Y Cyfarfod Llawn

Plenary

28/06/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno trwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, a cyn i mi alw'r cwestiwn cyntaf, dwi eisiau gwahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad byr. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, ymatebais i gwestiynau ar y streiciau rheilffyrdd. Yn dilyn hynny, rhoddodd Network Rail fanylion pellach ar ei weithredoedd yn ystod y streic. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw staff wedi eu hadleoli o Gymru. Ysgrifennais at arweinydd yr wrthblaid ar 24 Mehefin yn esbonio hynny. Wedi hynny, gyda chytundeb Network Rail, rhennais y llythyr gyda chi ac arweinydd yr wrthblaid. Byddaf yn rhoi copi yn y llyfrgell i'r Aelodau. Rwy'n hapus, wrth gwrs, i'r cofnod adlewyrchu hyn. Diolch yn fawr. 

Diolch, Brif Weinidog, am yr esboniad hynny. Mae'r cwestiwn cyntaf, felly, gan Joyce Watson. 

Cefnogi Dioddefwyr Cam-drin Domestig

1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig? OQ58286

Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein strategaeth genedlaethol bum mlynedd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais. Nod ei chwe amcan yw sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr i ddioddefwyr, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Ddoe, lansiais adroddiad ar wasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gweld trais a cham-drin gartref. Nid yw trais domestig yn effeithio ar yr oedolion dan sylw yn unig; effeithir ar tua un o bob pump o blant, ac mae'r gyfraith yn eu cydnabod fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Ond mae angen dybryd am gymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer oherwydd, heb gymorth cynnar, gall arwain at oes o effeithiau andwyol. Felly, comisiynais Cymorth i Fenywod Cymru i archwilio darpariaethau ledled Cymru, a'r hyn y gwnaethom ei ganfod yw loteri cod post. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn darllen ein hadroddiad ac yn trafod ein canfyddiadau a'n hargymhellion gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet. Siaradodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y lansiad ac mae wedi bod yn gefnogol iawn. Mae Julie Morgan a Lynne Neagle, Jeremy Miles a Jayne Bryant i gyd wedi ymgysylltu â'r prosiect hefyd. Felly, byddai'n dda cael mewnbwn Llywodraeth Cymru ar bob lefel unigol. 

Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Joyce Watson ar ei defnydd o'r cyfleuster y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu er mwyn i Aelodau allu cynnal ymchwil i faterion o arwyddocâd lleol ac, yn ei hachos hi, o arwyddocâd cenedlaethol. Mae gen i gopi o'r adroddiad, felly, wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn iddo gael ei ddarllen yn eang. Bydd yn sicr yn cael ei drafod gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Mae'n cynnwys cyfres o gasgliadau o'r ymchwil ac, yn bwysig iawn, cyfres o gamau ymarferol y mae'n awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd i sicrhau bod plant sy'n dioddef cam-drin domestig yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. 

Yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, cynigiais welliannau yn galw am i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen i gyflawnwyr, gan nodi mai Choose2Change oedd yr unig raglen a achredwyd gan Respect yng Nghymru ar y pryd. Wrth holi eich rhagflaenydd Prif Weinidog yn 2016, cyfeiriais at hyn a dywedais fod y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni cyflawnwyr, wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyflawnwyr cyn carcharu. Gofynnais iddo ba gamau yr oedd ei Lywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny. Ymatebodd:

'mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu trwy gyfrwng grŵp cynghori'r Gweinidog ac, wrth gwrs, drwy'r strategaeth.'

Felly, pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth wedi'u cymryd ers hynny, pan fo eich ail strategaeth genedlaethol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn cyfeirio at fwriad Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yn y maes hwn drwy gynyddu ein gwaith o ganolbwyntio ar y cyd ar yr unigolion hyn?

13:35

Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac mae'n iawn iddo ddweud bod y strategaeth newydd yn ceisio adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud; ni fyddai'n bosibl adeiladu ar gynnydd pe na bai cynnydd eisoes wedi digwydd yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Cyfeiriais yn fy ateb i Joyce Watson at chwe amcan y strategaeth genedlaethol bum mlynedd newydd. Mae'r trydydd o'r amcanion hynny'n ymdrin yn uniongyrchol â'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi y prynhawn yma. Felly, wrth gwrs, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar y rhai sy'n cyflawni trais domestig, wrth gwrs mae'r strategaeth yn bwriadu i'r bobl hynny wynebu'r cyfrifoldebau am eu gweithredoedd eu hunain, ond mae hefyd yn nodi ffyrdd y gellir rhoi rhaglenni ymarferol ar waith i helpu pobl sy'n dymuno diwygio a rhoi eu bywydau ar seiliau gwahanol a gwell.

Prif Weinidog, rwyf i hefyd yn cymeradwyo gwaith Joyce Watson—y gwaith diflino y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ers ei hethol yn 2007. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n falch fy mod i hefyd wedi darllen yr adroddiad, felly dyna ddau ohonom, Prif Weinidog, sydd wedi ei ddarllen, ac rwy'n siŵr bod llawer o rai eraill wedi gwneud hynny hefyd. Rydym wedi cymryd rhai camau pwysig iawn o ran gofal dioddefwyr, gyda sefydlu'r comisiynydd dioddefwyr yn 2019 a'r comisiynydd cam-drin domestig yn yr un flwyddyn. Fodd bynnag, gofynnodd mam i blentyn a lofruddiwyd i mi'n ddiweddar pam nad oes gennym gomisiynydd dioddefwyr yng Nghymru, rhywun yn llawer agosach atom. Felly, a ydych yn credu, Prif Weinidog, y dylem fod â chomisiynydd dioddefwyr yng Nghymru sy'n atebol i'r lle hwn yn hytrach na'r Swyddfa Gartref? Diolch yn fawr.

Llywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r comisiynydd dioddefwyr, Vera Baird QC. Rwy'n credu ei bod wedi gwneud gwaith effeithiol iawn. Mae hi wedi dangos diddordeb gwirioneddol yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod y system honno wedi ein gwasanaethu'n dda hyd yma. Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i syniadau am ffyrdd o wella'r system, ond rwy'n credu mai dyma un o'r agweddau hynny lle—. Ac rwy'n talu teyrnged arbennig i ddeiliad presennol y swydd, oherwydd yr egni a'r ymrwymiad a'r diddordeb y mae'n eu dangos mewn meysydd datganoledig yn ogystal â meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Rwy'n credu ein bod wedi cael gwasanaeth da gan y comisiynydd, ac ar hyn o bryd, rwy'n credu mai ein barn ni yw y dylem barhau i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth a gawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwych eich clywed chi ar y radio y bore yma hefyd. A gaf i hefyd ddweud 'diolch' wrth Joyce Watson am y gwaith y mae hi wedi ei wneud yn y maes yma?

A gaf i droi'r sylw yn ôl at blant ac amddiffyn plant? Maen nhw, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ac fel y mae Joyce wedi ei ddweud hefyd, yn ddioddefwyr eraill cam-drin domestig y mae angen i ni eu rhoi ar flaen ein meddyliau. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio i amddiffyn plant—ein bydwragedd, ein hymwelwyr iechyd, ein hathrawon ysgol, y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, a'n gweithwyr cymdeithasol hefyd. Fel y gwyddoch, mae gen i rywfaint o brofiad o weithio ym maes gwaith cymdeithasol, ac roeddwn i'n awyddus iawn i ofyn i chi sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein gweithwyr cymdeithasol yma yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi, a'n bod ni fel Senedd yn gyfrifol am eu monitro a'u cefnogi yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud? Diolch yn fawr iawn.

Llywydd, diolch i Jane Dodds. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â phopeth roedd hi'n dweud am y gwaith y mae pobl yn ei wneud yn y rheng flaen, yn enwedig pobl sy'n gweithio ym maes anodd a heriol gofal plant.

Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jane Dodds yn un pwysig, Llywydd. Mae hyn yn gyfrifoldeb i'r holl weision cyhoeddus sy'n dod i gysylltiad â phlant sy'n dangos tystiolaeth bod profiad o drais domestig wedi effeithio arnyn nhw eu hunain. O ran yr amcanion y cyfeiriais atyn nhw yn y strategaeth genedlaethol, mae'r pumed o'r chwe amcan yn canolbwyntio ar anghenion hyfforddi'r gweithlu, er mwyn sicrhau bod pobl y gofynnwn iddyn nhw wneud y swyddi anodd hyn yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw, ac, yn unol â phedwerydd amcan y cynllun, eu galluogi i symud eu gweithgarwch i fyny'r afon, fel y byddem yn ei ddweud, fel y gallan nhw ganolbwyntio'n fwy ar ymyrraeth gynnar ac atal, yn hytrach na gorfod cyrraedd fel gwasanaeth ambiwlans, gan geisio achub plant rhag y profiadau a fydd eisoes wedi effeithio arnyn nhw. 

13:40
Cludiant i Ysgolion

2. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio'n andwyol ar bresenoldeb disgyblion cynradd ac uwchradd? OQ58258

Diolch yn fawr i Heledd Fychan. Llywydd, mae disgyblion cynradd sy'n byw ymhellach na 2 filltir o'r ysgol a disgyblion uwchradd dan 16 oed sy'n byw ymhellach na 3 milltir o'r ysgol yn cael trafnidiaeth i'r ysgol am ddim. Cafodd adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr ei gyhoeddi ar 31 Mawrth, a bydd adolygiad manylach yn dilyn yn awr. 

Diolch, Prif Weinidog. Gyda'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau cynyddol ar rieni a gofalwyr, mae yna fwyfwy o bobl yn cysylltu gyda fy swyddfa ynglŷn â phris trafnidiaeth yn effeithio ar bresenoldeb. Ategwyd hyn ymhellach pan gysylltodd Ruben Kelman, Aelod o'r Senedd Ieuenctid dros Ogledd Caerdydd, gyda mi bythefnos yn ôl, gan rannu canlyniadau arolwg a redodd Ysgol Uwchradd Llanisien, lle holwyd rhieni am eu profiadau gyda thrafnidiaeth ysgol. Yn frawychus, nododd 39 y cant o'r rhieni bod eu plentyn wedi gorfod colli'r ysgol oherwydd nad oeddent yn medru fforddio cost y bws. Roedd y mwyafrif o'r disgyblion hyn yn byw jest o dan y trothwy o 3 milltir, sef y trothwy ar gyfer trafnidiaeth am ddim. Nodwyd fod un disgybl yn barod wedi colli naw diwrnod eleni ac wedi colli 15 y flwyddyn flaenorol oherwydd bod ei theulu methu fforddio cost y bws. Dyma oedd geiriau un rhiant:

'Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi dadansoddi pa filiau y gallaf ohirio eu talu, fel y gall fy merch fynychu'r ysgol. Mae'n ddigon i'ch digalonni. Helpwch ni rieni os gwelwch yn dda.'  

Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i helpu rhieni a gofalwyr sydd yn methu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus? 

Wel, diolch i Heledd Fychan am y pwyntiau pwysig yna. Fel dywedodd hi, rydym ni'n gallu gweld y costau byw yn cynyddu bron bob wythnos. Wythnos diwethaf, roedd yr ONS wedi cyhoeddi'r ffigurau misol sydd gyda nhw yn dangos bod costau byw wedi mynd lan 9.1 y cant ym mis Mai, ond bod costau trafnidiaeth wedi codi, yn yr un ffigurau, 13.8 y cant. So, gallwn ni weld, wrth gwrs, yr effaith mae hwnna'n ei chael ar amodau pobl ledled Cymru. Dwi wedi gweld yr adroddiad, oedd wedi cael ei gyhoeddi ar ôl y gwaith roedden nhw wedi ei wneud yn yr ysgol yn Llanisien, ac mae'n bwysig, wrth gwrs, i glywed beth mae pobl yn yr ymchwil yna wedi dweud. Mae mwy nag un ffordd i ddatrys y problemau roedd pobl yn codi. Mae'n bwysig i ni wneud mwy i helpu pobl sy'n byw tu fewn i'r dalgylch i gerdded neu i seiclo neu i gael ffordd ddiogel i fynd i'r ysgol. Rydym ni'n buddsoddi, fel Llywodraeth, swm o fwy na £200,000 yn y rhaglenni hynny dros y tair blynedd nesaf.

Ond, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i fi ddweud wrth yr Aelod ac Aelodau eraill mai dim ond un swm o arian sydd gyda ni fel Llywodraeth. Pan fyddwn ni'n cytuno ar ein blaenoriaethau ni, bydd rhaid inni fynd ar ôl y blaenoriaethau. A'r flaenoriaeth sydd gyda ni, yn y cytundeb sydd gyda ni gyda Phlaid Cymru, yw defnyddio'r arian newydd sydd gyda ni i roi bwyd am ddim i bob plentyn yn ein hysgolion cynradd. Pan fydd blaenoriaeth dda fel yna gyda ni a dim ond un swm o arian gyda ni, wel, mae'n rhaid inni fynd ar ôl y pethau rydym ni wedi cytuno i'w gwneud yn gyntaf.   

Prif Weinidog, er ei bod yn iawn i ni ddeall y mater pwysig hwn o ran disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol bod dysgwyr ôl-16 hefyd yn dibynnu'n drwm ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynychu colegau a phrifysgolion, a bod prentisiaid yn gorfod talu costau teithio nid yn unig i'r coleg, ond hefyd i'w gweithle. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod pryderon cynyddol i ddysgwyr ôl-16 pan fo gan awdurdodau lleol drefniadau teithio dewisol, oherwydd effeithiwyd ar drefniadau teithio dewisol o ganlyniad i awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd. Fel yr ydych wedi ei ddweud, mae ymrwymiad wedi'i roi i adolygu ac ymgynghori ar y canllawiau ar deithio gan ddysgwyr eleni, ond mae hyn wedi'i ohirio. Prif Weinidog, yn gyntaf, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn costau trafnidiaeth ar ddysgwyr ôl-16 a sut y gallai'r asesiad hwn gyfrannu at y Mesur teithio gan ddysgwyr? Ac, yn ail, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd yr adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn cael ei gynnal? Diolch.

13:45

Diolch i Joel James am y cwestiynau yna. Mae'r adolygiad manylach o'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn digwydd ar hyn o bryd, yn yr ystyr bod y cynllunio manwl ar gyfer yr adolygiad yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf, ac rydym wedi cytuno â'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol y bydd y gwaith gyda nhw ar yr adolygiad hwnnw yn dilyn yn nhymor yr hydref. Bydd elfen yn yr adolygiad hwnnw'n canolbwyntio'n fanylach ar anghenion pobl ifanc mewn addysg ôl-16. Rydym yn adolygu gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol effaith costau tanwydd cynyddol ar eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau i ddarparu cludiant i'r ysgol a'r coleg. Mae'n fater cymhleth.

Cawsom lythyr ddiwedd yr wythnos diwethaf gan gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan. Mae'n nodi yn ei lythyr, pan fo awdurdodau lleol yn gorfod aildendro'r gwasanaethau hyn—weithiau am fod contractau wedi'u dychwelyd am nad yw cwmnïau'n gallu parhau i fasnachu o dan yr amodau presennol—mae'r tendrau newydd rhwng 30 y cant a 40 y cant yn uwch na'r tendrau blaenorol. Ond mae pob awdurdod lleol mewn sefyllfa wahanol, Llywydd. Mae gan rai gontractau cymharol newydd, mae rhai yn dibynnu ar gontractau sydd wedi'u cytuno amser maith yn ôl, mae gan rai contractau drefniadau adnewyddu blynyddol ynddyn nhw, ac eraill heb hynny o gwbl. Yr hyn y mae CLlLC yn ei gynnig yw y dylen nhw gasglu gwybodaeth bellach a manylach am yr effaith y mae gwasanaethau cludiant i'r ysgol yn gorfod ei llyncu oherwydd costau cynyddol petrol a mesurau trafnidiaeth eraill, ac yna byddwn yn cael trafodaethau pellach gyda nhw ynghylch beth, os unrhyw beth, y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn atal dros dro ei chynllun ffoaduriaid Wcráin o fod yn uwch-noddwr i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru, cynllun a groesawyd gennym pan ddaeth gerbron pobl Cymru yn swyddogol i ddangos yr hyn y gallem ni fod yn ei wneud yn y rhan hon o'r DU i helpu ffoaduriaid sy'n dod allan o Wcráin. Ddoe gwelsom eto erchyllterau'r rhyfel yno, lle cafodd canolfan siopa ei tharo gan daflegryn milwrol, heb darged milwrol o fewn golwg o gwbl, a sifiliaid yn dioddef colledion erchyll. Yn eich sylwadau yr wythnos diwethaf am gynllun nawdd Wcráin, fe ddywedoch chi fod Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y byddai 1,000 o ffoaduriaid yn dod i ddechrau, ond, hyd yma, 4,000 oedd wedi cofrestru. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r ffoaduriaid sydd eisoes gyda ni ac, yn bwysig, y ffoaduriaid hynny sydd wedi cofrestru i ddod i Gymru o dan y cynllun?

Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n iawn iddo dynnu sylw at erchyllterau parhaus digwyddiadau yn Wcráin. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod atal ein platfform uwch-noddwr dros dro oherwydd ei lwyddiant eithriadol. Rydym wedi cael llawer mwy o bobl yn manteisio ar y cynnig posibl i ddod i Gymru, ac rydym eisoes wedi cael llawer mwy o bobl yn cyrraedd Cymru na'r 1,000 a ddywedom yn wreiddiol y byddem yn darparu ar eu cyfer. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn ein canolfannau croeso, ac mae'r canolfannau croeso hynny, yn fy marn i, yn cynnig gwasanaeth rhagorol. Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau yn Llangrannog ddydd Llun yr wythnos diwethaf lle mae 300 o bobl o Wcráin—200 o oedolion a 100 o blant—yn cael y croeso mwyaf rhyfeddol a'r cyfle a werthfawrogir fwyaf, sef i ailymgynnull, i deimlo, fel y dywedon nhw wrthyf, ymdeimlad o iachâd ar ôl gadael lle llawn anawsterau a chyrraedd lleoliad lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn cael gofal.

Rhaid i'n hymdrechion ganolbwyntio'n wirioneddol dros yr wythnosau nesaf ar symud pobl y tu hwnt i'r canolfannau croeso ac i gartrefi'r teuluoedd niferus hynny yng Nghymru sy'n parhau i fod yn barod i gynnig lle yn eu cartrefi fel y gall pobl barhau i ailadeiladu eu bywydau. Nid yw hynny'n digwydd mor gyflym ag y mae angen iddo ddigwydd. Mae rhesymau dros hynny, oherwydd mae'n rhaid gwirio cynigion o gymorth, mae'n rhaid cynnal gwiriadau'r heddlu, mae'n rhaid i adrannau gwasanaethau cymdeithasol ymweld ac ati, ac nid yw hynny'n broses y gallwch ei brysio os ydych yn mynd i gael y cydweddu cywir rhwng y bobl yn y ganolfan groeso a'r bobl sy'n cynnig llety, fel nad ydym yn gweld lefel y methiant yn y trefniadau hynny sy'n cael eu hadrodd mewn rhai rhannau eraill o'r wlad. Dyna fyddwn ni'n canolbwyntio arno dros yr wythnosau nesaf. Cyn gynted ag y bydd gennym gydbwysedd rhwng pobl yn gallu gadael y canolfannau croeso a mynd at deuluoedd a nifer y bobl sy'n dymuno dod i Gymru, yna byddwn mewn sefyllfa i ailagor y llwybr uwch-noddwr.

13:50

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi bod y canolfannau'n cynnig y gefnogaeth gychwynnol honno, yr ymdeimlad cychwynnol hwnnw o ddiogelwch a noddfa ar ôl dod o'r fath gythrwfl ag sydd yn Wcráin. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw deall sut y mae'r Llywodraeth yn awr yn nodi'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen i ddarparu ar gyfer pobl y tu hwnt i'r canolfannau croeso cychwynnol, oherwydd rwy'n credu y byddech chi, fel minnau, yn cytuno mai dim ond llety dros dro yw'r canolfannau hyn cyn y gellir rhoi trefniadau setlo parhaol ar waith ar gyfer teuluoedd sy'n dod i Gymru.

Nodais hyn yn fy llythyr atoch ar 11 Mawrth eleni fod gennyf bryderon ynghylch yr adnoddau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi'r cynllun. A allech chi roi rhywfaint o eglurder i ni, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, ynghylch ble y credwch y byddwch yn nodi'r adnoddau ychwanegol, yn enwedig yr adnoddau tai, y bydd eu hangen? [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Llywodraeth yn ysgwyd eu pennau ac yn piffian. Mae'n ffaith—[Torri ar draws.] Ni allaf gredu eich bod—. Rydych yn piffian, oherwydd rydych chi'n cymryd sefyllfa ddifrifol ac yn credu y gellir ei datblygu'n bwynt gwleidyddol. Mae yna broblem, mae pobl yn sownd ar eu hynt drwodd, mewn mannau a oedd i fod dros dro iddyn nhw, yn hytrach na'r stoc dai y dylai Llywodraeth Cymru ei nodi. Rwyf eisiau gwybod o le y daw'r stoc dai honno. A all y Prif Weinidog roi'r ateb hwnnw?

Llywydd, wrth gwrs rydym eisiau i bobl symud ymlaen o'r canolfannau croeso cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Bydd amrywiaeth o gyrchfannau ar gyfer pobl sy'n gadael y canolfannau hynny. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynd at y teuluoedd hynny sydd wedi cynnig gofalu mor hael am rywun sy'n dianc rhag erchyllterau Wcráin, ond mae llwybrau eraill yn cael eu harchwilio. Rydym yn bwriadu gyda nifer o awdurdodau lleol, defnyddio unwaith eto mwy o dai a fydden nhw fel arall yn wag. Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau, pan fo cyfleoedd yn y sector rhentu preifat, y bydd pobl yn gwybod am y rheini, ac y gellid gwneud y gwaith paru hwnnw hefyd.

Y pwynt yr oedd fy nghyd-Aelodau'n ceisio'i gyfleu i arweinydd yr wrthblaid yw hwn: rydym yn gorfod gwneud hyn i gyd gan ddefnyddio ein hadnoddau ein hunain. Mae pobl sy'n dod o'r Wcráin wedi cael eu twyllo gan Lywodraeth y DU. Yn syml, nid yw'r arian yno yn y system i wasanaethau cyhoeddus allu derbyn, fel y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwbl awyddus i'w wneud, y bobl sy'n dod o Wcráin yn y ffordd y byddem ni eisiau eu gweld yn cael eu croesawu. Nid oes arian o gwbl i bobl sy'n dod drwy'r cynllun teuluoedd, a hyd yn oed i bobl sy'n dod ar hyd llwybrau eraill, nid yw lefel y cyllid yn ddiogel—mae am flwyddyn yn unig. Nid oes gennym sicrwydd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i hynny. Felly, mae gwerth £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a ganfuwyd o ffynonellau eraill wedi'i drefnu i gefnogi'r camau ychwanegol yr ydym yn eu cymryd. Nid ydym yn cael yr un geiniog gan Lywodraeth y DU ar gyfer y canolfannau croeso. Ariennir y rheini i gyd o adnoddau Llywodraeth Cymru, ac mae'r £20 miliwn hwnnw'n cael ei wario'n gyflym iawn, oherwydd nifer y bobl sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i ddod yma i Gymru. Nid oes stoc fawr o dai yn aros i gael eu defnyddio. Rydym yn dal i ddod o hyd i leoedd i bobl o Syria ac o Affganistan, mae gennym 1,000 o bobl bob mis o hyd yn mynd at wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru yn dweud eu bod yn ddigartref, a gwyddom fod gennym bobl sydd ar restrau aros am dai yn aros i gael eu hailgartrefu. Nid oes atebion hawdd—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi?

13:55

Wrth gwrs, mae methiant yn y system, a daw yn sgil degawd o fethiant i fuddsoddi yn y materion hyn gan eich Llywodraeth chi—pobl a'u cefnogodd dros y cyfnod hwnnw. Ond mae'r syniad bod stoc fawr a hygyrch o dai yn aros i gael eu defnyddio—nid felly y mae, a dyna pam mai'r cynigion gan deuluoedd fydd asgwrn cefn y ffordd y gallwn symud pobl y tu hwnt i'r ganolfan groeso ac ymlaen i'r cam nesaf ar eu taith yma yng Nghymru. 

Prif Weinidog, y pwynt yr wyf yn ei wneud i chi yw eich bod wedi cymryd y clodydd, ac yn briodol wedi cymryd y clodydd, eich bod wedi nodi eich hun yn Llywodraeth uwch-noddwr ar gyfer ffoaduriaid sy'n dod o'r erchyllterau a welwn ni yn Wcráin, ac rydym i gyd eisiau chwarae ein rhan. Ond mae'n rhaid i chi nodi'r adnoddau sydd i ateb y galw. Nawr, rydych wedi dweud, yn eich geiriau eich hun, fod 4,000 o unigolion ar hyn o bryd wedi'u nodi fel rhai sydd eisiau dod i Gymru. Mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, eu bod nhw eisiau dod i Gymru. Os ydych wedi nodi £20 miliwn ar gyfer y 1,000 o ffoaduriaid y dyrannwyd yr asesiad cychwynnol ar eu cyfer, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi ddod o hyd i £60 miliwn ychwanegol i ddarparu ar gyfer y 3,000 ychwanegol, ynghyd â'r gofyniad tai yn ogystal â symud pobl allan o'r canolfannau croeso cychwynnol. Dyna'r hyn yr wyf yn ceisio'i ganfod gennych ar hyn o bryd, Prif Weinidog: o le y daw'r adnodd hwn o'ch adnoddau ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. A hefyd, ble ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r stoc dai i roi pobl mewn llety o ansawdd fel y gallant ailadeiladu eu bywydau, sy'n bwysig oherwydd bod hynny'n rhan o'r broses ailsefydlu yr ydym eisiau ei gweld? Roedd y rhain yn ffactorau hysbys pan wnaethoch y cynnig; mae'n ffaith yn awr eich bod wedi atal y cynllun dros dro, felly nid yw'n afresymol gofyn i le yr ewch chi â'r cynllun gyda'r adnoddau sydd eu hangen arnoch, neu a fydd y cynllun yn parhau i gael ei atal a hynny'n barhaol? 

Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau yna, Llywydd. Rwyf wedi esbonio i arweinydd yr wrthblaid y byddwn, cyn gynted ag y gallwn sicrhau cydbwysedd rhwng all-lif o'r canolfannau croeso, yn gallu eu hailagor i groesawu mwy o bobl yma i Gymru. Rwyf wedi amlinellu iddo lle, o dan amgylchiadau heriol iawn, y deuir o hyd i dai mwy parhaol ar gyfer pobl sydd wedi dod o Wcráin, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, ein cydweithwyr yn y mudiad cymdeithasau tai ac eraill sy'n ein helpu i wneud hynny. Nid oes gan Lywodraeth Cymru arian gan Lywodraeth y DU i helpu gyda'r camau yr ydym yn eu cymryd—dim. Felly, byddaf yn glir gydag ef am hynny. Ni ddaw'r un geiniog i ni er mwyn i ni wneud y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gallu dod o hyd i'r buddsoddiadau y mae arnom eu hangen.

Gadewch i mi wneud y pwynt hwn yn glir, Llywydd: nid oes dim o'r hyn a wnawn yma yng Nghymru yn ymwneud â chanmoliaeth. Mae hwnnw'n syniad sarhaus. Dywedaf hynny wrtho. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud hynny wrtho, oherwydd yr wyf eisiau ei gwneud yn glir iddo: nid oes dim o gwbl a wnawn ni yn ymwneud â cheisio clod gan neb. Pan siaradais â phlentyn saith oed yn Llangrannog yr wythnos diwethaf, yr oedd yn cael trafferth wrth geisio egluro i mi oherwydd yr ychydig eiriau yr oedd ganddo, sut brofiad oedd cyrraedd Cymru, a phwyntiodd at yr awyr uwchben a dywedodd, 'Dim rocedi yn yr awyr.' Plentyn saith oed, a oedd wedi bod trwy gymaint. Dyna'r rhesymau y mae pobl yng Nghymru wedi ymateb gyda'r haelioni sydd ganddyn nhw i'r broblem hon, a dim byd arall. 

Diolch, Llywydd. Dywedodd Michael Gove y llynedd, ar ôl eich anogaeth chi, Prif Weinidog, fod Llywodraeth San Steffan eisiau ailsefydlu'r berthynas â'r gwledydd datganoledig. Gwyddom yn awr beth yr oedden nhw'n ei olygu wrth hynny, wrth gwrs—maen nhw eisiau iddi fod yn berthynas pryd y maen nhw'n rheoli ac yr ydym ni yn eilradd, eu Senedd nhw sydd oruchaf a'n Senedd ni'n wasaidd. Wrth gyhoeddi, heb air atoch chi y Llywodraeth nac atom ni y Senedd, eu bwriad i ddiddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 a basiwyd gan y Senedd hon, maen nhw wedi dangos eu dirmyg nid yn unig tuag at weithwyr, nid yn unig tuag at Gymru, ond tuag at ddemocratiaeth gyfan. Nid dim ond un enghraifft arall mewn rhestr hir o gipio pŵer yw hyn; mae'n drobwynt. Dyma dorbwynt datganoli, o bosibl. Mae'n tynnu hawliau dinasyddion yn ôl, ond mae hefyd yn gwadu'r hawl i'r union ddinasyddion hynny benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Nawr, rydych chi wedi dweud, Prif Weinidog, y byddwch yn gwrthwynebu San Steffan yn ei hymgais i danseilio ein democratiaeth, ond y cwestiwn brys nawr yw: sut?

14:00

Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ddweud hyn, mae Llywodraeth y DU yn amharchus iawn, iawn—amharchus iawn tuag at ddatganoli, amharchus tuag at y Senedd hon—wrth iddi, ddoe, smyglo allan, mewn memorandwm esboniadol, nid hyd yn oed yn y datganiad a wnaethon nhw, eu bwriad i geisio diddymu darnau o ddeddfwriaeth a basiwyd drwy'r ddeddfwrfa hon. Dim gair ymlaen llaw, dim llythyr i ddweud mai dyma yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud, ac, oni bai am lygaid barcud pobl yn edrych i weld beth yr oedden nhw'n bwriadu ei wneud, yna ni fyddem yn gwybod amdano heddiw, na fyddem ni? 

Edrychaf ar feinciau'r Ceidwadwyr. Does dim byd nad ydyn nhw'n fodlon ei amddiffyn, nac oes, os daw allan o San Steffan? Maen nhw'n barod i amddiffyn Llywodraeth y DU yn datgan ei bwriad heb ddangos y parch lleiaf drwy adael i'r rhai yr effeithir arnyn nhw wybod beth yw eu bwriadau. Cawson nhw eu cyfle, Llywydd. Pasiodd y darn hwnnw o ddeddfwriaeth drwy'r Senedd. Gallen nhw fod wedi'i gyfeirio at y Goruchaf Lys pe baen nhw'n teimlo ei fod mewn unrhyw ffordd y tu hwnt i bŵer ac awdurdod y Senedd hon. Fe wnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Y rheswm pam y maen nhw'n ei adfer nawr—mae'n rhan o'u hymagwedd filain tuag at undebau llafur, ac mae'n rhan o'u hagenda o amarch o ran datganoli. 

Sut y gallwn ni yng Nghymru—o leiaf y rheini ohonom sy'n poeni am ein democratiaeth yn y Senedd hon—ymateb yn awr mewn ffordd sy'n gwneud i San Steffan ailfeddwl a'i gwadnu hi? Nid yw llythyr yn mynd i weithio; rhoddwyd cynnig ar hynny o'r blaen. Ni allwn droi at y Goruchaf Lys i'n hamddiffyn fwy nag y gall blaengarwyr yn yr Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw eisoes wedi dyfarnu bod gan San Steffan bŵer diderfyn i ddeddfu, hyd yn oed mewn meysydd datganoledig. Nawr, mae gennym ateb syml iawn i'r sefyllfa hon, a fyddai'n dileu hawl San Steffan i fathru ein democratiaeth dan draed yn barhaol, nid yn unig yng nghyd-destun byr Llywodraeth Lafur bob 20 mlynedd, ac annibyniaeth yw hynny. Nawr, onid yw hwn yn syniad y mae ei amser wedi dod? Nawr, efallai nad yw'r Prif Weinidog eisiau mynd mor bell â hynny, ond a allech chi dderbyn mai un ffordd o anfon neges glir i San Steffan a fydd yn gwneud iddyn nhw eistedd a gwrando yw i chi ddweud nad yw eich unoliaeth yn ddiderfyn, ac i orymdaith Wrecsam dros annibyniaeth ddydd Sadwrn fod y mwyaf erioed, gorymdaith i amddiffyn democratiaeth Cymru, wedi ei chwyddo nid yn unig gan rengoedd cefnogwyr fy mhlaid, ond gan gefnogwyr eich plaid chithau hefyd? 

Wel, Llywydd, nid wyf yn gweld diben ail-ymgyfreitha'r mater hwn yn barhaus o flaen y Senedd. Roedd o flaen pobl Cymru flwyddyn yn ôl, ac ni allai fod wedi bod o'u blaenau mewn termau mwy plaen. Sefais wrth ochr arweinydd Plaid Cymru mewn dadleuon pryd y ceisiodd berswadio pobl mai annibyniaeth—gan dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig—oedd y ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru. Fe wnes i achos gwahanol—rwy'n ei wneud o hyd—mai'r ffordd i sicrhau bod pobl yng Nghymru'n parhau i arfer y lefel o reolaeth dros ein materion ein hunain yw sicrhau bod datganoli wedi ymwreiddio, na ellir ei dynnu'n ôl yn y ffordd sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ac mae ffordd o wneud hynny, Llywydd, a daw yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ac ni all hwnnw ddod yn ddigon buan. 

Nid oes gennym Lywodraeth yn San Steffan, Llywydd. Mae gennym griw o ieir heb bennau yn rhedeg o gwmpas yn ceisio achub eu crwyn eu hunain. Mae'n bryd iddyn nhw fynd er mwyn i bobl gael cyfle i ddewis Llywodraeth wahanol a gwell, a phan ddaw'r Llywodraeth wahanol a gwell honno, byddwn yn gallu sicrhau bod yr ymosodiadau yr ydym wedi'u gweld ar bwerau'r lle hwn, ar y cyllid y dylem fod wedi'i gael, a addawyd i ni ac na chyrhaeddodd o gwbl—i ymwreiddio'r pethau hynny. A dyna'r ffordd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael yr hyn yr wyf yn credu y dangoson nhw ym mis Mai y llynedd yr oedden nhw eisiau ei gael, yn fy marn i. Maen nhw eisiau datganoli pwerus. Maen nhw eisiau Senedd sy'n gallu gwneud y gwaith y cawsom ein hethol i'w wneud. Ond maen nhw, hefyd, eisiau bod yn rhan o Deyrnas Unedig lwyddiannus.

14:05

Rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, a gyda gofid, nad wyf yn clywed gwrthwynebiad ganddo; rwy'n clywed ildiad. Beth pe bai Llafur yn colli etholiad cyffredinol nesaf San Steffan, a'r un ar ôl hynny? Beth pe bai Boris Johnson yn Brif Weinidog ymhell i'r 2030au, fel yr adroddwyd yn ddiweddar? Beth ydym ni'n ei wneud wedyn? Nawr, rydych chi wedi dweud yn gyson fod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn undeb gwirfoddol. A ydych yn cytuno bod angen llwybr clir a diogel yn gyfreithiol i genhedloedd y DU ddewis eu dyfodol cyfansoddiadol, yr Alban a Chymru? Ac onid un o'r opsiynau i ni, mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddirymu ein democratiaeth—ac mae'n sicr bod hynny'n newid y mae'n rhaid i ni ei gydnabod; mae'r cyd-destun yn newid—yw i ofyn am y pŵer ar gyfer refferendwm ar ddyfodol ein democratiaeth, cais adran 109 yn ein hamgylchiadau, yn seiliedig ar ba bynnag fodel neu fodelau sy'n deillio o'r comisiwn cyfansoddiadol yr ydych wedi'i sefydlu?

Yn yr Alban, maen nhw'n casáu refferenda—dywed Llywodraeth y DU—ond, yng Nghymru, maen nhw'n dweud eu bod yn eu hoffi. Pam nad ydym ni'n rhoi un iddyn nhw? Ac os yw wedi'i fframio fel Cymru yn erbyn San Steffan, mae'n sicr yn refferendwm y gallwn ni ei ennill.

Wel, Llywydd, rwyf bob amser wedi dadlau—ac rwyf wedi mynd i drafferthion o'r herwydd o bryd i'w gilydd—os bydd pobl o unrhyw ran gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio dros refferendwm ar eu dyfodol, yna dylid caniatáu iddyn nhw gynnal y refferendwm hwnnw. Rwy'n credu y byddai hynny'n wir yng Nghymru hefyd. Os bydd plaid sy'n sefyll dros hynny mewn etholiad yn ennill mwyafrif o bleidleisiau yng Nghymru, yna wrth gwrs y dylai'r refferendwm hwnnw ddigwydd. Ond nid yw hynny wedi digwydd yma yng Nghymru, a hyd nes y bydd yn gwneud hynny, rwy'n credu bod yr achos y mae'r Aelod yn ei wneud wedi'i wanhau'n angheuol.

Deddf Syndrom Down 2022

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Ddeddf Syndrom Down 2022? OQ58281

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Nododd trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth y DU y bydd ei Deddf Syndrom Down yn rhoi'r un lefel o gymorth ac amddiffyniad i bobl â syndrom Down yn Lloegr sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan bobl yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i gyfarfod â dau etholwr, sydd hefyd yn rhieni i blant syndrom Down, sy'n rhedeg elusen leol sy'n cefnogi pobl ifanc â syndrom Down o bob rhan o'r de. Er gwaethaf gwelliannau mewn pethau fel gofal plant, addysg a chyflogaeth, tynnwyd sylw at y ffaith fod pobl ifanc â syndrom Down yn dal i wynebu rhwystrau rhag cynhwysiant. Yn benodol, canolbwyntiodd ein cyfarfod ar y diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu yn y ddarpariaeth addysg ôl-16.

Yn aml, prin yw'r lleoliadau hyfforddi ar gyfer unigolion o'r fath, tra bod llawer o leoliadau'n rhedeg am ddwy flynedd yn unig, gyda llawer o'r bobl ifanc hyn angen dewisiadau dysgu hirach a mwy hyblyg i ddiwallu eu hanghenion. Nododd yr etholwr hefyd fod cyrsiau o'r fath, yn Lloegr, yn aml yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o gyflogaeth, tra bod cyrsiau yng Nghymru yn canolbwyntio mwy ar sgiliau bywyd yn unig. Nawr, yn Lloegr, bydd y Ddeddf Syndrom Down, fel y byddwch yn cydnabod, a gyflwynwyd gan Dr Liam Fox, yn ei gwneud yn ofynnol i amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a darparwyr addysg ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar gamau y gellir eu cymryd i ddiwallu anghenion pobl â syndrom Down.

Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid cyflwyno darpariaethau'r Ddeddf yng Nghymru i sicrhau bod y rhwystrau presennol rhag cynhwysiant yn cael eu dileu, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a derbyn pobl â syndrom Down yn ehangach mewn cymdeithas? Yn olaf, Prif Weinidog, a fyddech chi neu un o'ch cyd-Weinidogion yn ymrwymo i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r maes hwn i drafod sut y gellir parhau i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â syndrom Down?

Diolch i Peter Fox am y pwyntiau yna, Llywydd. Mae'n iawn iddo ddweud mai Deddf i Loegr yn unig yw'r Ddeddf a basiwyd gan Senedd y DU. Yr hyn sydd ei angen yw i awdurdodau cyhoeddus ystyried canllawiau—canllawiau nad ydyn nhw wedi'u cyhoeddi hyd yma. Ond wrth gwrs—rwy'n sicr yn rhoi'r ymrwymiad hwn iddo—pan gyhoeddir y canllawiau, byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Y rheswm y daethom i'r casgliad, yn y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, nad oedd achos dros gynnwys Cymru yn y Bil hwnnw oedd oherwydd bod Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud yr hyn y mae angen i Ddeddf y DU ei wneud yn Lloegr erbyn hyn. Ac mae'r cynllun anabledd dysgu, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Julie Morgan yma mewn datganiad llafar ar lawr y Senedd ar 24 Mai, yn cynnwys addysg a chyflogaeth fel un o'i chwe thema graidd.

A yw hynny'n golygu nad oes mwy i'w wneud? Wrth gwrs nad ydi e, ac rwy'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Peter Fox am yr anawsterau parhaus y mae pobl ifanc â syndrom Down yn eu hwynebu. Byddaf yn trafod gyda fy nghyd-Aelod a fyddai cyfarfod o'r math a ddisgrifiwch yn werth chweil. Rwyf i fy hun wedi cyfarfod yn rheolaidd iawn â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, ac, fel Llywodraeth, ein hymrwymiad i sicrhau bod ganddyn nhw'r mathau o ddyfodol y byddem ni eisiau eu gweld ar eu cyfer, pryd y mae eu hanghenion yn cael eu diogelu ond bod eu rhagolygon yn cael eu gwella, ac yn yr ysbryd hwnnw yn union y mae ein cynllun gweithredu anabledd dysgu wedi'i greu.FootnoteLink

14:10
Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Canser

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau canser Llywodraeth Cymru? OQ58285

Llywydd, mae'r gwaith o lunio'r cynllun gweithredu yn cael ei wneud gyda rhwydwaith canser Cymru. Bydd y gwaith hwnnw yn parhau drwy gydol yr haf. Mae'r Gweinidog yn disgwyl cael copi ddrafft o'r cynllun ym mis Medi.

Diolch am yr ateb yna. Dwi newydd fod yn noddi digwyddiad yn dathlu 20 mlwyddiant Cancer Research UK, a tra'n dathlu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud drwy ymchwil i wella cyfraddau goroesi canser, mi oedd yna rybudd ein bod ni mewn perig o weld y cynnydd yn dod i stop rŵan. Mae effaith y pandemig, sy'n golygu bod pobl yn aros 16 gwaith yn hirach nac oedden nhw cyn COVID am rai profion diagnostig sylfaenol, a'r diffyg cynllun canser cenedlaethol dwi ac eraill wedi galw amdano fo ers cyhyd yn golygu ein bod ni mewn lle bregus. Rŵan, mae'r Llywodraeth, fel dŷn ni wedi clywed, yn dweud bod yna action plan newydd ar y ffordd. Dwi wedi clywed awgrym, yn gynharach, y gallai fo wedi cael ei gyhoeddi'r haf yma, neu fis Medi. Rydyn ni wedi cael cadarnhad eto rŵan mai drafft yn cael ei roi i'r Gweinidog erbyn mis Medi fydd o. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi, a Cancer Research UK, fod angen symud ar frys rŵan?

'Mae angen ymdeimlad o frys arnom'.

Dyna dywedodd prif weithredwr Cancer Research UK heddiw, achos mae gen i ofn dydyn ni ddim wedi gweld y synnwyr hwnnw o frys gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Wel, Llywydd, mae'n bwysig i roi cyfle i'r rhwydwaith canser Cymru, sy'n gwneud y gwaith ar y cynllun, gael yr amser maen nhw wedi gofyn i'w gael, a dŷn ni ddim yn siarad am fwy nag wythnosau cyn bydd cychwyn mis Medi yn dod, so dwi'n meddwl ein bod ni'n trio gwneud pethau ar frys, ac mae hynny yn bwysig. Dwi'n cytuno bod effaith y pandemig ar wasanaethau canser wedi bod yn un trwm, ond mae pobl yn y maes yn gweithio'n galed. Fel dwi wedi esbonio o flaen y Senedd cyn hyn, Llywydd, mae cynllun gyda Lloegr, mae strategaeth gyda'r Alban, mae datganiad gyda ni. Rŷn ni i gyd yn trio gwneud yr un peth. Mae'r enw ar y cynllun yn wahanol, ond y bwriad yw'r un peth, ac rŷn ni'n gweithio'n galed gyda'r bobl sy'n arwain y gwasanaethau mas yna yn y maes i wneud popeth gallwn ni i symud yr agenda ymlaen.

Mae'r pryder sydd gennyf i, Prif Weinidog, fel sydd gan elusennau canser eu hunain yn wir, yn ymwneud â pha mor gyflym y mae'r canolfannau neu'r clinigau diagnosis newydd yn cael eu cyflwyno. A allwch chi ddweud wrthyf beth fydd swyddogaeth y bwrdd diagnosteg o ran sicrhau bod byrddau iechyd yn datblygu'r modelau a'r canolfannau gwasanaeth hyn yn gyflymach?

14:15

Wel, Llywydd, mae gan bob bwrdd iechyd—ar wahân i Gaerdydd, a fydd yn dechrau'n ddiweddarach eleni—ganolfannau diagnosis cyflym erbyn hyn. Felly, nid wyf yn hollol siŵr pa broblem y mae'r Aelod yn ei gweld o ran cyflymder pan fyddan nhw eisoes yn digwydd mewn chwech o saith bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae tri ohonyn nhw yn gweithredu yn y gogledd, lle bydd gan Rhun ap Iorwerth ddiddordeb uniongyrchol; mae gan bob un o'r tri ysbyty cyffredinol dosbarth ganolfan diagnosis cyflym erbyn hyn. A Llywydd, mae'n bwysig cofio beth oedd diben y canolfannau diagnosis cyflym hynny: nid oes gan bobl sy'n mynd at eu meddyg teulu gyda symptomau, y symptomau clasurol ac uniongyrchol hynny bob tro, sy'n gysylltiedig â phosibilrwydd o ganser. Maen nhw'n dangos yr hyn a elwir gan y proffesiwn yn 'symptomau aneglur' a hyd yn hyn, ni fu llwybr uniongyrchol bob amser i feddyg teulu sicrhau bod rhywun y mae yn credu y gallai fod yn y sefyllfa honno, pan nad yw'r symptomau'n ddiffiniol, i sicrhau y gall y person hwnnw gael yr asesiad y mae ei angen. Dyna yw diben y canolfannau newydd, ac maen nhw'n ychwanegiad sylweddol at y dirwedd sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Llywydd, rwyf eisoes wedi dweud bod effaith COVID ar wasanaethau canser yng Nghymru wedi bod yn real, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—ac mae maes iechyd yn gweithio yn ôl blynyddoedd ariannol yn y ffordd y mae'n cyfrif y pethau hyn—yr oedd atgyfeiriadau 17 y cant yn uwch na'r flwyddyn cyn i'r pandemig ddechrau, a chafodd 22 y cant yn fwy o bobl driniaeth am ganser nag yn y flwyddyn cyn i'r pandemig daro. Felly, er gwaethaf y pwysau gwirioneddol sydd ar y system, mae wedi ymateb, rwy'n credu, gyda phenderfyniad gwirioneddol a gyda chryn lwyddiant.

Mynediad at Ddeintyddion y GIG yng Ngogledd Cymru

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ58262

Mae buddsoddiad ychwanegol, diwygio contractau, codi cyfyngiadau COVID yn raddol ac agor academi ddeintyddol gogledd Cymru ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn rhanbarth yr Aelod.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond serch hynny, rwy'n cael fy llethu, mewn gwirionedd, gan y nifer o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hanawsterau o ran cael gafael ar ddeintyddion y GIG yn y gogledd. Mae nifer o etholwyr wedi bod mewn cysylltiad o Wrecsam sydd wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw aros hyd at ddwy flynedd cyn y gallan nhw weld deintydd. Rwyf wedi cael trigolion yn cysylltu o Ddyffryn Clwyd sydd wedi dweud eu bod wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tair blynedd cyn y gallan nhw gael gafael ar ddeintyddiaeth. A chredaf mai rhan o'r rhwystredigaeth yma, Prif Weinidog, yw bod y rhain yn bobl sy'n talu eu trethi, yn talu eu hyswiriant gwladol, ond heb dderbyn y gwasanaeth y mae'r trethi hynny i fod i'w ariannu, ac yn y bôn, mae trigolion felly'n gorfod talu ddwywaith, oherwydd maen nhw'n talu drwy eu trethi ac yna'n gorfod cael gafael ar y gwasanaethau hyn drwy ofal deintyddol preifat yn lle hynny. Ac mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd bod deintyddion, er eu bod yn ymddangos yn hapus i gynnig y gofal preifat, efallai'n anhapus â'r contractau GIG yr ydych wedi'u rhoi ar waith, oherwydd nid ydyn nhw'n cynnig eu gwasanaethau drwy waith y GIG.

Felly, tybed, Prif Weinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud hyd yma o'r nifer hwn o ddeintyddion sy'n manteisio ar y contractau GIG hynny, a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i sicrhau bod digon o ddeintyddion i fy nhrigolion sy'n byw yn y gogledd?

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i nodi'r ffeithiau mewn cysylltiad â'r contract deintyddol, oherwydd gwnaethom ailadrodd hyn yn sylweddol ar lawr y Senedd ddiwedd mis Mawrth, pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthyf nad oedd yr un practis yn ardal Hywel Dda yn barod i gofrestru ar gyfer y contract newydd ac y byddai gwasanaethau deintyddol yn methu o fewn ychydig wythnosau. Yn wir, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, mae 92 y cant o ddeintyddiaeth y GIG bellach yn cael ei ddarparu gan bractisau sydd wedi ymrwymo i'r contract newydd. Mae hynny'n codi i 96 y cant yn y gogledd ac i 99 y cant ym mae Abertawe. Felly, gadewch i ni gladdu hwn y prynhawn yma. Y syniad nad oedd deintyddion yn gyffredinol yng Nghymru yn barod i ymrwymo i'r contract newydd yn wirfoddol—yr oedd ganddyn nhw'r dewis; os oedden nhw eisiau gwneud hynny, fe allen nhw, os nad oedden nhw eisiau gneud hynny, nad oedd yn rhaid iddyn nhw—maen nhw wedi gwneud hynny ran amlaf o lawer ym mhob rhan o Gymru, ac mae hynny'n newyddion da iawn i etholwyr yr Aelod, oherwydd rhan o'r contract newydd yw, drwy dynnu deintyddion oddi ar felin draed yr hen uned o weithgaredd deintyddol, byddan nhw'n gallu gweld cleifion newydd, cleifion GIG newydd, ym mhob rhan o Gymru.

Nawr, o ran recriwtio deintyddion newydd, nid oes gennyf amheuaeth, pan fydd yn ymateb i'r bobl sy'n llenwi ei fewnflwch, y bydd yr Aelod yn egluro y bydd Brexit, diwedd symud yn rhydd, diwedd cydnabod cymwysterau proffesiynol ar y cyd—. Mae'r Aelodau'n awyddus iawn yn y fan acw bob amser i ddyfynnu i mi beth mae'r proffesiwn yn ei ddweud. Rwyf yn dweud wrthyn nhw beth y mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ac eraill wedi'i ddweud. Yn y gogledd yn arbennig, lle roedd y cyrff corfforaethol mawr wedi cymryd practisau drosodd, yr hyn y maen nhw wedi'i ganfod yw bod pobl yr oedden nhw'n gallu recriwtio o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd wedi dychwelyd i rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, pan fyddan nhw'n ceisio recriwtio deintyddion a oedd gynt yn gallu dod atyn nhw heb unrhyw rwystrau o gwbl, mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy'r llwybr noddi, gyda'i holl gymhlethdodau a'i ansicrwydd. Ac mae rhan o'r anawsterau a brofir gan bobl yn y gogledd i'w priodoli'n uniongyrchol i'r ffordd y mae Brexit wedi ei gwneud yn anos recriwtio a chadw pobl sydd, hyd at yr adeg y cawson nhw eu cynghori gan aelodau o'r Blaid Geidwadol, y byddai popeth yn well yn eu bywydau, pe baen nhw dim ond yn cymryd y risg y cawson nhw eu gwahodd i'w chymryd, maen nhw'n canfod bod y gwasanaethau hynny wedi'u peryglu o ganlyniad.

Mae'r corff sy'n ariannu pobl ar gyfer hyfforddiant yma yng Nghymru yn datblygu'r dull o ymdrin â'r gweithlu, ac yr wyf i fy hun wedi credu erioed mai hwnnw oedd yr un gorau ar gyfer y proffesiwn hwn, ac arallgyfeirio yw hynny. Nid mater o recriwtio a hyfforddi deintyddion eu hunain yn unig ydyw; mae arnoch angen cnewyllyn o nyrsys deintyddol, therapyddion, a'r cnewyllyn newydd o gynorthwywyr deintyddol sy'n gallu cyflawni'r rhannau hynny o waith deintyddol, a gadael y rhannau hynny o'r gweithlu sydd wedi'u hyfforddi fwyaf ac sydd â'r cymwysterau mwyaf proffesiynol i wneud y pethau na all dim ond deintydd eu gwneud.

Cefais gwestiwn yr wythnos diwethaf gan Sam Kurtz yr oeddwn yn credu ei fod yn amlinellu'n dda iawn y cynnydd a wnaed mewn practisau meddygon teulu i wneud hynny'n union: i'r proffesiwn arallgyfeirio ac i ddefnyddio'r—[Torri ar draws.] Ie, y cwestiwn cyntaf un a gefais yr wythnos diwethaf, roeddwn yn credu ei fod wedi cyflwyno'r achos yn dda iawn. Nawr, mae angen i ni weld yr un dull yn cael ei fabwysiadu gan ddeintyddion, fel y gallwn wneud y defnydd gorau posibl o'u cymwysterau a'u gallu, a gwneir hynny drwy ddefnyddio pobl eraill a all fod yr un mor llwyddiannus yn rhan o'r tîm clinigol ehangach hwnnw, gan ganiatáu iddyn nhw, felly, weld mwy o etholwyr Sam Rowlands.

14:20
Entrepreneuriaid Ifanc

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ac annog entrepreneuriaid ifanc yn Sir Ddinbych? OQ58275

Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi fuddsoddiad pellach i gefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain. Yn ogystal â chymorth ariannol uniongyrchol, mae'r cynllun hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad unigol, er enghraifft, drwy'r rhaglen Cyflawni, sydd ar gael i bobl ifanc yn sir Ddinbych.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb yna, Prif Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â thafarn y Llew Glas yng Nghwm, ger Dyserth yn sir Ddinbych, sydd â pherchnogion newydd ers yn gynharach y mis hwn. Y dafarn hon, yn ôl pob sôn, yw'r ail dŷ rhydd hynaf yng Nghymru, wedi cael ei hailagor gan entrepreneuriaid ifanc, Jonathan White, 27 oed, a Megan Banks, 25 oed, sydd wedi gweithio'n lleol yn y diwydiant bwyd a lletygarwch ers nifer o flynyddoedd ac sydd bellach wedi cymryd y cam cyntaf i reoli eu sefydliad eu hunain, gan gyfrannu at yr economi leol a darparu swyddi i eraill. Hoffwn longyfarch Jonathan a Megan am ymgymryd â'r ymdrech hon, a dymuno pob llwyddiant iddyn nhw a'u tîm yn y Llew Glas, a gofyn i chi, Prif Weinidog, gyda thua 4,800 o bobl ifanc yn sir Ddinbych yn ddi-waith ym mis Rhagfyr 2021, ac un rhan o bump o bobl sir Ddinbych yn byw ar aelwydydd di-waith, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc yn sir Ddinbych i ddilyn ôl troed fy etholwyr wrth fynd ar drywydd a chynnal eu busnesau eu hunain?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni fyddwn yn hoffi cymryd rhan mewn cystadleuaeth gydag ef ar ymweld â thafarndai, ond ymwelais â thafarn ym Mhorth Tywyn yn ddiweddar, yr oedd dau berson ifanc wedi ei chymryd drosodd yn yr un modd, ac a oedd yn gwneud llwyddiant ysgubol ohoni. Felly, rwy'n llongyfarch ei etholwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r holl bobl ifanc hynny yng Nghymru sydd â'r fenter honno a'r penderfyniad hwnnw i sicrhau, lle mae ganddyn nhw gyfraniadau y maen nhw eisiau eu gwneud, eu bod yn dod o hyd i ffyrdd i wneud hynny. A dyna'n union oedd pwynt y datganiad a wnaeth Vaughan Gething yr wythnos diwethaf, i sicrhau bod y bobl ifanc hynny yn sir Ddinbych ac mewn rhannau eraill o Gymru sydd â syniad, sydd ag uchelgais, y bydd £2,000 bellach ar gael iddyn nhw, drwy Lywodraeth Cymru, i'w cefnogi yn hynny o beth. Ac mewn rhai ffyrdd yn bwysicach fyth, Llywydd, bydd ganddyn nhw gyngor cyn ac ar ôl cychwyn: cynllunio busnes, rheolaeth ariannol, cymorth gan gymheiriaid, mentora. Rwy'n falch iawn o ddweud, o'r bobl yr ydym ni wedi'u recriwtio i helpu gyda'r cynllun, fod 25 y cant yn siarad Cymraeg a bod 46 y cant ohonyn nhw yn fenywod. Rydym eisiau i bobl ifanc yng Nghymru, lle bynnag y maen nhw'n byw a beth bynnag fo'u cefndiroedd, deimlo, os oes ganddyn nhw y syniad busnes hwnnw y maen nhw eisiau ei hyrwyddo, eu bod yn gwybod y bydd cymorth a chyngor ar gael iddyn nhw.

Mae hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth wedi chwarae rhan fwy yn natblygiad economi'r DU yn ystod y degawd diwethaf. Mae llawer iawn o hynny'n dwf cryf, mae'n tynnu'n anghymesur ar bobl sydd â graddau prifysgol, ond gwyddom hefyd nad pob swydd yn y rhan honno o'r economi yw'r math o swydd y byddem eisiau iddi fod. Gwyddom fod ansicrwydd a bod camfanteisio hefyd. Nod ein cynllun yw sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas ym maes hunangyflogaeth a bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth i wneud hynny.

14:25
Tlodi Tanwydd

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58268

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae Gweinidogion Cymru yn achub ar bob cyfle i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cafodd mesurau costau byw, gan gynnwys tlodi tanwydd, eu trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos diwethaf. Maen nhw ar yr agenda unwaith eto ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yfory.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Mae'n dda clywed bod y mater hwn ar yr agenda, achos fel rŷch chi'n gwybod, mae costau tanwydd wedi codi ym mhob rhan o Gymru, ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Wrth deithio o sir Gaerfyrddin y bore yma i Gaerdydd, roedd hi'n amlwg bod pris petrol a disel rhyw 5c neu 6c y litr yn fwy yn y gorllewin o gymharu â fan hyn yn y brif ddinas. 

Mae pobl yng Nghymru, rhyw 80 y cant ohonyn nhw, yn defnyddio car i fynd i'r gwaith. Mewn ardaloedd gwledig fel y rhai dwi'n eu cynrychioli, mae pobl yn teithio rhyw 25 y cant ymhellach ar gyfer eu gwaith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn effeithio yn fawr arnyn nhw—pobl fel gofalwyr, pobl fel ffermwyr a busnesau bach sydd yn dioddef, wrth gwrs, yn fawr. Felly, rŷch chi'n gwybod bod rhannau o Loegr a'r Alban eisoes yn elwa ar gynllun y rural fuel duty relief, cynllun sydd ddim yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, pa bwysau ŷch chi fel Llywodraeth yn ei roi ar San Steffan er mwyn i'r cynllun hwn gael ei gyflwyno yma yng Nghymru i gefnogi cymunedau gwledig?

Llywydd, diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn yna. Dwi'n cofio, nôl yn 2015 pan oedd y cynllun yn cael ei greu, gwneud y pwyntiau hynny ar yr amser yna. Mae cymunedau yn Lloegr a chymunedau yn yr Alban yn gallu defnyddio'r cynllun, y rural fuel duty relief, ond does neb yng Nghymru'n gallu defnyddio'r un system. So, gallaf i ddweud wrth yr Aelod, yfory, pan fydd y cyfle gennym ni i godi'r pwyntiau—pwyntiau: mwy nag un pwynt, wrth gwrs—rŷn ni'n mynd i godi'r pwynt ar y rural fuel duty relief, y cynllun yna, unwaith eto, gyda'r Gweinidogion yn San Steffan, a gofyn iddyn nhw, os yw pobl yn Devon, er enghraifft, yn gallu defnyddio'r cynllun, pam nad yw pobl yn Nyfed neu ym Mhowys yn gallu defnyddio'r un peth, pan fo’r sefyllfa bron yr un fath.

14:30
Mynediad at Wasanaethau Meddygon Teulu

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddygon teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ58266

Polisi Llywodraeth Cymru yw gwella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol drwy ddefnyddio, i'r eithaf, ddoniau a galluoedd holl aelodau'r tîm clinigol. Fel hyn, gellir rhyddhau meddygon teulu er mwyn iddyn nhw allu ymateb i anghenion achosion mwy cymhleth.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae data o StatsCymru yn dangos bod nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda meddygon teulu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynyddu'n gyson, o 606,000 o gleifion yn 2016 i dros 619,500 ym mis Ionawr 2022. Ar yr un pryd, mae chwarter yr holl feddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru dros 60 oed ac felly'n agosáu at amser ymddeol. Dyma'r ganran uchaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. Os bydd y duedd hon yn parhau, dim ond cynyddu y gall y straen a'r pwysau ar ymarfer cyffredinol. Dim ond y bore yma, adroddwyd y bydd practis meddygol Saint-y-brid, meddygfa gyda bron i 7,000 o gleifion, yn cau cyn diwedd yr wythnos. Datgelodd meddyg teulu arweiniol yn y practis ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn ymddiswyddo o'i chontract gan nad oedd yn gallu recriwtio digon o bobl—meddygon teulu cyflogedig a phartneriaid meddygon teulu—i redeg y practis yn ddiogel. Felly, Prif Weinidog, pa gamau ydych chi am eu cymryd i gynyddu nifer y meddygon teulu sy'n cymhwyso bob blwyddyn yng Nghymru o'r ffigur presennol o 160, er mwyn sicrhau bod gan fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain ddigon o feddygon teulu i ateb y galw cynyddol? Diolch. 

Rhoddodd practis Saint-y-brid rybudd gryn amser cyn yr wythnos hon, ac mae'r practisau meddygon teulu cyfagos, sy'n derbyn cleifion a fyddai wedi derbyn gofal gan Saint-y-brid o'r blaen, i gyd wedi cadarnhau bod ganddyn nhw'r gallu a'r gweithlu i ddarparu gofal yn ddiogel i'r garfan o gleifion y cytunwyd arnyn nhw. Mae gennym 183 o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru eleni, nid 160, ac mae'r nifer wedi bod yn iach, ar y lefel honno neu'n uwch, ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. 

Gwn y bydd yr Aelod wedi croesawu'r cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru fod £27 miliwn i'w fuddsoddi yng nghanolfan iechyd a llesiant Dwyrain Casnewydd. Wrth gwrs, mae'n brosiect sydd wedi cael cefnogaeth rymus gan John Griffiths fel yr Aelod lleol. Bydd y practis hwnnw wedi'i leoli yn Ringland. Bydd yn dod â phractisau meddygon teulu at ei gilydd. Bydd yn cael deintyddfa Ringland yno o dan yr un to. Bydd gwasanaethau awdurdodau lleol ar gael i gleifion fel rhan o'r datblygiad llesiant hwnnw, ac mae'n ymddangos i mi ei fod yn enghraifft ymarferol a chyfoes iawn o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny yn rhanbarth yr Aelod ei hun. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths. 

Member
Lesley Griffiths 14:33:26
Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd

Diolch, Llywydd. Mae'r agenda heddiw wedi'i haildrefnu fel y bydd dadleuon a'r cyfnod pleidleisio yn dilyn y datganiadau llafar. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol ym maes canser ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan? Rwy'n gwneud y cais hwn oherwydd bod data diweddar yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brofion allweddol a ddefnyddir amlaf i wneud diagnosis o ganser. Mae'r ystadegyn brawychus hwn yn is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig, sy'n anelu at 75 y cant o gleifion i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Yn fy ardal i, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, dim ond 56.9 y cant o gleifion sy'n dechrau eu triniaeth gyntaf ar gyfer canser o fewn targed Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â 67.9 y cant ym mis Ebrill 2021. Mae mynediad i driniaeth cyn gynted â phosibl yn gwbl hanfodol er mwyn cynyddu siawns dioddefwyr canser o oroesi. Gweinidog, mae'n hanfodol bod pecyn cymorth cadarn a brys, gan gynnwys strategaeth canser lawn, a strategaeth y gweithlu, yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl. 

Diolch. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn egluro'r rhesymau pam y mae'r canolfannau diagnosis cyflym gennym ni, a faint sydd eisoes ar waith i helpu gyda'r sefyllfa anodd iawn yr ydych chi newydd ei chyflwyno. 

14:35

Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ynghylch sut y bydd ymosodiad Llywodraeth y DU ar hawliau dynol yn effeithio ar bobl yng Nghymru, yn ogystal â pholisi a deddfwriaeth Cymru. Rwy'n croesawu'r datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf. Dywedodd mai ychydig iawn o ymgysylltu a fu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU i wanhau dylanwad y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Gwyddom fod Llywodraeth y DU am ei gwneud yn haws iddyn nhw eu hunain pan fyddan nhw'n cyflawni polisïau creulon a chywilyddus fel cludo ceiswyr lloches i Rwanda, i'w gwneud yn haws iddyn nhw anwybyddu'r hyn sy'n foesol gywir er mwyn cyflawni'r hyn sy'n wleidyddol hwylus. Mae arnom angen dadl, Trefnydd, os gwelwch yn dda, i graffu ar sut y bydd hyn yn effeithio ar ddeddfwriaeth Cymru a rhaglenni'r Llywodraeth, o gofio bod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud bod hawliau dynol yn hanfodol i'r setliad datganoli. Hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diogelu hawliau dinasyddion Cymru os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen heb ganiatâd y Senedd. Byddwn yn croesawu dadl, os gwelwch yn dda, fel y gallwn drafod y materion hynod bwysig hyn. Diolch.

Diolch. Fel y dywedwch chi, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Mae'n gweithio'n agos iawn i sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o gynlluniau Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr, pan fydd rhagor o wybodaeth i'w chyflwyno, y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar lygredd. Yn Nwyrain Abertawe, mae Afon Tawe yn dioddef o garthion sy'n cael eu rhyddhau'n rheolaidd o orsaf bwmpio Trebannws. Ymhellach i mewn i'r etholaeth, mae gennym blastig yn cael ei losgi oddi ar wifren a'r llygredd sy'n gysylltiedig â hynny. Mae gennym blaladdwyr sy'n llygru pridd ac afonydd. Yn olaf, mae gennym ocsidiau nitrogen a ddaw o geir ar hyd y prif ffyrdd. Rwy'n siŵr bod hyn yn cael ei ailadrodd ledled Cymru. Bydd datganiad gan y Llywodraeth ar y problemau sy'n bodoli a pha gamau sydd i'w cymryd i'w croesawu'n fawr.

Diolch. Rwy'n deall fod Dŵr Cymru wedi bod yn ymchwilio i orlifoedd cyfunol sy'n gollwng llawer yn Afon Tawe fel rhan o'u hymchwiliadau i fframwaith asesu gorlif stormydd, a'u bod yn buddsoddi cyllid sylweddol—rwy'n credu ei fod dros £100 miliwn—i uwchraddio eu rhwydwaith rheoli gwastraff. Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Abertawe wedi bod yn gweithio ar leihau camgysylltiadau domestig, lle mae cartrefi neu fusnesau yn cysylltu eu systemau carthion yn anghywir â'r prif rwydwaith carthffosydd. Mae hynny, yn amlwg, mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru hefyd.

A gaf i ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Mae un ar COVID hir. Amcangyfrifir bod tua 30 y cant o'r rhai a gafodd COVID-19 yn y DU bellach yn dioddef o COVID-19 hir. Yn wir, mae nifer o bobl sy'n bryderus iawn wedi cysylltu â mi yn fy swyddfa'n ddiweddar oherwydd na allan nhw ddod o hyd i wasanaethau. Yn fy mwrdd iechyd fy hun, Betsi Cadwaladr, maen nhw wedi addo darparu ystod o gymorth ac ymyriadau clinigol, wedi'u teilwra'n unigol i anghenion cleifion. Fodd bynnag, pan fyddwch yn mynd ar y wefan, mae'n rhybuddio bod ganddyn nhw restr aros oherwydd nifer fawr o atgyfeiriadau. Felly, a wnewch chi drefnu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu datganiad ar ba fynediad i driniaeth COVID hir sydd ar gael ym mhob bwrdd iechyd ar wahân?

Fy rhif dau yw: yn ystod Sioe Llanrwst wych ddydd Sadwrn, a welodd filoedd o bobl yno, roeddwn yn falch o gyfarfod, fel bob amser, â'n ffermwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw godi pryderon difrifol gyda mi a chydweithwyr eraill yma heddiw ynghylch costau gweithredol ffermydd a'r ffaith bod prisiau ynni—[Torri ar draws.] A gaf i ofyn fy nghwestiwn, Aelod?

Mae prisiau gwrtaith, tanwydd ac, wrth gwrs, porthiant yn cynyddu, ac maen nhw'n poeni'n fawr y gallai fod prinder porthiant aruthrol dros y gaeaf. Felly, pa gefnogaeth a pha ddeialog sy'n dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein ffermwyr, sy'n amlwg yn poeni—[Torri ar draws.] Mae'n swnio fel bod gennyf adlais—am hyn? Diolch.

Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf, ynghylch COVID hir, byddwch yn ymwybodol bod clinigau COVID hir, a bod adnoddau ar gael i fyrddau iechyd mewn cysylltiad â hyn. Yn anffodus, ni allaf ddod o hyd iddo yn fy ffeil, ond yr oeddwn yn darllen y bore yma fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sicrhau bod adolygiad chwe mis ynghylch clinigau COVID hir wedi ei gynnal, a bod dros 80 y cant o bobl yn teimlo eu bod wedi cael budd mawr o hynny.

Rwy'n ymwybodol iawn, yn amlwg, o'r pryderon yn y sector ffermio ac amaethyddol ynghylch costau gweithredol. Mae tanwydd, bwyd a gwrteithiau wedi cynyddu'n aruthrol mewn pris dros y misoedd diwethaf. Gan wisgo fy het portffolio, rwyf wedi cyfarfod â fy nghymheiriaid o bob rhan o'r DU. Victoria Prentis yw'r Gweinidog Gwladol sy'n arwain yr argyfwng costau byw o fewn ein portffolio. Yn anffodus, rydym wedi gofyn am gael cyfarfod â hi'n llawer mwy rheolaidd nag a gawsom ni. Rwy'n credu mai dim ond dwywaith yr ydym ni wedi cwrdd. Ond rwy'n dal i gael—. Oherwydd Llywodraeth y DU sydd â'r grymoedd i wneud rhywbeth yn y maes hwn. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi agor rhai ffenestri ynghylch cynlluniau, yn enwedig o ran rheoli maethynnau, er enghraifft, a fydd yn helpu ein ffermwyr yn y tymor byr.  

14:40

Hoffwn i hefyd glywed datganiad gennych chi fel Gweinidog materion gwledig, fel y gallwn fynd i'r afael yn wirioneddol â rhai o'r materion yr ydym eisoes wedi clywed amdanyn nhw mewn cysylltiad â phorthiant anifeiliaid, yn enwedig. Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol. Clywaf yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran ei fod yn beth i Lywodraeth y DU, ac mai ganddyn nhw yn bennaf y mae'r ysgogiadau i sicrhau newid gwirioneddol, ond edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon gynllun tyfu cnydau gwerth €12 miliwn, ac mae'n dychwelyd at raglen trin tir o gyfnod y rhyfel, a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn ystod yr ail ryfel byd. Felly, dyna yw maint yr argyfwng y mae ffermio yng Nghymru yn ei wynebu, ac nid mewn ystyr economaidd yn unig, ond yn fwy felly o ran llesiant anifeiliaid. Ac mae angen y cynllun hwnnw arnom yn awr, oherwydd, pan fydd yr argyfwng hwnnw'n taro yn y gaeaf, bydd yn rhy hwyr. Felly, mae gwir angen i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol.

Enghraifft arall yw, yn ôl yn 2018, rwy'n siŵr y cofiwch chi, roedd Llywodraeth Iwerddon wedi cyflwyno cynllun mewnforio porthiant i sicrhau bod digon o fwyd ar gael i'w hanifeiliaid. Mae galwadau wedi bod yn arbennig am fwy o hyblygrwydd o ran Glastir i ganiatáu i'n ffermwyr gael mwy o borthiant i'r ddaear. Hoffwn wybod beth yw eich barn am hynny, oherwydd mae hynny'n wir o fewn eich pwerau. Nid yw hynny'n beth i Lywodraeth y DU. Felly, mae angen i ni wybod beth yw'r cynllun, oherwydd os nad oes cynllun, yna bydd argyfwng pan fydd y gaeaf yn dod. 

Yn wyneb y cynnydd rydym ni yn ei weld ar hyn o bryd yn achosion COVID, mae mwy a mwy o ofid nawr ein bod ni'n gweld rhagor o wastraff, o safbwynt y masgiau wyneb mae pobl yn eu defnyddio'n gynyddol, a byddwn i'n leicio gwybod beth ydych chi, fel Llywodraeth, yn mynd i'w wneud i addysgu pobl ynglŷn â sut mae gwaredu'r masgiau yna mewn modd cyfrifol. Rydym ni'n cofio sut welsom ni nhw yn ein hamgylchedd ni, ym mhob man, yn ystod y cyfnod pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Nawr, wrth gwrs, gyda'r defnydd o fasgiau yn cael ei normaleiddio fwy yn yr hirdymor, rwy'n credu bod yna ddarn o waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y broblem yna yn cael ei thaclo. Felly, byddwn i hefyd yn gofyn am ddatganiad i esbonio sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â hynny. Diolch.  

Diolch. Rwy'n credu y buom ni'n rhagweithiol iawn. Byddwch yn ymwybodol i mi gyhoeddi £237 miliwn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, yn ôl ym mis Mawrth, yn fy marn i, yn benodol ynghylch cynlluniau i helpu ein ffermwyr i ddod yn llawer mwy cynhyrchiol a chystadleuol. Soniais am y cynllun rheoli maethynnau; rwy'n credu bod y ffenestr yn dal ar agor ar gyfer hynny. Rwyf wedi cyhoeddi amrywiaeth o gynlluniau ac mae mwy i ddod. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy ar gael, ac rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi'r cynllun amlinellol cyn sioeau'r haf, fel y gallwn gael yr ymgysylltiad hwnnw. Mae'r rhain i gyd yn bethau a fydd yn helpu ein ffermwyr gyda'r argyfwng costau byw. Ond, mae'n ddrwg gennyf, mae'n aros yn nwylo Llywodraeth y DU, sy'n dal y rhan fwyaf o'r dulliau hynny, i sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu. Cytunaf â'r hyn yr ydych yn ei ddweud, y gallai fod yn fater iechyd a llesiant anifeiliaid hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi edrych arno'n fanwl iawn, gan ein bod wedi edrych ar ba gynlluniau a gyflwynwn. Rydym yn edrych yn gyson ar ba hyblygrwydd a fydd gennym. 

O ran eich cwestiwn ynghylch masgiau wyneb, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle. Nid oedd dim yn fy ngwylltio i fwy—byddech yn mynd i faes parcio'r archfarchnad a byddai masgiau untro ar hyd y llawr. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd—. Rwy'n credu bod ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog mwy o bobl i feddwl yn llawer mwy gofalus am y ffordd y maen nhw'n cael gwared ar y masgiau hynny. 

A gaf i ofyn am ddatganiad, Gweinidog, gan y Gweinidog iechyd am y gofal a ddarperir i gleifion canser yn eu harddegau? Cysylltodd teulu merch yn ei harddegau â mi yr wythnos diwethaf, menyw ifanc 18 oed ym Mlaenau Gwent, sy'n cael triniaeth ofidus iawn am ganser ar hyn o bryd. Mae'n amlwg, o'r driniaeth y mae wedi'i chael, fod problem strwythurol yn y gwasanaeth iechyd gwladol, pan nad yw pobl ifanc sy'n cael triniaeth sylweddol ac anodd iawn yn gallu cael mynediad i'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae wedi cael ei chludo i unedau damweiniau ac achosion brys mewn gwahanol rannau o'r de, lle nad yw wedi cael y driniaeth y mae ei hangen arni. Mae'n ymddangos bod toriad yn y cysylltiad rhwng Felindre ac ysbytai unigol, a'r canlyniad yw bod y driniaeth, sy'n ddigon gofidus, yn cael ei gwneud yn fwy gofidus a'i dwysáu ymhellach gan y materion hyn iddi hi a'i theulu. Gwyddom i gyd—bydd y rheini ohonom sy'n rhieni'n deall—nad oes dim byd mwy torcalonnus na gweld plentyn yn y sefyllfa hon. Rwyf wedi cysylltu â'r Gweinidog iechyd ac wedi gofyn am gyfarfod ar y mater penodol hwn, ond credaf y dylai'r Llywodraeth hefyd gyflwyno datganiad ar y mater hwn fel y gallwn ni i gyd fod yn dawel ein meddwl, ym mha bynnag etholaeth yr ydym yn ei chynrychioli, y bydd pobl ifanc sy'n cael y driniaeth hon yn cael y driniaeth y mae arnyn nhw ei hangen ac ar adegau ac yn y mannau y mae eu hangen arnyn nhw.

14:45

Diolch i chi. Wel, mae hi'n gwbl hanfodol fod claf yn derbyn y driniaeth briodol yn y lleoliad priodol ar yr amser priodol, ac rydych chi wedi amlinellu achos gofidus iawn yn eglur. Rydych chi'n dweud eich bod chi wedi gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gyfarfod, ac rwy'n credu, yn dilyn y cyfarfod hwnnw mae'n debyg, pe byddai'r Gweinidog yn teimlo y dylai hi wneud datganiad pellach i'r Aelodau, y bydd hi'n gwneud felly.

Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd neu'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon ynghylch sut y caiff cyfleusterau chwaraeon eu hamddiffyn yn ystod y broses gynllunio? Wrth i bencampwriaeth tenis Wimbledon ddechrau, hon yw'r adeg o'r flwyddyn y bydd pobl yn aml yn dechrau gafael yn eu racedi nhw a chwarae tenis eu hunain. Er hynny, ym Mhorthcawl, fe fydd datblygiad cynllunio newydd, a fydd yn gweld 900 o dai ychwanegol yn cael eu hadeiladu, yn golygu bod y dref yn colli ei hunig gwrt tenis wrth i ffordd newydd gael ei hadeiladu drwy ganol y datblygiad. Er bod y cyngor wedi addo y bydd cyfleusterau tenis newydd yn cael eu hadeiladu, nid yw'r cyngor wedi nodi'r safle ar eu cyfer nhw na pha mor hir y bydd hynny'n ei gymryd, ac fe allai hynny olygu y bydd y dref heb gwrt tenis am flynyddoedd, ac fe fyddai honno'n ergyd drom i sêr tenis lleol y dyfodol. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan naill ai'r Gweinidog Newid Hinsawdd neu'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon i weld sut y maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon yn cael eu hamddiffyn neu, yn wir, eu gwella yn ystod y broses gynllunio.

Diolch i chi. Rydych chi'n cyfeirio at rywbeth sy'n amlwg yn llaw'r awdurdod lleol, ac fe fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at yr awdurdod lleol. Mae hi'n ymddangos eich bod chi braidd yn amheus o ran yr amserlen a gawsoch chi ganddyn nhw, ac fe fyddwn i'n eich cynghori chi i ysgrifennu at yr awdurdod lleol i ddechrau.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddais i fwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu a darparu cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau y bydd y cynllun treialu hwnnw'n dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn rhedeg am dair blynedd i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni am roi prawf ar fanteision datganedig incwm sylfaenol, megis gwella iechyd a llesiant ariannol, ac atgyfnerthu cyfleoedd a chyfleoedd bywyd unigolion. Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y bobl ifanc hyn a'u dyfodol nhw.

Bydd dros 500 o bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn troi'n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 yn gymwys i dderbyn 24 o daliadau misol gwerth £1,600 y mis cyn treth, gan ddechrau'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd unigolyn ifanc sy'n gadael gofal yn troi'n 18 oed ym mis Gorffennaf eleni, fe fydd yn cael taliad o £1,280 ym mis Awst ac fe fydd yn parhau i gael y taliad hwnnw'n fisol tan fis Gorffennaf 2024, yn amodol ar unrhyw newidiadau yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm. Yn unol ag adborth a chyngor gan ein partneriaid ni yn yr awdurdod lleol, fe all cyfranogwyr yn y cynllun treialu ddewis a ydyn nhw am gael y taliad hwn naill ai'n fisol neu ddwywaith y mis. Mae hyn yn cyd-fynd â'r system credyd cynhwysol bresennol. Nid yw hi'n orfodol i gymryd rhan yn y cynllun treialu ac, i'r rhai sy'n cymryd rhan, fe fydd hynny'n ddiamod. Bydd unrhyw gyfranogiad o ran cymorth neu werthusiad ychwanegol yn wirfoddol.

Ers fy nghyhoeddiad i ym mis Chwefror, rydym ni wedi ystyried amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer pob elfen o'r cyflawniad. Wedi ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'r ymarferwyr sy'n gweithio gyda nhw, mae hi'n amlwg mai'r dull mwyaf effeithiol a phriodol o gyflawni hyn fydd gwahanu'r cyfrifoldebau am wahanol agweddau ar y cynllun treialu i wahanol asiantaethau. Rwyf i am amlinellu ein dull o weithredu ni heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn unol â'u cyfrifoldebau nhw o ran rhianta corfforaethol, bydd awdurdodau lleol Cymru â rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Fe fyddan nhw'n gweithredu fel pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer derbynyddion sy'n cael yr incwm sylfaenol ac fe fyddan nhw'n gyfrifol am arwain y bobl ifanc sydd yn eu gofal nhw drwy'r cynllun treialu. Fe fyddan nhw'n uwchgyfeirio materion ac yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at unrhyw heriau o ran gweithrediad y cynllun, ac yn darparu cyswllt â derbynyddion ar gyfer ymchwilwyr ac arweinwyr polisi cenedlaethol at ddibenion gwerthuso a monitro. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad i'r polisi cenedlaethol ar gyfer pob agwedd ar y cynllun treialu ac yn rhoi canllawiau i gefnogi darpariaeth deg ledled Cymru. Ni fydd y pwynt cyswllt canolog ar gyfer pawb sy'n ymwneud â rheolaeth, cyflwyniad a gwerthuso'r cynllun treialu, ac fe fyddwn ni'n ymateb i adborth yn unol â hynny, gyda diweddariadau i'r polisi, y ddarpariaeth a'r canllawiau yn ôl yr angen.

Darparwr allanol a fydd yn gwneud taliadau i'r cyfranogwyr ac fe gaiff hwnnw ei gaffael gan ddefnyddio fframwaith sy'n bodoli eisoes ar gyfer caffael. Mae defnyddio darparwr taliad sengl yn sicrhau system gyson ac effeithlon sy'n darparu'r un gwasanaeth i bawb sy'n cael yr incwm sylfaenol. Bydd hwnnw hefyd yn golygu un pwynt cyswllt ar gyfer pob cyfranogwr o ran talu incwm sylfaenol. Mae'r cynllun treialu nid yn unig yn ymwneud â chyflenwi arian i dderbynyddion; mae hi'n hanfodol, cyn dewis cymryd rhan, bod y rhai sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau deallus am eu cyllid a'u dyfodol nhw. Fe wyddom ni fod awdurdodau lleol yn darparu ystod o gymorth i bobl ifanc â phrofiad o ofal eisoes fel rhan o'u rhwymedigaethau statudol yn rhiant corfforaethol. Roedd y rhai sy'n gadael gofal yr ydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw'n mynegi yn eglur y dylai'r holl bobl ifanc sy'n gymwys i fod â rhan yn y cynllun treialu gael cynnig o gyngor a chymorth ariannol sy'n gyson, annibynnol a chadarn o ran ansawdd drwy gydol eu hymgysylltiad nhw â'r cynllun. Felly, rydym ni wedi datblygu pecyn o gyngor a chymorth ariannol i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn a fydd yn ehangu ar gytundeb grant cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yng ngofal Cyngor ar Bopeth Cymru. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc ac yn rhoi cymorth cyngor ail haen hefyd i weithwyr proffesiynol yr awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fe fydd hynny'n cynnwys cyngor ar bob cam, o weithio drwy gyfrifiad o ba mor fuddiol fyddai hyn cyn y cynllun treialu hyd at gyngor o ran cyllidebu neu gymorth gydag argyfwng ariannol. Fe fydd y rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael ar gyngor diduedd wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau unigol nhw, a bydd un sefydliad arweiniol yn sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau ledled Cymru. Yn ogystal â'r cyngor ariannol unigol a roddir i dderbynyddion yr incwm sylfaenol, rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill, megis Voices from Care Cymru a Gwasanaeth Arian a Phensiynau Llywodraeth y DU, i roi cyngor mwy cyfannol ynghylch rheoli arian, addysg, hyfforddiant a llesiant. Bydd derbynyddion yn cael eu cyfeirio at y cyfleoedd hyn drwy eu cynghorwyr pobl ifanc a gwasanaethau cymorth eraill.

Bydd cael clywed llais a chael cipolwg ar brofiad y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn yn hanfodol i'w lwyddiant. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw drwy'r cyfan i gyd i gyfrannu at ein gwerthusiad deinamig ni a sicrhau bod profiadau'r rhai sy'n byw drwyddo yn ganolog i'w ganlyniadau. Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y cynllun treialu o ran gwelliannau ym mhrofiadau gofal unigol a sut mae bod yn rhan o'r cynllun wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc. Bydd adborth rheolaidd gan dderbynyddion yn sicrhau gwerthusiad sy'n darparu themâu sy'n dod i'r amlwg ar brofiadau cyfranogwyr ac yn cefnogi gwelliant i'r cynllun treialu wrth iddo gael ei gyflwyno.

Drwy'r cynllun treialu hwn, rydym ni'n awyddus i adeiladu ar y cymorth a gynigir i blant â phrofiad o ofal yng Nghymru ar hyn o bryd a sicrhau bod pobl ifanc sydd â rhan yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i roi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw ar daith bywyd a gwneud y broses o drosglwyddo o ofal yn well, yn haws ac yn fwy adeiladol. Y canolbwynt fydd sicrhau annibyniaeth oddi ar wasanaethau yn hytrach na dibyniaeth ar wasanaethau wrth iddyn nhw ddod yn oedolion. Rydym ni am weithio gyda rhanddeiliaid, derbynyddion a'n tîm gwerthuso ni i fonitro cynnydd y cynllun a gwneud newidiadau lle bod angen, ac fe fyddaf innau'n falch o barhau i rannu ein profiadau a'n canlyniadau ni wrth i'r gwaith pwysig hwn ddatblygu. Diolch.

14:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac a gaf i ddiolch i chi hefyd am eich papur briffio'r bore yma? Fe'i cefais yn ddefnyddiol iawn o ran deall eich safbwynt chi. Yn wir, rwy'n llwyr gydnabod eich barn chi ynglŷn â buddsoddi yn y rhai sy'n gadael gofal a cheisio darparu cyfleoedd ar eu cyfer nhw y byddai pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol efallai, ac rwy'n derbyn bod hynny'n deillio o sefyllfa o fod yn wir awyddus i helpu. Rwy'n credu hefyd y byddai pob Aelod yma'n cydnabod bod y rhai sy'n gadael gofal yn grŵp arbennig o agored i niwed y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod hyn a bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu heriau ac anawsterau unigryw, ac rydym ni'n dymuno gwneud popeth i sicrhau eu bod nhw'n cael y gofal gorau a bod pob cyfle ar gael iddyn nhw. Fodd bynnag, Gweinidog, fy mhryder i ynglŷn â'r arbrawf hwn gydag Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw bod y Llywodraeth hon yn newid naratif Incwm Sylfaenol Cyffredinol drwy ei ddrysu â'r ddarpariaeth o gymorth penodol i'r rhai sy'n gadael gofal yn y gobaith y bydd gennych chi, ar ôl dwy flynedd, ddata sy'n cyfiawnhau cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Mae'r dull hwn yn ddiffygiol yn ei hanfod, oherwydd ni fyddwch chi mewn gwirionedd yn gallu allosod unrhyw ddata oddi wrth grŵp mor arbennig ac, a gaf i ychwanegu, grŵp sy'n agored i niwed i'w ddefnyddio ar gyfer trawstoriad o'r gymdeithas gyfan. At hynny, drwy ddefnyddio'r rhai sy'n gadael gofal yn grŵp ar gyfer eich mesuriadau chi, rwyf i o'r farn eich bod chi'n cyfyngu ar y cyfle i graffu gyda manylder ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol, oherwydd fe fydd unrhyw sylwadau anffafriol yn cael eu hateb gyda'r wrth-ddadl sef bod y sawl sy'n eu gwneud nhw'n elyniaethus i'r rhai sy'n gadael gofal, sydd nid yn unig yn annhebygol iawn o fod yn wir, ond fe fydd hynny, ar y cyfan, yn atal llawer o bobl rhag ymgysylltu â'r broses graffu rhag ofn y bydd yna adlach.

At hynny, ar sail helpu'r rhai sy'n gadael gofal, rydym ni o'r farn fod rhoi pob cyfle iddyn nhw wneud y gorau o'u bywydau nhw'n iawn, ac rydym ni'n cydnabod y trawma a'r amgylchiadau anodd iawn a wynebwyd gan rai ohonyn nhw. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gofio hefyd fod rhai pobl hynod agored i niwed ag anghenion cymhleth iawn yn y grŵp hwn, ac fe allai rhoi £1,600 y mis iddyn nhw eu helpu nhw mewn egwyddor yn y tymor byr, ond mewn gwirionedd fe allai hynny waethygu eu sefyllfa nhw yn yr hirdymor. Yn gyntaf, fe allai'r grŵp hyglwyf hwn o bobl ifanc yn eu harddegau, y mae rhai ohonyn nhw'n dod o gefndiroedd heriol, fynd i berygl, heb gymorth a chefnogaeth briodol, oherwydd rhai unigolion a fyddai'n ceisio eu gorfodi nhw i wneud pethau, eu cam-drin nhw a chymryd mantais arnyn nhw oherwydd yr arian ychwanegol hwn. Sut ydych chi am rwystro hynny rhag digwydd? Yn ail, fel gwnaethoch chi sôn o'r blaen, fe wyddom ni fod pobl yn y grŵp hwn, er mai rhan fechan iawn ydyn nhw, sydd â phroblemau o ran dibyniaeth ar gyffuriau, ac fe allai cael swm mor fawr o arian yn eu dwylo, unwaith eto heb gymorth na chefnogaeth briodol, waethygu'r problemau sy'n bodoli eisoes. Ac yn drydydd, mae Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn creu ochr dibyn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal a fydd yn gweld eu harian nhw'n dod i ben ar ôl dwy flynedd. Felly, mewn gwirionedd, rydych chi'n cymryd rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan greu dibyniaeth ar incwm ychwanegol y maen nhw'n annhebygol iawn o'i weld byth eto ac yna'n eu gadael nhw i ymorol amdanyn nhw eu hunain ar ôl dwy flynedd.

Gweinidog, roeddech chi'n sôn am y pecyn enfawr hwn o gymorth y tynnais i sylw ato y bydd ei angen arnyn nhw, ond, mewn gwirionedd, nid dyna yw'r achos ac nid yw'r fathemateg yn gywir. Rydych chi'n darparu £20 miliwn dros ddwy flynedd, sy'n gadael dim ond £800,000 ar ôl i ddarparu'r pecyn cymorth, sy'n druenus ar y gorau, ac, fel cafodd hynny ei grybwyll y bore yma, rydych chi'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y sector gwirfoddol i ddarparu'r cymorth hwnnw. Rydym ni wedi clywed am bosibiliadau pobl yn defnyddio'r arian hwn i gefnogi addysg uwch. Er bod graddau prifysgol yn cymryd tair blynedd, ar gyfartaledd, yr hyn y byddwch chi'n ei wneud yw peidio â rhoi'r un cyfleoedd iddyn nhw ag y cafodd pobl eraill gyda chefnogaeth oddi wrth eu teuluoedd nhw, oherwydd nid ydych chi'n gwneud dim ond eu helpu nhw am ran o'r ffordd, sydd, yn fy marn i, yn anghyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, pa asesiad a wnaethoch chi i werthuso'r cymorth gwirioneddol sydd ei angen ar y rhai sy'n gadael gofal i wneud y defnydd gorau o'r arian hwn, a pha gymorth a chefnogaeth ydych chi'n eu cynnig i sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector i'w helpu i ddiwallu anghenion y rhai sy'n ymgymryd â'r cynllun hwn o ran y gefnogaeth a fydd ar gael? Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth hon o anghenion y grŵp hwn ar ôl i'r cyfnod arbrofol ddod i ben, a sut ydych chi'n rhagweld y cânt eu cefnogi ar ei ddiwedd? Gan mai rhaglen wirfoddol yw hon i'r rhai sy'n gadael gofal ymrwymo iddi, pa gymorth a chefnogaeth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i'r rhai sy'n gymwys i gofrestru a chael bod ar y cynllun hwn? Ac yn olaf, o ran incwm sylfaenol cyffredinol, sut ydych chi'n disgwyl i'r data hyn gael eu hallosod i ddarparu tystiolaeth ddigonol y bydd Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn helpu trawstoriad llawn o'r gymdeithas yng Nghymru? Diolch i chi.

14:55

Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James. Roeddwn i'n ddiolchgar am ein bod ni wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol ar ddechrau eich cwestiynau chi heddiw. Rwy'n credu i chi gydnabod y gallai'r cynllun treialu hwn gynnig cyfleoedd gwych i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac mai cynllun treialu incwm sylfaenol yw hwn.

Fe hoffwn i ddechrau drwy ateb eich cwestiynau chi ynghylch pam yr ydym ni wedi canolbwyntio'r cynllun treialu hwn ar y rhai sy'n gadael gofal. Rydym ni, yn Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi, gan sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth ariannol digonol er mwyn i bawb yng Nghymru gael bywyd sy'n hapus ac yn iach. Mae gan y rhai sy'n gadael gofal hawl—ystyr hyn yw rhoi hawl i'r rhai sy'n gadael gofal gael cefnogaeth lawn, fel yr ydym ni'n parhau i'w wneud drwy gydol eu profiad nhw o ofal, wrth iddyn nhw ddatblygu yn oedolion ifanc annibynnol. Fe wyddom ni fod gormod o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag cyflawni'r newid hwnnw ar gyfer trosglwyddo i fywyd oedolyn yn llwyddiannus. Felly, mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol mewn carfan o bobl ifanc yr ydym ni'n awyddus i'w cefnogi nhw fel y gallan nhw ffynnu wrth sicrhau eu hanghenion sylfaenol nhw.

Mae pobl ifanc â phrofiad o ofal yn grŵp, fel dywedais i, y gwnaethom ni ddewis gwneud buddsoddiad cyson ynddo eisoes—ychwanegiad at y gronfa ymddiriedolaeth plant, eithriadau ychwanegol i'r dreth gyngor, sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi. Ond fe gaiff hynny ei gydnabod, o'i gymharu â'u cyfoedion nhw—. Mae'n rhaid i chi ateb y cwestiwn yn hyn o beth, mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd: beth am fuddsoddi yn y bobl ifanc hyn sydd â phrofiad o ofal sydd wedi bod o dan anfantais anghymesur ac sy'n fwy tebygol yn ystadegol o brofiadau o faterion ynglŷn â digartrefedd, dibyniaeth ac iechyd meddwl? Felly, ystyr hyn yw adeiladu ar y cymorth, gan alluogi ein pobl ifanc ni yma sy'n gadael gofal i fod â rhan yn y cynllun treialu hwn. Ac o gael y gefnogaeth honno, fe allen nhw fod â'r cyfle gorau posibl i sicrhau'r newid hwn i brofiadau gwell, sy'n haws ac yn fwy adeiladol.

Penderfyniad yw hwn, dewis a wnaethom ni yw hwn, ac mae honno'n flaenoriaeth yn ein cyllideb ni. Yn wir, yn ein maniffesto a'n rhaglen lywodraethu ni roeddem ni'n nodi y byddem ni'n treialu incwm sylfaenol. Felly, i roi eglurder ynglŷn â'r cyllid, rydym ni wedi dyrannu £20 miliwn i gyflawni'r cynllun treialu hwn dros gyfnod o dair blynedd. Mae hynny'n cynnwys y taliadau eu hunain, y costau gweinyddu a'r costau o ran ymchwil a gwerthuso. Yn amlwg, mae hyn yn dibynnu ar y cyfraddau o ran defnydd a chyfranogi; nid rhywbeth gorfodol mo'r cynllun treialu hwn, ond o ran yr angen am gyngor a chymorth ariannol ychwanegol yn unig, fe fydd hynny'n cael ei roi i'r rhai sy'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun—dyna a oedd y bobl ifanc â phrofiad o ofal yn ei ddweud. Dyrannwyd tua £2 filiwn gyfer y gwasanaeth hwn am gyfnod llawn y cynllun treialu, dros dair i bedair blynedd. Felly, mae hynny o'r cyfnod cyn y cynllun yr holl ffordd drwodd i'r cyfnod wedi'r cynllun hefyd. Felly, mae'r cyllid yno i ariannu'r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb mewn gwirionedd, fel rydym ni'n gwneud i Voices from Care Cymru a phawb sy'n cefnogi ein pobl ifanc ni ar hyn o bryd. Ond hefyd, fel dywedais i, gwaith i'r awdurdodau lleol yw eu cefnogi nhw hefyd.

Yn fater o egwyddor, yn fy marn i—ac o ystyried hwn yn ddull gweithredu ar sail hawliau unigolion—y bydd gan bawb sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd hawl i ymuno â'r cynllun treialu pe byddan nhw'n dewis gwneud hynny, ac ni ddylid ei drin yn wahanol i unrhyw fath arall o incwm. O ran eu hanghenion nhw a phrofiadau eu bywydau nhw, wrth gwrs, fe roddir cymorth parhaus ar hyn o bryd gan gynghorwyr pobl ifanc. Fe fyddai gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn yn ôl arfer hefyd, pe byddai unrhyw bryder ynglŷn â risgiau canfyddedig. Ond ystyr hyn yw cynnig pecyn cymorth a fydd ar gael.

Nawr, mae hi'n ddiddorol i ni edrych ar gynlluniau arbrofol ar draws y byd o ran incwm sylfaenol. Er enghraifft, mae un o'r cynlluniau incwm sylfaenol mwyaf hir sefydlog yn nhalaith Gogledd Carolina wedi bod yn dilyn plant a oedd rhwng naw a 13 oed ym 1992. Tyfodd y plant hyn i fod yn oedolion, a gwelwyd llai o achosion o ran camddefnyddio sylweddau yn y rhai a oedd wedi cael yr incwm hwnnw. Rydym ni wedi edrych ar y cynlluniau hyn, rydym ni wedi edrych ar y canlyniadau. Dangosodd y cynllun hwnnw ostyngiad o 22 y cant hefyd yn nifer y materion troseddol a gofnodwyd ymhlith pobl ifanc 16 a 17 oed, yn enwedig o ran camddefnyddio sylweddau a mân droseddau.

Bydd y cynllun treialu hwn yn cael ei werthuso yn fanwl iawn o ran y cyfrifoldebau, ond fe fydd hefyd, o ran gwerthuso—. Fe fyddwn ni'n edrych, wrth i ni symud drwy hyn, o ran cefnogaeth i'r bobl ifanc hyn wrth i'r cynllun ddod i ben. Bydd y gefnogaeth, y cyngor a'r mewnbwn parhaus ar gael o ran nid yn unig cyngor a chymorth ariannol, gan gyfeirio at lesiant, addysg, gwaith a chyngor ariannol ehangach. Bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn manteisio ar gynlluniau eraill, fel y warant i bobl ifanc. Hynny yw, os ydych chi wedi dewis, neu fel rwyf i'n gobeithio y gwnewch chi rywbryd eto efallai, edrych ar rai o'r datganiadau a wnaeth pobl ifanc heddiw, pobl ifanc mewn gofal a oedd yn dweud wrthym ni—ac mae'r rhain yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal—fod hyn yn estyn gobaith iddyn nhw, mae hyn yn dangos bod y Llywodraeth hon, ac, rwy'n gobeithio, fod y Senedd hon yn dangos ffydd yn y bobl ifanc hyn ac yn credu y dylen nhw fod â'r cyfleoedd hyn yr ydym ni'n eu rhoi. 

15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r cynllun treialu hwn i'w groesawu yn fawr, yn enwedig i'r rhai ohonom ni yn y Siambr sydd wedi ymgyrchu neu sy'n parhau i ymgyrchu dros incwm sylfaenol cyffredinol. Mae'n wir, nid incwm sylfaenol cyffredinol mohono, ond mae'n incwm sylfaenol er hynny, a bydd yn rhoi data a chyfeiriad gwerthfawr i ni ar ein taith ni tuag at incwm cyffredinol.

Rydym ni wedi siarad am ein rhesymau ni am gefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn y gorffennol. Rhan o'r ymresymiad hwnnw yw mynd i'r afael â'r cyfraddau cynyddol o dlodi yma yng Nghymru. Unwaith eto, fe fydd y cynllun treialu hwn yn rhoi data gwerthfawr i ni yn ogystal â gallu i fesur yn unol â'r amcan hwnnw, o gofio ei fod ar gael i rai o aelodau mwyaf agored i niwed economaidd yn ein cymdeithas ni.

Mae hi'n siomedig nodi amharodrwydd Llywodraeth y DU i gydweithredu yn hyn o beth. Un peth yw trethu'r taliad, ond peth arall yw'r ffordd annheg y byddan nhw'n ei gyfrif yn erbyn credyd cynhwysol. Gan ddefnyddio gros yn hytrach na net, mae asesu pobl am arian na fyddan nhw'n ei gael mewn gwirionedd yn beth od iawn ac yn gwbl annheg yn fy marn i. Ond nid yw'r amharodrwydd i gydweithredu ar bolisi blaengar yn fy synnu i—enghraifft arall o'r diffyg parch yn San Steffan tuag at Lywodraethau datganoledig, a welwyd unwaith eto yn y newyddion neithiwr, wrth gwrs, am ddiddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017.

Nawr, mae pobl ifanc sy'n gadael gofal yn arbennig o agored eisoes i gamfanteisio, fel roedd Joel yn gywir i'w nodi. Fe geir pryderon, a godwyd gan Barnardo's Cymru, y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn, drwy ddarparu cyfandaliad mawr, sy'n hysbys yn gyffredin, yn gadael y rhai sy'n gadael gofal yn agored i gamfanteisio gan landlordiaid anonest, pobl ifanc eraill a throseddwyr, er enghraifft. Mae diogelu yn allweddol. Mae hi'n debygol y bydd canlyniadau anfwriadol yn codi ac yn dod yn amlwg yng nghwrs y cynllun treialu, oherwydd fe fydd y cynllun hwn yn effeithio ar fywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Mae hi'n bwysig fod y Llywodraeth a chynghorwyr y bobl ifanc yn cadw golwg ar hyn a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud addasiadau lle bo angen.

O gofio y gall y rhai sy'n gadael gofal ymuno yn wirfoddol, fe fyddai gennyf i ddiddordeb i wybod a fydd y Llywodraeth yn cysylltu â'r rhai a benderfynodd beidio â chymryd rhan yn y cynllun treialu hwn i ganfod pam y daethant i'r penderfyniad hwnnw i beidio ag ymuno ag ef. Ac, wrth gwrs, mae incwm sylfaenol yn gadael y rhai heb unrhyw gostau ychwanegol yn gymharol well eu byd o dan gyfandaliad na'r rhai sy'n wynebu costau ychwanegol, megis costau sy'n gysylltiedig ag anabledd neu ofal plant. O gofio ei bod yn debygol yr effeithir ar fudd-daliadau pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn o ganlyniad, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw'r rhai sydd â chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anabledd, neu'r rhai sy'n beichiogi, er enghraifft, yn ystod y cynllun, o dan anfantais o gymharu ag eraill yn y cynllun? Ac i ddilyn hynny, pan fydd y Llywodraeth yn gwerthuso'r cynllun treialu, sut caiff effeithiau'r cynllun eu hystyried o ran y cyfranogwyr hynny sydd â materion croestoriadol?

Pwynt pwysig i ni ei ystyried hefyd yw'r hyn sy'n digwydd ar ddiwedd y cynllun treialu. Mae hi'n dderbyniol iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr, yn enwedig felly o gofio, pan ddaw'r cynllun i ben, bod yr arian yn dod i ben, a bod £1,200, fwy neu lai, yn swm sylweddol o arian i'w golli, a hwnnw, wrth gwrs, yw'r cyfanswm wedi treth. Fe wnaeth Joel y pwynt hwnnw, ac rwyf i o'r farn ei fod yn bwynt teg i'w wneud.

Yn olaf, o ystyried y materion a ganfuwyd gan Lywodraeth yr Alban yn eu hymchwil nhw i gynlluniau treialu incwm sylfaenol, yn ogystal â'r ffaith bod rhai grwpiau yn y gymdeithas ar eu colled drwy daliadau cyfandaliad safonol, pa gynlluniau eraill i oresgyn tlodi sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru i'w gwerthuso yn y dyfodol? A yw'r Gweinidog o'r farn y gallai mwy o werth fod i wasanaethau sylfaenol cyffredinol, er enghraifft?

15:05

Diolch yn fawr, Luke Fletcher, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi ymesgusodi—fe allwn i ddweud, 'gwrthod', ond fe wnaethant ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni. Maen nhw wedi gwrthod diystyru'r taliad incwm hwn yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaethon nhw ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni mewn gwirionedd o ran gweld a allai'r cynllun treialu incwm sylfaenol hwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal fod o fudd i'r rhai sy'n gadael gofal ledled y Deyrnas Unedig. Ond dyna y bydd yn ei wneud, oherwydd, unwaith eto, rydym ni wedi dysgu llawer o'r Alban hefyd, o ran y cynlluniau a gynhaliwyd yno ac, wrth gwrs, rydym ni wedi edrych yn fyd-eang.

Ond fe fyddwn i'n dweud, ac rwyf i am rannu llythyr â chi a ysgrifennais i at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, Thérèse Coffey, yr wyf i wedi—. Y llynedd, fe ysgrifennais ati hi a gofyn am gael trafod y cynllun treialu hwn gyda hi. Gwrthod a wnaeth hi a phenderfynu hefyd y byddai'r taliad incwm sylfaenol yn cael ei gyfrif fel incwm heb ei ennill a'i wrthbwyso ac, wrth gwrs, yn destun i'w ystyried o ran y dreth a budd-daliadau. Ac, mewn gwirionedd, un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf i ar hyn o bryd, ac rwyf i am rannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chi, yw, er bod hwnnw wedi cael ei ddatgan yn incwm heb ei ennill, ac fe gaiff ei drethu, ond o ran cymhwysedd i gael credyd cynhwysol, maen nhw'n dweud eu bod nhw am ei asesu yn ôl ei werth gros cyn treth, sy'n golygu y bydd yn cael ei asesu yn annheg. Rwy'n rhoi cyfle iddi i unioni'r cam hwnnw, ac fe fyddaf i'n ei rannu, fy ngalwad arni hi, ac rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau yma o blith y Ceidwadwyr Cymreig yn fy nghefnogi i yn hynny o beth gan fy mod i am rannu'r llythyr hwnnw gyda chi.

Mae hi'n bwysig iawn, o ran pobl ifanc yn penderfynu a fyddan nhw'n cyfranogi o'r cynllun treialu hwn, eu bod ni'n gwneud dewis deallus wrth wneud felly. A'ch pwynt chi ynglŷn â darganfod rhesymau pobl ifanc am beidio â gwneud felly—wel, eu dewis nhw yw hwnnw, wrth gwrs. Cysylltwyd â'r garfan gyntaf, os hoffech chi, ac maen nhw'n ymwybodol iawn o'r hyn sy'n digwydd oherwydd y gydnabyddiaeth a'r ymgysylltiad a gawsom gyda phobl ifanc drwy Voices from Care dros gyfnod y flwyddyn ddiwethaf, fwy neu lai. Maen nhw wedi bod yn ymgysylltu â phobl ifanc a'r awdurdodau lleol i gyd sydd o ran—. Ac rwyf i wedi bod yn gweithio hefyd gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Rydym ni wedi cwrdd â phobl ifanc—fe fydd ganddyn nhw ddewis a ydyn nhw am gymryd rhan, ac fe fydd hynny'n ymwneud â'u hamgylchiadau nhw ac, yn wir, gan ystyried enillion eraill a allai fod ganddyn nhw, a'u sefyllfa nhw yn eu bywydau o ran swyddi, addysg a chyfleoedd. Ond o ran gwerthuso, fe fyddwn ni'n edrych ar y ffactorau o'r fath oherwydd mae angen i ni ddysgu oddi wrth y bobl ifanc, y rhai sy'n cymryd rhan drwy gydol y gwerthusiad, am effaith hyn arnyn nhw a sut maen nhw'n ymgysylltu a pha gymorth arall y gallwn ni ei gynnig.

Rwyf i wedi crybwyll y ffaith eisoes mewn ymateb i Joel James y byddem ni'n disgwyl i unrhyw fesurau diogelu a chymorth sydd ar waith yn barod, gan fod ganddyn nhw ddyletswydd barhaus o ran gofal, yr awdurdodau lleol, i'r rhai sy'n gadael gofal, gael eu dilyn a'u rhoi ar gael i'r rhai sy'n gyfranogwyr o'r incwm sylfaenol. Ond hefyd, rwyf i wedi rhoi rhai enghreifftiau i chi o gynlluniau treialu ledled y byd yn dangos bod pobl a allasai fod yn agored i niwed, nid yn unig o ran pethau fel mynd yn ddigartref, neu fethu â chael swyddi, neu hyfforddiant ac addysg—mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau treialu ar draws y byd wedi dangos bod pobl ifanc wedi elwa, a bod y rhai ar gynlluniau treialu, ar gynlluniau treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi elwa ar yr incwm sylfaenol, sy'n rhoi mesur llawn o ddiogelwch iddyn nhw yn eu bywydau o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.

Materion o ran anabledd—mae hi'n bwysig iawn bod y cynllun treialu hwn ar gael, ac rydym ni o'r farn y bydd hyn yn golygu hyd at 500 o bobl ifanc, pobl ifanc amrywiol ledled Cymru sydd â nodweddion gwarchodedig, ac fe fyddan nhw'n gymwys i gael budd-daliadau eraill. Felly, unwaith eto, gyda chyngor ac arweiniad a'r cymorth parhaus y byddan nhw'n ei gael gan Gyngor ar Bopeth yn ogystal â'u cynghorwyr nhw wrth adael gofal a gweithwyr cymdeithasol, fe fyddan nhw'n gallu asesu'r budd-daliadau y mae'r hawl ganddyn nhw i'w cael. Ond mae hynny'n ddiamod. Fe fyddan nhw'n cael eu £1,600—a drethir, yn anffodus—bob mis, doed a ddelo. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn adeiladu ar yr hawliau hynny.

Rwyf i o'r farn bydd y gwerthusiad yn hollbwysig o ran ystyried hwn yn werthusiad sy'n dreiddgar a chynhwysfawr. Mae angen i ni edrych ar yr effeithiau tymor hwy, ac wrth gwrs fe fydd rhywfaint o hynny'n cymryd peth amser eto o ran yr hyn a olygodd hyn i bobl ifanc â phrofiad o ofal a fydd yn elwa arno. Ond rydym ni'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwerthuso ansoddol a meintiol, gan ymgysylltu â'r bobl ifanc eu hunain i gael y data gwaelodlin hynny, a fydd yn sicrhau y gallwn ni asesu effaith incwm sylfaenol yn briodol.

Rwyf i o'r farn y bydd hynny ynddo'i hun yn dangos effaith bwysig y cynllun treialu incwm sylfaenol, oherwydd mae'n dychwelyd at y ffaith bod hyn yn rhoi iddyn nhw y cyfleoedd hynny na chafodd y bobl ifanc hyn, ac efallai na fydden nhw wedi cael rhai o'r fath yn eu bywydau nhw, ac nad oedden nhw yn eu profiad nhw, ac nad yw'r cyfleoedd hynny wedi bod yn bosibl o gwbl. Felly, roedd y bobl ifanc, yn sicr, y gwnaeth y Prif Weinidog a Julie Morgan a minnau gyfarfod â nhw ddydd Gwener yn dweud yn syml, 'Nawr mae gobaith gennym ni. Nawr mae dyfodol gennym ni.'

15:10

Mae gen i chwe Aelod o hyd sy’n dymuno siarad, a llai na phum munud ar ôl.

Rwyf i am ofyn i'r Aelodau fod yn gryno yn eu cwestiynau nhw ac i'r Gweinidog fod yn gryno yn ei hatebion hi er mwyn i mi allu cynnwys pawb, os gwelwch chi'n dda. Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno datganiad heddiw. Mae hi'n gwybod bod y mater yn un hynod o bwysig i mi, gan mai fi oedd yr Aelod a gyflwynodd y cynnig llwyddiannus yn y Senedd flaenorol i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru, a'r Aelod a wnaeth gadeirio ymchwiliad trawsbleidiol y Pwyllgor Deisebau ar y pwnc. Rwy'n falch iawn o fod yn sefyll yn y fan hon heddiw, ac yn falch o'r ffaith ein bod ni'n lansio'r cynllun treialu incwm sylfaenol yng Nghymru, ac rwy'n falch fy mod i wedi bod â rhan fechan yn hynny.

Os caf i sôn am ganfyddiadau'r pwyllgor yn gyntaf, Gweinidog, roedd dau bwynt yn sefyll allan. Yn gyntaf, yr angen am gyngor, arweiniad a chymorth cyfrifol a dibynadwy i oedolion, ac, yn ail, pwysigrwydd y broses werthuso. Rydych chi wedi ymdrin â hynny yn eich datganiad chi, ond tybed a wnewch chi gynnig ychydig mwy o sicrwydd i'r bobl ifanc hyn.

Ac yn olaf, os caf i ystyried fy swyddogaeth yn Aelod—ac rwy'n cymeradwyo eich arweiniad chi a'r Prif Weinidog yn benodol am y cynllun treialu incwm sylfaenol, ond a ydych chi'n cytuno â mi, er bod gwahaniaethau rhwng Llywodraeth y DU a ninnau, na ddylen nhw allu rhwystro'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu huchelgeisiau hi? Rwy'n nodi i chi ysgrifennu at y Gweinidog yn Llywodraeth y DU. A wnewch chi ymrwymo i gael sgyrsiau parhaus o'r fath gyda'r Gweinidog?

A dim ond yn olaf un, Dirprwy Lywydd—

15:15

Na, rydych chi wedi cael dros funud, felly—. Mae gennyf i bum Aelod arall sy'n awyddus i siarad. 

Wel, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant, a diolch yn arbennig iddo ef am gadeirio'r Pwyllgor Deisebau a'r argymhellion sydd wedi dod o'r pwyllgor hwnnw? Rydym ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw'n llawn neu'n rhannol, ac rwy'n credu'r argymhellion hynny'n arbennig—. Tâl gwarantedig diamod i'r unigolyn—yn ddiamod—ond hefyd y dylai'r rhai sy'n gadael gofal gynnwys y rhai sy'n gadael gofal o ystod mor amrywiol â phosibl o gefndiroedd, ac y dylem ni weithio gyda Llywodraeth y DU mewn gwirionedd. Felly, rwyf i eisoes wedi rhoi—. Fe fyddaf i'n rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol â chi. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n ymateb yn gadarnhaol ac y gallwn ni oresgyn y rhwystr arbennig sydd wedi ymddangos o ran gallu derbyn credyd cynhwysol a'r cymhwysedd i'w gael. Ac eto, fe fyddai hi'n dda o beth pe gallen nhw ailystyried trethu'r cynllun treialu incwm sylfaenol hwn. Fe fydd yn gynllun treialu pwysig i Lywodraeth y DU. Rydym ni'n buddsoddi yn y bobl ifanc hyn, ac fe fydd y buddsoddiad hwnnw'n golygu y gallai fod ganddyn nhw lai o angen am wasanaethau cyhoeddus wedyn, fel y gwasanaethau sy'n rhaid eu darparu o ran digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac, yn wir, diweithdra, oherwydd rydym ni'n gobeithio y bydd y bobl ifanc hyn wedyn yn symud ymlaen yn eu bywydau gyda swyddi, cyflogaeth, addysg.  

Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, a'r Gweinidog arall hefyd, y Dirprwy Weinidog, a'r bobl yn eich adran chi sydd wedi gweithio mor galed ar hwn. Fe allwn i siarad am oriau ar y pwnc hwn, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond un munud sydd gennyf i, felly rwyf i am siarad yn gyflym iawn, iawn. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu hwn, fel y gwyddoch chi. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ychydig wythnosau yn ôl, ac fe fyddwn i'n gwahodd y Ceidwadwyr i gyd nad ydyn nhw'n cyd-fynd â hyn i fynd i gyfarfod â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a chlywed eu barn nhw. Fe fyddwn i'n gwahodd y Blaid Lafur yn San Steffan hefyd i fabwysiadu hwn yn bolisi iddyn nhw, fel gwnaeth Plaid Cymru, a ninnau, Plaid Genedlaethol yr Alban a'r Blaid Werdd.

A gaf i ymateb i chi drwy ddweud fy mod i yn edrych ymlaen at weld a fyddwn ni'n casglu digon o dystiolaeth i lywio'r gwaith o ehangu'r cynllun treialu hwn i'r dyfodol a chael cynlluniau mwy parhaol ar waith yng Nghymru? Ac fe fyddwn i'n dweud wrth y Ceidwadwyr: edrychwch chi ar y dystiolaeth—mae'r dystiolaeth ar draws y byd yn dweud bod incwm sylfaenol yn gwella bywydau yn wirioneddol ac yn gwella llesiant pobl. Nid yw hyn yn golygu dim ond pobl yn taflu eu harian nhw i ffwrdd. Yn 2009, rhoddwyd £3,000 i 20 o bobl ddigartref. Ni wnaethant ei daflu i ffwrdd; fe wnaethon nhw wario £800 ohono ar eiriaduron, ar addysg ac ar ddod o hyd i lety. Felly, os gwelwch chi'n dda, edrychwch chi ar y dystiolaeth, Geidwadwyr, a gwrando ar leisiau plant sydd mewn gofal. Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi. 

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, ni allaf ddweud dim mwy wrth ymateb i Jane ac eithrio diolch iddi hithau am ei chefnogaeth hefyd, unwaith eto, edrychwch chi ar bwysigrwydd y dystiolaeth fyd-eang am gynlluniau treialu incwm sylfaenol. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cydnabod o leiaf fod hwn yn gyfle i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac yn rhoi gobaith iddyn nhw, yn agor drysau, yn estyn cyfleoedd iddyn nhw. 

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Nid wyf i'n ceisio gwneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol yn hyn o beth. Mae gennyf rai pryderon dybryd ynglŷn â hyn. A minnau'n rhiant corfforaethol am 25 mlynedd yn y sector llywodraeth leol, rwyf i o'r farn fod llawer mwy y gall awdurdodau lleol ei wneud. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi disgrifio'r pecynnau cymorth yr oeddech chi'n eu disgwyl oddi wrth yr awdurdodau lleol, ond rwy'n llwyr o'r farn y dylai awdurdodau lleol ymestyn eu cyfrifoldebau rhianta nhw dros 18 oed a defnyddio'r adnoddau yr ydych chi'n bwriadu eu gwario fel hyn i ganolbwyntio ar lwybrau gyrfa a chyfleoedd dysgu gwirioneddol, gyda chreu swyddi—swyddi a gyrfaoedd hirdymor gwirioneddol. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r gostyngiad ar ddiwedd y ddwy flynedd. Fe fydd rhai yn gallu ymdopi yn dda iawn â hynny; ac eraill yn golledigion mewn gwirionedd. Ac rwy'n gofidio yn fawr y bydd llawer o golledigion o ganlyniad i'r arbrawf hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun yn dangos fy mod i'n anghywir, oherwydd mae'r garfan ifanc hon yn werthfawr, werthfawr iawn ac fe ddylem ni ymlwybro yn ofalus iawn o ran ein dull ni o ymdrin â hyn. Ond rwy'n credu mai awdurdodau lleol ddylai gyflwyno'r pecynnau cymorth hynny oherwydd eu bod nhw'n rheini corfforaethol gyda swyddogaeth estynedig fel rhieni corfforaethol. Diolch i chi.  

Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn yn dangos eich bod chi'n anghywir. Mae ein hawdurdodau lleol ni i gyd yn gefnogol i hyn. Rwyf i wedi cyfarfod â'r gweithwyr cymdeithasol, ein cynghorwyr pobl ifanc, fel gwnaeth Julie Morgan, a'r Prif Weinidog a minnau wythnos diwethaf. Maen nhw o'r farn bod hwn yn gyfle iddyn nhw gyflawni eu cyfrifoldebau nhw fel rhieni corfforaethol i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol iddyn nhw, a chyda'r gefnogaeth sydd gennym ni, y cyllid yr ydym ni'n ei roi ar gyfer y pecyn cymorth drwy gydol y cynllun treialu, ac ar gyfer rhwydweithio mewn gwirionedd, ac fe hoffwn i ddweud fy mod i o'r farn y byddai pobl sy'n gadael gofal yng Nghymru yn falch o glywed eich bod chi'n awyddus i chwilio am yr elfennau cadarnhaol yn y cynllun treialu hwn. Fe fyddai hi'n ardderchog o beth pe byddai hynny'n dod o bob cwr o'r Siambr hon heddiw.

15:20

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y datganiad hwn heddiw? Rwy'n credu bod hyn unwaith eto yn amlygu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd bywyd i blant sy'n derbyn gofal. Dau gwestiwn byr. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r holl gyngor a amlinellwyd gennych chi a fydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal ynghylch materion ariannol. A wnewch chi roi sicrwydd i'r Aelodau mai'r cynghorwyr pobl ifanc fydd yn parhau i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, ac y byddan nhw'n gallu ymddiried yn y cynghorwyr hynny i gynnig y gwasanaeth cyfeirio sy'n fwyaf addas ar eu cyfer nhw, ac na fydd yn rhaid iddyn nhw gynnig rhestr faith o wasanaethau cynghori y dylai'r rhai sy'n gadael gofal fynd atyn nhw i gael cyngor ariannol? Mae hi'n gwbl hanfodol bod y rhai sy'n gadael gofal, gyda'u cynghorwyr nhw, yn dewis y ffordd orau o fynd ar drywydd hynny drwy gael cyngor a chymorth ynglŷn â materion ariannol.

Ac yn ail, Gweinidog, ar ôl cwblhau'r cynllun treialu hwn, pe byddai'r cynllun, yn sgil y gwerthusiad, yn cael ei ystyried o fudd sylweddol iawn i bobl ifanc o ran bod ag incwm sylfaenol cyffredinol i rai sy'n gadael gofal, a wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth i ystyried cynnal y gronfa benodol hon i rai sy'n gadael gofal yn y dyfodol, beth bynnag sy'n digwydd o ran y cynllun treialu hwn yn cael ei fabwysiadu neu beidio gan Lywodraeth y DU? Ac a gaf i hefyd—

Diolch yn fawr, Ken Skates. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc—y pecyn £2 filiwn hwnnw yr wyf i wedi ymateb i gwestiynau yn ei gylch eisoes, y pecyn cymorth, y cyngor ariannol a'r arweiniad, yn gyfochrog â'r cynghorwyr pobl ifanc hefyd, sy'n agweddau mwy eang efallai ar y cyngor a'r arweiniad angenrheidiol, ond ar sail un i un yn arbennig felly. Ond hefyd, mae hynny'n annibynnol, ac rwyf i o'r farn mai dyna sy'n bwysig—y bydd y pecyn hwn yn annibynnol, fel rydych chi'n dweud, Ken Skates. Mae'n rhaid iddo fod yn annibynnol, felly maen nhw'n teimlo y gallan nhw fod â ffydd ynddo, ochr yn ochr â chanllawiau eu hawdurdodau lleol nhw. Ac fe fydd hynny'n dod cyn y cynllun treialu a thrwy gydol y cynllun hefyd. Fe fydd hi'n bwysig i hynny fod oddi wrth gynghorwyr profiadol, yn enwedig o ran cyllid. 

Bydd, fe fydd y gwerthusiad yn mynd â ni drwy'r ddwy flynedd a thu hwnt i weld effaith incwm sylfaenol ar fywydau'r bobl ifanc hyn. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynllun treialu yn profi i ni wneud y penderfyniad cywir o ran rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru, a hynny wedyn—. Dyletswydd y Llywodraethau, a'r pleidiau gwleidyddol eraill hefyd yn wir, rwy'n siŵr, fydd edrych ymlaen at y dyfodol o ran bwrw ymlaen â buddsoddiad fel hyn yn ein pobl ifanc ni. Rwy'n gwybod nad oes gennyf i amser i fynd dros hyn eto, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn yn fuddsoddiad. Mae hyn yn ymwneud â'u bywydau ariannol nhw, eu dyfodol nhw, ac fe fydd ystyried hyn o ran sut y bydd hyn yn rhoi cychwyn iddyn nhw ar eu taith i fod yn ddinasyddion sy'n cyfrannu'n llawn, sy'n talu eu trethi ac yn eu galluogi nhw i fod â rhan yn y gymdeithas yn y ffordd y maen nhw'n dymuno—rhedeg busnesau, mynd i addysg bellach ac addysg uwch a swyddi—dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w gael i rai sy'n gadael gofal yng Nghymru. 

Diolch, Gweinidog. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r cynllun treialu fel un cam ar y daith tuag at incwm sylfaenol cyffredinol parhaol. Ar 4 Mai, yn ystod cwestiynau llefarwyr cyfiawnder cymdeithasol, fe godais i gyda chi fod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn aml yn cael cyfle i aros mewn llety lled annibynnol, megis fflatiau mewn cyfadeilad, lle mae gan unigolyn ifanc ei lety annibynnol ei hun ond ei fod yn gallu cael cymorth sylweddol i'w helpu i bontio i fywyd annibynnol. Eto i gyd, wrth gwrs, mae'r math hwn o lety yn ddrud i'w redeg ac, o'r herwydd, fe all y rhent fod yn uchel. Ond, yn flaenorol, i lawer o bobl ifanc yn gadael gofal, roedd eu rhent nhw mewn llety o'r fath yn cael ei dalu i landlordiaid yn uniongyrchol drwy fudd-dal tai. Gofynnais i a oedd Llywodraeth Cymru am sicrhau bod cyfranogwyr y cynllun treialu yn cael eu cefnogi'n ariannol er mwyn iddyn nhw gael mynediad at y cymorth a'r llety gorau posibl ac nad oeddynt yn cael eu datgymell rhag cael mynediad i dai â chymorth. Fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud y byddech chi'n ystyried y pwynt penodol hwn. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso'r mater hwn, o ystyried yr hyn a ddywedoch chi am yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac a wnewch chi egluro a fydd y rhain sydd ar y cynllun treialu incwm sylfaenol yn gallu parhau i gael mynediad i lety â chymorth.

15:25

Diolch. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a gallaf i ddweud 'ie'; Gallaf i ddweud 'ie' i'r yr holl bwyntiau. Hefyd, bydd cyfle i ystyried a ydyn nhw eisiau i'w rhent gael ei dalu'n uniongyrchol, yn ogystal ag edrych ar eu hanghenion o ran cyfleoedd tai â chymorth, nawr ac yn y dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn a'r datganiad heddiw yn fawr, gan ganolbwyntio fel y mae ar y rhai sy'n gadael gofal â'r incwm sylfaenol. Bydd yn ychwanegu, er gwaethaf rhai o'r amheuon heddiw, at y gronfa honno o dystiolaeth ryngwladol, o ran cynlluniau treialu incwm sylfaenol ond hefyd ar gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain tuag at fywyd annibynnol hefyd.

I ddatblygu'r pwyntiau a gafodd eu gwneud gan fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac y cyfeiriodd eraill atyn nhw hefyd, o ran gwerthuso hyn, mae dau botensial diddorol. Wel, mae tri: un yw nad yw'n gweithio, a dywedwn ni, 'Wel, dyna ni. Nid oes gennym ni ddiddordeb ynddo.' Ond mae dau arall a allai fod yn fwy ffrwythlon. Un ohonyn nhw yw ehangu hyn i incwm sylfaenol sydd wir yn fwy cyffredinol; yr un arall yw parhau hyn.

Nawr, rwy'n tybio mai mater i bleidiau fydd edrych ar hyn, a llwyddiant hyn, a dweud a ydyn nhw eisiau rhoi hyn mewn maniffestos wrth symud ymlaen ar raddfa ehangach. Ond beth am barhad hyn i'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain? A yw hynny'n rhywbeth y gallem ni yn wir wneud penderfyniad arno cyn y pwynt hwnnw?

Wel, rydym ni wedi nodi ac rydym ni wedi cytuno yn ein cyllideb ar yr £20 miliwn. Mae'n wir—. Roeddwn i eisiau dweud mai un o'r pwyntiau nad wyf i wedi gallu tynnu sylw ato yw mai dyma un o'r taliadau mwyaf hael yn y byd i gyd yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd, pan wnaethom ni glywed bod Llywodraeth y DU yn mynd i'w drethu, roeddem ni'n gwybod bod yn rhaid inni ei gwneud yn ddigon i'w gwneud yn fuddiol i bobl ifanc ystyried y dewis hwn.

Rydym ni'n credu y bydd ein buddsoddiad yn hyn, a'r gwerthusiad—proses ddeinamig, barhaus ar gyfer oes y cynllun treialu—yn profi a fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau'r bobl ifanc hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i ddod yn ôl ac adrodd. Rwy'n credu y bydd llawer eisiau cwrdd â'r bobl ifanc; rwy'n siŵr y byddan nhw'n awyddus iawn i wneud hynny, i ddweud wrthych chi am effaith hyn a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i'w bywydau. Ac yna, mewn gwirionedd, i ddechrau costio'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran buddsoddi yn y bobl ifanc hyn—buddsoddi fel na fydd angen gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eu bywydau, o ran tai, ac effaith efallai'r anawsterau hynny y mae llawer o bobl ifanc mewn gofal yn aml yn eu hwynebu, o ran digartrefedd, camddefnyddio sylweddau.

Ond rydym ni'n edrych ar hyn fel—. Y bobl ifanc hyn sydd wedi siarad â ni, gallwch chi weld, os darllenwch chi eu straeon, eu bod yn gwybod ar beth y maen nhw eisiau gwario'r arian hwn. Mae i wneud eu bywydau'n gadarn. Mae'n ymwneud â sicrhau eu bod wedi cael y cyfleoedd, a dweud, 'Mae gennym ni obaith nawr, ac rydym ni eisiau profi y gallwn ni ddefnyddio'r arian hwn a symud ymlaen yn ein bywydau mewn ffordd gadarnhaol, ragweithiol.' Dyna hanfod hyn i gyd.

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau

Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein camau i ymdrin â mater cymhleth a sensitif. Bydd Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi ymrwymo i ymdrin â diogelwch adeiladau yng Nghymru ac yn parhau i fwrw ymlaen â'n rhaglen adfer adeiladau, ochr yn ochr â rhaglen sylweddol o ddiwygio, i sefydlu gweithdrefn diogelwch adeiladau addas i'r diben yng Nghymru.

Wrth wraidd ein dull o adfer mae'r egwyddor y dylai datblygwyr gyfrannu at gostau datrys y problemau hyn, ac ni ddylai lesddeiliaid orfod talu am broblemau diogelwch tân nad ydyn nhw wedi eu creu eu hunain. Ers agor cronfa diogelwch adeiladau Cymru, rydym ni wedi derbyn 258 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bersonau cyfrifol sy'n gwybod neu'n amau y gallai fod gan eu hadeilad ddiffygion diogelwch tân. 

Rydym ni wedi cwblhau arolygon digidol ar gyfer pob un o'r rhain ac wedi nodi 161 o adeiladau sydd angen gwaith arolygu ymwthiol arall. Bydd hyn yn golygu bod ein syrfewyr yn cynnal ymchwiliad manwl i faterion diogelwch tân mewnol ac allanol, fel cladin ac adraniadau. Mae'r gwaith wedi dechrau a bydd yn parhau dros yr haf.

Er ein bod yn parhau i dderbyn datganiadau o ddiddordeb, rwy'n deall bod rhai personau cyfrifol o hyd nad ydyn nhw wedi ymgysylltu ac sy'n dal i drosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae hyn yn siomedig dros ben, ac rwy'n annog unrhyw lesddeiliad yn y sefyllfa hon, sy'n gwybod neu'n amau bod materion diogelwch tân yn effeithio ar eu hadeilad, i gysylltu â fy swyddogion, a all eu cefnogi i ddatblygu datganiad o ddiddordeb.

Rwyf i wedi siarad â llawer o lesddeiliaid ac yn parhau i gwrdd â thrigolion mewn adeiladau y mae problemau diogelwch tân yn effeithio arnyn nhw ledled Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith costau yswiriant uwch, taliadau gwasanaeth uwch, a'r anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth ailforgeisio neu werthu eu cartrefi. Rwyf i wedi ysgrifennu at bob asiant rheoli yng Nghymru i'w gwneud yn glir fy mod wedi neilltuo £375 miliwn i dalu am gostau adfer adeiladau, ac rwyf i wedi datgan yn gyhoeddus dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiffygion diogelwch tân.

Rwyf i hefyd yn cymryd camau ar ddatblygwyr.  Roeddwn i'n siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig, er gwaethaf nifer o gyfarfodydd lle'r oedd y Llywodraethau datganoledig yn ei gwneud yn glir mai dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan oedd y gorau i lesddeiliaid. Rwy'n falch o ddweud, fodd bynnag, ein bod ni wedi symud Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn a'n bod ni hefyd wedi symud yn gyflym i weithredu dull tebyg yma yng Nghymru.

Rwyf i wedi ysgrifennu at ddatblygwyr a'u gwahodd i gwrdd â mi. Rwy'n falch o ddweud bod nifer o ddatblygwyr eisoes wedi cytuno i gyfarfod a thrafod eu cynlluniau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi rhestr o ddatblygwyr sydd wedi dewis peidio ag ymgysylltu, ac rwy'n archwilio pa gamau eraill y gallai'r Llywodraeth hon eu cymryd gyda datblygwyr sy'n parhau i beidio ag ymgysylltu.

Rwy'n deall, serch hynny, i rai trigolion mewn adeiladau sydd wedi'u heffeithio arnyn nhw, na fydd y newidiadau hyn yn dod yn ddigon buan. Er mwyn cefnogi'r rheini sydd yng nghanol y caledi ariannol mwyaf brys, neu sydd yn ei wynebu, agorodd y cynllun cymorth lesddeiliaid ddoe ar gyfer ceisiadau. Bydd y cynllun newydd hwn yn darparu cyngor annibynnol yn benodol ar gyfer lesddeiliaid mewn cartrefi sydd wedi'u heffeithio. Mae'r pecyn cymorth wedi'i dargedu at lesddeiliaid sy'n berchen-feddianwyr, a'r rhai sydd wedi dod yn breswylwyr sydd wedi'u dadleoli. Fodd bynnag, byddwn ni'n monitro ceisiadau ac yn adolygu meini prawf cymhwysedd i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth fwyaf yn cael cyfle i fanteisio ar y cynllun.

Bydd pob lesddeiliad sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol, gyda'r costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyngor yn eu cefnogi i wneud y dewis cywir iddyn nhw, gan gydnabod y bydd yr amgylchiadau'n wahanol i bob aelwyd. Os mai gwerthu eu heiddo yw'r llwybr cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am werth teg i'r farchnad. Mae canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, nawr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu'r cynllun hwn yn gyflym. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyso cywir a'r prosesau cymorth.

Ochr yn ochr â'r rhaglen hon o gefnogi ac adfer adeiladau, rydym ni'n parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar y newidiadau diwylliannol a'r diwygiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i atal y sefyllfa hon rhag codi eto. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd elfennau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn berthnasol yma yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn ein galluogi ni i ddiwygio'r system rheoli adeiladu, er mwyn helpu i atal trychineb fel Grenfell rhag digwydd eto. Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno nifer o ddarpariaethau pwysig sydd â'r nod o wella hawliau prynwyr cartrefi, gan gynnwys ymestyn hawliau gweithredu a chreu'r ombwdsmon cartrefi newydd.

Rwyf i eisiau sicrhau bod ein diwygiadau diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hygyrch i bobl. Byddwn yn parhau i ymgymryd â chyfres o fesurau i ymgysylltu'n uniongyrchol â lesddeiliaid a thenantiaid er mwyn cael amrywiaeth eang o safbwyntiau preswylwyr. Bydd y gwaith hwn yn helpu i gryfhau llais y preswylydd ymhellach fel ei fod yn parhau i fod wrth wraidd ein datblygiad polisi.

Yn anffodus, nid oes atebion cyflym na hawdd, ac ni allaf i gyfaddawdu ar gyflawni'r ateb cywir, cynaliadwy. Mae unrhyw beth arall yn gadael y drws yn agored i faterion eraill sy'n codi. Mae'n bwysig bod y materion hyn yn cael eu datrys unwaith ac am byth. Rhaid i ni wneud hyn yn iawn i'w gael yn iawn nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Croesawaf i'r ymrwymiad parhaus gan Blaid Cymru i'r agenda hon ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'u Haelod dynodedig ar ein nod cyfunol, i sicrhau bod ein hadeiladau mor ddiogel â phosibl o'r cychwyn cyntaf. Diolch. 

15:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae'n anodd sylweddoli, Gweinidog, on'd yw hi, bum mlynedd yn ddiweddarach wedi trasiedi Grenfell, fod trigolion yng Nghymru yn dal i wynebu baich ariannol cladin a risgiau diogelwch tân eraill, oherwydd, rwy'n credu, weithiau, mae'r agenda newydd fod yn sôn am gladin, ac rydych chi wedi tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod agweddau eraill ar rai adeiladau sy'n risg o ran diogelwch tân.

Rydym ni nawr yn gweld pobl mewn perygl o fethdaliad ac o bosibl yn colli eu cartrefi. Fel y gwyddoch chi, mae lesddeiliaid wedi gweld eu taliadau gwasanaeth ac yswiriant yn cynyddu'n sylweddol. Ddoe ddiwethaf, cefais i e-bost gan rywun y tu allan i fy etholaeth, a gododd gyda mi ei phryderon fel lesddeiliad yn berchen ar fflat, wedi'i phrynu gan Redrow, ac wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae trigolion yno wedi gweld costau gwasanaethau'n cynyddu o £3,000 i bron £7,800 y flwyddyn, ac adroddiadau'n dangos bod premiymau yswiriant adeiladu yn cynyddu'n esbonyddol hyd at 1,000 y cant.

I'r gwrthwyneb, os edrychwn ni ar y gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, mae pecyn o fesurau i ddiogelu lesddeiliaid rhag costau ariannol adfer cladin ac agweddau eraill wedi'i gyflwyno. Fel rhan o'r mesurau a gafodd eu cyhoeddi, gwnaeth Llywodraeth y DU roi mewn cyfraith ei gwarant ei hun, sef na fyddai'n rhaid i unrhyw lesddeiliaid sy'n byw mewn adeiladau canolig neu uchel dalu am gael gwared ar y cladin hwn. At hynny, mae datblygwyr a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb i ariannu gwaith atgyweirio diogelwch adeiladau. Mae dros 35 o ddatblygwyr mwyaf y DU wedi addo adfer adeiladau y maen nhw wedi'u hadeiladu o fewn y 30 mlynedd diwethaf. Felly, gallwch chi ddeall—. Ac mae braidd yn annifyr pan fyddwch chi'n gwneud hyn yn wleidyddol drwy sôn am Blaid Cymru, oherwydd, yn y pen draw, rwy'n credu'n onest nad oes neb wedi eich dal i gyfrif am hyn fwn na'r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, mae angen dewisiadau ariannu pendant ar ein trigolion yng Nghymru.

Gan fynd yn ôl at eich datganiad, gwnaethoch chi sôn am 258 o ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl gyfrifol sy'n gwybod neu'n amau bod gan eu hadeilad ddiffygion diogelwch tân, a bod angen gwaith arolygu ymwthiol arall ar 161 o adeiladau. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: pa mor sicr ydych chi eich bod chi'n cyrraedd yr holl bobl hynny sydd wedi'u heffeithio mewn gwirionedd? Rwy'n deall bod rhai personau cyfrifol nad ydyn nhw wedi ymgysylltu ac sy'n dal i drosglwyddo costau i lesddeiliaid. Mae hyn yn siomedig iawn, rydych chi'n ei ddweud, ac rydych chi'n annog unrhyw lesddeiliaid yn y sefyllfa hon sy'n gwybod neu'n amau bod materion diogelwch tân yn effeithio ar eu hadeilad i gysylltu â'ch swyddogion. Mae'n debyg mai fy nghwestiwn mwyaf yw: beth fyddwch chi'n ei wneud os nad ydyn nhw?

Yn amlwg, rydym ni'n ddiolchgar iawn o weld eich bod chi wedi rhoi £375 miliwn i dalu am gostau adfer adeiladau, a'ch bod chi wedi datgan yn gyhoeddus dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiffygion diogelwch tân. Ond pan fyddaf i wedi gweld pobl eraill dan sylw, sy'n byw yn rhai o'r eiddo hyn, maen nhw'n teimlo ar eu pennau eu hunain o ran sut y maen nhw'n gwybod y byddan nhw'n cael eu cynnwys yn eich cynlluniau os nad yw'r bobl sy'n gyfrifol am eu hadeiladau—efallai'r cwmnïau rheoli—yn cysylltu â chi mewn gwirionedd. Felly, gallwch chi ddeall y pryderon yno.

Yn y bôn, mewn gwirionedd, gwelaf i fod y cynllun cymorth lesddeiliaid wedi agor ddoe ar gyfer ceisiadau. A wnewch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny, Gweinidog? A gwnaf i ddweud hyn eto: mae'r Ceidwadwyr Cymreig ar eich ochr chi o ran y datblygwyr hyn, sydd wedi gadael y trigolion hyn, y perchnogion cartrefi tlawd hyn mewn sefyllfa mor drasig. Felly, byddwn i'n dweud eto: ni ddylai hyn gael ei wneud yn wleidyddol; rwy'n argyhoeddedig bod gennym ni gefnogaeth o bob plaid yn y Siambr hon, ond mae gwir angen i ni sicrhau nad oes yr un deiliad tŷ yn cael ei adael ar ôl pan ddaw'n fater o sicrhau bod eu cartrefi'n ddiogel i fyw ynddyn nhw. Diolch.

15:35

Diolch, Janet. Rwy'n credu imi ateb eich holl gwestiynau yn fy natganiad. Ond i ailadrodd, os oes unrhyw un yn credu nad yw eu cwmni rheoli, neu'r trefniadau rheoli ar gyfer eu hadeilad—oherwydd bod amrywiaeth enfawr o ffyrdd cymhleth o reoli'r adeiladau hyn—wedi'u cynnwys, yna cysylltwch yn uniongyrchol â ni. Mae'n ddigon hawdd i'w wneud—gallwch chi anfon e-bost ataf yn uniongyrchol os oes angen. Felly, mae'n hawdd ei wneud. Byddwn ni'n cadarnhau bod yr adeilad wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn y datganiadau o ddiddordeb, er mwyn tawelu meddyliau pobl os yw wedi'i gynnwys ac nad ydyn nhw'n gwybod hynny, ac mae hynny wedi digwydd. Neu, os nad ydyn nhw wedi'u cynnwys, yna byddwn ni'n mynd y filltir ychwanegol i gysylltu â'r trefniadau rheoli ar gyfer yr adeilad hwnnw, a sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wneud i'r bobl hynny wneud cais. Ond yn y diwedd, alla i ddim gwneud iddyn nhw, a dyna un o'r problemau.

Felly, un o'r materion sy'n ymwneud â'r ffordd y caiff yr adeiladau hyn eu rheoli yw un o'r pethau y mae angen i ni ymdrin ag ef, ac un o'r pethau yr ydym ni'n aros amdano ar hyn o bryd yw gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y pecyn diwygio lesddaliad ehangach y mae angen iddo ddod yn sgîl y rhain i gyd. Roeddwn i'n siomedig nad oedd hynny yn Araith y Frenhines, ond rydym ni'n dawel ein meddwl ei fod yn dod, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny, oherwydd mae gennym ni broblemau eithriadol o debyg ledled Cymru a Lloegr. Mae'n wahanol iawn yn yr Alban, lle mae ganddyn nhw system wahanol.

Felly, rwyf yn gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni ar hynny. Roeddem ni'n siomedig eu bod nhw wedi ein hepgor ni o'r cynlluniau gwreiddiol, ond, a bod yn deg, maen nhw nawr bellach wedi penderfynu gweithio gyda ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Ac yn ogystal â hyn, rydym ni wedi bod yn gwneud nifer o bethau ein hunain. Felly, roeddwn ni eisoes yn cyfarfod â'r datblygwyr cyn i Lywodraeth y DU ddechrau. Pan ddechreuodd Llywodraeth y DU gyfarfod â datblygwyr, yna, yn amlwg, mae ganddyn nhw bocedi llawer dyfnach na ni, ac felly, yn anffodus collodd datblygwyr ddiddordeb mewn siarad â ni. Fodd bynnag, maen nhw wedi adennill y diddordeb hwnnw, ac rwyf i'n falch iawn o hynny. Ac mae gennym ni amrywiaeth o ddatblygwyr yn dweud y byddan nhw'n llofnodi'r addewid ar gyfer Cymru hefyd; mae Redrow yn un o'r rheini. Mewn gwirionedd, nid yw'r contract wedi'i gwblhau'n derfynol gyda Llywodraeth y DU eto, felly, pan fydd hynny'n digwydd, caiff ei ymestyn i Gymru gan y datblygwyr hynny sydd eisoes wedi dweud ar goedd y byddan nhw'n gwneud hynny. Ac mae gennyf i amrywiaeth o gyfarfodydd gyda datblygwyr beth bynnag, wrth symud ymlaen, yng Nghymru, i geisio gweld beth y gallwn ni ei wneud.

O ran y pwynt yswiriant, yn fyr iawn, rydym ni wedi trafod hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen cynllun tebyg iawn i'r cynllun Flood Re arnom ni, ac felly, mewn gwirionedd, mae arnaf i ofn, dim ond Llywodraeth y DU all wneud hynny. Nid oes gennym ni'r grym i allu gwneud hynny. Felly, rydym ni wedi bod yn eu gwthio i wneud hynny, ac rwyf i'n obeithiol y byddwn ni, yn y grŵp rhyng-weinidogol nesaf, yn gallu trafod sut a phryd y byddan nhw'n gallu dod â'r yswirwyr i'r bwrdd. Ac, a dweud y gwir, Janet, byddwn i’n ddiolchgar iawn, iawn am unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i'n helpu ni i gael Llywodraeth y DU i wneud hynny.

15:40

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf. Ac rwy'n siŵr bod unrhyw gefnogaeth i lesddeiliaid yn cael ei groesawu'n fawr. Rwyf i hefyd yn gwerthfawrogi'r angen i wneud hyn yn gywir. Roedd yn torri corneli, trachwant â chamarfer a arweiniodd at y sefyllfa drasig hon yn y lle cyntaf, a Llywodraethau olynol yn San Steffan o bob lliw gwleidyddol a anwybyddodd rybuddion diogelwch adeiladu, tra bod datblygwyr yn dewis elw dros bobl. I roi enghraifft: dim ond £10 miliwn y costiodd adnewyddu peryglus Grenfell, a gafodd ei gomisiynu gan gyngor cyfoethocaf y DU. I'r gwrthwyneb, mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r drychineb honno eisoes wedi costio £150 miliwn, ac mae disgwyl iddo basio'r marc £1 biliwn erbyn y diwedd.

Rydym ni wedi gweld, yn dilyn Grenfell, gylch cyflawn o basio'r bai, ac mae cymhlethdod datblygiadau o'r fath wedi gwneud atebolrwydd gwirioneddol bron yn amhosibl. Mae'n sicr yn llawer rhy anodd. Rhaid i ni sicrhau na fydd trychineb o'r fath, a'r cyfle i basio'r baich, fel yr ydym ni wedi'i weld mor aml, byth yn digwydd eto. Mae Michael Gove wedi dweud y byddai'n defnyddio pwerau i fynd ar drywydd asiantau rheoli a datblygwyr nad ydyn nhw'n cydymffurfio. A wnewch chi? A phryd ydych chi'n rhagweld y bydd yr amddiffyniadau lesddeiliad yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn cael eu gweithredu yng Nghymru?  

Y cwestiwn yr ydych chi'n ei gael, a'r cwestiwn yr wyf i'n ei gael, ac y mae pob Aelod yma sydd wedi siarad â lesddeiliaid yn ei gael, yw, 'Pryd y daw'r hunllef hon i ben?' Maen nhw'n teimlo eu bod mewn limbo, ac ni allan nhw weld, er gwaethaf y datganiadau gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf yr hyn sy'n cael ei ddweud yn San Steffan, ddiwedd yr hunllef hon. A allwch chi ddarparu unrhyw fath o amserlen i'r lesddeiliaid hyn ynghylch pryd y bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau yng Nghymru?

Roeddwn i'n eithaf balch o ddarllen eich bod chi wedi cysylltu â'r holl asiantau rheoli yng Nghymru a'ch bod chi wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddwch chi'n ymdrin â'r gwaith. Fodd bynnag, rydym ni'n dal i glywed gan lesddeiliaid am asiantau rheoli sy'n dal i wario swm enfawr o'u harian. A gawsoch chi ymateb cadarnhaol gan y rhan fwyaf o'r asiantau? A beth allwn ni ei wneud i sicrhau na fydd mwy o alwadau ariannol yn cael eu rhoi ar lesddeiliaid yn ystod y cyfnod hwn? 

Mae gennych chi gefnogaeth drawsbleidiol yma, Gweinidog, ynglŷn â'r egwyddor rhaeadru: rydym ni i gyd yn cytuno mai'r lesddeiliad ddylai fod yr un olaf, ac rydym ni i gyd yn cytuno mai'r datblygwyr eu hunain yw'r bobl gyntaf a ddylai fod yn talu. Yn dilyn eich trafodaethau gyda nhw, a ydych chi'n rhagweld y bydd Llywodraeth Cymru yn arbed rhywfaint o'r £375 miliwn yr ydych chi wedi'i ymrwymo i'r gwaith hwn? Ac, o ran y datblygwyr nad ydyn nhw wedi ymgysylltu, rwyf i'n falch eich bod chi wedi'u henwi, a gobeithiaf y bydd hynny'n eu cywilyddio i weithredu. Os nad yw'n gwneud hynny, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad ydyn nhw'n cael ceiniog yn fwy o gontractau sector cyhoeddus ac nad ydyn nhw'n cael ceiniog yn fwy o waith yma yng Nghymru. Nid ydym ni eisiau i bobl sydd wedi dangos difaterwch llwyr i ddiogelwch adeiladu, ac yna difaterwch llwyr i ofid meddwl a chaledi ariannol, fod yn rhan o'r diwydiant adeiladu yma yng Nghymru. 

Mae'n dda clywed am y cynllun cymorth i lesddeiliaid a agorodd ddoe. Beth yr ydych chi'n bwriadu'i wneud gyda rhai o'r fflatiau y byddwch chi'n eu prynu yn y pen draw gan y lesddeiliaid? Ac fe orffennaf gyda hyn, Dirprwy Lywydd: mae'r sgandal hon, unwaith eto—ac mae'n debyg mai dyma lle yr wyf yn wahanol i fy nghyfaill ar y meinciau gyferbyn—mae'r sgandal hon, unwaith eto, wedi taflu goleuni ar annhegwch lesddaliadau. Gobeithiaf, wrth ystyried diwygiadau yn y dyfodol, fod Llywodraeth Cymru yn dod â'r crair ffiwdal hon i ben.

Cefais sgwrs hyfryd ddydd Gwener gyda'r cyn Weinidog Sue Essex, ac roedd hi'n sôn am yr ymgyrch y cafodd gyda fy nhad yn y 1970au ar gyfer diwygio lesddaliad yng Nghaerdydd. Oherwydd ymgyrchoedd fel hynny ar draws y Deyrnas Unedig, roedd lesddaliad yn fath o ddeiliadaeth a oedd yn trengi, ac eto mae wedi dychwelyd yn gryfach byth, er anfantais i filoedd o bobl, llawer ohonyn nhw'n gymdogion i ni yma ym Mae Caerdydd. Mae'n bryd i Gymru ymuno â'r llwyfan rhyngwladol i wrthod yr arfer annheg, hen ffasiwn hwn, fel y mae'r Alban, Iwerddon ac Awstralia wedi'i wneud—diwedd ar lesddaliad yn ein gwlad, diwedd ar rent tir, a diwedd ar gwmnïau rheoli dibreswyl. Diolch yn fawr, Gweinidog. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

15:45

Rwy'n cytuno'n llwyr â'ch traethiad ar y pwnc. Fodd bynnag, mae hi ychydig yn fwy cymhleth. Pan oedd Sue Essex yn cyflawni ei darn o waith, un o'r meysydd yr oeddem ni'n edrych arno oedd cyfunddaliad a system yr Alban, ond mewn gwirionedd mae'r sgandal diogelwch adeiladau wedi tynnu sylw at rai diffygion difrifol yn y ffordd y mae cyfunddaliad yn gweithio a'r ffordd y caiff yr atebolrwydd ei drosglwyddo. Felly, mae angen i ni ddysgu'r gwersi o'r Alban ynghylch pam nad yw'r system honno wedi gallu cynhyrchu ateb syml, unedig, oherwydd yn sicr nad yw wedi gwneud hynny. Mae Llywodraeth yr Alban, gallaf eich sicrhau chi, yn y cyfarfodydd gyda ni a Llywodraeth y DU gyda'r holl broblemau sydd gennym. Felly, mae angen i ni ddod o hyd i system sy'n gweithio i bawb ac nad oes ganddo hynny.

Mae'n gyfuniad o bethau, on'd yw e? Mae gwir angen i ni ddiwygio lesddaliad. Nid yw hi yma nawr, ond rwyf i newydd ddweud wrth Janet Finch-Saunders mai un o'r pethau yr ydym ni eisiau'i wneud yn yr achos hwn mewn gwirionedd yw gweithio gyda Llywodraeth y DU. Nid oherwydd nad wyf i eisiau'i wneud fy hun, mae hynny mewn gwirionedd oherwydd bod y rhan fwyaf o'r datblygwyr sy'n adeiladu'r adeiladau uchel yn arbennig yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, a dweud y gwir, nid ydyn nhw'n adeiladu digon ohonyn nhw yma er mwyn i ni allu cael effaith ariannol sylweddol arnyn nhw, felly mae angen grym ehangach Llywodraeth y DU arnom ni yn yr achos hwnnw i'w cael nhw i ufuddhau. Yr hyn nad wyf i eisiau'i weld yn digwydd yw ein bod ni'n rhoi darpariaethau ar waith yma yng Nghymru, fel ardoll, er enghraifft, a'r cyfan y mae'n ei olygu yw eu bod yn adeiladu'r adeiladau 1 troedfedd yn is na hynny ac mae'r ardoll yn aneffeithiol. Felly, rhaid i ni fod ychydig yn ofalus ynghylch graddfa rhywfaint o hyn, ond fel arall rwy'n cytuno yn llwyr â chi.

Y peth arall y mae angen i ni ei wneud yw sefydlu cyfundrefn sy'n sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto, fel bod timau arolygu ar y cyd ac yn y blaen. Bydd defnyddio technoleg fodern, a dweud y gwir, ffilmio'r holl beth ac yn y blaen, yn sicrhau ein bod ni'n gwybod yn iawn beth sydd y tu mewn i'r adeiladau hynny heb orfod gwneud twll enfawr yn wal eich ystafell fyw i gael golwg, a bod gennym ni gyfundrefnau arolygu priodol a systemau atebolrwydd priodol ar gyfer pwy sy'n atebol ar ba gam o'r adeiladu. Felly, dylunio, datblygu, meddiannu—mae angen cyfundrefnau gwahanol arnom ni ar gyfer y rheini. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny'n galed iawn ers amser maith. Rydym ni wedi bod yn ymgynghori â phartneriaid ac awdurdodau lleol. Bydd yn wahanol yng Nghymru; rydym ni'n ymddiried yn ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol, felly byddwn ni'n eu gwneud yn arolygwyr ac yn y blaen. Felly, rydym wedi datblygu'n dda ar y gwaith hwnnw.

Ac yna dim ond ar yr amserlen ar gyfer y cyfnod adfer, rydym ni yng nghanol yr arolygon ymwthiol. Mae'n hawdd dweud, gan sefyll yma, onid yw? Ond mae arolwg ymwthiol yn ymwthiol. Mae pobl mewn gwirionedd yn cael tyllau mawr wedi'u torri yn eu cartrefi. Felly, mae angen i ni wneud hynny ar y cyd â'r preswylwyr hynny a sicrhau eu bod yn gallu byw gyda hynny. Ond dylai'r rheini i gyd fod wedi'u cwblhau erbyn diwedd yr haf, ac yna byddwn ni'n mynd i'r cyfnod adfer. Rwy'n gwbl hyderus y bydd yr adeiladau cyntaf yn mynd i'r cyfnod adfer yn gynnar yn nhymor yr hydref, ar gyfer y lle hwn. Yr hyn na allaf i ei ddweud wrthych chi yw pryd y byddwn ni'n cael yr un olaf, oherwydd mae'n amlwg bod gennym ni 161 o adeiladau ar hyn o bryd â datganiadau o ddiddordeb. Dim ond hyn a hyn o adeiladwyr sydd gennym ni sy'n gallu gwneud y gwaith hwn ac yn y blaen, felly mae arnaf i ofn na allaf i roi ôl-stop arno, ond gallaf i roi'r dechrau i chi. Pan fydd yr adeiladu yn dechrau, byddwn ni'n amlwg yn dysgu o hynny, byddwn ni'n cynyddu'r gweithlu ac yn y blaen. 

Y pwynt olaf yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd fy mod i eisiau i'r datblygwyr dalu amdano, ond nid wyf i eisiau dal y gwaith i fyny, felly mae gennym ni gynllun ar waith nawr sy'n caniatáu i ni wneud hynny. Bydd yn rhaid i'r datblygwyr ddod i gytundeb â ni ynglŷn â sut y maen nhw'n talu am hynny, yn hytrach na'n bod ni'n mynd drwy ailadroddiad arall eto o ddadleuon ynghylch pwy sy'n mynd i dalu'r adeiladwyr sy'n gwneud y gwaith. Felly, dim ond dweud ein bod ni'n gwneud hynny, ond mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd yn iawn ac nad yw'n dal y gwaith i fyny.

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr. Rwyf i a fy etholwyr hefyd yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi dewis mynd ar drywydd ei haddewidion diogelwch adeiladu ar sail Lloegr yn unig. Onid oeddem ni'n arfer cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol ganddyn nhw? Mae gennyf i ddwy ardal yn fy etholaeth sydd ag adeiladau wedi'u heffeithio. Rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai datblygwyr gyfrannu at y gost o ddatrys y problemau hyn—nhw oedd y rhai a greodd y problemau hyn yn y lle cyntaf. Byddwn i'n mynd ymhellach ac yn dweud fy mod i'n credu y dylai'r datblygwyr ariannu'r gwaith adfer yn llawn. Yn anffodus, yn Nwyrain Abertawe, mae adeiladau wedi'u hadeiladu gan Carillion, sydd wedi mynd allan o fusnes. Pwy sy'n mynd i ariannu unioni'r adeiladau hyn? Cefais wybod hefyd fod adeiladau eraill wedi'u hadeiladu gan gyfrwng un pwrpas nad yw bellach yn bodoli. Rwy'n croesawu'r £375 miliwn i dalu am y gost o adfer adeiladau. Rydych chi'n datgan yn gyhoeddus na ddylai lesddeiliaid dalu'r bil am ddiogelwch tân, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n falch iawn o glywed hynny. I ba raddau y bydd y swm hwnnw'n mynd i unioni'r problemau diogelwch tân? Yn olaf, onid yw hyn yn rheswm arall dros gyflwyno cyfres newydd o reolaethau adeiladu a rhoi terfyn ar lesddaliad?

15:50

Diolch, Mike. Rydych chi'n gwybod fy mod i wedi cwrdd â nifer o'r trigolion a chithau yn yr adeiladau sydd wedi'u heffeithio yn eich etholaeth chi, ac rydym ni'n awyddus iawn bod y trigolion hynny sydd wedi gwneud y peth iawn yn cael gofal priodol yn y cynllun hwn hefyd, felly mae hynny'n gymhlethdod arall eto. Rydych chi'n tynnu sylw at broblem lluosogrwydd gwahanol drefniadau. Mae un adeilad yn fy etholaeth i fy hun yr ydych chi'n gyfarwydd iawn ag ef lle mae pawb wedi mynd yn fethdalwr, gan gynnwys y dylunydd, tri grŵp o ddatblygwyr, y cwmnïau yswiriant—mae'n drychineb llwyr. A dyna pam y mae'n rhaid i ni gael ôl-stop i'r bobl hynny, oherwydd pe baem ni'n dibynnu ar ddatblygwyr i wneud hynny, nid oes endid o'r fath ar ôl er mwyn bwrw ymlaen â hynny. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn barod i roi arian cyhoeddus i'w wneud, oherwydd i rai pobl nid oes unrhyw un. 

Cymhlethdodau'r cwmni adeiladu cyfrwng un pwrpas sy'n dwyn enw corfforaeth fawr arno ond mewn gwirionedd, yn gyfreithiol, mae'n gwmni ar wahân yw un o'r materion mwyaf y bu'n rhaid i ni ei wynebu. Soniodd Rhys, rwy'n credu, ynghylch ceisio atal pobl rhag cael contractau eraill ac yn y blaen, ond pan ewch chi i mewn i gyfraith y peth, nid ydyn nhw yr un cwmni, ac mae hynny wedi bod yn broblem wirioneddol. Felly, rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i newid rhywfaint o'r gyfraith nad yw wedi'i datganoli i Gymru o ran amddiffyniadau o dan yr amgylchiadau hynny, yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 a meysydd eraill, fel y gallwn ni wneud hynny. A byddwn ni'n ceisio gwella'r ffordd yr ydym ni'n galluogi pobl i wneud cais a gweithredu caniatâd cynllunio—mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n siarad â dau berson gwahanol yma nawr. Yn y bôn, yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw dyblygu'r hyn y mae Llywodraeth Lloegr yn edrych arno, sef atal pobl rhag gallu manteisio ar ganiatâd cynllunio sydd ganddyn nhw eisoes os oes ganddyn nhw adeiladau heb eu hadfer sy'n dwyn eu henw corfforaethol. Ond mae'n fwy cymhleth na dim ond dweud, 'Ni all y cwmni hwn ei wneud', oherwydd mae lluosogrwydd ohonyn nhw.

Felly, rwy'n cytuno â hynny i gyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â diwygio lesddaliad, ond fel y dywedais i wrth Rhys, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw dysgu o brofiad yr Alban, oherwydd roeddem ni wedi cael ein denu'n fawr at hynny, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi cael nifer o broblemau gyda'r system honno hefyd.

Prynhawn da, Gweinidog. Mae'n ddrwg gennyf i y bydd yn rhaid i chi annerch y cylch hwn o bobl eto. Diolch am y datganiad, Gweinidog, a diolch i chi hefyd am gyfarfod â pherchnogion tai a minnau ychydig wythnosau'n ôl—rwy'n ddiolchgar iawn. Mae ychydig o faterion yr oeddwn i eisiau eu codi. Gwn i o ohebiaeth â chi a'ch swyddogion yn ystod yr wythnosau diwethaf eich bod chi i fod i gyflwyno strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr. Rwy'n croesawu hyn, a gwn eich bod chi wedi ymrwymo i hynny, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi hefyd yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaethau sydd gan lawer o'r perchnogion tai a'r lesddeiliaid, sy'n amlwg yn gwaethygu eu hiechyd meddwl a'r straen y maen nhw'n ei deimlo. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymrwymo i'r grŵp eang, agored hwn o berchnogion tai i ymgysylltu'n uniongyrchol, er fy mod i'n cydnabod ei fod yn gymhleth a bod gwahanol haenau. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allwch chi amlinellu'n fyr iawn yr hyn y byddai eich cynllun yn ei olygu a pha fath o fecanweithiau neu gyfleoedd fydd ar gael i'r perchnogion tai hynny ymgysylltu â chi a chyfathrebu â chi. Diolch yn fawr iawn. Diolch.

Yn sicr, Jane. Roedd yn bleser cwrdd â chi a'r grŵp a ddaeth gyda chi. Rwyf i wedi bod yn cyfarfod â nifer o grwpiau—gyda Mike ac eraill—ers amser maith nawr. Yr hyn yr ydym ni eisiau'i sicrhau yw bod y grwpiau hynny o bobl nad ydyn nhw wedi llwyddo i wneud eu ffordd i ni ar ryw ffurf neu'i gilydd hefyd yn cael eu cynnwys. Nid ydym ni o reidrwydd eisiau ymgysylltu â'r bobl â'r lleisiau uchaf  bob amser, felly yr hyn yr ydym ni'n bwriadu'i wneud yw gweld a allwn ni gael strategaeth lle mae gennym ni gynrychiolwyr o'r amrywiaeth ehangaf o bobl y gallwn ni gael gafael arnyn nhw—mae gennyf i ddiddordeb arbennig mewn cysylltu â'r rhai nad ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad arbennig â ni—a sicrhau bod gennym ni'r amrywiaeth honno o leisiau. Rydym ni hefyd yn ceisio sicrhau bod gennym ni breswylwyr o bob math o drefniant rheoli, fel bod gennym ni lu o leisiau. Mae gennym ni bob math o wahanol drefniadau rheoli, o gwmnïau cydweithredol i gwmnïau rheoli hierarchaidd gwirioneddol a phob math o beth y gallwch chi feddwl amdano. Felly, ceisio cael amrywiaeth o leisiau i sicrhau bod gennym ni bob safbwynt, mae'n debyg, yw'r hyn yr ydym ni ar ei ôl. Rwy'n arbennig o awyddus i wneud hynny, yn rhannol oherwydd ein bod ni eisiau sicrhau bod y gwaith adfer yn mynd yn dda, ond yn bwysicach o lawer, rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni'n deall o'u profiad nhw yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i drwsio, fel ein bod ni, wrth gynllunio ein system newydd, yn gwbl sicr ein bod ni wedi ymdrin â'r holl faterion sydd wedi codi ac wedi gwneud yn siŵr na allan nhw ddigwydd eto. Dyna'r ddelfryd, onid yw, i wneud yn siŵr bod y system newydd yn gadarn iawn, a dyna'r hyn y byddwn i'n mwyaf diolchgar amdano ynghylch mewnbwn y trigolion iddi, yn ogystal ag yn amlwg ar y cyfnod adfer.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar werthuso a gwella addysg a dysg yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

15:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i  ddiolch i’r proffesiwn am eu hymrwymiad parhaus i ddiwygio’r cwricwlwm a blaenoriaethu lles eu dysgwyr, er gwaethaf yr heriau niferus maen nhw wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Cymru ar daith uchelgeisiol i ddiwygio addysg, i godi safonau a dyheadau i bawb, fel y gall pawb gyrraedd eu potensial. Wrth wraidd ein diwygiadau, mae'r Cwricwlwm i Gymru yn galluogi ymarferwyr i gynllunio addysgu sy’n ennyn diddordeb dysgwyr, ac yn eu cefnogi a’u herio i symud ymlaen a chyflawni eu llawn botensial. Mae asesu disgyblion ac atebolrwydd cyhoeddus yn hanfodol i godi safonau a chefnogi ein rhaglen ddiwygio. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonynt rôl wahanol iawn i'w chwarae. Mae asesu yn ymwneud gyda deall anghenion disgybl unigol; dylid ei ddefnyddio er budd disgyblion, i alluogi athrawon i addasu strategaethau addysgu i gefnogi cynnydd disgyblion. Mae atebolrwydd yn cynnwys barn ar berfformiad cyffredinol ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd.

Mae’r dystiolaeth yn glir bod effaith andwyol ar addysgu a dysgu pan fydd asesu ac atebolrwydd heb eu gwahanu. Mae ysgolion yn cwyno eu bod yn aml wedi drysu am yr hyn a ddisgwylir ganddynt a'u bod yn cael eu tynnu i gyfeiriadau gwrthgyferbyniol. Ddoe, cafodd ein canllawiau newydd ar wella ysgolion eu cyhoeddi er mwyn mynd i’r afael gyda hyn. Maen nhw'n darparu fframwaith clir ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Fel y byddech yn gobeithio ac yn disgwyl, rydym wedi rhoi'r dysgwr, ei les a’i gynnydd, wrth wraidd hyn. Mae'r canllawiau'n helpu i egluro'r gwahaniaeth rhwng asesu ac atebolrwydd, yn ogystal â'r gwahanol rolau a chwaraeir ganddynt, fel bod ysgolion yn glir ynghylch yr hyn sy'n ofynnol. Mae hefyd yn nodi sut y bydd rhieni a'r cyhoedd yn ehangach yn gallu cael gafael ar wybodaeth fwy cyfamserol, manwl a llawn gwybodaeth.

Ataliwyd categoreiddio cenedlaethol yn 2020, a chadarnhaodd y canllawiau y bydd yn cael ei ddisodli gan broses hunanarfarnu gadarn lle rhennir arfer da ac yr eir i'r afael â methiant ar frys. Mae'r OECD wedi nodi rôl amlwg ar gyfer hunanarfarnu fel nodwedd o systemau ysgolion sy'n perfformio'n dda. Maen nhw wedi disgrifio o'r blaen sut y bydd disodli categoreiddio cenedlaethol â system hunanwerthuso gadarn yn rhoi trosolwg llawer mwy manwl o gryfderau gwirioneddol a meysydd ar gyfer gwella ysgol o'i gymharu â'r system codio lliw. Rwy'n falch ein bod wedi gallu manteisio ar eu cyngor wrth ddatblygu'r broses hunanarfarnu newydd.

Hunanwerthuso ysgolion fydd y man cychwyn ar gyfer yr holl waith gwerthuso a gwella. Anogir ysgolion i ymgorffori adolygiadau gan gymheiriaid yn eu hunanwerthusiad er mwyn datblygu diwylliant o bartneriaeth ymhellach. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phob ysgol i gytuno ar lefel o gymorth sydd ei hangen ar ysgolion a bydd yn cadarnhau i gyrff llywodraethu ysgolion y cymorth y byddan nhw'n ei ddarparu neu'n ei frocera. Bydd y dull hwn o wella ysgolion yn golygu y bydd angen i ysgolion barhau i fod yn agored ynghylch ble y maen nhw'n dymuno gwella, a chael mynediad at gymorth o ansawdd uchel gan gonsortia, awdurdodau lleol ac ysgolion eraill sydd wedi'u teilwra i'w hanghenion. Rwyf am iddyn nhw gydweithio â'i gilydd, nid i gystadlu er anfantais i'w dysgwyr. Bydd rhieni yn awr yn gallu cael gafael ar wybodaeth fwy diweddar, fanwl a llawn gwybodaeth drwy gael gafael ar grynodeb o flaenoriaethau gwella pob ysgol, a bydd cynlluniau datblygu pob ysgol hefyd ar gael i bawb eu gweld.

Mae sgyrsiau rhwng dysgwr, eu hathrawon a'u rhieni a'u gofalwyr yn allweddol. Rwyf felly wedi cyflwyno rheoliadau ar ddarparu gwybodaeth gan benaethiaid i rieni a gofalwyr, sy'n cynnwys disgwyliadau i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr bob tymor, gan ganolbwyntio ar sut mae dysgwyr yn symud ymlaen, fel y gall y cartref a'r ysgol gefnogi gwelliant dysgwyr. Bydd atebolrwydd o fewn y system ysgolion yn parhau i gael ei gynnal drwy lywodraethu ysgolion yn effeithiol ac arolygu ysgolion yn fwy rheolaidd gan Estyn. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd, sy'n cefnogi'r cwricwlwm newydd, gyda chynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024. Bydd yr ymrwymiad i gynyddu arolygiadau yn lleihau'r bwlch rhwng adrodd am ysgolion unigol, a sicrhau hefyd bod rhieni a dysgwyr yn gallu cael gwybodaeth gyfredol am eu hysgol.

Mae deialog broffesiynol effeithiol rhwng ymarferwyr ac ysgolion yn ffordd allweddol arall o godi safonau. Dyna pam ddoe y cyhoeddais gyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr weithio gyda'i gilydd o fewn a rhwng ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o sut y dylai eu dysgwyr symud ymlaen. Mae'r trafodaethau hyn yn hanfodol i helpu dysgwyr i gael profiad cydgysylltiedig wrth iddyn nhw symud rhwng gwahanol ysgolion, ac i sicrhau tegwch ledled Cymru.

Ddechrau mis Mai, lansiwyd yr adnodd cenedlaethol ar gyfer gwerthuso a gwella Hwb, gan ddarparu canllawiau ac adnoddau ymarferol i ysgolion i gefnogi hunanarfarnu a gwella. Gan adeiladu ar hyn, rwyf hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau ategol i ymarferwyr i gynorthwyo ysgolion wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ymarferol ar werthuso a gwella, dylunio'r cwricwlwm, dilyniant ac asesu—sy'n hygyrch ar Hwb i unrhyw ymarferydd.

Rhaid inni sicrhau bod ein cwricwlwm trawsnewidiol yn cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'n cynnig dysgu proffesiynol fod yn hygyrch i bawb. Rydym yn parhau i weithio gydag athrawon ac eraill yn y system addysg i gwblhau ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, yn barod ar gyfer yr hydref, y bydd arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu i gyd yn elwa arni. Cynnig gwirioneddol genedlaethol, ac un a fydd yn haws ei lywio. A chyn hynny, rwy'n disgwyl i'n consortia rhanbarthol ddarparu'r trefniadau mynediad cyffredin, fel y gall gweithiwr addysgu proffesiynol mewn unrhyw ran o Gymru gael mynediad ar-lein i'r cynnwys dysgu proffesiynol sydd ar gael gan y consortia mewn unrhyw ran arall o Gymru.

Ac er mwyn cefnogi ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, rwyf hefyd yn ceisio parhau â'r diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol yn y flwyddyn academaidd nesaf, er mwyn rhoi'r amser a'r lle sydd eu hangen ar arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion i wneud hyn yn iawn, oherwydd rwyf i, ynghyd â'r proffesiwn, eisiau gweld system addysg sy'n cynnig safonau a dyheadau uchel i bawb.

16:00

Rwyf hefyd eisiau cofnodi ein diolch i holl staff yr ysgol am eu cadernid parhaus a'u gwaith caled, a dysgwyr hefyd. Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad heddiw, ac rydym yn croesawu rhannau ohono. Mae hwn wedi bod ac yn gyfnod anodd iawn i ddysgwyr. Mae'r ffordd yr ydym ni'n gwerthuso'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan ein hysgolion o'r pwys mwyaf fel y gallwn ni i gyd werthuso a gweld sut mae ysgolion yn symud ymlaen ac yn ymateb ar ôl y pandemig i gyfarwyddwyr newydd, i ganlyniadau PISA gwael ac i anghenion disgyblion. Mae'n rhaid imi anghytuno â chamau gweithredu'r Gweinidog i gael gwared ar y system bresennol o gategoreiddio ysgolion—y system goleuadau traffig fel y'i gelwir yn fwy cyffredin—sydd wedi bod yn ffordd hawdd a syml i rieni, i athrawon a swyddogion llywodraeth leol weld sut y mae ysgol yn perfformio. Yr unig broblem gyda'r system honno, Gweinidog, oedd nad oedd y naratif y tu ôl i'r rheswm pam y rhoddwyd lliw penodol i ysgol bob amser yn glir nac yn cael ei chyfleu'n ddigon da, yn wir, nid oedd yr hyn a oedd yn gyfystyr â lliw yr un fath ledled Cymru. Nid oedd cysondeb—pethau y gellid bod wedi'u newid yn hawdd. Nid yn unig yr oedd y codio lliw yn ffordd syml iawn i rieni weld sut yr oedd ysgol yn gwneud, roedd hefyd yn helpu awdurdodau lleol i benderfynu ble'r oedd angen adnoddau fwyaf, ac i glystyrau wybod lle yr oedd angen cymorth ychwanegol o fewn eu clystyrau eu hunain. Ac mae penaethiaid wedi dweud eu bod eisoes yn cydweithio ac nad ydyn nhw'n cystadlu, fel y mae eich datganiad yn awgrymu. 

Mae cyflwyno system hunanarfarnu, sy'n cyd-fynd â'ch system arfaethedig newydd, yn llawn risgiau, a hefyd, unwaith eto, yn cynyddu'r llwyth gwaith ar athrawon—rhywbeth na allaf ei gefnogi. Mae cael gwared ar yr hen system yn codi'r cwestiwn pam mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o symud i system newydd, sy'n caniatáu i ganlyniadau gwaeth gael eu claddu ac sy'n golygu y bydd llai o rieni'n gallu gweld yn glir sut mae'r Llywodraeth yn siomi eu plant a'r bobl ifanc o Gymru o ran bod â sgiliau sylfaenol, i ganlyniadau, i gefnogi ein pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles. Pam na ellir cael rhyw fath o briodas rhwng y ddau syniad? Mae gosod cynlluniau a blaenoriaethau, fel yr ydym wedi amlinellu, yn dda, ond pam na allwn ni weld sut mae ysgolion yn gwneud hefyd? Pam na ellir cael y mesurydd syml hwnnw mwyach? Pam cael gwared ar hwnnw? Yn hytrach na newid system unwaith eto, efallai y byddai gwneud y system a oedd yno'n fwy effeithiol wedi bod yn syniad gwell, yn fy marn i.

Mae'n peri pryder i mi na fydd canlyniad y ffordd y mae ysgolion yn gwneud nawr yn glir o dan y system arfaethedig newydd, ac ni fydd rhieni'n gallu gweld yn glir iawn sut mae ysgol yn perfformio. Ni fydd pob rhiant eisiau darllen tudalennau a thudalennau o ddogfennau i weld sut mae eu hysgolion yn gwneud. Sut yr ydych chi, Gweinidog, yn mynd i sicrhau y caiff y ffordd y mae ysgolion yn gwneud ei chyfleu'n syml ac yn glir i rieni? Ymddengys ein bod yn canolbwyntio ar y negatifau yma, yn amlwg, hefyd, ond beth am yr ysgolion hynny sy'n gwneud yn dda sydd wedi gwella'n ddifrifol? Beth am yr ysgolion hynny a'u bod yn cael y gydnabyddiaeth am eu gwaith caled? Wyddoch chi, pan gawson nhw 'ardderchog' mewn adroddiad gan Estyn, roedd yn cael ei ddathlu yn yr ysgol; sut y bydd hynny'n cael ei ddisodli?

Gweinidog, rydym wedi sôn am werthuso nawr, ond hefyd, o ran gwella addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella addysg a dysgu yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod ein dysgwyr yn teimlo cefnogaeth o ran eu haddysg a'u hiechyd meddwl a'u lles. O ran iechyd meddwl a lles, mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gorwario a thangyflawni. Dywedwyd wrth arweinwyr ysgolion y byddant yn cael y cymorth a'r cymorth angenrheidiol i'w dysgwyr, ond nid yw ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi o gwbl, yn enwedig ysgolion cynradd, o sgyrsiau yr wyf i wedi'u cael gydag arweinwyr ysgolion. Mae ein plant yn teimlo eu bod wedi'u llethu gan faint o amser dysgu y maen nhw wedi'i golli ac nid ydyn nhw'n teimlo'n gyfartal â'u cyfoedion. Ac rydym eisoes wedi clywed heddiw am effaith negyddol cludiant i'r ysgol, neu ddiffyg, neu bryderon ariannol eraill sydd i gyd yn achosi cynnydd enfawr mewn absenoldebau disgyblion. Yn sicr, dyna'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno ar hyn o bryd: cael ein plant yn ôl i ysgolion a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Gweinidog, mae angen inni roi'r gorau i newid systemau i geisio cuddio diffygion eich Llywodraeth a mynd yn ôl at hanfodion lle'r ydym yn cael ein dysgwyr yn ôl i'r ysgol a chael y cymorth iechyd meddwl a lles i'r mannau lle mae ei angen. Gweinidog, pa gamau y mae'r Llywodraeth hon yn mynd i'w cymryd ar unwaith i gael ein pobl ifanc yn ôl i'r ysgol ac i sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth, nid o hanner tymor mis Medi, ond ar hyn o bryd fel bod ein dysgwyr yn teimlo yn y lle gorau i ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, gyda'r holl gymorth iechyd meddwl ac addysgol sydd ei angen arnynt? Diolch.

16:05

Diolch i'r Aelod am set eang o gwestiynau. Gobeithio y bydd yn maddau imi os cyfyngaf fy ymatebion i'r rheini sy'n berthnasol i'r datganiad. Ond rwy'n credu bod y cwestiwn gan yr Aelod yn dangos yn daclus iawn y dryswch sydd wrth wraidd y system mai bwriad y set hon o newidiadau yw dileu. Ar wahanol adegau yn ei chwestiynau, siaradodd am berfformiad, siaradodd am adroddiadau Estyn a siaradodd am y system gategoreiddio fel pe baen nhw yr un peth, a dyna'r union her y mae ysgolion wedi'i hwynebu. Oherwydd er i'r polisi gael ei gyflwyno mewn ffordd a fwriadwyd i gefnogi ysgolion i wella, yn ymarferol yr hyn y mae wedi'i olygu yw canolbwyntio ar y categoreiddio ar draul y cymorth sylfaenol y mae angen i ysgolion ei geisio, oherwydd mae anghymhelliad yn y system a grëir gan y dynodiad syml. Rwy'n cytuno â hi mewn gwirionedd fod symlrwydd yn ddymunol er mwyn sicrhau tryloywder, ond rwy'n credu mai system sy'n syml ac yn effeithiol yw'r hyn sydd ei hangen, ac rwy'n credu bod angen inni symud oddi wrth y trefniadau presennol er mwyn cyflawni hynny.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod gan rieni ffordd o ddeall yn hawdd sut mae ysgol eu plentyn yn datblygu, ac rwy'n credu, yn amlwg iawn, fod cael disgrifydd llinell uchaf yn ddangosydd annigonol i rieni o gynnydd ysgol ac, yn bwysicaf oll, y cymorth sydd ar gael i'w dysgwyr. Bydd rhiant sydd eisiau gwybod sut mae ysgol eu plentyn yn perfformio yn gallu edrych ar grynodeb hygyrch o gynllun datblygu'r ysgol, a hefyd yn gallu edrych, er enghraifft, ar ddata cymwysterau a'r ystod o wybodaeth sydd ar wefan Fy Ysgol, sy'n disgrifio, yn fanwl iawn, rwy'n credu, y mathau o bethau yr oedd yr Aelod yn gofyn amdanyn nhw yn ei chwestiwn, ac rwy'n credu y bydd yn darparu ffynhonnell wybodaeth gyfoethocach a hygyrch i rieni ddeall sut mae eu hysgolion yn gwneud. Ac mae hynny o safbwynt gwella ysgolion. Yn yr un modd, bydd ganddyn nhw, i'r rheini sy'n dymuno eu ceisio a'u darllen, adroddiad gan Estyn, sydd, mewn termau syml iawn, yn disgrifio, o safbwynt atebolrwydd, sut y mae'r ysgol honno'n gwneud yn llawer mwy eang. Felly, bydd ystod ehangach o wybodaeth hygyrch ar gael i rieni, y gymuned ac, yn wir, i bob un ohonom ni.

Gofynnodd am lwyth gwaith athrawon: gwn y bydd yn ymwybodol mai diwygiadau yw'r rhain yr ydym wedi bod yn ymgynghori arnyn nhw ers peth amser, ac felly mae athrawon yn ymwybodol iawn o'r set hon o newidiadau posibl. Nid oes dim yn y canllawiau sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gymryd unrhyw gamau ar unwaith. Ac, yn wir, bydd hefyd yn gwybod, rwy'n siŵr, fod categoreiddio wedi'i ohirio yng Nghymru am y ddwy flynedd ddiwethaf, a'r hyn y mae'r canllawiau hyn yn ei wneud yw cadarnhau parhad sefyllfa lle nad yw categoreiddio'n berthnasol. Felly, rwy'n obeithiol iawn y bydd hynny, fel y mae wedi bod, yn cael derbyniad da gan y proffesiwn addysgu fel un sy'n diwallu anghenion dysgwyr heb osod llwyth gwaith gormodol arnyn nhw.

16:10

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n meddwl bod yna ddau beth mae rhieni yn hoffi clywed o ran plant mewn ysgolion: un ydy eu bod nhw'n datblygu hyd orau eu gallu nhw, a'n cael eu cefnogi i wneud hynny; a'r ail beth ydy eu bod nhw'n hapus yn yr ysgol. A dwi'n croesawu yn fawr yr un pwyslais yn y newid hwn, o ran ein bod ni ddim jest yn edrych ar y cynnydd academaidd, ond hefyd lles a llais dysgwyr, ac mae hynna i'w groesawu yn fawr. A hefyd y pwyslais—os ydych chi'n edrych ar y ddogfen 44 o dudalennau, neu fwy yn y Gymraeg—o ran lles ymarferwyr a dysgwyr, a dwi'n meddwl dyna'r newid sydd yn dod yn sgil hyn, a dyna oedd ar goll, dwi'n credu, yn y system oedd yn cael ei disgrifio fel goleuadau traffig. Ac oedd, mi oedd hi'n syml, ond mi oedd hi'n syml i gamddehongli beth oedd hynny'n ei olygu o ran eich plentyn chi, o ran sut oedden nhw’n cael eu cefnogi a pha mor hapus oedden nhw yn yr ysgol. A dwi'n gwybod, o ran siarad â nifer o athrawon sydd yn dysgu mewn rhai o'r ysgolion oedd wedi'u categoreiddio fel coch neu oren ac ati, nad dyna'r realiti; doedden nhw ddim yn ysgolion oedd yn methu, ond doedden nhw efallai ddim yn cyrraedd y pwynt yna. Wedyn, dwi'n meddwl mai symlrwydd—ydy, mae i'w groesawu, ond mae yna beryg gwirioneddol hefyd, os ydyn ni'n ei wneud o mor blunt â hynny, ein bod ni'n colli wedyn beth mae'n ei olygu o ran yr ysgol, a dyna lle dwi'n anghytuno â Laura Jones o ran hyn.

Dwi hefyd yn croesawu eich bod chi wedi sôn ynglŷn â rôl awdurdodau lleol rŵan yn hyn—bod angen cytuno o ran pa gymorth y bydd angen ei roi i ysgolion o ran cyrraedd y meini prawf. A'r hyn roeddwn i eisiau ei ofyn i chi: ydy hyn yn golygu y bydd ysgolion wedyn yn cael eu grymuso? Fydd yna fwy o oblygiadau, wedyn, ar awdurdodau lleol, er enghraifft, i fod yn cefnogi'r ysgolion hynny ymhellach, er mwyn gallu cyflawni yr hyn mae disgwyliadau—? Dwi'n meddwl yn benodol o ran anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Dŷn ni wedi trafod nifer o weithiau o ran, mewn rhai ardaloedd, y diffyg mynediad i anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg, er enghraifft, ac mae hyn yn rhywbeth mae ysgolion cynradd wedi'i godi efo fi, lle nad oes darpariaeth ar y funud. Ydy hyn felly yn mynd i rymuso'r ysgolion hynny, os ydyn nhw felly yn gweld bod hyn yn methu'r plant hynny sydd yn eu gofal nhw, a'u bod nhw felly yn teimlo nad ydyn nhw yn rhoi y cynnydd a'r lles hynny? Ydy hyn yn mynd i rymuso wedyn, ac oes yna oblygiadau yn mynd i fod os ydy awdurdodau lleol ddim yn darparu'r hyn mae ysgolion yn credu sy'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw gyrraedd y meini prawf?

Y cwestiwn arall sydd gen i ydy o ran Estyn. Dwi'n gweld eu bod nhw'n croesawu yn fawr y newidiadau hyn, yn edrych ymlaen at rai o'r newidiadau hyn, ond ydyn nhw yn barod i weithredu'r fframwaith newydd ar lefel genedlaethol o ran yr adnoddau ac ati? Oherwydd, yn amlwg, mae yna sail wahanol os ydych chi'n mynd i fod yn gwneud ymweliadau ad hoc ac ati. Mae o'n eithaf cyson o ran trefnu os ydy ysgol yn cael asesiad bob saith mlynedd, ond os oes angen mwy o gymorth ar ysgolion rŵan, ydy hynna'n golygu bod yna fwy o adnoddau eu hangen ar Estyn, a sut fydd Estyn yn cael eu cefnogi ar hyn?

Dwi'n croesawu'n fawr fod yna ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol o ran hyn. Un o'r pethau dŷn ni'n ei glywed dro ar ôl tro ydy llwyth gwaith athrawon, a dwi'n croesawu, yn eich ymateb i Laura Anne Jones, eich bod chi wedi pwysleisio hefyd fod hon yn mynd i fod yn broses. A dwi'n ymwybodol bod rhai athrawon yn hunanasesu yn barod o ran ysgolion; mae o'n rhywbeth sydd yn gweithio'n dda rhwng llywodraethwyr. Ond o ran edrych ar beth o'r ieithwedd, mae un o'r pethau sydd wedi bod yn codi pryder, y syniad yma o fethu, yn dal i fod. Gwnaethoch chi sôn ynglŷn â 'failures addressed' ac ati. Onid ydyn ni'n trio symud yn ôl o'r syniad o fethu neu lwyddo, a'n bod ni yn trio sicrhau—? Ar wahân iddyn nhw fod mewn mesurau arbennig, onid yw'r prif beth trio cefnogi pob ysgol i gyrraedd gorau eu gallu? A dwi'n mynd nôl at y pwynt sylfaenol, felly: ble bydd yr oblygiadau yn disgyn os nad bai'r ysgol ydy o ei bod hi'n methu cyflawni, fod yr adnoddau ddim ar gael? Dwi'n meddwl bod yna botensial felly o ran deialog lot mwy agored o ran rhai o'r heriau mewn rhai ardaloedd o ran pam felly mae disgyblion yn methu â derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei hangen.

Ond, yn bennaf oll, dwi'n meddwl bod hyn i'w groesawu, ond mae'n rhaid inni sicrhau dyw hyn ddim wedyn yn rhoi straen ychwanegol ar athrawon, ond yn cael ei weld fel rydych chi wedi ei gyflwyno fo inni, fel peth positif, cadarnhaol, sydd, gobeithio, yn mynd i roi y pwyslais ar les a pha mor hapus ydy plant yn yr ysgolion, ynghyd â'r ffaith eu bod nhw'n cael eu cefnogi i lwyddo i orau eu gallu, nid dim ond eu cefnogi i gyrraedd y graddau uchel hynny; efallai dyw'r gradd yna ddim y gorau ar gyfer y plentyn yna, o ran, os dydyn nhw ddim yn gallu cyrraedd yr A*, a bod y D neu beth bynnag yn mynd i fod y cyflawniad gorau posib, maen nhw'n hapus ac wedi eu cefnogi i gyrraedd hynny. Diolch.
 

16:15

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r ffordd mae hi wedi croesawu'r diwygiadau. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Jest ar y pwynt wnaeth hi i gloi, mae cymwysterau yn dal yn mynd i fod yn bwysig, ac mae hynny'n rhan greiddiol o'r system, i sicrhau bod dysgwyr yn gadael yr ysgol gyda'r graddau a'r cymwysterau sydd y gorau posib iddyn nhw, ond nid dyna'r unig fesur. Mae mesurau helaethach na hynny hefyd, yn cynnwys rhai o ran llesiant, iechyd ac ati, fel roedd yr Aelod ei hunan yn sôn.

A'r hyn rwy'n credu sydd wrth wraidd y weledigaeth newydd hon yw mai, os hoffwch chi, eiddo'r disgybl yw'r broses o asesu; er budd y disgybl y mae honno'n cael ei defnyddio, nid er mwyn atebolrwydd yr ysgol. Felly, o ran darparu dysgu ac addysgu ddydd wrth ddydd neu dros gyfnod, neu hefyd impact o ran cohort, dyna beth yw pwrpas asesu. Mae'r atebolrwydd yn gwestiwn ar wahân i hynny.

Ond roedd yr Aelod yn gofyn sut mae hyn yn mynd i weithio o ran y berthynas rhwng yr ysgol a'r asiantaethau a'r cyrff eraill. Felly, wrth gwrs, mae'r corff llywodraethol yn atebol am berfformiad yr ysgol, a beth a welwn ni o dan y canllawiau newydd yw y bydd y consortia a'r gwasanaethau gwella safonau yn darparu adroddiad i'r llywodraethwyr o'r hyn maen nhw'n cytuno ei wneud ar ran yr ysgol, ac felly bydd y ddogfen honno ar gael, a bydd crynodeb o'r berthynas honno hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn ffordd sydd yn hygyrch yng nghrynodeb y cynllun datblygu ysgol. Felly, bydd e'n glir beth yw'r berthynas rhwng yr ysgol a'r gwasanaeth gwella ysgol, a'r gair pwysig yn hynny yw mai gwasanaeth yw e, felly darparu gwasanaeth i'r ysgol yw swyddogaeth y cyrff hynny. Mae hyn yn caniatáu, rwy'n credu, arweinwyr ysgol—mae'n eu grymuso nhw, i ddefnyddio'r gair roedd yr Aelod yn ei ddefnyddio—i allu gwneud penderfyniadau sydd ddim yn cael eu cymylu, os hoffwch chi, gan feddwl, 'Ydy hyn yn golygu y byddaf i mewn categori melyn neu wyrdd?' Mae'n caniatáu rhyddid i wneud y penderfyniadau cywir heb y pwysau hynny. Dyna pam mae'r newidiadau yma mor bwysig.

O ran rôl Estyn yn hyn o beth, wrth gwrs, rôl atebolrwydd fydd gan Estyn. Byddwn ni'n ddibynnol ar yr ymchwiliadau y maen nhw'n eu gwneud yn yr ysgolion, a hefyd ymchwiliadau o ran adolygiadau thematig. Bydd y gwaith maen nhw'n ei wneud o ran hynny'n bwysig hefyd. Bydd y cynllun newydd, y patrwm newydd, yn dechrau ymhen rhyw ddwy flynedd, felly mae cyfnod o ddwy flynedd gyda ni o'r system bresennol cyn bod y patrwm o ymweld yn amlach gydag ysgol yn dechrau. Wrth gwrs, mae Estyn yn dal i beilota'r ffordd newydd o wneud ymweliadau ysgol, felly bydd cyfnod dros y flwyddyn nesaf o gadw hynny mewn golwg i sicrhau dyw e ddim yn disproportionate, ond mae'r gefnogaeth bellach wedi ei rhoi i Estyn fel bod yr adnoddau gyda nhw i sicrhau bod hyn yn bosib.

Ar yr ieithwedd, dyw beth rŷn ni'n sôn amdano heddiw ddim am eiliad yn dwyn pwyslais oddi wrth y syniad bod ysgolion yn gwneud eu gorau dros bob un disgybl. Ac, o bryd i'w gilydd, mae ysgolion eu hunain yn cydnabod dydyn nhw ddim yn cyrraedd y nod mewn rhai ffyrdd, ac mae eisiau cael trafodaeth agored am hynny. Felly, dwi ddim moyn defnyddio ieithwedd sy'n gosod bai ac sydd yn gyhuddgar, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n defnyddio ieithwedd sydd yn agored a hefyd yn annog ac yn cefnogi'r ysgol i edrych am y gefnogaeth sydd ei angen yn y maes, beth bynnag sydd angen pwyslais. Bydd gan bob ysgol bwyslais gwahanol, yn dibynnu ar eu perfformiad nhw. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig bod hynny'n dal yn elfen greiddiol o'r hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw.

16:20

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y dull newydd hwn yn sicr. Rwy'n gwerthfawrogi'r angen am dryloywder a bod yn agored, ond pan fydd ein hysgolion, ein dysgwyr a'n cymunedau mor amrywiol, gyda heriau gwahanol iawn, yr oedd elfennau o'r hen system gategoreiddio a allai fod braidd yn ostyngol, ac roedd hynny'n rhywbeth a welais ac a deimlais fy hun yn fy mlynyddoedd lawer yn y proffesiwn addysgu. Felly, roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen y rhan o'r canllawiau ynghylch dilyniant dysgwyr ar gyfer unigolion, grwpiau ac ysgolion, gan fynd yn ôl at y syniad o werth ychwanegol, a oedd yn ffordd dda iawn, roeddwn i o'r farn, o fesur cynnydd disgyblion a chyrhaeddiad ysgolion sawl blwyddyn yn ôl. Felly, mae archwilio gwerth ychwanegol yn ffordd ddefnyddiol o fesur i ba raddau y mae bylchau cyrhaeddiad wedi'u cau ar gyfer ein disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'n disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft, cipio teithiau unigol dysgwyr, canolbwyntio ar eu hanghenion a hefyd sicrhau tegwch. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi mai dyma'r ffordd fwyaf cywir efallai o fesur a lleoli addysgu da, a sut y bydd y dull newydd hwn a welwn yn amlwg yma yn helpu i rannu'r math hwn o arfer gorau sy'n canolbwyntio ar y dysgwr?

Wel, rwyf bob amser yn wylaidd iawn pan fyddaf yn mynd at gwestiynau addysgu a dysgu gyda rhywun sy'n weithiwr addysgu proffesiynol, felly fe wnaf i roi'r cafeat hwnnw, os caf i, ac elfen o barch, mae'n debyg, am yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Ond rwy'n credu bod y pwynt hwnnw am daith y dysgwr unigol yn sylfaenol, ac, mewn rhai ffyrdd, efallai mai dyma'r rhan fwyaf radical o'r holl gyfres o ddiwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno mewn gwahanol feysydd oherwydd ei bod yn cymryd i ffwrdd, onid yw, y pwynt amser hwnnw lle bernir bod lefel benodol o gynnydd wedi'i chyrraedd ai peidio, ac yn cydnabod bod pob dysgwr ar ei daith ei hun ac y bydd angen gwahanol fathau o gymorth a her arno, mewn gwirionedd, ar wahanol adegau ar ei daith. Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn. Mae hefyd, yn amlwg, yn newid sylweddol eithaf heriol, onid yw, felly rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a gwn y bydd yr Aelod wedi bod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd wedi'u darparu i ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn benodol fel bod dealltwriaeth gyffredin o sut i asesu a sut i ddiffinio dilyniant. Ac, fel yr oeddwn i'n ei ddweud yn fy natganiad agoriadol, mae'r rhwymedigaeth newydd honno ar ysgolion i ymgysylltu y tu allan i'w clystyrau, os mynnwch chi, i sicrhau bod y ddealltwriaeth honno ar draws y system o ba ddilyniant sydd, rwy'n credu, yn rhan bwysig iawn o hyn.

Ond boed hynny drwy—. Wel, mae ystod o ddata ar gael i'w mesur ar sail system gyfan ac ym mywyd myfyriwr unigol sut y maen nhw'n symud ymlaen, ac rwy'n credu bod un o'r—. Soniodd am y bwlch cyrhaeddiad; rwy'n credu mai un o'r agweddau mwyaf trawsnewidiol, rwy'n credu, o'r cwricwlwm newydd, fydd ei fod yn caniatáu inni ymgysylltu â dysgwyr a allai, efallai mewn amgylchiadau eraill, fod ychydig yn llai ymgysylltiedig nag y byddem ni'n dymuno iddyn nhw fod oherwydd y creadigrwydd sydd wrth wraidd y cwricwlwm, eich bod yn cymryd pwnc a allai fod yn gyfarwydd i'r myfyriwr unigol a'ch bod yn mynd â nhw ar daith o ymgysylltu a darganfod, ac rwy'n credu mai dyna'r allwedd i'n helpu i wneud llawer mwy o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad y cyfeiriodd ato.

Wel, rwyf i yn sicr yn ymostwng i arbenigedd Vikki Howells ac yn cytuno â hi mai'r gwerth a ychwanegir gan ysgolion yw'r mesur pwysicaf, oherwydd gallech fod â phlentyn gwych yn dechrau yn yr ysgol yn bedair neu bump oed, yn wych mewn mathemateg—rydych chi eisiau sicrhau bod y dilyniant hwnnw'n parhau, neu fel arall byddan nhw'n eistedd yn y cefn yn achosi trafferth, oherwydd byddan nhw wedi diflasu. Ac, yn yr un modd, rydych chi eisiau sicrhau ein bod yn gwobrwyo'r ymdrech sy'n gysylltiedig ag addysgu plant llai abl; mae'n llawer anoddach nag addysgu plant mwy abl. Ac roedd hen system y tablau cynghrair a'r system liw, rwy'n credu, yn gwobrwyo'r mathau hynny o ysgolion a oedd yn gallu cadw i fynd heb lawer o ymdrech.

Felly, rwy'n cefnogi hyn mewn gwirionedd ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod y dull newydd yn olrhain y gwerth a ychwanegir gan bob ysgol gyda phob disgybl. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn mynd i gael eu cyhoeddi, ond mae'r system hunanwerthuso honno'n mynd i wobrwyo ysgolion mewn gwirionedd am yr ymdrech y maen nhw'n ei rhoi i bob person ifanc, fel bod pob plentyn yn cyrraedd hyd eithaf ei allu.

16:25

Diolch ichi am hynna ac rwy'n credu bod hynny wrth wraidd y diwygiadau. A bydd Estyn yn chwarae rhan bwysig iawn, o safbwynt arolygu atebolrwydd, wrth werthuso gallu'r ysgol ei hun i hunanwella, os mynnwch chi, yn y ffordd y mae'n cynllunio'r cwricwlwm, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan gefnogol o'r dirwedd.

Rwyf eisiau mynd yn ôl, mewn ymateb i'r hyn y mae Jenny Rathbone yn ei ddweud, at y syniad hwnnw o gefnogaeth a her i bob dysgwr unigol. Nid yw'n ymwneud â chael dysgwyr a allai fod yn llai abl yn academaidd hyd at linell sylfaen; mae'n cefnogi ac yn herio pob dysgwr yn gyson—beth bynnag yw eich potensial, eich bod yn cyflawni hynny; beth bynnag yw eich diddordebau, eich bod yn cael cyfle i fynd ar drywydd y rheini. Ac mae'n ffordd bwrpasol iawn o fynd ati, sydd, rwy'n credu, yn gyffrous—yn eithaf heriol, rwy'n credu, hefyd, ar draws y system. Ond rwy'n credu, yn fy nhrafodaeth gydag athrawon, mewn ffordd, mai dyna pam mae'r cwricwlwm yn dal i gyffroi cynifer o weithwyr addysgu proffesiynol, oherwydd gallan nhw weld bod hynny'n dal yr allwedd, mewn ffordd, i sicrhau bod y daith gwerth ychwanegol honno i bob dysgwr unigol yn cael ei gwireddu.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, cyn imi gael fy ethol i'r Senedd, bûm yn gweithio ym myd addysg am nifer o flynyddoedd. Mae'n un o'r swyddi mwyaf heriol i mi ei chael, ac rwy'n tynnu fy het i fy holl ffrindiau a'u cydweithwyr ym myd addysg sy'n gweithio i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, o ddydd i ddydd.

Wrth ymweld ag ysgolion yn y Rhondda, rwyf wedi clywed adborth cadarnhaol iawn i'r newidiadau y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno dros y chweched Senedd. Yn fwy penodol, bydd yr ymreolaeth ehangach y mae'r Cwricwlwm i Gymru yn ei darparu, a'r newidiadau sydd eto i ddod, yn sicrhau ein bod yn parhau i weld gwelliant mewn addysg a dysgu yng Nghymru. Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r newidiadau hyn. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi'i wneud, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn gynharach eleni, mewn cysylltiad â'r grŵp gorchwyl a gorffen ar weithgareddau i gefnogi'r rhai sy'n cynorthwyo addysgu?

Ydw, rwy'n cytuno yn llwyr â phwynt Buffy Williams am y rôl, y rôl hanfodol, y mae cynorthwywyr addysgu yn ei chwarae yn ein hysgolion heddiw ac, yn sicr, y bydd yn ei chwarae wrth gyflawni potensial y cwricwlwm newydd, yn ogystal â'r ystod o ddiwygiadau eraill, gyda llaw, mewn cysylltiad â'n diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ac amrywiaeth o rai eraill hefyd.

Rwy'n credu imi grybwyll yn y datganiad a roddais ym mis Mawrth ynglŷn ag uchelgais dyheadau a safonau uchel i bawb, y byddwn ni'n edrych ar rai o'r canllawiau sydd ar gael ynghylch sut i wneud defnydd llawn o'r cymorth y gall cynorthwywyr addysgu ei roi er mwyn ein helpu i sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, yn cael y cyfleoedd gorau posibl yn yr ysgol. Felly, mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd.

Ac o ran y set arall o gyhoeddiadau a wnes i yn gynharach yn y flwyddyn, fel y gŵyr yr Aelod, mae amrywiaeth o ffrydiau gwaith, os mynnwch chi, yn cael eu datblygu yn y gofod hwnnw. Felly, mae un yn ymwneud â sicrhau ein bod yn deall sut y caiff cynorthwywyr addysgu eu cyflogi mewn gwahanol awdurdodau ledled Cymru. Mae lefel uchel o amrywioldeb o ran manyleb swyddi a defnyddio, os caf ddefnyddio'r term hwnnw, cynorthwywyr addysgu, a bydd hynny'n ein galluogi ni i gael darlun mwy cydlynol a mwy cyson ledled Cymru, a fydd wedyn yn cefnogi ein huchelgeisiau cyffredin ar draws y system o wella telerau ac amodau ar gyfer cynorthwywyr addysgu.

Rwyf hefyd mewn sefyllfa i ddweud y bydd yr hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, y bydd gan gynorthwywyr addysgu eu hunain hawl iddi, yn cael ei lansio cyn y flwyddyn ysgol nesaf, a fydd, yn fy marn i, yn gam sylweddol ymlaen o ran mynediad at ddysgu proffesiynol. Yn ogystal â hynny, mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod llais cynorthwywyr addysgu yn cael ei glywed ar gyrff llywodraethu ysgolion, mae'r canllawiau mewn cysylltiad â hynny hefyd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud cynnydd cyson a da yn y maes hwnnw. Mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud, ond fel y gŵyr hi, rwyf wedi gosod agenda uchelgeisiol iawn yn y maes hwn, ac rydym yn gweithio tuag at hynny. 

16:30
6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar fesurau rheoli ffiniau. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am bolisi Llywodraeth y DU ar reolaethau ffiniau ar gyfer Prydain Fawr, y goblygiadau i Gymru a'n hamcanion allweddol fel Llywodraeth.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, Jacob Rees-Mogg AS, mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig ar 28 Ebrill eleni y byddai cyflwyno rhagor o reolaethau ar y ffin yn cael ei atal tan ddiwedd 2023. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n datblygu model gweithredu targed newydd i'w gyflwyno erbyn diwedd 2023. Rwy’n deall mai nod datganedig y model yw gwneud mewnforio ac allforio yn haws i fusnesau gan gynnal neu wella diogelwch a bioddiogelwch yn y DU. Hyd yma, ac ers fy natganiad llafar diwethaf, nid wyf wedi cael digon o fanylion na thystiolaeth o hyd i ddarparu mwy o wybodaeth nac eglurder ar hyn o bryd ar allu'r model newydd arfaethedig i gyflawni. Wrth gwrs, byddaf yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau pan fydd mwy o fanylion wedi'u rhannu â Llywodraeth Cymru.

Rwyf i wedi bod yn glir y dylai Gweinidogion sy'n gyfrifol am fioddiogelwch ar draws y tair gwlad ym Mhrydain Fawr gydweithio i gytuno ar egwyddorion a manylion cyfundrefn ffiniau'r dyfodol. Dylai hyn gael ei lywio gan gyngor cydgysylltiedig gan bob un o'n harbenigwyr technegol, fel y prif swyddogion milfeddygol, ynghyd â'r asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu ein hiechyd a chyflawni'r drefn ar lawr gwlad. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni sicrhau bod ymgysylltu cyson a dibynadwy gan Weinidogion er mwyn llunio'r blaenoriaethau strategol ac ystyried materion ymarferol. Mae Cymru a'r Alban yn parhau i geisio ymrwymiad ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd Cabinet Prydain Fyd-eang (Gweithrediadau), lle gellir gwneud penderfyniadau ar gyfundrefn Prydain Fawr yn y dyfodol gyda'i gilydd. Ysgrifennais at Mr Rees-Mogg ar 13 Mehefin yn ddiweddar, i bwysleisio hyn, ond nid wyf wedi cael ateb eto.

Dirprwy Lywydd, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn parhau i effeithio'n uniongyrchol ar gyfrifoldebau datganoledig gyda chanlyniadau ariannol sylweddol. Mae'r polisi hwn yn y DU wedi gofyn am lawer iawn o waith i ni a'n partneriaid. Hyd yma, rydym ni wedi gwario £6 miliwn o arian cyhoeddus er mwyn sicrhau'r cynnydd sydd ei angen yn erbyn cefndir hynod ansicr. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu costau hollol angenrheidiol swyddi rheoli ffiniau adeiladu, ac rydym ni’n llwyr ddisgwyl i'r ymrwymiad hwn gael ei anrhydeddu.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cychwynnol i atal y gwaith o ddatblygu swyddi rheoli ffiniau yng Nghymru er mwyn pwyso a mesur yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Brexit am gyfleoedd ym mis Ebrill. Gallaf gadarnhau bod Cabinet Llywodraeth Cymru bellach wedi ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ac wedi cytuno i ailddechrau gweithio ar gam dylunio cyfleusterau swyddi parhaol rheoli ffiniau Caergybi. Yn ddiweddarach eleni, bydd angen i ni benderfynu a ddylid symud ymlaen i'r cam adeiladu, sydd wrth gwrs yn amodol ar gyllid gan Drysorlys y DU. Os felly, dylem fod â chyfleuster yng Nghymru erbyn diwedd 2023, pan fydd Llywodraeth y DU yn targedu cyflwyno'r drefn newydd. Os na allwn ni symud ymlaen i'r cam adeiladu, yna mae'n annhebygol y gellir cyflawni swydd rheoli ffiniau barhaol yng Nghaergybi erbyn diwedd 2023. Byddai cynnydd tebygol yn y gost hefyd.

Mae hyn yn dangos yn glir fwriad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i wneud pob ymdrech i sicrhau bod y polisi etifeddol hwn yn cael ei weithredu mor effeithiol â phosibl. Rydym ni’n cydnabod yr angen i sicrhau bod gennym ni’r systemau cywir ar waith ar gyfer mewnforio nwyddau mewn modd diogel ac effeithlon. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn rhoi eglurder mae mawr ei angen ar fusnesau yng Nghymru, a pham ei bod hi mor bwysig bod Gweinidogion y DU yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol â Gweinidogion llywodraeth genedlaethol datganoledig.

Dirprwy Lywydd, fel y nodais i yn fy natganiad llafar ar 3 Mai, mae angen i ni ddeall cynigion manwl Llywodraeth y DU ar sut i drin nwyddau o ynys Iwerddon. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi cyflwyno Bil Protocol Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU sydd â'r bwriad o dorri'r rhwymedigaethau y mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo iddyn nhw. Mae hyn wedi arwain at ymateb anochel gan yr UE. Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr na fyddwch chi’n synnu at y ffaith bod y camau hyn wedi'u cymryd heb unrhyw ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 17 Mai, yn dweud na ddylai Llywodraeth y DU weithredu'n unochrog ond y dylai barhau â'r ddeialog â'r UE a nodi canlyniadau tebygol gweithredu o'r fath. Dirprwy Lywydd, fel y gwyddoch chi, ysgrifennais at y Llywydd ar y mater hwn ddoe a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig hefyd i'r Aelodau yn gynharach heddiw.

Mae'r cam gweithredu hwn unwaith eto'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a ragwelir yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Mae er budd pob un ohonom ni, nid yn unig ar gyfer bioddiogelwch ond er mwyn ein rhagolygon economaidd ehangach, er mwyn sicrhau gwelliant sylweddol yn y ffordd mae Llywodraethau yn y DU yn parchu ac yn gweithio gyda'i gilydd. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddatblygiadau.

16:35

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog nid yn unig am roi golwg gynnar ar y datganiad hwn, ond am y diweddariadau rheolaidd mae ef a'i dîm wedi'u rhoi i Aelodau lleol ar y mater hwn? Rwy’n siŵr y bydd y datganiad heddiw'n cael ei groesawu fel eglurhad yn dilyn y sefyllfa ansicr a amlinellwyd yn eich datganiad diwethaf. Fel yr ydych chi wedi'i amlinellu'n briodol, mae rheoli'r sefyllfa hon yn ganolog i'w llwyddiant. Os ydym ni am sicrhau canlyniad llwyddiannus ar gyfer lleoliadau porthladdoedd fel Ynys Môn a sir Benfro, yna mae deialog bwrpasol gyda'r holl randdeiliaid yn hanfodol.

Rhaid i ni fod yn barod ar gyfer cyflymu rhaglen ddigideiddio Llywodraeth y DU, a all, yn ei thro, sicrhau pontio llyfn o'r hinsawdd bresennol ac i un sy'n ymgorffori'r posibilrwydd o fasnachu di-ffrithiant sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn wir, rai misoedd yn ôl, nododd Gweinidog Llywodraeth y DU dros gyfleoedd Brexit ei resymeg dros leihau amlygrwydd rheolaethau ffiniau'r Deyrnas Unedig ar nwyddau'r UE, ac roedd yn iawn i wneud hynny. Gyda chostau byw cynyddol, ynghyd â phrisiau ynni uwch, mae angen annog masnach, gan fod o fudd i fusnesau a defnyddwyr fel ei gilydd.

Mewn sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwyd gennych chi, Gweinidog, mae'n amlwg bod yn rhaid i'ch Llywodraeth barhau i ddilyn ei chamau gweithredu presennol. Ac, o gofio bod £6 miliwn o arian cyhoeddus eisoes wedi'i fuddsoddi yn y safle, fel y gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad, byddai'n niweidiol atal y cynnydd hwn, gan beryglu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu cost adeiladu swyddi rheoli ffiniau. Ond, pe bai buddsoddiad pellach yn safle Ynys Môn, yna mae cydweithredu'n allweddol. O weld bod Llywodraeth y DU yn adolygu eu gweithdrefnau ac yn bwriadu cyhoeddi model gweithredu targed yn ddiweddarach eleni, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y model yn datblygu. Ond, yn ganolog i'r newid hwn i gyfundrefn newydd ddi-ffrithiant mae'r posibilrwydd o system wedi'i digideiddio, un sy'n canoli'r holl wybodaeth drwy un ffenestr fasnach. 

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai eu bwriad yw i hyn fod ar waith erbyn 2024. Yn eich datganiad diwethaf ar y mater hwn, fe wnaethoch chi ddweud mai ychydig o sgwrs a gafwyd am beth yw'r dechnoleg hon neu, yn wir, sut y bydd yn edrych. Nawr, gan eich bod chi wedi cadarnhau eich bwriad i fuddsoddi'n helaeth yn safle Ynys Môn a pharhau i ddatblygu'r BCP, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi y dylai'r safle hwn gael ei ddiogelu at y dyfodol er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â chyflwyno'r dechnoleg dan sylw. Felly, Gweinidog, sut ydych chi’n mynd i sicrhau bod datblygiad BCP yn Ynys Môn yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol yn erbyn newidiadau posibl mewn gofynion technolegol?

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddai'n esgeulus i mi beidio â chyffwrdd â'r newidiadau yn y gorllewin, yn enwedig y rheini sy'n effeithio ar borthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun. Yn unol â'ch datganiad ysgrifenedig diwethaf ar y mater hwn, fe wnaethoch chi gadarnhau bod Johnston wedi'i derfynu ers hynny, yn eich geiriau chi, fel lleoliad BCP posibl. Yn yr un datganiad ysgrifenedig, fe wnaethoch chi ddweud nad yw cydgrynhoi cyfleusterau rheoli ffiniau ar un llain bellach yn rhagofyniad. Rydych chi wedi dweud yn y datganiad y prynhawn yma fod yn rhaid i ni gael y systemau cywir ar waith ar gyfer mewnforio nwyddau mewn modd diogel, saff ac effeithlon. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa sgyrsiau, os o gwbl, rydych chi wedi'u cael am botensial datblygu cyfleusterau yn y porthladdoedd eu hunain yn y gorllewin.

Ac wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg i mi, er mwyn i hyn fod yn llwyddiant, y dylai cydweithredu a chyfathrebu ddod yn nodwedd angenrheidiol o'r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwyf i’n gobeithio ac yn annog y ddwy Lywodraeth ar y naill ben a'r llall i'r M4 i gydnabod y gwerth hwn. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, ac yn arbennig natur adeiladol gyffredinol y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf i ddelio â'r pwyntiau am sir Benfro yn gyntaf, ac yna byddaf yn dod i Ynys Môn a'r porthladd yng Nghaergybi, a'r cwestiynau ehangach a ofynnwyd. 

Felly, o ran Caergybi, mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda'r cyngor sir a'r porthladd i sicrhau bod masnach yn parhau i lifo. Ond, er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gael golwg mor gynnar â phosibl ar drefniadau newydd Llywodraeth y DU y maen nhw’n bwriadu eu rhoi ar waith erbyn diwedd 2023, ac mae hynny'n bwysig wedyn i'ch cwestiwn ynghylch sut olwg fydd ar swyddi rheoli ffiniau newydd ar gyfer y porthladdoedd sy'n wynebu gorllewin Cymru. Yr her gyda hynny yw bod angen i ni, yn y de-orllewin, ddeall a yw'r gostyngiad mewn masnach sydd wedi digwydd yn barhaol, oherwydd mae hynny wedyn yn newid y gofyniad i gael y cyfleusterau. Ac fel y gwyddoch chi, mae da byw mewn gwirionedd yn dod drwy borthladd de-orllewin Cymru, ac nid drwy Gaergybi. Felly, mewn gwirionedd, mae gwir angen i ni ddeall beth fydd yr atebion technoleg, a faint o wirio corfforol y bydd angen ei wneud.

Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd i ragweld sut y bydd datrysiad technoleg yn osgoi'r angen i gael archwiliadau ffisegol ar gyfer da byw. Ac felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y bydd angen i ni gynllunio ynddo. Mae hefyd yn bosibl—yn bosibl, ond nid yn sicr—y byddwn ni’n gallu cael archwiliadau'n llawer agosach at y porthladdoedd, os nad o fewn y cwrtil, ffin y porthladdoedd. Dyna pam mae angen i ni ymgysylltu'n uniongyrchol cyn gynted â phosibl ynghylch beth fydd y model gweithredu newydd. Dyna pam mae angen i ni rannu'r arwyddion am ddata masnach. Dyna pam mae'r rheoleidd-dra a'r sicrwydd mewn masnach ag ynys Iwerddon mor bwysig i ni, oherwydd bydd yn effeithio ar y dewisiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud a'r defnydd o arian cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio amser gweision sifil ar y mater hwn. 

O ran y pwynt ehangach a'r pwyntiau o amgylch Caergybi yn benodol, ni allaf ddweud wrthych chi sut y bydd y model gweithredu newydd yn gweithio oherwydd mae angen i ni gael yr ymgysylltiad hwnnw o hyd. Rhaid iddi wneud synnwyr i bob un o'r tair gwlad ym Mhrydain Fawr ddefnyddio'r un model, yn hytrach na bod â modelau cwbl wahanol, oherwydd fel arall os ystyrir bod un yn wannach neu â llai o ofynion, yna byddwch chi’n dargyfeirio masnach i rywle arall ac efallai y byddwch chi’n peryglu diogelwch a bioddiogelwch hefyd. Mae angen i ni hefyd allu rhannu gwybodaeth. Nawr, mae'n sicr bod hynny'n golygu y dylem ni fod yn rhan o'r cam dylunio, yn ogystal â chomisiynu pa bynnag ateb technoleg sy'n mynd i fynd o gwmpas hynny, p’un a yw'n gwneud cymaint ag y byddai rhai rhannau o'r DU am iddo ei wneud. Ond, i ddod i beth bynnag yw'r ateb hwnnw yn ymarferol, dylem fod yn rhan o'r cam dylunio, ac nid dim ond rhoi system i ni y dywedir wrthym ni wedyn am ei defnyddio, neu hyd yn oed dweud wrthym ni am ei defnyddio ac yna gofyn i ni dalu am ddarn ohono hefyd. Felly, byddai'n llawer gwell gennyf i gael y sgyrsiau ymarferol a bwriadol hynny, oherwydd mae gennyf i ddiddordeb mewn gwneud hyn yn iawn.

O ran diogelu swyddi rheoli ffiniau yn y dyfodol, rydym ni’n wynebu'r realiti diamheuol hwn, os na fyddwn yn symud ymlaen gyda'r cam dylunio yng Nghaergybi, fyddwn ni ddim yn barod, ni fyddwn ni’n gallu masnachu bryd hynny, ac mewn gwirionedd mae pwysau llawer mwy yng Nghaergybi oherwydd y nifer fawr o fasnach sy'n dod drwodd yno. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud hynny neu mae perygl na fyddwn ni’n gallu mewnforio'n llwyddiannus drwy Gaergybi, sef y porthladd rholio-i-ffwrdd prysuraf ond un yn y DU. Felly, mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud hynny.

Wrth ddelio â'r dyluniad, bydd angen i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd ynddo, oherwydd dydyn ni ddim yn sicr o hyd pryd mae'r model gweithredu'n dod i mewn. Nid oes angen i ni wneud dewisiadau am gam adeiladu hynny tan yr hydref, a dylem gael mwy o fanylion am y model gweithredu erbyn hynny. Dyna'r disgwyliad rydym ni’n gweithio iddo, ond, unwaith eto, mae hynny'n gofyn am ymgysylltiad priodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ar lefel swyddogol a gweinidogol. 

Rwy’n credu eich pwynt ynglŷn â chydweithredu a chyfathrebu, rydw i’n cytuno'n llwyr â hynny. Mae'n rhan o'm rhwystredigaeth wirioneddol ynghylch pam rydym ni yma eto heddiw, a lle yr hoffwn i ni fod i roi sicrwydd i fusnesau, a bydd Aelodau lleol o fwy nag un blaid wleidyddol yn y Siambr am wybod beth yw dyfodol y porthladdoedd a'r cymunedau a'r busnesau maen nhw’n eu cynrychioli. Ac rwy'n cydnabod bod yr Aelod yn arddel y farn eang honno hefyd. 

Nid y risg yw'r perygl y byddwn ni’n mynd yn ein blaenau ac yn gwneud rhywbeth sy'n torri ar draws lle mae Llywodraeth y DU am fod; y risg yw bod gennym ni newid arall eto ar fyr rybudd a diffyg ymgysylltu sy'n golygu bod yn rhaid i ni ail-lunio ein cynlluniau i'r mannau lle na fyddant yn diwallu anghenion sicrwydd y byddai pob busnes a swydd sy'n dibynnu ar y fasnach honno am ei chael. Ac mewn gwirionedd, os ydym ni am gael masnach ddi-ffrithiant, mae angen gwneud dewisiadau ar yr hyn mae hynny'n ei olygu. Ar ôl dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n anodd iawn cyflawni masnach ddi-ffrithiant, o ystyried y dewisiadau sydd wedi'u gwneud hyd yma o amgylch yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Felly, bydd angen elfen o wirio i ni allu masnachu â rhannau eraill o Ewrop, ac, yn benodol, ynys Iwerddon.

Felly, dydw i ddim yn credu bod modd cyflawni masnach gwbl ddi-ffrithiant, o ystyried y dewisiadau sydd wedi'u gwneud am y realiti ar ôl Brexit. Ond, os gallwn ni leihau'r drwgdeimlad i wneud masnach yn haws, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwneud hynny mewn ffordd sydd, fel y dywedais i, yn bodloni profion bioddiogelwch, diogelwch ac effeithlonrwydd. Dyna fydd y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r gwaith hwn o hyd, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n wir mewn perthynas â Llywodraeth y DU. 

16:45

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.

Mae cydweithredu'n allweddol ar fater masnach, ac mae barn Sam Kurtz ar hyn i'w groesawu. Mae'r ddau ohonom ni ar Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac mae'r dystiolaeth, yn fy marn i o leiaf, wedi bod yn glir bod Llywodraeth y DU, drwy gydol y broses ar ôl Brexit, wedi methu ag ymgynghori ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn gyson ac yn ystyrlon ar faterion masnach. Rhaid i ni gael ein hysbysu a'n cynnwys yn llawn gyda Llywodraeth y DU ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol a masnach sy'n effeithio ar bolisi er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru.

Mae'r rhybudd byr o'r cyfarfod a fynychodd y Gweinidog gyda Llywodraeth y DU ar reolaethau ar y ffin a'r diffyg cyfathrebu ac ymgysylltu ynglŷn â'r oedi yn symptomau o fater parhaus. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â'r sylwadau hyn? Ydy’r Gweinidog yn argyhoeddedig bod llais Cymru'n cael ei glywed yn ystod y prosesau hyn, a beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod polisïau masnach a ffiniau yn ystyried anghenion Cymru?

Wrth i'r DU ddod o hyd i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl Brexit, mae gennyf i bryderon y gallai hyn ganiatáu i fuddsoddiad uniongyrchol o dramor a chwmnïau rhyngwladol gael effaith negyddol ar fusnesau bach a chanolig a busnesau lleol yng Nghymru. Ynghyd ag ansicrwydd y broses yn gyffredinol a'r cwestiynau sy’n cael eu codi nawr i allforwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth y DU, rwyf i’n poeni y gallai'r effaith bresennol ar fusnesau bach a chanolig Cymru a busnesau lleol fod yn eithaf difrifol. I'r perwyl hwnnw, pa sgyrsiau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill y DU ynghylch sicrhau nad yw busnesau bach yng Nghymru ar eu colled oherwydd cytundebau masnach newydd? A pha gyngor y byddai'r Gweinidog yn ei roi i fusnesau allforio bach Cymru, yn dilyn y diweddariad diweddaraf hwn gan San Steffan?

O ran cynnal safonau, pan fydd gwahaniaethau mewn safonau rhwng y DU a gwlad rydym ni’n gwneud cytundeb masnach rydd newydd gyda hi, neu'n masnachu â hi, gall cytundebau masnach gynyddu cystadleuaeth i weithgynhyrchwyr domestig, ac os caiff safonau eu gostwng ar y ffin, gall roi cynhyrchwyr domestig o dan anfantais. Mae'n ddefnyddiol cael sicrwydd y bydd chwarae teg priodol sydd hefyd yn diogelu safonau uchel. Dylem hefyd geisio sicrhau bod cytundebau masnach rydd newydd yn gweithio tuag at sero net ac arferion economaidd cynaliadwy eraill. Pa sgyrsiau mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â'r materion hyn? Ydy’r Gweinidog yn gwybod a yw Llywodraeth y DU yn rhannu'r pryderon hyn ac yn bwriadu cynnal safonau uchel a chwarae teg drwy reolaethau ar y ffin?

Yn olaf, ni ddylai pryderon ynghylch sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr amaethyddol Cymru pan fydd Llywodraeth y DU yn negodi cytundebau masnach rydd newydd arwain at enillion i rannau eraill o'r DU ar draul colledion i Gymru. Mae pryderon penodol ynghylch colledion yn y diwydiant cig, er enghraifft, o gytundebau masnach Seland Newydd ac Awstralia. Mae Cymdeithas Cyfanwerthwyr Cig yr Alban wedi nodi y gallai oedi parhaus o ran gweithredu archwiliadau ffiniau iechyd anifeiliaid a phlanhigion ar ôl Brexit arwain at ganlyniadau dinistriol i'r diwydiant ffermio a chig.

Mae mewnforion heb eu gwirio yn achosi risg o heintiau a chlefydau yn cael eu cyflwyno i stoc anifeiliaid y DU, yn ogystal â theithwyr sy'n dod â chynhyrchion halogedig i'r wlad. Mae Llywodraeth y DU yn dangos anallu a methiant i gefnogi cynhyrchwyr amaethyddol Cymru. Mae archwiliadau'n hanfodol i'n bioddiogelwch, iechyd anifeiliaid a diogelwch bwyd. Felly, i'r perwyl hwnnw, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi'r diwydiant amaeth yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn o anfantais ac ansicrwydd, a pham mae Llywodraeth y DU yn parhau i ohirio'r gwiriadau hanfodol hyn?

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe wnaf i ddechrau gyda'ch pwynt am lais Cymru wrth lunio rheolaethau ffiniau newydd y DU. Rwy’n credu fy mod i wedi bod yn eithaf clir yn fy ymgysylltiad, yn y pwyllgor ac yn y Siambr, ac rwyf i wedi bod yn agored gydag Aelodau o amgylch y Siambr ym mhob plaid ynglŷn â'r ymdeimlad gwirioneddol o rwystredigaeth ynglŷn â'r diffyg ymgysylltu cynnar. A bod yn deg, mae llefarwyr y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod y dylid ymgysylltu'n gynharach, nid yn unig heddiw, ond yn y gorffennol hefyd, felly dydw i ddim am geisio dweud bod Ceidwadwyr Cymru yn y lle hwn bellach yn dweud ei bod yn ddelfrydol cael newidiadau byr rybudd.

Rwy’n credu mai rhan o'r broblem yw bod angen i Lywodraeth y DU ei hun fod â dull cyson o ymdrin â'r mater hwn a fyddai'n hwyluso ymgysylltu'n adeiladol yn gynnar, neu o leiaf yn ymwneud â chael rhywfaint o ymddiriedaeth gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ein bod, mewn gwirionedd, am weld trefniadau masnachu effeithiol, mewn ystod eang o sectorau. Fe wnaethoch chi sôn am weithgynhyrchu; mae hynny'n bwysig i ni, i'r holl fusnesau hynny sy'n mynd i ymgysylltu â’r rheolau newydd ynghylch rheolau tarddiad a sut y gallant fasnachu'n llwyddiannus gyda gwahanol rannau o'r byd, yn ogystal â'n diwydiant ffermio, bwyd a diod, sydd wedi llwyddo i dyfu ac ehangu. Mae ffigurau newyddion da diweddar a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod marchnad wirioneddol ar gyfer cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru mewn bwyd a diod, ond mewn gwirionedd dyna pam rydym ni am ymgysylltu, oherwydd mae er ein budd ni a buddiannau swyddi a busnesau Cymru i gael yr ymgysylltiad cynnar adeiladol hwnnw, gyda dull cyson a rhesymegol o ymdrin â ffiniau a masnachu. Ac mae hynny'n mynd i'n dull gweithredu ehangach, nid yn unig ar y mater hwn ond ar fasnach yn fwy cyffredinol, y cyfeiriodd yr Aelod ato.

Rydym ni’n awyddus i sicrhau, pan ddaw'n fater o fuddiannau Cymru wrth negodi cytundebau masnach rydd yn y dyfodol, ein bod yn tynnu sylw at y mannau lle mae buddiannau datganoledig, ond yn yr un modd pan fydd materion a gadwyd yn ôl yn cael effaith uniongyrchol ar fuddiannau datganoledig. Rydym ni wedi bod yn agored iawn, iawn ar yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn risgiau yn y cytundebau masnach yn Awstralia a Seland Newydd i amaethyddiaeth Cymru. Efallai nad ydynt yn uniongyrchol, ond credwn nad yw'n anodd iawn gweld lefel y risg mae'n ei chyflwyno i ddyfodol ein sector amaethyddol. Mae cyfleoedd eraill mewn sectorau eraill yn rhai o'r cytundebau masnach rydd a wneir, ond rydym ni’n cyfeirio'n rheolaidd at yr anfanteision a'r risgiau yn ogystal â'r cyfleoedd posibl. Rydym ni wedi ymrwymo, fel yr wyf i wedi’i wneud eisoes, i gyhoeddi dadansoddiad o'n barn ar y cytundebau masnach hynny, a byddwn yn parhau i rannu'r rheini'n agored ag Aelodau drwy ysgrifennu ac adrodd i'r pwyllgor perthnasol ac mewn datganiadau ysgrifenedig hefyd.

Rhan o fy mhryder am fusnesau bach a chanolig yn fwy cyffredinol yw sicrhau eu bod yn parhau i allforio, ein bod yn eu helpu drwy broses wahanol iawn i'r hyn y byddai wedi bod ychydig flynyddoedd yn ôl, fel nad yw pobl yn optio allan o fod yn fusnesau allforio, oherwydd mae hynny'n torri llwybrau eraill ar gyfer eu cynnyrch, ond ein bod ni’n eu helpu drwy'r llwybr sy'n amlwg yn fwy anodd ar gyfer allforio, lle mae'r rhwystrau nad ydynt yn brisiau tariff, yn ogystal â'r potensial ar gyfer tariffau, yn her wirioneddol i rai. Dyna pam y gwnes i’r sylwadau a wnes i Sam Kurtz yn gynharach am fasnach ddi-ffrithiant. Rydym ni wedi optio i mewn, ledled y DU, oherwydd y dewisiadau mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud, i ffrithiant yn ein masnach. Mae'n ymwneud â sut i reoli hynny cystal ag y gallwn ni, ac mae'r heriau yr ydym ni’n sôn amdanyn nhw heddiw o ran rheoli ffiniau yn symptom o'r anallu i gael dull cyson o ymdrin â hynny.

Fe wnaf i ymdrin yn fyr ac yn uniongyrchol â'ch pwynt am fasnach. Mae gennym ni fforwm rhyng-weinidogol ar fasnach. Mae gohebiaeth ac ymgysylltiad rheolaidd gan Weinidogion. Mae Penny Mordaunt, er enghraifft, yn ymgysylltu'n rheolaidd â Gweinidogion datganoledig ar newidiadau a heriau sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, mae ymgysylltu â gweinidogion yno. Rydym ni’n credu y dylai'r un math o ymgysylltu ddigwydd ar y pwyntiau sy'n ymwneud â rheoli ffiniau.

O ran eich pwyntiau ynghylch bioddiogelwch, mae'n un o'n pryderon gwirioneddol arwyddocaol ac yn un o bryderon ein prif filfeddyg; dyna pam rwyf i wedi sôn amdano. Wrth sgwrsio â James Cleverly, yn flaenorol yn ei rôl fel Gweinidog dros Ewrop, un o'r pwyntiau a wnes iddo mewn gohebiaeth—mae'n bwynt uniongyrchol yr ydym ni wedi'i ddweud yn gyson yn gyhoeddus hefyd—yw dim ond am nad ydym ni’n ffermio mewn ffordd hollol wahanol i'r adeg pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hynny'n golygu nad yw'r risgiau bioddiogelwch wedi newid, oherwydd maen nhw'n ddeinamig. Rydym ni’n gwybod bod perygl y bydd clefydau'n dod i mewn i'r DU yn ogystal â mynd y tu allan a thrwy Brydain. Pan oeddem ni yn yr UE, roeddem ni eisoes yn gallu rhoi lefelau uwch o sicrwydd ar fewnforion, lle caniatawyd hynny. Rydym ni’n gwybod hefyd nad ydym ni bellach yn rhan o'r system rhybudd cynnar yn Ewrop, felly rydym ni’n cael llai o rybudd o'r hyn sy'n digwydd. Dyna pam mae Lesley Griffiths yn parhau i ymgysylltu â George Eustice a Gweinidogion DEFRA ar hyn, a dyna hefyd pam yr ydym ni’n bwriadu parhau i wneud gwaith gyda DEFRA i edrych ar ddull newydd o weld a allai rhai o'r gwiriadau presennol sy'n digwydd yn y man cyrraedd ddigwydd yn nes at borthladdoedd mynediad. Os yw hynny'n mynd i ddigwydd, unwaith eto, byddai dull mwy cyson rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban yn well i bob un ohonom ni i reoli'r risgiau bioddiogelwch hynny sy'n effeithio ar bob un ohonom ni’n briodol.

16:50

Gweinidog, rwy'n dechrau o'r rhagdybiaeth fy mod i eisiau i waith rhyng-weinidogol a rhynglywodraethol fod yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae er ein lles ni i gyd. Ond pe bai ymgais ar y cyd ac yn fwriadol i danseilio peirianwaith newydd y llywodraeth, byddai'n cynnwys diffyg cyfathrebu, diffyg rhannu gwybodaeth yn amserol ac ymgysylltu'n amserol â Llywodraethau datganoledig mewn ysbryd o gydweithredu a thryloywder, diffyg ymrwymiad i gyfarfodydd rheolaidd a gosod agenda ystyrlon ar gyfer y cyfarfodydd hynny, a thrwy hynny'r diffyg cyfle i gael trafodaeth agored a gonest yn y cyfarfodydd hynny.

Gweinidog, o'r datganiad heddiw, mae hyn wedi nodweddu dull Llywodraeth y DU o reoli ffiniau, ac, yn wir, y penderfyniad unochrog gan yr Ysgrifennydd Tramor i gyflwyno Bil Protocol Gogledd Iwerddon i Senedd y DU sy'n ceisio torri'r rhwymedigaethau mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ymrwymo iddynt yn benodol. Fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, mae'r cam gweithredu hwn unwaith eto'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a ragwelir yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Mae er budd pawb, nid yn unig ar gyfer bioddiogelwch, ond er mwyn rhagolygon economaidd ehangach, er mwyn gwella'n sylweddol y ffordd mae Llywodraethau yn y DU yn parchu ac yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, Gweinidog, pa obeithion sydd gennych chi, yn seiliedig ar hyn, sydd heddiw yng nghysgod y cyhoeddiad ychwanegol ddoe am y cynnig gan Lywodraeth y DU i ddiystyru deddfwriaeth a basiwyd yma yn y Senedd hon, o'r peirianwaith rhyng-weinidogol sydd bellach yn gweithio?

16:55

Y peirianwaith rhyng-weinidogol yr ydym ni wedi cytuno arno yw'r hyn y dylid ei wneud, ac yn gyson nid yw'n digwydd ar faterion o bwys. Mae Bil Protocol Gogledd Iwerddon wedi'i gyflwyno heb unrhyw ymgysylltu â ni. Dylem ymgysylltu'n gynnar ar Filiau sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig; yn syml, nid yw'n digwydd. Y toriad mwyaf dybryd yw'r un sy'n cyhoeddi yn y memorandwm esboniadol y bwriad i ddiddymu deddfwriaeth Gymreig sydd wedi mynd drwy'r Senedd hon drwy bob math o graffu, drwy bob cam craffu a pheidio â chael ei herio yn y Goruchaf Lys. Fy mhryder i yw y byddwn ni yn y pen draw yn cael gwrthdaro sefydliadol yn hytrach nag edrych ar yr hyn yr ydym ni am ei wneud, sef dod o hyd i ffordd ymlaen i sicrhau bod sicrwydd i'r swyddi a'r busnesau sy'n dibynnu ar drefniadau masnachu rhagweladwy, yn hytrach nag ymgais gyson i ail-lunio penawdau er mwyn osgoi'r cwestiynau llawer mwy hynny. Mae'n ymwneud ag anallu'r Llywodraeth i weithredu ar lefel y DU sy'n ein harwain at y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw, a chael datganiad arall eto am reolaethau ar y ffin, oherwydd fe wnes i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.

Rydym ni'n gorfod ildio rhywfaint o risg i weithredu mesurau i sicrhau y gall Caergybi fasnachu yn y dyfodol gyda threfniadau parhaol i osgoi costau ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus, ond nid ydym ni'n cael ymgysylltiad gweinidogol ynghylch pwyntiau cymharol syml lle mae o fudd i ni fod yn adeiladol ac ymgysylltu. Mae'n llawer gwell bod â chynllun, hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno ag ef, na dim cynllun o gwbl. Mae'n llawer gwell ymgysylltu ar lefel gynnar i ddatrys problemau, hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio. Y mater sydd gennym ni yw diffyg cymhwysedd a chysondeb ac anallu i gael cynllun o gwbl gan y Llywodraeth bresennol ar lefel y Deyrnas Unedig. Byddai'n llawer gwell gennyf i fod yn fwy adeiladol, yn y naws gan Sam Kurtz yn ei agoriad, ond nid yw'r dull hwnnw ar gael i ni gyda'r fersiwn gyfredol hon o Lywodraeth y DU.

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n gwybod ei fod yn rhannu fy rhwystredigaeth ynglŷn â'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn, yr hyn sy'n ymddangos fel petruster gan Lywodraeth y DU am yr elfennau hyn o reoli ffiniau a goblygiadau hynny, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru, i lywodraeth leol a hefyd i gymuned Caergybi. Mae'n destun gofid eto ein bod ni'n clywed am yr hyn sy'n ymddangos yn fwy o ddiffyg parch sylfaenol pan ddaw'n fater o ymateb yn amserol i geisiadau am gyfarfodydd sydd mor hanfodol er mwyn hyrwyddo'r math o gydweithrediad sy'n hanfodol ar adegau anodd fel hyn.

Dim ond dau gwestiwn byr, un ar fater cost; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cadw cyfrif cyhoeddus o gostau. Pa adnoddau ychwanegol fydd angen eu rhoi ar waith gyda cham dylunio cyfleuster Caergybi, ac a allai'r Gweinidog gadarnhau a yw hynny'n ychwanegol at y £6 miliwn sydd eisoes wedi'i glustnodi neu ei wario? Wrth gwrs, mae hynny'n arian mae angen i ni ei weld yn cael ei ad-dalu gan Lywodraeth y DU.

Ac yn ail, mater lleol am seilwaith porthladdoedd. Wrth gwrs, fe wnaeth y gwaith o ddatblygu elfen Llywodraeth y DU o'r swydd rheoli ffiniau arwain at golli'r parc HGV. Mae'r oedi cyn bwrw ymlaen â swydd rheoli ffiniau Llywodraeth Cymru yn golygu bod y safle'n cael ei ddefnyddio fel maes parcio lorïau dros dro. Mae goblygiadau yn awr eich bod yn bwriadu bwrw ymlaen â hynny. A fydd cynlluniau'n cyflymu i chwilio am gyfleusterau parcio HGV hirdymor amgen, o gofio bod y plot 9 hwn yn ôl ar waith, fel petai, fel swydd rheoli ar y ffin?

17:00

Felly, o ran eich ail bwynt yn gyntaf, ydym, rydym ni yn ymgysylltu ar sut i edrych ar drefniant tymor hwy ar gyfer cyfleusterau HGV, ac nid yw hynny mor syml ag y byddwn i'n dymuno iddo fod, ond byddaf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod am y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud ac ar y gost. Ni fydd y gost ddylunio cymaint ag £1 filiwn—dyna fy nisgwyliad i. Mae'n agos i'r ffigur hwnnw, a bydd hynny'n ychwanegol at y £6 miliwn o arian a wariwyd eisoes.

A allech chi ofyn i gontractwyr yng Nghaergybi ymgysylltu â phartneriaid lleol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i weithwyr lleol, a hefyd gyda'r cadwyni cyflenwi? A hefyd, os byddwch chi yn cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a allech chi ddweud bod cysylltiad rhwydwaith ffibr uchel sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a ariennir gan Ewrop a allai gael ei ddefnyddio'n awr gan unrhyw gludwr telegyfathrebiadau neu ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd ar sail cyfanwerthu i ddarparu lled band uchel a chapasiti ffibr tywyll i'r safle? Mae ar gael ar unwaith, felly'n osgoi costau inswleiddio drud a chaniatáu mynediad ar unwaith i unrhyw ofynion data, symudol a thelegyfathrebu. Rwy'n gwybod bod FibreSpeed wedi bod yn ceisio gwneud y pwynt hwn i CThEM, ac maen nhw newydd fod yn dweud bod angen iddyn nhw fynd ar y rhestr o ddarparwyr cyflenwyr ar gyfer caffael. Nid dyna maen nhw'n ei ofyn. Mewn gwirionedd, maen nhw am roi gwybod i bobl bod hyn eisoes ar waith, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn ei gydnabod. Felly, a allech chi fwrw ymlaen â hynny, os gwelwch chi'n dda?

O ran yr ail bwynt hwnnw, gwn fod yr Aelod wedi gohebu â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, â'i gyfrifoldebau, ond byddaf yn sicrhau bod y pwynt yn cael ei wneud pan ddaw'n fater o weithredu cyfleusterau parhaol y bydd eu hangen, ac mae'r Aelod, a bod yn deg, wedi bod yn gwbl gyson yn ei diddordeb ar y pwynt hwn. Byddaf hefyd yn sicrhau bod sgwrs gydgysylltiedig gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y mater hefyd.

O ran y pwynt am swyddi, os ydym ni am symud ymlaen i'r cam Bil ar gyfer swyddi rheoli ffiniau, boed yn y gogledd neu, yn wir, yn y gorllewin, yna byddwn ni'n caffael y rheini mewn ffordd y byddech chi'n disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gwneud, gyda disgwyliadau ar gontractwyr y byddan nhw'n edrych yn gadarnhaol ar y gadwyn gyflenwi leol, a'r hyn mae hynny'n ei olygu o ran llafur lleol. Felly, ydym, rydym ni eisoes wedi ymgysylltu â Kier, sef y contractwyr a ffefrir, a fydd yn gwneud y gwaith dylunio, ac maen nhw'n ceisio sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol, a bydd disgwyliadau sylfaenol ynghylch eu hymgysylltiad â'r gadwyn gyflenwi leol a sut maen nhw'n is-gontractio eu gwaith. Felly, ie, byddai ein dull o gaffael—ac rwy'n nodi fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb arweiniol ar draws y Llywodraeth dros gaffael yn y Siambr—yn cael ei ddefnyddio os byddwn yn symud at gam y Bil. Felly, ydw, rwy'n hapus i roi'r cadarnhad hwnnw i'r Aelod o ddull gweithredu parhaus y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, er bod yn rhaid i mi ddweud fy mod i'n ofni ei fod yn wastraff enfawr o'ch amser chi a'n hamser ni. Rydych chi wedi sôn am y gwiriadau a oedd wedi'u gohirio ym mis Ebrill, wel, wrth gwrs, gohiriwyd yr un gwiriadau hefyd ym mis Mehefin 2020, Mawrth 2021 ac eto ym mis Medi 2021. Disgrifiodd y Gweinidog dros Gyfleoedd Brexit, sy'n dwyn y teitl chwerthinllyd, gyflwyno gwiriadau o'r fath fel gweithred o hunan-niweidio. Nawr, mae'n ail yn unig i'r Arglwydd Frost, fel y'i gelwir, yn y cast hwn o gymeriadau comig sy'n gyfrifol am yr effaith ar fasnach a chyswllt dynol drwy Brexit a thrwy reolaethau ar y ffin. Fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw hyn: a fyddai'n ddefnydd gwell o'ch amser chi, ein hadnoddau ni a'n harian ni i ymgyrchu o blaid a dadlau dros aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, a fydd yn adfer yr holl anawsterau sy'n cael eu creu gan, neu'r rhan fwyaf o'r anawsterau a grëir gan Brexit, ac yn enwedig y Brexit sydd wedi'i gyfyngu gan y Llywodraeth hon yn y DU, yn hytrach na swyddi rheoli adeiladu a swyddi ar y ffin yr ydym yn gobeithio na fyddan nhw byth yn cael eu defnyddio?

Wel, fe fyddwch chi'n cofio, fel finnau, fod gan Lywodraeth Cymru Bapur Gwyn wedi'i ysgrifennu ar y cyd â Phlaid Cymru ar sut y gallai Brexit lleiaf niweidiol edrych yn economaidd. Ac roedd gennym ni hefyd ein safbwynt ar ddymuno sicrhau bod yr undeb tollau a'r farchnad sengl yn ymgysylltu â nhw ac yn eu haelodaeth, a byddai'n sicr wedi osgoi'r holl heriau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw heddiw, y ffordd yr ydym ni'n gwario arian cyhoeddus a'r angen i gael swyddi rheoli ffiniau. Ond roedd hynny'n ddewis bwriadol gan Lywodraeth bresennol y DU i gael math o Brexit a olygai fod yr holl anawsterau hynny wedi'u creu, a nawr mae ymgais i weithredu fel pe na bai angen mynd i'r afael â realiti masnach ag ynys Iwerddon neu yn wir fasnachu gydag unrhyw ran arall o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, ie, mae'n ffaith ddiamheuol, pe bai gennym ni undeb tollau ac aelodaeth o'r farchnad sengl, na fyddai angen y datganiad hwn, oherwydd byddai gennym ni drefniadau eraill ar waith. A byddai hynny'n fwy buddiol yn economaidd i'r holl etholwyr yr ydych chi, fi a phob Aelod arall yn y lle hwn yn eu cynrychioli. Ond nid dyna fu dewis Llywodraeth y DU; dyna pam mae gen i'r dasg hapus o barhau i ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn ar ran Llywodraeth Cymru, gan wybod drwy'r amser fy mod yn credu y gellid treulio ein hamser yn well ar ddefnyddio arian cyhoeddus i gefnogi ein rhagolygon economaidd.

17:05
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022

Eitem 7 yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Haf o Hwyl 2022. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch am y cyfle i ddod yma heddiw i siarad ag Aelodau am ein cynlluniau i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru i gael haf o hwyl.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod ni, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi ariannu Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc wrth iddyn nhw wella o effeithiau'r pandemig. Gan weithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr ledled Cymru, rydym ni wedi gallu darparu gweithgareddau di-rif am ddim i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc rhwng dim a 25 oed ledled y wlad. Rydym ni wedi clywed gan nifer o blant, rhieni a darparwyr, pob un yn sôn am fanteision plant a phobl ifanc yn gallu cymysgu â'u cyfoedion, cael y cyfle i fanteisio ar weithgareddau newydd a mynd allan yn ein cymunedau. Ac rwy'n gwybod y bydd llawer ohonoch chi wedi bod yn bresennol yn y gweithgareddau hyn yn eich etholaethau chi eich hun ac wedi gweld yr effaith y maen nhw'n ei chael. Dyna pam yr wyf i'n falch iawn o allu cadarnhau y byddwn ni'n ariannu Haf o Hwyl arall yr haf hwn. 

I lawer o'n plant, mae'r tarfu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ynghyd â'r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd, yn golygu nad ydyn nhw wedi cael llawer o amser i gael hwyl, ac ni allan nhw fforddio gwneud llawer o'r gweithgareddau yr oedden nhw'n arfer eu gwneud. Pan fydd yn rhaid gwneud dewisiadau anodd am rent, biliau a bwyd, yna nid oes arian ar ôl ar gyfer hufen iâ, diwrnodau o hwyl na chlybiau gwyliau haf. Ond mae'r rhain yn brofiadau y dylem ni ymdrechu i sicrhau bod ein holl blant yn eu cael.

Wrth ariannu'r gweithgareddau hyn drwy'r Haf o Hwyl, rwyf i eisiau sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i chwarae'n rhydd, i gael profiadau newydd ac i fwynhau eu haf. Rydym felly'n buddsoddi dros £7 miliwn i gefnogi amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu gweithgareddau cynhwysol am ddim i blant a phobl ifanc rhwng dim a 25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gymru. Mae arian wedi'i ddyrannu rhwng ein hawdurdodau lleol a nifer o sefydliadau cenedlaethol i sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb. Bydd y gweithgareddau'n dechrau o 1 Gorffennaf ac yn cael eu cynnal hyd at 30 Medi, a bydd mwy o wybodaeth am y gweithgareddau hyn a gweithgareddau eraill yr haf ar gael gan awdurdodau lleol a'n partneriaid cenedlaethol. Mae ein partneriaid cenedlaethol yn cynnwys: Chwaraeon Cymru; Amgueddfa Cymru; Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru; Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru; Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru; Urdd Gobaith Cymru; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Mentrau Iaith Cymru; Chwarae Cymru; Mudiad Meithrin; Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs; Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru; a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. 

Eleni byddwn ni hefyd yn cefnogi darparwyr i gynnig bwyd yn eu gweithgareddau, gan helpu gyda rhai o'r materion difrifol sy'n ein hwynebu o ran llwgu yn ystod y gwyliau a biliau bwyd cynyddol i deuluoedd. Ochr yn ochr â pharhau â'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim dros yr haf, dylai'r cyllid sydd ar gael drwy'r cynllun ffit a hwyl sy'n cael ei gynnal gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'n cynlluniau Gwaith Chwarae ar wahân sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw blentyn fod yn llwglyd.

Y llynedd cyrhaeddodd ein Haf o Hwyl dros 67,000 o blant a phobl ifanc. Mae'r gwerthusiad annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn dangos bod 99 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol wedi cael hwyl, sy'n dda i'w glywed, dywedodd 88 y cant ei fod wedi'u helpu i fod yn fwy egnïol, a theimlai 73 y cant ei fod yn eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl. Roedd dewis ac amrywiaeth y gweithgareddau awyr agored a dan do hefyd yn cael eu canmol. Roedd hyn yn cynnwys chwaraeon o nofio a dringo i chwarae gyda balwnau dŵr a llinell sip, yn ogystal â chwarae a gweithgareddau dan do, fel gemau bwrdd, chwarae meddal, celf a chrefft, cerddoriaeth a theatr. Ymwelais â nifer o'r gweithgareddau hyn fy hun, ac ymwelais â digwyddiad pêl-fasged yn fy etholaeth fy hun, a oedd yn boblogaidd iawn gyda'r plant, ac fe es i hefyd i nifer o ddigwyddiadau yn Rhondda Cynon Taf. Ac roedd yn hollol wych i weld cymaint a oedd yn dod iddynt a'u bod yn darparu cymaint o hwyl.

Felly, eleni rydym ni'n disgwyl gweld hyd yn oed mwy o weithgareddau. Mae enghreifftiau o gynlluniau sydd wedi'u cyflwyno gan ddarparwyr yn cynnwys  digwyddiadau chwarae yn y parc; sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a gweithdai hunanofal; sesiynau hunan-amddiffyn a meithrin hyder; gweithdai gwneud ffilmiau; amrywiaeth eang o sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol; a chynigion aml-weithgaredd a sesiynau hwyl mewn lleoliadau llyfrgell. Rydym ni hefyd wedi gweld cynigion ar gyfer gweithgareddau seibiant ar gyfer gofalwyr ifanc, gan ddarparu cymorth gyda sgiliau byw a mynediad at grwpiau cyfoedion a sesiynau cymorth i famau ifanc, gan helpu eu cyrff i addasu yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, gan gynnwys cyngor ar fwyta'n iach a sesiynau meithrin hyder.

Mae modd defnyddio cyllid hefyd i dalu am rai costau trafnidiaeth, er y gofynnwyd i sefydliadau drefnu gweithgareddau mewn ardaloedd y mae modd eu cyrraedd yn hawdd ar droed, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy lwybrau teithio llesol. Rydym ni hefyd wedi gofyn am ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi rhai o'n plant a'n pobl ifanc sy'n fwy agored i niwed ac sydd wedi'u hymddieithrio, ac rydym ni hefyd wedi gofyn am ganolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n ceisio noddfa, gofalwyr ifanc a phlant sy'n derbyn gofal.

Felly, hoffwn i ofyn i'r Senedd ymuno â mi i groesawu'r buddsoddiad hwn ac i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i gael Haf o Hwyl haeddiannol.

17:10

Diolch am eich datganiad ar yr Haf o Hwyl 2022 y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu mesurau sy'n cefnogi lles ein plant a'n pobl ifanc yma yng Nghymru, yn enwedig gan annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon, gan gael plant allan o'r tŷ yn ystod misoedd yr haf i wella eu lles corfforol a meddyliol. Ond mae angen i ni sicrhau, pa le bynnag y mae plentyn yn byw yng Nghymru, nad yw ei fynediad i'r darpariaethau hyn yn destun loteri cod post. Gwnaethoch chi nodi fod dros 67,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn yr Haf o Hwyl y llynedd, a hoffwn i wybod sut y daeth Llywodraeth Cymru i'r cyfanswm hwn a sut y cafodd nifer y cyfranogwyr y gwnaeth y rhaglen hon eu cyrraedd eu cofnodi. O ystyried bod y darpariaethau wedi'u gweithredu gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, nododd y rhan fwyaf o'r awdurdodau hyn, yn ôl y crynodeb gwerthuso ar gynllun 2021, fod cyllid yn cynnig ychwanegedd at ddarpariaeth busnes fel arfer, sy'n golygu bod yr arian y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei gynnig ar gyfer yr Haf o Hwyl yn yr achosion hyn ond yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i raglenni haf lleol sydd eisoes wedi'u cynllunio neu eu trefnu.

Rhan o'r loteri cod post ar y cynllun hwn yw sut y strwythurodd yr awdurdodau lleol neu'r grwpiau trydydd parti eu model darparu'r Haf o Hwyl, gyda thri dewis ar gael yn ôl pob tebyg—cyfuniad o ddarpariaethau mynediad agored a darpariaethau wedi'u targedu, sy'n fodel 1; rhaglen mynediad agored i bawb, model 2; neu raglen o ddigwyddiadau wedi'i thargedu'n llwyr, model 3—gyda'r adroddiad gwerthuso yn nodi bod dull gweithredu'r awdurdod yn dibynnu ar ddehongliad lleol o'r canllawiau, gallu'r tîm ac a oedd ganddyn nhw gynnig haf ar hyn o bryd i'w ddatblygu. Felly, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gallai pob plentyn yn yr ardal fynychu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau hyn, ac yna, mewn rhannau eraill, roedden nhw ar gyfer rhai dethol yn unig. Felly, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu bod hynny'n ffordd deg o weithredu'r rhaglen? A gan siarad am degwch, sut y bydd y £7 miliwn hwn yn cael ei ddosbarthu ar draws y 22 awdurdod lleol, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ansawdd y ddarpariaeth ar ôl i'r arian gael ei roi?

Cafodd y sicrwydd ansawdd hwn ei nodi fel un o argymhellion y gwerthusiad, ynghyd â her allweddol yn cael ei chodi ynghylch amser mor fyr rhwng y cyhoeddiad am gyllid a dyddiad dechrau'r rhaglen yn 2021. O ganlyniad, dechreuodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gyflawni ddiwedd mis Gorffennaf yn hytrach na dyddiad dechrau'r prosiect, sef 1 Gorffennaf, ar ddechrau'r mis. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i osgoi oedi o'r fath gyda chynlluniau yn y dyfodol? Ac i gloi, hoffwn i godi mai dim ond 7 y cant o'r cyfranogwyr y llynedd oedd rhwng 16 a 25 oed, dim ond 5 y cant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac roedd pobl anabl yn cyfrif am 3 y cant o'r rhai a fynychodd. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cyrhaeddiad y rhaglen i'r cynulleidfaoedd hyn ac annog cynwysoldeb yn y digwyddiadau hyn? Diolch.

17:15

Diolch i Gareth Davies am y sylwadau hynny, ac rwy'n falch ei fod yn croesawu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Rwy'n falch o allu ymateb i'r pwyntiau y mae'n eu gwneud. Hoffwn i wneud y pwynt bod y gwerthusiad annibynnol yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a chyflwynodd y ffigur o 167,500 o blant a gafodd eu cyrraedd gan y rhaglen. Felly, rwy'n credu y gallwn ni dderbyn hwnnw fel ffigur dilys, gan y daethpwyd iddo gan gorff annibynnol.

Bu'n rhaid sefydlu'r rhaglen yr haf diwethaf yn gyflym iawn oherwydd diwedd y pandemig—wel, cododd y cyfle i wneud hynny'n gyflym iawn, felly bu'n rhaid ei wneud yn gyflym—ac rwy'n credu bod y gwerthusiad yn gwbl gywir wrth ddweud bod yr amser byr a oedd ar gael i'w sefydlu yn ei gwneud yn fwy anodd ei wneud, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i gydnabod yn gyffredinol. Ond rwy'n credu ei bod yn ddealladwy iawn pam y digwyddodd hynny, oherwydd roeddem ni'n symud o bandemig i adeg pan allem ni wneud y mathau hyn o weithgareddau. Felly, mae hynny'n ymdrin â hynny.

O ran y loteri cod post, bydd yr arian eleni, unwaith eto, yn cael ei rannu rhwng yr awdurdodau lleol: bydd £5.5 miliwn yn cael ei rannu rhwng yr awdurdodau lleol, a mater i'r awdurdodau lleol wedyn fydd datblygu'r ddarpariaeth y maen nhw'n ei dymuno yn yr ardaloedd hynny. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad ein bod ni eisiau i hynny dargedu ardaloedd lle mae llawer o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, er enghraifft, ac rydym ni eisiau gwneud ymdrech benodol i gyrraedd y gwahanol grwpiau y mae Gareth Davies wedi'u crybwyll, a dyna yr ydym ni'n dweud wrth yr awdurdodau lleol i'w wneud eleni.

Felly, mae £5.5 miliwn yn mynd rhwng yr awdurdodau lleol, mae £1.8 miliwn wedi'i rannu rhwng y sefydliadau cenedlaethol, ac mae'n gymorth mawr i allu bod â sefydliadau cenedlaethol ac awdurdodau lleol i gyflawni'r ddarpariaeth hon, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl deg eu bod yn datblygu darpariaeth bresennol ac yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer y ddarpariaeth bresennol ac yn cynnig lleoedd am ddim mewn gweithgareddau sy'n mynd rhagddynt, oherwydd dyna'r ffordd hawsaf a chyflymaf a'r ffordd fwyaf effeithiol o'i wneud. Ond maen nhw hefyd yn gallu dechrau mentrau newydd hefyd, ac mae llawer ohonyn nhw wedi gwneud hynny. Mae dibynnu ar ddull gweithredu lleol, ond yn sicr mae nhw ar wasgar dros Gymru gyfan.

O ran cyrraedd grwpiau penodol, rydym ni'n gofyn i'r awdurdodau lleol geisio rhoi'r gweithgareddau hyn mewn lle sy'n hawdd ei gyrraedd. Dywedais i yn y datganiad y bydd cyllid ar gael ar gyfer trafnidiaeth, felly bydd yn bosibl i bobl ifanc a phlant gyrraedd rhai o'r gweithgareddau hyn ar drafnidiaeth, ond, yn amlwg, mae'n llawer gwell os ydyn nhw mewn mannau lle gall plant lleol gerdded neu feicio i gyrraedd y gweithgareddau.

Roedd y gwerthusiad o'r llynedd yn gadarnhaol iawn, ac rwy'n credu, yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eleni, y byddwn ni'n rhoi'r cyfle i blant, sydd wedi cael amser caled yn ystod y pandemig, mae'n nhw wedi cael amser anodd, ac rwy'n credu ein bod ni wir—. Drwy geisio cynnig Haf o Hwyl arall, byddwn ni'n rhoi'r cyfle iddyn nhw fwynhau eu hunain dros yr haf a cheisio goresgyn rhai o'r anawsterau gwaethaf y maen nhw wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig.

Hoffwn innau hefyd groesawu hyn yn fawr iawn. Nid wyf yn credu ein bod yn siarad am ddigon o hwyl yn y Senedd hon weithiau, ac mae'n dda gweld y pwyslais hwnnw ar blant a phobl ifanc sydd angen gallu mwynhau, yn ogystal â dysgu, a chael eu cefnogi.

Mae fy mhryder yn debyg iawn i bryder Gareth Davies o ran, ie, y bydd rhywbeth at ddant pawb, ond a all pawb ei gyrraedd? Rwy'n derbyn y bu'n rhaid sefydlu'r llynedd yn gyflym, ond rwy'n pryderu nad yw'r canllawiau'n ddigon rhagnodol o hyd i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn gallu mynd iddyn nhw a chael budd ohonyn nhw. Roeddwn i'n arbennig o bryderus yn y datganiad eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y gellir defnyddio cyllid hefyd i dalu am rai costau trafnidiaeth. Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn codi gyda'r Prif Weinidog yn gynharach y ffaith bod costau cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gyhoeddus eisoes yn rhwystr i ddisgyblion sy'n defnyddio'r ysgol. Felly, mae hyn eisoes yn rhywbeth y gwyddom ei fod yn rhwystr i gyrraedd yr ysgol yn unig, heb sôn am weithgareddau allgyrsiol, lle mae'n bosibl bod gennych fwy nag un plentyn i geisio cyrraedd gweithgareddau a lleoliadau o'r fath. Tybed sut y byddwn ni'n fwy rhagnodol a thargedu yn fwy i sicrhau y bydd y plant a'r bobl ifanc hynny a gollodd y cyfleoedd hynny i gymryd rhan mewn rhaglenni y llynedd yn cael eu targedu y tro hwn, a pha wersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol drwy'r asesiad annibynnol, oherwydd mae'n amlwg iddo ddod yn amlwg yn yr asesiad hwnnw bod uwch randdeiliaid ac arweinwyr awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hynny, ond bod pryder bod risg, pe na baen nhw'n gallu cadw cyllid ar gyfer trafnidiaeth, na fyddai teuluoedd incwm isel yn cael mynediad at hyn o hyd. Roedd pawb yn canu clodydd y rhaglen honno; nid yw'n ymwneud â'r ansawdd, ond mae'n ymwneud â'r mynediad hwnnw.

Un pryder penodol hefyd, fel y soniodd Gareth Davies, oedd nad oedd yr holl ddarpariaeth yn addas ar gyfer plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol, ac mae'n amlwg bod cludiant eithaf arbenigol ar gael i blant a allai fod ag anghenion mynediad corfforol ac yn y blaen i gyrraedd lleoliadau ysgol ac yn y blaen, ond nid oedd hyn ar gael ar gyfer y rhaglenni hyn. Felly, sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn gallu cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth hon?

Yn amlwg, roedd cynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg hefyd wedi'i nodi yng nghanllawiau'r rhaglen, ac eto nododd rhai arweinwyr awdurdodau lleol ddiffyg darparwyr lleol â sgiliau Cymraeg a diddordeb cyfyngedig ymhlith plant, pobl ifanc a theuluoedd am ddarpariaeth Gymraeg. Hefyd, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae plant a phobl ifanc yn aml yn gorfod teithio ymhellach ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhai rhannau o Gymru, sy'n golygu nad oes trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch na llwybr cerdded, felly sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod cyfle hefyd i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y Gymraeg?

Felly, fel y dywedais i, rwy'n ei groesawu'n fawr; nid yw'n ddim byd negyddol, ond rwy'n bryderus a hoffwn ailadrodd—. Ymwelais â banc bwyd y Rhondda yn ddiweddar, a gwnaethon nhw fynegi eu pryder wrthyf fod penaethiaid wedi rhannu mai eu pryder mwyaf am raglenni y llynedd oedd nad oedd y plant mwyaf agored i niwed a fyddai'n elwa fwyaf yn gallu cyrraedd y lleoedd hynny. Rwy'n poeni y bydd peidio â'i wneud yn ofyniad neu fynd i'r afael â mater trafnidiaeth yn golygu y bydd yr un plant a phobl ifanc yn colli allan eto.

Yn olaf, os caf i, hefyd yn yr ymchwil, yn y dadansoddiad manwl, soniodd fod targedu'r rhai 16 oed a hŷn yn arbennig o heriol a'u bod yn anos eu cyrraedd ac i ymgysylltu â nhw. Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys cynnal gweithgareddau prynhawn neu gyda'r nos neu waith ieuenctid, cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, mentora a phrofiad gwaith. A yw rhai o'r awgrymiadau hyn wedi'u cynnwys yng nghynlluniau Haf o Hwyl? Diolch yn fawr iawn.

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth i'r Haf o Hwyl. Mae'r cwestiwn o ran a all pawb gael mynediad atyn nhw yn amlwg yn rhywbeth yr ydym ni'n ymdrin ag ef. Mae'n bwysig iawn bod yr awdurdodau lleol, yn yr hyn y maen nhw'n ei ddatblygu, yn ystyried drwy'r amser a all pobl gyrraedd lleoedd. Rwy'n sylwi i chi sôn am y swm bach sydd ar gael ar gyfer trafnidiaeth. Rwy'n credu mai'r nod yw cael cymaint yn lleol ag y gallwn ni, ac na fydd angen trafnidiaeth, ond mae swm bach o arian ar gael ar gyfer trafnidiaeth, a bydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i helpu plant i gyrraedd yno. Gofynnwyd yn arbennig i awdurdodau lleol, a gofynnwyd hefyd i'r cyrff yr ydym ni'n gweithio gyda nhw ystyried anghenion plant anabl hefyd yn benodol. 

Rwy'n credu bod yr holl fater ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg yn bwysig iawn. Yn y gwerthusiad, dangosodd fod 43 y cant o sesiynau Haf o Hwyl yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg, a bod 11 y cant o'r sesiynau wedi'u cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Gwn i chi sôn am y mater dod o hyd i staff sy'n gallu siarad Cymraeg, ac mae hynny'n un o'r materion pwysig yr ydym ni'n ymdrin ag ef o ran ceisio ehangu ein darpariaeth gofal plant, oherwydd rydym ni eisiau ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn arbennig, ac rydym ni'n canfod bod yna, yn gyffredinol, brinder staff. Felly, dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ymdrin ag ef yn y ddarpariaeth chwarae ehangach, ac felly rydym ni'n ymwybodol iawn o'r mater hwnnw, ac rydym ni'n benderfynol o ddarparu cymaint o ddarpariaeth Gymraeg ag y gallwn ni.

Ac yna rwy'n credu bod y mater arall a gafodd ei godi gennych chi'n ymwneud â'r ffaith mai dim ond 7 y cant o'r cyfranogwyr oedd rhwng 16 a 25 oed, a bod 70 y cant o'r cyfranogwyr rhwng pump ac 11 oed. Felly, roedd lleiafrif bach iawn, mewn gwirionedd, o'r grŵp oedran hŷn, ac rwy'n credu bod hynny'n un o'r materion sy'n cael ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer yr Haf o Hwyl nesaf, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu cynnal gweithgareddau a fydd yn ddeniadol i'r grŵp oedran hŷn hwnnw, a fydd yn wahanol iawn, rwy'n credu, i'r hyn a allai ddenu grŵp oedran iau. Os gall awdurdodau lleol ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol sydd ganddyn nhw, gall hynny, weithiau, fod yn ffordd hawdd o roi llawer mwy o gyfleoedd i blant. Ond, gyda'r grŵp oedran hŷn, mae weithiau'n golygu creu rhywbeth arbennig ar eu cyfer. Ac rwy'n gwybod bod hynny wedi'i wneud, ond cafodd ei wneud i raddau llawer llai, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar gyfer yr Haf o Hwyl nesaf. Ond diolch am eich cefnogaeth.

17:25

Mae hi bob amser yn sobreiddiol iawn pan fyddwch chi'n mynd i ysgolion ym mis Medi ac yn clywed y plant yn ateb y cwestiwn beth wnaethon nhw yn ystod gwyliau'r haf ac maen nhw'n adrodd yr hyn a wnaethon nhw ar y daith ysgol yn nhymor yr haf, oherwydd mae'n dweud wrthych chi nad oedden nhw'n gwneud rhyw lawer yn ystod gwyliau'r ysgol, a bydd y niferoedd na fyddan nhw'n mynd i unman y tu allan i'r ardal lle maen nhw'n byw, yn amlwg, ar gynnydd oherwydd yr argyfwng bwyta a gwresogi y mae cynifer o deuluoedd yn ei wynebu. Felly, mae'n arbennig o bwysig ein bod ni'n cynnig dewisiadau eraill sydd ar gael am ddim i bobl yn eu cymunedau.

Roeddwn i'n arbennig o bryderus nad oes rhaglen gwella gwyliau'r haf yn cael ei chynnal yn Adamsdown, sy'n ardal gynnyrch ehangach o amddifadedd yn fy etholaeth i, ac nid oedd un y llynedd chwaith. Felly, rwy'n awyddus i ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu'r pethau hyn er mwyn sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.

Nawr, dim ond taith bws fer i ffwrdd o Adamsdown yw Amgueddfa Cymru, felly gobeithio y bydd yr ysgolion yn hyrwyddo hynny fel lle hollol wych i gael hwyl a dysgu cymaint, ond rwy'n credu bod problem wirioneddol, i mi, sef pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu'r rhaglen fwyd a hwyl gwella gwyliau'r haf sy'n cael ei chynnal gan ysgolion, y rhaglen ffit a hwyl, sy'n cael ei chynnal yn rhai o'r canolfannau hamdden yng Nghaerdydd, a'r Haf o Hwyl, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y pethau a gafodd eu gwneud gan yr Urdd y llynedd—roedd yn gwbl anhygoel—yn un o'n hysgolion. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allech chi egluro hynny i ni, Gweinidog, oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod mor bwysig i blant gael rhywfaint o hwyl dros wyliau'r haf.

Ie, diolch i Jenny Rathbone am y pwynt pwysig iawn hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni eisiau i bob plentyn gael y cyfle i gael hwyl a gallu mynd at weithgareddau yn ystod gwyliau'r haf. Fel y dywedais i eisoes, mae'r canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer yr Haf o Hwyl yn gofyn iddyn nhw drefnu gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch ac yn caniatáu i rai costau trafnidiaeth gael eu talu, a dylai hynny alluogi mwy o deuluoedd incwm isel i gymryd rhan. Dylai awdurdodau lleol hefyd fod yn sicrhau eu bod yn cynnig darpariaeth ym mhob rhan o'u hardaloedd, ac yn enwedig y rheini sydd â niferoedd uchel o deuluoedd incwm isel.

Ond yn ogystal â'r Haf o Hwyl, fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato, rydym ni'n ariannu dwy raglen arall dros wyliau haf yr ysgol, ac mae ysgolion yn gallu ymgysylltu â nhw. Rydych chi wedi sôn am ein rhaglen ffit a hwyl, ac mae honno yn lle'r rhaglen gwella gwyliau ysgol, y SHEP. Felly, dyna'r rhaglen ffit a hwyl erbyn hyn, a'i nod yw cyrraedd cymunedau sydd â lefelau uchel o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, ac mae'n cael ei chynnal yn uniongyrchol o ysgolion, ac mae'n cael ei chydlynu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, dyna'r ffordd y mae'r ysgolion hyn yn cymryd rhan yn y rhaglen honno mewn gwirionedd. Ac yna mae gennym ni raglen Gwaith Chwarae hefyd, sy'n ceisio sicrhau bod mwy o gyfleoedd chwarae ar gael i blant gan hefyd ymdrin â llwgu yn ystod y gwyliau, ac mae hynny'n cael ei gydlynu gan arweinwyr chwarae awdurdodau lleol ac yn cael ei chynnal drwy bob cyfnod gwyliau ysgol. Felly, mae gweithgareddau wedi bod yno ers peth amser, ond mae'r Haf o Hwyl yn ychwanegu at yr holl weithgareddau hynny, ac rydym ni'n ceisio cyrraedd cynifer o gymunedau ag y gallwn ni. Ond bydd gwerthusiad annibynnol, felly cawn wybod yn nes ymlaen yn y flwyddyn pa mor llwyddiannus yr ydym ni wedi bod.

17:30

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i wrth fy modd fy mod i wedi gallu ymweld ag un o sesiynau cynharach yr Haf o Hwyl yn ôl yn 2017 ym Mhenywaun yn fy etholaeth i. Gwnaeth y ffordd yr oedd y clwb cinio a hwyl ar y pryd yn cynnig budd i ddysgwyr, i'r staff gyda'r oriau ychwanegol y gallen nhw weithio, ac i'r gymuned leol, argraff fawr arnaf i. Rwyf i wedi mwynhau dilyn ehangiad y cynllun ers hynny. 

Fel y mae eich datganiad heddiw'n dangos, mae hon yn ffordd o gynnig cyfleoedd a phrofiadau pwysig i blant na fydden nhw fel arall o bosibl yn cymryd rhan yn y math hwnnw o weithgaredd—ac nid plant yn unig. Rwy'n croesawu'r prosiectau amrywiol y mae ColegauCymru wedi'u cynnal fel rhan o'r Gaeaf Llawn Lles, unwaith eto i ymgysylltu â phobl ifanc, cynnig profiadau newydd iddyn nhw ac ymdrin ag unrhyw unigedd a allai fod o ganlyniad i'r pandemig. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod teuluoedd sy'n ffoaduriaid a'u plant, a ffoaduriaid iau ar eu pen eu hunain a allai fod yn gymwys, yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn ac yn gallu manteisio arnyn nhw?

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells, am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw, a diolch am eich cefnogaeth i'r gweithgareddau a'r ffordd y maen nhw wedi tyfu. Rydym ni'n arbennig o awyddus i gynnwys plant sy'n ffoaduriaid mewn gweithgareddau chwarae, a dyna un o'r negeseuon yr ydym ni wedi'u hanfon at yr holl ddarparwyr sy'n darparu gweithgareddau yn ystod yr haf—yr hoffem ni iddyn nhw drefnu gweithgareddau sy'n hygyrch i blant sy'n ffoaduriaid—a hefyd i geisio rhoi cymaint o gyfleoedd ag y gallwn ni ledled Cymru.

O ran y plant o Wcráin a allai fod naill ai wedi'u lleoli mewn canolfannau croeso neu yn y gymuned, rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ystyried hynny'n benodol o ran ble y maen nhw'n lleoli eu gweithgareddau, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i'r bobl ifanc o Wcráin eu bod yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod yr haf, ac nid yw'n haf hir iddyn nhw heb ddim i'w wneud. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n cadw mewn cof yn arbennig o ran ble yr ydym ni'n rhoi'r gweithgareddau, ac mae wedi bod yn uchel iawn yn ein meddyliau.

Diolch, Llywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw. 

Mae lleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ni chwarae a chwrdd â'u ffrindiau mor bwysig. Mae clybiau a grwpiau ar hyd a lled Cymru sy'n darparu'r lleoedd hyn, rhai fel y Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc, sy'n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol, ac eraill yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol, fel Minis a Juniors Tylorstown, Pêl-rwyd Rhondda, Plant y Cymoedd, a Ffatri'r Celfyddydau yn fy etholaeth i. Gan wybod y gwahaniaeth y gwnaeth yr Haf o Hwyl i fywydau plant a phobl ifanc yn y Rhondda y llynedd, ni allwn i fod yn hapusach o glywed y datganiad heddiw, ac mae hi mor bwysig ein bod ni'n datblygu'r llwyddiant hwn. Fel un o ymddiriedolwyr elusen gofrestredig yr wyf i wedi'i chreu yn y Rhondda, rwy’n dal i ymddiddori'n fawr mewn prosiectau fel yr Haf o Hwyl. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'n hawdurdodau lleol a'n cydweithwyr yn y trydydd sector yn dilyn yr Haf o Hwyl y llynedd? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod ni'n cael y gorau o'r Haf o Hwyl eleni, o ystyried argyfwng costau byw'r Torïaid?

Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams, am y cwestiwn hwnnw. Rydym ni'n cael trafodaethau helaeth gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â ble y dylai'r gweithgareddau hyn gael eu cynnal, ar gyfer pwy y dylen nhw fod, a gallaf i eich sicrhau chi bod hynny'n digwydd rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac mae hynny yn sicr yn parhau. Felly, rydym ni'n ymwneud yn helaeth â'r awdurdodau lleol. 

O ran yr argyfwng costau byw yr ydym ni ynddo, wel, mae'n bwysicach fyth bod plant yn cael y cyfle i gael rhywfaint o hwyl a chael rhywfaint o fwyd wrth iddyn nhw gael rhywfaint o hwyl, oherwydd dyma un o'r ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r sefyllfa hynod anodd y mae teuluoedd ynddi. Felly, gallaf i sicrhau Buffy Williams y byddwn ni, wrth ddarparu popeth yr ydym ni'n ei chynnig, yn cofio mai i rai o'r plant hynny sy'n dod, dyma fydd eu hunig siawns o unrhyw beth sy'n ymddangos fel gwyliau, fel y soniodd Jenny Rathbone. Felly, rydym ni eisiau rhoi'r profiad gorau posibl iddyn nhw.

17:35
8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, a'r eitem hynny yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad yma. Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y datganiad hwn i nodi lansiad ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i geisio cefnogaeth y Senedd, oherwydd mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw neu'n ferch yn fater i bawb. Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis diwethaf cyhoeddais y strategaeth, ar ôl ymgynghori'n eang ar fersiwn ddrafft ac ymgysylltu'n helaeth ar ei chreu. Mae'r strategaeth hon yn gyfle i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector gymryd camau i fynd i'r afael â thrais gwrywaidd, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod yn uniongyrchol.

Bydd y strategaeth hon, sef yr ail strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—VAWDASV—yn cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd y weinyddiaeth hon yn 2026. Rhan greiddiol ohoni yw ymrwymiad i fynd i'r afael ag achos yn ogystal ag effaith, i ymestyn cwmpas ein gweithredoedd i'r cyhoedd yn ogystal â'r amgylchfyd preifat, ac i adeiladu ein partneriaeth o asiantaethau datganoledig ac asiantaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli ochr yn ochr â'r sector preifat a'r trydydd sector drwy greu strwythur llywodraethu glasbrint.

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac mae gennym ni hawl i fod yn falch o'n record: o'r awdurdodau cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei herio; o'r gwasanaethau arbenigol a'r partneriaid sy'n cynnig cymorth drwy wasanaethau sy'n ymatebol ac sy'n seiliedig ar werthoedd; a'r goroeswyr sydd wedi cynnig eu lleisiau a'u persbectif i helpu eraill drwy ddylanwadu ar sut y gallwn ni wella.

Ac eto, rydym ni wedi gweld enghreifftiau erchyll o fenywod wedi'u llofruddio gan ddynion ymosodol a threisgar. Mae menywod yn colli hyder yng ngallu'r system farnwrol i'w hamddiffyn rhag trais rhywiol, ac mae gennym ni ferched ifanc sydd wedi dweud wrth Estyn am eu profiad beunyddiol o aflonyddu rhywiol. Mae llawer i'w wneud eto. Rhaid inni ymateb drwy herio'r casineb at fenywod a'r gwrywdod gwenwynig sy'n fwrn ar ein cymdeithas ac yn darparu'r amgylchedd lle gall trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol barhau.

Mae dewis canolbwyntio ar drais gwrywaidd yn fwriadol. Rwy'n cydnabod y gall dynion ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol ond, hyd yn oed pan fo hyn yn wir, dynion yw mwyafrif y rhai sy'n cyflawni'r trais. Ac er bod arnom ni eisiau cefnogi'r holl oroeswyr a mynd i'r afael â phawb sy'n cyflawni trais, gallwn gael yr effaith fwyaf drwy fynd ati fel cymdeithas gyfan i herio'r casineb at fenywod sy'n arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Felly, mae uchelgais wrth wraidd y strategaeth hon. Ein huchelgais yw blaenoriaethu'r camau gweithredu a'r ymyriadau llwyddiannus mae arnom ni eisiau parhau â nhw, a diffinio blaenoriaethau a dulliau newydd o ehangu a chyflymu ein hymateb a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fel system gyfan. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ehangu cwmpas y strategaeth i gynnwys aflonyddu ar y stryd ac yn y gweithle. Mae hon felly'n strategaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, addysg a thai, a gwasanaethau arbenigol yn y trydydd sector, gan greu ymdeimlad cyfunol o ymdrech tuag at gyd-weledigaeth a bydd yn cyfrannu at ein nodau llesiant cyfunol, yn enwedig Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach. Mae hefyd yn strategaeth i fusnesau a chymdeithas ehangach newid arferion, ymddygiad a diwylliannau, a fydd wrth wraidd cyflawni ein huchelgeisiau.

Mae ein rhaglen lywodraethu hefyd yn nodi ein hamcan llesiant i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. Bydd y strategaeth hon a'r gwaith a fydd yn dilyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i hyn a'n gweledigaeth gyfunol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Rhaid inni herio arferion, agweddau a chredoau cymdeithasol gan mai'r rhain sy'n gyfrifol am barhad trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, am ei esgusodi a'i ddilysu. Efallai na fyddwn yn dod â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben yn ystod oes y strategaeth hon, ond drwy osod ein huchelgais mor uchel â hyn, mae'n ddigon posibl y byddwn yn cyflawni ein nod o danseilio'r amgylchedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd a dad-normaleiddio aflonyddu rhywiol a thrais a'r arferion sy'n ei alluogi ym mhob rhan o'n cymdeithas.

Bydd gwneud y strategaeth hon yn ddogfen fyw yn tynnu ar arweinyddiaeth ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r system; arweinyddiaeth gan wleidyddion ac arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaeth cyhoeddus, y gwasanaethau trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, byd busnes, goroeswyr a chymdeithas ddinesig ehangach. Dangosir yr arweinyddiaeth hon yn ein dull glasbrint amlasiantaethol, a oruchwylir gan y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd yr wyf yn ei gyd-gadeirio â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd ar 23 Mai a chytunwyd i gomisiynu gweithgorau i ddatblygu gwaith ar aflonyddu ar y stryd, aflonyddu yn y gweithle, comisiynu cynaliadwy, mynd i'r afael â throseddwyr, plant a phobl ifanc, a phobl hŷn. Yn hanfodol, yn cefnogi hyn i gyd bydd panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, a fydd yn sicrhau na wneir unrhyw benderfyniadau heb ddealltwriaeth glir o safbwynt y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol. Felly, bydd ein gweithredoedd yn cael eu cyd-gynhyrchu, fel y mae ein strategaeth, ac rwy'n cymeradwyo'r dull hwn a'n strategaeth i'r Senedd ac yn galw ar bawb i gefnogi ein huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

17:40

Gweinidog, ar ôl i chi gyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022-26 ar 24 Mai, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru eu bod yn

'cefnogi uchelgais y Llywodraeth ond mae angen tystio i sylwedd yn y camau gweithredu a'r atebolrwydd wrth gyflawni'r strategaeth hon sy'n cyd-fynd â hi, ochr yn ochr â sector a ariennir yn gynaliadwy sydd â'r gallu i'w chyflawni.'

Pa ddiweddariad allwch chi ei roi mewn ymateb i'w datganiad ein bod ni bellach yn aros am eglurder a manylion yn y glasbrint ynghylch sut y bydd gwir gydweithredu ac atebolrwydd ar draws y sectorau a chymdeithas yn gweithio? Mewn geiriau eraill, beth fyddwch chi yn ei wneud yn benodol i sefydlu a monitro hyn drwy'r strwythur llywodraethu glasbrint?

Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod yn rhaid i'r strategaeth hon

'fod yn sylfaen ar gyfer gwireddu model ariannu cynaliadwy yn llawn',

lle mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i chael

'yn tystio i'r anfanteision pellgyrhaeddol o gyllid tymor byr, ansicr i staff a goroeswyr fel ei gilydd'?

Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad eu bod yn

'siomedig o weld diffyg ymrwymiad ac egni yn cael ei roi i geisio ateb yng Nghymru i oroeswyr mudol nad oes ganddyn nhw fodd o gael arian cyhoeddus'?

Sut ydych chi'n ymateb i'w taerineb bod

'yr awydd a amlinellir yn y strategaeth i ddeall yn well y materion a'r rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau bach...yn trosi'n gamau gweithredu ystyrlon, cyllid, a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n seiliedig ar drawma o fewn y ddarpariaeth'?

Ac, er eu bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganoli lleisiau goroeswyr, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod

'sicrhau na chaiff y lleisiau hyn eu hynysu, neu fod arbenigedd yn cael ei danbrisio, yn hanfodol'?

Mae eich strategaeth yn cyfeirio at Ddeddf Cam-drin Domestig y DU 2021 ac at greu swydd y comisiynydd cam-drin domestig, ac yn datgan, er nad oes gan y comisiynydd awdurdodaeth dros faterion datganoledig, y bydd awdurdodau cyhoeddus Cymru yn cydweithio â'r comisiynydd i hyrwyddo'r agenda ar y cyd i sbarduno gwelliant. Sut fyddwch chi'n sicrhau ac yn monitro hyn?

Wrth holi'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, cyfeiriais at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi trechu fy ngwelliannau i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2014, gan alw ar i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen i gyflawnwyr troseddau, gan nodi mai Dewis i Newid Cymru oedd yr unig raglen gyfredol a achredwyd gan Respect yng Nghymru bryd hynny. Er nad oedd y Gweinidog ar y pryd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni cyflawnwyr troseddau, ymrwymodd Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr troseddau cyn eu carcharu

Ar ôl imi ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach beth mae ei Lywodraeth wedi ei wneud ynglŷn â hyn, saith mlynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, cyfeiriodd at y trydydd o'r chwe amcan yn y strategaeth genedlaethol pum mlynedd newydd. Mae'r strategaeth yn nodi mai'r drydedd flaenoriaeth y bydd yr is-grwpiau a grëwyd gan y bwrdd partneriaeth cenedlaethol dan arweiniad y Gweinidog yn mynd i'r afael â hi i ddechrau yw mynd i'r afael â chyflawni, a'ch bod yn bwriadu adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn drwy roi ragor o bwyslais ar y cyd ar yr unigolion hyn. Felly, a wnewch chi fanylu os gwelwch yn dda ynghylch faint o waith sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn yn y chwe blynedd ers i'r Prif Weinidog blaenorol ddweud wrthyf fod y rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu gan grŵp cynghori'r Gweinidog, ac, wrth gwrs, gan y strategaeth.

Mae eich strategaeth yn datgan y byddwch yn mabwysiadu'r dull hwn o weithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol, drwy blismona, carchardai a'r gwasanaeth prawf. Felly, pa gamau cysylltiedig y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o'r blaen o fewn y system cyfiawnder troseddol, a sut y byddwch yn ymgysylltu, er enghraifft, â rhaglen cyflawnwyr troseddau cam-drin domestig Heddlu Gogledd Cymru, ADAPT? At hynny, sut y bydd eich gweithredoedd yn diwallu'r angen am raglenni ledled Cymru ar gyfer cyflawnwyr troseddau cyn eu carcharu?

Yn ystod hynt y Ddeddf, gweithiodd y tair gwrthblaid gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod wrth ddatblygu addysg perthnasoedd iach o fewn y cwricwlwm, i'w dilyn gan bob ysgol. Roedd pob un ohonom ni wedi ymweld ag ysgolion gyda phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru i addysgu disgyblion a hyfforddi athrawon am berthnasoedd iach. Gan fod addysg perthnasoedd iach bellach yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion, sut fyddwch chi'n sicrhau bod y dull rhyngweithiol a ddefnyddir gan y prosiect Sbectrwm yn cael ei flaenoriaethu dros ddull 'athrawon yn dweud' na fydd yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf?

Yn olaf, yn eich datganiad rydych yn cydnabod y gall dynion ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond rydych chi'n ychwanegu, hyd yn oed pan fo hyn yn wir, fod y rhan fwyaf sy'n cyflawni troseddau o'r fath yn ddynion. Ac wrth gwrs, mae hynny'n wir. Ond mae ffigyrau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod traean o ddioddefwyr cam-drin domestig yn ddynion ac, yn hollbwysig, yn fechgyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru felly sicrhau y gall y dioddefwyr a'r goroeswyr hyn gael gafael ar gymorth arbenigol wedi'i deilwra mewn man diogel yn eu hardaloedd eu hunain, ac os felly, sut?

17:45

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n croesawu ymrwymiad ac ymgysylltiad Cymorth i Fenywod Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at eu hymateb pan gyhoeddais y strategaeth ym mis Mai. Maen nhw, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Maen nhw wedi helpu i gyd-gynhyrchu'r strategaeth ac, yn wir, maen nhw'n gwasanaethu ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd. Mae'r bartneriaeth genedlaethol newydd yn ffordd newydd o fwrw ymlaen â hyn. Dyma'r hyn yr ydym yn ei alw'n lasbrint. Mae'n dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig a chyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, yn y ffordd yr ydym ni wedi bod yn bwrw ymlaen â'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid. Felly, mae'n cryfhau'r bartneriaeth honno rhwng cyrff datganoledig a heb eu datganoli, rhwng cyrff cyhoeddus, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, sy'n cyd-gadeirio, a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn. Mae'n strwythur ar gyfer cyflawni sy'n dwyn ynghyd yr holl sefydliadau hynny. Mae'n sicrhau cydberchnogaeth ac ymrwymiad ar y cyd ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd ac ar gyfer atebolrwydd. Yn amlwg, mae Cymorth i Fenywod Cymru, fel aelodau o'r bwrdd hwnnw, wedi gweithio ochr yn ochr â sefydliadau arbenigol eraill, ac yn hollbwysig o ran menywod mudol a goroeswyr, wrth gwrs, mae BAWSO. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r rheini, yn enwedig gan fod gennym y bwrdd partneriaeth cenedlaethol i fwrw ymlaen â hynny.

Rwy'n falch iawn fy mod i, ddoe, wedi gallu rhoi tystiolaeth ochr yn ochr â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac, yn wir, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, i ymateb i'w hymchwiliad hollbwysig i anghenion goroeswyr mudol, ac i allu ymateb i lawer o'r cwestiynau a holwyd, yn enwedig ynghylch sut mae arnom ni eisiau cefnogi'r rheini nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac sydd angen cymorth. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym ni grŵp llywio sydd wedi'i sefydlu i edrych ar hyn. Rydym ni hefyd yn edrych ar ein pwerau cyfreithiol mewn cysylltiad â sut y gallwn ni ddarparu cymorth ariannol i helpu pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Mae gennym ni grŵp llywio sy'n cael ei arwain gan gynghorwyr cenedlaethol y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi'r goroeswyr hynny. Bu inni eu cefnogi nhw drwy'r pandemig oherwydd ei bod yn hanfodol i iechyd y cyhoedd ein bod yn eu cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniadau'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sy'n hanfodol bwysig.

Byddwn yn dweud fy mod yn gobeithio y byddech, fel y gwneuthum ddoe, yn lleisio fy mhryder bod Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn ceisio dweud y gallant gymeradwyo CEDAW, confensiwn Istanbul, sy'n ceisio dileu trais yn erbyn menywod, drwy eithrio menywod mudol. Wel, allwch chi ddim gwneud hynny. Rhaid cynnwys menywod mudol. Gobeithio y byddech hefyd yn ein cefnogi, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn gwneud y pwyntiau hynny. Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna, ac ymdriniaf â chymaint ag y gallaf.

Rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â llais y goroeswr yn bwysig iawn ac yn allweddol i fy ymateb eisoes. Rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, ac mae'n rhaid i hwnnw fod yn grŵp amrywiol o oroeswyr, sy'n cwmpasu holl sbectrwm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hwnnw hefyd yn cael ei gadeirio gan y cynghorydd cenedlaethol, ac mae hefyd yn tynnu o'n grwpiau goroeswr sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Mae hynny'n hollbwysig.

Ymatebodd y Prif Weinidog i'r mater a'r cwestiynau a godwyd gennych am yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran y rhai sy'n cyflawni'r troseddau. Tynnodd sylw, a hynny'n briodol, at amcanion y strategaeth: cynyddu'r pwyslais ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif, ond hefyd cefnogi'r rhai sydd am newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu. Dyna'r amcan: cefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn sarhaus neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad. Felly, rydym ni'n adeiladu ar raglenni sy'n bodoli eisoes, ac mae'n amlwg bod hyn yn rhywbeth pryd y mae'n rhaid inni sicrhau y caiff pawb sy'n cyflawni troseddau eu dwyn i gyfrif, ond gan gydnabod bod hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r deinameg pŵer a rheoli a grëir gan anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf wedi rhoi croeso brwd i'r ffaith ein bod wedi cael llawer o'n cydweithwyr gwrywaidd ar draws y Siambr hon yn dweud bod hyn yn ymwneud â dyfodol eu plant, eu meibion, yn ogystal â'u merched wrth gwrs, o ran y risgiau parhaus o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru—bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi, eu bod yn teimlo y gallant roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Rydych chi wedi sôn am raglen Hafan, sy'n hollbwysig. Mae wedi gwneud cymaint o waith da. Rwy'n croesawu gwaith Estyn o ran eu hymateb. Gofynnwyd iddyn nhw, wrth gwrs, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, i adolygu'r diwylliant a'r prosesau mewn ysgolion uwchradd ar ôl gwefan Gwahodd Pawb, ac maen nhw'n mynd i ymweld ag ysgolion drwy gydol yr hydref. Byddwn yn aros am y casgliadau a amlinellir yn eu hadolygiad. Ac, wrth gwrs, yn hollbwysig—ac mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen—bydd addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn rhan statudol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae'n bwysig inni gydnabod y ffaith, o ran dynion, fod dioddefwyr gwrywaidd, ond wyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y caiff troseddau eu cyflawni yn bennaf ond nid yn gyfan gwbl gan ddynion yn erbyn menywod, a bod yn rhaid inni gydnabod hynny wedyn. Rwyf wedi siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran y rhai sy'n cyflawni'r troseddau a'u dwyn i gyfrif, ond hefyd yn mynd i'r afael â'r ffyrdd y gallwn ni gefnogi drwy raglenni, eu hymwybyddiaeth ac iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb i newid. O ran cefnogi neu gydnabod dioddefwyr gwrywaidd, y llynedd darparwyd cyllid o £16,000 gennym i hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr gwrywaidd yn eu gwaith beunyddiol—felly, tai, addysg a gofal cymdeithasol yw hynny—fel y gallant adnabod a deall yr arwyddion a ddangosir gan ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig. Rydym yn parhau i gefnogi prosiect Dyn Cymru Ddiogelach. Mae'r prosiect Dyn yn gweithio i wella diogelwch a chynyddu llesiant drwy ddull cydweithredol. Rydym yn darparu £75,000 i'r prosiect hwnnw. Ond, wyddoch chi, mae'n mynd yn ôl at sut, bob tri diwrnod, ceir un farwolaeth oherwydd trais domestig dan law dynion, a phob dydd gwelwn y pandemig erchyll hwnnw, fel y'i disgrifiwyd, yn parhau.

Gobeithio y byddwch yn cefnogi cam nesaf ein strategaeth wrth inni fynd i'r afael â'r achosion, yr angen cymdeithasol i ymateb i hyn, a hefyd i gefnogi'r dull glasbrint hwn, lle y gwnawn y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fyw yn Ewrop.

17:55

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae hi ychydig dros flwyddyn bellach ers i fi ymgymryd a'm rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, ac fel y gwyddoch, rwy hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwy wedi clywed ac wedi datgan sawl tro erbyn hyn yr ystadegau moel, pryderus sy'n adrodd y profiadau erchyll, y troseddau ofnadwy a'r agweddau llawn casineb a rhagfarn sy'n golygu bod gormod o bobl yng Nghymru yn dal i ddioddef trais domestig, trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Mae dros 50 o fenywod wedi colli eu bywydau ers i'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol gael ei chyflwyno gyntaf gan y Llywodraeth, a degau o filoedd wedi dod yn oroeswyr trais a chamdriniaeth. Does dim modd, felly, gorbwysleisio pwysigrwydd y strategaeth hon na phwysigrwydd ei gweithrediad effeithiol o ran diogelwch menywod.

Mae bywydau yn cael eu colli a'u dinistrio. Dim ond yr wythnos yma, fe glywsom am lofruddiaeth Zara Aleena yn nwyrain Llundain yn dilyn ymosodiad ffiaidd. Mae enghreifftiau cyson o ddynion ar bob lefel yn ein cymdeithas yn camddefnyddio ac yn manteisio ar eu braint a'u grym patriarchaidd o fewn cymdeithas i boenydio, tanseilio, rheoli, bygwth, ac mewn rhai achosion ymosod yn gorfforol ar fenywod. Rhaid i ni fynnu ar agwedd o ddim goddefgarwch, yn ein gweithleoedd a'n sefydliadau, ym myd addysg ac ym myd gwleidyddiaeth, er mwyn sicrhau'r newid cymdeithasol gwaelodol sydd dirfawr ei angen. Rwy'n falch bod y strategaeth, felly, yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn fater i gymdeithas gyfan a bod angen cymryd y cyfrifoldeb oddi ar fenywod i newid eu hymddygiad a'r onws yn cael ei rhoi ar y rheini sy'n arddangos agweddau tocsig, misoginistaidd a pheryglus.

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda fi am byth am brofiad goroeswyr o'r cymunedau mudol. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn datgan nifer o weithiau drwy gydol y strategaeth newydd eu bod am wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, ond sut ydych chi'n gobeithio cyflawni hyn pan fydd llawer o oroeswyr o gymunedau mudol heb fynediad at unrhyw arian cyhoeddus ac felly yn dal i fethu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw—beth mae 'diogelwch' yn ei olygu ar eu cyfer nhw? A fyddai'r Llywodraeth yn ystyried sefydlu cronfa argyfwng a fyddai ar gael at ddefnydd y sectorau cefnogi arbenigol yn yr achosion yma, fel sy'n digwydd yn yr Alban?

Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor rŷch chi wedi cyfeirio ato fe, mae BAWSO a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er gwaethaf ymateb i’r ymgynghoriad, nad yw anghenion menywod mudol wedi’u hadlewyrchu’n ddigonol yn y strategaeth derfynol, ac mae Cymorth i Ferched Cymru, fel y clywon ni gan Mark Isherwood, hefyd wedi mynegi eu siom wrth weld diffyg ymrwymiad ac egni yn y strategaeth o ran canfod datrysiad Cymreig ar gyfer goroeswyr mudol sydd heb fynediad at gyllid cyhoeddus. A wnewch chi egluro pam bod adran benodol ar fenywod a phlant mudol, sydd mor fregus a gymaint angen ein cymorth a’n cefnogaeth, ar goll o’r strategaeth?

Tra ei bod yn fwy cynhwysfawr o ran ei hymdriniaeth o blant a phobl ifanc, mae’r strategaeth newydd yn methu â chreu dyletswydd benodol i amddiffyn plant a phobl ifanc mewn achosion o VAWDASV. Mae elusennau plant, fel Barnardos a’r NSPCC, wedi mynegi siom at hyn. Mae profi VAWDASV yn eich cartref fel plentyn neu berson ifanc yn brofiad trawmatig iawn gydag effeithiau hirhoedlog a niweidiol yn aml, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc cael eu cynnal a’u llesiant yn cael ei flaenoriaethu. A allai’r Gweinidog, felly, gyflwyno dyletswydd o’r fath, i sicrhau bod holl ddioddefwyr VAWDASV yn cael eu hamddiffyn yn briodol?

Yn olaf, Weinidog, ym mis Ionawr, fe ddaeth Plaid Cymru â dadl i’r Siambr yn dilyn cynnydd pryderus a brawychus yn y nifer o achosion o stelcio. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran atal stelcio, o ran annog menywod i adrodd am stelcio, a sut fydd y strategaeth yma yn amddiffyn y rhai sy’n dioddef stelcio yn well? Diolch.

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu fy mod wedi mynegi eich holl werthoedd, egwyddorion ac amcanion yn fy natganiad, a pham mae'r datganiad hwn yn gydnabyddiaeth llawer llymach a chryfach o'r gwrywdod gwenwynig a'r casineb at fenywod sy'n sail i gam-drin pŵer ymysg dynion. Am flynyddoedd lawer, ac roeddwn yn rhan ohono ddegawdau'n ôl, sefydlwyd lloches Cymorth i Fenywod gennym i ymateb i hynny, ac mae gennym ni wasanaethau arbenigol gwych, megis Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a llawer o rai eraill, sy'n ymateb i hynny, ddydd a nos, bod dydd o'r wythnos, ond allwn ni ddim parhau i ddarparu'r gwasanaethau a phrofi'r ffordd yr ydym yn gwneud hynny, y mae'n rhaid i ni eu cael o ran comisiynau a chefnogi ac ati, a chyllid, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r achos. Mae hyn yn newid sylweddol go iawn. Ac mae'n rhaid iddo gynnwys asiantaethau cyfiawnder troseddol. Dyna pam mae cyd-gadeirio gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu yn hanfodol. Ond dyna hefyd pam yr ydym ni wedi cael y gwasanaethau arbenigol hynny fel BAWSO a Chymorth i Fenywod Cymru yn eistedd ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol, ochr yn ochr â'r GIG, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol, sydd hefyd yn gorfod gwneud eu rhan, gyda'r heddlu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llywodraeth leol. Bydd yn ddull arwain.

Rwy'n aros am yr ymchwiliad pwysig sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac roeddem wedi gobeithio y gallem roi rhywfaint o sicrwydd ichi ddoe ein bod yn edrych ar bob ffordd y gallwn fynd i'r afael â materion menywod mudol. Roeddwn yn falch iawn o ymateb i adroddiad SEREDA a wnaed, a oedd mewn gwirionedd yn olrhain profiadau menywod mudol sydd wedi gadael gwrthdaro a sefyllfaoedd erchyll y maen nhw wedi ffoi rhagddyn nhw. Mewn gwirionedd, mae eu teithiau i ddianc hyd yn oed yn aml—. Mae eu profiad o drais yn eu herbyn yn bygwth pob un ohonyn nhw wrth deithio i ddod atom ni, i genedl noddfa. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod rhywfaint o'r gwaith, y cyfweliadau a gynhaliwyd, wedi gweld, mewn gwirionedd, hyd yn oed pan fyddant yn cyrraedd yma, y gallent deimlo mewn perygl. Rhaid inni hefyd ystyried y cynllun gweithredu gwrth-hiliol yma, oherwydd gwyddom fod yn rhaid inni edrych ar hyn o ran anghenion a materion croestoriadol pobl wrth iddyn nhw ddod, wrth iddyn nhw ddianc rhag gwrthdaro, ac yna rhaid inni sicrhau bod ganddyn nhw le diogel yma yng Nghymru.

Felly, ydym, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu cronfa. Rhaid inni edrych arno o ran ein pwerau, unwaith eto. Rydym ni wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar hyn, a byddwn yn cael cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac mewn egwyddor gallaf ddweud ei bod yn ddilys i Weinidogion Cymru ddefnyddio cymorth ariannol i helpu pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Felly, rydym ni bellach yn gweithio gyda gwasanaethau cyfreithiol, felly dyma'r gwaith sy'n berthnasol iawn i'r ymchwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Cawn yr union gyngor i ni fel Gweinidogion o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Mae'n amlwg bod yn rhaid inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd o ran yr holl gymorth arall yr ydym yn ei roi o ran cyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a chynyddu'r cyllid, yr ydym wedi'i wneud eleni ar gyfer ein gwasanaethau arbenigol, ond mewn gwirionedd edrych ar hyn o'r rheng flaen yn y ffordd yr oeddem yn cefnogi, yn ystod y pandemig, menywod, menywod mudol yn arbennig, oherwydd y pandemig, gan ddefnyddio ein pwerau iechyd cyhoeddus. Ac mae hynny'n dal i fynd rhagddo, ond y pwysau hefyd o ran y math hwnnw o gymorth y mae'n rhaid i ni ei asesu.

Dywedaf fod y strategaeth ei hun yn ddogfen fyw ac rydym yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad. Ond rydym yn edrych ar bob maes gwaith. Mae gennym ni ffrwd waith ar blant a phobl ifanc, a chawsom lawer o drafodaethau a ddylai fod yn pontio'r cenedlaethau, plant a phobl ifanc a phobl hŷn, a chytunwyd—a chredaf fod Mike Hedges yn falch iawn pan euthum i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn—ac fe ddwedom ni fod angen ffrwd waith ar bobl hŷn, ac mae angen ffrwd waith ar blant a phobl ifanc hefyd. A gallaf ragweld yn llwyr y bydd arnom angen ffrwd waith ar gyfer menywod mudol. Felly, gobeithiaf y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ichi y bydd hyn—ac, unwaith eto, aros am ganlyniad yr ymchwiliad—yn helpu i'n hysbysu ni wrth inni symud ymlaen gyda'r strategaeth hon.

18:00

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog, ac fe hoffwn i ddiolch ichi eto am ddod i lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi'. Roedd yn adroddiad a gomisiynwyd gennyf i gyda Chymorth i Fenywod Cymru ar ddarparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n profi cam-drin gartref. Dywedais yn gynharach a dywedaf eto fod un o bob pump o blant yn dyst i gamdriniaeth gartref, ac mae angen dybryd am gymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer, ac rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod hynny.

Canfu'r ymchwil bocedi o arfer da iawn yng Nghymru, a chanfuwyd awydd cryf gan ddarparwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymorth hwnnw, ond roedd bylchau hefyd wedi'u canfod ac roedd cyfleoedd i gryfhau'r ddarpariaeth wedi'u colli. Felly, a gaf i ofyn sut y mae'r strategaeth newydd yn ymateb yn benodol i anghenion pobl ifanc, a sut y gallai wella mynediad at gymorth arbenigol ar gam-drin domestig i blant ledled Cymru, gan ddarparu'r cymorth hwnnw pan fydd ei angen arnyn nhw a ble y mae ei angen arnyn nhw?

18:05

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o allu siarad yn lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi' ddydd Llun? Rhoddais fy ymrwymiad y byddwn yn dychwelyd â'r argymhellion—rwy'n credu i'r Prif Weinidog wneud hynny hefyd—i fyfyrio arnyn nhw. Yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw bod eich adroddiad wedi tynnu sylw at y dystiolaeth nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn; mae'n rhywbeth ar gyfer pob awdurdod lleol. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith bod gan rai awdurdodau lleol bwyllgorau craffu plant a phobl ifanc ac nad oes gan rai eraill y rheini, a pha mor bwysig yw pwyllgorau craffu plant a phobl ifanc.

Ac mae gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddiddordeb yn hyn ac, yn wir, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, oherwydd rwy'n gwybod, o ran ein hawdurdodau lleol, fod hyn i raddau helaeth o ran pob agwedd ar y strategaeth, 'Busnes Pawb'. Mae a wnelo hyn â Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, o addysg i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ac fe wnaethom ni eistedd gyda'n gilydd ddoe—a dyna syniad da i wahodd tri Gweinidog i roi tystiolaeth ddoe. Felly, gallaf eich sicrhau y byddwn yn ystyried yr holl argymhellion—yr arferion da ac, roeddwn yn credu, y cafwyd rhai sylwadau calonogol ynghylch sut y mae comisiynu cynaliadwy yn symud ymlaen ar sail ranbarthol, a all hefyd helpu i sicrhau bod gennym ni fwy o gysondeb ledled Cymru. Mae gennym ni ganllawiau statudol ar gomisiynu o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth, ond mae gennym ni hefyd y ffrwd waith honno ar blant a phobl ifanc ar gyfer y grŵp strategaeth, a byddant yn edrych ar eich adroddiad.

Diolch yn fawr am fy ngalw i. Clywsom lawer o enghreifftiau o arfer da rhagorol ymhlith cyrff cyhoeddus—amrywiaeth ohonyn nhw—o ran cymryd o ddifrif y ffyrdd yr oedd angen iddyn nhw atgyfeirio pobl a oedd yn oroeswyr trais fel mudwyr heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus. Byddwn yn trafod hynny ddiwrnod arall.

Ond roedd hefyd yn ddefnyddiol clywed tystion o sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector yn mynnu gweithredu i fynd i'r afael â'r casineb at fenywod a'r gwrywdod gwenwynig hwn gan y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hynny'n rhywbeth na wnaethom ni ymdrin ag ef yn yr ymchwiliad hwn. Felly, mae'n dda iawn gweld bod lle amlwg i atal yn eich datganiad ac yn eich strategaeth ddiwygiedig. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni fynd i'r mannau lle mae dynion a menywod—ac yn enwedig dynion—felly, mae hyn yn rhywbeth, er enghraifft, gall ein heglwysi, ein mosgiau, ein temlau a'n synagogau helpu ag ef, ynghyd â'n holl glybiau chwaraeon, y mae llawer iawn ohonyn nhw yng Nghymru, a sefydliadau eraill lle mae gan gyflogwyr, yn amlwg, yn y gwaith, ran bwysig iawn. Felly, dim ond meddwl oeddwn i tybed a allech chi ymhelaethu ychydig ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r agenda atal, sydd gymaint yn fwy cost-effeithiol nag ymdrin â'r broblem wedyn.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod hyn yn symud ymlaen yn rhannol, yn ogystal â'r hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud, i'n hymgyrchoedd a'n cyfathrebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn herio agweddau cymdeithasol i atal trais yn erbyn menywod, dynion a phlant rhag digwydd yn y lle cyntaf. Felly, yr ymgyrch Byw Heb Ofn—mae hynny'n parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcian, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n rhaid i hyn dreiddio i bob agwedd ar fywyd. Hefyd, wnes i ddim ymateb i'r cwestiwn am stelcian mewn gwirionedd. Mae'r ffaith bod menywod yn symud i'r amgylchfyd cyhoeddus—. Byddaf bob amser yn cofio y llynedd neu pan oeddem yn trafod llacio'r cyfyngiadau symud, ac fe wawriodd arnom nad oedd menywod yn ddiogel; nid oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn rhedeg ar eu pennau eu hunain, ac mae mor bwysig iddyn nhw wneud yr ymarfer hwnnw. Dylai menywod fod yn ddiogel wrth redeg y tu allan mewn mannau cyhoeddus, i gerdded drwy fan cyhoeddus, dylen nhw fod yn ddiogel yn y nos. Ac mae stelcian yn drosedd wrthun. Cefais gyfarfod â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu ynglŷn â stelcian a sut ydym ni'n codi mwy o ymwybyddiaeth o hyn. Ac, mewn gwirionedd, mae'r ymgyrch Byw Heb Ofn yn ymestyn i edrych ar yr holl amgylchfyd cyhoeddus o ran mynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae'n mynd i effeithio ar bob agwedd ar fywyd, oherwydd rydym yn ymestyn o'r cartref i'r amgylchfyd cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys nid yn unig y man cyhoeddus, y stryd, trafnidiaeth, ond hefyd y gweithle, gan weithio'n agos iawn gyda'n hundebau llafur, y bu ganddyn nhw ran flaenllaw o ran mynd i'r afael â hyn yn y gweithle.

18:10

Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn annerbyniol, ac mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni ein chwe nod allweddol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Roeddwn yn arswydo o weld nifer yr achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Rhondda o'i gymharu â gweddill y wlad. Mae hon yn broblem wirioneddol yn fy etholaeth i ac yn un y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys. Mae gennym ni fentrau fel Drive yn rhedeg o rai o'n grwpiau ac elusennau trydydd sector, ond mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth, i wella'r gefnogaeth ac i atal trais yn erbyn menywod. Byddwn yn cynnal trafodaeth ford gron yn y Rhondda gyda'r nodau hyn mewn golwg. A wnaiff y Gweinidog gymryd rhan yn ystod y drafodaeth ford gron ac archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ein cefnogi i gyflawni ein nodau?

Wel, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams, a byddai'n wych pe bai pob Aelod o'r Senedd yn gofyn yr un math o beth i mi, oherwydd rwy'n credu bod arnom ni angen y sgyrsiau bord gron fesul sir, cymuned-wrth-gymuned hynny i fynd i'r afael â'r materion hyn. A diolch i chi hefyd am dynnu sylw at Drive, sydd wedi bod yn effeithiol—yn wirioneddol effeithiol. Hefyd, nid ydym wedi trafod rhannau allweddol yr ydym ni eisoes wedi bod yn eu cyflawni o ran y cynllun hyfforddi cenedlaethol, gan estyn allan at ein gweithwyr proffesiynol—mae bron i hanner miliwn o bobl wedi cymryd rhan yn ein rhaglen e-ddysgu mewn gwirionedd. Ond byddaf yn sicr yn edrych ymlaen at ymuno â'ch bord gron. Mae hyn yn hanfodol. Rydym yn sôn am atal. Mae'r heddlu wedi sefydlu uned atal uwch, ac mae mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol bellach yn un o'u prif amcanion. Ac a gaf i ddweud o'r diwedd, gadewch inni gofio, yn ein rhaglen lywodraethu, fod ymrwymiad i ehangu'r ymgyrch hyfforddi ac ymwybyddiaeth 'Paid Cadw'n Dawel'? Dyna'r alwad heddiw, onid e? Paid Cadw'n Dawel. Rhaid inni sefyll gyda'n gilydd ar hyn.

9. Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022

Felly, yr eitem nesaf fydd eitem 9, ar y Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022. Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig o'r rheoliadau yma—Jeremy Miles.

Cynnig NDM8035 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022, yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n symud y cynnig. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd ym mis Mawrth y llynedd, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig i gefnogi gweithredu trefniadau o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r rheoliadau sydd o'ch blaen chi heddiw yn ceisio gwneud mân ddiwygiadau technegol i amrywiaeth o ddeddfwriaeth sylfaenol, sy'n ofynnol o ganlyniad i gychwyn Deddf 2021. Maent yn rhan o becyn ehangach o is-ddeddfwriaeth a ddatblygwyd i roi effaith lawn i'r Ddeddf a darparu eglurder a chysondeb ar draws deddfwriaeth sylfaenol lle mae'r Ddeddf yn effeithio arni.

Mae'r diwygiadau'n cynnwys newidiadau i Ddeddf Addysg 1997 i sicrhau y darperir addysg a gwybodaeth gyrfaoedd i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol ar draws ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a sefydliadau addysg bellach. Mae gyrfaoedd a phrofiad sy'n gysylltiedig â gwaith yn thema drawsbynciol sy'n rhedeg drwy fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau'r ddarpariaeth hon, gan sicrhau cysondeb, cyn belled ag y bo modd, wrth ddarparu dysgu sy'n briodol yn ddatblygiadol. Mae'r rheoliadau'n disodli'r derminoleg sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm cenedlaethol presennol, gyda therminoleg yn cyd-fynd â Deddf 2021. Y bwriad yw cyflwyno'r newidiadau fesul cam yn unol â'r broses barhaus o weithredu Deddf 2021 ar draws grwpiau blwyddyn. Mae'r rheoliadau hyn, er eu bod yn gymharol fân eu natur, yn angenrheidiol er mwyn sicrhau dull cyson o drin a therminoleg drwy gydol deddfwriaeth sylfaenol, ac, fel y cyfryw, fe'u cymeradwyaf i'r Aelodau.

18:15

Does gyda fi ddim siaradwyr ar y cynnig yma, ac felly dwi'n cymryd bod y Gweinidog ddim eisiau ymateb iddo fe ei hunan. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim gwrthwynebiad, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Yr eitem olaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg unwaith eto i wneud y cynnig yma. Jeremy Miles.

Cynnig NDM8045 Jeremy Miles

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r holl randdeiliaid a wnaeth gyfrannu i'r gwahanol ymgynghoriadau a lywiodd y Bil, yn cyfrannu tystiolaeth i'r broses graffu ac sy'n parhau i ymgysylltu drwy'r bwrdd strategaeth a gweithredu.

Mae'r Bil sydd ger ein bron heddiw wedi'i gryfhau o ganlyniad i sylwadau gan randdeiliaid, craffu'r Senedd a gweithio trawsbleidiol effeithiol. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo ei fod yn cynrychioli ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol addysg drydyddol. Fe wnaeth yr argymhellion a'r sylwadau gan bwyllgorau, yn enwedig y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan arweiniad Jayne Bryant, fy helpu i adnabod meysydd lle gellid mireinio'r Bil ymhellach, gan gynnwys mewn cysylltiad â materion fel lles dysgwyr, swyddogaeth y Coleg Cymraeg a chryfhau cydweithio rhwng undebau llafur.

Diolch yn fawr i bawb a wnaeth weithio gyda ni mewn ysbryd o bartneriaeth i ddelifro'r Bil pwysig hwn.

Mae'r Bil hwn, am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, yn dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau ac ymchwil ac arloesi mewn un lle, ac yn gosod y gwerthoedd a'r weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer addysg ôl-16 ar sail statudol gadarn. Er mai un o brif effeithiau'r Bil yw creu stiward cenedlaethol cyntaf erioed Cymru ar gyfer y sector ymchwil trydyddol cyfan a chau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae'r canlyniad yr ydym yn ei geisio, drwy lunio strwythur a system newydd, yn cael ei gefnogi'n well gan ddysgwyr sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer datblygiad, llwyddiant a dysgu gydol oes. Dim ond drwy fabwysiadu dull gweithredu system gyfan, sector cyfan a chenedl gyfan y byddwn yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, yn ehangu cyfleoedd ac yn codi safonau. Bydd y diwygiadau a gyflwynir gan y Bil hwn yn helpu i chwalu rhwystrau, yn sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr ac yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesi.

Bydd y dyletswyddau strategol newydd sy'n nodi yn y gyfraith ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru yn llywio'r comisiwn newydd a'r sector. Bydd y dyletswyddau hyn yn helpu i ymgorffori ymrwymiad o'r newydd i ddysgu gydol oes fel bod Cymru'n dod yn genedl o ail gyfle lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu; pwyslais ar gyfranogiad ehangach a chyfle cyfartal; ehangu'r ddarpariaeth addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg; sector sydd â rhagolygon byd-eang gyda chenhadaeth ddinesig glir ac sy'n cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol, gwir welliant parhaus; sector ymchwil ac arloesi cystadleuol a chydweithredol ac un sy'n adlewyrchu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol. Ynghyd â'n datganiad o flaenoriaethau, mae'r dyletswyddau strategol hyn yn darparu'r fframwaith cynllunio strategol hirdymor y mae angen i'r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.

Mae gan bawb yr hawl i brofiad addysg hapus, ac fe hoffwn i Gymru gael enw da yn y DU ac yn rhyngwladol am roi dysgwyr a'u llesiant wrth wraidd ein system addysg. Drwy'r Bil hwn, rydym yn canolbwyntio ar lwyddiant a llesiant dysgwyr o bob oed ar draws pob lleoliad ac ym mhob cymuned. Mae dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau hyn, a bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael yr wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo.

Llywydd, rwyf o'r farn mai'r Bil hwn yw'r Bil parch cydradd, gan gefnogi cryfderau gwahanol ond cydategol pob sefydliad fel bod dysgwyr o bob oed yn gallu manteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd a'u bod yn gallu cyfrannu'n economaidd, yn academaidd ac at ein cymunedau. Mae llawer yn y Siambr hon ac ar draws y wlad wedi dychmygu dyfodol ers tro byd pryd yr ydym yn chwalu'r rhwystrau rhwng sectorau, sefydliadau a myfyrwyr. Drwy bleidleisio dros y Bil hwn heddiw, nid ydym ni bellach yn dychmygu'r dyfodol hwnnw, rydym yn ei lunio—

18:20

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Gweinidog. Yr wythnos diwethaf, ymyrrais ynghylch y darpariaethau o ran sefydliadau addysg uwch a'r darpariaethau a allai orfodi cyfuno'r sefydliadau hynny â'r darpariaethau sydd yn y Bil. A wnewch chi roi sicrwydd mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai'r darpariaethau hynny'n cael eu deddfu gan y Gweinidog, a bod y sefydliadau addysg uwch hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru yn gyrff annibynnol ac y dylen nhw barhau i fwynhau'r annibyniaeth honno, ac nad yw darpariaethau yn y Bil hwn yn fodd dirgel i orfodi cyfuno'r sector prifysgolion?

Wel, bydd yr Aelod yn cofio'r sicrwydd a roddais i'r Siambr yng Nghyfnod 3. Mae'r Bil, fel y gŵyr, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymreolaeth sefydliadol, a rhoddais yr ymrwymiad bryd hynny, yr wyf yn fodlon ei ailadrodd, mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellid defnyddio'r pwerau hynny.

Fel y dywedais o'r blaen, Llywydd, mae'n hen bryd gwneud y newid hwn, a bwriadaf gynnal momentwm a chynnydd o ran gweithredu'r Bil hwn gan barhau i gydweithio i gyflawni ar gyfer dysgwyr a chymunedau ledled Cymru. Rydym ar drothwy cyfnod newydd ar gyfer addysg ôl-16, yn barod i fanteisio ar gyfleoedd y ganrif hon er budd ein dysgwyr ac anghenion ein heconomi, ein cymunedau a'r genedl, ac anogaf bob Aelod i gefnogi'r Bil.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ar goedd hefyd i'r clercod a'r staff cyfreithiol drwy gydol hynt y Bil hwn, ac estynnaf y diolch hwnnw i Gadeirydd y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Jayne Bryant, y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a phawb y bu ganddyn nhw ran yn y gwaith o gael y Bil hwn i Gyfnod 4 heddiw. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ddiolch i'r Gweinidog am wrando ar ein pryderon yn bennaf, gan gydnabod cyfraniadau y Ceidwadwyr Cymreig i'r Bil. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cydweithredu i gyflawni gwelliannau nodedig i'r ddeddfwriaeth hon.

Er ein bod yn cefnogi nodau cyffredinol y Bil hwn, mae rhai pryderon, wrth gwrs, yn parhau. Ond, er gwaethaf ein pryderon, byddwn yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw. Yn gyffredinol, mae wedi bod yn ddull adeiladol iawn gan bob plaid i sicrhau bod y Bil hwn yn tawelu ofnau ac yn cyflawni'r hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld—addysg well—ac i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn sefyll prawf amser. Roeddem, fel yr wyf wedi dweud o ddechrau'r trafodion hyn, yn pryderu am amserlen gyflym y Bil hwn, ond, o ystyried yr amgylchiadau, roeddem yn benderfynol o wneud y gorau o'r cyfle hwn i helpu i wella addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Felly, roeddem yn hapus i weld y bu'r Gweinidog yn agored i fynd i'r afael â nifer o'n pryderon, megis materion yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol, llesiant dysgwyr a thryloywder polisi ariannu, a oedd yn feysydd yr oeddwn yn fodlon cydweithio ag ef arnyn nhw.

Fel yr wyf wedi datgan dro ar ôl tro drwy gydol camau'r Bil hwn, er mwyn cael y llwyddiant mwyaf o'r comisiwn newydd hwn, mae'n rhaid bod y corff newydd hwn yn gallu gweithredu'n wirioneddol annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Byddai cymryd gormod o ran gan Weinidogion Cymru yn arwain at greu strwythurau llywodraethu aneglur, dryswch ac oedi, a byddai pob un o'r elfennau hyn yn llesteirio gallu'r comisiwn i gyflawni ei amcanion.

Rwy'n dal i bryderu y bydd cyllideb mor sylweddol ar gael i'r comisiwn newydd hwn—dylid dangos cyfrifoldeb ariannol priodol. Byddaf fi a fy mhlaid yn parhau i fonitro gweithrediad y Bil hwn yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i ansawdd addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a byddwn hefyd yn cadw llygad ar faint o ddylanwad y mae Gweinidogion yn ei arfer dros y comisiwn er mwyn sicrhau nad yw ei annibyniaeth a'i ymreolaeth yn cael eu peryglu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe bai'r Gweinidog, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn achlysurol i'r Senedd am y comisiwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Diolch yn fawr.

Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl. Rŷn ni wedi torri tir newydd wrth gydweithio ar y Bil yma. Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy'n rhan o'n cytundeb cydweithio ni gyda'r Llywodraeth, a dwi'n falch o fod wedi gallu cynrychioli Plaid Cymru fel y llefarydd dros addysg ôl-16 wrth graffu ar ac wrth wella'r Bil yma mewn modd cydweithredol a chadarnhaol gyda chi, Weinidog.

Drwy gydol taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Senedd, fe wnaethom ni achos cyson dros gryfhau'r Bil wrth ymwneud â darpariaeth y Gymraeg yn y sector ôl-16; gwnaethom ni bwyso am gryfhau geiriad y ddyletswydd strategol fel bod y comisiwn yn annog y galw am addysg Gymraeg, a bod hybu ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei ychwanegu at ddyletswyddau'r comisiwn. Roeddwn yn falch i'r Gweinidog ymateb i'n pryderon ac i farn rhanddeiliaid. 

Roeddem fel plaid hefyd yn falch o gefnogi gwelliant y Gweinidog yng Nghyfnod 2, a fydd nawr yn sicrhau y bydd aelodaeth y comisiwn arfaethedig yn cynnwys arbenigedd mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. Yn hyn o beth, ar ôl pwysleisio rôl bwysig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes cynllunio, a buddsoddi mewn cynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol, roeddwn i’n falch bod y Gweinidog yn cytuno mai rôl y coleg fyddai cynghori'r comisiwn ar hynny.

Yn ystod Cyfnod 1, fe glywodd y pwyllgor nifer o bryderon ynghylch perthynas arfaethedig y comisiwn gyda'r ddarpariaeth ôl-16 o fewn dosbarthiadau chwech, ac fe glywsom bryderon y gallai'r Bil arwain at ddileu atebolrwydd lleol am yr elfen unigryw hon o ddarpariaeth addysg, ac o addysg Gymraeg yn arbennig. Ac rwy’n falch o fod wedi gallu cefnogi gwelliannau'r Gweinidog a oedd yn ymateb yn briodol i'r pryderon hyn.

Roedd Plaid Cymru yn teimlo y byddai'r Bil wedi ei gryfhau ymhellach drwy roi hawliau pleidleisio i aelodau cyswllt y comisiwn, ac felly sicrhau llais cryfach i gynrychiolwyr dysgwyr a myfyrwyr a chynrychiolwyr o'r gweithlu a rhoi hawliau digonol iddyn nhw. Ac roeddwn i'n siomedig na gefnogwyd ein gwelliant yng Nghyfnod 2, ond roeddwn i'n falch i'r Gweinidog gyflwyno gwelliant am yr angen am ddyletswydd strategol ar y comisiwn i hybu cydweithio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf yma. Dwi'n meddwl bod hynny'n fwy pwysig nag erioed.

O ystyried pwysigrwydd ymchwil ac arloesedd i'n cenedl ac i'n prifysgolion, roeddwn i hefyd yn falch o gael cefnogaeth i'n gwelliant yng Nghyfnod 3 a oedd yn ymestyn rhyddid academaidd i weithgareddau ymchwil ac arloesi, yn ogystal â darparu darpariaeth cyrsiau addysg uwch.

Weinidog, rwy'n gwybod bod gan y sector ddiddordeb arbennig nawr mewn canolbwyntio ar weithredu'r ddeddfwriaeth hon unwaith iddi basio, gan ei bod wedi aros yn hir am y diwygiadau hyn, ac felly tybed a allwch chi gadarnhau a allai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi amserlen weithredu cyn yr egwyl?

Hoffwn, wrth gloi, nodi fy niolch i i dîm clercio, ymchwil a chyfreithiol y pwyllgor. Fel Aelod newydd fydden i ddim wedi gallu gwneud dim o'm gwaith i hebddyn nhw, ac rwyf hefyd eisiau diolch i'r rhanddeiliaid am eu gwaith trylwyr a manwl yn ystod y broses graffu. A hoffwn i jest dweud fy mod yn falch o'r cydweithio adeiladol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn y maes hwn a bod yr ymwneud adeiladol hwnnw wedi arwain at wella'r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith drwy'r Senedd.

18:25

Gaf i jest dweud, wrth gloi, Llywydd, diolch i Sioned Williams a Laura Anne Jones am eu cydweithrediad wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd? Mae wedi bod yn braf cael cydweithio gyda nhw ar amryw o welliannau adeiladol, a hefyd cael cytundeb gan y ddwy blaid i'r hyn oedd yn ddyletswyddau strategol ar gyfer y sector yn y dyfodol. Mae'n bwysig, wrth gyflwyno diwygiadau rŷn ni'n gobeithio bydd gyda ni am ddegawdau, ein bod ni'n cael cytundeb ar draws pleidiau orau ag y gallwn ni, ac rŷn ni wedi llwyddo gwneud hynny ar yr achlysur hwn, ac felly diolch yn fawr iddyn nhw eto am eu cydweithrediad.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mi wnawn ni gymryd toriad byr nawr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais hynny.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:28.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:32, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

18:30
11. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.  

Eitem 10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:33.