Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/01/2022

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb.

Cyn inni ddechrau’n ffurfiol, rwy’n siŵr fod pob un ohonom wedi gweld ar y newyddion heddiw fod Seth Burke, un o'r Aelodau sydd newydd eu hethol i'n Senedd Ieuenctid, wedi treulio wythnosau lawer yn yr ysbyty dros y Nadolig gyda COVID. Rydym yn falch o wybod bod Seth gartref bellach, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom, fel Aelodau’r Senedd, yn dymuno gwellhad buan iawn i Seth ac yn gobeithio’n fawr y bydd ef, ynghyd â’i gyd-Aelodau o'r Senedd Ieuenctid, yn gallu mynychu cyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid newydd pan fydd yn cyfarfod yn rhithiol ganol mis Chwefror.

Felly, pob hwyl i Seth a phawb.

Cyn yr eitem gyntaf, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau, fel arfer. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi eu nodi ar eich agenda chi. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joel James.

Deddfwriaeth Gwrth-gaethwasiaeth

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith deddfwriaeth gwrth-gaethwasiaeth sy'n effeithio ar Gymru? OQ57402

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 wedi gwella’r ffocws ar nodi a mynd i’r afael â pheryglon caethwasiaeth fodern, rhoi cymorth i oroeswyr a dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a phartneriaid yng Nghymru i adolygu’r strategaeth caethwasiaeth fodern a deall effaith y Ddeddf yn well.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, ac fel y gwyddoch, mae Deddf Caethwasiaeth Fodern y DU yn nodi bod angen i gwmnïau a chanddynt drosiant o £36 miliwn neu fwy ddatgan y camau y maent yn eu cymryd i atal caethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi. Mae datblygiadau mwy diweddar gan Lywodraeth y DU yn 2020, y cyntaf o'u bath drwy'r byd, wedi ymestyn y gofyniad hwn i gynnwys pob corff cyhoeddus ac awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr a chanddynt gyllidebau o dros £36 miliwn.

Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, cymharol ychydig o gwmnïau preifat yng Nghymru sy’n cyrraedd y trothwy hwnnw o £36 miliwn, ac fel un o’r Gweinidogion arweiniol dros atal caethwasiaeth yng Nghymru, credaf mai eich cyfrifoldeb chi yw dadlau'r achos i Lywodraeth y DU dros newid y trothwy hwn fel ei fod yn cynnwys mwy o fusnesau Cymru. I gychwyn, a all y Dirprwy Weinidog egluro pa ymdrechion penodol y mae’r Llywodraeth hon wedi’u gwneud i newid y trothwy £36 miliwn hwn i fod yn fwy perthnasol i fusnesau Cymru? Ac yn ail, a all y Dirprwy Weinidog egluro pa gyfraniad y mae'r Gweinidog a hithau wedi’i wneud yn bersonol, fel arweinwyr ar atal caethwasiaeth, i gyfiawnhau’r rôl hon yn eu portffolios gweinidogol? Diolch.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn y mater hwn? Rwy’n siŵr y gall Aelodau ar draws y Senedd gytuno y dylid cael consensws a gwaith trawsbleidiol ar hyn o ystyried natur y pwnc dan sylw a’r heriau sy’n ein hwynebu. Ac er bod caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wrth i’r Ddeddf hon ddod i rym, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a chyda phartneriaid yng Nghymru. Rydym yn rhan o'r grŵp arwain atal caethwasiaeth yng Nghymru ac rydym hefyd yn gweithio’n agos—. Roeddem yn rhan o’r adolygiad o’r strategaeth y mae’n ei gynnal ar hyn o bryd. Byddaf yn sicr yn ystyried rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod heddiw mewn perthynas â'r adolygiad hwnnw a'r sgyrsiau parhaus rydym yn eu cael gyda'n swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU.

Ac efallai y dylwn gyfeirio ar y pwynt hwn at rai o'r pethau rydym wedi'u gwneud yng Nghymru eisoes, sef ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi a'n gwaith ar gaethwasiaeth fodern a'r bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, ac rydym hefyd yn ystyried adolygu ac adnewyddu’r strategaeth honno i weld sut y gallwn ei chryfhau ymhellach yn y dyfodol.

Dylem gydnabod, wrth gwrs, fod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU ar fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi arweinydd atal masnachu pobl pan oedd Carl Sargeant yn Weinidog, ac mae’r rôl honno wedi’i chefnogi gan grwpiau fel Bawso a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, sy’n darparu arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr. A bellach, mae gennym Jeff Cuthbert yn arwain ymateb y comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, mae gan Gymru hanes da i’w adrodd. Fel rydych wedi sôn, Weinidog, mae gennym god ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac mae hwnnw’n allweddol hefyd. Ond rydym hefyd yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth y DU. Mae gennyf bryderon difrifol ynghylch Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU a gondemniwyd gan elusennau blaenllaw fel un sy’n amlwg yn hiliol ac sy’n sicr yn bygwth ein statws fel cenedl noddfa gyda’i derfynau amser cosbol i ddioddefwyr masnachu pobl ac eraill gyflwyno eu hachosion. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn asesu’r Bil, i weld sut y gallai Cymru gau’r bylchau anochel y bydd yn eu creu o ran cymorth i ddioddefwyr?

13:35

Y Gweinidog i ateb.

Y Dirprwy Weinidog i ymateb. Ie, ewch yn eich blaen, Hannah Blythyn.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch eto i’r Aelod am ei gwaith yn y maes hwn—gwaith grŵp trawsbleidiol y Senedd ar fasnachu pobl? Gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â’r grŵp yn ddiweddar i weld sut y gallwn gydweithio unwaith eto ar draws y Senedd, ac ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid ledled Cymru. Ac mae'r Aelod, Joyce Watson, yn iawn i gyfeirio at waith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, fel yr arweinydd dynodedig yn y maes hwn a'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Ac mae'r Aelod yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, ac fe wyddoch fod fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr, ychydig cyn y toriad, yn nodi pryderon dybryd Llywodraeth Cymru yn y maes, a’r ffordd y gallai danseilio peth o’r gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r genedl noddfa, heb sôn am gaethwasiaeth fodern. Rydym yn poeni bod y Bil yn cyfuno caethwasiaeth fodern â materion mewnfudo ac y gallai greu rhwystrau ychwanegol rhag nodi achosion a darparu cymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Rydym yn galw’n gryf iawn ar Lywodraeth y DU i ddilyn llwybr gwahanol ar hyn, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn yng Nghymru, gan weithredu’r cod ymarfer a gweithio gyda’r cyrff nad ydynt wedi’u datganoli hefyd, a chyda’n comisiynwyr heddlu a throseddu a chydag awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn yng Nghymru.

Elusennau a'r Sector Gwirfoddol

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau a'r sector gwirfoddol yn ystod pandemig COVID-19? OQ57420

Rydym wedi darparu dros £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol i sefydliadau’r sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i’w galluogi i gefnogi sefydliadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae elusennau a’r sector gwirfoddol ehangach wedi chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ein cymunedau drwy gydol y pandemig. A hoffwn gofnodi fy mod yn gwerthfawrogi’r fyddin wych o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i’n helpu drwy’r cyfnod anodd hwn. Fodd bynnag, mae’r sector wedi wynebu pwysau ariannol sylweddol o ganlyniad i’r pandemig, gyda CGGC yn amcangyfrif yn ddiweddar fod sefydliadau gwirfoddol wedi colli oddeutu £600 miliwn o incwm, ac nad oes gan oddeutu chwarter yr elusennau bach gronfeydd wrth gefn, ond serch hynny, mae'r galw am y gwasanaethau hyn wedi cynyddu oddeutu 67 y cant ers mis Ebrill 2021. Nawr, rwy’n cydnabod y cymorth a ddarparwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â rhywfaint o’r diffygion ariannol hyn, yn ogystal â’r £7 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ond mae'n amlwg fod angen cymorth pellach i helpu'r sector i ymadfer tra bo'r cyfyngiadau presennol ar iechyd y cyhoedd yn cyfyngu ar weithgareddau codi arian a'r galw am wasanaethau mor uchel. Weinidog, pa gymorth ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei ddarparu i’r sector gwirfoddol dros y flwyddyn nesaf i sicrhau y gall sefydliadau barhau i gefnogi ein cymunedau? Diolch.

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig iawn, oherwydd rydym wedi gweld, fel y dywedoch chi, Peter Fox, drwy gydol y pandemig, y sector gwirfoddol cryf ac annibynnol hwnnw sy’n hollbwysig i les Cymru a’n cymunedau, a'r diwylliant o wirfoddoli yn dod i'r amlwg wrth i gymaint o bobl fynd ati i gynorthwyo pobl, cymdogion a chymunedau. Felly, i gadarnhau, y llynedd, fe wnaethom lansio trydydd cam cronfa gwydnwch y trydydd sector, gyda dros £4 miliwn i helpu sefydliadau hyfyw'r sector gwirfoddol i oroesi—a dyna bwynt allweddol eich cwestiynau—a chael eu cynnal drwy'r pandemig, a bod yn wydn. Ac ers hynny, mae'r swm wedi'i gynyddu o £4 miliwn i £7.2 miliwn. Wrth gwrs, mae hynny’n hollbwysig i sicrhau bod gennym hefyd £1 filiwn ychwanegol ar gyfer ein grant gwirfoddoli Cymru, i gefnogi’r rheini sy’n cynnig eu cymorth yn y ffordd hon, ond gan weithio’n agos iawn gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector ar y ffordd ymlaen ac ar gyfer adferiad a gwydnwch y trydydd sector. Rydym yn cefnogi’r trydydd sector ym mhob ffordd y gallwn—yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

13:40

Weinidog, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia, rwyf wedi clywed adroddiadau anodd iawn gan unigolion yn y sector gwirfoddol sy’n darparu cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia a chyflyrau gwanychol eraill, ac un o'u cwynion rheolaidd yw nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cydweithwyr, ac nad yw awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol eraill yn cyfathrebu'n effeithiol gyda hwy. Mae disgwyl i wirfoddolwyr elusennau fel Cymdeithas Alzheimer's unioni'r sefyllfa heb fawr ddim gwybodaeth a chymorth, ac maent yn wirioneddol bryderus fod hynny’n arwain at bobl yn cwympo drwy'r bylchau, ac yn arwain at wirfoddolwyr yn rhoi'r gorau iddi gan nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall, Weinidog, fod hwn yn fater sy'n perthyn i nifer o bortffolios gwahanol yn ôl pob tebyg, ond a wnaiff y Gweinidog drafod gyda’i chyd-Weinidogion, a chydag awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol, sut i fynd ati yn y ffordd orau i gefnogi’r gwasanaethau a ddarperir gan elusennau, a ddarperir gan wirfoddolwyr, yn ystod y cyfnod heriol hwn? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hynny’n rhan hollbwysig o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol. A dweud y gwir, buom yn arloesol wrth ddatblygu cynllun partneriaeth y sector gwirfoddol, sy'n golygu bod pob sector, gan gynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn cyfarfod â Gweinidogion, yn cyfarfod â’r Gweinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i drafod y materion penodol hynny, gan fod hwn yn fater trawslywodraethol, fel y dywedwch, o ran yr anghenion hynny, ond yn enwedig yn ystod y pandemig, ac estyn allan, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau dementia, at y rheini sy’n gweithio yn y sector. Felly, mae fy swyddogion yn gweithio gyda swyddogion iechyd i adolygu’r cyfeiriad strategol ar gyfer cymorth a buddsoddiad i'r trydydd sector mewn perthynas â’r elusennau a nodwyd gennych heddiw. Ac mae hynny ar sail genedlaethol wrth gwrs, ond yn lleol, mae gan eich cynghorau gwirfoddol—bob un ohonynt ledled Cymru—ran allweddol i'w chwarae yn cefnogi darparwyr lleol hefyd.

Rwy’n datgan buddiant yma gan fy mod yn dal yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Pentre. Mae’r cymorth y mae elusennau a’r sector gwirfoddol yn ei roi i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn amhrisiadwy, a thrwy gydol y pandemig, mae wedi lleddfu pwysau enfawr ar awdurdodau lleol. Ni fyddem yn gallu darparu’r cymorth hwn heb y cyllid hollbwysig. Yn anffodus, mae llawer o'n helusennau ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd cael cyllid. Credaf ein bod weithiau'n anghofio bod yr elusennau hyn yn cael eu rhedeg yn bennaf gan bobl sydd wedi ymddeol neu rieni na allant weithio’n llawnamser oherwydd cyfrifoldebau gofal plant, heb fawr ddim profiad, os o gwbl, o orfod gwneud ceisiadau am gyllid. Rhaid inni wneud mwy i gael gwared ar y rhwystr hwn er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Am y rheswm hwn, a wnaiff y Gweinidog weithio gyda chynghorau gwirfoddol sirol, a chyrff ariannu eraill, i sicrhau ei bod yn haws gwneud ceisiadau am arian grant?

Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Ac a gaf fi dalu teyrnged i bob un o'r gwirfoddolwyr yn eich cymuned, a ledled Cymru gyfan, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ystod y pandemig, ond sydd wedi gwneud hynny erioed, fel anadl einioes ein cymunedau?

Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod swyddogion yn gweithio gyda chyllidwyr, gan gynnwys fforwm cyllidwyr Cymru, sy’n fforwm pwysig i ddod â’r holl gyllidwyr ynghyd, i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu codi mewn perthynas â hygyrchedd cynlluniau grant. Mae’r cynghorau gwirfoddol sirol yn aml yn rheolwyr grantiau, ac fe fyddwch yn cysylltu gyda'ch un chi, rwy’n siŵr. A byddaf yn gofyn i fy swyddogion edrych yn benodol ar sut y gall y prosesau ymgeisio fod yn haws, ac yn gymesur o ran y sefyllfaoedd y mae sefydliadau’r sector gwirfoddol ynddynt, i sicrhau y gallant gael mynediad at y cyllid hwnnw. Ac nid oes a wnelo hyn â chael mynediad at gyllid y Llywodraeth yn unig; mae arian y loteri wedi bod yn hollbwysig hefyd, onid yw, a sicrhau ein bod yn gallu—. Ac mae'r ffaith bod awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan hefyd wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y pandemig, ac mae hyn yn rhan o'r ffordd rydym yn edrych ar hyfywedd ariannol y trydydd sector, gyda chyllid cynaliadwy yn un o elfennau allweddol y seilwaith hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Cefais fy ailethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn ei gyfarfod cyntaf yn nhymor y Senedd hon ar 17 Rhagfyr. Roedd y cyfarfod ar-lein yn cynnwys cyflwyniad gan brif weithredwr Anabledd Cymru ar adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, a ddeilliodd o drafodaethau yn fforwm cydraddoldeb i bobl anabl Llywodraeth Cymru, a gadeiriwyd gennych chi. Canfu fod 68 y cant o farwolaethau COVID-19 yng Nghymru yn bobl anabl a nododd nad oes unrhyw beth yn anochel am yr ystadegyn hwn, ac mae’r adroddiad yn dangos sut y mae ffactorau cymdeithasol, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, sefydliadu, diffyg cyfarpar diogelu personol, gwasanaethau gwael a thameidiog, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd, ac amgylchiadau personol wedi cyfrannu'n sylweddol at y ffigur hwn yn ystod y pandemig.

Canfu’r adroddiad hefyd na chafodd pobl anabl yr holl gymorth meddygol roeddent ei angen, eu bod wedi cael llai o fynediad at wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, wedi cael llai o fynediad at fannau cyhoeddus a bywyd cyhoeddus, wedi ei chael hi'n anodd byw’n annibynnol ac nad oedd eu hawliau dynol bob amser wedi cael eu parchu'n llawn. Roedd hefyd yn ailddatgan hawl sylfaenol pobl anabl i gael eu cynnwys yn llawn mewn penderfyniadau am eu bywydau eu hunain a’r angen i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio lleoedd a gwasanaethau. Pa gamau penodol rydych yn eu cymryd felly, fel Gweinidog Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb a hawliau dynol?

13:45

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mark Isherwood. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod diweddaraf y grŵp trawsbleidiol rydych yn ei gadeirio—rwyf wedi bod mewn mwy nag un—ac roedd yn dda iawn eich gweld yn ôl yn y swydd honno. A gaf fi gadarnhau ei bod wedi bod yn hanfodol imi ymgysylltu drwy gyfnod y pandemig gan fy mod yn cadeirio’r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl? A dweud y gwir, cadeiriais wyth fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, lle cawsom y trafodaethau hynny am effaith y pandemig, pryderon a datblygiadau'n ymwneud â phobl anabl yng Nghymru, yn ogystal â sicrhau bod pob un o'r safbwyntiau hynny'n cael eu rhannu a’r profiadau’n cael eu rhannu ar draws Llywodraeth Cymru—gyda'r prif swyddog meddygol yn mynychu'r cyfarfodydd hynny, a Gweinidogion eraill hefyd.

Yng ngoleuni’r dystiolaeth a gafwyd yn y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl a’r data a ddaeth i’r amlwg, fe wnaethom gomisiynu aelodau o’r fforwm i archwilio’r effaith roedd pandemig COVID-19 yn ei chael ar bobl anabl, ac arweiniodd hynny at yr adroddiad rydych newydd ei grybwyll, 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, a gafodd ei gydgynhyrchu gan yr Athro Debbie Foster o Ysgol Fusnes Caerdydd a’r grŵp llywio, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gennym dasglu anabledd wedi’i sefydlu—mynychais a chydgadeiriais y cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd—ac i fwrw ymlaen â hyn yn wir, o ran sicrhau y gellir cyflawni canfyddiadau adroddiad ‘Drws ar Glo’. Nawr, hoffwn ddweud yn gyflym, i gloi, fod hyn oll yng nghyd-destun datblygu camau gweithredu o fewn egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd a gymeradwywyd gan y Senedd hon ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.

Wel, fel y dywedodd yr Athro Debbie Foster wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y bore yma, a gadeiriwyd gennyf, er mwyn ysgogi’r newid sydd ei angen, bydd angen newid y ffordd rydym yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan groesawu cydgynhyrchu gwirioneddol yn hytrach na sloganau gwleidyddol—nid wyf yn cyfeirio atoch chi yma, ond sloganau gwleidyddol sy'n aml yn camddeall ac yn camddefnyddio'r term.

Ac yn y cyd-destun hwn, ac unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldeb dros gydraddoldeb a hawliau dynol, pa gamau penodol rydych yn eu cymryd yn dilyn canfyddiadau'r astudiaeth gwmpasu ar gyfer alinio a datblygu gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol ym mis Medi 2019, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd ei ddwyn i fy sylw yn ddiweddar, ac sy’n nodi'r bwlch rhwng y galw a chapasiti mewn perthynas â gwasanaethau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yng Nghymru? Mae’r adroddiad yn argymell y dylid gwneud rhagor o waith i lywio’r gwasanaethau datblygu ar gyfer ADHD, ac y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai ADHD heb ei drin gostio biliynau bob blwyddyn i’r DU, gan gynnwys Cymru, gyda’r symptomau’n effeithio ar unigolion drwy gydol eu bywydau. Ac mae cysylltiadau rhwng ADHD a gwaharddiadau o'r ysgol, diweithdra, camddefnyddio sylweddau a throseddoldeb, ac amcangyfrifir fod gan 25 y cant o garcharorion ADHD. Mae data o’r fath yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gwasanaethau priodol ar waith i bobl ag ADHD er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r unigolyn a’r gymdeithas ehangach, ac felly i gyfiawnder cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at glywed eich ymateb i hynny.

13:50

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn dilynol, a dylwn ddweud yr hoffwn sicrhau bod yr adroddiad hwn a gyflwynwyd drwy ein tasglu hawliau anabledd wedi'i gydgynhyrchu mewn gwirionedd. Fe’i comisiynwyd gennym ni, mae’n cael ei gydgadeirio, ac mae angen inni ei gyflwyno yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, yn ogystal â chyflawni—. Ac rydych wedi sôn am y materion hawliau dynol. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r fframwaith hawliau dynol ar yr hyn rydym yn ceisio'i wneud i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl ag anableddau yng nghyfraith Cymru. Nawr, rydych wedi codi pwynt allweddol arall wrth symud ymlaen, sy'n ymateb trawslywodraethol i raddau helaeth iawn. Byddaf hefyd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, yn enwedig mewn perthynas ag ADHD, gan fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru.

Iawn, diolch. Gan symud, yn olaf, at eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd, y mis diwethaf, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ymdopi â thywydd oer ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fyw mewn cartref oer, rhywbeth rwyf wedi bod yn galw amdano fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, fel y gwyddoch. Er bod aelodau'r gynghrair tlodi tanwydd wedi croesawu’r cynllun, a’r rhan fwyaf ohonynt wedi cyfrannu at ei ddatblygiad, sut rydych yn ymateb i’w pryder a’u hadborth yr hoffent weld mwy o fanylion ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector iechyd i gyflawni amcanion y cynllun a chytuno â’r hyn y gall y sector iechyd ei wneud i’w gefnogi, ac y byddai’r cynllun yn elwa o gynnwys amcan ychwanegol ar gyfer camau gweithredu penodol i helpu i gefnogi adegau hollbwysig ym maes gofal iechyd, megis wrth ryddhau o’r ysbyty, neu wella’r gwasanaeth ysbyty i gartref iachach, helpu i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi tlodi tanwydd a phobl sydd mewn perygl o ddioddef yn sgil tywydd oer a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael a helpu i sefydlu rhwydweithiau atgyfeirio rhwng gweithredwyr iechyd a phartneriaid cynghori, ac mai ychydig iawn o fanylion, os o gwbl, sydd i'w cael yn y cynllun ar gymorth i gymunedau gwledig, y tu hwnt i daliadau cymorth mewn argyfwng ar gyfer olew a nwy petrolewm hylifedig drwy'r gronfa cymorth dewisol? Unwaith eto, edrychaf ymlaen at eich ymateb i hynny.

Diolch am eich cwestiwn dilynol. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi’r cynllun ymdopi â thywydd oer ar 3 Rhagfyr, ac mae’n cynnwys 12 cam gweithredu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi aelwydydd incwm isel i ymdopi â thywydd oer: cymorth ariannol, er enghraifft, i atgyweirio boeleri ar gyfer aelwydydd incwm isel ac i brynu tanwydd domestig ar gyfer cartrefi oddi ar y grid a chartrefi gwledig—fe sonioch chi am gymunedau gwledig—drwy’r gronfa cymorth dewisol—maent wedi’u cynnwys yn y cynllun—yn ogystal â chefnogi cydweithio â chyflenwyr ynni i sicrhau ein bod yn targedu cymorth ar aelwydydd sy’n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni; gwell atgyfeiriadau i gynlluniau megis rhaglen Cartrefi Clyd; cynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni; ond hefyd, yn amlwg, fel rydych wedi'i nodi, mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a lles.

Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.

Diolch, Lywydd. Weinidog, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, i’r Prif Weinidog ddoe pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni’r argyfwng costau byw cynyddol presennol y mae Sefydliad Resolution wedi'i alw'n drychineb sy’n amharu ar lawer gormod o deuluoedd Cymru, gyda chanlyniadau dinistriol. Yn ogystal â’r mesurau sydd eisoes ar waith, sydd wedi eu cyfyngu, yn anffodus ac yn rhwystredig, gan reolaeth y Ceidwadwyr dideimlad a didostur sydd mewn grym yn San Steffan dros les a dulliau eraill o drechu tlodi, hoffai Plaid Cymru weld ffocws newydd ar yr hyn y gellir ei wneud i atal hyd yn oed mwy o bobl rhag llithro i dlodi gwaeth fyth, gyda’r holl ganlyniadau negyddol a niweidiol a gaiff hynny ar ein cymdeithas.

Yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled, ac mae'r adroddiad yn dangos bod costau ynni'n cyfrannu’n enfawr at lefelau dyled cynyddol ac anghynaliadwy i ormod o aelwydydd yng Nghymru. Er eu bod i'w croesawu, rydych wedi dweud eich hun, ac mae’r pwyllgor yn cytuno, nad yw’r taliadau untro ychwanegol a ddarparwyd gennych drwy’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn agos digon ac na allant wneud iawn am golli'r ychwanegiad o £20 i'r credyd cynhwysol, er enghraifft, y gwnaeth Llywodraeth y DU ei dynnu'n ôl mor greulon oddi wrth deuluoedd anghenus Cymru. Hoffwn ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy’n manteisio ar daliadau’r cynllun cymorth a gofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd mentrau codi ymwybyddiaeth i sicrhau bod y rheini sydd wir angen y cymorth hwn yn cael mynediad ato.

13:55

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy’n falch iawn eich bod wedi codi’r mater hwn. Cafodd sylw helaeth ddoe, fel y dywedoch chi, mewn cwestiynau gan Adam Price i’r Prif Weinidog, ond cwestiynau hefyd o bob rhan o’r—yn sicr gan Aelodau Llafur yn ogystal ag Aelodau Plaid Cymru ar yr argyfwng costau byw trychinebus y mae pobl yn ei wynebu. Yr hyn sy’n glir iawn yw bod angen inni alw ar Lywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â hyn. Nawr, hoffwn ddweud bod nifer dda o bobl wedi manteisio ar ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd gennym ddata gan 20 o’r 22 awdurdod lleol a ddangosai fod dros 100,000 o geisiadau wedi dod i law awdurdodau lleol. Nawr, yr hyn sy'n amlwg iawn yw bod angen hyrwyddo hyn, ac rydym yn defnyddio'r holl awdurdodau lleol a holl bartneriaid y cynllun cymorth tanwydd gaeaf i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio arno.

Diolch. Mae’r un adroddiad, sef adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn cyflymu ei rhaglen Cartrefi Clyd fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan fod yn rhaid ei chyflymu o ystyried yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sydd wedi’i waethygu gan y cynnydd aruthrol ym mhrisiau tanwydd, y gwyddom y byddant yn codi hyd yn oed ymhellach yn y gwanwyn ac y byddant gyda ni am flynyddoedd lawer i ddod, fel y rhybuddiodd pennaeth Centrica heddiw. Mae pedair o siroedd Cymru eisoes ymhlith y 10 ardal sydd wedi eu taro galetaf ledled y Deyrnas Unedig gan y cynnydd mewn prisiau tanwydd. A all y Gweinidog ddweud wrthym a fydd y Llywodraeth yn gweithredu'r argymhellion hynny gyda mwy o frys o ystyried yr amgylchiadau? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn targedu aelwydydd tlawd o ran tanwydd ar hyn o bryd? Mynegodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru bryderon, er mai pwrpas gwreiddiol cynllun Nyth oedd trechu tlodi tanwydd, fod esblygiad y cynllun yn golygu bod rhywfaint o arian yn cael ei flaenoriaethu i bobl nad ydynt wedi bod yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae National Energy Action hefyd wedi codi mater ynghylch yr angen i gyflenwyr ynni wneud mwy i nodi cwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol er mwyn darparu cymorth. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo ac yn sicrhau bod cyflenwyr ynni yn nodi ac yn cefnogi cwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol a'r rheini sy'n byw mewn tlodi tanwydd? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn dilynol hynod bwysig, Sioned Williams, ac wrth gwrs, mae’n ymwneud â phwysigrwydd ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac ers ei sefydlu yn 2009-10 hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, mae mwy na £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy’r rhaglen yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod o gymorth i fwy na 67,100 o gartrefi, ac o fewn hyn, mwy na 160,000 o aelwydydd yn cael cyngor diduedd am ddim, sydd wedi bod yn rhan hollbwysig o'r gwaith, i wella effeithlonrwydd ynni domestig a lleihau biliau tanwydd.

Ond rydym bellach, fel y gwyddoch, yn ymgynghori ar gam nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Fe’i cyhoeddwyd ar 22 Rhagfyr, ac yn bwysig, wrth gwrs, mae’r gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, gyda datganiad gan y Gweinidog cyllid ddoe, yn cynnwys y cynnydd mewn cyllid cyfalaf o £30 miliwn, o £27 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd incwm isel. Mae’n bwysig inni edrych ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn ogystal â sicrhau, o ganlyniad i brofiad a gwersi a ddysgwyd, ein bod yn symud ymlaen ac yn cael canlyniadau llawn yr ymgynghoriad o gam nesaf y rhaglen.

Credaf fod cysylltiad cryf rhwng hynny a’r cynllun tlodi tanwydd, wrth gwrs, gyda’n grŵp cynghori, ac rwyf eisoes wedi sôn am y cynllun ymdopi â thywydd oer, ond hoffwn ddweud hefyd ei bod yn bwysig inni fynd i’r afael â hyn, gan gydnabod bod gan Lywodraeth y DU ei rhan i’w chwarae yn hyn o safbwynt y trychineb costau byw sydd gennym mewn perthynas â thlodi tanwydd. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi ysgrifennu at Kwasi Kwarteng yr wythnos hon i fynegi ein pryderon difrifol am y cynnydd mewn prisiau ynni domestig, yr effaith y maent yn ei chael ar aelwydydd yng Nghymru, ac rydym yn arbennig o bryderus am aelwydydd incwm isel, a’r ffaith ein bod yn gwybod bod y codiadau hynny wedi dod i rym a’r ffaith bod mwy o aelwydydd yng Nghymru yn mynd i wynebu tlodi oherwydd eu polisïau. Rwy’n siŵr y byddwch yn trafod hyn yn nes ymlaen mewn ymateb i’r adroddiad, a chwestiynau eraill yn wir.

14:00
Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiau cynllun cymorth tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol? OQ57406

Mae aelwydydd yn profi argyfwng costau byw oherwydd prisiau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae cynghorau'n cefnogi'r defnydd o gynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru gan aelwydydd cymwys i'w helpu i gadw'n gynnes y gaeaf hwn, a bydd yn parhau i hyrwyddo'r cynllun dros yr wythnosau nesaf.

Weinidog, fel y dywedwch, mae llawer o'n hetholwyr ledled Cymru bellach yn profi argyfwng costau byw o ddydd i ddydd. Maent yn gwneud dewisiadau—gwirioneddol—rhwng gwresogi a bwyta, naill ai bwydo eu hunain neu fwydo'r mesuryddion rhagdalu. Rydym wedi gweld effeithiau COVID-19 ac ôl-Brexit ar gadwyni cyflenwi; rydym wedi gweld oedi wrth gludo nwyddau; ffatrïoedd yn cau neu arafu cynhyrchiant yn fyd-eang; absenoldeb staff sy'n effeithio ar bethau yn enwedig pethau fel deunyddiau crai; mae prisiau bwyd wedi codi oherwydd y tarfu ar gadwyni cyflenwi ac rydym wedi gweld cyflogau gyrwyr HGV yn codi ar ôl i filoedd o bobl adael y DU i fynd adref i'w gwledydd eu hunain yn yr UE. A hyn i gyd, Weinidog, cyn y prisiau ynni cynyddol a'r cynnydd yn yr yswiriant gwladol a ddaw i rym ym mis Ebrill. Disgwylir i'r biliau ynni godi wrth i gap prisiau'r Llywodraeth gael ei ddiwygio ym mis Chwefror a'i weithredu ym mis Ebrill, heb sôn am y toriad creulon i'r credyd cynhwysol. Ac eto, am ryw reswm, mae'r Prif Weinidog a Changhellor y DU i'w gweld yn analluog neu'n anymwybodol, a'u sylw i'w weld ar faterion eraill pwysicach megis dal eu gafael ar allweddi Rhif 10 doed a ddelo. Felly, mae'r ymyrraeth ar dlodi tanwydd gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr, yn enwedig o gofio'r argyfwng costau byw gwirioneddol ac uniongyrchol. Sut y gallwn sicrhau, Weinidog, fod cynifer o bobl gymwys â phosibl yn gallu defnyddio'r gronfa hon a chael y cymorth gwerthfawr hwn?

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, ac fel y dywedwch, mae prisiau ynni cynyddol yn rhan amlwg o'r argyfwng costau byw hwn. Os edrychwch yn ôl at yr hyn a ddywedodd Sefydliad Resolution mewn ymateb i gyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref, nodwyd bryd hynny, hyd yn oed os ystyriwn hefyd effaith y cynnydd cyflymach na'r cyfartaledd mewn enillion i'r cyflog byw cenedlaethol, y bydd yr un rhan o bump tlotaf o aelwydydd yn dal i fod £280 y flwyddyn ar gyfartaledd yn waeth eu byd yn gyffredinol, a gwyddom fod y ffigurau hynny bellach wedi cynyddu o ran yr effaith niweidiol.

O ystyried y modd y daw popeth gyda'i gilydd, credaf ei bod yn bwysig fod y cwestiynau yn y Senedd hon y prynhawn yma a ddoe yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU—rwyf wedi sôn am y llythyr ar y cyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James—i weithredu yn awr ochr yn ochr â ni a'r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi aelwydydd incwm isel i sicrhau ynni fforddiadwy. Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn i hyrwyddo ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Mae ar gael i bob un o'r aelwydydd incwm is sydd ar fudd-daliadau i aelwydydd oedran gweithio.

Rwyf eisoes wedi sôn mewn ymateb i Sioned Williams ein bod wedi cael 100,000 o geisiadau eisoes, sy'n addawol. Amcangyfrifwn y bydd 350,000 o aelwydydd yn ei gael. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dangos cefnogaeth gref iawn o ran y nifer sy'n gwneud cais, ond hefyd mae gennym ein hymgyrch pwyslais ar incwm; marchnata ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn ddigidol; a phecyn cymorth defnyddiol iawn o adnoddau a ddarparwyd ar gyfer ein holl bartneriaid, gan gynnwys y gynghrair gwrth-dlodi, National Energy Action a Chyngor ar Bopeth hefyd wrth gwrs. 

Ac os caf ddweud i orffen fy ymateb, nid ydym o dan unrhyw gamargraff y bydd y £100 yn mynd yn ddigon pell i ddigolledu aelwydydd a gollodd gymaint y llynedd oherwydd y penderfyniadau llym pan gafodd yr ychwanegiad i'r taliad credyd cynhwysol a'r credyd treth gwaith o £20 yr wythnos—. Os gallwn gael y £100 hwnnw allan, a gall pob Aelod o'r Senedd ein helpu gyda hynny drwy hyrwyddo'r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru.

14:05

Weinidog, bydd llawer o'n teuluoedd mwyaf gweithgar yn wynebu heriau ariannol mawr dros y blynyddoedd nesaf, ac nid oherwydd cost tanwydd yn unig. Wrth i'ch Llywodraeth barhau i fwrw ymlaen â'i tharged carbon niwtral, y rhai lleiaf abl i fforddio newid yn eu system wresogi ac agweddau eraill ar eu ffordd o fyw a fydd yn ysgwyddo'r baich o gyrraedd y targedau hinsawdd hyn. Pa asesiad a wnaethoch o'r effaith ar anghydraddoldebau y bydd polisi o'r fath yn sicr o'u hysgogi? Diolch.

Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb hefyd wrth gwrs. Diolch am y cwestiwn; mae'n bwysig. Rydym mewn sefyllfa lle mae pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac mae hynny i'w weld mewn cymaint o dystiolaeth bwerus. Ond mae hefyd, a bydd fy nghyd-Aelodau, rwy'n siŵr, am rannu hyn gyda chi—. Fe rannaf y llythyr rydym wedi'i ysgrifennu at y Gweinidog yn Llywodraeth y DU sy'n rhoi sylw i'r holl faterion hyn, oherwydd maent yn gwaethygu'r sefyllfa mewn perthynas â chostau ynni. Er enghraifft, un o'r pwyntiau sy'n allweddol, ac mae'n ymwneud â'ch pwynt chi, yw ein bod yn pryderu'n fawr am y cynnydd mewn prisiau ynni domestig, ond hefyd rydym wedi teimlo ers amser maith fel Llywodraeth Cymru—rydym wedi bod o'r farn ers amser hir—y dylai costau polisi amgylcheddol a chymdeithasol—a dyna rydych chi'n cyfeirio ato—a osodir ar filiau ynni'r cartref gael eu talu drwy drethiant gyffredinol, a gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni i alw am hynny.

Ond a gaf fi hefyd gyfeirio at ein cronfa ehangach o gymorth i aelwydydd? Cyhoeddais gronfa cymorth i aelwydydd gwerth dros £50 miliwn cyn y Nadolig ar gyfer meysydd eraill, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi bwyd yn ogystal â thlodi tanwydd, a gobeithio y byddwch hefyd yn croesawu'r cynlluniau rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi bod yn eu rhoi ar waith.

Cynllun Setliad Dinasyddion Affganistan

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun setliad dinasyddion Affganistan? OQ57427

Rydym yn codi cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac ers cyhoeddi'r cynllun, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl galwad rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, y ddiweddaraf ohonynt ddoe, ac rwyf wedi codi materion yn amrywio o fylchau yn y cymhwysedd i arafwch datblygiadau.

Diolch, Weinidog. Gwyddom fod gwerthusiad ffisegol unigolyn yn hanfodol i anghenion y cyfryw unigolyn, ond dechrau ei daith yn unig yw cael ei adsefydlu a chael diogelwch mewn gwlad newydd. Fel cenedl noddfa, gwn ein bod yng Nghymru yn ymfalchïo yn y ffordd y cynigiwn y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio yn eu cymunedau. A all y Gweinidog amlinellu pa gymorth parhaus rydym yn ei gynnig fel Llywodraeth a chyda'n partneriaid awdurdod lleol, i sicrhau y gall y rhai a adsefydlir gael mynediad at yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt?

Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn. Yn fwyaf arbennig, rwy'n ffodus imi gael cyfarfod â'r Gweinidog, Victoria Atkins, ddoe. Bydd unrhyw un sy'n cael ei adsefydlu neu ei ddanfon i Gymru yn cael ei gefnogi cyn belled ag y gallwn, fel cenedl noddfa, fel y dywedoch chi, a chyda'n partneriaid, o ganlyniad i'n partneriaeth â llywodraeth leol, dull amlasiantaethol tîm Cymru, ac yn wir, â'n lluoedd arfog hefyd, a'r Urdd yn bartner allweddol, rydym wedi cynorthwyo dros 350 o Affganiaid ers mis Awst, ers i'r lluoedd adael. Rydym wedi sicrhau bod asesiad cyfannol o anghenion newydd-ddyfodiaid a mynediad at addysg, gofal iechyd, cymorth i ddod o hyd i waith. Ond hefyd, yn ddiddorol, gwnaethom ddatblygu grŵp cefnogi cymheiriaid ar gyfer teuluoedd o Affganistan sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru eisoes, a bydd llawer ohonynt yn eich etholaethau, gan ddefnyddio'r model fforwm eiriolaeth llwyddiannus, a chafodd hynny ei gyflawni fel rhan o'r prosiect hawliau lloches y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Mae hyn yn helpu teuluoedd o Affganistan i gysylltu â'i gilydd a chynorthwyo ei gilydd i ymgartrefu yng Nghymru. Ddoe, crybwyllais faterion wrth y Gweinidog yn ymwneud â'r trwyddedau preswylio biometrig, sy'n hanfodol i ddinasyddion o Affganistan allu cael mynediad at gyfrifon banc, a materion eraill yn dilyn ei datganiad yr wythnos diwethaf.

A gaf fi dalu teyrnged i'n cyfaill, Jack Dromey AS, a fu farw yr wythnos diwethaf? Y diwrnod cyn iddo farw, cododd Jack y pryderon a rannwn fod cynllun adsefydlu dinasyddion o Affganistan yn methu rhoi blaenoriaeth i ailuno'r rhai sydd mewn perygl yn Affganistan â theuluoedd sy'n byw yn y DU. Rwyf am dalu teyrnged i'r hyn a wnaeth yn ei fywyd gwleidyddol ac wrth gwrs, rwyf am gydymdeimlo â'i deulu a Harriet Harman, ei wraig. Ond yr hyn a ddywedodd—a chredaf ei fod yn berthnasol i hyn—oedd:

'Mae gan ein gwlad hanes balch o ddarparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth. Byddai unrhyw lastwreiddio ar y cynllun adsefydlu yn groes i'n gwerthoedd mwyaf sylfaenol sef gweddusrwydd, gonestrwydd a thegwch.

14:10

Weinidog, bydd cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn darparu llwybr diogel a chyfreithlon i hyd at 20,000 o fenywod, plant ac eraill o Affganistan sy'n wynebu'r perygl mwyaf i adsefydlu yn y DU. Bydd yn adeiladu ar ymdrechion parhaus y DU i gefnogi'r dinasyddion o Affganistan sydd mewn perygl, gan flaenoriaethu'r rhai sydd wedi cynorthwyo ymdrechion y DU yn Affganistan ac a safodd dros ein gwerthoedd, a'r bobl hynod agored i niwed hynny, megis menywod a merched sydd mewn perygl ac aelodau o grwpiau lleiafrifol.

Gwn eich bod yn sefyll yn gadarn iawn dros hyn ac rwy'n cytuno â chi fod angen i Gymru chwarae ei rhan yn y gwaith i helpu'r bobl hyn i gael cartrefi parhaol ac ailadeiladu eu bywydau yn y DU, a gwn eich bod wedi sôn droeon fod Cymru'n genedl noddfa. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch—gwn ichi sôn am hyn mewn ymateb cynharach i fy nghyd-Aelod dysgedig, Rhianon Passmore—pa sgyrsiau a gawsoch yn benodol gyda chyd-Weinidogion, eich partneriaid mewn llywodraeth leol, y sector preifat a'r sector gwirfoddol i oresgyn y rhwystrau y sonioch chi amdanynt yn eich ymateb blaenorol i Rhianon, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n dod i Gymru yn cael y cyfleoedd ym maes tai, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i ailadeiladu eu bywydau, ac i ad-dalu'r ddyled sydd arnom iddynt?

Fe sonioch chi hefyd am gronfa adsefydlu Affganistan. A allwch chi egluro pa ddangosyddion perfformiad allweddol a fydd ar waith i sicrhau y bydd yn wirioneddol ddefnyddiol i'r rhai sy'n dymuno adsefydlu? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Rwy'n cadarnhau fy mod wedi cyfarfod â Victoria Atkins, y Gweinidog Adsefydlu Affganiaid, ddoe. Yn wir, cyfarfûm â hi gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac roedd hi'n cyfarfod â chydweithwyr yn yr Alban hefyd. Byddwn yn cael deialog reolaidd. Gwnaeth y datganiad hwnnw yr wythnos diwethaf ar y cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar rai o'r pryderon a godais gyda hi ddoe, ac mae llawer ohonynt yn faterion i Lywodraeth y DU. Rydym eisoes yn ymwneud â'n hawdurdodau ni, mewn perthynas â gwasanaethau datganoledig. Yn wir, mae Victoria Atkins i fod i ddod i ymweld â Chymru i edrych ar rai o'n darpariaethau pontio, a byddaf yn cyfarfod â hi gydag aelod cabinet arweiniol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd. Mae hwn yn faes lle crybwyllais faterion penodol mewn perthynas â dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, sy'n hanfodol. Rwyf wedi sôn am y trwyddedau preswylio biometrig fel un pwynt allweddol. Cawsom beth cynnydd ddoe mewn perthynas â diweddaru gwybodaeth a oedd yn dod drwodd, ond hoffwn ddweud ein bod yn parhau'n bryderus iawn ynghylch oedi wrth helpu'r unigolion sydd mewn perygl i ddod o hyd i noddfa.

Nid yw llwybrau atgyfeirio Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn agor tan y gwanwyn. Mae hynny'n golygu efallai na fydd unigolion mewn perygl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi byth yn dod o hyd i'w ffordd drwy'r llwybr hwn. Dyma'r llwybr allweddol i mewn i gynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, a chredaf fod llawer i'w wneud. Nid ydynt yn gweithredu llwybr carlam, nid ydynt yn edrych yn gydymdeimladol ar achosion yr holl geiswyr lloches o Affganistan sydd eisoes yn byw yn y DU. Mae hynny'n afresymegol ac mae'n gwaethygu'r pwysau ar y system loches. Rhaid imi ddweud bod anghysondeb sylfaenol wrth wraidd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sy'n dweud y bydd Affganiad a ddygwyd i'r DU o dan y cynllun adsefydlu yn cael cymorth da, ond ni fyddai'r cyfryw ddinesydd Affganaidd yn gallu manteisio ar naill ai'r cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, na'r polisi adleoli a chymorth i Affganiaid. O dan y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau felly, gallent gael eu troseddoli a'u hamddifadu o gymorth digonol. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn weithio ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a'r materion hyn wrth i'r cynllun ddatblygu. 

14:15
Y Rhaglen Ôl-ffitio

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyflymu'r broses o weithredu'r rhaglen ôl-ffitio i aelwydydd mewn tlodi tanwydd? OQ57417

Rwy'n gweithio gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi. Mae'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf newydd, y cynnydd arfaethedig yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Cartrefi Clyd o 2022-23, a'r ymgynghoriad ar iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn dangos ein hymrwymiad yn y maes hwn.

Diolch, Weinidog. Clywais eich sylwadau cynharach, ac rwyf am ganolbwyntio yn fy nghwestiwn atodol ar rôl y sector preifat, am mai yn y sector rhentu preifat y ceir y cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio waethaf, a dyna lle mae tenantiaid hefyd yn gorfod talu rhenti uwch. Roeddwn yn siarad ag etholwr y penwythnos hwn am yr anallu i gadw eu hystafell fyw yn gynnes, hyd yn oed ar ôl wyth neu naw awr o gael y gwres ynghynn. Yn amlwg, mae'r allyriadau carbon a'r arian sydd ynghlwm i gyd yn mynd allan drwy'r ffenestr, yn enwedig gan nad yw'r landlord yn yr achos penodol hwn yn cynnal a chadw'r adeilad yn iawn, ac mae'n amlwg eu bod yn gwneud elw mawr o'r rhenti y maent yn eu codi. Rwyf am edrych yn arbennig ar yr holl adeiladau nad ydynt yn cydymffurfio â sgôr effeithlonrwydd E y dystysgrif perfformiad ynni, oherwydd dyna'r lefel ofynnol. Nid wyf yn deall pam y ceir esemptiadau o hyd i unrhyw un sy'n ceisio rhentu pan fo hon yn lefel ofynnol absoliwt ac mae'n amlwg fod angen inni sicrhau bod y sector rhentu preifat yn chwarae ei ran. Mae gwelliant wedi bod yng Nghaerdydd, ond mae ceir dros 5,000 o gartrefi o hyd nad ydynt yn bodloni'r sgôr E ofynnol ar gyfer effeithlonrwydd ynni, sydd, yn amlwg, yn golygu costau enfawr i unigolion yn ogystal ag i'r amgylchedd. Felly, beth y gellir ei wneud i gael landlordiaid i chwarae eu rhan yn hyn oll?

Diolch am y cwestiwn hollbwysig hwn y prynhawn yma, Jenny Rathbone. Rydych wedi crynhoi'r sefyllfa enbyd y mae llawer o rentwyr preifat ynddi. Fel y gwyddoch, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yn y sector rhentu preifat, felly Rhentu Doeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid, sydd i fod i ddarparu'r wybodaeth honno am helpu i gyrraedd y safonau gofynnol. Rydym wedi ein sicrhau bod Rhentu Doeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Clyd i gyfeirio aelwydydd a allai fod yn bodloni'r cymhwysedd ar gyfer y gwelliannau effeithlonrwydd ynni hynny i'r cartref. Rwyf eisoes wedi sôn y prynhawn yma am y £30 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer effeithlonrwydd ynni aelwydydd incwm is yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyna gynnydd o 10 y cant. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu'n bennaf gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, gyda fy nghefnogaeth i, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gyflymu'r rhaglen Cartrefi Clyd a'r strategaeth tlodi tanwydd.

Anghydraddoldebau Cymdeithasol

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwersi a ddysgwyd am anghydraddoldebau cymdeithasol yn sgil y pandemig? OQ57412

Mae anghydraddoldeb cymdeithasol wedi mynd yn waeth oherwydd y pandemig. Bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn creu fframwaith gweithredu a bydd yr unedau cydraddoldeb, hil ac anabledd newydd yn darparu tystiolaeth gadarn i lywio polisi a chynlluniau.

Dwi'n gobeithio y gwnaiff y cysylltiad wella wrth i fi symud ymlaen. Mae'r pandemig wedi tanlinellu'r anghydraddoldeb dwfn sydd yn bodoli yn fy etholaeth i rhwng cymunedau â'i gilydd, a rhwng teuluoedd â'i gilydd. Er enghraifft, mae problemau tai anaddas mewn rhannau o Arfon—tai sy'n rhy fach i anghenion y teuluoedd sydd ynddyn nhw, tai sydd yn damp ac yn anodd i'w gwresogi. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi ei gwneud hi'n anoddach i atal lledaeniad yr haint, y COVID, yn ystod y cyfnod yma, ac yn anoddach i ddelio efo'i effeithiau.

Rŵan, mae'r teuluoedd yma yn wynebu argyfwng arall, yr argyfwng costau byw, gan amlygu anghydraddoldeb cymdeithasol arall a fydd yn effeithio llawer o deuluoedd yn Arfon, yn ôl yr arolygon, efo Gwynedd ymhlith y siroedd fydd yn cael ei heffeithio fwyaf. Fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru i'r Prif Weinidog ddoe i roi sylw i'r argyfwng costau byw drwy gynnal uwchgynhadledd i ddyfeisio ymateb trawslywodraethol brys i'r argyfwng costau byw. Ydy'ch Llywodraeth chi wedi cael cyfle i ystyried hyn ymhellach, ac a wnewch chi gefnogi cynnal uwchgynhadledd i lunio'r ymateb brys sydd mawr ei angen?  

14:20

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Credaf fod llawer o'r cwestiynau a'r ymatebion y prynhawn yma yn dangos pwysigrwydd canolbwyntio ar y mater hwn a'r trychineb costau byw sy'n dod i'r amlwg, wedi'i waethygu gan gynnydd mewn prisiau nwy cyfanwerthol, sy'n golygu bod llawer o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu tlodi tanwydd. Ond rydych hefyd wedi sôn am dai ac effaith y pandemig ar y rhai sydd mewn tai amhriodol. Mae cwestiwn Jenny Rathbone yn dilyn ymlaen o'ch cwestiwn chi mewn gwirionedd. Rwyf hefyd wedi ymateb ynglŷn â chynllun cymorth tanwydd ein rhaglen Cartrefi Clyd a'r cynllun costau byw aelwydydd. Credaf mai dyma lle mae angen inni ddod â hyn i gyd at ei gilydd. Byddaf yn sicr yn mynd â hyn yn ôl i drafod gyda'r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelodau sut y gallwn fynd i'r afael â hyn fel cynllun trawslywodraethol, gan ddod â'r holl bartneriaid o gwmpas y bwrdd. Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn ac am ddilyn ymlaen o'r hyn a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog hefyd.

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

8. Beth yw'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? OQ57405

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar strategaeth ddrafft ac yn disgwyl cyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26 ym mis Ebrill 2022. Bydd gweithredu'r strategaeth yn seiliedig ar gydweithio ag asiantaethau perthnasol, ac wedi ei arwain gan leisiau goroeswyr.

Diolch, Weinidog. Yn anffodus, yn ystod y pandemig gwelsom gynnydd yn nifer y troseddau a gofnodwyd sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig. Derbyniodd Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf dros 3,000 o atgyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn, a chefnogodd 69 o blant o dan 16 oed a oedd yn byw mewn lloches. Rydym wedi gweld llofruddiaethau erchyll menywod fel Sarah Everard a Wenjing Lin dan law dynion, ac rydym wedi gweld myfyrwyr benywaidd yn rhy ofnus i adael eu neuaddau a'u cartrefi oherwydd sbeicio. Nid mater sy'n effeithio ar fenywod sy'n perthyn i hil, oedran, crefydd neu ddosbarth penodol yw cam-drin domestig a thrais; mae'n effeithio ar bob un ohonom. Mae mor bwysig fod menywod yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel a bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Sut y bydd y Gweinidog yn hyrwyddo'r ymgynghoriad ar y strategaeth ac yn sicrhau bod menywod ledled Cymru yn gwybod ble i droi os ydynt yn dioddef?

Diolch yn fawr, Buffy Williams. A gaf fi dalu teyrnged i bawb sy'n darparu gwasanaethau arbenigol yn eich etholaeth, a ledled Cymru yn wir? Diolch hefyd i'r rhai a fynychodd y grŵp trawsbleidiol ddoe ar drais yn erbyn menywod a phlant, dan gadeiryddiaeth Sioned Williams, a aeth i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â phwysigrwydd y strategaeth newydd hon, yr ymgynghoriad sydd ar y gweill, gan edrych yn arbennig ar effaith y pandemig a hefyd, fel y dywedoch chi yn eich cwestiwn, ar lofruddiaethau erchyll menywod fel Sarah Everard dan law dynion, a'r myfyrwyr benywaidd y sonioch chi amdanynt. Rydym wedi cael y ddadl ar sbeicio. Mae hwn yn fater trawsbleidiol iawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn symud ymlaen gyda chanlyniad yr ymgynghoriad, gan wrando'n arbennig ar leisiau goroeswyr a hefyd y partneriaid sy'n darparu'r cymorth brys—yr holl bartneriaid; statudol a datganoledig, awdurdodau lleol a heddluoedd—yn ein strategaeth newydd ar gyfer y cam nesaf yn y frwydr yn erbyn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

14:25
Cenedl Cyflog Byw Gwirioneddol

9. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at wneud Cymru'n genedl cyflog byw gwirioneddol? OQ57404

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw go iawn a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gynyddu'r nifer sy'n mabwysiadu cyflogau byw go iawn. Rydym wedi cyhoeddi ein hymrwymiad ariannu i'r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol ac rydym yn gweithio'n ehangach i gymell cyflogwyr tuag at y cyflog byw go iawn.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar ynghylch gweithredu'r maniffesto ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn fod fy nghyngor i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, hefyd yn mabwysiadu hyn. Mae'n arwydd pendant ac ystyrlon o'n gwerthfawrogiad o'n gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae hefyd yn cydnabod y sgiliau a'r profiad sydd ganddynt. Bydd hyn hefyd, gobeithio, yn helpu gyda'r ymgyrchoedd recriwtio y mae awdurdodau lleol yn eu cynnal ar hyn o bryd oherwydd prinder staff yn y sector gofal.

Fodd bynnag, yr effaith ganlyniadol yw bod y gwahaniaeth rhwng cyflogau gweithwyr gofal a'u goruchwylwyr a'u rolau rheoli yn llai, ac mae'n golygu fy mod wedi cael rhai goruchwylwyr a rheolwyr yn dweud wrthyf, 'Wel, beth yw'r pwynt ysgwyddo'r cyfrifoldeb ychwanegol hwnnw os nad oes cymaint â hynny o wahaniaeth rhwng y cyflogau bellach?' Tybed pa atebion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u harchwilio i ddatrys y mater hwn yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld bod y codiad hwnnw i'r cyflog byw go iawn yn dechrau effeithio ar becynnau cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol yn ddiweddarach eleni. Fel y nododd yr Aelod, mae hyn yn arwyddocaol, ond cam cyntaf ydyw tuag at wella telerau ac amodau'r sector. Rydym yn sicr yn cydnabod fel Llywodraeth, er bod y cyflog byw go iawn yn elfen allweddol o waith teg, mai dim ond rhan ydyw o'r pecyn sy'n golygu bod gwaith teg a chyflogaeth gynaliadwy o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr yn hirdymor.

Fel y dywedais, dyma'r cam cyntaf o ran y gweithlu gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth, fel rhan o fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon ehangach a godwyd gan yr Aelod, a'r pwysau ehangach y gwyddom eu bod yn bodoli ar y sector ei hun. Ochr yn ochr â hynny, rydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau ariannol a phŵer y pwrs cyhoeddus, a phethau fel y contract economaidd neu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, i annog mwy o gyflogwyr y tu allan i'r sector cyhoeddus i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn yn eu sefydliadau a'u cadwyni cyflenwi.

Rydym yn benderfynol o barhau i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn parhau i osod yr esiampl gywir. Cyn y Nadolig, ysgrifennodd y Prif Weinidog a minnau at gyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn eu hannog i ystyried rhoi camau pellach ar waith ar weithredu'r cyflog byw go iawn. Rwy'n falch iawn, fel y dywedodd yr Aelod, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi nodi ymrwymiad yn ddiweddar i fod yn gyflogwr cyflog byw go iawn achrededig. Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda hwy, ond hefyd gyda Cynnal Cymru, y corff sy'n gyfrifol am achrediad y Living Wage Foundation yng Nghymru, i weld beth arall y gallwn ei wneud i dargedu sectorau penodol, a hefyd i weld sut y gallwn gefnogi Cynnal Cymru yn ariannol i wella eu gallu i gyflwyno achrediad y cyflog byw go iawn ledled Cymru.  

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jack Sargeant.

Cymorth Cyfreithiol Troseddol

1. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol Syr Christopher Bellamy o gymorth cyfreithiol troseddol? OQ57418

Diolch am y cwestiwn. Mae Syr Christopher Bellamy yn gwneud llawer o argymhellion hanfodol am y system cyfiawnder troseddol a chymorth cyfreithiol troseddol. Bydd y graddau y mae Llywodraeth y DU yn derbyn ei argymhellion yn brawf da o'r graddau y maent wedi ymrwymo i achub y system cyfiawnder troseddol y maent yn gyfrifol amdani.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, a chyda Syr Christopher Bellamy, fod angen buddsoddiad enfawr ar y system cymorth cyfreithiol i'w hadfer i ryw lefel o iechyd ar ôl blynyddoedd o'i hesgeuluso gan wahanol Lywodraethau yn San Steffan. Ond os edrychwn y tu hwnt i gwmpas adolygiad Syr Christopher Bellamy, rydym wedi gweld pa mor anodd yw hi i bobl gyffredin gael cyfiawnder—yr is-bostfeistri hynny a gollfarnwyd yn gyfeiliornus yng Nghymru ac ar draws y DU, y rhai a gollodd eu bywydau yn Grenfell a'r cefnogwyr a'u teuluoedd a aeth i gêm bêl-droed ac na ddaeth adref yn eu holau. Roedd gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin: roeddent i gyd yn wynebu rhwystrau enfawr rhag gallu cael cyfiawnder. Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi, ac a ydych yn cefnogi galwadau gan Andy Burnham, Steve Rotheram a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, am gyfraith Hillsborough yn awr?

14:30

Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch ichi am y cwestiwn atodol pwysig iawn hwnnw? Hoffwn ddweud i ddechrau fy mod, wrth gwrs, wedi cyfarfod â Syr Christopher Bellamy ac mae llawer o'r pwyntiau rydych chi'n eu codi yn bwyntiau rwyf finnau wedi'u codi. Ac rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater hwn yn rheolaidd oherwydd mae mynediad at gyfiawnder, i ryw raddau, yn dibynnu ar gael system cymorth cyfreithiol effeithiol sy’n gweithio. Nododd Syr Christopher Bellamy gyfres gyfan o broblemau sy’n ymwneud â mynediad at gyfiawnder gan gynnwys hygyrchedd cyfreithwyr, y diffyg cyngor cyfreithiol sy’n bodoli, a’r system ariannu hefyd. Ond roedd yn eithaf cyfyngedig mewn perthynas â chymorth cyfreithiol troseddol.

Ar ymgyrch cyfraith Hillsborough, mae gennyf ddiddordeb mawr iawn ynddi. Yn y gorffennol, bûm yn ymwneud ag achosion Orgreave a'r galw am ymchwiliad i Orgreave, er enghraifft, a phe bai gwersi wedi cael eu dysgu o hynny, gallai fod wedi cael effaith ar y ffordd y datblygodd Hillsborough ac yn y blaen.

Nawr daeth y cynigion, yn ôl fel rwy'n eu deall, gan Esgob Lerpwl mewn gwirionedd, a thri o'r rhai allweddol oedd y dylid cael eiriolwr cyhoeddus, cynrychiolaeth mewn cwestau, sy'n rhywbeth rwyf bob amser wedi dadlau o’i blaid, yn ogystal â dyletswydd gonestrwydd. Ac mae yna rai eraill wrth gwrs. Felly, rwy’n credu bod hon yn alwad bwysig iawn, ac rwy’n deall pam ei bod wedi digwydd. Mae'n ymwneud â sicrhau bod gan sylfaen y bobl mewn cymunedau’n cael mynediad at gyfiawnder ac rwy'n credu ei fod yn fater yr hoffwn ei archwilio ymhellach. Deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU ydyw wrth gwrs, ond mae’n bosibl iawn y bydd gwersi perthnasol i Gymru eu dysgu, ac os yw’r Aelod yn hapus, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod ag ef, a chydag Aelodau eraill mewn gwirionedd, er mwyn archwilio sut y gallai pwysigrwydd y galwadau am gyfraith Hillsborough fod yn berthnasol i Gymru a hefyd yn berthnasol i gyfiawnder sy’n digwydd yng Nghymru. Ac wrth gwrs, nid yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli. Pe bai wedi’i ddatganoli, rwy’n credu efallai y gallem symud yn gynt ac mewn modd llawer mwy blaengar mewn perthynas â’r mater hwn. Ond rwy'n sicr yn ei archwilio; mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo, ac rwy’n hapus i ymgysylltu â’r Aelod ac eraill i edrych arno ymhellach.

Y Cyswllt Hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyswllt hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? OQ57422

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r gwasanaeth wedi'i atal ar hyn o bryd oherwydd effaith y pandemig, sy'n parhau i effeithio'n fawr ar y diwydiant hedfan byd-eang. Yn erbyn y cefndir hwn ac ar yr adeg briodol, rhoddir ystyriaeth lawn a phriodol i ddyfodol y gwasanaeth. Bydd y Gweinidogion priodol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Diolch. Ers bron i ddwy flynedd, mae'r gwasanaeth o Ynys Môn i Gaerdydd, fel rydych newydd ei ddweud, wedi'i atal. Ac eto, fis diwethaf datgelwyd bod Llywodraeth Cymru wedi talu dros £750,000 mewn cymorthdaliadau—arian trethdalwyr—yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Daw'r contract presennol i ben ar 17 Chwefror 2023 ac mae'n werth uchafswm o £8,529,282. Nawr, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y tendr yn seiliedig ar ddarparu 10 taith gron yr wythnos a phennir y costau terfynol yn ôl nifer o ffactorau amrywiol. Felly, mae'n ymddangos yn glir i mi fod y ffactorau amrywiol hynny wedi caniatáu i dros £.0.75 miliwn o arian trethdalwyr gael ei dalu i Eastern Airways yn 2021 er na ddarparwyd unrhyw wasanaethau. Felly, a wnewch chi egluro a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gofyn am unrhyw gyngor cyfreithiol mewn perthynas â therfynu neu ddiwygio'r contract hwn?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Efallai y caf ddechrau drwy ddweud bod gwasanaeth Caerdydd i Ynys Môn yn ddyletswydd gwasanaeth cyhoeddus. Mae'n cael cymhorthdal llawn gan Lywodraeth Cymru, a gallodd wneud hynny o dan gyfraith yr UE a ddargedwir—Rheoliad (CE) Rhif 1008/2008—a bydd unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r llwybr yn cael eu gwneud yn unol â gofynion y rheoliadau hynny.

Mewn perthynas â'r pwyntiau eraill y mae'r Aelod wedi'u gwneud, efallai y caf ei hatgoffa fy mod yn ateb cwestiynau heddiw yn fy rôl fel y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Felly, mae fy atebion wedi'u cyfyngu i fy nghyfrifoldebau a fy swyddogaethau penodol fel swyddog y gyfraith a'r meysydd sydd wedi'u cynnwys yn fy rôl fel Gweinidog y cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn atodol a godwch yn codi cwestiynau polisi penodol sy'n berthnasol i faes penodol, ac fel y cyfryw, dylid ei gyfeirio at y Gweinidog portffolio perthnasol sy'n gyfrifol am y maes hwn.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rŷn ni'n symud ymlaen nawr i'r cwestiynau i lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr sydd gyntaf—Darren Millar.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch chi egluro inni pam y mae gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyllideb o £3.3 miliwn, os gwelwch yn dda?

Diolch am y cwestiwn. Mae gan gomisiwn y cyfansoddiad gyllideb sydd wedi'i chynllunio i'w alluogi i gyflawni ei waith pwysig yn ymgysylltu â phobl Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae arnaf ofn nad yw'n egluro pam fod angen i'r comisiwn gael cyllideb mor fawr. Pan sefydlwyd y comisiwn hwn, gofynnais ichi beth fyddai'r gyllideb, ac fe ddywedoch chi y byddech yn ysgrifennu ataf. Rwy'n dal i aros am eich llythyr—nid wyf wedi'i dderbyn. Ond yn amlwg, rwyf wedi llwyddo i gael golwg ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a drafodwyd ddoe, a gwelais fod £3.3 miliwn wedi'i ddyrannu i'r comisiwn penodol hwn. Roedd comisiynau blaenorol yn costio tua £1 filiwn i ymgymryd â'u gwaith—ac rwy'n cyfeirio at gomisiwn Richard a chomisiwn Silk, ac roedd gan y ddau ohonynt gyllideb a oedd yn llawer llai na thraean o'r gyllideb ar gyfer y comisiwn hwn. Felly, a gaf fi ofyn ichi eto: pam fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen gwario £3.3 miliwn ar y gwaith hwn, ac a allwch chi ddarparu copi o'r gyllideb fanwl ar gyfer gwaith y comisiwn i'r Senedd, ac i mi, yn unol â'r addewid a wnaethoch yn ôl ym mis Hydref ond nad ydych eto wedi'i gyflawni?

Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf, os nad ydych wedi cael y llythyr gennyf, rwy'n ymddiheuro am hynny. Wrth gwrs, rydych chi wedi cael y wybodaeth o'r gyllideb, ac wrth gwrs, rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at y gyllideb a oedd i ddod mewn atebion blaenorol. O ran cost gweithredu comisiwn a fydd yn ymgysylltu â phobl Cymru, dros gyfnod o sawl blwyddyn, ar fater sy'n sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru a dyfodol y DU, mae'n ymddangos i mi'n gwbl briodol y dylid cael digon o arian i'w alluogi i wneud y gwaith hwnnw ac i ymgysylltu â phobl Cymru. Mae'n amlwg fod gwaith ymgysylltu'r comisiwn yn rhywbeth cwbl ychwanegol at waith rhai o'r comisiynau blaenorol, ac mae'n rhan sylfaenol o adeiladu'r consensws hwnnw rwyf wedi'i ddisgrifio o'r blaen.

O ran y manylion, rwy'n tybio mai'r broblem gyda'r manylion ar hyn o bryd yw bod y comisiwn, ar hyn o bryd, yn y broses o ddatblygu ei strategaeth ei hun a'i rhaglen waith ei hun a chostau hynny. Ac rwy'n siŵr y gellir darparu rhagor o wybodaeth maes o law, pan fydd gennym ragor o wybodaeth am y manylion hynny. Ond am y tro, y peth pwysig yw sicrhau bod y comisiwn yn gallu gwneud gwaith sydd mor hanfodol i ddyfodol Cymru a dyfodol y DU.

Wel, rwy'n ddiolchgar am eich ymddiheuriad, Weinidog. Wrth gwrs, mae un llinell yn y gyllideb i ymdrin â'r mater penodol hwn, a gofynnais mewn cyfleoedd blaenorol yn y Senedd am esboniad ynglŷn â beth fyddai'r tâl i gadeiryddion ac aelodau'r comisiwn, ac rwy'n dal i aros am y wybodaeth honno. Wrth gwrs, nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb sydd wedi'i chyhoeddi. Rydych yn sôn am ymgysylltu; wrth gwrs, roedd y comisiynau blaenorol yn ymgysylltu'n eithaf helaeth fel rhan o'u gwaith, ac yn ei reoli o fewn amlen ariannol sy'n wahanol iawn i'r £3.3 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio'i ddyrannu.

Nawr, pan gyhoeddoch chi eich bod yn sefydlu'r comisiwn, fe ddywedoch chi wrth Aelodau'r Senedd eich bod yn disgwyl iddo gwblhau ei waith erbyn diwedd 2023. A allwch chi egluro, felly, pam fod £1.1 miliwn arall yn dal i fod wedi'i ddyrannu yn y gyllideb—y gyllideb tair blynedd ddangosol a gyhoeddwyd—ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25, a fyddai ar ôl i'r comisiwn hwn gwblhau ei waith? Pam y disgwylir i draean o gyllideb y comisiwn ddigwydd ar ôl cwblhau gwaith y comisiwn? Mae'n ymddangos i mi nad yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, neu a ydych chi wedi diwygio'r amserlen?

14:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gaf fi ddiolch ichi yn gyntaf am y sylwadau pellach hynny? O ran y tâl, hoffwn ddweud unwaith eto ei bod hi'n ddrwg gennyf os nad ydych wedi cael y llythyr, ond yn sicr, gwn fy mod wedi cael cais ysgrifenedig gan un o'ch Aelodau, Mr Joel James, a ofynnodd am y wybodaeth honno, a darparwyd y wybodaeth mewn perthynas â chyfraddau talu. Rwy'n siomedig os oes Aelod unigol o'ch grŵp eich hun, efallai, heb dynnu eich sylw at wybodaeth a ddarparwyd yn benodol. Rwy'n siŵr y gellir darparu copi o'r llythyr hwnnw i chi, os yw Mr Joel James yn cytuno, ac mae'r wybodaeth yn hwnnw. Felly, fe wnaf ymdrin â hynny. 

Ar y gwariant a'r gyllideb, wel, mae'r gyllideb yno mewn perthynas â'r comisiwn a'i waith, ac nid yw hwnnw'n dod i ben yn sydyn. Bydd sut y gellir gwario'r gyllideb dros gyfnod o amser, ac i ba raddau y caiff ei gwario, yn dibynnu ar y rhaglen waith lawn, ond o ran cyflwyno'r adroddiad, yn amlwg bydd gwaith yn parhau o hwnnw. A chredaf fy mod wedi egluro mewn datganiadau blaenorol hefyd, wrth gwrs, mai un o'r materion sy'n codi yw sefydlu comisiwn cyfansoddiadol parhaol yn y pen draw, nid hyn, ac wrth gwrs, bydd argymhellion ynglŷn â hynny a byddai'n arwain at faterion yn ymwneud â hynny. Felly, mae'n anochel y bydd yn parhau y tu hwnt i amserlenni'r flwyddyn benodol. Y peth pwysig oedd adroddiad interim erbyn diwedd eleni, ac adroddiad llawn erbyn y flwyddyn ddilynol, ond wrth gwrs, gall yr amserlenni hynny newid oherwydd, fel y gwyddoch, mae dadleuon, trafodaethau a digwyddiadau'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn waith sydd ar y gweill.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, nododd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad trawsbleidiol ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor, heb gydsyniad y Senedd neu Weinidogion Cymru, yn gallu arfer pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio deddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddfau'r Senedd. Mae hyn yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer y pwerau i wneud rheoliadau er mwyn diwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Yn wir, gallai Gweinidogion Torïaidd yn Llundain fynd gam ymhellach a diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef sail ein setliad datganoli presennol. Credaf y gallwn ni i gyd gytuno ei fod yn fater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei addasu drwy reoliadau a wneir gan unrhyw Weinidog yn Llundain, yn enwedig y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon. Pa drafodaeth a gawsoch, Gwnsler Cyffredinol, gyda Gweinidogion San Steffan ynghylch y defnydd posibl o is-ddeddfwriaeth yn San Steffan i danseilio'r setliad datganoli yma yng Nghymru?

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n bwynt rwy'n ei ystyried yn gyffredinol o ran effaith gyffredinol cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth y DU, a'r effaith ar y setliad datganoli. Ac mae llawer o anghysondebau ac anomaleddau ac anawsterau mewn perthynas â phob deddfwriaeth sy'n cael ei phasio. Rwy'n sicr wedi codi hynny mewn trafodaethau uniongyrchol a gefais gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ond gallaf ddweud wrthych hefyd: gyda phob deddfwriaeth a gyflwynir, mae Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru yn gohebu ac yn ymgysylltu'n helaeth ynghylch materion cydsyniad, ac anghydfodau ynghylch yr hyn a allai fod yn fater a gedwir yn ôl ai peidio, a hynny ar sail cynnal cyfanrwydd y setliad datganoli.

Mae'n sicr yn iawn fod materion yn codi ynghylch gwendid confensiwn Sewel. Wrth i gynnydd gael ei wneud mewn perthynas â'r adolygiad rhynglywodraethol, rwy'n gobeithio y bydd creu cyrff a gweithdrefn anghydfodau, ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, yn darparu mecanwaith ar gyfer ymgysylltu pellach mewn gwirionedd, a gorfodi a gwella confensiwn Sewel, sydd wedi gwanhau cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, rwy'n credu, oherwydd ymosodiadau cyfansoddiadol uniongyrchol gan Lywodraeth y DU. Felly, rydych yn iawn i godi'r pwynt hwn, ond credaf y bydd y trefniadau rhynglywodraethol y byddwn yn gobeithio cael cyhoeddiadau pellach arnynt dros yr wythnosau a'r misoedd cynnar yn dechrau mynd i'r afael â pheth o'r gwactod cyfansoddiadol hwnnw. Nid wyf yn credu y bydd yn ei ddatrys, ond credaf y gallai ddarparu mecanwaith ar gyfer cam tuag at drefniant cyfansoddiadol mwy cadarn a therfynol. 

14:45

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Nid wyf yn credu y byddwn yn dweud bod confensiwn Sewel yn wan; rwy'n credu y byddwn yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, ond dyna ni. Gwnsler Cyffredinol, yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Arglwyddi fod y gorddefnydd o is-ddeddfwriaeth yn San Steffan yn beryglus i ddemocratiaeth. Beirniadodd yr Arglwydd Farnwr, y cyn arglwydd brif ustus uchel ei barch, y cynnydd mewn is-ddeddfwriaeth a dywedodd nad yw Tŷ'r Cyffredin wedi gwrthod unrhyw ddeddfwriaeth ddirprwyedig ers 1979. Aeth ymlaen i ddweud,

'caiff miloedd a miloedd o dudalennau, mewn print mân, eu hanfon atom bob blwyddyn, yn dweud wrth bawb ohonom sut y dylem fyw'

oni bai eich bod, Gwnsler Cyffredinol, yn cael eich gwahodd i barti yng ngardd 10 Stryd Downing. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y gallwn ninnau fel Senedd fod yn hunanfodlon ynglŷn â hyn. Mae rhai meysydd yn peri pryder gwirioneddol imi yn y Senedd hon. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o is-ddeddfwriaeth yn y lle hwn. Wrth holi'r Gweinidog addysg am y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), mynegwyd pryderon fod adrannau yn y Bil yn rhoi llai o rôl graffu i Senedd Cymru nag o'r blaen. Ac mae gan y Ddeddf diogelwch adeiladau—Bil Llywodraeth y DU—sydd o fewn maes a ddatganolwyd yn llawn, y gwnaethoch gydsynio iddi, 17 cymal sy'n creu pwerau rheoleiddio i Weinidogion Cymru. Nawr, o ystyried y diffyg craffu priodol amlwg iawn o fewn proses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, a'r cynnydd sylweddol yn y defnydd o is-ddeddfwriaeth yn y lle hwn, pa gamau rydych yn eu cymryd fel swyddog cyfreithiol y Senedd i sicrhau na fydd hyn yn peryglu democratiaeth Gymreig yn yr un modd ag y mae cyfreithwyr blaenllaw yn ei rybuddio mewn perthynas â San Steffan? Diolch yn fawr.

Mae'n bwynt pwysig iawn mewn perthynas â gwaith seneddau ar draws y DU, nid yn unig mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth ond wrth gwrs, y defnydd cynyddol o fframwaith deddfwriaethol, sy'n arwain at yr un pwerau'n mynd i weithrediaethau yn y pen draw, a lleihau rolau craffu wrth gwrs. A gaf fi ddweud, ar fater craffu, fod gennyf rywbeth mewn golwg? Rwy'n croesawu'r mewnbwn gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch mater memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac wrth gwrs, cyflawnir adolygiad yn o hynny gan y Pwyllgor Busnes, ac mae hwnnw'n sicr yn faes rwyf wedi bod yn ei ystyried ac wedi bod yn rhoi cryn sylw iddo. Credaf fod yr un peth yn wir am y pwyntiau a godwch ynglŷn ag is-ddeddfwriaeth, ac rwy'n cynnwys fframwaith deddfwriaethol gyda hynny, oherwydd o ochr y Llywodraeth, credaf fod dau rym sy'n cystadlu: un yw'r rheidrwydd ar Lywodraeth i fwrw ymlaen â deddfwriaeth, i fwrw ymlaen â gweithredu maniffestos, ond yn yr un modd, rhaid i hynny fod o fewn fframwaith senedd, lle mae'n rhaid i arfer pwerau gan lywodraeth gael ei ddwyn i gyfrif yn briodol, a'u bod yn dryloyw, a bod gallu i graffu'n briodol. Nawr, ceir problemau gwirioneddol gyda chraffu am amryw o resymau eraill hefyd, fel y gŵyr yr Aelod, sef, er enghraifft, maint y ddeddfwriaeth sydd ar y ffordd, y materion sy'n codi gyda memoranda cydsyniad deddfwriaethol a'r ffordd y mae'n rhaid ymateb i ddeddfwriaeth mor gyflym, yn enwedig yng ngoleuni Brexit a materion go debyg mewn perthynas â COVID wrth gwrs.

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw—ac rwyf wedi dweud hyn, rwy'n credu, yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond gallaf ei ailadrodd yma—rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu'n rheolaidd ar y materion hynny sy'n ymwneud â chraffu, ar y drafodaeth ynghylch yr heriau sydd gennym nid yn unig fel Senedd newydd, fel democratiaeth newydd, ond un sydd hefyd—. Mae gan bob sesiwn o'r Senedd rôl ddeddfwriaethol gynyddol a chyfrifoldebau cynyddol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod strwythur democrataidd ac atebolrwydd Senedd Cymru yn weithredol. Ceir amgylcheddau anodd oherwydd y trefniant cyfansoddiadol camweithredol sydd gennym ar hyn o bryd yn y DU, ond dyna pam fod angen inni gael ein comisiwn cyfansoddiadol ein hunain a hefyd yr adolygiad rhynglywodraethol a'r ystyriaethau eraill sydd ar y gweill sy'n cydnabod y camweithredu hwnnw ac sy'n dechrau edrych ar ffyrdd o'i ddatrys.

14:50

Mae'n ddrwg gennyf, gadewch imi ei estyn. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn wedi deall mai fy nghwestiwn i oedd y trydydd cwestiwn.

'Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru'

3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr 'Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru' gan Gomisiwn y Gyfraith? OQ57414

Diolch am eich cwestiwn, Rhys. Yn y datganiad ysgrifenedig i groesawu cyhoeddi'r adroddiad, fe wnes i esbonio bod y Llywodraeth yn cefnogi'n gryf yr egwyddor sylfaenol tu ôl i'r argymhellion sydd wedi cael eu gwneud. Byddwn yn nodi mwy o fanylion am ein cynlluniau yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr Aelodau'n deall na allaf roi amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth angenrheidiol ar hyn o bryd. 

Diolch yn fawr, Cwnsler. Rwy'n gweld yr argymhellion yma, fel sefydlu tribiwnlys apêl, fel cam pwysig iawn yn natblygu’r system gyfiawnder yma yng Nghymru. Efallai nad yw e'n cael lot o sylw yn gyhoeddus, ond dwi'n credu ei fod o bwysigrwydd mawr. Yn fy marn i, drwy'r tribiwnlysoedd Cymreig, mae gennym ni sylfaen i adeiladu system cyfiawnder teg a chyfiawn yma yng Nghymru. Mae'r tribiwnlysoedd yn hygyrch—mae hwnna wedi cael ei godi yn barod gan Jack Sargeant, o ran y broblem gyda hygyrchedd yn y system bresennol—ac maen nhw wedi cael eu strwythuro mewn ffordd sy'n annog trafodaeth yn hytrach na gwrthdaro. A beth sy'n wych am y tribiwnlysoedd Cymreig yw dyw eu datblygiad ddim yn amodol ar Lywodraeth San Steffan ond, wrth gwrs, ar Lywodraeth Cymru. Does dim modd beio San Steffan y tro hwn, Cwnsler Cyffredinol. Yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, mae'r tribiwnlysoedd Cymreig wedi cael eu hanghofio, yn syrthio rhwng dwy stôl oherwydd natur setliad datganoli, a mawr y gobeithiaf y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddal gafael yn y cyfle yma. Felly, wrth eu datblygu ymhellach, a ydy'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno gyda'r egwyddor sylfaenol y dylai holl ddeddfwriaeth Senedd Cymru o nawr ymlaen ddefnyddio Tribiwnlysoedd Cymru i benderfynu ar unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth hynny, yn hytrach na defnyddio llysoedd sirol Cymru a Lloegr? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn, ac wrth gwrs, ysgrifennodd yr Aelod am hyn mewn erthygl a ddarllenais ar Nation.Cymru ac roeddwn yn cytuno â hi. Cytunaf ag ef, yn gyntaf, ynglŷn â chroesawu gwaith Comisiwn y Gyfraith yn yr adroddiad manwl sydd gennym, sy'n cael ei ystyried o ddifrif a chyda golwg ar edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Hefyd, credaf y byddem i gyd yn cydnabod y gwaith pwysig y mae Syr Wyn Williams wedi'i wneud mewn perthynas â'r tribiwnlysoedd. Mae'r Aelod yn iawn fod y tribiwnlysoedd wedi dod mewn rhyw fath o ffordd ad hoc. Rydym wedi creu rhai, rydym wedi etifeddu rhai, ceir rhai sydd wedi newid, a nawr yw'r amser i'r tribiwnlysoedd hyn ddod at ei gilydd mewn un haen, fel yr argymhellir. Dyna fy marn i. Yr hyn sydd yr un mor bwysig, serch hynny, yw bod un o'r argymhellion neu'r opsiynau a nodir yno yn creu strwythur apeliadol, wrth gwrs, ac yn sicr, rwy'n credu bod y strwythur apeliadol hwnnw'n rhywbeth y byddem eisiau ei greu a hefyd, mae'n debyg, cael llywydd tribiwnlysoedd fel barnwr llys apêl i bob pwrpas.

Mae hwn yn fater ehangach roeddwn hefyd yn ei drafod ar fy ymweliad â'r Alban, lle mae gan lysoedd a thribiwnlysoedd, wrth gwrs, fframwaith gwahanol ond rhai pethau tebyg, a byddwn yn gobeithio y daw hon yn sylfaen embryonig i system gyfiawnder Cymru ac y gallwch edrych yn y pen draw hefyd—. Hynny yw, nid wyf eisiau cropian cyn cerdded yn hyn o beth—mae cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd—ond wrth gwrs, ceir tribiwnlysoedd eraill nad ydynt wedi'u datganoli, ond nid yw'r ffaith nad yw rhywbeth wedi'i ddatganoli yn golygu na all ffitio o fewn system dribiwnlysoedd, ac roedd hwnnw'n sylw diddorol a gefais o fy ymweliad â'r Alban. Felly, mae hwn yn gam sylfaenol bwysig ymlaen i Gymru. Mae ein profiad o ran y ffordd y mae'r tribiwnlysoedd wedi bod yn gweithredu, yn enwedig yn ystod COVID, wedi bod yn effeithiol iawn yn fy marn i. A chredaf y bydd y cynigion sydd wedi'u cyflwyno yn rhoi'r rhan sydd gennym ni o'r system gyfiawnder ar sail gadarn, yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac y bydd yn gallu gweithredu fel system gyfiawnder Gymreig embryonig, a hynny gyda'n strwythur apeliadau ein hunain am y tro cyntaf.

14:55
Mynediad i Gyfiawnder

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith technoleg ddigidol ar fynediad i gyfiawnder yng Nghymru? OQ57410

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn asesu cynlluniau Llywodraeth y DU wrth iddynt godi i sicrhau bod ystyriaethau mynediad at gyfiawnder wedi cael eu hystyried yn llawn. Mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ehangu mynediad at gyfiawnder, ond mae'n rhaid i'r system weithio'n galed i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fe fydd yn gwybod ein bod, yn ystod y pandemig, wedi gweld newid go iawn i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfiawnder ledled Cymru. Mae'n fater o anghenraid, ac mae wedi darparu rhai cyfleoedd. Hebddo, byddai llawer mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan yr oedi a'r ôl-groniadau a welwn. Ond mae'n rhaid inni gofio nad oes gan bawb allu na modd o ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Yn wir, fel y dywedodd comisiwn Thomas, gall yn wir fod yn anos i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol gael mynediad at hawliau cyfreithiol. Felly, a gaf fi ofyn pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r pwyslais rydym ni yng Nghymru yn ei roi ar sicrhau bod pob gwasanaeth llys ar gael i bobl heb sgiliau digidol, neu heb fynediad hawdd at blatfformau digidol, neu'n wir at y cymorth cyfreithiol sydd ei angen ochr yn ochr â mynediad digidol at gyfiawnder?

Diolch am y cwestiwn atodol. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn sy'n un parhaus. Wrth gwrs, mae gennym strategaeth ddigidol i Gymru, sy'n un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu i'w gwneud yn glir i bobl nad ydynt yn gallu neu sy'n penderfynu peidio â chyfranogi'n ddigidol fod yna ffyrdd amgen o gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Nawr, wrth gwrs, o fewn y system llysoedd ac yn sicr o fewn ein tribiwnlysoedd, credaf fod ein perfformiad wedi bod yn ddiguro, a gwneuthum sylwadau ar hyn yn ystod y drafodaeth ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a sut y maent wedi gweithredu yn ddigidol yn ystod cyfnod COVID ac sut y maent wedi gallu gweithio'n effeithiol iawn, ac wrth gwrs, credaf fod rhai o'n tribiwnlysoedd yn arbennig o addas i'r mathau hynny o wrandawiadau. Ond mae'r pwynt yn gwbl gywir—mae gennym 7 y cant o bobl Cymru heb fynediad at y rhyngrwyd, ac mae gennym 23 y cant o bobl dros 16 oed yr aseswyd nad oes ganddynt y sgiliau digidol angenrheidiol. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn ynglŷn â mynediad, ac mae llawer o hyn hefyd wedi'i waethygu gan y ffaith ein bod wedi cau llysoedd Llywodraeth y DU, sydd wedi gwneud unigolion yn fwy a mwy dibynnol ar fynediad digidol, ond mae'n amlwg iawn fod llawer o fethiannau sy'n rhaid eu nodi o fewn y system. Rwyf wedi crybwyll hyn a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, hefyd wedi ei grybwyll, yn ogystal ag eraill, ar bob cyfle wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder—ein bod, wrth gwrs, yn cefnogi'r manteision y gellir eu cyflawni drwy fynediad digidol, ond yn yr un modd mae yna gwestiynau gwirioneddol yn codi o ran cydraddoldeb a sicrhau nad yw mynediad digidol yn mynd yn rhywbeth sy'n atal mynediad at gyfiawnder neu'n creu system ddwy haen o fynediad at gyfiawnder.

Weinidog, mae gan dechnoleg ddigidol botensial i ail-lunio'r ffordd y mae cyfiawnder yn gweithredu a sut y mae pobl yn cael mynediad ato. Mae'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn buddsoddi tua £1 biliwn i ddiwygio ei systemau gyda'r nod o gyflwyno technolegau newydd a ffyrdd modern o weithio yn y llysoedd, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu cronfa arloesi gwerth £5 miliwn i hyrwyddo'r ffyrdd newydd hyn o ddarparu cymorth a chyngor cyfreithiol drwy ddulliau digidol. Mae'n amlwg y bydd hyn yn cael effaith ar lysoedd Cymru. Yn ychwanegol at hyn, a yw'r Gweinidog wedi asesu'r amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ddefnyddio technoleg i hunanasesu eu problem i weld a yw'n broblem gyfreithiol ai peidio?

15:00

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn atodol. Rydych yn codi nifer o bwyntiau diddorol. Y cyntaf—. Wrth gwrs, y pwynt olaf a godwch yw: a wyf fi fel Gweinidog wedi ystyried gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol, er gwaethaf ein cais, nad yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli. Meddyliwch faint yn well y gallem gyflawni gweithrediadau digidol, cyfleusterau cyhoeddus, y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor hanfodol mewn perthynas â materion cyfiawnder, pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli. Nawr, mae hynny'n rhywbeth rwy'n edrych arno ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wrth gwrs, i ddangos sut y gallem weithredu system gyfiawnder a gwell mynediad a gwell cyfiawnder, yn fy marn i, mewn sefyllfa ddatganoledig. Felly, dyna un maes sydd ar y gweill. Wrth gwrs, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi bod yn asesu hynny'n barhaus. Yn anffodus, mae'r ymwneud â ni ar hynny yn tueddu i fod braidd yn ysbeidiol. Rydym yn codi'r mater gyda Gweinidogion pan fyddwn yn siarad. Mae’n debyg na fydd yr Aelod yn synnu clywed bod rhwystrau mawr yn ein hwynebu o hyd o ran cael gafael ar ddata cyfiawnder sy'n ymwneud â Chymru. Nawr, sut rydych yn datblygu ac yn llunio polisi cymdeithasol a pholisi cyfiawnder os nad ydych hyd yn oed yn gwybod beth yw'r data yn eich gwlad eich hun? Ac rydym wedi codi hynny sawl tro ar bob lefel. Credaf fod y gwendidau wedi eu cydnabod o ran dadgyfuno argaeledd data, ond nid wyf yn gwybod beth sy'n digwydd ynglŷn â hynny.

Yr hyn yr hoffwn ei weld fyddai sefyllfa lle byddai mwy o ymgysylltu â ni, a mwy o lais gennym yn y defnydd o adnoddau yn y cyfuniad o wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau llys drwy'r defnydd o gyfleusterau digidol, ond ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn ddibynnol iawn ar benderfyniadau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Er enghraifft, mae gennym lys cyfiawnder sifil mawr ym mhrifddinas Cymru yng Nghaerdydd nad yw’n addas at y diben. Mae'n cael ei gydnabod fel un nad yw'n addas at y diben; mae’r pwynt hwnnw wedi’i wneud dro ar ôl tro ac eto rydym yn dal i aros am benderfyniad ynghylch cael cyfleusterau llys priodol ar gyfer teuluoedd, ar gyfer cynrychiolwyr, gyda’r holl agweddau digidol a diogelwch sy’n ofynnol. Felly, fe gyfeirioch at y pwyntiau cywir, ond yn fy marn i mae llawer i'w wneud cyn y bydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder raglen gynhwysfawr ar ddefnyddio technoleg ddigidol, a chyn y bydd yn cydnabod angen parhaus y rheini nad oes ganddynt fynediad digidol o'r fath.

Rheoliadau Diogelwch Tomenni Glo

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo? OQ57426

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae diogelu ein cymunedau yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig i wneud hynny. Rydym wedi comisiynu Comisiwn y Gyfraith i adolygu’r ddeddfwriaeth, a byddwn yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth newydd i ganiatáu inni reoli hen domenni glo yng Nghymru.

Diolch am eich ateb. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r pryderon hyn ynghylch diogelwch tomenni glo. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i godi droeon yn y Senedd, ac fel y nodwyd gennych, gwn fod gwaith yn mynd rhagddo i ganfod i atebion i sicrhau bod y tomenni yr ystyrir eu bod yn peri’r risg fwyaf, yn enwedig, yn ddiogel. Byddai'n dda gennyf ddeall safbwynt cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar hyn. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn datganiad ym mis Medi y llynedd:

'Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i ariannu’r costau hirdymor hyn.'

Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi esbonio beth yw’r cyfrifoldebau cyfreithiol hyn sydd gan Lywodraeth y DU, o dan Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 yn ôl pob tebyg, a pha rôl y gallwch ei chwarae i helpu i sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny’n cael eu cyflawni? Oherwydd, fel y dywedodd y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ddiwedd y llynedd, mae Llywodraeth y DU yn ymwrthod â’r cyfrifoldebau hynny ar hyn o bryd.

Ac yn olaf, os caf, fe gyfeirioch chi yn eich ateb cyntaf at yr ymgynghoriad a gynhelir gan Gomisiwn y Gyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith a wnaed hyd yn hyn a rhoi dyddiad i ni pryd rydych yn disgwyl iddynt gyhoeddi eu hargymhellion, os gwelwch yn dda?

Iawn. Diolch am amryw o bwyntiau pwysig mewn perthynas â thomenni glo, a chredaf fod gan eich etholaeth—eich rhanbarth—a’r etholaeth rwy'n ei chynrychioli nifer fawr o domenni glo, yn amlwg.

Mae'n debyg mai'r man cychwyn, wrth gwrs, yw pan ddaeth deddfwriaeth 1994 i rym—a chan fynd yn ôl, eto, at y ddeddfwriaeth ar ôl Aberfan ym 1969—roedd y ffocws ar fwyngloddiau a thomenni gweithredol yn hytrach na hen domenni. Ac wrth gwrs, mae mater pellach wedi codi mewn perthynas â hynny, sef wrth gwrs, y gwahaniaeth rhwng adfer tomenni a'u gwneud yn ddiogel. Oherwydd mae adfer, mewn sawl achos, wedi bod yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi ymwneud ag ef, ond wrth gwrs, mae mater diogelwch tomenni yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg yn fwyaf arbennig o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chyfrifoldebau sy'n dyddio o gyfnod ymhell cyn datganoli. Nawr, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud y tro diwethaf i hyn gael ei godi—a chredaf ichi gymryd rhan yn y cwestiynau bryd hynny—fy mod yn credu bod cyfrifoldeb moesol a gwleidyddol fan lleiaf ar Lywodraeth y DU yn hyn o beth.

Mae mater atebolrwydd cyfreithiol yn llawer mwy cymhleth, oherwydd gwendid y fframwaith deddfwriaethol a grëwyd ar ôl 1994 yn y bôn, lle mae gennych domenni sydd bellach mewn perchnogaeth wahanol. Mae rhai ohonynt yn dal ym mherchnogaeth yr Awdurdod Glo, sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdanynt. Mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag a yw’r cyfrifoldeb yn ymwneud â risgiau diogelwch yn unig neu â risgiau ehangach mwy hirdymor. Tra bod hyn oll yn mynd rhagddo, a thra bod Llywodraeth y DU yn amlwg wedi ymwrthod, yn gwbl gywilyddus yn fy marn i, ag unrhyw gyfrifoldeb dros yr hyn a adawodd y diwydiant glo ar ei ôl yn y cyfnod cyn datganoli, mae’n rhaid inni sicrhau, serch hynny, fod ein cymunedau’n ddiogel. O ganlyniad, mae Comisiwn y Gyfraith wedi bod yn cyflawni ei waith. Credaf fod y gwaith yn agos at fod wedi ei gwblhau. Fe wnaethant gynnal nifer o sesiynau yng Nghymru, a chawsant eu mynychu gan nifer eithaf da o bobl yn ôl yr hyn a ddeallaf. Rwyf wedi cyfarfod â hwy—gyda Chomisiwn y Gyfraith—ac wedi trafod y gwaith sy'n mynd rhagddo, ac wrth gwrs, y bwriad yw deddfu yn y maes hwn. Mae'n rhaid inni ddeddfu er mwyn creu fframwaith.

Bydd y dadleuon ynglŷn â chyllid yn parhau, ond fel Llywodraeth Cymru, ein blaenoriaeth, fel y dywedais, yw diogelwch pobl Cymru a’n cymunedau. Felly, o fewn y gyllideb tair blynedd nesaf, mae £44.4 miliwn ar gael ar gyfer gwaith diogelwch. Rydym hefyd wedi darparu £800,000 i’r Awdurdod Glo mewn perthynas â chynnal arolygiadau o domenni risg uchel, ac mae gwaith yn mynd rhagddo o hyd ar werthuso a dadansoddi pa rai yw’r rheini a'u lleoliad a beth yw’r lefelau diogelwch. Ac rwy’n deall bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlwg, wedi gwneud sylwadau ar hynny yn y gorffennol ac y bydd yn sicr o wneud hynny yn y dyfodol agos.

15:05

Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth ddigonol i awdurdodau lleol sicrhau bod tomenni glo ar dir preifat yn ddiogel. Er bod y Ddeddf bresennol yn rhoi pŵer angenrheidiol i awdurdodau lleol gael mynediad i dir preifat ar unrhyw adeg resymol er mwyn archwilio a chynnal profion diogelwch, mae angen rhoi o leiaf ddau ddiwrnod o rybudd. Os yw perchennog y tir yn gwrthod, ac mae hawl ganddynt i wneud hynny, mae gofyniad i awdurdodau lleol gael gorchymyn llys er mwyn cael mynediad, a gallai hyn gymryd cryn dipyn o amser. Er y byddai'r rhan fwyaf o berchnogion tir, rwy'n siŵr, yn fwy na pharod i gael archwiliadau o hen domenni glo, ceir cyfyngiad deddfwriaethol serch hynny a allai arwain at ganlyniadau difrifol. Gyda hyn mewn golwg, a yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn fod angen tynhau’r ddeddfwriaeth hon er mwyn lleihau unrhyw berygl i’r cyhoedd yn sgil oedi cyn archwilio hen domenni glo, a pha ystyriaethau y mae wedi’u rhoi i’r posibilrwydd o ddiwygio’r agwedd hon ar y ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw system reoleiddio newydd? Diolch.

Wel, diolch i Joel am ei gwestiwn, ac mae’r pwynt a godwch ar rôl awdurdodau lleol yn gywir, a hefyd ynghylch rhwymedigaethau perchnogion tir preifat a chanddynt domenni glo ar eu heiddo, neu hyd yn oed rannau o domenni glo, weithiau, fel rhai o'r cymhlethdodau. Mae hwn yn fater a nodwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, rwy'n credu, ac mae'n rhan o'r gwaith parhaus, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhan o rywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef mewn perthynas ag unrhyw gyfundrefn reoleiddiol yng nghyswllt tomenni glo. A phan fyddwn wedi cael yr adroddiad llawn a'r argymhellion, ac wedi cael cyfle i ystyried y rheini yn ogystal â sylwedd y ddeddfwriaeth, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r gwaith.

15:10
Deddfwriaeth Hawliau Dynol

6. Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i effaith adolygiad Llywodraeth y DU o ddeddfwriaeth hawliau dynol ar gyfraith Cymru? OQ57428

Diolch am eich cwestiwn. Fis diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae gennyf bryderon am y cynigion hyn. Bydd fy swyddogion a minnau’n craffu’n ofalus ar y manylion i bennu’r effaith ar gyfraith Cymru ac i sicrhau nad yw hawliau pobl Cymru yn cael eu gwanhau.

Diolch. Mae Martha Spurrier, cyfarwyddwr grŵp hawliau dynol Liberty, wedi dweud:

'Mae’r cynllun hwn i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn enghraifft amlwg a digywilydd o gipio pwerau gan Lywodraeth sydd am osod eu hunain uwchben y gyfraith. Maent yn llythrennol yn ailysgrifennu'r rheolau o'u plaid hwy fel na ellir eu cyffwrdd.'

Mae llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi dweud:

'Mae pobl o bob cefndir yn dibynnu ar y Ddeddf Hawliau Dynol i gynnal ac amddiffyn eu hawliau. Dylai unrhyw ddiwygio a wneir i’r offeryn cyfreithiol cynnil hwn, sydd wedi’i lunio’n ofalus, gael ei arwain gan dystiolaeth—nid ei yrru gan rethreg wleidyddol…. Hyderwn y bydd cynigion terfynol y llywodraeth yn diogelu enw da haeddiannol y DU fel arweinydd byd-eang yn cynnal hawliau dynol gartref ac ar y llwyfan rhyngwladol.'

Yn y bôn, mae colli neu grebachu neu leihau hawliau dynol yn destun pryder ac yn ansefydlogi'r unigolyn a’r wladwriaeth. Gwnsler Cyffredinol, pa sylwadau a thrafodaethau sy’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU yn y maes hwn, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei barn yn glir wrth Lywodraeth y DU ynghylch y pryderon dwys ynglŷn ag effaith y fath gamau arfaethedig peryglus ar ddinasyddion Cymru?

Diolch am eich cwestiwn atodol manwl. Mae’r adolygiad o’r Ddeddf Hawliau Dynol, gyda'r bwriad o greu bil hawliau newydd, yn rhywbeth y mae’n rhaid ei ystyried yn ddifrifol iawn. Mewn gwirionedd, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod datganiad ar y cyd wedi’i gyhoeddi gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau yn benodol ar hyn oherwydd ein pryderon am yr adroddiad a’r ffordd y mae wedi’i fframio. A gaf fi ddweud nad yw’n fawr o glod i Lywodraeth y DU pan fo’r Arglwydd Ganghellor, wrth gyfeirio at yr adolygiad, yn dweud mai ei ddiben yw gwrthsefyll 'agweddau woke a chywirdeb gwleidyddol', beth bynnag y mae hynny’n ei olygu?

Mae hawliau dynol yn rhan sylfaenol o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, o’r ddeddfwriaeth ddatganoli, ac wrth gwrs, mae’n rhaid i’r holl ddeddfwriaeth a roddwn ar waith gydymffurfio â honno, ac rwy’n cefnogi hynny'n llwyr. Mae gennyf bryderon gwirioneddol am yr adolygiad; maent wedi'u mynegi yn y datganiad. Mae gennyf bryderon gwirioneddol, er enghraifft, ynglŷn â'r cyfeiriad at 'rights inflation'. Un o’r dibenion, yn y bôn, yw mynd i'r afael â’r ffaith ein bod, yn ôl yr honiad, wedi gweld cynnydd yn nifer yr hawliau, ac felly fod gennym ormod o hawliau ac felly fod rhaid cyfyngu ar rai o’n hawliau. Mae gennyf bryderon gwirioneddol am y—. Er hynny, yn rhagair yr adroddiad, mae'n cyfeirio at ddatganoli, ond a dweud y gwir, nid yw'n sôn am ddatganoli o gwbl wedi hynny, ac eithrio mewn perthynas â Gogledd Iwerddon. Ac mae gennyf bryderon hefyd am y cyfyngiad sydd wedi'i osod yn yr adolygiad, sy'n dweud, yn y bôn, na fydd yn ystyried ehangu mater hawliau cymdeithasol ac economaidd. Wel, os ydych am gael adolygiad o hawliau dynol, sut y gallwch anwybyddu mater addasrwydd amddiffyniadau hawliau economaidd a chymdeithasol y bobl?

Felly, mae gennyf bryder gwirioneddol am y ffordd ddifrïol y mae’r adroddiad wedi’i eirio, y diffyg tystiolaeth sy'n sail i rai o’r rhagdybiaethau neu’r pwyntiau arweiniol a wneir ynddo. Ond yr hyn y gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau yn ei gylch yw bod hwn yn fater o gryn bryder ar draws pob Senedd, a byddwn yn mynd i’r afael â hynny o ddifrif ac yn cyflwyno adroddiad llesol a sylweddol iawn ar yr holl fuddiannau sydd gennym fel Senedd Cymru mewn perthynas â'r meysydd sydd dan ystyriaeth yn yr adolygiad, ond hefyd, rwy'n credu, y meysydd y credwn y dylid eu hychwanegu ato. meysydd y mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu eu hadolygu ar hyn o bryd, sy’n gyfle a gollwyd yn fy marn i.

Diwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol

7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU ynghylch effaith y diwygiad arfaethedig i'r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfraith Cymru? OQ57419

15:15

Diolch am eich cwestiwn. Cynigion Llywodraeth y DU yw'r cynigion yn yr ymgynghoriad ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Nid ydynt yn adlewyrchu safbwyntiau Llywodraeth Cymru. Mae fy swyddogion a minnau, ac ar y cyd â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn ystyried y ddogfen ymgynghori’n ofalus.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, o’r ateb a roesoch i Rhianon Passmore a phopeth arall rydych wedi’i wneud dros y blynyddoedd, rydych yn amlwg yn cytuno â mi y dylid bod yn ofalus iawn bob amser wrth wneud unrhyw newidiadau i hawliau sylfaenol, fel y Ddeddf Hawliau Dynol. Maent yn sail i hawliau unigol a chyfunol o fewn ein democratiaeth ryddfrydol. Dylem fod yn ychwanegu atynt yn hytrach na chael gwared ar hawliau a sôn am bethau fel chwyddiant hawliau.

Rydym wedi arfer â Llywodraeth y DU yn cipio pwerau oddi wrth y Senedd hon drwy ddeddfu mewn meysydd datganoledig a thrwy Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Fodd bynnag, credaf fod hyn hyd yn oed yn fwy difrifol, gan fod gennym enghraifft o gipio pwerau oddi wrth bobl Cymru. Fel y dywedodd y Gweinidog, Jane Hutt, yn ei datganiad heddiw: mae hyn yn effeithio'n sylfaenol ar sail ein setliad datganoli. Mae'n hawl sylfaenol fod angen i bob deddfwriaeth a ddaw o'r lle hwn, boed yn ddeddfwriaeth sylfaenol neu'n is-ddeddfwriaeth, fod yn gydnaws â hawliau'r confensiwn, ac os ydynt yn anghydnaws, gall pobl Cymru ddwyn pob un ohonom i gyfrif yn y llys. Mae'r cynnig sy'n atal llys rhag dirymu is-ddeddfwriaeth benodol y canfyddir ei bod yn anghydnaws â hawliau dynol unigolyn yn tanseilio'r hawl hon yn llwyr. Roedd hon yn hawl a enillwyd gan bobl Cymru—

—mewn refferendwm ym 1997, hawl a gadarnhawyd mewn ail refferendwm yn 2011, ac a gadarnhawyd yn 2021 pan gafodd y diddymwyr eu gwrthod yn llwyr yn y blwch pleidleisio. Beth y gallwch ei wneud fel Cwnsler Cyffredinol, a beth y gall pob un ohonom ninnau o bob plaid ei wneud, pob Aelod o’r Senedd hon, i ddiogelu hawliau pobl Cymru? Diolch yn fawr.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Mae'n debyg y gallaf ymateb drwy ddyfynnu'r hyn a ddywedodd prif weithredwr Amnesty International. Mae hwn yn gorff a chanddo gefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol a statws rhyngwladol anhygoel. Dywedodd Sacha Deshmukh, y prif weithredwr, 'Dewch inni siarad yn blwmp ac yn blaen. Nid yw'n anghywir i ddweud bod gweinidogion y Llywodraeth mewn perygl o sefyll ochr yn ochr â chyfundrefnau awdurdodaidd os llwyddant i ail-lunio'r Ddeddf Hawliau Dynol.'

Pan edrychwch ar yr adolygiad o hawliau dynol, yr hyn a gynigir hefyd mewn perthynas ag adolygiad barnwrol, sy'n ymwneud â lleihau gallu'r llysoedd i herio'r modd yr arferir pwerau—arfer pwerau'n anghyfreithlon gan Lywodraethau—pan edrychwch ar Fil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU, sy'n ceisio rhoi hawliau mympwyol i ddiddymu dinasyddiaeth unigolion, pan edrychwch ar y ddeddfwriaeth heddlu, troseddu a dedfrydu, sy'n ceisio cyfyngu'n sylweddol ar y rhyddid i brotestio, yr hyn sydd gennym yw Llywodraeth sy'n symud tuag at fframwaith cynyddol awdurdodaidd. Felly, mae'r adolygiad hwn yn hanfodol bwysig.

Gallaf ddweud, yn sicr, mai fy marn i fel Cwnsler Cyffredinol yw nad wyf am weld hawliau dynol yn cael eu lleihau o gwbl o gymharu â deddfwriaeth hawliau dynol, a chredaf y byddwn yn dweud hynny’n glir ynghyd â llawer o bwyntiau eraill yn y sylwadau a wnawn i Lywodraeth y DU. Wyddoch chi, pris rhyddid yw gwyliadwriaeth dragwyddol. Os bu amser erioed i fod yn dragwyddol wyliadwrus, nawr yw'r amser hwnnw.

Cyfraith yr UE a Ddargedwir

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57407

Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu ymgysylltu’n llawn â’r Llywodraethau datganoledig wrth gynnal ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir. Rwy'n disgwyl rhagor o wybodaeth am yr adolygiad hwnnw a sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.

Cwestiwn atodol syml, Gwnsler Cyffredinol. Wrth aros am ymateb gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol, tybed ar ba sail y mae’n disgwyl i'r ymgysylltiad rhwng Llywodraeth y DU a Gweinidogion Llywodraeth Cymru fel ef ei hun, y Cwnsler Cyffredinol, gael ei gynnal. A ddylai fod ar sail parch a dealltwriaeth o gymwyseddau gweinyddiaethau datganoledig? A oes ganddo unrhyw syniadau eraill ynglŷn â'r ffordd yr hoffai i hyn ddigwydd mewn ffordd adeiladol a chadarnhaol?

15:20

A gaf fi ddweud yn gyntaf i hyn gael ei godi gan yr Arglwydd Frost, sydd wedi ymddiswyddo o’r Llywodraeth ers hynny? Roeddem wedi cael gwybod ar lefel swyddogol fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu’n llawn â’r Llywodraethau datganoledig wrth gynnal eu hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir. Cawsom lythyr gan yr Arglwydd Frost yn tynnu ein sylw at ddatganiad ysgrifenedig yn nodi hynny ac y byddai’n cael ei drafod mewn un o gyfarfodydd grŵp rhyngweinidogol y DU-UE yn y dyfodol. Nid oes gennym unrhyw fanylion ynglŷn â'r cynigion polisi; mae'r wybodaeth sydd gennym yn gyfyngedig iawn. Mae fy swyddogion polisi yn pwyso am eglurder yn hyn o beth ac rydym wedi gofyn am gyfarfodydd yn ddiweddarach y mis hwn am ddiweddariad pellach ar gynlluniau Llywodraeth y DU. Ond yn niffyg mwy o fanylion, mae'n anodd asesu'r effaith ar Lywodraeth Cymru, ac ar y Senedd yn wir. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod cryn botensial y bydd yr effaith ar Lywodraeth Cymru yn sylweddol gyda chynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ofynnol ar gyfer llawer o'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei chyflwyno, ond hefyd mae gan hyn botensial i ymyrryd yn sylweddol mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig.

Fy mhryder cyntaf oedd ei bod yn ymddangos y byddent yn ymgynghori â ni ynglŷn â hyn yn yr un modd ag y byddent yn ei wneud ag unrhyw randdeiliad arall. Nid unrhyw randdeiliad arall ydym ni yn y broses hon; rydym yn un o sawl Senedd a Llywodraeth yn y DU y mae’n rhaid ymgysylltu’n briodol â hwy yn y cyd-destun hwnnw, oherwydd yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein gallu deddfwriaethol, ar y setliad datganoli, ac yn wir, ar yr holl bolisïau sydd gennym ynglŷn â safonau a chyfiawnder economaidd a chymdeithasol.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Nesaf yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Dim ond un cwestiwn sydd y prynhawn yma, a galwaf ar Huw Irranca-Davies i ofyn y cwestiwn hwnnw.

Gweithgareddau Ymgysylltu'r Senedd

1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar weithgareddau ymgysylltu'r Senedd a'i phwyllgorau? OQ57408

Nid yw COVID-19 wedi ein rhwystro rhag gwneud gwaith ymgysylltu pwysig ond mae wedi golygu bod llawer o'r gwaith hwnnw wedi symud ar-lein. Rydyn ni wedi cynnal grwpiau ffocws a digwyddiadau ar-lein, yn ogystal â sesiynau addysg, arolygon a gweithdai. Er bod hyn wedi achosi rhai heriau, mae hefyd wedi cynnig cyfleoedd inni gyrraedd pobl nad ydyn nhw wedi ymgysylltu â'n gwaith ni o'r blaen, fel y rhai sy'n ei chael hi'n anodd i deithio i'n gweithgareddau fel arfer. Rydyn ni wedi bod yn ystyriol o bobl, hefyd, sydd wedi’u hallgau’n ddigidol drwy gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl neu gysylltu dros y ffôn pan fo angen. Ar hyn o bryd, rŷn ni’n gwerthuso ac yn adolygu ein gwaith ymgysylltu ar-lein i sicrhau ei fod yn ategu gwaith wyneb yn wyneb pan fydd cyfyngiadau’n caniatáu.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw.

Mae'n rhaid imi ddweud bod yn rhaid inni ganmol yr holl bobl yn y Comisiwn sydd wedi llwyddo i addasu'n gyflym iawn i symud gwasanaethau a darpariaeth ar-lein fel y gallwn ymgysylltu yn y ffordd rydym wedi'i gweld, ac yn enwedig, mae'n rhaid imi ddweud, gwaith yr adran allgymorth addysg, sydd ar wahân i'n pwyllgorau a phopeth arall, ac sydd wedi gwneud cymaint i gadw cysylltiad â'n hysgolion a darpar etholwyr ifanc hefyd, wrth inni ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer yr etholiad diweddaraf. Serch hynny, tybed a ydych yn rhagweld adeg pan fyddwn, gan gadw manteision yr hyn rydym wedi'i ddysgu drwy weithio ar-lein a thrwy gyfrwng rhithwir, yn gallu dod â phobl ifanc, yn arbennig, yn ôl i'r Senedd, i’r adeilad ffisegol, i ganolbwynt diriaethol ein democratiaeth yng Nghymru cyn gynted ag y bydd hynny'n ddiogel o ran COVID, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud nad oes dim i guro eu tywys o gwmpas yr adeilad hwn, cael bod yn yr uned addysg a chlywed yma yng Nghaerdydd sut yn union rydym yn cyflawni ein gwaith craffu.

Rwy'n sicr yn rhagweld adeg pan fydd pobl ifanc o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn gallu ymweld â'n Senedd unwaith eto. Fel pob Aelod rwy’n credu, rwy'n derbyn bod y cyfle i gyfarfod â’r bobl ifanc hynny pan fyddant yn dod i’r Senedd i gael cyfle i drafod gyda hwy a’u hysbrydoli mewn perthynas â’r rôl y mae democratiaeth yn ei chwarae’n uniongyrchol yn eu bywydau, ac i wneud hynny yn y Senedd yn rhoi’r cyfle hwnnw i bawb—nid yw pawb yn frwdfrydig yn ei gylch, ond mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn elwa’n fawr iawn ac yn mwynhau’r cyfle i ymweld â’u Senedd.

Ond hefyd, yn ogystal ag ailagor ein drysau i bobl ifanc Cymru, mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar y cyfleoedd sydd bellach wedi’u hychwanegu at ein gallu i gysylltu â phobl ifanc yn rhithwir. Rydym yn gwybod ers peth amser ei bod yn anos i ysgolion a cholegau yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru ymweld â’r Senedd mor aml ag yr hoffent. Felly, bydd cyfarfod â phobl ifanc o'r ardaloedd hynny yn rhithwir yn parhau wedi'r pandemig, gobeithio, fel y bydd i bawb arall. Ond credaf fod pob un ohonom yn awyddus iawn i weld ein pobl ifanc allan o’u hysgolion, yn ymweld ag amgylcheddau gwahanol i’w hysgolion, ac yn manteisio ar y gallu i ddysgu mwy am eu Senedd, gobeithio, drwy ymweld â ni ym Mae Caerdydd cyn gynted ag y bo modd.

15:25
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, symudwn ymlaen i eitem 5, datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf Mick Antoniw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ddydd Sadwrn 8 Ionawr eleni, bu farw Hanef Bhamjee OBE yn yr ysbyty yng nghwmni cariadus a gofalgar ei deulu. Dros y pedwar degawd diwethaf, ni allaf feddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud cymaint â Hanef dros achos cydraddoldeb, gwrth-hiliaeth a chyfiawnder cymdeithasol.

Fe'i ganed yn Ne Affrica, a thynnwyd sylw gwasanaethau diogelwch De Affrica ato yn sgil ei wrthwynebiad i'r gyfundrefn apartheid, ac ym 1965, er mwyn ei ddiogelwch ei hun, bu'n rhaid iddo adael. Ym 1972, ymgartrefodd yng Nghaerdydd, a daeth Cymru'n gartref parhaol iddo. Cyfarfûm â Hanef am y tro cyntaf ym 1973, yn ystod yr ymgyrchoedd yn erbyn rhyfel Fietnam a’r gwrthryfel ffasgaidd yn Chile. Fel yn achos Hanef, daeth Cymru yn gartref croesawgar i lawer a oedd yn ffoi rhag gorthrwm gwleidyddol, yn genedl noddfa. Ond yn anad dim, mae Hanef yn fwyaf adnabyddus am ddod yn llais y frwydr wrth-apartheid yng Nghymru. Drwy ei eiriolaeth, ei ymgyrchu a chryfder ei gymeriad, rhoddodd Gymru ar y llwyfan gwrth-hiliaeth rhyngwladol. Creodd Hanef undod o ran pwrpas ac egwyddor yng nghymdeithas grefyddol, ddinesig, ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru. Ar ôl i Nelson Mandela gael ei ryddhau, daeth yn gyfreithiwr, a chefnogi ffoaduriaid a hawliau mewnfudo yn ogystal â pharhau i wneud gwaith elusennol i gefnogi elusennau De Affrica. Yn 2003, dyfarnwyd yr OBE iddo gan y Frenhines am ei waith, ac yn 2009, enillodd wobr heddwch a chymod Mahatma Gandhi. Roedd Hanef mor falch o fod yn Gymro De Affricanaidd. Dylem ni yng Nghymru fod yr un mor falch ei fod wedi dod yn un o'n ffrindiau a'n dinasyddion. Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau. Mae ei etifeddiaeth yn dal i fyw ac mae'r frwydr yn parhau. Amandla.

Ganed Ron Jones yng Nghwmaman ar 19 Awst 1934, ac roedd yn rhedwr diguro o Gymro. Dros 14 mlynedd, enillodd 12 teitl rhedeg Cymreig a thorri 22 record Gymreig. Yr hyn sy'n gwneud y gamp hon yn rhyfeddol yw bod ei yrfa wedi dechrau ar ddamwain. Ei fuddugoliaeth 100 llath gyntaf ym mhencampwriaethau Cymru 1956 oedd yr ail neu'r drydedd ras o'r fath i Ron ei rhedeg erioed. Ron oedd un o’r ychydig athletwyr o Gymru i ddal record byd ym myd athletau fel rhan o garfan ras gyfnewid 4x110 llath Prydain ym 1963. Bu hefyd yn gapten ar dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico ym 1968. At ei gilydd, casglodd Ron 31 o festiau rhyngwladol, gan gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad bedair gwaith, mewn tair pencampwriaeth Ewropeaidd a'r Gemau Olympaidd ddwy waith. Ar ôl athletau, cafodd Ron rôl uwch mewn sawl clwb pêl-droed, gan gynnwys wyth mlynedd fel rheolwr gyfarwyddwr cyntaf Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Roedd Ron hefyd yn un o hoelion wyth SportsAid Cymru, a helpodd filoedd o ddinasyddion ifanc Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau yn y byd chwaraeon. Dyfarnwyd MBE i Ron yn 2001 a chafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn 2013. Efallai mai yn 2018 y daeth ei anrhydedd fwyaf, pan gafodd y trac athletau newydd gwerth £3 miliwn yn Aberdâr ei enwi ar ei ôl. Bu farw Ron ar 30 Rhagfyr 2021, ond mae ei etifeddiaeth fel un o athletwyr gorau Cymru yn parhau.

15:30

Yr wythnos hon, bu farw'r arlunydd Mike Jones o Bontardawe, sy'n adnabyddus am ei bortreadau o gymunedau gwerinol diwydiannol y de, yn enwedig ei gwm Tawe genedigol. Magwyd Mike yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig, ger Ystalyfera, pan oedd y diwydiannau trwm yn eu bri. Glöwr oedd ei dad, a chadwai ei rieni dafarn hefyd—lle delfrydol i arsylwi ar gymeriadau ei fro. Ac roedd Mike yn un o'r llu o ddoniau creadigol i'w hysbrydoli gan gymunedau diwydiannol Cymraeg cwm Tawe.

Mae'n cael ei gydnabod fel un o'n harlunwyr disgleiriaf am ddarlunio'r cymunedau hynny. Mae ei waith wedi ei arddangos mewn orielau ar draws Cymru a thu hwnt, gan gynnwys yr academi frenhinol yn Llundain, ac yn Efrog Newydd a Seland Newydd. Mae gwaith Mike yn cyfleu bywydau cymeriadau ei filltir sgwar—glowyr, gweithwyr tun a dur, ffermwyr a gwragedd tŷ, yn ogystal â'r pentrefi tai teras lle roedden nhw'n byw.

Llynedd, ac yntau'n dathlu'r 80 oed, cafwyd nifer o arddangosfeydd llwyddiannus dros Gymru. Roedd wrth ei fodd bod Tŷ'r Gwrhyd Pontardawe a Chylch Darllen Cwm Tawe wedi trefnu arddangosfa arbennig o'i waith adeg ei ben-blwydd yn yr hydref. Ces i fy narlun cyntaf yn y casgliad sydd gen i erbyn hyn o'i waith fel anrheg priodas, ac ar ôl symud i gwm Tawe yn fuan wedyn, ces i'r fraint o ddod i adnabod Mike Jones ac ymweld â'i stiwdio ryfeddol yn ei gartref ym Mhontardawe. Roedd e hefyd yn gefnogwr hael i achosion lleol, gan gyfrannu darluniau gwerthfawr i helpu codi arian i'r ysgolion Cymraeg lleol, eisteddfodau a Phlaid Cymru.

Cydymdeimlwn â'i wraig, Eryl, a'r teulu i gyd yn eu colled. Mae cwm Tawe a Chymru gyfan wedi colli dawn arbennig a Chymro angerddol.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Nesaf, mae'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.

Cynnig NDM7885 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sioned Williams (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig

Eitem 6, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a'r pandemig. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7879 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Dyled a'r pandemig', a osodwyd ar 15 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn am fy ngalw. Dyma'r ddadl gyntaf ar waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Edrychodd ein hadroddiad ar effaith y pandemig ar ddyled bersonol a sut y dylai Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ymateb. Ar flaen meddwl pawb heddiw—ar wahân i dynged Prif Weinidog presennol y DU—mae'r cynnydd digynsail mewn prisiau ynni. Fodd bynnag, nid hynny oedd ar flaen meddyliau pawb pan ddechreuasom ymgynghori â rhanddeiliaid ym mis Awst a chymryd tystiolaeth lafar ym mis Medi a mis Hydref. Bryd hynny, roedd ôl-ddyledion rhent a'r dreth gyngor yr un mor sylweddol â biliau bwyd a thanwydd i aelwydydd nad yw eu hincwm yn ddigonol i ddiwallu eu holl anghenion bob dydd. Fel y rhagwelwyd yn eang, mae'r holl broblemau hyn yn gwaethygu yn hytrach na gwella.

Flwyddyn i mewn i'r pandemig, datgelodd StepChange y ffaith bod un o bob pum aelwyd mewn trafferthion ariannol, ac roedd o leiaf un o bob 12 aelwyd wedi mynd i ddyled. Amlygodd adroddiad Sefydliad Bevan sut roedd o leiaf un o bob wyth aelwyd, bryd hynny ym mis Mai y llynedd, wedi gorfod cyfyngu ar siopa bwyd i dalu am wresogi, neu beidio â gwresogi'r tŷ'n iawn i gadw bwyd ar y bwrdd. Chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ymchwil pellach gan YouGov, a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan, olrhain sut y mae'r sefyllfa wedi dirywio yn yr hanner blwyddyn ddiwethaf. Yn anffodus, mae'r argyfwng yn debygol o waethygu ymhellach o ganlyniad i'r toriad creulon i'r credyd cynhwysol, diwedd y taliadau ffyrlo sy'n gysylltiedig â COVID, a'r cynnydd sydd ar y ffordd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol.

Nid yw'r cyhoedd yn dwp. Roedd llawer o'n tystion a'n cyfranwyr yn rhagweld y cynnydd enfawr hwn mewn costau ynni y mae aelwydydd bellach yn ymrafael ag ef. Roeddent yn rhagweld y byddai'n creu tswnami neu storm berffaith, ac mae arnaf ofn ei bod hi bellach wedi cyrraedd. Mae hwn yn fwy nag argyfwng ynni wedi ei ddwysáu gan argyfwng hinsawdd. Mae Prydain bellach yn llawer tlotach o ganlyniad i'r penderfyniad a wnaed i adael y farchnad sengl gyda'n cymdogion Ewropeaidd, ac mae Cymru wedi cael ei tharo'n arbennig o galed gan fod gweithgynhyrchwyr yn llawer mwy agored na gwasanaethau i'r cynnydd mewn biwrocratiaeth ac oedi mewn porthladdoedd. Ac mae'n amlwg fod oedi o'r fath wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghostau bwydydd bob dydd. Yn blwmp ac yn blaen, mae'r problemau'n gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae costau byw cynyddol, a diwedd cymorth allweddol gan y Llywodraeth, yn arwydd o gyfnod anodd iawn i ddod i lawer iawn o aelwydydd.

Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn? Wel, yn gyntaf oll, rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Gwnaethom 14 o argymhellion yn ein hadroddiad, yn cwmpasu popeth o gasglu data i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hymateb defnyddiol ac adeiladol i argymhellion y pwyllgor, ac am dderbyn naw argymhelliad yn llawn, a'r pum argymhelliad arall mewn egwyddor. 

Gan adeiladu ar y rhybuddion gan ein tystion, mae'n hanfodol nad yw pobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn syrthio i ddwylo pobl sydd ond yn gwneud pethau'n waeth iddynt. Mae creu'r gronfa gynghori sengl gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, gan integreiddio'r holl wasanaethau cynghori, yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn cael cymorth ar gam cynharach o'u dyled. Ceir penderfyniad Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni ein hargymhelliad, i ddefnyddio sefydliadau yn y gymuned i ledaenu'r neges o obaith a help i grwpiau wedi'u targedu nad ydynt efallai'n gwybod am y gwasanaethau cynghori sengl hyn. Hefyd, mae angen inni adeiladu ar y negeseuon cyfryngau cymdeithasol effeithiol iawn y maent wedi'u defnyddio i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau i fynd i'r afael yn awr â lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â bod mewn dyled. Rhaid i bobl ofyn am help gan y rhai sy'n gallu cynnig dewisiadau amgen da yn lle benthycwyr carreg y drws a benthycwyr arian didrwydded.

Gallwn i gyd gytuno fod tlodi tanwydd bellach yn peri pryder mawr, ac mae taliad tanwydd y gaeaf Llywodraeth Cymru o £100 i aelwydydd incwm isel yn darparu rhywfaint o gymorth yn y tymor byr ond nid yw'n ddigon. Bydd y pwyllgor yn dychwelyd at yr angen am gynlluniau cyflymach i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan gynnwys sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd sgôr ynni A yn yr amser byrraf posibl, yn ein hymchwiliad sydd ar y ffordd i'r rhaglen Cartrefi Clyd a'r hyn y mae angen inni ei wneud ynglŷn â thlodi tanwydd. Ond ni allwn golli golwg ar heriau eraill. 

Er enghraifft, y broblem ddyled fwyaf cyffredin a ddaeth i sylw Cyngor ar Bopeth yn 2020 oedd dyledion y dreth gyngor. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2020-21 gwelwyd y cynnydd un flwyddyn mwyaf ers 20 mlynedd mewn ôl-ddyledion treth gyngor, gan godi i bron £157 miliwn. Clywsom bryderon am bocedi o arfer gwael o ran sut y caiff y dyledion hyn eu casglu weithiau, ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth Cymru i adolygu sut y mae protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru yn gweithio, ac a oes angen ei gryfhau neu ei roi ar sail statudol. Rydym yn croesawu agwedd agored Llywodraeth Cymru tuag at ystyried 'coelcerthi dyledion' yn y sector cyhoeddus sy'n debygol o fod yn anadferadwy, ond mae angen i bob un ohonom gydnabod bod costau cyfle i benderfyniad o'r fath. 

Nodwyd bod dyledion ym maes tai ac achosion o droi allan hefyd wedi gwaethygu cryn dipyn, a chadarnhaodd tystion fod y gwaharddiad ar droi allan ar draws y sector rhentu cyfan wedi bod yn hanfodol i atal digartrefedd pan oedd y pandemig ar ei anterth. Mae argymhelliad 10 yn cyfeirio at bwysigrwydd cadw'r cyfnod rhybudd adran 21 o chwe mis ar gyfer troi allan heb fai ar ôl i unrhyw reoliadau sy'n gysylltiedig â COVID ddod i ben. Nodwn fod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb, wedi ymrwymo o'r diwedd i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 cyn toriad yr haf eleni, a rhaid i'r Senedd sicrhau ei bod yn cadw at hyn. Gobeithiwn y bydd y pandemig yn cilio, ond bydd y dyledion y bydd yn eu gadael ar ôl yn parhau ymhell wedi hynny. 

Ar fater cysylltiedig, roedd honiadau gan Shelter Cymru ynglŷn ag ymwneud honedig yr heddlu wrth droi pobl allan yn anghyfreithlon yn ystod y pandemig yn peri pryder i ni, ac ailadroddwyd hyn yn eu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Gofynnwyd am ragor o fanylion gan Shelter ynglŷn â pha wybodaeth yn union a rannwyd gyda'r heddlu. Ar ôl i'n hadroddiad gael ei gyhoeddi, ysgrifennais at bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn gofyn iddynt ymateb i'r honiadau hyn, ac mae'n bwysig nodi ymateb yr heddlu, sef bod cais brys, cyn gynted ag y cawsant wybod am y broblem hon, wedi'i wneud i Shelter Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth, ac fe'i dilynwyd gan gais pellach ym mis Hydref. Ond yn anffodus, ymatebodd Shelter i ddweud nad oeddent yn gallu rhoi unrhyw fanylion ychwanegol, oherwydd prinder staff ar y pryd . Derbyniwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol gyfyngedig ar 19 Hydref, ond nid oedd yn ddigon i allu ymchwilio i achosion neu honiadau penodol. Cefais y llythyr hwnnw ar 14 Rhagfyr. Rwyf am godi hyn oherwydd credaf fod angen inni atal unrhyw straeon cyfeiliornus yma. Mae'n gwbl briodol i Shelter gasglu achosion penodol o honiadau o ymwneud yr heddlu mewn digwyddiadau o droi allan anghyfreithlon, ond mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd ystyrlon. Nid yw Shelter wedi rhoi dyddiadau a chyfeiriadau i'r heddlu lle digwyddodd y troi allan anghyfreithlon honedig, gan mai dyna'r unig wybodaeth a fyddai'n caniatáu i'r heddlu fynd ar drywydd hynny fel rhan o'u cyfrifoldebau gweithredol. Tan neu oni bai y bydd Shelter neu unrhyw un arall wedi mynd ar drywydd cwyn yn erbyn yr heddlu neu unrhyw sefydliad arall, ni ddylent fod yn ei drafod yn gyhoeddus. Mae angen iddynt roi cyfle i'r sefydliad y gwneir y gŵyn amdano ymateb. 

Gan droi at fater arall, cawsom dystiolaeth gymhellol ynglŷn â rôl darparwyr credyd fforddiadwy, boed yn undebau credyd neu Purple Shoots, darparwr microgredyd nid-er-elw diddorol, sy'n cynnig opsiwn llawer mwy diogel na benthycwyr anghyfreithlon neu ddarparwyr credyd llog uchel. Fodd bynnag, nid yw pawb yn ymwybodol o'r mathau hyn o sefydliadau na'r hyn y gallant ei ddarparu, ac felly, maent yn troi at atebion llawer mwy niweidiol, neu'n dod dan bwysau i droi atynt. Mae rôl yma hefyd i'r gronfa cymorth dewisol ar ei newydd wedd, oherwydd chwaraeodd hynny ran bwysig iawn yn helpu pobl gyda dyfarniadau dewisol yn ystod y pandemig. Clywsom gan amrywiaeth o randdeiliaid y dylai'r Llywodraeth ystyried gwneud yr hyblygrwydd a oedd ar gael yn y gronfa cymorth dewisol yn ystod y pandemig yn nodwedd barhaol, ac maent hefyd am weld y broses ymgeisio'n cael ei symleiddio a'i hysgrifennu mewn iaith hawdd ei deall, fel y gall pawb, gobeithio, gael mynediad ati. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn y bydd y materion hyn yn cael eu hystyried yn ei hadolygiad o olynydd y gronfa cymorth dewisol. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad, naill ai drwy gyflwyno tystiolaeth neu gymryd rhan yn un o'n grwpiau ffocws ar-lein. Rwyf am dynnu sylw at rôl ganolog Sefydliad Bevan. Fe wnaeth ei waith ar ddyled ei godi'n uwch ar yr agenda i bob un ohonom, ac yn sicr helpodd eu hadroddiad cychwynnol i'r pandemig a dyled yng Nghymru i annog y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn fel ein hymchwiliad cyntaf. Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys Morgan a gweddill y tîm clercio, yr ymchwil sy'n sail i'r adroddiad hwn dan arweiniad Gareth Thomas, a'r gwaith ymgysylltu allgymorth ardderchog gyda'r cyhoedd dan arweiniad Rhys Jones. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n defnyddio'r cyfle hwn i rannu gyda ni yr hyn y credant y gallwn ei wneud i geisio rheoli'r problemau eithriadol o anodd hyn, a pha strategaethau y gallwn fynd ar eu trywydd yng Nghymru i atal mwy o bobl rhag mynd i ddyled ac yn wir, rhag mynd yn ddigartref ac yn ddiymgeledd o bosibl. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau.

15:45

Diolch i Jenny fel Cadeirydd, yr Aelodau eraill ar y pwyllgor a'r swyddogion am yr araith yma. Diolch hefyd i'r mudiadau roedden ni'n cymryd tystiolaeth ohonynt.

Yn ôl ym mis Mawrth 2020, dywedwyd wrthym ein bod i gyd yn wynebu'r un storm, ond er ein bod yn wynebu'r un storm o bosibl, nid oeddem i gyd yn rhwyfo yn yr un cwch—y rhai ar incwm isel, yr hunangyflogedig, y 3 miliwn o drethdalwyr y Deyrnas Unedig nad oes ganddynt hawl i gael cymorth gan y Llywodraeth, rhieni sengl, rhentwyr, ac mae'r rhestr yn parhau. Nododd adroddiad ar wahân a gyhoeddwyd heddiw fod aelwydydd y DU wedi dioddef y gostyngiad mwyaf ers wyth mlynedd mewn arian ar gael, a bod y pwysau unigryw sy'n wynebu pobl ifanc yn creu perygl o genhedlaeth simsan, gyda dim ond hanner yr oedolion ifanc yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd bob mis.

Ar un mater penodol yn yr adroddiad, roeddwn yn falch iawn o weld yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ei bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor i fynd ar drywydd syniad o 'goelcerth ddyledion', a gyflwynwyd gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn yr etholiad fis Mai diwethaf. Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn darparu cronfa gyfyngedig i brynu a dileu dyled sy'n gysylltiedig â'r sector cyhoeddus, lle gallai hyn atal rhywun rhag cael gwasanaethau neu gymorth. Gallai 'coelcerth ddyledion' fod yn ateb pwerus i'r rhai sydd wedi'u dal o dan bwysau dyled ac na allant ddianc rhag dyled oherwydd y cymorth cyfyngedig sydd ar gael iddynt. Ac wrth gwrs, mae llawer o argymhellion eraill rwy'n eu croesawu yn yr adroddiad.

Ond y realiti yw bod yna gamau y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cymryd yn awr a allai roi rhagolygon mwy disglair i bobl am y flwyddyn i ddod. Un ohonynt yw'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr yn ailedrych ar y penderfyniad i rewi'r lwfans treth personol, a fydd yn golygu bod 85,000 o bobl yng Nghymru yn talu mwy o dreth incwm. Gallent fod wedi dewis ffordd decach o godi refeniw ychwanegol na thrwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol. Mae pobl yn wynebu'r trychineb costau byw rydym yn clywed cymaint amdano, ac mae'n rhaid inni wneud popeth posibl, y ddwy Lywodraeth, i sicrhau nad yw'r pandemig a'r costau byw sy'n codi'n gyflym yn gadael miliynau ar ôl. Diolch yn fawr iawn.

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl heddiw ar ein hadroddiad, 'Dyled a'r pandemig'. Mae'r pandemig wedi gadael ei ôl mewn gwahanol ffyrdd. I lawer o bobl, fe wnaeth daro'n ariannol—roeddent yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â'u swyddi, llai o incwm, biliau uwch. Mae wedi dwysáu'r problemau ariannol y mae teuluoedd wedi bod yn ymrafael â hwy.

Credaf fod yr ymchwiliad hwn a'n hadroddiad yn dyst i frwdfrydedd yr holl Aelodau a oedd am ddeall mwy am gymhlethdodau'r ddyled a brofir gan bobl yng Nghymru ac effaith y pandemig ar gyllid unigolion ac aelwydydd. Hoffwn ddiolch ar y cychwyn i'n Cadeirydd, Jenny Rathbone, sydd wedi arwain y pwyllgor yn fedrus drwy'r ymchwiliad hwn, a'r Gweinidog am dderbyn yn llawn neu mewn egwyddor yr argymhellion y gwnaethom gytuno arnynt.

Rwyf am ganolbwyntio ar ymateb y Llywodraeth y prynhawn yma, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir yn ei llythyr at y pwyllgor, mae gwir angen mynd i'r afael â'r baich dyledion cynyddol sy'n wynebu rhai o'n cartrefi mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwyf am inni gofio hefyd y gall yr her o reoli dyled a cheisio datrys eu problemau fod yn fater unig i lawer o bobl. Mae perygl sylweddol y bydd y rhai mewn cymdeithas sydd â llai i ddechrau yn gweld effaith anghymesur ar eu hiechyd ariannol oherwydd y pandemig, ac mae hyn wedi'i ddogfennu'n dda mewn astudiaethau eraill y tu hwnt i'r ymchwiliad hwn—[Anghlywadwy.]—a phryderon cynyddol, straen, iselder a salwch meddwl sy'n para'n hirach.

Yn ôl yr elusen salwch meddwl Platfform, fodd bynnag, nid yw'r pryderon a'r gofidiau hyn wedi cael eu profi yn yr un ffordd, a cheir tystiolaeth dda fod y pandemig a'n hymatebion iddo wedi ehangu'r anghydraddoldebau iechyd hyn. Maent hefyd yn nodi y gwyddys bod iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach sy'n gyffredin yn ein cymdeithas. Mae cysylltiad rhwng iechyd ariannol ac iechyd meddwl, ac mae effaith y pandemig ar iechyd ariannol y rhai a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn mynd i ddarparu'r sail ar gyfer amrywiaeth o heriau parhaus y mae angen i'r Llywodraeth hon eu goresgyn.

Roedd y dystiolaeth i'r pwyllgor yn gynhwysfawr. Mae'r argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth honno a'r trafodaethau a ddilynodd. Ymddengys nad oes llawer o anghytundeb rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth ynghylch difrifoldeb yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru, er fy mod am weld y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo'n digwydd yn gyflymach.

Rwyf am grybwyll tri phwynt i gefnogi adroddiad y pwyllgor y prynhawn yma. Yn gyntaf, pwysigrwydd data. Heb wybodaeth, ni fydd gennym fawr o allu i effeithio ar gyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn dyled. Ni fydd diben cynllunio heb ddeall y darlun cyflawn, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn barn y pwyllgor y dylai eu huned data cydraddoldeb weithio gyda sefydliadau yn y sector i gasglu a chyhoeddi data blynyddol ar ddyledion yng Nghymru, wedi'i rannu yn ôl nodweddion gwarchodedig. Dylai fy mhryderon ynghylch anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig salwch meddwl, gael eu cynnwys yn y gwaith a wneir, fel ein bod yn deall canlyniadau'r sefyllfa mewn perthynas â dyled yn llawn y tu hwnt i'r ariannol.

Yn ail, effaith anghymesur dyled a'r pandemig ar wahanol grwpiau. Yn ein hadroddiad rydym yn amlinellu faint o'r dystiolaeth a gyfeiriai at yr effaith wahanol ar wahanol grwpiau. Darparodd sefydliadau fel StepChange, Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan dystiolaeth fod rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi dyled nag eraill, megis pobl sy'n ddi-waith neu mewn gwaith ansicr, pobl y mae'r pandemig wedi effeithio ar eu gwaith, rhieni sengl, rhieni â phlant ifanc, rhentwyr, pobl o rai cymunedau lleiafrifol ethnig, a phobl ag anableddau. Yn ogystal, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod aelwydydd ag incwm blynyddol o dan £40,000 y flwyddyn yn llawer mwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion nag aelwydydd incwm uwch. At hynny, canfuwyd bod pobl sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil mawr nag unrhyw grŵp arall. Mae'r dystiolaeth hon yn dangos pa mor gymhleth yw'r darlun a sut na chaiff ei ddatrys yn gyflym.

Yn drydydd, mae'n bwysig ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn dychwelyd at y pwnc hwn cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n sylweddoli bod yna bethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae pobl yn disgwyl i Weinidogion Cymru weithredu. Wrth wneud hynny, rwy'n disgwyl y dylai adrannau eraill o fewn y Llywodraeth fod yn rhan o'r agenda hon wrth inni hefyd geisio darparu economi gryfach y dylai pobl allu elwa ohoni.

15:50

Iawn, Ddirprwy Lywydd. Ynghyd â hynny, mae yna ddyled feddygol, nad ydym wedi mynd i'r afael â hi hyd yma, ond mae'r Cadeirydd wedi cytuno y byddwn yn edrych ar hynny. Mae'n bryder mawr i mi, yn bersonol, fod hyn yn digwydd yma, ac nad ydym yn gwneud dim yn ei gylch. Diolch yn fawr iawn.

Mae pawb ohonom yn y Siambr yn darllen adroddiadau a dogfennau briffio niferus am y problemau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, ond hoffwn nodi, fel Aelod newydd o'r Senedd, mai ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig oedd fy ymchwiliad pwyllgor cyntaf, a bod clywed tystiolaeth uniongyrchol am sut mae angen gwneud mwy i gynorthwyo teuluoedd i gadw eu pen uwchben y dŵr wedi cael effaith ddofn arnaf. Achos, er sôn mae'r adroddiad am effaith y pandemig ar ddyled, roedd yn eglur o'r dystiolaeth fod y dyledion hyn wedi eu dyfnhau, nid eu creu, gan y pandemig.

Mae'r adroddiad wedi canfod bod 18 y cant o oedolion yng Nghymru—cyfran uwch nag yn Lloegr neu'r Alban—wedi wynebu caledi economaidd o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r arwyddion a sbardunodd penderfyniad y pwyllgor i ymchwilio i'r mater hwn yn y lle cyntaf wedi arwain at gyflwyno darlun clir a brawychus o argyfwng na welwyd ei debyg ers yr argyfwng ariannol dros ddegawd yn ôl. Ac mae gwaeth i ddod.

Roedd y termau a ddefnyddiwyd yn drawiadol ac yn droëdig. Rwyf wedi dyfynnu o'r adroddiad o'r blaen mewn dadleuon yn y Siambr, ond maen nhw'n werth eu hailadrodd.

'Yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr',

meddai un tyst,

'yw cynnydd posibl o 30 y cant mewn prisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny'n mynd i wthio pobl i dlodi ar lefel oes Fictoria.'

Wel, mae 2022 yma. Roedd y rhybuddion yn gywir, os nad ychydig yn geidwadol o glywed rhybudd pennaeth Centrica heddiw am brisiau nwy, a'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd pobl hŷn heddiw am effaith hyn ar bensiynwyr. 

Cwestiwn canolog yr adroddiad yw pam fod cymaint o deuluoedd mewn sefyllfa mor fregus yn y lle cyntaf? Beth ellir ei wneud am hyn, a beth arall y gellir ei wneud i amddiffyn y boblogaeth mewn unrhyw argyfyngau yn y dyfodol?

Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef dyledion problemus yw'r aelwydydd sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, pobl fel rhentwyr, y rhai ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni unigol, pobl hŷn, rhai sy'n gadael gofal, a phobl o leiafrifoedd ethnig. Ceir enghreifftiau niferus yn yr adroddiad o sut mae dyled broblemus yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau yn y gymdeithas ac yn dyfnhau'r anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion yn ystod y pandemig, ac mae adroddodd Sefydliad Bevan fod eu hymchwil yn dangos bod pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil nag unrhyw grŵp arall. Clywon ni fod 43 y cant o oroeswyr cam-drin domestig wedi cael eu gwthio i ddyled.

Mae'n rhaid cymryd camau sylweddol ar frys i fynd i'r afael â sut mae'r broblem hon o ddyled yn effeithio ar les plant, dyfodol ein cenedl. Mae'r hyn sy'n cael ei ddadlennu am sut mae un o bob pum teulu yn gorfod torri nôl ar eitemau i blant, ac un o bob 10 teulu gyda dau o blant wedi gorfod torri nôl ar fwyd, yn anodd ei ddirnad yng Nghymru yr unfed ganrif ar hugain. Cymru, sy'n rhan o wladwriaeth sy'n un o'r cyfoethocaf yn y byd. Mae'n warthus. Mae'n anfaddeuol. Ac mae'n broblem nid yn unig am heddiw na fory ond yn un a fydd gyda ni am ddegawdau os na weithredwn ar frys. Mae byw ar aelwyd gyda phroblemau dyled, mewn straen ariannol, yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, a gall effeithio'n negyddol ar iechyd a chyfleon person ifanc gydol ei oes.

Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymchwilio i ddatrysiadau o bob math, ym meysydd tai, trethiant, trafnidiaeth gyhoeddus, taliadau cefnogi fel yr EMA. Ac yn unol â galwadau adroddiad y pwyllgor, mae Plaid Cymru am weld ffocws newydd gan y Llywodraeth ar gyflymu'r gwaith i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd safon graddfa ynni A, a sicrhau hyrwyddo a chefnogaeth well i wasanaethau cyngor ar ddyledion a ffynonellau credyd fforddiadwy, a gwneud yr hyblygrwydd dros dro yn y gronfa cymorth dewisol yn barhaol. Mae'n bryderus i weld bod y cyllid a ddyrennir i'r gronfa honno yn 2022-23 yn is nag yr oedd ar gyfer y ddwy flynedd ariannol flaenorol.

Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn cynnwys mesurau allweddol i fynd i'r afael â lleihau lefelau tlodi a'r effaith ar deuluoedd—prydau bwyd am ddim i bob plentyn cynradd, ehangu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim i gynnwys plant dw flwydd oed, diwygio treth y cyngor a sicrhau mesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Rydyn ni'n cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad, sy'n galw ar y Llywodraeth i gymryd camau penodol ar frys, ac fel rwyf wedi sôn eisoes, mae Plaid Cymru yn credu bod hefyd gamau eraill sydd angen eu cymryd, sydd o fewn gallu'r Llywodraeth, a all helpu goleuo cannwyll yn y gwyll. Mae'r cytundeb cydweithio hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli gweinyddu lles.

15:55

Rwy'n dod i ben—brawddeg olaf.

Mae'n rhaid inni ofyn ein hunain am faint yn rhagor y gallwn fforddio derbyn y cyfyngiadau sydd wedi eu gorfodi arnom fel cenedl gan undeb anghytbwys, Llywodraeth San Steffan sy'n hidio dim am Gymru, a fformiwla ariannu hollol annigonol ac anghyfiawn? Sawl adroddiad arall fel hwn, â'i rhybuddion clir fod rhywbeth mawr o'i le, y bydd angen inni eu darllen cyn y byddwn yn mynnu'r grymoedd i warchod a chodi ein pobl? Diolch.

16:00

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch mai hwn oedd ein hymchwiliad cyntaf, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ynghyd ag ymchwil Sefydliad Bevan, am awgrymu hyn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a'r tîm cyfan sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i'n helpu. 

Mae mynd i'r afael â dyled aelwydydd yn gwbl hanfodol ac amserol, ac mae'n aml yn ymwneud â phobl sy'n dioddef yn dawel ar draws ein cymunedau yng Nghymru am amryw o resymau. Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, helpodd gwasanaethau Cyngor ar Bopeth bron i 1,000 o bobl â phroblemau dyled dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent wedi gweld cynnydd yn y galw dros y misoedd diwethaf. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, cyfrifodd Cyngor ar Bopeth gynnydd o 74 y cant yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth ar gyfer problemau dyled, o'i gymharu â ffigurau cyn y pandemig. Dywedodd Shelter Cymru wrthyf fod trigolion agored i niwed ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn talu bron i £3,000 y mis am lety dros dro. Mae rhent rhai pobl yn fy etholaeth mor uchel fel eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd i fwydo eu hunain a'u teuluoedd ac maent yn mynd i fwy o ddyled. 

Ni ellir gwadu bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu'r risg hon o ddyled i aelwydydd sy'n agored i niwed. Deuthum yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r problemau gyda hyn yn fy nghymuned o fewn ychydig ddyddiau i ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf. Cefais alwad gan gynghorydd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Jane Gebbie, a esboniodd i mi fod pobl yn eu cartrefi yn ei ward yn y Pîl a Mynydd Cynffig na allent fynd i'r siop leol i ychwanegu credyd at eu cerdyn ynni neu danwydd, felly roeddent yn eistedd yn eu cartrefi yn rhewi. A'r ateb a roesant i hyn—yr unig beth y gallent ei wneud yn y dyddiau cyntaf hynny—oedd ffonio'r cwmnïau ynni ac erfyn arnynt ac egluro ei bod yn argyfwng a gofyn iddynt anfon cardiau gyda chredyd arnynt at bobl a meddwl sut i dalu amdano wedyn, a dyna a wnaethant. Ni chafodd y gwirfoddolwyr yng nghanolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig lawer o amser i feddwl am yr ateb hwnnw.

A chyda'r cynnydd disgwyliedig mewn prisiau ynni, y toriad i gredyd cynhwysol a'r cynnydd sydd ar ddod mewn yswiriant gwladol, mae 2022 yn fygythiad mawr i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, fel y clywsom gan fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor heddiw. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud sylwadau cryf a dwys i Lywodraeth y DU ar ran y rhai sy'n dioddef yn ein cymunedau, ond eto, dro ar ôl tro, gwelwn benderfyniadau'n cael eu gwneud yn San Steffan sy'n cosbi'r rhai mwyaf agored i niwed ac sy'n gwaethygu pethau fel tanwydd, dyled aelwydydd a thlodi. Fel y dywedwyd heddiw, mae melinau trafod wedi galw 2022 yn flwyddyn y wasgfa, ac i lawer o bobl dyna realiti'r sefyllfa y maent ynddi. O rieni sengl i aelwydydd incwm isel, y rheini sydd ag anableddau a rhentwyr, faint yn fwy o bwysau a gaiff ei roi arnynt cyn iddynt fethu dal eu pen uwch y dŵr? Mae pob £1 a dynnir yn San Steffan, pob cynnydd ym mhrisiau bwyd, yn wthiad arall i ddyled. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r 12 argymhelliad gan y pwyllgor os ydym am ddiogelu cynifer o aelwydydd sy'n agored i niwed dros y misoedd nesaf. Mae'r gronfa cymorth dewisol a'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf untro sy'n darparu taliad o £100 i aelwydydd cymwys yn enghreifftiau o'r ffordd y mae'r rhai sy'n llywodraethu yng Nghymru yn diogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Roedd hefyd yn hanfodol clywed tystiolaeth gan undebau credyd yn ystod ein hymchwiliad. Rwy'n aelod balch a hirsefydlog o Undeb Credyd Achubwyr Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â mwy na 5,000 o aelodau. Gyda'n gilydd, rydym yn aelodau o grŵp byd-eang o gwmnïau cydweithredol ariannol sydd wedi ymrwymo i wella lles ariannol miliynau o bobl. Nid oes unrhyw gyfranddalwyr trydydd parti. Mae undebau credyd hefyd yn trosglwyddo unrhyw elw dros ben a wneir yn uniongyrchol yn ôl i ni a'n cymuned, ac mae'r staff yn ariannol gefnogol. Nid ydynt yn edrych ar rywun fel sgôr credyd. Dyna pam rwy'n arbennig o falch fod y Gweinidog wedi derbyn ac ymateb i argymhelliad 12, i hyrwyddo ffynonellau credyd fforddiadwy ymhlith y rhai sydd mewn mwy o berygl o ddyled dros y chwe mis nesaf. A pheth newyddion cadarnhaol heddiw yw y bydd canolfan gymunedol Talbot ym Mynydd Cynffig y soniais amdani'n gynharach ac a wnaeth gymaint i helpu pobl a oedd yn mynd i ddyled yn ystod pandemig COVID yn agor cangen undeb credyd yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hyn yn arbed arian i bobl yn fy nghymuned ac yn ein grymuso ac yn cadw'r arian i gylchredeg o fewn ein cymuned er budd y bobl. 

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni yn yr ymchwiliad hwn. Lleisiau'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd yw llawer ohoni. Yn aml, gall dyled arwain at deimladau o gywilydd ofnadwy a gwadu, ac rydych yn gwrando ar bobl sy'n aml yn gweithio o fewn systemau sy'n bwerus iawn a chyda biwrocratiaeth a all fod yn anhygoel o araf. Mae eich ymroddiad i helpu pobl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig hwn. Diolch hefyd i bawb gyfrannodd at ei ymchwiliad, sydd wedi creu darlun torcalonnus o’r caledi mae gymaint o bobl yn ein cymunedau wedi ei wynebu yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i'w wynebu. Mae’n anodd dirnad maint y broblem, a dwi’n falch o weld argymhellion o ran beth yn ymarferol y gallwn ei wneud fel Senedd yn y tymor byr a’r tymor hir i sicrhau gwell cefnogaeth i bobl sydd yn wynebu caledi economaidd, gan olygu bod yn rhaid iddynt fynd i ddyled er mwyn medru fforddio hanfodion megis bwyd, gwres a dillad, pethau y mae gennym oll hawl sylfaenol iddynt.

Yn anffodus, yn fy marn i a fy mhlaid o leiaf, San Steffan sydd yn parhau yn bennaf gyfrifol o ran y mesurau all fynd i’r afael o ddifrif gyda dyled a methdaliad, ynghyd â chostau byw cynyddol. Ac mae yn fy mhryderu yn fawr fod gennym Brif Weinidog a Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd dro ar ôl tro wedi dangos nad ydynt yn hidio dim am y bobl mwyaf bregus yng Nghymru, drwy gyflwyno mesurau creulon sydd yn cael effaith anghymesur arnynt, megis drwy gynyddu’r cyfraniadau yswiriant gwladol a thorri’r taliadau credyd cynhwysol.

Ond tra’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wthio am ddatganoli lles a threthi’n llawn i Gymru, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei grym presennol i unioni’n broblem mae dyledion yn ei greu i aelwydydd ledled Cymru. Ffordd allweddol o wneud hyn fydd drwy gefnogi pobl gyda dyledion i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sydd yn ddatganoledig, ac mi oeddwn i'n falch o weld Jenny Rathbone yn sôn am y dreth gyngor yn benodol. Mae'r ffaith bod hon yn un o’r prif ddyledion y cysylltodd pobl gyda StepChange a hefyd Cyngor ar Bopeth ynglŷn â nhw yn ystod y pandemig yn golygu bod yn rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Fe nododd Jenny Rathbone y ffigur anhygoel o frawychus hwnnw, sef y ffaith bod dyled treth gyngor wedi codi i £157 miliwn yn 2020-21, sef cynnydd o £46.4 miliwn o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, y cynnydd unigol mwyaf ers dros 20 mlynedd.

Ond ni ddylai ein cyrff cyhoeddus fod yn creu mwy o ddyled i bobl, a gobeithio heddiw y gallwn fod yn gytûn y dylem fod yn helpu i atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu rhag dod yn anhylaw. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru weithredu yn hyn o beth, a sicrhau bod ein cynghorau ni'n mabwysiadu polisïau blaengar i reoli dyledion. Gallai polisi o’r fath gynnwys sicrhau bod cynghorau’n nodi ac yn cynorthwyo aelwydydd sy’n wynebu problemau ariannol yn effeithiol, yn ogystal â chael gwared ar rai o arferion creulon beilïaid, ac atal ffioedd beilïaid a chyfreithiol rhag cronni a chynyddu i’r rhai sy'n methu â'u talu. Canfu Cyngor ar Bopeth fod nifer o’u cleientiaid wedi cael anhawster i gytuno ar gynlluniau ad-dalu treth gyngor fforddiadwy, a bod rhai wedi bod yn destun ymddygiad ymosodol a bychanus gan feilïaid, er gwaethaf methu â gwneud ad-daliadau neu ddangos arwyddion o fregusrwydd. Nid yw hyn yn iawn.

Hoffwn hefyd bwysleisio yr effaith mae hyn yn ei gael ar unigolion, rhywbeth na ellir ei or-bwysleisio, o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae byw mewn tŷ heb wres oherwydd tlodi tanwydd yn medru creu neu waethygu llu o gyflyrau iechyd difrifol megis trawiad ar y galon, strôc, broncitis ac asthma, tra gall ansicrwydd o ran bwyd arwain at danfaethiad sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd eraill. Yn anorfod felly, mae dyled, ansicrwydd ariannol a thlodi hefyd yn aml yn creu iechyd meddwl gwael, gan arwain i bobl deimlo bod eu bywydau yn gyfan gwbl allan o reolaeth, a sbarduno teimladau o anobaith, embaras, euogrwydd, iselder a phryder. Mae'r stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â dyled hefyd yn arwain unigolion i deimlo wedi eu hynysu, gan gadw eu problemau iddyn nhw eu hunain, gan olygu bod y cymorth maent yn ei dderbyn yn annigonol.

Mae cyfrifoldeb arnom oll felly fel Aelodau o’r Senedd hon i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein etholwyr, a dyna pam heddiw fy mod yn falch o’r cyfle i siarad yn y ddadl a chefnogi adroddiad y pwyllgor. Mae angen gweithredu a chefnogaeth frys, a gobeithiaf yn fawr y gallwn yrru neges glir i bawb sy’n dioddef gyda dyledion heddiw fod cefnogaeth ar gael, ac mi wnawn ni bopeth o fewn ein gallu yma yng Nghymru i wella eu sefyllfa.

16:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon ar yr adroddiad 'Dyled a'r pandemig', a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda dadl mor gryf y prynhawn yma, sy'n ychwanegu cymaint o bwysau at eich adroddiad a'ch argymhellion. Rwy'n croesawu'r adroddiad, gyda'i argymhellion craff. Diolch i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eich cyfraniad sylweddol a'ch gwaith caled yn ystod eich ymchwiliad.

Cyn y Nadolig, cyfarfûm innau hefyd â Sefydliad Bevan i drafod eu harolwg diweddaraf yn eu cyfres o adroddiadau, 'A Snapshot of Poverty'. Mae'r ffigurau'n dangos bod dyled bersonol bellach, fel y dywedoch chi yn y ddadl, yn broblem fawr yng Nghymru. Dywedodd 25 y cant o'r bobl a holwyd eu bod wedi gorfod benthyg arian ers mis Mai 2021, a bod 12 y cant eisoes o leiaf un mis ar ei hôl hi gyda'u had-daliadau. 

Cytunaf yn llwyr â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd mynd i'r afael â'r baich dyled cynyddol sy'n wynebu pobl yng Nghymru. Bydd ein hymdrechion i ddod o hyd i lwybr allan o ddyled iddynt yn cael eu cryfhau drwy weithredu argymhellion yr adroddiad hwn. Yn amlwg, mae mwy o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd, ac y byddwn yn eu cymryd, o ganlyniad i'n rhaglen lywodraethu, ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru a dimensiynau eraill hefyd, mewn gwirionedd, y buom yn eu dadlau ac yn eu trafod dros y ddau ddiwrnod diwethaf, mewn perthynas â'r argyfwng costau byw a'ch ymchwiliad nesaf.

Mae'n bwysicach nag erioed yn awr fod gwasanaethau fel cyngor ar ddyledion a benthyca fforddiadwy yn cyrraedd pobl sydd mewn mwy o berygl o fynd i ddyled. Rwy'n croesawu'r argymhellion mewn perthynas â hyrwyddo ein gwasanaethau yn ehangach. Byddwn yn cefnogi ein holl bartneriaid i weithio gyda mwy o grwpiau cymunedol, sydd eisoes â chysylltiadau sefydledig iawn ar waith mewn cymunedau lleol â phobl sydd fwyaf o angen y cymorth.

Gwn eich bod wedi ymgysylltu â'r grwpiau lleol hynny, ac rydych wedi sôn amdanynt. Mae'r argymhellion sy'n ymwneud â'n mecanweithiau cymorth presennol i rai sydd mewn argyfwng ariannol drwy'r gronfa cymorth dewisol yn berthnasol iawn, o gofio y byddwn yn gweld nifer cynyddol o bobl yn troi atom am gymorth, felly roeddwn yn croesawu'r argymhelliad hwnnw ar y gronfa cymorth dewisol.

Rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad ysgrifenedig sydd newydd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, y gobeithiaf eich bod wedi'i weld, yn ymestyn y grant caledi i denantiaid i dalu am ôl-ddyledion a gronnwyd hyd at 31 Rhagfyr 2021. Mae'r datganiad yn cadarnhau bod cymhwysedd wedi'i ymestyn i denantiaid tai cymdeithasol nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai. Mae hyn yn sicrhau bod ganddynt yr un mynediad at gymorth ariannol â'r holl rentwyr eraill. Fe alwoch chi am hynny yn argymhelliad 11, felly mae hwnnw'n arwydd cadarnhaol o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hefyd.

Mae'r dystiolaeth yn glir y gall effaith dyled broblemus ar lesiant unigolion a'u teuluoedd fod yn negyddol a hirhoedlog. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng costau byw y maent yn ei wynebu. Ar 16 Tachwedd y llynedd, cyhoeddais becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel i ddiwallu pwysau uniongyrchol yr argyfwng costau byw y gaeaf hwn.

Rydym wedi sôn llawer y prynhawn yma am y cynllun cymorth tanwydd gaeaf—£38 miliwn i ddeiliaid tai sy'n derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad arian parod untro o £100 gan eu hawdurdod lleol i'w ddefnyddio tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf. Ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff y bydd y taliad hwnnw'n llwyr ddigolledu aelwydydd a gollodd dros £1,000 y flwyddyn pan ddaeth y taliad credyd cynhwysol o £20 yr wythnos i ben. Fodd bynnag, bydd yn helpu rhai i gadw eu cartrefi ychydig yn gynhesach y gaeaf hwn heb gronni dyledion tanwydd.

Ond mae gennym—fel y dywedodd y Cadeirydd, Jenny Rathbone—tswnami, storm berffaith, o argyfwng costau byw, sydd bellach yn cael ei fynegi ar ffurf tystiolaeth glir. Gwyddom y gall pobl ddod allan o ddyled. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw mynediad at gyngor sicr o ansawdd da a hynny'n rhad ac am ddim. Dyna pam y mae ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cynghori mor bwysig.

Fel arfer, nid dyled yw'r unig broblem y bydd person yn ei hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr i fynd i'r afael â dyled unigolyn os oes ganddynt broblem tai neu fudd-daliadau lles heb ei datrys hefyd. Felly, mae cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaethau integredig, gan helpu pobl i ymdrin â'u problemau ariannol, ynghyd â phroblemau lles cymdeithasol eraill, ac mae'n sicrhau bod gwasanaethau'n datrys achosion sylfaenol dyled ac yn helpu pobl i roi eu trefniadau ariannol ar sail fwy cynaliadwy.

A diolch, Sarah Murphy, am gydnabod y rôl a'r baich gwaith cynyddol y mae Cyngor ar Bopeth a Shelter wedi'i brofi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff hynny ei adlewyrchu ar draws pob etholaeth yma heddiw ledled Cymru. Ond mae'n bwysig gweld, ac fel y dywedodd Sioned Williams, fod hyn yn gwaethygu anghydraddoldebau rydym wedi'u gweld o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae'n dda gweld cangen o undeb credyd yn agor ym Mynydd Cynffig.

Gwyddom fod llawer o bobl heb fod yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Dyna pam y mae ein hail ymgyrch genedlaethol 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a lansiwyd yn ddiweddar i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles yn bwysig. Llwyddodd ein hymgyrch gyntaf i helpu pobl i hawlio dros £650,000 o incwm ychwanegol. Ac rwyf eisiau adeiladu ar yr ymgyrch gyfathrebu ragorol. Diolch ichi am ei chydnabod, Jenny Rathbone, a'r ffordd wahanol honno o ledaenu'r neges: cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd Jane Dodds, er mwyn cyrraedd y genhedlaeth iau, y genhedlaeth simsan sydd mewn cymaint o berygl, ond hefyd er mwyn lleihau'r stigma a gysylltwyd i'r fath raddau â dyled ac annog pobl i geisio cyngor ar eu hawliau—dyna'r pwynt allweddol; eu hawliau hwy ydynt—cyn iddynt waethygu a throi'n argyfwng.

A gwn fod dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, gyda'r dreth gyngor, yn bryder cynyddol. Heledd, fe sonioch chi am hynny heddiw, ac rwy'n falch fod gwaith ar y gweill i adolygu protocol y dreth gyngor yng Nghymru. Mae yno yn ein hymateb i'ch argymhelliad. Bydd yn cynnwys archwilio pa mor llwyddiannus y bu'r protocol yn cefnogi dyledwyr sy'n agored i niwed, ac mae'n dda iawn eich bod wedi cynnal yr ymchwiliad i edrych ar hyn. Hynny yw, yn ystod 2021, darparwyd £22.6 miliwn i dalu am rywfaint o'r diffyg yn incwm y dreth gyngor oherwydd y cyfraddau casglu is hynny, ac rydym yn cynorthwyo gyda cholledion a hefyd yn helpu i ariannu'r galw ychwanegol a welwn am ostyngiad yn y dreth gyngor o ganlyniad i COVID.

Felly, mae'n bwysig nad ydym yn bychanu'r heriau ariannol sy'n wynebu aelwydydd oherwydd costau cynyddol eu biliau ynni, ac mae mynd i'r afael â chostau ynni drwy fesurau fel y cap ar brisiau y tu allan i gymhwysedd datganoledig, ond rydym yn codi'r materion hyn gyda Llywodraeth y DU. Ysgrifennodd Julie James a minnau at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, heddiw; rwy'n rhannu'r llythyr hwnnw fel y gallwch weld beth rydym wedi bod yn galw amdano. Cyhoeddwyd ein cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ym mis Mawrth 2021 ac mae 10 cam gweithredu tymor byr i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2023. Rydym yn gwneud cynnydd ar bob un o'r rhain. Ac wrth gwrs, y rhaglen Cartrefi Clyd, ac rwyf eisoes wedi sôn am 67,000 o aelwydydd yn elwa o fesurau effeithlonrwydd ynni cartref. Felly, rwy'n croesawu'r ymchwiliad i dlodi tanwydd—y ffocws uniongyrchol hwnnw—a'r rhaglen Cartrefi Clyd y byddwch yn ei gynnal cyn bo hir. A rhannwch unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg gyda ni wrth i chi symud drwy'r ymchwiliad hwnnw os gwelwch yn dda.

Mae credyd llog uchel yn gyfrannwr allweddol arall at broblemau dyled, fel rydych wedi nodi, ac eto mae llawer o bobl yn credu nad oes ganddynt ddewis arall heblaw benthyca gan fenthyciwr cost uchel. Felly, mae'n bwysig ein bod yn annog pobl i gael mynediad at undebau credyd, a dyna pam fy mod wedi sicrhau bod £60,000 ar gael i undebau credyd hyrwyddo eu gwasanaethau ledled Cymru y gaeaf hwn.

Yn olaf, mae anghydraddoldebau yn ein cymdeithas wedi'u gwaethygu gan y pandemig, wedi'u dwysáu gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag argyfwng costau byw real a difrifol iawn. Bydd y pwysau ariannol sy'n wynebu aelwydydd ledled Cymru yn dwysáu yn awr, oherwydd effaith gyfunol penderfyniadau polisi Llywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ychwanegiad credyd cynhwysol a'r cynnydd sylweddol mewn costau byw. Ac oes, Altaf Hussain, mae yna gysylltiad clir rhwng anghydraddoldebau iechyd a dyled. Mae costau bwyd a thanwydd yn saethu i fyny ac mae Aelodau'r Senedd wedi gwneud cyfraniadau pwerus heddiw.

Felly, i gloi, diolch i'r pwyllgor am weld yr angen i gynnal yr ymchwiliad amserol hwn. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu, gan y byddant yn helpu i lunio a gwella polisi, ac yn helpu i atal dyled yn ogystal â chefnogi pobl sydd mewn dyled. Mae hwn yn fater allweddol o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon a'ch pwyllgor, a bydd eich adroddiad yn helpu Cymru i ymateb yn effeithiol ac yn gadarn i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau incwm dwfn hyn yng Nghymru. Diolch.

16:20

Diolch yn fawr iawn am eich holl gyfraniadau defnyddiol iawn. Fel y dywedodd Jane Dodds, rydym i gyd wedi dod drwy'r un storm COVID, ond nid ydym wedi bod yn rhwyfo yn yr un cwch; rwy'n credu bod honno'n alegori ddefnyddiol iawn. Credaf ei bod yn arbennig o ddefnyddiol fod Jane Dodds wedi sôn am goelcerthi dyledion a'r dyledion etifeddol sy'n pwyso'n drwm ar ysgwyddau pobl. Er enghraifft, tynnodd Shelter sylw at y ffaith bod pobl a gronnodd ôl-ddyledion rhent flynyddoedd yn ôl yn dal i gael eu hatal rhag mynd ar y rhestr o bobl sy'n aros am dai cymdeithasol, ac mae honno'n enghraifft dda iawn o sut y mae'n anodd iawn i bobl ar incwm isel ddod allan o ddyled ar ôl mynd iddi. Mae'n iawn os oes gennych ddyledion mawr iawn, mae'r banc yn fodlon rhoi mwy i chi bryd hynny, ond nid dyna fel mae hi i'r bobl rydym yn sôn amdanynt yma.

Diolch, Altaf, am dynnu sylw at y cysylltiad rhwng iechyd ariannol ac iechyd meddwl, a'r effaith anghymesur y mae hyn yn ei chael ar allu pobl i weithredu a dod allan o ddyled. Hefyd, credaf eich bod wedi codi pwynt pwysig ynglŷn â sut y mae gwir angen gwybodaeth dda i ddeall cymhlethdod y dyledion y mae pobl yn eu dioddef, oherwydd bydd yr uned data cydraddoldeb yn dod â'r holl faterion hyn at ei gilydd fel bod gennym well dealltwriaeth o'r cysylltiad, er enghraifft, rhwng dyled ac oedran neu statws unigolion, a ydynt yn anabl, a ydynt yn ifanc, pa fath o lety y maent yn byw ynddo. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn ac rwy'n siŵr y bydd gan y Gweinidog ddiddordeb mawr yn hynny.

Fel y dywedodd Altaf, mae pobl yn disgwyl i bob Llywodraeth weithredu, boed yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ac nid ydynt yn disgwyl i bobl wneud dim mewn argyfwng o'r fath. Ac i droi at yr hyn a ddywedodd Sioned, fod yr holl broblemau a oedd gan bobl eisoes, eu bod eisoes mewn dyled cyn y pandemig, ond bod hyn wedi'i waethygu gan y pandemig, gan dynnu sylw at y ffaith y gallem fod yn wynebu lefelau tlodi Fictoraidd, sy'n frawychus iawn. Felly, mae dyled broblemus yn cynyddu'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ein cymdeithas, ac mae bod yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd a gweld pobl yn gorfod mynd heb eitemau o fwyd er mwyn gwresogi eu cartref yn gwbl annerbyniol.

Rwy'n credu bod Sarah Murphy wedi rhoi enghreifftiau penodol defnyddiol iawn i ni hefyd o sut y mae'r pandemig a'r argyfwng dyled yn effeithio ar bobl yn ei hetholaeth hi, ac mae'n bwysig iawn edrych ar y mater ar lefel fanwl fel y mae hi wedi'i wneud. Credaf fod y disgrifiad o'r bobl nad oeddent yn gallu mynd i'r siop leol i ychwanegu credyd at eu cardiau ynni hyd yn oed—roedd yn rhaid iddynt apelio at elusen y cwmnïau ynni i anfon credydau ynni atynt, fel y gallent gadw'r golau ymlaen a chael rhywfaint o wres, a phoeni am y gost wedyn. Credaf fod Sarah hefyd wedi sôn am y rôl bwysig y gall undebau credyd ei chwarae a'r ffaith nad oes unrhyw gyfranddalwyr trydydd parti; maent yn edrych ar bobl fel bodau dynol, ac mae'r arian y maent yn ei drin yn parhau i gylchredeg mewn cymunedau lleol. Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn am yr economi sylfaenol.

Iawn. Diolch i chi, Heledd, yn arbennig, gan nad oeddech yn rhan o'r ymchwiliad, am eich pwyntiau am y dreth gyngor a'r rôl bwysig y mae'n rhaid i ni i gyd ei chwarae i sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn gwneud y problemau'n waeth, a hefyd i sicrhau nad yw beilïaid yn aflonyddu ar bobl mewn amgylchiadau anodd.

Credaf fod y Gweinidog wedi dweud yn gwbl glir yn ei hymateb ei bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r gwaith sydd ger ein bron a'r gwaith rydym i gyd yn ei wynebu wrth ymateb yn effeithiol i'r argyfwng dyled digynsail hwn a achoswyd gan gynifer o bethau gwahanol. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y mater yn y dyfodol.

16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths. 

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar anghydraddoldebau iechyd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7877 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn galw am strategaeth a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni yn wynebu argyfwng iechyd: argyfwng sy'n rhoi bywydau mewn perygl, sy'n lladd; argyfwng sy'n golygu mai'r bregus sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf; argyfwng y dylwn ni i gyd fod yn dyheu, rhyw ddydd cyn hir, gobeithio, i'w roi y tu ôl inni. A, na, nid sôn am y pandemig ydw i. Sôn ydw i am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli yng Nghymru. Mae'r pandemig yn berthnasol achos mae'r anghydraddoldebau hynny wedi golygu bod y pandemig hefyd wedi taro rhai yn galetach na'i gilydd. Ac mi allem ni fod wedi rhagweld hynny, achos dro ar ôl tro mae rhai—rhai cymunedau, rhai grwpiau a rhai unigolion—yn dioddef mwy nag eraill. Ond dydy hynny ddim yn anochel. A dwi'n falch o allu cyflwyno'n ffurfiol y cynnig yma sy'n galw am strategaeth a chynllun gweithredu clir i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hynny. 

Mi egluraf i'n syth pam y byddwn ni'n gwrthod gwelliant y Llywodraeth: mae'r Llywodraeth yn dileu, drwy eu gwelliant nhw, y galw am strategaeth a chynllun gweithredu. Maen nhw, yn hytrach, yn galw arnom ni i gydnabod beth mae'r Llywodraeth eisoes yn ei wneud, fel pe tasai hynny yn ddigon. Ond holl bwrpas y ddadl yma, sy'n ganlyniad, rhaid dweud, i gydweithio rhwng Plaid Cymru a nifer eang o sefydliadau a mudiadau iechyd, meddygol a gofal, ydy i drio deffro'r Senedd a deffro'r Llywodraeth i'r realiti bod unrhyw fesurau sydd mewn lle ar hyn o bryd—ac wrth gwrs bod yna fesurau mewn lle—yn gwbl annigonol.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn cynnwys llawer o ffactorau gwahanol. Rydym yn sôn am wahaniaethau mewn disgwyliad oes—disgwyliad oes iach—a gwahaniaeth o ran mynediad at ofal iechyd. Rydym yn sôn am y gwahanol lefelau yn nifer yr achosion o gyflyrau iechyd hirdymor, corfforol a meddyliol, a gwahaniaethau rhwng pwy—wel, gallai ddilyn tuedd economaidd-gymdeithasol lle mae tlodi'n gyrru cynifer o broblemau iechyd; gallai fod yn ddaearyddol hyd yn oed a gwahaniaethau daearyddol o ran mynediad at ofal, gan gynnwys rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Gall profiadau amrywio yn ôl gwahanol gefndiroedd ethnig fel y gwelwn yn aml, ac yn ôl gallu corfforol. Nid ffenomen unffurf yw hon. Ac mae'n ymwneud â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, onid yw, a ddisgrifiwyd am y tro cyntaf gan Dr Julian Tudor Hart ychydig dros 50 mlynedd yn ôl, sy'n golygu mai'r rhai sydd fwyaf o angen gofal sydd leiaf tebygol o allu cael mynediad ato.

Mae maint yr her, cymhlethdod y ffordd rydym yn ymdrin â'r holl anghydraddoldebau hyn yn enfawr—yn frawychus felly—ond ni all hynny ganiatáu inni gilio rhag mynd i'r afael â'r heriau hynny. Yn wir, rhaid inni edrych ar yr heriau hynny a allai wneud mwy i'n sbarduno i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal, fe wyddom, ar hyn o bryd, yn wynebu heriau enfawr. Mae lefelau afiechydon, sydd wedi'u gwaethygu, wrth gwrs, gan y pandemig presennol, yn golygu bod ein gwasanaethau bregus dan bwysau eithafol. Ac ni allwn ddweud, 'Wel, dyma'r sefyllfa rydym ynddi; fel hyn y mae hi. Mae pobl yn mynd yn sâl ac mae ein gwasanaethau'n ymdrin â hynny.' Mae'n bosibl fod gennym lawer iawn o reolaeth dros y sefyllfa rydym ynddi. Fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd mewn adroddiad 30 mlynedd yn ôl, mae'r anghydraddoldebau hyn wedi cael eu cynhyrchu gan gymdeithas, ac felly mae modd eu haddasu. Mae hyn yn golygu gwthio'r ataliol i'r eithaf, os mynnwch—gwneud mwy na gweithio gydag unigolion neu deuluoedd i geisio hyrwyddo iechyd da a helpu i gyfeirio pobl rhag cynifer o risgiau â phosibl, ond yn hytrach, mabwysiadu agenda ataliol systemig, gan edrych ar yr holl bethau sy'n golygu nad ydym yn genedl iach, ac yn bwysig, yn hollbwysig, nad yw baich yr afiechyd yn cael ei rannu'n gyfartal rhyngom. 

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mi glywn ni y prynhawn yma yn yr awr nesaf lawer o enghreifftiau o anghydraddoldebau gan ein cyd-Aelodau wrth inni drio creu darlun o'r her rydyn ni yn ei hwynebu. Mae'r ffaith bod gymaint o fudiadau gwahanol wedi dod at ei gilydd i wthio am strategaeth yn dweud gymaint. A dwi'n ddiolchgar i nifer ohonyn nhw am eu cydweithrediad uniongyrchol wrth baratoi am y ddadl heddiw. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dadlau fod salwch meddwl wedi'i gysylltu yn agos efo llawer ffurf o anghydraddoldeb, yn cynnwys safon bywyd is, canlyniadau iechyd salach a marwolaeth gynnar. Mae Platfform, yr elusen iechyd meddwl, yn pwysleisio ymhellach bod iechyd meddwl yn cael ei gysylltu efo bob mathau o anghydraddoldebau. Mae iselder ddwywaith mor gyffredin ymhlith y grwpiau incwm isel. Mae pobl sydd yn llwgu, mewn dyled, neu'n byw mewn cartrefi o safon isel yn llawer mwy tebyg o ddioddef efo iechyd meddwl. Mae British Heart Foundation Cymru yn tanlinellu bod anghydraddoldebau systemig oedd yn bodoli o'r blaen wedi eu gwaethygu gan y pandemig, ac yn adlewyrchu ymgyrch ddiweddar ganddyn nhw—ymgyrch dwi'n ei chefnogi'n fawr—sy'n dweud bod menywod yn dal i wynebu anfanteision ar bob cam o'u taith nhw efo clefyd y galon. 

Dwi'n ddiolchgar hefyd am fewnbwn Coleg Brenhinol y Meddygon. Maen nhw hefyd yn pwysleisio'r ffordd mae'r pandemig wedi dangos sut mae'r anghydraddoldebau wedi mynd yn waeth ac wedi dangos yn glir y cyswllt rhwng tlodi a chanlyniadau iechyd gwael. Rydym yn gwybod bod y gyfradd marwolaeth, gyda llaw, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y pandemig yma wedi bod ddwywaith gymaint ag ardaloedd cyfoethocach. Mi oedd un o bob tri pherson wnaeth orfod cael triniaeth mewn adran gofal dwys yn dod o gefndir lleiafrif ethnig. Ond beth y mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn ei ddweud wrthym ni, wrth edrych ar anghydraddoldebau yn ehangach, ydy ein bod ni, am rhy hir, wedi edrych tuag at yr NHS i ymateb i'r heriau rydym ni yn eu hwynebu efo iechyd y genedl. Ond does gan, wrth gwrs, y gwasanaeth iechyd ar ei ben ei hun ddim o'r lifers, meddan nhw, i wneud y mathau o newidiadau sydd eu hangen i greu'r amgylchiadau angenrheidiol i annog iechyd da. I ddyfynnu ganddyn nhw:

'Bydd cynnydd ystyrlon yn galw am ymdrechion cydlynol ar draws pob sector i gau'r bwlch.'

Maent yn awgrymu sut beth fyddai strategaeth fel rydym yn galw amdani heddiw, sut beth fyddai ymateb trawslywodraethol. Dylai ddiffinio 'cydraddoldeb iechyd' a sut beth yn union fyddai llwyddiant. Dylai ddarparu targedau a chanlyniadau clir, mesuradwy gydag amserlen ddiffiniedig. Dylai ddod â gwaith presennol ar anghydraddoldebau ynghyd o holl adrannau'r Llywodraeth, oherwydd, fel y dywedaf, mae gwaith yn mynd rhagddo, wrth gwrs. Dylai ddiffinio'r math o gydweithio sydd ei angen ledled Cymru gyda llawer o bartneriaid ynghlwm wrtho i sicrhau'r newid sydd ei angen arnom. Ac wrth gwrs, rhaid cael y cyllid angenrheidiol yn sail iddo. Ac efallai ar y cam hwnnw, y gwelaf unrhyw Weinidog yn gwingo wrth ystyried maint yr her. Ond wrth inni ystyried sut ar y ddaear y down o hyd i'r arian i'w wneud, ystyriwch adroddiad 2011 gan Lywodraeth Cymru ei hun, a ddywedai fod amcangyfrif o'r gost economaidd flynyddol o ymdrin â chanlyniadau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru rhwng £3.2 biliwn a £4 biliwn.

Yn y strategaeth ddiweddar, 'Cymru Iachach', os ydym yn cyfrif yn gywir, deirgwaith yn unig y sonnir am anghydraddoldeb. Mae Plaid Cymru am wneud gwahaniaeth ac mae'r rhaglen lywodraethu wedi'i diweddaru sy'n deillio o'r cytundeb cydweithio yn cynnwys y geiriau 'cydradd', 'anghydraddoldeb', neu 'anghydraddoldebau' 11 gwaith, rwy'n credu, gan gynnwys addewid allweddol i fynd ati i ddileu pob ffurf ar anghydraddoldeb. A rhaid mai'r math mwyaf sylfaenol o anghydraddoldeb—neu o'i droi ar ei ben, y cydraddoldeb a geisiwn—yw iechyd. A dyna pam, unwaith eto, y dywedwn fod gwelliant y Llywodraeth heddiw, drwy ddileu'r alwad am gynllun gweithredu clir, yn groes i'w huchelgais datganedig eu hunain. Mae arnaf ofn, Weinidog, nad yw geiriau'n ddigon ynddynt eu hunain.

Mae'n amlwg mai ein hiechyd ein hunain fel unigolion yw'r prif gynhwysyn sy'n rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i ni, a hynny o gryn bellter. A rhaid i drosi hynny'n weledigaeth ar gyfer y wlad gyfan, a gwella ein lefelau iechyd ym mhob ffordd a gwneud ymdrech arbennig i ddileu'r anghydraddoldebau, fod yn ganolog yn y gwaith o greu'r Gymru well y dylem i gyd ymgyrraedd ati. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw.

16:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y cynnig hwnnw'n ffurfiol—Eluned Morgan.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Rwy'n credu bod trafod y pwnc hwn yn ddefnydd teilwng iawn o amser y prynhawn yma. Nid ydym wedi cyflwyno unrhyw welliannau i'r cynnig a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian, oherwydd cytunwn â'r cynnig fel y'i cyflwynwyd. Nid ydym yn bwriadu cefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd mae'n dileu pwyntiau pwysig o gynnig Plaid Cymru, fel y nododd Rhun ap Iorwerth.

Roeddwn am ddefnyddio fy amser yn y cyfraniad hwn i siarad am beth o waith ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a lansiwyd gennym yr wythnos hon mewn gwirionedd. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar draws gwahanol grwpiau mewn cymdeithas. Gwnaethom bwynt a dweud y gwir o beidio ag ailystyried rhywfaint o'r gwaith da arall sydd wedi'i wneud gan bwyllgorau blaenorol; nid ydym am ailadrodd gwaith sydd wedi'i wneud. Felly, rydym yn canolbwyntio'n benodol ar agweddau anghydraddoldeb iechyd meddwl. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n helaeth ar y rhai yr effeithir arnynt yn anghymesur ac yn edrych ar beth yw'r rhwystrau sy'n bodoli i fynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried i ba raddau y mae polisi Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn mynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl grwpiau penodol.

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yng ngwaith y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl, sy'n gweithio ar y cyd â nifer o gyrff eraill. Maent yn cyfeirio at y rhwystr triphlyg. Yn benodol, pan fyddant yn cyfeirio at y rhwystr triphlyg, maent yn sôn am y risg anghymesur y mae pobl yn ei hwynebu oherwydd yr anghydraddoldebau yn gyffredinol mewn cymdeithas. Ond yn ail, ac efallai'n bwysicaf oll, gall grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o salwch meddwl wynebu yr anhawster mwyaf i gael mynediad at wasanaethau, a phan fyddant yn cael cymorth, mae eu profiadau a'u canlyniadau yn aml yn waeth. Felly, fel pwyllgor, y gwaith a lansiwyd gennym yr wythnos hon—byddwn yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig yn gyntaf ac yn gwrando ar dystiolaeth lafar yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond rydym am fynd i wraidd anghydraddoldebau iechyd meddwl ledled Cymru. Nid wyf yn credu ei bod yn iawn, wrth gwrs—ac rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno—fod pobl mewn cymdeithas yn wynebu perygl anghymesur ac yn cael trafferth oherwydd eu bod mewn categori penodol.

Gwyddom, er enghraifft, fod plant o'r 20 y cant o aelwydydd tlotaf bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anawsterau iechyd meddwl difrifol erbyn eu bod yn 11 oed na phlant o'r 20 y cant cyfoethocaf. Grwpiau eraill yr effeithir arnynt hefyd yw pobl hŷn—nid yw 85 y cant o bobl hŷn sy'n dioddef o iselder yn cael unrhyw gymorth gan y GIG, yn ôl yr astudiaeth y mae'r ganolfan ar gyfer iechyd meddwl wedi'i chyflawni. Ar awtistiaeth, mae gan 70 y cant o blant neu 80 y cant o oedolion ag awtistiaeth o leiaf un cyflwr iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd, ac un ystadegyn sy'n peri pryder arbennig yw bod plant ag awtistiaeth 28 gwaith yn fwy tebygol o feddwl am hunanladdiad neu geisio cyflawni hunanladdiad.

Mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o brofi anawsterau iechyd meddwl, ac mae'r rhai sydd ag anawsterau dysgu deirgwaith yn fwy tebygol na'r cyfartaledd o gael problem iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd. Felly, drwy'r gwaith hwn rydym am glywed y profiadau o sefyllfaoedd go iawn. Rydym am geisio cael llais y rhai sy'n aml heb eu cynrychioli'n ddigonol mewn cymdeithas a defnyddio'r profiadau hynny. Fel pwyllgor, rwy'n gobeithio y gallwn wneud argymhellion sy'n helpu i osod cyfeiriad i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi ar iechyd meddwl. Felly, diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma.

16:40

Mae anghydraddoldeb iechyd wedi bod yn ffenomen hysbys ers dros 50 mlynedd, pan ysgrifennodd Dr Julian Tudor Hart erthygl yn The Lancet ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal. Y ddeddf gofal gwrthgyfartal yw'r egwyddor fod argaeledd gofal meddygol neu gymdeithasol da yn tueddu i amrywio'n wrthgyfartal ag angen y boblogaeth a wasanaethir. Dywedodd:

'Yn yr ardaloedd sydd â'r lefel fwyaf o salwch a marwolaethau, mae gan feddygon teulu fwy o waith, rhestrau mwy, llai o gymorth ysbytai, ac maent yn etifeddu traddodiadau ymgynghori mwy aneffeithiol yn glinigol nag yn yr ardaloedd iachaf; ac mae meddygon ysbyty'n ysgwyddo baich achosion trymach gyda llai o staff ac offer, adeiladau mwy hynafol, ac yn dioddef argyfyngau rheolaidd o ran argaeledd gwelyau a staff cyflenwi.'

A yw wedi newid? Fel y dywedodd Frank Dobson pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd,

'Anghydraddoldeb ym maes iechyd yw'r anghydraddoldeb gwaethaf oll. Nid oes anghydraddoldeb mwy difrifol na gwybod y byddwch yn marw'n gynt oherwydd eich bod yn dlawd.'

Hefyd, ceir graddiant cymdeithasol mewn hyd oes. Mae disgwyliad oes cyfartalog pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr oddeutu naw mlynedd yn llai na'r rhai mewn ardaloedd mwy cyfoethog i ddynion, a saith mlynedd i fenywod. Gall dynion a menywod sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl bron i 20 mlynedd yn llai o iechyd. Felly, mae pobl nid yn unig yn marw'n iau ond yn sâl am gyfnod hwy o'u bywydau. Pe bawn i'n byw yn awr yn yr ardal lle roeddwn i'n mynd i'r ysgol, fel dyn dros 60 oed, byddai'r tebygolrwydd y byddwn yn dioddef o afiechyd difrifol dros 50 y cant. Mae bron i hanner y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y ddwy ardal yn ganlyniad i farwolaethau ychwanegol o glefyd y galon, strôc a chanser.

Yn ogystal â disgwyliad oes is, mae llawer o ffactorau risg ymddygiadol yn llawer mwy cyffredin yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'u cymharu ag ardaloedd llai difreintiedig. Mae'r anghydraddoldebau iechyd hyn yn seiliedig ar anghydraddoldebau mewn amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n dylanwadu ar iechyd. Ni ellir edrych ar iechyd ar ei ben ei hun. Mae dosbarthiad anghyfartal penderfynyddion cymdeithasol iechyd, megis addysg, tai a chyflogaeth, yn gyrru anghydraddoldeb mewn iechyd corfforol a meddyliol, gan leihau gallu unigolion i atal salwch neu gymryd camau a chael triniaeth pan fydd afiechyd yn digwydd. Ni all pobl fforddio aros adref o'r gwaith pan fyddant yn sâl oherwydd yr effaith y mae'n ei chael ar eu hincwm. Mae hynny'n effeithio'n ddifrifol ar eu disgwyliad oes yn hirdymor, ond mae'n sicr yn effeithio'n wael iawn arnynt yn y tymor byr.

Mae'r anghydraddoldebau hyn yn gymhleth; maent wedi'u gwreiddio mewn cymdeithas. Ond mae modd eu hatal hefyd. Mae dimensiynau anghydraddoldeb yn gymhleth ac yn gorgyffwrdd, fel y mae cynrychioli dimensiynau anghydraddoldeb iechyd sy'n gorgyffwrdd. Mae anghydraddoldebau iechyd fel amddifadedd, incwm isel a thai gwael bob amser wedi golygu iechyd gwaeth, ansawdd bywyd gwaeth a marwolaeth gynnar i lawer o bobl. Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu'n glir sut y mae'r anghydraddoldebau hyn sy'n bodoli eisoes a'r rhyng-gysylltiad rhyngddynt, megis hil, rhyw a daearyddiaeth, yn gysylltiedig â risg uwch o fynd yn sâl gyda chlefyd fel COVID-19. Ond byddai'n wir am unrhyw bandemig.

Mae'r cysylltiad rhwng tai gwael ac iechyd gwael wedi'i hen sefydlu. Creodd Clement Attlee weinyddiaeth iechyd a thai o dan Nye Bevan. Yn anffodus i mi, nid oes unrhyw arweinydd Llafur ers hynny wedi llwyddo i uno'r ddau gyda'i gilydd. Mae gan y Blaid Lafur hanes cryf a balch o ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd da, ac mae hyn yn arwain at well iechyd i drigolion yr eiddo hyn. Ond mae gennym hefyd bobl sy'n byw mewn llety rhent preifat oer, llaith ac anaddas. A yw'n syndod fod eu hiechyd yn wael a bod llawer o blant yn cael canlyniadau addysgol gwael?

Mae digartrefedd yn effeithio'n enfawr ar iechyd corfforol unigolyn. Mae cysgu ar y stryd yn ei gwneud yn anodd cael cwsg o ansawdd da, cynnal deiet digonol ac iach, cadw'n lân a chael triniaeth feddygol. Nid yw'n syndod fod ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain wedi darganfod bod o leiaf draean o bobl ddigartref wedi marw o gyflyrau y gellid eu trin yn hawdd, a bu farw bron pob un ohonynt yn ifanc.

Mae llawer o astudiaethau wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd da a rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol, gyda lefelau is o straen, cyfraddau gordewdra is a gallu gwell i ganolbwyntio. Arwydd arall o dlodi yw anghydraddoldeb iechyd: mae deiet gwael, tai o ansawdd gwael, tai wedi'u gwresogi'n annigonol, diffyg rhyngweithio â'r amgylchedd naturiol, diffyg ymarfer corff, a phryder parhaus am arian yn anochel yn cynhyrchu canlyniadau iechyd heb fod cystal a marwolaethau cynnar.

A gaf fi orffen drwy sôn am boeni am arian? Credaf ei bod yn sioc i'r rhan fwyaf o'r bobl yn y Senedd, ond mae nifer fawr o fy etholwyr yn poeni'n ddyddiol ynglŷn â faint o arian sydd ganddynt a sut y maent yn mynd i dalu eu biliau. Maent yn byw ym mhob rhan o fy etholaeth, ac mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael gwared ar y straen hwnnw. Rwy'n cofio dweud unwaith, pe bawn i mewn sefyllfa lle na fyddwn yn gwybod sut oeddwn i'n mynd i fwydo fy mhlant, pe na bawn yn gwybod sut oeddwn i'n mynd i dalu fy rhent, byddwn innau hefyd yn ddigalon, ac mae'n ymddangos bod iechyd meddwl yn cael ei yrru gan y ffaith bod pobl yn dlawd. Felly, gadewch inni fynd i'r afael â'r gwir achos, sef tlodi a thai gwael, ac os gallwn ymdrin â'r rheini, gallwn wella iechyd a chanlyniadau iechyd.

16:45

Nid yw anghydraddoldeb iechyd yn newydd yng Nghymru, er bod y pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldeb ac wedi gwaethygu'r sefyllfa i lawer o etholwyr sy'n byw yn fy rhanbarth, a adlewyrchir yn y lefel uchel o farwolaethau o COVID yn Rhondda Cynon Taf. Nid dyna sydd wedi creu'r anghydraddoldeb hwn, ac mae'n amlwg y dylid bod wedi gwneud mwy ymhell cyn y pandemig i fynd i'r afael â hyn.

Yn amlwg, nid yw cyni wedi helpu ychwaith. Mae ymchwil yn dangos bod mesurau cyni, sy'n cynnwys lleihau gwariant cymdeithasol a chynyddu trethiant, yn brifo grwpiau difreintiedig fwyaf. Maent yn cynyddu'r risg o ddiweithdra, tlodi, digartrefedd a ffactorau risg economaidd-gymdeithasol eraill, tra'n torri rhaglenni diogelwch cymdeithasol effeithiol sy'n lliniaru risgiau i iechyd.

Mae cyni hefyd yn arwain at ganlyniadau i iechyd a gwasanaethau iechyd. Mae'n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes yn agored i niwed, fel y rhai y mae eu cyflogaeth neu eu sefyllfa dai yn ansicr, neu sydd â phroblemau iechyd sy'n bodoli eisoes. Mae'n gysylltiedig ag iechyd meddwl sy'n gwaethygu ac o ganlyniad, â chynnydd yng nghyfraddau hunanladdiad. Ac eto, nid yw hyn yn ganlyniad anochel ar adeg o argyfwng economaidd, fel y gwelwyd o'r ymchwil i'r rhai sy'n ffodus i fyw mewn gwledydd sydd â systemau diogelwch cymdeithasol cryf, megis Gwlad yr Iâ a'r Almaen.

Yn 2015, profodd y DU y cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd farwolaethau ers 50 mlynedd, ac mae nifer y marwolaethau yn y DU wedi bod yn codi ers 2011, ar wahân i adferiad yn 2014, ar ôl dirywiad cyson o ddiwedd y 1970au ymlaen, ac mae'r cynnydd hwn wedi bod yn arbennig o fawr ymhlith yr henoed. Ymddengys bod mesurau cyni, yn hytrach na chaledi economaidd fel y cyfryw, wedi chwarae rhan yn y gyfradd farwolaethau gynyddol hon. Mae dadansoddiad sy'n archwilio patrymau newidiol ar draws ardaloedd lleol yn canfod cysylltiad rhwng toriadau i ofal cymdeithasol a chymorth ariannol i bensiynwyr oedrannus a'r cynnydd mewn marwolaethau ymhlith rhai 85 oed a hŷn.

Fel y gwn o fy mhrofiad personol yn cefnogi cymunedau sy'n dal i gael eu heffeithio yn sgil llifogydd dinistriol 2020 o ganlyniad i storm Dennis, mae tywydd eithafol a llifogydd hefyd yn debygol o effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd ar incwm isel, y rhai sydd â llai o adnoddau i baratoi ar gyfer llifogydd neu ddigwyddiadau tywydd eithafol eraill, i ymateb iddynt ac i ymadfer yn eu sgil, a'r rhai sy'n llai tebygol o fod wedi'u hyswirio'n llawn yn erbyn difrod i eiddo o dywydd eithafol o'r fath. Mae llwydni lleithder mewn eiddo o ganlyniad i lifogydd yn peri risg sylweddol i iechyd. Fodd bynnag, mae llawer o'r rhai sydd ar incwm isel yn methu fforddio datrys y broblem, sy'n golygu bod nifer yn parhau i wynebu risgiau sylweddol i'w hiechyd oherwydd effeithiau parhaus a chynyddol y newid yn yr hinsawdd.

Fel un o hyrwyddwyr aer glân y Senedd, rwyf hefyd am dynnu sylw at ansawdd aer a sut y mae hyn hefyd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd ar incwm isel. Mae'n werth cofio mai plant mewn cartrefi incwm isel sy'n cael eu heffeithio waethaf gan broblemau ansawdd aer. Ar hyn o bryd, mae crynodiadau llygryddion aer yn uwch mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, sy'n golygu mai'r rhai ar incwm isel sy'n tueddu i gael eu heffeithio waethaf gan broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael. Rydym wedi clywed mewn cyfraniadau eraill eisoes am y bwlch a'r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sef 8.9 mlynedd i ddynion a 7.4 mlynedd i fenywod. Ac ymhellach, yn 2019 roedd cyfran y marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Cwm Taf sydd â'r disgwyliad oes iach isaf, 61.2 i ddynion a 62.6 i fenywod, o'i gymharu â 67.6 i ddynion a 69.2 i fenywod yn ardal Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n wahaniaeth amlwg o rhwng chwech a saith mlynedd o fywyd iach i etholwyr sy'n byw yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. 

Gallwn wneud mwy, mae angen inni wneud mwy i roi diwedd ar anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru, a'r hyn rydym yn ei gynnig heddiw yw y dylid dod â chynllun at ei gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd. Gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ar draws y Siambr gefnogi ein cynnig.

16:50

Samuel Kurtz. Samuel Kurtz. A allaf gael meicroffon Samuel Kurtz wedi'i ddadfudo? 'Mae'r cyfrifiadur yn dweud na', Samuel.

Mae gennych chi'r Sam anghywir, mae'n ddrwg gennyf.

O, y Sam anghywir. Iawn. Mae gennym y Sam cywir. Samuel Kurtz.

Diolch, Llywydd. Fe wnaf i ddechrau gan ddweud diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma ymlaen y prynhawn yma. 

Hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i dynnu sylw'r Aelodau at yr anghydraddoldebau iechyd parhaus yn y Gymru wledig, drwy dynnu sylw at enghreifftiau yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn enwedig yr anghydraddoldebau sydd wedi codi o ganlyniad i bandemig COVID-19 ac ad-drefnu gwasanaethau iechyd hanfodol.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda wedi ailddyrannu gwasanaethau ar draws gorllewin Cymru i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, mewn ymdrech i gynnal gwasanaethau canser hanfodol y GIG drwy gydol cyfnod presennol y pandemig. Er bod y blaenoriaethu dros dro hwn i'w groesawu i raddau helaeth, mae'n codi cwestiynau pwysig am ddyfodol gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Mae gan breswylydd ym mhentref Angle, y pwynt pellaf i'r gorllewin yn fy etholaeth i, daith gyfan o tua 46 milltir i fynd i ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, neu daith gyfan o 86 milltir i fynychu apwyntiad yn ysbyty Glangwili. O dan y gwasanaeth dros dro, bydd yn rhaid i un o drigolion Angle deithio cyfanswm o 122 milltir i ac o Ysbyty'r Tywysog Philip. Mae hyn yn anodd ar y gorau, ond mae'n cael ei wneud hyd yn oed yn fwy rhwystredig gan ddiffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sylfaenol. Gyda'r enghraifft hon yn unig, gallwch weld pa mor wrthgynhyrchiol fyddai cyfeirio adnoddau i ffwrdd o Langwili, neu'n wir, o ysbyty Llwynhelyg yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Paul Davies, sef Preseli Sir Benfro, i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn gyson gwelsom wasanaethau ysbyty yn Llwynhelyg a Glangwili yn cael eu dosrannu tua'r dwyrain. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff ysbyty newydd ei adeiladu ar ffin sir Benfro-sir Gaerfyrddin, ond mae'r safle a'r cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn dal i fod yn ddirgelwch. Weinidog, byddwn yn ffodus i weld ysbyty newydd wedi'i adeiladu cyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026. Mae fy etholwyr yn pryderu, yn ddigon ddealladwy, fod erydu gwasanaethau iechyd allan o sir Benfro a gorllewin sir Gaerfyrddin yn symud i un cyfeiriad yn unig: tua'r dwyrain. Dro ar ôl tro, Weinidog, dywedwyd wrthym, a chydweithwyr i mi, na fyddai gwasanaethau'n cael eu lleihau nes bod ysbyty newydd yn ei le, ac eto mae gwasanaethau'n cael eu lleihau'n systematig ac anghydraddoldebau iechyd yn gwaethygu i'r rhai sy'n eu defnyddio. Os cyfunwch hyn â pha mor wael yw amseroedd aros am ambiwlans yng ngorllewin Cymru a'r pellter y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd i gyrraedd ysbyty mewn argyfwng, mae gennych storm berffaith ar gyfer argyfwng gwasanaethau rheng flaen. A thrigolion Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro fydd yn cael eu gorfodi i ddioddef. Dyna pam y mae'n hanfodol fod y gwasanaethau hyn yn dychwelyd i'w mannau darparu arferol cyn gynted â phosibl. Diolch.

Wel, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, mae anghydraddoldebau iechyd fel arfer yn symptom o anghydraddoldebau eraill, gydag incwm y prif ffactor fel arfer. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Mike Hedges ac eraill wedi cyfeirio at y ffigurau yma, mae pobl yn yr ardaloedd lleiaf llewyrchus yng Nghymru yn byw yn iach am 18 mlynedd yn llai na phobl yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus, ac mae pobl yn yr ardaloedd tlotaf hynny 23 y cant yn fwy tebygol o gael canser, a 48 y cant yn fwy tebygol o farw o'r salwch. Gydag iechyd meddwl hefyd, mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio at y ffaith bod yr elusen Platfform yn dangos bod iselder ddwywaith mwy cyffredin mewn grwpiau incwm isel, a bod pobl sydd â diffyg bwyd ac arian yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl. Mae'r un patrwm i'w weld gydag anhwylderau iechyd meddwl difrifol, gyda phobl ar reng isaf yr ysgol gymdeithasol-economaidd wyth gwaith yn fwy tebygol o dderbyn diagnosis o sgitsoffrenia.

Felly, mae anghydraddoldebau materol yn achosi cylch dieflig o anghydraddoldebau eraill. Mae'n wir am anghydraddoldebau hil yng Nghymru hefyd. Rŷn ni'n gwybod bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn derbyn 7.5 y cant yn llai o incwm na phobl wyn ar gyfartaledd, ac mae'r annhegwch incwm yma yn eu gadael yn fwy agored i glefydau, gan gynnwys COVID. Mae'r un peth yn wir am yr ystad dai yng Nghymru, fel dŷn ni wedi clywed. Rhaid i Lywodraeth Cymru, pan fyddant yn mynd ati gyda'r gwaith o ailadeiladu cymdeithas yn dilyn COVID, flaenoriaethu torri'r cylch dieflig hwn, fel bod cyfleoedd yn cael eu rhannu yn decach. Y ffordd orau o gynyddu'r safon byw cyffredinol, wrth gwrs, yw dechrau o'r gwaelod lan, gan mai yno mae'r angen mwyaf.

Felly, rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi cynnig Plaid Cymru, sydd yn galw am strategaeth benodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a gwrthod gwelliant y Llywodraeth, sydd o blaid cadw'r cylch gorchwyl i'r hyn maen nhw eisoes wedi ymrwymo iddo. Mae'n hanfodol bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosib wrth inni wynebu'r argyfwng prisiau ynni, fydd yn cael effaith erchyll ar bobl sydd eisoes yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Yn ôl adroddiad Marmot, mae oddeutu 10 y cant o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn ganlyniad i dlodi tanwydd, felly mae'n hanfodol, Llywydd, fod gweithredu pendant ynghylch y broblem rhwng nawr a'r gaeaf nesaf, os nad yn gynt.

Hoffwn i gloi drwy sôn am y ffactor arall sydd yn gyrru anghydraddoldeb, sef anghydraddoldeb daearyddol. Fe wnaeth adroddiad Marmot ar anghydraddoldebau iechyd yn Lloegr edrych ar hyn hefyd, gan nodi bod daearyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau iechyd. Y gwir yw bod Cymoedd y de yn dal i ddioddef effaith cau'r pyllau glo yn y 1980au. Mae'n anhygoel i feddwl bod pobl mewn cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i orfod wynebu incwm isel, a'r canlyniadau iechyd gwael sydd yn dod gyda hynny, 33 o flynyddoedd ar ôl i'r pyllau diwethaf gau, Cwm ac Oakdale, bron yr un faint o flynyddoedd dwi wedi bod ar y ddaear yma. Am fethiant gwleidyddol ydy'r ffaith yna. Mae'r bobl sydd yn byw yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol yma yn dal i ddioddef o salwch diwydiannol, mae'r cyfraddau o broblemau iechyd eraill yn parhau i fod yn uchel oherwydd eu hamodau economaidd, ac mae diweithdra yn parhau i fod yn broblem ddifrifol.

Fe wnaeth adroddiad Sheffield Hallam ar sefyllfa economaidd a chymdeithasol cau pyllau glo yng Nghymru a Lloegr adrodd yn 2019 fod problemau iechyd yn bla ar yr ardaloedd hyn, gyda bron i 10 y cant yn derbyn taliadau lles am broblemau iechyd a'r nifer o swyddi mor isel. Mae'n hen bryd i gael Llywodraeth Cymru sydd o ddifrif yn gallu esgor ar ddadeni economaidd yn y Cymoedd. Os na fydd arwyddion o hyn i'w gweld erbyn diwedd y tymor hwn, y cwestiwn y bydd angen i'r Llywodraeth Llafur yma ofyn i'w hunain yw ai eu methiannau nhw sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd, oherwydd os nad hynny ydy'r ateb, yr unig esboniad arall yw bod hyn oll yn deillio o fod yn rhan o Deyrnas Gyfunol sydd ag anghydraddoldeb wrth ei chraidd, a hynny sydd yn llesteirio'r cymunedau hyn rhag gwireddu eu potensial.

16:55

Rwy'n ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl heddiw, a diolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno hyn, ac rwy'n rhoi fy sylwadau i gyd-fynd â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd.

Os caf, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar drafodaeth ddiweddar gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Lansiodd Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol adroddiad yn ddiweddar, 'Bridge to Recovery', ac maent yn galw am fynediad teg at arbenigedd therapi galwedigaethol. Lywydd, dylai'r mynediad hwn fod yn agored, dylai fod yn briodol, ac yn deg i'r grwpiau poblogaeth y gwyddys eu bod yn profi llai o fynediad at ofal iechyd a gwasanaethau. Nid wyf am ailrestru'r grwpiau rydym eisoes wedi clywed amdanynt gan nifer o bobl y prynhawn yma.

Ond Lywydd, yn anffodus, mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu effaith anghydraddoldebau iechyd a oedd eisoes yn bodoli yn fy etholaeth i ac etholaethau ledled Cymru. Mae'r cyfyngiadau symud a'r mesurau angenrheidiol y bu'n rhaid inni eu rhoi ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd hefyd wedi arwain at gynnydd mewn unigrwydd a theimlo'n ynysig, cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau a thrais domestig, ac os edrychwn ar y problemau hynny, roeddent yn arbennig o wir i'r rhai a oedd yn gwarchod. 

Nawr, fel y soniwyd cyn heddiw, mae hyn wedi arwain at gynnydd ac angen dybryd am gymorth iechyd meddwl brys mewn gofal sylfaenol. Yn gynnar iawn yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, camodd y gwasanaeth therapi galwedigaethol yng ngogledd Cymru i'r fei yn rhagweithiol a gweithredu'n rhagweithiol i gefnogi gofal sylfaenol, gan estyn allan at y rhai a oedd yn gwarchod. Tyfodd hyn yn gyflym i gefnogi unigolion sy'n troi at ofal sylfaenol gyda phryderon iechyd meddwl cyffredin. O hyn, datblygodd prosiect cydgynhyrchu, a gysylltai wasanaethau therapi galwedigaethol â'r rhaglen iCAN, rhaglen sefydledig dan arweiniad gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. 

Cynigiodd y rhaglen iCAN fynediad haws, cynharach i atal a lliniaru anghydraddoldebau iechyd, ac rwy'n cymeradwyo'r rhaglen iCAN a chydgynhyrchu'r rhaglen honno i'r Senedd, ac rwyf hefyd yn annog aelodau'r pwyllgor iechyd, a'r rhai nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor iechyd, i edrych ar yr adroddiad a'i werthusiad cadarnhaol.

Fodd bynnag, Lywydd, o'r camau cadarnhaol hyn, mae yna broblem o hyd. Drwy wasanaethau eilaidd a thrydyddol yn bennaf y ceir mynediad at therapi galwedigaethol o hyd, ac mae'n tueddu i ganolbwyntio ar unigolion yn hytrach nag ar boblogaethau. Mae angen i fynediad at wasanaethau therapi galwedigaethol fod yn gynnar, mae angen iddo fod yn hawdd, mae angen iddo fod yn fynediad pob oedran, i atal datblygiad anawsterau hirdymor a mynd i'r afael â rhai o'r anfanteision cymdeithasol ehangach i iechyd y clywsom amdanynt eisoes heno. Dylai gwasanaethau fod ar gael i bawb, ar draws pob agwedd ar fywyd, a'u targedu, eu llunio a'u lleoli yn unol ag anghenion y grwpiau poblogaeth lleol.

Lywydd, hoffwn weld arferion da fel prosiectau megis prosiect iCAN yng ngogledd Cymru yn cael eu hailadrodd ledled Cymru gyfan, ac rwy'n annog yr Aelodau i gymryd rhan, a sefydliadau i gymryd rhan, yn ymchwiliad pwyllgor y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd ar y ffordd, sy'n gam pwysig ymlaen o ran anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Diolch yn fawr. 

17:00

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac nid oes gennyf unrhyw broblem gyda chefnogi'r cynnig fel y mae y prynhawn yma. 

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ceir digon o dystiolaeth fod ffactorau cymdeithasol fel addysg, statws cyflogaeth, lefel incwm a rhyw ac ethnigrwydd yn dylanwadu'n glir ar ba mor iach yw person. Ym mhob gwlad, boed yn rhai incwm isel, canolig neu uchel, ceir gwahaniaethau eang yn statws iechyd gwahanol grwpiau cymdeithasol. Po isaf yw statws economaidd-gymdeithasol person, yr uchaf yw eu risg o iechyd gwael.

Yn anffodus, mae digon o dystiolaeth o hyn yn fy etholaeth i. Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i rai o'r wardiau tlotaf yng Nghymru, os nad y Deyrnas Unedig gyfan. Mae ganddi un o'r cyfraddau disgwyliad oes isaf i ddynion, un o'r cyfraddau marwolaethau cynamserol uchaf o glefydau nad ydynt yn drosglwyddadwy, a cheir cyfraddau eithriadol o uchel o farwolaethau cardiofasgwlaidd yn ogystal â lefel uchel o ddiabetes. Mae un o bob 16 oedolyn ar absenoldeb salwch hirdymor neu'n anabl ac yn economaidd anweithgar.

Nid yw anweithgarwch economaidd ymhlith y rhai nad ydynt yn ymladd salwch hirdymor yn llawer gwell. Mae bron i chwarter y boblogaeth oedolion yn economaidd anweithgar, felly nid yw'n syndod fod anghydraddoldebau iechyd mor gyffredin. Mae llywodraethau i fod i sicrhau bod eu dinasyddion yn iach, i fod i'w codi o dlodi, i fod i wella eu cyfleoedd bywyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi methu ar bob un o'r rhain. Llafur Cymru, wedi'u cynnal gan Blaid Cymru a/neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi rhedeg Cymru ers dros ddau ddegawd. Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ein heconomi wedi aros yn ei hunfan. 

Yn fy etholaeth i, mae gwerth ychwanegol gros wedi codi. Mae wedi mynd o 59.8 y cant o werth ychwanegol gros y DU i 60.2 y cant—nad yw'n hanner 1 y cant hyd yn oed mewn dros 20 mlynedd. Felly, nid yw'n llawer mwy na gwall talgrynnu ystadegol. Er bod ein heconomi wedi parhau'n wastad, aeth fy etholwyr yn dlotach, ac o ganlyniad, yn fwy sâl. Mae llawer o fy etholwyr yn methu fforddio bwyta'n iach. Mae'n debygol nad yw un o bob pum oedolyn wedi bwyta'r pump y dydd a argymhellir, ac nid yw'n syndod felly fod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ysbyty wedi dyblu yn ystod y degawd diwethaf. Mae gwariant ar iechyd hefyd wedi dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym bellach yn gwario dros hanner cyllideb Cymru ar iechyd a gofal, felly beth ddigwyddodd i drin y clefyd ac nid y symptomau? Pe bai Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ddileu anghydraddoldebau iechyd, ni fyddai angen inni wario symiau cynyddol ar y GIG. Rhaid inni sicrhau bod gan ein poblogaeth fynediad at swyddi sy'n talu'n dda a thai o ansawdd da os ydym am gael unrhyw obaith o fynd i'r afael â salwch hirdymor. 

Gwastraffwyd cymaint o gyfleoedd i fynd i'r afael â'r broblem. Addawodd Llywodraeth Cymru godi gwerth ychwanegol gros Cymru i o fewn 10 y cant o gyfartaledd y DU, a dileu eu haddewid wedyn cyn iddo gael ei dorri. Fe wnaethant wastraffu cronfeydd strwythurol ar brosiectau porthi balchder. Ac ni allaf ond gobeithio, er mwyn fy etholwyr, y byddant yn dysgu gan Lywodraeth y DU ac agenda codi'r gwastad, gan fod fy etholwyr eisoes yn elwa ar gynlluniau lluosog. Ond nid cystadleuaeth rhwng gwledydd yw hon. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwleidyddiaeth bleidiol a chenedlaetholdeb bitw o'r neilltu a gweithio gyda Llywodraethau ledled y DU i godi ein dinasyddion allan o dlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn uniongyrchol ac am byth. Diolch. 

17:05

Diolch am gael cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. 

Mae anghydraddoldebau enfawr yn bodoli o ran cyfoeth ac iechyd yn ein cymdeithas. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon honni fel arall, ond byddwn yn falch iawn o fynd â hwy o amgylch rhai o'r cymunedau yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru os oes angen eu hargyhoeddi ymhellach. Mae'r pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynyddu'r gwahaniaethau a oedd eisoes yn bodoli, ac a waethygwyd gan fwy na degawd o gyni San Steffan. Fel y gwelsom yr wythnos hon, gyda newyddion am barti arall yn groes i'r cyfyngiadau symud yn 10, Stryd Downing, mae'n ymddangos bod yr ychydig breintiedig yn byw yn ôl set wahanol o reolau. Mae bwlch mawr hefyd rhwng y cyfoethog a'r rhai sy'n byw mewn tlodi o ran canlyniadau iechyd. Mae Dr Ciarán Humphreys, ymgynghorydd ym maes iechyd y cyhoedd ar benderfynyddion ehangach iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud:

'Mae llawer o amodau yn cyfrannu at y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn dangos bod rhaid i ni edrych y tu hwnt i esboniadau meddygol syml i'r achosion sylfaenol ac ystyried yr amodau ehangach y mae pobl yn byw ynddynt.'

Gallem wella'r anghydraddoldebau hyn drwy ganolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar yn y gymuned sy'n gyffredinol ond wedi'i thargedu'n arbennig at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Rydym i gyd yn gyfarwydd â'r ôl-groniad ym maes iechyd a grëwyd gan y pandemig, ond os yw mynediad amserol at wasanaethau iechyd sylfaenol yn gwella, gellir lleihau'r angen am ofal ysbyty. Byddai hyn hefyd yn lleihau costau gofal iechyd drwy leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl ar incwm isel a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn aml yn bwyta deiet llai iach ac felly maent yn fwy tebygol o brofi'r canlyniadau iechyd andwyol sy'n gysylltiedig â deiet gwael. Yn anffodus, yn aml nid yw'n hawdd dod o hyd i opsiynau bwyd iach fforddiadwy yn llawer o'n cymunedau. Nododd rhwydwaith tlodi bwyd Cymru yn 2020 fod bod heb ddigon o arian i gyrraedd siopau bwyd fforddiadwy neu gael deiet sy'n gytbwys o ran maeth bellach yn realiti cyffredin i lawer o bobl yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Bydd diogelwch pryd maethlon gweddus a wnaed gan ddefnyddio cynnyrch lleol ar gyfer pob plentyn ifanc yng Nghymru yn mynd beth o'r ffordd tuag at leihau'r anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig ag arferion bwyta a deiet. 

Rwyf am sôn hefyd am rai rhannau o'n cymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Yn aml, ceir cysylltiad rhwng allgáu digidol a thlodi. Mae hefyd yn gysylltiedig ag oedran, gyda llawer o bobl hŷn yn methu cael mynediad at y rhyngrwyd, am ba reswm bynnag. Mae hyn yn rhywbeth yr ysgrifennais amdano fis Hydref diwethaf ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Gyda chynifer o wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnig a'u rhedeg ar-lein erbyn hyn, ni allwn fforddio gadael rhannau mor fawr o gymdeithas wedi'u difreinio gan dechnoleg. Wrth i wasanaethau meddygon teulu symud fwyfwy ar-lein, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn atgyfnerthu ei hymdrechion i sicrhau na chaiff pobl eu hamddifadu oherwydd eu hoedran neu eu lefelau incwm. 

Yn olaf, hoffwn sôn am ddementia. Fel llefarydd Plaid Cymru ar bobl hŷn, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Mae hawliau pobl â dementia wedi bod yn y newyddion yn y dyddiau diwethaf hefyd, diolch i fy nghyd-aelod o Blaid Cymru, Liz Saville Roberts. Siaradodd yn angerddol yn Nhŷ'r Cyffredin am yr angen i roi diwedd ar ynysu a gwahanu pobl â dementia mewn cartrefi gofal ac ysbytai. Fel y dywedodd Liz ei hun:

'Mae gan Lywodraeth Cymru destun polisi parchus ar waith gyda'n cynllun gweithredu ar ddementia ar gyfer Cymru 2018-2022. Ond mae bwlch mawr rhwng yr hyn y mae'n ei ddisgrifio a realiti'r hyn sy'n digwydd yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd.'

Dylai fod mwy o ymwybyddiaeth y gall nifer o ffactorau effeithio'n sylweddol ar risg unigolyn o ddatblygu dementia. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi dod yn elfen hanfodol wrth inni ddysgu mwy am y potensial i leihau'r posibilrwydd o ddatblygu dementia. Dylai ystyriaeth o anghydraddoldebau iechyd fwydo i mewn i gynlluniau gofal dementia, a lleihau risg o ddementia, a hoffwn glywed gan y Llywodraeth heddiw sut y mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn. 

17:10

Mae'r ddadl hon yn gyfle amserol i drafod y pryder a achoswyd gan y cyhoeddiad diweddar am newidiadau i sgrinio serfigol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i archwilio yn ei gyd-destun ehangach. Rwy'n derbyn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod y dylid bod wedi ymdrin â'r cyhoeddiad yn well, a bod Cancer Research UK wedi dweud, er bod y cyhoeddiad wedi cyrraedd y penawdau, fod llawer mwy i'r stori na'r hyn a welir ar yr olwg gyntaf. Mae'r rhaglen newydd, mewn gwirionedd, yn rhoi mwy o gyfleoedd i nodi symptomau ymhlith pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu canser ceg y groth.

Gwnaeth hyn imi gwestiynu pam fod penderfyniad a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth gwyddonwyr ac ymchwilwyr, wedi achosi cymaint o ofn a dicter yn ein cymunedau. A chredaf fod y sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a gefais gan fenywod yn onest ac yn ddadlennol iawn. Dywedodd Sarah wrthyf, 'Mae'n gymaint o drueni nad esboniwyd dim o hyn. Mae iechyd menywod yn dioddef yn fwy nag erioed. Rwyf hyd yn oed wedi cael anhawster i gael darpariaeth atal cenhedlu. Dyma rywbeth arall i wneud i fenywod deimlo'n bryderus ynglŷn â'u hiechyd.' Fe wnaeth gadarnhau i mi na allwn osgoi cyd-destun ehangach anghydraddoldebau iechyd sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein systemau.

Ac rwyf o'r farn na allwn ddechrau trafod anghydraddoldebau iechyd heb roi sylw i'r ffaith bod meddygaeth ac ymchwil wedi cael eu harchwilio a'u datblygu'n bennaf o safbwynt dynion gwyn. Gwyddom hyn o'n hanes a'n profiadau bob dydd, o iechyd rhywiol ac atal cenhedlu i rai mathau o ganser a chlefydau. Yn hanesyddol, mae gwleidyddiaeth y gallu i fynd i'r afael â gofal iechyd wedi digwydd drwy benderfyniadau a blaenoriaethau dynion. Mae menywod wedi dweud wrthyf nad yw'n syndod felly fod penderfyniad fel yr un ar sgrinio serfigol yn ennyn pryderon, a ninnau bob amser yn y gorffennol yn gwybod mai'r rhai heb serfics sydd wedi bod yn gwneud y penderfyniad ar ran y rhai roedd eu bywydau yn y fantol. Er bod hyn yn dechrau newid, rwy'n credu bod rhaid gwneud ymdrech ychwanegol bob amser i ymgysylltu â menywod a gwrando arnynt. 

Yn fy amser byr fel Aelod o'r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, rwyf wedi siarad ag etholwyr am eu profiadau o'r rhwystrau a wynebir gan bobl sy'n ceisio diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau fel endometriosis a syndrom ofarïau polysystig, neu'r ffaith bod y menopôs yn parhau i fod yn faes na welodd ddigon o fuddsoddiad mewn ymchwil i brofiadau parhaus pobl sy'n wynebu effeithiau a symptomau, neu'r ystadegau arswydus sy'n nodi bod pobl o gymunedau lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth na phobl wyn yn y DU. Mae gennym gymaint i'w wneud i ddatrys yr anghydraddoldebau systemig, anghydraddoldeb sydd wedi gweld menywod, cymunedau lleiafrifol ethnig a phobl gwiar a thraws yn y cefndir, yn hytrach nag yn arwain ar yr ymchwil sy'n effeithio ar eu cyrff a'u bywydau eu hunain, a dyna pam fy mod yn cefnogi'r gwelliant heddiw sy'n cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a'u bod yn rhan o gyd-destun ehangach o anghydraddoldeb strwythurol.

Gwn fod ein Gweinidog iechyd eisoes wedi bod yn gwneud llawer o waith i fynd i'r afael â hyn, a byddwn yn falch o glywed mwy am y gwaith hwn heddiw. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y Prif Weinidog wedi rhoi sylw i'r newidiadau i sgrinio canser ceg y groth ddoe, ac y byddwn yn cael dadl ar hynny yr wythnos nesaf, ond teimlaf fod angen inni fanteisio ar bob cyfle i roi sylw i hyn, oherwydd mae llawer o fenywod allan yno yn ofnus iawn.    

17:15

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i gyfrannu. Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Ers fy mhenodi, rwyf wedi bod yn gwbl glir mai lleihau anghydraddoldebau iechyd yw un o fy mlaenoriaethau allweddol fel Gweinidog. Mae'r cysylltiadau rhwng ble rydych yn byw, eich statws economaidd-gymdeithasol, eich disgwyliad oes a faint o flynyddoedd y gallwch ddisgwyl byw'n iach yn hysbys ac wedi cael eu nodi gan nifer o Aelodau'r Senedd heddiw.

Fel y mae cynifer wedi dweud, gwyddom fod pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fyw bywydau byrrach na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, a'u bod, yn anffodus, yn byw llai o'r blynyddoedd hynny mewn iechyd da. Rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y Senedd gytuno bod y ffaith bod hyn yn parhau i fod yn realiti ledled Cymru heddiw yn anghyfiawn yn gymdeithasol, ac mae'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gwbl benderfynol o'i unioni.

Mae'n bwysig inni fod yn glir nad ydym yn dechrau'r gwaith hwn o'r dechrau. Dros flynyddoedd lawer, rydym wedi gweithio i adeiladu cyd-destun deddfwriaethol a pholisi cadarn i sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Credaf mai un o'r enghreifftiau gorau o'r gwaith hwn yw'r modd y caiff y defnydd o asesiadau o'r effaith ar iechyd ei ymgorffori ar draws y Llywodraeth, a deddfu yn y Senedd hon i osod Cymru iachach a Chymru fwy cyfartal yn nodau statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydym wedi bod yn falch o rannu ein dull o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy fframwaith y Ddeddf yn rhyngwladol, fel partner arweiniol y cydweithredu diweddar ar degwch iechyd yn Ewrop. Cydweithredodd 25 o wledydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Efallai y bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod fy rhagflaenydd wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar degwch iechyd gyda rhanbarth Ewrop o Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020. Drwy ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd, mae Cymru wedi sefydlu menter adroddiad statws tegwch iechyd Cymru ac wedi dod yn ddylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd.

Nawr, yn ogystal â sefydlu'r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi cywir, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o raglenni allweddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, megis ein rhaglen flaenllaw, Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn cyrraedd tua 36,000 o blant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Mae'n gweithio i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac rydym i gyd yn gwybod bod hynny'n hanfodol o ran y cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad a'r canlyniadau mwy hirdymor.

Ond er gwaethaf y camau a gymerwyd gennym, mae COVID-19 wedi dangos yn glir beth yw gwir effaith anghydraddoldebau iechyd.

A gaf fi ddweud fy mod yn credu imi gael cais am ymyriad gan Jenny Rathbone? Do. Os ydych yn fodlon derbyn yr ymyriad, Weinidog—.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn tynnu sylw at bwysigrwydd Dechrau'n Deg, ond hefyd rôl bwysig iawn bydwragedd ac ymwelwyr iechyd, sy'n gallu newid pethau'n fawr mewn gwirionedd pan fydd pobl yn beichiogi a phan fydd ganddynt blant ifanc iawn. Mae pawb am wneud y peth iawn i'w plentyn pan gânt eu geni, ac felly edrychaf ymlaen at glywed sut y mae rhaglen estynedig Dechrau'n Deg yn mynd i yrru'r agenda ar hyn, fel bod gennym y genhedlaeth nesaf i gyd yn bwyta'n iach, yn gwneud y lefel gywir o ymarfer corff ac yn edrych ar ôl eu hiechyd meddwl.

Diolch yn fawr iawn, Jenny, ac rydych yn llygad eich lle: credaf fod bydwragedd yn allweddol iawn, ac mae ymwelwyr iechyd yn allweddol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny. Credaf fod yn rhaid inni fanteisio ar bob cyfle i wneud i bob cyswllt gyfrif, er mwyn sicrhau—. Gwyddom ein bod yn llwyddo i frechu plant—daw tua 90 i 95 y cant o blant i gael eu brechu—ond am gyfle i siarad â hwy ynglŷn â sut i sicrhau bod eich plentyn yn datblygu'n iawn, yn bwyta'r bwyd cywir, a sicrhau eu bod yn cael yr ymarfer corff cywir. Credaf fod lle i fod yn fwy creadigol yn y gofod hwnnw, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y bûm yn siarad gyda fy swyddogion yn ei gylch—sut y gallwn sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif.

Ond fel y soniwyd, rwy'n credu bod COVID-19 wedi bod yn greulon ac mae wedi bod yn anghyfartal yn y ffordd y mae wedi effeithio ar ein poblogaeth, gyda'r bobl sy'n fwy agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, megis gordewdra, mewn llawer mwy o berygl o glefyd difrifol. Yn hynny o beth, mae COVID-19 wedi tynnu sylw hyd yn oed ymhellach at bwysigrwydd hanfodol gwaith ataliol iechyd y cyhoedd wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Felly, rydym yn gwybod, onid ydym, fod gordewdra ac ysmygu yn cael effaith enfawr ar ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach pobl, a bod pobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn ordew neu'n ysmygu na'r rhai yn y cymunedau lleiaf difreintiedig. A dyna pam y mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ganolog i'n hargymhellion ar gyfer mynd i'r afael â gordewdra ac i gynorthwyo pobl i roi'r gorau i ysmygu. Felly, gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, rydym yn ymrwymo dros £13 miliwn o gyllid i'n rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' sydd ar y ffordd i fynd i'r afael â gordewdra, gyda chamau i leihau anghydraddoldebau deiet ac iechyd ar draws y boblogaeth yn ganolog ynddi. Ac ar ysmygu, efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi ein strategaeth ddrafft ar reoli tybaco ar gyfer Cymru yn ddiweddar i fod yn destun ymgynghoriad, ac i gydnabod yr anghydraddoldebau iechyd sy'n codi o ganlyniad i ysmygu caiff trechu anghydraddoldeb ei nodi fel un o themâu canolog y strategaeth ddrafft.

Nawr, dwi'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n gwneud pob ymdrech posibl ar draws fy mhortffolio i i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Dyna pam dwi wedi bod yn glir gyda swyddogion fod yn rhaid inni ddyblu ein hymdrechion ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac ar draws gwasanaethau iechyd Cymru, i sicrhau bod taclo anghydraddoldebau iechyd yn rhan annatod o'r adferiad ar ôl COVID-19.

Nawr, wrth inni ystyried pa mor eang yw'r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd pobl—mae lot o bobl wedi eu rhestru nhw heddiw—mae'n rhaid i'n gwaith ni ar anghydraddoldebau iechyd fod yn ehangach na gweithio ar wasanaethau iechyd a gofal yn unig, er mwyn inni gael yr effaith angenrheidiol. Ac mae'n rhaid inni weithredu ar anghydraddoldeb iechyd i fod yn llinyn euraidd ar draws holl bolisïau a strategaethau'r Llywodraeth, gan fod ganddyn nhw i gyd y potensial i effeithio ar iechyd pobl—o'n cynnig gofal plant a mesurau i wella ansawdd aer, hyd at ansawdd tai pobl a'u gallu i gadw eu cartrefi nhw yn gynnes. Ond dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig, o ystyried ehangder y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd pobl, fod yn rhaid inni gydnabod bod rhai meysydd y tu fas i gymhwysedd y Senedd, fel lles. Felly, mae'n rhaid ini weithio gyda'n gilydd mewn ffordd integredig i sicrhau ein bod ni i gyd yn cyfrannu cymaint â phosibl i daclo anghydraddoldebau iechyd.

O ran y Llywodraeth, mae ein rhaglen llywodraethu ni yn cynnwys ymrwymiadau sylweddol ar draws holl feysydd ein gwaith sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yma yng Nghymru. Ac yn ogystal â hynny, yn ystod tymor y Senedd hon, mi fyddwn ni'n cyflwyno rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i'w wneud e'n ofynnol i rai cyrff cyhoeddus gynnal asesiadau effaith iechyd mewn amgylchiadau penodol er mwyn sicrhau ein bod ni'n manteisio ar bob cyfle sydd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd yma. 

Mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar anghydraddoldebau iechyd. Mae arnaf i ofn dwi ddim yn credu mai dyna'r dull cywir o wneud hyn. Dwi'n benderfynol o weld gweithredu yn digwydd nawr, ac mae gennym ni eisoes y fframweithiau deddfwriaethol a'r rheoliadau, fel Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a'r ddyletswydd economaidd gymdeithasol sydd wedi ei rhoi ar waith, i roi'r arfau inni i wneud beth rŷm ni'n gwybod sydd angen ei wneud. Gyda'n strategaeth rheoli tybaco, ein cynllun gweithredu LGBTQ+ a'n cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sydd oll ar eu ffordd, mae camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd wedi eu hymgorffori ar draws ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y tymor yn y Senedd yma. Ac er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth ac ar gyflawni, dwi'n gofyn i Aelodau i gefnogi ein gwelliant i'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr, Llywydd.

17:25

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Weinidog, ac yn wir, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Does gen i ddim llawer o amser. Dwi'n gwerthfawrogi diolch y Gweinidog inni am ddod â hyn gerbron y Senedd rithiol heddiw, ond dydyn ni ddim yn gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n licio siarad am anghydraddoldebau; rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni'n credu bod angen gwneud rhywbeth am yr anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio mor ddwfn o fewn ein cymdeithas ni yng Nghymru, yn anffodus.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Aelodau o bob un o'r pleidiau gwleidyddol am eu cyfraniadau, ac mae'r ystod o anghydraddoldebau a gyflwynwyd gan bawb, onid yw, yn tynnu sylw at faint y broblem a wynebwn. Rwy'n creu bod difrifoldeb y sefyllfa wedi ei adlewyrchu yn nifrifoldeb y cyfraniadau a glywsom heddiw gan bron bob Aelod, ac eithrio'r Aelod dros Ddyffryn Clwyd a benderfynodd feirniadu'r rhai ohonom sydd ag uchelgeisiau dros Gymru, tra'n methu'r eironi ei fod ef yn gwneud hynny drwy foddio cynulleidfa genedlaetholgar Brydeinig asgell dde, ond mae yna bob amser un. Ond rydym yn galw heddiw, onid ydym, am weithredu clir, am gynllun gweithredu clir gan Lywodraeth Cymru. Nid oes neb yn gwadu—nid yw'r Gweinidog, yn sicr, yn gwadu bod yna anghydraddoldebau dwfn iawn yng Nghymru.

Yr hyn y mae'r cynnig heddiw yn ei wneud yw ceisio ein cael i gytuno bod rhaid i'r gwaith o ddatrys yr anghydraddoldebau hynny fod yn fater cydgysylltiedig. Dadleuodd y Gweinidog fod datrys anghydraddoldebau yn rhan annatod o feddylfryd y Llywodraeth, ond rwy'n gweld rhai pethau nad ydynt wedi'u cydgysylltu. Er bod y Llywodraeth o'r farn ei bod eisoes yn gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig, pam fod yr holl sefydliadau uchel eu parch hyn, o bob rhan o'r sbectrwm iechyd a gofal, yn broffesiynol ac yn cynrychioli cleifion, pam eu bod yn credu nad oes gennym strategaeth gydlynol, a pham eu bod yn credu mai dyma'r amser i roi'r strategaeth honno ar waith?

I Aelodau Llafur, yn arbennig, a amlinellodd yn huawdl y problemau rydych yn eu gweld yn eich etholaethau: defnyddiwch y cyfle hwn i anfon neges gadarnhaol at y Llywodraeth fod angen mwy arnom; oes, mae pethau cadarnhaol yn yr hyn y mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud, ond mae arnom angen mwy ac mae arnom angen iddo gysylltu â'i gilydd. Felly, cefnogwch ein cynnig heddiw, fel nad oes raid inni edrych ymlaen at genedlaethau eto o sôn am yr anghydraddoldebau sydd gennym yng Nghymru, oherwydd nid oes angen iddynt fod yno, ac rydym yn y sefyllfa freintiedig o allu rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hwy.

Y cwestiwn nawr, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld bod gwrthwynebiad ac, felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar hynna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ac fe fyddwn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly fe wnawn ni gymryd toriad byr iawn i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais honno. Toriad byr, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:29.

17:30

Ailymgynullodd y Senedd am 17:32, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar anghydraddoldebau iechyd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, ac yn erbyn 27. Felly, fel sy'n ofynnol i mi, o dan Reol Sefydlog 6.20, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Y canlyniad yw 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru – Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Dwi'n agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal a 26 yn erbyn, ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.

Eitem 7, Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

17:35

Dwi nawr, felly, yn galw am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1.

Cynnig NDM7877 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach, oherwydd yr anghydraddoldebau hyn, fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ar lawer o unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

3. Yn cydnabod bod amryfal resymau yn achosi anghydraddoldeb iechyd a bod hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig a thrawslywodraethol.

4. Yn cydnabod ymhellach yr ymrwymiadau sylweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu ar draws pob maes o weithgarwch y llywodraeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Agor y bleidlais. O blaid 27, un yn ymatal a 26 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru - Anghydraddoldebau iechyd - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd

Rydyn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer nawr. Bydd rhai ohonoch chi'n gadael y cyfarfod, o bosib. Gwnaf i adael rhyw gymaint o amser i basio i ganiatáu i hynny ddigwydd. Fe wnaf i alw'r ddadl fer nawr, felly. Mark Isherwood sy'n cyflwyno'r ddadl fer y prynhawn yma, felly drosodd i Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud i Joel James a Jane Dodds siarad yn y ddadl hon. Yn anffodus, dywedir wrthyf nad yw'n bosibl darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ar gyfer y ddadl fer hon, yn bennaf oherwydd y cymhlethdodau o wneud hynny dan y cyfyngiadau presennol ac mewn Cyfarfod Llawn rhithwir. Ond bydd ar gael gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y ddadl yn yr un modd ag y gwneir gyda chwestiynau'r Prif Weinidog bob wythnos.

Lansiwyd yr adroddiad 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd', a luniwyd gan grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, yng nghyfarfod grŵp trawsbleidiol y Senedd ar faterion byddar ar 21 Hydref gan un o awduron yr adroddiad, Dr Julia Terry, athro cyswllt iechyd meddwl a nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, i dynnu sylw at yr heriau a wynebir gan bobl fyddar yng Nghymru sy'n profi problemau iechyd meddwl ac i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylweddol.

Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, addewais grybwyll yr adroddiad yn y Senedd ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i wneud hynny, yn y gobaith y gall greu ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a helpu i sbarduno'r newid sydd ei angen. Mae'r adroddiad yn datgelu bod pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol yn sgil prinder gwasanaethau hygyrch, diffyg gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig ar faterion byddar i weithwyr iechyd a gofal. Mae'r materion a godwyd gan yr adroddiad yn cynnwys: gweithredu cyfyngedig ar safonau gwybodaeth hygyrch Cymru, sy'n golygu bod pobl fyddar yn dal i gael eu hamddifadu o wybodaeth mewn ffyrdd y gallant eu deall ac ymgysylltu â hwy; yr angen am wasanaeth cynghori a chyfeirio ar gyfer unigolion, teuluoedd a staff; bwlch gwybodaeth gan fod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol heb fod yn gwybod am wasanaethau cwnsela i bobl fyddar a ddarparir gan bobl fyddar; a rhaid i bobl fyddar fynd i wardiau iechyd meddwl arbenigol yn Birmingham, Llundain neu Fanceinion i allu cyfathrebu'n llawn mewn BSL er mwyn cael eu hasesu a/neu eu trin. Fel y dywed Dr Julia Terry,

'Mae iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru wedi bod yn broblem sydd wedi'i hesgeuluso ers degawdau. Mae pobl Fyddar eisoes yn wynebu dwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael yn anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y mae gwasanaethau'n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy'n berthnasol yn ddiwylliannol. Os na fydd unrhyw beth yn newid, bydd y risg yn parhau i iechyd meddwl pobl Fyddar yng Nghymru.'

Nod grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, sy'n cynnwys ystod eang o arbenigwyr sy'n gweithio yn y maes ac a fu'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol byddar a gweithwyr proffesiynol sy'n clywed i lunio'r adroddiad hwn, yw codi ymwybyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill ac argymell ffyrdd o wella canlyniadau iechyd meddwl i bobl fyddar yng Nghymru.

Cynhaliwyd chwiliad llenyddiaeth, yna casglwyd data o astudiaethau achos gan bobl fyddar a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, gwerthusiadau o fentrau hybu iechyd meddwl a oedd yn cynnwys pobl fyddar, ystadegau gan wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain a gwybodaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yn y DU. Mae 40 y cant o bobl fyddar yn profi problemau iechyd meddwl—dwywaith y lefel ymhlith pobl mewn poblogaethau sy'n clywed. Yn anffodus, adroddodd Cymdeithas Iechyd Meddwl a Byddardod Prydain yn 2020 mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw'n darparu llwybr neu wasanaeth clir i ddiwallu anghenion pobl fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael. Mae'r pandemig coronafeirws wedi gorfodi llawer o bobl i fyw mewn tlodi ac i wynebu argyfwng iechyd meddwl, gyda'r allgáu a wynebir gan ddefnyddwyr BSL byddar hyd yn oed yn fwy amlwg.

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau mai cyfyngedig yw mynediad pobl fyddar at ofal iechyd yn aml, at amrywio o ran mynediad at addysg, at agweddau cymdeithasol negyddol ac at lai o gyfleoedd gwaith a hamdden. Mae llawer o bobl fyddar heb gael eu cofnodi fel pobl fyddar yn eu cofnodion gofal sylfaenol. Os cânt eu cyfeirio wedyn at wasanaethau iechyd eraill, yn aml ni chaiff manylion penodol a allai effeithio ar eu profiad o'r gwasanaeth iechyd eu trosglwyddo ac felly ni fydd y manylion hynny'n hysbys. Yn 2019, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad i archwilio ymddygiadau a rhwystrau iechyd a brofir gan bobl fyddar yng Nghymru a nododd fod mynediad at wasanaethau iechyd yn broblem fawr, ac mae pobl fyddar yn aml yn osgoi cysylltiad â gwasanaethau iechyd oherwydd profiadau gwael yn y gorffennol. Roedd hynny cyn i'r pandemig ddechrau. Yn 2010, comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw (RNID) i ymchwilio i'r rhwystrau i gynhwysiant a wynebir gan bobl fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Tynnodd 84 y cant o ymatebwyr byddar sylw at y ffaith ei bod yn anodd defnyddio gwasanaethau iechyd gan mai cyfyngedig oedd y ddarpariaeth i bobl fyddar ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru, yn enwedig gwasanaethau iechyd. Er bod y Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd, wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2006, ceir prinder dehonglwyr BSL o hyd. Ar y gofrestr genedlaethol o weithwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl fyddar a phobl ddall a byddar, dim ond 48 o unigolion sydd wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw yng Nghymru, gyda chwech ar lefel hyfforddiant, sy'n is na'r targed o 64 a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos bod plant byddar, yn enwedig plant a anwyd i rieni sy'n clywed, o dan anfantais o'u genedigaeth, gan nad oes ganddynt fynediad at yr un cyfleoedd addysg ac iechyd â'u cyfoedion sy'n clywed; bod yna rieni sy'n clywed heb gael unrhyw brofiad o iaith weledol, megis BSL, nac wedi cael unrhyw gysylltiad â modelau rôl byddar; os na all rhieni a brodyr a chwiorydd ddefnyddio BSL, fod plant wedi'u hynysu a bod teuluoedd yn cael trafferth cyfathrebu; nad oes fawr o gymorth neu adnoddau i deulu plentyn byddar allu dysgu BSL; nad yw plant byddar yn cael cyfle i gael cyfleoedd dysgu achlysurol, i ofyn cwestiynau, i gael newyddion, gwybodaeth neu gyfalaf cymdeithasol sy'n ymestyn i addysg; bod pobl fyddar yn profi unigedd, gwahaniaethu a straen rheolaidd yn ddyddiol, sy'n cyfrannu at brofiadau o orbryder ac iselder; bod pobl fyddar yn brwydro'n barhaus i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, gyda darpariaeth gyfyngedig ar eu cyfer yng Nghymru; nad oes gan dde Cymru rwydwaith iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar, a bod y gwasanaeth yng ngogledd Cymru bellach wedi'i ddiddymu; bod cleifion byddar sydd angen gofal cleifion mewnol at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i Loegr, yn bell iawn oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymdeithasol, ac ar gost ariannol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd; bod y banc data cyswllt diogel gwybodaeth ddienw, neu SAIL, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn nodi nad yw systemau yng Nghymru yn gallu darparu gwybodaeth gywir am niferoedd pobl fyddar na nifer y bobl fyddar sydd â phroblemau iechyd meddwl, a bod Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi'r farn hon; yn aml nad yw ffurflenni cleifion newydd mewn meddygfeydd meddygon teulu yn gofyn ynglŷn â'r clyw, felly anaml y caiff y wybodaeth hon ei chasglu ar gronfeydd data iechyd neu systemau canolog; bod llawer o feddygfeydd meddygon teulu heb fod yn gwybod am drefniadau lleol ar gyfer trefnu dehonglwyr BSL i alluogi pobl fyddar i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon mewn apwyntiadau iechyd; gyda dros 2,500 o blant yng Nghymru yn fyddar, fod tua 1,000 o blant yng Nghymru yn debygol o fod mewn perygl o wynebu problemau iechyd meddwl yn y dyfodol; nad oes cyswllt sefydledig ar hyn o bryd rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yng Nghymru a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed byddar yn y DU, yn wahanol i wasanaethau CAMHS ar gyfer rhai sy'n clywed yng Nghymru a gwasanaethau CAMHS i rai sy'n clywed mewn ardaloedd eraill yn y DU; bod pedwar prif ddarparwr gwasanaethau dehongli ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru, ond bod trefniadau ar gyfer archebu dehonglwyr BSL yn dameidiog ac nad ydynt bob amser yn hysbys i bobl fyddar. Yn aml, nid yw staff iechyd yn gwybod sut y mae systemau archebu'n gweithio ac nid ydynt yn gwybod sut i helpu. Gall dehongli ar-lein fod yn ddewis arall, ond mae'r defnydd ohono yng Nghymru yn parhau'n isel oherwydd problemau gweithdrefnol a thechnegol.

Yn seiliedig ar ei ganfyddiadau, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac felly i wella iechyd meddwl cadarnhaol pobl fyddar yng Nghymru. Fel y dywed Dr Julia Terry,

'mae angen dechrau sgwrs gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion tymor byr a hirdymor i wella gwasanaethau yng Nghymru i bobl Fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael.'

I grynhoi, mae grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru yn awyddus i ddechrau deialog gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn. Mae'n hanfodol fod cynnydd yn cael ei wneud tuag at atebion uniongyrchol a thymor byr, yn ogystal â darpariaeth hirdymor effeithiol i wella llwybrau iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru.

Fis Chwefror diwethaf, cafodd fy nghynnig yn argymell bod y Senedd

'yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL'

ei basio yma gyda chefnogaeth drawsbleidiol, heb i'r un Aelod bleidleisio yn erbyn, gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymatal fel mater o drefn. Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn

'sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau'.

Cysylltodd nifer fawr o bobl fyddar a grwpiau pobl fyddar ledled Cymru â mi i gefnogi hyn, gan ddweud wrthyf, er bod Llywodraeth Cymru yn datblygu siarter BSL newydd i Gymru, fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen. Dim ond un person a ysgrifennodd i wrthwynebu.

Fel y dywedais ar y pryd,

'mae'n amlwg fod yna awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned F/fyddar'.

Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny ac y byddaf yn parhau i wneud hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Felly, rwy'n cloi drwy annog Llywodraeth Cymru i nodi ei chefnogaeth i Fil o'r fath yn ystod y tymor seneddol hwn. Diolch yn fawr.

17:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Mark am godi pwnc mor bwysig i'w drafod a chaniatáu i mi gyfrannu. Fel y gŵyr rhai ohonoch, fel Mark, mae gennyf innau anawsterau clywed, ac roeddwn am ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at fy mhrofiadau fy hun ac i bwysleisio pwysigrwydd y mater hwn i'r Llywodraeth a'r angen i fynd i'r afael ag ef o ddifrif.

Yn blentyn, cefais ddiagnosis o lid y glust ganol, neu glust ludiog, ac yn anffodus, ar ôl sawl llawdriniaeth ysbyty i geisio lleddfu hyn, mae pilenni fy nghlustiau'n wan ac yn greithiog iawn. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethant grebachu yn y pen draw, ac o ganlyniad, aeth fy nghlyw, a oedd bob amser yn wael, gryn dipyn yn waeth a datblygais dinitws difrifol hefyd, a bydd hyn oll yn gwaethygu gydag oedran.

Mae bod yn drwm eich clyw yn effeithio ar fwy na gallu rhywun i glywed. Yn fy mhrofiad i, mae'n arwain at deimlo'n unig ac yn ynysig, at golli cyswllt â'r amgylchedd mewn amgylcheddau swnllyd, at deimlo'n gyfoglyd mewn amgylcheddau tawel neu pan fydd rhywun yn siarad yn rhy dawel neu dyner, a diffyg hyder cyffredinol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gyda'r eironi poenus y gallaf glywed pobl yn siarad, ond na allaf ddeall yr hyn y maent yn ei ddweud. Yn anad dim, rwy'n credu na fydd pobl byth yn deall yn iawn pa mor annifyr yw gofyn i rywun ailadrodd ei hun yn barhaus, y teimladau a gewch pan fydd hyn yn codi eu gwrychyn a'r effaith y mae'n ei chael arnoch pan gewch eich diystyru fel rhywun twp neu ddi-ddeall.

Gallwch hefyd anghofio am ddysgu iaith arall, cymerodd flynyddoedd o therapi lleferydd i mi allu dysgu Saesneg, ac mae hyn wedi fy ngwneud yn ofnadwy o hunanymwybodol o'r ffordd rwy'n siarad. Roeddwn yn lwcus iawn fy mod wedi cael help a chefnogaeth gan fy rhieni, fy nheulu a fy ffrindiau, ond gwn nad yw hyn yn wir am nifer fawr o bobl sy'n dioddef nam ar eu clyw, yn enwedig yr henoed. Dyma'r mathau o rwystrau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu sy'n eu hatal rhag gwireddu eu potensial llawn a gwneud y mwyaf o'u lles corfforol a meddyliol. Er i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ddod i rym yn 2015, ni chafwyd arolwg cynhwysfawr diweddar o iechyd a lles y gymuned fyddar yng Nghymru. Felly, mae angen arolwg manwl penodol o'r boblogaeth i asesu sut y mae aelodau o gymuned fyddar Cymru yn rhyngweithio'n benodol, fel y dywedodd Mark, â gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd yn eu cymunedau eu hunain a beth yw cyflwr eu llesiant. Diolch byth, ceir gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o fyddardod. Fodd bynnag, mae hwn yn dal i fod yn gyflwr sy'n cyfyngu cymaint ar y bywyd sydd ar gael i eraill, a gellid ei wneud gymaint yn well pe bai'n cael ei gydnabod yn llawnach gan gymdeithas a chan y Llywodraeth. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mark, ac rwyf am ddiolch i Jane hefyd am gyfrannu ati. Diolch.

17:50

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i Mark Isherwood am wneud dadl ar y topig yma, sy'n bwysig, bwysig iawn, a hefyd dwi'n ddiolchgar iawn i gymryd rhan?

Rwyf wedi gwneud ychydig iawn o waith gyda phlant a'u teuluoedd sydd â phroblemau clyw, ac yn amlwg yn fy ngwaith fel gweithiwr cymdeithasol rwyf wedi dod ar draws plant a phobl ifanc sy'n fyddar. Fel y clywsom, mae'n fater sy'n ymwneud â ffigurau. Nid ydym yn glir faint o bobl, plant a phobl ifanc ledled Cymru sy'n fyddar mewn gwirionedd, ond mae tua 3,200 o blant yng Nghymru yn fyddar yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru, ac maent hwy'n dweud, drwy eu hymchwil, fod tua 60 y cant yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na phlant eraill.

Rwyf am sôn yn fyr iawn am broblemau amddiffyn plant gyda phlant a phobl ifanc sy'n fyddar. Ceir ymchwil sy'n dangos bod nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn uwch mewn plant sy'n fyddar. Maent yn fwy tebygol o gael eu cam-drin am sawl rheswm. Yn achos plant sy'n fyddar, yn aml tybir yn anghywir fod arwyddion o drallod yn gysylltiedig â nam y plentyn yn hytrach na chael eu cydnabod fel arwydd o gam-drin. Ceir diffyg ymwybyddiaeth neu gytundeb ynglŷn â'r hyn a olygir wrth gam-drin plant byddar ac anabl, ac mae hyn yn arwain at amwysedd ym meddyliau plant ac oedolion ynghylch y camau gweithredu mwyaf priodol. Yn olaf, mae'r NSPCC yn dweud wrthym fod plant byddar ac anabl yn aml yn anweledig o ran siarad â hwy ac ymgynghori â hwy. Mewn rhai achosion, roedd gwasanaethau'n absennol o'u bywydau ac i eraill roedd y ddarpariaeth yn annigonol neu'n amhriodol.

Felly, i orffen, yn y cyfraniad byr hwn, mae angen cymorth ychwanegol ar blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yng Nghymru a help i allu cysylltu â'u cymunedau. Mae angen hyfforddiant a chymorth ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio gyda hwy, yn enwedig mewn perthynas â'u hiechyd meddwl, ac mae angen i'n systemau, megis ein system cyfiawnder ieuenctid, addasu eu harferion i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion. Unwaith eto, diolch i Mark am y ddadl hon. Diolch am ganiatáu i mi gymryd rhan, a diolch i Joel hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Jane Hutt.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am sicrhau bod y mater pwysig hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o ymrwymiad amlwg y Senedd hon i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru? Ac a gaf fi hefyd ddiolch i Joel James am eich cyfraniad heno? Joel, fe roesoch chi ddisgrifiad mor bwerus o'ch profiad personol o fyw gydag anawsterau clyw yn eich bywyd, ac mae hynny'n dystiolaeth mor bwysig i ni, nid yn unig heno ond yn eich rôl yma fel Aelod o'r Senedd ac ym mhob dim rydych yn cyfrannu ato ar ffurf dadleuon, cwestiynau ac ymchwiliadau. Felly, diolch am ddweud wrthym am eich bywyd heddiw. Diolch yn fawr iawn, Joel. Diolch i Jane hefyd, Jane Dodds, am yr hyn rydych wedi'i ddisgrifio a'r dystiolaeth a roddwyd gennych fel rhan o'r ddadl hon o ganlyniad i'ch gwaith, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc.

Rwyf am gydnabod a diolch i Mark hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, oherwydd fel y dywedoch chi, ar 24 Chwefror y llynedd, bron i flwyddyn yn ôl, ym mlwyddyn olaf y bumed Senedd, y gwnaethom drafod eich cynnig am Fil a fyddai'n darparu ar gyfer annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL, ac roeddwn yn falch o ymateb i'r ddadl honno. Ac wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiadau a dadleuon eraill.

Fis Rhagfyr diwethaf, gwnaethom nodi diwrnod rhyngwladol hawliau pobl anabl, a gwneuthum ddatganiad bryd hynny, yn tynnu sylw at y ffordd y mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar bobl anabl, gan waethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli. Mae'r ddadl hon yn mynd y tu hwnt i hynny, a chyn y pandemig, o ran camau polisi rydym am eu cymryd gyda'n gilydd.

O ran y pandemig, nid oes amheuaeth nad yw wedi effeithio'n andwyol ar bobl fyddar, wrth iddynt orfod wynebu cyfyngiadau'n gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi cyfyngu ar y defnydd o ddydd i ddydd o BSL, ac mae hyn wedi'i gydnabod heno, onid yw, Mark, yn y ffordd y methwyd defnyddio BSL ar gyfer y ddadl hon? Ond rwy'n falch iawn y bydd yn cael ei defnyddio yn dilyn y ddadl.

O ran ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, a gadeirir gennyf: cyfarfod yn aml iawn yn ystod y pandemig; ceisio ymateb yn briodol i'r materion sy'n effeithio ar bobl anabl hefyd; a chyfarfod â chynrychiolwyr sefydliadau sy'n cefnogi pobl fyddar. Mae pobl fyddar eu hunain, yn hollbwysig, yn rhan o'r fforwm hwnnw. Mae rhai hefyd yn aelodau o'r grŵp llywio, y sonioch chi amdano yn eich cwestiynau i mi y prynhawn yma, Mark, y grŵp llywio a ddatblygodd yr adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19', a gomisiynwyd gennym fel rhan o waith y fforwm, ac mae'r adroddiad hwnnw'n canolbwyntio ar yr annhegwch amlwg y mae pobl anabl yn ei wynebu, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n effeithio ar bobl fyddar a'r defnydd o BSL. Mae'n rhaid inni gydnabod, ochr yn ochr â'r defnydd o BSL, wrth gwrs, yr effaith y byddai hyn yn ei chael mewn perthynas â siaradwyr gwefusau a darllenwyr gwefusau. Mae'n adroddiad sobreiddiol iawn. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw Aelodau eraill o'r Senedd ato heddiw ac yn y ddadl hon.

Mae gennym y tasglu hawliau anabledd, a byddant—. Yn amlwg, bydd y ddadl hon, rwy'n siŵr, yn dystiolaeth bwysig i fwydo i mewn i hynny, oherwydd mae'n mynd i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad—y tasglu—ac mae'n cynnwys canfyddiadau ac argymhellion mewn perthynas â phrofiadau pobl fyddar yn ystod y pandemig.

Y llynedd, fel Llywodraeth Cymru, fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i gynnal adroddiad archwilio ar BSL. Cafodd hynny ei gydnabod heno. Hefyd, bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, y byddaf yn eu rhannu gyda chi wrth gwrs, yn darparu fframwaith defnyddiol iawn ar gyfer ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo', y cymorth penodol rydym ei angen ar gyfer pobl fyddar, y gallwn ei gynnwys yn rhaglen waith y tasglu hawliau anabledd. Rwyf wedi sôn ei fod wedi cael ei gyfarfod cyntaf. Mae'n cynnwys pobl a sefydliadau o bob rhan o Gymru sydd â phrofiad bywyd, arbenigedd a gallu i greu newid hirhoedlog.

Byddem yn ceisio trosi adroddiadau ymchwil yn gamau gweithredu ymarferol a chynaliadwy, gan wella canlyniadau a newid pethau er gwell i bobl anabl a phobl fyddar ledled Cymru. Wrth gwrs, mae hyn i gyd wedi'i seilio ar y model cymdeithasol o anabledd, i gydnabod bod gwerthoedd, ymddygiadau a strwythurau cymdeithas, polisïau cymdeithasol ac economaidd ac amgylcheddau adeiledig—maent yn analluogi pobl, ac mae'r adroddiad 'Drws ar Glo' wedi datgelu'r gwaith sydd ei angen i sicrhau newid hirdymor.

Mae BSL yn ffordd allweddol o gyfathrebu â phobl fyddar sy'n galluogi cynhwysiant cymdeithasol effeithiol a mynediad at wasanaethau. Yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch. Ni yw'r Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i'r wasg ar COVID-19 yn cynnwys dehonglwr BSL.

Sefydlwyd y grŵp cyfathrebu hygyrch hefyd i oresgyn rhwystrau a gwella mynediad at wybodaeth, ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy. Mae angen gwneud llawer mwy i gydlynu dull o hyrwyddo cefnogaeth i BSL. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu siarter BSL, a phan fydd y broses archwilio wedi'i chwblhau, rydym yn rhagweld y byddwn yn ymrwymo i siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Byddai hyn yn ein galluogi i arwain drwy esiampl, a gobeithio y gall y Comisiwn ymrwymo i hyn ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.

Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn cydnabod y ddarpariaeth iechyd meddwl, grŵp iechyd meddwl a lles pobl fyddar Cymru, ac yn cydnabod yr adroddiad y mae Mark Isherwood wedi tynnu sylw ato heno, o'r enw 'Pobl Fyddar Cymru: Anghydraddoldeb Cudd'. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried y canfyddiadau fel rhan o'r gwaith tuag at weithredu 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a'r fframwaith gweithredu ar gyfer Cymru, y fframwaith gofal a chymorth integredig i bobl sy'n fyddar neu sy'n byw â cholled clyw. Rhaid inni brif ffrydio hyn yn glir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid iechyd a gofal cymdeithasol yn unig ond ar draws Llywodraeth Cymru o ran mynediad at dai, trafnidiaeth, addysg—pob dim.

Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud heno ynglŷn â sut rydym yn symud hyn yn ei flaen, ond hoffwn ddweud bod y fframwaith gweithredu ar gyfer 2017-20, y fframwaith gofal a chymorth integredig ar gyfer pobl fyddar neu sy'n byw â cholled clyw, wedi'i ymestyn i 2023. Bydd hwn yn llywio—nid arwain yn unig ond llywio—canlyniadau'r ddarpariaeth o ran gofal a chymorth ledled Cymru. Ac rydym yn gweithio'n agos, yn enwedig gyda byrddau iechyd, i sicrhau bod gwybodaeth am anghenion iechyd pobl â nam ar y synhwyrau yn cael ei chyfleu yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, fel y nodwyd yn y safonau ar gyfer Cymru. 

Felly, a gaf fi ddweud i orffen ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol i bobl yng Nghymru? Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod yr anghydraddoldebau a wynebir gan bobl fyddar. Rydym wedi clywed beth sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r rhain a sut y gallwn adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio, beth arall sydd angen ei wneud i ddileu'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu codi, ac rydym yn falch hefyd fod ymrwymiad cryf i'w weld yma yn drawsbleidiol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail anabledd. Fel gyda phob anghydraddoldeb, mae'n cymryd ymrwymiad cyfunol ac egni pob arweinydd a chymuned ledled Cymru i sicrhau gwelliannau parhaus a gwell canlyniadau i holl ddinasyddion Cymru. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

18:00

Ie wir, diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl bwysig honno. Fe ddaw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.