Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/03/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella gofal eilaidd ar gyfer trin endometriosis? OQ62452

Rydym ni'n cydnabod yr anawsterau y mae menywod yn eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau arbenigol ar gyfer cyflyrau iechyd, yn enwedig llawdriniaeth ar gyfer endometriosis. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r rhwydwaith iechyd menywod a'r rhwydwaith gweithredu gynaecoleg i gryfhau gofal eilaidd, a chyda'r cydbwyllgor comisiynu i archwilio sefydlu gwasanaethau wedi'u comisiynu arbenigol ar gyfer gofal trydyddol.
Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, oherwydd, dim ond yr wythnos diwethaf, siaradais â menyw y bu'n rhaid iddi dalu £5,000 er mwyn cael laparosgopi MRI, yn hytrach nag aros am dair blynedd mewn poen cyson. Ac rwyf i wedi cael y sgwrs honno gynifer o weithiau gyda menywod, ac rwy'n siŵr y byddaf i'n cael llawer mwy ar yr EndoMarch bythefnos i ddydd Sul.
Mae Caerdydd a'r Fro a Bae Abertawe yn derbyn menywod o'r tu allan i'r ardal, ond, yn wahanol i Loegr, nid ydyn nhw'n cael eu had-dalu'n iawn amdano. Felly, mae'r newyddion y bydd golwg bellach ar gomisiynu gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau trydyddol, yn dda iawn, gan fod y cynllun iechyd menywod braidd yn dawel o ran gwella mynediad at lawdriniaeth i gael gwared ar yr endometritis ymledol o organau eraill y tu allan i'r groth. A allwch chi roi amserlen o gwbl ar sut y gallwn ni sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn gallu cael yr ymyrraeth lawfeddygol honno sydd ei hangen ar rai menywod, yn anffodus?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwybod, rwy'n gwybod, yn fwy na llawer o bobl yma, bod endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw, a oedd yn ystadegyn brawychus i mi ei ddarganfod. Mae'n gyflwr gwanychol iawn. Mae'n cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd menywod. A mis Mawrth, wrth gwrs, yw Mis Ymwybyddiaeth o Endometriosis. Felly, diolch am eich cwestiwn ac am godi'r mater hwn.
Mae'r cynllun iechyd menywod yn cynnwys adran benodol sy'n ymwneud ag endometriosis, ac mae honno'n cynnwys camau i ariannu a darparu yn gynaliadwy model ar gyfer darpariaeth gofal trydyddol yng Nghymru ar gyfer endometriosis. Nawr, dull tymor canolig yw hwn yn y cynllun gweithredu, sy'n golygu bod amserlen o dair i bum mlynedd. Ni allwch chi newid y pethau hyn dros nos; mae'n cymryd amser i hyfforddi clinigwyr i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Prif Weinidog, yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Endometriosis UK, menywod yng Nghymru sy'n aros yr hiraf o holl wledydd y DU am ddiagnosis, tua 10 mlynedd ar gyfartaledd, sydd bellach bron i flwyddyn yn fwy nag yr oedd cyn 2020. Rwy'n cydnabod, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwbl ymwybodol o'r cyflwr, a'ch bod chi, fel Gweinidog iechyd, wedi ymrwymo i fuddsoddiad o £1 filiwn y flwyddyn i wella gwasanaethau iechyd menywod. Fodd bynnag, mae dros 1.5 miliwn o fenywod yng Nghymru, a disgwylir i'r cyflwr hwn effeithio ar tua 150,000 ohonyn nhw—fel y gwnaethoch chi sôn, un o bob 10. Cydnabyddir bod diffyg dealltwriaeth amlwg o'r cyflwr o hyd ymhlith nifer sylweddol o weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae hyn yn arwain yn y pen draw at oedi sylweddol cyn cael diagnosis a rheolaeth wael o symptomau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwybodaeth am endometriosis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd i helpu i leihau amseroedd aros am ddiagnosis? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Joel. Byddwn yn argymell i bobl gael golwg ar wefan wych Endometriosis Cymru. Mae'n arbennig o dda ac yn rhoi llawer iawn o fanylion i chi arni. Dysgais lawer arni—cwdyn Douglas; erioed wedi clywed am gwdyn Douglas—ac mae llawer iawn o fanylion am sut mae'r corff yn gweithio, a'r systemau, a sut mae pobl yn delio ag ef. A byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cyflwyno £3 miliwn ychwanegol i sefydlu, o fewn y cynllun iechyd menywod, hybiau iechyd menywod. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol.
Ond, hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n werth i bobl nodi'r ffaith bod arosiadau dros ddwy flynedd ym maes gynaecoleg wedi gostwng 81 y cant. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod pethau'n gwella. Mae hyn oherwydd yr arian sydd wedi cael ei fuddsoddi. Mae hyn oherwydd llwybrau gwell. Ac rydym ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i leihau hyn ymhellach fyth. Mae gennym ni'r nyrsys endometriosis arbenigol—maen nhw wedi bod yn eu swyddi ers tua thair blynedd. Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am addysg a hyfforddiant—un cam yn y cynllun iechyd yw darparu addysg a hyfforddiant i bob ymarferydd gofal iechyd ar endometriosis fel cyflwr cronig. Mae hynny'n cynnwys gofal amlbroffesiwn, gan gynnwys mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol.
Rwy'n cymeradwyo gwaith Jenny i hyrwyddo'r mater hwn. Mae endometriosis yn un o'r cyflyrau hynny sy'n effeithio ar nifer frawychus o fenywod—un o bob 10 o bosibl—ond, mor aml, mor gynddeiriogol o aml, mae menywod yn cael cam-ddiagnosis, yn cael eu diystyru, ac mae eu symptomau yn cael eu bychanu. Dylid credu menywod o ran eu cyrff eu hunain. Nawr, rwy'n croesawu'r cynllun iechyd menywod, a allai, er ei fod yn hir-ddisgwyliedig, rymuso cynifer o fenywod. Nawr, y llynedd, pasiwyd fy nghynnig yn y Senedd, a oedd yn galw am y cynllun hwnnw i fynd i'r afael â normaleiddio poen menywod mewn gofal iechyd, y ffaith y dywedir wrth gynifer ohonom ni, 'Gallai hyn frifo', y ffaith bod ein poen ni naill ai'n cael ei drin fel rhywbeth normal neu'n cael ei anwybyddu. Faint o fenywod sy'n mynd trwy boen diangen am flynyddoedd oherwydd hyn? Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, am sut mae'r cynllun hwnnw yn ymgorffori'r angen i sicrhau nad yw poen menywod yn cael ei drin fel rhywbeth normal, fel ffaith anffodus o fywyd, ond yn hytrach yn cael ei gymryd o ddifrif bob tro, a bod menywod, pan fyddan nhw'n achwyn, yn cael eu credu?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle, a dyna pam roeddem ni'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â'r cynllun iechyd menywod hwnnw. Fe wnaethom ni gymryd sbel i'w ddatblygu gan ein bod ni eisiau ei wneud gyda'r clinigwyr, gyda'r bobl y mae angen iddyn nhw ei ddarparu—roeddem ni eisiau i'w harbenigedd gyfrannu ato. Ac mae'n golygu newid diwylliant—mae'n golygu newid diwylliant drwy'r GIG; nid yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei gyflwyno dros nos. Mae hefyd yn anodd iawn gwybod beth sy'n normal—dydych chi ddim yn gwybod a yw eich trothwy poen mor wahanol â hynny i un rhywun arall. Ond mae'n amlwg nad yw llawer o fenywod, dros y blynyddoedd, wedi cael eu cymryd o ddifrif o ran eu poen, a dyna pam, unwaith eto—. Cymerwch olwg ar y wefan, oherwydd mae wir yn gynhwysfawr, ac yn mynd trwy rai o'r pethau hyn, dim ond i ddweud, 'Wel, dyma sut mae normal yn teimlo', a, 'Dyma pryd mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n gofyn am gymorth'. Felly, mae poen yn rhywbeth y mae angen i bobl ei gymryd o ddifrif. Mae gennym ni lawer o gefnogaeth poen, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael y gefnogaeth honno, ond mae'r elfen honno o gymorth iechyd meddwl hefyd yn hollbwysig, oherwydd nid yw byw mewn poen cronig yn beth gwych.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yn Islwyn? OQ62449

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys yn Islwyn. Rydym ni'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi datblygiad cynllun creu lleoedd ar gyfer canol tref Coed-duon i helpu i lunio ymyriadau a chymorth yn y dyfodol.
Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, dechreuodd y Memo yn Nhrecelyn ei ddathliadau canmlwyddiant y mis hwn. Mae'r neuadd goffa yn Nhrecelyn wedi sefyll fel canolbwynt diwylliannol yng nghanol y dref ers canrif, ac mae ei gallu i fodoli yn cael ei gynorthwyo gan arian trethdalwyr, yn ariannu lleoli fy swyddfa etholaeth y Senedd yno hyd yn oed, a lleoli'r llyfrgell leol yno, sydd wedi cael ei hachub yn ddiweddar rhag y posibilrwydd o gau. Ac yng Nghoed-duon, fel y gwnaethoch chi sôn, un o drefi mawr Cymoedd Gwent, ddydd Iau, bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymweld â Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Diolch i gyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r sefydliad wedi cael ei ddiogelu am y tro. Mae safleoedd gwag sy'n cael eu tanddefnyddio a'r bygythiad posibl i ddyfodol ariannol cyfleusterau cyhoeddus eiconig wedi dod i'r amlwg yng nghanol trefi ledled Gwent, ar ôl 14 mlynedd hir o ddadfuddsoddi. Prif Weinidog, gan weithio gyda bwrdeistref sirol Caerffili, sut fydd cyllid adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru yn cael ei wario yn Islwyn, a sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod canol trefi lleol yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich brwdfrydedd parhaus at gefnogi'r celfyddydau a threftadaeth. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld yn ddiweddar â Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Rwy'n credu eu bod nhw'n cynnal pantomeim i oedolion y noson honno, oedd yn denu cryn dipyn o sylw yn y dref.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod adeiladau hanesyddol yn chwarae rhan bwysig o ran cydnabod hanes a hunaniaeth tref. Rwy'n credu bod Sefydliad y Glowyr Coed-duon yn rhan annatod o'r cynllun creu lleoedd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Jack Sargeant, ac rwy'n falch iawn ei fod yn mynd i gael cyfle i fynd i ymweld â'r hyn sy'n ganolfan unigryw. Ac, wrth gwrs, llwyddodd i sicrhau £3.6 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa wytnwch, ac aeth tua £210,000 o honno at gefnogi Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Felly, diolch, Jack, am eich brwdfrydedd i gefnogi'r prosiect hwnnw.
Nawr, mae angen i awdurdodau lleol flaenoriaethu ble maen nhw'n dymuno ymyrryd a'r hyn y maen nhw eisiau ei gyflwyno, o ran cefnogaeth, i Lywodraeth Cymru. A byddwch yn ymwybodol bod cyllid wedi cael ei ddarparu rai blynyddoedd yn ôl i gefnogi neuadd goffa Trecelyn, ond fy nealltwriaeth i yw nad ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw awgrym o ran Trawsnewid Trefi o ran y neuadd goffa ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud o ran Islwyn, ond mae canol trefi, fel efallai y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, wedi bod yn dioddef cyfraddau uchel iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Islwyn. Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y gwaith rhagorol y mae Heddlu Gwent wedi ei wneud yn hyn o beth, gan gynyddu nifer y rheolaethau yn yr ardal, ac yn y blaen, yng Nghoed-duon yn arbennig, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth. Ond, yn rhan o gyllideb ddiweddar cyngor Caerffili, maen nhw wedi cyhoeddi cynlluniau i gwtogi'r gwasanaeth wardeiniaid diogelwch hynod werthfawr, sy'n golygu y bydd saith swydd lawn amser yn cael eu dileu. Mae cynghorydd annibynnol Coed-duon wedi disgrifio'r penderfyniad hwn fel un peryglus a siomedig, ac mae'n rhaid i mi gytuno ag ef, yn enwedig o ystyried y cynnydd i ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydym ni wedi bod yn ei weld. Mae'n hanfodol bod canol ein trefi yn ddiogel i'r cyhoedd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chyngor Caerffili am y cynnydd pryderus hwn i ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghoed-duon, a pha effaith fydd colli'r gwasanaeth wardeiniaid diogelwch yn ei chael yno? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn rhan o'r ymarfer gwrando y gwnes i ei gynnal dros yr haf, yn sicr rhywbeth a ddaeth yn ôl oedd bod angen i ni ailwampio canol ein dinasoedd. Rwy'n falch iawn, drwy'r rhaglen bartneriaeth Trawsnewid Trefi, ein bod ni wedi dyrannu £125 miliwn o grantiau a chyllid benthyciadau i awdurdodau lleol rhwng 2022 a 2025, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i drefi fel Coed-duon a Chaerffili. Un o'r pethau a oedd yn galonogol iawn i mi, oherwydd cafwyd tipyn o sylw negyddol o ran pobl ifanc yng Nghoed-duon, ac un o'r pethau gwych a welais oedd llawer iawn o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yng nghanol Coed-duon gydag arian a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyna sut rydych chi'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n atal y math hwnnw o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydych chi'n rhoi pwrpas i bobl, rydych chi'n rhoi ystyr iddyn nhw, rydych chi'n eu hyfforddi am oes, a dyna oedd wir yn galonogol i mi ei weld yng Nghoed-duon. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y cyngor, ein bod ni newydd gynyddu cyllid sy'n mynd i awdurdodau lleol ledled Cymru gyfan, a fydd yn eu helpu gyda phethau fel hyn, ac, wrth gwrs, pleidleisiodd eich plaid chi, ynghyd â Phlaid Cymru, yn erbyn yr arian hwnnw yn mynd iddyn nhw.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Prif Weinidog, ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod i ddathlu llwyddiannau, hawliau a photensial menywod a merched yma yng Nghymru, ledled y DU a ledled y byd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, heddiw, Prif Weinidog, fel y gall pobl ledled Cymru werthfawrogi a deall yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddathlu dros y penwythnos, beth yw eich diffiniad o 'fenyw'? [Torri ar draws.]

O, wir? Ai fel yna mae hi? Ai fel yna mae hi, Darren? Ar y diwrnod yr ydym ni eisiau dathlu menywod, rydych chi eisiau dechrau rhyfel diwylliant. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i gymryd rhan ynddo—nid yw'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i gymryd rhan ynddo. Fe ddywedaf i wrthych chi beth wnes i ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, roeddwn i yn y llysgenhadaeth ym Mharis yn gweithio ochr yn ochr â llysgennad Cymru. Nid llysgennad Cymru yw hi—llysgennad Prydain yw hi, ond mae hi'n digwydd bod yn Gymraes ac mae hi'n chwifio'r faner dros Gymru yn y llysgenhadaeth. Cynhaliodd ddigwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac roedd yn bleser mawr cael bod yno, i ddweud wrthi beth rydym ni'n ei wneud o ran menywod a hyrwyddo hawliau menywod yng Nghymru, ac i wneud yn siŵr ei bod hi'n ymwybodol o bethau fel y ffaith bod gennym ni gynllun iechyd menywod sy'n cael ei ddatblygu erbyn hyn, y byddwn ni'n sefydlu pethau fel hybiau iechyd menywod ym mhob rhan o Gymru. Roedd hefyd yn gyfle i mi eu hatgoffa nhw o'r ffaith bod Jemima Nicholas wedi brwydro yn erbyn grym ymerodraeth Ffrainc ar ffurf Napoleon pan wnaethon nhw geisio ymosod ar Abergwaun. Roedd hi'n braf gwneud hynny o flaen cynulleidfa o Ffrancwyr, mae'n rhaid i mi ddweud.
Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, rydych wedi dewis yn fwriadol peidio ag ateb y cwestiwn. Nid yw'n fy synnu i na wnaethoch chi ateb y cwestiwn, oherwydd cyflwynodd fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, un tebyg fisoedd yn ôl ac nid yw wedi cael ateb o hyd, er gwaethaf y ffaith eich bod chi i fod i ateb y cwestiynau hyn o fewn 10 diwrnod.
Nawr, gadewch i mi eich helpu trwy roi'r diffiniad yr wyf i'n ei ddefnyddio o fenyw. I mi, mae menyw yn fenyw ddynol sy'n oedolyn. Fe wnaf i ailadrodd hynna: menyw ddynol sy'n oedolyn.
Mae angen i mi glywed arweinydd y Ceidwadwyr yn ei gwestiwn.
Nawr, mae'n bwysig bod pawb yn deall bod menyw yn fenyw ddynol sy'n oedolyn fel y gallwn ni amddiffyn hawliau menywod a sicrhau bod menywod yma yng Nghymru yn ffynnu. Nawr, un maes lle'r ydym ni angen rhywfaint o weithredu gan Lywodraeth Cymru yw chwaraeon menywod. Mae angen i ni annog mwy o fenywod ifanc yn arbennig i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond rydym ni'n gwybod bod gan ddynion sydd wedi bod drwy'r glasoed fanteision corfforol sylweddol dros fenywod. Mae hyn yn arbennig o wir o ran chwaraeon sy'n gorfforol anodd. Nawr, a gaf i ofyn i chi—? Yn amlwg, yn draddodiadol mae chwaraeon sy'n gorfforol anodd wedi cael eu gwahanu ar sail rhyw i sicrhau eu bod nhw'n deg. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau y dylai fod yn ofynnol i bob corff chwaraeon yng Nghymru sy'n derbyn cyllid y Llywodraeth ymrwymo i gategorïau seiliedig ar ryw, fel nad yw'n ofynnol i fenywod gystadlu yn erbyn gwrywod biolegol a sicrhau cystadleuaeth deg?

Wnaethoch chi wir ddim dysgu unrhyw beth o pam y gwnaethoch chi golli'r etholiad cyffredinol diwethaf? Hynny yw, yn onest, yr hyn y mae pobl yn poeni amdano yw'r economi, maen nhw'n poeni am y GIG, maen nhw'n poeni am dai, maen nhw'n poeni am addysg, maen nhw'n poeni am gysylltu cymunedau. Dyna'r holl bethau yr wyf i'n canolbwyntio'n llwyr arnyn nhw, ac nid wyf i'n chwarae gemau gyda'ch rhyfeloedd diwylliannol, oherwydd mewn gwirionedd nid oes gan bobl Cymru ddiddordeb yn hynny. Mae ganddyn nhw ddiddordeb ynom ni yn bwrw ymlaen â'r gwaith ac yn cyflawni drostyn nhw.
Efallai nad oes ots gennych chi am y pethau hyn, ond mae gen i ots am fenywod a'u hawliau yma yng Nghymru a byddaf yn parhau i godi llais a'u hamddiffyn. Rwy'n ddarpar Brif Weinidog sydd o blaid hawliau menywod, dyna wyf i, a byddwn yn eich annog chi i fod yr un peth.
Gadewch i mi droi at faes arall lle'r ydym ni angen rhywfaint o weithredu hefyd: diogelwch menywod. Rydym ni'n gwybod bod trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn cynyddu'n fawr ers y pandemig, ac rydym ni'n gwybod bod mwyafrif y troseddwyr yn ddynion. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y dylai fod gan bob menyw yng Nghymru fynediad at fannau un rhyw diogel, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, ystafelloedd newid canolfannau hamdden, llochesi menywod ac wardiau ysbytai?

Edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar y pethau y mae menywod wir yn poeni amdanyn nhw, iawn? Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw teimlo'n ddiogel, yw gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw eu hawliau, bod eu plant yn gallu ffynnu, a dyna pam mae hon yn Llywodraeth sydd wedi bod yn un sy'n canolbwyntio, ers blynyddoedd, ar y pethau sydd wir yn bwysig i fenywod. Y ffaith ein bod ni wedi rhoi cynnydd enfawr i ofal plant, er enghraifft, y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn, ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn, gyda llaw—. Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod mai dyna'r pethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw. Y prynhawn yma, bydd dadl am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a'r hyn sy'n dda am hyn yw ein bod ni wedi cyrraedd pwynt mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd—
Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn gyda rhywfaint o barch, os gwelwch yn dda.

Yr hyn y mae gennym ni ddiddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo achos menywod, fel yr ydym ni wedi ei wneud. A'r hyn sy'n wych am heddiw, ac nid wyf i'n gwybod pam rydych chi'n ceisio creu'r rhaniadau hyn, yw ein bod ni i gyd mewn gwirionedd, yn drawsbleidiol, wedi cytuno ar bethau fel diogelwch, ar faterion fel gwneud yn siŵr ein bod ni'n brwydro yn erbyn camdriniaeth a bygythiad. Felly, beth am chwilio am y meysydd lle'r ydym ni eisiau cydweithredu mewn gwirionedd, lle'r ydym ni eisiau cydweithio, ac ar y pethau sydd wir yn bwysig i'r mwyafrif llethol o fenywod yn y wlad hon?
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, dwi eisiau talu teyrnged i'r gofalwyr ifanc sydd yma yn y Senedd heddiw yn pwysleisio gwerth gofalu a phwysigrwydd gofalu am y gofalwyr.
Wythnos yn ôl, siaradodd y Prif Weinidog yn fwy yn y pen draw amdanaf i a Phlaid Cymru nag am ei chyllideb ei hun a oedd newydd gael ei phasio. Rwy'n ddiolchgar iddi am roi cyhoeddusrwydd i'r bar uchel y mae Plaid Cymru yn ei osod ar gyfer Cymru. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi ymuno â'r hwyl hefyd. Addawodd fod cyni cyllidol ar ben o dan Lafur, yn amlwg heb dderbyn y memo a oedd yn dweud, o fewn oriau, y byddai'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyhoeddi toriadau ysgubol i les, gan gael gwared ar achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed. Nawr, addawodd yn flaenorol, ac rwy'n dyfynnu,
'llywodraeth Lafur â'i dwylo ar y llywiau hynny sy'n caniatáu i chi ddefnyddio polisi macro-economaidd a'r system nawdd cymdeithasol er budd y bobl hynny sydd ei angen fwyaf.'
Nid yw'n gweithio'n union fel hynny, onid yw? A chofiwch, mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Lywodraeth Cymru a'r defnydd o'i chyllideb. Ni all y Prif Weinidog guddio o'r mater hwn. A wnaiff hi fagu'r dewrder i ddweud wrth Keir Starmer mai digon yw digon, neu a yw hi'n gwrthod rhoi llais i'r di-lais ar adeg pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf?

Wir, nid wyf i'n gwybod pam na wnaethoch chi gadw at gynllun A a mynd i San Steffan, oherwydd bob wythnos rydych chi'n dod i mewn yma ac rydych chi'n gofyn cwestiynau i mi sy'n berthnasol i Lywodraeth San Steffan. Fe wnaf i barhau i roi gwersi i chi wythnos ar ôl wythnos ar sut mae datganoli yn gweithio. Mae'n gweithio oherwydd fy mod i'n gyfrifol am rai meysydd ac maen nhw'n gyfrifol am eraill. Dydw i ddim yn gwybod pam rydych chi'n parhau i ofyn i mi am feysydd nad oes gen i gyfrifoldeb drostyn nhw.
Nid wyf i'n deall sut na all Prif Weinidog Cymru weld perthnasedd penderfyniadau Llywodraeth y DU o'r un lliw â hi i Gymru ar fater mor sylfaenol â'r wladwriaeth les. Fel y dywedais i, mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Gymru. Os yw Llywodraeth y DU yn cymryd cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i ffwrdd, mae'n fater i'w chyllideb hi gamu i'r adwy i wneud iawn am hynny. Nawr mae hi bob amser—bob amser—yn fater o amddiffyn, amddiffyn, amddiffyn, amddiffyn, onid yw? Rydych chi'n amddiffyn yr anamddiffynadwy wythnos ar ôl wythnos, o lwfans tanwydd y gaeaf i'r cap dau blentyn, menywod y 1950au, treth etifeddiant a nawr toriadau lles. Mae Cymru eisiau Prif Weinidog sy'n sefyll dros bobl Cymru.
Nawr, hefyd yr wythnos diwethaf, daeth y Cenhedloedd Unedig i'r casgliad bod gan y DU system nawdd cymdeithasol sydd wedi torri. Galwodd am derfyn ar y cyfyngiad dau blentyn, y cap budd-daliadau, cyfundrefnau cosbi ac yn y blaen—
Rwyf i angen y cwestiwn—. Bu'n rhaid i mi ofyn i bob un cyfraniad gael ei glywed mewn tipyn o dawelwch, ar gyfer arweinydd y Ceidwadwyr, y Prif Weinidog a nawr arweinydd Plaid Cymru. Gwn fod aelodau'r meinciau cefn eisiau bod yn Brif Weinidogion ac yn arweinwyr eu pleidiau, ond dydw i wir ddim eisiau i chi fod yn cymryd rhan mor llafar ag yr ydych chi i gyd ar hyn o bryd, a rhai ohonoch chi'n arbennig—rwy'n edrych arnoch chi, Alun Davies. [Chwerthin.] Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Rwyf i hefyd yn deall eu rhwystredigaeth ynghylch y twll y maen nhw'n cael eu hunain yn cael eu sugno i mewn iddo gan Lafur yn Llywodraeth y DU. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig y dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod lefelau budd-daliadau yn cael eu hadolygu i wneud yn siŵr bod gan bobl ddigon i ymdopi, ond galwodd adroddiad y Cenhedloedd Unedig hefyd—ac unwaith eto mae hyn yn uniongyrchol berthnasol i'r Prif Weinidog—ar Lywodraethau datganoledig y DU i asesu effaith diwygiadau lles. Rwy'n dweud bod yn rhaid i'r asesiad hwnnw, oes, gynnwys diwygiadau a gyflwynwyd eisoes, ond hefyd y rhai sy'n cael eu cynnig. Felly, yn ogystal â gofyn am gadarnhad y bydd yn comisiynu'r asesiad hwnnw, gofynnaf i'r Prif Weinidog eto: a yw hi'n cefnogi toriadau i les er mwyn arbed arian, ydy neu nac ydy?

Fe wnaethoch chi siarad â mi am berthnasedd; fe wnaf i siarad â chi am berthnasedd. Mae'n berthnasol gofyn pam, yr wythnos diwethaf, pan oedd cyfle i bleidleisio dros wasanaethau yng Nghymru—. Rydych chi mor awyddus i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru yr wythnos hon, ond, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i mewn i'r gwasanaethau hynny. Nawr, rydym ni'n gwario swm enfawr o arian yng Nghymru ar geisio cynorthwyo pobl sy'n byw mewn tlodi—tua £5 biliwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—ond yr wythnos diwethaf roeddem ni'n gallu cynnig hyd yn oed mwy o arian: £400 miliwn yn ychwanegol, er enghraifft, i gefnogi'r GIG. Dyna'r hyn y mae pobl eisiau i ni ei flaenoriaethu. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei flaenoriaethu, ac y gwnaethoch chi, unwaith eto, bleidleisio yn ei erbyn. Unwaith eto, os ydych chi eisiau gofyn cwestiynau sy'n berthnasol i San Steffan, dylech chi fod wedi mynd i San Steffan. Dyna'r lle ar gyfer atebolrwydd i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac rwy'n fwy na pharod i anfon copi o Ddeddf Llywodraeth Cymru i chi, ac efallai y gwnaiff ddysgu rhywbeth.
Fy nhybiaeth i yw—[Anghlywadwy.]—mae gan y Farwnes Eluned Morgan sedd yn San Steffan eisoes, ac efallai fod ganddi awydd treulio mwy o amser yno. Ond diolchaf iddi unwaith eto heddiw am dynnu sylw at y ffaith bod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn ei chyllideb ddiffygiol yr wythnos diwethaf. Mae rhesymeg y Prif Weinidog yn awgrymu bod ASau Llafur a bleidleisiodd yn flaenorol yn erbyn cyllidebau y DU gyfan rywsut wedi dweud na ddylai Cymru gael unrhyw arian o gwbl. Gadewch i ni fod o ddifrif am hyn: roedd yn gyllideb ddiffygiol ac fe wnaethom ni hynny'n eglur. Mae'r Prif Weinidog wedi'i hollti, rwy'n gwybod, rhwng teyrngarwch i'w phlaid, yn ei hatal rhag dwyn Prif Weinidog y DU i gyfrif, fel yr ydym ni angen i Brif Weinidog Cymru ei wneud. Nid oes gan ei beirniadaeth, wyddoch chi, o 14 mlynedd o gyni Torïaidd yr un grym rywsut, o gofio ei bod yn gwrthod beirniadu ei phlaid ei hun am ei hamgylchedd lles gelyniaethus. Ac wrth gwrs, does ganddi ddim diddordeb mewn datganoli lles, a fyddai'n caniatáu iddi ddilyn llwybr gwahanol pe bai hi'n dymuno, ac mae Plaid Cymru yn dweud, 'Gadewch i ni gymryd y llywiau hynny i'n dwylo ein hunain', gan ddechrau gyda gweinyddu lles fel y gallwn ni wneud penderfyniadau sy'n gweithio i gymunedau yng Nghymru. Nawr, mae'r Prif Weinidog hyd yn oed wedi torri ei haddewid ei hun:
'Y peth cyntaf y byddwn i'n ei wneud fel Prif Weinidog fyddai sefydlu Comisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb parhaol i helpu i bennu cyfeiriad hirdymor ac awgrymu atebion ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.'
Dyna'r addewid a wnaeth wrth sefyll i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru y tro cyntaf. Nid yw wedi digwydd. A fydd yn digwydd, neu beth sydd wedi newid?

Am sawl blwyddyn, fe wnaeth eich plaid chi—. Yn ystod y blynyddoedd o gyni cyllidol, fe wnaethoch chi bleidleisio i gefnogi cyllideb. Eleni— eleni—pan oedd gennych chi £1.6 biliwn yn ychwanegol ar y bwrdd, fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid—gadewch i ni fod yn eglur; gyda'r Torïaid—a phe bai hynny wedi cael drwodd ac na fyddech chi wedi colli eich dewrder—. Ac roeddech chi'n dibynnu ar gefnogaeth rhywun arall i wneud eich gwaith ar eich rhan. Nid arweinyddiaeth yw hyn. Nid arweinyddiaeth yw hyn. Bwrw ymlaen â'r gwaith yw arweinyddiaeth. Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb mewn strwythurau a chomisiynau yn unig. Mae gen i ddiddordeb mewn bwrw ymlaen â'r gwaith a chyflawni. Mae fy Llywodraeth gyfan yn canolbwyntio ar gyflawni ar y materion bara menyn y mae pobl yn poeni amdanyn nhw, y cawsom ni arian ychwanegol ar eu cyfer yr wythnos diwethaf ac y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion buddsoddi ar gyfer datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd? OQ62428
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad o ran cynnydd y gwaith i ddatblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd? OQ62447

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Nawr, mae'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ddatblygiad a gefnogir gydag ymrwymiad o werth £50 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ac £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, ac mae'r Ganolfan wrthi'n sicrhau buddsoddiad preifat ar gyfer adeiladu cyfalaf y cyfleuster ac mae mewn deialog fanwl gydag ariannwr posibl.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn stori o lwyddiant dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy'n cael ei hadrodd. Mae'n enghraifft dda o'r hyn y gall Llywodraeth weithredol ei wneud, gan arwain ar ddatblygu economaidd seiliedig ar le tra'n gweithio gyda phartneriaid lleol. Mae ganddi'r potensial nid yn unig i fod yn ganolfan unigryw ledled Ewrop ar gyfer profi ac ymchwilio yn y diwydiant rheilffyrdd, ond hefyd, ac yn bwysig, i greu nifer fawr o swyddi sy'n talu'n dda. Rwyf i eisiau i'r Ganolfan fod yn llwyddiant cyn gynted â phosibl, ond mae gen i ddiddordeb, Prif Weinidog, yn yr amserlen ar gyfer gwneud gwaith pellach sylweddol i wireddu'r potensial datblygu economaidd a sector trafnidiaeth hwnnw, ac rwy'n nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am gynigion buddsoddwyr parhaus. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n disgwyl i waith ffisegol sylweddol pellach gael ei wneud ar safle datblygu'r Ganolfan yn ystod y 12 mis nesaf, neu, os na allwch chi ymrwymo i hynny, a allwch chi gadarnhau pryd a sut y bydd y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar yr hyn a ddylai fod yn stori o lwyddiant i Gymru?

Diolch yn fawr iawn a diolch, Vaughan, am eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad i'r rhaglen hon. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd drwy'r rhaglen lywodraethu. Nawr, byddwch yn ymwybodol bod llawer o broblemau sydd wedi rhwystro sicrhau buddsoddiad gan y sector preifat hyd yma sydd wedi bod yn gyfan gwbl y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan, a lansiwyd ddechrau 2023, wrth gwrs, yn yr hyn a oedd yn un o'r amgylcheddau buddsoddi mwyaf heriol.
Nawr, mae'r opsiynau cyllid sy'n weddill yn dal i ganolbwyntio'n gadarn ar ateb sector preifat. Rydym ni'n gweithio trwy gynlluniau wrth gefn, a fydd yn cynnwys, fodd bynnag, ffynonellau cyllid preifat a chyhoeddus, dim ond i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei gwmpasu. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall bod sensitifrwydd masnachol ynghylch cytundebau o'r fath. Rwy'n ofalus iawn i beidio â rhagfarnu unrhyw drafodaethau parhaus. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r holl opsiynau sicrhau cyllid i waith ddechrau yn ystod y tymor Senedd hwn, felly rydym ni'n gobeithio y bydd pethau yn symud yn gyflym. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi diweddariadau unwaith y bydd y sensitifrwydd masnachol hwnnw drosodd.
Hefin David.
Gallaf eich sicrhau, Llywydd, nad oedd unrhyw gydgynllwynio wrth ddewis y cwestiynau hyn heddiw, ond rwyf i wedi bod i ymweld â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, rwyf i wedi cael taith o amgylch y safle, ac mae ganddi botensial enfawr, nid yn unig fel canolfan profi rheilffyrdd o'r radd flaenaf ac un o'r ychydig ganolfannau profi rheilffyrdd yn Ewrop, ond hefyd fel parc technoleg a chydag ardal ynni adnewyddadwy hefyd. Rwyf i wedi gweithio gyda darpar fuddsoddwyr partner ac yn chwilio am rai, yn ogystal â'r rhai sy'n rhan o'r fenter ar hyn o bryd, a byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru a allan nhw wneud yr un fath. A allan nhw ddefnyddio eu hadnoddau i ddefnyddio'r cysylltiadau hynny sydd ganddyn nhw i ddod o hyd i'r buddsoddwyr cefnogol ychwanegol hynny yn y meysydd yr wyf i newydd sôn amdanyn nhw? Hefyd, mae datganiad y gwanwyn ar fin cael ei gyhoeddi yn San Steffan ar 26 Mawrth, ac mae'n gas gen i swnio fel Rhun ap Iorwerth, ond byddai'n ddefnyddiol i'r Llywodraeth siarad â Llywodraeth y DU i weld pa gymorth pellach y gellir ei roi fel buddsoddiad a chefnogaeth bellach i'r prosiect hwn, a allai fod yn cyflogi, i gychwyn, 1,100 o bobl, ond mwy wrth i'r parc hwnnw ddatblygu.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn gyffrous iawn. Gallai'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fod yn safle ar gyfer profi ac arddangos ymchwil rheilffyrdd a symudedd o'r radd flaenaf, a dyma fyddai rheilffordd weithredol sero net gyntaf erioed y DU, gan gefnogi arloesiadau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio rheilffyrdd y DU ac Ewropeaidd. Amlygodd adroddiad diweddar fod y Ganolfan yn brosiect gwerth am arian uchel iawn, gyda dros 1,000 o swyddi, fel yr ydych chi'n ei awgrymu, nad yw'n ddibwys, a chynnydd posibl o £300 miliwn i'r economi leol. Felly, mae hyn yn ddifrifol iawn.
Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod galw masnachol cryf yn bodoli am gyfleuster pwrpasol ar gyfer arloesiadau rheilffyrdd Ewropeaidd. Eisoes, mae tua 200 o gwmnïau wedi nodi eu hawydd i ddefnyddio'r cyfleuster hwn. Rydych chi yn llygad eich lle, mae angen i ni barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU, ond rydym ni eisoes wedi cyfrannu swm sylweddol o gyllid. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd nawr i'r sector preifat ddod i mewn a chwarae eu rhan, ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau i bobl leol elwa o'r cyfleoedd hynny hefyd.
Prif Weinidog, mae gan y mathau hyn o brosiectau y potensial i ddarparu manteision mawr i'r economi leol ac i economi Cymru. O'r herwydd, mae'n rhaid eu trin yn dda. Mae'n amlwg, fodd bynnag, bod y prosiect hwn yn wynebu oediadau bellach, ac mae'r Llywodraeth yn parhau i chwilio am ffynonellau newydd o gyllid preifat. Rydym ni wedi bod yn siarad am fuddsoddiad ers blynyddoedd, ac rwy'n credu bod y mwyafrif o bobl yn credu bod buddsoddwyr wedi'u trefnu. Cyn belled ag y gwelaf i, nid oes un gweithredwr trenau yn cyfrannu arian at y prosiect hwn ar hyn o bryd, sy'n destun pryder, o ystyried bod ganddyn nhw lawer i'w ennill pe bai hyn yn llwyddiant. Byddwn i'n cwestiynu pa un a ydyn nhw o'r farn bod y prosiect hwn yn werth chweil iddyn nhw. Felly, a allwch chi, Prif Weinidog, amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael neu wedi eu cael gyda'r gweithredwyr trenau ynghylch cyllid ar gyfer y cynllun rheilffyrdd hwn?

Wel, edrychwch, mae trafodaethau datblygedig iawn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda darpar fuddsoddwyr, felly nid wyf i wir eisiau trafod manylion hynny, oherwydd y sensitifrwydd o'i gwmpas, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai dim ond 15 milltir i ffwrdd o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot y mae hon wedi'i lleoli, ac rwy'n credu y bydd hynny yn gallu helpu gyda'r trosglwyddiad i rai o'r gweithwyr yno. Mae rhai o'r sgiliau, yn amlwg, yn drosglwyddadwy. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod proses o ddiwydrwydd dyladwy wedi dechrau o ran buddsoddwr posibl, ond dydw i byth yn cyfrif y cywion cyn iddyn nhw ddeor.
Un o'r rhesymau am leoli'r ganolfan yn Onllwyn, wrth gwrs, yw'r gallu i'w chysylltu â rheilffordd cludo nwyddau bresennol dyffryn Dulais, a fydd yn caniatáu i gerbydau ac offer profi arall gael eu cludo yn uniongyrchol i'r ganolfan ar y rheilffordd. Un o'r pethau na fydd yn bosibl ei gludo ar y rheilffordd ar hyn o bryd, wrth gwrs, fydd y gweithlu, oherwydd mae'r rheilffordd cludo nwyddau honno, fel eraill yn y rhanbarth, gan gynnwys dyffryn Aman yn fy etholaeth i, ar gau i wasanaethau teithwyr ar hyn o bryd. Felly, yn rhan o'r adfywiad rheilffyrdd ehangach y bydd y ganolfan fyd-eang hon yn ei gynrychioli, heb amheuaeth, a yw'r Llywodraeth yn gweld cwmpas a photensial ar gyfer ailagor gwasanaethau i deithwyr yng Nghymoedd y gorllewin, ochr yn ochr â'r datblygiad hwn, fel sydd wedi cael ei wneud mor llwyddiannus yng Nghymoedd y dwyrain yn yr hen faes glo?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle, rwy'n credu bod adfywiad rheilffyrdd sylweddol yn digwydd; gyda'r ffaith ein bod ni wedi buddsoddi £800 miliwn yn rhannol mewn cerbydau, sy'n golygu bod tua 85 y cant o'r teithwyr sy'n teithio ar Trafnidiaeth Cymru heddiw yn teithio ar drenau newydd sbon, mae adfywiad o ran rheilffyrdd. A cheir cydnabyddiaeth hefyd, am y tro cyntaf ers amser maith, gan Lywodraeth y DU bod Cymru wedi cael bargen wael o ran buddsoddiad strwythurol. Byddwch yn ymwybodol, o ran y buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd hwnnw, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym ni'n paratoi rhestr hir o brosiectau y mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld buddsoddiad ynddyn nhw, ganddyn nhw, ac mae'r sgyrsiau hynny yn parhau. Mae yna rhestr flaenoriaeth, dydw i ddim yn siŵr a yw hyn ar y rhestr honno, ond fe wnaf i wirio hynny.
Prif Weinidog, mae'n bwysig ein bod ni'n tynnu sylw at werth y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, a fydd yn dod â llawer o fanteision i economi Cymru pan fydd, yn wir, yn cael ei chwblhau. Ond mae angen i ni obeithio na fydd yn cymryd cymaint o amser i'w gwblhau â phrosiectau seilwaith mawr eraill sy'n mynd trwy etholaeth Castell-nedd, fel gwaith uwchraddio A465 Blaenau'r Cymoedd. Mae'r prosiect yn enghraifft dda o gydweithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae'n wych gweld bod Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd, yn ogystal â Llywodraeth Lafur Caerdydd yma, yn cydweithio i gyflawni dros Gymru—rhywbeth nad yw'n ymddangos ei fod yn wir nawr, beth bynnag.
Ond, Prif Weinidog, os yw'r prosiect hwn wir yn mynd i fod o fudd i bobl leol, mae'n hanfodol bod cyfleoedd gwaith medrus o ansawdd uchel i'r rhai sy'n byw o gwmpas ac ar y safle. Felly, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda cholegau addysg uwch i sicrhau y gall myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau a hyfforddiant a fyddai'n eu gwneud yn gymwys i gael eu cyflogi yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd pan fydd yn dechrau gweithredu mewn gwirionedd?

Diolch yn fawr iawn. Allaf i ddim credu bod rhywun o'r Blaid Geidwadol yn dweud wrthyf i pa mor wael yw prosiectau seilwaith yng Nghymru, ar ôl y llanast a wnaethoch chi o bethau fel y rheilffordd cyflymder uchel 2. Mae'n gwbl, gwbl ryfeddol. Ond dyna ni.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, o ran y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, yw y bydd pecyn o fesurau, wrth gwrs, lle bydd yn rhaid i ni weithio gyda cholegau lleol i wneud yn siŵr bod y sgiliau ar gael. Ond fel y dywedais i, rwy'n credu bod cyfleoedd i drosglwyddo rhai o'r sgiliau sydd gan rai o'r gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn Tata i'r cyfleuster hwn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Os nad ydych chi erioed wedi ymweld â'r safle yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, mae'n lle gwbl anhygoel. Dychmygwch gyfleuster sy'n cwmpasu bron i 1,000 o gaeau pêl-droed o ran maint, a adeiladwyd i brofi cyflymder trên. Mae'n sicr o arwyddocâd byd-eang ac mae'n unigryw ar y llwyfan rhyngwladol. Ond i mi, mae'n fater o'r gwerth y mae'n ei gynnig i'r gymuned leol mewn lleoedd fel Ystradgynlais, yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae Ystradgynlais wedi cael trafferth yn sgil cholli swyddi o'r dref, fel ffatri Tick Tock a Dewhirst hefyd, ac eto mae'r gymuned yn gydnerth iawn ac yn iach ac yn fywiog mewn gwirionedd. Gadawodd Banc Lloyds y dref yn 2023, gan adael dim banc yn y dref fwyaf ym Mrycheiniog a Maesyfed, er mai dim ond £7.5 biliwn mewn elw wnaeth Banc Lloyds y flwyddyn honno.
Yn ddiweddar, sicrhaodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ganolfan fancio ar gyfer y dref, a fydd yn helpu, ond hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru beth arall y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod cysylltiadau da iawn â datblygiad economaidd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd a threfi a chymunedau o amgylch Ystradgynlais. Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, mae angen swyddi yn daer arnom ni yn y rhan honno o'r byd, oherwydd rydych chi'n gwbl gywir, rydym ni wedi gweld ardal a oedd yn arfer bod yn fywiog dros ben. A'r ffatri Tick Tock, rwy'n cofio pan gefais i fy ethol gyntaf, gweld yn llythrennol gannoedd o bobl yn dod allan o'r ffatri honno—cannoedd ar gannoedd ar gannoedd o bobl. Ac, wrth gwrs, mae hynny i gyd wedi cael ei leihau, felly mae angen rhywbeth trawsnewidiol arnom ni ac rwy'n credu efallai mai hwn fydd y tocyn i'r trawsnewidiad hwnnw, a bydd yn hanfodol bod cymunedau lleol yn elwa o hynny ac yn cael gweithio ar a chyda'r sefydliadau sydd yno i'w ddatblygu.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod menywod sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn cael triniaeth a chymorth digonol? OQ62431

Mae ein dull o drin a chefnogi menywod sy’n cael eu heffeithio gan ganser y fron wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae’n cynnwys y gofynion cynllunio ar gyfer sefydliadau’r NHS, yn unol â’r llwybrau cenedlaethol gorau ar gyfer mathau cynradd ac eilaidd o ganser y fron.
Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cofio'r diweddar Tassia Haines, un o'm hetholwyr a fu farw yn llawer rhy ifanc o ganser eilaidd y fron ychydig dros flwyddyn yn ôl. Sbardunodd profiadau Tassia iddi ymgyrchu dros ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo menywod sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn well, a chawsom drafodaeth ar ei deiseb yma yn y Senedd. Derbyniodd dros 14,000 o lofnodion, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi gwrdd â hi pan oeddech chi'n Ysgrifennydd iechyd. Un o'r pethau y gwnaeth Tassia alw amdanyn nhw oedd gwell data, i roi darlun mwy eglur o'r clefyd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd adroddiadau cyntaf yr archwiliadau cenedlaethol ar gyfer canser y fron cychwynnol a metastatig fis Medi diwethaf, ond nid oedd yr adroddiadau hynny yn gallu cynnig darlun cynhwysfawr o ganser y fron cychwynnol a metastatig yng Nghymru oherwydd data anghyflawn. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn casglu'r data hanfodol hyn ar ganser y fron? A phryd wnaiff Cymru ddechrau darparu data i'r dangosfwrdd data tri misol archwilio, fel y gall cleifion fod yn ymwybodol o gyflwr gwasanaethau canser y fron yn eu rhanbarth? Sut ydych chi'n cynorthwyo byrddau iechyd i weithredu hefyd yr argymhellion clinigol a wnaed yn yr adroddiadau, i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth a'r cymorth ar gyfer canser y fron sydd eu hangen arnyn nhw?

Diolch yn fawr. Rydych chi yn llygad eich lle mai Tassia Haines oedd un o'r menywod mwyaf ysbrydoledig i mi eu cyfarfod erioed. Roedd hi'n marw ac nid oedd hi'n fodlon cefnu ar y mater hwn. Roedd hi'n gyfarwydd dros ben â manylion yr hyn yr oedd angen ei wneud ac fe wnaeth hi newid Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru, a hoffwn dalu teyrnged iddi. Mae ei hetifeddiaeth yn parhau heddiw, yn sicr o ran y gefnogaeth i arbenigwyr nyrsio canser y fron metastatig. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn fater gweithlu, a mater i fyrddau iechyd yw gwneud penderfyniadau am hynny. Ond rydych chi'n gwbl gywir: mae angen i ni wneud llawer mwy o waith o hyd ar ddata, ac fe wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd beth mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn ei wneud o ran hynny.
Dylem gydnabod bod un o bob saith menyw yn debygol o ddatblygu canser y fron ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae hynny'n nifer anhygoel o uchel. Ond y newyddion da yw y bu gwelliant sylweddol i'r siawns o oroesi dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ben hynny, ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y GIG fodloni'r targed amser aros ar gyfer canser y fron. Felly, dechreuodd mwy na 75 y cant o fenywod eu triniaeth bendant gyntaf o fewn 62 diwrnod. Yng Nghwm Taf Morgannwg, 88 y cant oedd y ffigur hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gweld bod pethau'n gwella. Mae hynny'n newid sylweddol, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni ei ddathlu. Ond gadewch i ni nodi hefyd bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu y rhagwelir y bydd achosion canser y fron yn codi 21 y cant erbyn 2050. Felly, rydym ni'n dal i fyny yn parhaus o ran y mater hwn.
Wrth i'r achosion hynny o ganser y fron gynyddu—y gwnaethch chi sôn amdano, Prif Weinidog—rydym ni wedi siarad yn helaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill am bwysigrwydd diagnosis cyflym ac yna triniaeth gyflym er mwyn gwella siawns pobl o oroesi nid yn unig canser y fron, ond pob math o ganser. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni yng Nghymru, yn anffodus, ar draws y gwasanaeth iechyd, un o'r cyfresi hiraf—neu'r gyfres hiraf—o restrau aros yn ein GIG o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Rydym ni'n gwybod bod gwasanaethau iechyd mewn rhannau eraill o'r byd yn harneisio nid yn unig y potensial, ond gallu presennol deallusrwydd artiffisial i helpu i leihau rhestrau aros. Yn anffodus, yng Nghymru, rydym ni ar y pen arall i hyn, lle'r ydym ni'n gweld dwy wahanol system gyfrifiadurol yn methu â chyfathrebu â'i gilydd, a pheiriannau ffacs mewn rhai achosion yn dal i gael eu defnyddio yn ein GIG. Mae'n ymddangos i mi ein bod ni filltiroedd i ffwrdd o allu harneisio'r potensial y mae deallusrwydd artiffisial yn ei gynnig o ran gallu lleihau rhestrau aros a gwella canlyniadau i bobl â phob math o ganser yng Nghymru. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod honno'n daith gyflym iawn, i sicrhau bod hynny yn gwella'n gyflym, gan fod bywydau yn y fantol?
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed, Tom, ein bod ni eisoes yn defnyddio deallusrwydd artiffisial o ran canser y fron. Rwyf i wedi bod i'w weld fy hun yn y gogledd, lle gwnaeth argraff anhygoel. Roedd grŵp o bobl, a oedd yn arbenigwyr llwyr yn eu meysydd, a'r pwynt yma yw nid yn unig y gallen nhw ddod o hyd iddo'n gyflymach—gallai'r rhaglen deallusrwydd artiffisial ddarllen llawer iawn o sleidiau ac enghreifftiau o feinwe—ond gallen nhw hefyd fod yn fwy cywir o ran yr hyn yr oedd angen ei wneud a pha mor ddatblygedig ydoedd. Felly, mae hynny'n cael ei ddefnyddio eisoes, Tom, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed hynny.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant anabl? OQ62417

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol fel dalwyr dyletswydd statudol, a rhanddeiliaid eraill, i ddiwallu anghenion pob plentyn, gan gynnwys y rhai sy'n anabl. Fe wneir hyn drwy gyfrwng polisi a chyllid grant a dargedir fel ei gilydd ar draws meysydd fel gofal plant, addysg, gofal cymdeithasol a chwarae.
Diolch. Fel cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd, ar awtistiaeth ac ar faterion marwolaeth, mae'r anawsterau o ran mynediad at wasanaethau a gweithgareddau y mae plant anabl yn dod ar eu traws yn cael eu codi gyda mi'n rheolaidd. Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar anabledd ar 20 o fis Chwefror, fe gawsom ni gyflwyniad ar yr adroddiad i werthuso gwersi nofio i blant anabl gan elusen Sparkle a Chwaraeon Anabledd Cymru. Roedd 81 y cant o ofalwyr teuluol yn dweud bod rhwystrau o ran mynediad at wersi nofio yn y gymuned, y mwyafrif yn ymwneud â phlant niwroamrywiol. Fe glywsom ni, er bod nofio yn rhan orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, fod llawer o blant anabl, i bob pwrpas, yn cael eu cau allan oherwydd diffyg cyfleusterau hygyrch, hyfforddwyr hyddysg o ran anableddau a darpariaethau cynhwysol. Mae'r canfyddiadau hyn yn arbennig o bryderus o ystyried mai boddi yw un o brif achosion marwolaeth plant sy'n gysylltiedig â thrawma, gyda chynnydd o 46 y cant yn niferoedd y plant a foddodd yn 2022 o'i gymharu â'r cyfartaledd dros bum mlynedd. Pa gamau, felly, a wnewch chi eu cymryd i sicrhau yr ymdrinnir â'r mater trawsbynciol hwn ac nad yw plant anabl yn cael eu siomi na'u gadael ar ôl?

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark. Diolch i chi am yr holl waith yr ydych chi'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi yn ddiffuant iawn. Rydych chi'n hyrwyddwr mawr i'r achos, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei gydnabod drwy'r Siambr hon. Mae tasglu hawliau anabledd a'r gweithgorau plant a phobl ifanc a llesiant wedi bod yn gweithio ar faterion sy'n ymwneud â phlant ac anabledd, ac maen nhw'n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau hygyrch a chynhwysol i bob plentyn ac unigolyn ifanc anabl. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed, Mark, bod y cynllun hawliau pobl anabl wedi cael ei lunio. Mae'n cael ei orffen ar hyn o bryd. Roedd yn cynnwys 350 o randdeiliaid allanol, yn cynnwys plant, ac fe fydd ymgynghoriad ar hwnnw'n digwydd yn fuan iawn. Fe fydd yna gyfleoedd wedyn i bobl fwydo'n ôl i mewn i'r broses honno. Ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni roi cyfleoedd i bobl. Roeddwn i'n arfer bod yn achubwr bywyd, rwy'n siŵr y byddai gennych chi ddiddordeb i glywed hynny, Mark, ac roedd hi'n bwysig sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael cyfleoedd fel hyn.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad twf gwyrdd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd tra'n gwneud teuluoedd yn well eu byd? OQ62436

Mae cynnydd rhagorol wedi bod o ran ein hymrwymiad ni i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thyfu'r economi werdd. Rydym ni'n falch iawn o'r addewid twf gwyrdd, sy'n trefnu ffordd ymarferol i fusnesau arddangos sut maen nhw'n tyfu economi Cymru mewn ffordd gynaliadwy ac yn cynnig buddiannau i'r cymunedau sy'n gartref iddyn nhw.
Diolch i chi am eich ateb. Yn y gogledd, mae taliadau sefydlog gennym ni sy'n uwch na'r cyfartaledd. Fe ddywedir wrthyf i mai oherwydd cludo'r ynni y mae hynny. Mae llawer o wledydd yr UE wedi pennu nodau erbyn hyn ar gyfer gosod systemau solar ffotofoltäig ar bob tŷ newydd ac felly bydd ynni yn cael ei ddefnyddio ar y safle lle crëwyd ef a lle mae'r angen amdano mewn gwirionedd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio'r un polisi wrth symud ymlaen? Fe allai'r gost ychwanegol fynd ar forgais, ac fe fyddai'n swm eithaf bychan dros yr hirdymor ac fe fyddai'n cael ei adennill yn fuan gydag arbedion ynni. Yn ogystal â hynny, a fyddai Llywodraeth Cymru yn trafod manteision cymunedol tariffau isel gyda datblygwyr ar gyfer cymunedau y mae gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn effeithio arnyn nhw, yn enwedig yng ngoleuni'r cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth y DU?

Diolch yn fawr i chi. Fe wnaethom ni gyflwyno rheoliadau adeiladu newydd yn 2022, a thrwy'r rhain, roedd angen gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer cartrefi newydd o gymharu â'r safonau blaenorol. Roedd y gwelliannau hynny'n cynnwys systemau solar ffotofoltäig o fewn y targed ynni, ond yr hyn na wnaethom ni yw gwneud hynny'n orfodol, oherwydd roeddem ni'n awyddus i bobl ddefnyddio'r hyn a oedd yn briodol ar eu cyfer nhw. Roedd rhaid iddyn nhw gyrraedd y targed o ostyngiad o 37 y cant, ond yn hytrach na rhagnodi neu wahardd unrhyw fath penodol o wresogi neu gynhyrchu ynni, fe wnaethom ni roi'r hyblygrwydd i bobl, ac roedd ffotofoltäig yn amlwg yn un o'r dewisiadau y gallen nhw ei ddefnyddio. Mae prosiect Ripple gennym ni—rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r cwmni ar y safle cyntaf, ger Merthyr, ar gyfer profi bod y model cydweithredol yn gweithio. Ond mae yna ddewisiadau eraill hefyd lle gallwch chi gael benthyciadau, er enghraifft, gan Banc Datblygu Cymru, i helpu gyda chyfleoedd ar gyfer buddsoddi.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Hannah Blythyn.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith i ysgogi twf economaidd yn Nelyn? OQ62451

Rydym ni'n gweithio ar draws adrannau a chyda phartneriaid, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol fel ein ffyrdd ac ynni. Cafodd hyn ei arddangos yn ein cyllideb ddiweddar, sydd â'r bwriad o ysgogi twf economaidd ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys Delyn.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw.
Yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, roeddwn i'n tynnu sylw ar y potensial enfawr y gallai datblygiad newydd ym mhorthladd Mostyn ei gynnig o ran cyfleoedd unigol, ond hefyd i ninnau fod ar flaen y gad unwaith eto o ran diwydiant yn y dyfodol a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd yn y gogledd. Mae hen orsaf reilffordd Mostyn wrth ymyl porthladd Mostyn ac mae yna fynediad uniongyrchol i'r porthladd. Fe fyddai agor yr orsaf ar sail arhosfan yn cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr troed a fyddai'n dod oherwydd nifer fwy o swyddi, a hefyd fe fyddai'n caniatáu i gerbydau gael mynediad i'r porthladd. Prif Weinidog, mae hyn nid yn unig yn unol â'ch blaenoriaeth chi i gysylltu cymunedau yn well a galluogi mwy o bobl i gael mynediad at gyflogaeth werdd newydd, ond fe fyddai'n datgloi potensial economaidd hefyd ar gyfer fy etholaeth i a'r genedl gyfan. Ac wrth gwrs, mae galluogi mwy o nwyddau i ddod oddi ar y ffordd a'u rhoi ar y rheilffordd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn o ran cyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, Prif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio sut y gall buddsoddi mewn seilwaith presennol a'i ddatblygu, fel yr orsaf reilffordd ym mhorthladd Mostyn, ysgogi a sicrhau twf economaidd yn Nelyn a thu hwnt?

Diolch yn fawr iawn, Hannah. Do, fe wnaethoch chi siarad am borthladd Mostyn yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â Jim ym Mrwsel yr wythnos diwethaf. Mae ef yn unigolyn sy'n debyg iawn i'ch portread chi ohono. Rwy'n cytuno bod trafnidiaeth yn alluogwr allweddol o dwf economaidd ac mae angen i ni wneud y defnydd gorau o seilwaith presennol. Fe gafodd hynny ei argymell gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru. Rydym ni'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU ein bod wedi gweld tanfuddsoddi yn ein rheilffordd am y tro cyntaf. Nid y ni sydd piau'r seilwaith rheilffyrdd. Mater i'r DU yw cyflawni ar hynny a buddsoddi mewn swyddi a thwf yn hynny o beth. Ond fe wn i fod cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd yn ymgynghori ar ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn datblygu cynlluniau cyffrous i gyflymu'r gwaith ar fetro'r gogledd, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n ystyried dewisiadau i wella'r cysylltedd o ran trafnidiaeth ym Mostyn yn rhan o'r gwaith hwnnw.
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w hateb gan Gomisiwn y Senedd yr wythnos hon, mae'r amseriadau ar gyfer yfory wedi'u haddasu yn unol â hynny. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gymorth i blant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru? Fe ddaeth i'm sylw i fod plant y lluoedd arfog dan anfantais yng Nghymru sy'n annheg o gymharu â sefyllfa eu cyfoedion yn Lloegr oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y maen nhw'n cael eu diffinio a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe gefais i wybod bod ysgolion Cymru yn cael llawer llai o gyllid i ddisgyblion fel hyn nag ysgolion yn Lloegr, sy'n cyfyngu yn uniongyrchol ar yr ymyriadau a'r cymorth sydd ar gael i'r plant hynny. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â mi i ymrwymo i ddileu'r anghydraddoldebau sy'n effeithio ar blant y lluoedd arfog yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, mae hi'n hanfodol bod adolygiad i ddiffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y lluoedd arfog fel ei fod yn cydweddu â'r safon ledled y DU sy'n cael ei ddefnyddio gan Gynghrair Cynnydd Plant y Lluoedd Arfog. Yn y man lleiaf, mae angen cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru i gyd-fynd â'r gyfradd fesul disgybl sy'n cael ei darparu yn Lloegr. Trefnydd, mae'r mater hwn ag effaith wirioneddol ar blant y lluoedd arfog ac mae angen mynd i'r afael ag ef ar unwaith, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gellid cyflwyno datganiad gan Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.
Diolch i chi, Paul Davies. Rwy'n credu y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwerthfawrogi unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi ynglŷn â hyn. Yn sicr, rwy'n gwasanaethu etholaeth gyda dalgylch mawr o'r lluoedd arfog ac ni thynnodd neb erioed fy sylw i at hyn, ond, yn amlwg, fe fyddem ni'n awyddus i glywed unrhyw dystiolaeth. O ran y ddarpariaeth o addysg yng Nghymru o ran y cyllid fesul disgybl, mae honno'n rhagorol, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar yn y gyllideb. Ond yn amlwg, os oes rhywbeth i'w rannu, fe fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i edrych ar hynny, wrth gwrs.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth mewn cartrefi. Mae blwyddyn wedi bod erbyn hyn ers i goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth gael ei ddarganfod mewn cartrefi yn Hirwaun, gyda llawer ohonyn nhw'n eiddo i Trivallis, ond cafodd 17 eu prynu yn unol â deddfwriaeth Hawl i Brynu. Fe gwrddais i â pherchnogion y tai hynny neithiwr, gyda llawer ohonyn nhw wedi cael ysgytwad mawr o hyd. Maen nhw'n ddig, yn llawn pryder, ac yn ansicr ynglŷn â'r dyfodol. Mae llawer ohonyn nhw'n henoed hefyd ac nid yw'r arian ganddyn nhw i ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol. Fe glywsom ni y byddai dull gweithredu pedair gwlad. Mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu mynd ar ei phen ei hun ac mae hi'n cynnig rhagor o gefnogaeth. Beth yw'r sefyllfa nawr o ran Llywodraeth Cymru? A gytunwyd ar y dull pedair gwlad hwnnw? Os nad felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynnig rhagor o gefnogaeth i'r trigolion hyn?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Heledd Fychan.
Fe fyddaf i'n tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol at hyn. Rwy'n credu y byddai hi'n briodol rhoi'r adborth hwnnw i chi o ran pa gynnydd a gafodd ei wneud ar ddull gweithredu pedair gwlad, ac, yn wir, ar ddull Cymru wrth ymdrin â hyn o ran diwallu anghenion perchnogion y cartrefi hynny.
Mae'r mis hwn yn nodi tair blynedd ers i'r ddeddfwriaeth nodedig i gael ymwared â'r amddiffyniad o gosb gorfforol ar plant ddod i rym yng Nghymru. Mae'r ddadl ynglŷn â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon wedi symud i Loegr erbyn hyn, a'r wythnos diwethaf fe ymunodd meddygon plant arweiniol â'r galwadau am wahardd cosbi plant yn gorfforol yn llwyr yn Lloegr hefyd. Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, gan ddweud mai nawr yw'r amser i'r gosb hon o'r cyfnod Fictoraidd gael ei diddymu. Fe fu hwn yn gam mor gadarnhaol yng Nghymru, ac, wrth gwrs, yn yr Alban hefyd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ym mis Ionawr a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch amseriad adroddiad yr adolygiad ôl-weithredu. Rwy'n credu y daw hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn.
Fel rwy'n ei deall hi, mae Llywodraeth y DU yn aros i weld sut mae pethau wedi symud ymlaen yng Nghymru cyn y byddan nhw'n penderfynu beth i'w wneud yn Lloegr. Felly, beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru i gynorthwyo Llywodraeth y DU wrth ddarparu gwybodaeth am gyflwyno hyn yng Nghymru? Sut allwn ni gydweithio â nhw a rhannu gwybodaeth er mwyn i blant yn Lloegr, plant o Gymru sy'n byw yn Lloegr a phlant Cymru sy'n ymweld â Lloegr gael eu diogelu rhag cosb gorfforol?
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am godi'r cwestiwn hwn, a diolch eto am eich ymgyrch hirsefydlog a llwyddiannus yn y pen draw i wahardd defnyddio cosb gorfforol ar blant. Roedd hwnnw'n ddarn pwysig o ddeddfwriaeth—ac rwy'n gallu gweld arwyddion o gytundeb o amgylch y Siambr hon—pan ymunodd Cymru â mwy na 60 o wledydd ym mis Mawrth 2022. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar y 60 gwlad hynny ledled y byd sydd wedi gwahardd defnyddio cosb gorfforol ar blant. Wrth gwrs, roedd hynny'n cyflawni ein hymrwymiad ni yn ein rhaglen lywodraethu, ond roedd honno'n foment hanesyddol i blant a'u hawliau nhw yng Nghymru. Mae tair blynedd wedi bod ers sefydlu'r ddeddfwriaeth nodedig hon ac mae hi'n rhan o fywyd; fe gafodd ei derbyn, mae hi wedi ymwreiddio, fel hyn y mae hi yng Nghymru ac fel hyn yr ydym ni'n trin ein plant, ac fe wn i gymaint o groeso sydd i hynny gan bawb a gymerodd ran yn y peth.
Ac, yn arbennig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn nodi'r datganiad ysgrifenedig gan Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ar 21 o fis Ionawr, oherwydd roedd hi'n ein hatgoffa ni, fel y gwnaethoch chwithau, ac roedd gennych chi ran mor fawr, yn eich swydd flaenorol yn Weinidog, ein bod ni, cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, wedi cyflawni'r ymgyrch ymgysylltu amlgyfrwng helaeth honno. Ac rydym ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth o'r gyfraith, ac yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni am ddewisiadau amgen cadarnhaol i gosb gorfforol drwy ymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo', i'w helpu nhw i feithrin perthynas gariadus a pharchus gyda'u plant.
Fe allwn ni roi diolch, unwaith eto, i Blant yng Nghymru am ddatblygu a chyhoeddi adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gan eu cefnogi nhw i gyfathrebu â phlant am y gyfraith mewn modd priodol a sensitif.
Oes, mae yna adolygiad. Fe gytunwyd y byddai adolygiadau yn cael eu cynnal dair blynedd a phum mlynedd wedi'r Ddeddf. Felly, rydym ni yn y drydedd flwyddyn erbyn hyn, ac mae hynny gennym ni—. Cafodd y trefniadau eu rhoi ar waith i fesur effaith y ddeddfwriaeth drwy gasglu a monitro data.
Ond rwy'n credu, unwaith eto, eich bod wedi rhoi cyfle i ni yn y Siambr hon, yn fy marn i, i fynegi ar goedd pa mor falch yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru, ac, rwy'n gobeithio, yn y Senedd, ein bod ni wedi pasio'r ddeddfwriaeth hanesyddol hon, sydd, wrth gwrs, yn cael ei hadlewyrchu yn yr Alban erbyn hyn, yn ogystal ag yng Nghymru. Ac mae angen i ni, gobeithio, helpu ac annog Llywodraeth y DU i edrych ar hyn, a'n profiad ni, ar gyfer symud ymlaen i ddileu'r defnydd o gosb gorfforol ar blant, gan uno â'r gwledydd hynny i gyd drwy'r byd sydd wedi anwesu'r polisi hwn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda? Yr un cyntaf oddi wrth y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r cymorth sydd ar gael mewn ysgolion i ofalwyr ifanc. Roeddwn i'n bresennol yn y digwyddiad ar gyfer gofalwyr ifanc, fel roedd Aelodau eraill yn gynharach y prynhawn yma, ac roedd y ffordd yr oedden nhw'n eiriol drostyn nhw eu hunain a'u hanghenion yn gwneud argraff fawr arnaf i. Ond un o'r heriau yr oedd rhai ohonyn nhw'n eu codi gyda ni oedd yr anghysondeb o ran y dulliau sydd gan rai ysgolion o ddarparu cefnogaeth sylweddol i ofalwyr ifanc, ac nad yw eraill yn gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno i ryw raddau yma, yn Aelodau'r Senedd, er mwyn dileu'r gwahaniaethau hynny a sicrhau chwarae teg ym mhob cwr o Gymru.
Yn ail, a gaf i alw am ddiweddariad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gynllun Allwedd Band Eang Cymru? Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn ymwybodol bod y cynllun hwn wedi cael ei ohirio ym mis Awst y llynedd, ond roedd hwnnw'n bwysig iawn o ran cynorthwyo llawer o'n hetholwyr ni i fynd ar-lein a sicrhau bod gwasanaethau band eang addas ar gael yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru lle nad oedd cynlluniau Openreach yn gallu ymestyn iddyn nhw. Ac yn fy marn i, o ystyried bod y gohirio wedi parhau am saith mis erbyn hyn, heb unrhyw ymgeiswyr newydd yn ymgyflwyno, mae hi'n hen bryd i ni fod â'r wybodaeth ddiweddaraf i sicrhau bod y cynllun pwysig hwn ar gael nawr i helpu ein hetholwyr i fynd ar-lein unwaith eto a bod â mynediad at wasanaethau band eang cyflym.
Diolch yn fawr, Darren Millar, am eich cwestiynau pwysig iawn.
Ac, wrth gwrs, mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymgysylltu yn ddiwyd iawn ac yn ymwybodol o anghenion gofalwyr ifanc, yn y gymuned, ond yn yr ysgolion hefyd. Ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod arfer da yn bresennol ym mhob un o'n hysgolion ni, a bod awdurdodau addysg lleol yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau hynny. Ond, hefyd, a allwn ni aros ennyd i roi canmoliaeth i'r gofalwyr ifanc hynny yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn awyddus i wneud hynny yng Nghymru? A hefyd, ar gyfer cydnabod bod hwn yn fater yr ydym yn ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei gylch hefyd. Mae hwn yn gyfrifoldeb ledled y Llywodraeth i raddau helaeth iawn. Ond diolch i chi am roi cyfle i ni ddatgan hynny heddiw.
Ie, o ran mynediad at fand eang, fe fyddaf i'n gwneud datganiad ar gynhwysiant digidol yn y dyfodol agos. Wel, wrth gwrs, mae cynhwysiant digidol yn ddibynnol iawn ar fynediad at fand eang. Mae cynhwysiant digidol yn cynnwys ystod eang o ddulliau sydd gennym ni i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau, datblygiad a chefnogaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai na chawson nhw gyfle i ymgysylltu yn y ffordd honno. Ond, unwaith eto, mae hwn yn fater a ddatganolwyd ac sydd heb ei ddatganoli hefyd, fel gwyddoch chi, o ran mynediad at fand eang, ond fe fyddaf i'n gallu ymateb i'r pwyntiau hynny maes o law pan fyddaf i'n gwneud fy natganiad.
Rwy'n gofyn am ddadl, os gwelwch chi'n dda, am newid prosesau ceisiadau cynllunio. Nawr, fe godais i bryderon sawl tro am yr effaith sydd gan chwareli ar iechyd pobl. Mae yna chwarel ar bwys Gelligaer, lle mae trigolion wedi bod yn cwyno ers amser am lygredd sŵn, difrod i eiddo ac ansawdd yr aer oherwydd y llwch. Nawr, mae cais cynllunio i ymestyn y chwarel wedi cael ei gymeradwyo, ac fe geir manylion am sut y digwyddodd hyn sy'n codi cwestiynau, yn fy marn i, ynghylch effeithiolrwydd y dull o roi cydsyniad cynllunio. Ni oes digon o rybudd yn cael ei roi pan fydd ceisiadau cynllunio yn mynd gerbron pwyllgor, a dim ond un trigolyn sy'n cael cyfle i siarad, sydd, yn sicr, yn amddifadu llawer o drigolion o'u llais, ac nid oes hawl i apelio pan roddir cydsyniad, er bod hawl o'r fath yn cael ei roi i ddatblygwyr pan fydd y penderfyniad yn mynd yn eu herbyn nhw. Felly, rwy'n dymuno ailadrodd bod angen parthau clustogi gorfodol rhwng chwareli a chartrefi pobl, ac mae angen i ni fonitro ansawdd aer yn annibynnol. Ond nid yw llawer o'r problemau hyn yn ymwneud yn unig â'r achos unigol hwn. Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut y gellir newid y rheoliadau hyn?
Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion sy'n effeithio ar lawer o Aelodau'r Senedd, o ran y tryloywder y mae'n rhaid ei gael yn y broses ymgeisio cynllunio, a arweinir gan ganllawiau polisi cynllunio oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac fe geir rheoliadau i ategu hynny. Ar gyfer yr awdurdodau lleol y mae hynny, ond, unwaith eto, rydych chi wedi cyflwyno hwn fel mater y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn barhaus o ran yr effaith a gaiff ar gymunedau lleol a gallu dinasyddion i fynegi barn wirioneddol, mynegi eu gwrthwynebiad, ac wedyn yn ddemocrataidd, o ran y rhai sy'n gyfrifol ar lefel leol, i arsylwi ac ymateb i'r pryderon hynny.
Trefnydd, mae'r rhaglen ddogfen gyfredol Michael Sheen's Secret Million Pound Giveaway yn taflu goleuni ar fyd tywyll sefydliadau ariannol sy'n codi cyfraddau llog ar gredyd a dyled sy'n llethu pobl, ac mae unigolion a theuluoedd yn dioddef. Mae honno'n rhaglen rymus iawn, sydd, yn fy marn i, o bwysigrwydd mawr ac yn ddefnyddiol o ran tynnu sylw at rai o'r arferion dan sylw a rhai o'r sefydliadau—banciau a sefydliadau ariannol eraill—sy'n ymddwyn fel hyn. Fe wyddom ni, rwy'n credu, yr effeithiwyd ar dros 100,000 o deuluoedd yng Nghymru—o dystiolaeth yr ystadegau yn y rhaglen ddogfen, ac, wrth gwrs, mae llawer o'r teuluoedd a'r unigolion hyn ymhlith y rhai sydd fwyaf o dan bwysau ariannol ac yn dlawd. Tybed, Trefnydd, a wnewch chi ystyried dadl neu ddatganiad yma yn y Cyfarfod Llawn ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn a rhoi diwedd ar y camarferion hyn.
Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Rwy'n siŵr bod nifer o Aelodau'r Senedd wedi gwylio'r rhaglen honno, rhaglen Michael Sheen, a ddarlledwyd neithiwr. Roeddwn i'n falch iawn, yn rhinwedd swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, o'r cyfle i weld y dystiolaeth, y dystiolaeth erchyll, nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohoni, o ran credydwyr sy'n gwerthu eu dyledion i eraill—arfer sy'n gyffredin yn y sector ariannol, gyda chwmnïau caffael dyledion yn prynu bwndel o ddyledion, am ffi, un sylweddol is na chyfanswm gwerth y dyledion, yn aml. Nawr, fe sefydlodd Michael Sheen—dim ond rhag ofn bod rhai heb weld y rhaglen—gwmni caffael dyledion, a phrynu bwndel o ddyledion, gwerth tua £1 miliwn, am £100,000. Nid yw cwmni Michael Sheen yn dymuno adennill yr arian a wariodd wrth brynu'r bwndel o ddyledion, ond, wrth wneud y penderfyniad hwn, maen nhw wedi dileu'r dyledion y gwnaethon nhw eu prynu i gyd, i bobl ledled y de. Amcangyfrifir bod 900 o bobl yn y de wedi elwa ar weithred cwmni caffael dyled Michael Sheen.
Felly, dim ond o ran ymateb i hyn, rydym ni'n cydnabod bod y cyfnod hwn yn heriol iawn. Rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl sy'n cael trafferthion ariannol. Yn ystod y rhaglen, fe dynnwyd sylw at swyddogaeth undebau credyd, o ran bod yn fenthycwyr teg, fforddiadwy. Ac mae hwn yn gyfle i ddweud, unwaith eto, ein bod ni'n buddsoddi £1.6 miliwn mewn undebau credyd, i ehangu cwmpas eu benthyca nhw hyd at y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael benthyciadau, a fydd yn helpu miloedd i gael benthyciadau fforddiadwy pan nad yw banciau'r stryd fawr yn fodlon helpu, fel clywsom ni yn y rhaglen. Dros y pum mlynedd diwethaf, unwaith eto, mae ein cronfa gynghori sengl ni wedi helpu dros 361,000 o bobl i hawlio £170 miliwn mewn incwm ychwanegol a chael bron i £50 miliwn o ddyledion wedi eu dileu.
Felly, rwy'n cysylltu â Michael Sheen, er mwyn trafod y camau y byddwn ni'n cymryd i fynd i'r afael â'r materion a gododd ef, a hefyd ar gyfer dysgu rhagor am yr ymgyrch honno, yr ymgyrch honno ar gyfer Deddf bancio teg, a allai yn amlwg—. Nid chafodd hyn ei ddatganoli, ond rwy'n credu bod angen i ni ymgysylltu â hyn yn llawn, ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hi'n briodol i ni gael dadl neu ddatganiad maes o law.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu? Mae'r gamlas hon yn un o'r dyfrffyrdd mwyaf prydferth yn y DU, ac mae hi'n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae hi'n cyfrannu llawer at yr economi, ar gyfer pobl a chymunedau'r de. Nawr, mae hi'n ddibynnol ar ddŵr sy'n cael ei dynnu o Afon Wysg, gydag 80 y cant o gyfaint y dŵr sydd ei angen i gyflenwi'r gamlas yn dod o'r afon. Mae'r dŵr, i bob pwrpas, yn cael ei fenthyca o afon Wysg wrth i ddŵr y gamlas lifo yn ei ôl i'r afon yng Nghasnewydd. Serch hynny, yn ddiweddar, mae amodau newydd sydd ynghlwm wrth drwyddedau tynnu dŵr wedi golygu ei bod hi'n ofynnol erbyn hyn i Glandŵr Cymru gyfyngu ar y cyfaint sy'n cael ei dynnu o afon Wysg, sy'n achosi perygl difrifol i hyfywedd y gamlas i'r dyfodol. Mae'r ymddiriedolaeth yn wynebu dewis erbyn hyn rhwng gorfod talu crocbris o £1 miliwn neu ragor ar gyfer y cyflenwad dŵr, sydd wedi bod am ddim ers dros ddwy ganrif, neu gyfyngu yn ddifrifol ar y defnydd a wneir o'r gamlas. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod datrysiad hyfyw yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl i'r mater er mwyn diogelu a sicrhau dyfodol camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Diolch yn fawr iawn i chi, Peter Fox, am y cwestiwn yna. Yn amlwg, rydym ni wir yn gweld gwerth ein camlesi, ac rwy'n credu bod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol o rai o'r heriau sy'n eu hwynebu nhw, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi trafod hynny gydag ef eisoes. Ond mae hi'n bwysig rhannu unwaith eto, o ran effaith tynnu dŵr o afon Wysg. Nid wyf i am fanylu rhagor ar hynny, oherwydd nid wyf yn cael fy mriffio yn ddigonol i roi sicrwydd i chi ynglŷn â hyn, ond roedd gennyf i ddiddordeb mawr. Efallai na fydd ag unrhyw effaith o gwbl, ond y £1 miliwn a gyhoeddwyd heddiw, o ran buddsoddi yn Afon Gwy—afon arall, ond yn y rhan honno o'r byd. Rydym ni'n ystyried y ffaith yn ofalus iawn fod angen i chi fod â'r cyflenwad hwnnw o ddŵr glân a chroyw ar gyfer camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Gadewch i ni wneud i hynny ddigwydd.
A gaf i ofyn am ddatganiad llafar a ddiweddarwyd neu'n well fyth ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddeintyddiaeth, os gwelwch chi'n dda? Mae rhai straeon croes i'w gilydd wedi cael eu hadrodd am ddeintyddiaeth yma yng Nghymru, gyda'r Llywodraeth a Llywodraeth y DU yn canmol y gwasanaethau ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn achwyn bod y Llywodraeth yn palu celwyddau. Nawr, mae'r ystadegau a gafodd eu rhyddhau'r wythnos diwethaf yn dangos bod 17 yn llai o feddygfeydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn 2023-24, gyda mwy wedi cau ers hynny, ac roedd nifer y cyrsiau o driniaethau yn ystod y chwarter hyd at fis Medi 2024 dros draean yn llai na'r chwarter diwethaf. Felly, rwy'n credu bod y Siambr hon yn haeddu datganiad llafar a ddiweddarwyd neu, fel dywedais i, ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddeintyddiaeth yng Nghymru cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna am ddeintyddiaeth a mynediad at ddeintyddiaeth, ac, yn wir, y ddarpariaeth o ofal deintyddol yn y GIG, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn adrodd yn rheolaidd ar bwysigrwydd rhai sy'n dod i mewn i ymgymryd â'r cytundebau newydd. Ond fe gewch chi'r cyfle hefyd, wrth gwrs, i godi'r mater yma gyda'r Ysgrifennydd Cabinet pan fydd ef yn dod ger bron ar gyfer ei gwestiynau llafar hefyd.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau ar gyfer annog digwyddiadau mawr yn y gogledd, yn enwedig digwyddiadau chwaraeon mawr. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, nos Wener, y daw tîm dynion dan 20 oed Cymru i chwarae yn erbyn tîm Lloegr ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Nawr, ers amser maith, roedd y gêm honno'n cael ei chynnal ar Barc Eirias, Bae Colwyn, a oedd am flynyddoedd lawer yn cynnal pob un o gemau cartref Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad i ddynion dan 20 oed. Ac roedd pobl yn y gogledd wir yn falch o'r cyfle i weld y dynion dan 20 oed yn chwarae bob blwyddyn. Yn anffodus, eleni, fe fydd y ddwy gêm gartref yn cael eu cynnal yn y de. Fel rydych chi'n deall, mae hi'n ffordd bell i deithio i drigolion fy etholaeth i yn y gogledd, ac yn sicr mae hwnnw'n ddatblygiad amhoblogaidd, oherwydd nid yn unig y mae cynnal y digwyddiadau hyn yn gwneud lles i'r economi leol ond fe all y digwyddiadau chwaraeon hyn fod yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf, gan annog plant a phobl ifanc i ymarfer eu cyrff a chyfranogi. Rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi cyfarfod â Rygbi Gogledd Cymru yn y gogledd i gynnal y trafodaethau hyn i ddeall sut y gallwn ni ddod â thîm y dynion dan 20 oed yn ôl i'r gogledd. Ond fe fyddai hi'n dderbyniol iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad hefyd i'n diweddaru ni ynglŷn â'i hystyriaeth hi o gyfle i weld digwyddiadau o'r fath eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymwybodol o hyn o ran y ffaith mai yn y gogledd y chwaraewyd y gemau cartref dan 20 oed. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cael trafodaethau defnyddiol ynglŷn â hyn, ond mae hyn yn ddefnyddiol hefyd o ran dwyn hyn i sylw'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru.
Fe hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ynglŷn â'r materion sy'n wynebu'r diwydiant lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru. Lleoliadau cerddoriaeth yw anadl einioes ein treftadaeth ddiwylliannol, sy'n meithrin dawn ac yn guriad calon llawer cymuned. Ond eto, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o achosion o leoliadau cerddoriaeth yn cau o'i chymharu ag unrhyw ran arall o'r DU yn 2024-25, gyda chyfradd sy'n fwy na dwbl y gyfradd genedlaethol. Llai na 0.5 y cant o leoliadau sy'n gwneud elw ac mae bron i hanner yn rhedeg ar golled. Mae'r ystadegau hyn yn destun pryder gwirioneddol. Rydym ni, o dipyn i beth, yn mynd yn genedl lle mae cerddoriaeth ar lawr gwlad yn cael ei fygu, lle nad oes gan artistiaid ifanc unman i berfformio ynddo a lle mae ein trefi a'n dinasoedd ni'n cael eu dihysbyddu o'u bywiogrwydd diwylliannol. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau cerddoriaeth yn nodi baich gorthrymus ardrethi busnes yn un o'r prif faterion sy'n eu hwynebu nhw, gyda llawer yn methu â thalu'r bil ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru, sy'n gymesur uwch nag yn unrhyw fan arall yn y DU. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â pha un a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried rhyddhad ardrethi dewisol ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth a fyddai'n ysgafnu'r pwysau sydd ar y diwydiant ac atal ein trefi a'n dinasoedd ni rhag mynd yn ddiffeithwch diwylliannol ac artistig?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae ein lleoliadau cerddoriaeth ni'n bwysig iawn o ran diwylliant ffyniannus cerddoriaeth yng Nghymru. Yn wir, eiddo preifat yw rhai o'r lleoliadau hyn, mae rhai ohonyn nhw'n perthyn i'r cyhoedd hefyd. Ac, yn wir, mae newidiadau wedi bod o ran awydd pobl i fynychu'r lleoedd hyn, yn ogystal â newidiadau ac ymgysylltiad cwsmeriaid â mynediad at gerddoriaeth yn y ffordd hon. Ond mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi clywed y pwynt, felly diolch i chi am ei godi.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol— gwarant i bobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Tachwedd 2021, fe lansiwyd y warant i bobl ifanc, a oedd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad ni i gynnig y dechreuad gorau posibl i bobl ifanc Cymru yn eu bywydau. Mae'r fenter hon yn gonglfaen i weledigaeth y Prif Weinidog i Gymru, cenedl lle ceir cyfle i bawb, a fwydir gan ein blaenoriaeth ni o swyddi a thwf gwyrdd. Fy mraint i yw bod â rhan mewn Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i gymunedau Cymru.
Mae llawer ohonoch chi'n gyfarwydd â'm stori bersonol i. Fe ddechreuais innau'n brentis. Felly, pan fyddaf i'n siarad am allu sgiliau, hyfforddiant a chefnogaeth i drawsnewid bywydau, mae'n hynny'n deillio o brofiad personol. Fe welais i drosof fy hun yr hyn y gall cymorth o ansawdd ei wneud i helpu pobl ifanc i ffynnu yng Nghymru. Roedd yr hyn a oedd yn gyrru ein gwarant ni'n syml ond yn uchelgeisiol: sef sicrhau bod pawb rhwng 16 a 24 oed yn gallu cael gafael yn rhwydd ar y cymorth angenrheidiol, boed hynny i barhau mewn addysg, dilyn hyfforddiant, dechrau prentisiaeth, mynd i gyflogaeth neu hyd yn oed i lansio eu busnesau eu hunain. Rwy'n falch o ddweud bod y warant i bobl ifanc yn gwireddu'r weledigaeth hon. Mae dros 48,500 o bobl ifanc wedi cael eu cefnogi eisoes drwy gyfrwng ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau yn unig felly. Mae hynny'n golygu bywydau gwirioneddol, dyfodol gwirioneddol yn cael eu ffurfio. Trwy'r gwaith hwn, rydym ni'n gwneud cynnydd cadarn tuag at ein carreg filltir genedlaethol: sef sicrhau bod o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae'r data dros dro diweddaraf yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn. Yn 2022, roedd 85.8 y cant o'n pobl ifanc yn gyfrannog mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, i fyny o 83.7 y cant yn 2021. Ni allasai amseriad y warant hon fod yn fwy tyngedfennol. Mae wedi helpu i warchod ein pobl ifanc rhag ôl-effeithiau pandemig COVID a'r argyfwng costau byw sy'n parhau. Mae wedi estyn haen ychwanegol hanfodol o gymorth yn eu hanghenion mwyaf.
Felly, gadewch i mi eich tywys chi drwy olwg ymarferol ar hyn. Trwy borth Cymru'n Gweithio, mae pobl ifanc yn cael arweiniad ar yrfaoedd a chyflogadwyedd sy'n bersonol, ac yn ddiduedd, a fydd yn eu helpu nhw i lywio drwy eu dewisiadau a dechrau llunio'r dyfodol y maen nhw'n ei ddymuno. Mae ein rhaglen flaenllaw ni, Twf Swyddi Cymru+, yn darparu cefnogaeth a gafodd ei theilwra ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed drwy gyflogaeth, hyfforddiant ffurfiol a gwaith gwirfoddol. Ers mis Ebrill 2022, mae 13,345 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon. Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf yn unig, fe ymwelais i â dau brosiect Twf Swyddi Cymru+ a Chymunedau am Waith a Mwy yng Nghaerdydd. Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arna i oedd nid yr ystadegau yn unig, ond gweld y staff ymroddedig yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i lwybrau sy'n gweddu yn wirioneddol i'w hanghenion unigol a'r amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol yr oedd y bobl ifanc hyn yn eu cael o ganlyniad i hynny. Fe gefais i fy ysbrydoli o weld natur cylch llawn y gefnogaeth hefyd, gyda chyn brentis barbwr, Madison, sy'n hyfforddi dysgwr Twf Swyddi Cymru + erbyn hyn, Regan, yn ei swydd yn uwch farbwr yn Alpha Omega Grooming.
I'r rhai sy'n wynebu rhwystrau mwy cymhleth rhag cyflogaeth, mae ein rhaglen ni, Cymunedau am Waith a Mwy, yn darparu cymorth a mentora ymgynghorol arbenigol. Mae bron i 10,000 o bobl ifanc wedi cael eu cefnogi drwy gyfrwng y rhaglen hon ers mis Ebrill 2022. I'r rhai sy'n 20 oed neu hŷn sy'n ystyried ailymuno â'r farchnad swyddi, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu diswyddiadau a chyn-droseddwyr, mae ein rhaglen ReAct+ wedi darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol i 735 o bobl ifanc ers mis Mehefin 2022.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n meithrin rhagoriaeth hefyd. Drwy raglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, rydym ni wedi ymgysylltu â thros 1,500 o bobl ifanc yn ddiweddar mewn cystadlaethau sgiliau. Fe fyddaf i'n bresennol mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau ar gyfer helpu i ddathlu eu cyflawniadau nhw'n bersonol. Ac wedyn rydym ni wedi rhoi Cymru ar lwyfan y byd. Yn rownd derfynol WorldSkills yn Lyon fis Medi diwethaf, roedd chwe myfyriwr o Gymru yn cystadlu yn rhan o dîm y DU, gyda Ruben Duggan yn dod â medal arian adref gydag ef. Rwy'n arbennig o falch fod bron i draean tîm hyfforddi WorldSkills UK yn dod o'n sector addysg a hyfforddiant ni yma yng Nghymru.
Mae entrepreneuriaeth yn fodd pwysig arall. Ers 2021, mae Syniadau Mawr Cymru wedi ymestyn at bron i 250,000 o bobl ifanc. Mae ein grant cychwyn i bobl ifanc wedi darparu cymorth ariannol i 615 o unigolion er mwyn dechrau eu busnesau eu hunain, gyda grantiau o hyd at £2,000 ochr yn ochr â chymorth a chyngor busnes. Dirprwy Lywydd, fe gefais i gyfle i gwrdd ag un o'r unigolion hynny yn fy etholaeth i ddydd Gwener, sef Cody, a ddechreuodd ar yrfa ffotograffydd chwaraeon gwirfoddol yn ei glwb lleol, Tref Cei Connah. Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, fe aeth Cody yn ei flaen i anfarwoli taith hyrwyddo Wrecsam yn 2023. Fis diwethaf yn unig, Dirprwy Lywydd, fe dynnodd Cody lun gôl munud olaf fuddugol Jude Bellingham i Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Manchester City—y warant i bobl ifanc gan Lafur Cymru ar un o'r llwyfannau mwyaf yn y byd.
Ac fel y gwnaethom ni ei ddathlu yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae prentisiaethau yn dal i fod yn llwybr grymus i lwyddiant ledled Cymru. Ers i'r warant ddechrau ym mis Tachwedd 2021, rydym ni wedi gweld 24,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed yn dechrau eu prentisiaethau. Mae llawer i'w ddathlu yn y gefnogaeth sydd ar gael i'n pobl ifanc ni yng Nghymru a'r effaith sylweddol y mae honno'n ei chael ar y genhedlaeth hon.
Dirprwy Lywydd, trwy ein gwarant i bobl ifanc, nid dim ond ar gyfer pobl ifanc heddiw yr ydym ni'n cyflawni. Rydym ni'n ysbrydoli pobl ifanc yfory ac yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Diolch.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef heddiw ar y warant i bobl ifanc. Er nad oes unrhyw beth newydd, mewn gwirionedd, yn y datganiad heddiw, rwy'n croesawu uchelgais y warant i bobl ifanc bob amser ac mae'r sefyllfa wirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru yn un weddol ddiffaith. Fe hoffwn i atgoffa'r Siambr yn gyflym o'r ystadegau diweddaraf ynglŷn â chyflogaeth, sy'n cyfleu darlun pryderus. Mae cyfradd cyflogaeth ieuenctid yng Nghymru wedi gostwng hyd 54 y cant, gostyngiad o 3.5 y cant o'i gymharu â'r llynedd. Yn wahanol i'r DU gyfan, mae'r gyfradd wedi gostwng yma 1.9 y cant. Effeithiwyd yn arbennig ar fenywod ifanc, gyda'u cyfradd nhw o gyflogaeth wedi gostwng 8.7 y cant hyd at 51.7 y cant. Mae diweithdra hirdymor yn dal i fod yn broblem barhaus, gyda 9,300 o bobl yn ddi-waith am gyfnodau estynedig, sef 21.5 y cant o gyfanswm y diwaith. Mae gormod o bobl yn dal i fod yn gaeth i anweithgarwch economaidd, heb y gefnogaeth angenrheidiol i'w trosglwyddo i yrfaoedd sy'n gynaliadwy.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi sôn am ei gyfnod ef yn brentis, ond roedd y penderfyniad i dorri cyllid ar gyfer prentisiaethau ym mlwyddyn ariannol 2024-25 yn peri pryder, ac mae ymchwil annibynnol yn awgrymu y bydd hynny'n arwain at golli 5,750 o gyfleoedd am brentisiaethau. Felly, fel mae'r Gweinidog yn ei ddweud, o gofio bod prentisiaethau yn gonglfaen allweddol o'r warant i bobl ifanc, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i liniaru'r effaith ar bobl ifanc yn sgil toriadau'r llynedd i brentisiaethau, a fyddai'n sicrhau nad oes cenhedlaeth yn mynd ar goll?
Y tu hwnt i brentisiaethau, mae pobl ifanc wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r rhwystrau rhag cyflogaeth a hyfforddiant, yn enwedig y diffyg cyfleoedd o ran profiad gwaith. Maen nhw'n deall gwerth profiad gwaith ond yn cael trafferth wrth sicrhau'r lleoliadau angenrheidiol hynny. Felly, pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd pob unigolyn ifanc yn gallu cael mynediad at brofiad gwaith sy'n ystyrlon?
Mae trafnidiaeth, Dirprwy Lywydd, yn rhwystr mawr arall, yn enwedig o ran y diffyg sydd yn y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd lle nad oes cymaint o gyfleoedd ynddyn nhw i fynd i mewn i'r gweithle i ddechrau. Yn frawychus iawn, roedd llai na hanner y rhai a holwyd yn ymwybodol hyd yn oed o gynlluniau fel FyNgherdynTeithio. Felly, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gwella'r ymwybyddiaeth o'r cynlluniau hyn a mynd i'r afael â'r rhwystrau sylfaenol ynglŷn â thrafnidiaeth sy'n parhau i ddal pobl ifanc y tu allan i gyfleoedd?
Nawr, mae'r newid o fod yn yr ysgol i ddechrau ym myd gwaith neu addysg bellach yn dal i fod yn gyfnod dyrys. Mae gormod o bobl ifanc yn teimlo nad yw'r gefnogaeth sydd ganddyn nhw'n gyson na'r llwybrau iddyn nhw'n eglur. Nid ydyn nhw'n gwybod i ble i droi wrth iddyn nhw wynebu anawsterau fel tynnu'n ôl o addysg neu golli swydd. Roedd eraill yn galw am gyngor gyrfaoedd a gafodd ei deilwra yn well i gyd-fynd â'u hanghenion penodol nhw. Felly, pa gamau a gaiff eu cymryd i sicrhau bod y warant i bobl ifanc yn darparu cefnogaeth wirioneddol hirdymor yn hytrach na gwneud dim ond cyfeirio pobl ifanc at wahanol wasanaethau—felly, estyn llaw i afael ynddi ar hyd y daith i'r rhai ag angen am honno?
Fodd bynnag, mae hi'n bwysig cydnabod y pethau cadarnhaol sydd yn y warant i bobl ifanc, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y rhain yn ei ddatganiad. Ers ei sefydlu, mae dros 48,000 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, a mwy na 6,000 wedi sicrhau cyflogaeth, ac mae dros 724 wedi cychwyn eu busnesau eu hunain. I mi, honno yw'r rhan fwyaf cyffrous. Mae menter Twf Swyddi Cymru + wedi ymgysylltu â dros 13,000 o bobl ifanc ers 2022, gyda 60.1 y cant o'r rhai a'i gorffenodd hi'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn 2023-24. Roedd 89 y cant o'r cyfranogwyr yn teimlo bod y gefnogaeth yn bodloni neu'n rhagori ar eu disgwyliadau, ac roedd 97 y cant o'r farn ei bod wedi gwella eu rhagolygon o ran gwaith. Mae'r rhain yn ffigurau cadarnhaol; mae'n gwneud yn dda. Ond rwyf i o'r farn y gallen nhw fod yn gwneud gwaith llawer gwell eto. Ac mae'r heriau hynny yn dal i fod. Er bod y niferoedd o ran yr ymgysylltu yn addawol, fel soniais i, mae yna ddiffyg data ar gynaliadwyedd cyflogaeth hirdymor. Dyna faes y mae angen gwneud mwy o waith ynddo. Mae llawer o bobl ifanc yn dal i fethu â chael gafael ar y cymorth sydd ar gael, sy'n godi cwestiynau ynglŷn â chyrhaeddiad ac effeithiolrwydd y rhaglen. I'r rhai sydd wedi cael gafael arno, mae hynny wedi gweithio yn dda iddyn nhw, ond sut allwn ni sicrhau y bydd llawer mwy yn cael gafael arno, o ystyried yr ystadegau o ran cyflogaeth y gwnes i sôn amdanyn nhw ar ddechrau fy ymateb?
Yn olaf, yn y 45 munud sydd gen i ar ôl, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni siarad am entrepreneuriaeth. Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed o ran entrepreneuriaeth cyfnod cynnar, ac eto mae chwarter y bobl ifanc yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cynghori i beidio â sefydlu busnes yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol neu'r coleg, sy'n llawer uwch na chyfartaledd yn y DU. Cyngor gwael yw hwnnw yn fy marn i. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi galw am strategaeth gyfannol ar gyfer cefnogi entrepreneuriaid ifanc a rhoi lle mwy amlwg i addysg fenter yng nghwricwlwm yr ysgolion. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y bydd entrepreneuriaeth yn cael ei ystyried yn llwybr gyrfa sy'n hyfyw, yn arbennig felly i rai nad ydyn nhw'n dymuno dilyn llwybrau cyflogaeth traddodiadol efallai, oherwydd crewyr swyddi fel hyn, y crewyr cyfoeth hyn, sydd yn y pen draw yn talu'r trethi sy'n talu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni i gyd yn eu mwynhau?
Nawr, i gloi, mae gan y warant i bobl ifanc botensial, ond, dan oruchwyliaeth y Blaid Lafur, nid yw'n llwyr gyflawni'r potensial hwnnw. Felly, mewn gwirionedd, Gweinidog, B+ yw'r radd ar hyn o bryd, mae'n gweithio yn dda, ond sut allwn ni ei chael hi hyd at safon A*?
Rwy'n ddiolchgar am yr adroddiad athro gan Sam Kurtz yn ei ymateb—rwy'n falch mai dim ond 45 eiliad oedd ar ôl ar y cloc, ac nid 45 munud, fel y byddai ef wedi dymuno efallai. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am y ffordd y mae'n fy herio i wrth ddarparu'r warant i bobl ifanc, ond hefyd am sylweddoli llwyddiant y rhaglen a chefnogi uchelgais y rhaglen. Fel y dywedais i yn fy natganiad, ac fel y cyfeiriodd Sam Kurtz ato, mae'r warant i bobl ifanc, ers mis Tachwedd 2021, wedi cyrraedd dros 48,500 o bobl. Felly, fe wnaf fynd trwy nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi.
Roedd ei bwynt olaf yn ymwneud ag entrepreneuriaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael drwy'r rhaglen. Wel, yn y warant i bobl ifanc, Llywydd, mae gennym y gweithdai Syniadau Mawr. Mae'n rhan o'r astudiaeth achos y cyfeiriais ati mewn perthynas â'r ymweliad etholaethol a gynhaliais yr wythnos diwethaf, ac mae Cody bellach yn mynd â'i sgiliau ffotograffiaeth a'i fusnes i lwyfan mwyaf y byd pêl-droed. Mae hwnnw, Syniadau Mawr Cymru, wedi cyflwyno gweithdai ar gyfer entrepreneuriaid, gan gyrraedd bron i 250,000 o bobl ledled Cymru, gan fynd ati i geisio eu cefnogi nhw yno. Ac, unwaith eto, mae'r grant cychwyn busnes i bobl ifanc wedi cefnogi 615 o unigolion economaidd anweithgar neu ddi-waith yn ariannol gyda chyngor a grantiau o hyd at £2,000. Mae mwy i'w wneud, a dyna pam rydym ni'n buddsoddi mwy yn y gyllideb, Llywydd.
Mae'r Aelod yn codi cludiant. Wel, bydd yn gwybod am yr arian a fuddsoddwyd yn y tocyn bws am £1 i bobl ifanc yn y gyllideb derfynol ddiweddar a basiodd drwy'r Senedd yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai wedi dymuno ei gefnogi, yr uchelgais hwnnw, drwy'r gyllideb.
Mae'r Aelod hefyd yn cyfeirio at nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud eisoes. Felly, ar brentisiaethau, gwyddom fod dros 24,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn prentisiaethau trwy'r warant i bobl ifanc, gan wneud hynny'n llwyddiant. Fe wnaf ddod o hyd i un astudiaeth achos ar hynny ar gyfer yr Aelod: Cymru'n Gweithio, buddsoddiad o'r warant i bobl ifanc i gefnogi pobl ifanc. Wel, fe wnaethon nhw gefnogi Cian, sy'n 22 oed, o Fangor, oedd yn ystyried ei opsiynau yn ystod y pandemig. Mae bellach mewn prentisiaeth mewn meithrinfa gofal plant. Dyna'n union yw pwrpas y warant i bobl ifanc. Byddwn yn parhau eleni i fuddsoddi £144 miliwn mewn prentisiaethau yng Nghymru, a chawsom y drafodaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau am bwysigrwydd rhoi'r arian hwnnw yn y system prentisiaethau.
Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran profiad gwaith hefyd, a phrofiad gwaith gwerthfawr yn wir. Dyna pam y dylem edrych ar waith Gyrfa Cymru, lle maen nhw'n cynnig gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm, gan gefnogi ysgolion yn eu huchelgeisiau i wneud hynny. Un o'r pethau yr wyf fwyaf balch ohono, rwy'n credu, yn y gyllideb, yn sicr o ran fy nghyfrifoldebau i, ac rwy'n edrych ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yma, yw'r gefnogaeth rydym ni'n ei rhoi yn y rhaglen prentisiaeth iau, sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau profiad hynny hefyd—cynnydd o 50 y cant o'r cynnydd mewn buddsoddiad yn y gyllideb derfynol, Llywydd.
Mae'r Aelod yn cyfeirio at—. Un pwynt arall, cyn i mi symud ymlaen: mwy o ymgysylltu. Wel, byddwn ni'n gwneud hynny'n uniongyrchol drwy Cymunedau am Waith a Mwy, trwy Twf Swyddi Cymru+, gan fynd allan i'r ardaloedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Cefais gyfle i weld rhywfaint o hynny fy hun yn ystod ymweliadau dros yr wythnosau diwethaf, a'r hyn y byddwn i'n annog holl Aelodau'r Senedd i'w wneud, pan fyddan nhw'n mynd allan i siarad â phobl ifanc ledled Cymru, yw eu cyfeirio at y mathau hyn o raglenni, eu cyfeirio at yr hyn y mae'r warant i bobl ifanc yn ei gynnig, gan ei bod yno i'w defnyddio.
Soniodd yr Aelod am y mentora manylach, efallai, sydd ei angen. Wel, dyna'n union sy'n digwydd yn Cymunedau am Waith a Mwy, dyna'n union sy'n digwydd trwy Cymru'n Gweithio hefyd, lle mae'r gefnogaeth fanwl honno a'r mentora, nid yn unig yn y cyfnod cychwynnol hwnnw, ond trwy broses dros gyfnod hirach, i sicrhau eu bod yn gyfforddus wrth fynd i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol, yn digwydd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ceisio annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r warant gan fod gennym yr uchelgais i wneud hynny, ac rwy'n diolch iddo am hynny.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad.
Wrth gwrs, mae nifer o bethau cadarnhaol yn y datganiad hwn, ac ni ddylem osgoi dweud hynny, a'r egwyddor, sy'n cael ei theimlo ar draws y Siambr rwy'n credu, yw'r egwyddor gywir y tu ôl i'r polisi hwn. Ond rwy'n credu bod pwynt pwysig i ni ddod i delerau ag ef yma, sef bod hwn yn gwarantu cynnig, ac nid yn cynnig gwarant. Ac mae gwahaniaeth pwysig yn y fan yna.
Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, a blwyddyn yn unig o ddiwedd tymor y Llywodraeth hon, er gwaethaf y polisi hwn, mae ffigurau llwm yn parhau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Nid yw mwy nag un o bob 10 o bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Nawr, un o bob 10, nid yw hynny'n ddibwys. Felly, mae'r Gweinidog yn nodi llwyddiannau'r polisi hwn, ond nid yw'n llwyddiant i'r un o bob 10. Ond y ffordd yr ydym yn ei wneud yn llwyddiant i'r un o bob 10 yw drwy gydnabod, mewn gwirionedd, fod llawer pellach i ni fynd pan ddaw at y polisi penodol hwn. Nawr, rhan allweddol o'r addewid hwn oedd darparu 125,000 o brentisiaethau newydd dros dymor y Senedd hon. Nawr, bydd y targed hwnnw'n cael ei fethu. Felly, sut mae'r rhaglen brentisiaeth yn berthnasol wrth geisio deall pa mor llwyddiannus fu'r polisi hwn? Oherwydd gwyddom pa mor ansicr yw'r sector prentisiaethau ar hyn o bryd yn y portffolio penodol hwnnw.
Roeddwn i hefyd yn ddigalon o ddarllen mai'r rhanbarth rwyf i'n ei gynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â'r gyfradd NEET ieuenctid uchaf o unrhyw ranbarth economaidd yng Nghymru—14.2 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2024—a, gyda'r colledion swyddi dinistriol yn Tata Steel, ni allaf ond dychmygu y bydd y ffigur hwn yn codi ymhellach. Ac eto, hyd yn oed yn wyneb hyn i gyd, mae grŵp sydd hyd yn oed yn fwy mewn perygl, sef pobl ifanc anabl. Roedd dros 35 y cant o bobl ifanc anabl yn NEET yn yr un cyfnod. Nawr mae hynny'n fwy nag un o bob tri. Ac er gwaethaf gwarant y Llywodraeth hon, maen nhw'n dal yn llawer mwy tebygol o fod heb swydd, addysg na hyfforddiant.
Nawr, ar ben hyn oll, clywn fod disgwyl i Keir Starmer gyhoeddi biliynau o doriadau i fudd-dal anabledd. Nawr, nid wyf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet yma wneud sylwadau ar doriadau Keir Starmer yn benodol gyda'r cwestiwn hwn, ond tybed pa effaith y byddai'r toriadau i fudd-daliadau anabledd yn ei gael yn gyffredinol, ar bobl ifanc anabl yng Nghymru sy'n ceisio mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Nid yw llawer ohonyn nhw'n gallu gweithio, felly lle bydd hynny'n eu gadael? Beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae Llafur Cymru yn brolio am warantau, ond y gwir amdani yw eu bod yn siomi'r union bobl sydd eu hangen fwyaf.
Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher am y ffordd y nododd ei ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc. Mae'n sôn am y ffigur un o bob 10 lle mae angen mwy o weithredu. Wel, dyna pam, unwaith eto, Llywydd, y gwnaethom ni ddechrau'r warant i bobl ifanc, i gael mynediad i'r lleoedd anodd eu cyrraedd hynny, a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y ffordd honno. Os edrychwch chi ar y duedd o ran lle mae NEET, a'r rhai hynny mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, o 2022 i 2023, mae wedi mynd i fyny, ac rwy'n disgwyl iddi fynd i fyny eto. Ond mae'n gwneud pwynt gwirioneddol ynglŷn â sut rydym yn ymgysylltu, fel y cododd Sam Kurtz yn gynharach, gyda phobl ifanc, i sicrhau eu bod yn gwybod bod y cynnig, yn gyntaf, yno, ac yna bod y cynnig wedi'i deilwra i fod yn addas iddyn nhw—felly, ymateb i anghenion a gofynion y diwydiant, ond hefyd i wneud yn siŵr, os oes cymorth ychwanegol y gallwn ni ei gynnig iddyn nhw, fel y profiad rwyf wedi sôn amdano gyda Cymunedau am Waith a Mwy, lle mae angen y cynllun mentora manylach hwnnw arnyn nhw, yna mae'r cymorth hwnnw hefyd ar gael iddyn nhw ac mae wedi'i deilwra yn y ffordd honno.
Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at bobl anabl, ac edrychaf ymlaen at ymateb i bwyllgor Jenny Rathbone, y pwyllgor y mae hi'n ei gadeirio, ochr yn ochr â'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, ar y gwaith a'r ymchwiliad pwysig y mae pwyllgor Jenny wedi'i wneud yn y maes hwn wrth wneud cyfres o argymhellion, y byddwn yn eu hystyried a'u cyflwyno.
Rwyf eisiau cyfeirio at ddau faes lle mae'r warant i bobl ifanc a gwaith Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl mewn cyflogaeth. Yn gyntaf, drwy ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl; byddan nhw'n parhau i ddylanwadu ar y newidiadau agwedd sydd eu hangen i annog mwy o gyflogwyr i gydnabod manteision cyflogi pobl ifanc anabl. Ac yna ymwneud yn fwy uniongyrchol â'r warant i bobl ifanc yw ein rhaglen flaenllaw, Twf Swyddi Cymru+. Yn dilyn yr adborth gan bobl ifanc yn uniongyrchol, fel rhan o'r sgwrs genedlaethol, rydym ni bellach wedi darparu hyfforddwyr cyflogaeth â chymorth i'r rhai sy'n 16 i 19 oed, sy'n cymryd rhan neu sy'n dymuno cymryd rhan yn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ sy'n nodi eu bod yn anabl neu sydd ag angen dysgu ychwanegol. Ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y gefnogaeth honno yn parhau yn y modd hwnnw.
Yna mae'r Aelod yn sôn am brentisiaethau a sut rydym yn ymateb. Wel, rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, pa mor bwysig yw'r system sgiliau ar gyfer ymateb i'r cyfleoedd. Soniodd am y sefyllfa yn ei ardal ef. Un o'r ffyrdd rydym ni'n dod allan o'r rheiny yw cael y cyfleoedd o'n blaenau ni, ac rydym ni'n gwybod mai blaenoriaethau ein Prif Weinidog yw swyddi a thwf gwyrdd—. Wel, mae llawer o'r cymorth a'r gefnogaeth i wireddu uchelgais y Prif Weinidog o fewn y system sgiliau, a dyna pam, yn y gyllideb hon, ein bod yn buddsoddi £7.5 miliwn yn y rhaglen sgiliau hyblyg; £32 miliwn ar gyfer Twf Swyddi Cymru i barhau â'r gwaith gyda phobl ifanc, fel rwyf wedi nodi; £16.8 miliwn mewn Cymunedau am Waith a Mwy yn y rhaglen hon; ac yna buddsoddiad o £144 miliwn mewn prentisiaethau eleni, Llywydd, i gyrraedd y targed o 100,000 yn dechrau yn nhymor y Senedd hon. Cefais y cyfle i fod yng nghynhadledd brentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ac rwy'n credu bod yr Aelod yno, ddydd Iau, yn gwrando'n uniongyrchol ar bedwar prentis ar y panel, gan wybod ac arddangos bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi newid eu bywydau, a dywedodd un ohonyn nhw ar y llwyfan ei fod wedi achub ei fywyd yn llythrennol. Felly, byddwn ni'n parhau i gefnogi prentisiaid a darparwyr prentisiaethau gyda buddsoddiad o £144 miliwn. Diolch i'r Aelod oherwydd ei ddiddordeb gwirioneddol mewn cefnogi prentisiaid a'r system sgiliau. Rwy'n credu y dylai eraill yn ei blaid ddilyn ei arweiniad.
Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Rydym ni'n gwybod, rwy'n credu, bod angen i'r warant i bobl ifanc weithio gyda'r cynnig ehangach i'n pobl ifanc 14 ac 19 oed o ran addysg a hyfforddiant. Rwy'n croesawu'r fenter prentisiaeth iau, sydd, yn fy marn i, yn addawol iawn, ac rwy'n croesawu menter colegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru ac eraill ar hynny. Ond mae mater ehangach o bobl ifanc 14 oed yn ein hysgolion sydd eisiau addysg alwedigaethol, nad yw ar gael yn yr ysgol ac nad yw colegau addysg bellach yn cael eu hariannu i'w darparu, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni fynd i'r afael â'r materion hynny os ydym am wneud y warant i bobl ifanc mor ystyrlon ag y mae angen iddo fod.
Mae mater arall yr hoffwn ei godi, Gweinidog, yn yr amser byr sydd gennyf, yn ymwneud â CAF, gwneuthurwr trenau yn fy etholaeth. Maen nhw'n gwmni Sbaenaidd. Yn Sbaen, mae ganddyn nhw nifer uchel o fenywod yn gweithio fel peirianwyr gyda'r cwmni, ond yma yng Nghymru maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn recriwtio merched a menywod i'w prentisiaethau ac i'w gweithlu, a tybed a yw'r rheini'n faterion y byddwch chi'n ceisio mynd i'r afael â nhw fel rhan o'r warant i bobl ifanc.
Diolch i John Griffiths am hynna. Fe wnaf ymateb i'r pwynt ar bobl ifanc 14 i 16 oed yn gyntaf. Llywydd, rwy'n cofio pan oeddwn i yr oedran hwnnw, cymerais ran mewn menter gynnar iawn o'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn brentisiaeth iau nawr, gyda choleg Glannau Dyfrdwy ar y pryd—rwy'n credu mai'r rhaglen 'cyswllt ysgol' oedd hi—ac roeddwn i'n gweld hynny'n amhrisiadwy. Roedd mynd bob dydd Gwener am ddwy flynedd i'r coleg, yn y cyfnod cyn-brentisiaeth hwnnw, yn sicr o fudd i mi. Dyma un o'r rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru, nid yn uniongyrchol yn fy nghyfrifoldebau portffolio, ond yn yr adran addysg, wedi cynyddu'r gyllideb prentisiaeth iau honno 50 y cant i £600,000 yn 2025-26, gan ganiatáu i fwy o fyfyrwyr elwa ar y math hwnnw o raglen. Ond mae John Griffiths yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sicrhau bod mynediad i'r rhaglen ledled Cymru a'i bod ar gael i fwy o ddysgwyr, ac rwy'n cydnabod ei bwyntiau yn y fan yna yn llawn a dyna pam mae swyddogion yn yr adran addysg, gyda chefnogaeth swyddogion yn fy adran i, yn gweithio'n agos iawn gyda Medr i weld sut y gallwn ymestyn y rhaglen benodol honno ymhellach.
Mae'r Aelod wedyn yn cyfeirio at CAF yn ei etholaeth ei hun, y gwneuthurwr trenau, diwydiant sgiliau uchel iawn yn etholaeth Casnewydd, a'r angen i ddod â mwy o fenywod a merched i bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac yna ymlaen i hyfforddiant a chyflogaeth yn y meysydd hynny.
Edrychaf at enghraifft Airbus yn fy etholaeth i. Mae Rosie Boddy, a fu'n brentis Airbus, yn ymgysylltu â'r rhaglen gwarant i bobl ifanc trwy ein cefnogaeth Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a WorldSkills, bellach yn hyfforddi pobl yn y coleg, yng Ngholeg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam, ond nid yn unig yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o Rosies a pheirianwyr y dyfodol, mae hi hefyd yn mynd allan i ysgolion. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, roedd hi ar lwyfan yn genedlaethol, yn Birmingham, rwy'n credu, i hyrwyddo pwysigrwydd y sector hwnnw, gan chwalu'r stereoteipiau, a dylid ein hatgoffa o Rosie a phobl eraill fel Rosie ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dyna un o'r ffyrdd y byddwn yn parhau i hyrwyddo, gan dynnu sylw at lwyddiannau fel un Rosie, lle mae hyn wedi cael llwyddiant. Rwyf am weld peirianneg a gweithgynhyrchu yn agored i bawb, a bydd y warant i bobl ifanc yn ein helpu i wneud hynny yn y ffordd honno.
Gweinidog, rwy'n dweud hyn wrth rywun sydd wedi cael profiad mwy diweddar nag sydd gen i o fynd trwy hyn, ond mae'n gyfnod brawychus pan sylweddolwch yn gyntaf bod yn rhaid i chi ddewis llwybr gyrfa. Nid yw'n hawdd gwybod pa lwybr i'w ddilyn a ble i ddechrau. Mae llawer dim ond yn dilyn aelodau'r teulu i yrfa yn union yr un maes.
Fel y gwyddoch chi, cychwynnoch chithau a minnau ar lwybr gyrfa gwahanol i'r mwyafrif sy'n wleidyddion, trwy weithio mewn diwydiant. Nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod sut i gael mynediad i swyddi a hyfforddiant mewn gweithgynhyrchu sgiliau uchel. Mae gormod o rieni yn clywed am ddiswyddiadau gweithgynhyrchu ac yn arwain eu plant i broffesiynau fel addysgu a'r gyfraith, sy'n ymddangos yn llawer mwy diogel. Mae angen gweithgynhyrchu gwerth uchel ar ein heconomi, o gynhyrchu gemau cyfrifiadurol i gynhyrchu awyrennau. Sut mae'r warant i bobl ifanc yn annog pobl i gael mynediad i'r gyrfaoedd hyn ac annog twf sgiliau pan fyddan nhw'n gwneud hynny?
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am hynna? Llywydd, mae bob amser yn dda cael sgwrs a thrafodaeth ynghylch rhaglenni sgiliau gyda Mike Hedges, rhywun sy'n deall y diwydiant ac sy'n dod o'r diwydiant gweithgynhyrchu. Bydd yn falch, rwy'n siŵr, o glywed y byddaf i yn Abertawe ddydd Iau, yn dathlu'r cyflawniadau drwy'r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle mae myfyrwyr o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan ar y lefel uchaf o ran cymhwysedd sgiliau, a byddaf yno ddydd Iau yn dathlu'r llwyddiant hwnnw.
Ond bydd e' hefyd yn ymwybodol ac yn falch o wybod y bydd Cymru, ym mis Tachwedd, yn cynnal rowndiau terfynol cenedlaethol y DU yng nghystadleuaeth WorldSkills, am y tro cyntaf. Mae hynny'n gyfle i ysbrydoli a datblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc trwy ddathlu eu cyflawniadau ar y llwyfan cenedlaethol hwnnw. Rwy'n falch ein bod yn cefnogi'r mathau hynny o raglenni drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a thrwy gynnig ein gwarant i bobl ifanc. Mae'r cynnig gwarant i bobl ifanc yn cyrraedd pobl ifanc—llawer iawn o bobl ifanc—ym mhob un etholaeth ledled Cymru. Ym mhob cwr o Gymru, mae ein gwarant i bobl ifanc yn cynnig llwybr i bobl 16 i 24 oed i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Ac yn enwedig o ran sgiliau, ac o ran llwybrau hyfforddiant galwedigaethol, wel, rwy'n falch iawn o fy llwybrau hyfforddi fy hun, Llywydd, y Gweinidog sgiliau cyntaf i fod o gefndir prentisiaeth, y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol cyntaf i fod â'r cefndir hwnnw, a'r Gweinidog diwylliant cyntaf i fod â'r cefndir hwnnw hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch targedau ymateb ambiwlansys argyfwng. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau’n cofio i mi gyhoeddi fis Tachwedd y byddwn i'n sefydlu adolygiad o’r targed ymateb ar gyfer ambiwlansys mewn achosion brys. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cwestiynu pa mor briodol yw’r targed presennol. Mae’r adolygiad hwnnw wedi dod i ben.
O 1 Gorffennaf ymlaen, fe fyddwn ni’n gweithredu newidiadau i’r fframwaith perfformiad ar gyfer gwasanaethau ambiwlans. Mewn ymateb i hyn, bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn treialu newidiadau i'w fodel ymateb clinigol. Nod y newidiadau yma yw achub mwy o fywydau a gwella canlyniadau pobl ar ôl ataliad ar y galon, salwch difrifol, digwyddiad neu ddamwain. Fe fyddwn ni’n eu treialu am flwyddyn, ac os byddan nhw’n llwyddo, fe fyddwn ni’n cyflwyno y newidiadau yn barhaol.
Ar hyn o bryd, un targed sydd gyda ni ar gyfer ymateb mewn achosion brys, ac mae e wedi ei seilio ar amser. Ni yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n dal i weithredu fel hyn. Mae’r targed yma ar gyfer galwadau 999 sy’n cael eu rhoi yn y categori coch, neu lle mae bywyd yn y fantol. Rŷn ni’n disgwyl i 65 y cant o alwadau coch gael ymateb mewn wyth munud. Mae’r targedau yma wedi bod ar waith ers y 1970au.
Dirprwy Lywydd, yn ôl barn y mwyafrif o’r grŵp adolygu, sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth arbenigol, dyw’r targed yma ddim yn briodol nac yn addas i’r diben bellach. Mae nifer o resymau am hyn. Does dim tystiolaeth ei fod e’n helpu i wella canlyniadau. Dyw e ddim yn cefnogi staff i flaenoriaethu ar sail glinigol yn effeithiol. Er enghraifft, mae rhywun sy’n cael ataliad ar y galon, yn methu anadlu a heb guriad calon, yn cael yr un flaenoriaeth â pherson sydd o bosib yn profi problemau anadlu llai. Mae hyn yn golygu bod adnoddau ambiwlans gwerthfawr yn cael eu hanfon at bobl sy’n llai sâl ac sydd ddim angen triniaeth frys neu ofal ysbyty o bosib.
Rŷn ni’n mesur llwyddiant drwy lens amser ymateb yn unig. Felly, pe bai ambiwlans yn cyrraedd mewn wyth munud ac un eiliad a’r person yn goroesi, byddai hynny’n cael ei ystyried yn fethiant oherwydd methiant i gyrraedd y targed amser. Ond, yn groes i bob rheswm, pe bai’r ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud a’r person, yn anffodus, yn marw, byddai hynny’n cael ei ystyried yn achos o gyrraedd y targed.
Mae'r grŵp adolygu sy'n edrych ar y model ymateb clinigol wedi argymell ein bod yn symud i ffwrdd o darged sy'n seiliedig ar amser yn unig fel yr unig fesur o lwyddiant a chanolbwyntio ar ganlyniadau clinigol, yn enwedig goroesi yn dilyn ataliad y galon. Mae cyfraddau goroesi yng Nghymru yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn llai na 5 y cant ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae gan Loegr gyfradd oroesi o 10 y cant, a 9 y cant yn yr Alban. Mae'r ffigur yn llawer uwch mewn rhannau eraill o'r byd. Mae'n rhaid i ni fod â'r nod o wneud yn well ac i gyd-fynd â'r cyfraddau goroesi yng ngwledydd Ewrop a rhai dinasoedd yn yr Unol Daleithiau. I bobl sy'n dioddef ataliad y galon, mae amser yn gwneud gwahaniaeth. Gall dechrau adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) ar unwaith ddyblu neu hyd yn oed gynyddu'r siawns o oroesi bedair gwaith. Gall rhoi sioc i'r galon, diffibrilio, o fewn tri i bum munud ar ôl i berson gwympo gynyddu cyfraddau goroesi gymaint â 70 y cant.
Mae'r grŵp wedi dod i'r casgliad bod angen dau ddull newydd. Yn gyntaf, mae angen dull mwy cytbwys gyda mwy o bwyslais ar ganlyniadau clinigol i ysgogi gwelliant. Ac yn ail, mae angen i ni weithredu hyn trwy ganolbwyntio o'r newydd ar gynyddu CPR cynnar a diffibrilio.
Ar argymhelliad y grŵp, rydym yn creu dau gategori newydd â blaenoriaeth 999: categori porffor, a fydd yn ymdrin ag ataliad y galon ac anadlol; a chategori brys coch, sy'n cynnwys ymatebion i drawma mawr, gwaedu ar raddfa fawr ac achosion lle gallai cyflwr person ddirywio'n gyflym heb ymyrraeth gyflym. Bydd y ddau yn destun targedau sy'n seiliedig ar amser; byddwn yn disgwyl amser ymateb cyfartalog o rhwng chwech ac wyth munud i gleifion ym mhob categori.
Fodd bynnag, er bod cymorth bywyd ar lefel uwch gan barafeddyg yn rhan bwysig o'r gadwyn oroesi, mae CPR cynnar a diffibrilio, y gellir ei ddarparu gan sefyllwyr a phobl mewn cymunedau lleol, yr un mor hanfodol wrth sicrhau canlyniadau gwell os bydd ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac mae dysgu o fannau eraill yn dangos y gall rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant, addysg, a chynyddu argaeledd diffibrilwyr wella canlyniadau yn sylweddol i bobl sy'n cael ataliad y galon.
Felly, er mwyn cefnogi ein pwyslais o'r newydd ar wella canlyniadau, rwyf wedi cymryd dau gam ar unwaith. Yn gyntaf, rwyf wedi trosglwyddo'r rhaglen genedlaethol Achub Bywyd Cymru i wasanaeth ambiwlans Cymru, yr wythnos hon, er mwyn galluogi dull systematig mwy integredig o ymateb i ataliad y galon. Yn ail, rwyf wedi gofyn i gyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans gynnal adolygiad cyflym ar unwaith i archwilio sut y gallwn fynd llawer ymhellach i ddarparu adnoddau addysg a hyfforddiant CPR; cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r technegau achub bywyd hyn; gwneud diffibrilwyr yn fwy hygyrch; ac annog cyfranogiad cymunedol. Bydd y gwaith hwn yn dod i ben erbyn diwedd mis Mehefin ac rwy'n disgwyl i gynllun cyflawni gael ei weithredu i gyd-fynd â lansiad ein fframwaith perfformiad ambiwlans newydd o 1 Gorffennaf. Fel arweinwyr gwleidyddol, mae'n rhaid i ni hefyd geisio gosod esiampl. Rwy'n falch fy mod wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant CPR a hoffwn ymestyn cynnig gan wasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer hyfforddiant CPR i holl Aelodau'r Senedd.
Dirprwy Lywydd, yn bwysig, bydd gan y fframwaith perfformiad ambiwlans newydd ganlyniadau clinigol fel ei brif fesur, gan adlewyrchu consensws clir gan y grŵp adolygu. Bydd yn cael ei gefnogi gan ddangosyddion clinigol a thargedau sy'n seiliedig ar amser i helpu i gyfrannu at gyflawni canlyniadau gwell. O 1 Gorffennaf, ar gyfer y categori porffor, byddwn yn adrodd yn fisol ar ganran y bobl yr adferwyd curiad eu calon ar ôl cyfnod o ataliad y galon, sydd wedyn yn cael ei gynnal nes cyrraedd yr ysbyty, ac yn ail, yr amser canolrif y mae'n ei gymryd i sefyllwyr weithredu CPR a diffibrilio yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac ar gyfer categorïau porffor a choch, byddwn yn adrodd ar amseroedd cyfartalog a 90 canradd ymateb ambiwlans.
Mae'r grŵp adolygu wedi argymell y newid hwn i sicrhau bod Cymru'n fwy cydnaws â chenhedloedd eraill y DU. Bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn defnyddio'r tri mis nesaf i wneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau a'i arferion gwaith i sicrhau bod ei fodel ymateb clinigol yn gallu cyflawni'r fframwaith perfformiad newydd.
Dros y ddau fis nesaf, bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal i ystyried a oes angen mesurau ar gyfer digwyddiadau nad ydynt wedi'u categoreiddio yn y categorïau porffor neu goch, a oedd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn. Bydd y gwasanaeth ambiwlans yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad ychwanegol hwn cyn cwblhau newidiadau i'w fodel clinigol. Bydd hyn yn cynnwys amodau sydd ar hyn o bryd yn y categori oren, fel symptomau strôc neu drawiad ar y galon. Bydd hyn hefyd yn gweld cyflwyno proses sgrinio glinigol gyflym ar gyfer pob galwad nad yw'n cael ei chategoreiddio fel porffor neu goch. Bydd hyn yn cael ei wneud gan uwch barafeddyg neu nyrs ac fe'i cynhelir yn syth ar ôl yr asesiad cychwynnol gan y person sy'n ymdrin â galwadau 999. Gwelais y tîm ar waith yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf ac rwy'n hyderus bydd y penderfyniad clinigol cynnar a wnânt yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran cael ambiwlansys i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, mae llawer o hyn yn dibynnu ar argaeledd adnoddau ambiwlans. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i deithio gyda chriw ambiwlans i weld y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud drwy gydol eu diwrnod gwaith. Gwelais hefyd yr effaith y mae ein hambiwlansys yn ei chael y tu allan i ysbytai. Mae'n rhaid i ni gael gwelliant sylweddol ym mherfformiad trosglwyddo o ambiwlansys i sicrhau bod ambiwlansys ar gael i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned ac nad ydynt yn sownd y tu allan i ysbytai am oriau maith. I gydnabod yr angen am weithredu ar frys, rwyf wedi sefydlu grŵp cyflawni gwella trosglwyddiad cleifion ambiwlans cenedlaethol dan arweiniad clinigol newydd. Bydd y grŵp hwn yn nodi ac yn goruchwylio'r camau sydd â'r nod o wella perfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans, dysgu o arfer gorau ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys llawer mwy o bwyslais ar wella llif cleifion a chynhyrchiant cynllunio rhyddhau er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o welyau saith diwrnod yr wythnos.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r grŵp adolygu, yn olaf, am eu gwaith cyflym a thrylwyr. Byddaf yn darparu diweddariad pellach cyn lansio'r fframwaith ar 1 Gorffennaf.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a dweud bod croeso mawr iddo? Ac rwy'n diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb mor gadarnhaol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hefyd, a'i ymagwedd yn hyn o beth.
Dim ond 48.3 y cant o alwadau coch wnaeth gyrraedd y targed wyth munud ym mis Ionawr eleni, ac os edrychwch chi ar y pedair blynedd diwethaf ym mis Ionawr, mae'r targed wedi gwaethygu. Wrth gwrs, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed coch ers mis Gorffennaf 2020, felly dyma gefndir y datganiad hwn heddiw. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, fod y safon ymateb wyth munud wedi bod ar waith ers y 1970au—waw, mae hynny amser maith yn ôl, cyn i mi gael fy ngeni mae'n debyg—ac fe wnaethoch sôn nad yw'n addas i'r diben. Rydych chi'n dweud nad oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn helpu i ysgogi canlyniadau gwell—neu dyma oedd casgliad y grŵp—ac nid yw'n cefnogi blaenoriaethu clinigol effeithiol. Mae hynny'n ddweud mawr. Felly, y cwestiwn amlwg yma yw a ddylai'r safon ymateb wyth munud fod wedi ei hadolygu a'i newid ymhell cyn hyn.
Wrth gwrs, mae cael targedau ar waith yn bwysig. Maent yno i sicrhau atebolrwydd a darparu sylfaen i adeiladu arni, ac mae'n bwysig bod y Senedd hon yn gallu craffu arnoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, a'ch dwyn i gyfrif, ac yn wir, mae'n bwysig eich bod yn gallu dwyn y gwasanaeth i gyfrif. Felly, dyna pam y mae'n bwysig cael y targedau hynny ar waith. Rydych chi'n dweud bod y newidiadau wedi'u cynllunio i achub mwy o fywydau, gwella canlyniadau. Sut fydd hyn yn cael ei adrodd a'i fesur? Mae'n bwysig bod gennym fesur a tharged i allu cyfrif am hynny.
Yn ystod cyfnod y treial, a fyddwch chi'n dal i adrodd ar y targed wyth munud presennol? Oherwydd yn amlwg, dim ond cyfnod prawf ydyw, felly byddwn yn dweud ei bod yn bwysig bod y data hwnnw'n dal i gael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod prawf. A fydd y mesurau newydd yn ei gwneud hi'n haws cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd? Oherwydd yn y gorffennol, bu trafodaeth gyson, a bu rhywfaint o drafodaeth am dargedau, sef nad ydynt yn gymariaethau uniongyrchol. Mae'n bwysig gallu dwyn y Llywodraeth hon, a Llywodraethau eraill, ac i'r gwrthwyneb, i gyfrif yn hynny o beth.
Rydych chi'n siarad am raglen gynhwysfawr o hyfforddiant ac addysg a chynyddu argaeledd diffibrilwyr. Rydych chi wedi ehangu ychydig ar hynny. A allwch roi gwybod i ni os oes unrhyw gyllid ynghlwm wrth yr elfen honno o'ch datganiad? Oherwydd mae cost ynghlwm wrth yr hyn rydych chi wedi'i amlinellu yn hynny o beth. Roeddech yn sôn y byddwn hefyd yn gweld y broses sgrinio glinigol gyflym yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob galwad nad yw'n cael ei chategoreiddio fel porffor neu goch, a bydd hyn yn cael ei wneud gan uwch barafeddyg neu nyrsys ac yn digwydd yn syth ar ôl yr asesiad cychwynnol gan y person sy'n ymdrin â galwadau 999. Mae'n ymddangos bod yna adnodd ychwanegol y mae gweithwyr proffesiynol clinigol ei angen. Tybed a allech chi amlinellu a ydych chi'n fodlon bod digon o'r gweithwyr proffesiynol hynny ar gael i'w rhoi ar waith.
Ac yn olaf, rydych chi'n dweud bod yn rhaid i ni gael gwelliant sylweddol ym mherfformiad trosglwyddo o ambiwlansys. Nid wyf yn credu y gellir gorbwysleisio hynny. Byddwn yn awgrymu mai'r her unigol fwyaf i'r gwasanaeth yw oedi wrth drosglwyddo mewn adrannau brys. Tybed ai dyna fyddai eich asesiad chi hefyd. Roeddwn i'n meddwl bod hyn, efallai, yn rhan wannach o'r datganiad, oherwydd rydym ni'n gwybod eisoes bod hon yn broblem—mae 25 y cant, yn aml, o'r stoc ambiwlans yn sownd y tu allan i ysbyty. Dyna'r broblem fawr. Tua diwedd eich datganiad, rydych chi'n siarad am adolygiad a sefydlu grŵp arall, ond roeddwn ychydig yn siomedig ynghylch hynny. Rwy'n credu ein bod ni'n gwybod beth yw'r broblem; nawr mae angen gweithredu rhywfaint yn hyn o beth. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn yn y rhan olaf honno o'ch datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd y broblem wirioneddol yma yw'r oedi wrth drosglwyddo i ofal brys y tu allan i ysbytai.
Diolch i'r Aelod am y croeso y mae wedi'i roi i'r newidiadau, ac rwy'n ddiolchgar iddo am naws y ffordd a ofynnodd y cwestiynau i mi. O ran y cwestiwn o dargedau, rwy'n credu fy mod yn anghytuno ag ef. Nid prif bwrpas targedau, mewn gwirionedd, yw atebolrwydd; mae'n ymwneud â gwella gwasanaethau. Ac mae'n wahaniaeth pwysig. Rwy'n deall apêl targedau ar gyfer craffu, yn hollol, ond maen nhw yno mewn gwirionedd i sicrhau y gallwn gyflawni gwell canlyniadau i gleifion. Ac felly, mewn gwirionedd, os ydych chi'n defnyddio'r lens honno, rydych chi'n gofyn cwestiynau ychydig yn wahanol ynghylch beth yw'r ffordd orau o gyflawni hynny.
Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â chymharu â gwledydd eraill y DU, unwaith eto, nid dyna yw prif bwrpas y diwygiad. Os edrychwch chi ar yr Alban a Gogledd Iwerddon yn benodol, mae ganddyn nhw ddull canlyniadau clinigol, ac mae Lloegr, er nad oes ganddyn nhw'r dull hwnnw, yn cyhoeddi'r data ar gyfraddau goroesi ataliad y galon, ac felly, mewn ffordd, mae'n debyg bod y dull rydym ni'n symud tuag ato yn ei gwneud hi'n haws cymharu fel hynny. Hefyd, mae gan wledydd eraill y DU ddull safonol canolrifol yn hytrach na dull targed caled. Felly, rwy'n credu, yn gyffredinol, y byddwch chi'n ei chael hi'n haws gweld beth sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'r grŵp wedi tynnu ar dystiolaeth o rannau eraill o'r DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol, wrth edrych i weld beth yw'r dull cywir mewn gwirionedd. Ni fyddwn yn adrodd ar y rheol wyth munud yn benodol, oherwydd rydym yn ymgorffori system newydd, gwasanaeth newydd, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn adrodd ar y pethau yr ydym yn disgwyl i'r system eu gwneud.
Ar y pwyntiau penodol a wnaeth yr Aelod mewn perthynas â diffibrilwyr a CPR, fel y soniais i yn fy natganiad, yr hyn rwy'n ei wneud yw mynd â'r rhaglen Achub Bywyd i'r gwasanaeth ambiwlans, fel y gallwn gael system fwy integredig a chydgysylltiedig, os mynnwch chi. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn yn siarad â'r gwasanaeth ambiwlans am hyn yr wythnos diwethaf, ac mae'n ymddangos i mi mai dyma'r peth iawn i'w wneud, fel y gellir alinio'r holl fentrau hynny, sy'n bwysig iawn rwy'n credu. Ond ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi comisiynu adolygiad cyflym iawn. Mae symud hwnnw drosodd yn gam cadarnhaol, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yr wyf eisiau gwybod yr ateb iddo yw beth arall sydd angen i ni ei wneud, gan fod y dyfarniad clinigol mor glir ynghylch yr angen i ymestyn CPR a diffibrilwyr. Bydd y cyngor hwnnw gennyf erbyn diwedd mis Mehefin, a byddaf yn amlwg yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yr adeg hynny am yr hyn y maen nhw'n ei argymell. Roeddwn i'n gallu cael rhywfaint o hyfforddiant CPR y bore yma, ac roeddwn i'n ei weld yn hynod ddefnyddiol. Byddwn yn annog Aelodau i wneud yr un peth—mae'n lefel eithaf isel o sgil o ystyried y budd y mae'n ei gyflawni. Ac, mewn gwirionedd, ar ôl mynd trwy rywfaint o'r hyfforddiant, gallwch ddychmygu sut y byddai, mewn sefyllfa go iawn, byddai'r straen yn fawr, felly mae cael ychydig o gefndir, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae'r pwynt a wnaeth yr Aelod am frysbennu clinigol yn bwerus iawn. Mae'r tîm eisoes yn ei le—y tîm brysbennu clinigol. Fe wnes i gyfarfod â rhai ohonyn nhw yr wythnos diwethaf, a gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud yn uniongyrchol. Mae'n wirioneddol drawiadol, mewn gwirionedd. O fewn munud neu ddau ar ôl i'r person sy'n ymdrin â'r galwadau gwblhau ei alwad gychwynnol, os ydych chi yn y categori oren, bydd rhywun yn adolygu'r nodyn achos fwy neu lai mewn amser real, ac yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym ni'n meddwl bod angen ambiwlans ar y person hwn', 'Mae'n debyg y gellir ailgyfeirio'r person hwn', neu, 'Gall rhywun ffonio'r person hwn a'i helpu i ymdopi'—felly, math o ymateb pwrpasol, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn. Felly, mae'r adnoddau hynny eisoes yn eu lle—mae'n un o ganlyniadau'r cynnydd mewn cyllid rydym ni wedi'i roi i'r gwasanaeth ambiwlans, yn sicr y llynedd, ond rwy'n credu dros y ddwy flynedd ddiwethaf hefyd. Felly, mae ei weld ar lawr gwlad, yn digwydd eisoes, yn ddefnyddiol iawn ac yn bwerus iawn.
Fe wnaethoch chi bwynt pwysig am bwysau trosglwyddo. Rwy'n credu y byddwn i'n cytuno â chi mae'n debyg bod yr her fwyaf y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei hwynebu, ar un ystyr, y tu hwnt i'w allu i fynd i'r afael â hi yn y ffordd honno. Os edrychwch chi ar lefel y cynnydd mewn galwadau coch dros y blynyddoedd diwethaf, mae lefel y perfformiad wedi bod yn eithaf sefydlog. Rwy'n credu bod hwnnw'n wasanaeth sy'n gweithio'n dda ar ei delerau ei hun, ond sy'n wynebu heriau o'r tu allan, os mynnwch chi. Mae'n ddrwg gennym eich bod wedi eich siomi gan ran olaf y datganiad. Nid yw'r adolygiad yn ymwneud ag amseroedd trosglwyddo mewn gwirionedd, felly mae hyn yn ychwanegol at yr adolygiad. Cyhoeddwyd y canllawiau y llynedd, fel y gwyddoch chi—canllawiau wedi'u diwygio, wedi'u newid. Bydd archwiliad yn cael ei gynnal gan weithrediaeth y GIG i weld pwy sy'n gwneud beth, a yw'r canllawiau'n cydymffurfio, ac, os nad ydyn nhw, pam ddim. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen mwy o weithredu a mwy o waith yn y maes hwn, a dyna pam y bydd y grŵp dan arweiniad clinigol hwn yn ein hannog i fynd ymhellach. Byddwn yn hapus iawn i fod yn agored gyda'r Senedd am yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym ni a beth rydym ni'n ei wneud ynghylch y peth.
Dwi am ddechrau fy nghyfraniad trwy dalu teyrnged i weithlu ymroddedig y gwasanaeth ambiwlans. Mae'n bwysig iddyn nhw ddeall nad yw canfyddiadau'r adroddiad yma, nac adroddiad y pwyllgor iechyd, ddim yn adlewyrchiad ar eu gwaith nhw—maen nhw'n gwneud gwaith arwrol, bob diwrnod o'r flwyddyn. Dwi hefyd eisiau diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw. Dwi'n ei groesawu o, ac yn cefnogi'r datganiad. Hwyrach y dylwn i ddatgan budd: roeddwn i'n arfer gweithio i'r British Heart Foundation, felly dwi wedi cael hyfforddiant CPR. Ac roeddwn i'n meddwl, wrth glywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael hyfforddiant, pa alaw roeddech chi'n ei chanu yn eich pen er mwyn gwneud y CPR yna. 'Staying Alive' gan y Bee Gees ydy'r un roedden ni'n ei defnyddio.
Wrth gwrs, mae targedau heb eu bodloni wedi dod yn etifeddiaeth anffodus i oruchwyliaeth y Llywodraeth hon o'r gwasanaeth iechyd. Rwyf bob amser wedi eirioli dros ddefnyddio targedau clir fel sylfaen ar gyfer cyflawni polisi. Yn wir, hoffwn pe bai'r Llywodraeth yn fwy rhagweithiol ar y trywydd hwn, yn enwedig o ran materion fel tlodi plant, er enghraifft. Ond mae'n rhaid i'r targedau hyn fod yn seiliedig ar fwy na bwriadau da yn unig. A phan gyrhaeddwn y pwynt lle maent yn addurniadol i raddau helaeth, fel sydd wedi digwydd yn amlwg gyda'r targed amser ymateb coch dros yr hanner degawd diwethaf, mae'n iawn ein bod yn cael y drafodaeth onest hon ynghylch a oes angen newid cyfeiriad. Felly, er bod yn rhaid i'r Llywodraeth gymryd ei chyfran o'r cyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r targed cyfredol, rwy'n croesawu parodrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet i fyfyrio'n adeiladol ar fethiannau'r gorffennol hyn, yn hytrach na pharhau'n ystyfnig â chamsyniadau cost suddedig.
Nid yw'r problemau wrth geisio cyrraedd y trothwy targed coch o reidrwydd yn gysylltiedig ag adnoddau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC). Fel y cadarnhawyd gan benaethiaid y gwasanaeth ambiwlans yn ymchwiliad y pwyllgor, mae'r fflyd bresennol o ambiwlansys yng Nghymru yn ddigonol i raddau helaeth i gwrdd â'r lefelau galw presennol, yn hytrach, oedi wrth drosglwyddo cronig sy'n bennaf gyfrifol am y ciwiau hir o ambiwlansys sydd wedi dod yn gyffredin y tu allan i'n hysbytai, gyda dros 26,000 o oriau wedi'u colli ym mis Ionawr o ganlyniad i hyn—y ffigur uchaf mewn blwyddyn. Ac mae hyn, yn ei dro, nid yn unig yn adlewyrchiad o ddiffyg capasiti gwelyau, sydd wedi dirywio'n sydyn dros y degawd diwethaf, mae hefyd yn cyfeirio at y datgysylltiad sefydliadol a llywodraethu rhwng gofal y tu mewn i'r ysbyty a'r gofal y tu allan i'r ysbyty. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet felly'n cytuno, gyda chynnig Plaid Cymru i sefydlu rôl cyfarwyddwr Cymru gyfan ar gyfer rheoli trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty, er mwyn cael mwy o arweinyddiaeth strategol genedlaethol wrth hwyluso llif cleifion? A ddylai rôl fwy clir gael ei diffinio hefyd er mwyn i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol allu nodi'n well lle gallai gwahanol fyrddau iechyd gydweithio ar sail fwy systematig i ryddhau gwelyau?
Gwyddom hefyd fod methiant y targed hwn yn ficrocosm o broblemau dirfodol ehangach o lawer gyda'r system iechyd a gofal, yn enwedig yr angen sydd heb ei ddiwallu hyd yma i feithrin llawer mwy o gydnerthedd yn y sector gofal cymdeithasol, yn benodol. Ac roedd adroddiadau pwyllgorau niferus ar gyflwr y gyllideb yn tynnu sylw'n briodol at duedd gynhenid y Llywodraeth i droi at ymarferion diffodd tân ar draul ymdrech ar y cyd i symud adnoddau i'r perwyl hwn. Er tegwch i'r Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n llwyr werthfawrogi'r heriau gwleidyddol acíwt sy'n deillio o ymrwymo i'r newid sylfaenol hwn yn y ffordd y caiff y system iechyd a gofal cymdeithasol ei hariannu. Ond o ystyried tueddiadau demograffig y degawdau nesaf, mae angen sgwrs genedlaethol onest arnom ar frys ynghylch sut y gallwn symud yn gynaliadwy y tu hwnt i'r cylch dieflig presennol o wasanaethau rheng flaen yn defnyddio cyfran gynyddol o gyllideb Cymru, sy'n gohirio buddsoddiad systematig mewn gofal cymdeithasol a chymunedol. Felly, yn yr ysbryd hwn o roi'r budd cenedlaethol o flaen gwleidyddiaeth plaid, a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y syniad o gynnull gweithgor trawsbleidiol i edrych ar ddyfodol y model ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fel y gellir cael y trafodaethau anodd hyn i ffwrdd o sbotolau dadl wleidyddol, sydd, mae'n rhaid i ni gyfaddef, yn ei hanfod yn fyrdymor o ran rhagolwg?
Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar argymhellion y pwyllgor ac wedi croesawu'r ymchwil trylwyr. A diolch i YGAC am y briff y bore yma, gyda llaw. Mae angen y cynllun treialu arfaethedig ac rydym yn croesawu hyn. Ond yr hyn y mae'r ymchwil yn ei ddangos yw'r diffyg gofal ar lefel gymunedol, y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ato. Os yw'r cynllun treialu am lwyddo, yna mae angen i ni weld cynnydd mewn adnoddau cymunedol, fel diffibrilwyr a hyrwyddwyr CPR yn y gymuned, a hefyd yn y maes anadlol. Felly, pa gamau y mae'r Cabinet yn eu cynnig i sicrhau bod y lefel gymunedol gynyddol hon o adnoddau yn mynd law yn llaw â'r newidiadau i dargedau ambiwlans i roi'r cyfle gorau posibl i'r cynllun treialu hwn lwyddo?
Diolch i'r Aelod am y croeso a roddodd i'r diwygiadau. Byddwn yn cytuno â'i ddadansoddiad, yn yr ystyr bod y pwysau yn sgil oedi wrth drosglwyddo yn rhan sylweddol o'r her y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei hwynebu. Nid wyf fi, fy hun, yn cael fy narbwyllo, fel rwy'n credu ei fod ef yn amlwg, ei bod yn her o ran argaeledd gwelyau. Rwy'n credu ei bod yn broblem fwy systematig na hynny. Rwy'n credu bod y gwaith y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn ei wneud, er enghraifft, diwedd y llynedd yn benodol ac mae'r her 50 diwrnod wedi dangos, mewn gwirionedd, lle mae pwyslais systematig clir ar ymyraethau y gwyddom sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, yna gall hynny—. Rydym ni wedi gweld ffigurau gwahanol iawn eleni o'u cymharu â phatrwm y ffigurau llynedd. Felly, rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ond mae'n amlwg bod angen adeiladu arno.
Rwy'n credu mai un o'r negeseuon sydd wedi bod yn gyson yn y trafodaethau y mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi eu cael gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yng nghyd-destun y fenter honno yw'r union bwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Mewn gwirionedd, ni all y ddadl a'r drafodaeth fod, ac nid yw yn ymwneud â chwestiynau ynghylch rhyddhau yn unig. Mae'n ymwneud â chryfhau set o wasanaethau cymunedol sy'n golygu nad oes angen mynediad i'r ysbyty ar bobl ar gyfer eu gofal yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu bod dadansoddiad eang yn hollol gywir. Rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo tua £200 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio cyflawni hynny. Ond, yn amlwg, mae angen i'r newid hwnnw i'r lefel gymunedol ar gyfer gwasanaethau gael hwb enfawr mewn gwirionedd. Felly, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, eleni, y byddwn yn disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddatgan y gwariant y byddant yn ei wneud ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol, i rannu'r diffiniad y maen nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer y gwariant hwnnw, fel y gallwn gael dull systematig ledled Cymru o ymdrin â hynny, a hefyd i nodi eu cynlluniau ar gyfer cynyddu'r ganran honno o'u gwariant fel y gallwn gael trafodaeth dryloyw am y newid hwnnw i wasanaethau cymunedol, yr wyf yn credu bod angen i ni eu cael.
Un o'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus i roi'r rhaglen adfywio cardiopwlmonaidd a diffibriliwr i mewn i'r gwasanaeth ambiwlans oedd galluogi ymestyn cyrhaeddiad y gwasanaeth ambiwlans i'r gymuned mewn ffordd rwy'n gwybod eu bod yn ei chroesawu hefyd, ar ôl trafod hynny gyda nhw yr wythnos diwethaf. Mae mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud. Y cam yr wyf wedi ei gymryd a gyhoeddais heddiw yw comisiynu—ar ôl cymryd y cam yna o symud y rhaglen drosodd, yn syth wedyn, comisiynu adolygiad o beth arall sydd angen i ni wneud, a bydd yr adolygiad yna yn cael ei gwblhau yn ystod yr wyth wythnos nesaf. Rwyf eisiau i hwnnw fod yn ei le cyn i'r fframwaith newydd gael ei weithredu.
Cefais fy nharo yn y sesiwn hyfforddi a gefais mewn perthynas â CPR, sef yn ogystal ag argyhoeddi ac annog pobl i wneud hynny, ar ôl gwneud hynny, yna mae yna ap y gall pobl gofrestru ar ei gyfer o'r enw GoodSAM, sy'n rhoi rhybudd i rywun os yw rhywun yn profi ataliad y galon o fewn 500m i'r man lle maen nhw ar y pryd, fel y gallant fynd i'r lleoliad os ydynt ar gael a helpu i roi'r CPR cychwynnol hwnnw. Felly, mae rhwydwaith enfawr o bobl nad ydynt yn amlwg, mewn gwirionedd, a all ddarparu rhywfaint o'r ymateb cymunedol ehangach hwnnw. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn symud cyfrifoldebau am wasanaethau a gomisiynir i'r gymuned, yn syml mae'n gydnabyddiaeth, os yw rhywun yn sefyll yno wrth eich ymyl ar yr adeg yr ydych yn cael trawiad neu'n fuan wedyn, bod y siawns sydd gennych o oroesi yn llawer mwy os ydynt yn gwybod sut i ymateb.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'r mater o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae gennyf rywfaint o brofiad ohono. Mae'r realiti yn union fel rydych chi newydd ei amlinellu—gallwn fod â'r gwasanaethau a gomisiynir gorau ar gael i unrhyw un, ond y gwir amdani yw bod bywydau yn cael eu hachub gan unigolion yn y gymuned, ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn y gymuned wedi'u hyfforddi, ond hefyd y diffibrilwyr sy'n cael eu cynnal yn y gymuned hefyd. Hoffwn weld y datganiad yn mynd llawer ymhellach, mewn gwirionedd, i sicrhau bod gennym rwydwaith o bobl a diffibrilwyr ledled y wlad gyfan, a byddwn yn gwerthfawrogi'r cyfle i gwrdd â chi i drafod hynny ar ryw adeg.
O ran y materion ehangach am amseroedd ymateb ambiwlans, y targedau rydych chi wedi'u disgrifio, does gen i ddim problem gydag unrhyw beth rydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod angen i ni fynd llawer ymhellach a chael sgwrs fwy cyfannol am hyn. Oherwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld canoli gwasanaethau. Yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld gwasanaethau yn symud i'r Faenor, rydym hefyd wedi gweld y cyhoeddiad am symud gwasanaethau strôc o Ysbyty'r Tywysog Siarl i lawr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, mae gennych ardaloedd o amgylch Blaenau'r Cymoedd a de Powys yn sir Frycheiniog lle mae gennych amseroedd teithio sylweddol i'r canolfannau gofal arbenigol hyn. Mae hynny'n golygu bod angen gwasanaeth ambiwlans sydd nid yn unig yn cyrraedd ar amser, yn y ffordd rydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma, ond sydd â'r gallu i wasanaethu patrwm gwahanol o ganolfannau triniaeth acíwt. Dyna lle mae angen i ni gael dadl go iawn, fel nad oes gennym y targedau yn unig, nid bod â fframweithiau atebolrwydd yn unig, ac rwy'n cytuno â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud ar hynny, ond hefyd bod â'r gwasanaeth sy'n golygu bod pobl yn gwybod y gallant ymddiried a dibynnu ar ambiwlans i gyrraedd mewn pryd i achub bywyd ac i gludo claf i'r ganolfan driniaeth briodol agosaf.
Diolch i Alun Davies am hynna, ac rwy'n ymdrin â'r pwnc gyda rhywfaint o wyleidd-dra yng ngoleuni ei brofiad, ond byddwn yn hapus iawn i gwrdd ag ef. Mae nawr yn amser da i wneud hynny, oherwydd, er ei fod eisiau i'r datganiad fynd ymhellach, rwy'n gobeithio y bydd y ffaith fy mod wedi comisiynu adolygiad ar unwaith sydd i'w gwblhau yn gyflym iawn, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo o'm hymrwymiad. A byddwn yn hapus iawn i gwrdd ag ef i drafod ei brofiad a'i fyfyrdodau yn ehangach.
At y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â chyfluniad gwasanaethau, mae'n ymwybodol, yn amlwg, fel yr ydym i gyd, mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud, ar draws y gwasanaeth iechyd, yw taro cydbwysedd rhwng crynodiad o arbenigedd sy'n galluogi'r driniaeth orau bosibl i'r rhai sydd mewn sefyllfa aciwt, ond mae'n gwneud pwynt teg iawn mai'r ochr arall i'r geiniog yw argaeledd trafnidiaeth i'ch cludo i'r ganolfan acíwt honno'n gyflym. A'r thema, os mynnwch, y tu ôl i'r diwygiadau yma yw: sut y gallwn sicrhau ein bod yn cyfeirio'r adnodd sydd gennym i'r angen mwyaf dwys cyn gynted â phosibl; ac, ar y llaw arall, sut allwn ni ryddhau'r adnodd hwnnw sy'n cael ei ddal y tu allan i ysbytai? Rwy'n credu bod Mabon ap Gwynfor wedi rhoi syniad o'r nifer o oriau a gollwyd, os mynnwch, o ran y gwasanaeth ambiwlans.
Ac nid prinder ambiwlansys mohono, nid prinder staff mohono, mae'n ymwneud â'r gallu i ryddhau'r capasiti hwnnw i wneud y math o daith yr oedd yn cyfeirio ati. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac, ar ôl gweld rhywfaint o hynny yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf, wrth dreulio rhan o'r diwrnod gyda chriw ambiwlans ar ei shifft, mynd i ymweld â chleifion a gweld sut mae'r gwasanaeth yn gweithio'n ymarferol, yn gyntaf, roedd yn ysbrydoledig tu hwnt, ac, yn ail, gallech ddeall rhai o'r heriau. Mae'n bosibl bod pobl yn mynd ar shifft, yn gweld claf ac yna'n treulio gweddill eu shifft yn cael eu dal y tu allan i ysbyty, ac nid oes yr un ohonom eisiau gweld hynny. Nid yw'n dda i'r claf, nid yw'n dda i'r staff, nid yw'n dda i'r gwasanaeth yn gyffredinol. A dyna pam rwy'n benderfynol, gyda'r tasglu hwn a arweinir yn glinigol, y byddwn yn gweld beth y gallwn ei wneud i fynd ymhellach, a byddaf yn hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno gyda'r Senedd.
Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn meddwl eich bod yn fy ngalw. Yn gyntaf, diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n rhaid i mi ddweud bod eich datganiad yn eithaf dadlennol mewn gwirionedd a'ch bod bellach yn barod i edrych, lle nad yw'n gweithio, ar sut y gallwn wneud pethau'n well. Mae gan bob un ohonom enghreifftiau, Dirprwy Lywydd, am bobl yn gorwedd am oriau yn aros am ambiwlansys, dim ond i ganfod, ar ôl cyrraedd yr ysbyty, eu bod wedyn mewn ambiwlansys am gryn amser ac yna mae oedi, ac maen nhw'n aros mewn coridorau, ac mae ein gyrwyr ambiwlans a'n parafeddygon o dan straen drwy hyn i gyd.
Mae cynnydd yn cael ei wneud, sy'n wirioneddol dda. Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i brif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Jason. Maen nhw'n gwneud eu gorau glas. Ond fel y dywedodd ei hun, mae rhywbeth fel un o bob 10 claf yn destun rhyw lefel o niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth sy'n gysylltiedig ag oedi wrth ymateb neu oedi wrth drosglwyddo. Rwy'n ymwybodol o fy etholwyr fy hun a gafodd eu gadael am oriau—mewn gwirionedd, un am ddau ddiwrnod cyfan gyda chlun wedi torri. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod YGAC yn bwrw ymlaen â nifer o newidiadau cadarnhaol, rwyf wedi amlinellu y gall yr amser aros ar gyfer cleifion nad ydynt yn rhai categori coch fod yn annynol. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag YGAC ynglŷn â sut rydych chi wir yn cyflymu'r broses? Dyna'r ganolfan alwadau, a sut maen nhw'n blaenoriaethu, yna'r broses o gael yr ambiwlans neu'r parafeddyg at y claf, yna mae'n rhaid mynd â'r claf i'r ysbyty ac yna ceir oedi yn yr ysbyty. Rwy'n gwybod am rai gyrwyr ambiwlans sydd wedi dweud wrthyf eu bod nhw wedi mynd adref dim ond i ddod yn ôl wyth awr yn ddiweddarach a chanfod yr un claf yn aros mewn ambiwlans. Mae hynny'n annerbyniol.
Diolch yn fawr, Janet.
Rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn ymwneud â'r hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud i ddiwygio. Felly, fy myfyrdodau ar y gwasanaeth ambiwlans yw ei fod yn wasanaeth sy'n cofleidio'r angen am ffyrdd newydd o weithio ac sydd wedi dangos lefel dda o ymrwymiad i arloesi, a gwelais hynny yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf. Felly, p'un a yw'n cyflogi uwch ymarferwyr parafeddygol sy'n gallu darparu mwy o gymorth yn y fan a'r lle, neu a yw'n dîm brysbennu clinigol cyflym, sydd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, o fewn munudau i'r alwad gychwynnol honno, yn edrych ar nodiadau'r achos, nodi'r camau cywir ar gyfer y claf unigol hwnnw. A nawr, gyda rhaglen Achub Bywyd Cymru yn mynd i mewn i'r gwasanaeth ambiwlans, rwy'n hyderus y bydd mwy o arloesi yn y maes hwnnw hefyd.
Un o'r heriau sydd gennym yn y trefniadau presennol, y soniodd yr Aelod amdanynt, yw bod y categori coch, sy'n amlwg y categori brys mwyaf, yn ymestyn ar y naill law i ataliad y galon pryd y mae amser o'r pwys mwyaf ac sy'n achos difrifol, i'r hyn a all fod, i rai cleifion, yn enghreifftiau cymharol fach o ddiffyg anadl—difrifol o'u safbwynt nhw, yn amlwg, ond pethau sy'n gysylltiedig â'r ffliw dros y gaeaf, sydd angen llai o'r lefel frys honno. Mae tua 34 y cant, mwy na thraean, o alwadau coch yn y categori hwnnw. Maen nhw'n cael ambiwlans, ac maen nhw'n cael ambiwlans o fewn y targed wyth munud, ond yn gyffredinol does dim angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Felly, y cwestiwn go iawn yw, sut ydym ni—. Mae'r adolygiad yn ymwneud â hynny, ac mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag ef. Sut allwn ni sicrhau bod ambiwlansys yn cyrraedd y cydbwysedd hwnnw, y 70 y cant hynny sydd angen yr ambiwlans ar frys? Ac yna sut allwn ni sicrhau, os ydych chi yn y categori oren eich bod yn destun brysbennu clinigol cyflym, fel bod ymateb pwrpasol ar unwaith ar eich cyfer—. Gall fod yn ambiwlans, efallai mai derbyniad i'r ysbyty ydyw, gall fod yn ystod o bethau eraill.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod wedi gallu mynd gyda'r criw ambiwlans hwnnw i gyflawni eu dyletswyddau, gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth ymarferol dda iawn i chi o'r problemau bob dydd y maent yn eu hwynebu. Yn ddiweddar, cwrddais â staff ambiwlans sydd hefyd yn gynrychiolwyr Undeb GMB yn fy swyddfa, ac roeddent yn siarad â mi am eu profiad a'u pryderon yn ysbyty'r Faenor, lle maen nhw'n cael eu dal yn rheolaidd am gyfnodau hir, sy'n rhwystredig iawn iddyn nhw a'u cleifion. Yna, roeddent yn cysylltu hynny â'r canlyniad amlwg o beidio â gallu ymateb i alwadau fel gwasanaeth mewn modd mor amserol y maent yn dymuno ei wneud. Maen nhw'n staff ymroddedig iawn sydd eisiau darparu gwasanaeth o'r safon uchaf.
Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r materion hyn yn ysbyty'r Faenor, ond maen nhw'n faterion rwy'n eu gweld bob wythnos yn fy mag post, Ysgrifennydd Cabinet, oddi wrth etholwyr pryderus sy'n ail-gyfleu'r materion a'r problemau y maen nhw a'u teuluoedd wedi'u hwynebu. Tybed a fyddech chi'n cwrdd, Ysgrifennydd Cabinet, â'r staff ambiwlans a chynrychiolwyr y GMB i'w galluogi i ail-gyfleu eu profiad ymarferol o'r problemau yn ysbyty'r Faenor a sut maen nhw'n credu y gellid ymdrin â'r problemau hynny, gan ddefnyddio eu profiad ymarferol unwaith eto.
Diolch i John Griffiths am hynna. Byddwn, fe fyddwn i'n hapus iawn, iawn i gyfarfod, fel yr awgrymwch. Fy myfyrdodau ar fy mhrofiad yr wythnos diwethaf—. Roeddem ni yn y Faenor ar un adeg ac roedd 12 ambiwlans yn aros y tu allan ar yr adeg honno yn fy marn i. Gallech weld mewn ffordd fyw iawn beth mae hynny'n ei olygu, o safbwynt claf ond hefyd o safbwynt staff. Mae'n dipyn o amser staff sy'n cael ei ddal yn ôl y tu allan i ysbyty hefyd, felly nid yw hynny'n dda i gleifion, staff na'r gwasanaeth yn gyffredinol.
Fy myfyrdodau arno oedd bod y staff yn rhesymol iawn heb gwyno am yr hyn a oedd yn sefyllfa heriol iawn—felly, rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny—a chydnabyddiaeth bod yr heriau y tu hwnt i'w gallu yn y sefyllfa honno i fynd i'r afael â nhw. Felly, mae'n broblem systemig. Roedd y datganiad heddiw yn ymwneud â'r adolygiad, ond rwy'n cydnabod bod y cwestiwn trosglwyddo yn sylfaenol iddo, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ffaith fy mod i wedi sefydlu'r tasglu dan arweiniad clinigol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod fy mod yn wir yn gweld bod y ddau beth yn gysylltiedig, a lle mae angen i ni fynd ymhellach, fel yr wyf yn siŵr y byddwn yn ei wneud, byddaf yn hapus i wneud hynny.
Ac yn olaf, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad llafar. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar lawer o fy etholwyr. Mae'r adolygiad o'r targed ymateb ambiwlans, fel y nododd Russell George, dros 50 mlwydd oed—y targed hwnnw—ac mae'n hen bryd cael un newydd. Rhaid canolbwyntio ar ganlyniadau clinigol ac nid targedau. Mae cael clinigwyr mewn ystafelloedd rheoli, brysbennu'r galwadau hynny a sicrhau bod niwed yn cael ei leihau, gyda phob galwad yn cael ymateb wedi'i deilwra gan unigolyn, rwy'n credu, yn gwbl hanfodol.
Mae angen system Cymru gyfan hefyd. Felly, mae'n rhaid i'r system gywir sy'n gweithio yn fy etholaeth i yn Wrecsam weithio ym mhob rhan o Gymru, oherwydd, yn y pen draw, mae claf yn glaf ble bynnag y mae. Rwy'n credu'n nad gwasanaeth ambiwlans Cymru yn unig ddylai gario'r holl risgiau a phwysau. Rwy'n credu bod angen rhannu'r baich yn decach ar draws y gwasanaeth ambiwlans, adrannau brys a hefyd y byrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y dulliau ysgogi cywir ar waith. Roeddech chi newydd gyfeirio at y staff y gwnaethoch chi gwrdd â nhw yr wythnos diwethaf. Yn y pen draw, maen nhw'n mynd i mewn, eisiau gwneud eu gorau, a gallwch chi ond dychmygu'r effaith mae'r ambiwlansys hynny sy'n aros y tu allan i ysbytai yn ei chael. Felly, a allech chi amlinellu sut y bydd y newidiadau arfaethedig rydych chi wedi'u nodi yn eich datganiad yn canolbwyntio ar system gyfan ledled Cymru?
Diolch i Lesley Griffiths am hynna. Rwy'n deall bod Gweinidogion sy'n newid targedau yn denu beirniadaeth weithiau, felly rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am y ffordd yr ymatebwyd i'r datganiad heddiw. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n llai pryderus am hynny na sicrhau bod gennym y trefniadau cywir ar waith a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Dyna'r unig faen prawf y dylem ei gymhwyso i'r cwestiynau hyn, fel y mae'r panel adolygu ei hun wedi cydnabod.
Rwy'n credu, mewn ffordd, fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â chario risg yn ffordd bwysig iawn o edrych ar hyn. Yr hyn yr ydym ni, rwy'n credu, wedi'i weld yn ymarferol yw bod y gwasanaeth ambiwlans wedi dewis cario mwy o'r risg honno ei hun mewn ffordd sy'n ddefnyddiol iawn i'r system yn gyffredinol, felly nid yw'n dweud wrth glaf, 'Ni allwn eich helpu', bydd yn dweud wrth glaf, 'Bydd rhywun yn eich ffonio chi'n ôl; byddan nhw'n eich ailgyfeirio." Felly, mae perthynas rhwng y claf a'r gwasanaeth iechyd, sydd, rwy'n credu, yn tawelu'r meddwl, os chi yw'r claf hwnnw sy'n chwilio am gymorth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ffordd newydd o weithio, a dyna sydd y tu ôl i'r ffaith eu bod wedi recriwtio'r uwch ymarferwyr parafeddygol, ac, yn hollbwysig, recriwtio'r tîm clinigol hwnnw, fel bod perchnogaeth glinigol, os mynnwch, o fewn y gwasanaeth ambiwlans, o'r claf hwnnw sydd wedi gwneud galwad. Rwy'n credu bod hynny'n newid mawr, mewn gwirionedd.
Mae'r cwestiwn system, rwy'n credu, yn gwestiwn pwysig iawn. Rydym eisoes wedi cyffwrdd â rhai o'r cydberthnasau rhwng oedi wrth drosglwyddo a'r angen am fwy o ddarpariaeth gymunedol. A dweud y gwir, mae rhoi'r gwasanaeth Achub Bywyd yn y gwasanaeth ambiwlans, rwy'n credu, yn ymestyn y ddarpariaeth gymunedol honno, sef yr hyn yr ydym eisiau ei weld, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy i symud adnoddau i ddarpariaethau ar lefel gymunedol lle bynnag y gallwn, fel bod ymateb mwy cadarn ar gael. Ac rwy'n credu, hefyd, fy mod wedi cael fy nharo gan y twf, os hoffech chi, ar draws y GIG, o frysbennu clinigol o bell, boed hynny drwy'r gwasanaeth ambiwlans neu drwy drefniadau rhanbarthol rhwng byrddau iechyd, a chredaf fod rhywbeth y mae angen i ni ei wneud i helpu'r cyhoedd i lywio hynny, fel eu bod yn deall sut y gall y gwasanaeth iechyd ymateb o bell i rai o'u hanghenion, pan fo hynny'n briodol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd NHS Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Tachwedd diwethaf, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar gyfer pob un o sefydliadau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad pellach i Aelodau ar ôl asesu'r sefydliadau yma'n ofalus o safbwynt ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae gennym ni drefniadau cadarn ar waith i wneud hyn o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mae'r broses yn ein helpu i benderfynu a oes angen cymorth ychwanegol ar unrhyw sefydliadau i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae'r gwaith yma'n rhan bwysig o fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu'r gofal a'r canlyniadau gorau posib i bobl yng Nghymru.
Dros y 18 mis diwethaf, mae'r Llywodraeth, y cyhoedd a'r Siambr wedi bod yn canolbwyntio'n fanwl ar amseroedd aros gofal wedi'i gynllunio. Mae'r ffigurau diweddaraf, a gafodd eu cyhoeddi bythefnos yn ôl, yn dangos bod y sefyllfa'n dechrau gwella. Mae'r amseroedd aros hir yn gostwng, mae'r rhestr aros yn dechrau lleihau ac mae'r perfformiad yn erbyn y targed canser yn gwella'n raddol. Mae hyn i gyd yn gadarnhaol. Mae'r ffigurau yma'n dangos bod y cymorth sy'n cael ei roi i fyrddau iechyd drwy'r fframwaith uwchgyfeirio yn dechrau cael effaith. Wedi dweud hynny, mae llawer i'w wneud eto. Rwyf eisiau diolch i holl staff y gwasanaeth iechyd sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth, a hynny yn aml o dan bwysau mawr. Mae'r canlyniadau diweddaraf yn cydnabod y gwaith caled yma a'r hyder cynyddol gyda systemau a phrosesau ledled Cymru.
Rwyf am ddechrau drwy rannu'r newyddion da. Fis Tachwedd, fe wnes i symud y gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o lefel 4 i lefel 3. Fe wnes i nodi hefyd y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r bwrdd i gytuno ar y gwelliannau cynaliadwy sydd eu hangen cyn i ni allu ystyried symud allan o drefniadau yn gyfan gwbl. Rwy'n falch o ddweud bod y gwelliannau yma wedi'u cynnal ers mis Tachwedd. Heddiw, rwy'n gallu symud y gwasanaeth i drefniadau lefel 1. Mae byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a bae Abertawe hefyd wedi gwella eu gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc dros y tri mis diwethaf. Mae hyn yn golygu bod modd symud y gwasanaethau hynny o lefel 4 i lefel 3.
Mae byrddau iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe i gyd wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda'u rhaglenni adfer gofal a gynlluniwyd. Mae ganddynt gynlluniau cryf ar gyfer gweddill eleni, a fydd yn golygu y byddant yn dileu arosiadau hir ym mron pob arbenigedd. I gydnabod y cynnydd hwn, rwyf wedi isgyfeirio perfformiad gofal a gynlluniwyd ym mhob un o'r tri bwrdd iechyd hyn o lefel 4 i lefel 3. Mae perfformiad canser hefyd yn dechrau gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae wedi bodloni'r meini prawf perfformiad isgyfeirio am y tri mis diwethaf ar gyfer canser, felly rwyf wedi isgyfeirio eu gwasanaethau canser o lefel 4 i lefel 3. Ym mhob un o'r achosion hyn, mae uwchgyfeirio lefel 3 yn golygu y bydd byrddau iechyd yn parhau i fod yn destun monitro a chraffu parhaus, ac ymyrraeth os oes angen, gan weithrediaeth y GIG.
Ym mis Ionawr y llynedd, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau sylweddol mewn perthynas â chyllid a chynllunio, a oedd yn effeithio ar berfformiad. Cafodd ei uwchgyfeirio i lefel 4 yn ddiweddarach. Ers hynny, mae wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn gysylltiedig â'i lywodraethu a'i arweinyddiaeth. Mae penodi cadeirydd, prif weithredwr a dirprwy brif weithredwr newydd wedi dod â sefydlogrwydd a chyfeiriad newydd i'r bwrdd. Mae symud tuag at strwythur grŵp gofal gweithredol wedi gwella'r broses o lywodraethu a gwneud penderfyniadau. Felly, rwyf wedi penderfynu isgyfeirio'r bwrdd iechyd ar gyfer llywodraethu ac arweinyddiaeth i lefel 3.
Yn anffodus, nid yw'r gwelliannau gwirioneddol yr ydym wedi'u gweld ar draws gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gofal a gynlluniwyd a chanser wedi cael eu hadlewyrchu mewn gofal brys ac argyfwng. Nid wyf yn gallu isgyfeirio gofal brys ac argyfwng yn unrhyw un o'r byrddau iechyd. Bydd rhaglen chwe nod gweithredol y GIG, ei thimau sicrwydd ac ansawdd a diogelwch yn parhau i weithio'n agos gyda'r byrddau iechyd hyn. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau ar y safle, cynllunio galw a chapasiti a chamau gweithredu i wella llif cleifion mewn ysbytai.
Dirprwy Lywydd, nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n parhau ar lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio ac ar lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys ac argyfwng yn adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio, ar lefel 5 neu, i bob pwrpas, mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y nodais yr wythnos diwethaf, bu cynnydd sylweddol. Bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mewn perthynas â'i gyllid, strategaeth a chynllunio. Fodd bynnag, mae ei statws uwchgyfeirio yn parhau i fod yn ddigyfnewid ers mis Tachwedd.
Dirprwy Lywydd, rwyf nawr yn troi at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n adrodd am ddiffyg ariannol cynyddol na fydd yn cael ei ddatrys heb ymyrraeth a chefnogaeth ychwanegol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad, felly, i uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd i lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. Mae hyn yn golygu y bydd gweithrediaeth y GIG yn asesu ac yn darparu'r ymyrraeth a'r cymorth ychwanegol sy'n ofynnol uwchben y trefniadau presennol i gyflawni'r gwelliannau gofynnol.
Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chyflwyno rhaglenni mawr. Rwy'n gwneud y penderfyniad hwn oherwydd pryderon difrifol am allu'r sefydliad i ddarparu nifer o raglenni mawr yn effeithiol. Mae'n hanfodol bod gan y GIG hyder yn IGDC i gyflawni ein trawsnewidiad digidol, felly byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y gwelliannau gofynnol. Lefel 3 yw'r cam cyntaf o ymyrraeth a chymorth sylweddol mewn sefydliad. Yn yr achos hwn, byddwn yn sicrhau gwasanaeth arbenigol digidol ychwanegol i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac IGDC i adolygu cyfres o gerrig milltir y cytunwyd arnynt a chynnydd yn erbyn y rhaglenni cenedlaethol y mae IGDC yn gyfrifol am eu cyflawni. Bydd yr arbenigwr hefyd yn darparu asesiad annibynnol o allu Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen yn y tymor byr i'r tymor canolig. Byddwn yn monitro cynnydd IGDC yn agos dros yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd cyfle pellach i adolygu'r cynnydd a wnaed a'i statws uwchgyfeirio yn y cyfarfod teirochrog nesaf ym mis Mehefin.
Nid oes unrhyw newidiadau i lefelau uwchgyfeirio ymddiriedolaethau GIG eraill ac awdurdodau iechyd arbennig. Dirprwy Lywydd, nid yw'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud yn ysgafn. O'i weithredu'n gywir, gall uwchgyfeirio, ymyrraeth a chymorth—ac, yn fy mhrofiad i, maen nhw—yn cael effaith barhaus ar sefydliad a'r gofal a'r gwasanaethau y mae'n ei ddarparu i'r cyhoedd. Dyma'r ffordd orau o gefnogi sefydliadau'r GIG i wella ansawdd y gwasanaeth a'r gofal y mae pobl yn eu cael, ac, yn y pen draw, eu canlyniadau. Bydd yr holl newidiadau yr wyf wedi'u cyhoeddi heddiw nawr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Er ei bod hi, rwy'n credu, yn iawn i gydnabod y meysydd bychain o gynnydd, mae'r darlun ehangach, wrth gwrs, yn parhau i fod yn destun pryder mawr. Mae pob un bwrdd iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn destun rhyw fath o ymyrraeth ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod uwchgyfeirio bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i lefel 4 oherwydd argyfwng ariannol sy'n gwaethygu, ac mae Betsi Cadwaladr yn parhau ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio ac mewn mesurau arbennig.
Tua diwedd eich datganiad yna, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch gyfeirio at y ffaith y gall ymyrraeth a chefnogaeth gael effaith barhaus ac y maen nhw'n gwneud hynny. Ac eto mae Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig i raddau helaeth ers bron i ddegawd, ac mae'r amseroedd aros wedi mwy na dyblu yn y cyfnod hwnnw. Felly, a allwch egluro, dweud wrthym, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddweud bod mesurau arbennig yn gweithio? Onid yw'n enghraifft lle nad yw'n wir? Mae Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 91 y cant o arosiadau tair blynedd yng Nghymru, a tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym pryd mae'n disgwyl i fesurau arbennig gael eu codi ym mhob maes yn y bwrdd iechyd, a nodi map ffordd ac amserlen yn hynny o beth.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn tynnu sylw at welliant bach mewn amseroedd aros, ond mae'n amlwg, ar y cyfan, bod yr ôl-groniad yn parhau i fod ar lefelau annerbyniol. Mae nifer y cleifion sy'n aros am ddwy flynedd yn parhau yn y degau o filoedd, a hynny gydag ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl i'r arosiadau dwy flynedd fod yn debyg i rai gwledydd eraill y DU?
Mae perfformiad canser yng Nghwm Taf Morgannwg wedi gwella ond mae meysydd eraill yn parhau i fod ymhell o gyrraedd targedau. Tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym pa gamau brys sydd wedi'u cymryd i wella diagnosis canser ac amseroedd triniaeth ar draws pob bwrdd iechyd. Mae hwn yn faes pwysig sy'n peri pryder.
Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cael ei uwchgyfeirio i lefel 4 ar gyfer strategaeth a chynllunio cyllid, a tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet sôn am faint y diffyg ac egluro sut y caniatawyd iddo ddirywio mor wael, o ystyried y ffaith ei fod ar y lefel honno o uwchgyfeirio eisoes.
Ysgrifennydd Cabinet, fe gyfeirioch at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i fod mewn rhywfaint o anhawster ariannol, a tybed pa adnabyddiaeth sydd gennych o'r gwahaniaeth rhwng bwrdd iechyd Powys a byrddau iechyd eraill ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, nid oes gan Bowys unrhyw ysbytai cyffredinol dosbarth ei hun. A tybed beth yw eich asesiad chi o hynny o ran faint yn fwy anodd yw hi iddyn nhw reoli eu diffyg, o ystyried y ffaith bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gofal trawsffiniol ar gyfer y ddarpariaeth i bobl o fewn ardal y bwrdd iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi gorfod uwchgyfeirio—. Rydych chi wedi dweud, yn hytrach, eich bod chi wedi gorfod uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i lefel 3 oherwydd ei fethiant i gyflwyno rhaglenni mawr. O ystyried pwysigrwydd trawsnewid digidol yn y GIG yng Nghymru a'r angen i drawsnewid gwasanaethau cyn gynted â phosibl, beth yw eich asesiad chi o'r ffaith bod yna oedi felly o ran trawsnewid gwasanaethau yn y ffordd y mae angen iddo ddigwydd ac yr hoffech chi ei weld?
Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at y rôl sydd gan weithrediaeth y GIG y bydd yn ei chwarae o ran asesu a darparu ymyrraeth ychwanegol. Ond, o ystyried bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn dal i fod mewn mesurau arbennig, rhai heb ddiwedd yn y golwg, byddwn yn dweud wrthych chi, fy nghwestiwn olaf yw: a yw'n bryd i chi ystyried efallai nad oes gan weithrediaeth y GIG y dannedd sydd eu hangen i gyflawni ei hamcanion?
Diolch i Russell George am y cwestiynau yna. Mae'n gwneud cymhariaeth â rhannau eraill o'r DU—nid wyf yn siŵr mai dyna'r lens gywir i'w defnyddio i edrych ar hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â darparu'r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau sy'n methu â chyflawni eu hamcanion. Ond, wyddoch chi, mewn gwirionedd, mae pob bwrdd gofal integredig yn Lloegr yn destun rhyw fath o uwchgyfeirio, ac rwy'n credu bod 180 allan o'r 205 ymddiriedolaeth yn destun rhyw fath o uwchgyfeirio. Felly, nid yw hyn o gysur i mi yn bersonol, ac ni fydd yn gysur iddo ef, ond nid yw hon yn her sy'n unigryw i Gymru, a gallai hynny adlewyrchu lefel y galw a phwysau adnoddau ar y GIG ym mhob rhan o'r DU dros y 14 mlynedd diwethaf.
Gwnaeth nifer o bwyntiau mewn perthynas â Betsi Cadwaladr yn benodol. Yn amlwg, cawsom gyfle, yn y Siambr yr wythnos diwethaf, i archwilio'n fanwl y gwelliannau mewn perthynas â llywodraethu yn benodol, ac arweinyddiaeth ac ansawdd a diogelwch, ond roeddwn yn glir iawn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, mewn perthynas â pherfformiad, sef bod ffordd bell eto i fynd; byddai'r bwrdd ei hun yn dweud yr un peth wrthych chi, fel rwy'n siŵr y maen nhw wedi gwneud.
Gofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf a fyddwn yn nodi amser penodol pryd yr wyf yn disgwyl i fesurau arbennig gael eu codi. Unwaith eto, nid wyf yn barod i wneud hynny. Nid wyf yn barod i roi ffrâm amser artiffisial ar waith. Rwy'n deall bod hynny'n rhwystredig i bobl; mae'n hollol rwystredig i mi. Ond, ar ddiwedd y dydd, y peth hollbwysig yw bod cymorth yn cael ei ddarparu i'r bwrdd iechyd mewn perthynas â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Ac, mewn gwirionedd, fel roeddwn i'n ei nodi'r wythnos diwethaf, yn bendant mae meysydd lle bu gwella. Byddaf yn isgyfeirio agweddau ar wella pan fyddant wedi cyflawni'r amcanion, ac mae hynny'n wir am bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn mai dyna'r dull gweithredu sy'n cael ei fabwysiadu, oherwydd dyna sy'n rhoi hyder i bobl, rwy'n gobeithio, sef bod cynllun cadarn ar waith.
Gwnaeth bwynt mewn perthynas ag amseroedd aros. Yr hyn rwyf eisiau ei weld yw ein bod yn adeiladu'n gyflym dros y misoedd nesaf ar y newidiadau bach a welsom yn y ffigurau a gyhoeddwyd fis diwethaf. Bydd y ffigurau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 20 Mawrth, ac maen nhw'n fisol ar ôl hynny, fel y gwyddoch chi. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gwelwn yr arosiadau hiraf hynny'n dod i lawr, ac yn parhau i ddod i lawr, dros y misoedd i ddod. Dyna'r her, y dasg, yr wyf wedi'i gosod i'r GIG, yn sicr. Dyna ddiben y cyllid. Nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig. Rwyf am fod yn glir iawn, iawn ynglŷn â hynny: ni all ymwneud â chyllid yn unig; mae'n rhaid iddo fod yn ymwneud â ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n gwbl sylfaenol i allu rhoi'r GIG ar sail gynaliadwy. Felly, oes, mae angen rhywfaint o adnoddau ychwanegol, ac rydym yn darparu hynny, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw cyflawni gwasanaethau'n wahanol, ac rwy'n credu bod cydnabyddiaeth o hynny.
Mae'n gwneud pwynt pwysig mewn perthynas â chanser. Rwy'n credu bod heriau o ran eglurder y dirwedd, yr wyf wedi'i chydnabod yn flaenorol yn y Siambr, ac rwyf wedi nodi'r cynllun sydd gennyf i fynd i'r afael â hynny, drwy'r bwrdd arwain canser, trwy symleiddio'r gwahanol fentrau yn y maes hwn, a sicrhau eu bod yn rhoi cyfeiriad clir i'r system. Ond nid yw'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn unig, ac nid yw'n ymwneud â'r eglurder hwnnw yn unig. O ran cydnerthedd y gwasanaeth ei hun, mae heriau mewn rhai meysydd diagnostig a rhai meysydd gweithlu. Yn y bôn, credaf fod angen aliniad agosach â'r llwybrau canser y gwyddom yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni ar gyfer cleifion o dan yr amgylchiadau hynny. Clywsom yn y Siambr yn gynharach, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, fod arfer da iawn, iawn mewn perthynas â chanser mewn rhannau o'r gwasanaeth yng Nghymru, boed hynny'n ymwneud â safleoedd tiwmor penodol, rhannau penodol o'r GIG. Yr her, yn amlwg, yw sicrhau bod hynny'n lefel gyson o ddarpariaeth ar draws y system.
Gofynnodd yr Aelod i mi mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'r rhwystredigaeth yn ei gwestiwn yn un rwy'n ei rannu. Mae diffyg ariannol cynyddol ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ac mae'n amlwg nad oes croeso iddo, ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ddeall yr ysgogwyr y tu ôl i hynny ac, yn amlwg, ei atal rhag gwaethygu. Ond ein barn ni yw y bydd angen mwy o ymyrraeth gennym ar y bwrdd iechyd er mwyn gallu mynd i'r afael â hynny'n ddigonol, a dyna pam ,yn amlwg, rwyf wedi uwchgyfeirio ymhellach.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, bod Powys mewn sefyllfa wahanol o ran peidio â chael ysbyty cyffredinol dosbarth, a chomisiynu gwasanaethau o rywle arall. Fodd bynnag, gallech hefyd ddadlau ei fod yn wynebu llai o risgiau o ran rheoli ysbyty, sy'n dod â'i gymhlethdod a'i amlygiad ei hun. Felly, mae'n arbennig. O safbwynt strategaeth, cynllunio ac ariannol, rwy'n credu bod manteision ac anfanteision i hynny. Y peth pwysicaf, wrth gwrs, yw bod gan drigolion Powys fynediad at ofal sy'n gyfartal â rhannau eraill o Gymru.
O ran uwchgyfeirio IGDC, mae'n uwchgyfeirio penodol iawn ar brosiectau. Mae llawer o waith yn digwydd yn y system, boed hynny mewn perthynas ag ap y GIG, mewn perthynas â'r ap mamolaeth, mewn perthynas â llu o brosiectau eraill, sydd ar y trywydd iawn ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y cerrig milltir sydd wedi'u gosod, ond rwy'n credu'n gyffredinol bod angen rhywfaint o gymorth ar y sefydliad ar gyfer rhai o'r prif brosiectau. Credaf fod diffyg argaeledd cyfalaf wedi bod yn her benodol yn y maes hwn, fel rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cydnabod.
Yn olaf, mewn perthynas â gweithrediaeth y GIG, mae'n sefydliad newydd. Mae'n sefydliad sydd yn ei gamau cynnar, ac mae'n bwysig i ni barhau i edrych a oes gennym y strwythur cywir, y dull cywir, ac mae hynny'n rhywbeth y mae gweithrediaeth y GIG yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio gyda hi mewn perthynas â hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y diweddariad. Mae'r cynnydd mewn rhai meysydd i'w groesawu, ond fel y soniais i wrth ymateb i'r datganiad ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf, yr hyn sydd ar goll yn y datganiad yma ydy unrhyw gynllun ac amserlen er mwyn cyrraedd cyflwr boddhaol, oherwydd er gwaethaf y pelydrau o olau roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio atyn nhw, rŷn ni'n parhau i fod mewn sefyllfa ble mae pob un o'r saith bwrdd iechyd lleol mewn rhyw fath o fesurau arbennig, gyda dim arwydd bod hyn am newid yn fuan. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwir na ellir dianc ohono, sef, o dan arweiniad y Llywodraeth yma, fod yr hyn a ddylai fod yn eithriadol wedi datblygu i fod yn arferol. Mae gwasanaethau methedig wedi cael eu normaleiddio, a phobl Cymru sy'n talu'r pris am restrau aros hir, am fethiant i gael triniaethau, methiant i gael apwyntiadau, ymhlith llu o broblemau eraill. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, felly, gymryd cyfrifoldeb am ei rhan yn y methiannau yma, ond efallai fod yn rhaid i ni hefyd edrych ar addasrwydd y broses o gyflwyno mesurau arbennig fel y prif declyn i yrru gwelliannau ymlaen.
Y llynedd, cyhoeddodd Plaid Cymru ei chynllun ar gyfer diwygiadau llywodraethu yn y GIG, a gafodd ei lywio gan gyfweliadau gyda nifer o uwch arweinwyr sy'n gweithio yn y system iechyd ar hyn o bryd. Un o'r negeseuon mwyaf ysgubol a chyson a glywsom oedd diffyg hyder yn y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth, ei fod yn annigonol dryloyw o safbwynt atebolrwydd, a bod y pyst gôl yn parhau i symud o ran pwysigrwydd canfyddedig materion penodol, sy'n aml yn cael ei ddylanwadu gan ystyriaethau gwleidyddol yn hytrach na meini prawf mwy gwrthrychol. Gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet bellach wedi cael y cyfle i gael ei draed o dan y bwrdd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a all gadarnhau a yw wedi clywed synau tebyg o'i sgyrsiau gydag uwch arweinwyr y GIG?
Mae'r diffyg hyder uchod yn y trefniadau hefyd yn arwydd o ddiffygion mewn gwybodaeth perfformiad ac ansawdd o ran GIG Cymru, sydd, i ddyfynnu ein cyfweleion, yn cael ei ystyried yn 'gwbl anhryloyw', ac sydd â 'dim sgôr am ansawdd o gwbl'. A allwch egluro pam mae hyn yn wir, ac a ydych yn derbyn ei fod yn creu rhywfaint o ansicrwydd ymhlith arweinwyr y GIG ynghylch gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer gwella safonau?
Roedd yn rhwystredig, a dweud y lleiaf, clywed bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gael ei uwchgyfeirio i lefel 3. Wyth mis yn ôl, roedd y Prif Weinidog yn ymgyrchu dros Lywodraeth Lafur y DU, gan ddal placard yn galw am foderneiddio'r GIG. Roedd yr eironi yn amlwg i ni gyd. Ond lle mae'r bartneriaeth hon mewn grym? Cwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet am ddiffyg arian cyfalaf i gefnogi hyn, ond mae'r Llywodraeth mewn sefyllfa i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cynorthwyo yn hyn o beth, felly ble mae'r bartneriaeth honno? Pryd allwn ni weld hyn yn cael ei gyflawni?
Ble mae'r arweinyddiaeth i sicrhau defnydd llawn o bensaernïaeth ddigidol yn ein GIG? Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag OneLondon, sefydliad sydd wedi llwyddo i ddod â'u gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd ynghyd â fframweithiau digidol cyffredin, gan arbed nid yn unig degau o filiynau o bunnau, ond hefyd gwella canlyniadau sylweddol i Lundeinwyr. A chefais gyfarfod hefyd gydag uned iechyd digidol Sweden, sy'n cyflwyno digido, gan sicrhau bod trigolion trefol a gwledig yn elwa ar bensaernïaeth ddigidol gwbl integredig. Felly, pam y mae Cymru mor bell y tu ôl i'r gromlin? A beth yw gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer digido?
Yn olaf, rydych chi wedi uwchgyfeirio Caerdydd a'r Fro i lefel 4 ar gyfer cyllid, gan ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg cynyddol sydd angen ymyrraeth a chefnogaeth ychwanegol, ond wnaethoch chi ddim egluro sut olwg fydd ar yr ymyrraeth a'r cymorth ychwanegol hyn. Felly, tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet ymhelaethu ar hyn ac egluro sut olwg fydd ar hyn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau yna. Ond mae yna gynllun. Mae cynllun ar gyfer cefnogi sefydliadau i ddod allan o fesurau arbennig ac uwchgyfeirio, sef yr ystod o ymyraethau a ddarparwn, yr ystod o gefnogaeth, yr ymyrraeth uniongyrchol y mae gweithrediaeth y GIG yn ei wneud lle mae heriau penodol, ac mae'n bwysig iawn bod y pethau hyn yn dryloyw yn y ffordd yr oedd yn ei awgrymu yn ei gwestiwn.
Ychydig ar ei bwynt am adroddiad Plaid Cymru, fe wnes i ei ddarllen yn ofalus iawn ar y pryd, ac roeddwn i'n meddwl ei fod—. A dweud y gwir, roeddwn yn ddiolchgar iddo am y ffordd yr oedd yn adleisio'r araith a roddais dair wythnos ynghynt, am rai o'r pethau yr oedd angen i ni eu newid yn y GIG. Felly, croesawais y dadansoddiad a rennir a oedd ganddo yn ddiweddarach.
Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â thryloywder yn bwynt pwysig. Ond, mewn perthynas â hyn yn benodol, tybed a yw ychydig yn hen ffasiwn erbyn hyn, oherwydd cafodd cryn dipyn o'r beirniadaethau hynny eu gwneud yn y gorffennol, rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau a'r camau sydd eu hangen arnom er mwyn cyfiawnhau uwchgyfeirio, ac un o'r heriau a gododd, rwy'n credu, yw nad yw'r eglurder ynghylch isgyfeirio wedi bod yn glir yn y gorffennol, ond mae hynny bellach yn glir. Mae'r cyfan wedi'i gyhoeddi. Mae ar gael er mwyn iddo ef ac eraill graffu arnom ni, a hefyd byrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gymaint o her heddiw, o gofio ein bod wedi bod yn glir iawn am yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi, fel yr ydym ni mewn perthynas â pherfformiad y bwrdd iechyd.
Rydym bellach wedi symud i gyhoeddi yn chwarterol, ar lefel bwrdd iechyd, perfformiad yn erbyn ystod o ddata, ac rwyf wedi bod yn gwbl ddiamwys yn y canllawiau cynllunio, a gyhoeddais i'r GIG cyn y Nadolig, am y gofynion sydd gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â'r camau galluogi i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Byddaf yn monitro'r llinell sylfaen bresennol, y perfformiad yn ystod y flwyddyn, a byddaf yn cyhoeddi'r wybodaeth honno, fel bod pobl yn gallu asesu pa fyrddau iechyd sy'n bodloni pa amcanion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod lefel o drafodaeth gyhoeddus a chraffu ar hynny, ac felly byddaf yn sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog unwaith eto am ei ddatganiad. Bydd yn ymwybodol bod llawer ohonom wedi dod â materion yn ymwneud â gofal sylfaenol yn ardal Aneurin Bevan iddo dros y misoedd diwethaf, a bu argyfwng gwirioneddol yn argaeledd gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer fy etholwyr. Roedd hi'n anodd iawn, iawn i mi ganfod yn union pwy oedd yn atebol am hynny a sut y gallem ddatrys y materion hynny. Ac mae hynny'n golygu bod gennym broblem wirioneddol yma, ac yn y ffordd yr ydym yn llywodraethu, ynghylch sut y gall Aelodau yma ac eraill ganolbwyntio atebolrwydd. Ond rwy'n credu hefyd bod angen i ni fynd ymhellach na hynny, ac yn bellach nag efallai y mae ef wedi mynd yn ei ddatganiad y prynhawn yma.
Mae hi wedi bod yn ddegawd a hanner ers i'r byrddau iechyd gael eu creu, ac fe wnes i gefnogi Edwina Hart yn fawr pan oedd hi'n gwneud hynny. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn welliant ac yn wasanaeth gwell. Ond yr hyn nad ydym yn ei wneud yng Nghymru, ac rydym yn ei wneud yn wael iawn, mewn gwirionedd, yn ein llywodraethiant, yw nad ydym yn mabwysiadu'r un dull ag y maent yn ei wneud dros y ffin yn Lloegr gyda'r broses adolygu pum mlynedd, pan fo adrannau a strwythurau llywodraethu yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ynghylch sut maent yn cyflawni a sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud yma, mewn ffordd braidd yn ad hoc, fu creu partneriaethau a byrddau a phwyllgorau a chydbwyllgorau ac ati, ond nid ydym wedi cael adolygiad ar draws y system, yn fy mhrofiad i, sy'n edrych mewn gwirionedd ar sut mae ein llywodraethiant yn gweithio a pha mor effeithlon yr ydym yn cyflawni. Rydym wedi canolbwyntio'n fanwl ar wasanaethau unigol a thargedau unigol, ond yr hyn nad ydym wedi'i wneud yw edrych ar y system. Ac yn hytrach na pharhau â'r broses o uwchgyfeirio yma ac acw, yr hyn yr hoffwn weld y Llywodraeth yn ei wneud yw mabwysiadu'r broses adolygu pum mlynedd hon—
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Alun, os gwelwch yn dda.
—ac edrych ar gyflawni gwasanaethau ar draws y system gyfan.
Wel, rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwynt diddorol. Rwy'n credu ein bod ni'n rhannu—. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei fod yn gweld hynny fel cusan angau mewn ymateb gweinidogol. Ond, o ddifrif, rwy'n credu ein bod yn rhannu'r farn bod Cymru'n rhy gymhleth o ran ei strwythurau llywodraethu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Rwyf o'r farn honno'n llwyr fy hun. Nid fi yw'r un i drafod y dull y bydd y Llywodraeth yn ei gymryd ar sail eang o ran cwestiynau llywodraethu. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y GIG yn benodol, mae'r adolygiad atebolrwydd a gynhaliwyd gennym y llynedd wedi dweud wrthym rai pethau pwysig iawn am lywodraethu yn y GIG a'r angen am eglurder, yr ydym yn ei gyflawni dros y misoedd hyn, am y rolau priodol, fel yr oeddem yn eu crybwyll yn gynharach, gweithrediaeth y GIG, a'r eglurder o ran cynllunio disgwyliadau'r gwasanaeth. Mae'r rhain yn bethau pwysig.
Nid wyf fi, fy hun, am ymdrin â chwestiynau diwygio strwythurol. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod ei hun wedi cael rhywfaint o brofiad o hyn. Rwy'n credu y gall ddenu llawer o egni, heb bob amser ddarparu'r cyfle hwnnw ar gyfer gwella perfformiad. Rwy'n credu lle rydym ni heddiw, y peth tyngedfennol yw ein bod ni'n ysgogi gwell perfformiad yn y GIG. Fodd bynnag, credaf fod cwestiynau lle mae llywodraethu ac atebolrwydd yn cyffwrdd â pherfformiad. Byddwn i'n derbyn hynny'n llwyr. Felly, rwy'n credu y byddwch yn fy nghlywed yn dweud mwy yn yr wythnosau i ddod ynglŷn â sut rydym yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau rhanbarthol yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod angen gwneud mwy ar y lefel honno i fynd i'r afael â chydnerthedd a gwell canlyniadau i gleifion. Ac mae cwestiwn yn codi yn y maes hwnnw ynglŷn â llywodraethu hefyd, ac atebolrwydd.
Rydym ni'n gwybod, ac mae wedi cael ei grybwyll gymaint o weithiau yma, ynghylch sut mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig, yn dechnegol o dan eich—a'r Gweinidogion eraill gynt—llywodraethu chi, ers 10 mlynedd. Ac mae wedi bod ar y lefel 5 hon nawr, unwaith eto, ers mis Chwefror 2023. Fel y soniwyd gan fy nghyd-Aelod, Russ George, mae gan bedwar bwrdd iechyd arall statws uwchgyfeirio 4. Mae'r rhain yn cynnwys Hywel Dda, am bron popeth o ran methiannau, a Bae Abertawe ar gyfer cyllid, strategaeth, cynllunio ac ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, ac oherwydd pwysau ariannol, gweithredol a staffio. Rwy'n deall bod y cyn-Weinidog iechyd, ein Prif Weinidog bellach, wedi derbyn argymhellion swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylid newid statws uwchgyfeirio'r sefydliadau hyn. Tybed a oes angen system arall ar y gweill. Nid gadael byrddau iechyd mewn mesurau arbennig neu mewn statws uwchgyfeirio yw'r ffordd ymlaen. A ydych yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, y dylid cynnal diwygiadau amlach o'r statws uwchgyfeirio? Rwyf wedi darganfod, dros y blynyddoedd y mae bwrdd Betsi wedi bod mewn mesurau arbennig, i mewn ac allan, fel y mae ef, ei fod yn eithaf digalon i lawer o staff y rheng flaen, ac maen nhw'n awyddus i fynd allan o'r sefyllfa mesur arbennig hwn yn gyflym. Mae ein staff yn haeddu gwell. Mae ein staff yn haeddu gwell. Felly, beth allwch chi ei wneud nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, i sicrhau bod y gwelliannau sydd eu hangen, y mesurau sydd eu hangen, y gwaith sydd ei angen yn cael eu rhoi ar waith, fel y gall y byrddau iechyd hyn gael cyfnod pryd nad ydynt yn rhan o broses uwchgyfeirio? Diolch.
Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'r Aelod, mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gywir dweud ein bod ni'n gadael byrddau iechyd mewn mesurau arbennig. Fe wnes i ddatganiad heddiw sydd wedi cyhoeddi newidiadau mewn perthynas â phum bwrdd iechyd ac awdurdod iechyd arbennig, ac felly mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd, ac mewn gwirionedd mae hyn yn digwydd ddwywaith y flwyddyn. Felly, mae cydbwysedd i'w gyflawni. Rydych chi eisiau system nad yw'n addasu mesurau arbennig yn gyson, oherwydd mae angen amser arni i ymateb i'r ymyrraeth a ddaw yn sgil uwchgyfeirio. Yn yr un modd, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt teg; nid ydych chi eisiau bod yn y broses uwchgyfeirio am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Rwy'n credu mewn gwirionedd, o ran cylch adolygiad, mai'r cydbwysedd sydd gennym yw'r cydbwysedd cywir. Rwy'n cydnabod, mewn bwrdd iechyd fel Betsi Cadwaladr, sydd wedi'i uwchgyfeirio ers peth amser, yn amlwg y bydd staff yn gweld hynny'n heriol. Dyna pam y mae cael y lefel gywir o gefnogaeth i mewn mor bwysig.
Mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae'n amlwg yn siomedig iawn ei fod wedi gorfod cael ei uwchgyfeirio ar strategaeth a chynllunio ariannol. Mae heriau ariannol penodol wrth gynnal gwasanaeth gofal eilaidd a thrydyddol rhagorol yn aml o adeilad mor hen ffasiwn. Fel y gwelsom yn Saving Lives in Cardiff, nid oedd y rhagoriaeth glinigol yn cyd-fynd o gwbl â set mor anodd o adeiladau. Nid yw'n llesol i staff, nid yw'n llesol i gleifion nac i berthnasau, ac er bod rhywfaint o oleuni wedi bod o ran cyllid cyfalaf o gyfeiriad Llywodraeth y DU, dim ond ychydig o oleuni ydyw, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw beth cadarnhaol y gallwn ni ei wneud o bosibl i ddechrau ailadeiladu'r Ysbyty Athrofaol ar yr un safle. Ni allaf weld unrhyw ddewis arall, o ystyried bod Caerdydd yn orlawn.
Yn ail, Iechyd a Gofal Digidol Cymru: mae staff rheng flaen yn ysu am gael y systemau digidol a fydd yn eu galluogi i roi'r gorau i wneud y pethau y bydd y cyfrifiadur yn eu gwneud yn well, a meddwl oeddwn i tybed a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud ynghylch sut rydym ni'n mynd i gyrraedd lle y mae angen i ni fod.
O ran pwyntiau'r Aelod am Gaerdydd a'r Fro yn benodol, mae trefniant misol, yn amlwg, gyda phob bwrdd iechyd, lle mae'r sefyllfa ariannol yn cael ei monitro, ac roedd yn amlwg wrth i ni gyrraedd diwedd y llynedd na fyddai diffyg y bwrdd iechyd yn cyd-fynd â'r disgwyliadau, ac roedd rhai cwestiynau ynghylch rhai o'r arbedion yr oeddent wedi bwriadu eu gwneud ond nad oedd modd eu cyflawni. Felly, yn yr wythnosau ers hynny, bu trafodaeth barhaus, yn amlwg, rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd i ddeall ysgogwyr hynny, beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â hynny, a gwelir canlyniad y trafodaethau hynny yn y cyhoeddiad heddiw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf. Bydd cyllideb gyfalaf y flwyddyn nesaf ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sylweddol fwy nag y bu ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n croesawu hynny'n llwyr. Bydd yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell a phenderfyniadau buddsoddi mwy cefnogol ynghylch safleoedd ond hefyd seilwaith digidol a seilwaith meddygol a chlinigol arall hefyd, yr ydym i gyd yn amlwg eisiau ei weld.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, serch hynny, yw bod y rhagolygon cyfalaf tymor hwy rwy'n credu ychydig yn llai cadarnhaol. Rwy'n credu fy mod i'n casglu hynny o'r hyn rydym ni'n ei glywed y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yn fwy cyffredinol. Fy nadansoddiad fy hun yw bod lefel y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar y gwasanaeth er mwyn gwneud iawn am y diffyg argaeledd ar lefel o fuddsoddiad cyfalaf ledled y DU, yw symiau o'r maint sy'n fwy na'r symiau y byddwn yn gallu eu darparu y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu nad yw hynny, ar un ystyr, yn syndod, ond mae hefyd yn creu darlun o raddfa'r her.
Rwyf eisiau dweud mewn perthynas ag uwchgyfeirio IGDC ei fod yn uwchgyfeirio penodol. Mae amrywiaeth o brosiectau y mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gyfrifol am eu cyflawni gyda IGDC mewn perthynas â'r bensaernïaeth genedlaethol, sef tanategu trawsnewid digidol yn y gwasanaeth iechyd. Rydym yn gobeithio gwneud cynnydd gwirioneddol ar hynny dros y flwyddyn hon i nodi cyfeiriad teithio mewn perthynas â'r cofnod iechyd electronig sy'n cysylltu'r gwasanaeth iechyd gyda'i gilydd, ond hefyd ymyraethau ar ap y GIG. Rydym ni'n hyderus iawn ynglŷn â ble rydym ni gydag ap y GIG. Dydw i ddim yn mynd i ddweud mwy amdano heddiw, ond bydd mwy i'w ddweud yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Bydd hynny'n trawsnewid y berthynas rhwng y claf a'r GIG hefyd.
Yn bendant mae cynnydd da mewn ymyraethau penodol yn y diwygiadau yr ydym wedi gofyn amdanynt. Mae'r her y mae'r Aelod yn ei chynnig yn her deg ynghylch graddfa'r trawsnewidiad sydd ei angen yn y gwasanaeth iechyd, sy'n sylweddol iawn. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny fel Gweinidogion ac wedi ymrwymo'n llwyr fel Llywodraeth i gyflawni'r trawsnewid hwnnw cyn gynted ag y gallwn.
Ac yn olaf, Lee Waters.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o weld bod statws Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi'i uwchgyfeirio. Rwy'n bryderus iawn am gyflwr y sefydliad. Rwyf newydd fod yn darllen ei bapurau bwrdd diweddaraf, ac nid oes gan ei gofrestr risg map gwres unrhyw wyrdd bron ac mae'n goch i raddau helaeth gydag oren. A fyddai'r Ysgrifennydd iechyd yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o'r prosiectau maen nhw'n gweithio arnyn nhw mewn trafferth?
Rwy'n falch ei fod yn cyfarfod yn fisol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac mae wedi cyhoeddi heddiw bod y Llywodraeth yn penodi asesiad annibynnol o allu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflawni a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen yn y tymor byr i'r tymor canolig. A gaf i ofyn iddo am allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth? A oes digon o gapasiti a gallu ar lefel weithredol Llywodraeth Cymru a'r GIG i ddarparu'r lefel o gefnogaeth a her sydd ei angen, yn amlwg, ym maes Iechyd a Gofal Digidol Cymru? A gaf i ofyn iddo hefyd am y berthynas gyda'r byrddau iechyd? Oherwydd ni ddylem adael iddyn nhw ddianc rhag eu cyfrifoldeb a rhoi'r bai i gyd ar IGDC ychwaith. Mae'n amlwg bod datgysylltiad yma rhwng yr hyn sy'n digwydd ar lefel y bwrdd iechyd ac ar lefel genedlaethol.
Ac yna, yn olaf, rwy'n credu ei bod yn werth nodi nad yw'r rhain yn newydd. Yn ôl yn 2018, canfu'r archwilydd cyffredinol fod y corff blaenorol, sydd yn y bôn yr un corff ag enw gwahanol, gwasanaeth gwybodeg GIG Cymru, yn euog o batrwm o fod yn rhy gadarnhaol wrth adrodd am ei gynnydd. Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o hyd i sawl enghraifft o hyn, a hynny yn 2018. Mae'n teimlo fel ein bod ni'n teimlo'r un peth eto, oherwydd, unwaith eto, pan fyddwch chi'n darllen ei adroddiadau bwrdd, nid yw hwn yn sefydliad sy'n teimlo fel pe bai ar drothwy uwchgyfeirio sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae rhywbeth nad yw'n hollol iawn nac yw'n gweithio'n dda.
Pwrpas uwchgyfeirio DHCW—dyma'r tro cyntaf i ni uwchgyfeirio awdurdod iechyd arbennig o gwbl—yw gallu darparu'r ymateb hwnnw, yr amlinellodd rywfaint ohono yn ei gwestiwn i mi. Yn amlwg, nid yw'r penderfyniad yn cael ei wneud yn ysgafn, ac nid yw byth yn cael ei wneud yn ysgafn o ran unrhyw uwchgyfeirio, ac mae'n ymwneud, rwy'n credu y gallai fod yn deg dweud, â chyflymder ac effeithiolrwydd gweithredu digidol ar draws ystod o raglenni mawr a materion cyflawni hefyd mewn perthynas â rhai o'r prosiectau a gomisiynwyd. Byddwn i'n cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch adnabod risg yn briodol a sgoriau RAG. Ond dyna bwrpas yr uwchgyfeirio.
O ran y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am arbenigedd a chapasiti, yn amlwg mae yna gapasiti o fewn gweithrediaeth y GIG, ond y rheswm rwyf wedi'i nodi yn y datganiad pam y byddwn ni'n defnyddio arbenigedd allanol ar gyfer y dadansoddiad yw oherwydd ein bod am sicrhau bod yna farn technoleg arbenigol annibynnol ar lle mae'r sefydliad arni a pha gymorth sydd ei angen arno'n benodol er mwyn gwella, sef yr hyn rydym am ei weld, yn amlwg.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg iawn am y berthynas rhwng Iechyd Digidol a Gofal Cymru a'r byrddau iechyd lleol. Nid yw hyn i ddweud o gwbl y dylid beio Iechyd Digidol a Gofal Cymru yn gyfan gwbl am yr heriau wrth gyflwyno nifer o raglenni. Yn sicr, nid yw hynny'n wir, ac mae angen i ni ddatblygu allan o'r profiad hwn ffordd o weithio rhwng y byrddau iechyd a DHCW lle mae ymdeimlad o agenda a rennir ynghylch y trawsnewid digidol sydd ei angen. Fy myfyrdod fy hun ar un o'r heriau yn y gofod hwnnw yw, yn absenoldeb pensaernïaeth glir, nad yw'n gwbl bosibl disgrifio'r gyrchfan rydym yn gweithio tuag ati. Mae hynny'n caniatáu llawer gormod o hyblygrwydd yn y system yn y cyfamser ac yna diffyg eglurder. Dyna pam mae cael y bensaernïaeth honno ar waith ar frys yn gyfrannwr pwysig at yr ateb yn gyffredinol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 6 yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025. Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Dawn Bowden.
Cynnig NDM8843 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio’r rheoliadau presennol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn gam pellach tuag at wireddu ein nodau i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, i barhau i godi ansawdd gofal ac i sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth maen nhw'n eu haeddu. Mae cofrestru yn cydnabod cyfrifoldeb proffesiynol gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl yn ein cymunedau. Bydd y rheoliadau hyn yn cyfarwyddo rheoleiddiwr y gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru, i agor adran newydd o gofrestr y gweithlu i ganiatáu i gyflogeion a gweithwyr mewn gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Os cânt eu pasio heddiw, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill ac mae hyn yn caniatáu cyfnod dros dro o bron i 18 mis cyn 30 Medi 2026, pan fydd darparwyr cofrestredig gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig ond yn gallu cyflogi gweithwyr os ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae cofrestru yn helpu i ddarparu mwy o fesurau diogelu i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn fel y gallan nhw, â'u teuluoedd a'u ffrindiau, fod yn hyderus bod gan y gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw gymwysterau priodol ac y gallan nhw gael eu dwyn i gyfrif yn erbyn y cod ymarfer proffesiynol a bennir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n helaeth gyda'r sector er mwyn cefnogi'r gweithwyr hyn i gofrestru erbyn y dyddiad cau ym mis Medi 2026. Diolch yn fawr.
Gweinidog, nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall?

Dim byd arall.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 yw Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.
Cynnig NDM8844 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau'r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025. Mae'r rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer llwyfan gwybodaeth am etholiadau Cymreig o dan adran 26 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae'r rheoliadau'n nodi'r wybodaeth a ddylai fod ar y platfform ac yn rhoi cyfrifoldeb ar y bwrdd rheoli etholiadol sydd newydd ei sefydlu, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, i fod yn weithredwr y platfform. Mae'n arbennig o briodol i gynnig y rheoliadau hyn yn ystod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais y Comisiwn Etholiadol, sydd â'r thema 'dod yn wybodus a chymryd rhan'. Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y platfform yw gwella argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth i bleidleiswyr, gan helpu i gynyddu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a hyder i gymryd rhan yn etholiadau Cymru. Bydd y platfform yn darparu un pwynt gwybodaeth i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys manylion am eu gorsafoedd pleidleisio, pleidiau ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, a chyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol arall.
Mae'r rheoliadau'n darparu bod cynnyrch sylfaenol hyfyw yn weithredol ar gyfer mis Mai 2026, ac yn caniatáu hyblygrwydd i'r platfform ddatblygu dros amser. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn cyn toriad hanner tymor y Senedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol a thri phwynt adrodd teilyngdod.
Mae'r pwynt technegol cyntaf yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl ac yn nodi bod anghysondeb rhwng sut y diffinnir 'ymgeisydd' yn y rheoliadau o'i gymharu â'r fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori arni'n ddiweddar. Mae'r Llywodraeth yn cytuno â'r pwynt rydym yn ei godi, ac mae wedi ymrwymo i egluro'r afreoleidd-dra o ran y diffiniad hwn pan fydd yn gwneud offeryn statudol diwygio yn ddiweddarach eleni, y bydd angen iddo groesgyfeirio at Orchymyn ymddygiad 2025, unwaith y gwneir hwnnw.
Mae'r pedwar pwynt adrodd technegol sy'n weddill i gyd yn codi materion lle mae'r pwyllgor o'r farn bod angen esboniad pellach. Yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf, gwnaethom ystyried yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â phob un o'r pwyntiau hyn. Mae'r ymateb hwnnw ar gael o agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.
Yn olaf, nodaf fod tri phwynt adrodd teilyngdod y pwyllgor i gyd yn tynnu sylw at faterion o bwys gwleidyddol neu gyfreithiol, neu a all arwain at bolisi sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Dim siaradwyr. Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.

Diolch, Llywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor yn fawr iawn ac yn nodi'r hyn mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud. Bydd y rheoliadau hyn yn cyflawni elfen allweddol o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a bydd y platfform yn cefnogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn hyderus mewn etholiadau yng Nghymru, gan chwalu'r rhwystrau i gyfranogiad a grymuso dinasyddion Cymru i leisio eu barn yn ein democratiaeth.
Mae'r bwrdd rheoli etholiadol yn gweithio ar fanylion technegol cyflwyno'r platfform. Mae yna weithgor, gan gynnwys y bwrdd rheoli etholiadol, swyddogion Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr etholiadol, sy'n gweithio ar weithrediad manwl y platfform, ac rwy'n siŵr y bydd yn clywed y pwyntiau a wnaed heddiw.
Yn olaf, Llywydd, mae hwn yn fuddsoddiad yn ein democratiaeth. Bydd y platfform yn helpu pobl i ddeall etholiadau a'r dewisiadau sydd ganddyn nhw wrth bleidleisio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitemau 8 a 9 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Does dim gwrthwynebiad.
Felly, fe wnaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynigion yma—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8841 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.
Cynnig NDM8842 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser agor y ddadl yma heddiw. Mae Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025 yn ychwanegu tri chorff i Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg. Drwy wneud hyn, bydd modd ychwanegu’r cyrff yma i reoliadau safonau’r Gymraeg sydd eisoes yn bodoli.
Mae Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 yn ychwanegu chwe chorff ac awdurdodau iechyd arbennig fel categori o bersonau i reoliadau safonau’r Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar y cyrff yma a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae wyth set o reoliadau safonau wedi’u gwneud hyd yma, a thros 130 o gyrff yn dod o dan y safonau. Roedd y math o wasanaethau y mae’r cyrff ac awdurdodau iechyd arbennig yn eu darparu yn ystyriaeth wrth benderfynu pa set o reoliadau safonau oedd yn fwyaf addas ar eu cyfer. O ganlyniad, rydym yn ychwanegu cyrff heddiw at bum set wahanol o reoliadau safonau.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae nifer fach o safonau rheoliadau Rhif 6 yn cael eu gwneud yn gymwys i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â holl safonau rheoliadau Rhif 7. Mae hyn oherwydd eu bod yn darparu gwasanaethau addysg yn ogystal â bod yn gorff sector iechyd.
Mae awdurdodau iechyd arbennig yn cael eu hychwanegu fel categori at reoliadau Rhif 7, gyda’r holl safonau yn gymwys iddynt, er mwyn diogelu’r rheoliadau at y dyfodol. Pe bai awdurdod iechyd arbennig newydd yn cael ei greu yn y dyfodol, byddai modd i’r comisiynydd osod safonau ar y corff yn syth, heb orfod aros inni ychwanegu’r corff hwnnw at reoliadau.
Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i ddod â mwy o gyrff cyhoeddus o dan y drefn safonau. Mae cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth yma gerbron y Senedd heddiw yn gam pellach i gyflawni hynny, ac rwy’n gofyn i’r Aelodau gefnogi’r rheoliadau.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y ddwy set hyn o reoliadau drafft ar 10 Chwefror. Mae adroddiadau'r pwyllgor ar y ddau offeryn yn tynnu sylw at yr un mater â phwyntiau adrodd technegol.
O ran y ddau offeryn, mae unig bwynt adrodd technegol y pwyllgor yn nodi nad yw'r geiriad a ddefnyddir yn y rhagymadrodd i ddisgrifio'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn glir ynghylch yr hyn sy'n cael ei gymeradwyo gan y Senedd mewn gwirionedd. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru pam nad yw'r ffurf glir arferol ar eiriau wedi'i defnyddio, fel y gwelwyd mewn offerynnau cadarnhaol drafft eraill yn ddiweddar.
Mewn ymateb i'r ddau adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor fod y cyfeiriad at is-adran (2) o adran 150 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn eu barn nhw, yn ddigonol i'w gwneud yn glir mai'r offeryn statudol drafft sy'n derbyn cymeradwyaeth y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi bod rheoliadau eraill ar safonau'r Gymraeg wedi gwneud defnydd o'r geiriad hwn yn flaenorol. Mae'r pwyllgor yn cydnabod mai Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am farnu materion drafftio. Serch hynny, mae'r geiriad a ddefnyddir mewn offerynnau cadarnhaol drafft eraill yn gliriach ac yn fwy hygyrch i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth. At hynny, ni ddylid dibynnu ar gynsail heb sicrhau bod y drafftio'n glir ac yn briodol yn ôl safonau cyfredol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r estyniad yma i sefydliadau sydd yn ddarostyngedig o ran safonau'r Gymraeg. Mi oedden ni hefyd yn cytuno efo sylw'r Llywodraeth o ran y £12 miliwn yma wedi'i nodi fel cost gan un awdurdod iechyd. Yn amlwg, dydy'r swm yna ddim yn realistig, ac mae'n bwysig ein bod ni'n herio. Roedden ni'n falch bod yna gyhoeddusrwydd wedi bod ddoe ar hyn, ac yn falch o weld sylwadau'r Llywodraeth, oherwydd dŷn ni eisiau gweld mwy o gyrff yn ymestyn o ran y safonau. Yn amlwg, mi oedd yna ymrwymiad—y cytundeb cydweithio i fod yn dod â mwy o gyrff yn ddarostyngedig i'r safonau. Buaswn i'n hoffi gwybod, gyda'r etholiad yn dod y flwyddyn nesaf, sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod rheoliadau i gwmpasu'r sectorau cymdeithasau tai a thrafnidiaeth yn dechrau.
Ond yn sicr o ran eich sylwadau chi ddoe, yn rhoi'r costau yna yn y cyd-destun cywir, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos bod y camau hyn yn gadarnhaol o ran y Gymraeg, o ran defnyddwyr, a'u bod nhw ddim yn bethau i sefydliadau fod yn eu hofni. Mae yna ddigon o enghreifftiau rŵan o ble mae hyn yn gweithio'n effeithiol iawn, a dŷn ni'n falch iawn o weld y symudiad hwn heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.

Diolch yn fawr, Llywydd. I ymateb i bwynt Mike Hedges i ddechrau, Llywydd, y cyngor sydd gennyf yw bod y geiriad a ddefnyddir yn y rheoliadau yn glir o safbwynt cyfreithiol, ond rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r pwyllgor nad yw defnyddio'r ymadroddion rydym wedi'u mabwysiadu ar gyfer y rheoliadau hyn yn gosod cynsail, a byddem yn hapus iawn i weithio i sicrhau bod yr ystyr yn glir mewn unrhyw reoliadau yn y dyfodol.
Jest i ddweud wrth Heledd Fychan—diolch yn fawr, wrth gwrs, am y gefnogaeth—ein bod ni'n dal i weithio ar y rhaglen safonau, fel sydd wedi ei nodi yn ein rhaglen lywodraethu, ac fel oedd yn y cytundeb cydweithio. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar safonau i'r cymdeithasau tai ac wedyn, ar ôl hynny, drafnidiaeth gyhoeddus. Rŷn ni'n dal i weithio arnyn nhw, a dwi'n edrych ymlaen at gael pethau fel yna o flaen y Senedd, a hefyd yn y dyfodol.
Ac fel y dywedodd Heledd Fychan, Llywydd, mae rhai asiantaethau sydd ddim cweit yn gyfarwydd gyda'r ffordd rŷn ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru, ac mae swyddogion wedi cael mwy o drafodaethau gyda nhw. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n deall yn well nawr nag oedden nhw pan oedden nhw'n rhoi'r ffigurau yna lawr, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw i'w tynnu nhw i mewn o dan o safonau, achos pwrpas y safonau yw nid i gael safonau, ond cael gwasanaethau gwell i bobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg pan fyddan nhw'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Felly, mae hwnnw hefyd wedi ei gytuno.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 10 sydd nesaf. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw hwn, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg unwaith eto—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8845 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nododd Llywodraeth Cymru fanylion ein cynlluniau ar gyfer trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru. O ran treth gwarediadau tirlenwi, LDT, cyhoeddais y cyfraddau ar gyfer LDT a fyddai'n berthnasol o 1 Ebrill eleni. Cynyddodd y rheoliadau gyfraddau LDT ar bob un o'r tair cyfradd, y safon is a'r cyfraddau gwaredu anawdurdodedig o 1 Ebrill. Mae'r gyfradd safonol o £126.15 y dunnell yn cynrychioli cynnydd o 22 y cant, ac mae hynny'n ystyried erydu gwir werth y gyfradd honno o LDT dros y blynyddoedd diwethaf gan chwyddiant. Bydd y gyfradd anawdurdodedig yn cynyddu i £189.25 y dunnell. Mae hyn yn cynnal y gyfradd anawdurdodedig ar 150 y cant o'r gyfradd safonol ac yn adlewyrchu pa mor ddifrifol rydym yn trin gwaredu gwastraff heb awdurdod yma yng Nghymru.
Llywydd, wrth gynyddu'r gyfradd is i £6.30 y dunnell, rydym yn ymateb i'r cynnydd yn y swm o wastraff cyfradd is sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer tirlenwi. Fel treth ymddygiadol, mae'n hanfodol bod y gyfradd hon yn cael ei gosod ar lefel sy'n cefnogi prif bwrpas y dreth, hynny yw, lleihau a dargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. Mae'r cyfraddau newydd hefyd yn ymateb i ganfyddiadau adolygiad annibynnol o warediadau tirlenwi yng Nghymru y llynedd, a ganfu nad oedd y gyfradd is yn gwneud digon mwyach i atal gwarediadau tirlenwi.
Nawr er bod yr LDT, fel y dywedais i, Llywydd, yn dreth ymddygiadol sydd â'r nod o leihau gwarediadau tirlenwi, amcangyfrifir serch hynny y bydd y cynnydd yn y cyfraddau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn codi £1.8 miliwn ychwanegol mewn refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac y bydd y swm hwnnw'n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Llywydd, byddaf yn parhau i fonitro effaith y gyfradd is. Ni fyddaf yn oedi cyn codi'r gyfradd is eto os nad yw'n dangos ei bod yn ffordd effeithiol o ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi.
A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ac annog Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn?
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r diwygiadau arfaethedig fel y mae wedi'i wneud yma heddiw, y byddem ni fel grŵp yn cefnogi llawer ohonynt. Yn benodol, rydym yn croesawu alinio'r gyfradd safonol â'r gyfradd yn Lloegr, a chredaf mai dyna'r dull cywir ar gyfer y safleoedd gwaredu hynny a hefyd i'w cwsmeriaid, y rhai sy'n gwaredu gwastraff yn y modd hwnnw hefyd, yn enwedig gyda ffin weinyddol mor hylifol. Ac nid ydym ychwaith yn gwrthwynebu'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i hamlinellu hefyd, am yr un rheswm, o ran y cymhelliant i ymddwyn yn briodol o ran y gwarediad hwnnw.
Fodd bynnag, bydd ein grŵp yn pleidleisio i wrthwynebu'r rheoliadau fel y'u diwygiwyd heddiw, ac yn benodol am yr un rheswm rydym yn cefnogi alinio'r gyfradd safonol. Mae'r diwygiadau hyn yn creu gwyriad a chynnydd sylweddol, fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ar y gyfradd is, sy'n cyflwyno nifer o ganlyniadau negyddol posibl, y byddaf yn eu hamlinellu'n fyr, Llywydd.
Yn gyntaf, mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod, gyda'r diwygiadau hyn, y bydd cynnydd mewn gwastraff tirlenwi na fydd yn cael ei waredu'n lleol, ond a fydd yn debygol o groesi i Loegr a chael ei waredu yno. Fe'i disgrifir yn y memorandwm esboniadol fel 'twristiaeth wastraff'. Nid yw hyn, i mi, yn ymddangos ei fod yn ysbryd lleihau cyfradd gwastraff yn effeithiol, ond yn hytrach ceisio gwaredu'r gwastraff hwnnw rhywle arall lle bydd yn dod yn broblem i rywun arall ddelio ag ef. Ac yn wir, bydd symud i ffwrdd o gyfraddau sy'n gyson â Lloegr ar hyn yn gwneud bywyd yn anoddach i fusnesau lleol ac yn arwain at ganlyniadau negyddol, gan gynnwys rhoi mwy o filltiroedd ar symud gwastraff, sy'n cyfrannu at yr union beth, amgylcheddau afiach, y mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ei osgoi. I mi, ac i'n grŵp, mae opsiwn 2b, fel yr amlinellir yn y memorandwm esboniadol, yn ymddangos yn ddull llawer mwy synhwyrol, y mae llawer llai o risg ynghlwm wrtho.
Yn ogystal, gyda'r diwygiadau, rydym yn pryderu am gostau sylweddol uwch i'r cwmnïau dan sylw, yn enwedig yn y sector adeiladu, a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Nawr, rydym yn deall bod y sector adeiladu yn sector sy'n wynebu risg benodol ar hyn o bryd yn ein hamgylchedd economaidd, ac mae'r baich ychwanegol hwn yn anghymhelliad pellach iddyn nhw weithredu yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn glir, mae'r ffi newydd hon ar gyfer y gyfradd is bron yn dyblu'r gost fesul tunnell i'r rhai sy'n gwaredu'r math hwn o wastraff, a byddwn i'n dadlau bod y cynnydd hwn yn rhy gyflym, ac y dylem fod yn ceisio lleddfu'r pwysau hynny ar y sectorau hynny, gan ystyried yr hyn a amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet o ran newid ymddygiad, ond mae bron â dyblu'r gost fesul tunnell yn ymddangos fel cynnydd cyflym.
Yn olaf, Llywydd, fel yr amlinellwyd ym memorandwm esboniadol y Llywodraeth, mae'r potensial ar gyfer mwy o dipio anghyfreithlon a dympio anghyfreithlon yn fwy tebygol o ganlyniad i'r diwygiad hwn. Wrth gwrs, nid yw hynny'n ganlyniad y mae unrhyw un eisiau ei weld, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr, ond rydym yn cydnabod y risg, fel yr amlinellwyd ym memorandwm esboniadol y Llywodraeth, y gallai hyn gynyddu. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau y byddai hyn yn ei roi ar yr asiantaethau gorfodi perthnasol, ac rydym i gyd yn gwybod am y pwysau sydd arnyn nhw ar hyn o bryd. Wrth gwrs, gallai'r pwysau sy'n gysylltiedig â mwy o dipio anghyfreithlon a dympio'n anghyfreithlon ar yr asiantaethau gorfodi hynny gynyddu cost y gorfodaeth honno, ac mae risg y gallai lyncu'r refeniw ychwanegol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio'i gael.
Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau fel y'u diwygiwyd sydd o'n blaenau yma heddiw. Fel yr amlinellais, mae yna feysydd yr hoffem eu cefnogi a lle rydym yn cydnabod bod angen newid, ond, gan fod y diwygiadau yma heddiw, ni fyddwn yn eu cefnogi fel y'u nodir. Diolch yn fawr iawn.
Neb arall yn siarad, felly'r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch i lefarydd y Blaid Geidwadol am y gefnogaeth i'r gyfradd safonol ac i'r gyfradd sy'n delio â gwarediadau anawdurdodedig. Gadewch imi egluro os galla i pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu cynyddu'r gyfradd is o £3.30 i £6.30 y dunnell. Pe baem ni wedi ei huwchraddio yn yr un ffordd ag yr ydym wedi uwchraddio'r ddwy gyfradd arall, byddai wedi cynyddu 75c y dunnell i £4.05, ac nid yw hynny'n ddigonol, yn fy marn i, i ddelio â'r patrwm sy'n dod i'r amlwg rydym wedi'i weld yng Nghymru yn fwy diweddar. Oherwydd, ers sefydlu'r dreth gwarediadau tirlenwi, mae swm y gwastraff cyfradd safonol sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi gostwng 48.9 y cant. Mae hynny'n gyflawniad polisi mawr iawn, o ystyried mai pwrpas y dreth yw newid ymddygiad. Ond, yn fwy diweddar, rydym wedi gweld swm y gwastraff cyfradd is sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn cynyddu 8 y cant mewn gwirionedd. Felly, mae'n amlwg nad yw'r gyfradd bresennol yn ddigonol i gael yr effaith ar ymddygiad y bwriadwyd i'r dreth ei chael.
A gadewch i ni fod yn onest am eiliad, Llywydd, mae hefyd yn gweithredu fel cymhelliant ar gyfer camddisgrifio, a dyna oedd casgliad y farn annibynnol ar y dreth hefyd—sef, os oes gennych chi wahaniaeth mor fawr ar y pen isaf, bydd yn annog rhai cwmnïau i ddisgrifio gwastraff fel pe bai ar y gyfradd is honno, pan, mewn gwirionedd, dylai fod yn cael ei gyflwyno ar y gyfradd safonol.
Felly, mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn creu mwy o anghymhelliad i ddatgymell camddisgrifio ac i ddatgymell y defnydd o safleoedd tirlenwi yn gyfan gwbl. Dyna pam mai'r hyn rwyf wedi'i wneud yn y rheoliadau yw adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i wneud gyda'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig, sy'n ganran sefydlog o'r gyfradd safonol. Mae gennym ganran sefydlog—5 y cant—o'r gyfradd safonol ar y gyfradd is hefyd nawr.
Diolch am gymryd yr ymyrraeth, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n deall eich dadl a meddwl ydw i tybed faint rydych chi'n cydnabod mai'r rheswm dros y gostyngiad yn y gyfradd safonol yw newid ymddygiad mewn mannau casglu wrth ymyl y ffordd. Rydych chi'n gwybod yn iawn mai'r gyfradd is sy'n cael ei disgrifio yma yw cerrig mân, cerrig, creigiau, y math yna o beth, sy'n llawer llai hawdd ei ailgylchu. Ac felly mae'r opsiynau i'r cwmnïau hynny a fyddai'n ceisio gwaredu gwastraff yn llawer mwy cyfyngedig o gymharu â'r math o wastraff sydd o fewn y gyfradd safonol. A fyddech chi'n cydnabod, efallai, nad yw'n ymwneud â'r gost fesul tunnell o reidrwydd o ran y cymhelliant gwaredu gwastraff, mae'n ymwneud â'r gallu i newid ymddygiad mewn gwirionedd ar yr adeg ailgylchu ar gyfer y cwmnïau hyn?
Llywydd, rwy'n hapus i gytuno bod pwynt dilys yn yr hyn mae Sam Rowlands yn ei ddweud, ond, serch hynny, gostyngodd swm y gwastraff a oedd yn mynd i safleoedd tirlenwi ar y gyfradd is ar ddechrau'r dreth hon hefyd. Felly, nid yw'n anochel na all cwmnïau ddod o hyd i ffyrdd eraill a gwell o ailddefnyddio, er enghraifft, yn hytrach na chael gwared ar ddeunydd, oherwydd yn aml mae gan y deunydd hwnnw werth ariannol sylweddol ynghlwm wrtho os caiff ei ddefnyddio eto, ac mewn ffordd wahanol.
Rwyf am ymateb yn fyr iawn i'r ddau bwynt arall a wnaeth yr Aelod. Yn sicr, nid pwrpas y rheoliadau yw dargyfeirio gwastraff i Loegr. Mae'r memorandwm esboniadol yn gwneud y pwynt y gallai hynny fod yn ganlyniad anfwriadol ohono; nid ydym yn credu y bydd, yn arbennig. Byddech chi'n colli mwy o arian ar y daith nag y byddech chi'n ei wneud wrth dalu'r swm ychwanegol o arian yma yng Nghymru. Ac, o ran y pwynt am dipio anghyfreithlon, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi defnyddio'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig. Defnyddiwyd y pwerau hynny yn llwyddiannus unwaith y llynedd; maen nhw wedi'u defnyddio chwech gwaith yn barod eleni. Felly, mae'n rhaid i chi gymryd y pecyn hwn o fesurau gyda'i gilydd, ac rwy'n credu y bydd y defnydd o Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, yn cydweithio ar warediadau anawdurdodedig, yn cael effaith ar—. Bydd y neges honno'n mynd o amgylch y system, a bydd yn sicr yn lliniaru'r risg y bydd cynyddu'r gyfradd is i bwynt lle mae'n gweithredu fel anghymhelliad i safleoedd tirlenwi, y bydd hynny'n arwain at y mathau o ganlyniadau anfwriadol y mae'r Aelod wedi'u nodi. Rwy'n parhau i ofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl ar lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, y pumed adroddiad blynyddol, 2023-24. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma—Julie James.
Cynnig NDM8840 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mawrth 2024.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer 2023-24. Dyma'r pumed adroddiad blynyddol o swyddfa'r llywydd a'r cyntaf dan arweinyddiaeth Syr Gary Hickinbottom. Cyn i ni fynd i mewn i'r manylion, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Syr Gary am ei arweinyddiaeth o Dribiwnlysoedd Cymru ers iddo ddechrau yn ei swydd ym mis Ebrill 2023. Nid tasg fach yw camu i rôl fel hon, ac, yn yr amser byr y mae wedi bod yn y swydd, mae wedi cael effaith uniongyrchol ac ystyrlon iawn. Mae ei ymrwymiad i gyfiawnder datganoledig yng Nghymru yn amlwg drwy gydol yr adroddiad hwn.
Llywydd, rhan allweddol o rôl Syr Gary yw gwrando ar aelodau ein tribiwnlysoedd yng Nghymru a chynrychioli eu barn. Mae wedi gwneud hyn nid yn unig trwy ei waith gyda Gweinidogion, ond hefyd drwy ei ymgysylltiad â Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd. Mae'r berthynas gadarnhaol ac adeiladol rhwng Gweinidogion a'r llywydd yn hanfodol, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i lunio system dribiwnlysoedd deg, annibynnol sy'n gweithredu'n dda. Felly, Llywydd, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag adroddiad yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at gyfiawnder pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Efallai fod tribiwnlysoedd Cymru yn gymharol fach o ran nifer, ond mae eu gwaith yn gwbl hanfodol. P'un a yw'n anghydfodau ynghylch addysg, iechyd meddwl, eiddo neu hawliau yn ymwneud â'r Gymraeg, mae'r tribiwnlysoedd hyn yn darparu llwybr i bobl gael eu clywed ac i benderfyniadau gael eu hadolygu'n deg. Rhaid i ni gydnabod ymroddiad aelodau'r tribiwnlysoedd sy'n cynnal yr egwyddorion cyfiawnder hyn bob dydd. Mae eu hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus yn amhrisiadwy, ac rwyf am gofnodi fy niolch iddynt am eu gwaith caled.
Llywydd, wrth gwrs mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau y mae angen i dribiwnlysoedd Cymru fynd i'r afael â nhw. Un o'r rhain yw cael y cydbwysedd yn iawn rhwng gwrandawiadau o bell a rhai wyneb yn wyneb, rhywbeth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad pobl o'r system gyfiawnder. Un arall yw sicrhau bod aelodau'r tribiwnlysoedd yn cael eu cefnogi'n iawn ac yn cael eu talu'n deg. Rydym yn gwybod bod y penderfyniad ar gyflogau y llynedd wedi bod yn anodd iawn. Roedd y pwysau ariannol a wynebwyd gennym yn golygu na allem, yn anffodus, roi'r un codiad a roddwyd i aelodau tribiwnlysoedd yn y system a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cymryd camau nawr i unioni hyn. Rydym wedi cymryd camau pwysig. Rydym wedi cynyddu cyllideb tribiwnlysoedd Cymru yn sylweddol, o £4.1 miliwn i £6 miliwn. Mae hynny'n ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod gan ein tribiwnlysoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Rydym wedi adfer cydraddoldeb cyflog ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd, gyda chodiad o 8 y cant, gan ddod â'u cyflogau'n gyson â'r rhai yn y system a gadwyd yn ôl. A, Llywydd, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn adolygiad mawr o gyflogau barnwrol, sy'n cael ei gynnal gan y bwrdd adolygu cyflogau uwch. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod strwythurau cyflog yn parhau'n deg ac yn gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod.
Wrth edrych i'r dyfodol, rhaid i ni hefyd ddiwygio'r ffordd mae ein tribiwnlysoedd yn cael eu strwythuro. Fel y nododd Syr Gary yn glir yn ei adroddiad, nid yw hyn yn ddymunol yn unig, mae'n angenrheidiol. Mae ein system bresennol wedi esblygu dros amser, ond nid yw wedi'i dylunio mewn ffordd sydd wir yn gwasanaethu Cymru yn y tymor hwy. Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, a'i Llywodraeth Cymru, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddeddfwriaeth a fydd yn creu system dribiwnlysoedd integredig a modern, un sy'n cryfhau annibyniaeth farnwrol, yn gwella hygyrchedd ac yn sicrhau effeithlonrwydd.
Felly, Llywydd, nid yw'r diwygio hwn yn ymwneud â'r system gyfreithiol yn unig, mae'n ymwneud â darparu rhaglen gyfiawnder deg ac effeithiol i bobl ledled Cymru. Gadewch imi fod yn glir iawn: mae'r gwaith hwn yn flaenoriaeth, ac fe fyddwn yn cyflawni ein hymrwymiad i ddiwygio. Diolch.
Fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud, dyma bumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac un cyntaf y llywydd presennol, Syr Gary Hickinbottom, a hoffwn ddiolch iddo am y gwaith mae wedi'i wneud hyd yma yn rhinwedd ei swydd fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac rwy'n talu teyrnged i'w ragflaenydd, Syr Wyn Williams.
Mae'r adroddiad yn rhoi disgrifiad clir iawn o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn ei flaenoriaethau, ac mae hefyd yn tynnu sylw at rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r tribiwnlysoedd yng Nghymru. Cyn i mi symud ymlaen at rai o'r pwyntiau a wnaed yn adroddiad y llywydd, fel y Cwnsler Cyffredinol, hoffwn atgoffa Aelodau pa mor bwysig yw'r tribiwnlysoedd hyn. Maen nhw'n rhychwantu popeth o amaethyddiaeth i iechyd meddwl, ac yn chwarae rhan bwysig yn ein system gyfiawnder. Felly, mae'n hanfodol bod y system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn gallu darparu mynediad effeithiol at gyfiawnder i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd.
Y flaenoriaeth gyntaf y tynnir sylw ati yn adroddiad y llywydd yw hyfforddiant barnwrol, ac fel mae'r adroddiad yn nodi'n glir, nid oes gan y coleg barnwrol unrhyw gylch gwaith i hyfforddi aelodau tribiwnlysoedd datganoledig. Mae hyn, wrth gwrs, yn golygu nad yw'r coleg yn hyfforddi aelodau ein tribiwnlysoedd oni bai bod lleoedd sbâr ar ôl i'r farnwriaeth tribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl wneud eu ceisiadau nhw, ac rwy'n deall mai dim ond ar adegau prin mae hynny'n digwydd. Fe ddywedodd y llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei fod yn barod i roi cynnig arall ar geisio perswadio'r coleg barnwrol i ymestyn eu cwmpas i gynnwys tribiwnlysoedd datganoledig, felly efallai mewn ymateb gall y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau mae hi wedi'u cael gyda llywydd y tribiwnlysoedd ar y mater hwn.
Mae'r ail flaenoriaeth yn yr adroddiad yn ymwneud ag annog a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, o ran gweinyddu ac mewn gwrandawiadau. Rwy'n falch o ddarllen bod proses hunanasesu newydd wedi'i sefydlu gan uned Tribiwnlysoedd Cymru, lle mae staff yn asesu sut mae pob tribiwnlys yn cydymffurfio â gofynion safonau'r Gymraeg, ac mae'r adroddiad yn rhoi sicrwydd i mi hefyd fod angen cyfleusterau ac adnoddau i alluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y system. Fodd bynnag, mae'r ffigurau'n dweud wrthym fod llawer yn amharod o hyd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliadau cyfreithiol o'i chymharu â'r Saesneg. Rwy'n deall bod cwestiwn gwirfoddol ychwanegol wedi'i ychwanegu at y ffurflen gais i geisio nodi'r rhesymau dros oruchafiaeth y Saesneg yn ein tribiwnlysoedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld rhai o'r casgliadau sy'n deillio o hynny, fel bod modd mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau.
Mae'r adroddiad yn sôn yn fyr am benodiadau, ac roeddwn i'n falch o ddarllen bod dau farnwr cyflogedig wedi'u penodi ar gyfer y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynghylch recriwtio ac a oedd unrhyw anawsterau, a dywedodd y llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y byddai unrhyw wahaniaeth o ran cyflog, telerau ac amodau neu gyfleoedd hyfforddi o gymharu â thribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl yn cael effaith. Rwy'n gwybod bod y mater cyflog wedi cael sylw nawr, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ddweud, ond byddai gennyf ddiddordeb ym marn y Cwnsler Cyffredinol ar recriwtio ac a oes unrhyw faterion pellach y mae angen edrych arnynt yn y maes hwn.
Pedwaredd flaenoriaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw diwygio tribiwnlysoedd, ac rwyf yn cytuno bod angen diwygio'r system. Fel mae fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, wedi'i ddweud yn flaenorol, rydym yn cefnogi mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, gyda chreu adran anweinidogol i weinyddu'r tribiwnlysoedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar eu safbwynt ar y mater hwn.
Mae adroddiad y llywydd hefyd yn cefnogi creu system dribiwnlysoedd unedig ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a fyddai'n cynnwys tribiwnlys haen gyntaf a thribiwnlys apêl i Gymru, a fyddai'n clywed apeliadau gan y tribiwnlys haen gyntaf. Mae gennyf feddwl agored am y diwygio hyn, ac rwy'n derbyn barn y llywydd y byddai'n arwain at fwy o gydlyniad a system fwy effeithiol i ddefnyddwyr yn y pen draw. Efallai y gallai'r Cwnsler Cyffredinol ddweud mwy wrthym am y costau sy'n gysylltiedig â gwneud y newid hwn, ac a yw cyllid eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith hwn.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am y ffaith bod gorwario o ran y gyllideb ar gyfer tribiwnlysoedd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, eglurodd y llywydd fod y gorwariant wedi bod o ganlyniad i faterion fel mwy o amser barnwrol a delir â ffi a chostau recriwtio, cynnydd mewn costau cyflog a phensiwn, a dychwelyd i wrandawiadau wyneb yn wyneb ar gyfer tribiwnlys adolygu iechyd meddwl Cymru yn dilyn COVID-19. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ac rwy'n cytuno bod diwygio'r system yn rhoi cyfle iddi fod yn fwy tryloyw yn y dyfodol. Fel yr eglurodd y llywydd, mae'r diwygiadau arfaethedig yn cynnwys sefydlu corff gweithredol sy'n annibynnol ar y Llywodraeth Weithredol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn arwain at adroddiad blynyddol, a byddai gan y corff gyllideb flynyddol. Felly, rwy'n credu y byddai hyn yn llawer mwy tryloyw ac atebol na'r sefyllfa bresennol.
Felly, Llywydd, mae'n gyfnod diddorol iawn i dribiwnlysoedd Cymru, gyda llawer o newid ar y gorwel. Bydd yn ddiddorol iawn gweld faint o ddiwygio fydd yn cael ei gyflwyno mewn deddfwriaeth, ac rwy'n ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach ar y mater hwn maes o law. Diolch yn fawr iawn.
Mae tribiwnlysoedd Cymru yn gonglfaen i'n system gyfiawnder, yn hanfodol i sicrhau tegwch, tryloywder a mynediad effeithiol i gyfiawnder i bobl Cymru. Ond mae'r llywydd ei hyn yn cyfaddef ei bod yn system sydd angen cael ei diwygio'n wael ar frys. Nawr, mae'n dda clywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod y cynigion diwygio hynny, sydd wedi'u crynhoi yn y Bil tribiwnlysoedd arfaethedig, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Wel, os ydyn nhw'n flaenoriaeth, pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bod y Llywodraeth yn ymrwymo i ddeddfu'r Bil hwnnw yn y Senedd hon? Mae darllen yr adroddiad blynyddol diweddaraf hwn gan y llywydd, ac yn wir ei dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yn ei gwneud hi'n amlwg iawn i unrhyw un bod y ddeddfwriaeth honno'n hanfodol. Mae ei hangen ar frys.
Ar hyn o bryd, mae ein tribiwnlysoedd yn gaeth mewn sefyllfa gymhleth a dryslyd rhwng awdurdodaethau datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl, ac ar y pwynt—. Dylwn i fod wedi gwneud hyn ar y dechrau, a hoffwn gyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiant, sef bod fy mhartner yn farnwr tribiwnlys, er nad yn y system ddatganoledig o dribiwnlysoedd.
Ond mae'r system dribiwnlysoedd, ar hyn o bryd, yn cael ei dal ar yr ymyl garw enwog honno, ac mae hynny'n arwain at yr aneffeithlonrwydd. Rydych chi newydd gyfeirio at y gorwario. Cyfeiriodd y llywydd, yn ei dystiolaeth, at ran o'r rheswm am hynny, sef bod gwneud penderfyniadau, ar hyn o bryd, mewn perthynas â llawer o'r materion y cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr atynt, mewn gwahanol fannau, ac felly dyna pam mae angen y diwygio hyn arnom, i osod y system dribiwnlysoedd ar sylfeini clir a chynaliadwy, i greu strwythur unedig, cydlynol a fydd yn sicrhau annibyniaeth farnwrol ac yn sicrhau bod ein tribiwnlysoedd yn gwasanaethu pobl Cymru, yn y pen draw, defnyddwyr tribiwnlysoedd, i bob pwrpas, nawr ac yn y dyfodol.
A dyna pam mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod ymrwymo i gyflwyno'r darn cwbl hanfodol hwn o ddeddfwriaeth yn y Senedd hon yn peri gofid mawr. Er gwaethaf yr alwad glir a diamwys iawn gan Syr Gary Hickinbottom ei hun a llawer o randdeiliaid eraill, mae'r Llywodraeth yn oedi. Ac wedyn mae hyd yn oed yn fwy pryderus i weld y Llywodraeth, hefyd, ar yr un pryd, yn gwrthod un arall o argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyhoeddi adroddiad 'Cyflawni Cyfiawnder i Gymru' arall yn y Senedd hon, gan ddileu rhan hanfodol o dryloywder ac atebolrwydd, fel y gallwn ni weld y cynnydd, neu'r diffyg cynnydd, o ran diwygio a datganoli ein system gyfiawnder. Rydym yn credu bod angen i ni gael y diwygio hyn, mae angen inni gael y Bil hwn cyn gynted â phosibl, oherwydd mae yna risgiau.
Mae'n dda gweld bod mwy o gyllideb yn mynd i mewn. Mae'n dda gweld bod cydraddoldeb cyflog yn cael ei adfer. Ond mae'r canfyddiad bod gwahaniaeth o ran telerau ac amodau a statws, rhwng y system ddatganoledig o dribiwnlysoedd a'r tribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli, maent yn bygwth, onid ydynt, ein gallu i recriwtio a chadw aelodau barnwrol medrus a phrofiadol, ac felly byddai hynny'n tanseilio darparu cyfiawnder ei hun.
Rwy'n credu bod y dystiolaeth o'r adroddiad a gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gan y llywydd yn glir: mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom nawr. Mae'n hanfodol er mwyn datrys yr heriau gweithredol, ariannol a gweinyddol sylweddol sy'n wynebu tribiwnlysoedd Cymru heddiw. Nid yw gohirio'r ddeddfwriaeth hanfodol hon yn llywodraethu doeth. Esgeulustod ydyw, mewn gwirionedd. Mae perygl y bydd yn gadael ein tribiwnlysoedd mewn sefyllfa lle na fyddant yn gallu ymdopi â'r gofynion presennol, heb sôn am gyfrifoldebau yn y dyfodol, fel cyfiawnder ieuenctid neu apeliadau addysg. Mae'n gwanhau seilwaith cyfiawnder Cymru ac yn peryglu ein hymrwymiad i gyfiawnder teg a hygyrch.
Felly, gofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol ailystyried eu penderfyniad i wrthod argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac i ailymrwymo i ddeddfu'r ddeddfwriaeth hon yn y Senedd hon. Mae angen cyflwyno Bil tribiwnlysoedd heb oedi pellach, ynghyd â thryloywder llawn hefyd ynghylch cynnydd gweddill y rhaglen diwygio cyfiawnder. Byddai unrhyw beth llai, yn ein barn ni, yn ymwrthod â chyfrifoldeb, ac yn gadael system gyfiawnder Cymru wedi'i thanwasanaethu, ei thanbrisio a'i pharatoi'n wael ar gyfer yr heriau sydd i ddod.
Fel sydd wedi dod yn eitem reolaidd ar galendr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, cymerom dystiolaeth gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar ei adroddiad blynyddol ym mis Hydref. Fel pwyllgor, rydym yn ddiolchgar i'r llywydd am ei ymgysylltiad â ni ac am y mewnwelediadau a roddodd ar rai o'r heriau mae'r tribiwnlysoedd yn eu hwynebu. Mae adroddiad blynyddol y llywydd yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwariant ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru wedi rhagori ar ei gyllideb ar gyfer 2023-24 yn eithaf sylweddol, yn dilyn gorwariant tebyg y flwyddyn flaenorol, fel yr amlinellwyd gan Paul Davies ychydig funudau yn ôl.
Yn ystod y sesiwn, gwnaethom ofyn i'r llywydd am y gorwario hyn. Dywedodd wrthym fod nifer o ffactorau perthnasol. Pan ofynnon ni i'r llywydd a oedd yn credu bod gan dribiwnlysoedd Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod achosion yn cael eu gwaredu'n gyflym, yn effeithlon ac, yn bwysicaf oll, yn gyfiawn, fe ddywedodd y llywydd wrthym yn ddiamwys, 'na', oherwydd bod
'gwahaniaeth rhwng y gyllideb a gwariant gwirioneddol'.
Roedd hynny'n amlwg yn achos pryder. Mae'n newyddion da felly bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer y tribiwnlysoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, credwn ei bod yn hanfodol bwysig o ran mynediad dinasyddion at gyfiawnder fod y tribiwnlysoedd yn cael yr adnoddau priodol.
Fe ddywedodd y llywydd wrthym hefyd am yr heriau wrth gystadlu â llysoedd a thribiwnlysoedd eraill sydd heb eu datganoli ar gyfer aelodau'r tribiwnlys, o ran cyfraddau ffioedd a materion fel arferion gwaith. Fodd bynnag, nodwn fod y gwahaniaeth mewn cyflog a ddigwyddodd yn 2023-24 wedi'i ddatrys nawr.
Gofynnom hefyd i'r llywydd a oedd gan aelodau tribiwnlysoedd Cymru fynediad at yr hyfforddiant a'r cymorth yr oedd eu hangen arnynt. Dywedodd wrthym fod hyfforddi aelodau tribiwnlysoedd Cymru heb rywbeth sy'n cyfateb i goleg barnwrol ar gyfer y tribiwnlysoedd datganoledig yn 'fater go iawn', ac y byddai'n parhau i geisio perswadio'r coleg barnwrol i ymestyn cwmpas eu gweithgareddau i gynnwys pob tribiwnlys.
Yn ogystal, trafodwyd y ffaith bod nifer y gwrandawiadau tribiwnlysoedd a gynhelir yn Gymraeg wedi aros yn isel dros y pedair blynedd diwethaf, fel yr amlygwyd yn adroddiad blynyddol y llywydd. Dywedodd y llywydd wrthym y gallai hyn gael effaith andwyol ar fynediad at gyfiawnder i'r rhai a fyddai'n cyflwyno'u hachos orau yn Gymraeg, neu yn Gymraeg i raddau helaeth. Felly, rydym yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddarganfod y rhesymau pam mae rhai siaradwyr Cymraeg yn dewis bod achosion yn cael eu cynnal yn Saesneg.
Ar nodyn personol, rwy'n credu mai un o'r problemau yw bod yna eiriau lle mai dim ond y Saesneg sy'n cael ei defnyddio mewn iaith gyffredin, gan gynnwys ymhlith y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg, pan fo opsiwn i symud i'r Saesneg. Mae'n debyg mai 'mwyaf' yw'r hyn y dylem fod yn anelu ato, bod pobl yn siarad yn Gymraeg gan fwyaf, ond yn defnyddio geiriau Saesneg yn y geiriau maen nhw'n eu defnyddio. Fe ges i enghraifft o hynny neithiwr. Roeddwn i'n siarad â darlithydd Cymraeg mewn prifysgol, a gofynnais iddyn nhw—. Dim byd i'w wneud â hyn, ond fe ofynnais i gwestiwn iddyn nhw, ar beth yw'r term Cymraeg am rywbeth—wna i ddim mynd i mewn i beth oedd e—a doedden nhw ddim yn gwybod, oherwydd doedden nhw ond erioed wedi clywed neu ddefnyddio'r Saesneg. Felly, rwy'n credu bod cael pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn bennaf ac yna codi geiriau Saesneg pan fo angen yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Fe glywsom ni hefyd gan y llywydd am bwysigrwydd diwygio i dribiwnlysoedd Cymru. Mae Bil i roi'r diwygiadau hyn ar waith wedi bod ar y gweill ers tro nawr, gyda Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023. Gofynnodd y pwyllgor yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon cyn diwedd y Senedd hon, ond, yn anffodus, nid yw wedi gallu gwneud yr ymrwymiad hwn. Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd y diwygio hyn i gyfiawnder yng Nghymru ac yn gobeithio gweld y Bil yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Diolch.
Cwnsler Cyffredinol, rwy'n cytuno. Yn gyntaf, rwy'n cytuno â'ch sylwadau, a sylwadau Paul Davies, ynglŷn â phenodi Syr Gary Hickinbottom. Yn wir, mae gwasanaeth tribiwnlysoedd Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei ddau lywydd, o allu cael unigolion mor nodedig yn llywyddion system tribiwnlysoedd Cymru.
Mae tribiwnlysoedd Cymru yn anomaledd datganoli, yn anomaledd go iawn o'r setliad presennol, ac yn dangos mewn gwirionedd pa mor arw yw ein hymyl garw. Nid oedd tribiwnlysoedd Cymru wedi'u cynllunio, fe gawsant eu datblygu'n raddol dros y blynyddoedd. Mae pob un ohonynt, ac eithrio Tribiwnlys y Gymraeg, yn rhagddyddio datganoli. Nawr, mae'r datblygiad ad hoc hwnnw wedi creu llawer o faterion, ond gellir datrys y materion hyn trwy'r diwygiadau arfaethedig.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mai 2024. Rwy'n meddwl tybed pam ein bod ni'n trafod yr adroddiad nawr, rhyw 10 mis yn ddiweddarach. Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei gyhoeddi'n fuan, ac fel rydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad, rydyn ni wedi symud ymlaen cryn dipyn ers yr adroddiad hwnnw. Roeddwn i eisiau gwybod pam ein bod ni wedi aros mor hir i drafod yr adroddiad hwn, oherwydd fy mhryder i yw bod hyn yn adlewyrchu'r cynnydd araf wrth ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru ac y gall tribiwnlysoedd Cymru fynd yn angof.
Cafodd cynigion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio eu gwneud gyntaf ym mis Rhagfyr 2020. Mae wedi cael ei drafod drwy gydol tymor y Senedd hon, ac eto fel y dywedodd Adam Price yn bwerus iawn, rydym yn dal i aros am amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, ac rydych chi wedi fy nghlywed yn gofyn i chi sawl gwaith am yr amserlen honno. Mae'n rhaid bod y diffyg amserlen yn creu ansicrwydd gwirioneddol ymhlith tribiwnlysoedd Cymru, ac os na fydd yn digwydd cyn etholiad 2026, does dim sicrwydd y bydd yn digwydd o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn dipyn o beth pa mor gryf o blaid diwygio oedd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ei adroddiad, ac ni ellir anwybyddu hynny.
Mae'r defnydd o'r Gymraeg o hyd yn isel; does dim byd newydd yn hyn. Rôn i'n gyfarwydd â gweld hyn yn gyson fel bargyfreithiwr yn Abertawe.
Rwy'n cofio unwaith i un ffermwr yn y llys benderfynu rhoi ei dystiolaeth yn Saesneg, ac wrth roi ei dystiolaeth roedd e'n sôn am 'a hundred and a half sheep'. Wrth gwrs, roedd e'n cyfieithu 'cant a hanner', yn llythrennol o'r Gymraeg.
Mae hon yn broblem sy'n stwbwrn, problem y mae lot o bobl wedi ceisio ymrafael ag ef, ond problem sy'n dal yma nawr. Mae’n anhygoel mai dim ond yn 13 o’r achosion yn y tribiwnlysoedd roedd yna ddefnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, dwi'n ymwybodol o gwpl Cymraeg iaith gyntaf a roddodd dystiolaeth mewn tribiwnlys ychydig o fisoedd yn ôl, ac mae'r rhain yn gweithio drwy'r iaith Gymraeg, ond fe benderfynon nhw roi eu hachos drwy'r Saesneg, oherwydd rôn nhw'n meddwl byddai cael cyfieithydd yn creu gormod o drafferth. Dwi'n falch i weld bod cynnydd o'r defnydd yn un o flaenoriaethau llywydd y tribiwnlysoedd. Ydych chi'n gwybod sut y mae’r gwaith yma wedi datblygu, ac ydych chi'n ymwybodol o unrhyw gynnydd sydd wedi bod ers cyhoeddi’r adroddiad blynyddol yn y defnydd o'r Gymraeg?
Mater arall sydd heb newid chwaith ar hyd y blynyddoedd yw nifer yr achosion. Heblaw am y tribiwnlys iechyd meddwl, bach iawn yw defnydd y tribiwnlysoedd. Mae ffigurau Tribiwnlys y Gymraeg, yr unig dribiwnlys gafodd ei sefydlu gan y Senedd hon, yn hynod o isel—dim ond chwech achos ers 2021-22. A oes unrhyw ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae modd defnyddio mwy o’r tribiwnlysoedd yma, er enghraifft eu cynnwys nhw yn neddfau y Senedd fel y lleoliad i ddatrys problemau neu ddatrys unrhyw anghydfod, yn hytrach na defnyddio’r llysoedd sirol neu’r llysoedd troseddol, sydd yn aml iawn yn mynd i fod yn lot mwy drud i unigolion ac i sefydliadau?
Pryder arall y mae eraill wedi ei godi yw'r hyfforddiant, ac nad yw'r Coleg Barnwrol yn cynnig hyfforddiant i aelodau tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyfforddiant yn hanfodol i unrhyw aelod barnwrol, a byddwn i—fel y mae Paul Davies eisoes wedi gofyn—yn awyddus i wybod a ydyn ni ymhellach ymlaen o ran y Coleg Barnwrol yn cynnig hyfforddiant i aelodau tribiwnlysoedd.
Roeddwn i'n falch iawn o glywed eich sylwadau ar gyflogau. Roedd peidio â chael cydraddoldeb cyflog yn sicr o effeithio ar recriwtio a chadw, roedd yn sicr o effeithio ar ba mor ddifrifol y byddai gwasanaeth tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei ystyried. Trwy gynnig cyflog is, byddai llawer yn sicr yn dod i gasgliad bod gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru, rywsut, yn israddol i'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl. Dadl gref dros ddatganoli cyfiawnder yw y gallwn ddangos ein bod ni'n cefnogi'r hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli'n dda, ein bod ni'n ei redeg yn well na meysydd a gadwyd yn ôl o'r system gyfiawnder. Ond drwy beidio â sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael, drwy orfod dadlau dros gydraddoldeb cyflog, drwy barhau i aros am amserlen ar gyfer deddfu diwygiadau, ni ellir dweud hyn ar hyn o bryd, Cwnsler Cyffredinol, am wasanaeth tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr.
Y Cwnsler Cyffredinol nawr, i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Diolch, Llywydd. Wrth i mi gau'r ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae'n dda iawn gweld y diddordeb sydd wedi'i gymryd ar draws y Siambr, ar draws pleidiau, wrth lunio'r ffordd ymlaen ar gyfer y system dribiwnlysoedd. Fe wna i redeg trwy gwpl o'r pethau a gododd pobl, gyda'r bwriad o esbonio lle rydym arni o ran hyn.
Rwyf wedi cael sgwrs am yr hyfforddiant barnwrol, gyda llywydd y tribiwnlysoedd, yr wyf, gyda llaw, yn cyfarfod ag ef eto yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae gen i amserlen o gyfarfodydd wedi'u cynllunio gydag ef dros yr haf a'r hydref, dim ond i'r Aelodau fod yn ymwybodol fy mod i'n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Syr Gary ac rydym yn trafod y materion hyn yn helaeth. Ond rwyf hefyd wedi codi'r mater hwn gyda'r Arglwyddes Brif Ustus, y pwynt hyfforddiant barnwrol yn benodol, a materion recriwtio, ac fe gawsom ni gyfarfod adeiladol iawn yn y Goruchaf Lys yn ddiweddar iawn. Yn wir, rwy'n cyfarfod â hi, yn rhyfeddol, Llywydd, ym Malta yng Nghynhadledd Cyfraith y Gymanwlad, lle rwy'n siarad ac mae hi'n siarad hefyd, ac rydym yn gallu chwifio'r faner dros Gymru, y ddwy ohonom, yno. Mae hi'n awyddus iawn i'm helpu i wneud hynny, ond fe fyddaf yn gallu parhau â'r trafodaethau hynny gyda hi.
Rwy'n cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud am yr hyfforddiant barnwrol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym fynediad at y math cywir o hyfforddiant ar gyfer ein barnwyr tribiwnlys, am resymau amlwg. Rwy'n credu ei fod yn amlwg ohono'i hun ac yn eithaf pryderus nad ydym wedi gallu sicrhau hynny hyd yn hyn. Ond rwy'n credu ein bod ni mewn lle da iawn i sicrhau hynny yn y dyfodol rhagweladwy.
O ran yr agenda ddiwygio, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn pump yn fuan ar ôl y Pasg, sy'n gynharach nag arfer yn y cylch, er mwyn i ni baratoi ar gyfer blwyddyn pump. Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig, ond nid wyf mewn sefyllfa i ddweud eto a fydd y Bil tribiwnlysoedd yn rhan o'r rhaglen honno. Mae yna lawer o gystadleuaeth am le ym mlwyddyn pump, a, Llywydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r trafodaethau rwyf wedi bod yn eu cael gyda chi, y Pwyllgor Busnes a rheolwyr busnes ynghylch sut i reoli'r rhaglen honno. Ond nid wyf am i neb feddwl nad yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig a sicrhau eu bod yn parhau'n annibynnol, yn hygyrch ac yn cael yr adnoddau priodol—rydym yn gwbl ymrwymedig.
Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddwn i'n falch iawn o allu adfer cydraddoldeb cyflog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed gan bobl, yn enwedig sylwadau Rhys ab Owen ynglŷn â bod hynny'n fesur da i ni allu dangos pwysigrwydd y rolau a pha mor ddifrifol rydym yn cymryd y gallu i'w llenwi â'r math cywir o bobl gyfrifol sy'n cael eu talu a'u cefnogi'n briodol yn y rolau hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwneud hynny ac wrth fy modd ein bod ni wedi gallu rhoi'r gyllideb yn ôl i'r man lle rydym yn gwybod y mae'r gwariant.
Wedi dweud hynny, rwy'n cynnal trafodaethau â llywydd y tribiwnlysoedd ynglŷn â rhai o'r arferion gwaith a welwn ni. Mae'n ddiddorol gweld ein bod ni'n cynnal llawer mwy o wrandawiadau wyneb yn wyneb yma yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, ac nid yw'r cydbwysedd barnwyr y telir ffi iddynt wedi gostwng, mewn gwirionedd, er gwaethaf y cydraddoldeb cyflog. Felly, mae rhai materion parhaus i'w trafod gyda Syr Gary, ac rwy'n gwybod ei fod yn awyddus iawn i weithio gyda mi i weld a allwn ni wneud hynny.
Llywydd, byddai bai arnaf am beidio â diolch i lywydd tribiwnlys adolygu iechyd meddwl Cymru, a fydd yn ymddeol ym mis Ebrill. Mae hi wedi gweithio'n ddiflino yn y tribiwnlys hwnnw, felly hoffwn ddiolch iddi fel rhan o'm sylwadau, ac yna i ddweud, wrth gwrs, y byddwn ni'n recriwtio i rywun gymryd ei lle. Esgidiau mawr i'w llenwi, ond byddwn ni'n recriwtio rhywun i gymryd ei lle i gymryd drosodd y tribiwnlys o fis Ebrill. Rwyf wedi cael trafodaeth hir a helaeth gyda'r Arglwyddes Brif Ustus ynghylch sut i wneud hynny, oherwydd natur aneglur y ffordd y mae'r darpariaethau hynny'n gweithio. Mae hynny'n rheswm arall pam mae angen i ni roi'r diwygio ar waith cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i Syr Gary am ei arweinyddiaeth a'i adroddiad blynyddol cyntaf fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyfrannu at waith hanfodol y tribiwnlysoedd, gan sicrhau bod cyfiawnder yng Nghymru yn parhau i fod yn hygyrch, yn deg ac yn effeithiol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 12 sydd nesaf, y ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod—cyflymu gweithredu. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma. Jane Hutt.
Cynnig NDM8846 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi galwad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 i ‘Gyflymu Gweithredu’.
2. Yn condemnio cam-drin a bygylu menywod mewn gwleidyddiaeth.
3. Yn uno i hyrwyddo cydraddoldeb a chynrychiolaeth menywod yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'r wythfed o Fawrth yn ddyddiad pwysig iawn yn ein calendrau wrth i ni ddod at ein gilydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—amser i weld pa mor bell rydym ni wedi dod a pha mor bell sydd gennym ni eto i fynd. Thema'r ymgyrch eleni yw 'cyflymu gweithredu'. Thema'r Cenhedloedd Unedig yw 'I BOB Menyw a Merch: Hawliau, Cydraddoldeb. Grymuso'. Adlewyrchir y ddwy thema yn y cynnig ar gyfer y ddadl bwysig heddiw, ac mae hi mor wych ei bod wedi cael ei chyd-gyflwyno gan bob plaid yma yn y Senedd. Fe hoffwn i ddiolch i Joyce Watson am arwain y cawcws trawsbleidiol i fenywod, lle daethom ni at ein gilydd a dweud, 'Rhaid i ni gael dadl' ac fe gytunon ni i gyd ar gynnig. Mae hynny'n fynegiant gwych, rwy'n credu, i bawb sy'n edrych atom ni am arweinyddiaeth ar draws y Senedd hon.
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn 1995, ymrwymodd pobl o bob rhan o'r byd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol pan fabwysiadwyd datganiad a llwyfan Beijing ar gyfer gweithredu gan 189 o lywodraethau a'i gymeradwyo gan filoedd o weithredwyr. Mae adroddiad ciplun rhywedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2024 yn nodi, ar y cyfraddau presennol, na ellir cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn seneddau tan 2063. Bydd yn cymryd 137 o flynyddoedd i godi pob menyw a merch o dlodi.
Mae tua un o bob pedair merch yn parhau i briodi pan fo nhw'n blant; mae hyn yn gwbl annerbyniol, ond mae'n dangos anferthedd yr her fyd-eang, a'r her y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fynd i'r afael â hi heddiw. Yn 2015, ymrwymodd bron pob gwlad yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau erbyn 2030, fel rhan o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Yn anffodus, mae'r adroddiad cynnydd diweddaraf yn dangos bod y byd ymhell o'r targed, a byddwn yn dadlau, yn mynd yn ôl mewn llawer o wledydd. Mae menywod a merched y byd yn haeddu gwell, ond mae anghydraddoldeb rhywiol yn fater cymhleth ac ystyfnig, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Ac wrth gwrs, mae'r ateb wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn cymdeithas: anghydbwysedd grym, anghydbwysedd economaidd, tangynrychiolaeth wleidyddol, yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw yn y ddadl a'r cynnig hwn heddiw, a thrais parhaus ac eang yn erbyn menywod a merched.
Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn effeithio ar bob un ohonom ni yma yn rhannu'r ddadl hon ar draws y Siambr, a'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli. Mae'n effeithio ar fywydau ein merched, wyresau, gwragedd, mamau, chwiorydd, ffrindiau a chydweithwyr. Mae'n effeithio ar bawb, mae'n effeithio ar ddynion a menywod, mae'n effeithio ar deuluoedd, cartrefi a'r economi. Oherwydd pan fydd menywod yn ennill llai na dynion am yr un swydd, mae'r teulu'n ennill llai. Ac rwy'n credu y gallwn ni fod yn arloeswyr ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Y flwyddyn 2024, wrth gwrs, ddaeth â'n Prif Weinidog benywaidd cyntaf i ni, ac rwyf bob amser yn cofio sut yr oeddech chi'n siarad am yr hyn y gallai hyn ei olygu i'r menywod ifanc, a ddywedodd, 'Go wir? Gwych. Fe allwn ni wneud hynny hefyd." Daeth y llynedd hefyd â'n comisiynydd heddlu a throseddu du benywaidd cyntaf i ni yng Nghymru, Emma Wools.
Llywydd, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn ddiwrnod i ddathlu, fel y gwnaethom ni'r wythnos diwethaf yn y digwyddiad a gynhaliwyd gennych chi i ddathlu ymgyrch Monumental Welsh Women, ac roeddwn yn gallu ymuno â'r digwyddiad hwnnw. Roeddwn yn arbennig o falch o ganmol y tîm sydd wedi trefnu'r henebion gwych hyn i fenywod. Yr heneb gyntaf, y cerflun cyntaf o fenyw oedd i Betty Campbell MBE, y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, pleidleisiodd y cyhoedd iddi fod y cerflun cyntaf i fenyw yng Nghymru, sydd ond yn dangos cryfder barn y cyhoedd i gefnogi'r cerflun gwych hwnnw, y mae cymaint ohonoch chi'n gwybod amdano ac wedi ei weld a'r cyhoedd ac ymwelwyr yn ei groesawu.
Hefyd, gadewch i ni ddathlu chwaraeon menywod. Rwy'n llongyfarch Rhian Wilkinson, ei staff hyfforddi, y chwaraewyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am eu llwyddiant aruthrol wrth gyrraedd rowndiau terfynol UEFA Euro 2025 y merched. Dyma'r tro cyntaf i dîm pêl-droed merched Cymru gyrraedd cystadleuaeth bêl-droed fawr ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y Swistir yn ddiweddarach eleni.
A gaf i hefyd groesawu'r datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, gan dynnu sylw at gyfraniad entrepreneuriaid a pherchnogion busnes benywaidd yng Nghymru? Dangosodd Rebecca Evans yn ei datganiad y rhan bwysig sydd gan fenywod yn gyrru twf economaidd, meithrin arloesedd a hyrwyddo cydraddoldeb, gan sicrhau gweithlu amrywiol a chynhwysol ar yr un pryd. Mae hynny wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein haddewid cydraddoldeb a Busnes Cymru yn helpu cyflawni hyn.
Mae cynllun iechyd menywod Cymru, cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol, yn ysgogi gwelliannau gwirioneddol i iechyd a chanlyniadau menywod. Ers lansio'r cynllun ym mis Rhagfyr, rydym ni eisoes wedi dechrau creu newid a gwelliannau, gyda hwb mawr mewn ymchwil iechyd menywod a safonau newydd ar gyfer gofal mamolaeth ac i'r newydd-anedig.
Ond ym mis Ebrill, rydym yn nodi 10 mlynedd ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ddod yn gyfraith. Wrth inni nesáu at y garreg filltir hon, rydym yn dal i wynebu'r her enfawr honno, fel yr wyf eisoes wedi cyfeirio ati—ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r trais hwn yn erbyn menywod a cham-drin domestig o bob cyfeiriad sy'n bla ar gymdeithas.
Rydym yn mynd i'r afael â hyn yn ein bwrdd partneriaeth strategol, yr wyf yn ei gadeirio gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu Emma Wools. Ac rwy'n cryfhau ein dull gweithredu drwy fwrdd partneriaeth cenedlaethol VAWDASV i sicrhau ein bod yn gwneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched ffynnu. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bawb weithio gyda'i gilydd—y sectorau cyhoeddus ac arbenigol sy'n ein cymell i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth.
Mae tystiolaeth gan Hyb ACE Cymru yn dangos bod aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn broblem sylweddol i fenywod a merched. Rydym yn gweithredu. Yr wythnos diwethaf fe gawsom ni ddadl rymus iawn dan arweiniad Hannah Blythyn ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Ac yn ddiweddar lansiwyd trydydd cam ein hymgyrch Iawn lwyddiannus, dan arweiniad dynion, gan ganolbwyntio'n benodol ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Mae ymgyrchoedd Iawn wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog dynion a bechgyn ifanc i gael sgyrsiau agored am sut beth yw perthnasoedd iach, i herio agweddau ac ymddygiad niweidiol gan ddynion tuag at fenywod, i gefnogi newid ar y lefel gymdeithasol honno.
Rwy'n eich annog chi i gyd—. Rwy'n gwybod eich bod chi i gyd yn ymwybodol o'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac rwy'n eich annog i'w hysbysebu mor eang â phosibl—y llinell gymorth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i'r rhai sy'n agos atyn nhw, o unrhyw oedran neu ryw, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr hefyd.
Llywydd, rwy'n dod i'r ail bwynt pwysig yn y cynnig hwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd mewn camdriniaeth, aflonyddu a dychryn a gyfeiriwyd at wleidyddion, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, ar-lein ac all-lein. Mae menywod mewn swydd etholedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, yn enwedig ar-lein. Rhaid dileu'r gwenwyndra hwn, ac rwyf mor falch ein bod yn uno heddiw i gondemnio cam-drin a bygwth menywod mewn gwleidyddiaeth. Dyma lle mae yna ran i bob un ohonom ni, ac mae'n rhaid i ni sefyll yn unedig. Pan fyddwn yn gweld camdriniaeth neu ymddygiad bygythiol, rhaid i ni ei herio. Mae'n rhaid i ni ei gondemnio. Ac mae gennym ni'r cyfle hwnnw heddiw, gyda lleisiau cryf o bob rhan o'r Siambr.
Dylai pawb deimlo'n ddiogel i sefyll etholiad—i ymgyrchu, i bleidleisio ac i weithio wrth gynnal etholiadau. Mae democratiaeth yn dibynnu ar hynny. Drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a Gorchymyn Cynnal Etholiadau sydd ar ddod, rydym ni wedi cryfhau darpariaethau ar droseddau brawychus a dylanwad gormodol ar gyfer etholiadau. Rydym ni'n gweithio'n gyflym i gyhoeddi ein canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol ymhell cyn etholiad nesaf y Senedd. Byddaf yn cyhoeddi hynny cyn bo hir.
Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi tair blynedd arall o'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i fenywod a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn cefnogi Etholwch Hi. Roedd digwyddiad Etholwch Hi a drefnwyd yr wythnos diwethaf yn gyfle i ni gwrdd â menywod ifanc sy'n awyddus i gwrdd ag Aelodau benywaidd o bob rhan o'r Senedd i'w hannog i ystyried troedio i fyd gwleidyddiaeth.
Fe allwn i ddweud llawer mwy ond fe hoffwn i glywed gan bawb arall yn y ddadl hon. Mae'n ddadl drawsbleidiol. Rwy'n credu, Llywydd, fod hwn yn gyfle i ni uno gyda'n gilydd i gefnogi'r cynnig hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed yr holl gyfraniadau. Diolch yn fawr.
Fe hoffwn i groesawu'r cynnig hwn, i ddechrau, a chefnogi hefyd yr alwad i gyflymu gweithredu. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n gwneud cynnydd yn hyn o beth. Mae hwn yn gyfle da i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed gan fenywod ond hefyd i gydnabod bod peth ffordd i fynd o hyd. Rwy'n falch ein bod ni yma heddiw, yn siarad am hyn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n eironig braidd, fel y dywedwyd yn y Siambr yn gynharach, bum mis ar ôl i mi ofyn i'r Llywodraeth ddiffinio menyw, eu bod wedi methu ag ysgrifennu yn ôl ataf. Efallai y gallwn ni gael ateb heddiw, Llywydd, oherwydd nid wyf yn siŵr beth sydd mor ddryslyd.
Mae gen i bryderon difrifol am allu Llywodraeth Cymru i wirioneddol ddiogelu a chefnogi menywod a merched biolegol—i wirioneddol eu gwarchod—a'u campau, er ei fod yn cael ei grybwyll yn un o'r cynlluniau 'cyflymu gweithredu', a'u lleoedd, pan na allwn ni hyd yn oed ddiffinio un. Felly, mae'r cynnig hwn yn ystyrlon, ac rwy'n falch ein bod wedi dod at ein gilydd i'w gefnogi, ond rwy'n ofni nad yw yn ddim ond geiriau gwag o bosib i fenywod a merched biolegol. Wedi'r cyfan, os na allwn ddiffinio menyw, ar gyfer pwy mae'r cynnig hwn? Pwy ydym ni'n trafod? Pwy ydym ni eisiau ei amddiffyn? Nid rhyfel diwylliant yw hwn, mae hyn yn ymwneud â hawliau menywod. Dyw ymgyrchwyr hawliau merched, fel Sharron Davies ac fel J.K. Rowling, ddim yn rhan o ryfel diwylliant. Mae menywod ledled y byd yn cael eu hymosod arnyn nhw gredu mewn dau ryw biolegol. Mae rhyw yn bwysig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae'r pethau hyn rwyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw—[Torri ar draws.]—yn bwysig i fenywod ledled Cymru. Gwnaf, fe wna i.
Wyddoch chi pwy sy'n ymosod ar fenywod yn bennaf? Dynion syth. Dyna pwy sy'n ymosod ar fenywod, yn bennaf. Ac os ydych chi'n gofyn y cwestiwn, 'Beth yw menyw?', gallaf ddweud wrthych chi beth yw menyw: menyw yw menyw, ac mae menywod trawsrywiol yn fenywod.
Iawn. Wel, bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno ar hynny, achos sut ydych chi'n amddiffyn menywod a merched biolegol mewn chwaraeon pan nad yw'n deg ac nid yw'n ddiogel, a phethau felly, a rhoi eu mannau eu hunain i fenywod mewn llochesi? A ydych chi wir yn cytuno bod hwnnw'n lle diogel iddyn nhw, os ydyn nhw'n parhau i ganiatáu dynion biolegol yn y mannau hynny? Nid wyf yn credu y gallwch chi.
Wrth gwrs, rwy'n gefnogol i fenywod a merched heddiw ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig iawn bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ledled Cymru heb ofni cael eu dychryn. Efallai fod gen i safbwyntiau gwahanol i bobl y meinciau gyferbyn, ond mae'n bwysig bod fy llais hefyd yn cael ei glywed, gan fod y llais hwnnw'n rhan fawr o Gymru hefyd. Mae'n iawn ein bod ni'n herio camdriniaeth ac yn sefyll gyda menywod pan fyddan nhw'n cael eu cam-drin mewn gwleidyddiaeth, ond mae'n rhaid i hyn fod yn gyson. Mae'n iawn ein bod ni'n sefyll gyda Buffy Williams ac rydym ni'n sefyll yn erbyn yr ymddygiad erchyll yn ei herbyn. Ac rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau ar draws y Senedd hon yn ymuno â ni i sefyll gyda Natasha Asghar—y gamdriniaeth a gafodd gan brotestwyr chwith eithafol Gaza pan siaradodd ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydym ni'n sefyll gyda phob menyw, mae'n rhaid i ni olygu pob menyw, a gadael i'w lleisiau gael eu clywed, oherwydd mae rhyddid i lefaru yn rhan bwysig o ddemocratiaeth.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, fe hoffwn i weld llywodraethau ar bob lefel yn ymrwymo i adennill chwaraeon menywod a mannau diogel menywod. Ni allaf gredu, yn 2025, bod yn rhaid i mi ddweud hyn o gwbl. Nid yw'n ymwneud ag eithrio unrhyw un nac wfftio unrhyw un, na pheidio â gadael iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pethau y mae menywod wedi brwydro amdanyn nhw ers degawdau lawer yn cael eu cadw—yr hawliau sylfaenol hyn. Mae'n rhaid cael ffordd o fod yn gynhwysol heb iddo fod ar draul menywod. Diolch.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i adlewyrchu ar y gorffennol ac edrych i'r dyfodol. Dathlwyd y diwrnod gyntaf 114 o flynyddoedd yn ôl. Ganed fy nwy fam-gu i, Nansi a Mari, bedair blynedd cyn hynny yn 1907. Roedden nhw'n ferched i löwyr ac yn yr un dosbarth cynradd â'i gilydd yn yr ysgol yn Rhymni. Chafodd Mari ddim cyfle i fynd i'r ysgol ramadeg er iddi basio'r eleven plus, achos doedd y teulu ddim yn gallu fforddio cadw mwy nag un plentyn yn yr ysgol. Ond aeth y cyfle i'w brawd bach hi, pan ddaeth ei dro, achos byddai Mari, wrth gwrs, yn priodi ac yn magu teulu. Cafodd Nansi beth addysg ramadeg achos hi oedd y ieuengaf yn y teulu, a'i dwy chwaer hŷn hi eisoes mas yn gweithio yn glanhau. Ond pan briododd hi, gorfodwyd hi i roi lan ei swydd fel athrawes gynorthwyol, achos doedd menywod priod ddim i fod i weithio; dylen nhw jest fod yn codi teulu a chadw tŷ.
Dwi'n meddwl am fy nwy fam-gu yn aml, yn eistedd yn y lle hwn, bob tro rwy'n clywed rhywun yn sôn bod y cae chwarae yn un gwastad a bod meritocracy yn bodoli. Roedden nhw'n ddwy fenyw na chafodd fawr o ddewis o ran trywydd eu bywydau, am eu bod yn dlawd, ie, ond hefyd am eu bod yn fenywod. Mae eu stori mor nodweddiadol o hanes menywod cyffredin yng Nghymru ac ar draws y byd, a dyna pam mae ein dadl ni heddiw mor bwysig. Gallwn, fe allwn ni feddwl am a dathlu'r rhai sydd wedi torri trwy'r nenfydau gwydr, dathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol ymhob maes, ond eithriadau ydyn nhw o hyd.
'Mae menywod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ni ddylai menywod fod yn eithriad.'
Heb fod yna fenywod, yng ngeiriau cofiadwy y barnwr Ruth Bader Ginsberg, mewn safleoedd o rym a dylanwad, ac yn defnyddio'r grym a'r dylanwad hynny i sicrhau bod yna degwch a chydraddoldeb, fe fydd yr agweddau sy'n cyfyngu ar fywydau menywod yng Nghymru yn parhau—y diwylliant patriarchaidd sy'n llywio agweddau cymdeithas o hyd, yr anghydraddoldeb economaidd sy'n amlwg ym maint y bwlch cyflog rhywedd yng Nghymru a'r cyfraddau tlodi ymhlith menywod, yr agweddau misogynistaidd sy'n atal menywod rhag cymryd cyfleon yn sgil pryderon am eu diogelwch a'u lles, y ffaith fod dynion yn treisio ac yn lladd menywod a bod yr ymosodiadau hyn ar lefel epidemig.
Dyna pam roedd Plaid Cymru yn siomedig y penderfynodd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru i beidio â bwrw mlaen gyda'r Mesur cwotâu rhywedd a fyddai'n gam mor bwysig tuag at sicrhau bod menywod yn y llefydd hynny ble mae penderfyniadau yn cael eu gwneud am fywydau menywod yng Nghymru: ein Senedd.
Oherwydd mae angen y menywod hynny yn yr ystafell mor daer arnom ni. Un o'r materion mwyaf brys y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef yw'r cam-drin a'r bygylu sy'n wynebu menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae menywod mewn bywyd cyhoeddus yn destun aflonyddu a bygythiadau, a cham-drin ar-lein erchyll. Rwy'n siŵr y gall pob menyw yn y fan yma rannu enghreifftiau, ac rydym ni i gyd yn gwybod am gydweithwyr sydd wedi bod yn destun bygythiadau marwolaeth a bygythiadau o dreisio. Mae hyn yn fygythiad nid yn unig i gydraddoldeb ond i ddemocratiaeth ei hun, oherwydd os yw menywod yn teimlo'n anniogel neu nad oes croeso iddyn nhw mewn gwleidyddiaeth, bydd llai yn sefyll etholiad, a bydd ein sefydliadau democrataidd yn wannach o ganlyniad.
Mae rhethreg niweidiol, rywiaethol yn cael ei lledaenu'n fwriadol am resymau gwleidyddol, ac mae'n gwrthdroi cynnydd ar gydraddoldeb rhywedd. Mae arolygon barn yn dangos bod un o bob pedwar dyn ifanc yn y DU yn cytuno â barn rywiaethol a misogynistaidd Andrew Tate am fenywod. Yn y cyfamser, yn y Tŷ Gwyn mae yna Arlywydd sydd wedi cael ei gyhuddo o dreisio, ymosodiad rhywiol ac aflonyddu rhywiol gan ddegau o fenywod ac sy'n ymfalchïo yn ei iaith ddifrïol tuag at fenywod. Mae'r ddau ddyn wedi cael eu platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi'u hadfer gan Elon Musk. Mae'r niwed y mae menywod wedi'u hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu grymuso a'u chwyddo gan Musk, sy'n mynd ati i roi llais grymus i leisiau misogynistaidd.
Mae hwn yn gynnig trawsbleidiol, ond ni fydd cefnogi'r geiriau hyn gyda phleidlais yn ddigon, mae gen i ofn. Os ydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn mae'n rhaid i ni fynd ati i wrthsefyll y naratifau misogynaidd hyn. Dim esgusodion, dim goddefgarwch, o fewn ein pleidiau, yn ein Senedd, yn ein cymunedau. Ac un cam pendant y gallai Cymru ei gymryd yw ymgorffori'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn 2021, ond ni fu cynnydd ystyrlon. Ac fe glywsom ni dystiolaeth yn y pwyllgor yn ddiweddar na fu digon o adnoddau i'r gwaith hwn o'r dechrau. Fe wnaethoch chi ymrwymo, Ysgrifennydd Cabinet, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn gynnar eleni, felly fe hoffwn i wybod pryd y byddwn yn cael hynny. Oherwydd heb amddiffyniadau cyfreithiol, mae hawliau menywod yn parhau i fod yn uchelgais yn hytrach nac yn bethau y gellir eu gorfodi. Felly, a wnewch chi gyflymu gweithredu ar y cam penodol hwnnw?
Yn olaf, nid oes cydraddoldeb rhwng y rhywiau nes bod gan bob menyw ledled y byd hawliau cyfartal. Fe wnaethoch chi sôn am bumed nod datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sef cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r menywod a'r merched yn Gaza wedi cael eu lladd yn eu miloedd tra bod Prif Weinidog Llafur y DU yn amddiffyn hawl Llywodraeth Israel i wneud hynny ac yn parhau i werthu arfau iddyn nhw wrth iddynt dorri cymorth dyngarol a thrydan i ferched, i fenywod oedrannus, i fenywod beichiog. Mae elusennau wedi rhybuddio mai gweithred Trump o gwtogi ar gymorth tramor yr Unol Daleithiau fydd yn effeithio fwyaf ar fenywod a merched, yn ogystal â phenderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i dorri cyllideb cymorth rhyngwladol y DU. Mae gennym ni ddyletswydd statudol i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, felly a wnewch chi gondemnio'r toriadau hynny heddiw, Ysgrifennydd Cabinet?
Mae'r cynnig yn ein hannog ni i gyd, yn enwedig y rhai ohonom ni sydd yn y Llywodraeth, nid yn unig i uno i gefnogi hawliau menywod mewn areithiau a chynigion, ond uno drwy weithredu, i godi llais yn uchel pan fo'n bwysig, oherwydd mae angen menywod mewn gwleidyddiaeth, oes, ond i ba ddiben os nad ydyn nhw'n siarad dros eu chwiorydd?
Wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n iawn ein bod ni'n myfyrio ar y cynnydd a wnaed ac yn cadarnhau hefyd ein hymrwymiad cyfunol i gyflymu gweithredu. Ac er nad yw'n sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, mae hefyd yn iawn ein bod ni'n rhoi amser nid yn unig i gondemnio cam-drin a bygylu menywod mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd yn ei herio am yr hyn ydyw.
Mae'n fraint gwasanaethu'r gymuned wnaeth fy siapio. Pan oeddwn i'n tyfu fyny, doeddwn i ddim yn meddwl bod dod yn wleidydd yn bosibilrwydd, yn anad dim oherwydd nad oedd gwleidyddion i'w weld yn edrych fel fi nac yn swnio fel fi. Efallai fy mod yn dod o ogledd Cymru, ond cefais fy ffurfio yn y mudiad undebau llafur, a menywod undebau llafur a roddodd y gwth olaf hwnnw i mi gynnig fy hun ar gyfer yr etholiad. Rwy'n falch o fod yn rhan o sefydliad a phlaid sydd â hanes cryf o ran cynrychiolaeth menywod. Nid yw cael mwy o fenywod yn newid wyneb ein gwleidyddiaeth yn unig, mae'n newid y pwyslais. Nid newid y cywair yn unig mae'n ei wneud, mae'n siapio'r pynciau, ac mae ein gwleidyddiaeth ar ei gorau pan fyddwn yn trin ein gilydd gyda'r urddas a'r parch rydym ni'n ei haeddu fel cyd-ddinasyddion. Gallwn anghytuno heb ymostwng i wneud ensyniadau.
Yn fy nadl fer yr wythnos diwethaf, soniais am sut mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ficrocosm o fater cymdeithasol ehangach, un sydd yn rhy aml wedi cael ei dderbyn fel y norm. Gellir dweud yr un peth am gam-drin a bygwth menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae'n ymhelaethu casineb at fenywod systemig y mae menywod o bob cefndir yn dal i wynebu. Ond er y gall fod yn systemig, mae'r ffordd y mae gwleidyddion benywaidd yn cael eu targedu a'u trin yn aml yn teimlo fel casineb at fenywod a rhywiaeth eithafol. Dyna pam na allwn ni gondemnio yn unig; mae'n rhaid ei herio. Un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ni wneud hyn yw trwy ddefnyddio ein platfform a'r lle hwn i rannu ein profiadau.
Rwyf wedi siarad o'r blaen am y gymysgedd wenwynig o gasineb at fenywod a homoffobia yr wyf wedi'i wynebu ers cael fy ethol. Maen nhw'n amrywio o'r sylwadau ar hap fel, 'Sut gall hi fod yn wraig i chi? Rydych chi'ch dwy yn fenywod' a 'Pwy sy'n poeni gyda phwy rydych chi'n cael rhyw?' i'r dyn a agorodd ei gyswllt â mi gan ddweud, 'Bore da, Hannah. Cefais sioc o ddarllen heddiw eich bod chi—sut alla i ei ddweud yn gwrtais—mewn perthynas o'r un rhyw. Rydych chi'n ymddangos yn ddeallus, rydych chi'n sicr yn ddeniadol iawn, a dyna pam rwyf mewn syndod. Mae'n fwy cyffredin y dyddiau hyn ond nid yw hynny'n ei wneud yn iawn, serch hynny, ac nid yw'r holl wleidyddion Llafur hynny sy'n eich annog yn helpu'. Mae'n mynd ymlaen i ddweud ei fod yn anghywir ond, er gwaethaf hynny, nid yw'n fy nghasáu.
Yna rydym yn symud ymlaen at y mwy sinistr. Gwnaeth yr un person nid yn unig gysylltu â mi a fy ngwraig; gwnaeth hefyd anfon e-bost at nifer o gydweithwyr gwrywaidd ac, fel y dysgais lawer yn ddiweddarach, fy nhad. Dywedodd yr efengylydd yma, fel y galwai ei hun, wrthyf y dylwn i adael fy ngwraig, bod angen fy achub i o fy nghyfunrhywioldeb, nad yw'r genyn cyfunrhywiol yn bodoli, a bod angen fy meddylfryd wedi ei hailraglennu arnaf i'm gwneud yn heterorywiol. Yn fuan ar ôl hyn, derbyniodd fy ngwraig neges llais ar wahân ar ei rhif gwaith yn y fan yma, gan ddweud wrthi yn y bôn y byddai'n llosgi yn uffern. Dim ond cipolwg yw hyn.
Mae cam-drin menywod mewn gwleidyddiaeth yn ddigon drwg, ond mae'r ffaith bod ein teuluoedd yn aml yn cael eu targedu yn gwbl annerbyniol. Yn fy achos i, ar sawl achlysur, mae'r person rwy'n ei garu fwyaf yn y byd wedi'i thargedu'n bennaf oherwydd bod siawns yn golygu iddi gwrdd â mi a'm priodi i. Ac fel y dywedodd Sioned Williams, os ydym ni'n mynd i godi llais a herio er mwyn newid, yna mae'n rhaid i hynny fod yn wir, waeth pa mor galed yw hynny, ar draws gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yn y fan yma ac o fewn ein pleidiau ein hunain.
Ychydig flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, roedd galwad i fy swyddfa etholaeth—galwad ddienw, os gallwch chi ei galw'n hynny—y gellid gwyntyllu rhai sylwadau homoffobig mewn proses gyhoeddus ffurfiol ar gyfer cyn-gynrychiolydd eithaf uchel o fy mhlaid fy hun. Fel y byddech chi'n dychmygu, roeddwn i'n ofidus ac fe geisiais i ddarganfod mwy. Felly, i dorri stori hir yn fyr, yn y pen draw cefais gopi o'r negeseuon a'r hyn a ddywedwyd: sgwrs ag iddi ensyniadau rhywiol amhriodol a homoffobig amdanaf i a fy ngwraig erbyn hyn. Gallaf draethu am y sarhad i'r dyfenwi cwbl chwerthinllyd. Ar y pryd, cefais wybod bod rhywun yn ôl pob golwg wedi cysylltu ag un o'r prif bapurau tabloid gyda stori ffug fy mod i, yn ôl pob sôn, yn gaeth i siopa ac wedi defnyddio car gweinidogol i fynd â fy ngwraig i siopa a gwneud cydweithiwr yn hwyr ar gyfer cyfarfod pwysig, a bod yna Weinidog arall honedig yn barod i gefnogi'r stori, fel y gelwid hi. Yn amlwg, ni chyhoeddwyd y fath beth gan ei fod yn hollol ac yn gwbl ffug, er, pan fyddaf yn myfyrio nawr, dydw i ddim yn siŵr a ddylwn i deimlo'n fwy gofidus bod y gohebydd tabloid, yn ôl pob tebyg, ar ôl chwilio ein cyfryngau cymdeithasol, wedi dod i'r casgliad nad oeddwn o bosibl yn edrych fel rhywun oedd yn gaeth i siopa. Rwy'n credu bod mwy o luniau o gŵn na Dior. [Chwerthin.]
Nid wyf erioed wedi rhannu unrhyw ran o hyn o'r blaen ac rwy'n gwneud hynny heddiw dim ond i dynnu sylw at y math o beth y disgwylid i fenywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, am ormod o amser, ei ddioddef a bwrw ymlaen ag ef. Felly, mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd i herio a newid, pa bynnag ffurf sydd i hynny ac o ble bynnag y daw. Ond, i mi, uwchlaw popeth, mae'n dal yn fraint i geisio gwneud gwahaniaeth i'm cymuned a fy ngwlad, ac fe hoffwn i fod yn hollol glir, er y bu hi'n anodd ar adegau, bod y cadarnhaol o hyd yn gorbwyso'r negyddol o bell ffordd.
Ac rwy'n gallu bod yma heddiw a phwy ydw i heddiw oherwydd y menywod a ddaeth o'm blaen i a pharatoi'r ffordd. Mae menywod ysbrydoledig o'n cwmpas ni i gyd—yn y Siambr, yn ein cymunedau ac mewn gweithleoedd ledled y wlad. Y menywod sy'n fy ysbrydoli fwyaf yw'r menywod sydd wedi bod ac sy'n parhau i fod yn galon ein cymunedau. Dydyn nhw ddim yn cyrraedd y penawdau na'r llyfrau hanes, ond maen nhw bron bob amser yn achubiaeth, ac iddyn nhw a'r holl ferched ifanc sy'n tyfu fyny yng Nghymru heddiw rydym ni'n dyfalbarhau ac rydym ni'n gwrthsefyll.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bob amser yn ddiwrnod pwysig yn y calendr i mi, gan ei fod yn ddiwrnod i ni gyd fyfyrio ar gyflawniadau a chyfraniadau anhygoel menywod yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Yn bwysicach fyth, mae'n ddiwrnod i gydnabod y ffaith bod llawer o fenywod yn dal i wynebu brwydrau mawr wrth geisio cydraddoldeb. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn alwad i'r gâd am weithredu parhaus i helpu i greu byd lle gall menywod, waeth beth yw lliw eu croen, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir, fyw'n rhydd, gyda chyfle, cefnogaeth a chydraddoldeb. Rwy'n falch iawn o ddweud, yng Nghymru, bod menywod wedi torri rhwystrau ym mhob un maes, gan gynnwys gwleidyddiaeth. Os edrychwn ni o gwmpas y Siambr, mae gennym ni'r Gweinidog benywaidd hiraf ei gwasanaeth yn y DU yn eistedd yn y rheng flaen ochr yn ochr â Phrif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru. Ac, os edrychwch chi yn llawer agosach at adref, y ferch gyntaf o leiafrif ethnig yn Senedd Cymru yma. Ond mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig cyfle i ni, efallai yn fwy felly nag erioed o'r blaen, ystyried ar yr amgylchedd gelyniaethus cynyddol y mae gwleidyddion yn ei wynebu. Mae'n fy nhristáu i ddweud—ac rwyf wedi ei brofi fy hun, ac rwy'n gwybod bod llawer yn y Siambr hefyd—ni fydd cam-drin byth yn gwneud imi wrthod swydd, ond mae'n hawdd gweld sut, i gymaint o bobl, y gall yn wir wneud hynny, ac yn syml, nid yw'n dderbyniol. Rydym ni i gyd yn mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd ein bod ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl: gwasanaethu ein cymunedau, cefnogi ein hetholwyr, ac ni ddylid ein gorfodi i ddioddef cam-drin, gelyniaeth a chasineb am wneud yn union hynny.
Wrth i'r Senedd baratoi i ehangu yn 2026, ac er ei fod yn gysyniad nad wyf yn cytuno ag ef, rwy'n siŵr y byddwn i gyd eisiau gweld cnwd newydd o wleidyddion dawnus, cyflawn, o bob cefndir yn eistedd yn ein plith ni yma yn y Siambr, yn y dyfodol. Ond rwy'n ofni y bydd yr ymdrechion hynny'n cael eu llesteirio gan gam-drin sylweddol mae rhai gwleidyddion, yn enwedig menywod, yn ei wynebu yma heddiw yn 2025. Mae'n debyg mai ymdrechu i fynd i'r afael â cham-drin yn erbyn gwleidyddion yw un o'r ychydig bethau sy'n wir yn ein huno, waeth pa bynnag blaid rydym yn eistedd yma yn ei chynrychioli yn y Siambr hon. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i herio cam-drin pan fyddwn yn ei weld. Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni greu dyfodol gwell ac amgylchedd gwleidyddol diogel i genedlaethau'r dyfodol.
Llywydd, gwn fy mod wedi cyffwrdd â gwleidyddiaeth, ond mae menywod Cymru wedi bod yn arloeswyr mewn cymaint o feysydd eraill, gan gynnwys gwyddoniaeth, y celfyddydau a busnes. Fel gwleidyddion, rydym ni'n cael cwrdd â phobl wirioneddol wych, ac rydw i wedi cael yr anrhydedd o gwrdd â rhai menywod rhyfeddol mewn llawer o wahanol feysydd ers cael fy ethol yma yn 2021, ac rydw i eisiau talu teyrnged iddyn nhw wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yma heddiw. O'r ymgyrchwyr anhygoel sy'n ymladd dros achosion teilwng, y gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau, i'r gofalwyr, codwyr arian, arweinwyr cymunedol anhunanol, aelodau'r teulu a ffrindiau—mae'r rhestr yn wir yn un hirfaith. Ond hyd yn oed wrth i ni gydnabod cyflawniadau a llwyddiannau'r menywod hyn, ni allwn ni anwybyddu'r rhwystrau parhaus y mae menywod yn parhau i'w hwynebu yn y gweithle, o ran mynediad i addysg, mewn gofal iechyd, a hefyd mewn swyddi arweinyddiaeth. Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gadewch i ni adnewyddu ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder. Gadewch inni sicrhau bod pob un ferch a phob menyw yn cael cyfle i gyrraedd ei llawn botensial. Nid mater i ferched yn unig yw hwn; mae hwn yn fater i bob un ohonom ni, ac mae hynny'n gofyn am ymdrech ar y cyd gan bob un ohonom ni yma heddiw.
Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, gadewch i ni fyfyrio ar ba mor bell rydym ni wedi dod, dathlu'r menywod anhygoel sydd wedi paratoi'r ffordd, ac addo gwneud ein rhan i wneud byd lle mae lleisiau menywod nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu cefnogi, eu meithrin, eu huno ac, yn y pen draw, eu grymuso. Diolch.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, safodd Jess Phillips AS yn Nhŷ'r Cyffredin a darllen enwau pob menyw a laddwyd gan ddyn yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Cymerodd dros bedwar munud i'w darllen i gyd—95 o fenywod. Dyna 95 o fywydau wedi'u dwyn, 95 o deuluoedd wedi'u chwalu, 95 dyfodol wedi'u cymryd ymaith. Oni bai ein bod yn gweithredu, bydd y rhestr hon yn parhau i gynyddu. Mae'r cyfrifiad diweddaraf ynghylch niferoedd y menywod sy'n cael eu lladd yn datgelu realiti difrifol: mae menyw wedi cael ei lladd bob tri diwrnod yn y DU ers 2009. Nid cyd-ddigwyddiad anffodus yw hwn, mae'n batrwm—patrwm o gasineb at fenywod, trais gwrywaidd diarbed, ac o system gyfiawnder sy'n siomi menywod dro ar ôl tro. Nid ystadegau oedd y menywod hyn; roedden nhw'n ferched, chwiorydd, mamau, ffrindiau, menywod oedd â phob hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain. Ac eto fe siomwyd gormod ohonyn nhw, eu siomi gan sefydliadau oedd ddim yn eu credu, gan system oedd ddim yn eu diogelu, a chan gymdeithas sy'n troi o'r tu arall heibio yn rhy aml. Gadewch i ni fod yn glir, nid argyfwng yn unig yw trais yn erbyn menywod, mae'n argyfwng cenedlaethol, ac eto nid yw'n cael ei drin felly. Mae gennym ni ymgyrch diogelwch y cyhoedd ers tro yn y DU—ymgyrchoedd dros beryglon tân, diogelwch ar y ffyrdd, damweiniau yn y gweithle—ond ble mae'r un brys am fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais ar sail rhywedd?
Mae ymgyrch ddiweddaraf Cymorth i Fenywod, 'The Ignored Emergency', yn gwneud maint y broblem yn eglur: mae menywod 50 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hanafu gan eu partner nag mewn tân mewn tŷ. Maen nhw fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd gan bartner na thrwy beidio â gwisgo gwregys diogelwch. Ac eto, er y bu degawdau o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus ynghylch peryglon tanau a damweiniau ffyrdd, ni ellir dweud yr un peth am gam-drin domestig. Y gwir yw, mae mynd i'r afael â thrais gan ddynion yn erbyn menywod yn gofyn am fwy na geiriau'n unig; mae'n gofyn am weithredu. Mae hynny'n golygu gwell addysg, mwy o gefnogaeth i oroeswyr, gweithredu llymach yn erbyn cyflawnwyr, a system gyfiawnder sy'n gweinyddu cyfiawnder mewn gwirionedd. Ac mae'n golygu trin cam-drin domestig a llofruddio menywod fel yr argyfwng cenedlaethol eglur ydyn nhw.
Felly, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau yr eir i'r afael â'r argyfwng hwn gyda'r brys angenrheidiol? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad oes un fenyw arall yn cyrraedd y rhestr honno? Roedd pob un enw a ddarllenwyd yn San Steffan yn un enw yn ormod, a'n cyfrifoldeb ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yw sicrhau nad yw'r rhestr honno byth yn tyfu'n hirach eto. Fel mae'r cyfrifiad ynghylch menywod a lofruddiwyd yn dweud:
'Mae pob menyw farw yn un yn ormod.'
Diolch.
Rwy'n falch iawn ein bod yn cael hon, dadl briodol yma heddiw, ac mae'n wych bod yr holl bleidiau wedi dod at ei gilydd i gyflwyno'r cynnig hwn.
Dros y dyddiau diwethaf, dros yr wythnos ddiwethaf, mae wedi bod yn gymaint o bleser mynychu'r nifer fawr o ddigwyddiadau sydd bellach yn cael eu cynnal i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwyf wedi bod mewn canolfannau ieuenctid yn yr etholaeth, rwyf wedi bod i arddangosfa gelf menywod, rwyf wedi bod i gwrdd â menywod sy'n gweithio mewn undod byd-eang. Mae'n bwysig gweld faint o bobl sy'n dathlu heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod, fel y dywedodd llawer o bobl, lle mae cynnydd yn cael ei wneud i fenywod ledled Cymru. Rwy'n credu bod llawer mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o gyflawniadau menywod a chydnabod y bu tan-gydnabyddiaeth systematig o fenywod mewn bywyd cyhoeddus.
Ddydd Gwener, lansiwyd y bedwaredd plac porffor ar bymtheg yn Abertawe, er anrhydedd i Amy Dillwyn, menyw ryfeddol a ysgrifennodd chwe nofel ac a ddaeth yn ddiwydianwraig gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlwyd y cynllun plac porffor yn 2017 gan grŵp o fenywod yma yn y Senedd hon i anrhydeddu menywod hynod ledled Cymru sydd, efallai, wedi cael eu hanghofio yn y llyfrau hanes. Mae pob un o'r 19 menyw sydd wedi cael placiau yn nodi cyfraniad unigryw i fywyd Cymru, ac mae cynlluniau ar gyfer ambell un arall eleni.
Rydym ni hefyd wedi clywed eisoes heddiw sôn am yr arddangosfa sydd yma yn y Senedd am gerfluniau i ferched hynod Cymru sydd hefyd wedi amlygu'r angen am fwy o gerfluniau o fenywod, ac, fel y dywedodd rhywun yn y lansiad, oni bai eu bod yn cael eu darlunio fel angylion, prin fod unrhyw fenywod yn cael eu cydnabod fel hyn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n wych bod y cerfluniau hyn wedi'u gosod ledled Cymru, ac rwy'n arbennig o falch, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, am gerflun Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf yn Butetown, sydd yng nghanol Caerdydd, ac yr oeddwn i'n ei hadnabod yn dda.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn gynnydd bod mwy o fenywod yn troedio i fywyd gwleidyddol, nid yn unig yma yn y Senedd ond yn ein hawdurdodau lleol ac yn San Steffan. Pan es i San Steffan yn 1997, roedd pedair menyw o 40 yn mynd o Gymru, ac mae pethau wedi gwella ers hynny, felly rwy'n credu y dylem ni ddathlu hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn newid cyfansoddiad sefydliadau gwleidyddol oherwydd bydd hynny'n dylanwadu ar sut rydym ni'n llunio ein polisïau, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cynrychioli barn pawb yn y gymdeithas.
Fe hoffwn i hefyd nodi mai hwn yw'r Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf lle mae gennym ni fenyw yn Brif Weinidog, ac rwy'n credu bod hynny'n gam enfawr ymlaen, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rydym ni'n gweithredu, a sut y byddwn yn gweithredu.
Ond yna mae'n rhaid i ni edrych ar ochr arall y geiniog, bod menywod, mewn sawl ffordd, wedi parhau i gymryd camau yn ôl, ac rwy'n credu bod hwn yn rheswm pwysig arall pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod mor bwysig, gan ei fod yn creu rhywbeth canolog ble gallwn ni siarad am hyn. Rydym ni eisoes wedi clywed am gyfraddau trais a cham-drin domestig yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, a menywod a merched yw prif ddioddefwyr cam-drin domestig o hyd. Dangosodd ffigurau o'r arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, fod dros 1.6 miliwn o'r 2.3 miliwn o bobl a brofodd drais domestig rhwng 2023-24 yn fenywod, ac mae nifer yr ymosodiadau treisgar yn erbyn menywod hefyd ar gynnydd, gyda thair menyw yng Nghymru wedi eu lladd y llynedd. Soniodd Mabon am Jess Phillips yn darllen enwau'r menywod oedd wedi cael eu lladd yn y DU, ac mae Joyce Watson hefyd yn gwneud rhywbeth tebyg y mae hi'n ei drefnu ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn. Mae hi mor drasig meddwl bod tair dynes yng Nghymru wedi eu lladd y llynedd.
Ac yna hefyd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae menywod yn parhau i gael eu talu rhy ychydig, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 11.3 y cant, yn ôl Cymdeithas Fawcett. Y llynedd, yn 2024, syrthiodd Diwrnod Cyflog Cyfartal y DU, sy'n nodi'r adeg pan roddir y gorau i dalu menywod o'i gymharu â dynion, ar 20 Tachwedd. Felly, am weddill y flwyddyn honno, nid oedd menywod yn cael unrhyw beth o'i gymharu â dynion. A dweud y gwir, yn yr oes sydd ohoni, mae'n frawychus bod hyn yn digwydd.
Neithiwr mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Hub Cymru Africa, gan ddod â menywod sy'n goruchwylio rhaglen Maint Cymru yn Uganda at ei gilydd—mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru—a dathlu'r mwy na miliwn o goed rwy'n credu sydd wedi'u plannu. Ac rwy'n credu ei bod hi mor bwysig, fel menywod, ein bod ni'n rhyngwladolwyr, a'n bod ni'n chwilio am gyfleoedd i weithio gyda menywod ar draws y byd. Ac wrth siarad yn y digwyddiad hwn neithiwr, oedd yn ysbrydoledig iawn, yn sôn am newid hinsawdd, rwy'n credu ei bod hi mor bwysig cydnabod mai menywod yw'r bobl sy'n dioddef fwyaf o newid hinsawdd—menywod a phlant, sy'n dioddef waethaf effeithiau'r camu yn ôl.
Felly, dim ond i gloi, mae yna wledydd lle mae pethau'n symud ymlaen yn dda o ran cynrychiolaeth menywod. Mae Gwlad yr Iâ yn enghraifft wych, gyda bron pawb yn fenyw ym mron pob swydd o rym. Ond yna rydych chi'n edrych ar y drefn newydd yn yr Unol Daleithiau, ac mae hynny'n ein hatgoffa bod menywod yn parhau i fod mewn perygl o gael ein hawliau wedi'u diddymu ar amrantiad. Rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa hynod fregus yn y byd fel y mae hi ar hyn o bryd. Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud mewn gwirionedd yw mai mater i bob un ohonom ni yw ailddyblu ein hymdrechion i sicrhau bod menywod ledled y byd yn cael eu cydnabod, eu parchu, eu datblygu a'u hymwreiddio yn y swyddi sydd ganddyn nhw. Diolch.
A gaf i ddweud pa mor falch ydw i fod gennym ni Lywydd benywaidd hefyd? Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, y llynedd, diolch i'r Senedd hon, cefais y fraint a'r anrhydedd o gael siarad yn Senedd Malta, ynghyd â fy nghyd-Aelod, Rhianon, menywod o bob rhan o'r Gymanwlad. Roedd gennym ni un thema yn benodol, sef bod angen pendant am fenywod mewn gwleidyddiaeth, ac nad ydym ni bob amser yn cael cyfle cyfartal. Ond, er ein bod ni'n parhau i siarad am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy'n edrych ar Joyce nawr; fe wna i sôn am Joyce ar y dechrau. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y gwaith rydych chi wedi'i wneud a'r ffaith eich bod chi'n camu o'r neilltu yn yr etholiad nesaf—rydw i eisiau diolch yn bersonol i chi am y gwaith rydych chi wedi'i wneud gyda'r cawcws a Diwrnod y Rhuban Gwyn. Nid ydym yn dweud 'diolch' yn ddigon aml, ond diolch yn fawr, Joyce.
Mae gan bob un ohonom ran wrth annog mwy o fenywod i droedio i fyd gwleidyddiaeth, ac iddyn nhw gael yr hyder i sefyll etholiad. Rwy'n mynd i dalu teyrnged i Laura Jones. Rydych chi wedi codi ambell wrychyn heddiw trwy ofyn am y diffiniad o fenyw. Wel, gallaf ddweud wrthych chi—mae Laura Jones yn fenyw, mae Natasha Asghar yn fenyw, ac fe hoffwn i weld y ddwy ddynes yma yn ôl yma ar ôl yr etholiadau nesaf.
P'un a yw fel yr wyf i wedi ei wneud dros y blynyddoedd—rwyf wedi bod ym maes gwleidyddiaeth am 30 mlynedd nawr—mynd at fenywod a gofyn iddyn nhw sefyll fu un o'r tasgau anoddaf mae'n siŵr, a dweud y gwir. Gofynnwch i ddyn sefyll ac nid wyf erioed wedi cael unrhyw broblem, ond, yn rhy aml, mae gormod o fenywod yn dweud, 'O, allwn i ddim gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud. Does gen i mo'r hyder.' Pan ydw i wedi eu hargyhoeddi nhw ac maen nhw wedi sefyll, mae llawer ohonyn nhw'n dal i fod yn gynghorwyr nawr, yn mwynhau eu swyddi, ac yn ddiolchgar am y ffaith y gofynnwyd iddyn nhw sefyll.
Mae gennym ni heriau mawr yn ein hwynebu ni fel menywod, ond mae'n braf, Mabon, hefyd ichi siarad heddiw, oherwydd nid menywod bob amser ddylai barhau i eirioli am y gefnogaeth i ferched—rydym ni angen i chi ddynion godi llais. Yn y 14 mlynedd rwyf wedi bod yma, nid wyf i, ar wahân i heddiw, wedi clywed gormod o enghreifftiau o ddynion yn sefyll ac yn dweud mewn gwirionedd, 'Mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer gwleidyddion benywaidd.' Felly diolch. Diolch yn fawr.
Rwyf yn ddiweddar—. Dros y 30 mlynedd rydw i wedi cael fy ethol, mae'n deg dweud nad oedd gennym ni'r cyfryngau cymdeithasol fel sydd gennym ni nawr, lle mae cam-drin yn digwydd mor rhwydd ar fysellfwrdd gan rywun na fyddai fwy na thebyg yn ei ddweud i'ch wyneb. Ond y tymor diwethaf hwn rydw i wedi sylwi arno yn benodol, o'r adeg y gwnes i sefyll yn yr etholiad, hyd yn oed tan nawr, y cam-drin, y sylwadau brawychus, sarhaus rydych chi'n eu gweld nawr. Roeddwn i'n arfer ymfalchïo mewn gwirionedd na fu fyth raid imi rwystro unrhyw un ar y cyfryngau cymdeithasol, ond nid wyf yn ymddiheuro i'r bobl rydw i wedi gorfod eu rhwystro. Mae wedi bod yn fwy o bobl yn ystod y 12 mis diwethaf nag yr wyf erioed wedi eu rhwystro, ac rwy'n gweld pob un ohonoch chi, ddynion a menywod, yn cael eich cam-drin, ac eto rydych chi i gyd yn gwneud eich gorau, ac rwy'n hynod falch o bob un fenyw sydd yma mewn gwleidyddiaeth. Efallai na fyddwn ni bob amser yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, gan wahanol bleidiau, ond y gwir amdani yw eich bod chi yma ac rydych chi'n barod i sefyll a chynrychioli eich etholwyr mewn gwirionedd, mor dda.
Mae ystadegau byd-eang gan Uned Wybodaeth yr Economist yn awgrymu bod 38 y cant o fenywod wedi profi trais ar-lein. Mae chwe deg pump y cant yn gwybod am fenywod eraill sydd wedi cael eu targedu, ac 85 y cant wedi gweld trais ar-lein yn erbyn menywod eraill. Canfu ITV Cymru fod 80 y cant o Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Cymru—80 y cant—wedi teimlo dan fygythiad ers bod yn y swydd, tra bod 43 y cant ohonom ni wedi derbyn bygythiadau marwolaeth. Mae'n rhaid i ni gefnogi cyflymu gweithredu i gefnogi menywod. Hyd yn oed wrth wneud ein gwaith ac ymweld yn y Senedd, mae rhai Aelodau wedi profi ymddygiad bygythiol, a phan welwn ni sut mae pobl wedi marw am eu hawl i fod mewn gwleidyddiaeth, mae'n frawychus.
Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r tair menyw a gawsom ni yn ein plaid, y diweddar Farwnes Thatcher, Theresa May ac mae gennym ni Kemi Badenoch nawr fel ein harweinydd ni. [Torri ar draws.] A Liz Truss [Chwerthin.] Dyna oedd tro trwstan, yn wir. [Torri ar draws.] Na, doedd o ddim—[Torri ar draws.] Doedd o ddim—[Torri ar draws.] Arglwydd. Beth bynnag, mae'n ddrwg gen i Liz. [Torri ar draws.] Ie. Ond mae'n dda ein bod ni—. Fel y nodwyd yn briodol, mae gennym ni Brif Weinidog benywaidd, sy'n dda iawn.
Mae'n rhaid i ni fod â'r hawl honno i brotestio. Mae'n rhaid i ni gael ein parchu a'n diogelu. Ar hyn o bryd mae diwylliant lle bernir ei bod hi'n dderbyniol ymosod ar wleidyddion, dynion a menywod, a'u trin â dirmyg llwyr. Ni ellir caniatáu iddo barhau. Fel y mae, bydd y math hwn o ymddygiad yn naturiol yn atal mwy o fenywod rhag troedio i wleidyddiaeth. Nid mewn gwleidyddiaeth yn unig rydym ni'n gweld cam-drin. Rydym ni'n ei weld yn cael effaith ar fenywod a merched ifanc. Mae ymchwil gan Girlguiding Cymru yn dangos bod cam-drin ar-lein yn siapio dewisiadau gyrfa merched. Mae mwy na 36 y cant yn gyndyn o wneud rhai swyddi, gan gynnwys gwleidyddiaeth, oherwydd y cam-drin. Yn ein Senedd yng Nghymru, mae gennym ni Senedd Ieuenctid o ryw 60 o Aelodau, dynion ifanc a menywod ifanc. Mae gennym ni gynghorau ysgol, ffug etholiadau, ac rwyf bob amser yn cael fy nghalonogi gan ba mor huawdl, gwybodus a hyderus yw'r bobl ifanc hyn. Unwaith eto, yn anffodus, yng nghwrs eu haddysg a'u gyrfaoedd eraill, mae rhywfaint o'r wybodaeth a'r diddordeb gwleidyddol hwnnw yn pylu, felly mae angen gwneud mwy i feithrin y diddordeb a'r brwdfrydedd hwn yn ein pobl iau. Mae'n ddyletswydd—
Janet, rwy'n amharod iawn i ofyn i chi gwblhau eich datganiad, oherwydd fe ddechreuoch chi trwy fy nghanmol ac ni ddylwn i fod yn eich rhwystro chi nawr. Ond rydych chi—. Rwyf wedi bod yn hael iawn oherwydd y buoch chi'n hael iawn.
Do, rydych chi wedi yn wir. Y cyfan y byddwn i'n ei ddweud yw: fenywod, parhewch i ymladd. Mae gennych chi hawl i fod yma, a chofiwch hynny bob amser. A dynion yn y Siambr hon, Aelodau, siaradwch weithiau i'n cefnogi yn fwy. Da iawn, Mabon.
Mae rhai pobl yn cwestiynu pam mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnom ni. Wel, y rheswm ein bod yn nodi'r diwrnod hwn bob blwyddyn yw nid yn unig fel y gallwn ni ddathlu ein chwiorydd grymus, nid yn unig fel y gallwn ni hyrwyddo pa mor bell rydym ni wedi dod, yr enillion rydym ni wedi'u gwneud, mae hefyd yn ymwneud â galaru am y bwlch rhwng lle rydym ni sefyll a lle dylem ni fod—ie, galaru. Fe ddylem ni fod yn bloeddio am sut mae menyw neu ferch yn cael ei lladd bob 10 munud gan bartner rhywiol neu aelod o'r teulu. Fe ddylem ni fod yn gweiddi am sut mae yna wefannau yn bodoli i gyfrif menywod marw, i gatalogio eu colled: menywod sy'n cael eu lladd, eu targedu, oherwydd eu bod yn fenywod.
Nawr, mae'r ystadegau hyn rydyn ni wedi'u clywed yn y Siambr y prynhawn yma, maen nhw'n styfnig. Maen nhw wedi bod yn styfnig ers blynyddoedd. Ac mor aml y cyfeirir ato fel trais yn erbyn menywod, fel pe bai'n weithred oddefol, a gyflawnir gan bwy a ŵyr, yn hytrach na chael ei gyfeirio ato fel trais gwrywaidd. Mae angen mwy o fenywod arnom ni ym myd gwleidyddiaeth, mae angen mwy o fenywod arnom ni i weiddi am y materion hyn, nid yn unig ar y diwrnod hwn ond bob dydd, oherwydd bod ystyfnigrwydd yr ystadegau hynny'n awgrymu eu bod wedi cael eu derbyn fel rhai digyfnewid, un o ffeithiau bywyd. Ond nid oes unrhyw beth naturiol am y trais hwn, ac nid oes unrhyw beth naturiol am y cam-drin, aflonyddu, stelcian sy'n effeithio mor anghymesur ar oroeswyr benywaidd, y cam-drin ar sail rhywedd y mae gormod o bobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ei dderbyn fel rhywbeth na ellir ei osgoi. Rhaid gwneud iddo fod yn wrthun, yn rhywbeth na oddefir, yn rhywbeth annormal.
Mae angen mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth i orfodi'r newidiadau hynny yn ein cymdeithas. Ac mae'n llawer i'w ddisgwyl gan fenywod eraill, llawer i'w roi ar ysgwyddau'r rhai yr hoffem ni eu hamddiffyn, rhoi mwy o lais iddyn nhw. Nid menywod ddylai cael eu gorfodi i fod yn fwy cadarn, cael croen mwy trwchus, yn barod i ymdopi â'r casineb a'r hylldra y bydd yn rhaid iddyn nhw eu derbyn. Na, y lleoedd rydym ni i gyd yn byw ynddyn nhw sy'n gorfod newid. Rhaid gwneud y meysydd lle ceir gwleidyddiaeth yn fwy croesawgar, rhaid eu gwneud yn fwy hygyrch, lle gellir rhoi cartref i fwy o fenywod, oherwydd dylai'r diwrnod hwn fod yn ddiwrnod o ddathlu—llawenydd syml, o ymlawenhau. Ond, tan i ni gyrraedd y diwrnod hwnnw, mae dyletswydd arnom ni i godi ein lleisiau, i godi llais dros y menywod hynny nad ydyn nhw yma ond sy'n dibynnu arnom ni. Ac yng ngeiriau Jasmin Kaur,
'sgrechian / fel rhyw ddydd / can mlynedd o nawr / na fydd yn rhaid i chwaer arall / sychu'i dagrau gan fyfyrio am / ble mewn hanes / iddi golli ei llais'.
Gadewch i ni barhau i godi ein lleisiau, oherwydd nid ydym wedi dod mor bell â hyn dim ond i ddod mor bell â hyn.
Rwy'n falch iawn o ymuno â Mabon, fel dyn sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Mae'n ddadl bwysig iawn, Llywydd, ac, ar ôl bod yma o'r dechrau, ynghyd â thri arall yma heddiw, rwy'n falch iawn o ddweud, o'r cychwyn cyntaf, fod presenoldeb llawer o fenywod yn y Cynulliad, fel yr oedd yn wreiddiol, o'i gymharu â llawer o Seneddau a sefydliadau gwleidyddol eraill, yn rhywbeth a amlygwyd ar y pryd ac sydd wedi'i amlygu ers hynny, er ein bod ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud. Ond, yn gyffredinol, rwy'n credu y bu'n gadarnhaol iawn o ran dangos Cymru mewn goleuni blaengar iawn, ac mae'n dda iawn bod â menyw yn Brif Weinidog bellach yn ogystal â chi, Llywydd, yng nghadair y Llywydd, a chymaint o fenywod eraill sydd wedi bod yma ar hyd y daith honno ers 1999 ac sydd yma gyda ni heddiw. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n gosod yr esiampl honno ac yn datblygu'r cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud.
Soniodd Julie Morgan am Maint Cymru, ac roeddwn i yn y digwyddiad heddiw, Julie, ar gyfer Maint Cymru, ac fe wnaethon ni gwrdd â Deborah Nabulobi, sydd yma yn cynrychioli Mbale yn Uganda fel rhan o'r rhaglen Maint Cymru honno. Mae 25 miliwn o goed wedi cael eu plannu, ac roedd mor dda clywed Deborah yn sôn am y rhaglen, gan gynnwys y ffordd y mae wedi ei grymuso ei hun a menywod eraill yn ei chymuned. Dywedodd wrthym ni ei bod hi bellach yn bwriadu sefyll fel cynghorydd ym Mbale, ac mae hi'n benderfynol, fel y dywedodd hi, i sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed yn uwch fyth yn ei chymuned, gan gynnwys dros hawliau menywod a chynnydd pellach i fenywod. Felly, dim ond un agwedd yw honno, rwy'n credu, ar fanteision y rhaglen ar gyfer Affrica, ac un bwysig iawn.
Llywydd, yng Nghasnewydd, rydyn ni'n ffodus bod gennym ni Menywod Casnewydd, sefydliad a ddechreuodd ryw chwe blynedd yn ôl gan fy etholwr, Kamila Jarczak. Mae'r grŵp hwn wedi tyfu i fod yn gasgliad amrywiol o fenywod o bob rhan o'r ddinas ac mae ganddo ei straeon unigryw ac ysbrydoledig ei hun. Rhai ohonyn nhw yw: Dee Montague-Close, a oedd eto, trwy gyd-ddigwyddiad, yma heddiw mewn digwyddiad endometriosis yn y Pierhead. Mae Dee yn eiriolwr gwirioneddol, yn eiriolwr angerddol, dros faterion iechyd menywod, gan ganolbwyntio'n benodol ar godi ymwybyddiaeth o endometriosis. Enghraifft dda iawn arall gan Fenywod Casnewydd yw Ingrid Wilson, sydd wedi gweithio'n ddiflino ers blynyddoedd lawer i ddod â gwahanol leiafrifoedd ethnig ynghyd â rhannau mwy hirsefydledig o'r gymuned yng Nghasnewydd, gan ganolbwyntio ar Dŷ Cymunedol ym Maendy yn y ddinas, ac mae hi wir wedi gwneud cynnydd o ran creu cymdeithas fwy cydlynus i ni yng Nghasnewydd, ac am hyn yr ydyn ni'n ddiolchgar iawn. A Nazia Akhtar, a ddaeth, trwy ei llyfr ryseitiau A Taste of Maindee, â'r gymuned ynghyd o amgylch casgliad o ryseitiau a phrydau a digwyddiadau coginio.
Cafodd y menywod hyn, Llywydd, a llawer o fenywod eraill a gymerodd ran eu harddangos mewn arddangosfa ffotograffau yn y Pierhead y llynedd, ac roeddwn i'n falch o'i noddi ac a oedd wedi'i noddi yn flaenorol gan fy nghyd-Aelod, cymydog a ffrind, Jayne Bryant. Roedd yn dangos gwirionedd yr hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a pheth o'r grymuso sy'n ymddangos i gynulleidfa lawer ehangach. Unwaith eto, bydd yr holl waith hwn yn cael ei ddatblygu wrth i ni symud ymlaen.
Nod y grŵp yng Nghasnewydd yw ymdrechu i rymuso menywod, grwpiau a chymunedau yn y ddinas trwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chymryd rhan mewn prosiectau amrywiol. Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth i unigolion drwy gefnogi mentrau cadarnhaol sy'n cael eu cynnal gan grwpiau a busnesau, ac maen nhw wir yn cysylltu'r ddinas a'r ardal ehangach â chreadigrwydd, treftadaeth a natur unigryw Casnewydd.
Rwy'n siŵr bod grwpiau fel hyn ledled Cymru, Llywydd, yn gwneud gwaith da o'r fath, ac mae ganddyn nhw rôl hanfodol iawn i'w chwarae oherwydd eu bod nhw'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod yn ninas Casnewydd a ledled Cymru. Ac, fel y thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n ymwneud â chyflymu'r cynnydd. Maen nhw'n sefydlu grwpiau. Maen nhw'n sefydlu mentrau a busnesau ac yn eu cefnogi, ac yna maen nhw'n sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Maen nhw'n esiampl wych i bawb yn y ddinas, a dylem ni ddathlu eu llwyddiant.
Mae chwaeroliaeth yn nodwedd drawiadol o'r Senedd yma, rydw i'n credu. Pan wnes i fy nghyfraniad cyntaf yn y Siambr, mi oedd o'n brofiad pleserus oherwydd roeddwn i'n teimlo cefnogaeth ac anogaeth y merched eraill yn y Siambr. Mae'r uniaethu benywaidd hwnnw yn parhau hyd heddiw, ac mae’n gynhaliaeth gwerth chweil mewn cyfnodau heriol.
Y chwaeroliaeth honno sydd wedi arwain at gyd-gyflwyno’r cynnig hwn heddiw, wrth inni barhau i wynebu heriau ystyfnig ac wrth inni uno i gondemnio camdriniaeth a chasineb yn erbyn menywod, ac wrth inni gefnogi ein gilydd mewn hinsawdd sydd yn gynyddol anodd. Mae'n rhaid condemnio camdriniaeth. Mae'n rhaid ei herio fo hefyd, os ydyn ni am ei ddileu.
Ddydd Sadwrn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, cefais y pleser o uno efo nifer o ferched sydd yn awduron mewn achlysur arbennig yng Nghaernarfon. Un o’r llyfrau a gafodd sylw oedd casgliad llenyddol o’r enw Hi/Hon. Mewn ysgrif onest a threiddgar, mae un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru, Manon Steffan Ros, yn disgrifio’r profiad o fod yn ferch yn y Gymru Gymraeg, a’r anhawster o herio drwgweithredwyr am eich bod yn troi yn yr un cylchoedd.
Ond mae'n rhaid herio, oherwydd, fel dywed yr awdures yn ei hysgrif, does dim llawer yn newid. Mae’r troseddau mawrion yn dal i ddigwydd, a’r holl gamweddau bychain hefyd—y pethau sydd bron iawn yn ddim byd. Y pethau sydd bron iawn yn ddim byd, meddai Manon Steffan Ros, y rhain sy'n rhaid eu herio er mwyn creu newid parhaol. I'w herio nhw, rydyn ni angen cefnogaeth pawb, yn cynnwys dynion, ac mae llawer o ddynion cefnogol, diolch byth. Ac i’w herio, mae angen addysgu ac mae angen rhoi llais hafal i ferched ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Diolch yn fawr.
Gweinidog, hoffwn i ddiolch i chi am y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r alwad i gyflymu gweithredu yn hanfodol ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddo. Ond rhaid i mi dalu teyrnged i chi, am eich holl waith dros y blynyddoedd tuag at y nodau hyn. O sefydlu lloches gyntaf Cymru yn y 1970au i'ch gwaith gweinidogol, rydych chi wedi ysgogi newid yn gyson, ac rwy'n credu y byddai'n gwbl annheg peidio â chydnabod hynny yma heddiw. Ac rwy'n credu mai dyna sy'n dda am heddiw: bod pobl yn cydnabod yr hyn y mae pobl eraill wedi'i wneud. Mae yna, fel y dywedodd Siân Gwenllian, chwaeroliaeth sydd wedi dod at ei gilydd a dyna pam mae'r ddadl hon yma. Ac mae'n beth braf—ac rydyn ni'n gwybod hyn beth bynnag—bod yna lawer iawn o ddynion a fydd bob amser yn brwydro dros, yn codi llais dros ac yn cynnal hawliau menywod, ac mae llawer o'r rheini yma yn y Siambr hon.
Rydw i'n mynd i ganolbwyntio heddiw ar y gwaith o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ac rydyn ni'n gwybod y mae i'w weld yn cynyddu bob blwyddyn. Mae gennym ni ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac maen nhw'n cyrraedd eu hanterth yn y Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched, Diwrnod y Rhuban Gwyn, ar 25 Tachwedd. Rydyn ni'n clywed gan fenywod dewr iawn sy'n adrodd eu straeon wrthym ni am oroesi; rydyn ni'n clywed gan fenywod sy'n gweithio ar y rheng flaen i gynorthwyo'r goroesi hwnnw ac i helpu'r menywod hynny drwy'r adegau gwaethaf un yn eu bywydau; ac rydyn ni'n clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu a realiti bywyd ar ôl gweld pethau ar y rheng flaen.
Gwyddom mai pris trais yn y pen draw yw marwolaeth. Rydyn ni wedi ceisio anrhydeddu menywod Cymru sydd wedi cael eu lladd, ac mae llawer o bobl yma wedi sôn heddiw am y cyfrifiad benywladdiad, ac mae wedi tracio nifer y menywod sydd wedi cael eu lladd gan ddynion ers 2009. Eu cyhoeddiad diweddar yw eu hadroddiad '2000Women', ac rwy'n credu bod—. Mae hwnnw'n adroddiad sy'n seiliedig ar y 2,000 o achosion cyntaf sydd wedi'u cwblhau y maen nhw wedi'u cofnodi. Mae hwnnw'n ffigur brawychus, ofnadwy. Mae hi bron yn anodd meddwl am hynny.
O'r 104 o fenywladdiadau yng Nghymru, roedd 41 yn ardal Heddlu De Cymru, 25 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, 19 yn ardal Dyfed-Powys ac, unwaith eto, 19 yn rhanbarth Heddlu Gwent. Ac mae'r adroddiad yn dangos yr hyn yr ydyn ni i gyd yn ei wybod: nad yw gwledigrwydd yn ddiogelwch rhag trais yn erbyn menywod. Yn yr adroddiad hwnnw, mae'n dangos mai Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys sydd â'r seithfed gyfradd uchaf o fenywladdiadau fesul poblogaeth, a rhanbarth Heddlu Gogledd Cymru y nawfed uchaf o'r 43 o heddluoedd ledled y DU.
Manylion arwyddocaol eraill yw bod un o bob wyth menyw sy'n cael ei lladd dros 70 oed, a bod mwy na 170 o famau wedi cael eu lladd gan eu meibion. Y lle mwyaf peryglus i'r menywod hyn yw y tu ôl i ddrysau caeedig. Ar gyfer saith o bob deg menyw sy'n cael eu lladd gan ddynion, mae'n digwydd yn eu cartrefi eu hunain. Mae chwech o bob 10 yn cael eu lladd gan eu partneriaid, a bron i un o bob 10 gan eu meibion. Mae naw y cant yn cael eu lladd gan ddieithriaid. Mae'r ystadegau brawychus hyn yn gofyn am ymateb cryf.
Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi addo haneru lefelau trais yn erbyn menywod a merched o fewn degawd trwy dargedu cyflawnwyr, ymdrin ag achosion sylfaenol cam-drin a thrais. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir ei bod eisiau dileu bob achos o drais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n cryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar y stryd a'r gweithle, yn ogystal ag yn y cartref. Dim ond trwy feithrin ymdeimlad cyfunol o ymdrechu tuag at gyflawni ein hamcanion y gallwn ni gyflawni newid gwirioneddol. Bydd yn cymryd y gymdeithas gyfan i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Yn olaf, rwyf i eisiau siarad am blant sy'n dyst i gam-drin domestig. Mewn rhai achosion, byddan nhw'n dod yn droseddwyr. Ym mhob achos, maen nhw'n ddioddefwyr. Maen nhw’n wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae eu bywydau yn cael eu difetha o'r cychwyn cyntaf. Rwyf i eisiau talu teyrnged yma i'r Gweinidog, Lynne Neagle, a wnaeth gydnabod hynny ac sydd wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Ond nid wyf i'n credu y gallwn ni adael llwyfan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heb sôn am y menywod yn Afghanistan, y mae eu hawliau wedi'u cymryd oddi arnyn nhw yn llwyr, fel nad oes ganddyn nhw braidd dim hawliau ar ôl. Nid oes modd eu gweld, nid oes modd eu clywed, nid oes modd eu haddysgu, nid oes ganddyn nhw yr hawl i fenywod eraill hyd yn oed pan fydd angen sylw meddygol arnyn nhw. Ac yn yr Unol Daleithiau, ar hyn o bryd, mae hawliau menywod dros eu cyrff eu hunain yn cael eu dileu, ac mae'r unigolyn misogynistaidd sydd wrth y llyw wedi amgylchynu ei hun gyda hyd yn oed mwy o bobl misogynistaidd o amgylch y bwrdd hwnnw, ac maen nhw'n fygythiad i bob un ohonon ni. Diolch.
Rwy'n credu bod yr holl gyfraniadau yr ydyn ni wedi'u clywed heddiw yn ein hatgoffa ni pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gwbl angenrheidiol. Gan fyfyrio ar wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a'r thema ar gyfer eleni, gofynnodd i ni ddychmygu byd sy'n gyfartal o ran rhywedd, byd sy'n rhydd o ragfarn, ystrydeb a gwahaniaethu, byd sy'n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol, byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu. Mae myfyrio ar y sylwadau yr ydyn ni newydd eu clywed nawr gan Joyce, a hefyd Sioned Williams yn ein hatgoffa ni, gyda'r toriadau i gymorth rhyngwladol, mai dyma'r hyn sy'n bwysig. Mae gennym ni gyfrifoldeb byd-eang yma yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio'n llais; hyd yn oed yn y meysydd hynny nad oes gennym ni gymwyseddau drostyn nhw, rhaid i ni ddefnyddio ein llais. Mae yna gyfrifoldeb.
Hoffwn i dalu teyrnged i bob menyw o fy mlaen i sydd wedi gorfod brwydro, a phawb sy'n dal i frwydro dros gydraddoldeb, ble bynnag y maen nhw yn y byd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth. Yn bersonol, i mi, hoffwn i ddiolch i fy mam. Mae hi wedi dweud y stori wrthyf i o pan wnaeth hi, yn y 1970au, wneud cais am swydd yn y gwaith yr oedd hi wir eisiau mynd amdani, yn gwbl gymwys ar ei chyfer, a phan gerddodd i mewn i'r ystafell honno, dywedodd y dynion a oedd yn cyfweld, 'O, chi sy yna, gallwn ni gael egwyl de nawr.' Ac ni chafodd hi erioed y cyfweliad hwnnw. Fe wnaeth hi ymladd hynny fel cynrychiolydd undeb, ac roedd yn golygu bod menyw yn y pen draw yn y swydd honno, er nad fy mam i. Ond dyna'r rhagfarnau yr oedd cenedlaethau cyn fy un i yn eu hwynebu, ac ni ddywedodd unrhyw un wrthyf i erioed na allwn i wneud unrhyw beth. Ni ddywedodd unrhyw un wrthyf i fy mod yn ferch, felly nad oeddwn i'n gallu mynd am y swydd honno, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Ond rydyn ni'n dal i weld yr ystrydebau hynny'n cael eu hailadrodd. Rydyn ni'n clywed, 'Merch nodweddiadol', 'Bachgen nodweddiadol', 'Alli di ddim gwneud hyn, alli di ddim gwneud hynna'. Mae merched yn dod i mewn i'r ysgol mewn ffrogiau tywysoges, a gall y bechgyn fod yn dywysogion. Mae'n rhaid i hynny i gyd ddod i ben, ac mae rheini yn bethau y gallwn ni eu newid yma, oherwydd gall pob bachgen a merch fod yn unrhyw beth o gwbl, a dylem ni groesawu hynny.
Un man lle mae hynny'n hynod amlwg ar hyn o bryd yw maes chwaraeon, ac roeddwn i'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am chwaraeon, oherwydd, wedi'r cyfan, daeth Lauren Price dros y penwythnos, allan i 'Yma o Hyd', gyda rhai pobl yn y siambr hon yn bloeddio eu cymeradwyaeth, ac wedi'i ddal ar y teledu—pa mor wych oedd hynny? Rwy'n falch eich bod wedi adlewyrchu yn nhermau'r Ewros; mae hwn yn gyfnod arwyddocaol. A hefyd, Cwpan y Byd y Menywod, bydd tîm y menywod yn cystadlu, a'r ffaith bod twrnamaint Agored Menywod AIG yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Mae'n foment fawr, nid yn unig y i fenywod Cymru ym maes chwaraeon, ond chwaraeon yng Nghymru a fydd yn dathlu menywod o bob cwr o'r byd. Oherwydd un o'r pethau y byddwn ni'n ei weld pan fyddwn ni'n cefnogi tîm merched Cymru yn yr Ewros yw'r ffaith mai dyma'r tro cyntaf mewn twrnamaint mawr y byddwn ni'n gallu bloeddio ein cymeradwyaeth dros y menywod, ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw. Byddan nhw'n dangos y gall merched fod yn gryf, yn ddewr, yn gyflym ac yn dda ar chwaraeon, yn union fel eu cymheiriaid gwrywaidd. Mae'n bwysig.
Gadewch i ni fod yn glir: mae'r frwydr dros gydraddoldeb ymhell o fod drosodd, ac mae rhywiaeth yn parhau i fod yn rhemp. Mae ond angen i chi edrych ar bostiad Clwb Rygbi Castell-nedd ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr yn hysbysebu gornest leol sydd i ddod gyda'r geiriau canlynol drosto i gyd: 'Nid yw ar gyfer y gwangalon. Nid yw ar gyfer rhai sydd wedi hanner ymrwymo. Yn bendant NID YW AR GYFER MERCHED'. Rwy'n nodi heddiw bod y clwb wedi ymddiheuro a dileu'r postiad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond ni ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Dyna lle mae angen i ni ei gyrraedd, nid ymddiheuriadau, oherwydd mae'n rhy hwyr ar y pwynt hwnnw; ni ddylai fod wedi digwydd. A dydw i ddim yn derbyn yr esgus ei fod yn rhan o ymgyrch ehangach. Dydw i ddim yn derbyn hynny. Oherwydd rydyn ni wedi gweld problemau gydag Undeb Rygbi Cymru, ac mae unrhyw un sy'n credu bod y math yna o negeseuon yn dderbyniol yn haeddu cael eu herio. Ond roedd y rhai a wnaeth ei herio neithiwr ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn wynebu cael eu difrïo—y rhai a oedd yn ei herio. Ac mae angen i ni sefyll gydag eraill sy'n ceisio'u gorau ym maes chwaraeon, y rhai sy'n gohebu ar chwaraeon, oherwydd maen nhw'n dioddef llawer iawn o ddifrïo hefyd.
Pan fyddwn ni'n edrych tuag at yr haf hwn o chwaraeon, pan fyddwn ni'n cefnogi, rwy'n credu ei fod yn gyfle i'r Llywodraeth fyfyrio ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r cyfleoedd hyn i hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd hefyd. Oherwydd, mae buddsoddi mewn seilwaith chwaraeon i ateb y galw cynyddol am ferched a fydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth ei gefnogi, gan sicrhau bod y cyfleusterau'n hygyrch ac yn groesawgar, gan sicrhau bod pob merch sy'n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael cyfle i wneud hynny, ac i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod drwy chwaraeon, ond hefyd mewn gweithredoedd. Mae cyflawniadau ein hathletwyr benywaidd, gwelededd menywod mewn chwaraeon a'r gefnogaeth gan ein Llywodraeth yn ganolog wrth ymdrin ag anghydraddoldeb rhywedd a hyrwyddo ffordd iachach a mwy egnïol o fyw i fenywod.
Wrth i ni edrych tuag at waddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn, gadewch i ni, ie, ddathlu'r cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud, ond hefyd ymrwymo i'r gwaith sydd o'n blaenau. Gyda'n gilydd gallwn ni ddatblygu etifeddiaeth sy'n sicrhau bod pob merch yng Nghymru yn cael cyfle i ddisgleirio ar y cae ac oddi arno ac ym mhob maes.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl yna—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i bawb heddiw am y ddadl bwerus ac ysbrydoledig hon. Nid wyf i'n teimlo bod angen i mi ddweud rhyw lawer, oherwydd rwy'n credu bod y cyfraniadau yn y cofnod, ac maen nhw'n gyfraniadau pwysig iawn—y ffordd y gallwn ni siarad gyda'n gilydd ar draws y Siambr hon mewn ffordd mor glir a phwysig. Mae'n bwysig bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn adeg pan fyddwn ni'n dathlu menywod mewn gwleidyddiaeth, ac mae hi mor dda ein bod ni wedi dathlu a chydnabod yr holl gyfraniadau y mae menywod ar draws y Siambr hon yn eu gwneud mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac o dan wahanol amgylchiadau. Natasha, fe wnaethoch chi gyfeirio at yr holl fenywod mewn bywyd yn y gymuned yn ogystal ag mewn gwleidyddiaeth—mae'n hynny'n wych. John Griffiths, fe wnaethoch chi sôn am fenywod Casnewydd. Mae'n wych bod Julie Morgan wedi sôn am y 19 o blaciau porffor, ac mae'r un cyntaf allan yn y fan yna, onid ydyw? Un ein Val Feld ni. Mae rhai ohonon ni, wrth gwrs, yn cofio Val a'r effaith anhygoel y mae hi wedi'i chael ar greu'r Senedd fwy cynhwysol hon sydd gennym ni sydd mor annwyl i ni a lle'r ydyn ni eisiau gweld y gynrychiolaeth amrywiol honno wrth i ni symud ymlaen at y dyddiad pwysig iawn hwnnw y flwyddyn nesaf pan fydd gennym ni gyfle i ddod â mwy o fenywod a merched ifanc, menywod mwy amrywiol, i mewn i'r Senedd hon.
Ond rydyn ni'n gweld cynnydd yn cael ei wneud, nenfydau gwydr yn cael eu chwalu, ac mae'n rhaid i ni chwarae'n rhan yn hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw gostwng yr ysgol, helpu i rymuso eraill i ddringo i'r rhannau uchaf, i ddangos yr arweinyddiaeth honno. Rwy'n credu bod llawer ohonon ni wnaeth gyfarfod â menywod ifanc yr wythnos diwethaf, fel rhan o'r ymgasgliad Elect Her, y menywod ifanc a wnaeth ddod, roedden nhw mor gryf, roedden nhw mor gydnerth, roedden nhw eisiau dod i wneud eu cyfraniad. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod menywod a merched ledled Cymru yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial, os gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r cyfleoedd y gallwn ni eu cynnig, a'n bod yn chwalu'r rhwystrau hynny sy'n dal i atal cymaint o fenywod a merched rhag cymryd rhan mewn bywyd a busnes a gwleidyddiaeth a'r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae pum deg un y cant o boblogaeth Cymru yn fenywod, ni ddylen nhw wynebu degawdau o oedi cyn iddyn nhw gael mynediad cyfartal i gyfleoedd, hawliau a chyfrifoldebau.
Rwy'n ddiolchgar bod pwyslais wedi bod ar ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, oherwydd ni ddylen ni fod yn y sefyllfa hon heddiw. A diolch i chi, Mabon ap Gwynfor, am godi llais fel yr ydych chi wedi'i wneud ar gymaint o achlysuron am hyn, diolch i Joyce Watson, diolch i Julie Morgan, oherwydd mae'r trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol y mae menywod a merched yn eu hwynebu yn annerbyniol, mae'n gyffredin, mae'n endemig, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Mae'n ddeng mlynedd ers Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae gennym ni lawer iawn mwy o waith y mae angen i ni ei wneud o hyd.
Mae angen i ni ymdrin â hyn, ac mae'n gyfrifoldeb llwyr bob dydd i ni ymdrin ag ef, yn enwedig yn fy rôl i. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych tuag at addysg i'n helpu ni gyda hyn. Rwyf wedi sôn am ymgyrch Iawn. Mae'n ymwneud â dynion a bechgyn a gwleidyddion gwrywaidd yn cymryd cyfrifoldeb, fel y maen nhw'n ei wneud fel cenhadon y rhuban gwyn. Ond gall ysgolion fod yn gatalyddion ar gyfer newid, ac rwy'n credu y byddan nhw felly gyda'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno. Rydyn ni'n falch o'n haddysg cydberthynas a rhywioldeb, sy'n hanfodol i feithrin agweddau parchus tuag at fenywod a merched. Rwy'n atgoffa pawb bod Hwb yn cynnwys adnoddau addysgu a hyfforddiant sy'n ymdrin â materion gan gynnwys bwlio ar-lein, aflonyddu rhywiol ar-lein, ynghyd â gwybodaeth ymarferol i deuluoedd am sut maen nhw'n trafod y materion hyn gyda phlant a chyngor i bobl ifanc eu hunain.
A gaf i ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiad personol, ac yn arbennig diolch i Hannah Blythyn am ei chyfraniad heddiw? Rwyf mor falch o'ch arweinyddiaeth, Hannah, o ran y cynllun gweithredu LHDTC+. Mae'r ffordd yr ydych chi wedi dylanwadu ar hyn a rhannu'ch profiadau personol wedi bod mor bwysig. Wrth gwrs, dim ond ychydig wythnosau yn ôl y gwnaethon ni ddatganiad am y cynllun gweithredu LHDTC+, ynglŷn â'r wythnos hanes. Roedd yn bwysig iawn ein bod ni wedi gwneud y datganiad hwnnw, a diolch am eich cyfraniadau.
Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n edrych ar hawliau menywod fel hawliau dynol. Diolch i chi, Sioned, hefyd am fy nghwestiynu i eto am bwysigrwydd sut yr ydyn ni eisiau hybu diogeliadau hawliau dynol gyda'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, CEDAW. Gallaf eich sicrhau chi, yn y grŵp cynghori ar hawliau dynol yr wyf i'n ei gadeirio, fod gennym ni weithgor dewisiadau deddfwriaethol sy'n ystyried sut y gallwn ni ymgorffori CEDAW a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru a sut y gallwn ni ystyried dewisiadau anneddfwriaethol yn ogystal â deddfwriaethol. Rydyn yn rhoi arian i mewn i geisio bwrw ymlaen â hynny.
Mae'n gyfle heddiw i ni ail-ymrwymo ein hunain eto ar draws y Siambr hon i gyflymu gweithredu ar draws pob lefel o bolisi sydd wedi ei rannu a'i adlewyrchu arno heddiw—gan gynnwys chwaraeon, fel y dywedoch chi, Heledd, y pethau cadarnhaol a'r pethau negyddol, a sut y dylem ni ymdrin â hynny. Gadewch i ni edrych ar yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion a ddangosodd fod y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser a rhan-amser yng Nghymru wedi gostwng 2.6 y cant o'r flwyddyn flaenorol, ond, fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag yn y DU gyfan. Ond mae menywod yn fwy tebygol o weithio'n rhan amser, mewn galwedigaethau ar gyflogau is, ac mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 8.9 y cant yng Nghymru a 13.1 y cant yn y DU. Felly, er y gallwn ni groesawu cynnydd, mae mwy o waith i'w wneud.
I gloi, Llywydd, mae Fforwm Economaidd y Byd, ac fel y dywedais i, y Cenhedloedd Unedig a phartneriaid byd-eang ledled y byd yn gwybod bod gennym ni heriau y mae'n rhaid i ni eu rhannu, nid yn unig yma yn y Siambr hon, y menywod a'r bobl yr ydyn ni'n eu cynrychioli yng Nghymru, ond hefyd gyda'n partneriaid. Diolch i chi, John a Julie, am sôn am Deborah a Helen, sy'n anhygoel ac ysbrydoledig, a rannodd amser gyda ni yn y ffreutur—gwnaeth llawer ohonon ni gwrdd â nhw—o ran sut y mae newid hinsawdd a datgoedwigo yn effeithio arnyn nhw'n daer yn Affrica, ond sut maen nhw'n grymuso menywod i chwarae rôl arwain, a sut rydyn ni'n eu cefnogi nhw ledled y byd drwy ein menter Maint Cymru. Am fenywod ysbrydoledig.
Heddiw, rydyn ni'n cyd-gyflwyno'r cynnig hwn, ac mae'n rhaid i ni ymrwymo ein hunain iddo, i uno i gondemnio bychanu menywod mewn gwleidyddiaeth a cham-drin menywod. Mae'n rhaid i ni uno hefyd a chymryd cyfrifoldeb i hybu cydraddoldeb a chynrychiolaeth menywod yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint enfawr cael gwasanaethu yn Senedd Cymru am gymaint o flynyddoedd, a digwyddodd hynny oherwydd yr oeddwn i'n credu, os oedden ni'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, a'n bod ni'n credu mewn cydraddoldeb i fenywod, yna roedd yn rhaid i ni sefyll i fyny, ymuno a chyflwyno ein hunain. Mae llawer o fenywod o amgylch y Siambr hon a wnaeth hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd a braint cael bod yn rhan o'r mudiad hwnnw. Rwy'n credu, ydyn, rydyn ni wedi dylanwadu ar bethau, onid ydyn ni, John, Elin, Eluned, Joyce, Julie, a phawb, Janet Finch-Saunders. Rydyn ni wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydyn ni'n cynnal y Llywodraeth ac rydyn ni'n cynnal gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, a dyna pam mae angen i ni groesawu'r holl fenywod amrywiol hynny sy'n mynd i ddod i ymuno â ni wrth i ni symud ymlaen i fis Mai 2026. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae gyda ni un bleidlais yn y cyfnod pleidleisio, ac os nad oes yna dri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais honno.
Mae'r bleidlais honno ar eitem 10 heddiw. Y Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw'r rhain. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r rheoliadau yna wedi'u cymeradwyo.
Eitem 10. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heno. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.