i un o'r diwydiannau creadigol sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Gyda llu o ddiwylliannau, traddodiadau a chymunedau amrywiol, man bywyd nos sy'n ffynnu, gan gynnwys lleoliad cerddoriaeth y Corn Exchange sydd newydd agor, a chelfyddydau a theatr bywiog yn y gymuned, mae gan Gasnewydd lawer i'w gynnig yn ddiwylliannol i drigolion ac, yn wir, i'r byd ehangach. Dim ond yr wythnos diwethaf, gwelsom ddadorchuddio'r cerflun yr ymgyrchwyd amdano ers amser maith i goffáu bywyd a gwaith y fenyw fusnes leol a'r swffragét Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda, a weithreddodd yn uniongyrchol, a aeth i'r carchar ac a wnaeth fygwth newynu i hybu achos cael y bleidlais i fenywod. A'r penwythnos hwn, yn ardal ddiwylliannol amrywiol Maendy, gwelsom ŵyl Maendy Lliw Llawn, yn dathlu celf stryd a pherfformio stryd. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn datblygu strategaeth ddiwylliannol newydd gyda rhanddeiliaid perthnasol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb pellach i'r sefyllfa fywiog hon yng Nghasnewydd. Felly, Prif Weinidog, sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i hyrwyddo'r diwylliant a threftadaeth cyfoethog ac amrywiol hyn?
Diolch yn fawr iawn, John. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o glywed am ddadorchuddio'r cerflun yn anrhydeddu'r Arglwyddes Rhondda, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf? A gaf i ddiolch i'r holl fenywod sydd wedi hyrwyddo'r achos hwnnw ac wedi gwneud yn siŵr bod y cerfluniau i fenywod angof Cymru wedi cael eu codi bellach? Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau yn y modd hwnnw i ddathlu'r cyfraniad anhygoel y mae menywod wedi ei wneud at ein cenedl. Rwy'n gobeithio y bydd y cerflun yn caniatáu i fwy o bobl ddysgu am yr Arglwyddes Rhondda a'i hetifeddiaeth. Ymladdodd yn galed iawn i ganiatáu i fenywod fynd i Dŷ'r Arglwyddi. Ni lwyddodd ei hun, ond rwyf i wrth fy modd o ddweud ei bod hi wedi gallu paratoi'r ffordd i bobl fel fi. [Chwerthin.] Felly, diolch yn fawr, Arglwyddes Rhondda. Ac mae gennym ni arglwyddes arall yn yr oriel, felly, diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddweud, dim ond o ran cefnogaeth, ei bod hi, rwy'n credu yn hanfodol ein bod ni'n cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru? Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyllid ychwanegol hwnnw a roddwyd dros yr haf i Gyngor Celfyddydau Cymru. Gwn hefyd fod Cymru Greadigol wedi cefnogi sawl lleoliad yng Nghasnewydd drwy ei chyllid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae nifer o artistiaid o Gasnewydd wedi cael eu hyrwyddo drwy restr chwarae Spotify fisol Cymru Greadigol. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gwrando ar honno ac yn cael eu cyffroi gan y gerddoriaeth o Gasnewydd. Mae llawer i'w ddathlu.
Prif Weinidog, ar ôl cael fy ngeni a'm magu yng Nghasnewydd, byddaf bob amser yn canu caneuon o glod i'r ddinas, gan gynnwys ein diwylliant a'n treftadaeth ardderchog. Yn wir, mae fy swyddfa yn aml yn rholio eu llygaid ac yn gorfod fy atal rhag cyfeirio ati fel Efrog Newydd Cymru. Fodd bynnag, yn ddiweddar, datgelodd arbrawf cymdeithasol a gynhaliwyd gan ddau o gynhyrchwyr TikTok o Abertawe yr ystyriwyd mai Casnewydd yw'r lle mwyaf peryglus i fyw yng Nghymru, ar ôl iddyn nhw ofyn i'w dilynwyr bleidleisio ar y pwnc. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn peri pryder ei bod hi'n ymddangos mai dyma'r ddelwedd sydd gan lawer o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol—
Rwy'n credu ein bod ni'n cael trafferth yn eich clywed chi, Natasha Asghar. Pe gallai'r Aelodau o'ch cwmpas fod ychydig yn dawelach, byddai hynny'n helpu.
Fe wnaf roi cynnig arall arni, mae hynny'n iawn. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn peri pryder ei bod hi'n ymddangos mai dyma'r ddelwedd sydd gan lawer o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol, yn wir, o Gasnewydd. Ond rwy'n credu bod y mathau hyn o ymarferion yn bwysig ac yn dod â barn y cyhoedd i'r amlwg, boed hynny gan dwristiaid sy'n ymweld â Chasnewydd neu, yn wir, trigolion o bob cwr o Gymru. Felly, Prif Weinidog, yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, efallai y bydd yn ymddangos fel cwestiwn sy'n ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelod, John Griffiths, newydd ei ddweud, ond beth ydych chi'n mynd i'w wneud, neu beth allech chi ei wneud, i gefnogi ac amlygu diwylliant a threftadaeth Casnewydd ymhellach fel un o elfennau'r hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig, fel y gall pobl ei werthfawrogi'n llwyr am y lle anhygoel yw ef, a cheisio adfywio ei ddelwedd negyddol? Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod Casnewydd wedi newid cryn dipyn mewn gwirionedd dros y degawd diwethaf. Dro yn ôl, roedd golwg braidd yn aflêr ar y lle, pe byddwn i'n onest, ac nid yw hynny'n wir erbyn hyn, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.5 miliwn i Gyngor Dinas Casnewydd i adfer a datblygu pont gludo Casnewydd. Rwy'n cofio cwrdd â grŵp o bobl a oedd wedi dod yr holl ffordd draw o Ffrainc er mwyn gweld pont gludo Casnewydd. Roeddwn i'n credu bod hynny braidd yn od fy hunan, ond roedd hi'n hyfryd eu bod nhw mor gyffrous oherwydd rhywbeth sy'n rhan o dreftadaeth ddiwydiannol gyffrous iawn. Felly, mae hynny'n gyffrous iawn, ac rwy'n credu y bydd cyfle arall yn codi ei ben yn weddol fuan. A hwnnw fydd croesawu Eisteddfod yr Urdd i'r ddinas yn 2027, felly fe fydd yna ganolbwyntio cenedlaethol ar y ddinas a bydd cyfle gwirioneddol i ddathlu'r ffaith fod cynnydd enfawr wedi bod mewn gwirionedd o ran nifer y plant sy'n mynychu ysgolion Cymraeg yn ardal Casnewydd.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi rhagor o fanylion am addewid 'cyfle i bob teulu' Llywodraeth Cymru? OQ61627
Fe ddylai Cymru fod yn fan y gall plant, teuluoedd a chymunedau ffynnu ynddi. Fe fyddwn ni'n hybu safonau yn ein hysgolion, yn cynyddu presenoldeb ac yn darparu mwy o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol. Mae canolbwyntio adnoddau ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig trwy raglenni fel Dechrau'n Deg yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i deuluoedd sydd â'r angen mwyaf a'u bod nhw'n ei chael cyn gynted â phosibl.
Diolch i chi. Mae adeiladu mwy o dai cynaliadwy yn hanfodol i deuluoedd ifanc sy'n ceisio mynediad i'r farchnad eiddo, a'r un mor hanfodol i'r economi leol wrth gynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth. Yng Nghwm Rhondda, drwy ymdrechion partneriaeth rhwng Trivallis a Chyngor Rhondda Cynon Taf, rwyf wedi bod yn ffodus o weld cynigion addawol ar gyfer y datblygiadau newydd ym Mhenrhys. Mae gan y safle botensial na chafodd ei gyffwrdd mewn gwirionedd, o ran cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfleoedd i adeiladu tai, ac felly fe fyddai ei adfywiad yn llesol i'r gymuned leol a chymunedau ledled Rhondda yn fwy eang. O ystyried pwysigrwydd y datblygiadau hyn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau hanfodol fel hyn, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried ymweld â safle Penrhys gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros dai i drafod y cynnig cyffrous a'i fanteision?
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud i adfywio ystad Penrhys ac rwy'n ymwybodol bod fy swyddogion i'n gweithio gyda Trivallis a'r awdurdod lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu'r gwaith hwn. Rwy'n credu y dylid canmol yr uchelgais. Rwy'n credu eu bod nhw'n ceisio datblygu nid yn unig dai fforddiadwy ond fe fydd ysgol a chyfleusterau iechyd newydd ar yr ystad hefyd. Felly, fe fyddwn ni'n cadw mewn cysylltiad â'r prosiect hwnnw. Rwyf i wedi gofyn i'm swyddogion i ddal ati i ymgysylltu ac fe fydd gennyf i ddiddordeb mawr mewn clywed sut bydd hynny'n mynd rhagddo maes o law.
Yn olaf, cwestiwn 8, Delyth Jewell.
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i leoliadau diwylliannol yn Nwyrain De Cymru? OQ61624
Mae'r cyngor celfyddydau a Cymru Greadigol yn darparu cyllid i leoliadau yn y de-ddwyrain. Llywodraeth Cymru yw asiantaeth datblygu’r sector i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Mae hynny’n cynnwys gweinyddu proses achredu gwasanaethau amgueddfeydd ac archifau a safonau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, a rhoi hyfforddiant, cyngor ac arian i brosiectau.
Diolch am eich ateb, Brif Weinidog.
Yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd cyngor Caerffili i gau Llancaiach Fawr, ac mae'r penderfyniad wedi achosi dicter a thristwch, am fod Llancaiach Fawr yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n cynnig cyswllt byw â gorffennol ein hardal ni. Mae'n lle hudolus i blant ac yn ganolbwynt i gymuned sydd wedi bod yn hen gyfarwydd â gweld pethau yn cael eu dwyn oddi arni hi. Pam ddylai diwylliant fod yn rhywbeth sydd ar gael i ardaloedd cyfoethog yn unig? Prif Weinidog, rwy'n ymbil arnoch chi i gynnig cymorth naill ai'n uniongyrchol neu drwy Cadw i sicrhau nad yw Llancaiach Fawr yn cau ei ddrysau, a bod y staff yn cael eu cadw.
Mae'r penderfyniad ynghylch a ddylid cau Sefydliad Glowyr y Coed Duon yn dal i fod yn yr arfaeth. Mae'r staff yno'n poeni llawer iawn hefyd, ac mae'r lleoliad hwnnw eto yn destun balchder ac atgofion dwfn. Pa gymorth a ellir ei ddarparu ar frys i'r ddau leoliad, y brys pennaf o ran Llancaiach Fawr? Mae'r lleoedd hyn yn drysorau i'n cymuned ni ac fe fyddwn ni i gyd yn dlotach pe byddwn ni'n eu colli nhw.
Diolch yn fawr i chi. Rwyf i o'r farn fod Llancaiach Fawr yn lle bendigedig. Mae'r lle yn cynnig ffordd ragorol o ddysgu am hanes a'r celfyddydau, ac yn wir y mae hi'n amgueddfa fyw. Ond materion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r rheolaeth a'r cyllid. Nid oes unrhyw raglenni grant refeniw sy'n rhedeg yn gyfredol y gellid eu defnyddio i gynorthwyo'r awdurdod. Mae pob un ohonoch chi'n ymwybodol o'r cyfyngiadau ariannol sydd arnom ni yn y Llywodraeth, sy'n golygu fy mod i'n ofni na fydd Cadw yn gallu helpu i redeg lleoliad o'r fath, a hynny am y rheswm syml nad yw'r arian ar gael.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf felly fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith y DU ynglŷn ag adroddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr, 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030'? OQ61602
Diolch am y cwestiwn, Delyth.
Er bod gweithredu'r system gyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth gan Lywodraeth y DU, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn cael trafodaethau gyda nhw ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Eto i gyd, nid oes unrhyw drafodaeth wedi bod gyda swyddogion cyfraith y DU ynglŷn â'r adroddiad penodol hwn. Mae'r Llywodraeth newydd wedi etifeddu system sy'n sobr o brin o arian— gall pawb ohonom ni gydnabod hynny—ac sydd mewn dryswch gwirioneddol ac, yn ddealladwy iawn, mae hi'n blaenoriaethu'r elfennau mwyaf hanfodol cyn ystyried y materion mwy eang.
Diolch am hwnna, Cwnsler Cyffredinol, a chroeso i'r swydd. Llongyfarchiadau ichi ar y swydd. Hoffwn i wybod pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r anialwch cyfreithiol sy'n bodoli i nifer yng Nghymru, lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol hanfodol. Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas y Gyfraith, mae cymorth cyfreithiol dinesig am ddim yng Nghymru wedi gostwng 50 y cant ers 2009. Mae awdur yr adroddiad wedi dweud wrth Golwg360, a dwi'n dyfynnu:
'Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud digon i ymgysylltu ag argymhellion Comisiwn Thomas.'
Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
'Mae cyfiawnder yng Nghymru yn galw allan am ryw fath o gyfeiriad a gweledigaeth.'
Faint o adroddiadau eraill fydd yn rhaid i ni eu gweld cyn i'r Llywodraeth ddechrau gweithredu ar yr hyn sydd ei angen? A fyddwch chi, plis, yn blaenoriaethu hyn yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan?
Diolch, Delyth. Yn sicr, rydym ni'n croesawu bod Cymdeithas y Gyfraith wedi ysgogi trafodaeth bwysig gyda chymaint o'i haelodau. Mae hi'n eglur iawn hefyd fod llawer iawn o ystyriaeth a gwaith wedi mynd i mewn i'r adroddiad diweddar, 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030'. Mewn gwirionedd, fe ddarllenais i'r adroddiad fy hun cyn i mi ddod i'r swydd, dim ond o ran diddordeb—mae gen i ddiddordeb hirsefydlog yn y gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru—ac fe wn i fod Cymdeithas y Gyfraith wedi bod yn gefnogol ar y cyfan o safbwynt Llywodraeth Cymru wrth iddi geisio ehangu ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru, am bob un o'r rhesymau sy'n gyffredin i'r uchelgais yr ydym ni'n ei rhannu.
Yn anffodus, mae'r adroddiad yn darlunio golygfa sy'n gyfarwydd i ni yma yng Nghymru—ac, mae arna i ofn, ledled Cymru a Lloegr, mewn gwirionedd—sef prinder arian dybryd yn y system gyfiawnder gyfan am y 14 mlynedd diwethaf o gamreolaeth y Ceidwadwyr. Mae heriau mawr yn wynebu'r system gyfiawnder ledled Cymru a Lloegr—[Torri ar draws.] Nid oes diben grwgnach. Mae honno'n ffaith i chi. Fe welwch chi'n gwbl eglur fod cwmnïau cymorth cyfreithiol ledled Cymru yn cael eu hanrheithio, er enghraifft. Ni allwch chi ddod o hyd i gwmnïau cymorth cyfreithiol yn y rhan fwyaf o brif ganolfannau yng Nghymru erbyn hyn o achos y prinder ariannol dybryd. Fe nodweddir cyfreithwyr rywsut fel pobl gyfoethog sy'n eu rhoi eu hunain yn gyntaf, ond eto, mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael arian mawr o gwbl, mewn gwirionedd maen nhw'n ceisio gwneud eu gorau yn eu cymunedau i helpu pobl, o fewn i'r hyn a ddylai fod yn wlad ddemocrataidd dan reolaeth y gyfraith. Ni all y gyfraith reoli heb i chi gael cyfrwng i fynd i gyfraith, ac felly mae cael cyfrwng i fynd i gyfraith yn rhan bwysig iawn o hynny.
Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â hyd y cyfnod cyn i rai achosion ddod i'r llysoedd, a'r nifer fechan o bobl, sy'n prinhau, sy'n darparu'r gwasanaethau cyfreithiol hanfodol ledled Cymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o gyfiawnder troseddol, sy'n fater gwirioneddol iawn. Mae rheithgorau yn rhoi dedfrydau mewn achosion y cafodd y drosedd ei chyflawni bum mlynedd, chwe blynedd yn ôl, ac mae'r syniad na all y dystiolaeth yn yr achosion hynny fod yn unrhyw beth heblaw diffygiol erbyn hynny'n broblem wirioneddol i'r dioddefwyr a'r cyhuddedig fel ei gilydd. Felly, mae gennym ni broblemau difrifol yn hyn o beth. Dyma un o'r rhesymau pam rydym ni'n dymuno datganoli cyfiawnder, er mwyn i ni ddod â naws neilltuol Gymreig, a rhoi pwyslais, mewn gwirionedd, ar hyn.
Fe fydd hi'n cymryd llawer o waith adeiladol rhwng y Llywodraeth a phroffesiynau cyfreithiol i ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â'r materion hyn. Un o'r pethau yr wyf i'n pryderu'n fawr yn eu cylch, ac wedi bod yn gwneud felly ers blynyddoedd lawer yn gyfreithiwr yn flaenorol, yw bod cwmnïau arbenigol gennym ni ledled Cymru a oedd yn darparu gwasanaethau arbenigol, ond roedden nhw'n gallu gwneud hynny oherwydd eu bod nhw'n gallu elwa ar ymarfer trawsgludo neu wasanaethau cyfreithiol cyffredin, os mynnwch chi. Nid yw'r gwasanaethau cyfreithiol hynny bellach yn denu'r math o gyllid sy'n gallu cefnogi'r proffesiwn arbenigol sydd uwch ei ben, ac felly maen nhw fyth a hefyd yn cael eu canoli a'u colli, ac fe welsom ni hynny dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae hi'n gynyddol anodd dod o hyd i gyngor cyfreithiol arbenigol y tu allan i'r canolfannau mawr, sy'n broblem wirioneddol o ran mynediad at y gyfraith.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno'r cwestiwn; yn sicr, fe fyddaf i'n ystyried hyn. Mae hwn yn rhywbeth yr wyf i wedi ymddiddori ynddo ers amser maith, fel gwnaeth pob Cwnsler Cyffredinol a'm rhagflaenodd i, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol nawr, gyda phwyslais gwirioneddol ar reolaeth y gyfraith a'r system gyfiawnder yn Llywodraeth y DU, i gynnal trafodaethau sylweddol ynglŷn â'r mater hwn.
2. Sut y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod yr Ysgrifenyddion Cabinet yn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth? OQ61596
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae arwain cyflawniad blaenoriaethau'r Llywodraeth yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i'r Ysgrifennydd Cabinet portffolio perthnasol. Fy ngwaith i fydd darparu capasiti ychwanegol i gefnogi fy nghyd-Aelodau Cabinet, drwy ddod â phobl ynghyd ar draws y Llywodraeth ar gyfer canfod ffyrdd arloesol o ysgogi cyflawni ein blaenoriaethau mewn llai o amser.
Gweinidog, mae hi'n dda gweld Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl 25 mlynedd, o'r diwedd yn penderfynu bod angen iddyn nhw gyflawni er mwyn y cyhoedd yng Nghymru a phenodi Gweinidog Cyflawni. Fel gwelsom nid, ni chafodd targedau o ran adeiladu tai eu cyflawni, mae rhestrau aros y GIG yn mynd yn hwy, ac mae safonau addysg yn gostwng—nid y math o ddarpariaeth yr oedd y cyhoedd yng Nghymru yn gobeithio amdani. Mae diddordeb mawr gennyf i gael deall sut y bydd eich swydd chi'n gweithio a sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyflawni eu blaenoriaethau nhw, fel nododd y Prif Weinidog, oherwydd fe ddylech chi fod yn cyflawni ers 25 mlynedd, ac rwy'n siŵr y byddai'r cyhoedd wrth eu boddau i gael gwybod sut y byddwch chi'n cyflawni nawr.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Fe ddywedaf i wrthych chi pam rwy'n ddiolchgar am hynna—ac fe wnaethoch chi'r camgymeriad hwn o'r blaen. Rwy'n fwy na pharod i ddod â rhestr o gyflawniadau Llywodraeth Cymru gyda mi, ac rwy'n hapus i'w darllen hi, Llywydd. Y tro diwethaf y dechreuais i wneud felly, fe fu'n rhaid i'r Llywydd dorri ar fy nhraws am fy mod i wedi mynd dros fy amser yn sylweddol iawn, oherwydd y nifer fawr o bethau y gwnaethom ni eu cyflawni dros y 25 mlynedd diwethaf. Felly, pe byddai'r Ceidwadwyr yn dymuno estyn cyfle arall i mi wneud hynny, fe fyddwn i'n fwy na diolchgar i'w dderbyn, fe fyddai hwnnw'n bleser o'r mwyaf.
Mewn gwirionedd, mae'r hyn yr ydym ni'n drafod nawr yn bwnc difrifol iawn ynglŷn â cheisio cyflawni yn wyneb prinder arian difrifol yn y gwasanaethau cyhoeddus ac argyfwng costau byw gwirioneddol a achoswyd yn gyfan gwbl gan y Ceidwadwyr, sy'n udo ar y fainc gyferbyn ond nad ydyn nhw'n fodlon o gwbl i mi eu hateb nhw yn y ffordd honno. Y gwir amdani yw na allwch chi gael gwasanaethau cyhoeddus digonol heb gyllid digonol i wasanaethau cyhoeddus, y cawsom ni ein hamddifadu ohono ers 14 blynedd. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn hyn o beth yw gwneud yn fawr o'r adnoddau prin sydd gennym ni er mwyn cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru—rhywbeth a wnaethom ni bob amser ac mae hynny'n rhywbeth prin iawn ar y meinciau gyferbyn.
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwhood.
Diolch, Llywydd. Diddymwyd taliadau tanwydd y gaeaf o werth hyd at £300 yn gyffredinol i bensiynwyr gan Ganghellor Llywodraeth Lafur y DU, fel gwyddoch chi. Maen nhw'n cyfaddef nawr na chafodd asesiad effaith ei gynnal ar bolisi a fydd yn effeithio ar tua 500,000 o bensiynwyr yma yng Nghymru yn unig. Dim ond yr wythnos diwethaf, fe bleidleisiodd aelodau Llafur yng nghynhadledd y blaid yn y DU o blaid cynnig yn galw ar Weinidogion y DU i wyrdroi eu toriad i lwfans tanwydd gaeaf y DU.
Mae dau bensiynwr o'r Alban wedi lansio her gyfreithiol yn erbyn Llywodraethau'r DU a'r Alban dros y toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf. Maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, i ystyried sut y bydd eu penderfyniadau a'u gweithredoedd nhw'n effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig amrywiol, sy'n cynnwys oedran ac anabledd. Mae elusen gyfreithiol Canolfan y Gyfraith Govan, sy'n eu cynrychioli nhw, yn dadlau bod y Llywodraethau wedi methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd hon wrth weithredu'r newidiadau i gymhwysedd taliadau tanwydd y gaeaf, gan ddweud na wnaeth y Llywodraethau gynnal asesiad effaith cydraddoldeb manwl a oedd yn angenrheidiol. Er mai yn yr Alban y cafodd yr achos ei godi, fe allai canlyniad hwnnw fod yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Pa drafodaethau a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith bosibl yr achos hwn ar y 500,000 o bensiynwyr sydd wedi colli eu taliad tanwydd gaeaf yng Nghymru?
Rwy'n edmygu ymgais yr Aelod i geisio gwneud hwn yn fater cyfreithiol i Gymru, pan fo'n amlwg iawn mai mater cyfreithiol i Lywodraeth y DU ydy hwn. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gwylio'r hyn a fydd yn digwydd yn yr achos cyfreithiol hwnnw gyda diddordeb mawr, ac os bydd y pensiynwyr hynny'n llwyddiannus, mae'n siŵr y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau priodol i unioni hynny. Fe fydd yn rhaid i ni aros i weld; nid oes unrhyw achos o'r fath gennym ni'n digwydd yma yng Nghymru.
Fel nodwyd, mae i'r achos hwnnw yn yr Alban oblygiadau sylweddol i bob un o wledydd y DU.
Gan aros gyda goblygiadau cyfreithiol polisïau'r Llywodraeth, fe glywsom ni ym mis Mai, yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau, bod llawer gormod o blant a phobl ifanc yn methu â chael gafael ar gymorth o dan gyfundrefn newydd anghenion dysgu ychwanegol Cymru, sy'n golygu bod teuluoedd yn cael eu gyrru i'r pen. Pan wnes i gyfarfod ag ymgyrch Diwygio ADY Cymru, roedden nhw'n dweud wrthyf i nad yw'r system newydd yn gweithio, maen nhw'n cael eu llethu gan geisiadau am gymorth, ac mae plant a rhieni yn cael eu beio, eu cosbi a'u hysgytio. Roedd adroddiad thematig Estyn ar y system ADY newydd yn 2023 yn argymell y dylai'r awdurdodau lleol sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u dyletswyddau dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ac y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dealltwriaeth gadarn ym mhob lleoliad o'r diffiniadau cyfreithiol a gynhwysir yn y Ddeddf, a'r cod, ac yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo'r ddealltwriaeth honno.
Erbyn hyn, fe ellid disgwyl cynnydd eto yn niferoedd yr atgyfeiriadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o'u cymaru â llynedd. Felly, pa drafodaethau, os o gwbl, a gafodd y Cwnsler Cyffredinol gyda llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ynghylch canlyniadau ymarferol hyn, a pha gamau y bydd hi'n eu cymryd, o ystyried ei chylch gwaith ehangach, i sicrhau y bydd argymhellion Estyn ynghylch darpariaeth ddeddfwriaethol yn cael eu cyflawni gan yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru?
Diolch i chi am y cwestiwn. Unwaith eto, rwy'n edmygu'r ymgais i wneud hwnnw'n fater i mi ymdrin ag ef, ond yn amlwg nid mater i mi mohono, yn amlwg iawn, mae hwnnw'n fater i'r Ysgrifennydd Cabinet ymdrin ag ef. Fy nealltwriaeth i yw bod hyfforddiant a chyngor wedi cael ei roi, i'r ymarferwyr yn ystod y cam ADY ac i'r tribiwnlysoedd. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn cael y trafodaethau hynny, a phe byddai angen cymorth oddi wrthyf i arni hi, fe fyddaf i'n hapus i'w roi.
Wrth gwrs, dim ond ers ychydig wythnosau yr wyf i yn y swydd hon felly nid wyf i wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda phennaeth y gwasanaeth tribiwnlys yng Nghymru hyd yn hyn, ond fe fyddaf i'n cael y rhain mewn ystyr lawer mwy cyffredinol. Ond mater i'r Ysgrifennydd Cabinet unigol yw manylion y cwestiwn i raddau helaeth iawn.
Wel, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cynnwys hynny yn eich trafodaethau chi gyda'r tribiwnlys addysg, oherwydd y mae hynny o fewn eich cylch gwaith chi, fel deallais i hynny, nawr, sef cyflawniad Llywodraeth Cymru, felly heb holi ynglŷn â chywirdeb y polisïau neu fel arall, ond ar gyfer sicrhau bod cyflawniad yn cael ei fonitro a'r canlyniadau yn cael eu hasesu.
Yn olaf, bydd gweithredu goblygiadau cyfreithiol polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn gofyn am sector cyfreithwyr ffyniannus yng Nghymru, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at y sector yn gynharach. Pa ymgysylltiad a ydych chi'n ei gael, neu y byddwch chi'n ei gael, o ystyried y cyfnod byr y buoch chi yn y swydd hon, â Chymdeithas y Gyfraith yng Nghymru, sy'n cynrychioli, fel gwyddoch chi, farn proffesiwn cyfreithwyr Cymru, a blaenoriaethau cyfredol cyfreithwyr Cymru, ynghylch eu galwadau nhw am well data ar gyfer sector cyfreithiol Cymru ac er mwyn i Gymru allu rhoi cynnig sy'n cyfateb i'r cynnig sydd yn Lloegr o brentisiaeth gyfreithiol lefel 7?
Fel dywedais i, dim ond ers ychydig wythnosau yr ydw i wedi bod yn y swydd, fel gwyddoch chi, Mark Isherwood, ac felly fe fyddaf i'n cael sgyrsiau gyda Chymdeithas y Gyfraith, a gyda'r proffesiwn cyfreithiol yn ehangach ledled Cymru, i drafod nifer o faterion, gan gynnwys hyfforddiant gwasanaethau cyfreithiol a mynediad at y gyfraith. Ac fe fyddaf i hefyd, rwy'n gobeithio, Llywydd, gyda'ch caniatâd caredig, yn cael cyfarfod â chi ynglŷn â hygyrchedd cyfraith Cymru a sut gallem ni wella hynny, sy'n cynnwys y paratoadau ar gyfer y Senedd nesaf.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Hoffwn eich croesawu chi i’r rôl newydd. Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, fe glywson ni, heb unrhyw rybudd blaenorol i’r Senedd, na’r byrddau iechyd a fydd yn cael eu heffeithio, mae’n debyg, y bydd San Steffan yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf i fynd i’r afael â rhestrau aros yng Nghymru. A gaf i ofyn, felly, am eich asesiad o’r goblygiadau cyfansoddiadol o gael Senedd arall yn cydweithio mewn maes sydd wedi’i ddatganoli yn llawn i Gymru ers chwarter canrif, a pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi'r termau ffurfiol, ynghyd â’r cyngor cyfreithiol sy’n cyd-fynd efo’r cytundeb yma?
Diolch. Nid wyf i'n credu bod unrhyw oblygiadau cyfansoddiadol i'r cyhoeddiad fel cafodd hwnnw ei wneud. Yr hyn yr oeddem ni'n sôn amdano yn y gynhadledd oedd mwy o gydweithio, os mynnwch chi, rhwng y gwasanaethau iechyd, yn enwedig i bobl wrth y ffin, sydd wedi bod yn digwydd ers amser maith iawn. Pe byddai unrhyw oblygiadau cyfansoddiadol ar unrhyw bryd, fe edrychaf i ar hynny wrth gwrs, ond nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw un ar hyn o bryd. Fe fyddwn i'n fwy na hapus i gael trafodaeth gyda chi os ydych chi o'r farn fod yna un.
Rwy'n credu ein bod ni wedi cydweithio â gwasanaeth iechyd Lloegr mewn nifer o ffyrdd, mewn nifer fawr o feysydd, ers amser maith, am resymau amlwg iawn, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Lle bod cyfleoedd i ddysgu ar bob ochr i'r ffin, wrth gwrs fe fyddem ni'n hapus i'w cymryd nhw. Yr hyn nad ydym ni'n ei wneud mewn unrhyw ffordd yw ildio cyfrifoldeb am y cleifion hynny yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw arddel ein cyfrifoldeb am y cleifion hynny, ond sicrhau eu bod nhw'n cael gwasanaeth gwell trwy gydweithio effeithiol â gwlad gyfagos.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae o’n wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd. Mi glywson ni bod yna gytundeb. Nid cydweithio—mae yna gydweithio fel dŷch chi wedi dweud—ond cytundeb. Felly, a gaf i ofyn i chi geisio sicrwydd nad oes yna gytundeb, oherwydd, o’r hyn dŷch chi’n ei ddweud, does yna ddim cyngor cyfreithiol—nid oes angen, dŷch chi’n dweud—o ran y cydweithio yma. Mae’n bwysig nad oes yna amwysedd, oherwydd, i ni, mae’n awgrymu cytundeb, a bod angen cael cyngor cyfreithiol, a'i fod o’n hollol glir.
Felly, a gaf i’r sicrwydd yna? Os dŷch chi’n dweud mai jest cyhoeddiad oedd o, dydy hynny ddim yn cyd-fynd efo'r pethau dŷn ni wedi eu clywed gan eich cydweithwyr chi yn San Steffan chwaith. Mae hi'n bwysig bod y Senedd hon yn cael yr eglurder pendant hwnnw.
Bu—mae fy nghyd-Aelod newydd f'atgoffa i—ddatganiad ysgrifenedig ar y trefniadau rhwng GIG Lloegr a GIG Cymru heddiw. Ond rwy'n credu, er hynny, Heledd, yr hyn sydd gennym ni dan sylw yw'r gwahaniaeth rhwng cytundeb cyfreithiol a chytundeb ar lafar gwlad. Felly, efallai y byddwch chi a minnau'n cytuno i gael paned o de gyda'n gilydd, ond yn anaml y byddem ni'n llofnodi cytundeb i ddweud y bydd hynny'n orfodol i ni. Felly, rwy'n credu mai gwahaniaeth yw hwn rhwng cytundeb cyfreithiol a chytundeb ar lafar gwlad.
Mae'n ddrwg gen i, mae hyn yn hollol wahanol i fynd am baned o de. Mae hyn ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac fe fyddwn i yn meddwl bod pobl Cymru sydd ar restrau aros, bod y rheini sy'n gweithio yn ein hysbytai ni, angen gwybod beth ydy statws hyn. Gwahanol iawn i baned o de.
Mi wnaeth fy nghydweithwraig i Delyth Jewell godi gyda chi'n gynharach ein bod ni'n ystyried datganoli cyfiawnder i Gymru. Yn sicr, mi oeddech chi'n glir o ran eich barn chi eich bod chi'n parhau'n gadarn bod yn rhaid i Gymru gael y grym hwnnw. Ond mi glywson ni bethau gwahanol iawn ym maniffesto'r Blaid Lafur a chan rai sydd wedi eu hethol yn enw Llafur Cymru yn San Steffan. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan rŵan, fel ein bod ni'n rhoi'r gorau i'r cwestiwn amwys yma? Dŷn ni'n gwybod bod yn rhaid datganoli cyfiawnder i Gymru. Pa lwybr sydd yn mynd i fod er mwyn galluogi hynny? Gyda Llywodraeth Lafur rŵan yn San Steffan, ac yn y fan hyn, mi ddylech chi allu gweithredu ar hyn.
Fe hoffwn i egluro ychydig bach, Heledd, nad oeddwn i mewn unrhyw fodd yn ceisio difrïo nifer y bobl sy'n aros ar restrau aros am wasanaeth drwy ddisgrifio'r gwahaniaeth rhwng cytundeb ar lafar gwlad a chytundeb cyfreithiol. Felly, yr hyn yr oeddwn i'n awyddus i'w egluro oedd nad oeddwn i'n ceisio mewn unrhyw ffordd—dim ond ceisio gwneud sylw ar lafar fod y gair a ddefnyddir yn gyffredin yn wahanol beth i gytundeb cyfreithiol. Felly, rwy'n awyddus i gywiro hynny, os rhoddais i unrhyw argraff sy'n wahanol.
O ran datganoli cyfiawnder, mae'r maniffesto yn sôn am ymchwilio i ddatganoli cyfiawnder. Fe fyddwn ni'n weithredol yn yr ymchwiliad hwnnw. Rydym wedi ei gwneud hi'n amlwg iawn—mae fy nghyd-Aelod Cabinet Jane Hutt wedi gwneud hynny'n amlwg iawn ar nifer fawr o achlysuron, ac roedd fy rhagflaenydd i yn y swydd hon yn ei gwneud hi'n amlwg ar nifer fawr o achlysuron—ein bod ni'n bwrw iddi o ran ceisio datganoli plismona, yn y lle cyntaf, cyfiawnder ieuenctid, ond cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yng nghyfllawnder yr amser yn dilyn dull o ymlwybro. Nid wyf i wedi cael y trafodaethau hynny eto, ond yn sicr fe fyddaf i ac fe fyddwn ni'n pwyso am hynny. Ac fe fyddwn ni'n pwyso am hynny oherwydd rydym ni o'r farn y gallwn ni ddarparu gwasanaeth i bobl Cymru sy'n well na'r un y maen nhw wedi bod yn ei gael dros y 14 blynedd diwethaf.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dilyn cynllun peilot y llys teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd? OQ61589
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn. Ni chefais i'r un o'r trafodaethau hynny eto, ond rwy'n bwriadu gwneud felly. Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o'r cynllun treialu, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â'r camau nesaf yn seiliedig ar yr argymhellion a gafodd eu gwneud, ac rwy'n hapus iawn i adrodd yn ôl i'r Senedd pan fyddwn ni wedi cael y trafodaethau hynny.
Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. A gaf i awgrymu yn garedig y dylai'r sgyrsiau hynny ddigwydd yn gyflym iawn? Oherwydd yn gynharach eleni, fe wnaeth barnwr cylchdaith a oedd yn eistedd yn y llys teulu yng Nghaerdydd roi enghraifft o effaith drist yn dilyn diweddu'r cynllun treialu llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Rhoddodd mam, a oedd wedi cael magwraeth drawmatig ei hunan, ac a oedd wedi bod mewn perthynas dreisgar, enedigaeth i blentyn tra roedd hi'n dal i fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau. Gwnaeth yr awdurdod lleol gais am orchymyn gofal. Roedd y fam yn addas i'r cynllun treialu, ac, yng ngeiriau'r barnwr, roedd hi'n amlwg ei bod hi wedi ffynnu yn ystod ei chyfnod yn gweithio gyda'r tîm. Roedd yn dweud bod ei hadferiad corfforol ac emosiynol ar ôl blynyddoedd o gamdriniaeth yn araf ond yn amlwg, bythefnos ar ôl pythefnos. A hithau wedi sobri, roedd hi'n ymddangos bod gan y fam fywyd newydd. Bu llithriad i gymryd cyffuriau eto, ond roedd y tîm yn argymell rhagor o waith gyda hi. Fodd bynnag, fe ddaeth y cynllun treialu i ben. Nid yw hi'n syndod, heb gefnogaeth arbenigol, fod cyflwr bywyd y fam wedi dirywio, ac fe gafodd ei phlentyn ei fabwysiadu. Rydym ni wedi siomi'r fam a'r plentyn hwnnw. Rydym ni o bosibl wedi creu problemau hefyd nad ydyn nhw'n hysbys ac a fydd yn gostus i'r dyfodol, ac rydym ni wedi chwalu tîm profiadol. Cwnsler Cyffredinol, a gawn ni weld budd o fod â Llywodraeth Lafur yn San Steffan? Pryd fyddwn ni'n gweld llys teulu cyffuriau ac alcohol yn eistedd yma yng Nghymru, oherwydd mae hi'n amlwg fod hwnnw'n gweithio? Synnwyr cyffredin yw hyn. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am hynna. Fel rwy'n ei deall hi—. Ac fe wn i eich bod chi wedi ymroi i hyn i gyd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich cyfraniad, ac, yn wir, am eich eiddgarwch amlwg. Rydych chi siŵr o fod yn cofio i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gynnwys argymhelliad y dylid sefydlu'r llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru fel cynllun treialu, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw ac wedi cyflawni'r cynllun treialu.
Fe hoffwn i roi teyrnged hefyd i'r teuluoedd a gymerodd y cam dewr o fod â rhan yn y rhaglen a'r gwaith caled a phroffesiynoldeb a ddangosodd pawb a oedd yn rhan o'r cynllun treialu—mae tystiolaeth o'r stori yr ydym ni newydd ei chlywed gennych chi am yr achos hwnnw'n dangos mai dyna fu'r achos. Ers i'r cynllun treialu ddod i ben, rydym ni wedi bod yn craffu ar werthusiad annibynnol o'r cynllun treialu gan CASCADE, sef canolfan gofal cymdeithasol ac ymchwil plant Prifysgol Caerdydd, sydd wedi mynd at ein holl bartneriaid yn y rhwydwaith cyfiawnder teuluol a phenaethiaid gwasanaethau plant Cymru. Fe fyddwn ni'n gweithio nawr gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd ac ar fyrddau cyfiawnder teuluol lleol i fwrw ymlaen â'r camau a'r canfyddiadau nesaf yn sgil y cynllun treialu mewn ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol, a ategir gan ymrwymiad cyffredin i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Fe fydd ein dadansoddiad ni o'r gwerthusiad o'r cynllun treialu a'r trafodaethau gyda phartneriaid yn canolbwyntio ar y ffordd orau o fanteisio i'r eithaf ar y model a nodwyd gennych chi mewn ffordd mor rymus nawr, Rhys, ar gyfer y nifer ehangaf posibl o deuluoedd yng Nghymru a allai fod ag angen am y cymorth hwn mewn ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol. Rydym ni'n agored i amrywiaeth o ddewisiadau a allai gyflawni hyn, gan gynnwys model o lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Ond mae rhai cwestiynau yn aros ynghylch y model hwnnw, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud: a yw hi'n bosibl cyflwyno hyn ar raddfa ledled Cymru gyfan yw un o'r materion gwirioneddol; a oes digon o deuluoedd mewn rhannau eraill o Gymru i sicrhau bod hynny'n gynaliadwy; yr arian wrth symud ymlaen, oherwydd fe ddylai hyn fod yn hunangynhaliol, ond nid oedd partneriaid yn gallu ymrwymo cyllid; ac a ddylem fuddsoddi yn y model hwn neu ehangu ein gwasanaethau integredig o ran cymorth i deuluoedd.
Felly, mae yna nifer o bethau i'w gwneud cyn i ni allu fod â barn gadarn ar y cynllun treialu, mae arna i ofn. Yn y cyfamser, mae gennym ni wasanaethau integredig o ran cymorth i deuluoedd sy'n darparu cymorth gydag ymyrraeth gynnar i deuluoedd, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid iechyd yn yr awdurdodau lleol i archwilio arfer da o'r cynllun treialu y gellid ei ddefnyddio i sicrhau'r effaith gadarnhaol honno. Rwyf i wedi clywed ein bod ni'n bwriadu ymateb i'r gwerthusiad hwnnw cyn y Nadolig, ac yn llawer cynt na hynny, rwy'n gobeithio. Felly, rwy'n gobeithio yn fawr iawn y byddaf i'n gallu diweddaru'r Senedd ar yr adeg honno.
Croeso i'ch swydd newydd, Cwnsler Cyffredinol. Fel mae Rhys ab Owen newydd dynnu sylw at y peth, fe arweiniodd tranc sydyn y cynllun treialu fis Medi diwethaf, yn dilyn gwrthod yr estyniad o flwyddyn oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, at gost aruthrol fawr i bobl. Roedd y gwerthusiad ei hun yn mynegi mai ansicrwydd ariannol oedd y ffactor mwyaf hanfodol i effeithio ar gynaliadwyedd y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Yn un sydd wedi gweithio mewn llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol dros nifer o flynyddoedd, rwy'n gallu cadarnhau llwyddiant ysgubol y rhain o safbwynt y teuluoedd dan sylw. Nid rhywbeth y dylem ni fod yn ei dreialu yng Nghymru mo hwn, mae hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei roi ar waith a'i gyflwyno yng Nghymru. Fe ddylem fod yn dysgu oddi wrth y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol eraill hynny ledled y DU sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran cadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Roedd y gwerthusiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn arddangos canlyniadau nodedig, fel gwyddoch chi. Fe ostyngodd camddefnydd sylweddau gan rieni o 83 y cant i 54 y cant, gyda 29 y cant o rieni yn llwyddo i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn gyfan gwbl. A hefyd, mae manteision economaidd y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol a chyflawniad y rhain yn gyfarwydd. Felly, fe hoffwn i chi addo i ni y byddwch chi'n adolygu'r penderfyniad hwn unwaith eto ac yn cynnal sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i sicrhau cyllid sefydlog, hirdymor i'r dull trawsnewidiol hwn o gyfiawnder teuluol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am hynna, Jane. Fe hoffwn i ddim ond cywiro un neu ddau o bwyntiau ynglŷn â hynny. Nid ydym ni wedi gwneud unrhyw benderfyniad i ddod a hwn i ben. Fe wnaethom ni gynnal cynllun treialu, a hwnnw sydd wedi dod i ben. Mae yna ychydig o wahaniaeth. Rydym ni'n rhoi ystyriaeth fanwl i werthuso'r cynllun treialu hwnnw. Fe fydd barn ein partneriaid ni sydd â rhan yn y rhwydwaith cyfiawnder teuluol yng Nghymru yn allweddol wrth ein helpu ni i wneud penderfyniadau am swyddogaeth fwy eang y cynllun treialu hwnnw. Mae hynny'n ymwneud â graddoldeb. Fe wyddom ni ei fod wedi gweithio mewn un maes, ond 'wyddom ni ddim a fyddai unrhyw fodd ei raddoli ledled Cymru yn unol â'r patrwm hwnnw. Pan gafodd y rhaglen dreilau o ddwy flynedd ei lansio, y bwriad bob amser oedd profi sut y gallai'r dull gweithredu weithio ledled Cymru cyn ymrwymo i greu unrhyw wasanaeth hirdymor, ac mae angen i ni ystyried canlyniadau'r cynllun treialu yn ofalus.
Fel roeddwn i'n egluro i Rhys ab Owen wrth ymateb i'w gwestiwn ef, pan fyddwn ni wedi cael trafodaethau gyda'n partneriaid i gyd ac yn cael ein llywio gan y gwerthusiad ac ymchwil arall, fe allwn ni benderfynu ai cyflwyno'r model llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yw'r model mwyaf addas, cost-effeithiol ar gyfer darparu cefnogaeth gynaliadwy i deuluoedd, lle ceir pryderon ynghylch camddefnyddio sylweddau.
Fe wyddom ni mai bwriad y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yw arbed costau a chynyddu effeithlonrwydd yn y system llysoedd teulu a gwasanaethau plant yr awdurdodau lleol, a fyddai'n rhyddhau adnoddau i gefnogi gwaith ataliol cynharach gyda theuluoedd a allai fod yn profi anawsterau. Dyna un o'r materion, onid e? Oherwydd mae angen i ni sicrhau y gellir ailgylchu'r arian hwnnw a'i roi yn y gwaith ataliol. Fel arall, fe fyddai'r un broblem gennym ni â'r broblem sydd gennym gyda'r gwasanaethau hyn i gyd, sef eich bod chi'n gwneud gwaith ar ben isaf y gwasanaeth yn hytrach nag ar y pen ataliol. Rwy'n ymrwymedig iawn i sicrhau fy mod i'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau y bydd llawer o bwyslais ar y gwasanaethau ataliol yn hyn o beth, oherwydd nid ydym ni'n orawyddus i fod yn helpu pobl pan fyddan nhw mewn trafferthion yn hytrach eu hatal rhag mynd i drafferthion yn y lle cyntaf, lle bod hynny'n bosibl. Felly, rydym ni ymrwymo i raddau helaeth iawn i gefnogi teuluoedd sy'n profi problemau o ran camddefnyddio sylweddau.
Rydym ni'n disgwyl i'r gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ac, yn benodol, byrddau cynllunio ardal weithio gyda phartneriaid i gefnogi teuluoedd, gan gynnwys rhai sydd ar ymyl gofal. Drwy gronfa gweithredu Byrddau Cynllunio Ardal ar gamddefnyddio sylweddau, mae Llywodraeth Cymru yn clustnodi arian ar gyfer plant a phobl ifanc. Gan gydnabod y cynnydd yn y galw am gymorth, cafodd £1 miliwn ychwanegol ei fuddsoddi yn 2022-23, gan gynyddu'r dyraniad a glustnodir i £3.75 miliwn, ac, yn ogystal â hynny, rydym ni'n bwriadu cynyddu'r swm hwn ymhellach hyd at £5.25 miliwn yn 2023-24, ac wedyn, ar gyfer 2024-25, hyd at £6.25 miliwn. Felly, rwy'n credu y gallwch weld ein bod ni wedi ymrwymo i'r gwasanaeth, ein bod ni'n dymuno sicrhau y bydd y model yr ydym ni yn ymrwymo iddo yn gwneud y gwaith gorau er mwyn Cymru gyfan, ac mae gennym ni nifer o bartneriaid i drafod â nhw. Fe glywsom ni rai yn eiriol yn gadarn dros fodel penodol yn y fan hon, ac mae hi'n ddigon posibl y byddwn ni'n dewis hwnnw, ac fe wnawn ni'r penderfyniad hwnnw cyn y Nadolig.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynnal cwestau i farwolaethau amenedigol? OQ61598
Diolch i chi, Jenny Rathbone, am y cwestiwn yna. Mae unrhyw benderfyniad i ymestyn cylch gwaith cwestau i gynnwys marwolaethau amenedigol yn aros gyda Llywodraeth y DU oherwydd mae cwestau coronaidd yn fater a gedwir yn ôl. Mae pob marwolaeth amenedigol yng Nghymru yn cael ei hadrodd amdani i Weithrediaeth GIG Cymru fel digwyddiad y mae'n rhaid ei adrodd yn genedlaethol ar gyfer monitro.
Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw, ond, yn amlwg, mae marwolaethau amenedigol yn digwydd fel arfer dan oruchwyliaeth y gwasanaeth iechyd mewn rhyw ffordd, ac fe gafodd hwnnw ei ddatganoli yn gyfan gwbl. Ac, fel rydym ni wedi bod yn sôn yn gynharach, mae'r system gyfiawnder ar ei gliniau, ac mae'r rhieni sydd wedi dioddef y trychineb o golli plentyn ym mlwyddyn gyntaf ei fywyd yn sicr yn ddioddefwyr yn y system annigonol hon. Fe all hi gymryd misoedd hyd yn oed i gynnal awtopsi, heb sôn am gwest, y mae eu cwblhau nhw'n hanfodol ar gyfer cau'r mater. Nid oes gan grwneriaid awdurdodaeth i gynnal ymchwiliad sy'n ymwneud â ffoetws neu blentyn marw-anedig, sy'n gwaethygu'r poendod ac yn golygu mwy o oedi. Mae hi'n gynnar iawn yn eich cyfnod chi yn y rôl Cwnsler Cyffredinol, ac rwy'n eich croesawu chi'n gynnes iawn i'r swydd, ond pa drafodaethau y gallech chi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch cyflymu'r broses? A sut ydych chi am sicrhau y bydd argymhellion o gwestau yn cael eu hymgorffori yn y rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a'r newydd-anedig?
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Yn amlwg, mae pob un ohonom ni'n dymuno mynegi ein cydymdeimlad ag unrhyw riant sy'n profi unrhyw fath o enedigaethau amenedigol neu farw-anedig dan yr amgylchiadau hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae ffrind annwyl iawn i mi wedi mynd drwy'r profiad hwnnw yr wythnos hon, ac mae'n brofiad cwbl ddirdynol i deuluoedd yn gyffredinol. Fe gafodd ymgynghoriad ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn ôl ym mis Mawrth 2019, ond fe gafodd hwnnw ei ohirio nawr, ac rydym ni'n cysylltu â'r Llywodraeth newydd ynghylch cynigion i allu bwrw ymlaen ag ambell un o'r rhain. Roedd hynny'n ymwneud ag a ddylai crwneriaid fod â phwerau i ymchwilio i fathau penodol o farwolaethau ai peidio. Serch hynny, nid ydym ni o'r farn y dylai'r ymchwiliadau coronaidd ddisodli'r swyddogaethau eraill o ran adolygu marw-enedigaethau, fel y rhai a wneir gan wasanaethau'r GIG yn lleol. Mae pob marwolaeth baban ac amenedigol yng Nghymru yn cael eu hadrodd fel digwyddiad sy'n genedlaethol adroddadwy i weithrediaeth y GIG, yn ogystal ag i MBRRACE-UK, sef Mamau a Babanod: Lleihau'r Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol ledled y DU, ar gyfer monitro marwolaethau, ymateb a gweithredu lle bod angen. Fe fydd cyflwyno system o archwilwyr meddygol statudol yn cynnig sicrwydd ychwanegol ar gyfer marwolaethau newyddenedigol, hynny yw babanod sy'n marw o fewn 28 diwrnod i'w geni. Ac rwy'n falch o ddweud, ers dechrau'r mis hwn, y bydd pob marwolaeth, gan gynnwys marwolaethau newyddenedigol mewn unrhyw leoliad iechyd, nad yw'n cael eu hymchwilio gan grwner yn cael ei hadolygu gan archwilwyr meddygol y GIG, a fydd yn ychwanegu cyfraddau ychwanegol o sicrwydd, oherwydd rwy'n cytuno â chi'n llwyr, wrth geisio dod i delerau â digwyddiad sy'n ergyd ddychrynllyd i deulu cyfan, mae yna wir angen i bobl fod yn deall yr hyn a ddigwyddodd.
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar yr amserlen ar gyfer cyflenwi deddfwriaeth diogelwch tomenni glo o fewn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? OQ61601
Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth, ac fe wnaf i hynny â'r pleser mwyaf. Fe fydd y Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny. Oherwydd eich swydd flaenorol, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n ymwybodol i hyn fod yn achos pryder mawr personol i mi. Mae tri Phrif Weinidog wedi bod wrth eu gwaith ers cyflwyno'r syniad i'r Senedd am y tro cyntaf. Mae hi'n dda iawn, wir, eich clywed chi'n cadarnhau y bydd hynny'n cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn hon. Pan gyflwynir hynny, yn yr achos hwn—. Mewn ymchwiliad diweddar, fe gafodd y pwyllgor newid hinsawdd dystiolaeth am fwyngloddiau brig ac, yn un o'r pwyntiau yn yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi o ganlyniad i'r ymchwiliad hwnnw, mae'r pwyllgor wedi mynegi cefnogaeth i gynnwys mwyngloddiau brig yng nghwmpas y Bil hwnnw. Pa gyngor cyfreithiol a wnaethoch chi ei roi, neu a fyddech chi'n ei roi, i Lywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mwyngloddiau brig yng nghwmpas y Bil hwnnw, os gwelwch chi'n dda?
Felly, dydw i ddim wedi bod yn fy swydd yn ddigon hir i gael y sgwrs honno, ond rhan o gylch gwaith newydd fy swydd, sy'n fwy eang na swydd Cwnsler Cyffredinol, ar agwedd cyflawni fy nghyfrifoldebau newydd, yw cyfrifoldeb o ran sicrhau y bydd y rhaglen ddeddfwriaethol gyflawn yn cael ei chyflawni. Er mai fy nghyd-Ysgrifennydd, Huw Irranca-Davies, a fydd yn cyflwyno'r Bil mewn gwirionedd, fi sydd â goruchwyliaeth dros y rhaglen ddeddfwriaethol ar draws y Llywodraeth, nid yn lleiaf oherwydd os byddwn ni'n gwneud pethau mewn ffordd effeithlon, efallai y byddwn ni'n gallu cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth y galwodd Aelodau amdani, ac fe hoffwn innau weld hynny'n fawr iawn, a hefyd wrth baratoi tuag at y Senedd newydd, pan fyddwn ni'n gweld cyfnod a gwtogir. Felly, rydym ni'n awyddus i fod yn fwy effeithlon o ran cael ein rhaglen ddeddfwriaethol drwodd, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r holl amser sydd ar gael hyd at y funud olaf, rhywbeth nad ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn arferol yn y gorffennol. Felly, rwy'n dymuno sicrhau y bydd hynny'n digwydd.
O ran manylion y Bil hwn, nid ydym ni wedi cynnal y camau cyntaf ac nid yw'r craffu gan y pwyllgor wedi digwydd eto, ac rwy'n siŵr y bydd y materion hynny'n cael eu codi. Ond, un o'r materion pwysicaf pan oeddwn i'n gyfrifol am y Bil mewn swydd flaenorol oedd sicrhau ein bod ni'n gwahaniaethu rhwng tomenni segur a gweithfeydd sy'n parhau, sy'n drefniadaeth wahanol iawn. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i'r pwyllgor fod yn eglur iawn yn ei drafodaethau o ran yr amodau i domen fod yn cael ei hystyried yn segur a dod o dan y drefniadaeth hon, a phan allai ddod o dan arolygiaeth y pyllau glo a chwareli neu'r Awdurdod Glo am fod hwnnw mewn gwirionedd yn fwynglawdd gweithredol, fel petai, neu'n chwarel. Felly, rwy'n credu bod rhai materion difrifol iawn, manwl iawn o ran yr union drawsnewidiad, ac un o'r pethau pwysicaf o ran y Bil hwn fydd sicrhau ei fod yn plethu yn dda â'r cyfundrefnau eraill sydd ar waith eisoes, gan gynnwys Bil newydd diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth, sydd hefyd yn rhan o gwmpas gwaith fy ngyd-Ysgrifennydd Huw Irranca-Davies, ond fe fyddaf i, fel dywedais i, yn cadw golwg arno i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac un o'r pethau yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw sicrhau bod jig-so, os hoffech chi, o bethau, fel nad ydym ni'n gweld rhywbeth yn cwympo drwy'r craciau. Ac fe edrychaf i ymlaen yn fawr iawn at graffu ar y pwyllgor i gael barn y pwyllgor ar sut y dylai'r jig-so hwnnw ffitio. Ond rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau y bydd popeth yn cael ei gwmpasu gan ryw gyfran o'r ddeddfwriaeth.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynglŷn â gwneud canolfannau cyswllt plant yng Nghymru yn ddi-dâl ar adeg eu defnyddio i rieni ac aelodau eraill o'r teulu? OQ61590
Nid wyf i wedi cael trafodaethau ynglŷn â'r mater hwn eto gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol na'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers i mi fod yn fy swydd, oherwydd nid oes dim ond ychydig wythnosau wedi mynd heibio, ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod canolfannau cyswllt plant â swyddogaeth bwysig i lawer o deuluoedd wrth gynnal cyswllt ar ôl i rieni wahanu.
Rwy'n credu bod y rhestr o bobl y bu'n rhaid i mi eu cynnwys yn y cwestiwn hwn a'm cwestiwn blaenorol yn dangos pa mor gymhleth yw'r system ddatganoledig a'r ymyl garw sydd yng Nghymru. Serch hynny, mater arall yw hwnnw. Hyd nes i etholwr gysylltu â mi, er fy mod i'n gweithio yn y maes hwn, nid oedd unrhyw syniad gennyf i ei bod hi'n rhaid i rieni ac aelodau o'r teulu sy'n destun gorchymyn cyswllt dan oruchwyliaeth mewn achosion cyfraith teulu preifat, mewn rhai ardaloedd, fel Caerdydd, dalu hyd at £120 yr awr i weld eu plentyn, i weld eu hanwyliaid. Nawr, pe bydden nhw'n byw yn Nhrefynwy, fe fyddai hynny'n rhad ac am ddim, ond yng Nghaerdydd mae'n rhaid iddyn nhw dalu £120 yr awr. Nawr, nid yw'r anghydraddoldeb hwn yn iawn, Cwnsler Cyffredinol.
Roeddech chi'n sôn yn eich ateb i Delyth Jewell am yr oedi yn y system lysoedd. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn bod y system gyfiawnder ar ei gliniau. Mae'r oedi yn anferthol. Mae fy etholwr i wedi bod yn aros am ymchwiliad am dros ddwy flynedd, ac mae'n rhaid iddo dalu £120 yr awr bob tro y bydd yn gweld ei blentyn. Mae hyn yn sicr o beri i rieni ymddieithrio ac achosi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw plant sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa hynod drawmatig ac anodd hon yn profi trawma emosiynol pellach oherwydd nad ydyn nhw'n cael gweld eu rhieni? Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ie, nid wyf i'n anghytuno o gwbl ynglŷn â'r cymhlethdod yn hyn o beth, ac mae hi'n ddiddorol, pan fyddwch chi'n dechrau edrych ar ddarnau penodol o hyn, pa mor gymhleth ydyw hi, mae'n rhaid i mi ddweud. Dyna ran o'r rheswm ein bod ni'n galw am ddatganoli cyfiawnder, wrth gwrs. Rydym ni'n cefnogi cyswllt parhaus rhwng plant a'u teuluoedd wedi i rieni wahanu, wrth gwrs, ac yn cydnabod y gall canolfannau cyswllt plant wneud gwaith pwysig i lawer o deuluoedd wrth gynnal cyswllt ar ôl i rieni wahanu. Rwy'n dymuno egluro nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gysylltiad â rhedeg neu reoleiddio darparwyr canolfannau cyswllt plant, sy'n sefydliadau annibynnol. Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt Plant yw'r elusen gofrestredig a'r sefydliad ymbarél sy'n gosod y safonau cenedlaethol y mae'r rhan fwyaf o ganolfannau cyswllt plant yn gweithio yn unol â nhw. Mae Cafcass Cymru, fodd bynnag, yn ariannu trefniadau cyswllt dan oruchwyliaeth y llys ledled Cymru i ddarparu gwasanaeth pan fydd y llys teulu yn gorchymyn atgyfeirio i ganolfan gyswllt mewn achosion lle mae gan Cafcass Cymru ei ran, sy'n gofyn bod cyswllt rhwng y plentyn ac aelod o'r teulu a wahanodd. Ond y tu allan i hyn, er enghraifft o ran eu rhedeg nhw fel busnes neu leoliad posibl i ailsefydlu perthnasoedd, nid oes gan Cafcass Cymru unrhyw gysylltiad â'r canolfannau cyswllt.
Nid chafodd cyfiawnder teuluol, fel gwyddoch chi, ei ddatganoli yng Nghymru. Rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd gyda chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Addysg a Chymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant ynghylch tegwch wrth ariannu canolfannau cyswllt plant yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr. Rwy'n derbyn yn llwyr fod rhieni yn bryderus ynglŷn â pha mor fforddiadwy fyddai cael cyswllt mewn canolfan breifat i blant. Rydym ni'n deall bod canolfannau yn ymwybodol o hyn ac efallai y byddan nhw'n gallu cefnogi rhieni a allai fod yn ei chael hi'n anodd talu'r costau hyn neu gyfeirio rhieni at wasanaethau eraill, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector a allai fod o gymorth. Mae hi'n anodd iawn i mi wneud unrhyw sylw ar achos unigol, wrth gwrs, Rhys, ond rydym ni'n derbyn hynny'n gyfan gwbl, serch hynny mae'n un o ymylon garw datganoli, fel rydych chi'n dweud.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Eitem 3 yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Nes ymlaen heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn gwneud datganiad am Tata Steel. O ganlyniad, mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr wedi'i symud i wythnos nesaf. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am dri datganiad yr wythnos hon, os gwelwch yn dda? A gaf i ddatganiad llafar ar ad-drefnu'r GIG yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? Rwy'n gwybod bod hwn yn fater o ddiddordeb sylweddol i Aelodau'r Senedd hon. Roedd cyfle i ofyn rhai cwestiynau byr yn gynharach yn ystod sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog, ond, a dweud y gwir, doedd dim digon o gyfle i Aelodau eraill a oedd â diddordeb gael y cyfle i holi Gweinidogion yn briodol am yr ad-drefnu sylweddol yn yr ardal honno, ac rwy'n credu y byddai datganiad llafar yn ddefnyddiol iawn er mwyn i bobl allu gofyn y cwestiynau sydd ar wefusau eu hetholwyr ar hyn o bryd.
Yn ail, roeddwn i'n synnu nad oedd datganiad llafar gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol heddiw o ystyried ei fod yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Rwy'n gwybod bod datganiad ysgrifenedig wedi'i roi, a bod hwnnw'n cyfeirio at bethau amrywiol, gan gynnwys dathlu gwirfoddolwyr hŷn, yr angen i ymdrin ag oedraniaeth, rhaglen oed-gyfeillgar Cymru, a hyd yn oed sesiynau t'ai chi, ond wnaeth e ddim cyfeirio, wrth gwrs, at y taliadau tanwydd gaeaf y bydd llawer o'n pobl hŷn sy'n agored i niwed yn eu colli y gaeaf hwn, gan gynnwys 30,000 o bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych, ac rwy'n credu ei bod yn briodol bod y Gweinidog cyfrifol yn cael cyfle i ddweud rhywbeth am y pethau hynny. Roeddwn i'n siomedig iawn i beidio â darllen unrhyw gyfeiriad ato yn y datganiad ysgrifenedig a gafodd ei gyhoeddi.
Yn olaf, dros yr haf, cafodd Allwedd Band Eang Cymru, y cynllun grant i helpu pobl i fynd ar-lein a chael cyflymder band eang digonol, ei atal. Nawr, yn amlwg roedd honno'n ffrwd ariannu grantiau bwysig a oedd yn helpu llawer o bobl, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, i gael mynediad at fand eang digonol, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n hanfodol yn yr oes sydd ohoni—nid rhywbeth moethus ydyw; mae'n rhywbeth y dylai fod gan bobl yr hawl i allu cael mynediad ato. Mae'r cynllun hwnnw wedi'i oedi. Roedd y datganiad a gafodd ei gyhoeddi dros yr haf yn awgrymu ei fod yn cael ei oedi am chwe mis. Wn i ddim pam yn union yr oedd yn cael ei dynnu'n ôl ar adeg pan nad oedd cynllun wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu y dylai Aelodau o'r Senedd hon gael cyfle i ofyn cwestiynau i'r Gweinidog perthnasol ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl i rywbeth fod yn weithredol eto i helpu ein hetholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at gyflymder band eang priodol i fynd ar-lein.
Diolch yn fawr, Darren Millar, a diolch am eich cwestiynau. Rwy'n credu o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y newidiadau i wasanaethau, fe gawson ni gwestiynau i'r Prif Weinidog am hyn yn gynharach, ac, yn wir, fe gawsoch chi gyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf. Fe wnaeth bwrdd y bwrdd iechyd drafod a chytuno ar newidiadau dros dro arfaethedig yng nghyfarfod y bwrdd ar 26 Medi, ac roedden nhw ar y materion hynny a gafodd eu gwyntyllu'r prynhawn yma wrth graffu ar y Prif Weinidog, cwestiynau i'r Prif Weinidog, gan gynnwys materion yn ymwneud â'r uned mân anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, ond materion eraill hefyd, o ran y newidiadau hynny. Ymhlith y materion ynghylch newidiadau na chawson nhw eu codi'r prynhawn yma, ond rwy'n credu y gallwn i ddweud hefyd eu bod nhw'n newidiadau a drafodwyd gan y bwrdd, yw'r ddarpariaeth bediatrig i gleifion mewnol ym Mronglais a chyflymu'r model Cylch Caron yn Nhregaron. Nawr, mae hynny'n ddiddorol, oherwydd mae'n gynllun arloesol iawn, felly mae'n ddefnyddiol rhoi hwn ar y cofnod heddiw. Mae'n ymwneud â dod ag amrywiaeth o wasanaethau ynghyd fel canolbwynt ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos. Ac mae hynny hefyd yn enghraifft dda iawn o bartneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n bwysig bod y newidiadau hyn a'r datblygiadau hyn yn cael eu rhannu heddiw wrth i ni edrych ar yr heriau o ran gwasanaethau iechyd yn Hywel Dda hefyd.
Roedd yn bwysig bod datganiad ysgrifenedig ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, ac rwy'n siŵr y byddech chi eisiau ymuno â mi heddiw i groesawu a llongyfarch y comisiynydd pobl hŷn newydd, Rhian Bowen, ac rwy'n gwybod y byddwn ni i gyd yn cwrdd â hi. Yn sicr, rydw i fod i gwrdd â hi cyn bo hir, o ran y cyfleoedd sydd gennym ni, gyda'i rôl annibynnol hynod bwysig, i drafod mentrau ar y cyd. Ac un o'r mentrau roeddwn i'n ymwneud yn fawr â hi gyda'r cyn-gomisiynydd pobl hŷn, oedd cydlynu camau gweithredu torfol ar fanteisio ar gredyd pensiwn. Rwy'n credu ei bod hi wedi chwarae rhan flaenllaw iawn o ran sicrhau bod pobl yn manteisio ar gredyd pensiwn, sy'n hollbwysig wrth gwrs wrth i ni helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cael credyd pensiwn. Ac os byddan nhw'n manteisio ar gredyd pensiwn, a'u bod yn gymwys i gael credyd pensiwn, yna fe fyddan nhw wedyn, wrth gwrs, yn gallu cael mynediad at y taliad tanwydd gaeaf. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar gredyd pensiwn yng Nghymru, ac rwy'n credu yr hoffwn i wneud y pwynt mai dyma pam mae gennym ni siarter budd-daliadau Cymru, gyda phob un o'r 22 o awdurdodau lleol dan sylw, ac rydym yn ceisio datblygu'r ddarpariaeth dosturiol hon o fudd-daliadau, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru. Ond hefyd, oherwydd y cydweithredu hwn â'r siarter, gallwn ni weithio ar ystyried sut allwn ni annog ein dinasyddion i fanteisio ar yr holl bethau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael trwy 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' Advicelink Cymru ar gredyd pensiwn, a dysgu hefyd gan rai o'r prosiectau y mae awdurdodau wedi'u datblygu, fel menter Castell-nedd Port Talbot gyda Policy in Practice, sydd wedi arwain at gynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn yng Nghymru. Dyma'r hyn sydd ei angen arnom er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol ohono, ac rydym i gyd yn gyfrifol am sicrhau hynny, rwy'n gwybod, ac rydych chi wedi fy nghlywed yn sôn am yr ystod lawn o fudd-daliadau y mae gan bobl yr hawl i'w cael.
Gwnaf, fe af ar drywydd Allwedd Band Eang Cymru gyda'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae hynny ar y cofnod nawr. Byddwn ni'n sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru, o ran cynnydd.
Trefnydd, byddwch chi’n ymwybodol, fis Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog adroddiad terfynol Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mi ydym ni i gyd yn y Senedd hon yn ymrwymo bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond, yn amlwg, mae'r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion sy'n gwneud hynny yn gyfan gwbl sicr, gan sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg ni yn mynd o nerth i nerth, yn hytrach na chrebachu. Felly, gawn ni gyfle, drwy ddatganiad llafar, i gael trafodaeth ar lawr y Senedd hon ynglŷn â’r argymhellion sy'n bellgyrhaeddol ac eithriadol o bwysig o ran cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd?
Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig iawn a hefyd rwyf eisiau siarad gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iaith—
—er mwyn gwneud—. Fe wnaf i sicrhau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r cais hwn, a gobeithio—
—bydd datganiad yn symud ymlaen.
Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf ar ofal lliniarol pediatrig. Yn 2016, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru
'I gefnogi'r gwaith hwn, bydd yr Asesiad o Anghenion Gofal Lliniarol Pediatrig yn darparu data cadarn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Mae byrddau iechyd a hosbisau yn cefnogi'r gwaith hwn a fydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2021.'
A all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer gofal lliniarol pediatrig?
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad am ddarparu caeau chwaraeon 3G sy'n addas ar gyfer hoci? Mae lleihad wedi bod yn y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon tîm—yn enwedig hoci. Mae gan Abertawe ganolfan athletau a hoci, ond mae angen mwy o ddarpariaeth, yn enwedig i blant. Mae gan gaeau 4G beil hirach ac mae ganddyn nhw friwsion rwber sy'n atal y bêl hoci rhag rholio. Mae gan gae glaswellt artiffisial bob tywydd 2G arwyneb mwy gwastad, peil byr fel bod y bêl yn gallu llithro. Byddan nhw hefyd yn addas ar gyfer amrywiaeth ehangach o chwaraeon, gan gynyddu'r arlwy amlchwaraeon.
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Mae eich cwestiwn cyntaf yn bwysig iawn o ran y rôl hanfodol honno y mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes yn ei chwarae i gefnogi teuluoedd yn ystod rhai o'r adegau anoddaf yn eu bywydau. Mae'n bwysig cydnabod y datganiad ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a gafodd ei gyhoeddi nôl ym mis Hydref 2022. Mae hwnnw'n nodi bwriad polisi lefel uchel Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal ag oedolion, ac mae bwrdd y rhaglen genedlaethol wedi datblygu rhaglen waith i ysgogi'r ymrwymiadau yn y datganiad ansawdd. Mae cynrychiolwyr hosbisau oedolion a phlant ar y bwrdd cyhoeddus ac maen nhw'n llywio polisi trwy'r gynrychiolaeth hon. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn thema ganolog iawn, yn rhan o'r ffrwd waith, ar gyfer y grŵp cynghori plant a phobl ifanc yn y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes, ac mae rhai canfyddiadau wedi bod yn ddiweddar o'r astudiaeth o gyffredinrwydd gofal lliniarol pediatrig a gomisiynwyd yn ddiweddar, sy'n cael eu defnyddio i lywio'r gwaith hwn. Yn olaf, rydym nawr yn buddsoddi dros £10.5 miliwn y flwyddyn i sicrhau bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n deg o ran mynediad at y gofal gorau posibl. Ac wrth gwrs, roedd y grant costau byw hosbisau untro hwnnw gwerth £4 miliwn yn bwysig iawn yn gynharach eleni, ac roedd yn cynnwys £775,000 ar gyfer hosbisau plant.
O ran eich ail gwestiwn am y caeau hoci—wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn o ran buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon elît. Mae'n rhaglen allweddol ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth. Mae gennym ni fuddsoddiad cyfalaf blynyddol o £8 miliwn i Chwaraeon Cymru, gan gynnwys cyllid ar gyfer caeau glaswellt artiffisial peil byr ar gyfer hoci, ac mae hynny'n cael ei ddosbarthu drwy'r grŵp cydweithredol chwaraeon ar gaeau. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n manylu ar yr anghenion arbennig hynny o ran cyfleusterau o'r math hwn, ac mae Hoci Cymru yn brif bartner yn y grŵp ac mae'n chwarae rhan lawn wrth benderfynu sut i ddatblygu a ble i ddatblygu caeau newydd, ac adnewyddu caeau presennol hefyd.
Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael i oroeswyr strôc? Yr wythnos diwethaf, fe ges i'r fraint o gwrdd â grŵp cymorth yn y Coed-duon, sy'n cynnwys rhai pobl wirioneddol ryfeddol ac sy'n cael ei redeg gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr y Gymdeithas Strôc, gan gynnwys Wendy Williams, Geoff Crook ac Angela Harrington. Yn ystod fy ymweliad, rhannodd y mynychwyr a'r trefnwyr rai o'r heriau a'r brwydrau maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a byddaf i'n mynd ar drywydd llawer ohonyn nhw gyda Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn dilyn y cyfarfod, cysylltodd un aelod o'r grŵp â mi am y sefyllfa ofnadwy yr oedd ef ynddi. Cafodd y person arbennig hwn strôc a gweithiodd yn andros o galed i wneud ei hun yn ffit yn gorfforol fel ei fod yn gallu mynd yn ôl i'r gwaith. Ond yn anffodus, ar ôl gwneud hynny, cafodd ei ddiswyddo. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod mwy o gymorth ar gael i oroeswyr strôc sy'n gallu dychwelyd i'r gwaith ac sydd eisiau gwneud hynny. A byddwn i hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r datganiad daflu rhywfaint o oleuni ar y cymorth sydd eisoes ar gael neu'r cymorth y gellid ei roi ar waith i helpu cyflogwyr i gadw eu staff sydd wedi cael strôc. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Natasha Asghar. Wrth gwrs, mae cymorth sylweddol i oroeswyr strôc. Yn amlwg, rydym yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y llwybr o ran gofal iechyd clinigol, ond, o ran adsefydlu a gallu symud yn ôl i mewn i gyflogaeth—neu i gyflogaeth arall, briodol—mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r cymorth clinigol honno, ond mae'n hanfodol bod cyflogwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, ond hefyd y cyfleoedd hefyd. Felly, diolch i chi am rannu'r profiad hwnnw, ac yn sicr, fe wnaf i fynd ar drywydd hyn o ran y cysylltiadau sy'n cael eu gwneud o ran y cyfleoedd cyflogaeth hynny ac unrhyw rwystrau a all fod yn y ffordd ac, wrth gwrs, mae Gweinidog yr economi yn eistedd wrth fy ymyl i nawr ac rydym yn edrych ar yr holl gyfleoedd. Oherwydd mae hyn hefyd mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod yr ymchwiliad y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—. Mae angen i ni sicrhau bod pobl anabl neu sydd â namau a all ddeillio o strôc yn gallu dychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith.
Yr wythnos yma, rydym ni'n dathlu, gydag agoriad swyddogol ysgol feddygol gogledd Cymru ym Mangor, penllanw blynyddoedd o ymgyrchu’n lleol, a hynny o dan arweiniad Plaid Cymru. Mae Bangor yn prysur ddatblygu fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddiant iechyd, ac, yn gysylltiedig efo hyn, mae yna gynlluniau ar y gweill ar gyfer tair canolfan iechyd a llesiant yn y gymuned, yn Waunfawr, yn Nyffryn Nantlle a Bangor, ac mi fyddwn i'n hoffi gofyn am ddatganiad am y datblygiadau iechyd cymunedol newydd yma yn Arfon, ac, yn benodol, dwi'n deall bod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn trafod buddsoddi yn y ganolfan iechyd a lles yn yr hen Debenhams ym Mangor, sydd efo potensial enfawr i adfywio'r stryd fawr yn y ddinas, yn ogystal â chyfrannu at wella iechyd y boblogaeth a chynnig lleoliadau hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr iechyd, fel y rhai fydd yn yr ysgol feddygol. Fedrwch chi drefnu diweddariad am ganolfan Bangor yn benodol, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian, a diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.
Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog yn edrych ymlaen at—ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn edrych ymlaen at—rwy'n siŵr, a, gobeithio, y byddwch chi yno hefyd, yr agoriad gwych hwnnw o ysgol feddygol gogledd Cymru, sydd, yn fy marn i, yn un o nodau'r Llywodraeth hefyd, ac, yn wir, yn cael ei adlewyrchu yn ein gwaith gyda'n gilydd, fel nod gwirioneddol ar gyfer addysg feddygol yng Nghymru, a nawr mae'n dwyn ffrwyth a bydd yn achlysur gwych, rwy'n gwybod.
Rwy'n credu bod y tair canolfan hynny rydych chi'n sôn amdanyn nhw, sydd yn nyddiau cynnar eu datblygiad, canolfannau iechyd a lles, mae hynny'n swnio'n addawol iawn o ran eich cyfeiriad at y ganolfan bosibl sy'n datblygu ym Mangor ar hen safle Debenhams, ond byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ac, rwy'n siŵr, Aelodau eraill sydd â diddordeb, ar gyflymder y datblygiad hwnnw, oherwydd bydd hyn yn ddibynnol iawn ar weithio gyda Betsi Cadwaladr, ac, yn wir, llywodraeth leol hefyd, o ran cynllunio. Ond mae'n swnio'n addawol iawn o ran y datblygiadau hynny.
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, os gwelwch yn dda, ynglŷn â chodi'r cap ar brisiau ynni gan Ofgem dim ond ddoe? Gyda'r cyhoeddiadau diweddar y bydd prisiau nwy a thrydan cynghorau Cymru yn codi 10 y cant, bydd prisiau ynni gannoedd o bunnoedd yn uwch y gaeaf hwn nag yr oedden nhw'r llynedd. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn adrodd bod dros hanner y rhai sy'n poeni am daliadau biliau yn bwriadu defnyddio llai o wres a dŵr poeth neu roi'r gorau i'w defnyddio y gaeaf hwn. Mae National Energy Action Cymru yn dweud y bydd 51 y cant o oedolion yng Nghymru yn cyfyngu ar yr ynni maen nhw'n ei ddefnyddio, ac mae'r sefyllfa'n cael ei chymhlethu ymhellach gan fod gan Gymru rai o'r tai lleiaf effeithlon o ran ynni yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at gartrefi sy'n gostus ac yn heriol i'w gwresogi, yn ogystal â bod yn fwy agored i damprwydd a llwydni. Mae hon wir yn sefyllfa anghynaladwy yn 2024. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad am y sefyllfa bresennol o ran y rhaglen Cartrefi Cynnes, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn ac yn gwestiynau sydd, mewn gwirionedd, yn drawslywodraethol i raddau helaeth. Felly, o ran y cynnydd yn y cap ar brisiau, yn wir, fel y dywedwch chi, mae'n ergyd i lawer o aelwydydd ledled Cymru sy'n ei chael hi'n anodd talu costau hanfodol. Yn wir, fe wnes i gyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf, cyn grŵp trawsbleidiol ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd, y mae Mark Isherwood yn ei gadeirio, a daeth Ofgem i siarad â'r grŵp hwnnw hefyd, a chawson ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan National Energy Action, ond, wrth gwrs, roedd yr holl bartneriaid, fel Cyngor ar Bopeth, yn cymryd rhan yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw.
Rwyf hefyd yn cyfarfod â chyflenwyr ynni yn ddiweddarach yr wythnos hon. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Sefydliad Bevan, a wnaeth rywfaint o waith ar hyn ac a nododd fod cyflenwyr ynni yn gallu chwarae rhan allweddol. Gallan nhw gefnogi eu cwsmeriaid drwy'r amser anodd iawn hwn gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth mewn argyfwng lle y bo angen. Felly, byddaf yn cwrdd â nhw hefyd, yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Cyn i mi wneud sylwadau ar y rhaglen Cartrefi Cynnes, y mae Jayne Bryant, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â hi fel yr Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i eisiau dweud fy mod i'n edrych ymlaen at gwrdd â'r Gweinidog newydd dros ddefnyddwyr, ar ôl gohebu â'r Ysgrifennydd Gwladol dros ynni, Ed Miliband. Awgrymodd fy mod i'n cwrdd â'r Gweinidog newydd dros ddefnyddwyr, oherwydd rydym eisiau trafod yr angen am dariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. Fe drafodais i hyn gydag Ofgem, yn ogystal â'r materion sy'n ymwneud ag annhegwch sefyllfa pobl o ran taliadau sefydlog, yn arbennig, mae'n rhaid i mi ddweud, yng Nghymru a gogledd Cymru.
Ond o ran y rhaglen Cartrefi Cynnes, rydym yn buddsoddi, fel y gwyddoch chi, £30 miliwn i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Yr hyn sy'n bwysig iawn, ac fe wnaethon ni sôn am hyn yn y grŵp trawsbleidiol, yw bod gennym ni'r cyngor arbenigol hwn am ddim ar ynni sydd ar gael i bob deiliad tŷ yng Nghymru drwy linell gymorth Nyth. Mae'n bwysig iawn bod y gwasanaeth cynghori hwnnw'n helpu'r aelwydydd hynny, gan edrych ar eu hamgylchiadau unigol a'u cyfeirio at y cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, gan gynnwys eu cysylltu ag Advicelink a'u hannog i fanteisio ar fudd-daliadau eraill. Ond dim ond i atgoffa pob cyd-Aelod y bydd aelwydydd cymwys o dan y rhaglen Cartrefi Cynnes yn cael mesur pwrpasol o becynnau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at ostyngiad yn eu biliau ynni i'w symud allan o dlodi tanwydd. Mae swyddogion yn gweithio gyda chontractwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y cynllun newydd sy'n seiliedig ar alw yn ategu cynlluniau effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd eraill, oherwydd mae'n rhaid i ni ddenu cymaint o gyllid â phosibl i Gymru o gynlluniau ledled y DU, a sicrhau bod y cymorth yn cael ei roi i'r rhai y mae ei angen arnyn nhw fwyaf.
Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar hawliau iaith arwyddion. Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar eleni, adeg pan fo pobl yn dod at ei gilydd i gydnabod a dathlu'r gymuned fyddar fywiog. Y thema eleni yw 'Ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion'. Yn ogystal â theimlo cysylltiad â'r gymuned fyddar, dylai pobl fyddar hefyd deimlo cysylltiad â'r gymdeithas ehangach a'r rhai heb nam ar eu clyw. Lle mae pobl yn dod at ei gilydd i ddangos ymwybyddiaeth o bobl fyddar o fewn cymunedau, gellir helpu pobl fyddar i gysylltu'n well ag eraill. Drwy gydol yr wythnos ryngwladol, gallai pobl ddysgu mwy am sut i gyfathrebu â phobl fyddar, gan gyfrannu at newid cadarnhaol a chwalu rhwystrau. Roedd gan bob diwrnod o'r wythnos thema swyddogol, gan gynnwys eiriolaeth iaith arwyddion, lle mae pawb yn cael eu hannog i eirioli'n weithredol dros hawliau unigolion byddar a chydnabod ieithoedd arwyddion cenedlaethol yn swyddogol. Ddydd Llun diwethaf oedd Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion, gyda'r thema 'Ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion', a oedd yn cynnwys galwad ar arweinwyr cenedlaethol. Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hawliau iaith arwyddion yng Nghymru yn unol â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac, yn wir, fe wnaeth Julie Morgan yr wythnos diwethaf, fel y byddwch chi'n cofio fwy na thebyg, ofyn cwestiwn hefyd a gwneud datganiad am Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar, gan ganolbwyntio ar rai o nodau allweddol yr wythnos a'r ymgyrch, 'Ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion'. Felly, mae'n dda, unwaith eto, eich bod chi wedi gallu tynnu sylw at yr holl agweddau gwahanol ar yr ymgyrch honno a'r wythnos ryngwladol honno, o ran y galwadau hynny.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ystyried yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaethau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, ac rydym yn credu y bydd dull mwy cydweithredol a chynhwysol yn effeithiol os gallwn ni gael effaith gadarnhaol ar y gymuned arwyddo BSL yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig o ran y ffaith bod BSL yn cael ei chydnabod fel iaith gyntaf neu ddewis iaith y gymuned fyddar yn y DU, ac yn debyg iawn i'r Gymraeg a'r Saesneg, mae ganddi ei gramadeg, ei chystrawen a'i geirfa ei hun. Yn 2004, gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith yng Nghymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU, fel y cofiwch chi, i sicrhau bod ein cynadleddau i'r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglydd BSL, ac rydym yn gwneud diwygiadau i'n system addysg, sy'n cynnwys cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru a system sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, diolch, unwaith eto—
—unwaith eto, Mark Isherwood, am godi'r mater pwysig iawn.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y sefyllfa mae trigolion Caerau yn ei hwynebu, a oedd yn rhan o gynllun Arbed. Y rheswm pam fy mod i'n gofyn am y datganiad ysgrifenedig hwn eto yw, yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn y gofynnais i'r Prif Weinidog, fe ddywedodd hi fod gwaith wedi dechrau ar y tai, ar yr eiddo y gwnaeth y cynllun effeithio arnyn nhw. Arweiniodd hyn at ymateb rhwystredig iawn gan drigolion, oherwydd hyd y gwyddon nhw, dydy'r gwaith hwnnw ddim wedi dechrau eto. Ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu rhai o'r materion rydym wedi'u cael yn ystod y saga gyfan hon. Yn gyntaf, nad oes eglurder i drigolion; mae gwahanol sefydliadau wedi rhoi gwahanol wybodaeth i drigolion a'r peth olaf y gwnaethon nhw ei glywed oedd bod y gwaith i fod i ddechrau ar 5 Awst, rwy'n credu. Yn ail, nad oes unrhyw waith papur, felly pan ofynnir i drigolion wneud penderfyniad ynghylch a ydyn nhw eisiau i waith gael ei wneud ai peidio, does dim byd yno iddyn nhw yn ysgrifenedig i gael gwell dealltwriaeth, a does ganddyn nhw ddim mynediad at arolygon blaenorol sydd wedi'u cynnal ar eu tai hefyd. Felly, yr hyn rwy'n gobeithio y gallai datganiad ysgrifenedig ei wneud yw rhoi rhywfaint o'r eglurder hwnnw ar sut mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Warmworks yn cydweithio i ddatrys rhai o'r materion hyn. Gobeithio, wedyn, y bydd hynny'n grymuso trigolion i wneud penderfyniadau sy'n gywir iddyn nhw.
Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Diolch am ddod â hyn yn ôl, oherwydd yn amlwg, rwy'n cofio'r cwestiwn i'r Prif Weinidog a'r ymateb cadarnhaol iawn a ddaeth yn ôl ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei gyflawni. Ond fe wnaf i fynd â hyn yn ôl. Mae angen i bob partner gymryd cyfrifoldeb ac mae'n dda ein bod ni wedi cael yr adborth hwn yn uniongyrchol gan y trigiolion y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw.
Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol mai dim ond y rhai sy'n cael credyd pensiwn sydd hefyd â hawl i barhau i gael y lwfans tanwydd gaeaf. Felly, gan adeiladu ar y gwaith mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i wneud, sydd wedi arwain at roi £250,000 ychwanegol i bensiynwyr yn yr ardal honno, o ganlyniad i'r ffaith nad oedden nhw'n gwybod eu bod yn gymwys i'w gael, a chan ddal yr wybodaeth sydd gan bob awdurdod lleol am amgylchiadau unigol, ac yng ngoleuni'r gwaith caled rydych chi wedi'i wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, o ran sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn cofrestru ar gyfer y siarter budd-daliadau, a gawn ni ddatganiad gennych chi, yn eich rôl fel yr Ysgrifennydd dros gyfiawnder cymdeithasol, ar sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r siarter budd-daliadau i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn nodi'r miloedd o bobl ledled Cymru nad ydyn nhw'n hawlio'r credyd pensiwn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael?
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n falch bod hyn wedi codi fwy nag unwaith y prynhawn yma mewn cwestiynau i mi fy hun, fel Trefnydd. Fe lwyddais i i ddweud ychydig eiriau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am siarter budd-daliadau Cymru yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau hon. Mae'n bwysig, ac rwy'n cofio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ac, erbyn hyn, ein Hysgrifennydd Cabinet newydd dros lywodraeth leol—. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â llywodraeth leol yn gweithio, yn arbennig, gydag Advicelink, 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' ac adnoddau credyd pensiwn sy'n annog pobl hŷn i fanteisio ar gredyd pensiwn.
Felly, byddwn i'n dweud ein bod ni wedi edrych ar Gastell-nedd Port Talbot a Policy in Practice. Mae'n draciwr teuluoedd incwm isel; yr enw arno yw offeryn LIFT y gwnaeth yr awdurdod lleol wahodd ac, yn wir, ariannu, Policy in Practice—. Mae'n gynnyrch masnachol y gwnaeth y cyngor ei brynu gan Policy in Practice, ac mae'n ei alluogi i nodi'n rhagweithiol aelwydydd sy'n gymwys i gael credyd pensiwn. Cafwyd cyhoeddusrwydd da yr wythnos diwethaf o ran yr hyn y gwnaeth hynny ei gyflawni. Mae offeryn LIFT Policy in Practice yn defnyddio data hawlio budd-daliadau o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i nodi, targedu ac olrhain budd-daliadau heb eu hawlio ac effeithiau diwygiadau lles.
Felly, gallaf eich sicrhau ei fod ar frig fy rhestr blaenoriaethau ddoe, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i ofyn i fy swyddogion archwilio hyn, o ran ein cyfleoedd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw edrych nid yn unig ar sut mae'r offeryn hwn yn gweithio'n ymarferol, ond mae yna offer eraill ar gael hefyd. Rydym yn edrych ar ffrydiau gwaith dylunio a data i archwilio dewisiadau ar gyfer rhannu data'r Adran Gwaith a Phensiynau yn well, a dylai hynny helpu pob awdurdod lleol i efelychu'r math hwn o waith, nid o reidrwydd drwy ddefnyddio offeryn fel hyn bob amser, oherwydd, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'r siarter yn eu galluogi i fanteisio ar y cyfle hwn, ond mae'n ddefnyddiol dysgu'r gwersi o'r enghraifft benodol honno yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gydnabod i raddau helaeth, ac mae hyn yn rhywbeth i'w rannu eto heddiw, bod angen i ni gyflwyno'r hawliadau hyn erbyn 21 Rhagfyr er mwyn i bobl fod yn gymwys i gael y taliad tanwydd gaeaf eleni.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar filiau ynni? Heddiw, rydym wedi'u gweld yn cynyddu tua 10 y cant yma yng Nghymru, ac mae hynny er gwaethaf y ffaith bod Keir Starmer wedi dweud wrthym pan oedd yn arweinydd yr wrthblaid,
'mae gan y Blaid Lafur gynllun wedi'i gostio'n llawn i rewi biliau ynni'.
Yn wir, yn ystod ymgyrch yr etholiad, aeth ef ymhellach, gydag addewid i dorri biliau ynni gan £400, pe bai Llafur yn ennill yr etholiad. I wneud pethau'n waeth, mae wedi torri'r lwfans tanwydd gaeaf, gan wneud biliau ynni hyd yn oed yn ddrytach i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth fyddwch chi'n ei wneud am filiau ynni, neu wynebu'r risg o gael eich ystyried yn yr un ffordd ag y mae'r cyhoedd yn ystyried Keir Starmer ac yn meddwl, 'Allaf i ddim credu gair mae'r dyn hwn yn ei ddweud'?
Wel, rwy'n gobeithio, Tom Giffard, eich bod chi wedi gwrando arnaf yn gynharach y prynhawn yma pan oeddwn i'n ymateb ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru: y ffaith fy mod i wedi cwrdd ag Ofgem yr wythnos diwethaf ac yna fe aethon ni i'r grŵp trawsbleidiol ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd; y ffaith, fel rwyf wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma, fy mod i'n cwrdd â chyflenwyr ynni yr wythnos hon i'w hannog nhw i gefnogi eu cwsmeriaid trwy'r cyfnod anodd hwn; y ffaith fy mod i'n cyfarfod â Gweinidog defnyddwyr Llywodraeth y DU i godi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, ac, yn wir, i godi'r materion y gwnes i eu codi gydag Ofgem ar daliadau sefydlog.
Rydym wedi siarad am Gartrefi Cynnes. Rwy'n gobeithio, hefyd, y bydd Tom Giffard, a phawb yn y Siambr hon, wedi darllen fy llythyr atoch am y cynlluniau penodol sydd gennym yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a dyled ynni. Dim ond yng Nghymru y mae'r Sefydliad Banc Tanwydd, nid yw yn Lloegr; mae ganddyn nhw bartneriaeth yn yr Alban hefyd. Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi rhoi £5.6 miliwn o gyllid i alluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno'r cynllun talebau tanwydd a chronfa wres genedlaethol yng Nghymru. Felly, fe fyddwch chi, gyda'ch etholwyr, rwy'n gobeithio, yn gweld fy mod i wedi ysgrifennu atoch chi gyda'r holl wybodaeth hon ac yn gweld y gall y cynllun hwn helpu'r aelwydydd cymwys hynny sy'n rhagdalu am eu tanwydd, ond hefyd mae'n helpu gyda dosbarthu olew neu nwy i'r rhai nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy. Mae gennym ni rwydwaith o 126 o bartneriaid atgyfeirio yng Nghymru, ac, yn wir, fe allwch chi, eich hun, a phob un ohonon ni ddod yn bartneriaid atgyfeirio i'r Sefydliad Banc Tanwydd.
Byddaf yn rhannu mwy o wybodaeth am hynny, ond a fyddech cystal hefyd â chyfeirio eich etholwyr at y gronfa cymorth dewisol. Mae honno'n gronfa argyfwng sy'n cael ei harwain gan alw, fel y gwyddoch chi, ac rydym wedi cynnal y gyllideb i mewn i'r flwyddyn hon ar £38.5 miliwn. Gall pobl fanteisio ar grantiau ar gyfer cymorth mewn argyfwng, gan gynnwys taliadau arian parod ar gyfer bwyd, nwy a thrydan—felly, costau tanwydd—hefyd. Hefyd, wrth gwrs, rydym eisiau annog pob grŵp oedran—y rhai mewn angen—i fanteisio ar y gronfa cymorth dewisol. Felly, mae yna amrywiaeth lawn o ymatebion rydym yn eu rhoi ar waith, gyda'n pwerau, gyda'n mentrau, ond hefyd, yn wir, rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y pwyntiau hyn.
O’r amryfal gyhoeddiadau a datganiadau rydyn ni wedi’u cael dros y misoedd diwethaf ynghylch cynhyrchu bwyd, ariannu amaeth, ac yn y blaen, yr un datganiad dydyn ni ddim wedi ei gael ydy unrhyw beth ynghylch pysgodfeydd a dyframaeth. Dwi wedi codi, sawl gwaith hyd yma, pwysigrwydd y sectorau yma, a sut mae’r sectorau yma bellach ar eu gliniau. Cymerwch yr enghraifft cregyn gleision, lle roeddwn nhw’n casglu 12,000 tunnell y flwyddyn ambell i flwyddyn yn ôl. Bellach, mae nhw lawr i bron i ddim un tunnell yn cael ei gasglu; y flwyddyn diwethaf, ddaru nhw gasglu 1,000 tunnell yn unig, ond roedd hwnna’n eithriad. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch strategaeth glir gan y Dirprwy Brif Weinidog ar ddyframaeth a physgodfeydd, a pha rôl mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn gweld mae’r sectorau yna yn gallu ei chwarae yn nyfodol economi Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae'n wych bod y Dirprwy Brif Weinidog yn eistedd wrth fy ochr. Wrth gwrs, o wybod am ei brofiad blaenorol, yn weinidogol, mewn Llywodraeth y DU fel Gweinidog Pysgodfeydd, does gen i ddim amheuaeth y bydd yn mynd yn ôl nawr i ofyn i'w swyddogion baratoi ymateb i chi. Mae ganddo gwestiynau ymhen wythnos, ond cyn hynny, gwn y bydd yn edrych ar holl fater ein buddsoddiad a'n hymrwymiad i ddyframaeth yn y ffyrdd rydych chi wedi'u disgrifio.
Ac yn olaf, Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddatganiad gan Ysgrifenydd y Cabinet ar faterion gwledig, fel ei fod e’n gallu esbonio i ffermwyr Cymru sut mae e’n disgwyl iddyn nhw nawr i ddelio gyda’r cyfnod clo—y closed period—yma sydd o’n blaenau ni yn sgil rheoliadau’r NVZs, pan fod y storfeydd slyri yn dal yn hanner, tri chwarter llawn, nifer ohonyn nhw, oherwydd ei bod hi wedi bod mor wlyb, a’r tir mor feddal, dyw ffermwyr ddim wedi gallu cael hwnna mas i’r caeau?
Ydyn nhw i fod i'w roi e ar y caeau yn y dyddiau nesaf yma, gyda’r effaith fydd hynny yn ei gael, a’r goblygiadau difrifol a fydd yn dod yn sgil hynny? Neu a ydyn nhw i fod i'w adael e yn y slurry pit, a fydd, o bosib, yn gorlifo dros y cyfnod nesaf yma, oherwydd eu bod nhw wedi methu â chlirio'r storfeydd ar gyfer y cyfnod clo? Dwi’n amau y bydd goblygiadau tipyn mwy pellgyrhaeddol petai hynny’n digwydd.
Beth yw cyngor y Llywodraeth i ffermwyr Cymru ynglŷn â sut i gwrdd â’r deadline yma rŷch chi wedi'i osod ar y diwydiant yn sgil eich penderfyniad chi i lynu wrth ffermio yn ôl y calendr, pan nad yw byd natur, wrth gwrs, ddim yn cadw llygad ar y calendr ac yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn?
Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfarfod â'r undebau ffermio ynghylch y materion hyn. Mae hyn yn adlewyrchu'n gryf y cyfrifoldebau sydd gan y Dirprwy Brif Weinidog dros fynd i'r afael â newid hinsawdd hefyd, ac effeithiau tymhorol ac annisgwyl hynny. Gallaf eich sicrhau y bydd hyn yn cael sylw nawr. Ac unwaith eto, mewn cwestiynau yr wythnos nesaf, rwy'n credu y bydd yn briodol iawn codi hyn hefyd, wrth i gamau gael eu cymryd.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 4 heddiw yw’r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar lifogydd a pharatoi ar gyfer y gaeaf. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad. Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau heddiw trwy ddweud fy mod i'n ymwybodol iawn o effeithiau difrifol llifogydd ar gartrefi, bywoliaeth pobl, ac, yn wir, eu bywydau. Ac mae’n ddrwg calon gennyf glywed am y llifogydd ofnadwy sydd wedi digwydd yn Lloegr dros yr wythnos diwethaf hefyd. Rwyf yn cydymdeimlo gyda’r holl gymunedau a phobl yn sgil llifogydd sydd wedi effeithio eu heiddo. Rwy’n deall pa mor ofidus yw pobl am ddiogelwch eu cartrefi a’u busnesau wrth i’r gaeaf agosáu. Dyna pam fod gwarchod ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol yn bwysig iawn i mi yn y rôl hwn, ac i’r Llywodraeth hwn hefyd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth effeithiol ar lawr gwlad a fydd yn diogelu ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd.
Dirprwy Lywydd, er ein bod yn gwneud cynnydd tuag at sero net, mae angen i ni hefyd ymateb i effeithiau newid hinsawdd yr ydym eisoes yn eu gweld yn ein cymunedau ac yn ein bywydau. Y gaeaf diwethaf oedd un o'r rhai cynhesaf a'r gwlypaf erioed. Dangosodd realiti beth fydd byw gyda llifogydd mwy aml a difrifol, lefelau'r môr yn codi a chyfraddau cyflymach erydu'r arfordir yn ei olygu yng Nghymru, rydym fel arfer yn gweld pump neu chwech o stormydd wedi'u henwi yn ystod unrhyw dymor gaeaf. Gwelsom 11 y llynedd. Dyma'r ail waith yn unig mewn tymor storm yn y DU pan fu cymaint ohonyn nhw yn peri i ni gyrraedd y llythyren K yn yr wyddor stormydd. Ac eto, er gwaethaf hyn oll, roedd nifer yr eiddo a ddioddefodd lifogydd y llynedd yn is na'r blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod dros 100,000 o eiddo eisoes yn elwa yn sgil ein rhwydwaith o amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos bod lle mae'n bwrw glaw, a'r dwyster a hyd y glawiad hwnnw, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r effeithiau ar gymunedau.
Ni allwn fod ac ni fyddwn yn hunanfodlon. Gwyddom nad yw'n bosibl atal pob erydiad arfordirol na phob achos o lifogydd, ond mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau'r canlyniadau a helpu i greu cymunedau mwy cydnerth ledled Cymru. Wrth i ni ddechrau tymor gaeaf arall, hoffwn sicrhau pobl Cymru bod gennym brosesau sydd wedi eu hymarfer yn drylwyr ar waith, yn y cyfnod cyn ac yn ystod digwyddiadau llifogydd. Dydyn ni ddim yn aros am y glaw trwm cyn i ni weithredu; mae gennym fframweithiau cadarn ar waith i fonitro perygl llifogydd drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein tîm diogelwch a chydnerthedd cenedlaethol yn cynhyrchu rhagolwg ddwywaith y flwyddyn o gydnerthedd Cymru. Mae hyn yn rhoi darlun cyfunol o'r holl risgiau hysbys, gan gynnwys llifogydd, i gynorthwyo ein gwaith cynllunio cydnerthedd cyffredinol yng Nghymru. Mae'r pedwar fforwm cydnerthedd lleol yn cynhyrchu cynlluniau tywydd difrifol unigol, sy'n cynnwys y trefniadau ar gyfer tywydd arferol sy'n gysylltiedig â misoedd y gaeaf. Mae'r rhain yn nodi'r risgiau a'r mesurau lliniaru sydd eu hangen yn eu hardaloedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r Ganolfan Darogan Llifogydd a'r Swyddfa Dywydd i asesu effeithiau posibl llifogydd, yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf ac amodau'r dalgylch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu CNC ac awdurdodau lleol i ymgymryd â gweithgareddau ymwybyddiaeth a chydnerthedd llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn cefnogi'r buddsoddiad mewn seilwaith a'r atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae'r holl waith hwn yn cael ei ategu gan fframwaith ymateb llifogydd Cymru, sydd ar gael ar-lein.
Wrth gwrs, ac fel yr ydym wedi gweld dros yr wythnos ddiwethaf gyda'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn Lloegr, mae llifogydd yn broblem ar draws y DU, sy'n aml yn cyfiawnhau ymateb ar draws y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, mae fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n agos gyda swyddogion cyfatebol yn y DU i sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig. Fis diwethaf, cymerodd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ran yn y tasglu cydnerthedd llifogydd yn y DU, a gynullwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Bydd y tasglu yn cefnogi gwaith trawsffiniol, amlasiantaethol rhwng y Llywodraeth a diwydiant i sicrhau ein bod yn barod ac yn gydnerth ar gyfer y gaeaf. Mae'r cydlynu ar lefel genedlaethol hwn eisoes yn cael ei adlewyrchu ar lawr gwlad. Mae Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, ac mae awdurdodau rheoli risg Cymru sy'n ffinio â Lloegr yn cydweithredu ag awdurdodau cyfatebol yn Lloegr.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y dasg dan sylw: amddiffyn cartrefi a busnesau rhag llifogydd. Rwy'n falch iawn ein bod yn cynnal ein cyllid lefel uchaf erioed ar gyfer ein rhaglen rheoli llifogydd eleni, sef £75 miliwn, ac mae hyn er gwaethaf pwysau ar y pwrs cyhoeddus. Mae hyn yn cyfateb i gyllid y llynedd, sef y dyraniad blynyddol uchaf o gyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma. Felly, hyd yn oed pan fydd y DU yn wynebu amgylchiadau economaidd anodd, rydym wedi ymrwymo i gyflawni newid gwirioneddol a sicrwydd ym mywydau pob dydd pobl.
Mae ein cynlluniau yn gwneud cynnydd da, Dirprwy Lywydd. Er enghraifft, mae CNC yn adeiladu un o'u cynlluniau mwyaf erioed, yn Stryd Stephenson, Casnewydd. Bydd y cynllun £21 miliwn hwn o fudd i dros 2,000 o eiddo. Mae CNC hefyd wedi cwblhau eu cynllun gwerth £6 miliwn yn Rhydaman yn ddiweddar, a fydd yn lleihau llifogydd i 349 o gartrefi a 37 eiddo amhreswyl. Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn yr agoriad swyddogol ym mis Medi, ochr yn ochr â'r Prif Weinidog. Mae ein hawdurdodau lleol hefyd yn bwrw ymlaen â chynlluniau yn gyflym. Ym mis Mai, roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol y cynllun £6 miliwn ym Mae Hirael, a ariannwyd drwy ein rhaglen rheoli risg arfordirol. Ar draws Cymru, rydym wedi gweld prosiectau wedi'u cwblhau'n ddiweddar, gan gynnwys yng ngorsaf bwmpio Heol Glenbói yn Rhondda Cynon Taf, Quarry Ffinant yn sir Gaerfyrddin, a Heol y Garreg yng Nglyn-nedd.
Ond rwy'n gwybod bod mwy i'w wneud, ac rwy'n deall y bydd llawer o deuluoedd a busnesau ledled Cymru yn poeni am lifogydd y gaeaf hwn. Felly, hoffwn dynnu sylw at rai adnoddau y gallai pobl eu gweld yn ddefnyddiol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Yn ddiweddar, mae CNC wedi lansio eu system rhybudd llifogydd amnewid newydd, sy'n wasanaeth gwybodaeth amlgyfrwng i rybuddio am lifogydd yng Nghymru. Byddant yn rhannu rhagor o wybodaeth am y system yn ystod eu hwythnos lifogydd yr wythnos nesaf. Rwy'n annog pawb i gofrestru ar gyfer rhybuddion ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd a pheryglon posibl o lifogydd. Mae gan CNC ganllawiau hefyd ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd sydd ar gael ar eu gwefan. Rwy'n annog Aelodau yn gryf i gyfeirio eu hetholwyr at wasanaeth adyswiriant llifogydd ledled y DU, Flood Re, sy'n caniatáu i berchnogion tai gael mynediad at yswiriant fforddiadwy hyd yn oed os ydynt wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol.
Dirprwy Lywydd, rhaid i ni i gyd fod yn effro i beryglon llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyhoedd yn chwarae rôl hollbwysig o ran gwella cadernid cymunedol. Drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau gyda’n cymdogion, gallwn gryfhau’n rhwydweithiau cymorth a helpu’n gilydd i fod yn barod. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau mwy cadarn ledled Cymru, a all wrthsefyll yr heriau sydd ynghlwm wrth lifogydd, tywydd garw a newid hinsawdd. Diolch yn fawr.
Diolch yn garedig am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Yn anffodus, fel y nodoch yn briodol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dioddef effeithiau dinistriol llifogydd. Fodd bynnag, er gwaethaf buddsoddiad parhaus, mae llifogydd yn parhau i beri risgiau sylweddol i'r wlad, ac yn wir ddim mwy felly nag yn y gogledd hefyd. Mae'r risg o lifogydd yn ogystal â'r gost o'u rheoli yn cynyddu'n barhaus gyda newid hinsawdd, gyda digwyddiadau tywydd eithafol fel y stormydd yng ngaeaf 2019 a 2020 i'w gweld yn rhy aml. Hyd yn oed nawr, pan fyddwn yn cael glaw, mae'n barhaus, ac mae mwy o law yn disgyn mewn 24 awr nag erioed o'r blaen. Y gaeaf diwethaf, cyhoeddwyd 483 o rybuddion llifogydd gan CNC rhwng Ionawr ac Ebrill, ac mae hynny'n gynnydd o 16 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Wrth gymharu degawdau 1991 i 2000 a 2013 i 2022, mae gaeafau yn y DU gyfan 10 y cant yn wlypach. Yn amlwg, mae ein ffyrdd, rheilffyrdd ac aneddiadau yn wynebu mwy o heriau, a gyda hynny daw cost.
Mae dros 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd o'n hafonydd, ein moroedd a'n dŵr wyneb ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod tua un o bob wyth eiddo yng Nghymru yn wynebu'r posibilrwydd o drychineb Beiblaidd. Yn anffodus, fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig grantiau i'r deiliaid tai hyn er mwyn gosod mesurau gwrthsefyll a chydnerthedd, yn hytrach maen nhw'n dibynnu ar awdurdodau lleol i ddosbarthu arian, sy'n golygu bod mynediad yn gyfyngedig ac yn ysbeidiol, gyda dim ond 594 o gartrefi wedi'u diogelu drwy'r cynllun penodol hwnnw yn 2021. Wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach, a gyda'n tywydd gwych yng Nghymru yn mynd yn wlypach, mae Cymru unwaith eto yn paratoi ar gyfer llifogydd sy'n anochel.
Rwy'n ymwybodol bod cynnydd yn cael ei wneud mewn nifer o feysydd, ac mae rhai syniadau a phrosiectau a fydd, rwy'n credu, yn rhoi rhai atebion i ni. Un sy'n ymddangos yn gymharol syml yw adfer afonydd i'w troadau a'u dolennau naturiol. Drwy gael gwared ar ymdroelli naturiol afon, rydym wedi tarfu ar lif afonydd ac wedi diraddio cynefinoedd dyfrol ac ansawdd dŵr, ac rydym wedi cynyddu'r perygl o lifogydd. Mae afonydd hir, ysgubol wedi cael eu lleihau i ddyfrffyrdd syth, sy'n llifo'n gyflym, ac mae hyn yn cyfrannu'n helaeth at rai o'n llifogydd. Mae arbenigwyr amgylcheddol wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd mabwysiadu technegau rheoli llifogydd naturiol yn ail-alluogi afonydd i ymdroelli, gan adfer rhwystrau llifogydd naturiol natur. Bydd y dull hwn hefyd yn creu rhannau o'r afon lle gall graean mân gronni, gan ddarparu amgylchedd delfrydol i bysgod a silod ffynnu. Gyda CNC eisoes yn gweithredu'r dull hwn drwy eu Prosiect Pedair Afon LIFE yn y canolbarth a'r de, sut y byddwch chi fel y Gweinidog yn ehangu prosiectau tebyg er budd yr ardaloedd hynny ledled y gogledd?
Mae'r gogledd yn rhoi cynnig ar fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd a thywydd eithafol. Mae prosiect dalgylch uchaf afon Conwy yn gweithio i adfer ystad Ysbyty yn ôl i ddalgylch iach a chadarn gydag adnoddau pridd a dŵr wedi'u rheoli'n dda, gan gynnwys ecosystem fawnog gwbl weithredol. Gan gwmpasu maint Ynys Wyth, mae'r dalgylch yn gorchuddio 3 y cant o arwynebedd Cymru, ac mae'n cynnwys 12 corff dŵr dros 574 cilomedr, lle maent wedi adfer rhan o Afon Machno yn ddiweddar drwy gael gwared ar arglawdd artiffisial. Mae hyn wedi helpu i ailgysylltu'r afon â'i gorlifdir naturiol, gan wneud mwy o le ar gyfer dŵr a natur, sydd, yn eu tro, yn helpu i leddfu'r llifogydd i lawr yr afon. Mae'r prosiect ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn fenter sy'n ehangu'n gyflym. Felly, pa ddyfodol allwch chi ei weld, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, ar gyfer mwy o brosiectau fel hyn? A pha bartneriaethau ydych chi'n meddwl y gellir eu meithrin i'w hehangu ledled Cymru?
Yn olaf, dros yr haf, rwyf wedi bod yn ymchwilio i gyflwr ein cronfeydd dŵr ledled Cymru. Rwy'n pryderu bod cronfeydd dŵr sy'n eiddo preifat yn cael eu hanwybyddu, gyda rhai o bosibl mewn perygl mawr o achosi llifogydd a difrod sylweddol. Mewn un achos, mae gen i gronfa ddŵr, lle mae CNC yn defnyddio ei argae ar hyn o bryd ar gyfer mynediad, gyda cherbydau adeiladu enfawr a thrwm ofnadwy yn croesi'n aml. Mae'n ymddangos nad oes llawer o gefnogaeth ar gael i gronfeydd dŵr preifat ar gyfer eu cynnal a'u cadw. O ystyried bod y rhain yn peri perygl llifogydd enfawr posibl, rwy'n synnu gweld mai dim ond cyllideb flynyddol o £20,000 sydd gan dîm rheoleiddio cronfeydd dŵr CNC. I mi, dydi hynny ddim yn swnio'n ddigonol o gwbl—
Allwch chi ddod i ben nawr, Janet?
Iawn. Gyda thua 20 o gronfeydd dŵr dan berchnogaeth breifat yng Nghymru, wedi'u dynodi'n risg uchel gan CNC, a hanner ohonynt i fod i gael eu hadolygu o fewn y pum mlynedd nesaf, a allwch chi egluro pam y dyrennir cyllideb mor gyfyngedig i CNC? A beth allwch chi ei wneud i fynd i'r afael â'r risgiau cynyddol a achosir gan hyn? Diolch.
Diolch, Janet—a rhai pwyntiau da iawn yn y fan yna—yn gyntaf oll, am eich cydnabyddiaeth bod newid hinsawdd, yn wir, yn ysgogi hyn, y cynnydd yn nifer ac amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd trawmatig. Ni ellir neilltuo yr un ohonynt i newid hinsawdd, ond y patrwm heb os, consensws y byd a'r consensws gwyddonol yw bod hyn bellach yn cael ei ysgogi gan newid hinsawdd. Ac mae'n golygu nid yn unig bod yn rhaid i ni ymateb i hyn gyda'r hyn a wnawn gyda lleddfu a lliniaru llifogydd, ond mae'n rhaid i ni hefyd wneud yr hyn a allwn fel cenedl, ac mae'n rhaid i bob cenedl ei wneud, o ran ceisio cyrraedd y 1.5 y cant hwnnw, sy'n bell i ffwrdd ar hyn o bryd, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond oherwydd ein bod ar y trywydd iawn i ragori ar y targed hwnnw, mae'n rhaid i ni wneud cymaint mwy. Felly, diolch am hynna.
Ni allwn atal pob digwyddiad llifogydd, pob digwyddiad erydu arfordirol, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, ond rydym wedi rhoi'r symiau uchaf erioed o gyllid i mewn iddo. Ac o ran y cydnerthedd llifogydd lleol, mae hwn yn bwynt mor bwysig, oherwydd rydym yn aml yn edrych ar y cynlluniau mawr, y cynlluniau mawr drud gwerth miliynau o bunnau, ac maent yn bwysig iawn—yr un y soniais amdano yn gwarchod 2,000 o gartrefi gan un ymyrraeth enfawr gwerth miliynau o bunnau—ond, mewn gwirionedd, mae'r hyn a wnewch ar lefel stryd a lefel tŷ unigol yr un mor bwysig. Ond byddwn i'n dweud y cyllid rydyn ni'n ei drosglwyddo i awdurdodau lleol i wneud hynny—. Nhw yw'r rhai rydyn ni'n eu galw nid yn unig yn 'awdurdodau lleol' ond yr 'awdurdod llifogydd lleol arweiniol' hefyd, a nhw sydd yn y sefyllfa orau—maen nhw mewn gwirionedd—i wybod pa strydoedd, pa gartrefi allai elwa ar y mesurau unigol hynny a fydd yn rhoi cydnerthedd i aelwydydd unigol yn ogystal â chydnerthedd lefel stryd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â gweithio gyda'r holl bartneriaid a chael yr arian i'r partneriaid cywir i wneud y peth iawn.
Rwyf mor falch eich bod wedi sôn am y syniad o adfer ein hafonydd i'w dolennau a'u troadau naturiol. Mae'n hollbwysig, a dros ddegawdau rydym wedi sythu gormod o afonydd. Ac efallai ei fod yn sythu'r llif drwy'r darn hwnnw, ymhell heibio'r ddôl lifogydd, ond mae hynny'n golygu ei fod yn llifo'n uniongyrchol i gymuned ymhellach i lawr, ac mae'n cyrraedd yno'n gyflymach ac yn ôl pob tebyg gyda digwyddiad hyd yn oed yn fwy a thrawmatig. Felly, mewn gwirionedd, rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw defnyddio'r prosesau naturiol hynny, felly edrych ar, lle gallwn ni, gan ddefnyddio dolydd llifogydd, lle gallwn ni ail-ymddolennu afonydd yn naturiol—fel y dywedwch chi, atebion naturiol. A byddwn yn annog pob Aelod i ymgysylltu â CNC, nid yn unig yn y gogledd ond hefyd ledled Cymru, ynghylch sut rydym hefyd yn defnyddio prosesau naturiol—fel y dywedoch chi, mwy o le ar gyfer dŵr a natur.
Bydd dŵr yn dod o hyd i ffordd. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw ei arafu, ac mae hynny'n golygu rhoi'r coed cywir yn y lleoedd cywir, nid ar dir amaethyddol pwysig, na, rwy'n deall hynny i gyd, ond eu cael nhw yn y lleoedd cywir, ond hefyd ymddolennu'r afonydd, gan ddefnyddio prosesau naturiol. Ac mae'r un peth, gyda llaw, yn berthnasol ar yr arfordir. Felly, yr hyn rydyn ni'n ei wneud yno, gan ddefnyddio cydnerthedd rhai o'n—mewn gwirionedd. Rwy'n fachgen o ogledd Gŵyr yn wreiddiol—rwy'n hoffi'r corsydd a'r aberoedd. Rhai o'r pethau hynny yw ein hamddiffynfeydd mwyaf, os ydym yn eu cynnal yn iawn, a'r cynefinoedd hynny o amgylch ein harfordir. Nid yw'n ymwneud o hyd ag amddiffynfeydd caled.
Ar fater y cronfeydd preifat—pwynt, pwysig iawn—dim ond i'w gwneud yn gwbl glir, o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, perchenogion cronfeydd dŵr, y perchnogion preifat, sydd â'r cyfrifoldeb yn y pendraw am ddiogelwch eu cronfeydd dŵr—a gwelais un ar werth yn ddiweddar, a meddyliais, 'Wel, mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r hyn rydych chi'n ymgymryd ag ef yma'—ac o unrhyw gostau cysylltiedig. Nid yw'n wir ar gyfer y Llywodraeth. Ond Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod rheoleiddio sy'n goruchwylio cydymffurfiaeth diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru, ac fel yr awdurdod rheoleiddio, mae ganddynt y brif ddyletswydd i sicrhau bod y perchnogion cronfeydd dŵr hynny yn cadw at y Ddeddf Cronfeydd Dŵr ac yn cydymffurfio â hi. A phan nad ydynt yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf, mae gan CNC ystod o bwerau gorfodi ar gael iddo, gan gynnwys ymgymryd â gwaith angenrheidiol i gynnal gweithrediad diogel y cronfeydd dŵr, a cheisio hawlio'r costau hyn wedyn. Felly, mae mesurau diogelwch ar waith yma. Ond mae angen i bob perchennog cronfa ddŵr breifat wybod bod ganddo gyfrifoldeb ac atebolrwydd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad. Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, wrth gwrs, mae meddyliau pawb yn troi at y perygl o lifogydd, achos mae hynny'n parhau i dyfu fel perygl. Hyd yn oed o dan yr amcangyfrifon mwyaf optimistaidd, erbyn 2050 rydyn ni'n disgwyl i law y gaeaf gynyddu dros 6 y cant, ac erbyn 2080 mae'r ffigur hwnnw'n codi i 13 y cant. I wlad fel ein gwlad ni, mae hyn yn troi'n risgiau dinistriol i fywyd, cartrefi a bywoliaethau. Os ydyn ni'n meddwl jest am ffigurau ac am flynyddoedd sydd mor bell i ffwrdd yn y dyfodol, mae pobl weithiau yn gallu meddwl, 'O, wel, mae hwnna'n rhywbeth sy'n bell i ffwrdd.' Na, mae e'n cael effaith mor ofnadwy ar realiti bywyd pobl. Heddiw, mae dros 245,000 o eiddo yng Nghymru—tua un o bob wyth—eisoes mewn perygl o lifogydd. Allwn ni ddim fforddio aros nes bod y risgiau hyn yn cynyddu'n fwy cyn inni gymryd camau cadarn, dwi'n siŵr y byddech chi'n cytuno. Hoffwn i wybod, plis, pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau o lifogydd ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, a sut mae hyn yn llywio cyfeiriad y polisi?
Ni ellir anwybyddu, wrth gwrs, effaith anghymesur llifogydd ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae aelwydydd tlotach, yn arbennig, yn wynebu realiti llawer mwy llym o ran paratoi ar gyfer llifogydd ac adfer ohonynt. Gwyddom fod hyd at 61 y cant o rentwyr incwm isel yn byw heb yswiriant cartref. Mae hwnna'n eu gadael yn gwbl agored os ydyn nhw'n cael eu taro gan lifogydd. Felly, pa gymorth wedi'i deilwra y mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei gynnig i helpu'r aelwydydd hyn, nid yn unig i oroesi'r llifogydd ond i ddiogelu eu cartrefi o flaen llaw? Ydych chi'n gweithio gyda darparwyr yswiriant i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i aelwydydd sydd fwyaf mewn perygl?
Rhaid inni hefyd sicrhau bod busnesau, yn enwedig busnesau bach lleol, yn cael y gefnogaeth gywir i wneud eu heiddo nhw yn wytnach. A allwch chi amlinellu'r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a lliniaru risgiau llifogydd i gartrefi a busnesau y gaeaf hwn, os gwelwch yn dda?
Ac yn olaf, ond nid y lleiaf o bell ffordd yn hyn i gyd, nid yw'r dinistr a achosir gan lifogydd yn ffisegol yn unig. Rwy'n gwybod bod hwn yn bwynt y mae fy nghyd-Aelod Heledd Fychan wedi ei wneud dro ar ôl tro hefyd. Mae llifogydd yn achosi trawma seicolegol. Mae pobl yn colli eu cartrefi, maen nhw'n colli eu hatgofion ac maen nhw'n colli eu teimlad o ddiogelwch. Rwyf wedi codi o'r blaen yr angen am gymorth pwrpasol wedi'i deilwra i blant yn enwedig lle bu llifogydd yn eu cartrefi. Rwy'n cofio yn 2020 siarad gyda rhai trigolion yn Ystrad Mynach. Roedden nhw wedi dioddef llifogydd, ac roedd ofn ar eu plant bob tro roedd hi'n bwrw glaw yn drwm, ac roedden nhw'n argyhoeddedig y byddai'n rhaid iddyn nhw ffoi yn y nos. Roedden nhw'n poeni am ddiogelwch eu hanifeiliaid anwes, oedd yn cysgu lawr grisiau, ac nid oedden nhw'n gallu cysgu rhag ofn i'r dyfroedd ddod yn ôl a lladd eu hanifeiliaid anwes. Pa warant allwch chi ei rhoi i ni na fydd unrhyw gefnogaeth seicolegol—unrhyw gymorth seicolegol brys, oherwydd mae gwir angen hynny—yn cael ei weld fel ychwanegiad braf i'w gael i unrhyw strategaeth, ond y bydd yn gonglfaen iddi? Oherwydd mae llifogydd yn difetha bywydau, ond gellir cuddio'r creithiau y maen nhw'n eu gadael.
Delyth, diolch yn fawr iawn. Mae nifer o bwyntiau pwysig iawn yn y fan yna. Y cyntaf yw, yn wir, nad yw hwn yn fater sy'n bell i ffwrdd, mae yma nawr, ac os edrychwn ni ar y mapio llifogydd ac erydu arfordirol yr ydym wedi'i wneud er enghraifft, mae'n dangos yn glir iawn y cymunedau hynny, wrth ochr afonydd, o fewn cymoedd, ond hefyd ger yr arfordir, sydd â'r risg uchaf ar hyn o bryd, yn ogystal â mewn 30, 40, 50 mlynedd, a 100 mlynedd. Ac mae'r rhagamcanion, os ydym yn parhau fel yr ydym ni gyda chynhesu byd-eang, yn hynod arwyddocaol, ac mae angen i ni roi'r gobaith i bobl y gallwn roi'r offer iddynt i ymdrin â hyn mewn gwirionedd, y gallwn ni weithio gyda chymunedau fesul achos, fel nad yw'r cyfan yn anobeithiol ac y gallwn ddod o hyd i ffordd trwy hyn. Ac fe effeithir ar rai cymunedau ar hyn o bryd, effeithir ar eraill mewn blynyddoedd a degawdau i ddod, a dyna'r math o ymgysylltiad y mae angen i ni ei wneud.
Mae hynny'n berthnasol i'r mater allweddol arall a ddywedoch chi, sef nad mater o gyfiawnder hinsawdd yn unig yw hwn, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd. A phan fydd pobl yn dweud, 'Wel, beth ydych chi'n ei olygu gyda'r termau rhwysgfawr yna?', mae hyn yn cosbi pobl nad oes ganddynt y gallu i symud allan o'u cartrefi i ail gartref. Rhywun ymhell i fyny'r Rhondda, neu rywun sydd wedi ymddeol ac wedi symud i eiddo arfordirol yn eu blynyddoedd hwyr gan feddwl bod popeth yn fendigedig ac yn awr yn gweld beth yw'r heriau, ac nid oes ganddynt ddewisiadau amgen, wel, mae angen i ni weithio gyda nhw a darparu ar eu cyfer. Mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol go iawn. Mae hynny'n golygu, gyda llaw, bod yn rhaid i ni dargedu'r arian sydd ar gael yn ofalus iawn, iawn, oherwydd byddwn yn aml yn cael cwestiynau, a fy rhagflaenwyr i hefyd, yn gofyn, 'Wel, allwch chi ddim lledaenu'r arian yn ehangach? Er enghraifft, a allwch chi ddiogelu ardaloedd mwy o dir amaethyddol?' Ac mae'n bwynt da; yr her mewn gwirionedd yw sut rydych yn cydbwyso hynny yn erbyn yr angen i ddiogelu 2,000 o gartrefi, busnesau neu gymunedau cyfan. Felly, mae'n rhaid i ni dargedu, a bydd hynny'n ein helpu gyda'r ddadl cyfiawnder cymdeithasol, a'r ffordd yr ydym yn gweithio hynny drwy'r system i sicrhau bod y nifer fwyaf o gartrefi, eiddo a busnesau yn cael eu diogelu. A hefyd, mae'n rhaid i ni barhau, fel yr ydym wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, i sicrhau bod gennym yr uchafswm arian sydd ar gael ar gyfer hyn. Rydym wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, eleni a'r flwyddyn flaenorol, sef y lefel uchaf erioed honno o gyllid, ac mae hynny'n ddatganiad o fwriad arwyddocaol gan y Llywodraeth hon—ein bod am helpu pobl drwy hyn.
Fe wnaethoch chi godi'r mater o'r trawma personol y mae hyn yn ei achosi yn amlwg iawn, a'r pryder iechyd meddwl hefyd, a byddwch chi fel fi wedi siarad â phobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Rwyf wedi bod allan gyda'r Aelodau hefyd, o'ch meinciau chi a'm meinciau i fy hun, i siarad â phobl wyneb yn wyneb, ac rwyf wedi gweld hyn ymhell yn ôl, ers 2008, pan siaradais â phobl yn llifogydd Cumbria hefyd. Rydym yn cael mwy o hyn yn fwy rheolaidd. Felly, mae angen i chi ymdrin nid yn unig â'r effeithiau yma yn awr, ond hefyd yr effeithiau parhaus, oherwydd mae hwn yn brofiad trawmatig. Os bydd mwd a dŵr budr i fyny i linteli eich busnes neu eich cartref, hyd yn oed pan gaiff ei lanhau, hyd yn oed pan fydd wedi sychu, mae rhai o'r rheini, gan gynnwys plant o fewn y teulu, ond yr oedolion hefyd, y mae hwn yn unig gartref iddynt—mae angen i chi fod gyda nhw a pharhau i roi'r gefnogaeth honno iddyn nhw.
Byddaf yn fodlon iawn i gael y sgwrs honno gyda fy nghyd-Weinidogion, ond yn y cyfamser hefyd mae swm aruthrol yr ydym yn ei wneud eisoes i gefnogi ac mewn partneriaeth â rhai o'r fforymau llifogydd cymunedol—a hynny'n amlwg iawn ar lefel gymunedol, ac mae llawer ohonyn nhw bellach ledled Cymru—gyda chefnogaeth sefydliadau, fel CNC, ond hefyd y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. Ac nid ydyn nhw ond yn gwneud pethau fel, 'Sut ydyn ni'n gwneud eich eiddo'n fwy cydnerth?' Maen nhw hefyd yn siarad am sut y gallwn fod yn llai diymadferth wrth wynebu digwyddiadau llifogydd. Sut y gall cymunedau gydweithio i roi cymorth i'w gilydd, y gefnogaeth y byddai cymdogion da yn ei rhoi, yn ogystal ag arbenigedd, ac yn ogystal â dwy fraich gref i'ch helpu i godi pethau allan o'r ffordd. Ond mae hefyd yn ymwneud a chymunedau yn dod at ei gilydd cyn, yn ystod ac ar ôl i weithio gyda'i gilydd.
Diolch am y pwyntiau rydych chi wedi'u codi. Rwy'n credu, wrth fynd i mewn i'r gaeaf hwn, gyda'r mesurau yr ydym wedi'u nodi, a'r ymyraethau sydd gennym ar waith, a'r fframwaith sydd gennym, ein bod mewn lle cystal ag y gallwn fod ynddo, ond nid fyddwn yn gallu atal pob achos o lifogydd, ac os oes byddwn ni'n cael achosion o lifogydd, ac rwy'n siŵr y byddwn ni—byddwn i wrth fy modd yn gallu sefyll yma a dweud na fyddwn ni—yna mae angen i ni fod gyda'r bobl hynny i'w helpu drwyddi hefyd.
Rwy'n croesawu eich datganiad ar y buddsoddiad o £75 miliwn ar gyfer lliniaru llifogydd. Yn flaenorol, rwyf wedi galw am gynllun cydnerthedd cenedlaethol fel y gall perchnogion tai a busnesau fod yn fwy cydnerth a bod â chynlluniau ar waith pe bai llifogydd yn digwydd. Yn y gorffennol maen nhw wedi tybio y bydd y cyngor yn dod â bagiau tywod, neu'r gwasanaeth tân, ond pe gellid darparu rhywfaint o gyllid o'r £75 miliwn hwnnw fel y gallant gael cyllid, neu wneud cais am gyllid, i wneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw eu hunain, byddem yn gwerthfawrogi hynny, fel y crybwyllwyd yn flaenorol.
O dan berchnogaeth glannau afon, mae tirfeddianwyr yn gyfrifol am ffosydd a chwlfertau, gan gynnwys wrth ymyl priffyrdd. Nid ydynt wedi cael eu cynnal a'u cadw'n iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac yna mae dŵr yn draenio i'r briffordd, sy'n achosi erydiad. Ni all ceunentydd fynd â'r cyfan ac yna mae dŵr yn mynd i mewn i eiddo, sy'n digwydd mewn sawl man o gwmpas fy ardal i. Mae rhagdybiaeth y bydd cynghorau neu CNC yn gwneud y gwaith cynnal a chadw, ond, o dan berchnogaeth glannau afon a chyfraith glannau, y tirfeddianwyr hynny sy'n gyfrifol. Mae cynghorau wedi gofyn am gymorth i godi ymwybyddiaeth o hyn, felly a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn helpu gyda hyn, gan weithio gyda thirfeddianwyr a chyrff cyhoeddus ar ymgyrch? Diolch.
Carolyn, diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweld y ffenomen yr ydych yn cyfeirio ati mor aml, lle mae gennych chi, p'un a yw'n dir amaethyddol neu'n dir datblygiad adeiladu a gynhelir yn wael, gorlifiadau yn dod yn sgil gorlifoedd sydyn, er enghraifft, neu hyd yn oed mewn cyfnod hir o dywydd trwm, ac mae'r ceunentydd wedi'u llenwi ac mae'r ffosydd draenio a oedd wedi eu cynnal yn gorlifo, ac mae'r cynghorau'n gorfod talu am hynny, gan lanhau'r ceunentydd ac ymdrin â gorlifoedd sydyn sydd bellach wedi blocio'r ffordd honno ac ati. Credaf fod y neges yn glir iawn yma. Gyda pherchnogion glannau afon, mae rhwymedigaeth yma iddyn nhw wneud mwy eu hunain, ac, er ein bod yn gwneud llawer yma drwy'r Llywodraeth, mae angen wedyn i unrhyw un sy'n berchen ar rywbeth sydd â nant, ffos, afon, edrych ar eu heiddo eu hunain hefyd a sut y bydd hwnnw'n ymateb wrth i ni wynebu'r digwyddiadau tywydd mwy trawmatig hyn. Ac mae hynny'n cynnwys pob busnes, pob ffermwr, pob unigolyn sydd â thipyn o eiddo, beth bynnag—meddyliwch sut mae hyn yn mynd i effeithio, achos dydy e ddim yn mynd i fod yn niweidiol, efallai, i'ch eiddo chi, ond pan fo'n rhedeg allan i'r ffordd honno ac mae'n cau'r ffordd ac yna mae'n rhaid i chi gael cynghorau i mewn a chodi'r—.
Felly, gadewch i mi gyfeirio, Carolyn, oherwydd mae gen i rywfaint o ganllawiau CNC yma, a byddwn yn annog Aelodau yn gryf i gyfeirio eu hetholwyr atynt ac mae'n dweud yno wrth berchnogion glannau afon:
'Rhaid ichi gadw'r glannau'n glir o unrhyw beth a allai achosi rhwystr neu gynyddu'r perygl o lifogydd, naill ai ar eich tir neu i lawr yr afon os caiff ei olchi i ffwrdd. Chi sy'n gyfrifol am gynnal gwely a glannau'r cwrs dŵr a'r coed a'r llwyni sy'n tyfu ar y glannau. Dylech hefyd glirio unrhyw sbwriel a symud carcasau anifeiliaid o'r sianel a'r glannau, hyd yn oed os na ddaethon nhw o'ch tir chi.'
'Rhaid i chi gadw unrhyw strwythurau, fel cwlfertau, sgriniau brigau, coredau a gatiau melin, yn glir o falurion.'
'Os na fyddwch yn cyflawni eich cyfrifoldebau, gallech wynebu camau cyfreithiol."
Nid ydym eisiau gweld hynny'n digwydd. Rydyn ni eisiau i berchnogion cyfrifol weithio gyda ni, oherwydd mae hynny'n rhan o hyn, heb os. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Bydd mis Chwefror nesaf yn nodi tri deg pump o flynyddoedd ers llifogydd dinistriol Tywyn, a oeddent wrth gwrs nid yn unig wedi effeithio ar Dywyn, ond hefyd wedi effeithio ar bob man rhwng Pensarn a'r Rhyl. Ar y pryd, roeddwn i'n byw yn Nhywyn ym Mae Cinmel, lle rydw i'n dal i fyw nawr, bryd hynny, a phrofais y dinistr pan ddigwyddodd y llifogydd hynny. Wrth gwrs, mae newyddion i'w groesawu i drigolion yn Nhywyn a Bae Cinmel gan fod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cyflawni buddsoddiad sylweddol yn yr amddiffynfeydd llifogydd arfordirol ym Mae Cinmel. Mae'r gwaith newydd ddechrau—gwerth £13 miliwn o waith, ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl er mwyn atal llifogydd i dros 2,000 o gartrefi.
Ond mae yna wendid o hyd yn yr ardal leol, ac mae hynny oherwydd glan chwith Afon Clwyd. Ac yn anffodus, nid yw lefel y diogelwch rhag llifogydd o lan chwith Afon Clwyd, sy'n gyfrifoldeb CNC yn gyfan gwbl, yn ddigonol i'r awdurdod lleol allu codi'r moratoriwm ar ddatblygu cartrefi newydd a datblygiadau eraill yn y gymuned benodol honno. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau ar dai, a'r angen am fwy o dai, ac mae digon o le yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, ond heb y buddsoddiad hwnnw nid ydym yn mynd i allu gwireddu hynny.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, Darren.
Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa waith y bydd yn ei wneud gyda CNC i edrych ar y posibiliadau ar gyfer buddsoddi yn lan chwith Afon Clwyd er mwyn i ni allu diogelu cymunedau lleol, oherwydd mae ei angen yn ddirfawr a does dim cynnydd wedi bod ers dros 15 mlynedd bellach?
Darren, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, fe wnaf yr ymrwymiad y byddwn yn cysylltu â CNC ac yn gofyn iddynt gysylltu â chi. Ni allaf honni un peth sef fy mod yn beiriannydd llifogydd, felly ni wnaf fynegi barn arbenigol ar lan chwith Bae Cinmel. Ond diolch i chi am gydnabod y buddsoddiad sy'n digwydd, ac mae'n bwysig bod CNC yn parhau wedyn i weithio gyda'r trigolion lleol, cymunedau lleol hefyd, a'r tirfeddianwyr, i fwrw ymlaen ag unrhyw gynnig. Felly, byddaf yn fodlon gofyn i'm swyddfa gysylltu â CNC, gofyn iddynt gysylltu â chi er mwyn i chi allu trafod hynny gyda nhw. Ond rwy'n siŵr y gwnewch chi fy esgusodi os nad wyf yn mentro barn ar ddatrysiad peirianyddol neu ddatrysiad prosesau naturiol ar gyfer lan chwith Bae Cinmel heddiw.
Efallai eich bod yn ymwybodol bod Parc Gwledig Loggerheads wedi gorfod cau yn gynharach heddiw oherwydd llifogydd difrifol. Mae'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi yno wedi cau. Rwy'n gwybod bod y felin, yr oriel, yr ystafelloedd gwirfoddoli a'r gerddi te wedi dioddef llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer rhannau o'r Wyddgrug heddiw, gan gynnwys Leadmill, Ponterwyl, Glanrafon, Pentre a Broncoed, ac mae ffyrdd yn Sandycroft wedi eu cau oherwydd llifogydd heddiw. Nawr, rydych chi'n dweud yn eich datganiad—ac rwy'n cytuno â'ch datganiad—nad ydych chi'n aros am y glaw trwm cyn i chi weithredu, ond, wrth gwrs, mae glaw trwm yn digwydd pan nad ydych chi wedi gweithredu hefyd mewn rhai ardaloedd. Felly, a allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r cymunedau hynny, fel y rhai yr wyf wedi'u crybwyll ac eraill, os a phryd daw'r gwaethaf ar y gwaethaf? Ac a wnewch chi ystyried yn benodol pa gymorth y gallech ei gynnig i Barc Gwledig Loggerheads oherwydd, yn eironig, roeddent wrthi'n gwneud gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd ar hyn o bryd, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn rheolaidd?
Ydy, a chredaf ei fod yn adlewyrchiad o'r ffaith, fel y dywedais i yn fy natganiad agoriadol, hyd yn oed gyda maint y buddsoddiad yr ydym yn ei roi i mewn nawr a'r fframwaith yr ydym wedi'i roi y tu ôl i baratoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd, ni fyddwn yn gallu gwneud popeth ar unwaith, a byddwn yn dal i gael ein dal allan—mae'n anochel y byddwn ni. Ac, mewn gwirionedd, nid yw tueddiad cynyddol y digwyddiadau tywydd trawmatig hyn fel y rhai yr oeddem yn arfer eu hadnabod, lle gallech bron â rhagweld yr ardal a fyddai, bob 30, 40 mlynedd, yn cael ei tharo. Nawr rydyn ni'n eu cael nhw'n llawer mwy rheolaidd yn yr ardaloedd hynny, ond hefyd mewn ardaloedd nad oeddem ni erioed wedi'u disgwyl o'r blaen. A gallaf gofio sefyll yno yn y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd—fel yr oedd bryd hynny—canolfan gyfunol yn edrych ar hyn, a'r wybodaeth yn cyfeirio at hynny, eiliad mewn diwrnod penodol, pryd byddai modfeddi o law yn disgyn ac ni fyddai'n symud o leoliad penodol.
Ond yn bendant mae gennych fy ymrwymiad fel y Gweinidog i wneud yn siŵr y bydd ein hasiantaethau i gyd, gan gynnwys yr awdurdodau lleol sydd â'r cyfrifoldebau ymateb i lifogydd a rheoli llifogydd yn lleol—CNC ac eraill—yn ymgysylltu â Loggerheads ac eraill i siarad nid yn unig am yr hyn sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd, ond mewn gwirionedd wrth symud ymlaen hefyd. Ond, unwaith eto, peidiwch â gadael i mi fod yr un sy'n gweithio gyda nhw mewn gwirionedd ac yn dylunio'r cynllun—nid fy arbenigedd i yw hynny—ond gyda'r buddsoddiad rydyn ni'n ei roi ynddo a hefyd yr angen i wneud hyn, nid cyflawni atebion llifogydd ar gyfer pobl ond gyda phobl mewn gwirionedd ac i weithio gyda nhw ar beth yw'r ffordd orau ymlaen. Ond rwy'n cydymdeimlo, ydw wir. Mae'n ymddangos ein bod bob dydd yn sefyll yma nawr yn siarad am ddigwyddiad llifogydd arall. Ond byddwn yn dal ati, gyda'ch cefnogaeth chi hefyd, gan flaenoriaethu lle gallwn roi'r buddsoddiad llifogydd hwnnw.
Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ychwanegu fy llais at y gwahanol sylwadau a wnaed, yn enwedig am yr effaith y mae llifogydd wedi'i chael ar gymunedau, ac yn enwedig ar iechyd meddwl y cymunedau hynny? Fel y gwyddoch chi, ym mis Chwefror 2020, cafodd Pontypridd, llawer o Rondda Cynon Taf a rhannau eraill o Gymru, ond Pontypridd yn benodol, eu dinistrio gan lifogydd difrifol iawn. Ac fe dreuliais i a'r Aelod Seneddol, Alex Davies-Jones, lawer o oriau yn ymgysylltu â chymunedau lleol, ac mewn sawl ffordd roedd yn deyrnged i gryfder ein cymunedau sut y daethant ynghyd, a chredaf hefyd ymrwymiad y gweithwyr cyngor hynny a oedd allan yn ystod tywydd o'r fath yn gwneud popeth i geisio lliniaru'r llifogydd.
Ond dangosodd ein bod wedi ein synnu gan faint y newid hinsawdd a'r effaith a gafodd. Bryd hynny fe wnaethom lunio adroddiad, a oedd mewn gwirionedd yn mynegi holl safbwyntiau'r gymuned leol a llunio nifer o argymhellion, y mae llawer ohonynt bellach wedi'u rhoi ar waith: y gwaith atgyweirio i'r ddwy bont ym Mhontypridd yn bwysig; yr offer sydd ar gael o ran bagiau tywod, offer ar gyfer tai ac ati; yr angen am lysgenhadon lleol; yr angen am ymarferiadau a rhybuddion llifogydd ac ati. Ond, wrth gwrs, mae'r mater o gynnal a chadw yn hanfodol, a phobl, pan fo tywydd gwael, oherwydd eu hatgofion, maen nhw'n edrych ar yr afon, maen nhw'n edrych ar y cwlfertau, i weld—
Mick, mae angen i chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda.
—bod y gwaith cynnal a chadw wedi cael ei wneud. A gaf i ofyn i chi pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y lefelau hynny o waith cynnal a chadw yn cael eu cynnal, ac a allech chi amlinellu pa lefelau o fuddsoddiad sy'n digwydd, yn enwedig yn ardal Rhondda Cynon Taf ac ardal Pontypridd, i sicrhau ein bod yn gwbl barod os bydd tywydd o'r fath eto? A byddaf hefyd yn anfon copi o'r adroddiad hwn atoch i'ch atgoffa chi.
Mick, diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n rhoi nodyn atgoffa amserol i ni, wrth i ni wynebu'r digwyddiadau heddiw, ond hefyd wrth symud ymlaen, bod angen i ni ddiolch i'r bobl hynny sy'n weithwyr cyngor sy'n aml yn cael eu dirmygu, a staff CNC hefyd, a pheirianwyr, a fydd allan yna yn y tywydd gwaethaf yn ceisio datrys problemau mewn gwirionedd, Ac maen nhw'n haeddu ein diolch yn fawr. Rwyf wedi eu gweld, rydym i gyd wedi eu gweld, yn y tywydd gwaethaf, yn ceisio datrys problemau wrth iddynt gael eu taro â'r digwyddiadau tywydd trawmatig hyn.
Ond, ym Mhontypridd, rydych chi'n hollol gywir; rwy'n credu yn ôl pob tebyg ar gefn yr amlygu a wnaed gennych chi ac Alex ac eraill, y bu buddsoddiad sylweddol ym Mhontypridd. Nid dim ond y seilwaith caled, fel y pontydd ac ati, ond hefyd rhywfaint o'r buddsoddiad yn y cydnerthedd cymunedol hwnnw hefyd, gan weithio gyda'r gymuned. Ond bellach, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyllid cyfalaf o £679,000 yw'r ffigur diweddaraf sydd gen i—swm sylweddol o gyllid. Mae angen i ni sicrhau, gyda'n partneriaid lleol ar lawr gwlad, bod hynny'n cael ei gynnal ac ati, ond hefyd y buddsoddiad meddal hwnnw mewn cydnerthedd cymunedol hefyd—cydnerthedd tai unigol, ond mewn gwirionedd gweithio gyda chymunedau lleol i wneud yn siŵr nad ydyn nhw, fel y cododd Delyth yn gynharach, yn teimlo'n ddiymadferth ond yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i weithio gyda'i gilydd mewn gwirionedd, wrth symud ymlaen. Felly, mae ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, fel y dywedais i, wedi bod ar y lefel uchaf erioed ers y ddwy flynedd ddiwethaf; byddwn yn cadw'r buddsoddiad hwnnw i fynd, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad, os wnewch ei roi i mi, Mick.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Efallai fod y Llywodraeth yn dweud yr holl bethau iawn heddiw, ond nid yw geiriau'n werth llawer pan fyddwch chi'n sefyll yn eich ystafell fyw a'r dŵr i fyny at eich pengliniau.
A gaf i dynnu sylw'r Ysgrifennydd Cabinet at y sefyllfa yn Ynysgynwraidd yn sir Fynwy? Dioddefodd y pentref lifogydd erchyll yn ystod storm Dennis yn 2020, ond, ers hynny, rydym wedi gweld mwy o lusgo traed yn hytrach na gweithredu ar gynllun amddiffyn rhag llifogydd. Ym mis Medi 2023, dywedwyd wrth bentrefwyr fod cynnydd wedi arafu oherwydd—syrpreis, syrpreis—diffyg arian. Yna, ym mis Mai 2024, cawsom wybod bod oedi oherwydd anallu CNC i ddod o hyd i reolwr prosiect i ddylunio cynllun. Ysgrifennydd Cabinet, mae trigolion Ynysgynwraidd yn haeddu mwy na llif o esgusodion. Byddwn yn ei werthfawrogi pe byddech chi'n cymryd diddordeb personol yn y mater hwn, ac a allech chi roi gwybod i mi, yn ddelfrydol cyn y llifogydd nesaf, pa gamau pendant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r gymuned hon? Diolch.
Laura, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n meddwl y gallaf roi rhyw fath o ddiweddariad i chi yma, yn awr, heddiw. Yn gyntaf oll, fel pawb yr effeithir arnyn nhw gan lifogydd, estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant atyn nhw. Mae'n brofiad erchyll.
Nawr, yr hyn rwy'n ei ddeall yw bod CNC wedi penodi ymgynghorwyr a rheolwr prosiect i arwain ar ddatblygu achos amlinellol strategol. Mae sawl cam i'r broses hon, ac rwyf wedi siarad ag Aelodau eraill hefyd. Mae rhoi'r achos at ei gilydd ar gyfer y buddsoddiad yn dipyn o beth i'w wneud, i sicrhau mai dyma'r cynnig cywir a'i fod y gwerth am arian cywir hefyd. Felly, bydd yr achos amlinellol strategol yn dadansoddi'r risg i'r gymuned ac yn ystyried yr atebion posibl hynny. Rwy'n deall bod rhywfaint o rwystredigaeth yn y gymuned, a ddioddefodd orlifo sawl blwyddyn yn ôl nawr, nôl yn 2020, ynghylch yr amser a gymerir i ddatblygu cynllun yn Ynysgynfrith, ond fe wnaeth CNC, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, y penderfyniad anodd i oedi datblygu cynllun dros dro yn erbyn cefndir sylweddol—a byddwch yn gyfarwydd â hyn mewn meysydd polisi eraill—o chwyddiant adeiladu ar y pryd, sy'n parhau i effeithio ar eu rhaglen gyfalaf. Ond, yn y cyfamser, mae CNC wedi parhau i ddatblygu'r cynllun yn fewnol. Maen nhw'n cysylltu â rhanddeiliaid amgylcheddol allweddol hefyd, gan gynnwys pobl fel ymddiriedolaeth archeolegol Gwent ac eraill—rhanddeiliaid lleol. Felly, maen nhw'n benderfynol o fwrw ymlaen â hyn. Ond rwy'n credu y byddent hefyd yn mynegi eu cydymdeimlad â'u rhwystredigaethau oherwydd yr amser y mae wedi cymryd, ond os daw cynllun yn ei flaen, mae angen iddo fod y cynllun cywir ar gyfer y gymuned honno yn Ynysgynfrith.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn pan wnaethoch chi ymweld â Theras Clydach a thrigolion Ynysybwl yn ddiweddar. Tybed, roedd cwestiwn penodol wedi ei godi bryd hynny. Rydych wedi cyfeirio nifer o weithiau at waith gwych y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. Byddwch yn gwybod bod eu harian wedi dod i ben ddoe. A oes gennych ddiweddariad ynghylch a fydd y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn parhau i weithio gyda'r gymuned honno, wrth iddynt barhau i fyw mewn ofn ac o dan fygythiad llifogydd? A gaf i ofyn hefyd, a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ddatblygu fforwm llifogydd yng Nghymru? Mae angen un tebyg i'r Alban, rwy'n credu, yn daer iawn, oherwydd fel y dywedwch chi, ni allwn achub pob cartref, pob busnes, rhag llifogydd, ond gallwn helpu i'w cefnogi trwy'r cyfnod hynod drawmatig hwn. Ni allwn adael iddyn nhw fod yn ofnus bob tro y bydd hi'n bwrw glaw, yn methu cysgu, ar feddyginiaeth gwrth-bryder, y pwysau ar y GIG y mae'n achosi hefyd. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried sut y gallwn greu'r cydnerthedd hwnnw, oherwydd mae'r adnoddau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn annigonol i ymdrin â maint yr her sy'n wynebu ein cymunedau ledled Cymru?
A gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i chi a Vikki am y gwahoddiad i ddod i fyny a chwrdd â'r trigolion yno yn y ganolfan gymunedol, ond hefyd i gerdded y stryd yr effeithiwyd arni? Roedd yn dda cwrdd â nhw a chlywed eu straeon unigol a chlywed y gefnogaeth ganddynt i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. Roedd yn foment effeithiol iawn yna. Rwyf wedi ei glywed o'r blaen hefyd, am waith y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, nid yn unig y gwaith y maent yn ei wneud yn uniongyrchol, ond i gefnogi cymunedau, ac wrth feithrin y gallu yn y cymunedau hynny i fod â'r cydnerthedd eu hunain wrth symud ymlaen. Oherwydd un o'r pethau y mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol wedi'i wneud yw'r gair ofnadwy hwnnw sydd wedi'i orddefnyddio, ond wedi gweithio gyda chymunedau grymus, i gymryd perchnogaeth o hyn eu hunain mewn gwirionedd wrth baratoi ar gyfer rhybuddion llifogydd a'u cynorthwyo a'u lledaenu, a hefyd ôl-effeithiau llifogydd.
Nawr, ni allaf roi ateb pendant i chi heddiw, ond gallaf ddweud wrthych fy mod yn ystyried y sylwadau cryf a wnaed ynghylch parhad gwaith y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. Rwy'n gweld manteision y gwaith maen nhw'n ei wneud. Rwy'n credu, pa bynnag ffordd yr ydym yn ei wneud, mae angen i ni sicrhau bod y cydnerthedd cymunedol hwnnw'n parhau wrth symud ymlaen, ond rydym yng nghanol ein trafodaethau arferol yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'n gilydd o fewn y Llywodraeth, am ddyraniadau cyllideb a blaenoriaethau ac ati. Ond clywais yn gryf iawn ac yn uchel iawn yn y gymuned honno gymaint yr oeddent yn teimlo am waith y ddau neu dri unigolyn hynny o'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a oedd wedi gweithio'n ddwys gyda nhw yno. Felly, mae'n amlwg yn fy meddwl, rwyf wedi clywed y neges, ond ni allaf roi ymrwymiad i chi yma, ar hyn o bryd, heddiw.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i yn Aberaeron ddydd Gwener a siaradais ag etholwyr a groesawodd y buddsoddiad o £32 miliwn yn eu tref sy'n mynd i helpu i atal llifogydd, ond yr hyn yr oeddwn yn arbennig o falch ohono oedd cynnwys ac ymgysylltu ag ysgolion, a'u hannog i ddod yn beirianwyr sifil. Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil, ICE, wedi meddiannu'r maes hwn ers degawdau lawer ac wedi cael canlyniadau da yn unol â hynny, yn enwedig wrth ledaenu'r amrywiaeth o fewn y gweithlu hwnnw, sy'n hanfodol. Felly, gofynnaf a wnewch chi ymuno â mi i groesawu ymdrechion BAM Nuttall, ysgolion lleol, RAY Ceredigion ac eraill, sydd wedi gweithio tuag at annog pobl ifanc i ddeall a hefyd i wireddu eu potensial i ddod yn beirianwyr sifil y dyfodol.
Gwnaf, yn sicr, Joyce, a diolch i chi am godi hynny oherwydd, yn rhyfedd, weithiau, pan fyddwn yn siarad am swyddi gwyrdd, rydym yn siarad am ynni adnewyddadwy ac ati, ond mewn gwirionedd, p'un a yw mewn atebion peiriannyddol caled neu atebion proses naturiol, mae yna swyddi medrus iawn ar gael sy'n talu'n dda, a dylent fod i bawb, dynion a menywod, bechgyn ifanc a merched sy'n gweithio eu ffordd drwy'r ysgol. Rwy'n credu bod Sefydliad y Peirianwyr Sifil a phobl fel Cymdeithas Beirianneg y Merched wedi gwneud llawer iawn wrth hyrwyddo'r llwybrau gyrfa hynny i ferched ifanc yn ogystal â dynion ifanc, ac yn ennill rhywfaint o dir, ond mae angen i ni barhau i wneud hynny. Rwy'n siŵr y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn eu gwaith, hefyd eisiau cyfleu'r un neges, yn yr holl waith y maent yn ei wneud ar lawr gwlad, oherwydd mae'r raddfa hon o gyllid yr ydym yn ei roi i mewn yn cynnig cyfleoedd i bobl, wrth i ni chwilio am yr amddiffynfeydd llifogydd a'r lliniaru llifogydd y mae angen i ni ei wneud, fel y gall pobl gael gyrfaoedd hir a ffrwythlon ynddo hefyd, gan weithio gyda'r cymunedau, dylunio'r atebion peirianyddol hynny. Felly, rwy'n ategu'n llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud sydd angen i ni ei wneud: gweithio gydag ysgolion, gweithio gyda cholegau, gwneud yn siŵr y cyfeirir at y gyrfaoedd hyn gyda goleuadau'n fflachio ar gyfer merched ifanc yn ogystal â bechgyn ifanc.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym yn gwybod bod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i ysgogi twf economaidd. Gall tai fforddiadwy o ansawdd da ddarparu cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan effeithio'n gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd, iechyd meddwl ac addysg.
Allwn ni ddim cyflawni ein huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru oni bai bod gennym gyflenwad digonol o gartrefi addas y gall pobl fforddio i fyw'n dda ynddynt, ochr yn ochr ag ymyrraeth gynnar, dulliau atal a systemau cymorth. Mae'r dystiolaeth bod angen mwy o dai fforddiadwy arnom yn glir yn y niferoedd arswydus o bobl sy'n byw mewn llety dros dro ac yn asesiadau awdurdodau lleol o farchnadoedd tai lleol. Mae un person sy'n cysgu ar y stryd neu un teulu heb le i'w alw'n gartref yn un yn ormod. Dyna pam mae'r Prif Weinidog wedi gosod cyflawni ein targed o sicrhau mwy o gartrefi fel un o'i blaenoriaethau allweddol, gan roi cyfle i deuluoedd fyw bywydau llawn.
Ar ddechrau'r tymor hwn yn y Senedd, gwnaethom osod targed heriol ac ymestynnol i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i gyflenwi tai yn nhymor y Senedd hon, gyda thros £1.4 biliwn wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn. Mae ein buddsoddiad yn talu ar ei ganfed, mae'r sector yn ymateb yn gadarnhaol, ac mae cyfraddau darparu cartrefi cymdeithasol yn cynyddu i rai o'r cyfraddau uchaf a gofnodwyd erioed. Mae'r ddwy flynedd gyntaf o ddata swyddogol yn dangos ein bod ni wedi darparu 5,775 o gartrefi tuag at y targed, a disgwylir data 2023-24 ym mis Tachwedd. Mae hyn er gwaethaf digwyddiadau byd-eang heriol sydd wedi cynyddu chwyddiant a chostau, gan effeithio'n negyddol ar ein cadwyni cyflenwi a'n gweithlu. Rydym wedi ymateb i'r heriau hyn, gan gefnogi ein hadeiladwyr cartrefi gyda'r cynnydd mewn costau, cyflwyno cyllid a hyblygrwydd ychwanegol drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol a chyflwyno Cynllun Lesio Cymru.
Er fy mod yn cymeradwyo'r gwaith mae'r sector wedi'i wneud i gynyddu eu rhaglenni adeiladu, mae'n iawn ein bod ni'n cael ein herio i wneud mwy a chyflawni'n gyflymach. Mae partneriaid cyflawni yn dweud wrthym fod piblinell gref o gartrefi yn eu rhaglenni ar gyfer tymor y llywodraeth hon, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio pob dull posibl i ddarparu cartrefi mawr eu hangen i bobl Cymru, yn y byrdymor a'r hirdymor. Rydym yn gwybod bod rhai risgiau o hyd sy'n effeithio ar amserlenni datblygu, ac rydym yn gweithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r risgiau cyflawni ar gyfer cynlluniau sy'n wynebu oedi neu rwystrau, lle bo hynny'n bosibl.
Dros yr haf, fe ysgrifennais i at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn nodi fy uchelgais clir i wneud popeth o fewn ein gallu cyfunol i ddarparu pob cartref ychwanegol y gallwn, ac yn gofyn iddyn nhw nodi beth arall y gallan nhw ei wneud i helpu i gyflawni cartrefi y mae mawr eu hangen. Mae fy llythyr yn gofyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol flaenoriaethu ymdrechion ac adnoddau ar gynlluniau sy'n darparu'r lefelau mwyaf sylweddol o dai cymdeithasol; archwilio'r ffordd orau o ddefnyddio pob ffrwd ariannu i ddarparu mwy o gartrefi; a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd drwy gaffaeliadau. Mae fy swyddogion yn dadansoddi'r ymatebion nawr i lywio ein gwaith gyda landlordiaid, arweinwyr gwleidyddol ac ar draws y Llywodraeth i helpu i ddatgloi cynlluniau, cymorth a monitro cyflawniad.
Er mwyn cefnogi hyn, rwy'n cwblhau trefniadau ar gyfer ein tasglu tai fforddiadwy. Bydd y tasglu yn archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy drwy brosesau cynllunio, cyflenwi tir, ac annog gweithio'n agos gyda gweithgynhyrchwyr tai modiwlaidd. Bydd manylion llawn cylch gwaith y tasglu a'i aelodaeth yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae cymorth i adeiladu tai newydd drwy ein grant tai cymdeithasol yn rhan ganolog o'n rhaglen gyflenwi o hyd, ond nid dyma'r unig ffordd rydym yn cynyddu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru o bell ffordd. Rydym wedi agor y TACP ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, gyda gwerth dangosol o £100 miliwn. Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol, ac mae gan y cynllun biblinell gref o gynlluniau creadigol i ddarparu mwy o gartrefi yn gyflym i bobl sy'n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Er bod TACP yn mabwysiadu dull pragmatig a hyblyg, rwyf am sicrhau cyd-Aelodau ei bod yn cadw ffocws manwl ar safonau, gan daro'n briodol y cydbwysedd rhwng diwallu anghenion a buddsoddi arian cyhoeddus yn ddoeth mewn cartrefi sy'n cefnogi eu lles.
Mae Cynllun Lesio Cymru yn parhau i dyfu, gyda 19 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan, a 243 o gartrefi eisoes wedi'u cofrestru. Mae'r cynllun yn cefnogi awdurdodau lleol i lesio eiddo sector preifat, gan ddod â nhw i reolaeth landlordiaid cymdeithasol am hyd at 20 mlynedd, gan ddarparu amrywiaeth o gartrefi o safon a chymorth landlordiaid i unigolion ac aelwydydd sy'n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rydym yn darparu cartrefi ar ein tir ein hunain; yn arwain drwy esiampl ar safonau, creu lleoedd a fforddiadwyedd, er enghraifft, yn Cosmeston, lle bydd 50 y cant o'r cartrefi a gaiff eu hadeiladu yn fforddiadwy. Rydym hefyd yn achub ar gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid ar fodelau darparu amgen ar gyfer cartrefi fforddiadwy, er enghraifft, gweithio gyda Tirion Homes a phartneriaid sy'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ym Melin Trelái, Whiteheads a Pharc Eirin. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r angen i gynllunio ar gyfer darpariaeth hirdymor, gan ymestyn ein rôl o ran sicrhau a chyflwyno tir ar gyfer mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi'r defnydd o bocedi bach o dir o fewn cymunedau presennol ar gyfer cartrefi ychwanegol.
Rydym yn gwybod bod sefydlogrwydd ariannol hirdymor yn bwysig i'n partneriaid cyflawni wrth gynllunio ac ehangu eu rhaglenni datblygu. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion archwilio ymrwymiad buddsoddi hirdymor ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal ag adolygu'n sylfaenol y ffordd rydym yn gosod rhent yng Nghymru, er mwyn rhoi sefydlogrwydd hirdymor i landlordiaid, wedi'i gydbwyso â fforddiadwyedd i denantiaid.
Er mwyn cyflawni'r agenda bwysig hon, bydd angen gweithio'n agos gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ar draws pob portffolio i gael gwared ar rwystrau i gyflawni. Bydd hyn yn cynnwys camau i gyflwyno ffioedd cynllunio, gan sicrhau bod gan awdurdodau cynllunio lleol adnoddau effeithlon; gweithio gyda'r sector adeiladu i wella a symleiddio prosesau caffael; a sicrhau bod gennym y biblinell o weithlu medrus y bydd ei angen ar y sector adeiladu i adeiladu cartrefi'r dyfodol. Wrth gwrs, bydd gan Julie James rôl hanfodol yn ei rôl newydd fel Gweinidog Cyflawni, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddi am yr hyn a gyflawnodd yn ei hamser fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am dai.
Rwy'n credu y byddai'r Aelodau yma yn y Senedd i gyd yn cytuno mai canolbwyntio ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy, gyda phwyslais cadarn ar rent cymdeithasol, a dod â digartrefedd i ben, yw'r blaenoriaethau cywir. Rwy'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i wneud hyn yn un o'i blaenoriaethau allweddol er mwyn sicrhau cyfleoedd i bob teulu. Diolch.
Mae Cymru mewn argyfwng tai, gyda mwy nag 11,000 o bobl yn ddigartref ac yn gaeth mewn llety dros dro, a bron i 140,000 ar restrau aros tai cymdeithasol. Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru dorri cyllid ar gyfer tai o 1999, gan anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro am argyfwng tai a rhoi cychwyn ar yr argyfwng cyflenwad tai a oedd i ddilyn. Rwy'n gwybod, roeddwn i yma, ac fe wnes i gyfarfod â'r sefydliadau a oedd yn rhoi'r rhybuddion ar y pryd.
Pam gymerodd Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 benderfyniadau polisi a welodd nifer y cartrefi newydd yng Nghymru a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol yn gostwng o dros 2,600 ar gyfartaledd bob blwyddyn, yn ystod 18 mlynedd blaenorol y Llywodraeth Geidwadol, i ddim ond 785 ar gyfartaledd bob blwyddyn rhwng 1997 a 2010? Er bod rhywfaint o gynnydd ers 2010, pam roedd hyn 30 y cant yn is na'r lefel yn Lloegr?
Unig darged tai y Llywodraeth Cymru hon yw adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon. Fodd bynnag, dim ond 3,120 o gartrefi newydd a gwblhawyd yng Nghymru gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon, sy'n is o lawer na tharged Llywodraeth Cymru o 20,000. Felly, newidiodd Llywodraeth Cymru y nod, gan ddweud ei bod bellach yn cyfrif rhai cartrefi nad ydynt yn adeiladau newydd ac nad ydynt yn garbon isel, ac erbyn hyn mae hefyd yn cyfrif cartrefi rhent canolraddol a rhanberchnogaeth. Ond hyd yn oed gyda hyn, mae Archwilio Cymru yn dal i ddisgwyl y bydd yn methu â chyflawni ei tharged.
Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r amcangyfrif gan Archwilio Cymru y bydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid ychwanegol, yn methu â chyflawni ei tharged o 20,000 gan hyd at 4,140 o gartrefi, ac i argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru gynnal cynllunio senario manwl i roi arwydd clir a chynnar o gyllid ar gyfer y cynlluniau tai fforddiadwy allweddol yn 2025-26 ac asesu a nodi'r opsiynau ar gyfer parhau i ddiwallu'r angen am dai fforddiadwy yn y tymor hwy? Sut ydych chi'n ymateb i adroddiad ciplun sector Sefydliad Tai Siartredig Cymru heddiw, sy'n adlewyrchu pryder cyffredinol na fydd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy yn cael ei gyflawni erbyn y dyddiad cau ym mis mis Mawrth 2026, ac i'w ddadansoddiad cost budd o'r hawl i dai digonol, a oedd yn amlinellu bod angen i ni fod yn adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol dros gyfnod o 10 mlynedd ar ben yr 20,000 o gartrefi y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo iddynt yn ystod tymor y Senedd hon? At hynny, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan gymdeithasau tai bod angen hyblygrwydd lle mae caffael eiddo presennol gan y sector cymdeithasol yn dod yn fwyfwy amhosibl oherwydd bod safonau Llywodraeth Cymru yn rhy uchel?
Roedd disgwyl i Lywodraeth Cymru lansio ei hymgynghoriad ar ei Phapur Gwyn ar ddigartrefedd cyn toriad yr haf, ond methodd â gwneud hynny. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet felly fanylu ar pryd y bydd cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni'r Papur Gwyn ar ddigartrefedd a phryd mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyflwyno deddfwriaeth ar hyn nawr?
Yn ddiweddar, cynhaliodd Tai Taf ford gron yn y Senedd, a oedd yn cynnwys Cymorth Cymru, y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, Cartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliad Bevan. Nododd hyn dri cham allweddol sydd eu hangen i gefnogi dod â digartrefedd i ben. Sut ydych chi'n ymateb i'r rhain, a oedd yn cynnwys sicrhau cyflenwad digonol o dai drwy fynd i'r afael â chyfyngiadau cynllunio, tanfeddiannaeth a chartrefi gwag, a symud i ffwrdd o wariant adweithiol i ganolbwyntio ar atal? Sut y byddwch chi'n gweithio gyda Sefydliad Bevan a Shelter Cymru yn dilyn eu hadroddiad newydd, 'Nowhere to call home: Understanding our housing crisis—Living in temporary accommodation', a nododd, er bod Llywodraeth Cymru eisiau i ddigartrefedd fod yn brin, yn fyr ac yn rhywbeth nad yw'n cael ei ailadrodd, bod y dyhead hwnnw'n ymddangos yn bell o gael ei wireddu?
Er bod darparu mwy o gartrefi yn allweddol, ni fydd ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael â'r sefyllfa gyson o fod yn ddigartref pan nad eir i'r afael â llu o achosion cymhleth, gan gynnwys chwalfa teulu, cam-drin, camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys trawma, hefyd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn ac a fydd yn cydnabod rôl hanfodol y grant cymorth tai o ran atal digartrefedd a lleihau costau, yn enwedig i wasanaethau iechyd a chymdeithasol, trwy ddod â'i ddefnydd blynyddol fel sglodyn bargeinio ym mhob rownd gyllideb i ben?
Yn ôl Sefydliad Bevan, roedd 17 y cant o aelwydydd Cymru yn byw yn y sector rhentu preifat erbyn 2021. Fodd bynnag, mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn dangos bod galw gan denantiaid yng Nghymru yn parhau i gynyddu, ond bod nifer yr eiddo newydd sy'n dod ar y farchnad yn gostwng. Ac mae data cofrestru Rhentu Doeth Cymru yn dangos—
Mae angen i chi orffen nawr, Mark, os gwelwch yn dda.
—os yw Caerdydd ac Abertawe yn cael eu heithrio, bod dros 5,500 o gartrefi rhent preifat wedi cael eu colli ers 2021.
Yn olaf, felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gydnabod pan ddaw'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector at ei gilydd, y gallan nhw wneud pethau rhyfeddol?
Diolch am y pwyntiau hynny yn eich datganiad a'r cwestiynau i mi. Mae'n amlwg bod llawer yn y fan yna, felly fe wna' i geisio cwmpasu cymaint ag y gallaf.
Fe wnaethom osod targed heriol ac uchelgeisiol iawn yn fwriadol ar ein cartrefi cymdeithasol a'n targedau tai. Rydym yn gweithredu i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl cyn gynted â phosibl, ac yn fy natganiad fe geisiais i nodi rhai o'r pethau hynny yr wyf wedi ceisio eu gwneud yn fy amser byr yn y swydd ers dod i mewn. Rwyf wedi ceisio gwneud cymaint ag y gallaf yn ystod y cyfnod hwnnw i gadw'r momentwm i fynd ac i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wella a gweithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac eraill i weld llif o'r prosiectau hynny. Felly, fel y nodais i, rydym wedi gofyn mewn llythyr at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sut y gallwn ni geisio dadflocio rhywfaint o hynny. Un o'r pethau eraill y soniais amdanyn nhw yn fy natganiad oedd tasglu rwyf yn gobeithio y bydd yn cael ei sefydlu yn fuan, a byddaf yn gallu rhoi manylion i'r Senedd am hynny pan fyddaf wedi setlo ar hynny. Ond rwy'n credu bod hynny'n ffordd o ddadflocio rhai o'r materion rydym yn eu gweld ar hyn o bryd.
Rwyf eisiau diolch i Archwilio Cymru—fe wnaethoch chi sôn am Archwilio Cymru yn eich sylwadau—am eu hadroddiad ar dai fforddiadwy yng Nghymru. Mae fy swyddogion wedi ymateb i'r argymhellion hynny, gan dderbyn pob un o'r saith argymhelliad. Rwy'n croesawu'r ymgysylltiad a ymgymerodd Archwilio Cymru â swyddogion i ddeall yr hyn sy'n ddarlun cymhleth iawn o amgylch y sector tai yng Nghymru a rhai o'r digwyddiadau digynsail a brofwyd dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae ein hymrwymiad yn parhau, ac rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino gyda'r sector tai yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu wrth ddatblygu cartrefi y mae mawr eu hangen yng Nghymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny, fel yr wyf newydd ddweud, oherwydd dyma'r peth iawn i'w wneud. Gallwn ni gael targed, ond dyma'r peth iawn i'w wneud i bobl mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod bod angen mwy o gartrefi arnom, ac mae angen y cartrefi hynny arnom yn gyflymach, ond mae'n fwy heriol nag erioed i adeiladu cartrefi newydd yn yr amodau presennol. Rydym wedi lansio amrywiaeth o fentrau a fydd yn darparu cartrefi sy'n wirioneddol yn fwy fforddiadwy cyn gynted â phosibl i ddiwallu'r angen brys hwnnw am dai. Mae gennym y rhaglen gyfalaf llety trosiannol a Chynllun Lesio Cymru, ac mae'r cynlluniau hynny'n bwysig iawn i ni o ran hynny. Felly, mae'n amlwg bod buddsoddi cyllid cyfalaf i gyflwyno cartrefi tymor hwy i symud pobl ymlaen o lety dros dro yn helpu i leihau gwariant refeniw awdurdodau lleol ar ddarparu llety dros dro.
Rydym wedi clywed am y ffigurau hynny, ac rwy'n credu ei bod bob amser yn bwysig cofio, y tu ôl i'r ffigurau hynny mae unigolion a theuluoedd sy'n byw yn y llety hwnnw. Felly, mae wir yn taro deuddeg pan fyddaf yn clywed y niferoedd hynny a'r ffigurau hynny, oherwydd maen nhw, yn amlwg, i gyd yn unigolion. Rwy'n awyddus i weithio gyda phwy bynnag y gallaf, fel y gallaf sicrhau'r Senedd a Mark y byddaf yn parhau i weithio gyda chynifer o bobl â phosibl ledled y sector i sicrhau ein bod yn darparu cymaint o gartrefi cymdeithasol ag y gallwn.
Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai difrifol, efo'r defnydd o lety dros dro ar ei lefel uchaf erioed. Ar ddiwedd Mai eleni, roedd 11,384 o bobl mewn llety dros dro, efo traean o’r rheini yn blant dan 16 oed. Roedd y rhan fwyaf wedi'u lleoli mewn llety gwely a brecwast neu westai, ac yn byw mewn amodau cwbl anaddas. Felly, dwi’n cytuno efo chi fod sicrhau cyflenwad o dai addas yn hanfodol, ac mi ddof i yn ôl at hynny. Ond law yn llaw â hynny, mae gwasanaethau digartrefedd yn darparu cymorth hanfodol, ac mae’n rhaid eu diogelu nhw a’u cryfhau nhw, ond maen nhw dan bwysau aruthrol.
Mae data gan Cymorth Cymru a Community Housing Cymru yn dangos bod 67 y cant o weithwyr sy’n cael eu hariannu trwy’r grant cymorth tai, yr HSG, yn cael eu talu llai na’r cyflog byw gwirioneddol. Mae’r sector wedi wynebu heriau recriwtio ers blynyddoedd, ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu’r sefyllfa, efo gweithwyr sydd yn cefnogi pobl sydd yn ddigartref yn methu â fforddio aros yn y rolau hanfodol hynny. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy hwn: pa achos ydych chi fel yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud yn y Cabinet dros gynyddu’r grant cymorth tai yn y gyllideb nesaf i sicrhau bod gweithwyr digartrefedd yn cael eu talu’n deg ac felly bod y gwasanaethau pwysig yma yn cael eu diogelu ac felly bod pobl fregus yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt?
Mae llety dros dro yn ôl ei ddiffiniad i fod dros dro. A'r ffordd fwyaf effeithiol o leddfu’r pwysau ar wasanaethau digartrefedd ac i ddarparu sefydlogrwydd i'r rhai sydd mewn angen ydy trwy symud unigolion a theuluoedd i gartrefi parhaol addas—synnwyr cyffredin. Ond mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos mai dim ond 30 y cant o aelwydydd a symudwyd yn llwyddiannus o lety dros dro i lety parhaol yn 2023-24. Mae diffyg tai cymdeithasol a phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yn rhwystrau sylweddol, gan adael llawer yn gaeth mewn amodau dros dro, llawer iawn rhy hir ac mewn amodau anaddas. Yn ogystal â hynny, mi adawodd 29 y cant o aelwydydd lety dros dro heb sicrwydd o lety parhaol. Felly, ydy Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gwrthdroi'r sefyllfa yma—sefyllfa sydd yn gwaethygu? Ydych chi o ddifrif yn mynd i sicrhau bod y mwyafrif o bobl sydd mewn llety dros dro yn cael eu symud i lety parhaol addas?
Dwi'n credu bod angen gweledigaeth fwy strategol ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ac i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref diogel, saff a chynnes. Rydyn ni wedi sôn yn barod y prynhawn yma am adroddiad Archwilio Cymru, sydd yn dangos, hyd yn oed efo'r cyllid presennol, sydd yn annigonol, does yna ddim digon o brosiectau yn y piblinell i gyrraedd targed 20,000 erbyn Mawrth 2026, ac mae yna rai o'r cynlluniau yma, hyd yn oed y rhai sydd yn y piblinell, yn risg uchel ac mewn perygl o beidio â chael eu cyflawni. Mae'r angen, wrth gwrs, yn debyg o fod yn llawer iawn uwch na'r 20,000 sy'n cael ei dargedu gennych chi. Felly, o ystyried hyn i gyd, o ystyried yr argyfwng, o ystyried yr heriau, onid ydy hi'n bryd, rŵan, i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu’r hawl i gartref addas yng Nghymru ac i yrru y newid ystyrlon yna yn y system? Dwi'n credu bod yn rhaid inni gael hwnna, neu dydy'r newid ddim yn mynd i ddigwydd. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy hwn: pryd ydych chi'n mynd i gyhoeddi'r Papur Gwyn hirddisgwyliedig fydd yn dechrau trafod yr angen yma am ddeddfwriaeth i wneud yr hawl i gartref yn hawl sylfaenol i bawb?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch, Siân. Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Dydyn ni ddim yn derbyn digartrefedd yng Nghymru, ac rydym wrthi'n gweithio i fynd i'r afael â materion strwythurol sylfaenol, fel y nodir yn ein Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae atal, fel y gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad, yn parhau i fod yn ffocws a blaenoriaeth i leihau llif y bobl sydd angen y llety dros dro hwnnw. Rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn atal digartrefedd a chymorth tai eleni yn unig. Felly, rydym yn buddsoddi ynddo. Fel y dywedais i, rwy'n cymryd y niferoedd o ddifrif, ac, fel y sonioch chi, y plant sydd hefyd yn y llety dros dro hwnnw. Rydym yn gweld hynny yma yng Nghymru, ond roeddwn i mewn cyfarfod Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ychydig wythnosau yn ôl, ac fe glywais am y mater ynglŷn â llety dros dro ym mhob rhan o'r DU.
Ond mae'n bwysig ein bod ni yn cefnogi awdurdodau lleol o ran symud ymlaen o lety dros dro ac rwyf wedi dyrannu cyllid dangosol o'r £100 miliwn hwnnw ar gyfer y rhaglen gyfalaf llety trosiannol ar gyfer 2024-25. Mae'r rhaglen hon yn darparu llety tymor hwy o ansawdd da i bawb y mae angen tai arnynt. Rwy'n dal i bryderu hefyd am nifer y bobl sy'n cysgu allan. Mae un person sy'n cysgu allan yn un yn ormod, ac mae hynny'n dangos pwysigrwydd allgymorth pendant a chymorth cofleidiol.
Mae'n hanfodol bwysig i berson gael cartref iawn, a dyna pam rydym wedi datblygu'r TACP honno, oherwydd mae'n bwysig—mae'n rhan o sut rydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn ar hyn o bryd. Ond, fel rydych chi'n ei ddweud, mae'n rhaid i ni wneud hynny ochr yn ochr ag atal hefyd. Mae'n bwysig cofio nad llety gwely a brecwast neu westy yw pob llety dros dro, er fy mod i'n derbyn bod swm cynyddol oherwydd y pwysau digynsail sy'n ein hwynebu.
Mae safonau wedi cael eu hadolygu'n ofalus a chaiff pragmatiaeth ei harfer mewn perthynas â phrosiectau cyllido TACP, ac mae cydbwysedd i'w daro rhwng rhywbeth sydd ychydig yn well na llety gwely a brecwast a buddsoddi arian cyhoeddus i ddarparu cartrefi gweddus, urddasol i'r rhai sydd eu hangen ar fyrder. Felly, ar ddiwedd y dydd, rydym yn gweithio i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym yn ceisio symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym a lleihau ein dibyniaeth ar lety dros dro. Rwy'n cydnabod y bydd hyn yn cymryd amser, ond, fel y dywedais i, mae'r buddsoddiad hwnnw yn TACP a'n buddsoddiad mewn atal digartrefedd i gyd yn cefnogi hyn.
Rhai o'r materion y soniais i amdanyn nhw o ran sut allwn ni ddadflocio rhai o'r problemau sydd gennym yn y system ar hyn o bryd—dyna pam roeddwn i eisiau edrych, mewn gwirionedd, ar lefel ronynnog iawn ar beth yw'r materion a'r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio datrys hyn. Felly, rwy'n gweithio gyda llywodraeth leol ar hynny, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae rhai o'r ymatebion hynny wedi dod yn ôl eisoes, ac maen nhw wedi bod yn ddefnyddiol iawn, iawn, felly rwy'n edrych ymlaen at dderbyn gweddill y rheini hefyd.
Mae eich pwynt ynghylch y grant cymorth tai yn un da iawn—rwy'n clywed hynny. Rydym wedi diogelu a chynyddu'r cyllid ar gyfer cymorth ac atal digartrefedd, sydd bron yn £220 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys cyllid ar gyfer y grant cymorth tai, ein grant atal sylfaenol. Mae'r gyllideb hon wedi'i chynyddu £13 miliwn, gyda'r nod penodol o gefnogi'r sector i gyflawni'r cyflog byw gwirioneddol, ac mae bellach yn £182.4 miliwn.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn y sector hwn, oherwydd maen nhw'n gweithio'n anhygoel o galed. Maen nhw wir ar y rheng flaen ac maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel, mewn gwirionedd, gydag unigolion, ac yn eu cefnogi, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n cofio ac yn meddwl am y staff hynny sy'n gweithio'n anhygoel o galed yn y maes hwn.
O ran y pwynt ynghylch y Papur Gwyn, a oedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ac yn rhan o'r cytundeb cydweithio y gwn eich bod wedi gweithio arno ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James o'r blaen, gallaf ddweud y bydd Papur Gwyn, ac y bydd y Papur Gwyn hwnnw yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis hwn.
Mae'r ffaith bod gennym brinder tai yn hysbys—dim ond angen gwirio'r cysylltiadau sydd gan bob un ohonom gan bobl sydd mewn angen tai difrifol sy'n rhaid. Does ganddon ni ddim digon o dai cymdeithasol. Mae angen i awdurdodau lleol allu benthyg yn erbyn gwerth tai newydd a adeiladwyd, felly, fel gyda chyfalaf trafodion ariannol, ni fyddai'n effeithio ar ofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, fel y digwyddodd yn y cyfnod wedi'r rhyfel, pan adeiladwyd llawer o dai cyngor.
Mae angen i ni ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, gan ganiatáu i dai sydd wedi bod yn wag ers dros bum mlynedd gael eu prynu'n orfodol gan awdurdodau lleol ar eu gwerth presennol. Yna gall y rhain naill ai gael eu gwerthu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu gael eu gwerthu ar y farchnad agored. Mae gormod o lawer o dai gwag, a bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dosbarthu taflenni dros yr haf yn ymwybodol iawn, wrth i chi fynd i lawr, eich bod chi'n mynd heibio i dai ac maen nhw'n amlwg yn wag, nid mewn ardaloedd lle na fyddai pobl eisiau byw, ond yn aml mewn ardaloedd lle mae pobl eisiau byw mewn gwirionedd.
Yn olaf, mae cyfran isel iawn o dai yng Nghymru yn eiddo cydweithredol o'i gymharu ag Ewrop a Gogledd America, ac er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer i'w wneud o hyd. Dylai tai cydweithredol fod yn opsiwn i bawb sy'n chwilio am gartref, fel y mae yn Ewrop a Gogledd America.
Diolch, Mike—diolch am y pwyntiau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr y gall cartrefi gwag fod yn bla ac yn niwsans go iawn i'n cymunedau, ac mae'n rhywbeth, fel y dywedwch, rydym i gyd yn ei wynebu yn ein bagiau post. Nid yn unig y gallan nhw ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond maen nhw'n peri problemau iechyd yr amgylchedd ac, yn amlwg, yn cyfrannu at ddirywiad cyffredinol yn eu cymdogaethau. Maen nhw hefyd yn adnodd sy'n cael ei wastraffu, ac rwy'n credu ei fod hefyd yn ymwneud â sut mae pobl yn teimlo am eu cymuned a sut mae pobl yn teimlo am eu hardal hefyd. Mae hyn hefyd yn arbennig o rwystredig pan fo cyn lleied o dai ar gael.
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o ymyriadau a ffrydiau ariannu i leihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru, gan gynnwys eu defnyddio unwaith eto fel tai cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau fel Cynllun Lesio Cymru, yr wyf wedi sôn amdano. Mae tua 250 o eiddo wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, ac mae 60 y cant ohonyn nhw wedi bod yn wag ers chwe mis neu fwy. Rwyf wedi sôn am y rhaglen TACP sydd gennym, ac mae gennym hefyd y cynllun grant cartrefi gwag, sy'n darparu grantiau o hyd at £25,000 i ddarpar berchen-feddianwyr i'w cynorthwyo i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Ac o 9 Medi eleni, roedd 860 o geisiadau dilys wedi dod i law drwy'r cynllun, ac mae 104 eiddo wedi cael eu hailddefnyddio. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn parhau i'w wthio. Mae yna rai cynlluniau eraill hefyd, fel y grant tai cymdeithasol, a phwerau eraill a wnaed, ond rydym wir yn gweld cartrefi gwag fel rhywbeth mae angen i ni fynd i'r afael ag ef.
O ran eich pwynt ynghylch adeiladu tai cyngor, rwy'n falch bod cynghorau lleol yn parhau i ddatblygu mwy o gartrefi. Mae'n flaenoriaeth i mi i gefnogi cynghorau i adeiladu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy, ac rwy'n cefnogi cynghorau i adeiladu trwy ddarparu cyllid a chymorth cymheiriaid, ac mae arwyddion bod y cymorth yn cael effaith gadarnhaol. Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau tai, i sefydlu'r rhaglen graddfa a chyflymder yn 2020, i gefnogi'r 11 o gynghorau a gadwodd eu stoc i ddarparu mwy o gartrefi newydd, ac erbyn hyn mae gan awdurdodau lleol fynediad at y grant tai cymdeithasol, ac maen nhw'n ei ddefnyddio'n weithredol i gefnogi eu rhaglenni.
O ran tai cydweithredol, rhaid i dai cymdeithasol fod yn brif flaenoriaeth i ni ar gyfer darpariaeth tai yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn glir bod yn rhaid i fentrau tai cydweithredol a mentrau tai o dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o'r datrysiad tai yma yng Nghymru. Mae cefnogi tai cydweithredol wedi cael ei nodi yn yr ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu, ac mae gennym hanes hir o hyn, yn mynd yn ôl. Ers 2010, rwy'n credu, yn etholaeth fy nghyd-Aelod John Griffith, ein bod ni wedi gweld prosiect Loftus Garden, sy'n dal i fod yn llwyddiannus iawn. Felly, mae'r rhain yn feysydd rydym yn edrych i'w cefnogi. Rydym yn darparu cyllid i Cwmpas, sy'n gweithio gyda grwpiau ledled Cymru, ac rwy'n awyddus i weld sut arall allwn ni ddatblygu hynny yn y dyfodol.
A gaf i ddweud, mae'n braf iawn clywed rhai o'r pethau rydych chi wedi'u dweud heddiw—yr ymagwedd newydd hon rydych chi'n ei chyflwyno? Dim ond angen rhoi'r geiriau hynny ar waith sydd ei angen nawr. A byddaf yn datgan diddordeb, fy nghofnod cyhoeddedig o ddiddordeb, o ran cysylltiad teuluol. Rwyf wedi codi yn y Siambr hon gymaint o weithiau, Gweinidog, y gost andwyol o letya'r digartref mewn gwestai a phethau, nid yn unig yn ariannol, ond o ran y gost iddyn nhw. Allwch chi ddychmygu byw fel teulu, neu hyd yn oed unigolyn, mewn ystafell westy am fisoedd lawer, heb unrhyw gyfleusterau coginio, dim cyfleusterau golchi priodol? Mae gen i lawer o deuluoedd, mewn gwirionedd. Pan soniwch am lety dros dro, mae pobl yn meddwl, 'O, mae'n gartref y mae'n rhaid i chi symud allan ohono yn fuan.' Mae gennym 800 o deuluoedd sy'n aros am gartrefi ar hyn o bryd. Mae'r gwariant ar lety dros dro yng Nghymru wedi chwyddo, ac felly byddai'n well gen i weld hynny'n cael ei roi i mewn i adeiladu tai. Ac fel y dywedwyd gymaint o weithiau yma, tai rhent cymdeithasol sydd eu hangen arnom.
Nawr, un peth allaf i ddim dioddef a fyddai'n helpu'r digartref yw bod yna lawer iawn o dir sy'n eiddo i lywodraeth leol, y byrddau iechyd a phopeth, ac rwyf wedi siarad â'n bwrdd iechyd lleol—maen nhw'n barod i drosglwyddo rhywfaint o'r tir hwn, ond mae yna fater o £500,000, rwy'n credu, i ddod yn ôl at Lywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw dir sy'n cael ei werthu. Felly, allech chi edrych eto, oherwydd dydw i ddim wedi bod yn or-hoff o'r ymatebion rwyf wedi'u cael yn flaenorol nad oes modd gwneud hyn? Os oes tir yn perthyn i'r sector cyhoeddus, a'i fod yn briodol ar gyfer tai rhent cymdeithasol, pam rydym ni'n mynd o gwmpas ac o gwmpas mewn cylchoedd a pheidio â dod â'r tir hwnnw yn ôl i mewn ar gyfer datblygiadau tai addas, fel ein bod ni'n gallu gweld y digartref—teuluoedd ac unigolion—yn y cartrefi hyn ac nid mewn ystafelloedd gwesty? Diolch.
Diolch, Janet, a diolch am eich croeso heddiw hefyd. Rydych chi'n hollol gywir o ran y bobl mewn llety dros dro—unigolion ydyn nhw. Rydyn ni'n dweud y niferoedd, ac rydym yn clywed y niferoedd, ond mae'n bwysig cofio mai unigolion mewn llety dros dro ydyn nhw, a hefyd, pan ydym yn siarad am ddigartrefedd a phobl sy'n ddigartref, fel y dywedais i, rydych chi'n gwybod bod un person yn un yn ormod ar y strydoedd. Rwy'n poeni am hynny, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cael yr allgymorth a'r cymorth cofleidiol pendant hynny.
Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn hyn ac rydym wedi gweld, yn anffodus, gynnydd yn y niferoedd sy'n cael eu cefnogi gyda llety dros dro, ac mae hynny'n adlewyrchu, mewn gwirionedd, y pwysau parhaus yn y system, yn enwedig yr hyn rydym wedi'i weld trwy'r argyfwng costau byw a'r pwysau hwnnw ar unigolion ac aelwydydd. Rydym am weld pobl yn symud ymlaen o lety dros dro. Dyna pam mae'r TACP honno yn bwysig iawn. Byddwn yn mynd yn ôl at y pwynt fy mod i'n awyddus iawn i edrych ar y data gronynnog hwnnw. Sut allwn ni geisio dadflocio rhai o'r materion hyn sydd gennym ar hyn o bryd? Byddwn yn edrych ar hynny. Mae swyddogion yn dadansoddi'r ymatebion rydym wedi'u cael hyd yma gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rwy'n gobeithio y bydd mwy yn dod i law yn fuan, fel y gallwn ni wir geisio sicrhau bod gennym ffocws go iawn ar hyn. Dyna pam rwyf hefyd eisiau cyflwyno'r tasglu hwnnw hefyd, oherwydd rwy'n credu bod cael rhywun yn edrych ar beth arall yw'r materion y gallwn ni eu gwneud—. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni'n cael cymaint o fewnbwn â phosibl i hynny, fel y gallwn ni gael ffocws go iawn ar hyn.
O ran y tir rydych chi wedi'i grybwyll heddiw, unwaith eto rwy'n credu y bydd rhywfaint o'r hyn rydych chi wedi sôn amdano yn dod i mewn, efallai, i'r hyn y gallai'r tasglu tai edrych arno o ran datgloi rhywfaint o dir. Ond mae ein his-adran tir wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflymu potensial datblygu ein tirddaliadau ein hunain, ond hefyd o ran caffael tir newydd i'w ddatblygu. Rydym wedi caffael tir yn Hwlffordd a Phorthcawl, lle mae enghreifftiau lle mae buddiannau'r sector preifat ar safleoedd a oedd yn segur yn flaenorol wedi'u caffael ac mae eu potensial datblygu yn cael ei ddatgloi er mwyn creu cyfleoedd adfywio sylweddol a arweinir gan dai fforddiadwy. Felly, mae yna bethau'n digwydd. Mae'n bwysig bod gennym ffocws gwirioneddol. Ond fel y dywedais i, yn rhai o'r ymatebion y byddwn ni'n eu cael yn ôl, byddwn ni'n gallu gweld lle mae angen i ni ddatgloi rhai o'r materion hynny.
Dros ddwy flynedd yn ôl, trodd bywydau pobl Wcráin wyneb i waered wrth i Rwsia ymosod ar eu mamwlad. Fodd bynnag, dyw'r croeso a'r gefnogaeth sydd yma iddyn nhw yng Nghymru ddim wastad wedi cynnig y sefydlogrwydd y maen nhw ei angen er mwyn ailadeiladu eu bywydau. Mae gormod o bobl sy'n ffoi yma rhag gormes a thrais wedi bod yn cysgu ar ein strydoedd neu'n byw mewn mannau lle maent wedi teimlo'n anniogel, gan gael effaith niweidiol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith fod ceiswyr lloches, unwaith eu bod nhw wedi cael caniatâd i aros, dim ond yn cael 28 diwrnod i adael y llety sy'n cael ei ddarparu. Mae'r amserlen afresymol yn condemnio llawer o ffoaduriaid i ddigartrefedd.
Ac fel yr amlinellwyd mewn ymateb i'm cwestiwn ysgrifenedig yr holais, does gan Gymru'r data ar hyn o bryd er mwyn deall faint o bobl sydd yn y sefyllfa yma, fel y nifer o ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd. Heb y data hanfodol hwn, ydych chi'n cytuno na allwn ni gefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, sydd mewn perygl neu sy'n wynebu digartrefedd, yn iawn?
Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gasglu data ar ddigartrefedd ymhlith ffoaduriaid o Wcráin a gwledydd eraill? Pa gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y data? Ac a fyddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth San Steffan i ymestyn y cyfnod sydd gan ffoaduriaid i symud ymlaen, unwaith eu bod nhw wedi derbyn eu statws, er mwyn eu hamddiffyn rhag digartrefedd?
Diolch, Sioned, am godi hynny. A dweud y gwir, ychydig wythnosau yn ôl fe ges i rai trafodaethau gyda fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw, a rhai ffoaduriaid o Wcráin yn fy etholaeth a rhai cydweithwyr eraill, ynghylch rhai o'r materion y mae'r ffoaduriaid o Wcráin yn dod ar eu traws ar ôl gadael rhai o'r cartrefi y cawson nhw eu croesawu iddynt, a'r heriau sy'n eu hwynebu, boed hynny o ran cyflogaeth, gwaith neu addysg, neu o ran tai. Felly, mae hynny wedi cael ei godi gyda fi. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi cymryd yr amser i godi'r mater penodol hwnnw heddiw. Rydym yn gwybod bod awdurdodau lleol, unwaith eto, ar flaen y gad o ran hyn, a sut y gwnaethon nhw weithio gyda theuluoedd o Wcráin sydd wedi dod draw, ac unigolion. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, wrth i bobl symud o gwmpas—ers y tro cyntaf iddyn nhw ddod, eu bod nhw wedi symud i wahanol lefydd. Mae rhai ohonyn nhw wedi colli—. Maen nhw'n cadw mewn cysylltiad â grwpiau Facebook, rwy'n credu, a llawer o bobl yn lleol, ond mae'n bwysig bod gennym ddata a gwybodaeth, y byddaf yn sicr yn ei gymryd yn ôl, ac rwy'n gwybod y byddaf yn cysylltu â fy nghyd-Aelod, Aelod y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, ar rai o'r materion hyn hefyd, oherwydd mae pobl yn wynebu llawer o ansicrwydd, ac mae llawer o gwmpas fisâu a materion eraill y mae pobl wedi eu codi gyda fi. Rydym yn sicr yn clywed hynny, a byddaf yn sicrhau ein bod ni'n ysgrifennu atoch chi hefyd ar y mater penodol hwnnw.
Un o'r materion mwyaf yn dilyn blynyddoedd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus gan San Steffan yw gwytnwch ac adnoddau ar gyfer cynllunio a datblygu. Codwyd hyn fel mater gan landlordiaid tai cymdeithasol yn y gogledd, gyda cheisiadau yn costio symiau sylweddol ac yn cymryd sawl blwyddyn. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet, ynghyd â'r Gweinidog Cyflawni a'ch tasglu, ymchwilio i flaenoriaethu tai cymdeithasol a fforddiadwy dros werthu ar y farchnad, a hefyd ystyried ymdrin â chynllunio o dan bwerau dirprwyedig, yn enwedig pan fo asesiad o'r farchnad dai leol yn dweud bod eu hangen ac maen nhw'n safleoedd sydd yn y cynllun datblygu lleol hefyd? Byddai'n arbed amser a chost, y gellid eu buddsoddi wedyn mewn darparu'r tai. Dywedwyd wrthyf fod pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio'n eithaf anghyson ar draws y gogledd, felly byddai'n help mawr pe gellid gwneud hynny.
Diolch, Carolyn. Diolch am hynny. Mae'r system gynllunio yn gwneud cyfraniad mawr at gyflawni meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys twf gwyrdd, darpariaeth tai fforddiadwy a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Nododd y Prif Weinidog mai creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur wrth sicrhau bod teuluoedd yn well eu byd, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru, yw un o'r pedair blaenoriaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wrthi'n gweithio ar gynigion i helpu i gyflawni'r flaenoriaeth i gyflymu penderfyniadau cynllunio, ac rwy'n credu y bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ar gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio.
Mae cynllunio yn chwarae rhan mor ganolog wrth ddarparu pob tŷ ledled Cymru, a chaiff ein hymrwymiad i dai fforddiadwy ei ailadrodd yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Fel y dywedais i, nid yw cynllunio yn fy mhortffolio i, ond rwy'n awyddus i barhau i weithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, gan fod y cysylltiadau agos hynny yn ein portffolios. Mae swyddogion eisoes yn cydweithio'n agos, a byddant yn parhau i wneud hynny i sicrhau bod cymaint â phosibl o dai o ansawdd da yn gallu cael eu darparu.
Rwy'n awyddus i sicrhau bod gennym yr adnoddau yn eu lle hefyd; rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn teimlo'r un peth. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn ni barhau i'w wthio gyda'n gilydd. Mae yna ofyniad eisoes i gyd-bwyllgorau corfforedig baratoi cynlluniau datblygu strategol, ac mae yna botensial hefyd i ehangu'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i gyflawni swyddogaethau arbenigol ar y cyd, fel gwasanaethau cynllunio mwynau a gwastraff.
Roedd un o argymhellion diweddar Archwilio Cymru yn ymwneud â ffocws ar ddarpariaeth hirdymor, ac yn ddiweddar, fel y dywedais i, rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i nodi nifer o feysydd lle rydym wir yn teimlo y gallwn ni ddod â rhywfaint mwy o ffocws i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl. Ond rwyf wedi ysgrifennu at yr awdurdodau cynllunio lleol hynny i ofyn iddyn nhw flaenoriaethu ceisiadau tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn glir bod angen ffocws tymor hwy, a dylem ymdrechu i bennu safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy mewn cynlluniau datblygu er mwyn sicrhau bod cyflenwad o safleoedd eithriedig tai fforddiadwy ar gyrion aneddiadau presennol yn y dyfodol a bod y safleoedd hynny'n cael eu cymeradwyo. Enghraifft ragorol o hynny yw'r 102 o gartrefi a gwblhawyd yn ddiweddar, datblygiad cymdeithas dai Adra, ym Mhrestatyn. Felly, mae yna rai pethau cadarnhaol iawn yn digwydd, ond fe wnawn ni gadw mewn cysylltiad ac fe fyddaf yn gweithio'n agos gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ar y materion cynllunio.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer y datganiad hwn. Mae gen i gryn dipyn o siaradwyr eraill sydd eisiau cyfrannu. Os gallwn ni gadw ein cwestiynau a'n hatebion yn gryno, bydd hynny'n ein helpu i fynd trwy gynifer â phosibl. Laura Anne Jones.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, ac mae'n dda eich gweld chi mor rhagweithiol yn eich rôl newydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gwrdd â'r anfarwol Paul Murphy o Pride in Pill, rhywun sydd yn ein hardal ein hunain, yn ein dinas ni, Casnewydd, a chlywed o lygad y ffynnon sut mae digartrefedd yng Nghymru yn mynd allan o reolaeth. Mae dros 500 o bobl wedi'u gwasgu i mewn i lety gwely a brecwast yng Nghasnewydd, a hyd yn oed mwy yn yr hosteli amrywiol yng Nghasnewydd, fel y gwyddoch chi. Tra bod 24 o bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi'u cofrestru'n swyddogol, mae nifer di-rif yn llithro drwy'r rhwyd, gan ddod o bob rhan o'r de-ddwyrain i gael cymorth sylfaenol. Gyda 24,000 o bobl yn dal i fod ar restrau tai cyngor yng Nghasnewydd, mae'r sefyllfa'n enbyd: mae colli'r taliad tanwydd gaeaf, bygythiadau i'r disgownt person sengl o ran y dreth gyngor, cyfraddau cynyddol sy'n gwthio landlordiaid i droi allan neu werthu, yn ychwanegu at y pwysau. Mae hyd yn oed yr urddas mwyaf sylfaenol yng Nghasnewydd wedi cael ei dynnu oddi wrth bobl, a phroblem enfawr i chi edrych arni, Ysgrifennydd Cabinet, yw'r ffaith nad yw toiledau cyhoeddus ar gael ar ôl 6.30pm, sy'n achosi i bobl ymgarthu ar y stryd. Mae Pride in Pill, dan arweiniad Paul Murphy a gwirfoddolwyr eraill—
Bydd angen cwestiwn arnaf nawr, os gwelwch yn dda.
—yn gwneud gwaith anhygoel—iawn, wrth gwrs—yn dosbarthu 130 o fagiau bwyd yr wythnos, ond mae'r galw yn cynyddu—
Mae'n ddrwg gen i, dydy dweud, 'Iawn, wrth gwrs' ac yna cario ymlaen beth bynnag ddim yn ddigon da. A gaf i'r cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r gaeaf yn agosáu'n gyflym, pa gamau brys y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd i atal y drychineb yn ein dinas rhag gwaethygu? Diolch.
Diolch, Laura, ac yn wir, rwy'n adnabod Paul Murphy yn dda, a Pride in Pill, a'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud yn fy etholaeth i. Fel Aelod etholaethol, rwyf wedi bod allan gyda Pride in Pill fy hun ac wedi gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda phobl ddigartref, ac mae'n wirioneddol anhygoel, ac maen nhw'n haeddu cymaint o anrhydeddau oherwydd maen nhw'n gweithio, ddydd ar ôl dydd ar hynny, ac maen nhw wir yn cefnogi pobl, ac maen nhw'n adnabod pobl, sy'n bwysig iawn.
Rydych chi wedi adnabod Casnewydd fel ardal, ac rwy'n credu bod yr awdurdod lleol yn gweithio'n galed iawn. Mae pwysau enfawr, fel y mae yna—. Rydym wedi sôn am rai o'r materion sy'n ymwneud â hynny, sy'n cael eu gweld ar draws Cymru, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond mae'r awdurdod lleol yn gweithio mor galed yn yr ardal hon. Rydym yn gwybod bod yr angen hwnnw, ac rwy'n awyddus i weithio gyda nhw, ac awdurdodau lleol eraill a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod yn gwneud digartrefedd mor fyr â phosibl.
Dwi am gyfeirio yn gryno, felly, at fynediad at dai ymysg gofalwyr di-dâl. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad diweddaraf Carers Wales oedd yn uwcholeuo'r lefelau difrifol o dlodi sydd ymhlith gofalwyr di-dâl a sut mae rhent uchel a diffyg tai fforddiadwy yn cynyddu'r pwysau arnyn nhw a'u hanwyliaid yn ddybryd. Mae mwy a mwy o'n gofalwyr di-dâl yn wynebu digartrefedd. Felly, pa ystyriaeth ydy'r Llywodraeth wedi'i rhoi i benodi gofalwyr di-dâl fel grŵp sy'n haeddu cael blaenoriaeth mewn ceisiadau tai yn eich Papur Gwyn? Ac, yn y cyfamser, a wnewch chi adolygu'r prosesau er mwyn sicrhau bod amgylchiadau tai yn cael eu hystyried a'u hadlewyrchu yn yr asesiadau o anghenion gofalwyr di-dâl?
Diolch, Mabon. Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud gwaith anhygoel, rydym yn gwybod, ledled y wlad, a dydy llawer ohonyn nhw ddim yn nodi eu bod yn ofalwyr. Maen nhw'n cefnogi anwyliaid ac mae'n rhywbeth y dylen ni mewn gwirionedd—. Maen nhw'n haeddu pob anrhydedd y gallan nhw ei gael. Rydym yn gwybod bod pwysau enfawr ar lawer o bobl, a bydd gofalwyr, gofalwyr di-dâl, yn un o'r grwpiau hynny. Felly, mae pwysau enfawr yn sgil yr argyfwng costau byw, a byddaf yn cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ynghylch y materion rydych chi wedi'u crybwyll ar gyfer gofalwyr di-dâl, ac yna byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi.
Ugain mlynedd yn ôl, Gweinidog, roeddwn i mewn cyfarfod i ddirwyn i ben te i'r digartref yng Nghaerdydd, oedd wedi cael ei ddarparu ers y 1970au. Roedd y niferoedd wedi syrthio i lai na llond dwrn, ond yna ddaeth llymder a chynyddodd y nifer yn sylweddol—nid pwynt gwleidyddol ond ffaith; gwelais i impact yr ideoleg wleidyddol yna â'm llygaid fy hun. Daeth, wedi hynny, y ddarpariaeth i ben amser COVID—roedd ewyllys gwleidyddol i ffeindio llety i bawb yr amser hwnnw. Ond nawr, er gwaethaf ymdrechion y cyngor, mae yna fwy o ddigartrefedd yng Nghaerdydd nag erioed o'r blaen. Rŷch chi'n sôn am un yn ormod; mae yna ddegau yn ormod yng Nghaerdydd. Mae'r ddarpariaeth yn y Tabernacl wedi cynyddu yn sgil y galw i dair sesiwn yr wythnos, yn darparu pryd cynnes, dillad, sachau gwely ac yn y blaen, i hyd at 80 o bobl ym mhob sesiwn. Ac mae'r ddemograffeg wedi newid yn llwyr. Pan ddechreuais i, dynion hŷn gyda phroblemau alcohol oedd yna, ond nawr mae yna bobl ifanc, nifer cynyddol yn fenywod, a nifer ohonyn nhw o Wcráin. Fel dywedodd Sioned Williams, sut allwn ni alw ein hunain yn genedl noddfa pan fod yna bobl o Wcráin ar ein strydoedd ni? Mae yna broblemau cymhleth gyda nhw, ond mae'n wir i ddweud bod y bobl yma wedi cael eu gadael i lawr gan genhedlaeth o wleidyddion. Sut ydych chi'n mynd i gydweithio ag eraill i adfer y gwasanaeth i o leiaf y lefel cyn llymder? A bydd croeso mawr i chi fynychu un o'r sesiynau yn y Tabernacl, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Rhys. Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd ac wedi'i weld hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio hefyd fod y rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad i ddiwygio cyfraith tai a diwygio'n sylfaenol wasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Rydym wedi cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ôl ym mis Ebrill. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon, a bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn llunio sut mae'r cynigion yn y Papur Gwyn yn cael eu troi'n ddarpariaethau Bil drafft. Felly, mae gwaith yn digwydd yn y maes hwn, ac efallai y gallwch chi ysgrifennu ataf gyda mwy o wybodaeth am y prosiect yn benodol, ac unwaith eto, fe wnaf edrych i mewn i hynny.
Un o'r heriau sy'n ein hwynebu, Gweinidog Cabinet, yw mynd i'r afael â defnyddiau amgen ar gyfer hen safleoedd manwerthu yng nghanol ein dinasoedd a threfi. Mae llawer o'r rheini wedi'u trosi i fod yn rhai preswyl, ond gellid gwneud llawer mwy o waith, er enghraifft i fynd i'r afael â'r angen heb ei ddiwallu am eiddo un ystafell wely. Felly, ydych chi'n edrych ar y rhwystrau sy'n atal mwy o waith rhag digwydd—pethau fel adnabod perchnogaeth, cefnogaeth i awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau prynu gorfodol, ac yn wir, cyllid sydd ar gael?
Diolch, John. Ydyn, yn sicr. Rydyn ni wedi sôn am eiddo gwag heddiw ac wedi dweud eu bod nhw'n gallu bod ac y maen nhw'n bla ar ein cymunedau, ac mae'n rhywbeth mae pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n cerdded i lawr y stryd ac yn gweld yr eiddo gwag yma ac yn meddwl, 'Mae hwn yn ased, pam na all—? Rydych chi'n gwybod, mae gennym ni bobl mewn llety dros dro a phobl sy'n ddigartref. Mae hwn yn eiddo sy'n edrych yn addas ar gyfer hynny.' Mae'r rhain yn gymhleth—. Mae rhai ohonyn nhw ychydig yn fwy cymhleth i'w datrys nag eraill. Ond rwy'n credu, unwaith eto, mai dyna un o'r problemau yr ydym yn edrych arnynt, sut y gallwn ni ddefnyddio'r rhai o'r eiddo gwag hyn unwaith eto. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i godi o ran prynu gorfodol ac rwyf wedi ei godi gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, felly byddaf yn parhau i gael trafodaethau yno a chyda chyd-Aelodau eraill. Ac rwyf ond yn meddwl—. Rwy'n gwybod eich bod wedi gweld sawl eiddo gwag ar y stryd fawr yn eich etholaeth eich hun yng Nghasnewydd yn cael ei ddefnyddio unwaith eto er mwyn i bobl fyw yno, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffem weld mwy ohono. Ac unwaith eto, rwy'n credu y bydd y grŵp a fydd, gobeithio, yn edrych ar sut y gallwn ni ddatrys rhai o'r problemau hynny, yn helpu gyda hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae'r eitem nesaf, o dan eitem 6, wedi'i ohirio tan wythnos nesaf.
Eitem 7 sydd nesaf, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio ar Tata Steel. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly—Rebecca Evans.
Diolch. Ddoe gwelwyd diwedd y gwaith o gynhyrchu dur ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot gyda nifer o weithrediadau'n dod i ben, gan gynnwys ffwrnais chwyth 4. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod hir a phwysig yn hanes ein cenedl. Mae cynhyrchu dur ffwrnais chwyth wedi bod yn digwydd ym Mhort Talbot ers dros 100 mlynedd, ac rydym i gyd yn falch iawn o'r rôl y mae cynhyrchu dur yn ei chwarae yn ein heconomi, ein cymunedau a'n hunaniaeth fel cenedl. Rydym yn deall y tristwch a deimlir gan weithwyr a'r gymuned ar hyn o bryd. Mae gan deuluoedd ledled Cymru gysylltiadau â gwaith dur Port Talbot, ac yn lleol mae llawer o deuluoedd wedi cynnwys cenedlaethau o weithwyr dur.
Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o anodd i bawb y mae'r pontio gan Tata Steel i wneud dur arc trydan wedi effeithio arnynt. Bu dyfalu cyson ynghylch y dyfodol a'i effaith ar gyflogaeth, gan arwain at rwystredigaeth a phryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod ystod o gymorth ar gael. Drwy gydol y broses hon rydym wedi bod yn ymwybodol iawn bod y newid hwn nid yn unig yn effeithio ar y gweithlu a gyflogir gan Tata, ond hefyd ar gadwyn gyflenwi Tata Steel.
Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar iechyd meddwl pobl. Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'w gweld ar hwb gwybodaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar-lein, sydd â dolen uniongyrchol i wefan Sorted:Supported, ac mae'n darparu porth i ddod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth gywir. Byddwn i'n annog cyd-Aelodau i sicrhau bod eich etholwyr yn ymwybodol o hyn. Yr hwb gwybodaeth yw'r man galw cyntaf i unrhyw un sydd eisiau gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael. Rydym hefyd wedi cynorthwyo undeb Community yn ei gynlluniau i sefydlu canolfan cymorth corfforol yn Aberafan, a bydd mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.
Ddoe, roeddem yn falch o gyhoeddi bod Busnes Cymru bellach yn gallu dechrau cyfarfod â busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata i ddeall eu heriau ac i asesu eu cymhwysedd i gael cymorth drwy gronfa pontio hyblyg y gadwyn gyflenwi. Bydd y gronfa, sy'n rhan o £80 miliwn o gyllid pontio gan Lywodraeth y DU, yn cael ei darparu drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu cymorth ariannol cyflymach i fusnesau cadwyn gyflenwi yr effeithir arnynt ledled Cymru, ac fe'i neilltuir ar gyfer cwmnïau sy'n gweithio yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel, yn hytrach na'r rhai yn yr economi ehangach. Bydd yr ymyrraeth yn sicrhau bod busnesau y mae pontio Tata Steel ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt yn gallu goresgyn heriau tymor byr yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â helpu busnesau i ailgyfeirio wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd twf newydd.
Mae'r cymorth hwn yn gweithredu ochr yn ochr â chefnogaeth sgiliau ehangach i'r gweithlu, gan gynnwys tua £25 miliwn yn ymwneud â ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, a'r cymorth wedi'i dargedu o £2 filiwn drwy'r rhaglen cyfrifon dysgu personol a ddarparwyd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Bydd cefnogaeth y cyfrifon dysgu personol yn parhau yn y flwyddyn academaidd bresennol, wedi'i gweinyddu gan Medr. Mae data cychwynnol yn dangos bod y cynllun treialu cyfrifon dysgu personol ar gyfer ymyrraeth Tata wedi galluogi dros 700 o weithwyr yn Tata a'i gadwyn gyflenwi i gymryd rhan mewn dros 1,000 o raglenni ailsgilio neu uwchsgilio.
Roedd Llywodraeth Cymru yn falch bod Llywodraeth y DU a Tata Steel wedi cadarnhau eu cytundeb. Mae hyn o leiaf yn dod â sicrwydd i'r dyfodol a'r camau nesaf ar gyfer gweithrediadau Tata yng Nghymru. Roedd Llywodraeth y DU yn gallu trafod cytundeb llawer gwell na'r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, yn ôl ym mis Medi 2023. Mae'r cytundeb gwell yn cynnwys: 100 o swyddi i'w gosod mewn cynllun ar ffurf ffyrlo, wedi'i ariannu gydag arian ychwanegol gan Tata; taliad diswyddo o 2.8 wythnos am bob blwyddyn o wasanaeth, sy'n fwy hael nag y mae'r cwmni wedi'i gynnig o'r blaen; ymrwymiad na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, fel y bydd y rhai sydd mewn perygl o ddiswyddo gorfodol yn gallu cael mynediad at gynllun hyfforddi o hyd at 12 mis, gyda chyflog llawn am fis a'r gweddill ar 60 y cant, wedi'i ariannu gan y cwmni; cytunwyd ar amodau grant llymach fel y bydd arian trethdalwyr yn cael ei gymryd yn ôl os na chyflawnir yr ymrwymiadau hyn; ac ymrwymiad gweithredol i ddatblygu, dros y 12 mis nesaf, gynlluniau buddsoddi yn y dyfodol y tu hwnt i'r ffwrnais arc drydan ar safleoedd Tata yng Nghymru.
Mae'r cytundeb yn adeiladu pont i ddyfodol cystadleuol a chynaliadwy i ddur Cymru a, gyda'r cytundeb cyllido grant ar waith, mae Tata Steel UK bellach yn gallu creu archebion am offer. Mae Tata wedi dweud y bydd y newid i wneud dur arc trydan, gan ddefnyddio sgrap a gynhyrchir yn y DU, yn lleihau allyriadau carbon diwydiannol y DU 8 y cant, a 90 y cant ym Mhort Talbot, gan osod meincnod o ran yr economi gylchol trwy ymateb i alwadau gan gwsmeriaid diwydiannol ar gyfer dur gwyrdd. Mae'r cwmni wedi cynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus ac mae'n bwriadu gwneud cais am gymeradwyaethau cynllunio erbyn mis Tachwedd eleni. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith adeiladu ar gyfer y pontio yn dechrau tua mis Gorffennaf 2025, a disgwylir i'r ffwrnais arc drydan fod yn weithredol o fewn tair blynedd.
Mae dur yn parhau i fod yn ddeunydd hanfodol am y tro, ar gyfer y dyfodol, yn fyd-eang. Adeiladu, modurol, seilwaith, ynni adnewyddadwy—maent i gyd yn dibynnu ar ddur. Bydd dur wrth wraidd ein pontio i sero net, gan helpu i gefnogi datblygiad diwydiannau newydd yn ogystal â chyflenwi ein sylfaen weithgynhyrchu bresennol. Mae'r Llywodraeth Lafur newydd wedi ymrwymo i gronfa gyfoeth genedlaethol gwerth £2.5 biliwn ar gyfer y sector dur, ynghyd â strategaeth ddur i'w dadorchuddio y gwanwyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda nhw ar hyn. Rydym yn gweld diwedd cyfnod o gynhyrchu dur ffwrnais chwyth, ond gallwch fod yn sicr ein bod ni'n canolbwyntio'n llwyr ar gefnogi ein cymunedau a'n gweithwyr ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Gadewch i ni beidio â diystyru pwysigrwydd y foment hon. Ddoe, am y tro olaf, gwnaed y swp olaf o ddur o ffwrnais chwyth, gan nodi diwedd dull o wneud dur yn y dref sy'n dyddio'n ôl yn hirach nag y gall unrhyw un gofio. A does dim tref yn y DU y gallaf feddwl amdani sy'n fwy cyfystyr ag un diwydiant penodol na Phort Talbot a'i dur. Mae'n foment drist hefyd, i'r 2,000 o weithwyr a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i'r pontio, yn ogystal â llawer mwy yn y gadwyn gyflenwi yr effeithir arnynt.
Bydd llawer o'r gweithwyr hynny wedi pleidleisio dros Lafur yn yr etholiad cyffredinol oherwydd yr addewidion a wnaed gan y Blaid Lafur cyn yr etholiad hwnnw, y byddai gwahaniaeth sylweddol yn rhagolygon y gwaith pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol. Rydym wedi clywed rhai honiadau sy'n herio hygrededd oddi wrth Weinidogion yma, ac yn San Steffan, y byddai'r cytundeb hwn yn wahanol i'r un a'i ragflaenodd. Ond fel y dywedodd y BBC ar Wales Today neithiwr, mae cytundeb Llywodraeth Lafur y DU â Tata, a dyfynaf, 'bron yn union yr un fath' â'r un y cytunwyd arno gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Ni fydd gorfoledd y Blaid Lafur ynghylch mân newidiadau yn y print bach yn fawr o gysur mewn cartrefi lle mae gweithwyr yn wynebu'r realiti o golli eu swyddi. Nid yw ychwaith yr hyn a werthwyd iddyn nhw gan Blaid Lafur a Phrif Weinidog a ddywedodd ar sawl achlysur, un peth cyn yr etholiad, dim ond i ddweud y gwrthwyneb ar ei ôl. Ysgrifennydd Cabinet, ar ran y Blaid Lafur, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro i weithwyr dur ym Mhort Talbot am addewidion ffug eich plaid cyn yr etholiad?
Gan edrych tua'r dyfodol, mae ffwrnais arc drydan yn rhoi cyfle i ni barhau i wneud dur, ar ryw ffurf, ym Mhort Talbot mewn ffordd gynaliadwy, ymhell i'r dyfodol gobeithio. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynllunio ac adeiladu'r ffwrnais arc drydan honno, gan roi sicrwydd i bobl y bydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd, ac a fydd yn cadw at gyllidebau ac amserlenni y cytunwyd arnynt fel y trafodwyd gyda Tata?
Hefyd yn nyfodol tymor hwy Port Talbot mae gweithredu porthladd rhydd, y bydd rhan ohono ar safle'r gwaith dur presennol. Allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynnar yn natblygiad y porthladd rhydd? Oherwydd, er mwyn i'r porthladd rhydd fod yn llwyddiant, mae angen i ni hefyd ddibynnu ar lwyddiant y diwydiant dur ym Mhort Talbot; mae'r ddau yn cydblethu. Ac mae hynny'n golygu porthladd rhydd wedi'i adeiladu ar ynni glân, gwyrdd, yn fwyaf nodedig trwy wynt arnofiol ar y môr. Ond ni fydd hynny'n llwyddo oni bai ein bod yn defnyddio dur a wnaed ym Mhort Talbot i wneud y tyrbinau hynny. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am drafodaethau parhaus ynghylch hyfywedd dur sy'n cael ei wneud trwy ffwrnais arc, fel yr un a fydd yn cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, yn cael ei ddefnyddio i allu gwneud tyrbinau gwynt? Oherwydd, oni bai bod modd cynhyrchu dur yn lleol, fe fydd hynny'n cael ei weld fel ergyd gas arall i bobl ym Mhort Talbot.
Ac mae hon yn broblem y gwnaethoch hefyd ei chrybwyll yn eich datganiad, lle rydych yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant dur i ddiwydiannau eraill, megis, ac rwy'n dyfynnu, 'Adeiladu, modurol, seilwaith, ynni adnewyddadwy', ac ati. Ond mae llawer o'r diwydiannau hynny'n dibynnu, i raddau helaeth, ar fathau o ddur nad ydynt ar fin cael eu cynhyrchu gan Tata ym Mhort Talbot ar hyn o bryd, gyda'r rhan fwyaf yn dibynnu ar wneud dur crai. Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o'r diwydiannau hynny rydych chi'n sôn amdanyn nhw, a'r farchnad ar gyfer y dur a fydd yn cael ei gynhyrchu yn y gwaith?
Ac yn olaf, yn y cyd-destun hwn rydych chi'n sôn am gronfa gyfoeth genedlaethol gwerth £2.5 biliwn ar gyfer y sector dur. Allwch chi gadarnhau faint o arian sydd wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer Port Talbot yn y gronfa hon, fel y gallent o bosibl adeiladu, er enghraifft, melin blatiau newydd, a allai gynhyrchu dur sy'n addas ar gyfer pethau fel tyrbinau gwynt ac ati? Diolch.
Wel, rwy'n gobeithio y bydd Tom Giffard yn myfyrio ar naws ei gyfraniad yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n ei ddifaru'n fawr iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd ef hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n annoeth iawn i siarad am orfoledd ar adeg fel hon, sydd mor drist ac mor arwyddocaol i Bort Talbot a'r ardal ehangach.
Fodd bynnag, fe wnaf droi at y cwestiynau a ofynnodd, ac roedd un ohonynt yn ymwneud ag ymrwymiad Tata Steel i'r ffwrnais arc drydan. Mae Tata wedi dechrau rhannu darluniadau manwl ac efelychiadau rhithwir o'r ffwrnais arc drydan newydd gyda chymunedau lleol, cwsmeriaid a'r adran gynllunio leol, ac mae'r cwmni hefyd yn disgwyl cyhoeddi gwneuthurwr yr offer ar gyfer y ffwrnais arc drydan yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac, yn fy sylwadau agoriadol, soniais am gynlluniau'r cwmni mewn perthynas â cheisio caniatâd cynllunio hefyd.
O ran y ffwrnais arc drydan ei hun a'r hyn y bydd yn ei gynhyrchu, wel, gwyddom nad yw ffwrneisi arc trydan sy'n defnyddio sgrap heddiw yn gallu cynhyrchu pob gradd o ddur, yn enwedig ar gyfer cynhyrchion gwastad ar gyfer y sector modurol a phecynnu, er enghraifft, ond mae UK Steel wedi dweud bod y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â ffwrneisi arc trydan yn cael eu goresgyn yn gyflym ac mae rhywfaint o'r dur o ansawdd uchel ar gyfer y sector modurol bellach yn cael ei gynhyrchu yn UDA trwy ffwrneisi arc trydan. Felly, rydym yn edrych yn agos iawn ar hynny ac ar y dechnoleg sy'n esblygu drwy'r amser.
Mewn perthynas â phorthladdoedd rhydd, mae'r Prif Weinidog a minnau, a chyd-Aelodau eraill, yn trafod gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â dynodi'r porthladdoedd rhydd. Dyna'r cam nesaf pwysig, a fydd yn rhoi hyder i fuddsoddwyr ar gyfer y dyfodol. Ac rydym yn credu bod dyfodol cryf a chadarnhaol iawn i Bort Talbot a'r ardaloedd cyfagos. Bydd y porthladd rhydd yn rhan bwysig o hynny. Roedd ein porthladdoedd rhydd yng Nghymru, rwy'n credu, yn arwyddocaol yn y ffordd yr oeddent yn wahanol i'r rhai yr oedd Llywodraeth flaenorol y DU yn eu datblygu, yn yr ystyr bod gennym ymrwymiad cryf iawn yn ein porthladdoedd rhydd i waith teg ac i sero net, ac mae hynny'n cyd-fynd yn fawr nawr â dull newydd Llywodraeth y DU hefyd.
Byddwn hefyd yn cael y trafodaethau manwl hynny wrth i ni symud ymlaen, fel y dywedais unwaith eto yn fy natganiad, mewn perthynas â'r gronfa gyfoeth genedlaethol a'r strategaeth ddur. Mae'r ddau beth yn dal i fod yn y camau cymharol gynnar, ond yn amlwg, byddant yn rhan o'n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU wrth i ni symud ymlaen.
Ac ochr yn ochr â hynny i gyd mae'r trafodaethau, wrth gwrs, y byddwn yn eu cael gyda diwydiant, gan sicrhau bod diwydiant sydd â diddordeb mewn gwynt arnofiol ar y môr, er enghraifft, yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi diwydiant ac i gefnogi dod â diwydiant newydd i'r ardal. Ond rwy'n sylweddoli bod hynny i raddau yn y dyfodol ac mae gennym waith ofnadwy o fawr o'n blaenau heddiw i gefnogi'r gweithwyr hynny y mae cau'r ffwrnais chwyth wedi effeithio arnynt.
Tom Giffard. Na, mae Tom Giffard newydd fod, mae'n ddrwg gennyf. Luke Fletcher.
Diolch, Llywydd. Hawdd fyddai dechrau drwy ddweud bod heddiw yn ddiwrnod trist, diwrnod nad oes yr un ohonom eisiau ei weld, a byddai hynny'n wir. Ond, yn y dyddiau diwethaf, rwy'n credu ein bod wedi clywed hynny'n cael ei ddweud digon, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad sy'n dechrau swnio'n wag i lawer.
Y gwir amdani yw, pe baem wir eisiau osgoi hyn, y gallem fod wedi gwneud hynny. Nid oedd yn rhaid i hyn ddigwydd. Gallai'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol fod wedi atal cau ffwrnais chwyth 4, gallai'r Llywodraeth Lafur bresennol fod wedi atal colli gwneud dur sylfaenol yng Nghymru. Wrth gwrs, roedd aelodau ar feinciau'r Blaid Lafur yn ein hatgoffa bob tro, yn dweud wrthym dro ar ôl tro, fod ganddyn nhw gynllun i achub dur Cymru, mai'r cyfan oedd yn rhaid i ni ei wneud oedd eistedd yn dawel ac aros am Keir Starmer. Ac roeddwn yn obeithiol—roeddwn yn obeithiol hyd y diwedd un, ond yn y diwedd, nid oedd gan Lafur gynllun.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, ym mis Medi 2023, cawsom olwg gyntaf ar y cynnig gan Tata a Llywodraeth y DU i symud tuag at ffwrnais arc drydan, ac nid oes dim bron wedi newid ers hynny. Gallai fod wedi newid. Amlinellwyd amrywiaeth o ffyrdd y gallai fod wedi newid gennym; gwnaeth yr undebau llafur yr un peth. Ond dywedwyd wrthym i aros am Lywodraeth Lafur y DU oedd â chynllun, a dywedwyd wrthym hynny am dros flwyddyn. Ac i fod yn hollol onest, blwyddyn o ymddygiad ffuantus gan uwch wleidyddion Llafur.
'Byddaf yn rhoi pob gewyn ar waith i ddiogelu bywoliaeth a sicrhau dyfodol balch i'n diwydiant dur yng Nghymru.'
'Mae gweithwyr ym Mhort Talbot mewn perygl o gael eu diswyddo oherwydd nad oes gan y Llywodraeth hon yr uchelgais i gefnogi ein diwydiant dur, fel y mae Llafur y DU wedi addo ei wneud.'
Daw'r ddau ddyfyniad yna gan yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru presennol.
Fe wnaeth cyn-Brif Weinidog Cymru annog Tata i aros am Lywodraeth Lafur ar ei daith i Mumbai. 'Bydd pethau'n wahanol', meddai. 'Siaradais â Keir Starmer cyn i mi adael', meddai. 'Mae angen mwy o ddur, nid llai,' meddai. Ond erbyn hyn mae'r gân wedi newid a'r hyn y sicrhawyd i ni'n flaenorol wedi'i wrthod.
Ddoe, clywsom lefarwyr Llafur yn dweud ei bod yn anochel bod hyn yn mynd i ddigwydd. Wel, ni fyddaf byth yn gadael iddynt anghofio nad oedd unrhyw beth anochel am hyn. Yr hyn oedd ei angen arnom oedd ewyllys gwleidyddol a dewrder gwleidyddol gan ein harweinwyr, a dyna'n union yr hyn na chawsom. Yr hyn sydd gennym yn hytrach yw arweinwyr gwleidyddol sy'n amharod i gorddi'r dyfroedd, yn amharod i ystwytho eu cyhyrau gwleidyddol i wneud penderfyniadau gwleidyddol beiddgar ac, ie, anodd.
Ni yw'r allanolyn yma—gobeithio ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny—nid yn unig yn yr ystyr mai ni bellach yw'r unig wlad G7 heb allu i gynhyrchu dur sylfaenol, ond rwy'n golygu yn ein hagwedd at reoli'r economi a pholisi diwydiannol. Edrychwch ar Ffrainc, edrychwch ar yr Almaen a'r arian maen nhw'n ei roi i mewn i sicrhau eu dyfodol a'u sector dur gwyrdd. Hyd yn oed yn well eto, gadewch i ni edrych dros y pwll ar grwsibl economeg y farchnad rydd: fyddai hyd yn oed yr Americanwyr ddim wedi caniatáu i hyn ddigwydd. Edrychwch ar agweddau'r ddau ymgeisydd arlywyddol. Mae'n anodd dod o hyd i ddwybleidiaeth, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond ar y mater hwn, mae'r ddau ohonyn nhw'n cytuno bod angen amddiffyn dur America ar bob cyfrif, ei fod yn fater o ddiogelwch cenedlaethol.
Rydyn ni'n edrych fel ffyliaid nawr ein bod ni wedi gadael i ased o'r fath fynd mewn byd lle mae Tsieina yn bwrpasol, gyda chymorth Rwsia, yn codi prisiau is am ddur. Pa fath o ffyliaid ydyn ni i sefyll yma a dweud bod angen i ni symud i economi sero net gan wneud ein hunain yn ddibynnol ar ddur rhad a brwnt wedi'i fewnforio i danio'r newid hwnnw. Oherwydd dyna'n union beth rydyn ni wedi'i wneud. Mae hon yn weithred o ddifrodi diwydiannol. Nid yw Tata yn cau ffwrneisi chwyth; maen nhw wedi agor dwy enfawr yn India erbyn hyn. Felly, peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthym fod hyn yn ymwneud â sero net; roedd hyn yn cael ei ysgogi gan elw a dim byd arall. Yn syml, mae Tata wedi rhagori ar y ddwy lywodraeth mewn tacteg. Maen nhw'n chwerthin yr holl ffordd i'r banc. Mae ein harweinwyr gwleidyddol, a dweud y gwir, yn rhoi sylw arwynebol: 'Fe wnaethon ni'r gorau y gallen ni; roedd angen mwy o amser.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da.
Es i mewn i wleidyddiaeth gan feddwl mai cyfrwng i newid oedd hwn, gan feddwl mai holl bwynt y lle hwn oedd amddiffyn ein cymunedau rhag gormodedd gwaethaf yr economi fyd-eang. Wel, llongyfarchiadau—pa mor anghywir, pa mor naïf oeddwn i. Yn hytrach, nid ydym wedi gwneud dim mwy na hwyluso dirywiad ein cymunedau diwydiannol. Gallaf ddweud fy mod wedi ceisio rhoi opsiynau ar y bwrdd. Fe wnaethom alw am wladoli ar gyfer diogelu swyddi a phontio teg i ddur gwyrdd, ond nid yw hyn i gyd yn fawr o gysur heddiw. Pam y gwrthodwyd archwilio pob opsiwn ar y bwrdd? Dywedwyd wrthym am aros, ac aros, ac aros, nes ei bod hi'n rhy hwyr. Nid wyf yn siŵr y bydd y gweithwyr ym Mhort Talbot, eu teuluoedd na'u cymuned ehangach yn maddau i ni am yr hyn sy'n digwydd yr wythnos hon, ac ni allaf eu beio.
Wrth gwrs, rwy'n deall pam mae pobl yn ddig ac yn rhwystredig ynghylch ble rydym ni nawr. Fe wnaethom gefnogi cynigion yr undebau o ran y pontio teg hwnnw, ond nid dyna lle rydym ni. Dywedaf na allaf weld un man lle mae'r Llywodraeth hon wedi gwyro oddi ar y llwybr iawn o ran cefnogi'r gweithwyr yn Tata a gweddill y diwydiant dur. Rwy'n talu teyrnged i'r ymdrechion a wnaed gan Vaughan Gething a gan Jeremy Miles pan oeddent yn y portffolio hwn i gefnogi'r diwydiant dur hefyd.
Rwy'n credu, mae gen i ofn, fod y syniad o Lywodraeth Cymru yn gwladoli'r diwydiant dur yn syniad naïf. O ran Tata, rwy'n gwybod bod y cwmni ei hun, undebau llafur a Llywodraeth y DU yn cydnabod nad yw'n rhywbeth a oedd yn agored i ni fel opsiwn realistig, er gwaethaf y nifer o weithiau y cafodd ei godi a'i awgrymu gan gyd-Aelodau. Mae'n syniad hyfryd, ond nid yw'n bosibl nac yn ymarferol. Yn wahanol i ymyriadau'r wladwriaeth yn ystod yr argyfwng bancio, er enghraifft, ni fyddai cymryd rhan yn y busnes penodol hwnnw o dan yr amgylchiadau penodol hyn yn rhywbeth a fyddai wedi mynd i'r afael â'r realiti ar lawr gwlad. Nawr mae gennym y cytundeb gyda Tata i roi £750 miliwn tuag at y buddsoddiad hwnnw o £1.25 biliwn, sy'n rhoi cyd-destun gwahanol o amgylch y syniad o wladoli. Ond rydym ni, rwy'n credu, yn yr un lle o ran ein gofid llwyr nad ydym yn gwneud dur crai yn y wlad hon mwyach, a beth mae hynny'n ei olygu i'n dyfodol ac ati.
Rwy'n credu yn sicr bod lefel o gytundeb yn hyn o beth, ond credaf fod yn rhaid i ni fod yn realistig ynghylch yr offer sydd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru ar gael iddi a'r ffaith ein bod wedi rhoi pob gewyn ar waith ar bob cam i gefnogi'r gweithlu. Yr hyn nad yw cyd-Aelodau wedi bod yn siarad amdano y prynhawn yma, wrth gwrs, yw'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r gweithlu, y gwaith rydyn ni'n ei wneud drwy ReAct. Siaradais yn gynharach am y gwaith pwysig y mae cyfrifon dysgu personol yn ei wneud, gan wneud y gwahaniaethau hynny ym mywydau pobl unigol i geisio eu cefnogi wrth i ni symud drwy gyfnod sy'n mynd i fod yn anodd iawn. Ac wrth gwrs, cyhoeddais gronfa hyblyg y gadwyn gyflenwi hefyd—nid haen 1 yn unig, ond yr holl ffordd i lawr i haen 3 yn y gadwyn gyflenwi—er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cael yr effaith ehangaf yno o ran cefnogaeth hefyd. Felly, byddwn yn annog cyd-Aelodau i amlygu hynny i'w cymunedau, yn enwedig y busnesau hynny rwy'n gwybod y byddant yn cysylltu â nhw.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw? Roedd yn ddiwrnod trist, yn ddiwrnod anodd ac yn ddiwrnod heriol ddoe. Roeddem yn gwybod ei fod yn dod, ond nid yw'n ei gwneud hi'n haws o gwbl i'n pobl yr ydym yn eu cynrychioli, teulu, ffrindiau, cymdogion i mi. Mae cyfnod anodd o'n blaenau, ac mae'n rhaid i ni dderbyn, yn anffodus, bod angen i ni nawr edrych at y dyfodol. Roeddwn i'n un o'r rhai oedd yn galw am fabwysiadu'r cynllun amgen gan yr undebau llafur a gan Tata. Roeddwn i'n gobeithio y byddai hynny yn ei le pan newidiodd y Llywodraeth, ac roedd Luke yn llygad ei le i ddweud hynny. Ond does dim cwestiwn—a does neb wedi sôn am hyn—doedd Tata ddim am symud. Roedd Tata yn cau'r ffwrnais chwyth honno yng Nghymru ac yn agor un yn India. Roedd gan Tata eu cynllun eu hunain ac, yn anffodus, ni allem newid safbwynt Tata. Ac mae Luke yn iawn; roedd elw'n dod cyn cymuned yn yr ystyr hwnnw.
Ond nawr mae'n rhaid i ni edrych ymlaen. Dydy pobl Port Talbot ddim eisiau gweld pwyntiau gwleidyddol yn cael eu sgorio yn y Siambr hon heddiw. Maen nhw eisiau gwybod beth rydyn ni'n mynd i'w wneud i'w cefnogi a sut rydyn ni'n mynd i fwrw ymlaen. Maen nhw eisiau i ni ddweud mewn gwirionedd sut y gallwn ni weithio ymlaen. Mae gennyf ddau gwestiwn i chi, Ysgrifennydd Cabinet. Sylwais na ddaeth unrhyw gwestiwn o'r cyfraniad diwethaf, ond mae gen i ddau gwestiwn i chi. Sut ydych chi'n mynd i weithio, naill ai'n annibynnol neu gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau buddsoddiad a bod busnesau eraill yn dod i mewn i Bort Talbot fel y gallwn gael cyfleoedd a dyfodol yn y blynyddoedd o'n blaenau? Gan mai dyna sydd ei angen arnom—mae angen i ni wybod bod busnesau yn dod i mewn, mae angen i ni wybod bod yna fuddsoddiad yn dod i mewn, ac mae angen i ni wybod bod swyddi'n dod i mewn, nid yn unig i'r gweithwyr yn y gwaith nawr, y contractwyr, y gadwyn gyflenwi a'r busnesau bach, ond hefyd ar gyfer y cenedlaethau fydd yn dilyn.
Ac yn ail, mae hynny yn y dyfodol. Wnes i erioed alw hwn yn bontio. I mi, mae pontio yn llyfn. Rydych chi'n dod â ffwrnais chwyth 4 i ben ac rydych chi'n cychwyn y ffwrnais arc drydan. Mae hyn yn dod â ffwrnais chwyth 4 i ben, ond mae'r ffwrnais arc drydan yno yn rhywle, pedwar, pum mlynedd i ffwrdd. Beth fyddwn ni'n ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw y maen nhw'n ei alw'n bontio i ddiogelu a chefnogi teuluoedd, gweithwyr a chymunedau, sicrhau ein bod yn gallu goroesi'r cyfnod pedair neu bum mlynedd hynny a pharhau i allu defnyddio'r cyfleoedd a fydd, gobeithio, yn dod? Dyna beth sydd angen i ni ei ddweud wrth bobl ym Mhort Talbot a'r ardal gyfagos.
Rwy'n ddiolchgar iawn i David Rees am y cwestiynau yna a hefyd am y cyfarfodydd a gawsom i drafod ei bryderon am y gymuned y mae'n ei chynrychioli. Mae'r rhain yn union, rwy'n credu, y pethau, pe bawn i'n gweithio yn Tata a bod gen i deulu yn Tata, y byddwn i eisiau i ni fod yn eu gofyn: sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r cymunedau?
O ran gwaith y bwrdd pontio, mae wedi comisiynu darn pwysig iawn o waith, y cynllun gweithredu economaidd lleol, a gomisiynwyd gan KPMG. Mae hwnnw'n nodi rhai cynigion gwirioneddol arwyddocaol a allai o bosibl gyfyngu ar yr effaith tymor byr, ond sydd hefyd yn darparu dyfodol cadarnhaol i'r rhanbarth yn y tymor canol i'r tymor hwy hefyd. Mae hynny'n cynnwys nifer o fuddsoddiadau posibl y gellid eu gwneud. Mae'n cynnwys rhai cynigion adfywio sylweddol yno, hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n nodi map ffordd defnyddiol o ran rhai o'r dewisiadau buddsoddi y gellir eu gwneud yn lleol.
Rwyf wedi sôn am y porthladd rhydd a'r gwaith y mae cyd-Aelodau a minnau yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd o ran cael y rhai hynny wedi'u dynodi'n ffurfiol, a hefyd y gwaith yr ydym yn ei wneud ar yr ochr gynllunio, y cyfeiriwyd ato gan fy nghyd-Weinidog, Jayne Bryant, yn gynharach heddiw, i geisio sicrhau bod Cymru'n cael ei hystyried yn gwbl agored i fusnes ac yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio busnesau sy'n dymuno buddsoddi yma mewn modd amserol. Rydym wedi siarad o'r blaen am sut y byddai'n well gan fusnesau dderbyn 'na' cyflym, yn hytrach nag 'efallai' hirfaith. Felly, mae'r rheini'n nifer o bethau rydyn ni'n eu gwneud ar hyn o bryd yn ehangach o ran creu'r hinsawdd honno ar gyfer buddsoddi.
I'r gweithwyr eu hunain, rwy'n credu bod y gwaith pwysig yr ydym yn ei wneud o amgylch ReAct ar hyn o bryd yn mynd i fod yn hanfodol i rai o'r gweithwyr hynny. Mae'r gwaith rydym yn ei wneud o ran mapio'r sgiliau sydd gan y gweithwyr, ond yna hefyd y sgiliau sydd eu hangen o fewn y gymuned ehangach a'r busnesau posibl a fydd yn lleoli yn y gymuned, rwy'n credu, hefyd yn bwysig, fel bod paru swyddi hefyd yn mynd i fod yn hanfodol. O ran y gwaith y mae LHH yn ei wneud—dyna'r cwmni all-leoli o Gaerdydd—cefais y cyfle i siarad â Phrif Swyddog Gweithredol Tata y DU am hynny. Mae'r gwaith maen nhw'n disgwyl i LHH fod yn ei wneud yn y dyfodol agos i gefnogi gweithwyr drwy'r broses all-leoli honno yn bwysig, ac unwaith eto, mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i geisio sicrhau bod gan y prentisiaid ddyfodol cadarnhaol hefyd. Mae gennym yr ymrwymiad hwnnw y bydd y prentisiaid yn gorffen eu prentisiaethau, ond mewn gwirionedd, ein gwir bryder yw, felly, ble mae'r swyddi hyn ar gyfer y prentisiaid. Felly, byddwn yn cadw llygad barcud ar hynny hefyd.
Mae cymorth a chefnogaeth ymarferol ar gael i'r gweithlu, hefyd, unwaith eto, drwy LHH, ond hefyd yn ehangach mewn perthynas â gweithdai, datblygu sgiliau, hyfforddiant unigol a chyngor ymarferol ynghylch ysgrifennu CVs a'r mathau hynny o bethau. Unwaith eto, mae llawer o wybodaeth ar wefan Castell-nedd Port Talbot fel y gellir cyfeirio pobl drwodd at y gefnogaeth gywir iddyn nhw. Hefyd, rydyn ni'n wirioneddol ymwybodol—ac rydyn ni'n siarad â'r heddlu am y mater penodol hwn—o'r ffaith, pan fydd pobl yn derbyn taliadau diswyddo, ein bod ni'n gwybod o brofiad y byddwch chi'n cael pobl â bwriadau gwael yn cylchredeg i geisio cael eu dwylo ar rywfaint o'r arian hwnnw, yn aml yn twyllo pobl er mwyn cael yr arian hwnnw. Felly mae sicrhau bod cyngor a chymorth ariannol ar gael i bobl yn bwysig.
Soniais i yn gynharach am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi Cymuned. Byddant yn agor eu siop galw heibio un stop yng nghanolfan siopa Aberafan yn fuan iawn. Ac nid i'r gweithlu yn unig y mae honno, mae ar gyfer eu teuluoedd hefyd, oherwydd gwyddom y bydd hyn yn cael effaith y tu hwnt i'r gweithwyr unigol yn unig, hefyd. Felly, mae llawer iawn o gefnogaeth ar gael nawr, mae dim ond yn fater o sicrhau mewn gwirionedd bod pawb yn gwybod ei bod ar gael. Ac fel y dywedais i, y lle gorau yw hwb gwefan Castell-nedd Port Talbot, oherwydd mae'r holl gyngor sydd gennym ar gael yno a'r cysylltiadau sydd gennym ar gael yno yn gredadwy ac rydym yn gwybod eu bod yn ddibynadwy, gan osgoi, fel y dywedais i, y bobl hynny a allai fod yn bwriadu manteisio ar y gweithwyr.
Mae'r amlinelliad unigryw a thrawiadol y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn rhan o fywyd pob dydd os ydych chi'n byw yn y cymunedau rwyf i'n eu cynrychioli, ac rwyf bellach yn teimlo'n ddigalon pan fyddaf yn pasio'r adeileddau cyfarwydd enfawr hynny gan wybod bod gobeithion miloedd o weithwyr wedi cael eu diffodd gyda'r ffwrnais chwyth sydd bellach yn oeri, ac na fydd byth eto'n gwneud dur sylfaenol. Ni allwch ddod o hyd i stryd lle rwy'n byw yng Nghwm Tawe heb fod rhywun yn byw yno sydd â chysylltiad â Tata Steel. Ac ym Mhort Talbot ei hun, wrth gwrs, mae'n rhan o bob agwedd ar fywyd cymunedol. Ac rwyf eisiau ei gwneud yn glir unwaith eto ein bod yn sôn am fwy na swyddi yn unig yma: swyddi mewn gwaith dur, miloedd o swyddi yn y gadwyn gyflenwi, a miloedd o swyddi yn y gymuned yn ddibynnol ar yr incwm yn dod i bocedi'r gweithwyr hynny.
Yr unig ffordd o ddiogelu swyddi a'r amgylchedd yw gwladoli'r diwydiannau sydd eu hangen arnom, ac mae angen i ni bontio i ddulliau gweithredu mwy gwyrdd. Clywais yr AS Llafur lleol yn siarad am anocheledd yr hyn sydd wedi digwydd oherwydd yr angen am bontio gwyrdd. Ond nid yw anghyfiawnder fel ry'n ni wedi'i weld ym Mhort Talbot yn anochel. Dywedoch chi fod y cynlluniau a gyflwynwyd gennym ni ar ymyrraeth y wladwriaeth oherwydd nad oedd Tata yn gwrando yn naïf. Felly, beth oedd y cynllun? Dydw i erioed wedi clywed beth oedd y cynllun. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd heddiw na fydd Llywodraeth Cymru byth eto yn caniatáu pontio mor annheg ag yr ydym wedi'i weld ym Mhort Talbot, bod addewidion ar fuddsoddiad yn cael eu cadw ac nad ydym byth eto yn ildio mewn anobaith ac yn derbyn nad oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein cymunedau rhag buddiannau corfforaethau enfawr sy'n meddwl am elw yn unig a dim byd i gymunedau Cymru?
Rwy'n ofni na allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn perthynas â'r materion a godwyd gan eich cyd-Aelod Luke Fletcher mewn perthynas â gwladoli. Does dim ffordd y gallai'r Llywodraeth hon fod wedi gwladoli'r diwydiant dur—[Torri ar draws.] Rwy'n sefyll yma ac rwy'n gyfrifol am weithredoedd Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud hynny'n ymarferol. Rwy'n siŵr, pe byddech wedi craffu ar yr achos penodol hwnnw, pe byddem wedi ei gyflwyno i chi, mae'n debyg na fyddai unrhyw ffordd y byddech yn gallu cefnogi hynny, am ystod eang o resymau. Ni fyddai'n ymarferol. Felly, nid wyf yn credu bod angen mynd ymhellach i drafod y pwynt penodol hwnnw eto, oherwydd ymatebais i'ch cyd-Aelod ac nid wyf yn siŵr bod unrhyw beth arall i'w ddweud am rywbeth nad oedd yn awgrym ymarferol yn y lle cyntaf, mae arnaf ofn.
Fel y dywedais i, ac fe ddywedaf eto, fe wnaethom gefnogi cynllun yr undeb tuag at y pontio teg, ond rwy'n credu bod David Rees yn nodi, mewn gwirionedd, realiti'r peth o ran agwedd Tata ei hun tuag at y sefyllfa. Ac fe ddywedaf eto nawr wrth gyd-Aelodau: nid yw pobl gartref eisiau gweld y math hwn o sgwrs, gwasgu ein dwylo am bethau a allai fod wedi bod, neu bethau y dymunem eu bod wedi digwydd; mae pobl gartref eisiau gweld y pethau ymarferol y gall pob un ohonom ni eu gwneud i'w cefnogi nhw ac i gefnogi'r cymunedau.
Ysgrifennydd Cabinet, o ran gweithrediadau Tata yng Nghymru a'r hyn a drafodwyd gennym o'r blaen yn ystod datganiadau blaenorol yn y Senedd, a'r effaith ar weithfeydd eraill yng Nghymru, yn fy achos i, yn enwedig, Llanwern, byddai gennyf ddiddordeb yn yr hyn y gallech ei ddweud wrthym, Ysgrifennydd Cabinet, o ran y buddsoddiad yr ydych yn disgwyl ei weld nawr yn y diwydiant dur yng Nghymru, ac i mi yn enwedig yn Llanwern. Yn amlwg, mae llawer iawn o bryder ymhlith y gweithlu yno hefyd ynghylch yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig, ac rwy'n credu bod angen sicrwydd arnynt ac, wrth gwrs, felly hefyd y contractwyr a'r cyflenwyr, o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl nawr ar gyfer y dyfodol a datblygu cynhyrchu a datblygu'r gwaith penodol hwnnw. Gwyddom hefyd ei fod yn weithlu cymharol ifanc o'i gymharu â'r gorffennol o ran oedran cyfartalog, gyda nifer o brentisiaid, ac mae'r bobl hynny'n edrych ymlaen at ddyfodol hir yn y gwaith, gobeithio. A tybed a allwch chi ddweud rhywbeth am hynny o ran cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd.
Ac yn olaf, diolch yn fawr iawn am yr hyn a ddywedoch chi am weithio gyda'r undebau llafur, sydd, yn fy marn i, mor hanfodol i ddyfodol dur yng Nghymru, ac mae'n dda gwybod bod cymuned wrth wraidd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd felly wrth i ni symud ymlaen.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau hyn. Yn ystod y cyfnod pontio, mae Tata wedi cadarnhau yn gyhoeddus y bydd cyflenwadau dur i gwsmeriaid yn cael eu diogelu gyda melinau a safleoedd prosesu i lawr y gadwyn yn defnyddio swbstradau a geir o weithrediadau byd-eang Tata Steel a chyflenwyr allweddol eraill. Mae Tata wedi nodi y gallai hyn effeithio ar 300 o swyddi, ond byddai hynny ymhen tair blynedd, a gallai hynny gynnwys o bosib, gydgrynhoi ac ad-drefnu asedau rolio dur yn oer yn Llanwern, unwaith y bydd y buddsoddiadau gofynnol wedi'u cwblhau ym Mhort Talbot. Ond mae Tata wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o ddiswyddiadau gwirfoddol beth bynnag, cyn ceisio gostyngiadau gorfodol drwy'r ailstrwythuro arfaethedig. Ond hoffwn roi'r ymrwymiad gwirioneddol hwnnw y bydd y bwrdd pontio yn cefnogi unigolion a busnesau yr effeithir arnynt ledled Cymru, ac, wrth symud ymlaen, rydym yn barod i fod yn rhan o ateb pragmatig wrth gefnogi pawb y mae'r pontio hwn yn effeithio arnynt.
Rwy'n credu bod y pwynt am y gweithlu ifanc hefyd wedi'i wneud yn dda iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau hynny ynghylch cydnabod pwysigrwydd y prentisiaethau a sicrhau bod pobl yn gallu nid yn unig cwblhau'r rheini, ond yna hefyd yn mynd ymlaen i ddod o hyd i waith, yn bwysig. Ond hefyd, wrth edrych ymlaen at y ffwrnais arc drydan, mae angen i ni gael y trafodaethau hynny yn gynnar gyda Tata, a gyda'n colegau, a gyda'r prifysgolion ac ati, er mwyn sicrhau, pan ddaw'r swyddi hynny ar-lein, ein bod yn gallu llenwi'r swyddi hynny gyda phobl sy'n fedrus ac yn barod ar gyfer y rheini. Ac yn y cyfamser, rwy'n gwybod bod llawer ohonom yn poeni am bobl â'r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol mewn gwirionedd yn symud i ddechrau gweithio mewn mannau eraill, felly mae angen i ni gael y cynllun pontio go iawn hwnnw i'r gweithwyr unigol hynny hefyd.
Fel cyn-weithiwr dur, rwy'n gweld hon yn wythnos drist iawn. Rydym wedi gweld diwedd gwneud haearn a dur yng Nghymru. Roeddwn i'n gweithio ym Mhort Talbot, roeddwn i'n gweithio yn y gwaith o wneud haearn a gwneud dur, a'r concast. Nid gwneud dur yw'r hyn sy'n digwydd mewn ffwrnais arc drydan, mae'n ailgylchu dur a ddefnyddiwyd eisoes. Mae Port Talbot yn cael ei droi'n waith ailgylchu dur, yn hytrach na gwaith gwneud dur. Canlyniad anochel preifateiddio'r diwydiant dur yw ei fod, ymhen amser, yn mynd i'r holl weithfeydd eraill sy'n mynd trwy hyn. A yw'r Gweinidog wedi trafod gyda Tata pam maen nhw'n adeiladu ffwrnais chwyth newydd yn India wrth gau'r ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot?
Daw dur mewn graddau amrywiol, yn seiliedig ar gynnwys carbon yn bennaf, ond mae hefyd yn dibynnu ar bresenoldeb metelau eraill, fel cromiwm. Ydy Tata wedi esbonio sut maen nhw'n mynd i rannu'r dur o wahanol raddau ar gyfer ailgylchu? Rwy'n gweld arwyddion 'dim ffermwyr, dim bwyd' yn rheolaidd. Beth allaf ddweud? Os nad oes gennym weithwyr dur, does gennym ni ddim ceir, dim nwyddau gwyn, fel peiriannau golchi, a dim adeiladu.
Yn olaf, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddod â swyddi gwasanaeth sifil o Lundain, sy'n mynd i gael eu hadleoli i'r rhan hon o'r de? Ni fyddan nhw'n cymryd lle'r swyddi dur yn uniongyrchol, ond byddan nhw o leiaf yn darparu gwaith yn yr ardal.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am y cwestiynau yna, a byddwn yn cydnabod, fel y dywedodd, ei fod yn gyn-weithiwr dur ei hun, ac rwy'n gwybod, fel gwyddonydd ymchwil i British Steel, y bydd ganddo brofiad llawer mwy uniongyrchol yn y maes hwn na'r un ohonom ni. Felly, hoffwn gydnabod ei arbenigedd personol yn y maes hwn.
Fel y soniais i mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, rydym yn edrych ar y math o ddur y mae'r ffwrneisi arc drydan yn gallu ei ddarparu, ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol. Rydym yn deall bod gwelliannau yn y maes hwn drwy'r amser, a soniais am rywfaint o'r dur o ansawdd uchel nawr sy'n cael ei gynhyrchu yn UDA ar gyfer cerbydau ac ati trwy ffwrneisi arc trydan. Felly, rwy'n credu bod llawer o resymau dros fod yn gadarnhaol, rwy'n credu, ynghylch yr hyn y gallwn ei gynhyrchu yng Nghymru, gan hefyd sylweddoli, rwy'n credu, pa mor drasig yw hi ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle nad ydym bellach yn gallu gwneud y dur crai hwnnw yma yng Nghymru.
Felly, dydw i ddim wedi cael unrhyw sgyrsiau uniongyrchol eto mewn perthynas â swyddi'r gwasanaeth sifil, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei archwilio gyda chyd-Aelodau, ac efallai adrodd yn ôl i Mike Hedges ar hynny.
Doeddwn i ddim wedi bwriadu siarad, ond rwy'n credu bod angen ei wrthbrofi, y syniad hwn y gallwn ni wladoli'r gwaith dur. Rwyf wedi gweld ei bod yn cymryd £1 miliwn y dydd i Tata redeg y gwaith dur, a heb gefnogaeth Llywodraeth y DU ni fydd yn bosibl newid hyn er gwell. Ond yn amlwg rydym bellach yn wynebu'r sefyllfa lle byddwn yn mewnforio dur o leoedd lle mae'r cyflog a'r amodau gwaith yn llawer is, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hynny.
Wrth edrych i'r dyfodol, sut mae'r gymuned leol wedi bod yn rhan o lunio'r adroddiad gan KPMG? Oherwydd nid yw Port Talbot yn brin o dalent a sgiliau, ac mae'n gwbl hanfodol bod ganddyn nhw rôl ganolog wrth ail-lunio eu dyfodol yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd.
Mae hwnna'n bwynt ardderchog a wnaed yn dda, yn yr ystyr mai dyma ddyfodol pobl ym Mhort Talbot, a mater iddyn nhw yw creu eu dyfodol, ond mae'n rhaid i ni fod yno i alluogi a chefnogi hynny hefyd. Rwy'n credu bod y cynllun gweithredu economaidd lleol wedi edrych ar y sylfaen sgiliau ar draws yr ardal, ond hefyd wedi edrych ar ble y gellid buddsoddi'n gynnar i adfywio a chefnogi'r gymuned. Ond yna mae hefyd yn nodi buddsoddiadau tymor hir posibl hefyd. Mae'n rhaid i hynny i gyd ymwneud â gwneud y mwyaf o dalent a chreadigrwydd a phrofiad pobl sy'n byw ym Mhort Talbot, felly mae'n rhaid mai eu stori nhw yw hi wrth symud ymlaen. Ni all fod yn rhywbeth sy'n cael ei baratoi y tu allan a'i roi iddynt. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hollbwysig i hyn i gyd.
Yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n siomedig yn safbwynt yr Ysgrifennydd Cabinet pan ddywed na ddylem yn awr edrych yn ôl o gwbl, ac wrth gwrs dylem fod yn edrych ymlaen at sut i greu dyfodol economaidd i'r cymunedau hynny ym Mhort Talbot a thu hwnt. Byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am hynny, ac fel y dywedais i yn gynharach, dim ond un enghraifft yw'r buddsoddiad sydd angen ei wneud mewn addysg. Ond mae pobl hefyd yn haeddu gwybod sut ddigwyddodd hyn, a phwy a ganiataodd i hyn ddigwydd, a'r ffaith bod y Llywodraethau Ceidwadol a Llafur wedi methu deall yr hyn oedd yn y fantol gyda cholli prif waith gwneud dur ym Mhort Talbot.
Nid oedd hyn yn anochel, fel y nodwyd gan fy nghyd-Aelodau. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn newydd i rôl yr economi felly nid ydym wedi bod yn ei dwyn i gyfrif am hyn, ond rwy'n siŵr y bydd hi wedi bod yn gwrando pan oeddem yn galw ar Lywodraeth y DU i wladoli'r gwaith dur ym Mhort Talbot. Ac mewn ymateb i sylwadau Jenny Rathbone, oedd, fe roedd problemau gydag arian yn cael ei golli bob dydd ar wahanol adegau. Mae yna adegau pan oedd y gwaith dur yn broffidiol, proffidiol iawn, ac rwy'n eithaf sicr y gallai fod yn broffidiol eto, gyda'r bywyd sydd ar ôl yn y ffwrnais chwyth honno. Roedd hwn yn waith dur y gellid bod wedi'i achub. A gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet ymateb—roeddem yn gwneud y pwynt ar ein heistedd, ac nid oedd yn rhaid iddi ymateb i hwnnw, wrth gwrs, ond nawr, gan ei roi ar y cofnod, i Lywodraeth y DU yr oeddem yn gofyn am wladoli. Llywodraethau'r DU, y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, oedd yn gwrthod hyd yn oed edrych i mewn i'r posibilrwydd o sut i wneud i hynny ddigwydd er mwyn i ni allu ailddechrau neu barhau i gynhyrchu dur sylfaenol ym Mhort Talbot. A wnaiff hi gydnabod hynny a chywiro ei chofnod, ac a wnaiff hi hefyd—ceisiaf unwaith eto—ddweud wrthon ni beth oedd y cynllun yr oedd Llafur wedi dweud oedd ganddyn nhw, oherwydd rydyn ni'n dal i aros?
Felly, rwyf yn cytuno y bydd amser i edrych yn ôl a dysgu, ond nid wyf yn hollol siŵr mai heddiw yw'r adeg honno. Mae heddiw yn ymwneud â cheisio amlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl yr effeithir arnyn nhw naill ai'n bersonol neu yn y gadwyn gyflenwi. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf ar gyfer heddiw. Mae'n ddrwg gen i am natur dymherus y ddadl benodol hon y prynhawn yma. Dylai hyn fod wedi bod yn adeg lle daethom ni ynghyd i gydnabod yr adeg arwyddocaol yn hanes Port Talbot ac yn hanes ein cenedl, ac i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gefnogaeth a'r cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Ac rwy'n atgoffa cyd-Aelodau eto fy mod i'n Weinidog yn Llywodraeth Cymru, ac rwyf yma i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn—o genhedlu i ddwy oed. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i wneud y datganiad yma.
Diolch am y cyfle i wneud y datganiad hwn yma heddiw. Fel y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, wrth gwrs, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob baban a phlentyn ifanc, waeth beth yw eu cefndir, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae hyn yn golygu gwasanaethau blynyddoedd cynnar o safon, yn ogystal â chymorth i rieni, gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd ifanc, i gynnal hawliau aelodau ieuengaf y gymuned, gan weithredu er eu budd gorau.
Rydym yn gwybod bod y cyfnod yn ystod beichiogrwydd hyd at ail ben-blwydd y plentyn yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer effaith, o ran gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau. Mae tystiolaeth yn amlygu arwyddocâd y cyfnod cynnar hwn, gan lunio nid yn unig bywydau unigol trwy gydol cwrs bywyd, ond hefyd yn effeithio ar genedlaethau i ddod. Mae ein strategaeth tlodi plant yn gosod y cyfeiriad i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid i atal tlodi ac i liniaru effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant yn rhan sylfaenol o'r gwaith hwn.
Mae gan y GIG, wrth gwrs, ran allweddol wrth leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar. Mae gwasanaethau yr ymwelwyr iechyd a bydwreigiaeth, fel y gwasanaethau cymorth cyffredinol yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, mewn sefyllfa unigryw i gefnogi teuluoedd, asesu'r angen yn systematig, a galluogi cymorth ac ymyrraeth benodol lle bo angen. Mae'r rhaglen cymorth diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, a arweinir gan Weithrediaeth y GIG, yn rhaglen tair blynedd sy'n ceisio gwella canlyniadau, lleihau amrywiaeth a gwella diogelwch. Bydd y datganiad ansawdd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn nodi sut bethau yw gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol "da", gan sicrhau bod pob teulu'n cael y gofal gorau posibl gyda'r canlyniadau gorau posibl.
I'r babanod hynny a anwyd cyn pryd, rydym ni hefyd wedi gweithredu pecyn gofal, PERIPrem, ledled Cymru i gael y canlyniadau gorau i'r rhai a anwyd yn gynnar. Mae rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu'r cyfeiriad strategol i fyrddau iechyd ddarparu rhaglen ymwelwyr iechyd gyffredinol i bob teulu yng Nghymru. Mae'n cwmpasu'r cyfnod o drosglwyddo gwasanaethau mamolaeth i flynyddoedd cyntaf addysg, gyda gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol. Mae'r rhaglen yn chwarae rhan hanfodol wrth wella canlyniadau iechyd a hyrwyddo iechyd a lles plant yng Nghymru. Ein disgwyliad yw y bydd pob plentyn a theulu yn cael cynnig rhaglen Plant Iach Cymru.
Gall gwasanaethau da o ran atal ac ymyrraeth gynnar ein helpu i nodi problemau yn gynt a'u hatal rhag gwaethygu. Felly, mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg yn rhan allweddol o fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a meithrin teuluoedd a chymunedau cryfach a mwy gwydn. Y gweithwyr proffesiynol a'r gwasanaethau hynny, gan weithio gyda phlant a'u teuluoedd, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pwysigrwydd penodol y 1,000 diwrnod cyntaf i ddyfodol a lles plentyn. Bore 'ma, roeddwn mewn digwyddiad a drefnwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd i ystyried profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, trawma, a'r 1,000 diwrnod cyntaf, ac roeddwn yn falch iawn o siarad yn y digwyddiad hwnnw a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gan randdeiliaid a phartneriaid, sy'n hynod frwdfrydig ac yn cydnabod gwerth y rhaglen hon, gan ein bod ni i gyd eisiau i Gymru fod yn lle gwych i bob baban, plentyn ifanc a'u teuluoedd ffynnu. Mae arnom ni eisiau iddyn nhw ffynnu trwy gyfleoedd a phrofiadau cyfoethog y gellir eu darparu trwy chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.
Mae ein rhaglen Dechrau'n Deg yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae darparu gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel yn rhan annatod o'r rhaglen hon, gan gyfrannu at gynnydd datblygiadol plant ochr yn ochr â chaffael sgiliau, megis cymdeithasu, y gallu i chwarae a chanolbwyntio. Mae hefyd yn anelu at baratoi plant, sy'n profi anfantais a thlodi, gyda'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr ysgol, a dyna pam rydym ni'n parhau i ehangu elfen gofal plant y rhaglen i gefnogi effeithiau hirdymor a chadarnhaol ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny ledled Cymru.
Mae rhieni, wrth gwrs, yn cael dylanwad sylweddol ar iechyd, lles a datblygiad eu babi. Mae babanod sydd ag ymlyniad sicr yn debygol o fod â gwell datblygiad cymdeithasol ac emosiynol, cyflawniad addysgol ac iechyd meddwl. Mae rhyngweithio ymatebol yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf hefyd yn hanfodol i ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar, a dyna pam rydym ni'n hyrwyddo datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, trwy Siarad â Fi, trwy gefnogi teuluoedd yn ogystal ag uwchsgilio'r gweithlu gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae plant sy'n cael digon o faeth yn gallu tyfu, dysgu a chymryd rhan yn eu cymunedau yn well. Mae pwysau iach hefyd yn cefnogi eu cyfleoedd bywyd a'u canlyniadau iechyd yn y tymor hir. Gyda chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew erbyn eu bod yn bump oed, yr amser mwyaf hanfodol ar gyfer maeth da yw yn ystod y cyfnod hwn, i osod y sylfeini ar gyfer ymddygiad dietegol pan fyddant yn oedolion. Mae 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn nodi ein hystod eang o ymrwymiadau i gefnogi plant a theuluoedd. Ac i'r rhai hynny, fel fi, sydd wedi magu plant, byddant yn gwybod nad yw magu plant yn hawdd, a gellir gwneud mwy i helpu creu'r amodau i deuluoedd yng Nghymru ffynnu. Gall straen cymdeithasol effeithio ar iechyd meddwl rhieni a'u gallu i ddarparu amgylchedd meithringar yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod yn y camau olaf o ddadansoddi ymatebion i'n hymgynghoriad ar y strategaeth iechyd meddwl a lles drafft, a bydd gan fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fwy i'w ddweud am hynny mewn datganiad a wneir yn fuan.
Nawr, mae Teulu Cymru yn frand i rieni, gofalwyr a theuluoedd plant o ddim i 18 oed. Mae'n eu cyfarwyddo i'r cyfeiriad cywir ar gyfer gwahanol ffynonellau cymorth ymarferol ac ariannol Llywodraeth Cymru. O awgrymiadau rhianta a chyngor datblygu arbenigol i helpu gyda chostau gofal plant, mae Teulu Cymru yn ei gwneud hi'n haws i rieni ddod o hyd i gymorth mewn un lle, trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n tudalen we benodol. Mae'r adnodd yn dwyn ynghyd gynnwys ymgyrchoedd rhianta presennol Llywodraeth Cymru: 'Magu Plant. Rhowch amser iddo', dod â chosb gorfforol i ben, Siarad gyda Fi, a'r cynnig gofal plant i Gymru. Mae hefyd yn cyfeirio at wybodaeth arall y mae rhieni yng Nghymru wedi dweud wrthym ni bod arnyn nhw ei eisiau. Mae Teulu Cymru yn gweithio gyda'r ymgyrch Pob Plentyn Cymru a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n canolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf a thu hwnt. Trwy ein hystod eang o becynnau cymorth, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi a grymuso rhieni a theuluoedd i ffynnu trwy'r cyfnod hollbwysig hwn o fywyd plentyn.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad heno, fel rwy'n credu ei bod hi bellach, Gweinidog. Dwy flynedd gyntaf ein bywydau, mewn sawl ffordd, yw'r pwysicaf, yn gyfle unigryw i gefnogi datblygiad plant ac iechyd hirdymor. Mae ffactorau amgylcheddol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, yn cael effeithiau hirdymor ar fywyd unigolyn. Mae derbyn y maeth cywir, er enghraifft, yn hanfodol ar gyfer twf, datblygiad yr ymennydd, llwybr treulio, metaboledd a system imiwnedd, ac mae bron pob mater sy'n effeithio ar blant yn ystod eu dwy flynedd gyntaf yn gysylltiedig â thlodi.
Datganodd y Prif Weinidog blaenorol ei ymrwymiad i'r dull 1,000 diwrnod cyntaf yng nghyd-destun mynd i'r afael â thlodi, ac mae'n hanfodol bod pwyslais yn cael ei roi yn benodol ar dlodi plant. Felly, rwy'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi dileu tlodi plant fel blaenoriaeth i'w Llywodraeth. Mae tlodi yn effeithio'n anghymesur ar blant yng Nghymru o'i gymharu ag oedolion a phensiynwyr o oedran gweithio. Mae 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi o'i gymharu â 21 y cant o oedolion oedran gweithio. Mae gan dlodi gysylltiad sylweddol ag iechyd plant, gyda gordewdra, ysmygu a chyflyrau iechyd meddwl i gyd yn fwy cyffredin mewn ardaloedd o amddifadedd. I dynnu sylw at ystadegyn mwy brawychus, roedd cyfradd marwolaethau plentyndod 70 y cant yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu â'r rhai lleiaf difreintiedig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwaith ansicr a chostau gofal plant uchel yn peri risg gynyddol i iechyd a lles plant. Crybwyllwyd o'r blaen yn y Siambr hon mai Cymru sydd â'r ail gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf, ac, ynghyd â chynnig gofal plant llai hael, ni all rhieni sy'n gweithio fforddio gofal plant i'w plant ifanc, a gall hyn atal datblygiad plentyn. Hefyd, nid yw llawer o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi cymharol yn gymwys ar gyfer y cynllun Dechrau'n Deg, gyda 48 y cant o deuluoedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig sy'n byw y tu allan i'r dalgylch Dechrau'n Deg, sy'n gweithredu fel loteri cod post. Mae'r rhain i gyd yn faterion y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw yng nghyd-destun y 1,000 diwrnod. Yn ogystal â thlodi plant, dylai fod ymagwedd benodol tuag at anghydraddoldeb iechyd plant, sy'n cynnwys cydnabod bod y tueddiadau anghydraddoldeb iechyd plant presennol yn anghynaladwy ac y gallen nhw gael effaith ddinistriol ar y genhedlaeth nesaf a ffyniant Cymru yn y dyfodol, oni bai yr eir i'r afael â nhw ar frys.
Fe hoffwn i hefyd weld cynllun gweithlu iechyd plant a gwell dull o gasglu a rhannu data ynghylch iechyd plant, a fyddai'n caniatáu i fyrddau iechyd nodi meysydd sy'n tanberfformio. Mae'n ymddangos bod y dull gwael o gasglu data, nad yw'n caniatáu i'r defnyddiwr chwilio yn ôl arbenigedd pediatrig, yn ymgais fwriadol i ddifetha gwir ddarlun iechyd plant yng Nghymru trwy ei gwneud hi'n anodd pennu'r union ddata. Ategir y galwadau hyn gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac maen nhw yn haeddu ystyriaeth gryfach.
Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd weithio gydag elusennau i sicrhau bod ganddyn nhw gyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer cynlluniau fel y Prosiect Undod gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, sy'n darparu cymorth i famau sydd â phrofiad o ofal sy'n rhan o raglen Babi a Fi Barnado's yng Nghasnewydd, sydd wedi haneru nifer y babanod sy'n cael eu trosglwyddo i'r gwasanaethau gofal. Mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol sy'n ymgymryd â'r gwaith na all y wladwriaeth ei wneud, ac mae angen cyllid dibynadwy a chynaliadwy arnyn nhw i barhau â'u gwaith, a fydd yn cael effaith ddramatig ar ragolygon a lles hirdymor y mamau a'r babanod y maen nhw yn eu helpu.
Rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am y nifer cynyddol o blant sydd dros eu pwysau neu'n ordew. Mewn gwirionedd, mae hon yn broblem fwy na diffyg maeth, gyda chwarter y plant yng Nghymru yn mynd dros eu pwysau neu'n ordew erbyn eu bod yn bump oed, fel yr ydych chi wedi cyfeirio, Gweinidog. Rydym yn clywed llawer am wahardd pethau a galw am fwy o gyllid i fynd i'r afael â hyn, ond efallai fod addysg yn bwysicach, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn addysgu rhieni a phlant am bwysigrwydd deiet cytbwys a sut i baratoi prydau iach am bris rhesymol.
Rwyf hefyd eisiau crybwyll niwroamrywiaeth a'r anghenion dysgu ychwanegol, a oedd yn absennol o ddatganiad y Gweinidog. Mae tua un o bob saith o bobl yn y DU yn niwroamrywiol, a bu cynnydd rhyfeddol mewn diagnosau awtistiaeth yn ystod y degawdau diwethaf, gydag un astudiaeth yn dangos cynnydd o 787 y cant yn nifer rhai sy'n cael diagnosis o awtistiaeth rhwng 1998 a 2018 yn y DU. Mae nifer y plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn cynyddu, a daeth yn fwy dwys ers pandemig COVID-19, ac mae hyn yn rhywbeth y mae gweithwyr yn y sector blynyddoedd cynnar yn dwyn fy sylw ato'n rheolaidd. Ond, yn y sector blynyddoedd cynnar, mae gweithwyr yn dweud wrthyf dro ar ôl tro bod plant yn dangos arwyddion o anghenion dysgu ychwanegol ond nid oes unrhyw gyfarpar canfod na chymorth ar gyfer plant o'r oedran yna, ac eto caiff arwyddion presennol eu canfod gan staff mewn plant o dan ddwy oed. Felly, rwy'n awyddus i ddeall sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gwella'r broses o ganfod a chefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gynnar, sy'n arfogi teuluoedd ag offer yn gynharach, cyn, y dylwn i ddweud, bod y plentyn yn mynd i'r ysgol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Gareth Davies, am y pwyntiau a'r cwestiynau hynny, yr ydw i'n cytuno'n llwyr â llawer ohonyn nhw. Rwy'n credu ein bod ni'n cydweld o ran bod eisiau cyflawni'r canlyniadau gorau i'r plant yn eu 1,000 diwrnod cyntaf a dyna hanfod y datganiad mewn gwirionedd. Felly, mae yna agweddau eraill ar y pwyntiau a wnaethoch chi nad ydyn nhw'n rhan o gwmpas y datganiad mewn gwirionedd, ond ceisiaf roi sylw i gymaint ohonyn nhw ag y gallaf i.
A gaf i siarad am anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth yn gyntaf, oherwydd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sy'n gyfrifol am hynny? Rwy'n siŵr, os ydych chi am fynd i'r afael â'r safbwyntiau hynny, mae hi wedi gwrando ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu ymdrin â rheini ac ymateb i chi.
A gaf i fod yn glir iawn? Nid yw'r Llywodraeth hon wedi, ac ni fydd hi, yn dibrisio tlodi plant. Cynhaliodd y Prif Weinidog ymarfer gwrando dros yr haf, ac roedd yna bethau yr oedd pobl yn eu dweud wrthym ni ac wrthi hi a nodwyd fel blaenoriaethau allweddol y dylai'r Llywodraeth hon eu cyflawni cyn diwedd y tymor hwn. Nid yw hynny'n golygu bod popeth arall yn y Llywodraeth yn terfynnu—ddim o gwbl—ac mae tlodi plant a'n strategaeth tlodi plant, wrth geisio ymdrin â hynny ar draws pob portffolio gweinidogol, yn dal i fod yn flaenoriaeth fawr i'r Llywodraeth. Felly, nid wyf am i neb feddwl ein bod yn dibrisio hynny mewn unrhyw ffordd.
O ran anghydraddoldebau iechyd, mae gennym ni strategaeth o ran iechyd plant, ac mae'r strategaeth honno'n glir iawn ynglŷn â sicrhau, lle rydym ni'n nodi anghydraddoldeb iechyd ymhlith plant, ein bod yn ceisio mynd i'r afael â hynny. Mae gennym ni Raglen Plant Iach Cymru, a dyna beth mae hynny'n ceisio ei wneud. Mae hynny'n gorfodi naw cyswllt penodol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, o 10 i 14 diwrnod oed hyd at dair a hanner. Ac mae'n rhaid i'r cysylltiadau hynny gael eu cynnal gan dimau ymwelwyr iechyd, dan arweiniad meddyg teulu a darparwyr gofal sylfaenol. Felly, rydym ni'n glir iawn ein bod yn ymwybodol o'r anghydraddoldebau penodol, ac mae peth gweithredu rhag blaen, os mynnwch chi, yn rhan o'r Rhaglen Plant Iach Cymru honno, ond mae'n cael ei wella yn y rhaglen Dechrau'n Deg lle mae gennym ni wasanaeth ymwelwyr iechyd gwell o lawer sy'n cydweddu â hynny yn rhan o raglen y 1,000 diwrnod cyntaf.
Fe hoffwn i grybwyll yn fyr iawn, os caf i, eich sylw am ofal plant a chostau gofal plant, a'r sylw a wnaethoch chi am y gwahaniaeth, os mynnwch chi, rhwng yr hyn sydd ar gael yma a'r hyn sydd ar gael yn Lloegr. Fe hoffwn i fod yn glir iawn bod dull Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ddarparu gofal plant a ariennir yn wahanol. Nid yw fel cymharu afalau a gellyg. Mae gennym ni gynnig gwahanol a chyfres wahanol o flaenoriaethau o ran yr hyn rydym ni'n meddwl sy'n bwysig. Felly, mae gennym ni ein dull chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru, sy'n gosod y plentyn a datblygiad y plentyn wrth wraidd popeth a wnawn ni. Ac rydym yn cydnabod, wrth gwrs, bod costau gofal plant yn gost sylweddol i deuluoedd, yn enwedig ochr yn ochr â chostau byw cynyddol, a dyna pam mae gofal plant yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Ac rydym ni'n buddsoddi'n helaeth mewn gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar—rydym ni'n buddsoddi mwy na £100 miliwn mewn darpariaeth gofal plant bob blwyddyn yng Nghymru. Nawr, mae Dechrau'n Deg yn darparu pecyn gofal plant o ansawdd wedi'i ariannu'n llawn i rieni pob plentyn dwy a thair oed cymwys, ac am ddwy awr a hanner y dydd, pum diwrnod yr wythnos, 39 wythnos o'r flwyddyn. Gall rhieni, wrth gwrs, ychwanegu at hynny os ydyn nhw'n dymuno.
Ac i ddelio â'r mater o ehangu, rydym ni wedi ymrwymo i ehangu'r cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn dyflwydd oed, ac mae hynny'n cael ei ddatblygu drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Rydym ni wedi buddsoddi £46 miliwn arall i wneud hynny, i gefnogi gofal plant yn y tymor hwy. Rydym yn disgwyl cefnogi 9,500 o blant dwy oed ychwanegol ledled Cymru i gael mynediad at y ddarpariaeth Dechrau'n Deg ychwanegol honno. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny, ac rydym ar y trywydd iawn i adeiladu'n raddol tuag at gynnig gofal plant Dechrau'n Deg cyffredinol i bob plentyn dwy oed ledled Cymru. Mae gennym ni gam 2 cyflwyniad ehangach y rhaglen Dechrau'n Deg, a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio a oedd gennym ni gyda Phlaid Cymru, ac mae hynny'n cael ei gyflwyno nawr wrth i ni siarad.
Ond, wrth gwrs, yn ogystal â hynny, mae gennym ni hefyd y cynnig gofal plant cyffredinol, sef cynnig gofal plant sy'n darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar bob wythnos am 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed, wedi ei ariannu'n llawn, ac mae hynny ar gyfer pob rhiant cymwys, pob rhiant cymwys sy'n gweithio, a rhieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg. Ac mae hynny'n cymharu â dim ond 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn unig. Felly, nid yw rhieni sy'n ymgymryd â hyfforddiant ac addysg er mwyn dechrau gweithio yn gymwys i gael unrhyw fuddion a chymorth gofal plant yn Lloegr, y maen nhw yng Nghymru. Mae ein cynnig hefyd yn caniatáu ar gyfer darpariaeth gwyliau hyblyg. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn i ni fod yn falch ohono. Mae gennym ni bolisi blaenllaw o ran cyfleusterau gofal plant datblygiadol drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg. Mae'n rhywbeth nad oes ganddyn nhw yn Lloegr. Mae'n un o'r pethau yr ydym ni wedi'u blaenoriaethu fel rhywbeth sydd ei angen yn y meysydd hynny lle mae'r angen mwyaf amdano, a hynny yn bennaf yn y meysydd hynny o amddifadedd economaidd lle gwyddom ni fod canlyniadau plant iau yn fwy ansicr, ac felly rydym ni, fel penderfyniad polisi ac fel blaenoriaeth, wedi penderfynu blaenoriaethu'r rhaglen Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant yn y ffordd sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Diolch am y datganiad. Rŷch chi wedi dweud bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod babanod yn cael y dechrau a'r cyfle gorau mewn bywyd, ond a yw'r nod yna yn cael sylw llawn a buddsoddiad priodol gan Lywodraeth Cymru, achos, ie, mae'n siŵr bod y Llywodraeth yn gwneud lot o bethau, ond mae e'n signal pwysig ac arwyddocaol, onid yw e, pan nad oes sôn am y blynyddoedd cynnar na thaclo tlodi plant ar y rhestr blaenoriaethau yna gawsom ni gan y Prif Weinidog? Mae e'n signal. Soniodd hi am wrando nid jest ar y lleisiau mwyaf croch wrth benderfynu'r blaenoriaethau yna, ond rhaid dweud, o glywed hi'n adrodd y rhestr, doedd lleisiau plant—y rhai sydd lleiaf grymus, lleiaf croch yn ein cymdeithas—yn amlwg ddim wedi cael ei chlust dros yr haf.
Mae hi wedi penodi Gweinidog dros blant, er bod addysg a thaclo tlodi plant yn gyfrifoldeb i ddwy Ysgrifennydd Cabinet arall, ac mae'r hyn sydd yn gyfrifoldeb i chi, felly, o fewn y maes gofal ac iechyd yn gofyn am gydweithio effeithiol. Sonioch chi wrth fynd heibio yn eich datganiad am y strategaeth tlodi plant. Pa elfennau o'r strategaeth tlodi plant yn benodol ydych chi'n mynd i'w blaenoriaethu? Sut byddwch chi'n cydweithio ar draws y Llywodraeth i gyrraedd y nod? Sut byddwch chi'n mesur allbwn y gwaith hwn? Roedd y neges yn glir o'r gynhadledd yn y Senedd y bore yma—fues i yna hefyd—wedi'i drefnu gan y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd, ac rwy'n gobeithio ichi glywed y pwyslais yna, y pwyslais oedd yn cael ei roi ar y ffaith bod angen mwy o gydlyniant a chydweithio rhyngadrannol o ran polisi iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thai.
Mae ymchwil yn dangos bod ymyrriadau yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf yn gwbl allweddol i sicrhau bod y maes chwarae yn fwy gwastad, a mesurau ataliol yn chwarae rhan hanfodol yn hyn wrth gwrs. Ac mae'r genedl gyfan yn elwa o hyn, ac mae'n gallu creu arbedion hefyd i'r pwrs cyhoeddus yn y pen draw, heb sôn am osgoi niwed a thrawma. Felly, pa fesurau ydych chi'n credu byddai mwyaf effeithiol i gyflawni'r nod honno? Ydych chi, er enghraifft, yn ystyried gwrthdroi'r toriad i'r rhaglen bwndeli babanod, oedd yn ymrwymiad yn eich rhaglen llywodraethu, o gofio bod aelwydydd â phlant ifanc yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi cymharol? Mae'n galluogi teuluoedd i gwrdd ag anghenion sylfaenol eu plant yn y cyfnod cynnar hollbwysig yna, a hefyd roedd y bwndeli yn gweithredu fel drws at gyngor a chymorth—y pwynt cyswllt cyntaf hanfodol yna yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Fe wnaethoch chi dorri hynny'n ddisymwth, wrth gwrs, ar ôl dweud eich bod chi'n mynd i'w rolio fe mas yn genedlaethol, ar ôl peilot a gwerthusiad llwyddiannus. Roedd hwn, wrth gwrs, ychydig fisoedd ar ôl ichi gyhoeddi eich strategaeth tlodi plant.
Dyw'r system gofal plant yng Nghymru ddim yn gweithio i blant na'u teuluoedd, felly rwy'n gobeithio eich bod chi wedi darllen gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar hyn. Rŷn ni wedi gwneud dau adroddiad erbyn hyn. Fyddwch chi'n ateb y galwadau gan arbenigwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yna yn ddi-dor ac yn fforddiadwy, gan sicrhau ei fod e'n hygyrch? Mae e'n greiddiol, wrth gwrs, i ddileu anghydraddoldeb. Mae e mor hanfodol. Mae rhieni a darparwyr, yn bwysig, yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael hi'n anodd iawn i lywio drwy'r dryswch presennol, y gwahanol gynlluniau, ac mae arolwg blynyddoedd cynnar Cymru wedi tanlinellu nad yw chwarter y darparwyr presennol yn meddwl y byddan nhw'n medru parhau i gynnig gofal plant am flwyddyn arall. Mae hyn yn codi i bedwar o bob pump ymhen dwy flynedd. Mae'n system gymhleth, aneffeithiol, ac mae ar fin chwalu, felly beth yw'ch ymateb penodol chi i hynny?
Yn olaf, hoffwn droi at yr angen i gefnogi'r sectorau sy'n gwneud gwaith amhrisiadwy wrth gefnogi teuluoedd ble mae yna risg y gallai'r babi gael ei gymryd i mewn i ofal. Mae prosiect arloesol Baby and Me, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Barnado's Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, yn darparu cefnogaeth ddwys a llwyddiannus cyn ac ôl-enedigol i deuluoedd, yn dod â chymorth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a rhianta ynghyd. Mae wedi sicrhau allbynnau rhagorol sy'n helpu i newid cwrs bywydau ifanc. Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc, yr oeddwn i'n aelod ohono fe ar y pryd, yn dweud dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mynediad i wasanaethau ataliol, ymyrraeth gynnar llwyddiannus fel hyn i bob teulu sydd eu hangen dros Gymru. Dyw hynny heb ddigwydd, ac mae sefydliadau fel Barnado's Cymru a NYAS Cymru, sydd hefyd yn gwneud gwaith hollbwysig yn darparu cefnogaeth ddwys i ferched ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy Brosiect Undod, maen nhw wedi codi pryderon ynglŷn â gallu'r Llywodraeth i gwrdd â'u hymrwymiad i leihau'r gyfradd uchel o blant sydd o dan orchymyn amddiffyn plant awdurdodau lleol sy'n blant i famau â phrofiad o ofal, gan nad oes cyllid hirdymor wedi'i glustnodi. Felly, a allwch chi sicrhau i mi y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau gyda'r cyllid yma er mwyn parhau â'r gwaith rhagorol a hanfodol mae Barnado's Cymru a NYAS Cymru yn ei wneud?
Diolch, Sioned, am y pwyntiau hynny—roedd yna gryn dipyn yn fan yna, ac, unwaith eto, dydym ni ddim yn anghydweld o ran y pethau hyn; mae gennym ni yn union yr un amcanion o ran bod eisiau dileu tlodi plant ac eisiau sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, a dyna pam rydym ni wedi cynnal y rhaglen 1,000 diwrnod cyntaf. Rydym ni'n gweld hynny fel rhaglen hanfodol i'r plant hynny, yn enwedig y plant hynny yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Felly, rwy'n eich cyfeirio'n ôl at yr ateb a roddais i Gareth Davies yn gynharach ar fater tlodi plant. Nid yw'r strategaeth tlodi plant wedi cael ei diystyrru; mae'n dal yn gwbl ganolog i waith y Llywodraeth hon. Wrth gwrs, mae'n cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ond nid ei chyfrifoldeb hi ar ei phen ei hun yw'r strategaeth; mae hwn yn amcan a blaenoriaeth drawsbynciol a thrawsadrannol ac mewn gwirionedd, roedd yn un o'r pethau y siaradais amdano, os oeddech chi yno, y bore yma—nid wyf yn gwybod a oeddech chi yno pan oeddwn yn gwneud y sesiwn holi ac ateb—pan soniais i fod cymaint o'r pethau hyn, gan gynnwys tlodi plant, yn gyfrifoldeb Gweinidog penodol, ond nid yw hynny'n golygu mai dim ond y Gweinidog hwnnw sydd ag unrhyw beth i'w wneud. Felly, yn amlwg, o fewn y Cabinet, rydym ni'n cael y trafodaethau hyn ynghylch sut mae ein holl bolisïau yn effeithio ar y polisïau trawsbynciol hynny. Felly, wrth gwrs, mae mynd i'r afael â thlodi plant wrth gwrs ynghylch mynd i'r afael â'r 1,000 diwrnod cyntaf a sicrhau bod y plant hynny'n cael y dechrau gorau mewn bywyd. Felly, mae llawer o bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud o fewn y 1,000 diwrnod cyntaf sy'n cyfrannu at yr agenda honno. Ni fydd hynny ynddo'i hun yn ei ddileu oherwydd mae agenda economaidd llawer ehangach sy'n ymwneud â dileu tlodi plant hefyd, sy'n cynnwys cael rhieni yn ôl i'r gwaith ac yn y blaen, sy'n dod â ni at y cynnig gofal plant a'r angen am gysondeb ynghylch hynny, ac rwyf eisoes wedi egluro'n bur fanwl, eto mewn ymateb i Gareth Davies, ein safbwynt ar hynny.
A gaf i fod yn glir iawn? Rydym ni'n cyfarfod â'n rhanddeiliaid a'n partneriaid. Felly, Barnado's a NYAS, a'r holl sefydliadau eraill hyn, rwy'n cyfarfod â nhw'n rheolaidd, felly rwy'n cael y sgyrsiau hyn yn rheolaidd gyda nhw, ac rwy'n deall yn dda iawn y pryderon sydd ganddyn nhw ynghylch cyllid. Dyna un o'r cwestiynau a gododd yn y sesiwn holi ac ateb gyda mi heddiw ac un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w weld yn digwydd, os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny, yw ymrwymo i drefniadau cyllido tymor hwy gyda'r sefydliadau hyn. Mae'n rhywbeth y maen nhw wedi bod yn galw amdano ers amser maith, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro gan Lywodraeth y DU oherwydd ni allwn ni ond dyrannu ein cyllid i sefydliadau ar yr un sail â'r ffordd y caiff ein cyllid ni ei ddyrannu. Felly, nid ydym yn gwybod, er enghraifft, beth yw ein cyllideb y tu hwnt i fis Mawrth 2025. Felly, hyd nes y byddwn yn gwybod beth fydd yn digwydd i gyllideb Llywodraeth Cymru o fis Mawrth 2025, ni allwn ni roi unrhyw sicrwydd i unrhyw un o'r sefydliadau yr ydym ni'n eu hariannu y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw. Ond rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith cadarnhaol gwirioneddol dda y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud—rydych chi wedi sôn am y prosiect Babi a Fi; mae yna lawer iawn o brosiectau tebyg iawn ar draws y wlad yr hoffwn i eu gweld yn cael eu cyflwyno, bod yr arfer da hwnnw'n cael ei rannu mewn mannau eraill, ein bod ni'n ei weld yn cael ei ariannu, a'n bod ni'n gweld hynny'n cyfrannu at y rhaglen 1,000 diwrnod cyntaf hon. Ond yr hyn na allaf ei ddweud wrthych chi heddiw rŵan hyn—na allaf i ddweud wrth unrhyw sefydliad—yw yn union pa gyllid fydd ar gael o fis Mawrth 2025. Cyn gynted ag y gwyddom ni, yna fe gawn ni'r sgyrsiau hynny gyda'r sefydliadau a byddwn yn cyflwyno hynny cyn gynted ag y gallwn ni.
A gaf i ddim ond sôn am y gorchmynion amddiffyn plant, yr ydw i eto, yn gwbl gytûn â chi—rwy'n siarad gormod—yr ydw i'n gwbl gytûn â chi, mai rhan o'n gwaith i drawsnewid gwasanaethau plant yw'r union beth mae hynny'n anelu i fynd i'r afael ag ef? Felly, byddwch chi'n ymwybodol o'r rhaglen ddileu, byddwch chi'n ymwybodol o'r ddeddfwriaeth rydym ni'n ei chyflwyno, y ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol, y Bil gofal cymdeithasol, sy'n ymwneud â dileu'r elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, ond, ochr yn ochr â hynny—. Dim ond darn o ddeddfwriaeth yw hynny sy'n mynd i alluogi i newid technegol ddigwydd, a fydd yn golygu mai dim ond darpariaeth nid-er-elw sydd gennym ni yn y sector hwnnw. Ond ni fydd hyn ynddo'i hun yn gweithio ar ei ben ei hun. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gyflawni, ac yr ydym ni wrthi'n ei gyflawni, yw trawsnewid yn llwyr y ffordd y caiff gwasanaethau plant eu darparu, ac mae hynny'n ymwneud yn fawr â chadw plant gyda'u teuluoedd lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Ac mae hynny'n golygu mai'r holl waith sy'n ymwneud ag eiriolaeth rhieni a sgiliau magu plant a'r holl bethau sy'n angenrheidiol i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yw'r hyn y mae trawsnewid gwasanaethau plant yn bwriadu ei wneud. A chanlyniad hynny, os yn llwyddiannus, yw y bydd llai o blant yn cael eu cymryd i ofal, a llai o blant ar orchmynion amddiffyn plant.
Felly, nid oes un peth y gallwn ni edrych arno ar ei ben ei hun a dweud, 'Os gwnawn ni hynny, bydd hynny'n gweithio.' Mae'n rhaid i ni lunio cyfres o raglenni a pholisïau a fydd yn dod â hynny at ei gilydd. Felly, dyna ein hamcan ni yn sicr, Sioned, ac mae gennym ni raglen ac uchelgais glir iawn ar gyfer sut rydym ni'n mynd i gyflawni hynny, ac mae'r gwaith hwnnw ar y gweill.
Diolch am eich datganiad. Fel y dywedsoch chi, mae magu plant yn waith anodd iawn ac mae angen cymdeithas sy'n cefnogi rhieni, sy'n cynnig rhwydweithiau cymorth ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned arnom ni. Mae hybiau cymunedol yn gymorth gwirioneddol i leihau effaith ffactorau strwythurol ehangach ar iechyd, lles a dysgu plant; maen nhw'n darparu mannau diogel a chynnes iawn, ac maen nhw'n yn rhoi newid byw y mae mawr ei angen i rieni newydd a'u babanod, yn ogystal â gwella rhwydweithiau cymdeithasol plant a rhieni, sydd wrth gwrs yn arwain at rianta llawer mwy effeithiol. Yn fy etholaeth i, yn enwedig mewn wardiau fel Queensway 1, sydd, rwy'n credu, yn nawfed ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru ar hyn o bryd, mae'r canolfannau hyn yn gwbl hanfodol, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyfleusterau o'r fath?
Diolch i chi, Lesley Griffiths, am y cwestiwn hwnnw, ac rydych chi'n hollol gywir: mae hybiau cymunedol yn un o'r straeon llwyddiant go iawn hynny. Maen nhw'n cael eu hariannu drwy'r gronfa integredig ac ail-gydbwyso gofal. Felly, mae cronfa sydd ar gael drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu'r holl hybiau cymunedol hyn a'r prosiectau hyn ar hyd a lled y wlad. Ac rydw i wedi dewis ychydig rydw i'n ymwybodol ohonyn nhw, ac efallai y bydd llawer, llawer mwy; rydych chi newydd sôn am yr un yn eich etholaeth eich hun. Mae Canolfan Deuluoedd Llanrwst yng Nghonwy, sy'n darparu clwb babanod wythnosol, ac yn cael ei rhedeg gan ymwelwyr iechyd gyda thîm cymorth teuluol de Conwy. Ym Mlaenau Gwent, maen nhw'n gweithredu Dechrau'n Deg mewn modd cymunedol gyda dull un drws—felly, mae ganddyn nhw wyth lleoliad ar draws Blaenau Gwent ac fe allwch chi fynd at unrhyw un o'r rheiny a chael y cymorth sydd ei angen arnoch chi, boed yn glinig babi, p'un a yw'n gefnogaeth rhianta; mae grwpiau plant bach, mae yna ofal plant, darpariaethau ymlyniad synhwyraidd, lleferydd ac iaith ac yn y blaen. Ac yna mae gennym ni fodelau canolfannau plant integredig eraill ar draws Abertawe a Chaerfyrddin ac yn y blaen. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud, mewn gwirionedd, yw fy mod i'n cytuno â chi; rwy'n cytuno bod y rheini'n hanfodol i'n holl feysydd, ar hyd a lled Cymru, ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y rheini a'n bod yn parhau i sicrhau bod yr hybiau hynny ar gael i deuluoedd a babanod, fel y gallan nhw fod yn rhan o'r rhaglen 1,000 diwrnod cyntaf honno. Diolch.
Er mwyn i'r agenda ataliol fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid iddi fod yn ymatebol o ddechrau bywyd. Mae gan wasanaethau iechyd meddwl, yn arbennig, rôl bwysig yn y cyd-destun hwn. Mae chwarter menywod yn profi problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth eu babi, yn ogystal ag un o bob 10 partner. Mae yna hefyd dystiolaeth helaeth i ddangos y gall ymyrraeth gynnar annigonol ymhlith plant achosi a gwaethygu problemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac eto, mae'n gwbl amlwg bod y ddarpariaeth iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod ymhell o le y mae angen iddi fod. Nid yw'r un o'r saith gwasanaeth amenedigol yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn â safonau math 1 cenedlaethol Canolfan y Coleg er Gwella Ansawdd. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad gan y Gweinidog ynghylch pryd y dylem ni ddisgwyl gwelliannau yn y maes hwn. Mae arolwg diweddar hefyd wedi datgelu nad yw 61 y cant o weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ar iechyd meddwl babanod, felly a all y Gweinidog egluro sut y mae'n bwriadu cryfhau sylfaen wybodaeth y gweithlu yn y maes hwn?
Diolch i chi, Mabon, am y cwestiwn hwnnw, ac nid ceisio osgoi ateb y cwestiwn ydw i o gwbl, ond mae hwn mewn gwirionedd yn gwestiwn i'm cyd-Aelod Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac mae hi'n eistedd yma, mae hi wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, ac unwaith eto, byddwn yn awgrymu mai'r peth gorau y gallwn ni ei wneud yw ymateb i chi ar y materion hynny. Mae hi wedi clywed beth oedd gennych chi i'w ddweud heddiw.
Mae'n ddrwg iawn gen i nad yw Jane Dodds yn gallu bod yma heddiw, oherwydd rwy'n credu iddi wneud gwaith hollol wych wrth drefnu'r gynhadledd y bore yma a dod â'r holl randdeiliaid ynghyd.
Fe hoffwn i ganolbwyntio ar y cyfnod pan fydd rhywun yn beichiogi hyd at ac ar ôl yr enedigaeth, oherwydd mae'n bwysig iawn nodi materion neu bryderon yn gynnar sydd mor allweddol i baratoi pobl i ysgwyddo'r cyfrifoldeb gydol oes hwnnw. Mae hon yn daith y mae'n rhaid i bobl fynd drwyddi, ac yn syml, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod y bydd hi'n gyfrifoldeb gydol oes. Nid yw rhianta yn dod gyda chyfarwyddiadau ac mae'r rhai sydd wedi profi rhianta gwael yn eu bywydau eu hunain yn debygol o ailadrodd hynny oni bai eu bod yn cael cymorth.
Rwy'n bryderus iawn nad yw mamau tro cyntaf yn enwedig yn cael digon o amser na pharhad gofal gyda'u bydwraig i ymddiried yn eu cyngor, a dyna mae bydwragedd wedi dweud wrtha i. Byddan nhw'n dweud wrthyn nhw nad yw cymell geni o reidrwydd yn arwain at esgor a gall, fel arall, arwain at enedigaeth gesaraidd frys, ac mae o wir o ganlyniad i ddim digon o gefnogaeth—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn, Jenny, os gwelwch yn dda.
—ar ôl rhoi genedigaeth a ward esgor orlawn lle ceir cyfres o ymyraethau. Felly, o ystyried ei bod yn cymryd pentref i fagu plentyn, sut ydych chi'n penderfynu sut beth yw 'da' yn eich datganiad ansawdd a pha fewnbwn sydd yna gan bobl sydd â phrofiad byw o'r gefnogaeth dda a gawsant neu a wrthodwyd iddyn nhw? Pwy fydd yn codi llais dros famau a babanod lle mae angen cymorth ychwanegol, os nad yw ar gael gan bartner cefnogol neu deulu sy'n byw 200 milltir i ffwrdd, neu nad ydyn nhw'n adnabod unrhyw un yn y gymuned, a bod yn rhaid inni—
Diolch yn fawr, Jenny.
Sut ydym ni'n mynd i gael bydwragedd ac ymwelwyr iechyd i lenwi'r bwlch hwnnw sy'n bodoli i gymaint o bobl?
Diolch yn fawr, Jenny. Mae hynny'n bwynt hynod bwysig rydych chi'n ei godi, a'r hyn y dylem ni fod yn ei gael yw gwasanaethau trwy wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig. Mae gennym ni raglen cymorth diogelwch, a dylai hynny fod yn cyflawni'r mathau o bethau, yn sicr, rydych chi'n siarad amdanyn nhw. Rydym yn cael adborth drwy'r fframwaith ansawdd nawr ynglŷn â ble mae hynny'n gweithio'n dda, lle nad yw hynny'n gweithio'n dda.
Unwaith eto, mewn ymateb i gwestiwn gan Sioned, yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w weld, ac nid yn y maes hwn yn unig, ond mewn llawer o feysydd o fewn fy mhortffolio, fe welwn ni enghreifftiau da iawn o arfer da. Yr hyn nad ydym ni'n ei weld yw arferion da cyson, a'r arferion da cyson hynny y mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Felly, lle rydym ni'n gwybod bod pethau'n gweithio'n dda, fe ddylem ni fod yn dweud mewn meysydd eraill, 'Os yw'n gallu gweithio'n dda yma, gall weithio'n dda yno.' Nawr rwy'n gwybod nad yw'r un dull yn gweddu i bawb. Rwy'n gwybod bod cymunedau trefol yn wahanol iawn i gymunedau gwledig, ac yn y blaen. Ond mae gofal a chefnogaeth a meithrin, ac yn y blaen, yn gyffredinol, mewn gwirionedd. Ac er mwyn i rieni allu deall a dysgu sgiliau nad ydyn nhw erioed wedi'u caffael oherwydd y ffordd y cawsant eu rhianta yn gwbl hanfodol i'r broses hon. Felly, fel y dywedais i, rwy'n credu mai'r allwedd i hyn, Jenny, yn sicr yw nodi arfer da a sicrhau bod yr arfer da hwnnw'n cael ei gyflwyno'n gyffredinol.
Ac yn olaf, Julie Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ddod â datganiad mor bwysig i ni yma heddiw. Roeddwn i eisiau dweud ar y dechrau fy mod i'n cefnogi'r canolbwyntio ar 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn. Mae'n bwysig iawn. Ond rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn meddwl amdano yng nghyd-destun bywyd cyfan plentyn, oherwydd bydd angen llawer o gefnogaeth ar blant ar wahanol adegau o'u bywydau. A bydd rhai plant ifanc iawn a allai fod wedi eu hamddifadu o rai o'r pethau gwych sydd ar gael, y mae'r Gweinidog wedi dweud amdanyn nhw, angen cyfle i gael hynny yn nes ymlaen, a chael cyfle i gael eu meithrin a'u gofalu amdanyn nhw mewn ffordd a fydd yn golygu nad oes ganddyn nhw greithiau, yn anochel, oherwydd rwy'n optimistaidd iawn y bydd plant sydd wedi bod trwy brofiadau gwael iawn yn gallu gwella.
Yn amlwg, mae dechrau bywyd plentyn yn amser hollol bwysig ac mae'n amser pwysig i'r teulu. Roedd arna i hefyd eisiau gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ba ddatblygiad a fu gyda phrosiect Bwndel Babi. Fel y gŵyr y Gweinidog, bwriad hyn oedd rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, drwy roi bwndel o hanfodion i rieni newydd a darpar rieni a rhieni sy'n mabwysiadu, megis dillad baban o ansawdd uchel, eitemau chwarae, cynhyrchion ymdrochi diogel, cynhyrchion i helpu menywod ar ôl geni, cyngor ar fwydo ar y fron a magu plant yn dda, a hyrwyddo'r Gymraeg—
Mae'n rhaid i chi orffen nawr, Julie.
—a'r holl fathau hyn o bethau sy'n hwb mawr i deuluoedd bryd hynny. Felly, a allai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, os gwelwch yn dda?
Ie. Diolch i chi, Julie Morgan, am y cwestiwn yna. Ac mae'n ddrwg gennyf, Sioned, a gaf i ymddiheuro i chi, oherwydd fe wnaethoch chi godi mater bwndeli babanod? Byddaf yn ateb hyn i'r ddwy ohonoch. Ond a gaf i ddweud, cyn i mi ateb hynny am fwndeli babanod, fy mod i'n cytuno'n llwyr â chi am yr angen i blant allu cael cyfle ar bob cam yn eu bywydau? Ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gefnogol i'r farn honno, oherwydd fe wyddom ni y bydd rhai plant yn llithro trwy'r rhwyd ac na fyddant yn cael yr ymyriadau cynnar hynny a'r gefnogaeth gynnar honno. A dyna pam mae hi mor bwysig bod yr holl weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phlant yn benodol yn deall trawma ac yn deall yr effaith y mae trawma yn ei chael ar blentyn os nad eir i'r afael ag ef a'i drin yn gynnar iawn. Ond nid yw'n golygu na ellir mynd i'r afael ag ef byth ac na ellir helpu'r plentyn hwnnw i fyw bywyd llawn a boddhaus, yn y dyfodol, gyda gweithwyr proffesiynol sy'n deall sut i ddelio â hynny.
Nawr, o ran y bwndel babanod, mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad rhaglen lywodraethol. Felly, rydym yn edrych ar ddarparu'r bwndel ar sail ddaearyddol wedi'i thargedu, sy'n lleihau'r pwysau ariannol, felly, ar y teuluoedd hynny sydd â'r angen mwyaf ac yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Ac rydym yn bwriadu adeiladu rhaglen wedi'i thargedu'n ddaearyddol, gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r gwerthusiad a'r ymchwil a gynhaliwyd ar y rhaglen. Ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl i'r Senedd a rhoi diweddariad pellach i chi ar hynny maes o law.
Wrth gwrs, y cynnig gwreiddiol oedd y byddai hyn yn gyffredinol, ac rwy'n credu, ar yr adeg pan oeddech chi'n Weinidog, Julie, fod yna drafodaeth yr oedd angen ei chynnal bryd hynny ynghylch a oedd hynny'n fforddiadwy, yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol enbyd yr oedd Llywodraeth Cymru ynddi. Ac o ganlyniad i'r adolygiad o hynny, edrych ar gynnig diwygiedig, sef cyflwyno bwndel babanod a fyddai'n cael ei dargedu'n fwy. Felly, dyna'r bwriad o hyd. Rwy'n credu eich bod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ôl yn gynnar yn y flwyddyn, lle byddai swyddogion yn ymgysylltu â chydweithwyr yn y maes iechyd, yn edrych ar y mecanweithiau adnabod ac atgyfeirio priodol i'r rhaglen bwndel babanod, ymgymryd ag asesiadau cyflym i'r ymchwil presennol, ailedrych ar y trafodaethau gyda BookTrust Cymru, a dechrau gwaith newydd ar y manylebau caffael, er mwyn i ni allu hysbysebu ar gyfer y rhaglen newydd, ddiwygiedig. Cafodd hynny i gyd ei ohirio ychydig oherwydd rhai o'r newidiadau gweinidogol a'r newidiadau adrannol a aeth law yn llaw â'r rheini. Ond yr ateb byr i'ch cwestiwn yw ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac yn rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, a byddaf yn dod yn ôl gyda diweddariad pellach cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.