Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/11/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r cyfarfod y prynhawn yma. 

Y tro diwethaf i mi eistedd yn y gadair hon oedd bore Sadwrn, ac roeddech chi i gyd yn edrych, ar gyfartaledd, 30 mlynedd yn iau nag ydych chi nawr. Gallaf adrodd i ni gael cyfarfod llwyddiannus iawn o Senedd Ieuenctid Cymru yn y Siambr hon am y tro cyntaf ers eu hethol. Roedd yn gyfarfod llwyddiannus iawn, ac rwy'n eich annog i gyd i gwrdd â'r seneddwyr ieuenctid yn rheolaidd os gallwch chi. Yn sicr mae'n werth chweil i wneud hynny, ac roedd yn gyfarfod llwyddiannus iawn.

Felly, diolch i bawb o'r Senedd Ieuenctid am y cyfarfod dros y penwythnos.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y Prif Weinidog sydd i ateb cwestiynau yn gyntaf, ac mae'r cwestiwn gan Tom Giffard. 

Diolch, Llywydd, ac rydych chi'n edrych mor ifanc ag erioed. [Chwerthin.]

Gallaf gadarnhau mai ofer fydd ceisio swyno'r Cadeirydd yma. [Chwerthin.]

Mynediad at Feddygon Teulu

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad cleifion at eu meddyg teulu? OQ58800

Llywydd, mae'r safonau meddygol cyffredinol, a gytunwyd gyda meddygon teulu yng Nghymru, yn gwella mynediad ac yn sicrhau cysondeb ledled y wlad. Mae cyflawniad wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gydag 89 y cant o'r holl bractisiau bellach yn cyflawni'r holl safonau. Bydd cytundeb ar gyfer contract y flwyddyn nesaf yn gweld mwy o welliannau o ran mynediad at y tîm gofal sylfaenol cyfan.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwyf wedi cael gohebiaeth gynyddol gan etholwyr ym Mhorthcawl yn pryderu am anhawster cael apwyntiad gyda'u meddyg teulu lleol. Ac er fy mod yn deall bod canolfan feddygol Porthcawl yn gweithio mor galed â phosibl i ateb y galw gan gleifion, maen nhw wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae gwaith diagnostig a monitro a wneir yn hanesyddol mewn ysbytai yn cael ei drosglwyddo i feddygon teulu, ac fel proffesiwn, ni all meddygon teulu ymdopi â'r gofynion hyn o bob cyfeiriad.'

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi tynnu sylw at bryderon fod yna 18 yn llai o bractisiau ledled Cymru ers 2020, ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) yn nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged is o hyfforddi 160 o feddygon teulu newydd bob blwyddyn, ei bod ymhell o gyrraedd y targed o 200 y mae'r BMA yn dweud sydd ei angen yma yng Nghymru. Mae hyn oll yn rhoi pwysau enfawr ar ganolfannau meddygol fel Porthcawl, ac mae'n sefyllfa a allai waethygu yn y blynyddoedd i ddod, gan ein bod ni'n gwybod bod meddygon teulu yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn hŷn na'u cydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod darpariaeth meddygon teulu yn ateb galw lleol mewn tref fel Porthcawl, ac a fyddwch yn ymrwymo eich Llywodraeth i gyrraedd targed y BMA o 200 o feddygon teulu newydd y flwyddyn? 

Wel, Llywydd, ar yr ail bwynt, mae 200 o leoedd ar gael yng Nghymru ar gyfer hyfforddeion meddygon teulu. Nid ydym bob amser yn cyrraedd 200, ond rydym ni'n denu mwy na'r 160 yn gyson, sef y ffigur sylfaenol ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu. Yr ateb tymor hir, fodd bynnag, yw symud i ffwrdd o ganolbwyntio dim ond ar feddygon teulu eu hunain. Mae meddygon teulu yn arweinwyr tîm clinigol ehangach sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Ac mae'r hanes dros y degawd diwethaf yng Nghymru wedi bod yn gam llwyddiannus i recriwtio mwy o glinigwyr rheng flaen mewn ffisiotherapi, mewn fferylliaeth, drwy barafeddygon sy'n ymarfer gofal sylfaenol, ac, wrth gwrs, nyrsys practis uwch hefyd. Ac mae iechyd hirdymor gofal sylfaenol yn dibynnu ar beidio ystyried apwyntiad gyda'r meddyg fel yr unig ffordd y gellir darparu gofal sylfaenol. 

Rwy'n siŵr bod canolfan feddygol Porthcawl yn gweithio'n galed iawn yn wir. Byddant yn falch o wybod ein bod ni, yn y trafodaethau gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru wedi bod yn lleihau faint o adroddiadau ailadroddus y gofynnir i feddygon teulu eu cyflawni weithiau, fel arfer at ddibenion monitro cyflyrau clinigol pwysig. Ond gallwn wneud hynny mewn ffyrdd gwell a mwy clyfar, a rhyddhau clinigwyr i wneud y pethau mai dim ond nhw sy'n gallu eu gwneud. 

Mae unedau gofal sylfaenol brys yn un o'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn trio lleihau y pwysau ar feddygfeydd. Ond, yn Ynys Môn, dŷn ni'n gweld bod naw o'r 10 syrjeri sydd gennym ni ar yr ynys wedi gwneud 278 referral i'r uned newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley, tra bod yr un feddygfa sy'n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, Hwb Iechyd Cybi, ei hun wedi gwneud dros ddwywaith y nifer yna o referrals—562. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod hynny'n brawf bod angen cyflymu'r broses o ddatblygu canolfan iechyd amlddisgyblaethol newydd ar gyfer cymuned Caergybi a'r ardal?

13:35

Dwi wedi gweld tystiolaeth dros y misoedd, Llywydd, am y sefyllfa yng Nghaergybi, a dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda phobl leol ar yr ynys i drial cyflymu'r broses o recriwtio pobl newydd ac i gael beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd ar gael yng Nghaergybi i fod yn rhan o'r gwasanaeth sydd ar gael yna dros yr ynys i gyd. Mae rhai problemau, rŷn ni'n gwybod, wrth recriwtio'r staff, ond mae pobl leol yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i drial gwella'r sefyllfa bresennol.

Mae mynediad i feddygfeydd yn amrywio'n enfawr. Mae rhai meddygfeydd ardderchog yn fy etholaeth i, gan gynnwys Clydach a Glyn Mefus, ac nid fy meddygfa i yw'r naill na'r llall. Mae dros 90 y cant o'r cwynion yn fy etholaeth i ynghylch mynediad i feddygfeydd yn ymwneud ag un feddygfa. Pan nad yw pobl yn gallu gweld meddyg teulu, maen nhw naill ai'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys neu'n aros tan fydd eu cyflwr yn dirywio ac yna'n cael eu gorfodi i fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod yr holl feddygfeydd yn cyflawni o leiaf y perfformiad canolrifol cyfredol?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n tynnu sylw at un o ffeithiau sylfaenol gofal sylfaenol, sef bod meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Mae ganddyn nhw gontract gyda'r bwrdd, ac nid ydynt yn cael eu rheoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru na'r gwasanaeth iechyd lleol. Fodd bynnag, y newyddion da i etholwyr Mike Hedges yw, oherwydd casgliad llwyddiannus y trafodaethau ar gyfer contract y flwyddyn nesaf, mae'r safonau mynediad yn symud o fod yn bethau y gall meddygon teulu gytuno â nhw, i fod yn bethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni. Mae bellach yn rhan sylfaenol o'r contract newydd, a bydd hynny'n golygu, rwy'n credu, bod y lleiafrif hwnnw o bractisiau—. Cofiwch, mae 89 y cant o bractisiau yn cyflawni'r safonau hynny eisoes, ac mae hynny'n welliant o 65 y cant, Llywydd, ym mis Mawrth 2020, felly mae gwthiad mawr gofal sylfaenol yng Nghymru wedi bod i'r cyfeiriad cywir, diolch i ymdrechion enfawr y staff. Y lleiafrif bach hwnnw—y 10 y cant—sydd ar ôl i gyflawni'r safonau hynny, bydd y pethau hynny nawr yn haws i'w gorfodi oherwydd bydd y contract ei hun yn gofyn iddyn nhw gael eu cyflawni.

Yn eich ymateb cyntaf i'r cwestiwn hwn, Prif Weinidog, cyfeirioch chi at y gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gallu chwarae rhan wrth leddfu'r pwysau ar feddygon teulu eu hunain. Efallai bydd diddordeb gennych wybod fy mod wythnos diwethaf wedi ymweld â Jonathan Lloyd Jones yn fferyllfa Caerau. Mae'n fferyllfa ym mhen uchaf ardal ddifreintiedig iawn—y mater hwnnw o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal i bob pwrpas—ond yr hyn y maen nhw'n ei wneud yno yw gweithio gyda'r contract fferylliaeth gymunedol newydd yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud i mi eistedd i mewn—gyda chaniatâd unigolion—wrth iddyn nhw roi diagnosis o fân anhwylderau a rhagnodi, gan gymryd y pwysau oddi ar y meddygon teulu, ond roedden nhw'n cydgysylltu'n uniongyrchol â'r meddygon teulu, ac yn rhannu gwybodaeth hefyd, gyda chaniatâd y cleifion. Am ffordd dda ymlaen yw hynny. Felly, a gaf i ofyn iddo am ei sicrwydd y byddwn yn parhau i edrych ar y ffyrdd arloesol hyn nid yn unig i dynnu pwysau oddi ar feddygon teulu, ond hefyd i hybu iechyd a llesiant y rhai hynny yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig?

Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hybu fferylliaeth gymunedol wedi bod yn rhywbeth y cytunwyd arno ar draws y Siambr yma, dros gyfnod datganoli i gyd. Rydym wastad wedi credu ei fod yn adnodd y gellid manteisio mwy arno, a dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu yn sylweddol, gan gytuno i'w contractau gael eu moderneiddio, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau y gall y gweithlu hyfforddedig iawn hwnnw eu darparu fel rhan o'r teulu gofal sylfaenol, ar gael ledled Cymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deyrnged wirioneddol i'r bobl sy'n gweithio yn y sector eu bod nhw wedi bod mor barod i chwarae eu rhan wrth foderneiddio'r gwasanaeth yng Nghymru. Byddwn i'n dweud hyn, Llywydd, ein bod yn parhau i fod ag ychydig dros 700 o fferyllwyr cymunedol, yng Nghymru. Maen nhw ar y stryd fawr ym mhob rhan o Gymru, ond yn Lloegr bu dirywiad sylweddol yn nifer y fferyllfeydd, a hynny oherwydd bod y rheoliadau a basiwyd yn y Siambr hon wedi amddiffyn lleoliad stryd fawr fferyllfeydd cymunedol, gan ganiatáu enghreifftiau fel yr un a amlygwyd gan Huw Irranca-Davies i ffynnu ac ehangu.

Nid yw'n ymwneud â fferyllwyr cymunedol yn unig chwaith, Llywydd, gan ystyried y cwestiwn gwreiddiol. Roeddwn i'n ymweld â phractis meddyg teulu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac roedden nhw'n dathlu'r ffaith eu bod newydd recriwtio fferyllydd i ddod i weithio'n uniongyrchol yn y feddygfa ac roedden nhw'n egluro i mi nifer yr ymwelwyr dychwel y byddant nawr yn gallu eu gweld yn glinigol briodol ac yn gyflym oherwydd yr adnodd ychwanegol hwnnw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaed, yn y gymuned ac yn uniongyrchol o fewn gofal sylfaenol, bod cyfraniad fferylliaeth yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn llunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

13:40
Cost Gynyddol Byw

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Gorllewin Casnewydd? OQ58804

Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys Gorllewin Casnewydd, yn profi'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cofnodi. Mae'r economi wedi mynd i gyfnod cynnar dirwasgiad o ganlyniad i gyfnod o 12 mlynedd o gamreoli economaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd hynny'n ychwanegu diweithdra cynyddol i'r heriau y mae trigolion Gorllewin Casnewydd yn eu hwynebu eisoes.

Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn, mae'n hanfodol bod gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi â phosibl. Mae costau byw o ddydd i ddydd ynghyd â threuliau annisgwyl yn golygu y gall chwistrelliadau o arian parod fod yn achubiaeth enfawr. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cynnig grantiau, ond yn anffodus, mewn llawer o achosion, nid yw pobl yn ymwybodol o ba gefnogaeth y mae ganddyn nhw hawl iddi neu maen nhw'n cael eu rhwystro gan brosesau gwneud cais cymhleth. Yn ddelfrydol, gellid gwneud taliadau yn awtomatig i'r rhai sy'n gymwys. Ar hyn o bryd, Casnewydd yw un o'r cynghorau sy'n treialu taliadau awtomatig i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun tanwydd gaeaf o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, pan fydd cyllidebau Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn dynn, mae gweithio mewn ffordd gall yn hanfodol. Mae angen i ni roi'r arian sydd gennym ni yn gyflym ac yn effeithlon i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan weithio gyda llywodraeth leol, i sicrhau bod hyn yn digwydd a bod y taliadau hanfodol hyn yn cael eu hawtomeiddio ledled Cymru, yn lle bod rhaid gwneud ceisiadau?

Diolch i Jayne Bryant am hynna. Mae hi'n hollol iawn i nodi bod miliynau a miliynau o bunnau sydd ar gael i deuluoedd ledled Cymru heb eu hawlio bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein his-bwyllgor costau byw newydd, wedi bod yn hyrwyddo'r syniad y dylai pob cyswllt gyfrif wrth sicrhau bod pobl yn cael eu cynghori, eu hannog a'u helpu i hawlio'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Bob dydd yng Nghymru, mae miloedd o gyfarfyddiadau rhwng gweithwyr yn y sector cyhoeddus a dinasyddion Cymru, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyfarfod â phobl bob dydd, ac mae busnesau preifat, er enghraifft y rhai yn y sector cynhwysiant ariannol, yn gwneud yr un peth. Credaf fod pob un o'r cyfarfyddiadau hynny yn y gaeaf eithriadol o anodd hwn yn gyfle i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw'n anodd o gwbl, Llywydd—mae cyfrifianellau syml iawn y gall pobl eu defnyddio'n rhwydd. Mae gan Cyngor ar Bopeth un y gallwch chi ei defnyddio ar-lein. Mae un ar lwyfan Llywodraeth y DU sy'n rhwydd iawn yn wir i'w defnyddio, ac os defnyddiwn ni y mantra 'mae pob cyswllt yn cyfrif' yna rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cymorth sydd yno a heb ei hawlio yn mynd i bocedi pobl, ac o ganlyniad yn mynd i mewn i economi Cymru hefyd mewn cyfnod anodd.

Mae Jayne Bryant yn gwneud pwynt pwysig hefyd, Llywydd, am awtomatigrwydd. Erbyn hyn mae gan hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru system pan fo rhywun yn gwneud cais am un o'r budd-daliadau sydd ar gael trwy awdurdodau lleol, does dim angen i'r unigolyn hwnnw hawlio ar wahân am yr holl bethau eraill y gallai'r awdurdod lleol eu darparu. Felly, os ydych yn hawlio budd-dal y dreth gyngor, bydd system yr awdurdodau lleol yn gwirio a oes gennych hawl i ginio ysgol am ddim. Ni ofynnir i chi lenwi set arall o ffurflenni—set arall o rwystrau. Nawr, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod yr hanner arall, yr 11 awdurdod arall, yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae arweinyddiaeth bwerus gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ac mae'r dystiolaeth yn glir iawn, os yw'r system honno gennych chi pryd rydych chi'n gwneud cais unwaith a bod un cais yn agor y drws i'r holl gymorth y mae gennych hawl iddo, mae hynny'n sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cyrraedd mwy o bobl a hynny'n gyflymach. Hoffwn yn fawr weld hynny ledled Cymru.

13:45

Prif Weinidog, o'r wythnos diwethaf ymlaen, dechreuodd miliynau o bensiynwyr ar draws y DU gael £300 cychwynnol wrth i daliadau costau byw pensiynwr y Llywodraeth Geidwadol ddechrau cael eu dosbarthu. Bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud i dros 11 miliwn o bensiynwyr sy'n cael y taliadau tanwydd gaeaf, gan gynnwys tua 15,600 o bensiynwyr yng Ngorllewin Casnewydd. Yn ogystal â'r cynnydd o £300 yn y taliadau tanwydd gaeaf, bydd y warant pris ynni yn helpu i gadw biliau ynni'r cartref mor isel â phosibl, gan arbed £900 i'r aelwyd nodweddiadol y gaeaf hwn. Mae aelwydydd hefyd yn elwa ar grant o £400 a ddidynnir yn awtomatig o'u biliau ynni, felly a ydych yn cytuno, Prif Weinidog, y bydd y mesurau hyn i helpu pensiynwyr fel rhan o becyn cymorth ehangach i fynd i'r afael â biliau ynni cynyddol yn rhoi cefnogaeth y mae gwir ei hangen i bobl sy'n byw yng Ngorllewin Casnewydd y gaeaf hwn ac yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed sy'n wynebu prisiau cynyddol? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n croesawu unrhyw gymorth sydd ar gael ar gyfer pensiynwyr ac i bobl eraill sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am eu hincwm. Ac rwy'n gobeithio bod y taliadau hynny'n cyrraedd pobl mor gyflym â phosibl, oherwydd rydym ni'n gwybod, o'r holl grwpiau yn ein cymdeithas, fod pensiynwyr ymhlith y rhai sy'n pryderu fwyaf ynghylch gwneud pethau a fyddai'n arwain at filiau na allant eu talu. Mewn ateb i gwestiwn gwreiddiol Jayne Bryant ynghylch y miliynau o bunnau sydd heb ei hawlio, sef mai'r person yng Nghymru sydd leiaf tebygol o hawlio'r cymorth y mae ganddo hawl iddo yw menyw sengl dros 75 oed, ac mae'r rhesymau dros hynny yn gymhleth, ond mae'n dangos bod rhaid ymdrechu'n benodol i wneud yn siŵr bod y boblogaeth bensiynwyr yng Nghymru yn cael pob cymorth sydd ar gael. Pan fydd mwy o gymorth ar gael iddyn nhw, wedyn, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch Llywydd. Yn gyntaf oll, Prif Weinidog, rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddymuno lwc dda i dîm Cymru heno, cario baner Cymru i'r cae pêl-droed a gobeithio, rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd sawl gwaith yn erbyn yr hen elyn [Chwerthin.] Oherwydd, yn y pen draw, rydym eisiau i'n cefnogwyr ac, yn bwysig iawn, ein tîm aros allan yn Qatar yn hirach a symud ymlaen drwy'r twrnamaint.

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ddechrau mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd £2 filiwn i wella ystafelloedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a'r amgylchfyd y gallai'r bobl yn dod i'r ystafelloedd aros hynny ei brofi. Sut mae'r gwaith o gyflwyno hyn yn mynd yn ei flaen, oherwydd roedd i fod i ddod i ben er mwyn bod yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf?

Yn gyntaf oll, Llywydd, hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn ei sylwadau agoriadol. Bydd yn gwybod y bûm yn Qatar yr adeg yma'r wythnos diwethaf. Cefais gyfle i fynd i weld tîm Cymru yn hyfforddi a chwrdd â nhw yn eu paratoadau. Maen nhw'n grŵp mwyaf ffantastig o bobl; rydym ni'n ffodus iawn i'w cael nhw i'n cynrychioli ni ar y llwyfan byd hwnnw. Mae eu hymrwymiad i'w gilydd, eu teimlad o falchder o gynrychioli Cymru a'u synnwyr o'r hyn y mae'n ei olygu y tu hwnt i bêl-droed yn gwbl amlwg pan fyddwch chi'n cwrdd â nhw. Credaf y dylem fod yn falch iawn yn wir o'r cefnogwyr sydd draw yno hefyd. Mae eu synnwyr nhw o beth yw hi i fod yn Gymry pan y'ch chi mewn twrnamaint o'r math yna yn gwbl amlwg pan fyddwch chi gyda nhw, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, fod pawb yn gobeithio y bydd hynny'n trosi heno i lwyddiant ar y maes.

I droi at y cwestiwn dan sylw, yn wir, fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi £2.7 miliwn i fyrddau iechyd. Mae wedi'i ddyrannu, mae wedi cyrraedd y byrddau iechyd. Rydw i wedi gweld fy hun y mesurau y mae'r byrddau iechyd yn bwriadu eu cymryd. Mae pob bwrdd iechyd wedi gorfod nodi'r ffordd y bydd yn gwario'r arian, ac mae'r rhestrau hynny i mewn ac wedi cael eu cymeradwyo, a bellach mae angen gweithredu i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Nid wyf yn credu y gallwn ni fod yn gwbl ffyddiog bod yr arian hwnnw yn gwneud y gwahaniaeth y mae angen iddo ei wneud hyd yma, ond nawr mae'n rhaid i fyrddau iechyd wneud yn siŵr, gyda'r adnodd a ddarperir, gyda'r cynlluniau wedi'u cymeradwyo, bod hynny'n gwneud y gwahaniaeth ar lawr gwlad, fel bod gan gleifion sy'n dod i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys y safonau sylfaenol hynny y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.

13:50

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mewn un anadl, mae'n braf clywed bod y rhestrau i mewn—rwy'n credu mai dyna'r derminoleg a ddefnyddioch chi—ond, yn anffodus, byddai unrhyw un a edrychodd ar Twitter dros y penwythnos wedi gweld y llwybr o brofiadau yr oedd pobl yn eu cael yn ystafell aros adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru. Ar eich ffordd i mewn, roedd pentwr o gyfog ar y llawr yn eich croesawu, mynydd o stympiau sigaréts ar ben bin, eitemau ar gyfer y mislif mewn toiled a oedd yn orlawn, a pheiriant gwerthu a oedd â thair eitem o fwyd ynddo i roi rhywfaint o ryddhad i'r bobl wrth iddyn nhw aros. Hefyd, roedd cadeiriau wedi torri yn yr amgylchfyd hwnnw, ac mae'r ffotograffau'n tystio iddyn nhw. Mae hyn wir yn dangos pa mor anodd yw'r amgylchfyd y gofynnir i bobl aros ynddo.

Nawr, gallech chi a minnau drafod yn helaeth y rotâu staffio a darpariaethau eraill, ond, os nad yw byrddau iechyd yn gallu cael y pethau sylfaenol yn iawn ac, yn arbennig, pan fyddwch chi wedi sicrhau bod arian ar gael, pa ryfedd bod pobl yn mynd yn rhwystredig iawn ac yn ofidus iawn pan fyddant yn cael y profiad hwnnw yn adran ddamweiniau ac achosion brys mwyaf Cymru? Ond, yn anffodus, rwy'n amau nad digwyddiad ynysig o ran adrannau damweiniau ac achosion brys yw hwn, a byddwn i'n gobeithio'n fawr y gall y Llywodraeth roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw eich bod yn dwyn pwysau ar y byrddau iechyd i wneud yn siŵr y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario, bydd gwelliannau'n cael eu gwneud a bydd y profiad i staff a'r cleifion wedi gwella'n fawr yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Wel, rwy'n sicr yn disgwyl i'r gwelliannau hynny gael eu gwneud, a byddwn yn sicr yn disgwyl eu gweld yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru—uned newydd gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru o fewn y pum mlynedd diwethaf. Felly, nid hen adeilad yw hwn, sy'n anaddas ar gyfer amgylchfyd modern; roedd hwn yn adeilad a ddarparwyd i fod yn addas ar gyfer y mathau presennol o wasanaethau y byddech yn disgwyl i adran ddamweiniau ac achosion brys o'r fath eu darparu.

Fodd bynnag, Llywydd, mae rhai o'r pethau y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u darllen i ni yn dangos yr heriau y mae staff yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys yn eu hwynebu, oherwydd nid y gwasanaeth iechyd a chwydodd ar y ffordd i mewn i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, ac nid staff iechyd a adawodd stympiau sigaréts ar draws y fynedfa. Felly, rwy'n credu, yn ogystal â mynnu, yn briodol, yr ymdrinnir yn iawn â phethau sylfaenol, a bod yr arian sy'n cael ei ddarparu yn cael ei wario'n iawn, mae'n rhaid hefyd ystyried yr amodau y mae'r staff eu hunain yn gorfod gweithio o danyn nhw. Ac, os ydych chi wedi bod—fel rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid—i'r Ysbyty Athrofaol, byddwch chi'n gwybod am y niferoedd sy'n mynd trwy'r drws hwnnw. Y ganran o bobl sy'n dod yno oherwydd camddefnyddio alcohol, ymddygiad y lleiafrif y mae'n rhaid i aelodau staff ymdrin ag ef—lleiafrif ydyw, ond mae yno i'w weld pryd bynnag yr ewch chi yno—pobl y maen nhw'n ceisio darparu gofal ar eu cyfer. Ac er bod gan y bwrdd iechyd—ac rwy'n derbyn yn llwyr—wir gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ei allu, mae gan gleifion gyfrifoldeb hefyd. Ac roedd rhai o'r pethau yr oedd pobl yn cwyno amdanyn nhw—ac rwy'n deall pam y gwnaethon nhw—ar y penwythnos, yn weithredoedd cyd-gleifion, nid gweithredoedd y bwrdd iechyd ei hun.

Rwy'n derbyn mai cyfrifoldeb ar y cyd yw e, ond pan fo pobl yn aros 12, 17 neu, yn wir, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod wrth fy ymyl i Darren Millar o Orllewin Clwyd, ei fod wedi cyfarfod â rhywun oedd wedi aros 40 awr mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn ysbyty Glan Clwyd, mae'n ffaith y byddai'r cyflwr a oedd arno pan gyrhaeddodd yno wedi dirywio'n fawr yn ystod y cyfnod yr oedd yn gorfod aros yn yr ystafell aros honno, neu yn yr amgylchfyd neu'r lleoliad hwnnw. Rwyf wedi codi'r pwynt sawl gwaith gyda chi, Prif Weinidog, sef y gallu i gael meddygon ymgynghorol a meddygon yn benodol i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, a fyddai'n hwyluso'n fawr pa mor gyflym y byddai pobl yn symud drwy'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Mae gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys waelodlin ar gyfer staffio adran frys yma yng Nghymru ac, yn wir, ar draws y Deyrnas Unedig. A wnewch chi gadarnhau heddiw bod pob adran frys yn bodloni'r waelodlin honno? Ac os nad ydyn nhw'n ei bodloni, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n ei bodloni, oherwydd heb os, byddech chi'n cytuno â mi, os nad ydyn nhw'n bodloni'r waelodlin staffio, mae hynny'n creu amgylchfyd anniogel?

13:55

Dylwn i nodi ar y dechrau, Llywydd, bod yr amser aros canolrifol i rywun mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn ddwy awr a 50 munud, felly yr amser aros safonol cyn cael eich gweld a'ch trin yw dwy awr a 50 munud mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod nad yw cael y ffeithiau'n siwtio pobl bob amser, ac, wrth gwrs, mae pobl yn aros yn hirach na hynny, ond yr amser aros safonol—yr amser aros canolrifol—yw'r un yr ydw i newydd ei ddyfynnu i chi.

Fe  ysgrifennaf at arweinydd yr wrthblaid, wrth gwrs, mewn cysylltiad â materion staffio, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf i wrth law. Mae staffio adrannau damweiniau ac achosion brys yn her ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n fath arbennig o glinigwr sy'n teimlo bod ei sgiliau'n cael eu defnyddio orau yn yr amgylchfyd heriol iawn hwnnw, pan nad ydych chi byth yn gwybod beth yr ydych chi'n mynd i'w weld nesaf ac nad ydych byth yn gwybod a yw'r hyn a welwch chi nesaf yn rhywbeth y gallwch chi ei drin yn gyflym ac yn effeithiol, neu a yw'n argyfwng gwirioneddol sy'n gofyn am ymdrechion dwys tîm yr ysbyty cyfan. Nid yw'r sgiliau hynny gan bob clinigwr o bell ffordd, ac ar draws y Deyrnas Unedig, mae dod o hyd i bobl sy'n credu bod eu cyfraniad i'r gwasanaeth iechyd yn cael ei wneud orau mewn adrannau brys yn her. Ond, fe ysgrifennaf at arweinydd yr wrthblaid i roi'r ffigyrau yr oedd yn gofyn amdanyn nhw. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae Cymru yn cwrdd â Lloegr fel cenedl bêl-droed gyfartal ac annibynnol ar faes chwarae yn Qatar, ac rwy'n siŵr ein bod ni gyd yn gweddïo am yr hyn a fyddai'r enwocaf o fuddugoliaethau. Ond, a ydym yn genhedloedd cyfartal ar feysydd grym a gwleidyddiaeth? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf. Dywedoch o'r blaen y dylai'r Deyrnas Unedig gael ei gweld nawr fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog cyfatebol yn yr Alban bod dyfarniad yr wythnos diwethaf yn golygu nad yw'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, o leiaf, yn bartneriaeth wirfoddol, pan fo San Steffan nid yn unig yn meddu ar feto gyfreithiol ar hunanbenderfyniaeth ond yn benderfynol yn wleidyddol, mae'n ymddangos, o'i defnyddio?

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf mai'r ffordd orau o sicrhau newid cyfansoddiadol positif fyddai ethol Llywodraeth Lafur. A ddylai'r Llywodraeth honno, yn eich barn chi, ymrwymo i greu llwybr clir a gwarantedig i genedl gyfansoddol y DU gynnal refferendwm annibyniaeth pan fo mandad penodol o'i blaid? 

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol: bod llawer iawn o waith atgyweirio cyfansoddiadol angen ei wneud i'r Deyrnas Unedig ac y bydd gan y Llywodraeth Lafur nesaf gyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Cefais gyfle dim ond neithiwr i drafod adolygiad Gordon Brown sydd ar ddod gydag arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Rwy'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Mick Antoniw am y cyfrifoldeb fydd yn syrthio ar ysgwyddau'r Llywodraeth Lafur nesaf honno.

Llywydd, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un a nodir yn 'Diwygio ein Hundeb'; hwn yw ein safbwynt ni ers nifer o flynyddoedd. Bydd cyd-Aelodau yma yn cofio mai'r hyn ddywedom ni yn y ddogfen honno oedd,

'ar yr amod bod y llywodraeth yn y naill wlad neu'r llall wedi sicrhau mandad etholiadol pendant ar gyfer cynnal refferendwm, a bod ei senedd yn parhau i’w chefnogi i wneud hynny, bod hawl ganddi ddisgwyl i Senedd y DU gymryd y camau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod modd gwneud y trefniadau priodol.'

Felly, dyna fu ein safbwynt ni ac mae'n parhau felly. 

Yn y sgwrs a gawsoch gyda Syr Keir Starmer, a wnaeth ef ailadrodd y sylwadau a wnaeth mewn cyfweliad yn gynharach y mis hwn, a gadarnhawyd gan ei lefarydd swyddogol yn dilyn y dyfarniad yr wythnos diwethaf, na fyddai'n cytuno i refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn dilyn yr etholiad cyffredinol nesaf? Onid gwarafun democratiaeth yw hynny? Ac ar y thema honno, beth ydych chi, Prif Weinidog, yn deall yw safbwynt Plaid Lafur y DU o ran datganoli cyfiawnder? Fe wnaethant ei wrthwynebu yn y trafodaethau ar Ddeddf Cymru yn 2017. Pan ofynnwyd y bore 'ma yn Neuadd San Steffan a oedden nhw'n ei gefnogi nawr, gallai Gweinidog cyfiawnder yr wrthblaid, Anna McMorrin, dim ond dweud y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru, ond byddai'r pwyslais, nid ar

'ble mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond ar sut y mae'n cael ei gyflawni.'

Onid gwarafun democratiaeth yw hynny hefyd? Yn sicr, go brin ei fod yn gymeradwyaeth i'r mandad a enilloch chi yn etholiad 2021.

14:00

Llywydd, cefais gyfle hefyd i drafod gydag Anna McMorrin neithiwr y ddadl y byddai'n ateb iddi. Rwy'n falch iawn yn wir ei bod hi wedi pwysleisio, fel yr oeddwn i yn gobeithio y byddai hi, bwysigrwydd partneriaeth rhwng y Llywodraeth Lafur nesaf a'r Llywodraeth Lafur yma, oherwydd dim ond yn y ffordd honno y byddwn ni byth yn gweld trosglwyddo cyfrifoldeb am faterion cyfiawnder, sef polisi'r Llywodraeth hon, a gafodd ei gynnwys ym maniffesto Llafur yn etholiadau cyffredinol 2017 a 2019. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod hynny wedi cael ei roi mor gadarn iawn ar gofnod gan ein cydweithiwr Llafur yn Neuadd San Steffan.

Mae materion yn yr Alban yn faterion i Blaid Lafur yr Alban ac i arweinydd y blaid eu llywio. Rwy'n clywed beth mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban yn ei ddweud, sef bod refferendwm yn fater o amseru ac, yn gwbl sicr ym marn Plaid Lafur yr Alban, nid nawr yw'r foment pan fo pobl yn yr Alban yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol pan fydd ganddyn nhw aeaf o'r math y maen nhw'n ei weld yn ymestyn o'u blaenau.

Felly, rydych chi wedi newid eich barn ers yr haf, pan ddywedoch chi:

'Enillodd yr SNP...etholiad ar y sail y bydden nhw'n ceisio refferendwm arall. Sut gellir gwarafun hynny i bobl yr Alban?'

A gofynnwyd yn uniongyrchol i Anna McMorrin a oedd hi'n barod i ymrwymo i ddatganoli cyfiawnder, ac nid oedd hi'n fodlon rhoi'r ymrwymiad hwnnw.

Nawr, a gaf i droi at y canlyniadau i Gymru yn sgil y dyfarniad yr wythnos diwethaf? Yn benodol, ai barn Llywodraeth Cymru yw eich bod yn dal i fod â phŵer Gweithredol i gynnal refferenda, gan gynnwys, os ydych chi'n dewis, ar faterion cyfansoddiadol, gan ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd? Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn galluogi Gweinidogion i gynnal arolwg barn ar sut caiff eu swyddogaethau eu harfer, ac mae adran 60 yn galluogi Gweinidogion i wneud unrhyw beth y maen nhw'n credu sy'n angenrheidiol er mwyn gwella llesiant Cymru. Felly, a fyddai cynnal arolwg barn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru drwy ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd, ac felly'n ddiogel rhag heriau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd, yn cael ei ganiatáu o bosibl, drwy ddefnyddio'r llwybr hwn yn eich barn chi?

Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: nid wyf wedi newid fy meddwl ynghylch yr hyn a ddywedais yn yr haf, a gwnaeth y dyfyniad o 'Diwygio ein Hundeb' hynny'n glir iawn. Mae'r mater o amseru yn fater ar wahân i'r un sylfaenol sef a ddylid cynnal refferendwm, ac, cyn belled â'r hyn y bydd Anna McMorrin wedi'i ddweud heddiw, bydd yn disgwyl i adroddiad Gordon Brown gael ei gyhoeddi ac ni fydd yn dymuno mynd y tu hwnt i'r hyn y bydd hi'n ei wybod am yr hyn y gallai fod yn ei ddweud am y materion hyn. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r adroddiad ac iddo ddod o hyd i ffordd i ni symud ymlaen o ran uchelgais y Siambr hon a'r uchelgais a nodir ym maniffestos y Blaid Lafur i ddechrau'r broses o drosglwyddo cyfrifoldebau dros wasanaethau cyfiawnder yma i Gymru.

O ran p'un a yw'r setliad Cymreig yn cynnig llwybr gwahanol i ni gynnal refferendwm na'r un a brofwyd gan Lywodraeth yr Alban yn y llysoedd, wel, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol pan atebodd gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf, rydym yn astudio'r dyfarniad ac rydym yn sicrhau ein bod yn cael cyngor cyffredinol o ran lle mae'r dyfarniad hwnnw'n amharu ar gyfrifoldebau a phosibiliadau'r Senedd. Ni wn i ddigon i fod yn sicr y gallaf ateb cwestiwn arweinydd Plaid Cymru yn ei holl fanylder. Mae gennyf i amheuaeth na fydd mor syml ag y mae ef yn ei feddwl efallai—mai'r hyn a brofodd y llys yn achos yr Alban oedd a fyddai Senedd yr Alban, wrth arfer swyddogaethau, o fewn cwmpas ei chyfrifoldebau datganoledig ei hun, ac rwy'n dychmygu y byddai'r un prawf yn berthnasol i'n pwerau hefyd, hyd yn oed drwy ddeddfwriaeth eilaidd a hyd yn oed os oeddech chi'n ceisio ei fframio o fewn y cwmpas eang iawn yna o gyfrifoldeb am lesiant pobl yma yng Nghymru. Ond, fel dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, rydym yn derbyn cyngor manwl ar y berthynas rhwng y cwestiwn Albanaidd, fel cafodd ei brofi yn y Goruchaf Lys, a'r pwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac fe fyddaf yn sicrhau bod y pwynt a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma yn cael ei brofi yn y cyngor hwnnw. 

14:05
Dyfodol Neuadd Dewi Sant

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol Neuadd Dewi Sant? OQ58805

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mater i Gyngor Caerdydd yw dyfodol y neuadd. Bydd unrhyw ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gynnal trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae disgwyl i'r awdurdod lleol gwrdd â'r cyngor i drafod dyfodol y neuadd ar ddydd Iau yr wythnos hon.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi'n gwybod o'ch ymddangosiad ar Beti a'i Phobol eich bod chi'n gerddorol iawn. Dwi hefyd yn gwybod, o fod yn y brifysgol gydag arweinydd Cyngor Caerdydd, fod e'n gerddor amryddawn hefyd. Fel byddwch chi'n gwybod fel cerddor, mae addysg a phrofiadau cerddorol yn hollbwysig, ac, fel neuadd gyngerdd genedlaethol Cymru, mae Neuadd Dewi Sant wedi cynnig profiadau gwych i blant ysgol ar hyd y blynyddoedd. Dwi'n gallu dweud fy hunan, trwy Urdd Gobaith Cymru a thrwy'r ysgol, i mi allu perfformio ar lwyfan y neuadd honno. A ydych chi felly, Brif Weinidog, yn bryderus pe byddai Live Nation Inc o Beverley Hills yn cymryd rheolaeth dros Neuadd Dewi Sant na fyddai plant Cymru o hynny ymlaen yn gallu cael yr un profiadau? Diolch yn fawr. 

Llywydd, mae'n rhy gynnar i bryderu dwi'n meddwl, achos dŷn ni ddim yn gwybod digon o fanylion. Dwi wedi cael cyfle heddiw i siarad ag arweinydd y cyngor yma yng Nghaerdydd, a dwi'n siŵr fod e'n ymwybodol o bob pwynt mae Rhys ab Owen wedi eu codi. So, mae'n gwneud y gwaith gyda nid jest un cwmni ond mwy nag un cwmni sydd wedi dangos diddordeb i gydweithio â'r cyngor dros ddyfodol Neuadd Dewi Sant. Dwi'n gwybod bod arweinydd y cyngor wedi rhoi gwahoddiad i bob Aelod Senedd lleol i gwrdd â fe i glywed am y trafodaethau, a dwi'n siŵr, ar ôl cael y cyfle i siarad gyda Huw Thomas, ei fod e'n benderfynol, os bydd rhyw fath o gytundeb am y dyfodol, i warchod nid jest beth mae'r ysgolion yn ei wneud ar hyn o bryd yn y neuadd, ond defnydd y gymuned i gyd o rywbeth sy'n hollbwysig i fywyd pobl sy'n byw yn y brifddinas.  

Prif Weinidog, mae Cyngor Caerdydd wedi cyfeirio at ôl-groniad cynnal a chadw o £55 miliwn fel ffactor ysgogol y tu ôl i synau diweddar ynghylch gwerthu Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'r methiant systematig i ddarparu gwaith cynnal a chadw parhaus digonol bellach yn golygu bod y lleoliad, sy'n cynnal achlysuron diwylliannol a dinesig, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Rhys, sy'n ychwanegu at fri Caerdydd fel prifddinas yn mynd i newid dwylo a mynd i gwmni sydd wedi datgan ei ddymuniad i roi'r gorau i gynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau. Mae'r posibilrwydd hwn o werthu Neuadd Dewi Sant yn amlygu problemau blaenllaw ynghylch pa mor gyfrifol y dylai'r awdurdod lleol fod wrth reoli asedau cymunedol ac adeiladau cymunedol, a pha mor atebol y dylen nhw fod pan fethon nhw â'u cynnal a gofalu amdanyn nhw'n iawn.

Prif Weinidog, byddwn yn dadlau ei bod yn annhebygol iawn bod gwerth £55 miliwn o waith cynnal a chadw wedi cronni dros y tair blynedd diwethaf ers dechrau'r pandemig COVID, ac nid wyf yn credu y dylid defnyddio hwn fel y rheswm y tu ôl i'r ôl-groniad. Mae gwerth 55 miliwn o bunnau o waith cynnal a chadw yn digwydd dros ddegawdau o esgeulustod, ac felly rwy'n credu pe bai Cyngor Caerdydd wedi ymddwyn yn gyfrifol gan wneud gwaith cynnal a chadw wedi'i drefnu'n briodol, na fydden nhw'n ceisio gwerthu Neuadd Dewi Sant. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i ddeall a yw'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal asedau diwylliannol a chymunedol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w cynnal yn iawn? Diolch. 

Llywydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr Aelod yn gwneud y pwyntiau hynny i'r awdurdod priodol, sef Cyngor Caerdydd ei hun yn yr achos hwn. Mae e'n iawn—Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol amdani ac mae'n atebol i'w boblogaeth leol, ac fe gafodd Cyngor Caerdydd gefnogaeth sylweddol gan y bobl yma yng Nghaerdydd ym mis Mai eleni. Dim ond i ychwanegu hyn, Llywydd, yr oedd arweinydd y cyngor yn glir iawn yn ei sgwrs â mi heddiw nad oes awgrym yn yr un o'r trafodaethau y mae'n eu cynnal y byddai'r cyngor yn peidio â bod yn berchen ar rydd-ddaliad Neuadd Dewi Sant. 

Prynhawn da, Prif Weinidog. Nid wyf yn byw yng Nghaerdydd, ond, fel plentyn a pherson ifanc yn byw ac wedi fy magu yn y gogledd, bues i mewn sawl cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, a rhai o'r rheiny, mae'n rhaid i mi ddweud, ar fy mhen fy hun, gan nad oeddwn i'n aml yn gallu dod o hyd i rywun i ddod gyda mi i rai o'r digwyddiadau hynny. Ni wnaf roi'r rhestr o'r cyngherddau hynny yr es i iddyn nhw, ond roedden nhw'n unigryw iawn, fyddwn ni'n dweud. Mae Neuadd Dewi Sant yn cael ei gweld fel lleoliad cenedlaethol, ac rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi, ac mae'n gysur clywed eich bod yn rhannu fy marn y dylai Neuadd Dewi Sant aros o fewn dwylo cyhoeddus. Yn wir rydym ni i gyd ledled Cymru eisiau ei gweld yn aros yn nwylo cyhoeddus, gan sicrhau ei bod yn parhau i gyflawni'r dreftadaeth gerddorol honno sydd ganddi. Diolch yn fawr iawn.

14:10

Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno bod y neuadd wedi cael hanes eithriadol dros y 40 mlynedd. O weld y cwestiwn hwn, cefais fy atgoffa o ymweliad cynnar iawn a wnes i â'r neuadd, yn ôl ar ddechrau ei bodolaeth, pan es i gyngerdd o gerddoriaeth gan Delius, dan arweiniad Eric Fenby, a oedd, fel dyn ifanc, wedi ysgrifennu'r gerddoriaeth i lawr wrth i Delius ei chyfansoddi. Roedd Delius yn ddall yn ddiweddarach yn ei fywyd, ac fel dyn ifanc, roedd Fenby wedi bod yn amanuensis iddo, fel mae'n cael ei alw, ac, yn ddiweddarach iawn yn ei fywyd, yno yr oedd yn Neuadd Dewi Sant, yn arwain y gerddoriaeth yr oedd ef ei hun wedi ei hysgrifennu i lawr. Roedd yn hollol gofiadwy ar y pryd; mae wedi aros gyda mi byth ers hynny. Felly, rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud am yr hanes hwnnw.

Bydd Cyngor Caerdydd yn mynd yn ei flaen, rwy'n siŵr, i sicrhau budd y cyhoedd ym mha bynnag drefniant a wna ar gyfer dyfodol y neuadd. Ond ni ddylai neb gredu nad yw 12 mlynedd o gyni, er gwaethaf popeth y mae'r Siambr hon wedi'i wneud i geisio gwarchod cyllidebau awdurdodau lleol, yn cael effaith sylweddol iawn ar allu awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd y dymunen nhw eu darparu. Mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd eraill, ffyrdd creadigol, weithiau, o wneud yn siŵr bod budd y cyhoedd, ac mae budd cyhoeddus clir iawn mewn sicrhau bod Neuadd Dewi Sant yn parhau i fod yn fenter gerddoriaeth lwyddiannus—i ddod o hyd i ffyrdd y gellir gwneud i hynny ddigwydd.

Rhoddais fy enw i lawr i gyfrannu at y cwestiwn hwn heb sylweddoli faint o bobl fyddai hefyd yn gwneud yr un peth, ond hoffwn ychwanegu fy llais. Cysylltodd etholwr â mi, sy'n chwarae'n rheolaidd mewn cerddorfa yn Neuadd Dewi Sant. Roeddwn i'n mynd i ddweud 'llais trawsbleidiol', ond mae'n siomedig clywed Joel James yn gwneud ymosodiad plaid wleidyddol ar Gyngor Caerdydd, oherwydd, fel rydych chi eisoes wedi ei ddweud, mae'r agenda cyni wedi bod yn effeithio'n sylweddol iawn ar allu awdurdodau lleol i gynnal y mathau hyn o leoliadau ers 2010. Wedi dweud hynny, roedd yr etholwr a gysylltodd â mi eisiau pwysleisio ei bryder ei fod yn bosibl na fyddai gweithredwr preifat yn gweld yr un math o bwysigrwydd diwylliannol yn yr amrywiaeth sy'n cael ei gyflwyno yn Neuadd Dewi Sant ar hyn o bryd ac roedd yn dymuno i hynny barhau, a hoffai i hynny gael ei gyfleu i Gyngor Caerdydd.

Wel, diolch i Hefin David am hynna. Mae'r pwyntiau mae'n eu gwneud yn bwyntiau rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun wedi'u clywed ac y bydd yn eu cymryd o ddifrif. Fodd bynnag, bydd dyfodol y neuadd yn cael ei chynllunio, bydd yr awdurdod lleol eisiau sicrhau ei hyfywedd parhaus, nid yn unig ar gyfer y mathau o ddigwyddiadau poblogaidd iawn sy'n digwydd yno, ond yr ystod ehangach honno o ddigwyddiadau ieuenctid, digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau cerddoriaeth glasurol, digwyddiadau rhyngwladol, megis Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol a chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Ac er mor heriol yw hi i gynnal gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o leihau cyllidebau'n sylweddol, gwn y bydd yr ystyriaethau hynny'n fyw iawn ym meddwl yr awdurdod lleol.

Amseroedd Aros Ambiwlansys

4. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys? OQ58801

Llywydd, mae recriwtio mwy o staff ychwanegol, trefniadau rota diwygiedig, lleihau absenoldeb oherwydd salwch a buddsoddi newydd mewn technoleg i gefnogi penderfyniadau clinigol ymhlith y camau a gymerir i leihau amseroedd aros ambiwlansys.

Diolch. Gofynnais yr un cwestiwn yn ddiweddar i'r Gweinidog iechyd ynghylch sut y bydd y Llywodraeth hon yn lleihau amseroedd aros ambiwlansys. Prif Weinidog, mae dros flwyddyn bellach wedi bod ers i'ch Llywodraeth gyhoeddi ei chwe nod ar gyfer gofal brys, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu, fel y gwelais fy hun yn ddiweddar a llawer o fy etholwyr. Wrth gwrs nid ar barafeddygon sy'n gweithio'n galed y mae'r bai, ond ar y cynllunio gwael gan y Llywodraeth Lafur hon. Fel y dywedais i wrth y Gweinidog iechyd, nid ydym wedi anghofio bod y Gweinidog iechyd diwethaf wedi dweud y byddai'n beth ffôl cyhoeddi cynllun ar gyfer adferiad tra bod y pandemig yn mynd ymlaen, a nawr rydym ni'n talu'r pris.

Prif Weinidog, fel rydym ni wedi clywed yn barod, rydym ni nawr yn y gaeaf ac rydym ni'n gwybod y bydd y sefyllfa'n dirywio, hyd yn oed heb y posibilrwydd o streic nyrsys. Roeddwn i yn adran ddamweiniau ac achosion brys plant gyda fy mab yr wythnos diwethaf, ac yn ystod y nos roedd 67 o blant yn disgwyl cael eu gweld a dau feddyg. Mae'r galw'n cynyddu. Prif Weinidog, pa fesurau uniongyrchol ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod ein hamseroedd aros am ambiwlansys yn gwella, a hefyd, yn y pen draw, nad yw cleifion yn talu'r pris eithaf oherwydd cynllunio gwael y Llywodraeth hon neu ddiffyg gweithredu?

14:15

Wel, Llywydd, darllenais Gofnod o'r ffeirio geiriau rhwng yr Aelod a'r Gweinidog iechyd, ac rydym yn clywed ailadroddiad yr un pwyntiau yn union a wnaed bryd hynny y prynhawn yma, ac nid yw'r atebion wedi newid ers yr atebion a roddwyd iddi y tro hwnnw.

Fe ddof at sylwedd ei chwestiwn hi yn y man, ond gadewch i mi ei gwneud yn glir i'r Siambr nad ydw i'n derbyn am eiliad awgrym yr Aelod fod hon rywsut yn broblem unigryw i Gymru. Dywedodd arweinydd y gwasanaeth ambiwlans yn Lloegr, yr wythnos diwethaf, fod pobl yn marw yng ngwasanaeth iechyd Lloegr oherwydd problemau ambiwlansys yn GIG Lloegr. Felly, nid yw'r pwynt rwy'n ei wneud o gwbl yn debyg i'r hyn y mae hi'n ceisio'i wneud drwy wneud cymariaethau ffôl, ond i gydnabod y ffaith bod y system dan bwysau aruthrol ymhobman, bod clinigwyr yn gweithio'n eithriadol o galed ymhobman i geisio mynd i'r afael â'r broblem, bod Llywodraethau ymhobman yn ceisio dod o hyd i atebion i broblem sydd yr un fath yng Nghymru, yn yr Alban, ac yn Lloegr, a gwaeth eto yng Ngogledd Iwerddon. Felly, nid yw'r syniad, fel y ceisiodd hi ei roi i fy nghyd-Weinidog y Gweinidog iechyd, ac mae hi wedi ceisio ei roi eto y prynhawn yma, fod hwn rhywsut yn brofiad unigryw Gymreig yn wir, mae hi'n gwybod nad yw'n wir, ac ni ddylai hi barhau i awgrymu hynny.

Y camau sy'n cael eu cymryd yw'r rhai a roddodd y Gweinidog Iechyd iddi pan ofynnodd y cwestiwn dim ond wythnos yn ôl. Trwy drugaredd, o ganlyniad i'r holl gamau sydd wedi'u cymryd, mae derbyniadau brys yng Nghymru i lawr. Maen nhw i lawr yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Maen nhw i lawr oherwydd y camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd. Cadeiriodd y Gweinidog gyfarfod o'r holl fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans ddoe, i adrodd ar y ffordd y mae'r mesurau hynny'n cael eu gweithredu nawr a sut y byddant yn cael eu symud ymlaen ymhellach dros y gaeaf hwn. Bydd hynny'n cynnwys y canolfannau gofal sylfaenol brys sydd wedi eu sefydlu nawr ym mhob rhan o Gymru, a bydd yn fuan yn cwmpasu holl boblogaeth Cymru, sy'n golygu nad oes rhaid i bobl gael ambiwlans brys i'w cludo i ysbyty pan fydd cyfleusterau eraill wrth law sy'n tynnu'r galw hwnnw i ffwrdd. Dywedodd yr Aelod ei hun bod 67 o blant yn yr adran honno. Sut mae hi'n dychmygu bod system yn gallu ymateb pan fyddwch chi'n gweld galw o'r math hwnnw sydd ar gynnydd, heblaw drwy ddod o hyd i ffyrdd eraill i reoli'r galw hwnnw?

Nawr, rwy'n credu ei bod yn deyrnged go iawn i'r newidiadau sydd wedi eu gwneud y bu'r Gweinidog yn eu harwain, bellach, bod 4,000 o alwadau 999 bob mis yng Nghymru yn cael eu rheoli'n llwyddiannus yn glinigol heb i bobl orfod gadael eu cartrefi eu hunain. Yn wyneb y math o alw yr ydym ni'n ei weld, yn wyneb y cyfuniad hwnnw o amgylchiadau'r gaeaf hwn—COVID, sydd heb fynd i ffwrdd; ffliw, sydd ar gynnydd yng Nghymru; feirws syncytiol anadlol, sydd ar lefelau rhyfeddol, yn enwedig ymhlith y rhai dan bump oed, ac, rwy'n dychmygu, a arweiniodd at nifer eithaf sylweddol o'r plant hynny yn cael eu cludo i adran ddamweiniau ac achosion brys—mae'r system yn gweithio mor galed ag y gall hi i barhau i fod yn gydnerth yn wyneb yr heriau rhyfeddol hynny.

Datgarboneiddio Holl Gartrefi Cymru

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu ar ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru? OQ58799

Llywydd, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'r diwydiant yng Nghymru, er enghraifft, trwy'r fforwm adeiladu a thrwy gamau gweithredu allweddol, fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Fel hyn, byddwn yn cynnal trafodaeth reolaidd gyda'r diwydiant ar ystod o faterion datgarboneiddio.

14:20

Rwy'n cydnabod y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sydd yn sicr wedi gwella llawer o'n tai cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen at glywed manylion cynllun sgiliau sero net y flwyddyn nesaf, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn hanfodol wrth alluogi'r diwydiant adeiladu i gynllunio ar gyfer cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddatgarboneiddio ein holl gartrefi.

Rwy'n gwerthfawrogi bod uchelgais Llywodraeth Cymru yn gorfod addasu oherwydd toriad o £1 biliwn o leiaf yn ei chyllideb y flwyddyn nesaf. Serch hynny, mae sawl ffordd y gellir datblygu achos datgarboneiddio'r sector preifat, yn enwedig pan fo 40 y cant o holl gartrefi Cymru wedi'u perchnogi'n llwyr heb forgais ynghlwm. P'un a yw'n basbortau adeiladu unigol neu gymhellion cyllidol trwy ostyngiad yn nhrethi stamp neu'r dreth gwerth tir, sut allwn ni symbylu pobl sydd â'r adnoddau i fuddsoddi mewn lleihau eu biliau gwresogi a gwneud y peth iawn ar gyfer yr amgylchedd?

Wel, Llywydd, diolch i Jenny Rathbone. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig iawn yma y bydd buddsoddiad cyhoeddus yn ein cario ni rhan o'r ffordd ar yr agenda hon, ond bydd yn rhaid iddo gael ei gyd-ariannu gan bobl sydd ag adnoddau y gallan nhw eu hunain sicrhau eu bod ar gael. Mae darparu pasbort adeiladu ar gyfer pob cartref yn rhywbeth a gafodd ei argymell gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, a bydd yn sylfaenol oherwydd, fel rydym ni wedi trafod yn y Siambr o'r blaen, mae gan bob adeilad ei hanes ei hun a bydd angen ei ateb ei hun ar bob adeilad pan ddaw i ddatgarboneiddio. Rydym yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i geisio datblygu cynnyrch y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl sydd ag asedau y gallant eu hunain eu rhoi ar waith, fel y gall eiddo sydd dan berchnogaeth breifat eu hunain chwarae rhan yn y daith ddatgarboneiddio honno. Ochr yn ochr â hynny, rydym yn mynd ati i fuddsoddi symiau sylweddol o arian. Yn y maes cyhoeddus bydd safonau ansawdd tai Cymru newydd, yr ymgynghorir arnynt yn gwella safonau effeithlonrwydd ynni eiddo sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus yma yng Nghymru.

Rwy'n gwneud y pwynt ehangach hwn, er mwyn rhoi cwestiwn yr Aelod yn ei gyd-destun, mae cynllun sgiliau sero net Cymru yn bwysig iawn. Mae'r pethau y gallwn ni eu gwneud i annog buddsoddi preifat yn y maes hwn yn bwysig iawn. Mae'r diwydiant yn wynebu penwyntoedd enfawr, na fydd cynllun ar ei ben ei hun yn ei unioni. Rydym ni'n gwybod bod prinder llafur o ganlyniad i Brexit. Rydym yn gwybod bod rhwystrau rhag mewnforio deunyddiau, wedyn wedi'u gwneud yn waeth oherwydd nad oes gennym yr un berthynas fasnachu ag yr oedd gennym ni gyda'n cymdogion pwysicaf, ac mae hynny'n creu tagfeydd yn y system hefyd. Mae rhai materion byd-eang, ac mae y rheini'n cynnwys effaith y rhyfel yn Wcráin ar rai deunyddiau hanfodol ar gyfer adeiladu tai ac ar gyfer gwaith ôl-osod sydd, hyd yn oed gyda chynlluniau gan Lywodraeth Cymru a buddsoddi cyhoeddus a phreifat, yn golygu bod yna heriau gwirioneddol i'w hwynebu yn y sector dros y blynyddoedd i ddod.

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y chwistrelliad o £1.2 biliwn i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU o fudd i bobl sir Ddinbych? OQ58777

Llywydd, pan gyhoeddir y gyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr, bydd yn rhaid iddi gydbwyso'r £600 miliwn, sydd ar gael y flwyddyn nesaf nawr, â'r gostyngiad o £1 biliwn sy'n weddill ym mhŵer prynu'r gyllideb honno. Y gostyngiad hwnnw yn sgil yr un chwyddiant sy'n achosi cymaint o niwed i ddinasyddion sir Ddinbych.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna Prif Weinidog, a'r hyn yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf yw Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto yn arwain mewn cyfnod ariannol anodd i fuddsoddi yng Nghymru. Ac, yn wir, yn eu datganiad yn yr hydref, datgelwyd y byddwn yn cael £1.2 biliwn mewn cyllid canlyniadol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin, sydd wedi bod o fudd i ardaloedd yn fy ardal i yn sir Ddinbych. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r Rhyl yn etholaeth Dyffryn Clwyd, sydd ag un o ardaloedd tlotaf Cymru gyfan, gyda chyfraddau uchel o ddiweithdra ac ychydig iawn o gyfleoedd i bobl—[Torri ar draws.]

A wnewch chi ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gwestiwn, aelodau meinciau cefn Llafur?

Ie. Diolch, Llywydd. Ychydig iawn o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i yrfaoedd cynaliadwy sy'n talu'n dda yn yr ardal leol, rhywbeth y gellid ei ddatrys yn rhannol pe bai gennym Lywodraeth yng Nghymru oedd yn gweithio i Gymru gyfan ac yn gweithio mewn partneriaeth â San Steffan. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu heddiw sut y bydd yn gweithio orau gyda Rishi Sunak a Llywodraeth y DU wrth sicrhau bod fy etholaeth i yn teimlo budd y chwistrelliad hwn o arian parod, yn hytrach na dim ond beirniadu o'r cyrion?

14:25

Wel, Llywydd, mae'n un o'r cwestiynau hynny lle nad ydych chi'n gwybod lle i ddechrau, mewn gwirionedd. Yn gyntaf oll, gadewch i ni gywiro'r gwall yn syth. Rwy'n gweld bod yr Aelod yn brysur yn trydar bod Cymru am gael £1.2 biliwn i ariannu ysgolion ac ysbytai. Wel, wrth gwrs, nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae 44 y cant o'r holl symiau canlyniadol sy'n dod i Gymru o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth yn y cyfraddau busnes a gyhoeddwyd yn Lloegr. Felly, mae hanner yr arian wedi mynd cyn i ni ddechrau ar unrhyw ysgol neu unrhyw ysbyty, a hyd yn oed pan fydd yr arian hwnnw yno, mae'n dal i adael cyllideb sydd mewn termau real, y flwyddyn nesaf, £1 biliwn yn llai nag yr oedd pan wnaeth y Llywodraeth Geidwadol honno osod y gyllideb ym mis Tachwedd y llynedd. Dyna'r gwir sy'n wynebu trigolion sir Ddinbych.

Prin y gwyddwn i beth i'w feddwl pan glywais yr Aelod yn cyfeirio at y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin. A wnaeth ef sylwi bod ei Lywodraeth wedi cymryd £400 miliwn arall allan o'r gronfa ffyniant gyffredin yn natganiad yr hydref? Roeddem ni eisoes yn gwybod nad oedd y sicrwydd llwyr na fyddai Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i golli arian Amcan 1 yn mynd i fod yn wir o gwbl. Roedd hynny eisoes yn glir o'r arian blaenorol yr oedd Llywodraeth y DU wedi'i amlinellu. Nawr mae gennym ni £400 miliwn yn llai hyd yn oed na hynny, a does gennym ni ddim hyd yn oed gyhoeddiad ar y cyllid i Gymru o gwbl. Mae unrhyw awgrym fod y ffordd y mae pobl yn etholaeth yr Aelod i ddod o hyd i gyfleoedd newydd yn eu bywydau trwy ddilyn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan mor bell o realiti'r sefyllfa fel bod angen dos sylweddol iawn o realiti ar gwestiwn yr Aelod y prynhawn yma.

Gweithdrefnau Rhyddhau Diogel

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan ysbytai weithdrefnau rhyddhau diogel yn eu lle? OQ58780

Bydd canllawiau arbenigol newydd a diwygiedig i gynorthwyo staff i ryddhau cleifion mewn ysbytai yn ddiogel ac yn amserol yn cael eu lansio ar 6 Rhagfyr.

Diolch, ac rwy'n edrych ymlaen at hynny. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn i chi yw oherwydd fe wnes i ofyn am ddatganiad yr wythnos diwethaf drwy'r Trefnydd, am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog gofal cymdeithasol, oherwydd fe wnaf i ddatgan buddiant: fe wnes i brofi sefyllfa wael iawn yn y gogledd yr wythnos diwethaf. Cafodd aelod 98 oed o fy nheulu, oedd â phroblemau symudedd ar y diwrnod y cafodd ei ryddhau o'r ysbyty, ac ysgwydd oedd wedi torri, ei ryddhau ar y diwrnod a'i anfon adref heb becyn gofal ar waith ar gyfer gweddill y diwrnod hwnnw hyd yn oed. Gadawon nhw'r perthynas arbennig hwn yn eistedd mewn cadair gartref, yn methu symud. Mewn gwirionedd, byddai wedi bod yn sownd yno nes i ofalwyr gyrraedd y diwrnod canlynol, oni bai am fy ymyrraeth fy hun, mewn gwirionedd. Ar ôl siarad gyda phobl sy'n gweithio o fewn yr adrannau iechyd a gofal cymdeithasol y noson honno, pan lwyddom ni i gael rhywfaint o gefnogaeth i mewn, roeddwn i mewn gwirionedd bron â chyrraedd Caerdydd pan glywais nad oedd neb wedi bod i'w weld fel yr addawyd. Nawr, rwyf wedi cael sicrwydd nad yw hwn yn achos unigryw. Mae cleifion agored i niwed eraill yn cael eu rhyddhau i gartrefi heb becynnau gofal ar waith. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi—

Iawn. Ym maniffesto 2021, fe wnaethoch chi addo deddfu i gryfhau partneriaethau i ddarparu gofal ac iechyd integredig gwell. Felly, yn sgil y dystiolaeth glir bod cyfathrebu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn y gogledd wedi torri i lawr ac felly yn fygythiad, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau gofal ac iechyd integredig gwell, ac na fydd neb arall yn cael ei adael mewn sefyllfa mor fregus? Diolch.

Wel, Llywydd, roedd yn ddrwg iawn gennyf ddarllen y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o glywed, o ganlyniad i'w hymyrraeth, y datryswyd rhai o'r anawsterau hynny.

Rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan brif weithredwr GIG Cymru bod y mathau hyn o ddigwyddiadau yn eithriadau yn GIG Cymru a bod y rhan helaeth o'r bobl sy'n cael eu rhyddhau yn cael cynllun gofal priodol ar waith ac nad ydyn nhw'n cael eu rhyddhau i'r mathau o amgylchiadau yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw'r prynhawn yma, ac fe gefais y sicrwydd hwnnw heddiw. Mae camgymeriadau'n digwydd, ac nid yw popeth fel yr hoffem iddo fod, ond nid yw'r syniad bod llawer o bobl yn cael eu rhyddhau yng Nghymru mewn amgylchiadau nad ydyn nhw'n ddiogel, yn dal dŵr yn ôl y dystiolaeth, ac ni ddylai chwaith.

Bydd y canllawiau a fydd yn cael eu lansio ar 6 Rhagfyr yn cryfhau hynny eto. Bydd yn sicrhau y bydd gan bob claf gynllun rhyddhau, ac y bydd y cynllun rhyddhau yn dechrau ar y diwrnod y bydd y claf yn cael ei dderbyn. Dylech fod yn cynllunio ar gyfer rhyddhau adeg mynediad. Bydd y cynllun fydd yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr yn cryfhau hynny. Mae hynny'n cael ei ategu gan y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n fuddsoddiad a rennir. Mae ar y pwynt integredig hwnnw y soniodd yr Aelod amdano, lle mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eistedd i lawr gyda'i gilydd, yn cynllunio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau ac i sicrhau, pan fo rhywun yn symud o un gwasanaeth i'r llall, nad oes bylchau yn y system i achosi'r math o anhawster a glywsom amdano'n gynharach. 

14:30
Peiriannau ATM

8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod peiriannau ATM yn hygyrch mewn cymunedau yng ngogledd Cymru? OQ58775

Nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau bancio wedi ei ddatganoli i'r Senedd. Er na all Llywodraeth Cymru, felly, sicrhau bod peiriannau ATM ar gael, rydym ni'n gweithio gyda'r rhai hynny sy'n gallu gwneud hynny, gan gynnwys gwasanaethau arloesol fel hybiau bancio ar y cyd. Rwy'n croesawu'r cynlluniau ar gyfer hwb o'r fath ym Mhrestatyn.

Diolch. Gwnaeth ymchwil gan eiriolwr defnyddwyr Which? y mis hwn ddarganfod bod un o bob pump o bobl yn dweud y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi mewn cymdeithas ddi-arian parod, a'r rhai ar incwm is, pobl hŷn a phobl sydd â thrafferthion iechyd corfforol neu iechyd meddwl yn arbennig o ddibynnol ar arian parod. Wrth siarad yma yn 2010, codais i'r gofynion rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf a'r rheoliadau y bydd yn rhaid i fanc cymunedol newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai banc neu bartner cymdeithas adeiladu sefydledig yn gorfod ei wneud. Yn 2017, arweiniais ddadl ar wasanaethau bancio yn y fan yma, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r model bancio cymunedol nid-er-elw. Felly, rwyf i'n croesawu eich cyhoeddiad dilynol am y banc cymunedol i Gymru, Banc Cambria, mewn partneriaeth â Monmouthshire Building Society, yn amodol ar eich sicrwydd mynych na fyddai hyn yn effeithio ar wasanaethau undeb credyd a fframwaith bancio 'hawl dros arian parod' Swyddfa'r Post. Ond yn nigwyddiad Swyddfa'r Post y Senedd fis diwethaf, nid oedden nhw'n ymwybodol o'ch cynigion banc cymunedol a sut y gallai hyn effeithio arnyn nhw. Mae Monmouthshire Building Society wedi dweud wrthyf i ei bod yn bwysicach lansio rhywbeth sy'n iawn na'i lansio'n gyflym, eu bod yn dal i weithio i ymdrin â'r bwlch yn eu darpariaeth sef cyfrif cyfredol, ac na fydd eu safleoedd Banc Cambria o reidrwydd yn ganghennau. Felly, o ran mynediad i arian parod, gan gynnwys peiriannau ATM, beth, felly, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Yn gyntaf, Llywydd, rwy'n cytuno â'r gyfres o bwyntiau y gwnaeth Mark Isherwood ar ddechrau ei gwestiwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu darparu mynediad at arian parod ar gyfer y cymunedau niferus hynny sy'n dibynnu arno.

Rwy'n synnu nad oedd Swyddfa'r Post yng Nghymru wedi clywed am ddatblygiadau'r banc cymunedol, o gofio iddyn nhw gael cyhoeddusrwydd eang iawn a'u trafod dro ar ôl tro ar lawr y Siambr hon. O ystyried bod hyn yn ganolog i'w gweithgarwch, mae'n syndod mawr yn wir i ddarganfod ei bod yn ymddangos nad ydyn nhw wedi gweld hyn. Byddech chi'n meddwl y bydden nhw'n dymuno cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn fwy gwybodus. 

Mae'r gwaith gyda Monmouthshire Building Society yn parhau. Mae yna, fel y byddan nhw wedi esbonio, rai rhwystrau rheoleiddio y mae'n rhaid iddyn nhw eu bodloni. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod ni wedi ffurfio cynghrair gyda nhw wrth ddatblygu'r banc cymunedol, oherwydd eu bod yn ddarparwr gwasanaeth ariannol sefydledig ac uchel ei barch. Mae datrys rhai o'r rhwystrau rheoleiddio hynny yn haws pan fyddwch chi'n gweithio gyda nhw.

Mae'n bwysig iawn; rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y dywedodd Mark Isherwood. Bwriad y banc cymunedol yw ychwanegu at y gwasanaethau sydd yno'n barod—ochr yn ochr, ond nid mewn cystadleuaeth ag undebau credyd, swyddfeydd post a darparwyr gwasanaethau eraill. Rhan o'r rheswm pam y byddan nhw wedi dweud wrth yr Aelod ei bod yn well cael hyn yn iawn yn hytrach na'i wneud yn gyflym yw sicrhau, pan fydd y banc cymunedol yn weithredol, fod ganddo'r amrywiaeth gywir o wasanaethau a'i fod yn gallu eu darparu ochr yn ochr â'r gwasanaethau eraill hynny sydd yno eisoes ac sy'n gwneud llawer iawn o les ym mywydau pobl y mae sefydliadau ariannol confensiynol, yn y blynyddoedd diwethaf, mwy a mwy, wedi camu'n ôl o ddarparu gwasanaeth.

14:35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:35:38
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad llafar ar gyhoeddi'r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi fel yr eitem gyntaf yn syth ar ôl y datganiad busnes. Yn ogystal â hyn, mae'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl wedi cael ei symud ymhellach i lawr yr agenda. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dirweddau dynodedig ynglŷn â pha gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r tirweddau hynny rhag erydiad o ganlyniad i gerbydau oddi ar y ffordd yn mynd iddynt? Mae gennym ni broblemau arbennig ar Moel Famau, yn fy etholaeth fy hun, ar hyn o bryd, lle mae'n ymddangos bod beicwyr modur ac eraill yn mynd ar y llwybrau troed, gan achosi llawer o erydiad, difrod i lystyfiant ac isbridd. Ac wrth gwrs, nid dim ond mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol y mae hyn, y gobeithiwn ni y bydd yn cael ei dynodi'n barc cenedlaethol yn y dyfodol agos, ond mae ar lwybr troed Clawdd Offa hollbwysig hefyd, sydd, wrth gwrs, yn heneb gofrestredig. Mae'n annerbyniol, mae angen i ni wneud mwy o waith i ymdrin â'r broblem hon ar sail gyd-gysylltiedig, a tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Os gallech chi gyflwyno datganiad, byddwn i'n ddiolchgar iawn.

Diolch. Rwy'n credu bod hynny, mae'n debyg, yn berthnasol i fy mhortffolio fy hun ac un y Gweinidog Newid Hinsawdd, felly fe wnaf i gael trafodaeth â hi. Yn sicr, yn fy mhortffolio i, rwy’n ystyried y parc cenedlaethol newydd, ond nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am hynny, neu nid oeddwn i'n ymwybodol o unrhyw faterion yn ei gylch. Ond yn sicr, byddaf i'n cael trafodaeth â hi ac yn gweld os oes unrhyw wybodaeth arall.

Oes modd i ni gael datganiad llafar neu ysgrifenedig ar drafnidiaeth ysgol, os gwelwch yn dda?

Am 07:30 fore Iau, cerddodd rhieni a chynrychiolwyr lleol o Barc Maesteg i lawr i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd er mwyn tynnu sylw at ba mor hir ac anniogel y mae'r llwybr i'r ysgol i'w gerdded. Fe gymerodd hi tua 45 munud i awr iddyn nhw wneud y daith, ac roedd hynny'n digwydd bod yn ddiwrnod eithaf da o ran tywydd, ond y gwir amdani yw bod plant yn cerdded ym mhob tywydd. Rwy'n deall bod cyllidebau'n dynn, ond mae rhieni'n dweud wrthyf i fod llawer o'r bysiau sy'n mynd â'r rhai hynny o'r tu allan i'r trothwyon milltiroedd i'r ysgol yn hanner gwag wrth iddyn nhw basio plant sy'n byw o fewn y trothwyon. Byddwn i'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn edrych i gamu i'r adwy.

Mae hyn mewn gwirionedd yn fater i'r awdurdod lleol perthnasol. Byddwn i wir yn eich cynghori chi i gysylltu â'r awdurdod lleol, i weld a oes unrhyw beth mwy—. Yn amlwg, nid ydych chi eisiau gweld plant yn cerdded i'r ysgol pan fo bysiau'n pasio heb fod yn llawn.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe yw'r cyntaf. Rydw i wedi cael gwybod bod newidiadau yn yr amserlen, o fis Rhagfyr 2022, yn golygu nad oes trenau'n galw yng ngorsaf Llansamlet o 2.06 p.m. tan 4.58 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener. Sut ydyn ni i fod i ddenu teithwyr i'r gwasanaeth? Hefyd, all y datganiad gynnwys pryd fydd gwasanaeth bob awr Swanline yn dechrau?

Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw'r wybodaeth ddiweddaraf ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru—datganiad i gynnwys llanw, gwynt ar y tir ac ar y môr, a solar. Rwy'n croesawu'n fawr defnyddio'r fferm solar y drws nesaf i Ysbyty Treforys i ddarparu ynni i'r ysbyty, a hoffwn i weld cynllun ar gyfer mwy o'r rheiny ledled Cymru. Cafodd y morlyn llanw yn Abertawe ei wrthod ar sail bod nwy rhad ar gael—ydych chi'n cofio hynny? Gan nad yw hynny'n wir nawr, all y datganiad hefyd gynnwys cynigion am forlyn llanw?

Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd denu mwy o deithwyr i wasanaethau rheilffordd. Fel y gwyddoch chi, maen nhw'n cyflwyno trenau newydd sbon ar draws Cymru yn 2023, ac rwy'n credu bod rhai trenau newydd eisoes wedi'u cyflwyno. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw ostyngiad yng ngwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn galw yng ngorsaf Llansamlet. Yn sicr, fe wna i gadarnhau bod hynny'n wir, ond nid ydw i'n ymwybodol o hynny. O ran gwasanaeth Swanline, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar yr achos busnes i gyflwyno gwasanaeth Swanline bob awr. Fel rwy'n dweud, mae'r achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

O ran ynni adnewyddadwy, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr weledigaeth i Gymru gynnal cynhyrchu adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ni yn llawn o leiaf gan hefyd gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithredu argymhellion yr archwiliad manwl y cyflawnodd yn gynharach eleni. Mae'n dda iawn eich bod chi wedi sôn am Ysbyty Treforys. Yn sicr, rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o brosiectau ynni ar yr ystad gyhoeddus yma yng Nghymru.

14:40

Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am ddarpariaeth iechyd meddwl? Yn ddiweddar fe es i ar daith gyda Heddlu Gwent i gael deall sut fywyd sydd gan swyddogion heddlu ar draws y de-ddwyrain. Roedd yn agoriadol llygaid llwyr, ac roedd yn gyfle gwych i gael trafodaethau agored ac onest gyda swyddogion a staff o bob rhan o'r llu. Yn amlwg, rwy'n deall, yn derbyn ac yn parchu bod plismona yn fater datganoledig, ac rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref am rai o'r pethau sydd wedi'u codi gyda mi, ond mae'n amlwg y gallai Llywodraeth Cymru gymryd rhai camau i helpu ein heddluoedd. 

Y prif fater a gododd dro ar ôl tro yn ystod fy nghyfnod ar y bît oedd diffyg cyfleusterau iechyd meddwl ledled y de-ddwyrain. Mae gan swyddogion heddlu ddyletswydd gofal i rywun yng nghanol argyfwng iechyd meddwl—ac mae'n rhaid i mi bwysleisio nad oes gan bawb y siaradais i â nhw unrhyw broblem yn gwneud hyn, yn eu helpu a'u cefnogi waeth beth yw eu hamgylchiadau. Fodd bynnag, mae achosion o swyddogion yn treulio oriau maith gyda chleifion oherwydd yn syml, does dim digon o allu o fewn ein cyfleusterau iechyd meddwl iddyn nhw gael eu gweld. Oherwydd yr oedi hir o ran yr heddlu yn trosglwyddo'r claf i weithwyr iechyd proffesiynol, mae swyddogion yn anweithredol am lawer rhy hir. Cefais wybod sawl tro bod yr oedi yma oherwydd bod gan Gymru yr amseroedd aros damweiniau ac achosion brys hiraf a'r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ym Mhrydain. Gyda'r rhan fwyaf o gyfleusterau iechyd meddwl yn y de-ddwyrain yn gweithredu o Ysbyty Sant Cadog ac Ysbyty'r Faenor, mae'n amlwg, Gweinidog, bod angen ehangu darpariaethau, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol neu'n bwriadu ei wneud i wella cyfleusterau iechyd meddwl yn y de-ddwyrain a gweddill y wlad? Diolch.

Diolch. Rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, bod yr heddlu weithiau'n treulio'n rhy hir gyda rhywun a ddylai fod yn cael defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwirionedd, er enghraifft yn y ffordd yr ydych chi'n nodi. Rwy'n gwybod bod tipyn o waith yn cael ei wneud rhwng y byrddau iechyd a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i sicrhau nad yw hynny'n wir. Rydych chi'n sôn am yr aros hiraf yn y DU—byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ymdrin â hynny mewn ateb i Laura Anne Jones. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; mae'n gwbl gywir bod person gyda'r gwasanaeth brys cywir, ac nad yw felly'n rhwystro'r heddlu rhag bwrw ymlaen â'r hyn y maen nhw'n ei wneud, a'i fod yn cael mynd at y gwasanaethau cywir.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi. Droeon, rydyn ni wedi codi faint o gyfle ydy o bod Cymru yn cystadlu yng nghwpan y byd yn Qatar o ran proffil Cymru yn rhyngwladol, a'r ffaith ein bod ni rŵan yn gweld pobl yn Gwglo yn ystod y gêm yn erbyn Unol Daleithiau America am Gymru, eisiau gwybod mwy am ein gwlad, a gobeithio felly yn gwybod am ein daliadau ni a'r hyn sy'n bwysig i ni a'n bod ni ddim yn cytuno efo'r safbwynt, er enghraifft, o ran sut mae pobl LGBTQ+ yn cael eu trin yn Qatar, ac ati.

Ond, yr hyn rydyn ni wedi bod yn holi nifer o weithiau i Weinidog yr Economi ydy beth ydy'r mesurau bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arnynt i fesur gwerth y buddsoddiad sy'n gysylltiedig gydag ymgyrch tîm dynion Cymru yn cystadlu yn nhwrnamaint cwpan y byd. Gwn i Tom Giffard godi hyn ar 27 Medi efo'r Gweinidog, a bod y Gweinidog wedi dweud y byddai yn rhannu'r data yna efo ni cyn i'r gystadleuaeth ddechrau. Mi wnes i ysgrifennu ato fo hefyd, ac mi ges i lythyr nôl yr wythnos diwethaf yn dweud, 'Rydym yn cynnal gwerthusiad llawn o'n gweithgareddau sydd ynghlwm wrth gwpan y byd. Bydd y mesurau yn cynnwys metrics marchnata penodol' ac yn y blaen, ond dim byd pendant. Plis gawn ni ddatganiad efo'r mesurau hyn? Mi ddylem ni fod wedi eu derbyn nhw'n barod, ond, a gawn ni nhw rŵan, cyn i Gymru gyrraedd y ffeinal? Diolch.

Rwy'n siŵr y gallem ni wneud hynny. Fel y gwyddoch chi, mae Gweinidog yr Economi yn Qatar ar hyn o bryd ac yn amlwg bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ôl dychwelyd yn nodi pa gyfarfodydd ac ati y bydd wedi'u cael tra yr oedd yn Qatar. Rwy'n gobeithio i Aelodau weld datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog yn dilyn ei ymweliad ef—rwy'n credu mai ddoe y cafodd hwnnw ei gyhoeddi. Rydych chi'n sôn am bwynt penodol am y data a'ch bod chi wedi cael ymateb gan Weinidog yr Economi yn nodi ein bod ni'n cael gwerthusiad llawn. Byddaf i'n sicrhau bod data gwerthuso llawn hefyd naill ai'n cael ei roi mewn gohebiaeth i chi a bod llythyr yn cael ei roi yn y llyfrgell, neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. 

14:45

Gan ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Heledd Fychan, darllenais gyda diddordeb y datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ddoe am gyflawniadau ei ymweliad o ran hyrwyddo buddiannau Cymru a gwerthoedd Cymru. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y camau y gwnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon eu cymryd drwy beidio â mynd i'r gêm yr wythnos ddiwethaf rhwng Cymru ac Iran o ystyried bod pobl sy'n protestio yn Iran dros farwolaeth Mahsa Amini dros ddeufis yn ôl yn cael eu hatal yn greulon, a'r angen i hawliau dynol gael eu parchu, yn enwedig hawliau menywod, yno. Yn dilyn yr union safiad hwnnw a oedd i'w groesawi i gefnogi hawliau dynol, pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am gymryd camau cadarn yn erbyn y Llywodraeth misogynistaidd hon yn Tehran, ac a allai hynny gynnwys rhewi asedau yn y wlad hon neu ddiarddel diplomyddion Iran i wneud i'r drefn hon ddeall na allwn ni, yn syml, oddef hawliau menywod yn benodol yn cael eu sathru? Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny maes o law. 

Diolch. Yn bersonol, nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw sgyrsiau sydd wedi digwydd rhwng unrhyw un o fy nghydweithwyr gweinidogol a Llywodraeth y DU, ond yn sicr fe wnaf i ymholiadau ac fe wnaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod os oes sgyrsiau o'r fath wedi bod. 

Trefnydd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wneud datganiad ar effaith cynllun masnachu allyriadau'r DU, ETS, ar sector ynni Cymru? Yr wythnos diwethaf, cwrddais â fforwm ynni Haven, casgliad o gynrychiolwyr o'r diwydiant sydd wedi mynegi eu pryder ar y cyd am weithredu a rhoi'r ETS ar waith yn y dyfodol. Mae'r busnesau'n cynnwys purfa olew Valero a gorsaf bŵer RWE yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae pryderon o'r fath yn canolbwyntio ar y diffyg cyfochri â chyflwyno technoleg datgarboneiddio, ansicrwydd ynghylch dyfodol lwfansau am ddim, newidiadau i'r rhestr sector gollwng carbon ac anghysondebau o fewn dehongli deddfwriaeth. O ystyried y pryderon hyn, byddai'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cael ei werthfawrogi i roi sicrwydd i fusnesau wrth i ni ddatgarboneiddio'r diwydiannau. Diolch, Llywydd. 

Wel, mae datblygu ETS y DU wedi bod yn ddarn o waith hir a chymhleth iawn, ac yn sicr, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad—mae sgyrsiau, rwy'n gwybod, yn digwydd rhwng y ddwy Lywodraeth am hyn—ar yr adeg fwyaf priodol, efallai yn y flwyddyn newydd. Ond, fe wnaf ofyn iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

Prynhawn da, Trefnydd. Rwyf i hefyd eisiau cefnogi'r datganiadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Heledd, a gan Jenny hefyd, o ran hawliau dynol ledled y byd. A gan unwaith eto, ystyried Qatar, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y cododd y Prif Weinidog faterion hawliau dynol gyda'r bobl y gwnaeth ef gyfarfod â nhw. Mae'n rhywbeth y gwnaeth ef ymrwymo iddo ac fe ddywedodd y byddai'n codi'r materion penodol hynny. Rydym ni'n parhau i glywed am y pryderon. Heddiw, rwy'n deall bod Llywodraeth Qatar yn cydnabod bod rhwng 400 a 500 o weithwyr tramor wedi marw ar brosiectau adeiladu. Mae hynny'n danamcangyfrif enfawr, ond mae'n gydnabyddiaeth. Ac mae'n gywilyddus bod swyddogion ein Llywodraeth ni—fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn daer yn erbyn unrhyw swyddogion y Llywodraeth yn mynd i gwpan y byd Qatar—yn defnyddio'r stadiymau hynny lle mae pobl wedi marw yn eu hadeiladu nhw. Felly, hoffwn i ddatganiad i roi gwybod i ni sut mae'r materion hawliau dynol hynny wedi cael eu codi. Diolch. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Mae Jane Dodds yn codi pwynt pwysig iawn, a byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog, ac mae'n debyg Gweinidog yr Economi, yn nodi'r rhesymau pam eu bod yn credu'i bod yn iawn mynd i'r gemau y gwnaethon nhw. Byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon, yn nodi'r cyfarfodydd y cafodd a'r ffyrdd, yn sicr, y gwnaeth ef yr hyn yr ydych chi newydd gyfeirio ato, yn ogystal â chodi proffil Cymru. Ac yn sicr fe wnaf i ofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ôl dychwelyd—rwy'n credu ei fod yn ôl yfory—naill ai'n ddiweddarach yr wythnos hon neu'n gynnar yr wythnos nesaf. 

A gaf i alw am un datganiad, gan Weinidog yr Economi, yn ddelfrydol gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ar gefnogaeth i fusnesau sydd wedi'u heffeithio gan gau pont grog Menai? Ddydd Gwener diwethaf, fe gwrddais i ar-lein â'r AS lleol, Virginia Crosbie, fy nghyd-Aelod AS y gogledd Sam Rowlands, a busnesau Porthaethwy sy'n bryderus am yr effaith arnyn nhw ar ôl i Lywodraeth Cymru ei chau. Dywedodd busnesau wrthym ni eu bod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Dywedon nhw fod yr holl ganfyddiad cyhoeddus na all pobl fynd ar yr ynys nac oddi arni ychwaith wedi effeithio ar Fiwmares, pan fo'r unig wir broblem yn y bore a'r hwyr, ac maen nhw'n gofyn a all unrhyw un wneud unrhyw beth o ran cael gwaith wedi'i gychwyn ar y bont. Mae hi eisoes wedi bod ar gau am fwy na mis, ond nid oes neb wedi gweld unrhyw un yn gweithio arni, ac maen nhw'n ofni y bydd y bont ar gau am gyfnod hir, a fyddai'n eu difetha. Dywedon nhw, os ewch chi ddwy filltir i fyny'r ffordd, fod problemau o hyd—mae angen iddyn nhw gael trefn ar y traffig, mae angen parcio am ddim arnyn nhw, rhyddhad trethi busnes, a baneri ar yr A55, yn cyfeirio pobl i'r canolfannau fel Porthaethwy a Biwmares, yn hysbysebu eu bod nhw ar agor. Roedden nhw'n cwyno am strancio ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl leol a thwristiaid maen nhw'n dibynnu arnyn nhw, ac maen nhw angen i Croeso Cymru fod yn gwthio'r neges eu bod ar agor. Dywedon nhw, 'Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw gobaith, ac i hyrwyddo bod ein hynys ar agor, lle mae ein masnach dwristiaeth yn cael ei dinistrio a'n cadwyni cyflenwi yn cael eu heffeithio.' Rwy'n annog y Gweinidogion perthnasol i gyflwyno datganiad yn unol â lle mae'r busnesau niferus hyn—busnesau rhagorol—sy'n darparu gwasanaethau allweddol i bobl leol mewn perygl mawr. Diolch.

14:50

Diolch i chi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y bydd nifer o fusnesau'r ardal yn wynebu ansicrwydd oherwydd bod y bont wedi cau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod gyda phrif weithredwr a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn. Mae'r awdurdod lleol—fel rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr—yn drafftio cynllun gweithredu ar gyfer cefnogi'r gymuned fusnes, ac rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â'r ardal yn fuan iawn, lle bydd ef, yn amlwg, yn parhau i gael y trafodaethau hynny.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf innau hefyd ddim ond adleisio sylwadau Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a galw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am y gefnogaeth a gynigir i ddiwydiannau ynni-ddwys i helpu busnesau i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mewn ffordd gost effeithiol a symud at arferion gwyrddach? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod gan ddiwydiant Cymru swyddogaeth hanfodol wrth drosglwyddo oddi wrth ddiwydiannau ynni-ddwys i gynhyrchu gwyrddach, ac mae hi'n hanfodol bod busnesau yn cael eu cefnogi yn llawn i wneud newidiadau er mwyn datgarboneiddio eu hoffer. Er hynny, mae hi'n hanfodol hefyd bod diwydiant y DU yn gallu cyfranogi mewn ffordd deg â chystadleuwyr byd-eang ac nad oes perygl o ollwng carbon o ganlyniad i bolisi prisio carbon y DU. Fe glywais eich ymateb chi i'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac felly rwy'n gobeithio y gallwn ni gael y datganiad hwn cyn gynted â phosibl, i fusnesau fod â sicrwydd a'u bod yn deall sut mae Llywodraeth Cymru am eu cefnogi nhw i drosglwyddo at ynni glanach.

Ie, diolch i chi, ac, fel rwy'n dweud, fe roddais i'r ateb i Sam Kurtz y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Efallai y byddai hynny'n well yn y flwyddyn newydd yn hytrach na chyn y Nadolig, ond yn sicr fe fyddaf i'n sicr yn gwneud hynny ar yr amser mwyaf manteisiol i wneud felly. Rwy'n deall eich pwynt chi'n llwyr ynglŷn â busnesau ynni-ddwys. Os ydym ni am gyrraedd ein huchelgeisiau a'n nodau sero net y gwnaethom ni eu pennu nhw—ac, yn amlwg, rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i fod yn y sefyllfa honno o ran sero net—mae angen i ni edrych ar y diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, wrth symud ymlaen.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ar gyhoeddi’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Julie Morgan.

Diolch, Llywydd. Mae marwolaeth unrhyw blentyn yn achos tristwch mawr ac rwyf i am ddechrau drwy fynegi fy nhristwch dwfn yn sgil marwolaeth Logan Mwangi, ac achub ar y cyfle hwn i gydymdeimlo yn ddiffuant â Mr Ben Mwangi a theulu Logan yn fwy eang yn eu colled ddirdynnol.

Mae cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf o'r adolygiad o ymarfer plant yn dilyn llofruddiaeth Logan, rwy'n siŵr, wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i dad a theulu Logan, yn enwedig gan fod hynny wedi tynnu rhagor o sylw at fanylion eraill ynghylch y digwyddiadau a wnaeth arwain at farwolaeth Logan ar oedran mor gynnar. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr ag ef a phob un a gafodd ei effeithio gan farwolaeth Logan.

Rwyf i wedi darllen yr adroddiad yn ofalus iawn ac rwy'n deall ac yn derbyn y themâu ar gyfer dysgu a'r argymhellion sydd wedi cael eu gwneud. Ar hyn o bryd, ni fyddai hi'n briodol i mi ymateb gyda manylder i'r holl argymhellion a wnaethpwyd, gan fod angen sgyrsiau pellach gyda darparwyr gwasanaethau. Eto i gyd, rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i wneud popeth sydd yn fy ngallu i amddiffyn plant ac erlyn yn y llysoedd y rhai sy'n peri'r archoll a'r dioddefaint mwyaf ofnadwy i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac fe fyddaf i'n rhoi gwybod i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

14:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Nid pwrpas yr adolygiad ymarfer plant yw cynnal ymchwiliad, ond ystyried ein gwasanaethau ni a'n cynorthwyo ni i ddysgu beth allwn ni ei wneud i wella yr hyn y gallwn ni ei wneud i amddiffyn plant. Rwy'n ddiolchgar i'r panel adolygu am sicrhau eu bod yn ystyried meysydd dysgu a nodwyd mewn adolygiadau eraill ledled Cymru a Lloegr wrth gynnal yr adolygiad ymarfer plant hwn. Mae hi'n iawn i ni barhau i ystyried dysgu o ddigwyddiadau trasig eraill wrth lunio'r dull gweithredu sy'n ofynnol i wneud gwelliannau i sicrhau diogelwch plant yng Nghymru.

Fodd bynnag, y ffaith drist a chyson amdani yw bod adolygiadau o'r fath yn rhannu, mewn llawer o achosion, themâu tebyg, yn enwedig ynghylch yr heriau o ran rhannu gwybodaeth a data rhwng asiantaethau, a materion ynghylch systemau a phrosesau, a phryderon ynglŷn ag arweinyddiaeth a diwylliant. Fe fyddem ni i gyd yn dymuno gweld byd lle na allai digwyddiadau fel rhain fyth ddigwydd ac mai hwn fyddai'r achos olaf o'i fath. Mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwybod pob amser pwy yw'r unigolion a allai weithredu fel y rhai a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Logan yn awgrymu na fydd hwn yr olaf. Serch hynny, ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud popeth sydd yn ein gallu i leihau'r perygl i'r fath raddau ag y gallwn ni a chynnig y cymorth sydd ei angen ar blant yn sefyllfa Logan ac y maen nhw'n ei haeddu.

Mae'r adolygiad yn dangos yn eglur fod cyfle i wella ymarfer. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y pedair thema dysgu allweddol a nodwyd yn yr adolygiad y mae'n rhaid eu hystyried gyda'r un gofal a brys â'r 10 argymhelliad lleol a'r pum argymhelliad cenedlaethol a nodwyd. Disgrifir y themâu dysgu a nodwyd yn yr adroddiad fel rhai cyfundrefnol ac nid achosion ynysig o wall unigol neu arfer gwael mohonyn nhw. Mae hi'n eglur o'r adolygiad nad yw'r argymhellion yn cael eu neilltuo i un asiantaeth unigol. Mae diogelu plant yn gofyn am ddull amlasiantaeth ac, o'r herwydd, mae'n rhaid i'r holl gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r themâu dysgu hyn a gweithredu'r argymhellion gael eu cyflwyno gyda'i gilydd, ar sail cyfrifoldeb a rennir.

Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn nodi'r dyletswyddau statudol sydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Tra bod yn rhaid i'r asiantaethau hyn, wrth gwrs, gadw at ddeddfwriaeth o'r fath bob amser, byddaf yn ceisio cryfhau'r dulliau fel bod asiantaethau yng Nghymru yn cydweithio â'i gilydd yn fwy agos i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol. Mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom ni i weithredu'r hyn a ddysgwyd a nodir yn yr adolygiad ymarfer plant hwn a gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r camau sydd eu hangen i greu newid yn y systemau y mae ein gweithwyr proffesiynol yn gweithio ynddyn nhw a'u cefnogi i gyflawni eu gwaith. Rwy'n disgwyl i'r holl asiantaethau perthnasol ystyried yr adolygiad ymarfer plant yn ei gyfanrwydd, a chymryd camau ar unwaith i ystyried sut mae pob thema ac argymhelliad yn berthnasol iddyn nhw, a nodi sut y gellir gweithredu'r themâu a'r argymhellion dysgu o fewn y meysydd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. Byddaf yn cysylltu ag uwch arweinwyr asiantaethau sydd â chyfrifoldeb wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad i ganfod eu cwrs gweithredu arfaethedig o ran eu hymateb i'r adolygiad ymarfer plant.

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth strategol allweddol o ran amddiffyn plant, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, ac rwy'n derbyn fy swyddogaeth i yn llwyr yn hynny o beth, fel Gweinidog. Yng ngoleuni'r adolygiad hwn ac yn dilyn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a gwaith sydd eisoes ar y gweill o ran ein rhaglen i drawsnewid gwasanaethau plant a meysydd eraill, byddaf yn cyflymu gwaith ar fframwaith ymarfer cenedlaethol i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau gyda gwasanaethau plant. Bydd y fframwaith yn sylfaen allweddol ar gyfer ein dulliau o weithio yng Nghymru er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant mwyaf agored i niwed. Fe fydd yn ein helpu ni i fod â mwy o gyffredinrwydd a gweithio mewn ffordd fwy di-dor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn cefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd, a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth i ni newid i addasu gwasanaethau ar gyfer pobl, ac nid addasu pobl ar gyfer gwasanaethau.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym o strwythurau a phrosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynghylch sut mae plentyn yn cael ei ychwanegu at neu ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant, ac fe fyddaf i'n gweithredu ar eu canfyddiadau nhw, yn ôl yr angen. Rwy'n ymwybodol o'r galwadau am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau plant yng Nghymru. Gan fy mod wedi darllen yr adolygiad ymarfer plant erbyn hyn, rwyf i'n parhau i fod wedi fy argyhoeddi mai nawr yw'r amser i weithredu ac nid i adolygu ymhellach. Lluniwyd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad ymarfer plant gydag ystyriaeth o adolygiadau eraill yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhaid i ni flaenoriaethu gwneud yr hyn a allwn ni nawr a pheidio ag aros am adroddiad arall i ddweud yr hyn yr ydym ni'n gwybod yn barod y mae'n rhaid i ni ei wneud.

I wella'r dull amlasiantaeth a amlinellais i heddiw, rwy'n dymuno atgoffa'r Aelodau ein bod ni ar gamau olaf datblygu'r adolygiad diogelu unedig sengl, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Datblygwyd yr adolygiad diogelu unedig sengl i leihau'r angen am nifer o adolygiadau oherwydd un digwyddiad unigol, gan alluogi cwblhau adolygiadau yn gyflymach, megis adolygiadau ymarfer plant ac oedolion, i nodi a gweithredu'r holl ddysgu ar fwy o gyflymder a hynny ym mhob cwr o Gymru. Fe fydd y canllawiau statudol drafft i gefnogi'r adolygiad diogelu unedig sengl yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd.

Er nad yw hi'n arfer arferol i ymateb i adolygiadau ymarfer plant, roeddwn i a fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o'r farn ei bod hi'n gwbl briodol cydnabod cyhoeddiad yr adolygiad hwn, ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro yn bersonol i Mr Ben Mwangi a'i deulu am y methiannau a gyfrannodd at farwolaeth drasig Logan mor ifanc. Diolch.

15:00

Rwy'n diolch yn fawr iawn am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, a diolch i chi am ddod i'w gyflwyno ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Cyn i mi ddechrau prif neges fy ymateb i'ch datganiad chi, fe hoffwn i fynegi ar goedd y prynhawn yma fy nghydymdeimlad diffuant â Ben Mwangi, a theulu a ffrindiau Logan a'i holl rwydwaith cymdeithasol, sydd i gyd wedi cael eu heffeithio gan y llofruddiaeth ofnadwy a thrist iawn hon. Yn dad i fachgen ifanc o oedran tebyg, mae meddwl am y boen a'r dioddefaint y byddai ef wedi ei ddioddef yn fy nychryn i'r byw. Pa bynnag brosesau Llywodraeth ac awdurdod lleol y byddwn ni'n eu rhoi ar waith, ni wnaiff hynny fyth â lleihau'r anfadwaith hwn na ffieidd-dra'r bobl a gyflawnodd hyn dros gyfnod maith o gam-drin, esgeulustod ac, yn wir, llofruddiaeth hefyd. Ac rwy'n falch o weld bod y lefel briodol o gyfiawnder wedi ei rhoi iddyn nhw a'u bod nhw, yn wir, yn cael eu cadw hyd y mynno Ei Mawrhydi—hyd y mynno Ei Fawrhydi, fe ddylwn i ddweud.

Gallwn ni i gyd gytuno bod yr hyn a ddigwyddodd i Logan Mwangi yn drasiedi, na ddylai fyth fod wedi digwydd ac yn rhywbeth y dylem ni geisio sicrhau na fydd fyth yn digwydd eto. Roedd modd atal marwolaeth Logan pe byddai methiannau'r cyngor wedi cael eu nodi ar gam cynharach a phe cymerwyd camau eraill wedyn. Mae'r adroddiad ar achos Logan yn dangos bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r bai ar COVID am rai o'i ddiffygion ei hun, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol yn methu â dilyn canllawiau'r Llywodraeth oherwydd nad oedden nhw'n ddigon eglur nac ymatebol i sicrhau diogelu priodol ar gyfer plant agored i niwed, yn ystod pandemig COVID. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn derbyn, pe byddai'r cyfarpar diogelu personol cywir wedi bod ar gael iddyn nhw, yna fe fyddai staff gofal cymdeithasol wedi gallu asesu Logan 24 awr yn unig cyn ei farwolaeth? Ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn nodi'r diffyg arweinyddiaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld drwy'r celwyddau'r oedd y drwgweithredwr yn eu palu—mai COVID oedd y rheswm na ellid gweld Logan, i dynnu sylw oddi wrth sylwedd yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd?

Fe wnaeth COVID effeithio ar bob gwasanaeth y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, ond mae'r methiant i uwchgyfeirio sefyllfa Logan, er gwaethaf y dystiolaeth sylweddol fod angen cefnogaeth arno, yn dangos bod prinder staff mewn adrannau yn profi'r pryderon fod y cyngor yn rhy ddibynnol ar weithwyr asiantaeth. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod yr orddibyniaeth ar staff asiantaeth yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a pha drafodaethau a gawsoch chi, neu a fyddwch chi'n eu cael yn y dyfodol gyda'r awdurdod i recriwtio gweithwyr llawn amser i'r adran gwasanaethau cymdeithasol?

Ac, yn ogystal â hynny, mae'r diffyg rhannu gwybodaeth wedi tynnu sylw at ddiwylliant o reolaeth dra awdurdodol, a oedd yn golygu nad oedd staff iau yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan staff uwch, fel mewn llawer o broffesiynau, fel profodd yr achos hwn. Ni ddylai staff fyth deimlo'n ofnus ac fe ddylen nhw deimlo eu bod nhw'n rhan o dîm a phob un yn cydweithio yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Ac yn ogystal â hynny, bod yn rhaid i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddysgu gwersi sylweddol o argymhelliad yr adroddiad, mae hi'n amlwg bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant i sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd eto. Mae angen arweinyddiaeth a Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog sy'n gyfrifol am hynny, ac fe ddylen nhw sicrhau nad Cymru yw'r unig genedl ar ôl yn y DU heb adolygiad plant ledled y wlad.

Felly, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad chi i beidio â chynnal adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant, a rhoi gwarantau cadarn i bob plentyn, rhiant a gofalwr ar draws y 22 awdurdod fod y Llywodraeth hon yng Nghymru ar eu hochr nhw ac yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddiogelu pob plentyn ledled Cymru, oherwydd mae'n anffodus bod Llywodraeth Cymru yn atal adolygiad o'r fath pan mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant yn derbyn gofal? Fe hoffwn i, yn olaf, annog y Llywodraeth i newid cyfeiriad cyn i ni beryglu trychineb arall eto fel un Logan Mwangi. Diolch i chi.

15:05

Diolch yn fawr i Gareth am ei sylwadau a diolch iddo am fynegi ei dristwch am y drasiedi hon, gan gydnabod mai, yn y pen draw, y tri unigolyn hynny a garcharwyd sy'n gyfrifol. Rwy'n credu bod mater COVID yn fater pwysig ac, yn sicr, mae'r adolygiad yn cyfeirio at COVID ar sawl achlysur. Rwy'n credu ei fod wedi ei gwneud hi'n fwy anodd oherwydd, yn sicr, roedd pob un o'r cynadleddau achos yn rhai rhithwir ac, o ran siarad â Logan yn y cnawd, fe achosodd rai anawsterau—y ffaith bod cyfyngiadau COVID yn weithredol. Ond, rwy'n credu bod yna ganllawiau clir ynglŷn â sut y dylech chi weithredu, o ran amddiffyn plant, felly nid wyf o'r farn y gallwn ni ddweud mai ar COVID yr oedd y bai i gyd am yr hyn a ddigwyddodd.

Ond, yn sicr fe effeithiodd COVID yn sylweddol ar y gweithlu. Fe wyddom ni fod llawer wedi bod yn absennol oherwydd salwch, felly roedd y straen ar y gweithlu yn waeth nag arfer. Ond, eto, nid oes unrhyw ffordd y gallwch chi ddweud, pe byddai rhywbeth wedi bod yn wahanol, yna ni fyddai hyn wedi digwydd. Mae yna orddibyniaeth ar staff asiantaeth, ac rydym ni'n gwneud ein gorau glas i ddenu mwy o weithwyr cymdeithasol. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi cyflwyno'r bwrsari i annog gweithwyr cymdeithasol i ymuno ac aros, gan geisio rhoi mwy o gysylltiad rhyngddo a'r bwrsariaethau yn y gwasanaeth iechyd. Rydym ni wedi rhoi cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol hefyd, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod pa mor anodd yw swyddi gwaith cymdeithasol. Roeddwn i'n weithiwr cymdeithasol fy hunan, felly yn sicr rwy'n gwybod am y straen enfawr sydd ar weithwyr cymdeithasol, ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi nhw mewn swydd sydd mor anodd.

Roedd Gareth yn cyfeirio at rannu gwybodaeth, sef mater cwbl allweddol, a hefyd bod staff iau ag ofn herio, ac fe gyfeiriwyd at hynny yn yr adroddiad. Rwy'n credu mai dyma un o'r gwersi y mae'n rhaid ei dysgu o'r adroddiad; roedd yna themâu o ran dysgu yn codi o'r adroddiad ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y diwylliant yn newid yn y sefydliadau yr atgyfeirir atynt.

O ran adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru, rwyf i eisoes wedi dweud fy mod i'n derbyn yr holl argymhellion sydd yn yr adroddiad. Yn sicr, nid ydyn nhw i gyd yn berthnasol i Lywodraeth Cymru, felly fe fydd yn rhaid i mi eu derbyn a gweithio gyda'r asiantaethau partner i wneud yn siŵr ein bod ni'n symud ymlaen i weithredu'r argymhellion hynny. Rwy'n teimlo ar hyn o bryd na fyddai adolygiad o wasanaethau cymdeithasol i blant o gymorth i fynd i'r afael â'r materion hyn mewn gwirionedd, oherwydd cymerodd yr un yn Lloegr 16 mis; rwy'n rhagweld y bydd yr un sydd am ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd 16 mis. Mae llawer o'r pethau a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiadau hynny yn rhai sy'n cael eu hadleisio yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac yn cael eu hadleisio yn yr adolygiad hwn.

Felly, mae'r argymhellion yr ydym ni'n eu derbyn yn rhai pellgyrhaeddol, sy'n ystyried sut mae cynadleddau achos yn cael eu cadeirio a llawer o argymhellion pwysig iawn eraill. Rwy'n credu bod hynny, ynghyd â'r gwaith a'r adolygiadau a wnaethom ni eisoes, yn rhoi sylfaen dda iawn i ni ddechrau gweithio ar hyn nawr. Ac nid wyf i o'r farn y byddai cael adolygiad pellach ar hyn o bryd o gymorth gwirioneddol, felly rwyf i o'r farn mai dechrau gweithio nawr sydd ei angen arnom ni. Diolch i chi.

15:10

Fe hoffwn i ddechrau, efallai, trwy fyfyrio ar eiriau cyn-brifathro Logan Mwangi amdano, a oedd yn ei alw yn 'fachgen bach annwyl' gyda 'gwên ddireidus' a oedd 'wrth ei fodd yn siarad'. Yn aml, rydym ni'n anghofio am Logan ei hun. Rydym ni i gyd wedi gweld lluniau ohono, ond roedd clywed am ei bersonoliaeth a pha mor hapus yr oedd yn yr ysgol, yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd ei fam yn ei ddweud, roedd yn ymddwyn yn yr ysgol ac yn mwynhau ei hun yno, ac eto, fe ddaeth ei fywyd i ben yn resynus o ifanc gan y rhai hynny a ddylai fod wedi bod yn ei warchod a'i garu ac yn gofalu amdano—. Rwy'n adleisio'r holl deimladau a fynegwyd eisoes gan y Dirprwy Weinidog a Gareth Davies o ran meddwl yn arbennig am ei dad, a'i deulu a'i ffrindiau, gan deimlo trueni nad oedden nhw wedi gallu ymyrryd ychwaith, fel llawer, llawer iawn o'r rhai a ddaeth i gysylltiad ag ef, rwy'n siŵr, yn ei deimlo hefyd o ddarllen yr adolygiad.

Rwy'n credu mai'r hyn a'm trawodd i wrth ddarllen yr adolygiad oedd y ffaith bod llawer o gyfleoedd wedi eu colli i'w amddiffyn, ac yn hollbwysig fe fynegwyd nad oedd llais Logan wedi cael ei glywed, nad oeddem ni wedi gwrando ar y bachgen bach hwn, er ein bod ni yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod hawliau'r plentyn yn llwyr—bod pob plentyn yn ymwybodol o'r rhain. Ac eto, dyma ni: dyma blentyn na chlywyd ei lais.

Felly i mi, fe hoffwn i fod â mwy o eglurder heddiw. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymateb o ran pwynt Gareth Davies o ran ymchwiliad annibynnol, ond nid wyf i'n deall pam nad yw'r ymchwiliad annibynnol hwnnw'n mynd rhagddo. Nid yw bodolaeth adolygiadau pellach cyfredol yn eich rhwystro chi rhag gallu rhoi'r argymhellion hyn ar waith. A thro ar ôl tro ers i mi gael fy ethol yma, rwyf i wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud na fydd gennym ni ymchwiliad annibynnol i COVID, ac yn gwrthod galwadau am ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020, er bod adolygiad gennym ni yn y cytundeb cydweithredu rhwng ein dwy blaid. Felly beth allai'r amgylchiadau fod a fyddai'n gwneud i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad annibynnol, os nad mewn achosion fel hyn? Mae hyn er mwyn edrych ar bethau yn eu llawnder, ac fe all hynny ystyried hefyd y camau a gymerwyd eisoes, a ddysgwyd o adolygiadau eraill.

Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i oedd clywed y comisiynydd plant yn dweud ein bod ni wedi gweld yr argymhellion eisoes mewn adroddiadau blaenorol. Rydym ni wedi clywed ymrwymiadau o'r blaen yn dweud y bydd gwersi yn cael eu dysgu ac y bydd newidiadau, ac eto mae'r argymhellion hyn yn parhau i ddod i'r golwg. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall o ymchwiliad pam allai hynny fod. Felly, rwyf i am ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, ailystyried, oherwydd nid pwynt gwleidyddol mohono; nid y fi sy'n dweud hyn, dyma y mae arbenigwyr yn ei ddweud wrthym ni, dyma y mae gweithwyr cymdeithasol ar lawr gwlad yn ei ddweud wrthym ni, dyma y mae'r NSPCC wedi bod yn ei ddweud wrthym ni. Felly, mae hynny'n rhywbeth pwysig rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni fod yn agored iddo—craffu ac ymchwiliadau annibynnol—ac rwy'n bryderus, unwaith eto, o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud nad yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.

Fe hoffwn i sôn hefyd am alwad NSPCC Cymru am fap ffordd eglur a llawn o ran adnoddau ar gyfer trawsnewid gofal cymdeithasol plant. Maen nhw wedi gofyn yn y briff a roddwyd ganddyn nhw i bob un ohonom ni i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi map ffordd manwl, cwbl eglur o drawsnewid gofal cymdeithasol plant, gyda chanlyniadau mesuradwy, o fewn y chwe mis nesaf. A yw hyn yn rhywbeth y gall y Dirprwy Weinidog ymrwymo iddo heddiw?

Roeddwn i'n awyddus i ystyried hefyd un agwedd bryderus yn yr adroddiad lle'r oedd yn cyfeirio yn arbennig at hil ac ethnigrwydd Logan, gan sôn am dreftadaeth ei dad, Ben Mwangi, sy'n dod o Kenya, a'r rhan yn yr adroddiad sy'n dweud,

'Nid oedd gweithwyr proffesiynol wedi archwilio yn llawn gyd-destun...hil ac ethnigrwydd'

yn yr achos hwn. Wel, fe wyddom ni, ar draws y Llywodraeth, ein bod ni wedi ymrwymo i weithio tuag at Gymru wrth-hiliol, ond unwaith eto, yn yr achos hwn, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n dod drwodd yn gryf yn natganiad heddiw ychwaith, ond mae'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ystyried a sicrhau ei fod yn flaenaf ym meddyliau pawb sy'n dod i gysylltiad â phlentyn mewn amgylchiadau fel hyn. Felly, o ran safbwynt Plaid Cymru, rydym ni'n dymuno gweld ymchwiliad annibynnol. Rydym ni'n llwyr gefnogi'r newidiadau sy'n cael eu gweithredu, ond rydym ni'n pryderu, o wybod, fel roedd asiantaethau yn eu codi nhw gyda ni, y pryderon ynghylch diffyg strategaeth tlodi plant yma yng Nghymru, gan wybod, gyda'r argyfwng costau byw hefyd, y bydd mwy o deuluoedd yn eu cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd, gyda pherygl mwy o gamdriniaeth ac esgeulustod i blant. Felly, a gaf i ofyn i chi ailystyried eich safbwynt o ran yr ymchwiliad annibynnol hwnnw, a gweithredu'r argymhellion, ond, os gwelwch yn dda, symudwch ymlaen hefyd o ran yr ymchwiliad annibynnol hwnnw? 

15:15

Diolch yn fawr iawn i chi, Heledd, am y cyfraniad yna, a diolch am gychwyn drwy ein hatgoffa ni o'r bachgen bach hyfryd a gollwyd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio hynny, ac am sôn hefyd am yr hyn a ddywedodd ei brifathro, achos rwy'n credu eich bod chi i gyd wedi nodi'r ganmoliaeth a roddwyd i'r ysgol yn yr adroddiad, a'r ffaith i'r ysgol wneud ymdrechion mawr i gadw mewn cysylltiad ag ef yn ystod COVID—ymweld â'i gartref ac anfon gwaith iddo ei wneud, ac anfon tedi, un o'r tedis y maen nhw'n eu defnyddio mewn ysgolion i helpu plant i siarad am eu teimladau. Ac felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio hynny.

Do, fe gollwyd cyfleoedd. Rwyf i o'r farn bod hynny'n gwbl eglur. Mae'r adroddiad yn dweud y collwyd y cyfleoedd hynny, ac mae eu hargymhellion nhw'n mynd i'r afael â hynny. Ac ni chafodd lais Logan ei glywed, ac rwy'n credu o ran hil, mae'r adroddiad yn dweud, ac mae honno'n sicr yn ffaith, na roddwyd digon o ystyriaeth i'r hyn yr oedd Logan yn ei deimlo wrth fod yn byw fel yr unig blentyn o'i ethnigrwydd mewn teulu ac mewn amgylchedd lle'r oedd pawb arall yn wyn. Ni chafodd hynny ei archwilio, yn sicr, ac rwyf i o'r farn bod hwnnw'n fater pwysig.

Rydym ni'n trawsnewid gofal cymdeithasol. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol iawn, ac mae rhai ohonyn nhw'n rhan o'r cytundeb cydweithredu y byddwn ni'n cydweithio arnyn nhw, ac rydym ni'n benderfynol o wneud hynny. Rydym ni'n bwriadu gweithredu ar rai ohonyn nhw erbyn diwedd y tymor hwn, felly yn sicr, mewn ymateb i'r NSPCC, rwy'n gallu ymateb bod rhai rhannau o'n rhaglen ni wedi cael eu cynllunio i ddigwydd yn ystod y tair blynedd a hanner nesaf, i'w cwblhau erbyn hynny.

Ond gan droi yn ôl at yr ymchwiliad i'r gwasanaethau cymdeithasol, nid wyf i'n teimlo y byddai hynny o lawer o gymorth ar hyn o bryd, mewn gwirionedd. Rwyf i o'r farn ein bod ni'n gwybod beth yw'r trafferthion, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld llawer o ymchwiliadau yma eisoes yn y Senedd. Fe allaf i fynd drwyddyn nhw—rhestr gyfan o ymholiadau a gynhaliwyd. Dim ond edrych ar y rhain—yr adolygiad argyfwng gofal gan y Grŵp Hawliau Teulu; 'Ganed i ofal' Sefydliad Nuffield; Adroddiad ac argymhellion gweithgor Cyfraith Cyhoeddus Cymru. Pethau diddiwedd sydd wedi digwydd. Rwyf i o'r farn bod yn rhaid i ni fwrw ymlaen gyda'r camau hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. 

Fe ddylai Logan Mwangi fod yn fyw ac iach heddiw, ac yn cael ei fagu mewn teulu a chymuned gariadus, ofalgar. Fe ddylai Ben Mwangi a'i deulu fod yn gofalu amdano. Fe ddylai cymuned addysgu Ysgol Gynradd Tondu fod yn gafael amdano, fel gwnaethon nhw, fel roedden nhw'n ceisio ei wneud. Mae hi'n iawn fod llofruddion creulon Logan Mwangi yn y carchar am amser maith, ond mae hi'n iawn hefyd ein bod ni'n croesawu pa mor drylwyr yw'r adroddiad hwn, nad yw wedi dal yn ôl rhag mynegi barn onest, rhag mynd yn fforensig ar ôl pob manylyn y mae angen mynd ar ei ôl. Er cymaint braw ac arswyd y llofruddiaeth i bawb a ddarllenodd amdani, yn yr un modd, wrth i chi fynd trwy'r adroddiad, manylion y cyfleoedd lluosog aflwyddiannus i ymyrryd ar y foment gywir—ac nid un unigolyn nac un asiantaeth mo hyn; bu sawl cyfle—ac, fel mae eraill wedi dweud, rydym ni wedi gweld colli cyfleoedd fel hyn o'r blaen hefyd mewn amgylchiadau eraill dros lawer o flynyddoedd.

Mae yna gyfres o argymhellion, Gweinidog, ar lefel leol ar gyfer yr holl asiantaethau dan sylw ac ar gyfer y dull amlasiantaeth ar lefel leol, ond rhai sylweddol ar lefel genedlaethol hefyd. Ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad chi, Gweinidog, i gymryd camau nawr mewn gwirionedd, i fwrw ymlaen â hi a gwneud y gwelliannau ar hyn o bryd, ar lefel genedlaethol. Mae hynny'n cynnwys canllawiau penodol i ymarferwyr amddiffyn plant o ran eu dyletswydd nhw—eu dyletswydd nhw—i hysbysu a chynnwys pob unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant mewn asesiadau a phrosesau amddiffyn plant; bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad ledled Cymru o ddulliau o ymdrin â chynadleddau amddiffyn plant—dyma un o'r pethau sy'n cael ei dynnu allan o'r adroddiad hwn, sef methiant y cynadleddau amlasiantaeth hynny i nodi a chymryd y camau priodol—ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â sut i roi gwybod am bryderon o ran diogelu. Oherwydd mae llawer o bobl yn y gymuned hon yn dweud, 'Sut y gwnaethom ni fethu â gweld hyn?' Ond hefyd, 'Pe byddai rhywbeth tebyg yn digwydd eto, sut ddylem ni roi gwybod?' Felly, Gweinidog, rwyf i eisiau gofyn i chi sut y byddwch chi'n symud ymlaen â'r argymhellion hynny ar lefel leol a chenedlaethol, sut y byddan nhw'n cael eu monitro, sut y bydd hyn yn cael ei fwydo yn ôl yma i Lywodraeth Cymru, ond i'r Senedd hefyd, er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i bobl. Ni allwn ni fyth â dweud, 'Ni fydd hyn yn digwydd byth eto'. Fe hoffwn i ddweud hynny, ond rydym ni'n gwybod na allwn ni. Ond yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w ddweud wrth bobl yw: fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau glas i wneud popeth er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

15:20

Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad hwnnw ac, wrth gwrs, am mai ef yw'r Aelod lleol, mae ganddo ef wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ran y teulu a'r gymuned hon. Ac fe allaf ei lwyr sicrhau y bydd y pum argymhelliad cenedlaethol—y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rhannau hynny o'r argymhellion sy'n cyfeirio atom ni, ac fe fyddwn ni'n eu cyflwyno yn gyflym ond yn drylwyr. Ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau eu bod nhw'n bwrw ymlaen â'r argymhellion ar eu cyfer hwythau hefyd. Rwy'n sylwi ei fod ef, ar y diwedd, wedi cyfeirio yn arbennig at ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol, ac rwy'n benderfynol iawn y byddwn ni'n gwneud hyn. Fe wnaethom ni hyn o'r blaen mewn gwirionedd; fe wnaethom ni hynny yn ystod COVID yn 2020, i godi ymwybyddiaeth o ran sut i roi gwybod am bryderon diogelu, ac fe wnaethom ni ddefnyddio'r hashnod #GalwaNawr bryd hynny. Felly, rwy'n rhagweld y byddwn ni'n gwneud rhywbeth fel hyn yn flynyddol, fel y mae'r adroddiad yn gofyn, oherwydd, fel ddywedodd ef, mae angen i bobl wybod beth y dylen nhw ei wneud a sut i wneud eu hadroddiadau. Oherwydd ein bod ni wedi clywed, ar ôl y digwyddiad, fod pobl yn bryderus, ac felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod sut i adrodd y pethau y maen nhw'n pryderu amdanyn nhw.

Ac yna'r adolygiad ledled Cymru o'r dulliau o weithredu ar gyfer cynnal cynadleddau amddiffyn plant: eto, mae cynnal cynadleddau diogelu plant yn parhau i fod yn ddyletswydd statudol i'r awdurdodau lleol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni gyfrifoldeb allweddol, fel arweinydd strategol, felly rwy'n sicr yn gweld hyn yn waith i mi sef sicrhau bod hynny'n digwydd, ein bod ni'n cymryd yr awenau hyn, yn y Llywodraeth hon. Ac nid wyf i am fynd drwyddyn nhw i gyd yn fanwl, oherwydd rwy'n gwybod bod y Dirprwy Lywydd yn nodio ei ben, ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ddychwelyd ato, ac rwy'n ymrwymo i adrodd yn ôl i'r Senedd ar sut mae hyn yn datblygu.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig yr ydych chi i'r maes hwn, ond, ddydd Iau diwethaf, roedd Cymru yn y penawdau cenedlaethol am y rhesymau anghywir, oherwydd roedden ni wedi siomi bachgen bach. Logan Mwangi, fel clywsom ni—a gadewch i ni ei alw o'n Logan Mwangi, oherwydd ni wnaeth yr adroddiad hynny; roedd yr adroddiad yn cyfeirio ato fel 'Plentyn T' trwy'r amser. Newidiodd Logan Mwangi o fod yn blentyn byrlymus, siriol, doniol a oedd yn hoff o Spider-Man i fod yn un ag atal dweud arno. Yn yr 11 mis lle'r oedd gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdano, bu pedwar achlysur lle gellid fod wedi achub ei fywyd, o fis Awst 2020 hyd yr amser y torrodd ei fraich, cafwyd ei fod yn gleisiau i gyd, a'i gam-drin yn rhywiol, hyd y dydd y bu farw ym mis Gorffennaf 2021. Roedd ef ar y gofrestr amddiffyn plant am ddim ond dau fis a hanner, felly nid wyf i'n gweld y byddai adolygiad o brosesau'r gofrestr amddiffyn plant o unrhyw gymorth i ni.

Fe wn fod fy amser ar ben. Mae gen i lawer i'w ddweud ynglŷn â'r mater hwn, fel gallwch chi ddychmygu, ac mae hyn yn fy ngwneud i'n emosiynol iawn.

Rwyf i wedi darllen llawer o adolygiadau fel hyn; yn anffodus, maen nhw'n codi'r un hen bethau, fel rydych chi'n dweud. Mae gen i ddau gwestiwn i chi. Un yw: os nad nawr yw'r amser i gynnal adolygiad o wasanaethau amddiffyn plant—. Rwyf i'n gwahaniaethu ychydig yn hyn o beth. Nid wyf i'n gofyn am ymchwiliad; mae ymchwiliad yn swnio fel rhywbeth ar gyfer cosbi a beio—fe hoffwn i adolygiad. Rwyf am i ni gael gwybod, fel Aelodau'r Senedd, fod gan bob plentyn gyfle i gael ei amddiffyn, ac ni chafodd Logan hynny. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw: os nad nawr, pryd felly? Oherwydd nid wyf i'n dymuno sefyll yn y fan hon ymhen 12, 16 mis a chlywed am farwolaeth plentyn arall a ninnau heb gynnal adolygiad eto. Felly, dyna fy nghwestiwn cyntaf i.

Fy ail yw: sut allwn ni Aelodau'r Senedd hon wybod pa mor effeithiol y mae ein hawdurdodau lleol ni o ran eu gwasanaethau amddiffyn plant? Oherwydd dyna beth yr ydym ni'n fwyaf awyddus i'w wybod. Does dim adolygiad wedi bod o wasanaethau amddiffyn plant yng Nghymru hyd yn hyn. Rydych chi wedi darllen allan llawer o adolygiadau ac ymchwiliadau eraill, ond nid oes yr un wedi canolbwyntio ar wasanaethau amddiffyn plant. Fe hoffwn i gael clywed sut y mae ein gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau amddiffyn plant yn dymuno gweld ffordd amgen o weithio. Dyna pam yr hoffwn i gael adolygiad. Felly, atebwch y ddau gwestiwn hyn i mi, os gwelwch chi'n dda. Os nad oes adolygiad i fod nawr, pryd felly? A allwn ni fod â'r sefyllfa lle mae Aelodau'r Senedd yn gwybod yn union pan fo eu hawdurdodau lleol yn gwneud yn dda, neu fel arall, ac efallai bod angen cymorth arnyn nhw, o ran gwasanaethau amddiffyn plant? Diolch i chi. Diolch yn fawr iawn.

15:25

Diolch, Jane, yn fawr am hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n teimlo yn emosiynol am y peth, ac rwy'n gwybod bod gennych chi lawer iawn o ymrwymiad i'r maes hwn o waith, a diolch i chi am eich sylwadau. Rwyf i wir o'r farn fod angen i ni fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad hwn. Mae yna lawer o bethau eraill yr ydym ni'n eu gwneud hefyd; mae angen i ni fwrw ymlaen â phob un ohonyn nhw, ac mae angen i ni sicrhau bod plant yn fwy diogel nag y maen nhw ar y foment. Rwy'n credu bod y sail gennym ni i wneud hynny. Nid wyf i'n credu bod angen adolygiad arall arnom ni ar gyfer gwneud hynny, ac rwy'n gwbl ymroddedig i wneud yr hyn a allaf i gyflawni'r holl argymhellion a gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol.

O ran sut yr ydym ni i gael gwybod a yw plant yn cael eu diogelu yn ein hardaloedd unigol ein hunain, fe fydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn yn adolygu pedwar maes—rwy'n credu i mi ysgrifennu atoch chi mewn llythyr ynglŷn â hyn, os ydych chi'n cofio—ar gyfer gweld sut maen nhw'n perfformio wrth amddiffyn plant, ac fe fyddwn ni'n edrych ar ganlyniadau hynny i weld a oes angen i ni wneud hynny ym mhob cwr o Gymru. Fe allaf i eich sicrhau chi y byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i atal unrhyw drychineb fel yr un hwn a ddigwyddodd i Logan.

Fe deimlais i ddydd Iau diwethaf mai hwnnw oedd un o'r diwrnodau anoddaf a welais fel Aelod yn y Senedd hon. Fe eisteddais i lawr ac fe ddarllenais i bob tudalen o'r adroddiad, ac fe wnaeth hynny fi'n hynod o drist, ond yn fy nigio i'n fawr hefyd, i fod yn onest gyda chi, wrth ddarllen am y methiannau a'r diffygion o ran rhannu gwybodaeth. Rydym ni'n clywed yn aml iawn am ddull amlasiantaeth—wel, rwyf i o'r farn nad oedd y dull amlasiantaeth yn gweithio yn yr achos hwn mewn gwirionedd.

Mae cydweithwyr wedi sôn am y goblygiadau ledled Cymru yn sgil yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n awyddus i ganolbwyntio ychydig yn fwy lleol, efallai. Yn y blynyddoedd cyn dod i'r Senedd hon, fe fûm i ar bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol a oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid pleser o gwbl i mi yw dweud wrthych chi heddiw, am gyfnod maith iawn, roedd aelodau'r pwyllgor hwnnw wedi bod yn codi pryderon am yr adran gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—y ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn benodol, dull y cyngor o gyllidebu, ac fe soniwyd am gyfres gyfan o bryderon eraill hefyd. Ond roedd y cyngor o'r farn bod ganddyn nhw enw da am wasanaethau cymdeithasol, ac nid fy lle i yw barnu heddiw a oedd hynny'n wir ai peidio. Ond rwy'n teimlo yn gryf iawn, Dirprwy Weinidog, fod yna ddiwylliant o laesu dwylo yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y modd y cafodd gwasanaethau cymdeithasol eu rheoli ganddyn nhw, ac, yn benodol, roedd diffyg goruchwyliaeth wleidyddol gan aelodau'r cabinet dros y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan swyddogion ymroddedig gweithgar ac eraill yn y cyngor hefyd. Felly fe wn i, yn hanesyddol, mewn achosion o gynghorau â phroblemau eglur o ran eu hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, fel y digwyddodd ym Mhowys, fod pwerau gwell ar gyfer monitro wedi cael eu rhoi trwy Arolygiaeth Gofal Cymru. A wnewch chi roi gwybod i ni beth yw eich barn chi ynglŷn â'r trothwy ar gyfer gwneud felly yn yr achos hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Diolch i chi, Tom, am y cwestiwn hwnnw. Fel gwyddoch chi, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi bod yn gweithio yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes ac wedi adrodd yn gynharach eleni. Ac roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld rhai gwelliannau, ond roedden nhw am barhau i fonitro ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi, a dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd. Felly, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych ar ymarfer Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi.

15:30

Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae hi'n gwbl dorcalonnus clywed am farwolaeth Logan, ac rwy'n llwyr adleisio'r cyfan a fynegodd pob Aelod arall heddiw, ac yn dweud ein bod ni'n meddwl am dad Logan a ffrindiau ac athrawon Logan i gyd, a phawb a oedd yn ei garu.

Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi sôn ynglŷn â'r argymhellion cenedlaethol, a'ch bod chi'n awyddus i ddechrau gweithio nawr, ond rwy'n dymuno gofyn ychydig mwy efallai am rai o'r amserlenni yr ydych chi'n bwriadu eu gweithredu. Fel clywsom ni'n barod, roedd yr adolygiad yn tynnu sylw at y diffyg a fu o ran gwrando ar lais Logan. Sut ydych chi am sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a gwrando arnyn nhw? Rwy'n gwybod eich bod chi'n bryderus iawn ynglŷn â hynny. Yn ein gwaith ni yma ar y Pwyllgor Plant, Addysg a Phobl Ifanc, rydym ni eisoes wedi gweld pan mor bwerus yw clywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol trwy'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â phant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â rhai eraill. Sut allwch chi rymuso lleisiau'r bobl ifanc hynny ar gyfer eu cryfhau nhw a'u chwyddo nhw, yn rhan o unrhyw addysg yn sgil tristwch enbyd marwolaeth Logan?

Rwy'n diolch i Jayne am y cwestiynau yna. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig ymateb mor gyflym â phosibl, ac rydym ni'n ymateb eisoes gan ein bod ni wedi cael cyfarfodydd yn barod gyda nifer o'r asiantaethau dan sylw. Ond mae hi'n bwysig i ni wneud pethau yn y ffordd iawn hefyd. Felly, ni allaf i mewn gwirionedd roi amserlen fanwl i chi ar hyn o bryd, gan fy mod i o'r farn ei bod hi'n bwysicach i ni fynd i drafodaeth gyda'r asiantaethau a dechrau gweithio ar yr amserlen o'r fan honno.

Mae llais y plentyn yn gwbl hanfodol, ac rwy'n credu bod hi'n gwbl wir i ddweud na chafodd llais Logan ei glywed. Rydym ni'n benderfynol y bydd llais y plentyn yn cael ei glywed i'r fath raddau sy'n bosibl, ac rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol o waith Llywodraeth Cymru yn hybu lleisiau plant, ac yn hybu gwrando ar leisiau plant, fel gwna hithau ar y pwyllgor, yn arbennig felly drwy'r adroddiad hwn yr ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd.

Fe fyddwn ni'n sicrhau y bydd lleisiau plant yn cael eu clywed drwy ein perthynas waith glòs ni, er enghraifft, gyda Voices from Care, wrth i ni weithio yn agos iawn â Voices from Care, ac, mewn gwirionedd, fe gynhelir uwchgynhadledd ddydd Sadwrn nesaf gyda Voices from Care, yn ceisio clywed lleisiau'r plant hynny sydd â phrofiadau o ofal, a'r wybodaeth sy'n cael ei bwydo i mewn gan y comisiynydd plant a chan Gymru Ifanc hefyd. Felly, mae yna lawer o ffyrdd y gallwn ni weithio ynddyn nhw i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed. Ond mae hi'n gywir: ni chlywyd llais Logan.

Diolch i chi. Roeddwn i'n dymuno gwneud dau bwynt yr hoffwn i chi eu hystyried wrth fwrw ymlaen o ran sut rydych chi am weithredu'r argymhellion hyn. Nid llais y plentyn yn unig y mae angen ei glywed; mae angen clywed llais y gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, a rhoi mwy o allu i'r gweithiwr cymdeithasol rheng flaen, mae angen i hynny ddigwydd hefyd, i sicrhau eu bod nhw'n teimlo yn ddigon hyderus y gallan nhw fynnu bod ymateb i'w greddfau ynglŷn â diffyg uniondeb sefyllfa, yn enwedig felly pan nad yw plant sydd mewn perygl yn bresennol yn yr ysgol. Mae'n rhaid iddi hi fod yn ganolog ac yn orfodol i'r plentyn gael ei weld yn ei gartref gan rywun arall, ym mhob amgylchiad.

Ac mae hynny'n dod â mi at fy ail bwynt, sydd ynghylch ystyried sut fyddech chi'n teimlo pe byddech chi'n weithiwr rheng flaen a oedd wyneb yn wyneb â John Cole. Ni fyddech chi'n dymuno mynd i mewn trwy ddrws y tŷ hwnnw ar eich pen eich hun; fe fyddai hynny'n arswydus i chi. Ac, felly, ni ddylid gofyn i neb wneud hynny, ac, felly, mae angen i rywun arall fod gyda nhw, ac mae hynny'n golygu'r heddlu. Ac mae hynny'n dod a ni at yr ail her, sef nad yw'r holl asiantaethau partner yma dan gyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys yr heddlu. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r ystyriaeth ddyledus i sut y gallwn ni sicrhau bod yr heddlu yn bresennol pan fo angen i weithwyr cymdeithasol fynd i mewn i safleoedd lle mae'r oedolion ym mywyd y plentyn hwnnw'n gwrthod eu gadael nhw i mewn trwy'r drws.

Diolch yn fawr iawn, Jenny, am y pwyntiau hynny, pwyntiau pwysig iawn, rwy'n credu, am weithwyr cymdeithasol yn teimlo'n ddigon hyderus i allu cael mynediad i dŷ. Rydym ni'n datblygu fframwaith ymarfer, fel dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, fel bydd pob gweithiwr cymdeithasol yn gwybod beth sy'n ddisgwyliedig mewn unrhyw ddigwyddiad neilltuol, neu ynglŷn ag unrhyw beth arbennig y maen nhw'n ei wneud, fe fydd yna ddisgwyliadau eglur o'r hyn sy'n digwydd bryd hynny.

Ac yn amlwg, o ran yr heddlu, yn yr adroddiad, fe ddywedwyd eu bod wedi ymateb i bopeth a ofynnwyd iddyn nhw—nid oedd yna feirniadaeth o gwbl o'r heddlu yn yr adroddiad. Ond mae hi'n gwneud y pwynt pwysig ynglŷn â'r ffaith nad yw plismona yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac un o'r argymhellion yw y dylen ni edrych ar y ffyrdd o adrodd a gwybodaeth data, ac mae gofyn i Lywodraeth Cymru arwain ar hynny. Wel, wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli, felly mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i ni gysylltu â'r Swyddfa Gartref ar gyfer edrych ar y maes penodol hwnnw. Felly, mae'r ffaith na chafodd ei ddatganoli yn ei gwneud hi'n llawer mwy cymhleth ac yn fwy anodd i ni fwrw ymlaen. Ond, yn sicr, fe fydd y ddau bwynt hynny yn cael eu cadw mewn cof gennyf i pan fyddwn ni'n symud ymlaen.

15:35
4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar goffáu cyhoeddus yng Nghymru: canllawiau i gyrff cyhoeddus. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, i wneud y datganiad.

Member
Dawn Bowden 15:36:19
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae coffáu cyhoeddus yn ganolog i'r ffordd rydym ni'n cynrychioli—

Roedd yna sŵn yn fy nghlust, mae'n ddrwg gen i. Fe wna i ddechrau eto.

Mae coffáu cyhoeddus yn ganolog i'r ffordd rydym ni'n cynrychioli ein hanes, yn hyrwyddo ein gwerthoedd ac yn dathlu ein cymunedau. Ond weithiau, gall fod yn bwnc dadleuol, ac fe fydd yn ddiddordeb cyhoeddus sylweddol bob amser. Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod am gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar 'Coffáu cyhoeddus yng Nghymru: canllawiau i gyrff cyhoeddus'.

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau da sy'n rheoli risgiau yn ymwneud â phynciau dadleuol, sy'n cymryd cyfleoedd i greu perthynas fwy gwybodus â'n hanes, ac sy'n wirioneddol dathlu amrywiaeth ein cymunedau. Mae'r canllawiau yn cyflawni ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i fynd i'r afael yn llawn ag argymhellion 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru', a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2020, ac a ailgyhoeddwyd gyda gwelliannau flwyddyn yn ddiweddarach. Mae'r canllawiau hefyd yn cefnogi un o nodau 'Cynllun Gweithredu  Cymru wrth-hiliol' Llywodraeth Cymru'n uniongyrchol:

'Gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gydnabod eu cyfrifoldeb yn llawn... i osod y naratif hanesyddol cywir, gan hyrwyddo a chyflwyno cyfrif cytbwys, dilys a dadwladychol o'r gorffennol'.

Mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys cam penodol sef,

'Mynd i'r afael yn briodol â'r ffordd y coffeir pobl a digwyddiadau gyda chysylltiadau hanesyddol hysbys i gaethwasiaeth a gwladychiaeth'

yn ein manau a'n casgliadau cyhoeddus,

'gan gydnabod y niwed a wnaed gan eu gweithredoedd ac ail-fframio'r modd y cyflwynir eu gwaddol i gydnabod hyn yn llawn.'

Mae'r canllawiau hefyd yn cyflawni argymhelliad yn adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, 'Ar gof a chadw. Adroddiad ar bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus'. Argymhellodd hyn y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau clir a fyddai'n cyflwyno canllaw ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad â gweithredoedd hanesyddol a choffáu yn y dyfodol.

Dangosodd yr archwiliad o goffáu yng Nghymru yn glir iawn i ba raddau y mae gwaddol y fasnach gaethwasiaeth a'r ymerodraeth Brydeinig i'w weld o hyd yn ein mannau cyhoeddus. Pwrpas y canllawiau yw helpu cyrff cyhoeddus i ymdrin â'r gwaddol hwnnw. Mae'r canllawiau hefyd yn mynd i'r afael ag amrywiaeth y gymdeithas Gymreig, a'r ffaith nad yw llawer o'i nodweddion i'w gweld bron mewn cofadeiliau cyhoeddus. Er enghraifft, ychydig iawn o bobl o dreftadaeth ddu, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, ac ychydig iawn o fenywod penodol, sydd wedi cael eu coffáu'n gyhoeddus yng Nghymru, ac fe fyddai'n anodd dod o hyd i unrhyw gynrychiolaeth o bobl anabl a LHDTQ+. Felly, wrth i ni fyfyrio ar bwy sy'n cael ei goffáu'n barod, dylem ni hefyd fyfyrio ar bwy a beth sydd ar goll, cymryd cyfleoedd i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth, ac ymateb i werthoedd sy'n newid, yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o faterion a digwyddiadau hanesyddol.

Mae'r canllawiau'n nodi'r arfer gorau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac nid yw'n orfodol. Mae eu pwyslais ar sut i wneud penderfyniadau da yn hytrach nag ar ba benderfyniadau i'w gwneud. Mae mewn dwy ran. Mae Rhan 1 yn cyflwyno'r materion sy'n gysylltiedig â choffáu cyhoeddus a'i effaith, ac mae Rhan 2 yn nodi pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn a gwireddu cyfraniad coffáu'r cyhoedd i gyflawni Cymru wrth-hiliol. Y pedwar cam hyn yw: sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol; gosod amcanion clir ar gyfer coffáu cyhoeddus; sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau; a, gweithredu i gyflawni amcanion a mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan goffáu cyhoeddus.

Bydd cymryd yr holl gamau hyn yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y camau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru wrth-hiliol'. Bydd hefyd yn eu galluogi i ddefnyddio coffáu cyhoeddus yn fwy cyffredinol i gyfrannu at Gymru wrth-hiliol, ac i ddyfnhau dealltwriaeth o'n gorffennol a gwaddol hynny, ac i ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol.

Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar goffáu parhaol a bwriadol mewn mannau cyhoeddus—hynny yw, cerfluniau, delwau, a phlaciau—ac enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus. Mae llawer o goffáu o'r fath yng Nghymru, a phenderfyniadau'r gorffennol ynglŷn â phwy neu beth i'w anrhydeddu—penderfyniadau a oedd yn aml yn cael eu gwneud gan elît bach—yn parhau i fod yn weladwy iawn yn ein mannau cyhoeddus. Mae llawer ohonyn nhw yn ychwanegu cymeriad at ein hamgylchfyd a, drwy gynnig atgof gweladwy o bobl a digwyddiadau yn y gorffennol, gallan nhw ysgogi ymholiad hanesyddol. Ond, fel y dangosodd yr archwiliad o goffáu yng Nghymru, gall yr ymholiad hwnnw weithiau ein harwain at lefydd tywyll yn ein gorffennol, yn enwedig pan fo ffigyrau sy'n gysylltiedig â'r fasnach gaethweision ac ecsbloetio trefedigaethol yn llythrennol yn cael eu rhoi ar bedestal.

Nid yw'r coffáu yr ydym wedi ei etifeddu o reidrwydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd, ond efallai y byddant yn dal i allu ennill eu lle os ydym yn eu defnyddio'n weithredol i ddysgu am sut yr oedd cenedlaethau'r gorffennol yn edrych ar y byd, i fyfyrio ar y ffordd wahanol yr ydym yn gweld y byd heddiw, ac i ennyn myfyrio yn hytrach nag ymraniadau. Bwriad yr ail-ddehongli diweddar ar Thomas Picton, trwy baneli gwybodaeth gerllaw'r heneb yng Nghaerfyrddin a thrwy ail-fframio ei bortread yn Amgueddfa Cymru, yw gwneud yr union beth hynny.

Ac, yn union fel yr ydym ni wedi etifeddu'r gwaddol hwn sy'n dweud rhywbeth wrthym ni am werthoedd y gorffennol, felly dylem ystyried gadael rhywbeth i genedlaethau'r dyfodol sy'n cyflwyno'r hyn yr ydym yn ei werthfawrogi wrth i ni ymdrechu i sicrhau Cymru fwy cyfartal. Gallwn wneud hynny drwy'r ffordd yr ydym yn trin coffáu presennol, gallwn ei wneud drwy bwy yr ydym ni'n dewis ei goffáu yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i ni hefyd ei wneud drwy'r ffordd y gwneir penderfyniadau am goffáu. Mae'r canllawiau yn tybio y dylid gwneud penderfyniadau yn lleol, wedi'u seilio mewn arferion cynhwysol sy'n annog cyrff cyhoeddus i wrando ac ymateb i amrywiaeth lawn ein cymunedau.

Cafodd datblygiad y canllawiau ei hun ei lywio'n llawn gan gyfres o weithdai a fynychwyd gan sbectrwm eang o randdeiliaid gyda phrofiad bywyd perthnasol. Hoffwn ddiolch i'r rhai ddaeth i'r gweithdy ac i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at ddatblygu'r canllawiau hyn, gan gynnwys Gaynor Legall a arweiniodd y grŵp gorchwyl a gorffen gwreiddiol ac a wnaeth sylwadau caredig ar ddrafftiau cynharach. Mae'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus sy'n dechrau heddiw yn rhoi cyfle arall i leisiau gwahanol gael eu clywed. Diolch yn fawr.

15:40

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad?

Allaf i ddweud hefyd, roedd yn braf eich clywed chi'n siarad Cymraeg ar y dechrau hefyd? Roedd yn neis iawn i'w glywed.

Mae'r canllawiau a gafodd eu rhyddhau yn gynharach heddiw i'w croesawu, pryd rwy'n siŵr bod y Dirprwy Weinidog wedi ceisio rhoi eglurder i gyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol, ddeall yn well faterion coffáu cyhoeddus. A gaf i hefyd ategu'r sylwadau yn arbennig am bwy sydd ar goll, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwynt cwbl ddilys a theg? Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn, iawn dod o hyd i bobl nad ydyn nhw'n wyn, menywod a phobl ag anableddau, sy'n cael eu coffáu'n gyhoeddus yng Nghymru. Felly, cytunaf yn llwyr â'ch teimlad ynghylch hynny hefyd.

Ond yn gyntaf oll, hoffwn ailadrodd bod yr holl benderfyniadau hyn yn cael eu gwneud mewn modd cynhwysfawr, ac i wneud yn siŵr nad oes un agwedd gyffredinol at osod neu hyd yn oed gael gwared ar gerfluniau presennol. Daw hyn â fi at fyrdwn yr hyn a allai gael ei alw'n 'unigolion problematig' yn y canllawiau. Mewn geiriau eraill, henebion pobl y mae eu gweithredoedd wedi achosi dadlau heddiw. Yn amlwg, mae hynny'n fater sy'n ennyn teimladau cryfion ar bob ochr. Yn hytrach na gwaredu neu ddinistrio henebion a gwaith celf pobl a fyddai efallai'n cael eu gweld bellach gan rai fel rhai â chefndir negyddol, gellid gweld hyn yn hytrach, fel y sonioch chi, fel cyfle i ychwanegu darn ychwanegol o gyd-destun i addysgu'r cyhoedd am gefndir llawn y person dan sylw, gan roi'r manylion problematig a'r rhesymau pam eu bod yn cael eu coffáu hefyd.

Wrth gwrs, bydd golwg gytbwys ar hanes y bobl hyn yn ychwanegu at wybodaeth y cyhoedd a'n dealltwriaeth hanesyddol ein hunain hefyd. Fodd bynnag, ni ddylai hynny fyth gymryd ffurf fandaliaeth ddiwylliannol na rhwygo na dinistrio cof hanesyddol. Dywedwyd yn aml mai'r rhai sy'n anghofio'r gorffennol yw'r rhai a wnaiff ei ailadrodd. Mewn digwyddiadau fel dymchwel y cerflun o Edward Colston ym Mryste a'r gwaith o orchuddio'r cerflun o Thomas Picton, gallwn weld bod troi henebion hanesyddol yn bwynt cyfeirio ar gyfer gwleidyddiaeth hunaniaeth ar ffurf yr Unol Daleithiau yn ffordd sydd dim ond yn arwain at rannu. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn siŵr yw bod y penderfyniadau hyn i gyd yn cael eu gwneud yn lleol gyda chanllawiau clir, gan fy mod yn gobeithio ein bod wedi gweld y llwybr tuag at heddiw, i wneud yn siŵr nad un grŵp neu safbwynt penodol yn unig sy'n dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud y penderfyniadau ar draul ac aberth eraill. Felly, pa ystyriaethau ydych chi wedi eu rhoi, Dirprwy Weinidog, i hyn, a sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod pob barn yn cael ei chlywed pan ddaw hi at goffáu yn y dyfodol?

Roeddwn i hefyd eisiau crybwyll, yn fyr, farwolaeth drasig Ei diweddar Fawrhydi. Yn ystod y cyfnod o alaru, rydym wedi gweld amrywiaeth o henebion a chofebion symudol yn cael eu gosod i dalu teyrnged i'n brenhines sydd wedi gwasanaethu hiraf, ac mae hynny'n aml wedi cael ei wneud ar y cyd rhwng trigolion a chynghorau lleol. Wrth i wyneb ein Brenin newydd ddechrau ymddangos ar ein harian yn raddol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr bod yna ymroddiad parhaol, parhaus hefyd i'n diweddar Frenhines. Fel y nodir yn gywir yn y canllawiau a gyhoeddwyd heddiw, mae coffáu cyhoeddus yn cael ei greu at ystod o ddibenion a chyda bwriadau anrhydeddus. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydyn ni'n edrych ar bopeth yn y gorffennol drwy sbectol yr unfed ganrif ar hugain, ond gyda syniadau a meddyliau heddiw, fel y gallwn ni addysgu'r cenedlaethau nesaf ar ein hanes, a pheidio ceisio ei ailysgrifennu.

Er hynny, rwy'n bryderus, yn y canllawiau, am y geiriad sy'n ymwneud â ffigyrau milwrol, pryd y mae hefyd yn awgrymu eu bod hwythau hefyd yn cael eu hystyried yn broblematig, gan y gallai rhai gofio 'dioddefwyr eu hymgyrchoedd'. Mae'r rhain yn bobl sydd, ar y cyfan, wedi gwasanaethu ar ran ein gwlad ac wedi gwneud hynny gydag anrhydedd a theilyngdod. Nid ydyn nhw'n haeddu wynebu'r cyhuddiadau cymhleth hyn oherwydd canllawiau, nad ydyn nhw'n datgan yn glir, y gallai'r rhai a wasanaethodd ein gwlad i amddiffyn ein rhyddid yr ydym yn ei drysori mor annwyl heddiw, o bosibl, ganfod eu hunain yn cael eu dilorni neu eu gwarthruddo dim ond am ddilyn gorchmynion a roddwyd iddyn nhw ar y pryd i amddiffyn ein rhyddid a gwasanaethu ein gwlad.

Yn y rhan 'egwyddorion ac ymarfer' o'r canllawiau, er ei fod wedi'i nodi a'i dderbyn bod penderfyniadau cynhwysol yn gwrando ac yn gweithredu ar brofiad cymunedau amrywiol, eto, hoffwn ailadrodd y pwynt nad oes gennym yr un bobl dro ar ôl tro yn gwneud yr un penderfyniadau ar bob plac, pob heneb, a phob coffâd. Mae ehangder o amrywiaeth, lleisiau a phersbectif yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau hefyd. Ac rwy'n derbyn y ffaith bod ymgysylltu yn mynd i fod yn hanfodol drwy'r holl brosesau hyn. Fel enghraifft o hyn, yn y broses gynllunio sy'n cael ei defnyddio gan gynghorau lleol, gallai'r prosesau hyn gael y cyfle i gyfoethogi cymunedau, cydlyniant cymdeithasol a safbwyntiau sydd â diddordeb drwy ddod â'r holl safbwyntiau ynghyd ag amcan a rennir o sicrhau bod eu cymuned yn cael ei chlywed drwy addysg a gwybodaeth. Does gennyf ddim amheuaeth y bydd barn gref ar bob ochr, ni waeth pa fath o goffáu a gyflwynir yn y dyfodol, ond mae angen i ni sicrhau nad ydym yn aberthu barn un gymuned o blaid un arall, a allai yn ei dro achosi rhaniadau pellach o fewn y cymunedau hynny. Felly, fy nghwestiwn olaf fyddai: o ystyried y dull cytbwys gofalus sydd ei angen i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei hepgor, pa waith ymgysylltu pellach y gallech chi fod yn ei wneud, Gweinidog, gyda rhanddeiliaid i roi cyfle i bob cymuned gyfranogi yn y broses hon? Diolch.

15:45

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am y sylwadau cefnogol yna i raddau helaeth a rhai o'r awgrymiadau adeiladol iawn a wnaeth? Er mwyn ceisio ymdrin â'ch sylwadau yn eu trefn, Tom, ein bwriad yw bod pob penderfyniad a wnaed ar sut rydym yn coffáu, o ran coffáu cyhoeddus yn y presennol a'r dyfodol, yn cael ei wneud gan bobl leol a bod cyfraniad mor eang â phosibl yn hynny. Rhan o'r broses ar gyfer yr ymgynghoriad ynghylch y canllawiau yw ei fod yn rhoi cyfle arall eto i amrywiaeth ehangaf y boblogaeth gymryd rhan ac i ddweud beth maen nhw'n ei feddwl am hynny.

O ran y broses y buom yn ei dilyn i ddrafftio'r canllawiau, roedd gennym ni nifer o gyrff a rhanddeiliaid dan sylw, o dan arweiniad Marian Gwyn o Race Council Cymru, a chynhaliwyd cyfres o weithdai lle roedd pobl o bob math o wahanol grwpiau a chefndir yn gallu dod draw i ddweud eu dweud. Ac fel rwy'n dweud, mae'r sawl a arweiniodd yr archwiliad gwreiddiol, Gaynor Legall, hefyd wedi cael cyfle i roi sylwadau arnyn nhw. Gobeithio y bydd y broses ymgynghori yn ehangu ar hynny, ond dyma lle rydym ni wedi dechrau.

Rwy'n credu beth sy'n bwysig yn hyn i gyd—. Roeddech chi'n sôn sut na ddylem ni droi at fandaliaeth ddiwylliannol, a buoch chi'n siarad am Colston a Picton, ac fe ddychwelaf at Picton yn y man. Yn y ddwy sefyllfa hynny—. Mae dinas Bryste, er enghraifft, wedi sefydlu mewn gwirionedd—. Rwy'n ceisio cofio beth yw enw'r sefydliad nawr. Maen nhw wedi sefydlu Comisiwn Hanes Bryste 'We Are Bristol', lle maen nhw'n helpu'r gymuned i fynd i'r afael â'r dreftadaeth gymhleth ac aml ei dehongliad. Mae yna rywbeth tebyg iawn yn digwydd yn Lerpwl hefyd, gyda'u hanes cymhleth hwythau.

Nid wyf yn meddwl bod hyn yn ymwneud â fandaliaeth ddiwylliannol yn yr ystyr o ddinistrio henebion; mae'n ymwneud â sut rydym ni'n eu dehongli. Os ydyn ni'n siarad am Picton, er enghraifft, dywedais fy mod i eisiau dod yn ôl ato, oherwydd fe wnaethoch chi'r pwynt am y fyddin ac, wrth gwrs, roedd Picton yn gadfridog milwrol. Ond roedd Picton hefyd yn gyfrifol am arteithio merch 14 oed. Felly, yr hyn a ddywedwn yw, wrth gydnabod ei le yn ein hanes a'r hyn a wnaeth fel cadfridog, gan ymladd dros ei wlad dan y gorchmynion a roddwyd iddo, gwnaeth rai pethau ofnadwy hefyd, yn ymwneud â'r fasnach gaethweision, a oedd hefyd yn ymwneud ag arteithio caethferch ifanc. Mae angen dweud hynny hefyd, ac mae angen cyd-destunoli hynny o ran cydbwyso'r hanes yr ydych chi'n sôn amdano. 

Rwy'n credu ein bod ni yn gweld pethau yr un fath. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw ein bod ni'n deall, pan godwyd yr henebion hyn yn wreiddiol, ein bod ni'n edrych arno mewn ffordd wahanol. Rydym bellach yn edrych arno drwy lens wahanol. Rwyf dim ond yn meddwl am y sgwrs a gefais gyda rheolwr amgueddfa Cyfarthfa yn fy etholaeth, pan sefais ar risiau castell Cyfarthfa a ninnau o dan ystafell wely Crawshay. Dyma ni'n edrych allan ar draws Merthyr a dywedodd y rheolwr wrthyf, 'Dyma lle safai Crawshay bob bore gan arolygu popeth yr oedd yn berchen arno ar draws Merthyr Tudful.' Ond wrth gwrs, allwn ni ddim edrych ar hynny drwy lygaid yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd yn amser y Crawshays, ac yn sicr y Crawshays cynnar, a siarad yn gyffredinol roedd y gweithwyr hynny'n cael cyflog da ac yn cael gofal da. Felly, mae'n rhaid i ni osod hynny yng nghyd-destun yr oes honno, yn hytrach na'r unfed ganrif ar hugain. Ond mae'n ymwneud yn llwyr â chydbwyso cyd-destun hanes unrhyw un yr awn ati i geisio ei goffáu.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw. Hoffwn ategu'r pwyntiau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn barod am y bobl sydd ddim yn cael eu coffáu hyd yma. Yn sicr mae yna lefydd sydd heb eu coffáu hefyd. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y cyd-destun ehangach i sicrhau bod unrhyw beth sydd gennym ni yn adlewyrchu'r Gymru gyfoes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi bod yn croesawu'r cerflun diweddaraf yn ein prifddinas, sef yr un o Betty Campbell. Mae'n anhygoel gweld sut mae hwnna'n gallu ysgogi plant ysgol ac ati i ddeall beth sy'n digwydd heddiw ac i drafod heddiw ynghyd â dathlu beth oedd Betty ei hun wedi'i gyflawni. Hoffwn hefyd ategu sylwadau Tom Giffard am eich Cymraeg chi ar ddechrau'r datganiad hefyd. Mae'n braf iawn clywed mwy o Aelodau yn ceisio'r Gymraeg yma.

Fel rydych chi'n gwybod, Dirprwy Weinidog, mi oeddwn i'n arfer gweithio i Amgueddfa Cymru, ac yn aml yn pasio'r llun o Thomas Picton. Jest llun ar y wal oedd o i fi. Ond pan ddaeth Black Lives Matter fel ymgyrch, des i i ddeall wedyn, oherwydd fy mraint fel person gwyn, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hanes problematig y llun. A beth dwi'n meddwl sydd wedi cael ei groesawu ydy'r drafodaeth yna, ein bod ni yn dod i ddeall beth mae hynny'n ei olygu, a beth mae o'n ei olygu i bobl sydd efo profiadau gwahanol iawn i ni. Yn sicr, un o'r pethau dwi'n meddwl dwi'n falch iawn o weld yn sgil y gwaith hwn ydy ei fod o ddim yn rhywbeth sydd wedi bod yn hollol reactive. Mae yna waith dros ddwy flynedd a mwy wedi bod er mwyn creu y pwynt rydyn ni wedi'i gyrraedd heddiw, fel ein bod ni rŵan efo rhywbeth fydd yn ddefnyddiol, gobeithio, i gyrff cyhoeddus sydd yn derbyn arian cyhoeddus, a'u bod nhw felly yn cymryd o ddifri safbwyntiau pawb yn y gymdeithas.

Dwi hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig inni gydnabod fel Senedd bod pawb ddim yn hapus efo hyn. Os ydych chi'n edrych ar rai o'r sylwadau sydd wedi eu cyfeirio at Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers iddyn nhw ddechrau'r gwaith o ran Thomas Picton, dydy pawb ddim yn gytûn efo'r ffaith bod yna unrhyw fath o drafod ar hyn, bod yna ailddehongli, chwaith. Ac mae'n gallu bod yn garfan cryf ar y cyfryngau cymdeithasol. Dwi ddim yn awgrymu bod unrhyw un yn eu dilyn nhw, ond os ydych chi eisiau gwneud eich hun yn flin, mae Save Our Statues ar Twitter yn dangos yn glir eu bod nhw ddim yn cytuno efo'r math yma o safbwynt, efo'r ailddehonglu, o gwbl. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi sôn ynglŷn â sut mae hyn yn mynd i helpu sefydliadau i ystyried sut maen nhw'n mynd ati efo'r gwaith, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn onest bod y gwaith yma'n mynd i fod yn ddadleuol weithiau, a bod hynny'n iawn, a bod ein sefydliadau cyhoeddus ni'n mynd i gael cefnogaeth y Llywodraeth, a fy nghefnogaeth i, yn sicr, a Phlaid Cymru, o ran ymwneud â'r gwaith hwn, a'i bod hi'n iawn ein bod ni'n cael trafodaethau anodd, oherwydd dydy hanes ddim wastad yn hawdd.

Dwi'n cytuno ein bod ni ddim eisiau anghofio'n hanes, ond mae cael trafodaethau fel hyn—. Os ydyn ni o ddifrif eisiau bod yn Gymru wrth-hiliol a'n bod ni o ddifrif eisiau gweld hynny, mi fydd yna angytuno, a dydyn ni ddim wastad yn mynd i allu gwrando ar leisiau'r mwyafrif os mai lleisiau gwyn ydy'r lleisiau hynny. Ac yn sicr, o ran gweld ymatebion fel hyn, dwi'n meddwl mai un o'r pethau fydd yn bwysig iawn o ran yr ymgynghoriad yw ein bod ni'n gweld pwy sy'n ymateb ac, os oes gwrthwynebiad, o ba safbwynt mae'r gwrthwynebiad yna'n dod. Mae fy nghyn-brifysgol yn Iwerddon yn edrych ar y funud o ran ailenwi'r llyfrgell sydd yna oherwydd cysylltiadau problematig efo'r gorffennol, ac yn sicr mae yna anogaeth gan bobl fel yr ymgyrch Save Our Statues i bobl bentyrru o ran rhoi ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw fel bod safbwyntiau pobl gwyn yn cael eu rhoi drosodd yn glir. Mae'n rhaid inni fod yn sicr ein bod ni'n gwrando ar y rhai hynny sydd ddim wedi bod yn cael rhan yn y ddeialog hyd yma ac sydd wedi bod yn bwysig o ran y gwaith hwn. 

Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod hon yn ffordd wahanol iawn i Lywodraeth Prydain o ran edrych ar y mater, ein bod ni yn rhoi'r anogaeth hynny i awdurdodau lleol a'n cyrff cyhoeddus ni i fynd ati efo'r gwaith gwrth-hiliol hwn. Yr hyn yr hoffwn ofyn ydy: rydych chi wedi dweud bod hwn ddim yn orfodol, sydd yn amlwg yn beth da, ein bod ni'n annog, ond beth sy'n digwydd os nad ydy pobl yn dilyn unrhyw fath o ganllawiau a ddim yn mynd ati i ymgysylltu? Hefyd, y mater o ran arian i gefnogi'r gwaith hwn. Yn aml, mewn amgueddfeydd lleol ac ati, bach iawn ydy'r nifer o staff sydd efallai yn gweithio yn y maes ymgysylltu ac ati. Pa gefnogaeth fydd yn cael ei roi iddyn nhw fel eu bod nhw, fel y mae Amgueddfa Cymru wedi dangos, hefyd yn gallu gwneud y gwaith ymgysylltu sydd ei angen efo'r math yma o bethau?

Dwi'n edrych ymlaen at weld beth ddaw nôl o'r ymgynghoriad, ond yn sicr yn croesawu'r symudiad hwn tuag at sicrhau ein bod ni yn taclo hanes problematig, ein bod ni'n gweithio yn sicr gyda'n gilydd er mwyn creu Cymru wrth-hiliol, a sicrhau bod hanes pawb yn cael ei adlewyrchu a'i gofio. 

15:55

Diolch yn fawr, Heledd, a diolch am y gefnogaeth i'r gwaith a wnawn, oherwydd mae'n waith hynod o bwysig. Roeddem ni'n sôn am hyn fel rhywbeth sydd wedi bod yn datblygu dros gyfnod o ddwy flynedd. Fe wnaethom ni ddatblygu llawer o'r gwaith yma yn sgil ymgyrch 'Mae Bywydau Du o Bwys' a llofruddiaeth George Floyd a'r hyn welom ni yn digwydd o amgylch y byd. Rydym ni wedi manteisio ar y cyfle hwnnw i adeiladu'r consensws gwrth-hiliol hwn ynghylch rhai o'r agweddau hyn.

Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud—ac rwy'n credu mai dyma un o'r pwyntiau yr oedd Tom Giffard yn eu gwneud hefyd—yr hyn nad ydym yn ceisio ei wneud yma yw ailysgrifennu hanes. Hanes yw hanes, ac mae ffeithiau hanes a'r hyn a ddigwyddodd yn bodoli. Ond, yr hyn y gallwn ei wneud yw cyd-destunoli ein hanes a gallwn ni gydnabod ein rhan yn rhai o rannau mwy annymunol ein hanes, a gallwn geisio deall yr effaith a gafodd hynny ar genedlaethau 'r dyfodol yn y ffordd yr ydym yn coffáu'r cerfluniau, y paentiadau, neu beth bynnag y gallen nhw fod, yn gyhoeddus. Rwy'n credu mai dyna'r peth hollol briodol i'w wneud.

Fel chi, rwy'n ymwybodol iawn y bydd yna leisiau nad ydyn nhw'n cyd-fynd â hyn ac na fyddan nhw eisiau i ni wneud y pethau hynny, ond nid yw hynny'n golygu y dylem o reidrwydd wrando ar yr holl leisiau hynny, oherwydd os yr hyn y mae pobl yn ceisio'i wneud yw anfarwoli hiliaeth, yna nid yw hynny'n rhywbeth y mae gennyf i ddiddordeb mewn gwrando arno. Mae gennyf i ddiddordeb mewn gwrando ar pam y mae pobl yn meddwl efallai nad ydym ni eisiau gwneud pethau mewn ffordd benodol, ond does gennyf i ddim diddordeb mewn gwrando ar safbwyntiau hiliol a lleisiau hiliol sy'n parhau â'r anghydraddoldebau hynny yn ein cymdeithas.

Un pwynt dilys iawn yr ydych chi wedi ei godi yw beth wnawn ni—oherwydd nid yw hyn yn orfodol, mae hyn yn wirfoddol—beth wnawn ni yn yr ardaloedd hynny lle gall corff cyhoeddus ddewis peidio â gwneud unrhyw beth? Wel, rwy'n credu, un o'r pethau yr ydym ni eisoes wedi'i wneud, oherwydd rydym ni wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith caib a rhaw ar hyn yn barod, rydym ni wedi talu—drwy'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', rydym ni wedi sicrhau bod tipyn o gyllid ar gael i nifer o sefydliadau, gan gynnwys amgueddfeydd bychain, i hyfforddi eu staff a'u curaduron i ddeall beth yw'r materion mewn gwirionedd. A dim ond fel enghraifft o hynny, ymwelais ag amgueddfa'r Fenni yn gymharol ddiweddar ac roedd y staff yno'n dweud eu bod wedi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn a ddarparwyd, ac yn sydyn fel petai'r geiniog yn disgyn, y gwnaethant ddechrau deall mai'r ffordd yr ydych chi'n coffáu a'r ffordd yr ydych chi'n arddangos eich casgliadau a'ch arddangosfeydd, rydych chi'n dweud stori, ac mae gennych chi naratif. A dyma nhw'n dangos i mi, roedd ganddyn nhw gegin bwthyn bach yn amgueddfa'r Fenni, ac roedd te a siwgr ar y bwrdd, a dyma nhw'n dweud, 'Nid ydym ni erioed wedi meddwl, wrth egluro beth oedd y rhain i gyd yn y gegin hon, ynghylch o ble y daeth te a siwgr, a sut gwnaethon nhw gyrraedd y byrddau hynny'. Felly, maen nhw nawr yn ystyried rhoi sylw i hynny i gyd, ac roedden nhw'n croesawu'r canllawiau a gyflwynir er mwyn iddyn nhw feddwl yn ddwys am sut y maen nhw'n ymgysylltu â'r boblogaeth leol wrth ddehongli hynny i gyd yn gywir.

Ond fel y dywedais, nid yw'n orfodol, ac oherwydd nad yw'n orfodol, ni fydd yn dod gydag unrhyw gyllid fel y cyfryw. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw y gallai fod yn bosibl adeiladu'r gwaith o gyflawni amcanion i mewn i gyfleoedd cyllido yn y dyfodol, yn gysylltiedig â'r strategaeth ddiwylliant sy'n dod i'r amlwg—ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth, Heledd, y bu gennych ddiddordeb mawr ynddo o'r cychwyn cyntaf, ac rydym ni bellach yn gwneud cynnydd sylweddol ar hynny—ac mae cydweithio blaenorol o ran cyllid wedi bod rhwng Cadw a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cefnogi rhywfaint o'r ailddehongli ynghylch rhai o'r henebion cyhoeddus mwy dadleuol, a byddwn i'n sicr yn gobeithio y byddai hynny'n rhywbeth y gallem ni edrych arno eto yn y dyfodol.

16:00
5. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiad Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022

Eitem 5 y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiad Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
 

Cynnig NDM8144 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022 yn gwneud tri phrif beth. Yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, maen nhw'n diwygio'r Ddeddf rhentu cartrefi i wella diogelwch deiliadaeth ar gyfer tenantiaid presennol. Bydd gan denantiaid sydd â thenantiaeth fyrddaliadol cyfnodol sicr sy'n trosi i gontract meddiannaeth safonol cyfnodol ar 1 Rhagfyr, o 1 Mehefin 2023, hawl i hysbysiad meddiant chwe mis, yn hytrach na rhybudd deufis, pan nad ydynt ar fai. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, os oes angen meddiant ar y landlord i allu byw yn yr eiddo ei hun.

Yn ail, diwygiwyd y Ddeddf fel y bydd landlord cymunedol, yn ystod y flwyddyn gyntaf y mae mewn grym, yn gallu amrywio'r rhent nid llai na 51 wythnos ar ôl y cynnydd blaenorol, yn hytrach na blwyddyn galendr. Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfraith gyfredol a bydd yn galluogi landlordiaid cymunedol i gysoni'r dyddiad amrywio rhent ar gyfer contractau wedi'u trosi gyda'r dyddiad sy'n berthnasol i gontractau newydd. Bydd yr holl amrywiadau rhent dilynol yn destun cyfyngiad blwyddyn galendr.

Ac yn drydydd, gwneir gwelliant i egluro ymhellach nad yw tenantiaeth sicr sy'n trosi i gontract safonol yn ddarostyngedig i amrywiad rhent o dan adran 123 o Ddeddf 2016 lle ceir telerau rhent presennol o fewn y contract ac mae'r landlord yn landlord preifat.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am adrodd ar y rheoliadau hyn mewn cyfnod hwylus o amser. Rydym wedi ymateb yn ffurfiol i'r pwynt adrodd sengl, ac rwy'n hapus i gadarnhau ein bod o'r farn bod y rheoliadau'n gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Bydd y mân bwyntiau drafftio a nodir yn cael eu cywiro adeg cyflwyno'r Ddeddf er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn hygyrch ac yn glir i'r darllenydd. Nid oes yr un o'r rhain yn newid ystyr y rheoliadau drafft y gofynnir i'r Aelodau eu cymeradwyo heddiw. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.

16:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn yr wythnos ddiwethaf, ac mae ein hadroddiad wedi’i osod gerbron y Senedd er mwyn llywio’r ddadl y prynhawn yma. Fel y dywedodd y Gweinidog heddiw, mae’r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i gefnogi gweithrediad Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae’r un pwynt adrodd ar rinweddau sydd gennym yn canolbwyntio ar un agwedd ar yr hyn y bydd y rheoliadau hyn yn ei wneud.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 12 i Ddeddf 2016 i ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf o chwe mis ar gyfer hysbysiad landlord, sydd eisoes yn ofynnol mewn cysylltiad â chontractau safonol cyfnodol newydd, i gontractau safonol cyfnodol wedi'u trosi, yn weithredol o 1 Mehefin 2023. Mae ymestyn y cyfnod hysbysu o dan gontractau safonol cyfnodol wedi'u trosi o ddeufis i chwe mis yn golygu bod landlord preifat wedi'i gyfyngu o ran cymryd meddiant o'i eiddo am gyfnod hirach nag sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Mae erthygl 1 o'r protocol cyntaf i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn amddiffyn mwynhad person o'i eiddo, ac mae hyn yn berthnasol i fwynhad landlord preifat o'i eiddo. Gofynnwyd felly i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw wedi cynnal asesiad effaith ar hawliau dynol mewn cysylltiad â'r rheoliadau hyn a darparu gwybodaeth bellach o ran canlyniad unrhyw asesiad o'r fath. Felly, rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am yr ymateb a'r cadarnhad bod asesiad trylwyr o ddarpariaethau a gynhwysir o fewn y rheoliadau wedi digwydd yn wir er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â hawliau'r confensiwn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Yn amlwg, rwy'n cyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo. Nawr, unwaith eto rydym yn siarad am Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022. Ac rwyf wedi codi hyn gymaint o weithiau yma nawr, ond rwyf yn anobeithio ynghylch y diffyg sylweddoli beth fydd canlyniadau anfwriadol y Ddeddf rhentu hon. Rydym yn gwybod fod hyn o ganlyniad i gytundeb cydweithredu Plaid Cymru a Llafur.

Nawr, yn ystod 2021-22, cysylltodd 1,126 o bobl â Chyngor Gwynedd gan eu bod yn ddigartref; 50 y cant, hynny yw, mwy nag yn 2018-19. Yn Wrecsam, mae nifer yr unigolion sy'n cael eu hystyried yn ddigartref wedi mwy na dyblu i 2,238 o 2019-20 i 2021-22. Ac yn fy sir fy hun yng Nghonwy, mae 593 o bobl ym mhob math o lety dros dro, ac mae 222 o'r rhain yn blant. Dyma blant ddylai fod â tho mwy parhaol uwch eu pennau. Mae dau gant a saith deg dau o bobl mewn llety gwely a brecwast, ac mae nifer y plant mewn llety gwely a brecwast wedi neidio 82 y cant o chwarter 1 i chwarter 3 y flwyddyn ariannol hon. Beth yw achos hyn?

Nawr, rwyf wedi codi fy mhryderon am y symudiadau rheoleiddio gorfeichus hyn a gyflwynwyd nawr gan y Llywodraeth hon, gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Ond, yn ddiddorol, mae'r adroddiad a baratowyd ar gyfer cabinet cyngor Llafur a Phlaid Cymru cyntaf Conwy yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy—yn eu cyfarfod, maen nhw hyd yn oed yn nodi:

'Mae’r galw’n cynyddu’n sylweddol ar hyn o bryd gan fod pobl yn cael eu troi allan o’r sector rhentu preifat. Y nifer uchaf o rybuddion A21 a gofnodwyd (troi tenantiaid allan heb fai) mewn wythnos yw 30, ac mae’r cyfartaledd bellach yn oddeutu 15 yr wythnos. Mae hyn yn gyfuniad o oblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi Cymru, morgeisi prynu i osod a’r cynnydd mewn cyfraddau llog.'

Mewn gwirionedd mae hynny'n dod gan Blaid Cymru a Llafur mewn awdurdod lleol—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf i—

Felly, dyna chi: prawf cadarn o sir Conwy bod eich deddfwriaeth yn ffactor allweddol yn y cynnydd rydym ni'n ei weld nawr yn y defnydd o lety dros dro. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf wedi dweud hynny o'r blaen, dylai Llafur Cymru a Phlaid Cymru deimlo cywilydd eu bod nhw nawr yn gwneud pobl yn ddigartref. Bydd y rheoliadau hyn heddiw yn gwaethygu'r sefyllfa.

Un o oblygiadau'r gwelliant yw bod y cyfnod hysbysu byrraf chwe mis ar gyfer hysbysiad landlord, sydd eisoes yn ofynnol mewn cysylltiad â chontractau safonol cyfnodol newydd, yn cael ei ymestyn i gontractau safonol cyfnodol wedi'u trosi, a hynny'n weithredol o 1 Mehefin 2023. Mewn gwirionedd, bydd chwe mis yn golygu 12 mis, oherwydd mae gennych chi sefydliadau, fel Shelter Cymru, yn dweud wrth bobl am aros ar ôl y cyfnod chwe mis hwnnw—mae'n ddeufis ar hyn o bryd; wel, mae wedi bod yn ddeufis—yn dweud wrthyn nhw am aros nes bod y beilïaid yn cael eu hanfon gan y llys, ac yna hyd yn oed wedyn, yn ddweud wrthyn nhw am aros am gyfnodau hirach. Yn seiliedig ar nifer yr eiddo sydd wedi'u cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, gallai hyn nawr weld cynifer â 200,000 o gontractau wedi'u trosi yn newid o fod yn destun cyfnod hysbysu chwe mis yn lle cyfnod hysbysu dau fis. A yw'r Senedd hon wir yn barod i fentro gwneud cymaint â 200,000 o aelwydydd yn ddigartref? Rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol mai un o'r rhesymau a roddir am y gofyniad chwe mis yn y memorandwm esboniadol yw fel a ganlyn:

'bu cynnydd dramatig yn y galw am lety dros dro yn sgil y pandemig, gan roi pwysau digynsail o ran galw ar wasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol, gyda dros 23,200 o bobl yn cael cymorth i gael llety dros dro ers mis Mawrth 2020.'

Mae rhywfaint o gefnogaeth i'r cynnig gan landlordiaid ac asiantau gosod, fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth yn gwrthwynebu. Mae llawer o bobl yr ymgynghorwyd â nhw yn awgrymu y gallai'r cynnig annog—ac mae, mewn gwirionedd, bellach yn annog landlordiaid i adael y sector preifat. Os ydym ni eisiau ceisio datrys yr argyfwng tai yng Nghymru, mae'n rhaid i ni leihau'r risg o fwy o ddigartrefedd. Mewn gwirionedd, dylai eich Llywodraeth fod yn adeiladu'r tai a dylai fod wedi eu hadeiladu yn y blynyddoedd a fu.

Mae fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, sydd hefyd wedi dal y portffolio tai yn flaenorol, wedi cael gwybod o ran y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) erbyn hyn, er bod rhai pobl, fel Cymorth i Ferched Cymru, yn cydnabod rhai o elfennau cadarnhaol y Ddeddf, bod ganddyn nhw bryderon difrifol am effaith allai fod yn gatastroffig y Ddeddf yn ei ffurf bresennol ar wasanaethau arbenigol yng Nghymru yn ymdrin â thrais yn erbyn menywod, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol a thrwy hynny, ar y sawl sydd wedi goroesi'r mathau hynny o drosedd.

16:10

Iawn. Oni bai ei fod wedi'i ddiwygio neu ei oedi, fel mater o frys, credwn y bydd gweithredu'r Ddeddf yn llawn yn gyfrifol am dorri system lochesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gweinidog, os gwelwch yn dda, ar ryw adeg, gwrandewch ar yr holl bobl hynny—y teuluoedd—sy'n anobeithio. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r rheoliadau yma ymlaen heddiw. Hir yw pob ymaros, wedi'r cyfan. Mae'r Ddeddf yma wedi datblygu i fod yn dipyn o jôc, mewn gwirionedd, ar hyd y blynyddoedd diwethaf. Y gwir ydy y dylai'r Llywodraeth a'r Blaid Lafur yn bennaf fod yn holi cwestiynau difrifol iawn iddyn nhw eu hunain am sut inni gyrraedd y pwynt yma a pham y bydd iddyn nhw wthio deddfwriaeth nôl yn 2016 a oedd yn amlwg ymhell o fod yn barod. Roedd yna sôn fod y polisi Brexit, os cofiwch chi, yn oven ready; mae'n rhaid bod deddfwriaeth rhentu Cymru wedi dod o'r un popty. Ni ddylen ni fyth wedi cyrraedd y sefyllfa yma, ond, y gwir ydy mai gwell hwyr na hwyrach.

Dwi yn gresynu nad ydyn ni am gytuno ar bolisi o atal troi pobl allan yn ddi-fai heddiw, ac fe hoffwn i'r Gweinidog gymryd y cyfle yma heddiw i esbonio pam nad ydy'r Llywodraeth yn credu y dylid atal pobl rhag cael eu troi allan yn ddi-fai—polisi sydd eisoes mewn grym yn yr Alban, er enghraifft. Ond mae'r datganiad yma yn un amserol. Rydyn ni'n gweld y nifer digynsail o bobl yn cael eu cyflwyno i lythyrau adran 21 ar hyn o bryd, ac mae yna sawl rheswm am hyn.

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi derbyn tystiolaeth gan nifer o gyrff yn sôn am y niferoedd o bobl sydd yn dioddef oherwydd adran 21. Un o'r rhesymau ydy oherwydd y pryder am weithredu'r ddeddfwriaeth yma, ond mae'n amlwg fod yna gamddealltwriaeth dybryd wedi bod o effaith y ddeddfwriaeth. Felly, a wnaiff y Gweinidog hefyd roi sicrwydd inni heddiw fod yna rhaglen gyfathrebu lawn am gael ei gweithredu i'r sector landlordiaid yn esbonio, mewn modd syml a chlir, sut mae'r ddeddfwriaeth yma am effeithio ar y sector honno? Wrth ystyried bod yna saith mlynedd wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio, dylid wedi gwneud hyn ynghynt, ond mae'n amlwg nad ydy'r sector wedi deall yn llawn goblygiadau'r Ddeddf. Ond, fel y soniais, mae yna dybryd angen cymryd camau i helpu'n tenantiaid, a hynny ar frys, ac felly, mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma heddiw yn frwd. Diolch yn fawr iawn.

16:15

Hoffwn godi'r pwyntiau a wnaeth Janet Finch-Saunders tua diwedd ei chyfraniad, oherwydd rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, Gweinidog, am y pryderon difrifol a godwyd gan Gymorth i Ferched Cymru am effaith y Ddeddf, yn ei ffurf bresennol, ar wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru a, thrwy hynny, ar oroeswyr. Er eu bod yn gefnogol i lawer o elfennau cadarnhaol Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) newydd 2016, gan gynnwys newidiadau a fydd yn arwain at fanteision uniongyrchol i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, maen nhw'n mynd cyn belled â dweud nad yw'r Ddeddf yn ystyried sefyllfa unigryw llety lloches ac, fel y dywedodd Janet, fydd yn gyfrifol, os na chaiff ei hadolygu, am dorri'r system lochesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y rhain yn honiadau difrifol gan sefydliad sy'n cynrychioli gwasanaethau sydd â buddiannau gorau rhai o'r rhai mwyaf bregus o bobl, menywod a phlant, yn ffoi rhag trais a cham-drin wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud.

Maen nhw'n cyfeirio at bryderon ynghylch swyddogaeth awdurdodau lleol wrth weithredu'r Ddeddf, gan gynnwys diffyg capasiti, cysondeb, atebolrwydd a thegwch mewn dyletswyddau i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan y Ddeddf. Nid yw awdurdodau lleol yn debygol o gwbl o fod â'r arbenigedd neu'r gallu i ganiatáu ceisiadau estyniad ar gyfer llety trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn brydlon, meddant, ac, oherwydd diffyg unrhyw ganllawiau manwl i awdurdodau lleol ynghylch eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf, mae gwasanaethau wedi cadarnhau iddyn nhw y bydd awdurdodau lleol yn dilyn polisïau a phrosesau gwahanol iawn yn hyn o beth. Mae pryderon difrifol iawn hefyd ynghylch rheoli llochesi diogel, fel creu anghyfartaledd rhwng hawliau goroeswyr gwahanol a'r disgwyliad a roddir ar wasanaethau arbenigol, ochr yn ochr â gwanhau galluoedd llochesi i ddiogelu goroeswyr, plant a staff.

Bydd y Ddeddf, medden nhw, yn debygol o wthio capasiti gwasanaethau y tu hwnt i'w terfynau. Yn ystod gweminar Cymorth i Ferched Cymru yn ddiweddar ar y Ddeddf, o'r 22 aelod a oedd yn bresennol, yn brif swyddogion gweithredol a rheolwyr llochesi, dywedodd 91 y cant eu bod naill ai'n bryderus iawn neu'n hynod bryderus am effaith y Ddeddf ar eu gwasanaethau a hefyd sut y bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar gapasiti ac adnoddau gwasanaethau arbenigol, sydd eisoes dan bwysau, yn enwedig ar yr adeg yma o argyfwng economaidd. Er enghraifft, o dan y Ddeddf, bydd angen i wasanaethau ofyn am estyniad i'r cyfnod perthnasol o gytundeb trwydded ar gyfer pob goroeswr fu mewn lloches am fwy na chwe mis.

Oherwydd y gwahaniaethau rhwng sut mae disgwyl i wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol reoli contractau, yn dibynnu ar ba fath o fynediad sydd gan oroeswyr i loches, a phryd, bydd angen olrhain gwasanaethau'n ofalus iawn yn ôl pa adrannau o'r gyfraith y mae angen iddyn nhw eu dilyn. Yn ymarferol, bydd hyn, wrth gwrs, yn golygu y bydd angen iddyn nhw fonitro amrywiadau cytundeb trwydded pob goroeswr yn ofalus er mwyn cadw at wahanol amserlenni estyniad er mwyn osgoi cosbau sylweddol, efallai, a hyd yn oed, o bosibl, achosion llys. Felly, mae pryder dwfn a sylweddol ynghylch sut bydd y prosesau hyn yn cael eu rheoli gan y capasiti yn nhimau presennol y gwasanaethau arbenigol.

Felly, o ystyried y pryderon dilys hyn, Gweinidog, a fyddwch yn ymrwymo i adolygiad brys o effaith y Ddeddf ar oroeswyr a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn benodol ynghylch rheoli llochesi diogel, a fyddai'n cynnwys ymgynghori'n uniongyrchol â gwasanaethau Cymorth i Ferched Cymru a gwasanaethau arbenigol cam-drin domestig a thrais rhywiol Cymru? Os yw'r effaith mor niweidiol â'r hyn a ddengys Cymorth i Ferched Cymru, a fyddech chi'n ymrwymo i weithredu i liniaru canlyniad anfwriadol y Ddeddf? Mae Cymorth i Ferched wedi cynghori y gallai hyn gynnwys cyflwyno deddfwriaeth eilaidd, gwelliant neu reoliadau statudol i greu eithriad clir ar gyfer llety lloches a/neu ailddosbarthu'r holl lety lloches fel llety dros dro, a chreu canllawiau statudol hefyd i awdurdodau lleol ynghylch eu cyfrifoldebau wrth weithredu'r Ddeddf ar gyfer llety lloches yn benodol.

Dewis arall, wrth gwrs, Gweinidog, fyddai gweithredu'r Ddeddf yn raddol i oedi'r effeithiau difrifol hyn ar wasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddai hyn yn atal unrhyw ddifrod i'r amddiffyniad a roddwyd i oroeswyr yn y cyfamser. A allwch archwilio, efallai, cyflwyno gwelliant i'r Ddeddf ei hun neu reoliadau statudol i sefydlu eithriad clir o'r Ddeddf ar gyfer pob llety lloches, ac yn benodol y gofyniad i gyhoeddi contractau safonol â chymorth i'r rhai mewn llety lloches ar ôl chwe mis, erbyn diwedd y flwyddyn neu cyn i'r Ddeddf fod yn berthnasol i wasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? Diolch.  

—[Anghlywadwy.]—ychydig o'r pethau—fe roddaf i sylw iddyn nhw am yn ôl, os yw hynny'n iawn.

O ran y materion a godwyd ynghylch pryderon trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y mae Cymorth i Fenywod wedi'u codi, yn amlwg maen nhw wedi eu crybwyll wrthyf i hefyd, ac wrth fy swyddogion, ac rwyf wedi cael cyfarfod gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch hyn yn ddiweddar. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), dim ond i atgoffa pawb, yn ymwneud yn y bôn â gwella hawliau pobl sy'n rhentu eu cartrefi. Ar hyn o bryd, gall rhywun barhau i fyw mewn llety â chymorth am gyfnod hir ond gall barhau i fod yn destun troi allan gyda dim ond sawl awr o hysbysiad neu hyd yn oed ddyddiau. Mae rhentu cartrefi yn cyfyngu'r cyfnod hwn o ansicrwydd i chwe mis, ac ar ôl hynny dim ond trwy roi dau fis o rybudd y gall rhywun nad yw ar fai gael ei droi allan. Ond rydym wedi darparu i'r cyfnod chwe mis cychwynnol hwnnw gael ei ymestyn, fel y dywedodd Sioned, gyda chytundeb yr awdurdod lleol, ac, yn amlwg, Sioned, byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau eu bod nhw i gyd yn cadw at y canllawiau hynny ac yn deall sut y dylai hynny weithio a beth fydd y meini prawf. Yn amlwg byddwn yn gweithio gyda Chymorth i Ferched Cymru i allu gwneud hynny.

Os yw rhywun sydd â chontract safonol â chymorth yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol mae'n bosibl eithrio'r person hwnnw dros dro am hyd at 48 awr. Rwy'n deall y pryderon sy'n cael eu codi gan Cymorth i Ferched Cymru, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bawb ddeall bod yna le sylweddol eisoes i reoli contract safonol â chymorth mewn ffyrdd nad yw'n berthnasol i gontractau cartrefi rhent eraill. Ac wrth gwrs fe hoffwn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio'n iawn i amddiffyn buddiannau goroeswyr cam-drin a chydnabod y swyddogaeth hanfodol y mae llochesi yn ei chwarae yn hynny, ac rwyf wedi cytuno â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y byddwn yn cydweithio gyda Cymorth i Ferched Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn deall yn drylwyr sut y dylid gweithredu'r Ddeddf, ac wrth gwrs byddwn yn cynnal asesiad effaith ac yn unioni unrhyw beth sydd, yn ein barn ni, angen ei gywiro. Er hynny, rwy'n eithaf ffyddiog mai'r hyn sydd gennym ni yma yw camddealltwriaeth ynghylch sut mae cymhlethdod y Ddeddf yn gweithio. Mae hon yn Ddeddf drawsnewidiol. Mae'n newid y ffordd mae landlordiaid a thenantiaid yn rhyngweithio â'i gilydd yn llwyr, ac wrth gwrs bod rhywfaint o gamddealltwriaeth wrth i'r Ddeddf ddod i rym, ond byddwn ni'n gwneud hynny wrth gwrs, Sioned. Mae arnom ni eisiau gwneud yn gwbl sicr bod menywod mewn llochesi yng Nghymru yn ddiogel ac yn cael eu gwasanaethu'n briodol. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector, fel y dywedais, i fynd i'r afael ag unrhyw gamddealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth, nodi effeithiau negyddol ac ystyried camau pellach, felly rwy'n hapus iawn, iawn i'ch sicrhau y byddwn yn gwneud hynny, gan fy mod eisoes wedi sicrhau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

O ran y gymhariaeth â'r Alban a wnaeth Mabon, dim ond i fod yn glir iawn, gallwch gael eich troi allan heb unrhyw fai arnoch yn yr Alban os yw'r landlord yn dymuno cymryd meddiant o'i gartref, a gellir gwneud hynny gyda chyfnodau hysbysu byr iawn. Felly, mae'r syniad bod yr Alban wedi eithrio erthygl 1, hawliau protocol 1 yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn ffwlbri, mae gennyf ofn. Mae ein Deddf yn rhoi'r amddiffyniad gorau i bobl yn y DU gyfan, ac rwy'n falch iawn, iawn o hynny, ac mae'r darn arbennig hwn yn ymestyn hynny i'r tenantiaethau presennol yn llawer cyflymach nag y byddai wedi'i wneud fel arall—mewn gwirionedd, o fewn chwe mis, a dyna'r chwe mis yr ydym ni wastad wedi addo i landlordiaid y byddai ganddyn nhw i addasu i newidiadau.

Ac yna, o ran yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, wn i ddim, Dirprwy Lywydd, ble i ddechrau gyda'r camsyniadau a draethodd. Mae Janet bob amser yn cyfeirio pobl at ei diddordebau personol, sydd wrth gwrs fel landlord sector preifat, ac rwy'n credu heddiw y lleiaf y gallaf ddweud yw ei bod yn amlwg iawn i bawb ei bod yn landlord sector preifat. Rydym ni'n credu y dylai pobl sy'n byw mewn llety yn y sector preifat gael tai sy'n ffit i fod yn gartref, sy'n llefydd parhaol i fyw, sy'n cael eu rheoli'n iawn ac yn cael gofal priodol, ac mae landlordiaid da yn gwneud hynny'n barod. Dim ond y landlordiaid gwael fydd yn cael trafferth gyda hynny, ac rwy'n annog Janet i gael golwg ar hynny. Mae'r argyfwng costau byw, fodd bynnag, a wnaed gan ei Llywodraeth hi yn San Steffan, a wnaed yn sylweddol waeth gan ffiasgo Liz Truss gyda'r morgeisi, ac sy'n rhoi llawer o bwysau ar deuluoedd, yn fater i'r Llywodraeth Geidwadol, ac mae'n arwain at ddigartrefedd, mae hi'n hollol iawn, ac yn arwain at chwalu teuluoedd. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud popeth y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael cymorth i fynd drwy'r storm economaidd ofnadwy a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, a, Dirprwy Lywydd, bydd y rheoliadau hyn yn cyfrannu llawer at helpu yn y frwydr honno. Rwy'n eu cymeradwyo i Aelodau. Diolch.

16:20

Fel mater o drefn, doeddwn i ddim yn dweud fy mod i'n landlord preifat; datganais fy muddiant mewn cysylltiad â pherchnogaeth eiddo, ac mae gwahaniaeth.

Rydych chi wedi gwneud hynny'n glir ar goedd nawr, Janet, iawn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Eitem 6, cynnig i amrywio’r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM8145 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) Adran 1;

b) Adran 2;

c) Atodlen 1;

d) Adrannau 3-23;

e) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. 

16:25

A, reit. Weinidog, nid oes unrhyw Aelodau eraill wedi gofyn am gael siarad, felly a ydych yn fodlon i symud i bleidleisio yn awr? 

Rwy'n cymryd ei bod hi'n dweud 'ydw'. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

Eitem 7, y Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM8143 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 16:25:48
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch. Rwy'n falch o ddod â'r rheoliadau hyn i'r Siambr y prynhawn yma. Byddent yn creu cynllun cymorth ariannol i gefnogi'r sector yng Nghymru o dan Ddeddf Pysgodfeydd y DU 2020. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n manteisio ar y cyfle i ddylunio cynllun buddsoddi yn benodol ar gyfer Cymru. Bwriad y cynllun yw darparu ystod eang o ddewisiadau polisi a chaniatáu'r hyblygrwydd i dargedu blaenoriaethau penodol. Credaf fod angen y dull hwn i lywio'r newidiadau systemig a'r ansicrwydd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. 

Agwedd ddeinamig y cynllun fydd y rowndiau ariannu. Mae lle i amrywio'n sylweddol o ran sut y bydd y rowndiau ariannu hyn yn cael eu gweithredu, felly gellir teilwra'r gwaith o gyflwyno'r cymorth ariannol i'r diben y bwriadir ar ei gyfer. Bydd pob rownd ariannu yn cael ei chynllunio gydag ymgysylltiad rhanddeiliaid i fodloni gofynion blaenoriaethau'r sector a'r Llywodraeth, gyda'r adborth o bob ffenestr gais yn cael ei ystyried i lywio rowndiau ariannu yn y dyfodol. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am hwyluso'r adroddiad ar y rheoliadau drafft hyn fel y gallwn, yn amodol ar ewyllys y Senedd, fwrw ymlaen i weithredu'r cynllun. Diolch.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn brynhawn ddoe, ac mae ein hadroddiad hefyd wedi’i osod er mwyn hysbysu’r Aelodau y prynhawn yma. Mae’r rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer rhoi grantiau a benthyciadau gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen. 

Mae'r rheoliadau'n disodli set flaenorol o reoliadau drafft a osodwyd ddiwedd mis Medi ac a ystyriwyd gan fy mhwyllgor yng nghanol mis Hydref. Roedd ein hadroddiad ar y fersiwn flaenorol honno o'r rheoliadau yn cynnwys nifer o bwyntiau adrodd, yn dechnegol ac yn gysylltiedig â rhinweddau. Felly, mae'r rheoliadau diwygiedig hyn yn wir wedi'u gosod i fynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwnnw, fel y nododd y Gweinidog. Yn dilyn cais gan y Gweinidog, fe hwyluswyd ein gwaith craffu ar y fersiwn ddiwygiedig fel y gallai'r ddadl hon ddigwydd y prynhawn yma a gofynnir i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau fel y gall y cynllun agor cyn diwedd 2022.

Felly, ar y rheoliadau hyn, rydym wedi gallu gosod adroddiad clir, sy'n golygu nad oes pwyntiau i'w codi, ond, Gweinidog, ein rheswm dros sefyll heddiw a dweud ychydig eiriau yw ein bod yn gobeithio y bydd yr enghraifft hon yn dangos, yn wir, werth y Senedd fel cyfaill beirniadol i Lywodraeth Cymru wrth wella'r materion hyn. Hoffwn nodi hefyd ein bod yn croesawu cynnwys asesiad effaith rheoleiddiol manwl yn y memorandwm esboniadol diwygiedig sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn, sydd mewn ymateb i bwynt adrodd 6 o'n hadroddiad blaenorol. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

Dwi wedi codi'r angen am sefydlu grŵp ymgynghorol sawl gwaith bellach, ac roeddwn i'n falch fod y grŵp ymgynghorol newydd wedi cyfarfod nôl ym mis Gorffennaf. Dwi hefyd wedi codi'r angen i sefydlu cynllun ariannu nifer o weithiau bellach. Felly, dwi'n falch fod y grŵp ymgynghorol wedi nodi'r cynllun ariannu pysgodfeydd fel blaenoriaeth, ac rydym ni wedi aros yn rhy hir yn barod am y datganiad yma heddiw, ond mae cael datganiad a chynllun i'w groesawu. Ond mae arnaf ofn nad ydy'r rheoliadau sydd yn cael eu cynnig, o leiaf ar yr wyneb, o'n blaen ni heddiw yn cyrraedd y disgwyliadau, ac ddim yn cyrraedd yr hyn roedd gennym yn flaenorol o dan y cynllun European maritime and fisheries fund, na'r cynllun pysgodfeydd a physgod cregyn cyfatebol sydd yn Lloegr. 

Disgrifir rheoliadau heddiw ynghylch cyllid ar gyfer pysgodfeydd fel rhai i gymryd lle'r EMFF sef cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop a oedd yn rhaglen ariannu wedi'i thargedu. Felly, a yw'r Gweinidog wedi ei argyhoeddi bod cynllun môr a physgodfeydd Cymru yn gwneud yr un ymyriadau wedi'u targedu i gefnogi busnesau pysgota, bwyd môr a dyframaethu yng Nghymru? Rydym eisoes bron i flwyddyn y tu ôl i'r gwledydd eraill a rhannau cyfansoddol y DU o ran cyflwyno cynllun ariannu newydd, sydd wedi rhoi pysgotwyr Cymru dan anfantais o'u cymharu â busnesau mewn mannau eraill, ac mae pryderon nad yw'r cynllun cyllido yma yn adlewyrchu'r mesurau ymyrraeth wedi'i dargedu angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn cyflawni ein dyletswyddau statudol. Yr hyn sy'n arbennig o bryderus i'r sector yw bod y cynlluniau hyn dim ond yn cynnig arian refeniw, sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar allu pysgotwyr i ddatblygu eu busnesau ac, yn wir, i ganiatáu i'r sector gyrraedd sero net. Mae'n siomedig hefyd deall y bydd yr arian yn cael ei dalu'n ôl-weithredol i bysgotwyr, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol. A yw'n realistig disgwyl i ymgeiswyr wneud taliadau, er enghraifft, cael y trefniadau ariannol ar waith i ariannu prosiect yn llawn hyd yr hawliad terfynol, cyn y gellir adennill y ganran gyfradd ymyrraeth berthnasol?

Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym nad oes ymgynghoriad wedi'i gynnal ac mae'n cyfeirio yn hytrach at 'Brexit a'n Moroedd'. Siawns na ddylid fod wedi ymgynghori â nhw am gyhoeddiad mor bwysig i'r sector hwn. Cafodd 'Brexit a'n Moroedd' ei gyhoeddi yn 2019. Ers hynny, rydym wedi cael COVID, cytundeb masnach amheus, etholiad cyffredinol Cymru, tri Phrif Weinidog a phedwar Canghellor. Mae'r byd yn lle gwahanol heddiw. Dylai pysgotwyr yng Nghymru fod yn ganolog wrth ddatblygu polisi mor bwysig.

Roedd yr EMFF blaenorol yn feichus ac yn anodd eu llywio, a arweiniodd at ddefnydd isel gan bysgotwyr yng Nghymru. Dyma gyfle i symleiddio'r broses, fodd bynnag, mae'n ymddangos i mi fod y cyfle hwn wedi'i golli, sy'n siom arall. A all y Gweinidog ein sicrhau felly, wrth i hyn fynd yn ei flaen, y bydd gwersi'n cael eu dysgu i wneud y broses ymgeisio'n haws? A pha lefel o gefnogaeth fyddwch chi'n ei roi ar waith i helpu, cynghori a chynorthwyo ymgeiswyr?

Yn wahanol i gynllun yr EMFF, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cynllun morol a physgodfeydd Cymru i gynnwys morol, pysgodfeydd a dyframaethu. Faint, felly, o'r gyllideb gyffredinol sy'n cael ei dyrannu i bob sector, a sut fydd symiau o'r fath yn cael eu gwerthuso a'u mesur? Sut creffir ar symud arian heb ei ymrwymo o un sector i'r llall a sut bydd yn cael ei gymeradwyo?

Yn olaf, o ystyried y cytundeb diweddar a chyhoeddi'r datganiad ar y cyd ar gyfer pysgodfeydd, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd cynllun morol a physgodfeydd Cymru yn cyflawni amcanion strategol Cymru ar gyfer pysgotwyr a dyframaethu? Oherwydd y materion hyn, rydym ar hyn o bryd yn ystyried pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn a byddem yn dymuno i'r materion hyn gael eu datrys cyn i reoliadau ddod i rym a bod ymgynghoriad llawn gyda'r sector, ond mae ein safbwynt yn ddibynnol, wrth gwrs, ar ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.

16:30
Member
Lesley Griffiths 16:32:39
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch yn fawr iawn, a diolch i'r ddau Aelod a gyfrannodd at y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ganiatáu i ni gael y ddadl hon heddiw drwy hwyluso'r adroddiad.

Gofynnodd Mabon ap Gwynfor gwestiynau perthnasol iawn ynghylch y rheoliadau yr ydym yn eu cyflwyno heddiw. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd gennych oedd ynghylch pam y byddai'r cynllun yn cael ei dalu'n ôl-weithredol, ac mae'n arfer safonol i dalu grantiau'n ôl-weithredol; rwy'n credu bod honno'n ffordd gydnabyddedig o ddiogelu arian trethdalwyr. Ond yr hyn y byddwn yn ei wneud yw y bydd dewis i gynorthwyo llif arian, mewn gwirionedd. Bydd dewis o gyflwyno sawl hawliad drwy gydol oes y prosiect yn hytrach na gwneud un ar y diwedd, o'r holl swm.

O ran eich cwestiwn ynglŷn â pham na fu ymgynghoriad cyhoeddus: fel y nodwyd gennych chi eich hun, roeddem wedi cael yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd', ac roedd gan hynny adran benodol iawn ar gyllid yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod yr ymatebion i'r cwestiynau oedd gennym wedyn yn dal yn berthnasol nawr, ac mae'r cwestiynau a ofynnwyd wedi eu hystyried wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Rwy'n credu bod natur ailadroddol y cynllun yn benthyg ei hun yn fwy i ymgysylltu manwl â rhanddeiliaid, yn hytrach nag ymgynghoriad untro.

O ran symleiddio, wyddoch chi, rwy'n cytuno â chi ar hynny: peidiwch â gwneud pethau'n rhy gymhleth. Byddwn i wir yn dadlau bod cymhlethdod y cynllun yn y cefndir, er mwyn sicrhau bod gennym yr hyblygrwydd hwnnw'n llwyr sydd ei angen arnom. Y bwriad yw gwneud y broses ymgeisio, ar gyfer unrhyw rownd ariannu benodol, mor syml â phosibl, fel y gallwn gyflawni ei hamcan. Mae grŵp cynghori rhanddeiliaid penodol, fel y gwyddoch, wedi'i sefydlu, a bydd y grŵp hwnnw—yr hyn rwyf wedi gofyn amdano yw a ydyn nhw'n gallu nodi blaenoriaethau wrth symud ymlaen.

Fe wnaethoch chi ofyn am yr hyn y bydd y cynllun yn ei gyflwyno, a'r hyn y byddaf yn ceisio ei sicrhau yw ei fod yn un cynllun, ond bydd yn addasadwy i newidiadau o fewn y fframwaith deddfwriaethol, oherwydd mae yna ddeddfwriaeth o hyd, yn amlwg, i ddod ymlaen, ac mae hynny'n cynnwys rheoli cymhorthdal, anghenion y sector, blaenoriaethau'r Llywodraeth, a chyfyngiadau cyllidebol. Bydd pob rownd ariannu yn targedu amcanion polisi penodol o fewn cwmpas cyffredinol y cynllun, ac yna byddai hynny'n caniatáu cyflawni'r ddarpariaeth hyblyg honno rwy'n credu bod angen i ni chwilio amdano.

Nod y cynllun yw rhoi'r cyfle a'r hyblygrwydd i Weinidogion Cymru i roi cymorth ariannol dros ystod eang o feysydd pwnc o fewn sectorau morol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru. Mae angen i ni allu buddsoddi'n strategol, rwy'n credu, ar gyfer y tymor hir, ac addasu i heriau a chyfleoedd tymor byr, a wir i gefnogi ein cymunedau arfordirol, oherwydd yn sicr mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw ac, wrth gwrs, yr amgylchedd morol. Rydym wir eisiau i'r ddau o'r rheiny ffynnu ar y cyd, a byddaf yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei werthuso o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddiannus, felly byddwn yn sicr yn dysgu gwersi ar hyd y ffordd. Diolch.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Eitem 8 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae diwrnod rhyngwladol pobl anabl ar 3 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd nodi'r diwrnod hwn, gan ei fod yn ein helpu i dynnu sylw at faint o bobl yr effeithir arnyn nhw gan wahaniaethu ar sail anabledd.

Ers ei lansio gan y Cenhedloedd Unedig yn 1992, ar draws y byd i gyd, mae'r diwrnod hwn wedi cynrychioli cam hanfodol tuag at hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl ac mae'n ein hatgoffa ni i weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo hawliau dynol sylfaenol, a'r angen i bobl anabl gael rhyddid llwyr.

Eleni, y thema yw atebion trawsnewidiol ar gyfer datblygiad cynhwysol: swyddogaeth arloesedd wrth gynnal byd hygyrch a chyfartal. Gall technoleg addasol a chynorthwyol gynnig llawer o atebion i wneud yr amgylchfyd gwaith a chymdeithasol yn hygyrch i bawb. Bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â rhai o'r technolegau hyn, ac roeddwn yn arbennig o falch o ganfod bod y fersiwn ddiweddaraf o'n meddalwedd prosesu geiriau bellach yn cynnwys swyddogaeth testun i leferydd a lleferydd i destun—dewisiadau a oedd yn ddrud iawn o'r blaen.

Rhaid i bob democratiaeth gynrychioliadol adlewyrchu'r holl gymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn llawn, ac rydym ni'n gwybod bod pobl anabl yn cael eu tangynrychioli'n enfawr ym mhob corff etholedig ledled Cymru. Gall pobl anabl wynebu costau llawer uwch wrth ymgeisio am swydd, a dyna pam yr ydym wedi creu'r mynediad at gronfa swydd etholedig. Gellir defnyddio'r gronfa hon i brynu offer a meddalwedd arbenigol addasol a chynorthwyol ac mae eisoes wedi gwneud gwahaniaeth materol i lawer o bobl a oedd yn ymgeisio yn yr etholiadau lleol diwethaf.

Rwy'n falch iawn o gael bod yn bresennol yn y digwyddiad Canolfan Byw'n Annibynnol Dewis yng Nghaerdydd ddydd Iau, 1 Rhagfyr gyda fy nghyd-Weinidog Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae Dewis yn sefydliad sy'n cael ei reoli gan bobl anabl. Mae'n darparu cymorth hanfodol i bobl anabl sy'n cael taliadau uniongyrchol. Yn eu digwyddiad, byddwn yn siarad am bwysigrwydd hanfodol gwreiddio'r model cymdeithasol o anabledd ym mhob rhan o'n cymdeithas ac ehangu'r defnydd o daliadau uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru yn eiriolwr pybyr dros hawl pobl i reoli eu bywyd eu hunain, ac i lawer o bobl anabl, gall cael taliadau uniongyrchol fod yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod yma. Mae'n hanfodol bod pobl sy'n cael cynnig taliadau uniongyrchol yn gwbl ymwybodol o'u budd-daliadau a'r gefnogaeth y gallan nhw eu cael i sicrhau eu bod yn gweithio. Yng Nghymru, penderfynwyd cynyddu'r nifer sy'n cael taliadau uniongyrchol ac rydym wedi ymrwymo i nodi a dileu'r holl rwystrau sy'n cyfyngu ar eu defnydd.

Yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i wella'r rhyngwyneb gofal iechyd a thaliadau uniongyrchol parhaus. Ar hyn o bryd, ni all unigolyn sy'n cael gofal iechyd cymunedol yng Nghymru ddewis cael taliadau uniongyrchol i'w alluogi i gynllunio ar gyfer diwallu ei anghenion cymdeithasol a'i anghenion gofal iechyd ei hun. Rydym wedi ymrwymo i newid hyn ac yn ddiweddar rydym wedi cynnal ymgynghoriad a gynigiodd sawl newid i ddeddfwriaeth sylfaenol mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus y GIG yng Nghymru, a byddwn yn adrodd yn ôl maes o law.

Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cefnogi pobl anabl, ac fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am gyfiawnder cymdeithasol, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer i'w wneud eto. Yn 2019, fe wnaethom ni lunio fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, ond mae ffordd bell i fynd eto. Gwyddom fod llawer o bobl anabl yn dal i gael eu hatal rhag gwneud penderfyniadau sylfaenol ynghylch eu bywydau eu hunain, fel pwy sy'n eu cynorthwyo gyda gofal personol, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.

Yn sgil trychineb COVID, a effeithiodd ar gynifer o bobl anabl, fe wnaethom gomisiynu'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.' Roedd yr adroddiad hwn yn nodi'n gryf sut yr oedd pobl anabl yn aml yn cael eu rhoi mewn sefyllfa llawer mwy ansicr yn ystod y pandemig, a sut y cyfrannodd y sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol hyn at 68 y cant o farwolaethau COVID ymhlith ein cymuned anabl. O ganlyniad i'r adroddiad hwn, gwnaethom sefydlu'r tasglu hawliau anabledd, ac rwy'n falch o ddweud bod y tasglu a'i holl weithgorau yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn datblygu atebion i herio'r rhwystrau strwythurol, corfforol ac agweddol y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru benderfyniad ar y cyd i gryfhau hawliau pobl anabl ac i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maen nhw'n parhau i'w hwynebu a gyda'i gilydd, byddwn yn sicrhau llwyddiant y tasglu dros hawliau anabledd.

Hybu a gwreiddio'r model cymdeithasol o anabledd, yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ledled Cymru, yw blaenoriaeth gadarn y Llywodraeth hon. Trwy helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddeall eu rhan wrth ddileu'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, gall newid go iawn ddigwydd. Drwy gyd-gynhyrchu gyda'r tasglu, rydym wedi comisiynu Anabledd Cymru, sydd bellach yn cyflwyno digwyddiadau hyfforddi cyffrous ac arloesol, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Mae gan bobl anabl yr hawl i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru a holl gyrff cyhoeddus Cymru fodelu'r newid hwn drwy eu hymddygiad eu hunain. Yn aml, mae pobl anabl yn gweld nad yw gwahaniaethu ar sail anabledd yn cael ei gymryd o ddifri i'r un graddau â mathau eraill o ragfarn. Rhaid i hyn newid. Dylem ni amlygu gwahaniaethu bob amser, sefyll yn erbyn arferion annerbyniol, a helpu i sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed. Rydym ni'n gweithredu drwy ddarparu arweinyddiaeth a modelau ymddygiad y mae gan bobl anabl yr hawl i'w disgwyl gan sefydliadau ac unigolion ledled Cymru.

Mae gennym dipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn ddatgan bod pobl anabl wedi cael eu rhyddhau o'r gorthrwm sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ar bob tro. A gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'n llawn i gyrraedd y nod hollbwysig hwn. Hoffwn ddod i ben drwy ddiolch i'r fforwm cydraddoldeb anabledd, y tasglu hawliau anabledd, ac aelodau o'i weithgor, am eu dycnwch a'u hymrwymiad parhaus i hawliau anabledd. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n bleser cydnabod pwysigrwydd diwrnod rhyngwladol pobl anabl ac ymdrechion parhaus pawb sy'n gweithio, ddydd ar ôl dydd, i hyrwyddo, amddiffyn a hybu hawliau pobl sy'n byw gydag anableddau. Flwyddyn yn ôl, cawsom y datganiad hwn, fel y cawn bob amser, ac, yn y drafodaeth honno y llynedd, gofynnais i'r Gweinidog beth sydd wedi newid er gwell a beth mae hi wedi'i wneud i wella bywydau pobl anabl dros y 12 mis diwethaf. A allai ddweud hynny nawr?

Gofynnais hefyd a fyddai'r Gweinidog yn adolygu effeithiolrwydd yr amddiffyniadau deddfwriaethol a roddir i bobl anabl yng Nghymru, a byddwn yn gofyn iddi ystyried hyn gan ystyried profiadau pobl ddall yng Nghymru. Yn ddiweddar, cwrddais ag ymgyrchwyr i gefnogi gwaith Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall i dynnu sylw at yr hawl i gŵn tywys fynd i mewn i siopau, caffis a busnesau eraill. A gaf i ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ystyried a fu tresmasu ar hawliau'r rhai sy'n ddall, ac os felly, pa gamau y gallai eu cymryd i weithio gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain a Ffederasiwn y Busnesau Bach i hyrwyddo safonau, parch a gwell dealltwriaeth? Mae'n syfrdanol yn 2022 y gallem barhau i weld byd lle mae siopau a busnesau yn dal i wrthod mynediad i bobl â chŵn tywys, hyd yn oed pan fo dyletswyddau cyfreithiol i ganiatáu mynediad. Os ydym ni eisiau gwneud pethau ystyrlon, gadewch i ni nodi'r her y mae pobl yn dal i'w hwynebu, a gwneud yr hyn a allwn i'w cywiro. Diolch Llywydd.

Diolch yn fawr, Altaf, a diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Ydi, mae hwn yn ddatganiad blynyddol pwysig rwy'n ei wneud, a hoffwn adrodd ar rai o'r camau sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, sef gweithredu gyda phobl anabl. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt pwysicaf. Mewn gwirionedd, rwy'n cyd-gadeirio'r tasglu hawliau anabledd gyda'r Athro Debbie Foster, ac ar y ffrydiau gwaith sydd bellach ar y gweill, hoffwn adrodd yn gyflym iawn ar rai o'r datblygiadau.

Fe'i sefydlwyd y llynedd, 2021, yn dilyn yr adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', a grybwyllais yn fy natganiad. Fe wnaethom, o ran y tasglu hwnnw, ddiffinio nodau a gweithredoedd allweddol mewn gwirionedd i gyflawni gwelliannau. Dyna pam yr ydym ni'n gweithio i roi pobl anabl yn ganolog i'n cynlluniau o ran eu hawliau. Mae'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud mewn gwirionedd yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd, gan hefyd sicrhau bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cael ei gyd-gynhyrchu. Mae gennym flaenoriaethau ar gyfer y tasglu hwn, ac mewn gwirionedd, ym mis Chwefror eleni, y ffrydiau gwaith y cytunwyd eu bod yn flaenoriaeth oedd: ymwreiddio a deall y model cymdeithasol o anabledd ledled Cymru; mynediad at wasanaethau, gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg; byw'n annibynnol, iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol. Dyna'r blaenoriaethau allweddol gafodd eu nodi a'u cyd-gynhyrchu â phobl anabl. Mae ganddyn nhw weithgorau, sydd ar waith. Cynhaliwyd hyfforddiant, ac rwy'n credu i mi grybwyll yn gynharach y modiwl hyfforddi pwysig y mae Anabledd Cymru wedi'i ddatblygu. Mae'n ddiddorol hefyd bod y contract hwnnw o ran mynediad at wasanaethau, er enghraifft cyfathrebu a thechnoleg, hefyd yn dylanwadu ar yr holl weithgorau.

Mae'n hollol iawn eich bod wedi codi'r mater am anghenion pobl ddall ac â nam ar eu golwg. Roeddwn yn falch iawn o gael ymgysylltu â Chŵn Tywys mewn digwyddiad diweddar yn y Senedd. Rwyf wedi cyfarfod hefyd, drwy'r fforwm cydraddoldeb anabledd, gyda'n cydweithwyr o'r sector—RNIB ac eraill, Cŵn Tywys i'r Deillion. Mewn gwirionedd, un o'r cyfarfodydd pwysicaf a gawsom yn ddiweddar oedd ynghylch hygyrchedd trafnidiaeth, dan arweiniad y sector allweddol a'r gweithredwyr hawliau anabledd yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n gwneud cynnydd. Mae'n ymwneud â dysgu a gwrando mewn gwirionedd a dylanwadu ar y rhai sydd â'r pŵer i wneud y newidiadau. Yn y cyfarfod hwn o ran trafnidiaeth, cyfarfu fy nghyd-Weinidog Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, hefyd â rhai o aelodau'r fforwm cydraddoldeb anabledd, a oedd yn sôn am bwysigrwydd eu grŵp mynediad hirsefydlog, sydd wrth gwrs yn dylanwadu ar bolisi, ac yn enwedig mewn cysylltiad â thrafnidiaeth. Ond wrth gwrs, mewn gwirionedd mae'n ymwneud ag anghenion pobl yn y gymuned, mewn mannau cyhoeddus, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gweld hyn o ran y gwaith sy'n cael ei wneud gan y tasglu.

Felly, wyddoch chi, mae cynnydd yn cael ei wneud. Diolch i chi am eich pwyntiau heddiw. Ond hefyd, rwy'n credu bod y fforwm cydraddoldeb anabledd a'r tasglu'n dylanwadu ar ein hagenda hawliau dynol hefyd, gan eu bod yn rhan o'n grŵp cynghori ar hawliau dynol. Maen nhw hefyd yn ein cynghori ni—ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig o ran yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf—ar yr argyfwng costau byw a'r effaith mae'n ei gael ar fywydau pobl anabl, a sut gallwn ni wedyn rannu hyn, nid yn unig gyda fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, ond yr holl gyrff cyhoeddus hynny sydd â chyfrifoldeb.

16:45

Diolch am y datganiad, Weinidog. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae biliwn o bobl, neu 15 y cant o boblogaeth y byd, â rhyw fath o anabledd. Mae nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl nid yn unig yn gyfle i sicrhau ein bod yn cofio pwysigrwydd sicrhau tegwch a chyfle cyfartal i bobl anabl yma yng Nghymru, ond hefyd i'r biliwn o bobl ar draws y byd sy'n wynebu anghydraddoldebau ac anghyfiawnder o bob math o ddydd i ddydd. Dwi eisiau inni ddal ymlaen i'r elfen ryngwladol yna, a hefyd ddal ymlaen i'r ffaith bod yna fwlch, yn aml, rhwng profiadau pobl anabl a datganiadau'r rhai sydd mewn grym.

Mae'n rhaid sôn, â llygaid Cymru ar Qatar heddiw, a'n Gweinidog economi yno, am genhedloedd sydd ddim yn cydnabod anableddau yn gywir, ac felly ddim yn cefnogi pobl anabl yn ddigonol er gwaetha eu datganiadau am bolisïau blaengar—y bwlch yna eto rhwng rhethreg Llywodraethau a phrofiadau pobl anabl eu hunain. Mae Disability Rights UK, er enghraifft, wedi cwestiynu agwedd Qatar tuag at eu dinasyddion anabl, gan eu bod yn honni mai dim ond 0.5 y cant o'i phoblogaeth sydd yn anabl, sydd yn anghyson iawn â'r norm rhyngwladol o rhwng 15 i 25 y cant. A dywed Disability Rights UK mai haint a ffactorau genetig sy'n gyfrifol yn bennaf am anableddau yn ôl gwefan Llywodraeth Qatar, tra mai anafiadau sy'n achosi rhwng traean a 50 y cant o anableddau fel arfer.

Rŷn ni wedi clywed Llywodraeth Qatar heddiw yn cydnabod bod cannoedd o bobl wedi marw wrth wneud y gwaith adeiladu ar gyfer y cwpan byd hwn. Yna mae'n sicr, medd Disability Rights UK, bod yna filoedd yn fwy wedi dioddef anafiadau yn ystod y gwaith yma a fyddai wedi achosi anableddau. Mae eu tynged a'u hanghenion nhw yn gudd, tra bod yr hyn sydd yng ngolwg y byd yn sgleiniog, gyda'r cyfleusterau ar gyfer cefnogwyr anabl yn y cwpan byd hwn gyda'r gorau a fu erioed yn hanes y gystadleuaeth, sydd i'w groesawu wrth gwrs, ond clywed lleisiau pobl anabl a chydnabod eu profiad sy'n hollbwysig yn Qatar, fel yma yng Nghymru. Nid diffyg mynediad llythrennol yn unig i adeiladau ac yn blaen—er bod, wrth gwrs, angen edrych ar hynny—ond gwerthoedd cymdeithas, polisïau cymdeithasol ac economaidd sy'n cau pobl mas ac yn creu anghydraddoldeb a diffyg cyfleon i gyflawni potensial.

Mae Gweinidog yr Economi wedi datgan y bore yma bod y cysylltiadau rhwng Cymru a Qatar i gael eu datblygu. Os ydym o ddifri am yr ymrwymiad yn ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol i fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang a chyfrannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang, ydych chi'n cytuno, Weinidog, bod rhaid i ni ddwysystyried y math o wledydd rydym yn creu perthynas economaidd gyda nhw, os yw'n geiriau a'n dyheadau yn cyd-fynd gyda'n gweithredoedd? Ydych chi wedi cael sgwrs gyda'ch cyd-Weinidog am hynny, Weinidog?

Mae Plaid Cymru, fel gwnaethoch chi sôn, yn hynod falch o'r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio gyda'r Llywodraeth i gryfhau hawliau pobl anabl yng Nghymru a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w hwynebu, ac i sicrhau llwyddiant y tasglu hawliau anabledd a sefydlwyd i ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo'. Roedd yr adroddiad hwnnw yn dangos yn glir bod hawliau, lles ac urddas pobl anabl, hyd yn oed mewn cenedl fel Cymru, yn llawer rhy fregus, ac ar gyfnod o argyfwng, yn aml yn cael eu hesgeuluso neu eu gadael ar ôl. Nawr, fel y sonioch chi, mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng economaidd yn taro pobl anabl yn galetach. Felly, hoffwn ofyn, Weinidog: sut yn benodol mae gwaith y tasglu yn sicrhau nad yw'r drws ar glo yn ystod yr argyfwng economaidd yma?

Rhywbeth arall byddwn i'n hoffi deall yw: gwnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd cyfraith a hawliau dynol rhyngwladol yn hyn o beth, felly a fyddai'n bosib cael rhyw fath o amserlen neu amserlun ar gyfer mewngorfforiaethu confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, rhywbeth sydd wrth gwrs wedi cael ei addo yn y rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.

16:50

Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch i chi am daflu'r goleuni hwn ar y cyd-destun rhyngwladol, y cyd-destun byd-eang hwnnw o'r biliwn o bobl anabl ar draws y byd. Diolch am ganolbwyntio ar yr elfen ryngwladol honno, fel cenedl sy'n edrych tuag allan, ac yn wir, ennyn diddordeb ar draws y byd. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth Disability Rights UK hefyd yn bwysig iawn o ran y sefyllfa yn Qatar a chwpan y byd. Oes, mae gennym gyfrifoldeb gwirioneddol nawr i'w ddatblygu. Byddaf yn trafod hyn gyda'r Gweinidog Economi ar ôl iddo ddychwelyd o ran y materion sydd wedi'u hamlygu. Mae hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n siŵr y bydd cymaint o'r cyfrifoldeb a diddordeb ac ymgysylltiad y Cymry sydd allan yna nawr yn cael eu cyflwyno yn ôl i ni ac mi fyddwn ni'n cymryd rhan yn y ffordd yna.

Diolch, hefyd, am gydnabod ei bod yn dda bod hyn yn rhan o'n cytundeb cydweithredu, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y tasglu hawliau anabledd yn cyflawni. Rwy'n credu pan oedd pobl anabl yn teimlo eu bod wedi cael eu hynysu, nid oedd yn cael ei gydnabod yn llawn sut y cafodd COVID effaith arnyn nhw. Dyna pam y gwnaethom gomisiynu'r adroddiad hwn a dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn cyflawni'r adroddiad hwnnw, yn debyg iawn i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'—bod hyn yn ymwneud â gweithredu, gweithredu argymhellion, cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â phobl anabl i wneud hynny yng Nghymru. Yr ymateb a gawsom yng nghyfarfod ein tasglu diwethaf gan bobl anabl oedd eu bod, oeddent, yn gweld bod newid, ein bod yn sicrhau bod ein holl swyddogion a'n holl gyrff cyhoeddus yn deall beth mae'n ei olygu i fod yn anabl oherwydd cymdeithas, a bod yn rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hynny.

Wrth gwrs, nawr mae pwysau ychwanegol penodol ar bobl anabl o ganlyniad i'r argyfwng costau byw, felly rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth pan fyddwn ni—. Er enghraifft, mae cyfleoedd wedi bod i ehangu cyrhaeddiad ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf, felly rydym yn estyn allan at bobl anabl, hefyd. Mae pobl sydd ar daliadau annibyniaeth bersonol a budd-daliadau anabledd wedi'u cynnwys yn ein cymorth tanwydd gaeaf, wedi'u cynnwys yn y cymhwysedd ehangach, ac mae hynny hefyd o ran lwfans gweini a lwfans gofalwyr, hefyd. Rydym ni'n edrych ar yr holl ddulliau eraill, ffyrdd a liferi yr ydym ni'n eu defnyddio i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed, y rhai sydd fwyaf difreintiedig. Unwaith eto, mae ein cronfa cymorth dewisol, sy'n ei gwneud yn fwy hyblyg i gael cymorth brys. Mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, estyn allan at bobl nad ydyn nhw ar y grid. Fe fydd hyn yn cynnwys pobl anabl drwy Gymru gyfan ym mhob cymuned; mae angen i ni estyn allan atyn nhw.

Rwy'n credu, hefyd, dim ond i gydnabod mai dyma pryd, o ran yr argyfwng costau byw, yr ydym yn siarad drwy'r fforwm cydraddoldeb anabledd beth mae'n ei olygu i bobl anabl, sut allwn ni gefnogi, a beth yw'r ymatebion gorau. Rydym wedi trafod hyn hefyd yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector. Mae cydnabyddiaeth bod angen gwres ychwanegol ar gyfer pobl anabl, o ran cadw'r tymheredd yn sefydlog, angen defnyddio mwy o danwydd. Mae plant anabl a phobl ifanc yn aml mewn addysg arbenigol, lleoliadau seibiant, gydag apwyntiadau meddygol amlach, mynediad at drafnidiaeth—mae'r holl bethau hyn yn hanfodol o ran y ffordd rydym ni'n symud hyn ymlaen.

Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais, bod pobl anabl ac aelodau fforwm cydraddoldeb anabledd yn weithgar yn ein grŵp cynghori ar hawliau dynol yr ydym wedi'i sefydlu. Rydych chi'n gwybod ein bod wedi ymrwymo o ran confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig, yn wir, nifer o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig hynny, yng nghyfraith Cymru. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori ar hawliau dynol i ystyried hyn, gan gynnwys hawliau pobl hŷn hefyd, yn ogystal â'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a dileu pob math o wahaniaethu ar sail hil. Ond erbyn hyn mae gennym grŵp cynghori sy'n cynnwys y bobl anabl hynny sydd—. Mae'n weithgor bach fel is-bwyllgor o'r grŵp cynghori ar hawliau dynol. Rydym ni'n bwriadu archwilio dewisiadau deddfwriaethol i gyflawni ein rhaglen, ond hefyd, rydym ni'n adolygu, sy'n bwysig yn fy marn i nawr a sut mae pobl yn byw nawr, gyda'r pwerau sydd gennym ni—. Rydym yn edrych ar adolygiad o'n dyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran adolygu'r rheoliadau y gwnaethom eu cyflwyno yn 2011.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw ac am y gefnogaeth yr ydych chi wastad wedi ei dangos i bobl anabl. Mae gennyf i ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu codi, yn gyntaf o ran y gronfa mynediad i swydd etholedig. Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad at y gronfa mynediad i swydd etholedig. Ychydig dros chwe mis sydd bellach ers y set ddiwethaf o etholiadau cyngor yng Nghymru. Pa asesiad a wnaed o ran llwyddiant y gronfa o ran cefnogi pobl ag anableddau i sefyll mewn etholiad ac, yn wir, i gael gwared ar rwystrau fel y gellir eu hethol mewn gwirionedd? Ac oes yna unrhyw elfennau o ddysgu a fydd yn cael eu hymgorffori cyn y set nesaf o etholiadau yng Nghymru?

Yn ail, mae gennyf gwestiwn ynghylch rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd. Rwy'n ymdrin ag achos ar hyn o bryd lle mae etholwr sy'n hollol fyddar yn wynebu trafferthion o ran mynediad at wasanaethau meddyg teulu, gan fod eu meddyg teulu'n awyddus iddyn nhw gael eu brysbennu dros y ffôn, rhywbeth nad yw'n ymarferol i fy etholwr. Felly, hoffwn ofyn pa drafodaethau y gallech fod wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn fformat y gall pobl ag anableddau gael mynediad atyn nhw.

Ac yn olaf, Gweinidog—

17:00

Diolch yn fawr iawn yn wir, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn pwysig yna. Mae'r etholiadau a chanlyniad yr etholiadau hynny'n bwysig. Mewn gwirionedd, mae hwn yn rhywbeth yr wyf yn rhannu'r cyfrifoldeb amdano gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; mae hi'n edrych ar hyn yn benodol o ran ein cronfa mynediad i swydd etholedig o ran amrywiaeth a'n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth, ac rwy'n gwybod bod ganddi—. Mae arolwg wedi ei gynnal o gynghorwyr o'r etholiad diwethaf. Roedd cyflwyno'r gronfa mynediad i swydd etholedig Cymru—cynllun treialu honno—yn bwysig iawn ar gyfer yr etholiadau diwethaf. Mewn gwirionedd, fe wnaeth helpu'r etholiadau fis Mehefin diwethaf, yn 2021—roedd ar gael—ac etholiadau 2022 Mai eleni.

Ond hefyd, yn ddiddorol, Anabledd Cymru sy'n rheoli'r gronfa, ac fe gafodd 21 cais gan ymgeiswyr a oedd yn sefyll yn y Senedd y llynedd, ond hefyd etholiadau prif gynghorau, cynghorau tref a chymuned eleni. Deallaf i fod chwech o'r unigolion a gafodd y gefnogaeth wedi'u hethol yn llwyddiannus, i gyd i'r cynghorau cymuned. Dim ond camau cynnar iawn, iawn yw'r rhain, ac mae adolygiad o'r trefniadau yr ydym ni'n eu cyflawni, gan edrych ar agweddau cadarnhaol—adborth, eto, gan bobl anabl. Ond rwy'n credu bod gennym ymrwymiad nawr—. Wel, yn amlwg mae gennym ymrwymiad i'n rhaglen lywodraethol i archwilio ymestyn y gronfa mynediad i swydd etholedig. Mae'n rhaid i Gymru gael ei chynrychioli, onid oes, ar bob lefel o ddemocratiaeth, gan holl bobl Cymru, ac mae'n rhaid i bobl anabl fod yno, felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo hyn. Rydym yn cynnal gweithdai ym mis Rhagfyr eleni i edrych ar hyn ac i ddysgu, unwaith eto, oddi wrth bobl anabl am y gronfa a mynediad.

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â mynediad at wasanaethau iechyd. Rwyf wedi sôn am y tasglu anabledd, ac mae gennym weithgor, fel y soniais i, ffrwd waith ar fynediad at wasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys cyfathrebu a thechnoleg. Felly, mae hyn yn hanfodol bwysig i'ch etholwr gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Oherwydd y datganiad hwn heddiw, byddaf yn cyflwyno adborth ac yn codi'r mater hwn, nid yn unig drwy'r gweithgor gyda phobl anabl, ond yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Dywedwch yn eich datganiad fod 

'Llywodraeth Cymru yn eiriolwr pybyr dros hawl pobl i reoli eu bywyd eu hunain, ac i lawer o bobl anabl, gall cael taliadau uniongyrchol fod yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod yma.' 

Ond eto, er gwaethaf Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n rhoi sylw i hyn, ac yn ymgorffori llawer o fy Mil Aelod preifat, a gynigiwyd cyn hynny ar y materion hyn, mae rhyw 3 y cant yn unig o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru ar hyn o bryd yn dal i gael taliadau uniongyrchol. Felly sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Anabledd Cymru, rwy'n dyfynnu:

'Nid ydym yn gweld strategaeth glir o daliadau uniongyrchol yn cefnogi pobl anabl i fynd â nhw ymlaen nac i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r pryderon neu'r rhwystrau sy'n cael eu codi gan bobl anabl. Mae rhai pobl anabl nad ydyn nhw'n ymwybodol o fodolaeth taliadau uniongyrchol, na sut y gallan nhw gael gafael arnyn nhw'?

Fy ail bwynt, a'r un olaf yw, rydych yn dweud yn eich datganiad fod:

'Hybu a gwreiddio'r model cymdeithasol o anabledd, yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ledled Cymru, yw blaenoriaeth gadarn y Llywodraeth hon.'

Sut ydych chi, felly, yn ymateb i bryder a fynegwyd heddiw gan Anabledd Cymru—pryder penodol nad oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael; mae diffyg pwynt gwybodaeth hawdd ei gyrraedd i weld hawliau; er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol, rydym yn dal i weld nad yw Cymru'n cyflawni ymrwymiadau o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl; ac yn hollbwysig, nid oes ganddyn nhw wybodaeth glir ynghylch y ffrâm amser ar gyfer ymgorffori'r confensiwn, ac er— 

17:05

Fe orffennaf i.

—ac er eu bod yn disgrifio sefydlu'r tasglu hawliau anabledd fel arfer da, maen nhw'n dweud bod bwlch gweithredu rhwng y polisi a ddatblygwyd ac effaith hwnnw ar bobl anabl yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am y cwestiynau pwysig iawn yna am daliadau uniongyrchol. Unwaith eto, fel yn y cwestiynau blaenorol rydw i wedi'u cael heddiw, mae llawer o'r rhain yn gyfrifoldebau sy'n cael eu rhannu â Gweinidogion eraill yn Llywodraeth Cymru. Felly, mae'r taliadau uniongyrchol yn dod o dan fy nghyd-Weinidog, Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn fy natganiad, rwy'n siarad am y ffaith ein bod ni gyda'n gilydd, yn mynd i siarad yn Dewis, y sefydliad annibynnol a reolir gan bobl anabl, am sut y gallwn wella'r niferoedd sy'n defnyddio taliadau uniongyrchol yng Nghymru.

Wyddoch chi, mae'n hanfodol bod modd cynnig taliadau uniongyrchol a'u bod yn cael eu defnyddio fel ffordd a ffefrir gan bobl ar gyfer byw eu bywydau, ac, fel y dywedais i, ei fod yn gyson iawn, fel y gwnaethoch chi, wrth gwrs, gydnabod, â'r model cymdeithasol o anabledd. Felly, rydym wedi cyd-gynhyrchu a chyhoeddi cyngor clir a chryno am daliadau uniongyrchol, ac mae hynny'n ceisio chwalu rhai o'r mythau a'r camsyniadau a allai fod wedi datblygu ynghylch taliadau uniongyrchol. Felly, mae'n ymrwymiad ac mae'n dda gallu cryfhau'r ymrwymiad drwy fy ymateb i'ch cwestiynau heddiw i ehangu'r defnydd o daliadau uniongyrchol.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn gydnabyddiaeth fod hon yn alwad allweddol gan bobl anabl yng Nghymru, fel y dywedwch chi. Felly, yn amlwg, rydym yn croesawu unrhyw ddatganiadau neu unrhyw alwadau am weithredu gan Anabledd Cymru ac oddi wrth ein cydweithwyr yn y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl. Wrth gwrs, gall taliadau uniongyrchol mewn gwirionedd helpu i ddiwallu anghenion unigol pobl o ran gofal a chefnogaeth, ac mae'n ddewis arall yn lle gofal neu gymorth sy'n cael ei drefnu gan awdurdodau lleol; mae'n rhoi mwy o ddewis i bobl, mwy o hyblygrwydd a mwy o reolaeth dros y gefnogaeth y gallan nhw ei gael. Felly, mae cael yr ymateb a'r gefnogaeth heddiw ar gyfer y camau yr ydym ni'n eu cymryd, eto ar draws y Llywodraeth, i gyflawni hyn yn hanfodol bwysig, ond mae angen i ni allu cefnogi pobl a gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr—ac mae hyn yn ysbryd ac, yn wir, bwriad y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.

Rwyf wedi ymateb i'r gwaith pwysig sydd wedi cael ei wneud gan ein grŵp cynghori ar hawliau dynol gyda'r gweithgor hwnnw sydd wedi'i sefydlu, ac mae Anabledd Cymru yn cael ei gynrychioli ar hynny o ran ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig i gyfraith Cymru. Mae'n daith hir, ond rydym ni'n gweithio i'w chyflawni.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a diolch am bopeth sydd wedi'i wneud hyd yma, ond mae'n amlwg yn glir, fel yr ydym i gyd yn cydnabod yn y Siambr hon heddiw, bod mwy i'w wneud o hyd. Mae'r pwnc heddiw yn un pwysig. Roedd adroddiad 'Drws ar glo' y Senedd yn 2021 y gwnaethoch sôn amdano, Gweinidog, wedi dod â chanfyddiadau pryderus iawn i'r amlwg. Canfu'r adroddiad fod bron i 42 y cant o bobl anabl wedi profi lefelau canolig i uchel o bryder, o'i gymharu â 29 y cant o bobl nad ydyn nhw'n anabl.

Nid yw dod allan o'r pandemig, cael mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol, sydd wedi'i gydnabod ers amser maith yn weithgarwch credadwy ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd, salwch meddwl ac ynysigrwydd, erioed wedi bod yn bwysicach. Mae data wedi dangos bod pobl anabl ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn segur yn gorfforol, i raddau helaeth oherwydd diffyg cyfleusterau chwaraeon lleol addas. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon, byddwn yn cael tystiolaeth ar hyn cyn bo hir, ac edrychaf ymlaen at rannu hynny gyda chi a'r tasglu. 

Ond, Gweinidog, rwy'n eich cyfeirio at y gwaith a wnaed gan ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru—mae fy nghwestiwn ar hwn—a'r mentrau cadarnhaol y maen nhw yn eu cyflawni, megis cydweithio â Chwaraeon Cymru ar gyflawni'r prosiect 'insport', sy'n ceisio cefnogi'r sectorau chwaraeon a hamdden i ddarparu gwasanaethau sy'n cynnwys pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys datblygu pecyn cymorth. Ar hyn o bryd mae 50 clwb allan o 5,000 o glybiau chwaraeon yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel efydd honno. Gweinidog, mae hyn yn golygu mai dim ond 2.6 y cant o glybiau chwaraeon yng Nghymru sydd â'r achrediad chwaraeon pwysig hwn, ac nid yw hynny'n ddigon da. A minnau wedi gweithio i—

17:10

—clwb chwaraeon fy hun, y rhwystr mawr, yn amlwg, yw cyllid. Gweinidog, a fydd eich Llywodraeth yn ymrwymo heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, i gefnogi'r fenter insport hollbwysig hon sydd â'r potensial i wneud cymaint yn wahanol i lawer yn briodol ac yn ariannol? Ac os caf fi, Dirprwy Lywydd, sut ydych chi'n gweithio gyda'r Senedd Ieuenctid i sicrhau bod eu safbwynt nhw—bydd yn ddiddorol iawn wrth ddatblygu'r strategaeth? Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Fel y dywedais i fwy nag unwaith yn fy natganiad, yn amlwg mae angen gwneud mwy, ac mae'r dystiolaeth gyda 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', mae gennym ni'r tasglu, ac rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Felly, fe wnaf i gymryd yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw yn ôl, pan wnaethoch chi alw ar rôl Chwaraeon Anabledd Cymru, ac yn wir byddaf yn hapus iawn, eto, i weithio gyda fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden ar hyn, oherwydd mae hyn mewn gwirionedd yn fater traws-Lywodraethol eto. Yn wir, rwy'n siŵr y bydd un ohonom ni neu'r ddwy ohonom eisiau ymuno â'r grŵp trawsbleidiol rywbryd.

Rwy'n falch iawn hefyd eich bod chi wedi sôn am leisiau pobl ifanc a phlant anabl er mwyn i ni allu edrych nid yn unig ar y Senedd Ieuenctid, ond y gwaith sy'n cael ei wneud gan Plant yng Nghymru—er enghraifft, yr arolygon maen nhw'n eu cynnal gyda phlant a phobl ifanc ar hyn o bryd. Mae'r comisiynydd plant newydd gwblhau ei hadolygiad a'i harolwg cyntaf gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys plant a phobl ifanc anabl, felly byddaf yn dilyn i fyny ar bob un o'r pwyntiau hynny, yn amlwg. Diolch yn fawr iawn. Diolch. 

Diolch i'r Gweinidog.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r penderfyniad ariannol, eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

9. & 10. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Y Bil Partneriaeth a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn.

Cynnig NDM8141 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd , yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Cynnig NDM8142 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau gan ddweud diolch yn fawr i bwyllgorau'r Senedd, Aelodau a staff am eu gwaith craffu ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) hyd yn hyn.

Mae llawer o waith caled yn mynd i rôl graffu y Senedd, a’r cyfan ohono bron y tu ôl i'r llenni, yn enwedig o ran deddfwriaeth. Dyma fy Mil cyntaf fel Gweinidog cyfrifol, ac rwy'n dymuno cofnodi fy niolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth Cyfnod 1 gofalus ac argymhellion ystyriol.

Hoffwn ddechrau drwy roi sylw i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a chroesawu'r argymhelliad gan fwyafrif o'r Aelodau y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Mae argymhelliad 2 yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn i'r Llywodraeth fod yn glir am yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni trwy'r Bil, a nodi metrigau a chanlyniadau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn. Rwy'n hapus i dderbyn hyn mewn egwyddor ac i dderbyn argymhelliad 20, oedd yn ein hannog i sicrhau bod unrhyw drefniadau adrodd yr ydym ni’n eu gosod ar gyfer ein partneriaid yn gymesur, ac osgoi dyblygu. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y dangosyddion a'r canlyniadau sydd eu hangen i fonitro effaith y ddeddfwriaeth hon, er y bydd y gwaith hwnnw'n cymryd amser ac yn dibynnu, i raddau, ar y materion y mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn penderfynu canolbwyntio arnyn nhw.

Mae argymhellion 10, 14 a 24 yn ymdrin â'r canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi i bartneriaid cyn gweithredu. Mae'r Llywodraeth yn derbyn 10 a 14, a bydd y canllawiau hynny'n glir ar yr amcanion yr ydym ni’n eu dilyn a'r disgwyliadau a'r dyletswyddau yr ydym ni’n eu gosod arnon ni ein hunain a'n partneriaid. Mae argymhelliad 24 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau statudol ar ffurf ddrafft ar gyfer ymgynghori, gan gynnwys gyda'r Senedd. Rydym ni’n derbyn hyn mewn egwyddor, ar y sail y byddwn ni’n sicr yn ymgynghori â rhanddeiliaid, ond nid ydym ni o'r farn y dylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Senedd mewn perthynas â chynhyrchu canllawiau statudol, rhywbeth sydd eisoes wedi'i wneud gan y Llywodraeth drwy ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw arweiniad yn addas i'r diben ac wedi'i dargedu at y gynulleidfa y bwriedir iddo ei dargedu.

Mae argymhellion 3, 5 a 6 yn ymwneud â gweithrediad y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Ni fydd y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hyn gan y byddant, yn ein barn ni, yn amharu ar ymreolaeth ac annibyniaeth y cyngor ac o bosib yn tanseilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ymarferol. Nid oes angen cylch gorchwyl gan fod y Bil ei hun yn nodi swyddogaethau'r cyngor ar sut y dylid ymgynghori ag ef. Yn unol â'r dull partneriaeth gymdeithasol, nid mater i'r Llywodraeth yw dweud wrth y cyngor faint o is-grwpiau y dylai eu sefydlu a pha faterion y dylent ymdrin â nhw, na'r dull y dylai ei ddefnyddio ar gyfer ei waith. Mae'r materion hyn mewn gwirionedd yn rhywbeth i'r cyngor ei hun benderfynu arno.

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Fodd bynnag, rwy'n hapus i dderbyn argymhelliad 4. Rydym ni’n derbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor ac yn derbyn 8. O ran aelodaeth y cyngor, rwy'n rhannu barn y pwyllgor y dylai'r aelodaeth fod yn eang ac yn gynrychioliadol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau gyda phartneriaid cymdeithasol i sicrhau bod y broses o enwebu'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn adlewyrchu hyn, a byddaf yn diweddaru'r pwyllgor ar ganlyniad y gwaith hwnnw cyn Cyfnod 2.

Mae argymhelliad 9 yn ymwneud â'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 16 o'r Bil. Barn y pwyllgor yw bod angen mwy o ran gorfodi neu gydymffurfio â'r ddyletswydd hon. Mae drafftio'r argymhelliad hwn yn gofyn i mi esbonio safbwynt y Llywodraeth ar y materion hyn, ac rwy'n hapus i wneud hynny eto heddiw. Fe wnes i nodi mewn tystiolaeth i'r pwyllgor bod dyletswydd adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio yn hytrach na sicrhau consensws neu gyfaddawdu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu eu cynrychiolwyr staff wrth osod eu hamcanion llesiant. Os, am ba bynnag reswm, nad yw'n bosib dod i gytundeb er gwaethaf yr ymdrechion gorau, bydd y ddyletswydd i geisio consensws neu gyfaddawd yn cael ei ryddhau er hynny. I bob pwrpas, ni fyddai dim i gyfryngu rhwng y ddwy blaid dan sylw.

Lle gallai fod pryderon am sut mae corff cyhoeddus yn mynd ati i gyflawni ei swyddogaethau statudol, mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cwynion am gamweinyddu, ac mae rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli a gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn y pen draw, gellir herio gweithredoedd cyrff cyhoeddus yn y llysoedd.

Mae argymhellion 11, 12 a 21 yn cyfeirio at y gydberthynas rhwng y Bil a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ni fydd gwelliant arfaethedig i Ddeddf 2015, sy'n disodli'r cyfeiriad at 'waith addas' gyda 'gwaith teg', yn newid naill ai cylch gwaith neu swyddogaethau'r comisiynydd, ac nid oes angen i ni wella ein Bil i ddyblygu'r ddyletswydd sydd gan gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at bob nod llesiant wrth arfer eu swyddogaethau, sydd eisoes yn cynnwys nod llesiant Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn derbyn argymhellion 11 na 12.

O ran argymhelliad 21, rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn rhoi mwy o fanylion ar sut y bydd ymchwiliadau caffael yn rhyngweithio â'r pwerau sy'n bodoli eisoes gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, er na fydd hyn yn bosibl nes y bydd diwygiadau caffael Llywodraeth y DU yn cael eu cwblhau.

Mae argymhelliad 13 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Comisiwn Elusennau i benderfynu a fyddai gwneud addysg bellach a sefydliadau addysg uwch a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn effeithio'n negyddol ar eu statws cyfrifyddu cenedlaethol a/neu statws elusennol, gyda'r bwriad o ddod â nhw o fewn cwmpas y Bil oni ddylai hyn fod yn wir. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal, er y dylwn i ychwanegu bod ffactorau eraill, gan gynnwys y gallai rhai o'r cyrff hyn weithredu y tu allan i Gymru, sydd hefyd yn dylanwadu ar y drafodaeth.

Gan droi at argymhelliad 15, sy’n gofyn i ni osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer cyfran y caffael sy'n cael ei gwario yng Nghymru ac sy’n cael ei gwario gyda mathau penodol o gyflenwyr, megis busnesau bach a chanolig neu fentrau cymdeithasol, mae'r Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ac rydym ni’n cytuno â'r rhagosodiad y dylem ni fod yn defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a gellid cyflawni hyn drwy osod targedau, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Byddaf yn parhau i gynnal trafodaethau pellach gyda phartneriaid mewn perthynas â'r argymhelliad hwn, a diweddaru'r pwyllgor cyn Cyfnod 2.

Mae argymhellion 16 i 19 yn ymdrin â rhan caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol y Bil. Mae'r Llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion hyn, yn amodol ar y trafodaethau pellach sy'n ymwneud ag argymhelliad 15, a bydd yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil yn ogystal â'r memorandwm esboniadol a'r canllawiau perthnasol.

Mae arnaf ofn na allaf dderbyn argymhelliad 22 a 23 yn ymwneud â'r cymalau ymchwiliadau caffael, gan na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r archwilydd cyffredinol cyn cyhoeddi pob ymchwiliad. Ni fyddaf ychwaith yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn manylu ar y meini prawf a fyddai'n sbarduno ymchwiliad o dan adran 41 ar wyneb y Bil. Byddai hyn yn llawer rhy gyfyng. Bydd rhestr nad yw’n gynhwysfawr o feini prawf yn cael ei nodi yn y canllawiau, sef y lle priodol ar ei gyfer.

Mae argymhellion 25 a 26 yn gofyn i ni wneud gwaith pellach i fireinio'r costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhellion hyn. Mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, a bydd asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig yn cael ei osod o flaen Cyfnod 3.

Mae'r ddau argymhelliad terfynol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol. Er nad ydw i mewn sefyllfa i gytuno i gyhoeddi'r holl bapurau, fel yr awgrymwyd gan y pwyllgor yn argymhelliad 27, rwy'n derbyn argymhelliad 28 mewn egwyddor, a byddaf yn sicrhau bod y pwyllgor yn cael adroddiad cryno, a gobeithio y bydd Aelodau'n ei gael yn ddefnyddiol.

Gan droi nawr at adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y cyntaf o'i argymhellion yw bod cyfeiriad i'r diffiniad o 'benderfyniadau o natur strategol' sydd yn y canllawiau a wneir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei ychwanegu at y Bil. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn ei bod yn briodol cynnwys o fewn adran ddehongli'r Bil ddiffiniad sy'n cael ei nodi mewn mannau eraill yn unig mewn canllawiau statudol. Mae'r canllawiau y cyfeirir atynt yn cael eu cyhoeddi o dan bŵer ar wahân mewn Deddf arall o bwrpas penodol, na fydd o bosibl yn cyd-fynd â'r dyletswyddau yn y Bil. Mae'r Bil yn darparu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus ynghylch gweithredu'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, a dyna'r ffordd briodol o ymdrin â materion fel hyn, felly ni allwn dderbyn argymhelliad 1.

Rwy'n derbyn argymhellion 2, 4 a 5 a byddaf yn sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'r Bil a'r canllawiau. Nid ydym yn derbyn argymhelliad 6, oedd yn gofyn i ni sicrhau bod fersiwn ddrafft o'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu ar gael cyn Cyfnod 3. Ein bwriad yw bod y cod yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ac mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Byddwn felly yn ymgysylltu â'r grwpiau hyn, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau ac undebau o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na chyhoeddi drafft, yna ymgynghori arno.

Mae argymhellion 3, 7 ac 8 i gyd yn cwestiynu'r dewis o weithdrefn yr ydym ni wedi'i chynnig ar gyfer gwneud y cod a'r rheoliadau. Mewn perthynas â'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, fel y soniais yn gynharach mewn perthynas ag argymhelliad 24 y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, mae cyhoeddi canllawiau o'r fath yn swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a fydd, am resymau sydd wedi’u hamlinellu uchod, yn destun ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid, a fydd, yn fy marn i, yn rhoi cyfle priodol i gael mewnbwn gan y rhai sydd agosaf at bwnc y cod, yn fy marn i, ac felly nid wyf yn bwriadu diwygio'r Bil i wneud y cod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae argymhellion 7 ac 8 yn ymwneud â'r rheoliadau yr ydym ni’n eu cyflwyno o dan adran 38 o'r Bil. Rydym ni’n hyderus ein bod ni wedi cymhwyso'r dull gweithredu cywir mewn perthynas â phob un, ac felly nid ydym yn bwriadu cefnogi'r argymhellion hyn. Fodd bynnag, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi mwy o fanylion am hyn.

Yn olaf, hoffwn ymddiheuro i'r pwyllgor am gyfeiriad cyfeiliornus at gonfensiwn yn fy llythyr ar 15 Hydref. Codwyd hyn yn adroddiad y pwyllgor o dan argymhelliad 9, ac rwy'n dymuno rhoi ar gofnod bod y cyfeiriad hwn wedi'i gynnwys mewn camgymeriad a chydnabod nad oes confensiwn o'r fath yn bodoli.

Wrth symud ymlaen i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch o dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, ar wahân i 3 a 9. Bydd y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach, yn sicrhau bod fersiwn ddiwygiedig o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael mewn da bryd cyn Cyfnod 3. Mae'r ddau argymhelliad na allaf eu derbyn yn gofyn am lefel o fanylion ar effeithiau'r darpariaethau caffael cymdeithasol gyfrifol nad oes modd ei chyflawni'n realistig yn yr amser rhwng nawr a Chyfnod 3. Mae cyfyngiad ar yr hyn sy'n bosib, o ran dadansoddi ac amcangyfrifon costau, cyn i unrhyw drefniadau newydd ddod i rym ac yna cael digon o amser i'w hymgorffori. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn deall, er fy mod wrth gwrs yn gwerthfawrogi'r ysbryd y cafodd yr argymhellion hyn eu cyflwyno ynddo, a rhoi ar gofnod fy sicrwydd y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i wella'r elfennau hynny o'r asesiad effaith rheoleiddiol y gellir eu gwneud yn fwy cywir rhwng nawr a Chyfnod 3, yn y pen draw, bydd ymarferion fel y rhain ond yn gallu rhoi amcangyfrifon gorau o gostau a manteision i ni.

Wrth gloi, Llywydd, rwyf eisiau diolch eto i holl Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn sydd wedi ymgysylltu mor adeiladol â'r ddeddfwriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu, gan aelodau eraill o bob rhan o'r Siambr, ac i barhau i weithio ar y cyd ac yn adeiladol ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

17:20

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone.

Diolch, Llywydd. Diolch, Hannah, am eich crynodeb o'r ymateb i'n hargymhellion, ac yn amlwg bydd yn rhaid i ni eu hystyried yn fanwl wedi hyn. Ond rydym ni'n diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu'n adeiladol yn ystod proses Cyfnod 1, yn ogystal â'r 31 sefydliad ac unigolion hynny a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig, yr holl dystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr, yn ogystal ag arbenigwyr sy'n ymwneud â chaffael nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â, mae'n rhaid i mi sôn, am y gefnogaeth ardderchog rydyn ni wedi'i chael gan y Gwasanaeth Ymchwil a chlercod y pwyllgor oedd yn cefnogi ein gwaith.

Mae nod cyffredinol y Bil, i wella ac ehangu gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth, gwaith teg a chaffael sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn un mae'r pwyllgor yn ei gefnogi, yn gyffredinol, egwyddorion y Bil hwn, ar wahân i un Aelod. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru nodi sut mae'n bwriadu sicrhau canlyniadau clir a diriaethol mewn mwy o fanylder, gallai'r Dirprwy Weinidog fod wedi amlygu rhai ohonyn nhw'n gynharach heddiw. Byddai gosod partneriaeth gymdeithasol ar sail gyfreithiol yn adlewyrchu'r sefyllfa mewn sawl gwlad Ewropeaidd gyfagos sydd â gweithluoedd cryf ac economïau cynhyrchiol. Ac roedd yn nodedig bod cynrychiolwyr sefydliadau mawr yn cefnogi egwyddorion y Bil, ond gallaf ddeall pam nad oedd cynrychiolwyr busnesau bach yn gweld llawer o rinwedd ynddo, gan eu bod yn cael llawer llai o anhawster cyfathrebu â'u gweithluoedd.

Mae creu cyngor partneriaeth gymdeithasol deirochrog wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Mae adran 5(2) yn nodi bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ofyn am enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr o TUC Cymru. Efallai na fyddwch yn synnu o wybod bod TUC Cymru a'i gysylltwyr wedi cefnogi'r broses hon ar gyfer enwebu cynrychiolwyr gweithwyr i'r cyngor, fodd bynnag roedd undebau nad ydynt yn gysylltiedig â TUC Cymru ac eraill yn arddel safbwyntiau gwahanol. Roedd y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yn dadlau'n gryf dros wella'r Bil, a dywedodd yr RCN wrthym y gallai'r Bil fel y'i drafftiwyd arwain at adael undebau nad ydynt yn gysylltiedig â'r TUC allan o bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a lleihau eu gallu i gydweithredu a chydweithio. Gan ein bod ni’n gwario hanner cyllideb Llywodraeth Cymru ar ein gwasanaeth iechyd, a bod gan y sector hwn grynodiad uchel o undebau nad ydynt yn gysylltiedig â'i gilydd, roedd y pryder hwnnw'n un o brif bryderon y pwyllgor. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr argymhelliad 7 hwnnw, sy'n galw am welliant i'r Bil i roi gofyniad ar TUC Cymru i enwebu cyfran benodol o aelodau'r undeb nad ydynt yn gysylltiedig â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn mynd ymlaen.

Dylai'r dull o gaffael cyhoeddus a ragwelwyd gan y Bil hwn gadw mwy o arian yn cylchredeg yn lleol, gan helpu i adeiladu cymunedau mwy gwydn ac economïau sylfaenol mwy bywiog. Ond, i fod yn wirioneddol feiddgar, rydyn ni am weld targedau mesuradwy yn cael eu gosod ar gyfer caffael, gan gynnwys cyfran yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru. Fel arall, ni allwn weld a yw'r Bil hwn wedi cael yr effaith yr ydym ni’n gobeithio y bydd yn ei gael. Felly, mae argymhelliad 15 yn nodi barn y pwyllgor y dylid gwella'r Bil i osod gofyniad ar Weinidogion i osod targedau ar gyfer caffael cyhoeddus. Mae'n cydnabod hefyd y gallai casglu data a'r mecanweithiau sydd eu hangen i fod yn sail i dargedau effeithiol fod angen amser i weithio drwyddo, ac mae’n argymell felly y dylai amserlen tymor canolig o dair blynedd fod yn briodol i gyflawni hyn.

Rwy'n credu y bydd llawer o sefydliadau amgylcheddol yn siomedig o ddeall fod y Gweinidog yn gwrthod ein hargymhelliad 12, a fyddai'n sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn cyfrannu at ddinistrio coedwigoedd glaw. Rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 dderbyn eu cyfrifoldebau byd-eang, ond rwy'n credu y byddai'n anodd disgwyl nad ydym ni’n mewnforio stwff ar hyn o bryd sydd wedi cael ei greu ar hyn o bryd o rwygo coedwigoedd glaw ac achosi mwy o gynhesu byd-eang.

Pan fyddwn ni'n gweithredu'r Ddeddf, mae'n rhaid i ni weld y cysylltiadau sydd ganddi gydag amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru, yn enwedig y broses o drosglwyddo i sero net. O'r ymateb i'r argyfyngau ynni a bwyd i ddiwygio amaethyddiaeth a rheoli tir cynaliadwy, mae gan y Bil hwn y potensial i ddarparu fframwaith ar gyfer gweithredu a chydweithio ar draws cyrff cyhoeddus.

Er mwyn gwireddu uchelgeisiau'r Bil, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus, diwydiant ac eraill i feithrin capasiti, gallu a newid diwylliannol. Clywodd y pwyllgor bryderon bod nifer o gyrff cyhoeddus yn wynebu anawsterau wrth recriwtio staff caffael, wedi'u cafnu gan flynyddoedd o gyni, ac roedd cael gafael ar unigolion o'r fath yn cael ei ddisgrifio yn brin iawn. Gall hyn arwain at broblemau capasiti difrifol ac anghysondebau mewn dulliau ar draws cyrff cyhoeddus.

Mae'r Bil hwn yn creu canolfan ragoriaeth ar gyfer caffael, ond mae angen eglurhad ar ei rôl a rôl is-bwyllgor caffael y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Yn benodol, mae angen i Lywodraeth Cymru nodi sut mae'n bwriadu sicrhau y bydd y ganolfan ragoriaeth a'r is-grŵp caffael yn sbarduno cydweithio a newid. Mae yna fater hefyd ynghylch a ddylai fod yn ofynnol i sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddilyn deddfwriaeth gaffael Llywodraeth Cymru yn yr un modd ag awdurdodau contractio'r sector cyhoeddus, ond rwy'n derbyn yn llawn na allwn fod yn peryglu tanseilio statws elusennol rhai o'r cyrff hyn a'u hannibyniaeth bwysig. Ond er hynny, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog wedi derbyn argymhelliad 13. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.

O ran y canllawiau, clywsom gan randdeiliaid sy'n gweithio yn y diwydiant am bwysigrwydd canllawiau da yn chwarae rhan ganolog wrth weithredu, ac rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd wedi gwneud argymhelliad tebyg i'n rhai ni. Felly, byddai'n ddefnyddiol deall manylion sut yn union mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu gafael yn ysbryd y gwelliannau hynny, ond nid o reidrwydd eu gosod mewn deddfwriaeth. Fel arall, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Gyfnod 2 o'r Bil ac at weld sut mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cryfhau'r Bil yn ei argymhellion manwl.

17:30

Huw Irranca-Davies nawr, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Yn ein hadroddiad, daethom i un casgliad, a gwnaethom naw argymhelliad. I ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ysgrifennu atom gyda gwybodaeth bellach i gynorthwyo ein gwaith craffu ar y Bil, yn lle'r sesiwn dystiolaeth a gafodd ei chanslo ym mis Medi.

Fel y bydd y Senedd yn gwybod, rydym ni’n edrych yn fanwl iawn ar gynnwys pwerau mewn Biliau i wneud is-ddeddfwriaeth. Felly, Llywydd, mae'r Bil hwn yn cynnwys pum pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, un pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod, a dau bŵer i gyhoeddi cyfarwyddiadau.

Nawr, mae nifer o'n hargymhellion yn ymwneud â'n cred gyson nad yw'r gweithdrefnau craffu sydd ynghlwm â rhai o'r pwerau hyn yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau'r Senedd ar gyfer craffu. Felly, mae argymhellion 7 ac 8 o'n hadroddiad yn galw ar y Dirprwy Weinidog i gyflwyno gwelliannau i'r Bil i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i bwerau o fewn is-adrannau (3)(a) a (3)(b) o adran 38 o'r Bil. Gellir defnyddio'r ddau bŵer hyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac fe wnaethom ystyried y pŵer o fewn is-adran (3)(a) yn benodol i fod yn bŵer Harri VIII eang, diderfyn, a does gennym ni fawr o feddwl, yn gyffredinol, o bwerau Harri VIII.

Mae tri o'n hargymhellion yn ymwneud â'r ddyletswydd o fewn adran 32 o'r Bil i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu. I ni, bydd y cod hwn yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Felly, fe wnaethom argymell y dylai'r Dirprwy Weinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i gymhwyso'r weithdrefn negyddol i'r pŵer i gyhoeddi'r cod ac unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol iddo. Byddai hyn yn lle peidio rhoi gweithdrefn ar waith fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Fe wnaethom argymell hefyd y dylai fod dyletswydd i ymgynghori ar y cod sydd wedi'i gynnwys o fewn y Bil, ac y dylai'r Dirprwy Weinidog gyhoeddi fersiwn ddrafft ohoni cyn dechrau Cyfnod 3 y Bil, a fydd yn helpu ein hystyriaeth ac ystyriaeth pwyllgorau eraill.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym y bydd yr holl ganllawiau statudol a gyhoeddir o dan y Bil yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ac y bydd yn destun ymgynghoriad. Felly, gan fod hyn yn wir, fe wnaethom argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i gynnwys dyletswydd i ymgynghori ar ganllawiau a gyhoeddwyd o dan adran 43 ac unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol i'r canllawiau hynny.

Mae ein dau argymhelliad sy'n weddill yn ymwneud â hygyrchedd y Bil. Mae'r Bil yn cynnwys yr ymadrodd 'penderfyniadau o natur strategol'. Nid yw'r Bil yn rhoi diffiniad o'r ymadrodd hwn, ond darperir diffiniad o fewn y canllawiau statudol ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a wnaed dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, am resymau hygyrchedd, fe wnaethom argymell felly y dylai'r Bil gynnwys cyfeiriad i'r diffiniad hwn.

Mae'r Bil hefyd yn diwygio adran 4 o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i amnewid 'gwaith teg' am 'waith addas'. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym fod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o 'waith teg' wedi cael ei dderbyn yn eang. Er mwyn helpu pobl i ddeall y term hwn, fe wnaethom felly argymell y dylid cynnwys diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o fewn canllawiau anstatudol i randdeiliaid a chyrff sy'n ddarostyngedig i'r dyletswyddau dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Nawr, cyn i mi ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw at yr unig gasgliad y daethon ni ato yn ein hadroddiad—yr unig gasgliad penodol. Fel y bydd Aelodau'n gwybod, mae pwyllgorau'r Senedd ar hyn o bryd yn ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd mewn perthynas â Bil Caffael Llywodraeth y DU—Bil Caffael Llywodraeth y DU—ac rydym ni’n deall bod mwy o LCMs ar y ffordd yn fuan. Rydyn ni'n credu bod y Bil rydyn ni'n ei ystyried heddiw wedi darparu llwybr amlwg i Lywodraeth Cymru gynnwys darpariaethau i ddiwygio cyfraith gaffael Cymru, yn hytrach na defnyddio Bil Llywodraeth y DU a'r broses gydsynio.

Felly, Dirprwy Weinidog, edrychwn ymlaen at glywed eich ymatebion i'r argymhellion yr ydym ni wedi'u gwneud mewn perthynas â'r Bil hwn. Un pwynt, er hynny: mae'n siomedig i'r pwyllgor nad oedd ymateb gan y Llywodraeth ar gael mewn pryd heddiw i lywio'r ddadl heddiw, o ystyried ei bwysigrwydd i'r broses ddeddfwriaethol, felly byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai'r Dirprwy Weinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw yn eich sylwadau a'ch ymatebion.

Un pwynt olaf, Llywydd, ac mae'n rhaid i mi dynnu fy het Cadeirydd pwyllgor i ffwrdd ar gyfer y foment arbennig hon, ond gwn na allaf sefyll eto. Gan roi fy het fel cydweithredwr ac aelod o'r grŵp Senedd cydweithredol, ac rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr o fuddiannau, tybed a ydynt—. Y gwir amdani yw bod Biliau fel hyn yn dod yn anaml iawn yn ystod unrhyw dymor y Senedd, ond a fyddai'r Gweinidog, ar wahân i'r pwyntiau rydw i newydd eu gwneud fel Cadeirydd y Pwyllgor, yn ystyried cwrdd ag awduron adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ar berchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, i drafod a ellid ymgorffori eu cynigion yn y Bil er mwyn cryfhau perchnogaeth gweithwyr ymhellach yng Nghymru? Rydyn ni'n gwneud llawer ar berchnogaeth gweithwyr yn barod, ond byddai trafodaeth ar hynny yn ddefnyddiol iawn yn wir. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

17:35

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Rydym ni wedi cyflwyno cyfanswm o 11 argymhelliad, ond o ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.

Er ein bod ni’n gefnogol i nod y Bil, un o'r prif bryderon i ni oedd diffyg data a nifer y costau anhysbys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. O ganlyniad roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r pwyllgor asesu goblygiadau ariannol cyffredinol y Bil. Rydym ar sawl achlysur wedi mynegi ein barn y dylai asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys yr amcangyfrif gorau posibl. O ganlyniad, rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog a'i chydweithwyr gweinidogol bod nifer o'n hargymhellion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith pellach i asesu'r costau. Mae'n siomedig hefyd bod yn rhaid i'r pwyllgor wneud y pwyntiau hyn yn barhaus, ac mae'n annog y Dirprwy Weinidog i wrando ar ein hargymhellion, a gweithredu arnynt.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi siarad yn y Siambr o'r blaen am ein pryderon o chwyddiant cynyddol ar gost deddfwriaeth. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi yn dweud y dylid dileu effeithiau chwyddiant cyffredinol wrth amcangyfrif cost Biliau. Fodd bynnag, o ystyried y gyfradd chwyddiant uchaf ers 40 mlynedd a'r ansicrwydd y bydd grant bloc Llywodraeth Cymru yn codi ar yr un lefel, rydym ni’n credu y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol ystyried chwyddiant wrth gyfrifo costau posibl. Mae gan y Bil gyfnod arfarnu pum mlynedd ac felly gallai chwyddiant cynyddol arwain at gostau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym ni’n argymell bod y Dirprwy Weinidog yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i fodelu costau yn seiliedig ar ddata chwyddiant a ragwelir drwy gydol cyfnod arfarnu'r Bil.

Gan droi at y costau sy'n ymwneud â'r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol sydd yn y Bil, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y byddai'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ysgwyddo costau o £20.5 miliwn a £6.5 miliwn yn y drefn honno. Mae nifer o senarios posibl wedi'u nodi a allai godi o'r disgwyliad cynyddol ar ddarparu canlyniadau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gan gynnwys defnydd ehangach o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy; staff yn derbyn mwy o hyfforddiant a thelerau ac amodau gwell; ac amser staff wrth fynychu hyfforddiant ychwanegol.

Fe wnaethom ni ofyn a oedd ymdrechion wedi'u gwneud i fodelu'r senarios posib i benderfynu ar gostau posib, a dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym, gan fod y Bil yn cwmpasu ystod enfawr o gyrff cyhoeddus, nad oedd ganddi'r data ar hyn o bryd i fesur y waelodlin. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad 3 yn galw am wneud gwaith pellach i asesu'r costau i gyrff cyhoeddus a phreifat sy'n ymwneud â'r ddyletswydd hon. Dylai'r gwaith hwn gynnwys dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o gostau hefyd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig, gan fy mod yn deall nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

O ran y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â chostau cynnig a chyflogau byw go iawn, roedd y pwyllgor o'r farn y gallai mwy o bwyslais ar ganlyniadau caffael cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn y tymor byr, gynyddu prisiau ymgeisio. Rydym ni’n poeni felly y gallai busnesau ymateb i'r cynnydd drwy leihau gweithwyr neu basio'r gost ymlaen i gwsmeriaid. Er mwyn lliniaru hyn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gofynion ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar fusnesau yn gymesur, a bod y canllawiau statudol yn rhoi'r cymorth angenrheidiol i staff caffael a rheoli contract yng Nghymru.

Gyda mwy o bwyslais ar waith teg, byddai cost ychwanegol arall tebygol yn cael ei ysgwyddo drwy fabwysiadu’r cyflog byw go iawn yn gynyddol trwy gadwyni cyflenwi. Er na all Llywodraeth Cymru orfodi'r cyflog byw go iawn, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ei bod ni’n disgwyl y bydd y Bil yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr un agwedd ar arferion cyflogaeth gwell. Rydym ni’n croesawu'r pwyslais cynyddol ar waith teg yn fawr ac rydym ni’n gobeithio y bydd cyrff cyhoeddus a phreifat yn mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, fodd bynnag, mae hwn yn faes yr hoffem ni gadw llygad arno, ac mae ein hargymhelliad 7 yn gofyn i'r adolygiad ôl-weithredu ar gyfer y Bil hwn gynnwys gwybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar y cyflog byw go iawn o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.

Costau rheoli'r contract adeiladu yw'r dyraniadau mwyaf sylweddol a wnaed yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gontractau adeiladu mawr gyda gwerthoedd dros £2 miliwn. Er y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn gosod gofynion ychwanegol ar sefydliadau sy'n rheoli contractau a chostau ychwanegol, gobeithiwn y bydd yn arwain at welliannau mewn contractau ar draws sectorau ac yn atal arferion anfoesegol, fel caethwasiaeth fodern, rhag digwydd mewn cadwyni cyflenwi.

Serch hynny, rydyn ni'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar fusnesau bach a chanolig. Argymhellwyd bod cymorth penodol yn cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig i'w galluogi i gymryd rhan mewn contractau—i'w gweld yn argymhelliad 8—a bod dadansoddiad pellach o sut mae'r ddyletswydd hon yn effeithio ar fusnesau bach a chanolig yn cael ei ddarparu—argymhelliad 9. Unwaith eto, rwy'n siomedig—neu byddwn yn siomedig—os nad yw'r argymhelliad hwnnw 9 wedi cael ei dderbyn.

Ac yn olaf, Llywydd, fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, rydym ni’n siomedig gyda'r data cyfyngedig sydd ar gael ar ganlyniadau ariannol y Bil. Am y rheswm hwn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad canol tymor yn ogystal ag adroddiad gwerthuso pum mlynedd terfynol, a ddylai amlinellu'r costau ariannol sydd wedi cael eu hysgwyddo o ganlyniad i weithredu'r Bil. Diolch.

17:40

Iawn, rwy'n trio glanio'r awyren hon erbyn 6 o'r gloch, fel bod y rhai ohonom ni sy'n dal yn y Siambr yn gallu cyrraedd rhywle i wylio'r gic gyntaf erbyn 7 o'r gloch. Felly, o'r siaradwyr sydd gen i o fy mlaen, byddaf yn eich cadw chi i bum munud. Joel James.

Diolch, Llywydd. Ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Llywodraeth hon wedi methu'n llwyr â chyfathrebu pa broblem mae'n ceisio ei datrys a pham ei bod yn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod am roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol i wella prosesau caffael cyhoeddus, ond nid yw wedi gwneud unrhyw asesiad credadwy o'r arferion partneriaeth gymdeithasol presennol yng Nghymru. Felly, nid ydym yn gwybod i ba raddau mae cydweithio eisoes yn bodoli, sut y bydd y ddeddfwriaeth statudol hon yn effeithio ar greu partneriaethau cymdeithasol sy'n tyfu'n organig o angen cydfuddiannol, ac felly, mae'r Llywodraeth hon yn creu deddfwriaeth i ddarparu ateb i broblem anhysbys.

Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais â chyrff allanol a fydd yn cael eu heffeithio gan y Bil hwn, ac nid ydyn nhw’n deall pam mae angen hyn. Nid ydyn nhw’n deall sut y bydd o fudd i'r gweithle, gan fod Bil cenedlaethau'r dyfodol eisoes yn rhoi cryn gyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i ymgorffori nodau iechyd a lles yn eu cynllunio. Mae ganddyn nhw strategaethau caffael eisoes sy'n anelu at brynu'n lleol lle bo modd, ac maen nhw eisoes yn gweithio'n effeithiol gydag undebau llafur. Maen nhw hefyd o'r farn y bydd y Bil hwn naill ai'n arwain at ddim gwerth go iawn na chanlyniad cadarnhaol ac yn dod yn ymarfer ticio blwch tâp coch arall o ddyblygu, neu bydd ganddo'r potensial i amharu'n sylweddol ar arferion caffael sydd eisoes wedi hen ennill eu plwyf, drwy osod dyletswyddau adrodd beichus ar gyflenwyr annibynnol bach y mae Llywodraeth Cymru—yn wrthnysig—yn ceisio eu helpu.

Rwy'n deall yn iawn bod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar helpu busnesau lleol i gael gafael ar gontractau caffael y Llywodraeth i helpu i greu swyddi yn lleol, ond nid yw caffael mor syml â hynny. Mae'n fwyfwy annhebygol y bydd busnesau lleol yn gallu cyflenwi ystod a maint yr eitemau sydd eu hangen ar yr holl gyrff cyhoeddus hyn. At hynny, drwy osod targed ar faint o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu caffael yn lleol, mae'r Llywodraeth hon yn creu'r amodau i ganolwyr yn y gadwyn gaffael a fydd wedi'i lleoli yng Nghymru yn anfwriadol ond yn dod o hyd i nwyddau o'r tu allan i Gymru, a fydd wrth gwrs yn arwain at gostau uwch i gyrff cyhoeddus. Dywedir yn yr adroddiad:

'Byddai’r broses o weithredu’r Ddeddf...yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r sector cyhoeddus datganoledig i feithrin capasiti, gallu a newid diwylliannol ar adeg pan fo cyllidebau’n debygol o grebachu',

sydd, yn fy meddwl i, yn gwbl groes i'w gilydd, oherwydd mae adeiladu capasiti a gallu yn cymryd buddsoddiad. Os ydych chi'n mynd i gynyddu capasiti cyrff cyhoeddus i gaffael yn lleol, yna mae'n rhaid i chi ystyried y bydd costau'n dod yn uwch oherwydd bydd gan fusnesau lleol llai gostau rhedeg uwch.

Yn ehangach, mae gan y Bil hwn sawl diffyg difrifol. Mae'r gofyniad statudol i bob corff cyhoeddus ddod i gonsensws ag undebau llafur ar osod eu hamcanion llesiant yn debygol iawn o arwain at ganlyniadau sy'n achosi problemau. Er enghraifft, os oes gan undeb llafur dargedau llesiant anfforddiadwy, byddai'n ofynnol i'r corff cyhoeddus drafod cynigion na fydden nhw'n gallu fforddio eu gweithredu, ac felly'n methu â dod o hyd i gonsensws a methu â chyflawni ei rwymedigaethau statudol. Nid oes mecanwaith ffurfiol o gwbl yn y Bil hwn i helpu cyrff cyhoeddus i osgoi'r mater hwn, a fydd, heb os, yn achosi problemau difrifol, oherwydd mae p’un a yw consensws wedi'i gyflawni ai peidio yn gwbl oddrychol. Ar ben hynny, nid oes gan y Bil unrhyw ffordd o orfodi'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn na mesur llwyddiant neu fethiant y ddeddfwriaeth hon, ac nid oes ganddo unrhyw ffordd o fesur pa effaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael, oherwydd fel yr wyf wedi datgan o'r blaen, nid yw'r Llywodraeth hon hyd yn oed wedi gwneud y pethau sylfaenol wrth gynnal unrhyw asesiad mesuradwy o arferion partneriaethau cymdeithasol cyfredol yng Nghymru.

O droi at y cyngor partneriaeth gymdeithasol, mae sawl bwriad anghyson yma. Mae'r Bil yn dibynnu ar y cyngor yn galluogi llais i bawb, ond pe bai hon yn bartneriaeth gymdeithasol go iawn byddai'n sicrhau bod pob llais, waeth pa mor fach, yn cael ei glywed ac â sedd ddilys wrth y bwrdd, sydd, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi cydnabod, yn anghyraeddadwy. Bydd y Bil hwn felly'n debygol o ffafrio'r grwpiau mwyaf dan sylw, a fydd yn ei dro â'r potensial i fod dim ond yn siambr atsain arall ar gyfer yr hyn mae Llywodraeth Cymru eisiau ei glywed. Mae angen i'r Llywodraeth hon ddeall nad yw busnesau'n trefnu eu hunain yn sylfaenol yn yr un modd ag undebau llafur neu Lywodraethau, a bydd creu'r ddeddfwriaeth bartneriaeth gymdeithasol hon yn rhoi rhywfaint o anhyblygrwydd arnynt a fydd yn arwain at beidio â bod yn ddigon ystwyth i ymateb i sefyllfaoedd economaidd sy'n symud yn gyflym. Ar ben hynny, mae'n anghywir i feddwl bod busnesau angen Llywodraeth i ddod â nhw at ei gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn naturiol bydd cwmnïau'n chwilio am bartneriaethau cymdeithasol ac yn creu partneriaethau cymdeithasol os yw'n helpu eu busnes ac os yw amodau'r farchnad yn ei ffafrio.

Yn olaf, rwy’n credu bod y Llywodraeth hon yn creu'r Bil hwn gyda'r syniad cyfeiliornus y bydd yn rhoi rhywfaint o fudd i Gymru gan anwybyddu'r dystiolaeth a’r erfyniadau yn llwyr am yr hyn sydd ei angen. Mae busnesau ledled Cymru yn dweud eu bod wedi eu cyfyngu gan sgiliau gweithwyr, a dyma'r rhwystr mwyaf i'w twf. Mae busnesau rwyf i wedi siarad â nhw yn gyffredinol eisiau codi cyfraddau cyflog i'w staff, ac maen nhw eisiau eu cefnogi a gwella amodau gwaith oherwydd ei fod er eu lles i wneud hynny, ond maen nhw’n cael eu cyfyngu gan eu gallu, nid oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at gontractau caffael cyhoeddus, ond oherwydd na allant gael mynediad at set sgiliau digon eang. Y ddeddfwriaeth hon—

17:45

Diolch, Llywydd. Ar y sail hyn, rwyf felly'n annog Aelodau i beidio â chefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.

Diolch, Llywydd, a diolch i Jenny Rathbone fel Cadeirydd y Pwyllgor ESJ, fy nghyd-Aelodau, a’r tîm clercio ac ymchwil am eu cydweithrediad yn y broses o sgrwtineiddio’r Bil yma; hefyd i’r Dirprwy Weinidog am ei pharodrwydd i gysylltu ar y ddeddfwriaeth bwysig yma, a beth mae wedi dweud y prynhawn yma. Mae hefyd yn galonogol i glywed rhai o’r pethau mae wedi ymrwymo i’w gwneud ac i’w trafod.

Hoffwn ddechrau gydag aelodaeth y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Mae'n ystyriaeth allweddol. Rhaid sicrhau y bydd y corff dylanwadol hwn yn adlewyrchu pob agwedd o gymdeithas Cymru yn llawn. Er mwyn i hyn ddigwydd mae'n rhaid cael hyblygrwydd o ran mecanwaith yr aelodaeth fel bod modd tynnu arbenigedd a phrofiad o faes mor eang â phosib. Os ydym am gyflawni'r agenda mwy uchelgeisiol a'r penderfyniadau cadarn y mae'r Bil yn ei addo, mae angen ystyried hyn. Rwy’n nodi bod argymhelliad 7 yn cael ei dderbyn mewn egwyddor, ac 8 yn cael ei dderbyn, ac yn edrych ymlaen at wneud y gwaith yn ôl yr addewid.

Rhaid i ni hefyd ymdrechu i ddarparu o fewn y Bil i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n gwybod fod hyn yn bryder nid yn unig i Blaid Cymru, ond mae clymblaid o gyrff o fewn bywyd dinesig Cymru wedi dod at ei gilydd i fynegi eu pryderon bod gweithredoedd i ddatblygu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy gaffael moesegol yn absennol. Mae'r glymblaid hon, sy'n cynnwys Cytûn, Maint Cymru ac Amnest Rhyngwladol eisiau i'r ymrwymiad hwn fod yn fwy amlwg, ac felly ar wyneb y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl ystyriaeth yn cael ei roi i hyn a mynd i'r afael â hi. I gyd-fynd â'n geiriau cynnes â gweithredoedd cynnes, mae hyn yn bwysig.

Nawr, hoffwn droi at elfen gaffael leol y Bil hwn. Rwy'n gwybod y gall caffael cyhoeddus ymddangos fel pwnc sych iawn, ond mae gan hyn y potensial, os cawn ni hyn yn iawn, i uwchgodi'r economi. Ni allwn adael i'r cyfle hwn fynd heibio. Mae caffael lleol, neu'r arian rydyn ni'n ei gadw o fewn ein ffiniau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan y sector cyhoeddus, wedi bod yn bwnc llosg i fy mhlaid dros y degawd diwethaf. Nôl yn 2013 galwodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, ar y Llywodraeth Lafur i gyfateb lefelau caffael cyhoeddus yr Alban i greu 48,000 yn rhagor o swyddi i Gymru. Er mwyn cael yr hwb swyddi hwn, byddai wedi gofyn i Gymru fynd o gyfradd caffael cyhoeddus o 50 y cant i 75 y cant. Dychmygwch pe byddem ni’n gallu rhagori ar y ffigwr hwnnw a chyfateb cyfradd caffael cyhoeddus yr Almaen, a oedd ar y pryd yn 98.9 y cant.

Pe bai'r camau beiddgar hynny wedi'u cymryd bryd hynny, dychmygwch yr effaith y byddai hyn wedi'i chael ar greu swyddi, economïau lleol a ffyniant—byddai wedi bod yn seismig. Ers hynny, mae Cyngor Gwynedd, sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, wedi dangos beth sy'n bosib gydag agwedd gadarnhaol tuag at siopa'n lleol. Arweiniodd eu strategaeth o gadw'r budd yn lleol at hwb sylweddol mewn gwariant lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae caffael cyhoeddus ar flaen y gad yn agenda'r Llywodraeth hon o'r diwedd, diolch i Blaid Cymru a'r cytundeb cydweithredu. Cafodd hyn ei gynnwys yn benodol o ran polisi prydau ysgol am ddim, ond mae'r Bil hwn yn rhoi'r cyfle i ni ehangu cylch gwaith caffael cyhoeddus a chadw'r bunt Gymreig yn cylchredeg o fewn ein heconomi. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi swyddi lleol, cynhyrchwyr lleol, ffermwyr lleol a chymunedau lleol fynd y tu ôl i'r Bil hwn, a sicrhau ei fod mor eang, cadarn a buddiol â phosibl.

Felly fy nhri chwestiwn i'r Gweinidog: sut fydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn sicrhau bod lleisiau mudiadau bach yn cael eu clywed, a pha fecanweithiau sy'n cael eu hystyried? Sut bydd y Bil yn sicrhau bod y Llywodraeth yn darparu dull sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac a fydd telerau a tharged yn cael eu cynnwys ar wyneb y Bil? Ac rwyf wedi clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud am argymhellion 15 i 19. A oes modd gosod targed caffael o 75 y cant, sydd wedi bod yn bolisi i Blaid Cymru ers amser maith, i ganolbwyntio'r meddwl a sicrhau bod y Bil hwn yn uchelgeisiol pan ddaw at gaffael cyhoeddus? Diolch yn fawr. 

17:50

Gweinidog, rwyf eisiau diolch i chi am ddod â'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Cyn cael fy ethol, roeddwn yn gwirfoddoli yn Cymru Gynaliadwy, ym Mhorthcawl, sydd yn elusen ar lawr gwlad sy'n annog pobl i weithio wrth i gymuned arwain ar ddatblygu cynaliadwy. Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn greiddiol i'w gwaith o fewn cymunedau o'r fath, ac mae hefyd yn ymwneud â dadlau dros ymddygiad moesegol ym maes caffael. Felly, mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle i wella ei fframwaith drwy gydol gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod sefydliad anllywodraethol fel WWF Cymru, Amnest Rhyngwladol, Oxfam, Masnach Deg Cymru ac eraill wedi cymryd rhan mewn cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar y Bil, ac rwy'n gwybod eu bod hefyd wedi cydweithio i lunio nifer o argymhellion, gan gynnwys ar gaffael moesegol a chynaliadwy. Felly, Gweinidog, roeddwn i'n pendroni, pa ymgysylltu mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda chyrff anllywodraethol yn gweithio ar y Bil hwn, a beth y gall Llywodraeth Cymru ei ddysgu gan gyrff anllywodraethol sydd eisoes wedi ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn eu modelau gwaith? Diolch. 

Y Dirprwy Weinidog i ymateb nawr i'r ddadl—Hannah Blythyn.

Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n teimlo dan bwysau yn yr amser sy'n weddill i mi ymateb beth bynnag, o ystyried yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ei bod yn grynodeb pan geisiais gwmpasu cymaint o'r ymatebion i welliannau â phosib. Roeddwn i'n awyddus iawn, mae'n debyg i lawer o anfad gan fy swyddogion, i wneud llawer o waith i ddarparu cymaint o'r rhesymeg y tu ôl i safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd ag y gallwn. Ond, a gaf i ddweud, yn ogystal, oherwydd fy mod yn cydnabod y cyfyngiadau ar amser y prynhawn yma, y byddwn i’n hapus i ymateb yn ysgrifenedig i bob un o'r Cadeiryddion pwyllgor i nodi'r pwyntiau hynny yn fanylach i chi hefyd. Rwyf eisiau ymuno gyda'r hyn a ddywedodd Jenny o ran diolch i'r unigolion a'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth. Roedd ymgysylltu enfawr ynghylch y ddeddfwriaeth hon, sydd i'w groesawu, ac mae'n adlewyrchid cadarnhaol iawn, rwy'n credu, o'r gefnogaeth ehangach sydd i'r Bil fel yr ydym wedi'i nodi.

Rydw i’n mynd i droi'n fyr iawn at un o'r pwyntiau wnaeth Jenny, Cadeirydd y pwyllgor, a hynny o ran y pwynt i dderbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n gweithio gyda—. Y rheswm dros dderbyn mewn egwyddor oedd oherwydd bod angen i ni weithio gyda phartneriaid i gyrraedd sefyllfa lle gall hynny weithio'n ymarferol hefyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau ar wahân gyda sefydliadau fel y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd ar hynny.

Gan droi at gyfraniad Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad, diolch yn fawr, mewn gwirionedd, am y cyfle i roi tystiolaeth ysgrifenedig pan nad oeddem ni’n anffodus yn gallu cadw at y dyddiad gwreiddiol o dystiolaeth lafar. Rwy'n credu eich bod wedi codi ar nifer o bwyntiau a godais eisoes ar gychwyn fy nghyfraniad, ond dim ond ar argymhelliad 7 neu 8, mae'r ymrwymiad hwnnw yno i ysgrifennu at y pwyllgor ac i ymgysylltu ymhellach ar hynny yn ystod proses y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n hoffi'r rhyddid y gwnaethoch chi ei gymryd o ran tynnu eich het Cadeirydd pwyllgor i ffwrdd—[Torri ar draws.] Oes, wel, manteisiwch ar bob cyfle; byddai'n esgeulus ohonoch chi i beidio. Ar y pwynt wnaethoch chi am adroddiad CLES a'r potensial o ran perchnogaeth gweithwyr, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ac i drafod hynny. Efallai nad y ddeddfwriaeth hon yw'r cyfrwng mwyaf priodol ar ei gyfer, ond mae'n bendant yn fenter sy'n werth ei hystyried. Mewn gwirionedd, roeddwn i mewn digwyddiad—crwydrais dros y ffin dros y penwythnos i Preston, i gynhadledd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Roedden ni'n siarad am adeiladu cyfoeth cymunedol, ac roedd Richard Leonard, Aelod o Senedd yr Alban, yno'n siarad amdano—ac efallai bod eich enw chi wedi cael ei grybwyll mewn cenadwri, Huw—y potensial yn y fan yna o ran cwmnïau cydweithredol gweithwyr a pherchnogaeth gweithwyr. Felly rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i'r cyfarfod hwnnw i drafod sut y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn perthynas â hynny.

Gan droi nawr at Peter Fox, diolch yn fawr iawn am gamu i mewn a'ch cyfraniad ar ran y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau yn fy sylwadau agoriadol, ond, fel y dywedais i, hoffwn ymrwymo eto i ymateb yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid. A dim ond cwpl o bethau eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw: rwy'n meddwl amser staff a hyfforddiant ychwanegol a chael y wybodaeth honno, y waelodlin ddata ochr yn ochr â'r gwaith—. Yn amlwg, mae yna heriau o ran cael y wybodaeth yna cyn i bethau gael eu hymgorffori o ran y dyletswyddau. Ond, ochr yn ochr â hynny—ac rwy'n credu i mi sôn amdano wrth un o'r pwyllgorau, ond mewn gwirionedd dydw i ddim yn cofio nawr pa un oedd o, oherwydd fy mod i wedi bod mewn sawl sesiwn tystiolaeth pwyllgor fel rhan o'r broses hon—rydyn ni'n gwneud rhywfaint o waith i edrych ar hyfforddiant gyda staff mewn gwirionedd, ond hefyd yr effaith, efallai, o ran pethau fel amser cyfleuster. Rydym ni’n cynnal arolwg, ar hyn o bryd, gyda'r gwahanol sefydliadau, i gael mesurydd gwell ar hynny, fel y gwnes i ymrwymo i un o'r pwyllgorau y byddai angen i ni ei wneud i gael y waelodlin honno, i allu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Os gwnaf i efallai droi yn awr at gyfraniad Joel James. Byddwn i'n chwilfrydig i weld pwy yw'r cyrff allanol hyn mae'n dweud ei fod wedi ymgynghori â nhw. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ar hynny, mae'r cynnig yn dal yn agored i gael briff ynghylch y ddeddfwriaeth, i drafod ei bryderon yn ei gylch. Rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae'n siomedig ond ddim yn syndod. Mae pob un ohonom ni yma wedi clywed y sylwadau gynt nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi deddfwriaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus a lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, a hefyd grym y pwrs cyhoeddus i wneud gwahaniaeth i bobl a llefydd.

Gan droi'n fyr yn awr at gyfraniad Peredur—

17:55

Ie, yn gryno, os allwch chi, Gweinidog. Rydych chi allan o amser.

Rwyf bron â gorffen, peidiwch â phoeni.

Diolch o galon am hynny, Peredur. Mae'r ymrwymiad hwnnw yno i weithio ar yr uchelgeisiau cyffredin hynny sydd gennym ni, i gael yr effaith hwnnw mewn gwirionedd—. Fel y gwnaethoch chi ddweud, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n cynhyrfu cymaint wrth siarad am gaffael cyhoeddus, ond mae'n un o'r ysgogiadau sydd â'r potensial enfawr hwnnw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn gyflym iawn, oherwydd dydw i ddim eisiau gadael Sarah Murphy allan, a gaf i ddiolch i Sarah am ei chyfraniad? Rwy'n gwybod ei fod yn cyfeirio at elfen o'r ddeddfwriaeth, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut mae'n berthnasol i sefydliadau y tu allan i Gymru, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n eithrio sefydliadau rhag cynnwys eu caffael sy'n gymdeithasol gyfrifol—pethau fel mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, ond hefyd yn ymwneud â chanlyniadau amgylcheddol. Rwyf wedi gweld yr adroddiad rwy'n credu yr oedd yr Aelodau yn sôn amdano, ac nid yr argymhelliad yn unig, ond y llythyr a ddaeth gan nifer o sefydliadau, ac rwy'n ymrwymo i gwrdd â nhw i drafod hynny ymhellach, wrth i ni symud i gamau nesaf y ddeddfwriaeth.

A gaf i gau drwy ddweud, 'diolch yn fawr' i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth, wrth i ni symud ymlaen gyda'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, a gan fod yna wrthwynebiad i hynny, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais, a hefyd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, a dwi'n mawr obeithio nad oes, byddwn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. 

18:00
11. Cyfnod Pleidleisio

Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 5—Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiad Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf yw'r Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 10 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 7—Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 9 yw'r bleidlais nesaf—egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 9—dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Y bleidlais olaf yw'r cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn. 

Eitem 10—y penderfyniad ariannol mewn perthynas Ô’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna inni ddiwedd ar ein gwaith. Un peth i'w ddweud, 'Pob lwc, Cymru.'

Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.