Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/09/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Teyrngedau i Hefin David AS

Prynhawn da. Mae dychwelyd heddiw i’r Senedd mor chwerwfelys. Mi rydym yn dychwelyd yn 59 Aelod, ac mi rydyn ni i gyd heddiw ac am yn hir i ddod yn mynd i deimlo colled ein ffrind annwyl Hefin David. Mae nifer o deulu a ffrindiau Hefin yn ein plith yn yr oriel. Diolch i chi am ddod atom i rannu yn ein cyfarfod cofio. Ac mi rydym yn meddwl yn enwedig am ferched a rhieni annwyl Hefin yn eu colled, ond hefyd am Vikki, ein cydweithiwr a phartner Hefin.

Mi oedd ei ymdrechion i ddefnyddio'r Gymraeg yn bwysig iawn i Hefin, yn y Siambr yma ac mewn cyfweliadau ar y cyfryngau.

Gyda thristwch mawr heddiw, felly, dwi’n gofyn i’r Senedd i godi nawr i gofio am ein cyfaill annwyl Hefin David.  

Cynhaliwyd munud o dawelwch.

Diolch i bawb.

I arwain ein teyrngedau, arweinydd y Blaid Lafur a'r Prif Weinidog, Eluned Morgan. 

13:40
13:45

Ar ran pawb ym Mhlaid Cymru, dwi'n estyn ein cydymdeimlad diffuant heddiw i Vikki ac i deulu, anwyliaid a chyfeillion Hefin. Mi wnaeth y newyddion trasig hwnnw yn ystod toriad yr haf ein hysgwyd ni i gyd yn wirioneddol, a dwi'n gwybod y bydd colli Hefin yn cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai oedd yn ei garu ac yn ei adnabod o orau. 

13:50
14:00
14:05
14:10
14:15
14:20

Diolch, gyfaill. Rwyt ti yma o hyd, yn dy waith, trwy dy ferched, ac ein calonnau ni oll.

14:25
14:30

Diolch i chi i gyd am eich teyrngedau.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:32.

14:45

Ailymgynullodd y Senedd am 14:45, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Dyma ni'n barod nawr i ailddechrau. Cyn i fi ofyn i'r Prif Weinidog i ateb cwestiynau, dwi eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 11 Medi. 

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwetsiynau i'r Prif Weinidog fydd nesaf, felly, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands. 

Economi Ymwelwyr Gogledd Cymru

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyflwr yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru? OQ63059

Rydych chi newydd ddweud, Prif Weinidog, eich bod chi'n teimlo ei bod hi'n bwysig bod yna gydbwyso yn digwydd rhwng anghenion ymwelwyr a thwristiaid ag anghenion y gymuned leol, ac  allaf i ddim cytuno mwy ar hynny. Ond y cwestiwn mae pawb yn ei ofyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw sut mae creu parc cenedlaethol newydd yn mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd. Y cwestiwn mawr yw: ble mae'r buddsoddiad yn y seilwaith sydd ei angen i wneud cynnig o'r fath i fod yn llwyddiant? Rydyn ni wedi gweld y problemau sydd mewn ardaloedd fel Eryri, ble mae problemau traffig eithriadol. Dyw'r isadeiledd ffyrdd, dyw'r isadeiledd parcio ddim yna, sy'n golygu nad yw ambiwlansys yn gallu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw gyrraedd yn aml iawn. Mae yna broblemau hefyd—diffyg llefydd campio. Mae pob math o heriau o ran seilwaith. Nawr, rydyn ni'n gweld hwn yn dod o bell. Mi fydd yna broblemau hefyd yn y gogledd-ddwyrain. Felly, pa ymrwymiad gallwch chi ei roi i fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen cyn symud ymlaen gydag unrhyw syniad o greu parc newydd? 

Diolch yn fawr. Mae yna ymgynghoriad yn cymryd lle ar hyn o bryd. Y ffaith yw bod y tri pharc cenedlaethol sydd eisoes yn bodoli yn denu 12 miliwn o ymwelwyr, ac maen nhw'n gwario £1 biliwn, sy'n helpu, wrth gwrs, y cymunedau yna. Ac felly, mae hi'n bwysig bod pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad yna ac yn cymryd y cyfle i ddweud eu dweud ar sut mae hwnna, maen nhw'n meddwl, yn mynd i effeithio ar eu cymunedau nhw ac i weld a oes yna appetite i weld hwnna'n digwydd. 

14:50
Blaenoriaethau Economaidd

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Senedd hon? OQ63062

14:55
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

15:00
15:05
15:10
Yr Economi ym Mhreseli Sir Benfro

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro? OQ63053

Tra bod pleidiau eraill yn siarad am greu swyddi, mae'r Blaid Lafur yn mynd ati i gyflawni. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ym margen ddinesig bae Abertawe yn datgloi dros £1 biliwn o fuddsoddiad, ac yn creu miloedd o swyddi ar draws gorllewin Cymru—swyddi o safon a fydd yn helpu pobl gyda heriau costau byw.

Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn

4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith strategaeth ddiwydiannol amddiffyn Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ63085

15:15
15:20
Adeiladu Tai

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau presennol adeiladu tai yng Nghymru a’r rhagolygon ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon? OQ63083

Mae cael cartref sefydlog yn hanfodol i ymdeimlad pobl o ddiogelwch. Dyna pam mae adeiladu tai yn cael lle canolog ymysg y pethau rŷn ni'n benderfynol o'u cyflawni. Er gwaethaf Brexit, COVID, chwyddiant cynyddol ac anhrefn y Torïaid, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi cyflawni i bobl Cymru. Rŷn ni wedi buddsoddi dros £2 biliwn mewn tai cymdeithasol—yr uchaf ers bron i ddau ddegawd—gan greu miloedd o dai newydd gan gynghorau a chymdeithasau tai.

Gwasanaethau Strôc

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau strôc? OQ63060

15:25
Datganoli Ystad y Goron

7. Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i sicrhau datganoli Ystad y Goron? OQ63065

Dwi wedi dweud hynny o'r blaen a dwi eisiau ei ddweud e eto: does dim rheswm da pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i'r Alban yn y maes yma. Mae Ystâd y Goron wedi cael ei datganoli yno, ac fe ddylai gael ei datganoli yma. Mae safbwynt Llafur Cymru ar hyn wedi ei hen sefydlu, gyda chefnogaeth comisiynau annibynnol sydd i gyd yn dweud yr un peth: dylai'r cyfoeth sy'n cael ei gynhyrchu drwy'n hadnoddau naturiol aros yma yng Nghymru.

Rŷn ni'n trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y ffaith yw dŷn ni ddim yn gallu gwneud iddyn nhw wneud dim byd. Mae hynny'n drafodaeth. Wel, byddai'n ddiddorol gweld beth fyddai Plaid Cymru annibynnol yn gofyn iddyn nhw ei wneud. Beth sy'n bwysig, dwi'n meddwl, yw ein bod ni yn gwneud yr achos ac yn sicrhau eu bod nhw'n deall bod yn rhaid i ddatblygiadau, fel maen nhw eisiau eu gweld yng Nghymru, elwa pobl Cymru. Ac ar hyn o bryd, rŷn ni eisiau gweld lot fwy o dystiolaeth y bydd hwn yn rhywbeth a fydd o fudd i'n gwlad ni.

15:30
Presgripsiynau Meddygol am Ddim

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu presgripsiynau meddygol am ddim i bobl yng Nghymru? OQ63055

15:35
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw. Felly, Jane Hutt i wneud y datganiad busnes.

Member
Jane Hutt 15:37:20
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, fel sydd wedi ei nodi ar agenda'r Cyfarfodydd Llawn. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

15:40

Trefnydd, mi fyddwch chi wedi gweld, dwi'n siŵr, fod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yr wythnos diwethaf o ran yr ymateb i stormydd y llynedd erbyn hyn, storm Bert a storm Darragh. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi gweld tywydd eithafol yn ddiweddar. Dwi'n nodi, wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn fwy ffurfiol. Ond, yn amlwg, rydym ni yn mynd i mewn i'r gaeaf rŵan. Rydym ni wedi gweld llifogydd yn digwydd. Byddwch chi'n gwybod, yn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru, fod pobl yn ofnadwy o bryderus bob tro mae hi'n bwrw glaw yn drwm neu mae yna storm. Mae yna dal lot mawr o waith sydd angen cael ei wneud. Gaf i ofyn felly am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet efo cyfrifoldeb dros newid hinsawdd ynglŷn â'r trefniadau ynglŷn â'r gaeaf hwn, a pha sicrwydd ydyn ni'n gallu ei roi fod y Llywodraeth wedi dysgu'r gwersi eisoes sydd yn yr adroddiad hwn, yn lle gorfod aros misoedd efallai tan y bydd cyfle i ni ei drafod yn y Siambr hon? Diolch.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan; mae'n gwestiwn pwysig iawn, dwi'n meddwl—

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:45
15:50
15:55
16:00
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru)

Eitem 4 sydd nesaf heddiw, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Julie James.

16:05
16:10
16:15

Mae’n rhaid i fi gytuno â’r Cwnsler Cyffredinol: dyw’r Bil yma ddim yn mynd i chwyldroi polisi cynllunio Cymru. Nid dyna yw ei fwriad. Ond mae yna gynnydd mewn cydgrynhoi. Mae yna fantais ynddo fe, achos mae’n rhoi seiliau i chi, wedyn, ar gyfer y gwaith diwygio a all ddilyn, wedyn, mewn ffordd llawer mwy strwythuredig. Rŷn ni, felly, yn croesawu'r egwyddor sylfaenol o ddod â chyfraith cynllunio Cymru at ei gilydd, sydd wedi bod ar wasgar, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi darlunio i ni, mewn un corff codeiddiedig, dwyieithog, Cymreig. Mae hwn yn gam eithriadol o bwysig ymlaen o ran eglurder, hygyrchedd a'r gallu, wedyn, i adnabod y bylchau ac i symud polisi cynllunio ymlaen ar gyfer y dyfodol.

Mae yna rai cwestiynau gen i—rhai ohonyn nhw rŷch chi wedi cyffwrdd arnyn nhw. O ran y Bil sydd wedi'i gyflwyno, a allech chi ddweud rhywbeth ynglŷn ag unrhyw newidiadau rhwng y drafft a gyhoeddwyd cyn yr haf? Ai mân newidiadau yn unig sydd wedi bod? Rŷch chi'n pwysleisio, wrth gwrs, eich bod chi wedi cael eich tystysgrif cydgrynhoi, a does yna ddim unrhyw bolisïau newydd wedi'u smyglo mewn i'r testun, ond sut ydyn ni fel Aelodau yn gallu sicrhau hynny? Oes yna ryw ddogfen ar gael neu ryw dabl sy'n ein galluogi ni i weld yr hen ddarpariaethau, i'w mapio nhw yn erbyn y gyfraith newydd mewn ffordd sydd yn cael gwared ar unrhyw amheuaeth bod yna unrhyw newidiadau polisi cudd yn rhan o'r broses?

Rŷch chi wedi cyfeirio at adroddiad Comisiwn y Gyfraith fel sbardun, y catalydd, a dweud y gwir, ac roeddech chi wedi gofyn am yr adroddiad yna fel cam cyntaf yn y broses. Unwaith eto, efallai yn y nodiadau gan y drafftwyr—dwi ddim wedi cael cyfle eto i ddarllen y nodiadau esboniadol i gyd—oes yn y nodiadau hynny, er enghraifft, ryw fath o dabl sydd yn edrych ar yr argymhellion gwreiddiol, a hefyd ymateb y Llywodraeth yn derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac sydd yn ein galluogi ni i ddeall sut mae hynny wedyn wedi'i drosi mewn i'r Ddeddf derfynol? Oes yna unrhyw beth wedi newid rhwng yr ateb gwreiddiol i'r argymhellion hynny a'r hyn sydd wedi bennu lan yn y testun? Mae'n dda i weld, er enghraifft, un o'r argymhellion yn ymwneud â chysondeb ac eglurder o ran y Gymraeg, ac mae hynny, er ddim yn newid polisi, achos roedd y rheidrwydd yna i gymryd y Gymraeg i mewn i ystyriaeth yn bodoli, ond roedd e'n bodoli ar wasgar mewn ffordd, efallai, nad oedd e ddim yn ddigon amlwg yn rhan o'r broses, ac mae hwnnw'n un o'r buddion, rwy'n credu, o ran y Bil drafft. 

Hefyd, o ran Comisiwn y Gyfraith, roedd yna rai argymhellion y gwnaethoch chi eu gwrthod, y rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd doedden nhw ddim yn argymhellion cydgrynhoi, fel dwi'n deall—roedden nhw yn argymhellion diwygio. A ydych chi wedi gwneud rhagor o waith ar y rheini? Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu gweithredu eisoes, am wn i, drwy ddulliau eraill, ond a oes yna waith pellach wedi cael ei wneud o ran Bil diwygio i'r dyfodol o ran yr argymhellion hynny? 

A allwch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â'r darpariaethau trosiannol? Hynny yw, sut mae hwn yn mynd i weithio er mwyn osgoi dryswch o ran ceisiadau ac apeliadau sydd eisoes yn y system sydd—? Ocê, dyw'r polisi ddim yn newid, ond mae'r ieithwedd yn newid ac, wrth gwrs, y sylfaen gyfreithiol. So, sut ydych chi'n datrys hynny?

Ac yn gysylltiedig â hynny, ac yn olaf, mae rhanddeiliaid fel Cymorth Cynllunio Cymru wedi pwysleisio'r angen i wneud y cod newydd yma yn hygyrch i gymunedau. Felly, pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod y canllawiau newydd yma'n glir, mewn iaith syml, yn ddwyieithog ac ar gael i bobl ar lawr gwlad? 

Yn olaf, dyw'r gyfraith yma ddim yn mynd i ateb pob problem neu bob her yn y system gynllunio. Dyw hi ddim yn mynd i gynhyrchu mwy o swyddogion cynllunio, dyw hi ddim yn mynd i ateb pob un o'r diffygion polisi rŷn ni wedi eu trafod. Ond i fi, mae'n rhoi sylfaen gryfach i ni i fynd ati i wneud y gwaith diwygio yna i gryfhau llais cymunedau, i ddiogelu'r amgylchedd, i gefnogi twf cynaliadwy ac i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o'r broses gynllunio. Rŷn ni yn awr yn y Senedd yma yn mynd i osod y seiliau ac, wrth gwrs, mae yna gyfle wedyn yn mynd i fod yn y Senedd nesaf inni ddefnyddio'r seiliau yna yn feiddgar er lles a budd pobl Cymru.

16:20
16:25
16:30
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Papur gwyrdd yn ceisio barn ar newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Papur Gwyrdd yn ceisio barn ar newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae llai na degawd wedi pasio ers i'r Senedd hon gael pwerau cyllidol newydd am y tro cyntaf ers 500 mlynedd. Dyw e ddim yn syndod, felly, ein bod ni'n parhau i fynd i'r afael â rhai o'r ffyrdd ymarferol o ddefnyddio'r pwerau hynny yn y ffordd orau.

Mae'r datganiad hwn yn nodi'r datblygiad diweddaraf yn y maes hwn, sef Papur Gwyrdd a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar o dan y testun 'Barn ar y Mecanweithiau Priodol ar gyfer Gwneud Newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru'. Cafodd y Papur Gwyrdd ei gyhoeddi ar 8 Medi, a bydd ar agor i dderbyn ymatebion tan fis Tachwedd 2025.

Hoffwn bwysleisio o'r dechrau mai Papur Gwyrdd yw hwn. Dyw e ddim yn cynnwys cynigion sydd eisoes yn bolisi gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, yn y maes cymharol arbenigol a thechnegol hwn, mae'n gwahodd safbwyntiau ar draws ystod o opsiynau posibl. Bydd yr ymatebion hynny'n helpu i lunio cynigion mwy penodol ar gyfer newid yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ac i mewn i'r tymor nesaf.

Daw'r angen i ddechrau'r broses hon nawr o ganlyniad i Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, a basiwyd yn ystod tymor y Senedd hon ac a ddaeth i rym ar 9 Medi 2022. Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru mewn pedwar amgylchiad penodol: y cyntaf i wneud yn siŵr bod y trethi datganoledig yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol; yr ail i amddiffyn rhag osgoi trethi; y trydydd i ymateb i newid i dreth ragflaenol, fel treth dir y dreth stamp, sy'n effeithio ar gronfa gyfunol Cymru; neu, yn olaf, i ymateb i benderfyniadau llys neu dribiwnlys sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau trethi Cymru.

Bydd fy swyddogion yn cysylltu ag unrhyw unigolyn neu gorff sy'n dymuno trafod y materion a godwyd yn y Papur Gwyrdd. Rwy'n estyn y cynnig hwnnw, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cadeiryddion yn dod o hyd i'r amser i'm swyddogion fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu bwyntiau y mae Aelodau yn dymuno eu codi neu eu bwydo i mewn i'r broses hon. Mae'r cynnig, fel bob amser, wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, ar gael i bob Aelod sydd â diddordeb yn y materion hyn.

Dwi am i'r Senedd nesaf fod yn y sefyllfa orau posibl i sefydlu'r dull gweithredu y mae'n dymuno ei fabwysiadu wrth wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Mae'r Papur Gwyrdd hwn yn bodloni rhwymedigaethau statudol sydd wedi eu gosod ar Weinidogion Cymru, ond mae hefyd yn paratoi ar gyfer y penderfyniadau sydd angen eu gwneud yn nhymor nesaf y Senedd.

16:40
16:45
16:50

A gaf i groesawu hefyd yr ymgynghoriad yma? Dwi'n credu ei fod o'n beth iach ac yn arfer da ein bod ni’n cael adolygiadau deddfwriaethol o’r fath. Dwi’n croesawu hefyd eich cynnig chi i ni gael cyfle i ymgysylltu yn drawsbleidiol o ran y materion hyn, a dwi hefyd yn gwerthfawrogi eich sylwadau chi a'ch pwyslais chi mai Papur Gwyrdd ydy hwn, a’i fod o'n gyfle i ni gael sgwrs am rywbeth efallai sydd yn edrych yn sych ar un ochr, ond sydd yn allweddol bwysig o ran y Senedd hon. Efallai ei bod hi'n addas iawn mai ar Ddydd Owain Glyndŵr rydyn ni'n cael y drafodaeth hon hefyd. Mi fyddwn i'n dweud hynny, oni fyddwn i, fel Aelod o Blaid Cymru?

Ond fel mae rhagair yr ymgynghoriad yn ei ddatgan, ac mi wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad chi eich hun, mi oedd datganoli rhai elfennau o drethiant yn garreg filltir hanesyddol o ran datblygiad y Senedd hon. Dwi'n gwybod yr oeddech chi'n sôn am 500 mlynedd, mae yna rai yn dweud wyth canrif, ond y peth ydy buodd hi'n gannoedd o flynyddoedd heb i ni allu cael y math yna o declynnau a’r hawl i godi trethi ein hunain. Er gwaethaf pa mor gyfyngedig ydy'r grymoedd yma ar hyn o bryd, mewn cyd-destun rhyngwladol yn ogystal â chyd-destun gwledydd y Deyrnas Unedig, mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod datganoli yn y maes hwn wedi bod yn gam cadarnhaol o ran y gyllideb Gymreig. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n cydnabod hynny.

Os ystyriwn ni hefyd mai dim ond cychwyn ar y daith ddatganoli ydyn ni yn y maes hwn, mae hi felly’n hollbwysig ein bod ni’n parhau—ac mae gen i ffydd hefyd fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi o ran hyn—a’n bod ni wir yn mireinio ac yn ehangu grymoedd trethiannol y Senedd. Dwi’n cydnabod pwyntiau Sam Rowlands o ran yr angen ar gyfer sefydlogrwydd, ond mae’n rhaid inni hefyd fod yn gwneud hyn, felly ymateb cadarnhaol gen i.

Yn sicr, dwi yn cytuno, mi wnaethoch chi ofyn cwestiwn i ni fel pleidiau gwleidyddol yn eich datganiad hefyd o ran y cyfnod adolygiad deddfau trethi Cymru, a’ch bod chi eisiau i ni ystyried a ddylem ni fod yn edrych cyn diwedd tymor y Senedd hon. Dwi’n meddwl y dylem ni; dwi’n croesawu hynny. Dwi’n meddwl bod eisiau ystyriaeth ac mi fyddwn i’n hoffi cael mwy o wybodaeth gennych chi, os yn bosib, o ran beth fyddai’r amserlenni o ran gwneud unrhyw newid drwy reoliadau, a sut yn ymarferol ydyn ni’n galluogi hynny. Rydyn ni’n gwybod bod yr amserlenni yn dynn yn barod, ond dwi yn credu ei fod o’n gwestiwn iawn i chi fod yn ei ofyn, ac yn opsiwn pragmataidd wrth i ni ystyried lle ydyn ni yn y cylch etholiadol ar hyn o bryd. Felly, gobeithio eich bod chi’n cael yr ateb clir yr oeddech chi’n edrych amdano fo yn y fan honno.

Mae’r ddogfen ymgynghorol hefyd yn sôn am yr amgylchiadau penodol y mae Deddf 2022 yn caniatáu Llywodraeth Cymru i reoleiddio ar hyn o bryd. Wrth ystyried y cyntaf sy’n ymwneud ag aliniad y dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth traddodiadau tir gyda rhwymedigaethau rhyngwladol, ydych chi’n rhagweld unrhyw newidiadau posib yn y dyfodol agos i’r rhwymedigaethau yma a all orfodi Gweinidogion i ystyried rheoleiddio drwy’r Ddeddf yma? A gaf i hefyd ofyn, os yn bosib, am fwy o fanylder am yr amgylchiadau ymarferol penodol o ran osgoi treth lle y byddech chi'n ystyried defnyddio'r pwerau yma?

Dwi hefyd yn croesawu ymdrech y Llywodraeth yng nghyd-destun yr ymgynghoriad i geisio dysgu o enghreifftiau rhyngwladol perthnasol; dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig dros ben. Dwi'n meddwl bod ystyried trefniadau'r cytundeb economaidd Basgaidd rhwng Llywodraeth Sbaen a Llywodraeth Euskadi, a gafodd ei adnewyddu nôl yn 2023, o werth, oherwydd un o'i fanteision yw ei fod o dros gyfnod o bum mlynedd a'i fod yn rhoi’r sefydlogrwydd hwnnw y byddai unrhyw Lywodraeth, dwi'n siŵr, yn deisyfu—dwi'n siŵr y byddech chi'n hoffi hynny fel Ysgrifennydd Cabinet. Ond ydy hyn yn rhywbeth y byddem ni'n gallu ei ystyried yn rhan o hyn? Ydy’r rhain y math o sgyrsiau y byddech chi'n medru eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Oherwydd, yn amlwg, mae'n heriol dros ben pan dydyn ni ddim cweit y gwybod y sefyllfa o flwyddyn i flwyddyn. A dwi'n meddwl, yn amlwg, mae hi’n sefyllfa wahanol iawn o ran Gwlad y Basg—dwi'n sylweddoli hynny. Mae’r grymoedd sydd gan y Senedd honno yn wahanol, ond yn sicr mae yna enghreifftiau, onid oes, lle mae'n bosib i ni fod yn edrych yn wahanol.

Felly, gobeithio efo hynny o sylwadau fod hynny'n dangos i chi ein bod ni'n awyddus fel plaid i fod yn ymgysylltu efo chi ar hyn. Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar yr ymgynghoriad ac yn trio annog pobl i fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol yn yr ymatebion maen nhw'n eu rhoi, i rannu efo ni esiamplau rhyngwladol. Dwi'n meddwl ei fod o'n glir o ran fframwaith cyllidol Cymru fod dirfawr angen i ni fod yn edrych ar bopeth o fewn y grymoedd sydd ar gael i ni, ac mae hwn yn gam pwysig, dwi'n credu, o ran hynny.

16:55

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y sylwadau adeiladol. Roedd nifer o gwestiynau fanna a dwi'n mynd i drio ymateb i rai ohonyn nhw. Ar brofiadau rhyngwladol, mae'r Papur Gwyrdd yn cyfeirio at y posibiliad y byddem ni'n gallu dysgu o wledydd y tu fas i’r Deyrnas Unedig. Pan rŷch chi'n gwneud hynny, wrth gwrs, mae mwy o gymhlethdod ac mae'r cyd-destun ehangach yn wahanol. Ges i’r cyfle i fynd i Wlad y Basg ac i siarad â'r Gweinidog dros gyllid yna, biti pum mlynedd yn ôl nawr. Roedd yn ddiddorol tu hwnt i glywed am y system sydd gyda nhw, ond mae'r system yn hollol wahanol i'n un ni. Mae Llywodraeth Gwlad y Basg yn casglu pob treth—pob treth—ac maen nhw'n rhoi trethi yn ôl i'r canol. Wel, wrth gwrs, nid dyna'r ffordd rŷn ni’n ei wneud e fan hyn, a does neb arall yn Sbaen yn ei wneud fel yna. Dim ond un rhanbarth arall, dwi’n meddwl, sy’n defnyddio'r un system. Ond mae'r Papur Gwyrdd, achos Papur Gwyrdd yw e, yn gofyn i bobl a oes enghreifftiau eraill, ac rŷn ni'n awyddus i ddysgu amdanyn nhw.

Dwi eisiau jest delio â'r pwynt ar bobl sy'n osgoi trethi.

Diolch yn fawr i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am y pwynt olaf yn y datganiad: os mae'n werth inni ddeddfu yn ystod y tymor hwn i ymestyn y Ddeddf sydd o flaen y Senedd yn barod. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Tachwedd. Gallwn ni edrych yn syth ar yr ymatebion i'r cwestiwn yna. Os bydd consensws ar gael, bydd digon o amser gennym ni yn ystod tymor y gwanwyn i fwrw ymlaen ac i wneud hynny, ond mae'n dibynnu a oes consensws. Yn bersonol, rwy'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan: mae'n werth i ni ei wneud e ac i roi mwy o amser i'r Senedd newydd fynd ati i ddelio â'r posibiliadau sydd yn y Papur Gwyrdd ac unrhyw sylwadau eraill.

17:00
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cwn, Cathod a Ffuredau)

Eitem 6 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8970 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

17:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

17:15
17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban)

Eitem 7, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol: y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8969 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

17:25

A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—Mike Hedges.

17:30
17:35
17:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad]. Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl

Mae eitem 8 wedi ei gohirio tan 7 Hydref, felly symudwn ymlaen. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.

9. & 10. Egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i wneud y cynnig. Ken Skates. 

Cynnig NDM8967 Ken Skates

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

Cynnig NDM8968 Ken Skates

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac ar ran y pwyllgor, dwi eisiau diolch i bawb

i bawb roddodd dystiolaeth i lywio ein gwaith ni fel pwyllgor wrth graffu ar y Bil yma. Rŷn ni'n arbennig o ddiolchgar i’r awdurdodau lleol, y gweithredwyr neu'r operators, y grwpiau teithwyr a chynrychiolwyr cymunedol a rannodd eu profiadau a’u harbenigedd gyda ni. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y ffordd adeiladol y mae e wedi ymgysylltu â’r pwyllgor yn ystod Cyfnod 1.

Llywydd, fel ŷn ni'n gwybod, mae gwasanaethau bysiau yn hanfodol i’n cymunedau ni. Maen nhw'n cysylltu pobl â’r mannau lle maen nhw'n gweithio, lle maen nhw'n dysgu a lle maen nhw'n cymdeithasu. Dyma sut y mae pobl yn ymweld â’r teulu, dyma sut mae pobl yn cyrraedd apwyntiadau iechyd. Ac mi oedd rhanddeiliaid yn glir nad yw’r system fysiau ddadreoleiddiedig bresennol yn ateb y gofyn mwyach. Mae'r materion, wrth gwrs, yn gyfarwydd i bob un ohonom ni fel Aelodau: lefelau defnydd yn dirywio mewn sawl ardal, gwasanaethau gwledig yn fregus, a wedyn y clytwaith o ddarpariaeth sy’n rhy aml yn gadael teithwyr yn ansicr ynghylch dibynadwyedd gwasanaethau. Yn erbyn y cefndir yma, mae’r achos dros ddiwygio yn gryf ac yn gymhellol.

Felly, mae’r pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Wedi dweud hynny—mae wastad ‘ond’ onid oes e?—er ein bod yn cytuno bod y Bil hwn yn gam pwysig ac angenrheidiol ymlaen, rŷn ni yn rhannu pryderon llawer o’r rhanddeiliaid bod y Bil, fel y mae wedi cael ei ddrafftio, yn brin o fanylion mewn rhai meysydd allweddol. Mae wedi bod yn siomedig mai dim ond ar ôl i’r Bil ddod yn gyfraith y bydd agweddau sylweddol ar y cynigion yn dod yn glir. Mae’r approach yma wedi’i gwneud yn anoddach i randdeiliaid gymryd rhan lawn yn y broses graffu ac mae hefyd wedi creu pryderon a chamddealltwriaeth mewn rhai achosion ynghylch bwriadau’r Llywodraeth.

Fe ddaeth nifer o themâu trawsbynciol i’r amlwg yn ystod ein gwaith craffu ni. Y thema gyntaf dwi eisiau sôn amdani yw i ba raddau y bydd agweddau allweddol ar y system newydd yn cael eu gadael i ganllawiau anstatudol neu femoranda cyd-ddealltwriaeth. Wrth gwrs, mae gan ganllawiau rôl bwysig wrth sicrhau gweithrediad effeithiol. Ond lle mae’r Bil yn dibynnu’n helaeth ar fecanweithiau anstatudol, mae posibilrwydd wedyn, wrth gwrs, y gallai Llywodraethau yn y dyfodol newid agweddau sylweddol ar y polisi heb waith craffu priodol gan y Senedd. Gall hyn greu ansicrwydd i deithwyr, gweithredwyr ac awdurdodau lleol.

Dyma un enghraifft, sef datblygu siarter teithwyr, y clywon ni amdano fe yn gynharach. Fe wnaethon ni argymell y dylai’r Bil gynnwys dyletswydd statudol i ddatblygu siarter teithwyr ac ymgynghori arni. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â siarter, ond nid i ddeddfu ar ei chyfer hi. Nawr, yn ein barn ni, byddai’r cyhoedd yn cael mwy o sicrwydd pe bai ymrwymiadau allweddol fel hyn yn cael eu nodi ar wyneb y Bil, ac nid yn cael eu gadael i ewyllys da yn y dyfodol.

Yn ail, fforddiadwyedd a rheoli disgwyliadau—mae hwnna’n bwnc pwysig i ni fel pwyllgor. Mi oedd yna bryderon gan randdeiliaid yn y diwydiant nad yw’r tybiaethau ariannol sy’n sail i’r Bil yn ddigon cadarn. Mae lefel yr uchelgais yn sylweddol, ond heb fuddsoddiad parhaus, mae yna risg y bydd disgwyliadau’n cael eu codi ond ddim yn cael eu bodloni. Mi fydd gwelliannau i wasanaethau wrth gwrs yn cymryd amser, ac mae rhaid i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru gyfathrebu’n glir ac yn gyson gyda theithwyr ynghylch pa newidiadau y gallan nhw eu disgwyl a phryd y gallan nhw ddisgwyl eu gweld nhw. Yn hynny o beth, mae rhaid dysgu gwersi o brofiadau’r gorffennol, a maes diwygio rheilffyrdd yn benodol.

Yn drydydd, capasiti Trafnidiaeth Cymru. Mae cyflawni masnachfreiniau’n effeithiol yn dibynnu ar sicrhau bod gan Trafnidiaeth Cymru y bobl a’r sgiliau cywir. Nawr, fe ddangosodd ymweliad y pwyllgor â Transport for Greater Manchester faint o adnoddau sydd eu hangen mewn gwirionedd. Dyw capasiti presennol Trafnidiaeth Cymru ym maes masnachfreinio bysiau ddim wedi’i brofi, ac mae’r amserlenni, fel ŷn ni’n gwybod, yn heriol. A bod yn deg, mae’n amlwg bod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gwneud llawer o waith paratoi ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac yn y blaen. Ond mi fydd llwyddiant y trawsnewid yn dibynnu ar Trafnidiaeth Cymru, ac mae rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fodlon bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mecanweithiau ar waith i feithrin capasiti a gwneud hynny yn gyflym.

Mater cysylltiedig wedyn oedd y risg bod staff trafnidiaeth medrus yn gadael awdurdodau lleol i ymuno â Trafnidiaeth Cymru, gan, o bosib, wanhau swyddogaethau trafnidiaeth leol, gan gynnwys teithio gan ddysgwyr, ac mi wnaf i ymhelaethu ar hynny mewn munud. Felly, mae partneriaeth gref â llywodraeth leol

mewn munud. Felly, mae partneriaeth gref â llywodraeth leol hefyd yn hanfodol yn hyn o beth.

Felly, gwnaf i droi nawr at faterion penodol a godwyd gyda’r pwyllgor yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod 1. Nawr, mae hepgor teithio gan ddysgwyr o’r Bil, yn ein barn ni, yn gyfle wedi’i golli. Mi ddylai system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ddiwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Rŷn ni’n cydnabod dymuniad yr Ysgrifennydd Cabinet am Fil cyflawnadwy—neu deliverable—ond rŷn ni yn credu y dylai teithio gan ddysgwyr fod yn amlycach yn y Bil yma. Dwi’n siomedig na fu modd i’r Ysgrifennydd Cabinet dderbyn ein hargymhellion ni sydd wedi’u hanelu at gyflawni hyn. Fodd bynnag, dwi yn croesawu ei ymrwymiad e, mewn ymateb i’n hargymhelliad, i gyhoeddi datganiad polisi yn egluro sut y bydd teithio gan ddysgwyr yn cael ei gefnogi drwy gyflawni’r Bil yma.

Bwlch sylweddol arall yn y Bil yw tagfeydd a seilwaith. Roedd y rhanddeiliaid yn glir na fydd gwasanaethau bysiau’n gwella dan unrhyw fodel os nad eir i’r afael â hyn. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud y byddai o fudd i Lywodraeth Cymru hefyd, wrth gwrs, a phob un ohonom ni fynd i'r afael â thagfeydd rŷn ni’n credu y dylai’r Bil fynd ymhellach. Fe wnaethom ni hefyd dynnu sylw at yr angen am ddull cenedlaethol cyson o ran seilwaith a gwybodaeth safleoedd bysiau. Dan y cynigion, bydd awdurdodau lleol yn cadw cyfrifoldeb yn y maes yma. Rŷn ni’n credu, felly, y dylid cael cytundeb ffurfiol gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau o leiaf bod yna gysondeb ar draws y wlad yn hyn o beth. 

Mae rhaid i lais y teithiwr fod yn ganolog i’r cynigion hefyd. Dyna pam y gwnaethom ni argymell y dylai’r Bil gynnwys dyletswydd statudol i lunio siarter teithwyr, fel y gwnes i sôn amdano fe gynnau. Byddai hyn yn gosod safonau gwasanaeth clir ac, wrth gwrs, yn helpu i sicrhau atebolrwydd. Mae rhaid i deithwyr wybod pwy sy’n gyfrifol pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac rŷn ni’n croesawu cynlluniau’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer bwrdd bysiau cenedlaethol a byrddau bysiau rhanbarthol, ond unwaith eto, dyw’r rhain ddim wedi’u nodi yn y Bil.

I nifer o gyfranwyr, roedd hygyrchedd yn fater allweddol, gyda galwadau am bwyslais cryfach ar hynny yn y Bil. Roedden nhw’n teimlo bod hygyrchedd yn rhy bwysig i’w adael heb ei ddiffinio yn glir yn y Bil. Heb ddiffiniad clir, mi fydd hi’n anodd, wrth gwrs, wedyn, mesur cynnydd. Felly, fe wnaethom ni argymell bod ‘hygyrchedd’ yn cael ei ddiffinio yn y Bil yma.

Yn olaf, dwi am ddweud gair am rôl busnesau bach a chanolig ac am ddarpariaeth wledig. Nawr, mi fydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn bod busnesau bach a chanolig yn hanfodol i’r rhwydwaith bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Allwn ni ddim fforddio colli gweithredwyr bach yn ein cymunedau ni; byddai’n cael effaith ddinistriol ar swyddi ac economïau lleol, yn ogystal ag ar ddarpariaeth teithio gan ddysgwyr. Fe gawsom ni rywfaint o sicrwydd yn sgil ymrwymiad ar ddylunio contractau ac ar greu prosesau symlach, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i barhau i adolygu hyn.

Mae rhaid i fasnachfreinio weithio i Gymru wledig yn ogystal â Chymru drefol. Rŷm ni’n cefnogi egwyddor croes-gymhorthdal—neu cross-subsidy—i gynnal gwasanaethau sy’n gymdeithasol angenrheidiol, ond mae angen i’r Ysgrifennydd Cabinet egluro’r berthynas a’r rhyngweithiad rhwng cyllid cenedlaethol a chyllid lleol er mwyn sicrhau bod yna degwch a thryloywder.

Lywydd, i gloi, mae'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond rŷn ni hefyd yn credu bod modd ei gryfhau mewn sawl maes. Os caiff ei wneud yn dda, mae masnachfreinio’n cynnig y cyfle i ddarparu rhwydwaith sy’n ddibynadwy, yn gynhwysol, ac wedi’i lywio yn ôl anghenion cymunedau. Dyna pam y mae mor bwysig ein bod ni’n cael y Bil hwn yn gywir, wrth iddo fynd drwy wahanol gyfnodau diwygio fan hyn yn y Senedd. Diolch yn fawr.

17:55

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf, Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw, ac rwy'n falch iawn o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn pob un o'r pump argymhelliad yn llawn.

Yn olaf, Lywydd, clywsom y bydd y fflyd bysiau allyriadau sero net yn cael ei chaffael drwy drefniadau prydlesu. Roedd ein hargymhelliad olaf yn gofyn am fanylion pellach ynghylch y costau hyn a'r rhagdybiaethau a wnaed. Mewn ymateb, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi bod y ffocws bellach wedi troi at drefniant lle bydd Trafnidiaeth Cymru yn prynu bysiau ac yn eu prydlesu i weithredwyr. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i fyfyrio ar oblygiadau'r newid hwn wrth adolygu'r RIA ar ôl Cyfnod 2, ac rydym yn croesawu'r dull hwn o weithredu. Diolch yn fawr.

18:00

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf—Mike Hedges.

18:05
18:10

Wel, mae Plaid Cymru yn croesawu egwyddor y Bil hwn, gyda’r nod o wasanaethau bysiau mwy fforddiadwy a dibynadwy ledled Cymru. Fel rydyn ni wedi clywed eisoes, Llywydd, mae bysiau yn rhan annatod o wead cymdeithasol ac economaidd ein cenedl ni. Un o bob pump o bobl yng Nghymru sydd heb fynediad at gar. Mae bysiau yn angenrheidiol i’w galluogi nhw i fynd i’r gwaith, i weld ffrindiau a theulu, i gyrraedd gwasanaethau hanfodol. Allwn ni ddim fforddio dim rhoi’r sicrwydd yma yn symud ymlaen. Serch hynny, dros y degawdau diwethaf mae’r defnydd o fysiau wedi lleihau. Mae yna bris am y sector gael ei diwygio, a ni fydd newid pwy sy’n gyfrifol ar ei ben ei hunan, wrth gwrs, yn gwarantu llwyddiant.

Nawr, mae gennym bryderon, wrth gwrs, bod bylchau yn y Bil hwn efallai y byddai ein hatal ni rhag cyflawni’r nod uchelgeisiol ac angenrheidiol o gael rhwydwaith bysiau gynt sy’n ddibynadwy, ond mae angen cynllun clir ac eglur er mwyn gwneud hynny, achos fel rydyn ni wedi clywed, heb fynd i’r afael â thagfeydd traffig, bydd bysiau yn parhau i fod yn annibynadwy, bydd teithwyr yn parhau i fod yn siomedig, ac ni fydd y newid yn cael ei weld.

Her arall yw sicrhau bod cefnogaeth i fusnesau bach a chanolog. Mai’r cwmnïau bach yma yw’r llinyn sy’n gysylltu ein cymunedau gwledig ni. Hebddynt, pa ffordd fydd pobl yn gallu trafaelio milltiroedd i gyrraedd siopau, ysbytai a gweithleoedd? Ac eto, nhw yw’r rhai sydd yn aml yn darparu gwasanaethau hanfodol i’n hysgolion.

18:15