Y Cyfarfod Llawn

Plenary

27/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Prynhawn da, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Terfynau Cyflymder 20 mya

1. Pa waith dadansoddi polisi a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno terfynau cyflymder o 20 mya? OQ59961

Diolch am eich cwestiwn. Cymerodd bedair blynedd i lunio'r polisi. Rydym wedi archwilio tystiolaeth ryngwladol, wedi elwa o waith tasglu arbenigol, ac wedi treialu’r polisi mewn wyth ardal cyn ei gyflwyno ledled y wlad. Rydym yn amcangyfrif y gallai’r polisi arwain, bob blwyddyn, at achub chwech i 10 o fywydau.

Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y gorffennol fod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i newid y terfyn 20 mya, a bod marwolaethau trefol a damweiniau ffyrdd wedi gostwng 20 y cant a nifer y beicwyr sy’n cael eu lladd mewn damweiniau traffig ffyrdd wedi gostwng 34 y cant yn Sbaen, lle mae ganddynt derfyn diofyn o 20 mya. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i’r cynghorydd sir yn sir y Fflint sy’n cynrychioli rhan o’ch ardal beilot 20 mya ym Mwcle, a ysgrifennodd yr wythnos diwethaf,

'Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu unrhyw wersi o'r cynllun peilot. Nid yw'r pwerau a roddwyd i awdurdodau yn glir, ac mae cyflwyno achos pam y dylid eithrio'r ffordd yn anodd i swyddogion ein cynghorau'?

A chan nodi bod Sbaen wedi cael mwy o farwolaethau ar y ffyrdd fesul miliwn o drigolion na'r DU yn 2022, sut rydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Weinidog Mewnol Sbaen ym mis Ionawr, gan gymharu'r ffigurau ar gyfer 2022 â 2019—y flwyddyn olaf cyn y pandemig heb gyfyngiadau symud yno—fod 2022 wedi gweld mwy o farwolaethau nag yn 2019, a dyfynnaf,

'Mewn perthynas â beicwyr hefyd, fe gynyddodd nifer y marwolaethau'?

Wel, o ran y cynllun peilot a gynhaliwyd gennym yn sir y Fflint, holl bwynt cynllun peilot yw rhoi cynnig ar bethau, ac mae rhan o roi cynnig ar bethau yn golygu methu a dysgu o’r methiant, ac nid wyf yn gweld unrhyw broblem gyda hynny. A dweud y gwir, dyna holl bwynt cynnal cynllun peilot. Nawr, fe wnaethom benderfynu treialu gwahanol ddulliau mewn gwahanol fannau. Felly, mewn rhai ardaloedd, fe wnaethom dreialu monitro, mewn rhai, fe wnaethom dreialu gorfodi. Yn achos Bwcle, fe wnaethom benderfynu treialu'r weithdrefn eithriadau. Nawr, cafwyd dadl ynglŷn ag a ddylem ganiatáu rhai eithriadau ym Mwcle fel rhan o’r treial hwnnw, neu fabwysiadu dull ardal gyfan, ac at ddibenion profi’r dull hwnnw, penderfynwyd mabwysiadu dull ardal gyfan. Nawr, credaf fod Bwcle wedi dangos nad yw dull ardal gyfan yn gweithio, ac mai'r ffordd orau yw defnyddio'r weithdrefn eithriadau, yn enwedig ar gyfer cymunedau fel Bwcle lle mae rhan o'r ffordd yn mynd drwy ardal bron yn lled-wledig, lle nad oes unrhyw dai, ac un arall drwy Ffordd Lerpwl, drwy boblogaeth lawer mwy dwys. Felly, mae'n enghraifft anodd iawn—mae'n debyg na allem fod wedi dewis ardal fwy anodd i dreialu'r eithriadau, a dweud y gwir.

Hefyd, cawsom anawsterau gwirioneddol gyda’r awdurdod lleol, a oedd yn nerfus iawn ynglŷn â gweithredu y tu hwnt i union eiriad y canllawiau, gan eu bod wedi cael nifer o heriau cyfreithiol gan gyn-swyddogion priffyrdd, ac roeddent am sicrhau nad oedd lle i heriau pellach ar eu rhan. Nawr, o ganlyniad i'r broses o weithio'n agos gyda nhw, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi rhoi hyder iddynt roi nifer o eithriadau y dangosodd y prosiect peilot eu bod yn werth chweil ar waith ym Mwcle. Rwy'n siomedig nad ydynt wedi teimlo y gallant roi eu proses eu hunain ar waith ar draws gweddill sir y Fflint, a chredaf eu bod yn dal i fod angen rhywfaint o hyder ynglŷn ag i ba raddau y gallent fod yn agored i her gyfreithiol pe bai gwrthdrawiad. A dyna un o'r materion y mae angen inni weithio drwyddynt nawr yn y cam nesaf. Ond nid yw'n wir na allant gyflwyno eithriadau, oherwydd, pe baent heb allu gwneud hynny, sut y gallent fod wedi cyflwyno'r rhai y maent wedi'u cyflwyno ym Mwcle?

Plannu Coed Trefol

2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo plannu coed trefol? OQ59972

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog a chefnogi plannu coed trefol. Cynigodd ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig goeden i bob cartref yng Nghymru. Mae cynlluniau eraill mewn ardaloedd trefol yn cynnwys cynllun Coetiroedd Bach a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy’n parhau i ariannu cannoedd o brosiectau plannu coed cymunedol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn gyntaf, hoffwn roi eiliad i hyrwyddo unig gynnig Cymru yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2023 Coed Cadw. Castanwydden felys 484 oed yw hi, ym Mharc Gwaunyterfyn yn Wrecsam. Rwy'n falch iawn fod y tîm o Wrecsam yn mynd ati i hyrwyddo'r goeden hon, felly buaswn yn annog unrhyw un i fynd ar wefan Coed Cadw a phleidleisio dros y goeden honno ym Mharc Gwaunyterfyn.

Weinidog, fe wyddoch, wrth gwrs, fod coed sy’n cael eu plannu yn y mannau cywir yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau. Yn sicr, mae tystiolaeth eu bod, mewn ardaloedd trefol yn arbennig, yn gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol, yn lleihau sŵn, yn gwella ansawdd aer—mae cymaint o fanteision i blannu coed yn ein hardaloedd trefol. A gwn, Weinidog, y byddech yn cytuno bod gan lywodraeth leol ran bwysig i'w chwarae i sicrhau bod hyn yn digwydd. Gan wisgo fy het flaenorol, gwn am brosiect yng Nghonwy a arweiniodd at blannu coed newydd ar draws Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Bae Cinmel a Thywyn, am yr holl resymau da a'r manteision rydym yn ymwybodol ohonynt. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Weinidog, a oes gennych unrhyw gynlluniau ar waith ar hyn o bryd, wrth weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn bwriadu plannu’r coed hynny yn ein trefi ac yng nghanol ein dinasoedd ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

13:35

Ie, diolch, Sam, rwy'n fwy na pharod i—. Nid oeddwn yn sylweddoli bod gennym gynnig o Gymru eleni, ac o wybod hynny, rwy'n fwy na pharod i'w gefnogi. Rwy'n hoff iawn o ymgyrch Coeden y Flwyddyn a dweud y gwir, gan mai un o ddibenion yr ymgyrch yw gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn y gall coeden ei wneud i'ch cymdogaeth. Ac mae hyd yn oed un goeden o'r fath, yn enwedig hen goeden sbesimen hardd, fel y'u gelwir, yn ecosystem fioamrywiol gyfan ar ei phen ei hun. Felly, mae'n bwysig iawn gwneud hynny.

Nawr, rydym yn awyddus iawn i gynnwys coed trefol a chynlluniau plannu trefol yn ein cynlluniau ar gyfer coedwig genedlaethol Cymru, ac mae gennym swyddogion cyswllt coetiroedd yn gweithio gyda phrosiectau trefol, gan gynnwys awdurdodau lleol, ledled Cymru, i gynnwys coed trefol yn y goedwig genedlaethol. Rydym am i bobl ddeall bod y goedwig yn cynnwys coed unigol mewn amgylcheddau trefol, yn ogystal â chynlluniau mwy i blannu coed, ac wrth gwrs, mae gennym raglen Coetiroedd Bach hefyd, lle rydym yn bwriadu dod â choedwig fioamrywiol gyfan, yr un maint â dau gwrt tenis, gyda chwe rhywogaeth wahanol ynddi, i mewn i amgylcheddau trefol, fel y gall pobl ddeall beth mae hynny'n ei ychwanegu at ecosystem.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr. Gwn eich bod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â hyn, ac roedd yn bleser gweithio gyda chi o'r blaen, ac rydym yn sicr yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol. A'r unig beth arall y buaswn yn ei ddweud, Lywydd, mewn amgylcheddau trefol a gwledig, yw annog pobl i adael i'r coed yn ein gwrychoedd dyfu, i'w troi'n goed—nid oes gwir angen eu torri. Weithiau, ar hyd y briffordd, mae angen torri canghennau sy'n bargodi fel y gallwn osgoi gwrthdrawiadau, ond gan amlaf, gellir gadael iddynt dyfu. Ac mae'r coed hynny'n cyfrif tuag at ein nodau bioamrywiol hefyd.

Cyflwynais strategaeth goed a choetir trefol y cyngor yn sir y Fflint. Mae’n gynllun 15 oed, ac mae'n rhaid imi ddweud, mewn partneriaeth â pholisïau a chyllid Llywodraeth Cymru, fod swyddogion bioamrywiaeth wedi’u cadw yno, ac mae gwaith plannu coed, yn ogystal â dolydd blodau gwyllt, wedi parhau. Fe wnaethom alw coed yn 'wasanaeth iechyd natur', gan fod y budd i iechyd corfforol a meddyliol yn anhygoel. Maent yn creu ecosystemau canopi, yn darparu cysgod rhag glaw, yn cymedroli tymheredd yr aer ac yn lleihau llifogydd, felly mae'r buddion yn wirioneddol anhygoel.

Amcangyfrifodd astudiaeth yn Wrecsam fod coed trefol y dref yn darparu gwerth £1.44 miliwn mewn buddion blynyddol i'r ecosystem, ac mewn termau ariannol, fod y manteision yn aruthrol. Weinidog, pan fyddwch yn edrych ar y cyfyngiadau ariannol, rwy'n gobeithio y bydd bioamrywiaeth a phlannu coed a dolydd blodau gwyllt yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac y bydd datblygwyr yn cael eu hannog hefyd, wrth wneud unrhyw waith peirianyddol yng nghanol trefi, i sicrhau eu bod yn plannu coed yn ogystal. Diolch.

Rwy’n fwy na pharod i gefnogi pob un o’r rheini, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eich gwaith hefyd ar y cynllun 'ymylon', fel y gallwn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ymylon yn cael eu torri mor anaml â phosibl, a chyda blodau gwyllt lleol hefyd. Mae'n bwysig iawn eu bod yn flodau gwyllt brodorol hefyd, fel eu bod yn hunan-hadu, ac yn bwydo ein peillwyr, oherwydd yn amlwg, maent wedi addasu i ddefnyddio blodau gwyllt lleol. Ac mae'r un peth yn wir gyda choed. Felly, mae coed yn cynhyrchu llawer iawn o fwyd i'n pryfed, a heb ein pryfed, ni allwn gael yr adar y mae pawb ohonom mor hoff ohonynt. Felly, ni fyddaf yn gallu dyfynnu hyn yn gywir, Lywydd, ond mae un pâr o wenoliaid yn bwyta degau o filoedd o bryfed. Felly, os meddyliwch faint o bryfed sydd eu hangen arnoch i gael amgylcheddau da i fyw ynddynt, os ydych am gael gwenoliaid ac adar eraill yn eich amgylcheddau trefol, fe welwch pa mor bwysig yw sicrhau bod y coed sy'n darparu'r cynefinoedd hynny'n cael eu diogelu a'u gwella.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae Wylfa a Thrawsfynydd yn ddau safle allweddol ar gyfer prosiectau niwclear yng Nghymru. Nawr, fe wyddom fod angen pedair gwaith cymaint o bŵer glân ar y DU ag sydd gennym ar hyn o bryd i sicrhau sero net erbyn 2050, ac mae ynni niwclear yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa mewn sefyllfa ddelfrydol i fod wrth wraidd adfywiad niwclear enfawr yma yng Nghymru. Yn wyneb agwedd mor negyddol Plaid Cymru tuag at ynni niwclear, rwy’n falch o gefnogaeth ac arweinyddiaeth Virginia Crosbie AS, yn ei hymdrechion i ddod â swyddi i Wylfa, a llawer mwy o swyddi sy’n talu’n dda. Felly, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Great British Nuclear i sicrhau ein bod yn gweld mwy o fuddsoddiad mewn ynni niwclear newydd, yn enwedig yn Wylfa a Thrawsfynydd?

13:40

Wel, Lywydd, portffolio fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, yw hwn mewn gwirionedd, ond serch hynny, rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau y gellir lleoli adweithyddion niwclear bach a chanolig yn enwedig mewn gwahanol leoliadau. Mae Trawsfynydd yn un ohonynt. Cefais y pleser gwirioneddol o ymweld â’r safle hwnnw i edrych ar y gwaith datgomisiynu sy'n mynd rhagddo yno a’r potensial ar gyfer adweithydd niwclear bach—rydym yn awyddus iawn i hyrwyddo hynny.

O ran Wylfa, y rheswm pam ei fod ym mhortffolio Gweinidog yr Economi ac nid yn fy un i yw am ei fod yn amlwg yn brosiect mewnfuddsoddi enfawr. Hefyd, Janet, nid wyf yn rhannu eich calonogrwydd ynglŷn â hyn. Byddai'r prosiect hwnnw wedi gallu bod ar waith erbyn hyn pe byddem wedi cael unrhyw fath o strategaeth ddiwydiannol neu strategaeth fuddsoddi weddus.

Felly, cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond chi yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r amgylchedd, a gwyddom fod pob prosiect ar gyfer ynni adnewyddadwy o unrhyw fath yn rhan o'ch cyfrifoldeb chi. Felly, buaswn yn disgwyl ichi gael eich briffio ar Wylfa. Felly, mae’n hanfodol fod gennym gyflenwad sylfaen o ynni glân ledled Cymru i sicrhau diogeledd ynni ac i atal tlodi tanwydd. Ynni niwclear sy'n darparu'r allyriadau carbon isaf, gydag ynni 24 awr ar gael. Mewn gwirionedd, roedd Wylfa, ar y pryd, yn cynhyrchu ynni ar gyfer 1.1 miliwn o gartrefi dros 44 mlynedd. Fe wyddoch chi a minnau fod capasiti’r grid yn rhwystr i gyflawni llawer o brosiectau ynni glân, ac fe wyddom hefyd fod gan Drawsfynydd fynediad eithriadol at gapasiti’r grid ac y byddai’n sylfaen wych ar gyfer adweithyddion modiwlar bach. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i dynnu sylw Llywodraeth y DU at hyn er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu niwclear yn mynd rhagddo ar y safle hwn cyn gynted â phosibl?

Iawn, wel, mae'n rhaid imi ddweud, Janet, na chredaf y dylwn roi gwers i chi sut i ddarganfod pa Weinidog sy'n gyfrifol am beth, ond mae hynny wedi'i gyhoeddi ar y wefan, a gallwch ei wirio.

Fodd bynnag, wrth gwrs fy mod yn deall beth sy’n digwydd yn Wylfa. Mae’n brosiect mewnfuddsoddi. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi sylwi, ond nid ydym yn cynhyrchu unrhyw drydan ar hyn o bryd, a dyna pam nad yw yn fy mhortffolio. Ac felly, yr ateb i'ch cwestiwn, wrth gwrs, yw ein bod yn siarad â Llywodraeth y DU am y grid; rydym yn siarad a siarad â’r Gweinidog am y grid. Fodd bynnag, nid ydym wedi gweld un geiniog o fuddsoddiad i annog ymestyn y grid i ganolbarth Cymru, nac ar draws gogledd Cymru, na'r uwchraddio sydd ei angen arnom yn ne Cymru i gael y môr Celtaidd. Felly, os ydych chi am ychwanegu eich llais at fy llais innau ar hynny, can croeso i chi wneud hynny.

Gyda phob parch, Weinidog, mae hyn yn dweud wrthyf nad oes gennych fawr o ddiddordeb mewn ynni niwclear, gan eich bod yn ei ddiystyru fel rhan o friff rhywun arall—

Na, Lywydd, mae'n dweud nad ei phortffolio hi yw hwn. Yn y pen draw, dyma’r Gweinidog sy’n gyfrifol am newid hinsawdd, yr amgylchedd. Rydym yn sôn am yr amgylchedd, rydym yn sôn am sefyllfa ddi-garbon, felly buaswn yn disgwyl ateb mwy cwrtais ac iddi fynd i'r afael â'r pryderon y mae llawer yn eu codi gyda mi.

Nawr, gall gymryd 14 mlynedd i adeiladu seilwaith grid newydd. Mae digon o brosiectau yn y DU yn aros i gael eu cysylltu er mwyn cynhyrchu dros hanner ein hanghenion trydan yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â’r broblem yn uniongyrchol drwy’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, gan gyflwyno diwygiadau newydd cynhwysfawr i'r seilwaith ynni. Felly, pa sylwadau rydych wedi’u gwneud yn barod, gan y cafwyd peth anghysondeb yn yr wybodaeth a gawsom yn ystod rhai o’r cwestiynau diwethaf pan oeddech ar eich traed, Weinidog, lle roeddech yn dweud un funud nad yw Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â chi, a’r funud nesaf, mewn ymateb i Huw Irranca, fe wnaethoch chi ymddiheuro, a dweud bod y ddeialog honno—

Iawn, Lywydd, ni wneuthum y fath beth. Rwyf wedi dweud wrthi ddwywaith—

Fe gewch eich cyfle i ymateb nawr. Ac mae angen i chi ddod at eich cwestiwn olaf.

Rwy'n dod ato, Lywydd. Pa sylwadau rydych chi'n eu gwneud, neu y byddwch chi'n eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau'r diwygiadau sydd eu hangen arnom i gyflawni'r capasiti grid newydd—eu bod gennym yma yng Nghymru?

Felly, dylwn ddweud, Janet, fy mod wedi ymddiheuro i Huw Irranca-Davies am beidio â chyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn yr amser roedd ef eisiau imi wneud hynny. Ni wneuthum ymddiheuro am yr hyn a ddywedais am Lywodraeth y DU. Gallwch ddarllen y Cofnod, fel rwyf innau wedi'i wneud. Ac os ydych chi o ddifrif am i mi achwyn amdanoch am barhau i ddweud rhywbeth nad yw'n wir, daliwch ati. Ni ddywedais y fath beth.

Mae Llywodraeth y DU a minnau wedi cael llawer o gyfarfodydd. Rwyf wedi gweld nifer o Weinidogion yn mynd a dod. Nid ydynt yn aros yn eu swyddi yn ddigon hir i ddeall beth sy'n digwydd gyda'r grid. Rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn. Rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda'r Grid Cenedlaethol ynglŷn â hyn, gan gynnwys un ychydig wythnosau yn ôl yn unig, lle buom yn trafod prinder y grid ledled Cymru a sut olwg a allai fod ar y prosiect hwnnw. Rydym yn cymryd rhan lawn ym mhrosesau'r cynllun rhwydwaith cyfannol a gweithredwyr rhwydweithiau trydan, ac rwyf wedi cyfarfod â gweithredwyr systemau dosbarthu. Felly, rwyf wedi gwneud cryn dipyn yn y cyswllt hwn. Yr hyn nad yw wedi digwydd yw Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw strategaeth fuddsoddi o gwbl i ategu ei llu o addewidion gwag.

13:45

Weinidog, mae aros o fewn y trothwyon 1.5 gradd neu hyd yn oed 2 radd a nodir yng nghytundeb Paris i osgoi newid hinsawdd trychinebus—mae hynny’n gofyn am leihau allyriadau’n sylweddol nawr. Ond rydym wedi clywed heddiw fod maes olew heb ei gyffwrdd mwyaf y DU wedi’i gymeradwyo gan reoleiddwyr, maes olew a allai gynhyrchu 200 miliwn tunnell o garbon deuocsid. Mae’n benderfyniad sydd wedi’i groesawu gan Lywodraeth y DU, ond mae canlyniadau peidio â gweithredu yn wyneb trychineb hinsawdd yn rhy enbyd i ni eu hanwybyddu. Mae'r brys i leihau allyriadau tanwydd ffosil ac iddynt gyrraedd eu huchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf, os ydym yn gobeithio cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd—nid yw hynny erioed wedi bod yn bwysicach. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi, o ystyried bod Llywodraeth y DU yn benderfynol, yn ôl pob golwg, o’n taflu oddi ar y llwybr ar ein taith at sero net erbyn 2050, a ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i Gymru weithredu'n gyflymach nawr i gyrraedd sero net cyn 2050?

Ie, mae'r penderfyniad ar y maes olew hwnnw'n frawychus iawn yn wir, ac mae'r syniad ei fod yn ymwneud â diogeledd ynni yn cael ei ddinoethi fel celwydd pan sylweddolwch mai cronfa gyfoeth sofran Norwy yw'r cwmni sy'n elwa o'r penderfyniad, a dim i'w wneud â Phrydain. Bydd yr olew hwnnw'n cael ei werthu i farchnadoedd rhyngwladol. Nid yw'n cynyddu ein diogeledd mewn unrhyw ffordd. Mae'n gamsyniad llwyr fod tynnu mwy o olew o'r ddaear rywsut yn cynyddu diogeledd ynni yma. Yn syml iawn, mae'n ein cloi i mewn i brisiau rhyngwladol drud iawn am olew a nwy. Felly, roeddwn yn ddigalon iawn wrth glywed y cyhoeddiad hwnnw. Dyma’r un Llywodraeth, wrth gwrs, sy’n dweud ei bod am gyflawni sero net, ond a gyhoeddodd, ar ddechrau uwchgynhadledd bioamrywiaeth Cynhadledd y Partïon y llynedd, y byddai'n agor pwll glo newydd. Felly, maent yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth cwbl wahanol.

Fel y gwyddoch, rwy'n credu, Delyth, fel rhan o'r cytundeb cydweithio mae gennym dasglu sy'n edrych i weld a allwn gyflymu'r newid i sero net, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu hadroddiad. Mae gan yr Aelod dynodedig a minnau gyfarfod yr wythnos nesaf. Maent eisoes wedi cyhoeddi sawl cynllun ar gyfer gweithredu, ac rydym yn mawr obeithio y byddant yn cynhyrchu ateb hyfyw ac ymarferol i ni ar gyfer cyflymu ein cwrs ein hunain.

Diolch am hynny, Weinidog. Wrth gwrs, daw hyn wrth i Brif Weinidog y DU a’i Lywodraeth barhau i gefnu ar bolisïau cwbl hanfodol i wrthsefyll trychineb hinsawdd, ac unwaith eto, defnyddiaf y gair ‘trychineb’ am mai dyna sy’n ein hwynebu. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen—rwy'n poeni ynglŷn â'r modd y mae sero net i'w weld yn dod yn fwy a mwy o asgwrn cynnen etholiadol, yn ffordd o greu gwahaniaeth clir rhwng dwy blaid y DU. Nid wyf yn cyhuddo eich Llywodraeth o hynny mewn unrhyw ffordd, Weinidog, ond ar lefel y DU, yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, o edrych ar ba Lywodraeth a fydd mewn grym ar ôl yr etholiad hwnnw, mae Llafur y DU wedi datgan nad yw’n bwriadu ailbennu'r terfyn amser o 2026 ar gyfer dechrau rhoi'r gorau i osod boeleri nwy. Ac er eu bod wedi dweud na fyddant yn rhoi trwyddedau newydd ar gyfer fforio am olew a nwy, deallaf heddiw fod Llafur y DU wedi datgan na fyddent yn dirymu trwydded Rosebank pe byddent yn ennill yr etholiad nesaf—[Torri ar draws.] Ni chredaf fod hynny'n beth da. A ydych chi'n cytuno â’r penderfyniad hwnnw? Rwy'n tybio nad ydych. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddylanwadu arnynt ac i geisio gwneud iddynt newid eu meddyliau?

Rydym yn ymdrechu'n galed iawn i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, o ba liw bynnag, er mwyn cyrraedd ein nodau cyffredin i gyrraedd sero net erbyn 2050. Yn amlwg, maent yn nodau statudol, felly rydym yn archwilio ar hyn o bryd i weld a yw'r hyn sydd wedi digwydd ar lefel Llywodraeth y DU yn effeithio ar ein nodau statudol ein hunain. Byddem yn gwneud hynny gydag unrhyw Lywodraeth o unrhyw blaid oherwydd rydym yn gyd-ddibynnol. Mae arnom angen i Lywodraeth y DU wneud y pethau y mae wedi’u nodi yn ei llwybr sero net er mwyn inni allu gwneud y pethau y gallwn ninnau eu gwneud. Felly, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny, ac rydym yn cael cyngor ynglŷn ag a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud gyda hynny.

Ni allaf wneud sylwadau ynglŷn ag a allech chi ddirymu'r trwyddedau ai peidio, oherwydd a dweud y gwir, nid wyf yn gwybod digon am yr agweddau cyfreithiol na sut mae hynny'n gweithio nac unrhyw beth arall. Efallai eu bod wedi'u hysgrifennu yn y fath fodd fel nad yw hynny'n bosibl. Nid wyf yn gwybod. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl onest fy mod wedi fy nigalonni'n fawr wrth glywed y cyhoeddiad hwnnw, gan ei fod yn gwneud y DU, unwaith eto, yn ysgymun yn Ewrop, nid yn arweinydd byd-eang o gwbl, ac yn gwbl benderfynol o ecsbloetio adnoddau naturiol y byd, ac o forgeisio eneidiau ein plant a'n hwyrion.

13:50
Gorchudd Coed ar Draws Cymru

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu gorchudd coed ar draws Cymru? OQ59956

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030. Byddwn yn gwneud hyn drwy’r grantiau creu coetir a lansiwyd y llynedd, cynyddu gorchudd coed ar ffermydd drwy’r cynllun ffermio cynaliadwy, a bydd ein coedwig genedlaethol yn creu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru.

Wel, diolch, Weinidog. Mae gwaith helaeth yn mynd rhagddo gan grŵp arbenigol ar y diwydiant paneli pren, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Seneddau’r Alban, y DU a Chymru, ac mae argymhellion ar sut i gynyddu plannu coed at ddefnydd diwydiannol wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad hwnnw. Buaswn yn hynod ddiolchgar am sylwadau Llywodraeth Cymru ar yr argymhellion hynny, ac efallai am drafodaeth ar sut y gall gwaith y grŵp yn y dyfodol gynorthwyo uchelgeisiau rhagorol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gorchudd coed ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Ken, am anfon yr adroddiad ataf, ac roedd yn ddiddorol iawn. Mae’r sector paneli pren, fel y dywedwch, yn cyfrannu’n gadarnhaol at sero net, ac yn cloi carbon mewn cynhyrchion defnydd hirdymor. Gwn eich bod yn gwybod hyn gan fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda chi, ac rwy'n rhygnu ymlaen am y peth drwy’r amser, ond rwy'n awyddus iawn i weld pren Cymru’n cael ei ddefnyddio i adeiladu tai ac annog plannu mwy o goed fel cnwd fel y gallant ddiwallu'r angen cynyddol am gynhyrchion adeiladu cynaliadwy, carbon isel nad ydynt yn dod o ddiwydiant echdynnol neu'n dibynnu ar ffynonellau anadnewyddadwy. Byddwn yn cyflwyno strategaeth ddiwydiannol ar gyfer coed. Hefyd, rydym yn glir iawn fod coetir cynhyrchiol—wel, coetir a gynlluniwyd fel cnwd—yn dal i fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol; mae’n dal i chwarae rhan yn y goedwig genedlaethol, ac mae angen i bobl ddeall bod rhai coed yno fel cnydau, ond maent yn chwarae eu rhan yn y ddalfa garbon y mae angen i ni ei chreu ar gyfer y byd.

Weinidog, mae ffermwyr yn rheoli oddeutu 80 y cant o dir Cymru, gan chwarae rhan unigryw yn y gwaith o ddiogelu a gwarchod cefn gwlad ein cenedl. Felly, mae’r diwydiant amaethyddol mewn sefyllfa unigryw, ac fe’ch gwelaf yn nodio eich pen, fel dalfa garbon â photensial unigryw a rôl allweddol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd gan ddarparu diogeledd bwyd ar yr un pryd. Ac yn sicr, mae coed yn chwarae rhan hanfodol yn hyn, ac mae'n rhaid cael y goeden iawn, yn y lle iawn, am y rheswm iawn. Fodd bynnag, rydym wedi gweld prisiau tir yn cael eu chwyddo’n artiffisial wrth i gwmnïau rhyngwladol brynu tir fferm amaethyddol Cymru uwchlaw gwerth y farchnad ar gyfer gwyrddgalchu, gan wrthbwyso eu cydwybod yn hytrach na’u carbon, a chael eu cefnogi gan arian trethdalwyr i wneud hynny. Felly, o ystyried ein bod yn gwybod y bydd cynllun interim Cynefin Cymru, sy’n cymryd lle Glastir a chynllun creu coetir Glastir o fis Ionawr ymlaen, yn gronfa lai o arian, pa drafodaethau a gawsoch chi fel Gweinidog gyda’ch cyd-Weinidogion Cabinet, gan gynnwys y Gweinidog materion gwledig, i sicrhau bod unrhyw gyllid sydd ar gael yn cael ei dargedu’n uniongyrchol at ffermwyr, ac nad yw’n hygyrch i gwmnïau rhyngwladol? Diolch, Lywydd.

Yn amlwg, mae hynny'n rhan fawr iawn o'r drafodaeth rydym yn ei chael. Os oes gennych enghraifft o hynny, carwn ei gweld, gan y dywedir wrthym bob amser fod y rhain yn bodoli, ac nid wyf wedi dod o hyd i un eto. Felly, pe gallech anfon hynny ataf, os gwelwch yn dda, mewn llythyr, buaswn yn ddiolchgar iawn am hynny.

Yr hyn sydd gennym yn aml yng Nghymru yw tir amaethyddol yn newid dwylo gan fod rhan helaeth o’n ffermdir yn denantir, felly mae’r cwmnïau daliannol yn edrych fel cwmnïau rhyngwladol, ond mewn gwirionedd, maent yn ei ddefnyddio fel sylfaen asedau. Nawr, yn bersonol, nid wyf yn cymeradwyo hynny ychwaith, ond nid yw yr un peth â phrynu'r tir er mwyn cynyddu gorchudd coed. Nid ydym yn ariannu cynlluniau lle mae tir amaethyddol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer bwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gorchudd coed yn unig. Mae gennym gynlluniau i ganiatáu rhoi gorchudd coed ar dir yng Nghymru, ond mae ganddynt reolau llym iawn ynghylch nifer y rhywogaethau a ble y gellir eu plannu. Yn amlwg hefyd, mae gennym raglen ar gyfer adfer mawndiroedd, er enghraifft. Nid ydym am i goed gael eu plannu ar ein mawndiroedd, yn enwedig y mawndiroedd rydym wedi gweithio'n galed i'w hadfer.

Yr hyn rydym am i bobl ei wneud, fel y bûm yn ei drafod yn gynharach gyda Carolyn a Sam—rydym am i bobl ganiatáu i’r coed sy’n bodoli eisoes yn y gwrychoedd dyfu, i droi’n goed llawn, ac i atal y math o dacluso a welwn, ac rydym yn gofyn i ffermwyr ystyried plannu rhes arall o goed ochr yn ochr â nhw er mwyn creu gwell coridor. I'r rhan fwyaf o ffermydd, mae hynny'n gorchuddio 10 y cant o’r tir. Felly, yn amlwg, byddwn yn gweithio gyda ffermwyr. Bydd rhai ffermydd yn anaddas ar gyfer hynny; bydd ffermydd eraill yn addas ar gyfer cnydau cynhyrchiol iawn o bren, rhywbeth rwyf newydd fod yn ei drafod gyda Ken Skates, sy’n rhan hanfodol o’r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru. Felly, rydych yn llygad eich lle, mae'n ymwneud â chael y goeden iawn yn y lle iawn at y diben iawn hefyd. Felly, bydd rhai o’r coed hynny yno am genedlaethau i ddod fel cronfeydd bioamrywiol, ond bydd eraill yn gnydau, a gall y ffermwyr wneud incwm o hynny yn ogystal ag o gynhyrchu bwyd. Felly, mae hyn ym ymwneud â sicrhau ein bod yn bugeilio’r tir yn y ffordd iawn, ar gyfer y math iawn o gynhyrchu, yn y lle iawn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi na allwn wneud hynny heb ein ffermwyr.

13:55
Cefnffordd yr A494

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ffyrdd ar gefnffordd yr A494 ym Mhwllglas? OQ59965

Iawn. Diolch. Rydym o ddifrif ynglŷn â diogelwch ffyrdd ac yn adolygu data'r heddlu ar wrthdrawiadau yn rheolaidd er mwyn deall yr angen am fesurau ychwanegol. Rydym wrthi’n diweddaru canllawiau 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' a byddwn yn adolygu’r terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd ar ôl cyhoeddi diweddariad i'r canllawiau.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn gohebu gyda chi ar y mater hwn dros gyfnod eithaf hir o amser bellach, a bod pentref Pwllglas yn mynd i elwa o barc hwyl a ffitrwydd newydd ar un ochr i’r gefnffordd, lle mae'r holl drigolion i bob pwrpas yn byw ar yr ochr arall i'r gefnffordd, ger y ganolfan gymunedol leol, siop y pentref a meithrinfa leol. Nawr, yn amlwg, mae mynediad at y cyfleusterau newydd yn bwysig i bentrefwyr, ac maent wedi gofyn a ellid gosod croesfan, yn ddelfrydol, ar y gefnffordd, ac os nad oes modd gwneud hynny, a ellid sicrhau gostyngiad yn y terfyn cyflymder o’r 40 mya presennol i 30 mya. Rwy’n sylweddoli bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r canllawiau cenedlaethol, ond yn amlwg, mae’n mynd i gymryd peth amser cyn i’r holl ffyrdd ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd gael eu hadolygu. A gaf fi ofyn ichi ymyrryd er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’ch swyddogion gynnal asesiad o ddiogelwch ffyrdd yn y pentref hwn cyn gynted â phosibl, fel y gall pobl fwynhau manteision y cyfleuster newydd hwn heb boeni am ddiogelwch ffyrdd?

Diolch. Wel, rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ac fel y dywed, rydym wedi bod yn gohebu, ac rwyf eisoes wedi cytuno i gynnal asesiad cerddwyr ym Mhwllglas. Oherwydd pwysau cyni, mae arnaf ofn nad oes gennym gyllid yn y flwyddyn ariannol hon i allu ei wneud, ond fe'i gwnawn cyn gynted ag y gallwn ddod o hyd i'r arian.

Mae hon yn amlwg yn ddadl gyfarwydd iawn ynghylch beth ddylai’r terfyn cyflymder gorau fod lle mae pobl a thraffig yn cymysgu. Y tu allan i ardaloedd chwarae a lle mae pobl yn byw, yn amlwg mewn ardaloedd trefol, lle mae’r terfyn cyflymder yn 30 mya ar hyn o bryd, bydd y rheini’n dod yn 20 mya yn ddiofyn, am yr union resymau y mae’r Aelod yn eu nodi, a dyna pam fy mod wedi fy synnu braidd gan agwedd ddogmataidd ei blaid ar fater terfynau cyflymder. Yn yr achos hwn, wrth gwrs, mae'n gefnffordd, lle mae'r terfyn cyflymder yn 40 mya ar hyn o bryd, ac felly, nid oedd wedi'i chynnwys yn y broses i edrych ar derfynau cyflymder. Nawr, rydym yn edrych, felly, ar y canllawiau, oherwydd ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n awgrymu, oni bai bod lefelau penodol o anafusion, nad ydym yn gallu newid y terfyn cyflymder. Ac rwyf wedi cael llythyrau gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon, gan gynnwys nifer o'i gyd-Aelodau, yn gofyn imi edrych ar achosion mewn ardaloedd gwledig lle mae ffyrdd yn mynd drwy bentrefi, a dylai'r terfyn fod yn is. Felly, dyna rydym yn ei wneud. Rydym am ddod â hynny yn unol â’n strategaeth diogelwch ffyrdd a thrafnidiaeth ehangach, ac mewn achosion fel hyn, buaswn yn disgwyl gweld y terfyn cyflymder yn gallu cael ei ostwng.

Pan wyf wedi dweud ein bod yn gwneud hyn ac yn adolygu terfynau cyflymder at y diben hwn, a gaf fi dynnu ei sylw at y ffaith bod llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr wedi dweud,

'Bydd Llafur yn parhau i gynnal yr agenda sosialaidd, gwrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr hon, gan wneud niwed i economi Cymru a chael gwared ar ryddid pobl i yrru eu ceir',

am ein bod eisiau cael terfynau cyflymder is lle mae plant yn chwarae? Nawr, credaf fod rhagrith llwyr ar y meinciau gyferbyn o ran pryd y byddant yn penderfynu eu bod am gefnogi terfynau cyflymder a phryd nad ydynt am wneud hynny. Felly, rydym yn mynd i ddiweddaru'r canllawiau, fel y mae wedi gofyn i mi ei wneud, ond pan grybwyllais hynny mewn cyfweliad yn ddiweddar, penderfynodd y Ceidwadwyr mai dyma'r rhyfel diwylliant diweddaraf y gallent fanteisio arno a chychwyn eu hymgyrch sgrechlyd i nodi mai hon oedd fy agenda wrth-fodurwyr nesaf. Y cyfan rwy'n ei wneud yw'r hyn y mae'n gofyn i mi ei wneud, felly efallai yr hoffent ailfeddwl eu safbwynt er mwyn osgoi rhagrith.

Dwi innau yn cefnogi galwadau i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr ym mhentref Pwllglas, yn enwedig y rhai sydd yn awyddus i ddefnyddio y man chwarae newydd—[Torri ar draws.]

Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf. Mae Aelod yn cyfrannu’n rhithiol ac ni ellir ei glywed pan fo gormod o sŵn yn y Siambr, felly os gallwn wrando ar Llyr Gruffydd.

Caria ymlaen, Llyr.

Diolch, Llywydd. Dwi hefyd yn cefnogi gwella diogelwch pedestrians ym Mhwllgas. Yn amlwg, mae'r man chwarae newydd yn mynd i ddenu pobl, ond nid yn unig o'r pentref. Dwi'n gwybod o brofiad fod yna blant, a phobl ifanc yn enwedig, yn teithio o gymunedau cyfagos nawr i ddefnyddio'r adnodd hwnnw—llefydd fel Llanfair Dyffryn Clwyd ac fel Rhuthun ei hun. Ac mae'r ffordd sy'n dod i mewn i Bwllglas o'r gogledd, yr A494, yn gul eithriadol, mae'n droellog eithriadol, does yna ddim palmant, mae'n beryg bywyd i seiclo ar honno. Felly, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth edrych ar ddiogelwch ychydig y tu hwnt i bentref Pwllglas ei hun ac edrych ar wella mesurau diogelwch, boed yn arwyddion ffyrdd neu hyd yn oed archwilio posibiliadau o ran llwybrau cerdded a beicio, o bosib ar hyd yr hen reilffordd, er mwyn amddiffyn rhag gael damwain? Achos, fel mae'n edrych ar hyn o bryd, mater o amser yw hi cyn bod rhywun yn cael damwain ddifrifol.

14:00

Diolch am y cwestiwn ac rwy'n siŵr fod etholwyr wedi mynegi nifer fawr o bryderon wrth Llyr Gruffydd, fel wrth lawer o'r Aelodau yma, mewn perthynas â chyflymder ceir a'r perygl y mae traffig yn ei achosi i gerddwyr. Mae'n sicr wedi bod yn un o'r materion mwyaf y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi yn hanesyddol, a dyna'r rheswm pam ein bod ni, gyda chefnogaeth llawer o bleidiau yn y Siambr hon, yn gostwng y terfyn cyflymder mewn ardaloedd adeiledig. Ac ar y ffyrdd y tu hwnt i'r terfyn cyflymder 30 mya presennol, fel y dywedais, rydym yn edrych ar y canllawiau y gallwn eu cyflwyno ochr yn ochr â hynny. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ymgynghori ar strategaeth diogelwch ffyrdd newydd i Gymru, oherwydd mae'r fersiwn bresennol wedi dod i ben, a byddwn yn cysoni terfynau cyflymder â'n polisïau eraill a strategaeth drafnidiaeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn creu llwybrau diogel ar gyfer cerdded a beicio i ffwrdd oddi wrth ffyrdd fel rhan o'n buddsoddiad teithio llesol. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud llawer iawn ar yr agenda hon, ac rwy'n ddiolchgar am ei gefnogaeth ef a chefnogaeth ei blaid i'r camau rydym yn eu cymryd. 

Rhwydwaith Camlesi Cymru

5. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella rhwydwaith camlesi Cymru? OQ59985

Mae camlesi yn cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er nad yw camlesi wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau i wella'r rhwydwaith. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi bioamrywiaeth a gwelliannau amgylcheddol eraill ar hyd camlas Trefaldwyn, yn ogystal â llwybrau teithio llesol ar hyd camlas Abertawe.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae ein rhwydwaith camlesi yn rhan hanfodol o'n seilwaith cenedlaethol. Mae camlesi yn dod â manteision mannau gwyrdd a choridorau natur i ardaloedd trefol, gan gyrraedd miloedd o bobl nad oes ganddynt lawer o fynediad at natur. Maent yn creu coridorau bywyd gwyllt, yn cyfrannu at amddiffynfeydd rhag llifogydd a draenio ac yn trosglwyddo dŵr i gefnogi cyflenwad dŵr cyhoeddus. Yn fy etholaeth yng Ngorllewin Casnewydd, mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog wedi gwasanaethu trigolion ers iddi gael ei hadeiladu ym 1799. Cafodd ei hadeiladu ar gyfer diwydiant i ddechrau, ond mae bellach yn noddfa i gerddwyr a phobl sy'n hoff o fyd natur, gyda Chanolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg yn Nhŷ-du yn ganolbwynt ardderchog i ymwelwyr.

Mae ein camlesi yn ased i'w drysori, ond mae'r setliad cyllido hirdymor diweddar gan Lywodraeth y DU i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sy'n cynnwys Glandŵr Cymru, bron yn haneru'r cyllid cyhoeddus i gamlesi mewn termau real o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr ymddiriedolaeth, bydd yn arwain at ddirywiad yng nghyflwr y rhwydwaith camlesi a'r posibilrwydd brawychus o gau camlesi. Weinidog, pa sgyrsiau rydych yn eu cael gyda San Steffan am effaith y penderfyniad hwn, a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu ein camlesi a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ased i'w drysori? 

Ie, diolch am y cwestiwn hwnnw, Jayne Bryant. Fel rydych newydd ei ddweud, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu newid y model ariannu ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, ac mae'n symud o gyfnod o 15 mlynedd i gyfnod o 10 mlynedd, gyda gostyngiadau blynyddol fesul cam. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod hyn i gyd, ond fe'i sefydlwyd yn 2012 a chytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu tua £740 miliwn drwy grant 15 mlynedd wrth i'r elusen ymsefydlu. Roedd bob amser yn wir fod disgwyl iddynt leihau'r ddibyniaeth ar gyllid cyhoeddus yn raddol, ond roedd hynny dros gyfnod o 15 mlynedd, ac mae'r cyfnod hwnnw bellach wedi cael ei leihau. Yn ystod 2022-23, cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig adolygiad o'i grantiau i lywio'r safbwynt. Fe wnaethom ni gyfrannu at gamau cynnar yr adolygiad hwnnw gan dynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan y rhwydwaith camlesi ym mhob ardal—yr holl rai rydych chi newydd eu crybwyll; hamdden awyr agored, teithio llesol, twristiaeth a bioamrywiaeth yn uchel ar y rhestr.

Felly, maent wedi cyhoeddi y bydd yn lleihau bob blwyddyn. Maent yn credu y gellir gwneud iawn am y gostyngiad drwy gynnydd mewn cyllid arall, fel taliadau trosglwyddo dŵr, taliadau cychod ac angorfeydd ac incwm arall, ond mae arnaf ofn ein bod wedi amlygu nifer o risgiau o ganlyniad i'r gostyngiad mewn cyllid, ac rydym yn ofni y bydd rhai rhannau o'r rhwydwaith yn cael eu cau, gan gynnwys rhai llwybrau teithio llesol, effaith negyddol ar fioamrywiaeth os na ellir sicrhau bod y gamlas yn llifo'n rhydd, oherwydd mae sicrhau bod y dŵr yn llifo'n rhydd yn cyfrannu'n helaeth at hynny, a rhwymedigaethau grantiau hanesyddol er mwyn cynnal asedau a darparu budd cyhoeddus sy'n dod i rym os na all yr ymddiriedolaeth gynhyrchu digon o arian er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau, ac o ganlyniad i hynny, llai o waith cynnal a chadw ar asedau rhestredig.

Felly, mae'n destun pryder mawr fod hyn wedi digwydd, ac rydym yn awyddus iawn i gadw ein rhwydwaith camlesi, ac yn wir i'w ymestyn, ac rydym yn dal i obeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny. Mae gennym rai llinellau yn 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n nodi ystyriaethau polisi ar gyfer camlesi a dyfrffyrdd mewndirol, ac yn y bôn, i grynhoi, mae'n dweud y dylai awdurdodau cynllunio geisio hyrwyddo'r defnydd o ddyfrffyrdd mewndirol drwy ddiogelu neu ddarparu mynediad atynt. Mae hynny gyda'r bwriad o sicrhau bod cymunedau'n gallu cael mynediad at y dyfrffyrdd, a'u defnyddio. A hefyd mae'n amlwg iawn, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, fod safbwynt pobl ar gamlesi ac afonydd wedi bod yn wahanol iawn. Felly, nid oedd yn anghyffredin o gwbl, 15 mlynedd yn ôl, i ystadau tai gael eu hadeiladu gyda chefnau'r tai at afon, a wal rhyngddynt. Nawr mae'n amlwg iawn ei fod yn gwella gwerth y tir os ydych chi'n ei wneud fel arall a gwneud i'r tai wynebu'r afon. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael cyfle i wneud hyn, Jane Bryant, ond os cewch chi gyfle, edrychwch ar Lee Valley ym mharc Olympaidd Llundain, a'r hyn a ddigwyddodd pan lwyddodd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i ddylanwadu ar sut y gwnaethant fynd ar drywydd dyfrffyrdd mewndirol y safle hwnnw, a'r hyn y mae wedi'i wneud i'r gymuned yn lleol, oherwydd mae'n werth edrych arno. Felly, mae'n economi ffug unwaith eto gan y Ceidwadwyr i wneud hyn ar gyfer ased sy'n ased treftadaeth ac yn fuddsoddiad enfawr mewn bioamrywiaeth.

14:05

Weinidog, wrth gwrs, un ffordd y gall Llywodraeth Cymru helpu i wella rhwydwaith camlesi Cymru yw drwy barhau i gefnogi gwaith adfer camlas Maldwyn, y cyfeirioch chi ati yn eich ateb yn gynharach. Nawr, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyllid ffyniant bro sylweddol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu'r prosiect hwn, ac rwy'n sicr yn credu y bydd adfer y gamlas yn sir Drefaldwyn o fudd enfawr i wella'r cynnig twristiaeth, yn ogystal â helpu i ddenu'r cyllid sector preifat hwnnw hefyd. Nawr, rwy'n gobeithio'n fawr, Weinidog, drwy fargen twf canolbarth Cymru, y gellir manteisio ar gyllid ychwanegol hefyd, oherwydd mae hwn yn brosiect allweddol o fewn bargen twf canolbarth Cymru, a gwn ei bod yn bartneriaeth, wrth gwrs, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, hoffwn eich cefnogaeth mewn egwyddor i gymorth ychwanegol drwy fargen twf canolbarth Cymru i gefnogi elfennau terfynol y gwaith o adfer camlas sir Drefaldwyn, gan fy mod yn siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hwn yn brosiect adfywio strategol pwysig iawn i'r canolbarth. 

Ydw, rwy'n cytuno'n fawr ei fod yn brosiect adfywio strategol pwysig. Fel roeddwn yn dweud mewn ymateb i Jayne Bryant, mae'n amlwg iawn ei fod yn cael effaith ddramatig ar werthoedd tir, er enghraifft, ac mae'n bendant yn gwella'r cynnig twristiaeth, ar gyfer defnyddio'r llwybrau tynnu yn ogystal â'r cychod eu hunain, ac rydym yn gryf o blaid hynny. Ni allaf wneud sylw ar gyllid bargen twf canolbarth Cymru—mae hynny ym mhortffolio fy nghyd-Aelod—ond fel Llywodraeth rydym yn gefnogol i fargen twf canolbarth Cymru, ac yn awyddus iawn i sicrhau bod asedau hanesyddol o'r math hwn yn cael eu gwella. 

Bioamrywiaeth

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso'r angen am waith datblygu yn erbyn ei hymrwymiad i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth? OQ59977

Mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso'r angen am waith datblygu gyda'n hymrwymiad i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth drwy weithredu ein polisïau cynllunio daearol a morol. Mae'r rhain yn darparu fframwaith i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ac ar gyfradd sy'n cynnal ac yn gwella gwytnwch ecosystemau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwyf wedi bod yn ymdrin â thrigolion pryderus mewn dau ddatblygiad posibl, un yn fferm solar a'r llall yn ddatblygiad tai. Mae gan y ddau safle un peth yn gyffredin, fodd bynnag—mae'r ddau ohonynt yn hafan i fywyd gwyllt. Mae'r ddau safle'n cynnal amrywiaeth o fflora a ffawna prin ac mae'r ddau'n cael eu bygwth gan waith datblygu. Gallai Glais, sy'n gartref i adar prin a gloÿnnod byw, gael ei ddinistrio i ddiwallu ein hanghenion ynni, ac mae Comin Clun, sy'n gartref i lawer o rywogaethau o blanhigion a phryfed prin, i gael ei balmantu i ddarparu'r angen am dai fforddiadwy. Weinidog, mae gennym argyfwng natur, felly pam ein bod yn caniatáu i gynefinoedd naturiol gael eu dinistrio i ddiwallu targedau ynni neu dai tymor byr? Does bosib nad oes digon o safleoedd tir llwyd o gwmpas i ganiatáu i ddatblygiadau fynd yn eu blaenau gan warchod ein bioamrywiaeth ar yr un pryd. Diolch.

Wel, rwy'n falch iawn o weld yr Aelod yn hyrwyddo bioamrywiaeth dros waith datblygu. Yn sicr, nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth o'r un lliw ag ef yn ei wneud yr ochr arall i'r ffin. Yma yng Nghymru, mae gennym system sy'n dilyn cynllun. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar safleoedd na cheisiadau cynllunio unigol am resymau amlwg, ond rhaid i unrhyw ddatblygiad a gyflwynir gydymffurfio â 'Pholisi Cynllunio Cymru', rhaid iddo gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir yn y cynllun datblygu lleol, ac mae datblygiad cynaliadwy yn gwbl greiddiol iddynt oll. Felly, cyn belled â bod yr awdurdodau cynllunio yn gweithredu'r cynlluniau'n gywir ac yn gweithredu 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gywir, mae gennym lawer iawn o amddiffyniad a ffyrdd o wella, fel ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir. Ond yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar safleoedd unigol oherwydd mae'n ddigon posibl y bydd gennyf rôl yn y system gynllunio ar eu cyfer.

14:10
Croesiadau'r Fenai

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y camau diweddaraf mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella gwytnwch croesiadau'r Fenai? OQ59966

Diolch. Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn drafftio ei adroddiad ar wella gwytnwch croesfannau'r Fenai, ac rydym yn gobeithio y daw i law cyn gynted ag y bydd yn barod. Rwy'n deall y bydd y comisiwn yn argymell ystod o gamau i'w cymryd i gyflawni hyn, a bydd yr adroddiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd, wrth gwrs.

Mae'r ffaith y bu'n rhaid cau'r bont y llynedd, a nawr y goleuadau hirdymor ar bont Menai, wedi amlygu diffyg gwytnwch croesfan Britannia wrth gwrs. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn heddiw yw oherwydd ei fod yn teimlo o ddifrif fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau yn hirdymor i wneud unrhyw beth i helpu gyda gwytnwch y groesfan. Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi dod yn agos, ddegawd yn ôl, i gael cefnogaeth ar gyfer system tair lôn yn ystod oriau brig. Ni ellid gwneud hynny. Fe wnaethom barhau i ymgyrchu, a waw, fe gawsom addewid o bont newydd. Yna, cafodd hynny ei dynnu'n ôl. 'Defnyddiwch y bws', meddent wrthym. Yna, cafodd bysiau eu torri. 'Defnyddiwch deithio llesol'—y bont fyddai'r llwybr newydd ar gyfer teithio llesol. Nawr, rwyf wedi cyflwyno atebion ymarferol. Ysgrifennais ym mis Gorffennaf. Awgrymais ddefnyddio system tair lôn yn ystod oriau brig fel mesur cyflym dros dro. Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu yn ôl ataf, gan ddweud nawr na ellir gwneud hynny, ac y byddai'n cymryd blynyddoedd. Lle mae'r bwriad i geisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu nawr? Rwy'n ofni nad oes gan gomisiwn Burns gylch gwaith digon eang. Lywydd, mae arnaf ofn nad yw'r Dirprwy Weinidog yn rhoi unrhyw beth i ni yma sy'n dangos i ni fod y Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â gwneud newidiadau go iawn ar gyfer y tymor hir. Gyda storm Agnes ar y ffordd, mae gennyf etholwyr nerfus iawn eto sy'n poeni y bydd yr ynys yn cael ei thorri i ffwrdd.

Wel, rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac rwy'n siomedig gyda'r sylwadau sarrug braidd a wnaeth yr Aelod. Byddwn wedi gobeithio y byddai wedi meddwl, o ran fy ymrwymiad a fy mherthynas gydag ef—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yr awgrym nad ydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddarparu ateb hirdymor yn sarrug. Rwy'n credu fy mod wedi ymdrechu'n galed iawn i weithio gydag ef ac wedi rhoi llawer o amser i geisio dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn. Nid yw'r pethau hyn yn syml. Dyma fy swydd, a dyna ei swydd iddo yntau. Rwy'n parhau i fod yn siomedig â'r cywair y mae'n ei ddefnyddio.

Nawr, fy mhryder i, ar ôl ymgysylltu'n agos â'r peirianwyr ar hyn—ac mae wedi cyfarfod â nhw ei hun ar sawl achlysur—yw nad yw mor syml ag y mae'n awgrymu, yn anffodus. Byddwn wrth fy modd pe bai mor syml â hynny, oherwydd rwy'n cefnogi'r hyn y mae'n ceisio ei wneud. Roeddwn yn gefnogol i geisio sefydlu'r system 'zipper' a awgrymwyd ganddo, ac mae'r peirianwyr yn ofalus iawn ynglŷn â hynny. Rwy'n deall bod yr adroddiad a gawsom yn ôl—gan weithio gyda chomisiwn Burns a sicrhau bod peirianwyr ar gael iddynt—yn dangos y bydd yn anodd iawn sefydlu hynny fel ateb parhaol, sy'n siomedig iawn. Nid ydym am roi'r gorau i'r syniad, ac rwy'n sicr yn gofyn iddynt wneud pob ymdrech i geisio sicrhau bod hwnnw'n ateb pragmatig. Unwaith eto, byddwn yn hapus iawn iddo gyfarfod â nhw i drafod manylion hynny. 

Fel y dywedais, bydd comisiwn Burns yn cynhyrchu cynllun cyffredinol ar gyfer gogledd Cymru. Yn anffodus, mae'r Arglwydd Burns wedi cael anaf mewn damwain seiclo, ac felly efallai y bydd oedi cyn cyhoeddi'r adroddiad, ond rydym yn gobeithio y gellir ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl. Rwy'n ategu fy ymrwymiad i weithio gyda'r Aelod i geisio dod o hyd i ateb ar gyfer ei etholwyr.

Mark Isherwood. Rwy'n credu mai 'na' oedd hynny. 

Cwestiwn 8—Luke Fletcher.

Safonau Byw Addas

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol i sicrhau bod gan bobl mewn llety dros dro amodau byw addas? OQ59980

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n huchelgais hirdymor i ddod â digartrefedd i ben, ac rydym yn buddsoddi dros £210 miliwn mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai eleni yn unig. Mae'r cod canllawiau ar ddyrannu llety a digartrefedd yn nodi canllawiau i awdurdodau lleol ar ddefnydd ac addasrwydd llety dros dro.

Diolch am yr ateb, Gweinidog.

Ym mis Mehefin 2023, roedd 10,869 o bobl yn byw mewn llety dros dro, gyda 3,346 ohonynt o dan 16 oed. Nawr, mae fy swyddfa wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n dod atom o'r sefyllfa hon yn mynegi pa mor anaddas yw'r llety, yn enwedig i deuluoedd. Pan fyddwn yn codi hyn gydag awdurdodau lleol, yn amlwg iawn, maent o dan bwysau. Mae amseroedd ymateb, ar gyfartaledd, wedi cymryd hyd at ddau fis, yn ddiau oherwydd y niferoedd cynyddol sydd angen llety dros dro. Felly, mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i ymdrin â'r niferoedd sydd angen llety dros dro? Ac yn ail, pa gyngor y byddai'n ei roi i ni fel Aelodau ynglŷn â'r ffordd orau o gefnogi ein hetholwyr?

14:15

Ie. Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Rydym yn amlwg yn gweithio ar y cyd â Phlaid Cymru ar y mater hwn, oherwydd mae digartrefedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Rydym yn parhau i fabwysiadu dull o sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael allan, gyda dros 38,600 o bobl sy'n profi digartrefedd wedi cael cymorth llety dros dro ers mis Mawrth 2020. Rydym newydd ddiweddaru ein cynllun gweithredu ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sy'n adlewyrchu ein huchelgais i leihau dibyniaeth ar lety dros dro, wrth i awdurdodau symud tuag at ailgartrefu'n gyflym.

Ond mae Luke Fletcher yn llygad ei le: rhaid i atal fod yn brif ffocws, a'n blaenoriaeth yw lleihau llif y bobl sydd angen llety dros dro, felly rydym wedi darparu £6 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer cronfa atal digartrefedd ddewisol. Rydym hefyd wedi ceisio cynyddu'r niferoedd sy'n symud ymlaen o lety dros dro, felly rydym wedi sefydlu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro. Fe wnaethom sefydlu honno ar ddechrau y llynedd. Mae'n agored i geisiadau newydd nawr i ddarparu mwy o gartrefi i bobl mewn llety dros dro. Mae hwn yn llety dros dro o ansawdd uchel iawn ac os hoffai'r Aelod ymweld â rhai, gallaf yn sicr drefnu hynny. Felly, mae hwn yn llety nad yw'n cyrraedd y safonau gofodol rydym yn eu disgwyl ar gyfer llety parhaol, ac mae rhywfaint ohonynt wedi'u lleoli ar yr hyn rydym yn eu galw'n safleoedd 'yn y cyfamser'. Yn ddiweddar, ymwelais ag un yn y gweithfeydd nwy yma yng Nghaerdydd, er enghraifft, a fydd yn dod yn ystad dai barhaol, ond bydd yn cymryd tair i bum mlynedd i hynny ddigwydd, ac yn y cyfamser, mae gennym lety dros dro o ansawdd da iawn yno i nifer o deuluoedd a fyddai fel arall mewn llety gwely a brecwast llawer gwaeth. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod yn wynebu niferoedd digynsail o bobl sy'n mynd yn ddigartref. Mae gennym dros 1,000 y mis o bobl ledled Cymru sy'n mynd yn ddigartref, wedi'i lywio, mae arnaf ofn, gan yr argyfwng costau byw a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran chwalu teuluoedd.

Felly, rydym wedi bod yn buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau atal ac os oes gan yr Aelod bobl sy'n mynd yn ddigartref yn yr amgylchiadau hynny, y ddau beth rydym wedi bod yn gofyn i bobl eu gwneud yw, yn gyntaf oll, gwneud yn siŵr fod tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eich ardal chi—felly, cymorth iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau cymdeithasol—ar gael os ydynt yn dal i fod yn eu cartrefi, a bod y cyngor neu'r bobl sy'n rheoli'r opsiynau tai yn eich ardal yn ymwybodol o'r ffaith eu bod yn gallu gwneud pethau i gadw pobl yn eu cartrefi. Mae ystod eang o opsiynau ar gael i gadw pobl yn eu cartrefi, gan gynnwys cymorth gydag ôl-ddyledion rhent, er enghraifft, a materion eraill. A lle nad yw'n bosibl gwneud hynny, sicrhau eu bod yn cael opsiynau tai ar y cyfle cyntaf posibl, fel y gellir sicrhau mwy o amser i geisio dod o hyd i lety amgen addas. Ac rydym wedi galluogi cynghorau i ddarparu ystod o lety addas; mewn llawer o achosion, ni fydd yn dŷ cymdeithasol parhaol i'w rentu, ond serch hynny, fe fydd yn llety cwbl dderbyniol.

Rydym yn parhau i weithio'n galed iawn. Yn y ffigurau diwethaf sydd ar gael i mi, roedd ychydig dros 1,000 o bobl y mis yn troi at wasanaethau digartrefedd, yn ôl ym mis Medi, a symudwyd tua 562 o'r aelwydydd hynny ymlaen i lety parhaol. Felly, Lywydd, rwyf bob amser yn dweud hyn, rwyf am dalu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru, sy'n gwneud eu gorau glas i geisio helpu pobl yn yr amgylchiadau hyn. Ond rwy'n pwysleisio ein bod ni'n ymrwymedig i geisio cadw pobl yn eu cartrefi yn y lle cyntaf ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref, oherwydd y trawma, ac yn wir, yr agweddau ariannol sydd ynghlwm wrth hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Paul Davies.

Cyrsiau Galwedigaethol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch darparu cyrsiau galwedigaethol? OQ59959

Cyhoeddais i'r adroddiad ar yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ar 11 Medi. Rwyf wrthi'n ystyried yr argymhellion, ac yn gwneud hynny ar y cyd gydag eraill, i sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws ystod o ddatblygiadau strategol. Byddaf i'n rhoi diweddariad pellach maes o law.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Nawr, yn gynharach eleni, lansiodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad ar dri chynnig ar gyfer cymwysterau 14 i 16, ochr yn ochr â TGAU. Fe gwrddais i â Choleg Sir Benfro yn gynharach eleni i drafod yr ymgynghoriad a'r angen am ragor o gydweithio rhwng ysgolion a cholegau i ddarparu sgiliau galwedigaethol yn fy ardal i. Nawr, dwi'n gwybod bod yna bryderon ynghylch y gallu a fydd gan rai ysgolion i ddarparu cyrsiau galwedigaethol ychwanegol, ac mae yna bryderon ynghylch a fydd gan rai ysgolion y cyfleusterau priodol i ddarparu rhai o'r cyrsiau yma. Nawr, dwi'n sylweddoli bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd, ond, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthyn ni pa drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda Cymwysterau Cymru am y gwaith hwn, pa gamau bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd y cyrsiau galwedigaethol yn gallu cael eu darparu'n briodol mewn ysgolion, a beth ŷch chi'n ei wneud i helpu hwyluso mwy o gydweithio rhwng ysgolion a cholegau i ddarparu sgiliau galwedigaethol yma yng Nghymru?

14:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig iawn. Mae'r gwaith yma gan Cymwysterau Cymru yn dangos cymaint o flaenoriaeth yw sicrhau addysg alwedigaethol, a'r berthynas sydd mor bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud, rhwng ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod llwybr dysgwr yn un hyblyg ac yn rhwydd. Mae'r gwaith wnaeth Hefin David yn ddiweddar ar addysg o ran gwaith yn yr ysgolion hefyd yn gwthio i'r perwyl hwnnw: gwell cydweithio rhwng ysgolion a cholegau. Mae'r gwaith wedi bod yn digwydd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, rydym ni wedi cael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru am hyn, ac rwyf i hefyd wedi trafod hyn gyda cholegau addysg bellach i weld beth yw'r goblygiadau ymarferol o'r math mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Mae gennym ni gyfle nawr, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, i baratoi ar gyfer y swît newydd yma o gymwysterau, felly byddaf i eisiau gweld dros y flwyddyn nesaf, pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn gyhoeddus, beth yw'r galw ar lawr gwlad i sicrhau bod y llwybr hwnnw yn un esmwyth, ond rwy'n rhoi sicrwydd i'r Aelod bod hwn yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth hefyd.

Weinidog, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Maent yn dweud bod hyn yn datblygu sgiliau mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol, drwy ddysgu yn yr ysgol ac yn y gwaith. Mae'n chwarae rhan allweddol yn sicrhau cyfraddau is o blant yn gadael yr ysgol ac yn hwyluso'r broses bontio o'r ysgol i'r gwaith. Mewn byd gwaith sy'n newid, gall systemau addysg a hyfforddiant galwedigaethol sydd wedi'u cynllunio'n dda chwarae rhan hanfodol yn datblygu'r sgiliau cywir ar gyfer y farchnad lafur, nid yn unig i bobl ifanc, ond hefyd i oedolion sydd angen uwchsgilio neu ailsgilio. Weinidog, fe wyddom fod byd gwaith yn newid yn gyflym gyda datblygiad technoleg fel deallusrwydd artiffisial, ac rwy'n croesawu'r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol o dan gadeiryddiaeth Sharron Lusher, a'r adroddiad dilynol sydd newydd gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. O ystyried pwysigrwydd yr adroddiad hwnnw, Weinidog, a nifer yr argymhellion i wneud hyfforddiant galwedigaethol yn fwy effeithiol yma yng Nghymru, a gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda'r argymhellion hynny a'u gweithrediad?

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn hwnnw. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r adroddiad y gallodd Sharron Lusher ac aelodau eraill o'i grŵp llywio ei ddarparu i ni fel Llywodraeth. Mae'n adroddiad meddylgar ac ystyriol iawn, ac mae ganddo argymhellion clir iawn ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd i sefydliadau allweddol eraill fel Cymwysterau Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wrth gwrs. Yn amlwg, ni allaf siarad ar ran y sefydliadau hynny, ond fy nod yw ceisio gweithio'n strategol wrth i ni ddatblygu ein hymateb i'r adroddiad.

Roeddwn yn awyddus i osod yr adroddiad gerbron y Senedd cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n gwybod cymaint o ddiddordeb sydd gan Aelodau yn y maes polisi pwysig hwn. Fel y bydd yn gwybod, mae yna argymhelliad yn yr adolygiad ynghylch strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ac rwy'n credu y gallwn edrych ar y canllawiau hynny i weld sut y gallwn sicrhau gwell synergedd, os mynnwch, rhwng addysg, sgiliau, polisïau a strategaethau economaidd ar draws Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu bod rhai pwyntiau diddorol yno hefyd ynghylch sut yr awn i'r afael â'r cwestiwn am gymwysterau wedi'u gwneud ar gyfer Cymru yn y dyfodol, i wneud yn union yr hyn roedd yr Aelod yn ein hannog i'w wneud, rwy'n credu, sef sicrhau bod gennym gyfres o gymwysterau sy'n hawdd i'r dysgwr eu llywio, ond sydd hefyd yn adlewyrchu anghenion economi sy'n newid yn gyflym iawn mewn rhai sectorau. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud fod hwn yn gyfle nid yn unig i bobl iau, ond i bobl drwy gydol eu bywyd gwaith, yn un rwy'n ei gefnogi'n llwyr. 

14:25
Trafnidiaeth Ysgolion

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wella trafnidiaeth ysgolion i fyfyrwyr? OQ59982

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi cael adroddiad o'r adolygiad annibynol o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a chanllawiau cysylltiedig. Rŷn ni wrthi'n ystyried yr adroddiad hwnnw, a phan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben, byddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb iddo.

Diolch ichi am hynny, achos fel ŷch chi’n gwybod, mewn sawl rhan o Gymru, os ŷch eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn hytrach na chyfrwng Saesneg, yna mae’n rhaid ichi deithio ymhellach, gan mai efallai dim ond un neu ddwy ysgol Gymraeg sydd yna mewn rhai siroedd, ac mae gwrthod darparu trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg yn achosi annhegwch ac anghyfartaledd ac yn arwain at fyfyrwyr yn gadael addysg Gymraeg. Felly, beth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i roi sicrwydd y bydd myfyrwyr chweched dosbarth, yn benodol, sydd ddim yn derbyn trafnidiaeth ysgol statudol, yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel eu bod nhw’n gallu parhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg? Oherwydd mae yna nifer o achosion dwi’n ymwybodol ohonyn nhw erbyn hyn lle mae myfyrwyr wedi gorfod symud o addysg Gymraeg oherwydd y diffyg darpariaeth trafnidiaeth, ac mae hynny wrth gwrs yn y diwedd yn tanseilio nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

Rwy’n cydweld â’r Aelod o ran blaenoriaeth i hyn, ac rwyf i wedi cael trafodaethau fy hunan â phenaethiaid mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg dros y misoedd diwethaf sydd yn rhannu’r pryder y mae ef a minnau yn ei rannu. Mae’r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud yn fewnol dros y misoedd diwethaf, fel rydw i’n dweud, wedi nawr dwyn ffrwyth o ran adroddiad i minnau a’r Dirprwy Weinidog. Oherwydd y diwygiadau sylfaenol sydd ar y gweill o ran gwasanaethau trafnidiaeth a gwasanaethau bws yn benodol, a’r sefyllfa ariannol ar y llaw arall, dŷn ni ddim yn gweld yn y cyfnod byr, o leiaf, fod cyfle i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ei hun, ond bydd cyfle i edrych ar y canllawiau statudol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mae’r Aelod yn sôn amdanynt yn ei gwestiynau. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod lleisiau disgyblion a staff ysgolion yn cael eu clywed wrth inni fynd ati i wneud y gwaith hwnnw, ond bydd cyfle inni osod allan mwy o fanylion maes o law pan fydd y gwaith o edrych ar yr adolygiad hwnnw wedi gorffen.

Weinidog, rwyf innau hefyd am ofyn cwestiwn ynghylch yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Ym Mhowys, mae yna gynigion i newid Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion o fod yn ysgol ddwyieithog i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn yn effeithio ar nifer o ysgolion bwydo lle caiff plant eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Fel y mae ar hyn o bryd, ni fydd yr awdurdod lleol yn ariannu cludiant i'r ysgol i rai plant sy'n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg i'w hysgol uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf. Felly, wrth gwrs, mae hyn wedi arwain at fwy o bryder nawr, o ystyried y cynigion rwyf newydd eu hamlinellu. Felly, a fydd adolygiad y Mesur teithio gan ddysgwyr yn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac a fyddech chi'n cytuno â mi fod angen mynd i'r afael â'r mater o safbwynt cydraddoldeb a dewis rhieni?

Mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr wedi cael ei lunio mewn ffordd sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau ynghylch cydraddoldeb y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt. Fel y dywedais, nid wyf yn rhagweld cyfle i ddiwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr ei hun, ond mae'n debygol y bydd cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r materion, yn debyg iawn i rai o'r pwyntiau y mae'r Aelod newydd eu gwneud, sydd wedi codi yn yr adolygiad mewnol hwnnw, ynghyd â chyfle i fynd i'r afael â'r rheini mewn adolygiad o ganllawiau statudol, a dyna beth y byddwn yn edrych arno dros y misoedd nesaf.

Rwy'n cynrychioli etholaeth drefol, felly tybed a allech chi ddweud wrthym pa gyfran o'r gyllideb addysg sy'n cael ei gwario ar gludiant i'r ysgol, oherwydd rwyf wedi clywed ffigur mor uchel â 25 y cant. Gan ein bod ar fin dathlu degfed pen-blwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, pa waith rydych chi'n ei wneud gydag awdurdodau addysg lleol mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd i annog mwy o ddisgyblion i gerdded, neu fynd ar sgwter neu feic i'r ysgol? Oherwydd byddai hynny'n dda i'w hiechyd a byddai'n dda ar gyfer ailfuddsoddi'r arbedion mewn addysgu a dysgu.

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn amserol hwnnw, o ystyried y pen-blwydd y mae hi'n cyfeirio ato yn briodol. Bydd lefel y cyllid sy'n cael ei neilltuo i gludiant i'r ysgol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall am resymau amlwg, ond gall fod yn arwyddocaol iawn yn wir, yn y ffordd roedd hi'n ei awgrymu, ond rwy'n credu bod y ffocws rydym ei eisiau yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol, ac rwy'n gwybod ei bod hi ei hun wedi ymrwymo'n fawr i hynny. Felly, er enghraifft, y gwaith a wnawn i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu cynlluniau teithio llesol ar gyfer ysgolion: gwyddom fod hynny'n helpu gyda diogelwch wrth gwrs, ond hefyd gydag iechyd. Rydym yn gwybod ei fod yn helpu o ran ffocws ystafell ddosbarth. Ac rydym yn symud tuag at sefyllfa lle bydd cael cynllun ar waith yn dod yn amod ar gyfer cael mynediad at ystod o gronfeydd eraill hefyd. Drwy'r gwaith a wnawn ar hyrwyddo strydoedd ysgolion a'r rhaglen teithio llesol, ond hefyd mewn perthynas â'r rhaglen adeiladau newydd sydd gennym, sydd, fel y bydd yn gwybod, yn un sylweddol iawn, rydym wedi cryfhau'r gofynion cynllunio teithio llesol ar gyfer unrhyw ddatblygiad ysgol newydd. Mae cadeirydd y bwrdd cynghori ar deithio llesol wedi bod yn gweithio'n agos gyda ni i sicrhau bod y gofynion hynny ar awdurdodau, wrth iddynt gyflwyno cynlluniau ar gyfer cyllid, yn gadarn ac yn bodloni'r amcanion sydd gennym ar eu cyfer.

14:30

Hoffwn roi gwybod i'r Gweinidog fod trafnidiaeth ysgol yng ngogledd Cymru mewn perygl eto gan ei fod ynghlwm wrth drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhwydwaith arfaethedig sy'n cael ei gyflwyno gan y gweithgorau ar y cyd wedi dweud nad yw'r gronfa bontio yn ddigon i dalu am gynigion, fod costau'n cynyddu, ac nad yw niferoedd teithwyr wedi dychwelyd i'r hyn yr arferent fod. Maent yn bryderus iawn pan ddaw i ben ym mis Mawrth. Mae Bus Users UK yn cynnal ymgyrch Dal y Bws y mis hwn. Felly, a wnewch chi barhau i drafod gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chadw llygad, ac annog pawb i gefnogi'r bws, ac ymgyrch Trafnidiaeth Cymru i gefnogi'r bws sydd i'w lansio'n fuan, y mis nesaf, gobeithio? Diolch.

Mae Carolyn Thomas newydd wneud pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae llawer o'r heriau rydym yn eu trafod nawr yn adlewyrchu'r gostyngiad ehangach yn y defnydd o fysiau ar draws y rhwydwaith masnachol, a dyna pam ein bod wedi gorfod ymateb yn y ffordd a wnaethom, gyda'r cyllid sylweddol rydym wedi'i ddarparu. Rydym yn gwbl ymwybodol o'r pwysau costau a wynebir ar draws y sector cyhoeddus. Yn aml, cludo dysgwyr ar wasanaethau bws lleol yw'r ffordd fwyaf costeffeithiol o gludo dysgwyr. Fel y gŵyr yr Aelod, mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi integreiddio eu teithio gan ddysgwyr a gwasanaethau bysiau lleol, ac rydym yn awyddus i weld hynny'n digwydd ar sail lawer ehangach am resymau y gwn y bydd hi'n eu cefnogi.

Mae'r cyfarfodydd cynllunio rhanbarthol y mae awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a chwmnïau bysiau wedi bod yn eu cynnal wedi ceisio blaenoriaethu llwybrau sy'n cefnogi teithiau ysgol hefyd, sy'n amlwg yn gywir. Ond rwy'n cytuno'n gryf iawn â sylwadau'r Aelod ar yr angen i gefnogi'r ymgyrch Dal y Bws. Rwy'n deall y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod deunydd marchnata ar gael i Aelodau fel y gallwn i gyd fwrw ymlaen â'r ymgyrch honno yn ein hetholaethau a thrwy ein rhwydweithiau ein hunain.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones.

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn gynharach eleni, fe wneuthum eich holi ynglŷn â thrais yn ysgolion Cymru, ar ôl i fy swyddfa a minnau ddatgelu 5,000 o ddigwyddiadau o drais yn ystafelloedd dosbarth Cymru, gan rai yn unig o'r awdurdodau lleol ledled Cymru. Ar y pryd, fe ddywedoch chi eich bod yn ymwybodol o'r problemau a'ch bod wedi dechrau siarad â'r undebau ynglŷn â'r materion hyn. Fodd bynnag, mae misoedd wedi mynd heibio bellach ac rydym yn dal i fod heb weld datganiad ar y mater. Rhoddais lasbrint posibl i chi o sut i ddechrau datrys y mater pan ddatgelais y broblem am y tro cyntaf fisoedd yn ôl, ac unwaith eto rydych chi wedi methu ymateb i'r brys sydd ei angen, ac wedi methu gweithredu hyd yma. Nid oes gennym unrhyw safon adrodd o hyd, na gofyniad i adrodd am gamdriniaeth neu drais yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw'r miloedd o ddigwyddiadau y gwyddom amdanynt eisoes prin yn crafu'r wyneb, ac mae'r darlun go iawn yn debyg o fod yn llawer iawn gwaeth. Felly, Weinidog, am yr eildro, a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithredu go iawn ar hyn, a chynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar drais; cyhoeddi canllawiau newydd i athrawon a staff; parhau â'ch gwaith ar ddiwygio gwaharddiadau y dywedoch chi eich bod wedi ei ddechrau; sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ymyriadau ystyrlon; a chreu llinell gymorth genedlaethol efallai? Dyma rai o'r pethau y gallech eu gwneud. Pa gamau rydych chi'n mynd i'w cymryd, Weinidog?

A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gwaith a wnaethant i ddod â'r mater hwn i sylw'r Senedd, yn y gwaith roeddent yn ei wneud yn gynharach eleni a ddiwedd y llynedd? Rwy'n credu ei fod wedi bod yn gyfraniad pwysig iawn i'n dealltwriaeth o'r broblem hon mewn ysgolion. Yn sicr, mae gan athrawon hawl i weithio mewn amgylchedd diogel. Ni allwn oddef ymddygiad gwael—ymddygiad treisgar ac ymddygiad ymosodol—lle mae'n digwydd. Yn yr un modd, nid gwaharddiadau yw'r ateb; dylai pobl ifanc fod yn y dosbarth, yn gallu dysgu. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond mae'n rhaid inni ddechrau o'r egwyddorion hynny. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu canllawiau gydag undebau athrawon, undebau'r gweithlu addysg ehangach, ac awdurdodau lleol, fel y soniais y tro diwethaf i'r Aelod godi hyn yn y Siambr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ei wneud mewn cydweithrediad ag undebau ac AALlau. Dyna'r gwaith sy'n digwydd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gyflwyno'r canllawiau hynny'n fuan iawn. 

14:35

Wel, Weinidog, gadewch inni obeithio ei fod yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, oherwydd mae angen i athrawon deimlo'n ddiogel yn yr ysgol, fel y dywedoch chi. Hyd nes y caiff newidiadau go iawn eu rhoi ar waith, dim ond gwaethygu a wnaiff y mater hwn. Gwta bythefnos yn ôl, Weinidog, pleidleisiodd aelodau undeb athrawon NASUWT i streicio dros eu pryderon ynghylch methiannau i fynd i'r afael â lefelau uwch o drais, yn un o'r ysgolion yn fy rhanbarth i mewn gwirionedd. Yn hytrach na'ch bod wedi rhoi camau brys ar waith ar broblem sy'n gwaethygu, mae bellach wedi cynyddu i bwynt mor eithafol fel bod athrawon yn teimlo bod angen iddynt streicio oherwydd pryderon ynglŷn â'u diogelwch a'r ymddygiad treisgar a chamdriniol y maent yn ei wynebu. Weinidog, mae eich diffyg gweithredu wedi arwain at athrawon yn teimlo nad yw'n ddiogel iddynt addysgu. Rydych chi'n gwneud cam ag athrawon. Weinidog, beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Beth fydd yn gorfod digwydd cyn i chi sylweddoli'r pa mor ddifrifol yw hyn? Fe ddywedoch chi eich bod yn datblygu canllawiau. Oni allwch chi weld y brys y tu ôl i hyn, os yw athrawon yn teimlo'r angen i streicio, fel y gwelsom bythefnos yn ôl? Efallai y dylech weithredu fy nghynllun pum pwynt, mabwysiadu rhai o'r syniadau hynny; rwy'n barod i'w rhannu gyda chi. Neu a fydd angen mwy o streiciau cyn i chi roi camau brys ar waith?

Nid wyf yn siŵr fod y rhan fwyaf o bobl yn adnabod yr iaith y mae'r Aelod yn dewis ei defnyddio i gyflwyno'r mater hwn. Mae'n amlwg yn fater cymhleth, ac nid wyf yn credu bod ei ddarlunio yn y goleuni erchyll y mae hi’n ei ddefnyddio o gymorth i neb. Mae'n fater difrifol, sy'n galw am ystyriaeth ddifrifol. Yr ysgol y mae hi'n cyfeirio ati—. Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar unrhyw ysgol benodol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar unrhyw ysgol benodol am resymau amlwg, ond rwy'n gwybod bod gan athrawon hawl i weithio mewn amgylchedd diogel. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu hynny. Ac rwy'n gwybod, ledled Cymru, y bydd awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'u gweithlu addysgu i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n mawr obeithio y gellir datrys hyn yn yr ysgol y soniodd amdani hefyd. 

Edrychaf ymlaen at ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yn fuan.

Weinidog, mae'n ymddangos yn eithaf amserol heddiw i siarad am gludiant ysgol, fel y mae Aelodau eraill newydd siarad amdano, ac mae ar yr un thema, mewn gwirionedd. Mae cludiant ysgol wedi achosi llawer iawn o bryder i ddysgwyr a rhieni dros yr wythnosau diwethaf, a'r diffyg cludiant ysgol sydd yna. Siaradais ag awdurdod lleol ddydd Llun a ddywedodd eu bod mewn sefyllfa amhosibl oherwydd eu bod am roi cludiant ysgol pwrpasol i'r plant sydd ei angen, ond ni allant wneud hynny oherwydd eich bod chi unwaith eto wedi cyfyngu ar yr arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar gyfer cludiant ysgol. Buom yn siarad am ddewis rhieni nawr; mae'n ymddangos fel 'Peth hyfryd iawn i'w wneud, mae hon yn ysgol hardd, fe anfonaf fy mhlentyn yno', ond mae rhesymau go iawn dros ddewis rhieni, naill ai fod y plant eisiau dysgu Cymraeg, fel y trafodwyd yn gynharach, neu oherwydd bod eu brodyr a'u chwiorydd yn mynd i'r ysgol honno, neu os oes yna fater anghenion dysgu ychwanegol y mae ysgol arall—nid yr un nesaf atynt—yn well am ddarparu ar ei gyfer. Mae yna resymau gwirioneddol pam eu bod yn gwneud y dewis hwnnw fel rhieni, ond cyn gynted ag y gwnânt, nid oes ganddynt hawl i gludiant ysgol, ac mae gwir angen mwy o hyblygrwydd yn ei gylch; mae'n llawer rhy anhyblyg.

Hefyd, wrth drafod gyda'r awdurdod lleol, rydym yn sôn am newid go iawn—newid polisi, mae'n ymddangos—ar ran Llywodraeth Cymru i ffwrdd oddi wrth drafnidiaeth ysgol bwrpasol i ddefnyddio bysiau cyhoeddus. Fe ddywedoch chi yn gynharach fod hynny'n fwriad sydd gennych a'ch bod chi eisiau ei ddathlu a'i hyrwyddo. Ond, Weinidog—. Bu bron i mi eich galw yn Brif Weinidog; breuddwyd gwrach, efallai. [Torri ar draws.] Weinidog, ar ôl siarad â phobl, mae pryderon gwirioneddol yn fy mewnflwch, ac mewn llawer o rai eraill yn y Siambr hon rwy'n siŵr, ynglŷn â defnyddio bysiau cyhoeddus, am lu o resymau, boed yn ddiogelu neu'n beth bynnag. Ond un o'r pethau ymarferol y gallem ei wneud i'w gwneud yn well i'n dysgwyr yw—. Mae rhai myfyrwyr yn aros 45 munud cyn ac ar ôl ysgol, yn yr oerfel, y tywyllwch, a'r glaw am nad yw'r llwybr bws y maent wedi'i roi arno, neu yr awgrymwyd eu bod yn ei ddefnyddio, yn cyd-fynd ag oriau ysgol. Mae'r llwybrau bws hyn y mae'n rhaid i ddysgwyr—

Bydd yn rhaid i chi ofyn cwestiwn, fel arall byddwn yn aros 45 munud am hwnnw. 

Ond ni wnaf. Ond mae hwnnw'n ateb hawdd, Weinidog—sicrhau eich bod yn gweithio gyda chwmnïau bysiau i wneud yn siŵr fod y llwybrau hynny'n canolbwyntio ar yr ysgol ac nad effeithir ar les plant. Sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth, yn amlwg, oherwydd mae'n dod o fewn portffolios eraill hefyd, i sicrhau bod y plant hyn yn cyrraedd yr ysgol, sydd yn eich portffolio chi, ac nad effeithir ar eu lles, sydd yn eich portffolio chi?

14:40

Gyda phob parch, am gwestiwn sydd wedi'i ateb ddwywaith, cymerodd hynny gryn dipyn o amser i'w ofyn. Rwyf wedi bod yn glir iawn am y gwaith sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth. Gallai'r Aelod fod wedi rhoi sylw cynharach i'r atebion roeddwn i'n eu rhoi; mae llawer o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth. Mae llawer o waith yn digwydd mewn perthynas â'r adolygiad o'r Mesur, ac rwy'n credu fy mod wedi amlinellu heddiw'n groyw iawn ar ddau achlysur beth fydd y camau nesaf mewn perthynas â hynny. 

Mae hi'n gwneud y pwynt am gyllid yn ei ffordd Kafkaesgaidd arferol fel pe na bai'r pethau hyn yn gynnyrch y dewis gwleidyddol y mae ei Llywodraeth hi yn San Steffan yn ei wneud, sy'n achosi anawsterau ym mhob math o wasanaeth cyhoeddus. Llywodraeth Cymru yw hon sydd wedi buddsoddi £190 miliwn i gynnal gwasanaeth bws masnachol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gennym wasanaeth bws masnachol oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol wedi dadreoleiddio gwasanaethau bysiau a chreu marchnad gwneud elw. Mae'r cyfan yn gynnyrch dewisiadau gwleidyddol a wneir mewn mannau eraill. Yr hyn a wnawn drwy'r gronfa bontio ar gyfer bysiau a'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yw sicrhau bod y rhan fwyaf o'r llwybrau wedi'u diogelu. Nid yw'n ateb cyffredinol; mae'n fuddsoddiad sylweddol iawn i geisio mynd i'r afael â'r her. Ac i'r rhai sydd â diddordeb mewn ateb ymarferol yn hytrach na slogan wleidyddol, byddant yn gwybod mai gweithio drwy'r timau cynllunio rhanbarthol, gan flaenoriaethu llwybrau sy'n gwasanaethu teithiau ysgol hefyd lle bynnag y bo modd, yw'r ffordd o wneud hynny, ac rydym yn barod fel Llywodraeth i barhau i gefnogi'r gwaith hwnnw.

Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe cyhoeddwyd adroddiad grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw. Mae’n ailddatgan yr hyn sy’n wybyddus inni i gyd, sef bod yr argyfwng costau byw wedi cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi. Mae nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn gorgyffwrdd â neu'n rhan o'ch portffolio chi, megis ymestyn prydau ysgol am ddim i fwy o blant a phobl ifanc oed uwchradd a sicrhau bod llywodraethwyr ysgol yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol o ran gwisg ysgol. Sut ydych chi'n mynd i weithredu ar hyn?

Mae’n rhan o’r cynllun eang sydd gyda ni fel Llywodraeth sydd wedi bod werth dros £3 biliwn yn y ddwy flynedd diwethaf i geisio gwneud ein gorau i sicrhau bod arian ym mhocedi teuluoedd sydd yn stryglan. Felly, yn yr ysgol, mae'r prydau bwyd am ddim rŷn ni wedi'u cyflwyno gyda Phlaid Cymru mewn ysgolion cynradd yn gwneud cyfraniad sylweddol at hynny. Mae’r gwaith rwyf i wedi’i wneud fel Gweinidog i sicrhau ein bod ni'n newid canllawiau ysgol ar wisg ysgol ac i gynyddu argaeledd y gronfa hanfodion ysgol yn enghraifftiau o’r gwaith sydd yn digwydd yn ein hysgolion ni i gefnogi pobl ifanc.

Diolch yn fawr iawn. Dwi'n deall hynny, ond y gwir amdani ydy dydy'r ysgolion i gyd ddim yn cyd-fynd efo'r canllawiau. Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod bod costau’n dal i fod yn broblem efo gwisgoedd ysgol. Un o’r pethau yn yr adroddiad ddoe ydy gofyn i Weinidogion gadeirio cyfarfodydd i sicrhau bod yr hyn yr hoffech ei weld yn cael ei wireddu ar lawr gwlad.

Mae argymhelliad 9 y grŵp arbenigol yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn credyd cynhwysol heb gap ar enillion o'r mis yma. Daeth hwn allan ym mis Awst—mae eisiau ei weithredu. Felly, sut ydych chi’n edrych ar yr argymhellion hyn efo Gweinidogion eraill? Pa rai fyddwch chi'n ystyried eu rhoi ar waith? Oherwydd mi fyddem ni, yn ôl yr adroddiad hwn, yn gallu sicrhau bod 8,335 o ddisgyblion yn dod yn gymwys am brydau ysgol rŵan.

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. O ran prydau bwyd am ddim yn yr ysgol, mae’r dewis rŷn ni wedi’i wneud ar y cyd yn golygu bod yr arian rŷn ni wedi bod yn ei fuddsoddi yn ehangu’r ddarpariaeth i ysgolion cynradd. Ein polisi ni fel Llywodraeth yw ein bod yn edrych ar ymestyn hwnnw pan fod adnoddau’n caniatáu hynny. Ond mae’r sefyllfa o ran adnoddau yn un heriol tu hwnt, ac mae’r hyn rŷn ni wedi bod yn ei fuddsoddi, sy’n werth rhyw £3 biliwn, rwy’n credu yn gyfraniad sylweddol iawn. Dyw e ddim yn gallu ateb pob un galw, yn naturiol. Mae'r heriau i amryw o deuluoedd yn rhai real iawn, ond fy swyddogaeth i fel Gweinidog yw ffeindio pob cyfle y gallaf i sicrhau nad yw costau'r diwrnod ysgol yn rhwystredigaeth, a dwi'n credu, dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy, fod amryw o ffyrdd rŷn ni wedi gallu gwneud hynny.

O ran y pwynt yr oedd hi'n ei wneud o ran gwisg ysgol, mae gofynion ar gyrff llywodraethu i fynd ati nawr i adolygu eu polisïau, felly bydd hyn yn digwydd dros y misoedd nesaf. Mae rhai, wrth gwrs, eisoes yn cyrraedd y nod yn y canllawiau, ond rydyn ni'n gweld hyn yn digwydd nawr yn gynyddol. Mae wir yn bwysig ein bod ni'n sicrhau hyn ar gyfer pob teulu. Mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim o dan bwysau penodol, ond mae amryw o deuluoedd eraill sydd ddim yn gymwys am hynny ond hefyd yn gweld costau’n uchel, ac felly mae'r polisïau ehangach hynny o bwys iddyn nhw hefyd.

14:45
Ffonau Symudol mewn Ysgolion

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion? OQ59984

Gwnaf. Mae polisïau ar ffonau symudol yn yr ysgol yn fater i ysgolion a chyrff llywodraethu eu hunain. Gall technoleg fod yn offeryn defnyddiol i gynorthwyo addysgu a dysgu, a bydd ysgolion yn ystyried hyn wrth osod eu polisïau yn unol ag anghenion a gofynion dysgu yr ysgol benodol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud ag effaith technoleg symudol a'r cyfryngau cymdeithasol ar blant a phobl ifanc a'u gallu i ddysgu yn yr ysgol. Mae'r Gweinidog yn gwbl gywir, wrth gwrs, fod technoleg symudol yn hwb mawr i ddysgu ac mae'n gyfle gwych, ond mae hefyd yn arwain at lawer iawn o fwlio.

Wrth inni ymweld ag ysgolion ac wrth inni gyfarfod â phobl a threulio amser yn siarad â phobl, bydd gan bob un ohonom atgofion o'r sgyrsiau hynny. Un o'r atgofion sydd gennyf fi yw siarad â grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau a siaradodd â mi yn hynod angerddol a theimladwy am dechnoleg symudol a chyfryngau cymdeithasol a'r ffordd y gellir eu defnyddio i'w bwlio a'r effaith a gafodd hynny ar eu hiechyd meddwl a'u teimladau o lesiant a'u gallu i ddysgu. Ac er ein bod ni'n cefnogi'r defnydd o dechnoleg symudol—rwy'n gwneud hynny fy hun yn y Siambr ac mae manteision mawr i wneud hynny, fel gallu dilyn y rygbi, er enghraifft [Chwerthin.]—yr ochr arall i hynny, wrth gwrs, fel y dywedodd un ferch wrthyf, yw 'Rwy'n cael fy mwlio pan fyddaf yn y gwely yn y nos, am fod pobl yn dweud pethau amdanaf ar y cyfryngau cymdeithasol ac ni allaf ddianc rhag hynny.' Nawr, mae'n rhaid iddi fynd i'r ysgol yn y bore ac nid yn unig wynebu'r bobl hynny ond deall beth sydd yn ei meddwl am yr hyn oedd wedi digwydd iddi. A fy mhryder i yw—ac rydym i gyd yn cydnabod y gwaith gwych y mae staff addysgu a chymunedau ysgolion yn ei wneud—sut y gallwn gydweithio i rannu profiad, i rannu gwybodaeth ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn sydd, yn fy marn i, yn cael effaith hynod negyddol ar bobl ifanc a'u gallu i ddysgu a thyfu'n ddiogel drwy eu bywyd ysgol.

Wel, rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwyntiau pwerus iawn yn yr hyn y mae newydd ei ddweud, ac rydym yn gwybod—ac mae adroddiad diweddar wedi bod, fel rwy'n siŵr y bydd yn gwybod gan UNESCO hefyd mewn perthynas â'r defnydd o ffonau clyfar yn yr ystafell ddosbarth, ac maent wedi bod yn galw am waharddiad cyffredinol, os mynnwch—ceir tystiolaeth fod modd cysylltu defnydd gormodol o ffonau symudol, hyd yn oed ar ei ffurf fwyaf diniwed, â pherfformiad addysgol is, a bwlio yn sicr, yn y ffordd a ddisgrifiodd, a cheir mathau o ddefnydd hyd yn oed yn fwy niweidiol o dechnoleg symudol. Gall hynny gael effaith negyddol iawn ar sefydlogrwydd emosiynol.

Rwy'n credu ei fod yn fater lle mae angen taro cydbwysedd, oherwydd mae hefyd yn bwysig ein bod yn helpu ein pobl ifanc i ddeall sut i ymateb i rai o'r heriau hyn. Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer defnyddio ffonau symudol i ddangos rhai o'r heriau ehangach hynny yn y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i greu adnoddau i gefnogi dysgwyr i fynd i'r afael â'r math o her y mae Alun Davies yn ei disgrifio, ac mae'r rheini gennym ar Hwb bellach, drwy'r porth 'cadw'n ddiogel ar-lein'. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'n ei ddweud, serch hynny, yn ddarlun o her gymdeithasol ehangach, ac rwy'n aml yn siarad â phenaethiaid sy'n ymgodymu â'r ffordd orau o daro'r cydbwysedd hwn. Rwy'n credu, yn y pen draw, mai mater i ysgolion yw penderfynu hynny, ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol eu bod yn gwrando ar lais eu dysgwyr, yn union fel roedd Alun Davies yn ei glywed yn uniongyrchol gan yr unigolyn ifanc y cyfeiriodd ati. 

Mae Alun Davies yn llygad ei le yn codi'r mater hwn yma heddiw. Ar lefel bersonol, mae'n rhywbeth sy'n effeithio arnaf yn fy nheulu nawr, oherwydd roeddwn bob amser yn dweud wrth fy mhlant, 'Dim ffonau symudol tan yr ysgol uwchradd'. Fe ddechreuodd un ohonynt yn yr ysgol uwchradd eleni, felly yn anffodus, rydym yn gorfod deall y broses o gael ffôn symudol yn eu meddiant. 

Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad UNESCO, ac rydych chi'n llygad eich lle yn cyfeirio at hynny. Fel y dywedoch chi, maent yn galw am waharddiad cyffredinol ar ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth. Ac fel y gwyddoch, maent yn tynnu sylw at y problemau sydd ynghlwm wrth ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth, ochr yn ochr â seiberfwlio a'r effaith ar sefydlogrwydd emosiynol plant. Fe fyddwch yn gwybod hefyd, Weinidog, eu bod yn yr adroddiad hwnnw hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch diogelu data a phreifatrwydd, yn enwedig y data sy'n cael ei gasglu am blant gan yr apiau a ddefnyddiant, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gydag apiau addysgol y cânt eu hannog neu eu cyfarwyddo i'w defnyddio mewn ysgolion. Weinidog, tybed pa ymdrechion rydych chi'n eu gwneud i sicrhau rhieni nad yw data ar eu plant yn cael ei gymryd yn ddiangen nac yn cael ei ddefnyddio'n amhriodol.

14:50

Bydd yr Aelod yn gwybod am y gwaith y mae Sarah Murphy wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â data plant mewn ysgolion, sy'n codi lefel y ddadl yn y Siambr hon mewn perthynas â'r mater hwnnw mewn ffordd gref iawn yn fy marn i. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau dilys iawn. Yn wir, o ganlyniad i ymgyrchu Sarah, rydym wedi newid y canllawiau i ysgolion mewn perthynas â'r pwyntiau pwysig iawn y mae'r Aelodau wedi'u codi heddiw.

Eisoes, mae gan benaethiaid allu i wahardd defnyddio ffonau symudol, naill ai'n gyffredinol neu mewn ffyrdd penodol, ac rwy'n gwybod, a bydd yntau'n gwybod, fod penaethiaid yn defnyddio'r pŵer hwnnw. Rwyf hefyd wedi siarad â phenaethiaid sydd, er y gallent fod eisiau gwneud hynny, wedi cydnabod yr heriau sy'n mynd gyda hynny ac sy'n gwneud penderfyniadau pragmatig. Rwy'n credu bod rhai o'r pwyntiau y mae'n eu gwneud, serch hynny, yn enghreifftiau o'r union bethau y lluniwyd ein cwricwlwm newydd i gefnogi pobl ifanc i'w hadnabod a mynd i'r afael â nhw eu hunain. Rwy'n credu ei fod yn ddarlun ychydig yn fwy cymhleth na dweud mai gwaharddiad llwyr yw'r ffordd gywir ymlaen.

Grant Datblygu Disgyblion

4. Pa effaith y mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i chael ar gyrhaeddiad disgyblion ers ei gyflwyno yn 2012? OQ59960

Mae gan y grant datblygu disgyblion ran allweddol i'w chwarae yn ein cenhadaeth genedlaethol i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y grant i adlewyrchu newidiadau yn nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Er fy mod yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i'r polisi hwn, yr arweiniodd Democrat Rhyddfrydol arno yn gyntaf yn 2012, mae dros chwarter plant Cymru yn byw mewn tlodi, a cheir gwaith ymchwil helaeth sy'n dangos yr effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar eu dysgu, gan arwain at iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwaeth a thangyflawni cronig. Amlygodd adroddiad y llynedd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant nad yw 55,000 o blant yn gallu elwa o gronfeydd mynediad ar hyn o bryd, cronfeydd a ailenwyd bellach yn 'grant hanfodion ysgol', oherwydd bod rhieni a gofalwyr mewn gwaith ond bod hwnnw'n waith ar gyflogau isel iawn. Mae cost cyflenwadau ysgol a gwisgoedd ysgol yn rhoi pwysau enfawr ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd, a'r wythnos hon, beirniadodd y comisiynydd plant strategaeth tlodi plant arfaethedig y Llywodraeth am ei diffyg uchelgais a manylion, felly mae gwir angen inni gamu i'r adwy i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl y flwyddyn ysgol hon. Felly, a allech chi amlinellu'n benodol y camau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i sicrhau bod y grant hanfodion ysgol yn adlewyrchu'r costau presennol yn gywir, ac a fydd yn ehangu cymhwysedd i gefnogi mwy o deuluoedd incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd gyda threuliau ysgol? Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae'r grant hanfodion ysgol yn gyfrannwr pwysig iawn i'n hymdrechion ar sail drawslywodraethol i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fywyd yr ysgol ac nad yw cost y diwrnod ysgol yn eu hannog i fod yn absennol, er enghraifft, a phan fydd pobl ifanc yn yr ysgol, ei fod yn eu galluogi a'u cynorthwyo i ffynnu. Felly, ochr yn ochr â'r £130 miliwn rydym yn ei fuddsoddi eleni ar gyfer y grant datblygu disgyblion, bu cynnydd sylweddol yn argaeledd y grant hanfodion ysgol. Fe fydd hi'n cofio, tan y llynedd, ei fod ond ar gael i ddisgyblion bob yn ail flwyddyn. Gwneuthum benderfyniad y llynedd i ymestyn hynny drwy sicrhau ei fod ar gael i ddisgyblion ym mhob blwyddyn. Felly, mae hynny wedi golygu bod y gronfa bwysig honno wedi ymestyn yn sylweddol iawn, a dyma'r gronfa fwyaf o'i bath yn unrhyw ran o'r DU, ac rwy'n falch o hynny oherwydd rwy'n credu ei bod yn dangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth. Ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sef nad yw ar gael i bob disgybl. Dyna pam mae mesurau fel y gofynion fforddiadwyedd newydd ar gyfer gwisg ysgol hefyd yn bwysig, a'r gwaith a wnawn yn ehangach i leihau cost y diwrnod ysgol, oherwydd mae teuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a allai fod ychydig bach yn uwch na'r trothwy, yn dal i'w chael hi'n anodd iawn. Dyna pam mae'r polisïau ehangach hynny'n bwysig iawn.

14:55

Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi y prynhawn yma gan mai nod y grant datblygu disgyblion yw codi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o gefndiroedd incwm isel, fel y sonioch chi. Ond mae'r grant, sydd i fod i helpu'r teuluoedd lleiaf cefnog yng Nghymru, wedi cael ei dorri, gan olygu bod disgyblion a gweithwyr addysgu proffesiynol yn fy etholaeth i, fel gorllewin y Rhyl a Dinbych uchaf, yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i adnoddau a chyllid. Felly, mewn argyfwng costau byw, pam mae Llywodraeth Cymru wedi torri grant sy'n helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy etholaeth? Rydych chi'n dweud eich bod chi'n angerddol am y polisi a'r grant. Felly pam y gwnaethoch chi ei dorri?

Wel, i fod yn hollol glir gyda'r Aelod, nid yw'r grant wedi'i dorri—mae wedi cael ei gynyddu.

Weinidog, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedoch chi, ac wrth siarad â rhieni, gofalwyr, teuluoedd, pobl ifanc ac ysgolion yn fy etholaeth i, gwn fod croeso mawr i'r grant hanfodion ysgol a'i gynlluniau rhagflaenol fel achubiaeth i'r bobl sy'n gallu cael mynediad ato. Gan y gellir cael mynediad at y grant tan fis Mai, a gaf fi ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod modd manteisio arno yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol os nad yw teuluoedd yn gwneud cais amdano ar ddechrau'r tymor, i sicrhau bod modd darparu ar gyfer newid yn amgylchiadau pobl ac nad yw plant a phobl ifanc cymwys ar eu colled?

Wel, rydym yn sicrhau bod fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y grant yn cael sylw'n lleol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hynny. Gellir gwneud cais am y grant tan fis Mai. Rydym wedi dweud yn glir iawn ei bod hi'n flaenoriaeth bwysig o ran y modd y cyflwynwn y polisi prydau ysgol am ddim newydd, er enghraifft—nad ydym, os mynnwch, yn anfwriadol yn annog pobl rhag gwneud cais am grant hanfodion ysgol. A dweud y gwir, dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom ei ailenwi'n 'grant hanfodion ysgol' fel ei fod yn fwy dealladwy, rwy'n credu, i'r rhan fwyaf o bobl na 'grant mynediad PDG', nad yw'n golygu cymaint â hynny i'r rhan fwyaf ohonom mewn gwirionedd. A dyna pam ein bod ni hefyd wedi bod yn sicrhau bod gennym ymgyrch gyfathrebu a marchnata amlwg, sydd wedi bod ar y gweill nawr ers ychydig dros flwyddyn, i hyrwyddo'r grant ei hun. Felly, nid oes gennym dystiolaeth ar hyn o bryd fod y newid wedi achosi gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gwneud cais, ond mae'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad parhaus arno wrth gwrs.

Disgyblion Awtistig

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal gwahaniaethu yn erbyn disgyblion awtistig mewn lleoliadau addysg? OQ59955

Nid oes lle i wahaniaethu o unrhyw fath yng Nghymru. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ni ddylai ysgolion na darparwyr addysg eraill drin disgyblion anabl yn llai ffafriol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol sy'n galluogi pob dysgwr i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.

Er i'r Uchel Lys ddyfarnu yn 2018 fod gwahardd disgybl awtistig am ymddygiad sy'n deillio o'i awtistiaeth yn anghyfreithlon, rwy'n parhau i gael gwaith achos yng ngogledd Cymru lle mae hyn yn digwydd. Ar faterion cysylltiedig, ysgrifennodd rhiant o sir y Fflint y mis hwn:

'Erbyn hyn mae gennym seiciatrydd a seicolegydd medrus iawn yn y maes awtistiaeth sydd wedi nodi bod ymddygiad fy mab yn ganlyniad i brofiadau gwael yn ei ysgol flaenorol, ac nad yw ei anawsterau i gyfathrebu'r rhain yn gysylltiedig ag unrhyw bryder yn ymwneud â rhieni.'

Dywedodd rhiant o Wrecsam:

'Fe wnaethom benderfynu mynd i dribiwnlys addysg. Penderfyniad y tribiwnlys oedd bod fy merch wedi bod yn destun gwahaniaethu anghyfreithlon ar dri achlysur gwahanol: gwahaniaethu anuniongyrchol, gwahaniaethu oherwydd anabledd, ac aflonyddu.'

Ac ysgrifennodd mam ataf fel cadeirydd y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol:

'Hoffwn eich hysbysu bod y tribiwnlys addysg wedi cadarnhau penderfyniad yn erbyn coleg Castell-nedd ynghylch gwahaniaethu yn erbyn fy mab awtistig, gyda chanlyniadau damniol.'

Mae'r rhain a llawer o achosion eraill yn dystiolaeth nad yw hon yn Gymru ddiogel sy'n ystyriol o bobl awtistig. Gan hynny, sut rydych chi'n ymateb i'r galwadau a gefais am ymchwiliad cyhoeddus brys i atal y cam-drin sy'n dal i ddigwydd?

Mae'r Aelod yn cyfeirio at nifer o enghreifftiau nad wyf yn ymwybodol ohonynt yn bersonol, ond mae'r ffordd y mae'n eu disgrifio yn peri gofid ac yn amlwg yn annerbyniol. Rwy'n cyfarfod â llywydd y tribiwnlys addysg yn ystod yr wythnosau nesaf a byddaf yn manteisio ar y cyfle i drafod y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud heddiw gyda hi. Fel y dywedais wrth agor yr ymateb i'r Aelod, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gennym system addysg sy'n gynhwysol i bob person ifanc, ac yn sicr dyna yw nod y Llywodraeth hon.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned yn Islwyn? OQ59964

15:00

Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i adolygu a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n oedolion ar draws Islwyn a Chymru gyfan. Drwy fuddsoddi, arloesi a gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr, rydym yn cynyddu'r capasiti i hyrwyddo a darparu addysg oedolion i'r gynulleidfa ehangaf sy'n bosibl.

Diolch, Weinidog. Roedd hi'n Wythnos Addysg Oedolion 2023 yr wythnos diwethaf, ac mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gydlynir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cysylltu pobl ag ystod eang o gyfleoedd dysgu a dangos manteision dysgu oedolion a dathlu cyflawniadau go iawn pobl, prosiectau a sefydliadau ledled Cymru, a sefydliadau sy'n mynd ati bob dydd i hyrwyddo amrywiaeth eang o gyfleoedd gydol oes a thwf sgiliau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i ddiolch iddynt i gyd am yr hyn y maent yn ei wneud.

So, diolch yn fawr i chi i gyd.

Weinidog, fe wyddom y bydd taith gyflogaeth pobl yn amrywiol a bydd angen hyblygrwydd a gallu i addasu i ailsgilio'n gynyddol drwy gydol bywydau gwaith. Yn fwy felly nag erioed, wrth inni weld cwmnïau mawr bellach yn dadfuddsoddi neu'n mynd i'r wal ledled Prydain oherwydd yr hyn sy'n ymddangos fel effeithiau polisi'r DU, sef y chwyddiant uchaf erioed, diffyg twf cronig a'r anallu i fasnachu'n effeithiol gyda'n marchnad fwyaf. Felly, o ystyried hyn oll, Weinidog, pa waith pellach y gall ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol ar draws Islwyn hefyd, i hyrwyddo a rhaeadru'r ymgyrch wych hon, sydd bellach yn rhedeg ers dros chwarter canrif, ac sydd bob dydd yn trawsnewid cyfleoedd bywyd, yn trawsnewid bywydau ac yn trawsnewid y dyfodol i bobl? Diolch.

Wel, diolch i'r Aelod am gyfeirio'n benodol at yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae'n hysbyseb mor dda, onid ydyw, i'r cyfleoedd sy'n bodoli i bobl ddychwelyd at addysg ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ac yn mynd at galon fy ngobaith personol i Gymru ddod yn genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu? Bydd llawer ohonom wedi bod yng ngwobrau Ysbrydoli! yr wythnos cynt, a wnaeth fwy na chyfiawnhau eu henw da, fel bob amser, ac rydych yn clywed straeon hynod o gyffrous ac emosiynol yn aml ynglŷn â'r ffordd y mae pobl wedi gallu manteisio ar ddysgu yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Yr allwedd, rwy'n credu, yw bod yr wythnos honno'n arddangos budd dysgu, ac felly, fod gan bobl sy'n cymryd eu camau cyntaf yn ystod yr wythnos honno lwybr clir at amrywiaeth o opsiynau. Mae'n rhaid inni gynyddu nifer y dysgwyr sy'n oedolion yn Islwyn a thu hwnt, ac mae hynny'n golygu gweithio gyda darparwyr drwy'r partneriaethau dysgu oedolion, a cheisio prif ffrydio rhywfaint o'r ymgysylltu llwyddiannus a welsom. Fe wnaethom ariannu rhywfaint o hynny drwy becyn ariannu gwerth £2 filiwn i godi ymwybyddiaeth o ddysgu oedolion eto ar ôl y pandemig, lle rydym wedi gweld niferoedd yn gostwng. Felly, mae'n ymwneud â'r gwaith partneriaeth hwnnw, a hefyd, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen gydgysylltu genedlaethol. Un o'r heriau yn y gofod hwn yw ei fod yn ofod eithaf cymhleth; mae'n gynnig eithaf mawr, ac mae'n eithaf anodd i rai pobl ei lywio. Felly, mae dod o hyd i ffordd o gydgysylltu hynny, fel y mae'r partneriaethau yn ein helpu i'w wneud, yn rhan bwysig iawn yn fy marn i, ond diolch i'r Aelod am achub ar y cyfle i dynnu sylw at yr Wythnos Addysg Oedolion.

Weinidog, nid oes modd gwadu y gall dysgu oedolion yn y gymuned helpu i ddatgloi potensial rhywun. Mae'n gallu helpu rhywun i feithrin sgiliau newydd, i ennill cymwysterau, a'u gosod ar y llwybr i addysg bellach neu eu tywys i gyflogaeth yn uniongyrchol. Fodd bynnag, rhybuddiwyd yn ddiweddar fod y gost yn atal pobl o rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig fy rhanbarth rhag manteisio ar y mathau hyn o gyrsiau. Felly, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ynglŷn â gwneud dysgu oedolion yn y gymuned yn fwy hygyrch i bobl o gymunedau difreintiedig? Diolch.

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod fod hyn yn mynd y tu hwnt i drafodaethau, er eu bod yn bwysig, ac felly, eleni, rydym yn buddsoddi cyfanswm o £1.28 miliwn mewn awdurdodau lleol yng Ngwent yn unig, a thua £6.21 miliwn yn genedlaethol i gryfhau dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hyn yn ychwanegol i'r dros £13 miliwn a ddarparwyd gennym i golegau addysg bellach ar draws y de-ddwyrain i ddarparu addysg i oedolion yn eu lleoliadau. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi: mae hygyrchedd y cyfleoedd hyn yn allweddol. Mae hynny wedi bod yn un o'r heriau y buom yn ceisio mynd i'r afael â nhw ers rhai blynyddoedd, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gwneud cynnydd yn hynny o beth, gyda'r ffocws o'r newydd a roddwyd gennym i'r maes hwn.

Diwrnod Ysgol Hirach

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau'r cynllun treialu diwrnod ysgol hirach? OQ59976

Cyhoeddwyd gwerthusiad o'r treialon sesiynau cyfoethogi ychwanegol yn ôl ym mis Ionawr. Canfu fod plant a phobl ifanc, rhieni a lleoliadau yn gadarnhaol am y cyfleoedd a ddarparwyd, ac rydym yn ystyried y canfyddiadau yng nghyd-destun ein polisïau a'n diwygiadau addysgol ehangach.

15:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, yn anffodus, nid yw llawer o blant yn cael y cyfle i wneud chwaraeon, i wneud gweithgareddau creadigol fel dysgu sut i chwarae offeryn cerdd neu ddysgu iaith, neu gael hyfforddiant ychwanegol mewn mathemateg neu Saesneg a fydd yn eu helpu yn eu hastudiaethau. Ac mae tystiolaeth wedi dangos bod gan y plant sy'n elwa o'r gweithgareddau allgyrsiol hyn fwy o gyfleoedd ar gael iddynt. Pan fyddant yn graddio o'r ysgol uwchradd, gwelir eu bod yn iachach, yn feddyliol ac yn gorfforol, yn meddu ar well ymdeimlad o lesiant, ac maent hefyd, ar y cyfan, yn unigolion mwy hyderus. Ar hyn o bryd, mae gennym system lle mae rhai plant yn cael llawer o weithgareddau allgyrsiol am fod eu rhieni'n gallu eu fforddio neu eu bod yn cael eu hysgogi i fynd â nhw iddynt, a rhai plant nad ydynt yn cael unrhyw weithgareddau allgyrsiol o gwbl. Mae hyn yn golygu yn y pen draw na fydd rhai plant yn cyrraedd eu potensial llawn nac yn cael y cyfleoedd sydd ar gael iddynt y gallent eu cael fel arall. Nid yw ymestyn y diwrnod ysgol o reidrwydd yn golygu mwy o wersi ac mae'n gyfle i ysgolion a phlant wneud llawer o weithgareddau llawn hwyl, a chefnogi dysgu a datblygiad plant. Felly, gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa adnoddau a nodwyd ac a glustnodwyd gennych, fel y gall pob ysgol ddarparu gweithgareddau allgyrsiol yn ystod pob diwrnod ysgol? Diolch.

Wel, mae arnaf ofn fod y cyd-destun ar gyfer edrych ar bolisïau o'r math hwn yn wahanol iawn nawr wrth gwrs o ystyried effaith chwyddiant a dewisiadau a wneir mewn mannau eraill am lefel gyffredinol y buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. Fodd bynnag, yng Nghymru, drwy bethau fel y gwasanaeth cerdd cenedlaethol, drwy'r buddsoddiad a wnaethom mewn ysgolion ar ôl COVID, sy'n sylweddol uwch nag unrhyw ran arall o'r DU, drwy gyflwyno cwricwlwm newydd—mae'r rhain i gyd yn darparu'r cyfleoedd ehangach hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â Joel James: ochr yn ochr â'r cyfleoedd i gael addysg ragorol, mae'n bwysig iawn ein bod am i'n holl bobl ifanc gael y profiadau eang hynny, y profiad diwylliannol hwnnw, y profiad hwnnw mewn chwaraeon ac ati, ac nid yw pob person ifanc yn gallu elwa o hynny. Ond dyna yw cefndir y buddsoddiadau rydym wedi'u gwneud ar draws y system er mwyn ceisio sicrhau cyfle teg a rhoi mynediad i bawb at y set gyfoethog o brofiadau a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

8. Pa gyllid y mae'r Gweinidog yn ei ddarparu i ysgolion i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ59954

Mae cyllid ar gyfer ysgolion yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol, yn bennaf drwy'r grant cynnal refeniw. Yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol yn y broses o weithredu anghenion dysgu ychwanegol drwy fuddsoddi dros £62 miliwn o refeniw ac £20 miliwn o gyfalaf rhwng 2020 a 2023.

Diolch. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod llythyrau wedi dod atoch ar y mater hwn. Mae gwaith craffu'r pwyllgor addysg ar weithredu diwygiadau Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cyfyngiadau capasiti mewn ysgolion ac awdurdodau lleol a allai olygu y gallai'r trothwy i ddysgwyr gael eu nodi fel rhai ag ADY godi o dan y system newydd. Nawr, fe wnaethoch chi sicrhau'r pwyllgor y byddech yn gwneud yn siŵr fod y system ADY newydd yn cael ei gyrru gan broffil anghenion penodol y dysgwyr unigol yn hytrach na'r lefelau o adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae nifer o ysgolion yr ymwelais â nhw yn Aberconwy, gan gynnwys Ysgol San Siôr y daeth fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones AS gyda mi i ymweld â hi, wedi nodi bod angen y cymorth ariannol hwn cyn gynted â phosibl ar ôl i ddisgybl gael ei nodi fel un sydd angen y cymorth hwnnw. Nawr, maent yn dweud eu bod yn ariannu'r cymorth ychwanegol hwn am fisoedd cyn iddynt gael eu had-dalu, ac mae rhai ysgolion yn gweld hynny'n wirioneddol amhosibl. Felly, beth y gallwch ei wneud i gyflymu'r broses, pan fydd plant yn cael eu nodi fel rhai sydd angen cymorth ychwanegol, fel bod yr ysgolion eu hunain yn cael y cyllid ariannol hwnnw cyn gynted â phosibl? Diolch.

Wel, bydd yr Aelod yn deall bod y berthynas rhwng yr ysgol a'r ffrwd gyllido yn un sydd yn nwylo'r awdurdod lleol, nid Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi amlinellu'r cyllid a roddir gennym ni tuag at y system. Ond mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut mae cyllid yn cyrraedd y rheng flaen, a gyda'r lefelau sylweddol o gyllid sy'n mynd i mewn i'r system, rwy'n credu y byddwn am sicrhau bod hwnnw'n cyrraedd y mannau terfynol cywir, os mynnwch. Yn amlwg, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynyddu'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol yn eithaf sylweddol, ond mae'r pwysau yn real iawn ar eu cyllidebau, fel y maent ar ein cyllidebau ni ac ar gyllidebau ysgolion hefyd. Ond i roi sicrwydd i'r Aelod, mae'r pwynt y mae'n ei godi, ynglŷn â sut mae'r arian yn cyrraedd y rheng flaen, yn un rwy'n ei gadw mewn cof a byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â hynny.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn amserol cyntaf gan Cefin Campbell. 

15:10
Y Gwasanaeth Fflecsi Bwcabus

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru? TQ851

Gwnaf, diolch. Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben. Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru'n waeth ei byd ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU wedi methu rhoi cyllid newydd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gwledig a gâi eu cefnogi'n flaenorol gan yr UE. Felly, ni allwn barhau i gefnogi Bwcabus, ond rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar archwilio opsiynau amgen.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch i glywed bod ystyriaethau yn cael eu rhoi i barhad y gwasanaeth, achos mae nifer fawr o gymunedau ledled Ceredigion, sir Gâr a sir Benfro wedi'u syfrdanu gan y cyhoeddiad bod cyllid y Llywodraeth ar gyfer y Bwcabus yn dod i ben, a bod y gwasanaeth yn gorffen ym mis Hydref. Ers blynyddoedd, mae’r gwasanaeth unigryw hwn wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i gymaint o drigolion ar draws y gorllewin. A dweud y gwir, mae’r gwasanaeth yn fwy na bws yn unig; mewn sawl achos, dyma'r unig ffordd mae pobl yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, mynd i siopa a chymdeithasu. Fe glywes i un wraig ar Radio Cymru neithiwr yn sôn am effaith y golled yma arni hi, achos mae'n dibynnu'n llwyr ar y bws yma i fynd â hi i weld y meddyg bob wythnos. Felly, mae'r effaith yn syfrdanol ar rai unigolion.

Rwy’n gwybod hefyd fod y penderfyniad wedi dod fel tipyn o sioc i awdurdodau lleol, er i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn llu o fysiau newydd ar gyfer y gwasanaeth hwn mor ddiweddar â mis Gorffennaf eleni. Ond eironi pethau yw ein bod ni'n clywed y Llywodraeth yn sôn dro ar ôl tro am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i gysylltu cymunedau â’i gilydd ac effaith bositif hynny ar yr amgylchedd. Ond beth sydd yn digwydd yw bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu torri, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Felly, a gaf i erfyn arnoch chi i weithio'n galed iawn i sicrhau bod y gwasanaeth yma yn cael ei ailsefydlu, a rhoi sicrwydd hirdymor i'r cynllun pwysig hwn?

Diolch am hynny, ac mae'r Aelod yn iawn i nodi'r eironi, oherwydd mae hyn yn mynd i gyfeiriad gwahanol i ble mae ein polisi am inni fynd. I fod yn glir iawn, nid ydym eisiau i hyn ddigwydd. Mae Bwcabus wedi bod yn brosiect pwysig iawn ac mewn gwirionedd, mae wedi ysbrydoli'r gwasanaeth Fflecsi rydym yn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, Bwcabus oedd y cysyniad gwreiddiol a ddatblygwyd gan yr Athro Stuart Cole ac eraill, ac rwyf wedi ei gefnogi. Fe'i hariannwyd gan Ewrop yn bennaf—ychydig bach o gyllid yn unig a gâi ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru—ac fel cymaint o gynlluniau eraill rydym ni yng Nghymru wedi dod i ddibynnu arnynt, nid yw'r arian yno i barhau â'r holl gynlluniau eraill a arferai gael eu hariannu gan yr UE.

Nawr, dywedwyd wrthym ar adeg Brexit na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd drwy adael, ac rydym yn gwybod, mewn gwirionedd, ein bod wedi colli dros £1 biliwn o gyllid ac nad oes arian yno yn ei le. Nawr, rwy'n clywed griddfan oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr ac rwy'n gwybod nad ydynt, fel mater o ffydd, eisiau clywed unrhyw beth negyddol am Brexit, ond dyma enghraifft ymarferol o wasanaeth lleol gwerthfawr ac annwyl iawn a oedd yn dibynnu ar gyllid Ewropeaidd na ellir ei gynnal oherwydd bod y cyllid hwnnw wedi'i golli. Oherwydd yr ergyd arall rydym yn ei hwynebu hefyd gan eu Llywodraeth yw effaith cyni lle mae ein cyllidebau'n cael eu gwasgu, ac ni allwn ddarparu popeth y buom yn ei ddarparu.

Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant bysiau a gydag awdurdodau lleol dros yr haf i geisio diogelu cymaint o wasanaethau â phosibl, ac rwy'n falch o ddweud, er enghraifft, y bydd cyllid ar gyfer y Cardi Bach yng Ngheredigion yn parhau fel rhan o waith caffael T5 Trafnidiaeth Cymru. A byddwn yn gweithio'n agos gyda thrafnidiaeth gymunedol a gydag awdurdodau lleol i weld a oes elfennau o'r cynllun hwn y gellir eu hachub. Ychydig o ddefnydd a wnaed ohono, ond fel y dywedodd, roedd yn achubiaeth i'r rhai a oedd yn ei ddefnyddio, ac rwy'n gresynu'n fawr ei fod wedi dod i ben.

Rwy'n cytuno â Cefin Campbell, neithiwr ddiwethaf cysylltodd etholwr, Mr Davies, â mi ynglŷn â diwedd gwasanaeth Fflecsi Bwcabus. Nawr, mae Mr Davies yn cynnig lifft i'r siopau yn rheolaidd i'w gymdogion a allai fod angen help, ac rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod hon yn weithred hynod garedig i'w gymuned. Fodd bynnag, fel y nododd Mr Davies yn gywir, mae hyn yn rhywbeth nad yw ar gael i lawer o fy nhrigolion ar draws De Sir Benfro a Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Nawr, bydd dod â gwasanaeth Fflecsi Bwcabus i ben, gyda thua mis o rybudd i drigolion, yn gwaethygu'r niwed i hygyrchedd cysylltiadau trafnidiaeth sydd eisoes yn anfynych a mynediad at siopau ac amwynderau angenrheidiol, gan wneud niwed pellach i bobl sydd eisoes yn dioddef ynysu cefn gwlad, ac fel y dywed Mr Davies, mae'r gwasanaeth ar gyfer aelodau mwyaf bregus ein cymuned yn sir Benfro, yn hen ac ifanc. Felly, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gwybod ers peth amser fod cyllid rhaglenni datblygu gwledig yn dod i ben, pam fod gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben gyda dim ond mis o rybudd? Ac i aralleirio maer Llafur Manceinion Fwyaf, pam fod y cymunedau gwledig ar eu colled bob amser a Chaerdydd yn cael popeth y mae ei eisiau?

15:15

Wel, roedd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr awdurdodau lleol, nid gan Lywodraeth Cymru, ac maent wedi bod yn glir ers peth amser nad oedd ganddynt unrhyw adnoddau i'w barhau. Mae'r adnoddau o'r Undeb Ewropeaidd wedi dod i ben o ganlyniad i Brexit, a dyma ganlyniad uniongyrchol i hynny. Mae angen i'r rhai a ddadleuodd dros Brexit ac a wnaeth addewidion i Gymru na fyddai'r arian yn cael ei golli yng Nghymru egluro pam na chafwyd arian yn lle'r arian hwnnw, oherwydd mae yna ddiffyg o £1 biliwn. Rwy'n ofni bod Samuel Kurtz yn rhoi sylwebaeth ar y pryd—nid wyf yn clywed yn iawn yr hyn y mae'n ei ddweud. Rwy'n gwybod nad yw'n fodlon, ond ni allaf glywed yr hyn y mae'n ei ddweud, mae'n ddrwg gennyf. 

Ond mae'r ffaith yn aros nad ydym yn awyddus i weld hyn yn digwydd. Mae hyn yn mynd i gyfeiriad cwbl groes i'r polisi rydym am ei weld ar waith, ond heb yr arian ni allwn weithredu gwasanaethau na allwn eu hariannu. Rwy'n credu bod hynny'n siom enfawr. Rydym yn gwneud llawer o waith ar drafnidiaeth wledig ac ar sut y gall yr ardaloedd gwledig gyfrannu at y targedau sydd gennym o ran newid dulliau teithio, ond ni allwn weithredu gwasanaethau heb gyllid, a hynny, rwy'n ofni, yw'r tensiwn sy'n ein hwynebu.

Felly, rwy'n rhannu popeth a ddywedwyd am y gofid na fydd y gwasanaeth hwn yn parhau mwyach. Nid oes angen fy mherswadio ynglŷn â pha mor werthfawr ydyw. Y cyfan sydd ei angen arnaf yw arian i'w barhau, ac yn sgil torri addewidion Brexit, rwy'n ofni nad yw'r arian hwnnw gennyf. 

Weinidog, mae gennyf syniad am arian i'w barhau, syniad a grybwyllais wrthych o'r blaen. Rwy'n deall eich bod yn mynd i fod yn arbed arian yn sgil peidio ag adeiladu ffyrdd newydd, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr, ac mewn ymateb i gwestiwn yn y Siambr, rwy'n credu eich bod wedi dweud wrthyf y byddai oedi, y byddai cyfnod o aros i'r arian ymddangos wedi'r arbedion ar adeiladu ffyrdd. Ond tybed a oes unrhyw syniad gennych a allwn ddechrau edrych ar unrhyw gyllid brys yn sgil peidio ag adeiladu'r ffyrdd newydd hynny i'w roi i Bwcabus er mwyn iddynt allu dal ati, fel nad ydynt yn colli cwsmeriaid. Oherwydd fe wyddoch, cyn gynted ag y bydd rhywbeth yn cael ei golli, fel gwasanaeth bws, mae'n anodd iawn ei gael yn ôl. Felly, hoffwn eich annog i weld a oes unrhyw beth y gallwn ddod o hyd iddo er mwyn cadw Bwcabus i fynd. Diolch yn fawr iawn. 

Wel, yn amlwg, rwy'n deall y teimlad ac yn ei gefnogi, oherwydd dyna'r bwriad y tu ôl i'r polisi yn y tymor canolig, fel y gwyddoch. Ond penderfyniad cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yw hwn, ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn dal i adeiladu ffyrdd, er bod y Ceidwadwyr yn ceisio dweud wrth bawb ein bod wedi gwahardd adeiladu ffyrdd. Pe bai hynny'n wir, byddai gennyf lawer mwy o arian yn fy nghyllideb. Nid ydym wedi gwahardd adeiladu ffyrdd, rydym yn adeiladu ffyrdd, a byddwn yn parhau i adeiladu ffyrdd. Felly, nid oes arian yn y flwyddyn ariannol hon, ac ni fyddai'n llawer o help mewn gwirionedd, gan mai cyllid cyfalaf fyddai hwnnw, ac mae angen cyllid refeniw ar fysiau. Mae'n swnio fel pwynt cyfrifyddu technegol, ond mae'n siapio'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud. 

Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, yn amlwg, i gyrraedd ein targedau hinsawdd yw symud mwy o bobl i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny'n anoddach i'w wneud mewn ardaloedd gwledig, ond mae'n gwbl bosibl. Rydym yn gweithio ar bapur a gyhoeddir gennym cyn bo hir yn edrych ar enghreifftiau o gefn gwlad Sweden, y Swistir a'r Almaen lle mae ganddynt fws bob awr ar gyfer pob pentref. Felly, mae'n berffaith bosibl gwneud hyn os yw'r cyllid ar gael. Yn eu hachos nhw, mae llawer ohonynt yn defnyddio trethi lleol i fusnesau i dalu am y gwasanaethau hynny.

Felly, rwy'n credu bod angen dadl aeddfed ar draws y Siambr i edrych ar sut y gallwn gynnal y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hyn, ond fel y dywedaf eto, pe bai modd imi barhau hyn, byddwn wedi brwydro'n galed iawn i ddod o hyd iddo. Rydym yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi bod yn rhaid inni ddod o hyd i £900 miliwn o arbedion. Mae'n arbennig o anodd ar gyfer cyllid refeniw, sef yr hyn roedd cynllun Bwcabus yn dibynnu arno. Ond y broblem wirioneddol fawr yma—ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr i gyd yn syllu arno ar eu sgriniau nawr—yw mai methiant yw hyn ar ran Llywodraeth y DU i wireddu eu haddewidion i roi arian yn lle cyllid yr UE a gollwyd yng Nghymru o ganlyniad i Brexit. Fe wnaethant ddweud na fyddem £1 yn waeth ein byd; rydym £1 biliwn yn waeth ein byd mewn gwirionedd a dyma sut mae hynny'n edrych. Dyma sut mae hynny'n edrych—gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad sir Benfro, yng nghefn gwlad sir Gaerfyrddin, yng nghefn gwlad Ceredigion, yn cael eu torri oherwydd addewidion sydd wedi'u torri.

15:20

Ddirprwy Weinidog, mae'n hynod siomedig clywed y cyhoeddiad y bydd gwasanaeth Bwcabus yn dod i ben, gan ei fod wedi bod yn achubiaeth i nifer o drigolion yn rhannau mwy gwledig fy etholaeth. Nawr, rwy'n deall eich bod wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar lwybr gwledig i archwilio atebion posibl gydag awdurdodau lleol a chymunedau. Efallai y gallech ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith hwnnw, a pha drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Chyngor Sir Penfro a rhanddeiliaid lleol ynghylch adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng ngorllewin Cymru sy'n gweithio i'r cymunedau hynny.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil bysiau i ystyried sut y darperir gwasanaethau bysiau yn y dyfodol. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog ei hun y bydd y Bil hwn yn rhoi pobl o flaen elw. Felly, efallai y gallech ddweud wrthym sut y bydd cau gwasanaeth Bwcabus yn effeithio ar y Bil hwnnw. Fe sonioch chi am yr Athro Stuart Cole, ac mae ef wedi dweud yn glir mai gwasanaeth Bwcabus oedd y ffordd rataf o weithredu gwasanaeth bws gwledig. Felly, yn sgil ei sylwadau, efallai y gallech nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall bod heriau ariannol y mae'n rhaid i bob Llywodraeth eu hwynebu. Dyna pam fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ar gyllid ôl-UE. Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn dyfynnu'r Athro Steve Fothergill o Brifysgol Sheffield Hallam, ac mae'n dweud mewn tystiolaeth i'r pwyllgor fod y ddwy Lywodraeth yn gywir o safbwynt cyllid, oherwydd mae'r ddwy Lywodraeth yn mesur gwahanol bethau. Dyna a ddywedodd yr Athro Fothergill wrth bwyllgor y Senedd hon, a hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i ddarllen ein hadroddiad. Un o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor oedd sicrhau bod yna ddull mwy rhanbarthol o ddarparu cyllid, fel y gall fynd i'r afael â materion fel hyn yn well yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gwelwn ddull rhanbarthol llawer mwy cydgysylltiedig ar gyfer cyllid ôl-UE, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi'r argymhelliad hwn gan y pwyllgor, Ddirprwy Weinidog, a'r holl argymhellion yn ein hadroddiad. 

Er bod gennyf barch mawr tuag at yr Athro Fothergill a'i waith, y gwir amdani yw bod hwn yn gynllun a ariennir gan refeniw'r UE na chafwyd arian yn ei le, ac mae'r cyllid wedi dod i ben. Nawr, fy nealltwriaeth i yw mai ychydig o ddefnydd a wneid o'r gwasanaethau; mewn rhai achosion, roedd un teithiwr y dydd yn defnyddio'r gwasanaethau, ac yn amlwg, mewn ardal wledig, mae'n mynd i fod yn anos cael màs critigol o deithwyr. Dyna pam ein bod yn gwneud y gwaith, gydag ystod o arbenigwyr, i edrych ar opsiynau ar gyfer trafnidiaeth wledig. Oherwydd nid wyf yn derbyn bod newid dulliau teithio yn agenda drefol; mae'n rhaid iddo weithio mewn ardaloedd gwledig hefyd, ond bydd angen cyfres wahanol o bolisïau. A bydd angen arian i'w gwneud. 

Nawr, yn amlwg, mae'n argyfwng ariannol tymor byr iawn—. Wel, rydym yn gobeithio y bydd yn dymor byr, ond rydym yn sicr mewn argyfwng cyllid ar hyn o bryd, ac o ganlyniad i gamreoli'r economi, rydym yn annhebygol o weld y newid hwnnw yn ystod y blynyddoedd nesaf. Felly, mae 'Sut rydym yn pontio'r gwasanaethau hyn?', fel y gofynnodd Jane Dodds i'r Senedd, yn gwestiwn anodd iawn, ac rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro a'r awdurdodau lleol eraill i edrych ar opsiynau ymarferol. Fel y dywedais, rydym yn trafod gyda thrafnidiaeth gymunedol hefyd i weld a oes pethau y gellir eu gwneud ai peidio.

Ar eich cwestiynau ynghylch dull cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol a'r Bil bysiau, wel, y rheswm pam ein bod yn gwneud y gwaith, y ddogfen weledigaeth y cyfeiriodd Paul Davies ati—yr adroddais innau arni i'r Senedd mewn datganiad ysgrifenedig yn gynharach yn yr haf—yw er mwyn llywio'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn deillio o'r cyd-bwyllgorau corfforaethol gydag enghreifftiau o bethau a all weithio mewn lleoliadau gwledig. Dyna'n union rydym am ei weld, ond mae'r sefyllfa ariannu yn parhau i fod yn un heriol tu hwnt, ac mae'n ddrwg calon gennyf na fydd Bwcabus ar gael i'r bobl sydd wedi dod i ddibynnu ar y gwasanaeth bws hwnnw yn y dyfodol.

Pan gawn fasnachfreinio, holl bwynt hynny yw ein bod yn mabwysiadu safbwynt strategol. Felly, rydym yn mapio lle rydym angen i wasanaethau bws weithredu, a'u hamlder, ac ymgorffori hynny yn y gwaith ar fasnachfreinio. Felly, ar draws holl faes masnachfreinio, gellir rhoi croes-gymhorthdal i wasanaethau. Felly, gellir defnyddio gwasanaeth proffidiol mewn tref i gynnal gwasanaeth sy'n gwneud colled mewn ardal wledig. Ni chaniateir hynny ar hyn o bryd yn sgil preifateiddio'r diwydiant bysiau, rhywbeth yr ydym yn dal i fyw gyda'i effaith. Dyna pam mae ein diwygiad mor bwysig. Bydd yn newid y ffordd y mae'r system yn gweithredu; fe fydd yn ei gwella, ond ni fydd hynny ond cystal â'r cyllid sydd ar gael i'w wneud.

Mae gennyf dri siaradwr arall. Hyd yn hyn, mae'r holl Aelodau wedi bod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Nodaf nad yw'r tri arall yn dod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru, felly, gwnewch yn siŵr fod eich cwestiynau'n canolbwyntio ar Bwcabus a'r effaith ar drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru. Delyth Jewell. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi hefyd yn rhannu'r pryder y mae Cefin Campbell wedi sôn amdano o ran y sefyllfa yn y gorllewin. Mae'n dorcalonnus clywed am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar unigolion o ran mynd i apwyntiadau meddygol, fel dŷn ni wedi'i glywed, siopa ac ati. Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog wedi sôn yn barod am sut mae'r cynllun bws Fflecsi Bwcabus yn cael ei hyrwyddo fel rhan o ddarpariaeth bws Fflecsi gan Drafnidiaeth Cymru, a dwi'n cymryd i mewn i ystyriaeth beth mae'r Dirprwy Lywydd newydd ei ddweud, ond mae'r cynllun yna hefyd yn gwasanaethu ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Dyffryn Conwy, Rhondda ac ardaloedd o Flaenau Gwent yn fy rhanbarth i. Buaswn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn sgil y cyhoeddiad yma, a oes modd cael eglurder ar a fydd y cyhoeddiad penodol hwn am y gorllewin yn cael unrhyw effaith ar y ddarpariaeth y bysiau eraill hyn, sydd yn rhan o'r cynllun Fflecsi. Ac os ddim, pam taw cymunedau'r gorllewin sy'n cael eu heffeithio'n unig?

15:25

Wel, fel yr eglurais, ariannwyd y gwasanaeth penodol hwn gan gyllid yr UE o'r dechrau, ac roedd cyfraniad bach gan Lywodraeth Cymru. Nawr fod y cyllid hwnnw wedi diflannu, oherwydd ein bod hefyd yn wynebu her wirioneddol gyda chyllid bysiau yn gyffredinol, ni fu'n bosibl dod o hyd i swm mor fawr o arian ar gyfer gwasanaeth a oedd yn cludo ychydig iawn o deithwyr. Felly, nid oedd arian i'w ymestyn, ond hyd yn oed pe bai arian wedi bod yno, nid oedd yr achos yn un syml.

Felly, rydym yn parhau i dreialu a phrofi'r gwasanaeth Fflecsi yn fwy eang mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny hefyd yn heriol iawn i'w ariannu, a gwyddom ein bod yn wynebu llai o refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf, felly ni allaf roi unrhyw sicrwydd pendant am ei ddyfodol ar gyfer gweddill Cymru. Byddwn yn brwydro mor galed ag y gallwn i ddiogelu cymaint o'r cyllid ag y gallwn, oherwydd mae'n gynllun rydym ni wedi'i greu ac rydym yn credu'n gryf ynddo, ac mae ganddo ganlyniadau da. Ond mae arnaf ofn fod realiti cyni ac effaith Brexit yn dod at ei gilydd nawr ac yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau gwledig.

Mi fydd pobl ar draws y rhanbarth ac ar draws Cymru eisiau gwybod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau eraill. I bobl mewn rhannau eraill o’r rhanbarth a thu hwnt sydd yn gobeithio cyflwyno gwasanaethau Fflecsi newydd er mwyn gwneud i fyny am wasanaethau sydd wrthi’n cael eu colli ar hyn o bryd, beth ydy’r neges yn fan hyn? Oes yna gefnogaeth yn mynd i ddod gan Lywodraeth ar gyfer gwasanaethau wedi’u cyllido’n gyhoeddus, neu i fentrau cymdeithasol ac ati, er mwyn darparu’r mathau o gysylltiadau yna i mewn i brif routes bws, er enghraifft?

Wel, mae Rhun ap Iorwerth, fel arweinydd plaid sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio wedi gweld y llyfrau, fel petai; mae'n ymwybodol o gyflwr arian cyhoeddus a chyflwr cyllidebau Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n gwybod bod ein dewisiadau wedi'u cyfyngu'n ddifrifol. I fod yn glir iawn am hynny, nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn awyddus i'w wneud. Hoffwn weld Bwcabus yn parhau a hoffwn weld y gwasanaeth Fflecsi yn ehangu. Ac yn y tymor canolig i'r tymor hwy, os cawn newid yn y Llywodraeth a'n bod yn cael darlun economaidd sy'n newid, rwy'n gobeithio y gallwn adeiladu ar hynny. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n allweddol nawr yw cadw cymaint â phosibl o'r gwasanaethau i fynd, i ymgorffori strwythur a system yn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol tymor canolig sy'n caniatáu i'r gwasanaethau hyn i fod yn hyblyg a chael eu hymestyn a'u gwneud yn fwy wrth i'r adnoddau ddod ar gael. Ond mae arnaf ofn fod ein dewisiadau yn gyfyngedig iawn yn y tymor byr iawn.

Diolch. Fel rhywun a arferai gadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen Ewropeaidd, rwy'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd y mater hwn. Ar ôl i Lywodraeth y DU ysbeilio'r gronfa adfywio a rhoi'r arian yn y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n gorfodi awdurdodau lleol i gystadlu yn erbyn ei gilydd yn hytrach na gallu cael dull cyfannol, ac o gofio bod breuder gwasanaethau bysiau yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yn rheolaidd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, a ydych chi'n gwybod a yw'r awdurdodau lleol hyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwneud unrhyw gais yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau i'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer cynnal gwasanaethau trafnidiaeth y mae'n rhaid eu bod yn ymwybodol eu bod yn fregus, o ystyried popeth rydym wedi'i drafod hyd yn hyn.

Diolch. Mae'n gwestiwn da iawn ac un o'r pethau rydym yn mynd i edrych arnynt gyda'r awdurdodau, wrth inni geisio dod o hyd i ffordd o gadw rhai gwasanaethau i fynd, yw pa opsiynau a allai fodoli ar gyfer gwneud cais am gronfeydd eraill. Mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol heb fynd i edrych o unrhyw geisiadau a allai fodoli. Ond mae'r mater ehangach y mae Jenny Rathbone yn ei grybwyll yn un pwysig—nid yw'r cynlluniau cyllido olynol ar ôl Brexit yn strategol ar draws y DU, nid ydynt yn seiliedig ar angen. Rydym i gyd yn cofio'r darllediad o Rishi Sunak yn dweud, yn ystod yr ornest arweinyddol, ei fod wedi llwyddo i gael cyllid i Tunbridge Wells ar draul ardaloedd Llafur.

Nawr, rwy'n credu bod hon yn enghraifft arall o, pe bai strategaeth ranbarthol briodol a pholisi rhanbarthol gan Lywodraeth y DU i edrych ar ble roedd fwyaf o angen cyllid, y byddem wedi canfod ein hunain mewn sefyllfa wahanol o bosibl. Nid ydym wedi cael hynny; yn lle hynny, rydym wedi cael llu o astudiaethau dichonoldeb mewn seddi ymylol Torïaidd er mwyn—. Ac rwy'n gweld bod y ffordd y mae'r broses hon wedi cael ei gwleidyddoli yn anarferol iawn o'i gymharu â'r hyn a oedd gennym o'r blaen. Roedd y rhai ohonom sy'n gyfarwydd â chynlluniau cyllido blaenorol yr UE yn gwybod eu bod yn gadarn iawn, wedi'u harchwilio i'r eithaf, a bod gwedd strategol iddynt. Ni ellir dweud yr un o'r pethau hynny am y cynllun newydd. Felly, rwy'n credu bod cwestiynau yma i'r Ceidwadwyr eu hateb ynglŷn â sut mae'r system y dywedasant wrthym y byddai'n diogelu Cymru wedi gwneud cam â Chymru, ac mae gennym enghraifft o bobl yma yng nghefn gwlad Cymru sy'n mynd i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y polisi hwnnw nawr.

15:30
Ysbyty Llwynhelyg

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan fwyaf o 2024? TQ853

Gallaf gadarnhau, ar hyn o bryd, fod chwe ward wedi gorfod cau oherwydd cyflwr y planciau concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) a ddarganfuwyd. Nod rhaglen waith y bwrdd iechyd yw ailagor tair o'r wardiau yr effeithiwyd arnynt erbyn diwedd mis Rhagfyr, ac mae disgwyl i'r tair arall gael eu hailagor erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Mae diogelwch cleifion, ymwelwyr a staff yn hollbwysig, ac mae gwaith angenrheidiol yn mynd rhagddo ar draws yr ystad ysbytai.

Fel y byddwch yn deall, rwy’n siŵr, Weinidog, mae adroddiadau diweddar y bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau’n rhannol am y rhan fwyaf o’r flwyddyn nesaf wedi peri cryn bryder i gleifion ledled sir Benfro, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy. Nawr, rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r ddwy radd uchaf o RAAC yn ysbyty Llwynhelyg, ond efallai y bydd achosion pellach o RAAC gradd is, ac felly, yn ddiau, bydd yn rhaid cynnal gwiriadau ysbeidiol rheolaidd. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa gymorth tymor canolig a mwy hirdymor y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gynnig i'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â phob achos o RAAC yn ysbyty Llwynhelyg?

Dywed y bwrdd iechyd wrthym fod ysbyty Llwynhelyg, yn ôl pob tebyg, wedi colli oddeutu 50 y cant o’i welyau, ac rwy’n hynod bryderus am effaith hyn ar allu’r ysbyty i ddarparu gwasanaethau dros gyfnod y gaeaf. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â’i gynlluniau i ymdopi â phwysau’r gaeaf, yng ngoleuni pryderon cyhoeddus y bwrdd iechyd ynghylch darparu gwasanaethau dros y misoedd nesaf? A oes asesiad wedi’i wneud o allu’r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol yn sir Benfro dros yr ychydig fisoedd nesaf, a pha ymyriadau, os o gwbl, a fydd yn cael eu gwneud i helpu i gefnogi’r bwrdd iechyd?

Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod hynod bryderus i gleifion ac i staff hefyd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i ddiolch i'r rhai sy'n parhau i weithio mewn amodau mor heriol. Mae'n hanfodol fod ymgynghori'n digwydd â staff ar bob cam o'r daith hon, a'u bod yn gallu rhoi gwybod am bryderon cyn gynted â phosibl. Felly, efallai y gallech ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi trafod effaith RAAC ar staff yn ysbyty Llwynhelyg gyda’r bwrdd iechyd, ac os felly, pa ganlyniadau sydd wedi deillio o’r trafodaethau hynny.

I symud ymlaen, mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn iawn i ddweud mai’r flaenoriaeth nawr yw atgyweirio'r mannau sydd â phroblemau difrifol cyn gynted â phosibl fel y gall wardiau ailagor. Mae'n hanfodol fod gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn ailagor cyn gynted ag y bo hynny'n ddiogel. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, mae’n bwysig mai cam dros dro yw adleoli unrhyw wasanaethau, ac nid cyfle i ganoli gwasanaethau mewn man gwahanol i ysbyty Llwynhelyg yn barhaol unwaith eto. Ac felly, yn olaf, a allwch gadarnhau, Weinidog, y bydd yr holl wasanaethau sydd wedi'u hadleoli dros dro yn dychwelyd i safle'r ysbyty pan fydd hynny'n ddiogel? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy’n sicr yn deall pryderon pobl sy’n byw’n lleol, ac mae’n ergyd chwerw pan fydd cymaint o welyau wedi mynd. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno mai'r peth cyntaf a phwysicaf yw sicrhau bod pobl yn ddiogel, gan mai'r peth olaf rydym am ei weld yw pobl yn mynd i mewn i ysbyty anniogel.

Dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi'u gwneud yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar 29 Awst i ddarparu £12.8 miliwn ar gyfer mynd i'r afael â'r mannau anoddaf yn ysbyty Llwynhelyg, i sicrhau bod y system yn ddiogel. Nawr, dyna'r cam cyntaf. Mae angen gwneud mwy o waith, wrth gwrs, i asesu beth y gallai’r ateb hirdymor fod mewn perthynas â hyn, gan ein bod yn sôn am faterion strwythurol eithaf sylweddol sy'n galw am sylw. Felly, yr hyn rydym wedi'i wneud—. Nid yw'n swm ansylweddol o arian, £12.8 miliwn. Ac wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw arian newydd, felly—. Rydych yn ymwybodol mai dim ond £1 filiwn o gyfalaf ychwanegol a gawsom eleni gan Lywodraeth y DU. Felly, mae’n rhaid i’r arian hwnnw ddod o weddill y gyllideb gyfalaf. Felly, rwy'n gwybod, er enghraifft, fod eich cyd-Aelodau'n gofyn yn aml iawn imi roi mwy o arian i fynd i'r afael â'r problemau ym mwrdd Betsi, er enghraifft, problemau cyfalaf. Mae’r ffaith ein bod bellach yn gorfod dod o hyd i’r arian hwn ar gyfer ysbyty Llwynhelyg yn golygu bod yn rhaid inni fynd ag ef o rywle arall. Felly, mae'n rhaid inni ystyried ystad GIG Cymru yn ei chyfanrwydd yn y cyswllt hwn.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod fy swyddogion wedi bod yn cael sgyrsiau â’r bwrdd iechyd mewn perthynas â beth yw’r cynlluniau tymor byr, yn sicr drwy'r gaeaf hwn, a chynlluniau tymor canolig. A gwn y gofynnwyd i’r cynghorau lleol ymyrryd a chamu i’r adwy i geisio helpu, yn enwedig gyda’r problemau sy'n ymwneud â llif cleifion drwy’r ysbyty, ac mae hynny bob amser wedi bod yn her eithaf sylweddol yno.

Credaf fod staff yn ysbyty Llwynhelyg wedi bod yn anhygoel yn y ffordd y maent wedi ymateb i hyn. Mae llawer ohonynt wedi cytuno i adleoli er mwyn helpu yn Ysbyty De Sir Benfro. Gwn fod eraill yn gwneud teithiau hir i ysbyty Bronglais, i sicrhau eu bod yn helpu cleifion sydd angen y cymorth hwnnw. Ac un o'r mannau yr effeithiwyd yn sylweddol arnynt yw'r ffreutur yn ysbyty Llwynhelyg, ac felly, mae trefniadau amgen wedi'u rhoi ar waith. Ac mae gofalu am staff yn hollbwysig yn unrhyw un o sefydliadau'r GIG.

Felly, wrth gwrs, mae’n gyfnod heriol. Credaf fod y bwrdd iechyd wedi camu i'r adwy ac wedi deall arwyddocâd yr hyn sy'n digwydd yma, ond rwy'n obeithiol mai'r hyn a welwn yw tair ward yn ailagor cyn diwedd mis Rhagfyr, ac yna, gobeithio, y gweddill ohonynt yn ailagor erbyn diwedd mis Mawrth.

15:35

Hoffwn ymuno â chi, Weinidog, a Paul Davies, i ddiolch i’r staff am gamu i'r adwy ar yr adeg heriol hon. Mae dau fater mawr yma. Un yw parhad gwasanaethau, y gofynnwyd yn ei gylch, sut olwg sydd ar hynny, a’r sicrwydd i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Ac wrth gwrs, yr ail fater allweddol yma yw diogelwch, ac rydych wedi sôn am hynny. Ac mae diogelwch y staff a’r cleifion, a’r bobl a fydd yn mynd i mewn i’r adeilad hwnnw wrth gwrs, yn hollbwysig i bob un ohonom. Mae’r £13 miliwn sydd wedi’i roi ar unwaith gan y Llywodraeth hon i fwrdd Hywel Dda i’w helpu drwy’r argyfwng hwn yn dangos ein hymrwymiad i geisio cadw’r ysbyty hwnnw'n weithredol.

Credaf fod hyn yn codi cwestiwn gwirioneddol yma ynglŷn â sut olwg fydd ar wasanaethau wrth symud ymlaen. Nid ydym wedi cael gwir gost eto y cyfalaf y byddai angen ei fuddsoddi yn yr ysbyty hwn. A phan fyddwn yn gwybod hynny, efallai, Weinidog, y gallech ein helpu i edrych ar wir gost ceisio atgyweirio'r adeilad. Mae Paul Davies yn llygad ei le yn dweud bod yna rai mannau nawr lle mae’r difrod yn sylweddol, ond bod yna fannau eraill a allai ddod i’r amlwg maes o law. Felly, credaf fod galw am ddadansoddiad cost a budd go iawn yma, o ran y buddsoddiad cyfalaf yn yr adeilad yn erbyn y buddsoddiad cyfalaf mewn adeilad newydd.

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae Joyce yn llygad ei lle ynghylch pwysigrwydd parhad gwasanaethau i’r bobl yn y gymuned honno. Dyna pam y credaf ei bod yn wirioneddol arwyddocaol fod Ysbyty De Sir Benfro wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth nawr, ac ymddengys bod pobl wedi deall yn iawn fod angen gwneud hynny. Mae'n rhaid i ddiogelwch fod yn hollbwysig mewn perthynas â'r GIG.

Sut olwg sydd ar wasanaethau wrth symud ymlaen? Mae hwn yn gwestiwn rydym wedi’i ofyn i’r bwrdd iechyd. Felly, mae adolygiad clinigol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Yr hyn y mae gennym ddiddordeb ynddo, wrth gwrs, a'r hyn y mae gan y bwrdd iechyd ddiddordeb ynddo, yw datblygu ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. Nawr, nid ydym wedi ystyried ein safbwynt ar hynny fel Llywodraeth eto, ond y peth cyntaf i'w sicrhau yw bod y model clinigol yn briodol ac yn gywir. Ac mae gennym bellach ymagwedd wahanol iawn at feddygaeth ac at yr heriau sydd gennym fel cymdeithas. Felly, yn y gorffennol, roedd yn ymwneud yn gyfan gwbl â gofal acíwt; roedd yn ymwneud â chael pobl i mewn i ysbytai, eu hiachau, eu cael adref. Heddiw, yr hyn rydym yn sôn amdano yw poblogaeth sy'n heneiddio, a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth iawn, y byddai'n well ganddynt gael y gofal hwnnw gartref mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw ateb yn un sy'n edrych tua'r dyfodol.

Felly, rydym wedi gofyn i’r bwrdd iechyd feddwl, nid yn unig yn hirdymor, ond i feddwl yn ofalus ac yn greadigol iawn ynglŷn â sut olwg a allai fod ar y tymor byr a’r tymor canolig. Oherwydd, ar wahân i unrhyw ddyhead am ysbyty newydd, mae llawer o ffordd i fynd cyn y byddai'r ysbyty hwnnw'n weithredol. Felly, beth yw'r ateb tymor canolig? Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi'i ofyn ac sydd wedi'i brofi gyda fy swyddogion yn gynharach yr wythnos hon.

15:40

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn.

Weinidog, mewn datganiad ysgrifenedig yn gynharach y mis hwn, fe ddywedoch chi fod y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol wedi tynnu sylw at bryderon sylweddol ynghylch diogelwch eiddo gyda RAAC mor bell yn ôl â mis Mai 2019. Pam, felly, ei bod wedi cymryd pedair blynedd i gyrraedd pwynt lle mae gwaith yn cael ei wneud o'r diwedd i adnewyddu planciau RAAC?

Ac yn ysbyty Llwynhelyg yn benodol, mae perygl gwirioneddol mai dim ond ateb dros dro fydd y £12.8 miliwn o gyllid a roddir i Hywel Dda i ddechrau’r gwaith adfer yn yr ysbyty, ac fel y mae siaradwyr eraill wedi'i grybwyll eisoes, mae ariannu'r gwaith o ailosod y planciau sy'n risg uchel ar hyn o bryd yn unig yn mynd i olygu y bydd yr ysbyty'n destun arolygon cyson a gwaith adfer posibl am flynyddoedd i ddod. Felly, ni ellir osgoi’r effaith ar gleifion a staff wrth gwrs, gyda 50 y cant o'r gwelyau yn ysbyty Llwynhelyg eisoes wedi’u colli. Felly, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau y bydd rhagor o arian ar gael i newid yr holl blanciau RAAC, fel sydd wedi’i argymell gan arbenigwyr?

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yr hyn y mae'r argyfwng RAAC hwn yn ei ddangos mewn gwirionedd yw bod taer angen buddsoddiad gofal iechyd hirdymor ar orllewin Cymru. Ac yng ngoleuni hynny, roeddwn yn siomedig iawn o glywed bellach na fydd y gwaith ar yr ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru yn dechrau tan 2031, yn hytrach na 2029 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflymu'r broses o adeiladu ysbyty newydd mawr ei angen i roi gofal iechyd yng ngorllewin Cymru ar sylfaen gynaliadwy ac i osgoi lledaenu'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn rhy denau?

Diolch yn fawr iawn. Wel, gallaf roi sicrwydd i chi fod y rhybudd hwnnw wedi dod gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol ym mis Mai 2019, ac ar unwaith, ymgysylltodd swyddogion â GIG Cymru ynghylch y risgiau posibl a achosir gan bresenoldeb RAAC. Felly, dechreuodd hynny ar unwaith yn 2019. Ac fe gymerodd o 2019 hyd at 2022 i gynnal yr ymchwiliadau mewn perthynas â RAAC. Felly, mae’r rheini wedi’u cynnal. Dyna pam nad oedd hyn yn fawr o syndod i ni mewn gwirionedd, gan fod y gwaith hwn wedi'i wneud ers yr amser hwnnw. Felly, rwy'n credu ein bod yn weddol ymwybodol o'r hyn a oedd yn debygol o ddigwydd.

Wrth inni fynd yn ddyfnach i’r ymchwiliadau a’r gwaith strwythurol, efallai y down o hyd i fwy, ond credaf ein bod yn weddol hyderus fod y gwaethaf o’r RAAC wedi’i ganfod yng Nghymru. Y cwestiwn nesaf, fel y dywedwch, yw, 'Iawn, a allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd gennych arian i atgyweirio'r cyfan?' Ni allaf warantu unrhyw beth yn y sefyllfa ariannol bresennol—mae'n hynod o heriol—ac yn arbennig, fel y dywedwch, pan fydd yn rhaid ichi gydbwyso, 'Iawn, pe baech yn gwario'r holl arian hwnnw ar adfer sefyllfa, ni fyddai ar gael wedyn i wneud pethau eraill yn y tymor canolig i'r tymor hir.'

Ar yr ysbyty newydd, mae yna broses y bydd yn rhaid mynd drwyddi. Mae’r broses honno’n mynd drwy’r system; mae'n mynd drwy'r sianeli swyddogol a ffurfiol. Fel yr eglurais wrth Joyce, mae yna adolygiad clinigol yn cael ei gynnal lle mae angen ichi sicrhau bod y model clinigol y maent yn ei gynnig yn dal dŵr. Mae trydydd parti annibynnol wedi bod yn edrych ar hynny er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol mewn gofal iechyd. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig deall nad yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos. Rydym wedi bod yn sôn amdano ers amser maith, rwy’n deall hynny. Cafwyd rhai rhwystrau ar y ffordd, hyd yn oed i gyrraedd y pwynt hwn, fel y gwyddoch, ac nid ydym mewn sefyllfa i wneud penderfyniad mewn perthynas â hynny o hyd.

15:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n siŵr nad oedd y Gweinidog yn bwriadu camarwain y Siambr, ond honnodd mai dim ond gwerth £1 filiwn o wariant cyfalaf a roddwyd i Lywodraeth Cymru i’w wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nid yw hynny'n wir, wrth gwrs. Yn ôl ffigurau eich Llywodraeth eich hun, y gyllideb derfynol ar gyfer y dyraniad cyfalaf i’ch adran, Weinidog, oedd £340 miliwn yn 2022-23, ac yn y flwyddyn ariannol gyfredol, mae’n £375 miliwn, sydd, wrth gwrs, yn gynnydd o £35 miliwn. Felly, hoffwn i’r Gweinidog gywiro’r cofnod.FootnoteLink

Credaf eich bod wedi gwneud hynny'n barod, Darren, felly fe'i gadawn ar hynny.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd, diwrnod pan allwn gydnabod cyfraniad sylweddol fferyllwyr yn ein gwasanaeth iechyd. Gwyddom eu bod yn weithwyr proffesiynol medrus a gwybodus iawn, sy'n dod ag arbenigedd clinigol a gwyddonol i'r GIG. Fel arbenigwyr yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau, maent yn chwarae rhan hanfodol fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer anhwylderau cyffredin a chyngor iechyd mewn fferyllfeydd cymunedol.

I ni, yn y Siambr hon—rwy’n falch fod y Gweinidog wedi aros i glywed hyn hefyd—mae gennym rôl i sicrhau bod fferyllwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u parchu. Mae hyn yn golygu cael y lefel gywir o staffio, y cymysgedd sgiliau cywir yn eu timau a chael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa. Gwyddom gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol nad yw hyn bob amser yn wir ar hyn o bryd, yn anffodus. Felly, mae'n rhaid inni herio’r Llywodraeth hefyd wrth gwrs i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd llawn o sgiliau fferyllwyr.

Yn 2026, bydd yr holl fferyllwyr graddedig yn bresgripsiynwyr cymwys, felly sut rydym yn gwneud defnydd llawn o’r adnodd hwn ar gyfer yr heriau sylfaenol sy’n wynebu gofal iechyd, sy’n cynnwys derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rheoli cyflyrau cronig a’r heriau byd-eang yn ogystal, fel ymwrthedd i wrthfiotigau? Mae gan fferylliaeth ran enfawr i’w chwarae, ond heddiw, gofynnaf i bob un ohonoch ymuno â mi i ddweud 'diolch o galon' wrth ein holl fferyllwyr yng Nghymru.

Wedi siom refferendwm 1979, roedd fy nhad ac eraill yn awyddus iawn i wneud rhywbeth positif i godi calonnau Cymry Cymraeg ein prifddinas. Creu clwb Cymraeg oedd y bwriad, fel ein cyfeillion draw ym Mhontypridd, a oedd yn ceisio gwneud yr un peth. Mewn un ymgyrch codi arian fe wnaeth fy rhieni gwrdd. Dechreuwyd cynnal gigs rheolaidd a, maes o law, wedi edrych ar nifer o leoliadau gwahanol, fe brynwyd hen glwb y British Legion ym Medi 1983. Cafwyd hwyl ryfeddol wrth dynnu i lawr jac yr undeb a symud placiau gydag enwau fel y Queen Elizabeth Jubilee Room i ffwrdd. Do, fe ddaeth y British Legion yn Clwb Ifor Bach, enw a oedd wedi mynd yn angof i bob pwrpas, sef Ifor ap Meurig a ddringodd tŵr Castell Caerdydd nepell o Womanby Street i gipio Iarll Caerloyw tan iddo gytuno i ddychwelyd y tir i Gymry topiau Morgannwg.

Roedd fy nhad wrth ei fodd yn cwrdd â chyplau oedd wedi cyfarfod yn Clwb Ifor Bach ac roedd yn hoffi dweud bod cyplau clwb Ifor yn byw ym mhob rhan o Gymru. Rwy’n credu, Dirprwy Lywydd, fod un Aelod o’r lle yma wedi gweithio fel bownser wrth y drws, ac Aelod arall wedi gweithio tu ôl y bar. Cewch chi ddyfalu pwy yw'r rheini. Mae clwb Ifor wedi newid llawer dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae wedi wynebu sawl her ond goresgyn pob un, a braf yw gweld y cynlluniau i ehangu'r clwb. Pen-blwydd hapus, clwb Ifor. Ymlaen i’r hanner canrif. Diolch yn fawr.

5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE

Eitem 5 yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig ar ran y Pwyllgor Busnes.

Cynnig NDM8363 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023.

2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

15:50

Nid oes unrhyw siaradwyr ar gyfer yr eitem hon, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Datganoli dŵr yn llawn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Janet Finch-Saunders.

Eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—datganoli dŵr yn llawn. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8274 Rhys ab Owen, Mike Hedges, Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn enwog am ddŵr:

‘Dŵr sydd yn llifo dros y wlad’,

fel y dywedodd Huw Jones,

'Lle bu fy mam a nhad / A'm brodyr a'm chwiorydd / A minnau'n byw’.

Ie, mae dŵr yn fater gwleidyddol iawn yng Nghymru. Gellid dadlau bod boddi cymunedau Cymreig wedi arwain at y deffroad cenedlaethol a wnaeth maes o law arwain at sefydlu y lle hwn. Ond dwi ddim eisiau siarad yn ormodol am y gorffennol. Mae ddoe wedi mynd; does dim modd ei newid, ond mae’r gallu gyda ni heddiw i wella pethau ar gyfer bywydau pobl Cymru ac amgylchedd ein gwlad.

Dyw rheolaeth San Steffan dros adnoddau Cymru ddim mor amlwg heddiw ag oedd e yn y 1960au, ond mae bylchau o fewn ein deddfwriaeth yn galluogi cwmnïau o hyd i ddefnyddio dŵr ein gwlad ar gyfer creu elw sylweddol, tra bod biliau pobl Cymru yn cynyddu.

Mae Cymru, unwaith eto, yn unigryw yn ei diffyg gallu i reoli ei dŵr ei hun. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r pwerau sy’n ymwneud â dŵr a charthffosiaeth wedi’u datganoli’n llawn. Drwy gefnogi’r cynnig hwn, byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y cais ffurfiol sydd ei angen i gychwyn datganoli dŵr yn llawn yng Nghymru, a dylem fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl.

Mae’r ddadl rwy’n bwriadu ei gwneud heddiw yn un sy’n seiliedig ar degwch, y cysyniad Cymreig enwog o chwarae teg; y dylai Cymru fod yn rheoli ei dŵr ei hun, ac y dylem allu penderfynu beth sydd orau i’w wneud ag ef. Yn hollbwysig, credaf y dylem allu dod â’n seilwaith gwastraff Fictoraidd i’r unfed ganrif ar hugain heb unrhyw rwystrau, boed hynny gan gwmnïau neu gan San Steffan. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor fregus yw dyfrffyrdd Cymru a Lloegr. Mae hwn yn fater pwysig, a fydd ond yn dod yn fwy dybryd wrth i'r argyfwng hinsawdd waethygu.

Mae rhan gyntaf y cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr awenau a gofyn i San Steffan gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, gan roi cymhwysedd deddfwriaethol i ni dros ein dŵr ein hunain. Fel y mae pethau yng Nghymru, dim ond pobl Cymru y gall ein cwmni dŵr gwladoledig, Dŵr Cymru, eu gwasanaethu, er ei fod yn rhychwantu’r ffin rhwng â Chymru a Lloegr. Yn y cyfamser, mae cwmni preifat Severn Trent, sydd wedi'i leoli yn Coventry, yn cael allforio dŵr o ogledd-ddwyrain Cymru i dde-orllewin Lloegr. Dywedir bod United Utilities, sy'n gwasanaethu gogledd Lloegr, wedi'i drwyddedu i fynd â'r hyn sy'n cyfateb i lond 100 pwll nofio Olympaidd o ddŵr y dydd o ogledd Cymru i gyflenwi Lerpwl a Swydd Gaer. A phwy sy'n cael cadw'r elw? Nid pobl Cymru, ond y cwmnïau dŵr preifat mawr.

Rwy’n siŵr y gallwn gofio bod Cymru gyfan wedi wynebu sychder y llynedd, gan fygwth ein sector amaethyddol, diogeledd bwyd, a bioamrywiaeth naturiol. Canfu adroddiad diogeledd bwyd y DU fod cynnyrch gwenith wedi gostwng 40 y cant yn 2020 o ganlyniad i sychder. Y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw pam ein bod yn caniatáu i gwmnïau allforio ein dŵr am elw enfawr tra bo pobl Cymru yn wynebu biliau drud a thra bo ein cnydau a’n da byw yn dioddef.

Bydd cychwyn adran 48(1) yn caniatáu inni sicrhau bod yr ardal weithredol ar gyfer dŵr i Gymru’n unig yn cyd-fynd â’n ffin ddaearyddol, ac o ganlyniad, bydd hynny’n sicrhau mwy o degwch o ran ei werthu a’i ddosbarthu. Fe'i dywedaf yn glir: nid yw hyn yn ymwneud â rhwystro Lerpwl, Manceinion, a de-orllewin Lloegr rhag cael dŵr o ansawdd da; nid wyf yn awgrymu hynny am eiliad. Ond dylai'r Cymry allu elwa o allforio ein dŵr. Yn 2022, fe wnaeth uwch-Aelodau Torïaidd awgrymu’r syniad o fynd â dŵr o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i ymdopi â sychder yn ne-ddwyrain Lloegr. Nid wyf yn erbyn hynny, ond yn sicr, dylem gael ein talu amdano.

Mae ail ran y cynnig hwn yn galw am gyflwyno cais ffurfiol am ddatganoli pwerau mewn perthynas â charthffosiaeth a’r cyflenwad dŵr, gan gwblhau’r broses o ddatganoli dŵr i Gymru i bob pwrpas.

Ar sawl achlysur, mae Alun Davies wedi mynegi ei bryderon am y bwlch yn y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i garthion gael eu dympio’n rhy aml i mewn i'n dyfrffyrdd. Mae digon o benawdau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf am ddirywiad ein hafonydd. Mae gennym unigolion yn dechrau profi afonydd, fel afon Gwy, am eu bod wedi sylwi ar brinder eogiaid yn yr afon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Delyth Jewell rai misoedd yn ôl fod gan Gymru ddigonedd o adnoddau naturiol, gan gynnwys dŵr, ond mae’r pŵer i reoli’r adnoddau hyn dan glo yn San Steffan ar hyn o bryd. Ni ddylai hwn fod yn fater pleidiol o gwbl. Yn debyg i HS2, dylem ni fel Senedd gydnabod bod hyn yn anghywir.

Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn bum mlynedd yn ôl i San Steffan ohirio datganoli dŵr oherwydd ei fod yn gymhleth. Ni allaf weld y ddadl honno o gwbl. Mae afon Donwy'n mynd drwy naw gwlad a phedair prifddinas. Nid oes unrhyw bryderon ynghylch cymhlethdod yno. Felly, beth yw canlyniadau ymarferol yr oedi hwn? Cawsom lygredd ffosffad yn afon Dyfrdwy, cawsom garthion amrwd yn cael ei bwmpio i afonydd a môr sir Ddinbych 452 o weithiau y llynedd, mae gennym ysgarthion heb eu trin, weips gwlyb a throeth yn llifo drwy Barc Gwledig Bryngarw, a dim ond ambell enghraifft yw’r rheini, Ddirprwy Llywydd.

Y llynedd, rhyddhaodd Dŵr Cymru 600,000 o oriau, sy'n cyfateb i 68 o flynyddoedd, o garthion i mewn i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru. Dywedant ei bod yn rhy ddrud i wella'r system garthffosiaeth Fictoraidd yng Nghymru, sy'n achosi i garthion heb eu trin orlifo i mewn i ffynonellau dŵr Cymru yn ystod cyfnodau o law trwm. Fodd bynnag, nid ymddengys bod ganddynt gwynion am gostau wrth dalu gwerth £232,000 o fonysau i'w prif weithredwr yn 2022. Mae angen inni ddatganoli carthffosiaeth a'r cyflenwad dŵr yng Nghymru fel y gallwn uwchraddio ein gweithfeydd dŵr yn llwyr, datrys problem y carthffosydd Fictoraidd sy'n costio'n ddrud nid yn unig i ddefnyddwyr Cymru ond i'r amgylchedd hefyd.

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dweud mai bwriad Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yw gwneud Cymru yn lle glanach, iachach i fyw ynddo, ond hyd nes y bydd gennym reolaeth ar ein system garthffosiaeth a hyd nes y gallwn atal ein dŵr rhag cael ei allforio pan fo'i angen mor daer, bydd hynny'n parhau i fod yn freuddwyd gwrach. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i roi eu harian ar eu gair, i ymuno â’n cyd-Aelodau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a chwblhau’r broses o ddatganoli dŵr yng Nghymru. Os nad yw'n rhy gymhleth iddynt hwy, yn sicr, ni ddylai fod yn rhy gymhleth i ni. Diolch yn fawr.

15:55

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw hi. 

Ymddangosodd y gwelliant canlynol ar yr agenda:

Gwelliant 1—Janet Finch-Saunders

Dileu popeth a rhoi yn ei le

1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, mewn llythyr wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU yn 2018, fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth.

3. Yn croesawu parodrwydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy lywodraeth a'r diwydiant dŵr.

Nid wyf yn mynd i gynnig fy ngwelliant, ond rwyf am siarad am y cynnig.

Pan ddarllenais y cynnig hwn, fodd bynnag, a gyflwynwyd gan ein cyd-Aelodau, Rhys, Jane a Mike, y peth cyntaf a feddyliais oedd 'déjà-vu’ gan mai cwta dri mis sydd wedi bod ers inni gael dadl ynghylch datganoli dŵr yn llawn. Roedd cynnig Plaid Cymru ar y pryd yn galw ar Lywodraeth Cymru i

'a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru;

'b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru'.

Felly, y gwir amdani yw ei bod yn ffaith, dri mis yn ôl, fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU yn 2018, dywedodd Hannah Blythyn MS—[Torri ar draws.] Beth? O, Blythyn. Dywedodd Hannah Blythyn AS fod y broses o alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd â ffiniau daearyddol yn gymhleth. Felly, ar ôl y bwriad gwreiddiol i gychwyn yn 2020, ceisiodd Llywodraeth Cymru eu hunain ohirio hyn tan wanwyn 2022. Cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at resymau megis deddfwriaeth ddiwygio, cynlluniau statudol a datrys materion trwyddedu a rheoleiddio cymhleth. Nawr, ar 15 Mai 2023, dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

'Bydd fy Adran yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth Cymru i gytuno ar yr amserlen orau ar gyfer cychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017 er mwyn diwallu anghenion y ddwy lywodraeth a'r diwydiant dŵr.'

Felly, mae’r neges yn syml: mae Llywodraeth y DU yn barod i gydweithredu ac yn aros i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen. Ar 7 Gorffennaf 2023, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Senedd, a dyfynnaf:

'Nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers inni ofyn am yr oedi, ond yr hyn rwy'n ei ddweud, o ganlyniad i'r ddadl hon, yw y byddaf yn archwilio mewn mwy o fanylder pam ein bod wedi setlo ar y protocol a heb fynd â hynny ymhellach.'

Felly, os oes unrhyw dda i ddod o’r ddadl hon heddiw, rwy'n gobeithio cael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynglŷn ag a oes unrhyw beth wedi digwydd dros y tri mis diwethaf, ac yn benodol, a yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad yw’n dymuno cael unrhyw oedi pellach. Byddem yn falch o wybod a yw'r penderfyniad hwnnw wedi’i wneud.

Hefyd, pa ddull gweithredu rydych wedi'i ddatblygu er mwyn cael yr effaith leiaf bosibl ar ein cwsmeriaid? Pa ddull gweithredu rydych wedi'i ddatblygu er mwyn cael yr effaith leiaf bosibl ar gwmnïau dŵr? A sut rydych yn goresgyn y ffaith nad oes darpariaeth ar gyfer aliniad wedi'i gwneud hyd yn oed yn y gwaith cynllunio ar gyfer cynlluniau busnes 2020-25? A fydd newidiadau’n cael eu gwneud i drwydded Dŵr Cymru, i alluogi un cwmni i weithredu o fewn dau fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol? A ydych chi wedi nodi pa ddeddfwriaeth a chynlluniau statudol sydd angen eu diwygio, ac os felly, a wnewch chi roi manylion ynghylch pob un ohonynt? Felly, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau—Rhys, Jane a Mike—fe fydd yn ddiddorol iawn gweld sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr.

16:00

Janet, er eglurder, nid ydych yn cyflwyno eich gwelliant ac felly ni fydd pleidlais arno—a yw hynny'n gywir?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n llwyr gefnogi datganoli dŵr i Lywodraeth Cymru. Byddai datganoli pwerau dros ddŵr ymhellach yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â phroblem gollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru, ac onid oes gennym lawer o hynny? Mae preifateiddio dŵr yn fodel sydd wedi methu. Mae wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.

Nid yw'r ddadl hon yn un y dylem fod yn ei chael. Mae'n digwydd oherwydd bod gennym setliadau datganoli sylfaenol wahanol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a'r meiri metro yn Lloegr. Yn UDA, nid oes gennych daleithiau'n gofyn am fwy o bwerau—neu ni fu ers 1865. Yn yr Almaen, nid yw Länder unigol wedi gofyn am fwy o bwerau gan Lywodraeth ganolog yr Almaen. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod gan y rheini a gwledydd ffederal eraill yr un pwerau'n cael eu dal ar bob lefel. Beth rwy'n ei ddisgwyl o'r ddadl hon? Y Ceidwadwyr i'w gwrthwynebu a gwrthwynebu unrhyw ddatganoli pellach. Plaid Cymru i'w gweld fel cam pellach tuag at ymwahanu a'i chefnogi'n llawn. Rwy'n cefnogi tir canol 'devo max' a'r un setliad datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ynghyd â meiri metropolitanaidd Lloegr. Darperir gwasanaethau dŵr yfed a charthffosiaeth cyhoeddus yr Alban gan Scottish Water, cwmni cyhoeddus sy'n atebol i Weinidogion yr Alban a Senedd yr Alban. Mae Scottish Water yn gorfforaeth gyhoeddus sy'n darparu gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth sy'n eiddo cyhoeddus i bobl yr Alban.

Rwy'n credu mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfleustodau. Nid wyf ar fy mhen fy hun yn hynny o beth. Roedd Prif Weinidogion Ceidwadol fel Winston Churchill, Anthony Eden, Harold Macmillan, Alec Douglas-Home a Ted Heath hefyd yn cefnogi perchnogaeth gyhoeddus ar gyfleustodau a pherchnogaeth gyhoeddus ar ddŵr. Yn yr Alban, comisiynodd undebau'r diwydiant dŵr, drwy TUC yr Alban, adroddiad gan y rhwydwaith ymchwil i les y cyhoedd ym Mhrifysgol Strathclyde ar ddŵr yr Alban a'r symudiad tuag at breifateiddio a sut y gallai democrateiddio wella effeithlonrwydd am gost is. Amlygodd yr adroddiad hwnnw bwysau i breifateiddio dŵr yr Alban a dadansoddodd y dewisiadau amgen yn lle'r strwythur presennol. Yr hyn a wnaeth yr Alban oedd ymladd yn erbyn y preifateiddio hwnnw. Mae pwysau ar draws y byd—nid oes gennym imiwnedd rhagddo—i breifateiddio pethau. Mae'r ffaith nad yw preifateiddio wedi gweithio yn unman yn gwbl amherthnasol: 'Fe wnaiff weithio y tro nesaf.' Mae bron fel pan oeddem yn arfer hollti gwledydd yn ddwy ran, oherwydd byddai hynny'n gwneud pethau'n gymaint yn well. Mae'r ffaith na weithiodd erioed yn unman yn gwbl amherthnasol; ni wnaeth hynny ein hatal rhag dal ati i hollti gwledydd.

Mae methiant cwmnïau dŵr preifat yn y byd sy'n datblygu yn arwain at bwysau o'r newydd ar Lywodraethau i breifateiddio'r marchnadoedd dŵr mwy proffidiol yn y byd datblygedig. Hynny yw, pa mor gymhleth yw datganoli dŵr yng Nghymru? Wel, Senedd Cymru—. Ac fe wnaf ddarllen hwn i gyd, oherwydd rwy'n credu ei fod yn nodi pa mor broblemus yw pethau mewn gwirionedd.

'Yn gyffredinol, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â phob agwedd ar ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a'r diwydiant dŵr.'

Da iawn cyn belled.

'Mae hyn yn amodol ar y cymalau cadw yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (DLlC 2006). Rhaid darllen cymhwysedd Senedd Cymru mewn perthynas â'r diwydiant dŵr yn benodol gan gadw'r cymalau cadw yn adran C15 (dŵr a charthffosiaeth) Atodlen 7A i DLlC 2006 mewn cof. Mae'r cymalau cadw hyn yn darparu nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd i wneud unrhyw beth sy'n ymwneud â: penodi a rheoleiddio unrhyw ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth nad yw ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru... trwyddedu a rheoleiddio unrhyw gyflenwr dŵr trwyddedig (mae'r cymal cadw hwn yn amodol ar eithriad ar gyfer rheoleiddio trwyddedai dŵr neu garthffosiaeth mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig sy'n defnyddio system gyflenwi neu garthffosiaeth ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru—h.y. mae gan y Senedd gymhwysedd mewn perthynas â rheoleiddio trwyddedeion dŵr a charthffosiaeth gan ddefnyddio systemau ymgymerwyr sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru).'

Wel, rwy'n credu bod hynn ymhell iawn o'r hyn y buaswn i'n ei alw'n set syml o reolau. Dyma a gawn drwy'r amser, onid e, pan edrychwn ar ddatganoli? Bob tro y credwn ei fod yn cael ei symleiddio, nid yw'n digwydd. Ein barn ni yw ei fod yn hawdd i'w symleiddio—dylai pob dŵr yng Nghymru fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, heb unrhyw 'ac', 'neu' neu 'ond', nac unrhyw beth arall. Peidiwch ag anghofio, cyn 1973, y cynghorau oedd yn arfer rheoli dŵr, ac roeddent yn gwneud hynny'n llwyddiannus iawn, os caf ddweud.

Yn olaf, mae angen inni gael datganoli'n iawn i bobl Cymru. Mae dŵr yn enghraifft lle nad yw'n gweithio'n effeithiol. Mae angen cynllun arnom i gyflawni 'devo max' a pheidio â gadael i'r ddadl fod rhwng y rhai sy'n dymuno diddymu'r Senedd a'r rhai sydd eisiau annibyniaeth.

Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw ein bod bob amser yn meddwl ein bod ni'n wahanol. Roedd rhagflaenydd Delyth Jewell yn aml yn dweud, 'Pam ein bod yn meddwl ein bod ni'n wahanol yng Nghymru? Sut rydych chi'n meddwl mae gwledydd eraill yn ymdopi?' Ac rwy'n gwybod bod Rhys wedi sôn am nifer o wledydd yr âi'r Ddonwy drwyddynt. Mae fy ngwybodaeth am ddaearyddiaeth yn ddigon mawr i ddweud wrthych am yr holl wledydd y mae'r Rhein yn mynd drwyddynt, ond rydym yn gwybod, onid ydym, fod gan lawer o wledydd afonydd yn mynd drwyddynt, ac nid yw'n ymddangos bod hynny'n achosi unrhyw broblem o gwbl? Eto, mae eithriadoldeb Prydeinig yn golygu ei fod yn achosi problem yma. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.

16:05

Diolch i Rhys am godi'r mater yma heddiw.

Mae dau gwestiwn pwysig yma. Un yw bod yna bobl, mae yna unigolion sy'n gwneud arian o adnoddau naturiol. Yn ail, rydym eisiau rhagor o bwerau yng Nghymru i reoli popeth sydd o fewn Cymru. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Mike am 'devo max', rwy'n credu efallai y byddwch chi'n ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol, Mike, os mai dyna yw eich safbwynt chi mewn gwirionedd. Rydych chi bron yma. [Chwerthin.] Mae alinio deddfwriaeth dŵr â ffiniau Cymru yn fwy na symbolaidd. Byddai'n rhoi mwy o reolaeth i Gymru i sicrhau bod adnoddau dŵr o fudd i'w phobl, ei hamgylchedd a'i dyfodol, yn hytrach na dim ond trosglwyddo adnoddau naturiol allan o Gymru drwy benderfyniadau seilwaith nad ydynt o fudd i'n cymunedau Cymreig.

Ar hyn o bryd mae ein dŵr yn cael ei echdynnu gan gwmnïau preifat er elw allanol yn hytrach na bod o fudd i Gymru, gyda biliynau o litrau, gan gynnwys 385 miliwn litr o fy sir enedigol, sef Powys, yn unig, gan adael Cymru bob blwyddyn am yr enillion lleiaf mewn gwirionedd. Dylai Cymru reoli ei hadnoddau naturiol ei hun a pheidio â goddef yr echdynnu parhaus hwn er budd ariannol i eraill. Gweithredodd Cyngor Sir Powys gynnig ar gyfer ardoll ddŵr, a allai olygu mewn gwirionedd y gallai Cymru godi arian hanfodol yn y dyfodol. Mae angen yr arian hwnnw arnom yma yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol, oherwydd mae angen inni fuddsoddi yn ein seilwaith dŵr. Nododd Dŵr Cymru fod y bil ar gyfer trwsio gorlifoedd storm a seilwaith llifogydd rywle rhwng £9 biliwn a £27 biliwn. Yn sicr, gallai ardoll ddŵr helpu i ariannu'r atgyweiriadau hynny, yn hytrach na chodi cost biliau i gwsmeriaid, pobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'u biliau ar hyn o bryd. Yn bwysig, heb reoli ein hadnoddau dŵr, ni all Cymru fynd i'r afael yn llawn â llygredd afonydd. Er y gall llygredd fod o dan awdurdod datganoledig, os nad yw darparwyr yn gweithredu'n bennaf yng Nghymru, nid oes gan y Senedd rym i sicrhau eu bod yn gweithio tuag at nodau amgylcheddol a rennir.

Mae datganoli yn cynnig cyfle i sefydlu cynlluniau rheoli carthion cyfreithiol cadarn, gan ddal darparwyr yn atebol, sy'n sicr yn hanfodol, gan mai trethdalwyr Cymru sy'n ysgwyddo'r gost ar hyn o bryd o fynd i'r afael â blynyddoedd o danfuddsoddi mewn gwaith trin carthion. Ni allwn ddibynnu ar Lywodraeth Geidwadol y DU a rheoleiddwyr i ddiogelu ein hafonydd, yn enwedig o ystyried y gyfradd frawychus o dros 800 o ollyngiadau carthion dyddiol yn Lloegr. A'r mis hwn fe ddechreuodd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd ymchwiliad i gyfranogaeth posibl Llywodraeth y DU a rheoleiddwyr mewn troseddau gollwng carthion.

Ni ddylai dŵr o Gymru fod yn ddarostyngedig i esgeulustod systemig a pholisïau echdynnol Llywodraeth y DU a'i rheoleiddwyr. Er bod ymatebion Llywodraeth Cymru yn y gorffennol i'r dadleuon hyn wedi bod yn fwy cydweithredol, heb weithredu sylweddol mae'r Llywodraeth yma mewn perygl o ymddangos yn annidwyll ar faterion llywodraethu amgylcheddol.

Ers y ddadl ddiwethaf yma, y soniodd Janet Finch-Saunders amdani, cafodd Dŵr Cymru ei israddio gan CNC i sgôr ddwy seren, a ddoe ddiwethaf, nododd y rheoleiddiwr dŵr, Ofwat, yn swyddogol fod Dŵr Cymru wedi methu cyrraedd ei dargedau llygredd allweddol y llynedd, gan gategoreiddio'r cwmni fel un sy'n 'llusgo ar ôl'. Yn ôl ym mis Mai, nododd y Prif Weinidog fod angen adolygu Dŵr Cymru i weld a oedd wedi cyflawni'r buddion y gwnaeth eu cynnig yn wreiddiol a'u haddo wrth iddo gael ei ffurfio, rhywbeth y byddwn i'n cytuno'n llwyr ag ef. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, yn enwedig mewn perthynas â pham na fyddai datganoli'r maes penodol hwn yn helpu i fynd i'r afael â llygredd afonydd a chodi arian mawr ei angen at ein coffrau. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Hoffwn i groesawu'r cynnig hwn heddiw a diolch i Rhys am ei gyflwyno. Diolch hefyd i Mike am sôn am Steffan Lewis. Ie, wir, pam ydyn ni yng Nghymru yn gorfod bod yn wahanol? So, diolch, Mike, am sôn am Steffan.

Mae gan y mater o ddŵr gyseiniant, neu resonance, emosiynol a phwerus yng ngwleidyddiaeth fodern Cymru, fel roedd Rhys wedi gosod mas. Bu boddi Capel Celyn yn y 1960au, a arweiniodd at ddadleoli cymuned gyfan—roedd hynny wedi rhoi mynegiant i ymdeimlad ehangach o anghyfiawnder wrth ecsbloetio a difreinio Cymru a'i phobl. Mae'n deimlad sy'n dal yr un nerth hyd heddiw, oherwydd y realiti yw, er bod gennym ni Senedd ddatganoledig erbyn hyn—ac mi fuaswn i'n cytuno gyda Rhys, y gallwch chi wneud y pwynt bod y Senedd yma'n bodoli fel canlyniad i wleidyddiaeth o gwmpas dŵr—er gwaethaf hynny, mae Cymru'n parhau i gael ei 'gwerthu'n fyr', fel byddem ni’n dweud yn Saesneg, o ganlyniad i'n sefyllfa sylfaenol israddol o fewn yr ynysoedd hyn.

Mae'r model methedig o breifateiddio yn y diwydiant dŵr hefyd, fel mae Mike wedi sôn, wedi cyfrannu at gyflwr galarus ein hafonydd a'n moroedd. Ar hyn o bryd, mae llai na 45 y cant o afonydd Cymru yn cael eu dosbarthu neu yn cael eu hystyried fel rhai sydd mewn cyflwr ecolegol da. Y pwynt sylfaenol yma ydy bod anghymesuredd y setliad datganoli ar draws yr ynysoedd hyn wedi gadael Cymru dan anfantais benodol o gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill. Mae diffyg rheolaethau deddfwriaethol effeithiol dros ein hadnoddau dŵr wedi galluogi cwmnïau preifat i elwa ar y symiau enfawr o ddŵr sy'n cael eu trosglwyddo o Gymru bob blwyddyn, heb fawr o fanteision canlyniadol i'n cymunedau.

Mae'r enghraifft hon, rheolaeth dros ddŵr, yn tanlinellu'r pwynt yn bendant: tra bod cymwyseddau deddfwriaethol yr Alban a Gogledd Iwerddon dros ddŵr—mae'r pwynt wedi cael ei wneud—yn cyd-fynd yn llawn gyda'r ffiniau daearyddol, mae pwerau datganoledig Cymru yn y maes polisi hwn yn seiliedig ar fodel 'yn gyfan gwbl neu'n bennaf' o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Golyga hyn na all y Senedd reoleiddio trosglwyddiad dŵr gan gwmnïau preifat sydd yn pontio'r ffin. Mae hyn yn cynnwys—dŷn ni wedi clywed—cwmnïau fel Hafren Dyfrdwy, sy'n cyflenwi tua 115,000 o aelwydydd yng nghanolbarth Cymru, a United Utilities, sy'n dal y drwydded tynnu dŵr ar gyfer cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy.

Ac er i Ddeddf Cymru 2017 ddiwygio'r fframwaith datganoledig ychydig drwy sefydlu protocol rhynglywodraethol ar drosglwyddo dŵr dros ffin Cymru, mae'r protocol ond wedi'i gynllunio i sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ddifrifol ar adnoddau dŵr, cyflenwad dŵr nac ansawdd dŵr yn y ddwy wlad. Dyw e ddim yn sôn am drosglwyddiadau masnachol o ddŵr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel sydd wedi cael ei grybwyll, mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu San Steffan ar y diffyg parch sydd ganddynt tuag at ddatganoli, ac mae hyn yn beth cwbl iawn i'w wneud. Buaswn i'n cytuno â hynny. Ond cyfeiriodd y Prif Weinidog at yr anghydbwysedd niweidiol o bŵer sydd yma. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn iawn i ddod i'r casgliad bod y status quo cyfansoddiadol, yn syml, yn anghynaliadwy, waeth beth yw lliw y blaid lywodraethol yn Downing Street. Ond mae angen gweithredu nid dim ond pan fydd amgylchiadau yn caniatáu, ond yn mynnu hynny, ac mae'n anffodus bod gweithredoedd Llywodraeth Cymru ei hun wedi methu o ran yr hyn sydd yn angenrheidiol yn achos pwerau Cymru dros ddŵr.

Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio edrych ar hyn oll am bwerau dŵr hyd at wanwyn 2022. Ni fu fawr dim, os unrhyw, ohebiaeth bellach rhwng y ddwy Lywodraeth ar y mater hwn. Mae'n ymddangos bod y dyddiad gweithredu diwygiedig hefyd wedi cael ei adael yn y pen draw. Mae'n amlwg, felly, fod y diffyg cynnydd ar ddatganoli pwerau dros ddŵr ymhellach wedi cael ei achosi yn rhannol o ganlyniad i Lywodraeth Cymru yn llusgo eu traed.

Buaswn i'n dweud, i gloi, Dirprwy Lywydd, mae angen grym ac ewyllys i wthio, i frwydro am newid. Rhaid bachu’r cyfleoedd prin a gwerthfawr sy'n dod i newid pan fyddant yn cyflwyno eu hunain. Rhaid cael datrysiad ar fyrder.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, ac fel y gwyddoch rwy'n siŵr, Ddirprwy Lywydd, ac fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi sôn, rydym eisoes wedi trafod datganoli dŵr yn y Siambr hon yn ddiweddar, ym mis Mehefin.

Mae gan y cynnig heddiw bwyntiau bron yn union yr un fath â'r cynnig blaenorol, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru gyda rhai gwelliannau a ychwanegwyd gennym, ac a gafodd eu derbyn. Felly, ar y sail honno, byddwn yn cefnogi'r cynnig eto heddiw, er bod llawer o'r dadleuon a glywais heddiw gan yr Aelodau yn ymwneud â dod â dŵr i berchnogaeth y wladwriaeth, sy'n fater gwahanol iawn wrth gwrs. [Torri ar draws.] Mae'r pwyntiau a—. Yn anffodus, nid dyna rydym yn ei drafod. 

Mae'r pwyntiau a wneuthum ym mis Mehefin yn dal i sefyll. Rwy'n cytuno y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, ond rwyf am ailadrodd bod proses barhaus datganoli yn golygu bod hyn eisoes yn digwydd yn y bôn. Un elfen yn unig o hynny i gyd yw ein perthynas â'r cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat fel rheoleiddwyr. Er enghraifft, rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd, ochr yn ochr â'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a grwpiau her annibynnol, i sicrhau dull cydweithredol o weithredu'r broses adolygu prisiau gyfredol, neu PR24, fel y'i gelwir. Ein nod yw cyflawni ein huchelgais traws-sector cyffredin i Gymru ar gyfer mwy o ffocws ar wytnwch hirdymor, mwy o werth amgylcheddol a chymdeithasol, a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gwsmeriaid a chymunedau.

Rwy'n siŵr fod llawer ohonoch wedi gweld adroddiad blynyddol Ofwat ar berfformiad, a gyhoeddwyd ddoe. Mae'r adroddiad yn darparu asesiad o gwmnïau dŵr mewn perthynas â phob maes gweithredu. Mae angen i Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy fynd i'r afael â meysydd perfformiad lle maent ar ei hôl hi o gymharu â pherfformiad cyfartalog y diwydiant. Mae'r meysydd hynny'n cynnwys tarfu ar y cyflenwad dŵr, rheoli gollyngiadau a chyflawni gostyngiadau o ran defnydd y pen, neu ddefnydd dŵr dyddiol. Mae'n dda gweld mai Dŵr Cymru sydd â'r sgoriau uchaf o ran boddhad cwsmeriaid, darparu gwasanaethau i gwsmeriaid bregus ac ymateb i doriadau heb eu cynllunio yn y cyflenwad ac atgyweiriadau. Ac roeddent yn arwain y sector ar fynd i'r afael â llifogydd carthffosydd mewnol. Fodd bynnag, mae'n eithaf amlwg fod angen i'r ddau gwmni wneud llawer mwy i godi allan o'r categorïau y maent ynddynt, gyda Hafren Dyfrdwy ond yn cael un sgôr yn fwy ar gyfartaledd na Dŵr Cymru, ac ond o drwch blewyn yn osgoi bod yn y categori sy'n llusgo ar ôl—felly, perfformiad nad yw'n dda o gwbl.

Rydym yn disgwyl i'r cwmnïau dŵr yng Nghymru weithio'n llawer caletach i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid ar draws pob maes gweithredu. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r cwmnïau dŵr yng Nghymru, a gydag Ofwat, i sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â phob maes sy'n peri pryder. Ac rwy'n gwybod, wrth gwrs, fod yr Aelodau'n awyddus i weld adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017 yn cychwyn cyn gynted â phosibl. Hoffwn nodi, serch hynny, fod creu Hafren Dyfrdwy yn golygu nad oes unrhyw gwmnïau dŵr bellach yn gweithredu'n bennaf yn Lloegr sydd hefyd yn gweithredu yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, mae prif bwrpas y pwerau o dan adran 48(1) eisoes wedi'i gyflawni heb fod angen cychwyn y ddarpariaeth. Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd ar drywydd y gwaith hwn yr ymrwymais iddo yn ystod y ddadl ym mis Mehefin. Mae fy swyddogion wedi dechrau'r broses o ystyried y camau nesaf, gan gynnwys cwmpasu'r effeithiau llawn ar ddeddfwriaeth arall. Mae hon yn broses sy'n defnyddio llawer iawn o adnoddau ac sy'n cymryd amser, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y setliad datganoli yn cyflawni ei fwriadau'n llawn. Nid yw'n newid y gellir ei sicrhau dros nos. 

Nid oes angen i mi ddweud wrth yr Aelodau yma am natur dŵr fel adnodd gwerthfawr na'i symbolaeth yn y ddadl ddatganoli ehangach. Ond yr hyn a ddywedaf yw bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu yma yn un pragmatig. Rydym eisoes yn defnyddio ein pwerau i fynnu bod pob buddsoddiad seilwaith dŵr strategol sy'n effeithio ar Gymru, gan gynnwys unrhyw drosglwyddiadau, o fudd i gymunedau Cymru a'r amgylchedd naturiol. Mae gan gwmnïau dŵr Cymru ddyletswydd statudol i ddarparu cyflenwad diogel o ddŵr ac i ddangos sut y byddant yn gwneud hyn drwy'r cynlluniau rheoli adnoddau dŵr, sydd â rhychwant oes o 25 mlynedd. Yn y cyfamser, mae'n rhaid i gwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, ac mae hynny'n wir am y ddau gwmni, ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru, ac mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw gynlluniau trosglwyddo.  

Mae hyn i gyd wedi'i seilio ar brotocol rhynglywodraethol 2018 rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, eto fel y nodais ym mis Mehefin, Ddirprwy Lywydd, nid trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'n ffin yw'r prif bwysau ar ddyfodol adnoddau dŵr Cymru, ond yn hytrach y pwysau sy'n deillio o weithgareddau yr ochr yma i'n ffin, sef dŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, cysylltiadau diffygiol, llygredd gwledig gwasgaredig, addasiadau ffisegol, mwyngloddiau segur a rhywogaethau goresgynnol. Rydym yn defnyddio ein pwerau dros ddŵr yng Nghymru i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac nid ydym yn cilio rhag ein cyfrifoldebau yn y meysydd hyn. 

Er enghraifft, maes allweddol y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd ag ef yw mater ffosfforws yn nalgylchoedd afon ein hardaloedd cadwraeth arbennig. Yn ein huwchgynhadledd ddiweddaraf ar lygredd afonydd ym mis Mawrth, cytunodd pob sector allweddol, gan gynnwys dŵr, tai, cynllunio ac amaethyddiaeth i gynllun gweithredu sy'n anelu at ddatgloi datblygiadau tai cymdeithasol hanfodol. Ers hynny, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid i hybu gwelliant yn ansawdd dŵr ein hafonydd. Rydym wedi darparu hyd at £1.1 miliwn o gyllid i'n byrddau rheoli maetholion ar gyfer 2023-24 i gefnogi'r gwaith o gyflawni camau blaenoriaeth yn nalgylchoedd afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu cyrraedd y safon, ac rydym hefyd wedi darparu cyllid i gyflymu adolygiad CNC o drwyddedau fel y gall awdurdodau cynllunio lleol wneud penderfyniadau cynllunio yn gynt. Felly, er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, gallai trwydded newydd ar gyfer gwaith trin dŵr Five Fords ddatgloi bron i 3,000 o anheddau, a fyddai'n gyfran fawr o'r ceisiadau sydd wedi eu dal yn ôl yn nalgylch afon Dyfrdwy. Mae'r enghraifft yn nalgylch afon Dyfrdwy yn dangos y gallwn ddatgloi datblygiadau allweddol heb fod angen symud y pyst gôl mewn perthynas â niwtraliaeth maetholion.

Ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad o gwbl o gefnu ar ein hamddiffyniadau amgylcheddol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud. Yng Nghymru, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i iechyd ein hafonydd ac rydym yn glir na fydd unrhyw gamu'n ôl ar safonau amgylcheddol yma. Yn 2019, ni oedd y wlad gyntaf i gyflwyno gofyniad gorfodol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy ar bob datblygiad newydd. Nid yn unig y mae systemau draenio cynaliadwy yn cefnogi ein hamcanion sero net, bioamrywiaeth a llesiant, maent yn ffordd bwysig o leddfu pwysau ar y rhwydwaith carthffosiaeth ac yn eu tro, yn cael effaith gadarnhaol ar faterion fel gorlifoedd carthffosiaeth gyfun, yn ogystal â dal llawer o lygryddion oddi ar briffyrdd ac arwynebau caled eraill. Gyda'n cyfundrefn draenio cynaliadwy, byddwn yn cynyddu ac yn gwella'r mannau agored cymunedol yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd, gan wneud Cymru'n lle glanach, gwyrddach i fyw a gweithio ynddo ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.   

Ac yn y cyfamser, gan ddychwelyd at ein hafonydd, fe wyddom o dystiolaeth ddiweddar a gyhoeddwyd gan Dŵr Cymru ac a ddilyswyd gan CNC mai defnydd tir gwledig yw prif gyfrannwr llygredd ffosfforws mewn chwech o naw afon ardal cadwraeth arbennig Cymru—62 y cant—gan gynnwys pedair o'r pum afon ardal cadwraeth arbennig sy'n methu cyflawni'r targedau ffosffad ar hyn o bryd. Mae'n amlwg fod llygredd ffosfforws yn dominyddu ystyriaethau cynllunio defnydd tir mewn nifer o ardaloedd sydd at ei gilydd yn wledig, gan fod lefelau llygredd yn uwch na'r trothwyon a bennwyd. Mae hyn yn atgyfnerthu ymhellach yr angen am ddull tîm aml-sector yng Nghymru i sicrhau dyfodol hirdymor adnoddau dŵr Cymru. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, ym mis Gorffennaf, yn cynnwys sawl cam gweithredu i helpu i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys meincnodi, rheoli pridd a bioddiogelwch. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu i wella cynhyrchiant ffermwyr, lleihau costau a gwella cynaliadwyedd busnesau fferm yn unol â gofynion y rheoliadau adnoddau dŵr newydd. Yn y cyfamser, ochr yn ochr â CNC a Dŵr Cymru, rydym hefyd yn archwilio dull unedig o weithredu cydsynio ar lefel dalgylch ar gyfer afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu cyrraedd y safon, rhywbeth a fydd yn ofynnol fel rhan o gynllun gweithredu'r Prif Weinidog ar gyfer llygredd afonydd. Mae hyn yn cynnwys adolygu dulliau mewn gweinyddiaethau eraill a gwell dealltwriaeth o'r fframwaith rheoleiddio sydd ei angen i gefnogi dulliau trwyddedu ar lefel dalgylch ar gyfer afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu cyrraedd y safon.

Nid sectorau allweddol yn unig sydd â rôl i'w chwarae, serch hynny. Mae ein dull tîm Cymru hefyd yn cynnwys y cyhoedd, ac rwy'n awyddus hefyd i'n gweld yn parhau i fanteisio ar ein cynnydd i ystyried a denu gwyddoniaeth dinasyddion lle bo hynny'n briodol. Mae'r persbectif ychwanegol hwn yn ein helpu i ystyried a deall yr heriau sy'n ein hwynebu yn well, ac rwy'n ddiolchgar iawn i CNC am fynd ar drywydd y gwaith hwn.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn honni yma ein bod wedi datrys ein holl broblemau adnoddau dŵr eto. Mae gennym ffordd bell iawn i fynd. Ond mae'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma wedi digwydd oherwydd ein bod wedi defnyddio ein pwerau i benderfynu ar ein huchelgais ein hunain, i osod ein cyfeiriad ein hunain, ac i gyflawni ar gyfer anghenion ein cymunedau ein hunain, a dyna sydd bwysicaf. Diolch.

16:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr, pawb, am gymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma.

Mewn ysbryd o undod, Janet, rwyf am ganolbwyntio wrth gloi ar yr hyn rwy'n cytuno â chi yn ei gylch, ac rwy'n cytuno â chi'n llwyr ynghylch yr angen am eglurder—nid wyf yn siŵr ein bod wedi cael hynny heddiw—eglurder i ni fel Aelodau o'r Senedd, i'r cwmnïau dŵr, ac yn bwysicach, i bobl Cymru. Fel y dywedodd Mike Hedges, model aflwyddiannus yw preifateiddio dŵr, fel y cytunai Delyth a Jane Dodds. Mae'n dda fod Mike, yn ei araith ddiddorol arferol, wedi dyfynnu Winston Churchill fel rhywun a fyddai'n cefnogi ein safbwynt. Rwy'n cytuno â Mike, ac mae Mike yn dweud hyn yn gyson yn y Siambr, nad yw'r model anghymesur o ddatganoli yn gweithio. Ni allaf ddeall unoliaethwyr sydd o blaid datganoli ac sy'n cefnogi model anghymesur o ddatganoli. Eithriadoldeb Prydeinig ydyw, fel y dywedodd Mike, gan ddyfynnu'r diweddar Steffan Lewis.

Nawr, dechreuodd Jane Dodds drwy wahodd Mike i ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ni allaf weld o'r fan hon a yw Mike wedi croesi'r llawr i eistedd wrth ymyl Jane, ond boed hynny fel y bo, cytunai'r ddau ar y rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill yn y ddadl hon. Rhoddodd Jane enghreifftiau i ni o ble y gellid gwario arian ychwanegol yng Nghymru i wella seilwaith a chynorthwyo drwy hynny y bobl fwyaf anghenus yng Nghymru, y bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn wrth weld eu biliau'n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Hefyd, nododd Jane bwynt pwysig ynglŷn â'r cynnydd mewn atebolrwydd gyda datganoli dŵr yn llawn. Nid yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn atebolrwydd digon da. Pwy sy'n dwyn y cwmnïau hyn i gyfrif yn llawn mewn perthynas â charthion, mewn perthynas â llygru ein dyfrffyrdd?

Gwnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa ni’n gryf iawn am anghyfiawnderau’r gorffennol, a’r emosiynau cryf sydd o hyd yn cael eu teimlo heddiw. Ac fel dywedodd hi, i ddilyn beth ddywedodd Mike, mae anghymesuredd datganoli yn gadael Cymru i lawr unwaith eto. Rŷn ni’n cael ein gadael ar ôl unwaith eto, fel gyda’r Crown Estate, fel gyda chyfiawnder. Pam mai Cymru yw’r poor relation o hyd? Pam mai ni sy’n colli mas o hyd ac o hyd? Dyw’r status quo, fel gwnaeth Delyth Jewell yn ein hatgoffa ni, ddim yn gweithio, ac mae’n drueni gweld rhesymau ideolegol yn San Steffan yn cael eu defnyddio i rwystro newid a fyddai’n gwella bywydau pobl Cymru.

Weinidog, rwy'n falch eich bod yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn. Gallwn hefyd gytuno bod angen i gwmnïau dŵr wella'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau i bobl Cymru, fel y soniodd Jane Dodds yn ogystal. Rwy'n derbyn y farn na ellir gwneud pethau dros nos wrth gwrs; fodd bynnag, mae hyn wedi bod yn destun trafodaeth ers 2017, a byddai amserlen yn ddefnyddiol iawn mewn perthynas â'r cynlluniau trosglwyddo.

Dywedodd David T.C. Davies, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn 2021,

'o ran ymdrin ag effaith llygredd ar ansawdd ein hafonydd... mae datganoli yn gwneud pethau'n fwy cymhleth.'

Mae datganoli'n gwneud pethau'n fwy cymhleth—dyna yw eu safbwynt nhw draw yn San Steffan. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd uno gyda'n gilydd i gytuno mewn gwirionedd mai diffyg datganoli sy'n gwneud pethau'n fwy cymhleth, ac sy'n ei gwneud yn fwy tebygol fod ein dyfrffyrdd yn cael eu llygru, a bod biliau pobl Cymru yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

Ac er gwybodaeth i Rhys, ni wnaeth Mike newid ei sedd a symud ar draws y Siambr. 

Gan nad oes gwelliant wedi'i gynnig, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig—[Torri ar draws.]

Nid wyf wedi gofyn eto. [Chwerthin.]

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

16:30

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1332 'Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod'

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1332, 'Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jack Sargeant.

Cynnig NDM8359 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1332 'Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod' a gasglodd 11,306 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf i'r Senedd hon drafod deiseb ynglŷn â'r wiwer goch, ac rydym yn gwybod yn iawn fod llawer o'r Aelodau yn y Siambr yn teimlo'n angerddol yn ei chylch. Rydym wedi ystyried dwy ddeiseb arall o'r blaen: P-06-1208, 'Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth'; a P-06-1225, 'Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir'. Lywydd, cwblhawyd y ddwy yn 2022, gydag ymatebion cadarnhaol gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru.

Lywydd, mae ein gwiwer goch sionc ein hunain, Mr Darren Millar, yn adnabyddus fel hyrwyddwr rhywogaeth swyddogol Cymru ar ran y wiwer goch. Ond rwy'n siŵr na fydd ar ei ben ei hun heddiw yn hyrwyddo pwysigrwydd dod o hyd i frechlyn i ddiogelu ein poblogaeth o wiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod, sy'n fygythiad dirfodol i'w goroesiad.

Crëwyd y ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw gan hyrwyddwr mawr arall y gwiwerod coch yng Nghymru, Dr Craig Shuttleworth. Mae'n dwyn y teitl, 'Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod', ac mae'n dweud, Lywydd:

'Mae feirws brech y gwiwerod yn cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd. Nid yw'r feirws yn eu niweidio nhw. O gael eu heintio, mae gwiwerod coch yn datblygu briwiau agored dros eu croen ac yn dioddef marwolaeth boenus o fewn pythefnos.

'Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 a 80 y cant o wiwerod coch Gwynedd mewn brigiad o achosion yn 2020/21...  

'Daeth cyllid Sefydliad Moredun ar gyfer ymchwil addawol i frechlyn i ben.

'Mae Cynllun Diogelu’r Gwiwerod Coch yng Nghymru... yn dangos bod y rhan fwyaf o wiwerod coch Cymru mewn coedwigoedd lle mae gwiwerod llwyd hefyd yn byw. Golyga hyn fod feirws y frech yn fygythiad mawr yng Nghymru...

'Ym Mangor, cafwyd nifer o achosion o feirws brech y gwiwerod yn y cyfnod 2017-2022. Daethpwyd ar draws cyrff gwiwerod coch mewn coetir ger Pont Britannia a Phont Grog Telford. Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yr haint yn croesi’r Fenai a lledaenu i Ynys Môn. Mae’r ynys yn gartref i boblogaeth fwyaf Cymru o wiwerod coch... 

'Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ymchwil, megis yr ymchwil ohiriedig i frechlyn gan Moredun/Wildlife Ark Trust'.

Lywydd, paratowyd 'Cynllun Diogelu’r Gwiwerod Coch yng Nghymru' yn 2018 gan fforwm gwiwerod Cymru. Mae'n cynnwys sefydliadau statudol, anstatudol a grwpiau gwiwerod lleol. Mae'n darparu diweddariad o'r camau gweithredu a osodwyd yn 2009. Mae Cam 5.4 yn dweud, 'Ymchwil i feirws brech y wiwer', a ddisgrifir fel—ac rwy'n dyfynnu,

'Hysbysu am yr angen i ariannu ymchwil i firws brech y wiwer a datblygu brechlyn, a hwyluso cydweithredu rhwng adrannau perthnasol gwahanol weinyddiaethau’r DU.'

Lywydd, mae'n tynnu sylw at gyllid i gefnogi ymchwil fel cyfyngiad. Rwy'n gwybod yn iawn fod galwadau am gyllid ychwanegol ar yr adeg hon yn anodd iawn. Gwn fod setliad y gyllideb yn un anodd eithriadol, ond Lywydd, mae hwn yn fater pwysig i bobl Cymru. Dyma'r trydydd tro yn y blynyddoedd diwethaf i ni drafod deiseb ar boblogaeth y wiwer goch yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at ein dadl gan yr Aelodau heddiw. Edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog. Rwy'n edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n fygythiad peryglus i boblogaeth y wiwer goch, ac rwy'n gobeithio y gallwn roi gobaith i hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch, Darren Millar, a chefnogwyr y wiwer goch ledled Cymru a ledled y byd, y bydd brechlyn yn cael ei greu i ddiogelu ein poblogaeth o wiwerod coch rhag y clefyd dinistriol hwn. Diolch yn fawr.

16:35

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei araith agoriadol ac am y ffordd y mae'r Pwyllgor Deisebau, sy'n cyflawni swyddogaeth bwysig iawn yma yn y Senedd, wedi gweithio'n galed i sicrhau bod sefyllfa'r wiwer goch wedi cael digon o sylw gan y Senedd hon?

Fel y dywedwyd eisoes, fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch, a hynny ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n bleser cynrychioli'r anifeiliaid blewog hynod hyn, sydd ymhlith fy hoff etholwyr oherwydd, wrth gwrs, mae un o'r poblogaethau olaf o wiwerod coch ar y tir mawr yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth. Ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, yr wyf yn aelod ohono, ac rwyf angen datgan diddordeb yn hynny o beth, yn ei wneud er mwyn hyrwyddo lles a chadwraeth y rhywogaeth yn fy etholaeth. Rwyf hefyd yn falch iawn, wrth gwrs, o'r gwaith y mae Sw Mynydd Cymru, sw cenedlaethol Cymru, yn ei wneud i gymryd rhan yn y rhaglen fagu gwiwerod coch, sydd wedi helpu i ailgyflwyno gwiwerod ar Ynys Môn ac yng Nghlocaenog ac i gryfhau poblogaethau o wiwerod coch mewn mannau eraill hefyd.

Felly, fe wyddom eisoes, o'r sylwadau agoriadol, fod brech y gwiwerod yn fygythiad dirfodol i boblogaeth y wiwer goch yma yng Nghymru. Mae hon yn rhywogaeth eiconig yn ein gwlad, a phan fo gennych chi y math o ystadegau rydym newydd eu clywed—fod tua 70 i 80 y cant o'r boblogaeth, poblogaeth brin hefyd, yng Ngwynedd wedi cael ei dileu mewn cyfnod byr iawn o ganlyniad i achosion o frech y gwiwerod—rydych chi'n sylweddoli pa mor ansicr yw'r sefyllfa i wiwerod coch ledled y wlad. Rwyf wedi ymweld â'r gwahanol boblogaethau yng nghanolbarth Cymru a Chlocaenog—ni welais yr un yn y canolbarth, ac roedd hynny'n ofid mawr i mi, gyda llaw. Os ydych chi eisiau mynd i'w gweld, ewch i Ynys Môn wrth gwrs, lle cafwyd llwyddiant ysgubol oherwydd y gwaith cadwraeth a wnaed, i reoli niferoedd gwiwerod llwyd a'u dileu o'r ynys, ond hefyd i geisio eu diogelu rhag gwiwerod llwyd sy'n dod i mewn dros y Fenai, sy'n creu bygythiad o drosglwyddo'r clefyd iddynt.

Un peth a wyddom yw bod rhywfaint o oleuni ar ben draw'r twnnel mewn perthynas â brechlyn, oherwydd mae brechlyn wedi'i ddatblygu mewn gwirionedd, ond yn anffodus, mae'n frechlyn eithaf cryf ac mae'n eu llorio i bob pwrpas am gryn amser cyn iddynt wella, ac mae angen ei wanhau er mwyn ei wneud yn fwy diogel. Ond mae angen ymchwil bellach ar y gwaith gwanhau hwnnw gyda'r brechlyn a dyna pam ein bod yn gwneud y galwadau hyn am ymchwil a chyllid gan Lywodraeth Cymru—ac yn wir, mae'n rhaid imi ddweud, mae angen i Lywodraeth y DU roi ei dwylo yn ei phocedi ac mae angen i Lywodraeth yr Alban roi ei dwylo yn ei phocedi hefyd—er mwyn ariannu'r ymchwil hwn i'w gwblhau, fel y gallwn wneud y math o gynnydd y mae angen inni ei wneud i sicrhau dyfodol y rhywogaeth hon yma yng Nghymru.

Gyda llaw, oherwydd y gwaith y mae wedi'i wneud, rwy'n credu mai Sefydliad Ymchwil Moredun, yn ôl pob tebyg, sydd yn y sefyllfa orau i barhau i wneud y gwaith ymchwil hwnnw. Oherwydd gwaith yr ymddiriedolaeth gwiwerod coch ar hyn a'r gwaith a wnaed gan y sefydliad y gwnaeth Ei Fawrhydi y Brenin helpu i'w sefydlu pan oedd yn Dywysog Cymru, sef Cytundeb Gwiwerod y DU, rydym yn gwybod eu bod wedi amcangyfrif bod cost cwblhau'r ymchwil hon oddeutu £400,000. Nawr, rwy'n derbyn bod £400,000 yn llawer o arian—iawn? Mae'n llawer o arian pan ydych chi'n ceisio dod o hyd i arian i ariannu pethau pwysig eraill hefyd. Ond yn ôl trefn pethau, gyda maint cyllidebau'r Llywodraeth, ac os oes modd sicrhau cydweithio rhwng y Llywodraethau ledled y DU, rwy'n siŵr y gallwn ddod o hyd i'r arian hwn fel y gallwn helpu i ddiogelu dyfodol y gwiwerod hyn.

Ac rydym angen penderfyniad ar hyn ar frys, oherwydd nid oes gan y gwiwerod coch hyn lawer o amser. Mater o amser yw hi, yn anffodus, cyn y bydd gwiwer lwyd yn croesi'r Fenai ac yn trosglwyddo brech y gwiwerod i'r boblogaeth o wiwerod coch ar Ynys Môn. Ac os na fyddwn yn ofalus, byddwn yn colli 70 i 80 y cant o'r boblogaeth honno nes y bydd mor denau fel na fydd yn hyfyw. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithredu'n gyflym, ac rwy'n gobeithio, Weinidog, y gallwch gadarnhau heddiw eich bod yn barod i wneud eich rhan gyda rhywfaint o gyllid cymesur er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu dyfodol y rhywogaeth hon yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at eich cyfraniad i'r ddadl.

16:40

Diolch yn fawr iawn i Craig o'r Red Squirrels Trust Wales am ddechrau'r ddeiseb yma. Dwi'n ei longyfarch o am lwyddo i gasglu digon o lofnodion.

Da iawn am sicrhau bod digon o enwau wedi cyrraedd y ddeiseb honno i sbarduno'r ddadl hon heddiw. Ysgrifennais at y Gweinidog am y ddeiseb rai misoedd yn ôl, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i'w thrafod heddiw.

Gwyddom fod gwiwerod coch yn gysylltiedig ag Ynys Môn yn bennaf, mae'n debyg, ac wrth gwrs, mae'n destun gofid fod y teitl hyrwyddwr rhywogaeth wedi cael ei gymryd gan Darren Millar cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn. Ond er mwyn ein ffrind bach blewog, rwy'n hapus i weithio gyda Darren Millar a phob un ohonom ar draws y Siambr i wneud yn siŵr fod y wiwer goch yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arni. Rwyf hefyd, wrth gwrs, yn nodi fy nghefnogaeth i'r frân goesgoch, yr wyf yn falch iawn o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth iddi.

Mae'r broblem sylfaenol yn un syml, fel rydyn ni wedi ei glywed. Y wiwer lwyd sy'n cario brech y wiwer, ond y wiwer goch ydy'r un sydd yn dioddef fwyaf ac yn cael ei tharo y fwyaf andwyol gan y frech yma. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi ymateb i hynny a chymryd camau ymarferol i geisio ymateb pan fo'r wiwer lwyd yn fygythiad, yn dal gwiwerod llwyd a'u trapio nhw ac yn y blaen. Mae honno wedi bod yn arf gyffredin, difa'r wiwer lwyd oherwydd ei bygythiad hi, ond, wrth gwrs, cyn gynted ag y mae'r gwaith hwnnw'n arafu mae'r broblem yn dod yn ei hôl. Rydyn ni'n methu, dwi'n meddwl, â dibynnu ar hen ddatrysiadau rŵan, ac mae'n rhaid edrych ar opsiynau newydd.

Mae rhai wedi awgrymu cyflwyno dulliau atal cenhedlu, er enghraifft, ar y wiwer lwyd, eraill yn awgrymu cyflwyno'r bele, neu'r pine marten, er mwyn rheoli niferoedd y wiwer lwyd, ond dyna'n union ydy'r rhain, yndê, dulliau i leihau niferoedd y wiwer lwyd yn hytrach na dulliau i amddiffyn y wiwer goch go iawn. Ac mae o'n fygythiad go iawn, ydy. Rydyn ni'n sôn am bridgeheads i stopio'r wiwer lwyd rhag dod i Ynys Môn. Rydyn ni'n gweld tystiolaeth bod y wiwer lwyd yn gallu nofio ar draws y Fenai, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n chwilio am y datrysiadau gorau, a does dim amheuaeth gennyf fi fod yna obaith go iawn pe bai'r buddsoddiad yn cael ei wneud mewn cwblhau y gwaith o ddatblygu'r brechlyn ar gyfer brech y wiwer.

Rydyn ni wedi clywed yn barod fod y gwaith wedi cael ei wneud yn barod, a'r Moredun Research Institute yn benodol wedi gwneud gwaith arweiniol iawn ar hyn rhwng 2011 a 2014, dwi'n meddwl. Roedd yna gryn waith wedi cael ei wneud, a'r treialon ar y pryd yn dangos canlyniadau addawol iawn o ran gostwng y nifer o wiwerod coch oedd yn marw o'r feirws. Ond, yn anffodus, mi ddaeth y gwaith yna i ben oherwydd diffyg cyllid, a bron i ddegawd yn ddiweddarach, dydyn ni ddim pellach ymlaen rŵan o ran datblygu'r brechlyn hwnnw.

Dwi a Phlaid Cymru yn sicr yn cefnogi'n fawr y galwadau yn y ddeiseb yma ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r ymchwil, parhad y gwaith oedd wedi cael ei wneud yn flaenorol. Oes, mae yna ddyletswydd ar Lywodraethau rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i gyfrannu hefyd, achos mae hon yn broblem sy'n effeithio ar yr ynysoedd yma i gyd.

Dwi'n caru gweld y wiwer goch. Dwi'n lwcus, mae hi'n dod at y tŷ acw erbyn hyn, fel maen nhw wedi cynyddu yn eu niferoedd ac mae o'n fy nghyffroi i bob tro dwi'n eu gweld nhw. Yn y cyfamser, tan ydyn ni'n cael yr addewid—gobeithio y cawn ni o heddiw yma—o barhad yr ymchwil, mi wnaf i barhau i drio bod yn bencampwr, er nad yn bencampwr swyddogol, a dwi'n gobeithio y bydd y Senedd yma a'r Llywodraeth yn barod i wneud yr hyn sydd ei angen i fod yn bencampwr go iawn dros ddyfodol y rhywogaeth yma.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebydd, Dr Craig Shuttleworth, am ei ymroddiad parhaus i ddiogelu gwiwerod coch ac am ymgysylltu â phroses ddeisebau'r Senedd fel y gall drafod y pwnc pwysig hwn heddiw. Yr unig reswm y mae gennym boblogaeth hyfyw o wiwerod coch yng Nghymru o hyd yw oherwydd gwaith cannoedd o arbenigwyr a gwirfoddolwyr ymroddedig ledled y wlad. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd oedd hi i'r rhai sy'n gweithio yng ngogledd Cymru weld effaith ddinistriol brech y gwiwerod yn 2021, pan gollodd Gwynedd 80 y cant o'i gwiwerod coch—ergyd enfawr ar ôl blynyddoedd lawer o waith caled. Gan nad yw gwiwerod llwyd yn cael eu niweidio gan frech y gwiwerod, maent yn gweithredu fel fector perffaith i'r feirws, gan ei ledaenu i boblogaethau bregus o wiwerod coch. Mae hyn wedi golygu bod Ynys Môn wedi gallu rhwystro'r lledaeniad drwy ganolbwyntio ar atal gwiwerod llwyd rhag ailsefydlu ar yr ynys drwy fesurau rheoli o fewn ardal gyfagos 150 cilomedr sgwâr yng Ngwynedd.

Mae'n bwysig dathlu llwyddiannau poblogaeth y wiwer goch ar Ynys Môn. Ym 1997, 40 o wiwerod coch yn unig oedd ar ôl, ond yn dilyn lledaenu naturiol a chyfres o gamau ailgyflwyno, mae poblogaeth y gwiwerod coch llawndwf bellach oddeutu 700. Ac mae Dr Shuttleworth wedi amcangyfrif bod twristiaid sy'n dod i weld y gwiwerod coch yn Ynys Môn yn werth tua £1 filiwn y flwyddyn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid clefyd yw'r unig fygythiad difrifol i wiwerod coch; mae mathau eraill o fygythiad yn cynnwys cael eu lladd gan gathod a chŵn domestig, cael eu taro gan geir ar ffyrdd, a cholli a darnio cynefinoedd.

Mae gwarchodfa natur Penrhos yng Nghaergybi mewn perygl ar hyn o bryd oherwydd mae'r datblygwyr Land and Lakes wedi cael caniatâd i godi parc gwyliau ar y safle. Mae'r warchodfa natur yn gynefin pwysig i wiwerod coch, yn ogystal â bod yn hafan i drigolion lleol ei mwynhau. Bydd y datblygiad yn golygu cwympo 27 erw o goed—cynefin y gwiwerod coch—a fydd yn cael effaith ddifrifol ar gartref y gwiwerod, gan gael gwared ar lawer o'u nythod a'u rhedfeydd. Credaf yn gryf y dylid ailwerthuso'r effaith y bydd prosiect datblygu yn ei chael ar fywyd gwyllt lleol ar adeg unrhyw oedi yn y gwaith datblygu. Gellir gohirio rhai am flynyddoedd, ac rwy'n gobeithio y bydd CNC yn ailasesu unrhyw ganiatâd ar gyfer Penrhos.

Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, a gofynnaf i'r Aelodau edrych ar arddangosfa'r gylfinir yn y Senedd, sy'n cynnwys corff y carfil diwethaf, a fenthyciwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru. [Torri ar draws.] Mae'n debyg iddo gael ei dagu gan gasglwr, a dyna ni. Digwyddodd hynny yn ystod oes Fictoria, ac mae hwnnw yma nawr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried edrych ar ymchwil brechlyn gyda Llywodraethau eraill ac yn diogelu'r wiwer goch annwyl sydd mewn perygl.

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd yr holl Aelodau, mae brech y gwiwerod yn fygythiad gwirioneddol i boblogaethau gwiwerod coch. Mae o leiaf dri chlwstwr o achosion wedi bod mewn gwiwerod coch yn ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn, lle mae nifer fawr o wiwerod coch wedi cael eu rhyddhau yn dilyn bridio caeth. Ond mae yna heriau sylweddol ynghlwm wrth ddatblygu a darparu brechlyn at frech y gwiwerod, ac mae nifer o'r Aelodau eisoes wedi'u crybwyll. Yn 2009, dechreuodd Sefydliad Moredun yn yr Alban ar y gwaith o ddatblygu brechlyn, gwaith a ariannwyd gan Wildlife Ark Trust. Nodwyd bod un brechlyn penodol yn effeithiol, ond yn anffodus roedd iddo sgil-effeithiau difrifol hefyd. Roedd angen mwy o waith, ond nid oes sicrwydd y bydd y brechlyn yn dod yn hyfyw. Yn anffodus, daeth cyllid ar gyfer y datblygiad hwnnw i ben yn 2013, ac ni chynhaliwyd unrhyw ymchwil pellach wedyn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a fy swyddogion wedi cael gwybod, drwy Gytundeb Gwiwerod y DU, fod Wildlife Ark Trust wedi cael dyfynbris gan sefydliad ymchwil i greu brechlyn mewn 3.5 mlynedd ar gost o £361,000 yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym. Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw fanylion pellach am y sefydliad ymchwil, y llwybr brechlyn posibl i'r farchnad neu lwybr ar gyfer ei weinyddu, system ddarparu na chost ehangach cofrestru a chyflwyno.

Yn amlwg, byddai angen i system weinyddu neu gyflwyno'r brechlyn fod yn rhan o'r ymchwil, a byddai honno'n gost ychwanegol ar ben y gost o ddatblygu'r brechlyn. Rydym yn credu y byddai brechlyn drwy'r geg, y gellid ei ddarparu drwy abwyd, yn fwyaf addas ar gyfer poblogaethau gwiwerod. Profwyd bod hynny'n llwyddiannus wrth drin y gynddaredd, ond nid ydym yn gwybod—os yw'r Aelodau'n gwybod mwy na fi, buaswn yn croesawu clywed ganddynt, ond nid oes unrhyw un wedi sôn—a fyddai'r math o frechlyn a gâi ei ddatblygu yn addas i'w roi drwy'r geg. Os na, mae angen trapio a gweinyddu'r brechlyn yn rheolaidd er mwyn cynnal digon o imiwnedd yn y boblogaeth. Byddai hynny ond yn angenrheidiol mewn ardaloedd lle mae gwiwerod coch a llwyd yn debygol o ddod i gysylltiad â'i gilydd, ond mae hynny'n golygu rhan fawr o ganolbarth Cymru, yn amlwg.

Mae Cytundeb Gwiwerod y DU wedi crynhoi eu pryderon fel a ganlyn: y gost ar gyfer darparu brechlyn brech y gwiwerod yn flynyddol i boblogaethau gwyllt; pwy fyddai'n cynhyrchu un yn y sypiau cymharol fach a fyddai'n angenrheidiol er mwyn iddo fod yn hyfyw; a allai'r brechlyn arwain at fwtaniad yn y feirws, gan ei wneud yn haws i'w ddal o bosibl neu achosi i'r brechlyn fod yn aneffeithiol; ac a allai defnyddio brechlyn feirws byw arwain at drosglwyddo'r clefyd i rywogaethau eraill. Yn amlwg, mae'r rhain yn gwestiynau y mae angen inni eu hateb os ydym am symud ymlaen.

Nid brechlyn yw'r unig ffordd o liniaru effaith y clefyd, a gwn fod yr Aelodau i gyd yn gyfarwydd â gweithredu i fynd i'r afael â phwysau sy'n effeithio ar wiwerod coch a'u cynefinoedd, ac maent yn helpu i adeiladu cadernid ecolegol o ran hynny a bygythiadau eraill.

Erbyn hyn, poblogaeth gwiwerod coch canolbarth Cymru yw'r unig boblogaeth frodorol yng Nghymru sydd heb ei chryfhau drwy ryddhau anifeiliaid wedi'u bridio mewn caethiwed o fannau eraill yn y DU. Mae gwiwerod canolbarth Cymru wedi'u gwasgaru'n eang ac maent yn anodd dod o hyd iddynt. Ni fu unrhyw achosion hysbys o frech y gwiwerod yn y boblogaeth ddwysedd isel hon ers i'r monitro ddechrau o leiaf ddau ddegawd yn ôl. Dros yr un cyfnod, mae poblogaethau gwiwerod llwyd wedi cael eu rheoli, ac er bod rhai gwiwerod llwyd wedi profi'n bositif am frech y gwiwerod, nid yw'n ymddangos bod ei ledaeniad yn eang. Dywedodd staff yr ymddiriedolaeth natur sy'n rheoli prosiect gwiwerod coch y canolbarth y byddai defnyddio brechlyn o'r fath ar boblogaeth y canolbarth o wiwerod coch yn hynod o anodd. Ni cheir digon o wybodaeth am faint y boblogaeth, a byddai dod o hyd i unigolion i ddarparu brechlyn yn heriol iawn yn wir.

Pe bai'r Senedd yn ystyried buddsoddi'r symiau sylweddol sydd eu hangen i ddatblygu'r brechlyn a dulliau cyflwyno, mae tîm canolbarth Cymru yn Ymddiriedolaeth Natur Cymru yn cynghori y gellid cyfeirio'r adnoddau'n well drwy gynyddu rheolaeth ar wiwerod llwyd a negeseuon cyhoeddus cadarnhaol i gefnogi gwaith cadwraeth gwiwerod coch. Er mwyn bod yn llwyddiannus, rhaid cyfuno rheolaeth ar wiwerod llwyd ag adfywio cynefinoedd. Dylai hyn olygu adfywio nid yn unig o ran cadwraeth y wiwer goch a choedwigaeth, ond o ran y materion cadwraeth ehangach a'r argyfwng natur a hinsawdd. Mae diogelu'r gwaith o ailblannu coed a chreu coetiroedd newydd yn arbennig o bwysig yn hynny o beth.

Os yw gwaith y canolbarth gyda gwiwerod coch yn llwyddiannus, mae eu poblogaeth yn debygol o gynyddu. Fel arfer, byddai hyn yn ei dro yn cynyddu'r risg y byddai'r haint yn lledaenu, er yn y canolbarth, oherwydd maint yr ardal a natur y cynefin, mae'n annhebygol y gwelir poblogaethau dwysedd uchel. Gwyddom o ddata o'r Alban y gall dwysedd poblogaeth o un i ddwy wiwer goch yr hectar fod yn sefydlog mewn cynefin o ansawdd da iawn, ond yn anffodus nid yw cynefin canolbarth Cymru o ansawdd da iawn eto, er ein bod yn gobeithio wrth gwrs y daw i fod felly yn y dyfodol.

Fforwm gwiwerod Cymru yw mecanwaith Llywodraeth Cymru a CNC ar gyfer ystyried pob agwedd ar reoli gwiwerod llwyd a chadwraeth gwiwerod coch. Fel rhan o'r fforwm hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu'r brechlyn ochr yn ochr â mesurau cadwraeth eraill i ddiogelu a hyrwyddo gwytnwch poblogaethau gwiwerod coch. Felly, i fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn diystyru hynny o gwbl. Yn sicr, rydym eisiau ystyried ei wneud, ond carwn awgrymu ein bod yn nodi'r ddeiseb a'i chyfeirio at fforwm gwiwerod Cymru i'w hystyried ymhellach fel rhan—[Torri ar draws.] Ewch chi, Darren.

16:50

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n hapus iawn i glywed y byddwch yn ei drafod gyda'r fforwm gwiwerod coch ac y byddwch hefyd yn ystyried cyllid posibl ar gyfer brechlyn yn y dyfodol. A gaf fi ofyn i chi'n uniongyrchol, serch hynny: a wnewch chi ystyried cydweithio â'ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar ddull cydweithredol, o ystyried bod yna boblogaethau gwiwerod coch ym mhob un o wledydd y DU?

Gwnaf, yn sicr, a hoffwn fod yn glir iawn, rydym eisiau atebion i'r cwestiynau rwyf newydd eu darllen, fel rydych chi, fel y mae pawb arall. Felly, gallwch ddeall, os oes rhaid i ni drapio pob gwiwer ddwywaith y flwyddyn i roi'r brechlyn iddynt, yna ni fydd hynny'n digwydd. Felly, mae'n rhaid inni ddatblygu un y gellir ei roi mewn abwyd, mae'n rhaid inni wybod ei fod yn effeithiol, mae'n rhaid inni wybod nad yw'n gwneud yr holl bethau hynny—. Nid wyf yn arbenigwr ar hynny, ond rydym i gyd yn gwybod beth y gallai ddigwydd o ganlyniad i'r profiad COVID-19 rydym i gyd wedi'i gael.

Felly nid wyf yn ei erbyn o gwbl. Rydym yn hapus iawn i gydweithio arno, ond rydym yn cymryd cyngor Wildlife Ark canolbarth Cymru. Maent eisiau ei ystyried yn rhan o'r mesurau cadwraeth ehangach, ac yn y rhyngweithio rydym wedi'i gael gyda nhw, maent yn bryderus iawn fod angen hyrwyddo'r mesurau rheoli gwiwerod llwyd, sy'n anodd ond sydd angen eu gwneud, i'r cyhoedd yn ehangach fel rhywbeth y mae angen ei wneud, ac mae angen adfer cynefinoedd, ac mewn gwirionedd, hyd yn oed pe byddech yn cael gwared ar frech y gwiwerod yn llwyr o'r boblogaeth, byddai'r gwiwerod llwyd yn parhau i gynyddu a'u trechu oni bai ein bod yn gwneud yr holl bethau eraill hynny hefyd. Felly, mae'n ymwneud â chymesuredd, onid yw?

Felly, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn ei ddiystyru o gwbl, ond rwy'n gofyn i'r Senedd a Phwyllgor Deisebau'r Senedd ei gyfeirio at fforwm gwiwerod Cymru i'w ystyried ymhellach fel rhan o'n strategaeth ehangach ar gyfer cadwraeth gwiwerod coch yr ydym yn cydweithio arni ledled y DU. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, a'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'n fy synnu'n aml cymaint o bŵer sydd gan y wiwer goch i ddod â phobl at ei gilydd. Rwy'n credu ei bod yn foment hanesyddol yn y Senedd pan welwn bobl fel Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ac arweinydd Plaid Cymru yn dod at ei gilydd ac yn cytuno ar bynciau o'r fath. Rwy'n credu bod y wiwer fach goch o Orllewin Clwyd wedi dweud mai nhw oedd rhai o'i hoff etholwyr. Rwy'n siŵr eu bod nhw wedi dotio arno ef lawn cymaint ag y mae ef wedi dotio arnynt hwy.

Yn ei gyfraniad, soniodd Mr Millar am bwysigrwydd Sŵ Mynydd Cymru a'r gwaith y maent yn ei wneud yno i gefnogi'r boblogaeth. Clywsom gan arweinydd Plaid Cymru fod poblogaeth fwyaf y wiwer goch ar Ynys Môn wrth gwrs, a chawsom ein hatgoffa gan Carolyn Thomas, am ddinistr feirws brech y gwiwerod yn wir, ond am y bygythiadau eraill hefyd. Soniodd Carolyn Thomas hefyd am y datblygiad ar Ynys Môn. Rwy'n credu mai datblygiad Penrhos ydoedd, sydd hefyd, rwy'n credu, Lywydd, yn destun deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Senedd, felly bydd y pwyllgor yn ymateb i honno maes o law. Yn ymyriad Mr Millar i'r Gweinidog, galwodd am gydweithio rhwng pob Llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig, a chytunodd y Gweinidog wrth ymateb ac fe gafwyd ymrwymiad cadarn yno.

Ond mae'n iawn, onid yw—? Mewn cyfnod lle mae cymaint o alwadau cystadleuol am gyllid, rwy'n deall bod rhoi ymrwymiad i gyllid ar lawr y Senedd yn anodd, ac i Weinidogion sydd yn y sefyllfaoedd anodd hynny, ond mae bodolaeth fforwm gwiwerod Cymru yn bwysig. Clywais ymatebion y Gweinidog i rai o'r cwestiynau y mae angen eu hateb, yr hoffech chi iddynt gael eu hateb, yr hoffem ni iddynt gael eu hateb hefyd, a rhai o'r heriau mewn perthynas â chyflwyno'r brechlyn, ond dyna lle gellid trafod hyn ymhellach. Rwy'n siŵr fel pwyllgor, aelodau'r pwyllgor—

16:55

Rwyf wedi mwynhau'r ddadl y prynhawn yma ar y wiwer goch. Mae'n dangos, mewn gwirionedd, sut y gall y pethau hyn ddod â phobl ynghyd. Rwy'n llwyr dderbyn y pwynt y mae Cadeirydd y pwyllgor yn ei wneud, ond a fyddai'n bosibl i'r Pwyllgor Deisebau ddychwelyd at y mater hwn fel nad yw'n cael ei golli ac fel bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn parhau i gael gwybod am waith y fforwm gwiwerod, ac fel y gallwn barhau wedyn i fonitro'r gwaith i sicrhau bod yr hyn rydym eisiau ei weld yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd?

Rwy'n ddiolchgar am yr ymyriad gan Alun Davies. Yn sicr, fe fyddwn—[Torri ar draws.] Rwy'n clywed Tom Giffard yn dweud 'diweddariadau wythnosol'. Nid wyf yn hollol siŵr y gallaf addo hynny ar lawr y Siambr, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bydd y ddeiseb hon yn dod yn ôl i'r pwyllgor, lle byddwn yn ei hystyried eto. Rwy'n siŵr fod Aelodau'r pwyllgor wedi clywed y cais gan Alun Davies. Byddwn yn ystyried hynny. Rwy'n siŵr y byddwn yn cyfeirio'r ddadl heddiw at fforwm gwiwerod Cymru, fel yr awgrymodd y Gweinidog hefyd, ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, boed hynny drwy drafodaethau y tu allan i'r Siambr neu drwy ddiweddariadau ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd.

Ddirprwy Lywydd, gallaf weld y rhybudd yn eich llygaid, felly ar ran y pwyllgor hoffwn ddiolch unwaith eto, i'r hyrwyddwr rhywogaeth arall, Dr Craig Shuttleworth, am ei ymgyrchu parhaus, i Bwyllgor Deisebau'r Senedd, ond hefyd ar gyfer y cyhoedd yn ehangach, ar rywogaeth y wiwer goch. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Asedau cymunedol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Eitem 8 y prynhawn yma yw'r ddadl gyntaf gan y Ceidwadwyr Cymraeg, ar asedau cymunedol. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8361 Darren Millar

Cefnogwyd gan Natasha Asghar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.

2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.

3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.

4. Yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) diogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r gymuned leol; a

b) cyflwyno Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Fel y dywed ein cynnig, mae asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. Gofynnwn felly i'r Senedd hon gydnabod bod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi, a galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned leol. Cydgynhyrchu go iawn sydd wrth wraidd hyn. Gan bwysleisio natur wirioneddol drawsnewidiol cydgynhyrchu wrth arwain y ddadl gyntaf yma ar gydgynhyrchu ddegawd yn ôl, dywedais nad

'rhyw ychwanegiad deniadol yw hynny ond ffordd newydd o weithredu ar gyfer y Llywodraeth yn ogystal ag ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion eu hunain.'

Fodd bynnag, er bod hyn yn ganolog, er enghraifft, i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, canfu adroddiadau olynol, gan gynnwys adroddiad gan Archwilio Cymru ym mis Ionawr, fod gwaith awdurdodau lleol ar gadernid cymunedol yn cael ei ddiffinio'n wael yn rhy aml, a bod y camau gweithredu yn rhy gul eu ffocws. Heb fonitro a gwerthuso effeithiol, rydym yn gweld uwch-swyddogion cyhoeddus yn gwthio'n ôl yn aml, oherwydd nad ydynt eisiau rhannu pŵer gyda'r bobl, yn unigol neu mewn cymunedau, gan honni ar gam fod y newid dull hwn yn anfforddiadwy, er bod ei wneud yn iawn yn arbed arian mewn gwirionedd, gan droi problemau'n atebion. Felly mae angen inni groesawu cydgynhyrchu'n llawn, gan symud y tu hwnt i rethreg ac ymgynghori, i wneud pethau'n wahanol yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau'n gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion.

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth gyda'r sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac entrepreneuriaid cymdeithasol eraill a'u grymuso, er mwyn helpu i ddarparu'r atebion i broblemau hirdymor ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd galluogi Cymru yn galw am ddatblygu strategaeth gymunedol drosfwaol hirdymor i helpu i rymuso pobl leol a sefydlu datblygu cymunedol sy'n seiliedig ar asedau fel egwyddor allweddol o fewn datblygu cymunedol, gan ddatgloi pobl ac asedau ffisegol, grymuso pobl y gymuned, a defnyddio cryfderau cymunedol presennol i adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ymgorffori'r egwyddor o gydgynhyrchu wrth lunio a darparu gwasanaethau lleol yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn fwy ymatebol i anghenion pobl.

Wedi'i ariannu drwy ddyraniad loteri, mae'r sefydliad datblygu cymunedol cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yn gweithredu rhaglen 'buddsoddi'n lleol' mewn 13 cymuned leol ledled Cymru. Ymwelais ag un yr haf hwn. Maent yn parhau i weithio o fewn tair thema allweddol: mwy o gydnabyddiaeth a hawliau, mwy o barch a mwy o fuddsoddiad i gymunedau. Yn eu briff i Aelodau newydd ar ôl etholiad 2021, roeddent yn nodi bod ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dangos eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu ac nad ydynt yn cael digon o adnoddau gan Lywodraeth leol a chenedlaethol. Maent wedi gwneud ymchwil ar faint o asedau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus a phreifat a gaiff eu rhedeg gan sefydliadau cymunedol, ac ar ymatebion cymunedol i'r pandemig. Ymunais â'u digwyddiad i lansio mynegai asedau cymunedol Cymru ddydd Llun yr wythnos hon. Datgelodd y gwaith ymchwil hwn fod 102 o ardaloedd llai gwydn nas nodwyd o'r blaen ledled Cymru. Mae'n dangos bod cymunedau sydd â llai o leoedd i gyfarfod, cymuned lai ymgysylltiol a gweithgar a llai o gysylltedd â'r economi ehangach yn profi canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol wahanol, o gymharu â chymunedau sydd â mwy o'r asedau hyn, a bod gan gymunedau sydd â llai o'r asedau hyn gyfraddau uwch o ddiweithdra. Roeddent yn dweud bod trigolion yn aml heb gymwysterau ac yn dioddef salwch hirdymor cyfyngus i raddau mwy nag ardaloedd yr ystyrir fel arfer eu bod yn ddifreintiedig ond sydd â'r asedau hynny, a Chymru gyfan. Hefyd, mae ganddynt lefelau is o weithgarwch cymunedol ac maent yn derbyn lefelau is o gyllid gan y wladwriaeth a chyllidwyr elusennol, er gwaethaf eu heriau cymdeithasol.

Er mwyn lleihau'r gwahaniaethau hyn sy'n seiliedig ar leoedd, mae eu chwe argymhelliad allweddol yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru greu cronfa cyfoeth cymunedol o Ddeddf Asedau Segur 2022 a rhaid sicrhau, drwy ganllawiau cryfach neu ddeddfwriaeth, fod gan gymunedau broses symlach i gymryd rheolaeth ar gyfleusterau cymunedol allweddol. Fodd bynnag, er gwaethaf Deddf Lleoliaeth y DU 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ei gwneud yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru gadw rhestr o asedau cymunedol, a chyflwyno hawl i gymunedau wneud cynnig am asedau o werth cymunedol, yn wahanol i Loegr. Mae ein cynnig, felly, yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau, fel yn yr Alban, nac unrhyw hawl i gynnig, herio neu adeiladu, fel yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i redeg ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned leol, a chyflwyno cronfa perchnogaeth gymunedol a'r hawl i wneud cynnig.

17:00

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:

a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;

b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac

c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn gyfarwydd â llawer o elfennau cadarnhaol a manteision asedau sy’n eiddo i’r gymuned ac a reolir gan y gymuned, ond hoffwn dynnu eich sylw at ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi ac sy’n canolbwyntio ar Loegr. Mae’n dangos bod gan ardaloedd mwy difreintiedig ond sydd â chrynodiad uwch o asedau cymunedol a gweithredu cymunedol well canlyniadau iechyd a lles, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd difreintiedig lle nad oes lefelau uchel o asedau cymunedol neu weithredu cymunedol. Mae hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau cynnar gwaith ymchwil parhaus gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mewn partneriaeth ag Oxford Consultants for Social Inclusion. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y bydd ardaloedd sydd fel arall yn ddifreintiedig a nodwyd gan ddefnyddio mynegai amddifadedd lluosog Cymru ac sydd ag asedau dinesig a chymunedol yn llai agored i gael eu nodi fel rhai sydd 'mewn perygl'. Felly, mewn geiriau eraill, mae cymunedau difreintiedig sydd ag asedau dinesig a chymunedol cryfach fel arfer yn fwy gwydn na'r rhai sydd hebddynt. Ceir tystiolaeth gadarn i gefnogi hyn hefyd.

Credaf mai rhywbeth arall sy'n werth ei grybwyll ac sydd wedi'i wneud yn glir mewn sesiynau tystiolaeth yw i ba raddau y mae cymorth a chyngor ar gael i grwpiau cymunedol sy'n awyddus i ymgymryd ag ased cymunedol. Yn y pen draw, mae'r cymorth ymhell o fod ar gael i bawb; mae’n amrywio ledled Cymru. Dywedodd grwpiau mewn sectorau fod angen cymorth ychwanegol di-gost. Hoffwn ailadrodd yr alwad am wella'r rhaglen cyfleusterau cymunedol fel y gall edrych ar feithrin gallu cymunedau. Mae angen inni adeiladu rhai o’r sgiliau meddalach sydd eu hangen o fewn grwpiau cymunedol i hwyluso eu gweithrediad parhaus, yn enwedig mewn perthynas â datblygu trosglwyddo asedau. Rhwystrau ariannol yw un o'r rhwystrau mwyaf y mae grwpiau cymunedol yn eu hwynebu wrth geisio caffael asedau, ond a chymryd y gallant gaffael ased, mae'r costau parhaus hefyd yn rhwystr enfawr. Felly, rhwystrau sydd gyda’i gilydd yn creu amgylchiadau anodd iawn i grwpiau wneud hyn.

I gloi, felly, ar dai a arweinir gan y gymuned, afraid dweud y gall cryfhau hawliau cymunedau helpu i dyfu’r mudiad tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru. Mae bellach yn bryd inni weld cydnabyddiaeth o’r angen am newidiadau i alluoedd pobl i gael mynediad at eu tir eu hunain, sy’n addas ar gyfer datblygu tai mawr eu hangen, sy’n fforddiadwy am byth, ac a arweinir gan y gymuned. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru helpu cymunedau i chwalu’r rhwystrau sy’n atal tai a arweinir gan y gymuned rhag bod yn ffurf prif ffrwd a phoblogaidd ar dai, fel sy’n wir ar draws llawer o Ewrop. Drwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n galluogi perchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau, bydd cymunedau’n gallu darparu cartrefi fforddiadwy sy'n ddiogel rhag yr hinsawdd ac sy’n cael eu datblygu a’u rheoli gan a gyda phobl leol i ddiwallu eu hanghenion yn fwy effeithiol nawr ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

17:05

Mae llawer yn y cynnig hwn sy'n gwbl dderbyniol, bydd pob un ohonom yn cytuno ag ef, ond hoffwn rannu rhai o'r pryderon sydd gennyf ynghylch sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn. Mark Isherwood, rydych wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhannu pŵer gyda’r bobl. Wel, credaf ein bod yn gwneud hynny drwy'r amser. Roeddech hefyd yn dweud bod swyddogion lleol—

Roeddwn yn cyfeirio at swyddogion cyhoeddus—y rhai sy'n gyfrifol mewn cyrff ledled Cymru am weithredu'r ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i chyflwyno.

Iawn. O'r gorau. Buaswn yn cyfaddef bod llawer o waith i’w wneud ar hynny. Rwy'n cytuno bod yn rhaid i wasanaethau lleol fod yn gyfrifol am anghenion pobl. Fy mantra personol i yw bod angen inni ail-lunio gwasanaethau yn gyson er mwyn diwallu anghenion pobl yn well; mae hynny'n rhywbeth y bûm yn ymladd drosto ers 20 mlynedd, ac mae'r gweision cyhoeddus gorau yn gwneud hynny drwy'r amser. Gyda chyllidebau cyni, dyna'r unig ffordd ar hyn o bryd y gwnawn wella gwasanaethau yn y tymor byr.

Mae cymunedau sy’n seiliedig ar leoedd yn wirioneddol bwysig, ac os oes gennym gynghorwyr lleol sy’n arweinwyr cymunedol da, dyna sy’n digwydd. Hoffwn ganmol y gwaith a wnaed gan Buffy Williams yn y gymuned cyn iddi ddod yma, a gwn fod y gwaith hwnnw’n dal i fynd rhagddo yn ardal y Rhondda.

Credaf fod rhywfaint o werth yn hawl y gymuned i gynnig am asedau, ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus. Mae adroddiad yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn tynnu sylw at y ffaith—ac roeddem yn gwybod hyn eisoes, mewn gwirionedd—fod gan bobl mewn cymunedau mwy cefnog ddigon o bobl ar gael i wirfoddoli a gwneud pethau da ar ran y gymuned, a'r cymunedau tlotach sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wirfoddolwyr i wneud y math hwn o beth, gan fod pobl dan gymaint yn fwy o bwysau, maent yn gorfod gweithio oriau llawer hirach ac nid oes ganddynt aelodau eraill o'u teuluoedd, efallai, i ofalu am eu plant tra byddant yn gwneud y math hwn o waith. Felly, yn sicr, mae'r her lawer yn fwy wrth gael cymunedau sy’n seiliedig ar leoedd ac arweinwyr cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig. Mae angen i bob un ohonom gydnabod hynny, ac mae angen inni fod yn deg yn y ffordd rydym yn ymdrin â hyn.

Nawr, o ran hawl cymuned i wneud cynigion, rwy'n credu y gallai gwesty Roath Park Hotel ar Heol y Ddinas fod wedi'i brynu gan y gymuned leol, ond wrth gwrs, nid yw’r bragdy'n dymuno gwneud hynny. Maent am ei werthu i'r cynigydd uchaf i gael ei ddymchwel, ac yna byddant yn adeiladu fflatiau erchyll yn ei le, er ei fod yn adeilad hyfryd. Gallai fod wedi cael ei drosi nid yn dafarn ond yn dai addas. Ac o ran argaeledd cynllunio, mae’n amlwg fod esiampl Cilgant Guildford, a’r ffordd y mae’r datblygwyr wedi anwybyddu dymuniadau’r gymuned i gadw ffasâd hardd iawn, a’i ddymchwel er mwyn gwneud yr elw mwyaf posibl drwy adeiladu bloc o fflatiau 30 llawr, yn gwbl ddigalon, ac yn arwydd o'r hyn y mae rhai o fy etholwyr wedi'i ddweud, sef bod Caerdydd yn dechrau troi'n un ganolfan siopa fawr gyda llawer o—

17:10

—adeiladau llety myfyrwyr. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod gan yr awdurdodau lleol y pwerau yn eu cynlluniau datblygu lleol i ddiogelu cymunedau rhag gorddatblygu a datblygiadau nad oes mo'u heisiau.

Fel y gwyddoch, rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am fy mhryderon nad yw asedau cymunedol yn cael eu diogelu’n ddigonol a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â chymunedau drwy beidio â’u grymuso'n ddigonol i allu cymryd perchnogaeth ar asedau sy'n bwysig iddynt a sicrhau eu bod yn goroesi er lles y gymuned. Yn anffodus, rydym yn wynebu lefel ddigynsail o golli lleoedd sydd wedi bod yn bwysig i gymunedau Cymru ers cenedlaethau. Mae'r rhain yn lleoedd y teimlant eu bod yn rhan fawr iawn o’u hunaniaeth a’u hanes lleol, ac maent yn eu colli oherwydd, hyd yn oed pe baent mewn sefyllfa i’w prynu, maent yn wynebu proses lafurus a thorcalonnus, fel y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi’i ddisgrifio, sef y mecanwaith trosglwyddo ased unigol.

Fel y gwelsom, nid oes gan awdurdodau lleol allu i ymdrin â chymhlethdodau a chyfreithlondeb trosglwyddo asedau. Nid yw cymunedau’n cael eu hannog nac yn cael hyder na chymorth proffesiynol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i redeg yr asedau hyn, ac felly yn amlach na pheidio, cânt eu gadael heb unrhyw ddewis ond gwylio eu hadeiladau annwyl naill ai’n dirywio ac yn dadfeilio'n ddim, neu'n cael eu prynu a'u dymchwel yn enw cynnydd ac adfywio. Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, 

'dangosodd ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun mai dim ond llond llaw o awdurdodau lleol a oedd ag unigolyn penodedig ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, ac roedd y straeon a glywsom wrth siarad â chymunedau yn negyddol iawn. Yn aml, roeddent yn dweud nad oedd proses glir ar waith ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol.'

Gan fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o hyn a heb wneud fawr ddim ymdrech i newid a gwella'r prosesau hyn, nac i annog awdurdodau lleol i wneud hynny, mae'n dangos nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn poeni dim am y peth. Y gwir trist amdani yw bod Llafur Cymru yn brin o syniadau a chymhelliant ar y mater hwn. Nid ydynt am gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru a fu'n llwyddiant yn Lloegr neu’r Alban, ac yn lle hynny, byddant yn dewis creu ac ailadrodd naratif o fethiant yng Nghymru—[Torri ar draws.]—gan daflu'r bai unwaith eto ar—

Ar y pwynt hwnnw, a ydych chi'n ymwybodol fod y fenter gymunedol gyntaf yn Ewrop wedi’i sefydlu yn Llanaelhaearn—Antur Aelhaearn—dan y diweddar anfarwol Carl Clowes? Sefydliad ffantastig. A’r dafarn gymunedol gyntaf oedd Tafarn y Fic, Llithfaen. Mae'r ddwy yn fy etholaeth i. Felly, mae gennym hanes hir a balch o ddatblygu mentrau cymunedol y dylem fod yn ei dyfu a'i ddatblygu. Ac er i Lywodraeth Cymru, cyn 2016, addo datblygu fframwaith ar gyfer grymuso cymunedau, onid yw'n drueni ein bod yn dal i aros am ddeddfwriaeth ar hyn, ac fe ddylent gamu i'r adwy a mynd ati i gyflwyno rhywbeth?

Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â sylwadau Mabon. Yn anffodus, caiff rhai unigolion eu gadael i ysgwyddo'r baich o wthio i achub yr adeiladau hyn pan ddylent fod yn cael cymorth gan y Llywodraeth i wneud hynny. Ond fel y gwelsom, mae’n enghraifft arall fyth o daflu'r bai ar San Steffan a honni nad yw wedi cael yr adnoddau i'w wneud. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yma yn credu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyfeiriad polisi gwahanol i Lywodraeth y DU yn fwriadol, er ein bod yn wynebu llawer o'r un heriau, nid yn unig i geisio cyfiawnhau ei bodolaeth ei hun, ond i feithrin ymdeimlad gwrth-Lywodraeth Geidwadol y DU.

Ac felly, i gloi, Lywydd, hoffwn ddweud bod ein cymunedau'n haeddu cymaint gwell na'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae’n drychinebus fod y Llywodraeth ddatganoledig rydym yn ei dioddef yn golygu nad yw cymunedau lleol yn cael eu grymuso'n ddigonol i achub y lleoedd sydd mor bwysig iddynt, a bod y prosesau o gael perchnogaeth ar asedau cymunedol a'u hatal rhag cael eu colli yn llawer rhy anodd i lawer o bobl eu cyflawni. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd pawb yma yn cefnogi’r cynnig a gyflwynwyd gan Darren Millar. Diolch.

17:15

Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Pentre, elusen gofrestredig. Yn 2016, caeodd Ysgol Gynradd Pentre yn Rhondda ei drysau am y tro olaf. Yn y blynyddoedd cyn ei chau, collasom ein siopau lleol, ein banc lleol, ac o ganlyniad i fesurau cyni David Cameron a George Osborne, collasom ein canolfan gymunedol hefyd. Anfonwyd disgyblion Ysgol Gynradd Pentre i ysgolion cyfagos i wneud ffrindiau newydd, ond nid oedd ganddynt unman i gyfarfod â'i gilydd ar ôl dod adref ar ddiwedd y dydd. Nid oedd fawr o ddewis gan drigolion oedrannus a arferai fynychu'r ganolfan gymunedol ond eistedd gartref, yn aml ar eu pen eu hunain.

Oddi yno y dechreuodd Canolfan Pentre ei thaith fel y trosglwyddiad asedau cyntaf yn Rhondda Cynon Taf. Fy uchelgais, heb fawr ddim profiad o redeg elusen cyn hyn, oedd creu gofod lle roedd pawb yn ein cymuned leol yn teimlo bod croeso iddynt, lle gallai plant gyfarfod ar ôl yr ysgol a lle gallai pobl hŷn gyfarfod i chwarae bingo neu dreulio awr allan o'r tŷ gyda chwmni. O ddim ond syniad i ddod â phobl ynghyd, rydym bellach yn cynnal dosbarthiadau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae gennym siopau cymunedol ac mae gennym ddarpariaeth iechyd meddwl sy'n gweithredu'n wythnosol.

Mae gan asedau cymunedol allu i drawsnewid ein cymunedau yn llwyr. Nid oes unrhyw beth yn waeth na gweld cragen adeilad a fu unwaith yn fwrlwm o weithgarwch, ond nid wyf am wadu'r ffaith ei bod yn daith hynod o anodd, yn enwedig ar ei chychwyn. O fy mhrofiad fy hun, hoffwn nodi'r pwyntiau hyn. Mae'r broses o gaffael yr ased yn ofnadwy o hir. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd o gwtogi'r amser y mae'r trosglwyddiad ei hun yn ei gymryd, ac yn fwy penodol, yr angen i gyfarwyddo eich cyfreithiwr eich hun. Ar ôl cael y les, daw'r ased yn ei gyfanrwydd yn gyfrifoldeb i'ch grŵp neu i'ch unigolyn. Yn aml, ychydig iawn o fanylion a geir am gyflwr yr adeilad neu a oes angen unrhyw waith atgyweirio, yn ogystal â chostau rhedeg yr adeilad wrth symud ymlaen.

Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio mai gwirfoddolwyr, gan amlaf, yw’r bobl sy’n gwneud cynigion am yr asedau hyn fel arfer, felly mae'n rhaid inni hefyd sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi gan bobl sydd â’r sgiliau cywir i symud y prosiect yn ei flaen a’i wneud yn gynaliadwy. Yn Rhondda, mae gennym dîm RhCT Gyda'n Gilydd sy'n darparu cymorth gyda'r agwedd hon. Nid wyf yn gwybod am unrhyw awdurdodau lleol eraill sydd â'r hyn sy'n cyfateb i'r gwasanaeth hanfodol bwysig hwn.

Yn olaf, credaf yn gryf y dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru greu gwefan siop un stop neu lyfryn canllaw, wedi'i lywio gan brofiadau grwpiau ledled Cymru sydd eisoes wedi caffael asedau cymunedol. Nid oes unrhyw beth yn waeth nag ansicrwydd. Teimlaf y byddai canllawiau yn ddefnyddiol iawn i helpu cymunedau i gymryd y cam cyntaf tuag at ddod â'n hasedau cymunedol yn ôl i ddwylo ein cymuned.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn, fe lansiwyd Cymunedoli Cyf, sef rhwydwaith cymunedol newydd efo'r bwriad o ysbrydoli a chynnig cyngor i unrhyw un sydd am weithredu ar lefel gymunedol. Yn ei hanfod, y nod ydy grymuso cymunedau, annog a chefnogi cymunedau i ddod at ei gilydd ar draws Gwynedd, ac i gefnogi'r cymunedau hynny lle nad oes yna arweinwyr naturiol, sef y pwynt mae rhai ohonoch chi wedi ei wneud heddiw. Mae yna 26 menter gymunedol yn rhan o'r rhwydwaith newydd yma, llawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i yn Arfon: yr Orsaf, Penygroes; Galeri, Caernarfon; Partneriaeth Ogwen; tafarndai yn nwylo'r gymuned; trafnidiaeth gymunedol; a chynlluniau ynni adnewyddol cymunedol. Menter Felinheli ydy un o aelodau Cymunedoli, un o'r aelodau mwyaf newydd, a gan fy mod i yn frodyr o’r pentref yma ar lan y Fenai, dwi yn datgan diddordeb y prynhawn yma.

Mae Menter Felinheli eisiau prynu marina. Do, mi wnaethoch chi glywed yn iawn—eisiau prynu marina’r pentref, marina gweithredol a phrysur, ond sydd bellach yn nwylo’r gweinyddwyr. Yn fanna oedd yr hen gei lle roedd llechi o chwarel Dinorwig yn cael eu hallforio i bob rhan o’r byd ar un adeg. Mae Menter Felinheli yn gorfod cystadlu'n uniongyrchol yn erbyn bidiau gan gwmnïau masnachol er bod yna gynllun busnes hyfyw ac ardderchog. Fe allai’r marina fod yn ased cymunedol gwerthfawr iawn, ac mae’n hynod o rwystredig y byddai’r llwybr tuag at y pryniant cymaint yn rhwyddach petai Felinheli yn yr Alban neu, yn wir, yn Lloegr, lle mae yna ddeddfwriaeth yno yn barod sydd yn rhoi mantais i gymunedau. Felly, mae’n hen bryd inni yng Nghymru ddal i fyny efo’r cenhedloedd eraill yma, a dyna pam dwi’n cefnogi’r cynnig heddiw.

Mae gennym ni esiamplau gwych o fentrau cymunedol yng Ngwynedd. Maen nhw’n blodeuo acw ar y funud wrth i gymunedau ymbweru eu hunain. Maen nhw’n esiamplau ardderchog, yn fodel cymunedol o ddatblygu economaidd ac yn dempled o’r hyn sydd yn bosib. Am unwaith does dim rhaid inni fynd allan o Gymru i ganfod arfer dda ac i gael ein hysbrydoli, ond mae angen diwygio’r ddeddfwriaeth. Mae angen cryfhau’r ddeddfwriaeth; mae angen gwneud yr hyn sydd yn y cynnig. Ac felly, gobeithio, yn wir, gwelwn ni’r comisiwn sydd rŵan yn cael ei gynnig gan y Llywodraeth yn y gwelliant. Os dyna ydy’r llwybr ymlaen, wel, dyna ni, ond, come on, mae’n rhaid i’r comisiwn yma wneud ei waith ac yn ei wneud o’n fuan. Diolch.

17:20

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac yn falch o gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Nid wyf yn ymddiheuro fy mod yn cefnogi datganoli'n frwd, ac nid wyf yn teimlo y dylai datganoli pŵer orffen gyda'r Aelodau yn y Siambr hon yn unig, ond lle bo'n briodol, dylai fynd at ein cynghorau lleol, ac ymhellach fyth, i'n cymunedau lleol. Y bobl ar lawr gwlad, sy’n byw ac yn gweithio yn eu cymunedau, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu cymunedau lleol.

Mae wedi bod yn bleser dilyn rhai o'r siaradwyr heddiw, yn enwedig Buffy Williams, a ddangosodd ei phrofiad pwysig gydag ased cymunedol, a hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar un yn fy ardal i. Mae Capel y Garsiwn yn yr iard longau frenhinol yn Noc Penfro yn enghraifft berffaith o ased y mae'r gymuned leol yn awyddus i'w redeg. Mae’r capel bron yn 190 mlwydd oed, a dyma’r unig gapel milwrol Sioraidd sydd ar ôl yng Nghymru. Yn nyddiau adeiladu llongau yn yr iard longau, byddai côr y capel yn canu ar hyd y llithrfa pan fyddai llong newydd yn cael ei lansio. Am 30 mlynedd ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, roedd yn adfail. Yna, yn 2003, cafodd gymorth ariannol, a chafodd ei ailadeiladu a’i adfer dan berchnogaeth Cyngor Sir Penfro, a oedd yn bwriadu gwneud defnydd masnachol ohono. Fodd bynnag, ers 2008, mae wedi cael ei osod ar rent hedyn pupur i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Doc Penfro i redeg Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro. Mae’r ganolfan, a agorwyd gan y ddiweddar Frenhines yn 2014, yn gartref i amgueddfa hanes milwrol balch Doc Penfro, a hefyd, i chi sy'n hoff o Star Wars, model wrth raddfa o'r Millennium Falcon, a adeiladwyd yn wreiddiol yn yr iard longau yn Noc Penfro. Gyda’r cais llwyddiannus diweddar am y porthladd rhydd Celtaidd, sydd ar fin sicrhau buddsoddiad a gweithgarwch economaidd i’r porthladdoedd ar ddwy ochr dyfrffordd y Ddau Gleddau, mae’n galonogol fod darn o hanes yr iard longau, Capel y Garsiwn, yn parhau i fod yn ased allweddol i'r gymuned ac i'r dref.

Ers cael fy ethol, rwyf wedi bod yn gohebu â gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr o’r ymddiriedolaeth dreftadaeth sy’n rhedeg y ganolfan i weld a allant gymryd perchnogaeth ar yr adeilad fel ased cymunedol, ac o ddwylo Cyngor Sir Penfro. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r gwirfoddolwyr hyn am eu hymroddiad a'u hymdrechion i redeg y ganolfan hon. Ni allaf ganu digon ar ei chlodydd, ac rwy'n annog yr Aelodau, os ydynt yn fy ardal i, i ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Doc Penfro. Fe fyddwch yn sicr o'i mwynhau.

Nawr, mae'r ganolfan yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i'n cymuned, gan gynnal boreau coffi elusennol a darparu cwmnïaeth a chyfle i ryngweithio i'r rhai a fyddai fel arall yn wynebu unigrwydd o bosibl. Mae hefyd yn arddangos hanes y dref forol hon, gan alluogi ymwelwyr, plant ysgol a phobl leol i ddeall y gymuned a'i sefydlodd yn well.

Felly, gydag awdurdodau lleol dan bwysau ariannol sylweddol, ymddengys i mi na fu erioed adeg well i gymunedau gymryd perchnogaeth ar asedau cymunedol. Mae’r awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyndyn i ildio'r capel o’u perchnogaeth, a gallaf ddeall rhai o’r rhesymau pam. Fodd bynnag, ers blynyddoedd, mae eu hymdrechion i fasnacheiddio’r capel wedi bod yn aflwyddiannus, gan hybu'r ddadl yn fy marn i y dylai’r adeilad hwn a adeiladwyd at ddefnydd y gymuned dros 200 mlynedd yn ôl ac sydd wedi dangos ei lwyddiant fel cyfleuster cymunedol gael ei redeg gan y gymuned leol.

Nid wyf am brofi amynedd y Llywydd ymhellach, dim ond i gloi, un enghraifft yn unig yw hon, ac rwy'n siŵr fod enghreifftiau tebyg dirifedi ym mhob un o'n hardaloedd. Felly, er budd Capel y Garsiwn a llawer o adeiladau ac asedau eraill ledled Cymru, rwy’n annog pob un ohonom i gefnogi’r cynnig. Diolch, Lywydd.

17:25

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn cytuno mai ein cymunedau yw ein hased pwysicaf, ac yng Nghymru, maent yn ganolog iawn i’n polisïau a’n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu.

Mae penderfyniadau a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y DU a 13 mlynedd o gyni wedi golygu heriau sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus, heriau y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i’w hamddiffyn rhagddynt. Mae ein cymunedau wedi ymateb i’r heriau hyn gyda ni, a gwyddom fod yn rhaid inni barhau i’w cefnogi ym mhob ffordd y gallwn, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn wydn.

Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau wedi gwneud rhai cysylltiadau pwysig rhwng asedau dinesig, sy’n cynnwys asedau sy’n eiddo i’r gymuned, a gwytnwch ein cymunedau yng Nghymru. Mae cymunedau’n bartneriaid hanfodol yn ein hymdrechion cyfunol i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, trechu tlodi, meithrin hyder a hunan-barch a gwella iechyd a llesiant. Mae’r rhinweddau hyn yn bwysicach fyth o ystyried difrifoldeb y cyfyngiadau ariannol y mae’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu yng Nghymru.

Mae asedau cymunedol, wrth gwrs, yn rhan bwysig o’r darlun hwn. Maent wedi codi mewn dadleuon yn y Siambr hon ar sawl achlysur dros y 12 mis diwethaf, gan adlewyrchu’n glir eu pwysigrwydd ar gyfer darparu gwasanaethau yn ein cymunedau. Mae asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol sy’n darparu adnodd amhrisiadwy i’n cymunedau, ac nid yn unig fel adnodd ar gyfer gwybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. Fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi, mae asedau cymunedol yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer cydlyniant cymunedol. Dangosodd y pandemig pa mor bwysig yw mynediad at asedau i gymunedau gwydn. Gallant hefyd alluogi arloesedd, yn enwedig wrth ddarparu'r gwasanaethau y mae cymunedau'n dymuno eu cael.

Rydym eisoes, wrth gwrs, yn darparu cyllid i gymunedau sy’n dymuno prynu neu wella asedau cymunedol. Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi darparu dros £49.6 miliwn mewn grantiau i 413 o brosiectau ledled Cymru ers agor yn 2015, ac fe’i hategir gan y gronfa benthyciadau asedau cymunedol, sy'n werth £5 miliwn ac sy’n cael ei rhedeg ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Maent ill dwy yn darparu mynediad i grwpiau cymunedol at hyd at £300,000 i brynu asedau.

Mae rhaglen gydweithredu ar asedau Ystadau Cymru hefyd wedi helpu cymunedau i wella a datgarboneiddio cyfleusterau cymunedol gwerthfawr, ac yn darparu enghreifftiau da o ble mae awdurdodau lleol yn parhau i gefnogi cymunedau ar ôl trosglwyddo asedau. Mae galluogi’r defnydd o'r grant tai cymdeithasol ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned, mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, hefyd yn dangos gwerth parhau â’r cydweithio hwnnw.

Lywydd, ceir llu o enghreifftiau eraill o brosiectau asedau cymunedol llwyddiannus sy’n cael eu rhedeg gan ac ar gyfer cymunedau lleol ac sydd wedi eu rhoi ar waith heb ddeddfwriaeth. Mae adroddiad Archwilio Cymru yn nodi, er gwaethaf ymrwymiad i newid, fod awdurdodau lleol yn wynebu heriau penodol wrth gefnogi cymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol. Rwy’n croesawu eu hargymhellion yn llwyr ac yn cydnabod y bydd angen newid. Bydd y pecyn cymorth y maent wedi’i ddatblygu yn cynorthwyo ein hawdurdodau lleol i sicrhau’r newidiadau y mae angen i ni eu gweld.

Gall ein hymrwymiad drwy Ystadau Cymru helpu hefyd drwy gydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus. Mae'r hawl statudol i gymunedau wneud cynnig am neu brynu asedau i gefnogi'r dyheadau hyn yn un o'r meysydd y byddaf yn gofyn i'r comisiwn ar asedau cymunedol sydd ar ffordd eu hystyried. Roedd hyn yn rhan allweddol o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. Roedd argymhellion y pwyllgor hwnnw, fodd bynnag, yn llawer mwy eang nag unrhyw hawl i gynnig neu brynu. Roedd tystiolaeth o Loegr a’r Alban a glywyd gan bwyllgor y Senedd hefyd yn nodi nad yw’r hawl i gynnig bob amser yn galluogi prosiectau asedau cymunedol i fod yn llwyddiannus. Yn 2020, nododd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau 438 o enghreifftiau o asedau a arweinir gan y gymuned neu sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru, ac roeddent yn hyderus fod llawer mwy ohonynt nad oeddent yn bodloni'r diffiniad o 'asedau'. Prynwyd neu leswyd yr asedau hyn gan berchnogion cyhoeddus a phreifat, a chawsant eu caffael gan gymunedau heb hawliau statudol. Fodd bynnag, wrth gwrs, mae llawer mwy y gallwn ei wneud i gefnogi ein hasedau cymunedol.

Rwyf wedi derbyn nifer o’r argymhellion gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ac mae fy swyddogion wedi bod yn ystyried sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r argymhellion eang iawn hynny. Mae’n bwysig fod y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y cymunedau eu hunain. Bydd ein polisi cymunedol yn grymuso ein cymunedau yn wirioneddol mewn meysydd polisi allweddol. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi perchnogaeth a rheolaeth gymunedol ar asedau allweddol drwy arweiniad a chyllid. Dyma’r meysydd allweddol y mae’r Senedd wedi gofyn inni fynd i'r afael â nhw yn rhan o’u hargymhellion.

Mae cyhoeddi’r ymchwil rwyf wedi’i chrybwyll eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yr wythnos hon yn amserol i’r ddadl hon. Mae wedi darparu tystiolaeth werthfawr o rôl asedau dinesig, sy'n cynnwys rhai nad ydynt yn eiddo i'r gymuned, mewn cymunedau gwydn. Mae’r ymchwil yn adleisio argymhellion pwyllgor y Senedd wrth alw am broses symlach, ystyriaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau cryfach. Bydd y rhain oll yn rhan o waith y comisiwn ar asedau cymunedol. Rydym yn gweithredu ar bob un o'r argymhellion, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Mae angen cefnogi’r comisiwn i wneud llawer mwy nag ailadrodd gwaith pwyllgor y Senedd.

Mae'r cynnig heddiw yn cwmpasu union natur y materion y byddaf yn gofyn i’r comisiwn asedau cymunedol eu hystyried. Rwy’n rhagweld cyngor gan swyddogion yn fuan iawn ar ffurf, cylch gorchwyl ac aelodaeth y comisiwn hwnnw yn yr wythnosau nesaf. Bydd cylch gwaith y comisiwn yn llawer ehangach na’r pwyntiau a godwyd yn y cynnig heddiw. Mae hwn yn gyfle enfawr inni ddatblygu rhywbeth sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer Cymru, sydd o fudd gwirioneddol ac sy'n cefnogi gwytnwch ein cymunedau yng Nghymru. Nid oes unrhyw amheuaeth fod rheolaeth gymunedol ar asedau o fudd i bob un ohonom. Felly, rwy'n croesawu'r cynnig a gyflwynwyd heddiw, ynghyd â’i welliant. Yn wir, Lywydd, cydweithio fydd y sbardun allweddol i wneud i hyn ddigwydd. Diolch.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A diolch i'r holl Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw. Yn wir, rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan ba mor bwysig yw’r eitem hon, wrth weld Siambr mor llawn ar gyfer cloi’r ddadl bwysig hon y prynhawn yma.

Agorodd Mark Isherwood, wrth gwrs, yn yr unig ffordd y gall Mark Isherwood agor, drwy ein hatgoffa ei fod yma dros ddegawd yn ôl yn arwain dadl ar gydweithredu a phwysigrwydd cydgynhyrchu ar gyfer asedau cymunedol. Roedd hefyd yn awyddus i dynnu ein sylw at waith yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a'u tair thema allweddol, yn ogystal â mynegai asedau cymunedol Cymru, a gynhyrchwyd ganddynt hefyd.

Nododd Peredur Owen Griffiths bwysigrwydd cymorth i alluogi’r cymunedau hynny sydd efallai heb sgiliau ar hyn o bryd i gael gafael ar yr asedau hynny eu hunain. Ac roedd hynny'n rhywbeth roedd Jenny Rathbone hefyd yn awyddus i'n hatgoffa ohono, yn enwedig yn y cymunedau mwy difreintiedig, lle efallai nad oes ganddynt y sgiliau, yr amser na'r egni i gael gafael ar yr asedau pwysig hyn. Roedd Jenny Rathbone hefyd yn awyddus i'n hatgoffa bod angen ail-lunio gwasanaethau a ddarperir gan weision cyhoeddus yn gyson i ddiwallu anghenion y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Cawsom ein hatgoffa gan Joel James o bwysigrwydd diogelu asedau cymunedol, a mynegodd ei rwystredigaeth, efallai, gyda chyflymder y newid gan Lywodraeth Cymru, a chawsom ymyriad gan Mabon ap Gwynfor ar y pwynt hwnnw hefyd. A chlywsom enghreifftiau penodol gan Aelodau ar draws y Siambr—Sam Kurtz, Buffy Williams, Siân Gwenllian—o'u hetholaethau eu hunain, lle mae pethau wedi mynd yn dda mewn rhai achosion, ac ardaloedd lle nad yw pethau'n gweithio'n dda. Stori am ddau neu dri chyngor efallai, ac mae’n debyg fod cyfle yno i’r awdurdodau lleol hynny ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, efallai, wneud rhywfaint o waith yno am wersi a ddysgwyd, am yr awdurdodau lleol lle mae asedau ar gael yn rhwydd i'r gymuned.

Ac roeddem yn ddiolchgar am eich ymateb cadarnhaol i'r ddadl y prynhawn yma, Weinidog. Wrth gwrs, mae cyfleoedd inni weithio ar draws y pleidiau, ar draws haenau o lywodraeth ac ar draws sectorau, gan fod pob un ohonom am weld yr un peth, yn ôl pob golwg: rydym am weld ein cymunedau yn cael eu grymuso i gael gafael ar yr asedau sy'n ddefnyddiol iddynt. Weinidog, roeddech yn awyddus i dynnu sylw at y pwysau ariannol sy'n bodoli ar hyn o bryd, ond yn amlwg, mae cyfleoedd gyda hynny i sicrhau bod ein cymunedau’n gallu cael eu cefnogi i ddal gafael ar asedau sy’n bwysig iddynt. Weinidog, roeddech hefyd yn awyddus i’n hatgoffa o waith y comisiwn asedau cymunedol, ac mae pob un ohonom yn awyddus i weld y cynnydd hwnnw cyn gynted â phosibl. Rwy’n ymwybodol o'r amser, Lywydd, felly rwyf am gloi drwy wneud ein cynnig unwaith eto heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Daw hynny â ni at eitem 9, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig, a dwi'n galw ar Natasha Asghar i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8362 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n fwy na pharod i wneud y cynnig hwn, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ar ôl galw gyntaf ar y Dirprwy Weinidog i fynd ym mis Mawrth eleni. Mae bron i bythefnos wedi bod ers i gynllun terfyn cyflymder 20 mya costus a diangen y Llywodraeth Lafur hon gael ei orfodi ar bobl Cymru. Mewn amser byr, mae gwrthwynebiad i’r newid wedi ffrwydro, gyda deiseb yn galw am ddiddymu'r prosiect £33 miliwn yn tyfu ar gyflymder aruthrol. A dweud y gwir, ychydig cyn imi sefyll o’ch blaen yn y Siambr hon heddiw, roedd mwy na 440,000 o bobl wedi ychwanegu eu henwau at y ddeiseb hon, sy’n dal i dyfu.

I roi hynny mewn persbectif, mae pob un ohonoch wedi gweld y ffigurau, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonoch wedi gwneud y swm hefyd, mae hynny'n fwy na'r hyn a gafodd Llafur Cymru yn y bleidlais ranbarthol yn etholiadau'r Senedd yn 2021, ac mae'n prysur agosáu at y cyfanswm o 443,000 a gafodd y blaid yn y bleidlais etholaethol. Mae'n werth nodi hefyd fod bron i 12,000 o bobl yn Llanelli wedi arwyddo'r ddeiseb yn galw am ddiddymu'r cynllun. Mewn cymhariaeth, cafodd y dyn sy’n cynrychioli’r ardal, sydd hefyd yn wyneb Llafur ar gyfer y cynllun 20 mya hwn, lai na 14,000 o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf. Nid yw'n swnio fel pe bai'r cyhoedd yn fodlon ar y cynllun, er gwaethaf yr hyn y mae Aelodau Llafur o'r Senedd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi'i ddweud.

Rwyf wedi dweud o’r dechrau, ac fe’i dywedaf eto: nid yw pobl Cymru eisiau prosiect borthi balchder 20 mya y Blaid Lafur. Mae’r ddeiseb hon yn dangos hynny. Ac eto, gwrthodwyd y ddeiseb yn llwyr gan y Dirprwy Weinidog, gyda’i haerllugrwydd arferol, gan ddweud nad oedd hi'n cynrychioli’r cyhoedd yn ehangach. Ac nid ef yw'r unig un—

17:35

Os yw hyn mor bwysig i chi, ac mai dyma sy’n bachu sylw pobl Cymru, pam mai dim ond 30 munud a neilltuwyd gennych ar ei gyfer? Mae hynny'n sarhad. Stynt yw hi; nid ydych o ddifrif.

Rwy’n deall yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud, ond rydym am gael—[Torri ar draws.] Rwy’n deall bod fy nghyd-Aelod wedi ateb y cwestiwn eisoes mewn perthynas â’r ddadl awr o hyd—. Roeddwn yn fodlon gyda hanner awr neu awr; nid oedd yn gwneud gwahaniaeth i mi, gan fy mod am sicrhau ein bod yn gallu cyfleu’r pwyntiau—

Mae wedi’i chyflwyno fel dadl 30 munud gan y Blaid Geidwadol.

Mae hynny'n iawn, mae hynny'n iawn—[Torri ar draws.] Hoffwn allu parhau mewn heddwch, os yw hynny'n iawn.

Rydym wedi gweld Aelodau Seneddol Llafur ar ben arall yr M4 yn ceisio difrïo’r ddeiseb, gan ddweud ei bod yn warthus, fod pobl y tu allan i Gymru yn ei harwyddo. Wel, gadewch imi ddweud wrthych: mae'n gwbl iawn a theg fod pobl yn Lloegr, ac yn lle bynnag y mae ganddynt unrhyw gysylltiadau â Chymru, yn llofnodi'r ddeiseb hon, gan y bydd, yn ddi-os, yn effeithio ar bawb sydd â chysylltiadau â Chymru. Rwy’n adnabod pobl, credwch neu beidio, yn Nwyrain Casnewydd, sydd ar wyliau ym Mhacistan ar hyn o bryd, sydd wedi llofnodi’r ddeiseb ac sy'n ddig iawn fod dilysrwydd eu llofnodion yn cael ei amau.

Ddirprwy Weinidog, buaswn yn dweud bod y cyhoedd wedi dweud eu dweud yn blwmp ac yn blaen, ond gan nad ydych chi'n hoffi’r canlyniadau ac yn methu cyfaddef eich bod wedi gwneud camgymeriad, rydych yn ceisio difrïo’r ddeiseb a rhoi eich pen yn ôl yn y tywod. Rydych yn bwrw ymlaen â’r polisi diffygiol hwn heb boeni o gwbl am fusnesau, gwasanaethau brys, nyrsys, gofalwyr a modurwyr, y bydd y newid hwn yn effeithio arnynt oll. Ond a yw eich dihidrwydd yn syndod i ni? Nid yw’r polisi hwn yn effeithio arnoch chi o gwbl, gan eich bod yn cael eich gyrru o gwmpas gan chauffeur mewn modur gweinidogol drwy’r dydd. [Aelodau'r Senedd: 'O.']

Nawr, Ddirprwy Weinidog, anaml y byddwch chi a minnau'n gweld llygad yn llygad, a gallaf dderbyn hynny, ond i mi a llawer o bobl eraill, y cynllun 20 mya hwn yw ei diwedd hi. Mae arnaf ofn ei bod yn bryd ichi fynd, cyn ichi achosi mwy o niwed diangen.

Lywydd, ers yn rhy hir o lawer, nid yw camgymeriadau diddiwedd y Dirprwy Weinidog wedi cael eu cosbi. Ddirprwy Weinidog, fe wnaethoch gyfaddef nad yw eich Llywodraeth yn gwybod beth mae'n ei wneud mewn perthynas â'r economi. Rydych wedi galw'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn 'hynod o filwriaethus', ac ni allwch hyd yn oed gyflawni tasgau syml fel pleidleisio, ar ôl gwneud llanast llwyr ohoni deirgwaith mewn llai na thair blynedd. Rydych chi wedi gwahardd pob prosiect adeiladu ffyrdd mawr yng Nghymru mewn ymgais enbyd i gael clod gan bobl fel Greta Thunberg, a pheidiwn ag anghofio eich bod yn gwbl ragrithiol. Ar y naill law, rydych chi'n pregethu wrth y cyhoedd ynglŷn â dod allan o'u ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac eto, rydych chi wedi hawlio miloedd o bunnoedd mewn treuliau milltiredd, gan gyflwyno tri chais yn unig am docynnau trên.

Yn ychwanegol at hynny, rydych yn dinistrio ein rhwydwaith trenau, gyda Trafnidiaeth Cymru yn cael ei henwi fel y gweithredwr trenau â'r boddhad cwsmeriaid gwaethaf—[Torri ar draws.]

Bydd angen imi glywed yr Aelod, gan na allaf ddyfarnu a yw unrhyw beth y mae’n ei ddweud allan o drefn ai peidio oni bai fy mod yn ei chlywed. Felly, os gallwch barhau, a gwneud hynny mewn rhywfaint o dawelwch.

Yn ychwanegol at hynny, rydych yn dinistrio ein rhwydwaith trenau, gyda Trafnidiaeth Cymru yn cael ei enwi fel y gweithredwr trenau â'r boddhad cwsmeriaid gwaethaf o holl weithredwyr trenau'r DU. I lawer o bobl, ym mhob cwr o Gymru, mae dal y trên yn brofiad poenus, heb unrhyw arwyddion o welliant a dim golau ar ben draw'r twnnel.

Mae gwasanaethau bws hanfodol yn cael eu diddymu o ganlyniad i'ch gweithredoedd, gan adael pobl wedi eu hynysu yn eu cymunedau. Tra bo'r defnydd o fysiau yn cynyddu yn gyffredinol yn Lloegr, diolch i Lywodraeth gynhyrchiol y DU, ychydig iawn o gymorth y mae darparwyr bysiau yma wedi'i gael, ac maent yn wynebu dyfodol ansicr. Ac mae miliynau o bunnoedd, yn syth o bwrs y wlad, yn cael ei wario ar gynnal eich prosiect porthi balchder aflwyddiannus ym Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, rydych yn rhygnu ymlaen am ddiogelwch ar y ffyrdd, ac rwyf wedi clywed hyn mewn llawer o bapurau ac ym mhenawdau'r newyddion dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac eto, rwy'n ofni mai dim ond enghraifft arall yw hon ohonoch yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall. Deallaf fod llawer o bobl wedi fy nghyhuddo i a fy nghyd-Aelodau o beidio â malio am ddiogelwch ar y ffyrdd. Lywydd, mae'n bwysig mynd i'r afael â hyn ar unwaith. Cefais fy nysgu bob amser i edrych, gwrando ac i groesi'r ffordd, ond maent yn dweud bod llun yn paentio mil o eiriau. Wel, edrychwch ar hwn, gan fod hwn wedi'i anfon ataf gan 15 o etholwyr o bob rhan o’r rhanbarth. Nawr, hoffwn ddangos i bob un ohonoch Mr Diogelwch ar y Ffyrdd yn croesi'r ffordd gyda grŵp o blant gan anwybyddu symbol y dyn coch yn llwyr. Nid yw'n glod mawr iddo o gwbl.

Digon yw digon. Mae’n amlwg i bawb fod y Dirprwy Weinidog allan o’i ddyfnder, ac mae’r ffaith iddo gyrraedd y fainc flaen yn destun penbleth a dweud y gwir. [Torri ar draws.] Ac eto, efallai mai’r hyn sy’n peri mwy o syndod yw’r ffaith ei fod yn dal yma heddiw, er gwaethaf ei restr hirfaith o gamgymeriadau. [Torri ar draws.]

17:40

Rwy’n cael trafferth clywed yr Aelod eto. Mae angen ichi barhau mewn rhywfaint o dawelwch. [Torri ar draws.] Ni allaf glywed a wyf yn colli unrhyw beth ai peidio, Alun Davies, yw’r ateb i hynny. A gawn ni glywed yr Aelod, os gwelwch yn dda?

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf fi—a llawer o Aelodau eraill hefyd, rwy’n siŵr—wedi cael cannoedd o alwadau, e-byst, a negeseuon gan bobl ledled Cymru sy’n gandryll a dweud y gwir. Ac mae'r bleidlais hon yn ymwneud â mwy nag 20 mya a therfynau cyflymder yn unig; mae'n ymwneud â'r holl fethiannau trafnidiaeth rydym wedi'u cael dros y tair blynedd diwethaf.

Hoffwn roi neges i’r Prif Weinidog. Gwn eich bod chi yma heddiw, ac er mai ers ychydig flynyddoedd yn unig y bûm i yn y byd gwleidyddol, Brif Weinidog, rwyf wedi dysgu bod gwleidydd da yn cydnabod pan fydd wedi gwneud camgymeriad, ac mae gwleidydd gwych yn gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peth pan fo camgymeriadau wedi'u gwneud. Felly, Brif Weinidog, gofynnaf yn ostyngedig i chi wneud y penderfyniad cywir heddiw ar ran pob unigolyn, grŵp, sefydliad a busnes sydd wedi cysylltu â mi o bob cwr o Gymru. Ac ar ran pawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, sydd wedi cymryd rhan mewn protestiadau di-rif ledled Cymru, a wnewch chi wneud y penderfyniad cywir, a diswyddo'r Dirprwy Weinidog, gan fod pobl Cymru o ddifrif yn haeddu gwell?

Ac wrth gwrs, Lywydd, os bydd y Prif Weinidog yn gwrthod ei ddiswyddo, efallai y gall y Dirprwy Weinidog wneud y peth iawn am y tro cyntaf yn ei yrfa ac ymddiswyddo a gwneud cymwynas â phob un ohonom.

Yn anffodus, gwyddom y bydd y Blaid Lafur yn hel o gwmpas y Dirprwy Weinidog, ac yn cydymffurfio â safbwynt eu plaid er eu bod yn gwybod mai dyna’r peth anghywir i’w wneud, ac y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio pa bynnag ffordd y mae Llafur yn dweud wrthych am ei wneud, ond gadewch i mi eich rhybuddio: mae pobl Cymru’n gwylio’n agos gyda diddordeb, yn fwy felly nawr nag erioed o’r blaen, a byddant yn cofio bod pob un ohonoch wedi troi eich cefnau ar eich etholwyr heddiw ac wedi gwneud tro gwael iawn â nhw.

Gadewch inni bwyllo rhywfaint. Mewn gwirionedd, hoffwn dalu teyrnged i'r Ceidwadwyr. Maent wedi cyflawni rhywbeth heddiw y mae llawer wedi rhoi cynnig ar ei wneud ac wedi methu: maent wedi uno dwy ran o dair o’r Siambr hon o amgylch Lee Waters. [Chwerthin.] Ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad sylweddol y byddwn yn ei weld yn y cyfnod pleidleisio.

Mae’r Dirprwy Weinidog hwn wedi codi ar ei draed ac wedi gwneud safiad. Mae wedi bod allan yn ateb cwestiynau, mae wedi bod ar y cyfryngau, mae wedi derbyn pob ergyd heb gwyno, a gwn ei fod wedi cael cyfres o fygythiadau yn ei erbyn hefyd sydd wedi ei wneud yn anghyfforddus iawn. Rwyf wedi cael e-byst sydd wedi fy ngwneud innau'n anghyfforddus. Rwyf am ddarllen un i chi nawr: 'Mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol i feddwl, siarad a gweithredu ar ein rhan.' Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond cefais fy mhechu'n llwyr gan y llinell nesaf: 'Ar lefel fwy personol, efallai'n wir fod gennych uchelgais i fod yn gynrychiolydd i ni yn San Steffan pan fydd eich tad yn ymddeol.' [Chwerthin.] Nid Wayne David yw fy nhad, a chredaf fod angen inni wneud hynny’n gwbl glir.

Credaf fod hynny'n nodweddiadol o rywfaint o'r gamwybodaeth sydd allan yno. Gwneuthum sesiwn fyw ar Facebook neithiwr, ac roedd gennyf 3,200 o wylwyr, a chyfran o hynny'n unig oedd â phroblem gyda 20 mya mewn gwirionedd. Atebais bob cwestiwn, ac fel rydym yn gwneud pethau yng Nghaerffili, fe’i gwnaed gyda pharch, a gwrandawyd ar yr atebion a roddais, cawsant eu cwestiynu, a pharhaodd y ddeialog. A dyna sut mae angen gwneud y pethau hyn.

Ond o ddifrif, rydym wedi gweld y difrïo mwyaf ofnadwy, a chredaf fod yr araith a wnaeth Natasha Asghar yn bwydo hynny. Mae'n ei waethygu, mae'n ein gwneud yn anghyfforddus yn ein cartrefi ein hunain, a chyflwyno'r cynnig hwn ar gyfer Gweinidog nad yw wedi gwneud dim byd heblaw cadw ei addewid. Dyna mae wedi'i wneud, a dyna pam fod y mater hwn yn gwbl hurt, a pham yr agorais fy araith drwy wneud hwyl am ben y peth.

Ond mae'n gyfle i gywiro pethau. Un o'r pethau a godwyd yn fy sesiwn fyw ar Facebook ddoe oedd pobl yn dweud, 'Rwy'n cytuno â hyn y tu allan i ysgolion ac ysbytai.' Wel, mae’r meini prawf eithrio yn dweud mai’r unig fan lle na allwch eithrio 20 mya heb reswm da iawn yw o fewn pellter cerdded o 100m i unrhyw leoliad addysgol, o fewn pellter cerdded o 100m i unrhyw ganolfan gymunedol, o fewn pellter cerdded o 100m i unrhyw ysbyty, neu lle mae’r nifer o adeiladau preswyl neu fanwerthu sy'n wynebu'r ffordd yn fwy nag 20 adeilad y cilometr.

Rwyf wedi dweud wrth unrhyw breswylydd sydd am ddod ataf y gwnaf gyfarfod â nhw, ac os na fodlonir y meini prawf hynny, gallwn edrych ar ofyn i'r cyngor ei newid. Mae'n berffaith bosibl. A hyd yn oed lle mae'r rheini'n cael eu bodloni, gallwn edrych ar eu hadolygu. Ond democratiaeth yw hynny. Mae'n golygu cyfarfod â phobl, eu hwynebu, siarad â nhw, mynd i'w cymunedau a gwneud y newidiadau y maent am eu gweld, a dyna'n union a wnawn. Rwy'n gyrru i fy swyddfa etholaethol. Rwy'n mynd drwy un parth 20 mya ac yna rwyf mewn parth 30 mya, 40 mya, ac yn olaf, parth 20 mya ym mhentref Gilfach, lle mae fy swyddfa wedi'i lleoli. Mae'r eithriadau hynny i'w cael.

Ac yn olaf, o ran y ddeiseb, hoffwn ddweud bod angen i ni fod o ddifrif yn ei chylch, mae llawer o lofnodion arni, ond nid refferendwm mo hyn, nid yw'n bleidlais ddemocrataidd. Mae'n ffaith bod pawb sy'n gwrthwynebu'n gryf—gwyddom fod llawer ohonynt—wedi llofnodi'r ddeiseb, ond caiff hynny ei gydnabod yn yr arolwg barn. Gwyddom fod y rheini sy’n gwrthwynebu, yr oddeutu 15 y cant sy’n gwrthwynebu’n gryf, yn chwyrn eu gwrthwynebiad ac yn mynd i leisio eu barn. Nid yw'n siarad ar ran yr 85 y cant o'r boblogaeth sydd heb lofnodi'r ddeiseb honno, ac mae hynny'n gwbl hanfodol—yn bwysig iawn, mewn gwirionedd.

Y peth olaf rwyf am ei ddweud, Lywydd—gwn fod fy amser ar ben, a dyma'r broblem gyda byrder y ddadl hon—yw fy mod yn mynd i sefyll gyda'r dyn acw, rwy'n mynd i sefyll gyda’n Dirprwy Weinidog. Credaf fod angen gwrthod y cynnig hwn o ddiffyg hyder, a chredaf fod angen i ni ei drin â pharch am bopeth y mae wedi'i wneud yn sefyll dros bobl Cymru a'i arweiniad ar y mater hwn.

17:45

Mae gwleidyddiaeth yn mynnu gwell gennym na hyn. Rwy’n optimydd, Lywydd, ac rwy’n dal i fyw mewn gobaith y bydd y Ceidwadwyr yn cefnu ar lwybr poblyddiaeth, sy’n niweidio pob un ohonom, gan fod gwleidyddiaeth yn mynnu gwell. Cafwyd problemau gwirioneddol gyda'r modd y cafodd y polisi 20 mya ei roi ar waith. Dyna pam y gwnaethom ni ym Mhlaid Cymru gyflwyno gwelliant i gynnig ychydig wythnosau yn ôl, gan ailadroddodd yr angen am adolygiadau parhaus o sut mae’r polisi’n cael ei roi ar waith, gyda’r angen i rymuso cymunedau, i sicrhau bod adnoddau ar gael yn rhwydd i gynghorau wneud eithriadau i'r polisi ar ffyrdd lle nad yw 20 mya yn gwneud synnwyr. Mae’n drueni fod y Torïaid wedi penderfynu peidio â chefnogi’r gwelliant hwnnw, wedi peidio â cheisio gwella'r polisi hwn, wedi peidio â cheisio rhoi llais i gymunedau, ond yn hytrach, eu bod wedi penderfynu mynd ar ôl y penawdau a dweud anwireddau yn y ffordd a wnaethant.

Mae mwy y mae angen ei wneud—ar frys, rwy'n meddwl—i fynd i'r afael â'r rhwystredigaeth wirioneddol a deimlir gan lawer o bobl. Credaf y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r Prif Weinidog ysgrifennu at gynghorau i’w hatgoffa, efallai, o’r pwerau sydd ganddynt i wneud eithriadau ar gyfer ffyrdd lle nad yw 20 mya yn gwneud synnwyr, fel un enghraifft yn unig. Mae angen gwneud mwy i dawelu meddyliau pobl, i rymuso pobl, i wrando, ond mae gwahaniaeth rhwng polisi ac unigolyn. Mae hwn yn gynnig sinigaidd. Mae'n dacteg hyll. Nid gwella pethau yw ei fwriad, ond tanio dicter pobl a'i gyfeirio at un dyn. Mae’n ymddygiad cywilyddus a di-hid a allai fod yn beryglus.

Carwn rybuddio—os gwelwch yn dda—y Ceidwadwyr i feddwl am ganlyniadau'r hyn y maent yn ei wneud. Mae yna ganlyniadau i'n geiriau. Nid gêm yw'r gamdriniaeth a ddioddefir gan lawer o Aelodau'r lle hwn; mae ei heffaith yn real. Dylai Gweinidogion gael eu dal yn atebol am eu penderfyniadau, ac felly hefyd yr Aelodau, ond ni ddylai unrhyw un mewn bywyd cyhoeddus fyw mewn ofn y gallai’r penderfyniadau a wnânt am bolisïau er budd y cyhoedd ddenu bygythiadau. Mae canlyniadau i weithredu fel hyn, i'r math o negeseuon sydd wedi'u cyfleu. Carwn atgoffa’r Ceidwadwyr fod y polisi hwn yn un y gwnaeth llawer o’u Haelodau eu hunain ei gefnogi yn 2020. Gallwn anghytuno ar bolisi, ond mae gwneud gwleidyddiaeth yn bersonol yn y ffordd hon yn beryglus, ac mae'r byd gwleidyddol yn mynnu gwell gennym. Rwy'n annog yr Aelodau Ceidwadol i wrando ar eu cydwybod a gofyn iddynt eu hunain ai dyma pwy ydynt mewn gwirionedd, a yw hon yn dacteg y maent o ddifrif yn ei chefnogi.

Daw dadl heddiw ar adeg dyngedfennol, adeg ddigynsail yn hanes ein democratiaeth. Pan fydd y cyhoedd yn anfon neges atom, fel y maent wedi'i wneud yn glir gyda'r ddeiseb hon, mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Yn lle hynny, rydym wedi gweld Plaid Lafur sydd â'i phen mor ddwfn yn y tywod, ni all glywed gwrthwynebiad y cyhoedd ar y mater hwn. Nid oes cyfran mor fawr o’r etholwyr erioed o’r blaen, yng Nghymru nac yn wir yn y Deyrnas Unedig gyfan, wedi llofnodi deiseb i wrthdroi polisi a gyflwynwyd gan Lywodraeth. Yn wir, mae’r ffigur hwnnw’n cyfateb yn fras i nifer y bobl a bleidleisiodd dros y blaid mewn Llywodraeth yn etholiadau diwethaf y Senedd. Mae maint y ddeiseb hon mor enfawr fel y byddai, pe bai’n ddeiseb ar gyfer y DU gyfan, yn ôl y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiad cyffredinol, wedi denu bron i 14 miliwn o lofnodion. Dyna faint y gwrthwynebiad i bolisi’r Gweinidog hwn, sydd wedi dod yn un o’r trychinebau mwyaf yn hanes llunio polisïau ym Mhrydain. Ac mae arnaf ofn fod y bai i gyd ar y Dirprwy Weinidog—a pholisi'r Gweinidog hwn ydyw, un a luniwyd gan y Gweinidog hwn ym Mae Caerdydd, a roddwyd ar waith ledled y wlad, ac a gyflwynwyd o ganlyniad i system gaeedig lle nad yw gwleidyddion ond yn ymgysylltu ag ymgyrchwyr a grwpiau sy'n cytuno â nhw, a lle mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn cael eu hanwybyddu. Ac mae'n bolisi sydd wedi hunan-ddinistrio wrth ddod i gysylltiad â realiti. Nid dyna sut y dylid gweithredu democratiaeth, gan nad y polisi 20 mya diofyn yw’r unig reswm pam fod pobl wedi llofnodi’r ddeiseb hon; maent yn gwybod bod y Llywodraeth Lafur hon a'r Gweinidog hwn yn datgan rhyfel ehangach ar fodurwyr. Helpu i'n cludo o gwmpas y wlad ddylai prif rôl Gweinidog trafnidiaeth fod. Mae'n syml—mae yn nheitl y swydd. A diolch i'w ryfel yn erbyn modurwyr, mae wedi methu'n llwyr â gwneud hynny. Terfynau cyflymder 20 mya diofyn, gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, rhoi diwedd ar brosiect ffordd liniaru'r M4, cynlluniau ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ffioedd posibl tebyg i ULEZ i fynd i mewn i ddinasoedd—[Torri ar draws.] Na, diolch. Bydd pobl ledled Cymru—[Torri ar draws.] Na, diolch, Joyce. Bydd pobl ledled Cymru yn pendroni—[Torri ar draws.]

17:50

—beth yn union yw problem Llafur gyda gyrwyr. Ac yn eu tro, mae ei bolisïau wedi sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy anodd hefyd. Mae wedi torri cymorthdaliadau bysiau, gan arwain at ganslo gwasanaethau, ac mae cwmnïau bysiau bellach wedi dweud eu bod yn torri’n ôl ar y llwybrau y gallant eu cynnig oherwydd yr anawsterau y mae ei gynllun 20 mya diofyn yn eu hachosi. Felly, Lywydd, mae Gweinidog trafnidiaeth sy’n dilyn polisïau sy’n ei gwneud yn fwy anodd i symud o gwmpas yn Weinidog trafnidiaeth sydd wedi methu yn ei swydd. Rydym ni ar y meinciau hyn wedi colli hyder ynddo. Mae'n amlwg fod pobl Cymru wedi colli hyder ynddo. Felly, mae’n bryd i’r Senedd bleidleisio i ddweud nad oes gennym ninnau hyder ynddo ychwaith.

Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw bod y Ceidwadwyr yn credu bod hyn mor bwysig, fel y dywedodd fy nghyfaill Alun Davies nawr, mae'n ddadl 30 munud. Rwy'n cymryd eich bod yn mynd i roi ychydig yn hirach na hynny i'r mater, a gobeithiaf y gwnewch, ond mae'n chwerthinllyd eich bod yn credu, 'Dyma'r mater pwysicaf yng Nghymru ar hyn o bryd—mae 30 munud yn ddigon.' [Torri ar draws.] Ni allaf, gan eich bod wedi torri’r amser sydd gennyf i lawr i dri munud.

O ran y polisi, mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi, ac rwy'n dweud wrthynt, 'A ydych chi am i'r cyflymder ar y ffordd rydych chi'n byw arni godi i 30 mya?' Bron yn ddieithriad, maent wedi dweud, 'Ni allwch godi'r terfyn i 30 mya ar y ffordd hon—ni fyddai'n ddiogel.' Ni ddylai terfyn diofyn o 20 mya fod yn broblem. Dim ond oherwydd y canllawiau hynod gyfyngol gan Lywodraeth Cymru y mae wedi dod yn broblem. Ffordd syml allan o hyn yw cael gwared ar y canllawiau a gadael i adrannau priffyrdd awdurdodau lleol, sy’n adnabod yr ardal a’r ffyrdd, benderfynu ar y terfyn cyflymder ar bob ffordd. Bydd y rhan fwyaf yn aros ar 20 mya, ond—[Torri ar draws.] Ni allaf. Bydd rhai'n newid yn ôl i 30 mya. Os bydd trigolion yn anghytuno â’r awdurdod lleol, byddai angen cefnogaeth 75 y cant o’r trigolion sy’n byw ar y ffordd honno er mwyn codi'r terfyn cyflymder yn ôl. Nid wyf yn disgwyl i hynny gael ei ddefnyddio’n aml iawn, os o gwbl.

Dyma a ddigwyddodd pan wnaethom newid o 30 mya i 20 mya. A ydych chi'n cofio'r holl barthau 20 mya hynny a arferai fod gennym, sydd wedi cael eu hanghofio yn y drafodaeth hon yn ôl pob golwg? Roedd nifer o ardaloedd yn 20 mya—ardaloedd enfawr. Hynny yw, mae unrhyw un sy'n adnabod Abertawe—rhai o Aelodau rhanbarthol y Blaid Geidwadol, efallai—rydych yn mynd i ardaloedd fel Trefansel ac mae bron i ddwy ran o dair o'r ffyrdd yno yn 20 mya. Mae rhai eraill, fel Plasmarl, lle nad ydynt yn 20 mya, ond yn sicr, mae angen iddynt fod.

Mae cynghorau wedi addasu i'r terfyn 30 mya drwy gyflwyno twmpathau ffordd, rhwystrau igam-ogamu, blaenoriaeth cyfeiriad ar ffyrdd, lle maent yn cael eu culhau i arafu traffig—ystod eang o gamau i arafu’r traffig i 20 mya gan nad oedd ganddynt derfyn 20 mya. Ar y rhan fwyaf o ffyrdd ystadau a ffyrdd mewn ardaloedd o dai teras gyda pharcio ar y ddwy ochr i'r ffordd, mae ffyrdd, i bob pwrpas, yn troi'n ffyrdd un lôn, gyda mannau pasio rhwng y ceir sydd wedi parcio. Rwy’n cymryd bod Tom Giffard yn gyfarwydd â Ffordd Prescelli lle roedd ei daid yn byw. A ydych chi o ddifrif yn credu ei bod hi'n ddiogel gyrru ar hyd Ffordd Prescelli ar 30 mya?

A allwch chi egluro i mi, felly, Mike, pam fod gwefan Cyngor Abertawe yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae gan gynghorau ddisgresiwn cyfyngedig iawn i gynnal terfyn cyflymder o 30mya ar nifer o ffyrdd trefol'.

Daw hynny gan gyngor Llafur, sy'n dweud bod y disgresiwn yn gyfyngedig.

Un o'r pethau gwych am wneud araith yma yw nad yw pobl yn talu unrhyw sylw i'r hyn rydych wedi'i ddweud. Dywedais, 'Rhowch ddisgresiwn llawn i’r cynghorau’ yn yr ychydig eiriau cyntaf a ddywedais.

Ond a gaf fi ddweud hyn? Mae hyn yn bwysig. Mae nifer o bobl sy’n cael eu hannog gan y Ceidwadwyr eisiau i derfynau cyflymder gael eu diddymu. Rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n yrrwr profiadol. Rwy'n gyrru yn ôl amgylchiadau'r ffordd. Nid oes arnaf eisiau unrhyw derfyn cyflymder.' A yw’r Ceidwadwyr yn cytuno â’r bobl hynny? A ydynt yn cytuno â’r ddeiseb sy’n galw am gael gwared ar yr holl derfynau 20 mya ar bob ffordd? A ydynt yn cytuno â’r rheini sydd am gael gwared ar yr holl fesurau gostegu traffig, gan eu bod yn arafu traffig? Yn olaf, mae'n bolisi sylfaenol dda, nad yw wedi darparu digon o gyfleoedd i gynghorau ddefnyddio'u gwybodaeth leol i osod terfynau cyflymder. Os bydd hynny'n digwydd, bydd y mater yn cael ei ddatrys, a bydd yn gweithio'n dda iawn.

17:55

Rwyf am gadw fy nghyfraniad yn gryno. Mae dadleuon fel y rhain yn parhau i fod yn ffordd wirioneddol wael o wneud gwleidyddiaeth. Mae'r lle hwn yn llawer gwell na hynny. Mae dadleuon fel y rhain yn gwneud gwleidyddiaeth yn bersonol ac yn gwneud bywyd gwleidyddol hyd yn oed yn fwy anodd i ni fel Aelodau. Mae'n rhaid i bob un ohonom fod yn ymwybodol o'n sylwadau, y sylwadau bach gwawdlyd hynny, sy'n ein brifo, ac sy'n gwneud inni deimlo nad ydym eisiau bod yn rhan o hyn. Rhaid inni fod yn wyliadwrus nad yw’r Senedd yn cael ei gweld yn dilysu ac yn grymuso rhai lleisiau yn y byd cyhoeddus i barhau ac i dyfu yn y ffordd y maent yn poenydio ac yn aflonyddu ar gynrychiolwyr. Cawsom ein dewis gan bobl Cymru i weithio gyda'n gilydd, nid yn erbyn ein gilydd. Dylem fod yn canolbwyntio ar rannu ein gweledigaeth, ein gwerthoedd, a'n hatebion. Dyna hanfod gwleidyddiaeth. Mae ein hamser yn gyfyngedig ac yn werthfawr. Gadewch inni ei dreulio'n gwneud y gwaith caled o lywodraethu. Diolch yn fawr iawn.

Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi peri cryn ddicter, anhrefn a dryswch ledled Cymru. A gaf fi fentro dweud nad oes unrhyw Aelod yma yn erbyn edrych ar ddiogelwch ar y ffyrdd? Ni fyddai’r un ohonom yn pleidleisio yn erbyn 20 mya y tu allan i ysgolion neu ysbytai. Roedd y ddadl Aelod nad oedd yn rhwymol y pleidleisiais ynddi bedair blynedd yn ôl yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfyngedig a oedd ger ein bron, ac felly’n galw am gasglu mwy o dystiolaeth ar gyflwyno mwy o 20 mya mewn ardaloedd preswyl. Nid oedd yn bleidlais ar ddull gweithredu diofyn, cyffredinol 20 mya Llywodraeth Cymru, ac yn hytrach, y bwriad oedd casglu tystiolaeth a gweld beth fyddai effaith hyn mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Fel y gŵyr yr Aelod—. Nid oes angen imi dderbyn yr ymyriad hwnnw. Roedd y bleidlais bwysig a oedd yn rhwymol, Alun, fel y gwyddoch, ar y gorchymyn rheoleiddio traffig—[Torri ar draws.]

Rydych chi'n garedig iawn. Diolch, Laura. Credaf ichi fod yn hael iawn gyda'ch cof yno, oherwydd yr hyn a gofiaf fi yw eich bod wedi dal arwydd a ddywedai '20's Plenty in Usk', lle mae eich plant yn byw. Pam nad yw'n ddigon da ar gyfer lle mae fy mhlant i'n byw?

Mae'n ddrwg iawn gennyf, ond ni wneuthum hynny.

Y bleidlais bwysig a oedd yn rhwymol, fel y gwyddoch, ar y rheoliadau hynny oedd y gorchymyn rheoleiddio traffig—[Torri ar draws.] Ni wneuthum hynny—a gyflwynwyd yn y Senedd hon ym mis Gorffennaf 2022, a phleidleisiais yn ei herbyn. Rydym eisoes yn gweld y ddeddfwriaeth hon yn cosbi modurwyr, gan gynyddu'r amser y mae'n ei gymryd i gyrraedd y gwaith, i ymweld â pherthnasau, i fynd i apwyntiadau ysbyty. Er i’r pryderon hyn gael eu codi gyda chi'n flaenorol, Ddirprwy Weinidog, fe wnaethoch barhau i gyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya ledled Cymru yn eich ffordd gulfrydig, ac mae haerllugrwydd hynny yn anghredadwy.

Ers i’r cynllun 20 mya cyffredinol ddod i rym, rydym yn gweld mwy o dagfeydd ar y ffyrdd, mwy o lygredd o bosibl, a phobl yn eu ceir am fwy o amser—am fwy o amser mewn gwirionedd nag a awgrymwyd gennych chi. Ddoe, dywedodd protestwyr y tu allan i’r Senedd ac etholwyr wrthyf fod eu teithiau, ar gyfartaledd, wedi ymestyn 15 i 45 munud. Mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth enfawr, ac yn cael effaith uniongyrchol ar gyrraedd y gwaith, gofal plant ac apwyntiadau. Ac mae dwylo cynghorau wedi eu clymu oherwydd y cyfyngiadau sydd arnynt i ganiatáu i ragor o ffyrdd fynd yn ôl i 30 mya. Mae'r canllawiau ar gyfer eithrio yn rhy anhyblyg. Felly, mae dweud bod ganddynt ddewis, fel rydych chi'n ei awgrymu, yn anonest.

Ac i wneud pethau'n waeth, mae hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod argyfwng costau byw, pan welwn gyllidebau iechyd ac addysg yn cael eu torri. Ac eto, ymddengys mai cyflwyno'r terfyn 20 mya hwn yw blaenoriaeth y Llywodraeth hon. Ymddengys eich bod yn benderfynol o wneud bywydau'n anos yn hytrach nag yn haws. Nid yw eich blaenoriaethau'n cyd-fynd â rhai pobl Cymru mwyach. Mae hon yn amlwg yn Llywodraeth flinedig a chanddi bolisïau diog, culfrydig, a difeddwl, sy'n cael eu rhoi ar waith mewn ffordd eithriadol o wael. Mae gweld arwyddion 30 mya ac 20 mya o fewn metr i'w gilydd yn hurt, fel y mae arwyddion 20 mya i fyny rhiwiau serth. Ddirprwy Weinidog, nid ydych yn gwrando ar unrhyw gyngor. Mae hynny’n creu polisi gwael, darpariaeth wael, ac o ganlyniad, ymateb gwael gan y cyhoedd—mae bron i hanner miliwn o bobl yng Nghymru’n teimlo’n ddigon cryf i lofnodi deiseb a fydd, heb os, fel y mae Aelodau eraill wedi’i ddweud, yn parhau i dyfu. Mae pawb yma am weld diogelwch ar y ffyrdd yn gwella, ond nid dyma’r ffordd i fynd ati, a dylech fod â chywilydd o’ch dull rhyfelgar o orfodi’r polisi hwn arnom heb ystyried y pryderon ymarferol hynny dros y pedair blynedd diwethaf i fodurwyr Cymru. Ac mae'r effaith arnynt wedi bod yn fawr, pan nad ydych yn cynnig unrhyw ddewis arall priodol iddynt. Dyna’r pryder.

Fel y dywedodd yr Aelod dros Gaerffili, rydych wedi gwneud llawer o siarad â'r wasg, ond rydych wedi methu argyhoeddi’r cyhoedd a mynd â nhw gyda chi ar y polisi hwn—[Torri ar draws.]

18:00

Er eglurder—ac i'ch helpu chi, Laura Anne Jones, gan fod pobl yn dweud bod eich amser ar ben—nid yw amser yr Aelod ar ben; fe dderbyniodd ymyriad. Rwy'n ymestyn yr amser pan fydd Aelodau'n derbyn ymyriadau. Laura Anne Jones.

Ond mae eich amser ar ben nawr gan fy mod i wedi gwneud ymyriad, felly, ie. [Chwerthin.]

Diolch. Fel y dywedodd yr Aelod dros Gaerffili yn gynharach, rydych chi wedi gwneud llawer gyda'r cyfryngau, Weinidog, ond rydych chi wedi methu argyhoeddi'r cyhoedd a mynd â nhw gyda chi gyda'r polisi hwn, felly mae angen i chi ddiddymu, dad-wneud y polisi hwn neu ymddiswyddo.

Lywydd, mae'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl yn bolisi pwysig, yn bennaf ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, ac mae'r ddeiseb i'r Senedd a datganiadau eraill o bryder yn wir, yn sylweddol, a dylid gweithredu mewn ymateb iddynt. Fel Aelodau eraill, rwyf wedi cael nifer fawr o e-byst ar y materion hyn, Lywydd, ac mae llawer ohonynt yn deall bod car sy'n taro plentyn neu berson hŷn ar 30 mya yn fwy tebygol o achosi marwolaeth neu anaf difrifol na char sy'n teithio ar 20 mya. Mae pobl yn barod i ddeall hynny, ac maent yn deall bod amseroedd a phellteroedd stopio'n wahanol iawn hefyd. Ac maent yn cefnogi'r polisi ar yr hyn y maent yn eu disgrifio fel y ffyrdd priodol. Mae hynny wedi bod yn thema gyffredin mewn llawer o'r ohebiaeth a gefais. A'r allwedd, wrth gwrs, yw penderfynu pa ffyrdd sy'n briodol.

Felly, rwy'n credu, Lywydd, mai'r ymateb cywir ar hyn o bryd yw monitro'n ofalus y ffyrdd sydd gennym bellach ar 20 mya, gyda thrigolion lleol, a bod yn glir am y broses sydd ynghlwm wrth y monitro a'r adolygu, a sut y gellir gwneud newidiadau. Oherwydd fe wyddom y dylai rhai ffyrdd 20 mya gael eu newid yn ôl i 30 mya, ac mae'n rhaid inni benderfynu pa ffyrdd yw'r rheini ar y cyd â thrigolion lleol. Janet.

Diolch. Hoffwn gytuno â llawer o'r hyn rydych chi wedi'i ddweud yma heddiw hefyd—y pwynt yw 'lle mae'n briodol'. Ac rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod wedi llwyddo i gael dwy ffordd i lawr i 20 mya. Roedd yn eithaf problemus, a dyna pam y gwnaethom ei gefnogi ar y dechrau i gyd o ran yr egwyddor o gynnal ymgynghoriad, pan oeddem yn meddwl ei fod yn ymwneud â  phriodoldeb a materion diogelwch ffyrdd. Fy nghwestiwn i chi, ac rwy'n ei ofyn drwoch chi, oherwydd rwyf wedi gofyn i'r Dirprwy Weinidog, ac o ystyried y ffaith bod gennym gymaint o wrthwynebiad—440,000—a wnewch chi ofyn iddo, fan lleiaf, i anfon canllawiau cryfach at awdurdodau lleol, oherwydd hyd yn oed yn fy awdurdod lleol fy hun, mae cynghorwyr yn dweud wrthyf na allant ddeall y meini prawf y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u gosod? Felly, mae'n ddiffygiol—[Torri ar draws.]

O'r gorau, o'r gorau. Rwy'n credu bod John Griffiths wedi deall yr ymyriad.

Cewch, fe gewch, John Griffiths. Roeddwn i'n cadw llygad ar y cloc.

Mae'r Dirprwy Weinidog, Janet, wedi rhoi sylw i'r materion hyn ac mae'r canllawiau yno i awdurdodau lleol, ond rwy'n derbyn efallai fod angen inni sicrhau bod dull mwy cyson o weithredu ledled Cymru, ac rwy'n credu y gall hynny fod yn rhan o'r monitro, gan weithio gyda thrigolion lleol, a'r newidiadau angenrheidiol a wneir.

Rwyf eisiau dweud hefyd, Lywydd, fod yna gwestiynau, mae yna lawer o lofnodion ar y ddeiseb. Mae angen inni ymateb, ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o wneud hynny yw fel y nodais. Ond hoffwn gytuno ag eraill sydd wedi tynnu sylw at y ffordd wael, y ffordd warthus, y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymdrin â'r materion hyn ac wedi ceisio cael elw gwleidyddol o'r materion hyn. Ac mae'r awyrgylch y mae'n ei greu, yr awyrgylch danllyd, wedi arwain at rai o'r cyfraniadau ar y cyfryngau cymdeithasol, rhai o'r sylwadau difrïol a'r bygythiadau. Oherwydd mae'n wir, onid yw, os ydych chi'n creu awyrgylch o'r math hwnnw, ni wyddoch pa mor bell y bydd pobl eraill yn mynd â'r mater. Ac rwy'n credu bod angen i bob un ohonom gadw hynny mewn cof, o ran yr hyn a wnawn a'r hyn a ddywedwn o'r pwynt hwn ymlaen—lledaenu camwybodaeth, sy'n ystumio'r ddadl, gan geisio esgus bod pob ffordd yn mynd i fod yn 20 mya. Ac rwyf wedi cael negeseuon e-bost yn dweud hynny wrthyf, ac rwy'n credu bod hynny'n deillio o'r gamwybodaeth y mae'r Torïaid Cymreig wedi'i ledaenu ac wedi'i ailadrodd yn barhaus. Mae'n gwneud cam â'n democratiaeth newydd yn y cyfnod ôl-ddatganoli yng Nghymru, Lywydd. A phan fydd pobl yn poeni, mae Aelodau eraill yn poeni, am gyfeiriad y teithio, a dylem i gyd boeni am hynny.

A gaf fi ddweud, Lywydd, mai'r peth pwysicaf i'w ddweud yw mai dyma'r polisi cywir. Wrth gwrs, mae angen monitro a newid unrhyw bolisi newydd. Dyma'r polisi cywir, Lywydd—mae'n iawn ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, mae'n iawn cael mwy o'n ffyrdd ar 20 mya nag a oedd gennym yn flaenorol o dan yr hen system 30 mya diofyn, a heddiw, mae'n iawn ein bod yn gwrthsefyll yr ymdrechion i wneud y ddadl yn un bersonol. Nid dadl am Lee Waters, y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth, yw hi, ond dadl am ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru, am y rhaglen lywodraethu. Fe ddylem gefnogi, ac fe wnawn ni gefnogi'r Dirprwy Weinidog trafnidiaeth heddiw.

18:05

Mae'r gwleidyddol wedi dod yn bersonol yn y ffordd anghywir yn y cynnig hwn. Ond i mi, wrth wraidd y polisi hwn, mae'r personol a'r gwleidyddol wedi'u cydblethu'n dynn. Mae 51 mlynedd wedi mynd heibio ers imi gropian i mewn i wely fy rhieni un bore Sul, a chael gwybod rhywbeth nad oeddwn i, fel plentyn pedair oed, prin yn gallu ei ddirnad. Roedd fy nghefnder Malcolm, a oedd ond flwyddyn yn hŷn na fi, wedi mynd at Dduw. Y noson cynt, roedd ei rieni, Agnes a Len, yn eistedd ar y bws yn Llandybie, yn aros i fynd i Rydaman i gyfarfod â fy rhieni yn neuadd y glowyr. Roedd Malcolm bach yn ddiogel ar draws y ffordd gyda'n mam-gu. Ond mewn llai nag eiliad, penderfynodd ei fod am ddweud un nos da arall. Felly, fe redodd ar draws y ffordd i'r safle bws, gan chwifio a gwenu, nes i gar a oedd yn goddiweddyd y bws llonydd ei stopio, tra oedd ei fam a'i dad yn gwylio. Bu farw yn eu breichiau. Dyna oedd ei ffarwel olaf.

Ac yn yr eiliad honno, aeth eu byd nhw, ein byd ni, a theulu'r gyrrwr cwbl ddiniwed, yn dywyllach ac yn llai am byth. A allwn ni ddweud yn sicr, pe bai'r terfyn cyflymder wedi bod yn 20 mya ar y rhan honno o Ffordd Blaenau y noson honno, y byddai fy nghefnder wedi bod yn fyw heddiw? Na allwn. Ond gallwn ddweud yn bendant y byddai wedi bod gryn dipyn yn fwy tebygol. Bydd y polisi hwn yn sicr o achub bywydau. Yr unig beth sy'n ansicr yw faint o fywydau. Felly, rwy'n falch fy mod wedi pleidleisio o'i blaid. Rwy'n falch ei fod wedi'i gynnwys yn ein maniffesto.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, euthum ar bererindod bersonol ddoe, i'r fan lle bu farw Malcolm. Gwelais yr arwydd 20 mya newydd tua 100 llath i ffwrdd. Roedd rhywun eisoes wedi paentio drosto. Ac fe feddyliais wrthyf fy hun, beth sydd wedi digwydd i ni pan fo'r ymdrech onest, weddus, egwyddorol i achub bywydau plant ac eraill yn gatalydd i gymaint o ddicter a chasineb? Rwy'n parchu'n llwyr y rhai sydd wedi dod i gasgliadau gwahanol ac wedi mynegi hynny mewn ffordd wâr a rhesymol, fel yn achos y ddeiseb, a'r nifer o sgyrsiau a gefais gydag etholwyr.

Mae'r Llywodraeth wedi gwneud y peth iawn gyda'r polisi hwn, ond nid yw hynny'n golygu eu bod wedi gwneud popeth yn y ffordd iawn, ac mae gwrando ac empathi a gallu i archwilio ein cymhellion yn gamau hanfodol mewn unrhyw broses ddemocrataidd. Felly, fel y dywedodd John, gadewch inni wneud y broses o wneud eithriadau mor syml a hygyrch ac mor glir a chyson â phosibl. Ond mae'r Gweinidog wedi bod yn glir ac yn gyson am y polisi a gynigiai. Nid ar gelwydd y seiliodd ei bolisi, ond ar dystiolaeth. Mae wedi glynu at ei egwyddorion, weithiau yn wyneb y gwrthwynebiad personol mwyaf milain a gwenwynig. Ymhell o dorri'r cod gweinidogol, bu'n ymgorfforiad o'r egwyddorion uniondeb sy'n ganolog i'r cod hwnnw. Mae angen mwy o onestrwydd a dewrder o'r fath arnom yn ein gwleidyddiaeth, nid llai, ac mae angen inni ddysgu anghytuno, gyda gwareidd-dra a pharch. [Cymeradwyo.]

18:10

Rwyf am ddilyn ymlaen o lle mae Adam Price newydd orffen, a thalu teyrnged iddo am adrodd y stori honno, oherwydd mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn anodd iawn. Ond mae'n crisialu pam ein bod ni yma, ac rwy'n credu mai'r rheswm pam ein bod ni yma yw i geisio achub bywydau'r rhai a allai gael eu colli fel arall, i atal y trasiedïau rydych chi newydd eu disgrifio, sy'n effeithio ar bawb, a hefyd i dalu teyrnged i'r Gweinidog sydd wedi gyrru hyn yn ei flaen yn y ffordd y gwnaeth, ac sydd, bob gafael, wedi ateb yr holl gwestiynau a ofynnwyd iddo.

Nawr, rydym i gyd yn gwybod, ac rwy'n ddigon hen i gofio, ein bod ni wedi cael llawer o newidiadau polisi mewn perthynas â cheir. Fe gawsom y gwregysau diogelwch, ac rwy'n cofio pobl yn dweud nad oeddent yn mynd i'w gwisgo. Yn wir, gwrthodais symud fy nghar o'r lle parcio yr oedd ynddo pan ddywedodd rhywun nad oeddent yn mynd i wisgo eu gwregys diogelwch, a dywedais, 'Wel, gallwch fynd allan o'r car'. Rwy'n cofio'r un ddadl pan wnaethom ofyn i bobl wisgo helmedau wrth yrru beiciau modur. Rwy'n cofio—ac rwy'n ddigon hen o drwch blewyn i gofio—yr anadlenydd yn cael ei gyflwyno. Tybed faint o bobl yma nawr a fyddai'n dymuno gyrru ar ffordd lle mae rhywun wedi meddwi ond bod ganddynt hawl i wneud hynny? Felly, mae'n rhaid inni edrych ar ble rydym ni arni. Byddwn, fe fyddwn yn gwrando ar y lleisiau hynny pan fydd pobl yn dweud, wyddoch chi, 'Mae angen diwygio hyn', ac mae'r Gweinidog wedi dweud yn glir iawn ei fod yn barod i wneud hynny. 

Fe yrrais o Hwlffordd i Aberystwyth ddoe, a nodais yr amser ychwanegol a gymerodd i mi, ac fe gymerodd hi ddau funud yn fwy i mi. Tybed o ble y daeth y dyfyniad pan ddywedoch chi fod rhywun wedi treulio 45 munud ychwanegol? Mae'n rhaid eu bod wedi mynd o amgylch Cymru ddwywaith. Ond mater arall yw hynny. Y pwynt pwysig yma yw ein bod ni i gyd wedi cael ein cam-drin yn eiriol oherwydd y ffordd y mae arweinydd yr wrthblaid wedi cyflwyno hyn, ac mae wedi parhau i ailadrodd ei fod yn 20 mya cyffredinol ac nid yw hynny'n wir. Ond heb fodloni ar ddim ond dweud, 'Mae'n 20 mya cyffredinol' nad yw'n wir, mae wedi alinio hynny â pholisïau eraill hefyd, ac wedi eu cydgysylltu. Ac rwyf wedi bod yn gwylio eich Twitter ac mae'n warthus. Ac rwy'n meddwl o ddifrif fod yna gwestiynau ynghylch eich Twitter chi y dylai'r comisiynydd safonau ddechrau edrych arnynt, oherwydd mae'r casineb—ac fel y dywedodd rhywun yn gynharach, nid ydych yn gwybod ble—

Mae fy amser ar ben. Nid ydych yn gwybod, pan fyddwch chi'n dechrau rhywbeth, lle y daw i ben. Felly, mae angen i chi ddechrau meddwl am hynny. Byddaf yn bendant yn cefnogi'r Gweinidog, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n dechrau ffrwyno eich casineb. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn y newid i'r terfyn cyflymder. Mae nifer y bobl sydd wedi llofnodi deiseb y Senedd yn siarad drosto'i hun, ac rydym yn sicr o ddifrif yn ei chylch. Rwy'n deall bod llawer o bobl yn ddig ac yn rhwystredig. Mae fy neges i'r 400,000 a mwy o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yn syml: rydym yn gwrando ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud, rydym yn deall nad yw pawb yn hoffi hyn, ac rydym yn barod i fod yn hyblyg o ran y modd y caiff hyn ei weithredu yn eich cymuned leol.

Ond Lywydd, dyma'r newid mwyaf yn rheolau'r ffordd ers i wisgo gwregysau diogelwch ddod yn orfodol ym 1983. Roedd hynny, hefyd, yn ddadleuol iawn a chafwyd gwrthwynebiad cryf iddo. Roedd llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd addasu, ond cafodd ei dderbyn, ac nid oes neb wedi awgrymu y dylem fynd yn ôl i fel roedd hi. A dyna a ddigwyddodd yn yr ardaloedd yn y wlad hon ac ar draws Ewrop sydd wedi gostwng y terfyn cyflymder hefyd. Nid oes neb eisiau mynd yn ôl i fel roedd hi, ac nid ydym ni eisiau mynd yn ôl i fel roedd hi ychwaith. Ar strydoedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu, mae'r dystiolaeth yn glir iawn—fod 20 mya yn achub bywydau ac yn lleihau'r nifer o anafiadau. Ac oes, mae yna wrthwynebiad, ond mae yna ddigon o gefnogaeth hefyd. Ond fe fyddwn ni'n hyblyg o ran y modd y caiff ei weithredu, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i'w gael yn iawn. Rwy'n falch iawn fod y data traffig cynnar a'r data sy'n dod i'r amlwg o'r wythnos gyntaf yn dangos bod pobl yn cefnogi'r newid drwy arafu. Mae'r data hyd yn hyn yn dangos bod yr oedi cyfartalog i amseroedd teithio yn llai nag un funud, fel roeddem yn ei ddisgwyl. Nawr, rwy'n gwybod nad dyna brofiad pawb, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, ond dyna mae'r data llywio â lloeren wedi'i hanonymeiddio rydym wedi'i gael hyd yma yn ei ddangos. Mae'n galonogol hefyd fod Tesco a Sainsbury's wedi dweud yn ystod y dyddiau diwethaf nad ydynt yn bwriadu newid patrymau dosbarthu na chodi'r gost i gwsmeriaid yng Nghymru. Felly, 10 diwrnod yn ddiweddarach ac mae'r arwyddion yn addo bod y newid eisoes yn ymwreiddio, ond maent yn dweud ei bod hi'n cymryd 28 diwrnod i newid arferiad, felly mae angen inni roi amser i hyn.

Lywydd, mae'r ddadl wedi newid. Mae'n ymddangos bellach fod cytundeb cyffredinol mai 20 mya yw'r cyflymder cywir y tu allan i ysgolion, lleoliadau iechyd ac ardaloedd preswyl. Nid oedd hynny'n wir bedair blynedd yn ôl. A gadewch inni fod yn glir beth mae ein canllawiau yn ei ddweud mewn gwirionedd: ar ffyrdd sydd o fewn 100m i leoliad addysgol, canolfan gymunedol, ysbyty, neu'n agos at siopau a chartrefi, 20 mya yw'r cyflymder cywir. Mae hon yn rheol arweiniol synhwyrol. Ond wrth gwrs, ar gyfer pob rheol, mae yna eithriad. Er enghraifft, os yw ffordd yn mynd heibio i gefn tai ac nad oes pobl yn croesi, buaswn yn disgwyl i honno barhau ar 30 mya. Felly, mae angen inni ddefnyddio synnwyr cyffredin, ac mae cynghorau'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny. Fel y mae'r canllawiau'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, mae'n werth ei ddarllen,

'mae gan awdurdodau priffyrdd yr hyblygrwydd o hyd i bennu terfynau cyflymder lleol sy'n gywir ar gyfer ffyrdd unigol, gan adlewyrchu anghenion ac ystyriaethau lleol.'

Dyna beth mae'n ei ddweud.

'Pan fo'u penderfyniad yn gwyro o'r canllawiau hyn, dylai awdurdodau priffyrdd sicrhau bod ganddynt achos clir a chadarn...'

Ac ar draws Cymru, mae cynghorau eisoes wedi defnyddio'r pwerau hynny i wneud eithriadau cyn cyflwyno'r cynllun ar 17 Medi. Maent wedi arfer eu gallu i gadw rhai ffyrdd ar 30 mya, a dyna pam nad yw hwn yn bolisi cyffredinol, am fod rhai ffyrdd yn cael eu cadw ar 30 mya. Mae ganddynt bwerau i wneud y newidiadau hynny, ac mae'r pwerau hynny'n parhau gyda nhw i'w defnyddio yng ngoleuni profiad. Gallant wneud newidiadau.

Nawr, i fod yn deg â chynghorau, maent mewn sefyllfa anodd. Mae'r ymchwil yn dweud wrthym fod pobl eisiau cyflymderau is ar y strydoedd y maent yn byw arnynt, ond maent yn llai awyddus i ostwng y cyflymderau ar y ffyrdd y maent yn gyrru arnynt. Yn wir, pan fo cynghorau wedi penderfynu cadw rhai strydoedd ar 30 mya, mae'r bobl sy'n byw arnynt wedi gwrthwynebu. Felly, mae'n anodd iawn sicrhau'r cydbwysedd cywir, ond byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu i'w gael yn iawn. Nid oedd erioed yn mynd i fod yn berffaith ar y diwrnod cyntaf. Mae hyn yn galw am broses o ailedrych a newid.

Hoffwn ddiolch i'r cynghorau, sydd eisoes dan bwysau mawr, am y gwaith a wnaethant yn y cyfnod cyn 17 Medi—mae wedi bod yn waith helaeth iawn—a'r gwaith y maent yn parhau i'w wneud. A gyda nhw, byddwn yn cadw llygad barcud ar sut mae'n mynd. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith ar gyfer sut y byddwn yn monitro'r newidiadau; ym mis Ionawr, byddwn yn cyhoeddi'r set ddata ôl-weithredu gyntaf ar gyflymder; ac erbyn yr haf, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau manwl cyntaf ar gyfer y chwe mis cyntaf o weithredu'r terfyn cyflymder. Yna bydd rhagor o fonitro ffurfiol ar sail flynyddol am y pum mlynedd nesaf. Rydym yn gofyn i gynghorau nawr am adborth ar eu profiadau hyd yma: beth sydd wedi mynd yn dda, beth y gallai fod angen ei newid. Ac wrth gwrs, rydym yn croesawu craffu gan y Senedd a'i phwyllgorau. Nid ydym yn benstiff ynglŷn â hyn, rydym am arfer synnwyr cyffredin.

Ochr yn ochr â hynny, byddwn yn gweithio gyda chynghorau i ystyried a oes angen egluro ein canllawiau ar eithriadau, gan gydnabod y bydd yn cymryd amser i ymwreiddio cyn y gallwn ddod i gasgliadau ehangach. Ac rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yng Nghymru sy'n gwneud eu rhan i helpu i wneud ein cymunedau yn fwy diogel. Mae cyflymderau eisoes wedi gostwng ac o ganlyniad, gallwn ddisgwyl gweld llai o ddamweiniau, llai o anafiadau, llai o farwolaethau, llai o drasiedïau. Ychydig bach yn arafach, Lywydd, ond yn llawer iawn gwell. Diolch. 

18:20

Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, am gywair yr ymateb. Mae'n rhaid imi ddweud bod y ffordd edifeiriol y gwnaethoch chi ymateb yn wahanol iawn i'r cywair a glywsom gennych chi'n bersonol dros yr wythnosau diwethaf, Weinidog, a chan eraill, ac rwy'n credu bod cywair y ddadl yn well pan fydd fel hyn. Cefais fy nharo gan y stori bersonol bwerus a rannodd Adam Price am Malcolm. Mae gennym stori yn ein teulu ni hefyd, am Wendy, fy nghyfnither. Bu farw'n bump oed. Cafodd ei tharo gan fws wrth groesfan lle roedd yna ddyn lolipop. Roedd hi gyda'i mam a'i chwaer. Roedd ei mam yn gwthio pram—roedd ganddi blentyn bob ochr iddi gyda'r pram—a rhoddodd y dyn lolipop rywfaint o hyder iddi gamu allan i'r ffordd, ac yn anffodus, nid oedd yn ddiogel. Nid cyflymder y bws oedd ar fai, fel sy'n digwydd yn aml. Weithiau, mae pobl yn gwneud camgymeriadau, a bu farw Wendy fach, pump oed, ychydig oriau ar ôl y digwyddiad erchyll hwnnw.

A'r mathau hynny o ddigwyddiadau sydd hefyd yn fy ngwneud i'n angerddol ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd. Rwy'n codi materion diogelwch ar y ffyrdd yn y Siambr hon yn rheolaidd, gan alw'n rheolaidd am ostyngiadau priodol yn y terfyn cyflymder mewn mannau drwg am ddamweiniau neu fannau lle mae'n gwneud synnwyr, ac rydym wedi trafod llawer ohonynt yn y Siambr hon heddiw—ger meysydd chwarae, ysgolion, ysbytai, lleoedd eraill lle mae gennych lawer o gerddwyr, yn enwedig. Ond mae yna lefydd nad ydynt yn addas ar gyfer terfynau 20 mya—rydym i gyd yn gwybod hynny—ac mae rhai ohonynt, yn anffodus, yn ein hetholaethau. Ac nid wyf yn credu, Weinidog, mai cynghorau sy'n camddehongli'r data neu nad oes ganddynt yr adnoddau o reidrwydd. Rwy'n credu bod awdurdodau lleol wedi cael digon o amser i weithredu ac i allu edrych ar y canllawiau.

Rwy'n credu bod problem gyda'r canllawiau. Nid ydynt yn ddigon hyblyg yn fy marn i, a hoffwn eich annog i wneud mwy na chymryd misoedd lawer i bwyso a mesur gweithrediad y polisi penodol hwn. Mae angen penderfyniadau cyflym iawn arnom ar ein rhwydwaith ffyrdd er mwyn peidio â rhwystro pobl ar eu teithiau o A i B lle mae'n berffaith ddiogel iddynt allu teithio hyd at 30 mya. Ac rwy'n dweud 'hyd at' oherwydd rydym i gyd yn gwybod, hyd yn oed yn y rhan fwyaf o barthau 30 mya cyn i'r polisi hwn gael ei weithredu, ei bod hi'n anodd y rhan fwyaf o'r amser mewn ardaloedd trefol i wneud 30 mya oherwydd traffig, oherwydd cyflwr ffyrdd a phob math o resymau eraill. 

Cawsom ein beirniadu am gael pleidlais o ddiffyg hyder heddiw, Lywydd, ac am gael dadl hanner awr yn unig. A gaf fi egluro pam mai felly y bu? Rydym yn cael pleidlais o ddiffyg hyder am nad oedd yr agwedd a ddangoswyd yn flaenorol gan y Gweinidog i'w gweld yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru sy'n ddig ac yn ofidus iawn am y polisi a'r ffordd y cafodd ei weithredu. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r cywair rydych chi'n ei ddefnyddio hefyd, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am Wendy. Rwy'n credu bod cywair y ddadl hon wedi dangos yn glir lle rydym ni fel Senedd ar hyn, a chan ystyried yr hyn roeddech chi'n ei ddweud nawr ynglŷn â chywair y Gweinidog, ynglŷn â'r straeon sydd wedi eu rhannu, mae gennych bŵer nawr i dynnu'r cynnig hwn yn ôl, nid i'w roi i bleidlais oherwydd—. Nid wyf—. Gobeithio y byddwch chi'n derbyn hyn, Darren—nid wyf yn dweud hyn er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol. Mae arnaf ofn yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein gwleidyddiaeth. Rwy'n erfyn arnoch, os gwelwch yn dda, i beidio â gwthio hyn i bleidlais.

Ni fyddaf yn tynnu'r cynnig yn ôl rhag y bleidlais, oherwydd credaf fod pobl Cymru yn disgwyl inni allu adlewyrchu'r safbwyntiau sy'n cael eu cyfleu i ni gan ein hetholwyr, a dyna yw ein dyletswydd. Credaf fod gennym rwymedigaeth i allu cael y ddadl hon heddiw, o ystyried y ffaith nad oes gan lawer o'n hetholwyr, gan gynnwys llawer yn eich etholaeth chi a'r ardal rydych chi'n ei chynrychioli, Delyth, hyder mai dyma'r Gweinidog cywir yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Y peth arall rwyf am ei ddweud yw bod yna reswm pam mai dim ond dadl hanner awr a gyflwynwyd gennym, a'r ffaith ein bod wedi cael llawer o ddadleuon eisoes yn y Senedd ar bwnc parthau 20 mya yw hynny. Yn wir, fe gynhaliwyd un gennym gwta bythefnos yn ôl—gwerth awr o drafod ar y mater yn ei gyfanrwydd. Roeddem am ganolbwyntio ar hyder y Senedd hon a phobl Cymru yn y Gweinidog i allu gwneud y swydd.

A hoffwn atgoffa pawb yn y Siambr, o dan system adalw—. Cododd Alun Davies yr angen am system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd yn y dyfodol ar ôl 2026, ac rwy'n cytuno gydag ef, gyda llaw; mae angen inni geisio dod o hyd i ffordd y gellir adalw pobl. Pe bai'r ddeiseb hon yn ddeiseb adalw, a phe bai cyfleuster i adalw, mae cael 15 y cant o boblogaeth Cymru i fod wedi ei harwyddo yn fwy na digon i allu cael math o ddigwyddiad adalw. Felly, hoffwn atgoffa pobl o hynny.

Ac yn wyneb yr honiad nad oes gennym ddull cyffredinol—[Torri ar draws.] Mae arnaf ofn na allaf. Rwyf eisoes wedi profi amynedd y Llywydd—oni bai eich bod yn caniatáu imi ei dderbyn.

18:25

Fe wnaf ganiatáu i chi dderbyn yr ymyriad, Darren Millar. 

Rhai ffeithiau—ac rwy'n gwybod efallai y byddwch yn gweld hyn yn anodd, ond ffeithiau a realiti. Nid yw'r hyn rydych chi newydd ei ddweud yn gywir. Mae'n ffeithiol anghywir, iawn? Pe bai yna broses adalw, yn gyntaf oll byddai'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth, ac yna byddai'n rhaid i chi gyrraedd y trothwy ar gyfer y pleidleiswyr yn yr etholaeth honno. Nawr, rwy'n gwybod eich bod chi'n ei chael hi'n anodd sylweddoli bod yna ffeithiau, ond roeddwn i eisiau eich atgoffa chi.

Rwy'n gyfarwydd â'r rheolau a dim ond ar gyfer etholiadau seneddol y DU y maent yn gymwys, ac mae'n drothwy o 10 y cant o'r pleidleiswyr cofrestredig yn yr etholaeth honno. Rwy'n gwneud pwynt, dyna i gyd, felly os caniatewch i mi barhau, ac fe ddof i ben. Yn amlwg mae yna lawer o ofid am beth o'r iaith sydd wedi cael ei defnyddio, ac un peth rwy'n cytuno â phawb yn ei gylch yw'r math o gam-drin geiriol y mae pob un ohonom wedi bod yn agored iddo ar y mater hwn—ac mae'n rhaid i mi ddweud, dylech weld y cam-drin geiriol sydd wedi'i gyfeirio tuag ataf fi ac arweinydd yr wrthblaid, a phob un ohonom ar y meinciau hyn, am ein safbwyntiau, gan gynnwys gan rai unigolion ar eich meinciau chi. Ond mae'r honiad nad yw'n bolisi cyffredinol yn nonsens. Mae 97 y cant o'r ffyrdd 30 mya a oedd gennym cyn cyflwyno'r terfyn hwn wedi newid i fod yn ffyrdd 20 mya. Mae hynny, i mi, ac i'r rhan fwyaf o bobl ledled Cymru, yn edrych fel penderfyniad cyffredinol. 

Beth bynnag, rwyf am orffen drwy ddweud hyn: nid ydym yn cyflwyno cynigion o ddiffyg hyder yn ddifeddwl. Rydym wedi gwneud hynny—[Torri ar draws.] Rydym wedi gwneud hynny o ystyried maint eithriadol, maint digynsail, y ddeiseb hon yn yr wythnosau diwethaf sy'n fwy nag unrhyw ddeiseb a welwyd o'r blaen yng Nghymru, ac sydd wedi dangos bod gwrthwynebiad cyhoeddus enfawr i'r polisi hwn. Mae arnaf ofn fod methiant y Llywodraeth i weithredu'n ddigon cyflym, a methiant y Gweinidog i weithredu'n ddigon cyflym, yn dangos nad yw'n addas i fod yn y swydd honno, a dyna pam rwy'n annog pawb i bleidleisio dros y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, awn ni at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf fydd ar eitem 6—dadl Aelodau dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddatganoli dŵr yn llawn yw'r bleidlais yma. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhys ab Owen. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, tri yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

18:30

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhys ab Owen: O blaid: 43, Yn erbyn: 12, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd y bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar asedau cymunedol, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais yn erbyn y cynnig. Ac felly, o blaid y cynnig 29, yn ymatal 0, ac yn erbyn y cynnig 30. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 29, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, felly. Agor y bleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.   

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 42, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8361 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.

2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.

3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.

4. Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:

a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;

b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac

c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.

Agor y bleidlias. Cau'r bleidlais. O blaid 58, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol. Cynnig wedi ei ddiwygio: O blaid: 58, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.  

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: O blaid: 16, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

11. Dadl Fer: Y 'Draen Dawn' yng Nghymru: Heriau ac Atebion

Mae yna eitem arall o fusnes a'r ddadl fer yw honno. A dwi'n galw ar Luke Fletcher i gyflwyno ei ddadl fer. 

Os gall yr Aelodau adael y Siambr yn dawel—nid ydym wedi gorffen ein busnes eto—ac fe ofynnaf i Luke Fletcher ddechrau ei ddadl fer. 

Diolch, Lywydd. Ac rwyf wedi cytuno i roi munud o amser i Adam Price, Peredur Owen Griffiths a Sam Kurtz hefyd. Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn gwadu bod pobl iau heddiw yn waeth eu byd nag oedd eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau ar yr un adeg yn eu bywydau nhw, ac mae nifer o resymau dros hyn. Mae'n rhy ddrud i brynu tŷ. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 19 mlynedd i gynilo blaendal heddiw, o'i gymharu â dim ond tair blynedd yn yr 1980au. Mae rhent yn anfforddiadwy i lawer o bobl, yn enwedig i'r rhai ohonom sy'n gweithio yn yr economi gig sy'n ymestyn yn barhaus, lle nad oes sicrwydd swydd, a lle na cheir amodau gweithle a buddion yn y gweithle. Mae tag pris ar addysg uwch bellach, gan arwain at ddyled o £50,000 i raddedigion a fawr iawn o ragolygon swyddi yn eu meysydd dewisol. Ac wrth gwrs, mae dirwasgiad 2008, y pandemig a'r argyfwng costau byw nawr yn taro, ac wedi taro swyddi rhai dan 30 oed yn enwedig. Felly, nid yw'n syndod fod pobl yn chwilio am fywyd gwell mewn mannau eraill.

Ond mae'r ffaith bod pobl ifanc yn allfudo o'n cymunedau ac allan o Gymru wedi bod yn broblem ers amser maith ac yn un y mae llunwyr polisi dirifedi blaenorol wedi ceisio mynd i'r afael â hi. Rwyf wedi sôn yma o'r blaen am ddogfen bolisi a gyhoeddwyd 52 mlynedd yn ôl ym 1971, 'A Strategy for Rural Wales'. Yn y ddogfen honno, trafodwyd yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru. Symudwn ymlaen at fy oes i, ac yn 2017, mynegodd Adam Price ei bryderon. Ar y pryd, roedd Cymru yn y degfed safle o 12 rhanbarth y DU o ran nifer y graddedigion a gâi eu colli o'r wlad hon—rhywbeth rwy'n gwybod ei fod am gyffwrdd ag ef yn y ddadl hon. Rydym yn gweld hynny'n cael ei ddangos bellach yn y 75 y cant amcangyfrifedig o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru sy'n croesi'r ffin i weithio yn Lloegr yn hytrach nag aros yng Nghymru. Rydym yn ei weld gyda'r hysbysebion sydd wedi'u targedu nid yn unig at fyfyrwyr o Gymru, ond myfyrwyr ledled y DU, gan Lywodraethau Awstralia a Seland Newydd i hyrwyddo'r bywyd y gallech ei gael yno. Ac i fod yn deg, ni allwch feio pobl am edrych ar Awstralia fel lle posibl i fynd—fe allech chi wneud shifft yn eich sector dewisol ac ar ei diwedd, o fewn 10 munud, gallwch fod ar y traeth gyda photel o gwrw yn eich llaw a'r haul yn gwenu arnoch. Roeddwn i'n ystyried mynd i Seland Newydd fy hun ar un adeg, ac rwy'n siŵr fod digon o bobl yma a fyddai'n falch pe bawn i wedi mynd, ond roedd gweld yr hyn a oedd gan y lle i'w gynnig yn ddigon i fy nenu o leiaf i ddechrau'r broses fewnfudo. Yn amlwg, ni wneuthum ei chwblhau.

Nawr, ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at y bwlch yn y data sydd gennym ar gyfer mapio patrymau mudo pobl ifanc. Rydym yn dibynnu ar gyfrifiad unwaith mewn degawd, data cleifion y GIG ac arolygon graddedigion i roi darlun i ni o bwy sy'n symud ac i ble. A cheir llai fyth o ddata cyrchfannau dysgwyr neu ymchwil sy'n dweud wrthym pam eu bod yn symud. Er bod data'n bodoli ar gyfer mudo mewnol, sy'n dangos ein bod, yn fras, yn colli 23,000 o bobl ifanc y flwyddyn ar gyfartaledd i weddill y DU, nid oes data'n bodoli ar gyfer allfudo i weddill y byd, nac o un awdurdod lleol i'r llall. Os ydym am ddechrau datrys y broblem, mae angen y data arnom er mwyn deall y tueddiadau.

Nawr, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i o leiaf ddechrau atal allfudo, ac rwyf am osod cafeat i hyn drwy ddweud nad wyf yn credu y gallwn atal pobl yn llwyr rhag allfudo, a dof at hynny yn nes ymlaen. Comisiynodd Llywodraeth yr Alban waith ymchwil i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar allfudo a cheir nifer o argymhellion y gallwn eu dysgu oddi yno, yn enwedig o ystyried bod ffigurau allfudo fel pe baent yn gwrthdroi yn yr Alban. Mae'r rhai y credaf y byddant o ddiddordeb i ni yn rhai ariannol yn y lle cyntaf, ac mae Gerry Holtham hefyd wedi cyffwrdd â'r angen am gymhellion ariannol mewn erthygl a ysgrifennodd ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig. Nododd Holtham argymhellion y credaf fod angen i'r Llywodraeth eu harchwilio ymhellach: er enghraifft, dylai addysg drydyddol yng ngholegau a phrifysgolion Cymru fod yn rhydd o'r holl ffioedd i fyfyrwyr sy'n aros ac yn gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio; dylid gollwng hanner y ffioedd ar ôl tair blynedd; dylai unrhyw berson ifanc o dan 30 oed sy'n symud i Gymru i ddechrau swydd gael ad-daliad treth incwm Cymru llawn am y flwyddyn gyntaf hyd at drothwy, ond bod yr ad-daliad i'w gredydu a'i dalu dros dair blynedd os ydynt yn parhau i gael eu cyflogi yng Nghymru; a byddai dyledion presennol myfyrwyr yn cael eu gohirio i bobl ifanc sy'n dechrau busnes yng Nghymru a chronfa bwrpasol a gwasanaeth mentora'n cael ei sefydlu ar eu cyfer.

Lywydd, soniais yn gynharach nad wyf yn credu y gallwn atal llif pobl ifanc allan o Gymru nac o'n cymunedau gwledig yn gyfan gwbl, felly fe ddof yn ôl at hyn. Y realiti i lawer yw eu bod naill ai eisiau dianc rhag eu rhieni, eu bod eisiau mwy o annibyniaeth, neu eu bod eisiau byw mewn ardal lle mae mwy yn digwydd a mwy o gyfleoedd. Ac yn yr achosion hynny, mae goleuadau llachar y dinasoedd bob amser yn anodd eu gwrthsefyll. Wrth imi ohirio mynd ati i orffen ysgrifennu'r araith hon, roeddwn yn sgrolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol, fel y mae llawer ohonom yn ei wneud pan fyddwn yn gohirio gwneud rhywbeth, ac fe wawriodd arnaf fod fy llinell amser yn llawn o bobl sy'n byw y tu allan i Gymru. Dechreuais nodi'r niferoedd a gallaf enwi tua 20 o bobl yn fy ngrwpiau o ffrindiau nad ydynt yn byw yng Nghymru mwyach. Roedd rhai yn Awstralia, rhai yn Seland Newydd, rhai yn America a rhai dros y ffin yn Lloegr. Nawr, o safbwynt cwbl hunanol, mae hynny'n eithaf da i mi. Gallaf ddod o hyd i lety pan fyddaf yn ymweld â'r lleoedd hyn, ond mae'n bendant yn rhoi rheswm i mi ymweld â'r lleoedd hyn hefyd. Mae'r rhain yn bobl dalentog sydd wedi cael eu colli o'n heconomi hyd yma, ond nid ydynt wedi eu colli am byth. Felly, cwestiwn y mae'n rhaid i ni ei ofyn i ni'n hunain hefyd yw: sut mae annog pobl i ddychwelyd adref?

Yn un peth, mae Plaid Cymru wedi nodi'r angen am strategaeth sy'n tynnu sylw at dai, gwaith ac iaith fel blociau adeiladu posibl. Gadewch inni edrych ar hyn ymhellach. Gadewch inni ddechrau gyda thai. Ar hyn o bryd mae pris cyfartalog tŷ yn naw i 10 gwaith y cyfartaledd enillion. Y tro diwethaf i dai fod mor ddrud oedd yn y flwyddyn 1876, bron i 150 o flynyddoedd yn ôl. Cyfartaledd yw hwn ar gyfer y DU gyfan. Mae'r ffigur hwnnw'n newid er gwaeth pan edrychwch ar rai o'r mannau lle ceir llawer o ail gartrefi ledled Cymru. Felly, rhan allweddol nid yn unig o annog pobl i ddychwelyd, ond o'u cadw yma hefyd, yw sicrhau yn gyntaf y gallant fforddio dod yn ôl neu aros yn y lle cyntaf. Nawr, mae llawer yn cael ei wneud drwy'r cytundeb cydweithio i fynd i'r afael â phla ail gartrefi, ond mae angen inni wneud mwy drwy brosiectau adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr fel un ffordd o ddechrau gostwng prisiau tai, yn ogystal ag edrych ar gapiau rhent i bobl sy'n rhentu.

Gan droi at waith, mae'n weddol syml: mae angen swyddi sy'n talu'n dda gydag amodau da yn y gweithle. Sut mae gwneud hyn? Wel, rwy'n credu bod dau bwynt penodol y dylem eu harchwilio. Yn gyntaf, rôl y banc datblygu yn buddsoddi mewn syniadau o Gymru a datblygu sectorau o'r economi, sydd nid yn unig yn cynnwys buddsoddi mewn mentrau ac entrepreneuriaid bach a chanolig Cymreig, ond buddsoddi o ddifrif yn yr economi gydweithredol ar raddfa fawr. Rwyf am weld prosiectau cydweithredol ar raddfa fawr sydd nid yn unig yn cyfateb i'r hyn sydd wedi digwydd drwy Mondragon yng Ngwlad y Basg, ond sy'n mynd ymhellach eto. Rwy'n credu bod naratif clir iawn i'w weld yma a all apelio at bobl ifanc. Beth am sefydlu cwmni cydweithredol gyda'ch ffrindiau ac fe wnaiff Llywodraeth Cymru eich cefnogi?

Yn ail, ac rwy'n credu bod hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y pwynt a wneuthum yn gynharach mewn perthynas â data cyrchfannau dysgwyr, mae angen inni wella'n aruthrol y modd rydym yn cadw mewn cysylltiad â phobl sydd wedi symud o Gymru i rywle arall. Rwy'n credu mai'r stori sy'n dangos potensial hyn i mi oedd y newyddion yn ystod yr haf am gemau Rocket Science, y cwmni sydd wedi gweithio ar Fortnite Call of Duty, gan sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yma yng Nghaerdydd. Bachgen o Ben-y-bont ar Ogwr yw ei gyd-sylfaenydd a freuddwydiai am weithio yn y sector gemau cyfrifiadurol. Gadawodd Gymru am nad yw'r sector yn bodoli ar y lefel yr oedd yn awyddus i'w chyrraedd; nawr mae wedi dychwelyd. Mae nifer fawr o bobl wedi gwneud yr un peth.

Nawr, nid wyf yn argymell ein bod yn cynnal ymgyrch fuddsoddi uniongyrchol enfawr dramor. Yr hyn a fyddai'n llawer mwy buddiol a chynaliadwy yn fy marn i yw i'r Llywodraeth gysylltu â'r rhai sydd wedi gadael Cymru i gael profiadau mewn sectorau nad ydynt yn bodoli yma neu lle mae arbenigedd sectoraidd yn brin, lle maent wedi cyrraedd y brig yn eu maes, a'u hannog i ddychwelyd drwy ddweud wrthynt, 'Rydych chi wedi ennill profiad o'r radd flaenaf. Pam na wnewch chi ddod â'r profiad hwnnw'n ôl? Sefydlwch eich cwmni eich hun yma yng Nghymru, ac fe wnawn ni eich cefnogi; cawn yr arian yn ôl yn ei dro drwy gyfranddaliadau yn y cwmni a sefydlir gennych ar ein telerau ni.' Gwladwriaeth entrepreneuraidd ar waith, buaswn i'n dadlau, a chynllun a fydd yn dod ag arbenigedd sectoraidd lle nad oes gennym arbenigedd o'r fath ac yn helpu i adeiladu ein heconomi mewn ffordd gynaliadwy.

Yn olaf, ac yn anecdotaidd i fod yn deg, mae'n ymddangos i mi mai'r prif reswm pam fod y bobl rwy'n eu hadnabod yn dychwelyd adref yw'r awydd i fagu teulu: 'Fe ddown adref ac elwa o'r gofal plant am ddim y gall aelodau o'r teulu ein cefnogi gydag ef, gobeithio.' Nawr, ni ddylem fychanu pŵer y teulu i annog pobl yn ôl i Gymru. Wrth gwrs, unwaith eto, drwy'r cytundeb cydweithio, rydym yn gweithredu polisïau yn y maes hwn. Ond mae'n rhaid i gonglfaen unrhyw strategaeth roi gofal plant ac addysg yn y canol, sy'n golygu buddsoddiad ar raddfa fawr i wneud Cymru'n fan lle mae pobl yn awyddus iawn i fagu eu teulu.

Daw hynny, wrth gwrs, ochr yn ochr â hyrwyddo cynnig diwylliannol. Fel Seland Newydd ac Awstralia, mae gennym lawer i frolio yn ei gylch yma hefyd: traethau a mannau gwyrdd syfrdanol, hanes cyfoethog o gân, llenyddiaeth a chelf. Mae Gerry Holtham yn gofyn cwestiwn yn un o'i erthyglau y credaf ei fod yn crynhoi'r hyn rwy'n ceisio ei gyfleu yma: rydym yn hysbysebu Cymru i fyd busnes, pam ddim i bobl hefyd?

Ddirprwy Lywydd, yn yr amser—Lywydd, hyd yn oed—rwyf wedi'i gael, rwyf wedi ceisio ymdrin â—rwy'n ymddiheuro am eich diraddio, Lywydd. Rwyf wedi ceisio ymdrin â llawer o bethau yn y ddadl hon. Rwy'n edrych ymlaen at barhau'r ddadl y tu hwnt i'r ddadl fer hon ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog.

18:45

Diolch i Luke Fletcher am ysgogi’r ddadl bwysig hon, ac am y doreth o syniadau creadigol mae e wedi'u crynhoi yn ei araith. Mi fyddwch chi, Llywydd, yn cofio Llwybro, cynllun oedd yn cael ei weithredu gan y cwmni Menter a Busnes roeddwn i’n gweithio iddo fe, ac yn cael ei ariannu gan y corff, y Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, roeddech chi yn gweithio iddo fe. Weithiau mae’n rhaid i ni fynd nôl er mwyn canfod syniadau ar gyfer y dyfodol.

Dwi jest eisiau ffocysu yn fyr iawn ar ddimensiwn, fel roedd Luke yn dweud, yn ymwneud â graddedigion a’r ffordd mae gennym ni bolisi cefnogaeth myfyrwyr ar hyn o bryd sydd ddim yn rhoi unrhyw gymhelliad, a dweud y gwir, i bobl aros nag i ddychwelyd. Ac a dweud y gwir, mae symiau enfawr yn cael eu gwario gan Lywodraeth Cymru, ar adeg pan ŷn ni’n deall bod arian yn dynn, sydd yn cefnogi myfyrwyr i fynd allan o Gymru mewn niferoedd cynyddol. Hynny yw, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan yr Higher Education Statistics Agency, sydd yn crynhoi’r ystadegau yma, mae 51.4 y cant nawr o is-raddedigion o ogledd Cymru yn gadael Cymru, a 44.5 y cant yw’r ffigwr yn y canolbarth. Wrth gwrs, goblygiad hyn yw nid yn unig maen nhw’n astudio y tu allan i Gymru, dŷn nhw ddim yn dod nôl. Maen nhw’n gweithio tu allan i Gymru.

Mae’r ffigurau’n glir: os ŷch chi’n astudio yn Lloegr, yn dod o Gymru, mae 60 y cant o'r rheini yn aros yn Lloegr i weithio. Yng Nghymru, mae saith gwaith y nifer sydd yn gadael yn aros. Hynny yw, mae’n hollol eglur, a dyna pam, jest i grynhoi, mae’n ddiddorol i weld bod yr Albanwyr yn becso am y cwestiwn yma, ac mae’u sefyllfa nhw yn llawer, llawer gwell na ni. O ran graddedigion, dim ond 13 y cant o holl raddedigion yr Alban sy’n gweithio y tu fas i’r Alban. Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Cymru yw 31 y cant, sef un o’r ffigurau mwyaf gan unrhyw genedl yn y byd.

Diolch yn fawr i Luke am ddod â’r ddadl bwysig yma ymlaen heddiw. Ac fel un o’r bobl roeddet ti’n sôn amdanynt, Adam, un o’r rheini aeth allan o Gymru i gael fy ngradd—es i i’r brifysgol yn Sheffield ac astudio gradd mewn peirianneg, control systems engineering—es i yno, gwnes i fwynhau fy hun, ond gwnes i hefyd gael gradd dda. Gwnes i lot o ffrindiau, ond es i o yna efo gradd mewn peirianneg roeddwn i’n gallu wedyn ei defnyddio. Roeddwn i’n lwcus iawn i allu dod nôl i Gymru ac roeddwn i eisiau dod nôl, ond fe ges i gynnig swydd fel un o’r graddedigion yma yng Nghymru fel fy mod i’n gallu dod yn ôl. Roeddwn i wedyn yn gallu dod â’r sgiliau roeddwn i wedi eu dysgu yn y coleg, a dod â nhw yn ôl a’u iwsio nhw yn ein cymunedau ni yn fan hyn.

Rwy'n sylweddoli nad yw pawb yn dymuno dychwelyd i Gymru ar ôl eu gradd, ond hoffwn i'r Llywodraeth hon roi mwy o bwyslais ar sicrhau bod mwy o swyddi o safon i'r bobl hynny ddod yn ôl iddynt. Yn yr un modd, hoffwn i'r Llywodraeth hon sicrhau bod yr amodau yn eu lle i entrepreneuriaid ddychwelyd i Gymru hefyd, drwy wneud Cymru'n lle mwy deniadol i sefydlu cwmni—fel y dywedoch chi, Luke—i ffurfio cwmni ac i ffynnu. Byddai'n creu swyddi mawr eu hangen ac yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru. Weinidog, yn eich ymateb hoffwn glywed a allwch chi rannu'r uchelgais ar gyfer denu pobl yn ôl i Gymru ac i adeiladu ein heconomi. Diolch yn fawr.

Diolch i Luke am y cyfle i siarad yn y ddadl fer hon.

Rydych chi'n hollol gywir, ac mae llawer rwy'n cytuno ag ef yn eich asesiad chi o'r sefyllfa yma yng Nghymru ar hyn o bryd, Luke, ac nid yn unig pobl y 'draen dawn'—rwy'n cofio clywed yr ymadrodd pan oeddwn yn yr ysgol, ac felly nid yw'n ffenomen newydd—ond hefyd y bobl sy'n gadael cefn gwlad Cymru ac yn mynd i rannau mwy trefol o Gymru. Gwelwn hynny yn fy etholaeth innau hefyd; mae Abertawe a Chaerdydd yn fwy o ganolfannau i bobl ifanc symud iddynt o gymunedau gwledig.

Felly, yr hyn rwyf am ei wneud yn y funud hon yw manteisio ar y cyfle i ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n fodlon trafod gyda mi, o gofio bod fy ngrŵp trawsbleidiol ar dwf gwledig i fod i lansio'r ymchwiliad y bu'n ei gynnal ar yr economi wledig a chynhyrchiant gwledig—a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi a dweud ychydig eiriau efallai ynglŷn â'r economi wledig yn y digwyddiad lansio ar 15 Tachwedd.

Gwn fod yr economi wledig yn adnodd nad ydym wedi manteisio digon arno yma yng Nghymru fel cyfle i sbarduno ffyniant, a gyda'r ffyniant hwnnw daw'r cyfle i gadw pobl mewn rhannau gwledig o Gymru hefyd. Fel chi, Luke, mae gennyf hollt 50:50 rhwng fy ffrindiau a arhosodd yn lleol yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin a'r rhai sy'n parhau i fyw ymhellach i ffwrdd. Buasai wedi bod yn llawer gwell gennyf pe byddem i gyd wedi dod adref a chael y cyfleoedd a gefais i, felly hoffwn drafod hynny gyda'r Gweinidog, a'i glywed yn siarad yn y lansiad trawsbleidiol hefyd, gobeithio. Diolch, Lywydd.

18:50

Diolch, Lywydd, a diolch i Luke am y ddadl, am y pwnc y mae wedi'i ddewis, ac am y cyfraniadau a glywsom ar draws y Siambr.

Dylwn ddweud bod fy uchelgais yn un syml: rwyf am weld mwy o swyddi a gwell swyddi ledled Cymru; rwyf am gael cyfleoedd i fusnesau ddechrau a thyfu ac rwyf am weld lefel barhaus o fuddsoddiad uniongyrchol tramor; rwyf eisiau cwmnïau mwy o faint ac rwyf eisiau cwmnïau ar draws ein heconomi. Fe fyddech chi'n disgwyl i mi ddweud hynny a sôn am y gwahanol fathau. Fel aelod o'r Blaid Lafur a Chydweithredol, rwy'n awyddus iawn i weld mwy o ddatblygu cwmnïau cydweithredol, ac mae cyfleoedd iddynt wrth i ni nid yn unig gyflawni ein haddewid maniffesto i ddyblu maint y sector busnesau sy'n eiddo i weithwyr, ond i ailnormaleiddio cwmnïau cydweithredol mewn ystod eang o wahanol sectorau.

A rhan o'r hyn roeddwn i eisiau ei wneud wrth ailosod ac ailffocysu'r genhadaeth economaidd, pan ddechreuais yn y swydd hon, oedd cael golwg allanol ar ble rydym ni, sut olwg sydd ar Gymru a ble mae'r cyfleoedd. Dyna pam ein bod wedi comisiynu Jonathan Portes i wneud gwaith, i gael arfarniad gonest o ble rydym arni—ac roedd ganddo safbwynt allanol eisoes, ac roedd hefyd yn lled-gyfarwydd â Chymru ar ôl gwneud rhywfaint o waith yma yn barod—a bod yn wirioneddol glir am yr uchelgais i bobl ifanc allu cynllunio dyfodol llwyddiannus yma.

Bydd yna her bob amser yn gysylltiedig â pham y bydd pobl eisiau symud, ac i fod yn deg, soniodd Luke Fletcher am hyn a chydnabod peth o hyn. I bobl ifanc sy'n gallu mynd i ffwrdd i astudio a gwneud pethau gwahanol, mae rhesymau pwerus pam eu bod eisiau gwneud hynny, ni waeth beth yw'r cymhellion ariannol neu'r systemau cymorth. Cefais fy magu mewn rhan o'r byd lle nad oeddwn am aros i astudio. Ac mae fy stori'n ddiddorol. Cefais fy magu yn ne-orllewin Lloegr; fy nhad, a oedd wedi dod o—. Cafodd ei eni yn Aberogwr a'i fagu yn Nhorfaen, cyn mynd i ffwrdd i'r brifysgol. Yna aeth i ffwrdd i Zambia i weithio. Cyfarfu â fy mam; fi yw canlyniad yr uniad hwnnw. Roedd fy nhad eisiau dychwelyd i Gymru. Daeth yn ôl i Gymru yn y pen draw pan ymddeolodd. Felly, mae Cymru wedi bod yn rhan o'n stori ni erioed, ac rwy'n falch iawn o fod yma a dyma lle rydym yn magu fy nheulu.

Mae yna wahanol straeon ynglŷn â sut rydym yn cyrraedd sefyllfa ar wahanol adegau yn ein bywydau. Yr hyn y credaf ein bod am geisio ei wneud yw rhoi cyfle yn fwriadol i bobl weld aros yng Nghymru fel rhywbeth cadarnhaol: os ewch chi i ffwrdd i astudio, i wneud rhywbeth gwahanol, i weithio, mae cyfle i ddychwelyd ac i fod yn llwyddiannus. A pheidio â'i weld fel pwynt o wasanaeth cenedlaethol—fod rhaid i chi ddychwelyd beth bynnag am y cyfleoedd. Mae yna reswm da iawn dros i chi fod eisiau dod yn ôl. A hefyd, fel mewnforiwr net o raddedigion, mae rhoi rhesymau da i bobl sy'n rhan o'n stori yn ystod y cyfnod pan fyddant yn astudio—ac mae profiad myfyrwyr ym mhob un bron o'n sefydliadau addysg uwch yn un cadarnhaol iawn—dros fod eisiau aros, lle bynnag y daethant ohono: i fod eisiau aros a chydnabod eu bod yn mynd i fod yn rhan o ddyfodol y wlad.

Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n cael ei gydnabod gan ystod o bobl sydd eisoes yn ystyried buddsoddi yma. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed y gydnabyddiaeth i Rocket Science. Cyfarfûm â chyd-sylfaenydd Cymreig y busnes hwnnw ar un neu ddau o wahanol achlysuron. Roeddem wedi siarad am y gwaith roedd ein tîm o swyddogion eisoes yn ei wneud yn edrych ar gyfleoedd iddynt gael eu pencadlys Ewropeaidd yma. Ond roedd yn fwy nag atyniad emosiynol Cymru yn unig—roedd yn cynnwys yr hyn sydd ar gael. A pheth o hynny yw'r cynnig gan y DU ei hun am yr amgylchedd i redeg eich busnes. Ond ar y gefnogaeth ychwanegol y gallwn ei darparu a'r hyn sy'n gwneud Cymru'n ddiddorol, roedd ganddo bersbectif penodol ar hynny. Roedd hefyd yn edrych ar rai o'r ffigurau ar ble roeddem ni arni, ac mewn gwirionedd, mae nifer y graddedigion a gynhyrchwn mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddynt yn rheswm da pam eu bod wedi dewis dod yma hefyd. Nid dewis sy'n seiliedig ar deimlad yn unig mohono—mae tystiolaeth go iawn yn sail i hynny. Mae mwy o bobl yn ystyried gwneud hynny hefyd mewn ardaloedd cyfleoedd twf economaidd. Boed hynny'n ynni adnewyddadwy, lled-ddargludyddion, technoleg ariannol neu seiber, mae'r hyn y mae ein system addysg uwch yn ei ddarparu yn ddeniadol iawn i ystod o fusnesau fod eisiau dod yma, er mwyn i bobl weld wedyn fod modd cael dyfodol llwyddiannus yma. 

Fodd bynnag, ni ddylem golli golwg ar y ffaith y bydd llawer o bobl yn dal i chwilio am gyfleoedd gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â'r ardaloedd sefydledig a'r safleoedd twf lle ceir llawer o fusnesau newydd. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd a phan wnaethom sefydlu 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', nid oedd pawb yn gwbl gadarnhaol ynghylch a fyddai'n llwyddo ai peidio, ond gan ganolbwyntio ar wahanol rannau o fywydau pobl—ansawdd yr hyfforddiant, parch yn y gwaith, gwneud swydd lle mae pobl yn gwerthfawrogi'r hyn rydych chi'n ei wneud, ond hefyd ansawdd y bywyd y gallwch ei gael, ble rydych chi'n byw a'r pethau y gallwch eu gwneud. Ac fe wnaethom gydnabod hynny bryd hynny, ac mae'r un peth ar gyfer gyrfaoedd mewn gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â gyrfaoedd gwasanaeth preifat, y cynnig gwahanol sydd gennym. 

Ac yng Nghymru, mae gennym gynnig da iawn yn fy marn i. Rydych chi eisoes wedi siarad am rai o'r cyfleoedd hamdden, ond mae mwy iddo na hynny hefyd. Ac yn rhyngwladol, mae ardaloedd penodol o fewn gwladwriaethau mwy, cenhedloedd o fewn cenhedloedd, fel Gwlad y Basg, wedi gwneud eu gwahaniaeth yn bwynt unigryw sy'n ddiddorol iawn i bobl ac i gwmnïau ac mae hynny'n rhan o'r hyn y maent yn ei gynnig yn gadarnhaol. A dyna'n bendant a wnaf pan fyddaf yn mynd o gwmpas gwahanol rannau o'r DU, a'r byd ehangach. Ac rwyf wedi gweld hynny nid yn unig wrth gyfarfod â Rocket Science, ond pan oeddwn yn Birmingham Alabama—a Birmingham ydyw, nid Birmingham yn y rhan honno o'r byd—lle roeddent yn dathlu ac yn cydnabod eu hanes gyda rhan o Gymru, ond roedd ganddynt ddiddordeb hefyd yn y rhan barhaus, y cynnig diwylliannol; y berthynas, ond hefyd y cyfleoedd economaidd i wneud mwy yn ogystal. Ac mae'r ffaith ein bod yn wahanol o fewn y DU, cenedl o fewn cenedl, yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i rannau eraill o'r byd.

Ein her bob amser yw sylwi ar yr hyn y mae Luke, Peredur, Adam a Sam yn wir wedi tynnu sylw ato, sef y gallu i wneud cymaint o hynny â phosibl mor llwyddiannus â phosibl. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni ddewis lle rydym yn defnyddio ein hadnoddau—y bobl sydd gennym, yr arian sydd gennym a'r cynnig rydym yn ei wneud i bobl fod yn rhan o'n stori.

Ac rwy'n gweld hynny lawn cymaint o ran yr hyn sydd angen inni ei wneud yn y Gymru wledig a threfol hefyd. Ni fydd cael pawb i symud o gefn gwlad Cymru i drefi a dinasoedd mwy yn rhoi'r dyfodol rydym ei eisiau yn y wlad. Ond mae hynny'n golygu, er mwyn i bobl ifanc aros mewn cymuned wledig, fod angen cyfleoedd gwaith, y cyfle i gael y bywyd da sydd yno. Ac mewn gwirionedd mae'n un o'r cyfleoedd yn y byd ôl-COVID, lle mae gweithio hybrid bellach yn fwy realistig. Os gallwn ddarparu mwy o'n seilwaith digidol, mae'r cyfle i beidio â gorfod meddwl am gymudo i un ganolfan bum diwrnod yr wythnos yn agor cyfleoedd gwahanol i fyw ynddynt ac i gael yr holl fanteision a all ddod o fyw mewn rhannau gwledig o Gymru, yn ogystal â bod eisiau gweld cyfleoedd datblygu gwledig. Rwy'n gwybod bod yr Aelod a minnau'n anghytuno ynglŷn â dyfodol niwclear i Gymru, ond rwy'n credu mewn gwirionedd y gall hynny fod yn rhan o sicrhau bod gan bobl ddyfodol yn eu cymuned leol. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae gennyf ddiddordeb yn Fferm Gilestone a'r cynigion posibl sy'n gysylltiedig â'r lle, lle byddwch chi'n rhoi cyfle i bobl fyw a gweithio mewn rhan wledig o Gymru yn hytrach na meddwl bod yn rhaid i chi symud allan i allu camu ymlaen.

O fewn hynny hefyd, rwy'n edrych ar beth mae gwahanol rannau o'r byd wedi ei wneud, gan gynnwys yr Alban—yr hyn y maent wedi ei wneud i roi cymhellion i raddedigion sydd eisiau aros neu i fod eisiau dod yn ôl i ddechrau a rhedeg eu busnesau. Ac rwy'n credu mai rhan o hyn yw sut rydym yn cyflwyno ein hunain. Mae yna heriau, oes; wrth gwrs fod yna heriau sylweddol ac ni fuaswn byth yn ceisio rhedeg rhag y rheini. Rwy'n treulio cryn dipyn o amser yn y Siambr hon ac mewn lleoliadau eraill hefyd yn siarad am natur a graddau'r heriau hynny, ond mae cyfleoedd o hyd i'r Gymru y gallwn fod ac rydym eisiau bod yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu fy mod i'n realistig ynglŷn â'r heriau a'u maint hefyd. Rwyf am barhau i gael y sgwrs honno, ac yn wir rwy'n disgwyl gwahoddiad ffurfiol gan Sam Kurtz fel y nododd yn garedig yma yn y Siambr, a sgwrs barhaus gydag Aelodau ar wahanol feinciau ynglŷn â sut y ceisiwn wneud hynny.  Ond rwyf am fod yn gadarnhaol ac yn optimistaidd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud.

Hyd yn oed yn yr amseroedd y byddwn yn eu hwynebu yn y flwyddyn a mwy i ddod, byddwn yn dal i gael cyfleoedd i wneud gwahaniaeth. Mae rhai o'r rheini o fewn y cytundeb cydweithio; mae yna rai eraill o fewn y sectorau rwyf wedi sôn amdanynt a mwy. Ac rwyf am i bobl weld, mewn amrywiaeth o feysydd, y gallwch wneud dewisiadau a chael bywyd da iawn sy'n llwyddiannus yn economaidd mewn gwlad sydd nid yn unig yn fach, ond sy'n wych ac sydd â chyfleoedd i fwy ohonom ddweud, 'Mae gan Gymru stori wych i'w hadrodd.' Rydym am i weddill y byd gydnabod hynny a bod yn rhan o'r stori honno. 

18:55

Diolch i'r Gweinidog, a diolch i'r Aelodau am y gwaith heddiw. Felly, fe ddewn ni â phopeth i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.