Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/09/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Teyrngedau i Hefin David AS

Prynhawn da. Mae dychwelyd heddiw i’r Senedd mor chwerwfelys. Mi rydym yn dychwelyd yn 59 Aelod, ac mi rydyn ni i gyd heddiw ac am yn hir i ddod yn mynd i deimlo colled ein ffrind annwyl Hefin David. Mae nifer o deulu a ffrindiau Hefin yn ein plith yn yr oriel. Diolch i chi am ddod atom i rannu yn ein cyfarfod cofio. Ac mi rydym yn meddwl yn enwedig am ferched a rhieni annwyl Hefin yn eu colled, ond hefyd am Vikki, ein cydweithiwr a phartner Hefin.

Diolch, Vikki, am ymuno â ni heddiw. Mae'n ddrwg iawn gennym ni am eich colled, ac rydym ni eisiau i chi wybod pa mor annwyl oedd Hefin i ni. Roedd yn cael ei barchu a'i hoffi ar draws y Siambr hon. Nid oes llawer o ddealltwriaeth y tu allan i'r Senedd hon o 60 pa mor dda rydym ni'n adnabod ein gilydd, pa mor agos rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws pleidiau, ar draws pob rhan o Gymru. Rydym ni'n treulio cymaint o amser gyda'n gilydd ein bod ni'n dod i adnabod ein gilydd yn dda. Felly, mae'r ymdeimlad o golled yn yr ystafell hon heddiw, yn y Senedd hon, yn ddwys. 

Yn bersonol, gweithiais yn agos gyda Hefin ar ôl iddo ddod yn un o gomisiynwyr y Senedd hon. Roedd yn deall ei gyfrifoldeb fel comisiynydd cyllid gyda'r fath broffesiynoldeb a diwydrwydd a dawn. Mae llywio cyllideb drwy'r Senedd yn llawn anhawster. Mae gan bob un ohonoch chi yn yr ystafell hon farn wahanol ar le ddylid gwario arian a lle na ddylid. Cymerodd Hefin gymaint o ofal wrth wrando ar eich safbwyntiau, gan dderbyn rhai, a rhoi atebion clir pan nad oedd yn cytuno. Fe wnaeth ei ddull argraff fawr arnaf i, a byddaf yn teimlo colled ar ôl fy nghomisiynydd.

Roedd ei gyfraniadau yn y Senedd hon bob amser yn haeddu gwrandawiad. Hyrwyddodd lawer o faterion pwysig, yn aml ar ran y rhai na allen nhw hyrwyddo eu hunain. Fe wnaeth hefyd hyrwyddo ei annwyl Gaerffili. Hyrwyddodd y Blaid Lafur, Cymru a'i Senedd. Rwy'n amau nad oedd yr un tro pan oedd ei enw i lawr i siarad mewn dadl na fyddwn i wedi ei alw. Fel Llywydd ers dros naw mlynedd, mae'n anodd methu â bod wedi datblygu ffefrynnau yn eich plith. [Chwerthin.] Roedd Hefin yn un o'm ffefrynnau. Nid ffefryn athrawes—ymhell o hynny—ond diddorol, heriol, meddylgar, angerddol, ac annisgwyl yn ei eiriau a'i syniadau. Ac roedd yn defnyddio mwy o Gymraeg wrth i amser fynd heibio.

Mi oedd ei ymdrechion i ddefnyddio'r Gymraeg yn bwysig iawn i Hefin, yn y Siambr yma ac mewn cyfweliadau ar y cyfryngau.

Gyda thristwch mawr heddiw, felly, dwi’n gofyn i’r Senedd i godi nawr i gofio am ein cyfaill annwyl Hefin David.  

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

Diolch i bawb.

I arwain ein teyrngedau, arweinydd y Blaid Lafur a'r Prif Weinidog, Eluned Morgan. 

Mae rhai pobl yn gadael marc yn dawel, ac mae eraill yn ei adael yn groch. Gwnaeth Hefin y ddau. Gadawodd farc ar bawb a oedd yn ei adnabod, drwy ei chwerthin, ei ddeallusrwydd, ei egni diderfyn, a'i allu rhyfeddol i hidio. Heddiw, rydym ni'n dod at ein gilydd i gofio ffrind, cydweithiwr, tad, partner, a bod dynol gwirioneddol ryfeddol.

Fe wnes i gwrdd â Hefin David am y tro cyntaf mewn darlithfa, lle'r oedd yn ei anterth, yn mynd trwy ei bethau fel academydd. Ac o fewn munudau, meddyliais, 'Iawn, nid yw'r un yma yn mynd i aros yn yr ystafell ddosbarth; gwleidyddiaeth yw ei dynged bendant'. A do, fe wnes i bwyso arno i sefyll. Roedd rhywbeth amdano—ei ddeallusrwydd, ei egni, ei rwyddineb â phobl, ei hiwmor. Roedd ganddo'r fflach brin honno a oedd yn eich tynnu chi i mewn ac yn gwneud i chi eisiau bod o'i gwmpas. Cyn y Senedd, gwnaeth Hefin ei farc yn y byd academaidd, yn gweithio ym mhedwar ban byd. Ac, fel aelod balch o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, roedd yn deall bod addysg wych yn golygu llawer mwy nag ysbrydoli myfyrwyr unigol yn unig.

Dechreuodd ymrwymiad Hefin i'r Blaid Lafur yn ei arddegau, gan ddilyn yn ôl troed ei dad. Roedd ei waith ar ran y gymuned wedi'i wreiddio mewn argyhoeddiad gwirioneddol yn hytrach nag uchelgais gwleidyddol. Daeth yn gynghorydd i'r union gymuned lle cafodd ei eni, gan ymroi i'r lle a oedd wedi ei ffurfio, ymhell cyn iddo erioed freuddwydio am wasanaethu fel Aelod o'r Senedd. Roedd y cyfuniad prin hwnnw o bersbectif byd-eang ac ymrwymiad lleol dwfn yn disgleirio ym mhopeth a wnaeth. Nid yn ei syniadau yn unig oedd ei wir ddisgleirdeb, roedd yn y ffordd yr oedd yn uniaethu â phobl. Roedd yn wleidydd talentog, â dawn gyfathrebu ryfeddol, cysylltydd naturiol, rhywun a oedd â ffordd ddilys o wneud i bwy bynnag yr oedd yn siarad ag ef deimlo fel mai ef oedd y person pwysicaf ar yr eiliad honno—dawn sy'n dod o'r galon.

Ym mis Mai 2016, fe wnaethom ni gyrraedd y Senedd gyda'n gilydd, â wynebau ffres, yn llawn egni a brwdfrydedd. Rwy'n cofio'r ddau ohonom ni'n ceisio llywio'r ddrysfa o goridorau a phwyllgorau a rheolau diddiwedd. Byddai Hefin, gyda'i wên ddireidus honno, bob amser yn dweud, 'Dewch, rydym ni'n mynd i newid y byd, ond mae angen i ni ddarganfod sut i gael allan o'r lifftiau bondigrybwyll yma'. Roedd yn hyrwyddo achosion yr oedd yn credu ynddyn nhw'n angerddol, gan eirioli'n ddiflino dros gymunedau'r Cymoedd. Nid oedd Hefin yn gweld polisi yn unig, roedd yn gweld teuluoedd yn gaeth, parau yn sownd a phensiynwyr yn dioddef baich. Roedd yn gwneud eu brwydr nhw yn frwydr ei hun. Ysgrifennodd adroddiadau ar drawsnewidiadau cyflogaeth, a sicrhaodd fuddugoliaethau ymarferol fel bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor. Daeth ei waith ar ddiwygio lesddaliadau, ar ddysgwyr ag anghenion ychwanegol o ddealltwriaeth ddofn bod plentyn, teulu, dyfodol sy'n haeddu ein hymdrechion gorau y tu ôl i bob ystadegyn. Fel Comisiynydd y Senedd, fe wnaeth ymdrin â phenderfyniadau gyda meddylgarwch a phersbectif hirdymor, gan ddeall nad stiwardiaid o arian cyhoeddus yn unig ydym ni, ond o ymddiriedaeth y cyhoedd.

Ond, yn gyntaf oll, ffynhonnell ei ofal a'i ymrwymiad oedd ei gartref. Roedd calon Hefin ar ei lawn gyda'i deulu. Roedd yn dad ffydlon, a byddai ei wyneb yn goleuo pryd bynnag y byddai'n sôn am Caitlin a Holly, ei falchder a'i lawenydd. Pob llwyddiant, pob carreg filltir, pob peth bach doniol yr oedden nhw'n ei ddweud, roedd eisiau eu rhannu â ni gan nad oedd modd cyfyngu ei gariad tuag atyn nhw. Roedd yn dad mor cŵl a hwyliog. Pan anwyd Holly, prynais ddilledyn babygro ffasiynol Tŷ'r Arglwyddi iddi, ac roedd gwên Hefin yn dweud y cyfan. Roedd eisoes yn ei dychmygu yn rhoi amser caled i Weinidogion o'r blwch dogfennau. Roedd popeth a wnaeth yn y Senedd yn cael ei lywio gan eu dyfodol nhw. Roedd eisiau gwneud y byd yn lle tecach, mwy caredig, mwy cefnogol nid yn unig iddyn nhw, ond i'r holl blant a theuluoedd sy'n llywio teithiau tebyg. Ni wnaf i fyth anghofio'r wynebau llygadrwth hynny wedi'u pwyso yn erbyn y gwydr yn yr oriel gyhoeddus, yn gwylio wrth i mi dyngu llw fel Prif Weinidog am y tro cyntaf. Ac fe allech chi ei weld ef eisiau iddyn nhw ddeall, i gael eu hysbrydoli, i gael cipolwg ar yr hyn a oedd yn bosibl i'w dyfodol eu hunain. Roedd bob amser yn cymryd yr achlysur mwyaf ffurfiol ac yn ei ddefnyddio i'w helpu nhw a phobl eraill i deimlo'n ddynol ac yn wresog.

Hefin, wrth gwrs, oedd ein gŵr blaenllaw a'n seren ddisglair ar Sharp End. O'i wylio ar y sgrin, gallech weld yr hyn yr oeddem ni i gyd yn ei wybod: roedd yn eithriadol. Roedd ganddo'r gallu prin hwnnw i wneud i drafodaethau gwleidyddol deimlo'n hygyrch ac yn ddifyr. Byddaf yn gweld colled mawr ar ôl ei ôl-drafodaethau mewn negeseuon testun ar ôl y sioe. Yn ddi-ffael, byddai fy ffôn yn pingio gyda dadansoddiad hynod ddoniol o sut roedd hi wedi mynd. Roeddem ni i gyd yn gwybod bod ganddo'r ddawn ddireidus honno i dynnu coesau pobl, ond nid oedd ei hiwmor byth yn grintachlyd. Roedd yn bont, yn torri drwy'r sŵn at y pethau a oedd yn wirioneddol bwysig. Roedd wir yn feistr am wneud i bobl chwerthin, ac eto o dan yr holl ffraethineb a direidi hynny, roedd calon a oedd yn caru'n ffyrnig a dyn â dyfnder cymhleth. Pan oedd pethau'n troi'n danbaid, pan oedd rhaniadau yn ymddangos yn amhosibl eu croesi, byddai Hefin yn dod o hyd i'r eiliad honno a'r chwerthin cyffredin hwnnw a oedd yn atgoffa pawb ein bod ni ar yr un ochr mewn gwirionedd, i gyd yn ceisio gwneud y gorau dros y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu.

Ond os oeddech chi wir eisiau gweld y galon honno ar ei llawnaf, y cwbl oedd angen i chi ei wneud oedd gwylio Hefin gyda'i bartner a'n ffrind da Vikki, sydd wedi ymuno â ni mor ddewr heddiw. Roeddem ni mor hapus o weld eich perthynas yn blodeuo dros y blynyddoedd, ein Posh a Becks ein hunain ym myd y blaid Lafur. Roedd y ffordd y byddai llygaid Hefin yn goleuo pryd bynnag y byddai'n siarad amdanoch chi, y balchder yr oedd yn ei deimlo yn y bywyd a'r bartneriaeth y gwnaethoch chi eu hadeiliadu gyda'ch gilydd yn ddigamsyniol.

Roedd gan Hefin gariad mawr hefyd at ei ffrindiau a'i gefnogwyr—tîm Caerffili—y mae llawer ohonyn nhw yma heddiw, a wnaeth helpu i adeiladu sylfaen ar gyfer ei wasanaeth cyhoeddus. Y ffrindiau a gerddodd wrth ei ochr ac a helpodd i lunio'r etifeddiaeth o ofal, ymrwymiad a chymuned y mae'n ei gadael ar ei ôl.

Heddiw, rydym ni'n rhannu nid yn unig colled cydweithiwr a ffrind anhygoel, ond hefyd y tristwch dwys o golli rhywun a oedd yn caru mor ddwfn—cariad a oedd yn ymestyn allan, gan lunio'r ffordd yr oedd yn gwasanaethu ei gymuned bob dydd. Diolch, Hefin, am ddangos i ni sut i wneud y gwaith hwn gyda chalon, gyda hiwmor a chyda gobaith. Ceir cariad tuag atoch a hiraeth ar eich hôl, ac mae'r byd yn dywyllach hebddoch chi ac yn fwy disglair o gael eich adnabod. Gorffwys mewn heddwch, ffrind. Ni fyddwch chi byth yn cael eich anghofio.

13:40

Mae'n fraint gallu sefyll yma a thalu teyrnged i Hefin. Roedd y newyddion am farwolaeth Hefin ac yntau mor ifanc yn sioc fawr i bob un ohonom ni yn y Siambr hon. Mae mam a thad Hefin, ei ddwy ferch, ei deulu a'i ffrindiau wedi bod yn flaenllaw yn ein meddyliau a'n gweddïau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac felly hefyd, wrth gwrs, Vikki, ein ffrind annwyl a'n cydweithiwr yma yn y Senedd. Ni allaf ddychmygu poen eu colled, ond rwyf i eisiau iddyn nhw i gyd wybod hyn: rydym ni'n poeni amdanoch chi ac rydym ni'n eich caru.

Mae'n anodd rhoi mewn geiriau y sioc o golli cydweithiwr mor sydyn. Roedd llawer ohonom yma yn y Senedd wedi adnabod Hefin, wrth gwrs, ers bron i ddegawd. Ac mae'n dod ag atgofion anodd o golledion eraill yn ôl. Welwch chi, roedd Hefin yn gynifer o bethau i gynifer o bobl. Roedd yn fab, tad, brawd, partner a ffrind cariadus. Roedd yn bennaeth gofalgar, wrth gwrs, i'w staff. Roedd yn gydweithiwr annwyl i gynifer ohonom ni ar draws y Siambr gyfan ym mhob plaid wleidyddol. Roedd yn eiriolwr diflino ar ran ei etholwyr yng Nghaerffili, ac yn ymgyrchydd angerddol, oedd, dros bobl ag anghenion dysgu ychwanegol, COVID hir, lesddeiliaid—ac mae'r rhestr yn parhau. Roedd wir yn academydd talentog, yn dynnwr coes ar gyfryngau cymdeithasol, fel yr oeddem ni'n darganfod yn aml ar ein traul. Ac, wrth gwrs, roedd yn niwsans i Lywodraeth Cymru ar sawl achlysur, rhywbeth yr ydym ni wrth ein boddau o'i weld o'r meinciau hyn—ond byth yn ddigon o niwsans i bleidleisio ar ein hochr ni, sef, wrth gwrs, yr hyn yr oeddem ni'n aml yn gobeithio amdano. Roedd yn gyson ffasiynol, bob amser yn ei wasgod. Ac roedd yn ddadleuwr a pherfformiwr cyfryngau hyderus iawn a galluog iawn. Ac roedd ganddo'r ddawn honno o allu dadlau gyda chynhesrwydd a hiwmor, ac i anghytuno yn dda dros ben heb i gwympo allan â chi, a oedd bob amser yn niwsans, oherwydd weithiau rydym ni'n hoffi mynd yn ddig ac yn angerddol gyda'n gilydd, ond roedd yn anodd iawn cwympo allan ag ef.

Ac er ei fod yn deithiwr profiadol, ar ôl cael profiad o addysgu a gweithio mewn mannau fel yr Almaen, Gwlad Groeg, India a Tsieina, roedd ei galon bob amser yn ei gymuned yng Nghaerffili, y man lle cafodd ei eni a'i fagu, lle y gwnaeth ei wasanaethu am flynyddoedd lawer, wrth gwrs, yn gyntaf fel cynghorydd lleol ac yna fel Aelod o'r Senedd dros Gaerffili o 2016 ymlaen.

Yn ystod cyfnod Hefin yma yn y Senedd, roeddwn i'n ddigon ffodus o gael gweithio ag ef ar nifer o faterion. Roedd Hefin a minnau yn rhannu angerdd at ein lluoedd arfog yma yng Nghymru ac, wrth gwrs, roedd yn gyflogwr balch o filwr wrth gefn i'r RAF, Michelle Lewis. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni noddi nifer o ddigwyddiadau lluoedd arfog ac fe wnaethom ni gydweithio i sicrhau gwell cydnabyddiaeth i filwyr wrth gefn sy'n gweithio yn Senedd Cymru gan Gomisiwn y Senedd. Fe wnaethom hefyd dreulio amser yn gwasanaethu gyda'n gilydd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd ddiwethaf, lle gwnaeth ei arbenigedd ym maes addysg a'i annibyniaeth meddwl wir ddisgleirio. A dweud y gwir, fe wnaeth fy helpu i gael trwy lawer o gyfarfodydd hir a diflas, gallaf ddweud wrthych, gyda'i synnwyr digrifwch a allai ysgafnhau'r cyfarfodydd hir iawn hynny. Roedd yn gwybod sut i wneud i ni chwerthin.

Un o'r pethau a wnaeth fy nharo i pan oeddwn i yn angladd Hefin oedd y sgyrsiau hynny a gefais gydag etholwyr unigol—nad oedd mwyafrif y bobl yno yn eu hadnabod, dim ond aelodau o'r cyhoedd—a ddaeth i dalu eu teyrnged i ŵr sydd, fel eu cynrychiolydd etholedig, wedi gweithio'n ddiflino drostyn nhw ac wedi mynd y tu hwnt i'w gyfrifoldebau i helpu i ddatrys eu problemau unigol yr oedden nhw wedi dod â nhw i'w gymhorthfa neu wedi eu codi gydag ef mewn gohebiaeth. Fe wnaeth wahaniaeth yn eu bywydau, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth yn ein bywydau ninnau hefyd. Hoffwn fynegi fy niolch personol am y gwahaniaeth a wnaeth yn fy mywyd i a bywyd fy Senedd. Byddwn yn hiraethu'n fawr ar ei ôl ac, wrth gwrs, byddwn yn cofio Wynne a Christine, Holly, Caitlin, Siân, Vikki yn enwedig, a'i holl anwyliaid yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Diolch.

13:45

Ar ran pawb ym Mhlaid Cymru, dwi'n estyn ein cydymdeimlad diffuant heddiw i Vikki ac i deulu, anwyliaid a chyfeillion Hefin. Mi wnaeth y newyddion trasig hwnnw yn ystod toriad yr haf ein hysgwyd ni i gyd yn wirioneddol, a dwi'n gwybod y bydd colli Hefin yn cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai oedd yn ei garu ac yn ei adnabod o orau. 

Rydym ni'n cofio Hefin fel seneddwr angerddol ac ymroddedig. Roedd, mewn sawl ffordd, yn bopeth y dylai aelod etholedig ei fod: eiriolwr brwd dros ei etholwyr, ymgyrchydd ymroddedig dros y di-lais, a meddyliwr rhydd, yn sicr byth byth yn ofni lleisio ei farn.

Dywedir yn aml bod ymgyrchu yn wahanol iawn i lywodraethu, ond anaml y cydnabyddir mai sefyll yn gadarn â phobl eraill a siarad drostyn nhw yw'r hyn sy'n ysgogi newid mewn gwirionedd. Trwy ei brofiadau personol ei hun, fe wnaeth Hefin dynnu mwy o sylw at driniaeth annheg o bobl awtistig yn arbennig, profiad byw a ddenodd nid yn unig gefnogaeth drawsbleidiol ond clust y Llywodraeth hefyd. Mae'n etifeddiaeth y bydd yn cael ei gofio amdani ac yn fater y mae'n rhaid i ni i gyd ei fabwysiadu er anrhydedd iddo.

Fe wnes i, fe wnaethom ni, ymryson â Hefin sawl gwaith. Gyda ffraethineb craff, byddai bob amser yn rhoi cystal ag y byddai'n ei gael, yn ddigon i'ch gwylltio weithiau, ond gan greu argraff drwy wneud hynny. Ac oedd, roedd wrth ei fodd â'i ymddangosiadau ar Sharp End yn hwyr yn y nos, pan oedd, gellid dadlau, ar ei fwyaf craff. Roedd gennym ni wahanol safbwyntiau ar lawer o faterion, ac fe wnaethom ni eu trafod nhw ar y rhaglen honno ac yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, ond, wrth gwrs, fe ddaethom ni at ein gilydd lle wnaethom ni ddod o hyd i dir cyffredin.

Gweithiais yn agos gyda Hefin ar y grŵp trawsbleidiol ar waed halogedig. Fe wnaethom ni gyd-gadeirio'r grŵp covid hir. Roedd yn bleser gweithio gydag ef, a phrofiad pob un ohonom ni, rwy'n gwybod, yw bod parch bob amser, hyd yn oed mewn amseroedd o anghytundeb, gan grynhoi union natur yr hyn y dylai democratiaeth aeddfed a sifil ei fod. Roedd hynny'n bwysig i Hefin.

Nid yn unig y gwnaeth ef gyfoethogi ein dadleuon ond hefyd gwaith yr union sefydliad hwn fel Comisiynydd. Gwn ei fod yn amddiffynnwr brwd o'r Senedd hon, a oedd yn golygu cymaint iddo, gan weithio'n ddiwyd yn y cefndir i hyrwyddo'r sefydliad hwn gyda chyfrwystra gwirioneddol.

Heddiw, rydym ni i gyd yn cofio eiddilwch bywyd. Allwn ni ddim ond dychmygu'r galar a'r tristwch a deimlir gan anwyliaid, gan deulu a ffrindiau, ond rydym ni'n gobeithio y bydd gwasanaeth Hefin i'w gymuned a'i gyfraniadau sylweddol at ein hymgom fel cenedl yn dod â rhywfaint o gysur i chi yn ystod y cyfnod mwyaf anodd hwn. Heddwch iti, Hefin. 

13:50

Roedd paratoi ar gyfer heddiw hyd yn oed yn anoddach nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl. Doeddwn i ddim eisiau eistedd i lawr i ysgrifennu sylwadau, ac yna sylweddolais fod yn rhaid i mi. Roedd yn anoddach, mewn sawl ffordd, na'r hyn a ddywedais yn yr amlosgfa. Meddyliais am y gwahanol rannau o fywyd Hefin yr oeddwn i'n rhan ohonyn nhw a'r rhai nad oeddwn, a'r bwlch sydd wedi cael ei adael.

Roedd gwleidyddiaeth, wrth gwrs, yn rhan fawr o fywyd Hefin, ac roedd ei fywyd yn llywio ei agwedd at wasanaeth cyhoeddus, y materion yr oedd yn eu hyrwyddo a'r gwelliannau a geisiodd yn ei etholaeth a'i wlad. Ac rydym ni wedi clywed am rai o'r rheini eisoes. Ond newidiodd safbwynt Hefin o'r byd nid yn unig pan ddaeth yn rhiant, ond cyn hynny, pan ddaeth Siân yn rhiant ac y daeth ef yn ewythr. Newidiodd ei safbwynt ar y rhagolygon o'r hyn y gallech chi ei wneud fel rhiant.

Fel y mae llawer ohonom ni'n ei wybod, nid yw bod yn rhiant bob amser yn hawdd. Ceir yr holl bobl hynny sy'n dweud wrthych chi am fwynhau eich cwsg a'r holl wahanol heriau y byddwch chi'n eu hwynebu, ac yna pan fydd yn digwydd, rydych chi'n sylweddoli nad oedden nhw'n dweud celwydd wrthych chi. Ond hefyd, gall fod y wobr fwyaf anhygoel, ac roedd Hefin wrth ei fodd yn bod yn rhiant. Fel y mae cynifer ohonom ni'n ei wybod, pan fyddai'n cael y cyfle, byddai'n siarad am ei deulu—a hyd yn oed pan nad oedd, byddai'n dal i wneud hynny.

Fe wnaeth bod yn rhiant lywio ei farn ar nifer o'r heriau yr oedd yn eu hyrwyddo, gan gynnwys y rhai rydym ni wedi eu clywed, i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd yn bersbectif a gymerodd i mewn i'r gwaith hwnnw ac ym mwy o'r heriau yr ymgymerodd â nhw ar ran y gymuned anabledd dysgu hefyd. Nid oedd yn meddwl am ei deulu ei hun yn unig na hyd yn oed y gefnogaeth yr oedd yn ei gael yn lleol gan y grŵp Sparrows, a mwy; gofynnodd gwestiynau ac roedd eisiau gwneud gwahaniaeth gan ei fod yn edrych ar heddiw a'r dyfodol hefyd. Dyna pam nad oedd yn siarad am y blynyddoedd cynnar yn unig. Canolbwyntiodd ar gymorth cyflogadwyedd a hyfforddiant swyddi, fel yr ydym ni i gyd wedi ei glywed, oherwydd ei ddiddordeb yn y dyfodol i'w blentyn ef ac i blant eraill fel ei blant ef, a'r rhai nad yw byth yn mynd i'w hadnabod; y canlyniadau tymor hwy i bobl a'r gymuned.

Roedd yn falch, wrth gwrs, o'i gefndir academaidd a'i ddoethuriaeth. Roeddwn i'n mwynhau erioed cyfeirio ato fel 'Dr David' yn y pwyllgor neu yn y Siambr, ond nid oedd erioed yn ymffrostgar amdano. Dylanwadodd ei gefndir ym maes ymchwil a'r byd academaidd ar ei agwedd at bolisi ac arferion, at wneud gwahaniaeth, oherwydd roedd bob amser eisiau bod yn wleidydd ymarferol i wneud gwahaniaeth gyda phobl ac ar gyfer pobl. Dyna pam roedd hi mor bwysig pan oedd yn siarad. Ac roedd y ffaith ei fod yn siarad mor agored am ei heriau ei hun yn golygu bod rhieni, nid yn unig yn ei gymuned ef ond ledled y wlad, a allai uniaethu â'r bywyd yr oedd yn ei ddisgrifio a pham ei fod yn meddwl ei fod yn bwysig. Roedd yn bwysig i'r bobl rydym ni'n eu gwasanaethu, ond hefyd i'r ffordd ewyllys da yr oedd yn ymgysylltu â phobl mewn pleidiau eraill. Ac mae'n braf clywed hynny eisoes wedi'i fynegi heddiw hefyd.

Gellid gweld hynny hefyd yn y ffordd yr aeth i'r afael â nifer o heriau, o gyfraith Owain i siâp yr economi i'r materion yr oedd eisiau mynd i'r afael â nhw a gweld Cymru yn gwella. Roedd ganddo lawer mwy i'w roi o'r gwaith yr oedd eisoes wedi ei wneud: y gwaith a wnaeth ar sgiliau a phrentisiaethau—adroddiad sy'n dal i ddylanwadu ar ddull Llywodraeth Cymru; y gwaith sydd bron wedi'i gwblhau ar fanteisio i'r eithaf ar y metro ar draws y Cymoedd. Roedd hwn yn rhywun a oedd yn bwysig ac a fydd yn dal i fod yn bwysig yn y lle hwn a thu hwnt. Ac roedd wir yn mwynhau bod yn Gomisiynydd. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y Llywydd yn sôn am hynny yn ei sylwadau ei hun.

Roedd teulu Hefin, ac maen nhw wrth gwrs, yn adnabyddus yn lleol, â'r ddau riant yn gynghorwyr ac yn athrawon, â'i dad yn bennaeth, felly mae'n rhaid ei bod wedi bod yn anodd pan oedd pobl bob amser yn gwybod pwy oedd eich rhieni a beth allech chi ac na allech chi ddianc ag ef. Rwyf i wedi cael y cyfle i dreulio mwy o amser gyda'i rieni yn ddiweddar, ac mae hynny wedi bod yn anodd, ond mae hefyd wedi bod yn ffynhonnell o gysur, ac, yn rheolaidd, o chwerthin. Mae straeon difyr am Hefin bob amser. 

Roedd cystadleuaeth o fewn y teulu hefyd, gan fod Hefin a Wynne yn gydweithwyr ward ar y cyngor. Dylwn nodi bod Hefin wedi cymryd cyfran o bleidlais bersonol Wynne, ond roedd yn dal i fod saith pleidlais ar ôl y tro diwethaf iddyn nhw sefyll gyda'i gilydd. Rwy'n siŵr nad oedd gan hynny unrhyw beth i'w wneud, fodd bynnag, â'r digwyddiad a rannwyd gan Wayne David yn yr amlosgfa o'r adeg pan oedd Wynne yn cael ei gydio'n gorfforol gan aelod o'r cyhoedd mewn ffordd nad oedd yn gyfeillgar iawn, a dewisodd Hefin ei ffilmio ar gyfer cyfryngau cymdeithasol yn hytrach nag ymyrryd. Dylwn nodi, fodd bynnag, bod eu cydweithwyr ward eraill wedi canfod yn sydyn bod ganddyn nhw rywbeth pwysig iawn i'w wneud yn y car. Felly, mewn gwirionedd, roedd Hefin yn dal i fod wrth law pe bai pethau'n mynd allan o reolaeth.

Fel rydym ni wedi clywed, roedd Hefin wrth ei fodd â'r cyfryngau cymdeithasol. Rwyf i wedi cael fy atgoffa'n rheolaidd am faint yr oedd yn mwynhau Facebook Live, ond hefyd yn ystod y pandemig pan geisiodd fy mherswadio i fynd arno'n rheolaidd ac fe wnes i nodi bod gen i bethau eraill i'w gwneud. Ond roedd yn defnyddio hwnnw fel arf gwirioneddol nid yn unig i ddarlledu negeseuon ond i gyfathrebu ac i wrando. Atgoffwyd Hefin hefyd y gall cyfryngau cymdeithasol eich cael chi i mewn i drafferthion o bryd i'w gilydd. Ond roedd yn cario hynny gydag ewyllys da, ac un o'r pethau yr oedd yn ei wneud oedd ei fod yn barod i ymddiheuro pan oedd yn meddwl ei fod yn anghywir. Roedd yn barod i gydnabod bod adegau pan fo angen i chi ddweud bod yn ddrwg gennych chi i gynnal ewyllys da a gras da. Ac roedd gras da yn rhan o Hefin, nid yn unig oherwydd ei fod yn unigolyn trwsiadus. Rwyf i wrth fy modd clywed hynny'n cael ei gydnabod ar draws y Siambr hefyd. Nid yw'n nodwedd y mae pob Aelod sydd wedi mynychu'r lle hwn wedi ei rhannu.

Fe wnes i, fodd bynnag, yn ystod fy sgyrsiau am fwy o'i fywyd, ddarganfod datguddiad gwirioneddol syfrdanol. Mae'n Farf Cymru gweithredol, ond roedd yn lliwio ei farf—nid arian, fel sydd gen i, ond coch nad oedd eisiau ei ddangos. Nid oedd yn meddwl y byddai'n cyd-fynd â'i wallt. Ac eto, mewn gwirionedd, mae'r holl wahanol rannau hynny o'i fywyd yn dangos nad dim ond un peth sydd am rywun. Ceir y difyrrwch yna, y caredigrwydd hwnnw. Ac rwyf i wedi cael fy nharo gan y straeon y mae pobl wedi eu hadrodd o fewn a'r tu allan i'r Siambr hon am y gwahanol bethau a wnaeth, o'i garedigrwydd gwirioneddol tuag at wrthwynebwyr yn ogystal â chydweithwyr, at etholwyr ac eraill.

Nid yw hynny bob amser yn cael ei gydnabod pan fyddwn ni'n edrych ar wleidyddion, pan fyddwn ni'n edrych ar pam mae pobl yn gwneud pethau a pham rydym ni'n gwasanaethu, pam rydym ni'n goddef pethau, pam rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth. Nid yw pob un ohonom ni bob amser yn garedig, ond llwyddodd Hefin i gytuno ac anghytuno â phobl. Llwyddodd i wneud hynny gan ei fod yn deall na allwch chi sefyll i fyny dros yr hyn yr ydych chi'n credu ynddo a chytuno â phawb arall drwy'r amser. Ac roedd hynny'n golygu gwneud y ddadl nad oedd bob amser yn boblogaidd—nad oedd bob amser yn boblogaidd gydag Aelodau'r wrthblaid nac, yn wir, Gweinidogion, pan oedd yn rhoi ei farn onest am faterion y dydd.

Yr hyn nad oedd yn ei wneud, fodd bynnag, oedd chwilio am wrthdaro a rhaniad yn fwriadol at eu diben eu hunain. Roedd yn ddiffuant, pa un a oedd yn flin neu'n fodlon, ac yn ei weithredoedd o garedigrwydd preifat. Roedd yn deyrngar i Lafur Cymru, ond nid oedd yn ofn lleisio ei farn o fewn ac, o bryd i'w gilydd, y tu allan i gyfarfodydd grŵp. Yn sicr, roedd ganddo droadau ymadrodd i wneud ei bwynt, fel y gwelsom yn rheolaidd yn y Siambr, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ei ymddangosiadau rheolaidd ar Sharp End.

Rwyf wedi mynegi hyn o'r blaen, ond roedd Hefin yn gyfathrebwr talentog—un i un, yn y Siambr, o lwyfan, o flaen y cyfryngau. Nid yw pob un ohonom ni sydd eisiau bod yn gynrychiolydd cyhoeddus yn gyfforddus gyda'r cyfathrebu hwnnw fel yr oedd ef. Yn fwy na gwaith, sgwrs reolaidd gyda Rob Osborne a'r cyfle i wneud gwahaniaeth i Gymru a pharch trawsbleidiol yn y Senedd, daeth o hyd i ffrindiau y rhannodd ran o'i fywyd â nhw. Ac rwy'n wirioneddol ffodus i fod yn un o'r rheini—i wybod ac i ddeall nid yn unig ei synnwyr digrifwch, ond faint yr oedd yn poeni am gynifer ohonom ni.

Ac, wrth gwrs, fe'i harweiniodd i ddod o hyd i Vikki Howells, er i mi ddarganfod bod gan Hefin broblem gyda Vikki pan wnaethon nhw gyfarfod gyntaf, gan fod Vikki yn arfer bod yn athrawes ac roedd pobl yn ei hysgol a oedd yn deall ei bod hi'n mynd i sefyll mewn etholiad. Roedd Hefin yn curo ar ddrysau yn y gymuned ac fe wnaethon nhw ddweud, 'Na, rydym ni'n pleidleisio dros y fenyw arall, y fenyw yma o'r enw Vikki, sy'n sefyll dros y Blaid Lafur.' Ac felly pan wnaeth ef gyfarfod â hi am y tro cyntaf, dywedodd, 'Beth sy'n digwydd?' Ffordd ddoniol, a chyflwyniad doniol, ond cydnabyddiaeth o'ch bywyd cyn gwleidyddiaeth sy'n parhau. Daeth dod o hyd i Vikki fel partner, fodd bynnag, drwy'r Senedd hon. Rwy'n cofio, pan ddaethon nhw'n bâr, pa mor hapus oedd ef a pha mor rheolaidd roedd yn dweud wrthyf i pa mor hapus oedd ef—ychydig gormod weithiau. [Chwerthin.] Ond yr amser hwnnw, gyda'i gilydd, yr cyfnodau da a gwael o fod yn bartneriaeth, a'r tro diwethaf i mi eu gweld nhw, allech chi ddim dymuno gweld darlun gwell o bartneriaeth a hapusrwydd.

Ni all yr un ohonom ni wybod popeth ym mywyd rhywun arall. Rydym ni i gyd wedi rhannu faint o feddwl oedd ganddo o'i deulu a'i gymuned a'r Senedd hon. Roedd yn ddeallus, yn ddoniol ac yn uchel ei barch ar draws ein Senedd. Er ei fod yn gadael bwlch na fydd yn hawdd ei lenwi, i mi, ni fydd ei gadair byth yn wag. Byddaf yn dal i'w weld ynddi, waeth pwy sydd â'r fraint o wasanaethu ei gymuned. Fe wnaeth wahaniaeth i'n gwlad a'n bywydau, ac rydym ni i gyd yn well ein byd o'i herwydd. Hwyl fawr, ffrind.

14:00

Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu, i Vikki, ei blant, ei chwaer a'i gŵr, ei nith a'i nai, ei holl deulu a'i ffrindiau a'i gymuned y hwn eu bod nhw gyda ni yma heddiw. I'r Prif Weinidog a'ch tîm yma yn y Senedd, estynnaf ein tristwch dwysaf i chi am eich colled.

Rwy'n gwybod bod llawer o bethau y gallwn i siarad amdanyn nhw. Dim ond ers pedair blynedd yr oeddwn i wedi adnabod Hefin, ond canolbwyntiais ar dri pheth: ei dosturi, ei ymrwymiad a'i fod yn canolbwyntio ar Gaerffili. Ei dosturi: roedd yn ymroddedig i'w waith, yn enwedig, fel yr ydym ni wedi ei glywed, o ran plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd yn siarad am ei ferch gyda chariad a thosturi, ac roedd hynny'n disgleirio bob tro y soniodd amdani. Roedd ei dosturi hefyd yn ymestyn i bobl ifanc eraill ag anableddau dysgu. Roedd mor amlwg mewn cynifer o ffyrdd. Rwy'n cofio panel yr oedd Sioned, James, Hefin a minnau arno, ac roedd gan Hefin y gallu gwirioneddol eglur yma i estyn allan at y rhai yn y gynulleidfa, gydag ymdeimlad dwfn o ddealltwriaeth o bobl a oedd mewn trafferthion. Nid oedd unrhyw amheuaeth byth am dosturi Hefin tuag at achosion yr oedd yn credu ynddyn nhw. Roedd ei dosturi at y pethau yr oedd yn credu ynddyn nhw yn symud 100 mya.

Roedd yn canolbwyntio ar Gaerffili. Roedd yn amlwg bod Hefin eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl yng Nghaerffili yn cael eu clywed, nid yn unig yn y Siambr, ond mewn mannau eraill hefyd. Rwy'n cofio bod mewn cyfarfod bord gron gyda Hefin tua dwy flynedd yn ôl gyda phreswylydd a oedd wedi cael ei ymosod yn drasig gan gi, a hwylusodd y preswylydd hwnnw i allu siarad amdano. Ond hefyd, roedd Hefin, yn bwysicach fyth, eisiau cynnig atebion. Cysylltais â ffrindiau yng Nghaerffili cyn hyn, a dyma ddywedodd un ohonyn nhw: 'Pryd bynnag y siaradais i â Hefin, roedd yn ŵr bonheddig llwyr, ac er nad oeddem ni'n rhannu'r un safbwyntiau gwleidyddol, roedd yn fy nhrin i gydag anogaeth a pharch, gan ymddwyn gydag urddas bob amser.' Yn ogystal ag ymgyrchu ar faterion a oedd yn agos at ei galon, fel mynediad at addysg a chefnogaeth i'r rhai ag anghenion addysgol arbennig, byddai'n defnyddio ei ddylanwad i wneud newidiadau bach. Fel rydym ni wedi clywed, un o'r rhai a oedd yn wirioneddol effeithiol oedd diwygio llwybr bws Rhif 50, fel y gallai pobl yng Nghaerffili fynd i Ysbyty Brenhinol Gwent. Ac o ran rasio milgwn, ei bwyslais eglur, fel y gwyddom, oedd sicrhau nad oedd yr un trac olaf yng Nghaerffili yn cael ei adael yn segur ond y gallai fod o fudd i'w drigolion. Mae Caerffili wedi colli llais cryf yn Hefin.

Yn olaf, ei ymrwymiad: nid oedd unrhyw beth am Hefin a oedd yn ddifater. Roedd yn dangos ei deimladau. Roedd ei ymrwymiad a'i edmygedd tuag atoch chi, Vikki, yn amlwg i ni i gyd. Rwy'n cofio un achlysur pan oeddem ni'n eistedd ar y rhes gefn yn yr hen Siambr, ac edrychais drosodd atoch chi yn siarad, Vikki, ac yna at Hefin, a oedd yn edrych arnoch chi. Roedd yn edrych arnoch chi gyda chariad ac edmygedd. Roedd Hefin yn golegol, yn gydweithredol ac yn gyd-gynllwynydd ar adegau hefyd. [Chwerthin.] Un atgof sydd gen i ohono oedd, eto, pan oeddem ni'n eistedd yn yr hen Siambr, ac roeddwn i'n eistedd wrth ei ymyl yn yr eil, ac weithiau roedd fel bod nesaf at rywun mewn neuadd arholiadau, oherwydd byddai'n siarad ac yn gwneud sylwadau i mi pan oeddem ni i fod i wrando. Ac fel Aelod newydd o'r Senedd, roeddwn i'n meddwl, 'Rydym ni'n mynd i fynd i drafferth yma.' Roeddwn i'n argyhoeddedig ein bod ni'n mynd i gael ein dal allan, ond parhau wnaeth Hefin. Rwy'n cofio bod adeg pan soniodd Buffy wrthyf i—dywedodd, yn yr hen Siambr, roedd ganddi Alun Davies ar un ochr a Hefin ar y llall, a'i sylw oedd, 'Pa obaith sydd gen i?' [Chwerthin.]

Trwsiadus, cwrtais, yn gwrando a bob amser yn barod i gefnogi. Dyma'r hyn y byddaf i'n ei gofio am Hefin. Ac fe wnaf i orffen gyda hyn: pan gyrhaeddais y Senedd fel unig Aelod, pan ganiatawyd i ni ddychwelyd ar ôl COVID, daeth Hefin ataf a dywedodd, 'Rwy'n falch iawn eich bod chi yma. Rwy'n falch iawn, Jane, bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol gynrychiolaeth yma.' Roedd Hefin yn lluosogaethwr, rhywun a oedd yn gweld cryfderau ac agweddau cadarnhaol y Senedd hon, yn cydweithio, yn gwrando ac yn cyflawni pethau fel grŵp unedig, ac rydym ni'n gwybod bod angen hynny nawr yn fwy nag erioed. Felly, gadewch i hynny fod ein cysegriad i Hefin: i gydweithio, i wrando, i gyflawni fel un grŵp unedig. Diolch yn fawr, Hefin. Byddwn yn hiraethu ar eich ôl.

14:05

Yn dilyn marwolaeth ein ffrind a'n cydweithiwr, Hefin, mae'n rhaid i bob un ohonom ni feddwl am y math o ddyn oedd ef. Mae'n rhaid i ni feddwl am Vikki a'r teulu a adawodd ar ôl, yr oedd yn ei garu gymaint. Bu llawer iawn o alar, a hynny'n briodol, ac mae'r golled yn cael ei rhannu ar draws y Siambr gyfan hon. Mae'r golled honno wedi cael ei rhannu gyda'i etholwyr, yr achosion yr ymgyrchodd drostyn nhw, a'r byd ehangach iddo ei gyffwrdd. Roedd ganddo hiwmor anhygoel, argyhoeddiad anhygoel ac egni diderfyn. Byddai'n anfon neges ataf i, ymhlith pobl eraill, y peth cyntaf, efallai, yn y bore, ac yn bendant y peth olaf gyda'r nos, gan ei fod wedi cofio rhywbeth a'i fod eisiau ei rannu, a byddai eisiau ei rannu yn y foment iddo ei gofio. Roedd hynny'n ddoniol ar adegau. Byddwn yn diolch iddo am ei negeseuon, yn diolch iddo am fy neffro, boed hynny'n fy neffro i'n gynnar yn y bore neu'n fy neffro i o gwsg gyda'r nos. Rwy'n credu mai dyna pam roeddem ni'n ei garu. Rwy'n cofio un o'r negeseuon hynny a gefais i—rwy'n credu ei fod tua saith neu hanner wedi saith y bore—ac roedd yn rhoi lifft i mi y noson honno, fel yr oedd wedi ei wneud sawl gwaith, i gyhoeddi ei fod wedi glanhau'r car, a, 'Na, Joyce, fydd ddim rhaid i chi godi'r losin oddi ar y sedd cyn i chi eistedd i lawr na symud y sbwriel o'r neilltu, gan fy mod i wedi ei sortio.' Dyna, mewn gwirionedd, pwy oedd e. 'Roedd yn ddiymhongar' yw'r hyn rwy'n ceisio ei ddweud. Ac, wrth gwrs, roedd ei blant yn golygu popeth iddo, a brwydrodd fel llew i ddod â'r profiad hwnnw a oedd ganddo, yr oedd yn ei fyw, i'r byd cyhoeddus, ond i wneud yn siŵr bod pob plentyn, pwy bynnag yr oedd, yn cael y gorau posibl o ran anghenion dysgu ychwanegol, gofal a chefnogaeth. A dyna'r atgof, rwy'n credu, y bydd gennym ni i gyd, ac nad yw'r cymunedau hynny y siaradodd drostyn nhw yn cael eu hanghofio. Dylem ni wneud hynny er ei fwyn ef, ac yn sicr dylem ni ei wneud er eu mwyn nhw.

Rydym ni'n gwybod bod ei daith wedi dod i ben yn llawer rhy fuan, ond mae'n rhaid i'w etifeddiaeth barhau, mae'n rhaid iddo ein tywys, ac mae'n rhaid i ni wneud yn iawn ag ef. Rwy'n mynd i gofio Hefin o'r llun a anfonodd ataf o'i blant ac yntau'n gwenu a chwerthin, a dyna'r darlun y byddaf i'n mynd gyda mi wrth i mi symud ymlaen.

14:10

Fel cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i dalu teyrnged i'n cydweithiwr, ein ffrind, Hefin David. Roedd Hefin, yn anad dim, yn seneddwr rhagorol. Gweithiodd yn ddiflino ar draws llinellau plaid, bob amser wedi'i arwain gan egwyddor a chan y bobl yr oedd yn eu cynrychioli. Roedd ganddo ddawn wirioneddol o roi llais, nid yn unig i'w etholwyr ei hun yng Nghaerffili, yr oedd yn poeni amdanyn nhw mor ddwys, ond i bobl o bob cwr o Gymru ar y materion a oedd fwyaf pwysig iddo.

Cefais y fraint o wasanaethu ochr yn ochr â Hefin ar bwyllgor. Fel Aelod newydd, roeddwn i'n ddiolchgar am ei diymhongarwch a'i anogaeth. Creodd le i mi daflu fy hun i mewn i'r materion yr oeddwn i'n angerddol amdanyn nhw, fel amaethyddiaeth. Ond ar yr un pryd, roedd Hefin ar ei anterth wrth graffu ar bolisi sgiliau, prentisiaethau a mynediad at waith. Roedd ei wybodaeth, ei ddiwydrwydd a'i dosturi bob amser yn disgleirio.

Fe wnaeth y ddau ohonom ni ymddangos ar bennod olaf Sharp End cyn toriad yr haf, a rhoddwyd cyfle i Hefin hyd yn oed gyflwyno eitem, rhywbeth yr oedd bob amser wedi dweud yr hoffai y gallai ei wneud o adegau pan oeddem ni wedi bod ar y rhaglen o'r blaen. Yn wir, mewn bywyd arall, rwy'n siŵr y byddai wedi gwneud cyflwynydd teledu ardderchog. Cystal un oedd Hefin iddo anfon neges destun ataf i, ar ôl y bennod honno, tua diwrnod yn ddiweddarach, i ddweud faint yr oedd wedi mwynhau bod ar Sharp End gyda fi a Llyr. Dymunodd yn dda i mi ar gyfer y Sioe Frenhinol, gan ei galw'n fy fersiwn i o Glastonbury, a dywedodd pa mor gynhyrfus yr oedd am fynd ar wyliau i Benidorm. Roeddwn i mor ddiolchgar y byddai'n anfon neges destun ataf yn annisgwyl fy mod i hyd yn oed wedi dangos y neges honno i fy mam, ac atebodd hi, 'Ie, mae'n edrych fel bod y ddau ohonoch chi'n cyd-dynnu'n dda.'

Pan gefais fy ethol gyntaf, ni wnaf i fyth anghofio gwylio Hefin yn siarad yn y Siambr heb yr un nodyn o'i flaen. Rwy'n cofio meddwl i mi fy hun, 'Hoffwn i pe bawn i'n debycach i Hefin.' Ac efallai mai dyna yw ei etifeddiaeth. Yn ei sgiliau seneddol, yn y parch a enillodd o bob cornel o'r Siambr hon, ac yn y ffordd yr ymdriniodd â'r fraint enfawr hon o gynrychioli pobl Cymru, gosododd esiampl. Felly, efallai y gallwn ni i gyd ei anrhydeddu orau trwy ymdrechu, pob un yn ein ffordd ein hunain, i fod ychydig yn debycach i Hefin. Diolch.

Roedd Hefin a minnau yn cynrychioli gwahanol bleidiau yn y Senedd hon, ond roeddem ni'n rhannu ardal Caerffili. Fe wnaethon ni weithio gyda'n gilydd ar lawer o faterion, a byddaf yn teimlo hiraeth ar ei ôl. Un o'r nifer o bethau yr oedd gennym ni'n gyffredin oedd ein cariad at gwm Rhymni. Cawsom ein geni yn ysbyty glowyr Caerffili, tua 10 mlynedd ar wahân, ac er i mi gael fy magu yn Ystrad Mynach, cafodd Hefin ei fagu i fyny'r ffordd ym Mhenpedairheol. Aeth y ddau ohonom ni i'r ysgol ym Margoed. Aeth ef i Heolddu a minnau i Gwm Rhymni. Drwy gydol ein bywydau, mae ein llwybrau wedi cwrdd a chroesi dros drefi a phentrefi'r cwm yr oedd y ddau ohonom ni'n ei garu.

Roedd y cyfweliad gwleidyddol cyntaf a roddais ochr yn ochr â Hefin yn 2016, ar Sharp End. Roedd y ddau ohonom ni'n ymgeiswyr ar gyfer y Senedd y flwyddyn honno, ac roedd mor garedig tuag ataf i ar ôl y cyfweliad, gan obeithio y byddai'r ddau ohonom ni'n cael ein hethol. A phan wnes i ddod i'r Senedd ar ôl i ni golli Steffan yn 2019, Hefin oedd un o'r cyntaf i'm croesawu. Roedd fy nghyfweliad gwleidyddol diweddaraf, ychydig wythnosau yn unig yn ôl, hefyd ochr yn ochr â Hefin, ar raglen Politics Wales olaf tymor yr haf. Yn yr egwyl cyn i ni fynd ar yr awyr, roedd Hefin wedi bod yn dangos lluniau i mi o'i ferched yn chwarae mewn pwll padlo yr oedd yn falch iawn ei fod wedi eu prynu iddyn nhw. Roedd hi yng nghanol ton wres. Roedd yn ymhyfrydu yn ei ferched bob amser. Roedd bron pob sgwrs a gefais gydag ef yn cynnwys Caitlin a Holly.

A do, dros y blynyddoedd, bu gennym ni wahanol safbwyntiau ar wahanol faterion, ond hyd yn oed pan oeddem ni'n anghytuno ar unrhyw fater, yn aml y tu allan i'r Siambr, byddem ni'n cwrdd i drafod sut y gallem ni geisio pontio'r gwahaniaethau hynny, i ddod o hyd i ffordd drwodd. Rwy'n gwybod bod Peredur a chynifer o bobl eraill yn ein plith wedi canfod hynny hefyd. Yn 2019, pan gefais fy newis i ymladd sedd Caerffili dros Blaid Cymru, anfonais neges at Hefin yn esbonio beth oedd wedi digwydd ac yn gobeithio y byddai rhai materion lle byddem ni'n dal i ymgyrchu gyda'n gilydd, gan obeithio y byddem ni'n dal i gyd-dynnu fel yr oeddem ni wedi ei wneud erioed. Anfonodd yr ateb mwyaf hyfryd ataf, yn fy llongyfarch ac yn dweud, 'Ie, ni allwch chi ddim gadael i wleidyddiaeth amharu ar gyfeillgarwch.'

Bydd fy atgof mwyaf cadarn o Hefin, fodd bynnag, o ychydig fisoedd cyn i ni ei golli, pan aeth y ddau ohonom ni i weithdy a oedd yn cael ei gynnal mewn neuadd gymunedol leol. Roedd grŵp llesiant yn arddangos rhai o'r technegau y bydden nhw'n eu defnyddio yn eu dosbarthiadau newydd, ac roeddem ni wedi cael ein gwahodd i roi cynnig arnyn nhw. Felly, fe wnaethom ni roi cynnig ar ymarferion anadlu, myfyrdod, ac yna fe'n gwahoddwyd i gerdded o gwmpas yr ystafell yn chwerthin yn fwriadol. Nawr, i ddechrau, roedd pawb yn betrus, ychydig yn hunan-ymwybodol. Roedden nhw'n ceisio gorfodi'r chwerthiniadau i ddod allan. Roedd yn lletchwith braidd. Ond yna newidiodd yn sydyn, ac yn fuan roedd pawb yn yr ystafell yn chwerthin mwy nag y gallem ni ei reoli. Po fwyaf yr oeddech chi'n gweld rhywun arall yn chwerthin, pa mor rhyfedd—rhyfeddol hyd yn oed—yr oedd yn ymddangos, y mwyaf yr oeddech chi eich hun yn chwerthin. Daeth yn chwerthin gwyllt, anorfod, yn atseinio o gwmpas corneli'r neuadd gymunedol honno. Gwelais Hefin wedyn, ac fe wnaethom ni stopio, wynebu ein gilydd, y ddau ohonom ni'n pwyntio ac yn chwerthin ar y llall. Yn fuan, roeddem ni yn ein dyblau, ein dwylo ar freichiau ein gilydd, yn chwerthin cymaint bod ein hochrau yn brifo, ein llygaid yn dyfrio, yn gwingo, bron mewn poen, yn chwerthin fel na fyddai'r chwerthin byth yn stopio. Mawredd, hoffwn i ni chwerthin fel yna eto. A dyna fydd fy atgof o Hefin, y ddelwedd y byddaf i'n ceisio ei chadw gyda mi.

Mae'n ddrwg iawn gen i ein bod ni wedi eich colli chi, Hefin, ond yn y Senedd hon, ac ar draws ein cwm, bydd hiraeth ar eich ô, ac rwy'n dymuno heddwch i chi, heddwch perffaith.

14:15

Pryd bynnag y byddwn ni'n cwrdd â rhywun yn ein bywyd, cyn i ni siarad hyd yn oed, fe fyddwn ni'n chwilio am awgrymiadau. Fe fyddwn ni'n edrych am arwyddion bod gan yr unigolyn hwnnw ddwy rinwedd allweddol, ac mae'r cyfan yn ymwneud ag esblygiad. Fe fyddwn ni'n chwilio am arwyddion heb ddefnyddio geiriau ei fod yn garedig ac yn alluog, ac mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn ni'n ystyried pobl sy'n cael eu hethol i wasanaethu. Roedd gan Hefin ddigonedd o'r ddau. Roedd yn esiampl o ddeheurwydd. Roedd yn ymgorfforiad o garedigrwydd. Roedd yn deall teimladau ei etholwyr yn wirioneddol, roedd yn cydnabod ac yn derbyn eu rhwystredigaethau, roedd ganddo gydymdeimlad a oedd yn cyfeirio'r ffordd yr arferai ein herio ni ynddi hi yn y Llywodraeth i ddarparu gwasanaethau gwell, cymdeithas well a thecach, ac, efallai yn anad dim arall, ynglŷn â'r angen i estyn cyfle i bawb yn ddiwahân, yn hen ac ifanc, trwy gydol eu bywydau.

Fe hoffwn i ddiolch i Gomisiwn y Senedd hefyd am y gofal, y cydymdeimlad a'r parch a ddangoswyd i deulu, ffrindiau, a staff Hefin a'r Aelodau. Roedd Hefin yn hynod falch o fod yn Gomisiynydd y Senedd. Fe wn i pa mor galed y gweithiodd yn y swydd a sut roedd honno'n rhoi pwrpas iddo. Roedd yn gofyn am ei ddyfnder ef, ei egni ef, mewn ffordd gadarnhaol iawn.

Nid oedd yn freintiedig. Nid oedd yn fawreddog mewn unrhyw ffordd o gwbl. Fe gredai ef, efallai yn fwy na neb arall yn y Siambr hon, yng ngallu addysg a sgiliau i newid cwrs bywyd unigolyn er gwell. Ac fe gafodd ei addysg yn yr un ffordd ag y mae pawb yng Nghaerffili yn ei chael, ac fe wnaeth yn ardderchog. Fe ddaeth i'r amlwg yn oleuedig, angerddol, llawn pwrpas, chwilfrydig ac yn awyddus i fynd ymlaen i ddysgu trwy gydol gweddill ei oes.

Yn gynnar yng nghyfnod Oes Fictoria, fe gyflwynodd Charles Dickens ni i ddau blentyn truenus o dan fantell ysbryd y Nadolig presennol. Roedden nhw'n cynrychioli anghyfiawnder cymdeithasol, gwreiddiau ymraniad a dirywiad cymdeithasol. Merch oedd un, a'i henw oedd Want. Bachgen oedd y llall; enw hwnnw oedd Ignorance. Roedd hwnnw'n cael ei gyfleu fel un a oedd yn arbennig o beryglus i'r byd, ac ymladd yn erbyn y bygythiadau deuol hynny o drachwant ac anwybodaeth yw'r peth a oedd yn ysgogi Hefin yn ei yrfa—anwybodaeth yn arbennig felly, sy'n bresenoldeb truenus yn ein cymdeithas ni hyd heddiw. Rwy'n credu y dylem ni sicrhau y bydd etifeddiaeth Hefin yn un sy'n grymuso pobl i ffynnu, i annog addysg a dealltwriaeth, i geisio bod yn wylaidd yn hytrach nag yn rhagfarnllyd, a rhoi gwasanaethu yn hytrach na cheisio cael ein gwasanaethu.

Roedd Hefin yn eiriolwr rhagorol dros fetro de Cymru. Fe wnaethom ni siarad am y tro olaf fis diwethaf yn unig am y gwaith yr oedd ef yn ei arwain i wneud y mwyaf o fanteision buddsoddiad yn y metro. Roedd ei argymhellion ef—yn y camau cynnar, serch hynny—yn athrylithgar, ac fe fydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau. Bydd ei argymhellion ef yn cael eu gweithredu, ac mae Trafnidiaeth Cymru, yr oedd cynrychiolaeth mor dda yn angladd Hefin, yn ystyried enwi trên ar ôl ein cyfaill a'n cydweithiwr ni. Fe fydd yr enw yn air mwys—'Hefin's Gate' efallai, 'Knocking on Hefin's Door', neu y gorau oll, 'David yn trechu Goliath', gan y byddai bob amser yn ceisio trechu'r anghenfil echrydus hwnnw sef angen ac anwybodaeth.

14:20

Roedd Hefin yn ffrind i mi. Nid ffrind tywydd teg oedd ef; roedd yn ffrind i mi pan oedd gwir angen un arna' i. Roedd yn deyrngar. Fe allai ef fod yn anhygoel o garedig. Pan oedd pethau ar fin torri, fe fyddai neges destun oddi wrth Hefin yn codi'r ysbryd bob amser, ac ni wnaf fyth anghofio hynny. Ar ôl gweld rhai dadleuon tanllyd yn y cyfryngau cymdeithasol rhwng Hefin ac actifyddion Plaid Cymru cyn etholiad, a dweud y lleiaf, roedd rhai amheuon gennyf i am yr Hefin David yma. Ond roedd fy mrawd yn bendant y byddwn i'n hoffi Hefin, ac roedd yn iawn. Fe fues i'n ddigon ffodus i dreulio oriau o amser gydag ef yn gymdeithasol, dros gwpanaid o goffi neu beint. Fe wnaethom ni siarad am bob peth, y digrif, y dwys a phopeth rhwng y ddau. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi gwenu, ysgwyd fy mhen, wedi crio a chwerthin yn uchel wrth gofio am ein sgyrsiau ni.

Mae eraill wedi sôn ei fod yn hoffi gwisgo yn drwsiadus—siwt dridarn yn y Senedd—ac rwyf innau'n gwisgo gwasgod amdanaf i roi teyrnged iddo ef heddiw. Roedd yn siaradwr angerddol; yn wahanol i'r gweddill ohonom, nid oedd Hefin yn ddarllenydd sgriptiau. Fe allai ei gyfraniadau ein taro ni weithiau, fe fydden nhw'n gwneud i ni chwerthin yn aml, ond roedden nhw'n llawn consýrn am eraill bob amser.

Nawr, fe allwn ni i gyd gytuno ein bod ni'n byw mewn cyfnod rhyfedd. Roedd Hefin yn Lafurwr i'r carn, ond nid oedd yn cael ei ddallu gan wleidyddiaeth y pleidiau. Roedd ganddo fewnwelediad diddorol bob amser. Mae angen gwleidyddion fel Hefin David ar y Senedd hon a'n cymunedau ni, un a oedd yn caru etholaeth Caerffili, un a oedd yn eirioli dros y rhai y mae'r byd yn anghofio amdanyn nhw'n aml, ac un a geisiodd weld y gorau yn eraill, nid y gwaethaf. Fe fydda' i'n gweld ei golli, ac mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda Vikki, ei rieni annwyl, i Caitlin a Holly, a'i chwaer Siân. Fel Hefin, mae gen innau ddwy ferch ifanc, ac ni fyddai'n rhaid i mi, nac eraill ohonoch chi yma, fod yn ei gwmni am sbel hir cyn iddo ddangos lluniau neu fideos o Caitlin a Holly, neu siarad amdanyn nhw. Fe gefais i'r anrhydedd o weld Hefin gyda Caitlin a Holly. Roedd yn dad ardderchog, tad cariadus. Roedd yn falch ohonyn nhw, ac fe fydd y cariad hwnnw'n parhau trwy'r blynyddoedd.

Diolch, gyfaill. Rwyt ti yma o hyd, yn dy waith, trwy dy ferched, ac ein calonnau ni oll.

Roeddwn i'n dymuno mynegi fy nhristwch ar goedd heddiw oherwydd y ffaith fy mod i wedi colli'r Aelod yr wyf i wedi gweithio yn fwyaf agos ag ef ar draws y pleidiau, yn ôl pob tebyg, ers i mi gael fy ethol. Mae hwnnw'n brofiad newydd a rhyfedd, wrth gael eich ethol, sef dysgu sut i weithio gydag Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill, wrth ddod o'r ymgyrch danbaid, lwythol honno sy'n eich cario chi yno yn y lle cyntaf, ac mae hi'n bwysig dysgu pam mae hwnnw'n beth mor bwysig i'w wneud, ac yn ffordd bwysig o roi newid ar waith.

Roedd fy mam yn arfer dysgu plant ag anableddau dysgu, ac felly fe dyfais i fyny gan adnabod y plant yn ei dosbarth hi fel ffrindiau a chyfoedion, a chan ddeall yr heriau yr oedden nhw'n eu hwynebu a'r rhwystredigaethau a deimlai eu teuluoedd nhw a'r rhai a oedd yn benderfynol o'u helpu i gyrraedd eu potensial a chael eu trin yn deg gan y gymdeithas. Ac roedd gan Hefin, wrth gwrs, yr un angerdd, yr un ymrwymiad dwfn, ac yn dad a oedd â dealltwriaeth ddyfnach ddigyffelyb o hynny. Yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu, ac yn llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, roeddwn i mor ddiolchgar iddo ef am ei barodrwydd a'i ddyhead inni weithio gyda'n gilydd ar y materion hynny sy'n bwysig i ni. Roedd hwnnw'n brofiad rhyfedd i wleidydd newydd ei ethol fel fi, fu mod i'n cael fy nhrin fel cyd-filwr, i gael fy mharchu a'm trin â chynhesrwydd er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol niferus ar faterion eraill. Roeddwn i'n dymuno dweud 'diolch' am hynny, Hefin, am i ti fod yn un o'r rhai cyntaf i ddangos i mi sut y gellir gwneud hynny a pham y dylid gwneud hynny.

Fe fyddai'n arfer diweddu ein paneli trawsbleidiol ni bob amser drwy ddweud wrth bobl anabl, pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, bod lleisiau cryf yn eiriol drostyn nhw yn eu Senedd, lleisiau pobl fel yntau a minnau a Mark Isherwood, ac eraill, wrth gwrs. Mae llawer o'r bobl hynny wedi cysylltu â mi, wedi cael archoll oherwydd colli'r pencampwr mawr hwnnw. Rwy'n dymuno addo iddyn nhw ac i Hefin y bydd eu brwydr am hawliau a llesiant yn parhau. Cwsg mewn hedd, Hefin.

14:25

Llywydd, mae gwleidyddiaeth ymhell o fod yn rhwydd. Fe all gwleidyddiaeth, a'r fan hon yn wir, fod yn lle llawn straen a chystadleuol. O'r eiliad y cefais i fy ethol, bron â bod, yn ôl yn 2018, fe gefais i gwmni Hefin, nid am ei fod yn gydwleidydd â minnau yn y lle hwn, ond am ei fod yn ffrind. Roedd yn ffrind i mi; roedd yn ffrind i fy nheulu. Roedd yn rhywun a fyddai'n gwrando heb feirniadu. Roedd yn ddoniol, roedd yn garedig, ond, yn bwysicaf oll, roedd yn malio. Roedd Hefin yn gwmni ardderchog, ac fe fyddaf i'n cofio bob amser am yr oriau y gwnaethom ni eu treulio gyda'n gilydd.

Llywydd, fel clywsom ni'n barod, y teulu a oedd agosaf at galon Hefin bob amser. Fel y mae eraill wedi'i ddweud cyn fi, a chyn heddiw, yn wir—ac, yn wir, fe ddywedwyd hynny mor huawdl yn ei angladd—roedd Hefin yn caru ei deulu. Roedd mor falch o'i deulu. Fel gwyddom ni, fe fyddai'n siarad amdanyn nhw trwy'r amser, ac roedd ei gariad yn disgleirio bob amser, fel ei gariad at ein ffrind a'n cydweithiwr, Vikki. Fe hoffwn i ddweud wrth bob un ohonyn nhw pa mor drist ydw i am eu colled.

Llywydd, y cariad mawr arall ym mywyd Hefin oedd, wrth gwrs, cymuned Caerffili, ac rydym ni wedi clywed eisoes, onid ydym ni, cymaint o eiriolwr angerddol oedd e' dros y gymuned honno. O'r eiliad y byddech chi'n cwrdd ag ef, neu o'r eiliad y cawsoch chi eich cyflwyno iddo, ni allech fethu â dirnad pa mor falch oedd Hefin o gynrychioli'r gymuned yr oedd ef ohoni, y gymuned a oedd wedi ei ffurfio, ond pa mor awyddus yr oedd i roi cymaint ag y gallai yn ôl iddi. Ac fe wyddom ni yn y Siambr hon fod Hefin wedi gwneud hyn yn ei arddull huawdl a deallus ei hun. Roedd yn siaradwr rhagorol. Nid oedd byth yn petruso cyn defnyddio'r llais angerddol hwnnw i ddwyn yr awdurdodau i gyfrif ar ran ei gymuned ef a'n cenedl ni.

Fe gefais i'r pleser o weld hyn â fy llygaid fy hun sawl gwaith, ond, i mi, gerbron Pwyllgor Deisebau'r Senedd, y pwyllgor yr oeddwn i'n ei gadeirio ar y pryd, honno oedd yr enghraifft berffaith. Fe siaradodd Hefin yn angerddol ynglŷn â'r angen am ddiwygio lesddeiliaid, ac ni adawodd neb y cyfarfod hwnnw ag unrhyw amheuaeth bod Hefin yn iawn.

Llywydd, fe fydd y rhai ohonom ni a oedd yn adnabod Hefin yn dda yn cofio yn annwyl am ei natur hynod hefyd, ei wybodaeth wyddoniadurol am Tenerife. Roedd yn gwybod am bob twll a chornel o'r ynys, ac nid oedd yn mwynhau dim yn fwy na rhannu'r arbenigedd hwnnw gydag eraill. Ar ôl iddo ddechrau, Llywydd, 'doeddech chi ddim yn gallu ei stopio.

Llywydd, mae hi'n fraint i mi wasanaethu yn rôl y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n cael fy atgoffa yn aml iawn, yn wir yn fwyaf diweddar, am anogaeth ac angerdd Hefin dros y mudiad undebau llafur. Roedd Hefin yn arbennig o falch o fod yn ysgrifennydd y grŵp Unsain yma yn y Senedd, ac ar ran ein mudiad ni, mae'n rhaid i mi ddweud 'diolch' wrtho, oherwydd mae ein mudiad ni, y mudiad undebau llafur, yn fwy cadarn o'i blegid ef.

Llywydd, fe fyddaf i'n hiraethu am Hefin. Fe fyddaf i'n hiraethu am fy ffrind. Mae Caerffili a Chymru mewn sefyllfa well oherwydd ei wasanaeth. Fe wn y bydd ei etifeddiaeth yn dal i ysbrydoli'r rhai ohonom ni sydd wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef ac sydd wedi cael y fraint o'i alw'n ffrind. Diolch.

14:30

Diolch i chi i gyd am eich teyrngedau.

Diolch i chi, i gyd, am eich cyfraniadau. Ac wrth i ni ddychwelyd i'n gwaith arferol, gadewch i ni i gyd gario ychydig o ysbryd Hefin David i'n gwleidyddiaeth bob dydd. Nid ei wasgod, efallai, ond tair rhinwedd Hefin, fel dywedodd y Prif Weinidog: calon, hiwmor, a gobaith. Fe fydd y Senedd hon yn gweld colli Hefin David, ac ni fyddwn dy anghofio.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. 

Rydym ni am dorri nawr ac ailymgynnull ymhen tua 10 munud. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:32.

14:45

Ailymgynullodd y Senedd am 14:45, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Dyma ni'n barod nawr i ailddechrau. Cyn imi ofyn i'r Prif Weinidog i ateb cwestiynau, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 11 Medi. 

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd nesaf, felly, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands. 

Economi Ymwelwyr Gogledd Cymru

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyflwr yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru? OQ63059

Y gogledd yw curiad calon ein heconomi ymwelwyr, ac mae'n croesawu un ym mhob tair gwibdaith dros nos i Gymru. O fusnesau teuluol gwely a brecwast hyd at yr atyniadau o'r radd flaenaf sydd i'w cael yno, mae busnesau lleol yn tyfu mewn modd cynaliadwy ac yn creu swyddi, sy'n helpu cymunedau ledled y rhanbarth. Ac mae'r Llywodraeth Cymru Lafur hon yn cefnogi twf yn y sector twristiaeth drwy fuddsoddi dros £2.5 miliwn mewn cwmnïau lleol, sy'n helpu cymunedau i ffynnu ac yn creu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl ledled y rhanbarth.

Diolch i chi am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwy'n ymuno â chi i gydnabod pa mor ddiamheuol bwysig yw twristiaeth i economi Cymru, yn enwedig yn y gogledd, fel rydych chi'n cydnabod, lle mae'n cefnogi miloedd o swyddi hefyd ac â rhan hanfodol o ran ffyniant lleol. Fel gwyddom ni, mae'r sector i gyfrif am oddeutu un o bob wyth o swyddi, sy'n cyfrannu at werth ychwanegol gros yn sylweddol. Eto, er gwaethaf pwysigrwydd hynny, rydym ni'n parhau i weld polisïau sy'n tanseilio'r sector yn weithredol, ac o ganlyniad i hyn, yn y gogledd mae'r darlun yn un arbennig o bryderus. Rwy'n cael adroddiadau, a minnau'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, fod dros 70 y cant o atyniadau yn y rhanbarth yn dweud bod llai o ymwelwyr wedi dod yn yr haf eleni, gyda rhai cyrchfannau yn gweld masnach yn gostwng gan yn gymaint â 30 y cant. I ranbarth sydd mor ddibynnol ar fasnach dymhorol, mae'r ffigurau hyn yn bryderus iawn. Mae angen ein cefnogaeth ni ar fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn: Prif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod y niwed y mae polisïau fel y rheol 182 diwrnod, diffyg buddsoddiad o ran hysbysebu a'r ardoll twristiaeth sydd ar y gorwel yn eu gwneud i fusnesau fel hyn?

Wel, rydym ni'n benderfynol y bydd ein sector twristiaeth yn tyfu am byth mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac, er mwyn i hynny ddigwydd, mae hi'n bwysig iawn ein bod yn cydbwyso anghenion ymwelwyr ag anghenion cymunedau lleol ac, yn rhannol, dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r ardoll ymwelwyr. Yr hyn y dylai pobl fod yn ymwybodol ohono yw y bydd 90 y cant o'r refeniw hwnnw sy'n cael ei godi yn aros yn y gymuned leol, a phenderfyniad i'r awdurdodau lleol fydd a fyddan nhw'n achub ar y cyfle hwnnw neu beidio. Wrth gwrs, fe fydd honno'n cael ei fuddsoddi eto wedyn mewn materion a chyfleusterau sy'n ymwneud â thwristiaeth. O ran y 182 diwrnod, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i berchnogion tai wneud cyfraniad teg i'r economi. Unwaith eto, ystyr hyn yw sicrhau ein bod ni'n taro'r cydbwysedd priodol rhwng anghenion y cymunedau a'r angen i wneud y defnydd mwyaf o'r tai hynny fel eu bod nhw'n gwneud cyfraniad i'r gymuned leol.

Rydych chi newydd ddweud, Prif Weinidog, eich bod chi'n teimlo ei bod hi'n bwysig bod yna gydbwyso yn digwydd rhwng anghenion ymwelwyr a thwristiaid ag anghenion y gymuned leol, ac  allaf i ddim cytuno mwy ar hynny. Ond y cwestiwn mae pawb yn ei ofyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw sut mae creu parc cenedlaethol newydd yn mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd. Y cwestiwn mawr yw: ble mae'r buddsoddiad yn y seilwaith sydd ei angen i wneud cynnig o'r fath i fod yn llwyddiant? Rydyn ni wedi gweld y problemau sydd mewn ardaloedd fel Eryri, ble mae problemau traffig eithriadol. Dyw'r isadeiledd ffyrdd, dyw'r isadeiledd parcio ddim yna, sy'n golygu nad yw ambiwlansys yn gallu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw gyrraedd yn aml iawn. Mae yna broblemau hefyd—diffyg llefydd campio. Mae pob math o heriau o ran seilwaith. Nawr, rydyn ni'n gweld hwn yn dod o bell. Mi fydd yna broblemau hefyd yn y gogledd-ddwyrain. Felly, pa ymrwymiad gallwch chi ei roi i fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen cyn symud ymlaen gydag unrhyw syniad o greu parc newydd? 

Diolch yn fawr. Mae yna ymgynghoriad yn cymryd lle ar hyn o bryd. Y ffaith yw bod y tri pharc cenedlaethol sydd eisoes yn bodoli yn denu 12 miliwn o ymwelwyr, ac maen nhw'n gwario £1 biliwn, sy'n helpu, wrth gwrs, y cymunedau yna. Ac felly, mae hi'n bwysig bod pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad yna ac yn cymryd y cyfle i ddweud eu dweud ar sut mae hwnna, maen nhw'n meddwl, yn mynd i effeithio ar eu cymunedau nhw ac i weld a oes yna appetite i weld hwnna'n digwydd. 

14:50

Prif Weinidog, fel clywsom ni, mae'r economi ymwelwyr yn gwbl allweddol i'n heconomi ni yn y gogledd. Rwy'n falch o fod wedi gwneud rhywbeth fu hun yn bersonol, gan i mi dreulio fy ngwyliau haf ar Ynys Môn, fel yr wyf wedi'i wneud ers degawdau erbyn hyn. Ond yn ganolog o ran datgloi ein heconomi yw gallu cyrraedd a gadael y gogledd, a'r brif wythïen honno i'r gogledd yw'r A55. Yn anffodus, fe fu cyfres o ddamweiniau difrifol ar yr A55 dros yr haf, yn bennaf o gwmpas cyffordd 32 yn fy etholaeth i. Yn amlwg, yn gyntaf i gyd, rydym ni'n cofio am y rhai yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, ond fe geir effaith ar gymunedau cyfagos ac ar ymweliadau â'r gogledd hefyd. Fe wn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r seilwaith ffyrdd presennol, ac rwyf i wedi codi awgrymiadau yn y fan hon o'r blaen, ond a gaf i bwyso ar Lywodraeth Cymru a'ch annog chi o ran y blaenoriaethau a chyflwyno mesurau a gwelliannau lliniaru ymlaen lle bod angen hynny? Diolch.

Diolch yn fawr. Fe wyddom pa mor rhwystredig yw hi i bobl sy'n cael eu dal yn ôl oherwydd damweiniau, ac mae hi'n wir ddrwg gen i glywed am y damweiniau hynny—dwy ddamwain ddifrifol iawn—a gafodd effaith fawr ar bobl sy'n ymweld â'r ardal a phobl leol. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw gwneud yn siŵr y bydd monitro clir iawn. Mae gennym ni swyddog traffig sy'n weithredol yn ei swydd drwy gydol y flwyddyn ac rydym ni'n sicrhau bod diweddariadau byw, ac rydym ni'n sicrhau hefyd fod arwyddion eglur i gyfeirio gwyriadau. Wrth gwrs, rydym ni wedi dyrannu £30 miliwn o gyllid ychwanegol i leddfu tagfeydd yn y gogledd, ac felly fe ddylai hynny fod o gymorth hefyd.

Diolch, Llywydd. Trwy'r bensaernïaeth benigamp, nid wyf i'n gallu gweld y Prif Weinidog, felly esgusodwch fi, Prif Weinidog [Chwerthin.]

Blaenoriaethau Economaidd

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Senedd hon? OQ63062

Diolch yn fawr. Nid wyf i'n gwybod a oes unrhyw un—. Rwy'n cofio cael gwybod un tro fod rhywun wedi cael ei osod yn fwriadol y tu ôl i golofn; rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir yn eich achos chi [Chwerthin.]

Mae ein blaenoriaethau ni'n eglur: swyddi, tegwch a dyfodol gwyrddach. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ledled Cymru, o gael ynni glân mewn gweithgynhyrchu datblygedig hyd at feithrin yr economi ddigidol. Yn ystod y tymor Seneddol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau a chreu dros 40,000 o swyddi ac rydym ni'n cyflymu at y nod hefyd o ddarparu 100,0000 o brentisiaethau. O ran buddsoddiad o dramor, rydym ni ar y blaen i'r rhan fwyaf o weddill y DU. Ac, wrth gwrs, ar ben hynny, rydym ni'n rhoi cyfleoedd gwaith gwirioneddol i bobl ifanc 16 i 24 oed trwy warant y blaid Lafur i bobl ifanc.

Dim ond ar gyfer y cofnod, Andrew R.T. Davies, rwyf i'n gallu eich gweld chi'n iawn, ac felly fe fyddwch chi'n siŵr o gael eich dal pe byddech chi'n gwneud unrhyw ddrygau [Chwerthin.]

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd. Y bobl sy'n cyfrif yw'r rhai pwysig, onid e?

Prif Weinidog, ychydig cyn i ni dorri ar gyfer toriad yr haf, fe gyflwynodd y Gweinidog materion gwledig y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae amaethyddiaeth, yn amlwg, yn rhoi sail i ran enfawr o economi cefn gwlad. Fe ddywedwyd wrthym ni y byddai'r asesiad effaith sy'n cyd-fynd â'r cynllun ffermio cynaliadwy hwnnw ar gael ym mis Medi. Pryd fydd hwnnw ar gael nawr? A ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni a fydd yr amserlen yn aros ac a fydd hwnnw gennym ni erbyn diwedd mis Medi?

Diolch yn fawr. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi rhannu rhywfaint o wybodaeth eisoes gyda'i ford gron gweinidogol ar y mater hwn, ac mae hynny'n cynnwys cynrychiolwyr o'r undebau ffermio, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol a sefydliadau eraill. Felly, rydyn ni ar gamau olaf pecynnu'r wybodaeth honno ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi hwnnw'n fuan iawn er mwyn i bawb ei weld. Fe wyddom ni gymaint o effaith y bydd hyn yn ei chael ar gymunedau cefn gwlad. Fe wyddom ni y bydd yn rhaid i'r sector amaethyddol altro ac addasu ac rydym ni'n cydnabod y bydd angen iddyn nhw wybod am yr effeithiau y bydd hyn yn ei gael. Ac, wrth gwrs, fe achubodd llawer ohonyn nhw ar y cyfle i ddefnyddio'r canllaw cyflym a gynhyrchwyd ar adeg Sioe Frenhinol Cymru i weld sut y byddai hyn yn effeithio ar eu ffermydd unigol.

Prif Weinidog, rydych chi wedi cyhoeddi bod meithrin yr economi werdd yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth chi, ond, ym mis Mawrth eleni, roedd adroddiad 'Economi Werdd' y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn tynnu sylw at bryderon ynglŷn â phrinder sgiliau, gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach yn tynnu sylw arbennig at yr anghysondeb rhwng sgiliau yn y system addysg ac anghenion busnesau, sy'n deillio o fethu â rhagweld beth fydd y gofynion o ran sgiliau a methiant o ran addasu addysg a hyfforddiant galwedigaethol i fynd i'r afael ag anghenion esblygol y farchnad lafur. Mae hi'n amlwg iawn fod angen archwiliad sgiliau a bod angen diwygio'r dirwedd sgiliau a chymorth i fusnesau. Mewn gwirionedd, mae cynllun gweithredu sero net y Llywodraeth ei hunan yn nodi hynny, felly sut ydych chi am wyrdroi'r sefyllfa?

14:55

Wel, rydyn ni'n cydnabod y cyfleoedd enfawr o ran yr economi werdd, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio ar hynny a'n bod ni'n addasu ein hyfforddiant i sicrhau cyfleoedd. Dyna pam mae'r mater hwn yn gyfan gwbl dan law'r Gweinidog sgiliau. Mae'n sicrhau bod colegau yn ymwybodol o anghenion y gymuned a'n bod ni'n ymateb i anghenion diwydiant.

Rwy'n credu iddi fod yn werth i ni gydnabod bod rhai pethau na fyddech chi'n meddwl amdanyn nhw fel sgiliau gwyrdd yn mynd yn sgiliau gwyrdd mewn gwirionedd. Felly, mae weldio, er enghraifft, yn ôl pob tebyg, yn allu y mae ei angen ar y diwydiant gwyrdd, ond ni fyddech chi'n tybio bod hwnnw'n sgil gwyrdd yn syth, ond mae'n gwbl hanfodol o ran pethau fel tyrbinau. Felly, mae yna gyfleoedd yn bodoli, ac fe wn i fod y Gweinidog sy'n gyfrifol yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau ein bod ni'n barod ac yn hyfforddi pobl, ac fe fydd ein gwarant i bobl ifanc, wrth gwrs, yn cyfrannu at hynny hefyd.

Mae rhoi hwb i ffyniant economaidd a sicrhau gwelliannau i'r cymunedau y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddyn nhw ac yn ymweld â nhw'n swyddogaethau cwbl allweddol i unrhyw Lywodraeth, ac mae enghreifftiau gwirioneddol o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn fy etholaeth i yn Wrecsam, yng nghanol y ddinas yn benodol. Mae llawer o'r gwelliannau wedi dod trwy gyllid oddi wrth Trawsnewid Trefi, ac mae hwnnw'n ceisio cynorthwyo cymunedau gydag adfywio eu prif strydoedd, sy'n bwysig iawn i'n hetholwyr ni, gwrs.

Mae Wrecsam wedi sicrhau mwy na £10 miliwn drwy'r cynllun hwn, ac roeddwn i'n falch iawn o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi ymweld â Wrecsam yn ystod yr haf i weld rhai o'r prosiectau drosto'i hun. Mae dwy o'n marchnadoedd dan do poblogaidd ni wedi cael eu hadnewyddu, bu gwelliannau ar y stryd fawr, a chyn bo hir fe fydd amgueddfa bêl-droed gyntaf Cymru yn agor, ac mae yna ganolfan greadigol newydd gennym ni yn yr Hen Lyfrgell hefyd. Dros yr haf, fe ddangosodd Llywodraeth Cymru fod y rhaglen Trawsnewid Trefi yn flaenoriaeth i chi pan ddyrannodd £17 miliwn ychwanegol i'r gronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sy'n golygu y bydd mwy fyth o brosiectau yn digwydd. Rwy'n gobeithio y bydd Wrecsam yn elwa ar hyn unwaith eto, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am gael diweddariad.

Wel, diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddweud bod llawer ohonom ni wedi ymweld â Wrecsam dros yr haf? Rwy'n llongyfarch y dref am gynnal Eisteddfod Genedlaethol hynod lwyddiannus, ac rwy'n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr, fel y gwnes i. Roedd hi'n hyfryd gweld sut mae Wrecsam yn newid; mae'n datblygu ac mae'n manteisio ar y ffaith ein bod ni, fel Llywodraeth, yn buddsoddi symiau sylweddol o arian yng nghanol trefi.

Mae hi wedi bod yn bleser ymweld â'r farchnad dan do honno yn y gorffennol i weld sut mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth eisoes. Mae honno'n gyrchfan lle mae pobl yn ymgynnull nawr, ac yn gyrchfan y mae pobl yn awyddus i ddod at ei gilydd ynddi. Rydych chi'n hollol iawn—fe wnaethom ni roi'r arian ychwanegol hwnnw i mewn, o ran Trawsnewid Trefi, ac mae hynny oherwydd bod pobl wedi dweud wrthym ni, dro ar ôl tro, fod—. Mewn gwirionedd, roedd datblygu canol ein trefi yn fater a gododd dro ar ôl tro yn ystod haf y llynedd, pan gynhaliais i'r ymarfer gwrando hwnnw—dyna'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud wrthym ni. Rydym ni'n ymateb i hynny, mae'n gwneud gwahaniaeth ac mae pobl yn gweld trawsnewidiad yng nghanol eu trefi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dros yr haf, mae fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau wedi bod yn troedio'r strydoedd, yn curo ar ddrysau, yn mynychu digwyddiadau ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd i'w ddweud yng Nghymru. Roedd un mater yn dod i'r amlwg dro ar ôl tro yn y sgyrsiau hynny: sef cyflwr ofnadwy GIG Cymru, oediadau ambiwlans, adrannau brys gorlawn gydag amseroedd aros maith am driniaeth, prinder gwelyau yn ein hysbytai, anawsterau wrth gael apwyntiadau i weld meddygon teulu a deintyddion, ac amseroedd aros annerbyniol ar gyfer profion diagnostig a thriniaethau. A ydych chi'n derbyn bod GIG Cymru wedi torri, Prif Weinidog, a hynny ar wyliadwriaeth y blaid Lafur?

Nac ydw; yn gwbl sicr, dydw i ddim. Nid wyf i'n credu bod system sy'n cynnal 2.7 miliwn o apwyntiadau bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl yn system sydd wedi torri; rwyf i o'r farn ei bod hi'n system sy'n gweithio i'r mwyafrif helaeth o bobl yn y genedl hon. A oes angen rhagor arnom ni? Oes, wrth gwrs, mae angen mwy arnom ni. A oes angen iddi weithio yn fwy effeithiol? Oes, wrth gwrs. Dyna pam mae hwnnw'n faes blaenoriaeth i ni yn y Llywodraeth. Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £1.5 biliwn o arian ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac fe aeth swm aruthrol o'r arian hwnnw i'r GIG, yn benodol at fyrhau'r rhestrau aros hwyaf hynny, ac yn ystod y flwyddyn, mae hynny'n digwydd. Mae'n gwneud gwahaniaeth. Roeddwn i'n falch o gyhoeddi £5.5 miliwn ychwanegol dros y penwythnos hwn ar gyfer peiriannau pelydr-x ym mwrdd Betsi Cadwaladr, a fydd yn cyflymu'r broses. Felly, rydym ni'n cydnabod bod gwaith i'w wneud eto.

Gadewch i mi ddweud wrthych chi fod y galw ar y gwasanaeth yn anghredadwy. Dros fis Awst yn unig, roedd cynnydd o tua 20 y cant mewn rhai meysydd o ran ceisio cael mynediad at wasanaethau'r GIG. Mae terfyn ar yr hyn a allwch ei wneud gyda chronfa gyfyngedig o arian. Mae hi'n heriol. Fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau glas. Rydym ni'n cyflogi mwy o bobl yn y GIG nag y gwnaethom eu cyflogi nhw erioed o'r blaen. Rydym ni wedi cynyddu'r niferoedd yn sylweddol. Pan fyddwch chi'n ystyried y ffaith fod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael eu gwasanaethu, rwy'n credu y dylem ni ddathlu hynny, ond rwy'n cydnabod bob amser bod mwy i'w wneud eto. 

15:00

Prif Weinidog, hoffwn eich atgoffa mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod GIG Cymru yn gallu cadw i fyny â'r gofynion sy'n cael eu gosod arno, sy'n gwbl rhagweladwy o ystyried y ddemograffeg sydd gennym yma yng Nghymru. Er gwaethaf gwaith caled staff rheng flaen ymroddedig y GIG, y gwir yw eich bod wedi bod yn eu gadael nhw a chleifion i lawr. Ar hyn o bryd, mae mwy na 600,000 o bobl yng Nghymru wedi'u gadael i ddihoeni ar restrau aros y GIG.

Yr hyn sy'n wirioneddol drasig yw: cyflwynwyd cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, a thros yr haf, cawsom yr ymatebion. Ers mis Mai 2021, ers yr etholiad diwethaf hwnnw yn y Senedd, mae dros 38,000 o gleifion o Gymru wedi marw wrth aros i gael eu triniaeth, tra ar restr aros. Mae'n sgandal genedlaethol. A'r hyn sy'n waeth yw'r ffaith bod ein hamseroedd aros am brofion a thriniaeth yn dal i fod y gwaethaf ym Mhrydain. Mae miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru mewn perygl o'r un dynged â'r 38,000 hynny sydd eisoes wedi marw. A wnewch chi nawr gymryd o ddifrif ein galwad, o ystyried y marwolaethau hyn, i ddatgan argyfwng iechyd, fel y gallwn wneud yn siŵr bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt pan fyddant mewn sefyllfaoedd bywyd a marwolaeth?

Diolch yn fawr. Pe baem wedi ei adael i chi, byddai hyd yn oed llai o arian yn mynd tuag at y GIG, oherwydd fe wnaethoch chi geisio rhwystro'r gyllideb rhag mynd drwodd. [Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn ei hoffi, ond mae'n wir. Rydym yn buddsoddi £120 miliwn mewn lleihau amseroedd aros. Ac mae yna bobl ar y rhestrau hynny sydd â sefyllfaoedd anhygoel o gymhleth ac anodd. Mae llawer ohonyn nhw'n hen iawn. Ac yn amlwg, bydd yna bobl yno sydd â sefyllfaoedd iechyd heriol iawn. Yr hyn a welsom ym mis Mehefin oedd gostyngiad o 27 y cant yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu y dylid ei ddathlu. Gwelwyd gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y bobl sy'n aros am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf hefyd.

Prif Weinidog, mae eich Gweinidog cyllid eich hun yn y gorffennol wedi dweud bod gormod o welyau a gormod o ysbytai yng Nghymru. A hoffwn eich atgoffa mai eich plaid chi yw'r unig blaid mewn Llywodraeth yn fy mywyd i sydd erioed wedi cwtogi cyllideb y GIG. Dyna record y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Mae'n amlwg iawn i bawb ledled y wlad hon fod GIG Cymru wedi torri. Ac mae wedi torri oherwydd penderfyniadau y mae'r Blaid Lafur wedi'u gwneud, gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn aml iawn, o ran y penderfyniadau a'r blaenoriaethau rydych chi wedi'u gosod. Yn hytrach na chleifion, rydych chi wedi canolbwyntio ar botsian gyda'r cyfansoddiad. Yn hytrach na mwy o lawdriniaethau, rydych chi wedi canolbwyntio ar fwy o wleidyddion. Yn hytrach na chyflymu mynediad at brofion a thriniaeth, rydych chi wedi canolbwyntio ar leihau terfynau cyflymder ar y ffyrdd. Rydyn ni'n glir, ac mae pobl Cymru yn glir: mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru. Does dim angen mwy o wleidyddion. Felly, a wnewch chi nawr ddatgan yr argyfwng iechyd hwnnw, cael eich blaenoriaethau yn iawn a thrwsio ein GIG yng Nghymru?

Diolch yn fawr. Mae bron unrhyw un sydd ag unrhyw beth i'w wneud ag iechyd yn deall mai un o'r heriau mwyaf o ran iechyd yw'r berthynas â gofal. Mae angen i ni fuddsoddi yn y gwasanaeth gofal. Dyna pam rydyn ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud yn siŵr ein bod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru. Mae'n bwysig cydnabod bod ganddyn nhw gyfraniad mawr o ran cael y llif drwy'r ysbyty. Felly, rydyn ni wedi rhoi mwy o arian mewn gofal cymdeithasol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod mai ein blaenoriaethau yw ymateb i flaenoriaethau'r cyhoedd. Gwneud yn siŵr ein bod yn dod â'r rhestr aros hiraf i lawr, llenwi tyllau yn ein strydoedd, gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu cartrefi i'n cymunedau, a gwneud yn siŵr ein bod yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth leol. Dyna'r pethau rydyn ni'n canolbwyntio arnyn nhw, dyna'r hyn rydyn ni'n ei gyflawni, a dyna pam y bydd yn bwysig i bobl ein cefnogi ni wrth fynd ymlaen.

15:05

Diolch, Llywydd. Mae'r wythnos hon yn nodi 28 mlynedd, credwch neu beidio, ers i bobl Cymru ddweud 'ie' i fod â Senedd ein hunain. Er gwaethaf y consensws eang y byddai datganoli yn broses ac nid yn ddigwyddiad, mae'n ymddangos bod Prif Weinidog Llafur presennol y DU yn anghytuno, ac wrth gwrs mae aelodau amlwg o'r Ceidwadwyr a Reform yn dal i fod eisiau cymryd ein Senedd i ffwrdd a gwadu ei llais i Gymru o gwbl. Mae datganoli yn sefyll yn llonydd o dan y Llywodraeth Lafur hon yn y DU. Safbwynt Prif Weinidog Cymru, a wnaed yn glir mewn cyfweliadau eto dros y penwythnos, yw canolbwyntio ar bethau y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt. Rwy'n dweud y dylai hi wthio am fwy. Does bosib mai amddiffyn buddiannau Cymru drwy sicrhau cyllid teg i'n cenedl yw un o brif swyddogaethau Prif Weinidog Cymru. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff hi ddweud wrthym pryd oedd y tro diwethaf iddi feirniadu diffyg symudiad Keir Starmer ar gyllid teg, a beth oedd ei ymateb?

Diolch yn fawr iawn. Fy mlaenoriaethau i fydd y blaenoriaethau a osodwyd i mi pan ddes i'n Brif Weinidog am y tro cyntaf. Rwy'n credu mai bywydau beunyddiol pobl a sut rydyn ni'n eu gwella yw'r hyn y dylem fod yn canolbwyntio arno, yn hytrach nag edrych yn gyson ar newidiadau cyfansoddiadol, sy'n ymddangos fel obsesiwn i'w blaid. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw ein bod ni'n gofyn am fwy. Byddaf bob amser yn gofyn am fwy gan ba bynnag Lywodraeth sydd yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Trysorlys am gyllid teg, a byddaf yn parhau â'r drafodaeth honno hefyd.

Dydy mynd ar drywydd cyllid teg ddim yn fater cyfansoddiadol, nagyw? Dydw i ddim yn credu fy mod yn dweud unrhyw beth newydd wrth ddweud bod cysylltiad rhwng y pecyn cyllido cyffredinol hwnnw a'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da.

Mae'n flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon pan ddywedodd Prif Weinidog Cymru yn falch bod Keir Starmer, ac rwy'n dyfynnu, 'yn barod i wrando' o ran cyllid teg i Gymru. Dywedodd y Prif Weinidog hefyd ei bod wedi codi'r mater gyda'r Canghellor, sydd am y tro o leiaf yn dal yn ei swydd. Ac rydym yn y cyfnod cyn ei chyllideb nesaf nawr, yr amser pwysicaf i wneud yr achos dros Gymru ar lefel y DU. Mae'r gyllideb hon yn gyfle i Lafur brofi unwaith ac am byth ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hadnoddau.

Cafodd cynnig Plaid Cymru, bydd y Prif Weinidog yn cofio, i ddileu fformiwla Barnett gefnogaeth unfrydol y Senedd hon cyn yr haf. O ystyried bod Prif Weinidog y DU yn barod i wrando 12 mis yn ôl, fe ofynnaf am yr eildro: pa ddiweddariad y mae Keir Starmer wedi'i rannu gyda Phrif Weinidog Cymru yn ddiweddar ar ei agwedd tuag at gyllid teg i Gymru? Ydy e'n newid ei feddwl?

Gadewch i ni fod yn glir y byddwn ni'n gwneud yr achos yn gyson. Nid rhywbeth newydd yw hyn; mae'n rhywbeth sydd wedi digwydd ers degawdau. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn tour de force a roddodd Mark Drakeford wrth esbonio sut mae fformiwla Barnett yn gweithio. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli, yn enwedig gan fod gennym gyllid gwaelodol. Felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, beth bynnag sy'n digwydd, os oes newid, ei fod yn newid sy'n gweithio o'n plaid.

Mae'n rhaid i chi gydnabod ynghyd â phawb arall, mewn gwirionedd, os ydych chi'n mynd i newid hynny, mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth nid yn unig gan Lywodraeth y DU, ond hefyd yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Ac maen nhw'n gwneud yn dda iawn o'r fformiwla bresennol hon. Felly, gadewch i ni fod yn glir: mae'n debyg y gallech chi gael gair a gweld beth allech chi ei wneud i siarad â'ch cydweithiwr yn yr SNP i weld a fyddai'n dymuno ildio rhywfaint o'r arian sydd ganddo i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael rhywfaint o hynny.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod ni wedi selio'r Bil mewn perthynas â chymunedau tomenni glo yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch iawn nad yw'r hyn rydyn ni wedi'i gael nid yn unig yn Fil a fydd yn sicrhau, gobeithio, ddyfodol y cymunedau hynny, gan wneud yn siŵr ein bod yn monitro'r cymunedau meysydd glo hynny'n dda iawn, ond hefyd £220 miliwn sydd wedi dod oddi wrthym ni ac oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU. Fe wnaethom ni ofyn am hynny o dan y Torïaid; wnaethon ni ddim ei gael. Rydyn ni wedi cael hynny a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth. Rydym yn cyflogi pobl yn y cymunedau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu y dylai Llywodraeth Lafur yng Nghymru fod yn falch iawn ohono.

15:10

Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio at wariant yn yr Alban. Mae'r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y DU yn rhoi cytundeb gwell ar wariant cyfalaf i Lywodraeth yr Alban dan arweiniad yr SNP nag y mae'n ei roi i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur yma yng Nghymru. Mae hi'n sôn am gyflawniad arbennig Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid; onid yw'n dipyn o ffars pan fo gennych chi Lywodraeth Cymru sy'n dal yn ôl ar frwydro am gyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Pan ymwelodd y Canghellor â Chymru ym mis Mehefin ar ôl adolygiad cynhwysfawr o wariant ofnadwy, dywedodd ei bod hi wedi rhoi popeth yr oedd wedi gofyn amdano i Lywodraeth Cymru. Roedd yn dditiad ofnadwy o'i diffyg uchelgais. Felly, gyda dwy Lywodraeth Lafur, mae Cymru'n parhau i gael ei thanariannu. Mae Llafur yn gwybod hyn. Mae llawer o'u gwleidyddion blaenllaw wedi dweud hynny'n gyhoeddus. Maen nhw'n gwybod bod hyn yn clymu dwylo Llywodraeth Cymru wrth ateb yr heriau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl, ond mae Llafur yn gwrthod gweithredu. Nid yw'n syndod bod pobl Cymru yn colli ffydd ynddyn nhw ac yn eu gadael yn eu heidiau.

Felly, mae fy nghwestiwn yn un syml. O dan y bartneriaeth hon sydd wedi bod mewn grym ers blwyddyn bellach, a chydag etholiad nesaf y Senedd ychydig dros chwe mis i ffwrdd, a wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo y bydd maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad hwnnw yn cynnwys addewid penodol i gael gwared ar fformiwla Barnett ac, yn hollbwysig, y bydd yn cael ei gadarnhau gan Keir Starmer?

Rydyn ni mewn sefyllfa lle rydyn ni'n dal i weithio ar y maniffesto, ond rydyn ni bob amser wedi dweud ein bod ni eisiau gweld fformiwla Barnett yn cael ei diwygio. Does dim byd newydd yn y fan yna. Does dim byd chwyldroadol yn y fan yna. Byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r achos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl yn y wlad gydnabod mai'r hyn rydyn ni wedi'i gael yw cynnydd o £1.6 biliwn o ganlyniad i Lywodraeth Lafur yn San Steffan, sy'n trawsnewid bywydau yn y wlad hon. Gadewch i mi eich atgoffa chi unwaith eto bod hon yn gyllideb y gwnaethoch chi geisio ei rhwystro. Bydden ni wedi gweld toriadau sylweddol i'n gwasanaethau cyhoeddus pe baech chi a'ch plaid wedi cael eich ffordd.

Yr Economi ym Mhreseli Sir Benfro

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63053

Tra bod pleidiau eraill yn siarad am greu swyddi, mae'r Blaid Lafur yn mynd ati i gyflawni. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ym margen ddinesig bae Abertawe yn datgloi dros £1 biliwn o fuddsoddiad, ac yn creu miloedd o swyddi ar draws gorllewin Cymru—swyddi o safon a fydd yn helpu pobl gyda heriau costau byw.

Prif Weinidog, fel y gwyddoch chi, un o gonglfeini economi sir Benfro yw ffermio. Dros yr haf, fe dreuliais i lawer o amser yn siarad â ffermwyr lleol am y don o heriau y mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd gan eich Llywodraeth ac, yn wir, gan y Llywodraeth yn San Steffan. Fel y gwyddoch chi, mae busnesau ffermio yn hanfodol i'r economi leol. Maen nhw'n cyflogi pobl leol ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol trwy gaffael nwyddau a gwasanaethau lleol, sydd, yn ei dro, yn cynhyrchu swm enfawr o arian i'r economi leol. Felly, mae'n hynod bryderus clywed bod cynigion yn cael eu gwneud i sefydlu parc solar enfawr ar 316 erw o dir fferm pwysig yn Johnston yn fy etholaeth i. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i wrthwynebu unrhyw gynigion ar gyfer ffermydd solar mawr ar dir amaethyddol cynhyrchiol? Mae'n hanfodol nad ydyn ni'n colli tir gwerthfawr sy'n cynhyrchu bwyd yn sir Benfro, o ystyried pwysigrwydd amlwg y sector i'r economi leol. 

Diolch yn fawr. Rydyn ni'n cydnabod bod gan amaethyddiaeth rôl bwysig i'w chwarae yn yr economi. Fe dreuliais i lawer o amser mewn sioeau amaethyddol dros yr haf yn siarad â llawer o bobl sy'n ymwneud â'r sector hwnnw. Rwy'n falch ein bod ni wedi ymrwymo'r hyn sy'n cyfateb i gynllun taliad sylfaenol eleni. Mae'n £238 miliwn ar gyfer taliadau cyffredinol, felly mae hynny'n dda. Maen nhw'n cael yr un swm ag y maen nhw wedi'i gael yn y gorffennol. O ran materion cynllunio, yn amlwg, mae posibilrwydd y gallen nhw gael eu galw i mewn, felly alla' i ddim gwneud datganiad ar hynny.

Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith strategaeth ddiwydiannol amddiffyn Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ63085

Mae Cymru bob amser wedi gwneud yn well na'r disgwyl ym maes amddiffyn, o General Dynamics ym Merthyr i Airbus ym Mrychdyn, gan ddarparu swyddi medrus â chyflog da sy'n cynnal cymunedau. Mae'r sector eisoes yn cyfrannu £1.5 biliwn i'n heconomi, a chyda chytundeb i dyfu'r sector amddiffyn ar y bwrdd, rwy'n benderfynol o sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg.

15:15

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Prif Weinidog. Roedd hi'n bleser ymuno â chi ar ymweliad â General Dynamics, yn etholaeth ein ffrind Dawn Bowden, ym Mhentre-bach, yn y gwanwyn. Ers yr ymweliad hwnnw, wrth gwrs, mae'r byd wedi dod yn lle mwy peryglus. Rydyn ni wedi gweld am y tro cyntaf ers degawdau, os nad erioed, Rwsia yn ymosod ar wledydd NATO. Rydyn ni wedi gweld Rwsia yn targedu Gwlad Pwyl yn fwriadol ac yn targedu'r gynghrair orllewinol. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n buddsoddi mewn amddiffyn y Deyrnas Unedig a'n gwerthoedd a'n democratiaeth ledled Ewrop. Felly, Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod ni, yng Nghymru, yn chwarae ein rhan a bod Llywodraeth Cymru yn ein harwain ni wrth wneud hynny? Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni sydd â buddiannau, sydd eisiau gweld y diwydiant amddiffyn yn tyfu ac yn llwyddo yng Nghymru ac yn ymwreiddio'n ddwfn yn y wlad hon, sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y gefnogaeth sydd ar gael i'r diwydiant hwnnw ac i'r sector hwnnw. A fyddai'n bosibl cwrdd â'r Prif Weinidog i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru wella'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i'r sector amddiffyn, ac i sicrhau bod y sector amddiffyn yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arno i sicrhau bod y buddsoddiadau hynny'n dod i Gymru?

Diolch yn fawr iawn, Alun, a diolch i chi am hyrwyddo'r sector hwn. Rwy'n credu ei fod yn iawn, rydyn ni'n byw mewn byd llawer mwy ansefydlog, ac rwy'n credu bod yr ymosodiadau ar Wlad Pwyl gan Rwsia wedi bod yn bryderus iawn, ac mae'n golygu bod yn rhaid i ni gydnabod bod y bygythiad yn cynyddu. Ac mae'r sector amddiffyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer swyddi medrus yn ein cymunedau, fel y gwnaethon ni ei weld ym Merthyr, ac mae'n wych gweld faint maen nhw'n cyfrannu, nid yn unig i'r gweithwyr hynny, ond i'r economi ehangach. Roedden ni yno, rwy'n credu, pan ddaeth canfed cerbyd Ajax oddi ar y llinell gynhyrchu ym mis Ebrill.

Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i chi fod Ysgrifennydd yr economi yn ymdrin â'r mater hwn. Mae hi'n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod ni'n cael ein cyfran deg o'r cytundeb i dyfu'r sector amddiffyn. Roedd hi'n bresennol yn arddangosfa cynhadledd Defence and Security Equipment International yr wythnos diwethaf, ac fe gafodd hi gyfle i siarad yn uniongyrchol â phobl a oedd yn ymwneud â'r sector hwn, ac i wneud yr achos dros ddod yma a lleoli eu hunain a thyfu yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw, oherwydd mae'n bwysig peidio â thanamcangyfrif pwysigrwydd seilwaith amddiffyn a'r buddsoddiad ynddo o ran ein diogelwch cenedlaethol, ond hefyd o ran ein diogelwch economaidd hefyd. Yn wir, yn y Siambr hon, rwyf wedi codi, yn ôl yn Chwefror, Mai a Mehefin, yr angen am ohebiaeth well neu ddeialog well gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae'n ei wneud i gefnogi'r diwydiant amddiffyn yma yng Nghymru. Rwy'n defnyddio'r ymadrodd ein bod ni mewn 'cyfnod cyn-ryfel', ond fel yr ydyn ni wedi'i glywed, gallai'r cyfnod cyn-ryfel hwnnw ddod yn gyfnod rhyfel yn fuan. Fe wnes i hyd yn oed ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar hanes milwrol balch sir Benfro a'r cyfleoedd ynghylch seilwaith a buddsoddi sydd i'w cael yn y sir honno. Ond fe ges i ymateb eithaf didaro gan y Gweinidog dros Gaffael Amddiffyn a Diwydiant, a wnaeth ond cyfeirio unwaith yn yr ateb hwnnw at y strategaeth ddiwydiannol amddiffyn. Felly, fel Prif Weinidog, pa sylwadau ydych chi wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ar rôl Cymru o fewn y strategaeth ddiwydiannol amddiffyn, ac a wnewch chi gyhoeddi'r ohebiaeth honno?

Diolch yn fawr. Rydyn ni'n cael trafodaeth a deialog weithgar iawn gyda'r adran berthnasol yn Llundain. Yn wir, ar ôl yr ymweliad â General Dynamics, fe ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd amddiffyn i gyflwyno'r achos dros amddiffyn yng Nghymru. Mae tua 285 o gwmnïau yng Nghymru sy'n cyflogi dros 5,700 o bersonél, sydd wedi creu 300 o brentisiaethau, ac sy'n cyfrannu dros £0.5 biliwn i'n heconomi. Felly, mae hyn eisoes yn swm rhesymol, ond rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr i ni fynd ymhellach. Felly, rwyf eisiau eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn rhoi sylw manwl iawn i'r mater hwn ac yn benderfynol o sicrhau buddsoddiadau eraill, o ganlyniad i'r cytundeb a gyhoeddwyd i dyfu'r sector amddiffyn.

15:20
Adeiladu Tai

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau presennol adeiladu tai yng Nghymru a’r rhagolygon ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon? OQ63083

Mae cael cartref sefydlog yn hanfodol i ymdeimlad pobl o ddiogelwch. Dyna pam mae adeiladu tai yn cael lle canolog ymysg y pethau rŷn ni'n benderfynol o'u cyflawni. Er gwaethaf Brexit, COVID, chwyddiant cynyddol ac anhrefn y Torïaid, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi cyflawni i bobl Cymru. Rŷn ni wedi buddsoddi dros £2 biliwn mewn tai cymdeithasol—yr uchaf ers bron i ddau ddegawd—gan greu miloedd o dai newydd gan gynghorau a chymdeithasau tai.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth ym mis Awst yn dangos bod gwaith adeiladu wedi dechrau ar 3,798 o anheddau newydd yn 2024-25, i lawr 26 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae eich datganiad eich hun i'r wasg yn dweud mai dyma'r nifer isaf o anheddau newydd i gael eu hadeiladu erioed, yn waeth hyd yn oed nag yn ystod y pandemig. Mae'r un datganiad i'r wasg yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yng Nghymru y llynedd 33 y cant yn is na degawd yn ôl, tra bod cynnydd o bron i 10 y cant ar draws gweddill y DU. Mae'r ffigur ar gyfer anheddau newydd tua hanner y ffigur y mae angen i ni ei adeiladu bob blwyddyn yn ôl eich amcangyfrif eich hun o anghenion tai. Pam rydych chi wedi caniatáu i adeiladu tai yng Nghymru fynd ar chwâl ar adeg pan fo 94,000 o aelwydydd ar restr aros am dai, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny?

Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i ni wahaniaethu rhwng y sector preifat a'r sector cymdeithasol, ac yn amlwg mae angen gwthio'r sector preifat i fynd ymhellach. Ond o ran tai cymdeithasol, yn y tair blynedd gyntaf, cafodd bron i 9,000 o gartrefi i'w rhentu eu cyflenwi yn y sector cymdeithasol. Dyna'r gyfradd gyflenwi flynyddol uchaf ers 2008. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld ffigurau newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd, ac rydyn ni'n hyderus iawn y byddan nhw'n cynyddu'n sylweddol bryd hynny hefyd.

Prif Weinidog, fel yr ydyn ni newydd glywed, y llynedd dim ond 4,754 o gartrefi newydd a gafodd eu hadeiladu yng Nghymru, yr ail ffigur isaf ers 1975. Mae'r argyfwng tai hwn sy'n gwaethygu yn gadael llawer o bobl ifanc yn pryderu wrth iddyn nhw ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywle i fyw. Er bod yna darged ar gyfer tai cymdeithasol, does dim targed cyfatebol ar gyfer cartrefi ar y farchnad agored, gan greu gwagle polisi yn y sector. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi rhybuddio mewn adroddiad diweddar bod rhy ychydig o lawer o gartrefi, darpariaeth anodd ei rhagweld, a thargedau gwan, anghyson gan awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Yn frawychus, fel y gwyddoch chi, dim ond 30 y cant o gynlluniau datblygu lleol sy'n llai na phum mlwydd oed, gan danseilio'n ddifrifol gynllunio a buddsoddiad yn y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflwyno strategaeth dai glir, uchelgeisiol ar draws pob deiliadaeth sy'n diwallu anghenion pob cymuned? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld beth mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i wneud i geisio ysgogi ac annog y sector preifat i ddatblygu, ac mae Banc Datblygu Cymru yn gwneud ymdrechion enfawr yn y maes hwn, gan sicrhau bod gan fusnesau bach a chanolig y gallu i adeiladu cartrefi. Rhan o'r broblem ar draws y Deyrnas Unedig yw'r gafael haearnaidd sydd gan y cwmnïau mawr, ac mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n llusgo'u traed mewn ardaloedd lle mae ganddyn nhw ganiatâd cynllunio, ond eu bod nhw'n mynd ati i adeiladu. Felly, mae creu prinder trwy lusgo eu traed mewn ardaloedd lle nad ydyn nhw'n adeiladu yn broblem, rwy'n credu. Nid problem yng Nghymru yn unig yw hon, mae'n broblem ehangach, ond mae hyn yn sicr yn rhywbeth rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol ei ystyried ac i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i annog y sector preifat i adeiladu mwy yng Nghymru.

Gwasanaethau Strôc

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau strôc? OQ63060

Strôc yw un o'r cyflyrau sy'n lladd fwyaf yng Nghymru, ond mae'n bosibl atal 90 y cant o strociau. Dyna pam mae ein cynllun yn feiddgar, sef dulliau atal gwell, diagnosis cyflymach ac adsefydlu o'r radd flaenaf. Nodwyd yr uchelgais hwnnw yn ein datganiad ansawdd ar gyfer strôc yn 2021.

Uchelgeisiau yw'r rheini, nid cynlluniau. O ran canlyniadau strôc, mae Cymru yn yr unfed safle ar hugain allan o 26 o wledydd yn Ewrop ar hyn o bryd, gyda Lloegr yn yr ail safle ar ddeg. Bron i dair blynedd yn ôl, fe arweiniais i ddadl yma ar wasanaethau strôc, gan nodi bod y Gymdeithas Strôc hefyd wedi galw ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal ymgyrch NESA—nam ar y wyneb, estyn, siarad, amser—o'r newydd i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac i annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl. Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe gefnogais i gynnig yn y fan yma yn galw am ymgyrch Cam NESA bob dwy flynedd yng Nghymru.

Y llynedd, fe wnes i noddi ac agor uwchgynhadledd Cymdeithas Strôc Cymru yn y Senedd, gan dynnu sylw at yr amcangyfrif bod strôc yn costio £220 miliwn i GIG Cymru bob blwyddyn, gan godi i £2.8 biliwn erbyn 2035 os na chaiff camau eu cymryd i liniaru hyn. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i alwadau gan y Gymdeithas Strôc yng Nghymru nawr i wneud trawsnewid gwasanaethau strôc yn un o raglenni'r llywodraeth, ac i gael ymgyrch cam NESA ddwyieithog bob dwy flynedd a chymorth iechyd meddwl arbenigol i oroeswyr strôc?

15:25

Diolch yn fawr. Ac rydych chi'n hollol gywir i amlinellu'r ffaith bod, a dweud y gwir, nifer y bobl sy'n cael strôc yng Nghymru—. Mae 70,000 o bobl sydd wedi goroesi strôc yng Nghymru, ond rydyn ni'n disgwyl i'r nifer hwnnw gynyddu'n ddramatig yn y blynyddoedd i ddod, felly mae angen i ni geisio achub y blaen ar y mater hwn. Mae gweithgarwch atal, fel rwy'n ei ddweud, yn allweddol i hynny. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw, po gynharaf y cewch chi eich trin, gorau oll yw'r siawns o wella. Felly, am bob eiliad mae'r gwaed yn cael ei atal rhag mynd i'r ymennydd, mae pob munud yn golygu bod mwy o gelloedd y gwaed yn marw.

Ond mae pethau'n gwella. Mae canlyniadau'n gwella. Mae cyfran y bobl sydd wedi gwneud adferiad llawn wedi cynyddu o 16 y cant i 48 y cant. Ac un peth rwy'n arbennig o falch ohono yw mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i weithredu technoleg deallusrwydd artiffisial chwyldroadol ar gyfer cael diagnosis strôc yn gyflymach, ac mae hynny'n digwydd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Felly, mae pethau'n gwella. Mae gennym ni feddalwedd sy'n dadansoddi sganiau tomograffeg gyfrifiadurol i nodi'r math a'r difrifoldeb a'r driniaeth fwyaf priodol ar gyfer y claf. Felly, mae technoleg yn mynd i fod yn rhan o'r llwybr i'n helpu ni gyda'r mater hwn.

Mae hynny'n rhoi llawer o sicrwydd ac mae'n hynod bwysig. Mae fy etholwr Dr Shakeel Ahmad, yn amlwg, yn arwain ar hyn, ac ni fyddai'r un ohonom ni eisiau i'r ymyrraeth hon i'ch ymennydd, os oes gennych chi glot gwaed, gael ei wneud gan unrhyw un heblaw am rywun sy'n gwneud hynny fel ei brif swydd. Felly, pa mor bell ar y blaen ydyn ni o ran sicrhau bod gennym ni'r canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol hyn ym mhob rhan o Gymru?

Diolch yn fawr. Rydyn ni'n cymryd ein harweiniad gan y clinigwyr, ac mae'n rhaid i ni edrych ar beth yw'r canlyniadau gorau i gleifion, ac mae Shakeel Ahmad yn rhoi llawer o help i ni yn y maes hwnnw. Nawr, rydyn ni'n cydnabod bod canolfannau rhagoriaeth, lle mae'n rhaid i chi geisio denu pobl wych, fel Shakeel Ahmad—. Mae'n mynd i fod yn anodd os oes gennym ni ormod ohonyn nhw, ac mae angen i ni fod yn ymwybodol o hynny. Ond mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol bod yna gymunedau sy'n poeni am golli'r cyfleusterau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod yna broblem arbennig ym Mronglais. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y cydbwysedd yn gywir ac yn gwrando ar gymunedau lleol, ond yn sicrhau mai'r canlyniadau yn y pen draw yw'r pethau sydd orau i gleifion.

Datganoli Ystad y Goron

7. Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i sicrhau datganoli Ystad y Goron? OQ63065

Dwi wedi dweud hynny o'r blaen a dwi eisiau ei ddweud e eto: does dim rheswm da pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i'r Alban yn y maes yma. Mae Ystâd y Goron wedi cael ei datganoli yno, ac fe ddylai gael ei datganoli yma. Mae safbwynt Llafur Cymru ar hyn wedi ei hen sefydlu, gyda chefnogaeth comisiynau annibynnol sydd i gyd yn dweud yr un peth: dylai'r cyfoeth sy'n cael ei gynhyrchu drwy'n hadnoddau naturiol aros yma yng Nghymru.

Rŷn ni'n trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y ffaith yw dŷn ni ddim yn gallu gwneud iddyn nhw wneud dim byd. Mae hynny'n drafodaeth. Wel, byddai'n ddiddorol gweld beth fyddai Plaid Cymru annibynnol yn gofyn iddyn nhw ei wneud. Beth sy'n bwysig, dwi'n meddwl, yw ein bod ni yn gwneud yr achos ac yn sicrhau eu bod nhw'n deall bod yn rhaid i ddatblygiadau, fel maen nhw eisiau eu gweld yng Nghymru, elwa pobl Cymru. Ac ar hyn o bryd, rŷn ni eisiau gweld lot fwy o dystiolaeth y bydd hwn yn rhywbeth a fydd o fudd i'n gwlad ni.

15:30

Wel, mae'n fogailsyllu cyfansoddiadol eto y prynhawn yma, onid yw, gan Blaid Cymru, yn dod â'r cwestiwn hwn i'r Siambr? Oherwydd y materion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru yw rhestrau aros hiraf y GIG unrhyw le yn y DU, y canlyniadau addysgol gwaethaf unrhyw le yn y DU, a'r economi wannaf hefyd. Ac mae cysylltiad rhwng y pethau hynny, oherwydd nid dim ond eich record chi ydyw, Prif Weinidog; Plaid Cymru sydd wedi eich cefnogi, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd, dros y cyfnod hwnnw. Felly, o ystyried y record y mae'r tair ohonoch chi'n ei mwynhau gyda'ch gilydd, pam ar y ddaear ddylen ni roi mwy o bwerau i chi ddifetha Cymru?

Gadewch i mi fod yn glir: dydw i ddim yn credu mai bogailsyllu cyfansoddiadol yw hyn. Y rheswm rydyn ni'n gofyn am hyn yw oherwydd byddai'n dod â mwy o arian i'n gwlad—mwy o arian a fyddai'n ein helpu ni i ddatblygu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly, dyna'r rhesymeg y tu ôl iddo. Mae angen i ni wneud yn siŵr—. Oherwydd mae'n sefyllfa ychydig yn wahanol i'r Alban, yn yr ystyr fy mod i'n credu bod llawer o wely'r môr y tu allan i ddyfroedd Cymru, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n glir iawn ynglŷn â beth fyddai'r fantais. Ond, fel egwyddor, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Cymru yn elwa ar ein hadnoddau naturiol ein hunain.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn, a dylen ni ddim anghofio hynny, o ran trin ein gilydd â charedigrwydd.

Rwyf eisiau dod â'r mater hwn yn ôl at y cwestiwn, sef datganoli Ystad y Goron. Fis diwethaf, ymwelodd swyddogion Ystad y Goron â David Hardwick, 79 oed o sir Faesyfed, a gafodd ei eni a'i fagu ar ei fferm deuluol, ar stepen ei ddrws, ychydig cyn saith o'r gloch y nos. Gwnaethon nhw fynnu taliad am ôl-ddyledion—£100 y flwyddyn dim ond i ddefnyddio trac fferm y mae ei deulu a'i gymuned wedi dibynnu arno ers 1880. Does bosibl y gallwn ni gytuno na ddylai unrhyw ffermwr o Gymru, nac unrhyw un arall, wynebu bygythiad—a dyna sut roedd yn ei deimlo iddo ef—am gael mynediad at dir yr oedd ei deulu wedi'i ffermio ers cenedlaethau.

Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at system ehangach, lle mae biliynau o adnoddau tir a môr Cymru yn llifo'n syth i Lundain, gan adael ein cymunedau wedi'u tanariannu. Mae cynghorau, fel y gwyddom ni, hyd yn oed yn gorfod talu am fynediad cyhoeddus i draethau a marinâu—arian a ddylai aros yma yng Nghymru.

Rwyf wedi clywed yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, a dydw i ddim yn amau eich ymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron, ond mae'n rhaid i hyn ddigwydd ar frys, ac mae'n rhaid i ni weld gweithredu. Felly, a gaf i ofyn i chi: pa gamau ydych chi wedi bod yn eu cymryd yn ystod y misoedd diwethaf i sicrhau bod gennym ni ddatganoli Ystad y Goron yma i ni yng Nghymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiad ar hyn y mis hwn, i sôn am y camau nesaf o ran hyn. Ond rwy'n credu, fel egwyddor, fy mod i'n cytuno na ddylai fod achos lle mae'r arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i Lywodraeth y Deyrnas Unedig heb unrhyw lais gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru.

Presgripsiynau Meddygol am Ddim

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu presgripsiynau meddygol am ddim i bobl yng Nghymru? OQ63055

Felly, presgripsiynau am ddim yw un o'r cyflawniadau mae Llywodraeth Lafur Cymru yn fwyaf balch ohono. Am 18 mlynedd, rydyn ni wedi sicrhau nad oes rhaid i neb ddewis rhwng talu eu biliau a chasglu eu meddyginiaethau. Mae'n cadw pobl yn iach, yn achub bywydau, ac yn lleihau'r pwysau ar y GIG trwy gadw pobl allan o'r ysbyty.

Prif Weinidog, mae presgripsiynau yn Lloegr yn £9.90 yr eitem erbyn hyn—rhywbeth nad oes rhaid i ni ei ysgwyddo yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi siarad yn aml am eu gwrthwynebiad i'r polisi presgripsiynau am ddim. Mae Reform—plaid newydd Reform—eisiau preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol, a fyddai'n golygu diwedd ar bresgripsiynau am ddim. Allwch chi roi sicrwydd bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y ffaith nad yw arian yn rhwystr i bobl gael y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr iawn, Mick, ac mae taliadau am bresgripsiynau, yn ein barn ni, yn dreth ar salwch, ac rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi dileu'r dreth honno. A'r hyn rydych chi'n ei weld yma yw gwerthoedd Llafur ar waith—gofal iechyd yn seiliedig ar angen ac nid ar eich waled.

Mae pobl Cymru, yn gywir ddigon, yn gwerthfawrogi eu presgripsiynau am ddim a'r gofal iechyd  sydd am ddim lle bynnag y bo’i angen. Rwyf i a fy mhlaid yn cefnogi'r egwyddor honno, yn wahanol i bleidiau eraill yn y Siambr hon, fel Reform UK, sydd eisiau preifateiddio ein system iechyd ledled Cymru, gan roi ein henoed a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas mewn perygl, oherwydd byddai'n rhaid iddyn nhw dalu am ofal iechyd, rhywbeth rwyf yn ei wrthwynebu'n gryf.

Ond mae yna fater difrifol ynglŷn â chost a chynaliadwyedd cyffuriau lefel isel—cyffuriau fel Aspirin, ibuprofen a pharasetamol—sydd yn costio miliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn. Felly, mae gen i ddiddordeb, Prif Weinidog: a fyddai eich Llywodraeth yn edrych ar labelu costau ar y cyffuriau hyn, fel y gall pobl ddeall faint mae'r cyffuriau hynny'n ei gostio i'n gwasanaethau meddygon teulu, fel y gallai pobl sy'n gallu eu fforddio wneud penderfyniad gwybodus i fynd i mewn i fferyllfa, efallai, neu unrhyw siopau eraill, lle mae'n costio llai na £1, gan amlaf, i gael y cyffuriau hyn?

15:35

Diolch yn fawr. Rydw i eisiau rhoi syniad i bobl o raddfa'r hyn sy'n digwydd yma. Mewn blwyddyn, cafodd bron i 85 miliwn o eitemau eu rhagnodi am ddim ym maes gofal sylfaenol. Mae hynny'n nifer anhygoel mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Ers 2007, mae mwy nag 1 biliwn o eitemau wedi'u rhagnodi. Felly, mae yna lawer o bobl sy'n gwerthfawrogi hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn cydnabod bod cyffuriau, mewn gwirionedd, gall rhai ohonyn nhw fod yn rhad, gall rhai ohonyn nhw fod yn ddrud iawn, ac mae pobl yn meddwl eu bod nhw wastad yn mynd i fod yno iddyn nhw. Dydy hynny ddim o reidrwydd yn mynd i fod yn wir. Mae'n bwysig, a hoffwn ailadrodd, y byddan nhw'n parhau i fod am ddim o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw. Felly, Jane Hutt i wneud y datganiad busnes.

Member
Jane Hutt 15:37:20
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agenda'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Cyn i mi alw Darren Millar, rwyf newydd fethu galw Andrew R.T. Davies ar bwynt gwybodaeth.

Diolch, Llywydd. Yn y cellwair am y piler hyfryd sy'n eistedd wrth fy ymyl y dyddiau hyn, fe anghofiais i ddatgan buddiant cyn gofyn fy nghwestiwn. Rwy'n cyfeirio Aelodau at y datganiad o fuddiannau rwy'n ei wneud ar y gofrestr.

Mae hynny'n ddealladwy, ac rwy'n ymddiheuro am dorri ar eich traws gyda fy sylwadau am y piler. Fydda' i ddim yn sôn am bileri eto. Diolch am hynny ac am yr eglurhad hwnnw. Darren Millar. 

Diolch, Llywydd. Rheolwr Busnes, cafodd pobl ledled Cymru eu dychryn yr wythnos diwethaf gan y golygfeydd a welsant o Unol Daleithiau America, a ddangosodd Charlie Kirk, tad 31 oed â dau o blant, gŵr, a gafodd ei lofruddio'n greulon ar eu sgriniau o flaen torf ym Mhrifysgol Utah Valley. Roedd Charlie Kirk, wrth gwrs, yn geidwadwr ymroddedig, yn Gristion angerddol, ac yn hyrwyddwr rhyddid i lefaru. O ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn Unol Daleithiau America, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n talu teyrnged i waith Charlie, fel Senedd, ar y mater hwn o ryddid i lefaru ledled yr Unol Daleithiau, ac, yn wir, ledled y byd, gan gynnwys yma yn y Deyrnas Unedig, gyda'r sefydliad Turning Point, a'n bod ni'n achub ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr bod campysau ein prifysgolion bob amser yn hyrwyddwyr rhyddid i lefaru ledled Cymru. Allwch chi gadarnhau y byddwch chi'n cyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw?

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Yn wir, roedd sioc ar draws y byd pan welwyd y golygfeydd o'r Unol Daleithiau a llofruddiaeth, llofruddiaeth erchyll, Charlie Kirk. Diolch am godi hyn a rhannu eich sylwadau heddiw ar y trais brawychus hwn, yn ddigynsail i'w weld mewn cynifer o ffyrdd, sydd wedi ysgwyd y byd. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth lle, yn wir, rydyn ni'n falch iawn o'r diogelwch a sicrheir ar gampysau ein prifysgolion, a hefyd, yn wir, o ran y rhyddid i lefaru, ac rydyn ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ein sefydliadau addysg ac addysg uwch yng Nghymru o ran eu dysgu a'r cyfleoedd maen nhw'n eu cynnig i gymryd rhan mewn trafodaeth, sydd mor bwysig o ran y materion hyn, ond hefyd i ddweud ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r ffaith na ddylai hyn arwain at rai o'r golygfeydd erchyll, y golygfeydd anffodus iawn o drais, a welsom, er enghraifft, yn Llundain yr wythnos diwethaf, y bydden ni'n eu condemnio, o ran trais, trais gan gynulliad Tommy Robinson, a arweiniodd hefyd at drais yn erbyn yr heddlu a'n lluoedd arfog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt hwnnw heddiw. Mae'n rhaid i ni allu byw gyda'n gilydd, protestio'n heddychlon a thrafod yn heddychlon, a dysgu hefyd, yn heddychlon, gyda'n gilydd.

15:40

Trefnydd, mi fyddwch chi wedi gweld, dwi'n siŵr, fod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yr wythnos diwethaf o ran yr ymateb i stormydd y llynedd erbyn hyn, storm Bert a storm Darragh. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi gweld tywydd eithafol yn ddiweddar. Dwi'n nodi, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn fwy ffurfiol. Ond, yn amlwg, rydym ni yn mynd i mewn i'r gaeaf rŵan. Rydym ni wedi gweld llifogydd yn digwydd. Byddwch chi'n gwybod, yn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru, fod pobl yn ofnadwy o bryderus bob tro mae hi'n bwrw glaw yn drwm neu mae yna storm. Mae yna dal lot mawr o waith sydd angen cael ei wneud. Gaf i ofyn felly am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet efo cyfrifoldeb dros newid hinsawdd ynglŷn â'r trefniadau ynglŷn â'r gaeaf hwn, a pha sicrwydd ydyn ni'n gallu ei roi fod y Llywodraeth wedi dysgu'r gwersi eisoes sydd yn yr adroddiad hwn, yn lle gorfod aros misoedd efallai tan y bydd cyfle i ni ei drafod yn y Siambr hon? Diolch.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan; mae'n gwestiwn pwysig iawn, dwi'n meddwl—

—yn enwedig pan fyddwn ni'n meddwl am y tywydd gwael hyd yn oed dros yr wythnos diwethaf. Rydyn ni wedi cael fflachlifogydd, llifogydd sydyn, ac mae rhywfaint o hynny'n cael ei adlewyrchu, yn glir, o ran effaith newid hinsawdd. Mae pwysigrwydd adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd yn cael ei gydnabod yn glir gan y Llywodraeth hon. Rwy'n credu ei fod yn amserol, ac fe wna' i ofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ddarparu'r diweddariad hwnnw wrth i ni symud, unwaith eto, tuag at amseroedd pryderus. Er i ni allu dweud ein bod ni wedi cael haf da iawn—er iddo arwain at sychder ac anawsterau mawr iawn o ran amaethyddiaeth—rydyn ni'n gwybod bod ein hinsawdd yn newid, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Roedd yr argymhellion yn bwysig, ac fe wna' i ofyn am y diweddariad hwnnw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Mae'r datganiad cyntaf rwyf yn gofyn amdano ar ansawdd aer. Yn Abertawe, mae gennym ni broblem ddifrifol gyda llosgi deunydd gwastraff yn Mill Stream Way yn Llansamlet. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ardderchog i wahardd a gosod tâl premiwm ar domenni gwastraff heb eu hawdurdodi, ond mae pobl yn osgoi hyn trwy greu tân mawr yn hytrach na dympio, sydd hefyd yn anfon nwyon niweidiol i'r atmosffer. Pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i atal y dull hwn o waredu gwastraff?

Yr ail gais sydd gen i yw datganiad gan y Llywodraeth ar yr hyn y gellir ei wneud a pha gefnogaeth sy'n mynd i gael ei rhoi i greu mwy o ardaloedd dim galw diwahoddiad. Mae'r rhain yn boblogaidd iawn gyda thrigolion lleol, yn enwedig gyda thrigolion lleol hŷn.

Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod llosgi gwastraff yn cael ei reoli'n llym, a dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig iawn mae llosgi yn cael ei ganiatáu, ac mae angen yr awdurdod cywir i wneud hyn. Yn wir, dylai gwastraff ond gael ei reoli gan berson awdurdodedig ac y dylai unrhyw achos o drin gwastraff neu ei ddefnyddio fod yn unol â'r rheoliadau. Mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at gydnabod mai dim ond gweithredwyr sydd wedi'u hawdurdodi'n briodol all dderbyn, cludo, dyddodi, trafod, trin a defnyddio gwastraff. Felly, diolch i chi am godi hynny a thynnu sylw at y pryder hwnnw o ran llosgi gwastraff yn eich etholaeth chi, a hefyd i ystyried hyn o ran cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol o ran mynd i'r afael â hyn.

Mae'n ddiddorol iawn—. Mae eich ail gwestiwn ar alwadau diwahoddiad yn un diddorol, oherwydd, wrth gwrs, dydy galwadau diwahoddiad ddim yn anghyfreithlon ynddyn nhw eu hunain, ond mae masnachwyr twyllodrus sy'n anwybyddu sticeri dim galw diwahoddiad neu, yn wir, yn rhoi pwysau ar drigolion, yn torri'r gyfraith mewn gwirionedd. Mae hyn yn mynd yn ôl i'n hawdurdodau lleol o ran safonau masnach yng Nghymru, sydd â phwerau cryfach erbyn hyn o dan Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 i weithredu'n gyflym yn erbyn troseddwyr. Hefyd, mae yna berygl o erlyniad o dan y gyfraith defnyddwyr newydd o ganlyniad i'r pwerau cryfach hynny. Felly, mae swyddogion safonau masnach yn defnyddio'r pwerau hynny i ymchwilio i'r rhai sy'n achosi colledion ariannol a gofid, ac i gymryd camau yn eu herbyn. 

15:45

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, yn amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae busnesau twristiaeth yn sir Benfro yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â nifer o heriau oherwydd newidiadau polisi diweddar gan y Llywodraeth yma, ac yn wir yn San Steffan. Nid yw'r cynnydd mewn rheoliadau yn y sector yn cydnabod amgylchiadau unigol busnesau'r sector mewn gwirionedd. Yn wir, mae polisïau fel y trothwy hunanarlwyo 182 diwrnod, cynnydd mewn premiymau'r dreth gyngor, graddau sylfaenol Tystysgrif Perfformiad Ynni a chynlluniau Llywodraeth Cymru nawr ar gyfer cynllun trwyddedu statudol i gyd yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar y busnesau hynny. Felly, Trefnydd, mae angen atgyfnerthu'r sector twristiaeth, nid ei reoleiddio ymhellach. Yng ngoleuni'r pwysau cynyddol ar fusnesau, mae'n hanfodol ein bod ni'n cael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y sector a sut mae'n bwriadu cefnogi'r sector yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Paul Davies. Ydw, rwy'n cydnabod y pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud o ran yr heriau i ddiwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru yng Nghymru, ond rwyf hefyd yn credu, ar ôl yr haf rhyfeddol hwn rydym wedi'i gael, fod yn rhaid i ni ddathlu effaith gadarnhaol a manteision twristiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi gallu mwynhau rhywfaint o'n gwyliau yng ngorllewin Cymru, er enghraifft, yn eich etholaeth chi, Paul, fel y gwyddoch chi.

Mae'n hollol anhygoel gweld bywiogrwydd y diwydiant twristiaeth yn sir Benfro, gyda llawer o ymwelwyr o dramor; y diwydiant lletygarwch gwych; y defnydd arbennig o'n llwybr arfordirol a'r holl antur. Mae teuluoedd yn sicr yn dod i orllewin Cymru. Felly, ydym, wrth gwrs rydyn ni'n ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth, gyda'r busnesau. Rydyn ni'n edrych atyn nhw o ran dysgu sut y gallwn ni wella amodau a seilwaith, gan weithio gyda'n hawdurdodau lleol, ond gadewch i ni hefyd ddathlu a chydnabod mai Cymru yw'r gyrchfan i dwristiaid.

Hoffwn ddatganiad, os gwelwch yn dda, ar bwysigrwydd gwasanaethau llyfrgell i'n cymunedau. Yng Nghaerffili, mae cynlluniau'r cyngor i gau 10 o lyfrgelloedd wedi'u gohirio nawr, diolch byth, ond dydyn ni ddim yn gwybod am ba hyd. Mae'r saga hon wedi bod yn mynd ymlaen ers i'r cyngor gyflwyno cynlluniau ar frys i gau'r 10 llyfrgell hyn, a chawsant eu herio ar hynny yn y llysoedd. Nawr, mae barnwr wedi caniatáu gwaharddeb interim. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r llyfrgelloedd aros ar agor nawr nes bod yr her gyfreithiol wedi'i setlo, ond nid yw pob llyfrgell wedi ailagor, oherwydd roedd y cyngor wedi bwrw ymlaen â'r broses o'u cau nhw ddiwedd mis Awst. Mae rhai staff wedi gadael oherwydd yr ansicrwydd. Rwy'n gwybod bod oedi wedi bod o ran ailagor Nelson yn llawn, er enghraifft, o ganlyniad.

Nawr, rwy'n sylweddoli na fyddwch chi'n gallu gwneud sylwadau ar achos cyfreithiol, wrth gwrs, ond mae llawer o drigolion yn gobeithio y bydd y gohiriad hwn yn rhoi amser i grwpiau cymunedol wneud cynlluniau i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gynnal y safleoedd hyn, os byddan nhw'n cau. A gaf i ofyn i chi pa gefnogaeth y gallai'r Llywodraeth ei rhoi i awdurdodau lleol i helpu i rymuso'r mathau hyn o grwpiau lleol, yn ddamcaniaethol? A wnewch chi ymuno â mi i ddatgan pa mor hanfodol bwysig yw ein llyfrgelloedd i'n plant a'n cymunedau?

Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i gydnabod pwysigrwydd hanfodol ein gwasanaethau llyfrgell yn ein cymunedau. Rwy'n nodi'r waharddeb a galla' i ddim gwneud sylwadau pellach ar hynny, ond rwy'n ddiolchgar eich bod chi hefyd wedi sôn am y cyfleoedd sydd wedi codi ar gyfer ymgysylltiad cymunedol, sydd mewn gwirionedd—. Ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth i a llawer o rai eraill, ers cryn amser erbyn hyn, mae llyfrgelloedd wedi cael eu cefnogi a'u cynnal gan grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned ac wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy'n credu y byddwn ni'n sicr yn cymryd hynny'n ôl ac yn edrych ar hynny o ran canllawiau ynghylch pwy all ddarparu'r arbenigedd hwnnw a throsglwyddo'r wybodaeth honno i drigolion a chymunedau yng Nghaerffili.

15:50

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar ddeallusrwydd artiffisial, pwnc ein hoes, sy'n eithaf amserol o ystyried y cyhoeddiadau ar lefel y DU heddiw? Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd cael diweddariad, datganiad gan Lywodraeth Cymru ar waith a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar hyn. Rwy'n arbennig o bryderus am rôl rhai agweddau ar ddeallusrwydd artiffisial o ran gwaethygu anghydraddoldeb, yn enwedig apiau 'nudification' fel y'i gelwir sy'n creu delweddau noeth ffug o fenywod heb eu caniatâd. Mae wedi digwydd i wleidyddion; gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom ni; gallai fod wedi digwydd yn barod a dydyn ni ddim yn gwybod amdano, ond yn bryderus mae'n digwydd i ferched ysgol hefyd, gydag effeithiau dinistriol.

Felly, rwy'n ceisio sicrwydd ar y mesurau a'r camau diogelu sydd angen eu rhoi ar waith yma, ond hefyd fe wnes i gwrdd ag Aelod Seneddol sy'n ymgyrchu ar y mater hwn dros yr haf. Felly, a gaf i annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gryfhau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023? Fe wnaeth y Ddeddf honno wahardd creu delweddau heb ganiatâd, ond mae angen i ni fynd ymhellach, rwy'n credu, a'i gwneud hi'n anghyfreithlon i lawrlwytho apiau sy'n creu delweddau noeth yn y lle cyntaf a dileu'r feddalwedd sy'n eu galluogi i gael eu creu. Yn natganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar 28 Mehefin, dywedodd hi

'y bydd y Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol...gyda...Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod datblygiadau technolegol yn gwasanaethu er budd y cyhoedd ac yn cyd-fynd â gwerthoedd cymdeithas Cymru.'

Felly, mae angen datganiad arnom ni ar sut mae hynny'n mynd i ddigwydd, oherwydd mae angen i ni symud yn gyflym i ddatrys pethau a pheidio â chaniatáu i ddeallusrwydd artiffisial waethygu ac ehangu misogynedd a gwahaniaethu.

Diolch yn fawr iawn, Hannah Blythyn, am godi'r pwynt hanfodol bwysig hwnnw. Fel y dywedwch chi, a'r hyn a nodwyd yn glir gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran y grŵp cynghori sy'n edrych ar ddeallusrwydd artiffisial, mae hyn yn ymwneud ag edrych ar—ac yn wir mae hwn yn fater partneriaeth gymdeithasol, a gwaith amrywiol yr undebau llafur o ran cyngor partneriaeth y gweithlu, yn ymgysylltu â hyn—bod yn rhaid datblygu deallusrwydd artiffisial er budd y cyhoedd.

Mae yna her gwirioneddol yn y fan yma. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU o ran cydnabod effaith cam-drin ar-lein, fel yr ydych chi wedi'i ddisgrifio. Rwy'n ddiolchgar eich bod chi wedi codi hyn oherwydd rwy'n credu bod hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol o ran cydraddoldeb a cham-drin menywod a merched a menywod ifanc yn benodol yn ofnadwy, ac yn wir mae hyn yn rhywbeth lle y gall yr enghreifftiau hynny rydych chi wedi'u rhoi ond waethygu cam-drin a chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y modd hwn. Felly, mae'n rhaid i ni weithredu ar hyn, ac yn sicr byddaf yn codi hyn nid yn unig gyda'n cyd-Aelodau yma yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn Llywodraeth y DU hefyd, gan gydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau i ymdrin ag ef.

Hoffwn godi hyd toriad haf y Senedd gyda'r Trefnydd, gan eich bod chi hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Busnes. Gwnaeth Holyrood, San Steffan a Stormont i gyd ddychwelyd o doriad yr haf yn ystod wythnos gyntaf mis Medi, ond dim ond heddiw mae'r Senedd yn eistedd am y tro cyntaf ers 16 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd dau fis cyfan heb unrhyw graffu priodol, ac yn ystod y toriad, fel y gwyddoch chi, mae Aelodau'r Senedd yn cael eu cyfyngu o ran nifer y cwestiynau ysgrifenedig y gallan nhw eu cyflwyno i bump yr wythnos. Felly, a all y Trefnydd amlinellu pam fod toriad haf y Senedd yn hirach na Seneddau eraill y DU, ac a oes ganddi unrhyw gynlluniau i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â deddfwrfeydd eraill y DU i gryfhau'r craffu ar Lywodraeth Cymru, yn enwedig gan fod diffyg craffu wedi'i nodi fel rheswm dros yr angen i gael Senedd estynedig?

Wel, Gareth Davies, dyma'r trefniadau sy'n cael eu gwneud gan ein Pwyllgor Busnes trawsbleidiol. Dydw i ddim yn credu bod angen i ni ddweud mwy ar y mater hwn, heblaw, wrth gwrs, ein bod ni'n gweithio heddiw a dydy San Steffan ddim yn gweithio am y tair wythnos nesaf mewn gwirionedd oherwydd cynadleddau'r pleidiau, ac rydyn ni wedi bod ar gael ac yn gwbl hygyrch fel Llywodraeth Cymru drwy gydol yr haf. Ond mae ein trefniadau ar gyfer toriadau yn gytundeb trawsbleidiol sy'n cael ei wneud gan y Pwyllgor Busnes, gyda chefnogaeth ein Llywydd a'n Dirprwy Lywydd, o ran galluogi hynny i gael ei drafod a chael cytundeb arno.

15:55

Dim ond i egluro, mater i'r Pwyllgor Busnes, nid y Llywodraeth, yw dyddiadau toriadau'r Senedd.

Trefnydd, ers mis Ebrill, rwyf wedi gofyn i chi a'ch Llywodraeth dro ar ôl tro am eglurder ynghylch sut mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn bwriadu ymateb i ddyfarniad pwysig iawn y Goruchaf Lys ar y diffiniad o fenyw. Fe wnaethoch chi ddweud bod angen yr haf arnoch chi i benderfynu pa gamau roeddech chi'n mynd i'w cymryd ar hyn cyn i chi allu gwneud datganiad llafar. Wel, mae'n amser i chi wneud hynny. Mae pum mis wedi mynd heibio ers dyfarniad y Goruchaf Lys. Does bosib bod digon o amser wedi mynd heibio erbyn hyn i chi addasu i'r gyfraith a hyd yn oed, efallai, sefydlu beth yw menyw mewn gwirionedd. Ond o ystyried yr arwyddocâd, hoffwn ofyn unwaith eto am ddatganiad llafar ar lawr y Senedd ar y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gywiro ei pholisïau fel eu bod yn gyson nawr â dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cael y cyfle i drafod, dadlau a gofyn cwestiynau ar ymateb eich Llywodraeth i hyn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones, ac fel yr wyf wedi'i ddweud wrthych, ac yn wir wrth gwrs o ran unrhyw gwestiynau o'r math hwn, rwy'n hapus iawn i ymateb, fel y mae Ysgrifenyddion a Gweinidogion eraill y Cabinet wedi'i wneud hefyd. Rydych chi'n gwbl ymwybodol, rwy'n gwybod, fel Aelod, bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi bod yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau, neu yn wir y cod ymarfer ac effaith y Goruchaf Lys ar y cod ymarfer. Yn wir, maen nhw newydd adrodd, fel y gwyddoch chi, ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw. San Steffan sy'n gyfrifol am hynny nawr wrth gwrs, ac mae hynny'n rhywbeth lle rwy'n gwybod bod y Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb, Bridget Phillipson, wedi cael yr ymateb gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nawr, a byddwn ni'n clywed canlyniad eu hystyriaeth maes o law.

Trefnydd, fe ofynnais i am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar rôl ysbytai cymunedol ledled Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn fy rhan i o'r byd lle mae'r gwelyau yn Ysbyty Gorseinon, ysbyty cymunedol poblogaidd, yn cael eu symud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'u canoli yn Ysbyty Singleton. Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu mai mesur dros dro ydyw, er ein bod ni wedi gweld mesurau dros dro blaenorol yn y bwrdd iechyd hwn yn dod yn rhai parhaol. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r ysbytai cymunedol hyn a'r pwysau maen nhw'n eu cymryd oddi ar y GIG, y pwysau maen nhw'n eu cymryd oddi ar y system gofal cymdeithasol a'r gofal adsefydlu maen nhw'n ei gynnig i gleifion a pham mae'r ysbyty hwn yn agos at galonnau pobl ac eisiau cael ei ddiogelu. Felly, rwy'n gofyn am y datganiad hwnnw heddiw i sicrhau bod ysbytai cymunedol, fel yr un yng Ngorseinon, yn cael eu diogelu ymhell i'r dyfodol.

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw hwn o ran darparu gwasanaethau. Wrth gwrs, mae hynny'n bwysig o ran yr amrywiaeth o wasanaethau, yr amrywiaeth o ffyrdd o gael mynediad at wasanaethau, o ofal sylfaenol i ysbytai cymunedol, ac yn wir i wasanaethau arbenigol yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth yn y gymuned. Felly, mater i'r bwrdd iechyd ydyw ac mae'n fater o gasglu barn cleifion ac ymgynghori â nhw, rwy'n gwybod, ond mae angen ystyried hefyd beth fydd y ddarpariaeth a'r mynediad mwyaf priodol at wasanaethau iechyd yn y gymuned. Wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld ledled Cymru bwysigrwydd yr amryw ffyrdd o gael mynediad at ofal ysbyty a thrwy ofal sylfaenol, sy'n ein harwain o ran ein cysylltiadau bob dydd â'r GIG.

Diolch. Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Ymarfer Pegasus, datganiad llafar yn ddelfrydol. Gwnaeth adroddiad modiwl 1 ymchwiliad COVID-19 y DU alw am ymarferion rheolaidd ar bandemig ledled y DU bob tair blynedd, yn cynnwys Gweinidogion y DU, Llywodraethau datganoledig, y GIG, gofal cymdeithasol, arweinwyr iechyd y cyhoedd a thimau coch allanol i herio cynllunio a sicrhau bod gwersi yn cael eu gweithredu. O ganlyniad, mae Ymarfer Pegasus, efelychiad pandemig lefel genedlaethol haen 1, yn dechrau'r wythnos hon a bydd yn cael ei gynnal tan fis Tachwedd, dan arweiniad Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Fodd bynnag, er bod ymchwiliad COVID y DU wedi nodi y dylai ymarferion gynnwys Gweinidogion ac uwch swyddogion o'r gweinyddiaethau datganoledig, dywedodd tîm ymchwiliad COVID Llywodraeth Cymru wrth COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yr wythnos diwethaf:

'Rydyn ni'n gyfranogwr, yn hytrach na bod rôl drefnu gennym ni, felly rydyn ni yn nwylo Llywodraeth y DU (Swyddfa'r Cabinet i fod yn fwy manwl gywir). Rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw am rywfaint o wybodaeth y gallwn ni ei throsglwyddo i chi ond dydyn ni ddim wedi cael unrhyw beth eto.'

Dydy hyn ddim yn swnio fel y dull pedair gwlad yr oedd cadeirydd ymchwiliad COVID y DU ei eisiau. Mae'r teuluoedd hefyd yn pryderu mai dim ond ymarfer haen 1 ydyw, sydd, cyn belled â'u bod yn ei wybod, yn anwybyddu argymhelliad modiwl 1 o gynnal ymarfer systemau cyfan ac yn canolbwyntio ar y GIG yn unig, er gwaethaf y ffaith bod yr ymchwiliad wedi beirniadu holl genhedloedd y DU dro ar ôl tro am ganolbwyntio ar y GIG yn unig. Mae angen datganiad llawn a manwl ar y Senedd yn unol â hynny, ac mae'n haeddu datganiad o'r fath.

16:00

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, am y cwestiwn yna. Byddaf yn sicrhau bod rôl Llywodraeth Cymru yn cael ei egluro. Byddaf yn ysgrifennu atoch a byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny'n glir iawn o ran dealltwriaeth a diddordeb ehangach y cyhoedd. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn egluro hynny, a diolch i chi am godi'r cwestiwn yna.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru)

Eitem 4 sydd nesaf heddiw, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o sefyll yma heddiw i nodi cyflwyno'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) i'r Senedd. Mae'r Biliau hyn yn rhan o'n huchelgais ehangach i greu deddfwriaeth sy'n fodern, yn ddwyieithog ac wedi'i chynllunio'n unigryw ar gyfer Cymru. Gyda'i gilydd, maent yn dangos ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud ein cyfreithiau'n fwy hygyrch ac yn haws i'w deall. Maent hefyd yn adlewyrchu'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud wrth lunio fframwaith cyfreithiol sy'n gwasanaethu ein cenedl yn wirioneddol.

Mae'r Biliau hyn yn dilyn y cyfuniad cynharach o gyfraith yr amgylchedd hanesyddol a gyflawnwyd gyda Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae manteision cydgrynhoi ar gyfer gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cael eu gwireddu pan welwn fwy o hyder i fusnesau, y Llywodraeth a'r cyhoedd wrth ddefnyddio a chymhwyso'r gyfraith sy'n effeithio arnynt. Rwy'n rhagweld y bydd hyn hyd yn oed yn fwy ym maes cyfraith gynllunio.

Mae'r system gynllunio yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae'n chwarae rhan sylfaenol ym mywydau pobl. Nid yw'n ymwneud â defnydd tir yn unig, mae'n ymwneud â llunio'r Gymru y mae arnom ei heisiau heddiw ac yfory i'n cymunedau. Mae'n hanfodol i greu datblygu a mannau cynaliadwy. Mae'n cyflawni ffyniant economaidd sy'n seiliedig ar werth ac yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Felly, mae system gynllunio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol, ac rwy'n credu bod symleiddio a moderneiddio'r gyfraith, drwy gydgrynhoi, yn rhagofyniad i gyflawni hyn.

Oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y llyfr statud cynllunio, gofynnon ni i Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr gynnal adolygiad manwl o'r maes hwn o'r gyfraith. Mae eu hadroddiad dilynol yn nodi'r materion a'r anawsterau i weithredwyr a defnyddwyr y system gynllunio. Roedd y comisiwn yn glir bod angen symleiddio a chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth bresennol. Dirprwy Lywydd, mae'n farn yr wyf wir yn ei rhannu ar ôl ymarfer mewn cyfraith gynllunio o'r blaen.

Byddaf i a llawer o rai eraill yn y Siambr hon yn cydnabod anawsterau dehongli'r fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae'n dameidiog ac mae'n anodd llywio drwyddo. Mae'n seiliedig ar ddeddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU, llawer ohoni o ddegawdau yn ôl. Gall y gwahaniaeth cynyddol rhwng y gyfraith yng Nghymru a Lloegr ei gwneud hi'n anodd nodi'r gyfraith yma. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei gwaethygu gan welliannau o ddeddfwriaeth diwygio cynllunio a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dim ond agweddau cyfyngedig sy'n berthnasol i Gymru. Rydych chi'n gwybod bod gennych broblem pan fydd Deddf wedi'i diwygio gymaint o weithiau fel bod mwy na 40 o adrannau bellach wedi'u mewnosod rhwng adrannau gwreiddiol 61 ac adran 62, gyda rhifo yn cynnwys 61QM a 61Z2.

Mae'n bwysig bod yr holl randdeiliaid sy'n gweithio gyda'r system yn gallu cael mynediad a deall y gyfraith sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt. Mae'r angen cynyddol am gyngor cyfreithiol i weithredu, defnyddio a chymryd rhan yn y system gynllunio yn bryder gwirioneddol. Ni ddylai pa mor effeithiol y mae'r system gynllunio yn gweithredu, neu ba mor effeithiol y mae cymunedau'n ymgysylltu â hi, ddibynnu ar ba un a ellir cael cyngor cyfreithiol neu ei fforddio. Mae cyflwyno'r Bil Cynllunio (Cymru) yn mynd i'r afael â'r cymhlethdodau a'r materion hyn. Mae'n dwyn ynghyd y prif ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n sail i'n system gynllunio.

Ar yr un pryd, mae'n moderneiddio strwythur a geiriad y gyfraith, yn egluro ei heffaith ac yn dileu anghysondebau. Mae darpariaethau sy'n ddiangen yn cael eu hepgor. Mae'n Fil sy'n darparu'r datganiad mwyaf cynhwysfawr a hygyrch o'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cynllunio gwlad a thref yn unrhyw le yn y DU. Bydd yn golygu bod deddfwriaeth yn haws i'w defnyddio a'i deall i bawb sy'n gorfod ymgysylltu â hi.

Nid yw cydgrynhoi yn ymarfer mecanyddol o gopïo darpariaethau presennol i mewn i Fil newydd gydag ychydig o newidiadau. Mae'n cynnwys ystyriaeth ofalus a manwl iawn o'r gyfraith gyfredol i ddeall ei bwriad a'i chymhwyso. Mae'n gofyn am ddealltwriaeth fanwl o sut mae'r gyfraith yn gweithredu yn ymarferol i sicrhau bod yr effaith gyfreithiol bresennol yn cael ei chynnal wrth i'r gyfraith ei hun gael ei moderneiddio.

Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth gynllunio ar hyn o bryd yn yr iaith Saesneg yn unig; mae hyn yn rhwystr i'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg fel iaith y gyfraith. Mae cydgrynhoi cyfraith gynllunio i Gymru yn cefnogi ein nod o system gyfreithiol wirioneddol ddwyieithog ac yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destunau cyfreithiol a gweinyddol.

Mae ein gwaith i gynhyrchu'r Biliau hyn wedi'i lywio gan gasgliadau ac argymhellion adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Roedd yr adroddiad hwnnw ei hun yn gynnyrch ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch diffuant i'r comisiwn am eu hadolygiad manwl iawn, ac am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u cymorth wrth lunio'r ddau Fil.

Dirprwy Lywydd, tynnodd y broses ddrafftio sylw hefyd at rai materion ynghylch y gyfraith bresennol. Mae newidiadau wedi'u gwneud i fynd i'r afael â'r materion hyn lle mae hynny'n cael ei ganiatáu gan Reolau Sefydlog y Senedd ar Filiau cydgrynhoi. Mae'r newidiadau hyn wedi'u crynhoi yn nodiadau'r drafftwyr sy'n rhan o'r memorandwm esboniadol cysylltiedig. Mae'r newidiadau yn cynnwys materion fel cysoni a moderneiddio terminoleg, eglurder amserlenni, cysondeb prosesau a dileu darpariaethau darfodedig. Pan fo newidiadau wedi'u symud ymlaen a oedd yn gofyn am argymhelliad ffurfiol Comisiwn y Gyfraith o dan Reol Sefydlog 26C.2(v), rydym hefyd wedi ceisio a derbyn yr argymhellion hynny. Gall aelodau weld y rheini yn yr atodiadau i'r memorandwm esboniadol, ac mae rhagor o wybodaeth hefyd yn nodiadau'r drafftwyr.

Rwy'n falch iawn bod Bil Cynllunio (Cymru) yn adlewyrchu anghenion penodol Cymru. Mae'n sefydlu fframwaith cyfreithiol penodol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a llywodraethiant Cymru, yn annibynnol ar y system gynllunio yn Lloegr. Mae'n diweddaru terminoleg a chyfeiriadau i adlewyrchu'r trefniadau sefydliadol a chyfansoddiadol sy'n berthnasol yng Nghymru. Mae'n hepgor darpariaethau sy'n berthnasol i Loegr yn unig, megis Gorchmynion datblygu maerol a chymdogaeth. Bydd y symleiddio hwn yn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ddeall y gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru.

Fel y gwnaethom wrth gydgrynhoi deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol, rydym yn manteisio ar y cyfle drwy'r Bil cynllunio i greu cod cyfraith Cymru. Ochr yn ochr â chydgrynhoi, mae codio yn darparu offeryn i greu a chynnal trefn yn llyfr cyfraith Cymru. Os caiff ei phasio gan y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth hon a'r is-ddeddfwriaeth ddilynol yn ffurfio cod cyfraith Cymru ar gynllunio. Bydd hyn yn helpu i osgoi darnio cyfraith gynllunio yn y dyfodol.

Mae'r Bil hwn yn amlwg yn nodi moment dyngedfennol yn stori datganoli ein system gynllunio. Pe bai'r Senedd yn pasio'r Bil, bydd ein dibyniaeth ar wahanol hen Ddeddfau San Steffan ar gyfer ein cyfraith gynllunio yn dod i ben. Bydd hefyd yn golygu y bydd unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio Cymru yn y dyfodol yn llawer haws, gyda newidiadau yn cael eu gwneud i un testun cyfunol.

Yn cyd-fynd â'r Bil Cynllunio mae'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru), sy'n gwneud y diwygiadau a'r diddymiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth bresennol. Mae'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion i gefnogi gweithredu'r prif Fil. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u rhoi mewn Bil ar wahân. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y Bil cynllunio yn parhau i ganolbwyntio ar gyfraith sylweddol ac nad yw'n cael ei rwystro gan Atodlenni hir. Er bod y Bil darpariaethau canlyniadol yn Fil cydgrynhoi o fewn ystyr Rheol Sefydlog 26C, nid yw'n bwriadu ffurfio rhan o'r cod ar gyfraith gynllunio. Mae ei ddarpariaethau yn drosiannol neu o ddiddordeb cyfyngedig. Mae ei gadw ar wahân yn helpu i gynnal eglurder a defnyddioldeb y prif Fil cynllunio.

Dirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y Biliau hyn. Nid ydynt yn ymwneud â thacluso'r llyfr statud yn unig; maen nhw'n ymwneud â gwneud i'r gyfraith weithio'n well i bawb. Maent yn ymwneud â sicrhau bod cyfraith gynllunio yng Nghymru yn glir, yn hygyrch ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Maent yn adlewyrchu anghenion penodol Cymru a'n hymrwymiad i ddeddfwriaeth fodern, ddwyieithog. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y Biliau hyn yn symud ymlaen drwy'r Senedd, ac at weithio gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wrth iddynt ymgymryd â'r camau cyntaf o ystyriaeth. Diolch.

16:05

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n gwybod bod gwaith helaeth wedi ei wneud ar y Bil hwn eisoes, ac nid oes amheuaeth bod angen symleiddio'r gyfraith gynllunio ar frys. Yn amlwg, mae angen cyfreithiau y mae pobl yn gallu eu deall, ac mae'n iawn fod ailstrwythuro deddfau cynllunio i egluro'r fframwaith cyfreithiol yn mynd i helpu i wneud ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio yn fwy hygyrch ac yn haws eu deall.

Fodd bynnag, wedi dweud hynny, mae beirniaid yn dadlau bod y Bil arfaethedig, yn ei ffurf bresennol, yn gyfle a gollwyd, oherwydd cydgrynhoi technegol yw yn hytrach na'r diwygio polisi sydd ei angen yn ddirfawr. Gyda'r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i'r Bil hwn, credir y gellid bod wedi cymryd camau i ddeddfu ar gyfer rhai o'r prif faterion sy'n wynebu cynllunio, yn enwedig oedi wrth wneud penderfyniadau a achosir gan brinder adnoddau a'r materion sy'n ymwneud â CDLlau awdurdodau cynllunio lleol.

Nid yw eglurder technegol, y mae'r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni, ynddo'i hun yn mynd i gyflymu'r broses gynllunio na'i gwneud yn fwy effeithlon. Mae swyddogion cynllunio eisoes yn gwybod y rheolau a'r rheoliadau. Mae'r materion y maen nhw'n eu hwynebu yn ymwneud yn fwy ag adrannau cynllunio sydd heb adnoddau a nifer y cyrff statudol a chyrff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy y mae'n rhaid ymgynghori a nhw, a all ychwanegu cyfnodau o oedi hir. Ni ddylem anghofio hefyd bod adrannau gorfodi cynllunio hefyd yn brin ofnadwy o staff.

Mae busnesau bach a chanolig wedi bod yn dweud ers peth amser bod llywio drwy system gynllunio heb adnoddau yn parhau i gyflwyno'r her fwyaf, oherwydd yn wahanol i adeiladwyr tai mawr, nid ydynt mewn sefyllfa i gyfeirio cyfalaf i brosiectau newydd pan fydd oedi. Nodaf eich bod wedi dweud eich bod yn mynd i fuddsoddi £9 miliwn mewn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfarwyddiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru; fodd bynnag, nid yw'n glir sut y bydd hyn yn cyflymu'r gyfradd gymeradwyo cynllunio yn uniongyrchol. Gweinidog, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio at y dibenion y bwriadwyd?

Rydych hefyd wedi dweud y bydd ffioedd ceisiadau cynllunio uwch. A fydd y ffioedd hyn yn cael eu neilltuo i'w defnyddio ar gyfer ehangu adrannau cynllunio neu a fyddant yn mynd i gronfeydd cyffredinol? Er fy mod yn siŵr y bydd cyllid ychwanegol PCAC, CNC a chyfarwyddiaeth gynllunio Llywodraeth Cymru yn cael ei groesawu gan y sefydliadau hyn, pa gynlluniau sydd gennych i wella cyllid ymgynghoreion statudol a chyrff cymeradwyo a SDCau i'w helpu i'w cynnal i wella eu gweithlu er mwyn lleihau oedi?

O ran cynllunio, ymddengys fod problem fawr o ran cynlluniau datblygu lleol sydd wedi dyddio, ac mae hyn yn achosi problemau oherwydd bod cwmnïau adeiladu yn cael eu gadael yn teimlo'n ansicr iawn. O safbwynt technegol, mae'r Bil hwn bron yn gyflawn a dylai symud ymlaen yn weddol hawdd. Fodd bynnag, a fyddech chi'n ystyried cryfhau'r Bil hwn i gynnwys rhai rheoliadau newydd a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag oedi?

Er enghraifft, fel yr wyf yn ei ddeall, mae'r Bil yn bwriadu egluro dyletswyddau ACLl wrth baratoi CDLlau a chynlluniau datblygu strategol, gan gynnwys gofynion ar gyfer datganiadau cyfranogiad cyhoeddus. Gellid ymestyn y rhan hon o'r Bil i gefnogi adeiladwyr cartrefi BBaChau drwy ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu lleol ddyrannu safleoedd o lai na 50 o unedau, gosod trothwy 50 uned ar gyfer datblygiadau mawr, a chyflwyno cynllun dirprwyo cenedlaethol. Gallech hefyd alluogi mabwysiadu CDLlau yn gyflymach trwy ddeddfu ar gyfer cynyddu'r defnydd o adolygiadau ffurf fer a chyflwyno dyddiadau cau statudol cryfach ar gyfer mabwysiadu cynlluniau lleol unwaith y byddant yn dod i ben.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf am grybwyll treftadaeth a gwerth cymunedol—meysydd sy'n agos at fy nghalon. Er bod proses sylweddol ar gyfer cynllunio adeiladau newydd a newidiadau i adeiladau sydd eisoes yn bodoli, nid oes gofyniad cynllunio i ddymchwel adeilad oni bai fod ganddo statws gwarchodedig neu ei fod mewn parth cadwraeth dynodedig, sy'n cael eu dyrannu gan yr awdurdod lleol. Yn anffodus, mae hyn yn gadael llawer o adeiladau sydd o bwysigrwydd cymunedol yn agored i fympwyon datblygwyr nad ydynt yn ystyried sut y gall adeilad gyfrannu'n sylweddol at hunaniaeth ardal a/neu gymuned.

Gweinidog, byddwch chi'n gwybod faint o weithiau rydyn ni wedi trafod y mater hwn yn y Siambr ac wedi dadlau o blaid Gweinidogion yn ymyrryd i amddiffyn rhai adeiladau nad yw Cadw yn eu hystyried yn ddigon hanesyddol i fod angen eu diogelu. Nid oedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 o reidrwydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn. A oes gan y Llywodraeth awydd i gyflwyno rhyw fath o ofyniad cynllunio yn y Bil a fydd ei angen er mwyn dymchwel adeilad y mae cymuned yn ei weld yn bwysig i'w llesiant, ond nad oes ganddo statws gwarchodedig arbennig? Diolch.

16:10

Diolch yn fawr iawn, Joel. Dim ond i ateb y pwynt cyntaf a wnaethoch, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn mewn gwirionedd ein bod yn cydgrynhoi'r gyfraith. Nid wyf yn credu bod angen i mi ymddiheuro am wneud hynny'n flaenoriaeth, oherwydd mae'r gyfraith yn gymhleth iawn, iawn, a bydd hyd yn oed rhywun sydd wedi ymarfer ym maes y gyfraith gynllunio ers degawdau, fel y gwnes i, yn cael trafferth weithiau i ddeall beth sydd mewn grym yng Nghymru a beth sydd ddim.

Roedd gweddill eich cyfraniad yn ymwneud â diwygiadau yr hoffech eu gwneud. Fe wnes i'r pwynt yn fy araith, a byddaf yn ei wneud eto, y bydd y diwygiadau hynny yn llawer haws i'w gwneud unwaith y byddwn wedi cydgrynhoi'r gyfraith, ac felly yr hyn rydych chi'n ei wneud yw diwygio un darn o ddeddfwriaeth wedi'i godio. Os ydym yn cyflwyno diwygiadau i'r Bil hwn, bydd yn peidio â bod yn Fil cydgrynhoi ac yn dod yn Fil polisi gyda gweithdrefn hollol wahanol ynghlwm wrtho a bydd ganddo set hollol wahanol o ganlyniadau.

Dydw i ddim, mae gen i ofn, yn mynd i dderbyn eich argymhelliad na'ch gofyniad i ni roi unrhyw ddiwygiadau i hwn. Rydym wedi graddnodi'r Bil hwn yn ofalus iawn fel ei fod yn cydgrynhoi'r gyfraith. Lle mae pethau y gellid eu hystyried yn ddiwygiadau oherwydd bod yr iaith wedi newid, neu fod yna bethau sydd wedi digwydd, rydym wedi trafod hynny gyda Chomisiwn y Senedd i sicrhau bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud mewn gwirionedd yn dal i godio'r gyfraith bresennol, fel bod hwn yn parhau i fod yn Fil cydgrynhoi.

Rwy'n eich sicrhau bod rhai o'r materion rydych chi wedi'u codi yn faterion yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt, a'n bod yn credu y bydd y pwynt cydgrynhoi yn cyflymu unrhyw ddiwygiadau dilynol. Nid yw wedi ein hatal rhag rhoi diwygiadau drwodd. Aeth Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 drwodd ar sail yr hen gyfraith. Mae'r Senedd yn dal yn y broses o ystyried cyfres gyfan o offerynnau statudol sydd ynghlwm wrth y Ddeddf honno, er enghraifft. Yn wir, fe wnaethoch chi sôn eich hun bod y Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi yn ei system gynllunio.

Fe ddywedaf, ar bwynt gwleidyddol bach, un o'r rhesymau pam ein bod yn cael cymaint o anhawster wrth recriwtio cynllunwyr yw, yn anffodus, eu bod yn cael eu hystyried am flynyddoedd lawer yn ystod cyfnod y Ceidwadwyr fel staff swyddfa gefn nad oeddent yn bwysig iawn. Mewn gwirionedd, fel mae'n digwydd, maen nhw'n hollol ganolog i ddatblygiad. Mae'r staff swyddfa gefn hyn fel mae'n digwydd yn bobl eithaf sylfaenol. Fe wnes i'r pwynt hwnnw i Darren Millar pan oeddem gyda'n gilydd ar Sharp End neu un o'r rhaglenni gwleidyddol—rwy'n anghofio pa un, mewn gwirionedd—yn ddiweddar iawn. Mae'n hawdd siarad am staff gweinyddol a swyddfa gefn nes i chi ddadansoddi beth maen nhw'n ei wneud. Yn yr achos penodol hwn, maen nhw'n eithaf allweddol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac ni allwch eu hyfforddi'n gyflym. Felly, ar ôl peidio â bod yn eu hyfforddi ers degawd, mae'n cymryd ychydig o amser i ddal i fyny. Ond gallaf eich sicrhau bod y Llywodraeth wedi bod yn cynorthwyo gyda hynny. Mae wedi bod yn helpu awdurdodau lleol i recriwtio cynllunwyr yn fewnol. Mae wedi bod yn siarad â datblygwyr ynghylch sut y gallwn wneud yn siŵr y gellir lleddfu'r symudiad i'r sector preifat. Rydym wedi bod yn siarad â'n prifysgolion am gyrsiau y gall staff presennol eu cymryd i'w diweddaru.

Ond wedi dweud hynny i gyd, egwyddor sylfaenol yr hyn a ddywedais heddiw yw ei wneud yn fwy hygyrch. Mewn gwirionedd, bydd yn cyflymu'r broses, oherwydd bydd pobl yn cael llawer gwell mynediad iddo yn y lle cyntaf. Ni fydd angen cyfreithwyr arnynt i'w helpu i'w ddehongli. Mae'n haws i staff y cyngor eu hunain ei ddehongli, felly hefyd ymgymerwyr statudol hefyd.

Felly, rwy'n deall eich pwynt. Nid wyf yn mynd i dderbyn y demtasiwn i roi unrhyw eitemau diwygio i mewn i hwn. Bil cydgrynhoi technegol yw hwn, ond rwy'n gwrthod y rhagdybiaeth na fydd hyn ynddo'i hun yn ei gyflymu, oherwydd rwy'n credu y bydd yn gwneud hynny.

16:15

Mae’n rhaid i fi gytuno â’r Cwnsler Cyffredinol: dyw’r Bil yma ddim yn mynd i chwyldroi polisi cynllunio Cymru. Nid dyna yw ei fwriad. Ond mae yna gynnydd mewn cydgrynhoi. Mae yna fantais ynddo fe, achos mae’n rhoi seiliau i chi, wedyn, ar gyfer y gwaith diwygio a all ddilyn, wedyn, mewn ffordd llawer mwy strwythuredig. Rŷn ni, felly, yn croesawu'r egwyddor sylfaenol o ddod â chyfraith cynllunio Cymru at ei gilydd, sydd wedi bod ar wasgar, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi darlunio i ni, mewn un corff codeiddiedig, dwyieithog, Cymreig. Mae hwn yn gam eithriadol o bwysig ymlaen o ran eglurder, hygyrchedd a'r gallu, wedyn, i adnabod y bylchau ac i symud polisi cynllunio ymlaen ar gyfer y dyfodol.

Mae yna rai cwestiynau gen i—rhai ohonyn nhw rŷch chi wedi cyffwrdd arnyn nhw. O ran y Bil sydd wedi'i gyflwyno, a allech chi ddweud rhywbeth ynglŷn ag unrhyw newidiadau rhwng y drafft a gyhoeddwyd cyn yr haf? Ai mân newidiadau yn unig sydd wedi bod? Rŷch chi'n pwysleisio, wrth gwrs, eich bod chi wedi cael eich tystysgrif cydgrynhoi, a does yna ddim unrhyw bolisïau newydd wedi'u smyglo mewn i'r testun, ond sut ydyn ni fel Aelodau yn gallu sicrhau hynny? Oes yna ryw ddogfen ar gael neu ryw dabl sy'n ein galluogi ni i weld yr hen ddarpariaethau, i'w mapio nhw yn erbyn y gyfraith newydd mewn ffordd sydd yn cael gwared ar unrhyw amheuaeth bod yna unrhyw newidiadau polisi cudd yn rhan o'r broses?

Rŷch chi wedi cyfeirio at adroddiad Comisiwn y Gyfraith fel sbardun, y catalydd, a dweud y gwir, ac roeddech chi wedi gofyn am yr adroddiad yna fel cam cyntaf yn y broses. Unwaith eto, efallai yn y nodiadau gan y drafftwyr—dwi ddim wedi cael cyfle eto i ddarllen y nodiadau esboniadol i gyd—oes yn y nodiadau hynny, er enghraifft, ryw fath o dabl sydd yn edrych ar yr argymhellion gwreiddiol, a hefyd ymateb y Llywodraeth yn derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac sydd yn ein galluogi ni i ddeall sut mae hynny wedyn wedi'i drosi mewn i'r Ddeddf derfynol? Oes yna unrhyw beth wedi newid rhwng yr ateb gwreiddiol i'r argymhellion hynny a'r hyn sydd wedi bennu lan yn y testun? Mae'n dda i weld, er enghraifft, un o'r argymhellion yn ymwneud â chysondeb ac eglurder o ran y Gymraeg, ac mae hynny, er ddim yn newid polisi, achos roedd y rheidrwydd yna i gymryd y Gymraeg i mewn i ystyriaeth yn bodoli, ond roedd e'n bodoli ar wasgar mewn ffordd, efallai, nad oedd e ddim yn ddigon amlwg yn rhan o'r broses, ac mae hwnnw'n un o'r buddion, rwy'n credu, o ran y Bil drafft. 

Hefyd, o ran Comisiwn y Gyfraith, roedd yna rai argymhellion y gwnaethoch chi eu gwrthod, y rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd doedden nhw ddim yn argymhellion cydgrynhoi, fel dwi'n deall—roedden nhw yn argymhellion diwygio. A ydych chi wedi gwneud rhagor o waith ar y rheini? Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu gweithredu eisoes, am wn i, drwy ddulliau eraill, ond a oes yna waith pellach wedi cael ei wneud o ran Bil diwygio i'r dyfodol o ran yr argymhellion hynny? 

A allwch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â'r darpariaethau trosiannol? Hynny yw, sut mae hwn yn mynd i weithio er mwyn osgoi dryswch o ran ceisiadau ac apeliadau sydd eisoes yn y system sydd—? Ocê, dyw'r polisi ddim yn newid, ond mae'r ieithwedd yn newid ac, wrth gwrs, y sylfaen gyfreithiol. So, sut ydych chi'n datrys hynny?

Ac yn gysylltiedig â hynny, ac yn olaf, mae rhanddeiliaid fel Cymorth Cynllunio Cymru wedi pwysleisio'r angen i wneud y cod newydd yma yn hygyrch i gymunedau. Felly, pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y canllawiau newydd yma'n glir, mewn iaith syml, yn ddwyieithog ac ar gael i bobl ar lawr gwlad? 

Yn olaf, dyw'r gyfraith yma ddim yn mynd i ateb pob problem neu bob her yn y system gynllunio. Dyw hi ddim yn mynd i gynhyrchu mwy o swyddogion cynllunio, dyw hi ddim yn mynd i ateb pob un o'r diffygion polisi rŷn ni wedi eu trafod. Ond i fi, mae'n rhoi sylfaen gryfach i ni i fynd ati i wneud y gwaith diwygio yna i gryfhau llais cymunedau, i ddiogelu'r amgylchedd, i gefnogi twf cynaliadwy ac i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o'r broses gynllunio. Rŷn ni yn awr yn y Senedd yma yn mynd i osod y seiliau ac, wrth gwrs, mae yna gyfle wedyn yn mynd i fod yn y Senedd nesaf inni ddefnyddio'r seiliau yna yn feiddgar er lles a budd pobl Cymru.

16:20

Diolch, Adam. Rydych chi'n gwneud cyfres gyfan o bwyntiau yr wyf yn cytuno'n llwyr â nhw, wrth gwrs. Rwy'n falch iawn o'ch gweld chi'n croesawu'r cydgrynhoi, ac mae'r pwynt a wnaethoch chi wrth gloi yn y fan yna yn un da iawn. Wrth gwrs, mae'n sylfaen, os mynnwch chi, i system ddiwygiedig, oherwydd mae'n rhoi sail i bobl edrych ar yr hyn sydd mewn grym yng Nghymru mewn gwirionedd, ac yna penderfynu beth arall i'w wneud.

O ran rhai o'r cwestiynau eraill a ofynnwyd gennych, bydd nodiadau drafftiwr gydag ef, a byddant, cymaint â phosibl, yn ceisio esbonio'r broses a ddefnyddiwyd gan y drafftwyr, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i ddod i'w casgliadau. A dim ond i ddweud ei fod wedi cael ei ddrafftio ar yr un pryd—nid drafft Saesneg wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg mohono; mae wedi bod yn ddwyieithog trwy gydol ei broses.

Rydym wedi cael cyfranogiad Comisiwn y Gyfraith drwy gydol hyn, ac rydym wedi parhau i ymgysylltu â nhw yr holl ffordd drwodd. Yn ogystal, mae Dr Charles Mynors, prif awdur adroddiad Comisiwn y Gyfraith, wedi ymuno â thîm y Bil, sydd wedi bod o'r radd flaenaf, mewn gwirionedd, i rannu ei arbenigedd a'i wybodaeth helaeth. Mae wedi gweithio ar ddatblygu'r Biliau a'r dogfennau ategol, felly mae'n ymdrech ar y cyd, os mynnwch chi, yn sicr. Fel rhan o'r craffu wrth i ni fynd drwyddo, bydd tîm y Bil yn fy nghefnogi i yn sicr. Mae'n Fil technegol iawn a byddan nhw'n gallu esbonio'n union ble, mewn rhai achosion, rydym wedi gwneud newidiadau.

Ond i roi enghraifft i chi, mae'r ddogfen wedi tynnu sylw at yr ymagwedd at feysydd pwnc, felly mae gennym feysydd fel mwynau a gwastraff, lle mae'r darpariaethau hynny'n cael eu dwyn at ei gilydd neu heb eu hailddatgan lle nad oes ganddynt bellach effaith, yn hytrach na chael eu lledaenu ar draws cymaint â 15 o wahanol Ddeddfau. Felly, bydd adrannau cyfan yn dod â meysydd i rym, lle o'r blaen efallai y byddech wedi gorfod gwneud chwiliad eithaf fforensig i ddarganfod beth oedd mewn grym yng Nghymru. A bydd hyn, ynghyd â'r Bil a drafodwyd gennym yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad o'r blaen, lle mae ein terminoleg wedi newid er gwell yng Nghymru, hefyd yn helpu i sicrhau bod gennym set o reolau sy'n hygyrch ac yn hawdd cael gafael arnynt.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i ariannu Cymorth Cynllunio Cymru, a byddwn yn sicrhau bod y canllawiau ar gael, yn amlwg, yn y ddwy iaith, ond mewn fformat hygyrch hefyd. Rwy'n credu y bydd y Bil hwn wedi methu os nad yw aelodau'r cyhoedd yn teimlo'n fwy hyderus wrth gysylltu â'u hawdurdod cynllunio lleol heb gefnogaeth broffesiynol, oherwydd dylai hyn eu galluogi i deimlo'n eithaf hyderus eu bod yn deall beth maen nhw'n gofyn amdano, a pha effaith y bydd hynny'n ei gael ar eu prosiect penodol. Ac mae hynny o estyniad ar gartref i adeiladu BBaCh ac, yn wir, y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu mai dyna'r prawf, os hoffech chi, ei fod yn hygyrch yn y ffordd honno.

O ran gweithwyr cynllunio proffesiynol ac ati, unwaith eto, mae hyfforddi rhywun i fod yn weithiwr cynllunio proffesiynol yn llawer haws oddi ar sail darn wedi'i gydgrynhoi a'i godio o ddeddfwriaeth nag y mae ar sail rhywbeth lle rydych chi'n mynd yn ôl i Filiau ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, i geisio eu harchwilio. Adam, rwy'n gwybod eich bod chi'n hoffi gwneud hyn, fel yr wyf i hefyd—os edrychwch chi ar y Bil gwreiddiol ar wefan legislation.gov, mae'n amhosibl ei ddilyn, mewn gwirionedd: 'Os caiff hwn ei ddiddymu, caiff hwn ei ddiddymu, ac eithrio—gweler y seren.' Wyddoch chi, mae'n hunllef fawr. Felly, mewn gwirionedd, bydd hyn yn newid sylfaenol i hynny.

Hyd y gwn i, mae'r drafft a gyhoeddwyd yn gynharach, ar ddiwedd y tymor diwethaf, yr un peth. Rwy'n cyfaddef nad wyf wedi ei ailddarllen dros yr haf. Nid oes gennyf friff yma yn dweud wrthyf fod unrhyw newidiadau o sylwedd, felly rydw i'n mynd i gredu nad oes unrhyw newidiadau o sylwedd. Mae'n rhaid bod hynny'n iawn rwy'n credu, neu byddwn wedi cael fy mriffio ar hynny ar gyfer heddiw. Mae nodiadau'r drafftiwr yn newid wrth i ni fwrw ymlaen, oherwydd mae'n dal i edrych ar hynny, a byddwn ni'n rhoi'r rheini gerbron y Senedd hefyd.

16:25

Rwyf hefyd yn croesawu'r darn hwn o gydgrynhoi, ac rwy'n credu y bydd yn waddol mawr i'r Senedd nesaf gael rhywbeth fel bod y dinesydd yn gallu deall beth yw'r gyfraith a beth sy'n groes i reoliadau, fel y gallant wrthwynebu os oes angen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, p'un a ydym yn sôn am sied mewn gardd neu aráe enfawr o dyrbinau gwynt, mae angen i ni wybod beth yw'r rheolau a sut mae cynnig yn cydymffurfio. Dim ond ddoe, roedd rhywbeth yn y papur am Gyngor y Wirral yn methu hyrwyddo llwybr beicio oherwydd rhywbeth aneglur o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd wedi ei basio gan yr awdurdod lleol ar y pryd, yn atal unrhyw feicio ar hyd y llwybr arfordirol penodol hwnnw. Felly, mae hyn yn bwysig iawn, ac rydw i eisiau eich cefnogi'n llawn.

Rwyf eisiau edrych yn ôl at y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym yn fwyaf diweddar ar gynllunio, sef Deddf Seilwaith (Cymru) 2024. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni wedi cyhoeddi, ym mis Mehefin, ei bod wedi comisiynu y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru i gynnal archwiliad cynhwysfawr o'r gweithlu, er mwyn sicrhau bod gennym y capasiti, yr adnoddau a'r sgiliau gweithlu sydd eu hangen i gyflawni'r amserlen 12 mis honno ar gyfer cynigion o arwyddocâd cenedlaethol. Mae hynny'n hynod o bwysig, gan ein bod eisiau gwneud y trawsnewidiad hwnnw i ffwrdd o danwydd ffosil heb beryglu ansawdd na dyluniad. Felly, roeddwn i eisiau cael gwybod gennych, Gweinidog, pryd y bydd yr ymchwil hon yn cael ei chyhoeddi, fel y gallwn sicrhau ein hunain bod y ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei phasio yn addas i'r diben wrth gyflawni ein bwriadau.

Diolch, Jenny. Mae'n dda eich clywed chi'n croesawu'r cydgrynhoi, ac rwy'n credu bod llawer o'r hyn a ddywedoch chi'n hollol gywir: bydd yn ei wneud yn llawer mwy hygyrch yn y ddwy iaith. Fel y dywedais i mewn ymateb i'r ddau gyfrannwr arall, rydym yn gobeithio'n fawr na fydd pobl yn teimlo'r angen i fod â chynghorydd proffesiynol ar gyfer pob darn bach o gynllunio y maen nhw eisiau ei ystyried. Ac i fod ychydig yn ysmala, Dirprwy Lywydd, fe ddywedais i 'Pob lwc' unwaith wrth gydweithiwr a oedd yn gyfreithiwr o Loegr, a oedd ar fin ymgymryd ag achos yn llys sifil Caerdydd, pan ofynnodd i mi beth oedd mewn grym, oherwydd rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd iawn ar hyn o bryd i ddarganfod beth sydd mewn grym a beth sydd ddim mewn grym. Nawr, rydw i yn sicr eisiau cyrraedd y pwynt lle nad oes rhaid i chi ddweud 'pob lwc' wrth rywun sy'n mynd i'r llys, ar y sail y gallan nhw fod yn cynnig rhywbeth sy'n seiliedig ar gyfraith nad yw mewn grym yng Nghymru, neu nad yw mewn grym yn unman, mewn gwirionedd—mae'n eithaf anodd darganfod hynny hyd yn oed. A dim ond ar hynny, wyddoch chi, efallai ei fod yn ymddangos yn ysmala, ond nid yw mewn gwirionedd; mae'n atal pobl rhag bwrw ymlaen â'r pethau hyn. Dylai hyn fod yn syml ac yn ddidrafferth. Dylai fod yn hawdd ac yn hygyrch i ddinasyddion Cymru, a gweithwyr proffesiynol sy'n ymarfer, ddeall beth yw'r gyfraith. Ni allwch fod â rheolaeth y gyfraith oni bai bod gennych fynediad i'r gyfraith. Ni allwch fod â rheolaeth y gyfraith oni bai bod pobl yn deall beth yw'r gyfraith honno. Felly, yn amlwg, mae hwn yn bwynt sylfaenol iawn o gynnal system gyfreithiol lwyddiannus, a dyna wrth gwrs yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

O ran yr asesiad gweithlu rydych chi'n sôn amdano, fy nealltwriaeth i—nid fi yw'r Gweinidog perthnasol mwyach, ond fy nealltwriaeth i—yw ei fod yn gymharol agos i gael ei gyflwyno, ac yna, pan fydd wedi'i gyflwyno, bydd yn rhaid i ni weithio ochr yn ochr â chydweithwyr awdurdodau lleol a PCAC i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ei weithredu.

Ond rydw i ond eisiau gwneud y pwynt ym maes cynllunio, nid yw'n ymwneud â gweithwyr cynllunio proffesiynol yn unig. Mae yna gyfres gyfan o bobl eraill sy'n gwbl sylfaenol i gynnal system gynllunio, o beirianwyr priffyrdd i arbenigwyr amgylcheddol CNC i gyfreithwyr cynllunio yn y cyngor ac mewn mannau eraill, i—. Mae yna ecosystem gyfan o bobl, ac maen nhw wedi bod yn brin iawn o adnoddau ers cryn amser. 

Ac yna'r peth olaf arall—dywedais i hyn mewn ymateb i Joel, rwy'n credu—un o'r pethau eraill y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod gennym broffesiwn cynllunio yn y sector cyhoeddus sy'n cadw pobl oherwydd ei fod yn faes y mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymarfer ynddo ac y gallan nhw wneud bywoliaeth resymol ohono, ac mae hynny'n gwbl sylfaenol oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ac mae'n rhannol oherwydd ei bod yn anodd iawn hyfforddi rhywun a deall yn union ble maen nhw. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni'n gwneud hyn, ac rwy'n credu y bydd yn symud y system ymlaen.

16:30

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol.

Rwy'n deall y pwyntiau a'r pryderon a gododd Joel James, ond rwy'n cytuno hefyd bod hwn yn gam pwysig iawn ymlaen. Cwnsler Cyffredinol, byddwch chi'n cofio o'ch dyddiau fel cyfreithiwr mewn llywodraeth leol, ac fel gwleidydd etholedig nawr, pa mor bwysig yw materion cynllunio a sut y gall ennyn teimladau cryf o fewn cymunedau. Mae'n bwnc rheolaidd ym mhob un o'n mewnflychau. Nawr, gan fod cynllunio yn fater lled-farnwrol, mae'n aml yn ymddangos yn ddirgelwch i'n hetholwyr. Maen nhw'n aml wedyn yn teimlo'n rhwystredig iawn pan fyddan nhw'n clywed cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio a Gweinidogion yn dweud na allant wneud sylwadau ynglŷn â phenderfyniad cynllunio. Os ydych chi'n dweud 'pob lwc' i gyfreithiwr sy'n ymddangos yn y llys, wel, beth ar y ddaear allwn ni ei ddweud wrth yr ymgyrchwyr hyn?

Nawr, roedd gan Gaerdydd ardal gyfraith gynllunio ffyniannus. Mae hynny wedi mynd nawr, i raddau helaeth, oherwydd y cymhlethdod.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai dim ond un munud sydd gennyf, ac mae wedi troi'n goch eisoes.

Nawr, mae cynllunio yn bwysig. Mae'n bwysig i ddyfodol ein cymunedau a'n cenedl. Roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed yn dweud bod Dr Charles Myers, sydd wedi chwarae rhan enfawr yn Llywodraeth Cymru ers 2018, bellach yn rhan o dîm y Bil. Mae'n dda cael arbenigedd fel yna yn rhan o dîm y Bil. Hoffwn weld mwy o hynny yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru.

Fel gyda'ch Bil blaenorol, Gweinidog, ni fydd hyn yn creu penawdau, ond mae'n gam pwysig ymlaen, ac fel Joel—ac rwy'n falch o'ch clywed chi'n ei ddweud heddiw—rwy'n gobeithio bod hwn yn gam ymlaen ar gyfer diwygio go iawn fel y gall ein cymunedau deimlo eu bod yn cael eu clywed, yn gallu teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli. Nid mater o Nimbyiaeth yw hyn, ond mae'r cydbwysedd yn anodd, a phan nad yw cymunedau yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, gwelwn bobl eraill wedyn yn llenwi'r gwagle gydag atebion syml ond nad ydynt yn gyraeddadwy. Diolch yn fawr.

Wel, diolch, Rhys. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac rwy'n credu bod y peth lled-farnwrol yn enghraifft ddiddorol, onid ydyw? Dydyn ni ddim eisiau rhywbeth dirgel. Rydyn ni eisiau rhywbeth agored a thryloyw, fel bod pobl yn deall eu hawliau, eu bod yn deall eu rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau, a'u bod yn gallu gweithredu yn unol â hynny. Ac os yw eu cymydog yn adeiladu rhywbeth sy'n rhwystro eu hawl i olau, mae angen iddyn nhw ddeall eu hawliau yn y fan yna, ond hefyd mae angen i'r cymydog ddeall ei gyfrifoldebau. Ac ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, mae angen i chi gael cyngor proffesiynol i allu dod o hyd i'ch ffordd hyd yn oed trwy rywbeth mor syml â hynny, heb sôn am ddatblygiad mawr yng nghanol dinas. Felly, rwy'n credu bod gan y Bil hwn rôl i'w chwarae. Rydych chi'n iawn, mae'n debyg na fydd yn gwneud penawdau, ond mae'n gam pwysig iawn ar hyd y ffordd. Ac yn y bôn, mewn gwirionedd, mae'n trawsnewid y ffordd rydyn ni'n meddwl am Gymru a'i hawdurdodaeth. Mae'r pwynt awdurdodaeth, fel y gwyddoch chi, yn drafodaeth barhaus, ond po fwyaf yr ydym yn gwneud y gwaith hwn, y mwyaf rydyn ni'n dangos ein bod ni'n gallu ei wneud fel Senedd, y mwyaf rydyn ni'n dangos y gallwn ni ei wneud yn hygyrch yn ddwyieithog i bobl Cymru, y mwyaf tebygol yw y byddwn ni'n cael y canlyniad rydyn ni ei eisiau.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Papur Gwyrdd yn ceisio barn ar newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Papur Gwyrdd yn ceisio barn ar newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae llai na degawd wedi pasio ers i'r Senedd hon gael pwerau cyllidol newydd am y tro cyntaf ers 500 mlynedd. Dyw e ddim yn syndod, felly, ein bod ni'n parhau i fynd i'r afael â rhai o'r ffyrdd ymarferol o ddefnyddio'r pwerau hynny yn y ffordd orau.

Mae'r datganiad hwn yn nodi'r datblygiad diweddaraf yn y maes hwn, sef Papur Gwyrdd a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar o dan y testun 'Barn ar y Mecanweithiau Priodol ar gyfer Gwneud Newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru'. Cafodd y Papur Gwyrdd ei gyhoeddi ar 8 Medi, a bydd ar agor i dderbyn ymatebion tan fis Tachwedd 2025.

Hoffwn bwysleisio o'r dechrau mai Papur Gwyrdd yw hwn. Dyw e ddim yn cynnwys cynigion sydd eisoes yn bolisi gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, yn y maes cymharol arbenigol a thechnegol hwn, mae'n gwahodd safbwyntiau ar draws ystod o opsiynau posibl. Bydd yr ymatebion hynny'n helpu i lunio cynigion mwy penodol ar gyfer newid yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac i mewn i'r tymor nesaf.

Daw'r angen i ddechrau'r broses hon nawr o ganlyniad i Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, a basiwyd yn ystod tymor y Senedd hon ac a ddaeth i rym ar 9 Medi 2022. Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru mewn pedwar amgylchiad penodol: y cyntaf i wneud yn siŵr bod y trethi datganoledig yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; yr ail i amddiffyn rhag osgoi trethi; y trydydd i ymateb i newid i dreth ragflaenol, fel treth dir y dreth stamp, sy'n effeithio ar gronfa gyfunol Cymru; neu, yn olaf, i ymateb i benderfyniadau llys neu dribiwnlys sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau trethi Cymru.

Dirprwy Lywydd, roedd y ddeddfwriaeth a basiodd y Senedd yn cynnwys cyfyngiad ar bryd y gallai'r rheoliadau gael effaith ôl-weithredol, cymal machlud, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad y Ddeddf a mecanweithiau amgen erbyn 8 Medi 2026. Mae'r Papur Gwyrdd hwn, a'r ymgynghoriad sy'n ei amgylchynu, yn gam pwysig wrth gyflawni'r ddyletswydd honno.

Mae'r papur yn dechrau trwy nodi sut rydym ar hyn o bryd yn gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Mae'r Deddfau hynny'n cynnwys Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a sefydlodd Awdurdod Cyllid Cymru ac sy'n darparu'r rheolau craidd sy'n berthnasol i weinyddu dwy dreth ddatganoledig, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae'r Deddfau hyn yn darparu nifer o bwerau rheoleiddio i Weinidogion Cymru. Mae rhai yn darparu disgresiwn eang, gan gynnwys pennu'r cyfraddau treth a, phan fo'n berthnasol, trothwyon, neu gyflwyno, diwygio neu ddiddymu rhyddhad, tra bod eraill yn fwy cyfyngedig.

Mae'r Papur Gwyrdd wedyn yn ystyried y dulliau a ddefnyddiwyd o addasu trethi ar gyfer trethi y DU a gedwir yn ôl a threthi datganoledig yr Alban. Mae Llywodraeth y DU, gyda'i set lawer ehangach o gyfrifoldebau cyllidol, yn defnyddio ei Biliau cyllid blynyddol yn bennaf i bennu cyfraddau treth, gwneud newidiadau i reolau treth ar gyfer trethi presennol, ac, mewn rhai blynyddoedd, i gyflwyno trethi newydd a gedwir yn ôl. Ar gyfer rhai newidiadau, mae Senedd y DU yn cymeradwyo penderfyniadau sy'n galluogi'r newidiadau i gael effaith cyn y cyfnod craffu ar y ddeddfwriaeth. Mae llawer o'r trethi a gedwir yn ôl hefyd yn cynnwys pwerau gwneud rheoliadau sy'n galluogi newidiadau i'w trethi i gael eu gwneud y tu allan i Fil cyllid.

Nawr, yn achos Senedd yr Alban, er ei bod yn arfer ystod ehangach o gyfrifoldebau treth nag yma yn y Senedd, mae Senedd yr Alban serch hynny yn arfer y pwerau hynny mewn ffyrdd sy'n fwy cyfarwydd i Aelodau yma nag y byddai'n wir o ran gweithdrefnau'r DU. Defnyddir pwerau gwneud rheoliadau i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi yr Alban, ac, fel ni, mae deddfwriaeth sylfaenol wedi ei defnyddio i gyflwyno trethi datganoledig neu leol newydd. Yn eithriadol, mae deddfwriaeth sylfaenol wedi'i chyflwyno i wneud newidiadau i drethi datganoledig yr Alban.

Yn olaf, ar ôl adolygu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, mae'r Papur Gwyrdd yn nodi rhai mecanweithiau amgen posibl i ni yma yn y Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o Fil cyllid blynyddol; Bil treth blynyddol neu lai aml; mecanweithiau i'w defnyddio i wneud newidiadau ar unwaith i Ddeddfau Trethi Cymru, gyda'r Senedd wedi hynny yn craffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol; fersiwn newydd o'r Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 presennol; neu i ddim mecanwaith amgen o gwbl gael ei ddarparu, i'r pwerau hynny sy'n ddarostyngedig i gymal machlud ddod i ben ac i'r Llywodraeth nesaf ddibynnu ar y pwerau gwneud rheoliadau sydd eisoes wedi'u darparu ac i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol lle nad yw'r pwerau gwneud rheoliadau hynny yn ddigonol. Mae'r gwahanol bosibiliadau hyn, ac unrhyw bosibiliadau eraill a allai gael eu datblygu o ganlyniad i ymgynghori, wrth wraidd yr ymarfer hwn.

Bydd fy swyddogion yn cysylltu ag unrhyw unigolyn neu gorff sy'n dymuno trafod y materion a godwyd yn y Papur Gwyrdd. Rwy'n estyn y cynnig hwnnw, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cadeiryddion yn dod o hyd i'r amser i'm swyddogion fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu bwyntiau y mae Aelodau yn dymuno eu codi neu eu bwydo i mewn i'r broses hon. Mae'r cynnig, fel bob amser, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, ar gael i bob Aelod sydd â diddordeb yn y materion hyn.

Dwi am i'r Senedd nesaf fod yn y sefyllfa orau posibl i sefydlu'r dull gweithredu y mae'n dymuno ei fabwysiadu wrth wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn bodloni rhwymedigaethau statudol sydd wedi eu gosod ar Weinidogion Cymru, ond mae hefyd yn paratoi ar gyfer y penderfyniadau sydd angen eu gwneud yn nhymor nesaf y Senedd.

Dirprwy Lywydd, rwyf am orffen gydag un mater yn benodol, oherwydd gallai fod yn fater i'r Senedd hon ei benderfynu. Mae Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) yn cynnwys cymal machlud ar y trefniadau presennol ar gyfer ymdrin â newidiadau angenrheidiol yn y maes hwn. Bydd y trefniadau hynny'n dod i ben ym mis Medi 2027, ond gellir eu hymestyn unwaith, i ddyddiad terfynol sef Ebrill 2031. Byddai'r estyniad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol i ddod â rheoliadau gerbron y Senedd i'w cymeradwyo. Mae'r Papur Gwyrdd yn gofyn a fyddai'n annog llywodraethu sefydlog pe byddem yn pleidleisio ar yr estyniad hwnnw yn nhymor y Senedd hon, er mwyn caniatáu digon o amser i Lywodraeth newydd gwblhau'r ymarfer y mae'r Papur Gwyrdd hwn yn ei ddechrau. Bydd barn Aelodau'r Senedd hon yn arbennig o ddefnyddiol ar y pwynt hwn, pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried. Diolch yn fawr.

16:40

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r ymgynghoriad hwn ar Ddeddfau Trethi Cymru, ac am sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus am yr hyn a allai fod, er gwaethaf y teitl bachog, yn faes eithaf technegol, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am y rhybudd ymlaen llaw o'i ddatganiad heddiw, ac, fel y dywedodd yn ei ddatganiad, y cynnig o ymgysylltu'n barhaus â hyn, y byddaf yn sicr yn ceisio ei dderbyn.

Er gwaethaf y pwnc a allai fod yn sych yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma, mae'n bwysig iawn wrth gwrs, oherwydd mae'r ffordd y mae Llywodraeth yn dewis diwygio ei chyfreithiau trethi yn dweud llawer wrthym am sut mae'n gweld ei chyfrifoldeb ei hun, ei blaenoriaethau a'i pherthynas â threthdalwyr yng Nghymru. Ac rwy'n gwerthfawrogi mai'r bwriad yma yw creu, neu geisio creu, mecanwaith mwy parhaol ar gyfer gwneud y newidiadau hynny i Ddeddfau Trethi Cymru, ond rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn oedi i ystyried goblygiadau posibl hyn yn ofalus iawn. A gallai'r hyn sydd wedi'i gynnig i'w ystyried yn yr ymgynghoriad hwn fod y tu hwnt i dacluso gweinyddol yn unig; mae'n symudiad a allai fod â chanlyniadau pellgyrhaeddol i eglurder, sefydlogrwydd a thryloywder polisi treth Cymru. Yn y pen draw, mae'n codi cwestiwn syml iawn o fewn hyn ynglŷn â faint o graffu y bydd y broses honno o newid deddfau trethi yng Nghymru yn destun iddo.

Gofynnwyd i ni ystyried caniatáu newidiadau yn y dyfodol i ddeddfwriaeth trethi Cymru allweddol, gan gynnwys—fel yr ydym wedi clywed—ynghylch treth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi a phwerau Awdurdod Cyllid Cymru drwy broses symlach, a gallai hynny godi rhai pryderon dilys oherwydd, gadewch i ni fod yn glir, nid manylion technegol mewn gwactod yn unig yw newidiadau trethi; maen nhw'n newidiadau sy'n effeithio ar brynwyr cartrefi, busnesau, datblygwyr, awdurdodau lleol a gweithredwyr gwastraff, a gall unrhyw newidiadau, pa mor fach bynnag y maen nhw'n ymddangos ar bapur, gynnwys costau go iawn.

Felly, mae gen i ychydig o bryderon yr wyf yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i'r afael â nhw, gan gydnabod yn llwyr mai ymgynghoriad yw hwn, ac rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrando ar ymatebion yr ymgynghoriad o ddifrif iawn. Yn gyntaf, gall newidiadau aml neu aneglur i gyfraith dreth niweidio hyder buddsoddwyr; maen nhw'n atal cynllunio tymor hir. Rwyf eisoes yn gwybod yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, bod datblygwyr, er enghraifft, sy'n gweithio ar draws y ffin eisoes yn dweud wrthyf fod ansicrwydd mewn polisi trethi datganoledig yn ychwanegu cymhlethdod at eu penderfyniadau. Felly, sut bydd unrhyw fecanwaith newydd yn gwarantu nad ydym yn y pen draw â thirwedd newidiol sy'n gwneud Cymru'n llai cystadleuol neu'n gwneud buddsoddwyr yn nerfus?

Yn ail, o ran craffu gan y Senedd, mae perygl yma y gallai Gweinidogion—presennol, neu yn wir yn y dyfodol—ddefnyddio'r mecanwaith hwn i gyflwyno newidiadau o sylwedd gydag ychydig iawn o drafodaeth neu graffu. Rwy'n sicr yn cydnabod yr angen am welliannau technegol o bryd i'w gilydd, ond tybed a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi ymrwymiad clir y bydd newidiadau polisi mawr, fel trothwyon, cyfraddau neu ryddhad newydd, bob amser yn dod gerbron y Siambr hon ar gyfer craffu llawn a chefnogaeth berthnasol.

Yn drydydd, rwy'n pryderu am y potensial ar gyfer mwy o bwerau i Awdurdod Cyllid Cymru. Nawr, does gen i ddim amheuaeth bod ACC yn gwneud gwaith rhagorol, ond rhaid i unrhyw gynigion sy'n rhoi pwerau dewisol ychwanegol, yn fy marn i, gyd-fynd â mesurau diogelu clir, prosesau apelio priodol ac amddiffyniadau i'r rhai yr effeithir arnynt gan y newidiadau hynny.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwyf am grybwyll y baich gweinyddol. I lawer o fusnesau bach yng Nghymru, mae costau cydymffurfio eisoes yn uchel. Wrth gwrs, nid ydym eisiau gweld system sy'n agor y drws i botsian parhaus gyda deddfau trethi sy'n rhoi mwy o bwysau ar fentrau bach a chanolig, landlordiaid a sefydliadau cymunedol. Felly, rwy'n dychwelyd at yr egwyddor sylfaenol bod yn rhaid i drethiant fod yn glir, yn deg ac yn atebol. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i newidiadau fod yn gymesur, yn angenrheidiol ac yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth briodol gan y Senedd hon. Felly, cwestiwn cloi i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa sicrwydd allwch chi ei roi na fydd unrhyw fecanwaith sy'n cael ei ystyried yn cael ei ddefnyddio i gynyddu trethi yma yng Nghymru heb y craffu priodol hwnnw gan y Senedd? Diolch yn fawr iawn.

16:45

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Sam Rowlands am y cyfraniad meddylgar yna. Mae'n iawn ei fod yn ymgynghoriad ar faterion cymharol dechnegol, ac mae'n debyg ei bod yn anodd i'r rhai nad ydynt yn gymharol arbenigol yn y maes hwn ymgysylltu ag ef yn uniongyrchol. Dim ond i ddweud, fodd bynnag, mae gennym eisoes fecanweithiau ar y llyfr statud yma yng Nghymru i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru—dyna wnaeth Deddf 2022—ond roedd y Senedd eisiau sicrhau bod cyfle priodol i adolygu gweithrediad y Ddeddf honno, ac roedd yn pennu rhai amserlenni rhesymol heriol y dylid gorfod cynnal yr adolygiad hwnnw oddi mewn iddynt. A dyna y mae'r Papur Gwyrdd hwn yn ei gychwyn. Nid yw'n gwneud cynigion, mae'n amlinellu rhai posibiliadau gwahanol ac yn gwahodd barn ar y rheini neu unrhyw bosibiliadau eraill y byddai'r rhai sy'n treulio eu bywydau yn gweithio yn y maes hwn yn awgrymu eu bod yn welliant ar y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd.

Dylwn ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig bod mecanwaith ar gyfer gwneud newidiadau cyflym i drefniadau treth yng Nghymru lle fel arall y byddem o dan anfantais, ac mae'r Bil yn nodi pedwar o'r rheini. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod bod y newidiadau hynny'n bwysig nid yn unig pan allai costau ychwanegol fod yn gysylltiedig, ond weithiau efallai y bydd achosion lle byddai newid ar lefel y DU yn fanteisiol i ddinasyddion Cymru, a byddem am drosglwyddo'r manteision hynny iddyn nhw cyn gynted ag y gallwn ni ei wneud. Heb fecanwaith, byddai'n rhaid i chi fynd trwy gyfres lawn gweithdrefnau'r Senedd ac efallai y bydd yn fisoedd lawer cyn y gallai dinasyddion Cymru fwynhau manteision sydd eisoes ar gael i ddinasyddion mewn mannau eraill. Dyna pam mae mecanwaith i allu ymateb yn gyflym, rwy'n credu, yn bwysig. Rwy'n agnostig yn ei gylch yn nhermau'r Papur Gwyrdd, ond credaf fod un yn angenrheidiol.

Rwy'n cytuno, fodd bynnag, â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am yr angen i newidiadau i drethi Cymru fod yn gymharol anaml. Rydych chi eisiau patrwm sefydlog—rwy'n credu ein bod wedi bod â phatrwm sefydlog yma yng Nghymru—ac y dylent fod yn destun craffu pan fydd newidiadau yn cael eu gwneud. Felly, hyd yn oed pe bai'n rhaid eu gwneud yn gyflym, byddai'r Senedd yn cael yr hyn a elwir yn 'weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, er fy mod yn credu ei bod bellach wedi cael enw newydd, Dirprwy Lywydd, 'gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd', lle byddai'r Senedd yn trafod y newidiadau hynny ac yn gallu eu dadwneud pe bai'r Senedd yn dewis gwneud hynny o fewn cyfnod penodol o amser.

O ran Awdurdod Cyllid Cymru, sy'n stori lwyddiant sylweddol yma yng Nghymru, yn ddealladwy, pan sefydlwyd ACC yn ôl yn 2016, fe wnaethom lunio ei bwerau yn eithaf cul, yn fwy cul mewn gwirionedd nag y mae pwerau CThEF wedi'u llunio neu'r hyn sy'n cyfateb iddo yn yr Alban. Mae wedi arwain yn ymarferol at rai anghysondebau gwirioneddol, lle mae'r cyfyngiadau rydyn ni wedi'u gosod ar ACC ar rannu gwybodaeth weithiau yn golygu na all rannu gwybodaeth gyda'r trethdalwr am faterion y trethdalwr ei hun. Mae'r newidiadau rydyn ni'n eu cynnig yn rhai dim ond i lyfnhau'r mathau hynny o anghysondebau. Dim ond i wneud yn siŵr ein bod yn dod â'r pwerau sydd gan ACC yn unol â'r profiad rydyn ni wedi'i gael yn yr hyn sydd bellach bron yn ddegawd.

O ran y baich gweinyddol, rwy'n credu ei fod yn gysylltiedig â'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn gynharach, lle mae gennych system sefydlog, lle mae pobl yn dod i arfer ag ef ac yn ei deall. Y dyddiau hyn, mae llawer o'r systemau hynny wedi'u mecaneiddio ac yn cael eu gwneud yn awtomatig. Po leiaf o newidiadau rydych chi'n eu cyflwyno, y mwyaf sefydlog ac felly y lleiaf yw'r baich gweinyddol, ac mae hynny'n sicr yn egwyddor yr ydym wedi ceisio ei mabwysiadu yn nhrethi Cymru sy'n gyfrifoldeb i'r Senedd hon.

16:50

A gaf i groesawu hefyd yr ymgynghoriad yma? Dwi'n credu ei fod o'n beth iach ac yn arfer da ein bod ni’n cael adolygiadau deddfwriaethol o’r fath. Dwi’n croesawu hefyd eich cynnig chi i ni gael cyfle i ymgysylltu yn drawsbleidiol o ran y materion hyn, a dwi hefyd yn gwerthfawrogi eich sylwadau chi a'ch pwyslais chi mai Papur Gwyrdd ydy hwn, a’i fod o'n gyfle i ni gael sgwrs am rywbeth efallai sydd yn edrych yn sych ar un ochr, ond sydd yn allweddol bwysig o ran y Senedd hon. Efallai ei bod hi'n addas iawn mai ar Ddydd Owain Glyndŵr rydyn ni'n cael y drafodaeth hon hefyd. Mi fyddwn i'n dweud hynny, oni fyddwn i, fel Aelod o Blaid Cymru?

Ond fel mae rhagair yr ymgynghoriad yn ei ddatgan, ac mi wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad chi eich hun, mi oedd datganoli rhai elfennau o drethiant yn garreg filltir hanesyddol o ran datblygiad y Senedd hon. Dwi'n gwybod yr oeddech chi'n sôn am 500 mlynedd, mae yna rai yn dweud wyth canrif, ond y peth ydy buodd hi'n gannoedd o flynyddoedd heb i ni allu cael y math yna o declynnau a’r hawl i godi trethi ein hunain. Er gwaethaf pa mor gyfyngedig ydy'r grymoedd yma ar hyn o bryd, mewn cyd-destun rhyngwladol yn ogystal â chyd-destun gwledydd y Deyrnas Unedig, mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod datganoli yn y maes hwn wedi bod yn gam cadarnhaol o ran y gyllideb Gymreig. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cydnabod hynny.

Os ystyriwn ni hefyd mai dim ond cychwyn ar y daith ddatganoli ydyn ni yn y maes hwn, mae hi felly’n hollbwysig ein bod ni’n parhau—ac mae gen i ffydd hefyd fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi o ran hyn—a’n bod ni wir yn mireinio ac yn ehangu grymoedd trethiannol y Senedd. Dwi’n cydnabod pwyntiau Sam Rowlands o ran yr angen ar gyfer sefydlogrwydd, ond mae’n rhaid inni hefyd fod yn gwneud hyn, felly ymateb cadarnhaol gen i.

Yn sicr, dwi yn cytuno, mi wnaethoch chi ofyn cwestiwn i ni fel pleidiau gwleidyddol yn eich datganiad hefyd o ran y cyfnod adolygiad deddfau trethi Cymru, a’ch bod chi eisiau i ni ystyried a ddylem ni fod yn edrych cyn diwedd tymor y Senedd hon. Dwi’n meddwl y dylem ni; dwi’n croesawu hynny. Dwi’n meddwl bod eisiau ystyriaeth ac mi fyddwn i’n hoffi cael mwy o wybodaeth gennych chi, os yn bosib, o ran beth fyddai’r amserlenni o ran gwneud unrhyw newid drwy reoliadau, a sut yn ymarferol ydyn ni’n galluogi hynny. Rydyn ni’n gwybod bod yr amserlenni yn dynn yn barod, ond dwi yn credu ei fod o’n gwestiwn iawn i chi fod yn ei ofyn, ac yn opsiwn pragmataidd wrth i ni ystyried lle ydyn ni yn y cylch etholiadol ar hyn o bryd. Felly, gobeithio eich bod chi’n cael yr ateb clir yr oeddech chi’n edrych amdano fo yn y fan honno.

Mae’r ddogfen ymgynghorol hefyd yn sôn am yr amgylchiadau penodol y mae Deddf 2022 yn caniatáu Llywodraeth Cymru i reoleiddio ar hyn o bryd. Wrth ystyried y cyntaf sy’n ymwneud ag aliniad y dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth traddodiadau tir gyda rhwymedigaethau rhyngwladol, ydych chi’n rhagweld unrhyw newidiadau posib yn y dyfodol agos i’r rhwymedigaethau yma a all orfodi Gweinidogion i ystyried rheoleiddio drwy’r Ddeddf yma? A gaf i hefyd ofyn, os yn bosib, am fwy o fanylder am yr amgylchiadau ymarferol penodol o ran osgoi treth lle y byddech chi'n ystyried defnyddio'r pwerau yma?

Dwi hefyd yn croesawu ymdrech y Llywodraeth yng nghyd-destun yr ymgynghoriad i geisio dysgu o enghreifftiau rhyngwladol perthnasol; dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig dros ben. Dwi'n meddwl bod ystyried trefniadau'r cytundeb economaidd Basgaidd rhwng Llywodraeth Sbaen a Llywodraeth Euskadi, a gafodd ei adnewyddu nôl yn 2023, o werth, oherwydd un o'i fanteision yw ei fod o dros gyfnod o bum mlynedd a'i fod yn rhoi’r sefydlogrwydd hwnnw y byddai unrhyw Lywodraeth, dwi'n siŵr, yn deisyfu—dwi'n siŵr y byddech chi'n hoffi hynny fel Ysgrifennydd Cabinet. Ond ydy hyn yn rhywbeth y byddem ni'n gallu ei ystyried yn rhan o hyn? Ydy’r rhain y math o sgyrsiau y byddech chi'n medru eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Oherwydd, yn amlwg, mae'n heriol dros ben pan dydyn ni ddim cweit y gwybod y sefyllfa o flwyddyn i flwyddyn. A dwi'n meddwl, yn amlwg, mae hi’n sefyllfa wahanol iawn o ran Gwlad y Basg—dwi'n sylweddoli hynny. Mae’r grymoedd sydd gan y Senedd honno yn wahanol, ond yn sicr mae yna enghreifftiau, onid oes, lle mae'n bosib i ni fod yn edrych yn wahanol.

Felly, gobeithio efo hynny o sylwadau fod hynny'n dangos i chi ein bod ni'n awyddus fel plaid i fod yn ymgysylltu efo chi ar hyn. Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar yr ymgynghoriad ac yn trio annog pobl i fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol yn yr ymatebion maen nhw'n eu rhoi, i rannu efo ni esiamplau rhyngwladol. Dwi'n meddwl ei fod o'n glir o ran fframwaith cyllidol Cymru fod dirfawr angen i ni fod yn edrych ar bopeth o fewn y grymoedd sydd ar gael i ni, ac mae hwn yn gam pwysig, dwi'n credu, o ran hynny.

16:55

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y sylwadau adeiladol. Roedd nifer o gwestiynau fanna a dwi'n mynd i drio ymateb i rai ohonyn nhw. Ar brofiadau rhyngwladol, mae'r Papur Gwyrdd yn cyfeirio at y posibiliad y byddem ni'n gallu dysgu o wledydd y tu fas i’r Deyrnas Unedig. Pan ŷch chi'n gwneud hynny, wrth gwrs, mae mwy o gymhlethdod ac mae'r cyd-destun ehangach yn wahanol. Ges i’r cyfle i fynd i Wlad y Basg ac i siarad â'r Gweinidog dros gyllid yna, biti pum mlynedd yn ôl nawr. Roedd yn ddiddorol tu hwnt i glywed am y system sydd gyda nhw, ond mae'r system yn hollol wahanol i'n un ni. Mae Llywodraeth Gwlad y Basg yn casglu pob treth—pob treth—ac maen nhw'n rhoi trethi yn ôl i'r canol. Wel, wrth gwrs, nid dyna'r ffordd rŷn ni’n ei wneud e fan hyn, a does neb arall yn Sbaen yn ei wneud fel yna. Dim ond un rhanbarth arall, dwi’n meddwl, sy’n defnyddio'r un system. Ond mae'r Papur Gwyrdd, achos Papur Gwyrdd yw e, yn gofyn i bobl a oes enghreifftiau eraill, ac rŷn ni'n awyddus i ddysgu amdanyn nhw.

Dwi eisiau jest delio â'r pwynt ar bobl sy'n osgoi trethi.

Mae'n gwestiwn teg i'w ofyn: pam nad ydym yn dibynnu ar y rheol gyffredinol ar atal osgoi a gymerwyd gennym pan oedd y ddeddfwriaeth dreth wreiddiol yn mynd trwy'r Senedd? Os ydym am ymdrin ag osgoi trethi, onid oes gennym y pwerau sydd eu hangen arnom? Wel, rwy'n credu mai'r gwir yw, weithiau gall mesurau osgoi, yn enwedig mewn perthynas â threth trafodiadau tir, ddod i'r amlwg yn gyflym iawn. Os yw cyfreithwyr clyfar iawn yn meddwl eu bod wedi gweld bwlch yn y gyfraith, gallant fanteisio ar hyn, ac weithiau, gallant roi cyngor gwael iawn i bobl, ac erbyn i hynny i gyd fynd drwy'r llysoedd, maent yn canfod eu bod yn gorfod talu'r dreth honno beth bynnag, ac erbyn hynny gallai eu hamgylchiadau greu anawsterau iddynt wrth wneud hynny.

Felly, yn ogystal â'r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi, sy'n rhan bwysig o'r dirwedd dreth yma yng Nghymru, mae'r Papur Gwyrdd yn archwilio a oes angen rhai mesurau mwy uniongyrchol y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, lle mae'n amlwg y manteisir ar fwlch. Rwy'n credu ei fod yn fater amseru, yn fwy na dim arall. Mae'r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, GAAR, ychydig yn araf i ymateb, tra bod y pwerau sy'n cael eu harchwilio yn y Papur Gwyrdd yn fwy uniongyrchol a gallent ddod â phethau i ben cyn i'r broblem godi mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am y pwynt olaf yn y datganiad: os mae'n werth inni ddeddfu yn ystod y tymor hwn i ymestyn y Ddeddf sydd o flaen y Senedd yn barod. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Tachwedd. Gallwn ni edrych yn syth ar yr ymatebion i'r cwestiwn yna. Os bydd consensws ar gael, bydd digon o amser gennym ni yn ystod tymor y gwanwyn i fwrw ymlaen ac i wneud hynny, ond mae'n dibynnu a oes consensws. Yn bersonol, rwy'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan: mae'n werth i ni ei wneud e ac i roi mwy o amser i'r Senedd newydd fynd ati i ddelio â'r posibiliadau sydd yn y Papur Gwyrdd ac unrhyw sylwadau eraill.

17:00
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau)

Eitem 6 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8970 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau), ac i amlinellu'r rhesymau pam rwy'n credu ei fod yn haeddu cefnogaeth y Senedd.

Mae'r Bil hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion ar y cyd i wella lles anifeiliaid anwes. Mae'n adeiladu ar uchelgeisiau'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), Bil Llywodraeth y DU a gyflwynwyd ym mis Mai 2022, a oedd yn addo diwygio eang o ran lles anifeiliaid, ar gyfer anifeiliaid anwes, anifeiliaid a ffermir ac anifeiliaid gwyllt a gedwir. Roedd llawer ohonom yn siomedig iawn pan fethodd y Bil hwnnw, er gwaethaf yr holl waith. Rwy'n croesawu atgyfodi darpariaethau mewnforio anifeiliaid anwes allweddol fel Bil Aelod preifat a gefnogir gan y Llywodraeth, ac mae'r Llywodraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein cefnogaeth i'r Bil.

Fel cenedl sy'n hoff iawn o anifeiliaid, mae gennym ddyletswydd ar y cyd i fynd i'r afael â smyglo cŵn bach a mewnforio anifeiliaid anwes nad ydynt yn derbyn y gofal y maen nhw'n ei haeddu. Mae'r arferion hyn nid yn unig yn peryglu iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd a bioddiogelwch. Mae'r mesurau a gynigir yn y Bil hwn yn gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cynllunio i sicrhau gwelliannau ystyrlon ar gyfer lles cŵn, cathod a ffuredau a fewnforir i Brydain Fawr.

Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) yn cyfyngu ar fewnforio masnachol a symudiadau anfasnachol o gŵn, cathod a ffuredau i'r Deyrnas Unedig o drydydd gwledydd ar sail lles anifeiliaid. Yn benodol, bydd yn rhoi pwerau i ni wahardd symud cŵn bach a chathod bach ifanc, a ddylent fod gyda'u mam o hyd, trwy godi'r isafswm oedran ar gyfer dod i Brydain Fawr i chwe mis. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i ni atal cŵn a chathod sydd wedi'u hanffurfio er enghraifft clustiau wedi'u torri neu bawennau heb ewinedd, a chŵn a chathod ar ddiwedd eu beichiogrwydd, rhag cael eu dwyn i Brydain. Mae'r arferion hyn yn achosi dioddefaint ac ni ellir caniatáu iddynt barhau. Mae anifeiliaid yn haeddu gwell ac mae pobl Cymru yn mynnu gwell. 

Mae'r Bil hefyd yn mynd i'r afael â bylchau a ddefnyddir gan fasnachwyr diegwyddor, gan leihau nifer y cŵn, cathod neu ffuredau anwes sy'n gallu teithio o dan reolau anfasnachol i bump fesul cerbyd a thri fesul teithiwr ar droed. Trwy dynhau'r rheolau ynghylch trafnidiaeth fasnachol ac anfasnachol, bydd y Bil yn helpu i sicrhau bod symudiadau'n ddilys ac yn dryloyw. Byddai hefyd yn rhoi'r pŵer i ni leihau terfynau ymhellach pe bai rheolau teithio anifeiliaid anwes yn parhau i gael eu torri.

Dirprwy Lywydd, mae lles anifeiliaid wedi'i ddatganoli ac rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau yn y maes hwn o ddifrif. Fodd bynnag, mae yna achlysuron lle gall cydweithio â Llywodraeth y DU ddod â manteision clir, gan gynnwys cymhwyso'r gyfraith yn gyson ac ymhelaethu'r effaith. Rwy'n credu bod hwn yn un achlysur o'r fath, sy'n darparu manteision sylweddol i Gymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU yn ystod pob iteriad o'r Bil hwn, o'i gynnwys yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) i'w ffurf bresennol fel Bil Aelod preifat, a'n blaenoriaeth yw gweld y gwaith pwysig hwn yn cael ei wireddu o'r diwedd.

Mae darpariaethau'r Bil hwn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac felly mae angen ein cydsyniad. Mae'r Bil wedi symud ymlaen yn gyflym ac yn adeiladol trwy Senedd y DU, gyda gwelliannau a wnaed yn yr Ail Ddarlleniad yn cryfhau ei gwmpas a'i eglurder. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i gefnogi'r Bil pwysig hwn trwy ei gyfnodau olaf.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rydym wedi nodi casgliadau ac argymhellion adroddiad y ddau bwyllgor, ac rydym yn croesawu casgliad y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig nad oes unrhyw reswm dros wrthwynebu'r Senedd rhag rhoi cydsyniad i'r Bil. Felly, cynigiaf y cynnig.

17:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad cyntaf ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) ym mis Gorffennaf, a gosododd ei ail adroddiad ddoe. Mae adroddiadau'r pwyllgor yn cadarnhau ein bod yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r cymalau sy'n gofyn am gydsyniad.

Fodd bynnag, mae'r pwyllgor hefyd yn mynegi siom ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu ar les anifeiliaid. Efallai y bydd yr Aelodau yn cofio bod darpariaeth sy'n debyg i'r un a gynhwysir yn y Bil hwn wedi'i chynnwys ym Mil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) Llywodraeth y DU, a dynnwyd yn ôl dros ddwy flynedd yn ôl. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yn yr hydref. Yr hyn sy'n siomedig, yng ngoleuni'r ffeithiau hyn, yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r dull o ddatblygu Bil i'w gyflwyno i'r Senedd gyda'r bwriad o fynd i'r afael â materion lluosog sy'n effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Gallai cyflwyno darn o ddeddfwriaeth o'r fath fynd i'r afael â materion pwysig a phroffil uchel fel y rhai y mae Bil Aelod preifat y DU hwn yn mynd i'r afael â nhw mewn modd mwy amserol a chydlynol, gan hefyd ddarparu mwy o gyfleoedd i Aelodau'r Senedd graffu a chyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar y pwerau dirprwyedig yn y Bil. Un o'r pwerau hyn yw pŵer cydamserol—hynny yw, pŵer sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn maes sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Fel pwyllgor, rydym wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y pwerau cydamserol o fewn Biliau Llywodraeth y DU sy'n ddarostyngedig i gydsyniad y Senedd, gan gynnwys y Bil Troseddu a Phlismona, y Bil Iechyd Meddwl, a'r Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban). Yn unol ag egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU, dim ond mewn achosion eithriadol y gall Gweinidogion Cymru gytuno i greu pwerau cydamserol. Fodd bynnag, nid oedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn glir o'r memorandwm sut mae Gweinidogion Cymru yn credu bod y prawf hwn wedi'i fodloni yn yr achos hwn.

Cyfiawnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet gynnwys y pŵer cydamserol mewn ymateb i'n hadroddiad cyntaf. Dywedodd oherwydd manteision gweithredol ac ymarferol dull ar draws Prydain gyfan, gan gynnwys dull unffurf o reolaethau allforio a mewnforio ar ffiniau, mae ei gynnwys yn galluogi gweithredu cydgysylltiedig ac yn cadw'r gallu i weithredu'n annibynnol lle bo angen. Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd y bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar Weinidogion Llywodraeth y DU cyn arfer y pŵer hwn.

Yn olaf, mynegodd y pwyllgor ei fod yn gresynu hefyd am y ffaith bod pŵer arall yn y Bil a Gweinidogion Llywodraeth y DU yn unig sydd â’r pŵer i gychwyn ei ddarpariaethau, heb unrhyw ofyniad iddynt gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn arfer y pŵer. Mewn ymateb i'n hadroddiad cyntaf, cydnabu yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai'n well cael mecanwaith cydsynio. Fodd bynnag, dywedodd gan mai hon yw'r drydedd ymgais i gael y darpariaethau hyn ar y llyfr statud, ni fyddai'n ceisio gwelliannau i'r Bil, er mwyn sicrhau ei hynt drwy Senedd y DU.

Mae'r pwyllgor o'r farn bod y sefyllfa hon yn anffodus oherwydd y berthynas waith agos rhwng Llywodraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod datblygu'r Bil, fel y nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Nid yw'n glir i'r pwyllgor pa sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwerau cychwyn y Bil yn ystod ei ddatblygiad. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi eglurder ar y pwynt hwn yn ystod y ddadl.

Mae'n rhaid i mi ddweud diolch wrth Lywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd. Rydw i braidd yn ddryslyd nawr, ar ôl eich clywed chi'n siarad am y pwyllgor cyfansoddiad a phopeth, felly efallai y gwnewch chi ymateb i hynny, Ysgrifennydd Cabinet.

Y ffeithiau yw bod un o bob pum milfeddyg yn y DU wedi adrodd eu bod wedi trin cŵn bach a oedd wedi'u mewnforio'n anghyfreithlon y llynedd. Roedd pedwar deg wyth y cant o filfeddygon a oedd yn adrodd am gŵn bach amheus yn cyfeirio at gŵn tarw Ffrengig. Roedd tair mil o gŵn yn gysylltiedig â mewnforion anghyfreithlon rhwng 2013 a 2023, a chafodd 116 o gŵn bach a chathod bach eu rhoi mewn cwarantîn ym mhorthladd Dover yn 2023. Dydyn nhw ddim yn ystadegau da.

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n cytuno â chi bod ein cenedl yma yng Nghymru yn genedl sy'n meddwl y byd o anifeiliaid, ac rwy'n gwybod y byddant yn gwbl gefnogol i hyn yn y dyfodol. Mae pob un ohonom sy'n berchnogion anifeiliaid anwes yn gwybod bod ein cŵn neu gathod neu ffuredau neu gwningod neu foch cwta—ac ati—yn fwy na dim ond anifeiliaid, maen nhw'n aelodau o'n teuluoedd. Dyma pam ei bod hyd yn oed yn fwy dinistriol gweld y niferoedd uchel o gathod bach, cŵn bach, ffuredau, cwningod, moch cwta, beth bynnag, yn cael eu mewnforio i'r Deyrnas Unedig mewn ffyrdd sy'n peryglu iechyd a lles yr anifeiliaid hynny ac sydd â'r potensial i niweidio anifeiliaid anwes annwyl eraill o ganlyniad. O'r mewnforion anghyfreithlon hyn, rydym wedi gweld cŵn a chathod yn destun gweithdrefnau cosmetig poenus fel torri clustiau a thynnu ewinedd. Mae'r rhain yn anghyfreithlon eisoes yn y DU.

Bydd y rheoliadau a nodir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn helpu i weithredu ymrwymiad maniffesto Ceidwadol blaenorol y DU i gau'r bylchau hyn y manteisir arnynt gan fasnachwyr creulon a diegwyddor iawn. Mae'r Bil hwn yn cyflwyno darpariaethau i gyfyngu ar symud anfasnachol a mewnforio masnachol cŵn, cathod a'r gweddill i'r DU ar sail lles anifeiliaid. Mae hynny, i mi, yn dweud y cyfan. Mae'n rhaid i ni gael lles anifeiliaid yn ein meddyliau. Yn rhy aml, mae'r anifeiliaid truan hyn yn cael eu smyglo i'r DU o dan amodau ofnadwy, gan achosi straen ac anghysur enfawr. Ar gyfer cathod a chŵn ar ddiwedd beichiogrwydd, gall hyn hefyd arwain at gamesgoriad. Bydd atal cathod a chŵn ar ddiwedd eu beichiogrwydd rhag dod i mewn i'r DU yn helpu i leihau'r risg o glefydau fel Brucella canis. Rydym yn siarad am anhwylderau marwol nad ydynt yn effeithio ar y rheini yn unig, ond ar anifeiliaid eraill sydd eisoes yn ein gwlad. Mae'n bwysig bod iechyd a lles yr anifeiliaid sy'n cael eu cludo a'r rhai sydd eisoes yn y DU yn destun y mesurau amddiffynnol gorau.

Trwy ganolbwyntio ar symudiad anfasnachol cŵn, cathod a ffuredau a'r gweddill, honnir bod y Bil yn cau'r bwlch sy'n caniatáu i fewnforion masnachol ddod i mewn pan honnir eu bod yn anifeiliaid anwes sy'n teithio gyda'u perchnogion. Mae'n ceisio cyflawni hyn trwy gyflwyno cyfyngiadau ar nifer yr anifeiliaid a ganiateir i deithio mewn cerbyd. Bydd y Bil hwn yn lleihau nifer yr anifeiliaid sy'n gallu teithio o dan reolau anfasnachol o bump fesul person i bump fesul cerbyd, neu dri fesul teithiwr ar droed neu mewn awyren.

Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau, pan fydd symudiad anfasnachol anifail anwes domestig yn cael ei gyflawni gan berson awdurdodedig, dim ond o fewn pum diwrnod i symudiad y perchennog y gall hyn ddigwydd. Mae'r rhain yn fesurau y mae eu hangen arnom er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater erchyll o smyglo. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwy'n drist iawn o weld sut mae mwncïod yn dal i gael eu hallforio ar draws y byd. Ni fyddech yn caniatáu i’r arbrofion sy'n cael eu defnyddio ar y mwncïod hyn gael eu gwneud ar unrhyw beth nac unrhyw un.

Mae'r Bil hwn yn rhoi pwerau i gyflwyno is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys pwerau archwilio a gorfodi, 'gorfodi' yw'r gair allweddol yn hyn. Yn rhy aml, mae deddfau yn y wlad hon yn cael eu diystyru oherwydd bod rhai asiantaethau gorfodi yn dweud, 'Nid yw'r adnoddau gennym ni', felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr bod yr adnoddau hynny yn eu lle. Mae yna hefyd uchafswm cosbau y gellir eu gosod am dorri'r rheoliadau, ac rwy'n gobeithio eu bod yn gosbau enfawr. Mae mynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol a rhoi mesurau ar waith i sicrhau y gellir gosod dedfrydau a chosbau llymach fel ataliad yn hanfodol bwysig.

Mae'n rhaid i ni osod rhwystrau nawr i atal y smyglwyr ofnadwy hyn, ac mae angen i ni helpu i amddiffyn ein hanifeiliaid sy'n cael eu mewnforio. Mae angen i ni roi'r gorau i drin anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fel eitemau. Nhw yw ein cymdeithion, ein llawenydd a'n hanwyliaid. O'r herwydd, rhaid i ni i gyd yn y Siambr hon wneud popeth y gallwn i sicrhau bod pob anifail yn cael bywyd diogel, hapus a hir. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwn i gymeradwyo'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, gan fy mod yn credu ei fod yn Fil pwysig iawn. Ar hyn o bryd, gwyddom nad yw gwleidyddion o unrhyw blaid yn boblogaidd iawn, a bod pobl yn aml yn dweud, wyddoch chi—

17:15

Iawn. Wel, rwy'n credu bod hyn yn profi i'n pobl yng Nghymru—y rhai sy'n meddwl y byd o anifeiliaid, yn arbennig—ein bod mewn gwirionedd yn ddeddfwrfa garedig, ofalgar ac ystyriol. Diolch.

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, ond byddem eisiau ailadrodd a rhannu'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Yn amlwg, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth, ac mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â gwerthoedd Plaid Cymru, fel y maen nhw'n ei wneud â nodau polisi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yng Nghymru yn croesawu'r Bil yn fawr. Maen nhw wedi ymgyrchu ynghylch smyglo anifeiliaid anwes ers blynyddoedd, ac maen nhw'n gweld y ddeddfwriaeth hon fel cam hir-ddisgwyliedig ymlaen i fynd i'r afael â materion lles difrifol wrth fewnforio anifeiliaid agored i niwed.

Ond rydyn ni, fel y dywedais i, yn adleisio pryderon y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â dibyniaeth barhaus Llywodraeth Cymru ar Filiau’r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, yn enwedig lle gallwn, wrth gwrs, gipio nifer o'r materion hyn trwy bwerau sydd gennym a chyflwyno ein dull ein hunain, efallai ehangach sy'n benodol i Gymru o ran hyn. Fel y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn nodi'n gywir, gallai Bil dan arweiniad y Senedd fod wedi mynd i'r afael â nifer o faterion lles anifeiliaid proffil uchel. Byddwn wedi cael mwy o graffu ar y darpariaethau hynny. Byddwn wedi cael cyfle i ddiwygio a gwella'r darpariaethau hynny fel Aelodau o'n deddfwrfa yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, yn y pen draw, byddai hynny wedi osgoi'r angen am femorandwm cydsyniad deddfwriaethol lluosog ar wahanol faterion. Rwy'n deall bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio), rwy'n credu, yn dod ger ein bron yr wythnos nesaf. Felly, dyna un arall, onid e', y gallasai fod yn rhywbeth y gallem fod wedi ymdrin ag ef yma, yn enwedig pan mai polisi'r Llywodraeth, fel y cawsom ein hatgoffa ohono, yw derbyn neu gefnogi memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar sail eithriadol yn unig. Wel, diawch, mae'r prawf yn y pwdin, rwy'n credu.

Beth bynnag, dydyn ni ddim yn mynd i wrthwynebu hyn. Rydym yn cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ond rwyf hefyd eisiau pwysleisio, wrth gwrs, bod craffu yn y dyfodol yn hanfodol. Felly, rydym yn cefnogi galwad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am oruchwyliaeth ofalus o unrhyw reoliadau a wneir o dan y Bil hwn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol i anifeiliaid sydd wedi'u hachub neu sydd wedi'u trin yn gyfreithlon. Diolch.

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar les anifeiliaid, rwy'n croesawu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn yn fawr. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod yn siomedig wrth glywed am y nifer fawr o gŵn bach sydd wedi cael eu smyglo trwy'r porthladdoedd, a chathod hefyd, a hefyd yr anffurfiadau cosmetig creulon fel torri clustiau. Ni ddylai anifeiliaid anwes fod yn ategolion ffasiwn neu gael eu defnyddio fel symbolau o statws, sy'n digwydd yn rhy aml. Ac rwy'n gwybod bod nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr RSPCA, wedi ymgyrchu dros y mesurau hyn, ac rwy'n falch iawn bod hwn wedi'i symud ymlaen nawr.

Byddai wedi bod yn rhan o Fil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) 2021, a gafodd ei ddileu yn anffodus gan y Llywodraeth ar y pryd, ac a fyddai wedi symud llawer o'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol eraill hyn ymlaen fel rhan ohono, gan gynnwys dwyn anifeiliaid anwes, a oedd hefyd yn rhan o hynny. Cafodd Bil Aelod ar wahân ei symud ymlaen a'i fabwysiadu yn San Steffan, a chyflwynais gynnig yn y Senedd y dylid mabwysiadu Deddf dwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru fel cynnig deddfwriaethol Aelod. Derbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol yma, ond rwy'n gwybod nad oedd amser yn y rhaglen ddeddfwriaethol.

Cofnodwyd bod chwe deg tri o anifeiliaid anwes yn cael eu dwyn yn y gogledd yn unig mewn blwyddyn, a dyna'r rhai sy'n cael eu hadrodd. Felly, mae'n dal i fod yn broblem enfawr. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle eto i ofyn i Ddeddf dwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru gael ei symud ymlaen fel cynnig i'r Senedd newydd mewn maniffestos. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn ystod y ddadl heddiw. Fe wnaf geisio ateb rhai o'r pwyntiau a godwyd. O ran cyfraniad Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, credwn fod cynnwys y pŵer cydamserol yn briodol ac yn eithriadol. Mae dull Prydain gyfan yn darparu manteision gweithredol clir, gan sicrhau cysondeb o ran rheolaethau allforio a mewnforio ar y ffiniau ac osgoi cymhlethdod diangen i geidwaid anifeiliaid, cludwyr a chyrff gorfodi, ac mae'n cryfhau gorfodi, yn atal bylchau ac yn darparu eglurder cyfreithiol. A dim ond i ddweud hynny mewn iaith fwy hygyrch, rwy'n credu pe bai Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyflwyno Bil sy'n cyfyngu ar faterion ar y ffiniau, byddwn wedi cael anhawster sylweddol wrth wneud hynny, a gallwch weld yn glir na fyddem wedi gallu rheoli mewnforio anifeiliaid trwy borthladdoedd Lloegr ac yna ar draws ein ffin fandyllog iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn eithriadol. Rwy'n cymryd y pwyntiau sydd wedi'u gwneud o ddifrif, ac rwy'n credu eu bod wedi'u gwneud yn dda. Ond rwy'n credu bod hyn yn eithriadol am y rheswm hwnnw, sef bod hyn yn ymwneud â rheoli ffiniau ac oni bai eich bod chi'n rheoli'r ffin o amgylch Prydain gyfan, mewn gwirionedd, oherwydd mae gennym Ynysoedd y Sianel hefyd, yna nid ydych chi'n cael yr effaith rydych chi ei dymuno. Felly, rwy'n credu ei fod yn eithriadol, ac rwy'n credu mai dyna'r rheswm pam yr ydym ni wedi ei wneud.

Hefyd, mae'n Fil Aelod preifat-mae ganddyn nhw reolau ychydig yn wahanol yn San Steffan, mae'r amserlen yn hollol wahanol ac ati. Felly, mae'n llawer anoddach i ni ei dracio yn y ffordd yr ydym ni yn ei wneud, pan ddaw i Filiau Llywodraeth y DU, ac i gyflwyno pethau ein hunain. Ac felly gwnaed y penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Cabinet—nad yw'n teimlo'n dda iawn heddiw, felly rwy'n sefyll ar ei ran-ein bod ni eisiau gweld hyn yn digwydd, ac roedden ni eisiau i'n hanifeiliaid anwes gael eu diogelu yn y ffordd y mae pawb yma wedi crybwyll, ac felly dyma'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf yn anghytuno o gwbl y byddai'n well pe bai'r Senedd yn cael craffu'n well, a byddwn yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod y rheoliadau'n destun craffu gwell. Ond rwy'n credu bod hyn yn briodol ac yn eithriadol, oherwydd y broblem ffiniau sydd gennym. Mae hyn yn ymwneud â mewnforio.

Dim ond o ran y cosbau, Janet, ar hyn o bryd mae'n 12 mis o garchar neu ddirwy ddiderfyn. Mae'r Bil yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud o dan y pŵer galluogi i greu troseddau troseddol newydd a gosod cosbau uchaf sy'n gymesur. Ond mae hefyd yn nodi uchafswm dedfryd o bum mlynedd o garchar, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno ei fod yn lefel llawer mwy priodol o allu dedfrydu, o ystyried rhai o'r arferion ofnadwy rydyn ni wedi clywed amdanyn nhw heddiw yn y Siambr. Mae'n rhaid i mi ddweud, rydw i fy hun yn hoff iawn o anifeiliaid anwes, ac mae rhai o'r addasiadau, fel maen nhw'n eu galw, yr wyf wedi'u gweld yn enw ffasiwn yn hollol warthus. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud y bydd y Senedd yn cefnogi, yn gyfan gwbl, Bil sy'n atal o leiaf rhywfaint o hynny rhag digwydd. Diolch.

17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban)

Eitem 7, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol: y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8969 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau sydd yma heddiw i drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban. Hoffwn roi rhywfaint o gefndir y Bil a pham ei fod yn gam pwysig tuag at foderneiddio, cysoni a gwella mynediad at bleidleisio absennol ar gyfer etholiadau a gynhelir yma yng Nghymru.

Felly, gadewch i mi ddechrau trwy nodi'r dirwedd bresennol. Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 system ymgeisio ar-lein ar gyfer gwneud cais am bleidleisiau absennol, sef pleidleisiau post neu ddirprwy, ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau comisiynydd yr heddlu a throseddu. Ar adeg y Ddeddf Etholiadau, roedd ansicrwydd ynghylch y defnydd o system adnabod pleidleiswyr gan Lywodraeth y DU ar y pryd ar gyfer ceisiadau pleidleisio absennol yn golygu na allai Llywodraeth Cymru argymell cydsynio i'r system ar-lein fod yn berthnasol i etholiadau datganoledig. O ganlyniad, ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a'r Senedd, dim ond drwy ffurflenni ymgeisio papur y gall pleidleiswyr wneud cais am bleidleisiau absennol. Mae'r amrywiaeth hon yn creu dryswch i bleidleiswyr a baich gweinyddol i'n swyddogion etholiadol. Ar hyn o bryd, gall pleidleisiwr o Gymru sy'n dymuno gwneud cais am bleidlais absennol ar gyfer etholiad seneddol y DU ac etholiad y Senedd gwblhau cais y DU ar-lein, ond yna rhaid iddo lenwi ffurflen bapur ar wahân ar gyfer yr etholiad datganoledig. Ar hyn o bryd nid oes mecanwaith i wneud cais am y ddau ar yr un pryd ar-lein. Nid yw'r annigonolrwydd hwn yn unol â'n hegwyddorion o hygyrchedd, cyfranogiad, symlrwydd neu wella profiad dinasyddion.

Mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael â'r anghysondebau hyn. Byddai'n grymuso Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn yr Alban, i wneud rheoliadau sy'n galluogi ceisiadau ar-lein ar gyfer pleidleisio absennol ar gyfer etholiadau datganoledig drwy Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU. Mae'r rhain yn bwerau cydamserol, sy'n golygu y bydd gan Weinidog y Goron a Gweinidogion Cymru y gallu i wneud y rheoliadau hyn, ond bob amser yn rhoi sylw dyledus i'n setliad datganoli. Mae'r cyfrifoldeb am etholiadau Cymru yn briodol yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon. Fodd bynnag, byddai'n afresymol creu llwybr ymgeisio ar-lein ar wahân, gan achosi dryswch ac aneffeithlonrwydd i bleidleiswyr Cymru. Mae'r system ar-lein bresennol yn dibynnu ar wasanaeth digidol y DU, sy'n eiddo i Weinidogion y DU ac sy'n cael ei weithredu ganddynt, ac mae'n fater a gedwir yn ôl. Felly, mae'n iawn, yn yr achos hwn, bod hyn yn cael ei symud ymlaen ar y cyd trwy Fil y DU sy'n dibynnu ar ein cydsyniad ni. 

Mae ein pryderon cychwynnol ynghylch lefel y gwiriad adnabod sy'n ofynnol wrth gyflwyno'r system hon yn 2022 wedi'u bodloni. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer cynnwys gofyniad gwirio adnabod sy'n gofyn am rif yswiriant gwladol ychwanegol yn unig. Mewn achosion lle nad yw hwn ar gael, gellir ystyried dogfennau amgen neu ddarparu ardystiad. Mae hyn yn darparu'r cydbwysedd cywir rhwng diogelwch gwell sydd ei angen mewn system ar-lein a chynnal yr hygyrchedd eang ar gyfer dulliau pleidleisio y mae pleidleiswyr yn dibynnu arnynt.

Mae'r Bil yn cynnwys pwerau a fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau mewn is-ddeddfwriaeth i gynnwys gofyniad gwirio adnabod ar gyfer ceisiadau pleidleisio absennol yng Nghymru, i alinio'r gofynion sydd ar waith ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys alinio'r cylchoedd adnewyddu pleidleisio post ag etholiadau a gedwir yn ôl. Bydd hyn yn golygu, yn hytrach nag adnewyddu eu cofnodion llofnod bob pum mlynedd, bydd angen i bleidleiswyr ailymgeisio am eu pleidlais bost bob tair blynedd. Mae hyn yn angenrheidiol i alinio â systemau cais pleidleisio drwy'r post, a chaniatáu i bleidleiswyr gyflwyno un cais i gwmpasu'r holl etholiadau y gallent fod eisiau pleidleisio ynddynt. Mae osgoi unrhyw ddryswch yn y broses ymgeisio yn hanfodol.

Drwy gydol datblygiad y Bil, bu trafodaeth a chydweithrediad cadarn gyda Llywodraeth y DU a Gweinidogion yma yng Nghymru a'r Alban. Mae'r Bil wedi mwynhau cefnogaeth drawsbleidiol trwy gydol ei hynt, gan adlewyrchu ymrwymiad cyffredin i gael gwared ar rwystrau diangen rhag cyfranogi yn ein democratiaeth.

Er mwyn i'r system fod yn weithredol cyn etholiad y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid iddi gael ei gweithredu erbyn mis Rhagfyr. Gallai oedi y tu hwnt i'r dyddiad hwn effeithio ar y broses o gyflawni'r etholiad. Mae cyflawni'r amserlen hon yn ddibynnol ar basio sawl darn o is-ddeddfwriaeth yn Senedd Cymru, yr Alban a'r DU. Gan fod disgwyl i'r Bil gael ei basio ym mis Tachwedd ar hyn o bryd, efallai y bydd heriau wrth gyflawni'r amserlen hon. Mae trafodaethau gyda Gweinidogion yr Alban ar y gweill i archwilio dyddiadau gweithredu amgen posibl ar ôl etholiad y flwyddyn nesaf.

Hoffwn gydnabod gwaith Tracy Gilbert AS, a gyflwynodd y Bil i Dŷ'r Cyffredin, a'r Arglwydd Murphy o Dorfaen, sydd ar hyn o bryd yn mynd â'r Bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, a'r gefnogaeth gan gydweithwyr ar bob ochr. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i gefnogi'r Bil hwn yn ei gyfnodau olaf.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu, ac rwy'n nodi eu casgliadau a'u hargymhellion. Rwyf hefyd yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Gymraeg a'u hargymhelliad bod y Senedd yn cydsynio i'r cynnig hwn. Rwy'n cynnig y cynnig hwn. 

17:25

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gosodwyd adroddiad perthnasol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar gyfer yr eitem hon ar 31 Gorffennaf. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod y Bil wedi'i drafod yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru. Tynnwyd cyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol at sylw'r pwyllgor trwy ohebiaeth. Fodd bynnag, cyn belled ag y mae'r pwyllgor yn gwybod, ni dderbyniodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yr ohebiaeth hon, ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau a wnaethant neu beidio. Mae hynny'n golygu nad yw bwriad Llywodraeth Cymru ar gyfer y newid a fydd yn cael ei wneud i fframweithiau cyfreithiol pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru wedi'i wneud yn ddigon clir i bartïon a chanddynt fuddiant.

Hefyd, gwyddom bellach fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ysgrifennu at yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil ym mis Rhagfyr y llynedd yn mynegi cefnogaeth i'r Bil. Nid yw'r pwyllgor yn glir pam, ar yr adeg honno, nad ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cabinet at bwyllgorau perthnasol y Senedd yn cadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil hwn ac yn rhoi hysbysiad y byddai'r broses gydsynio deddfwriaethol yn cael ei chynnal. Oherwydd bod y ddadl hon yn digwydd heddiw, rhoddwyd llai na thair wythnos o eistedd i'r Senedd i geisio deall y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig ac i graffu ar y memorandwm. Mae hyn yn anffodus.

Yn y memorandwm, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi sawl rheswm sy'n ceisio esbonio pam mae Llywodraeth Cymru yn fodlon cefnogi cymhwyso darpariaethau'r Bil i Gymru. Mae'r rhesymau hyn yn cynnwys y ffaith bod natur rhyng-gysylltiedig y systemau gweinyddol perthnasol yng Nghymru a'r Alban a rhai a gedwir yn ôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r newidiadau hyn gael eu bwrw ymlaen yn yr un offeryn deddfwriaethol. Ond mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn cydnabod y gellid sefydlu system gyfochrog â gwasanaeth digidol y DU at ddibenion cofrestru datganoledig yn unig, ac y byddai newidiadau i'r system ymgeisio am bleidleisio absennol ar-lein o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, nid yw'n glir i'r pwyllgor pam nad yw Biliau diweddar a gyflwynwyd i'r Senedd mewn perthynas ag etholiadau yng Nghymru wedi ceisio gwneud y darpariaethau hyn.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â'r pwerau dirprwyedig yn y Bil. Mae egwyddorion Llywodraeth Cymru ei hun ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig yn nodi na ddylai Biliau'r DU greu pwerau cydamserol oni bai fod yr amgylchiadau'n  eithriadol, ac, mewn achosion o'r fath, dylai pwerau o'r fath fod yn ddarostyngedig i fecanweithiau cydsynio ac eithriadau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 fel nad oes angen cydsyniad er mwyn i'r Senedd ddileu'r pŵer yn y dyfodol.

Siaradais am y mater hwn yn y ddadl gynharach ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau). Nid yw'n glir o'r memorandwm i'r Bil pleidleisio absennol pam fod creu'r pwerau cydamserol hyn yn achos eithriadol. Gofynnodd y pwyllgor am esboniad, ac argymhellodd hefyd y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw'r eithriadau perthnasol o Ddeddf 2006 wedi'u trafod gyda Llywodraeth y DU.

Ystyriodd y pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w hadroddiad brynhawn ddoe. O ran y ddau argymhelliad hyn, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod angen creu pwerau cydamserol oherwydd y croestoriad unigryw o gyfrifoldebau a gedwir yn ôl a rhai datganoledig, a bod pwerau cydamserol eisoes ar waith yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, y mae'r Bil hwn yn ei diwygio. Yn ogystal, mae'r Ysgrifennydd Cabinet o'r farn y byddai'n ddiangen ac yn amhriodol awgrymu eithriadau yn yr achos hwn gan fod gwasanaethau digidol y DU a'r systemau ceisiadau pleidleisio absennol ar-lein yn cael eu gweithredu gan Weinidogion y Goron i wasanaethu etholiadau ledled y DU.

O ran cychwyn, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cael pwerau i gychwyn cymal 1 o'r Bil, a fydd yn newid y cylch adnewyddu pleidleisiau post yng Nghymru. Nid oes gofyniad i Weinidogion Cymru roi eu cydsyniad i arfer y pŵer hwn. Unwaith eto, mae'r un mater yn codi ynghylch y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod, a Ffuredau). Gofynnodd y pwyllgor i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a geisiwyd rôl gydsynio i Weinidogion Cymru. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor hefyd y bydd Llywodraethau Cymru a'r Alban yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb am ddrafftio'r pŵer cychwynnol, a bydd y drafft hwn yn cael ei gytuno a bydd Llywodraeth y DU yn ei symud ymlaen. Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yr amseroedd gweithredu ar gyfer deddfwriaeth gysylltiedig yn cael eu cytuno ymlaen llaw, felly nid oedd o'r farn ei bod yn angenrheidiol cyflwyno rôl gydsynio ffurfiol.

Yn olaf, bydd y Senedd yn dymuno nodi, er mwyn galluogi'r system ymgeisio am bleidleisio absennol ar-lein i fod yn berthnasol i etholiadau Cymru y flwyddyn nesaf, mae'r pwyllgor yn deall bod yn rhaid gosod y rheoliadau perthnasol yn y Senedd erbyn canol mis Tachwedd fan bellaf.

17:30

Rwy'n credu bod y Bil hwn yn gosod cynsail cyfansoddiadol hynod bryderus, ac mewn maes sy'n eithaf hanfodol i iechyd ein democratiaeth—etholiadau Cymru, gan gynnwys ethol i'r sefydliad hwn. Mae'r pwerau cydamserol y cyfeirir atynt, yn gydamserol o ran enw yn unig. I bob pwrpas, os darllenwch chi'r Bil fel y'i cyfansoddir ar hyn o bryd, yr hyn y mae'n ei ddweud yn yr adran ar etholiadau i'r Senedd hon, yw:

'Caiff Gweinidog y Goron neu Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y defnydd o wasanaeth digidol y DU'.

Felly, eto, nid yw'n ddull cydweithredol mewn gwirionedd, fel y'i disgrifiwyd. Mae'n golygu y gall yr Ysgrifennydd Gwladol, yn annibynnol ar Weinidogion Cymru, benderfynu newid ystod eang o ddarpariaethau mewn perthynas â cheisiadau am bleidleisiau post neu ddirprwy drwy'r porth digidol. Ac, os nad oedd hynny'n ddigon drwg, yr hyn y mae'n ei ddweud yn ddiweddarach yn yr adran honno yw:

'Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau'.

Felly, dywedwyd wrthym yn gynharach yn yr adran bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i wneud rheoliadau, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer, ond yn ddiweddarach mae'n dweud:

'Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon heb gytundeb Gweinidog y Goron.'

Felly, wyddoch chi, naw wfft i gydweithio. Partneriaeth hollol anghyfartal: 'Oes mae gennym ni'r un pwerau—o, gyda llaw, caf i ddefnyddio fy rhai i heb eich caniatâd chi, ond chewch chi ddim defnyddio eich pwerau chi heb ganiatâd San Steffan', a hynny mewn maes hollol sylfaenol, sef rheolaeth dros ein hetholiadau ni, a phan edrychwch chi yn fanylach ar yr adran, beth mae'r pwerau hynny yr ydym yn eu rhoi i Ysgrifennydd Gwladol y dyfodol yn ymwneud â nhw? Maen nhw'n ymwneud â'r holl gwestiwn o ddogfennau, y dystiolaeth, hynny yw'r wybodaeth ragnodedig sy'n angenrheidiol i gael y pleidleisiau dirprwy a'r pleidleisiau post. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, onid ydyn ni? Llywodraethau—. Iawn, mae'n Llywodraeth Lafur nawr, ond mae llywodraethau o arlliw gwleidyddol gwahanol eisiau cymryd rhan yn y broses o ddarparu gwybodaeth o ran adnabod pleidleiswyr—rydyn ni wedi bod yma o'r blaen. Rydyn ni'n gwybod sut olwg sydd ar hynny. Ac edrychwch ar yr arolygon barn nawr.

Yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddweud 'ie' i'r cynnig hwn yw eich bod chi mewn gwirionedd nawr, os nad yw'r arolygon barn yn newid, yn rhoi'r pwerau hyn yn annibynnol i newid y darpariaethau ynghylch mynediad digidol ar gyfer pleidleisiau dirprwy a phost yn nwylo Llywodraeth Nigel Farage yn y dyfodol. Dyna pam mae'n rhaid i chi bob amser synhwyro gwiriad. Bydd, efallai y bydd hyn yn ymddangos yn bragmataidd ac yn synhwyrol nawr, ond meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd gyda'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, y Bil fel y'i cyfansoddir ar hyn o bryd. Rydych yn grymuso, yn annibynnol ar y Senedd hon, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn Llywodraeth San Steffan yn y dyfodol i benderfynu, heb unrhyw atebolrwydd i bobl Cymru yn uniongyrchol, i newid y darpariaethau hyn. O leiaf dylai Llywodraeth Cymru fynnu y dylai fod cydraddoldeb pŵer. Os yw'n wirioneddol gydamserol, yna dylai fod rhwymiad dwbl; ni ddylai'r Ysgrifennydd Gwladol allu newid y darpariaethau hyn heb eich cytundeb chi chwaith. Mae'n sefyllfa hollol anghyfartal.

A gadewch i ni feddwl wedyn hefyd am y cynsail ehangach, oherwydd mae'r Bil yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas ag etholiadau. Felly, rydyn ni'n ildio tir mewn maes eithaf canolog a sylfaenol. Ac unwaith y byddwch chi'n ildio'r egwyddor honno—. Mae'r cadw yn ôl, y cyfeiriodd y Gweinidog ato, yn gul iawn. Mae'n ymwneud â rheoleiddio gwasanaeth digidol y DU. Wel, iawn, iawn—gallwn ddeall pam y mae'n rhaid i hwnnw fod yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan. Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn yr egwyddor y gall Ysgrifennydd Gwladol newid rhai o'r darpariaethau mewn perthynas ag etholiadau yng Nghymru, ar gyfer llywodraeth leol neu'r Senedd, yna rydych wedi ildio egwyddor sylfaenol. A byddwch yn glir felly: byddai'n llawer anoddach, felly, i ddadlau yn erbyn Llywodraeth yn y dyfodol a allai fod â phob math o ddibenion anfad wrth newid y rheolau a'r holl bolisïau a rheoliadau sy'n llywodraethu etholiadau Cymru. Ac felly, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, oherwydd credwn ei fod yn gosod cynsail bryderus iawn, ac rydym yn annog Aelodau eraill i ymuno â ni.

17:35

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Byddaf yn cymryd y pwyntiau y mae'r holl Aelodau wedi'u codi o ddifrif, ac fe af ymlaen a cheisio mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny yn fy sylwadau cloi.

Mae'r Bil yn ganlyniad i gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru, yr Alban a'r DU. Fe'i cyflwynwyd ar ein cais ni, ac rwy'n credu y bydd iechyd hirdymor etholiadau Cymru, yn elwa ar hyn. Rhai o'r pwyntiau—. Af ymlaen at gwpl o'r pwyntiau hynny, yn gyntaf oll, efallai, a godwyd gan Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, o ran y pwerau cydamserol o fewn y Bil.

Unwaith eto, mae'r Bil yn cyflwyno pwerau i Weinidogion Cymru a'r Alban gymhwyso system bresennol ledled y DU i'w hetholiadau eu hunain, ac mae'r system yn eiddo i Weinidogion y DU ac yn cael ei gweithredu gan Weinidogion y DU ac mae wedi'i hintegreiddio i wasanaeth digidol y DU, sydd ei hun yn ddarostyngedig i'r cadw yn ôl cyffredinol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae pwerau cydamserol eisoes yn bodoli mewn perthynas â gwasanaeth digidol y DU o fewn y Ddeddf, ac mae'r Bil hwn wedi mabwysiadu dull cyson. O ran y cwestiynau ynglŷn â'r eithriadau, yn fwriadol bydd y system ar-lein yn integreiddio pob etholiad yng Nghymru, a dyma'r ffordd orau o greu'r system symlach a mwy effeithlon honno i bleidleiswyr Cymru, a chanlyniad hyn yw system ar-lein lle gall unrhyw newidiadau achosi newidiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol i etholiad arall. Yn ogystal, mae'r system ei hun yn cael ei gweithredu, unwaith eto, gan Weinidogion y DU. Felly, unwaith eto, byddai unrhyw newidiadau posibl yn achosi costau y byddai angen eu cytuno ymlaen llaw. Ac mae'r system ar-lein hefyd yn integreiddio â system rheoli etholiadol pob awdurdod lleol, gan greu canlyniadau hyd yn oed mwy anfwriadol y byddai angen eu hystyried.

Y pwynt ynglŷn â phryder ynghylch y pwerau cychwyn—. Felly, mae'r Bil wedi'i ddatblygu, unwaith eto, fel y dywedais i, ar y cyd rhwng y tair Llywodraeth, a bydd yr offerynnau statudol dilynol yn parhau i gael eu datblygu fel hyn. Felly, bydd y gwelliannau perthnasol yn berthnasol i Gymru a'r Alban ac, fel y cyfryw, bydd angen i'r darpariaethau ddod i rym ar gyfer pob un ohonynt ar unwaith, o dan gydlyniad gofalus rhwng pawb sy'n cymryd rhan. Fel y dywedais i, rydw i wedi cael trafodaethau gyda fy nghydweithwyr yn yr Alban yn ogystal â Gweinidogion Llywodraeth y DU. Felly, er mwyn helpu i sicrhau hyn, bydd Llywodraeth Cymru a'r Alban yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb am ddrafftio'r offerynnau cychwynnol ar gyfer y pŵer cychwynnol yn unol â'n his-ddeddfwriaeth ein hunain, a bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio'n effeithiol ar gyfer Llywodraethau datganoledig. Bydd y drafft wedyn yn cael ei gytuno gyda Llywodraeth y DU, a fydd wedyn yn bwrw ymlaen ag ef ar ein rhan.

O ran system Cymru yn unig, ni fyddai system Cymru yn unig yn datrys y brif broblem o ddwy broses ymgeisio ar-lein ar wahân ar gyfer pleidleiswyr Cymru, yn dibynnu ar ba etholiad maen nhw'n gwneud cais amdano. Felly, mae risg sylfaenol o brosesau ar wahân yn drysu pleidleiswyr. Felly, os yw pleidleisiwr yn meddwl ei fod eisoes wedi gwneud cais am bleidlais bost, efallai y bydd wedyn yn sylweddoli nad yw'n berthnasol i etholiad sydd ar ddod, ond yna mae'n rhy hwyr, felly o bosibl bydd yn colli ei gyfle i bleidleisio.

Dirprwy Lywydd, rwy'n parhau'n gadarn o'r farn y dylem ddarparu cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad]. Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl

Mae eitem 8 wedi ei gohirio tan 7 Hydref, felly symudwn ymlaen. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

9. & 10. Egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig. Ken Skates. 

Cynnig NDM8967 Ken Skates

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

Cynnig NDM8968 Ken Skates

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ac i gyflwyno'r cynnig ar y penderfyniad ariannol. Hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu craffu diwyd ar y Bil yn ystod y cyfnod hwn ac am eu hadroddiadau. Rwy'n croesawu'n arbennig argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Hoffwn hefyd ddiolch i'r sefydliadau a'r unigolion a roddodd dystiolaeth ac sy'n parhau i gynnig eu harbenigedd wrth i ni baratoi ar gyfer diwygio bysiau.

Nawr, un o'n prif raglenni ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth yw creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, ac mae diwygio bysiau wrth wraidd yr ymrwymiad hwnnw. Mae'r Bil yn cynnig cyfle gwych i weithredu gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus trwy sefydlu'r strwythur deddfwriaethol i alluogi system newydd ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau lleol masnachfraint. Bydd yn galluogi gwell sefydlogrwydd o fewn y farchnad fysiau trwy ddull cydgysylltiedig o ddarparu rhwydwaith gwasanaeth bysiau lleol sy'n gwasanaethu'r cyhoedd yn well.

Nawr, rydw i wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a godwyd yn ystod sesiynau'r pwyllgor ac rydw i wedi ystyried eu hadroddiadau. Rwyf wedi nodi fy ymatebion i'r argymhellion mewn gohebiaeth, y maent eisoes wedi'u derbyn. Felly, mae'r tri phwyllgor yn ymwybodol o'm safbwynt. Bydd symud o'r model dadreoleiddio presennol yn cefnogi system drafnidiaeth wirioneddol integredig sy'n addas i'r diben. Mae'n sefydlu creu cynllun rhwydwaith bysiau Cymru, sy'n nodi'r gwasanaethau sydd eu hangen at ddibenion sicrhau trafnidiaeth ddiogel, integredig, cynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru. Mae hefyd yn sefydlu gofynion clir ar weithredwyr, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chasglu a rhannu gwybodaeth, a fydd yn hanfodol i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun rhwydwaith ac i fagu hyder defnyddwyr yn eu gwasanaethau lleol.

Rwyf wedi nodi'r trafodaethau a'r argymhellion dilynol ynghylch materion allweddol sy'n ymwneud â'r Bil, megis cynllunio rhwydwaith, darparu canllawiau, ymgynghori a chydweithio, a sicrhau bod gennym y gallu a'r arbenigedd ar lefel genedlaethol i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol hon. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi derbyn neu eisoes wedi dechrau gweithio ar y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, mae Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn ymgymryd â llawer o'r gwaith o gyflawni'r Bil hwn ar ran Gweinidogion Cymru, eisoes wedi gwneud cryn dipyn o waith ar gynllunio a gweithredu diwygio bysiau, gan gynnwys llawer o'r hyn a fydd ei angen i weithredu'r Bil. Yn ne-orllewin Cymru, y rhanbarth cyntaf i gael ei gyflwyno, mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r cyd-bwyllgor corfforedig ac awdurdodau lleol i ddatblygu'r rhwydwaith sylfaen. Dros yr haf, maent wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithdai personol ledled y rhanbarth. Mae'r rhain wedi bod yn gadarnhaol iawn a byddant yn cael eu hailadrodd ar draws pob rhanbarth arall.

Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion a Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu nodiadau cyngor i gynorthwyo gweithredwyr i ddeall materion megis darparu gwybodaeth, trwyddedu, ac ar gyfer busnesau bach a chanolig yn arbennig, cymorth gyda chaffael. Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gytuno ar ffyrdd o weithio. Mae pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen ag argymhelliad y pwyllgor i ddatblygu siarter teithwyr sy'n cael ei hategu gan bwyslais ar hygyrchedd.

Mae'r Bil yn cydnabod y cyfraniad sylweddol a wneir gan drafnidiaeth gymunedol at lesiant ein pobl agored i niwed. Rydyn ni wedi croesawu'r gefnogaeth eang a roddwyd gan y trydydd sector i'r Bil ac rydyn ni'n cydnabod bod angen i ymgysylltu effeithiol â gweithredwyr barhau i ddarparu sicrwydd ac eglurder ynghylch sut y bydd trafnidiaeth gymunedol yn cael ei integreiddio i'r rhwydwaith ehangach.

Mae nifer o faterion a godwyd gan y pwyllgorau yn amlwg y tu allan i gwmpas y Bil, er enghraifft, teithio gan ddysgwyr a seilwaith. Mae'r materion hyn yn rhan annatod o lesiant cymunedau a'r diwydiant bysiau yng Nghymru, ac felly maent yn parhau i fod yn faterion allweddol y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arnynt. Bydd cydlynu'r rhwydwaith a chyflawni contractau gwasanaeth bysiau lleol mewn ffordd sy'n gweithio ochr yn ochr â theithio gan ddysgwyr yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â sicrhau iechyd parhaus y farchnad fysiau BBaChau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a dim ond mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a chyd-bwyllgorau corfforedig y gallwn wneud hyn. Yn yr un modd, bydd gwell cydweithrediad i ddarparu mesurau blaenoriaeth bysiau a seilwaith bysiau hygyrch yn helpu i leihau tagfeydd ac annog pobl yn ôl ar fysiau.

Rwy'n cydnabod bod pethau y mae angen i ni eu gwneud fel blaenoriaeth, gan gynnwys sicrhau ein bod yn gosod polisi clir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â chymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 o dan y system newydd. Rwyf hefyd wedi cyfarwyddo swyddogion a Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd i archwilio rôl y cwmnïau bysiau trefol presennol o dan y system fasnachfraint. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr undebau a chynrychiolwyr y diwydiant, ar y ddwy flaenoriaeth hyn a byddwn yn diweddaru'r Senedd maes o law.

Yn olaf, gan droi at y penderfyniad ariannol, diolchaf i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith yn craffu ar y Bil a diddordeb y pwyllgor yn y methodolegau cost a'r effaith bosibl ar gyllid i weithredwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol. O dan y system bresennol, rydyn ni'n gwario tua £600 miliwn i gefnogi'r rhwydwaith bysiau yn nhymor y senedd hon, ond ychydig iawn o reolaeth sydd gennym dros sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Mae'r Bil hwn yn mynd i roi mwy o reolaeth i ni dros ble mae'r arian yn mynd.

Ym Manceinion fwyaf, mae nifer y teithiau bws wedi cynyddu 14 y cant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr ardaloedd masnachfraint cyntaf. Pan fydd y Bil hwn yn ei le, bydd cynnydd mewn nawdd yn golygu mwy o refeniw yn nerbyniadau bysiau, gan roi mwy o arian i'w fuddsoddi yn ôl yn y rhwydwaith bysiau. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau lle mae eu hangen, nid dim ond lle maen nhw'n broffidiol. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn cadarnhau y bydd cyfanswm cost y Bil yn £623.5 miliwn dros y cyfnod arfarnu 30 mlynedd. Mae'r cyfanswm hwn yn cynnwys costau trosiannol o £358.1 miliwn a chostau cylchol o £265.3 miliwn. Rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi derbyn pob un o'r pum argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a byddaf yn diweddaru'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yng Nghyfnod 2 yn unol â hynny. Felly, gofynnaf i'r Senedd gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Diolch.

17:45

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac ar ran y pwyllgor, dwi eisiau dechrau drwy ddiolch i bawb roddodd dystiolaeth i lywio ein gwaith ni fel pwyllgor wrth graffu ar y Bil yma. Rŷn ni'n arbennig o ddiolchgar i’r awdurdodau lleol, y gweithredwyr neu'r operators, y grwpiau teithwyr a chynrychiolwyr cymunedol a rannodd eu profiadau a’u harbenigedd gyda ni. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd adeiladol y mae e wedi ymgysylltu â’r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1.

Llywydd, fel ŷn ni'n gwybod, mae gwasanaethau bysiau yn hanfodol i’n cymunedau ni. Maen nhw'n cysylltu pobl â’r mannau lle maen nhw'n gweithio, lle maen nhw'n dysgu a lle maen nhw'n cymdeithasu. Dyma sut mae pobl yn ymweld â’r teulu, dyma sut mae pobl yn cyrraedd apwyntiadau iechyd. Ac mi oedd rhanddeiliaid yn glir nad yw’r system fysiau ddadreoleiddiedig bresennol yn ateb y gofyn mwyach. Mae'r materion, wrth gwrs, yn gyfarwydd i bob un ohonom ni fel Aelodau: lefelau defnydd yn dirywio mewn sawl ardal, gwasanaethau gwledig yn fregus, a wedyn y clytwaith o ddarpariaeth sy’n rhy aml yn gadael teithwyr yn ansicr ynghylch dibynadwyedd gwasanaethau. Yn erbyn y cefndir yma, mae’r achos dros ddiwygio yn gryf ac yn gymhellol.

Felly, mae’r pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Wedi dweud hynny—mae wastad ‘ond’, onid oes e—er ein bod yn cytuno bod y Bil hwn yn gam pwysig ac angenrheidiol ymlaen, rŷn ni yn rhannu pryderon llawer o’r rhanddeiliaid bod y Bil fel y mae wedi cael ei ddrafftio yn brin o fanylion mewn rhai meysydd allweddol. Mae wedi bod yn siomedig mai dim ond ar ôl i’r Bil ddod yn gyfraith y bydd agweddau sylweddol ar y cynigion yn dod yn glir. Mae’r approach yma wedi’i gwneud yn anoddach i randdeiliaid gymryd rhan lawn yn y broses graffu ac mae hefyd wedi creu pryderon a chamddealltwriaeth mewn rhai achosion ynghylch bwriadau’r Llywodraeth.

Fe ddaeth nifer o themâu trawsbynciol i’r amlwg yn ystod ein gwaith craffu ni. Y thema gyntaf dwi eisiau sôn amdani yw i ba raddau y bydd agweddau allweddol ar y system newydd yn cael eu gadael i ganllawiau anstatudol neu femoranda cyd-ddealltwriaeth. Wrth gwrs, mae gan ganllawiau rôl bwysig wrth sicrhau gweithrediad effeithiol, ond lle mae’r Bil yn dibynnu’n helaeth ar fecanweithiau anstatudol, mae posibilrwydd wedyn, wrth gwrs, y gallai Llywodraethau yn y dyfodol newid agweddau sylweddol ar y polisi heb waith craffu priodol gan y Senedd. Gall hyn greu ansicrwydd i deithwyr, gweithredwyr ac awdurdodau lleol.

Dyma i chi un enghraifft, sef datblygu siarter teithwyr, y clywon ni amdano fe yn gynharach. Fe wnaethon ni argymell y dylai’r Bil gynnwys dyletswydd statudol i ddatblygu siarter teithwyr ac i ymgynghori arni. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â siarter, ond nid i ddeddfu ar ei chyfer hi. Nawr, yn ein barn ni, byddai’r cyhoedd yn cael mwy o sicrwydd pe bai ymrwymiadau allweddol fel hyn yn cael eu nodi ar wyneb y Bil, ac nid yn cael eu gadael i ewyllys da yn y dyfodol.

Yn ail, fforddiadwyedd a rheoli disgwyliadau—mae hwnna’n bwnc pwysig i ni fel pwyllgor. Mi oedd yna bryderon gan randdeiliaid yn y diwydiant nad yw’r tybiaethau ariannol sy’n sail i’r Bil yn ddigon cadarn. Mae lefel yr uchelgais yn sylweddol, ond heb fuddsoddiad parhaus, mae yna risg y bydd disgwyliadau’n cael eu codi ond ddim yn cael eu bodloni. Mi fydd gwelliannau i wasanaethau wrth gwrs yn cymryd amser, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru gyfathrebu’n glir ac yn gyson gyda theithwyr ynghylch pa newidiadau y gallan nhw eu disgwyl a phryd y gallan nhw ddisgwyl eu gweld nhw. Yn hynny o beth, mae'n rhaid dysgu gwersi o brofiadau’r gorffennol, a maes diwygio rheilffyrdd yn benodol.

Yn drydydd, capasiti Trafnidiaeth Cymru. Mae cyflawni masnachfreiniau’n effeithiol yn dibynnu ar sicrhau bod gan Drafnidiaeth Cymru y bobl a’r sgiliau cywir. Fe ddangosodd ymweliad y pwyllgor â Transport for Greater Manchester faint o adnoddau sydd eu hangen mewn gwirionedd. Dyw capasiti presennol Trafnidiaeth Cymru ym maes masnachfreinio bysiau ddim wedi’i brofi, ac mae’r amserlenni, fel ŷn ni’n gwybod, yn heriol. A bod yn deg, mae’n amlwg bod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gwneud llawer o waith paratoi ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac yn y blaen. Ond mi fydd llwyddiant y trawsnewid yn dibynnu ar Drafnidiaeth Cymru, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fodlon bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mecanweithiau ar waith i feithrin capasiti a gwneud hynny yn gyflym.

Mater cysylltiedig wedyn oedd y risg bod staff trafnidiaeth medrus yn gadael awdurdodau lleol i ymuno â Thrafnidiaeth Cymru, gan, o bosib, wanhau swyddogaethau trafnidiaeth lleol, gan gynnwys teithio gan ddysgwyr, ac mi wnaf i ymhelaethu ar hynny mewn munud. Felly, mae partneriaeth gref â llywodraeth leol hefyd yn hanfodol yn hyn o beth.

Felly, gwnaf i droi nawr at faterion penodol a godwyd gyda’r pwyllgor yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod 1. Mae hepgor teithio gan ddysgwyr o’r Bil, yn ein barn ni, yn gyfle wedi’i golli. Mi ddylai system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ddiwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Rŷn ni’n cydnabod dymuniad yr Ysgrifennydd Cabinet am Fil cyflawnadwy—neu deliverable—ond rŷn ni yn credu y dylai teithio gan ddysgwyr fod yn amlycach yn y Bil yma. Dwi’n siomedig na fu modd i’r Ysgrifennydd Cabinet dderbyn ein hargymhellion ni sydd wedi’u hanelu at gyflawni hynny. Fodd bynnag, dwi yn croesawu ei ymrwymiad e, mewn ymateb i’n hargymhelliad, i gyhoeddi datganiad polisi yn egluro sut bydd teithio gan ddysgwyr yn cael ei gefnogi drwy gyflawni’r Bil yma.

Bwlch sylweddol arall yn y Bil yw tagfeydd a seilwaith. Roedd y rhanddeiliaid yn glir na fydd gwasanaethau bysiau’n gwella dan unrhyw fodel os nad eir i’r afael â hyn. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y byddai o fudd i Lywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, a phob un ohonom ni i fynd i'r afael â thagfeydd, rŷn ni’n credu y dylai’r Bil fynd ymhellach. Fe wnaethom ni hefyd dynnu sylw at yr angen am ddull cenedlaethol cyson o ran seilwaith a gwybodaeth mewn safleoedd bysiau. Dan y cynigion, bydd awdurdodau lleol yn cadw cyfrifoldeb yn y maes yma. Rŷn ni’n credu, felly, y dylid cael cytundeb ffurfiol gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau o leiaf bod yna gysondeb ar draws y wlad yn hyn o beth.

Mae'n rhaid i lais y teithwyr fod yn ganolog i’r cynigion hefyd. Dyna pam y gwnaethom ni argymell y dylai’r Bil gynnwys dyletswydd statudol i lunio siarter teithwyr, fel y gwnes i sôn amdano fe gynnau. Byddai hyn yn gosod safonau gwasanaeth clir ac yn helpu i sicrhau atebolrwydd. Mae'n rhaid i deithwyr wybod pwy sy’n gyfrifol pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac rŷn ni’n croesawu cynlluniau’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer bwrdd bysiau cenedlaethol a byrddau bysiau rhanbarthol, ond unwaith eto, dyw’r rhain ddim wedi’u nodi yn y Bil.

I nifer o gyfranwyr, roedd hygyrchedd yn fater allweddol, gyda galwadau am bwyslais cryfach ar hynny yn y Bil. Roedden nhw’n teimlo bod hygyrchedd yn rhy bwysig i’w adael heb ei ddiffinio yn glir yn y Bil. Heb ddiffiniad clir, mi fydd hi’n anodd wedyn mesur cynnydd. Felly, fe wnaethom ni argymell bod ‘hygyrchedd’ yn cael ei ddiffinio yn y Bil yma.

Yn olaf, dwi am ddweud gair am rôl busnesau bach a chanolig ac am ddarpariaeth wledig. Mi fydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn bod busnesau bach a chanolig yn hanfodol i’r rhwydwaith bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Allwn ni ddim fforddio colli gweithredwyr bach yn ein cymunedau ni; byddai’n cael effaith ddinistriol ar swyddi ac economïau lleol, yn ogystal ag ar ddarpariaeth teithio gan ddysgwyr. Fe gawsom ni rywfaint o sicrwydd yn sgil ymrwymiad ar ddylunio contractau ac ar greu prosesau symlach, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i barhau i adolygu hyn.

Mae'n rhaid i fasnachfreinio weithio i Gymru wledig yn ogystal â Chymru drefol. Rŷm ni’n cefnogi egwyddor croes-gymhorthdal—neu cross-subsidy—i gynnal gwasanaethau sy’n gymdeithasol angenrheidiol, ond mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet egluro’r berthynas a’r rhyngweithiad rhwng cyllid cenedlaethol a chyllid lleol er mwyn sicrhau bod yna degwch a thryloywder.

Llywydd, i gloi, mae'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond rŷn ni hefyd yn credu bod modd ei gryfhau mewn sawl maes. Os caiff ei wneud yn dda, mae masnachfreinio’n cynnig y cyfle i ddarparu rhwydwaith sy’n ddibynadwy, yn gynhwysol, ac wedi’i lywio yn ôl anghenion cymunedau. Dyna pam y mae mor bwysig ein bod ni’n cael y Bil hwn yn gywir wrth iddo fynd drwy wahanol gyfnodau diwygio fan hyn yn y Senedd. Diolch yn fawr.

17:55

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf, Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw, ac rwy'n falch iawn o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn pob un o'r pump argymhelliad yn llawn.

Hoffwn ddechrau drwy fynd i'r afael â chyfnod arfarnu 30 mlynedd y Bil, sy'n sylweddol hirach na'r cyfnod o 10 mlynedd yr ydym fel arfer yn ei ystyried. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym nad yw cyfnod arfarnu hirach yn anarferol ar gyfer polisïau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Fodd bynnag, roeddem yn ei chael hi'n anodd asesu cywirdeb costau o ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â rhagolygon hirdymor. Ac er ein bod yn fodlon ar y cyfan â'r goblygiadau ariannol a gyflwynir yn y rheoliad asesiad effaith, mae'n bwysig cydnabod bod y darlun llawn yn parhau i fod yn ansicr.

O ran sut amcangyfrifwyd y costau sy'n ymwneud ag opsiynau masnachfreinio, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â gwledydd a gweithredwyr eraill i ddeall eu persbectif ac i ddysgu gwersi. Yn benodol, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi tynnu sylw at yr angen i sicrhau cymysgedd o weithredwyr, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, ac wedi pwysleisio pwysigrwydd gwerth cymdeithasol yn ei ddull o ran masnachfreinio, Ond nid yw'n glir sut mae'r ffactorau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn yr amcangyfrifon costau. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut y bydd y rhain yn cael eu hymgorffori, eu monitro a'u gwerthuso fel rhan o weithredu'r darpariaethau masnachfreinio bysiau. Rwy'n falch o ddweud bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwn ac wedi ymrwymo i ystyried y materion hyn yn gadarn wrth weithredu'r Bil a mesur ei effeithiolrwydd.

O ran tyfu'r rhwydwaith bysiau, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at ddau gynllun rhwydwaith masnachfraint sy'n cael eu datblygu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae'r cyntaf, a elwir yn rhwydwaith sylfaen, yn cymryd yn ganiataol nad oes unrhyw gynnydd mewn cyllid, tra bod yr ail, a elwir yn rhwydwaith uchelgeisiol, yn gofyn am gyllid ychwanegol. Rydym yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r rhwydweithiau hyn, ond rydym yn siomedig nad oedd hyn wedi'i gynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y lle cyntaf.

Er ein bod yn nodi y bydd effaith y Bil ar dyfu'r rhwydwaith bysiau yng Nghymru yn dibynnu ar benderfyniadau cyllido llywodraethau'r dyfodol, credwn fod angen i'r Ysgrifennydd Cabinet nodi ei weledigaeth ar gyfer diwygio bysiau a chymryd perchnogaeth o'r costau nawr er mwyn cyfiawnhau'r ffordd hon o weithredu. Rydym felly'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad yn galw am eglurder ar y costau i gyflawni'r rhwydwaith uchelgeisiol.

Caffael depos bysiau a gosod systemau gwefru yw'r gost fwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod pontio, sef £178.2 miliwn. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus bod y ffigur hwn yn gywir, dywedodd wrthym ei fod yn seiliedig ar ragdybiaethau, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto pa ddepos y mae'n dymuno eu caffael. Unwaith eto, rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn ein trydydd argymhelliad, sy'n gofyn iddo esbonio sut mae'r costau hyn wedi'u pennu, gan gynnwys y rhagdybiaethau a wnaed.

Mewn perthynas â chostau staffio, daeth i'r amlwg yn ystod craffu y bydd angen diweddaru'r amcangyfrifon i adlewyrchu'r penderfyniad i symud ymlaen gyda phedwar parth masnachfreinio, yn hytrach na'r naw parth a ddefnyddir i amcangyfrif y costau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Rydyn ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymrwymo i ailedrych ar gostau staffio yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2. Serch hynny, rydyn ni o'r farn bod y dull hwn yn siomedig. Mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â phedwar parth masnachfreinio hefyd yn bwrw amheuaeth ar gywirdeb y costau eraill a gyflwynir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, felly mae ein pedwerydd argymhelliad yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ailedrych ar yr amcangyfrifon cost a'u hadolygu yn unol â hynny.

Yn olaf, Llywydd, clywsom y bydd y fflyd bysiau allyriadau sero net yn cael ei chaffael drwy drefniadau prydlesu. Roedd ein hargymhelliad olaf yn gofyn am fanylion pellach ynghylch y costau hyn a'r rhagdybiaethau a wnaed. Mewn ymateb, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi bod y ffocws bellach wedi troi at drefniant lle bydd Trafnidiaeth Cymru yn prynu bysiau ac yn eu prydlesu i weithredwyr. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i fyfyrio ar oblygiadau'r newid hwn wrth adolygu'r RIA ar ôl Cyfnod 2, ac rydym yn croesawu'r dull hwn o weithredu. Diolch yn fawr.

18:00

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil i bedwar casgliad a gwnaeth 11 argymhelliad. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb, a ystyriwyd gan y pwyllgor ddoe. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys sawl argymhelliad a ofynnodd am eglurder gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch drafftio rhai darpariaethau yn y Bil ac am bwerau dirprwyedig penodol. Rwy'n annog Aelodau i ddarllen yr argymhellion hynny a'r ymatebion cysylltiedig gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys sylwadau ar ystyriaethau hawliau dynol, effaith y ddeddfwriaeth a'r cydbwysedd rhwng y manylion ar wyneb y Bil a'r manylion sy'n cael eu gadael i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt gan ddefnyddio pwerau dirprwyedig. Barn hirsefydlog y pwyllgor yw y dylid cynnwys asesiad o ymgysylltiad Bil â'r hawliau a ddiogelir gan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol fel mater o drefn yn y memorandwm esboniadol, ac y dylai'r asesiad hefyd nodi'r camau sydd wedi'u cymryd i wneud yr ymgysylltiad hwnnw'n gymesur. Nid yw'r pwyllgor wedi'i argyhoeddi gan farn yr Ysgrifennydd Cabinet bod cynnwys asesiad cryno o effaith Bil ar hawliau dynol yn yr asesiad effaith integredig yn ddigonol, ac nid yw'r pwyllgor yn argyhoeddedig y byddai cynnwys asesiad hawliau dynol llawn yn y memorandwm esboniadol yn cynyddu nifer y dogfennau sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth yn ddiangen.

O ran yr asesiad effaith integredig a gynhwysir yn y memorandwm esboniadol i'r Bil, ni chyhoeddwyd yr asesiad adnabod effaith ar y system gyfiawnder tan bron i ddau fis ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Senedd. Roedd y pwyllgor yn siomedig gyda hyn; nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei groesawu neu y credwn y dylid ei ailadrodd.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sef bod angen gwelliannau pellach i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i'r Bil hwn. Bydd y Senedd yn dymuno nodi, pe bai'r Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod 2 yn dilyn y ddadl y prynhawn yma, byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu cyflwyno'r hyn sy'n ymddangos fel carfan sylweddol o welliannau. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau i ddarpariaethau ar bartneriaethau o ansawdd, cytundebau contract o ansawdd a systemau tocynnau ar y cyd. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i dacluso'r llyfr statud a dileu rhai darpariaethau nad ydynt bellach yn berthnasol yng Nghymru, yn ogystal â chyflwyno gwelliannau i ddiddymu'r darpariaethau presennol i sicrhau nad yw deddfwriaeth yn cael ei chadw sy'n gorgyffwrdd â darpariaethau yn y Bil.

Nid yw'n glir pam nad oedd y Bil fel y'i cyflwynwyd yn cynnwys darpariaethau sy'n mynd i'r afael â'r holl faterion hyn. Nid yw'n arfer deddfwriaethol da i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol anghyflawn i Senedd oherwydd ei fod yn cyfyngu ar allu Aelodau i graffu arni'n llawn. Nid yw'n arfer deddfwriaethol da i Lywodraeth geisio pwerau dirprwyedig lle nad oes bwriad i'w defnyddio. Ceisir sawl pŵer yn y Bil sy'n peri pryder i'r pwyllgor yn hyn o beth, sef y pwerau yn adrannau 15, 21 a 30. Ar ôl iddynt gael eu dirprwyo, bydd y pwerau hyn ar gael i bob Llywodraeth yn y dyfodol, a gall Llywodraeth yn y dyfodol eu harfer mewn ffordd nad yw'n cyflawni bwriad y Llywodraeth bresennol a'u ceisiodd na'r Senedd a'u cymeradwyodd. Ym marn y pwyllgor, mae ceisio pwerau o'r fath yn arfer arbennig o wael pan gaiff ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr ddim cyfle i'w gweithredu, o ystyried y bydd y chweched Senedd yn cael ei diddymu ym mis Ebrill cyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

18:05

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â phroses y pwyllgor hyd yma ac sydd wedi siarad â mi yn uniongyrchol am y Bil hwn. O'n hochr ni o'r Siambr, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Er ein bod yn cydnabod y bwriad y tu ôl iddo ac yn rhannu'r awydd i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, mae'r Bil yn brin mewn nifer o feysydd arwyddocaol ac mae llawer gormod o fanylion ar goll i alluogi cefnogaeth berthnasol.

Yn gyntaf, rydym yn pryderu bod y Bil yn peryglu gormod o'n busnesau bach a chanolig—yr union gwmnïau sy'n cadw cymaint o'n rhwydwaith trafnidiaeth yn weithredol. Rydym wedi clywed yn gyson gan randdeiliaid, er y gallant gefnogi nodau eang y Bil, yn enwedig o ran integreiddio—[Torri ar draws.] Yn sicr.

Dim ond o ran y busnesau mentrau bach a chanolig, codwyd hynny yn y pwyllgor, ac fe eir i'r afael â hynny trwy gael bwndeli llai, wrth fynd ymlaen, o ddau gontract, a rhoi cefnogaeth iddynt, oherwydd mae pob busnes bach mor bwysig i sicrhau bod contractau ysgol hefyd yn cael eu cyflawni, ac fe eir i'r afael â hynny. 

Diolch am yr ymyriad. Wrth gwrs, rydyn ni'n trafod y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) fel y'i cyflwynir i ni heddiw. Nid yw'r sicrwydd a roir yn ddigon sicr i mi, oherwydd rydyn ni wedi gweld, er enghraifft, model tebyg wedi'i gyflwyno ym Manceinion, ac, wrth gwrs, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dilyn y math yna o fodel. Mae llawer gormod o fusnesau bach wedi mynd i'r wal yn dilyn y fasnachfraint honno ym Manceinion. Ac, wrth gwrs, y broblem i'r gweithredwyr llai hynny yw y gallant gael eu heithrio o broses gaffael oherwydd gofynion gweinyddol gormodol. Gwyddom fod Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi cynnig ateb adeiladol sef bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu polisïau enghreifftiol y gall gweithredwyr llai eu mabwysiadu a'u haddasu, ond nid yw hyn yn cael ei ystyried yn y Bil.

Tynnodd yr Aelod a wnaeth yr ymyriad—o'r gogledd—sylw at bwysigrwydd y contractau teithio gan ddysgwyr hefyd, ond rydyn ni wedi gweld rhywfaint o fynd a dod gan y Llywodraeth ar y mater hwn. Dywedodd Cymdeithas Bysiau a Choetsus Cymru wrth y pwyllgor newid hinsawdd fod llawer o'u haelodau BBaCh yn bryderus ofnadwy am yr hyn y gallai'r Bil hwn ei olygu i'w dyfodol oherwydd y symudiad hwn o amgylch contractau teithio gan ddysgwyr. Tynnodd y comisiynydd plant sylw at ei phryderon ynghylch yr elfen hon, ac, ym mis Mai, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod teithio gan ddysgwyr y tu allan i gwmpas y Bil. Ers hynny, mae swyddogion wedi awgrymu y gallai contractau gweithredu ddod ag ef yn ôl i mewn, ac mae'r math hwnnw o anghysondeb, y diffyg manylion, yn ddi-fudd i'r gweithredwyr hynny a'r teuluoedd hynny sy'n dibynnu ar y cludiant ysgol dibynadwy hwnnw bob dydd.

Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, yr hyn y mae'r Bil yn methu â mynd i'r afael ag ef yn llwyr yw'r her fwyaf sy'n wynebu gwasanaethau bysiau heddiw, a hynny yw tagfeydd. Mae dibynadwyedd yn hanfodol. Ni allwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus fodern, integredig os yw bysiau yn sownd mewn traffig ac yn gyson yn hwyr. Awgrymodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr nifer o atebion ymarferol, ond ni fydd y rhain yn cael eu datrys trwy'r ddeddfwriaeth hon.

Wrth gwrs, mae gennym bryderon ehangach ynghylch ariannu'r Bil hwn. Ym Manceinion, unwaith eto, y model rydych chi'n ceisio ei efelychu fel Llywodraeth, mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn amcangyfrif ei fod yn costio—dyma ffaith i'r Aelod sy'n mwmian o'r meinciau cefn—mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn amcangyfrif ei fod yn costio £100 miliwn yn fwy na'r llinell sylfaen ariannu cyn masnachfreinio i ddarparu'r rhwydwaith presennol. Felly, ym Manceinion, mae symud i'r model y mae'r Llywodraeth yn ei ddilyn wedi costio £100 miliwn yn fwy. Mae pryder y byddai'r cyfuniad o gostau cynyddol, galw isel a thwf economaidd isel yn creu ansefydlogrwydd sylweddol yn ein rhwydwaith bysiau pwysig. Clywsom bryderon hefyd gan CLlLC ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn ystyried defnyddio refeniw a godwyd mewn ardaloedd trefol i roi cymhorthdal i lwybrau gwledig. Er y gall rhywfaint o hynny fod yn briodol, nid yw'r Bil yn cynnig unrhyw eglurder ar sut y bydd y tensiwn hwn yn cael ei reoli.

Yn y bôn, nid ydym yn credu mai'r model sy'n cael ei ddilyn yw'r un iawn i ni yma yng Nghymru. Er bod ganddo rai manteision, rydym wedi clywed gan undebau sydd wedi rhybuddio y bydd yn effeithio ar ansawdd gwasanaeth a chynaliadwyedd gweithredwyr. Mae modelau amgen yn cadw cymhellion ar gyfer effeithlonrwydd ac arloesi gan ddal i gyflawni llawer o nodau'r Llywodraeth. Er enghraifft, o dan y model cymhorthdal lleiafswm, mae gweithredwyr yn cael cyfle i ddefnyddio eu gwybodaeth leol a'u harbenigedd masnachol i gynnig newidiadau i'r rhwydwaith neu gynnig tocynnau arbennig i ddenu mwy o gwsmeriaid, neu i leihau costau trwy arloesi ac effeithlonrwydd, gan leihau'r gost i'r pwrs cyhoeddus—model y gwyddom ei fod wedi'i fabwysiadu'n llwyddiannus yn Jersey, a oedd â chynnydd bron i 40 y cant mewn nawdd a chynnydd o bron i 20 y cant o ran boddhad cwsmeriaid.

18:10

Mae'n rhaid i mi ddweud bod hon yn araith siomedig iawn ac yn troi ei chefn yn llwyr ar y gefnogaeth y mae'r Ceidwadwyr wedi'i rhoi o dan ei ragflaenydd i egwyddor y Bil hwn. Mae ei wrthwynebiadau, fel y nododd Carolyn Thomas, yn welliannau, ac nid ydynt yn erbyn yr egwyddorion cyffredinol. Mae wedi mabwysiadu'n llwyr bynciau siarad y corfforaethau rhyngwladol sydd yn erbyn y Bil hwn. Ac mae'r syniad o gymharu Cymru â Jersey yn chwerthinllyd. Ac ar gyfer y cofnod, nid yw'r system rydyn ni'n ei mabwysiadu yr un fath ag un Manceinion. Mae'n system wahanol yn seiliedig ar arfer da rhyngwladol. 

Rwy'n ddiolchgar am ymyriad yr Aelod, ond rwy'n amlwg yn tynnu sylw at feysydd o bryder sylweddol sy'n dangos nad yw'r Bil hwn, nac egwyddor y Bil hwn, mewn cyflwr digon da i'r Senedd hon fabwysiadu'r egwyddor. Mae llawer gormod o fanylion ar goll o'r hyn sydd ger ein bron ni heddiw. A gadewch i ni beidio ag anghofio pam mae hyn yn bwysig. Nid mater o drafnidiaeth yn unig yw bysiau; maent yn offeryn hanfodol ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, cysylltedd gwledig a thwf economaidd. Ond mae'r holl nodau hynny yn cael eu tanseilio os yw'r system rydyn ni'n ei rhoi ar waith yn eithrio'r busnesau bach a chanolig hynny, gan siomi cymunedau gwledig, ac anwybyddu'r realiti gweithredol ar lawr gwlad.

Felly, i gloi, mae'r manylion, neu mewn llawer o achosion y diffyg manylion, yn achosi pryder. Rydyn ni'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth Cymru i fyfyrio ar farn busnesau bach a chanolig, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus, a dychwelyd gyda rhywbeth sy'n wirioneddol gefnogi pob rhan o Gymru. Diolch yn fawr iawn.

Wel, mae Plaid Cymru yn croesawu egwyddor y Bil hwn, gyda’r nod o wasanaethau bysiau mwy fforddiadwy a dibynadwy ledled Cymru. Fel rydyn ni wedi clywed eisoes, Llywydd, mae bysiau yn rhan annatod o wead cymdeithasol ac economaidd ein cenedl ni. Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru heb fynediad at gar. Mae bysiau yn angenrheidiol i’w galluogi nhw i fynd i’r gwaith, i weld ffrindiau a theulu, i gyrraedd gwasanaethau hanfodol. Allwn ni ddim fforddio ddim rhoi’r sicrwydd yma na symud ymlaen. Serch hynny, dros y degawdau diwethaf mae’r defnydd o fysiau wedi lleihau. Mae yna bris ar y sector yn cael ei ddiwygio, ac ni fydd newid pwy sy’n gyfrifol ar ei ben ei hunan, wrth gwrs, yn gwarantu llwyddiant.

Nawr, mae gennym bryderon, wrth gwrs, fod bylchau yn y Bil hwn a fydd efallai yn ein hatal ni rhag cyflawni’r nod uchelgeisiol ac angenrheidiol o gael rhwydwaith bysiau cynt sy’n ddibynadwy, ond mae angen cynllun clir ac eglur er mwyn gwneud hynny, achos, fel rydyn ni wedi clywed, heb fynd i’r afael â thagfeydd traffig, bydd bysiau yn parhau i fod yn annibynadwy, bydd teithwyr yn parhau i fod yn siomedig, ac ni fydd y newid yn cael ei weld.

Her arall yw sicrhau bod cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig. Y cwmnïau bach yma yw’r llinyn sy’n cysylltu ein cymunedau gwledig ni. Hebddynt, pa ffordd fydd pobl yn gallu trafaelio milltiroedd i gyrraedd siopau, ysbytai a gweithleoedd? Eto, nhw yw’r rhai sydd yn aml yn darparu gwasanaethau hanfodol i’n hysgolion.

A dyma lle mae'r risg fwyaf efallai, Llywydd, oherwydd os yw'r cwmnïau lleol hynny'n mynd i'r wal, y plant a'r teuluoedd fyddai'n dioddef. Rhaid gwarantu teithio gan ddysgwyr, ac felly rhaid ei gynnwys yn y Bil hwn. Ni allwn gamblo gyda p'un a yw plentyn yn mynd i'r ysgol yn ddiogel ai peidio. Ni ddylai fod yn argymhelliad bod ein rhwydwaith bysiau yn cynnwys sefydliadau dysgu. Mae addysg yn hawl. Rydyn ni i gyd yn cytuno ar hynny. Ni ddylai unrhyw blentyn neu berson ifanc gael yr hawl honno wedi'i rhwystro gan ddiffyg mynediad at drafnidiaeth. Ni ellir trin teithio gan ddysgwyr fel ôl-ystyriaeth; mae'n rhaid ei warantu yn y gyfraith yma. A chan fod y Bil hwn i fod i fod yn ateb i'r mater o deithio gan ddysgwyr, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu amlinellu sut yn union y bydd masnachfreinio'r rhwydwaith yn ystyried ysgolion a cholegau.

Rhaid i ni hefyd ystyried yn ofalus yr angen i wneud teithio ar fysiau yn fwy hygyrch. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o ba mor bwysig yw hyn i lawer ohonom. I lawer o bobl anabl, nid mater o gyfleustra yw dal y bws, ond mater o angenrheidrwydd. Ni ddylai safleoedd bws fod wedi'u lleoli ar incleiniau serth, a dylai palmentydd o'u cwmpas fod yn addas. Mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle—neu fe ddylai—i ymgorffori mwy o hawliau mynediad i'r anabl yn y gyfraith.

Mae RNIB Cymru wedi datgelu mai dim ond un o bob 10 o bobl ddall a'r rhai sy'n gweld yn rhannol sy'n gallu gwneud yr holl deithiau y maent yn dymuno eu gwneud neu y mae eu hangen arnynt ar fws oherwydd rhwystrau o ran cynllunio teithiau, mynd a dod o safleoedd bws, rhwystrau ar balmant, dyluniadau safleoedd bws peryglus a diffyg cyhoeddiadau sain ar y teithiau bws eu hunain. Maen nhw wedi galw am ymgorffori hygyrchedd fel dyletswydd bendant a chraidd mewn deddfwriaeth, i fod yn gryfach na'r ddyletswydd 'rhoi sylw i' bresennol a amlinellir yn adran 4 o'r Bil. Dylid darparu mwy o wybodaeth mewn fformatau hygyrch a dylid ymladd dros safonau dylunio clir ar gyfer seilwaith bysiau yma. Yn wir, rwy'n cytuno ag RNIB Cymru y dylid ymgorffori safonau hygyrchedd gofynnol mewn contractau gweithredwyr.

Mae Cŵn Tywys Cymru hefyd wedi tynnu sylw at bryderon tebyg. Maen nhw wedi dyfynnu un perchennog ci tywys yn dweud bod pobl â nam ar y golwg yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth, gyda darpariaeth hanfodol wedi'i diraddio i bosibiliadau yn y dyfodol yn hytrach na blaenoriaethau brys. Ac fel maen nhw'n nodi, ar hyn o bryd, dim ond cyfeiriad at hygyrchedd sydd ar wyneb y Bil. Unwaith eto, i ddyfynnu Cŵn Tywys Cymru, dylid ymgorffori safonau hygyrchedd wrth gynllunio gwasanaethau bysiau a'u cynnwys mewn manylder contractau.

Felly, rydym yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon, er wrth gwrs rydyn ni'n credu bod yna lawer o ffyrdd y dylai fynd ymhellach, ond nid yw hynny'n rheswm i gadw'r brych a lluchio'r babi, neu yn wir y bws yma. Edrychaf ymlaen at barhau i graffu ar y Bil yn y pwyllgor yn ei gyfnodau sydd i ddod. Oes, mae angen gwelliannau, ond neno'r Tad mae ei angen.  

18:15

Rwy'n croesawu bod y Bil bysiau yn cael ei gyflwyno yn y tymor hwn o'r Senedd o dan Lywodraeth Cymru sy'n credu mewn buddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n cofio dod â deiseb i'r Pwyllgor Deisebau o'r enw 'Bysiau i bobl nid er elw' ar ôl gweld gwasanaethau yn cael eu terfynu gan eu bod yn cael eu hystyried yn amhroffidiol, gan adael cymunedau yn sownd a phobl yn llythrennol mewn dagrau a methu cyrraedd y dref. Mae bysiau yn achubiaeth i lawer.

Ymwelodd y pwyllgor newid hinsawdd â Transport for Greater Manchester i glywed am y Bee Network, a oedd wir yn taro tant gyda ni bod yn rhaid i ni reoli disgwyliadau. Gallai fod yn gostus, ond ni ddylai atal. Mae angen i ni gychwyn arni nawr yn nhymor y Senedd. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys cwmnïau bach, fel y trafodwyd—na ddigwyddodd ym Manceinion—oherwydd eu bod yn bwysig i'n heconomi wledig a hefyd i ddarparu'r trafnidiaeth ysgol hwnnw. Bob dydd, rwy'n gwybod bod delio â thrafnidiaeth ysgol yn anodd iawn i awdurdodau lleol wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o weithredwyr, hebryngwyr, ac ati, mae'n fregus iawn, ond rwy'n falch bod y peth wedi cael sylw yn yr ymateb a gawsom ni drwy ddweud y bydd bwndeli bach ar gael i gynnig amdanyn nhw ac y bydd cefnogaeth i wneud y contractau cymhleth hynny gan swyddogion Trafnidiaeth Cymru.

Bydd angen arbenigedd a phrofiad i gyflawni'r newid enfawr hwn. Mae trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn gymhleth, mae hefyd yn gysylltiedig â thrafnidiaeth ysgol mewn sawl ardal o ogledd Cymru eisoes gyda throsglwyddo cyllidebau. Mae hwn wedi bod yn Fil yr oeddem yn gobeithio y byddai'n gwella trafnidiaeth ysgol hefyd. Rwy'n cofio, pan oeddwn ar y pwyllgor llywodraeth leol a thai, clywed sut mae cost trafnidiaeth ysgol wedi cynyddu 40 y cant dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers COVID. Ac eto, rwy'n cofio fel aelod o'r Cabinet fod costau trafnidiaeth ysgol tua £700 y disgybl; nawr, maen nhw tua £1,200 neu hyd yn oed yn fwy fesul disgybl, ar gyfartaledd. Rwy'n deall bod angen i ni weithredu'r fframwaith hwn, fodd bynnag, ac mae'n rhaid iddo fod yn fframwaith trafnidiaeth bysiau cyhoeddus, ond rwy'n gobeithio yn y dyfodol y bydd gennym ni gyllid i wella hyn a'i gysylltu â thrafnidiaeth ysgol.

Yn ystod cyfarfod Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â chyflwyno tocynnau bws am £1 i bobl ifanc, roeddwn yn falch ac yn galonogol o glywed bod gan Trafnidiaeth Cymru recriwtiaid newydd. Roeddwn i'n siarad â swyddogion newydd yno gydag arbenigedd anhygoel, a oedd yn bryder i mi. Roedd gan un flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu tocynnau gostyngol, ac roedd un arall wedi gweithio i awdurdod lleol ers blynyddoedd lawer hefyd. Felly, mae'r profiad hwnnw'n cynyddu yn Trafnidiaeth Cymru, ac roedd hyn yn galondid mawr imi.

Mae angen i ni wneud mwy gyda phobl ifanc hefyd er mwyn i ni allu ailfuddsoddi, a dyna pam rwy'n falch bod gennym ni'r gwarant yma i bobl ifanc hefyd. Mae hygyrchedd, fel y soniodd Delyth Jewell amdano, yn hynod bwysig. Clywais gan Guide Dogs Cymru, ac fe ddywedon nhw sut y symudwyd arhosfan bws i le anhygyrch ger maes parcio. A hefyd gan yrwyr, a ddywedodd fod arhosfan bws wedi symud heb ymgynghori â'r gyrwyr gan awdurdodau lleol. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn ymgynghori â gyrwyr, cwmnïau a phobl ag anableddau cyn iddyn nhw wneud y newidiadau hyn o ran celfi arosfannau.

Mae panel mynediad a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru wedi'i sefydlu fel llais cynrychioliadol wrth ddarparu rheilffyrdd, ac fe hoffwn i weld y panel hwnnw a'i gylch gwaith yn cael eu hymestyn fel y gall gynrychioli llais teithwyr ar draws pob dull o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n ymddangos mai'r siarter teithwyr yw'r hyn sy'n digwydd gyda'r gwasanaeth rheilffordd hefyd, ac eto, rwy'n credu mai Delyth Jewell a soniodd yn y pwyllgor os gallwn ei ymestyn fel nad oes gennym ni bobl agored i niwed yn cael eu gadael ar ôl os nad yw'r bws olaf hwnnw'n ymddangos, fel sy'n digwydd gyda'r gwasanaeth rheilffordd, mae'n ymwneud â meddwl am hynny a chlywed llais teithwyr.

Mae llawer o'r hyn rydw i wedi'i grybwyll yn ymwneud â chyflawni mwy na dim ond y Bil, ond ni allaf helpu hynny oherwydd ei fod yn beth mor fawr. Mae angen i ni ystyried pob agwedd yn gynnar. Mae angen i gwmnïau trafnidiaeth, awdurdodau lleol, cyd-bwyllgorau corfforedig, Trafnidiaeth Cymru a chynrychiolwyr teithwyr i gyd fod yn eglur am eu swyddogaethau hefyd, a chael eu clywed. Mae angen i ni allu gweithio gyda'n gilydd. Mae'n Bil bysiau hir-ddisgwyliedig ac angenrheidiol. Rwy'n falch iawn o'i weld yma ac rwy'n hynod falch o'i gefnogi.

18:20

Pan ddaeth y Bil hwn ger ein bron yn y pwyllgor ar y dechrau, roeddwn mor frwdfrydig ac yn meddwl, 'Mae hyn yn mynd i wirioneddol weddnewid yr hyn sy'n wasanaethau bws gwael i'n cymunedau lleol ar hyn o bryd'. Mae'n rhaid i ni gofio bod 12 y cant o bobl yng Nghymru yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Bu saith deg dau miliwn o deithiau yng Nghymru yn 2024, ond mae hynny'n dal i fod yn sylweddol is na'r teithiau a wnaed yng ngweddill Prydain Fawr. Mae pedair mil o aelodau o staff yng Nghymru mewn cyflogaeth sy'n dibynnu ar wasanaethau bysiau lleol. Yn Lloegr, y tu allan i Lundain, mae 62,000 yn cael eu cyflogi mewn gwirionedd, ac yn yr Alban, mae 12,000 yn cael eu cyflogi yn y sector gwasanaeth bysiau.

Bysiau yw asgwrn cefn ein cymunedau. Maen nhw'n hanfodol i gymudwyr, disgyblion ysgol a'r henoed fynd i apwyntiadau a phethau pwysig, siopa—llawer o wahanol resymau. Rydym ni wedi siarad mor aml dros y blynyddoedd yma am ynysu cymdeithasol, ac ofn pobl o fynd allan. Mae cael gwasanaeth bws da mor bwysig. Fel arall, mae'n cyfrannu at ynysu cymdeithasol. Mae yna fethiannau enfawr nawr. Rydym ni wedi gweld ein gwasanaethau bws yn cael eu cwtogi nes fo fawr ddim ar ôl ac felly mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth.

Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands wedi'i ddweud. Nid y Bil hwn yw'r cerbyd cywir—maddeuwch y chwarae ar eiriau—i ddarparu gwell gwasanaeth bws. Ond i fy mentrau bach a chanolig, sydd bellach ar drothwy panig, oherwydd eu bod yn teimlo—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Os ydych chi eisiau ymyrryd, ewch ymlaen a gwnewch hynny. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae teithiau gan deithwyr yng Nghymru wedi gostwng chwarter, ac rydym ni'n ymwybodol na fu COVID yn fawr o gymorth, ond byddwn wedi meddwl erbyn hyn y byddem ni wedi dechrau gweld mwy o ddefnydd o fysiau, ond nid ydym ni wedi.

Mae costau gweithredu wedi cynyddu oherwydd cyfraddau llog, treth gorfforaeth, cyfyngiadau mewn buddsoddiad a chostau cyfalaf ychwanegol. Mae llawer o bobl wedi sôn, ac fe aethom ni, yn do, i'w weld ym Manceinion, a'r gwahaniaethau mewn gwirionedd rhwng Manceinion—. Dydw i ddim yn meddwl fy hun, yn bersonol, mai dyma'r model gorau i'w gymharu â ni yma yng Nghymru gyda'n hardaloedd gwledig ac ati. Mae teithiau gan deithwyr Cymru wedi gostwng. Mae costau gweithredu wedi cynyddu o ganlyniad i drethi a roddir arnyn nhw nawr. Mae gwasanaethau bws y mae'r henoed a'r bregus yn dibynnu arnyn nhw i gael mynediad at ysbytai, siopau a banciau yn cael eu cwtogi oherwydd y gost uchel o redeg y gwasanaethau hyn.

Mae hyn i gyd yn digwydd o dan oruchwyliaeth Llywodraethau Llafur Cymru olynol. Er bod angen gweithredu i wella ein gwasanaethau bysiau heb os, nid masnachfreinio, fel y cynigir yn y Bil, yw'r ateb ac mae peryg sylweddol i hynny. Fe welsom ni gymaint o randdeiliaid yn dod i roi tystiolaeth. Nid oedd ganddyn nhw unrhyw beth i'w ennill trwy beidio â dweud y gwir. Fe gawsom ni'r RNIB, Cŵn Tywys Cymru, sefydliadau mawr eraill sy'n cefnogi grwpiau i'r rhai ag anableddau, ac, a dweud y gwir, maen nhw'n bryderus iawn am y Bil presennol hwn.

Amlinellwyd sawl pryder. Un o'r prif bryderon oedd ynglŷn â fforddiadwyedd y cynigion yn y Bil. Sawl gwaith rydym ni i gyd wedi bod yma ac wedi gweld Bil newydd yn cael ei gyflwyno, gyda'r rheoliadau ariannol hefyd, dim ond i ddarganfod wedyn ei bod yn anfforddiadwy cyflawni'r hyn yr oedd y Bil yn dweud fod arno eisiau ei gyflawni? Rhybuddiodd y pwyllgor, er mwyn cyflawni uchelgeisiau'r Bil, mae angen rhaglen barhaus o fuddsoddiad sylweddol. Dywedwyd wrthyf i hyd yn oed gan grwpiau defnyddwyr eraill a phobl eraill a oedd wedi helpu yn y model ym Manceinion na all uchelgeisiau'r Bil hwn—. Yn y cyfnod amser rydych chi wedi'i ganiatáu ar gyfer y Bil hwn, ni ellir bodloni'r disgwyliadau. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Lee.

18:25

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn nodi bod manteision disgwyliedig y Bil bum gwaith yn fwy na'i gostau dros gyfnod o 30 mlynedd—pum gwaith yn fwy. O ran gwariant, hyd yn oed ar wariant cyfredol, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif cynnydd o 22 y cant mewn teithwyr erbyn 2040, ar y rhwydwaith sylfaenol. Felly, rwy'n ofni nad yw eich pryderon yn cael eu cefnogi gan y dystiolaeth.

Wel, rwy'n ofni eich bod wedi dweud pethau ynglŷn â Biliau eraill a gyflwynwyd—yr 20 milltir yr awr—ac edrychwch ar gostau go iawn a gwirioneddol hynny, a beth fydd cost hynny. Felly, mae'n rhaid i mi fod yn onest, nid chi yw'r person iawn i fod yn dweud hyn wrthyf.

Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y bydd y cynigion a nodir yn y Bil yn y pen draw yn arwain at arbedion, gan y bydd mwy o reolaeth dros sut mae cyllid gwasanaethau bysiau yn cael ei ddefnyddio, nid yw'n cyfrif yn llawn am y costau o greu'r seilwaith angenrheidiol na'r costau parhaus sy'n gysylltiedig â gwasanaethau masnachfraint.

Pryder arall a godwyd oedd effaith y broses ymgeisio am gontract. Dywedodd Manceinion wrthym ni eu bod nhw wedi colli llawer o'u mentrau bach a chanolig. Dydw i ddim yn barod i sefyll yma a gweld fy nghwmnïau bysiau bach a chanolig yn Aberconwy yn cael eu haberthu fel hyn. Mae naw deg naw y cant o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, ac fe ddylem ni fod yn eu hystyried—nid bod Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ar agweddau eraill, ond dyna chi.

Cadarnhaodd Lee Robinson, cyfarwyddwr gweithredol Trafnidiaeth Cymru, bwysigrwydd busnesau bach a chanolig wrth ddarparu bysiau yn ystod y sesiwn dystiolaeth, ac anogodd mwy o symlrwydd wrth ddylunio'r contract. Mae gan lawer o gwmnïau bysiau llai o staff ar gael i gwblhau'r cynigion contract hyn. Faint o sefydliadau rydym ni wedi'u gweld lle mae ganddyn nhw swyddi unigol yn eu cwmnïau neu sefydliadau i lenwi'r ffurflenni cais am grant hynny? Mae'n bron yn amhosibl i fusnesau bach a chanolig hyd yn oed gystadlu, ac ni allaf gefnogi hynny.

Dywedodd un ci tywys, unwaith eto, fod pobl â nam ar y golwg—[Torri ar draws.] O, mae hi'n chwerthin eto—yn ôl-ystyriaeth.

Rwy'n credu y gallai hi fod yn chwerthin at y ffaith ichi ddweud bod y ci tywys wedi bod yn gwneud sylwadau. [Chwerthin.]

'Cŵn Tywys Cymru' ddywedais i. Mae wedi nodi bod y Bil yn siomi pobl â nam ar y golwg trwy beidio ag ymgorffori ymrwymiadau gorfodadwy. [Torri ar darws.] Rydych chi'n blentynnaidd ac anaeddfed iawn.

Rydw i wedi bod yn hynod hael gyda chi, Janet. Rydych chi ymhell dros amser nawr, felly os gallwch chi ddod â'ch sylwadau i ben.

Rydw i'n mynd i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: onid yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu bod ffordd wahanol o hyrwyddo masnachfreinio? Un o'r ffyrdd gorau, fodd bynnag, o wella'r rhwydwaith bysiau yng Nghymru yw cefnogi ein mentrau llai a chanolig. Yn hytrach na chael gwared arnyn nhw, pam nad ydych chi'n cyflwyno polisïau i'w datblygu a chaniatáu iddyn nhw hyrwyddo'r swyddogaeth? Wedi'r cyfan, maen nhw wedi bod yn ein gwasanaethu'n dda ers blynyddoedd lawer.

Rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yn llwyr. Efallai y gallwn ni ganolbwyntio ein sylwadau ar gyfer gweddill y ddadl ar yr hyn sydd o'n blaenau. O lawer o'r pryderon rydw i wedi'u clywed yn cael eu codi, rwy'n gobeithio y bydd gwelliannau brwd iawn wedi'u cyflwyno. Oherwydd mae hwn yn fater hanfodol i gymaint o bobl yn ein cymunedau.

Mae'n rhaid i mi ddweud, dros yr haf—na fydd yn syndod i unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y newyddion yng Nghanol De Cymru ynglŷn â thrafnidiaeth ysgol—mae bysiau wedi bod yn fy mewnflwch yn aml. Rwy'n siŵr bod nifer o fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â'r Ysgrifennydd Cabinet ar yr union fater hwn. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i ymuno â'r pwyllgor ar gyfer un o'r sesiynau craffu, ac mae'n rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i lawer ohonom ni. Oherwydd bod ceir yn cael eu gweld gan rai—maen nhw'n meddwl bod gan bawb gar, ond i'r mwyafrif o'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli, mewn gwirionedd bysiau mae pobl yn poeni amdanyn nhw fwyaf. Bu llawer o fuddsoddi mewn trenau, ond mewn gwirionedd bysiau yw'r math mwyaf hygyrch o drafnidiaeth i'r mwyafrif o bobl yn ein cymunedau. Rwy'n siŵr bod llawer ohonoch chi, fel fi, yn cynrychioli nifer o gymunedau lle mae perchnogaeth ceir yn isel iawn, nid oes ganddyn nhw fynediad at drenau, ac, mewn gwirionedd, mae'r rhwydwaith bysiau yn eu siomi ar hyn o bryd. Felly, byddan nhw'n torri eu boliau i weld cynnydd ar hyn.

Un o'r pethau a wnaeth argraff fawr arna i yn ystod y broses graffu oedd pa mor uchelgeisiol ydyw, ond hefyd pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael y rhwydwaith a fydd yn gweithio i bobl, fel eu bod yn gweld y manteision ar unwaith. Fe hoffwn i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—rwy'n nodi eich pwyntiau o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd. Mae'r pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor yn hynod ddilys, oherwydd os gallaf ofyn i chi edrych ar yr enghraifft ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf, lle mae'r newidiadau i drafnidiaeth ysgol wedi'u gweithredu—. Yr wythnos diwethaf treuliais brynhawn yn gweld athrawon mewn arosfannau bysiau yn ceisio sicrhau bod plant yn mynd yn ddiogel ar fysiau cyhoeddus. Roedd ciwiau. Mae'r seilwaith dan sylw yn mynd i fod yn sylweddol o ran sicrhau bod digon o lochesau, oherwydd nid oes digon o lochesau ar hyn o bryd, o ran sicrhau bod palmentydd yn ddigon llydan, a bod gennym ni fesurau rheoli traffig ar waith. Rwy'n credu os nad ydym ni'n datrys teithio i ddysgwyr ac yn edrych arno yn ei gyfanrwydd, rwy'n poeni beth fydd yn ei olygu o ran diogelwch disgyblion hefyd. Rwyf hefyd yn poeni na allwn ni oedi. Rwy'n gweld, o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr, bod yr ymgynghoriad wedi'i ymestyn. Ond, mewn gwirionedd, mae yna broblemau go iawn nawr a phryderon diogelwch, ac rwy'n poeni beth fydd yn ei olygu o ran presenoldeb hefyd.

Felly, fe hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad pan fyddwch chi'n sôn am y seilwaith, ein bod ni'n sôn am y pethau ymarferol iawn hynny. Rydym ni wedi clywed nifer o bwyntiau pwysig yn cael eu gwneud o ran hygyrchedd. Byddwn yn adleisio'r pwyntiau hynny. Rwy'n gwybod eu bod yn bwyntiau yr wyf wedi'u codi gyda chi o'r blaen, Ysgrifennydd Cabinet. Rydych chi wedi rhoi sicrwydd i mi fod y rhain yn bethau sy'n hanfodol i chi. Ond oni bai bod gennym ni'r gwelliannau hyn, bydd pobl yn colli hyder yn gyflym iawn o ran defnyddio'r bysiau sydd ar gael iddyn nhw. Mae ynglŷn â chael y canllaw clir hwnnw i bobl ddeall, 'Pryd fydd y newid yn ei le sydd ei angen arnaf nawr?', oherwydd, ar hyn o bryd, mae pethau fel trafnidiaeth gymunedol yn atal pobl rhag cyrraedd apwyntiadau ysbyty hanfodol. Mae'n golygu bod pobl wedi'u hynysu. Dydyn nhw ddim yn cael triniaeth ar adegau—rhywbeth a gododd yr Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo gyda ni fel mater amser cinio yn y Senedd. Felly, mae hyn yn gymhleth iawn, ond rwy'n credu y bydd pobl eisiau gwybod, 'Pryd fydd y gwasanaeth yn cael ei drawsnewid yn fy nghymuned?' Ac os na allwn ni roi ateb iddyn nhw ynghylch y Mesur teithio gan ddysgwyr, rwy'n poeni y byddan nhw'n colli ffydd yn y Bil bysiau hwn. Felly, byddwn yn eich annog i ystyried sut y gallwn ni ymgorffori'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn hyn. Rwy'n siŵr bod gan ymgyrch trafnidiaeth ysgol ddiogel Rhondda Cynon Taf nifer o awgrymiadau i chi, a byddwn hefyd yn gofyn a fyddech chi'n fodlon cwrdd â nhw ac ymgyrchwyr—efallai ymweld â ni—i weld beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd, a rhai o'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus—rhywbeth y byddwn yn gobeithio y byddai pob un ohonom ni eisiau ei weld yn cael ei gyflawni.

18:30

Cyn belled ag y bo modd, fe hoffwn i weld teithio i ddysgwyr wedi'i integreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd nid yw'r system bresennol yn gweithio. Yn sicr, yng Nghaerdydd, mae gennym ni drafnidiaeth i ddysgwyr sy'n costio £400 miliwn y flwyddyn, hyd yn oed i'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae gennym ni fysiau heb oruchwyliaeth lle mae pobl ifanc—. Yr hyn rwy'n ei olygu yw, mae'r gyrrwr yn gorfod goddef fandaliaeth gyson, bwlio, ac nid oes neb yno i'w stopio. Pe baem ni wedi ei integreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus, yna byddai'r cyhoedd yn gyffredinol yn dweud, 'Eistedda, fachgen', neu, wyddoch chi, byddai'n stopio'r peth erchyll hwn sy'n digwydd. Fel y mae, ni all un person, un gyrrwr, reoli ymddygiad hyd at 30 neu 40 o blant. Yn amlwg, mae bwlio yn digwydd hefyd. Felly, rydw i'n poeni am hynny. Mewn ardaloedd trefol, fe hoffwn i weld mapio priodol, gan sicrhau ein bod yn gwasanaethu'r holl gymunedau sydd angen mynd i ysgol uwchradd X, a bod hynny'n cael ei wneud ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae tlodi trafnidiaeth yn fater mawr ledled Cymru. Mae pobl yn cael trafferth cynnal car sy'n costio mwy na 10 y cant o'u hincwm, mewn rhai achosion llawer mwy, dim ond oherwydd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy. Mae yna effaith ar yr unigolyn, mae yna effaith ar yr economi, ac mae hynny'n syml oherwydd nad yw'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yn ddigon dibynadwy. Felly, mae'n rhaid i ni wneud ymarfer mapio enfawr i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd eu lleoedd gwaith ac y gallan nhw hefyd gyrraedd y lleoedd lle mae gofal plant ar gael, oherwydd ni fydd llawer o gyflogwyr eisiau i chi ddod gyda phlentyn dwy oed i ddechrau gwaith.

Felly, rwy'n credu bod safbwynt y Ceidwadwyr ar hyn, 'Dydym ni ddim yn ei hoffi, felly dydym ni ddim yn mynd i bleidleisio drosto,' yn hollol chwerthinllyd, yn enwedig gyda Janet Finch-Saunders yn aelod o'r pwyllgor perthnasol lle rydych chi'n ymwneud yn agos â Chyfnod 1 a Chyfnod 2. Os nad ydych chi'n meddwl bod y Bil fel y'i cyfansoddwyd yn mynd i gyflawni i fusnesau bach a chanolig, yna mae angen i chi gyflwyno cymalau a fydd yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n synnu y gallai hynny fod yn wir, oherwydd rydym ni eisoes wedi pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a ddylai orfodi'r rhai sy'n comisiynu gwasanaethau fod contractau'n ddigon bach ac yn ddigon darniog i alluogi busnesau bach a chanolig i gynnig yn llwyddiannus.

Mae rheswm economaidd am hynny hefyd, oherwydd mae'r cyfan yn rhan o gefnogi'r economi sylfaenol. Os ydym ni'n syml yn caniatáu i gwmnïau rhyngwladol lowcio'r holl gontractau sydd ar gael, dyfalwch ble mae'r elw yn mynd? Y tu allan i Gymru. Felly, mae'r busnesau bach a chanolig yn gwbl sylfaenol i gyfiawnder ac i weithrediad ein heconomi ein hunain. Nid yw'n dda i'r economi os nad yw pobl yn gallu dal swydd oherwydd nad yw trafnidiaeth yn bodoli i'w cael yno, neu eu bod yn treulio llawer gormod o'u hamser—mae'r cynhyrchiant yn llawer rhy isel—os yw'n cymryd awr i fynd i'r gwaith ac awr yn ôl.

Yn nwyrain Caerdydd, mae hi mewn difrif yn cymryd awr i gyrraedd canol y ddinas o gyrion Caerdydd. Mae hynny oherwydd nad oes gwasanaeth trên fel rhan o'r system metro, ac mae'r tagfeydd yn ofnadwy. Felly, cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet yw: pa sgwrs ydych chi wedi'i chael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers i ni gael £400 miliwn i wella'r rhwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod ni'n bwrw ymlaen â metro de-ddwyrain Cymru, fel y gallwn ni gael y bysiau hyn fel rhan integredig o gynllun Burns? Mae'n wirioneddol yn fater o frys mawr iawn.

Nodaf fod Manceinion wedi gweld cynnydd o 14 y cant yn y defnydd, ond roedd gan Fanceinion system tramiau metro sefydledig eisoes, sy'n ategu'r rhwydwaith bysiau hwn, sy'n ei gwneud hi'n ymarferol i bawb allu fynd ar y teithiau rhagweladwy ar gyfer gwaith, addysg, iechyd, siopa a hamdden trwy, yn ôl pob tebyg, ardal teithio i'r gwaith ym Manceinion. Felly, dyna beth mae angen i ni anelu ato yn ein hamgylchiadau rhanbarthol.

Rwy'n gwybod bod nifer y bobl heb gar yn un o bob pump, ond, yn amlwg, mewn cymunedau tlotach, mae'n bump o bob 10. Mewn gwirionedd, maen nhw'n cael eu gwasanaethu'n well gan fysiau ar hyn o bryd, oherwydd mae'r cwmnïau bysiau yn gwybod mai dyna lle mae'r bobl sy'n gorfod teithio ar fws yn bodoli. Y bobl sy'n dioddef mewn gwirionedd yw'r rhai sydd yn yr ardaloedd lle mae perchnogaeth car yn uchel, ac mae pobl fel yr henoed, y rhai nad ydyn nhw'n gallu gyrru, heb wasanaeth bws o gwbl. Felly, mae'n anodd iawn. 

Fe hoffwn i wybod sut rydym ni'n mynd i wneud hwn yn wasanaeth effeithlon ac effeithiol. Mae'r mesurau blaenoriaeth bysiau yn hanfodol i ddibynadwyedd, a dyna fydd yn gwneud i bobl wneud y newid hwnnw a pheidio â defnyddio'r car. Felly, beth sydd yn y Bil i orfodi awdurdodau lleol neu'r cyd-bwyllgorau corfforedig, mewn ardaloedd lle mae tagfeydd a fydd yn dal y bws yn ôl, i ddod o hyd i gynlluniau i sicrhau bod y bws yn mynd drwodd yn gyntaf? Rwy'n credu bod hwn yn Fil hynod bwysig, ac mae'n rhaid i'r pwyllgor newid hinsawdd a seilwaith wneud llawer o waith ar gael y manylion yn iawn, a, gobeithio, mae hynny'n cynnwys Aelodau Ceidwadol.

18:35

Rwyf wedi crybwyll lefelau gwael gwasanaethau bysiau yn y rhanbarth rwyf i'n ei gynrychioli'n gyson, gan adael llawer o gymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd fel Castell-nedd Port Talbot—llawer o'u cymunedau yn y Cymoedd, fel cymoedd Abertawe, Dulais, Castell-nedd ac Afan, wrth gwrs, heb wasanaethau rheilffordd o gwbl—ac yna wedi'u hynysu o gyfleoedd gwaith, o addysg a hyfforddiant a gofal iechyd, pan na allan nhw ddibynnu ar y rhwydwaith gwasanaeth bysiau. Ac mewn gwirionedd, dyna pam mae'r Bil hwn mor bwysig. Mae'n cynnig cyfle i wrthdroi degawdau o ddirywiad ac esgeulustod, a rhoi teithwyr yn gyntaf. Fel Heledd Fychan, mae fy mewnflwch i'n llawn negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n dweud wrthyf am eu straeon ynglŷn â pham maen nhw wedi cael eu gadael ar ôl, pam maen nhw wedi colli apwyntiadau, pam mae nhw wedi gorfod canslo apwyntiadau ysbyty, lle nad ydyn nhw'n gallu dechrau gwaith oherwydd, os gallan nhw gyrraedd yno, ni allan nhw fynd yn ôl gyda'r nos ac ati.

Felly, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith mai Gorllewin De Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i symud i fasnachfreinio, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle gwirioneddol i greu rhwydwaith sy'n ddibynadwy, sy'n integredig, ond mae'n rhaid iddo gael ei gynllunio o amgylch anghenion pobl. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wirioneddol rymuso pobl i fod yn rhan o'r broses honno ac i sicrhau atebolrwydd, a byddwn yn wir yn adleisio'r pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd ynghylch y siarter teithwyr. Does arnom ni ddim eisiau i bobl sy'n eistedd ar gyd-bwyllgor corfforedig wneud y penderfyniadau hyn. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw'n yn gynrychiolwyr etholedig—nid yw llawer ohonyn nhw'n defnyddio bysiau.

Mae'n briodol ein bod yn trafod hyn, wrth gwrs, ym mis Dal y Bws, amser i ddathlu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol bysiau. Ac mae'n rhywbeth rydw i wedi'i godi o'r blaen ac yn rhywbeth rwy'n teimlo y dylai fod wedi cael ei hyrwyddo llawer mwy dros y blynyddoedd i gynyddu ac annog defnydd ohonyn nhw.

Rydym ni wedi siarad llawer am hygyrchedd, ac mae'n rhaid i ddiwygio olygu hygyrchedd, ac rydw i, Ysgrifennydd Cabinet, wedi codi eto gyda chi, sawl gwaith, materion ynghylch hygyrchedd ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ar fysiau a rheilffyrdd. Rydym ni wedi clywed y pryderon gan bobl fel Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru. Fe hoffwn i i'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau y bydd safonau hygyrchedd diffiniedig, gofynnol yn cael eu hymgorffori ym mhob contract masnachfreinio o'r cychwyn cyntaf, gan gynnwys sicrhau y gallwch chi wastad dalu ag arian parod hefyd. Diolch.

18:40

Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf wedi bod yn falch o eistedd ar y pwyllgor newid hinsawdd, sydd wedi bod yn craffu ar y Bil, a chymryd rhan yn yr ymweliad â Manceinion, a oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i. Yr hyn a amlygodd i mi oedd, mewn gwirionedd, graddfa'r dasg ynglŷn â'r hyn sydd i'w wneud, ond roedd hefyd yn galonogol iawn.

Rwy'n credu bod y Bil diwygio bysiau hwn yn gyfle gwych i ddarparu system drafnidiaeth integredig yn lleol, ac mae'n dda clywed ei fod wedi dechrau mor dda yng Ngorllewin De Cymru. Ond rwy'n credu ei bod hi'n hollol hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnwys pawb, cymaint o bobl ag y gallwn ni, yn y paratoadau sy'n mynd rhagddyn nhw.

Mae'r Cadeirydd wedi crynhoi'r prif bwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud, ac mae llawer o Aelodau wedi codi'r mater ynghylch hygyrchedd. Fe hoffwn i ailadrodd pwysigrwydd y pwynt hwnnw, fel y gall unrhyw un yng Nghymru ddefnyddio bysiau, eu defnyddio'n hawdd, heb ofni nad ydyn nhw'n gallu teithio. Gwn ein bod wedi derbyn gwybodaeth gan yr RNIB a chan Cŵn Tywys Cymru i sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn addas i bawb. Felly, rwy'n cefnogi'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud. Rwy'n falch bod siarter teithwyr, ac y bydd panel hygyrchedd a chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r ymgynghoriad a'r ymgysylltu ar weithredu pob agwedd ar fasnachfreinio. Ond mae angen nodi'n glir yn y Bil beth mae 'hygyrchedd' yn ei olygu, beth yw'r safonau gofynnol, a beth sy'n digwydd os nad ydynt yn cael eu bodloni. Mae aelodau wedi gwneud y pwyntiau hynny eisoes, ond rwy'n credu ei fod mor bwysig.

Pwynt arall nad yw wedi'i godi, y mae Cŵn Tywys Cymru wedi'i hyrwyddo, yw y dylai gyrwyr bysiau ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb anabledd gorfodol, ac y dylai hyn fod yn rhan o'r cytundebau contract. Ac rwyf wedi bod â sefyllfaoedd yn fy etholaeth i lle mae defnyddwyr bysiau—pobl anabl sy'n defnyddio bysiau—wedi dioddef i ddweud y gwir, mewn gwirionedd, ar y bysiau, ac rwy'n credu y byddai hyn yn beth da iawn i'w gyflwyno, oherwydd mae hyfforddiant gorfodol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer gyrwyr tacsi yng Nghymru, felly gellid mabwysiadu'r hyfforddiant hwn yn hawdd ar gyfer gyrwyr bysiau.

Rwy'n credu hefyd bod y seilwaith, sydd wedi'i grybwyll, mor bwysig—pwysigrwydd safleoedd bysiau a'r moratoriwm ar ffiniau safleoedd bysiau a rennir, sydd wedi digwydd yn Lloegr. Rwy'n credu y dylai hynny ddigwydd yma yng Nghymru, oherwydd, yn sicr, ni all unrhyw beth fod yn fwy brawychus na chamu allan o fws i mewn i lôn fysiau, yn enwedig os na allwch chi weld beth sy'n digwydd. Felly, fe hoffwn i gael ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar hynny.

Rwy'n credu bod y busnesau bach a chanolig yn bwysig iawn. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau eu bod yn rhan o'r datblygiadau newydd, ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i hynny. Felly, rwy'n ailadrodd y pwyntiau am y busnesau bach a chanolig.

Ond yr hyn yr oeddwn i'n teimlo hefyd ein bod ni wedi'i ddysgu o Fanceinion oedd pwysigrwydd gadael i'r cyhoedd—yr holl gyhoedd—wybod bod hyn yn digwydd ac y ceir y newid hwn. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod brandio a chyhoeddusrwydd beiddgar a chyson, a fydd yn cael mwy o bobl i'n rhwydwaith bysiau. Rwy'n credu y dylai fod brandio cenedlaethol sy'n hawdd ei adnabod, a negeseuon clir y gall pawb eu deall mewn perthynas â'r newidiadau a beth mae hynny'n ei olygu i'w gwasanaethau. Ac fe wnaeth argraff arna i ym Manceinion pan ddywedon nhw rwy'n credu mai Andy Burnham oedd yn mynd ar y radio lleol unwaith yr wythnos i adrodd ar faint o fysiau oedd yn hwyr, sut roedd y gwasanaeth bws wedi perfformio yn ystod yr wythnos honno. Felly, dydw i ddim yn gwybod a oes gennym ni unrhyw un a fyddai'n gwneud hynny yma yng Nghymru—[Chwerthin.]—a allai'r Prif Weinidog wneud hynny, ond fe wnaed hynny i ddangos pwysigrwydd y ffaith eu bod yn cael system newydd, roedden nhw'n mynd i geisio gwella dibynadwyedd, y gallech chi ymddiried yn llwyr mewn bws pe baech chi'n mynd i safle bws. Ac felly, rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu llawer o Fanceinion, ond dyna oedd un o'r pethau wnes i ddysgu.

Felly, i gloi, rwy'n teimlo'n gryf iawn ei fod yn Fil pwysig iawn. Rwy'n falch o fod yma yn ei gefnogi. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol wych bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno hyn, ac mae'n ddrwg gen i nad oes pleidlais unedig drosto, oherwydd rwy'n credu bod ganddo'r sail i gael ei adeiladu a'i ddatblygu. Diolch.

18:45

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â'r Bil hwn gerbron y Senedd y prynhawn yma. Rwy'n cofio yn ôl yn 2009, rwy'n credu mai dyna pryd oedd hi, fy mod i a Huw Lewis yn sôn am gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, yn y dyddiau tywyll, trist hynny, er mwyn cyflwyno pwerau a fyddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu yn union fel hyn.

A'r hyn yr hoffwn i ei weld yw ein bod yn darparu system sy'n cysylltu pobl. Rwy'n credu bod y Bil yn sôn am gysylltu cymunedau, ond mae cymunedau yn bobl, ac mae angen i ni allu cysylltu pobl—cysylltu pobl â gwasanaethau, cysylltu pobl â busnesau, Janet. Allwch chi ddim sôn am gefnogi busnesau bach a chanolig os nad ydych chi'n galluogi eu cwsmeriaid i gyrraedd yno mewn gwirionedd. A dyna'r peth gwirioneddol hanfodol am yr arbrawf preifateiddio sydd wedi methu. A'r hyn a welsom ni y prynhawn yma oedd—. Ni welsom ni'r Aelodau Ceidwadol yn gwneud y gwaith caled yn y pwyllgor, naddo? Nid dyna a welsom ni—gofyn y cwestiynau anodd, nid dim ond eu darllen, ond eu gofyn, edrych ar yr holl waith papur, deall beth yw canlyniadau'r ddeddfwriaeth, ac yna cyflwyno dadleuon rhesymol dros welliannau. Ni welsom ni hynny o gwbl. Ni welsom ni ddim o hynny—ni welsom ni unrhyw beth yr holl ffordd trwy gyfnod craffu Cyfnod 1. Rydym ni newydd weld araith eithaf gwael gan eu llefarydd y prynhawn yma, ac, yna, o leiaf araith ddifyr gan yr Aelod arall a anerchodd ni. A'r hyn rydym ni wedi'i weld yw, mewn gwirionedd, y Ceidwadwyr yn mynd yn ôl, ynte? Dywedodd rhywun unwaith fod y Ceidwadwyr yn berson â dwy goes nad oedd erioed wedi dysgu cerdded ymlaen. Ac roedd yr hyn a welsom ni y prynhawn yma yn enghraifft o hynny, oherwydd maen nhw'n dal i fod yn rhwym i agenda preifateiddio y 1980au. Ac os oes unrhyw beth rydym ni wedi'i ddysgu yn y 30 mlynedd dilynol, hynny yw bod agenda preifateiddio y 1980au wedi methu Cymru.

Ac fe glywsom ni'r Ceidwadwyr yn sôn am gymunedau gwledig. Wel, fe wnaethon nhw danseilio cymunedau gwledig yn fwy nag y gwnaethon nhw danseilio cymunedau trefol, mewn sawl ffordd. Mae system wedi'i phreifateiddio wedi tanseilio cymunedau gwledig. Ond nid y cymunedau gwledig yn unig sy'n cael eu tanseilio, wrth gwrs; mae rhai o'r cymunedau trefol yr wyf yn eu cynrychioli hefyd, oherwydd nid yw'r system wedi'i phreifateiddio wedi galluogi pobl ym Mrynithel i fynd i siopa yn Abertyleri, nid yw wedi galluogi pobl yng Ngharnlydan i allu mynd i Lynebwy, ac nid yw wedi galluogi neb, yn unrhyw le, ar draws Blaenau Gwent gyfan i allu cyrraedd ysbyty'r Faenor. Dyna fu canlyniad y system wedi'i phreifateiddio, gyda phobl ddatgysylltiedig yn byw mewn cymunedau datgysylltiedig. A phwy sy'n dioddef? Y bobl, y busnesau a'r gwasanaethau rydym ni yma i'w cefnogi a'u cefnogi. Felly, mae'r system wedi methu. Ac mae'r hyn a welwn ni gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn enghraifft o 'Rydym ni eisiau mwy o fethiant', nid 'Rydym ni eisiau mynd i'r afael â hanfodion hyn.'

A'r hyn rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu ei wneud, Ysgrifennydd Cabinet, yw sicrhau bod gennym ni ymagwedd greadigol at y ffordd y bydd y fasnachfraint yn gweithredu, oherwydd, er enghraifft, un o'r pethau a wnaeth rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet, Lee Waters, oedd cyflwyno system Fflecsi yng Nglyn Ebwy. Nawr, roedd y system Fflecsi yn gweithio'n eithaf da i rai pobl, ond nid yn dda iawn i'r rhan fwyaf o bobl. Felly, yr hyn a wnaethom ni oedd nid dweud, 'Wel, rydym ni'n mynd i roi'r gorau i hynny yn gyfan gwbl', yr hyn a wnaethom ni oedd cyflwyno system Fflecsi a oedd yn gweithio, yn enwedig ar ddechrau a diwedd y diwrnod gwaith, ac yna dychwelyd i wasanaeth amserlenni am y rhan fwyaf o'r dydd, a oedd yn gwasanaethu anghenion y bobl. Dull creadigol—creadigol o ran rhoi cynnig ar gynllun arbrofol i ddysgu, i weld sut y byddai'n gweithio, ac yna mabwysiadu gwersi'r cynllun arbrofol hwnnw wrth gyflwyno system wahanol. Nid yw'r Ysgrifennydd Cabinet wedi clywed gennyf ynghylch y system honno ers iddo ddechrau ei swydd, oherwydd mae'n gweithio. A dyna'r peth pwysig i'w gydnabod mewn gwirionedd: mae'n gweithio. Fe wnaethon ni arbrofi, fe wnaethon ni gynnal cynllun arbrofol, fe wnaethon ni ddysgu'r gwersi, ac mae'n gweithio. A dyna pam mae angen i ni sicrhau, pan ddaw'r Bil hwn yn gyfraith, ein bod yn gallu symud yn gyflym bryd hynny. Rwy'n cydnabod yr amserlen sydd wedi'i sefydlu a'i gosod gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac nid wyf yn gwneud unrhyw sylw ar hynny. Ond yr hyn rydw i eisiau ei weld yw gweithredu cyflym a brys i'n galluogi i weithredu'r polisi hwn cyn gynted â phosibl.

A byddaf yn cloi fy sylwadau trwy gytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed gan Heledd Fychan a Delyth Jewell hefyd, oherwydd mae gwersi pwysig yma i gael mynediad i'r ysgol a'r coleg i bobl. Bu problemau gwirioneddol, anodd i rieni ac i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent wrth i ni ddechrau'r flwyddyn academaidd y mis hwn, lle nad ydym ni wedi cael y gwasanaethau bws angenrheidiol i fynd â phobl i'w man dysgu. Mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau bysiau yn darparu cysylltedd i bobl drwy gydol eu bywydau, ac rwy'n gobeithio mai'r hyn y byddwn yn gallu ei wneud, trwy'r llwyddiant hwn—ac rwy'n hyderus iawn y bydd y Bil hwn yn llwyddiant—yw gallu creu cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr bysiau, pobl sy'n dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phobl sy'n dewis defnyddio'r bysiau, ac sy'n gwneud y dewis hwnnw nid oherwydd nad oes ganddyn nhw'r dewis i ddefnyddio gwasanaethau eraill ond oherwydd bod y gwasanaethau hynny mor dda fel y byddant yn darparu'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ei angen arnom ni ar draws Cymru gyfan. Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd.

18:50

Haleliwia, mae gennym ni Fil bysiau—ar ôl llawer o oedi, ond gwerth aros amdano. Mae'r Bil hwn yn beth mawr ac, ymhen amser, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ar fysiau mae 75 y cant o'r holl deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond, ers preifateiddio'r diwydiant bysiau gan y Torïaid yng nghanol yr 1980au, mae nifer y llwybrau wedi crebachu, cyflog y staff wedi'i atal ac mae prisiau wedi codi. Mewn gwirionedd, ers preifateiddio, mae prisiau bysiau wedi codi'n gyflymach na chost moduro. Nid yw'n syndod bod nifer y teithwyr wedi gostwng. Gall pob un ohonom ni yma roi enghreifftiau lleol o gymunedau lle nad oes bysiau yn rhedeg ar ôl 6 yr hwyr neu o gwbl ar ddydd Sul, neu o fysiau ysgol yn wag trwy'r dydd mewn cymunedau lle mai ychydig iawn o fysiau gwasanaeth sy'n rhedeg. A dyma'r system y mae'r Torïaid eisiau ei chadw.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau bws yn seiliedig ar yr egwyddor ddylunio o ble gall cwmnïau rhyngwladol mawr wneud yr elw mwyaf, ac mae'r Bil hwn yn newid hynny. Man cychwyn y Bil gwasanaethau bws hwn yw: pa wasanaethau sydd angen i bobl fynd o gwmpas eu pethau heb y gost o redeg car? A bydd y fasnachfraint i redeg bysiau yn eich ardaloedd yn seiliedig ar gyfres o lwybrau ac amserlen sydd wedi'i gynllunio i gysylltu â bysiau a threnau eraill a chyda chyrchfannau allweddol—rhwydwaith sengl, syml sy'n hawdd ei ddeall ac yn hawdd ei ddefnyddio. Ac ni fydd gennym ni'r sefyllfa lle gellir adeiladu ysbyty newydd heb unrhyw lwybrau bysiau—ac fe glywsom ni'r enghraifft yn gynharach heddiw o Hefin David yn ymgyrchu ynghyd ag Alun Davies yn erbyn y gwiriondeb hwnnw—lle nad yw bysiau'n stopio mewn gorsafoedd trên; ni fydd gennym ni sefyllfa lle nad yw amserlenni rheilffyrdd a bysiau yn cael eu cydlynu, lle na ellir defnyddio tocynnau gyda gwahanol weithredwyr. Yn fyr, byddwn yn gweld un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn.

Nawr, wrth gwrs, mae yna wrthwynebiad gan rai o'r cwmnïau mawr—dydyn nhw ddim eisiau newid, ac nid yw'r Torïaid chwaith. A pham fyddai'r cwmnïau, y rhai mawr, eisiau newid? Mae eu helw yn 100 y cant yn breifat, ond mae dros hanner y costau gweithredu bysiau yn cael eu talu gan y Llywodraeth: prisiau bws am ddim i bensiynwyr, prisiau isel i bobl ifanc, grantiau awdurdodau lleol ar gyfer bysiau mewn ardaloedd gwledig neu lwybrau lle mae cwmnïau masnachol wedi tynnu'n ôl. Mae'r system breifat hon yn costio llawer o arian i drethdalwyr, a dyna beth mae Janet Finch-Saunders a Sam Rowlands yn amddiffyn ac eisiau parhad ohono. Mae'n costio tua £200 miliwn y flwyddyn i ni, ac ychwanegwch gost cludiant ysgol ar ben hynny, sy'n cymryd tua 20 y cant o gost cyllidebau ysgolion. Ac nid oes unrhyw un o'r gweithgaredd hwn, dim o'r arian hwn, yn cael ei gydlynu. Mewn gwirionedd, ni chaniateir iddo gael ei gydlynu gan y gyfraith. Gallaf gofio, Llywydd, y gwiriondeb yn ystod COVID pan oeddem yn eistedd i lawr gydag awdurdodau lleol yn ceisio achub gwasanaethau bysiau ysgol pan gwympodd y system, ac ni chaniatawyd i ni gwrdd â'r cwmnïau oherwydd ei fod yn groes i'r gyfraith. Roedd y gyfraith deddfwriaeth breifat yn dweud mai cartél fyddai hi i'r cwmnïau gwrdd mewn un ystafell gyda chynghorau i achub y gwasanaeth bws. Dyna pa mor wrthun yw'r system sydd gennym ni, ac mae'n system y mae'r Torïaid eisiau ei chadw.

Nawr, wrth gwrs, mae mater arian, a soniais yn gynharach bod y Pwyllgor Cyllid wedi nodi, ac mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi, bod manteision y Bil hwn yn mynd i fod bum gwaith yn fwy na'i gostau dros gyfnod o 30 mlynedd. Ond, hyd yn oed heb gynnydd sylweddol ar gyllid, trwy gael gwared ar ddyblygu diangen, bydd llawer mwy o effeithlonrwydd yn y system, a llawer llai o gost, mewn gwirionedd, Janet Finch-Saunders, i weithredwyr busnesau bach a chanolig rhag cynnig am gontractau, oherwydd bydd llawer ohonyn nhw'n cael eu trin gan Trafnidiaeth Cymru. Pe baech wedi trafferthu i edrych ar fanylion y cynlluniau yma, byddech wedi gweld bod hwn wedi'i ddatblygu a'i ddylunio yn sensitif iawn gydag anghenion busnesau bach a chanolig mewn golwg, felly rwy'n ofni eich bod chi'n annidwyll yn y fan yna. Rydym ni i gyd yn cytuno ar bwysigrwydd busnesau bach a chanolig.

Dyma, Llywydd, un o'r darnau mwyaf canlyniadol o ddeddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi'i ystyried ers i ni ennill pwerau deddfu, ac yn y tymor hwn—yn wir, o'r holl gyfnod datganoli. Bu eisoes rhai trafferthion cychwynnol, a bydd mwy i ddod, a dyna pam mae gwaith craffu'r Senedd hon yn hanfodol, ac rwy'n siŵr y bydd ar y Llywodraeth eisiau ymateb i'r pryder sydd gennym ni ynglŷn â mesurau blaenoriaeth bysiau—mae'n rhaid bod rhywfaint o ofyniad yn y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol i adeiladu rhwydwaith o fesurau blaenoriaeth bysiau—a'r pryderon am drafnidiaeth ysgol. Ond mae'n cael ei weithredu fesul cam am yr union reswm hwn, mewn partneriaeth agos â chynghorau, a bydd swyddogaeth allweddol i gynghorau, gyda Trafnidiaeth Cymru, yn seiliedig ar arferion da rhyngwladol, fel meddwl arweiniol, lle byddant yn eistedd i lawr ac yn dylunio'r bwndeli a'r llwybrau rhwydwaith hyn gyda'i gilydd.

Ac wrth gwrs, os ydym yn llwyddo i gynyddu'r defnydd o fysiau, a dyma'r holl ddisgwyliadau, bydd hynny'n cynyddu'r achos dros arian cyhoeddus pellach ac ehangu'r rhwydwaith bysiau o'r rhwydwaith sylfaenol i'r rhwydwaith uchelgeisiol y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei ddylunio. Ac ar adeg pan mae pobl yn gofyn a yw gwleidyddiaeth yn berthnasol i'w bywydau, mae gan y Bil hwn y potensial i wneud gwahaniaeth diriaethol. Bydd yn cymryd amser ac ymdrech i'w weithredu ledled Cymru. Nid yw'n ateb cyflym. Ond, mor ddiamynedd ag ydw i, rwy'n falch nad yw'r cyflwyniad yn cael ei frysio. Mae datgymalu system hirsefydledig a thameidiog iawn yn mynd i fod yn anodd, ac mae gweithredu cam wrth gam, yn raddol mewn gwahanol rannau o Gymru, yn rhoi'r cyfle gorau i ni wneud hyn yn iawn. Ac rwy'n credu y byddwn yn edrych yn ôl ar hyn, Llywydd, y Bil hwn, fel un o'r pethau mwyaf arwyddocaol yr ydym ni wedi bod yn rhan ohono.

18:55

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r holl gyfranwyr heddiw? Mae wedi bod yn ddadl wych. Bu rhai cyfraniadau anhygoel, ac, yn arbennig, rwy'n credu y bu i'r Torïaid wneud gwaith defnyddiol iawn, iawn wrth ddadlau'r achos dros y Bil hwn trwy siarad mor ddifrïol ac mor huawdl am y trefniadau presennol sydd gennym ni ar gyfer gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

I'r amheuwyr a'r rhai sy'n gwrthwynebu newid, byddwn i'n dweud bod y Bil hwn yn rhoi teithwyr, yn rhoi pobl yn gyntaf, ac wrth roi teithwyr yn gyntaf wrth ddylunio rhwydwaith bysiau, byddwn yn gwneud gwasanaethau bws yn fwy deniadol i'r cyhoedd, sydd yn ei dro, fel y dangosir ym Manceinion, yn arwain at fwy o gwsmeriaid a mwy o docynnau, a dyna refeniw y gellir ei ddefnyddio wedyn i wella gwasanaethau bysiau ymhellach. Trwy roi pobl yn gyntaf y byddwn yn mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol. Trwy roi pobl yn gyntaf y byddwn yn rhoi mwy o gynaliadwyedd i fusnesau bach a chanolig, a thrwy roi pobl yn gyntaf y byddwn yn gwrthdroi'r dirywiad mewn cwsmeriaid. Mae Manceinion yn dystiolaeth o hyn; mae gwasanaethau TrawsCymru yn dystiolaeth o hyn. Daw prawf pellach gan wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: o'r holl gwmnïau rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr, Trafnidiaeth Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn cwsmeriaid ac arian tocynnau. Ac mae hyn yn dangos beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n rheoli trafnidiaeth gyhoeddus.

Nawr, does dim ffon hud o ran teithio gan ddysgwyr. Mae'n her hynod gymhleth rydym yn ei hwynebu, a byddwn yn cyhoeddi datganiad polisi. Gellir ystyried teithio gan ddysgwyr mewn contractau, ond mae'n werth nodi hefyd bod cyfran enfawr o ddysgwyr yn teithio mewn tacsis yn hytrach na bysiau. Ond bydd y Bil hwn yn integreiddio'n well sut mae dysgwyr yn teithio gyda gwasanaethau teithwyr wedi'u trefnu.

O ran tagfeydd a mesurau blaenoriaethu bysiau, ie, bydd gan y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ran hynod bwysig wrth sicrhau ein bod yn delio â thagfeydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, ac o ran seilwaith bysiau, rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn cynhyrchu safonau ansawdd safleoedd bysiau. Ar hyn o bryd mae mwy na 20,000 o safleoedd bysiau ledled Cymru, ac mae arnom ni eisiau eu gweld yn cael eu gwella o ran ansawdd a hygyrchedd.

O ran capasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru, rydym ni wedi dysgu, wrth gwrs, o Fanceinion, a'r hyn rydym ni wedi'i ddysgu o Fanceinion yw bod angen y bobl orau arnoch chi i allu dylunio'r rhwydwaith. Dyma un o'r rhesymau pam y gwnaethom ni benodi Vernon Everitt yn gadeirydd Trafnidiaeth Cymru, gyda phrofiad helaeth o fasnachfreinio ym Manceinion fwyaf.

Ac o ran cwestiynau a ofynnwyd ynghylch a ddylem ni ddilyn model Jersey, hynny ydy, a ddylem ni ddilyn model cost net yn hytrach na model cost gros, byddwn i'n dweud, yn gyntaf oll, na allwn ni gymharu Cymru â Jersey mewn gwirionedd. Fy nealltwriaeth i ydy bod yna un cwmni bws yn Jersey; yng Nghymru, mae mwy na 130. Yn Jersey, mae rhai dwsinau o fysiau; yng Nghymru, miloedd. A byddwn yn cymell cwmnïau bysiau i gynyddu cwsmeriaid; byddwn yn sicrhau bod contractau'n cynnwys cymhellion. Mae hynny'n wers arall rydym ni wedi'i dysgu gan Fanceinion.

Ac o ran hygyrchedd, ie, rwy'n falch o gefnogi gwaith y panel mynediad a chynhwysiant yn Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo'r agenda teithio i bawb. Bydd siarter teithwyr; bydd safonau gofynnol ar gyfer hygyrchedd mewn contractau; mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu sicrhau y gellir o hyd defnyddio arian parod ar wasanaethau; a bydd hyfforddiant i yrwyr. Ac wrth gwrs, fel yr wyf eisoes wedi sôn, bydd safonau ansawdd yn cael eu cyflwyno ar gyfer safleoedd bysiau.

Rwy'n ymwybodol o amser, Llywydd, ond a gaf i ddiolch i gyd-Aelodau am eu cyfraniadau? Ac rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu â'r holl Aelodau wrth i hyn fynd yn ei flaen. Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi am eich amynedd.

19:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio’r bleidlais ar yr eitem yma, ac hefyd ar y cynnig o dan eitem 10.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

11. Cyfnod Pleidleisio

Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod am i fi ganu'r gloch, mi awn ni’n syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban), a dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Bryant. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 38, un yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

19:05

Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) : O blaid: 38, Yn erbyn: 11, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, sef egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, un yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) : O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais olaf ar eitem 10, sef y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil gwasanaethau bysiau. Pleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, ymatal un, yn erbyn 12. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 10. Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) : O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisio. Mae popeth wedi ei orffen, felly dyna ddiwedd ein cyfarfod ni.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:06.