Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jane Dodds. 

Niwed sy'n Ymwneud â Gamblo

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wasanaethau sy'n gweithio i liniaru niwed sy'n ymwneud â gamblo? OQ61285

Diolch am y cwestiwn. Rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gynorthwyo'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, gan gynnwys sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cymorth, cefnogaeth ac eiriolaeth. Ar hyn o bryd, mae ein swyddogion yn asesu sut y gallem ni ddatblygu darpariaeth triniaeth arbenigol GIG yma yng Nghymru.

Diolch am yr ymateb. Mae pla caethiwed i gamblo yn parhau i fod yn broblem iechyd cyhoeddus ddifrifol sy'n difetha bywydau teuluoedd ac unigolion ledled Cymru. Canfu arolwg cenedlaethol yn 2022 fod 63 y cant o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn y flwyddyn flaenorol—cynnydd sylweddol o 52 y cant yn 2018. Fel y byddwch yn gwybod, mae un o'm meysydd penodol o ddiddordeb yn ymwneud â rasio milgwn, ac rydym ni'n gwybod mai bwriad y trac rasio milgwn, Valley, yw cynyddu nifer y milgwn y mae'n eu rasio bedair gwaith er mwyn sicrhau eu bod nhw'n rasio gyda'r nos, a bod hynny'n mynd ar-lein, i sicrhau bod pobl yn gamblo mwy ar—[Anghlywadwy.]—wrth iddyn nhw luosogi, mae mwy o bobl yn wynebu mwy o gamfanteisio ac amlygiad i beryglon llechwraidd gamblo yn feunyddiol. 

Rydych chi wedi sôn nad oes gan Gymru unrhyw glinigau GIG ar hyn o bryd i ddarparu cymorth, ac rwy'n falch o glywed eich bod chi'n ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru. Mae sefydliadau cymorth gamblo wedi rhannu â mi bod adnoddau helaeth y diwydiant gamblo ar y naill law yn golygu eu bod wedi'u gorniferu o'i gymharu â'r hyn y gallan nhw ei wneud. A dweud y gwir, maen nhw'n defnyddio'r ymadrodd hwn: 'Mae fel defnyddio saethwr pys yn erbyn arf niwclear'. Felly, Prif Weinidog, yng ngoleuni eich Llywodraeth newydd yn dod i rym ac, o bosibl, Llywodraeth newydd yn dod i rym yn San Steffan, beth fyddech chi'n ei wneud i ymrwymo i lobïo'n egnïol am gynnydd sylweddol i gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth gamblo ledled Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n rhannu eich pryderon am gamblo, ac yn enwedig gamblo problemus. Rydym ni'n gwybod, o'n dealltwriaeth ein hunain, bod tua 18,000 o bobl yng Nghymru wedi'u hasesu fel gamblwyr problemus, gyda'r holl ganlyniadau sylweddol sy'n dod iddyn nhw, eu teuluoedd a chymunedau o'u cwmpas. Rwy'n falch, ym maniffesto Llafur y DU, bod ymrwymiad i fynd ar drywydd diwygio gamblo. Mae'n faes penodol lle mae cynyddu'r amgylcheddau rheoleiddio i ddarparu mwy o amddiffyniad rhag niwed yn bwysig.

Mae amseriad etholiad cyffredinol presennol y DU wedi golygu bod gwaith a oedd yn mynd rhagddo rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi cael ei oedi. Edrychaf ymlaen at weld hwnnw'n parhau ar ôl yr etholiad. Un o'r materion a drafodwyd oedd y potensial am ardoll, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod ynghylch pobl yn gorfod delio â'r niwed sy'n deillio o gamblo problemus nad ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw wedi'u paratoi'n briodol, ac nid yw'r ymdrechion gwirfoddol a wnaed hyd yma wedi cyd-fynd â'r angen sy'n dod o gamblo problemus. Dyna pam mae gweithio ar ardoll yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb mewn ei gwblhau, ac yna mae sgyrsiau manwl i'w cael ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r ardoll honno os caiff ei dilyn, a byddai un o'r meysydd hynny yn ymwneud â mynd i'r afael a'r niwed uniongyrchol a gwasanaethau'r GIG sy'n deillio o gamblo. Mae'n sgwrs yr oedd Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg presennol yn rhan ohoni yn ei swydd flaenorol. Mae'n swyddogaeth yr wyf i'n disgwyl i ni barhau â hi, gyda phwy bynnag fydd y Llywodraeth newydd—rwy'n gobeithio mai Llywodraeth Lafur y DU fydd hi—i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto sydd gennym ni ar hyn, ynghyd â Jayne Bryant ac Eluned Morgan a'r tîm ehangach. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd bod hwn yn fater sydd ar ein radar, ac yn rhywbeth yr wyf i'n disgwyl mynd ar ei drywydd, ac rwy'n disgwyl mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth sy'n cydnabod yr angen i wneud rhywbeth yn y maes hwn ar ôl 4 Gorffennaf.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Prif Weinidog, y dylai'r llygrydd dalu, ac ardoll yw'r hyn sydd ei angen i dalu am y gwasanaethau caethiwed i gamblo hyn. Mae hyn yn cwmpasu pobl o bob cefndir. Bu'n rhaid i'm mam-gu druan eistedd a gwylio tra byddai fy nhad-cu yn gwario symiau pedwar neu hyd yn oed pum ffigur mewn un sesiwn mewn casino. Ond yr hyn sy'n niweidiol am gamblo heddiw yw ei fod ym mhobman a'r ffaith ei fod ar gael 24 awr. A phresenoldeb y sefydliadau gamblo hyn, yn hysbysebu ar fysiau a dim ond yn gwneud i ni feddwl yn gyffredinol bod hyn yn rhan o fywyd bob dydd, yw'r hyn y mae angen ei frwydro. Rwy'n falch iawn bod siopau betio bellach yn perthyn i'w categori eu hunain, yn hytrach na gallu cymryd siopau ffrwythau a llysiau drosodd a'u troi'n siopau betio, ac yn enwedig gwneud hynny mewn ardaloedd lle mae'r cymunedau tlotaf, sy'n lleiaf abl i allu fforddio colli arian ar gamblo, yn digwydd bod. Meddwl oeddwn i tybed pa ddadansoddiad y gallai'r Llywodraeth fod wedi ei wneud o ran sut mae'r ailddosbarthiad hwn wedi lleihau nifer y siopau gamblo sydd ar gael yn y gymuned.

13:35

Mae'n bwynt diddorol y mae'r Aelod yn ei godi. Wrth gwrs, roedd yn newid cymharol ddiweddar, a wnaed yn 2022, ar ddefnyddiau cynllunio, felly ni fyddwn yn disgwyl y byddai gennym ni ddata cynhwysfawr eto. Ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y bydd gan bob awdurdod lleol ddiddordeb ynddo, am nifer y sefydliadau gamblo, a ble maen nhw, a'r cysylltiad rhwng y drefn gynllunio a'r drefn drwyddedu hefyd. Un o'r pwyntiau ynghylch y defnydd posibl ar gyfer ardoll, wrth gwrs, yw y gallai gael ei defnyddio wedyn mewn ffordd ddiduedd, heb gael ei rheoli gan y diwydiant ei hun. Ac rwy'n credu bod eich pwyntiau am atal, yn ogystal â thriniaeth ar gyfer canlyniadau gamblo problemus, yn berthnasol. Mae'n sgwrs y byddwn yn hapus i'w chael gyda Julie James, yn ei swyddogaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, i ddeall sut mae hynny'n edrych wedyn yn y defnydd ymarferol, yn y pwerau sydd gan awdurdodau lleol, i gael gafael a dealltwriaeth agosach a gwell o le mae sefydliadau gamblo yn cael eu hagor o'r newydd.

Rwy'n rhannu'r pryderon am gamblo problemus yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n gamblo, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl rhag niwed, drwy'r ysgogiadau datganoledig ac, yn wir, yr ysgogiadau sydd ar gael ar lefel y DU. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yr ymateb o ran ystyriaeth i ddatblygu gwaith o amgylch gwasanaethau caethiwed. Rwy'n credu bod angen clinig gamblo cenedlaethol arnom ni yng Nghymru, a mynd i'r afael â lluosogiad siopau betio ar lawer o'n strydoedd mawr ac yng nghanol ein trefi. Ond un peth nad ydych chi wedi sôn amdano hyd yma, Prif Weinidog, yw'r angen i addysgu ein pobl ifanc, yn arbennig, am y niwed sy'n gysylltiedig â gamblo problemus. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd drwy'r cwricwlwm newydd i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r niwed a all gael ei achosi, yn enwedig trwy bethau fel arian crypto a'r systemau hapchwarae y mae llawer o bobl yn eu defnyddio, a allai edrych yn ddiberygl ac yn ddiniwed ond sydd wedi achosi galar sylweddol i lawer o bobl ledled y wlad? Ac a wnewch chi gefnogi gwaith sefydliadau fel Deal Me Out, sy'n gweithio mewn ysgolion yn y gogledd, a Beat the Odds, sydd, wrth gwrs, hefyd yn gwneud gwaith pwysig iawn drwy Adferiad? Diolch.

Rwy'n credu bod y pwynt am luosogiad gamblo yn bwysig—nid yn unig safleoedd ffisegol, ond ar-lein—a sut y gellir hysbysebu gamblo mewn amrywiaeth o ardaloedd sydd wedi'u targedu at blant a phobl ifanc. Yn aml, mae gan amrywiaeth o gemau ar-lein ar ffonau ac eraill hysbysebion gamblo drwyddyn nhw. Rwy'n gallu eu gweld nhw fy hun a'r wybodaeth y mae fy mhlentyn sydd â llawer gwell dealltwriaeth o'r byd newydd yn gallu edrych arni. Ac felly, mae'n her ynglŷn â dal i fyny â'r hyn y mae ein plant a'n pobl ifanc yn ei weld. Hoffwn feddwl yn iawn am yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am y cwricwlwm, gan fod diwygio'r cwricwlwm yn arwyddocaol. Rydym ni'n edrych ar sut yr ydym ni'n arfogi pobl â sgiliau am oes—y sylfaen wybodaeth, ond hefyd y sgiliau i wneud dewisiadau cytbwys. A rhan o'r hyn y gellid defnyddio ardoll bosibl ar ei gyfer yw'r pwynt ynghylch atal a deall sut rydych chi'n arfogi pobl â'r wybodaeth i adnabod sut mae gamblo problemus yn edrych, yn ogystal ag ymdrin wedyn â'r canlyniadau ar gyfer ble mae'n edrych. Ond mae'n sgwrs yr wyf i'n credu sy'n werth ei chael gyda'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond gan wneud yn siŵr nad ydym ni'n mabwysiadu dull sy'n ceisio ychwanegu meysydd penodol at y cwricwlwm ei hun ynghylch sut rydych chi'n arfogi pobl â'r wybodaeth a'r sgiliau i ymdrin yn iawn â'r heriau y mae ein plant a'n pobl ifanc yn eu hwynebu, sy'n wahanol iawn i'r adeg yr oeddech chi neu minnau yn bobl ifanc mewn gwirionedd.

Rhestrau aros GIG Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar restrau aros GIG Cymru? OQ61278

Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r amser y mae pobl yn aros am driniaeth. Ers mis Mawrth 2022, mae'r llwybrau ar gyfer y rhai sy'n aros ers dwy flynedd wedi gostwng 71 y cant. 22 wythnos yw'r arhosiad cyfartalog am driniaeth gofal wedi'i gynllunio bellach.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Dirprwy Lywydd, bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod y rhestrau aros diweddaraf yn dangos bod niferoedd yn cynyddu yng Nghymru i'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer pobl sy'n ceisio triniaethau. Hefyd, Cymru, yn anffodus, sydd â'r amseroedd aros hiraf am driniaethau yn y DU, gyda dros 20,000 o gleifion yn dal i aros dros ddwy flynedd am y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ac mae'r niferoedd hyn, wrth gwrs, yn dod wedi chwarter canrif o Lafur yn rhedeg Llywodraeth Cymru a Llafur yn rhedeg gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, beth mae hyn yn ei ddweud am ddull Llafur o redeg y GIG?

13:40

Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym ni wedi gweld arosiadau yn lleihau. Ceir heriau sylweddol y mae pob GIG yn y DU yn eu hwynebu yn dilyn y pandemig. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni her i ymateb iddi, ac mae'r duedd tymor hwy yn dangos bod y rhestrau hynny yn lleihau. Roedd hi'n amlwg yn siomedig y bu cynnydd cymedrol i'r niferoedd a oedd yn aros yn ystod y mis diwethaf. Ond mae'n dal i fod yn wir mai'r tueddiadau yw i'r arosiadau hir hynny leihau. Mae hefyd yn fater, wrth gwrs, yn ogystal â'r diwygio a'r gweddnewid y mae angen i ni eu gweld yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, mae hyn hefyd yn ymwneud yn rhannol ag adnoddau. Rydym ni wedi gwneud dewisiadau o fewn ein cyllidebau i roi adnoddau ychwanegol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd—cynnydd o 4 y cant. Rydym ni hefyd yn gwybod, o ran y galw sy'n dod i mewn i'r gwasanaeth, bod angen i ni wneud mwy eto. Dyna pam mae'r dewis ar 4 Gorffennaf yn bwysig. Os bydd mwy o adnoddau yn dod i mewn i wasanaethau cyhoeddus, bydd yn gwneud gwahaniaeth am y bobl y gallwn ni eu cael i wneud y gwaith sydd ei angen, yn ogystal â thrawsnewid y ffordd y mae ein gwasanaethau yn gweithio. Dyna pam mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi edrych, er enghraifft, ar y rhaglen ranbarthu, a chael gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio sylweddol ac wedi'i ddiogelu. Mae'r holl bethau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n fwy nag un peth. Rwy'n credu, gyda gwahanol bartneriaid ar draws y DU sy'n cydnabod yr angen i fuddsoddi'n briodol mewn ariannu ein system iechyd a gofal cymdeithasol, y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell fyth ac y gallwn gael rheolaeth ar yr amseroedd aros yr wyf i'n cydnabod y mae angen ei wneud yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol o ddau brosiect GIG amlwg yn y de sy'n gweithio'n galed i leihau rhestrau aros. Y cyntaf yw'r ganolfan diagnostig a thriniaeth yn Llantrisant, a agorodd ddeufis yn unig yn ôl gyda sganiwr MRI symudol. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon, dywedais eu bod nhw eisoes wedi gweld dros 200 o gleifion. Ond mae'r data diweddaraf yn dangos, mewn mater o wythnosau, bod hyn bellach wedi dyblu i dros 400 o gleifion yn mynd drwy ei drysau. Yr ail yw cynllun i ddatrys amseroedd aros cataract yn gyflym, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi cynyddu o ganlyniad i ail-flaenoriaethu hanfodol gwasanaethau yn ystod COVID. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi sicrhau bod yr holl arosiadau cataract tair blynedd wedi cael eu trin erbyn diwedd mis Mawrth eleni, ac mae bellach yn gweithio tuag at ddim cleifion yn aros dros ddwy flynedd erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yr hyn sydd gan y ddau brosiect hyn yn gyffredin yw eu bod nhw'n enghreifftiau o weithio rhanbarthol. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod gweithio rhanbarthol gan fyrddau iechyd yn allweddol i leihau amseroedd aros?

Mae'n sicr yn rhan hanfodol o'r ffordd yr ydym ni'n lleihau arosiadau i'n holl etholwyr. Os edrychwch chi ar y rhaglen yr ydym ni wedi bod yn ceisio ymgymryd â hi cyn y pandemig ac wedi hynny, allwch chi ddim dychwelyd i fyd lle mae'r arbenigedd sydd ei angen yn cael ei ddiffodd. Mae angen i ni ddiogelu'r gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio hwnnw oddi wrth safleoedd brys. A dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi bod yn buddsoddi yn y gwasanaethau hynny, gydag arian go iawn, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod sefydliadau yn cytuno ar sut i wneud hynny gyda'i gilydd. A dyna, yn aml, yw'r her fwyaf yn ein darpariaeth. Mae llawer o glinigwyr rheng flaen eisiau gweithio mewn ffordd wahanol. Mae cael gwahanol sefydliadau i gytuno ar sut i wneud hynny yn cymryd mwy o amser. Ond mae'r ddwy enghraifft yr ydych chi wedi eu rhoi yn enghreifftiau da o le mae hynny wedi digwydd. Mae wedi cael ei gefnogi gan y Llywodraeth hon, ac mae'n fodel yr ydym ni eisiau parhau i fuddsoddi ynddo gan ein bod ni'n deall y bydd yn darparu gofal gwell a gofal cyflymach i'n holl etholwyr. Ond mae'n dangos bod hwn yn llwybr yr ydym ni eisiau parhau i fuddsoddi ynddo, ac rwy'n hyderus y bydd yn gwneud y gwahaniaeth a nododd Vikki Howells eisoes ar gyfer rhai o'i hetholwyr ac eraill ar draws y de-ddwyrain cyfan. 

Rwy'n croesawu bod llawer wedi cael ei wneud yn y gogledd gyda'r cyllid cyfyngedig, o ran ymestyn unedau mân anafiadau yn ein hysbytai cymunedol, canolfan orthopedig newydd sy'n cael ei hadeiladu eleni, ac mae gennym ni'r ysgol feddygol yn y gogledd. Ond mae'n bwysig cydnabod bod rhestrau aros yn cynyddu yn Lloegr nawr a bod angen cyllid digonol ar ein GIG ledled y DU gyfan os yw'n mynd i oroesi. Cyn 2010, o dan Lafur y DU, cynyddodd y cyllid ar gyfer y GIG yn unol ag angen, sef 5.4 y cant bob blwyddyn, gyda rhestrau aros sy'n llawer llai nag y maen nhw ar hyn o bryd. Ond mewn degawd o gyni cyllidol o dan y Torïaid, hyd at y pandemig, gostyngodd hyn yn sylweddol ac roedd yn cynnwys pedair blynedd pan ostyngodd gwariant y pen yn y GIG mewn gwirionedd, gan achosi diffyg twf i fuddsoddiad. Felly, mae methiant i fuddsoddi mewn adeiladau, technoleg a'r gweithlu wedi datblygu, gan achosi problemau hirdymor. Ni allwn adael i'n GIG fethu. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gofyn yn barhaus i'r GIG wneud mwy gyda llai fel ei fod bellach yn gwario llai ar ofal iechyd na gwledydd datblygedig eraill? Diolch i'w degawd o ddirywiad, mae angen i ni wneud rhywbeth nawr i fuddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol.

13:45

Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at effaith ddiymwad 14 mlynedd o gyni cyllidol. Ni allwch chi osgoi realiti'r dewisiadau hynny gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar gyllid—nid yn unig yr effaith y mae wedi ei chael ar y gwasanaeth iechyd gyda meysydd heb eu diogelu, ond yr holl rannau eraill o wariant cyhoeddus sy'n cael effaith uniongyrchol ar alw yn y gwasanaeth iechyd—[Torri ar draws.]

Prif Weinidog, hoffwn wrando ar y cwestiynau a hoffwn wrando ar yr atebion. Mae gormod o Aelodau yn y Siambr sydd eisiau cyfathrebu rhwng ei gilydd, yn hytrach na gwrando ar yr ymatebwyr. A gawn ni roi amser i'r Prif Weinidog ymateb os gwelwch yn dda? Bydd eraill yn cael cyfle i ofyn cwestiynau pan fyddaf yn eu galw.

Diolch. Mae'n sicr yn wir hefyd, yn ystod y cyfnod diwethaf o Lywodraeth Lafur yn y DU, bod gwariant iechyd wedi cynyddu'n sylweddol gyflymach nag y mae wedi ei wneud gydag arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ledled y DU. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'r dewisiadau y gallwn ni eu gwneud. Er gwaethaf hynny, yn ein cyllideb ddiwethaf, fe wnaethom ni fuddsoddi mwy na 4 y cant o gyllid ychwanegol yma ar gyfer GIG Cymru. Mae hynny yn cymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr. Hyd yn oed gyda gostyngiad o £700 miliwn i werth termau real ein cyllideb, rydym ni'n parhau i flaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n credu, gyda gwahanol arweinyddiaeth ledled y DU i ddadwneud y 14 mlynedd o anhrefn y Ceidwadwyr, y gallwn ni wneud hyd yn oed mwy dros ein gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Mae'r Aelod yn tynnu sylw yn briodol at y ffaith y bydd gwahaniaeth ar lefel y DU yn gwneud gwahaniaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf i wedi edrych ar maniffesto cenedlaethol Llafur—mae'n cadw cysgwyr gwael yn effro, dylwn ychwanegu—ond nid yw'n cynnwys unrhyw ymrwymiadau i drydaneiddio rheilffordd y gogledd. Pam na allwch chi ddod o hyd i'r un gair am drydaneiddio rheilffordd y gogledd? [Torri ar draws.]

Cyn i'r Prif Weinidog ateb, mae gan bawb gyfle i ofyn eu cwestiynau, dylen nhw allu cael y cyfle i'w gofyn mewn distawrwydd, a dylai'r Prif Weinidog gael cyfle i ymateb mewn distawrwydd. Felly, os gwelwch yn dda, pob Aelod, rwy'n gwybod ei bod hi'n adeg etholiad, ond rhowch barch i'r unigolion sy'n siarad.

A dweud y gwir, o ran diwygio rheilffyrdd, ceir ymrwymiadau eglur i fuddsoddi yn nyfodol gwasanaethau rheilffyrdd. Yr hyn a welsom ni cyn yr etholiad oedd addewid heb ei gostio i fuddsoddi swm o arian yn y gogledd heb unrhyw gynllun ynghlwm wrtho. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth a fydd yn cymryd i ystyriaeth o ddifrif y ffordd yr ydym ni'n rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru, ein huchelgeisiau ar gyfer gwella yn y dyfodol, a phan fydd yn gwneud addewidion gwariant, y byddan nhw'n rhai gwirioneddol—nid addewidion rhithiol cyn etholiad nad ydyn nhw'n disgwyl ei ennill, ond mewn gwirionedd yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru ac yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n disgwyl ei wneud ar ddatganoli cyfrifoldeb mewn amrywiaeth o feysydd, gyda'r cyllid i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Edrychaf ymlaen at lansiad maniffesto Cymru. Edrychaf ymlaen at weld dyfarniad y cyhoedd pan ddaw i 4 Gorffennaf, ac yna partneriaeth wahanol iawn, gobeithio, rhwng dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio dros Gymru a Phrydain gyda'i gilydd.

Yn amlwg, ni allech chi roi ymrwymiad ynghylch trydaneiddio rheilffordd y gogledd yno. Roedd eich hepgoriad a'ch anallu i wneud hynny yn amlwg i bawb ei weld. Yn ein maniffesto ni, rydym ni wedi ymrwymo i drydaneiddio rheilffordd y gogledd, rydym ni wedi ymrwymo i symiau canlyniadol Barnett ar gyfer y rhan o HS2 a ganslwyd o Birmingham i Fanceinion. Mae hynny yn y maniffesto, Prif Weinidog—[Torri ar draws.]

Andrew, dau eiliad, os gwelwch yn dda. Ni ddylai Andrew R.T. Davies, fel arweinydd y Ceidwadwyr, orfod gweiddi. Felly, rhowch gyfle iddo ofyn ei gwestiynau os gwelwch yn dda. Fel y dywedais wrth bawb, rwy'n gwbl ymwybodol bod etholiad yn cael ei gynnal, ond nid oes etholiad yn cael ei gynnal yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd. Felly, rhowch gyfle iddo gael ei glywed.

Mae hyn yn annymunol iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am roi cerydd i'r Aelodau. O ddifrif, Prif Weinidog, mae hwnnw'n brosiect a allai drawsnewid y gogledd yn economaidd, ac eto mae eich maniffesto yn dawel ar y buddsoddiad hwnnw. Pam mae'r Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd, y grŵp Llafur, wedi methu â dadlau dros gyllid canlyniadol Barnett ar gyfer canslo rheilffordd Birmingham i Fanceinion ac yn y pen draw wedi methu â sicrhau ymrwymiad maniffesto i drydaneiddio'r rheilffordd y gogledd honno? A yw oherwydd nad oes ots gennych chi am y gogledd?

Rwy'n credu bod record y Ceidwadwyr yn un ddiddorol. Roedd canslo trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn dor-addewid maniffesto eglur gan y Ceidwadwyr, a bellach ceir honiad bod ymrwymiad i'r gogledd rywsut. Ni wariwyd yr un geiniog, ac nid yw'n syndod, oherwydd nid oes cynllun i fuddsoddi ynddo. Mae gennym ni ddiddordeb mewn cael rhaglen fuddsoddi nid yn unig ar gyfer y gogledd, ond ar draws y de a'r gorllewin hefyd, i ategu'r gwaith yr ydym ni eisoes wedi ei wneud. Buddsoddwyd wyth can miliwn o bunnoedd drwy Trafnidiaeth Cymru. Dyma'r rhwydwaith mwyaf dibynadwy yma yng Nghymru bellach. Yr her wirioneddol sydd gennym ni yw annibynadwyedd Network Rail.

Pan edrychwch ar yr hyn yr ydym ni'n barod i'w wneud, rwy'n disgwyl y byddwn ni'n buddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheilffyrdd ar draws y gogledd. Rwyf i hefyd yn disgwyl, os bydd gennym ni Lywodraeth Lafur yn y DU, y bydd gennym ni Lywodraeth sy'n parchu datganoli mewn gwirionedd, ac nad yw'n mynd ati i ymosod arno yn ei maniffesto. Mae'r maniffesto y mae eich ymgeiswyr yn sefyll ar ei sail, yr ydych chi'n ei gefnogi, yn cynnwys ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli—nid yn unig y Bil gyrwyr, ond hefyd yr addewid i ddadwneud y gwaith y pleidleisiodd y Senedd hon drosto mewn Deddf sydd bellach yn weithredol, dan arweiniad y Gweinidog cyllid ar y pryd, wrth gwrs, i ddadwneud Deddf undebau llafur y Torïaid yma yng Nghymru. Eich addewid yw i ymosod ar hawliau gweithwyr a datganoli unwaith eto. Pan fydd pobl yn edrych ar bwy y mae Cymru yn well ei byd â nhw, plaid datganoli neu'r blaid sy'n ymosod arno, rwy'n eglur iawn y byddan nhw'n gwneud eu dewisiadau yn y blwch pleidleisio, ac edrychaf ymlaen at eu dyfarniad.

13:50

Rydych chi wir yn siarad rwtsh, Prif Weinidog. Prif Weinidog, addewid y mae'r blaid yn ei rhoi gerbron y bobl yw maniffesto. Ymrwymiad syml y gallech chi ei wneud drwy'r maniffesto fyddai ymrwymo i drydaneiddio rheilffordd y gogledd. Nid ydych chi wedi llwyddo i sicrhau hynny, oherwydd ychydig neu ddim dylanwad sydd gennych chi gyda'ch cydweithwyr yn San Steffan. Mae'n ffaith y byddai'r prosiect trawsnewidiol hwnnw yn agor y cyfleoedd y mae economi'r gogledd yn crefu amdanyn nhw. Pam ydych chi'n cael eich gwthio i'r cyrion gymaint gan eich cydweithwyr yn San Steffan? Y cwbl yr oedd yn rhaid i unrhyw ei wneud oedd edrych ar sylwadau Jo Stevens ddoe i weld y byddwch chi'n ffigwr ymylol yr ochr arall i'r etholiad os, Duw a'n gwaredo, y bydd Llafur yn ei ennill, ac rwy'n gobeithio na fyddan nhw. Ond gallech ddwysáu eich ymdrechion heddiw a rhoi ymrwymiad i drigolion y gogledd a busnesau'r gogledd y byddech chi o leiaf yn sefyll ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drydaneiddio'r rheilffordd honno, hyd yn oed os na wnaiff eich cydweithwyr yn San Steffan, a bydd pleidleiswyr y gogledd yn gweld hyn ac yn sylweddoli ei fod oherwydd nad oes ots gennych chi am y gogledd.

Cyn i chi ateb, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddai arweinydd yr wrthblaid yn myfyrio ar y datganiad agoriadol yn y cwestiwn olaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwerthfawrogi nad dyna'r iaith y byddem ni'n ei defnyddio yn y Siambr hon, mae'n debyg.

Fel efallai y byddai Taylor Swift yn ei ddweud, mae angen i chi ymdawelu. Pan edrychwch chi ar le ydym ni a'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod bod yna arweinydd Llafur Cymru sydd ymhell o fod yn ffigwr ymylol. Edrychwch ar y maniffesto sydd gennym ni: bydd yr ymrwymiadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gymru. Edrychwch ar ddatganoli cymorth cyflogaeth a'r gefnogaeth ariannol a fydd yn dod yma i Gymru yn y maniffesto; cryfhau Sewel; cyngor y cenhedloedd a'r rhanbarthau lle bydd Prif Weinidog y DU yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrif Weinidogion ledled y wlad; y ffaith y byddwn ni'n dychwelyd penderfyniadau am gronfeydd strwythurol yma, lle maen nhw'n perthyn. A mwy na hynny hefyd: ar ddiwygio'r Arglwyddi, ar gyfraith Hillsborough, ar gomisiynydd Windrush—mae hynny'n bwysig i lawer o'n hetholwyr—a darganfod y gwir am Orgreave. Mae'r holl bethau hyn yn bwysig i ni yma.

Pan fyddwn ni'n cymharu pwy sy'n ffigwr ymyol a phwy sydd ddim, rwy'n dychwelyd at y cyfle cyntaf am lun pan nad oedd Prif Weinidog y DU yn gwybod pa dimau oedd ym mhencampwriaeth yr Ewros, a phenderfynodd y trefnwyr yn ei blaid y byddai'n gweithio'n well i'r Ceidwadwyr pe baen nhw'n eistedd Rishi Sunak wrth ymyl gŵr nad yw hyn yn oed yn mynd i bleidleisio dros y Ceidwadwyr ac roedd yr hen Andrew druan yn y cefndir gyda'i freichiau wedi'u plygu. Rwy'n eglur iawn am y dylanwad sydd gen i o fewn fy mhlaid. Rwy'n eglur iawn, pan fyddwn ni'n cyflwyno cynlluniau i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, y byddan nhw'n wirioneddol ac y byddan nhw'n cael eu cyflawni. Rwy'n edrych ymlaen at ddyfarniad pleidleiswyr yn y gogledd. Ar ôl yr etholiad, byddaf yn hapus iawn i gael y sgwrs hon eto gydag ef ynglŷn â sut mae'r cyhoedd sy'n pleidleisio yn teimlo am y Ceidwadwyr a'u record, ac a oes angen newid i ni droi'r tudalennau ar yr anhrefn y mae wedi ei amddiffyn ers dros 14 mlynedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid oes diwrnod yn mynd heibio heb iddi ddod yn eglur bod pencadlys Llafur Cymru wedi'i leoli'n gadarn yn Llundain. Yn ei chyfweliad ar S4C neithiwr, roedd darpar ysgrifennydd Cymru Llafur, Jo Stevens, yn anghywir o ran ffeithiau ac egwyddor. Roedd hi'n anghywir i ddweud nad yw rheilffyrdd cyflym yn Lloegr yn cael eu hadeiladu, ac yn anghywir i beidio â chefnogi'r egwyddor y dylai Cymru gael ei chyfran deg o wariant pan fydd arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario ar brosiectau trafnidiaeth yn Lloegr. Dangosodd y cyfweliad agwedd nawddoglyd a dirmygus tuag at Gymru a datganoli, felly nid oes unrhyw wahaniaeth mewn agwedd pa bynnag blaid sydd yn Rhif 10. Yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog yr economi, dywedodd y Prif Weinidog, wrth gyfeirio at HS2, 'Ni fu cyfran deg o'r prosiect hwn erioed. Bu ffuglen erioed mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn.' Felly pwy ddylem ni ei gredu nawr, a phwy sy'n siarad dros Lafur yng Nghymru—llefarydd detholedig Keir Starmer dros Gymru neu'r Prif Weinidog?

13:55

Mae'n syml iawn—fi yw arweinydd Llafur Cymru, a etholwyd yn uniongyrchol. Nid wyf i'n credu bod hynny'n gymhleth iawn. A phan edrychwch chi ar yr hyn sydd gennym ni yn ein maniffesto, rydym yn eglur ynghylch adfer y broses o wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol. Dyna beth fydd yn digwydd. Pan oeddem ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, roedd fframwaith strategol Ewrop gyfan. Roeddem ni'n gwneud yr holl ddewisiadau yn unol â hwnnw bryd hynny. Dyna beth mae adfer yn ei olygu.

Pan edrychwch chi ar le arall yr ydym ni'n mynd o ran yr agenda sydd gennym ni, rwy'n credu os edrychwch chi ar y maniffesto y byddwch chi'n gweld llawer iawn o bositifrwydd i Gymru gan y blaid a wnaeth helpu i greu datganoli, a oedd â'r addewid maniffesto, a arweiniodd ymgyrch unigol o fewn ein plaid, ac a gymerodd ran mewn ymgyrch drawsbleidiol. Os gwnewch chi gymharu hynny yn uniongyrchol â'r Torïaid wedyn, byddwch yn cydnabod bod y Bil gyrwyr yn ymosodiad ar ddatganoli ac yn cydnabod bod yr ymgais i geisio diddymu'r Ddeddf undebau llafur a basiwyd gennym ni yn y lle hwn yn ymosodiad ar ddatganoli a hawliau gweithwyr. Ni allai'r gwrthgyferbyniad fod yn fwy eglur. Mae'r llwybr ar gyfer datganoli yn edrych ar addewidion uniongyrchol i ymgysylltu a symud datganoli ymhellach ymlaen. Mae'r cyllid ar gyfer cymorth cyflogaeth yn enghraifft eglur o hynny, a cheir mwy yr wyf i'n credu y gallwn ni ac y byddwn ni'n ei wneud.

Rwy'n edrych ymlaen at gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU sydd o ddifrif ynghylch bwrw ymlaen â datganoli, o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ac sy'n cydnabod, heb gynllun hirdymor, y byddwn yn sownd am byth mewn cylch o anhrefn Ceidwadol. Rwy'n credu y bydd pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros y weledigaeth optimistaidd a chadarnhaol honno.

Rwy'n tybio o'ch ymateb na welsoch chi gyfweliad Jo Stevens mewn gwirionedd, neu efallai eich bod chi'n gwybod nad hi fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd, yn sicr, clywsom gan Jo Stevens wrthodiad pendant i unioni'r cam o ran HS2—dim cynllun, dim bwriad, dim diddordeb. Pam ddylai unrhyw un gredu y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn cyflawni dros Gymru?

Oherwydd nid HS2 yn unig sy'n broblem. Beth am gyfiawnder? Rydym ni wedi cael adroddiadau dirifedi: y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, comisiwn Arglwydd Thomas Cwmgiedd ar gyfiawnder, a chomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU. Mae pob un yn ddadansoddiadau manwl, cynhwysfawr, pob un yn mynd ymhellach na maniffesto Llafur y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Allwn ni ond dychmygu beth fyddan nhw'n ei feddwl ar ôl clywed Jo Stevens yn cyfeirio at y mater fel 'tincera gyda strwythurau a systemau'. Am ddiystyriol. 

Mae'r diffyg uchelgais sydd i'w weld ym maniffesto Llafur, gan ddefnyddio geiriau gwlanog fel 'archwilio' neu 'ystyried', yn gadael y darllenydd yn meddwl tybed a ymgynghorwyd â'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ar unrhyw ran o'i gynnwys. A all y Prif Weinidog amlinellu i'r Senedd heddiw pa ran a chwaraeodd yn y maniffesto, ac esbonio pam mae ei ddylanwad ar ei benaethiaid yn Llundain mor fach?

Unwaith eto, mae Plaid Cymru yn rhedeg ffuglen pan fyddan nhw'n dweud nad oes unrhyw ddylanwad gan Lafur Cymru ym mhlaid y DU, a ffuglen y dylem ni rywsut fod yn siomedig â Llywodraeth Lafur y DU nad yw wedi'i hethol. Os edrychwch chi ar y maniffesto ei hun, mae'n cyflwyno amrywiaeth o feysydd sy'n datblygu datganoli, nid yn unig o'm presenoldeb i yn y cyfarfod maniffesto ei hun, ond dros y misoedd a'r wythnosau sydd wedi arwain at hynny. Edrychwch ar le'r ydym ni wedi cyrraedd ar ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth. Edrychwch ar adfer y broses o wneud penderfyniadau am gronfeydd strwythurol. Ceir y ffaith y bydd cyngor priodol o genhedloedd a rhanbarthau. Ceir cryfhau Sewel. A byddwn, mi fyddwn yn ystyried ac yn bwrw ymlaen â chyfiawnder a phrawf ieuenctid.

Rwy'n hyderus y byddwn ni'n sicrhau cynnydd yn y meysydd hynny. Rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad uniongyrchol a fydd gennym ni, nid yn unig gyda'r hyn yr wyf i'n ei obeithio fydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llafur Cymru, ond gydag Ysgrifenyddion Gwladol ar draws amrywiaeth o adrannau, yn dangos y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud gyda dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd, ac, yn hollbwysig, yr ymrwymiad i ddiweddaru'r fframwaith cyllidol hen ffasiwn. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gallu i ddatblygu'r arfau i wneud y gwaith yma o ran datganoli. Bydd datganoli yn symud ymlaen gyda Llywodraeth Lafur y DU, gyda'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur y DU.

Efallai eich bod chi wedi gweld drafft na chafodd ei gyhoeddi a oedd yn cynnwys yr holl ymrwymiadau hyn ynddyn nhw, oherwydd, yn amlwg, nid wyf i wedi gweld y fersiwn honno, ac nid yw pobl Cymru chwaith. Nid wyf i wedi gweld unrhyw beth am swm canlyniadol HS2, dim datganoli plismona a chyfiawnder. Felly, gadewch i ni edrych ar fater cronfeydd strwythurol, oherwydd mae iaith yn bwysig yma, Prif Weinidog, ac ni welsom ni'r ymrwymiad hwnnw yno. Roedd yn hynod o niwlog, ac mae angen i ni weld nad geiriau gwag yw'r rheini gennych chi, oherwydd cyfeiriwch fi at yr ymrwymiad maniffesto yma. Mae'n ymddangos i ni, yn eglur iawn, y bydd San Steffan yn parhau i reoli arian parod Cymru ar ôl Brexit—achos o gydio grym yn syth o lyfr cynlluniau'r Torïaid. Gofynnaf i chi eto: a welsoch chi gyfweliad Jo Stevens, oherwydd, yn sicr, mae hi'n cyferbynnu'n llwyr yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrthym ni heddiw? Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o'i dderbyniad o rodd o £200,000 yw ei bod yn hawdd dylanwadu ar y Prif Weinidog, ond roeddem ni wedi disgwyl iddo sicrhau buddiannau Cymru ym maniffesto Llafur. Pam mae hynny wedi bod yn amhosibl iddo?

14:00

Eto, gadewch i ni ddychwelyd at y geiriad yn y maniffesto:

'Bydd Llafur yn adfer penderfyniadau'

—nid 'meddwl', nid 'ystyried'—

'am ddyrannu cronfeydd strwythurol'.

Ni allai fod yn fwy eglur. Mae hwnna'n addewid maniffesto a sicrhawyd gryn amser yn ôl, ac mae yn y maniffesto nawr. Mae cyngor y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn y maniffesto; cryfhau Sewel, yn y maniffesto; datganoli cyllid cymorth cyflogaeth, yn y maniffesto; y gwaith o fwrw ymlaen ag ystyried cyfiawnder a phrawf ieuenctid, yn y maniffesto, ac rwy'n hyderus y byddwn ni'n sicrhau'r canlyniadau terfynol; diweddaru'r fframwaith cyllidol, yn y maniffesto. Rwy'n cydnabod bod gan Blaid Cymru obsesiwn gyda gwleidyddiaeth fewnol Llafur. O ran yr hyn y bydd y cyhoedd yn pleidleisio drosto, rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros faniffesto sy'n cyflawni dros Gymru a Phrydain—partneriaeth newydd i newid methiant y 14 mlynedd diwethaf, lle gall y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, gyda mwy o bwerau i ni wneud y gwaith yma yng Nghymru a phartneriaeth a all weithio i Gymru a Phrydain.

Cerddorion Ifanc

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cerddorion ifanc? OQ61295

Diolch. Mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc, o dair i 16 oed, i gael y cyfle i fanteisio ar gyfleoedd mewn gweithgareddau creu cerddoriaeth, mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach.

Diolch am yr ateb.

Mae rhieni yng Ngogledd Caerdydd wedi cysylltu â mi ac, o ganlyniad, fe wnes i ymweld â'r conservatoire iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar, lle mae pawb yn siomedig a gofidus iawn am yr ansicrwydd ynghylch ei ddyfodol. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer 300 o bobl ifanc i fynychu ar benwythnos. Mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw yn cael bwrsariaethau i ddod, yn seiliedig ar incwm yr aelwyd. Mae'n cynnig canu a symud, arbenigedd jazz, chwarae grŵp, cerddoriaeth siambr, cerddoriaeth Indiaidd, theori a chôr—i enwi dim ond rhai. Ac yn ogystal â cholli'r cyfleoedd hyn, pe bai'n cau, ceir ffynhonnell fawr o bryder am yr offerynnau gwych sydd ganddyn nhw yno—offeryn unigol yn werth miloedd o bunnoedd—sy'n cael eu rhoi i'r bobl ifanc eu defnyddio am ffi cynnal a chadw fach iawn. Felly, pa gyfleoedd fyddai gan bobl ifanc i ddefnyddio'r mathau hynny o offerynnau pe na bai hyn yn parhau? Mae hwn yn sefydliad unigryw, ac felly beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y gwasanaeth hwn rhag cau?

Dylwn ddweud fy mod i fy hun wedi elwa o gael cyfleoedd i chwarae offeryn cerddorol pan oeddwn i'n iau fy hun. Chwaraeais y ffidil a'r trwmped, gyda gwahanol raddau o hyfedredd. Ond rwy'n cydnabod, mewn gwirionedd, bod talent yn cael ei ddosbarthu'n gymharol gyfartal, ond nad yw cyfle. Dyna pam wnaethon ni gyflwyno'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Ac mae'r gwaith y mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ei wneud yn helpu i ddarparu llwyfan ychwanegol i bobl ifanc.

Mae'r ymgynghoriad sydd ganddyn nhw yn dod i ben ar 20 Mehefin, ac yna bydd cyfnod pellach o dair wythnos i ystyried ymatebion i hynny. Mae gen i ddiddordeb yn y coleg yn ystyried effaith y dewisiadau y gallai eu gwneud. Nid ydym ni mewn sefyllfa i'w cyfarwyddo o ran cyllid—mae'n ddewis y maen nhw wedi ei wneud—ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cynnig cyfarfod â'r pennaeth ac wedi gofyn i wneud hynny. Rwy'n disgwyl i'r pennaeth ymgysylltu'n uniongyrchol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i gael sgwrs gyda ni am yr hyn y mae'n bosibl ei wneud, oherwydd rwyf i eisiau gweld ein hasedau diwylliannol yn cael eu diogelu a'u datblygu.

Rydym ni mewn cyfnod o amser nawr lle, ymhen ychydig wythnosau, y gallai fod newid ar lefel y DU gyda gwahanol gyfle i edrych tuag at ddyfodol, a'r gallu, gobeithio, i gynllunio dros fwy na blwyddyn. Yn union fel yr ydym ni'n gofyn i bobl eraill beidio â gwneud dewisiadau na ellir eu gwrthdroi, byddwn yn gofyn i'r coleg feddwl eto am y dewis y gallen nhw fod yn ystyried ei wneud, i gael y cyfarfod a gynigiwyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ystyried sut y gallan nhw barhau i ymestyn yr amrywiaeth o gyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru sydd â thalent a'r gallu i elwa o addysg a chyfle cerddorol yn eu bywydau.

14:05

Mae arweinydd yr wrthblaid newydd ddweud wrthyf i ei fod yntau'n gallu chwarae'r trwmped hefyd, Prif Weinidog, felly edrychaf ymlaen at gystadleuaeth rhwng y ddau ohonoch chi ar bwy all chwarae'r trwmped yr uchaf. [Chwerthin.]

Ond ar nodyn difrifol, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn ar y papur trefn heddiw a'r mis diwethaf yn adeilad yr Urdd ar draws y ffordd, roedd rhai Aelodau yma yn bresennol yn y digwyddiad sy'n dathlu gwaith y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Roeddwn i'n falch iawn o glywed cynrychiolwyr o Bowys a phobl ifanc o sir Drefaldwyn yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Ond pan oeddwn i yn yr Eisteddfod ym Meifod fis diwethaf, siaradais hefyd â phobl ar stondin Cerddoriaeth Ieuenctid Sir Drefaldwyn, gwirfoddolwyr sy'n dod at ei gilydd i annog pobl ifanc i ddod at ei gilydd bob dydd Gwener yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, am ddim, i chwarae eu hofferynnau gyda'i gilydd. Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, roeddwn i hefyd yn ymwybodol bod cyllid ffyniant cyffredin gan Lywodraeth y DU wedi darparu cyfanswm o £675,000 i 10 sefydliad i gefnogi'r diwydiannau celfyddydol a chreadigol ar draws sir Powys.

Felly, Prif Weinidog, hoffwn ofyn pa waith pellach y gallwch chi ei wneud ac y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig ar lawr gwlad, i gynorthwyo ac annog pobl ifanc i ystyried bod yn gerddor fel cyfle bywyd cadarnhaol iddyn nhw? Beth allwch chi ei wneud ar y cyd â chynlluniau a gefnogir gan y gronfa ffyniant gyffredin i annog mwy o hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?

Roeddwn innau hefyd yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod. Roedd yn ddiddorol iawn gweld mai nid y perfformiad yn unig oedd swyddogaeth perfformiad cerddorol i amrywiaeth o bobl ifanc a'r hyn yr oedden nhw'n ei gael ohono, ond yr holl ochr gymdeithasol iddo a'r sgiliau sy'n mynd gydag ef.

Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r gwasanaeth cerddoriaeth a'r ffordd yr ydym ni wedi eu cyfarwyddo nhw i ymestyn cyfleoedd. Dyna pam mae'r rhaglen Profiadau Cyntaf mor bwysig, ac mae wedi cyrraedd saith o bob 10 ysgol gynradd yng Nghymru i'w gwneud yn wirioneddol hygyrch i bobl ledled y wlad. Felly, mae gen i ddiddordeb yn y cyfleoedd hynny yng nghefn gwlad Cymru ac, yn wir, yng Nghymru drefol, a sut mae gennym ni ffynonellau cyllid sefydlog i adeiladu ar y gwaith yr ydym ni wedi ei ddechrau. Dyna'r her, oherwydd, yn anffodus, nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin, y ffordd y mae wedi cael ei datblygu a'i threfnu, yn ffynhonnell sefydlog ar gyfer y dyfodol, ac mewn gwirionedd, roedd y ffordd y defnyddiwyd y cyllid hwnnw yn flaenorol ar gyfer blaenoriaethau strategol sylweddol mawr. Rwyf i eisiau gweld ffordd briodol o ariannu diwydiannau creadigol a cherddoriaeth a diwylliant yn rhan o hynny yn y dyfodol. Nid dyna'r hyn yr ydym ni wedi gallu ei gael, ac mae hynny'n ganlyniad i realiti'r hyn sydd wedi digwydd i'n cyllideb mewn degawd a mwy. Bydd sefydlogrwydd a chynllun hirdymor ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu, yn darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc yn ei etholaeth ac ymhellach y tu hwnt.

Rwy'n croesawu'n fawr, yn amlwg, buddsoddiad y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, ond ni chafodd ei sefydlu erioed ar gyfer astudiaeth o fath conservatoire. Bydd datgymalu ac erydu difrifol allforyn economaidd gorau Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, o'i gyrff cyllido cynghorau celfyddydau ar y cyd, yn difetha ei allu i berfformio a darparu allgymorth ysgolion o'r radd flaenaf. A dim ond un enghraifft, Prif Weinidog, yw Côr Cysur—rhaglen rhyng-genhedlaeth plant ysgol arloesol; un ymhlith llawer iawn o rai eraill—y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu darparu ar gyfer cerddorion ifanc Cymru. Wedi'i gyfuno â'r cyhoeddiad brawychus iawn am gau realistig unig adran iau conservatoire Cymru fis nesaf, y biblinell o dalent i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, beth yw'r strategaeth gyffredinol sydd ar waith ar gyfer datblygu talent ein hieuenctid yng Nghymru a diwylliant Cymru yn y dyfodol?

Wel, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae wedi codi'r pwynt yn gyson, nid yn unig yn y Siambr hon, ond y tu allan iddi gyda mi a chydag Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, a byddwn yn disgwyl iddi barhau i wneud hynny, oherwydd mae problem wirioneddol o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r heriau cyllido sydd gennym ni. Dyna pam y dywedais yn eglur y byddwn yn disgwyl i bennaeth y coleg gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddeall beth yw'r effaith hirdymor, beth yw eu cynigion, a sut y maen nhw'n cyflawni rhywfaint o'u cenhadaeth eu hunain i sicrhau mynediad priodol at gerddoriaeth i amrywiaeth o bobl sydd o gefndiroedd llai breintiedig yn rhan o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd.

Ac rwy'n cydnabod y darn ehangach ynghylch dewisiadau a wnaed nid yn unig gan y cyngor cyllido yma yng Nghymru, cyngor y celfyddydau, ond mewn gwirionedd am y dewis cyllido a gafodd effaith hyd yn oed yn fwy yn Lloegr. Dyna pam mae angen perthynas wahanol arnom ni am werth yr hyn y mae Opera Cenedlaethol Cymru ac eraill yn ei wneud. Rwy'n cydnabod y grym meddal enfawr sydd gan Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â'r manteision economaidd uniongyrchol y mae'n eu cynhyrchu hefyd. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn sut mae'r hyn yr wyf i'n ei gydnabod fel un o'n hasedau diwylliannol gorau yn parhau. Mae honno'n sgwrs yr ydym ni eisiau parhau i'w chael, ynghyd â'r hyn yr wyf i'n ei obeithio fydd yn wahanol ystyr, i gyflawni'r nod hwnnw ymhen ychydig wythnosau a thu hwnt.

14:10
Swyddi Gwyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo a datblygu swyddi gwyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61298

Diolch am y cwestiwn. Mae creu swyddi gwyrdd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae hyn yn cynnwys gwireddu'r cyfleoedd sero net enfawr ledled Cymru o'n hamgylchedd naturiol i gefnogi twf busnes a datblygu technolegau newydd, fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, i alluogi pontio teg. 

Ar ôl tua 14 mlynedd o gyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU, a orfodwyd fel dewis gwleidyddol, rydym ni wedi gweld diffyg twf economaidd a'r gostyngiadau mwyaf erioed i safonau byw ein cymunedau. Diolch byth, mae pobl Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd yn deall hyn ac yn edrych yn debygol o bleidleisio dros newid y mae mawr ei angen a Llywodraeth Lafur y DU. Bydd y weinyddiaeth Lafur newydd honno yn gwneud y DU yn uwch-rym ynni glân trwy greu swyddi o ansawdd uchel trwy fuddsoddiad mewn prosiectau ynni adnewyddadwy a chlystyrau diwydiannol ledled y DU. Yn y de-ddwyrain, mae gennym ni aber afon Hafren, sy'n cynnig potensial mawr ar gyfer llwyfannau gwynt arnofiol a harneisio ynni'r llanw. Mae gan ddociau Casnewydd gynlluniau pwysig ar gyfer ehangu ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i Tata Steel yn Llanwern fod yn rhan o bontio i ddur gwyrdd. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda gweinyddiaeth Lafur y DU a'n hawdurdodau lleol, ynghyd â phartneriaid allweddol eraill, i greu'r swyddi gwyrdd cynaliadwy a'r prosiectau economaidd hyn yma yn ne Cymru?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn nodi'r union newid yr ydym ni angen i ni ei weld. I'r rhai sydd wedi darllen rhan o faniffesto Llafur y DU, mae'r ymrwymiad i ddatblygu cronfa gyfoeth genedlaethol yn rhan allweddol ohono, nid yn unig y buddsoddiad cyhoeddus uniongyrchol a fydd yn mynd i mewn iddi, ond hefyd y buddsoddiad sector preifat ychwanegol yr ydym ni'n disgwyl ei wireddu yn ein porthladdoedd, yn y ras am bŵer glân, mewn gweithgynhyrchu uwch ac mewn dyfodol i'r sector dur. Swyddi ar draws, nid yn unig yn y de, ond ar draws y gogledd hefyd. Ym mhob un o'r meysydd hynny, mae gennym ni asedau a manteision naturiol. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw partner sefydlog â'r lefel o weledigaeth i'w darparu.

Nid oes yn rhaid i chi gymryd fy ngair i amdano. O ran pŵer glân, er enghraifft, mae maniffesto Llafur y DU yn cynnwys dyfyniad gan Syr Patrick Vallance, cyn brif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, sy'n cydnabod lefel yr uchelgais sydd ei hangen a'r manteision a allai ac a ddylai ddod ohono. Dyna sydd ar y papur pleidleisio ar 4 Gorffennaf, gwahanol bartneriaeth ag uchelgais a gweledigaeth a'r adnoddau i'w cyflawni. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y bydd pobl yng Nghymru yma yn gadarnhaol yn ei gylch, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n pleidleisio drosto.

Prif Weinidog, nid wyf i eisiau dilyn llwybr John Griffiths a gwneud darn cysylltiadau cyhoeddus er mwyn i etholiad y DU gael ffordd ymlaen. Gadewch i ni ganolbwyntio ar faterion Cymreig, sef yr hyn yr ydym ni i gyd yn eistedd yma ar eu cyfer, a dyna pam yr wyf i'n mynd i fod yn dweud bod ein sector ynni gwyrdd ac ynni, yn wir, yn hanfodol bwysig i'r economi yma yng Nghymru. Ond yr hyn sydd bwysicaf amdano yw bod gennym ni bontio cyfiawn, cynaliadwy ac economaidd hyfyw yn y sector hwn, gyda'r lefel gywir o fuddsoddiad cyson a defnydd o sgiliau i sicrhau'r allbwn economaidd mwyaf posibl.

Yn gynharach eleni, addawodd Plaid Lafur y DU £28 biliwn mewn addewid gwariant gwyrdd, yna, ym maniffesto'r Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, gwelsom addewid o £7.3 biliwn i sectorau diwydiannol gwyrdd allweddol. Prif Weinidog, byddech chi'n meddwl ein bod ni ar draeth o ystyried faint o fflip-fflopio rydym ni wedi ei weld gan Keir Starmer hyd yn hyn, ac mae'r dyn yn ymddangos yn gwbl benderfynol o gyflawni newid, ac rwy'n dweud hynny'n llac iawn, ond eto'n dal i fethu â gweithio allan yn union sut i'w wneud. Felly, Prif Weinidog, gyda diffyg cynllun eglur ar gyfer y dyfodol, diffyg cyfeiriad a dewis y goreuon o wahanol ymrwymiadau gan Lafur y DU, sut all y cyhoedd yng Nghymru ymddiried y bydd eich plaid wir yn cadw at addewidion pan fo troeon pedol enfawr eisoes wedi'u gwneud mewn addewidion maniffesto allweddol? Diolch.

Mae'n gyfraniad diddorol, a'r hyn y gwnaf i ei ddweud yw, pan edrychwch chi ar faniffesto diwethaf y Ceidwadwyr, mae rhannau helaeth ohono wedi cael eu tocio a methu â chael eu cyflawni heb awgrym o gywilydd am y peth o gwbl. Cymerwch gronfeydd strwythurol a'r addewidion mewn dau faniffesto etholiad cyffredinol Ceidwadol y DU na fyddai'r un geiniog yn cael ei cholli. Nid oes dim o hynny wedi digwydd. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi colli dros £1 biliwn yma yng Nghymru. Dywedodd yr Aelod ei bod hi eisiau siarad am faterion Cymreig, ac nid wyf i wedi clywed barn gyson gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon o hyd ynglŷn â'r golled honno o £1 biliwn y mae ei phlaid wedi ei gymryd oddi ar Gymru. Yn fwy na hynny, wrth gwrs, mae'n fater o'r hyn nad yw wedi caniatáu i ni ei wneud: buddsoddi yn y sgiliau y mae hi'n dweud bod ganddi ddiddordeb ynddyn nhw. A dweud y gwir, dyna pam fu gennym ni bwysau eithriadol ar ein cyllidebau ein hunain yma yng Nghymru. Gallem a dylem allu gwneud mwy.

Pan fyddwn ni'n cael dychweliad, adferiad, y broses o wneud penderfyniadau ynghylch cronfeydd strwythurol, rwy'n eglur y byddwn ni'n ail-fuddsoddi mewn prentisiaethau a rhaglenni sgiliau a oedd yn gweithio ac a sicrhaodd ganlyniadau gwirioneddol yn niwydiannau heddiw a'r dyfodol. Bydd y diwydiant lled-ddargludyddion y soniais amdano angen rhywfaint o'r buddsoddiad hwnnw. Mae'n ddiwydiant lle mae strategaeth yn y DU mae'n debyg, gydag £1 biliwn dros 10 mlynedd mae'n debyg—nid y swm o arian a ddylai mewn gwirionedd ymateb i'r heriau neu'r cyfleoedd sydd yno—ond ni wariwyd yr un geiniog o hynny. Os ydych chi'n mynd i gael strategaeth lled-ddargludyddion, yna, mewn gwirionedd, dylai'r de-ddwyrain fod yn rhan allweddol i'r buddsoddiad hwnnw gael ei ddarparu ynddo. Ni wariwyd yr un geiniog. Mae gan y Llywodraeth hon hanes gwahanol iawn o fuddsoddi ochr yn ochr â'r sector hwnnw i ddarparu buddsoddiadau a swyddi o ansawdd da. Byddwn yn gwneud mwy o'r un peth os oes gennym ni bartneriaid parod a all gyflawni hynny. Os bydd pobl yn pleidleisio dros newid ar 4 Gorffennaf, edrychaf ymlaen at gyflawni hynny gyda Llywodraeth Lafur arall y DU, mewn partneriaeth.

14:15
Mynd i'r Afael â Llygredd Amgylcheddol

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd amgylcheddol? OQ61263

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd aer a dŵr ac i sicrhau bod ein tir, ein dŵr, ein hardaloedd morol a'n hardaloedd arfordirol o'r ansawdd uchaf.

Diolch. Ar un adeg roedd Cymru'n adnabyddus am ei nentydd sisialog, ei aer ffres, glân a'i phorfeydd gwyrdd eang. Roedd yn dir tawel a oedd yn llawn y rhai ohonon ni a oedd yn trysori ac yn gwarchod ei amgylchedd delfrydol. Nawr, fodd bynnag, mae'r afonydd wedi'u llenwi â charthion, mae'r aer yn llawn drewdod safleoedd tirlenwi heb eu rheoli, ac mae cefn gwlad gwarchodedig yn destun tipio anghyfreithlon dro ar ôl tro. Hyd yn oed y mis hwn, gydag ymchwiliadau troseddol yn mynd rhagddynt, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu egluro cydymffurfiaeth cwmni Mr Neal—rhywun rydych chi'n ei adnabod yn dda iawn—sy'n gweithredu safle tirlenwi Withyhedge, oherwydd bod y cwmni wedi methu â ffeilio'r gwaith papur angenrheidiol. Maen nhw hefyd erbyn hyn yn nodi, sy'n peri pryder—Cyfoeth Naturiol Cymru—nad oes dyddiad cau ar gyfer y gwaith papur bellach, gan waethygu'r llygredd y mae trigolion sir Benfro yn ei wynebu ymhellach. Mae hyn yn warthus. A gyda chi, y Prif Weinidog, yn glynu at rym ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder ynoch chi o ran y safle penodol hwn a'r arian rydych chi wedi'i gael ohono. O ystyried y ffaith bod y sefyllfa hon yn gwneud Cymru yn destun sbort—

—a'r ffaith eich bod chi wedi colli pob hygrededd a dilysrwydd fel y Prif Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru, a chithau'n arbennig, fel pennaeth y Llywodraeth hon o hyd, yn cyflawni eich rhwymedigaethau eich hun drwy sicrhau bod y sefyllfa amgylcheddol hon, y llygredd ofnadwy hwn, yn dod i ben nawr? Dyma'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl fel Aelodau'r Senedd. Diolch.

Wel, rwyf wedi bod yn glir iawn a byddaf i'n glir eto ynglŷn â llygredd nid yn unig yn Withyhedge ond mewn unrhyw safle lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ac yn teimlo bod angen gwella: fel y rheoleiddiwr, mae angen iddyn nhw weithio gyda gweithredwr y safle, mae angen iddyn nhw weithio gydag awdurdodau iechyd cyhoeddus lleol a chyda'r cyngor, gyda'r cyfrifoldebau gwahanol sydd ganddyn nhw. Rwy'n disgwyl iddyn nhw wneud hynny er mwyn sicrhau gwelliant. Mae angen i unrhyw weithredwr sydd angen gwneud gwelliannau ymgymryd â'r camau gofynnol a'r monitro annibynnol sydd angen digwydd i sicrhau ei fod yn digwydd. Nawr, nid wyf i'n ymwneud yn uniongyrchol fel y Gweinidog yn hyn ac ni ddylwn i fod chwaith; dyna pam y bydd yn cael ei oruchwylio gan y Gweinidog newid hinsawdd a materion gwledig—gan yr Ysgrifennydd Cabinet—i wneud yn siŵr bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud yr hyn y maen nhw i fod i'w wneud. Dyna'n union yw'r sicrwydd rydym yn ei ddisgwyl. Felly, does dim newid, does dim safon wahanol i'w chymhwyso at y gweithredwr hwn nac unrhyw weithredwr arall, ac, mewn gwirionedd, bydd y Llywodraeth hon yn bwrw ati i wella safonau ar gyfer rheoleiddio amgylcheddol i sicrhau bod y llygrwr wir yn talu lle mae'r safonau hynny yn cael eu torri. Ac rydym wedi ymrwymo i adfer natur. Rydym ymhell ar y blaen i Loegr ym mhob un o'r meysydd hyn; rwy'n falch o hynny, ond rwyf eisiau i ni wneud mwy, mynd yn gyflymach a mynd ymhellach, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud hynny, nid yn yr achos hwn yn unig, ond ledled y wlad.

Gan droi at fater gwahanol yn ymwneud â'r cwestiwn, cafodd Dow Corning ollyngiad yn ei ffatri gemegol yn y Barri ddydd Sadwrn, ac roedd y niwl gwyn, yn amlwg, yn effeithio'n benodol ar bobl yn Sili a Phenarth, yn ogystal â'r Barri, ond mae cyfeiriad dwyreiniol y gwynt yn fy annog i ofyn i chi a gafodd y Llywodraeth unrhyw gyfle i ddadansoddi a oedd wedi effeithio ar Gaerdydd, yn enwedig etholaethau fel eich un chi a fy un i.

Fe ddylwn i nodi bod Sili a Phenarth yn fy etholaeth i, Dirprwy Lywydd, ond rwy'n credu bod y mater yn un mwy cyffredinol. Roeddwn i'n ymwybodol o'r gollyngiad o Dow Chemicals a'r camau rhybuddiol a gafodd eu cymryd, gyda chyngor yn cael ei roi i bobl gau drysau a ffenestri. Fe gafodd ei ddatrys yn weddol gyflym mewn gwirionedd, felly roedd yn gyfnod eithaf byr o amlygiad. Fy nealltwriaeth i yw bod yr awdurdodau rheoleiddio ac iechyd cyhoeddus perthnasol yn glir na ddylai fod unrhyw effaith iechyd o'r digwyddiad. Ond, yn amlwg, mae gwaith yn cael ei wneud i ddeall sut y digwyddodd a pha fesurau y mae angen eu rhoi ar waith i sicrhau na fyddwn yn gweld digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Mae Dow yn gyflogwr sylweddol gyda channoedd o swyddi, nid yn unig ar draws Bro Morgannwg ond etholaethau eraill hefyd. Rydyn ni eisiau ei weld yn gweithredu i'r safon rydym yn ei disgwyl i'r gweithlu a'r cyhoedd ehangach y gallai effeithio arnyn nhw, fel mae'r digwyddiad y mae'r Aelod yn tynnu sylw ato yn ei gadarnhau. Felly, os oes unrhyw beth arall, gallwn ni sicrhau bod hynny'n dod nid yn unig gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol ynghylch y sicrwydd sydd wedi'i roi, os yw'r Aelod yn dymuno clywed am yr effaith yn y tymor hwy a'r gwersi y dylent fod yn cael eu dysgu. 

14:20
Pleidlais o Ddiffyg Hyder

6. Sut y mae'r Prif Weinidog yn ymateb i bleidlais y Senedd o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth? OQ61294

Fel y dywedais i wrth yr Aelodau yr wythnos diwethaf, rwy'n cydnabod ac yn parchu pleidlais y Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio i adennill hyder Aelodau o bob rhan o'r Siambr ac i sicrhau bod y Llywodraeth rwy'n ei harwain yn canolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru.

Prif Weinidog, mae'n glir. Fe wnaethoch chi golli pleidlais o ddiffyg hyder yn eich arweinyddiaeth. Gallwch chi ddim dianc rhag hynny ac esgus nad yw'n digwydd. Nid yw'n fusnes fel arfer. Fe'i dywedaf eto. Mae'r Senedd wedi colli hyder yn eich gallu i arwain. [Torri ar draws.] Mae Mike Hedges yn sôn bod yna etholiad, mae yna etholiad cyffredinol ar y gorwel, ac fe fyddwch chi'n gwybod cystal â fi bod gormod o bobl yng Nghymru sydd ddim yn bwrw pleidlais am eu bod nhw'n teimlo nad yw eu pleidlais nhw'n gwneud gwahaniaeth. Felly, pa neges ydych chi'n meddwl rydych chi wedi'i rhoi i'r cyhoedd, pan fyddech chi'n dweud nad oes ots am bleidlais ddemocrataidd sydd wedi'i bwrw gan y bobl maen nhw'n eu hethol?

Rwy'n gweithredu yn unol â rheolau'r sefydliad hwn, ac rwy'n cydnabod bod y Senedd wedi pleidleisio. Rwy'n cydnabod yr amgylchiadau o ran y bleidlais a'r Aelodau hynny nad oedden nhw'n gallu—

Prif Weinidog, rwyf—. Mae hwn yn ymateb pwysig, a hoffwn ofyn i Aelodau ar draws y Siambr roi'r gorau i gael trafodaethau am hyn. Rwyf eisiau gwrando—ac mae'r bobl eisiau gwrando—ar ymateb y Prif Weinidog.

Felly, rwy'n cydnabod y dewisiadau y mae angen i ni eu gwneud wrth symud ymlaen i ateb cwestiynau a blaenoriaethau pobl Cymru. Fe nodais i hynny ar ôl dod yn Brif Weinidog lai na thri mis yn ôl. Rwy'n edrych ymlaen at ddyfarniad y bobl ar 4 Gorffennaf ynghylch y math o bartneriaeth a fydd gennym ni ar draws y DU ac, yn fwy na hynny, i sicrhau, pan fyddwn ni'n cymryd camau yma yn y Senedd ar amrywiaeth o feysydd lle rydym eisoes wedi cymryd camau, o'r adolygiad o 20 mya a'r newyddion da, a dweud y gwir, ers cyflwyno terfyn diofyn o 20 mya ar fwy o ffyrdd ledled Cymru, bod llai o bobl wedi cael eu hanafu mewn damweiniau—. Felly, mae'n ein symud ymlaen o ran yr hyn rydym wedi dewis ei wneud a'r hyn rydym wedi addo ei wneud hefyd. Mae mwy y gallwn ni ei wneud o ran y buddsoddiadau rydym wedi'u gwneud mewn amrywiaeth eang o feysydd a'r amrywiaeth o gwestiynau rydym wedi'u cael heddiw. Rwy'n optimistaidd am yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud yn y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i wasanaethu ac arwain fy ngwlad yn y rhinwedd honno. 

Busnesau Bach yng Nghaerffili

7. Pa gymorth a chyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau bach yng Nghaerffili? OQ61291

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan fusnesau bach fynediad at lawer iawn o gymorth, gan gynnwys trwy wasanaeth Busnes Cymru, sy'n helpu mentrau bach a chanolig i ddatblygu busnesau mwy cydnerth a datblygu eu harferion busnes.

Ddoe, fe ymwelais i â bar a bwtîc adnabyddus a phoblogaidd iawn ym Margoed sydd ond wedi bod ar agor am gyfnod byr iawn. Dirty Cowgirl yw ei enw. Mae wedi dod yn enwog iawn ym Margoed ac yn boblogaidd iawn. Ond nawr, yn anffodus, mae'n mynd i orfod gadael yr adeilad yng nghanol y dref oherwydd bod landlord y busnes yn gwerthu'r eiddo. Diolch byth, mae'r busnes wedi llwyddo i ddod o hyd i adeilad newydd yn Aberbargoed, ond bydd hyn yn golygu y bydd safle gwag arall ar Stryd Fawr Bargoed. Mae'r perchennog yn credu'n gryf y dylai fod gan denantiaid masnachol yr hawl i well cyfathrebu a mwy o dryloywder ynghylch unrhyw benderfyniadau gan landlordiaid i werthu eiddo a/neu droi tenantiaid allan. Mae hi'n credu y dylai hyn fod yn arbennig o wir os yw landlordiaid wedi elwa ar grantiau Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol i adfer ac adfywio eu heiddo. Felly, a all y Prif Weinidog ateb yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i fentrau bach a chanolig fel hyn a rhoi mwy o hawliau iddyn nhw o ran eu landlordiaid, yn yr un modd ag yr ydym wedi rhoi hwb priodol i hawliau tenantiaid mewn eiddo preswyl wedi'i rentu?

Dydw i ddim yn gyfarwydd â Dirty Cowgirl, na'r busnes, ond gan symud i ffwrdd oddi wrth y busnes unigol, mae pwynt ynghylch yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud i adfywio a chynnal canol trefi—felly, nid dim ond ein dull 'canol trefi yn gyntaf' o gynllunio, ond y cyllid Trawsnewid Trefi sydd gennym ni—sef sicrhau bod ymdeimlad bywiog o le i fusnesau ac i drigolion canol trefi. Ond yn fwy na hynny, o ran y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi am ddeddfwriaeth, fe ofynnodd Llywodraeth flaenorol y DU i Gomisiwn y Gyfraith adolygu Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985, ac roedd hynny'n cynnwys tenantiaethau busnes. Felly, rydym yn edrych ymlaen at yr adolygiad sydd wedi dod, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ar fater na ddylai fod yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, ynghylch sut y gallwn ni edrych ar wahanol hawliau tenantiaid, gan gynnwys tenantiaid busnes, a'r hyn y gallai hynny ei olygu. Rwy'n derbyn pwynt yr Aelod ynghylch a oes buddsoddiad ychwanegol wedi bod gan y Llywodraeth yn y safle ei hun, ond byddwn i eisiau edrych ar hynny mewn ffordd gyflawn, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, o ran yr hyn y gallai fod ei angen, neu'r hyn a allai ein helpu ni i ddiwygio'r gyfraith, a'r cymorth ymarferol y gall hynny ei ddarparu i fusnesau.

14:25
Datganoli Pwerau Pellach

8. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau pellach i'r Senedd? OQ61296

Fe wnaethon ni sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ddatblygu opsiynau i gryfhau datganoli i'r Senedd. Rydym wedi derbyn argymhellion y comisiwn yn llawn, ac rydym nawr yn bwrw ymlaen â'r agenda uchelgeisiol hon ar gyfer Cymru.

Wel, ym maniffesto eich ymgyrch arweinyddiaeth, fe wnaethoch chi alw am ddatganoli pwerau penodol i'r Senedd, on'd do fe? Roedden nhw'n cynnwys Ystad y Goron, cyfiawnder, plismona. Fe wnaethoch chi hyd yn oed alw am bwerau benthyca darbodus. Nawr, fel yr ydym eisoes wedi clywed, mae eich cymheiriaid Llafur yn y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi tanseilio'n gyson eich galwadau chi a galwadau eich Llywodraeth am ddatganoli rhai o'r pwerau hynny, ac mae Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid wedi dweud y byddai'r pwerau dros yr heddlu a chyfiawnder yn aros yn San Steffan. Yn wir, ddoe, fel y clywsom yn gynharach, fe ddywedodd fod eich galwadau chi, ac rwy'n dyfynnu, ond yn

'potsian â strwythurau a systemau'.

Dim ond addewid i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf a gafwyd ym maniffesto Llafur y DU—dim byd ar y system gyfiawnder ehangach, dim byd ar Ystad y Goron na'r seilwaith rheilffyrdd. Fe ddywedodd Jo Stevens ddoe na fyddai'r seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, er bod eich Llywodraeth chi'n galw amdano'n gyson. Fe wrthododd hi'n llwyr i ymrwymo i Gymru'n cael yr arian HS2 rydych chi wedi dweud ei fod yn ddyledus i ni, ac maen nhw hyd yn oed wedi dileu'r addewid y byddwch chi'n rheoli'r cronfeydd sy'n cymryd lle cronfeydd yr UE, yn erbyn eich dymuniadau. Nawr, erbyn hyn, mae eich Plaid Lafur yn y DU yn dweud llawer o'r un pethau ar y materion hyn â'r Llywodraeth Dorïaidd bresennol. Felly, sut mae'n teimlo i fod mor ymylol fel bod eich cymheiriaid Llafur yn gwrthod eich polisïau ac, a dweud y gwir, yn tanseilio safbwynt eich Llywodraeth ar y materion hyn yn llwyr?

Wel, dydw i ddim yn derbyn cyfran fawr o'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Mae'n amlwg nad yw'n wir dweud ein bod ni yn yr un sefyllfa â'r Ceidwadwyr. Mae gennym ni gynnig maniffesto sy'n bwrw ymlaen â datganoli. Mae gan y Ceidwadwyr faniffesto sy'n ymosod ar ddatganoli mewn dau faes arwyddocaol.

O ran rhai o'r pwyntiau penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, mae gennym ni addewid yn y maniffesto i ystyried bwrw ymlaen â datganoli prawf a chyfiawnder ieuenctid, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU i gyflawni hynny. Rwy'n glir iawn o ran beth rydw i eisiau i'r canlyniad fod, ac mae'r maniffesto yn cynnwys gwneud hynny.

O ran cronfeydd strwythurol, nid yw fel y mae'r Aelod wedi'i amlinellu. Mae geiriad y maniffesto yn glir: bydd Llafur yn adfer y broses o wneud penderfyniadau dros ddyrannu cronfeydd strwythurol. Does dim amwysedd am hynny. Dyna'r hyn y mae'r maniffesto yn ei ddweud. 

Ac o ran y seilwaith rheilffyrdd, rwyf eisiau datganoli gyda'r adnoddau i'w gyflawni. Fe welson ni'r hyn a ddigwyddodd gyda rheilffyrdd y Cymoedd. Cawson nhw eu datganoli a'u darparu i ni gydag ased a oedd mewn trallod gwirioneddol. Yna roedd yn rhaid i ni wario symiau sylweddol o arian o fewn cyllideb sydd wedi bod yn lleihau mewn termau real i uwchraddio'r ased ac i fuddsoddi mewn cerbydau rheilffyrdd. Rydyn ni wedi gwneud hynny. Mae hynny'n golygu bod gennym ni seilwaith rheilffyrdd yn ne Cymru y gall pobl fod yn falch ohono nawr, gyda cherbydau rheilffyrdd sy'n cael eu cyflwyno. Ar draws Cymru gyfan, mae gennym ni gerbydau rheilffyrdd sy'n gwella profiad teithwyr a dibynadwyedd y gwasanaethau hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ymrwymiadau'r maniffesto i barhau i fuddsoddi mewn rheilffyrdd a fydd yn dod yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, i gael dull mwy cydlynol o ymdrin â'r seilwaith rheilffyrdd ac o wneud penderfyniadau o fewn hynny, a'r adnoddau i sicrhau y gall fod yn llwyddiant ac y bydd yn llwyddiant. Mae hynny'n symud datganoli yn ei flaen. Mae honno'n bartneriaeth rhwng Cymru a Phrydain a fydd yn gweithio, yn wahanol i'r cynnig gan y Ceidwadwyr. Rwy'n hapus iawn i fyw yn ôl y cyferbyniad rhwng y ddwy blaid. Rwy'n hapus iawn i aros am ddyfarniad pobl Cymru ar 4 a 5 Gorffennaf.

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 Eitem 2 heddiw yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Trefnydd, Jane Hutt. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Mae'r ddadl Cyfnod 1 Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) wedi cael ei gohirio tan 16 Gorffennaf. Yn lle hynny, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar Gymru yn un o oreuon y byd ar ailgylchu. Hefyd, mae dadleuon y Ceidwadwyr yfory wedi newid eu trefn, a'r ddadl ar iechyd menywod wedi ei gohirio. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun bathodyn glas ar draws Cymru? Rydym yn gwybod bod canllawiau newydd wedi'u cyhoeddi i awdurdodau lleol, ond nid yw'n ymddangos fel pe bai hyn yn datrys y problemau niferus y mae pobl yn fy etholaeth i'n eu cael wrth ailymgeisio am eu bathodynnau glas. Pam y dylai rhywun sydd â chyflwr sy'n dirywio, a oedd yn gymwys i gael bathodyn glas yn flaenorol, orfod mynd yn ôl yn barhaus, bob ychydig flynyddoedd, i ofyn am un? Mae'n hynny'n ymddangos i mi fel biwrocratiaeth ddiangen. Os oes gan bobl gyflwr sy'n dirywio, fe ddylen nhw fod yn gymwys am oes. Rwyf yn credu bod angen rhagor o waith ar hyn, a byddwn i'n croesawu datganiad ar y cynllun bathodyn glas, i sicrhau nad ydym yn gwastraffu amser swyddogion mewn awdurdodau lleol, ac nad ydym yn gwastraffu amser ein trigolion yn ddiangen, o ran gorfod gwneud ceisiadau na ddylai fod yn digwydd. 

Yn ail, a gaf i alw am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru ar reoli risg llifogydd? Un o'r heriau sydd gennyf yn fy etholaeth i yw, yn ardal Sandy Cove ym Mae Cinmel, mae'n lle sydd wedi bod yn destun llifogydd ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, mae Llywodraeth Cymru, yn briodol, yn buddsoddi yn yr amddiffynfeydd môr yn ardal Bae Cinmel yn y flwyddyn sydd i ddod, a disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Medi eleni. Ond, yn anffodus, er y bydd hynny'n helpu i amddiffyn trigolion Sandy Cove rhag llifogydd, ni fydd yn datrys y problemau draenio sylweddol sydd ar ystad Sandy Cove am nad yw'r priffyrdd a'r ffyrdd ar yr ystad honno wedi'u mabwysiadu. Felly, hoffwn i weld yr amddiffynfeydd môr a gwaith llifogydd, sy'n digwydd ym Mae Cinmel, yn cael eu hymestyn i gynnwys y draenio ar yr ystad honno, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, i weld a oes unrhyw gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn helpu'r trigolion ym Mae Cinmel yno. Diolch.

Diolch yn fawr, Darren Millar. O ran eich cynllun bathodyn glas, gwnaf, fe wnaf i godi hyn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y llywodraeth leol. Mae'n gynllun hanfodol i alluogi hygyrchedd ac annibyniaeth i bobl anabl, a phobl â namau a chyflyrau sy'n eu gwneud yn gymwys ar gyfer y bathodyn glas. Ac, wrth gwrs, mae'r system adolygu yn bwysig, fel y byddech chi'n ei chydnabod, ond fe wnaf i godi hyn a rhoi adborth i chi ar ganlyniad y drafodaeth honno.

Rwy'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma yn y Siambr wrth i chi godi'r mater o ran rheoli perygl llifogydd, a chanolbwyntio'n benodol ar amddiffynfeydd môr a'r gwaith rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi ynddo, nid yn unig ym Mae Cinmel, ond ar draws Cymru gyfan. Rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r buddsoddiad rydym yn ei wneud ym maes rheoli perygl llifogydd. Mae hyn yn effeithio ar bob un o'n hetholaethau.

Mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, ein bod ni wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd o ran y gwaith rydym wedi'i wneud, ac yn wir o ran erydu arfordirol, a'r gwaith sydd wedi'i wneud gyda'n llwybr arfordirol o ran amddiffynfeydd môr, ac yn wir amddiffynfeydd risg llifogydd eraill rydym wedi buddsoddi ynddyn nhw. Unwaith eto, mae ein partneriaeth â llywodraeth leol, sef yr awdurdodau sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiectau, gyda'n cymorth cyllido, yn allweddol. Felly, mae hon yn bartneriaeth arall rwy'n credu sy'n gadarn iawn yng Nghymru, ond, fel y dywedais i, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi clywed y pwynt ynghylch eich cwestiwn lleol.

14:35

Hoffwn roi ar y cofnod fy siom na fyddwn yn cael cyfle heddiw i drafod egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Roeddwn i'n un o aelodau'r Pwyllgor Busnes a gytunodd i amserlen wedi ei chyfyngu o ran craffu gan y pwyllgorau, ac, fel aelod o Bwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd a fu'n craffu, hoffwn ddatgan fy anhapusrwydd â'r ffaith bod yr amserlen wedi newid, oherwydd mi allai'r pwyllgorau fod wedi cael yr amser arferol i graffu. Rydyn ni'n derbyn bod yna etholiad y Deyrnas Unedig yn digwydd ar y funud, ond mae hynny o fantais i hyn, ei fod o wedi digwydd ynghynt, gan olygu y gallwch chi gael y trafodaethau. Felly, gaf i ofyn i chi barhau â'r uchelgais o gyflwyno erbyn 2026, a mynnu'r hawl i wneud hynny gan Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig?

Yn ail, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, fel Aelod o'r Senedd dros yr ardal, o'r gollyngiadau carthion parhaus sy'n effeithio ar afon Ogwr a thraeth Aberogwr. Mae'r traeth wedi'i ddosbarthu'n 'annormal' gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n un o'r ddau draeth gwaethaf yng Nghymru o ran ansawdd dŵr, gyda phobl yn cael eu cynghori i beidio nofio, er iddi gael ei nodi'n ardal ymdrochi ddynodedig yn 2023. Fodd bynnag, nid yw rhai pobl yn ymwybodol o'r risg o hyd ac maen nhw'n parhau i fynd i mewn i'r dŵr. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y mater hwn, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y sefyllfa, a'r camau sy'n cael eu cymryd i unioni'r sefyllfa, a rhybuddio pobl am y peryglon?

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiwn pwysig iawn. A diolch i chi am eich diddordeb yn y mater hwn.

Roedden ni'n ddiolchgar iawn am y gwaith a gafodd ei wneud yn gyflym gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, ac yn wir y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn wir y Pwyllgor Cyllid, o ran Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Rwy'n ffodus, wrth gwrs, mai fi yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil hwnnw, a bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod i wedi dosbarthu llythyr a ysgrifennais at Gadeiryddion yr holl bwyllgorau hynny ddiwedd yr wythnos diwethaf, i ddweud bod angen i ni roi ystyriaeth ddyledus i'r 47 o argymhellion a gawsom gan y pwyllgorau hynny—fe dderbynion ni'r adroddiadau ar 7 Mehefin—a bod angen i ni ymateb mor llawn a phriodol â phosibl cyn y ddadl Cyfnod 1. Felly, fe wnes i'r penderfyniad, ar ran Llywodraeth Cymru, i ohirio'r ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil tan 16 Gorffennaf 2024. Rwy'n gobeithio bod fy llythyr, sydd wedi'i ddosbarthu i'r holl Aelodau erbyn hyn, yn egluro'r safbwynt cyn belled ag y mae hyn yn y cwestiwn.

Ond byddwn i hefyd yn dweud ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n edrych yn drylwyr ar yr adroddiadau hynny, oherwydd yr hyn sydd mor dda am yr adroddiadau, yn arbennig, mae'n rhaid i mi ddweud, adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio—ac rwy'n gwerthfawrogi mai'r Dirprwy Lywydd yw Cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio hwnnw, y pwyllgor—yw ei bod yn wirioneddol wych gweld bod mwyafrif yr Aelodau ar y pwyllgor hwnnw yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Roedden ni'n aros i glywed, o ganlyniad i'r dystiolaeth a gafodd ei rhoi, a hefyd y ffaith bod y Pwyllgor Biliau Diwygio wedi cydnabod cryfder y dystiolaeth academaidd a rhyngwladol a gafodd ei rhoi i'r pwyllgor hwnnw. Ac fe wnaf i fanteisio ar y cyfle hwn, Heledd Fychan a'r Dirprwy Lywydd, i ddweud pa mor falch oeddwn i gyda'r dystiolaeth y gwnaeth Joyce Watson a'r cawcws menywod, sy'n gawcws trawsbleidiol yn y Senedd hon, ei rhoi, yn cefnogi'r Bil hwn. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi syniad i chi o fy ymrwymiad i symud y Bil hwn yn ei flaen.

Mae eich ail bwynt a chwestiwn hefyd yn bwysig iawn, o ran y sefyllfa rydym ynddi yn Ogwr. Mae hyn yn cynnwys mwy nag un etholaeth, mwy nag un rhanbarth, fel rydych chi'n ei gydnabod, Heledd Fychan—fi fy hun ac yn wir Sarah Murphy, o Ben-y-bont ar Ogwr. Yn amlwg, mae ansawdd dŵr ymdrochi uchel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae nofio yn yr awyr agored, gweithgareddau hamdden sy'n seiliedig ar ddŵr yn arbennig o boblogaidd yn Aberogwr, yn fy etholaeth. Cefais fy siomi gyda'r dosbarthiad 'gwael' a roddwyd i Ogwr yn 2023, ond mae'n waith sy'n cael ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i'r dalgylch, i nodi a chyflawni'r gwelliannau angenrheidiol o ran ansawdd dŵr.

Felly, rwy'n credu mai'r newyddion da yw, o hanner nos ar 17 Mehefin, neithiwr, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi eu hysbysiad sefyllfa annormal, a oedd ar waith yn Ogwr. Mae'r ymchwiliadau i'r digwyddiad a'r dalgylch ehangach yn mynd rhagddynt o hyd, felly gallwn ni ddim gwneud sylw pellach. Ond rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet sydd wedi cytuno, rwy'n gallu dweud, i gwrdd â mi a Sarah Murphy, ac rwy'n siŵr y bydd eisiau ymgysylltu ag Aelodau eraill y Senedd sydd â diddordeb hefyd.

Ond a gaf i hefyd dalu teyrnged i'r dinasyddion hynny yn yr ardal, sydd wedi codi hyn yn barhaus fel mater, ac nid yn unig y cynghorau cymuned a sir, ond unigolion penodol hefyd? Ac efallai y gallaf enwi Alun Phillips, fel un o'r ymgyrchwyr hynny sydd nid yn unig wedi codi'r materion hyn, ond sydd hefyd wedi trefnu'r broses hollbwysig o lanhau'r traeth, cael gwared ar hen deiars a gwastraff plastig, sy'n dangos ymrwymiad dinasyddion a thrigolion lleol i ansawdd y dŵr yn Ogwr. 

14:40

Ar draws Aberconwy, mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hamddifadu'n llwyr o signal ffôn symudol. Mae gennym ni fastiau, ond maen nhw'n cael eu gorlwytho. Yn ddiweddar, dywedodd peiriannydd wrthyf fod y mast ger Venue Cymru eisoes ar gapasiti o 140 y cant. Ond edrychwch, Gweinidog—Ysgrifennydd Cabinet—ar y penawdau dros y penwythnos:

'Rhwydweithiau symudol wedi'u llethu gan dwristiaid yn achosi problemau "sy'n achosi embaras" i Ogledd Cymru' 

ac

'Ymchwydd twristiaeth Cymru yn rhoi straen ar rwydweithiau symudol sy'n taro busnesau lleol'. 

Mae canlyniadau gorlwytho'r mastiau hyn yn ddifrifol: mae peiriannau talu symudol yn methu, gan olygu na all busnesau gymryd taliadau; ni all preswylwyr ac ymwelwyr gael gafael ar anwyliaid. Mae darparwyr gwasanaethau symudol yn hysbysu preswylwyr a busnesau bod angen iddyn nhw aros nawr tan y gaeaf cyn y bydd gwasanaeth dibynadwy yn cael ei adfer. Yn syml, dydy e' ddim yn ddigon da. 

Mae angen technoleg yr unfed ganrif ar hugain ar Landudno, Aberconwy, ac, am wn i, ein holl etholaethau. Tra bod darpariaeth signal symudol yn parhau i wella ledled y wlad, mae 86 o fastiau 4G wedi'u hariannu gan y DU wrthi'n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Ond a wnewch chi ddatganiad nawr ar sut rydych chi'n credu, neu gofynnwch i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y mae'n eu cymryd i gyflymu'r signal ffôn symudol a'r cysylltiadau hyn? Diolch. 

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Wel, yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw bod hwn yn gwestiwn y byddwn i wedi meddwl y byddech chi wedi'i roi i'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU, o ran y pwerau a'r cyfrifoldebau. [Torri ar draws.] Nid yw'n wedi'i ddatganoli.

Does dim ots. [Chwerthin.] Mae gennych chi rai—. Mae gennych chi—. Mae gennych chi—. 

Janet, dydw i ddim eisiau bod sgwrs yn mynd rhagddi. Rydych chi wedi gofyn y cwestiwn. Gwrandewch ar yr ateb.  

A gaf i fod yn barchus iawn, Janet, o'ch pwynt, oherwydd rwy'n siŵr bod llawer ar draws y Siambr hon yn rhannu hyn? Ond mae angen i ni egluro, er budd y cofnod ac i'r rhai sy'n ymwneud â'r datganiad busnes hwn—wrth i mi ymateb i'r datganiad busnes—nid yw hyn wedi'i ddatganoli. Ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi'n barhaus yn hyn, oherwydd rydym yn cytuno'n llwyr, Janet Finch-Saunders, bod hyn yn rhan o'n seilwaith, on'd yw e? Mae'n rhan o'n seilwaith nid yn unig ar gyfer twristiaeth, ond ar gyfer addysg, ar gyfer yr economi, ar gyfer ynni, ar gyfer pob agwedd ar fywyd. Felly, rwy'n credu, yn amlwg, yn y cyfnod etholiad cyffredinol rydym ynddo, mae hyn yn alwad, yn amlwg, ar y Llywodraeth Geidwadol bresennol—methiant 14 mlynedd—

—o ddiffyg buddsoddiad. Ond hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n cofio bod gennyf i, yn enwedig o ran cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant, ac wrth gwrs bydd Lesley Griffiths yn gyfarwydd iawn â hyn ac, yn wir, Rebecca Evans, pan fyddwch chi wedi bod yn gyfrifol hefyd am gynhwysiant digidol, bod hyn yn rhywbeth lle y gwnaethon ni fuddsoddi llawer o arian Ewropeaidd hefyd, ac rydym wedi gweithio'n galed ac wedi cael ein strategaeth ddigidol, sydd, wrth gwrs, yn hollbwysig, oherwydd—. Rydym wedi sôn am dwristiaeth, rydym wedi sôn am addysg, ond gadewch i ni sôn hefyd am iechyd, mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol. 

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ferched, dwi'n hynod siomedig na fydd dadl Cyfnod 1 Bil yr ymgeiswyr yn digwydd prynhawn ma, fel y bwriadwyd, a'i bod wedi cael ei gwthio ymlaen fis i 16 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, na fydd Cyfnod 2 yn gallu cychwyn yfory a bod holl amserlen y Bil yn cael ei gwthio ymlaen. Beth mae rhedeg y cloc i lawr yn mynd i olygu? Wel, mae perig y bydd yn golygu y bydd gennym ni Senedd fwy, yn cael ei hethol mewn ffordd fwy teg, ond perig gwirioneddol y bydd yna ddiffyg cydraddoldeb a diffyg amrywiaeth yn parhau fel nodwedd annerbyniol o Senedd Cymru. Diwygio anghyflawn y cawn ni os na fydd y Bil ymgeiswyr, sy'n rhan annatod o'r jig-so, yn cael ei weithredu. 

Dydy'r llythyr rydych chi wedi cyfeirio ato fo yn barod, yr un sydd wedi'i anfon at Aelodau o'r Senedd, ddim yn cyfiawnhau'r rhesymeg dros oedi'r bleidlais heddiw. Dydy'r rhesymeg ddim yn dal dŵr o gwbl. Mae adroddiadau pwyllgorau Senedd yn argymell mynd ymlaen i gam 2 a 3 ac yn galw arnoch chi i gynnal trafodaethau efo Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan cyn Cyfnod 4, oherwydd fe all y Llywodraeth Lafur honno greu Gorchymyn drwy'r Cyfrin Gyngor i roi pŵer i'r Senedd basio'r Bil, gan roi gweithredu y mesurau fydd ynddo fo y tu hwnt i unrhyw amheuaeth.

Mae'n rhaid i mi ofyn ai dyma'r enghraifft ddiweddaraf, tybed, o'r 'bartneriaeth' newydd ar waith. Nid dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio law yn llaw dros Gymru ydy hyn, ond Llywodraeth Lafur wan Cymru yn derbyn yn ddof y cyfarwyddyd o Lundain.

14:45

Mae'r gohiriad diangen yn gam mawr yn ôl. Dwi yn tynnu i'r diwedd. Fedrwch chi, os gwelwch yn dda, sicrhau bod yr amserlen ddiwygiedig yn galluogi gweithredu'r pecyn cyfan o ddiwygiadau ac nad oes yna ddim rhwyfo nôl ar yr addewid sydd yn eich rhaglen lywodraethu chi? A dwi yn dyfynnu tudalen 7 yn eich rhaglen lywodraethu chi:

'a chyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.'

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiynau hynny.

Yn amlwg, un o'r pwyntiau mwyaf siomedig pan wnaethon ni gyflwyno'r Bil hwn oedd y ffaith bod y Llywydd wedi dyfarnu nad oedd hyn yn cydymffurfio. Dyma un o'r pethau hollbwysig ynglŷn â sut rydym yn bwrw ymlaen â Bil lle mae materion yn ymwneud â'r maes annelwig hwnnw, y mae modd ei brofi ac, wrth gwrs, y cafodd ei herio. Cafodd ei ystyried o ran craffu yng Nghyfnod 1 o ran cymhwysedd cyfreithiol. Felly, roedd yn siomedig ein bod ni wedi cychwyn ar y cam hwnnw—na chawson ni'r gefnogaeth honno gan y Llywydd o ran cydnabod y gallai'r Bil hwn fod wedi cydnabod y cymhwysedd cyfreithiol i ni yma yn y Senedd.

Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor a aeth i'r afael â'r materion hyn mewn gwirionedd, ac yn enwedig y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a oedd yn ystyried y mater o gydymffurfio a chymhwysedd yn arbennig. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig am hyn yw bod y ddau bwyllgor wedi llunio amrywiaeth o argymhellion. Yn enwedig gan i chi gyfeirio at y llythyr rwyf wedi'i ddosbarthu, maen nhw wedi gofyn i ni ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Doedd ganddon ni ddim syniad y bydden ni'n cael etholiad cyffredinol pan oedden ni'n mynd trwy Gyfnod 1.

Mae argymhellion yn y ddau adroddiad yn ymwneud â'r risg bosibl i etholiad cyffredin Senedd Cymru 2026 sy'n gysylltiedig â gweithredu'r ddeddfwriaeth mewn pryd ar gyfer yr etholiad hwnnw. I ni, rwy'n credu bod diogelu etholiad cyffredin y Senedd yn 2026 yn allweddol bwysig. Hefyd, rwy'n credu, o ran y pryderon am y risg, nid yn unig o ran cael popeth mewn pryd ar gyfer etholiad 2026, daeth llawer o randdeiliaid yn ôl a dweud na ddylen ni gymryd y risg honno o ran gweithredu'r diwygio ehangach. Felly, roedd yn rhaid i ni gymryd y pryderon hynny o ddifrif. Mae'r ymateb wedi bod yn hollol—. Rwy'n sylweddoli fy mod i'n ymateb fel yr Aelod wrth y llyw, Dirprwy Lywydd, yma heddiw. Roedd yn rhaid i ni gymryd hynny o ddifrif o ran yr argymhellion a ddaeth o'r adroddiadau a hefyd o'r dystiolaeth.

Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gael y Bil rhestr ymgeiswyr etholiadol hwn ar y llyfr statud, ac weithiau mae'n rhaid i ni edrych ar hynny o ran amseru. Rwyf eisiau ei gael ar y llyfr statud oherwydd, fel y dywedodd y Pwyllgor Biliau Diwygio, mae'r Bil yn gam tuag at gyflwyno cynrychiolaeth gwbl amrywiol yn y Senedd. Ac rwy'n credu ein bod ni hefyd yn trafod—a chawn ni'r cyfle pan fyddwn ni'n edrych ar Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), sy'n cael ei ddatblygu gan y Cwnsler Cyffredinol—yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran canllawiau gwirfoddol ar gyfer 2026 os na allwn ni ei basio mewn pryd ar gyfer etholiad 2026. Rwyf wedi cyfeirio at hyn yn fy llythyr, o ran y canllawiau gwirfoddol hynny, lle y gallwn ni ofyn i bleidiau a wnawn nhw weithredu llwybr cwotâu rhywedd yn wirfoddol, sydd wedi cael ei brofi mewn 130 o wledydd ledled y byd fel ffordd bwysig o gyflawni'r amrywiaeth honno yr ydym yn galw amdani. Rydym eisiau cael gwared ar rwystrau posibl i fwy o gyfranogiad gan fenywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Ac a gaf i ddweud i orffen mai'r hyn oedd yn ddiddorol o ganlyniad i'r dystiolaeth a roddwyd, yw bod cryn dipyn wedi dod yn ôl am yr hyn a gafodd ei ddisgrifio fel cwota a mwy. Y cwota, ond gan fynd i'r afael â rhwystrau eraill, ac rwy'n gwybod bod y rhwystrau hynny wedi cael eu trafod nid yn unig gan y grŵp trawsbleidiol i fenywod, ond, yn wir, wrth roi tystiolaeth, yn arbennig, i'r Pwyllgor Biliau Diwygio o ran y ffyrdd y mae angen i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau eraill sy'n atal menywod rhag gwneud cynnydd o ran cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Ac yn olaf, hoffwn i ddiolch i'r cawcws menywod, sy'n grŵp trawsbleidiol, ac sy'n cael ei gadeirio, a chafodd tystiolaeth ei rhoi, gan Joyce Watson a Rhianon Passmore, a Heledd Fychan, o ran eich rôl chi hefyd yn y Pwyllgor Biliau Diwygio. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni gael dadl lawnach, Dirprwy Lywydd, ar y mater hwn. Rwy'n gwybod y byddwn ni ar 16 Gorffennaf.

14:50

Yn ôl i'r byd go iawn, hoffwn i alw am ddatganiad eto gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr anhrefn casglu gwastraff yn sir Ddinbych, o ganlyniad i'r cynllun sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni dair wythnos i mewn i gyflwyno'r system biniau Trolibocs ac mae fy mewnflwch yn llawn negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n gofidio am yr anhrefn sydd wedi'i achosi gan anallu Cyngor Sir Ddinbych i gyflwyno'r system biniau newydd a sicrhau bod yr holl gasgliadau'n cael eu gwneud. O ganlyniad, mae pobl ddi-rif yn cysylltu â mi ynghylch casgliadau sydd wedi'u methu dro ar ôl tro, a gallai hyn nawr ddod yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, gyda gwastraff yn pentyrru y tu allan, a phalmentydd a phriffyrdd yn dod yn fagned ar gyfer gwylanod a chnofilod, fel rhywbeth yn ôl ar ddiwedd y 1970au. Ddylen ni ddim gorfod goddef hyn, yn enwedig pan fo'r biniau newydd yn debygol o annog pobl i beidio ailgylchu, yn groes i'w nodau honedig. Cafodd system Trolibocs ei chyflwyno gan Gyngor Sir Ddinbych, er gwaethaf gwrthwynebiad gan y cyhoedd, oherwydd buddsoddiad hael gan Lywodraeth Cymru. Felly a allai Llywodraeth Cymru amlinellu a fyddan nhw'n ailasesu'r cynllun yn sgil y llu o broblemau y mae wedi'u hachosi i bobl, a chael trafodaeth â Chyngor Sir Ddinbych am y ffordd orau o symud ymlaen, gyda'r opsiwn o roi'r gorau i'r cynllun yn dal i fod ar y bwrdd? Diolch.

A gaf i ddweud fy mod i wedi fy ffieiddio'n llwyr gan yr hyn a ddywedodd Gareth Davies, pan ddywedodd 'nôl i'r byd go iawn.' Pam mae angen Bil cwotâu rhywedd arnon ni? Oherwydd mae angen gwell cynrychiolaeth o fenywod, ac mae'n rhaid i mi ddweud, gadewch i ni edrych draw yn y fan yna, lle mae angen y Bil cwotâu rhywedd hwn yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn frawychus bod gennym ni'r diystyrwch hwnnw o ran darn o ddeddfwriaeth a gafodd ei gymryd drwodd gan dri phwyllgor.

Fe wnaf i ateb eich cwestiwn chi. Rydych chi wedi codi'r cwestiwn hwn bob wythnos. Pam na all Cyngor Sir Ddinbych gael y cyfle i weithredu'r casgliad ailgylchu hwn ar ymyl y ffordd heb i chi ddod yn ôl wythnos ar ôl wythnos yn eu tanseilio nhw, yn tanseilio eich awdurdod chi? Mewn gwirionedd, mae awdurdodau cyfagos fel Conwy yn cyflawni o ran casglu ailgylchu wrth ymyl y ffordd. Wrth gwrs mae yna broblemau cychwynnol, rydym yn gwybod hynny, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet, sy'n eistedd yma, sy'n mynd i fod yn siarad yn falch cyn bo hir am y ffaith mai Cymru yw'r ail wlad fwyaf llwyddiannus yn y byd, yn siarad am hyn ymhellach.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud—

14:55

—mae cynghorwyr arbenigol gennym ni, WRAP Cymru, ac maen nhw'n gweithio gyda sir Ddinbych? 

Trefnydd, un foment os gwelwch chi'n dda. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ni ddylai'r Aelod sydd wedi gofyn y cwestiwn ddal ati i wneud sylwadau o'i eisteddle. Rhowch gyfle i'r Aelod sy'n ymateb i ymateb, os gwelwch chi'n dda. 

Diolch yn fawr. Y pwynt olaf oedd mai WRAP Cymru yw'r cynghorwyr arbenigol yno, ac maen nhw'n gweithio gyda sir Ddinbych i ddatrys materion uniongyrchol. Rwy'n edrych ymlaen at beidio â chael y cwestiwn hwn, er fy mod i'n siŵr y gallai ddod unwaith eto'r wythnos nesaf, yn y datganiad busnes.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y ddarpariaeth o ddeintyddiaeth y GIG yn y de-ddwyrain? Rwy'n gwybod ei fod yn bwnc y mae llawer ohonom ni wedi ymdrin ag ef o wahanol bleidiau, ond mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn dilyn penderfyniad a wnaeth Meddygfa Ddeintyddol Beaufort Park yng Nghas-gwent i atal y ddarpariaeth o wasanaethau'r GIG o ddiwedd mis Awst eleni. Ysgrifennydd Cabinet, mae'r penderfyniad hwn wedi achosi cryn bryder, a hynny'n ddealladwy iawn, gyda chleifion yn chwilio ym mhobman nawr am ddeintydd GIG newydd, rhywbeth sy'n brin fel aur, fel gwyddom ni i gyd.

Canfu ymchwiliad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yn derbyn cleifion newydd sy'n oedolion dan y GIG, sef y gyfradd waelaf yn y DU, ac fe allai'r rhai sy'n ddigon ffodus i fod ar lyfrau deintydd GIG fod yn wynebu oedi hyd at 26 wythnos cyn cael apwyntiad mewn gwirionedd. Nawr, fe ddaeth un etholwr yn ei flaen i ddweud wrthyf i mewn gwirionedd nad yw ef wedi clywed dim byd o gwbl oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dilyn penderfyniad Beaufort Park, ac mae eraill yn poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y rhai na allan nhw fforddio triniaeth breifat mewn gwirionedd. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dilyn gwybodaeth am rai trigolion ym Mlaenau Gwent sy'n wynebu blynyddoedd ar restrau aros i weld deintydd GIG neu sy'n cael eu gorfodi i yrru cannoedd o filltiroedd i gael triniaeth dros y ffin. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod hynny'n gwbl annerbyniol, ac fe fyddai datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am y sefyllfa gyfredol, sy'n amlinellu lle gall fy etholwyr ddod o hyd i driniaeth ddeintyddol y GIG, yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch i chi.

Yn amlwg, mae'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud ym maes deintyddiaeth ac, yn wir, y cytundeb wedi'i ddiweddaru gyda'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ein helpu i ddarparu gofal deintyddol. Yn wir, fel mae'r Aelod yn dweud, mae hynny mor bwysig o ran cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau'r deintyddion eu hunain o ran eu sefyllfa gytundebol. Ond, yn sicr, fe fyddaf i'n codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r her benodol yr ydych chi'n tynnu sylw ati mewn cyd-destun lleol heddiw.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos y Ffoaduriaid: Ein cartref

Eitem 3 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Wythnos y Ffoaduriaid: ein cartref. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydym ni'n nodi Wythnos y Ffoaduriaid yr wythnos hon, sy'n dathlu'r cyfraniadau y mae ceiswyr lloches yn eu gwneud i Gymru. Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i feithrin dealltwriaeth well yn ein cymunedau ni, ac yn hybu integreiddio a chydraddoldeb i bawb. Y thema ar gyfer dathliad Wythnos y Ffoaduriaid eleni yw 'ein cartref'. Mae gan bawb eu syniadau eu hunain o'r hyn y mae cartref yn ei olygu. Efallai mai honno yw'r fan lle cawsoch eich magu neu'r fan yr ydych chi'n ymgynnull ynddi gyda'ch teulu. Mae'r rhan fwyaf o geiswyr lloches sy'n dod i Gymru wedi eu hamddifadu o'r profiadau hyn o gartref mewn ffyrdd creulon a niweidiol iawn yn aml. Nid wedi cael eu dadleoli yn ddaearyddol yn unig y maen nhw; mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu hamddifadu o'u teuluoedd, eu heiddo, eu gyrfaoedd a'u cysylltiadau.

Fe ddylai cartref fod yn lle yr ydych chi'n teimlo'n ddiogel ynddo hefyd a'ch bod yn cael eich gwerthfawrogi ynddo, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei sicrhau mewn cenedl noddfa. Er gwaethaf y golled a brofwyd gan geiswyr lloches, fe ddylem ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw—eu doniau, eu profiadau, eu cydnerthedd a'u diwylliant. Rydym ni'n ceisio defnyddio'r asedau hynny i adeiladu dyfodol a chartref a rennir. Mae Cymru wedi arddangos dro ar ôl tro dros y ganrif ddiwethaf a mwy ei bod hi'n genedl sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd. Cafodd hyn ei arddangos mewn ffordd mor bwerus yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gan aelwydydd yng Nghymru sydd wedi noddi 4,300 o Wcreiniaid yn uniongyrchol ar gyfer eu dyfodiad i'r DU. Mae gan 800 o Wcreiniaid eraill fisâu ac fe allent hwythau deithio at noddwyr lletyol yng Nghymru. Mae diolch yn ddyledus i bob un o ddarparwyr llety Cartrefi i Wcráin sydd wedi bod â swyddogaeth llysgenhadon dros y weledigaeth o genedl noddfa ar ran Llywodraeth Cymru. Diolch i chi am bopeth a wnaethoch ac rydych chi'n parhau i'w wneud o ran darparu cartrefi a rhoi croeso twymgalon i Gymru.

Rydym ni'n cefnogi ac yn ariannu trefniadau cynhaliaeth ar gyfer grŵp mwy eang o geiswyr lloches drwy waith ein partneriaid ni hefyd, sef Housing Justice Cymru. Rydym ni'n awyddus i fanteisio ar frwdfrydedd a phrofiadau darparwyr llety Cartrefi i Wcráin ac estyn cyfle cynaliadwy i geiswyr lloches gael eu lletya, ni waeth o ble y daethon nhw.

Yn ogystal â llwybr noddwyr unigol Cartrefi i Wcráin, rydym ni wedi gweithredu llwybr uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2022. Ers hynny mae dros 3,300 o ddeiliaid fisa wedi dod i Gymru, gyda'r mwyafrif yn cael eu lletya i ddechrau yn ein hystad llety cychwynnol ac yna fe fyddan nhw'n symud ymlaen i gartrefi tymor hwy ledled Cymru. Mae dull tîm Cymru a weithredir gan Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, lletywyr cartrefi ac eraill gyda'i gilydd wedi bod yn hanfodol wrth wneud llwybr yr uwch-noddwyr yn llwyddiant mor fawr.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gau ein safle llety cychwynnol olaf yn sir Ddinbych, gan symud y rhai a oedd yn aros ar y safle ymlaen yn llwyddiannus. Rydym ni'n hynod falch o'r gwaith tîm sydd wedi caniatáu i gynifer o Wcreiniaid gael diogelwch yng Nghymru. Rwy'n annog pob Aelod i ddarllen adroddiad Archwilio Cymru ar y cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, sy'n tynnu sylw at y ffordd y bu partneriaid yn cydweithio mewn amgylchiadau heriol iawn.

Rydym yn hynod falch o'n hanes o groesawu. Er hynny, mae llawer i'w wneud eto er mwyn gallu datgan bod Cymru yn genedl noddfa gyflawn. Mae angen i unigolion sy'n cyrraedd o Wcráin fod yn gallu canolbwyntio o hyd ar sicrhau cyfle cyfartal ac ymwybyddiaeth dda o newidiadau i gynlluniau Llywodraeth y DU a allai fod yn effeithio ar eu gallu nhw i aros yn y DU. Rwyf i wedi ymrwymo i ymgysylltiad parhaus â'r Wcreiniaid a Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y canolbwyntio hwn yn parhau.

Yn ogystal ag Wcráin, mae miloedd o geiswyr lloches o bob cwr o'r byd yn byw yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i weithio yn agos iawn gyda'r Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod dinasyddion o Affganistan sy'n dod i Gymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu oherwydd eu bod wedi rhoi gwasanaeth i luoedd arfog y DU yn ystod eu cyfnod yn Affganistan. Rydym ni'n parhau i ariannu'r Groes Goch Brydeinig i helpu ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru i gael eu haduno â'u hanwyliaid trwy gynllun aduniad teulu'r DU. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd sydd â hawliau plant wrth ei hanfod drwy sicrhau y gellir aduno teuluoedd yn ein cymunedau ni.

Y ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sy'n ariannu'r gwaith hwn. Ni all y ffoaduriaid yng Nghymru deimlo yn wirioneddol gartrefol heb eu hanwyliaid, ac fe all byw hebddyn nhw achosi salwch meddwl ac ansicrwydd ariannol. Mae hi o fudd i'n cymunedau ni ac yn fraint i ni allu cefnogi gwaith y Groes Goch Brydeinig. Rydym ni'n parhau i wthio am gynllun aduniad teuluol gyda llai o rwystrau yn ei ffordd, gan gymryd y gwersi a ddysgwyd o gynllun teuluoedd Wcráin sydd wedi cau erbyn hyn, i sicrhau y bydd teuluoedd yn cael eu haduno mor gyflym a chyn amled â phosibl.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system loches yng Nghymru. Eto i gyd, mae uchelgais gennym ni i wneud Cymru yn gartref croesawgar i geiswyr lloches pan fyddan nhw'n aros yma. Rydym ni wedi parhau i ddarparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i bartneriaid i estyn ein gwasanaeth noddfa a'n gwasanaethau symud ymlaen, yn ogystal â hyrwyddo gwelliannau i brosesau lloches ar gyfer cyd-fynd â pholisïau Cymru a'n gweledigaeth ni'n fwy eang. Fe allwn i ddweud llawer mwy am brosesau lloches a deddfwriaeth. Er hynny, rwy'n ymwybodol o'r cyfnod nawr cyn yr etholiad drwy'r DU, ac efallai y bydd trafod rhai o'r pwyntiau hyn yn dwyn mwy o ffrwyth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rydym ni'n effro i'r bygythiad a achosir gan ddylanwadau o'r asgell dde eithafol a'r awyrgylch anoddefgar y gall hynny ei greu. Rydym ni wedi gweld protestiadau y tu allan i safleoedd lletya, ac rwy'n awyddus i ailadrodd nad oes lle i gasineb yng Nghymru. Fe wyddom ni y gallwn wneud rhagor i gyfleu ystyr y weledigaeth o genedl noddfa a chanfod rhagor o ffyrdd mwy effeithiol o feithrin cysylltiadau da.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Gwobrau Cenedl Noddfa eto eleni, a gynhaliwyd neithiwr. Mae'r enwebeion a'r enillwyr yn enghreifftiau ardderchog o'r cyfraniad y mae ceiswyr lloches yn ei wneud i Gymru. Straeon Cymreig yw eu straeon nhw. Ein braint ni yw rhoi cartref iddyn nhw yn ein cymdeithas ni o gymunedau, ac fe gawn ni yng Nghymru ein grymuso oherwydd ein bod ni'n gwneud hynny. Diolch.

15:00

Ysgrifennydd Cabinet, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at ba mor llwyddiannus fu polisi Llywodraeth Cymru o ran cynorthwyo ffoaduriaid, yn enwedig y rhai sydd wedi ffoi o Wcráin, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Peth cyfiawn yw bod gwledydd yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, a sicrhau eu diogelwch a'u ffyniant nhw. Mae hi hefyd yn iawn ystyried eu dyfodol yn flaenoriaeth, gan gynnwys integreiddio i'r gymdeithas a datblygiad personol o ran sgiliau ac addysg. Felly, testun gofid i mi oedd na chafwyd dim yn natganiad y prynhawn yma ar bolisi Llywodraeth Cymru i sicrhau integreiddio diogel a chadarn i'n cymdeithas. A hefyd, ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o sut y gallai'r Llywodraeth Lafur hon flaenoriaethu addysg ar gyfer yr unigolion a'r cymunedau hyn.

Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, bod 90 o gartrefi dros dro wedi cael eu hadeiladu yn Llanilltud Fawr yn ddiweddar ar hen safle ysgol gynradd ar gyfer cartrefu ffoaduriaid Wcreinaidd. Rydych chi'n gwybod hefyd fod gwrthwynebiad lleol cryf wedi bod i'r datblygiad ac mae grŵp gweithredu lleol wedi cael ei sefydlu gan drigolion erbyn hyn. Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu o'r farn fod y tai nid yn unig yn edrych ond yn teimlo fel carchardai ac maen nhw wedi eu siomi gan y ffaith nad ymgynghorwyd â nhw ar y cynigion am y safle, heb unrhyw ymgysylltiad â'r gymuned leol. Yn hytrach nag ymgynghori â'r gymuned a'u dwyn ynghyd â'r broses, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario £25 miliwn ar adeiladau a fydd yn segur hyd nes y rhoddir caniatâd cynllunio ac y gwneir penderfyniadau.

Ysgrifennydd Cabinet, fe allai'r safle hwn nawr greu ymdeimlad gelyniaethus ymhlith y cyhoedd o ran unrhyw ffoaduriaid a allai fod yn cael eu cartrefu ynddo. Mae perygl yn bodoli bob amser o greu rhagor o dyndra pan roddir llety i ffoaduriaid. Felly, mae angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod gan y gymuned ran yn y penderfyniadau fel na fydd y noddfa a gynigir gan Gymru yn wrthwynebus i'r rhai sy'n ceisio lloches. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn cydymdeimlo â'r gymuned leol pan fydd yn cartrefu ffoaduriaid?

Yn ogystal â hynny, mae trafnidiaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gynnig hanfodol y mae llawer yn dibynnu arno i gynnal eu gweithgarwch o ddydd i ddydd. Fy nealltwriaeth i, serch hynny, yw bod y cynllun tocynnau bws croeso wedi dod i ben erbyn, ac mae llawer o geiswyr lloches yng Nghymru yn eu cael eu hunain mewn swyddi lle na allan nhw fforddio teithio iddyn nhw. Rwy'n siŵr y byddech chi'n gwerthfawrogi, Ysgrifennydd Cabinet, po anoddaf fydd hi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio a dod o hyd i waith, heb gymorth a darpariaeth briodol, yr amlaf y bydd problemau cymdeithasol a materion eraill fel troseddu yn digwydd, am fod pobl yn eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd dyrys iawn.

Mater pwysig arall yw y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael eu targedu gan rai sydd eisiau manteisio arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i incwm y tu allan i sianeli arferol. Gan eu bod nhw mewn sefyllfa mor fregus, y nhw sydd fwyaf mewn perygl, yn anffodus, o ddioddef caethwasiaeth fodern. A fyddech chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, ei bod hi'n hanfodol i drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael a bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i helpu'r rhai sydd ag angen eu hintegreiddio yn ein cymunedau ni yng Nghymru? Pa gynigion sydd gennych chi nawr i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn rhad ac am ddim?

Addysg yw'r pwynt olaf yr oeddwn i'n awyddus i'w drafod heddiw. Mae honno'n elfen hanfodol o ddatblygiad unrhyw un, ac fe ddylid sicrhau bod y safon orau bosibl ar gael, ynghyd â'r gefnogaeth briodol i'r rhai sy'n darparu'r addysg. Rydym ni'n gwybod bod llawer o ofynion ar ysgolion sy'n darparu ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae ysgolion cynradd yn arbennig felly wedi bod dan bwysau aruthrol wrth ymdrin â'r ystod o ieithoedd sy'n cael eu siarad. Mewn rhai ysgolion, mae hyd at 44 o wahanol ieithoedd yn cael eu defnyddio, ac mae hynny'n amlwg yn cyflwyno sefyllfa anodd iawn i benaethiaid o ran sut i ailddyrannu adnoddau ar gyfer cymryd hynny i ystyriaeth. Mae'n rhaid i athrawon wynebu'r broblem hefyd fod plant yn cael eu symud weithiau ar ôl cyfnod cymharol fyr oherwydd bod eu statws nhw wedi newid. Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dioddef amhariadau drwy'r amser yn y cyd-destun hwn, ac mae'n rhaid cynnig gwell cefnogaeth ac arweiniad i bawb sydd dan sylw.

Y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru ddigon o ddata, fel mewn llawer o feysydd eraill, i'w helpu i fod â darlun cywir o'r sefyllfa a fyddai'n caniatáu i strategaethau gael eu hystyried a chanfod datrysiadau. Mae gwir angen cynyddu'r adnoddau ar gyfer helpu ysgolion i reoli hyn, er mwyn i'r rhai sy'n ymdrin â'r materion hyn o ddydd i ddydd allu gwneud felly yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael cynnig o gymorth ac arweiniad priodol ar gyfer eu sefyllfaoedd unigryw eu hunain, a sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd cyfraddau digonol o ddata yn cael eu casglu er mwyn i ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddeall eu sefyllfaoedd eu hunain a sut y gallan nhw helpu ym mha bynnag ffordd y gallan nhw? Diolch. 

15:05

Diolch yn fawr iawn i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwyf i am ddechrau gyda thrafnidiaeth, am fy mod i'n cytuno â chi bod trafnidiaeth yn fater pwysig iawn. Rydym ni'n falch iawn o'r hyn a gyfrannodd y cynllun tocynnau croeso am dros ddwy flynedd. Rwy'n cofio teithio yn ôl o Gaerdydd i Wrecsam ar drên yn dilyn busnes yn y Senedd mae'n debyg tua blwyddyn yn ôl erbyn hyn a chyfarfod â rhywun a oedd yn ffoadur ac a oedd wedi cymryd yr amser i deithio o Gaergybi i lawr i Gaerdydd. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr nad yw at ddibenion cyflogaeth yn unig, y gwnaethoch chi gyfeirio ato'n benodol, ond ar gyfer dod yn fwy cyfarwydd â'r wlad hefyd, os hoffech chi.

Roedd hwnnw'n gynllun pwysig iawn ac rydym ni'n falch iawn o'r hyn a gyflawnodd. Fe gafodd ei gyflwyno yn gyflym, ac roedd yn rhan o'n hymateb ni yn y Llywodraeth i'r rhyfel yn Wcráin. Rydym ni'n credu bod tua 1 miliwn o deithiau wedi cael eu gwneud. Roedd y cynllun yn un o amodau'r pecyn cyllid brys gwerth £200 miliwn a ddarparwyd gennym ni i'r diwydiant bysiau. Felly, er ein bod ni'n llwyr gydnabod manteision hwnnw, yn anffodus fe ddaeth y cam cyntaf i ben ar ddiwedd mis Mawrth.

Wrth i mi ddod i mewn i'r portffolio, roedd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wedi dechrau edrych eisoes ar yr hyn y gallem ni ei ddysgu o gam cyntaf y tocyn croeso hwnnw, a'n bwriad ni yw defnyddio'r wybodaeth honno i ddatblygu cam nesaf y cynllun, i wneud hwnnw ychydig yn fwy cynaliadwy, efallai. Am iddo gael ei gyflwyno ar fyrder, efallai nad oeddem ni wedi gallu ei ystyried yn gyfannol. A'i wneud ychydig yn fwy addas i'r diben hefyd, a sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni'n amlwg yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ac, fel dywedais i, rydym ni'n bwriadu lansio cam nesaf y tocyn croeso yn ddiweddarach eleni. Yn anffodus, nid wyf i'n gallu rhoi amserlen bendant i chi ar hyn o bryd, dim ond eich sicrhau chi ein bod ni'n edrych ar hynny.

O ran addysg ac ieithoedd niferus iawn yn cael eu dysgu mewn ysgolion, rwy'n credu bod ein hysgolion yn ymdrin â hynny'n effeithiol iawn. Yn amlwg, mater i'r awdurdodau lleol yw hwnnw. Roeddwn i mewn ysgol yn fy etholaeth i'r wythnos diwethaf lle rwy'n credu bod 33 o ieithoedd, ac mae'r ysgol wedi addasu oherwydd y gefnogaeth a gawson nhw, nid yn unig oddi wrth yr awdurdod lleol, ond gan Lywodraeth Cymru hefyd.

Roeddech chi'n cyfeirio at fater ym Mro Morgannwg. Nid wyf i o'r farn fod eich dull chi o'i gyfleu yn gywir, ac mae'r Aelod lleol dros Fro Morgannwg yn cytuno â mi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fo unrhyw beth yn digwydd yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, o ran adeiladau, neu—. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol iawn mai mater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU yw polisi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a phan fydd Llywodraeth y DU wedi ceisio cartrefu ffoaduriaid neu geiswyr lloches mewn adeiladau arbennig, mae hi'n gwbl hanfodol eich bod chi'n gweithio gyda'r gymuned leol, oherwydd fel arall fe gewch chi'r anoddefgarwch hwnnw sy'n ymddangos weithiau, mae negeseuon anghywir yn mynd ar led, rydych chi'n gweld pobl yn teithio o bell i gario eu cenadwri o gasineb, ac nid ydym ni'n awyddus i weld hynny o gwbl, wir. Fel dywedais i yn fy natganiad agoriadol, nid oes lle i gasineb yma yng Nghymru.

Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r data. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio sicrhau bod data yn gadarn lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Rwy'n gwybod i swyddogion fod yn gweithio gyda'n partneriaid ni i sicrhau y gellir cryfhau dulliau o grynhoi data. Rwy'n credu bod hynny'n cynnwys popeth y gwnaethoch chi ei ofyn i mi. Diolch i chi.

15:10

Daeth Janet Finch-Saunders i’r Gadair.

Diolch am y datganiad. Mae Plaid Cymru yn credu bod y pwyslais ar bwysigrwydd tai a'r cartref yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid yn un allweddol.

Neithiwr, fe gefais i'r pleser o fod yn bresennol yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Fe hoffwn i ddweud 'da iawn chi' wrth yr enillwyr a'r enwebeion i gyd, ond rwy'n arbennig o awyddus i longyfarch y Birth Partner Project, a enillodd Wobr Cenedl Noddfa am waith rhagorol yn cefnogi menywod sy'n ceisio noddfa a fyddai fel arall yn wynebu rhoi genedigaeth heb gwmni o gwbl. Mae hi'n drueni nad oeddech chi yno, Ysgrifennydd Cabinet, nid yn unig oherwydd ei bod hi'n noson i godi calon, a oedd yn dathlu cyfraniad a chyflawniadau ceiswyr noddfa a ffoaduriaid yng Nghymru a'r rhai sy'n eu cefnogi nhw, ond hefyd am fod prif swyddog gweithredol Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Andrea Cleaver, wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn ystod ei haraith am Gymru'r genedl noddfa. Roedd hi'n dweud bod yn rhaid i ddyhead clodwiw Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa fod yn fwy na delfryd yn unig. Roedd hi'n dwyn cymhariaeth â phont—ie, mae'n gefnogol, yn groesawgar, ac agored, ond gyda rhai tyllau peryglus ynddi, y mae'n rhaid eu llenwi nhw. Roedd hi'n cyfeirio, er enghraifft, at y cyfnod rhybudd creulon ac anymarferol o 28 diwrnod cyn troi allan o lety lloches a roddir i rai sydd wedi ennill statws ffoadur, a all yn aml arwain at bwysau ofnadwy a digartrefedd hyd yn oed. Mae'r rhai sy'n byw, wrth gwrs, yn y sector rhentu preifat yng Nghymru yn mwynhau amddiffyniad hysbysiadau chwe mis o droi allan heb fai. Beth mae 'cenedl noddfa' yn ei olygu mewn gwirionedd os nad yw'r rhai sydd â chaniatâd i aros yn cael eu trin yn gyfartal a gyda thrugaredd a dealltwriaeth? Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn, o ystyried mai eich cyfrifoldeb chi yw tai?

Ddoe, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fe wnaethoch chi amlygu nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu adnewyddu cynllun y genedl noddfa erbyn hyn, er ei bod hi'n bum mlwydd oed bellach. Roedd clywed y cyfaddefiad hwn ar ddechrau Wythnos Ffoaduriaid yn peri pryder, ac roedd llawer o bobl y siaradais â nhw neithiwr yng Ngwobrau Cenedl Noddfa yn siomedig o glywed hyn hefyd. Cafodd y cynllun ei gyhoeddi yn 2019. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod y cyfnod a'r cyd-destun yn wahanol iawn nawr i geiswyr lloches, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Roedd hwnnw'n cynnwys dros 130 o ymrwymiadau i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. Yn yr adroddiad o gynnydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, roedd y Llywodraeth yn dweud bod dros 99 y cant o'r camau hynny naill ai ar y gweill neu wedi eu cwblhau, ac y byddech chi'n ymgysylltu trwy gydol y flwyddyn eleni i ystyried sut i adnewyddu'r cynllun hwnnw. Fe eglurodd eich rhagflaenydd chi, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mai nod y cynllun nesaf fyddai canolbwyntio yn fwy ar yr egwyddorion a fydd yn llywio penderfyniadau'r Llywodraeth hon, a fydd yn llai niferus ond â mwy o ganlyniadau a chamau gweithredu diriaethol. Felly, fe hoffwn i wybod beth sydd wedi newid, Ysgrifennydd Cabinet. Pam mai, yn eich geiriau chi i'r pwyllgor ddoe, 'diweddariad' fydd hwnnw nawr, ac nid adnewyddiad? Beth yn union yw ystyr hynny?

Mae plant ar eu pen eu hunain ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas ni, ac mae gofyn iddyn nhw lywio ac ymgysylltu â'r broses gyfreithiol gymhleth o geisio lloches, a hynny i gyd wrth ddioddef archoll a chynnwrf. Fe all gwarcheidwaid sicrhau bod y plant yn deall ac yn gallu ymarfer eu hawliau, gan egluro'r prosesau a'r gwasanaethau, ac eiriol drostyn nhw pan fo angen. Mae galwadau am wasanaeth gwarcheidiaeth yng Nghymru wedi bod yn cael eu gwneud ers 2005, gyda'r alwad ddiweddaraf mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Yn ystod y bumed Senedd, fe argymhellodd pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwasanaeth gwarcheidiaeth yng Nghymru hefyd. Mae sefydlu cynllun fel hwn wedi bod yn ddisgwyliad amlwg hefyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ers dros 20 mlynedd. Yn ei sylwadau terfynol yn 2023, roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn argymell unwaith eto y dylid cyflwyno gwasanaeth o'r fath ar gyfer pob plentyn ar ei ben ei hun. Mae Cymdeithas y Plant, Sefydliad Bevan, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru, a'r Groes Goch Brydeinig wedi galw ar y Llywodraeth, gan ei hannog i gyflwyno gwasanaeth o'r fath, sydd ar gael i bob plentyn heb ofal oedolyn sydd eisoes yng Nghymru ac i'r rhai sy'n dod i Gymru. Rhwng 2020 a 2023, dim ond 257 o blant a oedd ar eu pen eu hunain, neu 43 y cant, a gafodd gefnogaeth benodol ar gyfer ymgysylltu â'r broses o geisio lloches. Fe allai hyn fod â manteision lawer: eiriolaeth dros y plentyn, hyrwyddo ei les mwyaf, gwella'r canlyniadau cyfreithiol iddo, nodi ac atal camfanteisio, masnachu pobl neu radicaleiddio, amddiffyn ei hawliau dynol, cefnogi integreiddio, gwella canlyniadau addysgol, ac fe fydd yna fanteision, wrth gwrs, o ran y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio gyda'r plant ar eu pen eu hunain, fel arbedion cost ac ysgafnu llwythi gwaith.

Mae'r cynllun cenedl noddfa yn ymrwymo i ariannu awdurdodau lleol i gefnogi cynllun treialu yn y maes hwn, ond ni chafodd hwnnw ei weithredu erioed. Yn yr Alban, serch hynny, sefydlwyd gwasanaeth gwarcheidiaeth, ac fe brofodd hwnnw'n werthfawr iawn i bobl ifanc. O ystyried canfyddiadau Sefydliad Bevan hefyd, roedd y rhain yn canfod bod y sefyllfa o ran gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer mewnfudo a lloches wedi gwaethygu yn sylweddol yng Nghymru ers mis Ionawr 2023, mae yna—wrth gwrs, fe wyddom ni, oherwydd hyn—mae plant ar eu pen eu hunain yn cael eu gadael fel mater o drefn—

15:15

—heb gynrychiolaeth nac apêl. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi a'ch Llywodraeth gyflwyno gwasanaeth gwarcheidiaeth yma yng Nghymru o'r diwedd, fel sydd yn yr Alban, oherwydd ni allwch chi honni eich bod chi'n cymryd dull gweithredu o ran hawliau plant os na wnewch chi felly?

Diolch i chi. Rwyf i am ddechrau—. Yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i ddweud, ac fe soniais i am hyn yn rhan wreiddiol fy natganiad, ein bod ni'n falch iawn o gefnogi Gwobrau Cenedl Noddfa neithiwr. Fe hoffwn i longyfarch yr enillwyr a'r enwebeion i gyd hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n eu cydnabod nhw fel hyn.

Mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi ac eraill wedi eich siomi gan y sylwadau a wnes i yn y pwyllgor ddoe ynghylch cynllun a gweledigaeth y genedl noddfa, ond rwy'n falch o fod â'r cyfle hwn i ddweud bod fy ymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa yn dal yn gadarn, ac mae hynny'n wir am bob Ysgrifennydd Cabinet a phob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Rydych chi'n gofyn, 'Beth sydd wedi newid?' Mae'n debyg mai'r hyn sydd wedi newid yw fy mod i wedi dod i mewn i bortffolio. Yn amlwg, mae'r cynllun gennym ni, a gyhoeddwyd, fel rydych chi'n dweud, yn ôl yn 2019. Mae llawer o gamau gweithredu wedi cael eu gorffen. Felly, yr hyn a ofynnais i swyddogion ei wneud oedd edrych ar yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud. Nawr, efallai y bydd angen diwygio eto ar ddiwedd y gwaith hwn i gyd, ond ar hyn o bryd, yn fy marn i, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflawni. Rydym ni wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn cyflawni, ac rwyf i'n dymuno parhau i wneud hynny. Ond fel dywedais i, mae llawer o gamau wedi cael eu cwblhau eisoes. Mae rhai o'r camau gweithredu yn y cynllun yn rhai hirdymor, felly mae angen i ni edrych ar y rhain a gweld a oes angen iddyn nhw gael eu cynnwys. Ond rydym ni'n gweithio gyda'r trydydd sector i ystyried a oes unrhyw fylchau o ran cyflawni, ac os oes bylchau, beth sydd angen i ni ei wneud i lenwi'r bylchau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dal ati i siarad â phobl sydd â phrofiad bywyd o fod yn geisiwyr lloches.

Un peth yr wyf i'n ei ystyried gyda'r cynlluniau i gyd—mae llawer o gynlluniau yn y portffolio hwn, ac os edrychwch chi ar y cynllun LHDTC+, mae ganddo olrheiniwr, sydd, i mi, yn arddangos ei dryloywder. Mae'n dryloyw iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu hwnnw, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych i weld a fyddai hi'n werth dodi olrheiniwr o'r fath ar bob cynllun, gan gynnwys y genedl noddfa, i weld a fydd hynny'n helpu pawb i allu cael mynediad wedyn at yr hyn sy'n digwydd yn y cynllun. Felly'r weledigaeth, y cynllun: nid oes dim wedi newid yn hynny o beth, ond, i mi, mae'n rhaid i ni ddal ati i gyflawni hynny. Ond fe hoffwn i ddim ond tawelu meddwl pobl nad oes angen iddyn nhw gael siom o gwbl; mae'r cynllun hwnnw yno. Cyflawni yw'r hyn sy'n bwysig, ac fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau wrth i ni fynd drwy'r darn hwn o waith.

Roeddech chi'n cyfeirio at warcheidiaeth a phlant ar eu pen eu hunain. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at eiriolaeth hefyd, er mwyn i ni wybod bod gan bob plentyn sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru hawl statudol i gael eiriolaeth. Rwy'n ymwybodol o'r alwad i ddatblygu cynllun ar wahân o ran gwarcheidiaeth plant ar eu pen eu hunain, a fydda'n debyg i'r un sydd ar waith yn yr Alban. Felly, mae swyddogion wedi cyfarfod â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban i drafod y cynllun, ac maen nhw'n ystyried yr adroddiad gan Gymdeithas y Plant hefyd, sydd hefyd wedi galw am hyn. Felly, yr hyn a ofynnais i swyddogion ei wneud—mae hwn yn ddarn sylweddol o waith—yw parhau gyda'r darn hwnnw o waith, gan asesu pa ddewisiadau sydd gennym ni ac anfon rhywfaint o gyngor i mi ynglŷn â hynny wedyn. Fe fydd angen i mi weithio yn agos iawn hefyd gyda'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol os ydym ni am fod â chynllun gwarcheidiaeth o'r math hwnnw.

15:20

Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i'n falch iawn o groesawu Sefydliad Jo Cox yma i'r Senedd heddiw, ac, fel gwyddoch chi, mae'n gweithio i ddod â phobl at ei gilydd ac mae'n gweithio gydag Wythnos y Ffoaduriaid ar daith gerdded wych yn rhan o'r Great Get Together ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod eu gwerthoedd yn llywio'r ffordd y mae'r Llywodraeth a sefydliadau eraill yn cael eu rhedeg, ac rwy'n falch iawn o ddweud, yng Nghasnewydd, bod rhai enghreifftiau da iawn o hynny gennym ni fel Casnewydd Fyw, fel yr ymddiriedolaeth hamdden, yn bwrw ymlaen â phrosiect Momentwm sy'n rhannol ar gyfer rhoi sgiliau beicio i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ac fel clywsom ni eisoes, mae materion trafnidiaeth yn bwysig iawn o ran cael gafael ar wasanaethau, gwaith, addysg, hyfforddiant, ac ati, felly mae bod â'r beiciau ar gael, a gallu mynd ar feic a hynny mewn ffordd ddiogel yn bwysig iawn yn fy marn i. Ac maen nhw'n gweithio hefyd gyda phrosiect Gap ynglŷn â phrosiect Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw, sy'n defnyddio chwaraeon i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'n cymuned ni. Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau pêl-droed wythnosol, er enghraifft, ers amser maith. Felly, tybed a fyddech chi cystal â chydnabod rhai o'r enghreifftiau hyn o arfer da, oherwydd yn ein cymunedau ni i gyd, fel Aelodau'r Senedd, fe garem ni weld y gwerthoedd hyn ar waith o ran integreiddio a rhoi'r croeso cynnes hwnnw.

Diolch i chi. Ie, fe fyddwn i'n cydnabod yr achosion penodol hynny o arfer gorau, fel rydych chi'n dweud, yn gyfan gwbl. Fe ymwelais i â Chasnewydd Fyw gyda chi; roedd hwnnw'n gynllun gwahanol yr oeddem ni'n edrych arno, ond fe allwn ni weld y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud, ac mae'r integreiddio hwnnw mor bwysig os ydym ni am sicrhau bod pobl yn deall yr hyn y mae bod yn genedl noddfa yn ei olygu i ni. Mae hi'n bwysig iawn bod pobl sy'n dod yma, os ydyn nhw'n ffoi rhag erledigaeth neu ryfel, yn teimlo eu bod nhw'n gallu integreiddio yn y gymuned yn y ffordd y bydden nhw'n ei dymuno, ac rydym ni'n sicr yn dymuno iddyn nhw wneud felly. Rwy'n gwybod bod llawer o themâu yn y gwaith yr ydym ni'n ei gefnogi drwy Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Fe geir llawer o enghreifftiau yn hynny o beth. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r digwyddiad yr oeddech chi'n ei noddi er cof am Jo Cox yn rhan o weithgarwch ei sefydliad hi, ond rwy'n credu, unwaith eto, bod hynny'n beth da iawn, ac mae hi'n dda iawn ein bod ni'n parhau i gydnabod y gwaith anhygoel a wnaeth Jo Cox.

'Wnes i ddim ateb cwestiwn Sioned Williams am dai, mae'n ddrwg gen i, ac rwy'n credu mai trafodaeth y mae angen i mi ei chael gyda'r Gweinidog tai yw honno, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn, fel rydych chi'n dweud, ein bod ni'n gallu amddiffyn pobl yn yr un ffordd ag yr ydym ni'n amddiffyn pobl Cymru, ein bod yn amddiffyn pobl sy'n dod yma gan chwilio am noddfa, ac fe fyddaf i'n sicr yn bwrw ymlaen â hynny.

Rwy'n falch fod Cymru yn genedl noddfa, sy'n helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin â charedigrwydd, dealltwriaeth ac yn cael eu helpu i fod yn rhan o'r gymuned y maen nhw'n dewis byw ynddi hi. Mae byw mewn gwlad ddieithr yn gallu bod yn unig iawn ac yn anodd, ymhell oddi wrth deulu a ffrindiau, ac mae llawer yn gorfod dysgu iaith newydd a cheisio bod yn rhan o gymuned, ac mae hynny'n arbennig o anodd wedi dioddef archoll, fel gwnaeth llawer o ffoaduriaid.

Rwy'n gofidio bod etholiadau yn cael eu defnyddio i hollti cymdeithas, i ennyn casineb yn lle caredigrwydd, i annog pobl i droi eu cefnau ar y gymuned a chyfathrachu, yn enwedig pan fo pobl yn gorfod ymgodymu gyda'r argyfwng costau byw, apwyntiadau iechyd a phrinder tai safonol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa ymateb a fyddech chi'n ei roi i hyn wrth gyhoeddi'r newyddion am ystyr wirioneddol bod yn genedl noddfa? Diolch i chi.

15:25

Diolch i chi. Rwyf i newydd sôn wrth John Griffiths mai dianc rhag erledigaeth y mae ceiswyr lloches yn ei wneud bron yn ddi-feth. Maen nhw'n aml yn ceisio ailgysylltu ag aelodau o'u teuluoedd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, a honno yw cenadwri bwysicaf Wythnos Ffoaduriaid yn fy marn i, yw bod y geiriau yr ydym ni'n eu defnyddio yn bwysig. Nid yw pobl yn anghyfreithlon, nid ystadegau moel ydyn nhw. Mae gan bob unigolyn ei stori o archoll, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ein cymorthfeydd ac yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni wedi cwrdd â phobl sy'n llawn gofid ac yn gwbl anobeithiol. Fel rydych chi'n dweud, mae ymadael â'ch cynefin lle rydych chi'n deall ac yn ymwybodol o bopeth, a'ch anwyliaid chi yno, a'ch swydd chi yno, i fod mewn gwlad nad oes rhai hyd yn oed wedi clywed amdani o'r blaen yn beth anodd iawn i ddygymod ag ef. Felly, rydych chi'n iawn o ran caredigrwydd a thosturi. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n mynd yn ôl at fy ateb cynharach i Tom Giffard ynglŷn â sut mae hi mor bwysig bod ein rhanddeiliaid, ein partneriaid yn ymgysylltu â chymunedau er mwyn i ni osgoi'r anoddefgarwch milain hwnnw yr ydym ni, yn anffodus, yn clywed amdano.

Fe gefais innau'r fraint hefyd o fod yn bresennol yng Ngwobrau Cenedl Noddfa gyda Sioned Williams, ac fe hoffwn i ddiolch i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Tai Wales & West, a oedd yn brif noddwyr yr hyn a fydd yn garreg filltir bwysig yn y calendr cymdeithasol, yn fy marn i. Rwy'n credu bod cymaint gennym ni i fod yn falch ohono. Rwy'n myfyrio ar eiriau Carolyn Thomas am effaith yr etholiad cyffredinol a rhai o'r sylwadau mwy gwenwynig, ond rwy'n credu bod cymaint gennym ni i fod yn falch ohono a bod yn hyderus o'i herwydd, o ystyried pa mor effeithiol yr ydym ni wedi bod wrth fynd yn genedl amlddiwylliannol. Felly, bardd cenedlaethol Cymru yw Hanan Issa, bardd Cymreig-Iracaidd hynod o dalentog; a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a oedd yn cyflwyno'r wobr i ddysgwr Cymraeg y flwyddyn, yw Joseff Gnagbo, sy'n geisiwr lloches o'r Traeth Ifori yn wreiddiol; ac fe aeth y brif wobr i'r Birth Partner Project sy'n sefydliad cenedl noddfa, sy'n sicrhau nad oes unrhyw un sy'n geisiwr lloches yng Nghaerdydd yn rhoi genedigaeth mewn unigrwydd. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â sut y gallem ni ehangu'r prosiect hwn i Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd, oherwydd yn y mannau hynny y mae'r prif boblogaethau lle bydd ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu i ddechrau, ac fe fyddai hi'n rhagorol pe byddem ni'n sicrhau bod—. Nid wyf i'n dymuno i unrhyw fenyw, a bod yn onest, fod ar ei phen ei hun heb rywun i sefyll wrth ei hymyl yn ei hamser mwyaf agored i niwed, a phe gallem ni sicrhau bod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan Laura Santana a llawer o wirfoddolwyr eraill yn cael ei ehangu ledled Cymru, fe fyddai hwnnw'n ganlyniad ardderchog.

Byddai, yn hollol. Fe fyddwn i'n hapus iawn i siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud ynghylch na ddylai unrhyw fenyw fod yn rhoi genedigaeth ar ei phen ei hun yn un pwysig iawn, ac fe wnes i sôn, mae dod i'r wlad hon a glanio mewn gwlad ddieithr lle nad ydych chi'n adnabod unrhyw un, a chwithau'n feichiog, dyna haen arall o anawsterau y mae'n rhaid i chi eu hwynebu. Felly, roeddwn i'n falch iawn pan welais i'r enillwyr, i weld mai'r cynllun hwnnw oedd wedi dod i'r brig, ac fe fyddaf i'n hapus iawn, fel rwy'n dweud, i gynnal trafodaeth ar gyfer ystyried sut i ehangu hyd at y tair prif ardal arall o wasgaru sef Casnewydd, Abertawe a Wrecsam, oherwydd nid yng Nghaerdydd yn unig y mae hyn yn digwydd, lle mae menywod yn wynebu anawsterau o'r fath. Felly, byddaf, fe fyddaf i'n sicr yn hapus i wneud felly.

15:30
4. Datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol: Diweddariad sgiliau

Nawr rydym yn symud at eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol: Diweddariad sgiliau. Ac rwy'n galw am y datganiad gan y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol. Sarah Murphy.

Diolch. Mae twf diwydiannau creadigol Cymru yn cael ei gydnabod fel un o'n prif lwyddiannau economaidd. Mae gweithlu medrus yn allweddol i sicrhau bod y sector creadigol yng Nghymru yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn parhau i ffynnu a datblygu, gan greu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr ledled Cymru. Caiff hyn ei gydnabod gan raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys ymrwymiad parhaus i gefnogi sgiliau creadigol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, penodwyd panel cynghori sgiliau creadigol dan arweiniad y diwydiant ym mis Medi 2022 i gynghori ar gynllun gweithredu sgiliau creadigol tair blynedd, sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghenion sgiliau tri sector blaenoriaeth Cymru Greadigol: cerddoriaeth, sgrin a gemau, animeiddio a thechnoleg ymgolli. Roeddwn yn falch o ymuno â'u cyfarfod diweddar, ac yn gwerthfawrogi eu hymrwymiad a'u harbenigedd yn fawr.

Mae'r cynllun yn amlinellu ymrwymiadau Cymru Greadigol i sicrhau newid drwy ei gylch gwaith a'i gydweithrediad ei hun ar draws portffolios Llywodraeth Cymru a gydag eraill. Mae'n nodi 10 blaenoriaeth a nodwyd gan y diwydiant ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Ni ellir cyflawni'r cynllun gweithredu hwn ar ei ben ei hun. Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol y diwydiant yn hanfodol i gefnogi sector creadigol mwy llwyddiannus a mwy cynrychioliadol. Mae fy swyddogion wedi gweithio ar draws y Llywodraeth i helpu i sefydlu'r rhaglen sgiliau hyblyg creadigol, cynllun sy'n darparu cymhorthdal o 50 y cant ar gyfer uwchsgilio a hyfforddi staff, a ddyluniwyd i annog cwmnïau creadigol i fuddsoddi yn eu hyfforddiant staff eu hunain. Ac yn bwysig, yn unol â'n huchelgeisiau ehangach, rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar adolygiad o'r fframwaith dylunio creadigol a phrentisiaethau cyfryngau, y cyntaf o'r fframweithiau prentisiaeth i'w hadolygu.

Lansiwyd cronfa sgiliau creadigol ym mis Medi 2022 i gyflawni blaenoriaethau'r cynllun gweithredu sgiliau creadigol. Cefnogwyd 17 prosiect, a oedd yn derbyn £1.5 miliwn o gefnogaeth, trwy'r cylch cyllido cyntaf, a chyhoeddir adroddiad llawn ar gyflawniadau'r prosiect yn ddiweddarach y mis hwn. Mae allbynnau allweddol yn cynnwys sefydlu rhwydwaith newydd o academïau sgrin mewn pedair stiwdio ffilm ledled Cymru, hyfforddiant pwrpasol ar gyfer rheolwyr cerddoriaeth a lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru, a chanolfan chwarae gemau fideo sy'n cefnogi datblygiad hyfforddiant BTEC ar lefelau 1 i 3. Cyflwynwyd 46 o geisiadau i ail rownd y gronfa sgiliau creadigol a lansiwyd ym mis Mai eleni. Ac rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod 17 prosiect arall wedi'u dewis i dderbyn £1.5 miliwn o gymorth. Bydd manylion yn cael eu darparu ar y prosiectau hyn unwaith y derbynnir cynigion ffurfiol.

Wrth gwrs, mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod y gweithlu creadigol yng Nghymru yn cynrychioli pob sector o gymdeithas Cymru. Felly, mae cael gwared ar rwystrau rhag mynediad a gwella cyfleoedd gyrfa i unigolion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ganolbwynt pwysig i'r cynllun gweithredu sgiliau creadigol. Yn hanesyddol, bu dibyniaeth ar recriwtio anffurfiol a llafar. Gall gorddibyniaeth ar rwydweithiau ac arferion llogi hynafol ei gwneud hi'n anodd i dalent newydd, yn enwedig o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli, dorri drwodd i'r diwydiant. Gwaethygir hyn gan y ffaith nad yw'r sector creadigol yn aml yn cael ei ystyried yn ddewis gyrfa hyfyw i bobl ifanc na'u rhieni.

Er mwyn cyflawni'r her hon, mae Cymru Greadigol wedi datblygu partneriaethau gyda nifer o bartneriaid strategol allweddol, gan gynnwys Beacons Cymru, National Film and Television School Cymru a Cyswllt Diwylliant Cymru, sy'n cefnogi talent amrywiol wrth ddod o hyd i gyfleoedd yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru. Yn ogystal, bydd nifer o'r prosiectau a gefnogir gan ail rownd y gronfa sgiliau creadigol yn canolbwyntio'n benodol ar wella cynrychiolaeth a darparu cyfleoedd i bawb, gan gynnwys y rhai ag anableddau corfforol, anawsterau dysgu a niwroamrywiaeth.

Sefydlodd Cymru Greadigol grŵp rhanddeiliaid sgiliau ffilm a theledu Cymru Greadigol ym mis Ionawr 2020 i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd, ac erbyn hyn mae gan y grŵp dros 60 o aelodau ac mae wedi bod yn hynod werthfawr fel rhwydwaith rhannu gwybodaeth ac wrth geisio mynd i'r afael â gweithio heb ymwneud ag eraill.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Cymru Greadigol wedi gweithio gyda'r darparwyr hyfforddiant Sgil Cymru a Screen Alliance Wales i sicrhau cyfanswm o £1.4 miliwn o gyllid, gan gynnwys £900,000 gan Sefydliad Ffilm Prydain, gyda £300,000 o arian cyfatebol gan Cymru Greadigol a £240,000 gan BBC Studios ar gyfer clwstwr sgiliau newydd y BFI, 'Siop Un Stop'. Bydd y prosiect cydweithredol hwn yn darparu gwybodaeth gyfeirio glir a dealladwy er mwyn mynd i mewn i'r diwydiant sgrin yng Nghymru neu symud ymlaen ynddo, a bydd y clwstwr newydd yn darparu cyllid bwrsariaeth, lleoliadau profiad gwaith wedi'u cydlynu, hyfforddiant, a bydd mentor llawn amser wrth law i gynnig cyngor. 

Mae BBC Studios yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer y fenter hon, gan ddarparu llwybrau gyrfa lefel mynediad ac uwchsgilio yn y dyfodol yn y sector ar gyfresi drama barhaus Pobol y Cwm a Casualty, gyda phwyslais ar recriwtio siaradwyr Cymraeg ac unigolion o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae Cymru Greadigol hefyd yn gweithio gyda BBC Studios ar gynllun cyfarwyddwyr Cymraeg Pobol a fydd yn darparu hyfforddiant yn y gwaith i 10 cyfarwyddwr. Mae datblygu talent o Gymru, fel awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr, yn hanfodol er mwyn sicrhau llif parhaus o gynyrchiadau ledled Cymru yn y dyfodol.

O ran mynd i'r afael â heriau yn y gweithle, yn enwedig o ran cadw criwiau, mae Cymru Greadigol wedi ariannu cynllun treialu hwyluswyr llesiant dwy flynedd, ac mae'n gweithio gyda'r Elusen Ffilm a Theledu i helpu i atal straen, materion iechyd meddwl, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ar gynyrchiadau. Fe wnaeth Cymru Greadigol hefyd gefnogi gwasanaeth RoadieMedic gŵyl gerddoriaeth Focus Cymru yn Wrecsam ym mis Mai eleni. Mae hyn yn rhan o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, yn ei wneud i ddatblygu map ffordd i helpu i wella arferion gwaith yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan ddefnyddio canfyddiadau adroddiad 'The Good Work Review' y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol.

Mae pob cynhyrchiad a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gorfod darparu lleoliadau hyfforddeion lefel mynediad ac uwchsgilio â thâl, gyda mwy na 420 o leoliadau wedi'u cefnogi ers mis Ionawr 2020. Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad chwyldroadol o ran darparu profiad, hyfforddiant hanfodol yn y gwaith, a'r gydnabyddiaeth gyntaf ar sgrin hollbwysig honno ar gynyrchiadau wedi'u sgriptio, heb eu sgriptio, gemau ac animeiddio, fel Sex Education, Men Up, House of the Dragon, Lost Boys and Fairies, Maid of Sker 2, a Mini Buds. Rhaid darparu o leiaf un lleoliad dan hyfforddiant ar bob cynhyrchiad a ariennir i brentisiaeth o gynllun prentisiaeth a rennir criwiau, sy'n gweithredu yn y gogledd a'r de, ac mae 40 prentis wedi elwa ar leoliadau ar gynyrchiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Mae'r model prentisiaeth hwn bellach yn fodel cydnabyddedig o arfer gorau ledled y DU, ac mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio i ymestyn y cymhwyster lefel 3 hwn i gwmpasu'r sectorau digidol, animeiddio, gemau a cherddoriaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau ochr yn ochr â'r adolygiad o'r fframwaith prentisiaeth dylunio creadigol a phrentisiaethau'r cyfryngau. Rwyf wedi ymrwymo i barhau â'r holl arferion da hyn drwy ddull gweithredu clir a phenodol ar gyfer sgiliau creadigol i sicrhau bod gan ein gweithlu y sgiliau a'r dalent sydd eu hangen i ffynnu. Diolch.

15:35

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw? Ai dyma eich datganiad cyntaf fel Gweinidog?

O, dyna ni. Llongyfarchiadau, fodd bynnag, fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol newydd. Ac fel fy Aelod etholaethol i, gobeithio na fyddwch chi'n tynnu'ch llygad oddi ar y bêl yn lleol ychwaith—mae hynny'n bwysig iawn.

Rydym i gyd yn ymwybodol pa mor bwysig yw'r diwydiannau creadigol, ac maen nhw'n dod yn rhan gynyddol werthfawr o'n heconomi yng Nghymru. Yn wir, mae amcangyfrifon Llywodraeth y DU yn datgelu bod y diwydiannau creadigol wedi cyfrannu tua £126 biliwn i economi'r DU yn 2022. Mae'r diwydiant ffilm, yn arbennig, wedi bod yn cynyddu ei gyrhaeddiad yng Nghymru, gan ddefnyddio mwy o dalent Gymreig a daearyddiaeth hardd Cymru i gynhyrchu ffilmiau. Felly, ni ddylai ein synnu y bydd ar ddiwydiant ffilm Cymru angen cyflenwad parhaus o dalent ar gyfer y dyfodol. Bellach mae gennym gyfle enfawr i helpu plant Cymru i ddatblygu'r sgiliau a'r doniau creadigol hynny sydd eu hangen ar y sector er mwyn iddo dyfu a ffynnu. Ond nid yw'n ymddangos bod gan Cymru Greadigol unrhyw ffrydiau ariannu penodol sy'n annog plant neu bobl ifanc yn eu harddegau i archwilio'r diwydiant creadigol, ac mae hyd yn oed y gronfa cynnwys ieuenctid ar gau ar hyn o bryd.

Fel y gwelsom yn ddiweddar gyda'r posibilrwydd o weld Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cau conservatoire iau dydd Sadwrn a chwrs drama ifanc CBCDC, mae'n ymddangos bod y ddarpariaeth ar gyfer helpu plant i fod yn greadigol a datblygu talent a brwdfrydedd yn gynnar yn eu bywydau yn cael ei dynnu'n ôl. Felly, mae'n hanfodol, Gweinidog, bod adnoddau ar gael i'n plant a'n pobl ifanc ddatblygu'r sgiliau hynny, fel arall bydd llawer yn mynd i'w chael hi'n anoddach neu hyd yn oed yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd enfawr i ddatblygu gyrfaoedd yn y sector hwn.

Rwy'n cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan lawer yn y sector i ddarparu cyfleoedd i bobl uwchsgilio a gwella eu rhagolygon gyrfa. Ac rwy'n credu, os yw Cymru'n gallu creu cronfa gadarn o dalent, does dim rheswm pam na allem fod yn gystadleuydd byd-eang yn y sector creadigol. Ond yna rwy'n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod angen talu am fuddsoddiad. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa ymdrechion ydych chi'n eu cymryd, a pha gyllid ydych chi'n ei ddarparu i helpu plant ysgol a phobl ifanc yn eu harddegau i archwilio'r diwydiant creadigol fel llwybr gyrfa posibl? A sut mae'r cyfleoedd hyn yn sicrhau profiadau a chyfleoedd dysgu o ansawdd da i weithlu'r dyfodol?

O ran denu prosiectau ffilm rhyngwladol i Gymru, byddai'n eithaf buddiol pe bai timau rhyngwladol yn gallu defnyddio maes awyr Caerdydd Cymru i hedfan offer i mewn, yn ogystal â thimau cynhyrchu a chriwiau ffilmio ac ati. Rwyf wedi siarad â phobl yn y diwydiant ffilm sydd wedi mynegi rhwystredigaeth eu bod wedi colli prosiectau, neu fod prosiectau wedi dod yn fwy costus, oherwydd yr amser ychwanegol y mae criwiau rhyngwladol wedi gorfod treulio yn cludo eu hoffer trwy Heathrow, ac yna'n gorfod ei yrru yr holl ffordd yn ôl i Gymru.

O ran gwella enw da rhyngwladol Cymru fel lle ar gyfer ffilmio, yn ôl hyn yr wyf yn deall dyna yw uchelgais Cymru Greadigol, pa sgyrsiau penodol a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth o ran gwella maes awyr Caerdydd fel canolfan drafnidiaeth y gellir ei defnyddio i gefnogi'r diwydiant ffilm yng Nghymru? Ni fydd diwydiant ffilm Cymru yn ffynnu os na all gystadlu â gwledydd eraill, ac ar hyn o bryd nid yw maes awyr Caerdydd yn gwneud fawr ddim i annog enw da rhyngwladol cadarnhaol.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i eisiau codi pwynt ynglŷn â gweithwyr llawrydd. Fel y gwyddoch chi, mae'r diwydiant creadigol yn dibynnu'n helaeth iawn ar weithwyr llawrydd, ac rwy'n credu eu bod oddeutu 75 y cant o'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Un o'r problemau yw y gallant fynd am gyfnodau hir heb gyflogaeth, sy'n gwneud gyrfa yn llai deniadol i bobl ifanc sy'n dechrau ar y gyrfaoedd hynny. Mae gweithwyr llawrydd creadigol byddar ac anabl nid yn unig yn wynebu'r her hon, ond hefyd y ffaith bod cyfran sylweddol yn canfod nad oes ganddynt ddigon o gefnogaeth pan fyddant yn y gwaith, gan nodi dealltwriaeth wael o anghenion mynediad a'r canfyddiad eu bod yn boendod yn hytrach nag asedau. Felly, pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithwyr llawrydd, ac yn enwedig gweithwyr llawrydd byddar ac anabl, drwy ddarparu mentora a datblygiad proffesiynol parhaus i'w helpu i ddod o hyd i waith rheolaidd? Diolch.

15:40

Diolch yn fawr iawn am yr holl gwestiynau yna. Rwy'n cytuno â llawer ohono. Fel y dywedoch chi, mae twf diwydiannau creadigol Cymru yn cael ei gydnabod fel un o'r prif lwyddiannau economaidd sydd gennym. Mae'r ystadegau diweddaraf ar y sector creadigol a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod y rhan hon o'r economi yn parhau i berfformio'n dda, gan gynhyrchu trosiant blynyddol o £1.4 biliwn a chyflogi 32,500 o bobl, gyda gweithlu llawrydd sylweddol, y gwnaethoch chi ei grybwyll, y byddaf yn dod ato. Ac mae gweithlu medrus yn allweddol i sicrhau bod y sector creadigol yng Nghymru yn parhau i ffynnu; rwy'n cytuno'n llwyr. O ran peth o'r cyllid, yr hyn na wnes i ei grybwyll, sy'n berthnasol yn fy marn i, yw bod swyddogion wedi gweithio gydag adran sgiliau Llywodraeth Cymru i sefydlu'r rhaglen sgiliau hyblyg creadigol, ac mae hynny'n neilltuo £100,000 y flwyddyn i ddarparu cymhorthdal o 50 y cant i staff mewn hyfforddiant uwchsgilio.

Ond wrth ddod at eich cwestiwn penodol am bobl ifanc, gwn fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Rhianon Passmore, yn arbennig o angerddol amdano, am gerddoriaeth i bobl ifanc. A dyna un o'r tri sector blaenoriaeth sydd gennym ni yn Cymru Greadigol. Felly, dim ond er mwyn rhoi enghraifft i chi o'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda phobl ifanc mewn ysgolion, mae yna'r sesiynau profi sain. Mae'n brosiect sydd wedi ei ddatblygu a'i redeg gan Independent Venue Community drwy gyllid Cymru Greadigol, sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc—sef 14 oed a hŷn—i fynd i leoliad cyn i'r drysau agor i'r cyhoedd i wylio'r artistiaid sy'n chwarae'r noson honno yn profi'r sain ac yna cael sesiwn holi ac ateb gyda nhw, ynghyd â rhai o'r criw a'r tîm lleoliad. Felly, mae'n ysbrydoli pobl ifanc, unwaith eto, i weld hon fel gyrfa hyfyw a rhoi'r hyder hwnnw iddynt. Felly, yn amlwg, mae gwaith yn digwydd yn y maes hwnnw.

O ran y maes awyr, byddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n mynd rhwng, ie, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, ond hefyd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. Dydw i ddim wedi cael cyfle penodol i fynd i ymweld â'r maes awyr eto, ond rwy'n gobeithio, oherwydd byddwn bob amser yn hoffi gweld y gwaith sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol, a dyna lle rwy'n gallu cyfrannu—fy mhortffolio i. Felly, rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd hynny.

Ac yna fe wnaethoch chi sôn am weithwyr llawrydd. Nawr, o ran gweithwyr llawrydd, cwrddais â'r Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatr ddoe, a buom yn siarad llawer iawn am weithwyr llawrydd. Fel y gwyddoch, yn ystod y pandemig, Cymru oedd yr unig genedl a oedd â chronfa gweithwyr llawrydd, a werthfawrogwyd yn fawr ac a gadwodd lawer o bobl yn gallu—chi'n gwybod, heb orfod gadael y sector yn llwyr. Yn ddiddorol, un o'r canfyddiadau allweddol yn eu hadroddiad diweddaraf, a ddaeth allan ddechrau'r flwyddyn, oedd nad yw credyd cynhwysol yn briodol ar gyfer gweithwyr llawrydd, oherwydd, erbyn iddynt wneud cais amdano, weithiau maent yn cael gwaith eto. Nid yw'n gweithio gyda'u math o amserlen waith. Rwy'n chwilfrydig i'w weld—. Ar hyn o bryd mae Iwerddon yn treialu cynllun incwm sylfaenol ar gyfer pobl yn y diwydiannau creadigol. Hoffwn i ni gadw llygad ar hynny. Ond, yn y pen draw, bydd hon yn sgwrs y bydd angen i bobl ei chael gyda'r Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn ar ôl 4 Gorffennaf. Rwy'n amlwg yn gobeithio mai Llywodraeth Lafur yw honno, gan eu bod wedi ymrwymo i strategaeth ddiwydiannol a fyddai'n cynnwys y diwydiannau creadigol.

Rwy'n credu fy mod i wedi cyffwrdd â'ch holl gwestiynau. [Torri ar draws.] Byddar ac anabl. Ie. Wel, fel y soniais i yn gynharach, mae gennym ni'r 17 prosiect sydd i fod i gael eu cyhoeddi—gwerth £1.5 miliwn, unwaith eto, o gyllid. Bu ffocws penodol ar gefnogi pobl ag anableddau ac anawsterau dysgu. Felly, unwaith y cyhoeddir hynny, rwy'n gobeithio y byddwch yn hapus o weld ein bod yn bendant wedi ceisio darparu ar gyfer pobl yn y maes hwnnw a'u cefnogi. Diolch.

Diolch Llywydd dros dro, a diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Yn amlwg, mae hwn yn sector hollbwysig i Gymru. Mi fyddwch chi, dwi'n siŵr, wedi ymgyfarwyddo'ch hun efo adroddiad y pwyllgor diwylliant ar weithlu'r diwydiannau creadigol, a oedd yn gwneud nifer o argymhellion, er bod y cynllun hwn yn ei le. Mae'n bryderus bod yna gymaint mwy sydd angen ei wneud, a hefyd ystadegau brawychus o ran cymaint o bobl lawrydd sydd yn cael eu colli o'r sector am lu o resymau amrywiol. Yn amlwg, roedd y gefnogaeth yn ystod COVID wedi ei gwerthfawrogi, ond mae pethau wedi bod yn anodd ers hynny, niferoedd heb ddychwelyd, a'n bod ni'n gweld gormod o lawer o bobl yn colli incwm sydd yn gweithio yn y diwydiannau yma, neu yn gorfod gadael y sectorau hyn, sydd mor allweddol i ni ond eto yn gweld dirywiad.

Gaf i ofyn i chi, felly, mae yna leihad wedi bod yng nghyllideb Cymru Greadigol yn y flwyddyn ariannol yma o'i chymharu efo'r flwyddyn ddiwethaf, pa effaith mae hynny wedi'i gael ar y cynllun gweithredu sgiliau creadigol?

15:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Os caf roi un enghraifft yn unig, oherwydd roedd pwyslais yn eich ymateb i Tom Giffard ar gerddoriaeth. Yn amlwg, gwych, y cynlluniau sy'n digwydd, ond mae'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi bod yn gohebu. Cyfarfûm â nhw yn ddiweddar, gan sôn am effaith y toriad diweddar i ryddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, a'r bygythiad uniongyrchol yn sgil hyn i leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Cymru. Maen nhw'n sôn am 16 lleoliad o bosib yn gorfod cau, sef 33 y cant o'r holl leoliadau yng Nghymru. Felly, o ran yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud ynghylch sut mae pobl ifanc yn elwa neu'n gweithio gyda'r mathau hyn o leoliadau, gallai hynny fod yn niweidiol iawn. Hefyd, o ran rhai o'r ystadegau y maent wedi'u cyflwyno: 588 o swyddi, £8 miliwn o weithgarwch economaidd a gynhyrchir ganddynt ar hyn o bryd, 3,500 o ddigwyddiadau a 30,000 o gyfleoedd perfformio. Gwyddom fod nifer o'r lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad hyn hefyd yn rhoi'r cyfle hwnnw. Rwyf wedi gweld llawer yng Nghlwb y Bont o'r bandiau ifanc yna—efallai mai dyna eu cyfle cyntaf. Felly, pan fyddant yn cau, mae'n mynd i gael effaith enfawr.

Felly, a gaf i ofyn, un o'r materion yw, rydych chi'n datblygu'r gweithlu, ond mae'n rhaid bod rhywle iddyn nhw wedyn weithio ynddo a symud ymlaen. Felly, rwy'n deall eich pwyslais ar y gronfa yn benodol heddiw, ond sut ydych chi'n gweithio i sicrhau nad yw rhai o'r mentrau neu'r penderfyniadau eraill a wneir gan y Llywodraeth yn effeithio ar eich gallu i weithredu'r cynllun mewn gwirionedd? Rwy'n credu bod yr un peth yn wir o ran prentisiaethau. Mae yna bwyslais ar brentisiaethau, ac rydyn ni wedi gweld toriad i gyllidebau prentisiaethau ac ati. Felly, a gaf i ofyn, o ran sut mae'r cynllun go iawn yn mynd rhagddo, sut ydych chi'n lleddfu effaith y toriadau sydd wedi bod i sicrhau ein bod yn dal i allu datblygu'r gweithlu, fel y gwelwyd gydag ymchwiliadau di-ri?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gyfarwydd ag argymhellion y pwyllgor. A bod yn onest, mae'n cyfateb yn gryf i'r hyn rwy'n ei glywed ers i mi fod yn y rôl ac yn cyfarfod â phobl o bob rhan o'r sector. Rydych chi'n iawn o ran pobl, gweithwyr llawrydd yn benodol, yn gadael y diwydiannau hyn. Rwy'n credu, fel y cyfeiriais at adroddiad BECTU, fod tua thraean yng Nghymru bellach yn ystyried gadael yn llwyr oherwydd nad oes ganddynt y sefydlogrwydd hwnnw, yr argyfwng costau byw, wrth gwrs, os nad oes gennych gynilion.

Buom hefyd yn trafod bod amrywiaeth yn ymwneud ag amrywiaeth economaidd-gymdeithasol hefyd. A ydych dim ond yn cael pobl sy'n gallu fforddio mynd heb waith am beth amser? Sut mae hyn yn gweithio gyda theuluoedd a chyfrifoldebau gofalu? Roedd hyn yn rhywbeth a oedd, fel y dywedais, ar frig yr agenda. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd angen ei drafod gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn cefnogi ac yn pwyso yn llwyr am hynny. Nid yw'r model yn gweithio i weithwyr llawrydd, nid yw'n gweithio i'n diwydiannau creadigol. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ymrwymedig iawn iddo.

Y peth arall soniodd BECTU wrthyf i—ac mae'n un o'r pethau hynny sydd weithiau'n ymwneud â chanlyniadau anfwriadol. Felly, wrth gwrs, un o'r pethau mewn sawl ardal—nid Cymru yn unig, ond hefyd y de-orllewin, hefyd Llundain, hefyd gogledd Lloegr—bydd ganddyn nhw gynyrchiadau ac yna byddan nhw'n dweud, 'Yn amlwg, ceisiwch recriwtio'n lleol.' Wel, mae hynny'n iawn os oes gennych chi brosiectau yn eich ardal chi; os nad oes gennych brosiectau yn eich ardal chi, yna nid ydych chi'n cael eich recriwtio'n lleol mewn gwirionedd, ac nid ydych chi'n cael eich recriwtio yn Llundain ychwaith, lle mae'r swyddi. Dyna pam, fel yr wyf wedi'i nodi heddiw, mae cymaint o'r buddsoddiad yn mynd i sicrhau bod y rhain yn brosiectau ledled Cymru.

O ran y cyllid, mae'r holl gyllidebau, wrth gwrs, wedi dioddef toriadau. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi cefnogi'r digidol, y creadigol a phopeth rwyf wedi bod yn siarad amdano heddiw, yn fwy na Llywodraethau eraill. Nid ydym wedi ei thorri o gwbl, mae gennym y gronfa £1.5 miliwn o hyd ac rydym yn dal i ddarparu 17 o brosiectau eleni, yn union fel yr ydym wedi gwneud mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn i'n dweud bod y toriadau, mewn gwirionedd, o fewn y portffolio, wedi bod yn ymwneud mwy â phethau fel Cyngor Llyfrau Cymru, yr ymwelais â nhw yn ddiweddar hefyd, a buom yn trafod sut mae hynny wedi cael effaith, ac yn amlwg wedi trafod dyfodol hwnnw. Ond o ran cyflawniad craidd Cymru Greadigol, fyddwn i ddim yn dweud ar hyn o bryd bod—. Rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae'r 17 prosiect nesaf bellach yn mynd i fynd hyd yn oed ymhellach na hynny.

Pan sonioch chi am y cyfraddau busnes a'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth Cymru, cwrddais â nhw hefyd, yn ddiweddar. Cawsom sgwrs dda iawn am bopeth rydych chi wedi'i ddweud, a dechreuais hiraethu am yr holl gyngherddau yr es i iddyn nhw o amgylch Cymoedd Cymru pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Ac rydyn ni wedi colli llefydd fel Barfly a Gwdihŵ a phethau yng Nghaerdydd hefyd, lle byddai'r bandiau maint canolig i fach yna yn cael cyfle i werthu allan ar nos Wener a nos Sadwrn. Un o'r pethau wnaethon ni siarad amdano oedd bod gennym gigs stadiwm mawr iawn yn dod i Gaerdydd—mae gennym ni un heno, mae gennym ni un yr wythnos nesaf gyda Foo Fighters—a'r hyn y gellid ei wneud, mewn gwirionedd, i weithio gyda nhw a'r hyrwyddwyr hynny a'r stadia hynny i weld a oes ffordd y gallwn roi rhywbeth yn ôl i gerddoriaeth leol a cherddoriaeth ar lawr gwlad. Rwyf wir yn eu cefnogi gyda hynny wrth archwilio, yn ogystal ag adduned yr artist y maen nhw'n gofyn i artistiaid o Gymru ymuno â hi, ac rydw i hefyd yn mynd i'w helpu nhw i hyrwyddo hyn. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol hefyd.

Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â phopeth, ond os nad wyf, rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs am hyn wedyn. Mae popeth rydych chi wedi'i ddweud yn creu pryder, ac i fod yn onest, dyma beth rydyn ni'n ceisio'i wneud gyda'r gronfa hon.

15:50

Yn y gogledd, gwnaeth Wrecsam a sir y Fflint gais i ddod yn barth buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol a digidol. Yn ddiweddar, rwyf wedi clywed bod diwydiannau creadigol a digidol wedi cael eu diystyru ac nid oes ond siarad am weithgynhyrchu uwch erbyn hyn, sydd wedi bod yn bryder gwirioneddol. Yn y gogledd, mae llawer o botensial, mae gennym Theatr Clwyd, mae gennym stiwdios newydd yn cael eu hagor a llawer o gyrsiau yn cael eu cynnig yn Wrecsam a lleoedd eraill hefyd. O ran digidol, gwnaeth Wrecsam gais yn ddiweddar i fod yn ddinas diwylliant, ond roedd band eang, digidol yn broblem. Felly, mewn gwirionedd mae angen i ni gael hwnnw hefyd. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n gallu cyflwyno achos i ni gadw'r diwydiannau creadigol a'r digidol, yn ogystal â gweithgynhyrchu uwch ar gyfer y gogledd? Gallwn adeiladu ar hynny mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Ydyn, fel y sonioch chi, mae'r parthau buddsoddi yn rhaglen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae penderfyniadau'n cael eu gohirio ar hyn o bryd ar y rhaglen hon nes bod Llywodraeth newydd y DU yn ei lle. Bwriad y parthau buddsoddi oedd canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhwystrau, fel y dywedoch chi, ar gyfer sectorau neu glystyrau â photensial o dwf uchel, a chael y math hwnnw o ffocws manwl.

Dewiswyd parth buddsoddi sir y Fflint a Wrecsam ar sail asesiad gwrthrychol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gyda'r ardal yn dangos cryfderau penodol mewn gweithgynhyrchu uwch. Felly, yn y bôn, nid oedd y cynnig dan arweiniad y sector preifat yn cyd-fynd â'r ffocws hwnnw ac, yn y pen draw, ni chafodd ei ddiystyru o reidrwydd, dim ond nad oedd yn rhan o'r cytundeb ar gyfer y parth buddsoddi i fynd ymhellach. Felly, dyna'r diweddariad penodol ar y parth buddsoddi hwnnw. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad yw'n golygu nad oes ymrwymiad llwyr i'r digidol, i'r creadigol yn y gogledd. Fel y soniais i yn fy ymatebion eraill heddiw, mae llawer o'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi ac sy'n digwydd yng Nghymru yn digwydd yn y gogledd, ac rydym wir yn cefnogi hynny.

Roeddwn i hefyd eisiau tynnu sylw—ac mae hwn yn rhywbeth, efallai, y mae angen ei amlygu yn y gobaith y cawn y math yna o ddinas diwylliant a phethau—bod Gemau Talent Cymru yn rhaglen datblygu talent gemau ar lawr gwlad y mae Cymru Creadigol yn ei chefnogi mewn partneriaeth â phrifysgol Glyndŵr, a gefnogodd wyth cwmni yn 2023. Felly, byddwn yn fwy na pharod i anfon copi o honno atoch, dim ond i dynnu sylw at lawer o arloesi a busnesau sy'n sefydlu yn y sector hwn ac sy'n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd. Ond os nad yw wedi'i nodi fel sector allweddol yn y maes hwnnw, nid yw'n golygu nad oes pethau yn digwydd, a gadewch i ni gael sgwrs ddilynol oherwydd rwy'n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y gogledd hefyd.

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu y byddaf yn datgan buddiant fel cyn-weithiwr llawrydd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r pwyslais heddiw rydych chi wedi'i roi ar gyfranogiad y gweithlu llawrydd. A byddwn hefyd yn croesawu unrhyw archwiliad gyda Llywodraeth y DU, o ran unrhyw fath o system a fydd o fudd i bobl greadigol, ochr yn ochr â'r gwaith diddorol yng Ngogledd Iwerddon ynghylch yr incwm sylfaenol.

Felly, mae'r 'Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol 2022-2025' tair blynedd yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion sgiliau tri sector blaenoriaeth Cymru Greadigol—cerddoriaeth, sgrin a gemau, animeiddio a thechnolegau ymgolli—ac mae hynny i'w groesawu. Er bod y cyllid, drwy gronfa sgiliau creadigol o £3 miliwn mewn dwy rownd o ddyfarniadau gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei groesawu'n fawr, mae'r dirwedd greadigol, fodd bynnag, yn parhau i gael ei thanseilio'n drwm gan gyni a thoriadau i gyllideb Cymru a'r gwariant cyhoeddus sy'n deillio o benderfyniadau ariannol Llywodraeth Dorïaidd y DU.

Yr un mor nodedig, serch hynny, yw'r pennu a'r penderfynu beirniadol, a wnaed yn strategol gan fodel cyngor celfyddydau Cymru ei hun, sydd ei hun yn chwarae rhan ganolog yn ffurf a chyfeiriad y daith i sgiliau Cymru a diwylliant Cymru. Er bod y camau cyllido newydd hyn i'w croesawu'n fawr, credaf fod angen inni hefyd fod yn wyliadwrus a pheidio â hyrwyddo unrhyw gamau sy'n achosi erydiad sectorau diwylliannol sefydledig yng Nghymru—er enghraifft, yr anrheithio presennol ym myd opera a theatr, a'r ehangder anhygoel o sgiliau'r sector, a nifer o swyddi'r cyflogwyr celfyddydol mwyaf hyn yng Nghymru.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hefyd yn ymgynghori i ddod â'i adran iau i ben erbyn mis Gorffennaf y tymor hwn, gan dynnu sylw at heriau ariannol sylweddol. Mae adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, conservatoire iau Cymru, yn cynnig ystod lawn o gwricwla ar ddydd Sadwrn ar gyfer dysgu sgiliau, i'r rhai rhwng pedair a 18 oed. Mae'n gyfartal â'r Coleg Cerdd Brenhinol, Y Guildhall, yr Academi Gerdd Frenhinol a'r Royal Northern College of Music. Dyma'r hyn sydd gennym nawr.

15:55

Iawn, fe ddof i at fy nghwestiwn felly. O ran ailwerthuso'r cynllun sgiliau creadigol, gan gofio hefyd am ddatblygiad sgiliau allgymorth Opera Cenedlaethol Cymru, a oes unrhyw ystyriaeth yn y drydedd flwyddyn o sut y gwneir hynny, yn y dyfodol? Oherwydd rydym ni'n amlwg yn wynebu tanseilio sgiliau a chyfleoedd mewn modd difrifol mewn sectorau diwylliannol sefydledig hanfodol, fel y rhai yr ydw i wedi sôn amdanyn nhw yn ein conservatoire ac yn Opera Cenedlaethol Cymru. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Rhianon Passmore, am y cwestiynau hynny. Fel y dywedais, fe wn i fod hwn yn faes yr ydych chi'n angerddol iawn amdano. Nid yw'n dod o dan fy mhortffolio i, fel rwy'n siŵr eich bod yn deall, ond roedd arna i eisiau dweud fy mod i wir yn edmygu eich angerdd am hyn, ac rwy'n deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn, iawn i'n lleoliadau cerddoriaeth, ond hefyd i addysgwyr yng Nghymru.

Fe glywsom ni, yn gynharach heddiw, fod y Prif Weinidog yn arfer canu'r trwmped a'r ffidil. Roeddwn i'n arfer canu'r clarinet, fel Mark Drakeford, yng ngherddorfa gymunedol Pontypridd. Roedd bob amser yn anrhydedd enfawr gallu mynd a chwarae yn y lleoliadau mwy hynny. Roedd yn wirioneddol arbennig. Ac mae cael y bobl hynny yn dod drwodd—y dilyniant yna—yn gwbl hanfodol. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

O ran cerddoriaeth a phrentisiaethau, serch hynny, mae'n un o'r tair blaenoriaeth allweddol sydd gennym ni yn Cymru Greadigol. Mae gan y bobl y soniais i amdanyn nhw ar y panel cynghori ar sgiliau gyfoeth o arbenigedd yn y maes hwn, ac fe fyddan nhw'n dweud bod gennym ni lawer o bobl sy'n cymysgu cerddoriaeth, er enghraifft, a chynhyrchwyr, a fydd yn ymddeol yn fuan. Felly, mae hwn yn faes y mae gwir angen i ni ei hybu.

Fe soniais i'n gynharach wrth Tom Giffard am y sesiynau gwirio sain sy'n cael eu cynnal gyda phobl ifanc i'w hysbrydoli. Rwyf wedi sôn heddiw am y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i'r projectau, gan ddod â House of the Dragon i ffilmio yng Nghymru. Mae'r holl bethau hyn, mewn gwirionedd, i roi hwb gwirioneddol i'r diwydiant hwn mewn gwirionedd ac i roi gobaith a sefydlogrwydd i bobl ar gyfer y dyfodol.

Fe hoffwn i ddweud hefyd o ran y prentisiaethau, nad ydw i wedi eu crybwyll, bod yn rhaid darparu o leiaf un lleoliad dan hyfforddiant ar bob cynhyrchiad a ariennir gan Lywodraeth Cymru i brentis o Criw, y cynllun prentisiaeth ar y cyd sy'n gweithredu nawr yn y gogledd a'r de. Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn fodel cydnabyddedig o arfer gorau.

Ond nid mater o wahodd pobl draw yn unig yw hyn. Mae'n ymwneud â gwella sgiliau yn rhan o hynny. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei glywed yn gyson. Fe hoffwn i wir ddweud diolch i'r bobl sy'n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, ac sy'n wirioneddol rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd ar lawr gwlad o ran hyn i gyd. Rydym ni'n gwrando, ac rwy'n siŵr y byddai llawer ohonyn nhw'n ategu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw hefyd. Felly, diolch. 

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cymru yn un o Oreuon y Byd am Ailgylchu

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cymru yn un o oreuon y byd am ailgylchu. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd ar 5 Mehefin, cyhoeddwyd bod Cymru bellach wedi dringo i'r ail safle yn y byd am ailgylchu. Mae hyn yn achos dathlu, ond mae'n fwy rhyfeddol byth pan ystyriwch chi ein bod wedi mynd o fod yn genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5 y cant o wastraff ar ddechrau datganoli, gan anfon 95 y cant o'n sbwriel i safleoedd tirlenwi 25 mlynedd yn ôl, i sefyllfa lle rydym ond yn anfon 1.6 y cant i safleoedd tirlenwi erbyn hyn. Mae ailgylchu wedi dod yn rhan allweddol o bwy ydym ni fel cenedl.

Rwy'n arbennig o falch ei fod hefyd yn gyflawniad sy'n seiliedig ar ffordd Gymreig iawn o wneud pethau. Mae'r cyflawniad hwn yn eiddo i bawb. Mae'n dyst i'r cydweithio a'r cyd-dynnu ledled Cymru, o bobl sy'n croesawu ailgylchu yn eu cartrefi i'r awdurdodau lleol sydd wedi gwella'n barhaus eu casgliadau a'r sector gwastraff sy'n ailbrosesu'r deunydd wedi'i ailgylchu.

Mae yna ffactorau craidd sydd wedi bod yn sail i'n llwyddiant. O'r cychwyn cyntaf, cafwyd gweledigaeth hirdymor glir wedi'i chefnogi gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'i chefnogi gan bolisïau cyson a chyfundrefnau rheoleiddio blaengar. Mae hyn wedi rhoi'r sicrwydd hirdymor a llwybr clir, a gefnogir hefyd gan fuddsoddiad o £1 biliwn ers datganoli yn y seilwaith a'r cymorth arbenigol a'r canllawiau i wella gwasanaethau i gyflawni'r cyfraddau ailgylchu hyn o safon fyd-eang.

Bu'r ffordd yr aethom ni ati hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n dangos bod cadw deunyddiau ar wahân yn lleihau'r halogiad ac yn sicrhau ailgylchu o ansawdd uchel. Mae hyn yn ei dro yn ein helpu i gasglu deunyddiau mwy pwysig a gwerthfawr sy'n cynhyrchu incwm i'n hawdurdodau lleol ac i'n sector gwastraff, ac fe allan nhw gael eu defnyddio gan ein diwydiannau gweithgynhyrchu i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, sy'n sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol a'r buddion economaidd mwyaf posibl ill dau.

Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn dasg hanfodol i'r Llywodraeth hon, i bobl ledled Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae lleihau ein hallyriadau yn hanfodol, ac mae ein cyfradd uchel o ailgylchu yn arbed tua 400,000 o dunelli o CO2 bob blwyddyn. Trwy ddal gafael yn effeithiol ar ddeunydd wedi'i ailgylchu sy'n cael ei fwydo yn ôl i'r economi a'i ddefnyddio yn lle deunyddiau crai newydd sbon, mae hefyd yn bwysig iawn yn lleihau'r deunyddiau sy'n cael eu hechdynnu sydd hefyd yn achos sylfaenol yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang. Mae bron i hanner—45 y cant—o'n hallyriadau carbon byd-eang oherwydd y nwyddau a'r cynhyrchion rydym ni'n eu defnyddio, ac mae 90 y cant o'r fioamrywiaeth a gollir oherwydd echdynnu a phrosesu adnoddau. Dyna pam mae'r symud i economi gylchol, lle rydym ni'n cadw deunyddiau mewn cylchrediad, yn hanfodol, nid yn ddewis. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae hefyd yn rhan hanfodol o Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae casglu deunydd ailgylchu o ansawdd uchel y gellir ei ddefnyddio gan ein diwydiant a'n gweithgynhyrchwyr hefyd yn dda i'r economi. Mae'n helpu i wneud ein cadwyni cyflenwi yn fwy gwydn, yn ogystal â mwy lleol, ac mae'n cynnig y cyfle i gael mwy o fudd economaidd ac i gefnogi cystadleurwydd Cymru wrth i'r economi fyd-eang ddatgarboneiddio. Dyna pam mae cyfraniad ailgylchu at symud i economi gylchol nid yn unig yn rhan allweddol o weithredu i ddatgarboneiddio, ond mae hefyd yn hanfodol o ran gweithredu ar y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a'r amcan cyffredinol sydd gennym ni, Llywodraeth Cymru, i greu economi gryfach, werddach. Dyna pam mae'r cyfrifoldeb am yr economi gylchol bellach wedi'i ymgorffori yn adran yr economi, gan adlewyrchu'r ymrwymiad yn 'Cymru Sero Net' i sicrhau bod economi gylchol ym mhob sector, a chadarnhau ymhellach sut rydym ni'n mynd ati, ar draws y Llywodraeth, i ysgogi canlyniadau.

Er ei bod hi'n bwysig dathlu ein llwyddiant a chydnabod y cyd-dynnu a arweiniodd at gyrraedd yr ail safle yn y byd—gadewch imi ailadrodd hynny: yr ail yn y byd—yn y dyfodol, does dim lle i laesu dwylo. Mae arnom ni eisiau ymgyrraedd at fod yn gyntaf nesaf. Er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu, rydym ni eisoes yn cymryd y camau nesaf, gyda'r deddfau newydd ailgylchu yn y gweithle a ddaeth i rym ar 6 Ebrill eleni. Mae'r newidiadau hyn yn cymhwyso i weithleoedd yr un dull a fu mor llwyddiannus wrth ailgylchu mewn cartrefi, gan ddod â mwy o gysondeb a sicrhau ein bod yn casglu hyd yn oed mwy o ailgylchu o ansawdd uchel y gall gweithgynhyrchwyr Cymru ei ddefnyddio.

Er bod ailgylchu yn gam hanfodol, fel y nodir yn ein strategaeth economi gylchol, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i adeiladu ar y sylfeini cryf i wneud 'Mwy nag Ailgylchu', wrth i ni drosglwyddo i economi gylchol yng Nghymru. Dyma pam rydym ni wedi bod yn cefnogi twf cyflym y cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru, gyda chaffis atgyweirio, llyfrgelloedd benthyg pethau a chanolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae'r cyfleusterau hyn, yr ydw i wedi eu defnyddio fy hun, nid yn unig yn helpu cymunedau ac unigolion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ond maen nhw hefyd yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r argyfwng costau byw, trwy ddarparu, er enghraifft, dodrefn, offer cartref, offer chwaraeon, gwisgoedd ysgol, neu alluogi pobl i fenthyg offer a chyfarpar drud i'r cartref fel golchwyr gwasgedd neu lanhawyr carpedi. Yn y pen draw, mae arnom ni eisiau gweld ailddefnyddio ac atgyweirio mor gyffredin ac arferol ag y mae ailgylchu heddiw.

Mae cyflawniadau Cymru o ran ailgylchu wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol ers peth amser, ond rydym ni bellach yn cael cydnabyddiaeth am ein dull ehangach o ymdrin â'r economi gylchol, gyda Chymru wedi'i dewis fel canolfan economi gylchol Ewrop 2024. Bydd hyn yn gweld Cymru'n cynnal cynhadledd ryngwladol yng Nghaerdydd ym mis Hydref eleni i rannu cyflawniadau Cymru ac enghreifftiau o arferion da gan gyrff cyhoeddus, gan y sector preifat, gan gymunedau, a dysgu am atebion o ran yr economi gylchol o Gymru ac yn rhyngwladol. Bydd yn gyfle euraid i gydweithio, i arloesi ac i ysbrydoli mwy o weithredu, ac edrychwn ymlaen at groesawu arweinwyr ac arloeswyr o bob cwr o'r byd.

Oherwydd poen cicio o'r smotyn, Dirprwy Lywydd, rydym ni newydd golli'r cyfle i fod yn yr Ewros y mae'r gystadleuaeth wrthi'n mynd rhagddi yr haf yma, ac rydym ni i gyd yn drist iawn am hynny. Ond yn y tabl cynghrair byd-eang ar gyfer ailgylchu, rydym ni drwch blewyn o'r safle uchaf. Felly, yn y dyfodol rwy'n ffyddiog bod gennym ni'r gallu i gyrraedd y safle cyntaf hwnnw, gyda'r cydweithio a fu'n sail i'n llwyddiant hyd yma, sy'n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i gyflawni'r dyfodol cryfach, gwyrddach a mwy cynaliadwy hwnnw i Gymru. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:05

Fe hoffwn i longyfarch pobl Cymru am yr ymdrechion arbennig y maen nhw wedi'u gwneud ac maen nhw'n dal i'w gwneud i barhau i ailgylchu, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad cadarnhaol. Mae cael eich rhestru'n ail yn y byd yn gyflawniad gwych. Rydym ni wedi mynd o 95 y cant o sbwriel yn mynd i safleoedd tirlenwi i 1.6 y cant yn unig erbyn hyn, ac mae hyn yn arbed 400,000 o dunelli o garbon deuocsid y flwyddyn.

Ond fel gydag unrhyw beth, fe allwn ni wneud mwy bob amser. Chwech deg chwech y cant yw'r gyfradd ailgylchu gyfartalog yng Nghymru, ac mae'n amrywio o 59 y cant yn Nhorfaen i 72 y cant yn sir Benfro ac Abertawe. Dros y blynyddoedd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, waeth pwy sydd wedi arwain y cyngor hwnnw yn wleidyddol, wedi gwneud yn dda iawn gydag ailgylchu. Felly, diolch enfawr i'r tîm amgylcheddol i gyd yno ac, wrth gwrs, i bennaeth y gwasanaeth.

Yn bersonol, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda chymunedau a busnesau. Rydych chi wedi sôn am y cynllun newydd a gyflwynwyd ym mis Ebrill ar gyfer busnesau. Gan fod gen i swyddfa fy hun, rwy'n cymryd rhan yn hyn, ac erbyn hyn mae'n rhaid i ni gael cynhwysydd ar gyfer gwastraff bwyd, ond does byth unrhyw wastraff bwyd yn fy swyddfa. Mae gennym ni fagiau te, ac felly mae'n rhaid iddyn nhw fynd i mewn i'r gwastraff bwyd. Felly mae'n rhaid i mi gael y cynhwysydd yma, ond yna mae hynny'n golygu cael llawer o finiau yn ein buarth, a does gennym ni mo'r lle, ond rydyn ni'n ei wneud. Ond yna mae yna fusnesau eraill lle rydym ni'n rhannu'r maes parcio yma, ac mae'n anodd ar hyn o bryd. Dyna fu'r adborth negyddol mwyaf rydw i wedi'i gael—niferoedd y cynwysyddion rydym ni nawr wedi gorfod eu cael y mae angen eu gwagio. Felly, a ellid meddwl am hynny ychydig yn well yn y dyfodol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ei feirniadu, rwy'n gwybod, gan fy nghyd-Aelod Darren Millar AS a Gareth Davies hefyd oherwydd eu bod nhw newydd wario miliynau ar gael gwared ar ei gasgliad bin olwynion glas poblogaidd, hawdd ei ddefnyddio a llwyddiannus, yr ydw i mor genfigennus ohono yn Aberconwy, oherwydd mae gennym ni flychau troli, ac yn y tywydd gwael maen nhw'n anobeithiol. Rydych chi'n eu gweld nhw yn y gwrychoedd, rydych chi'n eu gweld nhw ar ffyrdd; maen nhw'n eithaf peryglus, mewn gwirionedd, oherwydd dydyn nhw'n ddim yn ddigon trwm.

Erbyn hyn maen nhw wedi cael gwared ar eu gwasanaeth casglu ailgylchu cymysg biniau olwynion glas llwyddiannus. Wrth symud i system ddadleuol Trolibocs, fe hoffwn i pe baen nhw wedi siarad â'r awdurdod cyfagos, Conwy. Mae miloedd o gasgliadau biniau o gartrefi wedi'u colli. Yn ôl y prif weithredwr, Graham Boase, mae'n cymryd mwy o amser i weithwyr sbwriel gasglu gwastraff, ac roedd lorïau sbwriel wedi llenwi mwy efallai nag y bwriedid, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd i'r depo yn amlach i ddadlwytho i fynd yn ôl allan eto. Mae'r saga yma'n tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth i weld a yw gofyn i breswylwyr ddidoli eu hailgylchu yn fwy effeithlon na chymysgu deunydd ailgylchu a'i adael i weithwyr gwastraff proffesiynol ei ddidoli.

Rydw i wedi siarad o'r blaen am roi mentrau o dan ofyniad cyfreithiol i gael cynifer â chwe bin gwahanol, ac mae'n profi'n anodd. Felly, fel y Gweinidog newydd, byddwn yn gofyn i chi geisio gwneud adolygiad neu ofyn i fusnesau am adborth ynghylch sut y gallwn ni ei wneud yn well. Mae swyddfeydd fel fy un i yn gorfod archebu casgliad o finiau enfawr 240 litr ar gyfer ychydig iawn o bethau a ddychwelir. Rwy'n ffodus bod gennym ni faes parcio yr ydym ni'n ei rannu, ond beth am y busnesau llai hynny nad oes ganddyn nhw le y tu allan ac sy'n gorfod casglu'r cyfan yn y biniau ar wahân hyn? Mae'n anghynaladwy.

Mae rhai perchnogion yn ofni dirwyon. Rydw i'n gwybod, er enghraifft, am berchnogion parciau carafanau twristaidd sydd bellach yn gorfod mynd drwy eu holl finiau ailgylchu yn wythnosol i sicrhau bod cwsmeriaid—. Mae gen i safle yng Nghonwy, gyda 65 o gartrefi symudol yn yr achos hwnnw. Mae pobl yn ofni gorfodaeth ac unrhyw ffioedd ychwanegol. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod yn rhaid i chi weithio law yn llaw â'r busnesau hynny, gwrando arnyn nhw o ran a ydych chi'n llwyddo.

Mae gofynion blychau troli ac ailgylchu i fusnesau yn feichus yn ddiangen pan ddylen nhw fod yn syml. Rydw i wedi sôn o'r blaen wrth y Gweinidog blaenorol fod popeth yn mynd i un cynhwysydd yn y fflatiau lle rwy'n byw pan ddof i Gaerdydd. Does dim ailgylchu. Mae miloedd o fflatiau a rhandai heb lawer o le yng Nghaerdydd, a meddwl ydw i sut rydych chi'n gweithio gyda'r cwmnïau rheoli i sicrhau bod eu preswylwyr yn gallu gwneud hynny.

Rydw i'n gwybod bod y ddau ohonom ni'n gefnogol iawn i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes i Gymru. Byddai diweddariad ar eich cydweithrediad â Llywodraeth y DU ar hyn o gymorth mawr.

Yn olaf, byddwch yn ymwybodol fy mod yn ymgymryd â nifer o sesiynau codi sbwriel, yn enwedig ar ein traethau, ac rwy'n poeni, fel y crybwyllwyd o'r blaen, nad yw tipio anghyfreithlon yn gwella. O dan arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu o 32,000 yn 2014-15 i bron i 40,000. Mae'n rhaid i ni gosbi'r llygryddion hyn sy'n tipio'n anghyfreithlon, a byddwn yn dweud mai'r mwyaf yw'r ddirwy, y mwyaf y rheswm dros beidio â gwneud. Diolch, Dirprwy Lywydd.   

16:10

Janet, yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn am y croeso a'ch cydnabyddiaeth mai grym pobl sy'n gyrru hyn mewn gwirionedd—ie yn wir. Mae wedi bod yn her i aelwydydd unigol pan aethom ni drwy hyn, ac roedd llawer o ddadlau yn wreiddiol, ond hefyd i awdurdodau lleol. Mae sir Ddinbych, y sonioch chi amdani, yn rhyfedd iawn, yn mynd trwy hynny ar hyn o bryd, ond yr hyn maen nhw'n ein helpu ni i'w wneud yw ymgyrraedd at y targed hwnnw o 70 y cant sydd gennym ni ar hyn o bryd, fel y byddwn ni'n gyntaf yn y byd, gobeithio. Ond rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydych chi'n tynnu sylw yn gwbl briodol at yr hyn y mae awdurdodau cyfagos wedi'i wneud, fel Conwy.

Mae pob awdurdod lleol yn dechrau o sefyllfa wahanol, yn mynd ati mewn ffordd ychydig yn wahanol yn seiliedig ar eu cynlluniau gyda'u preswylwyr a'u casgliadau wrth ymyl y ffordd, ac yn y blaen. Ond mae gennym ni grŵp arbenigol sy'n gweithio gyda'r holl awdurdodau lleol. Dw i newydd ddod o gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llythrennol yn trafod hyn wrth i mi ddod i lawr yma i'r Siambr a bron i mi fethu dechrau'r ddadl, Dirprwy Lywydd. Ond roeddem yn dweud mewn gwirionedd mai mantais y dull gweithredu yng Nghymru a gweithio mewn partneriaeth yw ein bod yn rhannu arfer gorau, rydym yn edrych ar y rhai sydd wedi gwneud hyn hefyd, gan gynnwys fy awdurdod lleol fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle cawsom ni dipyn o ddadlau yn sicr wrth i ni gynyddu ein hystadegau yn y fan yna. Ond fe wnaethom ni gyflawni, a bydd sir Ddinbych yn cyflawni hefyd, a byddwn ni'n gweithio gyda nhw ac yn eu helpu nhw.

Fe wnaethoch chi sôn am ambell beth yn y fan yna ynghylch a oes ffyrdd eraill y gallem ni wneud hynny. Rydych chi'n tynnu sylw at rai lle nad ydyn nhw'n didoli. Rydym ni'n gwybod mai'r didoli a'r gwahanu wrth i chi'n ei roi yn y cynwysyddion, ei gadw'n lân, ei gadw ar wahân, yw'r union beth sy'n gwella ansawdd a defnyddioldeb yr ailgylchu hwnnw sy'n dod drwodd. Yr hyn nad oes arnom ni mo'i eisiau yw pethau sy'n cael eu cymysgu gyda'i gilydd. Dyna pam mae yn dipyn o daith i wneud hyn ac i esbonio i bobl pam mae angen i ni wneud hyn. Ond fe ddywedaf i wrthych chi yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd hynny yng Nghymru lle mae awdurdodau lleol wedi gwneud hynny erbyn hyn, mae pobl yn dweud, 'Wel, dyma beth rydym ni'n ei wneud', a dyna pam rwy'n amau, o ran rhai'r gweithle, fod rhai pryderon wedi'u mynegi yn y Siambr hon, ond llai o bell ffordd nag a fynegwyd o ran cartrefi. Mewn gwirionedd, mae pobl bellach yn dweud, 'Rydym ni'n deall pam mae angen i ni wneud hyn, a dyma'r peth iawn i'w wneud'.

Dim ond ambell sylw arall. Nid yw pob awdurdod lleol yno eto, ond edrychwch ar y camau yr ydym ni wedi'u cymryd. Rydym ni'n cydweithio fel yna er lles pawb, fel y dywedais wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr ydw i newydd gyfarfod â nhw. Fe wnaethoch chi grybwyll y cynllun dychwelyd ernes hefyd yn fyr iawn. Roeddem ni'n falch o gymeradwyo'n eithaf diweddar ddatganiad pedair gwlad ar y cynllun dychwelyd ernes, yr oedd Llywodraeth y DU yn awyddus iawn i'w gadarnhau gyda'r Alban, Gogledd Iwerddon a ninnau. Rydym yn hapus i wneud hynny. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar blastig, dur ac alwminiwm, sy'n wych, mae hynny'n dda, ond, mewn gwirionedd, mae Cymru ymhellach ymlaen ar y llwybr. Felly, rydym ni wedi egluro i Lywodraeth bresennol y DU, ac i unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol, ein bod yn sefyll yn gadarn iawn o ran dweud, 'Cynllun cynnwys popeth yw'r hyn sydd ei angen arnom ni.' Oherwydd mae angen gwydr arnom ni nid yn unig i ymdrin â materion sbwriel ac ailgylchu, ond oherwydd mai gwydr a fydd yn ein helpu i symud i lawr yr agenda datgarboneiddio. Y syniad ein bod yn ei gynhesu hyd at 1,500 gradd, gyda'r holl ddwysedd carbon y mae hynny'n seiliedig arno, ac yna'n ei ailgylchu i gynnyrch arall, pan mai'r hyn y gallem ni fod yn ei wneud—ac rwy'n ddigon hen i gofio hyn—yw dychwelyd y poteli mewn cyflwr da, ar system fodern, ar adeg benodol gyda'r manwerthwr hwnnw, fe allwn ni wneud hynny. Fe allwn ni wneud hynny. A byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r gadwyn gyflenwi i wneud hynny. Ac maen nhw'n gwybod hyn, ac rydw i wedi cwrdd â nhw, ond dyna'r cam nesaf.

Felly, cynllun yn cynnwys popeth yw'r hyn yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru, oherwydd rydym ni ar flaen y gad a, wyddoch chi, bydd adegau, Dirprwy Lywydd, lle mae'n bosib y bydd Lloegr ar flaen y gad, neu y bydd yr Alban ar flaen y gad, ac fe hoffem ni iddyn nhw allu rhoi cynnig arni ac fe allwn ni ddilyn yn dynn wrth eu sodlau. Mae hyn yn enghraifft lle mae Cymru ar y blaen gyda'r mater yma, felly gadewch i ni fwrw ymlaen â hynny—dyna fydden ni'n ei ddweud wrth unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol: 'Gweithiwch gyda ni ar hyn; fe allwch chi ei wneud o fewn strwythur marchnad fewnol y DU.' Mae yno i reoli dargyfeirio, nid i roi'r gorau i ddargyfeirio, ac yna fe allan nhw ein dilyn ni y tro yma, fel y gwnaethom ni gyda'r ardoll bagiau plastig ychydig flynyddoedd wedyn. Mae gennym ni hanes o lwyddiant gyda hyn, felly dyna beth yr hoffem ei wneud gyda'r cynllun dychwelyd ernes, a byddem wrth ein bodd yn cael eich cefnogaeth ar hynny hefyd, Janet.

16:15

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch pobl Cymru am y cyflawniad rhyfeddol o gael ein rhestru fel yr ail genedl ailgylchu orau yn y byd. Nid camp fach mo hynny, ac mae'n dyst i waith caled ein cymunedau a'n hawdurdodau lleol a'n busnesau sydd wedi cofleidio pwysigrwydd ailgylchu.

Fodd bynnag, er ein bod yn dathlu'r cyflawniad hwn, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn feirniadol ac yn adeiladol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella a mynd i'r afael â'r heriau parhaus yn y sector ailgylchu. Ac un o'r prif bryderon, efallai, yw ansawdd a chynaliadwyedd swyddi yn y diwydiant ailgylchu. Er bod cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu, mae'n rhaid i ni ofyn a yw'r swyddi a grëir yn y sector hwn yn adlewyrchu'r safonau uchel a'r nodau cynaliadwyedd rydym ni'n anelu atyn nhw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y swyddi hyn nid yn unig yn niferus, ond hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o ansawdd uchel i'n dinasyddion? Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y gweithlu, gan ddarparu'r hyfforddiant a'r datblygiad gyrfa angenrheidiol, i feithrin diwydiant ailgylchu cadarn a gwydn. Felly, a allech chi fanylu ar y mesurau penodol sy'n cael eu gweithredu i gefnogi ac ehangu swyddi o ansawdd uchel yn y sector hanfodol hwn?

Yng ngoleuni ein safle trawiadol, mae'n hanfodol hefyd ein bod yn parhau i esblygu ac arloesi o ran ein harferion ailgylchu. Felly, gyda hyn mewn golwg, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet rannu gwersi neu arferion gorau o wledydd eraill sy'n flaenllaw o ran ailgylchu, yn enwedig Awstria wrth gwrs? Rydym ni'n ystyried, neu eisoes wedi dechrau gweithredu, i foderneiddio a gwella ein hailgylchu ymhellach yng Nghymru. Sut ydym ni'n sicrhau ein bod ni'n aros ar flaen y gad o ran technoleg a methodoleg ailgylchu, i gynnal a gwella ein statws byd-eang? Gadewch i ni fynd am y safle uchaf.

Mater pwysig arall, wrth gwrs, yw her barhaus newid ymddygiad, ac rydych chi wedi sôn rywfaint am hyn. Er bod ein cyfraddau ailgylchu, wrth gwrs, yn ganmoladwy, mae sicrhau bod cyfranogiad cyson ar draws yr holl ddemograffeg a'r holl sectorau yn parhau i fod yn rhwystr. Felly, pa fentrau sydd ar waith ar hyn o bryd i ymgorffori ailgylchu ac arferion economi gylchol ym mywydau beunyddiol ein dinasyddion? Sut allwn ni wella'r mentrau hyn i sicrhau bod ailgylchu nid yn unig yn arfer, ond yn agwedd ar ein diwylliant sydd wedi gwreiddio'n ddwfn? Felly, byddai'n dda clywed mwy am unrhyw fath o ddulliau arloesol neu ymgyrchoedd addysgol sydd wedi'u cynllunio i annog a chynnal newid mewn ymddygiad.

Mae'r gofynion newydd ar gyfer busnesau ynghylch ailgylchu yn cyflwyno cyfleoedd a heriau, fel yr ydym ni wedi clywed. Er bod y rheoliadau hyn yn gam, wrth gwrs, i'r cyfeiriad cywir ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol, mae busnesau bach a chanolig yn wynebu rhwystrau wrth addasu i'r newidiadau hyn. Felly, pa fecanweithiau cymorth sy'n cael eu gweithredu i'w cynorthwyo i drosglwyddo'n esmwyth, i'w hannog i ddod yn rhan o hyn ac i beidio â'i weld fel rhywbeth problemus, fel yr amlinellodd Janet Finch-Saunders? Mae'n rhaid i ni gael arweiniad ac adnoddau cynhwysfawr i sicrhau bod ein busnesau bach a chanolig yn gallu bodloni'r safonau newydd hyn, a chofleidio'r holl beth mewn gwirionedd.

Efallai na allwn ni anwybyddu chwaith problem gynyddol gwastraff fêps tafladwy. Mae wir yn fygythiad amgylcheddol sylweddol, ac yn aml caiff yr eitemau hyn eu gwaredu'n amhriodol, gan arwain at gynnydd mewn sbwriel, wrth gwrs, a niwed posibl i fywyd gwyllt ac ecosystemau. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phla gwastraff fêps tafladwy? A oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth neu gymhellion i ffrwyno'r defnydd o fêps tafladwy a hyrwyddo dewisiadau amgen mwy cynaliadwy? Mae mynd i'r afael â'r mater yn hanfodol wrth gynnal uniondeb ein hymdrechion ailgylchu, a sicrhau'r Gymru lanach, werddach honno y mae arnom ni i gyd eisiau ei gweld.

Yn olaf, mae'n hanfodol ystyried cyd-destun ehangach ein cyflawniadau ailgylchu o fewn fframwaith yr economi gylchol, fel yr amlinellwyd gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet. Felly, sut ydym ni'n monitro ein harferion ailgylchu, er mwyn sicrhau eu bod nhw wir yn cyfrannu at yr economi gylchol honno y mae arnom ni eisiau ei gweld lle mae deunyddiau'n cael eu hailddefnyddio a'u hailbwrpasu, ac yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl? Oherwydd mae'r newid i'r economi gylchol hon, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy nag ailgylchu mwy a mwy, mae'n ymwneud â newid yn sylfaenol ein dull o reoli adnoddau. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi diweddariad ynghylch sut mae'r strategaethau sydd ar waith, y cyfeirioch chi atyn nhw, i ymgorffori egwyddorion economi gylchol ar draws sectorau yng Nghymru, yn cyflawni.

I gloi, er ein bod, yn gywir ddigon, yn dathlu ein statws fel un o arweinwyr y byd mewn ailgylchu, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus ac yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, fel y gallwn ni sicrhau bod Cymru'n parhau i osod y safon ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny a diolch am agor eich sylwadau drwy longyfarch pobl Cymru oherwydd dyna'n union sydd wedi digwydd. Nid yw'n drawsnewidiad, ein cam anferthol o'r hyn yr ydw i wedi'i ddisgrifio'n gyhoeddus o'r blaen, pan oeddwn i'n eistedd ar y meinciau gwyrdd yn San Steffan, fel rhywbeth o embaras o ble roedd Cymru arni o ran ailgylchu i ddod yn ail yn y byd, ac o fewn trwch asgell gwybedyn o fod yn gyntaf yn y byd. Dirprwy Lywydd, fel y gwyddoch chi, fe wnaethom ni gyfarfod â dirprwyaeth y diwrnod o'r blaen a oedd yn cynnwys llysgennad Awstria, ac roedd yn gyfarfod hyfryd ac fe wnaethom ni ddod ymlaen yn dda iawn. Buom yn trafod llawer, llawer o bethau, ond dywedais wrtho, 'Rydyn ni'n dod am eich teitl', ac fe chwarddodd am y peth; wnes i ddim achosi digwyddiad diplomyddol yno. [Chwerthin.]

O ran pobl Cymru, nid yr unigolion hynny yn unig sy'n gwneud y gwaith, ond y bobl hynny sy'n gweithio o fewn awdurdodau lleol, y bobl sy'n gweithio o fewn WRAP, y bobl sy'n gweithio mewn sefydliadau cymunedol, sy'n cymell ac yn efengylu am ailddefnyddio, ailgylchu a'r economi gylchol—maen nhw'n ein helpu ni, mae pawb yn ein helpu ni yma. A'r plant—. Pan gwrddais â'r Eco-Sgolion ddoe, mewn menter a drefnwyd gan Eluned Morgan gydag ysgolion ledled canolbarth a gorllewin Cymru—bobl annwyl, byddan nhw'n ein gorfodi ni i wneud hyn oherwydd eu bod yn ei weld, ac maen nhw'n ei weld o ran y swyddi hefyd, y byddaf yn troi ato mewn eiliad.

Rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, Jeremy Miles, ar hyn hefyd, oherwydd y cynhelir y cylch ar gyfer economi gylchol o fewn hynny, yn ddealladwy, ond agweddau fel hyn, yr hyn a wnawn ni gydag ailgylchu ac ailddefnyddio—dyma'r dull Llywodraeth-gyfan priodol o weithio arno. Ac rydych chi'n codi'r mater hwnnw'n eithaf perthnasol, y mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth gyfan i sicrhau ein bod ni'n cadw'r gwerth yng Nghymru, fel nad ydym ni ddim ond yn casglu'r ailgylchu, ein bod ni mewn gwirionedd yn gyfrifol am y llinell gynhyrchu gyfan.

Nawr, ar hyn o bryd—yn ddiddorol, roeddem ni ym Mhort Talbot, rwy'n credu mai wythnos i ddydd Llun diwethaf oedd hi, fi, y Dirprwy Lywydd, a'r Prif Weinidog, yn sefyll o flaen tomenni o sothach plastig, y plastigau anoddaf eu hailgylchu sydd gennym ni yn y DU, y math o bethau a fyddai naill ai'n draddodiadol wedi mynd i safleoedd tirlenwi neu'n eu cludo i rywle pell anghofiedig ym mhen draw'r byd. Nid dyna'r sefyllfa bellach. Dyna'r cwmni mwyaf, AWJ—ef a'i dad yn gweithio gyda'i gilydd, gan drawsnewid cwmni o gwmni gwastraff traddodiadol/tirlenwi yn wastraff ailgylchu. Mae ganddyn nhw'r ffyrdd o dorri'r plastig caled hwnnw i lawr i gynnyrch ailgylchu mewn gwirionedd, ond maen nhw ar hyn o bryd yn gorfod mynd ag ef dros y ffin i Birmingham a Swydd Derby a llefydd fel yna iddyn nhw ei droi'n gynhyrchion, a'r hyn ddywedon nhw yw, 'Yr hyn mae arnom ni eisiau ei wneud yw, nawr bod gennym ni'r datblygiad'—ac maen nhw'n gwneud hynny; nhw yw'r cwmni mwyaf sy'n gwneud hyn yn ne Prydain gyfan—ond mae arnyn nhw eisiau cadw'r gwerth yma yng Nghymru, ac maen nhw wedi ymrwymo i wneud hynny, eu hunain a thrwy weithio gydag eraill, a dyna lle mae angen i ni wneud hynny'n gynaliadwy—. Pan fyddwn yn siarad am swyddi gwyrdd, dyna'r swyddi gwyrdd. Yn yr hyn a oedd yn gwmni  traddodiadol gwastraff i safleoedd tirlenwi, sydd bellach gyda thad gwybodus iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, sy'n deall biocemeg fel nad oes yfory, a'i fab, sy'n frwdfrydig—mewn gwirionedd yn troi hynny yn fusnesau heddiw ac yfory ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dim ond ychydig o bethau eraill i sôn amdanyn nhw. Mae newid arferion yn allweddol. Rwyf wedi nodi'n glir ym mhob agwedd ar y swydd yr wyf wedi ymgymryd â hi fod angen i ni ennill calonau pobl gyda hyn. Ac weithiau mae hynny'n golygu dweud, 'Mae'n rhaid i ni weithio'n gyflym ac mae'n rhaid i ni ddringo'r mynydd hwnnw'n gyflym iawn, ond fe wnawn ni hynny gyda'n gilydd', ac i gadw'r agwedd gadarnhaol yna, fel nad oes a wnelo hyn i gyd â gwaith caib a rhaw—dyma'r peth sy'n darparu swyddi yn ogystal â'r budd amgylcheddol. Mae'r swyddi gwyrdd hynny yn rhai go iawn. Felly, byddwn yn parhau i wneud hynny.

Ond rydym ni hefyd, gyda llaw, yn gwneud llawer o waith ar ymchwil i arferion hefyd, ar draws y timau yn fy mhortffolio, gan gynnwys hyn, a chydag Ysgrifennydd Cabinet arall, i wneud yn siŵr y gallwn ni egluro pam ein bod yn gwneud hyn a beth fydd hyn yn arwain ato o ran llai o sbwriel, Janet, mwy o swyddi, yn ogystal â gwneud daioni dros y blaned hefyd, ac o bryd i'w gilydd yn ein llongyfarch ein hun i ddweud, 'Rydym ni wedi llwyddo.' Ac rydych chi'n llygad eich lle wrth ddweud, 'Gadewch i ni fynd ymhellach. Gadewch i ni anelu am y safle uchaf."

Yn gyflym iawn, iawn, mae gennym arweiniad arbenigol ac arweiniad pwrpasol ar gyfer pob un o'r rheini, boed yn elusennau neu'n fusnesau bach o wahanol fathau. Rwyf wedi cwrdd â Carolyn a James Evans yn ddiweddar oherwydd materion yn ymwneud â meysydd carafanau a gwersylla. Fe aethom ni, gyda'n swyddogion, drwy'r canllawiau sydd ar gael. Felly, mae gennym ni, nid yn unig o ran—. Chwarae teg i swyddogion, maen nhw wedi bod allan i gwrdd â nhw, wedi hynny, ac fe aeth yn dda iawn, rwy'n deall. Ond mae yna hefyd ddeunydd ar-lein, fideos, pethau hawdd eu deall o sut y gellir gwneud hyn i helpu pobl wneud hynny, oherwydd mae hynny'n bwysig.

Fêps tafladwy—yn fyr iawn, iawn, achos rwy'n trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—rydym ni eisoes wedi gwneud yn glir—. Roeddwn i'n ffodus o gael y swydd ar adeg lle gallem ni wneud y cyhoeddiad ein bod am symud ymlaen nawr ar wahardd fêps untro. Mae etholiad y DU wedi tarfu ar hynny, ychydig, ond rwy'n gobeithio nad yw'n faen tramgwydd unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol, yn eu dargyfeirio, oherwydd rydym ni wedi nodi'n glir ein bod, o 1 Ebrill, yn bwriadu gwahardd fêps untro, nid yn unig oherwydd eu heffaith amgylcheddol, ond hefyd y cynnydd cyflym yr ydym ni wedi'i weld o'u defnydd ymhlith plant, nad ydyn nhw'n eu defnyddio fel rhyw ateg neu ddewis arall i fod yn gaeth i nicotin—mae'n dod yn ffordd o ddechrau ar y llwybr yna. Felly, mae hyn yn cyd-fynd â chamau gweithredu sy'n cael eu cymryd yn Lloegr a'r Alban, felly rydym ni'n ceisio cael un dull cyson drwy'r DU ar hyn, ac rydym ni'n awyddus iawn i weld hynny'n gweithio, oherwydd mae'n broblem sbwriel ac amgylcheddol, ac mae'n fater iechyd hefyd. Felly, rydym ni'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny.

16:25

Bydden nhw'n rhoi pryd o dafod imi pe na bawn yn eich cywiro. [Chwerthin.] Jenny Rathbone.

Diolch. Rwy'n siomedig iawn nad yw Gareth Davies yma, oherwydd gallai ddysgu rhywbeth o hyn mewn gwirionedd, gan ei fod yn parhau i rygnu ymlaen am y problemau a ddioddefodd pobl sir Ddinbych wrth orfod gwneud yr hyn y mae pobl Conwy wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd a blynyddoedd. Beth bynnag—dim ond i egluro iddo, oherwydd mae Caerdydd wedi bod yn llusgo traed yn hyn o beth, yn anffodus, ond mae bellach yn gwneud cynnydd cyflym, gyda dau o fy wardiau yn dechrau didoli ar garreg y drws o fis Gorffennaf, a bydd gweddill Caerdydd gyfan yn didoli ar garreg y drws erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Felly, y rheswm pam mae angen mawr i Gaerdydd wneud hyn, a'i bod bellach ar frys i wneud hynny, yw oherwydd y colli enillion y mae Caerdydd yn dioddef o beidio â'i wneud. A dyna sydd angen i Gareth Davies ei ddweud wrth bobl dda sir Ddinbych. Pa awdurdod lleol all fforddio peidio â gwneud hyn, o ystyried y gwahaniaeth yn y gwastraff? Mae gen i'r dystiolaeth ffotograffig o'r sefyllfa cyn ac ar ôl, yr effaith gewch chi o—. Lle na ddidolir, mae'r cyfan yn wastraff halogedig, sy'n llawer llai gwerthfawr, tra bod y rhai sydd wedi eu didoli—fe allwch chi weld bod hyn yn amlwg yn wastraff y gall pobl wneud rhywbeth ag ef a gwneud arian ohono.

Felly, fe hoffwn i wybod, o ran dwy her arall, beth allwn ni ei wneud i sicrhau y gallwn ni wneud arian o'r baw a gynhyrchir gan wartheg a siediau dofednod, o ystyried bod y—? Sefydlwyd cyfoeth Periw o giwana yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd yn un o'r gwrteithiau pwysicaf bryd hynny. Sut allwn ni gyflymu'r broses o wahanu dŵr llwyd oddi wrth garthffosiaeth, fel nad ydym ni'n gorfod talu am weithfeydd carthion ychwanegol drud, pan y gallem ni fod yn ailddefnyddio'r dŵr llwyd i lanhau ein strydoedd a dyfrio ein blodau?

16:30

Dyna gwestiwn terfynol gwych. Dim ond i ddweud fy mod yn cytuno â chi yn llwyr. Soniwyd amdano yn gynharach yn un o'r cyfraniadau cychwynnol, 'Onid yw'n braf pan fyddwch yn cyrraedd man lle gallwch chi roi popeth mewn un peth mewn awdurdod lleol ac yna maen nhw'n ei wahanu?'—na, na, na. Na, na, na, na. Y rheswm yr ydym ni lle rydym ni, Dirprwy Lywydd, yw oherwydd ein bod yn gwneud yr union beth y dywedoch chi, Jenny, sef y didoli yna ar garreg y drws gydag eitemau glân, anhalogedig. Mae'n cynyddu gwerth y cynhyrchion ailgylchu hynny, a'r gadwyn werth, wedyn, o sut mae'r rheini'n cael eu defnyddio neu eu hailddefnyddio wedyn. Felly, mewn gwirionedd, peidiwch ag edrych ar y rhai sy'n dal i weithio eu ffordd i fyny—a byddwn yn eu cefnogi i wneud hynny—edrychwch ar y rhai sydd wedi cyrraedd y sefyllfa honno a beth maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n gwahanu eu gwastraff, ac mae hynny'n ychwanegu at y gadwyn werth yn enfawr.

A'r peth arall y byddwn i'n ei ddweud ynghylch hynny yw pwynt a wnaed yn gynharach, mewn gwirionedd: un peth y mae angen i ni ei wneud yw bod angen i ni arwain ar hyn, fel Aelodau o'r Senedd hefyd. Nid oes angen i ni ddweud, 'Edrychwch pa mor fawr yw'r mynydd hwnnw, allwn ni ddim gwneud hynny, gadewch i ni fynd yn ôl at yr hyn yr oeddem yn arfer ei wneud.' Mae angen i ni ddweud, 'Edrychwch pa mor fawr yw'r mynydd hwnnw a'r cyfleoedd wrth i ni ei ddringo, mewn swyddi yn ogystal â'r amgylchedd a phopeth arall. Gadewch i ni wneud y mwyaf o hyn. Gadewch i ni fynd i fyny yno gyda'n gilydd.' Dyna beth sydd angen i ni ei wneud. Felly, mewn gwirionedd, po fwyaf yr ydym ni'n siarad sbwriel awdurdodau lleol—. Mae'n ddrwg gen i, nid oedd hynny'n fwriadol. Ond po fwyaf yr ydym ni'n sefyll yn y Siambr hon ac yn beirniadu awdurdodau lleol am beidio â chyflawni neu oherwydd eu bod yn ceisio gwneud pethau arloesol i daro'r targed hwnnw o 70 y cant, sydd mewn gwirionedd yn ein llesteirio. Yr hyn maen nhw eisiau ei weld yw ein bod ni'n sefyll i fyny a dweud, 'Gadewch i ni gyrraedd yno, gallwn ni ei wneud, edrychwch ar yr awdurdodau cyfagos, edrychwch ar eraill sydd wedi bod drwy hyn.' Rydym wedi bod drwyddo yn fy un i. Roedd yn boenus, ond fe gyrhaeddon ni yno a nawr dydy pobl ddim yn cwestiynu. Felly, dyna beth sydd angen i chi ei wneud.

Eich cwestiwn diddorol ar y diwedd yn y fan yna. Felly, mae arweinyddiaeth gennym ni, rwy'n credu, yn allweddol. Arian am faw o wartheg ac ieir—rwy'n credu bod angen i ni ddelio â hynny yn llwyr hefyd. Mae'n sefyllfa debyg. Yn hytrach nag edrych ar hyn fel problem, dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, ble mae gennym ni'r prifysgolion, y cyfadrannau ymchwil'—ac mae'n digwydd—'sy'n dechrau dal sylw a dweud, "Sut ydym ni'n gweld hyn fel sgil-gynnyrch defnyddiol a gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio, yn hytrach na mynd i orddefnydd yn ein pridd neu fynd i mewn i'n hafonydd?"' A dyna lle mae angen i ni fod. Dyna sut mae angen inni fynd ati mewn economi gylchol, gan ddweud, 'Sut rydym ni'n defnyddio'r pethau hyn?', nid ei weld fel baich, ond yn gyfle.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yma heddiw, sydd wir yn rhoi digon i ni ei ddathlu. Rwy'n rhannu eich uchelgais i Gymru fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu, ac mae'n amlwg bod arfer rhagorol ar draws ein hawdurdodau lleol yng Nghymru, ond mae lle o hyd i awdurdodau lleol ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn safoni a gwneud y gorau o'r arfer gorau hwnnw. Er enghraifft, rwy'n credu mai Cyngor Rhondda Cynon Taf yw un o'r unig awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â'r gallu i ailgylchu matresi. Nid dim ond y sbrings yw hynny; ond y ffabrig hefyd. Ac yn ogystal, mae llawer o'n hawdurdodau lleol yn darparu cyfleusterau i ailgylchu cewynnau tafladwy, gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn cael ei gydnabod unwaith eto fel arweinydd byd yn y maes hwn. Ond nid yw pob awdurdod lleol yn cynnig ailgylchu cewynnau tafladwy. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, beth arall y gellir ei wneud i rannu'r arfer gorau hwnnw ledled Cymru fel y gellir ailgylchu mwy o eitemau, gan ein helpu i anelu at y safle cyntaf hwnnw y byddai'n wych ei sicrhau?

Vikki, cwestiwn gwych iawn, ac, fel y soniais i, rydw i newydd ddod o gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mewn gwirionedd, maen nhw—. Rydym ni'n dysgu ganddyn nhw, yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud, ac maen nhw, fel Rhondda Cynon Taf, yn arwain arloesedd. Ac mae'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond yr hyn sy'n wych am y grŵp arbenigol o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw bod rhannu arfer da. Nid y neges a gefais o'r cyfarfod gyda nhw nawr yw amharodrwydd i symud ymlaen, brwdfrydedd gwirioneddol i'w wneud, hyd yn oed gyda'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd esgyn y rhan olaf honno o'r bryn gyda'r targedau cyfredol. Ond mae hynny oherwydd eu bod yn gallu edrych ar y datblygiadau arloesol sy'n digwydd mewn mannau eraill.

Mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn â sut rydym ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r grŵp arbenigol i ddweud mewn gwirionedd, 'Wel, nid oes rhaid i chi i gyd wneud y gwaith o gasglu ac ailgylchu eitemau penodol; fe allwch chi weithio gyda'ch gilydd ar hyn,' ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio fel yna hefyd. Rwy'n credu bod y dull partneriaeth hwn yng Nghymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn. Ond yr hyn sy'n ein rhoi mewn gwell sefyllfa hyd yn oed yw'r hyn a godais o'r cyfarfod hwnnw gynnau, nad oes unrhyw wrthwynebwyr yno. Nid oes unrhyw un, fel y clywsom ni yn gynharach yn y Siambr hon heddiw yn dweud, 'O, mae hyn yn rhy anodd, gadewch i ni liniaru ychydig ar hyn, gadewch i ni orffwys ar ein rhwyfau, gadewch i ni fynd i lawr o rif 2 i rif 10 i rif 20 i unrhyw beth, oherwydd nid oes rhaid i ni wneud yr holl lafur caled yma.' Wel, os nad ydyn ni'n gwneud y gwaith caled yna, yna dydyn ni ddim yn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol mae arnom ni eu heisiau, dydyn ni ddim yn datgarboneiddio ar y cyflymder rydym ni am ei wneud, ond hefyd dydyn ni ddim yn creu'r swyddi hynny yn y gadwyn gyflenwi hefyd, gan gynnwys y rhai lle maen nhw'n arloesi yn Rhondda Cynon Taf, ac mae arnom ni eisiau gweld hyn ledled Cymru—y gogledd, y de, y gorllewin, y canolbarth—pobman yn darparu'r buddion hynny i'r gadwyn gyflenwi.

16:35

Dyma gydweithio ar ei orau: Llywodraeth Cymru, trigolion ac awdurdodau lleol yn cydweithio. Dim ond eisiau dweud oeddwn i ei bod hi'n anodd casglu gwastraff i awdurdodau lleol. Mae cerbydau'n torri lawr, staff yn absennol, ac yn wir fe wnes i weithio rownd un diwrnod; cerddais 13 milltir. Felly, dim ond eisiau dweud ydw i, pan fo gennych chi fwy o dai, mae newid yn anodd—wyddoch chi, i sir Ddinbych, wneud y newid yma—mi fydd yna broblemau yn sicr i ddechrau, ond mae'n rhaid i ni roi cefnogaeth iddyn nhw gyda hynny. Mae tystiolaeth wedi dweud wrthym ni nad oes llawer i'w ennill wrth symud ymlaen gyda chynllun dychwelyd ernes, ac rwyf mor falch ein bod yn mynd ati fel pedair gwlad ac yn gweithio, gyda chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn dod i mewn yn gyntaf hefyd; rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol dda. Rwy'n gwybod eu bod nhw, yn Lloegr, mor bell y tu ôl fel mai ailgylchu 41 y cant yw'r cyfartaledd yn Lloegr; mae Lerpwl ar ddim ond 17 y cant. Felly, mae ganddyn nhw lawer o ddal i fyny i'w wneud.

Dim ond eisiau gofyn cwestiwn i chi oeddwn i am wastraff sy'n cael ei gynhyrchu wrth deithio. Felly, rydym ni'n gweld hyn yn y biniau cyhoeddus, on'd ydyn ni? Mae'n anodd iawn i awdurdodau lleol ailgylchu oherwydd ei fod wedi'i halogi, felly meddwl oeddwn i tybed beth allech chi ei wneud, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â hyn. Efallai polisi mynd ag ef gartref neu rywbeth, neu—dydw i ddim yn gwybod; beth allwn ni ei wneud ynglŷn â hynny.

Unrhywbeth yn arbennig? Pa enghraifft? Beth yw'r achos?

Gwastraff wrth fynd. Felly, mae llawer o bobl yn mynd â bwyd a diodydd gyda nhw, felly a allwn ni eu hannog i fynd ag ef yn ôl gyda nhw os ydyn nhw'n mynd â nhw am bicnic, beth bynnag, wyddoch chi? Beth allwn ni ei wneud ynglŷn â hynny?

Mae hynny'n bwynt mor dda, oherwydd mae hynny'n rhan o'r daith rydym ni arni. Sut ydym ni'n cyrraedd y pwynt ble—? Fel yr ydym ni wedi dechrau ei wneud gyda chwpanau coffi. Rwy'n cario un ym mhoced ochr fy mag, fel y gallaf fynd i mewn i siop a dweud, 'Defnyddiwch fy nghwpan i'w lenwi gyda choffi.' Fe wyddom ni fod yna lawer o siopau, gan gynnwys yn Abercynffig, mewn siopau bara, lle gallwch chi gymryd cynwysyddion a gallwch chi eu llenwi â chynhyrchion. Mae yna rai eraill ym Mhencoed lle gallwch chi eu llenwi â grawnfwydydd brecwast, hyn, llall ac arall. Ond sut ydym ni'n cymhwyso'r meddwl hwnnw i bethau fel cludfwyd, fel nad yw bob amser wedi'i ragbecynnu?

Un peth rwy'n falch iawn o'i weld yn ddiweddar yw sut mae siopau cludfwyd wedi ymateb i'r ymdrech reoleiddiol sy'n dweud, 'Nid yw'r deunyddiau hyn yn mynd i gael eu defnyddio mwyach.' Ac rydym ni'n gweld yn gynyddol nawr y siop sglodion, y cludfwyd Tsieineaidd, mewn pecynnu ailgylchadwy—maen nhw wedi trosglwyddo i hynny fwyfwy. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, os oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw un nad yw'n gwneud hynny, dylech eu cyfeirio at safle Llywodraeth Cymru lle gallan nhw gael y cyngor ar sut i wneud hynny. Dylen nhw fod yn gwneud hynny nawr. Mae'r her nesaf, pethau fel cludfwyd cartref. Mae yna lawer o'r rhannau bach hyn y mae angen i ni feddwl amdanyn nhw yn glyfar sut y gallwn ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl wneud hynny, a'i gwneud hi'n hawdd i'r siopau cludfwyd ei wneud eu hunain hefyd. A oes rhywfaint o arloesi yno y gallwn ei ddysgu o wledydd eraill?

O, ac mae'n ddrwg gen i, wnes i ddim—. Yn gysylltiedig â hynny, ni wnes i ymateb i'r pwynt cynharach: sut rydym ni'n dysgu a rhannu arfer gorau rhyngwladol mewn gwirionedd? Fis Hydref nesaf, pan fydd y byd yn dod i Gaerdydd yn y gynhadledd yma, byddwn nid yn unig yn rhannu ein profiad ein hunain, byddwn mewn gwirionedd yn gwahodd pobl sy'n arwain yn y maes yma o bob cwr o'r byd i rannu gyda ni sut maen nhw wedi gwneud hynny, a, phwy a ŵyr, efallai y bydd rhywun sydd wedi datrys y broblem cludfwyd.

Yn fyr iawn, ac, yn gyntaf, am gyflawniad gwych, ac rydym ni'n uchelgeisiol i wneud hyd yn oed yn fwy, a hoffwn ddiolch hefyd i bobl Cymru yn hynny o beth yn ogystal â'r polisi strategol sy'n ategu hynny. Mae fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, yn un syml. O ran faint o sbwriel wrth fynd y mae Carolyn Thomas eisoes wedi'i grybwyll, y mae siopau bwyd cyflym yn arbennig—rwy'n meddwl am y rhai sydd ar ochrau traffyrdd—yn ei ganiatáu bob dydd, a faint o sbwriel a gynhyrchir gan y sefydliadau yma, pa rymoedd sydd gennym ni yng Nghymru i fynd i'r afael â hynny?

Rwy'n credu bod gennym ni un neu ddau. Mae'n gwestiwn da iawn, ac a gaf i ddweud 'diolch' nid yn unig i bobl Cymru ond etholwyr pawb yn unigol, ac am yr arweinyddiaeth y mae pawb wedi'i dangos yma wrth fynd â hyn yn ei flaen? Mae yna ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â hynny. Un yw drwy'r hyn a wnawn gyda sbwriel a thipio anghyfreithlon, nid yn unig gweithio gyda grwpiau gwirfoddol, ond mewn gwirionedd dangos, amlygu a phroffilio pan fyddwn yn rhoi dirwyon mawr i bobl am dipio anghyfreithlon ac yn y blaen. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Nid oes angen i ni ei wneud i bawb, nid ydym yn mynd i gael plismon tipio anghyfreithlon ar bob cornel o bob stryd, ond, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn ei wneud, yna codi dirwyon sylweddol, a dweud, 'Dyma beth fydd yn digwydd.' A hefyd camddefnyddio tipio masnachol hefyd, lle mae pobl yn penderfynu peidio â chael eu trwyddedu a'u cofrestru, ond yn gwneud hynny hefyd.

Ond mae un rhan sylfaenol arall y gallwn ni ei wneud, ac rydym yn credu ein bod wedi gwneud cynnydd da ar hyn, a dyna beth rydym ni'n ei wneud gyda chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, y syniad ein bod ni, yn ôl yr egwyddor briodol mai'r llygrydd sy'n talu, yn mynd i lygad y ffynnon, ac rydym yn dweud wrth y bobl sy'n cynhyrchu'r holl ddeunydd pacio o amgylch yr holl eitemau a gawn ni, "Wel, mewn gwirionedd mae'n rhaid i chi dalu." Bydd y ffrwd refeniw honno wedyn yn dod i awdurdodau lleol fel eu bod nhw, yn lle trethdalwyr—. Felly, bydd y rhai sy'n cynhyrchu'r gwastraff yn talu am ei lanhau. Nawr, mae honno'n egwyddor bwysig iawn. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethon ni ei fabwysiadu pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd; rydym yn sefyll yn gadarn ar yr egwyddor honno hefyd, Dirprwy Lywydd. Felly, Dirprwy Lywydd, yn eich etholaeth chi ac yn un pawb arall, rydym ni'n cyrraedd y pwynt, ac mae'n dod yn y flwyddyn nesaf, 18 mis, wrth i ni roi hyn ar waith—gan weithio gyda, mae'n rhaid i mi ddweud, y rheini sy'n cynhyrchu'r deunydd pacio a phopeth arall, i ddweud wrthyn nhw, 'Bydd yn rhaid i chi nawr gael llif refeniw sy'n dod i awdurdodau lleol i'w helpu i'w lanhau'—. Ac efallai y gall rhywfaint o hynny fynd tuag at y grwpiau cymunedol a'r casglwyr sbwriel ac yn y blaen hefyd. Ydych chi'n gwybod beth fydd hyn yn arwain ato hefyd? Mae'n debyg y bydd yn arwain at lai o wastraff hefyd, oherwydd, os bydd yn rhaid iddyn nhw dalu am y fraint o'i lanhau, fe allent nhw ddweud, 'Wel, byddwn yn ail-ddylunio peth o'n pecynnu,' felly mae llai o ddeunydd pacio a gwastraff cyn iddo fynd allan yno hyd yn oed, a byddai hynny'n beth da. Diolch yn fawr iawn. Diolch am y cwestiwn.

16:40
6. Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024

Eitem 6 yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM8608 Lynne Neagle

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil—y comisiwn—a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu CCAUC. Y comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, prentisiaethau, chweched dosbarth a dysgu cymunedol oedolion.

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â statws y comisiwn a CCAUC fel awdurdodau Cymreig datganoledig. Mae Adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diffinio awdurdod Cymreig datganoledig fel awdurdod cyhoeddus y mae ei swyddogaethau

'yn arferadwy yn gyfangwbl neu'n bennaf mewn perthynas â Chymru'

ac yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn swyddogaethau

'nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl.'

Mae unrhyw awdurdod cyhoeddus nad yw'n bodloni amodau awdurdod Cymreig datganoledig yn awdurdod a gedwir yn ôl.

Mae awdurdodau cyhoeddus hefyd yn awdurdodau Cymreig datganoledig yn rhinwedd y ffaith eu bod wedi'u rhestru yn Atodlen 9A i'r Ddeddf. Mae cynnwys awdurdodau cyhoeddus o fewn y rhestr yn Atodlen 9A, yn hytrach na dibynnu ar y diffiniad, yn darparu rôl gadarnhaol ac yn cynyddu tryloywder mewn perthynas â nodi awdurdodau Cymreig datganoledig. Bydd y Gorchymyn ger eich bron heddiw yn diwygio Atodlen 9A i Ddeddf Llywodraeth Cymru i adlewyrchu diddymiad CCAUC a sefydlu'r comisiwn drwy ychwanegu'r comisiwn at y rhestr o awdurdodau Cymreig datganoledig a dileu CCAUC.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r Gorchymyn drafft. Bydd yr Aelodau wedi gweld fy ymateb i'w hadroddiad. Mewn perthynas â'r pwynt technegol ar gynnwys y Senedd yn brif nodyn y drafft, mae swyddogion wedi codi hyn gyda swyddogion yn Swyddfa Cymru, ac wedi gofyn bod hyn yn dilyn Gorchmynion diweddar yn y Cyngor a'r canllawiau o fewn arfer offeryn statudol.

Gofynnodd y pwyllgor hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau diddymu Senedd y DU. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar 11 Mehefin 2024 mewn perthynas â hyn. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Gorchymyn hwn wedi'i osod yn y Senedd ac yn Senedd y DU, ond ni ellir ei wneud nes ei fod wedi'i gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU a'r Senedd. Mater i Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn fydd cyflwyno cynnig newydd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Gorchymyn hwn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 10 Mehefin, ac mae ein hadroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael ar agenda heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt technegol ac un pwynt rhinweddau. Cyn i mi grynhoi ein hadroddiad technegol yn fyr, fe wnaf dynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf, sy'n ymwneud â'r un pwynt rhinweddau yn ein hadroddiad.

Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, ni ellir gwneud y Gorchymyn drafft hwn nes iddo gael ei gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU a'r Senedd. O wybod y diddymir Senedd y DU cyn etholiad nesaf y DU, yn y datganiad nododd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd nawr yn fater i Lywodraeth newydd y DU gyflwyno cynnig newydd yn ceisio cymeradwyaeth dau Dŷ Senedd y DU, a bydd ystyriaeth y Senedd yn mynd rhagddo yn y cyfamser.

Roedd ein pwynt rhinweddau wedi nodi'r mater hwn a gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y Gorchymyn drafft. Wrth ymateb yn ffurfiol i'r pwynt hwn yn ein hadroddiad, tynnodd Llywodraeth Cymru ein sylw at y datganiad ysgrifenedig a chadarnhaodd y byddai'r Aelodau'n cael gwybod am gynnydd ar y Gorchymyn unwaith y bydd Llywodraeth newydd y DU yn cael ei ffurfio ac ailddechrau busnes seneddol y DU.

Gan droi at ein pwynt adrodd technegol cyntaf, mae'r Gorchymyn yn uniaith Saesneg. Yn ein hadroddiad, rydym yn tynnu sylw at y rhesymeg a ddarperir yn y memorandwm esboniadol, sy'n nodi, gan fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, gosodir y Gorchymyn drafft gerbron y Senedd yn uniaith Saesneg.

Mae ein hail bwynt adrodd technegol yn nodi bod y prif nodyn italig ar frig y Gorchymyn drafft dim ond yn datgan bod y drafft yn cael ei osod gerbron Senedd y DU i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan y ddau Dŷ. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, er bod y drafft wedi'i baratoi i fod yn gyson â'r prif nodyn ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed yn flaenorol o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai cyfeiriad at y Senedd fod wedi'i gynnwys yn y prif nodyn fel mater o arfer da ac mae wedi gofyn i Swyddfa Cymru sicrhau bod prif nodiadau Gorchmynion drafft yn y dyfodol yn cynnwys cyfeiriad at rôl y Senedd yn y broses. Diolch.

16:45

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyfraniad i'r ddadl? A gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r Gorchymyn. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. & 8. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Mae eitem 7 ac eitem 8 wedi'u gohirio tan 16 Gorffennaf. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:47.