Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
19/03/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Cyn i ni fwrw ymlaen â'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ar ran y Cynulliad cyfan, hoffwn gyfleu ein cydymdeimlad dwysaf â phawb a gafodd eu heffeithio gan y saethu yn Christchurch a, ddoe, yn Utrecht. Rwy'n siŵr, dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, a heddiw'n arbennig, bod ein meddyliau gydag anwyliaid y rhai a fu farw a'r rhai sydd wedi'u hanafu. Fel Cynulliad, rydym ni'n condemnio eithafiaeth ar ei holl ffurfiau ac mae'n rhaid i ni gynyddu ein hymdrechion nawr i feithrin caredigrwydd a goddefgarwch yn wyneb y fath gasineb yr ydym ni wedi ei weld. A gaf i ofyn nawr i'r Aelodau sefyll gyda mi am gyfnod o fyfyrio, os gwelwch yn dda?
Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.
Trown nawr at eitem 1 ar yr agenda y prynhawn yma, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma, Siân Gwenllian.
1. A wnaiff y Prif Weinidog gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd i ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53603
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud gwelliannau i wasanaethau fasgwlaidd ar hyn o bryd. Cytunwyd ar y gwelliannau hyn ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus yn 2013. Nid wyf yn bwriadu cyfarwyddo'r bwrdd iechyd i gynnal ymgynghoriadau newydd ar y mater hwn.
Tra oeddech chi yn Buckingham Palace, fe glywodd y lle hwn fod y bwrdd iechyd wedi camarwain y cyhoedd ar fater israddio'r gwasanaeth ym Mangor. Ers hynny, mae yna aelod blaenllaw o'r bwrdd iechyd wedi ymddiswyddo mewn protest—cam difrifol iawn—ac eto, dydy eich Llywodraeth chi ddim yn bwriadu ymyrryd. Ai'r gwir amdani yw mai agenda wleidyddol y Blaid Lafur sy'n gyfrifol am ffafrio ysbyty sydd mewn sedd ymylol, a hynny ar draul gwasanaethau i gleifion ar draws y gogledd?
Wel, Dirprwy Lywydd, dyw hwnna ddim yn wir o gwbl. Nawr, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn adlewyrchu beth mae pobl leol yn ei ddweud wrthi hi, ond, yn y bôn, beth sy'n digwydd fan hyn yw nid mater o broses, ond mater o greu gwasanaethau newydd a gwasanaethau cynaliadwy i bobl ledled gogledd Cymru. Dyna pam mae'r Gymdeithas Fasgwlaidd a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cefnogi beth rŷm ni'n ei wneud. Dyna pam dŷn ni'n ei wneud e—nid am ddim byd arall ond y cyngor rŷm ni wedi ei gael oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes, pobl â'r anawsterau, sori, pobl â'r—.
Rydym ni yn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, oherwydd y cyngor a gawsom gan y sefydliadau hynny sydd yn y sefyllfa orau bosibl i roi'r cyngor sydd ei angen arnom i ni—y colegau brenhinol, y Gymdeithas Fasgwlaidd. Nhw yw'r bobl sydd wedi egluro i ni nad yw'r trefniadau presennol yn gynaliadwy. O ganlyniad i'w cyngor nhw y byddwn ni'n darparu gwasanaeth yn y gogledd a fydd yn iawn i gleifion. Bydd wyth deg y cant o wasanaethau yn parhau i gael eu darparu'n lleol, ond, pan eich bod angen gwasanaeth arbenigol, pan eich bod angen gwasanaeth sy'n golygu eich bod angen cyfleusterau a thîm o bobl sy'n cyflawni'r gweithdrefnau hyn ddigon o weithiau yn ystod y flwyddyn i gael yr achrediad proffesiynol sydd ei angen arnyn nhw, i gael y profiad sy'n eu cadw'n perfformio ar y lefel orau bosibl o'u sgiliau proffesiynol, dyna fydd pobl yn y gogledd yn ei gael o ganlyniad i'r materion hyn.
Bydd y newidiadau yn weithredol ar 8 Ebrill, a dyna'r ffordd orau, dwi'n siŵr, i roi gwasanaethau i bobl ledled gogledd Cymru.
Hoffwn gamu yn ôl oddi wrth unrhyw gasgliadau gwleidyddol pleidiol ar y mater pwysig iawn hwn, ond rwy'n cefnogi'r galwadau gan Siân Gwenllian am ymgynghoriad newydd, a'r rheswm am hynny yw fy mod i'n credu bod nifer o bobl yn bryderus dros ben am hyn. Mae gennym ni ddeiseb o dros 5,000 o lofnodion. Roeddwn i'n meddwl bod hyn wedi'i wneud ar sail penderfyniad clinigol fel yr ydych yn ei ddweud yn briodol. Fodd bynnag, rwy'n cael fy hysbysu yn eithaf dibynadwy bod rhai o'r meddygon ymgynghorol yn gwrthod symud mewn gwirionedd. Felly, mae hwnnw'n sicr yn fater eithaf difrifol. Fel y mae Siân wedi ei nodi yn briodol, mae Bethan Russell Williams wedi ymddiswyddo cymaint yw'r pryderon am y mater hwn.
Nawr, mewn llythyr agored, mae Mark Polin a Gary Doherty wedi cynghori y dylai fod gwell canlyniadau i gleifion yn y gogledd, ond yn nodi y darperir gwasanaethau brys y tu allan i oriau ar hyn o bryd yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Maelor Wrecsam, mewn gwirionedd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl ar gyfer y penderfyniad hwn. Felly, byddwn yn gofyn a wnewch chi ystyried edrych ar ymgynghoriad arall. Mae hyn wedi mynd ymlaen am chwe blynedd erbyn hyn.
A gawn ni ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
A wnewch chi ailystyried a buddsoddi mewn gwirionedd yn y gwasanaethau hynny yn Ysbyty Gwynedd, fel y gall y timau meddygol hynny deimlo'n hyderus y gallant ddarparu gwasanaethau fasgwlaidd brys i'r bobl hynny sydd eu hangen yn ddirfawr?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr bod yr Aelod eisiau'r gwasanaethau gorau posibl i'r trigolion yn ei hetholaeth, a dyna fydd y newid hwn yn ei sicrhau. Y cwbl y byddai oedi pellach nawr yn ei wneud fyddai ymddatod popeth a roddwyd ar waith. A bydd hi'n gwybod beth sydd wedi ei roi ar waith: £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer theatr hybrid fasgwlaidd, ac, o ganlyniad i ganolbwyntio'r gwasanaeth hwnnw ar un safle, mae'r bwrdd iechyd wedi gallu denu chwech o lawfeddygon fasgwlaidd ymgynghorol ychwanegol, radiolegydd ymyraethol ymgynghorol ychwanegol, pedwar o feddygon fasgwlaidd iau, nyrsys fasgwlaidd arbenigol ychwanegol, ward fasgwlaidd 18 gwely pwrpasol. Byddai pob un o'r rhain yn cael eu peryglu pe byddem ni'n dweud wrth yr holl bobl hynny sydd wedi cael eu denu i'r gwasanaeth newydd hwn, a bydd yn un o'r gwasanaethau gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan—. Pe bydden nhw'n meddwl ein bod ni'n tynnu’r plwg nawr—gall y bobl hynny fynd i swyddi mewn unrhyw le y maen nhw'n dymuno yn y Deyrnas Unedig—byddem ni'n eu colli nhw i ogledd Cymru. Ni fyddai gan eich etholwyr y gwasanaeth sy'n mynd i fod ar gael iddynt.
Rwy'n ffyddiog, Dirprwy Lywydd, pan fydd y gwasanaeth newydd yno, pan fydd cleifion yn gweld yr hyn y mae'n ei gynnig iddyn nhw a'u teuluoedd ac eraill sydd angen gwasanaeth fasgwlaidd arbenigol, y bydd cleifion yn y gogledd yn ei werthfawrogi yn gyflym iawn. Ac, fel y gwyddom, mae cleifion yng Nghymru yn datblygu cysylltiad cyflym iawn a grymus â'r gwasanaeth newydd sydd ganddyn nhw, ac rwy'n siŵr y byddan nhw ymhlith ei gefnogwyr mwyaf brwd.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael er mwyn gwella amseroedd aros ysbytai? OAQ53637
Mae perfformiad y GIG, gan gynnwys amseroedd aros mewn ysbytai, yn rhan o'm cyfarfodydd rheolaidd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2018, bod ambiwlans yn aros y tu allan i ysbytai yn y Fenni ac yng Nghasnewydd am dros 5,000 o oriau ac, felly, nid oeddent yn gallu ymateb i achosion brys. O gofio mai dau yw'r criw ambiwlans cyfartalog ar yr achlysuron hyn, mae hynny'n 10,000 o oriau criw a gollwyd. 15 munud yw'r amser trosglwyddo targed yn yr achosion hyn, ond o ran Ysbyty Brenhinol Gwent, dim ond hanner yr amser y bodlonwyd y targed hwnnw.
Nawr, datgelwyd y ffigurau hyn mewn ateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Mr Eddie Blanche, a ddywedodd ei fod wedi gweld ambiwlansys yn cael eu gwasanaethu gan faniau lles y tu allan i'r ysbyty i gyflenwi criwiau a oedd yn aros gyda diodydd poeth a thoiledau gan fod disgwyl iddyn nhw aros yno am amser mor hir. Felly, os yw'n ddigon gwael bod yn rhaid iddyn nhw roi bws iddyn nhw orffwyso wrth aros i ddadlwytho cleifion, yna mae hwn yn fater y mae angen rhoi sylw iddo nawr. Meddai, 'Mae'n frawychus. Rwy'n poeni y bydd pobl yn dechrau marw os na chaiff y broblem ei datrys'. Pryd mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd y broblem yn cael ei datrys?
Wel, Dirprwy Lywydd, mae'r ffigurau y mae'r Aelod yn eu dyfynnu ar gael i bawb; nid oes angen cael gafael arnynt trwy gais rhyddid gwybodaeth, gan ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth honno ar gael yn gyhoeddus drwy'r amser. Mae ffigurau trosglwyddo ambiwlansys yn destun pryder i ni, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n adlewyrchu pwysau yn y system yn ei chyfanrwydd. Dros y gaeaf hwn, rydym ni'n gwybod bod amseroedd trosglwyddo wedi gwella, yn hytrach na mynd yn fwy anodd. Rydym ni'n gwybod, ers i ni symud i wahanol ffordd o fesur llwyddiant y gwasanaeth ambiwlans, ein bod ni wedi gallu dangos bod y cleifion hynny sydd angen y gwasanaeth hwnnw ar y brys mwyaf yn ei gael yn y modd mwyaf cyflym ac effeithiol ledled Cymru, a chaiff ymdrechion glew ei gwneud drwy'r gwasanaeth ambiwlans, trwy adrannau achosion brys, trwy'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw, i barhau i wella'r hyn y gallwn ei gynnig, a bydd yr ymdrechion hynny yn parhau i mewn i'r flwyddyn hon.
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael i wella amseroedd aros?
Wel, mae'r trafodaethau hynny'n cael eu cynnal gyda'r Gweinidog ar bob achlysur sydd ar gael gan fod llawer iawn i'w drafod ac mae llawer iawn i fod yn falch amdano yma yng Nghymru. Arosiadau tri deg chwech wythnos 41 y cant yn is yn Rhagfyr 2018 na'r flwyddyn flaenorol; amseroedd aros diagnostig 54 y cant yn is nag yr oedden nhw flwyddyn yn ôl; mae bron i naw o bob 10 o gleifion yng Nghymru yn aros llai na 26 wythnos o atgyfeiriad i driniaeth, ac mae'r nifer hwnnw yng Nghymru yn cynyddu nid gostwng; mae ein hamseroedd aros canser yn gwella, tra eu bod y gwaethaf y maen nhw wedi bod ers dechrau cofnodi'r ffigurau hynny ar draws ein ffin. A Dirprwy Lywydd, efallai'n fwy rhyfeddol na dim, ar y pwynt lle mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyfarfod, mae ein perfformiad o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yn well nag unrhyw beth mewn mannau eraill. Gostyngodd ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal eto ym mis Rhagfyr, er gwaethaf pwysau'r gaeaf, a 2017 a 2018 yw'r ddwy flwyddyn orau o ran ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal ers i'r ffigurau hynny ddechrau cael eu casglu gyntaf 13 mlynedd yn ôl.
Ond un o'r rhesymau y mae'r ffigurau hynny yn well yw oherwydd bod gennym ni gleifion wedi eu pentyrru mewn coridorau yn hytrach na mewn ciwbiclau yn cael eu gweld gan weithwyr meddygol proffesiynol, a byddwch yn gwybod mai un o'r rhanbarthau sydd â'r perfformiadau adrannau brys gwaethaf yw gogledd Cymru, lle mae gennym ni Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ar gyfer pob math o broblemau sy'n gysylltiedig â pherfformiad, gyda Ysbyty Maelor Wrecsam yn cyhoeddi'r ffigurau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, nid yn unig yng Nghymru, a'r ail ysbyty sy'n perfformio waethaf yw Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Ac nid gofal heb ei drefnu yn unig yw hyn; mae'n cynnwys gofal a drefnwyd a llawdriniaethau hefyd. Os edrychwch chi yn ôl i fis Rhagfyr 2012, derbyniodd 87 y cant o gleifion eu triniaeth yn unol â'r amser targed o 26 wythnos ar gyfer llawdriniaeth orthopedig o'i gymharu â llai na 60 y cant ym mis Rhagfyr 2018. Felly, rydych chi'n awgrymu bod pethau'n gwella. Mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain o ran y ffaith eu bod yn mynd yn waeth ac yn waeth. Pryd mae cleifion yn y gogledd—pryd mae fy etholwyr—yn mynd i weld y sefyllfa hon yn newid, a phryd mae'r ysbytai hynny yn mynd i fodloni'r targedau y mae eich Llywodraeth yn eu pennu ar eu cyfer?
Wel, Llywydd, mae'n amlwg na all y pwynt a wnaeth yr Aelod ar y cychwyn fod yn wir. Nid yw ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael eu heffeithio gan y ffordd y derbynnir pobl i'n hysbytai; maen nhw nhw'n ymwneud â'r ffordd y mae pobl yn cael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned, ac mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o lwyddiant GIG Cymru a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol yn hynny o beth. A dweud y gwir, gellir gweld y gwelliant mwyaf oll o ran ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal yn y gogledd. Wrth gwrs ei bod ni'n pryderu, mae'r Gweinidog yn pryderu, am yr anawsterau a gafwyd mewn dau ysbyty yn y gogledd dros y gaeaf hwn. Mae eu perfformiad yn ystumio perfformiad y GIG cyfan, lle, mewn mannau eraill, y gwelwyd gwelliannau. Rydym ni'n parhau, rydym ni'n parhau i fuddsoddi, buddsoddi yng nghynllun ffisegol yr ysbytai hynny, buddsoddi yn arweinyddiaeth broffesiynol yr adrannau hynny ac, ynghyd â'r bwrdd iechyd, rydym ni'n ffyddiog bod cynlluniau ar waith a fydd yn arwain at welliannau pellach o ran gofal dewisol a gofal brys.
Diolch. Trown nawr at gwestiynau'r arweinyddion. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yw'r arweinydd plaid cyntaf heddiw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i yn gyntaf ymuno â'r côr o haleliwias ar draws y wlad a gyfarchodd y gêm ddydd Sadwrn diwethaf a buddugoliaeth y Gamp Lawn, ac a gaf i gymeradwyo'n llwyr eich awgrym, Prif Weinidog, a wnaed neithiwr ar risiau'r Senedd, pan fydd gennym ni'r pwerau i roi dinasyddiaeth anrhydeddus o Gymru, yna y dylai Warren Gatland fod yno ar flaen y ciw? Ond, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni gael annibyniaeth cyn i ni gael y cyfle hwnnw mewn gwirionedd.
Mae'r mater cyntaf yr hoffwn ei godi gyda chi heddiw yn ymwneud â mater sy'n agos iawn at fy nghalon i ac, yn wir, fy mywyd fy hun, sef cydraddoldeb LGBT+. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylid caniatáu i ysgolion ffydd weithredu'n wahanol i ysgolion nad ydynt yn rhai ffydd yn y ffordd y maen nhw'n ymdrin â'u haddysgu am berthnasoedd rhywiol? Codaf hyn oherwydd, fel y mae ITV Wales wedi ei ddangos, yn yr achos hwn yng nghyd-destun ysgolion Catholig, ceir cadarnhad ar wefannau ac, yn wir, yn nhystiolaeth athrawon bod y gred fod perthynas hoyw yn foesol annerbyniol yn cael ei chyflwyno i blant a phobl ifanc yn 2019. Adroddir bod eich Gweinidog addysg yn fodlon parhau i ganiatáu disgresiwn i ysgolion ffydd Cymru i addysgu perthnasoedd a rhyw yn unol â'u credoau eu hunain. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n ei gefnogi?
Wel, Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll gadewch i mi ddweud cymaint y gwnes i fwynhau digwyddiadau neithiwr. Gwelais yr Aelod yno a llawer o Aelodau eraill y tu ôl iddo, ac o bob rhan o'r Siambr yn ymuno yn y dathliadau hynny.
Cyn belled ag y mae addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y cwestiwn, ceir ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd o ran ein cwricwlwm presennol a'r cwricwlwm newydd. Ceir rheolau cymhleth ynghylch y ffordd y mae gan ysgolion ffydd fathau penodol o ryddid, nad ydynt, felly, yn uniongyrchol yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ond gadewch i mi fynd i'r afael â hanfod ei gwestiwn, sef ei bod hi'n gwbl annerbyniol i mi fod y dylai'r math o safbwyntiau a adroddwyd ganddo gael eu mynegi yn unrhyw un o'n hysgolion, a hoffwn gysylltu fy hun yn uniongyrchol â'r hyn a ddywedodd am annerbynioldeb y mathau hynny o safbwyntiau yn cael eu lledaenu mewn unrhyw ystafell ddosbarth, o unrhyw fath, ac mewn unrhyw ran o Gymru.
Rwy'n croesawu'r Prif Weinidog yn dweud bod hyn yn annerbyniol. Y pwynt yw, wrth gwrs, gwneud rhywbeth yn ei gylch. Yn y 1980au, dywedwyd wrthyf i fy hun, 'gobeithio i'r nefoedd raslon na fyddi di'n hoyw.' Nid oedd yn dderbyniol bryd hynny, ac yn sicr nid yw'n dderbyniol nawr, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth, pan ein bod yn sôn am ysgolion a ariennir yn gyhoeddus—mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth i'w gwneud yn gwbl eglur na ddylai hynny fyth fod ar wefan ysgol, na ddylai hynny fyth fod yn brofiad i athro. Felly, mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth i ddangos nad oes unrhyw ddisgresiwn, hyd yn oed yn yr achos hwn. Nid yw'n gymhleth: mae'n syml iawn o'm safbwynt i.
Gan droi at fater arall, os caf, ddydd Sadwrn diwethaf, cymerais ran mewn gorymdaith diwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig yng Nghaerdydd ochr yn ochr â'ch Dirprwy, Jane Hutt. Ar yr orymdaith honno, roedd llawer o aelodau'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru a oedd yn mynegi eu gobaith mai'r Senedd hon—eich Llywodraeth chi, yn wir—fyddai'r gyntaf yn y byd i fynegi ein hundod â'r streicwyr newyn Cwrdaidd ledled Ewrop. Maen nhw'n protestio yn erbyn arwahanu arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Öcalan, a garcharwyd gan Twrci ers 1999 mewn amodau sy'n mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci o ran hawliau dynol. Fel y gwyddoch, mae'r protestwyr yn cynnwys Imam Sis, un o drigolion Casnewydd sydd wedi bod ar streic newyn am gyfnod amhenodol ers 17 Rhagfyr y llynedd. Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n cefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gennym ar gyfer dadl, gan fynegi undod ag Imam Sis a chyda'r gymuned Gwrdaidd?
Wel, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddychwelyd, yn gyntaf, at y pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn agoriadol, a dim ond i fod mor eglur ag ef ag y gallaf fod y Llywodraeth yn gwneud yn union yr hyn y byddai'n dymuno i ni ei wneud o ran ymgysylltu â'r sector hwnnw a'i gwneud yn eglur beth yw ein safbwynt ni a'r hyn y credwn y dylai fod eu safbwynt hwythau hefyd, ac os oes ganddo dystiolaeth fod pethau'n digwydd na ddylent fod yn digwydd, yna byddem yn sicr eisiau cymryd camau ar unrhyw beth y gallwn ni ddod ar ei draws. Nid oes unrhyw wahaniaeth o ddiben rhyngom ni o gwbl o ran y mater hwnnw.
Mae'r Aelod yn cyfeirio wedyn at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal yfory ar lawr y Cynulliad. Bydd fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn ateb y ddadl honno. Byddwn yn ymddwyn yn weddus o ran y cyfrifoldeb sydd gennym ni fel Llywodraeth gan ymgysylltu â sylwedd y materion y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yn ei ail gwestiwn.
Mae'n flin gyda fi, ond dwi ddim yn deall beth mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud fanna. So, efallai, wrth ymateb i'r trydydd cwestiwn, lle dwi'n mynd i godi pwnc arall, gallai fe jest esbonio a ydych chi'n mynd i gefnogi'r cynnig neu beidio.
I droi at frwydr arall dros gyfiawnder i iaith a diwylliant gwlad ddiwladwriaeth—nid y Cwrdiaid yn yr achos yma, ond Cymru a’r Gymraeg—a maes lle'r ŷch chi wedi gosod nod clodwiw o ran creu miliwn o siaradwr, ac yn benodol, cynyddu Cymraeg yn y gweithle, yn ei adroddiad a gyhoeddwyd y bore yma, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn mynegi pryder am yr oedi wrth gyflawni argymhellion adroddiad sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg a’r posibilrwydd o wneud lefel o sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer staff Llywodraeth Cymru, sydd yn dal yn aros i’w gytuno gan fwrdd y Llywodraeth ddwy flynedd ar ôl ei gwblhau. Esboniad y Llywodraeth wrth y pwyllgor ynghylch pam eich bod chi wedi eistedd ar adroddiad eich uwch weision cyhyd heb weithredu, heb wneud penderfyniad, oedd eich bod chi’n awyddus i gael eich goleuo gan sefydliadau blaengar eraill. Ond o ystyried record drychinebus y Llywodraeth ar Gymraeg yn y gweithle, ydych chi’n cytuno y byddai unrhyw ymdrech gan Weinidog i ddwyn pwysau ar unrhyw gorff cyhoeddus arall i lastwreiddio eu hymlyniad nhw i’r Gymraeg—er, enghraifft, ym maes polisi cyflogaeth—yn annerbyniol ac yn groes i bolisi’r Llywodraeth?
Dirprwy Lywydd, rŷn ni eisiau gweld cyrff ledled Cymru yn hybu’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Rŷn ni’n ei wneud e fan hyn yn y Senedd, rŷn ni’n ei wneud e’n fewnol yn y Llywodraeth Gymreig. Rŷn ni’n dysgu gwersi sydd gyda ni, er enghraifft, oddi wrth heddlu yng ngogledd Cymru, a beth rŷn ni eisiau ei wneud yw tynnu’r gwersi, tynnu beth sy'n digwydd a beth sy’n effeithiol yng Nghymru, a gwneud mwy yn y cyrff cyhoeddus i hybu’r iaith Gymraeg i roi hyder i bobl sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg a gwneud mwy i'w helpu nhw i loywi’r iaith sydd gyda nhw. Mae’r Gweinidog yn gweithio ar yr agenda yna bob dydd.
Diolch. Arweinydd yr Wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd achub ar y cyfle hwn i weiddi 'haleliwia' ar draws y wlad a llongyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych? Ac roedd hi hefyd yn bleser bod yn y digwyddiad neithiwr.
Prif Weinidog, pam mae mamau a babanod wedi cael eu rhoi mewn perygl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n meddwl bod mamau a babanod yn cael ei rhoi mewn perygl nawr gan fod camau wedi eu cymryd—camau arwyddocaol iawn wedi eu cymryd—gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gydag ymyrraeth y coleg brenhinol, i roi sylw i wybodaeth bryderus a ddaeth i'r amlwg. Mae'r camau hynny, rwy'n credu, yn llwyddo. Mae mwy i'r Bwrdd Iechyd ei wneud, ond rwy'n credu bod y bwrdd iechyd yn ymwybodol o natur frys y materion hynny; ei fod wedi gweithredu ar sail yr wybodaeth a ddaeth i'r amlwg; bod ganddo gynllun ar waith i gymryd camau pellach; byddwn yn olrhain y camau hynny, ynghyd â'r coleg brenhinol, i wneud yn siŵr bod gan y bwrdd ei hun, yn ogystal â phobl y tu allan i'r bwrdd, ffydd yn y mesurau y maen nhw wedi ei cymryd ac y gall mamau a babanod yn y rhan honno o Gymru fod yn ffyddiog yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael.
Wel, mae'n gwbl eglur, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth wedi methu ers gormod o amser â mynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd a Mae sawl mis ers i ni glywed y newyddion erchyll o golli 26 o fabanod o dan ofal y bwrdd iechyd hwn mewn cyfnod o ddwy flynedd. Ac, ar ôl ymweliad annisgwyl gan yr arolygiaeth gofal iechyd, maen nhw wedi tynnu sylw yn ddiweddar at broblemau staffio sy'n gyfrifol am ansawdd gofal gwael a mwy o risg i ddiogelwch cleifion. Ac yn wir, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn glir, ac roedd yn dweud, a dyfynnaf:
'Roeddem ni'n pryderu am y risg bosibl i ddiogelwch cleifion.'
Nawr, mae gan fenywod sy'n wynebu geni plentyn yr hawl i ddisgwyl gofal o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod anodd hwn, a'r siawns orau o esgor babi iach, ond ymddengys nad yw hyn bob amser yn wir ar draws rai rhannau o Gymru, Prif Weinidog. Hyd yn oed yn fy etholaeth fy hun, ceir pryderon difrifol y gallai'r uned famolaeth arbenigol dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Llwynhelyg gael ei hisraddio i wasanaeth dydd erbyn hyn, a fydd, heb amheuaeth, yn peri risg i ddiogelwch mamau a babanod. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw ynghylch pa gamau yr ydych chi'n eu rhoi ar waith i roi terfyn ar y loteri cod post o wasanaethau mamolaeth ledled Cymru?
Dirprwy Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi fod yn gwbl eglur fel nad oes angen i'r Aelod barhau i'w ailadrodd, nid oes unrhyw risg o'r fath y mae ef newydd ei disgrifio i wasanaethau mamolaeth yn ysbyty Llwynhelyg—gwasanaethau yr wyf i, fy hunan, wedi ymweld â nhw, sydd â rhai o'r bobl fwyaf trawiadol y gwnewch chi fyth eu cyfarfod yn darparu gwasanaethau i fenywod yn y rhan honno o'r byd. Ac nid oes unrhyw gynigion o unrhyw fath i wneud newid i'r gwasanaeth a ddarperir yno. Gobeithiaf fod hynny o gymorth i'r Aelod fel y gellir tawelu ei feddwl ef a meddyliau unrhyw un arall.
O ran y sefyllfa yng Nghwm Taf, yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid newydd ei ddisgrifio, Dirprwy Lywydd, yw'r rhwystrau a'r gwrthbwysau sydd gennym ni yn y system yma yng Nghymru sy'n caniatáu i bryderon o'r math a nodwyd ganddo gael eu hamlygu. Cyfeiriodd at ymweliad annisgwyl AGIC; dyna'r union reswm pam mae gennym ni arolygiaeth annibynnol sy'n gallu gwneud gwaith yn y ffordd honno. Ac, wrth gwrs, y pryderon a ddaeth i'r amlwg, o ganlyniad i'r ymweliad hwnnw ac o gamau eraill, arweiniodd at fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn cymryd camau o ran statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd hwnnw, ac i sefydlu mesurau eraill—pobl o'r tu allan i'r bwrdd iechyd i ddod i mewn i adrodd ar yr hyn y maen nhw wedi ei weld, i roi crynodeb diflewyn ar dafod o rai o'r anawsterau a nodwyd ganddynt, ac yna i weithio gyda'r bwrdd iechyd hwnnw i wneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu hunioni, ac y gellir adfer y gwasanaeth y mae'r bwrdd Iechyd hwnnw yn ymfalchïo yn gwbl briodol o fod wedi ei ddarparu i'r gymuned leol honno o ran y gwasanaethau i fenywod a phlant yn y rhan honno o Gymru yn y dyfodol.
Prif Weinidog, wrth gwrs fy mod i'n derbyn bod eich Llywodraeth wedi gwneud datganiadau o fwriad i fynd i'r afael â'r problemau yng Nghwm Taf, ond roedd penawdau yr wythnos diwethaf yn taflu goleuni eto ar arolygiad annisgwyl Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan yr Arolygiaeth Iechyd yn dilyn y marwolaethau trasig y soniais wrthych amdanyn nhw yn gynharach. Nawr, rhybuddiodd yr Arolygiaeth am brinder staff sylweddol sy'n parhau i beryglu diogelwch cleifion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hefyd wedi tynnu sylw at amodau gweithio gwael gweddill y gweithwyr meddygol proffesiynol tra hyfforddedig sy'n gweithio'n galed yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n cael effaith andwyol ar iechyd, ysbryd a hyd yn oed diogelwch bydwragedd ac aelodau eraill y tîm. Nawr, daeth hyn i'r amlwg ar yr un adeg ag y gwnaethom ni eich herio chi am ystadegau brawychus sy'n dangos y byddwn yn wynebu argyfwng staffio bydwragedd yn y blynyddoedd i ddod ar draws y wlad. O ystyried bod y statws uwchgyfeirio wedi ei godi yng Nghwm Taf, mae'n bwysig iawn clywed yn fuan iawn pa sicrwydd y gallwch chi, Prif Weinidog, a'ch Llywodraeth ei roi i brofi eich bod yn mynd i'r afael â phroblemau gyda'r bwrdd iechyd hwn a'ch bod yn gweithio i ddiogelu mamau a babanod yr ardal hon. A phryd fyddwn ni'n gweld erbyn hyn yr adroddiad a addawyd i'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf, yr ymrwymodd eich Gweinidog iddo yn ôl ym mis Ionawr?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, oherwydd mae'n caniatáu i mi roi ar gofnod y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd ei hun, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ers y digwyddiadau, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ond a ddigwyddodd cyn y Nadolig, wedi eu cymryd. Oherwydd yn sicr, nid yw'r bwrdd iechyd wedi anwybyddu unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Mae wedi sefydlu newidiadau i staffio, i oruchwylio staffio. Mae wedi newid y ffordd y darperir gwasanaethau rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl; mae ganddo newidiadau pellach ar y gweill, mae wedi newid y ffordd y caiff rotas penwythnos eu trefnu a'u goruchwylio. Mae'r rhain yn gamau ymarferol iawn a gymerwyd mewn ymateb i'r wybodaeth y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Mae'r Gweinidog wedi bod yng Nghwm Taf, wedi cyfarfod â bydwragedd yno. Mae eu hyfforddiant, eu goruchwyliaeth yn bwysig iawn yn hyn o beth. Dyna pam, Dirprwy Lywydd, yr ydym ni'n hyfforddi'r nifer fwyaf erioed o fydwragedd drwy'r system hyfforddi sydd gennym ni yma yng Nghymru—niferoedd sydd wedi cynyddu, rwy'n credu, bob blwyddyn yn ystod y tair blynedd diwethaf, wrth i ni baratoi ar gyfer y gweithlu y bydd ei angen arnom ni yn y dyfodol. Mae'r rhain yn fesurau ymarferol syml yr ydym ni'n benderfynol o'u cymryd, y mae'r bwrdd iechyd yn benderfynol o'u cymryd, a, gyda'i gilydd, byddant yn arwain at welliannau gwirioneddol i'r sefyllfa a nodwyd yn ystod yr ymweliad hwnnw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Diolch. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i Warren Gatland a charfan rygbi Cymru am gyflawni camp lawn arall? Gadewch i ni obeithio y bydd y rhediad diguro yn parhau tan Gwpan y byd, yn ystod Cwpan y Byd a, gobeithio, trwy gydol Cwpan y Byd yr hydref nesaf. [Torri ar draws.] Na, nid y rygbi.
Prif Weinidog, un o'r meysydd y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo yw anghydraddoldeb cyflog. Yn eich maniffesto personol, a gyhoeddwyd gennych y llynedd, dywedasoch, a dyfynnaf,
Mae'n rhaid i ni ddod ag egni ffres i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog.
Mae'n ymddangos i mi mai un o achosion anghydraddoldeb cyflog yng Nghymru yw bod gennym ni nifer o bobl mewn sefydliadau sector cyhoeddus y mae'n ymddangos eu bod ar gyflogau gwirion o uchel. Er enghraifft, mae gennym ni brif weithredwr cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Lafur Cymru chi, sy'n cael cyflog o £170,000 y flwyddyn, sy'n llawer mwy na Phrif Weinidog y DU, ac eto mae hwn yn gyngor nad yw hyd yn oed yn gallu trefnu gorsaf fysiau ar gyfer y ddinas. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un ffordd o fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb cyflog yw rhoi terfyn ar gyflogau gwirion o uchel pobl fel prif weithredwr cyngor Caerdydd?
Wel, yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, nid dyna'r math o anghydraddoldeb cyflog yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Roeddwn i'n cyfeirio, wrth gwrs, at syniadau llawer mwy prif ffrwd o anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau yn y gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Rwyf i, fy hun, yn credu mewn system lle ceir lluosydd rhwng tâl y rhai sy'n cael y cyflogau isaf yn y sefydliad a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn y sefydliad, ac y dylai hynny fod ar gyfradd sefydlog a gytunwyd, ac wedyn rydych chi'n cael pwysau ar anghydraddoldebau cyflog i godi tâl y rhai sydd ar waelod y raddfa gyflog, sy'n llawer mwy niferus, wrth gwrs, yn hytrach na phwyslais poblyddol ar unigolion mewn rhannau eraill o'r sbectrwm.
Wel, rydych chi wedi siarad o blaid y lluosydd. Byddwn yn ymchwilio i hynny ac yn gweld pa mor effeithiol yw hynny a pha mor effeithiol yr ydych chi o ran goruchwylio hynny yng Nghymru o ran llywodraeth leol. Dim ond un enghraifft o'r broblem yr wyf i'n tynnu sylw ati heddiw yw prif weithredwr cyngor Caerdydd. Mae gennym ni nifer gynyddol o swyddogion sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyflogau chwe ffigur. Nawr, rydym ni mewn cyfnod o gyni cyllidol, fel yr ydych chi'n dweud wrthym ni drosodd a throsodd. Mae'n rhaid i gynghorau lleol gau cyfleusterau gan fod eu cyllidebau yn cael eu torri. Ond mae'n ymddangos bod yr haen uchaf o swyddogion cyngor yn rhyw fath o rywogaeth a warchodir sy'n dal i gael derbyn cyflogau gwirion o uchel. Mae gennym ni lol cyngor Caerffili, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Lafur Cymru, lle mae anghydfod ynghylch cyflogau tri o uwch swyddogion wedi arwain at i'r cyngor wastraffu mwy na £4 miliwn. Mae gennym ni brif weithredwr yn y fan honno nad yw wedi dod i'r gwaith ers chwe blynedd, ac mae'n cael ei dalu £130,000 y flwyddyn i wneud dim byd o gwbl. Ac eto, nid yw'r sefyllfa wedi ei datrys. Prif Weinidog, sut ydych chi'n cysoni eich cwyno cyson am gyni cyllidol gyda'r ffaith bod gennym ni haen o fiwrocratiaid tewion yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, a oruchwylir gennych chi, sy'n ennill symiau mor hynod fawr o arian?
Wel, Dirprwy Lywydd, os oes gan yr Aelod ddiddordeb yn y lluosydd, yna mae'r ffeithiau a'r ffigurau yno iddo gymryd diddordeb yn y pwnc hwnnw. Bydd yn canfod bod y bwlch rhwng y rhai sy'n cael y cyflogau isaf a'r rhai sy'n cael y cyflogau uchaf yn Llywodraeth Cymru y lleiaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd mai ni sy'n gyfrifol am Lywodraeth Cymru. Byddai'n well i'r Aelod fynd ar drywydd ei ddiddordeb mewn llywodraeth leol yn uniongyrchol â'r cynghorau hynny sy'n gyfrifol am y mater y mae'n ei godi.
Gwelaf eich bod chi wedi ceisio, unwaith eto, osgoi craffu ar lywodraeth leol, sy'n amlwg o dan oruchwyliaeth gyffredinol eich Llywodraeth Cymru chi yma yn y Cynulliad. Mae'r sefyllfa yng Nghaerffili wedi llusgo ymlaen ers 2012, felly rwy'n credu ei fod yn haeddu rhyw sylw cyhoeddus gennych chi erbyn hyn, o gofio hefyd mai Gweinidog llywodraeth leol oedd un o'ch swyddi blaenorol. Felly, mae'r llanastr parhaus hwn yn sicr wedi bod o dan eich goruchwyliaeth chi. O safbwynt dynol, byddai cyflog prif weithredwr sy'n cael ei dalu am aros gartref fwy neu lai yn talu'r gost o redeg canolfan hamdden Pontllanfraith, sydd dan fygythiad o gael ei chau. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno mai cau cyfleusterau fel canolfannau hamdden yw cost ddynol eich Plaid Lafur Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ei ffrindiau mewn swyddi uwch reolwyr yn sector cyhoeddus Cymru?
Wel, mae'n hurt, Dirprwy Lywydd. Nid yw'n taro tant, hyd yn oed â'r rhai sy'n eistedd o'i gwmpas. Gadewch i ni fod yn eglur: mae'r sefyllfa yng Nghaerffili yn un nad yw'n foddhaol i neb, ond ceir proses, sydd yno, yr ydym ni i gyd wedi ein rhwymo ganddi. Nid yw'n ddim o gwbl i'w wneud ag unrhyw unigolion nac unrhyw sefydliadau. Cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei rhan hi o'r cyfrifoldeb hwnnw trwy benodi unigolyn annibynnol i oruchwylio'r cam nesaf yn y broses honno. Rhoddais addewid i Hefin David, yr Aelod lleol, pan mai fi oedd y Gweinidog cyfrifol, y byddwn yn sefydlu adolygiad o'r broses bresennol cyn gynted ag y bydd wedi gweithio ei ffordd drwyddo. Nid yw'n foddhaol. Nid yw'n gweithio. Nid yw'n cyflawni dros drigolion lleol na dros y cyngor ei hun. Ond, pan eich bod chi mewn proses, mae gennych chi rwymedigaeth gyfreithiol i'w chyflawni. Gall pobl wneud cymaint o lol ohono ag y maen nhw'n ei ddymuno. Mewn democratiaeth aeddfed, os oes cyfraith y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hi, yna dyna'n union y bydd yn rhaid i ni ei wneud. Wedyn, byddwn yn gweld sut y gellir newid y gyfraith honno, fel bod proses fwy boddhaol ar gyfer y dyfodol.
3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu llygredd plastig? OAQ53635
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Strategaeth Llywodraeth Cymru yw defnyddio'r holl gamau sydd ar gael i ni er mwyn helpu i ddileu llygredd plastig; mae deddfwriaeth, addysg, cyllid grant, buddsoddi mewn seilwaith a mesurau cyllidol i gyd yn elfennau o'r dull strategol hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi bod y 2.3 miliwn tunnell o lygredd plastig o ddeunydd pacio sy'n cael ei gynhyrchu ar draws y DU ar hyn o bryd yn broblem iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol fawr. Rydym ni wedi darganfod yn ddiweddar bod llygredd plastig yn drosglwyddydd effeithlon iawn o E.coli a chlefydau eraill a gludir mewn dŵr, a fyddai'n marw pe bydden nhw yn dibynnu ar ddŵr yn unig fel cludwr. Yn ogystal â hynny, rydym ni'n gwybod bod gronynnau plastig yn cyrraedd llawer o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta ar hyn o bryd. Felly, yng ngoleuni'r materion iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol difrifol iawn hyn, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd, fel mater o frys, i sicrhau bod cynllun blaendal-dychwelyd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl, ac i sicrhau bod cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ar waith yn briodol yng Nghymru?
Wel, hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn atodol pwysig iawn yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y pryderon o'r newydd a geir am belenni plastig cyn-cynhyrchu fel ffynhonnell o lygredd microplastig. Trafodwyd y mater hwn yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Glasgow, lle daeth Gweinidogion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ynghyd i nodi camau y gellir eu cymryd i ymateb i'r pryder hwnnw sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r Aelod hefyd yn llygad ei lle i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd. Ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, amcangyfrifir bod cynhyrchwyr yn talu tua 10 y cant o gyfanswm y gost o ailgylchu eu gwastraff deunydd pacio, ac ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod gweithredoedd cynhyrchwyr yn cyd-fynd â'r cyfrifoldeb llygrwr sy'n talu. Dyna pam yr ydym ni'n ymgynghori ar y cyd â Llywodraethau'r DU a'r Alban ar gynigion i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ar gyfer deunydd pacio ar sail y DU gyfan.
Mae fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn wedi trefnu sesiwn friffio ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad ar yr 28ain o'r mis hwn, a fydd yn ymdrin â chynigion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd a'r cynllun blaendal-dychwelyd. Rwy'n gwbl sicr y bydd yr Aelod yn bresennol, a gobeithiaf y bydd llawer o Aelodau eraill sydd yma yn gallu bod yn y cyfarfod hwnnw hefyd.
Prif Weinidog, rydym ni'n gallu gweld plastigau ym mhob man o'n cwmpas. Ewch allan i ardal y bae a gallwch weld poteli plastig ar wyneb y dŵr yng nghorneli'r bae. Er gwaethaf llawer o'r rhethreg yn y sefydliad hwn a thu hwnt, yn anffodus, mae llygredd plastig yn broblem enfawr y mae'n ymddangos ein bod ni'n methu'n lân â mynd i'r afael â hi mewn unrhyw ffordd ystyrlon ar hyn o bryd.
Rydym ni newydd weld y grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth, yn ystod amser cinio, a gafodd ei atgyfodi yn ddiweddar. Amlygwyd ganddyn nhw y rhan y gall coedwigaeth ei chwarae o ran cynnig cynhyrchion amgen yn hytrach na phlastigau, fel gwelltyn yfed, er enghraifft. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cael trefn ar bethau o ran ei thargedau ar gyfer ailblannu, yn enwedig ar ystâd Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw 6,000 hectar ar ôl o ran eu hamserlen. A allwch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynyddu ei hymdrechion yn y sector coedwigaeth, fel y gellir datblygu'r dewisiadau amgen hynny yma yng Nghymru, ac y gellir cynnig y dewisiadau amgen wedyn i'r cyhoedd yn gyffredinol, fel y gallan nhw leihau eu defnydd o blastig? Oherwydd heb y dewisiadau amgen hynny, byddwn yn parhau i gael ein amharu gan lygredd plastig.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef bod yn rhaid i ni wneud llawer mwy o ymdrech ar draws yr ystod gyfan o gamau gweithredu y gall Llywodraethau eu cymryd, y gall diwydiant eu cymryd, ac y gall unigolion hefyd eu cymryd yn ein bywydau eu hunain i leihau'r defnydd o gynhyrchion plastig. Ac mae cynhyrchion yn hytrach na phlastig yn sicr yn rhan bwysig iawn o'r holl ymdrech honno. Agorodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyfleuster gweithgynhyrchu newydd Frugalpac yn Wrecsam dim ond yr wythnos diwethaf, ac mae hwnnw'n gyfleuster sy'n cynhyrchu cwpanau coffi cwbl ailgylchadwy. Ac yn union fel yr ydym ni'n gweld poteli plastig ar wyneb y dŵr, felly hefyd yr ydym ni'n gweld llawer gormod o gwpanau untro sy'n cael eu gadael gan bobl lle maen nhw'n digwydd gorffen eu defnyddio.
O ran coedwigaeth, rwy'n cytuno gyda'r Aelod: wrth gwrs mae gan hynny ran i'w chwarae i greu cynhyrchion amgen a fydd yn caniatáu i ni i gyd wneud mwy—mwy yn ein bywydau ein hunain, yn ogystal â'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu gyda'n gilydd—er mwyn lleihau'r defnydd o blastigau, y genhedlaeth o lygredd plastig, a'r niwed y mae hynny'n ei wneud yn ein hamgylchedd.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ysgol newydd? OAQ53611
Diolch i'r Aelod am hynna. Ar ôl eu datblygu gan ysgolion arloesi, bydd canllawiau drafft ar gyfer y cwricwlwm Cymru newydd yn cael eu rhoi ar gael ym mis Ebrill. Mae hyn o ganlyniad i gyfnod dwys o ddylunio a datblygu, a bydd hynny'n parhau yn y misoedd i ddod.
Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, clywodd adroddiad diweddar gan bwyllgor iechyd y Cynulliad dystiolaeth nad yw addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol yn gyffredinol yn cael digon o flaenoriaeth mewn ysgolion. Rydym ni eisoes wedi clywed yn y Siambr hon ei bod yn ymddangos bod llawer o ysgolion nad ydynt yn llwyddo i ddarparu'r ddwy awr yr wythnos sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Rydym ni'n gwybod bod addysg gorfforol yn helpu i fynd i'r afael â gordewdra, a bod llawer mwy o fuddiannau.
Rydym ni newydd weld penwythnos cofiadwy o chwaraeon. Mae carfan genedlaethol Cymru yn yr ail safle yn y byd erbyn hyn, mae gennym ni feicwyr sydd ymhlith goreuon y byd, ac mae nifer o sêr chwaraeon Cymru ar y llwyfan byd-eang. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod gan ysgolion Cymru y llwyfan perffaith ar hyn o bryd i ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn addysg gorfforol. Sut bydd eich Llywodraeth yn ymgorffori hyn yn y cwricwlwm ysgol newydd?
Diolch i'r Aelod am hynna. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hi am bwysigrwydd addysg gorfforol, llythrennedd corfforol, yn ein hysgolion a'r cyfraniad y gall hynny ei wneud at atal achosion o ordewdra, y gwyddom o ffigurau eraill—fe'i trafodwyd gennym yma yn y Siambr ddim ond wythnos neu ddwy yn ôl—y gwyddom sydd yno yn y boblogaeth. Ond mae tensiwn yn bodoli, ac mae cwestiwn yr Aelod yn cyfeirio at y tensiwn, rhwng y gwersi a ddysgwyd gennym o adolygiad Donaldson, sy'n ymwneud â phennu dibenion eglur ar gyfer y cwricwlwm, gan ddatblygu'r gwahanol feysydd o ddysgu a phrofiad, ac yna chaniatáu i'r bobl broffesiynol hynny sydd agosaf at y boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu—sef arweinwyr ysgolion, yr athrawon yn yr ystafell ddosbarth—i roi'r rhyddid proffesiynol iddyn nhw gymhwyso'r egwyddorion hynny a'r canllawiau hynny yn yr amgylchiadau y maen nhw'n canfod eu hunain ynddynt.
Mae llythrennedd corfforol yn rhan o'r holl ffordd yr ydym ni'n disgwyl i'r cwricwlwm newydd gael ei ddatblygu. Mae'n demtasiwn bob amser—rydym ni wedi ei glywed o amgylch y Siambr lawer gwaith, pan fydd pobl yn cytuno â'r gosodiad cyffredinol y dylai fod fframwaith cenedlaethol ac yna hyblygrwydd lleol i'w gymhwyso, ond yna mae pawb eisiau dweud, 'A, ond, pam nad yw hyn ar y cwricwlwm? Pam nad yw'r llall ar y cwricwlwm?' A chyn i chi wybod ble'r ydych chi, rydym ni wedi gweithio ein ffordd yn ôl o'r math o ddull yr ydym ni i gyd, ar draws y Siambr hon, rwy'n credu, wedi dweud ein bod ni eisiau ei weld yma yng Nghymru, yn ôl i rywbeth sy'n dod hyd yn oed yn fwy rhagnodol.
Felly, rwy'n cytuno gyda gosodiad sylfaenol yr Aelod am y pwysigrwydd. Rwy'n ceisio ei darbwyllo y bydd y ffordd yr ydym ni'n ei wneud yn sicrhau'r canlyniadau y mae hi eisiau eu gweld, a cheisio ei darbwyllo rhag ei chred mai'r ffordd o sicrhau addysg gorfforol yw gwneud y cwricwlwm yn rhagnodol yn y maes hwnnw, oherwydd y cwbl y byddem ni'n ei wneud wedyn fyddai agor y cwricwlwm i ragor o syniadau eto ynghylch sut y gallwn ni ei gulhau o'r Siambr hon, pan ein bod ni eisiau caniatáu i alluoedd, rhyddid, sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol athrawon yn yr ystafell ddosbarth ddarparu'r cwricwlwm yr ydym ni'n ei ddatblygu yn y fan yma.
Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n bresennol mewn digwyddiad tebyg i Pawb â'i Farn ar gampws Coleg Castell-nedd ar gyfer myfyrwyr ifanc, a mynegwyd diddordeb mawr iawn ganddyn nhw yng nghwricwlwm y dyfodol. Un o'r cwestiynau a godwyd gyda mi—ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn y cwricwlwm—yw addysg dinasyddiaeth, mewn un ystyr, a mudiadau gwleidyddol, oherwydd, yn amlwg, bydd posibilrwydd o bleidleisio yn 16 a 17 oed yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'r Cynulliad yn mynd i gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n tybio, ymhlith y pethau hynny yr ydym ni i gyd eu heisiau yn y cwricwlwm, y bydd hyn yn rhan o'r cwricwlwm hwnnw. Ond, hefyd, beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Llywodraeth i sicrhau ei fod ar waith ar gyfer 2020-1, oherwydd mae'n debyg na fydd y cwricwlwm ar waith tan tua 2020. Bydd y bobl ifanc hyn wedi mynd heibio hynny. Sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr addysg fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth, pan fyddan nhw'n cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, o'r broses honno a'r hyn y gall ei olygu?
Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi bod mewn llawer o gyfarfodydd ar gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, a gwn fod y Llywydd o'r farn y dylai hynny fod yn wir ar gyfer etholiadau'r Cynulliad hefyd. Pan roeddwn i gerbron cynulleidfaoedd amheus, gan gynnwys pobl ifanc weithiau a oedd yn amheus ynghylch eu gallu i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw, un o'r dadleuon yr oeddwn i'n teimlo oedd yn cael yr effaith fwyaf ar gynulleidfaoedd amheus oedd y ddadl, os bydd gennych chi bleidleisio yn 16 oed, mae gennych chi gyfnod pan fydd pobl ifanc yn dal mewn addysg a phan allwch chi ddarparu'r fath o wybodaeth a sylfaen iddyn nhw yn strwythurau democratiaeth, y ddealltwriaeth o gysyniadau gwleidyddol, yr hawliau a'r cyfrifoldebau democrataidd y gallwch baratoi pobl ar gyfer y cyfrifoldeb hwnnw yn 16 oed, gallwch argymell cyflwyno'r arfer o bleidleisio yn gynnar, a gwyddom fod pobl sy'n pleidleisio yn yr etholiad cyntaf y mae nhw'n cael cyfle i bleidleisio ynddi yn llawer mwy tebygol o barhau i bleidleisio mewn etholiadau dilynol, ac mae'r rhai nad ydyn nhw'n pleidleisio y tro cyntaf yn llai tebygol o bleidleisio yr ail waith, ac os nad ydych chi wedi pleidleisio yn yr etholiad cyntaf neu'r ail etholiad mae gennych chi gyfle i wneud hynny, mae'r tebygolrwydd y byddwch chi'n gwneud hynny ar y trydydd achlysur yn llawer iawn llai.
Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Rydym ni'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, gyda'r Comisiwn yma yn y Cynulliad, i wneud yn siŵr y bydd maes dysgu'r dyniaethau a phrofiad yn darparu hyn yn yr ystafell ddosbarth, ond ein bod ni'n gwneud ymdrech ychwanegol yn y cyfamser i wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny a fydd yn gobeithio cael y cyfle cyntaf un i bleidleisio yn 16 ac yn 17 oed wedi eu paratoi cystal ag y gallwn eu paratoi ar gyfer y posibilrwydd newydd hwnnw.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ53591
Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'r gogledd wedi ei gynnwys yn holl weithgarwch marchnata Croeso Cymru, gan gynnwys ei ymgyrchoedd Blwyddyn Darganfod Cymru presennol yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a'r Almaen. Ceir hefyd, trwy gais cystadleuol, gymorth ariannol a roddir i bartneriaid gydweithio ar brosiectau penodol i farchnata ardal gogledd Cymru.
Diolch am yr ymateb yna. Ond gyda bargen dwf gogledd Cymru yn symud ymlaen gobeithio, a dull Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fel tîm gogledd Cymru y dylai Croeso Cymru fuddsoddi mwy i gefnogi'r rhanbarthau i dargedu ein marchnad gartref yn y DU gan adael Croeso Cymru i ganolbwyntio ar broffil Cymru yn rhyngwladol, sut bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'n sefydliad marchnata cyrchfannau rhanbarthol, Twristiaeth Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli oddeutu 1,500 o fusnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn y gogledd, sydd eisoes yn gwneud gwaith ardderchog gyda'u brand 'Go North Wales', ond a allai wneud llawer iawn mwy pe byddai mwy o gymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno ag ef y gwneir ymdrechion ardderchog gan weithredwyr twristiaeth yn y gogledd i hyrwyddo'r ardal a'i gwneud yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr o weddill y Deyrnas Unedig, ond hefyd o weddill y byd. Rydym ni wedi sôn eisoes y prynhawn yma, Llywydd, am Japan, a phan fydd Cymru yn Japan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd bydd yn gyfle pwysig i ni arddangos Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr o'r rhan honno o'r byd, ac mae gweithredwyr yn y gogledd yn arbennig eisoes wedi gweithio'n galed iawn i gynyddu nifer yr ymwelwyr o Japan sy'n ymweld â gogledd Cymru. Yn wir, mae 27 o 30 prif weithredwr teithiau Japan yn cynnwys gogledd Cymru yn eu hamserlenni yn y DU erbyn hyn, ac mae hynny'n deyrnged i'r gwaith a wnaed yn y rhanbarth i'w hyrwyddo fel cyrchfan. Byddwn yn parhau i weithio drwy'r fforwm twristiaeth rhanbarthol o'r gogledd i wneud yn siŵr bod y gwaith a wneir gan Croeso Cymru i hyrwyddo ein cenedl yn adlewyrchu anghenion y gogledd ac yn parhau i'w wneud yn gyrchfan llwyddiannus i ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig a gweddill y byd.
Rŷn ni i gyd hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, nad dim ond rygbi sy'n cael ei chwarae yn y wlad yma. Mae yna gêm bêl-droed bwysig nos yfory yn y Cae Ras yn Wrecsam, ac mi fydd yna filoedd lawer o bobl yn ymweld â gogledd-ddwyrain Cymru. Mae digwyddiadau chwaraeon, wrth gwrs, yn bwysig iawn o safbwynt y cynnig twristiaeth sydd gennym ni yn y gogledd fel y mae e yng Nghaerdydd, wrth gwrs, ac felly, y cwestiwn dwi eisiau gofyn yw: pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ar y cyd â chlwb pêl-droed Wrecsam, gyda'r cyngor sir lleol a chyda'r gymdeithas bêl-droed, er mwyn ailddatblygu'r Cae Ras i sicrhau ein bod ni'n cael mwy o gyfleoedd fel hyn, ac nad dim ond un gêm bêl-droed ryngwladol bob degawd fydd yn dod i ogledd-ddwyrain Cymru, ond y byddwn ni'n gweld hynny yn digwydd yn gyson?
Diolch yn fawr i Llyr Gruffydd am y cwestiwn yna. Mae beth mae'n ddweud yn wir: pan ydych yn dweud 'Cymru' ledled y byd, beth sy'n dod i mewn i bennau pobl? Wel, chwaraeon yw un o'r pethau mae pobl yn meddwl amdano yn gyntaf pan maen nhw'n meddwl am beth sy'n mynd ymlaen yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, dwi'n cael gwybodaeth bron pob wythnos oddi wrth yr Aelod lleol yn Wrecsam am beth sy'n mynd ymlaen yn y Racecourse. Mae hi'n anfon beth mae Wrecsam yn ei wneud yn y maes pêl-droed ataf i bron bob dydd Sul, ac mae hi'n gweithio, ac mae Ken Skates hefyd yn gweithio, ar y pethau mae Llyr Gruffydd wedi eu codi, i ddatblygu beth sy'n mynd ymlaen yn Wrecsam, i dynnu mwy o gemau i mewn yno, ac i ddefnyddio beth sy'n mynd ymlaen yn y gogledd-ddwyrain i helpu i dynnu mwy o bobl i mewn i'r ardal.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd? OAQ53633
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Cyfrannodd cwlfert diffygiol at yr achosion o gau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw. Mae un newydd yn ei le erbyn hyn a bydd amodau'r ffyrdd lleol yn dychwelyd yn llawn i'r hyn sy'n arferol erbyn diwedd yr wythnos hon.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nawr, yn ogystal â'i bod yr unig ffordd A allan o Gwm Cynon yn yr ardal honno, mae'r A465 hefyd yn ffordd bwysig iawn yn rhanbarthol hefyd, gan gysylltu, fel y mae'n ei wneud, Blaenau'r Cymoedd, mor bell i ffwrdd â chanolbarth Lloegr, i lawr i orllewin Cymru a dyma'r unig ffordd yng Nghymru, os wyf i'n gywir, sy'n cael ei hystyried yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd. Felly, rwy'n siŵr y gwnewch chi gytuno â mi, Prif Weinidog, bod cynnal a chadw'r ffordd honno yn effeithiol yn gwbl hanfodol.
Bythefnos yn ôl, cymerodd cyngor Rhondda Cynon Taf y cam digynsail o gyflwyno hysbysiad cyfreithiol yn erbyn Asiant Cefnffyrdd De Cymru am beidio â chynnal a chadw priffordd fawr. Ac roedd rhai o'r beirniadaethau a wnaed ohonynt yn cynnwys: methu â chael mynediad at y pympiau cywir pan yr oedd cyngor RhCT yn gallu cael gafael arnyn nhw gan wahanol gyflenwr; peidio â chynnal na monitro'r pympiau i safon ddigonol, gan arwain at achos arall o lifogydd ar y ffordd; ac arwyddion annigonol ym mhentref y Rhigos, gan arwain at anhrefn llwyr i drigolion y pentref hwnnw, gyda'r holl draffig hwn yn ceisio llifo ar hyd ffordd B fach wedyn.
Gyda'r holl broblemau hynny, Prif Weinidog, pa ffydd allai fod gennym yn Asiant Cefnffyrdd De Cymru, yn y dyfodol, i gynnal y ffordd hon yn briodol a pheidio ag achosi anhrefn i drigolion fy etholaeth i, i gymudwyr ac i fusnesau lleol?
Wel, rwy'n deall, Dirprwy Lywydd, y pryderon a achoswyd yn lleol gan y digwyddiadau ar y rhan o'r ffordd y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, ac, wrth gwrs, mae yn llygad ei lle am bwysigrwydd y rhan honno o'n seilwaith trafnidiaeth. Rwyf i wedi trafod yr holl faterion hyn gyda Ken Skates, y Gweinidog sy'n gyfrifol, ac mae dau wahanol fater, rwy'n credu, yn y fantol yn y fan yma, Dirprwy Lywydd. Mae'r mater sylfaenol o'r hyn sydd wedi achosi'r anhawster yn y cwlfert yn y lle cyntaf. A gwn fod llawer o wahanol esboniadau a awgrymir yn lleol, ac o ganlyniad mae'r Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion fod mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol fel y gellir rhoi darn o waith i law fel ein bod ni'n canfod yr anhawster sylfaenol a achosodd i'r cwlfert chwalu yn y lle cyntaf. Yna, ceir cyfres o broblemau ynghylch y ffordd y darparwyd ymateb ar unwaith i'r anawsterau a gafwyd yn gynharach yn y mis, ac rwy'n cymryd yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud yn wirioneddol o ddifrif. Rwy'n credu, fodd bynnag, bod rhywfaint o dystiolaeth arall hefyd yr anwybyddwyd rhai o'r arwyddion gorfodol a osodwyd i ddargyfeirio traffig gan rai gyrwyr, a bu adroddiadau i'r heddlu pryd y teimlwyd bod hynny wedi ei wneud mewn modd bwriadol.
Cafwyd yr ail achos o lifogydd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ôl ymyrraeth dros nos â phympiau sy'n cael eu pweru gan ddisel, a oedd wedi eu gosod—cafodd tanwydd ei ddwyn ohonynt ac nid oedd y pympiau yn gweithio o ganlyniad. Mewn ymateb i hynny, mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru a'i gontractwr wedi gorfod cyflwyno goruchwyliaeth safle 24 awr o'r pympiau gan eu harchwilio bob pedair awr, gan gynnwys drwy'r nos. Yn dilyn hynny, ni fu unrhyw fethiannau pellach. Byddwn yn dysgu gwersi, byddan nhw'n dysgu'r gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd, nawr bod y ffordd wedi ei thrwsio ac ar fin cael ei hailagor yn llawn.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dai cyngor? OAQ53589
Ein polisi yw cefnogi awdurdodau lleol i adeiladu tai cyngor ar raddfa sylweddol uwch ac yn yr amser byrraf posibl.
A gaf i bwysleisio eto bwysigrwydd adeiladu tai cyngor er mwyn ymdrin â'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru? A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe bod pobl bellach yn byw yn eu cartrefi cyngor newydd a hefyd y rhai sy'n cael eu hadeiladu? Ond beth arall a all Llywodraeth Cymru ei wneud i oresgyn yr hyn sy'n atal cynghorau rhag adeiladu nifer fawr o anheddau cyngor, sef yr hyn a ddywedwyd gennych yn eich ateb cyntaf?
Diolch yn fawr iawn am hynny. Fe fyddwn i’n sicr yn cytuno o ran llongyfarch Abertawe ar y gwaith y maen nhw’n ei wneud, yn enwedig y dulliau tai arloesol a gwneud hyn i gyd ar yr un pryd, rwy'n gwybod, â gorfod canolbwyntio ar gyrraedd safonau ansawdd tai Cymru, y mae’r cyngor bellach yn agos iawn at eu cwblhau. Rwy'n credu bod tri gwahanol beth y gallwn ni eu gwneud i gyflymu a chynyddu nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Gwn y bydd yr Aelod yn falch o wybod y bydd y cap ar fenthyca i awdurdodau lleol Cymru yn cael ei godi’n ffurfiol ddydd Gwener yr wythnos yma, pan fydd y ddeddfwriaeth angenrheidiol y mae’n rhaid inni ei chwblhau yn dwyn ffrwyth. Felly, i rai awdurdodau lleol, yn sicr bydd mwy o gyllid ar gael nag y byddai fel arall. Yn ail, ceir y mater sgiliau, gwybodaeth a gallu. Bydd yn rhaid inni wneud mwy, a bydd yn rhaid i'r sector wneud mwy, gan weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill, i wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol y gallu, y tu hwnt i arian, i ymgymryd â’r swyddogaeth bwysig hon yr ydym yn dymuno eu gweld nhw’n ei chyflawni. Yn drydydd, bydd angen inni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud ar lefel Llywodraeth Cymru. Fe gychwynnodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, adolygiad o'n strategaeth tai fforddiadwy. Bydd hwnnw’n adrodd ddiwedd mis Ebrill. Mae dwy o'r 10 ffrwd waith yn yr adolygiad hwnnw yn ymwneud yn benodol â ffyrdd y gallwn ni gael awdurdodau lleol yng Nghymru i adeiladu mwy o dai cyngor a’u hadeiladu nhw yn gynt.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.
Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans.
Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi datganiad: yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trafodaethau'r UE. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Hoffwn i'r Gweinidog roi datganiad am y llifogydd erchyll a ddigwyddodd yn y gogledd a rhannau eraill o Gymru, mewn gwirionedd, y penwythnos yma. Fe gawsom ni’n taro’n wael yn Aberconwy, ac fe welais bethau nad oeddwn erioed wedi eu gweld mewn llifogydd o’r blaen. Roedd yr A470 wedi ei chau ar hyd dyffryn Conwy ac mae’r rheilffordd sydd wedi ei hatgyfnerthu yn Llanrwst bellach wedi ei difrodi yn ofnadwy, a bydd sawl wythnos cyn y bydd hi’n gallu cael ei defnyddio eto, ar ôl gwario arian arni dim ond yn ddiweddar. Roedd llifogydd mewn tai a busnesau yn Nolwyddelan, Betws-y-coed, Maenan ac, yn wir, yn Llanrwst, lle, unwaith eto, na weithiodd y 'dutchdam'—ac mae hwnnw’n gynllun lliniaru llifogydd, yn offer eithaf drud a osodwyd, ac nid dyma'r tro cyntaf iddo fethu, felly rwy'n gofyn am ddatganiad ynghylch hynny. I'r gorllewin, fe welodd castell Gwydir a'i erddi, yr unig erddi rhestredig gradd I yng Nghymru, ei amddiffyniad bagiau tywod yn methu a chafwyd llif arswydus o gyflym.
Trefnydd, fe achosodd y digwyddiad hwn y penwythnos yma gymaint o broblemau i mi yn Aberconwy a'm trigolion. Roedd gennym bobl ifanc yn cael eu hachub o do car—mae hyn yn y papurau newydd cenedlaethol i gyd. Ac, a dweud y gwir, mae dal enfawr bellach bod y cynllun lliniaru llifogydd a roddwyd ar waith rai blynyddoedd yn ôl—er ei fod o fudd i rai, yn cael effaith andwyol ar eraill, mewn gwirionedd. Rwyf wedi galw am gyfarfod cyhoeddus ar 5 Ebrill—dyna'r cyfan y gallaf ei wneud ar hyn o bryd fel Aelod Cynulliad. Rwyf yn ymbil ar y Cynulliad hwn—y Llywodraeth Cymru hon—os gwelwch yn dda, gwnewch ddatganiad a darparwch rywfaint o sicrwydd i’m trigolion, i bobl yn awr. Mae fy musnesau'n wynebu gwerth miloedd ar filoedd o bunnoedd o ddifrod; nid yw rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn gallu agor. Mae angen rhagor o gymorth, ac mae angen edrych o’r newydd ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghonwy. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Ac mae’n rhoi cyfle imi ddweud diolch wrth bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys, sydd wedi gweithio mor ddiflino dros y penwythnos i ymateb i’r digwyddiadau llifogydd ledled y wlad.
Fe gawsom ni ddatganiad ar lifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf, a amlinellodd raglen fuddsoddi gwerth £50 miliwn i reoli llifogydd a pherygl arfordirol ledled Cymru. Ac mae hynny'n golygu, droes gyfnod y Llywodraeth hon, y byddwn wedi buddsoddi dros £350 miliwn ar reoli llifogydd a’r perygl o erydu arfordirol yng Nghymru. Rwy'n credu y gallwn ni ddweud ein bod ni wedi cael adroddiadau o asedau a fu'n gweithio'n dda dros y penwythnos, gan gynnwys yn Llanrwst, dyffryn Conwy, Llanelwy a Bangor Is-coed, lle lleihaodd y cynlluniau llifogydd sydd ar waith nifer yr eiddo a ddioddefodd lifogydd. Rydym ni’n gwybod bod tua wyth cartref wedi dioddef llifogydd, a bod gerddi tua 40 eiddo wedi dioddef llifogydd hefyd. Ac, yn amlwg, rydym ni’n meddwl am y bobl hynny, oherwydd mae'n brofiad ofnadwy i unrhyw un. Rydym ni’n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd bod amddiffynfeydd a gweithdrefnau ar waith ym Mangor Is-coed sydd wedi perfformio'n dda, gan amddiffyn 381 eiddo yn yr ardal rhybudd llifogydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn adrodd bod y systemau telemetreg y maen nhw wedi'u gosod ar geuffosydd, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gweithio’n dda hefyd gan ganiatáu iddyn nhw weld a nodi ardaloedd lle’r oedd gweddillion yn atal cyrsiau dŵr, er mwyn eu galluogi nhw i anfon timau i’r ardaloedd hynny a symud y rhwystrau hynny yn gyflym. Ac, wrth gwrs, roedd camerâu a reolir o bell sydd wedi'u gosod ym Mhlas Isaf yn Llanrwst wedi gweithio'n dda yn ystod y digwyddiad llifogydd, gan roi rhybudd i staff y cyngor am rwystrau posibl i gyrsiau dŵr, gan ganiatáu iddyn nhw gael amser i anfon timau i glirio'r ardal, a sicrhau bod y risg o lifogydd i eiddo wedi ei ddileu.
Felly, rwy'n credu bod y dystiolaeth, yn sicr, yn dangos bod yr amddiffynfeydd wedi gweithio'n dda, gan amddiffyn nifer fawr o eiddo. Bydd hi'n sawl diwrnod, wrth gwrs, cyn y bydd yr effeithiau llawn wedi eu nodi, a byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ysgrifennu atoch chi cyn eich cyfarfod ar 5 Ebrill, fel bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Trefnydd, dwi'n galw am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf: mae Estyn a chod trefniadaeth ysgolion y Gweinidog Addysg, fel ei gilydd, wedi nodi'r angen i archwilio posibiliadau ffederaleiddio yn drylwyr cyn cau ysgol, megis Felindre, ar gyrion Abertawe. Gan fod cyrff llywodraethol ysgolion Felindre a Lôn Las, yn gyfagos, wedi cytuno'n unfrydol ar yr egwyddor o ffederaleiddio, onid lle'r awdurdod addysg yn Abertawe yw cynorthwyo ysgol Felindre, ym mhob dull a modd, i wireddu hyn? Nawr, does dim sôn am hyn ym mhapurau cabinet dinas a sir Abertawe yr wythnos yma. Felly, ydy hi'n bosib cael datganiad ar ba oruchwyliaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflawni i sicrhau bod ein siroedd yn dilyn canllawiau cenedlaethol, fel y cod trefniadaeth ysgolion, a pha sancsiynau sydd mewn lle os nad ydyn nhw'n gwneud hynny?
Ac yn ail, Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol, ddydd Gwener diwethaf, bod yr adolygiad annibynnol i Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ei ryddhau. Comisiynwyd yr adolygiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Actica Consulting, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yr hyn sy’n deillio o'r adroddiad hwn yw nifer o argymhellion o blaid newid er mwyn gwella’r llywodraethu a chyflymu'r cyflawniadau. Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad bod rhwystredigaeth o safbwynt Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac o safbwynt yr awdurdodau lleol rhanbarthol o ran sut mae’r fargen ddinesig yn mynd rhagddi. Mae'n codi nifer o gwestiynau ynghylch effeithiolrwydd strwythur bargen ddinesig Bae Abertawe. Yr hyn sy’n fy nharo i yw bod llawer o welliannau i'w gwneud o ran y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU a'r awdurdodau lleol. Pan fo'r argymhelliad cyntaf yn ceisio annog sgyrsiau, ac rwyf yn dyfynnu, 'uniongyrchol ac wyneb yn wyneb yn rheolaidd', rydych chi’n gwybod bod rhywbeth o’i le. Mewn cynllun o'r maint hwn, fe fyddech chi’n disgwyl i drafodaethau wyneb yn wyneb rheolaidd ac uniongyrchol fod yn anhepgor.
Yr hyn sydd hefyd yn drawiadol yw pa mor araf y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau arian. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau bod arian yn cael ei ryddhau ar unwaith ar gyfer Yr Egin yng Nghaerfyrddin a phrosiectau Glannau Abertawe. Y ddamcaniaeth y tu ôl i'r strwythur bargen ddinesig ym Mae Abertawe yw y dylai’r ddwy Lywodraeth ddarparu cyllid yn gynnar i roi'r rhan fwyaf o'r arian ar ddechrau proffil ariannu prosiectau er mwyn eu galluogi nhw i gael eu cyflawni. Fodd bynnag, mae gennym sefyllfa chwerthinllyd lle bo datblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei adeiladu, fe gafodd ei agor yn swyddogol y llynedd, ac mae bron yn llawn, ac eto nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi rhyddhau’r cyllid. Mae pobl yn briodol yn gofyn, 'Beth sy'n digwydd yn y fan yma?' Nawr, rwy'n sylweddoli bod sesiwn friffio anffurfiol wedi ei threfnu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad bore yfory, ond, yn amlwg, ni fydd nifer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu mynd i’r sesiwn honno oherwydd yr angen i fynychu pwyllgorau yn y fan yma. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyflwyno datganiad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe yn y Siambr hon er mwyn i ni allu trafod y camau nesaf ar gyfer y fargen ddinesig yn gyhoeddus? Diolch yn fawr.
Diolch am godi'r ddau fater hyn. Fel yr ydych yn dweud, mae'r Dirprwy Weinidog wedi cynnig sesiwn friffio yfory i Aelodau'r Cynulliad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe a'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd. Rwy'n sylweddoli na fydd rhai Aelodau yn gallu bod yn bresennol, felly byddaf yn siarad â’r Dirprwy Weinidog i edrych a oes cyfle arall lle gallai’r Aelodau gael trafodaeth wyneb yn wyneb ag ef yn y lle cyntaf er mwyn mynd drwy'r adroddiad. Ac wrth gwrs, bydd Gweinidog yr Economi yn ateb cwestiynau yn y Siambr brynhawn yfory, felly byddai hyn yn gyfle arall i godi'r mater hwnnw.
Rwyf yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n wynebu ysgol Felindre, ac ysgol Craigcefnparc hefyd, y mae'r ddwy yn fy etholaeth i, ac yn fy swyddogaeth fel Aelod Cynulliad, rwy'n sicr wedi gwneud sylwadau ar ran y gymuned. Rwyf yn eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg os oes unrhyw ddiffyg eglurder o ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau a'r cyngor yr ydym ni’n ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y mathau hyn o amgylchiadau.
Yr hyn sy'n lladd y nifer fwyaf o fenywod ifanc mwyaf yw canser ceg y groth, ac rwy'n credu bod ymgyrch wych yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ledled y DU er mwyn cael menywod ifanc i oresgyn unrhyw gywilydd sydd ganddyn nhw am eu cyrff a dod i gael sgriniau ceg y groth, a all achub eu bywydau mewn llawer o achosion. Ond cefais fy siomi o ddarllen bod anhrefn llwyr yn y labordai yn Lloegr lle maen nhw'n uno labordai o 50 i naw, ac mae hynny'n achosi oedi mawr yn y broses o roi canlyniad sgriniau i bobl. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch cyflwr profion mewn labordai yng Nghymru, ac a ydym ni wedi ein hamddiffyn rhag y fath anhrefn a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.
Diolch am godi'r mater hwn. Rydym ni’n sicr mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru o gymharu â’r sefyllfa y mae Lloegr ynddi, wrth gwrs, gan mai ni yw’r unig wlad yn y DU sy’n cynnig profion Feirws Papiloma Dynol risg uchel fel y prif brawf ar gyfer yr holl bobl sy’n dod i sgrinio ceg y groth. Mae hwn yn brawf mwy sensitif ac mae’n fwy cywir, a bydd yn atal mwy o ganserau na'r prawf blaenorol, sef y prawf a ddefnyddir o hyd yng ngweddill y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 99 y cant o’r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan rywogaethau risg uchel o’r Feirws Papiloma Dynol. Fe gyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cyflawni’r rhaglen sgrinio ceg y groth, ein dull gweithredu yn llwyddiannus ym mis Medi. Fe baratôdd Sgrinio Serfigol Cymru i weithredu'r dull newydd o sgrinio am nifer o flynyddoedd, felly fe wnaethon nhw sicrhau eu bod nhw wedi cadw staff a chynnal y gwasanaeth drwy gydol y cyfnod pontio i'r prawf newydd. Felly, nid ydym ni wedi cael yr un problemau ag y maen nhw’n eu gweld dros y ffin.
Rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll yr ymgyrch newydd, sy’n cael ei lansio ar hyn o bryd. Enw’r ymgyrch yw #loveyourcervix. Mae hi newydd gael ei lansio yr wythnos hon, rwy'n credu, a’i nod yw annog pobl ifanc yn enwedig i fynd am eu prawf, oherwydd rydym ni’n gwybod, er bod gennym stori dda i'w hadrodd o ran pa mor gyflym yr ydym ni’n gallu rhoi canlyniadau eu profion i bobl, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd am sgrinio, ymhlith menywod iau yn arbennig, sef y demograffig sy'n peri'r pryder mwyaf inni.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu un datganiad yn sicr a pheth cadarnhad gennych chi? Cadarnhad, yn y lle cyntaf: pryd ar wyneb y ddaear a gawn ni’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch asesiad effaith amgylcheddol llosgydd y Barri? Ymddengys fy mod i’n sefyll yn y fan yma bob mis, ac rwy'n credu ein bod ni ar fis 13 yn awr. Mae'r Aelod dros Fro Morgannwg a'r Dirprwy Weinidog yn eistedd yn y fan yna; mae’r Prif Weinidog yn eistedd yn y fan yna. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y llynedd ei bod yn bwriadu cyfarwyddo y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y llosgydd yn y Barri. Mae hi bellach yn fis Mawrth 2019. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru hysbysiad i ddweud eu bod nhw’n fodlon i amodau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer y gollyngiad o’r safle newydd. Nid wyf yn rhoi bai ar Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd, o’m cyfarfodydd i â Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes ganddyn nhw ran i'w chwarae yn y penderfyniad hwn, nid oes ganddyn nhw, o ran a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ai peidio. Felly, heddiw, a gawn ni beth cadarnhad o leiaf o ran pryd y bydd hyn? Oherwydd pan mae pobl yn clywed Aelodau eraill yn y Siambr hon yn sôn am ddyfodol y sefydliad hwn yn y Barri, mae'n debyg eu bod nhw’n cwestiynu gwerth hyn pan nad yw’r ymrwymiadau a wneir yn y Siambr hon yn cael eu gweithredu. Ac a gawn ni ‘ie’ neu ‘na' o leiaf, os gwelwch yn dda?
Yn ail, a gaf i geisio cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth mewn cysylltiad â’r datblygiadau o amgylch y gwelliannau i gyffordd 34 o Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Byddai rhai pobl yn ei alw yn ‘welliannau’, byddai rhai pobl yn ei alw'n ‘fandaliaeth cefn gwlad’—gallwch chi fod unrhyw le rhwng y ddau. Mae hyn yn ymwneud â’r cynigion i gyflwyno ffordd newydd sy’n cysylltu cyffordd 32 â Sycamore Cross ar yr A48. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar rannau penodol o'r ffordd honno, ac rwy'n credu y byddai croeso mawr i glywed safbwynt a barn diweddaraf y Gweinidog newydd ynghylch cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn. Fel y dywedais, mae Gweinidog newydd yn ei swydd erbyn hyn ac, os yw'r prosiect hwn i fynd rhagddo, byddai'n rhaid iddo gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac yn wleidyddol, er mwyn gallu darparu’r prosiect hwn. Felly fe fyddwn i’n gwerthfawrogi datganiad o fwriad er mwyn deall hynny.
Diolch yn fawr iawn. O ran llosgydd y Barri, mae arnaf ofn bod y sefyllfa yn parhau fel y bu hyd yma a chyn gynted ag y bydd y cyngor cyfreithiol ar gael i ni, yna fe fyddwn ni'n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw. Yn anffodus, nid wyf yn gallu rhoi dyddiad ichi ar gyfer hynny heddiw.
O ran eich ymholiad ynghylch cyffordd 34, wrth gwrs, bydd cyfle ichi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog yn ystod ei gwestiynau yfory. Fel arall, os na fydd y cyfle yn codi, fe fyddwn yn sicr yn argymell ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn cael yr eglurder hwnnw.
Ddydd Iau, fe fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol er mwyn Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, ac mae'n dod yn union ar ôl yr ymosodiad erchyll yn seiliedig ar hil gan y dde eithafol a laddodd 50 o bobl ac anafu yr un nifer wrth iddyn nhw addoli yn Seland Newydd. A ddoe, wrth gwrs, bu ymosodiad terfysgol arall yn yr Iseldiroedd. Yn ddealladwy, mae llawer o bobl yn teimlo'n nerfus yn yr hinsawdd bresennol, felly beth a all y Llywodraeth ei wneud i dawelu meddyliau pobl, yn enwedig y dinasyddion Moslemaidd hynny yng Nghymru a allai fod yn teimlo'n arbennig o agored, bod eu pryderon yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif? Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gwleidyddion poblyddol ac eraill yn ymuno yn y mynegiadau o gasineb yn eu herbyn. Beth arall y gellir ei wneud â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu dwyn yn gyfrifol am sbarduno a lluosi'r atgasedd yma? Fe hoffwn weld datganiad yn ymateb i'r cwestiynau hynny. Fe fyddwn hefyd yn croesawu rhyw fath o gytundeb mewn egwyddor drwy ddangos undod yn agored er mwyn mynegi, fel dinasyddion Cymru, ein bod ni i gyd yn unedig a’n bod ni’n casáu hiliaeth, goruchafiaeth a chasineb o bob math. Felly, a wnewch chi gytuno â hynny mewn egwyddor?
Mae cyhoeddiad adroddiad pwyllgor Tŷ'r Cyffredin heddiw yn disgrifio sut y bo rhai menywod wedi canfod eu hunain heb ddewis arall heblaw troi at buteindra o ganlyniad i ddiwygiadau budd-daliadau’r Torïaid, sydd wedi'u hysgogi, wrth gwrs, gan gyni. Nid yw'n syndod bod llawer o fenywod wedi canfod eu hunain yn cael eu gwthio i’r sefyllfa anodd hon. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif, wrth edrych ar yr holl newidiadau i drethi a budd-daliadau rhwng 2010 a 2017, mai gwariant ar fenywod oedd 86 y cant o’r gostyngiadau mewn gwariant Llywodraeth. Erys y ffaith fod gan bob menyw, waeth pa swydd, gefndir neu amgylchiadau, ond yn enwedig y menywod hynny sy'n gweithio yn y diwydiant rhyw, yr hawl i fod yn ddiogel. Ein nod, yn sicr, ddylai creu byd lle mae pob menyw yn rhydd rhag camdriniaeth, trais rhywiol ac ymosodiadau. Mae’n rhaid clywed lleisiau gweithwyr rhyw, ac mae’n rhaid eu cynnwys nhw yn yr weledigaeth honno. A dyna pam yr wyf wedi rhoi fy nghefnogaeth i ymgyrch Make All Women Safe. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i'r mater hwn yn fwy manwl yng Nghymru, sy’n amlwg yn effeithio ar fwy a mwy o bobl wrth i’r diwygiad lles waethygu?
Diolch am godi'r ddau fater hynny, ac fe fyddwn i’n sicr yn cytuno â chi nad oes gan unrhyw fath o wahaniaethu ar sail hil, neu wahaniaethu o unrhyw fath, ond yn enwedig yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf, unrhyw le o gwbl yng Nghymru. Ac fe fyddwch yn falch o weld bod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi darparu datganiad ysgrifenedig heddiw, sy'n amlinellu ymagwedd Llywodraeth Cymru at y mater hwn, yn enwedig y trafodaethau a gafwyd gyda’r heddlu a gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y gymuned Foslemaidd yn benodol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, ac nad ydyn nhw’n teimlo'n agored i niwed neu’n ofnus mewn cyfnod sy’n amlwg yn gyfnod ofnadwy o anodd.
O ran yr adroddiad Tŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yn nes ymlaen heddiw, mae gennym ddadl ynghylch effaith diwygio lles ac, fel yr ydych chi'n dweud, mae llawer o fenywod yn canfod eu hunain yn cael eu gwthio i mewn i waith rhyw oherwydd eu bod nhw’n canfod eu hunain mewn tlodi o ganlyniad i’r diwygiadau lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Roeddwn mewn digwyddiad gyda Julie James yn rhinwedd ei swydd flaenorol, pan oedd hi’n gyfrifol am gydraddoldeb, sef digwyddiad ochr yn ochr â’r heddlu a sefydliadau eraill sy’n ceisio cefnogi gweithwyr rhyw, yn enwedig yn Abertawe yn yr achos hwnnw, ond gwn fod llawer o waith cydweithredol a chydweithrediadol da yn cael ei wneud ar draws pob sector er mwyn cefnogi menywod sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa honno.
Yn dilyn fy nghais diweddar am ddatganiad ynghylch y crocbris am docynnau trên drwy Ben-y-bont ar Ogwr, a gaf i ailadrodd yr alwad honno? Fe gefais i sgwrs ddiddorol ar Twitter ddoe rhyngof i, fy etholwr a, chwarae teg iddo, gweithredwr cyfrif Twitter Trafnidiaeth Cymru gweithgar, a datgelwyd (a) bod yr un tocyn o Faesteg i Lundain, o’i gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr i Lundain £31 yn ddrytach, er mai £2.60 yw pris tocyn o Faesteg i Ben-y-bont; yn ail, mynna fy etholwr nad oedd y gwahaniaeth hwnnw’n bodoli cyn Trafnidiaeth Cymru, er bod Trafnidiaeth Cymru yn gwrthod hyn; ond yn drydydd, mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud mai polisi prisio Great Western Railway yw hyn, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ran yn hyn o gwbl. Nawr, mae hynny'n hynod ddiddorol, oherwydd dim ond dau neu dri stop i fyny’r llinell ydym ni am wahaniaeth o £31. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, sy’n egluro cyfrifoldebau Trafnidiaeth Cymru a GWR ynghylch prisiau tocynnau drwy Ben-y-bont ar Ogwr, ac a yw hi'n dderbyniol bod disgwyl i deithwyr ar linell Cwm Llynfi, oherwydd eu cyfoeth rhodresgar llewyrchus, eu cychod hwylio a’u fflatiau ail gartrefi yng nghanol Manhattan, dalu am y fraint o sybsideiddio teithwyr tlawd rhwng dinasoedd Caerfaddon neu Fryste neu Ben-y-bont ar Ogwr hyd yn oed, yn eu plastai cyfoethog i lawr yn y fan honno?
Yn ail, a gawn ni ddadl ynghylch newid yn yr hinsawdd, yn dilyn protest gan bobl ifanc o dan faner streic yr hinsawdd? Nawr, fe fyddai hyn yn caniatáu i'r Gweinidog, sydd yma heddiw, nodi ei huchelgais o gael Cymru i arwain y ffordd drwy droi Cymru yn genedl teithio llesol wirioneddol, lle mae hi’n fwy naturiol i seiclo, cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na disgyn yn swp y tu ôl i lyw; lle'r ydym yn ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig sy’n annog symud, 100 y cant, i ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a chreu 20,000 o swyddi gwyrdd ym maes ynni adnewyddadwy bob blwyddyn; lle mae pob cartref newydd yn un dim carbon neu’n un ynni cadarnhaol; lle'r ydym yn cyflymu ein rhaglen ôl-osod cartrefi hŷn, yn creu mwy o swyddi gwyrdd; a lle'r ydym yn atal ac yn gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a llawer iawn mwy? Nawr, fe fydd rhai pobl yn beirniadu’r bobl ifanc hyn am gymryd diwrnod i ffwrdd o’r ysgol, a chwarae triwant, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n diolch iddyn nhw am ein hatgoffa ni o’n braint a’n cyfrifoldeb ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang ac i Gymru arwain y ffordd, hyd yn oed os yw’r DU wedi colli ei ffordd. Mae angen i Gymru fyw yn unol â’r ddihareb ‘Byddwch y newid y mynnwch ei weld’, a byddai dadl yn caniatáu i'r Gweinidog glywed syniadau ynghylch sut y gallem wneud hyn gan arddangos ei gallu ynghylch sut y gall Cymru fod yr arweinydd byd-eang hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater prisiau tocynnau trên, gwn y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ysgrifennu atoch cyn bo hir ynghylch y mater hwn, ond mae'n fater hanesyddol sy’n mynd yn ôl i’r adeg pan breifateiddiwyd y rheilffyrdd ym 1998, a dyrannwyd llifau teithio i fasnachfreintiau rheilffyrdd a oedd wedi eu neilltuo i'r gweithredwr sylfaenol, sef y gweithredwr y mae ei wasanaethau yn uniongyrchol dros y llwybr penodedig neu y mae ei wasanaethau yn gweithredu dros y rhan fwyaf o’r llwybr hwnnw fel arfer, a dyna pam, mewn rhai achosion, GWR fydd hwnnw, ac mewn achosion eraill, Trafnidiaeth Cymru fydd hwnnw. Felly, mae’r mater yn gymhleth iawn a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael ymateb llawn i'r cwestiwn hwnnw.
O ran newid yn yr hinsawdd, yn amlwg, mae’n un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu pob un ohonom ni, ond rwyf yn sicr yn annog pobl ifanc i gael dweud eu dweud, llywio’r ddadl ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol fel y gallwn gryfhau ein hymateb i newid yn yr hinsawdd. Fe fyddwch yn falch o wybod bod y Prif Weinidog yn lansio ein cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf ddydd Iau yr wythnos hon, ac mae hyn yn cynnwys y camau y byddwn yn eu cymryd i fodloni ein cyllideb garbon gyntaf. Bydd y camau hyn yn cwmpasu'r sectorau allyriadau allweddol, megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth, defnydd tir, adeiladau, pŵer a gwastraff. Yn rhan o'r lansiad hwnnw, rydym ni wedi cynnwys pobl ifanc, ac fe fyddan nhw’n siarad yn ein digwyddiad lansio hefyd. Felly, pan fydd y cynllun hwnnw’n cael ei gyhoeddi a’r Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno fe, fe fyddwn yn dod ag ef yn ôl i'r Cynulliad ar ôl toriad y Pasg er mwyn cael cyfle i’w drafod.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Rwy'n ymwybodol o’r embargo oriau brig ar symudiadau llwythi annormal, sy’n cynnwys cario carafanau, ar bob ffordd, bron, yn ardal heddlu Manceinion Fwyaf. O 1 Ebrill ymlaen, fe fydd cerbydau yn cael eu stopio, ac ni fyddan nhw’n cael parhau ar eu taith yn ystod oriau brig, fel yr wyf i ar ddeall. Fe fydd hyn yn effeithio ar nifer o barciau gwyliau yng nghanolbarth a gogledd Cymru gan fod Hull yn ganolfan ar gyfer diwydiant gweithgynhyrchu carafanau’r DU, ac mae dosbarthu carafanau yn amserol ac yn effeithiol, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer dichonoldeb y sector. Felly, fe fyddwn i’n gwerthfawrogi pe byddai’r Gweinidog dros Drafnidiaeth yn cydgysylltu â heddlu Manceinion Fwyaf ac fe allai datganiad ddilyn i egluro'r effaith ar Gymru yn hyn o beth, oherwydd, yn amlwg, ceir effaith sylweddol ar y sector twristiaeth yma gan y symudiadau hyn, ac, fel yr wyf i ar ddeall, nid oes unrhyw ymgynghoriad wedi bod. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes rhywun wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.
Yn ail, mae lefelau uchel afonydd a llifogydd i lawr Afon Clywedog yn ddiweddar wedi bod yn destun pryder. Clywais eich ymateb i Janet Finch-Saunders ac rwy'n cydnabod bod datganiad wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond mae fy mhryder penodol i’n canolbwyntio ar reoli’r gwaith o dynnu dŵr o ddau argae yn fy etholaeth i, a byddwn i’n ddiolchgar—. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ar safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran rheoli lefelau dŵr yn argaeau Cymru ac, yn benodol, wrth gwrs, y ddau y mae gennyf ddiddordeb ynddyn nhw, sef Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy.
Diolch am y materion hynny. O ran y cyntaf, fe fyddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod Gweinidog yr economi yn ysgrifennu atoch chi ynghylch unrhyw drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda heddlu Manceinion neu'r awdurdod lleol yno i sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd fel nad yw'n effeithio ar ein diwydiant twristiaeth yn eich rhan chi o'r byd yn enwedig.
Ac a gaf i awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ynghylch tynnu dŵr o'r ddau argae sy'n peri pryder arbennig ichi?
Trefnydd, yn dilyn y pwyntiau a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog cydraddoldeb am ei datganiad ysgrifenedig mewn ymateb i’r digwyddiadau ofnadwy yn Seland Newydd ac yn awr, wrth gwrs, yn yr Iseldiroedd. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth ailystyried a allwn ni, mewn gwirionedd, gael hwn wedi ei gyhoeddi fel datganiad llafar er mwyn ein galluogi ni i graffu arno a herio’r Llywodraeth ymhellach ynghylch pa gamau a gymerir i atal eithafiaeth asgell dde ac eithafiaeth o unrhyw fath.
Wrth gwrs, mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi llawer o’r gwaith presennol sydd eisoes yn digwydd ac mae hynny'n sicr yn waith y byddai pob un ohonom ni yn Plaid Cymru yn ei groesawu'n fawr, ond mae'r Dirprwy Weinidog yn ei datganiad yn cyfeirio, wrth gwrs, at noswyl a drefnwyd ddydd Gwener gan Cyngor Mwslimiaid Cymru. Roeddwn i’n falch iawn o weld y Prif Weinidog ac uwch-wleidyddion eraill yno. Roeddwn i’n falch iawn o gynrychioli Plaid Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio ni'n cael ein herio'n gryf iawn gan un o'r siaradwyr Mwslimaidd ifanc a ddywedodd, 'Mae’n rhaid ichi wneud yn well'. Ac mae arnaf ofn fy mod i o'r farn mai’r hyn sydd gennym yn y datganiad ysgrifenedig yw datganiad o'r hyn sydd eisoes wedi ei wneud, ac mae hynny'n dda, ond rwy'n credu ei bod hi’n ddyletswydd arnom ni, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, i ddarparu sicrwydd, ond i edrych ar gamau gweithredu ychwanegol eraill hefyd. Er enghraifft, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y Llywodraeth yn ymrwymo i ariannu ymchwil i weld beth sy'n strategaethau effeithiol er mwyn ymdrin ag eithafiaeth o bob math a gwrthsefyll ei dwf, oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw rhai o'r strategaethau sy’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, drwy'r rhaglen Prevent, er enghraifft, yn llwyddiannus bob amser.
Felly, rwy'n gofyn a yw’n bosibl i chi ailystyried—. Wyddoch chi, yn ddelfrydol, dadl yn amser y Llywodraeth a fyddai orau oherwydd y byddwn ni’n gallu cyfrannu'n llawn, ond, os na fydd amser am ddadl ar gael—ac rwy'n gwerthfawrogi faint o bwysau amser sydd yn y Siambr hon—ac os bydd dadl yn amhosibl, rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig fel datganiad llafar er mwyn gallu gofyn rhagor o gwestiynau.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, roedd y Dirprwy Weinidog yma i glywed eich cyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi rhagor o ystyriaeth i'r mater.
A gaf i ddechrau drwy ymuno ag arweinwyr ar draws y Siambr a'r Prif Weinidog i longyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych dros y penwythnos? Fe ddylent fod yn hynod o falch o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n dod yn eu holau o Japan ddiwedd mis Tachwedd gyda Chwpan y Byd gan ddod â'r fasnach twristiaeth gyda nhw, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato o'r blaen.
Llywydd, rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Flaenau Gwent wedi cymryd diddordeb brwd yn y Cwpan Irn-Bru, a dyna pam yr wyf yn gobeithio y bydd ef, ynghyd â’r Trefnydd, yn dymuno’r gorau i Nomadiaid Cei Connah ar gyfer eu rownd derfynol yn erbyn Ross County dros y penwythnos. Mae pawb yng Nglannau Dyfrdwy yn eu cefnogi'n llwyr, ac rwyf yn edrych ymlaen at wneud y daith i fyny i Inverness y penwythnos yma ac at gwrdd â chefnogwr sydd wedi hedfan o Awstralia ar gyfer y gêm. Dyna pa mor bwysig ydyw i bobl o’r gogledd.
Ond, Llywydd, peidiwch â phoeni, nid yw’r chwaraeon yn gorffen yn y fan yna, mae mwy i ddod. Ddiwedd y mis, fe fyddaf innau yn cau careiau fy esgidiau. Byddaf yn dod allan o’m hymddeoliad ac yn chwarae i’r Offside Trust yn erbyn actorion Hollyoaks. Ond ar nodyn mwy difrifol, Dirprwy Lywydd, a wnaiff y Trefnydd ddatganiad a threfnu i'r Gweinidog perthnasol wneud datganiad ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gefnogi elusennau fel Offside Trust sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar gam-drin mewn chwaraeon am byth? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Jack Sargeant am godi'r hyn sydd yn fater difrifol a phwysig iawn. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn y portffolio chwaraeon, fy mod yn awyddus iawn i archwilio sut y gallem gydweithio orau â'r cyrff llywodraethu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel pan eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Gwn y bydd y Gweinidog chwaraeon presennol yn ysgrifennu atoch gyda diweddariad ar y mathau hynny o drafodaethau. Ac, wrth gwrs, rwy'n manteisio ar bob cyfle i ddymuno'r gorau i Grwydriaid Cei Connah, fel y gwnaf i'r rhan fwyaf o dimau—[Chwerthin.]—a diolchaf i Jack am godi hyn eto.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn enwedig os nad ydyn nhw'n cael eu codi yn y cwestiynau amserol yfory? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r sefyllfa gyda chwmni adeiladu Dawnus, ac er fy mod i'n diolch i Lywodraeth Cymru am y datganiad ysgrifenedig byr a dderbyniwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu y byddai'n werthfawr iawn i'r Aelodau gael y cyfle i ofyn cwestiynau, oherwydd bod cwymp cwmni sy'n mor bwysig i economi Cymru yn bendant yn werth datganiad llafar, yn fy marn i.
Yn ail, rwyf yn ategu cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen ddinesig Bae Abertawe. Er fy mod i'n rhannu ei rwystredigaethau ynghylch pa mor gyflym y mae peth o'r arian yn cael ei ryddhau, nid yw hynny'n syndod o ystyried bod rhai cwestiynau difrifol wedi eu codi ynglŷn â rheoli risg, gwrthdaro buddiannau o bosibl, ar draws strwythur llywodraethu'r fargen ddinesig. Os cawn ni ddatganiad llafar am hynny, credaf y byddai hynny'n eithriadol o bwysig, oherwydd mae dyfodol y fargen hon yn bwysig ac mae'n gyfle mor bwysig i'n rhanbarth ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys eich etholaeth chi, a byddai'n drueni os na fyddwn ni'n cael cyfle i drafod hyn yn llawn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn cofio bod Ken Skates wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar Dawnus yn syth ar ôl y newyddion ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac mae swyddogion yn monitro cynnydd y gweithdrefnau gweinyddu. Byddwn yn sicr yn gweithio â'r gweinyddwr, pan gaiff ei benodi, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer pawb yr effeithir arnynt. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner yn y sector preifat i gefnogi staff uniongyrchol sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion. Ac rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, bod hyn yn amser annifyr iawn i bawb dan sylw, a byddwn yn ceisio cefnogi unigolion sydd wedi eu heffeithio i gael swyddi newydd tymor hir a diogel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu i geisio sicrhau y gellir nodi lleoliadau newydd ar gyfer prentisiaid fel eu bod yn gallu gorffen eu rhaglenni hyfforddi. Ac, wrth gwrs, bydd rhai effeithiau sylweddol ar gadwyn gyflenwi Cymru, ac felly rydym ni'n gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i gefnogi'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt.
Yn amlwg, bydd rhai contractau sector cyhoeddus parhaus sylweddol yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio, a byddwn yn gweithio â'r gweinyddwr er mwyn sicrhau bod yr oedi, y tarfu ac unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu cadw cyn lleied â phosibl. Rwyf wedi siarad am y mater hwn gyda Ken Skates y bore yma, a gwn y bydd yn croesawu'r cyfle yn ystod y cwestiynau yfory i ddarparu rhagor o wybodaeth ac i sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei ddiweddaru cymaint â phosibl.
Hoffwn innau hefyd ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma, yn gyntaf ar y cyfryngau a mynediad at newyddion yng Nghymru. Rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf bod dwy orsaf fasnachol sy'n gwasanaethu Cymru yn dileu eu sioeau brecwast a gynhyrchir yn lleol, a chlywsom yr wythnos diwethaf fod Radio Cymru yn dileu Good Morning Wales ac yn ei disodli ym mis Mai. Gyda'i gilydd, mae hwn yn fater arwyddocaol i wlad sydd eisoes yn brin iawn o gyfleoedd i gael gafael ar newyddion a materion cyfoes yn ymwneud nid yn unig â llywodraethu Cymru, ond yr hyn sy'n digwydd yn y wlad hon. A gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn gallu cael safbwynt ar y materion hyn a rhoi cyfle i'r Aelodau drafod a dadlau'r materion hyn ac yna edrych ymlaen at sut y gallem fynd i'r afael â'r materion real iawn sy'n ein hwynebu o ran diffyg newyddion a materion cyfoes yn y wlad hon.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael, gan y Llywodraeth, os yw'n bosibl, yw dilyniant ar y cynnig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru gerbron yr Aelodau rai wythnosau yn ôl a oedd yn cynnwys ymrwymiad i baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus i ganiatáu i'r cyhoedd leisio barn derfynol ar unrhyw drafodaethau neu unrhyw gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, gwn fod y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trafodaethau ynghylch yr argyfwng Undeb Ewropeaidd, os mynnwch chi, yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn syth ar ôl y datganiad hwn. Ond fe hoffwn i glywed gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi bod yn ei wneud i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd wedyn ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddechrau paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais o'r fath. Credaf y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau ddeall pa gamau y mae Gweinidogion unigol wedi bod yn eu cymryd a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd er mwyn hyrwyddo'r polisi hwn ac er mwyn sicrhau bod pleidlais gyhoeddus yn digwydd i alluogi pob un ohonom i gael gair olaf democrataidd ar y materion yn ymwneud â Brexit a'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â radio masnachol yn y lle cyntaf, yn amlwg, mae'r sector yn gwneud cyfraniad hanfodol pan ein bod yn ystyried pwysigrwydd sicrhau lluosogrwydd gwasanaethau yng Nghymru. Fel Llywodraeth, yn sicr nid ydym ni'n dymuno gweld rheolau lleolrwydd presennol ynghylch radio masnachol yn cael eu llacio ymhellach na'u diddymu. Rydym wedi pwysleisio hyn yn rheolaidd i Ofcom, a hefyd, rydym wedi codi'r mater hwn yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru i radio yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i weithrediadau radio masnachol fod yn hyfyw yn ariannol er mwyn bod yn gynaliadwy, ond rydym yn annog Ofcom i ymgysylltu â'r diwydiant i nodi dewisiadau eraill i gefnogi cynaliadwyedd radio masnachol, heb lacio'r rheolau lleolrwydd hynny, yn enwedig ynglŷn â darpariaeth newyddion lleol.
O ran y mater o ddarpariaeth amser brecwast BBC News, BBC Cymru neu BBC Wales yn y dyfodol, deallaf y bu cynigion i newid hynny, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi eich pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog perthnasol, a fydd yn gallu gwneud sylwadau ar eich rhan.
Ac, fel y dywedwch, mae gennym ddatganiad gan y Prif Weinidog ar Brexit fel yr eitem nesaf yn y Siambr y prynhawn yma, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi'r mater yn ystod y datganiad hwnnw.
Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar ariannu prentisiaethau, wythnos yn ôl, yn y Siambr, cyflwynodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod ei gyfraniad, dywedodd bod
tric consurio yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ariannu prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i ni i adlewyrchu ardoll. Yr ardoll yw... treth ar fusnesau ac nid yw'r cyllid wedi ei drosglwyddo i ni—torrwyd oddeutu £120 miliwn gan y Llywodraeth yn Lloegr oddi ar brentisiaethau sector cyhoeddus, ac, wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni i ariannu'r cynllun hwn.
Fodd bynnag, dywedodd llythyr dyddiedig 20 Gorffennaf 2018 oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol y DU at Eluned Morgan, a hi oedd, ar y pryd, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, fod y swm o arian a oedd yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan fformiwla Barnett wedi'i warantu yn yr adolygiad o wariant. Mae'r swm yn defnyddio £128 miliwn yn 2017-18, yn codi i £133 miliwn yn 2018-19 ac i £138 miliwn yn 2019-20. Felly, a gawn ni ddatganiad yn egluro (a) faint o arian gafodd Llywodraeth Cymru o dan y system flaenorol, (b) faint mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod ei dalu i'r ardoll, y mae'n rhaid wedyn i Llywodraeth Cymru wneud iawn amdano gyda swm y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ac (c) cadarnhau ei bod wir yn derbyn y ffigurau sydd yn y llythyr hwnnw oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref fis Gorffennaf diwethaf, neu fel arall a oes gennych chi dystiolaeth i'r gwrthwyneb?
Yn ail, a gaf i ddatganiad gan Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar y gefnogaeth ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth o led safonol yng Nghymru? Ac rwy'n siŵr fod nifer ohonom ni wrth ein boddau â'n rheilffyrdd treftadaeth. Gofynnwyd i mi ddod ag erthygl a fu yn y Denbighshire Free Press yn gynharach y mis hwn ar brosiect Corwen rheilffordd Llangollen i sylw cynrychiolwyr etholedig. Roedd hwn yn dweud bod gwirfoddolwyr sy'n adeiladu'r cyswllt rhwng dwy dref yn Sir Ddinbych yn dweud bod angen £10,000 arnynt i gwblhau'r prosiect. Maen nhw wedi gorffen 10 milltir o reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen ers i drenau roi'r gorau i redeg 45 mlynedd yn ôl, mae platfform wedi ei greu, ond mae bwlch yn dal i fod yn yr arglawdd rhwng yr orsaf newydd yng Nghorwen a gweddill y rheilffordd, a'r nod yw llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r prosiect ar gyfer yr orsaf yn costio tua £1 miliwn. Mae tua £600,000 o hyn yn waith sydd wedi ei gyflawni gan wirfoddolwyr, ac maen nhw'n gobeithio, gorffen hyn cyn tymor yr haf, oherwydd bod denu pobl i ymuno â'r trên yng Nghorwen yn hanfodol a bydd y dref yn elwa ar yr ymwelwyr ychwanegol hefyd.
Os caf i alw am ddatganiad ar gymorth ar gyfer ein rheilffyrdd treftadaeth o led safonol—oherwydd gwyddom fod Llywodraeth Cymru yw cefnogi'n rheilffyrdd treftadaeth cul—a chymeradwyo ac ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r ymdrech wirfoddol enfawr honno, sydd nid yn unig yn cyflawni prosiectau treftadaeth, ond sydd hefyd yn cynnig cymaint i dwristiaeth ac economïau ehangach ardaloedd y mae wir angen yr ysgogiad hwnnw arnynt.
Diolch am grybwyll hynny. Fe wnaf i yn sicr ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder sydd ei hangen arnoch chi ynghylch yr ardoll prentisiaeth, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd y Gweinidog priodol yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r rheilffyrdd treftadaeth lled safonol, ond fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ymuno â chi i longyfarch y gwirfoddolwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud er mwyn diogelu'r rhan hon o'n treftadaeth a'n hanes, a hefyd i hybu a gwella twristiaeth.
Ac yn olaf, Mohammad Asghar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â'r canfyddiadau diweddar o ran sgrinio serfigol yng Nghymru? Dywedodd Sgrinio Serfigol Cymru bod traean o'r menywod o dan 30 mlwydd oed yn gwrthod gwahoddiadau i gael prawf canser ceg y groth, sy'n glefyd ofnadwy mewn gwirionedd. Canser ceg y groth yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc. Fel gyda phob math o ganser, po gynharaf y canfyddir y clefyd, y gorau y gellir ei gyflawni ar gyfer y claf. A allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r hyn y mae hi'n bwriadu ei wneud i gynyddu nifer y merched ifanc sy'n cael y profion sgrinio hanfodol hyn yng Nghymru?
A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yn y Siambr hon yw ynglŷn â chydlyniant a diogelwch cymunedol. Yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yn Seland Newydd, rwy'n gobeithio y bydd y wlad hon yn gosod esiampl fel gwlad gariadus, oddefgar ac yn hyrwyddo cydlyniant ymysg cymunedau a lles pawb sy'n byw yn y rhan hon o'r byd, a'i drafod yn y Siambr yn rheolaidd, i arwain y byd o ran sut yr ydym ni'n byw a sut yr ydym ni'n gwella ein safon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater o ganser ceg y groth, rwy'n eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, ond yn cydnabod, fel y dywedwch chi, fod diagnosis cynharach yn hynod bwysig, a dyna pam mae'r amseroedd ymateb ar gyfer canlyniadau profion ceg y groth yng Nghymru—rydym ni'n gweithio'n galed iawn er mwyn sicrhau eu bod yn rhagori ar ein targed o 95 y cant o'r canlyniadau yn cael eu derbyn o fewn pedair wythnos, gyda 99.2 y cant o fenywod mewn gwirionedd yn cael eu prawf o fewn yr amser safonol, felly credaf fod hynny'n dyst i'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwnnw. Ond fel y dywedais yn gynharach, yn sicr nid ydym ni'n llaesu dwylo, a byddem yn annog Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgyrch #loveyourcervix, sydd wedi'i hanelu yn arbennig at ferched ifanc, sef y grŵp sydd leiaf tebygol ar hyn o bryd o fynd i gael eu sgrinio.
Ni allaf ond cytuno ag ac ategu eich sylw ynglŷn â Chymru'n wlad gariadus, groesawgar, oddefgar, a gobeithiaf yr adlewyrchwyd hynny yn y datganiad ysgrifenedig a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn gynharach heddiw.
Diolch yn fawr iawn, Rebecca Evans.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Prif Weinidog ar y newyddion diweddaraf am drafodaethau'r UE, a galwaf ar Mark Drakeford, y Prif Weinidog.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfle arall eto i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau pendant i osgoi'r trychineb o Brexit heb gytundeb. Naill ai byddai'r Prif Weinidog yn llwyddo i gael ei chytundeb drwy'r Senedd, gan glirio'r ffordd ar gyfer estyniad byr i erthygl 50 i basio'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen, neu byddai'r Senedd yn dweud wrthi am ofyn i'r Cyngor Ewropeaidd am estyniad i erthygl 50 beth bynnag. Byddai cyfres o bleidleisiau seneddol yn rhoi cyfle i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi diwedd ar yr ansicrwydd sy'n niweidio ein heconomi ac sy’n effeithio ar fywydau ein cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig a thramor.
Ond, Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni’n cyrraedd diwedd yr wythnos heb symud ymlaen o gwbl. Er gwaethaf barn glir Tŷ'r Cyffredin, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gofyn am estyniad eto, nac wedi dweud yn gyhoeddus nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn. Mae methiant trychinebus cytundeb y Prif Weinidog am yr ail waith yn cadarnhau beth roedden ni'n gwybod o'r dechrau. Y Democratic Unionist Party a'r European Research Group yw'r union grwpiau sydd eisiau inni ymadael heb gytundeb, ac roedd dibynnu arnyn nhw i bleidleisio dros gytundeb sydd ddim yn eu plesio nhw—nac yn plesio’r rhai eraill ohonom ni sydd am leihau niwed economaidd Brexit—yn hollol ddwl.
Yr unig beth lwyddodd y Prif Weinidog i’w wneud yr wythnos ddiwethaf oedd creu mwy o niwed i fuddiannau ein gwlad, a’i gwneud yn fwy tebygol y byddwn yn ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth.
Yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fe welsom ni ddrama ffug taith funud olaf Mrs May i Strasbwrg i gael cyfres newydd o ymrwymiadau ail-law gan 27 o wledydd yr UE. Roedd yr ymrwymiadau hyn eisoes ymhlyg neu'n amlwg yn y cytundeb ymadael ym mis Tachwedd ac y cefnodd y Prif Weinidog arno ym mis Ionawr. Yna fe wnaethom ni edrych mewn syndod wrth iddi fethu â sicrhau cymeradwyaeth ei swyddog cyfraith ei hun o ran yr honiadau yr oedd hi wedi eu gwneud.
A, drwy ddangos y gwir—fod y 27 o wledydd yr UE wedi gwneud popeth posib i wneud y cytundeb yn dderbyniol heb gefnu ar egwyddorion yr UE o undod rhwng aelod-wladwriaethau a pharchu'r farchnad sengl—mae Prif Weinidog y DU wedi helpu 27 o wledydd yr UE i ddangos bod unrhyw fethiant parhaol yn y trafodaethau hyn yn ganlyniad i gamreoli gwleidyddol y Llywodraeth Dorïaidd.
Y canlyniad yw ein bod ni bellach ar ymyl y dibyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog yn llwyddo. Os, fel y mae hi yn awr yn ymddangos sy'n debygol, y bydd hi'n gofyn am estyniad i Erthygl 50 heb unrhyw gynllun clir, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y 27 o wledydd yr UE yn llwyddo i gael yr unfrydedd angenrheidiol sydd ei angen i gytuno i hynny. Os lwyddan nhw, hwyrach y byddant yn gosod amodau, gan gynnwys y gofyniad i gynnal etholiadau Ewropeaidd ymhen dau fis, y gallai Llywodraeth y DU, yn ei thro, eu gwrthod.
A, hyd yn oed os cytunir ar estyniad, byddwn mewn maes dieithr. Yn llawer rhy aml yn y broses hon, Dirprwy Lywydd, mae Saeson cenedlaetholgar cibddall y mudiad Brexit yn anghofio bod angen i ddwy senedd gymeradwyo unrhyw gytundeb. Mae'n rhaid i Senedd Ewrop bleidleisio arno erbyn 18 Ebrill—ei chyfarfod llawn olaf cyn cael ei hethol—neu bydd angen i'r broses ddechrau gyda Senedd Ewrop newydd a gwahanol iawn o bosib yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nawr, hyd yn oed heb ymyrraeth llefarydd Tŷ'r Cyffredin ddoe, roedd hi'n amlwg nad oedd gan y Prif Weinidog unrhyw le i fynd. Erbyn y trydydd diwrnod o bleidleisiau'r wythnos diwethaf, roedd ei Chabinet wedi chwalu. Caeodd yr Ysgrifennydd Brexit y ddadl drwy gyflwyno'r cynnig ar gyfer yr estyniad ac annog Aelodau Seneddol i beidio â phleidleisio fel yr oedd yntau yn bwriadu ei wneud, ochr yn ochr â phump o Weinidogion Cabinet eraill.
Sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod yn pleidleisio ddwywaith: unwaith o blaid, ac unwaith yn erbyn y cynnig yn enw ei Brif Weinidog ei hun. Pasiwyd y cynnig hwnnw gyda phleidleisiau'r wrthblaid yn unig. Mae gennym ni Lywodraeth sy'n dal i ddioddef gorchfygiad ar ôl gorchfygiad, Cabinet mor rhanedig ag erioed, a Phrif Weinidog na all uno ei phlaid ei hun, heb sôn am y genedl. O ran y mater pwysicaf i'r Llywodraeth, nid oes unrhyw arweinyddiaeth, nid oes cyfrifoldeb ar y cyd ac nid oes unrhyw reolaeth.
Does bosib, Dirprwy Lywydd, fod yr amser wedi dod pryd mae'n rhaid i'r Llywodraeth, gyda neu heb y Prif Weinidog, newid cwrs er mwyn meithrin consensws traws-bleidiol—nid er mwyn ceisio dyhuddo llond llaw o bobl anfoddog a gwrthwynebus, ond drwy sicrhau cymorth gan arweinwyr y pleidiau o bob rhan o Dŷ'r Cyffredin—ac i wneud hynny'r sail yr ydym ni'n ceisio estyniad i Erthygl 50 arni.
Ond, Dirprwy Lywydd, ni fydd hyn yn digwydd os yw'r Llywodraeth a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Torïaidd yn cael eu llyffetheirio gan ofynion y Prif Weinidog: 'na' i'r farchnad sengl; 'na' i undeb tollau; 'na' i agwedd synhwyrol i ymfudo. Mae oblygiadau ei strategaeth drychinebus a gafodd ei disgrifio yn ei haraith yn Lancaster House yn dod i'w penllanw trychinebus. Rydym ni wedi gweithio'n galed i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ond dim ond hyn a hyn a allwn ni ei wneud i liniaru beth fyddai'n drychineb llwyr i Gymru.
Rydym ni'n parhau i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol ar bob cyfle. Aeth Vaughan Gething yr wythnos diwethaf i gyfarfod cyntaf gweinidogion iechyd y pedair gwlad. Rydym ni wedi cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon o'n Cabinet ein hunain ac o'n his-bwyllgor Cabinet ein hunain ar ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn siarad â David Lidington y prynhawn yma, ar ôl cyfarfod ag aelodau o Senedd Ewrop yn Strasbourg yr wythnos diwethaf.
Nawr, Dirprwy Lywydd, fel yr wyf i wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn ein barn ni, mae dwy ffordd y gellid gwneud cynnydd. Rydym ni'n parhau i ddadlau dros y polisi y buom ni'n ei arddel erioed ers y refferendwm: ffurf ar Brexit sy'n rhoi buddiannau economaidd ein gwlad o flaen ymagweddu a gorchest wleidyddol, ac sy'n rhoi swyddi cyn ymadroddion rhwysgfawr ond gwag fel adfer rheolaeth o'n harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau. A, Dirprwy Lywydd, nid yn unig yw ein cynllun yn gywir mewn egwyddor, ond rydym ni hefyd yn credu bod modd ei gyflawni'n ymarferol. Byddai aildrafod y datganiad gwleidyddol yn y modd hwn, gan ymrwymo i gymryd rhan mewn undeb tollau ac yn y farchnad sengl, ynghyd â chael cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei groesawu, fel y gwyddom ni, gan 27 o wledydd yr UE, ac, rydym ni'n credu, y gellid cyflawni hyn yn gyflym a'r tu allan i'r cytundeb ymadael ei hun.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymalau drafft i ddangos sut y gellid cynnwys newidiadau o'r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol—enghraifft arall o Gymru yn cyflwyno atebion creadigol i broses sydd fel arall mewn parlys llwyr. Mae'r parlys hwnnw, Dirprwy Lywydd, yn deillio o gymysgedd gwenwynig o anghymhwysedd ac anhyblygrwydd sydd wedi dod yn nodwedd o Lywodraeth y DU. Oherwydd ei bod hi mor anodd cael ffydd yn ei gallu i sicrhau Brexit trefnus, dyna pam ein bod ni'n parhau i gefnogi ail bleidlais gyhoeddus os na ellir fel arall dod o'r parlys hwnnw. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi'i nodi yn y Siambr hon, ac rwy'n ei hailadrodd eto heddiw, ond ni ddylai unrhyw un, fel y gwyddom ni, dybio y bydd hynny'n syml.
Mae ail bleidlais yn gynnig sydd eto i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddai angen estyniad hirach na 30 Mehefin, gyda'i holl oblygiadau ar gyfer etholiadau Ewropeaidd. A byddai ail ymgyrch refferendwm yn cael ei hymladd mewn ffordd a fyddai'n anochel yn peri rhwyg. Ond gadewch i mi ailadrodd eto: Os yw Tŷ'r Cyffredin yn penderfynu mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd drwy'r gors a grëwyd, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu yn y modd hwnnw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n sefyll ar ymyl y dibyn. Gyda dim ond 10 diwrnod nes yr ydym ni i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes cytundeb, ac ychydig iawn o arwyddion sydd gan y Prif Weinidog fod parodrwydd neu gynllun i ganfod cytundeb newydd. Boed iddi newid cwrs. Boed iddi roi anghenion y wlad cyn ei phlaid doredig. Boed iddi estyn allan at bobl eraill sy'n barod i helpu, a boed iddi wneud hynny cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma?
Mae'n ofid mawr fod rhai gwleidyddion, ym mhob plaid, wedi defnyddio'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd fel pêl droed wleidyddol, ac rwy'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi dewis cyfrannu at hyn drwy ei wrthwynebiad cyson i unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud i dorri drwy'r parlys. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl ledled y DU yn teimlo rhwystredigaeth fawr, gyda chyn lleied o amser cyn inni adael yr UE, gyda'r pendilio cyson sy'n parhau i dra-arglwyddiaethu yn y byd gwleidyddol. Ac roeddwn i wedi gobeithio o leiaf yn y sefydliad hwn, y gallai pobl Cymru fod yn siŵr y byddai dadl aeddfed, mewn difrif, ar y mater mwyaf sy'n ein hwynebu fel Aelodau Cynulliad. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Brif Weinidog Cymru yw gofyn pa drafodaethau uniongyrchol y mae wedi eu cael gyda Phrif Weinidog y DU ac Arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan i sicrhau yr ymdrinnir ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gadarn, yn deg a heb yr angen am ennill pwyntiau gwleidyddol.
Fel y gŵyr y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf pleidleisiodd Aelodau Seneddol i ganiatáu estyniad i Erthygl 50. Wrth gwrs, bydd hyd yr estyniad hwnnw yn dibynnu ar ba un a gaiff cytundeb presennol Prif Weinidog y DU ei gymeradwyo'n derfynol gan San Steffan. Mae Prif Weinidog Cymru yn gwbl ymwybodol fy mod i wedi cefnogi cytundeb Prif Weinidog y DU oherwydd fy mod yn credu y bydd yn parchu canlyniad y refferendwm, ond byddai hefyd yn sicrhau y bydd ein busnesau yn gallu parhau i fasnachu'r ddwy ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, os cymeradwyir y cytundeb yn y pen draw, yna wrth gwrs bydd yn rhaid ymestyn Erthygl 50 er mwyn pasio'r ddeddfwriaeth. Efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynghylch yr estyniad i Erthygl 50. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddweud wrth y Prif Weinidog y credaf y bydd hi'n annerbyniol i bobl a busnesau Cymru pe byddai'r Prif Weinidog yn annog ymestyn Erthygl 50 y tu hwnt i fis Mehefin, gan wneud y rhwystredigaeth yn waeth ac ychwanegu amhariad yr etholiadau Ewropeaidd at broses Brexit. Bydd llawer o bobl yn cwestiynu perthnasedd yr etholiadau hyn i sefydliad yr ydym ni i fod, ac y byddwn ni yn ei adael.
Mae'r Prif Weinidog newydd ddweud yn ei ddatganiad bod adfer rheolaeth dros ein harian, ein ffin a'n cyfreithiau yn eiriau gwag, ond dyma'n union yr hyn a bleidleisiodd pobl Prydain a Chymru amdano, a dyma'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei gyflawni. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fod Prif Weinidog Cymru eisiau gweld cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd, ond mae Prif Weinidog y DU wedi achub y blaen arno, ac wedi ymrwymo i'w cryfhau unwaith ein bod ni mewn gwirionedd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n cytuno gyda'r Prif Weinidog ei bod hi'n hollbwysig y gwneir popeth i liniaru effaith gadael heb gytundeb, yn enwedig ar gyfer busnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw yn rhan annatod o farchnadoedd Ewropeaidd. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymwybodol iawn o'r effaith ddifrifol y gallai tariffau'r UE ynghyd â'r sefyllfa bosib o Brexit heb gytundeb ei chael ar lawer o gynhyrchwyr llai a chadwyni cyflenwi ym mhob agwedd ar ddiwydiant Cymru, yn enwedig ffermwyr mynydd Cymru, a gaiff eu taro gan dariffau uwch. Gyda fawr ddim amser yn weddill, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha drafodaethau brys y mae wedi eu cael ac yn eu cael gydag arweinwyr busnes Cymru.
Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, rwy'n awyddus i weithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pryd y gallaf er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru orau, ac rwyf eisiau ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Wrth gwrs, gallai digwyddiadau allweddol yr wythnosau diwethaf gael effaith ddifrifol ar allu'r DU i ddatblygu cytundebau masnach ryngwladol, a fydd yn hollbwysig wrth helpu i ddatblygu economi Cymru ar ôl Brexit, fel y byddai dymuniad Plaid y Prif Weinidog i'n rhwymo i undeb tollau yr UE—yr union beth sy'n nacau inni'r gallu i fod â llais mewn cytundebau masnach. Pan ffurfiodd y Prif Weinidog ei Lywodraeth, aeth ati'n ddiymdroi i benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros Brexit, a Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros fasnach ryngwladol. Yng ngoleuni'r penodiadau hynny, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa ganllawiau swyddogol ac asesiadau a dderbyniodd gan y ddwy adran ynglŷn ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gallu Cymru i fod yn rhan o gytundebau masnach ryngwladol yn y dyfodol? Efallai y gallai hefyd gadarnhau pa waith mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud i ddatblygu ei strategaeth fasnach ryngwladol ei hun, fel y gall Cymru ddechrau arni'n syth ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd a gweithio gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa sy'n hollol newydd iddynt. Mae'n bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig yma, sef parchu canlyniad refferendwm 2016 a sicrhau'r ymadawiad rhwyddaf posib â'r Undeb Ewropeaidd. Yn y gorffennol, mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yr un mor bryderus â minnau ynglŷn â natur gyfansoddiadol y DU ers Brexit a lle Cymru yn hynny. Felly, efallai mewn ymateb i fy nghwestiynau y prynhawn yma y bydd hefyd yn achub ar y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar asesiad Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar Gymru mewn cyd-destun cyfansoddiadol.
Dirprwy Lywydd, byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gweithio lle gallwn ni ag eraill i amddiffyn buddiannau Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant Cymru ar ôl Brexit ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog nawr yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod.
Diolch i'r Aelod am gyfres o gwestiynau pwysig. Rwyf eisiau wfftio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau, oherwydd yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi coleddu'r agwedd o wrthwynebu unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei wneud yn y maes hwn. Rhoesom groeso cymedrol i araith Fflorens, pan ddechreuodd y Prif Weinidog gyfaddawdu ar yr amodau yr oedd hi wedi eu nodi yn ei haraith yn Lancaster House. Rhoesom groeso cymedrol i'w chynllun Chequers. Nid Llywodraeth Cymru oedd y broblem a oedd gan y Prif Weinidog ynghylch y mater hwnnw; ond ei hanawsterau wrth geisio cael cymorth o fewn ei phlaid ei hun. Faint o Weinidogion Cabinet a adawodd ei Llywodraeth o ganlyniad i'r cynllun Chequers? A faint mae hi wedi parhau i'w colli bron yn wythnosol fyth ers hynny? Pan fo Llywodraeth y DU wedi symud i'n cyfeiriad ni, rydym ni wedi ceisio croesawu hynny a'u hannog i wneud hynny. Yn y pen draw, pendantrwydd Prif Weinidog y DU mai ei chynulleidfa bwysicaf yw'r rhai sydd yn eistedd y tu ôl iddi ac nad ydynt yn fodlon derbyn ei chynllun sydd wedi ei thanseilio.
Mae'r Aelod yn gofyn pryd siaradais â Phrif Weinidog y DU ddiwethaf; siaradais â hi yr wythnos diwethaf. Fe wnes i gyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid ychydig cyn dechrau'r hanner tymor hwn, ac rwyf wedi trafod gyda'r ddau ohonyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld y prynhawn yma bod arweinydd yr wrthblaid yn cyfarfod ag arweinwyr y pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio gwneud beth ddylai'r Prif Weinidog fod wedi bod yn ei wneud ers wythnosau lawer bellach, sef estyn at y pleidiau eraill i ddod o hyd i wahanol fath o gydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin lle gellid dod i gytundeb.
Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yn hollol ddidwyll yr hyn y mae Arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud ynghylch dymuno chwarae rhan adeiladol ei hun, ac rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio ei swyddogaeth yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru i eiriol dros Gymru ar y Prif Weinidog ei hun, oherwydd cytunais â'r hyn a ddywedodd am effaith Brexit heb gytundeb o ran goblygiadau tariff a di-dariff ar economi Cymru, ar ein sector gweithgynhyrchu, ar ein sector amaethyddol. Mae'r rheini'n anawsterau mawr iawn sy'n ein hwynebu pe byddai Brexit heb gytundeb yn digwydd, a byddai croeso i unrhyw eiriau yng nghlust y Prif Weinidog am yr anawsterau hynny.
Gofynnodd Aelod beth ydym ni'n ei wneud i sicrhau ein bod mewn cysylltiad â busnesau Cymru. Wel, rydym ni'n parhau i annog busnesau Cymru i ddefnyddio'r porth Brexit a sefydlwyd gennym ni—mae 30,000 wedi ymweld â hwnnw. Ond un peth yw ymweld â'r porth, peth arall yw derbyn ei gyngor a gwneud y gwaith diagnostig y mae angen i gwmnïau ei wneud i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Rydym ni'n defnyddio cronfa bontio'r UE sydd gennym ni i barhau i gefnogi busnesau a sectorau eraill yn economi Cymru i baratoi ar gyfer y byd hwnnw.
Yr hyn na fyddwn ni'n gallu ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cofleidio'r ffantasi sy'n bodoli ymysg gwleidyddion Ceidwadol fod y byd yn aros am Brydain anturus, fel pan fyddwn ni'n troi ein cefn ar ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig, y caiff hynny ei ddisodli gan yr holl gytundebau hyn a fydd yn cael eu llunio ar draws y byd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod y cytundebau yr ydym ni eisoes yn eu mwynhau drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwrthod i ni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ymhell o gael mwy o gytundebau masnach ledled y byd, byddwn yn dechrau gyda llawer llai na'r hyn sydd gennym ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r UE.
Gadewch imi derfynu gyda'r sylw olaf pwysig iawn a wnaeth arweinydd yr wrthblaid: natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae hwn yn fater y mae fy rhagflaenydd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei gylch ledled y Deyrnas Unedig, wrth geisio dal sylw pobl eraill ar y ffyrdd hynny o weithio o fewn y Deyrnas Unedig a fydd yn angenrheidiol er mwyn iddi barhau i weithredu'n llwyddiannus unwaith y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dechreuwyd ar y gwaith gan Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y DU mewn cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth y llynedd. Mae'r gwaith hwnnw eto i'w gwblhau, ac mae'n anodd iawn yn wir dod o hyd i bobl yn Llywodraeth y DU sydd â'r diddordeb neu'r ynni i weithio ar yr agenda honno pa fo nhw wedi eu llethu gymaint gan yr anawsterau y mae Brexit wedi eu creu. Ond rydym ni'n parhau i weithio ar hyn, rydym ni'n parhau i weithio ar hyn gyda chydweithwyr yn yr Alban, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddychwelyd at y Cyd-bwyllgor Gweinidogion llawn gydag adroddiad cynhwysfawr ar yr holl feysydd gwaith gwahanol y cytunwyd arnynt, oherwydd bydd cynnal busnes yn drefnus ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu arnyn nhw pan na fydd yr Undeb Ewropeaidd yno mwyach.
Prif Weinidog, mae fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn cyfarfod â Jeremy Corbyn wrth inni siarad, er mwyn ystyried cydweithredu trawsbleidiol i sicrhau, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, dull cydweithredol. Rydym ni'n gobeithio y daw mwy o eglurder ynghylch safbwynt gwirioneddol y Blaid Lafur ar Brexit. Yr wythnos diwethaf, nododd BBC Cymru fod uwch-aelod ym Mhlaid Lafur Cymru—sydd naill ai'n eistedd neu beidio, pwy a ŵyr, ar eich meinciau blaen—wedi dweud bod eich diffyg eglurder dros bleidlais y bobl yn achosi tensiynau yn eich Cabinet. Fe wnaethon nhw alw eich polisi yn anghynaliadwy ac yn ddryslyd. Disgrifiodd eich Aelod Cynulliad eich hun—Lynne Neagle, Torfaen—eich sefyllfa fel un chwerthinllyd ac un nad yw'n argyhoeddi. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi ddweud y byddai ail refferendwm yn rhannu pobl, o bosib yn amhendant, ond y byddech chi'n cefnogi hynny wedyn, os byddai Tŷ'r Cyffredin yn gwneud hynny'n gyntaf. Mae'n anodd dychmygu cymeradwyaeth wannach o'r achos dros ail refferendwm. Rydych chi'n rhwyfo ymhellach ac ymhellach i ffwrdd, Prif Weinidog, o'r polisi a gymeradwywyd gennym ni yn y lle hwn ym mis Ionawr, cymaint felly, petai Jeremy Corbyn, yn wyrthiol, yn gwneud tro pedol eto, ac yn mabwysiadu polisi o roi pleidlais i'r bobl, yn dilyn ei gyfarfod â Phlaid Cymru y prynhawn yma, fe fyddech chi mewn gwirionedd yn pasio eich gilydd, yn wynebu cyfeiriadau cyferbyniol, fel llongau yn suddo yn y nos.
Ac yna dyna'r cwestiwn, Prif Weinidog, pe byddai refferendwm arall, sut fyddech chi a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu ac yn pleidleisio? Pan gafodd ei gyfweld gan Sky News ddydd Sul, roedd yn ymddangos bod Jeremy Corbyn, o'r diwedd, yn cymryd agwedd bendant. Ac yna peidiodd. Yn gyntaf, cyfaddefodd y dylid cael refferendwm arall, ar yr hyn a alwodd yn gytundeb credadwy i adael yr Undeb Ewropeaidd, sef yr hyn a olygai oedd cytundeb gan y Blaid Lafur i sefydlu undeb tollau newydd a pherthynas agos â'r farchnad sengl, a dewis i aros yn yr UE. Pan bwyswyd arno ynghylch sut fyddai'n pleidleisio mewn refferendwm o'r fath, atebodd y byddai'n well ganddo gydnabod canlyniad refferendwm 2016. Dyna ben ar niwlogrwydd, hir oes i niwlogrwydd. Beth oedd yn ei olygu wrth hynny? Prif Weinidog, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni yma nawr. Bydd fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn sicr yn gofyn iddo. Ond mae eich datganiad heddiw yn awgrymu mai eich dewis chi hefyd yw sicrhau eich fersiwn chi o Brexit dros ganlyniad 'aros' mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.
Yn olaf, a gaf i droi at y dadansoddiad ar gyfer eich Llywodraeth gan yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, sydd wedi canfod y caiff Cymru ei tharo'n galetach na gweddill y DU gan yr isafswm cyflog arfaethedig o £30,000 ar gyfer ymfudwyr medrus sy'n bwriadu dod i'r DU o 2021? Dywedodd, er nad yw enillion llawn amser cyfartalog ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd ymhell o £30,000, eu bod nhw yng Nghymru yn sylweddol is na hynny. O ganlyniad, byddent yn rhwystr enfawr i fusnesau yng Nghymru sy'n chwilio am weithwyr proffesiynol medrus o dramor. Argymhellodd bennu isafswm cyflog o £20,000 i Gymru. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru—i'r graddau yr wyf i wedi llwyddo i'w ddarganfod—wedi mynegi barn ynghylch canlyniadau ei hymchwil ei hun. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda'r Athro Portes, ac, os felly, beth ydych chi'n ei wneud i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ystyried ei argymhellion?
Wel, dechreuodd Adam Price drwy gyfeirio at y dull cydweithredol y mae mannau eraill yn rhoi cynnig arno, ac rwy'n falch iawn o hynny. Ac rwy'n falch iawn y bydd Aelodau ei blaid, a'r pleidiau eraill, yn dod at ei gilydd er mwyn ceisio dod o hyd i'r ffordd wahanol honno drwy Tŷ'r Cyffredin.
Yn rhan ganol yr hyn yr oedd gan Adam i'w ddweud—mae ganddo obsesiwn â phobl nad ydyn nhw yn y Cynulliad hwn, ac nad ydyn nhw'n atebol iddo. Felly, fe wnaf i siarad drosof fy hun a'r cyfrifoldebau sydd gennyf yn y fan yma. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson o'r dechrau a bod ein safbwynt yn hollol eglur. Efallai ei fod yn gymhleth, ond mae'n eglur, a dyna'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma—bod cytundeb i'w wneud ar sail y cynigion yr ydym ni yn gyson wedi eu cefnogi ers iddyn nhw gael eu ffurfio'n gyntaf mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru yma yn y Cynulliad, ac rydym ni'n parhau i gefnogi'r cynigion hynny. Rwy'n gwybod fod yr Aelod wedi ymbellhau cryn dipyn oddi wrthyn nhw'n ddiweddar, ac, wrth gwrs, mae ganddo berffaith hawl i wneud hynny, ond nid ydym ni wedi gwneud hynny. Rydym ni'n dal i gredu eu bod yn cynnig ateb a allai weithio i Gymru a dyna fy safbwynt i heddiw.
Nid yw hi'n gwneud unrhyw les i neb, pan fo nhw'n dweud eu bod o blaid sefyllfa, i beidio ag edrych ar yr anawsterau sydd efallai ynghlwm â'r sefyllfa honno. Er fy mod i'n cefnogi—fe wnaf i ddweud hynny eto; rwyf wedi dweud hynny droeon yn y fan yma—ail bleidlais gyhoeddus fel datrysiad i Dŷ'r Cyffredin sydd mewn parlys, nid oes neb ar ei ennill drwy beidio ag edrych ar y pethau y byddai'n rhaid eu datrys ar gorn yr ateb hwnnw, a dyna'r hyn y ceisiais i ei wneud y prynhawn yma. A byddai eu hwfftio fel pe na baen nhw'n bodoli, fel pe na fyddai cynnal ail refferendwm yn gynhennus—. Mae'r mater hwn yn gynhennus yn y Siambr hon, mae'r mater hwn yn gynhennus yn ein cymdeithas. Os cawn ni bleidlais arall—ac os mai dyna sydd ei angen arnom ni, byddaf yn ei gefnogi'n llwyr—yna byddwn yn gwybod y ceir pobl a fydd yn arddel safbwyntiau gwahanol cryf ynghylch hynny, ac nid yw ysgwyd pen a gweithredu fel pe na bai hynny'n bwysig yn gwneud cyfiawnder ag arwyddocâd y penderfyniad hwnnw.
Beth fyddai safbwynt Llywodraeth Cymru pe byddai ail refferendwm? Wel, rwyf wedi dweud hyn yn eglur droeon hefyd—os ceir ail refferendwm, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio hwnnw, yna nid oes dim a welais yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf yn fy arwain i gredu bod y cyngor a roesom ni i bobl yng Nghymru yn y refferendwm cyntaf yn gyngor anghywir. Fe wnaethom ni gynghori pobl bryd hynny bod modd sicrhau dyfodol pobl yng Nghymru orau drwy aelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd, a hynny fyddai fy nghyngor onest i bobl pe caem ni gyfle arall i bleidleisio ar hynny. Caiff dyfodol Cymru ei sicrhau orau drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae llawer o bobl yma yn anghytuno—wrth gwrs eu bod nhw. Dyna pam y dywedais y byddai'r ddadl yn anochel yn un a fyddai'n ein rhannu. Ond dyna yw fy marn onest. Nid yw unrhyw beth a welais yn y cyfamser wedi newid hynny. Byddai'n safbwynt anodd ei gyfleu i lawer o bleidleiswyr Llafur sydd o farn wahanol i hynny. Ond os cawn ni bleidlais gyhoeddus arall, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio, cyngor y Llywodraeth hon fydd mai hynny sydd fwyaf llesol i Gymru.
Gadewch imi droi at y pwynt olaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Y pwynt olaf un a wnaeth yr Aelod oedd yr un ynglŷn ag adroddiad Jonathan Portes. Dyna'r ail adroddiad a ddarparwyd gan yr Athro Portes i Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gwrdd ag ef ac i drafod ei adroddiad cyntaf. Yr hyn y mae'n ei wneud yw nodi dau o'r diffygion mawr yn y polisi ymfudo a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU: mae'r polisi yn mynnu gosod terfyn cyflog mympwyol ac yn mynnu rhannu'r gweithlu yn fympwyol rhwng y rhai medrus a'r rhai di-grefft. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny yn gweithio i Gymru.
Siaradais yn fanwl â Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a gofyn iddo a oedd wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gosodiadau hynny o ran economi Cymru. Dywedodd wrthyf nad oedd. Nid yw'n syndod bod yr Athro Portes—y prif arbenigwr ar y materion hyn yn y DU—yn dod i gasgliad sy'n dweud y byddai isafswm cyflog o £30,000 yn groes i fuddiannau gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion yng Nghymru. Ac mae disgrifio pobl sy'n gweithio yn ein system gofal cymdeithasol fel rhai anfedrus ac, felly, nad oes angen eu recriwtio o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn gwbl groes i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bobl o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Byddwn yn cefnogi casgliadau adroddiad Portes, a phan yr ydym ni wedi cael cyfle priodol i gnoi cil arno ac i'w drafod gyda'r awdur, yna byddwn yn mynegi'n eglur ein casgliadau o ran hynny.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fodd bynnag, erbyn newyddion chwech o'r gloch heno, efallai y bydd peth ohono'n amherthnasol, wrth i Lywodraeth traed moch San Steffan gythru hyd y lle yn ceisio newid hynny a llunio diffiniadau newydd o'i chytundeb presennol ei hun i'w gadw ar y papurau hynny. Mae un neu ddau sylw yr hoffwn i eu crybwyll ichi. Yn amlwg rydym ni wedi clywed dadleuon ynghylch lle'r ydym ni arni yn y broses, ac rydym ni yn awr lai na 10 diwrnod o'r dyddiad ymadael o dan y gyfraith—fel y gwyddom ni sydd yn y gyfraith ar hyn o bryd—ac nid yw penderfyniadau Llywodraeth y DU dros y ddwy flynedd a hanner mewn gwirionedd wedi cyflawni dim o ran y broses hon. Ond rydym ni bellach mewn sefyllfa pryd yr ydym ni'n gwybod, os na cheir chytundeb, bellach caiff tariffau eu cyflwyno. Fe gawson nhw eu datgan yr wythnos diwethaf a'u cyhoeddi yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth y DU. Efallai y gallwch chi awgrymu sut y byddai'r tariffau hynny yn effeithio ar economi Cymru, yn enwedig yng nghyswllt porthladdoedd Cymru, gan fod rhan o'r trafodaethau hynny yn cynnwys dim tariff rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, a fyddai'n amlwg yn annog busnesau Iwerddon i gludo eu nwyddau drwy Ogledd Iwerddon ac ymlaen i Lerpwl gan na fyddai unrhyw archwiliadau ar yr agwedd honno chwaith? Byddai hynny'n effeithio'n fawr ar borthladdoedd Cymru. Bydd y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y byddant yn sicrhau buddsoddiad a chynhyrchiant y porthladdoedd hynny yng Nghymru yn hollbwysig.
O ran y trafodaethau ynglŷn ag estyniad, nid ydym ni'n gwybod pa mor hir fydd hwnnw, nid ydym ni'n gwybod beth y mae hi'n ei fwriadu—mae hi'n sôn am un byr ac un hir. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod, fel y dywedwch chi, a fydd y 27 o wledydd yr UE yn cytuno i hynny chwaith, gan fod rhaid cael diben ac nid wyf wedi clywed am ddiben eto. A yw hi wedi nodi diben i chi mewn unrhyw drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda chi ynghylch beth fydd yr estyniad hwnnw mewn gwirionedd yn ceisio ei gyflawni? Oherwydd rydym ni i gyd yn siarad am y peth, ond nid ydym ni'n gwybod beth yw'r bwriad neu beth fydd diben hynny.
A ydych chi hefyd yn cytuno â mi ein bod ni'n chwarae gemau a bod canlyniadau difrifol i'r gemau hynny, oherwydd y berthynas sydd ganddi gyda'r DUP y tu ôl i ddrysau caeedig? Mae hi'n amlwg o'r wybodaeth yr ydym ni'n ei chael bod posibilrwydd y bydd y DUP yn cael cynnig sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Beth fydd yn digwydd i Gymru a Llywodraeth yr Alban mewn perthynas â hynny? Ond hefyd ariannu—pa ddadl gaiff ei defnyddio ynghylch sut y gall hi gyfiawnhau rhoi mwy o arian i'r DUP, pan rydym ni unwaith eto yn cael dim budd o hyn ac felly'n gweld effaith ar ein heconomïau wrth inni chwalu allan heb gytundeb gan fod 60 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE? Felly, ble ydym ni arni yn hynny o beth?
Tynnodd Arweinydd yr wrthblaid sylw at baratoi busnesau ar gyfer ymadael heb gytundeb, ond a allwch chi hefyd roi inni wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth Leol, oherwydd, unwaith eto, bydd Llywodraeth Leol yn dioddef o ddifrif, a chyrff cyhoeddus fel cyrff iechyd, oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod am y goblygiadau i'n gwasanaethau iechyd o ymadael heb gytundeb? Yn anffodus—nid rhywbeth y byddai llawer o bobl eisiau ei weld yn digwydd yr wythnos nesaf—rydym ni'n symud yn agosach ac yn agosach ac yn agosach at sefyllfa o ymadael heb gytundeb.
Mae gennyf ddamcaniaeth cynllwyn efallai bod Llywodraeth y DU a'r Prif Weinidog yn benodol yn hoffi symud tuag at hyn oherwydd mae'n gweddu i'w hanghenion—estyniad, estyniad hir i ddod yn ôl ag ef—. Mae hynny'n mynd i wthio Brecsitwyr i dderbyn ei chytundeb. Mae'n amlwg yn ffordd o weithredu, ac yn seiliedig ar ei gweithredoedd yr wythnos diwethaf, pan addawodd pleidlais rydd ar nos Fawrth ar ôl iddi golli'r bleidlais yn y Tŷ o 149—cododd ac addawodd mewn gwirionedd bleidlais rydd i'w phlaid ar ymadael heb gytundeb. Y diwrnod canlynol, fe wnaeth hi mewn gwirionedd ailystyried a chwipio ei haelodau yn erbyn ei chynnig ei hun. Felly, sut gellir ymddiried ynddi mewn gwirionedd i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed ganddi ar y dechrau? Oherwydd fe wnaeth hi addo hyn ar y blwch dogfennau, ac mae hynny'n agwedd bwysig. Rhaid inni gael ffydd yn y cytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig. Os nad yw ein Prif Weinidog hyd yn oed yn anrhydeddu ei haddewidion ei hun i'w phlaid ei hun, sut allwn ni ymddiried yn ei haddewidion i ni?
O ran y cytundebau masnach unwaith eto, Prif Weinidog, fe gawsom ni drafodaeth yr wythnos diwethaf ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach, ond rwy'n mynd i anwybyddu'r Bil Masnach ar hyn o bryd—gadewch i ni edrych ar y cytundebau parhad masnach a oedd yn cael eu trafod. Rwy'n deall bod chwech wedi eu llunio erbyn hyn, ond a allwch chi gadarnhau a oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld y cytundebau masnach hynny cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Ydych chi wedi mynnu gweld cytundebau masnach eraill cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Oherwydd bod y rhain yn effeithio'n fawr ar economi Cymru ac mae'r rhain yn newid polisi. Nid ydyn nhw mor syml â throsglwyddo; ceir newidiadau polisi o ganlyniad i hyn. Felly, lle ydym ni arni o ran cyrraedd sefyllfa o gael llais Cymru yn y cytundebau hynny cyn eu llofnodi?
A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni—? Deddfwriaeth—un o'r dadleuon y mae hi'n ei defnyddio ar gyfer estyniad yw oherwydd nad oes gennym ni amser i gau pen y mwdwl ar yr holl ddeddfwriaeth. Faint o ddeddfwriaeth sy'n dal yn ofynnol gennym ni yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar Lywodraeth y DU yn llunio deddfwriaeth yn y fan honno yn gyntaf, oherwydd, yn amlwg, mae yna rannau o'r ddeddfwriaeth na allwn ni eu llunio nes iddyn nhw lunio eu rhai nhw? Felly, lle ydym ni arni o ran yr amserlen o gwblhau ein rhan ni ac a oes gennym ni syniad, y byddan nhw, mewn gwirionedd, wedi eu cwblhau i gyd erbyn 30 Mehefin—os oes modd, 23 Mai, oherwydd dyna ddyddiad arall sy'n cael ei drafod ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd?
Ac yn olaf, ie—[Chwerthin.] A ydych chi'n cytuno â mi mai un o'r camgymeriadau mwyaf yr wythnos diwethaf oedd peidio â chefnogi gwelliant Hilary Benn, pryd y gallen nhw mewn gwirionedd gytuno ar safbwynt o ran cael ateb posib yn Nhŷ'r Cyffredin, a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi gwybod i ni ynghylch yr union fath o bleidlais a allai ddigwydd a'r math o gytundeb a allai fod ar waith pe gwyddem ni beth gytunodd y rhan fwyaf o Dŷ'r Cyffredin arno?
Wel, Llywydd, byddaf yn gwneud fy ngorau i fod mor gyflym ag y gallaf wrth ateb y cwestiynau hynny. Wrth gwrs, mae David Rees yn llygad ei le fod ein porthladdoedd yn cael eu heffeithio gan y model tariff y mae'r Llywodraeth wedi ei awgrymu ar draws Ynys Iwerddon. Mae hi wedi bod yn gyfnod hir o addysgu Gweinidogion y DU ynghylch y ffaith bod gennym ni borthladdoedd yng Nghymru a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Ac mae'n gywir yn dweud y byddai'r awgrym presennol yn niweidiol i borthladdoedd Cymru, oherwydd ei bod yn anochel y bydd nwyddau'n teithio o'r de i'r gogledd ac yn dod i mewn i'r DU o ran ogleddol Iwerddon.
O ran y DUP, gwelaf fod Prif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU y prynhawn yma, yn nodi'r pryderon y byddem ni yn sicr yn eu rhannu ynghylch y ffordd y mae adroddiadau o drafodaethau gyda'r DUP yn ymddangos, gyda'r DUP rywsut yn cael sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Mae'n gwbl syfrdanol, Llywydd, y gellid gwneud unrhyw awgrym o'r fath ag un blaid wleidyddol nad yw hyd yn oed mewn llywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ac i esgeuluso gweinyddiaethau yng Nghymru ac yn yr Alban. Yr awgrymiadau parhaus y gellid arllwys mwy o arian eto i lawr llwnc y DUP—rwy'n falch fod cyni ar ben mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n annheg yn y bôn ac yn gwbl groes i'r datganiad polisi ariannu bod arian yn cael ei drosglwyddo i un rhan o'r Deyrnas Unedig ar gyfer cyfrifoldebau sy'n cael eu rhannu yn rhywle arall. Ac mae hynny'n cynnwys Lloegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban.
O ran llywodraeth leol, mae ein trafodaethau gyda nhw yn canolbwyntio ar fwyd, bwyd arbennig mewn ysgolion, bwyd mewn cartrefi gofal preswyl, bwyd ar gyfer pobl hŷn sy'n dibynnu ar ofal cartref, a gwneud yn siŵr, pe bai Brexit heb gytundeb, bod systemau ar waith i amddiffyn y mwyaf agored i niwed.
Yng nghyswllt y gwasanaeth iechyd, rydym ni am y tro cyntaf, rwy'n credu, bellach wedi gorfod neilltuo arian mewn perthynas â Brexit heb gytundeb. Byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn siarad am warws yr ydym ni wedi gorfod ei ddefnyddio yng Nghasnewydd. Rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ei bod hi'n angenrheidiol diogelu buddiannau gwasanaeth iechyd Cymru a chleifion Cymru rhag Brexit heb gytundeb.
A wnaiff Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog lwyddo? Y ffordd y mae hi'n ceisio'n barhaus i ddarbwyllo pobl i fynd i'r lobi i'w chefnogi, oherwydd fel arall gallai rhywbeth hyd yn oed gwaeth ddigwydd—wel, mae'n gêm o fentro a hapchwarae, ac ni ddylai ein dyfodol ni gael ei negodi yn y ffordd honno mewn gwirionedd. A oes modd ymddiried yn y Prif Weinidog? Wel, rwy'n credu yr adroddais i'r Siambr yr wythnos diwethaf, pan oeddwn ym Mrwsel yn ystod ein gwyliau hanner-tymor, fe'm trawyd gan ba mor gadarn y datganodd cyfeillion da i Gymru a'r Deyrnas Unedig eu cred bod gweithredoedd y Prif Weinidog yn cefnogi gwelliant Brady wedi tanseilio ffydd mewn modd sylfaenol iawn. Fe wnaeth hi gefnogi gwelliant yn erbyn y cytundeb yr oedd hi wedi dod iddo gyda'r Undeb Ewropeaidd. Sut allen nhw deimlo'n hyderus yn parhau i negodi gyda rhywun a oedd yn barod i wneud hynny?
Mae deddfwriaeth sydd ei angen yma yn dibynnu, fel y dywedodd David Rees, ar offerynnau statudol y mae'n rhaid eu llywio drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydym ni yn barod. Rydym ni'n ffyddiog ein bod yn y lle cywir; mae pa un a ydyn nhw yn fater gwahanol.
Ac yn olaf, ynglŷn â gwelliant Hilary Benn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud wrthych chi am rywbeth a ddigwyddodd i mi, sydd fwy neu lai yn unigryw yn fy mhrofiad fy hun? Roeddwn yn curo wrth ddrysau yn isetholiad Casnewydd nos Iau ddiwethaf, fel llawer o Aelodau yma yn ddiau hefyd. Curais wrth ddrws a daeth dyn at y drws a dywedodd ar unwaith wrthyf, 'rhaid i chi ddod i mewn, rhaid i chi ddod i mewn.' Nid oes gennyf syniad beth yr oeddwn i wedi'i wneud, ond yr hyn yr oedd eisiau imi ei wneud oedd gweld canlyniad y bleidlais ar welliant Hilary Benn. Felly, roeddwn yn sefyll yn ei ystafell fyw ac fe welais i'r peth yn digwydd, ac rwy'n gwbl o'r un farn â chi yn ei gylch. Roedd yn ennyd pan allai Tŷ'r Cyffredin fod wedi meistroli'r broses hon, ac roedd colli'r bleidlais honno gan ddwy bleidlais, rwy'n credu, yn siomedig iawn i'r rhai ohonom ni a oedd yn gobeithio bod honno'n eiliad pryd gellid bod wedi cychwyn ar lwybr gwahanol.
Wel, mwynheais glywed Prif Weinidog Cymru yn diberfeddu Prif Weinidog y DU a'r traed moch gwleidyddol y mae hi a'r Blaid Geidwadol wedi ei greu, ond rwy'n credu bod mwy o draed moch yn y gwrthbleidiau, oherwydd, er gwaethaf bod gennym yr hyn y credaf yw'r Prif Weinidog mwyaf anfedrus mewn 250 o flynyddoedd, nid yw arweinydd yr wrthblaid wedi elwa mewn unrhyw ffordd ar yr hyn sydd wedi digwydd ac ymddengys bod Llafur yn dal i fod 10 pwynt y tu ôl yn y polau piniwn—[Torri ar draws.] Ond y—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad bellach yn eithaf amlwg ac yn agored yn benderfynol i danseilio'r refferendwm Brexit a gawsom ni ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Blaid Geidwadol, hyd yn oed, yn benderfynol o beidio â chyflawni yr hyn y pleidleisiodd pobl amdano yn 2016. Gadewch i ni atgoffa'n hunain, ie, bod 406 etholaeth o blith 650 wedi pleidleisio i adael; pleidleisiodd 247 o etholaethau Ceidwadol i adael a dim ond 80 i aros; pleidleisiodd 148 o etholaethau Llafur i adael a dim ond 84 i aros; ac eto, yn y lle hwn, pleidleisiodd 49 o aelodau ein Cynulliad i aros ac fe bleidleisiodd 480 o'r 650 o Aelodau Seneddol hefyd i aros. Mae mwyafrif mawr iawn dros aros i'w gael yn y Cynulliad hwn ac yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae'r mwyafrif hwnnw'n benderfynol, yn gwbl benderfynol, doed a ddelo, ar unrhyw gost o rwystro'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto ac—rwy'n falch fod Alun Davies yn amneidio mewn cytundeb yn y fan acw—[Torri ar draws.]—i bleidleisio yn erbyn yr hyn y pleidleisiodd y bobl amdano dim ond dwy flynedd a hanner fyr yn ôl. Ac yr wythnos diwethaf profwyd hynny gan Dŷ'r Cyffredin, oherwydd fe bleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE gyda chytundeb honedig y Prif Weinidog, pleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a elwir hefyd yn ymadael heb gytundeb, a phleidleisiodd o blaid ymestyn erthygl 50. Ni ellir ar unrhyw gyfrif galw hynny yn bleidleisio dros Brexit mewn unrhyw fodd. Ac, fel y dywedodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr:
Mae hi'n hollol anghredadwy y gallai'r Llywodraeth fod yn benderfynol o selio cytundeb sy'n cyflwyno £39 biliwn, er ei fod yn rhoi'r hawl i'r UE orfodi cyfreithiau ar y DU am gyfnod amhenodol a feto ar roi terfyn ar y sefyllfa hon o reolaeth faenoriaethol.
Dyna'r llanastr y mae Theresa May wedi ei greu ac nad yw'r Blaid Lafur mewn gwirionedd yn anghytuno ag ef. Mewn gwirionedd, maen nhw eisiau mynd hyd yn oed ymhellach na Theresa May wrth ildio'r holl fanteison a oedd gennym ni ac aros yn yr UE. A yw Prif Weinidog Cymru yn pryderu am y gagendor cynyddol sy'n agor rhwng y bobl a bleidleisiodd dros Brexit drwy fwyafrif—56 y cant yng Ngorllewin Casnewydd; gan i Brif Weinidog Cymru sôn am yr etholaeth honno, meddyliais y buaswn yn dyfynnu'r ffigur hwnnw—a'r etholedigion gwleidyddol? Mae arolwg a gyhoeddwyd gan ComRes yn The Daily Telegraph heddiw, yn gofyn gwahanol gwestiynau i bobl: ydyn nhw'n ymddiried mewn Aelodau Seneddol i wneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad o ran Brexit? Mae chwe deg wyth y cant yn anghytuno. Cwestiwn arall: 'mae hi wedi teimlo fel pe byddai'r UE wedi bod yn ceisio cosbi'r DU am Brexit.' Mae chwe deg un y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw. Pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth, ai hynny fyddai'r canlyniad gorau posibl? Roedd pedwar deg tri y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw; dim ond 30 y cant oedd yn anghytuno.
Mae'r polisi sydd gan Brif Weinidog Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gwbl groes i gyfran fawr iawn o bobl yn y wlad hon ac, yn wir, cyfran uwch na'r rhai sy'n cefnogi ei farn. Beth mae e'n gredu y bydd hyn yn ei wneud i ddemocratiaeth yn y wlad hon os, ar ddiwedd y broses hon, nad oes, mewn gwirionedd, unrhyw newid? Pan gaiff y cytundeb hwn ei selio, os bydd hynny'n digwydd, yna gallai aelodaeth Prydain o'r UE barhau am gyfnod amhenodol. Ac, ie, gallai gael ei ohirio tan 30 Mehefin, ond nid oes dim yn mynd i newid rhwng nawr a 30 Mehefin ac wedyn, wrth gwrs, bydd yr holl bwysau ar ei ymestyn y tu hwnt i hynny, ac felly ymlaen yn ddi-ben-draw. Pam ar y ddaear y byddai'r UE eisiau rhoi unrhyw gonsesiynau i ni pan ei fod eisoes wedi cael popeth yr oedd arno ei eisiau? Dyna'r cwestiwn allweddol sydd gennym ni yn y fan yma, rwy'n credu. Beth fydd iechyd democratiaeth Prydain yn y dyfodol os caiff ei fradychu gan y rhai y mae pobl wedi ymddiried hynny ynddynt?
Wel, Dirprwy Lywydd, rydych chi'n credu bod y ddadl ar Brexit yn symud y tu hwnt i barodi, ac wedyn rydych yn canfod eich hun yn cael eich cyhuddo gan Neil Hamilton o fod yn perthyn i'r sefydliad ac o fod yn un o'r etholedig rai. Bryd hynny, teimlaf fod y ffin lle'r oeddech chi'n credu nad oedd hi'n bosib ei ymestyn ymhellach yn canfod ei hun yn ymestyn ymhellach fyth.
A wyf i'n poeni am iechyd democrataidd ein gwlad? Wrth gwrs fy mod i. Dyna pam y dywedais yr hyn a ddywedais yn fy natganiad. Nid fy mhryder i yw ei bryder ef, oherwydd mae ef bob amser eisiau darlunio hyn mewn ffordd sy'n apelio at reddfau poblyddol ei gefnogwyr. Rwyf i'n poeni am y berthynas rhwng pobl. Rwy'n poeni am y berthynas rhwng pobl sy'n arddel safbwyntiau cryfion gwahanol ar y mater hwn a phryd yr wyf yn wirioneddol, wirioneddol gredu bod angen i bob un ohonom ni fod yn ofalus wrth roi ein barn, ein bod ni'n parchu barn pobl eraill sy'n arddel safbwynt gwahanol. Os nad ydym ni'n gallu gwneud hynny, yna mae'r bygythiadau i iechyd ein democrataidd yn real, ac mae'r pethau hynny ar wyneb ac yn agos at wyneb y ddadl hon.
Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu, serch hynny, Dirprwy Lywydd, yw nid yr un y mae'r Aelod yn cyfeirio ato o gwbl. Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yw 10 diwrnod o nawr fe allem ni fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb o unrhyw fath ac ni ddywedodd neb—ond ni ddywedodd neb—wrth bobl yn y refferendwm mai dyna oedd hyn i gyd yn ymwneud ag ef. Roeddem ni'n mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn un o'r negodiadau hawddaf a gynhaliwyd erioed. Byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd yr oedd ble byddai'r holl fanteision ar ein hochr ni a dim un o'r anfanteision. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb o unrhyw fath, yna bydd yr effaith yma yng Nghymru yn drychinebus a bydd effaith hynny ar ein hiechyd democrataidd mewn gwirionedd yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn poeni amdano.
Ac yn olaf—ac yn fyr iawn—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Fe wnaf i ddweud wrtho fy mod i'n gresynu'n fawr iawn at ei agwedd pan ddisgrifiodd y cyfle i gynnig pleidlais gyhoeddus ac i roi'r gair olaf i bobl y wlad hon. Dyna, wrth gwrs, yw polisi Llafur Cymru, polisi Llafur, dyna bolisi Llywodraeth Cymru, dyna'r polisi a gyflwynodd ef ei hun gerbron ei Aelodau rai wythnosau yn ôl a gofyn i'r Senedd hon ei fabwysiadu fel y polisi y byddem ni eisiau ei weld yn cael ei weithredu. Rwyf i yn credu, felly, y bu ymrwymiad clir iawn, o gofio na fydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ei hun i ddim ond disgrifio'r problemau a'r anawsterau sy'n ein hwynebu, ond yn ceisio mynd ati'n rhagweithiol i baratoi ar gyfer pleidlais. Ac mae'r rhain yn ddau beth gwahanol. Nid ailadrodd dadleuon academaidd yw hyn. Mae'n dweud mai dyma'r mater pwysicaf sy'n wynebu'r wlad hon ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn Llundain. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod na all Llywodraeth y DU gytuno â hi ei hun, heb sôn am unrhyw un arall. Rydym ni'n gwybod nad ydyn nhw'n gwybod beth yw eu polisi heddiw, yfory, yr wythnos nesaf. Rydym ni'n gwybod y pethau hynny i gyd. Ond yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yn y Senedd a'r Llywodraeth hon yw gwneud yn well na hynny a gwneud mwy na hynny, ac mae hynny'n golygu bod yn driw i'r hyn yr ydym ni'n credu ynddo, ac nid anwadalu, nid canfod geiriau i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o osgoi ein hymrwymiadau, ond dadlau'n eglur dros yr ymrwymiadau hynny.
Felly, rwy'n gobeithio, felly, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymrwymo mewn modd eglur iawn, iawn i'r polisi y dylai pobl y wlad hon gael y gair terfynol, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros ddewis i aros ac ymgyrchu i aros, a'r hyn a wnawn ni yn y fan yma yw derbyn nad oes y fath beth â Brexit lle mae swyddi'n dod yn gyntaf, ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw'r egwyddor—yr egwyddor—y dylai pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig gael y gair olaf ar unrhyw gytundeb y deuir iddo.
Dirprwy Lywydd, allwn i ddim wedi bod yn fwy eglur y prynhawn yma yn nodi polisi'r Llywodraeth oherwydd dyna bolisi'r Llywodraeth hon ers i ni ddechrau trafod hyn yn y fan yma. Mae wedi ei ailadrodd droeon mewn penderfyniadau, wedi ei osod gan y Llywodraeth a'i gytuno gan yn y Cynulliad hwn, fod ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a all ddiogelu swyddi a'r economi yma yng Nghymru. Ond os yw hynny'n amhosibl, a bod Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna dylai'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl. A Llywodraeth Cymru a roddodd gynnig gerbron y Cynulliad hwn a oedd yn gofyn i'r paratoadau gael eu dechrau fel nad ydym yn colli'r cyfle hwnnw yn ddiofyn—nad os yn syml ddigon o amser er mwyn i hynny ddigwydd.
Daeth Joyce Watson i’r Gadair.
Yr hyn na fyddaf i yn ei wneud, Dirprwy Lywydd dros dro, yr hyn na fyddaf yn ei wneud yw esgus ar lawr y Cynulliad hwn, rywsut, ein bod ni'n rheoli pethau nad ydym ni. Yn y pen draw, nid yw refferendwm yn nwylo pobl yn y Cynulliad hwn, a dylem fod yn onest ynglŷn â hynny. Ni fyddaf ychwaith yn esgus os mai dyna lle y byddwn ni yn y pen draw, fod hynny rywsut yn ddewis heb unrhyw anawsterau. Oherwydd mae anawsterau yn gorwedd yn ei lwybr; mae anawsterau ymarferol ac anawsterau gwleidyddol hefyd.
Gofynnodd yr Aelod i mi petai yna ail refferendwm a bod 'aros' ar y papur pleidleisio, wel, dywedaf eto, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y fan yma, safbwynt Llywodraeth Cymru fyddai ein bod ni'n parhau i fod o blaid aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedaf hynny er gwaethaf yr anawsterau y credaf a fyddai yn hynny o beth, oherwydd dyna'r safbwynt gonest. Ond mae'n onest hefyd i egluro i bobl hyd yn oed os ydych chi, fel y gwn i fod yr Aelod, yn ymrwymedig iawn i ail bleidlais ymhlith y bobl, y mae gan hynny broblemau sydd angen eu hwynebu hefyd, ac nid yw o unrhyw les i neb i ymddwyn fel ei bod yn bosibl cael gwared ar y problemau hynny drwy chwa o frwdfrydedd rhethregol.
Iawn. Felly, symudwn ymlaen nawr at eitem 4: Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019,a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6994 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Cadeirydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i Reoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cynnwys hepgor y cyfeiriad at
yn gweithredu fel aelod-wladwriaeth mewn lles anifeiliaid
a Rheoliadau adeg eu lladd (Cymru) 2014.
O ran Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, cywiro cyfeiriadau at gyfarwyddebau'r UE gan na fydd cyfarwyddebau'r UE yn rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael. Yn yr achos hwn, mae diffiniad 'triniaeth sootechnegol' wedi'i dynnu allan o gyfarwyddeb perthnasol y cyngor a'i fewnosod yn y rheoliadau hyn. Gwnaed darpariaeth atodol hefyd gan newid cyfeiriadau amrywiol at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i 'Weinidogion Cymru'. Mae'r gwelliannau hyn yn adlewyrchu'r status quo. Mae gwelliannau o'r fath yn ategu'r darpariaethau hynny sydd yn gosod swyddogaethau ychwanegol ar Weinidogion Cymru.
Yn olaf, gwnaed newidiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 a fydd yn rhoi terfyn ar cyd-gydnabod tystysgrifau cymhwysedd ar gyfer gweithwyr lladd-dai a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Byddai parhau i gydnabod tystysgrifau yn codi materion gorfodi posibl, oherwydd ni fyddem yn gallu atal na dirymu tystysgrif a gyhoeddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall. Yn y weithred o ladd, byddai'n torri gofynion deddfwriaeth yr UE a gedwir neu ddeddfwriaeth ddomestig. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau na fydd tystysgrifau cydnabod cymhwysedd a gyhoeddwyd yn y DU yn cael eu cydnabod mewn aelod-wladwriaethau eraill ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau nad oes unrhyw weithwyr lladd-dai ar hyn o bryd sydd â thystysgrif cymhwysedd a gyhoeddwyd mewn aelod-wladwriaeth Ewropeaidd yn gweithio yng Nghymru. Cynigiaf y cynnig.
Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ynglŷn â'r rheoliadau yma, y Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, trafodwyd y rheoliadau hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad ar ddau bwynt adrodd o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3.
Yn gyntaf, ystyriwn nad yw'r ffordd y mae'r memorandwm esboniadol, paragraff 4.6 yn arbennig, yn egluro pam mae rheoliad 2 yn cyfeirio at 'Reoliadau'r UE' yn ddefnyddiol, naill ai i'r Cynulliad nac i ddefnyddiwr terfynol y ddeddfwriaeth. Dylai ystyr ac effaith deddfwriaeth, gan gynnwys y ffordd y mae'n rhyngweithio efo deddfwriaeth arall, fod yn dryloyw i'r rhai sy'n craffu arni, ac, yn bwysicach fyth, i'r rhai y mae'n effeithio arnynt. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, nododd Llywodraeth Cymru:
'Gan ei bod yn ofynnol i gymaint o deddfwriaeth fod yn ei lle cyn y diwrnod ymadael er mwyn sicrhau bod y Llyfr Statud i Gymru yn gallu gweithredu, nid oedd yn ymarferol darparu manylion pellach am y berthynas rhwng...Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2019.'
O ystyried pwysigrwydd cyhoeddus ystyr ac effaith deddfwriaeth, rydym wedi ein siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru. Fel y dengys ein hadroddiad ein hunain, nid ydym o'r farn y byddai wedi bod yn dasg feichus i egluro'n glir sut y bydd cyfraith ddiwygiedig yr Undeb Ewropeaidd yn gweithredu ar ôl ymadael.
Yn ail, ymddengys fod rheoliadau 5(4) a (5) yn dileu trefniant cyfatebol rhwng Cymru, fel rhan o'r Deyrnas Unedig, ac aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd neu awdurdodau cyhoeddus yn y gwladwriaethau hynny. Os felly, mae hyn yn dileu trefniant cyfatebol o fath y sonnir amdano yn adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sy'n golygu nad oes gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliad 5(4) a (5) oni bai eu bod wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw'r rhagarweiniad na'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau yn cyfeirio at ymgynghoriad o'r fath.
Yn y cyd-destun hwn, credwn fod arferion deddfwriaethol da yn gofyn am i ragarweiniad i offeryn statudol gyfeirio yn benodol at gyflawni unrhyw amodau statudol, megis dyletswydd i ymgynghori, y mae'n rhaid eu cyflawni cyn y gellir gwneud yr offeryn statudol. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol ac rydym yn nodi ac yn croesawu bod y memorandwm esboniadol bellach wedi'i ddiwygio. Diolch.
Galwaf nawr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb.
Diolch, Dai Lloyd am eich barn a'ch sylwadau. Yn amlwg, ni fyddem eisiau creu deddfwriaeth yn y modd yr ydym ni'n gorfod ei wneud ar hyn o bryd, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen yn y lle hwn, pe byddem ni wedi gwneud y penderfyniad i wneud pob cywiriad deddfwriaethol ar gyfer ymadael â'r UE yng Nghymru yn unig ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli, byddai'n ofynnol i oddeutu 200 offeryn statudol ac o leiaf pedwar Bil gael eu gosod yn y Cynulliad, yn ogystal â deddfwriaeth busnes fel arfer. A fyddai ond wedi bod yn bosibl pasio'r Biliau angenrheidiol mewn pryd drwy ddilyn gweithdrefn garlam, a fyddai, unwaith eto, yn cyfyngu ar waith craffu gan y Cynulliad. Wedi dweud hynny, derbyniais yn llwyr y sylwadau a ddaeth oddi wrth aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a gwnaethpwyd penderfyniad, er enghraifft, i newid y weithdrefn sydd i'w dilyn yn achos yr Offeryn Statudol hwn, a hefyd, fel y nododd Dai Lloyd diwygiwyd y Memorandwm Esboniadol yn unol â hynny.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5, Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6995 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Cadeirydd. Cynigiaf y cynnig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r pedwar darn canlynol o is-ddeddfwriaeth ddomestig ym maes amaethyddiaeth: Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol a Chynlluniau Grantiau (Apelau) (Cymru) 2006; Rheoliadau Datblygu Rhaglenni Gwledig (Cymru) 2014; Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014; Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015. Nid yw'r cywiriadau yn newid y sefyllfa bolisi yn y meysydd hyn. Mae'r gwelliannau yn dechnegol eu natur ac wedi'u cynllunio i gadw'r status quo ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau yn cynnwys y canlynol. Mae rheoliad 4 yn hepgor cyfeiriad at y corff cydgysylltu yn Rheoliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 i adlewyrchu'r ffaith fod y cysyniad o 'corff cydgysylltu' yn cael ei dynnu o reoliadau'r UE a ddargedwir gan adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 i gywiro cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Mae'r cyfeiriadau hyn ynghlwm wrth amser penodol oherwydd eu bod yn cyfeirio at reolau cynllun a ddefnyddiwyd ar adeg lansio'r cynllun taliad sylfaenol yn 2015. Mae rheoliad 5 yn cywiro'r cyfeiriadau hynny i'w gwneud yn glir eu bod yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth cyn ymadael yr UE. Gwneir gwelliant technegol hefyd yn rheoliad 5, i gydnabod bod Gweinidogion Cymru wedi sefydlu cronfa genedlaethol ar gyfer Cymru yn 2015. Pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, bydd y Gronfa Genedlaethol yn cael ei chynnal yn unol â deddfwriaeth yr UE a ddargedwir. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y fframwaith rheoleiddio angenrheidiol i symud ymlaen â'i hymrwymiad i barhau i gyflawni'r cynlluniau PAC. Bwriedir ymgynghori ar unrhyw newidiadau i gymorth amaethyddol Cymru yn ddiweddarach eleni, ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' gael eu hystyried.
Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dyma eitem 5, Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Trafodwyd y rheoliadau hyn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, eto ar 11 Mawrth, a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad ar un pwynt adrodd o ran rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3.
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gymhlethdod y ddeddfwriaeth hon ac yn amlygu y byddai mwy o eglurder wedi bod yn ddefnyddiol o ran disgrifio ei heffaith o ganlyniad. Mae'r rheoliadau'n dangos pa mor anodd yw hi i'r corff craffu, a'r rheini y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, ddeall effaith yr offerynnau statudol sy'n ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ym maes y polisi amaethyddol cyffredin.
Ymhlith nifer o rwystrau rhag deall y sefyllfa, enghraifft benodol a welir yn y rheoliadau hyn yw'r anhawster i ddeall yn union pa fersiwn o offerynnau'r Undeb Ewropeaidd sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol, fel rhan o gyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydym yn cydnabod bod y cymhlethdod a'r anhryloywedd yn deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), mae hynny'n deg. Fodd bynnag, rydym yn credu bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i geisio esbonio, yn well ac yn fwy llawn, i'r Cynulliad ac i ddinasyddion sut mae pob darn o ddeddfwriaeth Cymru ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cyd-fynd efo'r darlun cyfan o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd—cyfredol ac arfaethedig—ar y pwnc penodol. Ymddengys mai'r lle priodol ar gyfer hyn fyddai'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol.
Fodd bynnag, pryder ychwanegol yw nad yw defnyddwyr terfynol deddfwriaeth yn ymwybodol o fodolaeth memoranda esboniadol, neu'n methu cael mynediad atynt yn hawdd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwella'r sefyllfa hon er mwyn ei gwneud yn haws i ddinasyddion Cymru ddeall ystyr deddfwriaeth.
Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ynghylch y pryderon penodol a godwyd gennym am reoliadau 4 a 5 y ddeddfwriaeth, ond nodwn na wnaeth sylw ar ein pryderon ehangach yr wyf newydd eu nodi. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch. Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb.
Diolch, Dirprwy Llywydd, ac o ran y pwynt yr ydych yn dweud na wnes i gyfeirio ato, credaf fod Dai Lloyd wedi gwneud pwynt perthnasol iawn, bod angen i ni ystyried sut mae pobl o'r tu allan i'r lle hwn yn gallu cael gafael ar y ddeddfwriaeth, oherwydd mae gennym ni gorff mor enfawr o ddeddfwriaeth yn mynd drwodd nawr i baratoi ar gyfer y diwrnod cyntaf, ar ôl Brexit, sy'n amlwg yn golygu y byddai'n bosibl methu rhywbeth. Felly, byddwn yn hapus iawn i edrych ar hynny.
Diolch yn fawr iawn i chi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar y Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6993 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y dadansoddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru.
Hoffwn i droi yn gyntaf at y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Nid wyf i'n credu y bydd yn syndod i neb ein bod ni'n gwrthod y gwelliant gan y Ceidwadwyr, sydd ar ei orau yn ceisio bychanu'r effaith a gaiff diwygio lles, ac ar ei waethaf, yn ceisio ymryddhau o unrhyw gyfrifoldeb am yr effaith ddinistriol a gaiff ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac yn dlawd yng Nghymru.
O ran y gwelliant gan Blaid Cymru, rwy'n awyddus i egluro bod y Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i archwilio'r achos o blaid datganoli agweddau ar weinyddu'r system fudd-daliadau. Byddwn yn edrych eto ar dystiolaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd, yn asesu profiad yr Alban hyd yma, ac wedyn yn darparu sylfaen o dystiolaeth i edrych ar bethau y gellir eu dwyn yn eu blaenau. Bydd raid i ni, wrth gwrs, edrych ar y modd y gallwn sicrhau bod unrhyw drosglwyddo swyddogaethau yn dod gyda'r cyllid angenrheidiol.
Mae'r adroddiad hwn yn dwyn at ei gilydd ystadegau allweddol, dadansoddiadau a thystiolaeth ar effaith digwyddiadau lles cyfredol ac arfaethedig ar deuluoedd yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y toriadau budd-dal sylweddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU o 2010 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2019—cyfnod y gwelsom ni ynddo newid sylweddol yn y system—ac yn amlinellu'r effeithiau unigol a chronnol.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi rhai newidiadau cadarnhaol yn ddiweddar, fel cynnydd mewn rhai lwfansau gwaith credyd cynhwysol, ond mae'r rhain yn gymharol fychan yn eu maint. Rydym yn gwybod bod effaith y newidiadau lles hyn yn gyffredinol yn atchweliadol, gyda'r effeithiau mwyaf yn cael eu teimlo gan bobl ar yr incwm isaf, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o doriadau budd-dal yn cael eu cyflawni yn rhannol yn unig, yng nghysgod toriadau sylweddol sydd eto i ddod. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r diwygiadau yn gwthio 50,000 o blant yn ychwanegol i dlodi pan fydd y rhain i gyd yn weithredol. Y gwir plaen yw bod yr ergyd ddwbl o ddiwygio lles ac agenda cyni yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd leiaf abl i ddwyn y baich. Ac nid dyna ddiwedd arni.
Ceir effaith negyddol anghymesur hefyd ar incwm nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, aelwydydd pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd, a menywod, wrth gwrs. Mae'r effeithiau negyddol hyn, i raddau helaeth, yn deillio o newidiadau i'r system budd-daliadau, yn benodol: y penderfyniad i rewi cyfraddau budd-daliadau oedran gweithio; y terfyn dau blentyn o ran credydau treth a chredyd cynhwysol; diddymiad yr elfen deuluol; a newidiadau i fudd-daliadau anabledd. Roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf yn rhoi llwyfan amserol o ran gweithredu ar rewi budd-daliadau. Yn anffodus, ni chafwyd cyhoeddiad na chamau gweithredu, er i'r rhewi wthio llawer o deuluoedd ymhellach i dlodi.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn nodi'n eglur nifer o bryderon o ran cyflwyno credyd cynhwysol hyd yma, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol: yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, banciau bwyd, a gwneud cais am gredyd cynhwysol ar-lein. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau seneddol yn briodol yn galw am ddiwedd i orfod aros am bum wythnos am y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cyfaddef ar 11 Chwefror mai'r prif reswm sydd wedi arwain at y cynnydd hwn yn nefnydd y banciau bwyd o bosib yw'r ffaith bod pobl yn cael anhawster o ran asesu eu harian ar gyfer credyd cynhwysol yn ddigon cynnar.
O ran taliadau annibyniaeth personol, mae'r dystiolaeth a grynhoir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod problemau enfawr a niweidiol yn bodoli ac yn parhau gyda'r broses asesu cymhwysedd. Dirprwy Lywydd, bydd pob un sydd yma yn y Siambr hon yn gyfarwydd â rhai o'r problemau gwrthnysig y mae pobl wedi dod ar eu traws wrth wneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Ceir pryderon gwirioneddol o ran gallu contractwyr i gynnal asesiadau cymhwysedd yn gywir. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y gyfran sylweddol a chynyddol o apeliadau yn barnu o blaid yr hawlydd.
Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau ataf i, gan nodi nifer o newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cwblhau. Mae'r ymrwymiad i adolygu'r broses asesu i'w groesawu ond, fel y dywedir, yn y manylion a'r ddarpariaeth y bydd y diafol yn hyn o beth. Rydym ni dro ar ôl tro ac yn gadarn wedi egluro pryderon y Llywodraeth hon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal cyflwyno'r credyd cynhwysol, a chwilio am newid brys yn y polisïau mwyaf niweidiol, fel y cyfyngiad dau blentyn. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai newidiadau, ond nid yw'r rhain yn mynd yn ddigon pell.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i ateb y diffyg cyfan sy'n deillio o'r diwygiadau lles hyn gan Lywodraeth y DU, yr amcangyfrifir y byddan nhw'n £2 biliwn erbyn 2020 i Gymru. Ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud yn iawn â nhw wrth iddyn nhw geisio ymdopi ag effaith annheg ac anghymesur y diwygiadau hyn. Drwy ein gwaith cynhwysiant ariannol, rydym yn rhoi cyllid grant o bron £6 miliwn y flwyddyn, sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau fel Cyngor Da, Byw'n Well sy'n darparu gwasanaethau cyngor o fewn pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol. A phan fydd cyfran o'r ardoll ariannol i ddarparu gwasanaethau cynghori ar ddyled wedi cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, rwy'n rhagweld y bydd hyn yn cynyddu ein cyllid grant cyfredol i oddeutu £8.5 miliwn o fis Ebrill eleni ymlaen.
Gwyddom fod ein cyllid i wasanaethau cynghori yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd y cyllid dros 73,000 o bobl, gan eu helpu i gael gafael ar bron £60 miliwn o incwm budd-daliadau lles. Ymwelais â Chyngor ar Bopeth Bargoed yn ddiweddar, un o'r ardaloedd peilot ar gyfer gwasanaeth cymorth newydd i'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol, a gwelais drosof fy hun rai o'r anawsterau gyda thechnoleg ddigidol a pha mor hanfodol yw'r cymorth hwn wrth wneud cais am gredyd cynhwysol.
Mae gan ein cronfa cymorth dewisol swyddogaeth hollbwysig wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf anghenus ac mae wedi cefnogi 214,300 o bobl, gan roi nawdd i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gyda thros £44 miliwn mewn grantiau ers mis Ebrill 2013. Mae'r gronfa wedi gweld penllanw o ran pobl yn ymgysylltu am gymorth. Dirprwy Lywydd, pan ymwelais â'r ganolfan sy'n derbyn galwadau gan bobl sy'n ceisio cael gafael ar hawliadau gan y Gronfa Cymorth Dewisol a'r gronfa cymorth mewn argyfwng, mae'r dystiolaeth o'r fan honno'n awgrymu, i lawer o'r bobl hyn, fod hyn o ganlyniad i gyflwyniad credyd cynhwysol. Felly, rydym yn rhoi £2 miliwn yn fwy o gyllid eleni, ac ar gyfer 2019 a 2020.
Er mwyn talu cost y prydau ysgol am ddim ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno credyd cynhwysol, byddwn yn rhoi £5 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018-19 drwy gynllun grant. Bydd £7 miliwn ar gael i awdurdodau lleol hefyd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20.
Mae ein cynnig gofal plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru ac yn helpu ail enillwyr i gael gwaith ac yn galluogi rhieni sy'n gweithio'n rhan-amser i gynyddu eu hincwm drwy weithio mwy o oriau, sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.
Gwyddom fod cyni yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl, felly rydym yn rhoi £244 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae bron 300,000 o aelwydydd ar incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu biliau treth gyngor, ac nid yw 220,000 ohonyn nhw yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Dirprwy Lywydd, gwn nad yw effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU i lawer yn y Siambr hon a llawer mewn cymunedau ledled y wlad yn rhywbeth sy'n achosi pryder mawr yn unig iddyn nhw, ond ei fod yn achos dicter gwirioneddol, a hynny'n briodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfraniadau i'r ddadl hon ar y dadansoddiad ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwir yn enw Darren Millar. Mark.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch. Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth y DU gylch o anobaith, gyda diweithdra a dibyniaeth aml-genhedlaeth wedi gwreiddio'n ddwfn mewn gormod o leoedd, a Chymru ar ei hôl hi. Nawr mae gennym ni fwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen ac mae cyflogau yn y DU yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers mwy na degawd. Ac mae'r ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod lefelau lles personol a sgoriau iechyd meddwl wedi gwella yn y DU ar ôl 2011.
Rwy'n cynnig gwelliant 1, sy'n cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Lafur Cymru o effaith diwygio lles. Er hynny, mae ei natur wleidyddol a'i fod yn hepgor meysydd allweddol o newid, gan gynnwys newidiadau gan Lywodraeth y DU i lwfansau treth incwm personol ers 2010 a chyflwyno credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol yn achos siom i ni. Siom i ni hefyd yw diffyg nodau ystyrlon gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi. Wrth feio Llywodraeth y DU yn barhaus am achosi amddifadedd yng Nghymru, maen nhw'n ceisio osgoi'r gwirionedd mai yn eu dwylo nhw y mae llawer o'r ysgogiadau wedi bod i fynd i'r afael â thlodi dros 20 mlynedd. Ac, fel y canfu 'A yw Cymru'n Decach?' adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fis Hydref diwethaf, mae tlodi ac amddifadedd yn parhau'n uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain. Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU ac mae cyflogau wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Yn ddamniol, dangosodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyflogau gweithwyr y DU yn 2018 hefyd fod cyflogau cyfartalog yn is yng Nghymru ac wedi tyfu'n fwy araf nag yng ngwledydd eraill y DU yn y flwyddyn flaenorol. Mewn gwirionedd, 20 mlynedd ar ôl datganoli, gan Gymru y mae'r cyflogau clir isaf ymysg gwledydd y DU.
Canfu adroddiad 'UK Poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod 60 y cant o oedolion o oedran gweithio mewn aelwydydd di-waith mewn tlodi o'i gymharu â 16 y cant o'r rhai mewn aelwydydd sy'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru ei hunan wedi cyfaddef bod cyflogaeth yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae Tŷ'r Cyffredin—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, pwy sy'n siarad? Ie, mae'n ddrwg gen i.
Diolch i chi, Mark, am ildio. Diolch yn fawr iawn. Os derbyniwn fod cyfraddau uchel o anfantais ac amddifadedd yn rhai o'r cymunedau ac yr effeithir ar rywfaint o'r rhai sydd ar yr incwm isaf gan y newidiadau mwyaf pitw, rwy'n gofyn iddo wrando ar lais Aelodau Seneddol Ceidwadol, a Gweinidogion yn wir, sydd wedi siarad allan ynglŷn â hyn. Pan wnaeth Esther McVey gydnabod y gallai pobl gyda throsglwyddiad credyd cynhwysol, rhai o'r bobl hynny yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw funud yn ôl, fod £200 yn dlotach yn sgil y newid, fe fydden nhw'n dlotach, gan gynnwys pobl sydd mewn gwaith. Fe ddywedodd hi
Rwyf wedi dweud ein bod ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, a bydd hi'n waeth ar rai pobl,
neu hyd yn oed Amber Rudd, a ddywedodd fod credyd cynhwysol wedi achosi ymchwydd yn y defnydd o'r banciau bwyd. Ni allwch chi wadu, 'does bosib, fod y newidiadau i drethiant a lles wedi taro'r bobl yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw galetaf un.
Diolch. Wel, byddaf yn sôn am hynny yn ystod gweddill fy araith, ac rwyf innau hefyd wedi bod yn ysgrifennu at Weinidogion San Steffan am y materion a godwyd yn fy mhrofiad i gydag etholwyr.
Dywedodd Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin yn 2012,
Mae cefnogaeth eang i'r egwyddorion y tu ôl i gredyd cynhwysol, ac rydym ninnau o'r un farn.
A dywedodd Ysgrifennydd cysgodol Gwaith a Phensiynau'r Blaid Lafur yn 2014,
Mae Llafur yn cefnogi egwyddor credyd cynhwysol.
Mae credyd cynhwysol yn disodli system sy'n ffaelu, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd, a symud i mewn i waith yn gynt ac aros mewn gwaith yn hwy. Serch hynny, fel y dywed Llywodraeth y DU, dylai unrhyw faterion, o'i chyflwyno, gael sylw, ac fe wnaiff hynny ddigwydd. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r DU fis Tachwedd diwethaf,
Rwy'n gwybod bod problemau gyda chredyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da... Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Rwy'n gwybod y gall fod yn well.
Wrth i mi siarad yn y fan hon fis Tachwedd diwethaf, manylais ar gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynglŷn â rhoi credyd cynhwysol ar waith a oedd wedi eu cyhoeddi eisoes. Er bod y rhwydwaith banc bwyd yr oeddech chi'n sôn amdano wedi agor yn 2004, gyda'r nod o gael banc bwyd ym mhob tref yn y DU, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fis Tachwedd diwethaf,
Rydym ni eisoes wedi cyflwyno taliadau 100% ymlaen llaw, rhoi cyllideb ar gyfer cymorth, taliadau uniongyrchol i landlordiaid a thalu dwy wythnos yn ychwanegol o fudd-dal tai i bobl sy'n symud o Fudd-Dal Tai i Gredyd Cynhwysol.
Dan daliadau annibyniaeth personol, mae 31 y cant o hawlwyr anabl yn derbyn y gyfradd uchaf o gymorth erbyn hyn o'i gymharu â 15 y cant dan lwfans byw i'r anabl. Er hynny, rwyf wedi cefnogi llawer o'm hetholwyr i herio penderfyniadau ar daliadau annibyniaeth personol yn llwyddiannus tra bod y gweithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn cynnal eu hasesiadau yn arddangos ymwybyddiaeth wael a diffyg dealltwriaeth o'r rhwystrau y mae eu cyflyrau yn eu creu iddyn nhw. Rwyf wedi ysgrifennu droeon hefyd at Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â hyn. Felly, rwy'n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fod nifer yr apeliadau ar daliadau budd-dal anabledd personol sy'n dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU—72 y cant haf y llynedd—yn rhy uchel. Hefyd, fe fydd hi'n rhoi sylw i hyn a chyhoeddiadau eraill, gan gynnwys y bwriad i integreiddio'r taliad annibyniaeth personol, credyd cynhwysol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn un gwasanaeth rhannu gwybodaeth i leihau'r angen i ymgeiswyr orfod cyflwyno gwybodaeth sawl tro. Dim ond ddoe fe glywais i gan elusen yng Nghymru sydd â rhan yn hyn am eu gwaith gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gefnogi pobl gyda namau ar y synhwyrau i gael gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru hithau chwarae ei rhan hefyd. Er enghraifft, dylai ymateb yn gadarnhaol i'r alwad gan Dai Cymunedol Cymru iddi hi ac awdurdodau lleol Cymru weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gyd-leoli gwasanaethau a chaniatáu i fudd-daliadau gan awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â chredyd cynhwysol, a chan gyhoeddi cynllun cadarn i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys nodau perfformiad clir a mesurau o gynnydd. Diolch.
Rwy'n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, ac rwy'n cynnig y gwelliant. Nid