Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/12/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Pryhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood. 

Cartrefi Gofal

1. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gartrefi gofal? OQ63563

Rydym ni'n cynyddu capasiti lle mae ei angen fwyaf, ond rydym ni hefyd yn trwsio'r system fel bod llai o bobl yn cyrraedd argyfwng yn y lle cyntaf. Ar draws y gogledd, rydym ni'n ehangu gofal cymunedol, yn tyfu timau ailalluogi, ac yn buddsoddi mewn darpariaeth nid-er-elw newydd i blant ac oedolion. Ac mae hynny'n golygu mwy o gymorth gartref, adferiad cyflymach a llai o bobl angen gwely preswyl. A thrwy dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal—rhywbeth y gwnaeth Llafur Cymru yn unig ymrwymo iddo—rydym ni'n sefydlogi'r gweithlu, ac yn gwella ansawdd a chysondeb gofal i drigolion a'u teuluoedd y gaeaf hwn.

Mae COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dweud pan wnaethon nhw gyfarfod â'r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, ym mis Awst 2022, ei fod wedi cynnig ymchwilio i'r holl farwolaethau o COVID mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Ar ôl mynd ar drywydd hyn dro ar ôl tro, fe'u hysbyswyd na fyddai ymchwiliad wedi'r cwbl ac, yn hytrach, bod canllaw arferion da ar gyfer y sector cartrefi gofal wedi cael ei gynhyrchu. Pan, yng ngoleuni modiwl 6 ymchwiliad COVID-19 y DU, y gwnaethon nhw wneud gwaith dilynol ar effeithiolrwydd y ffurflen hon a'r hyn a ddysgwyd, nododd gohebiaeth ymateb yn hytrach nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu adborth ar y canllaw, bod y canllawiau yn gynghorol, ac y gall darparwyr cartrefi gofal eu defnyddio yn ôl eu disgresiwn. Ceir pryder difrifol felly ei bod yn ymddangos, ar ôl pum mlynedd, nad yw'r un farwolaeth o COVID mewn cartref gofal yng Nghymru wedi cael ei hymchwilio, ac nad oes neb o Lywodraeth Cymru wedi gofyn am unrhyw adborth ar ffurflen adolygu'r canllaw na'r gwersi a ddysgwyd. Felly, a adborth, os o gwbl, sydd wedi cael ei gasglu ar ffurflenni adolygu'r canllaw gan y cartrefi nyrsio a gofal a'u derbyniodd, a phryd, os byth, bydd adroddiad ar yr hyn a ddysgwyd o hyn yn cael ei gyhoeddi?

Wel, mae'r ymchwiliad cyhoeddus wedi adrodd yn ddiweddar ar fodiwl 2B, a roddodd gipolwg ar sut y gwnaethom ni ymdrin ag ef yng Nghymru. Ceir modiwl penodol o ran cartrefi gofal, ac yn amlwg nid yw hwnnw wedi adrodd eto. Felly, bydd argymhellion sy'n dod allan o hwnnw, ac mae'n amlwg y bydd angen i Lywodraeth Cymru ymateb i'r rheini maes o law.

Rwy'n ddiolchgar am yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud yma, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i unrhyw drafodaeth am gymorth i gartrefi gofal edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig, oherwydd yn ystod pandemig COVID, bu'n rhaid i bobl a oedd yn gweithio mewn cartrefi gofal ledled Cymru wynebu'r trawma o golli preswylwyr o flaen eu llygaid, ac fe wnaeth llawer o deuluoedd, gan gynnwys fy un i, golli anwyliaid a oedd yn byw mewn cartrefi gofal. Er mwyn y gweithwyr gofal, hoffwn wybod pa gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw hyd heddiw, i helpu i ymdopi â'r hyn y gwnaethon nhw fyw drwyddo. Ac i'r teuluoedd a ddioddefodd brofedigaeth, i'r rhai sy'n dal i chwilio am atebion, byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog a yw'n deall pam mae hi bod cynifer eisiau gweld ymchwiliad Cymru a fyddai'n ymdrin â COVID mewn cartrefi gofal, gan gynnwys penderfyniadau am peidio â phrofi cludwyr asymptomatig cyn iddyn nhw adael yr ysbyty. Nawr, ni fyddai hyn yn ymwneud â neilltuo bai; nid oes neb yn ennill dim o hynny. Byddai'n ymwneud â sicrhau ein bod ni'n dysgu gwersi o'r cyfnod ofnadwy hwnnw, er mwyn pawb y gwnaethom ni eu colli.

Wel, rydym ni'n dal i gyfrif cost COVID, yn emosiynol mewn achosion llawer o bobl. Os edrychwch ar y problemau iechyd meddwl sy'n dal i fod yn gyffredin yn llawer o'n cymunedau, yn arbennig, mae llawer o bobl ifanc yn dal i geisio dod i delerau ag ef. Roedd yn wirioneddol hanfodol ar adeg COVID ein bod ni'n rhoi'r cymorth hwnnw ar waith, yn enwedig i'r bobl a oedd yn gweithio yn y cartrefi gofal, a oedd, ar y pryd, os ydych chi'n cofio'r anhawster—. Nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod beth oedd yn digwydd, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod beth oedd ef. Ac fe gerddodd y bobl hynny i'r rheng flaen, ac fe wnaethon nhw hynny, ac fe wnaethon nhw hynny i ni fel cymuned, fel cymdeithas. Felly, yn amlwg, mae angen i ni fod yno iddyn nhw, a dyna pam rydym ni'n rhoi cymorth sylweddol o ran iechyd meddwl—cymorth i'r bobl hynny. Felly, bydd gwersi i'w dysgu, a bydd y gwersi hynny yn dod allan, gobeithio, yn eglur iawn, pan fydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd ar fodiwl 6.

Dim ond ynghylch darpariaeth cartrefi gofal, mae Cyngor Sir y Fflint, lle'r oeddwn i'n gynghorydd, wedi datblygu cartrefi gofal a chynlluniau gofal ychwanegol, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd dros flynyddoedd lawer. Ac rwy'n falch iawn y bydd Tŷ Croes Atti, cyfleuster tri llawr, 56 gwely, yn cael ei agor yn swyddogol yn fuan yn y Fflint, ar dir yr ysbyty cymuned blaenorol. Mae'n fuddsoddiad gwerth £18 miliwn o'r radd flaenaf, gydag £11 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r buddsoddiad cyhoeddus cyfunol hwnnw wedi cynyddu capasiti yn sylweddol, gan gynnwys ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, ac mae hefyd wedi creu mentrau cyflogaeth, addysg a gyrfaoedd mewn dull partneriaeth gymdeithasol. Mae hefyd yn ddi-garbon, felly bydd biliau ynni sydd fel rheol yn bwyta i mewn i'r gyllideb yn fach iawn, sy'n newyddion gwych. Prif Weinidog, faint o gyfleusterau gofal gwych eraill, gan gynnwys ailalluogi, sydd wedi cael eu creu mewn partneriaeth ledled gogledd Cymru o dan Lywodraeth Cymru?

13:35

Diolch, Carolyn. Diolch i Gyngor Sir y Fflint am y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud yn Nhŷ Croes Atti. Rwy'n credu ei fod yn dangos yr hyn y gallwch chi ei wneud pan fydd cynghorau, Llywodraeth Cymru a'r GIG yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ar gyfer pobl yn ein cymunedau. Dyna'r ffordd goch Gymreig ar waith. Felly, mae £6.1 biliwn o arian wedi mynd i mewn i'r setliad llywodraeth leol eleni, ac rhywfaint o hwnnw i wneud yn siŵr y gallwn ni dalu'r cyflog byw gwirioneddol i'r bobl sy'n gweithio yn y cartrefi gofal hynny. Ar draws y gogledd, rydym ni'n darparu capasiti gwirioneddol. Felly, nid yw'n fater o Dŷ Croes Atti yn unig; roeddwn i'n ddigon ffodus i fynd i ymweld â Marleyfield House yn sir y Fflint, sy'n eithaf rhyfeddol. Mae bellach wedi dyblu mewn maint ac mae ganddo 16 gwely cam-i-lawr. Mae gennym ni'r cynllun gofal ychwanegol newydd yn Ynys Môn hefyd, sydd bellach yn destun craffu, ac mae gennym ni brosiect Penrhos yng Ngwynedd, sy'n darparu gwelyau dementia a nyrsio hanfodol. Felly, nid adeiladau yn unig yw'r rhain; maen nhw'n helpu pobl i wella'n gynt, yn agosach at adref, ac mae hynny i gyd o fewn y £175 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol eleni.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan Delyth a Mark. Ond roeddwn i eisiau canolbwyntio ar holl faes gofal cymdeithasol. Gall cartrefi gofal ddarparu cymorth hanfodol a nhw yn sicr yw'r dewis cywir i rai pobl. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau aros yn agos at deulu a chymuned, pan fo'n bosibl. Ar hyn o bryd, ledled Cymru, mae gennym ni 1,500 o bobl sydd ddim yn gallu gadael yr ysbyty oherwydd rhyddhau gohiriedig. Ym Mhowys, mae oediadau gofal yn effeithio ar 42 y cant o'r holl welyau, ac yn Hywel Dda, mae'n 25 y cant. Nhw yw'r ddau uchaf yng Nghymru. Mae'r ddau mewn ardaloedd gwledig, lle ceir bylchau yn y ddarpariaeth gymunedol, sy'n taro pobl yn galetach fyth. Gall cartrefi gofal fod y dewis cywir pan fyddan nhw'n diwallu anghenion rhywun, ond, pan fydd pobl a allai fyw yn annibynnol, gyda chymorth priodol, yn cael eu rhoi mewn cartrefi yn ddiofyn, rydym ni mewn perygl o gyflymu eu dirywiad a'u dal mewn systemau sydd i fod i fod dros dro yn unig. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi pryd y byddwch chi'n darparu'r cyllid sydd ei angen ar awdurdodau lleol i ddarparu gofal cymdeithasol priodol sy'n sicrhau y gall ein cleifion sy'n barod i adael yr ysbyty fynd adref gyda'r lefel honno o ofal a chymorth? Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, byddai wedi bod yn llawer gwaeth pe na baem ni wedi gallu gwneud cytundeb gyda chi y llynedd yn y gyllideb, gan fod hynny wedi caniatáu i ni roi £30 miliwn ychwanegol yn y system i gefnogi'r system ofal. Felly, hoffwn dalu teyrnged i chi am hynny. Polisi bwriadol byrddau iechyd ledled Cymru yw cartref yn gyntaf. Dyna lle mae'n rhaid i chi ddechrau. Felly, datblygu'r capasiti hwnnw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig—ac rwyf i wedi gweld hyn yn ddiweddar—yn enwedig o ran diwedd oes—. Gofalwch amdanyn nhw yn eu cartrefi. Gadewch i ni roi'r cymorth gofal o gwmpas y cartref, oherwydd dyna lle maen nhw eisiau bod, dyna lle mae angen datblygu'r cymorth. Mae hynny'n newid sy'n digwydd mewn byrddau iechyd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai dyna lle mae angen rhoi'r ymdrech a'r egni.

Ceir cam cyn hynny, fodd bynnag. Y cam yw eu hatal rhag mynd i mewn yn y lle cyntaf. Dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n nodi pwy yw'r rhai mwyaf agored i niwed, pwy yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o orfod mynd i'r ysbyty, a lapio rhywfaint o gymorth o'u cwmpas cyn iddyn nhw fynd i mewn. Dyna'r dull sy'n cael ei fabwysiadu ar draws byrddau iechyd yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod pwy ydyn nhw, rydym ni'n gwybod pwy sy'n debygol o fynd i mewn, gan y gallwn ni weithio'r proffil allan. Gadewch i ni fod yn eglur wedyn, mewn gwirionedd, bod ailalluogi yn bwysig iawn. Gadewch i ni eu cael nhw yn ôl ar eu traed, gadewch i ni eu cael nhw'n annibynnol, gadewch i ni geisio eu symud nhw allan o'r ysbyty cyn gynted ag y gallwn ni fel nad ydyn nhw'n dod yn fwy eiddil, fel y maen nhw'n ei wneud yn gyflym iawn yn yr ysbyty.

13:40
Llywodraethiant y GIG

2. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau tryloywder yn llywodraethiant y GIG? OQ63588

Mae tryloywder yn hanfodol i feithrin diwylliant agored o ddysgu yn y GIG. Mae'n hanfodol i fagu hyder y cyhoedd yn ansawdd gofal iechyd a pherfformiad sefydliadau iechyd—[Torri ar draws.] Mae mwy i ddod. Ym mis Hydref, fe wnaethom ni lansio cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda sefydliadau'r GIG. Mae'r rhain ar gael i unrhyw un eu gwylio ar-lein, ac rwy'n credu eu bod nhw'n gam pwysig iawn ymlaen i gryfhau tryloywder yn GIG Cymru. Mae llywodraethu yn thema allweddol yn y fan honno.

Rydym ni i gyd eisiau gweld gwell tryloywder yn ein GIG, Prif Weinidog, ac mae hyn yn cael ei deimlo mwy nawr gyda'r holl honiadau sy'n cael eu taflu ar hyn o bryd ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn y bartneriaeth cydwasanaethau ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi datganiad yr wythnos diwethaf yn datgan yn ddiamwys nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweld nac wedi derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu troseddoldeb. Mae hynny'n groes i'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, onid yw? Anfonwyd llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 8 Gorffennaf gan uwch arweinydd o fewn GIG Cymru yn dweud ei fod yn credu, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, fod troseddoldeb honedig o fewn y bartneriaeth cydwasanaethau. Hoffwn wybod gennych chi, Prif Weinidog: a gymerodd Llywodraeth Cymru hyn o ddifrif ac a wnaethon nhw ymchwilio i'r honiadau hyn—do neu naddo?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i bryderon yn ymwneud â thrwyddedau rheoleiddio. Gwnaed hyn mewn cydweithrediad â'r rheoleiddwyr perthnasol, a gadarnhaodd nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon gyda'r trefniadau ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Rhannwyd sicrwydd gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre fel y sefydliad lletyol. Nid yw Archwilio Cymru wedi codi unrhyw bryderon am faterion ariannol o ran cydwasanaethau GIG Cymru gyda Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos diwethaf, fe ofynnais i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr adolygiad o'r shared services a gafodd ei gomisiynu nôl ym mis Ebrill a'i orffen yng Ngorffennaf, ac os oedd o'n fodlon ei gyhoeddi o. Dwi'n falch gweld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi datgan dros y penwythnos ei fwriad i gyhoeddi'r adroddiad hwnnw, er nad oes amserlen ar gyfer hyn. Dwi'n deall bod yna adroddiadau eraill yn bodoli ac yn guddiedig. Mae yna adroddiad gan PricewaterhouseCoopers ers mis Mai, mae yna gyngor cyfreithiol a gomisiynwyd gan y cadeirydd fel rhan o adolygiad ffeithiol, a barn gyfreithiol arall a gomisiynwyd nôl ym mis Tachwedd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo er mwyn sicrhau bod y rhain yn mynd i gael eu cyhoeddi mor fuan â phosib er lles tryloywder?

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n mynd i gyhoeddi ein hymateb i'r recommendations, fel ein bod ni'n gallu sicrhau tryloywder. Y ffaith yw bod y trefniadau presennol wedi bod mewn lle am 14 mlynedd, ac mae lot wedi newid yn ystod y cyfnod yna. Felly, mae pobl yn edrych ar hynny ar hyn o bryd, ac mi fydd hwn yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy'n bosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gen i ofn bod yr holl sefyllfa hon yn GIG Cymru wir yn drewi. Mae'n ymddangos, bob tro y mae rhywun yn codi pryderon am gamweddau, mae'n ymddangos eu bod nhw'n colli eu swydd. Rydym ni wedi gweld hyn yn Felindre, gyda phrif weithredwr yn cael ei orfodi allan o'i swydd ar ôl chwythu'r chwiban am droseddu posibl. Nid yw cadeirydd yr un ymddiriedolaeth GIG bellach yn ei swydd ar ôl iddi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am bryderon llywodraethu gyda chontract gwerth £14 miliwn. Ni wasanaethodd yr wyth mlynedd llawn y mae cadeiryddion yn ei wneud fel rheol. Yng ngogledd Cymru—a byddwch yn cofio hyn gan mai chi oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y pryd—fe wnaethoch chi ddiswyddo holl aelodau anweithredol y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ôl iddyn nhw ddatgelu tystiolaeth o gyfrifyddu anwir, cydgynllwynio gyda chyflenwyr a ffugio archebion prynu. Mae'n drewi hyd y nefoedd. A ydych chi wir yn disgwyl i'r cyhoedd ac Aelodau o'r Senedd hon gredu nad oes unrhyw gyd-ddigwyddiad bod prif weithredwr, cadeirydd a thîm o swyddogion anweithredol mewn dau fwrdd iechyd wedi colli eu swyddi ar ôl codi pryderon o'r fath? Fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n cyhoeddi eich ymateb i adroddiad PricewaterhouseCoopers a'i argymhellion, ond dydych chi ddim wedi dweud y gwnewch chi wneud yr adroddiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd, ynghyd â'r cyngor cyfreithiol, sy'n amlwg wedi bod yn awgrymu y gallai troseddu fod wedi bod yn digwydd ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Pam na wnewch chi gyhoeddi'r dogfennau hynny a pham na wnewch chi esbonio pam, pan fo pobl yn chwythu'r chwiban, eu bod nhw'n colli eu swyddi yn y pen draw yn ein GIG?

13:45

Gadewch i mi fod yn eglur: o ran unrhyw honiadau o droseddu, yr hyn sy'n bwysig yw eu bod nhw'n dilyn y mesurau priodol i wneud hynny. Mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr eu bod nhw'n cysylltu â'r mecanweithiau priodol o fewn y GIG, neu'r heddlu, a bydd y rheini yn cael eu hymchwilio. Rydym ni wedi cynnal ein hymchwiliad mewnol ein hunain. Os oes unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallwch chi neu unrhyw un arall ei gyflwyno, yna gwnewch hynny. Ond rydym ni wedi edrych ar hyn ac mae'r awdurdodau priodol wedi edrych arno, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nawr ein bod ni'n edrych ar y mater ehangach o berfformiad, cynhyrchiant ac atebolrwydd. Byddwch yn ymwybodol, Darren, bod hyn yn rhywbeth a sefydlais pan oeddwn i'n Ysgrifennydd iechyd—grŵp cynghori'r gweinidog gorchwyl a gorffen. Fe wnaeth hwnnw adrodd ac rydym ni'n cyflwyno nawr ac yn gweithredu argymhellion y grŵp hwnnw. Bydd angen newidiadau cyfreithiol ychwanegol ar rai ohonyn nhw er mwyn iddyn nhw gael eu gweithredu. Ond y gwir amdani yw mai gweithio'n gyhoeddus yw tryloywder nawr, ac, fel y dywedais, rydym ni wedi cael y cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus hyn lle mae'r Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am iechyd yn ymchwilio i'r hyn sy'n digwydd yn y sefydliadau hynny.

Prif Weinidog, nid yw'r trefniadau llywodraethu yn gweithio. Mae hwn yn fater difrifol. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau ei ysgubo o'r golwg, fel rydych chi'n ei wneud gyda phob mater fel hyn yn GIG Cymru. Ond gadewch i ni ystyried hyn: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw'r sefydliad sy'n cael ei gyhuddo o ddiystyru'r rheolau a throseddu posibl ac ymddygiad amhriodol. Dyma'r union sefydliad sydd i fod i atal twyll yn GIG Cymru a darparu arbenigedd ar lywodraethu i fyrddau iechyd eraill. Mae'n gyfrifol am wario cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr bob blwyddyn, ac eto mae'n ymddangos na ellir ymddiried ynddo. Os na allwn ni ymddiried yn y sefydliad hwnnw, ac os na all eich prif weithredwyr GIG ymddiried yn y sefydliad hwnnw, pwy allan nhw ymddiried ynddo?

Rydych chi'n dweud wrthym ni y dylid hysbysu'r heddlu am bethau os oes troseddu honedig. A wnaeth Llywodraeth Cymru hysbysu'r heddlu am unrhyw un o'r materion hyn? Os naddo, pam na wnaethon nhw hysbysu'r heddlu amdanyn nhw? A oedden nhw'n dibynnu ar y sefydliad hwn, sydd wedi'i gyhuddo, a bod yn onest, o'r hyn a fyddai'n ymddangos fel ymddygiad llygredig? Pam y caniateir i'r sefydliad hwn farcio ei waith cartref ei hun ar y materion hyn? Mae'n drewi, nid yw'n iawn. Pam nad ydych chi'n hysbysu'r heddlu am y mater hwn os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes? Fe wnaethoch chi ddweud eich hun y dylai hynny ddigwydd.

Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw rydym ni wedi ymchwilio i bryderon yn ymwneud â thrwyddedau rheoleiddio. Gwnaed hynny mewn cydweithrediad â'r rheoleiddwyr perthnasol, a gadarnhaodd nad oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am drefniadau'r bartneriaeth cydwasanaethau. Rhannwyd y sicrwydd hwnnw gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre fel y sefydliad lletyol ym mis Mai 2025. Cyfrifoldeb y bwrdd a'r sefydliadau yw unrhyw faterion yn ymwneud â chyflogi prif weithredwr. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y penderfyniad i derfynu cyflogaeth y cyn-brif weithredwr.

Rydych chi'n dweud nad oes gennych chi unrhyw ran yn y trefniadau cyflogaeth ar gyfer y cyn-brif weithredwr, ond, wrth gwrs, mae gan gadeirydd y bwrdd iechyd, cadeirydd newydd sbon a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ychydig wythnosau yn unig cyn i'r prif weithredwr gael ei ddiswyddo. Mae'n gwbl gywilyddus, Prif Weinidog. Mae'n amlwg nad oes gennych chi afael ar y sefyllfa yn y sefydliad hwn, sydd wedi'i gyhuddo o ymddygiad a allai fod yn droseddol. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n dweud bod gennych gyngor na fu unrhyw droseddu. Gadewch i ni weld y cyngor hwnnw. Cyhoeddwch ef. Pam na wnewch chi ei rannu gyda ni, fel y gallwn ni gael y tryloywder honedig hwn, yr ydych chi'n gefnogwr brwd ohono yn GIG Cymru ac yn y trefniadau llywodraethu hyn?

Oherwydd y gwir amdani yw hyn: mae GIG Cymru mewn argyfwng. O dan Lafur, ein GIG yw'r un sy'n perfformio waethaf ym Mhrydain. Mae pobl yn marw yn aros am ambiwlansys, maen nhw'n marw yn aros am driniaeth ar drolïau yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, ac maen nhw'n marw yn aros blynyddoedd, weithiau, am brofion a thriniaeth. Ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r problemau hyn, mae'n ymddangos eich bod chi'n ceisio cuddio problemau ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, lle mae'n amlwg bod problem enfawr yn bodoli ac nid yw pobl wedi cael eu dwyn i gyfrif am eu methiannau. Mae hon yn gyfundrefn bwdr yn GIG Cymru y mae angen ei dirwyn i ben, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn cael ei thrwsio.

Rwy'n eich herio eto: a wnewch chi gyhoeddi'r dogfennau hynny fel y gallan nhw weld golau dydd a chaniatáu i ni fel Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd graffu arnyn nhw? Ac a allwch chi esbonio unwaith eto pam rydych chi'n dweud wrthym ni yn y lle hwn heddiw bod y rhain yn faterion y dylai eraill fod wedi hysbysu'r heddlu amdanyn nhw, ac eto nid yw'n ymddangos eich bod chi eich hun wedi hysbysu'r heddlu amdanyn nhw ac nid yw Llywodraeth Cymru chwaith? [Torri ar draws.] Ie, dyna ddywedodd hi. Edrychwch ar y Cofnod, Jeremy.

13:50

Nid dyna ddywedais i. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod ymchwiliad wedi cael ei gynnal. Ni chanfuwyd unrhyw weithgarwch troseddol. Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth ychwanegol, yna dylen nhw ei chyflwyno. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cydnabod y codwyd pryderon gan gyn-swyddog cyfrifyddu a phrif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ac maen nhw wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu'r bartneriaeth cydwasanaethau. Mae wedi cadarnhau ei fod yn mynd i aros am ei ganlyniad cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach. Gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y GIG yng Nghymru, gallwch ei fychanu cymaint ag y dymunwch, ond y gwir amdani yw bod dros 100,000 o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, mwy nag erioed o'r blaen, ac mae 2.75 miliwn o apwyntiadau bob un mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Dyna gyflawni ar waith.

Mae'r Prif Weinidog yn fy meirniadu weithiau yn y sesiynau cwestiynau hyn am fynd ar drywydd materion nad ydyn nhw wedi eu datganoli i Gymru. Wrth gwrs, fy nghyfrifoldeb i yw tynnu sylw at (a) y meysydd hynny y dylid eu datganoli, a gwneud y ddadl dros hynny, a (b) nodi lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli yn rhoi Cymru o dan anfantais a pham y dylem ni sefyll yn gadarn dros y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Dylai unrhyw Brif Weinidog Cymru fy nghefnogi yn frwd yn hynny o beth. Yna mae gennych chi feysydd sydd wedi'u datganoli lle mae Llywodraeth y DU yn ymyrryd. Da iawn i'r aelodau Llafur hynny ar y meinciau cefn sydd bellach wedi deffro i'r realiti hwnnw ac a ysgrifennodd at Keir Starmer yr wythnos diwethaf yn dweud, 'Gadewch lonydd.' Rwy'n canmol eu dewrder, ond yn cwestiynu a ydyn nhw yn y blaid iawn, o gofio dirmyg llwyr Llafur y DU tuag at ddemocratiaeth yng Nghymru. Mae'r ffaith na wnaeth mwyafrif yr Aelodau Llafur o'r Senedd yma lofnodi'r llythyr hwnnw yn siarad cyfrolau, rwy'n credu. Ac wrth gwrs, ni wnaeth y Prif Weinidog ei hun lofnodi. A oedd ganddi ddiffyg dewrder, neu a yw hi'n cymryd ochr Keir Starmer?

Dydw i ddim angen ysgrifennu llythyr at Keir Starmer; rwy'n codi'r ffôn iddo, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n wahanol iawn i'r hyn y gall unrhyw un arall yn y Siambr hon ei wneud. Dyna'r gwahaniaeth rhwng bod â Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan na fyddai'n codi'r ffôn. Ni ddylai neb synnu bod aelodau o'n grŵp ni yn teimlo'n gryf iawn am yr angen i sefyll yn gadarn dros ddatganoli. Mae hyn yn rhywbeth y maen nhw'n teimlo'n gryf amdano, mae'n rhywbeth yr wyf i'n teimlo'n gryf amdano. Ni yw plaid ddatganoli—ni wnaeth gyflwyno datganoli. Rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur, dro ar ôl tro, y dylid parchu datganoli.

Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth Lafur wedi anrhydeddu ei hymrwymiad drwy sicrhau bod grym dros y gronfa twf leol yn cael ei ddychwelyd i Gymru. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod i ni. Nid yw'n digwydd mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—gwahaniaeth enfawr, dros £500 miliwn yn cael ei bennu nawr gan Lywodraeth Lafur Cymru. Y gwir amdani yw bod y bartneriaeth honno yn dwyn ffrwyth, bod â dwy Lywodraeth Lafur. Mae gennym ni ddatblygiad adweithydd modiwlaidd bach yn Wylfa bellach, a pharth twf deallusrwydd artiffisial. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n hapus gyda'r sefyllfa honno. Mae gennym ni barth twf deallusrwydd artiffisial arall yn y de hefyd. Ond rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur, ac rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur yn ystod yr wythnosau diwethaf dro ar ôl tro, bod angen parchu'r setliad datganoli.

13:55

Ni lofnododd y llythyr am Lywodraeth y DU yn ymyrryd mewn materion datganoledig, ond mae'n awgrymu ei bod wedi dweud hynny wrth Keir Starmer. Mae'n rhaid nad oes ganddi unrhyw ddylanwad o gwbl ar Keir Starmer.

O ran y mater yn y llythyr ei hun, sylwedd y llythyr hwnnw, roedd aelodau Llafur ar y meinciau cefn yn iawn i herio rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU, fel yr wyf i. Mae'n diystyru datganoli yn llwyr, gyda chynghorau yn cyflwyno cynlluniau adfywio yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU. Nid yw'n ddim gwell na'r hyn yr arferai'r Torïaid ei wneud. Byddai Llafur wedi bod yn gynddeiriog pe bai wedi bod yn nhw a oedd yn gwneud hyn.

Mae'r system yn manteisio ar Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gwrthododd y Senedd hon, yn briodol, roi cydsyniad iddi. Wrth gwrs, ymataliodd ASau Llafur ar welliannau Plaid Cymru yn San Steffan a fyddai wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad i Gymru. Pam mae'r Prif Weinidog yn credu fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o osgoi Llywodraeth Cymru fel hyn ac mewn llawer o ffyrdd eraill, a beth mae'n mynd i'w wneud ynglŷn â'r tanseilio parhaus hwn o ddatganoli?

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwrando. Mae'r ffaith ei fod wedi darparu cynnydd o £1.6 biliwn i'r gyllideb eleni wedi bod o gymorth, ac mae hynny wedi helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus. Gwrandawodd eto pan ddaeth i dlodi plant. Gan ein bod ni wedi gwneud y ddadl—nid yn ddiweddar, ond yn gyson, dros flynyddoedd lawer—ein bod ni eisiau gweld y cap budd-dal dau blentyn yn cael ei godi. Yr hyn oedd yn anhygoel oedd ei fod wedi penderfynu gwrando arnom ni pan wnaethom ni ddweud, 'Dewch i Drelái yng Nghaerdydd i lansio hynny. Dangoswch eich ymrwymiad i godi plant allan o dlodi ar draws y Deyrnas Unedig gyfan'. Mae gennym ni ysgogiadau penodol yma yn Llywodraeth Cymru a cheir ysgogiadau eraill nad oes gennym ni. Roedd hwnnw yn un nad oes gennym ni, ac mae'r ffaith iddo ymateb i ni pan wnaethom ni ofyn iddo ddod i wneud hynny yng Nghymru yn dangos, rwy'n gobeithio, ei fod yn gwrando.

Byddwn yn parhau i wneud y ddadl o ran datganoli a'r angen i hynny gael ei barchu. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod y dylem ni ganolbwyntio ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl yng Nghymru. Gadewch i ni ganolbwyntio ar y materion bara menyn. Rydym ni'n cyflawni, er enghraifft, 78 y cant o deithiau ar drenau newydd sbon. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn diwedd y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n mynd i fod yn darparu 100,000 o brentisiaethau. Dyma'r pethau sy'n wirioneddol bwysig i'r bobl yn ein cymunedau. Rwyf i eisiau gweld y plant hynny yn cael eu codi allan o dlodi, pob un o'r 69,000 ohonyn nhw yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hwnnw yn achos i'w ddathlu.

Ond mae'r rhain yn faterion bara menyn, onid ydyn nhw? O ran cyhoeddiadau cyllid, boed hynny ar drafnidiaeth neu ar y gyllideb ddiweddar, mae'r Prif Weinidog yn disgrifio'r rhain fel pe baen nhw'n roddion caredig i Gymru. Dydyn nhw ddim, maen nhw'n daliadau canlyniadol o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a wnaed yn Lloegr. Mae hyn oll yn dangos bod y Prif Weinidog a'i Chabinet yn eu swyddi, ond dydyn nhw ddim mewn grym. 

Pa un a yw'n strategaethau etholiadol, cynlluniau gwariant, neu, yn wir, cyhoeddiadau annisgwyl ar restr penodiadau Tŷ'r Arglwyddi, mae'n amlwg mai Keir Starmer sy'n gwneud yr holl benderfyniadau. Does dim rhyfedd bod ein cenedl yn colli allan pan ei bod yn ymddangos bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru honedig yn treulio mwy o amser yn lobïo ar ran yr Arglwydd Gething nag y mae dros Gymru ei hun.

Yn union fel y Torïaid o'u blaenau, ni all Llafur yn Llundain helpu eu hunain. Eu mantra nhw yw bod yn rhaid i Gymru bob amser wneud fel y dywedir wrthym ni, a bod yn ddiolchgar am yr hyn a roddir i ni. Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn credu ei bod hi'n hen bryd i Gymru gael Llywodraeth sy'n barod i herio'r math hwn o agwedd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog sefyll yn erbyn San Steffan o'r diwedd a dweud mai digon yw digon, neu a fydd angen Llywodraeth newydd i hynny ddigwydd?

Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi fod hwn yn ddull cyson sydd gennym ni. Ni fu'r blaid ddatganoli erioed, rydym ni wedi sefyll yn gadarn dros werthoedd Cymru erioed, a byddwn ni bob amser yn rhoi Cymru yn gyntaf. Rwyf i wedi gwneud hynny yn eglur, ac rwyf i wedi ei wneud yn eglur i Keir Starmer a'r Blaid Lafur hefyd.

Rydych chi'n gofyn beth yw'r pethau ychwanegol; gofynnwch i'r bobl yn eich cymuned sy'n mynd i elwa o'r miloedd o swyddi ychwanegol. Nid arian canlyniadol yw hwnnw, penderfyniad gan Lywodraeth y DU yw hwnnw mewn gwirionedd. Gallen nhw fod wedi ei roi yn unrhyw le, ond na, fe wnaethon nhw ddod ag ef i Gymru. Gofynnwch i'r bobl yng nghymunedau'r Cymoedd a ydyn nhw'n teimlo'n fwy diogel nawr oherwydd eu bod nhw wedi cael yr arian ychwanegol hwnnw i glirio tomenni glo yn eu hardaloedd. Gofynnwch i'r bobl sy'n mynd i gael swyddi o ganlyniad i'r ddau barth twf deallusrwydd artiffisial newydd. Gadewch i ni fod yn eglur: nid oes angen i mi ysgrifennu llythyrau at Keir Starmer; rwy'n codi'r ffôn iddo—rhywbeth na fyddwch chi byth yn gallu ei wneud.

14:00
Ceisiadau i Gartrefi gael eu Haddasu

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr amseroedd ymateb i geisiadau am i gartrefi gael eu haddasu i bobl sydd wedi cael diagnosis o glefyd niwronau motor a chyflyrau iechyd tebyg? OQ63584

Mae cael addasiadau i'r cartref mewn da bryd yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy'n byw gydag MND, nid yn unig o ran diogelwch, ond hefyd o ran urddas ac annibyniaeth. Dyna pam rŷn ni wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol i ailwampio'r system, gan symleiddio llwybrau, lleihau dyblygu a chyflymu penderfyniadau fel nad yw pobl yn aros misoedd am newidiadau hanfodol i'w cartrefi. 

Diolch am yr ateb hwnnw, ond yn anffodus, fel y gŵyr unrhyw un a oedd yn y Siambr wythnos diwethaf pan wnes i dalu teyrnged i Kyle Sieniawski, mi fuodd o yn yr ysbyty am bron i flwyddyn cyn iddo fo farw yn 14 oed. Felly, yn amlwg, dim ots beth dŷch chi wedi gwneud, dyna oedd y realiti i'r teulu yma, a gorfod brwydro ar amser y dylen nhw fod wedi canolbwyntio'n llwyr ar gael pob eiliad posib gyda Kyle. Mae adroddiad 'datgloi'r drws' gan Gymdeithas MND yn galw am dai hygyrch, cyflym i bobl ag MND, ac yn cynnig camau gweithredu penodol, gan gynnwys hyfforddiant ac addysg i staff i alluogi llwybr cyflym, cyson a phriodol, a chofrestr o gartrefi cymdeithasol hygyrch.

Felly, a gaf i ofyn, a allwch chi edrych, os gwelwch yn dda—? Dŷch chi wedi dweud y dylai pobl ddim fod yn disgwyl misoedd. Yn amlwg, mae pobl yn aros misoedd. Felly, wnewch chi edrych ac ymrwymo fel Llywodraeth i weld pam nad ydy'r hyn wnaethoch chi ddweud yn eich ymateb cyntaf yn digwydd, a sut ydyn ni'n rhoi'r sicrwydd i deuluoedd fel un Kyle, yn anffodus, a fydd yn dioddef yn y dyfodol, na fyddan nhw hefyd yn gorfod brwydro a ddim cael ymateb na datrysiad?

Diolch. Edrychwch, roedden ni i gyd yn drist iawn o glywed am farwolaeth Kyle. Clefyd niwronau motor yw un o'r clefydau mwyaf creulon, ac mae'r ffordd bod hwnnw wedi effeithio ar blentyn yn arbennig o greulon. Edrychwch, rwy'n gwybod bod yr ymdrech i'w deulu ddarparu cartref addas ar gyfer ei anghenion gofal i'w alluogi i ddod adref o'r ysbyty yn anodd. Roedd addasiadau a oedd yn gymhleth, ac rwy'n gwybod bod Rhondda Cynon Taf wedi asesu cartref y teulu ym mis Chwefror eleni ac wedi canfod ei fod yn anaddas ar gyfer yr addasiadau yr oedd eu hangen. Felly, cynigiwyd grant adleoli o £36,000 yn achos Kyle. Nawr, rwy'n deall bod amser yn hanfodol mewn sefyllfa fel hon, a dyna pam mai'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yw symleiddio a lleihau amrywiadau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i geisio gwella'r system a gwneud yn siŵr bod y ffrydiau ariannu hynny yno ar gyfer yr hirdymor, fel y gall pobl gael y cymorth a'r addasiadau sydd eu hangen arnyn nhw yn eu cartrefi cyn gynted â phosibl.

Prif Weinidog, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ac rydym ni i gyd yn cytuno, mae clefyd niwronau motor yn gyflwr mor ofnadwy. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol, gan ein bod ni wedi cyfarfod â'r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yn y gorffennol. Un o'r materion allweddol hynny oedd y ffordd brydlon o osod cyfleusterau i bobl anabl, ac yn aml mae'n rhaid iddyn nhw droi at grantiau cyfleusterau i bobl anabl, sy'n cael eu gorwario, ac nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn blaenoriaethu eu hanghenion yn ddigon cyflym.

Yn 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y profion modd ar gyfer grantiau cyfleusterau  i bobl anabl llai a chanolig a chyflymu'r addasiadau i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd o hyd. Rwy'n deall bod y data diweddaraf—ac mae'n cael ei nodi ym maniffesto'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor—yn dweud bod pedwar awdurdod lleol yn dal i gynnal profion modd ar rai neu bob grant cyfleusterau i bobl anabl canolig, a dim ond saith awdurdod lleol sydd â phrosesau cyflym ar gyfer addasiadau tai i bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor. Mae'r data diweddaraf hefyd yn dangos bod yr amseroedd aros cyfartalog am fân addasiadau yn 23 diwrnod am asesiad ac yna 127 diwrnod i'w gosod, ac ar gyfer addasiadau canolig 66 diwrnod am asesiad a 146 diwrnod i'w gosod. Nawr, ni all hyn fod yn iawn.

Prif Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch chi yr un mor bryderus ag yr wyf i am y data hynny, felly pryd allwn ni ddisgwyl i'r holl gynghorau wneud yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich ateb agoriadol i Heledd, i wneud yn siŵr bod yr holl elfennau hanfodol hyn ar waith?

14:05

Rydym ni'n cydnabod bod angen i ni symleiddio'r llwybrau, a bod angen i ni leihau dyblygiad, a bod amser yn hanfodol i'r bobl sydd â chlefyd niwrnodau motor. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw cyfrannu cyllid sylweddol at hyn i wneud yn siŵr y gallwn ni symud yn gyflym. Felly, er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi £60 miliwn yn y rhaglenni byw'n annibynnol, a £3 miliwn yn y gronfa tai â gofal flynyddol. Felly, mae'r rheini yn enghreifftiau o swm o arian nad yw'n fach y gall pobl gael gafael arno, lle gallan nhw wneud yr addasiadau. Rydych chi'n iawn, mae'n rhaid i ni gyflymu'r fiwrocratiaeth, mae hynny'n gwbl hanfodol, ond mae'n arbennig o hanfodol, fel y dywedais, mewn achosion yn ymwneud â chlefyd niwrnodau motor.

Diolch, Llywydd. Fel Aelodau, rydym ni'n clywed gan etholwyr sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor, ac sy'n cael eu heffeithio ganddo, bod aros am addasiadau i dai a chymorth ymarferol arall yn cael effaith sylweddol arnyn nhw yn ymarferol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Wrth weithio i leihau'r amseroedd aros am yr addasiadau hanfodol hyn, mae angen cynorthwyo pobl â chlefyd niwrnodau motor yn seicolegol. Dangoswyd bod therapi derbyn ac ymrwymiad yn gwella ansawdd bywyd i bobl â chlefyd niwrnodau motor, ond ar hyn o bryd nid oes digon o adnoddau seicoleg ar gael ledled Cymru i ddarparu hyn. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu gwasanaethau o'r fath ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn, Lesley. Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw'r mater hwn i chi. Rydym ni'n ymwybodol o'r bylchau presennol yn y ddarpariaeth niwroseicoleg, ac mae'r rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth adsefydlu niwroleg ledled Cymru, ac mae hwnnw yn cael ei arwain gan yr arweinydd clinigol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cenedlaethol ar gyfer niwroleg. Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys gwasanaethau niwroseicoleg, ac maen nhw'n mynd i nodi ble mae'r bylchau. Mae hefyd yn mynd i gynnwys nodi'r peth y gwnaethoch chi ei nodi, y cyfyngiadau gweithlu hynny a'r anghenion addysgol a hyfforddiant yn y dyfodol, fel y gallwn ni gael y gwaith o gynllunio'r gweithlu yn iawn.

Felly, mae gennym ni niwroseicolegydd, sy'n aelod allweddol o'r tîm o fewn rhwydwaith gofal a chymorth de Cymru. Mae hwnnw'n fenter gydweithredol rhwng chwech o fyrddau iechyd de Cymru a'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor. Cefnogir y swydd niwroseicoleg gan gyllid gan y Gymdeithas Clefyd Niwrnodau Motor. Byddai'n werth chweil i Betsi geisio cysylltu â hynny i wneud yn siŵr y gallan nhw ddysgu o'r hyn sy'n digwydd yn ne Cymru.

Allied Steel and Wire

4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i unioni anghyfiawnderau y mae pensiynwyr Allied Steel and Wire yn eu hwynebu? OQ63558

Mae cyn-weithwyr ASW yn dal i wynebu anghyfiawnder pensiwn. Fel llawer o Aelodau'r Senedd yn y Siambr yma, rŷn ni wedi codi'r pwnc yma gyda Llywodraeth presennol a blaenorol y DU. Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd cyllid at y Gweinidog pensiynau yr wythnos diwethaf ar ôl cyllideb y Deyrnas Unedig.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, yn 2002, pan aeth ASW i'r wal, collodd 1,000 o ddynion a menywod gweithgar nid yn unig eu swyddi, ond fe wnaethon nhw golli eu sicrwydd a'u dyfodol. Dros 23 mlynedd wedi hynny, mae'r un gweithwyr hyn, sydd bellach yn eu 70au a'u 80au, yn dal i ymladd—ymladd dros gyfiawnder, ymladd dros y pensiynau y gwnaethon nhw eu hennill, y pensiynau a addawyd iddyn nhw, gydag iawndal llawn. Dyna sydd ei angen, iawndal llawn sy'n cymryd chwyddiant a realiti bywyd i ystyriaeth. Maen nhw wedi gorymdeithio, maen nhw wedi deisebu, maen nhw wedi derbyn, dro ar ôl tro, cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon. Ond pan gafodd Llywodraeth Lafur y DU, plaid a sefydlwyd ar gyfer gweithwyr, gyfle i unioni'r anghyfiawnder hwnnw, methodd â gwneud hynny.

Ac yna daeth y sarhad, y gic go iawn yn eu dannedd i'r ymgyrchwyr hyn. Dyrannwyd biliynau ar gyfer anghyfiawnder pensiynau, yn gwbl gywir—dros £2 biliwn—i'r glowyr. Cam i'w groesawu, wrth gwrs, ond dim sôn am weithwyr ASW. Maen nhw wedi cael eu methu a'u hanghofio ers cyfnod rhy hir gan y Blaid Geidwadol, gan y Blaid Lafur, gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw wedi cael eu methu gan Lywodraethau olynol y DU.

Nawr, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi gweithio gyda'r Canghellor i lunio cyllideb ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi clywed sawl gwaith heddiw nad oes angen i chi ysgrifennu llythyrau, y gallwch chi ddefnyddio'r llinell uniongyrchol chwedlonol hon i Downing Street. A wnewch chi godi'r ffôn hwnnw y prynhawn yma a gofyn i Downing Street pam, unwaith eto, mae gweithwyr ASW wedi cael eu hanwybyddu? Diolch yn fawr.

14:10

Rydym ni'n cytuno. Rydym ni'n credu fod angen unioni'r anghyfiawnder hwn, a dyna pam, yr wythnos hon, mae'r Gweinidog cyllid wedi ysgrifennu at y Canghellor i gyfleu hyn, i ddweud, 'Gwrandewch, mae'n wych bod sgandal pensiynau'r glowyr wedi cael sylw—rhywbeth na wnaed o dan y Torïaid—ac mae'n wych bod cynllun blwydd-dal pensiwn staff Glo Prydain hefyd wedi cael ei ddatrys, ond ceir anghyfiawnder o hyd o ran gweithwyr ASW.' Ysgrifennodd Mark Drakeford at y Gweinidog pensiynau, Torsten Bell, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, i godi mater pensiynau gweithwyr Allied Steel and Wire.

A gaf i ganmol Rhys ab Owen am ei ymgyrchu diflino ar y mater hwn yn y tymor seneddol hwn? Ond onid yw'n wir bod triniaeth Llafur o bensiynwyr yn druenus, gan fod Llafur wedi diddymu lwfans tanwydd y gaeaf ar gyfer miliynau, a'r Blaid Lafur sydd bellach yn bwriadu capio lefel y cyfraniadau pensiwn y gellir eu gwneud drwy'r cynllun aberthu cyflog, gan wneud pensiynwyr y dyfodol yn dlotach? Ond pa waith ydych chi'n ei wneud gyda'r Prif Weinidog a Llywodraeth y DU i sicrhau, yn yr hinsawdd economaidd anodd hon, a waethygwyd gan Lafur, nad oes unrhyw bensiynau preifat mewn perygl?

Mae pensiynwyr yn mynd i fod £500 a mwy yn well eu byd y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r gyllideb, ac ar ben hynny, bydd y biliau ynni yn gostwng £150. Nawr mae hynny'n gamu i mewn i wneud yn siŵr bod pensiynwyr yn y wlad hon—. A gadewch i ni fod yn eglur: mae gennym ni fwy o bensiynwyr yng Nghymru nag mewn rhannau eraill, felly rydym ni'n mynd i wneud yn well yn gymharol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r gyllideb honno, oherwydd y cymorth i bensiynwyr, y ceir cyfran uwch ohonyn nhw yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r wlad.

Ac ni wnaf i gymryd gwersi gan y Torïaid o ran unioni anghyfiawnderau. Rydym ni i gyd yn gwybod beth wnaethoch chi o ran sefyllfa pensiynau'r glowyr. Rydym ni i gyd yn gwybod yr hyn na wnaethoch chi o ran cynllun blwydd-daliadau pensiwn staff Glo Prydain. Rydym ni wedi unioni'r anghyfiawnderau hynny. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhywbeth am hynny. Y cwbl rydym ni'n ei ddweud yw bod angen iddyn nhw droi eu sylw at weithwyr ASW nawr.

Gwasanaethau Iechyd ym Mhowys

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd i drigolion Powys? OQ63573

Ni ddylai mynediad at ofal ddibynnu ar le'r ydych chi'n byw, ac mewn sir wledig fel Powys rwy'n gwybod, o gynrychioli cymunedau lleol, pa mor bwysig yw hi dod â gwasanaethau yn agosach at gartrefi pobl. Dyna'n union pam rydym ni'n ehangu swyddogaeth fferyllfeydd lleol. Mae rhagnodi annibynnol a chynllun anhwylderau cyffredin gwell yn golygu y gall pobl bellach gael cyngor clinigol a thriniaeth yn gyflym, heb orfod aros am apwyntiad meddyg teulu na theithio pellteroedd maith.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n awyddus i'ch holi am ganolfan iechyd ac adeilad ysbyty newydd y Drenewydd. Nawr, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn dadlau drosto ers blynyddoedd lawer. Rwy'n falch iawn bod Mark Drakeford, pan oedd yn Brif Weinidog, wedi ymrwymo'n llwyr i'r prosiect hefyd. Nawr, mae cynigion ar gyfer yr adeilad newydd wedi bod yn araf yn cael eu cyflwyno, ac mae'r prosiect bellach yn cael ei gyflawni dros nifer o flynyddoedd ac yn cael ei adeiladu mewn gwahanol gamau yn hytrach nag mewn un cam, sy'n wirioneddol siomedig, ond rwy'n falch o leiaf bod cynnydd yn dal i gael ei wneud. Bydd cyfarfod allweddol yr wythnos nesaf rhwng Cyngor Sir Powys a'r bwrdd iechyd i gytuno ar gynllun, a fydd yn cael ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru ddiwedd y mis hwn. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru wedyn fydd ystyried a rhoi'r gymeradwyaeth derfynol cyn y gellir rhoi caniatâd cynllunio.

A gaf i ofyn, Prif Weinidog, bod—? A wnewch chi ganiatáu i'r gwasanaeth sifil gael digon o amser i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei flaenoriaethu ac y gellir rhoi cyngor i chi a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru cyn diddymu'r Senedd ym mis Ebrill, ac y byddai Llywodraeth Cymru, byddwn yn gobeithio wedyn, yn cytuno ar y cynnig hwn ac yn rhoi'r golau gwyrdd iddo cyn 1 Ebrill?

Rwy'n gwybod eich bod chi wedi hyrwyddo hyn ac rwy'n gwybod bod Jane Dodds hefyd wedi bod yn hyrwyddo hyn, ac rwyf i wedi bod yn falch iawn o fynd i ymweld â'r safle. Yn amlwg, mae hwn yn mynd i fod yn fater a ddaw gerbron y Cabinet llawn a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 16 Rhagfyr. Fel y dywedwch chi, os caiff ei gymeradwyo yn y fan honno, bydd yr achos busnes amlinellol yn dod atom ni yn Llywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Rhagfyr. Byddwn yn rhoi'r adnoddau angenrheidiol ar waith i wneud yn siŵr y gallwn ni gynnal asesiad cyn gynted â phosibl, a chan dybio bod caniatâd yn cael ei sicrhau, byddai'r cais cynllunio yn dilyn yn ystod 2026-27, gydag achos busnes llawn yn cael ei datblygu ac yna byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2027-28 gyda'r nod o weld y ganolfan newydd yn cael ei chwblhau ac yn weithredol erbyn 2028-29.

14:15

Mae cwestiynau 6 [OQ63583] a 7 [OQ63554] wedi eu tynnu yn ôl. Cwestiwn 8, Adam Price.

Datganoli

8. Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Phrif Weinidog y DU am agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli i Gymru? OQ63586

Dwi wedi bod yn glir iawn gyda'r Prif Weinidog bod angen i Gymru gael perthynas aeddfed a pharchus gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n wirioneddol gydweithredol, a dyna yw tôn pob trafodaeth dwi wedi’i chael gydag e. Dŷn ni ddim yn cytuno ar bopeth a dwi wedi bod yn onest ynglŷn â lle mae Cymru'n disgwyl cynnydd cryfach. Ond y gwahaniaeth nawr yw bod y sgyrsiau hynny'n digwydd o ddifri, a’u bod nhw eisoes yn arwain at ganlyniadau. Rŷn ni wedi sicrhau trafodaethau adeiladol ar gyfiawnder ieuenctid, rŷn ni wedi newid y ffordd o ddefnyddio cyllid, y gwasanaeth prawf a buddsoddi rhanbarthol, ac rŷn ni’n pwyso’n gadarn i sicrhau bod penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Pan ddaeth Prif Weinidog y DU i Drelái, fe ddywedodd ei fod yn grediniwr mawr mewn datganoli, a wyddoch chi beth? Rwy'n ei gredu ef mewn gwirionedd. Y broblem oedd mai'r hyn na aeth ymlaen i'w ddweud yw ei fod yn ef yn grediniwr mawr mewn datganoli ar gyfer Lloegr. Edrychwch chi ar y Ddeddf 'cymryd rheolaeth yn ôl', sy'n rhoi pwerau dros sgiliau a thrafnidiaeth i ynni i feiri Lloegr. Mae'n debyg eu bod yn rhoi'r galwadau ffôn i mewn hefyd. Mae ef yn gwrando arnyn nhw, ac yn eich anwybyddu chi, oherwydd, fel dywedodd eich cyd-Aelodau chi, mae ef yn rhoi pwerau i Loegr, yn datganoli pwerau yn Lloegr, ac yn gwrthgilio o ran y setliad datganoli yng Nghymru. Ac, fel mae pethau ar hyn o bryd—efallai mai chi yw'r un olaf i ddeall hyn—mae'r arweinydd hwn o'r Blaid Lafur yn mynd i golli Cymru. Fe gollodd ef hyder pobl Cymru. Rydych chi am golli eich swydd. Mae'n debyg y byddwch chi'n colli eich sedd. Pa hyder sydd gennych chi y bydd unrhyw beth yn newid dros y 12 wythnos nesaf? Oherwydd fe welsom ni Gymru yn cael ei thrin yn esgeulus, yn ddirmygus, yn wir—ac nid dim ond y fi sy'n dweud hynny, mae eich pobl chi eich hun ar eich meinciau cefn yn dweud hynny.

Edrychwch, os ydych chi'n chwilio am dystiolaeth o'r hyn sydd wedi newid, yna edrychwch chi ar y ffaith bod rheolaeth gennym ni erbyn hyn ar £550 miliwn o gyllid yr oedd y Torïaid yn ei drefnu o'r blaen yn ganolog o Lywodraeth y DU. Nid yw hynny'n cael ei gynnig i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig; mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod o ganlyniad i ni yn sicrhau ein bod ni wedi negodi ac rydym ni wedi trafod, ac rydym ni wedi cael y cytundeb hwnnw gyda Llywodraeth y DU—gwerth hanner biliwn o bunnau o gyllid a arferai gael ei gyfarwyddo o San Steffan. Nawr dyna dystiolaeth amlwg fod hyn yn gwneud gwahaniaeth.

Gadewch i mi egluro hyn: nid yw Keir Starmer yn sefyll yn yr etholiad ym mis Mai, na Nigel Farage chwaith, ond fe fyddaf i, ac rwy'n bwriadu ennill.

Prif Weinidog, a oedd yr Aelodau ar eich meinciau cefn chi'n iawn pan wnaethon nhw alw Llywodraeth Keir Starmer

'yn ddideimlad ar y gorau, yn warth cyfansoddiadol ar y gwaethaf'?

Edrychwch, fe fyddaf i'n sefyll dros Gymru bob amser, ac mae hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod y dylid parchu'r setliad datganoli. Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n sicrhau y byddwn ni'n cael cymaint ag y gallwn ni er mwyn Cymru ac er mwyn pobl Cymru, ac rydym ni'n obeithiol iawn y gallwn ni barhau gyda'r mathau o gyhoeddiadau a welsom ni'n ddiweddar—yr adweithyddion modiwlaidd bach, y parthau twf deallusrwydd artiffisial, y cyllid ychwanegol a gawsom ni'n flaenorol ar gyfer tomenni glo. Fe ddaeth y pethau hynny i gyd o ganlyniad i'n perthynas ni â Llywodraeth Lafur y DU.

Yr Economi yn Sir Benfro

9. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Sir Benfro? OQ63557

Mae sir Benfro wrth galon dyfodol ynni glân Cymru. Drwy fargen ddinesig bae Abertawe a rhaglen forol Doc Penfro, rydym ni'n datgloi mwy na £1 biliwn o fuddsoddiad, gan greu miloedd o swyddi â sgiliau ym maes gwynt ar y môr, hydrogen a gweithgynhyrchu uwch ac yn ein huwchgynhadledd fuddsoddi ddiweddar fe welsom ni arwydd arall o hyder yn nyfodol sir Benfro, gyda RWE yn cadarnhau ei brosiect batri gwerth £200 miliwn ym Mhenfro. Fe fydd y prosiect hwnnw ar ei ben ei hun yn cefnogi swyddi tra medrus nawr ac yn darparu'r seilwaith storio sydd ei angen ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ynni adnewyddadwy.

14:20

Prif Weinidog, fel gwyddoch chi, mae ffermio wrth wraidd economi sir Benfro, ac mae TB buchol yn dal i fod ag effaith aruthrol ar ffermwyr lleol ac economi cefn gwlad yn ei chyfanrwydd. Ddoe, fe ddywedodd etholwr wrthyf i, ers 2021, ei fod wedi cael ei orfodi i ddifa cyfanswm o 417 o wartheg oherwydd achosion TB mewn buches. Roedd yn dweud bod pob buwch yn golygu blynyddoedd o fridio gofalus, buddsoddiad ariannol ac ymrwymiad emosiynol. Y nhw sy'n rhoi sylfaen i'w busnes llaethdy a'i ffordd o fyw, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn, maen nhw'n wynebu canlyniadau ymagwedd polisi sy'n fethiant amlwg. Mae ffermwyr yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl ac mae rhai ohonyn nhw'n ymadael â'r diwydiant, ac mae'r methiant i fynd i'r afael â'r clefyd ofnadwy hwn yn aros gyda Llywodraeth Cymru. Felly, Prif Weinidog, o ystyried pwysigrwydd strategol ffermio i economi sir Benfro, beth yw eich neges chi i'r ffermwyr yn sir Benfro sy'n ei chael hi'n anodd ac, a bod yn hollol onest, sy'n haeddu gwell oddi wrth y Llywodraeth hon? A wnewch chi ddweud wrthym ni pryd y byddwch chi'n gwneud yr hyn sy'n iawn ac yn dechrau mynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn dull holistaidd trwy ymdrin ag ef mewn gwartheg ac mewn bywyd gwyllt? Am ei fod yn cael effaith mor ddinistriol ar yr economi leol.

Fe wn i ei bod hi'n dorcalonnus i'r ffermwyr sy'n gweld blynyddoedd o ymdrechion yn cael eu dileu gan y clefyd hwn, ac mae hynny'n arbennig o dorcalonnus pan fôn nhw â lloi. Mae hynny i gyd, fe wn i, yn achosi llawer o ofid calon i ffermwyr. Yr hyn a wnaethom ni yw sefydlu'r grŵp cynghori TB, sy'n cael ei arwain gan arbenigwyr, ac mae cynrychiolwyr o'r gymuned ffermio ar y grŵp. Mae prosiect sir Benfro gennym ni. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn, am ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa anodd ac mae angen mynd i'r afael â hi.

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yng Ngogledd Cymru

10. Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yng Ngogledd Cymru? OQ63585

Roedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle ardderchog i annog pobl i siopa yn lleol, ond mae hynny'r un mor bwysig trwy gydol y flwyddyn. Busnesau micro a bach yw asgwrn cefn ein heconomi ni, sy'n ffurfio 98 y cant o fusnesau Cymru i gyd. Nawr, rwy'n falch ein bod ni wedi cefnogi 7,200 o unigolion a busnesau yn y gogledd drwy Fusnesau Cymru yn nhymor y Senedd hon, sy'n cynnwys Becws Islyn, sydd â safleoedd erbyn hyn yn Aberdaron, Nefyn, Pwllheli a Rhuthun. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau bach ac annibynnol ledled Cymru.

Diolch i chi am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae rhai o'r busnesau bach mwyaf amlwg yn y gogledd yn aml yn fusnesau twristiaeth a lletygarwch sy'n gyfrifol am fodolaeth degau o filoedd o swyddi yn fy rhanbarth i—tua un o bob wyth swydd yn gysylltiedig â thwristiaeth a lletygarwch. Ond mae'r busnesau hynny'n wynebu rhai o bolisïau gwrth-fusnes mwyaf llym y Blaid Lafur, sy'n cynnwys y dreth dwristiaeth yr ydych chi'n ceisio ei rhoi ar waith, y pwysau sydd ar lety hunanarlwyo, sy'n gwneud 182 o nosweithiau o ddarpariaeth llety dros nos yn ofynnol, a rhai o'r cyfraddau busnes uchaf yn y DU, yn ogystal â hynny. Nawr, mae hyn yn arwain at fodolaeth rhai o'r cyfraddau diweithdra uchaf yn y DU a'r pecynnau cyflog lleiaf yng Nghymru, y gwaethaf o'r ddau gyfuniad. Felly, a oes gennych chi unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o'r pwysau sydd ar y busnesau bach hyn?

Wel, yr hyn a wn i yw ein bod ni'n estyn llawer iawn o gefnogaeth. Felly, os edrychwch chi ar gymorth ardrethi annomestig, er enghraifft, mae £335 miliwn yn mynd tuag at hwnnw. Mae hwnnw'n arian nad oes yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd iddo, y gwnaethom ni ddod o hyd iddo ar eu cyfer nhw. Ymyrraeth yw hynny ac mae hynny'n dangos ein hymrwymiad ni i fusnesau bach. Rydym ni'n ymrwymedig i'r sector twristiaeth, ond fe wyddom ni hefyd pan fyddwch chi'n gweld llif aruthrol o bobl o wahanol rannau o'r wlad yn ymweld mewn amser byr fe fydd golwg ar eich ffyrdd chi, fe fydd eich biniau yn llawn, bydd angen i rywun roi adnoddau ychwanegol ar gyfer glanhau'r toiledau. Mae'r holl bethau hynny, ar hyn o bryd, yn cael eu hysgwyddo gan y gymuned leol. Mae hi'n hollol iawn y dylai pobl wneud cyfraniad, os ydyn nhw am ddod i ymweld, i sicrhau, mewn gwirionedd, mai'r hyn y byddan nhw'n darganfod pan fyddan nhw'n dod i ymweld yw amgylchedd glân ac iach er mwyn iddyn nhw allu mwynhau eu harhosiad.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae'r cwestiwn cyntaf yn mynd i fod—. Y cwestiwn cyntaf, felly, gan Mick Antoniw.

14:25
Mynediad at Gyfiawnder

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OQ63564

Mae mynediad at gyfiawnder yn sylfaenol i reolaeth y gyfraith, ac mae, wrth gwrs, i raddau helaeth yn faes a gedwir yn ôl. Mae angen mynd i'r afael â phob un o'r materion niferus, a hynny ar fyrder. Rwy'n siŵr y bydd croeso arbennig i'r cyhoeddiad diweddar y bydd ffioedd cymorth cyfreithiol yn cael eu cynyddu mewn materion troseddol a sifil.

Diolch i chi am eich ateb. Dros y 14 mlynedd diwethaf, o dan y Torïaid, mae'r system gyfiawnder wedi cael ei thanseilio a'i thanariannu. Nid yw llysoedd wedi cael eu hatgyweirio, mae llysoedd wedi cau ac fe gaeodd y Torïaid hanner ein llysoedd ynadon ni, gan danseilio cyflawniad cyfiawnder. Canlyniad hyn yw bod llai o amser a llai o gyfleusterau ar gael mewn llysoedd ar gyfer gwrandawiadau, ac mae ôl-groniadau wedi cyrraedd cyfraddau argyfyngus yn y llysoedd yn Lloegr. Mae'r sefyllfa yng Nghymru, oherwydd ein cysylltedd barnwrol ehangach yng Nghymru, wedi bod yn esiampl dda ac mae'r sefyllfa yn un y gellir ei rheoli ond mae hi dan straen er hynny. Un cynnig gan yr Arglwydd Ganghellor yw cyfyngu ar dreialon rheithgor. Rwy'n credu mai'r trywydd anghywir yw hwnnw ac ni fydd yn datrys y broblem o ôl-groniad sy'n cynyddu. Treialon gerbron rheithgor sydd wedi bod yn gonglfaen i'n system gyfiawnder ni. Mae rheithgor yn wiriad ar farnwyr, yn ogystal â'u bod yn diogelu annibyniaeth y farnwriaeth, ac maen nhw'n rhoi perchnogaeth o ran o'r system farnwrol yn nwylo'r bobl, ac felly rydym ni'n peryglu ein hunain wrth gyfyngu ar hynny. Felly, a gaf i ofyn i chi, felly, am sicrwydd oddi wrthych chi, er nad yw hwn yn gyfrifoldeb a gafodd ei ddatganoli yn llawn, bod mynediad at gyfiawnder yn rhywbeth y mae hawl gennym ni i fod yn bryderus yn ei gylch ac y byddwch chi'n gwneud popeth y gallwch chi i bwyso am fuddsoddiad yn seilwaith ein llysoedd ac yn dal ati i ddadlau'r achos dros ddatganoli cyfiawnder?

Diolch, Mick. Rwy'n cytuno yn llwyr. Yng Nghymru, mae'r ôl-groniadau yn Llysoedd y Goron wedi bod yn llawer llai na'r rhai yn Lloegr fel arfer, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw ôl-groniadau o gwbl yn y llysoedd ynadon yng Nghymru. Felly, er ein bod ni'n awyddus i weld treialon yn cael eu cwblhau yn gyflymach, wrth gwrs, mae cydbwysedd pwysig i'w daro o ran diogelu'r mesurau diogelu ar gyfer y rhai sydd wedi eu cyhuddo o droseddau, a allent, mewn gwirionedd, fod yn ddieuog. Felly, fe fyddwn i'n ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth iddyn nhw weithio eu ffordd drwy eu cynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn. A dweud y gwir, fe fyddaf i'n cadeirio'r Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac fe fyddaf i'n codi hyn. Mae nifer o randdeiliaid wedi gwneud sylwadau ar gyhoeddiadau'r wythnos, wrth gwrs, ond yn bersonol, rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r cynigion i gyfyngu ar yr hawliau apelio gan lysoedd ynadon hyd bwyntiau cyfreithiol yn unig ar yr un pryd â chynyddu pwerau ynadon i ddedfrydu. Felly, mae yna nifer o bethau yn y system y byddwn ni'n eu codi yn y grŵp rhyngweinidogol ac yn fwy cyffredinol, oherwydd er mai mater a gedwir yn ôl yw hwn, wrth gwrs, mae'n effeithio yn uniongyrchol ar nifer o bethau a gafodd eu datganoli.

Prentisiaethau Cyfreithiol

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno prentisiaethau cyfreithiol yng Nghymru? OQ63555

Ers 2022, mae Cymru wedi llwyddo i lansio prentisiaethau cyfreithiol ar gyfer paragyfreithwyr a pharagyfreithwyr uwch, gyda galw cynyddol oddi wrth gyflogwyr a dysgwyr fel daw'r llwybrau hyn yn fwy sefydledig. Mae gwaith yn parhau gyda Medr a'r sector cyfreithiol ar gyfer ehangu'r cyfleoedd, er y gall cyfyngiadau cyllidebol gyfyngu ar raddfa'r hyn y gallwn ni ei gyflawni.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae'n wych eich bod yn gallu mynd yn baragyfreithiwr trwy brentisiaeth; mae'n wir drueni na allwch fynd yn gyfreithiwr ar yr un llwybr. Mewn gwirionedd, nid oes graddau Meistr cyfatebol mewn prentisiaethau ar gael yng Nghymru. Nawr, fe wn i, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi, yn y gorffennol, wedi siarad cryn dipyn am weld pobl yn symud i fyny trwy'r llwybr gweithredwyr cyfreithiol. Fe wn i am eich teimlad cryf am hyn, ac rydych chi'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r buddion o ran symudedd cymdeithasol a manteision llwybrau fel rhai gweithredwyr cyfreithiol a phrentisiaethau o ran mynediad at gyfiawnder.

Nawr, mae adroddiad diweddar y pwyllgor ar brentisiaethau yn tynnu sylw at y ffaith bod gwarthnod yn parhau i fod ynghlwm wrth brentisiaeth. Nawr, rwy'n credu y byddai cynnig prentisiaethau a fyddai'n arwain at rywun yn mynd yn gyfreithiwr yn mynd i'r afael â'r syniad camsyniol hwn, ac fe fyddai'r sector cyfreithiol yng Nghymru yn elwa trwy fod â phrentisiaeth lefel 7. Rydym ni'n siarad dro ar ôl tro yn y fan hon am y diffeithwch o ran cymorth cyfreithiol, materion o ran cadw mewn cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Byddai prentisiaethau cyfreithiol hyd at lefel cyfreithiwr yn helpu i liniaru pob un o'r problemau. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl gweld cynnydd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn i chi, Rhys. Rwy'n cytuno yn llwyr â phob dim y gwnaethoch chi ei ddweud nawr. Rydych chi'n siŵr o fod wedi fy nghlywed i'n siarad sawl tro am yr angen i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd diddordeb yn y gyfraith a hynny, efallai, dim ond oherwydd eu bod yn gweithio mewn swyddfa gyfreithiol, ac yn penderfynu wedyn, mewn amgylchiadau na fyddai wedi digwydd o'r blaen, eu bod nhw'n cael boddhad yn hynny, ac yna'n gallu gweithio eu ffordd i fyny. Ac mae hynny'n sefydlu pobl yn eu cymunedau lleol hefyd, ac felly mae honno'n ffordd ardderchog o wneud hynny. Ac, yn wir, mae rhai o'r newidiadau i'r ffordd yr ydych chi'n cael eich cymhwyso wedi helpu gyda'r broses honno.

Felly, rwy'n falch iawn o'r cyrsiau paragyfreithiol yr ydym ni'n eu gwreiddio, ac rwyf i am gymryd eiliad fach i hyrwyddo cyrsiau eraill sy'n ddefnyddiol o ran swyddfeydd cyfreithwyr hefyd—rydych chi wedi fy nghlywed i'n gwneud felly o'r blaen—oherwydd rwy'n credu bod y proffesiwn cyfreithiol yn gyndyn weithiau o hybu pethau fel rheolaeth busnes ac yn y blaen, y gallen nhw fod yn manteisio arnynt hefyd.

Ond rwyf i wedi gofyn i'r swyddogion weithio gyda Medr a'r sector cyfreithiol i ystyried sut y gallwn ni adeiladu ar y fframwaith prentisiaethau paragyfreithiol, i ddarparu sector cyfreithiol mwy amrywiol a symudol yn gymdeithasol, gyda gweithlu llawer mwy cynrychioliadol o gymdeithas Cymru yn gyffredinol. Rydym ni wedi ymrwymo i adolygu parhaus a gwelliant o ran y llwybrau prentisiaethau hynny. Ar hyn o bryd fe ddisgwylir i'r rhaglen brentisiaethau newydd ddechrau ym mis Awst 2027, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cryfhau'r cydweddiad rhwng prentisiaethau ar bob lefel, ac yn sicrhau llwybrau eglur o ddilyniant a gwerth am arian wrth i ni fynd yn ein blaenau.

Rydym ni'n edrych ar y sefyllfa gyda phrentisiaethau gradd ond rydym ni'n edrych yn fanwl ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, oherwydd er iddyn nhw gyflwyno hynny, maen nhw'n gwneud rhai newidiadau ar hyn o bryd. Ac fel rwy'n deall mae'r newidiadau hynny wedi dod o ganlyniad i ddatblygiadau amrywiol sydd wedi digwydd wrth iddyn nhw gyflwyno'r prentisiaethau hynny. Felly, fe fyddwn ni'n edrych yn ofalus ar y rhain hefyd.

Ond rwy'n awyddus iawn i wneud hyn. Rwy'n awyddus iawn hefyd—fel gwyddoch chi, oherwydd rydym ni wedi trafod hynny—ein bod ni'n gwneud hyn i gynyddu nifer y bobl a fyddai'n dod yn gymwys, a pheidio â chynorthwyo cwmnïau mawr a fyddai wedi talu iddyn nhw am wneud hynny fel arall. Felly, fe fydd rhaid i ni ganfod ffordd i sicrhau mai cwmnïau bach a chanolig sy'n cael mynediad at hyn, na allai fforddio gwneud hyn fel arall yn ôl pob tebyg, ac nid y cwmnïau mawr a fyddai wedi bod yn cymryd pobl beth bynnag. Rwyf i wedi trafod hynny gyda'r proffesiwn yn ei gyfanrwydd, a chyda Chymdeithas y Gyfraith hefyd, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i geisio rhoi'r fframwaith hwnnw ar waith.

Felly, ar hyn o bryd, rydym ni'n dechrau gwreiddio, os hoffech chi, y system baragyfreithiol, gan edrych ar sut y gallwn ni ei ehangu, ac yna rydym ni'n ystyried datblygiadau yn Lloegr, lle byddan nhw, o fis Ionawr y flwyddyn nesaf, yn cyfyngu cyllid cyhoeddus ar gyfer prentisiaethau cyfreithiwr lefel 7 i ddechreuwyr newydd sy'n 21 oed neu'n iau. Yn bersonol, rwy'n credu bod hynny'n drueni oherwydd yr hyn yr ydym ni'n edrych arno hefyd yw pobl sy'n cael ail gyfle. Ond fe fyddwn ni'n monitro'r datblygiadau hynny'n fanwl. 

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, a ddylai Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) gynnwys maniffestos gwleidyddol?

Mae'n ddrwg gen i, Natasha, 'chlywais i ddim mo hynna.

O naddo, peidiwch â phoeni. A ddylai Bil atebolrwydd Aelodau ac etholiadauau'r Senedd gynnwys maniffestos gwleidyddol?

Nid wyf i'n deall y cwestiwn mewn gwirionedd, ond, nac ydw, nid wyf i'n credu ei fod yn fater ar gyfer maniffestos gwleidyddol. Cafodd y Bil atebolrwydd ei gynllunio i roi pwerau i'r Comisiwn ar gyfer ystyried a fyddai'r Comisiwn ei hun yn awyddus i ymestyn cyfundrefn cod ymddygiad safonau neu beidio, a gwreiddio rhywfaint o hynny mewn darpariaethau statudol ac ati. Nid yw'n fater ar gyfer maniffestos gwleidyddol, yn fy marn i. Fy marn bersonol i yw honno. 

Iawn. Diolch i chi am eich ymateb, Cwnsler Cyffredinol, oherwydd roeddwn i'n awyddus i glywed eich barn chi am gynnwys maniffestos pleidiau gwleidyddol o fewn cylch gwaith y Bil atebolrwydd Aelodau ac etholiadau, gan fy mod i'n credu y byddai hynny'n rhoi'r Llywodraeth Lafur, efallai, mewn sefyllfa ychydig bach yn anodd.

Ym maniffesto Plaid Lafur Cymru yn 2021, fe wnaethoch chi addo 125,000 o brentisiaethau newydd, 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu, ac ymrwymiad i adfer a chodi safonau ar gyfer bobl ifanc, gyda chynllun mawr mewn ysgolion ar gyfer dal i fyny. Eto, Cwnsler Cyffredinol, dyma ni, tua phedwar mis i ffwrdd o ddiddymiad, ac nid ydym wedi cyrraedd y targed prentisiaethau o bell ffordd. Ac fe fyddwch chi'n methu â tharo'r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu erbyn 2026, a Chymru sydd wedi gwneud yn waethaf o ran addysg bob tro y cawsom ein hasesu ar bob pwnc ers dechreuad datganoli.

Felly, er bod y Llywodraeth Lafur hon i Gymru yn awyddus efallai i gyflwyno'r Bil Atebolrwydd Aelodau, rwy'n meddwl tybed pa mor atebol y byddech chi'n dymuno bod, pan fyddai hi'n bosibl eich dwyn i gyfrif mewn gwirionedd yn unol â chyfraith, oherwydd eich gallu parhaus i addo gormod a methu â chyflawni.

Wel, rwy'n credu eich bod chi, yn daer iawn, wedi ceisio gwasgu rhywbeth i mewn i Fil nad yw yno, ac nad oes neb o'r farn y dylai fod yno. Fe fyddwn i'n dweud, Natasha, y dylech chi fynnu tanysgrifiad i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, oherwydd nid yw'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud am ein ffaeleddau ni yn cael ei ategu gan yr ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi. Felly, rydym ni'n amlwg wedi llwyddo i gyflawni'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Mae'n wir y bydd hynny'n cymryd tri mis arall i ni ar ôl diwedd tymor y Senedd, ond, o ystyried bod eich plaid chi, a chithau'n bersonol rwy'n credu, wedi cefnogi Liz Truss, ac fe achosodd hynny i ni—

Iawn, ymddiheuriadau—ymddiheuriadau. Ymddiheuriadau. Ymddiheuriadau. Os na wnaethoch chi'n bersonol, rwy'n ymddiheuro am ddweud hynny. Ond yn sicr, fe wnaeth y blaid. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, o ganlyniad i'r gyllideb honno, cyn hynny, roeddem ni'n arfer gallu prynu chwech i saith tŷ am £1 miliwn yng Nghymru, ar grantiau tai cymdeithasol, ac ar ôl honno dim ond prynu tri i bedwar y gallem ni. Ac, er gwaethaf hynny i gyd, rydym ni wedi llwyddo i daro'r targed hwnnw. Felly, ni wn i o ble y cawsoch chi eich ystadegau, ond rwy'n awgrymu o ddifrif eich bod chi'n edrych ar ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

14:35

Iawn. Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n deall efallai nad ydych chi'n hoffi'r hyn yr wyf i newydd ei ddweud, Cwnsler Cyffredinol, ac ni allaf i wadu—

Rwyf i o'r farn fod hynny'n wir. Ond mae dwy Lywodraeth Lafur gennym ni—. O'm safbwynt i, mae dwy Lywodraeth Lafur gennym ni, ar ddau ben yr M4, y ddwy ohonyn nhw'n methu â tharo targedau, a bod yn onest, yn palu celwyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Y slogan a ddefnyddiwyd amlaf yn etholiad y llynedd—yr un a glywsom ni i gyd dro ar ôl tro—oedd, 'Wnawn ni ddim codi trethi ar bobl sy'n gweithio.' Mae hwnnw wedi troi allan i fod yn bolisi allweddol gan Lywodraeth Lafur y DU ac efallai mai hwnnw yw ei hunig gyflawniad sylweddol yn ystod ei rhawd hyd yn hyn. Ac i'r Llywodraeth sy'n honni bod yn seiliedig ar degwch, tybed pa mor deg mae hynny'n ei deimlo i boblogaeth sy'n gweithio yng Nghymru, sy'n codi bob dydd ac yn mynd i'r gwaith o ddydd i ddydd, i wybod y byddan nhw unwaith eto yn cyfrannu mwy o'u harian y maen nhw'n llafurio mor galed amdano tuag at Gabinet y DU sydd eisoes wedi dangos eu bod nhw eu hunain wedi osgoi talu trethi. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell, Ysgrifennydd Cabinet, ar lefelau'r DU a Llywodraeth Cymru, i wybod, pan wneir adduned ac addewid, y bydd yn addewid a gaiff ei gadw yn yr hirdymor.

Felly, rwy'n dymuno gofyn i chi, Cwnsler Cyffredinol: beth yw'r pwynt o alw am fwy o atebolrwydd a chraffu os nad yw'r geiriau a ddefnyddir yn eich maniffesto eich hun yn adlewyrchu'r cyflawniadau a fu wedi 26 mlynedd? Diolch i chi.

Wel, 'dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod ble i ddechrau gyda hynna.

Yn gyntaf i gyd, nid yw polisi treth yn rhan o'm portffolio polisi. Yn ail, rydych chi'n perthyn i blaid sydd wedi codi trethi yn fwy nag unrhyw blaid arall yn hanes Llywodraeth Prydain. Yn drydydd, rydym ni wedi llwyr gyflawni'r mwyafrif helaeth o'r rhaglen lywodraethu, ac eisoes y disgwyl yw y byddaf i'n dod â datganiad i'r Senedd i'r perwyl hwnnw. Ac, yn bedwerydd, mae'r rhan fwyaf o'r ystadegau yr ydych chi newydd eu dyfynnu nhw i mi naill ai'n hen neu'n anghywir.

Diolch, Llywydd. Fel clywsom ni yn y cyfnewidiadau o farn yn gynharach, fe ysgrifennodd 11 o'ch cyd-Aelodau chi, gan gynnwys eich rhagflaenydd agosaf yn eich swydd gyfredol chi, at Brif Weinidog y DU, yn cyhuddo Llywodraeth y DU o wrthgilio o ran y setliad datganoli. A wnewch chi ddweud a ydych chi'n cytuno â'r asesiad hwnnw fel prif gynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth, sydd â throsolwg ar raglen ddeddfwriaethol y DU o ran Cymru? Yn benodol, beth yw eich barn chi am un o'r pwyntiau allweddol y maen nhw'n eu gwneud o ran y rhaglen Balchder Bro, y maen nhw'n ei rhoi fel yr enghraifft ddiweddaraf, mewn gwirionedd, o Lywodraeth y DU yn diystyru neu'n tanseilio ein pwerau datganoledig ni, yn yr achos hwn gan ddefnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i wneud felly?

Wel, nid wyf i'n cymeradwyo Deddf marchnad fewnol y DU. Rwyf i wedi dweud hynny'n aml iawn mewn grwpiau gweinidogol. Mae'n debyg y byddaf i'n ei ddweud eto pan fyddaf i'n cwrdd â'r—wel, fi sy'n cadeirio'r grŵp rhyngweinidogol yn y cylch penodol hwn, ac fe fydd hwnnw'n cael ei gynnal ddydd Iau'r wythnos hon, rwy'n credu. Mae'n ddrwg gennyf i, nid wyf i fyth yn gallu cofio fy amserlen fy hun am fwy na dau ddiwrnod ymlaen llaw, ond fe ddaw yn fuan iawn beth bynnag, ac fe fyddaf i'n ei gadeirio. Felly, fe fyddwn ni'n codi hyn.

Fe fyddaf i'n codi'r newidiadau arfaethedig i'r system cyfiawnder troseddol hefyd, oherwydd er na chafodd hynny ei ddatganoli, mae'n dylanwadu ar wasanaethau yma. Fe fyddaf i'n codi'r ffaith ein bod ni o'r farn fod y llysoedd cyfiawnder sifil yng Nghymru yn arbennig o brin o arian. Rwyf i wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda barnwyr yng Nghymru i wella'r ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd, er enghraifft. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi wedi bod yno ond, wir, nid yw cystal â'r disgwyl o gwbl. Felly, rydym ni'n gweithio yn y ffordd honno'n aml, ar draws ymyl garw datganoli, os hoffech chi, oherwydd nid yw hi bob amser yn amlwg yn syth pa beth sy'n effeithio ar rywbeth arall.

Felly, ni chafodd cyfiawnder troseddol ei ddatganoli; rwy'n credu y dylid gwneud hynny, ac fe fyddem ni'n hoffi gweithio tuag at hynny. Ond er na chafodd ei ddatganoli, mae llawer o'r pethau sy'n digwydd o ganlyniad i gyfiawnder troseddol wedi cael eu datganoli. Felly, mae'r hyn sy'n digwydd yn y system yn effeithio yn uniongyrchol, er enghraifft, ar iechyd meddwl, neu wasanaethau cymdeithasol, neu dai, neu beth bynnag. Felly, mae hi'n bwysig iawn i ni fod hynny'n gweithio yn effeithiol. Beth bynnag am hynny, rwyf i o'r farn, fel Aelodau'r Senedd, fod pob un ohonom ni'n pryderu am reolaeth y gyfraith. Rwy'n pryderu llawer iawn am reolaeth y gyfraith, ac nid wyf i'n dymuno gweld hynny'n gwanio. Rwy'n awyddus iawn i ddeall, os caiff rhywun ei gyhuddo mewn llys barn ym Mhrydain, y mae hwnnw'n ddieuog hyd nes y'i profir yn euog, ac nid oes rhagdybiaeth ei fod yn y system cyfiawnder oherwydd ei fod wedi gwneud rhywbeth. Felly, nid wyf i'n cymeradwyo hynny. Pan oeddwn i'n fargyfreithiwr ifanc iawn, roeddwn i'n arfer gweithio yn y system cyfiawnder troseddol, ac nid oes dim yn waeth na gweld rhywun dieuog yn cael ei ddal i fyny yn y system honno. Mae'n gwneud i chi feddwl am hynny, wir.

O ran y cwestiwn ynghylch a wyf i'n cytuno â'r mater ynglŷn â Balchder Bro, ydw, rwy'n cytuno, ac mae'r Prif Weinidog newydd ei gwneud hi'n eglur iawn ei bod hithau'n cytuno hefyd. Rydym wedi cael nifer o drafodaethau ynglŷn â hynny. Nid oeddwn i yn y trafodaethau hynny, oherwydd nid yw yn fy mhortffolio i, ond roedd nifer o gyd-Aelodau eraill yn y Cabinet ynddyn nhw, ac rydym ni wedi trafod hyn yn y Cabinet. Rwy'n falch iawn, serch hynny, ein bod wedi gweld y gronfa twf lleol yn cael ei datganoli i Gymru yn y ffordd y cafodd ei datganoli. Mae hwnnw'n gam mawr ymlaen. Er hynny, dim ond gair er mwyn bod yn eglur iawn, nid ydym ni'n credu y dylai'r arian hwnnw fod wedi bod—. Ni ddylai pŵer Deddf Marchnad Fewnol y DU fyth fod wedi cael ei ddefnyddio i ariannu hynny. Rydym ni wedi gwneud y sefyllfa honno'n eglur dro ar ôl tro. Mae'n ddrwg gen i, fe ddylwn i ddweud hefyd, Adam, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hyn, ond yn ystod adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU fe wnaethom ni fynegi yn rymus iawn y dylid diddymu'r pŵer cymorth ariannol.

14:40

Ie wir, a diolch i chi am roi hynny ar y cofnod eto. Roedd y llythyr yn dweud, pe bai Balchder Bro wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol, y byddai Gweinidogion Cymru yn galw am adolygiad barnwrol, fel gwnaeth Llywodraeth Cymru mewn amgylchiadau eraill tebyg. A ydych chi'n ystyried y posibilrwydd hwnnw? Os na fydd trafodaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw'n dwyn ffrwyth, a yw hwn yn ddewis yr ydych chi'n ei ystyried? O leiaf, a ydych chi'n gofyn am gyngor pellach ynghylch y posibilrwydd o adeiladu adolygiad barnwrol? Oherwydd mae yna egwyddor bwysig yn y fantol yn hyn o beth.

'Nac ydw', yw'r ateb i hynna, oherwydd rwy'n credu ein bod ni'n cael trafodaeth adeiladol iawn gyda nhw ar hyn o bryd. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r gronfa twf lleol wedi gweithio allan. Rydym ni'n falch iawn o'r ffordd yr ymdrinnir â hi er mwyn Cymru, felly nid wyf i'n credu y byddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol ar hyn o bryd. Mae yna nifer o bethau eraill yr ydym ni'n eu trafod gyda nhw ar hyn o bryd hefyd. Mewn gwirionedd, nid wyf i'n siŵr mai honno fyddai'r frwydr y byddwn i'n dewis trengi ynddi hi. Yr ateb syml iawn i'ch cwestiwn chi yw, 'Nac ydym, nid ydym ni'n ystyried hynny ar hyn o bryd.' Ac a gaf i ddweud, nid am ei bod hi'n Llywodraeth Lafur neu'n Llywodraeth Geidwadol yw'r achos am hynny? Nid wyf i'n credu bod hynny'n gwneud unrhyw wahaniaeth. Egwyddor y peth sy'n bwysig. Felly, rydym ni'n falch iawn o'r sefyllfa rydym ni ynddi gyda'r gronfa twf lleol.

A gaf i godi mater hollol wahanol gyda chi? Mae noddwyr y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn San Steffan yn bresennol yma heddiw, ac yn briffio Aelodau'r Senedd. Fe wnes i gyfarfod â nhw'n gynharach. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n amlwg o'r farn, os bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol—y mae'r Pwyllgor Busnes wedi ei drafod, ac fe fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr—yn methu yn y fan hon, y byddan nhw'n tynnu pob cyfeiriad at Gymru allan o'r Bil yn llwyr wedyn. Effaith hynny fyddai y byddai marw â chymorth yn gyfreithlon yng Nghymru, ond ni allai'r GIG ei ddarparu. Fe fyddai'n cael ei ddarparu gan wasanaethau preifat yn unig. A yw hwnnw'n ymateb boddhaol, yn eich barn chi? O ystyried eich cyfrifoldeb chi o ran deddfwriaeth y DU a'i heffaith ar Gymru, oni fyddai hi, pe byddai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn methu—rwy'n sylweddoli mai damcaniaethol yw hynny—yn ymateb gwell i gael trafodaeth ac yna diwygio'r Bil i adlewyrchu'r pryderon a fyddai wedi cael eu mynegi yn ystod y ddadl, yn hytrach na dim ond tynnu allan, a chreu sefyllfa 'gwnewch fel y mynnwch chi' bron iawn?

Rwyf i wedi bod yn trafod gyda'r Gweinidog â'r portffolio ynglŷn â'r polisi hwn, yn amlwg, oherwydd fe fydd llawer o'r hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud â pha bolisïau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu ceisio. Fe fydd hynny'n wir os ydych chi'n cytuno â marw â chymorth neu beidio, a gaf i ddweud? Trafodaeth gyfreithiol dechnegol yw hon. Nid yw hyn yn ymwneud â'r egwyddor o farw â chymorth. Rwy'n credu, pan fydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn dod gerbron y Senedd, fe fydd hi'n bwysig sicrhau bod yr Aelodau yn deall na fyddwn ni'n trafod a fydd y Bil yn cael ei basio ym Mhrydain Fawr neu beidio; trafod effaith pasio'r Bil ar Gymru y byddwn ni, ynghyd â'r gwasanaethau a fyddai ar gael.

Mae'r penderfyniadau polisi ynglŷn â hynny'n fater i'm cyfaill sef yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, ond mae yntau a minnau wedi bod yn trafod y trefniadau cyfansoddiadol a fydd yn deillio o hynny, sy'n cynnwys, fel rydych chi'n dweud, yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn methu yn y fan hon. Mae'r Bil ar ei hynt. Nid oeddwn i'n gallu bod yn bresennol yn eu sesiwn nhw, ac mae'n ddrwg gen i am hynny, oherwydd roeddwn i'n dymuno bod yno. Nid oeddwn i'n gallu. Mae'r Bil, fel gwyddoch chi, ar ei hynt ar hyn o bryd. Mae'n newid cryn dipyn wrth iddo fynd drwodd. Efallai y bydd yn rhaid i ni lunio nifer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol atodol hefyd, felly nid ydym ni'n hollol siŵr o ran ein sefyllfa ni yn hynny o beth. Roedd y Pwyllgor Busnes, fel rwy'n deall, yn trafod yr amgylchiadau lle gallai cynigion cysyniad deddfwriaethol ychwanegol ddod ymlaen ac ati. Felly, mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd.

Pan fydd y Bil mewn sefyllfa lle byddwn ni'n teimlo y gallai Aelodau fynegi barn ar ei arwyddocâd cyfansoddiadol, yna fe fydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwnnw'n cael ei gyflwyno ac fe fyddwn ni'n gallu cynnal y drafodaeth honno. Yna, gan ddibynnu ar y safbwynt a gymerir—nid yn unig y bleidlais wirioneddol, ond y drafodaeth, os mynnwch chi, sy'n dilyn—rwy'n credu eich bod chi'n iawn, Adam, y bydd yn rhaid i drafodaeth arall ddigwydd. Ac mae hynny'n rhannol—. Yr anhawster ynglŷn â chynigion cydsyniad deddfwriaethol bob amser yw ceisio eu hamseru nhw fel bydd y bleidlais yn y Senedd hon yn cael effaith ar hynt y Bil yn Senedd San Steffan: nid mor hwyr fel na fyddwn ni'n gallu gwneud dim ond dweud 'ie' neu 'nage' a'i fod yn methu; nid mor gynnar fel na allech chi fod ag effaith wirioneddol, am nad ydych chi'n gwybod ar ba ffurf y bydd yn dod. Felly, mae'r cydbwysedd yn anodd. Mae'r Trefnydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd a minnau wedi bod yn cael sgwrs ynglŷn ag amseriad ac arwyddocâd cyfansoddiadol hyn, oherwydd rwy'n credu eich bod chi'n iawn, pe byddai'n cael ei ddiddymu yn unig, fe fyddem ni mewn sefyllfa lle gallai darparwyr preifat ddarparu'r gwasanaeth yng Nghymru, ond y byddem ni wedi atal unrhyw wasanaeth cyhoeddus i bob pwrpas, ac fe fydd gan bob un ohonom farn bersonol ynglŷn â hynny. Nid wyf i am fynegi fy marn bersonol fy hunan ar hynny, ond rwy'n credu mai dyna fyddai effaith y peth, ie.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

14:45
Lleihau Ôl-groniadau Llysoedd

3. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am yr effaith ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru yn sgil ei chynigion i leihau ôl-groniadau llysoedd drwy leihau nifer y troseddau a fydd yn gymwys i gael eu rhoi ar brawf gerbron rheithgor? OQ63556

Fe fyddaf i'n cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth y DU, a hynny yn y Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder yr wythnos hon, pan fyddaf i'n trafod pwyntiau sy'n ymwneud â'u hymateb diweddar nhw i'r argymhellion a gafodd eu gwneud yn rhan 1 o'r adolygiad annibynnol o lysoedd troseddol.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Mae treialon gan reithgor yn rhan sylfaenol o'r setliad democrataidd. 'Syniad drwg yw treialon troseddol heb reithgor'—Cwnsler Cyffredinol, mae'r darn bach hwnnw o drydar yno bob amser, onid ydyw? Ond nid fy ngeiriau i mohonyn nhw; dyna ddarn trydar a ysgrifennodd David Lammy, yn ôl yn 2020. Roeddwn i'n falch iawn o glywed eich ateb i Mick yn gynharach, yn falch eich bod chi wedi sôn am y gwahaniaeth rhwng yr ôl-groniadau yma a'r ôl-groniadau yn Lloegr, oherwydd mae'r ffigurau yn cael eu camystumio gan yr ôl-groniadau enfawr yn y dinasoedd trefol mawr yn Lloegr

Diolch i chi hefyd am eich sylwadau am apeliadau gan lysoedd ynadon i Lys y Goron. Fe fyddech chi'n cofio, fel minnau, pan oeddem ni'n fargyfreithwyr troseddol iau, yn cofio am apeliadau llwyddiannus gan y llys ynadon yn aml. Fe fyddem ni'n yn cofio hefyd am rhai penderfyniadau a wnaeth ynadon yn y llys ynadon a oedd yn creu penbleth. Y gwir amdani yw, pe byddai hwn yn gynnig gan lywodraeth Geidwadol, fe fyddai'r lle hwn yn gresynu. Cyhoeddodd Karl Turner, AS Llafur, ac a oedd yn gyfreithiwr troseddol un tro, fel ninnau, neges mai hwn yw'r

'syniad mwyaf twp y gallai unrhyw Arglwydd Ganghellor, o unrhyw argyhoeddiad gwleidyddol, fod wedi ei gasglu erioed.'

A ydych chi'n cytuno â Karl Turner?

Wel, rwy'n cytuno bod cwestiynau difrifol i'w gofyn ynghylch y cynigion a wnaeth Llywodraeth y DU wrth ymateb i ran 1 yr adolygiad. Rwy'n cytuno bod yr hawl i dreial gan reithgor yn amddiffyniad hynod bwysig i ddiffynnydd hefyd—yn gyfan gwbl. Mae angen i ddioddefwyr fod yn sicr bod cyfiawnder yn cael ei wneud yn effeithiol, ond mewn ffordd sy'n ddiduedd, a bod y gosb yn cydweddu â'r drosedd. Mae oediadau treialon, fe wyddom ni i gyd, yn effeithio ar ddioddefwyr a diffynyddion, yn ogystal â'r tystion, ac mae hi'n gwbl briodol i ystyried ffyrdd o gyflymu'r broses honno. Ond, fel y dywedais mewn ymateb i'm cyd-Aelod Mick Antoniw, yng Nghymru nid oes unrhyw oedi sylweddol o bryder ar draws y llysoedd ynadon, ac mae perfformiad Llys y Goron yng Nghymru yn cael ei ystyried yn gyson yn un o'r rhai sy'n perfformio orau, gyda threialon yn cael eu rhestru ar hyn o bryd yn 2026 a dechrau 2027, o'i gymharu â Llundain, lle mae rhai rhestrau ymhell i mewn i 2030. Felly, gallwch weld bod gwahaniaeth sylweddol yno, a hynny oherwydd ein bod ni'n llai, rydym ni'n llawer mwy mewn cysylltiad â'n barnwriaeth ac rydym ni'n llawer mwy abl i gael sgyrsiau.

Mae angen i ni ystyried o ddifrif a yw'r cynigion hyn yn cael y cydbwysedd iawn ar gyfer pawb dan sylw—mae'n ymwneud â'r dioddefwyr, mae hefyd yn ymwneud â'r diffynnydd, mae'n ymwneud â'r tystion a phawb arall—gan gynnwys a yw'r newidiadau yn dargyfeirio buddsoddiad i ffwrdd o sicrhau ystad llys gwbl weithredol, hygyrch a staffio, oherwydd rydym ni eisiau gweld hynny, ac rydw i wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar geisio cael cyfiawnder sifil a throseddol mewn lle gwell. Mae cyfiawnder sifil hefyd yn bwysig. Nid yw'r un lefel o ddifrifoldeb efallai ar gyfer rhyddid unigol, ond mae hefyd yn bwysig mewn mynediad at y gyfraith. Felly, rwy'n cadeirio, fel rydw i wedi dweud sawl gwaith bellach, y Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae hyn ar yr agenda i'w trafod, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y drafodaeth honno. Mae'r rhain yn gynigion ar hyn o bryd; mae yna ffordd bell cyn iddyn nhw ddod yn gyfraith. Byddwn yn gwneud ein teimladau amdano yn hysbys. Rwy'n siomedig nad oedd rhywfaint o ymgynghori cyn y cyhoeddiadau, ond mae amser o hyd, wrth i'r ddeddfwriaeth ddatblygu, i ddweud ein dweud.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 sydd nesaf, y datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar Y Trefnydd, Jane Hutt. 

Member
Jane Hutt 14:49:25
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i goruchwyliaeth ar Ddŵr Cymru. Mae ystad o dai ym Moncath, yn fy etholaeth i, sydd â phroblemau hirsefydlog o ran y gallu i ymdrin â charthion. Yn dilyn cyfnodau o law trwm, fe all carthion godi yn ôl i fyny drwy'r pibellau ac i mewn i gartrefi pobl. O ganlyniad i hynny, mae cartrefi yn cael eu difrodi a thrigolion yn cael eu gadael heb ddŵr ac yn methu â defnyddio cyfleusterau, am ddyddiau lawer ambell waith. Nawr, Trefnydd, mae trigolion wedi bod yn achwyn fod hynny fel byw mewn gwlad yn y trydydd byd ac nid yw hi'n iawn nad yw rhai pobl yn gallu defnyddio eu toiledau na'u cawodydd yn eu cartrefi eu hunain yn 2025 oherwydd tywydd garw. Nawr, wrth gwrs, rwyf i wedi codi hyn gyda Dŵr Cymru, ond eto mae'r problemau yn dal i fod yno. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, o ystyried mai hi sy'n pennu'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol y mae cwmnïau dŵr yn gweithredu ynddo er mwyn i'r Aelodau gael holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar faterion penodol yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau a chael deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gyflawni datrysiadau a'r hyn y mae'n ei wneud i ddwyn y cwmnïau dŵr i gyfrif hefyd. 

14:50

Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried ein pwerau ni o ran goruchwylio cwmnïau dŵr. O ran Dŵr Cymru, rydych chi wedi rhoi adroddiad gofidus iawn am yr effaith ar gymuned yr ydych chi'n ei chynrychioli. Yn sicr, felly, fe fyddaf i'n codi hyn gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i weld beth fyddai'r dull mwyaf priodol o fynd i'r afael â'r materion hyn. 

Trefnydd, tra fy mod i'n holi'r cwestiwn yma ichi, mae yna 16 rhybudd llifogydd a 58 rhybudd llifogydd 'byddwch yn barod' ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn golygu bod miloedd o bobl ledled Cymru yn pryderu beth mae hynny'n ei olygu iddyn nhw. Yn fy rhanbarth i, dyma'r chweched rhybudd ers dechrau Tachwedd, ac mae pobl yn poeni'n eithriadol. Felly, mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd er mwyn cael y sicrwydd bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau i ddelio â hyn, oherwydd mae hyn lawer, lawer yn fwy aml na'r disgwyl, a hefyd i ddeall pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy'n wynebu'r boen barhaus hon rŵan o feddwl eu bod nhw'n mynd i gael llifogydd. Yn amlwg, mae'n cael effaith ar fusnesau sydd ddim yn gallu agor, ac ati, a hefyd pobl yn methu mynd i'r gwaith, yn ofni beth fydd y goblygiadau os dydyn nhw ddim adref pan fydd y llifogydd yn taro.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi codi hyn, nid yn unig o ran effaith storm Bram wrth i bobl fyw trwy honno nawr, ac fe fyddaf i'n ymdrin â hynny, ond oherwydd digwyddiadau llifogydd diweddar hefyd, y gefnogaeth sy'n cael ei darparu a'r gwaith dilynol wedyn. Felly, dim ond ar gyfer dweud ar goedd heddiw, wrth i mi siarad, mae storm Bram wedi dod â 12-18 awr o wlybaniaeth ledled Cymru. Erbyn 11 o'r gloch fore heddiw, fe welsom ni 82 mm o law yn Nhreherbert yng Nghwm Rhondda, 71 mm yn Nant yr Ysfa yng Nghwm Cynon, a 71 mm ym Mannau Brycheiniog. Wrth gwrs, fe ddisgwylir i'r tywydd hwn glirio. Mae CNC a'r awdurdodau lleol wedi dwysáu eu trefniadau gweithredol, mae staff ar waith i ymateb i ddigwyddiadau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei threfniadau ymateb lefel 1. Fe gawson nhw eu rhoi ar waith ddoe, mewn gwirionedd, i ddarparu cefnogaeth strategol i'r ymateb amlasiantaeth, i gydlynu'r mewnbwn rhwng yr adrannau lle byddai angen. Rydym ni'n dal i fonitro digwyddiadau wrth iddyn nhw ddatblygu, ac rydym ni'n cysylltu â fforymau cydnerthedd lleol, yr awdurdodau rheoli risg, dim ond ar gyfer edrych ar yr holl effeithiau sy'n gysylltiedig â storm Bram, awdurdodau lleol a CNC, ond hefyd, fe fyddwn i'n dweud, ar y sefydliadau rheng flaen, y bobl, y cymunedau a'r trydydd sector, ac fe fyddwn ni'n deall yr effeithiau yn well yn y 24-48 awr nesaf.

Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddweud hefyd, o ran y digwyddiadau llifogydd diweddar, ein bod ni wedi gwahodd ceisiadau cyllid cyfalaf brys gan yr awdurdodau lleol ar gyfer atgyweirio seilwaith rheoli perygl llifogydd a gafodd ei ddifrodi yn ystod y tywydd garw yn hanner cyntaf mis Tachwedd. Mae'r ceisiadau yn cael eu gwerthuso ac fe fydd yr awdurdodau lleol yn cael gwybod am y penderfyniadau cyn bo hir. Yn dilyn storm Claudia, drwy gyfrwng y cyngor—sir Fynwy—mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau o hyd at £3,000 i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw yn sir Fynwy, ac mae cymorth busnes mwy eang ar gael drwy gynllun masnachol Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain, ac mae'r cynllun cymorth ariannol brys yn gronfa ddewisol. Dirprwy Lywydd, rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig rhoi'r wybodaeth fwy eang honno heddiw. Diolch.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf i gyd, roeddwn i'n meddwl tybed a gaem ni ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y ffordd y mae'r cytundeb Cyswllt Ffermio ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cael ei gaffael. Fy mhryderon arbennig i yw mai dim ond ariannu wyth aelod o staff sy'n gyfwerth ag amser llawn y mae'r cytundeb presennol, sy'n annigonol i ateb y galw, heb sôn am yr angen. Fe wn i fod rhanddeiliaid eraill yn pryderu ynghylch y modd neu sut mae'r ddogfen gaffael yn adlewyrchu'r dyheadau sy'n briodol ar gyfer gweithredu cynllun ffermio cynaliadwy llwyddiannus, yn hytrach na chynnal y busnes fel arfer. Felly, rwy'n gobeithio y gall y datganiad hwn egluro'r ffordd y caiff hyn ei gaffael, nid drwy gyfrwng GwerthwchiGymru, ond drwy system brynu ddeinamig sy'n cael ei rhedeg gan faterion gwledig, sydd ar gau i graffu cyhoeddus. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut mae hynny'n cyd-fynd â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

14:55

Nid oes gennych chi amser i ofyn am ail ddatganiad. Rydych chi wedi defnyddio eich amser.

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am eich cwestiwn chi. Ar 27 Tachwedd, roedd 49 o gyflenwyr ar y fframwaith, pob un yn gymwys i dendro ar gyfer y contract Cyswllt Ffermio sydd ar y ffordd. Er mwyn egluro, yn wahanol i fframwaith safonol, mae'r system brynu ddeinamig yn agored i'w chymhwyso ar hyd oes y system brynu ddeinamig, ac mae honno'n rhoi fframwaith hyblyg ar gyfer darparu'r gwasanaethau arbenigol y mae eu hangen ar Lywodraeth Cymru. Nid proses gaeedig mohoni hi. Mae'n rhaid tendro pob gofyniad gwasanaeth trwy gystadlaethau yn ôl y gofyn, ac mae caffael cynnig Cyswllt Ffermio yn y dyfodol yn un o'r cystadlaethau yn ôl y gofyn hyn. Ond, wrth gwrs, fe ddaw hyn i sylw'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd o ran eglurhad pellach, pe byddai angen hynny.

Fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau cyffredinol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe wnes i gyfarfod ag etholwr sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth carreg y bustl ers dwy flynedd, er gwaethaf y ffaith i'w hatgyfeiriad ar gyfer llawdriniaeth gael ei gyflymu sawl gwaith. Rwy'n credu y gallwn ni gyd gytuno bod hwnnw'n amser annerbyniol yn aros am lawdriniaeth, ac mae hyn yn effeithio yn sylweddol ar ei bywyd a'i gwaith. Er ei bod yn hapus i gael ei llawdriniaeth yn allanol neu mewn ysbyty yn Lloegr, o ystyried nad yw Ysbyty Glan Clwyd â'r capasiti, mae'r absenoldeb data cyfredol ynglŷn ag amseroedd aros yn y bwrdd iechyd wedi ychwanegu at bryderon fy etholwr. Fe hoffai llawer ohonom ni gael gwybod pa fesurau penodol sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan y bwrdd hwn i fyrhau amseroedd aros ar gyfer llawfeddygaeth gyffredinol, sy'n cynnwys defnyddio cytundebau allanol a mewnol, i dawelu unrhyw bryderon sydd gan gleifion fod allanoli yn golygu y byddan nhw'n cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros arferol. Fe fyddwn i'n gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder hefyd ynghylch sut mae data yn cael ei gofnodi pan fydd llawdriniaethau yn cael eu trosglwyddo i ysbytai eraill. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i roi diweddariad ar yr ymdrechion i fyrhau amseroedd aros am lawfeddygaeth gyffredinol, fel nad oes mwy o bobl yn cael eu rhoi yn yr un sefyllfa â'm hetholwr, a—

—a pha bryd y bydd cyhoeddi data am amseroedd aros yn ailddechrau?

Diolch i chi. Fe wn i y byddwch chi, a'ch etholwyr, ac yn fwy eang na'ch etholaeth chi, yn croesawu'r buddsoddiad a'r rheolaeth ar ein rhestr aros, i fyrhau'r amseroedd aros hynny drwy sicrhau'r adnodd hwnnw a'r gofal clinigol hwnnw o fewn ein gwasanaeth iechyd, a'i gael o bob ffynhonnell bosibl o ragoriaeth. Felly, ydy, mae hwn yn rhywbeth y gwn y byddwch chi'n gallu holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei gylch o ran ei ddiweddariadau a'i gyfleoedd, ond hefyd, wrth gwrs, mae ef wedi cytuno i ddod yn ôl o ran y penderfyniad terfynol ynglŷn â'r cywiriadau i'r rhestr aros y mae'n rhaid i ni eu cyflwyno o ganlyniad i adolygiad Betsi Cadwaladr.

Fe fyddwn i'n gofyn am ddatganiad ar frys, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth ynglŷn â Ffos-y-frân. Mae Ffos-y-frân yn hagru'r mynyddoedd uwchben Merthyr. Ddwy flynedd ar ôl i'r mwyngloddio ddod i ben ar y safle o'r diwedd, ni wyddom ni beth fydd yn digwydd i'r tir. Mae tair o domenni glo newydd wedi cael eu creu gan y llanast a adawyd gan y cwmni mwyngloddio—tomenni a allai fynd yn ansad. Mae adroddiad geodechnegol a baratowyd ar gyfer y cyngor yn rhybuddio am y peryglon hyn. Mae'r cwmni mwyngloddio ar hyn o bryd yn cynnig ymgymryd â'r hyn y gellir ei ddisgrifio fel gwaith adfer anniben—adfer tybiedig a fyddai'n gadael tomenni glo ar ôl ar y safle gyda'r peryglon hynny, yn ogystal â bwlch anferthol yn y ddaear a fydd yn llenwi â dŵr brwnt ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Nid dyma'r hyn a addawyd i drigolion Merthyr. Yn sicr, ni ellir gadael llonydd i gwmni sydd wedi gwneud elw o filiynau ar y glo hwn wneud tro mor sâl â'r gymuned. Mae eraill fel minnau wedi galw ar y Llywodraeth i ymyrryd ar frys, felly a gawn ni ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud?

15:00

Diolch, Delyth, a diolch am eich cwestiwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa gyda Ffos-y-frân yn fanwl. Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y gymuned leol a diogelu'r amgylchedd. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'r awdurdod lleol ac amrywiaeth o bartneriaid yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi bod yn glir mai diogelu ac adfer y safle yw ein hamcan o hyd, ochr yn ochr â'n dymuniad i weld adfer llawn yn unol â chaniatâd cynllunio. Mae'r gweithredwr wedi cyflwyno cais am gynllun adfer diwygiedig ar gyfer y safle. Ar hyn o bryd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sydd â'r cyfrifoldeb am benderfynu ar y cais, ac mae hynny'n parhau i gael ei ystyried yn weithredol i'w alw i mewn gan Weinidogion Cymru. Bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Y cyntaf yw datganiad sy'n mynd i'r afael â'r bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth prentisiaethau rheoli ac arwain yng Nghymru. Os ydym am gynyddu cynhyrchiant yn economi Cymru, mae angen i ni wella sgiliau rheoli ac arwain. Mae tystiolaeth yn dangos bod prentisiaethau rheoli ac arwain yn effeithiol, gydag unigolion yn cael codiad cyflog cyfartalog o dros £12,000 y flwyddyn. Mae hefyd yn helpu i greu hwb cyfartalog i refeniw cwmni o dros £20,000 y prentis y flwyddyn, ac mae cynhyrchiant yn gwella ar draws yr economi gyfan.

Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar fwyngloddio brig a'i effaith ar gymunedau. Pan ymwelodd arweinydd Reform â Phort Talbot, cefnogodd agor mwyngloddiau yng Nghymru. Nid ydym wedi gweld mwyngloddio dwfn ers Betws ym 1978, felly mae mwyngloddio glo ar raddfa fawr yn golygu mwyngloddio brig. Dylai'r datganiad gynnwys yr effaith y mae mwyngloddi brig wedi'i chael ar gymunedau yn y de, yn debyg i'r hyn y mae Delyth Jewell newydd ofyn amdano.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. O ran darpariaeth prentisiaethau, mae'r arolwg diweddaraf o sgiliau cyflogwyr y DU yn dangos, wrth edrych ar fathau o sgiliau penodol, bod cyflogwyr y DU yn adrodd eu bod yn absennol ymhlith eu gweithlu, bod sgiliau rheoli ac arwain yn brin yn hanner y bylchau sgiliau. Ond effeithiwyd lleiaf ar gyflogwyr yng Nghymru gan fylchau sgiliau oherwydd y sgiliau hynny, o'i gymharu â 51 y cant yng Ngogledd Iwerddon, 50 y cant yn yr Alban a 49 y cant yn Lloegr, oherwydd ein bod yn buddsoddi yn ein rhaglen sgiliau hyblyg, gan gefnogi busnesau i uwchsgilio eu gweithlu.

Byddwn i'n dweud, yn bwysig, bod cyllid ar gyfer y rhaglen sgiliau hyblyg wedi'i gynyddu o £1.3 miliwn yn 2024-25 i £7.53 miliwn ar gyfer 2025-26. Rydym yn buddsoddi'n helaeth yn y rhaglen brentisiaethau ar gyfer Cymru. Yn wir, ers 2021, mae cyllid ar gyfer prentisiaethau wedi cynyddu, er gwaethaf colli cyllid Ewropeaidd sylweddol. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnig cynnydd pellach o £2.3 miliwn mewn cyllid ar gyfer prentisiaethau, gan fynd â chyfanswm gwerth y rhaglen i dros £146 miliwn. Roedd cwestiwn diddorol yn gynharach, a byddwn i'n dweud mewn ymateb, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ar draws y Siambr, ein bod yn hyderus y byddwn yn cyflawni nod ein rhaglen lywodraethu o greu 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd yn ystod tymor y Senedd hon, a gobeithio y bydd yn cywiro'r cofnod o ran ein rhaglen lywodraethu.

Mae'n bwysig eich bod wedi codi'r mater hwn am yr effaith y mae ein hetifeddiaeth mwyngloddio yn ei chael ar gymunedau, gan gynnwys safleoedd brig, yn dilyn cwestiwn Delyth Jewell hefyd. Mae ein blaenoriaeth yn parhau i sicrhau diogelwch cymunedau a diogelu'r amgylchedd.

Trefnydd, hoffwn godi mater a gyflwynwyd i mi gan etholwr, Alfie Probert, mater sydd yn ofidus ac yn annerbyniol. Mae brawd Alfie, Robert, sydd newydd droi'n 51, yn anabl iawn. Ni all siarad ac mae'n gwbl ddibynnol ar ei fam 80 oed ar gyfer pob agwedd ar ei ofal. Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd brofi poen deintyddol difrifol. Ar y pryd, roedd yn pwyso 16 stôn. Heddiw, mae'n anffodus yn colli pwysau oherwydd nad yw'n gallu bwyta'n iawn, ac mae'r rheswm yn ddigalon. Mae wedi cael ei adael ar restr aros ddeintyddol am ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae ei iechyd wedi dirywio'n raddol. Dim ond yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid i'r teulu wario £200 ar gostau tacsi dim ond i'w gael i apwyntiad ar gyfer asesiad, nid triniaeth. Yn y cyfamser, mae ei fam, sy'n ymdopi â'i phroblemau iechyd ei hun, ar ben ei thennyn. Dirprwy Lywydd, mae'r sefyllfa hon, fel y dywedais, yn annerbyniol. Mae'n codi pryderon difrifol am fynediad at ofal deintyddol brys i bobl ag anghenion cymhleth, ac am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr oedrannus sy'n ysgwyddo pwysau ofnadwy. A gaf ofyn am ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd sy'n nodi pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd ynghylch yr achos hynod bryderus hwn? Mae Llywodraeth Cymru, sy'n methu, yn siomi pobl fel Robert.

15:05

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Rydych wedi codi amgylchiadau gofidus iawn sy'n wynebu eich etholwr o ran mynediad at wasanaethau deintyddol a'r materion ehangach o ran ymgysylltu gofalwyr a mynediad at y gwasanaethau deintyddol hynny. Felly, mae hynny ar y cofnod. Rwy'n siŵr eich bod eisoes wedi codi hyn, oherwydd mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi hyn yn ysgrifenedig ar gyfer y bwrdd iechyd. Ond mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bryderus amdano yn sgil clywed am hyn heddiw.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar weithrediad y cynllun bathodyn glas. Cyflwynodd un o fy etholwyr gais dros flwyddyn yn ôl i Gyngor Abertawe, ond oherwydd cymhlethdod eu hamgylchiadau, anfonodd yr awdurdod lleol sawl ffurflen i alluogi'r cais gael ei gyfeirio at aseswr annibynnol Llywodraeth Cymru, Able2 ar y pryd. Ni ddychwelwyd dim o'r gwaith papur hwnnw, gan fod Able2 wedi rhoi'r gorau i weithredu ar fyr rybudd ym mis Mawrth y llynedd.

Dywedir wrthym nawr bod darparwr newydd wedi'i gaffael gan Lywodraeth Cymru, ond mae awdurdodau lleol yn dal i aros am gadarnhad bod y cytundebau rhannu data angenrheidiol ar waith cyn y gall asesiadau ailddechrau. Yn y cyfamser, mae fy etholwr, sydd â heriau symudedd sylweddol ac anghenion beunyddiol go iawn, yn dal i aros. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau mewn datganiad ysgrifenedig pryd y bydd y broses asesu annibynnol newydd yn dod yn gwbl weithredol a pha gefnogaeth fydd yn cael ei darparu i awdurdodau lleol, a fydd yn y pen draw yn gorfod ymdrin â'r ôl-groniad.

Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Byddwch yn ymwybodol bod grŵp arbenigol pwrpasol yn gweithio gyda chynghorau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i archwilio ffyrdd o symleiddio prosesau, gwella rhannu data a lleihau beichiau gweinyddol ar gyfer ceisiadau. Mae'r ffurflen wybodaeth ychwanegol ar gyfer yr adeg pan fydd cais yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth cynghori annibynnol wedi cael ei hadolygu, ei byrhau a'i rhannu gydag awdurdodau lleol i'w gweithredu. Wrth gwrs, rydym yn ariannu'r gwasanaeth cynghori annibynnol hwnnw yng Nghymru, a hynny yw cynorthwyo awdurdodau lleol i asesu cymhwysedd a darparu cyngor. Yn ddiweddar, rydym wedi penodi contractwr newydd i ddarparu'r gwasanaeth hwn o ran gwneud penderfyniadau ar gymhwysedd. Hefyd, rydym yn blaenoriaethu trefniadau sicrwydd gwybodaeth cyn y gallai awdurdodau lleol wneud atgyfeiriadau unwaith eto.

Mae'n anffodus bod oedi wedi bod mewn ceisiadau. Gall awdurdodau lleol nawr ddefnyddio'r gwasanaeth cynghori annibynnol, ac maen nhw'n gallu blaenoriaethu atgyfeiriadau. Mae mwy y gallwn ei ddweud ar hyn, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pobl anabl sydd â'r rhwystrau mwyaf i'w symudedd yn gallu cael mynediad i'r system bathodyn glas. Byddwn yn sicrhau bod yr adolygiadau sydd wedi digwydd, ac mae llawer wedi bod—. Ac roedd y Pwyllgor Deisebau wedi chwarae rhan yn hyn, wrth gwrs. Rydym wedi gwneud y newidiadau hynny gyda rhanddeiliaid a gweithwyr iechyd proffesiynol, ac rydym yn disgwyl i'r gwasanaeth cynghori annibynnol weithredu'n effeithiol.

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol? Yn gyntaf, yr wythnos diwethaf mynychais lansiad y cynnig deddfwriaethol ar gyfer Deddf Dŵr Glân, Bil dŵr glân. Tynnodd y digwyddiad sylw at bwysigrwydd sylfaenol dŵr glân i'n holl gartrefi, ein busnesau a hyfywedd hirdymor ein sector ffermio. Gwyddom, o ystyried y sefyllfa sy'n gwaethygu yn ein hafonydd, bod angen y Bil hwn ar frys, felly hoffwn gael eich ymateb i hynny, os gaf i, os gwelwch yn dda.

Hefyd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar yr ardoll gamblo a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Mae cyfran Cymru o tua £5 miliwn bob blwyddyn yn sylweddol—nid yw'n ddigon, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Bydd unrhyw oedi wrth ddyrannu'r arian hwn yn peryglu bywydau, felly hoffwn ofyn am eich ymateb ynghylch sut y gallwn sicrhau nad oes oedi o ran y cyllid ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wrth gwrs, fel yr ydych yn ei godi'n rheolaidd, mae dŵr yn hanfodol i bob rhan o'n bywyd yng Nghymru—afonydd, y môr, y dŵr rydym ni'n ei yfed. Mae'r rhain i gyd yn hanfodol i iechyd ein pobl a'n natur, llwyddiant ein heconomi a chydnerthedd ein cymunedau. Wrth gwrs, rydym yn edrych ar argymhellion y Comisiwn Dŵr Annibynnol fel y gall Cymru lunio ei dyfodol, ac yn cyhoeddi Papur Gwyrdd ar gyfer ymgynghori, ac yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU. Ond mae angen i ni sicrhau bod gennym y sector dŵr cydnerth hwnnw ar gyfer y dyfodol. Diolch am barhau i godi hyn o ran iechyd ein dyfroedd yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag afonydd.

O ran yr ardoll gamblo yng Nghymru, fel y dywedoch, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno ardoll newydd ar y diwydiant gamblo i fynd i'r afael â niwed gamblo. Rydym yn cefnogi'n gryf yr ardoll hon. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i reoli'r trawsnewidiad o'r gwasanaethau presennol a reolir gan GambleAware yng Nghymru, i sefydlu, o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, gan ddefnyddio'r arian ardoll—. Y nod yw i arian yr ardoll helpu i greu dull 'dim drws anghywir', gan sicrhau cymorth hygyrch, llwybrau atgyfeirio clir a chasglu data cadarn. Rydym wedi penodi Iechyd Cyhoeddus Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru fel ein cydlynwyr ar gyfer atal a thriniaeth gamblo i'r rhai sy'n gweithio i sefydlu ein llwybr gwasanaethau.

15:10

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Roedd 96,800 yn bresennol yn yr holl adrannau brys ym mis Hydref—3,121 yn bresennol bob dydd. Yr amser cyfartalog mewn adrannau brys oedd dwy awr a 48 munud. Ond, Trefnydd, rwy'n gwybod am bobl sy'n treulio llawer mwy o oriau—hyd at 48 awr, rydw i wedi clywed, am bobl yn eistedd mewn cadair yn derbyn dim triniaeth o gwbl, ac nid yw'n ddigon da. Yn y Betsi—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?

Ym mwrdd iechyd Betsi, gwelwyd 82 y cant o gleifion mewn llai na 12 awr, ond ym mis Awst roedd hyn yn 98.9 y cant. Fel swyddogion etholedig, rydym ni'n gweld canlyniadau hyn yn uniongyrchol, gydag etholwyr yn ein hysbysu o'r arosiadau annerbyniol hyn. Rwy'n gwybod am un claf yn ddiweddar yn gadael yr adran damweiniau ac achosion brys ar ôl nifer o oriau anghyfforddus, ar ôl cael ei gludo yno yn dilyn damwain car ddrwg iawn. Mae angen eglurder nawr pam—

—nid yw Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn. A wnewch chi edrych i mewn i hyn, os gwelwch yn dda?

Rydym ni'n amlwg yn cymryd hyn wir o ddifrif. O ran Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal brys ar lefel leol i ddiwallu anghenion ei boblogaeth leol. Mae gan y bwrdd iechyd fynediad at £2.7 miliwn o gyllid ychwanegol eleni i gyflwyno ystod o ymyriadau i wella llif cleifion a lleihau'r pwysau ar yr adran frys.

Wrth gwrs, mae'r cyllid chwe nod hwn yn rhan o'r £35.5 miliwn o gyllid i gefnogi'r bwrdd iechyd a bwrdd partneriaeth ranbarthol gogledd Cymru i reoli mwy o bobl yn y gymuned yn ddiogel ac i gefnogi cynnydd parhaus o ran lleihau llwybrau gofal. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn arall drwy'r Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal. Felly, mae'r buddsoddiad, yr ymrwymiad, yn amlwg yno, ac yna rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ymateb yn briodol gyda chefnogaeth i'w gleifion a'i boblogaeth.

Dwi am ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r cyntaf gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ynghylch yr hyn sydd yn digwydd yn Ysbyty Tywyn. Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod ward Dyfi wedi cau ers tair blynedd, a hynny oherwydd diffyg mewn niferoedd nyrsys. Ond mae yna bryderon yn lleol nad ydy'r bwrdd iechyd wedi hyrwyddo’r swyddi yna yn ddigonol. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod y Pwyllgor Deisebau wedi trio edrych i mewn i hyn, ond heb gael atebion digonol. Felly, mae angen mynd i waelod hyn. Gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ar y mater, os gwelwch yn dda?

Yn ail, gaf i ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog trafnidiaeth ynghylch y camau sydd yn mynd i gael eu cymryd i sicrhau diogelwch ar yr A470 ger Trawsfynydd? Mae yna ddisgyblion yn byw yn Steshon, rhan o Drawsfynydd, ar un ochr y ffordd, yn gorfod croesi ffordd andros o berig er mwyn mynd i'r ysgol. Dydw i ddim yn beiriannydd, ond dwi'n gallu gweld bod yna bosibilrwydd i roi ynysoedd ar y ffordd yna i'w gwneud hi'n fwy diogel ar gyfer croesi'r ffordd, ond mae'n rhaid inni gael astudiaeth dichonoldeb o beth sydd yn bosib. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth, os gwelwch yn dda?

15:15

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Diolch am geisiadau am ddiweddariadau ar y ddau ddatganiad hynny. O ran y ddeiseb ynghylch Ysbyty Tywyn—rydych chi eisoes wedi'i amlinellu o ran cau'r ward. Mae hyn yn rhywbeth, eto, i Betsi Cadwaladr, ond rwy'n gwybod eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ac rydych chi wedi ei chodi a'i rhoi ar gofnod heddiw o ran angen diweddariad.

O ran trafnidiaeth hefyd, mae'n bwysig bod hyn yn—. O ran yr A470 yn Nhrawsfynydd—rydych chi wedi tynnu sylw at hyn. Mae hwn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, rwy'n gwybod, yn edrych arno gyda'i swyddogion o ran yr ymateb i'r pwysau ar y pwynt hwnnw.

Trefnydd, a gaf ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ba sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU i wneud yn glir, gobeithio, y pryderon gwirioneddol iawn ynghylch treial atal y glasoed arfaethedig ffiaidd Pathways, sy'n cynnig rhoi cyffuriau sy'n newid bywyd i bobl ifanc, rhai ohonynt yn dod o Gymru, a rhai ohonynt ond yn wyth oed? Nid oes unrhyw gyfiawnhad y gellir ei weld dros arbrofi ar blant yn y modd hwn, yn enwedig ar ôl yr hyn a ddysgwyd gennym o adroddiad Cass. Byddai hyn yn cynnwys plant o Gymru, felly rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod y Llywodraeth yn cymryd camau a gweithredu i ddiogelu'r plant a'r bobl ifanc hyn trwy wneud apêl ar Lywodraeth Lafur y DU i atal y creulondeb hwn cyn iddo ddigwydd. Byddai hyn yn achosi niwed sylweddol ac anadferadwy i iechyd corfforol, seicolegol, rhywiol ac atgenhedlu dros 200 o blant agored i niwed, gan eu gadael yn ddibynnol yn feddygol am oes, ac rwy'n credu bod hyn yn cyfiawnhau datganiad ar lawr y Senedd hon. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, rwy'n credu, pan fyddwch chi'n codi'r materion hyn, sydd mewn gwirionedd yn effeithio ar ein pobl ifanc yn arbennig. Felly, rydych chi wedi codi'r cwestiwn, ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, yn wir, wrth gwrs mae yna gysylltiad agos rhwng ein dwy Lywodraeth o ran cyfrifoldeb.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Un ar gau pont Tywysog Cymru y bore yma a dros yr wythnosau diwethaf, cyfnodau o gau sylweddol oherwydd problemau cynnal a chadw. Aeth o dan bwysau cynnal a chadw difrifol dros yr haf diwethaf pan aeth y gwaith cynnal a chadw hwnnw ymlaen. Mae cau'r bont honno yn rheolaidd yn achosi problem economaidd fawr nawr i weithredwyr yn fy rhanbarth fy hun, Canol De Cymru, ac eto rydym yn clywed ychydig iawn gan Lywodraeth Cymru am sut maen nhw'n rhyngweithio ag asiantaeth priffyrdd Llywodraeth y DU i leihau'r cyfnodau cau hynny. Felly, byddai datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth yn cael ei werthfawrogi.

Ac, yn ail, ar y contract deintyddol, codais fater ynglŷn â darpariaeth TG ar gyfer y contract deintyddol ddechrau mis Ebrill, lle mae darparwyr wedi rhoi rhybudd na fyddant yn rhoi cefnogaeth, o ystyried y cyfnod cyfyngedig iawn nawr i'r contract newydd gael ei weithredu. Rydw i wedi cael sylwadau gan ddeintyddion yn fy ardal fy hun nawr sydd wedi nodi na fydd y contract a oedd i fod i'w cyrraedd nhw erbyn mis Hydref nawr yn cyrraedd tan fis Chwefror, dim ond dau fis cyn ei gyflwyno. Mae hynny'n annerbyniol, ac mae angen i ni ddeall beth mae'r Gweinidog iechyd yn ei wneud i sicrhau, os yw'n mynd i gadw at y dyddiad, bod y contract yn cael ei weithredu'n llwyddiannus, neu'n well fyth—

—oedi a threialu rhai o'r mesurau o fewn y contract hwnnw. 

Wel, wrth gwrs, o ran y cwestiwn cyntaf a godwyd gennych, rwyf eisoes wedi ymateb i effaith a goblygiadau storm Bram, sydd wedi cael effaith fawr ar ein seilwaith, gan gynnwys pont Tywysog Cymru, ond hefyd, wrth gwrs, mae hyn yn waith cynnal a chadw y mae'n rhaid ei wneud hefyd. Felly, rwy'n credu bod digwyddiadau tywydd ac anghenion seilwaith wedi achosi'r anawsterau hynny o ran pont Tywysog Cymru. Ond diolch am ei godi. Yn amlwg, mae wedi cael effaith, yn enwedig heddiw.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn falch iawn o ysgrifennu atoch am y mater o ran darpariaeth TG a'r contract deintyddol.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru

Eitem 4 yw'r datganiad gan y Prif Weinidog: uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru. Galwaf ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Yr wythnos diwethaf, croesawodd Cymru'r byd, a gwnaethom hynny gyda hyder sy'n adlewyrchu pwy ydym ni heddiw: cenedl wedi'i llunio gan ei gorffennol, wedi'i seilio ar ei gwerthoedd ac yn uchelgeisiol ynghylch ei dyfodol. Roedd uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau, gan ddod â 350 o gynrychiolwyr o 29 o wledydd at ei gilydd, ac, yn hollbwysig, nid oedd gan 43 y cant o'r holl gynrychiolwyr, gan gynnwys mwy na hanner holl gynrychiolwyr cwmnïau, bresenoldeb ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun yn dangos y diddordeb byd-eang yr ydym wedi'i greu, a llwyddiant strategaeth Llywodraeth Lafur Cymru hon i leoli Cymru fel cyrchfan ragorol ar gyfer buddsoddiad gwerth uchel.

Yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru a'r Celtic Manor, fe wnaethom gyflwyno Cymru sy'n fodern, yn fedrus ac yn allblyg. Cymru wedi'i hadeiladu ar gydweithio, yr un ysbryd a gariodd ni trwy ein gorffennol diwydiannol ac sydd bellach yn ysgogi ein heconomi arloesi. I lawer o fynychwyr, dyma oedd eu cyfarfod cyntaf go iawn â diwydiant a Llywodraeth Cymru. Roedd yr argraff a gawsant yn syml: mae Cymru o ddifrif am y dyfodol, mae Cymru'n hyderus, yn uchelgeisiol ac yn agored i fusnes.

Rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a oedd yn bresennol, cynhaliwyd bron i 50 o gyfarfodydd dwyochrog gyda chwmnïau sydd naill ai'n fuddsoddwyr sefydledig gyda phrosiectau buddsoddi neu sy'n archwilio Cymru fel lleoliad posibl yn y dyfodol. Roeddwn yn falch o weld Gweinidogion Llywodraeth y DU hefyd yn bresennol, gan fod eu presenoldeb yn tynnu sylw at ein hymrwymiad cyffredin i gefnogi economi Cymru, ac fe'i derbyniwyd yn gadarnhaol gan fuddsoddwyr. Cawsom ein hanrhydeddu hefyd gan bresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, y mae ei ymgysylltiad â chwmnïau Cymreig yn ychwanegu sylw rhyngwladol pellach.

Llywydd, aethom i'r uwchgynhadledd hon gyda nodau clir: denu buddsoddiad newydd, creu partneriaethau hirdymor a dangos bod Cymru'n barod i arwain yn y diwydiannau sy'n llunio'r genhedlaeth nesaf. Cyflawnwyd y canlyniadau hyn yn y cyfnod cyn y digwyddiad ac yn yr uwchgynhadledd ei hun. Ers lansio'r uwchgynhadledd, mae cyfres o gyhoeddiadau buddsoddi mawr gwerth £16 biliwn wedi'u sicrhau i Gymru. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn adlewyrchu diddordebau buddsoddwyr newydd a hyder enwau byd-eang presennol wrth ehangu eu gwaith yma. Mae'r cyhoeddiadau allweddol hyd yn hyn yn cynnwys: buddsoddiad Vodafone o £600 miliwn i ddod â darpariaeth pumed genhedlaeth i 99 y cant o Gymru, o fudd i 2 filiwn o bobl ychwanegol; £90 miliwn GE Aerospace Wales i foderneiddio ei sylfaen gwsmeriaid fyd-eang ar safle Nantgarw, sy'n cyflogi mwy na 1,350 o beirianwyr ac arbenigwyr technegol medrus iawn; buddsoddiad cyfalaf o £42 miliwn Associated British Ports mewn pum porthladd yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno angorfa dŵr dwfn newydd yng Nghei Canol yng Nghasnewydd; £200 miliwn RWE i adeiladu ei gyfleuster mwyaf ar gyfer storio ynni batris ym Mhenfro, a fydd yn helpu i sefydlogi marchnad ynni'r DU drwy storio ynni dros ben a'i fwydo i'r grid cenedlaethol; buddsoddiad cannoedd o filiynau o bunnoedd Eni mewn dal a storio carbon ar safle hen ardal pwll glo yn Y Parlwr Du, sir y Fflint, gan greu mwy na 1,000 o swyddi; a Bad Wolf gyda £2 filiwn ar gyfer cynhyrchu dau gynhyrchiad teledu uwchraddol newydd a fydd yn buddsoddi £30 miliwn yn economi Cymru.

Mae Vantage Data Centers yn bwriadu buddsoddi £10 biliwn ledled Cymru, gan gynnwys ar safleoedd fel yr hen ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan drawsnewid y safle i mewn i gampws canolfan data o safon fyd-eang i ateb gofynion y chwyldro AI. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn greu dros 5,000 o swyddi ym maes adeiladu a gweithredu canolfannau data.

Mae hyn yn adlewyrchu newid yn y ffordd caiff Cymru ei gweld: fel lle sefydlog i fuddsoddi, fel lle medrus i adeiladu a lle hyderus i dyfu. Dywedodd buddsoddwyr wrthyf fi, dros ar ôl tro, mai sefydlogrwydd yw un o gryfderau mawr Cymru. Mewn byd sy'n teimlo'n ansicr, maen nhw'n chwilio am Lywodraeth sy'n cynnig eglurder a phartneriaeth. Dyna rywbeth rŷn ni’n falch o'i gynnig fel Llywodraeth Lafur Cymru. Gwnaeth buddsoddwyr yn glir eu bod nhw'n chwilio am amgylcheddau lle mae polisi'n glir, llywodraethu'n ddibynadwy ac mae cynllunio hirdymor yn cael ei gefnogi. Dyma faes lle rŷn ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhoi hyder gwirioneddol, drwy fframwaith rheoleiddiol sefydlog, cyfeiriad strategol clir ac ymrwymiad hirdymor i dwf economaidd ac arloesi. 

Roedd amrywiaeth y sectorau yn yr uwchgynhadledd hefyd yn dweud ei stori ei hun: ynni glân, technoleg ddigidol, diogelwch seiber, lled-ddargludyddion cyfansawdd—compound semiconductors—diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a life sciences. A beth ddangoson ni oedd economi Cymru fodern, amrywiol, wedi'i gwreiddio yn y gwerthoedd sydd bob amser wedi ein diffinio ni—uchelgais, tegwch a chymuned. 

Yn bwysig, roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle inni sicrhau ein bod ni nid jest yn cyflwyno ond hefyd yn gwrando. Roedd buddsoddwyr yn agored am y rhwystrau sydd angen eu goresgyn i ryddhau twf hyd yn oed yn fwy. Mae eu hadborth nhw eisoes yn siapio ein camau nesaf, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod llwyddiant economaidd yn deillio o bartneriaeth, nid o ddatganiadau. 

Bydd y deialog yn siapio'r ffordd rŷn ni'n meddwl am bolisi, seilwaith a chefnogaeth i fusnesau, gan sicrhau bod yr amgylchedd rŷn ni'n ei greu nid yn unig yn gystadleuol heddiw, ond yn gynaliadwy ac yn ymatebol ar gyfer y dyfodol. Drwy wrando, dysgu a gweithredu ar yr hyn rŷn ni'n clywed, gallwn ddileu rhwystrau, meithrin arloesedd a chryfhau'r hyder y mae buddsoddwyr ei angen i ymrwymo yn y tymor hir.

Wrth wneud hynny, mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon yn adeiladu Cymru sy'n cael ei chydnabod nid yn unig am ei thalent, ei thechnoleg a'i huchelgais, ond hefyd am ei sefydlogrwydd a'r ffaith ein bod ni'n agored—Cymru lle gall busnesau dyfu gyda sicrwydd a hyder.

Nid man terfyn oedd yr uwchgynhadledd hon, ond dechrau'r bennod nesaf. Mae ein timau bellach yn ymgysylltu â phob buddsoddwr mawr a oedd yn bresennol, gan sicrhau nad yw momentwm yn cael ei golli ac nad yw cyfleoedd yn cael eu colli. Mae'r gwaith yn parhau, yn gyson, yn fwriadol a gyda phwrpas. Dyma'r Gymru a ddangoswyd i'r byd gennym: cenedl sy'n falch o ble mae wedi dod ac yn glir ynghylch ble mae hi'n mynd, ac yn barod i groesawu'r rhai sydd eisiau creu dyfodol gyda ni. Diolch.

15:25

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. A gaf i groesawu'r ffaith ein bod wedi gweld uwchgynhadledd fuddsoddi a gynhaliwyd yng Nghasnewydd? Rwy'n credu mai'r rhain yw'r mathau o ddigwyddiadau y mae angen i ni weld mwy ohonynt er mwyn denu buddsoddiad ychwanegol i Gymru, a bobl bach, onid oes ei angen arnom? Mae ein gwlad, wrth gwrs, wedi syrthio ar ei hôl hi o ran yr economi. Mae pobl yma yn cael cyflogau is nag yng ngweddill Prydain, ac rydym yn gwybod bod llawer o fusnesau allan yna yn cael trafferthion, yn enwedig, wrth gwrs, gyda'r costau cynyddol o gyflogi pobl, a dyna pam mae gennym y gyfradd ddiweithdra uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd, ac yn anffodus mae wedi bod yn mynd i fyny ac i fyny yn ystod y misoedd diwethaf.

Fe wnaethoch chi restru nifer o bobl, wrth gwrs, a oedd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Yn amlwg, wrth gwrs, nid oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bresennol. Roedd hi'n ymddangos ei bod hi wedi dod o hyd i rywbeth pwysicach i'w wneud mewn mannau eraill o'r wlad ar y dyddiad hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud, os yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn werth unrhyw beth, dylai fod yng Nghymru ar achlysur pwysig fel yr uwchgynhadledd fuddsoddi a gynhaliwyd. Mae'n debyg, roedd ganddi gywilydd o'r gyllideb, a oedd wedi ei chyflwyno gan ei chyd-Aelodau Llafur—er fy mod wedi gweld bod y Canghellor wedi cymryd amser i fod gyda chi—sydd wrth gwrs yn mynd i ddinistrio cyfleoedd busnes yn ein gwlad ymhellach.

Un o'r pethau diddorol a nodais— wel, cwpl o bethau diddorol—yn y rhestr o fuddsoddiadau yr oedd yr uwchgynhadledd wedi'u cyflawni yn ôl pob tebyg oedd y cyfeiriad at fuddsoddiad gwerth £600 miliwn i ddod â darpariaeth 5G i Gymru gan Vodafone. Dim ond cipolwg ar-lein gyda chwiliad Google ac fe welais eu bod mewn gwirionedd wedi cyhoeddi'r buddsoddiad hwnnw ar 22 Medi, misoedd lawer cyn yr uwchgynhadledd. Hefyd cyhoeddwyd prosiect Eni—gwerth cannoedd o filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn dal a storio carbon—yn ôl ym mis Ebrill eleni, ymhell cyn yr uwchgynhadledd. Felly, does gen i ddim syniad pam eich bod chi'n ceisio hawlio clod am bethau nad yw'r uwchgynhadledd wedi'u cyflawni.

Nawr edrychwch, rwy'n derbyn bod yn rhaid i chi estyn allan at fusnesau, bod yn rhaid i chi ddangos bod Cymru yn lle cyfeillgar i wneud busnes, ond y ffordd orau o wneud hynny yw cael agenda torri trethi sy'n ei gwneud hi'n fwy deniadol sefydlu busnesau yma yng Nghymru.

Nawr, gweithiodd Llywodraeth flaenorol y DU yn galed i geisio sicrhau y gallai Cymru sicrhau rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol drwy'r cytundebau twf, trwy'r parthau menter hynny, yr holl bethau hynny—y camau hynny a gymerwyd er mwyn gwneud Cymru yn lle deniadol. Ac roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru y drefn ardrethi busnes gwaethaf yn y wlad, ac roedd yn cynnig mwy o dreth ar bethau fel twristiaeth, sydd, wrth gwrs, yn ddiwydiant allweddol i ni. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n ceisio denu pobl gydag un llaw ac yna eu gwthio i ffwrdd gyda'r llall, ac mae honno'n strategaeth nad yw'n mynd i weithio yn y tymor hwy. Mae angen i ni weld gweithredu mwy beiddgar gan Lywodraeth Cymru.

Fel rwy'n dweud, rwy'n croesawu'r uwchgynhadledd. Mae angen i ni weld mwy o weithgarwch o'r math hwn, o ran dod â phobl i Gymru nad ydynt erioed wedi gweld yr hyn sydd gennym i'w gynnig, gyda'r lleoliadau gwych sydd gennym, gyda'r cyfleoedd gwych sydd gennym. Ond mae angen Llywodraeth Cymru sy'n mynd i fuddsoddi yn y seilwaith—ein seilwaith ffyrdd, ein seilwaith trafnidiaeth—a'n pobl, drwy wneud yn siŵr bod ganddynt y sgiliau i allu eu cynnig i'r darpar gyflogwyr hyn pan fyddant eisiau gwneud buddsoddiadau. A dydw i ddim yn gweld llawer o hynny ar hyn o bryd. Byddai'n dda pe gallech chi roi ychydig mwy o'ch cynllun i ni allu cyflawni'r math hwnnw o dwf economaidd y mae angen i ni ei ryddhau yn ein gwlad.

A gaf i ofyn i chi: sut ydych chi'n mynd i ddilyn yr uwchgynhadledd hon? Dywedoch fod llawer o gyfarfodydd wedi digwydd gyda Gweinidogion ar gyrion yr uwchgynhadledd, ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig nawr yw bod hynny'n cyflwyno nid cyhoeddiadau wedi'u hailgynhesu yr oeddem eisoes wedi'u gweld yn gynharach yn y flwyddyn, ond buddsoddiad busnes newydd gwirioneddol yn dod i Gymru o ganlyniad i'r gweithgaredd hwn. Sut ydych chi'n mynd i ddilyn hyn? Sut ydyn ni'n mynd i allu monitro cynnydd? Ydych chi'n mynd i ddod â mwy o ddatganiadau i Siambr y Senedd hon i ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud? Pryd mae'r uwchgynhadledd fuddsoddi nesaf yn mynd i gael ei chynllunio? A sut ydych chi'n mynd i barhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu arddangos Cymru ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, nid yn unig ar yr achlysuron mawr, mawreddog hyn?

15:30

Wel, dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain fod y ddraig Gymreig yn rhuo yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Roedd yn arddangosfa fel un nad wyf yn credu bod Cymru erioed wedi'i gweld o'r blaen. Bu cynnydd o 30 y cant yn nifer y swyddi o ganlyniad i fewnfuddsoddiad eisoes. Ac mae hynny'n sefyllfa yr wyf yn gwybod y byddai'r Canghellor yn dyheu ei gweld yn Lloegr. Y gwir yw cawsom bresenoldeb y Canghellor yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Dyma ein huwchgynhadledd ni. Ni drefnodd hi. Ein harddangosfa ni oedd hi. Fe wnaethon ni eu gwahodd i'r uwchgynhadledd. Roedd y Canghellor yno. Roedd yr Ysgrifennydd busnes yno. Roedd Kanishka Narayan, y Gweinidog technoleg, yno, ac roedd cynrychiolydd o'r Swyddfa Gymreig.

Rydych chi'n sôn am sut y cyhoeddwyd a phecynnwyd hyn. Rydym ni wedi bod yn glir bob amser—ac rydw i wedi bod yn glir o'r dechrau—fy mod i eisiau i hon fod yn daith, taith a ddechreuodd flwyddyn yn ôl, pan gyhoeddais y byddwn yn cynnal yr uwchgynhadledd fuddsoddi hon. Ac fe wnes i'n glir i swyddogion na allai'r uwchgynhadledd fod yn bwynt mewn amser; roedd yn rhaid i ni adeiladu tuag ati a pharhau ar ei hôl. A dyna pam rwy'n credu ei bod yn gwbl gyfiawn i ni ddweud ein bod yn hawlio'r holl fuddsoddiadau a gyhoeddwyd yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi honno. Ac rwy'n croesawu'n fawr fuddsoddiad Vodaphone yng Nghymru. Rwy'n credu y bydd yn trawsnewid y cyfleoedd i bobl yn ein cymunedau.

Ni chefais unrhyw deimlad bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i ffwrdd; cefais deimlad bod pobl yn teimlo eu bod yn chwilio am sefydlogrwydd. Rydym ni'n byw mewn byd ansefydlog iawn, sefyllfa ansefydlog iawn. Ac un o'r pethau roedden nhw'n hoff iawn ohonynt oedd y ffaith ein bod ni'n ymdrin â sgiliau mewn ffordd wahanol iawn—100,000 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf. Nawr, mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Mae'n wahanol iawn, iawn i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Ac roedden nhw'n hoffi'r dull hwnnw. Roedden nhw'n hoffi'r ffaith y gallent helpu i lunio'r math o hyfforddiant a ddigwyddodd. Roedden nhw'n hoffi'r ffaith ein bod o ddifrif am y seilwaith sy'n angenrheidiol pan ddaw i sicrhau bod y cyfleoedd yno i bobl ehangu, a bod y dibynadwyedd yno.

Felly, roedd yn uwchgynhadledd hynod lwyddiannus, ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan yr holl gynrychiolwyr a oedd yn bresennol.

Mi oedd yna gryn ffanffer o gwmpas yr uwch-gynhadledd yma yn y misoedd yn arwain at yr uwch-gynhadledd, yn ystod yr uwch-gynhadledd ei hun, ac, wrth gwrs, hynny'n parhau heddiw yma gan y Prif Weinidog. Ar bob cyfle, mae yna ymdrech wedi bod i drio ei gyfleu o fel y catalydd mawr fydd yn trawsnewid economi Cymru. Dwi'n bod yn hollol agored: rydyn ni ar y meinciau yma yn cefnogi, wrth gwrs, unrhyw ymdrechion i dynnu sylw at uchelgais Cymru i fod yn lle da i wneud busnes. Ond y tu ôl i'r holl ffanffer, mae yna realiti, wrth gwrs, ac mae eisiau edrych ar bethau, dwi'n meddwl, mewn ffordd realistig a sobor. Do, mi gyhoeddwyd, dro ar ôl tro, ac eto heddiw, biliynau o bunnau mewn buddsoddiad, ond mi wnaf i ddyfynnu'r newyddiadurwr Sion Barry,

'o ran cael yr effaith a ddymunir o godi economi Cymru, ac ie gallai gymryd blynyddoedd i brosiectau buddsoddi sydd wedi'u hadu yn yr uwchgynhadledd gael eu gwireddu, nid yw'n mynd i gael effaith sylweddol.'

Ychwanegodd:

'Pe na bai'r uwchgynhadledd wedi cael ei chynnal, byddai'r buddsoddiadau hyn wedi digwydd beth bynnag.'

Rwy'n credu mai dyna'r allwedd. O ran y buddsoddiadau hynny, mae hefyd yn bwysig cydnabod y byddai'r mwyafrif helaeth o'r 10,000 o swyddi a ddyfynnwyd ac a gyhoeddwyd yn yr uwchgynhadledd yn cael eu creu, y rhan fwyaf ohonynt yn y cyfnod adeiladu prosiectau. Nawr, mae'n bwysig iawn bod economi sy'n tyfu yn cael swyddi wedi'u creu o fewn maes adeiladu, ond mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol y byddant yn swyddi dros dro, a'r hyn rydym ni'n chwilio amdano bob amser yw gwarantau o'r cyfleoedd cyflogaeth tymor hwy hynny. Rwy'n edrych ar Wylfa yn fy etholaeth fy hun yn yr un modd yn union: y swyddi mewn gorsaf bŵer pan fo'n gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymuned fel ein cymuned ni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Prif Weinidog yn gallu taflu mwy o oleuni ar y buddsoddiadau mwy arloesol ac uchelgeisiol a ddaeth allan o'r uwchgynhadledd ei hun a fydd mewn gwirionedd yn golygu swyddi hirdymor yma yng Nghymru ac a fydd yn cael effaith sylweddol o ran economi Cymru.

Gall buddsoddiad uniongyrchol o dramor ddod â manteision gwirioneddol, yn amlwg, ond mae gennym brofiad poenus yma yng Nghymru o beth sy'n digwydd pan roddir gormod o bwyslais ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein busnesau cartref, ein busnesau bach a chanolig, asgwrn cefn economi Cymru, yn cael eu cefnogi i ffynnu a thyfu. Ar hyn o bryd, maen nhw'n teimlo'n rhy aml nad yw Llywodraeth Cymru ar eu hochr nhw. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn sut y byddem yn cefnogi busnesau yng Nghymru. Rydym eisiau sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd, math newydd o asiantaeth ddatblygu i Gymru, sy'n darparu'r gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen ar fusnesau i'w helpu, ac i dyfu—ie, dod â buddsoddiad i mewn, ond gwneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi ac yn cefnogi busnesau brodorol, ac addasu ardrethi busnes yng Nghymru fel bod busnesau bach a chanolig yn cael bargen well o gymharu â chwmnïau rhyngwladol mwy. Felly, yng ngoleuni'r uwchgynhadledd, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut mae hi'n bwriadu taro'r cydbwysedd hwnnw o ran sicrhau nad yw unrhyw bwyslais ar ddenu mewnfuddsoddiad yn digwydd ar draul ein busnesau bach a chanolig? Oherwydd mae'n amlwg iawn nad oedd yr uwchgynhadledd benodol honno yr ydym yn cyfeirio ati y prynhawn yma yn ymwneud â dod o hyd i'r cydbwysedd hwnnw; roedd yn rhywbeth gwahanol.

Mae Plaid Cymru o blaid buddsoddi. Rydym yn credu yn ein potensial fel cenedl. Rydym ni eisiau rhannu ein potensial gyda'r byd. Ond mae'r uwchgynhadledd hon, bum mis cyn etholiad y Senedd—ni fydd pobl wedi methu hynny—gyda Llafur wedi cael 26 mlynedd i newid ffawd economaidd Cymru, yn rhy hwyr, rwy'n credu, i Lafur. Nid dim ond ni sy'n dweud hynny—darllenwch y sylwadau. Mae'r cyfuniad o ddiffyg cynllun economaidd gan Lafur yng Nghymru am ddau ddegawd a mwy, ynghyd â'r ffaith bod eu penaethiaid yn Llundain wedi gwrthod rhoi'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i lunio ei dyfodol economaidd ei hun, a'r penderfyniadau, er enghraifft, i gefnu ar ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, sydd eisoes wedi costio £4 biliwn i economi Cymru, wedi gadael Cymru yn waeth ei byd. Mae angen Llywodraeth arnom, cyn gynted â phosibl, sy'n barod i gynnig arweinyddiaeth newydd i Gymru ac i economi Cymru, a dyna'n union y mae Plaid Cymru yn barod i'w roi.

15:35

Wel, rwy'n credu ei bod yn deilwng o'r sbloet mawr. Fe wnaethon ni greu sbloet mawr, ac fe wnaeth fodloni'r disgwyliadau. Y gwir yw bod yr ymateb yn anhygoel. Fe wnaethom becynnau o gyflwyniadau wedi'u teilwra ar gyfer pobl a ddaeth i Gymru am y tro cyntaf. Nid oeddem yn ymddiheuro o gwbl am y ffaith os cawsoch eich gwahodd i'r gynhadledd yna roedd gennych docyn aur. Dyna oedd pwrpas y peth. Na, nid oedd ar gyfer busnesau bach a chanolig; roedd ar gyfer pobl sy'n dod o wledydd eraill sydd â diddordeb mewn buddsoddi. Mae gennym gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru eisoes sy'n dibynnu ar y cwmnïau hynny o dramor am eu bywoliaeth. Yr hyn yr oeddem yn awyddus i'w ddweud yw, 'Rydym ni eisiau mwy o hynny.'

Roedd yn wych cael y cyflwyniadau o Gymru, rhai o'n cyflwyniadau arbenigol a mwyaf gwych, gan gynnwys PJ Neon Black, a sefydlodd y system oleuadau greadigol fwyaf rhyfeddol, sioe oleuadau a phrofiad 360 gradd gyda thraethiad ffilm gan Michael Sheen. Roedd yn anhygoel. Gwnaeth Welsh of the West End godi ysbryd pawb yn y neuadd. Band Llareggub. Alex Jones yn cyflwyno. Sian Williams yn cyflwyno. Roedd hon yn uwchgynhadledd anhygoel mewn gwirionedd. Dywedodd Sion Barry mewn gwirionedd ein bod wedi cael 10 allan o 10. Felly, gallwch ddyfynnu'r darnau rydych chi'n eu dymuno, a gwnaf innau ddyfynnu'r—[Torri ar draws.]

Gadewch i mi fod yn glir o ran canlyniadau: nid oedd 40 y cant o'r bobl a fynychodd yr uwchgynhadledd erioed wedi bod yng Nghymru o'r blaen. Nid ydych chi'n mynd i gael canlyniad o fewn wythnos, nac ydym. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn—[Torri ar draws.] Nid ydych chi'n mynd i gael canlyniad gan bobl sydd newydd gerdded i mewn i'ch gwlad o fewn wythnos. Gadewch i ni fod yn hollol glir bod hyn yn ymwneud ag adeiladu perthynas. Efallai y byddwch chi'n edrych i lawr ar y sector adeiladu; dydw i ddim. Rwyf eisiau gweld adeiladu, adeiladu, adeiladu.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni nawr fynd ar ôl y cwmnïau sydd wedi gweld beth sydd gan Gymru i'w gynnig am y tro cyntaf. Ac rydych chi'n iawn, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus sut rydym ni'n gwneud hyn, oherwydd y peth olaf rydw i eisiau ei weld yw'r hyn rydym ni wedi'i weld yn y gorffennol, pan fo cwmnïau mawr wedi cael grantiau mawr ac yna mae pethau'n mynd yn anodd iddyn nhw ac i ffwrdd â nhw. Fy niddordeb yw gwneud yn siŵr bod yr hyn rydym ni'n ei gynnig iddyn nhw yn sylfaen sgiliau dda iawn. Mae'n bwysig ein bod yn datblygu'r sylfaen sgiliau honno. Ond mae'n sylfaen sgiliau sydd wedi'i theilwra i anghenion y cwmnïau—felly, gweithio gyda nhw, adeiladu ar y math o waith y mae Jack Sargeant yn ei wneud ar hyn o bryd.

Roedd hwn yn ddull gwahanol iawn. Nid oedd i fod i gael ei dargedu at fusnesau bach a chanolig. Mae gennym strwythur hollol wahanol ar gyfer hynny. Yn ddiweddar, rhoddodd Banc Datblygu Cymru £1 biliwn o gyllid i fusnesau bach yng Nghymru—50,000 o swyddi wedi'u creu. Mae hynny'n rhan o'n cynnig i gwmnïau bach yng Nghymru.

Un o'r pethau yr oeddent yn glir iawn amdanynt yw mai'r hyn y maen nhw'n chwilio amdano mewn oes o ansefydlogrwydd yw Llywodraeth sefydlog. Yr hyn y mae Llafur Cymru yn ei gynnig yw'r sefydlogrwydd hwnnw mewn ffordd na all unrhyw Lywodraeth arall nac unrhyw blaid arall yn y lle hwn ei gynnig.

15:40

Prif Weinidog, roedd yn dda iawn gweld uwchgynhadledd fuddsoddi Cymru yn cael ei chynnal yn y ganolfan gynadledda ryngwladol yng Nghasnewydd, ac yn wir Wythnos Tech Cymru wedi cael ei chynnal yno yr wythnos flaenorol, a bod hyn i gyd yn digwydd yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant. Rydym yn gwybod bod gennym gryfderau economaidd go iawn yng Nghasnewydd, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol bod y digwyddiadau hyn yn digwydd yn y ddinas, gyda'n clwstwr lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, canolfannau data ac yn wir y parth twf AI. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, yn union fel y dywedwch, nad ydym yn disgwyl canlyniadau dros nos o ddigwyddiad o'r math hwn, ond gallwn ddisgwyl yn hyderus yng Nghymru ac yng Nghasnewydd weld rhagor o swyddi sgiliau uwch a chyflog uchel yn dod i Gymru ac i Gasnewydd yn dilyn yr uwchgynhadledd fuddsoddi hon yng Nghymru?

Diolch. Er eich bod chi'n iawn, yr hyn rydym ni'n chwilio amdano yw gweld canlyniadau'r uwchgynhadledd honno yn dod, nid wyf yn credu y dylem ddirmygu'r ffaith ein bod mewn gwirionedd wedi sicrhau £16 biliwn o fuddsoddiad mewn blwyddyn. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu y dylem ei ddathlu. Mae gennym gryfderau economaidd mewn gwahanol feysydd. Yr hyn a wnaethom yn yr uwchgynhadledd hon oedd canolbwyntio ar y meysydd lle mae gennym gryfderau eisoes. Felly, fe wnaethom ganolbwyntio ar led-ddargludyddion cyfansawdd. Cawsom gyflwyniadau wedi'u teilwra fel bod pobl yn deall yr arbenigedd sy'n bodoli yma yng Nghymru. Fe wnaethon ni eu hatgoffa, unrhyw un sydd â ffôn digidol, ble bynnag maen nhw'n mynd yn y byd, fod ganddyn nhw ddarn bach o Gymru y maen nhw'n ei gario o gwmpas gyda nhw. Fe wnes i eu hannog, bob tro y byddent yn edrych ar eu ffôn, i feddwl amdanom ni yma yng Nghymru.

Mae'r parth twf AI, rwy'n credu, yn mynd i fod yn drawsnewidiol i ni ac rwy'n credu bod y weledigaeth honno y mae'n rhaid i ni ei chyflwyno, yr ymdeimlad hwnnw o obaith i'n cenedl, yn hanfodol. Rwyf eisiau gweld ein cenedl yn cael ei thrawsnewid o sefyllfa ôl-ddiwydiannol i wlad sy'n edrych tua'r dyfodol gyda gobaith, gyda hyder; dyfodol digidol sy'n cael ei bweru gan ynni glân. Dyna beth rydym ni'n chwilio amdano a dyna'r weledigaeth a welsant yn cael ei chyflwyno ac y byddant, rwy'n gobeithio, yn gweithredu arni.

15:45

Rwy'n crafu fy mhen ychydig ar ôl clywed rhai o'r ymatebion rydym ni wedi'u cael gan y Prif Weinidog, pethau yr wyf yn eu gweld efallai fel gwrthgyferbyniad. Yn y lle cyntaf, mewn ymateb i Darren Millar yn gofyn am rai o'r cyhoeddiadau buddsoddi hynny a ddigwyddodd cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog fod hwn wedi bod yn waith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers cyhoeddi'r uwchgynhadledd honno. Ac yna, mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth yn gofyn cwestiynau ynglŷn â pha gyhoeddiadau fyddai'n dod o ganlyniad i'r uwchgynhadledd, dywedoch chi, 'Wel, mewn gwirionedd dim ond wythnos yn ôl y mae hyn wedi digwydd, felly ni allwn ddisgwyl unrhyw gyhoeddiadau eto.' Felly, mae hynny'n wrthgyferbyniad bach yna.

Ond gadewch i ni fod yn glir, mae croeso mawr i'r uwchgynhadledd hon ac mae'n ymddangos yn drawiadol iawn: 300 o gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd, yn sôn am sicrhau gwerth £16 biliwn o brosiectau buddsoddi a 10,000 o swyddi posibl. Ond yr hyn rydw i wir eisiau ei weld nawr yw ein bod ni'n symud o'r fan lle rydym yn edrych ar y penawdau yn unig. Felly, pryd ydym ni'n disgwyl gweld rhywfaint o fanylion gan y Llywodraeth, wyddoch chi, sut y bydd bargeinion yn cynyddu busnesau lleol Cymru ac yn cefnogi busnesau Cymru, er enghraifft? Sut bydd y cytundebau yn effeithio ar ein cymunedau, er enghraifft? Felly, a allai'r Prif Weinidog gyhoeddi dadansoddiad o gytundebau sy'n ganlyniad uniongyrchol i'r uwchgynhadledd hon? A allwn hefyd gael amcanestyniadau o'r hyn y mae'r cytundebau hyn yn ei olygu i economi Cymru, ynghyd â thryloywder ynghylch sut y bydd yr amcanestyniadau hynny yn cael eu gwireddu?

Soniodd Rhun ap Iorwerth am sylwadau Sion Barry. Rydym ni wedi bod i lawr y ffordd hon o'r blaen. Dyna pam yn yr achos hwn mae'r manylion yn mynd i fod mor bwysig. 

Wel, efallai yr hoffech ddirmygu £16 biliwn o fuddsoddiad, ond mae £16 biliwn o fuddsoddiad yn mynd i fod yn drawsnewidiol i fywydau'r bobl yn y cymunedau hynny. [Torri ar draws.] Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau dilynol, a dyna pam mai'r hyn y byddwn yn ei wneud yw gwneud yn siŵr y byddwn yn cymryd camau dilynol. Mae'n amlwg ei bod yn rhy gynnar i osod cytundebau. [Torri ar draws.] Roedd rhywfaint o hynny yn gyflwyniad i Gymru. Beth yw diben eu gosod nawr? Yr hyn rydym ni'n ei wneud nawr yw gwneud yn siŵr—

Prif Weinidog. Ni allaf glywed y Prif Weinidog, oherwydd bod gormod o siarad yn digwydd ar draws y Siambr gan bob plaid. Hoffwn wrando ar ymateb y Prif Weinidog mewn heddwch a thawelwch os gwelwch yn dda. Prif Weinidog. 

Felly, mae'n rhy gynnar i nodi beth yw'r cytundebau hynny. Mae rhywfaint o hynny'n mynd i fod yn gyfarwyddyd a chymorth dwys wedi'u teilwra gan swyddogion, nid yr wythnos nesaf, nid yn y mis nesaf, ond dros gyfnod o amser. Felly, yn amlwg, nid nawr yw'r amser i ddangos canlyniad uniongyrchol yr uwchgynhadledd. Bydd angen amser arnom i wneud hynny. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Roedd angen i ni fynd â rhai o'r bobl hyn nad oeddent erioed wedi bod yng Nghymru o'r blaen ar daith. A'r hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi—efallai na fyddwch chi'n hoffi hyn, efallai na fyddwch chi'n hoffi hyn—ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod ein gwlad wedi'u llanw nhw â brwdfrydedd. Roedd ein gwlad wedi'u cyffroi, roedden nhw'n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu perthynas, oherwydd rhan o'r hyn roedden ni'n ei gynnig oedd bod yn rhan o'n teulu, ymuno â'n teulu, ymuno â'n cenedl a'n helpu i adeiladu'r genedl honno ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n croesawu llawer o'r cyhoeddiadau sydd wedi'u gwneud. Diolch yn fawr iawn am hynny ac am y gwaith a aeth i mewn iddo. Rwy'n siŵr bod llawer o swyddogion wedi gweithio'n galed iawn er mwyn sicrhau y bu'r math hwnnw o aelodaeth yr ydym wedi clywed amdani.

Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ddau beth, os caf. Soniodd Rhun am fater Brexit a'r effaith y mae wedi'i gael ar economi Cymru—mae £4 biliwn wedi'i golli. Nawr, rydym ni'n cyrraedd 10 mlynedd ers y bleidlais. Tybed a oedd hyn wedi'i drafod. Hefyd, sut ydych chi'n mynd i godi hynny gyda Keir Starmer i sicrhau ein bod yn cael y cyfle hwnnw i ailymuno â'r undeb tollau a'r farchnad sengl, a fydd o fudd i'n busnesau yma yng Nghymru? Mae mor bwysig nad ydym yn anghofio hynny a'r effaith y mae'n ei gael ar ein heconomi.

Mae'r ail yn ymwneud â'r celfyddydau a diwylliant a'r economi wledig. Ac fe welsom Bad Wolf yn yr amlinelliad, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys yn dod â dros £28.9 miliwn i economi Powys, i'r economi wledig. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r celfyddydau a diwylliant a'r economi wledig yn gwbl flaenllaw i'n heconomi ac i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ar gyfer y bobl y tu allan i'r dinasoedd a'r trefi yr wyf yn gwybod eich bod wedi sôn amdanynt. Diolch yn fawr iawn.

15:50

Diolch. Wel, nid oes angen i mi esbonio fy hun pan ddaw i fy mrwdfrydedd o ran Ewrop. Roeddwn i'n ddigalon pan wnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd ac rwyf wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro fy mod eisiau gweld y berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd.

O ran y celfyddydau a diwylliant, roeddem yn benodol iawn o ran sectorau, ac fe wnaethom ddewis y sector creadigol fel un o'r meysydd yr oeddem eisiau ei amlygu, lle mae gennym arbenigedd a phroffesiynoldeb gwirioneddol yng Nghymru. Felly, roedd yn wych bod Bad Wolf yno. Nhw yw'r cwmni cynhyrchu mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran trosiant y llynedd. Maent yn cyflwyno Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddathlu. Ac un o'r pethau gwych am Bad Wolf yw'r ffordd y maen nhw mor gynhwysol o ran y bobl maen nhw'n eu cyflogi. Ond roedd y sector creadigol yn rhywbeth y gwnaethom hefyd amlygu yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Dyma'r thema ganolog. Ac roedd yn hyfryd eu gwahodd, eto, i wahodd Bad Wolf, i ddod i gyflwyno. Cafodd y bobl eu swyno gan y cyflwyniadau, gan y cwmnïau hapchwarae a oedd yno, ond hefyd gan y cyfle i gwrdd â Ruth Jones, sydd wrth gwrs wedi gwneud cymaint dros Gymru, gan roi Cymru ar y map rhyngwladol gyda Gavin a Stacey, ac roedd yn wych hefyd cael presenoldeb Mererid Hopwood, archdderwydd Cymru, a oedd yn eu swyno gyda'i barddoniaeth wych. Felly, roedd hynny'n gyfle i ni gyflwyno Cymru yn ein holl ddisgleirdeb creadigol, ac yn sicr efallai mai cynulleidfa lai oedd honno, ond mae'r celfyddydau a diwylliant, y sector creadigol, yn gwbl ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. 

Rwy'n croesawu'r datganiad ar yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Weithiau rwy'n meddwl, pe bai'r Prif Weinidog yn dod yn ôl a dweud, 'Mae strydoedd Cymru yn mynd i gael eu palmantu ag aur', byddai gennym ni bobl yma yn dweud, 'Oni fydd hynny'n eu gwneud nhw'n llithrig?' [Chwerthin.]

Gwyddom o astudio economïau ledled y byd bod tuedd i ddiwydiant dyfu a ffurfio clystyrau. Mae enghreifftiau'n cynnwys cyllid yn Llundain, Efrog Newydd a Frankfurt, technoleg yn Silicon Valley yng Nghaliffornia, Eindhoven a Chaergrawnt. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn gobeithio, yn dilyn yr uwchgynhadledd, gynyddu buddsoddiad mewn sectorau sydd eisoes yn bresennol yng Nghymru, fel lled-ddargludyddion, y diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwyddorau bywyd. Mae bob amser yn haws tyfu diwydiannau a sectorau y mae gennych bresenoldeb ynddynt eisoes. Mae mewnfuddsoddiad yn rhan bwysig iawn o dwf economaidd. Y rhan bwysig arall yw tyfu diwydiannau o arloesi mewn prifysgolion. Dydyn nhw ddim mewn cystadleuaeth. Mae cwmnïau newydd sy'n tyfu a mewnfuddsoddiad yn gweithio gyda'i gilydd, gan ffurfio perthynas symbiotig. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi twf o ymchwil prifysgol?

Wel, wyddoch chi beth, mae gennym fwy o gwmnïau yn cael eu sefydlu gan raddedigion yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Dyna oedd un o'r pethau yr oeddem yn gallu eu gwerthu yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi, gan gydnabod bod arloesedd yn ganolog hyd yn oed i'r cwmnïau byd-eang mawr hyn. Maen nhw eisiau bod yn agos at bobl sydd â'r syniadau hynny, maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn agos at brifysgolion a'r gallu ymchwil hefyd. Roedden nhw'n glir iawn i ni mai'r hyn y dylem ei wneud yw'r union beth y gwnaethom ei wneud, sef canolbwyntio ar y meysydd lle mae gennym gryfder eisoes ac adeiladu ar y rheini: 'Peidiwch â cheisio creu rhywbeth newydd; dangoswch yr hyn sydd gennych chi ac arddangoswch hynny', a dyna'n union a wnaethom. A hoffwn ddiolch, yn arbennig, i Rebecca Evans am ei harweinyddiaeth ar bortffolio yr economi gyfan a'i harweinyddiaeth yn ystod yr uwchgynhadledd fuddsoddi hefyd. 

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw fuddsoddiad newydd sy'n dod i Gymru, y swyddi, y cyfle ac, wrth gwrs, y diddordeb byd-eang a ddangoswyd yn yr uwchgynhadledd. Fodd bynnag, mae yna lawer o gwestiynau sy'n codi o'ch datganiad, ac mae llawer wedi'u gofyn. Rwyf am ddweud ei bod yn drueni nad ydym wedi gweld y ffocws hwn ar ddenu buddsoddiad tan nawr, misoedd cyn etholiad, er ei fod mewn gwirionedd yn brin o uchelgais go iawn, onid yw, yr uchelgais go iawn y mae angen i Gymru ei weld ac yn ei haeddu.

Dywedoch fod buddsoddwyr yn onest ynghylch y rhwystrau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon eu goresgyn i ddatgloi twf. Rwy'n siŵr eu bod nhw. Hoffwn wybod pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i wneud yr amgylchedd yn well i fusnesau a phobl fuddsoddi yma yng Nghymru, o ran treth; o ran sgyrsiau gonest am werth enillwyr uchel yng Nghymru a'r angen i'w denu a'u cadw yma; o ran trafnidiaeth a rhwystro'r M4, a gellid dadlau mai dyma'r tro pedol gwaethaf y mae Llywodraeth Lafur yn y lle hwn wedi'i wneud. A pham nad oedd trethiant, cadw talent, sgiliau, ehediad trethdalwr cyfradd uwch, y ffaith eich bod wedi torri nifer y prentisiaethau a'r ffaith ein bod yn colli asiantaeth ddatblygu briodol i helpu gyda'r uchelgeisiau hyn, pam na chawsant eu hystyried yn uwchgynhadledd buddsoddi Cymru? Heb fynd i'r afael â'r rhain, rwy'n ofni na fydd Cymru yn cyrraedd ei photensial llawn, ac mae hynny'n drueni. Rwy'n credu ei bod yn glir—

15:55

Rwy'n credu ei bod yn glir mai dim ond Llywodraeth Reform all gyflawni'r buddsoddiad, y twf a'r cyfle hwnnw sydd eu hangen ar Gymru ac y mae'n eu haeddu.

Edrychwch, 200,000 o brentisiaid mewn 10 mlynedd; mae'r ffigur hwnnw'n syfrdanu pobl, ac mae'r  ffordd rydym ni'n gwneud prentisiaethau yng Nghymru yn creu argraff fawr ar bobl. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y dylem fod yn ei ddathlu, ochr yn ochr â'r math o gefnogaeth y mae ein cefnogaeth hyblyg i gwmnïau hefyd yn ei gynnig. Roeddem yn cael sgyrsiau gonest, ac roedd rhai o'r sgyrsiau gonest hynny yn ymwneud â sefydlogrwydd a'r angen am sefydlogrwydd, a dywedaf wrthych: rwy'n cwestiynu a fyddai llawer o'r cwmnïau hynny'n dod i Gymru pe bai Llywodraeth Reform yng Nghymru.

Nid sefydlogrwydd yw hynny. Taflu'r dis yw hynny. Mae hynny fel ymddiried yn llwyr mewn plaid sydd heb brofiad, dim difrifoldeb pan ddaw i wleidyddiaeth etholedig. Rydym ni wedi eu gweld yma o'r blaen. Gwelsom saith aelod o blaid Nigel Farage yn cael eu hethol i'r lle hwn, ac roedd chwech ohonynt wedi gadael y blaid erbyn diwedd tymor y Senedd. Nid sefydlogrwydd yw hynny. Felly, byddwn yn erfyn ar bobl Cymru i gymryd o ddifrif, os ydyn nhw eisiau gweld yr economi yn tyfu, yna mae angen i chi gadw at Lafur. Mae angen i chi wneud yn siŵr bod y sefydlogrwydd hwnnw rydym ni wedi'i gynnig ers cyhyd, y sefyllfa lle, yng ngham cyntaf y lle hwn, roedd yn rhaid i ni sefydlu datganoli; yn yr ail gam, roedd yn rhaid i ni ei amddiffyn rhag cyni'r Torïaid. A nawr rydym ni ar y trydydd cam, y cyfle hwnnw i adeiladu ar y sylfeini rydym ni wedi'u creu, i adeiladu ar y prentisiaethau, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cynnig swyddi i bobl Cymru, fel bod ganddyn nhw reswm dros aros. Dyna beth yw'r uwchgynhadledd fuddsoddi hon, a dyna beth mae Llafur Cymru yn ei gynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r diwydiant bwyd a diod, Prif Weinidog, yn sector pwysig iawn yng Nghymru, ac roedd yn dda clywed ei fod yn cael ei gynrychioli yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Mae ein cynhyrchwyr anhygoel wedi dod â'r byd i Gymru ers amser maith o ran arddangos ein bwyd a diod Cymreig gwych. Byddwn i'n dweud bod Blas Cymru yn rhagflaenydd i'r uwchgynhadledd fuddsoddi, ar raddfa lai. Mae'r sector wedi denu biliynau o bunnau o fuddsoddiad dros y degawd diwethaf, £7.5 biliwn yn 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o dwf o 30 y cant ar gyfer y sector erbyn diwedd eleni, ac mae hynny'n cyfateb i drosiant o £8.5 biliwn. Felly, a allech chi egluro, yng ngoleuni'r uwchgynhadledd fuddsoddi, pa dargedau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl gan y sector, a beth fyddan nhw'n gosod ar gyfer y sector?

Wel, rwy'n credu bod Blas Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae wedi cyflwyno Cymru i'r byd o ran bwyd a diod, ac mae'r twf hwnnw rydych chi'n rhannol gyfrifol amdano yn y sector hwn yn rhywbeth y credaf y dylid ei ddathlu. Fe wnaethom arddangos bwyd a diod yn yr uwchgynhadledd hon, ond nid oedd yn un o'r sectorau y gwnaethom ei hyrwyddo mewn gwirionedd, oherwydd, yn rhannol, mae Blas Cymru yno eisoes. Mae'r twf hwnnw o 30 y cant rydym ni'n ei weld yn hanfodol i ni adeiladu arno, i ni ei gydnabod, ac rydym ni'n dod yn ôl at y cwestiwn a ofynnwyd i mi gan Jane Dodds yn gynharach ynglŷn â ble mae'r cyfleoedd, yn enwedig i fusnesau gwledig. Rwy'n credu bod bwyd a diod yn faes lle mae'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw ychwanegu gwerth. Mae'n rhaid i ni ychwanegu gwerth at y deunydd crai rydym ni'n ei gynhyrchu mor dda yma yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i chi a thalu teyrnged i chi am eich rôl wrth dyfu'r sector pwysig hwnnw i ni.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Perfformiad Brys Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans a Throsglwyddo Cleifion o Ambiwlansys mewn Ysbytai

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y fframwaith perfformiad brys newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a throsglwyddo cleifion o ambiwlansys mewn ysbytai. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, mi wnes i gyhoeddi newidiadau i'r fframwaith perfformiad ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans brys a'r model ymateb clinigol. Roedd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl sy'n profi'r cyflyrau a'r anafiadau mwyaf difrifol. Cafodd dau gategori newydd eu cyflwyno, sef 'porffor: ataliad', ar gyfer pobl sy'n cael ataliad ar y galon, a 'coch: argyfwng', ar gyfer y bobl sydd mewn peryg o ddioddef ataliad ar y galon neu ataliad anadlol os nad ydyn nhw'n cael triniaeth ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi dioddef anafiadau trawma difrifol.

Rŷn ni wedi symud i ffwrdd o fesur llwyddiant ar sail ffigurau moel am amseroedd ymateb, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ganlyniadau. Ers cyflwyno'r newidiadau, mae cyfraddau dychwelyd i gylchrediad naturiol ar gyfer pobl yn y categori 'porffor: ataliad' wedi gwella. Ym mis Awst, cafodd curiad calon mwy na chwarter y bobl a gafodd ataliad ei adfer a'i gynnal wedyn nes cyrraedd yr ysbyty. Rŷn ni'n disgwyl gweld hyn yn cynyddu dros amser gyda chymorth dull cryfach o gyflawni'r camau yn y gadwyn oroesi.

Mae data misol am adnabod yn gynnar, CPR amserol, diffibrilio cyflym a gofal uwch amserol yn rhoi darlun cliriach i'r gwasanaeth ambiwlans o sut mae pob cam yn effeithio ar ganlyniadau i gleifion. Bydd y data manwl hwn yn helpu'r gwasanaeth ambiwlans a'i gomisiynwyr i nodi lle mae ymyriadau yn gweithio orau a lle mae angen gwelliannau pellach i sicrhau bod cymaint â phosib yn goroesi ac yn gwella.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans bellach wedi lansio cam nesaf ei newidiadau. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar wella canlyniadau a phrofiadau i bobl gyda chyflyrau brys fel strôc a thrawiadau ar y galon. Yn lle'r hen gategorïau ambr a gwyrdd, mae categorïau newydd, sef 'oren: nawr', 'melyn: yn fuan', a 'gwyrdd: wedi ei gynllunio'.

Os yw staff sy'n trin galwadau yn rhoi pobl yn y categori 'oren: nawr', mae hynny'n golygu bod ganddyn nhw gyflyrau difrifol brys. Dyma'r math o bobl sydd angen asesiad clinigol wyneb yn wyneb, triniaeth gychwynnol ar y safle a'u trosglwyddo yn gyflym i ysbyty neu ofal arbenigol. Er enghraifft, gallai hyn fod yn rhywun sydd â symptomau strôc neu drawiad ar y galon. 

Mae'r categori 'melyn: yn fuan' yn cynnwys pobl sydd wedi cael eu hasesu fel rhai sydd angen asesiad pellach dros y ffôn neu yn y fan a'r lle gan glinigydd ambiwlans. Ar ôl hyn, bydd penderfyniad yn cael ei wneud am y camau nesaf mwyaf priodol ar gyfer eu gofal.

16:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gallai hyn, er enghraifft, fod yn rhywun â phoen yn yr abdomen, neu rywun sy'n profi symptomau cynyddol o ganlyniad i gyflwr hirdymor fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Ar ôl asesiad, gallai pobl yn y categori melyn aros gartref, neu gallai'r gwasanaeth ambiwlans drefnu cludiant i'r ysbyty i gael diagnosis pellach a thriniaeth, os bydd angen.

Gall pobl sydd wedi'u dosbarthu fel 'gwyrdd: wedi'i gynllunio' gael eu trin yn ddiogel gartref gyda'r gofal cywir gan wasanaethau gofal cymunedol. Gallai hyn fod yn rhywun â mân haint y gall fod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arno gan ei dîm nyrsio ardal, er enghraifft.

Byddwn ni'n monitro ansawdd y gofal a phrydlondeb yr ymateb a thaith cleifion ar gyfer pobl sydd wedi'u dosbarthu fel oren. Byddwn ni'n monitro i weld a yw'r driniaeth gywir wedi'i darparu gan glinigydd ambiwlans i berson sydd wedi cael strôc, a pha mor hir y cymerodd hi o'r amser y cafodd yr alwad ei wneud i gyrraedd yr ysbyty. Mae cludo i'r clinigydd cywir yn gyflym ar gyfer yr ymyrraeth gywir yn hanfodol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl yn y categori hwn, a bydd dangosyddion clinigol ychwanegol yn cael eu datblygu yn ôl yr angen. 

Byddwn ni hefyd yn monitro'r amser ymateb cyfartalog—canolrifol—i bobl sydd wedi'u dosbarthu yn y categorïau melyn a gwyrdd, yn ogystal â'r naw degfed canradd, yr 'arhosiad hiraf' fel y'i gelwir. Bydd data ar ganlyniadau unigolion ar ôl asesiad neu ymateb y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi.

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cefnogi gan y newidiadau ehangach rydyn ni wedi'u gwneud yn dilyn gwersi a ddysgwyd o'r gaeaf diwethaf. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i gefnogi pobl sy'n fyr eu hanadl a phobl sydd wedi cwympo. Y gaeaf diwethaf, cafodd llawer o blant ifanc dan bump oed eu cludo'n uniongyrchol i'r ysbyty mewn ambiwlans am eu bod yn cael anhawster i anadlu, hyd yn oed pan mai'r hyn yr oedd ei angen arnyn nhw, mewn gwirionedd, oedd cyngor clinigol clir a phenodol. Trwy gyflwyno clinigwyr pediatrig arbenigol a gwneud mwy o ddefnydd o ddata clinigol i helpu i reoli'r galw am wasanaethau ambiwlans, mae cyngor clinigol yn cael ei ddarparu yn llawer cynharach yn ystod gofal person nawr, gan sicrhau bod modd rheoli o bell yn fwy effeithiol. Mae hyn nid yn unig yn sicrhau gwell profiad a chanlyniadau i gleifion, ond mae'n sicrhau mai dim ond y bobl hynny sydd angen mynd i'r ysbyty sy'n gwneud hynny.

Mae'r ddesg cydlynu cwympiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n rhan o ganolfan gyswllt glinigol ambiwlans Cymru, yn gwneud gwahaniaeth i bobl sydd wedi cwympo. Mae dros 1,000 o alwadau yn ymwneud â chwympo yn cael eu gwneud i'r gwasanaeth ambiwlans bob wythnos. Mae clinigwyr profiadol yn rhoi cymorth cyflym a phwrpasol, sy'n cynnwys cymorth o bell ar gyfer codi pobl o'r llawr yn ddiogel, gan helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn a bregus yn gorwedd am gyfnodau hir. Byddwn ni'n gwerthuso effaith y dull newydd dros y 18 mis nesaf i sicrhau ei fod yn cyflawni'r gwelliannau a ddisgwylir mewn gofal cleifion. Bydd y gwerthusiad annibynnol yn cael ei arwain gan Brifysgol Edge Hill a Phrifysgol Abertawe, ac os bydd yn llwyddiannus, bydd y newidiadau'n cael eu gwneud yn barhaol.

Er mwyn i fanteision llawn y newidiadau hyn gael eu gwireddu, rhaid i fyrddau iechyd chwarae eu rhan a sicrhau bod ambiwlansys ar gael i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned ac nad ydyn nhw'n aros oriau i drosglwyddo cleifion mewn adrannau brys. Rydyn ni wedi rhoi pwyslais sylweddol ar wella perfformiad trosglwyddo ambiwlansys dros y chwe mis diwethaf. Mae'r canlyniadau wedi bod yn addawol. Ym mis Hydref, gwelwyd gostyngiad o 43 y cant yn nifer yr oriau ambiwlans a gafodd eu colli oherwydd oedi wrth drosglwyddo, a gostyngiad o 42 y cant yn yr achosion o oedi am dros awr y tu allan i adrannau brys o gymharu â'r llynedd. Arweiniodd perfformiad gwell at ymateb 23 munud yn gyflymach i bobl yn yr hen gategori ambr o gymharu â mis Hydref 2024.

Ond mae angen i fyrddau iechyd wneud mwy. Rydyn ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd sicrhau mai 45 ar y mwyaf y mae'n ei gymryd i drosglwyddo cleifion o ambiwlansys ar gyfer yr holl adnoddau ambiwlans, yn unol â'r argymhelliad a wnaethpwyd gan y grŵp cynghori gweinidogol. Mae yna gysylltiad cynhenid rhwng perfformiad gwell a llif cyson ac effeithlon o gleifion drwy ysbytai acíwt ac allan ohonynt. I gefnogi hyn, fe wnaethon ni lansio pythefnos 'sbrint rhyddhau'r gaeaf' ddoe. Bydd hwn yn cael ei gynnal tan 22 Rhagfyr i wella llif cleifion mewn ysbytai acíwt drwy weithredu camau cynaliadwy ar gyfer rhyddhau'n gynharach yn y dydd a chynyddu cyfraddau rhyddhau ar benwythnosau. Rydyn ni wedi dyrannu £340,000 ychwanegol i wella capasiti cerbydau rhyddhau dros gyfnod y gaeaf fel bod pobl yn cael eu cefnogi i adael yr ysbyty cyn gynted ag y maen nhw'n barod. Mae llwyddiant cychwynnol cam 1 a lansio cam 2 y newidiadau o ran ambiwlansys yn dangos ein bod ni'n benderfynol o ddarparu gwell mynediad at ofal.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Does neb ar draws y Siambr hon eisiau gweld amseroedd ymateb ambiwlansys yn gwella yn fwy na fi. Rydyn ni i gyd yn cael gwaith achos gan ein holl etholwyr am bobl sydd wedi aros am gyfnodau diangen. Ond fe wnaethoch chi sôn am nifer o bethau yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu cwmpasu pob un ohonyn nhw.

Fe wnaethoch chi sôn am y categori oren, ac mae hynny'n gam pwysig ymlaen, ond mae gen i ddiddordeb, o ran y bobl hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig—ac rydych chi'n sôn am ofal amser-critigol—rwy'n clywed gan bobl nid yn unig yn fy etholaeth i fy hun ond yn ehangach, sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru, nad ydyn nhw'n cael y gofal amserol hwnnw o hyd. Felly, yn y categori oren hwnnw, sut allwch chi sicrhau bod pobl yn mynd i gael eu gweld o fewn yr amser hwnnw?

Fe sonioch chi hefyd yn eich datganiad am gludo i'r ysbyty. Mae cludiant ambiwlansys yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni fynd â phobl i'r ysbyty ar gyfer pobl sydd yn y categori melyn hwnnw, ond pa fath o gludiant i fynd â phobl i'r ysbyty y maen nhw'n mynd i'w gael? Ai tacsis fydd yn gwneud hyn? Ai gwasanaethau cludo ambiwlansys Cymru sy'n mynd i wneud hynny? Oherwydd mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r adnoddau hefyd i fynd â phobl i'r ysbyty.

Yna fe ddywedoch chi y byddwch chi'n monitro bod y driniaeth gywir yn cael ei rhoi gan glinigwyr ambiwlans i berson sydd wedi cael strôc. Mae hynny'n bwysig, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod mai strôc yw un o'n lladdwyr mwyaf, ond mae gen i ddiddordeb mewn sut rydych chi'n mynd i fonitro hyn, Ysgrifennydd Cabinet, a lle mae hynny'n mynd i gael ei adrodd yn ôl, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall hyn. Ac fe wnaethoch chi sôn am strôc, ond a ydych chi hefyd yn mynd i fonitro trawiadau ar y galon hefyd a chyflyrau eraill yn y maes hwn? Mae strôc yn bwysig, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod yna rai eraill hefyd.

Fe sonioch chi hefyd am ofal pediatrig ac am rannu data. Roedd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn ymgymryd â darn o waith yn weddol ddiweddar ynglŷn â rhannu data meddygol rhwng meddygon teulu, rhwng yr ysbytai a nhw eu hunain, fel y gallan nhw gael darlun llawn o'r achosion maen nhw'n mynd iddyn nhw. Rydych chi'n dweud bod yna lawer o bobl iau â phroblemau anadlol. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn gwybod a yw'r system honno wedi'i rhoi ar waith nawr i wneud yn siŵr bod y wybodaeth honno'n cael ei rhannu'n well, nid yn unig o ran gofal pediatrig, ond ledled y system, oherwydd mae'n amlwg yn helpu.

Fe wnaethoch chi grybwyll hefyd yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, y dylid gofyn i fyrddau iechyd wneud mwy. Dydw i ddim yn siŵr beth arall y gall rhai o'r byrddau iechyd hyn ei wneud. Maen nhw o dan lawer iawn o bwysau. Rwy'n cytuno â chi bod angen i ni wella trosglwyddiadau o ambiwlansys. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael pobl i mewn i ysbytai. Yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthyf gan fyrddau iechyd a chlinigwyr yw bod yr amser hwn, mewn gwirionedd, yn gwthio mwy o ofal mewn coridorau a mwy o bobl mewn amgylchedd clinigol anniogel yn ein hysbytai, dim ond i gyrraedd y targed hwn. Gyda'r ffigurau hyn y gwnaethoch chi eu cyflwyno i ni am y gostyngiad mewn oedi, sut mae hynny wedi cyfateb i ofal mewn coridorau? Beth yw'r niferoedd? Faint o bobl sydd mewn coridorau? Faint o bobl sy'n cael eu derbyn pan fyddan nhw'n fwy diogel fwy na thebyg yng nghefn ambiwlans, ond maen nhw'n cael eu gwthio i mewn i goridor neu ystafell yn rhywle a'u gadael yno? Hoffwn ddeall ychydig mwy gennych chi am hynny.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, yw eich bod chi'n siarad am y symudiad hwnnw a'r llif effeithlon i ofal cymunedol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n gwthio pobl i mewn i'r gymuned lle mae'n briodol gwneud hynny. Rwyf wedi clywed bod Llywodraeth Cymru yn mynd i roi £340 miliwn—£340,000, mae'n ddrwg gen i—i wneud hynny. Bydden ni i gyd yn hoffi cael £340 miliwn, oni fydden ni? Ond rwyf eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd i gael ei wario'n briodol trwy wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau meddygon teulu yn cael yr holl adnoddau sydd eu hangen arnynt a bod y timau nyrsio yn cael yr holl adnoddau sydd eu hangen arnynt hefyd, oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny'n iawn. 

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, fe sonioch chi ar ddiwedd eich datganiad am ryddhau ar y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n cael pobl allan o'r ysbyty os ydyn nhw'n cael eu hoptimeiddio i wneud hynny. Ond ar y penwythnos, sut allwn ni sicrhau bod yr elfen gofal cymdeithasol yn gywir ac nad yw pobl yn cael eu rhyddhau yn ôl i'w cartrefi, yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn ddiangen adeg y Nadolig—nid yw'r un ohonon ni eisiau bod ar ein pennau ein hunain adeg y Nadolig—heb y pecyn gofal cymdeithasol hwnnw, heb y timau nyrsio yn mynd i mewn i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel? Oherwydd yr hyn nad ydyn ni eisiau ei weld yw pobl yn cael eu gwthio nôl i'w cartrefi ac yna'n cael eu derbyn yn ôl i'r system oherwydd nad oes ganddyn nhw'r rhwydwaith cymorth ar waith. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n edrych ymlaen at eich atebion.

16:10

Diolch. Fe wnaf i geisio ymdrin yn fyr, os caf fi, â chynifer o'r rheini ag y gallaf. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae Powys, yr wyf yn gwybod y bydd ganddo ddiddordeb arbennig ynddi, wedi gweld rhai o'r amseroedd ymateb mwyaf llwyddiannus yn yr hen gategori ambr, y mae'r categori oren yn cymryd ei le yn rhannol. Byddwn ni eisiau gweld lefel debyg o berfformiad o dan y trefniadau newydd. Yn wir, y gallu i ganolbwyntio'r ymateb cyflymaf ar y categori oren, sy'n gategori llawer mwy penodol na'r hen gategori ambr, fydd yn galluogi'r ymateb cyflym hwnnw ar gyfer y cleifion mwyaf acíwt. Roedd yn gofyn beth fydden ni'n ei fesur. Yn y categori oren sy'n sensitif i amser, byddwn ni'n olrhain, er enghraifft, bwndeli gofal clinigol a ddarperir gan ambiwlansys ac amseroedd canolrifol 'o'r alwad i'r drws' ar gyfer strôc, y gwnaeth  ofyn amdano, a chleifion STEMI, a bydd hynny'n cael ei gyhoeddi.

O ran y cerbydau a fydd ar gael i ymateb, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth symud i ffwrdd o darged amser, ein bod ni'n gallu, felly—. Mae yna risg o ran targed amser syml y byddwch chi'n cyrraedd y targed ond yn colli'r pwynt. Bydd cerbyd ymateb cyflym sy'n cael ei anfon at glaf yn cyrraedd y targed, ond efallai nad y cerbyd hwnnw yw'r un cywir ar gyfer anghenion y claf. Mae cael dull sy'n seiliedig yn fwy ar ganlyniadau yn golygu bod modd dyrannu'r adnoddau hynny yn fwy priodol. Weithiau ambiwlans fydd e', weithiau cerbyd ymateb cyflym fydd e'. Mewn achosion eraill, efallai nad cerbyd argyfwng fydd e'. Mae'n dibynnu ar lefel yr aciwtedd, y bydd y broses brysbennu glinigol yn gallu ei phennu. Mae amrywiaeth o opsiynau. Y peth hanfodol yw y byddwn ni'n mesur yr amser rhwng yr alwad a chyflawni'r ymyrraeth briodol, os dymunwch chi. Bydd hynny'n cipio'r data mwyaf perthnasol, os gallaf ei roi felly. 

Fe wnaeth e bwynt pwysig am rannu data. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru i ymateb i'r dirwedd reoleiddio. Mae rhai cwestiynau rheoleiddiol yn y maes hwn, y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohonyn nhw. Bydd y gwaith, sy'n mynd rhagddo'n dda, yn sicrhau bod modd trosglwyddo data'n well rhwng lleoliadau sylfaenol ac eilaidd, yr wyf yn cytuno ag ef ei fod yn hollol hanfodol i ni allu gwella perfformiad yn gyffredinol, ac yn hanfodol, yn amlwg, i symud gwasanaethau i'r gymuned, y gwnaeth e ei grybwyll hefyd yn ei gwestiwn.

O ran y berthynas rhwng y targed trosglwyddo o ambiwlansys a gofal mewn coridorau, dydw i ddim yn derbyn, mewn gwirionedd, bod yna gysylltiad, o reidrwydd, rhwng y ddau. Rydw i wedi bod i fwy nag un safle ysbyty yn ystod yr wythnosau diwethaf lle mae'r ysbyty wedi bod yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed 45 munud a gwneud yn siŵr nad oes gofal mewn coridorau. Mae'n heriol, heb os, ond mae'n gwbl bosibl. Mae'n ymwneud â sut mae gwasanaethau yn cael eu ffurfweddu o fewn yr ysbyty er mwyn gwneud hynny.

Rydyn ni'n gweithio ar sut allwn ni gasglu a chyhoeddi data ar ofal mewn coridorau. Byddwn ni'n trafod hyn yn y Senedd yfory yn sgil deiseb, fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol. Rwy'n credu ei fod yn iawn. Rwy'n credu ei fod wedi siarad amdano fel mater diogelwch, ac yn wir mae'n fater diogelwch, yn fater o ddiogelwch cleifion, nid yw'n darged yn unig. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrtho yw, wrth ganolbwyntio ar y claf yn y coridor, nad ydyn ni eisiau ei weld, a'r claf sy'n eistedd yng nghefn ambiwlans yn rhy hir, nad ydyn ni eisiau ei weld, nid yw'r ddadl yn aml yn rhoi digon o sylw i'r claf hwnnw a allai fod yn gorwedd ar y llawr gartref, sydd hefyd yn aros am ambiwlans i'w gasglu, a'r claf hwnnw yn aml yw'r un sy'n wynebu'r risgiau diogelwch mwyaf i'w iechyd a'i lesiant. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael system sy'n galluogi ambiwlansys i gael eu rhyddhau i ddiwallu'r anghenion hynny hefyd.

Dim ond un pwynt i orffen: mae'r £340,000 y gwnes i sôn amdano ar gyfer capasiti cerbydau yn benodol, sy'n helpu i fynd â chleifion adref o'r ysbyty, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n croesawu hynny. Ac o ran rhyddhau ar benwythnosau, dau o'r metrigau rydyn ni'n teimlo sy'n debygol o wneud y gwahaniaeth mwyaf wrth wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu rhyddhau yn y ffordd amserol honno yr ydyn ni i gyd eisiau ei weld yw cynyddu'r gyfradd rhyddhau dyddiol, fel bod o leiaf 33 y cant o'r garfan honno yn cael eu rhyddhau cyn hanner dydd—. Mae rhai safleoedd ysbytai yn rhyddhau tua hanner y ganran honno ar hyn o bryd, felly mae cyfle enfawr i wneud hynny, ac nid yw hynny'n ymwneud ag adnoddau ychwanegol, mae'n ymwneud, a bod yn onest, â'r ffordd rydych chi'n defnyddio'r systemau sydd gennych chi eisoes mewn ffordd fwy effeithiol. A chynyddu cyfraddau rhyddhau ar benwythnosau 30 y cant. Nawr, mae hynny'n fwy heriol, am y rhesymau y nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, ond mewn gwirionedd bydd y ffocws hwnnw ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, sef diben y pythefnos hwn, yn dangos i ni faint yn fwy y gellir ei wneud yn y maes hwnnw.

16:15

Wel, mi fyddwch chi’n cofio i fi groesawu’r fframwaith newydd pan gafodd e ei gyhoeddi yn gynharach eleni. Er bod gennym ni oll syniadau gwahanol am sut i fynd i'r afael â'r problemau difrifol iawn yn ein gwasanaethau brys, dwi’n credu bod cydnabyddiad eang nad oedd y drefn flaenorol o alwadau coch yn gweithredu'n effeithiol er budd y cleifion. Dwi'n credu, felly, fod rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau clinigol fel sail i'r fframwaith newydd yn gam pwysig ymlaen, ac, yn wir, mae yna achos cryf dros gynnal adolygiad o'r fath ar draws ardaloedd eraill o'r system iechyd hefyd.

Ond un peth ydy gosod y sylfeini, peth arall ydy sicrhau bod y fframwaith yn dwyn ffrwyth trwy ganlyniadau pendant a gwell. Tra fy mod i’n cydnabod yn llwyr mai ers mis Gorffennaf yn unig mae'r fframwaith wedi bod ar waith, mae'n deg dweud bod y canlyniadau hyd yma wedi bod yn gymysg.

Rŵan, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac mi wnaf i ddyfynnu yn Saesneg oherwydd dyna'r datganiad sydd o’m mlaen i:

'Ers cyflwyno'r newidiadau, mae cyfraddau dychwelyd i gylchrediad naturiol ar gyfer pobl yn y categori "porffor: ataliad" wedi gwella.'

Serch hynny, yn ôl y canrannau dwi wedi'u gweld, yr ystadegau diweddaraf ar gyfer mis Hydref, mae'r adferiad i bobl sydd â churiau calon a oedd yn yr ambiwlans cyn cyrraedd yr ysbyty, sef y prif fesur galwadau porffor, wedi gostwng dros 20 y cant yn ystadegau mis Hydref, fel roeddwn ni'n dweud, sydd y lefel isaf ers cyflwyno'r fframwaith. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr ystadegau hynny, ac ydy o'n cytuno bod hynny'n bryderus?

Rydyn ni hefyd wedi gweld yr amseroedd ymateb cyfartalog ar gyfer galwadau coch yn parhau yn uwch na tharged delfrydol y Llywodraeth bob mis hyd yn hyn. Gaf i ofyn, felly, beth oedd eich disgwyliadau chi, Ysgrifennydd Cabinet, ar gyfer gweithrediad y fframwaith yn ystod y misoedd cychwynnol yma? A ydy'r lefelau ROSC, er enghraifft, yn unol â’r hyn yr oeddech chi wedi disgwyl? Sut hefyd ydych chi'n cymharu'r perfformiad clinigol presennol efo'r hen drefn? 

Yn ogystal â gwella ymatebolrwydd i argyfyngau brys, mae'n hollbwysig sicrhau bod amser staff yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib, yn enwedig o gofio'r straen aruthrol ar yr adrannau brys. Dwi'n croesawu, felly, yr haen ychwanegol o ystyriaeth a gyflwynwyd yn y fframwaith i sicrhau trefn well ar gyfer achosion nad oes o reidrwydd angen eu cludo i'r ysbyty. Mi ydych chi wedi sôn am eich bwriad i weld gostyngiad o 10 y cant erbyn diwedd y flwyddyn yn nifer y bobl sy'n cael eu cludo i'r ysbyty heb anaf neu gyda mân anafiadau. Gaf i ofyn, felly, a ydych chi ar y trywydd cywir er mwyn cyflawni'r nod yma?

Mae rôl bwysig i dechnoleg yn hyn i gyd, a dwi'n falch iawn gweld bod treialu defnyddio fideos asesu cyn cyrraedd yr ysbyty wedi ei gyflwyno ar draws pum ysbyty er mwyn galluogi gwell gofal yn y cartref i gleifion strôc. A gaf i ofyn am eich asesiad o'r treialu yma? Faint o ostyngiad yn nifer y teithiau ambiwlansys sydd wedi ei weld o ganlyniad uniongyrchol i'r dechnoleg, ac a oes bwriad i ymestyn y drefn yma ar draws Cymru? 

Mae o'n galonogol clywed hefyd, fel ddaru'r Ysgrifennydd Cabinet ddatgan fis diwethaf, fod cynnydd wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r oriau a gollir oherwydd oedi trosglwyddo, ond y gwir ydy bod y niferoedd yn dal yn eithriadol o uchel, gyda dros 37,000 o oriau wedi'u colli ers cyflwyno'r fframwaith yn ôl yn yr haf. A ydych chi'n cytuno, felly, fod achos cryf dros ddatblygu strategaeth i gynyddu nifer y canolfannau derbyn ambiwlans yng Nghymru? Nid yn unig mae'r unedau hyn yn lleihau tagfeydd mewn adrannau brys, ond maen nhw hefyd yn rhyddhau amser gwerthfawr i ambiwlansys, rhywbeth sydd yn hynod o bwysig mewn ardaloedd gwledig. 

Ac i gloi, fel dwi wedi sôn yn gyson, nid yw'r problemau rydyn ni'n eu gweld gyda'r ciwiau hir o ambiwlansys y tu allan i'n hysbytai o reidrwydd yn fater o adnoddau, ond yn hytrach maen nhw'n adlewyrchu diffygion ehangach yn llif a gweithrediad y system, yn enwedig diffyg capasiti mewn gofal cynradd a gofal cymunedol. Dwi'n siŵr eich bod chi wedi cydnabod hynny. Mae diffyg capasiti gwelyau, sydd wedi gostwng yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, yn ffactor yn hyn, ond mae hefyd yn symptom o'r datgysylltiad sefydliadol a llywodraethol rhwng gofal ysbyty a gofal cymunedol. A ydych chi felly'n cytuno â chynnig Plaid Cymru i sefydlu rôl cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer rheoli llif gofal y tu allan i'r ysbyty, er mwyn darparu arweinyddiaeth strategol well a chyflymu llif cleifion?  

16:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'r perfformiad o ran ROSC yn y categori porffor wedi dangos gwelliannau ers y cyfnod inni gyflwyno'r fframwaith newydd dros yr haf, ond byddwn i'n dweud yn gyffredinol ein bod ni fater o wythnosau neu ychydig bach o fisoedd i mewn i weithredu'r cynllun newydd. Felly, dwi ddim yn credu ei fod e'n addas i roi gormod o bwysau ar y cynnydd hynny erbyn hyn. Mae'n rhaid gweld sut mae'r peth yn gweithio dros y tymor hirach.

Fel gwnes i sôn yn fras yn y datganiad, rŷn ni'n ceisio alinio gwerthuso'r newidiadau roeddwn i'n sôn amdanyn nhw'r wythnos diwethaf gyda'r newidiadau a gyflwynwyd yn yr haf, fel bod y ddau yn cael eu hedrych arnynt ar y cyd dros y 18 mis nesaf, a'n bod ni'n gweld y system yn gweithio yn hytrach na'r fframweithiau annibynnol. Dwi'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd jest yn synhwyrol. Ond rŷn ni ar y trywydd i gyrraedd y nod y gwnaeth e ofyn amdano fe yn ei gwestiwn.

Mae perthynas, fel y mae'r Aelod wedi cydnabod, rhwng gallu'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb mewn ffordd amserol i'r rheini sydd wedi cael anaf yn y cartref, er enghraifft, ar yr un llaw, a gallu'r system gyfan i allu rhyddhau ambiwlansys mewn ffordd amserol o flaen ysbytai. Mae e wrth gwrs yn wir fod dal gormod o oedi o flaen adrannau brys, ond mae hefyd yn werth nodi ein bod ni wedi gweld ym mis Hydref yr ail gyfanswm lleiaf o oriau wedi eu colli ers Gorffennaf 2021, a'r mis lle'r oedd hynny ar ei isaf oedd mis Medi.

Felly, mae cynnydd sylweddol wedi bod dros y pedair blynedd diwethaf. Fe wnaethon ni ddechrau cynllunio ar gyfer gaeaf eleni ym mis Mawrth. Felly, dros y chwe mis diwethaf, rwy'n credu bod y system wedi blaenoriaethu hyn mewn ffordd sydd yn bositif. Mae'r darlun, wrth gwrs, yn amrywiol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod rhai ysbytai dal yn profi heriau sylweddol yn mynd i'r afael â'r nod hon, ond mae gennym ni ysbytai eraill lle, ambell wythnos, rŷn ni'n gweld 100 y cant o ambiwlansys yn cael eu rhyddhau o fewn y nod.

Felly, mae'r darlun yn un cymysg. Rŷn ni wedi gweld ysbytai fel y Grange, er enghraifft, yn gwneud cynnydd am gyfnod ac wedyn yn colli'r cynnydd hwnnw, ac ysbytai eraill fel Treforys yn gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfnod byr ac wedi llwyddo cynnal y cynnydd hwnnw. Felly, mae'r darlun yn un amrywiol. Yr her, fel wastad, yw sicrhau bod y dysgu o'r llwyddiannau mewn un ardal yn cael ei drosglwyddo i ardaloedd eraill. Rŷn ni'n gweld tystiolaeth o hynny'n digwydd, ond yn sicr, dros yr wythnosau nesaf, rhaid parhau gyda hynny.

Dwi ddim fy hunan yn meddwl bod canolfannau arbennig ar gyfer ambiwlansys yn ateb; mae angen sicrhau bod y system yn gallu ymateb yn y ffordd fwyaf holistaidd at anghenion y claf. Yn y pen draw, llif drwy'r ysbyty yw'r peth sydd yn mynd i allu sicrhau bod hynny'n digwydd. Yn y cyd-destun hwnnw, fe wnaeth yr Aelod sôn am welyau. Dwi ddim yn credu mai hynny sydd wrth wraidd yr her.

Dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd e ar ddiwedd ei gwestiwn, mai mwy o bwyslais ar sut y gallem ni gryfhau'r ddarpariaeth yn y gymuned, mewn settings gofal cynradd—dyna'r ateb i lawer o'r heriau yma, ar ddiwedd y dydd. Mae gyda ni waith yn digwydd ar hyn o bryd, dan arweinyddiaeth y CMO, i sicrhau ein bod ni'n cynyddu'n llawer cyflymach y symud hwnnw a chryfhau'r ddarpariaeth yn y gymuned. Byddaf yn gwneud datganiad maes o law o ran y trafodaethau rŷn ni wedi bod ynddyn nhw gyda'r meddygon teulu. Mae hynny'n dangos, dwi'n credu, sail gref ar gyfer gallu symud hynny ymlaen yn gyflymach yn y dyfodol hefyd.

16:25

Rwy'n gwerthfawrogi'r datganiad.

Rwy'n ddiolchgar am yr hyn dŷch chi wedi'i ddweud, achos mae hwn yn rhywbeth sydd yn codi pryder i nifer fawr iawn o bobl.

Fe wnaeth rywun sy'n gweithio ar ambiwlans gysylltu â mi yr wythnos hon, ac roedd e eisiau rhoi gwybod am y sefyllfa ofnadwy gydag amseroedd aros ambiwlansys yn lleol. Pan anfonodd y gweithiwr ambiwlans hwn y neges ataf, roedd e'n eistedd y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys ysbyty'r Faenor gydag 16 o ambiwlansys eraill. Fe ddywedodd wrthyf mai naw awr oedd yr amser aros cyfartalog ar gyfer trosglwyddo o ambiwlans. Mae'n ymddangos mai dim ond ym mis Hydref yr oedd y rheol trosglwyddo 45 munud yn gweithio. Ond ers hynny, mae wedi dychwelyd i'r normal ofnadwy iawn hwn. Mae'n fy rhybuddio bod cleifion yn dioddef, bod bywydau'n cael eu peryglu, ac mae'n poeni bod uwch dimau rheoli yn gwybod na fydd unrhyw ganlyniadau os byddan nhw'n torri'r rheol 45 munud honno.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn—ydw wir—ond mae pob awr y mae ambiwlansys yn aros y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys yn awr lle na allan nhw fod ar y ffyrdd, ar eu ffordd i helpu pobl ac achub bywydau pobl. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y byddwch chi'n rhannu fy mhryder amdano. A gaf i ofyn pa obaith y gallaf ei roi i'r gweithiwr ambiwlans hwn a'i gydweithwyr y bydd y sefyllfa yn newid, os gwelwch yn dda?

Wel, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod wedi clywed yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor, sy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau y mae hi wedi'u codi yn ei chwestiwn: gwelodd y Faenor yn benodol gynnydd sylweddol dros—dydw i ddim yn credu mai dim ond mis Hydref ydoedd, mis Medi hefyd rwy'n credu. Fe allech chi ddadlau bod gwelliant. Ond mae'n wir dweud bod hynny wedi llithro'n ôl.

Un o'r ymyriadau allweddol y gwnes i eu rhoi ar waith oedd y tasglu trosglwyddo 45 cenedlaethol, sydd wir wedi mynd i'r afael â'r system gyfan i gyrraedd y targed hwn. Yn wir, y targed yw trosglwyddo o fewn 15 munud. Mae'r 45 munud yn drefniant wrth gefn, i bob diben. Byddwn i'n dweud mai'r hyn rydyn ni'n ei weld yn digwydd yw penderfyniadau'n cael eu gwneud am aciwtedd cleifion sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol yw mai'r cleifion hynny a allai fod yn amlwg yn sâl, ond nad yw eu gofynion a'u hanghenion ar y pen mwy difrifol o'r hyn y gallai fod gan rywun sy'n mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, yw'r cleifion hynny sydd fwyaf tebygol o aros yng nghefn yr ambiwlans yn y pen draw. Ac yn aml iawn, yn anffodus, mae hynny'n golygu person oedrannus efallai a allai fod wedi cwympo, lle nad yw'r achos o gwymp ynddo'i hun yn fater arbennig o fygythiol, ond mae'n fater difrifol i'r unigolyn hwnnw. Felly, mae'n sefyllfa anhapus iawn pan fydd hynny'n codi, ond mae yna benderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud am aciwtedd pobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Y pwynt sylfaenol, fel y dywedodd yr Aelod, yw nad yw pob awr sy'n cael ei cholli y tu allan i ysbyty, yn amlwg, yn brofiad positif i'r claf, ond mae hefyd yn awr sy'n cael ei cholli i rywun sy'n aros am ambiwlans gartref. Dyna pam mae sicrhau cydbwysedd yn y system yn y ffordd honno mor bwysig.

Felly, rydyn ni treialu dull ychydig yn fwy cyfarwyddiadol dros y pythefnos hwn. Mae'r disgwyliad yn glir, mae'r gwaith a'r gefnogaeth wedi bod yn y system ers sawl mis. Rydyn ni wedi gweld gwelliant yn gyffredinol. Mae'n amrywiol, ond bydd gweithgarwch yn cael ei olrhain bob dydd dros y pythefnos nesaf i ni weld a yw'r rhythm dyddiol hwnnw'n galluogi'r system i ddod â hyd yn oed mwy o ffocws iddi. Rydyn ni hefyd wedi gofyn i fyrddau iechyd wneud defnydd llawn o atgyfeiriadau i wasanaethau bregusrwydd acíwt a gofal argyfwng yr un diwrnod i ymdrin â rhai o'r pwyntiau rydw i newydd eu hamlinellu i'r Aelod.

Rwy'n credu y bydd unrhyw un sydd wedi gwylio'r cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus wedi gweld, lle nad yw byrddau iechyd yn bodloni'r disgwyliadau, mae'n aml yn drafodaeth eithaf anghyfforddus, fel y mae angen iddo fod yn y cyd-destun hwnnw.

16:30

Yn rhan o'r datganiad, mae'n sôn am blant dan bump oed yn cael eu cludo'n uniongyrchol i'r ysbyty gydag anawsterau anadlu, pan allai cyngor clinigol penodol gael ei roi. Un o'r amseroedd mwyaf brawychus i mi fel mam-gu oedd gofalu am fy ŵyr dwy oed. Fe wnaeth e ddeffro, ac ni allai anadlu: 'Rwy'n methu anadlu, Mam-gu.' Roedd e'n amser brawychus, ofnus. Beth bynnag, fe ffoniais i ambiwlans, ac roedden nhw yno'n gyflym, o fewn 15 munud, ac fe wnaethon nhw roi steroid iddo a wnaeth helpu—rwy'n credu mai steroid oedd e—gydag anadlu. Mor frawychus. Fel mae'n digwydd, crŵp oedd e, ac mae wedi digwydd sawl gwaith ers hynny. Erbyn hyn, mae fy merch yn gwybod beth i'w wneud, ac fel arfer mae hi'n mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys i ymdrin ag ef. Ond mae hi hefyd wedi cael gwybod bod yna dabled y gall hi ei chael. Er hynny, rwyf eisiau sicrwydd, pe bai'n digwydd i rywun, y bydd ganddyn nhw'r driniaeth frys honno ar gyfer y plentyn hwnnw, oherwydd dyna'r profiad mwyaf brawychus i mi ei gael erioed.

Hefyd, rwyf eisiau gofyn cwestiwn arall: meddygon teulu y tu allan i oriau yn atgyfeirio pobl at adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad oes angen iddyn nhw fynd iddyn nhw o bosibl. Sylw ar hynny, os gwelwch yn dda. Fe ddigwyddodd hynny yn ddiweddar gydag un o fy etholwyr a dreuliodd noson mewn adran damweiniau ac achosion brys. Doedd dim angen iddi mewn gwirionedd. Felly, diolch.

Wel, mae'r sefyllfa o ran yr olaf yn glir. Os nad oes angen i glaf fod mewn adran damweiniau ac achosion brys, dyna'r lle olaf y dylen nhw fod, i fod yn ddi-flewyn-ar-dafod. Dydyn ni ddim eisiau anfon pobl i'r ysbyty, yn enwedig i amgylchedd adran achosion brys, sy'n aml yn achosi llawer o straen, am resymau y byddwn ni'n eu deall, os nad oes angen clinigol i bobl fod yno. Yn wir, dyna pam mae gennym ni'r gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn i anghenion gofal sylfaenol gael eu diwallu yn y modd hwnnw.

O ran y pwynt cyntaf a wnaethoch, mae'n ddrwg gennyf am y profiad a gafodd hi. Bydd hynny wedi achosi llawer iawn o ofid, wrth gwrs. Fe wnaf i achub ar y cyfle, os caf fi, i ddweud ein bod ni'n gweld llawer o blant ifanc â symptomau'r ffliw. Felly, byddwn i'n dweud nad yw hi'n rhy hwyr i annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael—chwistrell trwyn yw hi, ontefe, i blant ifanc iawn—i fanteisio ar y cynnig hwnnw eleni. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag y ffliw yn ogystal â'r feirws syncytiol anadlol. Felly, dim ond neges i bawb i annog rhieni yn eu hardal nhw, os gwelwch yn dda, i wneud hynny. Mae yna gyfle o hyd. Rwy'n ei weld yn fy milltir sgwâr i, ond bydd eraill yn ei weld mewn mannau eraill.

Ond o ran y pwynt penodol y gofynnodd yr Aelod amdano, ymyrraeth clinigwyr pediatrig arbenigol nawr yn y cyfnod brysbennu clinigol hwnnw yw'r peth sy'n gwneud y gwahaniaeth. Felly, mae'n ymwneud â gallu rhoi cyngor arbenigol hyderus fel bod y rhiant hwnnw a'r plentyn hwnnw yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r model y mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ei gyflwyno.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Adroddiad Cynnydd ar Dlodi Plant 2025

Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar yr adroddiad cynnydd ar dlodi plant 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:33:20
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rwy'n gwneud datganiad am rywbeth sy'n mynd yn syth at galon y math o genedl rydyn ni i gyd eisiau i Gymru fod: ein gwaith parhaus i ymdrin â thlodi plant. Mae hyn wedi'i nodi yn yr adroddiad cynnydd diweddar ar ein strategaeth tlodi plant, ac rwy'n falch o rannu lle rydym arni, cydnabod yr hyn rydyn ni wedi'i wneud, a bod yn glir ynglŷn â lle y mae angen i ni fynd nesaf.

Llywydd, mae un o bob tri o blant yng Nghymru yn cael eu magu mewn tlodi incwm cymharol. Mae hynny'n 31 y cant o blant yng Nghymru—sy'n debyg i lefelau yn Lloegr, ond yn sylweddol uwch nag yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban. Y tu ôl i'r nifer hwnnw mae miloedd o deuluoedd sy'n gwneud popeth y gallan nhw ond sy'n dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer gormod o blant yn dal i dyfu i fyny heb y diogelwch a'r cyfleoedd y mae pob plentyn yn eu haeddu. Mae'r costau byw cynyddol, pwysau tai a bylchau o ran cael mynediad at wasanaethau yn pwyso'n drwm ar deuluoedd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael i ymdrin â thlodi plant, ond mae llawer o'r offer mwyaf pwerus—yn enwedig o ran llesiant, trethiant a pholisi cyflog—yn rhai a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU o hyd. Dyna pam rwy'n croesawu cam gweithredu'r Canghellor yn y datganiad ar y gyllideb mewn perthynas â dileu'r terfyn dau blentyn, ac roeddwn i'n falch o gymryd rhan yn y tasglu pedair gwlad i ddatblygu strategaeth tlodi plant y DU, a lansiwyd yr wythnos diwethaf yng Nghanolfan Plant Trelái a Chaerau.

Gallai dileu'r terfyn dau blentyn dynnu 69,000 o blant yng Nghymru allan o dlodi: newid polisi yr ydym wedi galw amdano fel ffordd allweddol, profedig o leihau tlodi plant. Ond er y byddwn ni'n parhau i bwyso am newid ystyrlon ar lefel y DU, fyddwn ni ddim yn rhoi'r gorau i wneud popeth y gallwn ni ei wneud gyda'r pwerau sydd gennym ni.

Mae'r adroddiad cynnydd ar dlodi plant y gwnes i ei gyhoeddi ar 2 Rhagfyr yn dangos camau gweithredu ymarferol cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth. Ochr yn ochr â'r adroddiad cynnydd, fe gyhoeddais i ddiweddariad ar y fframwaith monitro a dadansoddiad o'r ymarfer profiad bywyd, a gasglodd farn dros 3,000 o bobl â phrofiad bywyd o dlodi. Mae'r gwaith profiad bywyd yn rhoi tystiolaeth hanfodol i ni. Mae'n ein hatgoffa ni nad yw tlodi yn ymwneud ag incwm yn unig—mae'n ymwneud ag urddas, cyfle a gobaith. Mae'r adroddiad yn rhannu'n uniongyrchol yr hyn y mae teuluoedd yn ei ddweud sydd wedi helpu, yr hyn nad yw wedi helpu, a'r hyn sydd angen newid o hyd i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r grŵp cyfeirio allanol ar dlodi plant a'r sefydliadau ar y rheng flaen sy'n rhoi arbenigedd, cyngor a her i ni i helpu i sicrhau bod y strategaeth tlodi plant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ledled Cymru. Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o'r adroddiad profiad bywyd yw sut mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant ac i'w hurddas, yn unol â'n hymrwymiad i hawliau plant, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae prydau ysgol am ddim wedi gwneud ein bywydau'n llawer haws ac wedi sicrhau bod y plant yn cael pryd poeth bob dydd.'

'Mae'n dysgu plant sut i fwyta'n iach. Rwy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn gyfartal.'

Mae'r adroddiad cynnydd ar dlodi plant yn rhoi crynodeb lefel uchel o'r prif gynnydd rydyn ni wedi'i wneud wrth ymdrin â'r 19 o amcanion, gan ysgogi gwaith ar draws y Llywodraeth i ganolbwyntio ar anghenion plant mewn tlodi, cefnogi a chytuno ar flaenoriaethau, ac annog partneriaid i weithio mewn ffyrdd newydd neu wahanol. Ers 2022, rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £7 biliwn i leihau costau a sicrhau'r incwm mwyaf posibl i deuluoedd, ac mae hynny'n cynnwys y gronfa gynghori sengl, sy'n datgloi dros £200 miliwn mewn budd-daliadau heb eu hawlio, a'r gronfa cymorth dewisol, sy'n rhoi cymorth hanfodol mewn adegau o argyfwng. Roedd adborth yn yr adroddiad profiad bywyd yn cynnwys,

'Mae'r DAF a'r Banc Bwyd wedi helpu i fwydo/darparu ar gyfer fy nheulu pan oedden ni mewn sefyllfa enbyd. Fe wnaeth gofal plant fy helpu i weithio.'

Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd—mwy na 50 miliwn o brydau wedi'u darparu ers 2022—a darpariaeth wedi'i dargedu mewn ysgolion uwchradd, lle y gall mwy na dwy ran o dair o ddysgwyr gael pryd ysgol am ddim bob dydd erbyn hyn. Cyflwyno bwndeli babi. Lwfans cynhaliaeth addysg yn codi i £40. Rydyn ni hefyd wedi ariannu dros 100 miliwn o brydau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd dros y ddau ddegawd diwethaf. A'r wythnos diwethaf, fe ymwelais i ag Ysgol Rhiw Syr Dafydd yn y Coed Duon a gweld drosof fi fy hun y gwahaniaeth y mae ein rhaglen prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd a brecwast am ddim yn ei wneud i blant a'u teuluoedd. Yn Eglwys Teulu Coastlands, sy'n gartref i un o ganolfannau banc bwyd y Fro, fe wnes i gyfarfod â phartneriaid atgyfeirio i drafod yr heriau maen nhw'n ymdrin â nhw. Roedd hi'n galonogol gweld bod y banc bwyd hwn nid yn unig yn rhoi parseli bwyd hanfodol, mae hefyd yn cynnig prydau poeth, a dim ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth weini ei ddegfed mil pryd.

Dywedodd teuluoedd wrthym hefyd pa mor bwysig yw ein cynnig gofal plant i Gymru, sy'n rhoi 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed rhieni cymwys, sy'n cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant. Roedd adborth arall o'r adroddiad profiad bywyd yn cynnwys, ac rwy'n dyfynnu:

'Roedd y cymorth gofal plant 30 awr yn golygu ei bod yn bosibl i ni allu parhau â'n swyddi ar yr un lefel yn hytrach na lleihau oriau/rhoi'r gorau i weithio.'

Mae'r £25 miliwn arall rydyn ni'n ei fuddsoddi i ehangu ein cynllun gofal plant Dechrau'n Deg ledled Cymru yn dod â ni'n agosach at y ddarpariaeth gyffredinol o ofal plant i bob plentyn dwy oed. Ac mae arfer gorau arloesol yn dod i'r amlwg, er enghraifft, yng Ngwynedd, lle mae pecyn trafod bwydo ar y fron newydd yn cael ei gyflwyno i gefnogi rhieni yn ystod beichiogrwydd. Rydyn ni wedi sicrhau bod pob gweithiwr y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol ac rydyn ni'n croesawu newidiadau Llywodraeth y DU i'r isafswm cyflog cenedlaethol, a fydd o fudd i hyd at 160,000 o weithwyr yng Nghymru yn sgil cynnydd o £1,400 y flwyddyn.

Yn ganolog i sicrhau bod teuluoedd yn gallu manteisio ar yr help y mae ganddyn nhw hawl iddo yw siarter budd-daliadau Cymru. Mae map llwybr cam 1 yn nodi sut y byddwn ni'n symleiddio'r ffordd y caiff budd-daliadau yng Nghymru eu gweinyddu. Erbyn mis Ebrill 2026, dim ond unwaith y bydd angen i bobl gyflwyno eu tystiolaeth i hawlio gostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae hwn yn ddiwygiad ymarferol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd.

Llywydd, nid yw'r her o dorri cylch tlodi yn un y gallwn ni ei datrys dros nos. Mae'n gofyn am ymdrech barhaus, arloesedd a pharodrwydd i wynebu gwirioneddau anodd am y rhwystrau y mae ein plant a'n teuluoedd yn eu hwynebu. Mae ein gweledigaeth yr un fath, ac mae'n un na ddylen ni byth golli golwg arni: Cymru lle nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl oherwydd tlodi. Rydyn ni'n cydnabod bod cyflawni'r uchelgais hon yn gofyn am ymdrech, gonestrwydd a chydweithrediad parhaus ar draws pob rhan o gymdeithas ac ar draws pob plaid wleidyddol. Mae hynny'n uchelgais fawr, ydy, ond dyma'r hyn yr oedd y Mesur sy'n seiliedig ar hawliau plant, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, wedi'i seilio arno, a bydd angen i bob un ohonom, llywodraeth ar bob lefel, gan weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid, fynd i'r afael â thlodi yn ddi-baid gan ddefnyddio pob dull a dylanwad sydd gennym.

Yn bennaf, mae hyn yn golygu ymdrin â'r anghydraddoldebau sydd wedi taro ein cenedl ers rhy hir, trwy ddarparu atebion cyffredinol. Mae hyn yn ymwneud â grymuso ein plant, ein teuluoedd, ein hysgolion a'n cymunedau, fel bod plant yn gallu tyfu i fyny gyda gobaith, rhagolygon da a chwarae teg. Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn ein plant. Fel y mae Sefydliad Bevan yn ei ddweud mor briodol, mae hyn yn ymwneud â datrys tlodi ac anghydraddoldeb. Dyna'n nod, oherwydd mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i ffynnu. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r adroddiad cynnydd diweddaraf ar y strategaeth tlodi plant yn dangos bod Cymru, ymhell o gyflawni cynnydd o ran mynd i'r afael â thlodi plant, yn mynd yn ôl mewn gwirionedd. Mae gennym bellach bron i draean o blant sy'n byw mewn tlodi, er gwaethaf ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i'w ddileu. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol yng Nghymru ers 26 mlynedd, ac eto Cymru sydd â'r lefel uchaf o dlodi plant allan o unrhyw un o'r gwledydd cartref. Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod effaith tlodi plant ar gyfleoedd bywyd plant Cymru. Er enghraifft, y llynedd, roedd plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim draean yn llai tebygol o gyflawni marciau uchaf yn eu TGAU.

Caniatawyd i'r sefyllfa hon ddirywio dros y degawd diwethaf, ond, yn hytrach na chyfaddef euogrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn dewis beio Llywodraeth y DU. Eu gobaith mawr ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yw cael gwared ar y cap dau blentyn ar y budd-dal plant. Allwch chi ddarparu tystiolaeth fanwl o'r effaith y bydd y polisi hwn yn ei chael ar dlodi plant yng Nghymru? Hyd yn hyn, yr unig beth rydym ni wedi'i weld yw honiadau. Ysgrifennydd Cabinet, pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o'r effaith y bydd cynyddu'r trethi ar deuluoedd sy'n gweithio yn ei chael ar dlodi plant? Onid ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau allan o dlodi yw trwy waith? Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru, fel y gallwn ddarparu swyddi i rieni sy'n talu'n dda? Ynghyd â'r Ysgrifennydd Cabinet, a fydd eich Llywodraeth bellach yn cytuno mai ailadrodd cynnig gofal plant mwy hael Lloegr yw'r ffordd orau o helpu rhieni i gael cyflogaeth ystyrlon? Wedi'r cyfan, dewisodd y Prif Weinidog lansio ei strategaeth tlodi plant wrth groesawu 20 o leoedd plant ychwanegol yng Nghanolfan Plant Trelái a Chaerau.

Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, gwnaethoch gyfeirio at dai. Mae angen i ni feddwl am blant a fydd yn treulio Dydd Nadolig mewn llety gwely a brecwast oherwydd bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi methu â chyrraedd ei thargedau tai. Diolch.

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i groesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ac uchelgeisiau'r strategaeth tlodi plant. Hefyd, rwy'n gobeithio y byddwch yn croesawu ymgysylltiad ein plant a'n pobl ifanc a'u sefydliadau yn ein hadroddiad profiad bywyd, i ddangos yn glir iawn i ni o'u profiad nhw beth sy'n gweithio a beth yn fwy y dylem ei wneud. Ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n glir iawn o'r dystiolaeth sydd wedi'i rhoi yw'r ffaith mai'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi plant a theuluoedd ar draws y Llywodraeth gyfan—ac rydych chi'n gwneud y pwynt hwnnw, ac mae'n bwynt allweddol—mae'n un o'n blaenoriaethau allweddol ein bod yn dangos gweithredu trwy weithio ar draws Llywodraeth Cymru.

Dileu'r terfyn dau blentyn, yr wyf yn gwybod nad ydych chi fel plaid yn cytuno ag ef—. Chi gyflwynodd y terfyn dau blentyn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth yn glir; oes rhaid i ni ei hailadrodd? Mae'n mynd i ddod â rhyddhad i 69,000 o blant yng Nghymru a lleihau cyfraddau tlodi plant cymharol yng Nghymru hyd at dri i bedwar pwynt canran. Sut allwch chi beidio â chytuno â hynny a gweld y dystiolaeth bod hyn yn mynd i newid rhagolygon y plant hynny? Felly, rwyf wedi ei groesawu, ac wrth gwrs rydych chi'n gwybod ein bod wedi gallu dylanwadu ar y penderfyniad hwnnw, ac rwy'n diolch i bawb yn y Senedd a'r gwleidyddion a gefnogodd hynny, a'n helpu i gael llais cryfach yn Llywodraeth Cymru, a hefyd y ffaith ein bod wedi ymgysylltu, fel y dywedais, â Llywodraeth y DU ar ddatblygu eu strategaeth, yn enwedig mewn perthynas â mesurau nawdd cymdeithasol, oherwydd wrth gwrs dyna lle nad oes gennym y pwerau, ac roedd angen i ni ddylanwadu ar hynny o ran yr ymgysylltiad hwnnw.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn eich bod wedi sôn am feysydd eraill lle, ar draws Llywodraeth Cymru, rydym wedi gwneud gwahaniaeth, ar wahân i'r cyllid sydd wedi mynd i mewn, i'r holl waith gwych sydd wedi'i wneud, er enghraifft, o ran ein banciau bwyd ledled Cymru. Ac rwy'n credu bod eich cyd-Aelod wedi dod i lansiad maniffesto Ymddiriedolaeth Trussell, lle clywsom rai enghreifftiau anhygoel o sut mae banciau bwyd yn mynd i edrych i weld sut y gallant helpu i fynd i'r afael ag achosion tlodi, y ffaith y gallant eu helpu trwy gyfeirio at hawl i fudd-daliadau a hefyd wrth gwrs i gyfleoedd swyddi, i'w galluogi i symud o fod angen mynd i fanc bwyd i fod yn annibynnol a mynd i waith, gan gael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ac rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig y mae angen i ni ei wneud heddiw—rwy'n siŵr y bydd eraill yn ei wneud—bod y mwyafrif helaeth o'r teuluoedd sy'n elwa yn sgil dileu'r terfyn dau blentyn yn deuluoedd sy'n gweithio. Maen nhw'n deuluoedd sy'n gweithio; mae teuluoedd sy'n gweithio yn mynd i'n banciau bwyd.

Fe wnaf drafod eich pwynt hefyd am gyflogaeth, oherwydd rwy'n credu bod yna lawer o dystiolaeth dda, ac rydw i wedi ei darparu i chi o ran yr hyn sy'n gweithio hefyd o safbwynt pobl sy'n byw mewn tlodi, ond hefyd gan y sefydliadau hynny sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Ac rwy'n credu bod galluogi pobl i fynd i waith a chyflogaeth yn hanfodol bwysig, ac mae hynny'n rhywbeth lle wrth gwrs rwy'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru o ran cyfrifoldeb. Felly, mae cyflogaeth yn rhoi cyfle i unigolion ennill bywoliaeth, cyfrannu at y cyfraddau gweithgarwch economaidd cyffredinol, rôl hanfodol mewn lleihau tlodi, cyfleoedd bywyd, gwell incwm, sefydlogrwydd ariannol a diogelwch, ac mae ein rhaglenni cyflogadwyedd yn darparu'r cymorth hwnnw o ran pobl yn cael sgiliau, gan gynyddu eu cyflogadwyedd hirdymor. Ac rydym ni wedi clywed bod Llywodraeth y DU yn lansio gwarant i bobl ifanc. Wel, fe wnaethom lansio un ni ym mis Tachwedd 2021 ac rydym wedi cefnogi dros 60,000 o bobl ifanc i gael mynediad at gyflogadwyedd, ond hefyd Cymunedau am Waith, yn enwedig helpu'r oedolion a'r plant hynny a chyfranogiad y rhai yn Cymunedau am Waith, gan roi cyfle iddynt.

Rwy'n credu hefyd, o ran tai, y grant cymorth tai, eto, mae hyn yn drawslywodraethol, mae hyn i gyd yn ymwneud â fy nghyd-Aelodau yn gweithio gyda'i gilydd i weld y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth. Grant cymorth tai, prif grant atal digartrefedd, ariannu cymorth tai hanfodol, helpu awdurdodau lleol i gomisiynu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thai, a hefyd tanategu'r agenda trawsnewid digartrefedd uchelgeisiol honno, y byddwn yn ei gweld yn dod drwodd o ran y ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd sydd gyda ni nawr, yn mynd trwy Gyfnod 2.

Rwyf wedi siarad am gyflogadwyedd, ond o ran mynediad at ofal plant i alluogi rhieni i fynd yn ôl i'r gwaith, nid ein cynnig cynllun gofal plant yn unig, byddwn yn dweud mai Dechrau'n Deg yw ein rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw i helpu'r rhai yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i gael mynediad at waith. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n edrych eto ar y dystiolaeth sy'n cael ei darparu o ran yr hyn sy'n gweithio, beth sy'n mynd i'n helpu i fynd â'n plant allan o dlodi yma yng Nghymru. Ac, ie, wrth gwrs, rwyf eisiau dysgu mwy am yr hyn y gallem ei wneud gyda'n cyllideb, ein liferi ar draws Llywodraeth Cymru, ond rwy'n credu ein bod yn dangos yn y strategaeth hon y cynnydd y mae angen i ni ei wneud yn awr.

16:50

Ni ddylai neb fod ag unrhyw amheuaeth ynghylch graddfa'r argyfwng sy'n wynebu cymaint o blant yng Nghymru. Mae pediatregwyr, elusennau rheng flaen a sefydliadau gwrth-dlodi i gyd yn dweud yr un peth, ac maen nhw wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd: mae tlodi yn niweidio ein plant heddiw, ac oni bai ein bod yn troi gweledigaeth yn ffocws gwirioneddol a gweithredu effeithiol, does dim byd yn newid yfory i'r un o bob tri phlentyn sy'n byw mewn tlodi. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn hollol onest: mae cynnydd yn y gwaith o fynd i'r afael â thlodi plant yn rhy araf, ac, mewn rhai ardaloedd, bron yn amhosibl ei olrhain, oherwydd mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir, heb y targedau, ni allwn farnu'n iawn a yw'r strategaeth yn gweithio, a yw'n gwneud digon o wahaniaeth. Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, arbenigwyr ac eiriolwyr, gan gynnwys y comisiynydd plant, yn glir na allwn sicrhau bod digon o gynnydd yn cael ei wneud heb gynllun gweithredu a thargedau mesuradwy. Mae'r Llywodraeth yn rhestru ymrwymiadau a phrosiectau, sydd i gyd yn gymeradwy, ond a yw'r rhain yn gwneud y math o wahaniaeth y mae angen i ni ei weld?

Un maes lle mae'r bwlch hwn rhwng dyhead a chanlyniad yn amlwg yw siarter budd-daliadau Cymru. Mae ganddo botensial enfawr, ond nid ydym yn gwybod faint o awdurdodau lleol sydd â systemau ar waith i'w gyflawni, ac os yw cynghorau'n syrthio ar ei hôl hi, a oes angen mwy o gefnogaeth ac adnoddau arnynt? Ni all teuluoedd aros am flwyddyn arall o weithredu bratiog. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i gynnydd mwy sylweddol ddigwydd o ran cwblhau cam 1 y rhaglen. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau hyn?

Mae'r grant hanfodion ysgol yn un o'r grantiau y dylid ei ddarparu'n awtomatig gan y siarter budd-daliadau a'i gynnwys yng ngham 1. Fodd bynnag, fel y mae Achub y Plant Cymru wedi amlygu, mae'r grant hwnnw'n ymwneud â gostyngiad mewn costau yn unig. Er mwyn sicrhau'r incwm mwyaf, mae angen cymorth ariannol uniongyrchol ar deuluoedd. Mae'r galwadau am gamau mwy uchelgeisiol i'r perwyl hwnnw, fel taliad plant yng Nghymru, yn angenrheidiol yn ôl yr holl arbenigwyr polisi tlodi plant yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth y bydd Plaid Cymru yn dechrau ei gyflawni yn y Llywodraeth. Felly, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno ar hyn?

Mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw at y diffyg ffocws ar anghydraddoldebau iechyd plant yn yr adroddiad. Mae pediatregwyr wedi bod yn rhybuddio am effaith tlodi ar iechyd plant, yn enwedig yr ieuengaf, ers blynyddoedd, ac mae diffyg ffocws clir wedi'i nodi ar ehangu anghydraddoldebau iechyd mewn meysydd fel gordewdra, iechyd y geg a chyflyrau cronig. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu iechyd plant sy'n byw mewn tlodi yn benodol?

Plant yw, wrth gwrs, yn llythrennol dyfodol ein cenedl, ond oherwydd nad oes ganddynt unrhyw lais uniongyrchol yn y deddfau a'r polisïau sy'n llywodraethu eu bywydau, mae eu lleisiau yn aml heb eu clywed. Roedd croeso i'r adroddiad profiad bywyd, a gasglodd leisiau'r plant hynny y mae'r strategaeth hon i fod i ymateb iddynt a'u cefnogi. Mae Achub y Plant Cymru, fodd bynnag, wedi dweud nad yw'n glir sut mae'r hyn y mae pobl ifanc wedi'i ddweud wedi llunio'r adroddiad cynnydd hwn. Mae casglu profiad bywyd, wrth gwrs, yn werthfawr, ond mae'n rhaid iddo arwain at weithredu. Felly, beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol nawr?

Mae'n rhaid i ni weld yr adroddiad cynnydd hwn yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Daw ychydig wythnosau ar ôl cyllideb Lafur y DU ac, wrth gwrs, cyhoeddi strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, yr ydych chi, Ysgrifennydd Cabinet, wedi siarad yn aml amdano, fel y gwnaethoch y prynhawn yma, am ddull pedair gwlad. Mae Plaid Cymru yn croesawu'r penderfyniad hirddisgwyliedig i godi'r terfyn dau blentyn, ond mae ymchwil gan Sefydliad Bevan wedi dangos na fydd un o bob 10 o blant yr effeithir arnynt gan y terfyn dau blentyn yng Nghymru yn gweld unrhyw fudd o gwbl oherwydd y cap ar y budd-daliad—polisi Torïaidd creulon arall a gadwyd. Ac ni fydd un o bob 10 arall yn gweld y swm llawn. Felly, ydych chi'n cytuno, oni bai i'r cap ar fudd-daliad gael ei ddileu hefyd, bydd miloedd o blant Cymru yn parhau i fod yn gaeth mewn tlodi gan ddewisiadau gwleidyddol? Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar hyn?

Fe wnaethoch chi gyfeirio, eto, at dai ac i gymaint o deuluoedd, tai yw eu cost fwyaf. Mae ymchwil gan Trussell yn cadarnhau bod llawer ohonynt yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng talu rhent a phrynu bwyd, ac yn aml mae'n rhaid iddynt flaenoriaethu rhent er mwyn cynnal eu tenantiaethau ac yna dibynnu ar fwyd brys. Clywsom hynny, oni wnaethom, yn y digwyddiad Trussell hwnnw yn y Senedd. Felly, ydych chi'n cytuno, felly, ei bod yn siomedig bod y lwfans tai lleol yn parhau i gael ei rewi gan Lywodraeth y DU, sy'n golygu nad yw cymorth tai yng Nghymru yn cadw i fyny â rhenti? Os oedd dull pedair gwlad, pam nad oedd hyn yn rhan o strategaeth y DU? Nid oedd unrhyw gyfeiriad at hawliau plant yn strategaeth y DU chwaith.

Nawr, o ystyried bod dwy Lywodraeth Lafur gyda'u dwylo ar yr holl liferi a allai roi terfyn ar dlodi plant, pam y mae'r ddwy Lywodraeth Lafur hynny yn gwrthsefyll targedau? A wnewch chi addo cyflwyno targedau statudol clir, mesuradwy yn strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru i sbarduno'r gweithredu, ar draws y Llywodraeth, y mae plant Cymru mor ddirfawr angen ei weld? Diolch.

16:55

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Hefyd, mae'n bwysig, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cydnabod ein bod yn cydnabod graddfa tlodi plant. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn yn fy natganiad heddiw, ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb yn llwyr, o ran ein liferi a'n pwerau a'n hadnoddau, o ran blaenoriaethau, i sicrhau'r newid mawr hwnnw. Rwy'n ddiolchgar hefyd eich bod yn croesawu'r adroddiad profiad bywyd; rwy'n credu ei fod yn darparu adolygiad cyfoethog iawn gan blant a phobl ifanc. Mae'n ddull hawliau plant. Rydym wedi mabwysiadu'r dull hawliau plant yma yng Nghymru; roedd wedi'i ymgorffori'n helaeth yn ein Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Fe wnaf ateb y pwyntiau a'r cwestiynau allweddol a godwyd gennych. Rwy'n credu bod y materion ynglŷn â thargedau, rydym wedi trafod hyn, wrth gwrs, yn y gorffennol, ac rydych chi'n gwybod ein bod wedi cyhoeddi fframwaith monitro hefyd ar 2 Rhagfyr, sy'n dangos y ffyrdd yr ydym yn ceisio monitro effaith ein hadroddiad cynnydd. Mae'r fframwaith monitro yn elfen hanfodol o'n strategaeth tlodi plant, ac, wrth gwrs, mae'n mynd i olrhain cynnydd yn erbyn dangosyddion ac ymrwymiadau allweddol. Felly, mae ein targedau presennol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a gwella canlyniadau wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, maent yn rhan o'n cerrig milltir cenedlaethol, ac rydym yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd o ran cyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn y rhaglen lywodraethu, ac rydym hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad 'Llesiant Cymru' bob blwyddyn, gan asesu ein cynnydd tuag at ein cerrig milltir cenedlaethol. Wrth gwrs, daeth hyn i gyd trwy ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; mae gennym y gallu hwnnw i ddefnyddio'r Ddeddf honno, i ddefnyddio'r cerrig milltir a'r dangosyddion hynny i fesur cynnydd. Maent yn rhan o ystod ehangach o ddata yr ydym yn ei ddefnyddio i fesur cynnydd. Rwy'n credu mai dyma lle rydym ni'n defnyddio ein liferi ac rydym ni'n defnyddio ein pwerau a'n cyfrifoldebau i fesur cynnydd. Nid oes gennym yr holl bwerau er mwyn gosod targedau, felly mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn dargedau realistig a mesuradwy. Felly, yr hyn rydym ni'n ei wneud yw mesur beth allwn ni ei wneud o ran ein cyfrifoldebau.

Rwy'n falch iawn eich bod wedi gofyn cwestiynau am siarter budd-daliadau Cymru, oherwydd mae hynny'n rhywbeth a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol. Lansiwyd siarter budd-daliadau Cymru yn ôl ym mis Ionawr 2024, ac mae'n ganolog i fodel cyflawni lle gallwn gael ein gwladwriaeth les yng Nghymru. Y pwynt allweddol, fel y dywedais, dim ond unwaith y dylai person adrodd ei stori er mwyn cael mynediad at ei hawliau i fudd-daliadau yng Nghymru. Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth i chi am y map llwybr—rydych chi'n ymwybodol ohono—Ebrill 2026. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i siarter budd-daliadau Cymru, ac mae'n cynnwys y grant hanfodion ysgol, ac fe welwch yn yr adroddiad profiad bywyd adborth ar ba mor bwysig y mae'r grant hanfodion ysgol wedi bod. Ond mae'r ffaith y byddwch chi'n gallu cael budd-dal gostyngiad treth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol erbyn Ebrill 2026 yn nod allweddol, a bydd yn gyflawniad y dylem gael ein mesur yn ei erbyn o ran yr effaith y mae hynny'n ei gael. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â grŵp llywio symleiddio budd-daliadau Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r anghenion a'r problemau.

Rwy'n cydnabod ac yn deall yn iawn—ac rydym wedi dadlau hynny—ymrwymiad eich plaid i daliad tlodi plant. Rydych chi'n gwybod bod ein swyddogion wedi edrych ar y cydbwysedd rhwng pwerau a gedwir yn ôl a rhai datganoledig yn y maes hwn. Nid oes gennym y cymhwysedd i ddeddfu ar gyfer cynllun cyfatebol i'r un yn yr Alban, ond rydym yn dysgu o'r Alban i ddeall pa adnoddau cyllidol, deddfwriaethol ac eraill fyddai eu hangen i wneud taliad o'r math hwn. Fel y gwyddoch, rydym hefyd yn archwilio'r seilwaith sydd ei angen i ddatganoli gweinyddu lles. Mae hyn yn mynd yn ôl i'r adroddiad a wnaeth John Griffiths pan oedd yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw. Rydym ers amser maith wedi dal yr uchelgais honno o ran datganoli gweinyddu lles. Byddai taliad newydd tebyg i daliad plant y tu hwnt i gwmpas gweinyddu budd-daliadau lles cyfredol.

Rwy'n falch hefyd eich bod wedi canolbwyntio ar dai. Mae hyn yn dangos y camau trawslywodraethol rydym ni'n eu cymryd. Rwyf eisoes wedi ymateb o ran ein Bil digartrefedd a'r gwahaniaeth y byddwn yn ei wneud. Ond rydw i eisiau edrych yn fyr iawn ar blant mewn llety dros dro, oherwydd roedd hyn yn rhywbeth a ddaeth allan o strategaeth Llywodraeth y DU, fel y gwyddoch. Rwy'n falch o weld—roeddwn i'n edrych ar yr effaith—bod nifer y plant dibynnol mewn llety dros dro wedi bod yn gostwng dros y misoedd diwethaf, ac mae wedi aros yn is na 3,000 ers mis Mai 2024. Mae'n rhaid i ni edrych ar atal fel y ffocws a'r flaenoriaeth. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y gwaith i helpu pobl allan o ddigartrefedd ac i mewn i ffurfiau mwy addas o lety. Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn trawsnewid yr ymateb i'r rhai sy'n ddigartref yng Nghymru.

Diolch am eich cwestiynau. Diolch am y ffaith eich bod yn croesawu diwedd y terfyn dau blentyn, a hefyd y ffaith fy mod hefyd yn galw yn gyson nid yn unig am ddiwedd y terfyn dau blentyn, ond hefyd y broblem lwfans tai lleol, yr ydych wedi'i chodi. Rhaid mynd i'r afael â honno o hyd. Nid ydym wedi rhoi'r gorau i ofyn am gael gweithio gyda Llywodraeth y DU a gwneud yr achos iddynt dros fynd i'r afael â'r mater hwnnw. A hefyd, gofynnais am rywbeth arall yr wyf yn gwybod bod y Senedd hon wedi cytuno, sef i Lywodraeth y DU edrych ar gyflwyno tariffau cymdeithasol, oherwydd mae'n rhaid i ni edrych ar dlodi tanwydd yn ogystal â thlodi bwyd. Diolch am eich cwestiynau ar fy adroddiad cynnydd.

17:00

Mae llawer i'w ddathlu yn y datganiad hwn, yn enwedig y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar siarter budd-daliadau Cymru, sydd hyd yn hyn wedi creu £209 miliwn mewn budd-daliadau ychwanegol sydd wedi'u talu i bobl sydd â hawl iddynt. Mae hynny'n amlwg yn fuddsoddiad da iawn gan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae mwy i'w wneud i sicrhau bod hynny ar gael i deuluoedd ledled y wlad.

Rwyf hefyd yn dathlu'r £94 miliwn a fuddsoddwyd mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, sy'n gwarantu pryd canol dydd poeth i bob plentyn ysgol gynradd. Rwy'n sicr am fynd ar drywydd cynllun Cerdyn y Blaned Bwyd Caerdydd, sy'n cynnig gostyngiadau ar gyfer bwyd organig yn ein marchnadoedd ffermwyr, ond mae hynny yn y manylion.

Rwy'n falch iawn o weld eich bod wedi sôn am y cynllun gweithredu bwydo ar y fron yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gennych yr wythnos diwethaf, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn hollol allweddol i fynd i'r afael â thlodi plant yng nghyd-destun fformiwla babanod sy'n costio hyd at £16 y tun, nad yw'n cael ei gwmpasu gan y cynllun Dechrau Iach. Rwy'n gwybod bod menywod sy'n byw mewn tlodi yn awyddus dros ben i fwydo ar y fron ac, mewn llawer o achosion, nid ydynt yn cael y gefnogaeth honno, gyda chanlyniadau enfawr yn amlwg.

Rwy'n cymeradwyo gwaith gwasanaethau iechyd Scunthorpe, Grimsby a Goole, sydd wedi gweld cynnydd o 10 y cant mewn cyfraddau bwydo ar y fron, ac rwy'n siŵr ei fod yn gysylltiedig â'r ffaith eu bod wedi cael gwobr aur UNICEF am fwydo ar y fron. Dechrau'n Deg yw ein rhaglen flaenllaw mewn gwirionedd, ond nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw un ohonynt wedi cyflawni'r safon aur, neu yn wir wedi codi cyfraddau bwydo ar y fron eu teuluoedd i gyfradd y boblogaeth leol honno. Felly tybed a fyddech chi'n ystyried gosod targed i ni wirioneddol godi'r cyfraddau yng Nghymru, sydd wedi bod yn is yn hanesyddol yn gyson nag yn Lloegr. Mae angen i ni wneud llawer gwell, oherwydd mae'n ddechrau mor bwysig mewn bywyd i bobl ifanc.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch i chi am groesawu a chydnabod effaith cael siarter budd-daliadau Cymru, gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yn cefnogi hynny. Hoffwn dalu teyrnged i'r aelod cabinet arweiniol dros gyllid, y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Torfaen, sydd wedi helpu, gyda'i gydweithwyr, drwy ein cyngor partneriaeth llywodraeth leol, i ysgogi hyn, i ddangos manteision hyn yn weithredol iawn, heb sôn am gael y budd-daliadau i'r rhai sydd â hawl iddynt. Oherwydd bod sicrhau'r incwm uchaf yn amcan allweddol. Mae'n dal i fod. Mae £2 biliwn o hyd mewn budd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi—mwy o arian ym mhocedi pobl.

Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn sicrhau bod £14 miliwn ar gael ar gyfer darparu ein gwasanaethau i sicrhau'r incwm uchaf. Mae gennym y cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gan ddatganiad gwanwyn y DU, sy'n mynd i roi cynnydd o 10 y cant i ni yn y cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn. Mae'n bwysig iawn ein bod wedi rhoi sicrwydd tair blynedd o ran cyllid i'n darparwyr y gronfa gynghori sengl. Dyma'r cyllid amlflwydd gyda'n cod ymarfer newydd ar gyfer y trydydd sector sydd mor bwysig ar gyfer cydnerthedd ein gwasanaethau cynghori.

Diolch hefyd am ganolbwyntio ar fwydo ar y fron. Mae gwaith ar y gweill ar y cynllun gweithredu bwydo ar y fron. Mae argymhellion yn cael eu hystyried. Mae gwaith gwych yn digwydd yn ardaloedd Dechrau'n Deg. Hoffwn dynnu sylw at y tîm ym Mlaenau Gwent, sydd wedi gweld cynnydd enfawr mewn cyfraddau bwydo ar y fron. Rwyf wedi sôn am y fenter yng Ngwynedd, a hefyd ein cynllun dwy flynedd 'Pwysau Iach: Cymru Iach' i atal a lleihau gordewdra. Mae ffocws ar Dechrau'n Deg, mae ffocws ar gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron, sicrhau bod mwy o fabanod yn elwa ar laeth y fron, a menter UNICEF Cyfeillgar i Fabanod. Byddwn hefyd yn dweud, gan adeiladu ar arfer da yn eich etholaeth, yng Nghaerdydd a'r Fro, i nodi cyfleoedd, ein bod yn edrych ar hyn o safbwynt deietig yn Dechrau'n Deg ledled Cymru.

Gyda'r parch mwyaf, Ysgrifennydd Cabinet, maddeuwch i mi am beidio â dathlu'r strategaeth hon. Rydym ni dim ond yn troi mewn cylch. Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad. Dim ond chwe argymhelliad oedd gennym yn yr adroddiad hwnnw, cymaint oedd y pryder a oedd gennym ein bod ni'n mynd i fod yn plymio i'r chwyn pe baem yn gwneud mwy na chwe argymhelliad.

Roedd hynny dwy flynedd yn ôl. Yn y cyfnod hwnnw, mae tlodi plant wedi codi i 31 y cant. Dywedodd 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant', teitl yr adroddiad, yn y chwe argymhelliad, bod angen i ni osod targedau gyda chynllun gweithredu; mae angen i ni ganolbwyntio ar hawliau plant; mae angen cyllid cynaliadwy arnom ar gyfer rhaglenni sy'n gweithio; system fudd-daliadau i Gymru; gofal plant i'w gynyddu; a Gweinidog babanod, plant a phobl ifanc. Felly fy nghwestiwn i chi yw pam y mae angen strategaeth bellach arnom os oes gennym y dystiolaeth a'r argymhellion clir gan bwyllgor trawsbleidiol a allai gyflawni i leihau tlodi plant.

Rwyf eisiau dychwelyd at system budd-daliadau Cymru. Rydych chi wedi dweud bod 22 awdurdod lleol yn ei chefnogi, ond nid yw 22 awdurdod lleol yn cyflawni, a dyna'r gwahaniaeth. Loteri cod post ydyw p'un a ydych chi'n rhan o system fudd-daliadau Cymru, felly a wnewch chi ymateb i hynny?

Yn olaf, rwyf eisiau dweud fy mod i wedi bod mewn digwyddiad Plant yng Nghymru—roedd rhai ohonom yno y prynhawn yma—ac roedd gen i gywilydd mawr fod rhan fawr yn eu maniffesto yn dwyn y teitl 'tlodi plant'. Yn 2025, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n gweld hynny. A gadewch i ni atgoffa ein hunain beth mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi'i wneud a beth maen nhw'n ei ddweud am dlodi plant. Dydw i ddim eisiau dathlu banciau bwyd. Rwyf eisiau dweud y dylem gael gwared arnyn nhw. Dylem fod mewn sefyllfa lle nad oes gennym unrhyw fanciau bwyd ledled Cymru. Ond eleni, maen nhw wedi dosbarthu'r nifer mwyaf o barseli bwyd brys i blant oherwydd newyn enbyd. Rydym ni mewn sefyllfa ofnadwy. Os gwelwch yn dda, a gawn ni weld rhywfaint o weithredu ac a allwch chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod yr awdurdodau lleol hynny nad ydynt yn cyflawni siarter budd-daliadau Cymru yn ei chyflawni? Diolch yn fawr iawn. 

17:10

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwyf wedi ei gwneud yn glir iawn nad wyf yn dathlu graddfa tlodi plant yma yng Nghymru. Rwyf yn diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant', yr adroddiad pwysig iawn hwnnw yr ymatebais iddo. Yn wir, o ran yr argymhellion, mae llawer o'r hyn sydd yn y strategaeth tlodi plant, yr ydym ni, o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, wedi ymrwymo iddo—. Ac rwy'n falch bod Llywodraethau wedi ymrwymo nid yn unig i gyflwyno strategaeth tlodi plant, ond hefyd i gael eu monitro, i gael yr adroddiadau cynnydd hyn y gallwch wedyn graffu arnyn nhw a'n holi ni yn eu cylch.

Rwy'n dychwelyd at fy adroddiad cynnydd tlodi plant ac yn gwneud y pwynt, yn fy rhagair, rwy'n dweud nad yw tlodi yn anochel. Mae'n ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol, ac rydym yn dewis ei ymladd gyda phob lifer, pob adnodd a phob owns o benderfyniad sydd gennym, oherwydd mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cyfle teg.

Unwaith eto, rwyf wedi ymateb i'r ymrwymiad a wnaed gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i siarter budd-daliadau Cymru. Mae'n gyfres o ymrwymiadau gan lywodraeth leol ar gyfer dylunio a chyflawni ein budd-daliadau yng Nghymru, ein grantiau, ein taliadau, yn fwy cydlynol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gydag awdurdodau yn cymeradwyo'r siarter. Mae'n troi'r ymrwymiadau hynny yn realiti. Unwaith eto, mae gennym nifer o randdeiliaid sydd ar y grŵp llywio. Mae'n hanfodol bod gennym Sefydliad Bevan, mae gennym Age Cymru, mae gennym Gyngor ar Bopeth, mae gennym Ymddiriedolaeth Trussell, mae gennym EYST, Anabledd Cymru, y comisiynwyr. Maen nhw i gyd yn ein tywys a'n llywio ni ymlaen, a'r rhai sy'n cyflawni siarter budd-daliadau Cymru.

Mae yna lawer o awdurdodau sydd eisoes yn cyflawni hyn, y tri budd-dal hynny. Dyna gam 1. Dim ond unwaith y dylech orfod gwneud cais am y tri budd-dal hynny. Yr hyn sy'n ddiddorol yw ein bod bellach yn edrych i weld a ellir dyrannu cyllid yn awtomatig ar gyfer y budd-daliadau hynny hefyd. Mae'n ymwneud â chael y data i sicrhau nad oes rhaid i bobl wneud cais, ond mewn gwirionedd gallant gael y cyllid yn awtomatig. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Rydym hefyd wedi ariannu Policy in Practice—[Torri ar draws.]

Weithiau, mae'n well cerdded allan gyda'r ffôn. Mae'n iawn. Ewch ymlaen, Gweinidog. 

Rydym hefyd wedi ariannu Policy in Practice—rydych chi'n ymwybodol o'r gwaith rhannu data polisi cymdeithasol y maent wedi'i wneud. Mae gennym gynllun treialu manteisio y maen nhw'n rhan ohono. Maen nhw'n defnyddio traciwr teuluoedd incwm isel i nodi trigolion lleol sydd ar eu colled o ran cymorth ariannol. Edrychaf ymlaen at adrodd ar hynny maes o law.

Yr hyn sy'n amlwg yw bod angen i ni fonitro ac mae angen i ni ystyried effaith y gwaith rydym ni'n ei wneud. Gobeithio y byddwch yn croesawu'r adroddiad profiad bywyd a'r fframwaith monitro hefyd, sy'n seiliedig ar ein dangosyddion a cherrig milltir cenedlaethol Deddf Llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol pan edrychwch ar amcanion y strategaeth tlodi plant. Rwy'n credu eu bod i gyd yn cyd-fynd â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: rhoi arian ym mhocedi pobl; creu cenedl o waith teg; cynhwysiant; gwasanaethau caredig, tosturiol, nad ydynt yn gwarthnodi; yn seiliedig ar hawliau plant; a chydweithredu ar lefel ranbarthol a lleol.

Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae darllen yr adroddiad hwn yn dorcalonnus ar ôl 26 mlynedd o fethiant yn hyn o beth. Mae Cymru unwaith eto yn sefyll allan yn y DU gyfan am y rhesymau anghywir.

Yng Nghymru, heblaw am y penawdau gloyw, fel y dywedwyd, mae un o bob tri phlentyn yn dal i fyw mewn tlodi—31 y cant, fel y dywedoch. Ar ôl 26 mlynedd o fethiant, does dim byd wedi newid y canlyniadau sy'n bwysig mewn gwirionedd. Mae eich adroddiad profiad bywyd eich hun yn dweud y gwir: ni all teuluoedd gael mynediad at wasanaethau, mae gofal plant yn fratiog, yn enwedig i'r rhai ag anableddau, mae banciau bwyd yn dod yn bethau normal. Ond rhywsut mae darllen y strategaeth hon fel darllen am orymdaith fuddugoliaeth. Buddugoliaeth o ran beth yn union? A gadewch i ni sôn am y teuluoedd rydych chi'n ofni eu crybwyll—y teuluoedd hynny sy'n gweithio'n galed, ar gyflog isel a nhw yn aml yw'r rhai rydych chi'n ar frys i'w trethu, ond yn aml nhw yw'r rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad, ac yn methu â chyrraedd y trothwyon hynny rydych chi'n eu gosod. Felly, ni allant gael mynediad at Dechrau'n Deg, er enghraifft—dim cefnogaeth wedi'i dargedu. Dyma'r union bobl sy'n gweithio bob awr sydd ar gael ac yn y pen draw yn waeth eu byd nag aelwydydd nad ydynt yn gweithio o gwbl. Dyma Lywodraeth wedi'i dylunio ar gyfer annhegwch, ac rydych yn gwybod hynny.

Ac oedd, roedd y cap dau blentyn ar y budd-dal plant yn annheg. Byddai Reform o blaid ei ddileu ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio ac yn eu helpu allan o dlodi, oherwydd y teuluoedd hynny sy'n cael trafferthion pan nad yw eraill sy'n well eu byd yn gweithio o gwbl. Dyna'r realiti y mae eich adroddiad yn gwrthod ei wynebu. Ac rydw i eisiau dweud na ddylai unrhyw blentyn yn yr oes hon orfod wynebu tlodi. Dylai pob plentyn gael lle y gallant ei alw'n gartref. Mae yna rai mentrau cymunedol rhagorol allan yna, fel Cold Barn Farm yn Nhrefddyn—gwych. Ond mae eu harloesedd gwych wedi ei ysgogi gan anobaith llwyr nad yw'r Llywodraeth hon wedi gwneud dim i'w ddatrys dros y 26 mlynedd diwethaf. Rydych chi wedi methu'n llwyr yn eich addewid etholiadol blaenorol i ddod â phobl allan o dlodi, ac rwy'n gobeithio eich bod yn difaru hynny. Ac rwy'n gobeithio na welwn adroddiad ar ôl adroddiad ar ôl adroddiad, ond y tro nesaf y bydd Llywodraeth yn ei le, byddwn yn gweld gweithredu yn gyntaf. Diolch.

17:15

Wel, Laura Anne Jones, dydw i ddim yn gwybod beth allwch chi a'r Llywodraeth a'r blaid yr oeddech yn rhan ohoni o'r blaen ddangos yr ydych wedi'i gyflawni mewn gwirionedd o ran mynd i'r afael â thlodi plant, ac eithrio sylwadau negyddol iawn heddiw, pan mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud mewn gwirionedd yw mynd i'r afael â thlodi, sy'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru.

Ac, wrth gwrs, mae'n fater polisi trawsbleidiol. Fe wnaethom ariannu £1.5 miliwn—. Rwy'n falch eich bod chi'n sôn am arloesedd, oherwydd rydym yn ariannu grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau, gyda llawer o brosiectau—ac rwy'n siŵr, fwy na thebyg, yn eich rhanbarth chi hefyd, y gwnaethom eu hariannu. Ac mae'r arloesedd hwnnw'n ymwneud â chryfhau sefydliadau er mwyn iddynt gydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, a gwella'r ddealltwriaeth honno o'r hyn sy'n gweithio, fel y dywedais, gyda'r profiad bywyd, gan adeiladu ar gyllid a ddarparwyd gennym yn y—ariannol blaenorol. Ariannwyd 22 o brosiectau i gryfhau capasiti sefydliadau.

Nawr, pe baech chi'n cwrdd â'r grŵp cyfeirio allanol o sefydliadau tlodi plant sydd ar flaen y gad—ac rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth y byddech chi'n dewis ei wneud o bosibl—maen nhw'n ein cynghori ac yn ein harwain ar beth fyddai ein blaenoriaethau. Mae gennym ni ddull 'cymunedau ymarfer' o alluogi cydweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant.

Felly, mae'n rhaid i roi terfyn ar dlodi plant fod yn flaenoriaeth absoliwt, yn olaf, Llywydd, i Lywodraethau ar bob lefel. Dyna pam rydw i mor falch ein bod ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru gyda'n siarter budd-daliadau Cymru, ac rydym yn defnyddio popeth sydd ar gael i ni i'w graddau llawn. Rydym yn ei fonitro'n glir iawn trwy ein fframwaith, ac rydym yn gwrando ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio'r hyn sydd ar gael i ni, ein cyfrifoldebau a'n cyllideb i gael yr effaith fwyaf, i fynd i'r afael â thlodi plant sy'n bla yng Nghymru, yr wyf wedi ymrwymo'n angerddol iddo.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tybaco a Fêps

Y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps sydd nesaf. Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant sy'n gwneud y cynnig—Sarah Murphy.

Cynnig NDM9075 Sarah Murphy

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tybaco a Fêps i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae Bil Tybaco a Fêps y DU yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd i'r afael ag ysmygu a'r mater cynyddol o bobl ifanc yn fepio. Er gwaethaf y cynnydd gwirioneddol yr ydym wedi'i wneud i leihau lefelau ysmygu yng Nghymru, mae'n parhau i fod yn un o brif achosion clefydau y gellir eu hatal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru. Felly, bydd y Bil hwn yn creu'r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf yn y DU drwy ei gwneud yn drosedd i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009. Bydd yn cryfhau'n sylweddol yr offer sydd ar gael i swyddogion gorfodi, yn enwedig trwy gynllun trwyddedu newydd, ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwerthu cynhyrchion tybaco neu fêps yn y dyfodol, gan helpu i orfodi'r rheolau newydd ac i gymryd camau yn erbyn gwerthiannau anghyfreithlon. Bydd rheolau llawer llymach ynghylch fepio, gan gynnwys hysbysebu cynhyrchion nicotin a fêps, fel y gallwn ni eu hatal rhag cael eu targedu tuag at blant a phobl ifanc. 

Dirprwy Lywydd, bydd y Bil hwn felly yn ein galluogi i weithredu ar fêps. Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n fepio, yn ogystal â chynnydd yn nifer y cynhyrchion anghyfreithlon ar ein strydoedd. Mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod bron i 7 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru yn defnyddio fêps o leiaf unwaith yr wythnos, ac erbyn 16 oed, bod 16 y cant yn defnyddio fêps bob wythnos. Mae angen camau gweithredu pendant i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac rwy'n glir y bydd y Bil Tybaco a Fêps yn rhoi cyfle hanfodol i ni wneud hynny. 

Gan fod holl wledydd y DU eisiau dileu'r niwed sy'n cael ei achosi gan dybaco a mynd i'r afael ag fepio ymhlith pobl ifanc, mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru mewn ffordd gynhwysfawr a sylweddol, mewn partneriaeth â gweddill y DU. Ar hyn o bryd, mae yna hefyd glytwaith o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r cynhyrchion hyn, mewn meysydd a gedwir yn ôl a rhai datganoledig, y bydd y Bil hwn yn ei gryfhau, yn ei gydgrynhoi ac yn ei ddiweddaru, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â gorfodi.

Er mwyn sicrhau bod y darpariaethau yn parhau i fod yn gyfredol, mae'r Bil yn cynnwys pwerau cynhwysfawr i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Mae enghreifftiau o lle rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn cynnwys arddangos tybaco, fêps a chynhyrchion nicotin mewn siopau, a'r system drwyddedu ar gyfer manwerthwyr.

Ar gyfer materion fel gofynion cynhyrchion fêps a gwella safonau diogelwch tybaco a fêps, mae'r Bil yn darparu mai'r Ysgrifennydd Gwladol fydd â'r pŵer i wneud rheoliadau, ond rwy'n fodlon â'r dull hwn gan fod rhesymeg glir dros gynnal parhad a chysondeb ledled y DU. Dyna'r rheswm.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar y Bil, yn ogystal â chlywed barn yr Aelodau heddiw. Bydd yr Aelodau eisiau gwybod pam rydw i wedi trefnu'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, pan fo dadleuon yn parhau i fynd rhagddynt yn Nhŷ'r Arglwyddi ac nad yw'r Bil wedi'i setlo'n llawn. Mae cynnal y ddadl hon heddiw yn sicrhau bod barn y Senedd yn cael ei chlywed a'i chynrychioli yn ystod hynt y ddeddfwriaeth bwysig hon, yn enwedig gan y gallai amserlen seneddol y DU ar gyfer y Bil hwn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y chweched Senedd hon. Os gwneir diwygiadau pellach i'r Bil hwn, byddaf yn sicrhau bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall yn cael ei gyflwyno.

Gan symud at weithredu, os caiff y Bil hwn ei basio, byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn yr oriel heddiw, gan mai fy uchelgais yw sicrhau bod y mesurau mor syml â phosibl i ddefnyddwyr, busnesau ac awdurdodau gorfodi. Dirprwy Lywydd, rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil hwn. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae fy nghyfraniad heddiw yn ymwneud â'r ddau memoranda cyntaf ar gyfer y Bil hwn. Wrth lunio ein hadroddiadau ar y memoranda hyn, rydym wedi ystyried barn rhanddeiliaid ac wedi clywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog. Gwnaethom saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru, sydd wedi'u nodi'n llawn yn ein hadroddiad.

Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw yn bennaf ar effeithiau fepio a nicotin ar bobl ifanc. Mae'r duedd gynyddol mewn fepio ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi ysmygu o'r blaen, yn bryderus ac mae angen mynd i'r afael â hi. Roeddem yn arbennig o bryderus o glywed am blant sy'n cyrraedd oedran ysgol uwchradd sydd eisoes yn gaeth i fepio.

Mae hwn yn fater sy'n peri pryder, nid yn unig i ni fel pwyllgor, ond i bobl ifanc eu hunain. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw'r Aelodau a'r Gweinidog at ddeiseb a gyflwynwyd ar ran Sgowtiaid 1af Aberdâr (Sain Ffagan), a oedd yn galw am wahardd marchnata a brandio tebyg i'r hyn a ddefnyddir ar gyfer melysion er mwyn rhoi terfyn ar fepio dan oed. Cychwynnwyd y ddeiseb hon gan y bobl ifanc yn y Sgowtiaid ac mae'n dangos eu hymrwymiad i eirioli dros ddiogelwch plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod eu harweinwyr Sgowtiaid yn falch iawn o'r ymrwymiad a'r blaengarwch maen nhw wedi'u dangos wrth arwain y gwaith hwn fel pobl ifanc eu hunain.

Er bod fepio yn llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw'r effeithiau hirdymor yn hysbys eto, ac ymddengys fod diffyg dealltwriaeth ymhlith pobl ifanc am y niwed posibl sy'n gysylltiedig â fepio, gan gynnwys dibyniaeth hirdymor ar nicotin.

Roedd argymhelliad 2 yn galw ar i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid ddarparu negeseuon cliriach i blant a phobl ifanc am y risgiau iechyd hirdymor posibl sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar nicotin ac fepio. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Er ein bod yn cydnabod ac yn cefnogi ffocws y Bil ar atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu neu fepio yn y lle cyntaf, clywsom dystiolaeth bryderus am y genhedlaeth bresennol o bobl ifanc sydd eisoes yn gaeth i nicotin. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i'r bobl ifanc hyn.

Yn olaf, hoffwn droi at yr un argymhelliad a wrthodwyd gan y Gweinidog, sef argymhelliad 5. Credwn y bydd gorfodi cryf yn allweddol i lwyddiant y ddeddfwriaeth, ond mae gennym bryderon am yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol yn hyn o beth, yn enwedig o ran adnoddau cyfyngedig. Mae cyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r mesurau cenhedlaeth ddi-fwg a fepio ymhlith pobl ifanc wedi arwain at swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett o £5 miliwn, rwy'n deall, i Lywodraeth Cymru. Gan nad yw'r cyllid hwn wedi'i neilltuo, credwn y dylai'r swm llawn gael ei gyfeirio at orfodi'r mesurau hyn. Wrth wrthod yr argymhelliad hwn, mae'r Gweinidog yn dweud iddi ystyried yn ofalus yr opsiynau ar y ffordd orau o gefnogi'r mesurau yn y Bil a'r agenda ehangach ar dybaco a fêps. Tybed, Gweinidog, yn eich ymateb, a allech chi ymhelaethu ar beth yw'r opsiynau hyn, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am unrhyw benderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud neu a fydd yn cael eu gwneud cyn diwedd y Senedd hon? Diolch.

17:25

Galwaf nawr ar gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch Dirprwy Lywydd. Adroddodd y pwyllgor ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror a mis Gorffennaf eleni. Ni allwn danddatgan arwyddocâd y polisi a gynigir yn y Bil Tybaco a Fêps. Mae amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y polisi hwnnw.

Credwn fod yna 21 o bwerau yn y Bil wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Gwladol i weithredu mewn meysydd datganoledig. Mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar 15 o'r rheini. Serch hynny, mae hyn yn cynrychioli trosglwyddo llawer iawn o bŵer i ffwrdd o'r Senedd. Pan fydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gael caniatâd Gweinidogion Cymru i arfer pŵer penodol, ni fydd gan y Senedd unrhyw rôl wrth graffu na chymeradwyo'r caniatâd hwnnw. Ar ryw adeg yn y dyfodol, gall Aelodau'r Senedd ddisgwyl cael eu rhybuddio bod Gweinidog Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol wedi cydsynio i newid ym mholisi datganoledig Cymru ar ôl y ffaith. Mae'r dull hwn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru a'r Senedd lai o hyblygrwydd i weithredu i ystyried amgylchiadau Cymru.

Dyma un enghraifft o bŵer o'r fath. O dan gymal diwygiedig 45, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ymestyn darpariaethau sy'n berthnasol i gynhyrchion tybaco i gynnwys unrhyw ddyfais sy'n galluogi tybaco i gael ei ddefnyddio. Mewn geiriau eraill, gall Senedd y DU benderfynu gwahardd cynhyrchion tybaco newydd, ac ni fydd gan y Senedd unrhyw rôl wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae dadleuon y Gweinidog o blaid pwerau o'r fath yn canolbwyntio ar fanteision cysoni rheoleiddiol rhwng Cymru a gweddill y DU. Gofynnaf iddi egluro i'r Senedd heddiw a wnaeth hi archwilio dulliau amgen o gysoni rheoleiddiol nad oedd yn cynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn penderfynu ar newidiadau sylweddol i bolisi iechyd yng Nghymru heb gynnwys y Senedd.

Mae'r Bil hefyd yn rhoi nifer sylweddol o bwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Mae nifer o'r pwerau hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau. Mae'r rheoliadau hyn yn dirprwyo pŵer sylweddol o'r Senedd i Weinidogion Cymru. Mae'n werth tynnu sylw'r Senedd at hyn ynddo'i hun.

Ond mae'r pwerau hyn yn cael eu dirprwyo o'r Senedd i Weinidogion Cymru drwy Fil Llywodraeth y DU, felly nid yw'r Senedd yn cael cyfle i ystyried y broses ddirprwyo honno'n fanwl, nac i ystyried gwelliannau iddo. Er enghraifft, mae cymal newydd 149 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi lleoedd neu gerbydau yng Nghymru fel rhai lle na chaniateir defnyddio fêps os ydynt eisoes yn ddi-fwg. Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i ddyletswydd i ymgynghori. Gofynnaf i'r Gweinidog gadarnhau a yw hi'n fodlon bod darpariaethau yn y Bil sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wedi bod yn destun craffu digon cadarn a thrwyadl yn Senedd y DU fel sy'n gymesur â'u harwyddocâd i bolisi iechyd yng Nghymru?

Mae'r Bil Tybaco a Fêps yn cynnig diwygio, yn helaeth, Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, Deddf, wrth gwrs, y craffwyd arni ac a gafodd ei diwygio a'i chymeradwyo wedyn yma. Mae ein hadroddiadau yn codi pryderon ynghylch y cyfrifoldeb am ddrafftio a chraffu ar welliannau i destun Cymraeg y Ddeddf honno yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU wedi drafftio'r darpariaethau Cymraeg ac wedi'u rhannu â Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r testun hwnnw, ond nid yw'n ei gymeradwyo. Yn anffodus, nid oedd hi'n teimlo ei bod yn gallu gwneud sylwadau ar allu Senedd y DU i graffu ar ddeddfwriaeth Gymraeg. Gofynnaf i'r Gweinidog gadarnhau i'r Senedd heddiw, gan ei bod yn argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad, ei bod yn gwneud hynny gyda hyder llawn bod y testunau cyfreithiol Cymraeg a Saesneg yn cyfateb â'i gilydd.

Yn olaf, hoffwn nodi siom y pwyllgor bod y Gweinidog wedi dod i'r casgliad nad oedd angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â gwelliannau gan Lywodraeth y DU yng nghyfnod pwyllgor Tŷ'r Cyffredin gan fod y gwelliannau yn fach ac yn dechnegol. Mae hwn yn fater pwysig o egwyddor. Mae unrhyw ddarpariaeth sy'n ystyried materion datganoledig yn sbarduno'r broses gydsynio ddeddfwriaethol. Nid yw Rheolau Sefydlog yn cyfeirio o gwbl at 'fân' welliannau neu welliannau 'technegol' yn cael eu heithrio. Rydym yn rhagweld y bydd gwelliannau pellach i'r Bil hwn, ac edrychwn ymlaen at ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r gwelliannau hynny—rhai bach, rhai technegol neu fel arall—yn ôl yr angen. Diolch.

17:30

Rwyf am nodi y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cael pleidlais rydd ar y mater hwn. Ond gadewch i mi fod yn hollol glir o'r cychwyn: rwy'n cefnogi rheoliadau synhwyrol, cymesur sy'n amddiffyn plant ac yn helpu oedolion sy'n ysmygu i symud i ffwrdd oddi wrth sigaréts. Dyna pam nad wyf yn gwrthwynebu fepio fel ffordd o leihau niwed. I lawer o oedolion, mae fepio wedi dod yn llwybr i symud i ffwrdd oddi wrth ysmygu, ac ni ddylid tanseilio hynny. Ond mae fêps hefyd wedi gwneud niwed difrifol, o ran ein plant a'r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi yn y Bil, y mesurau sy'n ymwneud â hynny. Ond mae gen i bryderon difrifol am wahardd cenedlaethau'r dyfodol rhag ysmygu a'r posibilrwydd o greu system dwy haen ledled Cymru, ac rwy'n credu ei fod yn cymryd cyfrifoldebau personol pobl i ffwrdd oddi wrthynt.

Rwy'n cytuno, fel y dywedais i, ar yr elfennau fepio. Rwy'n cytuno ynglŷn â'r elfennau sy'n ymwneud â thrwyddedu a hysbysebu. Dylen nhw gael eu rhoi o'r neilltu, fel sy'n cael ei wneud gyda sigaréts. Dylen nhw ddim bod ar y cownter gyda phopeth arall. Rwy'n cytuno y dylid stopio eu dosbarthu am ddim i bobl ifanc ac oedolion roi cynnig arnyn nhw a'u cael nhw i roi cynnig arnyn nhw—rwy'n cytuno â hynny—ac rwy'n cytuno bod angen i ni gau'r bylchau i atal rhai o'r cwmnïau hyn rhag osgoi'r ddeddfwriaeth honno. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Ond rwy'n credu mai un o'r problemau a'r pethau mwyaf y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef, fel rhan o hyn, yw'r ffordd y mae fêps yn cael eu hysbysebu. Mae'r rhan fwyaf ohonynt, fel yr ydym yn ei wybod, yn cael eu hysbysebu gyda blas Coca-Cola, blas gummy bear, blas Haribo, ac maen nhw'n apelio at bobl ifanc. Mae ganddyn nhw ddelweddau cartŵn arnynt. Maen nhw wedi'u dylunio yn yr un ffordd â theganau. Mae ganddyn nhw frandio melysion, losin, ac maen nhw'n wedi'u cyfeirio at bobl ifanc o ran eu disgrifiadau. Rwy'n credu, os ydym o ddifrif am ddatrys hynny, mae hynny'n elfen allweddol y mae angen ei stopio. Un o'r pethau sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw y dylen nhw fod yr un fath â thybaco. Dim ond sigaréts tybaco neu fenthol y gallwch chi eu cael. Dyna'r cyfan ddylai fod ar gael mewn fêps. Ni ddylid cynnig unrhyw beth ehangach, oherwydd rwy'n credu, os ydych chi'n ceisio symud pobl i ffwrdd oddi wrth sigaréts, pam ddylech chi fod yn cynnig amrywiaeth ehangach o flasau? Dylech chi gadw at yr hyn rydych chi ei eisiau.

Ond rydw i eisiau siarad hefyd—rwy'n credu—am y rhan bryderus o'r gwaharddiad, sef gwahardd cenedlaethau'r dyfodol rhag ysmygu. Rwy'n credu bod hyn yn orgyrraedd gan y wladwriaeth, a dydw i ddim yn credu ei fod yn mynd i fynd at wraidd y broblem. Fel y dywedais, mae'n mynd i greu system dwy haen, ac rwy'n credu os mai'r prawf yw pwysau ar y GIG am wahardd pethau, beth ddylen ni ei wahardd nesaf? A ddylen ni wahardd bwyd cyflym? A ddylen ni wahardd alcohol? A ddylen ni wahardd siwgr? [Torri ar draws.] Popeth—ie, gadewch i ni wahardd popeth, oherwydd mae popeth yn creu pwysau ar y GIG, ac rwy'n credu bod hynny'n broblem, ond allwn ni ddim dechrau gwahardd pethau oherwydd ei fod yn rhoi pwysau ar y GIG. Rydym yn wlad sy'n credu mewn cyfrifoldeb personol, ac rwy'n credu, gyda chyfrifoldeb personol, y dylai pobl wneud y dewisiadau gwybodus hynny eu hunain. Dydw i ddim yn credu mai rôl y wladwriaeth yw gwneud hynny. Yr hyn sy'n iawn i'r Llywodraeth ei wneud yw ei roi allan yna, sicrhau bod pobl yn cael y dewisiadau gwybodus hynny, darparu beth sy'n iawn, beth sy'n anghywir, beth sy'n afiach, beth sy'n iawn. Oherwydd rwy'n credu mai dyna ddylen ni fod yn ei wneud. Dylen ni ddim bod yn dweud ein bod ni'n gwahardd rhywbeth. Fel Llywodraeth, dylen ni fod yn dweud, 'Dyma'r niwed y gall ei achosi i chi,' 'Dyma sut y byddwn ni'n eich helpu i roi'r gorau i ysmygu.' Ond nid gwahardd e yw'r ffordd o wneud hynny.

Ac rwy'n credu bod Safonau Masnach Cenedlaethol yn nodi hynny'n gywir hefyd. Dydyn nhw ddim yn credu y gallan nhw orfodi'r Bil hwn. Fydd yr arian sy'n dod i lawr ddim yn crafu'r wyneb, a phan mae ganddon ni gyfreithiau ar waith ar hyn o bryd i atal sigaréts a fêps rhag cael eu gwerthu i bobl ifanc, dylai hynny fod yn cael ei orfodi, nid dod â deddfau i mewn heb yr adnoddau y tu ôl iddynt, sy'n golygu na all adrannau safonau masnach ledled Cymru ei orfodi. Felly, mae'n gyfraith sydd wedi'i chynllunio i helpu pobl nad yw'n mynd i wneud unrhyw beth, oherwydd does neb yn mynd i allu mynd allan a'i phrofi i wneud yn siŵr nad yw'n digwydd.

Felly, ar lefel bersonol, fyddaf i ddim yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, oherwydd dydw i ddim yn cytuno â'r elfen honno sy'n gwahardd cenedlaethau'r dyfodol rhag ysmygu. Byddwn i'n annog eraill i bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac anfon neges glir i bobl ein bod ni o blaid cyfrifoldeb personol. Dylai pobl allu gwneud eu dewisiadau eu hunain, a gwaith y Llywodraeth yw bod yno i wneud pobl yn ymwybodol, fel y dywedais, o'r niwed y mae ysmygu yn ei wneud, ond nid i gymryd eu rhyddid personol i ffwrdd. Felly, dyna pam fyddaf i ddim yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw.

Dwi jest am ddweud gair sydyn iawn er mwyn dangos ein cefnogaeth ni i egwyddorion craidd y Bil yma, ac felly yr LCM. Yn wir, dwi'n falch bod llawer iawn sydd yn y Bil yma yn atseinio ac yn cyd-fynd gyda lot o'r hyn roeddwn i'n ei ddweud mewn dadl yma yn y Senedd rwy flwyddyn a hanner yn ôl, pan roddais i ddadl ymlaen i sefydlu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin, bryd hynny—un a gafodd ei basio yn unfrydol gan y Senedd hon. Fel y nodais i bryd hynny, mae ysmygu'n gaethiwed sy'n dechrau yn ystod plentyndod. Gyda'r rhan fwyaf o bobl sy'n ysmygu yng Nghymru, eu sigarét gyntaf oedd pan oedden nhw'n blant neu yn eu harddegau. Erys y ffaith mai ysmygu ydy prif achos marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru hyd heddiw, gyda 5,600 o bobl yn marw o ysmygu bob blwyddyn o hyd. Dwi hefyd wedi codi'r ffaith bod disgyblion ysgol yn aml iawn yn codi fepio fel un o'r prif bryderon sydd ganddyn nhw, a'r ffaith bod fêps ar gael mewn siopau sydd heb gael eu rheoleiddio ac felly'n gallu cynnwys pob math o gemegau a chynhwysion peryglus eraill, ac wedi'u pecynnu mewn modd sy'n fwriadol yn apelio tuag at blant. Dyna pam dwi'n ymwrthod â'r ddadl roedd James yn ei rhoi rŵan—mae James yn dweud mai cyfrifoldeb yr unigolyn a'r person y dylai hyn fod ac mai dewis personol yn seiliedig ar ddewis addysgedig dylai hyn fod, ond does dim dewis gan blant. Dydyn nhw ddim wedi cael yr un lefel yna o ddeallusrwydd o niwed fêps neu sigaréts i blant. Mae'r pethau yma'n cael eu targedu'n benodol atyn nhw, efo pethau, fel ddaru i James ei hun ddweud, fel gummy bear flavour—dwi ddim yn gwybod beth mae gummy bear yn blasu fel. Felly, sut maen nhw'n gallu gwneud hyn? Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr eu bod nhw'n cael rhwydd hynt i wneud hynny, a dyna pam mae angen deddfwriaeth er mwyn eu hatal nhw rhag targedu plant ac atal plant rhag mynd yn gaeth i dybaco a nicotin mor gynnar. Felly, mae'n hir amser i weld gweithredu ar hyn, a dwi'n croesawu'r hyn y mae'r Bil yn ceisio'i gyflawni, ac felly yn ei gefnogi.

Ond dwi am nodi ar gyfer y record, yn unol â'r hyn roedd Mike yn sôn ynghylch ynghynt, ein pryder ni ein bod ni unwaith eto'n gweld deddfu mewn maes datganoledig yn digwydd o du San Steffan. Mi ydw i'n gwerthfawrogi nad ydy'r setliad datganoli yn galluogi Cymru i ddeddfu'n llawn yn y maes yma, ond mae hyn yn ddadl dros fwy o ddatganoli i Gymru, nid dros dynnu grymoedd i ffwrdd o Gymru, fel sydd yn digwydd bron yn ddieithriad ym mhob LCM, gyda Gweinidogion yn San Steffan yn cael creu deddfwriaeth mewn meysydd sydd o dan ofal ein Senedd genedlaethol ni. Fe wnes i godi'r mater yma sawl gwaith yn ystod y broses graffu, a dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog, sydd hefyd yn rhannu'r un pryderon, dwi'n gobeithio, am sicrhau y bydd yn rhaid cael cydsyniad y Senedd yma cyn gweithredu, nid ymgynghori yn unig, efo'r eithriad o gymal 27, ond mi allwn ni fyw gyda hynny. Tybed, felly, a all y Gweinidog roi ar gofnod yma pam nad oedd yn bosib i Gymru ddatblygu Bil o'r fath ein hunain yn y maes hwn.

Dydy o ddim yn sefyllfa ddelfrydol o bell ffordd, ond gan fod y Bil yma yn cynnig datrysiad rhannol o leiaf i rai o heriau iechyd pobl Cymru pan fo'n dod i dybaco a fêps, yna mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig heddiw, gyda diolch i'r ymgyrchwyr a'r bobl sydd wedi bod yn gweithio mor ddiwyd er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt yma.

17:35

Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw oherwydd, fel y mae Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru wedi'i ddweud, mae gan y Bil y potensial i drawsnewid iechyd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Ac mae aelodau'r gynghrair wedi bod yn y Senedd, Dirprwy Lywydd, drwy'r dydd heddiw ac maen nhw yn yr oriel gyhoeddus ar hyn o bryd, yn dangos faint mae hyn yn ei olygu iddyn nhw, oherwydd maen nhw'n sylweddoli pa mor bwysig yw e i iechyd ein cymunedau. A dylai pob un ohonon ni yma yn y Siambr heddiw fod yn gyfarwydd iawn, bydden i'n meddwl, â'r effaith ofnadwy y mae ysmygu yn ei chael ar iechyd pobl yng Nghymru ac, yn wir, yr agweddau anghydraddoldebau iechyd. Yn y Senedd, rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ysmygu ac iechyd a hefyd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi, ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud gwaith ar y cysylltiadau rhwng ysmygu a phobl sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Yn seiliedig ar y ffigurau presennol, mae 13 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu, ond pan ymchwiliwn ni'n ddyfnach, rydym yn gweld bod hynny'n codi i 22 y cant i'r rhai sy'n byw yn y pumed isaf o ardaloedd yn ôl mesurau amddifadedd. Ac mae 30 y cant o drigolion tai cymdeithasol yng Nghymru yn ysmygu, o gymharu ag 8 y cant o berchnogion tai. Felly, rwy'n credu ei bod yn hollol glir pa mor bwysig yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r Bil i anghydraddoldebau iechyd yma yn ein gwlad ni, a bydd y Bil Tybaco a Fêps yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, bydd y Bil yn caniatáu i ni, yng Nghymru, ehangu ein mannau cyhoeddus di-fwg, gan adeiladu ar dir ysbyty di-fwg ac ardaloedd y tu allan i gatiau ysgolion, a fydd, unwaith eto, yn cael ei groesawu ac yn arwyddocaol iawn yn fy marn i. Ac fel rydyn ni wedi clywed eisoes, mae llawer iawn o'n pobl ifanc iawn, yn anffodus, yn dod yn gaeth i ysmygu tra maen nhw'n dal yn ifanc, ac roedd tua 89 y cant o ysmygwyr yng Nghymru wedi cael eu sigarét gyntaf cyn iddyn nhw droi'n 18 oed. Ac rydym yn gwybod bod y diwydiant tybaco yn sinigaidd iawn, ac yn gwneud y cynnyrch yn gaethiwus iawn yn fwriadol, heb falio y bydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n defnyddio'r cynnyrch yn marw neu'n cael eu gwanhau oherwydd y defnydd hwnnw o dybaco. Mae'n ddiwydiant sinigaidd iawn ac yn fusnes sinigaidd iawn, y mae angen i ddeddfwyr, rwy'n credu, wneud llawer mwy i'w herio'n sylweddol ac yn ystyrlon nag sy'n digwydd ar hyn o bryd, a bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn a'r Bil yn ein galluogi ni fel deddfwyr i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

Rwyf hefyd yn credu, fel yr ydym wedi clywed yn ystod y ddadl hon, Dirprwy Lywydd, fod peryglon fepio yn dod yn fwyfwy amlwg, ac, unwaith eto, mae'r ffordd y mae pobl ifanc yn cael eu targedu a'u niweidio yn dod yn fwyfwy amlwg, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yn y Siambr hon sydd wedi ymweld â nifer o ysgolion cynradd yn fy etholaeth ac wedi cael gwybod bod dibyniaeth ar fepio yn broblem real a chynyddol ymhlith plant ysgol gynradd, heb sôn am yr hyn yr ydym yn ei weld yn ein lleoliadau addysg uwchradd.

Felly, mae yna resymau cryf iawn a byddwn i'n dweud rhesymau cymhellol dros gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, Dirprwy Lywydd, ac i groesawu'r Bil Tybaco a Fêps. Ac wrth gwrs, cafodd y Bil hwnnw ei gyflwyno gan y cyn-Brif Weinidog Ceidwadol Rishi Sunak ac mae'n cael ei symud ymlaen nawr gan ein Llywodraeth Lafur, ac rwy'n credu ei bod yn groesawgar iawn gweld y consensws eang hwnnw ar draws yr hyn sydd weithiau'n rhaniad gwleidyddol. Byddaf yn falch iawn ac yn awyddus iawn i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gwneud yr un peth.

17:40

Fel John Griffiths, byddaf yn pleidleisio o blaid y Bil hwn. Dyma oedd cynnig mwyaf poblogaidd Rishi Sunak—yn fy marn i, beth bynnag—ac fe effeithiodd yr etholiad cyffredinol arno ac mae'n dda bod Llywodraeth bresennol y DU yn ymgymryd â hyn. Nid yw'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud ein hunain, oherwydd byddai'n arwain at smyglo ar draws ein ffiniau mandyllog, ond allwn ni ddim fforddio parhau i gael cenedlaethau o ysmygwyr tybaco, sy'n golygu cael cenedlaethau o fabanod a phlant sy'n anadlu, y mae eu hysgyfaint yn cael eu gwenwyno yn sgil yr ysmygu goddefol y maen nhw'n ei gael gan oedolion.

Rwy'n clywed beth mae James Evans yn ei ddweud am wahardd pethau, ond, o leiaf, mae angen i ni fod yn trethu'r cynhyrchion hynny sy'n dod â chost mor enfawr i gymdeithas yn y pen draw. Felly, mae hynny'n cynnwys y bwyd amhur sy'n cael ei alw'n fwyd wedi'i brosesu'n helaeth, ac fe allwn ni gael dadl ar wahân am hynny yn y dyfodol. Ond y gwir yw, mae fepio'n cael ei ddefnyddio fel anadl olaf y diwydiant tybaco, fel sarjant recriwtio i bobl ifanc. Mae nicotin yn gaethiwus iawn. Rydw i wedi gweld hynny yn fy mab fy hun. Mae ef wedi rhoi'r gorau i ysmygu, ond mae'n dal yn ei chael hi'n anodd iawn rhoi'r gorau i fepio, ac rwy'n gwybod nad ef yw'r unig berson sy'n cael trafferth yn hynny o beth.

Ac rydyn ni'n syml—. Ac yn ogystal â hynny, rydym yn gwybod, yn fy etholaeth i beth bynnag, bod y cwmnïau fepio yn ffrynt ar gyfer tybaco anghyfreithlon a chyffuriau anghyfreithlon ac felly does dim lle iddyn nhw, ac yn sicr mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn, ac rwyf wir yn croesawu'r fenter hon ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ei phasio yn y Senedd.

Diolch yn fawr iawn, ac i bawb am eu sylwadau heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu sylwadau ystyriol y prynhawn yma a llawer o sgyrsiau yr ydym wedi'u cael yn y cyfnod cyn hyn.

Fe wnaf i ymateb rhai o'r pwyntiau a godwyd. I ddechrau gyda Peter Fox, roedd yn ddefnyddiol iawn gallu dod o flaen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd roedd un neu ddau o'r materion y gwnaethoch chi eu codi â mi, er enghraifft, cefnogi pobl ifanc a allai fod yn fepio yn barod i allu rhoi'r gorau iddo, yr oeddwn yn eu cymryd o ddifrif. Rydyn ni wedi mynd i ffwrdd ac rwyf am ddweud ein bod ni nawr wedi cyhoeddi dogfennau cwricwlwm a chyngor cynhwysfawr, gan gynnwys cymorth i rieni a gofalwyr, a phecyn cymorth i athrawon, sy'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau y gallan nhw eu defnyddio ar fepio. Hefyd, o ran rhoi'r gorau i ysmygu, mae ein gwasanaeth Helpa Fi i Stopio ar gael i unrhyw un sy'n 12 oed neu'n hŷn, ac mae'n cynnig y cymorth ymddygiadol am ddim hwnnw a therapi amnewid nicotin hefyd. O ran fêps, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu llwybr i gefnogi'r rhai sy'n gaeth i nicotin nad ydynt yn defnyddio tybaco yng nghyd-destun y system Helpa Fi i Stopio. Felly, rydyn ni wedi ceisio rhoi'r holl bethau hynny yn eu lle, fel y dywedoch chi, oherwydd rwy'n ymwybodol bod yna bobl ifanc sydd eisoes yn gaeth, yn anffodus, ac mae angen i ni eu helpu. Dyna lle rwy'n dod o ran hynny.

Rwyf hefyd eisiau dweud llongyfarchiadau enfawr, ac rwy'n falch iawn a dylai Sgowtiaid Cymru fod yn falch iawn, iawn o Sgowtiaid 1af Aberdâr (Sain Ffagan). Rwy'n credu ei bod yn hollol wych gweld pobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn democratiaeth, a dyna pwy mae'r genhedlaeth ddi-fwg hon ar eu cyfer. Felly, llongyfarchiadau ar hynny. Da iawn, rwy'n credu bod hynny'n wych.

O ran y cyllid, un o'r argymhellion—. Fe dderbyniais i'r cyfan, ond o ran yr un ar Barnett, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r camau sy'n cael eu cymryd yn Lloegr. Fel y gwyddoch, yng Nghymru, mae'r Cabinet yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i benderfyniadau gwariant gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Mae hynny'n arfer safonol. Fodd bynnag, gallaf ddweud heddiw bod gen i newyddion da iawn, sef bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau'r cyllid ychwanegol ar gyfer safonau masnach, fel eu bod nhw'n cael eu hariannu nawr—rwy'n falch iawn—i allu symud ymlaen a gweithredu. Rwy'n credu y bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhai prentisiaethau hefyd, fel y gallwn ni gyflwyno hyn ledled Cymru. Felly, rwy'n gobeithio, unwaith eto, bod hynny'n ateb rhai o'r pryderon a oedd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel y dywedais, roeddwn i'n eu cymryd o ddifrif.

O ran y sylwadau a werthfawrogir bob amser gan y pwyllgor deddfwriaeth—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ond mae gennyf felly—Iawn.

17:45

Iawn, fe ddyweda' i felly, o ran dirprwyo pwerau ym Mil y DU, rwy'n dal i gredu mai Bil y DU sy'n cynnig y ffordd orau ymlaen i Gymru, o ran y cysoni rheoleiddiol â gweddill y DU, y mesurau diogelu cyfansoddiadol yr ydym wedi'u cyflawni, a hefyd o ran ymdrin yn effeithlon â'r cymysgedd o elfennau datganoledig ac elfennau a gedwir yn ôl o'r polisi hwn. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n mynd rhan o'r ffordd i ateb Mabon a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Os gallaf wedyn—. Dirprwy Lywydd, rydw i'n mynd i fynd at rai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud ynghylch a yw hyn yn orgyrraedd ai peidio, ac a yw pobl heddiw yn dal i fod mewn dau feddwl ynghylch p'un a ddylid cefnogi hyn ai peidio. Ein gwaith ni yn y Llywodraeth yw gwrando ar bobl Cymru, ac mae pobl Cymru yn cefnogi gweithredu cryfach. Mae 43 y cant yn dweud nad yw llywodraethau'n gwneud digon, ac, yn wir, o ran y mesurau allweddol, mae 65 y cant yn cefnogi cenhedlaeth ddi-fwg, ac mae 75 y cant yn cefnogi ardoll tybaco a delir gan y llygrydd.

Rwyf am ddiolch yn fawr iawn i Ysgol Gynradd Llanyrafon, a ddaeth i mewn i'm gweld heddiw. Maen nhw wedi rhoi llyfr o gerddi i mi am ysmygu, a ysgrifennwyd gan blant ysgol ledled Cymru, oherwydd nhw yw'r genhedlaeth ddi-fwg rydyn ni'n gwneud hyn drosti. Nid ymosodiad ar ysmygwyr presennol yw hyn. Felly, James, mae'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn anghywir. Gall pobl sy'n ysmygu ar hyn o bryd barhau i ysmygu. Mae cymorth ar gael iddyn nhw os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Y pwynt yw, os gofynnwch chi i unrhyw un sy'n ysmygu, unrhyw un sy'n fepio, 'Ydych chi'n dymuno na fyddech chi erioed wedi dechrau?', fe fyddan nhw'n dweud wrthych eu bod nhw'n dymuno na fydden nhw erioed wedi dechrau, a dyna beth mae plant Cymru eisiau hefyd—

Mae angen i chi orffen, Gweinidog, oherwydd does dim eithriadau ar gyfer Gweinidogion chwaith.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9, egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.

8. & 9. Egwyddorion cyffredinol y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynigion. Jayne Bryant.

Cynnig NDM9073 Jayne Bryant

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).

Cynnig NDM9074 Jayne Bryant

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynigion gerbron y Senedd. Mae trasiedi Tŵr Grenfell yn atgof ingol a dinistriol o'r angen i sicrhau bod diogelwch adeiladau yn cael ei wneud yn iawn. Yn anffodus, mae digwyddiadau diweddar yn Hong Kong wedi tanlinellu'r canlyniadau ofnadwy a all gael eu gweld pan fydd tân allanol yn lledaenu. Rwy'n gwybod bod meddyliau pob un ohonom yn y Siambr hon yn dal i fod gyda'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan drasiedïau o'r fath, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu o'r digwyddiadau hyn ac yn gweithredu i sicrhau nad yw bywydau yn cael eu colli yn y fath fodd yma yng Nghymru.

Fe hoffwn i ddiolch i'r Cadeiryddion ac aelodau'r pwyllgorau sydd wedi gweithio ar y Bil hwn: y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hargymhellion gofalus; y Pwyllgor Cyllid am eu hasesiad cadarn o'r ddeddfwriaeth; a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am eu hystyriaeth eang, fanwl o'n bwriadau polisi. Byddaf yn ysgrifennu at bob un ohonoch chi i ymateb i'r holl bwyntiau rydych chi wedi'u codi. Mae arnaf i hefyd eisiau diolch i'r nifer o bartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r Bil ac i gefnogi pwyllgorau gyda'u gwaith craffu.

Rwy'n croesawu'n arbennig yr argymhelliad y dylai'r Senedd gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae tair egwyddor allweddol yn sylfaenol i'r Bil hwn: diogelwch, atebolrwydd a llais preswylwyr. Rwy'n falch bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cefnogi ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ymateb i ystyriaeth y tri phwyllgor. Unwaith eto, diolch i'r holl bwyllgorau hynny am eu gwaith manwl iawn yn y maes pwysig hwn. Gwnaethom dderbyn y 27 argymhelliad a chasgliadau ychydig dros wythnos yn ôl a byddwn yn ymateb yn ysgrifenedig cyn y Nadolig. Does gen i mo'r amser i fynd i'r afael â phob argymhelliad heddiw, Dirprwy Lywydd, ond fel y dywedais i, fe wnaf i hynny'n ysgrifenedig. Ond rwy'n hapus i gadarnhau bod y Llywodraeth yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor y mwyafrif o'r argymhellion a byddaf yn ymateb yn fyr i rai o'r pwyntiau allweddol nawr.

Rydym ni'n cefnogi cydgrynhoi a chodio cyfraith tai yng Nghymru ac mae gwaith ar y gweill i ystyried rhai o agweddau ymarferol hyn. Bydd prosiectau cydgrynhoi yn y dyfodol yn fater i'r Llywodraeth nesaf wrth iddi ddatblygu ei rhaglen i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Rwy'n hapus i dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid a byddaf yn gweithio gyda'r pwyllgor i wneud y costau a'r buddion mor dryloyw â phosibl. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i mi egluro'r cyllid a fydd ar gael i awdurdodau lleol. Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ail-archwilio'r costau yn seiliedig ar fodel gweithredol rhanbarthol. Byddwn yn defnyddio'r hyn a ddysgwn o hyn i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol ac i lywio penderfyniadau yn y dyfodol am gyfanswm y pecyn cyllid ar gyfer awdurdodau diogelwch adeiladau.

Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r awdurdodau lleol o ran gweithlu. Rydym ni'n gweithio gyda nhw i ddeall beth yw'r gallu sgiliau presennol ac i gyd-gynhyrchu cynllun gweithlu sy'n canolbwyntio ar faterion recriwtio, cadw a datblygu sgiliau. Bydd y cynllun yn cyfrannu at fuddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant prentisiaethau o dan y drefn newydd, fel ein bod yn cynllunio'r gweithlu mewn modd cydlynol.

Er bod aseswyr risg tân yn cael eu cyflogi i raddau helaeth yn y sector preifat, byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector diogelwch tân a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraethau datganoledig eraill i ddatblygu fframwaith cytunedig ar gyfer cymhwysedd asesu risg tân. Mae cwmpas eang y Bil yn anochel yn gofyn am raglen helaeth o reoleiddio technegol a chanllawiau i fynd i'r afael ag amrywiaeth yr amgylchedd adeiledig a newidiadau posibl iddo yn y dyfodol. Bydd y drefn newydd ond yn gweithio'n dda os yw'n cael ei ddeall a'i chymhwyso'n llawn gan y rhai y mae'n effeithio arno: landlordiaid, perchnogion adeiladau, awdurdodau gorfodi ac, wrth gwrs, trigolion. Rydym ni eisoes yn gweithio'n agos gyda nhw a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd hynny'n cynnwys ymgysylltiad llawn ar reoliadau a chanllawiau a byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod yr holl bartneriaid wedi'u paratoi'n llawn cyn dod â'r Bil i rym.

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am nodi meysydd o'r Bil a fyddai'n elwa o welliannau, ac rwy'n ystyried gwelliannau i roi dyletswydd ar brif bersonau atebol i gynnwys preswylwyr yn y gwaith o ddatblygu strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr; gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y broses ar gyfer cofrestru adeiladau; cyfyngu, i ryw raddau, ar gwmpas y pwerau gwneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 14 a 16; ac i gymhwyso gwaith craffu uwch i reoliadau a wneir o dan adrannau 16 a 27.

Rwy'n benderfynol ein bod yn cyfyngu ar dalu taliadau gwasanaeth ar gyfer gwaith diogelwch adeiladau i breswylwyr a lesddeiliaid lle mae ffynonellau cyllid amgen ar gael, a'u bod yn gyfyngedig. Dylai landlordiaid ystyried ffrydiau cyllido eraill cyn trosglwyddo costau gwaith i breswylwyr neu lesddeiliaid, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant i ymdrin â hyn.

Rwy'n cydnabod bod rhai meysydd heriol. Yn flaenaf yn fy meddwl mae'r rhaglen i gyweirio pob adeilad canolig ac uchel yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'r rhwystredigaethau y mae lesddeiliaid yn eu teimlo am gyflymder y rhaglen, ond rhaid i mi fod yn glir: ni fyddai diwygio'r Bil hwn yn cyflawni'r rhaglen yn gyflymach. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn yr egwyl ynghylch statws y rhaglen, a byddaf yn parhau i nodi ffyrdd o oresgyn rhwystrau a chyflymu'r gwaith o gyweirio.

Rydym ni i gyd yn cytuno y dylai fod dull cydweithredol o gyflawni swyddogaethau rheoleiddio gan awdurdodau lleol. Rydym ni bellach yn symud tuag at ddull a fydd yn cyflawni swyddogaethau'r awdurdod diogelwch adeiladau ar draws tri rhanbarth. Byddai hyn yn gweld, yn ymarferol, awdurdod diogelwch adeiladau yng ngogledd, canolbarth a gorllewin, a de Cymru, yn gweithredu ar gynllun yr awdurdod tân ac achub. Serch hynny, y ffordd y byddwn ni'n mynd ati yn y Bil hwn yw darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol benderfynu sut maen nhw'n trefnu eu hunain. Rwy'n parhau i fod o'r farn mai dyma'r ffordd gywir o fynd ati. Fodd bynnag, os nad yw'n bosibl cyflawni'r dull partneriaeth hwn gyda'r ddwy ochr yn cydsynio iddo, yna mae adran 102 o'r Bil yn rhoi'r grym i Weinidogion Cymru gyfarwyddo'r broses o ddirprwyo swyddogaethau.

Roedd yna alwad hefyd ar i adeiladau llai—rhai yng nghategori 3 a thai amlfeddiannaeth—ddod o dan ofynion llai llym neu ddim gofynion ar y sail eu bod yn risg isel. Fodd bynnag, nid yw hynny'n wir. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr adeiladau hyn fwyaf mewn perygl o dân. Mae ganddyn nhw gyfraddau uwch o anafiadau tân na'r blociau pwrpasol yng nghategorïau 1 a 2. Felly, byddai glastwreiddio neu hepgor y gofynion ar gyfer yr adeiladau hyn yn wallgofrwydd.

Fe glywsom ni rai pryderon y gallai'r Bil gael effaith anuniongyrchol ar y cyflenwad tai. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol a fforddiadwy ac i wella diogelwch adeiladau. Nid wyf yn credu y bydd y Bil yn cael effaith sylweddol ar y cyflenwad tai. Fe wyddom ni o'n hymgysylltiad â darparwyr tai cymdeithasol bod llawer o'r mesurau a nodir yn y Bil eisoes wedi'u gweithredu ganddyn nhw. Yn y bôn, ni fyddwn yn helpu i ddatrys ein heriau tai trwy roi pobl mewn cartrefi anniogel.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi ceisio gwneud sylwadau heddiw ar y meysydd mwy heriol o'n gwaith. Fodd bynnag, nodaf eto, yn gyffredinol, fy mod i'n hapus i dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor y mwyafrif o argymhellion, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth eang y mae'r Senedd wedi'i roi i'r Bil hwn. Rwy'n gwybod o brofiad mai dim ond cryfhau deddfwriaeth y mae craffu da, ac rwy'n ddiolchgar i'm cyd-aelodau yn y Senedd am eu gwaith ar y Bil hwn, am eu pwyslais ar geisio gwella'r Bil, i sicrhau ei fod yn weithredol gadarn, ac am y gwaith y byddant yn ei wneud yn y dyfodol i sicrhau bod pobl Cymru yn ddiogel yn eu cartrefi. Dirprwy Lywydd, rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

17:55

Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a ymgymerodd â gwaith craffu ar y Bil hwn yn ystod Cyfnod 1. Mae'r Bil yn cynrychioli rhan bwysig o ymateb Llywodraeth Cymru i drasiedi Tŵr Grenfell. Rydym ni'n cydymdeimlo'n  ddwys, rwy'n gwybod, â'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y trychineb ofnadwy hwnnw, a hawliodd fywydau 72 o bobl fwy nag wyth mlynedd yn ôl, gan bwysleisio pwysigrwydd hanfodol sefydlu cyfundrefn ddiogelwch adeiladau newydd i Gymru er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd trychinebau o'r fath yn digwydd yma yn y dyfodol.

Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'n pwyllgor am eu cyfraniadau gwerthfawr, gan helpu i lunio ein hadroddiad. Fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r bobl hynny sy'n profi amseroedd anodd oherwydd materion diogelwch adeiladau sy'n effeithio ar eu heiddo preswyl am rannu eu profiadau personol gyda ni.

Yng ngoleuni'r gefnogaeth gref a glywsom ni i nodau'r Bil hwn, rydym ni'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar ei hegwyddorion cyffredinol, ond, mewn nifer o feysydd, fe wnaethom ni nodi pryderon. Mae'r Bil yn cynnig fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer tri chategori gwahanol o adeiladau yn seiliedig ar uchder, yn ogystal â thai amlfeddiannaeth. Y ddau gategori cyntaf, y bydd y gofynion mwy beichus yn berthnasol iddyn nhw, yw'r rhai dros 11m neu bum llawr o uchder, ac mae tua 629 o'r rheiny yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tua 51,000 o'r adeiladau categori 3 llai uchel, yn ogystal â llawer o dai amlfeddiannaeth. Felly, mae nifer gymharol gyfyngedig o adeiladau uchel yng Nghymru y bydd y fframwaith newydd yn berthnasol iddyn nhw, tra byddai nifer sylweddol iawn o adeiladau llai isel yn dod o dan y cwmpas. Er bod pawb a ddarparodd dystiolaeth yn cefnogi fframwaith rheoleiddio newydd i hyrwyddo diogelwch strwythurol a thân o fewn adeiladau categori 1 a chategori 2, roedd rhai yn teimlo y byddai baich rheoleiddio ychwanegol y fframwaith newydd arfaethedig yn anghymesur â'r manteision ar gyfer adeiladau categori 3 a thai amlfeddiannaeth. Fel pwyllgor, rydym ni'n cytuno â'r farn honno: bod yr achos eto i'w dadlau dros gymhwyso'r drefn newydd i bob adeilad categori 3 a thai amlfeddiannaeth. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried y dull arfaethedig, ac yn awgrymu, os yw adeiladau llai uchel yn cael eu cynnwys, y mabwysiadir dull sy'n seiliedig ar risg i sicrhau cymesuredd. Byddai'r newid yma mewn agwedd yn sicrhau bod yr adnoddau sylweddol sydd eu hangen i weithredu'r drefn newydd yn effeithiol yn cael eu canolbwyntio'n briodol ar adeiladau risg uwch.

Dygwyd i'n sylw ymhellach anawsterau a ragwelwyd gyda'r dull arfaethedig o weithredu'r Bil hwn mewn perthynas â'r nifer annigonol o weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol i gyflawni gofynion llawn y Bil. Felly, rydym yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â diffygion mewn capasiti, er enghraifft drwy ddatblygu cynllun gweithlu diogelwch adeiladu a sefydlu cynllun prentisiaethau gradd ar gyfer swyddogion iechyd yr amgylchedd. Rydym ni wedi argymell bod angen rhagor o waith gan Lywodraeth Cymru i ddeall goblygiadau adnoddau'r Bil yn llawn, gan gynnwys ymgynghori ar gynllun datblygu'r gweithlu, cyn gynted â phosibl. Heb os, bydd y Bil yn cynyddu'r galw am y gronfa gyfyngedig o bersonél cymwys a phrofiadol ar hyn o bryd, ac yn cynyddu ffioedd. Fe glywsom ni y bydd hyn yn arwain at anawsterau i awdurdodau lleol recriwtio a chadw staff â chymwysterau priodol oherwydd y cyfyngiadau ar gyflogau awdurdodau lleol. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pryder hwn.

Cyfeiriwyd at gostau ychwanegol a gofynion cyllid y Bil yn aml mewn tystiolaeth. Fel y Pwyllgor Cyllid, rydym yn pryderu am y sylwadau a dderbyniwyd bod goblygiadau cost y Bil wedi'u tanamcangyfrif. Rhaid i sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector gael eu hariannu'n briodol i arfer dyletswyddau ychwanegol a osodir arnyn nhw gan ddeddfwriaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ar adegau pan fo cyllidebau dan bwysau mawr. Felly, rydym ni'n argymell bod landlordiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai y gallai cyfrifoldebau gweithredol syrthio arnyn nhw yn derbyn y cyllid ychwanegol sy'n ofynnol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol.

Bydd cyfrifoldebau rheoleiddio a sefydlwyd gan y Bil yn disgyn ar awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub. Rydym ni'n cydnabod y gellir codi ffioedd am ymgymryd â dyletswyddau o'r fath. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer adennill costau llawn trwy ffioedd a godir er mwyn rhoi sicrwydd y gellir rheoleiddio'r drefn newydd yn effeithiol. Felly, rydym ni'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y dylid ariannu unrhyw wahaniaethau rhwng costau ychwanegol a'r ffioedd y gellir eu codi.

O ran rheoleiddio, roeddem yn siomedig na hysbyswyd y model cyflawni a ffefrir gan Lywodraeth Cymru mewn pryd i'w ystyried yn rhan o'n gwaith yng Nghyfnod 1. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o fanylion am y model hwnnw cyn gynted â phosibl a darparu canllawiau clir i'r rhai sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau.

O ystyried yr heriau sylweddol hyn—yn enwedig, materion gweithlu a chyllid—mae'n amlwg na fydd sector tai Cymru yn barod i weithredu'r drefn newydd mewn perthynas ag adeiladau categori 3 a thai amlfeddiannaeth erbyn diwedd 2028, fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Felly, rydym ni'n croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ailystyried yr amserlen.

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, gwnaeth adolygiad Hackitt a gynhaliwyd o ganlyniad i drasiedi Grenfell dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys trigolion mewn penderfyniadau ar ddiogelwch adeiladau, ac rydym ni'n croesawu mesurau yn y Bil i'r perwyl hwnnw. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd gam ymhellach drwy ei gwneud hi'n ofynnol i'r rhai sydd â swyddogaeth y prif berson atebol ymgynghori â thrigolion ynghylch paratoi strategaethau ymgysylltu.

Dirprwy Lywydd, mae hefyd yn wir, fel pwyllgor, ein bod wedi clywed safbwyntiau cryf ar faterion cyweirio—tynnu a disodli deunyddiau adeiladu diffygiol fel y cladin ar dŵr Grenfell a oedd yn caniatáu i'r tân ledaenu'n gyflym. Cyfeiriodd amrywiol dystion at absenoldeb darpariaethau penodol ar gyweirio yn y Bil fel cyfle a gollwyd. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cronfa diogelwch adeiladau Cymru a chontractau gyda datblygwyr, ond credwn fod cynnydd wedi bod yn llawer rhy araf, ac ni ddylid caniatáu i hyn barhau. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad brys ar gamau pellach y bydd yn eu cymryd i gyflymu'r cynnydd, er gwaethaf yr hyn yr oedd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'w ddweud yn gynharach, a dylai'r camau pellach hyn gynnwys diwygio'r Bil i ddarparu ar gyfer dyddiadau cau a sancsiynau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol mewn perthynas â chyweirio, ac ar gyfer cosbau am fethiannau gan ddatblygwyr i fynd i'r afael â diffygion o fewn amserlenni gofynnol. Credwn fod yr angen am newid agwedd a mesurau cryfach yn glir. Ni all fod yn iawn y gadewir trigolion i barhau â'r frwydr anodd i ddatrys materion diogelwch pan nad oes unrhyw fai arnyn nhw. Felly, rydym ni'n annog Llywodraeth Cymru i gofleidio'r cyfle a ddarperir gan y Bil hwn i sicrhau gwell cynnydd gyda'r rhaglen gyweirio yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, i gloi, er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil pwysig hwn, rydym ni'n glir bod angen newidiadau i sicrhau bod y drefn newydd mor effeithiol â phosibl. Byddwn felly yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ymgymryd â'r pwyntiau hyn ac ymateb maes o law. Diolch yn fawr.

18:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym ni'n trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), a fydd, os caiff ei basio, yn rhan o lu o ddeddfwriaeth diogelwch adeiladau, yn ddeddfwriaeth sylfaenol ac yn is-ddeddfwriaeth, a ddeddfwyd yn y fan yma a chan Senedd y Deyrnas Unedig. Byddai'n esgeulus i mi beidio â thynnu sylw at y ffaith bod y Bil hwn yn rhan o'r ymateb i drychineb tân Grenfell a ddigwyddodd ym mis Mehefin 2017, dros wyth mlynedd yn ôl.

Pan geisiodd Llywodraeth Cymru ganiatâd y Senedd yn 2022 i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno deddfwriaeth ar ei rhan ar ffurf y Bil Diogelwch Adeiladau, dadleuodd mai defnyddio'r broses gydsynio ddeddfwriaethol hon mewn perthynas â'r cam dylunio ac adeiladu fyddai'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae'r oedi annerbyniol rhwng trychineb Grenfell a'r ddadl hon yn awgrymu nad oedd hyn, yn y pen draw, yn wir.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn credu y dylai'r Llywodraeth hon fod wedi creu cyfundrefn diogelwch adeiladau drwy ddeddfwriaeth Cymru yn unig, yn hytrach na'r gyfundrefn gyfun sydd gennym ni o'n blaenau. Nid yn unig y cyfyngwyd yn sylweddol ar y cyfleoedd i'r Senedd graffu ar ddeddfwriaeth bwysig, fel sy'n nodweddiadol o'r broses gydsynio ddeddfwriaethol, efallai y byddai Llywodraeth Cymru wedi gallu sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau yn gyflymach pe bai wedi cyflwyno deddfwriaeth ei hun. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r profiad hwn.

Gan droi at y Bil sydd o'n blaenau heddiw, yn ei asesiad cyffredinol o'r Bil, mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod maint y pwerau a ddirprwywyd i Weinidogion Cymru yn gosod cydbwysedd grym yn amhriodol o blaid y weithrediaeth. Mae 10 pŵer Harri'r Wythfed yn y ddeddfwriaeth. Mae rhai o'r pwerau hynny ymhlith y mwyaf eang inni graffu arnyn nhw yn y Senedd hon. Mae adrannau 14 ac 16, yn benodol, yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid natur y drefn diogelwch adeiladau a nodir yn y Bil yn sylfaenol drwy reoliadau. Mae hyn yn cynnwys rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid, ychwanegu, dileu neu ddiwygio'r disgrifiad o 'adeilad'. Er enghraifft, maen nhw'n caniatáu i Lywodraeth Cymru newid y diffiniad i gynnwys cerbydau, llongau neu wrthrychau symudol eraill, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. Mae'r disgrifiad hwn o 'adeilad' yn sail i'r fframwaith rheoleiddio cyfan a nodir yn y Bil. Felly, mae'n bosibl y gallai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ddefnyddio'r pwerau hyn i newid cwmpas y ddeddfwriaeth hon yn llwyr, gyda dim ond y craffu cyfyngedig sy'n rhan o broses gymeradwyo rheoliadau fel rhan o wirio a chydbwyso.

Rydym yn cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet y dylai pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil ganiatáu i Lywodraethau ystyried newidiadau i fodelau dylunio a pherchnogaeth adeiladau mewn modd amserol a chymesur. Ond mae maint y pwerau hyn, yn ein tyb ni, yn ormodol. Mae'r pwyllgor, felly, wedi gwneud cyfres o argymhellion gyda'r bwriad o sefydlu cyfyngiadau o amgylch y pwerau hyn i gyfyngu eu defnydd i'r math o achosion penodol y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet atyn nhw yn ei thystiolaeth i ni. Rydym ni hefyd wedi argymell diwygiadau i'r Bil fel yr ymgynghorir ynghylch y rheoliadau cyn eu cyflwyno at ddibenion craffu. Felly, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion, sydd â'r bwriad o sicrhau nad yw Llywodraeth yn y dyfodol yn cael pwerau gormodol ar draul y Senedd.

Mewn mannau eraill, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi ceisio sefydlu mesurau diogelu ynghylch i ba raddau y gall Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ddiwygio termau a diffiniadau beirniadol. Mae'r term 'llawr', er enghraifft, sy'n ganolog i gategoreiddio adeiladau yn y ddeddfwriaeth hon, ac felly i'r graddau o reoleiddio diogelwch y bydd yr adeiladau hynny'n ddarostyngedig iddo, yn agored i reoliadau ei ddiffinio, ar y sail mai dyma sut yr aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ati mewn perthynas â Deddf Diogelwch Adeiladu 2022. Nid ydym ni wedi ei hargyhoeddi gan y ddadl hon ac rydym ni wedi argymell bod y diffiniad o 'llawr' yn cael ei roi ar wyneb y Bil. Yn yr un modd, mae pwerau gwneud rheoliadau yn adran 27 o'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru addasu'r diffiniad o 'risg diogelwch adeiladau'. Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil yn derbyn bod hwn yn bŵer eang a fyddai, pe cai ei ddefnyddio, yn arwain at ddyletswyddau newydd sylweddol posibl. Rydym ni wedi argymell bod y pŵer hwn yn destun gweithdrefn gymeradwyo uwch hefyd.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i dynnu sylw at bwynt allweddol sy'n ymwneud â gweithredu'r drefn diogelwch adeiladau. Yn y Bil, mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru yn awdurdod diogelwch adeiladau ar wahân. Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryder am y risgiau o anghysondeb rhanbarthol o ganlyniad i'r dull hwn. Er mwyn cymharu, asiantaeth ganolog sy'n gorfodi cyfundrefn diogelwch adeiladau Lloegr. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau y bydd yr awdurdodau lleol yn grwpio at ei gilydd i dri chorff cydweithredol i gyfateb i ffiniau'r awdurdodau tân ac achub. Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd gan y trefniadau hyn sail statudol neu, os na, beth fydd trefniadau llywodraethu'r strwythurau cydweithredol newydd hyn. Mae'r materion hyn yn hanfodol i weithredu'r Bil yn llwyddiannus. Rydym ni wedi argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn egluro ei hagwedd at y trefniadau arfaethedig. Diolch.

18:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid ar ran y Cadeirydd, nad yw'n gallu bod yma heddiw. Cyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, mae'r pwyllgor yn siomedig nad ydym ni wedi cael ymateb ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'n hargymhellion, yn enwedig gan fod ein hadroddiad wedi'i gyflwyno mewn da bryd, ymhell cyn y dyddiad cau. Yn gynnar yn y Senedd hon, fel pwyllgor, fe wnaethom ni'r sylw y dylai'r Llywodraeth ymateb i'n hargymhellion cyn gofyn i'r Aelodau awdurdodi gwariant sy'n deillio o Fil. Rwy'n credu ei bod hi'n egwyddor bwysig sydd wedi bod yn gyffredin i Weinidogion ymateb yn briodol ac mae'n drueni gwirioneddol nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gallu parhau â'r arfer dda hon cyn y ddadl heddiw.

Serch hynny, rydym ni'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i wella diogelwch ac atebolrwydd adeiladau fel rhan o'r ymateb ehangach i drychineb Tŵr Grenfell, y mae cyd-Aelodau wedi'i amlinellu'n fedrus. Er ein bod yn cefnogi egwyddorion y Bil, mae gennym ni bryderon am ansawdd, tryloywder a chyflawnder yr amcangyfrifon cost yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Yn hollbwysig, nid oedd yn darparu dadansoddiad o gostau ar gyfer pob un o ddarpariaethau'r Bil, ac nid oedd yn esbonio'n ddigonol pwy fyddai'n gyfrifol am dalu'r costau hyn. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd deall effaith ariannol y Bil ar awdurdodau lleol, awdurdodau tân ac achub, a'r diwydiant tai. Rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ddadansoddiad o'r amcangyfrifon hyn yn dilyn ein sesiwn dystiolaeth, ond mae arnom ni eisiau i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig.

Roedd gennym ni bryderon hefyd am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i amcangyfrif costau'r Bil. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn darparu ffigurau pwysig heb esboniad digonol o sut y cyfrifwyd y rhain, pa weithgareddau maen nhw'n eu cwmpasu, neu pa ragdybiaethau sy'n sail iddyn nhw. Rydym ni'n cydnabod absenoldeb ymchwil gyhoeddedig yn y maes hwn a dibyniaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ar gwmni ymgynghori i ddatblygu costau, ond mae angen mwy o fanylion ar y modelu ariannol a ddefnyddir, ac rydym ni wedi gofyn i hyn gael ei gynnwys mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig.

Gan droi at sut y caiff y Bil ei ariannu, nodwn sicrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet bod cefnogaeth i awdurdodau lleol ysgwyddo unrhyw faich ariannol ychwanegol sy'n deillio o'r Bil yn flaenllaw yn ei meddwl. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi, eto heddiw, y bydd cyllid y Llywodraeth ar gael i awdurdodau lleol, ond nid yw'n glir a yw hyn yn newydd neu o gyllidebau presennol. Rydym ni wedi gofyn am eglurder yn hyn o beth, ac efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu rhywfaint o'r eglurder hwnnw yma heddiw hefyd.

Rydym ni hefyd wedi dysgu bod rhywfaint o gyllid gweithredu eisoes wedi'i gytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond rydym ni wedi dod o hyd i fanylion cyfyngedig ynghylch sut mae'n cael ei ddefnyddio. O ganlyniad, rydym ni wedi argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn darparu adroddiad manwl o'r gweithgareddau a wnaed a dadansoddiad o'r gwariant mewn perthynas â'r cyllid hwn, gan gynnwys sut mae'r rhain yn ymwneud â chyflawni'r Bil.

O ran y baich ariannol i breswylwyr a lesddeiliaid, rydym ni’n cydnabod barn yr Ysgrifennydd Cabinet na ddylai'r Bil arwain at gostau ychwanegol sylweddol i breswylwyr mewn tai cymdeithasol. Mae angen sicrwydd pellach yn hyn o beth, fodd bynnag, felly rydym ni wedi gofyn am fwy o fanylion am y cymorth sydd ar gael i unigolion a allai gael eu heffeithio'n ariannol, yn enwedig mewn achosion lle gallai costau adfer neu gydymffurfio fod yn sylweddol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym ni fod gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi i ddeall costau gweithredol sy'n deillio o'r Bil a datblygu model cyflawni. Er bod hyn i'w groesawu, gallai'r gwaith hwn fod wedi llywio datblygiad yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru yn gynharach. Fe wnaethom ni ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ddarparu manylion am drafodaethau gyda phartneriaid cyflenwi cyn y ddadl Cyfnod 1 heddiw, ac mae'n anffodus nad ydym ni wedi derbyn yr wybodaeth hon eto.

Yn olaf, nodwn ymagwedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol at adolygiad ôl-weithredu'r Bil, sy'n asesu costau dros 10 mlynedd a buddion dros 70 mlynedd. Er bod hyn yn cyd-fynd â chanllawiau'r Llyfr Gwyrdd, gall y gwahaniaeth hwn o 10 mlynedd a 70 mlynedd rwystro gwerthuso cywir a chymylu effeithiau ariannol. Rydym ni wedi argymell cyhoeddi costau a buddion gwirioneddol fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu a cheisio cadarnhad o'r amserlenni arfaethedig ar gyfer yr adolygiad. Diolch, Dirprwy Lywydd.

18:15

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r Bil hwn. Mae'n cymryd cam pwysig tuag at ddod ag eglurder a chysondeb i swyddogaeth deiliaid dyletswydd sy'n gyfrifol am ein hadeiladau ar ôl trychineb torcalonnus tân Grenfell. Mae'n bwysig na ellir caniatáu i unrhyw ddryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am nodi a rheoli risgiau diogelwch barhau.

Rydym ni hefyd yn croesawu'r ffordd y mae'r Bil hwn yn grymuso trigolion. Prynodd gormod o bobl eu cartrefi heb wybod y darlun llawn o ran diogelwch.  Ar adeg pan fo Cymru'n wynebu argyfwng tai a phan fydd angen mwy o gartrefi mewn tyrrau uchel i ateb y galw hwnnw, mae'n rhaid i ni adfer hyder yn y farchnad a rhoi mynediad i breswylwyr at wybodaeth bwysig am ddiogelwch a llwybr clir i godi pryderon. Mae'r rhain i gyd yn gamau cryf a synhwyrol i'r cyfeiriad cywir.

Rydym ni'n arbennig o gefnogol o'r pwerau gorfodi cryfach. Mae'r rhain yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ymyrryd pan fydd diogelwch mewn perygl. Os ydym ni am i atebolrwydd olygu rhywbeth, yna mae'n briodol bod yn rhaid i'n hawdurdodau gael y pŵer i'w orfodi. Fodd bynnag, o ran gorfodi, o'r adroddiad Cyfnod 1, fe allwn ni weld bod llawer o randdeiliaid wedi codi pryder tebyg—pan fyddwch chi'n rhannu gorfodi rhwng dau gorff, fel sydd wedi'i gynnig yma, mae yna beryg o wneud penderfyniadau mewn gwagle. Er bod gan yr awdurdodau tân yn amlwg eu harbenigedd technegol, rwy'n credu, o ystyried yr heriau a wynebwyd ganddyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf, ei bod hi'n briodol ystyried yn ddifrifol a ydynt mewn sefyllfa i gyflawni'r hyn a ofynnir iddyn nhw.

Mae grwpiau fel panel arbenigwyr tai Cymru gyfan, Rheoli Adeiladau Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyd wedi rhybuddio, heb eglurder ynghylch pwy sy'n gwneud beth, yna fe allwn ni weld gwaith yn cael ei ddyblygu, negeseuon cymysg ac ansicrwydd ynghylch pwy sy'n cymryd yr awenau. Maen nhw wedi galw am gydlynu cliriach, hyblygrwydd rhanbarthol a system sy'n osgoi baglu dros gyfreithiau presennol, fel Deddf Tai 2004. Mae hwn yn faes sydd yn bendant angen mwy o ystyriaeth.

Nid yw risgiau tân a risgiau strwythurol yn bodoli mewn blychau ar wahân; maen nhw'n rhan o'r un darlun. Os ydym ni'n mynd i gadw pobl yn ddiogel, yna mae angen i ni reoli'r risgiau hynny yn eu cyfanrwydd. Mae rhai wedi tynnu sylw at y dull yn Lloegr, lle mae un rheoleiddiwr unedig yn ymdrin â phopeth, ac mae awgrymiadau wedi cael eu gwneud bod Cymru yn dilyn llwybr tebyg.

Rwy'n deall, ac fe allaf i weld safbwynt yr Ysgrifennydd Cabinet, na fydd creu corff newydd sbon yn rhoi mwy o gapasiti i ni. Fodd bynnag, os nad ydym ni'n mynd i adeiladu strwythur newydd, yna mae angen i ni fod yn glir iawn a chyflwyno mecanweithiau dibynadwy sy'n dangos yn union sut mae gorfodi yn gweithio a sut y bydd ein sefydliadau yn cyflawni eu dyletswyddau yn ymarferol. Rwyf hefyd wedi nodi'r rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Maen nhw wedi dweud yn glir na ddylid gofyn i awdurdodau lleol ymgymryd â rôl yr awdurdod diogelwch adeiladau. Maen nhw eisoes dan bwysau mawr, yn wynebu arbenigedd technegol cyfyngedig a heriau gyda'r gweithlu, ac felly byddent yn cael trafferth gyda'r cyfrifoldebau newydd hyn.

Rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, y dylai hyn ein cymell ni i gyd i oedi a meddwl. Mae ein hawdurdodau lleol dan ddigon o faich. Wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo, mae'n rhaid i ni ofyn i'n hunain a yw'n deg neu hyd yn oed yn realistig rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar eu hysgwyddau. Byddwn yn dadlau, Dirprwy Lywydd, bod y Bil presennol yn golygu bod gennym ni ddau gorff cyhoeddus, pob un yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd sylweddol, nad oes ganddyn nhw mo'r cyfarpar llawn ond eto mae disgwyl iddyn nhw weithio gyda'i gilydd yn rhwydd. Nid wyf yn gweld sut y bydd hyn yn ymarferol heb newidiadau difrifol.

O ran gapasiti'r gweithlu, mae'r pryderon yn real ac yn bodoli rŵan hyn. Mae'r pwyllgor, yn argymhelliad 2, wedi galw am gynllun gweithlu clir. Gall y Bil edrych yn dda ar bapur, ond ni fydd yn werth llawer os nad oes gennym ni bobl hyfforddedig, alluog i gynnal yr arolygiadau a'r gwaith gorfodi. Rwy'n cydnabod bod y Senedd hon yn agosáu at ei misoedd olaf, ond mae hyn yn waith y mae brys amdano. Heb y sylfaen honno o ran y gweithlu, gellid cael trafferth gyda holl fwriad y Bil hwn cyn hyd yn oed ei weithredu.

Mae sawl grŵp hefyd wedi cwestiynu a yw'n gymesur cynnwys adeiladau categori 3, y rhai o dan 11m. Mae adroddiad y pwyllgor wedi dweud nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno achos sy'n argyhoeddi. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ateb y pwynt hwnnw mewn gwirionedd. Mae adeiladau categori 3 yn cael eu hystyried yn risg isel, ac mae cymhwyso cyfundrefn ddiogelwch ddwys wedi'i chynllunio ar gyfer adeiladau llawer talach yn golygu mwy o waith papur, mwy o asesiadau a mwy o faich nad oes efallai ei angen. Rwy'n teimlo y gallai pentyrru'r cymhlethdod hwn fod yn rhwystr i ddatblygwyr i adeiladu'r cartrefi hyn, ac mae hynny i'r gwrthwyneb i'r hyn a fwriadwyd.

Mae'r Bil hefyd yn pwyso'n drwm ar is-ddeddfwriaeth a chanllawiau, nad yw llawer ohonyn nhw hyd yn oed wedi'u hysgrifennu eto. Rwy'n credu y bu'r rhanddeiliaid yn glir bod yn rhaid i'r system weithio yn y byd go iawn, nid yn unig yn ddamcaniaethol. Mae gadael gormod o fanylion ar gyfer yn hwyrach ymlaen yn creu ansicrwydd, ac mae ansicrwydd yn llesteirio'r union welliannau rydym ni'n ceisio eu cyflawni. Rhaid i'r system newydd gyd-fynd â chyfreithiau presennol fel Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a fframweithiau'r ombwdsmon. Os na chawn ni'r cysondeb hwnnw iawn, rydym ni mewn peryg o greu drysfa gymhleth o reolau sy'n gorgyffwrdd nad ydyn nhw'n helpu neb.

Yn olaf, fe hoffwn i grybwyll yr arafwch o drwsio diffygion hanesyddol. Dyma un o'r materion mwyaf difrifol, ac nid yw'r Bil fel y mae yn ei ddatrys yn llawn. Mae gormod o drigolion wedi methu symud na gwerthu eu cartrefi oherwydd bod gwaith cyweirio wedi cymryd llawer rhy hir. Mae wedi achosi straen, gorbryder a chaledi go iawn. Mae angen terfynau amser y gellir eu gorfodi a goblygiadau go iawn i ddatblygwyr sy'n llusgo eu traed. Rwy'n cefnogi hynny'n llwyr, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynigion cadarn yn cael eu cyflwyno.

Dirprwy Lywydd, mae fy ngrŵp a minnau yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond fel rydym ni wedi amlinellu, mae yna feysydd sylweddol, pwysig y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd. Diolch.

18:20

Am ormod o flynyddoedd, mae'r bylchau yn ein cyfundrefn diogelwch adeiladau wedi bod yn weladwy, ac mae canlyniadau diffyg gweithredu wedi bod yn drychinebus. Datgelodd Grenfell nid yn unig fethiannau trychinebus mewn un adeilad, ond gwendidau strwythurol dwfn yn y ffordd y mae diogelwch wedi'i reoleiddio, ei fonitro a'i orfodi ledled y Deyrnas Unedig. Mae wedi cymryd llawer rhy hir i gyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr i atal trychineb o'r fath rhag digwydd eto. Mae'r oedi hwnnw wedi pwyso'n drwm ar drigolion sydd wedi byw gydag ansicrwydd, ofn a phryder ariannol.

Mae'r Bil hwn yn cynrychioli ymgais hirddisgwyliedig i roi system gliriach, fwy tryloyw a mwy atebol ar waith. Mae ei egwyddorion canolog—goruchwyliaeth gadarnach, gwell gwybodaeth a chadwyn glir o gyfrifoldeb—yn egwyddorion rydym ni'n eu cefnogi. Mae angen cyfundrefn ar Gymru sy'n sicrhau bod pob adeilad aml-feddiannaeth yn ddiogel a bod trigolion yn ffyddiog am yr amddiffyniadau sydd i fod i ddiogelu eu cartrefi.

Mae cyflwyno tri chategori adeiladau yn cydnabod nad yw pob adeilad yr un mor beryg, ac rydym ni'n croesawu dull cymesur. Mae creu personau atebol, yr edau aur o wybodaeth diogelwch adeiladau, ac asesiadau rheolaidd gan weithwyr proffesiynol cymwys i gyd yn gamau pwysig tuag at amddiffyn preswylwyr ac atal y mathau o fethiannau sydd wedi achosi cymaint o drallod mewn mannau eraill.

Fodd bynnag, fel y nododd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, rhaid ategu cefnogaeth i'r Bil gydag eglurder ynghylch y gweithlu a'r adnoddau sydd eu hangen i'w weithredu. Heb yr arolygwyr, syrfewyr, gweithwyr proffesiynol diogelwch tân a gallu gweinyddol angenrheidiol, mae'r system mewn perygl o fod yn gryf ar bapur ond yn wan yn ymarferol. Mae'n rhaid i ni ddeall yn llawn beth fydd y gyfundrefn hon yn ei ofyn gan awdurdodau lleol, gan y gwasanaethau tân, gan landlordiaid cymdeithasol a'r sector yn ei gyfanrwydd.

Rydym ni hefyd yn glir na ellir dim ond trosglwyddo costau i denantiaid a lesddeiliaid. Pwysleisiodd y pwyllgor yr angen am amddiffyniadau cyfreithiol cryf, ac rydym ni'n cefnogi'r alwad honno. Ni ddylai preswylwyr gael eu llethu â thaliadau afresymol am fethiannau nad oedden nhw wedi'u creu. Mae sicrhau tryloywder trwy'r llinyn aur i'w groesawu, ond rhaid i wybodaeth fod yn hygyrch, rhaid iddi fod yn ystyrlon ac yn wirioneddol ddefnyddiol, nid yn llethol nac yn dechnegol i'r cyhoedd i'r graddau nad oed modd ei ddefnyddio.

Rydym ni hefyd yn credu bod yn rhaid i drigolion gael llais statudol cryfach. Mae'r gofyniad am strategaeth ymgysylltu â phreswylwyr yn gadarnhaol, ond fe hoffem ni weld cydnabyddiaeth benodol o denantiaid a lesddeiliaid fel ymgynghorwyr yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ddiogelwch eu cartrefi. Yn bwysig, er bod gwella safonau ar gyfer adeiladau newydd ac adeiladau yn y dyfodol yn hanfodol, ni allwn ni anwybyddu graddfa'r problemau presennol. O'r 161 o adeiladau lle mae datblygwyr mawr yn gyfrifol am eu cyweirio, dim ond pedwar sydd wedi'u cwblhau. Nid yw'r cyflymder hwn yn dderbyniol. Mae trigolion eisoes wedi aros yn rhy hir, ac mae'n rhaid i'r Bil hwn fod yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau bod gwaith cyweirio yn cael ei wneud yn gyflym ac yn deg.

Rydym ni'n rhannu'r pryderon a godwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru. Rhaid i gyllid fod yn deg, rhaid i weithredu fod yn raddol ac yn realistig, a rhaid i'r gofynion fod yn gyson â'r arferion gorau presennol ac osgoi dyblygu diangen. Mae ein nod felly yn syml: system ddiogelwch adeiladau sy'n amddiffyn pobl, grymuso trigolion ac yn darparu'r hyder sydd wedi bod ar goll ers llawer rhy hir. Mae'r Bil hwn yn mynd â ni yn agosach at y nod hwnnw, a byddwn yn gweithio'n adeiladol i'w gryfhau. Diolch.

18:25

Mae llawer yn y Siambr wedi ein hatgoffa pam rydym ni yma heddiw. Rhaid i ni gofio'r 72 o bobl a fu farw yn nhrychineb tân Grenfell, yr ieuengaf ohonyn nhw oedd Logan Gomes, a gafodd ei eni'n farw pan gafodd ei fam ei derbyn i'r ysbyty ar ôl y tân. Dyna pam rydym ni yma heddiw. Ond mae angen inni weithredu ar fyrder ar hyn. Rydym ni'n dal yma, wyth mlynedd ar ôl Grenfell, a blynyddoedd lawer ar ôl i rai ohonom ni yn y Siambr godi'r mater hwn yn gyson. Rwy'n cefnogi egwyddorion y Bil yn llwyr. Mae angen cyfundrefn ddiogelwch flaengar arnom ni ar gyfer adeiladau aml-feddiannaeth. Ond mae hyn yn ymwneud â'r dyfodol, nid am yr argyfwng rydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae'n hwyr glas ei weithredu. Mae'r bobl sy'n byw yn yr adeiladau hynny o gwmpas fan yma yn rhwystredig iawn.

Mae lesddeiliaid diniwed yn parhau i fod yn gaeth mewn cartrefi na allan nhw eu gwerthu, yn wynebu costau na allan nhw eu talu, ac yn agored i risgiau na allan nhw eu datrys eu hunain. Yn ôl dangosfwrdd cyweirio Llywodraeth Cymru ei hun—ac mae hyn eisoes wedi'i grybwyll gan Mabon—mae gennym ni 163 o adeiladau y mae datblygwyr yn gyfrifol am eu cyweirio. Ac yna rydym ni'n clywed mai dim ond pedwar o'r adeiladau hynny sydd wedi'u cwblhau. Pedwar allan o 163.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd cyweirio yn costio lesddeiliaid, ond mae eisoes yn gwneud hynny. Mae'n costio eu hiechyd meddwl iddyn nhw. Mae'n costio eu lles emosiynol iddyn nhw. Mae grwpiau fel y Welsh Cladiators wedi dweud wrthym ni am oruchwylio sy'n costio, ar ben hynny, filoedd bob mis. Yn Abertawe, fe wyddom ni fod lesddeiliaid Altamar mor rhwystredig gyda Bellway Homes eu bod wedi cyflogi cyfreithwyr, ac yn ystyried camau cyfreithiol o dan Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, oherwydd dyna'r unig lwybr ar ôl pan fydd y Llywodraeth yn methu. Mae pobl ar ben eu tennyn. I ddyfynnu trigolion a grybwyllir yn adroddiad y pwyllgor llywodraeth leol,

'Mae ein bywydau wedi cael eu gohirio ers wyth mlynedd.'

'Roedd cytundeb y mae'r adeiladwyr hyn wedi ei lofnodi; does dim modd ei orfodi o gwbl. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau o gwbl'.

'Rhoddir esgus, derbynnir esgus; a dyna'r diwedd.'

Ac mae hynny'n parhau i fod yn ganolog i'r materion. Nid yw'r ymrwymiad gan ddatblygwyr i ddechrau gwaith o leiaf erbyn diwedd 2026 yn gyfreithiol gyfrwymol. Mae'n dibynnu ar ewyllys da y datblygwr. A beth fu canlyniad yr ewyllys da hwnnw? Pedwar adeilad wedi'i gwblhau allan o 163.

Mae yna hefyd fater allweddol arall, y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef, a hynny yw amddiffyn lesddeiliaid rhag costau annheg o dan y drefn newydd hon. Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswyddau newydd a phwysig, megis asesiadau risg tân a thystysgrifau diogelwch adeiladau. Mae'r rhain i gyd yn arwain at gostau parhaus. Mae'n hollol hanfodol nad oes raid i lesddeiliaid gario baich y drefn reoleiddio newydd hon. Dylai fod rheidrwydd ar landlordiaid i archwilio ffrydiau cyllido eraill cyn trosglwyddo'r costau hyn.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n eich annog i ddefnyddio'r broses welliannau i gryfhau'r Bil hwn, gan gynnwys dyddiadau cau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol, gan gynnwys sancsiynau, gan gynnwys amddiffyniadau cadarn, fel nad yw lesddeiliaid yn talu costau system sydd wedi'i chynllunio i'w diogelu. Rhowch y dannedd sydd eu hangen ar y ddeddfwriaeth hon i amddiffyn pobl ar hyn o bryd a dal datblygwyr i gyfrif. Oherwydd os na wnawn ni hynny, fe allem ni fod yn ôl yma mewn wyth mlynedd arall, neu, gwae ni, yn meddwl y gallai fod Grenfell arall ac y gallai fod Logan Gomes arall. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Plannodd Grenfell hedyn o ofn mewn pobl ledled Cymru, a oedd bryd hynny, a nawr, yn byw mewn adeiladau gyda phroblemau diogelwch heb eu datrys. Mae trigolion o fewn tafliad carreg o'r adeilad hwn yn byw mewn ofn bob dydd. Maen nhw wedi gwneud hynny am yr wyth mlynedd diwethaf, a fydd yn naw mlynedd cyn bo hir. Nhw yw fy etholwyr, ac fe hoffwn i ddiolch yn arbennig iddyn nhw am y dewrder maen nhw'n ei ddangos, nid yn unig wrth geisio diogelu eu cartrefi eu hunain, ond wrth weithio gyda'i gilydd ar y cyd i geisio dod â newid cadarnhaol ledled Cymru.

Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y ddyletswydd arnom ni fel Senedd i ddarparu diogelwch iddyn nhw ar 18 Medi gan Cara, sy'n lesddeiliad. Dywedodd, ac rwy'n dyfynnu:

'os gwelwch yn dda, trwsiwch y llanast hwn, nid dros bum mlynedd arall, ond nawr.'

Ie, nawr. Rwy'n cytuno, maen nhw wedi aros mor hir eisoes. Ym mis Mai 2018 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud, ac rwy'n dyfynnu,

'i ddiwygio’r system reoleiddio yn y ffordd radical, bellgyrhaeddol'.

Yna bu'n rhaid iddyn nhw aros tan 2021 ar gyfer y Papur Gwyn, a dim ond heddiw rydym ni'n trafod yr egwyddorion cyffredinol ar gyfer Bil sydd â darpariaethau y bwriedir iddyn nhw ddod i rym yn 2028. Yn fwy felly, fel y nodwyd gan Aelodau eraill, mae sefydliadau wedi codi pryder gwirioneddol am fanylder y darpar reoliadau. Gallai hyn gymhlethu ac oedi gweithredu. Mae'r gair 'rheoliadau' yn ymddangos 265 o weithiau yn y Bil. Nid dyma'r ffordd y dylem ni fod yn deddfu yma yng Nghymru, fel y mae Mike Hedges eisoes wedi nodi.

Mae angen i ni hefyd weithredu ar dystiolaeth rhanddeiliaid bod prinder sgiliau yng Nghymru a allai hefyd achosi oedi pellach. Er enghraifft, sut y gall hi fod, yn 2025, nad oes gan swyddogion iechyd yr amgylchedd unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar adeiladau uchel, dim hyfforddiant ffurfiol ar adeiladu, dim hyfforddiant ffurfiol ar faterion sy'n gysylltiedig â diogelwch tân, neu gymhlethdodau gweithio gydag adeiladau preswyl uchel? Sut y gall fod angen i ni arolygu adeiladau categori 1 a 2, a chael timau amlddisgyblaethol, gyda pheiriannydd diogelwch tân a pheiriannydd strwythurol fel rhan ohonyn nhw, pan nad oes gan yr awdurdodau lleol, na'r gwasanaethau tân ac achub y sgiliau hyn yn fewnol ar hyn o bryd, na'r adnoddau i gyflogi'r setiau sgiliau hyn?

Er fy mod i'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ceisio delio â'r mater hwn, mae'n frawychus gweld yr adborth a gafodd y pwyllgor nad oedd fawr o gyfiawnhad dros bwysau cost allweddol hyfforddiant, neu, yng ngeiriau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a alwodd y modiwl cost yn 'ychydig yn naïf'—? Naïf—dyna eu barn nhw ar fodel cost y Bil hwn. Mae hyd yn oed y Pwyllgor Cyllid wedi argymell adolygiad cynhwysfawr o'r asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, nid wyf yn gweld sut y gallwn ni gefnogi'r penderfyniad ariannol yn rhesymol heddiw. Yn y bôn, gofynnir i ni ysgrifennu siec wag—i bleidleisio dros siec wag.

Yn olaf, un o ganfyddiadau allweddol yr ymgysylltu â thrigolion oedd pryder am y baich ariannol sy'n cael ei drosglwyddo i breswylwyr. Ysgrifennydd Cabinet, allwn ni ddim dysgu o'r cap cyfraniadau lesddeiliaid sydd ganddyn nhw yn Lloegr? A wnewch chi weithio gyda mi a'r Welsh Cladiators gwych i ychwanegu darpariaethau i'r Bil hwn sy'n debyg i adrannau 116 a 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn Lloegr? Ni ddylai dioddefwyr yn Lloegr fod yn mwynhau gwell amddiffyniad na dioddefwyr yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae pwyllgor tai y Senedd wedi adleisio pryderon hirsefydlog dioddefwyr yng Nghymru, am y diffyg amserlenni a sancsiynau caled sy'n cael eu gosod ar ddatblygwyr sy'n methu â chyweirio yn ddigon cyflym.

Er y byddaf yn cefnogi'r egwyddorion cyffredinol heddiw, rwy'n bryderus iawn ein bod ar daith i greu deddfwriaeth sydd, yn gyntaf, yn or-ddibynnol ar reoleiddio a seilwaith cymhleth diangen a fydd yn dioddef o ddiffyg adnoddau a chyllid difrifol; yn ail, mae ganddo ofynion a fydd yn hynod anodd eu cyflawni; ac, yn olaf, nid yw'n cyflawni'n llawn yr hyn y mae'r rhai syn dioddef adeiladau anniogel wedi bod yn galw amdano ers bron i naw mlynedd. Diolch yn fawr. 

18:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl—Jayne Bryant. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gadewch i mi ddechrau trwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae'n amlwg i mi fod y safon uchaf o ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn cael ei rhannu ar draws pleidiau, a dyna yw ein huchelgais. Wrth gwrs, mae yna feysydd o'r Bil lle yr hoffai Aelodau weld newid, ac rwy'n agored i weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y meinciau hyn ar y newidiadau hynny. Ond mae'n amlwg i mi fod sylfeini'r Bil hwn yn gryf, mae'r uchelgais yn glir ac mae'r pwrpas yn iawn. Ac mae hon yn farn a gefnogir gan y pwyllgorau craffu a'n partneriaid, ac rwy'n eich annog i gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw. Hoffwn fynd trwy rai o'r pwyntiau a godwyd gan rai Aelodau. Dirprwy Lywydd, rwy'n gwybod na fyddaf yn gallu mynd i lawer o fanylion heddiw, ond fel y dywedais, byddwn ni'n ymateb yn fanwl i'r pwyllgorau sydd wedi nodi'r 72 o argymhellion a'r casgliadau hynny.

O ran yr adeiladau categori 3 a grybwyllwyd hefyd, dim ond i ddweud nad yw adeiladau categori 3 a thai amlfeddiannaeth yn risg isel. I'r gwrthwyneb, mae data yn dangos mewn gwirionedd gyfradd uwch o anafiadau oherwydd tân mewn tai amlfeddiannaeth ac adeiladau sy'n cael eu troi'n fflatiau, y mae bron pob un ohonyn nhw'n gategori 3, nag mewn blociau pwrpasol. Ar ben hynny, nid yw'r Bil yn gosod dyletswyddau diogelwch hollol newydd ar y safleoedd hyn, mae'n cynnwys dyletswyddau sy'n debyg i'r rhai sy'n bodoli eisoes yn y Gorchymyn diogelwch tân, ond sydd wedi'u teilwra i'r risgiau mewn adeiladau preswyl. Bydd y Gorchymyn yn parhau i fod yn gwbl berthnasol nes i'r Bil gael ei ddwyn i rym. Felly, ni fyddai gohirio cychwyn categori 3 yn cael unrhyw fudd, byddai'n golygu mai dim ond yr adeiladau â risg eithaf uchel sy'n parhau i gael eu cwmpasu gan y darpariaethau is-optimaidd yn y Gorchymyn diogelwch tân. 

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffaith nad y Bil hwn yw'r unig beth yr ydym wedi bod yn ei wneud ers y drasiedi ofnadwy yn Grenfell. Mae hyn yn rhan o'r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers hynny, ac rydym wedi bod yn gyson yn y ffordd rydym wedi mynd ati i wneud yn siŵr bod y Bil hwn yn barod i'w gyflwyno i ddelio â mwy o gyfnod meddiannaeth yr adeiladau. Ond hoffwn fynd i mewn i ychydig o fanylion, oherwydd mae nifer o Aelodau wedi codi'r agweddau pwysig iawn ynghylch cyflymder y gwaith cyweirio, nad yw'n cael ei drafod yn y Bil hwn. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn y toriad am statws y rhaglen, a byddaf yn parhau i weithio gyda swyddogion i nodi ffyrdd o ddadflocio rhwystrau a sicrhau bod gwaith cyweirio yn digwydd yn gyflymach.

Rwy'n falch bod yr holl ddatblygwyr wedi llofnodi contract Llywodraeth Cymru ac wedi cytuno i ddechrau gwaith cyweirio erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac mae swyddogion yn parhau i fonitro'r ffordd y mae'r contract yn cael ei gyflawni yn agos—byddwn i'n dweud bob dydd, bron, ond yn wythnosol—ac os na fydd y telerau y cytunwyd arnynt yn cael eu bodloni, byddwn ni'n cymryd camau i fynd i'r afael â hynny. Ond o ran diwygio'r Bil hwn i gynnwys darpariaethau i gynnwys gwaith cyweirio, terfynau amser a sancsiynau, nid yw'r mesurau hyn o fewn cwmpas y Bil hwn, ac ar ben hynny, ni fyddai diwygio'r Bil yn sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu cyflawni'n gyflymach. Mae'r datblygwyr wedi llofnodi contract sy'n ymrwymo i gyweirio'r adeiladau maen nhw'n gyfrifol amdanynt, ac ni fyddai'n briodol cynnwys terfynau amser y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol ar gyfer gwaith cyweirio yn y Bil, a thrwy hynny newid cyd-destun y rhaglen gyweirio yn sylfaenol. Fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad—

18:40

A gaf i gyfeirio at y pwynt hwnnw? Gwnaeth llawer ohonom nodi mai dim ond pedwar adeilad allan o 163 sydd wedi'u cyweirio hyd yn hyn. Mae hyn yn wirioneddol bryderus ac yn rhwystredig iawn. Dyma ni, dair neu bedair blynedd yn ddiweddarach. Felly, a gaf i ofyn am eich ymateb penodol ar sut rydych chi'n mynd i gyflymu'r gwaith i fynd i'r afael â'r—rwy'n credu bod fy mathemateg yn iawn o ran hyn—159 o adeiladau sy'n dal i aros? Diolch.

Yn bendant. Rwy'n teimlo fel rydych chi i gyd, ac fel y mae trigolion a lesddeiliaid yn ei wneud, yr awydd i weld y cyflymder hwnnw. Unwaith eto, hoffwn ddweud bod swyddogion yn gweithio'n agos iawn ar hyn. Rydych chi'n sôn am yr adeiladau sydd wedi'u cwblhau, ond mae gwaith yn mynd rhagddo ar gymaint o'r adeiladau hynny. Ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn y toriad ar statws y rhaglen gyweirio yr wyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn awyddus i'w gweld yn symud ymlaen mor gyflym â phosibl. Ond hoffwn sicrhau pawb ei fod ar flaen fy meddwl, ond nid o fewn cwmpas y Bil hwn.

O ran gweithdrefnau cymeradwyo uwch, yr wyf yn gwybod ei fod yn bwynt a wnaethpwyd gan y Cadeirydd, Mike Hedges—mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn awyddus i'w archwilio ymhellach a gallaf weld y byddai budd sylweddol o graffu ymhellach ar reoliadau a wnaed o dan adrannau 14 a 16 o'r Bil. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion roi cyngor pellach i mi ar y math o welliannau y gallwn eu cyflwyno er mwyn cyflawni'r ddau argymhelliad hyn.

Dirprwy Lywydd, gallaf weld fy mod i allan o amser, er yr hoffwn i fynd i lawer mwy o fanylion ar hynny, ond byddaf yn ymateb yn llawn i holl argymhellion y pwyllgor. Unwaith eto, diolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae hwn yn bolisi yr ydym yn poeni'n fawr amdano ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Eitem 10 heddiw yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM9080 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). A hoffwn ddiolch i'r Cadeiryddion, yr Aelodau a staff y pwyllgorau a graffodd ar y Bil hwn. Diolch hefyd i Peredur a Sam fel llefarwyr y gwrthbleidiau am eu cymorth i wneud hwn yn well Bill. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau Aelod a'u staff, gan gynnwys un â'r un cyfenw â mi, Ms Skates, am gymryd yr amser i drafod gyda mi sut allwn ni gryfhau elfennau o'r Bil. A diolch hefyd i Julie James. Sicrhaodd Julie fod y Bil hwn yn cadw at ei amserlen ac i'w wreiddiau trwy gymryd y llyw ar ôl i mi golli fy mam. Hoffwn ddiolch o galon i Julie. A hoffwn ddiolch hefyd i'r swyddogion rhagorol a thîm y Bil a aeth ati i ddatblygu a drafftio'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae pob un ohonoch wedi dangos diddordeb mawr yn y Bil bysiau ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyfraniadau i'r hyn sy'n Fil nodedig.

Rwy'n credu y bydd pasio'r Bil yn rhoi pobl yn gyntaf wrth ddylunio a darparu gwasanaethau bysiau. Bydd yn adfer twf i'r diwydiant a byddai hefyd yn helpu i greu un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn ar draws trafnidiaeth gyhoeddus. Pleidleisiwch dros y Bil hwn ac fe fydd gennym yr offer sydd eu hangen o'r diwedd i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus er gwell yng Nghymru.

Hoffwn hefyd ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â mi a chyd-Aelodau trwy'r broses hon ac sydd wedi siarad yn uniongyrchol â mi am y Bil hwn.

O'n hochr ni o'r Siambr, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) heddiw, ac, er ein bod ni'n rhannu'r awydd y tu ôl i'r Bil i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, mae'n dal i fod yn eithaf diffygiol mewn sawl maes hanfodol, a, thros y misoedd diwethaf, rydym wedi cyflwyno gwelliannau ac wedi gweithio'n drawsbleidiol, fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, i geisio gwella'r Bil. Yn anffodus, gwrthodwyd y mwyafrif o'n gwelliannau. Rwy'n cydnabod bod rhai o'n gwelliannau naill ai wedi'u derbyn neu gweithiwyd tuag atynt, ac rwy'n sicr yn ddiolchgar am y cydweithrediad hwnnw, ond, hyd yn oed gyda'r newidiadau hynny, mae'r Bil ar ei ffurf bresennol yn parhau i fod yn broblematig.

Rydym yn parhau i bryderu am y ffocws y mae'r Bil yn ei roi ar ardaloedd trefol. Mae traean o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig, ond nid oes gweledigaeth glir ar gyfer rhwydweithiau bysiau gwledig. Mae cymunedau gwledig yn wynebu heriau unigryw nad ydynt yn cael eu hwynebu mewn ardaloedd trefol: mwy o bellter rhwng trefi a phentrefi, llai o opsiynau trafnidiaeth eraill a chostau uwch ar gyfer darparu gwasanaethau. Mae yna risg y bydd meddylfryd trefol-ganolog yn gadael trigolion gwledig wedi'u hynysu, gan gyfyngu ar fynediad at ofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae yna risg hefyd y bydd yn cael effaith niweidiol ar economïau gwledig lleol wrth i fusnesau ei chael hi'n anodd denu gweithwyr a gwasanaethu cwsmeriaid heb y cysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy hynny. Yn y bôn, fodd bynnag, credwn na fyddai'r model masnachfreinio ei hun yn gweithio yng Nghymru. Yn wahanol i gytrefiadau trefol y mae'n seiliedig arnynt, gyda dwysedd poblogaeth uchel, gwyddom fod Cymru yn ddaearyddol amrywiol, gyda llawer o gymunedau gwledig a threfi bach. Mae yna risg y bydd masnachfreinio yn creu system un maint i bawb sy'n rhy anhyblyg i ymateb i anghenion lleol, ac a allai wthio rhai o'r gweithredwyr llai sy'n adnabod eu cymunedau orau allan.

Mater arall nad ymdriniwyd ag ef yn briodol yn ein barn ni yw hygyrchedd. Mae teithio ar fws yn achubiaeth i bobl ag anableddau, yn enwedig y rheini, fel yr ydym wedi clywed, sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol yng Nghymru, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r RNIB am weithio'n agos gyda mi ar y Bil hwn, gan dynnu sylw at y materion y maent yn pryderu amdanynt.

Yng Nghyfnod 3, fe wnaethon ni gefnogi gwelliannau Rhys ab Owen, a fyddai wedi gofyn am addysg a hyfforddiant i staff mewn perthynas ag anabledd, wedi sicrhau bod gwybodaeth i deithwyr ar gael mewn fformatau hygyrch ac wedi cynnwys safonau hygyrchedd mewn amodau cytundebol a thrwyddedau. Yn anffodus, ni chafodd y gwelliannau hyn gefnogaeth y Senedd hon. Nid yw hygyrchedd yn rhywbeth sy'n braf i'w gael; mae'n hanfodol ar gyfer annibyniaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Roedd y Bil hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i greu rhwydwaith bysiau sy'n gweithio i bawb. O ganlyniad i'r ffaith nad yw'r gwelliannau hyn wedi mynd drwodd, nid yw'r Bil yn cynnwys unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol cryf i sicrhau bod hygyrchedd yn ganolog i'r Bil hwn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n teimlo bod llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn cael eu rhuthro drwy'r lle hwn ar hyn o bryd, heb ganiatáu digon o amser i graffu'n briodol arnynt. Er nad yw hyn, efallai, yn gwbl wir o ran y ddeddfwriaeth benodol hon, rwy'n credu nad yw rhai manylion pwysig wedi cael eu hystyried yn briodol. Rydym yn gwybod bod bysiau yn offeryn hanfodol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, cysylltedd gwledig a thwf economaidd, ond mae'r holl nodau hyn yn cael eu tanseilio os yw gweithredwyr llai yn cael eu heithrio, cymunedau gwledig yn cael eu hanwybyddu a realiti gweithredol yn cael ei anwybyddu. Am y rhesymau hyn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn. Diolch.

18:45

Diolch i'r Cabinet Secretary am osod hwnna mas. Dwi'n siarad ar ran Peredur, sydd wedi ein hebrwng ni drwy'r Mesur hwn fel plaid, a diolch iddo am ei waith.

Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw i ddiolch hefyd i'r holl randdeiliaid am eu gwaith nhw, eu gwaith caled a'u cydweithio i helpu siapio'r Bil hwn. Mae Plaid Cymru erioed wedi pwysleisio'r angen am rwydwaith bysiau sydd yn hygyrch, sydd yn fforddiadwy ac sydd wedi'i integreiddio. Mae ein gwaith yn ystod y broses hon wedi adlewyrchu'r egwyddorion hynny, ac rydym yn falch mi fydd nifer o'r gwelliannau rydyn ni wedi'u gosod bellach yn rhan o'r fframwaith masnach.

Un gwelliant allweddol oedd cynnwys teithwyr dysgwyr yn y Bil wrth gynllunio rhwydwaith bysiau. Ni ddylai teithio i'r ysgol neu'r coleg fod yn fater o lwc; mae e'n hawl sylfaenol. Rydym yn falch o gael cydweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod addysg, felly, yn cael ei chydnabod fel blaenoriaeth ar wyneb y Bil. Mae hyn yn creu dyletswydd i ystyried mynediad at addysg, gan gynnwys addysg uwch, wrth gynllunio rhwydweithiau bysiau. Mae hyn yn gosod Cymru ar y blaen hefyd o'i chymharu â Lloegr. Mae'n hollbwysig bod ein rhwydwaith yn cynnwys mannau megis ysgolion, prifysgolion, colegau, ysbytai a chartrefi gofal, gan sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd gwasanaethau hanfodol yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i rwydweithiau bysiau sydd yn gweithio i bawb.

Nawr, yr ail bwynt buaswn i'n hoffi ei bwysleisio yw prydlondeb gwasanaethau. Ar hyn o bryd, nid oes mecanwaith clir i fonitro neu adrodd ar brydlondeb, er mai dibynadwyedd yw’r ffactor mwyaf dylanwadol ar benderfyniad pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ai peidio. Dŷn ni wedi galw am fonitro statudol, gyda data cyson a thryloyw ar gael i deithwyr, gweithredwyr ac awdurdodau lleol. Heb hyn, ni ellir dwyn y system i gyfrif na sicrhau gwellhad gwirioneddol.

Yn y pen draw, mae prydlondeb yn fater o ymddiriedaeth. Os ydym ni am i bobl symud oddi wrth eu ceir preifat, rhaid dangos y bydd gwasanaethau’n cyrraedd pan addawyd. Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am rwydwaith modern, teg a dibynadwy sy’n gweithio i Gymru gyfan. Ac oedd, roedd yna fwy o wahaniaethau, mwy o welliannau bydden ni wedi eisiau eu gweld, mwy o symud ar hygyrchedd bysiau, ond dŷn ni yn gweld beth mae'r Llywodraeth wedi ei wneud, dŷn ni'n ddiolchgar am eu parodrwydd i gario ymlaen i edrych ar hyn, a byddwn ni'n parhau i bwyso am fwy o newid yma.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch eto i Peredur am ei waith, i Mari Jones yn swyddfa'r Blaid am ei gwaith hi ar y Mesur, a dŷn ni yn clodfori beth mae'r Mesur yma yn ceisio ei wneud. Felly, diolch yn fawr iawn.

18:50

Mae'r Bil hwn yn fesur hanfodol i wneud gwell defnydd o arian trethdalwyr. Mae'n rhoi'r pwerau i ni wneud llawer gwell gwerth allan o gostau a manteision y buddsoddiad hwnnw. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni ddarparu bysiau ysgol arbennig i gludo disgyblion ysgol uwchradd o'r cymunedau y maen nhw'n cael eu codi ohonynt, oherwydd does dim bws cyhoeddus i fynd â nhw yno. Yn lle hynny, mae grwpiau cystadleuol o ddarparwyr bysiau cyhoeddus a phreifat yn cystadlu am y llwybrau mwyaf proffidiol, gan adael dinasyddion eraill heb gar preifat gyda gwasanaeth sydd mor denau, mor anfynych, fel ei fod yn cyfyngu'n ddifrifol ar eu gallu i fynd i'r gwaith, i gael hyfforddiant, i siopa, i gymdeithasu ac i fynychu digwyddiadau diwylliannol.

Fe ddysgais i'n ddiweddar ei bod wedi costio bron cymaint i Gaerdydd gludo plant ag anghenion dysgu ychwanegol y llynedd ag y mae'n ei wneud i'w haddysgu—£11.1 miliwn o gymharu ag £11.3 miliwn. Rwy'n edrych ymlaen at ymchwilio ymhellach i weld faint mae'n ei gostio i ddarparu'r bysiau hyn i fynd i ysgolion uwchradd arferol, lle gallai pawb fod yn rhannu'r bws at ddibenion eraill, nid yn unig ar gyfer y plant, a chymharu hynny â gwir gost yr addysg rydym yn buddsoddi ynddi ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ni gael system fwy rhesymol ac enillion mwy rhesymol ar fuddsoddiad cyhoeddus.

Diolch am adael i mi siarad. Fe wnes i gyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Senedd tua phedair blynedd yn ôl, ychydig cyn i mi ddod yn Aelod o'r Senedd, a oedd yn dweud, 'Bysiau i bobl nid er elw'. Rwyf wir yn croesawu'r Bil hwn yn cael ei basio heddiw—gobeithio. Ar y pryd, roedd yna fysiau a oedd yn gweithredu yn yr ardaloedd mwy trefol yn unig, lle'r oedd y prisiau proffidiol. Er mwyn eu cael nhw i fynd i'r ardaloedd mwy gwledig, roedd yn rhaid iddyn nhw gael cymhorthdal mawr iawn. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw, gan y bydd llwybrau yn cael eu cynllunio'n iawn. Felly, rwy'n gwrthod yr hyn sydd wedi'i ddweud gan lefarydd y Ceidwadwyr. 

Hefyd, fe glywais i fod llefarydd ar ran gweithredwyr bysiau a choetsys bach wedi bod yn hapus iawn gyda'r trafodaethau maen nhw wedi'u cael gyda Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi lleddfu unrhyw bryderon oedd ganddyn nhw hefyd. Wrth i ni fynd drwy'r broses graffu yn y pwyllgor, mae llawer o'r materion hyn wedi'u codi ac wedi cael sylw, ac rwy'n croesawu'r broses honno, yn gweithio gyda'r Llywodraeth, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil hwn wedi'i gyflwyno. Rydym wedi aros yn hir amdano, felly diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i symud i'r bleidlais.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps—[Torri ar draws.]

Rwy'n gobeithio bod pawb wedi mewngofnodi. Ydych chi eisiau cymryd pleidlais lafar, neu ydych chi eisiau gweld a yw'n gweithio? 

Reit. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Sarah Murphy, eitem 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, dau yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

18:55

Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tybaco a Fêps.: O blaid: 36, Yn erbyn: 9, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 10, Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, dau yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 10. Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).: O blaid: 34, Yn erbyn: 10, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.