Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet sydd gyntaf y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor.

Adeiladu Tai Cymdeithasol

1. Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ddefnyddio pwerau benthyca y Llywodraeth ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol? OQ61284

Member
Rebecca Evans 13:30:26
Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office

Ystyrir benthyca yn rhan o broses y gyllideb i bennu gwariant cyfalaf cyffredinol yn hytrach nag ariannu prosiectau penodol. Mae dros £1.4 biliwn wedi’i ddyrannu i ddatblygu tai cymdeithasol y tymor hwn, a rhoddwyd dros £132 miliwn o fenthyciadau i’r sector yn 2024-25 er mwyn darparu mwy o gartrefi.

Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb yna. Mae yn fy nharo'n rhyfedd nad ydych chi wedi ystyried defnyddio'r galluoedd yma i fenthyg sydd gennych chi ar gyfer dibenion fel adeiladu tai cymdeithasol. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi'r cwestiwn yma yr wythnos diwethaf efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Rŵan, mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn gorfod benthyg andros o lot o bres efo llog uchel iawn arno fo, ac felly yn ei chael hi'n anodd iawn i dalu'r llog yna a'r benthyciad yn ôl. Mi ydyn ni'n gwybod hefyd fod y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y targedau o adeiladu tai cymdeithasol oherwydd y chwyddiant sydd wedi bod ym maes adeiladu tai. Felly, mi fuasai rhywbeth fel £150 miliwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w gallu nhw i adeiladu tai yng Nghymru. Mae'n rhyfedd felly nad ydych chi wedi ystyried defnyddio hyn, yn enwedig wrth ystyried y ffaith, o ddefnyddio'r arian i adeiladu tai cymdeithasol, y byddai'n bosib talu'r benthyciad yna yn ôl efo chwyddiant mewn rhentu. Felly, o ystyried y cyd-destun yna a'r argyfwng tai sydd gennym ni, a wnewch chi ystyried defnyddio eich galluoedd chi i fenthyg arian er mwyn ei rhoi o i gymdeithasau tai neu'n uniongyrchol i adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru?

Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir yn fy ateb gwreiddiol. Credaf efallai fod rhywbeth wedi’i golli wrth gyfieithu yno yn yr ystyr fod Llywodraeth Cymru yn benthyca ac rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm, ond rydym yn ceisio benthyca tuag at ein prosiectau cyfalaf cyffredinol. Felly, nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol; rydym yn benthyca er mwyn ein galluogi i gael cyllideb gyfalaf fwy i'w defnyddio i ariannu'r holl brosiectau a mentrau a gefnogwn o safbwynt cyfalaf. Am y rheswm hwnnw, ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, benthycwyd y £150 miliwn llawn gennym. Yn y pen draw, dim ond £125 miliwn y gwnaethom ei fenthyca oherwydd newidiadau diwedd blwyddyn. Ac mae'r newidiadau hwyr i'n cyllideb gyfalaf wedi ein galluogi i feddwl yn wahanol am ein hymagwedd at gyfalaf yn y blynyddoedd diwethaf beth bynnag. Felly, ar gyfer y blynyddoedd mwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gor-raglennu cyllideb Llywodraeth Cymru o £100 miliwn oherwydd y newidiadau diwedd blwyddyn hynny. Ac fe wnaeth hynny ein galluogi yn 2022-23 i fenthyg y £150 miliwn llawn, ac yn 2023-24, £125 miliwn. Ac roedd hynny, fel y dywedaf, mewn ymateb i'r ffaith ein bod yn cael symiau mawr o gyfalaf yn eithaf aml ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy'n golygu nad oes angen inni fenthyca yn y pen draw. Felly, rydym bob amser yn bwriadu benthyca’r uchafswm; nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol.

Ond wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fynediad at fenthyciadau cost isel ar gyfer datblygu. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi defnyddio llwybrau benthyca i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi. Y llynedd, er enghraifft, rhoesom £62 miliwn o fenthyciadau cost isel i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru. Hyd yn hyn, mae £16 miliwn arall wedi'i gymeradwyo i'w gyhoeddi yn y flwyddyn ariannol hon. A bydd y cyllid benthyciadau hwn drwy gydol 2023-24 a 2024-25 yn darparu 220 o gartrefi carbon isel ychwanegol i’w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol ac yn dod â 22 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yn nhymor y Llywodraeth hon, yn ogystal â chyflymu’r gwaith ar saith safle adeiladu cartrefi newydd, gan ddarparu o leiaf 86 o gartrefi rhent cymdeithasol yn nhymor y Llywodraeth nesaf. Felly, rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm a gwario ein cyfalaf yn y ffordd orau, ond wedyn hefyd, rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector.

Yr argyfwng tai yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu fel cenedl, ac mae pob blwyddyn sy’n mynd heibio heb gamau gweithredu eithafol yn flwyddyn arall lle daw cartrefi’n fwy anfforddiadwy ac yn fwy anhygyrch, gwaetha'r modd. Ac er fy mod yn cytuno bod angen gweithredu ar frys i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol a thai preifat hefyd ar gyfer pobl ar incwm canolig ac isel, ni chredaf mai gadael mwy o ddyled i'n plant yw'r ffordd gywir o fynd i'r afael â'r prinder tai sydd gennym ar hyn o bryd. Rhoddodd y Ceidwadwyr Cymreig ein cynllun tai gerbron y Senedd ym mis Chwefror, ac roedd yn ymdrin â sawl agwedd, megis mesurau i gyflymu caniatâd cynllunio ac i ddefnyddio mwy na 100,000 o anheddau gwag heb eu meddiannu yng Nghymru, gan gynnwys nifer o eiddo cyhoeddus a thir sy’n eiddo i’r cyhoedd nad yw'n cael ei ddefnyddio. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynllun cymorth i alluogi busnesau bach a chanolig i adeiladu tai cymdeithasol, gan ddarparu tir cyhoeddus at y diben hwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod uchel ei pharch, Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy. Ar ddiwedd y 1980au, busnesau bach a chanolig oedd yn gyfrifol am 40 y cant o’r holl gartrefi a adeiladwyd ym Mhrydain, ond mae ffigurau diweddar yn 2020 yn nes at 10 y cant. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i adeiladwyr bach a chanolig eu maint at y diben o adeiladu mwy o dai cymdeithasol? Diolch.

13:35

Mater i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog tai, fyddai hwn. Byddai ganddi fwy o fynediad at y manylion penodol sydd eu hangen arnoch. Ond credaf fod y pwynt a wnaethoch ynglŷn â thir ar gyfer tai yn berthnasol iawn. Yn 2023-24, dyfarnwyd bron i £40 miliwn o fenthyciadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a byddant wedyn yn gallu hwyluso’r gwaith o ddarparu hyd at 2,254 o gartrefi, y bydd 82 y cant ohonynt yn gartrefi fforddiadwy. Ac mae cyfanswm o £89 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ein cynllun tir ar gyfer tai ers ei sefydlu yn 2014-15. Mae’r cyllid hwnnw’n cael ei ailgylchu pan gaiff y benthyciadau eu had-dalu, i ddarparu ar gyfer benthyciadau newydd. Hyd yn hyn, mae £287 miliwn o fenthyciadau wedi’u gwneud, sy'n hwyluso darparu hyd at 8,000 o gartrefi newydd, gydag 81 y cant ohonynt yn fforddiadwy. Ac yn hollbwysig, hyd yma, mae’r llog a godwyd ar y benthyciadau ar gyfer tai fforddiadwy wedi bod yn 0 y cant, gyda chyfradd fasnachol wedi’i chodi ar gyfer unedau tai'r farchnad agored. Felly, fel y dywedaf, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector tai, ac rwy'n credu fy mod wedi rhoi un neu ddwy o enghreifftiau o’r rheini, sy’n cael eu harwain gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, y prynhawn yma.

Caffael, Defnyddio a Gwerthu Eiddo

2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, defnyddio a gwerthu eiddo? OQ61290

Mae gennym bolisi a strategaeth glir ar gyfer caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo. Y prif nod yw sicrhau'r gwerth cyffredinol mwyaf o'n hasedau. Mae ein portffolio eiddo yn adnodd pwysig ar gyfer cefnogi twf economaidd, iechyd a lles, yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio gwaith datblygu mawr, gwelliannau seilwaith mawr, er enghraifft, i'n rhwydwaith rheilffyrdd, a yw Llywodraeth Cymru yn edrych tua'r dyfodol ac yn ystyried caffael y tir cyfagos ger datblygiad o'r fath, a fyddai'n fwy defnyddiol yn dilyn y datblygiad arfaethedig? A yw Llywodraeth Cymru o’r farn fod ei phwerau prynu gorfodol yn ddigonol, neu a oes problemau'n ymwneud â’r gost a’r amser sy'n gysylltiedig â hynny? Ac a yw'r problemau hynny'n ymestyn i bartneriaid llywodraeth leol hefyd? A hoffai Ysgrifennydd y Cabinet weld gwelliannau i’r defnydd o’r pwerau hynny?

Diolch am eich cwestiwn y prynhawn yma. Efallai ei fod yn helpu i roi cyfle imi egluro, felly, fy rôl mewn perthynas â chaffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo. Felly, i raddau helaeth mae fy rôl yn ymwneud â'r strategaeth rheoli asedau corfforaethol, yr wyf yn gyfrifol amdani. Ac yna, wrth gwrs, fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, sy'n gyfrifol am bortffolio economaidd Llywodraeth Cymru a'r strategaeth sy'n ymwneud â chaffael eiddo yn y cyd-destun hwnnw. Felly, efallai y byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu at John Griffiths gyda mwy o fanylion ynglŷn â’r strategaeth ar gyfer caffael y tir ger rheilffyrdd, a’r ymagwedd at brynu gorfodol, a’r ffordd y gweithiwn gyda llywodraeth leol ar hynny, gan fod arnaf ofn nad yw hynny yn fy maes portffolio, ac rwyf am allu rhoi ateb cywir, nad wyf yn gallu ei wneud heddiw.

Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd nifer sylweddol o eiddo eu prynu gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Gweinidogion yn bwriadu adeiladu ffordd liniaru’r M4, ac rwy’n siŵr y gall pawb gofio hynny. Prynwyd 30 eiddo gan y Llywodraeth mewn gwirionedd, gyda chwe eiddo ychwanegol wedi’u hetifeddu gan gorff blaenorol; nid yw'n anodd cyfrifo bod hynny'n 36 eiddo i gyd. Nawr, costiodd sbri wario Llafur ar eiddo fwy na £15.4 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac yn y pen draw, i drethdalwyr Cymru. Fel y gŵyr pob un ohonom, cafodd y prosiect seilwaith mawr ei angen ei ddiddymu—yn anghywir, yn fy marn bersonol i—yn ôl yn 2019. Bum mlynedd ar ôl y penderfyniad hwnnw, dim ond saith eiddo ym meddiant Llywodraeth Cymru a werthwyd. Felly, o gofio bod y prosiect wedi’i ganslo, credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn methu deall pam nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud mwy i werthu'r eiddo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn union yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer yr eiddo? Ac os mai’r bwriad yn wir yw gwerthu pob un ohonynt, pa gamau rhagweithiol y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i’w marchnata, eu gwaredu a gwneud elw er budd trethdalwyr Cymru, fel bod modd buddsoddi'r arian hwn yn rhywle arall? Diolch.

13:40

Wel, mae ein polisi a’n strategaeth ar gyfer cael gwared ar eiddo dros ben yn glir. Pan nad oes angen eiddo mwyach i gyflawni maes polisi, dylid ei gynnig gyntaf i adrannau eraill ac yna'n ehangach i bartneriaid yn y sector cyhoeddus cyn cael ei farchnata'n fasnachol. Ac mae hynny'n gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian yn erbyn pob maes polisi. Felly, dyna ein dull gweithredu cyffredinol.

Ond yn benodol mewn perthynas â’r safleoedd a gaffaelwyd ar gyfer cynigion yr M4, gwn y bydd cyngor yn cael ei gyflwyno cyn bo hir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i’w gymeradwyo mewn perthynas â defnydd o'r eiddo hwnnw yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf, Peter Fox. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghyfnod 2 Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yr wythnos diwethaf, ceisiais amddiffyn y disgownt un oedolyn o 25 y cant. Er yr holl broblemau tra hysbys gyda’r dreth gyngor, yr un elfen gyson gadarnhaol i gynifer o bobl oedd y sicrwydd y byddai’r disgownt un oedolyn yn helpu i gydnabod y pwysau ariannol ar lawer o bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae llawer o’r bobl hyn, fel y gwyddom, yn aml yn wragedd gweddw neu’n wŷr gweddw a fydd yn ei chael hi'n ddigon anodd. Mae'r disgownt un oedolyn yn hollbwysig i gynifer o bobl. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y pleidleisiodd Aelodau Llafur o'r Senedd yn erbyn ymgorffori’r disgownt treth gyngor un oedolyn yn y gyfraith?

Y peth cyntaf i'w wneud yw cydnabod pwysigrwydd y disgownt un oedolyn, a rhoi sicrwydd i unrhyw un sy'n edrych ar gyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, neu'n wir, sy'n gwylio y prynhawn yma, nad yw'r disgownt un oedolyn yn mynd i unman. Rydym wedi dweud yn gwbl glir y byddwn yn ailddatgan y disgownt un oedolyn o 25 y cant mewn rheoliadau, yn ogystal â'r ffordd briodol o ymdrin â disgowntiau o dan fframwaith y Bil yr ydym yn ei graffu ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod y pwynt fod treth gyngor unigolyn yn gyfuniad o ddau beth. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'r eiddo, ond wedyn hefyd yn rhannol â meddianwyr yr eiddo hwnnw, gan ein bod yn gwbl ymwybodol, mewn llawer o amgylchiadau, y gallai pobl fod mewn eiddo gwerth uchel ond gallent fod yn un oedolyn, ar un cyflog, er enghraifft. A dyna pam fod gan oddeutu 0.5 miliwn o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y disgownt un oedolyn, ac nid yw'n mynd i unman.

Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud hynny. Mae'n drueni na ellid bod wedi'i gadarnhau yng Nghyfnod 2 yr wythnos diwethaf. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi mater memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil gyda chi o'r blaen, lle mae’n nodi ddwywaith y bydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion ganiatáu i gynghorau ddatgymhwyso neu leihau disgowntiau. Golyga hyn y bydd gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i barhau i gynnig disgownt un oedolyn ai peidio. Rwy'n gwybod eich bod wedi dadlau ar y pryd fod y memorandwm yn caniatáu’r disgresiwn hwnnw i gynghorau. Mae ar dudalen 90 yn y memorandwm, ac mae wedi’i amlygu yno mewn print trwm. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda’r ddarpariaeth hon yn dal i fod wedi'i chynnwys yn y Bil, a allwch chi fod yn siŵr na fydd unrhyw gyngor yn cael gwared ar y disgownt treth gyngor un oedolyn o dan eich cynlluniau chi sydd i bob pwrpas yn caniatáu iddynt wneud hynny?

Y cyfan y mae’r dull o weithredu disgowntiau, diystyru ac esemptiadau, fel y nodir yn y Bil, yn ei wneud mewn perthynas â phwerau awdurdodau lleol yw ailddatgan y sefyllfa bresennol o ran y gallu i awdurdodau wneud newidiadau. Yn yr un modd, gall awdurdod lleol leihau atebolrwydd aelwyd i sero os yw’n credu mai dyna’r peth priodol i’w wneud. Felly, rwy'n hyderus y bydd awdurdodau lleol yn parhau â'r disgownt 25 y cant, fel y byddwn yn ei nodi mewn rheoliadau ar ôl pasio'r Bil, y gobeithiaf y caiff ei basio drwy'r Senedd gyda chefnogaeth.

Wel, diolch am hynny. Nid yw'n rhoi hyder i mi serch hynny na fydd rhai awdurdodau yn ei ddatgymhwyso. Nawr, ni allaf ddeall pam y byddent yn breuddwydio gwneud hynny, gan ei fod mor hollbwysig, fel y mae pob un ohonom yn cytuno, yn ôl pob golwg. A dyna pam y byddai'n eironig pe byddem yn ceisio creu deddfwriaeth sy'n tanseilio rhywbeth y mae pawb ohonom yn teimlo ei fod mor werthfawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, ymddengys bod eich cyd-aelodau ym Mhlaid Lafur y DU yn diystyru newidiadau i’r dreth gyngor yn Lloegr, gan gydnabod y cynnwrf y byddai hyn yn debygol o’i achosi. A ydych chi'n credu bod Plaid Lafur y DU wedi’i dychryn gan yr ymateb cwbl ddealladwy i’ch cynlluniau i gynyddu biliau miloedd ar filoedd o bobl ledled Cymru, a gwrthwynebiad y cyhoedd i hyn? Gwn fod eich cynlluniau’n cael eu symud ymlaen i 2028, ac rwy’n siŵr fod hynny oherwydd pwysau gan eich cyd-aelodau Llafur yn Senedd y DU yn ôl pob tebyg, ond a ydych chi yn Llafur Cymru yn ailystyried eich safbwynt, gan gydnabod yr effaith y byddai eich cynlluniau yn ei chael ar gynifer o bobl, er bod y Bil yn dal i symud yn ei flaen?

13:45

Er eglurder, nid diben diwygio'r dreth gyngor yw cynyddu biliau pobl ledled Cymru, mae'n ymwneud â sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Mae’r dreth gyngor ar hyn o bryd yn seiliedig ar werth eiddo ddegawdau yn ôl, a chredaf y byddai pob un ohonom yn cydnabod bod hynny’n sylfaenol annheg, a bod angen moderneiddio’r system. Ond wrth wneud hynny, rhaid inni edrych ar ffyrdd o wneud y system hyd yn oed yn decach. Felly, un o’r pethau y buom yn edrych arnynt yn ein hymgynghoriad oedd edrych nid yn unig ar gyflymder diwygio, ond hefyd ar raddfa’r diwygio. Fe wnaethom edrych, er enghraifft, ar gyflwyno bandiau uwch ar ben uchaf y gwerthoedd eiddo ar gyfer y rhai sy'n gallu ei fforddio fwyaf, ond hefyd, yn hollbwysig, band ychwanegol ar y gwaelod i sicrhau bod y bobl ar yr incwm isaf, o bosibl, sy'n byw yn yr eiddo lleiaf gwerthfawr, yn cael eu diogelu hefyd. Felly, mae a wnelo â gwneud y dreth gyngor yn decach.

Nawr, yn seiliedig ar ffigurau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a edrychodd ar y cynigion blaenorol a gyflwynwyd gennym, byddai'r rhan fwyaf o eiddo naill ai ddim yn gweld unrhyw newid go iawn yn eu biliau, a'r hyn rwy'n ei olygu yw newid o oddeutu £50 yn fwy neu'n llai y flwyddyn, neu byddent yn gweld gostyngiad yn y biliau. Felly, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â gwneud y dreth gyngor yn deg. Nid wyf yn credu y gallwn anwybyddu’r ffaith nad yw’n dreth flaengar, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Ac mewn gwirionedd, byddwn yn anghytuno bod cynnwrf wedi bod ynghylch y cynigion ar gyfer y dreth gyngor. A dweud y gwir, maent wedi cael croeso cynnes. Maent wedi cael croeso cynnes gan y sefydliadau sy'n poeni'n fawr am gyfiawnder cymdeithasol, er enghraifft Cyngor ar Bopeth, sy'n ymdrin yn ddyddiol â'r bobl sy'n ei chael hi fwyaf anodd. Maent yn cydnabod bod diwygio’r dreth gyngor yn un o’r ffyrdd y gallwn gefnogi a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a ddylai fod yn rhywbeth y mae pob un ohonom ei eisiau.

Diolch, Lywydd. Mae maniffesto etholiad cyffredinol Llafur yn cynnwys y llinell ganlynol ar bwerau dros gyllid ôl-UE:

'Bydd Llafur yn adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu cronfeydd strwythurol i gynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.'

A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw ei dealltwriaeth o'r term 'cynrychiolwyr' yn y cyd-destun hwn?

Fy nealltwriaeth i yw’r hyn a gyflwynodd arweinydd Plaid Lafur y DU i gynhadledd Llafur Cymru, pan ddywedodd y byddai pwerau’n cael eu hadfer i’r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Felly, rydym yn llwyr ddisgwyl mai ni fydd yn gwneud y penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid yn y dyfodol. Cyn y sefyllfa rydym ynddi bellach, lle mae adrannau Whitehall yn ceisio dosbarthu swm llai o arian ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi gweithredu o fewn y cyd-destun UE hwnnw. Roedd gennym y Comisiwn yn gosod y paramedrau yn y ffordd honno. Felly, credaf fod fframwaith ar gyfer y DU gyfan yn sicr yn rhywbeth y dylem anelu ato.

A chredaf fod gwaith da iawn wedi'i wneud gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sy'n nodi ffordd y gallem ymdrin â chronfeydd datblygu economaidd rhanbarthol yn y dyfodol. Ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ymwneud llawer ag ef. Cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaethom waith gwrando a gwaith ymgysylltu helaeth â sefydliadau, o fyd busnes i ffermio, a chymunedau, ac ym mhob man yn y canol, i nodi sut y gallem fuddsoddi arian newydd yn y dyfodol. Ac yn anffodus, mae ymagwedd Llywodraeth y DU at ddarparu arian newydd yn lle'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn gwbl wahanol. Ond rydym yn sicr yn ein gweld yn dychwelyd i sefyllfa lle mae gennym gyfleoedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.

Diolch am eich ymateb. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod terminoleg yn hollbwysig yma. Nid yw 'cynrychiolwyr' yn golygu 'Llywodraeth Cymru'. A fyddech chi'n cytuno ei bod yn anffodus nad dyna’r geiriad, a gofyn am eglurhad ar hynny? Oherwydd yn amlwg, mae pob gair yn cael ei ddadansoddi, ac nid 'cynrychiolwyr' yw'r ffordd y mae rhai pobl yn ei ddehongli, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, sy'n cyflwyno gweledigaeth wahanol iawn, un lle mae Llywodraeth y DU yn parhau i arfer rheolaeth dros y ffordd y caiff cyllid ôl-UE ei wario yng Nghymru. Mae wedi dweud yn glir iawn mewn cyfweliadau nad oes ganddi unrhyw fwriad o unioni hyn. Felly, credaf fod y term 'cynrychiolwyr' yn broblematig yn eich maniffesto, oherwydd, er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw, ac er yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am yr ymrwymiadau hynny, nid dyna sydd yn y maniffesto. A gaf i ofyn, unwaith eto, am eglurhad gennych? Pwy sy'n gywir o ran y dehongliad hwnnw, ai chi a'r Prif Weinidog, neu Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid? Ac os mai’r olaf yw’r ateb, pwy fydd â’r gair olaf os ceir gwahaniaeth barn ynglŷn â ble y caiff cyllid ei ddyrannu yng Nghymru? Ai Llywodraeth Lafur Cymru neu Lywodraeth Lafur y DU?

13:50

Cefais gyfle i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd Trysorlys yr wrthblaid y bore yma, a buom yn trafod yr hyn a fydd digwydd yn dilyn newid posibl yn Llywodraeth y DU. Beth yw'r prif feysydd blaenoriaeth yr ydym am gael trafodaethau cynnar iawn yn eu cylch? Ac roedd dyfodol cyllid yr UE, fel rydym yn dal i'w alw, yn un o'r prif bethau y mae angen inni fod yn cael y trafodaethau cynnar hynny yn eu cylch. Roeddwn yn sôn am y gwaith y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi’i wneud, ein hymagwedd at y math hwnnw o fframwaith ac ati. Felly, gan gymryd y bydd newid Llywodraeth, credaf fod angen inni gael y trafodaethau cynnar iawn hynny i roi llawer mwy o fanylion efallai, a llawer mwy o eglurder i bobl, sy’n rhywbeth y gwn fod llawer o awydd amdano.

Diolch. Felly, rydych chi'n hyderus fod 'cynrychiolwyr' yn golygu Llywodraeth Cymru, a bod Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru yn anghywir. Dyna fy nehongliad.

Rhywbeth amlwg arall sydd ar goll mewn maniffesto sydd eisoes yn addo cyn lleied i Gymru yw ymrwymiad i gael gwared ar y fformiwla Barnett annheg sy’n ein gadael yn brin o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ceir cydnabyddiaeth fod y trefniadau ariannu hyn wedi dyddio, ond ni cheir unrhyw ymrwymiad clir. Ac mae'r mater hwn yn dod yn fwy arwyddocaol byth pan ystyriwn fod sefydliadau fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi bod yn rhybuddio ers sawl wythnos nad yw Llywodraeth Lafur newydd y DU yn bod yn onest ynghylch goblygiadau eu hagenda ar gyfer cyllid cyhoeddus y DU. Yn wir, mae cynlluniau gwariant Llafur ar gyfer y Llywodraeth yn cyd-fynd yn llwyr â dwy o egwyddorion canolog y polisi cyllidol Torïaidd: y dylai dyled fel cyfran o’r cynnyrch domestig gros ostwng o fewn pum mlynedd, ac na fydd unrhyw gynnydd mewn trethiant. Felly, mae twll sylweddol yng nghyllid cyhoeddus y DU yn rhan annatod o agenda Llywodraeth Lafur, sydd ond yn golygu un peth: mwy o doriadau i wariant cyhoeddus.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod ein bod yn rhannu nod cyffredin o fod eisiau adfer cyllid cyhoeddus Cymru i'r lefel y dylai fod, sy’n cynnwys dyhead i weld y Senedd hon yn cael ei hariannu’n briodol yn unol ag anghenion ein poblogaeth, ond a wnewch chi ysgrifennu at arweinydd Llafur y DU fel mater o frys i ofyn am eglurder ynglŷn â sut y gallai ei doriadau gwariant effeithio ar Gymru, a galw ar ei Lywodraeth i glustnodi cyllid grant bloc Cymru drwy gydol tymor seneddol nesaf y DU?

Ni chredaf fod unrhyw un o dan unrhyw gamargraff—bydd unrhyw Lywodraeth newydd yn etifeddu sefyllfa hynod anodd, ac yn dal i ymdrin â chanlyniadau mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, er enghraifft. Dyna un o'r rhesymau pam fy mod mor falch o weld maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad i beidio â chynnal digwyddiad cyllidol mawr heb gael rhagolygon cyfredol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae i'w weld yn amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, ond nid yw'n amlwg i'r Ceidwadwyr, ac mae pob un ohonom yn dal i fyw gyda chanlyniadau hynny nawr.

Mae cyllid teg i Gymru yn amlwg yn mynd i barhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i ni fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i bwyso amdano. Ein gweledigaeth ni yw’r un a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru’, lle byddai gennym ddull newydd o ariannu y cytunir arno ar draws y DU, a fyddai, unwaith eto, yn seiliedig ar anghenion ac ati. Gwn fod mân wahaniaethau rhwng ein safbwyntiau, ond mewn gwirionedd, mae llawer o dir cyffredin rhyngom o ran y ffordd yr hoffem weld Cymru’n cael ei hariannu yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gyflwyno’r dadleuon hynny.

Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

3. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc wrth lunio cyllideb ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru? OQ61271

Rydym wedi ymrwymo i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd ac rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn gwasanaethau cymorth ac atal digartrefedd eleni. Mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn wedi'i dargedu'n benodol at nodi digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gynnar a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau bywyd i fyw'n annibynnol.

Mae adroddiad End Youth Homelessness Cymru, ‘Youth Homelessness Through the Lens of Neurodiversity’, a lansiwyd yn y Senedd ar 17 Ebrill, yn nodi:

'Yn rhy aml, nid ydym yn rhoi sylw i bobl ifanc sydd â chymysgedd o adfyd a niwroamrywiaeth yn eu bywydau.'

Fel y noda ei gasgliad:

'Wrth wraidd niwroamrywiaeth y mae'r ddealltwriaeth nad oes unrhyw unigolyn yr un peth... pan fyddwn yn cymryd yn ganiataol fod pawb arall yn meddwl yn yr un ffordd â ninnau—dyna pryd fydd problemau'n codi.'

Sut y byddech chi'n ymateb felly i argymhelliad yr adroddiad y dylai awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau niwroamrywiaeth-benodol lleol a’u cefnogi, ac ymgynghori â nhw ar y materion sy'n ymwneud â gwasanaethau awdurdodau lleol a’u hygyrchedd i unigolion niwrowahanol?

Dylid sicrhau bod cyllid ar gael i’r sefydliadau hynny i ddarparu cymorth ac allgymorth i bobl ifanc niwrowahanol, lle mae’r adroddiad hefyd yn nodi:

'Mae atal bob amser yn fwy effeithiol na gorfod ymdrin â'r llu o broblemau unigol sy'n codi yn nes ymlaen ym mywyd unigolyn ifanc'.

13:55

Unwaith eto, mae'n debyg y byddai'n well gofyn y cwestiwn hwnnw i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog tai, ond yn sicr, rwy'n cydnabod y negeseuon pwysig a roddwyd gennych ynghylch pwysigrwydd deall niwroamrywiaeth a phwysigrwydd sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi’n briodol i gyfathrebu â phobl sy’n niwroamrywiol. Ac yn yr un modd, sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at y math iawn o eiddo, yn seiliedig ar eu hanghenion personol hefyd. Ac ar gyfer pobl niwroamrywiol, efallai y bydd ganddynt anghenion arbennig, o ran lleoliad neu hyd yn oed o ran y ffordd y caiff eiddo ei ddodrefnu, er enghraifft.

Felly, rwy’n llwyr gydnabod yr holl bwyntiau gwirioneddol bwysig a wnaed, a thrwy’r buddsoddiad a wnaethom, megis ein cronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref, byddwn yn gobeithio y gallwn archwilio materion o'r fath. Felly, rydym ar hyn o bryd yn ariannu dros 20 o brosiectau, gan ddarparu dulliau newydd ac arloesol o ymdrin â thai a chymorth ar gyfer pobl ifanc, ac mae hynny'n golygu deall sefyllfa pobl ifanc, cydnabod eu hanghenion, ac ymateb yn briodol iddynt, yn hytrach na disgwyl i bobl ifanc dderbyn yn ddigwestiwn yr hyn sydd gennym ar gael iddynt.

Ardoll Ymwelwyr

4. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru ynghylch gweithredu'r ardoll ymwelwyr? OQ61264

Rwyf wedi cyfarfod â Chynghrair Twristiaeth Cymru a rhanddeiliaid eraill ar sawl achlysur i drafod yr ardoll ymwelwyr, drwy ddigwyddiadau ymgynghori a'r fforwm economi ymwelwyr. Mae swyddogion yn cyfarfod yn fisol â rhanddeiliaid o’r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys Cynghrair Twristiaeth Cymru, i drafod gweithredu ardoll ymwelwyr.

Pe baech yn gwbl onest â ni yma heddiw, rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw'r sefydliadau hynny yn derbyn hyn yn ddigwestiwn a'u bod yn fodlon ag ef. Yn wir, gwyddom fod eich ymateb eich hun i'r arolwg twristiaeth ar gyflwyno'r cynllun wedi'i feirniadu'n eang, ac roedd y ffigurau'n dweud, mewn gwirionedd, 'Na, nid oes arnom eisiau'r dreth dwristiaeth', ond rydych yn bwrw ymlaen â hi.

Nawr, mae cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud:

'Nid yn unig y bydd yn gwneud y diwydiant yn llai cystadleuol, gan greu canfyddiad y bydd Cymru yn gyrchfan drytach i ymweld ag ef, ond mae busnesau eisoes yn ei chael hi'n anodd adfer... wedi'r pandemig.'

Mae nifer yr ymwelwyr yng Nghymru yn dal i fod 13 y cant yn is o gymharu â 2019, a nawr, mae 70 y cant o ymwelwyr yn dweud y byddant yn ystyried mynd i rywle arall os cyflwynir treth. A yw'r dreth hon o ddifrif yn mynd i helpu i adfer gwerth economaidd Cymru?

Rydych chi'n sôn o hyd am eich ymgynghoriad, ond fel y dywedodd Cynghrair Twristiaeth Cymru:

'Yn hytrach na chynnig treth newydd',

rydym ni, yn ogystal â'r sefydliadau hynny, yn dweud,

'dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ar gymorth ariannol i helpu'r sector.'

Mae Plaid Cymru a Llafur Cymru—

—wedi torri'r rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant. Dyna ergyd arall. Pam nad yw Llywodraeth Lafur Cymru am weithio gyda’r busnesau hyn? Beth y gallwch ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn rhoi gobaith i fusnesau twristiaeth fy etholaeth?

Wel, y peth cyntaf i’w wneud yw cydnabod pryderon y sector, yn enwedig Cynghrair Twristiaeth Cymru. Ac fel y dywedaf, rwyf wedi cyfarfod â nhw. Rwy'n gohebu’n aml â Chynghrair Twristiaeth Cymru, ond maent hefyd yn ymgysylltu drwy'r cyfarfodydd misol a gawn, o ran gweithio drwy ymarferoldeb yr hyn y gallai ardoll ymwelwyr fod yma yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig cydnabod ehangder yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Felly, awdurdodau lleol, er enghraifft—mae gan rai ohonynt gryn ddiddordeb mewn ardoll dwristiaeth a'r hyn y gallai hynny ei olygu i'w galluogi i gefnogi twristiaeth gynaliadwy. A phwynt yr ardoll dwristiaeth yw cael twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gyfrannu at yr ardaloedd y buont yn aros ynddynt.

Mae’r dystiolaeth ryngwladol, a hyd yn oed wrth edrych draw ar Fanceinion, er enghraifft—ni chredaf ei bod yn cadarnhau'r pryderon y bydd y diwydiant yn cael ei effeithio’n negyddol iawn yn y ffordd honno, gan fod y dystiolaeth yn awgrymu bod yr ardaloedd hyn nid yn unig yn parhau i ffynnu, ond hefyd yn cael cyllid ychwanegol i fuddsoddi yn eu cynnig twristiaeth. A bydd llawer ohonom wedi cael cyfle i deithio i leoedd lle rydym wedi talu'r ardoll dwristiaeth, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn dweud bod hynny wedi ein rhwystro ac y byddai'n peri inni beidio â dychwelyd i'r ardaloedd hynny yn y dyfodol. Mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig i dwristiaid, ac rydym yn eu croesawu’n fawr. Credaf fod twristiaeth gynaliadwy yn wirioneddol bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig hwnnw'n dal i fod yno yn y blynyddoedd i ddod hefyd.

14:00
Gweinyddu Grantiau

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o weinyddu grantiau Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i sefydliadau yng Nghwm Cynon? OQ61289

Fel rhan o ddatblygu a chyflawni unrhyw gynllun grant gan Lywodraeth Cymru, mae rheolwyr grantiau'n ystyried sut y byddai cynlluniau'n cael eu gweinyddu i sicrhau bod pwrpas y cyllid grant yn effeithiol ac mor effeithlon ag y gall fod. Dylai trefniadau gweinyddu fod yn gymesur ac yn briodol i lefel y risg.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o sefydliadau yn fy etholaeth i wedi elwa o grantiau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd. Yn fy nhrafodaethau gyda nhw, maent bob amser wedi croesawu gwelliannau i'r broses o weinyddu'r grantiau, sydd wedi gwneud pethau'n llawer haws ac wedi cyflymu mynediad at gyllid mawr ei angen yng Nghwm Cynon. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu i sefydliadau partner fel y gellir gwella rhaglenni cyllido eraill hefyd?

Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwyf wedi rhoi llawer o sylw i'r broses o weinyddu grantiau ers i mi gael y portffolio. Wrth gwrs, mae gennym ganolfan ragoriaeth grantiau Llywodraeth Cymru erbyn hyn, sydd bob amser yn ceisio cefnogi swyddogion yma i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r broses grantiau i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol, ond hefyd rydym am ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth y ganolfan ragoriaeth honno i'w rhannu gyda llywodraeth leol, er enghraifft, fel eu bod yn gallu trosglwyddo gwybodaeth o'r fath a'i rhannu, a dysgu gan lywodraeth leol hefyd am y problemau y maent yn eu hwynebu wrth weinyddu. Un peth a wnaethom yn weddol ddiweddar hefyd yw cyflwyno'r hyn a elwir yn bolisi cyllido am gyfnod hirach a meincnodi, a hynny i gydnabod y pryderon, yn enwedig gan y trydydd sector, fod grantiau weithiau, neu'n aml, yn digwydd ar sail flynyddol. Nid oedd hynny'n rhoi digon o amser iddynt gael y staff iawn, a chadw'r staff hynny am gyfnodau hirach ac yn y blaen. Nid oedd yn gadael iddynt gynllunio ymlaen llaw. Felly, am y rhesymau hynny, rydym wedi cyflwyno sefyllfa lle gall rheolwyr grantiau gynnig grantiau am hyd at bum mlynedd nawr, a gallant drosglwyddo'r grantiau hynny ymlaen, yn amodol ar feincnodi priodol ac yn y blaen.

Felly, rwy'n credu o leiaf ein bod wedi gallu newid y polisi i wella'r system. Yr hyn sydd angen inni ei weld nawr yw'r polisi a newidiwyd gennym yn arwain at newidiadau i'r drefn o weinyddu grantiau, a cheisio annog llywodraeth leol hefyd yn y lle cyntaf i ddarparu grantiau i'r trydydd sector ar yr un sail, felly i lywodraeth leol ystyried grantiau pum mlynedd o bosibl a throsglwyddo grantiau ymlaen yn seiliedig ar feincnodi ac yn y blaen. Felly, rydym wedi ysgrifennu at lywodraeth leol ynglŷn â hyn o'r blaen, ac rwyf wedi ei grybwyll iddynt mewn sawl cyfarfod. Rwy'n credu ei bod yn dal i fod yn ddyddiau cynnar o ran y cynnydd y gallwn ei wneud ar yr agenda hon. Yn sicr, mae mwy i'w wneud. Ond rwy'n credu bod gennym y polisi cywir ar waith nawr i wneud y newidiadau ar gyfer y tymor hwy.

Cymorth Cyfreithiol

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau cymorth cyfreithiol, fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ61275

Rydym yn cytuno â chanfyddiad y comisiwn fod toriadau i gyllid cymorth cyfreithiol yn bygwth bodolaeth cwmnïau cyfreithiol traddodiadol y stryd fawr, a bod pobl bellach yn cael eu gorfodi i gynrychioli eu hunain mewn llysoedd sifil a throseddol. Mae hyn yn aml yn arwain at ganlyniadau anghyfiawn, defnydd aneffeithlon o adnoddau llys a phwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus eraill.

Mae'n sicr yn arafu'r broses pan fydd pobl yn gorfod cael eglurhad ynglŷn â beth sydd ynghlwm wrth broses gyfreithiol. Fel y mae'n nodi, mae hyn yn rhwystr i hawl pobl i gyfiawnder, oherwydd, hyd yn oed lle nad oes plant yn gysylltiedig â'r achos, sut mae modd i fenywod sydd heb unrhyw arian i ddefnyddio cyfreithiwr mewn achos o ysgariad wynebu rhywun a fydd yn cyflogi bargyfreithiwr drud?

Nawr, canmolodd adroddiad y comisiwn Lywodraeth Cymru am ychwanegu at y gwasanaethau cynghori i lenwi peth o'r bwlch mawr yn y cyllidebau cymorth cyfreithiol hyn, ond nododd hefyd y byddai'n llawer haws alinio gwasanaethau cynghori â chymorth cyfreithiol pe bai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli i Gymru. Felly, efallai y gallech chi godi hynny gyda deiliaid newydd y Trysorlys ar ôl 4 Gorffennaf, lle mae'r 50 unigolyn mwyaf pwerus yn y DU. Er bod y pwerau hynny'n parhau i fod wedi'u cadw'n ôl, beth arall y gellir ei wneud i wella gwasanaethau cynghori i'r rhai sy'n wynebu anghydbwysedd pŵer yn y llysoedd ar sail y swm o arian y gallant ei wario ar gyfreithwyr?

Nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod mynediad at gyfiawnder, fel yr awgrymoch chi, dan fygythiad difrifol iawn yn dilyn y toriadau a gyflwynwyd o dan gymorth cyfreithiol, ac wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gymorth cyfreithiol, ond rydym yn cydnabod y bwlch sy'n bodoli a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar bobl. Felly, drwy ein cronfa gynghori sengl, gallwn ddarparu cefnogaeth, a dyrannwyd £11 miliwn tuag at hynny i sicrhau bod gan y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas fynediad at gyngor a chymorth am ddim i'w helpu i ddatrys eu dyled budd-dal lles tai a phroblemau rheoli arian, er enghraifft.

Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone yn gefnogwr brwd i Ganolfan y Gyfraith Speakeasy Caerdydd, ac rwy'n credu eu bod wedi gallu cael cyllid drwy'r gronfa gynghori sengl hefyd. Rwy'n credu bod honno'n gronfa gwbl hanfodol ar gyfer cefnogi pobl, ond mae'n anodd iawn gwneud y math o newid y byddem am ei wneud, o ystyried yr effaith go ddifrifol y mae'r newidiadau wedi'i chael, a gwn fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi dweud ei bod yn anodd deall yr effaith, oherwydd nid yw'r dadansoddiad wedi'i wneud mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod y ddau adroddiad yn argyhoeddedig fod yr effaith wedi bod yn negyddol iawn ar bobl a'u gallu i gael mynediad at gyfiawnder.

14:05

Mi oedd y comisiwn Thomas wedi sôn am ddiffeithdiroedd cymorth cyfreithiol oedd yno nawr yn y Gymru wledig ac yn y Gymru ôl-ddiwydiannol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod yr erydu yn y ddarpariaeth cymorth cyfreithiol sydd wedi digwydd ers y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr rhyw 15 mlynedd yn ôl wedi effeithio'n fwy trwm ar Gymru na llefydd eraill. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn siomedig bod yna addewid i adfer y toriadau o ran cymorth cyfreithiol yn maniffesto diwethaf y Blaid Lafur yn 2019, a dyw'r addewid ddim yno yn y maniffesto cyfredol? Onid yw hynny’n gwneud y ddadl dros ddatganoli’r pŵer hyd yn oed yn gryfach?

Rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau pellach hynny mewn perthynas â datganoli cyfiawnder yn y dyfodol yma yng Nghymru, a chredaf fod absenoldeb—fel y mae ar hyn o bryd—cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol yn sicr yn dangos un o'r rhesymau. Fodd bynnag, o ystyried yr agwedd ariannol ar fy mhortffolio, pan fydd gennym bethau pellach wedi'u datganoli i Gymru, rwy'n awyddus iawn i'w gweld wedi'u datganoli gyda'r lefel o gyllid sydd ei hangen i gynnal gwasanaeth teilwng o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i fynd ar ei drywydd drwy'r holl drafodaethau hynny y gobeithiaf y byddwn yn eu cael yn fuan iawn gyda Llywodraeth wahanol yn y DU. Ond cefais gyfle i gyfarfod â'r Arglwydd Thomas—yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt, rwy'n credu—i siarad drwy rai o'r materion hyn, ac mae'n parhau i fod yn ganmoliaethus iawn o'r gwaith a wnawn yma yng Nghymru drwy'r gronfa gynghori sengl a cheisio llenwi'r bylchau. Ond rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol iawn o'r bylchau lle nad oes gan bobl fynediad at gyngor ac roedd yn awyddus iawn inni barhau â'r gwaith hwnnw ac archwilio beth arall y gallem ei wneud.

Pwerau Benthyca Darbodus

7. Pa sylwadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cynyddu pwerau benthyca darbodus i Gymru? OQ61280

Rwy'n parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU am fwy o bwerau benthyca i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi symud i fenthyca darbodus ers tro. Byddai hyn yn darparu lefel fwy priodol o hyblygrwydd ac yn galluogi'r Senedd hon i gymeradwyo lefelau benthyca Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Thrysorlys EF.

Diolch am eich ymateb. Cafodd y swm o fenthyciad cyfalaf a ddatganolwyd ei gynyddu ddiwethaf yn 2019, gryn dipyn o amser yn ôl. Gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, tai, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus yw blociau adeiladu ein heconomi, ac nid oes unrhyw ffordd o dyfu'r economi heb ddarparu buddsoddiad priodol yn y rhain. Roedd dyled cynnyrch domestig gros ar ôl yr ail ryfel byd yn ddwbl yr hyn sydd gennym nawr, ac eto fe fenthycodd Llywodraeth Attlee filoedd—wel, cannoedd o filoedd o bunnoedd i'w fuddsoddi; miliynau—i adeiladu cannoedd o filoedd o dai, i fuddsoddi mewn tai ac iechyd, ac fe wnaethant drawsnewid y wlad, ac rydym yn dal i fedi'r manteision heddiw gyda'n gwasanaeth GIG a'n rhaglen dai cyngor. Mae gwir angen mwy o bwerau benthyca darbodus ar Gymru i wneud buddsoddiadau trawsnewidiol yn y meysydd hyn. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet—a wnewch chi ymrwymo i ofyn am bwerau benthyca darbodus llawn gan Lywodraeth Lafur newydd yn y DU—gan unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU? Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n rhyfygu yno.

14:10

Rydym yn parhau i gyflwyno'r achos dros fenthyca darbodus. Credwn ei fod yn bwysig i roi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnom i fuddsoddi mewn seilwaith, a hefyd i roi cyfle i'r Senedd hon fabwysiadu safbwynt ynghylch y cynlluniau benthyca hynny a phleidleisio drostynt a'u cytuno. Felly, rwy'n credu bod pwynt pwysig yno. Rydym hefyd yn awyddus iawn, yn y lle cyntaf o leiaf, i wneud cynnydd ar sicrhau bod y pwerau benthyca sydd gennym yn gyfredol o leiaf. Felly, ar hyn o bryd, hoffem weld ein pwerau benthyca'n cynyddu yn unol â chwyddiant ers yr amser y cawsant eu gosod ac yn parhau i gynyddu yn unol â chwyddiant bob blwyddyn, oherwydd maent yn werth 23 y cant yn llai eleni na'r hyn oeddent ar yr adeg y cawsant eu gosod.

Yn hollbwysig, os nad oes gennym y math o gyfalaf cyffredinol sydd ei angen arnom i fuddsoddi, mae benthyca'n bwysig iawn er mwyn ein galluogi i wneud y math o fuddsoddiad y byddem am ei wneud, ac mae cyfalaf yn brin iawn ar hyn o bryd. Mae ein cyllideb 8 y cant yn is eleni o ran cyllid cyfalaf, a hynny o bwynt isel iawn beth bynnag. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi edrych ar fodelau ariannu arloesol; mae'r model buddsoddi cydfuddiannol, er enghraifft, wedi ein galluogi i ymgymryd â buddsoddiad cyfalaf neu fuddsoddiad seilwaith pan na fyddem wedi gallu gwneud hynny o'r blaen. Felly, rwy'n credu y bydd cyfuniad o geisio bod mor arloesol ag y gallwn ond cael yr offer sydd eu hangen arnom hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa dda.

Os caf orffen drwy ddweud fy mod yn falch iawn fod gan Blaid Lafur y DU strategaeth seilwaith 10 mlynedd yn ei maniffesto sy'n cyd-fynd â'r strategaeth ddiwydiannol a blaenoriaethau datblygu rhanbarthol. Rwy'n credu y bydd trafodaethau am hynny yn bwysig iawn i ddeall beth y gallai hynny ei olygu i gyllid canlyniadol i ni yma yng Nghymru.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu datganiadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru? OQ61268

Ar ôl cymeradwyo argymhellion y comisiwn yn llawn, fe wnaethom ddyrannu adnoddau ychwanegol i'r agenda bwysig hon yng nghyllideb 2024-25. Mae gwaith paratoi ar y gweill, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ddatblygiadau allweddol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pum mis wedi mynd heibio ers i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol, ac mae mwy na thri mis ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb i adroddiad y comisiwn, yn derbyn ei holl argymhellion, yn unigol ac fel pecyn. Nawr, roedd y comisiwn yn glir iawn ynghylch y brys i weithredu'r argymhellion hyn, ond ni chlywsom air pellach gennych chi am hyn ers wythnosau bellach, felly rwy'n pryderu efallai nad ydych chi'n rhoi'r camau sydd eu hangen ar waith mor gyflym ag sy'n angenrheidiol. Nawr, fe wyddom wrth gwrs fod aelodau blaenllaw o'ch plaid wedi diystyru cyflawni argymhellion y comisiwn a hynny'n gyson ac yn glir, gan gynnwys argymhellion ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder, y rheilffyrdd ac Ystad y Goron, ac ar gyllid tecach i Gymru. Felly, o ystyried bod penaethiaid eich plaid yn Llundain mor elyniaethus tuag atynt, a wnewch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i weithredu argymhellion y comisiwn cyfansoddiadol ar gryfhau ein democratiaeth, diogelu datganoli a sicrhau pwerau pellach i Gymru, a'r amserlenni rydych chi'n gweithio o'u mewn?

Os caf ddechrau drwy dawelu meddwl fy nghyd-Aelod fy mod yn rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i hyn yn fy mhortffolio, un o'r pethau cyntaf a wneuthum oedd gofyn am gyfarfodydd gyda chyn gyd-gadeiryddion y comisiwn, yr Athro Laura McAllister a'r Esgob Rowan Williams, i drafod y materion sy'n codi o'u hadroddiad. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â Gareth Williams, a gadeiriodd banel arbenigol y comisiwn, a hefyd gyda Dr Anwen Elias, a oedd yn aelod o'r comisiwn ac sy'n arbenigo'n benodol mewn ymgysylltiad democrataidd, a hefyd gyda Philip Rycroft, cyn-gomisiynydd sydd ag arbenigedd mewn cysylltiadau rhynglywodraethol.

Rwyf wedi bod yn edrych yn arbennig ar yr argymhellion cyntaf, a oedd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn benodol. Roedd y cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud ag arloesedd democrataidd, a'r argymhelliad yno oedd y dylem bwyso ar banel cynghori arbenigol, felly rwy'n gwneud dewisiadau terfynol, os mynnwch, ar hyn o bryd mewn perthynas â'r panel hwnnw, dewisiadau a fydd yn ein helpu i symud ymlaen mewn perthynas â'r gofod arloesedd democrataidd. Mae hynny'n ymwneud ag ymgysylltu cynhwysol a gwaith cymunedol yma yng Nghymru, a dyna pam fod y cyfarfod a gefais gyda Dr Anwen Elias mor bwysig i fy helpu i feddwl sut y gellid bodloni'r argymhelliad penodol hwnnw yn y dyfodol, oherwydd mae'n galw am wneud strategaeth newydd benodol i addysg yn flaenoriaeth ar gyfer y gwaith. Ac yn amlwg bydd yn rhaid imi weithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog tai a llywodraeth leol, sydd â diddordeb penodol mewn amrywiaeth a democratiaeth. Mae'r holl bethau hyn yn dod at ei gilydd.

Rwyf wedi cael trafodaethau da am egwyddorion cyfansoddiadol, gan archwilio'r hyn y mae gwledydd eraill wedi'i wneud o ran eu hymagwedd at egwyddorion cyfansoddiad a llywodraethu yn eu gwledydd, i ddeall yr hyn y gallem ei ddysgu yma yng Nghymru a beth y gallai fod yn briodol i ni yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, roedd trydydd argymhelliad i ni fel Senedd yn ymwneud â diwygio'r Senedd ac rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da ar hwnnw hefyd. Felly, yn bendant mae cynnydd yn digwydd, ond fe geisiaf roi diweddariad pellach i gyd-Aelodau pan fyddaf wedi dod i benderfyniad ynglŷn â'r grŵp cynghori, a oedd yn argymhelliad allweddol gan y comisiwn.

14:15
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Amgylchedd Lleol

1. Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw brosiectau y mae'n eu hariannu'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol? OQ61266

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Sioned. Mae gennym ystod o offer ar waith, gan gynnwys asesiadau effaith, i helpu i ystyried sut y gallai prosiectau effeithio ar yr amgylchedd lleol, ac ar ddinasyddion wrth gwrs. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn gyflawni ar gyfer pobl nawr, diogelu'r amgylchedd a gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi adeiladu car cebl ac atyniad weiren wib gwerth miliynau o bunnoedd yn Abertawe, a fyddai, yn ôl y bobl leol, yn dinistrio man gwyrdd hoff sy'n cael defnydd da yn y ddinas. Bydd y cynllun, gan Skyline Enterprises Ltd, ar Fynydd Cilfái, ac a gafodd £4 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn arwain at golli bywyd gwyllt yn ôl aelodau o'r gymuned leol. Mae Mynydd Cilfái yn goetir cymunedol tawel ac mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau'n dweud y byddai'n dileu'r man gwyrdd gwerthfawr hwn mewn rhan o'r ddinas sy'n brin o fannau o'r fath. Mae'r Gymdeithas Mannau Agored, corff cadwraeth hynaf Prydain, wedi cefnogi'r ymgyrch leol i achub Mynydd Cilfái rhag effeithiau amgylcheddol niweidiol posibl y cynllun. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd eu buddsoddiad yn y prosiect hwn yn arwain at niwed i fywyd gwyllt a choetir ac yn ehangach, i argaeledd mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol?

Diolch, Sioned. A minnau wedi fy ngeni a fy magu yng Nhre-gŵyr, rwy'n adnabod Mynydd Cilfái a'r ardal yn dda iawn yn wir, ac rwyf wedi cerdded i fyny yno ac wedi bod yn yr ardaloedd cyfagos hefyd, pan fyddai fy meibion yn chwarae rygbi yn y gymuned gerllaw.

Mae'n bwysig fod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed, ond o safbwynt Llywodraeth Cymru, sef eich ffocws chi yn gywir ddigon, mae'n werth ehangu ychydig ar yr hyn a wnawn gyda'n hasesiadau. Mae'n anodd imi wneud sylwadau manwl ar unrhyw gais unigol, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i hyn weithio ei ffordd drwodd a gall Ysgrifenyddion y Cabinet, ar ryw adeg, fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau unigol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Ond o ran yr asesiad effaith integredig, mae ystod eang o bynciau y gellir eu hystyried gyda hyn, fel yr amgylchedd lleol a chwestiynau am yr effaith ar fywydau pobl a allai gael eu heffeithio gan newidiadau yn yr amgylchedd lleol. Mae'n edrych arno drwy nifer o lensys, gan gynnwys bioamrywiaeth, adnoddau naturiol, cynefin a newid hinsawdd, gan gynnwys datgarboneiddio a gwrthsefyll hinsawdd. Mae'n gofyn cwestiynau am yr effaith ar gymunedau a rheoli tir yn gynaliadwy, a hefyd, hyd yn oed—er nad yn benodol o ran Mynydd Cilfái—mae'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud er enghraifft ag asesiadau effaith ar y Gymraeg, asesiadau effaith ar gydraddoldeb, hawliau plant, asesiadau economaidd-gymdeithasol, ac yn y blaen. Felly, mae'n drylwyr iawn. Mae hefyd yn edrych ar beth fydd yr effaith ar gynefinoedd, ac a yw hynny'n berthnasol yn lleol.

Fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau manwl ar gais penodol, ond diolch i chi am ei godi yma yn y Siambr heddiw ar ran y trigolion lleol, ac mae'n bwysig fod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed hefyd, ar unrhyw gynllun, nid un Mynydd Cilfái yn unig, ond unrhyw un ledled Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid y prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu'n uniongyrchol yn unig y dylem fod yn bryderus amdanynt, ond hefyd y rhai a ariennir gan grantiau a benthyciadau. Er enghraifft, mae landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n derbyn nifer o grantiau gan Lywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddinistrio cynefin unigryw, sy'n gartref i lawer o rywogaethau o fflora a ffawna prin, i adeiladu tai cymdeithasol. Er mwyn lliniaru colli cynefin, maent yn cynnig darparu llain arall o dir.

'Pam nad ydynt yn defnyddio'r llain arall o dir ar gyfer tai?', fe'ch clywaf yn gofyn. Oherwydd ei bod yn ddrutach i adeiladu tai yno, felly bydd yn rhaid i'r rhywogaethau prin ddod o hyd i le arall i fyw yn lle hynny. Sut y gellir caniatáu i hyn ddigwydd mewn argyfwng natur? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus, boed yn uniongyrchol neu ar ffurf grant neu fenthyciad gan awdurdod cyhoeddus, yn gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, ac yn diogelu natur a bioamrywiaeth ni waeth beth yw'r pris? Diolch.  

14:20

Diolch unwaith eto am y cwestiwn dilynol. Unwaith eto, ni allaf wneud sylwadau manwl ar fater sy'n lleol, a gwn eich bod yn deall hynny'n iawn. Ond byddem yn disgwyl iddynt—boed yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu'n awdurdod lleol, neu unrhyw un arall sy'n cyflwyno cynllun a dweud y gwir—orfod mynd drwy'r broses gynllunio lawn, briodol, yr asesiadau effaith amgylcheddol llawn, priodol, ac ymgysylltu â'r gymuned hefyd, drwy ymgynghoriad a deialog briodol.

Ond ar ryw adeg, fel bob amser, Lywydd, mae'n anochel y bydd rhai o'r rhain yn cael eu codi i sylw Ysgrifenyddion y Cabinet a Llywodraeth Cymru i edrych arnynt, felly ni allaf wneud sylwadau manwl. Ond rydych chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch: mae angen ystyried effeithiau lluosog datblygiadau yn y cam cyn ymgynghori, yn ystod ymgynghori â chymunedau, pan ddaw ceisiadau drwodd hefyd, ac yn y pen draw, os cânt eu codi i'n sylw ni, fel y gallwn ni wneud ein hasesiad priodol hefyd, os daw unrhyw un o'r prosiectau hyn drwodd atom.

Ond rwy'n bendant fod yn rhaid clywed lleisiau cymunedau lleol ym mhob un o'r rhain. Hefyd, o'm rhan i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae angen inni sicrhau bod materion bioamrywiaeth, yr amgylchedd lleol a gwrthsefyll newid hinsawdd hefyd yn cael eu hystyried. Felly, diolch unwaith eto am ei godi ar ran y bobl leol. Rydych chi wedi sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed unwaith eto. 

Yn fy etholaeth i, rwyf wedi gweld sut y gall y rhaglenni a'r prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi gael effaith gadarnhaol iawn ar natur ac ar bobl, wrth i bobl gael mwy o fynediad at natur a mannau gwyrdd mewn mannau lle mae'n anos dod o hyd iddynt. Un enghraifft wych yw prosiect tyfu cymunedol ysgol Hirwaun, lle daw pobl o bob oed at ei gilydd i ddysgu am dyfu eu bwyd eu hunain. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw eich barn am yr effaith y mae'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi'i chael ar natur ac ar gymunedau lleol? 

Vikki, diolch am y cwestiwn hwnnw. Wrth edrych ar rai o'r anawsterau wrth farnu rhinweddau cyflwyno gwahanol bethau, rydym yn amlwg yn gwneud llawer iawn drwy gynlluniau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae'r rhain yn arbennig o effeithiol ar gyfer cymunedau lleol. Rwyf wedi eu gweld yn fy ardal fy hun, ac fe fyddwch chithau hefyd. Mae rhai o'r rhai yng Nghwm Cynon ar hyn o bryd yn debyg i'r rhai sydd gennyf i.

Bûm yn gweld y rhai yn fy ardal i, er enghraifft gorsaf dân Cwm Ogwr, lle maent wedi gweithio gyda'r gymuned leol i ddatblygu plannu o amgylch darn o dir lled-ddiffaith. Aruthrol. Mae'n golygu y gall pobl fynd i eistedd yno nawr ac ar welyau wedi'u codi, a gallu mynd â'u plant, mwynhau'r blodau, mwynhau'r arogleuon—profiad amlsynnwyr go iawn. A'r orsaf dân yw hon a darn o dir a arferai fod yn ddiffaith.

Yng Nghwm Cynon, rwy'n gwybod bod gan orsaf dân Abercynon becyn cychwynnol sy'n gwneud menter bywyd gwyllt debyg. Mae Trivallis wedi bod yn gweithio ar ardd bywyd gwyllt. Mae gan Cynon Valley Organic Adventures becyn draenio cynaliadwy ar gyfer natur y mae'n gweithio arno. Mae Eglwys St Winifred yn gweithio ar ardd i bryfed peillio, ac mae cymaint mwy. Mae Ysbyty Cwm Cynon yn gwneud gardd gloÿnnod byw. Mae ysgol gynradd Aberdâr yn gwneud gardd drefol. Mae Ysgol Gynradd Caradog yn gwneud menter bywyd gwyllt hefyd.

Mae cymaint yn digwydd, a hoffwn annog yr holl Aelodau i edrych ar eu cymuned eu hunain, a sut mae ychydig o gyllid ac ychydig o waith partneriaeth cydweithredol ar lawr gwlad, drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn mynd yn bell iawn.

Technoleg mewn Ffermio

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y defnydd o dechnoleg mewn ffermio? OQ61277

Diolch, Sam. Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun gweithredu ar gyfer technoleg amaethyddol. Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth i gefnogi'r sector i fod yn broffidiol, effeithlon a chynaliadwy, gan fanteisio ar botensial technoleg amaethyddol.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Lywydd, mae cynyddu'r defnydd o dechnoleg yn gwbl hanfodol i'n ffermwyr wrth gwrs, i'w helpu i gynyddu maint y cynnyrch a pharhau i wneud y gwaith hanfodol o ddarparu bwyd ar gyfer ein cenedl. Rwy'n falch o glywed am y gwaith y gwnaethoch chi ei ddisgrifio yno ar 28 Tachwedd.

Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod gydag Ekogea Agri Ltd ynghylch slyri fferm ac atebion biotechnoleg amaethyddol posibl, a gwn fod fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor wedi rhannu manylion gyda chi am hynny. Maent yn gwmni biotechnoleg a pheirianneg yng ngogledd Cymru, ac maent yn disgrifio'u hunain fel cwmni sy'n darparu atebion cylchol yn y sectorau amaethyddol ac ynni, yn enwedig mewn perthynas â dad-ddyfrio slyri, a threulio anaerobig. Cwmnïau fel hyn, sydd â'u harian eu hunain—nid ydynt yn chwilio am arian gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr fod hynny i'w groesawu ar hyn o bryd—ac maent eisiau buddsoddi tua £2.5 biliwn dros 10 safle dros y blynyddoedd i ddod, ond yr hyn sydd ei angen yw trwyddedau a chaniatadau gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi i gael y buddsoddiad hwn a gweld technoleg ffermio'n gwella. Felly, tybed beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hwyluso ymgysylltiad â chwmnïau fel hyn yma yng Nghymru, fel y gallwn weld ei arloesedd yn cael ei ddefnyddio i hybu ein ffermwyr.

14:25

Sam, mae'n gwestiwn mor dda, oherwydd mae angen inni roi'r gorau i edrych ar gynhyrchion amaethyddol megis slyri fel baich a phroblem i'w rheoli, ac edrych ar y potensial i ni allu eu defnyddio a'u troi'n gynhyrchion defnyddiol. Rwyf wedi cael cymaint o drafodaethau gyda ffermwyr ar eu ffermydd, ond hefyd gyda'r rhai sy'n ymwneud â'r mathau hyn o fentrau, a dweud, 'Wel, sut y gallwn ei wneud?', a weithiau heb arian y Llywodraeth. Nid cyllid y Llywodraeth yw'r ateb i bopeth; yr arloesi sy'n bwysig. Rwyf wedi bod yn falch o glywed am y potensial, ac rwy'n awyddus i weld sut y gallwn gynorthwyo prosiectau fel hyn wrth symud ymlaen, gan gynnwys gyda thrwyddedu ac ati. Felly, rwy'n hapus i gael trafodaethau pellach.

Os caf ddweud, o ran llygredd amaethyddol a thechnoleg amaethyddol, fel y gwyddoch o bosibl, rydym yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer prosiectau arloesol ar hyn o bryd gyda Choleg Sir Gâr. Mae gennym Bartneriaeth Maetholion Fferm Tywi hefyd, a oedd yn gydweithrediad a ariannwyd gan Smart Expertise rhwng Coleg Sir Gâr ac amryw bartneriaid diwydiant i edrych ar ffyrdd nid yn unig o leihau llygredd a cholli maetholion, ond o ailgylchredeg y maetholion hynny ar y fferm—felly, heb orfod eu cludo ymaith, heb orfod eu symud. A hefyd o dan Smart Expertise, dyfarnwyd grant o £839,000 i'r prosiect, a ddenodd fuddsoddiad cyfatebol o'r sector preifat, a dyma'r ffordd y mae angen inni edrych arno: sut y gallwch ddod â'r rhain at ei gilydd weithiau, gydag ychydig o arian cyhoeddus, ac ychydig o fuddsoddiad preifat hefyd. Mae'r prosiect hwnnw wedi gwneud cynnydd tuag at ddatblygu cynnyrch gwrtaith gyda manteision posibl ar gyfer storio slyri. Felly, mae gan y prosiectau hyn botensial gwirioneddol i helpu ffermydd i reoli eu slyri mewn ffordd sy'n well i fusnes y fferm, gan leihau'r risgiau amgylcheddol a chreu cyfleoedd—cyfleoedd busnes.

Rydym yn ystyried mesurau amgen i'w datblygu, i weld a allwn eu datblygu fel rhan o'r adolygiad pedair blynedd o reoliadau llygredd amaethyddol, gan gynnwys, gyda llaw, y rhai sy'n ymwneud â'r defnydd o dechnoleg arloesol. Felly, rydym wrthi'n ystyried sut i fwrw ymlaen â'r rhain.

Rwy'n gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar brifysgolion—

—felly mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld sut y gall technoleg ac arloesedd gefnogi pobl ifanc sy'n dod i mewn i'r gweithle yn y sector amaethyddol i helpu i ysgogi effeithlonrwydd. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl i weithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, cyn iddynt ddechrau yn y gweithle, fel eu bod mor barod â phosibl a bod ganddynt fantais gystadleuol? 

Hefin, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rwy'n falch o'ch ffocws ar hyn, gyda'ch profiad a'r ffaith eich bod yn cadeirio'r grŵp yn y maes hwn, oherwydd mae potensial mawr o fewn technoleg amaethyddol i fyfyrwyr hefyd. Os oes gennym y dechnoleg a'r offer diweddaraf sydd ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio yn rhan o gyrsiau amaethyddol, mae hynny'n fonws go iawn. Rydym yn cefnogi eu datblygiad sgiliau, rydym yn datblygu eu profiadau ymarferol, ac yn eu cael i allu gweld sut i ddefnyddio'r technolegau hyn ar ffermydd wrth iddynt ddechrau mewn gwaith.

Felly, Hefin, rydym wedi cefnogi ein sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn ddiweddar, gan ddarparu cyrsiau amaethyddol neu'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, i fuddsoddi mewn technoleg. Yn 2023, cynigiwyd cymorth i chwe sefydliad—pump sefydliad addysg bellach ac un sefydliad addysg uwch—ar gyfer prynu eitemau cyfalaf a fyddai o fudd i fyfyrwyr gyda'u dysgu. Gwerth y grant oedd £211,000. Er gwybodaeth, roedd dau o'r sefydliadau hyn wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru, Llysfasi a Glynllifon, a gwahoddwyd sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch ledled Cymru sy'n darparu cyrsiau amaethyddol i wneud cais am y cymorth sydd ar gael yn 2024. Rydym wedi rhyddhau cyllideb o £360,000 a hoffem annog pob Aelod—Hefin a phawb arall—i annog eu colegau a'u prifysgolion lleol i wneud cais amdano. Hefin, rwy'n falch eich bod wedi rhoi sylw i hyn, oherwydd mae cyfleoedd go iawn yn y sgiliau uwch hynny mewn technoleg ac amaethyddiaeth.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae darllen yr adroddiadau mewn perthynas â Hybu Cig Cymru a'r diwylliant gwenwynig o fwlio yn y sefydliad yn peri cryn bryder. Mae’r prif swyddog gweithredol wedi ymddiswyddo, mae dau uwch swyddog gweithredol yn gadael ac mae aelodau o’r bwrdd ar fin ymddiswyddo. Ni chyhoeddwyd unrhyw gofnodion gan y bwrdd ers 2022, ac nid oes unrhyw adroddiadau blynyddol na datganiadau ariannol cyfredol wedi'u cyhoeddi ar eu gwefan ers 2021. Mae hon yn sefyllfa enbyd i Hybu Cig Cymru fod ynddi. Mae'r corff yn sail i ddiwydiant yr amcangyfrifir ei fod yn werth dros £1 biliwn i Gymru. A allwch chi egluro, os gwelwch yn dda, y camau yr ydych yn eu cymryd, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd am Hybu Cig Cymru a’r diwylliant yn y sefydliad, gan mai Llywodraeth Cymru yw unig aelod y cwmni a’r corff sy’n rheoli Hybu Cig Cymru yn y pen draw?

Diolch am eich cwestiwn. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol ac rydym yn nodi’r pryderon ynghylch materion yn ymwneud â llywodraethu mewnol Hybu Cig Cymru. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw fy mod wedi cyfarfod yn ystod yr wythnos neu’r pythefnos diwethaf â chadeirydd Hybu Cig Cymru i ofyn am sicrwydd, y bydd rhanddeiliaid yn wirioneddol awyddus i'w gael, ar berfformiad Hybu Cig Cymru ar gyfer y sector cig coch—a yw'n gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud, a yw’n ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn y blaen. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod, yn y cyfarfod hwnnw, wedi gofyn am y sicrwydd hwnnw ac wedi'i gael.

Gyda llaw, rwy'n nodi bod Hybu Cig Cymru, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cysylltu â rhanddeiliaid i roi sicrwydd iddynt y bydd ymgyrch cig oen Cymru yn cael ei lansio fis nesaf i gyrraedd dros 20 miliwn o ddefnyddwyr targed mewn rhanbarthau allweddol. Maent yn mynychu sioeau masnach y mis hwn yn yr Unol Daleithiau fel rhan o ymdrechion parhaus i ddatblygu marchnad yr Unol Daleithiau ar gyfer cig oen Cymru. Mae hynny'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau masnach y byddant yn eu mynychu. Maent yn parhau i fynd ati'n rhagweithiol i weithio gyda phroseswyr ac allforwyr i gefnogi datblygiad cyfrifon cig oen Cymru allweddol gartref a thramor. Maent yn gweithio ar eu prosiectau ymchwil a datblygu, gan gynnwys GrassCheckGB a RamCompare ac ati.

Felly, o ran eu busnes o ddydd i ddydd a'u perfformiad, maent yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Rwyf wedi cael y sicrwydd hwnnw nad yw eu perfformiad yn cael ei effeithio, na'u hymgysylltiad â rhanddeiliaid, ond yn amlwg, rwy'n ymwybodol, fel chithau, o'r problemau llywodraethu mewnol, ac rwy'n siŵr eu bod yn canolbwyntio ar eu datrys.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn sylweddoli, fel fi, ei bod yn adeg dyngedfennol iawn i'r sector amaethyddol ledled Cymru. Mae ein ffermwyr yn awyddus i gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf ac i allforio'r bwyd hwnnw i bob marchnad sydd ar gael iddynt. Mae adroddiadau fod corff ein diwydiant yn ddiffygiol ac nad oes ganddo weledigaeth strategol yn niweidiol iawn i’r sector ac yn tanseilio hyder ffermwyr i dalu eu hardoll i Hybu Cig Cymru.

Nid oes ganddo brif weithredwr parhaol ar hyn o bryd. Rydym yn ymwybodol fod y prif weithredwr presennol a oedd yno wedi rhoi’r gorau iddi. Mae llawer o bobl yn y diwydiant, hefyd, yn bryderus iawn ynglŷn ag a oes gan y bwrdd a chadeirydd y bwrdd y pŵer a’r ysgogiadau sydd eu hangen arnynt i newid hynt y sefydliad. Mae’r diwydiant yn colli ffydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn fod aelodau o'r bwrdd yn rhoi’r gorau iddi ar hyn o bryd. A ydych chi'n gwneud unrhyw drefniadau interim i roi pobl ar y bwrdd sydd â’r arbenigedd perthnasol y maent ei angen i sicrhau newid fel y gall ein ffermwyr fod â hyder yn y corff hwn?

Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud—ac rwy'n gobeithio fy mod yn glir yn fy ymateb cychwynnol—fod hwn yn sefydliad sy'n parhau i wneud ei waith o ddydd i ddydd ac sy'n perfformio ar ran ei randdeiliaid. Mae'n bwysig ein bod yn cyfleu'r neges honno'n glir iawn, James. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae pob un ohonom wedi’i glywed yn cael ei ddweud heddiw ar lawr y Senedd am faterion llywodraethu mewnol—. Ac mae angen iddynt ddelio â hynny wrth gwrs, ac maent yn gwneud hynny, a mater i Hybu Cig Cymru yw gweithio drwy hynny.

Mae yna brif weithredwr dros dro wrth gwrs, ac mae wedi bod yno ers mis Ionawr. Cyfarfûm â'r cadeirydd yn ddiweddar. Ond fel y dywedais wrthych yn fy ymateb cychwynnol—er y gallwn fynd ymhellach hefyd, ac rwy’n siŵr y byddai Hybu Cig Cymru yn fwy na pharod i gyhoeddi rhywfaint o’r wybodaeth hon hefyd—o ran eu gwaith o ddydd i ddydd a’u hymgysylltiad, yn ddomestig ac yn rhyngwladol wrth hyrwyddo buddiannau ein sector cig coch, maent yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Nid ydynt yn colli ffocws o gwbl. Mae eu ffocws yn glir iawn ar wneud hyn. Mewn gwirionedd, fe wyddom o’r blynyddoedd diwethaf ac ar sail barhaus pa mor bwysig yw Hybu Cig Cymru i lwyddiant ein sector cig coch.

Felly, gallaf roi’r sicrwydd hwnnw i chi, yn seiliedig ar y cyfarfod a gefais yn ddiweddar gyda’r cadeirydd. Mae yna brif weithredwr dros dro; wrth i benodiadau eraill ddod yn angenrheidiol, byddant yn cael eu huwchgyfeirio ataf i mi wneud penderfyniadau yn eu cylch. Ond rwyf wedi cael sicrwydd ynglŷn â pherfformiad, ac mae'n bwysig dweud hynny'n gyhoeddus yma, yn hytrach na gwaethygu'r hyn sy'n fater anodd o ran llywodraethu.

14:35

Nid wyf yn hoffi ei waethygu, Ysgrifennydd y Cabinet; y cyfan rwy'n ceisio ei wneud yw egluro'r sefyllfa y mae'r diwydiant ynddi. Mae pobl wedi colli rhywfaint o hyder yn Hybu Cig Cymru, a chredaf ei bod yn iawn ein bod yn ceisio ailadeiladu'r hyder hwnnw. Oherwydd yr hyn yr hoffwn i a’r Ceidwadwyr Cymreig ei weld, Ysgrifennydd y Cabinet, ac y byddai llawer o’r diwydiant yn hoffi ei weld, yw bwrdd marchnata cig cwbl annibynnol i Gymru, sy’n cael ei redeg gan ffermwyr a phroseswyr, ar gyfer ffermwyr a phroseswyr, corff a all ethol pobl yn uniongyrchol ar eu byrddau, a gweld corff ein diwydiant yn mynd o ddwylo Lywodraeth Cymru. Oherwydd mae arnom angen iddo ganolbwyntio’n llwyr ar ei gyfrifoldeb i ddatblygu a hyrwyddo ein sector cig Cymreig yma yng Nghymru.

Mae ffermwyr a phroseswyr yn ariannu Hybu Cig Cymru drwy’r ardoll—gwn fod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhywfaint o arian iddo, er mwyn ei gynnal. Ond mae llawer o ffermwyr rwy'n siarad â nhw, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dweud wrthyf, 'Ewch ag ef o ddwylo Lywodraeth Cymru, rhowch ef yn ôl i'r diwydiant, rhowch ef i'r proseswyr, gadewch iddynt hwy benodi pobl yn uniongyrchol ar y bwrdd hwnnw, ac os nad ydynt yn perfformio, gallant gael gwared arnynt'. Credaf fod honno’n ffordd well o wneud hynny, yn hytrach na'i fod yn cael ei arwain gan y Llywodraeth. A fyddech yn cytuno â mi ei bod yn sefyllfa y mae angen inni newid iddi, yn debyg i’r ffordd y mae Beef + Lamb New Zealand yn gweithio, fel ei fod yn cael ei arwain gan y diwydiant ac yn cyflawni ar gyfer ein ffermwyr, ac nad y Llywodraeth sy'n ei reoli ac sy'n unig barti ynddo?

Nid dyna’r neges gyffredinol a glywais gan bob ffermwr. Rwy'n sicr wedi clywed gan lawer o ffermwyr a phobl yn y gadwyn gyflenwi cig coch sy’n croesawu’r gwaith y mae Hybu Cig Cymru wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd, ac sydd am ei weld yn parhau. Ond clywaf yr hyn a ddywedwch—mae gennych ffordd amgen ymlaen. Ond nid dyma'r neges gyffredinol a glywais gan ffermwyr. Yr hyn sydd ei eisiau ar ffermwyr ar hyn o bryd yw sicrwydd y bydd Hybu Cig Cymru yn gweithio ar eu rhan a bod ei berfformiad yn cyrraedd y safon. Felly, yn y sefyllfa bresennol, er efallai fod gennych fodelau o wahanol ffyrdd ymlaen ar gyfer cynrychioli’r sector cig coch, rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod Hybu Cig Cymru ar hyn o bryd yn perfformio o ddydd i ddydd, nawr, ac fel yr amlinellais yn fy ymateb cychwynnol, yr holl waith a wnânt, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, i sicrhau ein bod yn cyrraedd marchnadoedd presennol a newydd, yn ymestyn ein cyrhaeddiad i farchnadoedd presennol, yn ehangu i farchnadoedd newydd, yn y flwyddyn i ddod. Mae ganddynt amserlen brysur o'u blaenau.

Diolch, Llywydd. Dyw a yw Hybu Cig Cymru'n cyflawni eu remit ddim o reidrwydd yn esgusodi unrhyw broblemau neu drafferthion oddi fewn i'r sefydliad. Fe wnes i ysgrifennu at eich rhagflaenydd chi nôl ym mis Chwefror eleni, yn mynegi gofid am y sefyllfa yna. Bryd hynny, fe ddywedwyd nad oedd y Llywodraeth am ymyrryd. Yr wythnos yma, mae dau gyfarwyddwr wedi ymddiswyddo o'r bwrdd, ac mae'n amlwg bod y sefyllfa yna yn gwaethygu. Dwi wedi ysgrifennu eto atoch chi ddoe, yn gofyn i chi weithredu i sicrhau bod y problemau, sy'n amlwg, Ysgrifennydd Cabinet, yn mynd o ddrwg i waeth oddi fewn i Hybu Cig Cymru, yn cael eu delio â nhw.

Mae yna lefelau absenoldeb, lefelau trosiant staff hefyd, sy'n peri gofid. Dŷch chi wedi dweud eu bod nhw'n ffocysu ar ddatrys y problemau, ond wrth gwrs, dyna mae'r Llywodraeth wedi ei ddweud ers bron i flwyddyn erbyn hyn. Onid ydych chi'n teimlo cyfrifoldeb dros warchod lles unigolion o fewn y corff sy'n cael eu heffeithio gan y trafferthion yma? Dŷn ni wedi clywed yn barod am y risg sydd yna o danseilio ffydd talwyr lefi, ac, ar ddiwedd y dydd, y risg o gael effaith negyddol ar frand ac enw da cig coch Cymru. Am ba hyd ydych chi'n mynd i ddweud mai problem i rywun arall yw hon?

Llyr, diolch am y cwestiwn.

Rydych chi'n codi dau fater. Mae un, unwaith eto, yn ymwneud â pherfformiad ac enw da Hybu Cig Cymru. Fel y dywedaf, yn y cyfarfod a gefais gyda’r cadeirydd yn ddiweddar, gofynnais am y sicrwydd hwnnw, nid yn unig ynghylch y gwaith a wnânt, ac y byddant yn parhau i’w wneud, ond ynghylch eu perfformiad ar gyfer eu rhanddeiliaid hefyd, a beth yw eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ogystal â hyrwyddo buddiannau’r sector cig coch.

Yna, yr ail fater yw'r llywodraethu. Er fy mod yn rhannu pryderon, fel y byddai unrhyw Aelod o’r Senedd, nid yn unig fod materion llywodraethu mewnol, ond yn niffyg gwell ymadrodd, fod materion personél mewnol hefyd yn cael eu trin yn foddhaol, yn deg, yn briodol ac yn amserol, mae'n rhaid inni adael i Hybu Cig Cymru weithio drwy’r materion hyn a gwneud hynny'n briodol ac yn ddiwyd. Rôl Hybu Cig Cymru yw honno.

Felly, er fy mod yn ymwybodol iawn ohonynt, nid fy lle i yw camu i mewn, ac mewn rhai ffyrdd, dweud wrth Hybu Cig Cymru beth i'w wneud, neu ymyrryd mewn trafodaethau sensitif—fel y byddwch yn derbyn, rwy'n siŵr—ac anodd gydag aelodau presennol a chyn-aelodau. Mater i Hybu Cig Cymru yw gwneud hynny. Yn y cyfamser, rwyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet yn canolbwyntio'n agos ar enw da a pherfformiad y sefydliad hwn, a byddaf yn parhau i ganolbwyntio arnynt.

14:40

Clywaf yr hyn a ddywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid wyf am wthio'r mater ymhellach, ar wahân i ofyn i mi fy hun ar ba bwynt, felly, y credwch fod angen gweithredu. Pan fydd gennych staff yn gadael yn eu heidiau, lle mae gennych gyfarwyddwyr yn ymddiswyddo, dylai hynny fod yn rhybudd. Ond yn ddiau, fe ddown yn ôl at hyn yn nes ymlaen.

Gwn y byddwch yn ymwybodol fod Mona Dairy wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gwaetha'r modd. Dyma’r union fath o fusnes lleol, brodorol y mae pob un ohonom am ei weld yn llwyddo yng Nghymru wrth gwrs, wrth hybu prosesu lleol, a sicrhau gwerth ychwanegol i’r economi leol. Rwy’n siŵr y gallwch ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r staff sydd wedi cael eu diswyddo, ond beth y gallwch ei ddweud wrthym am gefnogi’r 31 o gynhyrchwyr llaeth sydd wedi colli cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn sieciau llaeth heb eu talu? Nid ydynt yn gofyn am roddion gan y Llywodraeth, ond maent yn gofyn ichi ystyried rhai camau ymarferol i'w helpu i oroesi yn y tymor byr. O ystyried y bygythiad gwirioneddol y mae’r colledion hyn yn ei achosi i'w busnesau, a fyddech chi, er enghraifft, yn ystyried talu eu taliad sengl yn llawn, ymlaen llaw, cyn gynted â phosibl i’w helpu i ddod drwyddi?

Gwn hefyd, er enghraifft, fod rhai ohonynt yn paratoi ceisiadau am gyllid gan y Llywodraeth i fodloni gofynion seilwaith y parthau perygl nitradau, ond bellach, mae eu helfen o arian cyfatebol tuag at y gronfa honno wedi diflannu. Felly, a fyddech chi'n ystyried cadw rhywfaint o'r gronfa yn ôl ar eu cyfer, fel y gallant wneud cais amdano'n ddiweddarach, efallai, pan fyddant wedi adfer, gobeithio, neu ganiatáu amserlen ychydig yn hirach hyd yn oed iddynt fodloni'r rheoliadau newydd? Beth y gallech ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i helpu’r ffermydd hyn i oroesi? Oherwydd fe wnaethant yn union yr hyn y mae eich Llywodraeth am ei weld, sef cefnogi prosesu Cymreig lleol. Os cânt eu gadael heb gymorth, pa neges y mae hynny'n ei hanfon, a pha obaith sydd yna i fentrau tebyg yn y dyfodol?

Diolch am hyn, Llyr. Rwy'n rhannu eich pryderon, gan mai mentrau fel Mona Dairy yw’r union fath o fenter yr ydym am ei gweld yn llwyddo yn ein heconomi wledig, nid yn unig oherwydd yr effeithiau yno’n lleol, o ran cyflogaeth ac ati, ond hefyd y materion ehangach yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi sydd mor bwysig i’n cynhyrchwyr llaeth ac i’r gadwyn cyflenwi bwyd ehangach hefyd.

Deallwn fod perchnogion Mona Dairy wedi cyfarfod â’r ffermwyr cyflenwi ar 11 Mehefin. Nid oedd Llywodraeth Cymru, gyda llaw, yn rhan o’r trafodaethau hynny. Nid ydym, fel y gwyddoch, yn gallu ymyrryd yn uniongyrchol mewn materion yn ymwneud â thaliadau, er enghraifft, mewn termau masnachol, rhwng cynhyrchwyr a phroseswyr. Rydych chi'n gofyn a allwn gael unrhyw hyblygrwydd. Rydym yn agored i unrhyw ffordd y gallwn helpu heb wneud unrhyw ymrwymiadau yma heddiw. Ond os oes ffyrdd y gallwn helpu o fewn hyblygrwydd y taliadau y mae gennym reolaeth drostynt, yna fe wnaethoch gyflwyno cynnig diddorol, ond yr hyn na allwn ei wneud yw trafod materion yn ymwneud â threfniadau masnachol.

Wrth gwrs, bydd pobl yn ymwybodol fod rhesymau da pam fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydlu Mona Dairy. Rwy'n credu y byddech yn cytuno â hyn, Llyr. Felly, rydym yn obeithiol, rydym yn parhau i fod yn obeithiol—ac rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi hefyd, sydd wedi gwneud llawer ar hyn—y gallwn ddod o hyd i ddyfodol yma. Ond yn y cyfamser, mae'n rhaid inni ddelio â mater anodd iawn y rheini sydd wedi bod yn cyflenwi llaeth yma ar gontract.

Dylwn ddweud hefyd mai fy nealltwriaeth i yw bod Meadow Foods wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda ffermwyr hefyd, o ran unrhyw gymorth y gallant ei ddarparu. Mae Hufenfa De Arfon ac eraill wedi cymryd rhan hefyd. Mae yna rai materion o hyd—pryderon sy'n parhau—ynghylch arian heb ei dalu sy'n ddyledus i gynhyrchwyr llaeth a chyflenwyr yno hefyd. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Ond edrychwch, Llyr, os oes ffyrdd y gallwn gynorthwyo o ddifrif mewn un ffordd neu'r llall, byddwn yn agored i hynny, o fewn y cyfyngiadau sydd gennym. Ond diolch am godi'r mater.

14:45

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, fe wyddom y bydd Llywodraeth nesaf y DU, wrth gwrs, yn pennu'r gyllideb gyffredinol ar gyfer ffermio yng Nghymru, a'i bod yn fwyfwy tebygol mai Llywodraeth Lafur y DU a fydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am sicrhau bod gan eich Llywodraeth chi yng Nghymru yr adnoddau i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer y sector. Roeddech yn iawn i feirniadu’r Llywodraeth Geidwadol am eu methiant i gadw at eu gair na fyddent yn darparu 'ceiniog yn llai' mewn cyllid fferm i Gymru, gan adael ffermwyr Cymru gannoedd o filiynau o bunnoedd yn waeth eu byd wrth gwrs. Nawr, fe wneuthum atgoffa eich rhagflaenydd y llynedd nad yw 'ddim ceiniog yn llai' yn ddigon bellach, o ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol y bydd yn rhaid i ffermwyr eu hysgwyddo. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod sefydliadau ffermio ac amgylcheddol wedi galw’n gyson am ailwerthuso’r dyraniad cyllidebol i gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru, gan geisio adfer ei werth mewn termau real, nawr eu bod wedi amcangyfrif y byddai angen o leiaf £500 miliwn yn flynyddol i gyfrif am chwyddiant ac i gyflawni nodau'r diwydiant ar gyfer bwyd, natur a hinsawdd. Felly, a ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw'r addewid o 'ddim ceiniog yn llai' mewn cyllid i ffermwyr Cymru yn ddigon bellach? Ac a wnewch chi gyflwyno'r ddadl i Lywodraeth newydd y DU dros y £500 miliwn mewn cyllid blynyddol y mae'r diwydiant yn galw amdano—

Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wedi rhewi. Nid wyf yn siŵr a oedd digon o—

—gwestiwn yno i'r Gweinidog ei ateb. Oedd. Iawn, atebwch, a gall Llyr wylio’r cofnod yn nes ymlaen.

Llyr, rwy'n ymddiheuro os gwnaethom eich colli cyn eich coup de grâce ar y diwedd, ond rwy'n credu fy mod wedi clywed digon o'r cwestiwn. Edrychwch, mae'n destun cryn ofid i mi ein bod oddeutu, wel, bron i £250 miliwn yn brin o ran cymorth amaethyddol a chymorth gwledig. Ac mae hwnnw'n gymorth amaethyddol sydd nid yn unig yn mynd i’r gymuned ffermio, ond datblygu gwledig a’r holl fuddion amgylcheddol yr ydym am eu gweld o fewn y gymuned wledig yn ogystal. Nid rhywbeth trist yn unig mo hyn; credaf fod ffermwyr y siaradais â nhw yn hynod o ddig am hyn hefyd, gan yr addawyd na fyddent yn cael 'ceiniog yn llai' ac rydym wedi cael llai o arian. Ond yn ogystal, wrth gwrs, mae hynny wedyn yn golygu goblygiadau mawr i’n cyllideb gyffredinol, sydd oddeutu £1 biliwn yn llai mewn termau real, ac mae’r rheini’n benderfyniadau anodd yng Nghymru, fel y maent ledled y DU.

Ond rydych chi'n gofyn beth fydd gofyn i Lywodraeth Lafur ei wneud yn y dyfodol. Rwy'n credu bod Rachel Reeves wedi nodi'n glir iawn y bydd hi'n gyfrifol iawn yn ariannol ar y cychwyn, gan na wyddom pa fath o drychineb y byddwn yn ei etifeddu hyd nes inni gerdded drwy’r drysau hynny, ond mae gennym ryw lun o syniad yn barod, Lywydd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud—yr hyn y gallaf ei ddweud—yw y bydd Llafur yn adfer y prosesau gwneud penderfyniadau yr arferem eu gweld. Rwy'n edrych draw yma ar gyn-gydweithiwr i mi. Bu adeg, pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd, pan oedd Cymru yn rhan o drafodaethau ynglŷn â sut y byddem yn defnyddio cyllid ar gyfer cymunedau gwledig ac amaethyddiaeth. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael ein cloi allan o hynny’n gyfan gwbl, a’n cloi allan o gytundebau masnach—felly, nid cyllid yn unig, ond cytundebau masnach. Bydd Llafur yn adfer y berthynas waith honno dros ein harian a’r ffordd y gweithiwn gyda’n gilydd hefyd.

A’r peth arall i’w ddweud, gyda llaw, o ran cytundebau masnach, Llyr, yw bod angen i ni gyrraedd pwynt lle rydym yn cael trafodaethau aeddfed rhwng Llywodraethau o amgylch y DU, fel y gallwn gynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru, yn hytrach na chael ein cloi allan. Ac fel rydym wedi'i nodi'n glir yn y maniffesto, ni fyddwn yn gwneud cytundebau masnach sy'n gwneud ffermwyr Cymru yn dlotach, ac ni fyddwn, er enghraifft, yn caniatáu cyw iâr wedi'i glorineiddio neu gig eidion sydd wedi'i chwistrellu â hormonau steroid i fynd i mewn i farchnad y DU. Mae gennym safonau lles anifeiliaid uchel, safonau amgylcheddol uchel. Dyna pam fod y marchnadoedd domestig ac allforio mor gryf, ac mae angen inni gynnal hynny.

Sicrwydd Dŵr

3. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sicrwydd dŵr yng Nghymru? OQ61272

Diolch, Peter. Mae ein hadnoddau naturiol o dan bwysau aruthrol yn sgil newid hinsawdd, y tywydd eithafol rydym wedi’i weld a thwf poblogaeth. Felly, mae dyletswydd ar bob un ohonom i ddefnyddio dŵr mewn modd cynaliadwy bob amser. Byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod buddiannau'r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol yn ganolog yn ein defnydd o ddŵr.

14:50

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda newid hinsawdd yn newid ein patrymau tywydd, sydd, yn ei dro, yn debygol o arwain at gyfnodau o wres eithafol a chyfnodau hir heb law—er nad yw eleni'n cyd-fynd â’r darlun hwnnw ar y foment—mae angen inni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut y gweithiwn tuag at ganfod ffyrdd mwy arloesol o ddefnyddio ac arbed dŵr. Ysgrifennydd y Cabinet, bob dydd, mae pob un ohonom yn defnyddio oddeutu 80 litr o ddŵr ar gyfartaledd, ac mae fel arfer yn ddŵr glân, yfadwy, wedi’i drin, sydd wedi costio llawer iawn o arian i’w gynhyrchu, ac eto, rydym yn ei ddefnyddio i fflysio’r toiled a phethau felly. Wel, mae hynny'n groes i reswm, onid yw, os ydym yn ceisio arbed dŵr yfed o safon? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw'r Llywodraeth yn ystyried sut y gellir rhoi mesurau arbed dŵr ar waith ar raddfa ehangach, megis defnyddio dŵr llwyd a chasglu dŵr glaw ac ati at ddefnydd domestig, fel y gellir arbed mwy o ddŵr yfed? Byddai pwyslais ar hyn nid yn unig yn arbed dŵr, ond hefyd yn datblygu mwy o gyfleoedd diwydiannol newydd ac yn creu swyddi. Gwyddom fod rhai o’r mentrau hynny wedi bod ar waith ar gyfer ysgolion ac yn y blaen, ac adeiladau newydd sy'n bodloni safonau BREEAM, ond sut mae gwneud mwy o hynny ar raddfa leol?

Peter, mae’n gwestiwn mor dda, ac rydych chi'n llygad eich lle, rydym yn gwastraffu cymaint o ddŵr, gan ein bod yn aml o dan yr argraff fod gwerth dŵr mor fach. Rydym yn mynd i'r gawod, ac yna rydym yn y gawod am 10 munud da, ac yn y blaen. Fe fyddwch yn gwybod, Lywydd, imi fod yn rhan o ymgyrch pan oeddwn yn Weinidog DEFRA i annog pobl i dreulio tair munud yn unig yn y gawod. Y ffordd y gwnaethom hynny oedd dweud wrth bobl, 'Dewiswch eich hoff gân bop a'i chanu pan fyddwch chi yn y gawod.' Dim 'Bohemian Rhapsody' na 'Free Bird', Lynyrd Skynyrd, sy'n para 13 munud—cân bop dair munud o hyd.

Ond rydych chi'n pregethu wrth y cadwedig. Mae gennyf gasglwr dŵr o dan fy ngardd; mae'n llong danfor enfawr o beth. Ond mae angen inni weithio ar draws y Llywodraeth i weld sut y gallwn wneud hyn yn fwy cyffredin oherwydd, rydych chi'n llygad eich lle, mae yna gwmnïau sy'n arbenigo ar hyn. Ond er enghraifft, pan fyddaf yn archwilio, bob pum mlynedd, y llong danfor hon—sy'n fflysio'r toiledau ac yn helpu i lanhau fy nillad ac ati, gan ei fod yn ddŵr Cymreig da, meddal, glân, ac yn y blaen; nid yw'n creu cen, ac yn y blaen—mae angen pobl arnaf, ond i ble mae'n rhaid imi fynd? Yn aml iawn, i Gaerloyw neu Fryste neu rywle arall. Felly, mae angen inni ehangu hyn fel y gallwn ddangos gwir werth dŵr. Mae'n fwy na rhywbeth sydd ond yn llifo oddi ar ein toeau ac i lawr, mae'n creu cost a gall greu problemau hefyd. Mae angen inni wneud llawer mwy ar ddraenio cynaliadwy trefol hefyd, mater y gwn fod Julie James, yn ei rôl llywodraeth leol a thai, yn frwd iawn drosto, fel nad ydym yn fflysio i mewn i'r hen system garthffosiaeth gyfun—dŵr a charthion—ond yn sicrhau ei fod yn mynd i mewn i ddŵr sydd wedi'i brosesu'n naturiol, fel yr arferem ei wneud yn yr hen ddyddiau.

Wrth gwrs, nid mater i ni yma yn y Siambr hon yn unig yw diogeledd dŵr, mae’n fater i’r Deyrnas Unedig gyfan. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth Lafur newydd yn cael ei hethol ymhen pythefnos, a fydd yn rhoi cyfle i gydweithio mewn ffordd fwy rhagweithiol a chadarnhaol na'r hyn a welsom yn y blynyddoedd diwethaf efallai. Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a allech chi egluro i mi ac i Aelodau eraill yma, rwy’n siŵr, sut y bwriadwch weithio gyda’r Llywodraeth Lafur newydd i sicrhau bod rheoleiddwyr, fod y cwmnïau dŵr, fod ein Llywodraethau yn cydweithio i sicrhau bod gennym y cyflenwadau dŵr yfed sydd eu hangen arnom yn ogystal â'r ansawdd a’r safonau y mae gan bawb ohonom hawl i’w disgwyl.

Mae'n gwestiwn mor allweddol, gan fod diogeledd dŵr, fel y nodwyd yng nghwestiwn Peter, yn fater sy'n codi yng Nghymru ond mae hefyd yn fater sy'n codi ledled y DU. Mae'r cydgysylltiad rhwng asiantaethau, y rheoleiddiwr, Llywodraethau, swyddogion ac asiantaethau amgylcheddol hefyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau diogeledd dŵr i bob un ohonom. Heddiw, rydym yn aml yn edrych, er enghraifft, ar fater trosglwyddo dŵr rhwng ardaloedd hefyd. Y ffordd aeddfed honno o feddwl yw’r ateb yn fy marn i—y ffordd ddifrifol, drawslywodraethol, drawsffiniol, drawsasiantaethol honno o feddwl. Yn ôl yn 2018, llofnodwyd protocol rhynglywodraethol ar gyfer Cymru a Lloegr, fel ein bod yn sicrhau na fyddem yn cael unrhyw effeithiau andwyol difrifol ar adnoddau dŵr neu gyflenwadau dŵr nac ansawdd dŵr yng Nghymru drwy bethau megis trosglwyddiadau. Nawr, mae honno'n ffordd aeddfed a difrifol iawn o wneud gwaith rhynglywodraethol gyda'r protocol hwn. Felly, mae’n nodi’r ffyrdd y byddwn yn cyfathrebu, yn ymgynghori, yn cydweithredu rhwng Llywodraethau, sut rydym yn rheoli unrhyw anghydfodau, ac yn y blaen.

Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd fod gennym, o fewn ein cynlluniau rheoli adnoddau dŵr ein hunain, fframwaith hirdymor y byddwn yn ei ddefnyddio i gydbwyso cyflenwad a galw dros y 25 mlynedd nesaf. Ategir y rheini gan gynlluniau rheoli sychder, i roi rhywfaint o sicrwydd i Peter, sy'n nodi sut y byddwn yn ymateb i gyfnodau o dywydd sych—a bydd y rheini gyda ni—ac mae gennym grŵp cyswllt ar reoli sychder.

Nawr, mae'r holl feddwl cydgysylltiedig hwn yng Nghymru ond hefyd ledled y DU yn rhywbeth y bydd angen inni ei wneud ar gyfer ein holl ddinasyddion o'r fan hon yr holl ffordd i dde-ddwyrain Lloegr, i ogledd-orllewin Lloegr a mannau eraill. Mae'n rhan o ymagwedd ddifrifol, aeddfed at lywodraethu.

14:55
TB Buchol yn y Canolbarth

4. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol yn y canolbarth? OQ61281

Ie, diolch, Russell. Mae ein dull o ddileu TB buchol yng Nghymru wedi’i nodi yn ein cynllun cyflawni dileu TB, a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2023. Ym mis Chwefror, fe wnaethom hefyd ailgyflwyno profion cyn symud ac ehangu profion ar ôl symud yn yr ardaloedd TB canolradd, sy’n cynnwys canolbarth Cymru, i liniaru'r risg o gyflwyno clefyd newydd i'r buchesi.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Wrth gwrs, mae TB buchol, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, yn glefyd creulon iawn o ran stoc ffermydd, mewn bywyd gwyllt, a hefyd i deuluoedd ffermio sy’n gorfod dioddef yr emosiwn o ddifa eu stoc, ond hefyd y nosweithiau di-gwsg wrth iddynt aros am ganlyniadau TB hefyd. Roeddwn yn darllen erthygl ddiddorol yn y Farmers Guardian, ac mae’r teitl yn nodi sut mae TB buchol yn parhau i ddirywio yng Nghymru, a gwyddom hefyd fod difa gwartheg mewn perthynas â TB buchol yng Nghymru wedi cynyddu 17 y cant, ac mae’n sylweddol is yn Lloegr. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi ymgorffori difa bywyd gwyllt yr effeithiwyd arno yn eu cynlluniau ers blynyddoedd lawer, a nododd Prif Weinidog y DU yr wythnos hon y byddai Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn parhau â'r dull hwnnw. Nid yw hwnnw'n ddull a fabwysiadwyd gennych yma yng Nghymru, er i'r undebau alw arnoch i gyflwyno treial penodol o fywyd gwyllt yr effeithiwyd arno mewn ardaloedd penodol. Felly, Weinidog, gan eich bod yn newydd yn y swydd, hoffwn ofyn i chi roi ystyriaeth bellach i hyn ac i o leiaf ystyried treial cyfyngedig i ddifa bywyd gwyllt yr effeithiwyd arno, fel y mae’r undebau wedi bod yn galw amdano ers peth amser.

Russell, diolch am eich cwestiwn, ac a gaf i ddweud yn gyntaf fy mod yn rhannu'r pryder rwyf wedi’i glywed yn cael ei fynegi’n uniongyrchol, gan gynnwys ar fy ymweliadau diweddar â ffermydd gan ffermwyr a’u teuluoedd hefyd, sy’n byw ar y fferm. Nid yw hyn yn digwydd ymhell i ffwrdd mewn rhyw adeiladau diwydiannol ac yna eu bod yn teithio adref. Mae eu cartref ar y fferm—ar y fferm y gwelant effeithiau gwaethaf yr afiechyd hwn. A dyna pam, gyda llaw, fod y grŵp cynghori ar TB, fel eu gwaith cyntaf wedi imi gyfarfod â nhw ychydig wythnosau yn ôl, a chredaf ei fod wedi cael croeso cyffredinol, yn edrych ar fater lladd gwartheg ar y fferm, yn enwedig ar gyfer ffermydd sydd â gwartheg cyflo, ac ati. Rydym wedi symud yn gyflym ar hynny, a gwn fod hynny wedi'i groesawu. Mae'n arwydd ein bod yn ceisio gwrando ac ymgysylltu â ffermwyr ar hyn.

Rydym hefyd, fel y gwyddoch, wedi sefydlu’r grŵp cynghori ar TB erbyn hyn, o dan yr Athro Glyn Hewison, sef cadeirydd Sêr Cymru yn y ganolfan ragoriaeth TB ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y grŵp hwnnw, a edrychodd ar fater lladd gwartheg ar y fferm, yn edrych nawr ar ble rydym arni gyda'n hymdrechion i ddileu TB erbyn 2041, sef ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu o hyd, a beth arall y mae angen i ni ei wneud.

Ond dylwn ddweud, Russell, gan y gwn fod hyn weithiau'n gallu teimlo'n llwm ac yn ddigalon iawn yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r clefyd niweidiol hwn a'r effeithiau ar y gymuned ffermio hefyd, y bydd gwahaniaethau yn y ffigurau o flwyddyn i flwyddyn, ond mae'n ddiddorol edrych ar ostyngiadau tymor hir mewn dangosyddion TB. Mae nifer y digwyddiadau newydd wedi gostwng o 1,185 yn 2009 i 605 yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2024. Mae hwnnw'n ostyngiad o bron i 50 y cant mewn achosion newydd. Ar 31 Mawrth 2024, roedd 876 o fuchesi o dan gyfyngiadau—mae hynny'n ormod; mae angen inni ddileu hyn—ond mae hynny o gymharu â 2,268 o fuchesi o dan gyfyngiadau ar 31 Mawrth 2009. Dyna ostyngiad o dros 60 y cant. Ac ar 31 Mawrth 2024, roedd 614 o fuchesi nad oedd ganddynt statws heb TB swyddogol o gymharu ag ymhell dros 1,000 ar ei uchaf ar 30 Ebrill 2019. Felly, mae’r gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud, ochr yn ochr â milfeddygon ac eraill, mewn gwahanol rannau o Gymru ar wahanol agweddau ar TB—gan ei fod yn wahanol o fferm i fferm ac mewn gwahanol ranbarthau—yn dwyn ffrwyth, a hoffwn ddiolch iddynt am y gwaith caled a wnânt.

Ond ar fater moch daear a sut rydym yn delio â moch daear, mae'r rhaglen lywodraethu'n nodi'n glir yma yng Nghymru nad ydym yn difa moch daear—mae hynny wedi bod yn glir ers peth amser—a gwyddom fod yr astudiaethau'n dangos bod y cyfraddau trosglwyddo o wartheg i wartheg yn llawer uwch na rhwng moch daear a gwartheg. Ond—ond—gallai brechu moch daear fod yn ffordd yr un mor effeithiol o leihau TB yn y boblogaeth moch daear, ac rydym wedi gweld hyn mewn astudiaethau maes a gyhoeddwyd yn Iwerddon, er enghraifft. Felly, wrth symud ymlaen, bydd angen inni ystyried a ellid gwneud rhagor o waith brechu moch daear wedi’i dargedu mewn ardaloedd penodol, a’r ffordd orau o gyflawni hyn. Ac rwy'n dweud 'rhagor o waith' gan fod gennym achos ar Ynys Môn ar hyn o bryd, Lywydd, a gwyddom ei fod wedi dod—. Rydym yn eithaf sicr ei fod wedi ei drosglwyddo rhwng gwartheg, a dod â da byw i mewn i'r ardal. Gwyddom hefyd fod yr arolwg o foch daear marw wedi dangos nad oes unrhyw achosion o TB. Fodd bynnag, gwyddom y gallai gael ei drosglwyddo i’r boblogaeth moch daear nawr, felly un o’r pethau a wnawn ar Ynys Gybi yw dechrau prosiect brechu pedair blynedd. Felly, mae yna atebion i hyn, a gwahanol ffyrdd o adeiladu ein harfogaeth i gyflawni hynny.

15:00

Gwyddom fod lladd gwartheg â TB ar y fferm yn aml yn drawmatig ac yn cael effaith wirioneddol ar ffermwyr a'u teuluoedd. Yn dilyn sefydlu'r grŵp cynghori TB, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn ddiweddar i helpu i leihau nifer y gwartheg a laddir ar y fferm, yn enwedig y rhai sydd ar gamau olaf beichiogrwydd. Rwyf wedi clywed adborth cadarnhaol iawn am waith llwybr sir Benfro sy'n digwydd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae'r gwaith tuag at Gymru ddi-TB yn mynd rhagddo a sut mae'r newidiadau polisi diweddar wedi'u derbyn, a beth fydd eich camau nesaf?   

Joyce, diolch am y cwestiwn hwnnw, ac rwyf wedi cyfarfod â ffermwyr yn y rhanbarth ac ar draws Cymru, mewn gwirionedd. Ac yn wir, bûm allan yn cyfarfod â ffermwyr y bore yma cyn imi ddod yma hyd yn oed. Rwy'n credu bod y symud cyflym iawn gan y grŵp cynghori TB ar fater lladd ar y fferm wedi cael ei groesawu, ac maent hwy a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wrthi nawr yn gweithredu'r newidiadau hynny. Ac mae'r newidiadau'n arwyddocaol oherwydd mae'n golygu nawr y bydd ffermwyr yn gallu dewis gohirio symud buwch neu heffer yn ystod 60 diwrnod olaf beichiogrwydd, ac anifeiliaid sydd wedi geni llo yn y saith diwrnod blaenorol, cyhyd â bod amodau bioddiogelwch i ddiogelu gwartheg eraill yn y fuches yn cael eu bodloni. Ac yn yr un modd, gall fod hyblygrwydd cyfyngedig i ynysu ac i oedi symud os yw'n digwydd o fewn ychydig ddyddiau i ddiwedd y cyfnod cadw o'r gadwyn fwyd, ar sail pob achos unigol.

Ond rwy'n credu bod hyn yn dangos ein bod yn mabwysiadu ymagwedd ddifrifol iawn tuag at wrando ar bryderon ffermwyr, gan weithio gyda'r prif swyddog milfeddygol, y milfeddygon ar y fferm hefyd, ac yn hollbwysig, gyda'r ffermwr a'u teuluoedd, oherwydd mae ganddynt bryderon dwfn yr wyf yn eu rhannu, fel y mae pob Aelod yn eu rhannu, ynghylch y ffordd yr awn ati i ddelio â TB. Ond rwy'n credu bod hyn yn dangos un ffordd—a bydd rhai eraill—lle gallwn symud ymlaen. Mae'n dal i fod gennym 2041 fel dyddiad ar gyfer dileu TB ac mae angen inni ganolbwyntio'n llwyr ar hynny, a'i wneud cyn hynny os gallwn. 

Bywyd Gwyllt ar Ffermydd

5. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gynyddu faint o fywyd gwyllt sydd ar ffermydd? OQ61269

Argymhellodd yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth gamau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed 30x30 yn ystyrlon, gan gynnwys cynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu rheolaeth briodol ar safleoedd gwarchodedig, ac am gamau gweithredu sy'n gwella rhagolygon natur yn y dirwedd ehangach a chynefinoedd dŵr croyw.

Diolch. Y gylfinir yw'r rhywogaeth adar â blaenoriaeth cadwraeth uchaf yn y DU, a rhagwelir y byddant yn diflannu fel poblogaeth sy'n nythu yng Nghymru o fewn degawd os na cheir ymyrraeth. Dengys tystiolaeth y byddai adferiad y gylfinir o fudd i tua 70 o rywogaethau. Sut rydych chi'n ymateb felly i'r llythyr a anfonwyd atoch gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt, elusen gadwraeth sy'n gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni manteision bioamrywiaeth ac amgylcheddol, ac sydd ar hyn o bryd yn arwain prosiect cydweithredol Cysylltu Gylfinir Cymru, gyda'r nod o atal dirywiad y gylfinir yng Nghymru, sy'n dweud, 'Gwyddom fod gan ffermwyr ddiddordeb mewn gwella faint o fywyd gwyllt sydd ar eu ffermydd, ond credwn fod yn rhaid ei wneud ar y cyd â rhedeg busnes ffermio sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn darparu manteision lluosog, gan y byddai ffermwyr yn dweud wrthych na allant fod yn wyrdd os ydynt yn y coch'? A sut y byddech chi'n ymateb i'r cyflwyniad gan is-grŵp amaeth Gylfinir Cymru i'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cynnwys y gofyniad ar gyfer 10 y cant o orchudd coed fesul daliad, ac y gallai'r elfen coed perthi arwain at ganlyniadau negyddol i ylfinirod?

15:05

Diolch, Mark. Ar y pwynt olaf, yn y cyfnod paratoi yr ydym yn ei wneud nawr, gallwn ystyried yr effeithiau ehangach hynny, wrth inni anelu at gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda thirfeddianwyr a ffermwyr. Felly, mae'r cyfnod paratoi hwn yn rhoi cyfle inni ystyried yr effeithiau ehangach hynny.

Rydych chi'n sôn yn benodol am y partneriaid allan yno sydd wedi cyflwyno cynigion ynglŷn â sut i ddelio â hyn, wel, rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw un a all ein helpu i adfer y gylfinir, ac mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, drwy'r gronfa rhwydweithiau natur. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer nifer o brosiectau cysylltiedig, felly, er enghraifft, yng ngogledd Cymru, dyfarnwyd swm sylweddol o arian i'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt, sef £999,600 i gyflwyno prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd i'r afael â hyd at saith ardal bwysig i ylfinirod, gan gynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog, SoDdGA Migneint-Arenig-Dduallt, mynyddoedd Rhiwabon/Llantysilio a SoDdGA Minera hefyd. Ond rwy'n rhannu eich siom wrth nodi'r ffigurau diweddaraf o fynegeion arolwg adar nythu Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, sy'n dangos dirywiad poblogaethau'r gylfinir yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr heriau sydd o'n blaenau, felly dyna pam ein bod am weithio'n agos gyda Gylfinir Cymru ac eraill i wneud buddsoddiad sylweddol i sicrhau eu hadferiad. Mae'r cyhoedd yn arbennig o hoff o'r rhywogaeth eiconig hon, a'r ecosystemau a'r cynefinoedd y mae'n eu defnyddio, felly gan weithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn wneud adfer y gylfinir, a rhywogaethau eraill, yn stori lwyddiant yng Nghymru, drwy bethau fel y prosiect rhwydweithiau natur a Natur am Byth. Diolch am y cwestiwn.

A gaf i ddatgan fy mod i'n aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru? Ddydd Gwener diwethaf cefais wahoddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ymweld â safle sydd newydd ei gaffael—maent am ei ddefnyddio fel enghraifft o sut y gellir rheoli tir mewn ffordd broffidiol ar gyfer ffurfio gwarchodfa natur. Ac yna ymwelais â lle cyfagos lle'r oedd hynny eisoes yn digwydd, sy'n hyfryd i'w weld. Roedd yna gymysgedd amrywiol o goetir, ucheldir ac iseldir, lle'r oeddent yn gweithio gyda chymysgedd o gynefin, da byw a bwydydd; câi rhai eu tyfu mewn rhandiroedd a rhai mewn perllannau. A dysgais hefyd os yw tir yn cael ei reoli'n llai dwys gyda llai o wariant yn y lle cyntaf, gan weithio gyda natur, gall yr elw fod yr un faint.

Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r amser o ohirio'r cynllun ffermio cynaliadwy i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ffermwyr, gan weithio gyda'r sefydliadau hyn a safleoedd enghreifftiol, fel y gallant weld ei bod yn bosibl newid a rheoli tir yn gynhyrchiol ar gyfer ffermio a'r amgylchedd? Yn fwyaf arbennig, a allech chi roi unrhyw wybodaeth am y cynlluniau i gyflwyno a gweithredu'r cynllun adnoddau cenedlaethol integredig? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n dysgu orau drwy fod allan yn ymweld â rhai o'r prosiectau hyn, ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at rai o'r llwyddiannau. Mae gwaith anhygoel yn digwydd sydd nid yn unig yn llwyddo i gynhyrchu cynhyrchion da, maethlon, fforddiadwy, gwerth uchel, maent hefyd yn gwneud y peth iawn o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd a lliniaru llifogydd a llawer o bethau eraill hefyd—a bywyd gwyllt, fel roeddem yn sôn nawr, ac yn y blaen.

Felly, mae'r cyfnod paratoi a gyhoeddwyd gennym ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi amser inni weithio drwy sut y gallwn wneud hwnnw'n waith prif ffrwd mewn gwahanol fathau o dirweddau a gwahanol fathau o ffermydd ledled Cymru, boed yn ucheldir neu'n iseldir neu'n llaeth, neu'n ffermio dwys neu lai dwys—yr holl ystod o ffermio. A bydd dysgu o rai o'r gwersi hynny'n allweddol yn fy marn i. Os caf roi diweddariad i chi, rydym wedi cadeirio'r bwrdd crwn cyntaf. Byddwn wedi cael tri chyfarfod o'r bwrdd crwn gweinidogol yn y cynllun ffermio cynaliadwy erbyn y Sioe Frenhinol. Mae grŵp lefel swyddogol yn gweithio'n galed iawn oddi tanom i gyflwyno'r dystiolaeth o'r hyn a fydd yn gweithio, ac rwy'n hyderus, pan fyddwn wedi ystyried a mireinio'r ffordd y gallwn fwrw ymlaen â hyn, y byddwn yn cyflawni'r manteision lluosog i gynhyrchiant bwyd ond hefyd i'r amgylchedd ac i newid hinsawdd a natur a bioamrywiaeth hefyd. Felly, diolch am y cwestiwn.

15:10
Materion Capasiti Staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion capasiti staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ61267

Diolch, James. Mae pwysau cyllidebol ar gyfer 2024-25 wedi'u dogfennu'n dda iawn ac nid oes unrhyw sefydliadau'n imiwn i'r sgyrsiau a'r penderfyniadau cyllidebol anodd iawn y mae angen eu gwneud. Mae CNC yn ystyried ei gylch gwaith ac yn adolygu'r holl weithgareddau'n feirniadol, gan sicrhau hefyd fod ei bobl yn canolbwyntio ar gyflawni ei swyddogaethau blaenoriaeth a'i ddyletswyddau statudol o fewn ei gyllidebau cyfredol. 

Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl am faterion capasiti, hoffwn ofyn yn benodol am yr effaith y gallai'r rhain ei chael ar gytundebau rheoli tir. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd a gohebiaeth gyda thirfeddianwyr yn fy etholaeth sy'n dweud bod oedi cyn cyflwyno cytundebau rheoli tir; nid ydynt yn cael eu llofnodi, ac nid yw CNC yn gweithredu arnynt. Roedd staff yno wedi dweud wrthynt nad oes ganddynt y capasiti cyfreithiol yn y sefydliad nac unrhyw arbenigedd i wneud hyn mwyach. A allwch chi gadarnhau hyn, oherwydd clywais o le da nad yw CNC yn eu llofnodi oherwydd problemau capasiti, ac nid wyf yn credu ei fod yn dda i'n hamgylchedd neu'n dda i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol cenedlaethol os nad yw ein cytundebau rheoli tir yn cael eu llofnodi? Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud am hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd ni all Llywodraeth Cymru barhau i roi mwy a mwy o waith i Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud, a throi eu cefnau arnynt wedyn tra bo Rhufain yn llosgi. 

Diolch am y cwestiwn atodol, James. Os caf ddweud yn glir eto, nid yw CNC ar ei ben ei hun yn wynebu heriau cyllidebol, ac mae rhesymau hysbys iawn ar draws holl Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion, ar draws pob portffolio, o awdurdodau lleol i'n hasiantaethau ac eraill, pam eu bod o dan straen sylweddol, ond wedi dweud hynny, yn dilyn adolygiad sylfaenol CNC—ac roeddwn yn aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd a oedd â'r cadeirydd a'r prif weithredwr o'n blaenau yn asesu hyn dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf—rydym yn gwybod am y gwaith a wnaethant ar adolygiad sylfaenol i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau a'u cylch gwaith yn briodol. Mae CNC wedi cael cynnydd o £18.5 miliwn i'w gyllideb sylfaenol ar gyfer 2023-24; mae wedi cynnal ei gyllideb sylfaenol ar gyfer 2024-25 ar yr un lefel, a ddyrannwyd yn 2023-24; ac mae fy swyddogion yn dal i weithio gyda CNC gyda'r gefnogaeth angenrheidiol wrth inni ystyried ei gylch gwaith ac adolygu ei weithgareddau.

Ond rydych chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch: mae o dan bwysau, ond gadewch imi ddweud, fel rwyf bob amser yn ei wneud—rwy'n talu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio o fewn CNC oherwydd maent yn gwneud eu gorau glas boed hynny mewn amgylchedd morol, ar lannau afonydd, neu ar y tir, i wneud y peth iawn, ac maent yn unigolion angerddol ac ymroddedig. A phan fyddwn yn edrych weithiau ar y pwysau sydd arnynt, sy'n bwysau go iawn, maent yn bobl broffesiynol ac yn arbenigwyr, maent yn gwneud popeth yn eu gallu i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i gyfeirio eu darpariaeth i wasanaethau rheng flaen, ond maent o dan bwysau, heb os. Ond hoffwn ddiolch iddynt am y gwaith a wnânt. 

Pan wnaethoch chi godi hyn yn flaenorol, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ymateb a gofyn i chi ysgrifennu gydag unrhyw wybodaeth bellach. Os gallwch wneud hynny—. Nid wyf wedi ei weld eto; efallai eich bod wedi ysgrifennu. Ond os gwnewch chi hynny, hoffwn ei gael, ac yna gallaf ymateb i unrhyw enghreifftiau manwl y gallwch eu dangos.

Coedwigo

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddarparu dull o goedwigo sy'n gweithio gyda chymunedau lleol ac ar eu cyfer? OQ61288

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau cynllunio i sicrhau bod gan gymunedau gwledig fwy o lais o ran y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw?

Diolch, Cefin. Rydym wedi ymrwymo i greu coedwig genedlaethol i Gymru, a dod â manteision coetiroedd a choed i gymunedau lleol sydd wrth galon ein gweledigaeth. Rydym yn dal i ariannu mentrau plannu coed cymunedol drwy greu Coetiroedd Bach/Tiny Forests yng Nghymru, y grant buddsoddi mewn coetir, a'r grant creu coetir hefyd.

15:15

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rhai misoedd yn ôl, bues i mewn cyfarfod yn ardal Llanboidy yn sir Gâr i drafod ffarm a oedd wedi cael ei phrynu gan gwmni o bant er mwyn plannu coed, a'r gymuned leol yn pryderu, wrth gwrs, am yr effaith byddai’r datblygiad yn ei gael wrth inni golli tir amaeth ffrwythlon, yr effaith ar y tirwedd a'r ffaith ei fod o’n cael ei anharddu, a'r effaith hefyd ar yr economi a'r amgylchfyd lleol. Nawr, bellach, rŷn ni'n gwybod bod ffarm arall yn yr ardal wedi'i phrynu at ddibenion tebyg, ac mae'r un gofidiau wedi dod i'r amlwg unwaith eto.

Nawr, os byddech chi eisiau codi tŷ neu sied, byddai angen mynd drwy broses cynllunio manwl a sicrhau llais i'r gymuned leol. Nawr, gyda choedwigaeth, fodd bynnag, mae'r broses ymgynghori yn llawer gwannach. Nawr, er mod i'n croesawu'r camau diweddar i gryfhau’r EIAs, mae yna deimlad dylai’r system gynllunio roi gwell hawl i'r gymuned leol leisio ei barn ar ddatblygiadau coed o faint sylweddol. Yn y bôn, mae angen defnyddio’r system gynllunio i atal neu reoli faint o dir sy'n cael ei brynu i bwrpas greenwashing gan gorfforaethau mawr. Nawr, rŷn ni'n gwybod, er enghraifft, yn Awstralia, mae gan Weinidogion yr hawl i roi feto ar ddatblygiadau coedwigaeth dros 15 hectar, neu lle mae dros draean o'r fferm yn cael ei phlannu gan goed. Felly, gyda phryder am greenwashing yn parhau yn y Gymru wledig, sut allwn ni gryfhau’r system gynllunio i sicrhau llais cryfach i gymunedau lleol ar ddatblygiadau sy'n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw?

Diolch, Cefin. Un o'r heriau sy'n ein hwynebu o ran gwerthu a phrynu tir yng Nghymru, boed yn ffermwyr neu'n dirfeddianwyr eraill, yw nad oes gennym allu i ymyrryd yn uniongyrchol. Maent yn gwneud penderfyniadau masnachol. Mae'n anodd gweld sut y gallwn ddylanwadu, er enghraifft, ar benderfyniadau ffermwyr os ydynt yn penderfynu, ac nid oes llawer ohonynt, gwerthu tir i eraill, gan gynnwys rhai nad ydynt o'r ardal leol, boed ar gyfer coetir neu bethau eraill.

Ond os oes gennych gynigion penodol, anfonwch y manylion ataf ar bob cyfrif, fel y gallwn edrych arnynt. Rwy'n hapus i drafod gyda fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet sy'n ymdrin â materion cynllunio hefyd. Ond yr hyn y mae gennym ffocws arno yw darparu cefnogaeth i ffermwyr aros ar y tir, er enghraifft, gan gynnwys y cynnig creu coetiroedd newydd, sy'n gweithio i ffermwyr. Ni fyddwn yn ariannu prosiectau coetir na allant ddangos eu bod yn bodloni'r safonau uchel sy'n ofynnol gan ein cynlluniau, ac mae hyn yn cynnwys safon coedwigaeth y DU a hefyd cynnal ymgynghoriad cymunedol ystyrlon. Ond mae mater cynllunio a mater sefyll yn ffordd penderfyniadau masnachol tirfeddianwyr yn un anodd, fel y nodoch chi. Yn sicr, nid ydym eisiau gweld gwyrddgalchu'n digwydd. Rydym am weld cymunedau'n cymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar bopeth y gallant ei weld cyn belled ag y gall y llygad ei weld hefyd. Felly, efallai fod mwy i'w wneud yn y maes hwn. Mae gennyf ddiddordeb yn y syniadau y gallech eu cyflwyno. Byddai'n rhaid inni bob amser edrych arnynt o ran ymarferoldeb ac a ellir eu gwneud i weithio. Ond mae yna her go iawn yma, Cefin, fel y gwelsom. Os yw tirfeddiannwr yn penderfynu gwerthu, ac yn gwneud penderfyniad masnachol i wneud hynny, mae'n fater anodd i bobl leol, sydd weithiau'n gweld y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud.

Mae cwestiwn 8 [OQ61274] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 9 yn olaf, Natasha Asghar.

Cefnogi'r Sector Amaeth yn Nwyrain De Cymru

9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol yn Nwyrain De Cymru? OQ61279

Diolch, Natasha. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae ein grantiau ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau, offer a thechnoleg ar y fferm, y dysgu a'r datblygu sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio, neu'r cyngor gan ein gwasanaeth cyswllt fferm ein hunain, er enghraifft, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddom i gyd, roedd asesiad o'r effaith economaidd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd y llynedd yn rhagweld colli 5,500 o swyddi a gostyngiad o 85 y cant mewn incwm busnes fferm o ganlyniad i newidiadau i daliadau cymorth i ffermwyr yng Nghymru. Y mis diwethaf, rwy'n gwybod eich bod wedi cyhoeddi y bydd y cynllun taliad sylfaenol ar gael yn 2025 a bydd y cyfnod pontio arfaethedig i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn dechrau yn 2026. Daeth hyn ochr yn ochr â'r cadarnhad sydd i'w groesawu'n fawr na fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod, ond tybed a allem gael ymrwymiad gennych chi heddiw yma yn y Siambr na fyddwch yn symud ymlaen gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy nes bod asesiad effaith yn cael ei gynnal. Ac onid ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylai'r cynllun ffermio cynaliadwy sicrhau a blaenoriaethu cynyddu nifer y swyddi ac incwm mewn ffermio, gan fod ffermwyr angen ac yn haeddu swyddi a sicrwydd busnes lawn cymaint â phawb arall? Diolch.

15:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Natasha, diolch i chi am cwestiwn atodol, ac mae'n un pwysig. Pan ddewison ni gyflwyno'r asesiad o'r effaith economaidd o'r blaen yn gwbl dryloyw ar gyfer y cyhoedd, fe wnaethom hynny gan wybod yn iawn ei fod ddwy flynedd ar ei hôl hi ac nad oedd yn adlewyrchu'r ymgynghoriad fel yr oedd, ond penderfyniad y Llywodraeth oedd rhoi beth bynnag y gallem ei roi allan yno, i geisio helpu i ennyn diddordeb yn y drafodaeth. A dweud y gwir, mae'n fwy na thebyg ei fod wedi camystumio'r drafodaeth braidd, oherwydd roeddem yn gweithio ar senarios a oedd wedi dyddio. Ond mae angen inni wneud hynny cyn—. Pan fyddwn wedi—. Yn y cyfnod paratoi sydd gennym nawr, sy'n gweithio drwy'r cynllun manwl—. Pan fydd gennym y cynllun manwl hwnnw, mae angen inni wneud yr asesiad effaith yn seiliedig ar sut olwg fydd ar y cynllun, oherwydd mae hynny'n iawn ac yn deg i'r gymuned ffermio a rheoli tir yn gyffredinol.

Un peth i fod yn ymwybodol ohono hefyd, fel yr ailadroddais yn y Siambr hon sawl gwaith, yw nad yw'r sector ffermio, y sector amaethyddol, wedi bod yn imiwn rhag colli swyddi yn yr 20 neu 30 mlynedd diwethaf. Gyda'r holl feirniadu ar bolisi amaethyddol cyffredin o fewn yr UE, un peth a wnaeth oedd rhoi rhyw gymaint o sicrwydd, ond ni wnaeth lwyddo i osgoi colli swyddi, cyfuno ffermydd, colli swyddi gwledig, a'r effaith wedyn ar ysgolion a chymunedau gwledig ac yn y blaen. Felly, wrth gynllunio hyn mae angen gwneud rhywbeth i gynnal y ffermydd bach a chanolig hynny ym mhob rhan o Gymru. Felly, ydw, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno asesiad effaith priodol pan fydd yn barod, ond credaf inni wneud y peth iawn yn ei gyhoeddi. Penderfynodd Llywodraethau eraill beidio â chyhoeddi. Fe wnaethom ni gyhoeddi. Roedd yn fater o 'gyhoeddi ni waeth beth y bo'r canlyniadau', ac mewn rhai ffyrdd, roedd canlyniadau negyddol i hynny, ond cyhoeddi oedd y peth iawn i'w wneud.

Fe wnaethoch chi hefyd sôn am gynllun y taliad sylfaenol. Fe wnaethom y penderfyniad cywir wrth inni ddechrau ar y cam paratoi drwy ddweud y byddwn—mae'n risg, ond fe fyddwn—yn darparu'r sicrwydd i fwrw ymlaen â chynllun y taliad sylfaenol am y flwyddyn i ddod, yn ogystal â'i ddarparu ar 100 y cant y llynedd—rhywbeth na wnaethant yn Lloegr wrth gwrs—i roi'r sicrwydd hwnnw. Ond wrth symud ymlaen, yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun ffermio cynaliadwy sy'n barod i fynd pan fo'n barod, ac sy'n dod â phawb gydag ef, cynllun lle gall pob ffermwr sydd am optio i mewn iddo wneud hynny, ac mae'n werth rhoi ychydig o amser i gael hynny'n iawn.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, eitem 4 sydd nesaf, datganiadau 90 eiliad, a galwaf ar James Evans.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ffermio Cymru. Y thema eleni yw 'diogelu dyfodol bwyd o Gymru'. Mae'r wythnos hon yn taflu goleuni ar waith anhygoel ein ffermwyr a'r gwaith a wnânt bob dydd. O godiad haul hyd fachlud haul, mae ffermwyr Cymru yn ymroi i gynhyrchu'r bwyd o ansawdd uchel a fwynhawn. Maent yn tyfu cnydau, yn magu da byw iach ac yn rheoli'r tir, gyda'r arbenigedd yn cael ei basio i lawr drwy'r cenedlaethau. Mae eu gwaith yn mynd y tu hwnt i lenwi ein platiau. Maent yn warcheidwaid cefn gwlad Cymru, gan ddiogelu'r tir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Maent yn gweithredu arferion sy'n cynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf ac sy'n cyfoethogi'r pridd. Maent yn arbed dŵr ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth. Yr wythnos hon, rydym yn dathlu eu hymdrechion. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn fwrlwm o #WythnosFfermioCymru, sy'n arddangos taith bwyd Cymru a'r gofal y mae ein ffermwyr yn ei ddangos i sicrhau bod y bwyd hwnnw'n cyrraedd ein boliau. Ddydd Iau 20 Mehefin, cynhelir digwyddiad yma yn ein Senedd, ac mae'n cynnig cyfle i'r Aelodau yma gysylltu â'r unigolion hynod hyn, i ddysgu am eu hymroddiad i ymarfer cynaliadwy, a'u hymrwymiad i sicrhau dyfodol bwyd Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio ymgyrch 'Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru', ac rwy'n annog pob Aelod i lofnodi deiseb ar-lein NFU Cymru a dangos cefnogaeth pawb i'n ffermwyr yng Nghymru, stiwardiaid ein tir a chynhyrchwyr ein bwyd blasus yma yng Nghymru. Felly, gyda'n gilydd, gadewch inni ddathlu amaethyddiaeth Cymru a sicrhau dyfodol bwyd Cymru yn ystod wythnos arbennig iawn Wythnos Ffermio Cymru.

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

Diolch, James. Eitem 5 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91, yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod, Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8599 Mark Isherwood

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Mark Isherwood AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 31 Mai 2024 o dan Reol Sefydlog 26.91A.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ym mis Chwefror 2021, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ac eto ym mis Rhagfyr 2022, yn ystod tymor y Senedd hon, pleidleisiodd Senedd Cymru o blaid nodi fy nghynnig am Fil

'a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.'

Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig bob tro, gan ddangos awydd clir am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chydag arwyddwyr BSL, pobl F/fyddar a chymunedau ledled Cymru yn parhau i ofyn i mi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn nawr i geisio cytundeb y Senedd i gyflwyno'r Bil hwn. Yn dilyn canlyniad y bleidlais wreiddiol a wnaeth ganiatáu imi wneud hyn, gofynnwyd am ymgynghoriad cychwynnol, a chafwyd cefnogaeth sawl sefydliad ac unigolyn, yn cynnwys arwyddwyr BSL o bob rhan o Gymru, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yng Nghymru, Sense, Clwb Ffilmiau Byddar, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain yng ngogledd Cymru, Deaf Gathering Cymru, Ein Byd Gweledol a Chlwb Byddar Llanelli, ac mae rhai ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw, felly croeso.

Ym mis Hydref 2018, cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru 2018 am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf BSL (Yr Alban) 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, gan sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol, yn cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu iaith gyntaf. Pasiwyd Deddf BSL (Yr Alban) ar 17 Medi 2015, gan nodi cyfnod newydd yn ymgyrch y gymuned fyddar dros gydnabyddiaeth gyfreithiol i anghenion arwyddwyr BSL ledled y DU. Cefais fy nghalonogi pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y DU, a gyd-lofnodwyd gan yr Arglwydd Holmes Ceidwadol o Richmond, pan sicrhaodd hyn gefnogaeth Llywodraeth y DU, a phan gafodd ei basio ym mis Mawrth 2022 ac ennill Cydsyniad Brenhinol y mis canlynol.

Mae Deddf y DU yn cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso defnydd o BSL gan adrannau Gweinidogion Llywodraeth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu cyhoeddi mewn perthynas â BSL. Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL yn disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, nid yw Deddf y DU yn cynnwys adrodd yn benodol ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban. Nid yw'r Ddeddf yn ymestyn y ddyletswydd adrodd a darparu canllawiau i Lywodraethau Cymru a'r Alban. Ar 20 Chwefror eleni, amlinellodd y Gweinidog cymunedau yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei gynlluniau ar gyfer datblygu iaith arwyddion yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys cyflwyno Bil iaith arwyddion. Dywedodd ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod gan aelodau'r gymuned fyddar yr un hawliau a chyfleoedd â'r rhai yn y gymuned sy'n clywed, a'u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith eu hunain.

Felly, os na fydd fy Bil yn mynd yn ei flaen, Cymru fydd yr unig ran o'r DU nad yw'n cael ei chynnwys mewn deddfwriaeth benodol ar gyfer BSL. Pwrpas y Bil hwn yw gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn BSL, a chefnogi cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym maes addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle. Bil iaith yw hwn sy'n cefnogi arweiniad pobl fyddar Cymru ar holl faterion BSL yng Nghymru.

Mae'r Bil hwn yn cyd-fynd â saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y maent yn ymwneud ag anghenion hirdymor defnyddwyr BSL ac arwyddwyr o bob oedran. Byddai'r Bil hwn hefyd yn cefnogi ymrwymiadau presennol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

O ran terminoleg, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn galw am ddefnyddio'r term 'arwyddwyr BSL' yn lle'r term 'defnyddwyr BSL', a byddai'r defnydd arfaethedig hwn o derminoleg yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Bil.

Byddai’r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw arwyddwyr BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sicrhau bod gan gymunedau byddar lais gwirioneddol yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion. Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion y gymuned fyddar ac arwyddwyr BSL.

Mewn tystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd yr Alban ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar yr Alban fod Deddf Cydraddoldeb 2010

'yn rhoi hawliau i unigolion i'w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ond nid yw'n diogelu nac yn hyrwyddo BSL fel iaith.'

Mae’r Bil hwn yn cynnig sefydlu comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis y rhai a gyflwynwyd ar ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011; Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005 a Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022. Byddai hyn yn dangos neges sylweddol o gefnogaeth i gymuned arwyddwyr BSL yng Nghymru.

Byddai'r comisiynydd BSL yn llunio safonau BSL; yn sefydlu panel cynghori BSL; yn cynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd mewn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL dros y cyfnod hwnnw; yn darparu canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod feysydd; ac yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion. Byddai union natur, statws a chyfrifoldebau’r comisiynydd yn cael eu datblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod costau a buddion yn cael eu hystyried wrth i’r Bil fynd yn ei flaen.

Byddai’r Bil yn ymestyn y dyletswyddau adrodd a chanllawiau sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU yn Lloegr i Lywodraeth Cymru yng Nghymru, ac yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad BSL blynyddol sy'n disgrifio’r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL.

Nod y Bil yw gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar eu cynnydd yn hyrwyddo a hwyluso BSL drwy gylch adrodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddai sicrhau bod BSL yn cael ei bwydo i mewn i gylchred llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymgorffori BSL mewn fframweithiau polisi a chyfreithiol presennol yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n gosteffeithiol drwy ddefnyddio strwythurau presennol i greu cymdeithas decach ar gyfer arwyddwyr BSL yng Nghymru yn y tymor hir.

Mae ieithoedd arwyddion yn ieithoedd llawn gyda'u cymunedau, eu hanesion a'u diwylliannau eu hunain. Mae Ffederasiwn Pobl Fyddar y Byd, sydd â 136 o gymdeithasau cenedlaethol i bobl fyddar yn aelodau, yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin amgylchedd ieithyddol a diwylliannol cadarnhaol, fel y gall plant byddar dyfu i fyny gydag ymdeimlad dwys o berthyn, hunaniaeth a balchder yn eu treftadaeth fyddar.

Mae BSL, yr iaith arwyddion fwyaf cyffredin yn y DU, yn iaith ystumiol gyfoethog a gweledol gyda gramadeg unigryw sy’n defnyddio siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff i gyfleu ystyr. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan

'nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...ac yn fodd i bobl Fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.'

Er i Lywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, bu galwadau ers tro byd i roi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru. Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus o ran canlyniad. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi nodi bod y cod anghenion dysgu ychwanegol—neu ADY—yn nodi bod plant a phobl ifanc byddar, ynghyd â phlant sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg,

'yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o’u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am'—

ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Mae’r angen am ddarpariaeth BSL i deuluoedd babanod a phlant byddar hefyd wedi’i amlygu, gyda theuluoedd yn nodi mai cyfyngedig yw'r mynediad sydd ganddynt at grwpiau cymorth a theuluoedd eraill tebyg, ac na allant ddysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio’r costau uchel sy'n gysylltiedig.

Rwyf wedi amlinellu'r costau cychwynnol ar gyfer y Bil yn ei femorandwm esboniadol. Mae’r prif feysydd posibl o ran costau a manteision cyflwyno’r Bil yn ymwneud â: sefydlu comisiynydd a phanel cynghori Iaith Arwyddion Prydain, gyda gweinyddiaeth ategol; llunio safonau BSL; llunio canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL; costau ychwanegol i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru adrodd ar eu defnydd o BSL; adroddiadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru; sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion; a chynhyrchu adroddiadau ar sefyllfa BSL bob pum mlynedd. Fodd bynnag, egwyddor y Bil hwn yw buddsoddi i arbed, gan ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd yn fuan i leihau pwysau ariannol ar wasanaethau statudol yn nes ymlaen.

Os bydd y Senedd yn cytuno i ganiatáu imi gyflwyno’r Bil hwn heddiw, a thrwy hynny, sicrhau bod deddfwriaeth BSL benodol ar waith ym mhedair gwlad y DU, bydd fy nhîm a minnau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, arwyddwyr BSL, a’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i sicrhau bod ei ddatblygiad yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar bolisi ac yn diwallu anghenion ar sail gosteffeithiol. Rwy'n gofyn am eich cefnogaeth. Diolch yn fawr.

15:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon—gwn ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi ymddiddori ynddo ers amser maith.

Rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn a phwysigrwydd sicrhau mynediad llawn a chyfartal at wasanaethau a gwybodaeth i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Mark Isherwood, yn ôl yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel un o ieithoedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl anabl. Yn ddiweddar, fe wnaethom gomisiynu a chroesawu archwiliad o bolisïau a darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fabwysiadu ymagwedd gwbl groestoriadol at argymhellion yr archwiliad ac i ystyried sut y gellir eu rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Rydym yn gwneud darpariaethau i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, ac i ddileu rhwystrau a gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn y cwricwlwm. Mae hyn yn cefnogi dysgu ac addysgu ar gyfer arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â rhoi cyfle i ysgolion gyflwyno BSL i ddysgwyr eraill. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i’r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglydd BSL/Saesneg.

Bydd cynnydd yn arwain at newid gwirioneddol a chynaliadwy. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i arwyddwyr BSL byddar gael llais yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion ieithyddol a diwylliannol yn cael eu diwallu. Mae ein tasglu hawliau pobl anabl yn dod â phobl â phrofiadau bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd. Mae gan 10 gweithgor thematig y tasglu dros 550 o aelodau grŵp, gan gynnwys pobl anabl, rhieni a gofalwyr, ac arweinwyr polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar bob agwedd ar fywydau pobl anabl, a’n nod yw cael gwared ar yr annhegwch a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd. Mae argymhellion ein gweithgor yn dangos pa mor hanfodol yw BSL i gynhwysiant a chydraddoldeb yng Nghymru.

Mae’r tasglu’n parhau i godi ymwybyddiaeth ar draws y Llywodraeth o effeithiau niweidiol allgáu pobl anabl ar gymdeithas. Bydd y cynllun gweithredu ar anabledd sydd ar y ffordd yn sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael lle canolog yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac yn dangos sut, gyda’n gilydd, y gallwn drawsnewid cymdeithas o fod yn amgylchedd gelyniaethus i fod yn rhywle lle croesewir gwahaniaeth. Mae newid canfyddiad ac ymddygiad cymdeithas drwy bolisi yn heriol. Mae’r tasglu hawliau pobl anabl yn ceisio creu newid cadarnhaol gwirioneddol a hirdymor i bobl anabl, drwy gynllun wedi’i gydgynhyrchu, a fydd yn cefnogi cynnydd tuag at sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella’r ddarpariaeth ar gyfer arwyddwyr BSL byddar yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl wrth gyflawni nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ar draws holl nodau llesiant Cymru, mae profiad pobl fyddar yn dangos y gellir gwneud mwy, fel y gallant gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, gwneud y mwyaf o’u llesiant corfforol a meddyliol, gan gydnabod y diwylliant byddar unigryw, a’u bod yn cyflawni eu potensial.

Mae gwrth-wahaniaethu a gwrth-orthrwm yn ganolog i werthoedd Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio herio a goresgyn rhagfarn sefydliadol ac unigol a herio anghyfiawnder cymdeithasol. Mae gennym lawer i'w ddysgu gan arwyddwyr BSL byddar o Gymru, i ddysgu a deall eu hanes a pharhau i frwydro dros gydraddoldeb a chynrychiolaeth.

Mabwysiadwyd a chefnogwyd Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 gan Lywodraeth y DU. Mae ganddi oblygiadau yng Nghymru i feysydd nad ydynt wedi’u datganoli. Fodd bynnag, fe wyddom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Mae dull cydweithredol a chynhwysol yn fwy effeithiol na deddfwriaeth, nad yw’n mynd yn ddigon pell yn aml, ac nad yw’n ymgysylltu â’r bobl gywir. Ond er fy mod yn llwyr ddeall y bwriad y tu ôl i’r Bil arfaethedig hwn, ni chredaf fod ei angen. Fe allwn ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol heb Fil. Nid oedd angen Bil BSL ar Lywodraeth Cymru i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, nac i sicrhau bod gennym ddehonglwyr BSL/Saesneg yng nghynadleddau i'r wasg Llywodraeth Cymru. Fe allwn ac fe fyddwn yn defnyddio ysgogiadau polisi i greu newid effeithiol a chydraddoldeb.

Hoffwn ddefnyddio ein hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol mwy uniongyrchol i ddefnyddwyr BSL. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â sefydliadau partner allweddol yng Nghymru, i chwalu rhwystrau a gweithio ar y cyd tuag at Gymru gyfartal. Fe allwn ac fe fyddwn yn cydweithio i greu newid effeithiol. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn fod y newid rydym am ei weld. Mae strwythur unigryw Cymru yn ein galluogi i gydweithio ac ysgogi newid mewn ffyrdd na all eraill. Rydym yn agosach at ein dinasyddion, a gallant ddweud wrthym yn uniongyrchol beth sydd ei angen arnynt. Ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi, Mark, i drafod hyn ymhellach, ac mae gennyf gryn ddiddordeb hefyd yn y trafodaethau a gawsoch gyda'r sefydliadau y cyfeirioch chi atynt yn eich araith agoriadol.

Mae Cymru yn wlad falch, yn wlad gynhwysol, ac yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol. Mae angen cyfiawnder ieithyddol er mwyn sicrhau tegwch a chynhwysiant—i'r Gymraeg, a BSL. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i'r gymuned fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Diolch.

15:40

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil yma? Dwi'n falch o gael y cyfle i drafod y materion pwysig y mae'n eu codi yn y Senedd, achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth gynyddol a hir-ddisgwyliedig o'r safle bwysig sydd gan Iaith Arwyddion Prydain yn ein cymdeithas, yn ogystal ag ymdrechion mwy penodol i'w hyrwyddo a'i gwneud yn weledol mewn bywyd cyhoeddus.

Roedd y ffaith bod sesiynau briffio dyddiol Llywodraeth Cymru ar COVID bob amser yn cael eu harwyddo yn gam cadarnhaol ymlaen yn hyn o beth, ac, fel plaid, rydym ni wedi sicrhau’n gyson bod ein holl weithgareddau cyhoeddus mawr, gan gynnwys ein cynadleddau a chyhoeddiadau maniffesto ac yn y blaen, yn darparu'n briodol ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL.

Ond ni allwn ddibynnu ar ewyllys da sefydliadau yn unig yn hyn o beth, ac mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil arfaethedig hwn yn gywir i nodi'r diffyg safonau BSL statudol fel bwlch amlwg yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn ehangach, mae hyn yn enghraifft, wrth gwrs, o'r rhwystrau cymdeithasol helaeth sy'n wynebu'r gymuned fyddar yng Nghymru, ac sy'n aml yn dod i'r amlwg yn gynnar iawn yn eu bywydau.

Er enghraifft, rwy’n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith nad oes gan Gymru unrhyw therapyddion llafar clywedol ardystiedig, sy’n darparu ymyrraeth gynnar arbenigol ar gyfer babanod a phlant byddar, i helpu sicrhau y gallant sicrhau’r un canlyniadau addysgol â’u cyfoedion sy’n clywed.

Mae goblygiadau'r diffyg cefnogaeth yn y maes yma yn amlwg. Fel y sonnir yn y memorandwm esboniadol, mae dysgwyr byddar 26 y cant yn llai tebygol o ennill graddau TGAU A* i C yn y pynciau craidd, sef Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, na’u cyfoedion sy’n clywed. Mae dadansoddiad gan Auditory Verbal UK wedi dangos y byddai buddsoddiad o gyn lleied ag £800,000 dros y 10 mlynedd nesaf yn ddigonol i sicrhau bod pob plentyn byddar yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i therapi llafar clywedol, a fyddai, yn ei dro, yn darparu tua £7 miliwn o fudd economaidd, drwy wella ansawdd bywyd a rhagolygon cyflogaeth, costau addysg is ac, wrth gwrs, atal anafiadau. A yw'r Aelod yn cytuno â mi, felly, y dylai mater therapi llafar clywedol fod yn faes ffocws penodol i waith y comisiynydd BSL arfaethedig?

Byddwn hefyd yn croesawu barn yr Aelod ynghylch a ddylai cylch gwaith y comisiynydd BSL hefyd gynnwys y gallu i osod ac argymell targedau i Lywodraeth Cymru ar amserlenni ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad y soniais i amdano. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr sut y byddai'r Bil arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n weithredol â’r gymuned fyddar mewn proses gyflawn o gydgynhyrchu ar gyfer y polisïau a’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt, drwy sefydlu grŵp cynghori BSL i rymuso’r gymuned fyddar ledled Cymru. 

Mae'r RNID wedi pwysleisio mai un o'r prif bryderon sy'n cael ei godi gan y gymuned fyddar yw’r methiant i ddarparu mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf i fy hun wedi cael gwaith achos lle'r oedd un etholwr byddar wedi methu â chael modd i wneud apwyntiad gyda meddyg, ac un arall heb fodd i gyfathrebu gyda staff tra yn cael triniaeth yn yr ysbyty. Mae hyn yn peryglu eu hiechyd, yn tanseilio eu hawliau dynol a'u hurddas, ac yn enghreifftiau clir o anghydraddoldeb. A ydych chi felly'n cytuno, Mark Isherwood, y dylai mynediad i ofal iechyd a chymdeithasol gael ei wneud yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth a'r grŵp cynghori BSL o dan fecanweithiau'r Bil?

Yn olaf, a yw’r Aelod hefyd yn cytuno bod y rhwystrau penodol sy'n cael eu hwynebu gan bobl fyddar yng Nghymru yn bodoli o fewn sbectrwm ehangach o anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas, ac nad oes modd mynd i’r afael â hwy yn gwbl effeithiol heblaw drwy fuddsoddi’n briodol ac yn barhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus? Byddai'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn medru bod yn ddyfnach pe bai gan San Steffan system ariannu deg ar gyfer Cymru. 

Mae consensws trawsbleidiol clir ar draws y Senedd hon y gellir ac y dylid gwneud llawer mwy i ddarparu ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL, ac i gryfhau'r fframweithiau cyfreithiol ynghylch darpariaethau perthnasol mewn bywyd cyhoeddus. Mae Plaid Cymru, felly, yn hapus i gefnogi egwyddorion y Bil hwn, ac yn barod iawn hefyd i weithio'n adeiladol ar sail drawsbleidiol er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn. Diolch.

15:45

Rwy’n falch heddiw o gefnogi’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) hwn, ond hefyd, yn fwyaf arbennig, rwy’n falch o allu cefnogi fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood. Hoffwn ganmol Mark am y gwaith y mae wedi’i wneud ar faterion pobl fyddar a hawliau pobl anabl dros nifer o flynyddoedd yn y lle hwn, yn ei 20 mlynedd fel Aelod yma. Mae'n deg dweud ei fod yn hyrwyddwr yn y lle hwn, yn Senedd Cymru, ar ran y rheini sydd, ar adegau, wedi'u hymyleiddio. Mae'n hyrwyddwr o ran gadael inni ddeall y problemau sy'n eu hwynebu. Mae hon yn enghraifft wych, unwaith eto, o Mark Isherwood yn codi’r materion hyn. A hefyd, dywedwyd wrthyf unwaith fod angerdd am fater neu angerdd am bwnc yn aml yn cael ei ddangos drwy ddyfalbarhad. Mae pob un ohonom wedi eistedd yma ar adegau yn gwrando ar Mark Isherwood yn dyfalbarhau ar y materion hyn, ac mae’n glod iddo heddiw fod cynnig y Bil hwn ger ein bron.

Rwyf i fy hun wedi bod yn mynd drwy’r broses Bil Aelodau yn ddiweddar. Mae'n rhan wirioneddol bwysig o waith y Senedd hon. Yn y bôn, rydym yma i greu neu atal deddfwriaeth. Mae Biliau Aelodau'n rhan werthfawr o’r gwaith a wnawn, yn enwedig Aelodau nad ydynt ar feinciau’r Llywodraeth. Credaf fod Bil Mark yma heddiw, Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), yn haeddu’r amser a’r parch fel deddfwriaeth Aelodau.

Os caf edrych ar y Bil ei hun nawr, yn syml, mae gan y Bil hwn botensial i chwyldroi bywydau pobl fyddar ledled Cymru. Yn rhy aml o lawer, mae pobl fyddar yn wynebu rhwystrau mewn llu o feysydd, o’r system addysg i amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, fel yr amlinellwyd eisoes yn y lle hwn y prynhawn yma. Hefyd, fel y mae’r memorandwm esboniadol yn amlinellu, mae gan lawer o arwyddwyr BSL byddar oedran darllen a deall is na’r cyhoedd yn gyffredinol. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn unrhyw adlewyrchiad o gymhwysedd deallusol, ond mae'n ganlyniad uniongyrchol i allgáu ieithyddol, ac nid yw hynny'n dderbyniol.

Mae hyn nid yn unig yn cael effaith negyddol o ran mynediad at wasanaethau, gall hefyd amlygu ei hun yn y tymor hwy, yn enwedig drwy ganlyniadau fel iechyd meddwl gwael ac allgáu cymdeithasol. Dyna pam, yn bwysig, mai un o nodau craidd y Bil hwn yw nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg. Dyma nod ac uchelgais hynod ganmoladwy yn y Bil hwn.

Fel y mae'n digwydd, mae fy mam fy hun yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain ar hyn o bryd. Mae’n cael y gwersi hynny yn Wrecsam, ac mae wedi cyrraedd pwynt penodol yn ei dysgu lle nad yw bellach yn gallu parhau â’r dysgu hwnnw, oherwydd yn Wrecsam, nid ydynt yn gallu symud ymlaen â’r lefelau dysgu uwch. Rwyf i a fy nheulu wedi gweld bod cyfle i ystyried sut rydym yn cynnwys pobl fyddar a sut y gallwn chwarae ein rhan drwy ddysgu BSL i wneud bywyd yn symlach ac yn haws i bobl fyddar, fel nad yw'r rhwystrau hynny yno.

Nid yw'n iawn nac yn deg fod pobl fyddar yn cael eu hallgáu o ormod o rannau o fywyd oherwydd eu hanabledd. Rhaid ei bod yn iawn i wleidyddion a Llywodraethau sicrhau nad yw anabledd yn allgáu pobl yn ddiangen rhag gwneud eu gorau. Credaf fod y Bil hwn yn caniatáu i ni yn y lle hwn a’r Llywodraeth gynnwys mwy o bobl nag a gaiff eu hallgáu gennym. Felly, i ailadrodd geiriau Mark pan ddyfynnodd Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain wrth agor y ddadl yma heddiw,

'nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...ac yn fodd i bobl Fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.'

Fe wneuthum nodyn o hynny oherwydd, i mi, mae hynny'n ddwys iawn. Mae gennym gyfle gwirioneddol y gall Cymru ei fachu â’i dwy law i wneud gwahaniaeth i’r rheini sy’n agored i niwed yn y ffordd hon yma yng Nghymru. Hoffwn annog pob Aelod i gefnogi taith y Bil hwn i’r cam nesaf. Gadewch inni roi cyfle i gynnydd. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Diolch i Mark am ddod â’r Bil Aelod hwn ger ein bron heddiw. Dymunaf yn dda i chi gyda'r datblygiad hwn. Hoffwn wneud un neu ddau o bwyntiau o blaid y Bil a'r manteision posibl o'i gyflwyno.

Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod gyda Cymorth i Fenywod Cymru, a buom yn trafod y rhwystrau sy’n atal menywod sy’n dioddef trais domestig neu sydd mewn perygl o ddioddef trais domestig rhag ceisio cymorth. Un o'r agweddau ar hynny oedd diffyg darpariaeth BSL. Mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, roeddent yn dweud bod oddeutu 22 o fenywod byddar mewn perygl o gael eu cam-drin bob dydd. Fodd bynnag, maent yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol rhag cael mynediad at gymorth. Yn aml, mae diffyg deunydd ar gael yn BSL, ac yn aml, mae'n anodd dod o hyd i gyfieithiad ar gyfer termau'n ymwneud â thrais a chamdriniaeth.

Mae’r rhwystrau cyfathrebu hyn yn achosi rhwystrau ychwanegol i oroeswyr rhag ceisio cymorth a chefnogaeth, gan ei gwneud yn fwy anodd iddynt adael cyflawnwyr a chyrraedd diogelwch. Rhaid darparu'r adnoddau llawn fel y gellir cael cyfieithwyr ar gyfer pob gwasanaeth er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar unwaith ac nad yw goroeswr yn gorfod aros oherwydd diffyg darpariaeth cyfieithu yn eu dewis iaith. Yn sicr, os nad yw’r Bil hwn yn gwneud unrhyw beth arall, dyma reswm pwysig dros ei gyflwyno, ac rwy'n gobeithio bod Mark ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ar hynny.

Roeddwn am godi pwynt arall mewn perthynas â Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen i’r Bil hwn hyrwyddo a hwyluso BSL yng Nghymru, gan sicrhau cysylltiad rhwng y Bil BSL a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fel bod cynlluniau BSL a gofynion adrodd yn cael eu cynnwys yn y cylch adrodd i leihau’r baich ar gyrff cyhoeddus a sicrhau aliniad. Mae'r hyn sy'n cael ei fesur yn cael ei wneud, felly mae cynnwys dyletswydd adrodd yn hollbwysig er mwyn creu diwylliant lle mae'r defnydd o BSL wedi ymwreiddio'n llawn.

Ac yn olaf, dylai darparu dehonglwyr BSL fel sydd gennym yma heddiw fod yn ffordd safonol o weithio yn y Senedd hon. Mae cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg wedi'i ymgorffori yn y gyfraith, felly beth am ychwanegu trydedd iaith yng Nghymru, sef BSL? Diolch yn fawr.

15:55

A gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno’r Bil Iaith Arwyddion Prydain hynod bwysig hwn? Ategaf eiriau fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, fod Mark wedi bod yn arloeswr a chefnogwr brwd i hawliau pobl anabl. Mae ei angerdd a'i gefnogaeth i BSL wedi bod yn amlwg yma yn y Siambr hon ers degawdau.

Nod trosfwaol y Bil mawr ei angen hwn yw chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar mewn sawl agwedd ar gymdeithas. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn ei sylwadau agoriadol, Iaith Arwyddion Prydain yw’r iaith arwyddion fwyaf cyffredin yma yn y DU, ac mae’n helpu i adeiladu ymdeimlad o gymuned a pherthyn i bobl fyddar drwy ddefnyddio siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff i gyfleu ystyr. Dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain nad iaith yn unig yw Iaith Arwyddion Prydain, a'i bod hefyd yn borth i ddysgu ac yn fodd i bobl fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed. Mae gallu defnyddio BSL yn beth gwirioneddol wych, ac rwy'n credu'n gryf y dylid addysgu'r hanfodion o leiaf i blant yn yr ysgol. Tra byddai hyn yn creu cenhedlaeth o ddefnyddwyr BSL yn y dyfodol, dylid cynnig cyfleoedd yn fwy eang i oedolion ledled Cymru ddysgu'r sgìl hwn.

Amser maith yn ôl, mynychais gwrs BSL sylfaenol yng nghanolfan ddysgu Stryd Charles yng Nghasnewydd, a oedd yn brofiad hynod gyffrous yn ogystal â buddiol i mi. Dysgais rai pethau sylfaenol, ac rwy’n mynd i geisio dangos i chi yma yn y Senedd heddiw, yn ogystal ag i’n gwesteion gwych yma yn y Siambr, a fydd, yn ogystal â’r rheini y tu allan i’r Siambr, efallai’n gallu fy asesu. Dysgais bethau sylfaenol fel 'helo' a 'gallwch fy enwi'. [Mae'n arwyddo yn BSL.] Efallai y bydd yn rhaid ichi chwyddo i mewn ar y camera. Rwy'n cofio dweud fy enw, sef 'N-A-T-A-S-H-A', a dyna ni, mae arnaf ofn. Efallai y gallaf ddweud 'diolch' ar ddiwedd fy araith, ond dyna'r cyfan rwy'n ei gofio, fwy neu lai. Mae’n rhaid imi ganmol pob un o’r canolfannau dysgu BSL ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Bu galw cyson am statws cyfreithiol llawn i BSL yma yng Nghymru, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun ddegawd yn ôl, yn fy marn i, gellir gwneud mwy, ac fe ddylid gwneud mwy.

Mae’r Bil yma heddiw yn ceisio gwella mynediad at addysg, ymhlith meysydd eraill, i bobl fyddar, ac mae hynny’n hynod bwysig, gan y gwyddom fod gan ddysgwyr byddar gyrhaeddiad addysgol is yn gyffredinol o gymharu â’u cyfoedion sy’n clywed. Nid yn unig hynny, ond mewn gwirionedd, mae plant byddar oddeutu 26 y cant yn llai tebygol o ennill graddau A* i C mewn pynciau craidd fel Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth na phlant sy’n gallu clywed. Hoffwn i bob un ohonoch gofio bod gan lawer o arwyddwyr BSL byddar oedran darllen is na'r boblogaeth yn gyffredinol o ganlyniad i allgáu ieithyddol. Gall hyn, yn ei dro, arwain at allgáu cymdeithasol o ganlyniad uniongyrchol i hyn, a gall hynny effeithio'n andwyol ar gyflogaeth, addysg a gofal iechyd.

Mae problemau hefyd mewn lleoliadau iechyd mewn perthynas â BSL, gyda phrinder dehonglwyr, yn enwedig mewn gofal brys a gofal heb ei gynllunio, yn cael effaith fawr ar bobl fyddar sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Os gallwch feddwl am amser pan fyddwch wedi bod mewn adran ddamweiniau ac achosion brys neu wedi bod angen gofal meddygol brys, nawr ceisiwch ddychmygu bod yn fyddar ac angen cyfieithydd neu ddehonglydd BSL a chymorth ar adeg mor anodd.

Yn syml, Ddirprwy Lywydd, bydd y Bil hwn yn rhoi llais pobl fyddar wrth wraidd y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn bywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n falch iawn o sefyll yma heddiw i gefnogi Bil Mark Isherwood. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yma yn y Siambr a thu hwnt yn gweld y manteision enfawr a ddaw yn sgil hyn ac yn pleidleisio yn unol â hynny. Diolch.

Diolch. Efallai na fydd pobl sy’n gwylio ac yn mynychu yn yr oriel yn gwybod, ond mae’n rhaid i’r sawl sy’n agor dadl ei chloi a'i chrynhoi hefyd, felly rwyf wedi bod yn ysgrifennu llawer o nodiadau, a dyna pam nad oeddwn yn hollol barod pan wnaethoch chi alw arnaf gyntaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn, a bod Cymru yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes angen y Bil. Mae hynny'n gwrth-ddweud ei hun. Mae’r bobl yn yr oriel, y bobl ledled Cymru, wedi bod yn dweud wrthym flwyddyn ar ôl blwyddyn—er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a gadeirir gennyf; er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, a gadeirir gennyf; mewn cyfarfodydd a chynadleddau a fynychais, ac mewn mannau eraill—fod yn rhaid inni gael hyn, na allwn fod yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi ddarpariaeth statudol yn hyn o beth, fod yn rhaid inni orfodi a gosod y dyletswyddau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar Weinidogion. Byddai gwneud fel arall yn frad ac yn fethiant i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol, yn fethiant i gydnabod y rhwystrau y mae arwyddwyr BSL yn eu hwynebu, yn fethiant i ddeall eu hanghenion a gweithio gyda nhw i'w helpu i ddiwallu'r anghenion hynny.

Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr archwiliad o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain—rwy’n ymwybodol o hynny, rwyf wedi bod yn ei fonitro’n agos ers blynyddoedd, yn ymgysylltu â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain ac yn holi eich rhagflaenwyr ynglŷn â hyn ers blynyddoedd. Drwy gydol y broses honno, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro—a'r Gweinidogion blaenorol hefyd, gan eu bod hwythau wedi dweud wrthyf—fod yn dal i fod angen Deddf arnynt yn ogystal. Nid yw'r archwiliad yn gwneud y tro yn lle Deddf. Dywedodd mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, ac rydym yn cymeradwyo hynny, ac rwyf i, yn y gorffennol, wedi codi cwestiynau ynglŷn â hynny'n rheolaidd, fel Aelodau o bob plaid arall. Ond fel y clywsom gan nifer o siaradwyr, mae disgyblion byddar yn parhau i fod o dan anfantais oherwydd anghydraddoldeb parhaus mewn canlyniadau, a bydd hynny’n parhau oni bai ein bod yn darparu’r ymyriadau BSL penodol sydd eu hangen i dorri’r cylch o dangyflawni ymhlith plant nad oes ganddynt anableddau dysgu fel arall, nad oes ganddynt anawsterau dysgu, ac eithrio’r rhai a grëwyd gan y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt ddigwydd, y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt eu hwynebu yn yr ysgol ac mewn mannau eraill mewn cymdeithas, ac nid yw hynny’n dderbyniol.

Cyfeiriodd at y tasglu hawliau pobl anabl, gyda dros 550 o aelodau yn y grŵp—mae 550 o aelodau’r grŵp yn edrych ar atebion cyffredinol, a phan fyddaf yn cyfarfod â nhw'n unigol, dywedant wrthyf eu bod yn pryderu bod gormod o siarad yn digwydd a bod angen inni gyflawni canlyniadau. O dan ymbarél dulliau generig a pharhau i godi ymwybyddiaeth, ni allwn fethu mynd i’r afael hefyd ag anghenion cyflwr-benodol gwahanol grwpiau demograffig a chymunedau ledled Cymru, sef arwyddwyr BSL a chymunedau byddar yn yr achos hwn.

Fel y dywedais, os na fydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, Cymru fydd yr unig ran o’r DU nad oes ganddi ddeddfwriaeth BSL benodol. Yn drawsbleidiol, byddai hynny’n destun cywilydd, yn enwedig pan fo’r ddeddfwriaeth gyfatebol yn rhannau eraill y DU, sydd wedi’i phasio neu’n mynd drwy’r broses yn achos Gogledd Iwerddon, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Ar lefel y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, AS Llafur a gyflwynodd hyn, ac fe'i cefnogais gyda hynny. Ac fel y dywedais, mae hwn yn Fil iaith sy'n cefnogi arweiniad gan bobl fyddar ar faterion BSL yng Nghymru. Ni waeth pa mor effeithiol ac effeithlon y gallai Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion yr wrthblaid, gweision sifil a swyddogion fod, nid oes ganddynt y wybodaeth na'r ymwybyddiaeth na'r profiad bywyd y gall pobl sy'n darparu arweiniad ar faterion pobl fyddar yng Nghymru eu darparu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gan Ddeddf BSL y DU oblygiadau i feysydd datganoledig. Wel, wrth gwrs fod ganddi, oherwydd heb hynny, nid yw dyletswyddau sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr yn berthnasol i Weinidogion yng Nghymru mewn perthynas â'r un materion datganoledig. Felly, mae gan arwyddwyr BSL a phobl a phlant byddar yn Lloegr ddarpariaeth a dyletswyddau wedi’u gosod ar y Llywodraeth yno yn hyn o beth i adrodd, i ddarparu canllawiau, na fyddent yn berthnasol i Weinidogion Cymru. Nid yw hynny’n fater pleidiol, byddai unwaith eto’n destun cywilydd i’r genedl hon a phob plaid yn y lle hwn.

Dywedodd Sioned Williams—

16:00

Mark, bydd yn rhaid i chi ddod i ben nawr, rydym wedi mynd drwy amser ychwanegol i chi.

O'r gorau. Wel, diolch i Blaid Cymru am gadarnhau eu cefnogaeth. Fe ofynnodd hi nifer o gwestiynau ac rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a godwyd gennych, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad a fyddai'n dilyn pe byddem yn cael cytundeb i fwrw ymlaen. Dywedodd Sam yn gwbl briodol fod gan y Bil botensial i chwyldroi bywydau pobl fyddar ledled Cymru. Peredur, diolch am godi'r mater a godwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru—mae hyn yn rhwystr arall sy'n wynebu menywod sy'n dioddef trais a cham-drin domestig, os nad oes ganddynt ddarpariaeth BSL pan fo'n brif iaith iddynt. Dywedodd Natasha Asghar fod angen inni helpu i adeiladu ymdeimlad o gymuned a pherthyn a phorth i ddysgu i bawb—yn y cyd-destun hwn, arwyddwyr BSL a'r cymunedau y maent yn byw ac yn bodoli ynddynt.

Felly, rwy'n annog pawb i anghofio gwleidyddiaeth bleidiol ar y mater hwn—nid yw'n rhan o unrhyw etholiad yn y DU. Bûm yn galw am hyn, fel y gwnaeth pobl eraill ledled Cymru yr effeithir arnynt gan hyn, ers cymaint o amser. Gadewch inni adael iddo ddigwydd. Gadewch inni gytuno i fwrw ymlaen â hyn, a gadewch inni ddechrau caniatáu i arwyddwyr BSL ledled Cymru gael llais go iawn wrth gynllunio'r ddeddfwriaeth a fydd yn dechrau eu helpu i ddiwallu'r anghenion sydd ganddynt yn well, a'r hawliau a ddylai fod ganddynt mewn Cymru fodern yn yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr. 

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid y derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal iechyd menywod
7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ffordd osgoi Cas-gwent

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Felly, eitem 7, dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig heddiw—ffordd osgoi Cas-gwent. Galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8618 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod manteision ffyrdd osgoi o ran cefnogi economïau lleol a lleihau tagfeydd.

2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Cas-gwent.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ddarparu ffordd osgoi Cas-gwent.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl hon a gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae gormod o lawer o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gorfodi i ddioddef traffig trwm ar ffyrdd a rhwydweithiau ffyrdd sy'n dirywio'n ddyddiol. Mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar Gas-gwent yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, lle mae ffyrdd gwael a thagfeydd cynyddol ar lwybrau'n broblemau sy'n effeithio ar lawer o gymunedau.

Rydym i gyd yn gwybod y gall tagfeydd arwain at gostau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr. Ac eto, yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd yn methu mynd i'r afael â'r broblem yn barhaus. Yn hytrach, o safbwynt cyhoeddus, byddai'n well ganddynt gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya costus, codi'r brêc ar adeiladu ffyrdd newydd, a mynd ar drywydd cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, yn hytrach na thorchi eu llewys a meddwl am atebion difrifol.

Un ffordd o ddatrys hunllef Cas-gwent fyddai adeiladu ffordd osgoi fawr ei angen—rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano ers tro. Yn ddi-os, gallai ffordd osgoi greu manteision enfawr i gymunedau, drwy hybu economïau lleol, a thrwy leddfu tagfeydd yn y pen draw wrth gwrs. Ac mae'n hynod siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i wireddu hyn dros y 25 mlynedd diwethaf.

Mae Cyngor swydd Gaerloyw wedi clustnodi £500,000 yn ei gyllideb i helpu i wireddu'r prosiect seilwaith, ac eto mae'n ymddangos bod cyngor sir Fynwy sy'n cael ei redeg gan Lafur wedi methu rhoi ei law yn ei boced. Yn flaenorol, dan arweiniad gwych fy nghyd-Aelod Peter Fox, ac yna Richard John, roedd cyngor sir Fynwy wedi cefnogi'r cynllun. Yn wir, roedd cytundeb rhwng cynghorau sir Fynwy a swydd Gaerloyw yn ôl yn 2022 i ddatblygu cynlluniau'r ffordd osgoi.

Ond yn anffodus, ers i Lafur gymryd yr awenau yng nghyngor sir Fynwy, ychydig iawn o symud a fu. Ond unwaith eto, a ddylem synnu? Y cyfan a wyddom yw bod y Blaid Lafur yn casáu gyrwyr. Diolch byth, mae'r Blaid Geidwadol, sy'n gadarn o blaid gyrwyr, yn wahanol i Lafur, wedi ymrwymo i roi cyllid i gyngor sir Fynwy i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y ffordd osgoi.

Mae'r ffordd osgoi hon yn gwbl hanfodol ar gyfer cael gwared ar dagfeydd, a bydd yn caniatáu i bobl leihau eu hamser cymudo, yn hytrach na bod yn sownd mewn traffig o hyd. Mae rhan o'r A48 yng Nghas-gwent, sy'n cynnwys Rhiw Hardwick, yn un o'r ddwy ardal yn y wlad sydd wedi gweld lefelau uwch na'r amcan nitrogen deuocsid yn y gorffennol. Felly, nid yn unig y byddai ffordd osgoi yn lliniaru sefyllfa erchyll y traffig, byddai hefyd yn mynd yn bell i helpu i wella ansawdd aer yn yr ardal, sy'n rhywbeth y mae pawb ohonom o bob plaid eisiau ei weld, yn ddi-os.

Yn anffodus, mae adroddiadau am dagfeydd hir a thraffig trwm ar bont Hafren M48 yng Nghas-gwent yn gyffredin erbyn hyn. A chyda mwy o dai yn cael eu hadeiladu yn yr ardal, heb os, bydd ein ffyrdd yn cael eu rhoi dan faich ychwanegol. Mae cefnogaeth eang i ffordd osgoi, nid yn unig yma yng Nghymru ond dros y ffin, lle mae modurwyr yn aml yn sownd mewn tagfeydd traffig wrth adael Fforest y Ddena. Gall pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Lydney, Sedbury ac Alvington i gyd weld manteision ffordd osgoi Cas-gwent.

Byddai'n ymddangos bod pawb yn gallu gweld manteision y ffordd osgoi hon ar wahân i Lafur, a gellir gweld hynny o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau yma heddiw yn Senedd Cymru. Byddwn yn dadlau bod hynny'n dangos y gwahaniaeth amlwg rhwng ein pleidiau. Rydym ni am helpu gyrwyr, gan gydnabod y buddion economaidd, cymdeithasol ac ymarferol y byddai rhwydwaith ffyrdd effeithlon yn eu cynnig i Gymru. Yn anffodus, mae Llafur eisiau gorfodi pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy wneud bywydau modurwyr mor anodd â phosibl.

Mae'r sefyllfa yng Nghas-gwent wedi parhau am lawer gormod o amser, ac mae'n rhaid cymryd camau pendant yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae Cas-gwent angen ac yn haeddu ffordd osgoi. Mae'r ewyllys i wneud i hyn ddigwydd yno mewn rhai mannau. Yn sicr, ni allaf i mo'i wadu. Ond mae angen i bawb fod yn gefnogol a chydweithio i adeiladu'r seilwaith pwysig hwn. Rwy'n mawr obeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at glywed yr holl gyfraniadau yn y ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y problemau o ran tagfeydd yng Nghas-gwent.

2. Yn cydnabod yr angen am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi twf yn yr ardal.

3. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r rhwydwaith ffyrdd, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol i wella teithio yng Nghas-gwent.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd.

A galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

16:10

Gwelliant NDM8618-2 Heledd Fychan

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn credu y dylid ymgymryd â datblygiadau seilwaith mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac yn unol ag anghenion cymunedau a nodwyd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i ddarparu seilwaith newydd i leddfu tagfeydd yn unol â'r egwyddorion hyn, gan gynnwys darparu trydydd bont y Fenai, a ffyrdd osgoi yn Llandeilo a Chas-gwent.

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau setliad ariannu teg ar gyfer Cymru, a'r £4 biliwn mewn symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2, i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i wella'r seilwaith trafnidiaeth a'r seilwaith ffyrdd yng Nghymru er mwyn lleddfu tagfeydd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliant.

Rydym wedi cynnig gwelliannau i'r cynnig i geisio cwmpasu rhai o'r problemau ehangach yn rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Mae ein gwelliannau hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal cymunedau lleol rhag gwneud eu penderfyniadau trafnidiaeth eu hunain. Mae'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru wedi cael ei dangyllido yn hanesyddol ac yn systematig. Mae angen buddsoddiad sylweddol ar Gymru mewn seilwaith trafnidiaeth, ond mae'r uwchraddiadau hyn yn galw am gynnwys y gymuned a setliad ariannu teg i Gymru. Mae'n bosibl fod San Steffan yn amddifadu Cymru o dros £4 biliwn o'n cyfran deg o gyllid go iawn. Mae'r Torïaid a Llafur yn gwrthod ymrwymo i roi ei chyfran deg i Gymru ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, ond gweledigaeth Plaid Cymru yw creu Cymru lle mae cymunedau wedi'u cysylltu, o'r gogledd i'r de, o'r dwyrain i'r gorllewin, drwy rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, hygyrch a fforddiadwy. Byddem yn defnyddio'r biliynau sy'n ddyledus i ni i fuddsoddi mewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus werdd, hygyrch a fforddiadwy i gysylltu ein cymunedau, buddsoddi yn ein heconomïau lleol a diogelu ein hamgylchedd.

Rydym yn cydnabod y galwadau am ffordd osgoi yng Nghas-gwent. Mae gennym bryderon hefyd am dagfeydd yn Llandeilo ac ar groesfannau Menai. Rhaid i brosiectau seilwaith fod yn fwy na phenderfyniadau o'r brig i lawr yn unig, mae angen iddynt adlewyrchu lleisiau ac anghenion y cymunedau y maent yn bwriadu eu gwasanaethu. Mae croesfan y Fenai nid yn unig yn gwasanaethu 70,000 o drigolion Ynys Môn, mae'n gyswllt allweddol o'r lleol i'r cyfandirol a'r byd-eang. Dylid ystyried hyn i gyd wrth wneud penderfyniadau seilwaith. Nid yw ffocws presennol y Llywodraeth Lafur hon ar newid dulliau teithio'n unig yn ddigon i fynd i'r afael â hyn.

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi nodi, pan fydd systemau trafnidiaeth yn effeithlon, eu bod yn darparu cyfleoedd a buddion economaidd a chymdeithasol. Mae hyn yn arwain at effeithiau lluosydd cadarnhaol, megis gwell hygyrchedd i farchnadoedd, cyflogaeth a buddsoddiadau ychwanegol. Ar hyn o bryd, yng Nghas-gwent a Llandeilo, mae ansawdd aer yn cael ei beryglu, gan effeithio ar iechyd a lles pobl. Pan fo gwaith ffordd yn Llandeilo, mae cerbydau nwyddau trwm eisoes yn mynd ar ffyrdd amhriodol, sy'n beryglus ac nid yw'n cyd-fynd â pholisi cyfredol Llywodraeth Cymru o 20 mya sy'n hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd. Pe bai Llafur neu'r Ceidwadwyr yn mynnu cyllid teg ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, a datganoli'r seilwaith rheilffyrdd, efallai y byddem yn gallu buddsoddi yn y prosiectau trafnidiaeth gymunedol hanfodol hyn ein hunain. Drwy gynnwys ein cymunedau a sicrhau cyllid teg, gallwn greu seilwaith sydd nid yn unig yn ateb y galw presennol, ond sydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol ffyniannus a chynaliadwy. Diolch yn fawr.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw oherwydd ei bod yn rhoi cyfle arall i daflu goleuni ar y broblem ddifrifol hon yn ne-ddwyrain Cymru. Nawr, fel y gŵyr llawer ohonoch, mae Cas-gwent wrth y porth i mewn i Gymru, ond hefyd mae'n borth i filoedd o gymudwyr o Loegr sy'n mynd drwy Gas-gwent o swydd Gaerloyw bob dydd, drwy'r A48, allan o Gymru, i gael mynediad at y rhwydwaith traffyrdd. Mae dwysedd y traffig wedi cynyddu'n aruthrol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae disgwyl iddo gynyddu'n sylweddol wrth inni weld mwy a mwy o ddatblygiadau tai yn cael eu cwblhau ac eraill yn cael eu hystyried a'u datblygu dros y ffin yn Fforest y Ddena a swydd Gaerloyw yn ehangach. Mae'n rhaid i'r cyfeintiau enfawr hyn o draffig ddringo i fyny Rhiw Hardwick drwy'r dref, ac mae offer monitro llygredd, fel y dywedodd Natasha, wedi ei leoli yno ers blynyddoedd lawer, ac yn dangos yn gyson mai'r A48 yn Rhiw Hardwick yw un o'r ardaloedd mwyaf llygredig ar rwydwaith ffyrdd Cymru. Mae hyn yn cael effaith negyddol iawn ar y cymunedau y mae'r ffordd hon yn rhedeg drwyddynt.

Ychwanegir at y tagfeydd gan ein datblygiadau tai ein hunain ar hyd coridor Glannau Hafren, sy'n ymestyn o Gasnewydd i Borthysgewin, ac o ganlyniad, gwelwn yr A48 sy'n mynd tua'r dwyrain drwy Bwllmeurig yn dod i stop ar y rhan fwyaf o ddyddiau, wrth i draffig o bob cyfeiriad orfod ymdopi â chylchfan Larkfield. Felly, mae gennym storm berffaith o broblemau traffig yn yr ardal, ond ni ellir ei liniaru am fod gennym drafnidiaeth gyhoeddus wael a heb ei datblygu yn yr ardal, a dim darpariaeth seilwaith i alluogi pobl i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir.

O dan reolaeth flaenorol, dechreuodd Cyngor Sir Fynwy ystyried atebion a chyfleoedd hirdymor i wneud rhywbeth i ddelio â'r broblem real a chynyddol hon. Fe wnaethom ymgysylltu â Fforest y Ddena a swydd Gaerloyw a dechrau sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fe wnaed llawer o waith ar chwilio am atebion ar gyfer yr ardal, a diolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i astudiaeth trafnidiaeth Cas-gwent, i archwilio opsiynau, gan gynnwys ffordd osgoi bosibl, y teimlir yn gyffredinol mai dyma'r unig opsiwn go iawn i fynd i'r afael â phethau a chaniatáu i Gas-gwent ffynnu. 

Nid cysyniad newydd mo hwn, ond un y soniwyd amdano ers degawdau. Mae'n gwbl bosibl ei gyflawni ac yn wir, mae datblygiadau dros y blynyddoedd wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y byddai'n digwydd. Mae'r astudiaeth drafnidiaeth wedi'i datblygu yn unol â phroses yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, neu WelTAG, ac mae wedi ei dilyn, ac ystyriwyd dau opsiwn ar gyfer ffordd osgoi ar gam WelTAG 2, gydag opsiwn carbon isel yn cael ei gyflwyno fel ateb go iawn y gellid ei ddatblygu'n rhan o WelTAG 3, sy'n galw am ddatblygu achos busnes.

Nawr, yn anffodus, fe wyddom yr hanes diweddar, gyda Llywodraeth Cymru yn gohirio cynlluniau adeiladu ffyrdd a chyngor newydd sir Fynwy dan arweiniad Llafur, a roddodd stop ar eu gwaith arno ac arllwys dŵr oer ar ddatblygiad y cynllun. Fodd bynnag, mae gennym gyfle arall i gyflwyno hyn, gyda Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ymhellach ar gyfer y ffordd osgoi fawr ei hangen hon.

Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a dod yn ôl at y bwrdd a gweithio gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy, Fforest y Ddena a swydd Gaerloyw, i wireddu'r ffordd osgoi. Peidiwch â chladdu eich pennau yn y tywod ar hyn; mae'n fater rhy bwysig. Rwy'n annog cyd-Aelodau yma i gefnogi ein cynnig.

16:15

Stynt Geidwadol amlwg a thryloyw yw hon i geisio cymell cyn lleied o gefnogaeth ag sydd ganddynt ar ôl yn etholaeth Mynwy cyn yr etholiad cyffredinol. Canfu adolygiad Arup o'r ffordd osgoi arfaethedig fod 90 y cant o'r rhai sy'n debygol o'i defnyddio yn byw yn swydd Gaerloyw, ac felly dylai 90 y cant o'r costau ddisgyn ar Lywodraeth y DU. Cyn COVID, amcangyfrifodd Arup fod y gost yn £150 miliwn, ac mae'n debygol fod y costau adeiladu hynny wedi cynyddu o leiaf 50 y cant ers hynny, a byddai'r wir gost oddeutu £0.25 biliwn erbyn hyn mae'n debyg. Ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod Llywodraeth y DU yn credu y byddai hyn yn werth am arian i oddeutu 30,000 o drigolion swydd Gaerloyw, a dyna pam rwy'n dweud mai stynt etholiad amlwg a thryloyw yw hon.

Ac mae'n ymddangos yn eithaf tebygol hefyd, Ddirprwy Lywydd, mai effaith ffordd osgoi o'r fath fyddai symud tagfeydd wrth gylchfan High Beech i'r gylchfan yng Nghyffordd 2 yr M48. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddai'n llawer gwell edrych ar atebion y gellir eu cyflawni i'r problemau hyn mewn gwirionedd ac a fyddai'n cael yr effaith sydd ei hangen.

Gwyddom fod pethau'n gwella mewn rhai ffyrdd. Mae gennym drenau amlach nawr, diolch i Trafnidiaeth Cymru. Bydd dau drên yr awr o Gas-gwent yn ystod y rhan fwyaf o oriau'r dydd, ac fe wyddom fod angen gwasanaeth mwy integredig arnom drwy gyffordd twnnel Hafren i Fryste o Gas-gwent, a gobeithio y bydd hwnnw'n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd mae llawer o gydnabyddiaeth i'r manteision a fyddai'n dod yn sgil hynny. Mae angen gwelliannau wrth gylchfan High Beech, ac mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallai fod cyhoeddiad cyn bo hir. Ac wrth gwrs mae angen inni ddargyfeirio traffig i ffwrdd o Gil-y-coed i Gas-gwent, fel y gellid dargyfeirio traffig sy'n dod i Gas-gwent o Gil-y-coed yn hawdd, er enghraifft ar hyd ffordd gyswllt o'r B4245 yn Rogiet drwodd i'r M48. Mae hwn yn gynnig sydd wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy a hefyd gan y cynghorwyr lleol sy'n cynrychioli'r ardal honno.

Felly, nid yw fel pe na bai atebion posibl i leddfu'r problemau hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n rhaid bod modd eu cyflawni a rhaid iddynt ymwneud â thrafnidiaeth integredig, sef y ffordd ymlaen i'n problemau trafnidiaeth yma yng Nghymru fel y gwyddom. Dyna pam rwy'n cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ystyried opsiynau i wella'r rhwydwaith ffyrdd, i wella'r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd, wrth gwrs, y ddarpariaeth teithio llesol yng Nghas-gwent a'r cyffiniau. Dyna'r ffordd gywir ymlaen, ffordd ymlaen y gellir ei chyflawni, ac mae hynny, rwy'n credu, yn ennyn llawer o gefnogaeth leol. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates. 

16:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n gwybod bod y syniad o ffordd osgoi i Gas-gwent wedi cael ei wyntyllu ers blynyddoedd lawer—yn wir, mae'n rhagddyddio datganoli—ac rwyf wedi gwrando gyda diddordeb mawr ar ddadleuon yr Aelodau dros ffordd osgoi Cas-gwent. Gadewch imi ddweud yn gyntaf fy mod yn cydnabod y problemau trafnidiaeth yng Nghas-gwent a'r effaith y maent yn ei chael ar fywydau beunyddiol y rhai sy'n byw yng Nghas-gwent ac sy'n teithio drwy Gas-gwent.

Yn gynharach eleni, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o broblemau trafnidiaeth ar gylchfan High Beech, y cyfeiriodd John Griffiths ato, a'n bod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy a chyda Trafnidiaeth Cymru ar yr adolygiad hwnnw. Ac fe ddaeth i'r casgliad fod achos cryf dros newid i wella teithio yn yr ardal. Roedd yn cydnabod ymhellach fod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol yn yr ardal, sy'n golygu'n aml nad oes gan bobl ddewis arall yn lle'r car preifat. Ac mae datblygiadau diweddar yn swydd Gaerloyw hefyd yn cynyddu teithiau drwy'r ardal, ac maent yn debygol o barhau i wneud hynny. Rwy'n credu bod pob Aelod yn y Siambr heddiw wedi cydnabod hynny. Mae'r ddau ffactor yn cyfrannu at oedi a chiwio wrth gylchfan High Beech yn ystod cyfnodau prysur, ac mae'r tagfeydd yn creu problemau gyda sŵn ac ansawdd aer, ac mae'n effeithio ar amseroedd teithio pobl hefyd. Mae mynd i'r afael â'r problemau hyn hefyd yn bwysig er mwyn galluogi datblygiadau preswyl yn sir Fynwy yn y dyfodol. 

Nawr, mae'r cynnig a gyflwynwyd gan Darren Millar yn canolbwyntio ar ffordd osgoi Cas-gwent fel ateb i'r problemau hyn ac rwy'n cydnabod, mewn rhai achosion, y gall ffordd osgoi ddarparu'r ateb gorau i wella trafnidiaeth yn yr ardal. Nawr, mae i ba raddau y mae hynny'n wir yn dibynnu ar amgylchiadau lleol a'r dystiolaeth am yr effaith y byddai'n ei chael ar deithiau ac ar allyriadau. Er mwyn darparu atebion a fydd yn mynd i'r afael â'r problemau nawr ac yn y tymor hir, mae angen system drafnidiaeth integredig, ddeniadol a chynaliadwy ar Gas-gwent, ac mae hyn yn golygu mabwysiadu dull mwy cyfannol o ystyried trafnidiaeth yn yr ardal, ac mae angen inni ystyried newidiadau yn y rhwydwaith ffyrdd strategol, boed yn ffordd osgoi neu'n newidiadau i gylchfan High Beech, ochr yn ochr â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus. 

Felly, byddwn yn darparu cyllid i Trafnidiaeth Cymru eleni i fwrw ymlaen ag astudiaeth o'r problemau yng Nghas-gwent ac i nodi mesurau i wella trafnidiaeth yn y dref a'r cyffiniau. Bydd y gwaith hwn yn digwydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy ac yn wir, mewn partneriaeth â Chyngor Swydd Gaerloyw dros fisoedd yr haf. A chyn y gwaith hwn, rydym eisoes yn gwneud gwelliannau i drafnidiaeth yn yr ardal. Yn union fel y mae John Griffiths wedi nodi heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cyflwyno 12 gwasanaeth ychwanegol y dydd rhwng Caerdydd a Cheltenham, gan ddarparu gwasanaeth bob awr ar y llwybr. Ac mae'r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan ddefnyddio trenau dosbarth 197 newydd sbon, gan ddarparu profiad llawer iawn gwell i deithwyr.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi dyfarnu £8.4 miliwn i brosiectau trafnidiaeth yn sir Fynwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys buddsoddiadau mewn seilwaith bysiau ac yn wir, gwelliannau i'r A4136. Ac yn y tymor hwy, mae cyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru wrthi'n datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, a fydd yn mabwysiadu dull strategol o wella trafnidiaeth ar draws de-ddwyrain Cymru. Ac yma mae'n rhaid imi wneud y pwynt pwysicaf efallai: y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth ar y lefel fwyaf priodol, a bod cydweithio ar draws ffiniau ac ar draws ffiniau gweinyddol yn gwbl hanfodol. 

Dyna pam ein bod, drwy greu cyd-bwyllgorau corfforedig a thrwy ddatganoli penderfyniadau ynglŷn â chyllid, yn ymdrechu i gael y penderfyniadau sy'n iawn ar gyfer ardaloedd lleol ac wedi'u gwneud gan gynrychiolwyr yr ardaloedd lleol hynny. Edrychaf ymlaen at adrodd ar gynnydd ar leihau tagfeydd yng Nghas-gwent, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo y gallwch gefnogi ein gwelliant heddiw. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw? Gwyddom fod mater yr angen am ffordd osgoi yng Nghas-gwent wedi bod yn fater hirsefydlog ers amser maith, ac a gaf i dalu teyrnged arbennig i Peter Fox am y gwaith y mae wedi'i wneud yn y Siambr hon a chyn hynny fel arweinydd cyngor sir Fynwy? Clywsom am y gwaith pwysig oedd yn digwydd nid yn unig gyda Chyngor Sir Fynwy, ond mewn cydweithrediad â Chyngor Swydd Gaerloyw, ar ddatblygu'r prosiect hwn. Rwy'n gwybod hefyd fod cynghorwyr yn ardal Cas-gwent, fel Christopher Edwards, Paul Pavia a Louise Brown, wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar ran etholwyr yn yr ardal honno hefyd. A gaf i hefyd dalu teyrnged—fe fuom yn sôn am Gyngor Sir Fynwy—i Richard John, a'ch olynodd, a gwn ei fod wedi bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw? Nawr, yn anffodus, mae'r cynlluniau hyn wedi dod i stop, gydag ethol cyngor Llafur yn sir Fynwy. Fel y ffordd ei hun, mae'n mynd i unman.

Felly, a gaf i droi at rai o'r cyfraniadau? Clywsom gan Natasha Asghar yn fwyaf arbennig fod hyn yn bwysig nid yn unig i bobl yng Nghas-gwent, ond o ran bod hyfywedd economaidd de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr yn dod yn hyb economaidd hefyd. Roedd ansawdd aer yn fater arall a grybwyllwyd gan Peredur Owen Griffiths, ac roeddwn yn falch iddo sôn amdano, oherwydd mae Rhiw Hardwick yn un o ddwy ardal yn y sir sydd wedi gweld lefelau uwch na'r amcan nitrogen deuocsid. Felly, mae'n broblem go iawn yno yn y rhan benodol honno o Gas-gwent.

A gaf i ddiolch i John Griffiths hefyd am ei araith ysbrydoledig, lle dywedodd wrthym fod popeth yn wych yng Nghas-gwent? Nid wyf yn credu y byddai pobl leol yn cytuno â hynny o reidrwydd. Galwodd am atebion y gellid eu cyflawni, ond rydym eisoes wedi clywed bod modd cyflawni'r cynigion hyn: mae modd cyflawni'r ffordd osgoi hon, roedd yn cael ei chyflawni gan Gyngor Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr, ac mae wedi dod i stop gydag ethol cyngor Llafur. A gadewch imi ddarllen i chi, John, yr hyn a ddywedodd Cyngor Sir Fynwy eu hunain yn 2011, oherwydd fe wnaethoch chi sôn yn benodol am allyriadau: 

'Byddai ffordd osgoi yn gwella ansawdd aer yn sylweddol o fewn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer a byddai hefyd yn gwella diogelwch ac amodau byw i'r rhai sy'n byw'

ar hyd llwybr y ffordd osgoi. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ei fod yn ticio pob blwch, os mynnwch, yn yr hyn yr oedd John Griffiths yn ei ddweud; yr ateb amlwg yma yw ffordd osgoi.

Ac yn olaf, a gaf i—

16:25

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

A fyddai'r Aelod yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig fod yr Aelod Seneddol presennol, David T.C. Davies, yn cadw ei sedd ar ôl yr etholiad hwn, fel nad yw Cas-gwent yn dod i stop, ar ôl y rhethreg a glywsom gan yr ochr Lafur, ac y gall David fynd ati i hyrwyddo'r ffordd osgoi i Gas-gwent, fel y gall Cas-gwent gael y cyfle sydd ei angen arni i ddianc o dagfa dirywiad Llafur Cyngor Sir Fynwy?

A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies? Roeddwn i'n gweithio i fyny at hynny; dyna oedd fy nghresendo mawr.

A gaf i atgoffa'r holl Aelodau nad darllediadau etholiadol sydd gennym yma; rydym yma i drafod mater ffordd osgoi Cas-gwent, ac mae'n bwysig ein bod yn trafod y materion hynny?

Ydy. Mae'n bendant yn bwysig. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates am ei ymateb dengar? Clywsom am bwyllgorau, cyfarfodydd, cydweithio, ond mae'r ateb yn glir: rydym angen ffordd osgoi yng Nghas-gwent. Ac nid wyf yn credu y bydd trigolion Cas-gwent o reidrwydd yn dawelach eu meddwl wrth wrando ar gyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, a'r diffyg difrifoldeb gan y Blaid Lafur i fwrw ymlaen â'r mater hwn, i yrru Cas-gwent ymlaen. Ac rwy'n gobeithio y byddant yn ystyried y penderfyniad y bydd yn rhaid iddynt ei wneud ymhen dwy wythnos a hanner rhwng ymgeisydd Llafur sy'n benderfynol o ddod â Chas-gwent i stop, neu David T.C. Davies, a fydd yn cadw Cas-gwent i symud.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Niwclear

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig: niwclear. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8617 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu rôl ynni niwclear wrth greu swyddi â chyflog da a sgiliau uchel, wrth sicrhau ynni rhatach, glanach a mwy diogel, gan weithio tuag at dargedau sero-net.

2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i arf ataliol Trident y DU.

3. Yn croesawu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gorsaf ynni gigawatt newydd yn yr Wylfa yng Ngogledd Cymru a gweithio gyda'r diwydiant i ddarparu prosiectau presennol yn Hinkley Point a Sizewell.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ynni niwclear yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. 'Atomic Kitten', 'Pocket Rocket', Virginia Crosbie—hon yw'r fenyw sydd, dros y pedair blynedd a hanner diwethaf, fel yr AS, y dylid ei hethol eto, wedi gweithio mor galed, gyda phreswylwyr, perchnogion busnesau a Gweinidogion Ceidwadol y DU, i ddod ag ynni niwclear a miloedd o swyddi i Ynys Môn. Gallai'r egni y mae hi wedi'i roi tuag at y fenter hon hollti'r atom ynddo'i hun, ac mae hi wedi llwyddo yn ei hamcanion. Nawr, gwrthgyferbynnwch hynny â llanast gwirion Plaid Cymru, sydd wedi honni nad ydynt yn gwrthwynebu ynni niwclear, ond eto dywedodd Liz Saville-Roberts, arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, yn Leaders' Debate ar ITV: 'Rydych chi'n gwybod cystal â fi mai polisi Plaid Cymru yw dim safleoedd newydd ar gyfer niwclear. Byddai hynny'n cynnwys Wylfa a byddai'n cynnwys Trawsfynydd.'

Yn eironig, yma mae gennym blaid wleidyddol yng Nghymru sydd â'r nod yn y pen draw o gael annibyniaeth, ond sydd eisiau cael gwared ar yr union arfau ataliol niwclear sydd wedi cadw ein gwlad yn ddiogel ers cymaint o flynyddoedd. Mae'n hysbys iawn fod isotopau niwclear bellach â rhan i'w chwarae mewn triniaethau iechyd, gan ddileu canser bron ar unwaith, ac eto mae Plaid Cymru wedi cefnogi Llafur a'r toriad enfawr mewn cyllid i Cwmni Egino, a Thrawsfynydd yn y pen draw, lle gellid cynhyrchu'r isotopau hyn. Sut y gall y bobl ymddiried yn Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar niwclear a chithau wedi torri arian ar gyfer Trawsfynydd? Ac rydych chi hefyd wedi dewis dileu'r llinell yn y cynnig heddiw sy'n dweud:

'Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i arf ataliol Trident y DU.'

Felly, dyna ni: tystiolaeth glir nad yw Plaid Cymru, na Llafur Cymru o dan Vaughan Gething, yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i Trident. Yn wir, os edrychwch chi ar y maniffestos, dim ond y Ceidwadwyr sydd wedi gwneud ymrwymiad ysgrifenedig i ddarparu pwerdy gigawat newydd yn Wylfa. Mae Llafur yn gobeithio taflu llwch i lygaid eu pleidleiswyr. Ym maniffesto Plaid Cymru 2024, mae'n datgan:

'Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu datblygu safleoedd newydd am orsafoedd niwclear',

ond mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar ein sgriniau, wedi siarad droeon o blaid buddsoddi mewn ynni niwclear. Felly, rwy'n gofyn i'r blaid gyferbyn, gyda dim ond un Aelod ar y fainc—wel, un: beth yn union yw eich safbwynt? Dywedwch wrthym, a dywedwch wrthym cyn yr etholiad, fel bod yr etholwyr yn gwybod. Diolch byth—

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Credaf fod Rhun ap Iorwerth yn nodi ei fod am ymyrryd. A ydych chi'n derbyn yr ymyriad?

Diolch yn fawr, Lywydd. Nid i addysgu Janet Finch-Saunders, ond dylwn nodi'n glir iawn mewn gwirionedd, mai'r hyn a ddywedodd Liz Saville-Roberts yn y cyfweliad hwnnw yw mai polisi Plaid Cymru, yn gywir ddigon, yw dim safleoedd niwclear newydd ac eithrio Wylfa a Thrawsfynydd, sydd eisoes yn safleoedd niwclear â chenedlaethau o draddodiad niwclear ynddynt: rhywbeth a wnaed yn glir yn y cyfweliad yr ydych chi'n camarwain pobl yn ei gylch.

Na, dim camarwain o gwbl ar fy rhan i.

Diolch byth, mae’r Ceidwadwyr wedi cymryd camau breision o ran denu buddsoddiad mewn ynni niwclear i ogledd Cymru. Yng nghyllideb y gwanwyn ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd ein Canghellor, Jeremy Hunt, y byddai’r Llywodraeth yn prynu safle Wylfa am £160 miliwn. Mae hynny’n dangos ymrwymiad nid yn unig i ddiogeledd ynni’r DU yn y dyfodol, ond hefyd i ddyfodol Cymru fel arweinydd diwydiant ym maes ynni niwclear. Y mis diwethaf, fe wnaethant gyhoeddi bod cynlluniau'n cael eu llunio i ddefnyddio Wylfa fel y safle a ffafrir ar gyfer gorsaf ynni niwclear ar raddfa fawr, gan gadarnhau lle Cymru'n gadarn o fewn strwythur cynhyrchu ynni niwclear yn y DU yn y dyfodol. Mae hyn yn newyddion ardderchog i Gymru.

Mae astudiaeth gan Oxford Economics, a gomisiynwyd gan y diwydiant niwclear, yn dangos bod diwydiant niwclear sifil presennol y DU wedi cyfrannu £700 miliwn i economi Cymru yn 2021, gan gyflogi 800 o bobl yn uniongyrchol a chynnal bron i 11,000 o swyddi. Yn ôl Prospect, mae'r sector niwclear yn hanfodol ar gyfer diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol a gwella diogeledd ynni. Mae'n chwarae rhan hanfodol ochr yn ochr ag ehangu ynni adnewyddadwy a thechnolegau eraill, gan ddarparu swyddi medrus iawn sy'n talu'n dda. Mae Rolls-Royce wedi datgan y bydd pob adweithydd modiwlar bach yn creu 400 i 500 o swyddi lleol yn ystod ei oes.

Gan edrych ar y manteision ehangach posibl, mae pob gweithiwr yn y sector niwclear yn cyfrannu £102,300 ar gyfartaledd mewn gwerth ychwanegol gros i Brydain—bron i ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi nodi'n glir eu bod am i’r prosiectau hyn aros yn lleol, gyda Rolls-Royce yn llunio rhestr fer o dri safle posibl ar gyfer ffatri, gan gynnwys Glannau Dyfrdwy yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda’r nod o gael hyd at 80 y cant o'r cynnwys o'r DU i ddefnyddio cymaint â phosibl ar gadwyni cyflenwi a chyflogaeth lleol.

Yn ogystal, mae angen gweithwyr proffesiynol medrus iawn i ddatblygu a chynnal safleoedd ynni niwclear, sy'n golygu bod angen hyfforddi peirianwyr a gwyddonwyr ar gyfer y dyfodol. Ac rydym am weld mwy o fenywod yn y mathau hyn o ddiwydiannau. Mae hyn yn rhoi potensial i ganolfannau addysg uwch, megis Prifysgol Bangor, ac mae pob un ohonom yn falch iawn o Brifysgol Bangor. Byddant yn mwynhau mynediad at hyfforddiant ac arbenigedd ar y safle—[Torri ar draws.] Iawn. Byddai'r ymrwymiad hwn hefyd yn arwydd fod Cymru—[Torri ar draws.] Maent yn gwneud gwaith y Llywydd yma. [Chwerthin.] Mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, gyda gostyngiad yn y nifer sy’n dilyn prentisiaethau dros y pum mlynedd diwethaf, a 43 y cant o swyddi gwag mewn rolau STEM, mae prinder enbyd o ymgeiswyr, felly mae’n hanfodol ein bod yn annog unigolion i ddilyn ac i aros mewn gyrfaoedd STEM, gan gyfrannu at sefydlogrwydd a thwf ein swyddi lleol.

Yn ôl yr arfer, nid yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod y potensial hwn. Fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Plaid Cymru, doriad o £1.5 miliwn i gyllideb ei phrosiect niwclear mawr yn Nhrawsfynydd. Ar ôl buddsoddi dros £2 filiwn yn 2023, a chyda Llywodraeth Cymru yn torri’r gyllideb hon, rydym bellach yn wynebu’r posibilrwydd o golli momentwm yma. Dim ond Virginia Crosbie a’r Ceidwadwyr—

16:35

Rwy’n fwy na pharod i ganiatáu rhywfaint o ddadlau pleidiol yng nghyd-destun y ffaith mai siambr wleidyddol yw hon a’i bod yn adeg etholiad cyffredinol y DU, ond nid wyf yn fodlon ichi drafod ymgeiswyr unigol. Felly, os gallwn gadw at y pleidiau, ac nid yr ymgeiswyr.

Wel, dim ond y Ceidwadwyr sy’n cydnabod bod Wylfa a Thrawsfynydd yn lleoedd gwych i fuddsoddi, ac sy'n barod i osod gogledd Cymru ar flaen y gad o ran ynni niwclear yn yr unfed ganrif ar hugain. Efallai fod hynny’n ormod i Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ei gymryd. Dyna sydd ei angen ar Ynys Môn, ac rwyf i, yn un, yn cefnogi'r mentrau hynny. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi swyddogaeth ynni niwclear ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd a theg i economi carbon isel, gan sicrhau bod yr holl ynni newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ynni allyriadau sero.

2. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ystyried yn llawn yr holl opsiynau ar gyfer gorsaf newydd yn yr Wylfa a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer Trawsfynydd, gan gydnabod pwysigrwydd allweddol cydweithio mewn perthynas â'r pwerau datganoledig perthnasol.

3. Yn croesawu swyddogaeth flaengar Llywodraeth Cymru, wrth gydweithio â Llywodraeth y DU, y diwydiant a phartneriaid, er mwyn cefnogi ynni niwclear yng Nghymru er mwyn gwneud y gorau o’r manteision economaidd-gymdeithasol ar gyfer Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Jeremy Miles 16:37:19
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Yn ffurfiol, Llywydd.

Ydy, yn cael ei gynnig yn ffurfiol. A Luke Fletcher nawr i gynnig gwelliant 2 yn enw Plaid Cymru.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn dathlu bod gan Gymru yr adnoddau naturiol i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy.

2. Yn credu, os caiff ei ariannu'n briodol, y gallai ailddatblygiad arfaethedig safle'r Wylfa greu swyddi sgiliau uchel ar gyfer Ynys Môn.

3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i:

a) datganoli pwerau llawn dros Ystâd y Goron i Gymru, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n gallu elwa'n llawn ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr fel dewisiadau amgen hyfyw yn lle gorsafoedd ynni niwclear newydd; a

b) sicrhau bod datblygiad safle'r Wylfa yn cyd-fynd yn llawn ag anghenion y gymuned leol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Wel, gadewch inni ddechrau gydag arfau niwclear. Maent yn angheuol, maent yn frawychus, ac mewn fflach, gallai hyn oll fod drosodd. Dyfeisiau a allai ddileu gwareiddiad dynol. Nawr, er yr ataliaeth honedig y mae'r arfau hyn yn ei darparu, mae digwyddiadau diweddar yn adrodd stori wahanol, onid ydynt? Mae ymosodiadau Rwsia ar Wcráin a'r gwrthdaro yn y dwyrain canol yn dangos bod rhyfeloedd yn parhau heb eu rhwystro gan fygythiad difodiant niwclear. Yn lle meithrin heddwch, mae twf arfogaeth niwclear yn megino tensiynau byd-eang. Nawr, nid mewn ras arfau y mae'r llwybr i heddwch parhaol, ond mewn cyd-drafod, atal amlhau arfau niwclear a diarfogi. Mae'n rhaid inni ailgyfeirio ein hadnoddau tuag at adeiladu byd mwy diogel, tecach, dyfodol lle mae diplomyddiaeth yn trechu dinistr, a bywyd dynol yn cael ei flaenoriaethu dros fwgan distryw niwclear. Dyna pam fod Plaid Cymru yn gwrthwynebu system arfau niwclear Trident a’r cynnig i'w hadnewyddu, yr amcangyfrifir y bydd yn costio mwy na £200 biliwn, a pham ein bod yn cefnogi cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar wahardd arfau niwclear. Os oes angen gwariant ychwanegol ar amddiffyn, byddai'n well ei ddefnyddio ar amddiffyn confensiynol ac at ddibenion heddychlon yn hytrach nag ar arfau distryw mawr.

Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Felly, er eglurder, byddech o blaid y Deyrnas Unedig yn cael gwared ar ei harfau niwclear ei hun, ond bod gwledydd fel Iran a Gogledd Korea yn cadw eu harfau niwclear mewn ymateb i hynny. Ai dyna'ch safbwynt?

Rydym newydd ddweud, iawn, y byddem yn cefnogi cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar wahardd arfau niwclear. Mae hynny'n galw am waith ar draws y gymuned fyd-eang, onid yw, i ddiarfogi. Ni allwch ddisgwyl i bob gwlad yn y byd ddiarfogi os nad oes unrhyw un yn fodlon cymryd y cam cyntaf. Felly, cydweithio, drwy ddulliau heddychlon, yw’r ffordd orau ymlaen bob amser.

Symudaf ymlaen at ynni niwclear. Nawr, rwy'n pryderu'n wirioneddol bod cost cyfle sylweddol a pheryglus ynghlwm wrth ganolbwyntio a buddsoddi symiau mawr mewn ynni niwclear. Mae enw drwg gan orsafoedd ynni niwclear am fod dros eu cyllideb ac ar ei hôl hi. Ni fydd Hinkley Point C yn weithredol tan 2027, efallai 2030 hyd yn oed. Felly, mae hynny fwy nag 20 mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Nid oes gennym 20 mlynedd arall i aros er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a'n problem ynni. Mae ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r mater.

Mae gennym rai o’r amrediadau llanw mwyaf yn unrhyw le yn y byd, gydag aberoedd afon Hafren ac afon Dyfrdwy ymhlith y rhai mwyaf. Mae gennym gyfleoedd enfawr ar gyfer ynni gwynt ar y môr, ac os ydym am fynd i’r afael â chost ynni, wel, mae cost ynni adnewyddadwy yn gostwng, a dyma fydd yr opsiwn mwyaf costeffeithiol o bell ffordd yn y dyfodol. Ac erbyn i'r gorsafoedd ddod yn weithredol, byddwn i, fel llawer o bobl, yn gobeithio y byddai capasiti cynhyrchu a storio hydrogen gwyrdd yng Nghymru yn gwneud iawn am yr angen am ynni niwclear ar gyfer y cyflenwad sylfaenol o ynni.

Nawr, y gwir amdani yw na fydd gennym unrhyw lais ynglŷn ag a fydd datblygiadau newydd yn mynd rhagddynt, oherwydd y setliad datganoli, ond yr hyn y gallwn geisio dylanwadu arno yw i ba raddau y mae datblygiadau niwclear o fudd i gymunedau yng Nghymru. Ac yn hyn o beth, mae Llinos Medi a Phlaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro i sicrhau bod datblygiad Wylfa yn ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar y gymuned—

16:40

Dim sôn am ymgeiswyr, os yw hynny'n iawn, a dylwn dynnu eich sylw at eich amser hefyd, mae eich amser ar ben. Os gallwch gwblhau eich cyfraniad.

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro i sicrhau bod datblygiad Wylfa yn ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar y gymuned, fel bod busnesau lleol a gweithwyr lleol yn cael eu gwasanaethu gan y datblygiad, ac nid fel arall.

Rwyf am gloi, Lywydd, drwy dynnu sylw at y ffaith hefyd, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r strategaeth sgiliau ar gyfer ein heconomi, mai dim ond dyfalu yw hyn oll, ynte? Gwyddom fod prinder sgiliau difrifol, nid yn unig o ran darparu sgiliau ar gyfer ynni adnewyddadwy, ond fel y nododd adroddiad diweddar gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, byddai’r un peth yn wir am y sector ynni niwclear hefyd.

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy gofnodi fy mod yn cydnabod bod fy safbwynt ar ynni niwclear yn wahanol i weddill fy mhlaid, ond teimlaf ei bod yn bwysig siarad ar y mater a bod amrywiaeth o safbwyntiau'n cael eu clywed.

Mae pobl Ynys Môn wedi treulio mwy na degawd gyda Llywodraeth Geidwadol y DU yn addo ffrwyth datblygiad ynni niwclear iddynt. Yn union fel gweddill yr ymrwymiadau a wnaed ynghylch Wylfa, nid yw'r addewid diweddaraf i adeiladu gorsaf bŵer gigawat ar yr ynys yn ddim byd ond ffantasi arall gan Lywodraeth ddiobaith yn ei dyddiau olaf. Rydym eisoes wedi gwastraffu degawd, ac rydym yn edrych ar ddegawd arall o leiaf cyn bod pethau'n weithredol. Ac mae'n syfrdanol meddwl am yr holl amser a'r miliynau o bunnoedd sydd eisoes wedi'u gwastraffu ar y prosiect hwn, ac mae'n arian y gellid bod wedi'i wario yn buddsoddi mewn cynhyrchu ynni sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd ar gyfer y dyfodol, ynni y gellir ei gyflawni, sy'n dod yn rhatach ac yn rhatach ac sy'n ynni gwirioneddol adnewyddadwy, megis ynni gwynt, ynni solar, ynni hydrogen gwyrdd ac ynni'r llanw.

Ac nid oes yn rhaid inni edrych yn bell, pan ydym eisoes yn eu gweld yma yng Nghymru, a chynlluniau ar gyfer mwy, boed yn brosiect ynni'r llanw Morlais, ffermydd gwynt newydd ar y môr, neu forglawdd llanw posibl yng ngogledd Cymru. Mae’r mathau hyn o ynni gwirioneddol adnewyddadwy yn gwneud ynni niwclear yn gynyddol ddiangen heddiw, heb sôn am ymhen 10, 15 neu 20 mlynedd, pan allai hyn ddwyn ffrwyth, neu pan ragwelir y bydd yn dwyn ffrwyth. Mae parhau i lawr y llwybr yn golygu parhau i fentro defnyddio llawer iawn o amser, ymdrech ac arian ar ddull o gynhyrchu ynni sydd, ynddo'i hun, ag oes gyfyngedig, ac a allai fod wedi hen ddyddio erbyn iddo fod yn gwbl weithredol.

Nid wyf yn derbyn bod ynni niwclear yn fath adnewyddadwy o ynni mewn unrhyw ffordd ychwaith, nid yn unig am ei fod yn dibynnu ar ddeunyddiau cyfyngedig, ond oherwydd ei fod yn golygu trosglwyddo'r gwaith o ymdrin â'r gwastraff gwenwynig i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol. A phwy fydd y partneriaid ar gyfer unrhyw gynllun o'r fath? Gallwch fod yn eithaf sicr na fyddant yn eiddo cyhoeddus i drethdalwyr Prydain neu Gymru; bydd yn enghraifft arall eto o adnoddau Cymru yn cael eu hecsbloetio, fel y gellir seiffno cyfoeth allan o’n gwlad er budd cyfranddalwyr echdynnol, nad ydynt yn malio am Gymru a heb unrhyw gysylltiad â Chymru. Clywaf fod De Korea yn cael eu hystyried fel partner, ac EDF, ond maent eisoes ynghlwm wrth adeiladu'r orsaf niwclear arall.

Mae'n rhaid inni fod yn onest â ni'n hunain ynglŷn â'r byd rydym yn byw ynddo—yn onest nid yn unig am ddyfodol cynhyrchu ynni ar blaned sydd mewn perygl cynyddol o chwalfa hinsawdd, ond am y bygythiadau milwrol a achosir gan arfau modern mewn byd sy'n gynyddol begynol. Fel y gwelsom yn ddiweddar yn Wcráin, nid yw gorsafoedd ynni niwclear wedi'u cynllunio i fodoli mewn ardaloedd lle ceir gwrthdaro, ond ni allwn byth fod yn hyderus na ddeuant yn rhan o un. Mae gorsafoedd ynni niwclear mewn ardaloedd rhyfel yn unigryw o beryglus mewn ffordd nad yw'n wir am gynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Felly, yn lle dibynnu ar fath o ynni sy’n araf i’w gynllunio a’i adeiladu, a all fod yn darged milwrol dinistriol, math o ynni nad yw’n adnewyddadwy, ac sy’n anhygoel o ddrud, gadewch inni adeiladu gwlad sy’n dibynnu ar ynni adnewyddadwy glân, diogel a rhad.

Rwy’n dathlu rôl y diwydiant niwclear ac yn dangos fy ngwerthfawrogiad o’r rôl y mae’n ei chwarae yng ngogledd Cymru, yn darparu dros 800 o swyddi medrus, yn cyfrannu £700 miliwn at economi Cymru, ac yn cyflwyno atebion carbon niwtral i ddarparu trydan i gartrefi. Hoffwn ailadrodd manteision niferus ynni niwclear yn gryno.

Mae ynni niwclear yn lân ac yn adnewyddadwy, nid yw gorsafoedd ynni niwclear yn llygru, nid ydynt yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr, gellir eu hadeiladu mewn ardaloedd gwledig neu drefol, ac maent yn ffynhonnell ynni ddibynadwy nad yw'n dibynnu ar y tywydd nac argaeledd nwy. Mae gan bobl bryderon ynghylch ynni niwclear oherwydd digwyddiadau enbyd yn y ganrif ddiwethaf, ond dywed yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol fod gorsafoedd ynni niwclear ymhlith y cyfleusterau mwyaf saff a diogel yn y byd, a bod risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag ynni niwclear yn fach o gymharu â'r rheini a achosir gan danwydd ffosil, sy'n llenwi ein hatmosffer â llygredd gronynnol carsinogenaidd.

Mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig ag ynni niwclear yn llai nag ynni solar a gwynt, gyda chwe thunnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gysylltiedig â niwclear, o gymharu â 53 tunnell ag ynni solar. Mae data'n dangos bod ynni niwclear yn arwain at lai o farwolaethau fesul awr terawat o drydan na glo, nwy, olew, biomas, gwynt, ac ynni dŵr—mae'n rhestr go faith. Mewn gwirionedd, mae'r un data yn dangos mai ynni niwclear yw'r ail ddull mwyaf diogel o gynhyrchiant ynni sydd gennym, yn ail o drwch blewyn i ynni solar. Mae disgwyl i bryniant Wylfa gan Great British Nuclear arwain at fuddsoddiad o £20 biliwn i Gymru, yn ogystal â sicrhau miloedd o swyddi i’r rhanbarth, ac mae’r potensial ar gyfer buddsoddiad pellach yn y safle yn dal i fod ar y bwrdd.

Gadawaf i Aelodau Llafur a Phlaid Cymru egluro i’w hetholwyr fod yn rhaid iddynt ddioddef toriadau trydan er mwyn bodloni eu mympwyon ideolegol eu hunain, fel y gwelwyd yn Seland Newydd pan ddechreuasant ddrilio fel ateb i hynny, ond hoffwn annog yr Aelodau hynny i ddilyn esiampl eu harweinydd, sy’n frwd dros fanteision ynni niwclear yn ei etholaeth ei hun a’r hyn y mae hynny’n ei gynnig i Gymru. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU, y gobeithiaf y caiff ei hailethol ar 4 Gorffennaf, i sicrhau hyd yn oed mwy o safleoedd ynni niwclear i Gymru. Hoffwn gloi drwy adleisio sylwadau Janet wrth annog pobl Ynys Môn i bleidleisio dros y Ceidwadwyr ar 4 Gorffennaf er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Mae’r cynnig ei hun yn dechrau’n iawn mewn gwirionedd, wrth sôn am fanteision economaidd prosiectau ynni niwclear. Mae'n egwyddor sydd wedi bod yn bwysig i mi, wrth gwrs, yn fy mlynyddoedd o gefnogi datblygiad prosiect Wylfa Newydd, cyn i'r Ceidwadwyr ei chwalu yn 2019. Byddai Wylfa Newydd eisoes yn cael ei adeiladu oni bai am y llanast a wnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU o bethau. Mae eironi go iawn yn y ddadl heddiw. Ac os caf ddweud, mae tristwch gwirioneddol hefyd ym mhenderfyniad y Ceidwadwyr i gamarwain pobl ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Liz Saville-Roberts pan ddywedodd, yn y cyfweliad a ddyfynnoch chi, 'Rydym wedi dweud ein bod yn cefnogi'r ddau safle hynny.' Felly, gadewch inni gael rhywfaint o onestrwydd yn y ddadl hon: cefnogwch eich hunain.

Yna, mae’r cynnig yn mynd i rywle rwy’n rhyfeddu, a dweud y gwir, fod y Ceidwadwyr am fynd ag ef. Maent yn dewis cyfuno arfau niwclear a'r sector ynni niwclear sifil. Gallaf ddychmygu y bydd pobl sy’n gweithio yn y sector ynni niwclear ac sy’n ceisio ennyn cefnogaeth iddo yn rhoi eu pennau yn eu dwylo. Er gwaethaf y tir cyffredin y gallwn fod yn ei rannu ar y potensial ar gyfer swyddi ym maes ynni niwclear, mae'n amlwg na fyddaf yn cefnogi cynnig sy'n cyfuno hynny—

Mae'n ddrwg gennyf, Rhun ap Iorwerth. Mae Janet Finch-Saunders yn gofyn am ymyriad.

Rhun, gadewch inni fod yn onest, eich prif agenda, eich ideoleg, yw annibyniaeth. A ydych chi'n credu bod Trident wedi achub ein gwlad dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Cymru?

Fel y dywedaf, nid wyf am gefnogi cynnig sy'n cyfuno ynni niwclear ag arfau ac sy'n cefnogi gwariant o £200 biliwn ar arfau niwclear. Ni chredaf y dylai hynny fod yn flaenoriaeth o ran gwariant ar amddiffyn, nac, yn hollbwysig, yn flaenoriaeth pan fo gennym gymaint o blant yn byw mewn tlodi a theuluoedd wedi'u melltithio gan effaith cyni'r Ceidwadwyr a'r argyfwng costau byw. Fel y dywedaf, beth oedd y Ceidwadwyr yn ei feddwl?

Ar welliant Llafur, unwaith eto, mae’n dechrau’n dda: gallwn gytuno ar y cyfeiriad at y math o gymysgedd ynni sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Gallwn hefyd gytuno ar y cyfeiriad at Wylfa a’r angen i archwilio'r opsiynau’n llawn. Credaf fod un rhan ar goll: y cyfeiriad at y llais lleol. Y rheswm pam fod arweinydd cyngor Plaid Cymru—roeddwn ar fin sôn am Llinos Medi, ond byddai’n well imi beidio—wedi gweithio mor galed yn ei rôl fel arweinydd cyngor i gael Ynys Môn yn barod ar gyfer Wylfa Newydd oedd am ei bod hi'n gweld y manteision lleol. Y rheswm pam y buddsoddodd gymaint o amser ac egni yn y rôl arweinyddiaeth honno ar Wylfa oedd am ei bod hi'n gallu gweld yr angen i weithio’n galed iawn ar warchod buddiannau’r gymuned. Mae’r gwelliant yn hepgor y cyfeiriad lleol hwnnw, felly byddwn yn ymatal arno er mwyn dod at ein gwelliant ein hunain, sydd, tra bo'n canolbwyntio ar y potensial ar gyfer swyddi sgiliau uchel yn Wylfa y mae Plaid Cymru ar Ynys Môn yn parhau i’w hyrwyddo, hefyd yn galw'n benodol am sicrhau bod y datblygiad ar safle Wylfa yn alinio'n llwyr ag anghenion y gymuned leol.

Mae addewid diweddaraf y Torïaid i gyflawni Wylfa yn addewid enbyd a gwag arall. Nid yw pobl Ynys Môn yn ei gredu, gan iddynt wneud llanast o'r un diwethaf. Rydym yn sôn nawr am brosiect ar gyfer 2040 neu 2050. Rydym yn dal i ganolbwyntio ar y swyddi a'r sgiliau a allai ddod bryd hynny, ond gan fod yn onest nad yw rhai o'r menywod a'r dynion ifanc a allai fod yn gweithio mewn Wylfa newydd wedi'u geni eto. Dylem reoli disgwyliadau ar amserlenni, a bod yn onest yn hytrach na gwneud addewidion mawr i geisio prynu pleidleisiau. Yn y cyfamser, gallwn barhau i wthio ffiniau yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn ynni adnewyddadwy, ynni'r llanw, ynni gwynt ar y môr ac ynni hydrogen ac ati.

Mae pobl Ynys Môn yn haeddu gwell na gweld y Ceidwadwyr yn chwarae gemau gwleidyddol efo Wylfa. Mi fydd Plaid Cymru yn parhau i fynnu buddsoddiad er mwyn helpu ein cymunedau ni i ffynnu.

16:50

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg nawr i gyfrannu. Jeremy Miles. 

Member
Jeremy Miles 16:51:25
Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc hwn. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae'r drafodaeth yn un amserol yn sgil datblygiadau diweddar, ac am y bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan mewn ychydig wythnosau. Dyw niwclear sifil ddim yn faes polisi datganoledig a mater i'r Llywodraeth yn Llundain yw penderfynu pa ddatblygiadau niwclear newydd y dylid eu sbarduno a buddsoddi ynddyn nhw.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn niwclear trwy gefnogi a galluogi. Mae un amod bwysig i'r gefnogaeth: bod yn rhaid i unrhyw fuddsoddiad fod yn gyson gyda blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru o ran swyddi gwyrdd, hyrwyddo ynni adnewyddadwy, datblygu'r economi werdd a sicrhau pontio teg i sero net. Dylai ynni niwclear gefnogi ein hymdrechion dros ynni adnewyddadwy, nid cymryd eu lle.

Byddwn, wrth gwrs, am wneud y gorau o'r manteision economaidd a chymdeithasol all ddod, ond ar yr un pryd byddwn am leihau'r effeithiau anodd sy'n gallu dod yn sgil prosiectau seilwaith mawr, er enghraifft ar wasanaethau lleol. Gall datblygu a buddsoddi mewn niwclear fy helpu i gefnogi fy amcan o wella cynhyrchiant, cynnig amodau da i fusnesau fuddsoddi ynddyn nhw ac adnewyddu sgiliau. 

Mae amcanion niwclear Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid yn llwyr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda gosod targedau uchelgeisiol i gynhyrchu mwy o bŵer niwclear yn y tri degawd nesaf nag ers blynyddoedd. Ond mae yna amwysedd mawr o hyd. Mae'r ffaith bod y cyhoeddiad i brynu safle Wylfa wedi ei wneud ychydig iawn cyn cyhoeddi'r etholiad yn enghraifft o'r amwysedd hwnnw. 

Lywydd, fel yr ymatebais yn flaenorol ar argymhelliad allweddol a chasgliadau gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae angen ymrwymiad ar leoliad ar gyfer gogledd Cymru gan Lywodraeth y DU. Mae'r ansicrwydd degawd o hyd wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i gynllunio ar gyfer unrhyw weithgarwch newydd, ac mae'r oedi parhaus hefyd yn effeithio ar y canfyddiad o'r gallu i gyflenwi ynni niwclear mewn cymunedau posibl sy'n erydu trwydded gymdeithasol unrhyw brosiectau yn y dyfodol i weithredu. Rydym wedi dangos yn glir ein huchelgeisiau i fod yn arloesol yn y maes hwn ac i archwilio sut i ddod â buddion economaidd-gymdeithasol mawr eu hangen i’n cymunedau gwledig: sefydlu Cwmni Egino, cymorth i'r gadwyn gyflenwi ar Hinkley Point C, a phrosiectau ar gyfleoedd datgomisiynu, i enwi ond ychydig. Pe bai prosiectau newydd yn ymddangos ar gyfer Trawsfynydd ac Wylfa ar Ynys Môn, byddwn yn gweithio’n ddiwyd ac ar y cyd â datblygwyr mawr a phartneriaid strategol, gan gynnwys yr hyn rwy'n gobeithio, ac o edrych ar yr arolygon barn, yn ei ddisgwyl, y bydd yn Llywodraeth Lafur y DU, ar faterion sydd o ddiddordeb cyffredin.

Mae tri maes arall lle gallaf weld sut y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu’n weithredol at hyrwyddo a gwireddu buddion a lleihau effeithiau: y gadwyn gyflenwi ac arloesi, sgiliau, ac effeithiau lleol a rhanbarthol. Wrth ddatblygu’r gadwyn gyflenwi, byddwn yn troi at ganolfannau rhagoriaeth arloesi allweddol fel Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru ac M-SParc i helpu i gefnogi a llywio arloesedd, cynhyrchiant a chystadleurwydd yn ein busnesau. Mae gennym hefyd brofiad gweithredol yn Hinkley Point C, sy'n cefnogi tîm ymgysylltu HPC i ymgysylltu â chwmnïau o Gymru a oedd yn gymwys i gymryd rhan yng nghadwyn gyflenwi’r prosiect, a arweiniodd at archebion economaidd sylweddol i fusnesau ledled Cymru.

Ar sgiliau, rwyf eisoes wedi tynnu sylw'r Siambr at faint yr her o ran y gweithlu niwclear. Ar hyn o bryd, mae'r sector yn brin o 9,400 o bobl, ac mae angen iddo dyfu'n sydyn o 83,000 i 123,000 erbyn 2030 i wasanaethu a chefnogi'r galw a ragwelir. Mae’r ffigurau, a ddatblygwyd fel rhan o dasglu Llywodraeth y DU, yn dangos yr her sydd o’n blaenau. Yn anffodus, er bod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag aelodau’r tasglu, ni roddwyd unrhyw gyfle ffurfiol gan dasglu Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru gymryd rhan. Ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr, Lywydd, mae cydweithio yn allweddol ledled y Deyrnas Unedig, ac eto, dyma enghraifft arall eto o’r rhwystredigaeth a wynebwn wrth ddelio â’r Llywodraeth Geidwadol hon. Mae’n rhwystredig, oherwydd, yng Nghymru, mae gennym arferion da i’w rhannu. Rydym wedi cymryd camau breision ym maes sgiliau a’r sector addysg bellach, gan ddarparu buddsoddiad mawr ei angen ar gyfer cyfleusterau hyfforddi newydd yng Ngholeg Menai yn Llangefni, sydd bellach yn gallu cynnig ystod o gyrsiau'n ymwneud â pheirianneg, pob un yn berthnasol i ynni niwclear a’r sector ynni ehangach.

O ran ysgogi diddordeb ymysg plant a phobl ifanc mewn cyfleoedd gyrfa, mae gennym nifer o brosiectau STEM sy’n bodoli eisoes, sy’n cael eu cyflawni ac sydd wedi cael eu cyflawni gan bartneriaid strategol allweddol, megis M-SParc ar Ynys Môn. Ar yr effeithiau lleol a rhanbarthol y cyfeiriais atynt ac y soniodd Rhun ap Iorwerth amdanynt yn ei gyfraniad, rydym wedi dangos, ar brosiect blaenorol Wylfa Newydd, sut y gwnaethom weithio ar y cyd â’r datblygwr a phartneriaid i gynllunio’n effeithiol ar faterion trafnidiaeth, tai, addysg a'r Gymraeg, gan gydnabod y rôl hollbwysig y gall cael cymunedau cefnogol, gwydn ei chael mewn prosiectau llwyddiannus ac iechyd economaidd.

I gloi, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn barod, ac yn wir, wedi bod yn barod ers bron i ddegawd i fynd ati'n rhagweithiol i wneud y mwyaf o botensial ynni niwclear i leihau carbon yn ogystal â'i fanteision cymdeithasol ac economaidd, lle mae hynny'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau. Edrychaf ymlaen at gamau clir a phendant gan Lywodraeth Lafur newydd y DU ar ôl 4 Gorffennaf, a fydd yn caniatáu inni ddatgloi buddsoddiad a gwireddu’r cyfleoedd ehangach sylweddol a fydd yn deillio o ddatblygiadau newydd yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa.

16:55

Diolch, Lywydd. Rydym wedi cael dadl wych yma heno ar ynni niwclear. Agorodd Janet Finch-Saunders gan amlinellu'r manteision a ddarperir i ni gan ynni niwclear, yn enwedig yma yng Nghymru, gan gyfrannu oddeutu £700 miliwn i economi Cymru yn 2021 yn unig a chefnogi oddeutu 11,000 o swyddi, yn cynnwys yn y gadwyn gyflenwi. Clywsom gan Blaid Cymru yr hyn y gallaf ei ddisgrifio orau fel safbwynt gweddol ddryslyd ynghylch ynni niwclear; nid wyf yn gliriach o hyd beth yw eu safbwynt, a dweud y gwir. Clywsom hefyd gan y Llywodraeth nawr, a oedd, yn gyffredinol, yn gefnogol i’r cyfleoedd ym maes niwclear, a bod yn deg, er nad yw'r gefnogaeth honno wedi'i hadlewyrchu ar feinciau cefn eu plaid, mae'n ymddangos. Siaradodd Gareth Davies â ni, yn bwysig, ynglŷn â diogelwch ynni niwclear, gan ei gymharu’n ffafriol â’r risgiau iechyd a achosir gan danwydd ffosil, sy’n llygru’r atmosffer â gronynnau carsinogenaidd. I grynhoi, Lywydd, er mwyn i Gymru gael diogeledd ynni parhaus ac i ddenu buddsoddiad newydd, swyddi newydd ac i helpu i symud ymlaen mewn byd sero net, mae'n amlwg i mi fod arnom angen ynni niwclear fel rhan o'r cymysgedd ynni hwnnw. Mae ein cynnig heddiw yn nodi cefnogaeth glir i hyn ac yn haeddu cefnogaeth pob un ohonom yma yn y Siambr hon heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais gyntaf.

9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 5, y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 sy'n ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod. Mae'r cynnig ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, mae tri yn ymatal ac mae 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

17:00

Eitem 5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod—Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru): O blaid: 24, Yn erbyn: 16, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffordd osgoi Cas-gwent. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Agor y bleidlais ar welliant 1, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal—o blaid 22 a 22 yn erbyn hefyd. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod—22 o blaid a 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ffordd osgoi Cas-gwent. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 22, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd y bleidlais nesaf. Agor y bleidlais ar welliant 2 yn enw Heledd Fychan. Cau'r bleidlais. O blaid 9, neb yn ymatal, a 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig a'r gwelliannau wedi'u gwrthod, a does dim byd wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ffordd osgoi Cas-gwent. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar niwclear. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Niwclear. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1 sydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly—agor y bleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Niwclear. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM8617 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi swyddogaeth ynni niwclear ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd a theg i economi carbon isel, gan sicrhau bod yr holl ynni newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ynni allyriadau sero.

2. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ystyried yn llawn yr holl opsiynau ar gyfer gorsaf newydd yn yr Wylfa a chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer Trawsfynydd, gan gydnabod pwysigrwydd allweddol cydweithio mewn perthynas â'r pwerau datganoledig perthnasol. 

3. Yn croesawu swyddogaeth flaengar Llywodraeth Cymru, wrth gydweithio â Llywodraeth y DU, y diwydiant a phartneriaid, er mwyn cefnogi ynni niwclear yng Nghymru er mwyn gwneud y gorau o’r manteision economaidd-gymdeithasol ar gyfer Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, 21 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Niwclear. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 1, Ymatal: 21

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.

Bydd y ddadl fer nesaf, a bydd Rhys ab Owen yn cyflwyno'r ddadl fer, unwaith y bydd yr Aelodau sy'n gadael y Siambr wedi gwneud hynny'n dawel. 

10. Dadl Fer: Gweithwyr Allied Steel and Wire a chyfiawnder pensiwn

Diolch, Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r ddadl hon drwy dynnu eich sylw at y cyn-weithwyr Allied Steel and Wire sy'n bresennol yn yr oriel gyhoeddus, ynghyd â rhai o'u teuluoedd. Mae eu cryfder a'u hawydd am gyfiawnder dros gyfnod mor hir o amser yn anhygoel ac yn ysbrydoledig. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am ddod yma heddiw. Rwyf hefyd yn falch fod Adam Price yn cymryd rhan yn y ddadl fer hon. Mae wedi bod yn gefnogwr brwd i weithwyr Allied Steel and Wire ers dros ddau ddegawd. 

I lawer, mae bod yn weithiwr dur yn fwy na swydd yn unig, mae'n rhan o'u hunaniaeth. Fe ddilynodd nifer eu tadau a'u teidiau i weithio fel gweithwyr dur. Mae'n swydd beryglus, roedd anafiadau'n gyffredin, ac eto rydym wedi ad-dalu'r unigolion hyn a'u teuluoedd drwy eu hamddifadu o'u pensiynau a enillwyd drwy waith caled.

Ym 1981, cyn i chi a minnau gael eich geni, Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd gweithwyr yn Allied Steel and Wire, heb fod ymhell o'r lleoliad hwn yma, eu galw fesul un i'r ffreutur a dywedwyd wrthynt gan y cyfarwyddwyr fod eu cwmni'n dechrau cynllun pensiwn galwedigaethol newydd—un a gâi ei gefnogi'n llawn gan Lywodraeth y DU. Dywedwyd wrthynt y byddai'n caniatáu iddynt gael pecyn ymddeol gweddus, a bod eu pensiynau'n ddiogel ac wedi'u diogelu'n llawn gan y gyfraith, ni waeth pa galedi y gallai'r cwmni ei wynebu yn y dyfodol. Fodd bynnag, erbyn 1997, roedd Llywodraeth Tony Blair mewn grym. Un o'i haddewidion cyntaf oedd cyflwyno pensiwn treth o hyd at £10 biliwn er mwyn llenwi coffrau'r Trysorlys. I Allied Steel and Wire, roedd hynny gam yn rhy bell. Erbyn 2002 aethant i ddwylo'r derbynwyr, gan wneud miloedd o bobl yn ddi-waith.

Er mwyn unioni ei drafferthion ariannol, fe benderfynodd y derbynnydd ddileu'r cynllun pensiwn. Hyd at y pwynt hwnnw, talwyd y pensiynau a addawyd i weithwyr, yn seiliedig ar hyd gwasanaeth a chyflog ar adeg ymddeol. Daeth hyn i stop yn gyfnewid am yr hyn a elwid yn gynllun dirwyn i ben—wind-up scheme. Golygai nad oedd a wnelo â thegwch mwyach, na beth oedd gan bensiynwyr hawl iddo, ond beth bynnag y gallai'r cynllun fforddio ei dalu. Mae 'wind-up' yn un term amdano—term addas, efallai—term arall yw 'dwyn pensiwn', a chredaf fod hwnnw'n derm llawer mwy effeithiol amdano.

Nid gweithwyr ASW oedd y rhai cyntaf na'r rhai olaf i brofi'r anghyfiawnder hwn, cael torri eu pensiynau yn y fath fodd. Roedd cynlluniau dirwyn i ben yn gynyddol gyffredin yn gynnar yn y 2000au, a chosbent y rhai mwyaf ffyddlon a gweithgar. Os câi rhywun ei ddiswyddo cyn dirwyn i ben, nhw oedd y cyntaf i gael eu pensiynau wedi eu talu, tra bod y rhai a oedd ar fin dod yn bensiynwyr yn cael eu gadael i gasglu'r briwsion. Fel y dywedodd Panorama y BBC yn 2003, 'Y gwir amdani yw bod deddfwriaeth y Llywodraeth a'r farchnad stoc wedi cynllwynio yn erbyn y gweithwyr hyn.' Arhosodd gweithwyr ASW yn bryderus i weld a fyddai'r pot pensiwn yr oeddent wedi talu i mewn iddo gyda'u harian eu hunain ers degawdau yn dychwelyd rhywfaint o'u harian a enillwyd drwy waith caled.

Un agwedd allweddol ar y sgandal yw'r gwahanol gynlluniau a roddodd y Llywodraeth ar waith i gynorthwyo dioddefwyr yr anghyfiawnder, sef y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol. Nid oedd y gronfa diogelu pensiynau yn berffaith o bell ffordd, ond roedd yn ddibynnol ar gyllid y Llywodraeth, ac yn wyneb argyfwng, roedd darpariaeth i leihau taliadau i bensiynwyr, ond i 90 y cant. Er bod gan y cynllun cymorth ariannol uchafswm taliad mympwyol o 90 y cant o werth y pensiwn, roedd yn fynegai cyfyngedig, fel bod chwyddiant wedi crebachu'r 90 y cant dros y blynyddoedd. Ac os oedd gwerth pensiwn yn dibynnu ar asedau'n bennaf, yna dim ond 25 y cant o werth eich cyfranddaliadau o'r asedau yn y cynllun talu hwnnw y byddech yn ei gael. Roedd hyn yn golygu bod pensiynwyr wedi colli 10 y cant o'u pensiynau o'r cychwyn cyntaf, a mwy wedyn oherwydd chwyddiant, ac ar ben y cyfan, roedd yn rhaid i lawer dalu treth ar y swm bychan a gaent i Lywodraeth y DU. I weithwyr a oedd wedi gweithio ers degawdau, yn ymlafnio o ddydd i ddydd mewn gwaith peryglus, nid yw'n syndod fod y cynllun diffygiol hwn wedi arwain at brotestiadau ledled y DU.

Yn 2006, diolch i waith caled gan ymgyrchwyr sydd yma heddiw, a'r Farwnes Altmann, cyhoeddodd yr ombwdsmon seneddol adroddiad ar gamwybodaeth y Llywodraeth Lafur ar y pryd, yr hyn yr oeddent wedi'i ddweud am y cynllun. Dywedasant y byddai'r cynllun yn cael ei ariannu'n llawn, y byddai pensiynau'n ddiogel, y byddai pensiynau hyd yn oed yn cael eu gwarantu. Canfu'r ombwdsmon fod y wybodaeth swyddogol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn anghywir, yn anghyflawn, yn aneglur ac yn anghyson. Nid yw'n syndod fod yr adroddiad wedi cael ei wrthod ar unwaith gan Lywodraeth y DU. Arweiniodd hyn wedyn at daith hir i'r Llys Apêl, a ddyfarnodd yn 2008 fod y Llywodraeth Lafur wedi gweithredu'n anghyfreithlon ac yn afresymol. Roeddent wedi camarwain pensiynwyr ac ar ôl pum mlynedd o frwydro, fe wnaeth y Llywodraeth ildio o'r diwedd a derbyn adroddiad yr ombwdsmon. Yn sicr, Lywydd, dylai hynny fod wedi bod yn ddiwedd ar y mater. O'r diwedd, cafwyd cyfiawnder ar ôl brwydr hir o chwe blynedd. Eto i gyd, mae'r frwydr yn parhau.

Argymhellodd yr ombwdsmon fod y Llywodraeth yn cynnig iawndal am bensiynau a gollwyd a'r gofid a achoswyd i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Ond heddiw, ym mis Mehefin 2024, mae llawer o bensiynwyr heb gael ad-daliad o'r gwerth a gollwyd o'u pensiynau. Mae Llywodraeth y DU yn dal i wrthod ad-dalu'r y 10 y cant a gymerodd gan y gweithwyr dur gweithgar hyn. Felly dyma ni, 22 mlynedd ar ôl y digwyddiad a ddechreuodd y sgandal, nifer dirifedi o gynigion cynnar-yn-y-dydd yn Nhŷ'r Cyffredin, datganiadau barn yn y Senedd, protestiadau yng Nghaerdydd, Llundain, Brwsel, Lwcsembwrg, deisebau dirifedi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac maent yn dal i fod heb gael cyfiawnder. A oes angen drama arall ar ITV i ddatrys y sgandal hon?

Mae'r frwydr hon i weithwyr Caerdydd wedi para cyhyd fel ei bod wedi bod drwy ddwy genhedlaeth o deulu Thomas, gyda fy nhad yn llais cyson yn y frwydr rwy'n falch o ddal ati i'w hymladd yn ei le. Mae'n rhyfedd i mi fod y Blaid Geidwadol mor awyddus i ddenu pleidleisiau pensiynwyr, ac mor awyddus i siarad am y clo pedwarplyg, er mai nhw a fu'n llywyddu dros yr anghyfiawnder hwn ers dros ddegawd. Lle'r oedd y clo pedwarplyg ar bensiynau gweithwyr dur Cymru? Maent wedi dangos dro ar ôl tro nad ydynt yn gwrando ar bobl sy'n gweithio.

Er fy mod yn ddiolchgar fod Gweinidog pensiynau'r DU wedi cyfarfod â'r grŵp gweithredu ar bensiynau ym mis Ionawr eleni, mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth y DU eisiau symud mor araf â phosibl. A dyma a ddywedodd y Gweinidog pensiynau mewn tystiolaeth lafar i'r pwyllgor:

'Nid wyf eisiau i'r Pwyllgor feddwl, "Gwych, mae newid godidog yn mynd i ddigwydd"—rwyf wedi gwneud hynny'n glir i'r bobl y gwneuthum eu cyfarfod hefyd—ond mae corff o waith yn digwydd nawr i fy helpu i wneud penderfyniadau pellach.'

Ni fydd hwn yn ddatrysiad cyflym. Y gwir amdani yw bod Llywodraethau olynol wedi cael 20 mlynedd i unioni hyn, i adfer mynegeio i bensiynau cyn 1997, i adfer y 10 y cant y gwnaethant ei ddwyn. Ac felly mae'r ffaith bod gwaith ond yn digwydd nawr yn warthus. Mae nifer mawr o weithwyr wedi marw yn aros i'w pensiynau gael eu hadfer. Roeddwn i'n adnabod rhai ohonynt—pobl fel Billy Hill, pobl fel Des Harris, ffrind i fy nhad, a phobl fel Stan Nubert, ac mae ei fab ef yma heddiw. Dywedodd ei fab, Stefan, wrthyf am effaith yr anghyfiawnder ar iechyd ei dad—straen, strociau, trawiadau ar y galon, a'i cymerodd cyn ei amser. Mae effaith yr anghyfiawnder ar berthnasoedd teuluoedd gweithwyr wedi parhau'n rhy hir. Mae teuluoedd wedi cwympo o dan y straen, o dan y straen emosiynol ac ariannol.

Mae John Benson a Phil Jones, sydd yma heddiw, wedi dweud straeon dirdynnol wrthyf am ymweld â'u cyn gydweithwyr ar eu gwely angau yn llythrennol, i'w clywed yn gofyn, 'Wel, sut ar y ddaear y bydd fy ngwraig weddw, sut ar y ddaear y bydd fy nheulu, yn goroesi heb y pensiwn?'—unigolion gweithgar yn gorfod poeni hyd at eu hanadl olaf a phryderu am lesiant a lles eu teuluoedd am fod Llywodraeth y DU wedi dwyn arian oddi wrthynt. Nid oedd gan rai arian i dalu am eu hangladdau eu hunain hyd yn oed. Yn drasig iawn, fe wnaeth rhai gyflawni hunanladdiad wrth aros i gael cyfiawnder. Mae hon yn sgandal sy'n dal heb ei datrys, sgandal sydd wedi bod yn digwydd—ac mae pawb wedi gwybod amdani—ers 22 mlynedd; gweddwon yn dal i dalu morgeisi a ddylai fod wedi cael eu talu ddegawdau yn ôl.  

Mae'r arolygon barn yn glir y bydd Llafur yn ennill buddugoliaeth ysgubol ymhen 15 diwrnod. Nawr, a fydd y blaid a sefydlwyd ac a arianwyd dros y blynyddoedd gan y gweithwyr yn rhoi'r arian sy'n ddyledus iddynt i weithwyr dur ASW a'u teuluoedd o'r diwedd? A fyddant o'r diwedd yn sefyll dros y gweithwyr sydd wedi eu cefnogi dros y degawdau? Gobeithio y bydd gan y Llywodraeth newydd hon freichiau llawer mwy agored na Llywodraethau Llafur blaenorol ac y bydd yn sicrhau yn y pen draw nad yw'r anghyfiawnder yn parhau mwyach. 

Cafodd y cynllun cymorth ariannol ei weithredu gyda'r nod o dorri costau i Lywodraeth y DU heb unrhyw ystyriaeth i degwch, i chwarae teg. Fe wnaeth Llywodraeth y DU gamarwain pensiynwyr ac fe'i cafwyd yn euog yn y llys ar sawl achlysur o gamweinyddu. Ein dyletswydd ni fel seneddwyr yw sefyll dros ein hetholwyr, sefyll dros y gweithwyr dur. Yn allweddol, mae angen inni ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am yr hyn a wnaethant. Rwy'n gobeithio y bydd ein cyd-Aelodau Llafur yn ymuno â mi, pensiynwyr Allied Steel and Wire ac Aelodau eraill yn y Siambr hon i anfon neges glir at y Llywodraeth newydd y dylai sgandal Allied Steel and Wire ddod i ben nawr, ei bod wedi para'n llawer rhy hir, ac y dylid adfer hawliau pensiwn llawn i weithwyr dur gweithgar Cymru. Diolch yn fawr.

17:15

Rwy'n ddiolchgar iawn i Rhys ab Owen am ganiatáu munud o amser i mi, ac mae'n arbennig o addas o ystyried bod y daith hon am gyfiawnder wedi dechrau yn yr adeilad drws nesaf, yn Nhŷ Hywel, gyda chyfarfod a drefnwyd gan ei dad, gyda llawer o'r gweithwyr sy'n bresennol yno'n gofyn beth y gellid ei wneud. I fod yn onest, nid oeddwn yn gwybod, a threuliais y noson gynt ar ei hyd yn ceisio meddwl beth y gallwn ei ddweud. Ac fe lwyddasom i ddod o hyd i gyfarwyddeb Ewropeaidd o 1980 nad oedd wedi cael ei gweithredu, a ddywedai y dylai fod rhwyd ddiogelwch i weithwyr yn yr union amgylchiadau hyn, ac nid oedd Llywodraethau olynol wedi gweithredu'r gyfarwyddeb honno.

Y frwydr gyntaf a wynebwyd gennym oedd argyhoeddi Community, a oedd ar y pryd, fel nawr, yn undeb sydd â hanes o fod yn deyrngar iawn i'r Blaid Lafur, fod yn rhaid frwydro yn erbyn Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Lafur a oedd yn gwrthod gweithredu'r gyfarwyddeb honno hyd yn oed nawr. Ac fe wnaethom ennill y frwydr gyntaf honno, a bu'n rhaid i'r undeb gyflwyno'r bygythiad i fynd â Llywodraeth Lafur yr holl ffordd, os oedd angen, i Lys Cyfiawnder Ewrop. Ac ni fyddai gan yr un o'r 295,000 o weithwyr sy'n cael eu cynnwys yn y gronfa diogelu pensiynau nawr, y 145,000 o weithwyr sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun cymorth ariannol, unrhyw beth oni bai am y grŵp o weithwyr dur yng Nghaerdydd a safodd dros gyfiawnder.

Dro ar ôl tro, mae stori cyfalafiaeth yn yr ynysoedd hyn, a stori methiant ein democratiaeth, yn stori am sgandalau pensiwn: Murdoch a'r Mirror Group, Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, y ffordd y mae glowyr wedi cael yr elw, y gwarged, ar eu pensiwn wedi'i dynnu gan Lywodraethau olynol—un sgandal camwerthu pensiynau ar ôl y llall. Mae'n dweud rhywbeth am y gwledydd hyn yn y DU, y ffordd yr ydym yn trin ein gweithwyr, ein gweithwyr hŷn wrth ymddeol. Dyna'r cwestiwn moesol y mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn ei wynebu nawr. Rwy'n falch o weld eu bod yn cydnabod, yn eu maniffesto, yr angen i unioni anghyfiawnder cynllun pensiwn y glowyr o'r diwedd. Ond dylid cynnig yr un cyfiawnder ag a gynigir i gyn-lowyr i gyn-weithwyr dur hefyd.

17:20

Y Gweinidog Partneriaeth Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Sarah Murphy.

Diolch, Lywydd. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl fer hon, a diolch i Adam Price am ei gyfraniad i'r ddadl. Rwyf innau hefyd am dalu teyrnged i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire a'u hundebau llafur, sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder mor benderfynol ers dros 20 mlynedd. Rwy'n talu teyrnged i'r holl ymgyrchwyr, ac mae llawer ohonoch yn y Siambr heddiw, y rhai ohonoch sydd yn yr oriel, a hefyd i'r rhai sydd wedi marw heb weld cyfiawnder. Oherwydd nid wyf i, ac nid yw Llywodraeth Cymru, yn petruso rhag beirniadu'r anghyfiawnder y mae pensiynwyr Allied Steel a Wire wedi'i wynebu.

Er bod pensiwn y wladwriaeth, pensiynau personol a phensiynau galwedigaethol yn fater a gadwyd yn ôl, rydym wedi galw'n gyson a dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn a sicrhau cyfiawnder adferol i gyn-weithwyr ASW. Mae Gweinidogion olynol y DU yn yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud wrthym eu bod yn fodlon ar y drefn bresennol ar gyfer diogelu pensiynau, ond nid yw cyn-weithwyr ASW yn fodlon, ac nid ydym ni'n fodlon. Rydym yn siomedig fod Llywodraeth y DU wedi methu sicrhau'r cyfiawnder pensiynau y maent yn ei haeddu i'r cyn-weithwyr Allied Steel and Wire, ac rwy'n cydnabod yr ymdeimlad o frad y mae'n rhaid eu bod yn ei deimlo ac y tynnoch chi sylw ato heddiw yn y Siambr.

Nid anrheg yw'r pensiynau hyn; cyflogau gohiriedig ydynt. Gwnaed y cyfraniadau gyda phob ewyllys da gan weithwyr ASW gan ddisgwyl y byddent yn cael diogelwch wrth ymddeol, nid yn unig iddynt hwy, ond i'w teuluoedd hefyd. Dylai'r cyfraniadau hynny gael eu hanrhydeddu'n llawn. Gweithwyr yw'r rhain a weithiodd yn galed, a dalodd i mewn, ac a wnaeth ddarpariaeth ar gyfer eu hymddeoliad, ond fe gawsant gam, cawsant eu hamddifadu o werth y pensiynau y gallent fod wedi'u disgwyl yn rhesymol, ac maent wedi gweld pŵer prynu'r pensiynau hynny'n cael ei erydu ymhellach gan chwyddiant.

Rydym yn parhau i bryderu bod llesiant a lles pob un o'r cyn-weithwyr dur yng Nghymru, a glowyr yn wir, oherwydd mae cynllun pensiwn y glowyr yn enghraifft arall o anghyfiawnder pensiwn—. Heb unrhyw fai arnynt hwy, mae'r bobl hyn yn cael pensiynau llai na'r hyn a ddisgwylient. Ar ôl mwy nag 20 mlynedd, mae'n hen bryd cael canlyniad cywir. Beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, bydd Llywodraeth newydd y DU yn cael cyfle i wneud y peth iawn a mynd i'r afael â'r anghyfiawnder parhaus hwn. Byddaf yn parhau i alw arnynt i wneud hynny, gyda phob un ohonoch chi. Diolch.

Diolch yn fawr i'r Gweinidog, a diolch i bawb am y ddadl bwysig yna. Fe ddaw hynny â'n gwaith ni am heddiw i ben. Diolch yn fawr.

17:25

Daeth y cyfarfod i ben am 17:25.