Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/03/2025

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog 1. Questions to the First Minister
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes 2. Business Statement and Announcement
3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Gwarant i Bobl Ifanc 3. Statement by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership: Young Person’s Guarantee
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch targedau ymateb ambiwlansys argyfwng 4. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Response to the Health and Social Care Committee’s recommendation about emergency ambulance response targets
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn GIG Cymru 5. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Escalation and intervention arrangements in NHS Wales
6. Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025 6. The Social Care Wales (Specification of Social Care Workers) (Registration) (Amendment) Regulations 2025
7. Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025 7. The Welsh Elections Information Platform Regulations 2025
8. & 9. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025, a Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 8. & 9. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2025 and The Welsh Language Standards (No. 1, No. 2, No. 4, No. 6 and No. 7) Regulations (Amendment) Regulations 2025
10. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 10. The Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025
11. Dadl: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Pumed Adroddiad Blynyddol 2023-24 11. Debate: The President of Welsh Tribunals Fifth Annual Report 2023-24
12. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—Cyflymu gweithredu 12. Debate: International Women’s Day—Accelerating action
13. Cyfnod Pleidleisio 13. Voting Time

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.

Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary meeting. The first item this afternoon will be questions to the First Minister, and the first question is from Jenny Rathbone. 

Gofal Eilaidd ar gyfer Trin Endometriosis
Secondary Care for Treating Endometriosis

1. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella gofal eilaidd ar gyfer trin endometriosis? OQ62452

1. What progress is the Welsh Government making on improving secondary care for treating endometriosis? OQ62452

We recognise the difficulties women face in accessing specialist services for health conditions, particularly surgery for endometriosis. Officials are working with the women’s health network and the gynaecology implementation network to strengthen secondary care, and with the joint commissioning committee to explore establishing specialist commissioned services for tertiary care.

Rydym ni'n cydnabod yr anawsterau y mae menywod yn eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau arbenigol ar gyfer cyflyrau iechyd, yn enwedig llawdriniaeth ar gyfer endometriosis. Mae swyddogion yn gweithio gyda'r rhwydwaith iechyd menywod a'r rhwydwaith gweithredu gynaecoleg i gryfhau gofal eilaidd, a chyda'r cydbwyllgor comisiynu i archwilio sefydlu gwasanaethau wedi'u comisiynu arbenigol ar gyfer gofal trydyddol.

Thank you very much. That is welcome news, because, only last week, I spoke to a women who had to shell out £5,000 in order to get an MRI laparoscopy, rather than wait for three years in constant pain. And I’ve had that conversation so many times with women, and I’m sure I’ll have a lot more on the endo March on Sunday fortnight.

Both Cardiff and the Vale and Swansea bay do take women from outside the area, but, unlike in England, they don’t get properly reimbursed for it. So, the news that there is going to be a further look at commissioning specialist services, including tertiary services, is very good, because the women’s health plan is somewhat silent on improving access to surgery to remove the invasive endometritis from other organs outside the womb. Are you able to put a timeline at all on how we can ensure that all women in Wales are able to get that surgical intervention that some women sadly need?

Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, oherwydd, dim ond yr wythnos diwethaf, siaradais â menyw y bu'n rhaid iddi dalu £5,000 er mwyn cael laparosgopi MRI, yn hytrach nag aros am dair blynedd mewn poen cyson. Ac rwyf i wedi cael y sgwrs honno gynifer o weithiau gyda menywod, ac rwy'n siŵr y byddaf i'n cael llawer mwy ar yr EndoMarch bythefnos i ddydd Sul.

Mae Caerdydd a'r Fro a Bae Abertawe yn derbyn menywod o'r tu allan i'r ardal, ond, yn wahanol i Loegr, nid ydyn nhw'n cael eu had-dalu'n iawn amdano. Felly, mae'r newyddion y bydd golwg bellach ar gomisiynu gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau trydyddol, yn dda iawn, gan fod y cynllun iechyd menywod braidd yn dawel o ran gwella mynediad at lawdriniaeth i gael gwared ar yr endometritis ymledol o organau eraill y tu allan i'r groth. A allwch chi roi amserlen o gwbl ar sut y gallwn ni sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn gallu cael yr ymyrraeth lawfeddygol honno sydd ei hangen ar rai menywod, yn anffodus?

Thank you very much. You know, I know, more than many people here, that endometriosis affects one in 10 women, which was a shocking statistic for me to find out. It’s a really debilitating condition. It really impacts on women’s quality of life. And March, of course, is Endometriosis Awareness Month. So, thank you for your question and for raising this issue.

The women’s health plan has a specific section that relates to endometriosis, and that includes an action to sustainably fund and deliver a model for tertiary care provision in Wales for endometriosis. Now, this is a medium-term approach within the action plan, which means there’s a timescale from three to five years. You can’t switch these things on overnight; it takes a while to train up clinicians to make sure that they have the skills that they need.

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwybod, rwy'n gwybod, yn fwy na llawer o bobl yma, bod endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw, a oedd yn ystadegyn brawychus i mi ei ddarganfod. Mae'n gyflwr gwanychol iawn. Mae'n cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd menywod. A mis Mawrth, wrth gwrs, yw Mis Ymwybyddiaeth o Endometriosis. Felly, diolch am eich cwestiwn ac am godi'r mater hwn.

Mae'r cynllun iechyd menywod yn cynnwys adran benodol sy'n ymwneud ag endometriosis, ac mae honno'n cynnwys camau i ariannu a darparu yn gynaliadwy model ar gyfer darpariaeth gofal trydyddol yng Nghymru ar gyfer endometriosis. Nawr, dull tymor canolig yw hwn yn y cynllun gweithredu, sy'n golygu bod amserlen o dair i bum mlynedd. Ni allwch chi newid y pethau hyn dros nos; mae'n cymryd amser i hyfforddi clinigwyr i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

First Minister, according to research published by Endometriosis UK, women in Wales wait the longest of all UK nations for diagnosis, on average around 10 years, which is now almost a year more than it was before 2020. I recognise, First Minister, that you are fully aware of the condition, and that you have, as health Minister, committed to a £1 million per annum investment to improve women’s health services. However, there are over 1.5 million women in Wales, and this condition is expected to affect about 150,000 of them—as you mentioned, one in 10. It is recognised that there is still a demonstrable lack of understanding of the condition amongst a considerable number of health professionals, and this ultimately results in significant delays in diagnosis and poor management of symptoms. With this in mind, First Minister, what action is the Welsh Government taking to improve knowledge of endometriosis among health professionals, and what steps are you taking to help reduce diagnosis waiting times? Thank you.

Prif Weinidog, yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Endometriosis UK, menywod yng Nghymru sy'n aros yr hiraf o holl wledydd y DU am ddiagnosis, tua 10 mlynedd ar gyfartaledd, sydd bellach bron i flwyddyn yn fwy nag yr oedd cyn 2020. Rwy'n cydnabod, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwbl ymwybodol o'r cyflwr, a'ch bod chi, fel Gweinidog iechyd, wedi ymrwymo i fuddsoddiad o £1 filiwn y flwyddyn i wella gwasanaethau iechyd menywod. Fodd bynnag, mae dros 1.5 miliwn o fenywod yng Nghymru, a disgwylir i'r cyflwr hwn effeithio ar tua 150,000 ohonyn nhw—fel y gwnaethoch chi sôn, un o bob 10. Cydnabyddir bod diffyg dealltwriaeth amlwg o'r cyflwr o hyd ymhlith nifer sylweddol o weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae hyn yn arwain yn y pen draw at oedi sylweddol cyn cael diagnosis a rheolaeth wael o symptomau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwybodaeth am endometriosis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd i helpu i leihau amseroedd aros am ddiagnosis? Diolch.

Thanks very much, Joel. I would recommend to people to have a look at the brilliant Endometriosis Cymru website. It’s a really good website and gives you lots and lots of details on there. I learnt lots on there—the pouch of Douglas; never heard of the pouch of Douglas—and there are lots and lots of details about how the body works, and the systems, and how people are dealing with it. And you’ll be aware that we have set out an extra £3 million to set up, within the women’s health plan, the women’s health hubs. So, that, I hope, will be helpful.

But, also, I think it’s probably worth people really clocking the fact that waits over two years in gynaecology have reduced by 81 per cent. So, it is important that people recognise that things are improving. This is thanks to the money that’s been invested. This is thanks to improved pathways. And we are, of course, committed to reducing this even further. We've got the specialist endometriosis nurses—they've been in post for about three years. You asked specifically about education and training—an action within the health plan is to provide education and training to all healthcare practitioners on endometriosis as a chronic condition. That includes multiprofessional care, including access to adequate mental health support.

Diolch yn fawr iawn, Joel. Byddwn yn argymell i bobl gael golwg ar wefan wych Endometriosis Cymru. Mae'n arbennig o dda ac yn rhoi llawer iawn o fanylion i chi arni. Dysgais lawer arni—cwdyn Douglas; erioed wedi clywed am gwdyn Douglas—ac mae llawer iawn o fanylion am sut mae'r corff yn gweithio, a'r systemau, a sut mae pobl yn delio ag ef. A byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi cyflwyno £3 miliwn ychwanegol i sefydlu, o fewn y cynllun iechyd menywod, hybiau iechyd menywod. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n ddefnyddiol.

Ond, hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n werth i bobl nodi'r ffaith bod arosiadau dros ddwy flynedd ym maes gynaecoleg wedi gostwng 81 y cant. Felly, mae'n bwysig bod pobl yn cydnabod bod pethau'n gwella. Mae hyn oherwydd yr arian sydd wedi cael ei fuddsoddi. Mae hyn oherwydd llwybrau gwell. Ac rydym ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i leihau hyn ymhellach fyth. Mae gennym ni'r nyrsys endometriosis arbenigol—maen nhw wedi bod yn eu swyddi ers tua thair blynedd. Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am addysg a hyfforddiant—un cam yn y cynllun iechyd yw darparu addysg a hyfforddiant i bob ymarferydd gofal iechyd ar endometriosis fel cyflwr cronig. Mae hynny'n cynnwys gofal amlbroffesiwn, gan gynnwys mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol.

13:35

I applaud Jenny's work in championing this issue. Endometriosis is one of those conditions that affects a frightening amount of women—possibly one in every 10—but, so often, so infuriatingly often, women get misdiagnosed, dismissed, and their symptoms are downplayed. Women should be believed when it comes to their own bodies. Now, I welcome the women's health plan, which, though overdue, could empower so many women. Now, last year, my motion in the Senedd was passed, which called for that plan to tackle the normalisation of women's pain in healthcare, the fact that so many of us are told, 'This might hurt', the fact our pain is either treated as normal or ignored. How many women go through unnecessary pain for years because of this? So, could you give an update, please, on how that plan is incorporating the need to ensure women's pain is not treated as normal, as an unfortunate fact of life, but is instead taken seriously every time, and that women, when they complain, are believed?

Rwy'n cymeradwyo gwaith Jenny i hyrwyddo'r mater hwn. Mae endometriosis yn un o'r cyflyrau hynny sy'n effeithio ar nifer frawychus o fenywod—un o bob 10 o bosibl—ond, mor aml, mor gynddeiriogol o aml, mae menywod yn cael cam-ddiagnosis, yn cael eu diystyru, ac mae eu symptomau yn cael eu bychanu. Dylid credu menywod o ran eu cyrff eu hunain. Nawr, rwy'n croesawu'r cynllun iechyd menywod, a allai, er ei fod yn hir-ddisgwyliedig, rymuso cynifer o fenywod. Nawr, y llynedd, pasiwyd fy nghynnig yn y Senedd, a oedd yn galw am y cynllun hwnnw i fynd i'r afael â normaleiddio poen menywod mewn gofal iechyd, y ffaith y dywedir wrth gynifer ohonom ni, 'Gallai hyn frifo', y ffaith bod ein poen ni naill ai'n cael ei drin fel rhywbeth normal neu'n cael ei anwybyddu. Faint o fenywod sy'n mynd trwy boen diangen am flynyddoedd oherwydd hyn? Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, am sut mae'r cynllun hwnnw yn ymgorffori'r angen i sicrhau nad yw poen menywod yn cael ei drin fel rhywbeth normal, fel ffaith anffodus o fywyd, ond yn hytrach yn cael ei gymryd o ddifrif bob tro, a bod menywod, pan fyddan nhw'n achwyn, yn cael eu credu?

Thanks very much. I think you're quite right, and that's why we were really keen to drive forward with that women's health plan. We did take a while to develop it because we wanted to do it with the clinicians, with the people who need to deliver it—we wanted their expertise to contribute to it. And it is about changing a culture—it's about changing a culture throughout the NHS; this is not something you can switch on overnight. It's also very difficult to know what's normal—you don't know if your pain threshold is that different from somebody else's. But it is clear that many women, over the years, have not been taken seriously in terms of their pain, and that's why, again—. Have a look at the website, because it's really comprehensive, and goes through some of these things, just to say, 'Well, this is what normal feels like', and, 'This is when you need to make sure that you call out for support'. So, pain is something that people need to take seriously. We have a lot of pain support, but I think it's really important that people know where to go to get that support, but that element of mental health support is also crucial, because living in chronic pain is not a great thing.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle, a dyna pam roeddem ni'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â'r cynllun iechyd menywod hwnnw. Fe wnaethom ni gymryd sbel i'w ddatblygu gan ein bod ni eisiau ei wneud gyda'r clinigwyr, gyda'r bobl y mae angen iddyn nhw ei ddarparu—roeddem ni eisiau i'w harbenigedd gyfrannu ato. Ac mae'n golygu newid diwylliant—mae'n golygu newid diwylliant drwy'r GIG; nid yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei gyflwyno dros nos. Mae hefyd yn anodd iawn gwybod beth sy'n normal—dydych chi ddim yn gwybod a yw eich trothwy poen mor wahanol â hynny i un rhywun arall. Ond mae'n amlwg nad yw llawer o fenywod, dros y blynyddoedd, wedi cael eu cymryd o ddifrif o ran eu poen, a dyna pam, unwaith eto—. Cymerwch olwg ar y wefan, oherwydd mae wir yn gynhwysfawr, ac yn mynd trwy rai o'r pethau hyn, dim ond i ddweud, 'Wel, dyma sut mae normal yn teimlo', a, 'Dyma pryd mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n gofyn am gymorth'. Felly, mae poen yn rhywbeth y mae angen i bobl ei gymryd o ddifrif. Mae gennym ni lawer o gefnogaeth poen, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod ble i fynd i gael y gefnogaeth honno, ond mae'r elfen honno o gymorth iechyd meddwl hefyd yn hollbwysig, oherwydd nid yw byw mewn poen cronig yn beth gwych.

Cefnogi Canol Trefi yn Islwyn
Supporting Town Centres in Islwyn

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yn Islwyn? OQ62449

2. What is the Welsh Government doing to support town centres in Islwyn? OQ62449

Our Transforming Towns programme is helping to revitalise town and city centres across Wales, including in Islwyn. We are working with Caerphilly County Borough Council to support the development of a placemaking plan for Blackwood town centre to help shape future interventions and support.

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan gynnwys yn Islwyn. Rydym ni'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi datblygiad cynllun creu lleoedd ar gyfer canol tref Coed-duon i helpu i lunio ymyriadau a chymorth yn y dyfodol.

Thank you, First Minister. First Minister, the Newbridge Memo started its centenary celebrations this month. The memorial hall in Newbridge has stood as a cultural hub at the heart of the town for a century, and its ability to exist is aided by taxpayer money, funding the location of even my Senedd constituency office there, and the local library being housed there, which has recently been saved from potential closure. And in Blackwood, as you've mentioned, one of the great Gwent Valleys towns, on Thursday, the Minister for Culture, Skills and Social Partnership will be visiting the Blackwood Miners' Institute. Thanks to grant funding by the Arts Council of Wales, the institute has been safeguarded for now. Town centres across Gwent have seen the emergence of vacant, underutilised sites and the potential threat to the financial future of iconic public facilities, after 14 long years of disinvestment. First Minister, working with Caerphilly county borough, how will the Welsh Government's town-centre regeneration funding be spent in Islwyn, and how can the Welsh Government ensure that local town centres are safeguarded for the future?

Diolch, Prif Weinidog. Prif Weinidog, dechreuodd y Memo yn Nhrecelyn ei ddathliadau canmlwyddiant y mis hwn. Mae'r neuadd goffa yn Nhrecelyn wedi sefyll fel canolbwynt diwylliannol yng nghanol y dref ers canrif, ac mae ei gallu i fodoli yn cael ei gynorthwyo gan arian trethdalwyr, yn ariannu lleoli fy swyddfa etholaeth y Senedd yno hyd yn oed, a lleoli'r llyfrgell leol yno, sydd wedi cael ei hachub yn ddiweddar rhag y posibilrwydd o gau. Ac yng Nghoed-duon, fel y gwnaethoch chi sôn, un o drefi mawr Cymoedd Gwent, ddydd Iau, bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymweld â Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Diolch i gyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r sefydliad wedi cael ei ddiogelu am y tro. Mae safleoedd gwag sy'n cael eu tanddefnyddio a'r bygythiad posibl i ddyfodol ariannol cyfleusterau cyhoeddus eiconig wedi dod i'r amlwg yng nghanol trefi ledled Gwent, ar ôl 14 mlynedd hir o ddadfuddsoddi. Prif Weinidog, gan weithio gyda bwrdeistref sirol Caerffili, sut fydd cyllid adfywio canol trefi Llywodraeth Cymru yn cael ei wario yn Islwyn, a sut all Llywodraeth Cymru sicrhau bod canol trefi lleol yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Thank you for your constant enthusiasm for supporting the arts and heritage. I was very pleased to have recently visited the Blackwood Miners' Institute. I think they were hosting an adult pantomime that evening, which was attracting quite a lot of attention within the town.

I think it's really important to recognise that historical buildings play an important role in acknowledging a town's history and identity. I think that the Blackwood Miners' Institute is an integral part of the placemaking plan that is currently being developed by Caerphilly County Borough Council. You referred to Jack Sargeant, and I'm really pleased that he's going to have the opportunity to go and visit what is a unique centre. And, of course, he was able to secure an extra £3.6 million for the resilience fund, and around £210,000 of that went to supporting Blackwood Miners' Institute. So, thank you, Jack, for your enthusiasm to support that project.

Now, local authorities need to prioritise where they wish to intervene and what they want to bring forward, in terms of support, to the Welsh Government. And you'll be aware that funding was provided some years ago to support the Newbridge memorial hall, but my understanding is that they haven't brought any suggestion forward in relation to Transforming Towns in relation to the memorial hall at this point.

Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich brwdfrydedd parhaus at gefnogi'r celfyddydau a threftadaeth. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld yn ddiweddar â Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Rwy'n credu eu bod nhw'n cynnal pantomeim i oedolion y noson honno, oedd yn denu cryn dipyn o sylw yn y dref.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod adeiladau hanesyddol yn chwarae rhan bwysig o ran cydnabod hanes a hunaniaeth tref. Rwy'n credu bod Sefydliad y Glowyr Coed-duon yn rhan annatod o'r cynllun creu lleoedd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Jack Sargeant, ac rwy'n falch iawn ei fod yn mynd i gael cyfle i fynd i ymweld â'r hyn sy'n ganolfan unigryw. Ac, wrth gwrs, llwyddodd i sicrhau £3.6 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa wytnwch, ac aeth tua £210,000 o honno at gefnogi Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Felly, diolch, Jack, am eich brwdfrydedd i gefnogi'r prosiect hwnnw.

Nawr, mae angen i awdurdodau lleol flaenoriaethu ble maen nhw'n dymuno ymyrryd a'r hyn y maen nhw eisiau ei gyflwyno, o ran cefnogaeth, i Lywodraeth Cymru. A byddwch yn ymwybodol bod cyllid wedi cael ei ddarparu rai blynyddoedd yn ôl i gefnogi neuadd goffa Trecelyn, ond fy nealltwriaeth i yw nad ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw awgrym o ran Trawsnewid Trefi o ran y neuadd goffa ar hyn o bryd.

13:40

I welcome what you’ve said in regard to Islwyn, but town centres, as you may be aware, First Minister, have been suffering from very high rates of anti-social behaviour in Islwyn. I welcome, of course, the excellent work that Gwent Police have actually done in this regard, increasing the number of controls in the area, and so forth, in Blackwood in particular, and I want to thank them for their support. But, however, as part of Caerphilly council’s recent budget, they have announced plans to cut the invaluable safety warden service, which sees seven full-time posts removed. Blackwood’s independent councillor has branded this decision as dangerous and disappointing, and I have to agree with him, especially considering the rise in anti-social behaviour that we’ve been seeing. It’s imperative that our town centres are safe and secure for the public. What discussions have you had with Caerphilly council about this worrying rise in anti-social behaviour in Blackwood, and what impact will the loss of the safety warden service have there? Diolch.

Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud o ran Islwyn, ond mae canol trefi, fel efallai y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, wedi bod yn dioddef cyfraddau uchel iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Islwyn. Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y gwaith rhagorol y mae Heddlu Gwent wedi ei wneud yn hyn o beth, gan gynyddu nifer y rheolaethau yn yr ardal, ac yn y blaen, yng Nghoed-duon yn arbennig, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth. Ond, yn rhan o gyllideb ddiweddar cyngor Caerffili, maen nhw wedi cyhoeddi cynlluniau i gwtogi'r gwasanaeth wardeiniaid diogelwch hynod werthfawr, sy'n golygu y bydd saith swydd lawn amser yn cael eu dileu. Mae cynghorydd annibynnol Coed-duon wedi disgrifio'r penderfyniad hwn fel un peryglus a siomedig, ac mae'n rhaid i mi gytuno ag ef, yn enwedig o ystyried y cynnydd i ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydym ni wedi bod yn ei weld. Mae'n hanfodol bod canol ein trefi yn ddiogel i'r cyhoedd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chyngor Caerffili am y cynnydd pryderus hwn i ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghoed-duon, a pha effaith fydd colli'r gwasanaeth wardeiniaid diogelwch yn ei chael yno? Diolch.

Thanks very much. As part of the listening exercise that I did over the summer, certainly something that came back was that we need to revamp our city centres. I'm really pleased that, through the Transforming Towns partnership programme, we have allocated £125 million of grants and loan funding to local authorities between 2022 and 2025, and that is making a major difference to towns like Blackwood and Caerphilly. One of the things that was really heartening for me, because there has been a bit of negative attention in relation to young people in Blackwood, and one of the great things that I saw was a whole load of young people being trained right in the middle of Blackwood with money that had been allocated by the Welsh Government. That's how you make sure that you stop that kind of anti-social behaviour. You give people a purpose, you give them meaning, you train them up for life, and that's what was really heartening for me to see in Blackwood. And let me tell you that, in relation to the council, we have just increased funding going to local authorities across the whole of Wales, which will help them with things like this, and, of course, your party, along with Plaid Cymru, voted against that money going to them.

Diolch yn fawr iawn. Yn rhan o'r ymarfer gwrando y gwnes i ei gynnal dros yr haf, yn sicr rhywbeth a ddaeth yn ôl oedd bod angen i ni ailwampio canol ein dinasoedd. Rwy'n falch iawn, drwy'r rhaglen bartneriaeth Trawsnewid Trefi, ein bod ni wedi dyrannu £125 miliwn o grantiau a chyllid benthyciadau i awdurdodau lleol rhwng 2022 a 2025, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i drefi fel Coed-duon a Chaerffili. Un o'r pethau a oedd yn galonogol iawn i mi, oherwydd cafwyd tipyn o sylw negyddol o ran pobl ifanc yng Nghoed-duon, ac un o'r pethau gwych a welais oedd llawer iawn o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yng nghanol Coed-duon gydag arian a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyna sut rydych chi'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n atal y math hwnnw o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydych chi'n rhoi pwrpas i bobl, rydych chi'n rhoi ystyr iddyn nhw, rydych chi'n eu hyfforddi am oes, a dyna oedd wir yn galonogol i mi ei weld yng Nghoed-duon. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y cyngor, ein bod ni newydd gynyddu cyllid sy'n mynd i awdurdodau lleol ledled Cymru gyfan, a fydd yn eu helpu gyda phethau fel hyn, ac, wrth gwrs, pleidleisiodd eich plaid chi, ynghyd â Phlaid Cymru, yn erbyn yr arian hwnnw yn mynd iddyn nhw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Questions now from the party leaders. The eader of the Welsh Conservatives, Darren Millar. 

First Minister, on Saturday, we marked International Women’s Day, a day to celebrate the achievements, rights and potential of women and girls here in Wales, across the UK and around the world. So, can you tell us, today, First Minister, in order that people across Wales can appreciate and understand what the Welsh Government was celebrating over the weekend, what’s your definition of a 'woman'? [Interruption.]

Prif Weinidog, ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, diwrnod i ddathlu llwyddiannau, hawliau a photensial menywod a merched yma yng Nghymru, ledled y DU a ledled y byd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, heddiw, Prif Weinidog, fel y gall pobl ledled Cymru werthfawrogi a deall yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddathlu dros y penwythnos, beth yw eich diffiniad o 'fenyw'? [Torri ar draws.]

Oh, really? Is that right? Is that right, Darren? On the day that we want to celebrate women, you want to start a culture war. That is not something that I'm engaging with—it is not something I'm engaging with. I'll tell you what I did on International Women's Day, I was in the embassy in Paris working alongside the Welsh ambassador. She's not the Welsh ambassador—she's the British ambassador, but she happens to be Welsh and she's flying the flag for Wales in the embassy. She hosted an event to celebrate International Women's Day, and it was a real pleasure to be there, to tell her what we're doing in relation to women and championing women's rights in Wales, and to make sure that she's aware of things like the fact that we now have a women’s health plan that is being driven forward, that we will be getting things like women’s health hubs in every part of Wales. It was also an opportunity for me to remind them of the fact that Jemima Nicholas actually took on the might of the French empire in the shape of Napoleon when they tried to invade Fishguard. It was quite pleasing to do that in front of a French audience, I must say.

O, wir? Ai fel yna mae hi? Ai fel yna mae hi, Darren? Ar y diwrnod yr ydym ni eisiau dathlu menywod, rydych chi eisiau dechrau rhyfel diwylliant. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i gymryd rhan ynddo—nid yw'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i gymryd rhan ynddo. Fe ddywedaf i wrthych chi beth wnes i ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, roeddwn i yn y llysgenhadaeth ym Mharis yn gweithio ochr yn ochr â llysgennad Cymru. Nid llysgennad Cymru yw hi—llysgennad Prydain yw hi, ond mae hi'n digwydd bod yn Gymraes ac mae hi'n chwifio'r faner dros Gymru yn y llysgenhadaeth. Cynhaliodd ddigwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac roedd yn bleser mawr cael bod yno, i ddweud wrthi beth rydym ni'n ei wneud o ran menywod a hyrwyddo hawliau menywod yng Nghymru, ac i wneud yn siŵr ei bod hi'n ymwybodol o bethau fel y ffaith bod gennym ni gynllun iechyd menywod sy'n cael ei ddatblygu erbyn hyn, y byddwn ni'n sefydlu pethau fel hybiau iechyd menywod ym mhob rhan o Gymru. Roedd hefyd yn gyfle i mi eu hatgoffa nhw o'r ffaith bod Jemima Nicholas wedi brwydro yn erbyn grym ymerodraeth Ffrainc ar ffurf Napoleon pan wnaethon nhw geisio ymosod ar Abergwaun. Roedd hi'n braf gwneud hynny o flaen cynulleidfa o Ffrancwyr, mae'n rhaid i mi ddweud.

13:45

I’m sorry, First Minister, you chose deliberately not to answer the question. It doesn’t surprise me that you didn’t answer the question, because my colleague Laura Anne Jones tabled a similar one many months ago and still hasn’t received an answer, in spite of the fact that you’re supposed to answer these questions within 10 days.

Now, let me help you by giving you the definition that I use of a woman. To me, a woman is an adult human female. I’ll repeat that: adult human female. 

Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, rydych wedi dewis yn fwriadol peidio ag ateb y cwestiwn. Nid yw'n fy synnu i na wnaethoch chi ateb y cwestiwn, oherwydd cyflwynodd fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, un tebyg fisoedd yn ôl ac nid yw wedi cael ateb o hyd, er gwaethaf y ffaith eich bod chi i fod i ateb y cwestiynau hyn o fewn 10 diwrnod.

Nawr, gadewch i mi eich helpu trwy roi'r diffiniad yr wyf i'n ei ddefnyddio o fenyw. I mi, mae menyw yn fenyw ddynol sy'n oedolyn. Fe wnaf i ailadrodd hynna: menyw ddynol sy'n oedolyn. 

I need to hear the leader of the Conservatives in his question.

Mae angen i mi glywed arweinydd y Ceidwadwyr yn ei gwestiwn.

Now, it is important that everybody understands that a woman is an adult human female so that we can protect women’s rights and ensure that women here in Wales flourish. Now, one area where we need some action from the Welsh Government is in women’s sports. We need to encourage more young women in particular to participate in sport, but we know that males who have been through puberty have significant physical advantages over females. This is particularly in relation to physically demanding sports. Now, can I ask you—? Obviously, physically demanding sports have traditionally been segregated and separated on the basis of sex to ensure that they are fair. So, will you commit today to ensuring that all Welsh sporting bodies in receipt of Government funds should be required to commit to sex-based categories, so that women are not required to compete against biological males and to ensure fair competition?

Nawr, mae'n bwysig bod pawb yn deall bod menyw yn fenyw ddynol sy'n oedolyn fel y gallwn ni amddiffyn hawliau menywod a sicrhau bod menywod yma yng Nghymru yn ffynnu. Nawr, un maes lle'r ydym ni angen rhywfaint o weithredu gan Lywodraeth Cymru yw chwaraeon menywod. Mae angen i ni annog mwy o fenywod ifanc yn arbennig i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond rydym ni'n gwybod bod gan ddynion sydd wedi bod drwy'r glasoed fanteision corfforol sylweddol dros fenywod. Mae hyn yn arbennig o wir o ran chwaraeon sy'n gorfforol anodd. Nawr, a gaf i ofyn i chi—? Yn amlwg, yn draddodiadol mae chwaraeon sy'n gorfforol anodd wedi cael eu gwahanu ar sail rhyw i sicrhau eu bod nhw'n deg. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau y dylai fod yn ofynnol i bob corff chwaraeon yng Nghymru sy'n derbyn cyllid y Llywodraeth ymrwymo i gategorïau seiliedig ar ryw, fel nad yw'n ofynnol i fenywod gystadlu yn erbyn gwrywod biolegol a sicrhau cystadleuaeth deg?

Honestly, did you not learn anything from why you lost the last general election? I mean, honestly, what people care about is the economy, they care about the NHS, they care about housing, they care about education, they care about connecting communities. Those are all the things that I am absolutely focused on, and I am not playing games with your culture wars, because actually the people of Wales are not interested in that. They are interested in us getting on with the job and delivering for them.

Wnaethoch chi wir ddim dysgu unrhyw beth o pam y gwnaethoch chi golli'r etholiad cyffredinol diwethaf? Hynny yw, yn onest, yr hyn y mae pobl yn poeni amdano yw'r economi, maen nhw'n poeni am y GIG, maen nhw'n poeni am dai, maen nhw'n poeni am addysg, maen nhw'n poeni am gysylltu cymunedau. Dyna'r holl bethau yr wyf i'n canolbwyntio'n llwyr arnyn nhw, ac nid wyf i'n chwarae gemau gyda'ch rhyfeloedd diwylliannol, oherwydd mewn gwirionedd nid oes gan bobl Cymru ddiddordeb yn hynny. Mae ganddyn nhw ddiddordeb ynom ni yn bwrw ymlaen â'r gwaith ac yn cyflawni drostyn nhw.

You may not care about these things, but I care about women and their rights here in Wales and I will continue to speak up and defend them. I’m a pro-women’s rights potential First Minister, that’s what I am, and I would encourage you to be likewise.

Let me turn to another area where we also need some action: women’s safety. We know that violence against women and girls has been soaring since the pandemic, and we know that most of the perpetrators are male. So, do you agree with me, First Minister, that the Welsh Government has a duty to ensure that all women in Wales should have access to safe single-sex spaces, including public toilets, leisure centre changing rooms, women’s refuges and hospital wards?

Efallai nad oes ots gennych chi am y pethau hyn, ond mae gen i ots am fenywod a'u hawliau yma yng Nghymru a byddaf yn parhau i godi llais a'u hamddiffyn. Rwy'n ddarpar Brif Weinidog sydd o blaid hawliau menywod, dyna wyf i, a byddwn yn eich annog chi i fod yr un peth.

Gadewch i mi droi at faes arall lle'r ydym ni angen rhywfaint o weithredu hefyd: diogelwch menywod. Rydym ni'n gwybod bod trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn cynyddu'n fawr ers y pandemig, ac rydym ni'n gwybod bod mwyafrif y troseddwyr yn ddynion. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y dylai fod gan bob menyw yng Nghymru fynediad at fannau un rhyw diogel, gan gynnwys toiledau cyhoeddus, ystafelloedd newid canolfannau hamdden, llochesi menywod ac wardiau ysbytai?

Look, I think it’s really important that we focus on the things that women really care about, right? What they care about is feeling safe, is making sure that they have their rights, that their children are able to flourish, and that’s why this is a Government that, for years, has been focused on the things that really matter to women. The fact that we’ve given huge increases in childcare, for example, which you voted against, and you voted against, by the way—. It’s really important for us to recognise that those are the things that people care about. This afternoon, there will be a debate about International Women’s Day, and what’s good about this is actually we have got to a point—[Interruption.] We have got to a—

Edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar y pethau y mae menywod wir yn poeni amdanyn nhw, iawn? Yr hyn y maen nhw'n poeni amdano yw teimlo'n ddiogel, yw gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw eu hawliau, bod eu plant yn gallu ffynnu, a dyna pam mae hon yn Llywodraeth sydd wedi bod yn un sy'n canolbwyntio, ers blynyddoedd, ar y pethau sydd wir yn bwysig i fenywod. Y ffaith ein bod ni wedi rhoi cynnydd enfawr i ofal plant, er enghraifft, y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn, ac fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn, gyda llaw—. Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod mai dyna'r pethau y mae pobl yn poeni amdanyn nhw. Y prynhawn yma, bydd dadl am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a'r hyn sy'n dda am hyn yw ein bod ni wedi cyrraedd pwynt mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd—

Allow the First Minister to answer the question with some respect, please.

Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn gyda rhywfaint o barch, os gwelwch yn dda.

What we're interested in is making sure that we champion the cause of women, as we have done. And what's great about today, and I don't know why you're trying to create these divisions, is that actually we've all, cross-party, agreed on things like safety, on issues like making sure we fight against abuse and intimidation. So, why don't we look for the areas where we actually want to co-operate, where we want to work together, and on the things that really matter to the vast majority of women in this country?

Yr hyn y mae gennym ni ddiddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n hyrwyddo achos menywod, fel yr ydym ni wedi ei wneud. A'r hyn sy'n wych am heddiw, ac nid wyf i'n gwybod pam rydych chi'n ceisio creu'r rhaniadau hyn, yw ein bod ni i gyd mewn gwirionedd, yn drawsbleidiol, wedi cytuno ar bethau fel diogelwch, ar faterion fel gwneud yn siŵr ein bod ni'n brwydro yn erbyn camdriniaeth a bygythiad. Felly, beth am chwilio am y meysydd lle'r ydym ni eisiau cydweithredu mewn gwirionedd, lle'r ydym ni eisiau cydweithio, ac ar y pethau sydd wir yn bwysig i'r mwyafrif llethol o fenywod yn y wlad hon?

13:50

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, dwi eisiau talu teyrnged i'r gofalwyr ifanc sydd yma yn y Senedd heddiw yn pwysleisio gwerth gofalu a phwysigrwydd gofalu am y gofalwyr. 

Thank you, Llywydd. First of all, I want to pay tribute to the young carers who are here in the Senedd today emphasising the value of care and the importance of caring for the carers. 

A week ago, the First Minister ended up talking more about me and Plaid Cymru than about her own budget that had just passed. I'm grateful to her for publicising the high bar that Plaid Cymru is setting for Wales. Now, the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language has got in on the act too. He promised that austerity was over under Labour, clearly without being sent the memo saying that, within hours, the Labour Government at Westminster would announce sweeping cuts to welfare, taking away a lifeline for some of the most vulnerable people. Now, he previously promised, I quote,

'a Labour government with its hands on those levers that allow you to use macroeconomic policy and the social security system for the benefit of those people who need it most.'

Now it's not quite working out, is it? And remember, this is something that directly affects Welsh Government and the use of its budget. The First Minister can't hide on this one. Will she muster the courage to tell Keir Starmer that enough is enough, or is she refusing to give a voice to the voiceless at a time when they need it most?

Wythnos yn ôl, siaradodd y Prif Weinidog yn fwy yn y pen draw amdanaf i a Phlaid Cymru nag am ei chyllideb ei hun a oedd newydd gael ei phasio. Rwy'n ddiolchgar iddi am roi cyhoeddusrwydd i'r bar uchel y mae Plaid Cymru yn ei osod ar gyfer Cymru. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi ymuno â'r hwyl hefyd. Addawodd fod cyni cyllidol ar ben o dan Lafur, yn amlwg heb dderbyn y memo a oedd yn dweud, o fewn oriau, y byddai'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cyhoeddi toriadau ysgubol i les, gan gael gwared ar achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed. Nawr, addawodd yn flaenorol, ac rwy'n dyfynnu,

'llywodraeth Lafur â'i dwylo ar y llywiau hynny sy'n caniatáu i chi ddefnyddio polisi macro-economaidd a'r system nawdd cymdeithasol er budd y bobl hynny sydd ei angen fwyaf.'

Nid yw'n gweithio'n union fel hynny, onid yw? A chofiwch, mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Lywodraeth Cymru a'r defnydd o'i chyllideb. Ni all y Prif Weinidog guddio o'r mater hwn. A wnaiff hi fagu'r dewrder i ddweud wrth Keir Starmer mai digon yw digon, neu a yw hi'n gwrthod rhoi llais i'r di-lais ar adeg pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf?

Honestly, I just don't know why you didn't stick to plan A and go to Westminster, because every week you come in here and you ask me questions that are relevant to the Westminster Government. I will continue to give you lessons week after week on how devolution works. It works because I am responsible for certain areas and they're responsible for others. I don't know why you keep asking me about areas over which I don't have responsibility.  

Wir, nid wyf i'n gwybod pam na wnaethoch chi gadw at gynllun A a mynd i San Steffan, oherwydd bob wythnos rydych chi'n dod i mewn yma ac rydych chi'n gofyn cwestiynau i mi sy'n berthnasol i Lywodraeth San Steffan. Fe wnaf i barhau i roi gwersi i chi wythnos ar ôl wythnos ar sut mae datganoli yn gweithio. Mae'n gweithio oherwydd fy mod i'n gyfrifol am rai meysydd ac maen nhw'n gyfrifol am eraill. Dydw i ddim yn gwybod pam rydych chi'n parhau i ofyn i mi am feysydd nad oes gen i gyfrifoldeb drostyn nhw.  

I fail to understand how a Welsh First Minister cannot see the relevance to Wales of decisions taken by a UK Government of the same colour as hers on an issue as fundamental as the welfare state. As I said, this is something that directly impacts on Wales. If UK Government takes away support for some of the most vulnerable people in Wales, it is up to her budget to step in to make up for that. Now it's always—it's always—defend, defend, defend, isn't it? You're defending the indefensible week after week, from the winter fuel allowance to the two-child cap, 1950s women, inheritance tax and now welfare cuts. Wales wants a First Minister that stands up for the people of Wales. 

Now, also last week, the United Nations concluded that the UK have a broken social security system. It called for an end to the two-child limit, benefit cap, sanction regimes and so on—

Nid wyf i'n deall sut na all Prif Weinidog Cymru weld perthnasedd penderfyniadau Llywodraeth y DU o'r un lliw â hi i Gymru ar fater mor sylfaenol â'r wladwriaeth les. Fel y dywedais i, mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Gymru. Os yw Llywodraeth y DU yn cymryd cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i ffwrdd, mae'n fater i'w chyllideb hi gamu i'r adwy i wneud iawn am hynny. Nawr mae hi bob amser—bob amser—yn fater o amddiffyn, amddiffyn, amddiffyn, amddiffyn, onid yw? Rydych chi'n amddiffyn yr anamddiffynadwy wythnos ar ôl wythnos, o lwfans tanwydd y gaeaf i'r cap dau blentyn, menywod y 1950au, treth etifeddiant a nawr toriadau lles. Mae Cymru eisiau Prif Weinidog sy'n sefyll dros bobl Cymru. 

Nawr, hefyd yr wythnos diwethaf, daeth y Cenhedloedd Unedig i'r casgliad bod gan y DU system nawdd cymdeithasol sydd wedi torri. Galwodd am derfyn ar y cyfyngiad dau blentyn, y cap budd-daliadau, cyfundrefnau cosbi ac yn y blaen—

I need the question—. I've had to ask for every single contribution to be heard in a degree of silence, both for the leader of the Conservatives, the First Minister and now the leader of Plaid Cymru. I know that backbenchers are wannabe First Ministers and leaders of their parties, but I really don't want you to be taking part as vocally as you all are at this moment, and some of you in particular—looking at you, Alun Davies. [Laughter.] Rhun ap Iorwerth. 

Rwyf i angen y cwestiwn—. Bu'n rhaid i mi ofyn i bob un cyfraniad gael ei glywed mewn tipyn o dawelwch, ar gyfer arweinydd y Ceidwadwyr, y Prif Weinidog a nawr arweinydd Plaid Cymru. Gwn fod aelodau'r meinciau cefn eisiau bod yn Brif Weinidogion ac yn arweinwyr eu pleidiau, ond dydw i wir ddim eisiau i chi fod yn cymryd rhan mor llafar ag yr ydych chi i gyd ar hyn o bryd, a rhai ohonoch chi'n arbennig—rwy'n edrych arnoch chi, Alun Davies. [Chwerthin.] Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. I also understand their frustration at the hole they find themselves being sucked into by Labour in UK Government. The UN said that the UK Government should ensure that benefits levels were reviewed to make sure that people have enough to get by, but the UN's report also—and again this is directly relevant to the First Minister—called on the devolved Governments of the UK to assess the impact of welfare reforms. I say that that assessment must, yes, include reforms already introduced, but also those being proposed. So, as well as asking for confirmation that she will commission that assessment, I ask the First Minister again: does she support cuts to welfare in order to save money, yes or no?

Diolch, Llywydd. Rwyf i hefyd yn deall eu rhwystredigaeth ynghylch y twll y maen nhw'n cael eu hunain yn cael eu sugno i mewn iddo gan Lafur yn Llywodraeth y DU. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig y dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod lefelau budd-daliadau yn cael eu hadolygu i wneud yn siŵr bod gan bobl ddigon i ymdopi, ond galwodd adroddiad y Cenhedloedd Unedig hefyd—ac unwaith eto mae hyn yn uniongyrchol berthnasol i'r Prif Weinidog—ar Lywodraethau datganoledig y DU i asesu effaith diwygiadau lles. Rwy'n dweud bod yn rhaid i'r asesiad hwnnw, oes, gynnwys diwygiadau a gyflwynwyd eisoes, ond hefyd y rhai sy'n cael eu cynnig. Felly, yn ogystal â gofyn am gadarnhad y bydd yn comisiynu'r asesiad hwnnw, gofynnaf i'r Prif Weinidog eto: a yw hi'n cefnogi toriadau i les er mwyn arbed arian, ydy neu nac ydy?

You talked to me about relevance; I'll talk to you about relevance. It's relevant to ask why, last week, when there was an opportunity to vote for services in Wales—. You're so keen to protect the public in Wales this week, but, last week, you voted against money going into those services. Now, we spend a huge amount of money in Wales on trying to support people living in poverty—about £5 billion over the past few years—but last week we were able to offer even more money: £400 million extra, for example, to support the NHS. That is what people want us to prioritise. That's what we prioritise, and you, once again, voted against. Once again, if you want to ask questions that are relevant to Westminster, you should have gone to Westminster. That's the place for accountability for the Prime Minister of the United Kingdom, and I am more than happy to send you a copy of the Government of Wales Act and maybe he'll learn something. 

Fe wnaethoch chi siarad â mi am berthnasedd; fe wnaf i siarad â chi am berthnasedd. Mae'n berthnasol gofyn pam, yr wythnos diwethaf, pan oedd cyfle i bleidleisio dros wasanaethau yng Nghymru—. Rydych chi mor awyddus i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru yr wythnos hon, ond, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn arian yn mynd i mewn i'r gwasanaethau hynny. Nawr, rydym ni'n gwario swm enfawr o arian yng Nghymru ar geisio cynorthwyo pobl sy'n byw mewn tlodi—tua £5 biliwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—ond yr wythnos diwethaf roeddem ni'n gallu cynnig hyd yn oed mwy o arian: £400 miliwn yn ychwanegol, er enghraifft, i gefnogi'r GIG. Dyna'r hyn y mae pobl eisiau i ni ei flaenoriaethu. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei flaenoriaethu, ac y gwnaethoch chi, unwaith eto, bleidleisio yn ei erbyn. Unwaith eto, os ydych chi eisiau gofyn cwestiynau sy'n berthnasol i San Steffan, dylech chi fod wedi mynd i San Steffan. Dyna'r lle ar gyfer atebolrwydd i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac rwy'n fwy na pharod i anfon copi o Ddeddf Llywodraeth Cymru i chi, ac efallai y gwnaiff ddysgu rhywbeth. 

13:55

My guess is—[Inaudible.]—Baroness Eluned Morgan already has a seat at Westminster and maybe she's hankering for spending more time there. But I thank her once again today for highlighting the fact that Plaid Cymru did vote against her flawed budget last week. The First Minister's logic suggests that Labour MPs who previously voted against whole UK budgets somehow said Wales should get no money at all. Let's be serious about this: it was a flawed budget and we made it clear. The First Minister is torn, I know, between party loyalty, stopping her from holding the UK Prime Minister to account, as we need a Welsh First Minister to do. Her criticism, you know, of 14 years of Tory austerity doesn't quite have the same ring, given that she refuses to criticise her own party for its hostile welfare environment. And of course, she has no interest in devolving welfare, which would allow her to take a different path should she want to, and Plaid Cymru says, 'Let's take those levers into our own hands', starting with the administration of welfare so we can make decisions that work for communities in Wales. Now, the First Minister's even broken her own promise:

'The first thing I would do as First Minister would be to establish a permanent Poverty and Inequality Commission to help set a long-term direction and suggest practical solutions for tackling poverty in Wales.'

That's the promise she made when standing for the leadership of the Labour Party in Wales the first time around. It hasn't happened. Will it, or what's changed?

Fy nhybiaeth i yw—[Anghlywadwy.]—mae gan y Farwnes Eluned Morgan sedd yn San Steffan eisoes, ac efallai fod ganddi awydd treulio mwy o amser yno. Ond diolchaf iddi unwaith eto heddiw am dynnu sylw at y ffaith bod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn ei chyllideb ddiffygiol yr wythnos diwethaf. Mae rhesymeg y Prif Weinidog yn awgrymu bod ASau Llafur a bleidleisiodd yn flaenorol yn erbyn cyllidebau y DU gyfan rywsut wedi dweud na ddylai Cymru gael unrhyw arian o gwbl. Gadewch i ni fod o ddifrif am hyn: roedd yn gyllideb ddiffygiol ac fe wnaethom ni hynny'n eglur. Mae'r Prif Weinidog wedi'i hollti, rwy'n gwybod, rhwng teyrngarwch i'w phlaid, yn ei hatal rhag dwyn Prif Weinidog y DU i gyfrif, fel yr ydym ni angen i Brif Weinidog Cymru ei wneud. Nid oes gan ei beirniadaeth, wyddoch chi, o 14 mlynedd o gyni Torïaidd yr un grym rywsut, o gofio ei bod yn gwrthod beirniadu ei phlaid ei hun am ei hamgylchedd lles gelyniaethus. Ac wrth gwrs, does ganddi ddim diddordeb mewn datganoli lles, a fyddai'n caniatáu iddi ddilyn llwybr gwahanol pe bai hi'n dymuno, ac mae Plaid Cymru yn dweud, 'Gadewch i ni gymryd y llywiau hynny i'n dwylo ein hunain', gan ddechrau gyda gweinyddu lles fel y gallwn ni wneud penderfyniadau sy'n gweithio i gymunedau yng Nghymru. Nawr, mae'r Prif Weinidog hyd yn oed wedi torri ei haddewid ei hun:

'Y peth cyntaf y byddwn i'n ei wneud fel Prif Weinidog fyddai sefydlu Comisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb parhaol i helpu i bennu cyfeiriad hirdymor ac awgrymu atebion ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.'

Dyna'r addewid a wnaeth wrth sefyll i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru y tro cyntaf. Nid yw wedi digwydd. A fydd yn digwydd, neu beth sydd wedi newid?

For several years, your party—. In the years of austerity, you voted to support a budget. This year— this year—when you had an extra £1.6 billion on the table, you voted with the Tories—let's be clear; with the Tories—and had that got through and you hadn't bottled it—. And you were counting on the support of somebody else to do your work for you. This is not leadership. This is not leadership. What leadership is is getting on with the job. Plaid Cymru is only interested in structures and commissions. I'm interested in getting on with the job and delivering. My whole Government is focused on delivering on the bread-and-butter issues that people care about, that we got extra money for last week and that you voted against.

Am sawl blwyddyn, fe wnaeth eich plaid chi—. Yn ystod y blynyddoedd o gyni cyllidol, fe wnaethoch chi bleidleisio i gefnogi cyllideb. Eleni— eleni—pan oedd gennych chi £1.6 biliwn yn ychwanegol ar y bwrdd, fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid—gadewch i ni fod yn eglur; gyda'r Torïaid—a phe bai hynny wedi cael drwodd ac na fyddech chi wedi colli eich dewrder—. Ac roeddech chi'n dibynnu ar gefnogaeth rhywun arall i wneud eich gwaith ar eich rhan. Nid arweinyddiaeth yw hyn. Nid arweinyddiaeth yw hyn. Bwrw ymlaen â'r gwaith yw arweinyddiaeth. Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb mewn strwythurau a chomisiynau yn unig. Mae gen i ddiddordeb mewn bwrw ymlaen â'r gwaith a chyflawni. Mae fy Llywodraeth gyfan yn canolbwyntio ar gyflawni ar y materion bara menyn y mae pobl yn poeni amdanyn nhw, y cawsom ni arian ychwanegol ar eu cyfer yr wythnos diwethaf ac y gwnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn.

Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd
The Global Centre of Rail Excellence Development

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion buddsoddi ar gyfer datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd? OQ62428

3. Will the First Minister make a statement on investment proposals for the Global Centre of Rail Excellence development? OQ62428

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad o ran cynnydd y gwaith i ddatblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd? OQ62447

5. Will the First Minister provide a progress update on work to develop the Global Centre of Rail Excellence? OQ62447

Diolch yn fawr, Llywydd. I understand that you have given your permission for questions 3 and 5 to be grouped. Now, the Global Centre of Rail Excellence is a development supported with a commitment of £50 million-worth of Welsh Government funding and £20 million of UK Government funding, and GCRE is currently in the process of securing private investment for capital construction of the facility and is in a detailed dialogue with a potential funder.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Nawr, mae'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ddatblygiad a gefnogir gydag ymrwymiad o werth £50 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ac £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, ac mae'r Ganolfan wrthi'n sicrhau buddsoddiad preifat ar gyfer adeiladu cyfalaf y cyfleuster ac mae mewn deialog fanwl gydag ariannwr posibl.

Thank you for that answer, First Minister. The GCRE development is a Welsh Government-led success story in the making. It's a good example of what an active Government can do, leading on place-based economic development whilst working with local partners. It has the potential not only to be a unique centre across Europe for testing and research in the rail industry, but also, and importantly, to create large numbers of well-paid jobs. I want GCRE to be a success as soon as possible, but I'm interested, First Minister, in the timescale for significant further work to be undertaken to deliver on that economic development and transport sector potential, and I note what you said about ongoing investor proposals. Can you tell us, First Minister, whether you expect further significant physical work to take place at the GCRE development site in the next 12 months, or, if you're not able to commit to that, can you confirm when and how the Senedd will be kept informed on progress on what should be a success story for Wales?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn stori o lwyddiant dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy'n cael ei hadrodd. Mae'n enghraifft dda o'r hyn y gall Llywodraeth weithredol ei wneud, gan arwain ar ddatblygu economaidd seiliedig ar le tra'n gweithio gyda phartneriaid lleol. Mae ganddi'r potensial nid yn unig i fod yn ganolfan unigryw ledled Ewrop ar gyfer profi ac ymchwilio yn y diwydiant rheilffyrdd, ond hefyd, ac yn bwysig, i greu nifer fawr o swyddi sy'n talu'n dda. Rwyf i eisiau i'r Ganolfan fod yn llwyddiant cyn gynted â phosibl, ond mae gen i ddiddordeb, Prif Weinidog, yn yr amserlen ar gyfer gwneud gwaith pellach sylweddol i wireddu'r potensial datblygu economaidd a sector trafnidiaeth hwnnw, ac rwy'n nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am gynigion buddsoddwyr parhaus. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n disgwyl i waith ffisegol sylweddol pellach gael ei wneud ar safle datblygu'r Ganolfan yn ystod y 12 mis nesaf, neu, os na allwch chi ymrwymo i hynny, a allwch chi gadarnhau pryd a sut y bydd y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar yr hyn a ddylai fod yn stori o lwyddiant i Gymru?

Diolch yn fawr iawn and thank you, Vaughan, for your enthusiasm and commitment to this programme. We are committed to delivering the GCRE through the programme for government. Now, you'll be aware that there have been many issues that have hampered securing private sector investment to date that have been completely beyond the control of the Welsh Government and GCRE, which launched in early 2023 in, of course, what was one of the most challenging of investment environments.

Now, the funding options remaining still focus firmly on a private sector solution. We are working through contingency plans, which will include, though, both private and public funding sources, just to make sure everything is covered. I'm sure you will understand that there are commercial sensitivities around such deals. I'm very mindful not to prejudice any ongoing negotiations. All of the options must, though, secure funding for work to start this Senedd term, so we do hope that things will move quickly. I will, of course, provide updates once those commercial sensitivities are over.

Diolch yn fawr iawn a diolch, Vaughan, am eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad i'r rhaglen hon. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd drwy'r rhaglen lywodraethu. Nawr, byddwch yn ymwybodol bod llawer o broblemau sydd wedi rhwystro sicrhau buddsoddiad gan y sector preifat hyd yma sydd wedi bod yn gyfan gwbl y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan, a lansiwyd ddechrau 2023, wrth gwrs, yn yr hyn a oedd yn un o'r amgylcheddau buddsoddi mwyaf heriol.

Nawr, mae'r opsiynau cyllid sy'n weddill yn dal i ganolbwyntio'n gadarn ar ateb sector preifat. Rydym ni'n gweithio trwy gynlluniau wrth gefn, a fydd yn cynnwys, fodd bynnag, ffynonellau cyllid preifat a chyhoeddus, dim ond i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei gwmpasu. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall bod sensitifrwydd masnachol ynghylch cytundebau o'r fath. Rwy'n ofalus iawn i beidio â rhagfarnu unrhyw drafodaethau parhaus. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r holl opsiynau sicrhau cyllid i waith ddechrau yn ystod y tymor Senedd hwn, felly rydym ni'n gobeithio y bydd pethau yn symud yn gyflym. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi diweddariadau unwaith y bydd y sensitifrwydd masnachol hwnnw drosodd.

14:00

I can assure you, Llywydd, there was no collusion in the choice of these questions today, but I've been to visit the Global Centre of Rail Excellence, I've had a tour of the site, and it's got huge potential, not only as a world-class and one of the few rail testing centres in Europe, but also as a technology park and with a renewable energy area too. I've worked with and I'm looking for potential partner investors, in addition to those who are currently involved, and I would ask the Welsh Government whether they can do the same. Can they use their resources to use those contacts that they've got to find those additional supportive investors in the areas that I've just mentioned? Also, the spring statement is coming up in Westminster on 26 March, and I hate to sound like Rhun ap Iorwerth, but it would be helpful for the Government to speak with the UK Government to see what further support can be given as further investment and support for this project, which could be employing, initially, 1,100 people, but more as that park develops.

Gallaf eich sicrhau, Llywydd, nad oedd unrhyw gydgynllwynio wrth ddewis y cwestiynau hyn heddiw, ond rwyf i wedi bod i ymweld â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, rwyf i wedi cael taith o amgylch y safle, ac mae ganddi botensial enfawr, nid yn unig fel canolfan profi rheilffyrdd o'r radd flaenaf ac un o'r ychydig ganolfannau profi rheilffyrdd yn Ewrop, ond hefyd fel parc technoleg a chydag ardal ynni adnewyddadwy hefyd. Rwyf i wedi gweithio gyda darpar fuddsoddwyr partner ac yn chwilio am rai, yn ogystal â'r rhai sy'n rhan o'r fenter ar hyn o bryd, a byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru a allan nhw wneud yr un fath. A allan nhw ddefnyddio eu hadnoddau i ddefnyddio'r cysylltiadau hynny sydd ganddyn nhw i ddod o hyd i'r buddsoddwyr cefnogol ychwanegol hynny yn y meysydd yr wyf i newydd sôn amdanyn nhw? Hefyd, mae datganiad y gwanwyn ar fin cael ei gyhoeddi yn San Steffan ar 26 Mawrth, ac mae'n gas gen i swnio fel Rhun ap Iorwerth, ond byddai'n ddefnyddiol i'r Llywodraeth siarad â Llywodraeth y DU i weld pa gymorth pellach y gellir ei roi fel buddsoddiad a chefnogaeth bellach i'r prosiect hwn, a allai fod yn cyflogi, i gychwyn, 1,100 o bobl, ond mwy wrth i'r parc hwnnw ddatblygu.

Thanks very much. I think it's really exciting. GCRE could be a site for world-class rail and mobility research testing and showcasing, and it would become the UK's first ever net-zero in-operation railway, supporting innovations that are needed to decarbonise both the UK and the European railways. A recent report highlighted that GCRE was a very-high-value-for-money project, with, as you suggest, over 1,000 jobs, which is not insignificant, and a potential £300 million uplift for the local economy. So, this is really serious. 

What we do know is that strong commercial demand exists for a purpose-built facility for European rail innovations. Already, around 200 companies have indicated their desire to use this facility. You're quite right, we need to continue discussing with the UK Government, but we've already put a substantial amount of funding in. I do think it's time now for the private sector to come in and play their part, but, of course, we want local people to benefit from those opportunities as well.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn gyffrous iawn. Gallai'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fod yn safle ar gyfer profi ac arddangos ymchwil rheilffyrdd a symudedd o'r radd flaenaf, a dyma fyddai rheilffordd weithredol sero net gyntaf erioed y DU, gan gefnogi arloesiadau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio rheilffyrdd y DU ac Ewropeaidd. Amlygodd adroddiad diweddar fod y Ganolfan yn brosiect gwerth am arian uchel iawn, gyda dros 1,000 o swyddi, fel yr ydych chi'n ei awgrymu, nad yw'n ddibwys, a chynnydd posibl o £300 miliwn i'r economi leol. Felly, mae hyn yn ddifrifol iawn. 

Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod galw masnachol cryf yn bodoli am gyfleuster pwrpasol ar gyfer arloesiadau rheilffyrdd Ewropeaidd. Eisoes, mae tua 200 o gwmnïau wedi nodi eu hawydd i ddefnyddio'r cyfleuster hwn. Rydych chi yn llygad eich lle, mae angen i ni barhau i drafod gyda Llywodraeth y DU, ond rydym ni eisoes wedi cyfrannu swm sylweddol o gyllid. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd nawr i'r sector preifat ddod i mewn a chwarae eu rhan, ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau i bobl leol elwa o'r cyfleoedd hynny hefyd.

First Minister, these sorts of projects have the potential to provide large benefits to both the local economy and the economy of Wales. As such, they have to be handled well. It's clear, though, that this project is now facing delays, and the Government continues to look for new sources of private funding. We've been talking about investment for years, and I think the majority of people believed there were investors lined up. As far as I can see, not a single train operator is currently putting money into this project, which is concerning, considering they have much to gain should this be a success. I would question whether or not they consider this project is worth it for them. So, can you, First Minister, outline what talks you are having or have had with the train operators regarding funding for this rail scheme?

Prif Weinidog, mae gan y mathau hyn o brosiectau y potensial i ddarparu manteision mawr i'r economi leol ac i economi Cymru. O'r herwydd, mae'n rhaid eu trin yn dda. Mae'n amlwg, fodd bynnag, bod y prosiect hwn yn wynebu oediadau bellach, ac mae'r Llywodraeth yn parhau i chwilio am ffynonellau newydd o gyllid preifat. Rydym ni wedi bod yn siarad am fuddsoddiad ers blynyddoedd, ac rwy'n credu bod y mwyafrif o bobl yn credu bod buddsoddwyr wedi'u trefnu. Cyn belled ag y gwelaf i, nid oes un gweithredwr trenau yn cyfrannu arian at y prosiect hwn ar hyn o bryd, sy'n destun pryder, o ystyried bod ganddyn nhw lawer i'w ennill pe bai hyn yn llwyddiant. Byddwn i'n cwestiynu pa un a ydyn nhw o'r farn bod y prosiect hwn yn werth chweil iddyn nhw. Felly, a allwch chi, Prif Weinidog, amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael neu wedi eu cael gyda'r gweithredwyr trenau ynghylch cyllid ar gyfer y cynllun rheilffyrdd hwn?

Well, look, there are very advanced discussions going on at the moment with potential investors, so I really don't want to go into the detail of that, because of the sensitivities around it, but what I can tell you is that this lies just 15 miles away from the Tata steelworks in Port Talbot, and I think that will be able to help with the transition for some of the workers there. Some of the skills are, obviously, clearly transferable. But I think it is important for us to recognise that a process of due diligence has begun in relation to a potential investor, but I never count any chickens until they're hatched.

Wel, edrychwch, mae trafodaethau datblygedig iawn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda darpar fuddsoddwyr, felly nid wyf i wir eisiau trafod manylion hynny, oherwydd y sensitifrwydd o'i gwmpas, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai dim ond 15 milltir i ffwrdd o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot y mae hon wedi'i lleoli, ac rwy'n credu y bydd hynny yn gallu helpu gyda'r trosglwyddiad i rai o'r gweithwyr yno. Mae rhai o'r sgiliau, yn amlwg, yn drosglwyddadwy. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod proses o ddiwydrwydd dyladwy wedi dechrau o ran buddsoddwr posibl, ond dydw i byth yn cyfrif y cywion cyn iddyn nhw ddeor.

One of the reasons for locating the centre in Onllwyn, of course, is the ability to connect it with the existing Dulais valley freight line, which will allow rolling stock and other test equipment to be transported directly to the centre by rail. One of the things that it won't be possible at the moment to transport by rail, of course, will be the workforce, because that freight line, like others in the region, including the Amman valley in my own constituency, are currently closed to passenger services. So, as part of the wider rail renaissance that this global centre will undoubtedly represent, does the Government see scope and potential for reopening passenger services in the western Valleys, in parallel with this development, as has been done so successfully in the eastern Valleys in the former coalfield?

Un o'r rhesymau am leoli'r ganolfan yn Onllwyn, wrth gwrs, yw'r gallu i'w chysylltu â rheilffordd cludo nwyddau bresennol dyffryn Dulais, a fydd yn caniatáu i gerbydau ac offer profi arall gael eu cludo yn uniongyrchol i'r ganolfan ar y rheilffordd. Un o'r pethau na fydd yn bosibl ei gludo ar y rheilffordd ar hyn o bryd, wrth gwrs, fydd y gweithlu, oherwydd mae'r rheilffordd cludo nwyddau honno, fel eraill yn y rhanbarth, gan gynnwys dyffryn Aman yn fy etholaeth i, ar gau i wasanaethau teithwyr ar hyn o bryd. Felly, yn rhan o'r adfywiad rheilffyrdd ehangach y bydd y ganolfan fyd-eang hon yn ei gynrychioli, heb amheuaeth, a yw'r Llywodraeth yn gweld cwmpas a photensial ar gyfer ailagor gwasanaethau i deithwyr yng Nghymoedd y gorllewin, ochr yn ochr â'r datblygiad hwn, fel sydd wedi cael ei wneud mor llwyddiannus yng Nghymoedd y dwyrain yn yr hen faes glo?

14:05

Well, thanks very much. You're quite right, I think there is a significant rail renaissance going on; with the fact that we've invested £800 million partly in rolling stock, which means that about 85 per cent of the passengers who travel on Transport for Wales today are travelling on brand-new trains, there is a renaissance when it comes to rail. And there's also recognition, for the first time in a long time, from UK Government that Wales has been shortchanged when it comes to structural investment. You'll be aware that, when it comes to that rail infrastructure investment, it is the responsibility of UK Government. We are preparing a long list of projects that we're interested in seeing investment in, by them, and those conversations are ongoing. There is a priority list, I'm not sure if this is on that list, but I'll go and check that out.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle, rwy'n credu bod adfywiad rheilffyrdd sylweddol yn digwydd; gyda'r ffaith ein bod ni wedi buddsoddi £800 miliwn yn rhannol mewn cerbydau, sy'n golygu bod tua 85 y cant o'r teithwyr sy'n teithio ar Trafnidiaeth Cymru heddiw yn teithio ar drenau newydd sbon, mae adfywiad o ran rheilffyrdd. A cheir cydnabyddiaeth hefyd, am y tro cyntaf ers amser maith, gan Lywodraeth y DU bod Cymru wedi cael bargen wael o ran buddsoddiad strwythurol. Byddwch yn ymwybodol, o ran y buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd hwnnw, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny. Rydym ni'n paratoi rhestr hir o brosiectau y mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld buddsoddiad ynddyn nhw, ganddyn nhw, ac mae'r sgyrsiau hynny yn parhau. Mae yna rhestr flaenoriaeth, dydw i ddim yn siŵr a yw hyn ar y rhestr honno, ond fe wnaf i wirio hynny.

First Minister, it is important that we do highlight the value of the Global Centre of Rail Excellence, which will bring the Welsh economy many benefits when it does, indeed, get completed. We just need to hope that it doesn't take as long to complete as other major infrastructure projects passing through the Neath constituency, such as the Heads of the Valleys A465 upgrade. The project is a good example of collaborative working across the English-Welsh border and it's great to see that the then Conservative UK Government, as well as the Cardiff Labour Government here, were working together to deliver for Wales—something that doesn't quite seem to be the case now, anyway.

But, First Minister, if this project is to truly benefit local people, it is essential that there are high-quality skilled employment opportunities for those who are living around and on the site. So, what discussions are being had with higher education colleges to ensure that students are able to access courses and training that would qualify them to be employed at the Global Centre of Rail Excellence when it does indeed commence operation?

Prif Weinidog, mae'n bwysig ein bod ni'n tynnu sylw at werth y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, a fydd yn dod â llawer o fanteision i economi Cymru pan fydd, yn wir, yn cael ei chwblhau. Ond mae angen i ni obeithio na fydd yn cymryd cymaint o amser i'w gwblhau â phrosiectau seilwaith mawr eraill sy'n mynd trwy etholaeth Castell-nedd, fel gwaith uwchraddio A465 Blaenau'r Cymoedd. Mae'r prosiect yn enghraifft dda o gydweithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae'n wych gweld bod Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd, yn ogystal â Llywodraeth Lafur Caerdydd yma, yn cydweithio i gyflawni dros Gymru—rhywbeth nad yw'n ymddangos ei fod yn wir nawr, beth bynnag.

Ond, Prif Weinidog, os yw'r prosiect hwn wir yn mynd i fod o fudd i bobl leol, mae'n hanfodol bod cyfleoedd gwaith medrus o ansawdd uchel i'r rhai sy'n byw o gwmpas ac ar y safle. Felly, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda cholegau addysg uwch i sicrhau y gall myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau a hyfforddiant a fyddai'n eu gwneud yn gymwys i gael eu cyflogi yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd pan fydd yn dechrau gweithredu mewn gwirionedd?

Thank you very much. I can't believe somebody from the Conservative Party is telling me about how bad infrastructure projects are in Wales, after the mess you made of things like the high speed 2 line. It's quite, quite extraordinary. But there we go.

What I can tell you is that, in relation to GCRE, of course there will be a package of measures where we will have to work with local colleges to make sure that the skills are available. But as I say, I think there are opportunities to transfer some of the skills from some of the workers who've lost their positions in Tata into this facility.

Diolch yn fawr iawn. Allaf i ddim credu bod rhywun o'r Blaid Geidwadol yn dweud wrthyf i pa mor wael yw prosiectau seilwaith yng Nghymru, ar ôl y llanast a wnaethoch chi o bethau fel y rheilffordd cyflymder uchel 2. Mae'n gwbl, gwbl ryfeddol. Ond dyna ni.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, o ran y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, yw y bydd pecyn o fesurau, wrth gwrs, lle bydd yn rhaid i ni weithio gyda cholegau lleol i wneud yn siŵr bod y sgiliau ar gael. Ond fel y dywedais i, rwy'n credu bod cyfleoedd i drosglwyddo rhai o'r sgiliau sydd gan rai o'r gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn Tata i'r cyfleuster hwn.

Good afternoon, First Minister. If you've never visited the site at GCRE, it is quite an incredible place. Imagine a facility covering nearly 1,000 football pitches in size, built to test the speeds of a train. It is absolutely of global significance and it's one of its kind on the international stage. But for me, it's the value it brings to the local community in places like Ystradgynlais, which I represent. Ystradgynlais has struggled with job losses from the town, like the Tick Tock factory and Dewhirst, as well, yet the community is actually really resilient and healthy and vibrant. Lloyds Bank left the town in 2023, leaving no bank in the biggest town in Brecon and Radnorshire, despite Lloyds Bank making a mere £7.5 billion in profit that year.

The Welsh Liberal Democrats recently secured a banking hub for the town, which will help, but I'd like to ask the Welsh Government what else you can do to ensure that there are really good links with the economic development of the GCRE and towns and communities around Ystradgynlais. Diolch yn fawr iawn.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Os nad ydych chi erioed wedi ymweld â'r safle yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, mae'n lle gwbl anhygoel. Dychmygwch gyfleuster sy'n cwmpasu bron i 1,000 o gaeau pêl-droed o ran maint, a adeiladwyd i brofi cyflymder trên. Mae'n sicr o arwyddocâd byd-eang ac mae'n unigryw ar y llwyfan rhyngwladol. Ond i mi, mae'n fater o'r gwerth y mae'n ei gynnig i'r gymuned leol mewn lleoedd fel Ystradgynlais, yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae Ystradgynlais wedi cael trafferth yn sgil cholli swyddi o'r dref, fel ffatri Tick Tock a Dewhirst hefyd, ac eto mae'r gymuned yn gydnerth iawn ac yn iach ac yn fywiog mewn gwirionedd. Gadawodd Banc Lloyds y dref yn 2023, gan adael dim banc yn y dref fwyaf ym Mrycheiniog a Maesyfed, er mai dim ond £7.5 biliwn mewn elw wnaeth Banc Lloyds y flwyddyn honno.

Yn ddiweddar, sicrhaodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ganolfan fancio ar gyfer y dref, a fydd yn helpu, ond hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru beth arall y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod cysylltiadau da iawn â datblygiad economaidd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd a threfi a chymunedau o amgylch Ystradgynlais. Diolch yn fawr iawn.

Well, thanks very much. Look, we desperately need jobs in that part of the world, because you're quite right, we have seen an area that used to be very, very vibrant. And the Tick Tock factory, I remember when I was first elected, seeing literally hundreds of people coming out of that factory—hundreds and hundreds and hundreds of people. And, of course, all of that has been diminished, so we do need something transformational and I think this could be the ticket to that transformation, and it will be imperative that local communities get to benefit from that and get to work on and with the organisations that are there to develop it.

Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, mae angen swyddi yn daer arnom ni yn y rhan honno o'r byd, oherwydd rydych chi'n gwbl gywir, rydym ni wedi gweld ardal a oedd yn arfer bod yn fywiog dros ben. A'r ffatri Tick Tock, rwy'n cofio pan gefais i fy ethol gyntaf, gweld yn llythrennol gannoedd o bobl yn dod allan o'r ffatri honno—cannoedd ar gannoedd ar gannoedd o bobl. Ac, wrth gwrs, mae hynny i gyd wedi cael ei leihau, felly mae angen rhywbeth trawsnewidiol arnom ni ac rwy'n credu efallai mai hwn fydd y tocyn i'r trawsnewidiad hwnnw, a bydd yn hanfodol bod cymunedau lleol yn elwa o hynny ac yn cael gweithio ar a chyda'r sefydliadau sydd yno i'w ddatblygu.

Canser y Fron
Breast Cancer

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod menywod sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn cael triniaeth a chymorth digonol? OQ62431

4. How is the Welsh Government ensuring that women diagnosed with breast cancer are receiving sufficient treatment and support? OQ62431

Mae ein dull o drin a chefnogi menywod sy’n cael eu heffeithio gan ganser y fron wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser. Mae’n cynnwys y gofynion cynllunio ar gyfer sefydliadau’r NHS, yn unol â’r llwybrau cenedlaethol gorau ar gyfer mathau cynradd ac eilaidd o ganser y fron.

Our approach to the treatment and support of women affected by breast cancer is set out in the quality statement for cancer, which includes planning requirements for NHS organisations, in line with the national optimal pathways for primary and secondary breast cancer.

14:10

I'm sure you'll remember the late Tassia Haines, a constituent of mine who died far too young from secondary breast cancer just over a year ago. Tassia’s experiences drove her to campaign for evidence-based interventions to better support women living with metastatic breast cancer, and we debated her petition here in the Senedd. It received more than 14,000 signatures, and I think you met with her when you were health Secretary. One of the things that Tassia called for was better data, to give a clearer picture of the disease in Wales. 

The first reports of the national audits for primary and metastatic breast cancer were published last September, but the reports were unable to deliver a comprehensive picture of primary and metastatic breast cancer in Wales due to incomplete data. So, what steps have the Welsh Government taken to ensure that health boards collect this crucial breast cancer data? And when will Wales start providing data to the audit quarterly data dashboard, so that patients can know the state of breast cancer services in their region? How are you supporting health boards to implement also the clinical recommendations made in the reports, to ensure patients are getting the breast cancer treatment and support that they need?

Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cofio'r diweddar Tassia Haines, un o'm hetholwyr a fu farw yn llawer rhy ifanc o ganser eilaidd y fron ychydig dros flwyddyn yn ôl. Sbardunodd profiadau Tassia iddi ymgyrchu dros ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo menywod sy'n byw gyda chanser metastatig y fron yn well, a chawsom drafodaeth ar ei deiseb yma yn y Senedd. Derbyniodd dros 14,000 o lofnodion, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi gwrdd â hi pan oeddech chi'n Ysgrifennydd iechyd. Un o'r pethau y gwnaeth Tassia alw amdanyn nhw oedd gwell data, i roi darlun mwy eglur o'r clefyd yng Nghymru. 

Cyhoeddwyd adroddiadau cyntaf yr archwiliadau cenedlaethol ar gyfer canser y fron cychwynnol a metastatig fis Medi diwethaf, ond nid oedd yr adroddiadau hynny yn gallu cynnig darlun cynhwysfawr o ganser y fron cychwynnol a metastatig yng Nghymru oherwydd data anghyflawn. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn casglu'r data hanfodol hyn ar ganser y fron? A phryd wnaiff Cymru ddechrau darparu data i'r dangosfwrdd data tri misol archwilio, fel y gall cleifion fod yn ymwybodol o gyflwr gwasanaethau canser y fron yn eu rhanbarth? Sut ydych chi'n cynorthwyo byrddau iechyd i weithredu hefyd yr argymhellion clinigol a wnaed yn yr adroddiadau, i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth a'r cymorth ar gyfer canser y fron sydd eu hangen arnyn nhw?

Diolch yn fawr. You’re quite right that Tassia Haines was one of the most inspirational women I’ve ever met. She was dying and she would not let go of this issue. She was absolutely all over the detail of what needed to be done and she did change the Welsh Government and the NHS in Wales, and I want to pay tribute to her. Her legacy lives on today, certainly in terms of the support for metastatic breast cancer nurse specialists. That, of course, is a workforce matter, and it's up to health boards to determine that. But you are quite right: we still need to do a lot more work on data, and I will ask the health Secretary what the NHS Wales Executive is doing in relation to that.

We should recognise that one in seven women are likely to develop breast cancer at some point in their lives. That's an incredibly high number. But the good news is that there has been a significant improvement in survival chances over the past few years. On top of that, in December, the NHS achieved the cancer waiting time target for breast cancer. So, more than 75 per cent of women started their first definitive treatment within 62 days. In Cwm Taf Morgannwg, that figure was 88 per cent. So, I think that it is really important that people clock that things are improving. That is a significant change, and it's something I think we should celebrate. But let's also note that the World Health Organization has suggested that breast cancer cases are projected to rise by 21 per cent by 2050. So, we are constantly playing catch-up on this issue. 

Diolch yn fawr. Rydych chi yn llygad eich lle mai Tassia Haines oedd un o'r menywod mwyaf ysbrydoledig i mi eu cyfarfod erioed. Roedd hi'n marw ac nid oedd hi'n fodlon cefnu ar y mater hwn. Roedd hi'n gyfarwydd dros ben â manylion yr hyn yr oedd angen ei wneud ac fe wnaeth hi newid Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru, a hoffwn dalu teyrnged iddi. Mae ei hetifeddiaeth yn parhau heddiw, yn sicr o ran y gefnogaeth i arbenigwyr nyrsio canser y fron metastatig. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn fater gweithlu, a mater i fyrddau iechyd yw gwneud penderfyniadau am hynny. Ond rydych chi'n gwbl gywir: mae angen i ni wneud llawer mwy o waith o hyd ar ddata, ac fe wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd beth mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn ei wneud o ran hynny.

Dylem gydnabod bod un o bob saith menyw yn debygol o ddatblygu canser y fron ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae hynny'n nifer anhygoel o uchel. Ond y newyddion da yw y bu gwelliant sylweddol i'r siawns o oroesi dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ben hynny, ym mis Rhagfyr, fe wnaeth y GIG fodloni'r targed amser aros ar gyfer canser y fron. Felly, dechreuodd mwy na 75 y cant o fenywod eu triniaeth bendant gyntaf o fewn 62 diwrnod. Yng Nghwm Taf Morgannwg, 88 y cant oedd y ffigur hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn gweld bod pethau'n gwella. Mae hynny'n newid sylweddol, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni ei ddathlu. Ond gadewch i ni nodi hefyd bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu y rhagwelir y bydd achosion canser y fron yn codi 21 y cant erbyn 2050. Felly, rydym ni'n dal i fyny yn parhaus o ran y mater hwn.

As those breast cancer cases rise—which you mentioned, First Minister—we have talked at length in this Chamber and elsewhere about the importance of quick diagnosis and then quick treatment in order to improve people's chances of surviving not just breast cancer, but all forms of cancer. We know that in Wales, unfortunately, across the health service, we have got one of the longest sets—or the longest set—of waiting lists in our NHS anywhere in the United Kingdom.

We know that health services in other parts of the world are harnessing not only the potential, but the current ability of artificial intelligence to help cut waiting lists. Unfortunately, in Wales, we are on the other end of this, where we are seeing two different computer systems not being able to communicate with each other, and fax machines in some instances still being used in our NHS. It seems to me that we are miles off being able to harness the potential that AI provides in being able to cut waiting lists and improve outcomes for people with all forms of cancer in Wales. So, what steps are the Welsh Government taking to ensure that that is a very quick journey, to ensure that that improves at pace, because lives are at stake?

Wrth i'r achosion hynny o ganser y fron gynyddu—y gwnaethch chi sôn amdano, Prif Weinidog—rydym ni wedi siarad yn helaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill am bwysigrwydd diagnosis cyflym ac yna triniaeth gyflym er mwyn gwella siawns pobl o oroesi nid yn unig canser y fron, ond pob math o ganser. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni yng Nghymru, yn anffodus, ar draws y gwasanaeth iechyd, un o'r cyfresi hiraf—neu'r gyfres hiraf—o restrau aros yn ein GIG o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

Rydym ni'n gwybod bod gwasanaethau iechyd mewn rhannau eraill o'r byd yn harneisio nid yn unig y potensial, ond gallu presennol deallusrwydd artiffisial i helpu i leihau rhestrau aros. Yn anffodus, yng Nghymru, rydym ni ar y pen arall i hyn, lle'r ydym ni'n gweld dwy wahanol system gyfrifiadurol yn methu â chyfathrebu â'i gilydd, a pheiriannau ffacs mewn rhai achosion yn dal i gael eu defnyddio yn ein GIG. Mae'n ymddangos i mi ein bod ni filltiroedd i ffwrdd o allu harneisio'r potensial y mae deallusrwydd artiffisial yn ei gynnig o ran gallu lleihau rhestrau aros a gwella canlyniadau i bobl â phob math o ganser yng Nghymru. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod honno'n daith gyflym iawn, i sicrhau bod hynny yn gwella'n gyflym, gan fod bywydau yn y fantol?

Thanks very much. Well, I'm sure that you will be pleased to hear, Tom, that we are already using AI in relation to breast cancer. I have been to see it myself in north Wales, where it was incredibly impressive. There was a group of people, who were absolute experts in their fields, and the point here is not only could they identify it quicker—the AI programme could read lots and lots of slides and examples of tissue—but they could also be more accurate in terms of what needed to be done and how advanced it was. So, that is already being used, Tom, and I'm sure you'll be pleased to hear that.

Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed, Tom, ein bod ni eisoes yn defnyddio deallusrwydd artiffisial o ran canser y fron. Rwyf i wedi bod i'w weld fy hun yn y gogledd, lle gwnaeth argraff anhygoel. Roedd grŵp o bobl, a oedd yn arbenigwyr llwyr yn eu meysydd, a'r pwynt yma yw nid yn unig y gallen nhw ddod o hyd iddo'n gyflymach—gallai'r rhaglen deallusrwydd artiffisial ddarllen llawer iawn o sleidiau ac enghreifftiau o feinwe—ond gallen nhw hefyd fod yn fwy cywir o ran yr hyn yr oedd angen ei wneud a pha mor ddatblygedig ydoedd. Felly, mae hynny'n cael ei ddefnyddio eisoes, Tom, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed hynny.

14:15
Gwasanaethau a Gweithgareddau ar gyfer Plant Anabl
Services and Activities for Disabled Children

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant anabl? OQ62417

6. How does the Welsh Government support access to services and activities for disabled children? OQ62417

The Welsh Government works in partnership with local authorities as statutory duty bearers, and other stakeholders, to meet the needs of all children, including those who are disabled. This is done through both policy and targeted grant funding across areas such as childcare, education, social care and play.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol fel dalwyr dyletswydd statudol, a rhanddeiliaid eraill, i ddiwallu anghenion pob plentyn, gan gynnwys y rhai sy'n anabl. Fe wneir hyn drwy gyfrwng polisi a chyllid grant a dargedir fel ei gilydd ar draws meysydd fel gofal plant, addysg, gofal cymdeithasol a chwarae.

Diolch. As chair of the cross-party groups on disability, on autism and on death issues, barriers to accessing services and activities encountered by disabled children are regularly raised with me. At the 20 February meeting of the cross-party group on disability, we received a presentation on the evaluation report on swimming lessons for disabled children by charity Sparkle and Disability Sport Wales. Eighty-one per cent of family carers said there were barriers to accessing community-based swimming lessons, the majority involving neurodiverse children. We heard that, despite swimming being a compulsory part of the national curriculum in primary schools in Wales, many disabled children are, effectively, excluded due to a lack of accessible facilities, disability trained instructors and inclusive provisions. These findings are especially concerning given that drowning is one the leading causes of child trauma-related death, with a 46 per cent increase in child drownings in 2022 compared to the five-year average. What action will you, therefore, take to ensure that this cross-cutting issue is addressed and that disabled children are not failed and left behind?

Diolch. Fel cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd, ar awtistiaeth ac ar faterion marwolaeth, mae'r anawsterau o ran mynediad at wasanaethau a gweithgareddau y mae plant anabl yn dod ar eu traws yn cael eu codi gyda mi'n rheolaidd. Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar anabledd ar 20 o fis Chwefror, fe gawsom ni gyflwyniad ar yr adroddiad i werthuso gwersi nofio i blant anabl gan elusen Sparkle a Chwaraeon Anabledd Cymru. Roedd 81 y cant o ofalwyr teuluol yn dweud bod rhwystrau o ran mynediad at wersi nofio yn y gymuned, y mwyafrif yn ymwneud â phlant niwroamrywiol. Fe glywsom ni, er bod nofio yn rhan orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, fod llawer o blant anabl, i bob pwrpas, yn cael eu cau allan oherwydd diffyg cyfleusterau hygyrch, hyfforddwyr hyddysg o ran anableddau a darpariaethau cynhwysol. Mae'r canfyddiadau hyn yn arbennig o bryderus o ystyried mai boddi yw un o brif achosion marwolaeth plant sy'n gysylltiedig â thrawma, gyda chynnydd o 46 y cant yn niferoedd y plant a foddodd yn 2022 o'i gymharu â'r cyfartaledd dros bum mlynedd. Pa gamau, felly, a wnewch chi eu cymryd i sicrhau yr ymdrinnir â'r mater trawsbynciol hwn ac nad yw plant anabl yn cael eu siomi na'u gadael ar ôl?

Thanks very much, Mark. Thank you for all the work you do on the cross-party group on disability. It is genuinely appreciated. You are an absolute champion for the cause, and I think that's something that's recognised throughout this Chamber. The disability rights taskforce and the children and young people and well-being working groups have been working on issues in relation to children and disability, and they underlined the importance of accessible and inclusive services for all disabled children and young people. I'm sure you'll be pleased to hear, Mark, that the disabled people's rights plan has been shaped. It's being completed as we speak. It has involved 350 external stakeholders, which includes children, and that will be consulted upon very shortly. There will be opportunities then for people to feed back in that process. But obviously, we need to give people opportunities. I used to be a lifeguard, I'm sure you'll be interested to hear, Mark, and making sure that disabled people had those opportunities was important.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark. Diolch i chi am yr holl waith yr ydych chi'n ei wneud yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi yn ddiffuant iawn. Rydych chi'n hyrwyddwr mawr i'r achos, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei gydnabod drwy'r Siambr hon. Mae tasglu hawliau anabledd a'r gweithgorau plant a phobl ifanc a llesiant wedi bod yn gweithio ar faterion sy'n ymwneud â phlant ac anabledd, ac maen nhw'n tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau hygyrch a chynhwysol i bob plentyn ac unigolyn ifanc anabl. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed, Mark, bod y cynllun hawliau pobl anabl wedi cael ei lunio. Mae'n cael ei orffen ar hyn o bryd. Roedd yn cynnwys 350 o randdeiliaid allanol, yn cynnwys plant, ac fe fydd ymgynghoriad ar hwnnw'n digwydd yn fuan iawn. Fe fydd yna gyfleoedd wedyn i bobl fwydo'n ôl i mewn i'r broses honno. Ond yn amlwg, mae'n rhaid i ni roi cyfleoedd i bobl. Roeddwn i'n arfer bod yn achubwr bywyd, rwy'n siŵr y byddai gennych chi ddiddordeb i glywed hynny, Mark, ac roedd hi'n bwysig sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael cyfleoedd fel hyn.

Ymrwymiad Twf Gwyrdd
Green Growth Commitment

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad twf gwyrdd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd tra'n gwneud teuluoedd yn well eu byd? OQ62436

7. Will the First Minister provide a progress update on the Welsh Government's green growth commitment to tackle the climate crisis whilst making families better off? OQ62436

Excellent progress has been made on our commitment to tackle the climate crisis and grow the green economy. We are very proud of the green growth pledge, which provides a practical way for businesses to demonstrate how they're sustainably growing the Welsh economy and providing benefits to host communities.

Mae cynnydd rhagorol wedi bod o ran ein hymrwymiad ni i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thyfu'r economi werdd. Rydym ni'n falch iawn o'r addewid twf gwyrdd, sy'n trefnu ffordd ymarferol i fusnesau arddangos sut maen nhw'n tyfu economi Cymru mewn ffordd gynaliadwy ac yn cynnig buddiannau i'r cymunedau sy'n gartref iddyn nhw.

Thank you for your answer. In north Wales, we have higher-than-average standing charges. I am told it's because of transporting the energy. Many EU countries have now set targets for solar photovoltaics on all new houses so energy is used where it's actually created and needed. Would the Welsh Government consider using the same policy going forward? The extra cost could go on a mortgage, it would be quite minimal over the long term and it would be soon recouped in energy savings. Plus, would the Welsh Government discuss with developers having community benefits with low tariffs for communities impacted by large-scale renewables, particularly in light of the UK Government's announcement yesterday? 

Diolch i chi am eich ateb. Yn y gogledd, mae taliadau sefydlog gennym ni sy'n uwch na'r cyfartaledd. Fe ddywedir wrthyf i mai oherwydd cludo'r ynni y mae hynny. Mae llawer o wledydd yr UE wedi pennu nodau erbyn hyn ar gyfer gosod systemau solar ffotofoltäig ar bob tŷ newydd ac felly bydd ynni yn cael ei ddefnyddio ar y safle lle crëwyd ef a lle mae'r angen amdano mewn gwirionedd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio'r un polisi wrth symud ymlaen? Fe allai'r gost ychwanegol fynd ar forgais, ac fe fyddai'n swm eithaf bychan dros yr hirdymor ac fe fyddai'n cael ei adennill yn fuan gydag arbedion ynni. Yn ogystal â hynny, a fyddai Llywodraeth Cymru yn trafod manteision cymunedol tariffau isel gyda datblygwyr ar gyfer cymunedau y mae gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn effeithio arnyn nhw, yn enwedig yng ngoleuni'r cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth y DU? 

Thanks very much. We introduced new building regulations in 2022, and, through those, we required a 37 per cent reduction in carbon emissions for new homes when compared to the previous standards. Those amendments included solar PV within the energy target, but what we didn't do is to mandate it, because we wanted people to use what was appropriate for them. They had to hit the target of 37 per cent reduction, but rather than prescribe or prohibit any particular form of heating or energy generation, we gave people the flexibility, and PV was obviously one of the options they could use. We have the Ripple project—we in the Welsh Government worked with the company on the first site, near Merthyr, to prove that the co-operative model works. But there are also other alternatives where you can get loans, for example, from the Development Bank of Wales, to help with opportunities to invest.

Diolch yn fawr i chi. Fe wnaethom ni gyflwyno rheoliadau adeiladu newydd yn 2022, a thrwy'r rhain, roedd angen gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer cartrefi newydd o gymharu â'r safonau blaenorol. Roedd y gwelliannau hynny'n cynnwys systemau solar ffotofoltäig o fewn y targed ynni, ond yr hyn na wnaethom ni yw gwneud hynny'n orfodol, oherwydd roeddem ni'n awyddus i bobl ddefnyddio'r hyn a oedd yn briodol ar eu cyfer nhw. Roedd rhaid iddyn nhw gyrraedd y targed o ostyngiad o 37 y cant, ond yn hytrach na rhagnodi neu wahardd unrhyw fath penodol o wresogi neu gynhyrchu ynni, fe wnaethom ni roi'r hyblygrwydd i bobl, ac roedd ffotofoltäig yn amlwg yn un o'r dewisiadau y gallen nhw ei ddefnyddio. Mae prosiect Ripple gennym ni—rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r cwmni ar y safle cyntaf, ger Merthyr, ar gyfer profi bod y model cydweithredol yn gweithio. Ond mae yna ddewisiadau eraill hefyd lle gallwch chi gael benthyciadau, er enghraifft, gan Banc Datblygu Cymru, i helpu gyda chyfleoedd ar gyfer buddsoddi.

14:20

Ac yn olaf, cwestiwn 8, Hannah Blythyn.

And finally, question 8, Hannah Blythyn.

Twf Economaidd yn Nelyn
Economic Growth in Delyn

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith i ysgogi twf economaidd yn Nelyn? OQ62451

8. How is the Welsh Government investing in infrastructure to drive economic growth in Delyn? OQ62451

We are working across departments and with partners, including local authorities, to invest in vital infrastructure such as our roads and energy. This was demonstrated through our recent budget, which aims to drive economic growth in all parts of Wales, including Delyn.

Rydym ni'n gweithio ar draws adrannau a chyda phartneriaid, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol fel ein ffyrdd ac ynni. Cafodd hyn ei arddangos yn ein cyllideb ddiweddar, sydd â'r bwriad o ysgogi twf economaidd ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys Delyn.

Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. 

Thank you for that answer.

Last week at First Minister's questions I set out the huge potential that a new development at the port of Mostyn could bring in terms of individual opportunities, but also for us once again to be at the forefront of our future industry and the green industrial revolution in north Wales. The old Mostyn railway station sits adjacent to the port of Mostyn and there is direct access into the port. To open the station in the form of a halt would support the increase in footfall that a greater number of jobs would bring, and also allow freight access into the port. First Minister, this is not only in line with your priority to better connect communities and enable more people to access new green employment, it would also unlock economic potential for my constituency and the country as a whole. And of course, to enable more freight to get off the road and onto rail puts us on the right track when it comes to contributing to tackling climate change. So, First Minister, is the Welsh Government committed to exploring how investing in and developing existing infrastructure, such as a railway station at the port of Mostyn, can decisively drive and deliver economic growth in Delyn and beyond?

Yr wythnos diwethaf yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, roeddwn i'n tynnu sylw ar y potensial enfawr y gallai datblygiad newydd ym mhorthladd Mostyn ei gynnig o ran cyfleoedd unigol, ond hefyd i ninnau fod ar flaen y gad unwaith eto o ran diwydiant yn y dyfodol a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd yn y gogledd. Mae hen orsaf reilffordd Mostyn wrth ymyl porthladd Mostyn ac mae yna fynediad uniongyrchol i'r porthladd. Fe fyddai agor yr orsaf ar sail arhosfan yn cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr troed a fyddai'n dod oherwydd nifer fwy o swyddi, a hefyd fe fyddai'n caniatáu i gerbydau gael mynediad i'r porthladd. Prif Weinidog, mae hyn nid yn unig yn unol â'ch blaenoriaeth chi i gysylltu cymunedau yn well a galluogi mwy o bobl i gael mynediad at gyflogaeth werdd newydd, ond fe fyddai'n datgloi potensial economaidd hefyd ar gyfer fy etholaeth i a'r genedl gyfan. Ac wrth gwrs, mae galluogi mwy o nwyddau i ddod oddi ar y ffordd a'u rhoi ar y rheilffordd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn o ran cyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, Prif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio sut y gall buddsoddi mewn seilwaith presennol a'i ddatblygu, fel yr orsaf reilffordd ym mhorthladd Mostyn, ysgogi a sicrhau twf economaidd yn Nelyn a thu hwnt?

Thanks very much, Hannah. Yes, you talked last week about the port of Mostyn, and I was very pleased to meet Jim in Brussels last week. He's very much the person you painted him to be. I agree that transport is a key enabler of economic growth and we need to make the best use of existing infrastructure. That's been recommended by the North Wales Transport Commission. We welcome the recognition by the UK Government that we've seen underinvestment in our railway for the first time. We don't own the rail infrastructure. It's up to the UK to deliver on that and invest in jobs and growth in relation to that. But I know that the north Wales corporate joint committee is consulting on its regional transport plan, and I know that the Cabinet Secretary for transport is developing exciting plans to accelerate work on the north Wales metro, and I'm sure that they'll consider options to improve transport connectivity in Mostyn as part of that work.

Diolch yn fawr iawn, Hannah. Do, fe wnaethoch chi siarad am borthladd Mostyn yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â Jim ym Mrwsel yr wythnos diwethaf. Mae ef yn unigolyn sy'n debyg iawn i'ch portread chi ohono. Rwy'n cytuno bod trafnidiaeth yn alluogwr allweddol o dwf economaidd ac mae angen i ni wneud y defnydd gorau o seilwaith presennol. Fe gafodd hynny ei argymell gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru. Rydym ni'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU ein bod wedi gweld tanfuddsoddi yn ein rheilffordd am y tro cyntaf. Nid y ni sydd piau'r seilwaith rheilffyrdd. Mater i'r DU yw cyflawni ar hynny a buddsoddi mewn swyddi a thwf yn hynny o beth. Ond fe wn i fod cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd yn ymgynghori ar ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn datblygu cynlluniau cyffrous i gyflymu'r gwaith ar fetro'r gogledd, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n ystyried dewisiadau i wella'r cysylltedd o ran trafnidiaeth ym Mostyn yn rhan o'r gwaith hwnnw.

Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog.

I thank the First Minister.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

The next item will be the business statement and announcement, and I call on the Trefnydd to make that statement—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 14:23:39
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w hateb gan Gomisiwn y Senedd yr wythnos hon, mae'r amseriadau ar gyfer yfory wedi'u haddasu yn unol â hynny. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Thank you, Llywydd. There is one change to this week's business. As no questions have been tabled for answer by the Senedd Commission this week, timings for tomorrow's meeting have been adjusted accordingly. Draft business for the next three weeks is shown on the business statement and announcement, which is available to Members electronically. 

Trefnydd, can I request a statement from the Cabinet Secretary for Education on support for service children in Welsh schools? It's been brought to my attention that service children in Wales are unfairly disadvantaged compared to their peers in England due to differences in how they are defined and funded by the Welsh Government. I've been informed that Welsh schools receive significantly less funding for service pupils than schools in England, which directly limits the interventions and support available to these children. I'm sure the Welsh Government will join me in wanting to eliminate the inequalities currently affecting service children here in Wales. Therefore, it's vital that there is a review into the Welsh Government's definition of a service child so that it aligns with the UK-wide standard used by the Service Children's Progression Alliance. At the very least, there needs to be a significant increase in funding for Supporting Service Children in Education Cymru to match the per-pupil rate provided in England. Trefnydd, this matter is having a real impact on service children and it needs to be addressed immediately, so I'd be grateful if a statement from the Welsh Government could be brought forward as soon as possible. Diolch, Llywydd.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gymorth i blant y lluoedd arfog yn ysgolion Cymru? Fe ddaeth i'm sylw i fod plant y lluoedd arfog dan anfantais yng Nghymru sy'n annheg o gymharu â sefyllfa eu cyfoedion yn Lloegr oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y maen nhw'n cael eu diffinio a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe gefais i wybod bod ysgolion Cymru yn cael llawer llai o gyllid i ddisgyblion fel hyn nag ysgolion yn Lloegr, sy'n cyfyngu yn uniongyrchol ar yr ymyriadau a'r cymorth sydd ar gael i'r plant hynny. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â mi i ymrwymo i ddileu'r anghydraddoldebau sy'n effeithio ar blant y lluoedd arfog yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, mae hi'n hanfodol bod adolygiad i ddiffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y lluoedd arfog fel ei fod yn cydweddu â'r safon ledled y DU sy'n cael ei ddefnyddio gan Gynghrair Cynnydd Plant y Lluoedd Arfog. Yn y man lleiaf, mae angen cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru i gyd-fynd â'r gyfradd fesul disgybl sy'n cael ei darparu yn Lloegr. Trefnydd, mae'r mater hwn ag effaith wirioneddol ar blant y lluoedd arfog ac mae angen mynd i'r afael ag ef ar unwaith, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gellid cyflwyno datganiad gan Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.

14:25

Thank you, Paul Davies. I think the Cabinet Secretary for Education would value any evidence that you have of this. I certainly serve a constituency with a strong catchment from the services and it's never been brought to my attention, but, obviously, we would want to hear any evidence. In terms of the provision of education in Wales in terms of the per-pupil funding, it is excellent, particularly with the recent budget increase. But clearly, if there is something to share, the Cabinet Secretary of course would want to look at that.

Diolch i chi, Paul Davies. Rwy'n credu y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwerthfawrogi unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi ynglŷn â hyn. Yn sicr, rwy'n gwasanaethu etholaeth gyda dalgylch mawr o'r lluoedd arfog ac ni thynnodd neb erioed fy sylw i at hyn, ond, yn amlwg, fe fyddem ni'n awyddus i glywed unrhyw dystiolaeth. O ran y ddarpariaeth o addysg yng Nghymru o ran y cyllid fesul disgybl, mae honno'n rhagorol, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar yn y gyllideb. Ond yn amlwg, os oes rhywbeth i'w rannu, fe fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i edrych ar hynny, wrth gwrs.

Trefnydd, I'd like to ask for an oral statement from the Cabinet Secretary for Housing and Local Government on reinforced autoclaved aerated concrete in homes. It's a year now since RAAC was identified in homes in Hirwaun, many of which are owned by Trivallis, but 17 were bought under the right-to-buy legislation. I met with those home owners last night, many of whom are still traumatised. They're angry, concerned, uncertain about the future. Many are elderly as well and don't have the funds to be able to fund the work required. We were told that there would be a four-nation approach. The Scottish Government have decided to go it alone and are providing more support. What is the situation with the Welsh Government now? Has that four-nation approach been agreed? If not, does the Welsh Government have any plans to provide greater support for these residents?

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth mewn cartrefi. Mae blwyddyn wedi bod erbyn hyn ers i goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth gael ei ddarganfod mewn cartrefi yn Hirwaun, gyda llawer ohonyn nhw'n eiddo i Trivallis, ond cafodd 17 eu prynu yn unol â deddfwriaeth Hawl i Brynu. Fe gwrddais i â pherchnogion y tai hynny neithiwr, gyda llawer ohonyn nhw wedi cael ysgytwad mawr o hyd. Maen nhw'n ddig, yn llawn pryder, ac yn ansicr ynglŷn â'r dyfodol. Mae llawer ohonyn nhw'n henoed hefyd ac nid yw'r arian ganddyn nhw i ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol. Fe glywsom ni y byddai dull gweithredu pedair gwlad. Mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu mynd ar ei phen ei hun ac mae hi'n cynnig rhagor o gefnogaeth. Beth yw'r sefyllfa nawr o ran Llywodraeth Cymru? A gytunwyd ar y dull pedair gwlad hwnnw? Os nad felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynnig rhagor o gefnogaeth i'r trigolion hyn?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Heledd Fychan. 

Thank you very much for your question, Heledd Fychan. 

I will draw this to the attention of the Cabinet Secretary for Housing and Local Government. I think it would be appropriate to give you that feedback in terms of what progress has been made on a four-nations approach, and, indeed, on the Welsh approach to this in terms of meeting the needs of those home owners.

Fe fyddaf i'n tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol at hyn. Rwy'n credu y byddai hi'n briodol rhoi'r adborth hwnnw i chi o ran pa gynnydd a gafodd ei wneud ar ddull gweithredu pedair gwlad, ac, yn wir, ar ddull Cymru wrth ymdrin â hyn o ran diwallu anghenion perchnogion y cartrefi hynny.

This month marks the third anniversary of the landmark legislation on removing the defence of physical punishment of children coming into force in Wales. The debate about bringing in this legislation has now moved to England, and last week leading child doctors joined calls for a complete ban of physical punishment of children in England as well. The Royal College of Paediatrics and Child Health are calling on the UK Government to bring in this legislation, saying now is the time for this Victorian era punishment to go. This in Wales has been such a positive move, and, of course, in Scotland as well. I welcome the Minister for Children and Social Care's statement in January providing an update on when the post-implementation review will report. I believe that will be at the end of the year.

As I understand it, the UK Government are waiting to see how things progress in Wales before they will decide on what to do in England. So, what can we do here in Wales to assist the UK Government in providing information about how this has been introduced in Wales? How can we work collaboratively with them and share information so that children in England, Welsh children who live in England and Welsh children who visit England can equally be protected from physical punishment?

Mae'r mis hwn yn nodi tair blynedd ers i'r ddeddfwriaeth nodedig i gael ymwared â'r amddiffyniad o gosb gorfforol ar plant ddod i rym yng Nghymru. Mae'r ddadl ynglŷn â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon wedi symud i Loegr erbyn hyn, a'r wythnos diwethaf fe ymunodd meddygon plant arweiniol â'r galwadau am wahardd cosbi plant yn gorfforol yn llwyr yn Lloegr hefyd. Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, gan ddweud mai nawr yw'r amser i'r gosb hon o'r cyfnod Fictoraidd gael ei diddymu. Fe fu hwn yn gam mor gadarnhaol yng Nghymru, ac, wrth gwrs, yn yr Alban hefyd. Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ym mis Ionawr a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch amseriad adroddiad yr adolygiad ôl-weithredu. Rwy'n credu y daw hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn.

Fel rwy'n ei deall hi, mae Llywodraeth y DU yn aros i weld sut mae pethau wedi symud ymlaen yng Nghymru cyn y byddan nhw'n penderfynu beth i'w wneud yn Lloegr. Felly, beth allwn ni ei wneud yma yng Nghymru i gynorthwyo Llywodraeth y DU wrth ddarparu gwybodaeth am gyflwyno hyn yng Nghymru? Sut allwn ni gydweithio â nhw a rhannu gwybodaeth er mwyn i blant yn Lloegr, plant o Gymru sy'n byw yn Lloegr a phlant Cymru sy'n ymweld â Lloegr gael eu diogelu rhag cosb gorfforol?

Thank you very much, Julie Morgan, for raising this question, and thank you again for your long-standing and ultimately successful campaign to prohibit the use of physical punishment of children. It was a major landmark piece of legislation—and I can see the heads nodding around this Chamber—when in March 2022 Wales joined more than 60 nations. I hope that the UK Government will look to those 60 nations around the world in prohibiting the use of physical punishment of children. Of course, it did fulfil our programme for government commitment, but it was a historic moment for children and their rights in Wales. It's the third anniversary of this landmark legislation and it's part of life; it is accepted, it's embedded, it's Wales and how we treat our children, and I know how much that is welcomed by all of those involved.

And, particularly, I think it is important that we note the written statement from Dawn Bowden, the Minister for Children and Social Care, on 21 January, because she reminded us, as you did, and were so involved in, in your former role as Minister, that, before the legislation came into force, we delivered that extensive multimedia communications engagement campaign. And we continue to raise awareness of the law, and provide information, advice and support for parents about positive alternatives to physical punishment through the 'Parenting. Give it Time' campaign, to help them build loving and mutually respectful relationships with their children.

We can thank, again, Children in Wales for developing and publishing resources for professionals, supporting them to communicate with children about the law in an appropriate and sensitive manner.

Yes, there is a review. It was agreed that there would be reviews three and five years after the Act. So, we’re now into the third year, and now we have that—. The arrangements have been put in place to measure the impact of the legislation through data collection and monitoring.

But I think, again, you’ve given us the opportunity in this Chamber, I think, to put on record how proud we are as a Welsh Government, and, I hope, as a Senedd, for passing this historic legislation, which, of course, is now reflected in Scotland, as well as in Wales. And we need to, hopefully, help and encourage the UK Government to look at this, and our experience, in terms of moving forward to abolish the use of physical punishment of children, joining all those nations across the world who’ve embraced this policy.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am godi'r cwestiwn hwn, a diolch eto am eich ymgyrch hirsefydlog a llwyddiannus yn y pen draw i wahardd defnyddio cosb gorfforol ar blant. Roedd hwnnw'n ddarn pwysig o ddeddfwriaeth—ac rwy'n gallu gweld arwyddion o gytundeb o amgylch y Siambr hon—pan ymunodd Cymru â mwy na 60 o wledydd ym mis Mawrth 2022. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar y 60 gwlad hynny ledled y byd sydd wedi gwahardd defnyddio cosb gorfforol ar blant. Wrth gwrs, roedd hynny'n cyflawni ein hymrwymiad ni yn ein rhaglen lywodraethu, ond roedd honno'n foment hanesyddol i blant a'u hawliau nhw yng Nghymru. Mae tair blynedd wedi bod ers sefydlu'r ddeddfwriaeth nodedig hon ac mae hi'n rhan o fywyd; fe gafodd ei derbyn, mae hi wedi ymwreiddio, fel hyn y mae hi yng Nghymru ac fel hyn yr ydym ni'n trin ein plant, ac fe wn i gymaint o groeso sydd i hynny gan bawb a gymerodd ran yn y peth.

Ac, yn arbennig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn nodi'r datganiad ysgrifenedig gan Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ar 21 o fis Ionawr, oherwydd roedd hi'n ein hatgoffa ni, fel y gwnaethoch chwithau, ac roedd gennych chi ran mor fawr, yn eich swydd flaenorol yn Weinidog, ein bod ni, cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, wedi cyflawni'r ymgyrch ymgysylltu amlgyfrwng helaeth honno. Ac rydym ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth o'r gyfraith, ac yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni am ddewisiadau amgen cadarnhaol i gosb gorfforol drwy ymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo', i'w helpu nhw i feithrin perthynas gariadus a pharchus gyda'u plant.

Fe allwn ni roi diolch, unwaith eto, i Blant yng Nghymru am ddatblygu a chyhoeddi adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gan eu cefnogi nhw i gyfathrebu â phlant am y gyfraith mewn modd priodol a sensitif.

Oes, mae yna adolygiad. Fe gytunwyd y byddai adolygiadau yn cael eu cynnal dair blynedd a phum mlynedd wedi'r Ddeddf. Felly, rydym ni yn y drydedd flwyddyn erbyn hyn, ac mae hynny gennym ni—. Cafodd y trefniadau eu rhoi ar waith i fesur effaith y ddeddfwriaeth drwy gasglu a monitro data.

Ond rwy'n credu, unwaith eto, eich bod wedi rhoi cyfle i ni yn y Siambr hon, yn fy marn i, i fynegi ar goedd pa mor falch yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru, ac, rwy'n gobeithio, yn y Senedd, ein bod ni wedi pasio'r ddeddfwriaeth hanesyddol hon, sydd, wrth gwrs, yn cael ei hadlewyrchu yn yr Alban erbyn hyn, yn ogystal ag yng Nghymru. Ac mae angen i ni, gobeithio, helpu ac annog Llywodraeth y DU i edrych ar hyn, a'n profiad ni, ar gyfer symud ymlaen i ddileu'r defnydd o gosb gorfforol ar blant, gan uno â'r gwledydd hynny i gyd drwy'r byd sydd wedi anwesu'r polisi hwn.

14:30

Can I call for two statements today, please? The first one from the Minister for Children and Social Care on the support available to young carers in schools. I attended the young carers event, as did other MSs, earlier on this afternoon, and was hugely impressed by the way that they were advocating for themselves and their needs. But one of the challenges that some of them shared with us was the inconsistent way that some schools provide significant support for young carers, whereas others don’t. And I do think that this is something that we need to focus some attention on here, as Members of the Senedd, so that we can eradicate those differences and ensure that there’s a level playing field of support in all parts of Wales.

Secondly, can I call for an update from the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning on the Access Broadband Cymru scheme? Members will be aware that this scheme was paused in August of last year, but it was very important in helping lots of our constituents to get online and to make sure that they had decent broadband services in those parts of Wales where Openreach’s plans were not able to reach. And I do think that, given that there’s been a pause now of seven months, with no new applicants being received, it’s time that we have an update to make sure that this important scheme is now re-available to help our constituents get online and get access to high-speed broadband services.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda? Yr un cyntaf oddi wrth y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r cymorth sydd ar gael mewn ysgolion i ofalwyr ifanc. Roeddwn i'n bresennol yn y digwyddiad ar gyfer gofalwyr ifanc, fel roedd Aelodau eraill yn gynharach y prynhawn yma, ac roedd y ffordd yr oedden nhw'n eiriol drostyn nhw eu hunain a'u hanghenion yn gwneud argraff fawr arnaf i. Ond un o'r heriau yr oedd rhai ohonyn nhw'n eu codi gyda ni oedd yr anghysondeb o ran y dulliau sydd gan rai ysgolion o ddarparu cefnogaeth sylweddol i ofalwyr ifanc, ac nad yw eraill yn gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno i ryw raddau yma, yn Aelodau'r Senedd, er mwyn dileu'r gwahaniaethau hynny a sicrhau chwarae teg ym mhob cwr o Gymru.

Yn ail, a gaf i alw am ddiweddariad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gynllun Allwedd Band Eang Cymru? Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn ymwybodol bod y cynllun hwn wedi cael ei ohirio ym mis Awst y llynedd, ond roedd hwnnw'n bwysig iawn o ran cynorthwyo llawer o'n hetholwyr ni i fynd ar-lein a sicrhau bod gwasanaethau band eang addas ar gael yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru lle nad oedd cynlluniau Openreach yn gallu ymestyn iddyn nhw. Ac yn fy marn i, o ystyried bod y gohirio wedi parhau am saith mis erbyn hyn, heb unrhyw ymgeiswyr newydd yn ymgyflwyno, mae hi'n hen bryd i ni fod â'r wybodaeth ddiweddaraf i sicrhau bod y cynllun pwysig hwn ar gael nawr i helpu ein hetholwyr i fynd ar-lein unwaith eto a bod â mynediad at wasanaethau band eang cyflym.

Diolch yn fawr, Darren Millar, am eich cwestiynau pwysig iawn. 

Thank you very much, Darren Millar, for your important questions. 

And, of course, the Minister for Children and Social Care is very engaged and aware of the needs of young carers, in the community, but in schools as well. And we must make sure that there’s good practice across all our schools, and local education authorities are taking those responsibilities. But, also, can we just take a moment to pause and praise those young carers in Wales, which I think we would all want to do in Wales? And, also, to recognise that this is something where we do engage with the Cabinet Secretary for Education as well. It’s very much a cross-Government responsibility. But thank you for giving us the chance to air that today.

Yes, on access to broadband, I am doing a statement shortly on digital inclusion. Well, of course, digital inclusion is very much dependent on access to broadband. Digital inclusion includes a whole range of ways in which we’re investing in training and skills, development and support, particularly for those who have not had the opportunity to engage in that way. But, again, this is devolved and non-devolved, as you know, in terms of access to broadband, but I will be able to respond to those points in due course when I make my statement.

Ac, wrth gwrs, mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn ymgysylltu yn ddiwyd iawn ac yn ymwybodol o anghenion gofalwyr ifanc, yn y gymuned, ond yn yr ysgolion hefyd. Ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod arfer da yn bresennol ym mhob un o'n hysgolion ni, a bod awdurdodau addysg lleol yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau hynny. Ond, hefyd, a allwn ni aros ennyd i roi canmoliaeth i'r gofalwyr ifanc hynny yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn awyddus i wneud hynny yng Nghymru? A hefyd, ar gyfer cydnabod bod hwn yn fater yr ydym yn ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei gylch hefyd. Mae hwn yn gyfrifoldeb ledled y Llywodraeth i raddau helaeth iawn. Ond diolch i chi am roi cyfle i ni ddatgan hynny heddiw.

Ie, o ran mynediad at fand eang, fe fyddaf i'n gwneud datganiad ar gynhwysiant digidol yn y dyfodol agos. Wel, wrth gwrs, mae cynhwysiant digidol yn ddibynnol iawn ar fynediad at fand eang. Mae cynhwysiant digidol yn cynnwys ystod eang o ddulliau sydd gennym ni i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau, datblygiad a chefnogaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai na chawson nhw gyfle i ymgysylltu yn y ffordd honno. Ond, unwaith eto, mae hwn yn fater a ddatganolwyd ac sydd heb ei ddatganoli hefyd, fel gwyddoch chi, o ran mynediad at fand eang, ond fe fyddaf i'n gallu ymateb i'r pwyntiau hynny maes o law pan fyddaf i'n gwneud fy natganiad.

I request a debate, please, about changing planning application processes. Now, I’ve raised concerns a number of times about the impact quarries have on people's health. There's a quarry near Gelligaer, where residents have long complained about noise pollution, damage to properties and air quality because of dust. Now, a planning application to extend the quarrying has been approved, and some details about how this happened I think raise questions about the efficacy of how planning consent is granted. Not enough notice is given when planning applications go to committee, and only one resident is allowed to speak, which, surely, leaves so many residents voiceless, and there is no right to appeal when consent is given, even though such a right is afforded to developers when the decision goes against them. So, I would repeat that we need mandatory buffer zones between quarries and people's homes, and we need independent air quality monitoring. But many of these problems don't just relate to this one case. So, can we have a debate, please, about how these regulations can be changed?

Rwy'n gofyn am ddadl, os gwelwch chi'n dda, am newid prosesau ceisiadau cynllunio. Nawr, fe godais i bryderon sawl tro am yr effaith sydd gan chwareli ar iechyd pobl. Mae yna chwarel ar bwys Gelligaer, lle mae trigolion wedi bod yn cwyno ers amser am lygredd sŵn, difrod i eiddo ac ansawdd yr aer oherwydd y llwch. Nawr, mae cais cynllunio i ymestyn y chwarel wedi cael ei gymeradwyo, ac fe geir manylion am sut y digwyddodd hyn sy'n codi cwestiynau, yn fy marn i, ynghylch effeithiolrwydd y dull o roi cydsyniad cynllunio. Ni oes digon o rybudd yn cael ei roi pan fydd ceisiadau cynllunio yn mynd gerbron pwyllgor, a dim ond un trigolyn sy'n cael cyfle i siarad, sydd, yn sicr, yn amddifadu llawer o drigolion o'u llais, ac nid oes hawl i apelio pan roddir cydsyniad, er bod hawl o'r fath yn cael ei roi i ddatblygwyr pan fydd y penderfyniad yn mynd yn eu herbyn nhw. Felly, rwy'n dymuno ailadrodd bod angen parthau clustogi gorfodol rhwng chwareli a chartrefi pobl, ac mae angen i ni fonitro ansawdd aer yn annibynnol. Ond nid yw llawer o'r problemau hyn yn ymwneud yn unig â'r achos unigol hwn. Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â sut y gellir newid y rheoliadau hyn?

14:35

Thank you very much, Delyth Jewell. Of course, these are issues that affect many Senedd Members, in terms of the rigour that there must be of the planning application process, guided by planning policy guidance from the Welsh Government, and regulations to underpin that. This is for local authorities, but, again, you've put this forward as an issue that we must continually look at in terms of the impact it has on local communities and the ability of citizens to actually make their point, make their objections, and then democratically, in terms of those responsible at local level, to observe and respond to those concerns.

Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion sy'n effeithio ar lawer o Aelodau'r Senedd, o ran y tryloywder y mae'n rhaid ei gael yn y broses ymgeisio cynllunio, a arweinir gan ganllawiau polisi cynllunio oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac fe geir rheoliadau i ategu hynny. Ar gyfer yr awdurdodau lleol y mae hynny, ond, unwaith eto, rydych chi wedi cyflwyno hwn fel mater y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn barhaus o ran yr effaith a gaiff ar gymunedau lleol a gallu dinasyddion i fynegi barn wirioneddol, mynegi eu gwrthwynebiad, ac wedyn yn ddemocrataidd, o ran y rhai sy'n gyfrifol ar lefel leol, i arsylwi ac ymateb i'r pryderon hynny.

Trefnydd, Michael Sheen's Secret Million Pound Giveaway is a current documentary that shines a light on the murky world of financial institutions levying crippling rates of interest on credit and debt, suffered by individuals and families. It's a very powerful piece of work, which I think very importantly and usefully highlights some of the practices involved and some of the institutions—banks and other financial institutions—conducting themselves in this way. We know, I think, that there are over 100,000 families in Wales affected—going on the statistics within the documentary, and, of course, many of these families and individuals are amongst the most hard-pressed and impoverished. I wonder, Trefnydd, if you might consider with your Government colleagues a debate or a statement here in Plenary session on how Welsh Government might act to address these issues and end these abuses.

Trefnydd, mae'r rhaglen ddogfen gyfredol Michael Sheen's Secret Million Pound Giveaway yn taflu goleuni ar fyd tywyll sefydliadau ariannol sy'n codi cyfraddau llog ar gredyd a dyled sy'n llethu pobl, ac mae unigolion a theuluoedd yn dioddef. Mae honno'n rhaglen rymus iawn, sydd, yn fy marn i, o bwysigrwydd mawr ac yn ddefnyddiol o ran tynnu sylw at rai o'r arferion dan sylw a rhai o'r sefydliadau—banciau a sefydliadau ariannol eraill—sy'n ymddwyn fel hyn. Fe wyddom ni, rwy'n credu, yr effeithiwyd ar dros 100,000 o deuluoedd yng Nghymru—o dystiolaeth yr ystadegau yn y rhaglen ddogfen, ac, wrth gwrs, mae llawer o'r teuluoedd a'r unigolion hyn ymhlith y rhai sydd fwyaf o dan bwysau ariannol ac yn dlawd. Tybed, Trefnydd, a wnewch chi ystyried dadl neu ddatganiad yma yn y Cyfarfod Llawn ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn a rhoi diwedd ar y camarferion hyn.

Thank you very much, John Griffiths. I'm sure a number of Senedd Members watched that programme, Michael Sheen's programme, which was broadcast last night. I very much valued, in my role as Cabinet Secretary for Social Justice, the opportunity to see the evidence, the horrific evidence, that many people are not aware of, in terms of creditors selling on their debts—a common practice in the financial sector, with debt acquisition companies purchasing bundles of debts, for a fee, often one that's significantly lower than the total value of the debts. Now, Michael Sheen set up—just for others who didn't see it—a debt acquisition company, and purchased a bundle of debts, worth around £1 million, for £100,000. Michael Sheen's company doesn't want to recoup the money it spent purchasing the bundle of debts, but, in taking this decision, they've written off all the debts that they purchased, from people across south Wales. It's estimated that 900 people in south Wales have benefited from the action of Michael Sheen's debt acquisition company.

So, just in terms of responding to this, we do recognise that times are very challenging. We're doing all we can to help people struggling with their finance. It was featured on the programme, the role of credit unions, in terms of ethical, affordable lenders. And it's a chance to say, again, that we're investing £1.6 million in credit unions, in expanding their lending to those who struggle to borrow, helping thousands get affordable loans when high-street banks won't help, as we heard from the programme. Over the past five years, again, our single advice fund has helped over 361,000 people claim £170 million in additional income and get nearly £50 million of debts written off.

So, I'm reaching out to Michael Sheen, so that we can discuss the actions we're taking to address the issues he's raised, and also to learn more about that campaign, that fair banking Act campaign, which clearly could—. It's not devolved, but I think we need to engage fully with this, and hopefully, then, it would be appropriate to have a debate or statement in due course.

Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Rwy'n siŵr bod nifer o Aelodau'r Senedd wedi gwylio'r rhaglen honno, rhaglen Michael Sheen, a ddarlledwyd neithiwr. Roeddwn i'n falch iawn, yn rhinwedd swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, o'r cyfle i weld y dystiolaeth, y dystiolaeth erchyll, nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohoni, o ran credydwyr sy'n gwerthu eu dyledion i eraill—arfer sy'n gyffredin yn y sector ariannol, gyda chwmnïau caffael dyledion yn prynu bwndel o ddyledion, am ffi, un sylweddol is na chyfanswm gwerth y dyledion, yn aml. Nawr, fe sefydlodd Michael Sheen—dim ond rhag ofn bod rhai heb weld y rhaglen—gwmni caffael dyledion, a phrynu bwndel o ddyledion, gwerth tua £1 miliwn, am £100,000. Nid yw cwmni Michael Sheen yn dymuno adennill yr arian a wariodd wrth brynu'r bwndel o ddyledion, ond, wrth wneud y penderfyniad hwn, maen nhw wedi dileu'r dyledion y gwnaethon nhw eu prynu i gyd, i bobl ledled y de. Amcangyfrifir bod 900 o bobl yn y de wedi elwa ar weithred cwmni caffael dyled Michael Sheen.

Felly, dim ond o ran ymateb i hyn, rydym ni'n cydnabod bod y cyfnod hwn yn heriol iawn. Rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl sy'n cael trafferthion ariannol. Yn ystod y rhaglen, fe dynnwyd sylw at swyddogaeth undebau credyd, o ran bod yn fenthycwyr teg, fforddiadwy. Ac mae hwn yn gyfle i ddweud, unwaith eto, ein bod ni'n buddsoddi £1.6 miliwn mewn undebau credyd, i ehangu cwmpas eu benthyca nhw hyd at y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael benthyciadau, a fydd yn helpu miloedd i gael benthyciadau fforddiadwy pan nad yw banciau'r stryd fawr yn fodlon helpu, fel clywsom ni yn y rhaglen. Dros y pum mlynedd diwethaf, unwaith eto, mae ein cronfa gynghori sengl ni wedi helpu dros 361,000 o bobl i hawlio £170 miliwn mewn incwm ychwanegol a chael bron i £50 miliwn o ddyledion wedi eu dileu.

Felly, rwy'n cysylltu â Michael Sheen, er mwyn trafod y camau y byddwn ni'n cymryd i fynd i'r afael â'r materion a gododd ef, a hefyd ar gyfer dysgu rhagor am yr ymgyrch honno, yr ymgyrch honno ar gyfer Deddf bancio teg, a allai yn amlwg—. Nid chafodd hyn ei ddatganoli, ond rwy'n credu bod angen i ni ymgysylltu â hyn yn llawn, ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hi'n briodol i ni gael dadl neu ddatganiad maes o law.

14:40

Trefnydd, can I request a statement from the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs on the Monmouthshire and Brecon canal? The canal is one of the most picturesque waterways in the UK, attracting millions of visitors per year, and contributing significantly to the economy, to the people and communities in south Wales. Now, it is reliant upon water abstracted from the River Usk, with 80 per cent of the water needed to feed the canal provided by the river. The water is only, in effect, borrowed from the Usk as the canal flows back into the river at Newport. However, recently, new conditions attached to water abstraction licences has meant that the Canal and River Trust are now required to limit abstraction from the River Usk, posing a serious risk to the future viability of the canal. The trust are now facing a choice between having to pay an enormous eye-watering £1 million or more for the water supply, which has been free for over two centuries, or severely restrict the use of the canal. And I’d therefore welcome a statement from the Cabinet Secretary outlining what can be done to ensure a viable solution is found as soon as possible on the issue to secure and protect the future of the Mon and Brec canal.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu? Mae'r gamlas hon yn un o'r dyfrffyrdd mwyaf prydferth yn y DU, ac mae hi'n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae hi'n cyfrannu llawer at yr economi, ar gyfer pobl a chymunedau'r de. Nawr, mae hi'n ddibynnol ar ddŵr sy'n cael ei dynnu o Afon Wysg, gydag 80 y cant o gyfaint y dŵr sydd ei angen i gyflenwi'r gamlas yn dod o'r afon. Mae'r dŵr, i bob pwrpas, yn cael ei fenthyca o afon Wysg wrth i ddŵr y gamlas lifo yn ei ôl i'r afon yng Nghasnewydd. Serch hynny, yn ddiweddar, mae amodau newydd sydd ynghlwm wrth drwyddedau tynnu dŵr wedi golygu ei bod hi'n ofynnol erbyn hyn i Glandŵr Cymru gyfyngu ar y cyfaint sy'n cael ei dynnu o afon Wysg, sy'n achosi perygl difrifol i hyfywedd y gamlas i'r dyfodol. Mae'r ymddiriedolaeth yn wynebu dewis erbyn hyn rhwng gorfod talu crocbris o £1 miliwn neu ragor ar gyfer y cyflenwad dŵr, sydd wedi bod am ddim ers dros ddwy ganrif, neu gyfyngu yn ddifrifol ar y defnydd a wneir o'r gamlas. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod datrysiad hyfyw yn cael ei ganfod cyn gynted â phosibl i'r mater er mwyn diogelu a sicrhau dyfodol camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Well, thank you very much, Peter Fox, for that question. Obviously, we really value our canals, and the Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs I think is aware of some of the challenges facing them, and I'm sure you've probably already discussed that with him. But it is important to share again, in terms of the impact of the water extraction from the Usk river. I won't go into it any further, because I'm not briefed fully enough to reassure you on this, but I was very interested. It may have no impact at all, but the £1 million that was announced today, in terms of investing in the River Wye—a different river, but in that part of the world. We are actually looking very carefully at the fact that you need to have that clean and clear water supply to the Mon and Brecon canal. Let's make it happen.

Diolch yn fawr iawn i chi, Peter Fox, am y cwestiwn yna. Yn amlwg, rydym ni wir yn gweld gwerth ein camlesi, ac rwy'n credu bod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol o rai o'r heriau sy'n eu hwynebu nhw, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi trafod hynny gydag ef eisoes. Ond mae hi'n bwysig rhannu unwaith eto, o ran effaith tynnu dŵr o afon Wysg. Nid wyf i am fanylu rhagor ar hynny, oherwydd nid wyf yn cael fy mriffio yn ddigonol i roi sicrwydd i chi ynglŷn â hyn, ond roedd gennyf i ddiddordeb mawr. Efallai na fydd ag unrhyw effaith o gwbl, ond y £1 miliwn a gyhoeddwyd heddiw, o ran buddsoddi yn Afon Gwy—afon arall, ond yn y rhan honno o'r byd. Rydym ni'n ystyried y ffaith yn ofalus iawn fod angen i chi fod â'r cyflenwad hwnnw o ddŵr glân a chroyw ar gyfer camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Gadewch i ni wneud i hynny ddigwydd.

Can I ask for an updated oral statement or preferably a debate in Government time on dentistry, please? There have been some conflicting stories told about dentistry here in Wales, with the Government and the UK Government extolling the services and the British Dental Association calling the Government out for gaslighting. Now, the statistics released last week show that in the year 2023-24 there were 17 fewer practices in Wales, with more closed since then, and the number of courses of treatment in the quarter to September 2024 was over one third lower than the last quarter. So, I think this Chamber deserves an updated oral statement or, as I say, a debate in Government time on dentistry in Wales at the earliest possible opportunity.

A gaf i ofyn am ddatganiad llafar a ddiweddarwyd neu'n well fyth ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddeintyddiaeth, os gwelwch chi'n dda? Mae rhai straeon croes i'w gilydd wedi cael eu hadrodd am ddeintyddiaeth yma yng Nghymru, gyda'r Llywodraeth a Llywodraeth y DU yn canmol y gwasanaethau ac mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn achwyn bod y Llywodraeth yn palu celwyddau. Nawr, mae'r ystadegau a gafodd eu rhyddhau'r wythnos diwethaf yn dangos bod 17 yn llai o feddygfeydd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn 2023-24, gyda mwy wedi cau ers hynny, ac roedd nifer y cyrsiau o driniaethau yn ystod y chwarter hyd at fis Medi 2024 dros draean yn llai na'r chwarter diwethaf. Felly, rwy'n credu bod y Siambr hon yn haeddu datganiad llafar a ddiweddarwyd neu, fel dywedais i, ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddeintyddiaeth yng Nghymru cyn gynted â phosibl.

Thank you very much for that question about dentistry and access to dentistry, and, indeed, the provision of dental care in the NHS, which I know that the Cabinet Secretary for Health and Social Care regularly reports on, and indeed in terms of the importance of those who are coming in to take on the new contracts. But also you will have the opportunity, of course, to raise this issue with the Cabinet Secretary when he comes forward for his oral questions as well.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna am ddeintyddiaeth a mynediad at ddeintyddiaeth, ac, yn wir, y ddarpariaeth o ofal deintyddol yn y GIG, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn adrodd yn rheolaidd ar bwysigrwydd rhai sy'n dod i mewn i ymgymryd â'r cytundebau newydd. Ond fe gewch chi'r cyfle hefyd, wrth gwrs, i godi'r mater yma gyda'r Ysgrifennydd Cabinet pan fydd ef yn dod ger bron ar gyfer ei gwestiynau llafar hefyd.

Trefnydd, I'd like to call for a Welsh Government statement on its plans for encouraging major events in north Wales, in particular major sporting events. You will be aware, this Friday night, Wales men's under 20s will play England at Cardiff Arms Park. Now, for a long time, this fixture would have taken place at Eirias Park in Colwyn Bay, which for many years hosted every Welsh men's under 20s six nations home fixture. And people in north Wales really embraced the opportunity to see the men’s under-20s play every year. Sadly, this year, both home games will be hosted in south Wales. As you can appreciate, it’s a long way for my residents in north Wales to travel, and it’s certainly an unwelcome development, because not only is hosting these events good for the local economy but sporting events can certainly inspire the next generation, encouraging children and young people to get active and take part. I’m really pleased that my colleague Darren Millar has been meeting with Rygbi Gogledd Cymru in north Wales to have these discussions to understand how we can repatriate the under-20s men’s team to north Wales. But it would be welcome if the Welsh Government could also bring forward a statement to update us as to how it sees the opportunity for these type of events in the future. Diolch yn fawr iawn.

Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau ar gyfer annog digwyddiadau mawr yn y gogledd, yn enwedig digwyddiadau chwaraeon mawr. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol, nos Wener, y daw tîm dynion dan 20 oed Cymru i chwarae yn erbyn tîm Lloegr ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Nawr, ers amser maith, roedd y gêm honno'n cael ei chynnal ar Barc Eirias, Bae Colwyn, a oedd am flynyddoedd lawer yn cynnal pob un o gemau cartref Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad i ddynion dan 20 oed. Ac roedd pobl yn y gogledd wir yn falch o'r cyfle i weld y dynion dan 20 oed yn chwarae bob blwyddyn. Yn anffodus, eleni, fe fydd y ddwy gêm gartref yn cael eu cynnal yn y de. Fel rydych chi'n deall, mae hi'n ffordd bell i deithio i drigolion fy etholaeth i yn y gogledd, ac yn sicr mae hwnnw'n ddatblygiad amhoblogaidd, oherwydd nid yn unig y mae cynnal y digwyddiadau hyn yn gwneud lles i'r economi leol ond fe all y digwyddiadau chwaraeon hyn fod yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf, gan annog plant a phobl ifanc i ymarfer eu cyrff a chyfranogi. Rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi cyfarfod â Rygbi Gogledd Cymru yn y gogledd i gynnal y trafodaethau hyn i ddeall sut y gallwn ni ddod â thîm y dynion dan 20 oed yn ôl i'r gogledd. Ond fe fyddai hi'n dderbyniol iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad hefyd i'n diweddaru ni ynglŷn â'i hystyriaeth hi o gyfle i weld digwyddiadau o'r fath eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

14:45

Thank you very much. I’m sure that the Minister for Culture, Skills and Social Partnership will be aware of this in terms of the fact that the under-20s home games were in north Wales. I’m sure that you’re having useful discussions about this, but it’s also useful to bring this to the attention of the Minister and the Welsh Government.

Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn ymwybodol o hyn o ran y ffaith mai yn y gogledd y chwaraewyd y gemau cartref dan 20 oed. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cael trafodaethau defnyddiol ynglŷn â hyn, ond mae hyn yn ddefnyddiol hefyd o ran dwyn hyn i sylw'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru.

I would like to raise a statement, please, from the Minister for Culture, Skills and Social Partnership on the issues faced by the beleaguered music venue industry in Wales. Music venues are the lifeblood of our cultural heritage, the incubators of talent and the beating heart of many communities. Yet, Wales has the highest rate of music venue closure of any other part of the UK in 2024-25, with a closure rate of more than double that of the national rate. Less than 0.5 per cent of venues are making a profit and nearly half are running at a loss. These stats are a real cause for concern. We are slowly becoming a nation where grass-roots music is stifled, where young artists have nowhere to perform and where our towns and cities are drained of their cultural vibrancy. Most music venues cite the crushing burden of business rates as one of the biggest issues they face, with many simply unable to foot the bill for Welsh business rates, which are proportionately higher than anywhere else in the UK. So, can we please receive a statement from the Minister on whether the Welsh Government have considered the discretionary rate relief for music venues to take the pressure off the industry and prevent our towns and cities from becoming cultural and artistic deserts?

Fe hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ynglŷn â'r materion sy'n wynebu'r diwydiant lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru. Lleoliadau cerddoriaeth yw anadl einioes ein treftadaeth ddiwylliannol, sy'n meithrin dawn ac yn guriad calon llawer cymuned. Ond eto, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o achosion o leoliadau cerddoriaeth yn cau o'i chymharu ag unrhyw ran arall o'r DU yn 2024-25, gyda chyfradd sy'n fwy na dwbl y gyfradd genedlaethol. Llai na 0.5 y cant o leoliadau sy'n gwneud elw ac mae bron i hanner yn rhedeg ar golled. Mae'r ystadegau hyn yn destun pryder gwirioneddol. Rydym ni, o dipyn i beth, yn mynd yn genedl lle mae cerddoriaeth ar lawr gwlad yn cael ei fygu, lle nad oes gan artistiaid ifanc unman i berfformio ynddo a lle mae ein trefi a'n dinasoedd ni'n cael eu dihysbyddu o'u bywiogrwydd diwylliannol. Mae'r rhan fwyaf o leoliadau cerddoriaeth yn nodi baich gorthrymus ardrethi busnes yn un o'r prif faterion sy'n eu hwynebu nhw, gyda llawer yn methu â thalu'r bil ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru, sy'n gymesur uwch nag yn unrhyw fan arall yn y DU. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â pha un a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried rhyddhad ardrethi dewisol ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth a fyddai'n ysgafnu'r pwysau sydd ar y diwydiant ac atal ein trefi a'n dinasoedd ni rhag mynd yn ddiffeithwch diwylliannol ac artistig?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.

Thank you very much, Gareth Davies. Of course, our music venues are really important to the thriving culture of music in Wales. Indeed, some of these venues are privately owned, some of them are publicly owned as well. And, indeed, there are changes in terms of people’s wishes to attend, as well as the customer changes and engagement with access to music in this way. But the Minister for Culture, Skills and Social Partnership has heard the point, so thank you for raising it.

Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies. Wrth gwrs, mae ein lleoliadau cerddoriaeth ni'n bwysig iawn o ran diwylliant ffyniannus cerddoriaeth yng Nghymru. Yn wir, eiddo preifat yw rhai o'r lleoliadau hyn, mae rhai ohonyn nhw'n perthyn i'r cyhoedd hefyd. Ac, yn wir, mae newidiadau wedi bod o ran awydd pobl i fynychu'r lleoedd hyn, yn ogystal â newidiadau ac ymgysylltiad cwsmeriaid â mynediad at gerddoriaeth yn y ffordd hon. Ond mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi clywed y pwynt, felly diolch i chi am ei godi.

3. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Gwarant i Bobl Ifanc
3. Statement by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership: Young Person’s Guarantee

Eitem 3 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol— gwarant i bobl ifanc. Galwaf ar y Gweinidog, Jack Sargeant.

Item 3 today is a statement by the Minister for Culture, Skills and Social Partnership on the young person’s guarantee. I call on the Minister, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Deputy Presiding Officer. In November 2021, we launched the young person's guarantee, reinforcing our commitment to giving Welsh young people the best possible start in life. This initiative stands as a cornerstone of the First Minister’s vision for Wales, a country where opportunity is available to all, fuelled by our priority of jobs and green growth. I am privileged to play my part in a Government focused on delivering what truly matters to Welsh communities.

Many of you know my own story. I started as an apprentice myself. So, when I speak about the transformative power of skills, training and support, it comes from personal experience. I have seen first-hand what quality support can do to help young people thrive in Wales. The driving force behind our guarantee was straightforward but ambitious: to ensure everyone aged 16 to 24 can easily access the support they need, whether that is continuing in education, pursuing training, starting an apprenticeship, entering employment or even launching their own business. I am proud to say that the young person's guarantee is making this vision a reality. Over 48,500 young people have already been supported through our employability and skills programmes alone. This represents real lives, real futures being shaped. And through this work, we are making solid progress towards our national milestone: ensuring that at least 90 per cent of 16 to 24-year-olds are in education, employment or training by 2050. The latest provisional data shows that we are right on track. In 2022, 85.8 per cent of our young people were engaged in education, employment or training, up from 83.7 per cent in 2021. The timing of this guarantee couldn't have been more critical. It has helped shield our young people from both the after-effects of the COVID pandemic and the ongoing cost-of living crisis. It has provided the crucial extra layer of support when they have needed it most.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Tachwedd 2021, fe lansiwyd y warant i bobl ifanc, a oedd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad ni i gynnig y dechreuad gorau posibl i bobl ifanc Cymru yn eu bywydau. Mae'r fenter hon yn gonglfaen i weledigaeth y Prif Weinidog i Gymru, cenedl lle ceir cyfle i bawb, a fwydir gan ein blaenoriaeth ni o swyddi a thwf gwyrdd. Fy mraint i yw bod â rhan mewn Llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i gymunedau Cymru.

Mae llawer ohonoch chi'n gyfarwydd â'm stori bersonol i. Fe ddechreuais innau'n brentis. Felly, pan fyddaf i'n siarad am allu sgiliau, hyfforddiant a chefnogaeth i drawsnewid bywydau, mae'n hynny'n deillio o brofiad personol. Fe welais i drosof fy hun yr hyn y gall cymorth o ansawdd ei wneud i helpu pobl ifanc i ffynnu yng Nghymru. Roedd yr hyn a oedd yn gyrru ein gwarant ni'n syml ond yn uchelgeisiol: sef sicrhau bod pawb rhwng 16 a 24 oed yn gallu cael gafael yn rhwydd ar y cymorth angenrheidiol, boed hynny i barhau mewn addysg, dilyn hyfforddiant, dechrau prentisiaeth, mynd i gyflogaeth neu hyd yn oed i lansio eu busnesau eu hunain. Rwy'n falch o ddweud bod y warant i bobl ifanc yn gwireddu'r weledigaeth hon. Mae dros 48,500 o bobl ifanc wedi cael eu cefnogi eisoes drwy gyfrwng ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau yn unig felly. Mae hynny'n golygu bywydau gwirioneddol, dyfodol gwirioneddol yn cael eu ffurfio. Trwy'r gwaith hwn, rydym ni'n gwneud cynnydd cadarn tuag at ein carreg filltir genedlaethol: sef sicrhau bod o leiaf 90 y cant o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae'r data dros dro diweddaraf yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn. Yn 2022, roedd 85.8 y cant o'n pobl ifanc yn gyfrannog mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, i fyny o 83.7 y cant yn 2021. Ni allasai amseriad y warant hon fod yn fwy tyngedfennol. Mae wedi helpu i warchod ein pobl ifanc rhag ôl-effeithiau pandemig COVID a'r argyfwng costau byw sy'n parhau. Mae wedi estyn haen ychwanegol hanfodol o gymorth yn eu hanghenion mwyaf.

So, let me take you through what this looks like in practice. Through the Working Wales gateway, young people receive personalised, impartial careers and employability guidance, helping them navigate their options and start building the future they want. Our flagship programme, Jobs Growth Wales+, provides tailored support for 16 to 19-year-olds through employment, formal training and voluntary work. Since April 2022, 13,345 young people have engaged with this programme. Dirprwy Lywydd, just last week, I visited two Jobs Growth Wales+ and Communities for Work Plus projects in Cardiff. What struck me most was not just the statistics, but it was seeing the dedicated staff helping young people find pathways that genuinely suited their individual needs and the variety of positive outcomes these young people were experiencing as a result. I was inspired to see the full-circle nature of the support as well, with a former barbering apprentice, Madison, now training up a Jobs Growth Wales+ learner, Regan, in his role as senior barber at Alpha Omega Grooming.

For those facing more complex barriers to employment, our Communities for Work Plus programme provides specialist advisory support and mentoring. Nearly 10,000 young people have been supported through this programme since April 2022. For those aged 20 and above looking to re-enter the job market, including those facing redundancy and ex-offenders, our ReAct+ programme has provided grant support for vocational training to 735 young people since June 2022.

Dirprwy Lywydd, we are also nurturing excellence. Through the Inspiring Skills Excellence in Wales programme, we have recently engaged over 1,500 young people in skills competitions. I will be at an awards ceremony this Thursday to help to celebrate their achievements personally. And then we have taken Wales to the world stage. At the WorldSkills final in Lyon last September, six Welsh students competed as part of team UK, with Ruben Duggan bringing home a silver medal. I am especially proud that nearly a third of the WorldSkills UK training team came from our own education and training sector here in Wales.

Entrepreneurship is another vital way. Since 2021, Big Ideas Wales has reached nearly 250,000 young people. Our young person's start-up grant has provided financial support for 615 individuals to start their own businesses, with grants of up to £2,000 alongside business support and advice. Dirprwy Lywydd, I had the opportunity to meet one of those individuals in my own constituency on Friday, Cody, who started his career as a volunteer sports photographer at his local club, Connah’s Quay Town. With the support from Big Ideas Wales, Cody went on to immortalise Wrexham’s promotion journey in 2023. Just last month, Deputy Presiding Officer, Cody captured Jude Bellingham’s last-minute winner for Real Madrid in the Champions League versus Manchester City—Welsh Labour's young person’s guarantee on one of the biggest stages in the world.

And as we celebrated during National Apprenticeship Week, apprenticeships remain a powerful route to success across Cymru. Since the guarantee began in November 2021, we've seen 24,000 apprenticeship starts by 16 to 24-year-olds. There is much to celebrate in the support available for our young people in Wales and the significant impact it's having on this generation.

Dirprwy Lywydd, through our young person's guarantee, we're not just delivering for the young people of today, we're inspiring the young people of tomorrow and laying the firm foundations for generations to come. Diolch.

Felly, gadewch i mi eich tywys chi drwy olwg ymarferol ar hyn. Trwy borth Cymru'n Gweithio, mae pobl ifanc yn cael arweiniad ar yrfaoedd a chyflogadwyedd sy'n bersonol, ac yn ddiduedd, a fydd yn eu helpu nhw i lywio drwy eu dewisiadau a dechrau llunio'r dyfodol y maen nhw'n ei ddymuno. Mae ein rhaglen flaenllaw ni, Twf Swyddi Cymru+, yn darparu cefnogaeth a gafodd ei theilwra ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed drwy gyflogaeth, hyfforddiant ffurfiol a gwaith gwirfoddol. Ers mis Ebrill 2022, mae 13,345 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon. Dirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf yn unig, fe ymwelais i â dau brosiect Twf Swyddi Cymru+ a Chymunedau am Waith a Mwy yng Nghaerdydd. Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arna i oedd nid yr ystadegau yn unig, ond gweld y staff ymroddedig yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i lwybrau sy'n gweddu yn wirioneddol i'w hanghenion unigol a'r amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol yr oedd y bobl ifanc hyn yn eu cael o ganlyniad i hynny. Fe gefais i fy ysbrydoli o weld natur cylch llawn y gefnogaeth hefyd, gyda chyn brentis barbwr, Madison, sy'n hyfforddi dysgwr Twf Swyddi Cymru + erbyn hyn, Regan, yn ei swydd yn uwch farbwr yn Alpha Omega Grooming.

I'r rhai sy'n wynebu rhwystrau mwy cymhleth rhag cyflogaeth, mae ein rhaglen ni, Cymunedau am Waith a Mwy, yn darparu cymorth a mentora ymgynghorol arbenigol. Mae bron i 10,000 o bobl ifanc wedi cael eu cefnogi drwy gyfrwng y rhaglen hon ers mis Ebrill 2022. I'r rhai sy'n 20 oed neu hŷn sy'n ystyried ailymuno â'r farchnad swyddi, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu diswyddiadau a chyn-droseddwyr, mae ein rhaglen ReAct+ wedi darparu cymorth grant ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol i 735 o bobl ifanc ers mis Mehefin 2022.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n meithrin rhagoriaeth hefyd. Drwy raglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, rydym ni wedi ymgysylltu â thros 1,500 o bobl ifanc yn ddiweddar mewn cystadlaethau sgiliau. Fe fyddaf i'n bresennol mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau ar gyfer helpu i ddathlu eu cyflawniadau nhw'n bersonol. Ac wedyn rydym ni wedi rhoi Cymru ar lwyfan y byd. Yn rownd derfynol WorldSkills yn Lyon fis Medi diwethaf, roedd chwe myfyriwr o Gymru yn cystadlu yn rhan o dîm y DU, gyda Ruben Duggan yn dod â medal arian adref gydag ef. Rwy'n arbennig o falch fod bron i draean tîm hyfforddi WorldSkills UK yn dod o'n sector addysg a hyfforddiant ni yma yng Nghymru.

Mae entrepreneuriaeth yn fodd pwysig arall. Ers 2021, mae Syniadau Mawr Cymru wedi ymestyn at bron i 250,000 o bobl ifanc. Mae ein grant cychwyn i bobl ifanc wedi darparu cymorth ariannol i 615 o unigolion er mwyn dechrau eu busnesau eu hunain, gyda grantiau o hyd at £2,000 ochr yn ochr â chymorth a chyngor busnes. Dirprwy Lywydd, fe gefais i gyfle i gwrdd ag un o'r unigolion hynny yn fy etholaeth i ddydd Gwener, sef Cody, a ddechreuodd ar yrfa ffotograffydd chwaraeon gwirfoddol yn ei glwb lleol, Tref Cei Connah. Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, fe aeth Cody yn ei flaen i anfarwoli taith hyrwyddo Wrecsam yn 2023. Fis diwethaf yn unig, Dirprwy Lywydd, fe dynnodd Cody lun gôl munud olaf fuddugol Jude Bellingham i Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Manchester City—y warant i bobl ifanc gan Lafur Cymru ar un o'r llwyfannau mwyaf yn y byd.

Ac fel y gwnaethom ni ei ddathlu yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae prentisiaethau yn dal i fod yn llwybr grymus i lwyddiant ledled Cymru. Ers i'r warant ddechrau ym mis Tachwedd 2021, rydym ni wedi gweld 24,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed yn dechrau eu prentisiaethau. Mae llawer i'w ddathlu yn y gefnogaeth sydd ar gael i'n pobl ifanc ni yng Nghymru a'r effaith sylweddol y mae honno'n ei chael ar y genhedlaeth hon.

Dirprwy Lywydd, trwy ein gwarant i bobl ifanc, nid dim ond ar gyfer pobl ifanc heddiw yr ydym ni'n cyflawni. Rydym ni'n ysbrydoli pobl ifanc yfory ac yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Diolch.

14:55

I thank the Minister for his statement today on the young person's guarantee. While there's nothing new, really, within the statement today, I always welcome the ambition of the young person's guarantee, and the reality, however, for the young people in Wales, is quite stark. I'll quickly remind the Chamber of the latest employment statistics, which paint a worrying picture. The youth employment rate in Wales has dropped to 54 per cent, a decline of 3.5 per cent compared to last year. In contrast to the UK, the rate has fallen by 1.9 per cent. Young women have been particularly impacted, with their employment rate falling by 8.7 per cent to 51.7 per cent. Long-term unemployment remains a persistent issue, with 9,300 people unemployed for extended periods, making up 21.5 per cent of total unemployment. Too many remain trapped in economic inactivity, lacking the support needed to transition into sustainable careers.

Now, the Minister has mentioned his time as an apprentice, but the decision to cut funding for apprenticeships in the 2024-25 financial year was concerning, and independent research suggests that this will result in a loss of 5,750 apprenticeship opportunities. So, given that, as the Minister says, apprenticeships are a key pillar of the young person's guarantee, what steps is the Minister taking to mitigate the impact of last year's apprenticeship cuts on young people, ensuring there is no lost generation?

Beyond apprenticeships, young people have repeatedly raised concerns about barriers to employment and training, particularly the lack of work experience opportunities. They understand the value of work experience but struggle to secure those necessary placements. So, what concrete actions are the Welsh Government taking to ensure all young people can access meaningful work experience?

Transport, Dirprwy Lywydd, is another major obstacle, especially the lack of provision in rural areas, areas where there are already fewer opportunities to enter the workplace. Alarmingly, less than half of those surveyed were even aware of schemes like MyTravelPass. So, how does the Minister plan to improve awareness of these schemes and address the fundamental transport barriers that continue to lock young people out of opportunities?

Now, the transition from school to work or further education remains a pinch-point. Too many young people feel they lack consistent support and clear pathways. Some do not know where to turn when they face setbacks like dropping out of education or losing a job. Others have called for more tailored careers advice that aligns with their specific needs. So, what steps will be taken to ensure the young person's guarantee provides genuine long-term support rather than just signposting young people to different services—so, hand-holding throughout their journey for those who require it?

However, it is important to acknowledge the positives within the young person's guarantee, and the Minister has alluded to those in his statement. Since its inception, over 48,000 young people have engaged with employability and skills programmes, more than 6,000 have secured employment, and over 724 have started their own businesses. That, for me, is the most exciting part. The Jobs Growth Wales+ initiative has engaged with over 13,000 young people since 2022, with 60.1 per cent of completers achieving positive outcomes in 2023-24. Eighty-nine per cent of participants felt the support met or exceeded expectations, and 97 per cent believed it improved their job prospects. These are positive figures; it's doing well. But I think that they can be doing a much better job still. And those challenges do still remain. While engagement numbers are promising, as I've mentioned, data on long-term employment sustainability is lacking. That's where more work needs to be done. Many young people still do not have access to the available support, raising questions about the programme's reach and effectiveness. Those that it's reaching, it's working well with, but how can we get it reaching more people, giving the employment statistics that I mentioned at the beginning of my response?

Finally, in the 45 minutes that I've got left, Dirprwy Lywydd, we must talk about entrepreneurship. Wales has seen record increases in early stage entrepreneurship, yet a quarter of young people say they were actively discouraged from setting up a business while at school or college, which is far higher than the UK average. That, for me, I think, is poor advice. The Federation of Small Businesses has called for a holistic strategy to support young entrepreneurs and a stronger place for enterprise education in the school curriculum. So, what action is being taken to ensure entrepreneurship is seen as a viable career path, particularly for those who may not wish to follow traditional employment routes, because it's those job creators, those wealth creators, who end up paying the taxes that pay for the public services that we all enjoy?

Now, to close, the young person's guarantee has potential, but, under Labour's watch, it's not quite fulfilling that potential. So, really, Minister, it's a B+ at the moment, it's working well, but how can we get it up to an A* level?

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef heddiw ar y warant i bobl ifanc. Er nad oes unrhyw beth newydd, mewn gwirionedd, yn y datganiad heddiw, rwy'n croesawu uchelgais y warant i bobl ifanc bob amser ac mae'r sefyllfa wirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru yn un weddol ddiffaith. Fe hoffwn i atgoffa'r Siambr yn gyflym o'r ystadegau diweddaraf ynglŷn â chyflogaeth, sy'n cyfleu darlun pryderus. Mae cyfradd cyflogaeth ieuenctid yng Nghymru wedi gostwng hyd 54 y cant, gostyngiad o 3.5 y cant o'i gymharu â'r llynedd. Yn wahanol i'r DU gyfan, mae'r gyfradd wedi gostwng yma 1.9 y cant. Effeithiwyd yn arbennig ar fenywod ifanc, gyda'u cyfradd nhw o gyflogaeth wedi gostwng 8.7 y cant hyd at 51.7 y cant. Mae diweithdra hirdymor yn dal i fod yn broblem barhaus, gyda 9,300 o bobl yn ddi-waith am gyfnodau estynedig, sef 21.5 y cant o gyfanswm y diwaith. Mae gormod o bobl yn dal i fod yn gaeth i anweithgarwch economaidd, heb y gefnogaeth angenrheidiol i'w trosglwyddo i yrfaoedd sy'n gynaliadwy.

Nawr, mae'r Gweinidog wedi sôn am ei gyfnod ef yn brentis, ond roedd y penderfyniad i dorri cyllid ar gyfer prentisiaethau ym mlwyddyn ariannol 2024-25 yn peri pryder, ac mae ymchwil annibynnol yn awgrymu y bydd hynny'n arwain at golli 5,750 o gyfleoedd am brentisiaethau. Felly, fel mae'r Gweinidog yn ei ddweud, o gofio bod prentisiaethau yn gonglfaen allweddol o'r warant i bobl ifanc, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i liniaru'r effaith ar bobl ifanc yn sgil toriadau'r llynedd i brentisiaethau, a fyddai'n sicrhau nad oes cenhedlaeth yn mynd ar goll?

Y tu hwnt i brentisiaethau, mae pobl ifanc wedi codi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r rhwystrau rhag cyflogaeth a hyfforddiant, yn enwedig y diffyg cyfleoedd o ran profiad gwaith. Maen nhw'n deall gwerth profiad gwaith ond yn cael trafferth wrth sicrhau'r lleoliadau angenrheidiol hynny. Felly, pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd pob unigolyn ifanc yn gallu cael mynediad at brofiad gwaith sy'n ystyrlon?

Mae trafnidiaeth, Dirprwy Lywydd, yn rhwystr mawr arall, yn enwedig o ran y diffyg sydd yn y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd lle nad oes cymaint o gyfleoedd ynddyn nhw i fynd i mewn i'r gweithle i ddechrau. Yn frawychus iawn, roedd llai na hanner y rhai a holwyd yn ymwybodol hyd yn oed o gynlluniau fel FyNgherdynTeithio. Felly, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gwella'r ymwybyddiaeth o'r cynlluniau hyn a mynd i'r afael â'r rhwystrau sylfaenol ynglŷn â thrafnidiaeth sy'n parhau i ddal pobl ifanc y tu allan i gyfleoedd?

Nawr, mae'r newid o fod yn yr ysgol i ddechrau ym myd gwaith neu addysg bellach yn dal i fod yn gyfnod dyrys. Mae gormod o bobl ifanc yn teimlo nad yw'r gefnogaeth sydd ganddyn nhw'n gyson na'r llwybrau iddyn nhw'n eglur. Nid ydyn nhw'n gwybod i ble i droi wrth iddyn nhw wynebu anawsterau fel tynnu'n ôl o addysg neu golli swydd. Roedd eraill yn galw am gyngor gyrfaoedd a gafodd ei deilwra yn well i gyd-fynd â'u hanghenion penodol nhw. Felly, pa gamau a gaiff eu cymryd i sicrhau bod y warant i bobl ifanc yn darparu cefnogaeth wirioneddol hirdymor yn hytrach na gwneud dim ond cyfeirio pobl ifanc at wahanol wasanaethau—felly, estyn llaw i afael ynddi ar hyd y daith i'r rhai ag angen am honno?

Fodd bynnag, mae hi'n bwysig cydnabod y pethau cadarnhaol sydd yn y warant i bobl ifanc, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y rhain yn ei ddatganiad. Ers ei sefydlu, mae dros 48,000 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, a mwy na 6,000 wedi sicrhau cyflogaeth, ac mae dros 724 wedi cychwyn eu busnesau eu hunain. I mi, honno yw'r rhan fwyaf cyffrous. Mae menter Twf Swyddi Cymru + wedi ymgysylltu â dros 13,000 o bobl ifanc ers 2022, gyda 60.1 y cant o'r rhai a'i gorffenodd hi'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn 2023-24. Roedd 89 y cant o'r cyfranogwyr yn teimlo bod y gefnogaeth yn bodloni neu'n rhagori ar eu disgwyliadau, ac roedd 97 y cant o'r farn ei bod wedi gwella eu rhagolygon o ran gwaith. Mae'r rhain yn ffigurau cadarnhaol; mae'n gwneud yn dda. Ond rwyf i o'r farn y gallen nhw fod yn gwneud gwaith llawer gwell eto. Ac mae'r heriau hynny yn dal i fod. Er bod y niferoedd o ran yr ymgysylltu yn addawol, fel soniais i, mae yna ddiffyg data ar gynaliadwyedd cyflogaeth hirdymor. Dyna faes y mae angen gwneud mwy o waith ynddo. Mae llawer o bobl ifanc yn dal i fethu â chael gafael ar y cymorth sydd ar gael, sy'n godi cwestiynau ynglŷn â chyrhaeddiad ac effeithiolrwydd y rhaglen. I'r rhai sydd wedi cael gafael arno, mae hynny wedi gweithio yn dda iddyn nhw, ond sut allwn ni sicrhau y bydd llawer mwy yn cael gafael arno, o ystyried yr ystadegau o ran cyflogaeth y gwnes i sôn amdanyn nhw ar ddechrau fy ymateb?

Yn olaf, yn y 45 munud sydd gen i ar ôl, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni siarad am entrepreneuriaeth. Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed o ran entrepreneuriaeth cyfnod cynnar, ac eto mae chwarter y bobl ifanc yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cynghori i beidio â sefydlu busnes yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol neu'r coleg, sy'n llawer uwch na chyfartaledd yn y DU. Cyngor gwael yw hwnnw yn fy marn i. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi galw am strategaeth gyfannol ar gyfer cefnogi entrepreneuriaid ifanc a rhoi lle mwy amlwg i addysg fenter yng nghwricwlwm yr ysgolion. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y bydd entrepreneuriaeth yn cael ei ystyried yn llwybr gyrfa sy'n hyfyw, yn arbennig felly i rai nad ydyn nhw'n dymuno dilyn llwybrau cyflogaeth traddodiadol efallai, oherwydd crewyr swyddi fel hyn, y crewyr cyfoeth hyn, sydd yn y pen draw yn talu'r trethi sy'n talu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni i gyd yn eu mwynhau?

Nawr, i gloi, mae gan y warant i bobl ifanc botensial, ond, dan oruchwyliaeth y Blaid Lafur, nid yw'n llwyr gyflawni'r potensial hwnnw. Felly, mewn gwirionedd, Gweinidog, B+ yw'r radd ar hyn o bryd, mae'n gweithio yn dda, ond sut allwn ni ei chael hi hyd at safon A*?

15:00

I'm grateful for the teacher's report from Sam Kurtz in his response—pleased it was only 45 seconds left on the clock, and not 45 minutes, as he might have wished. But I am very grateful to Sam Kurtz for the way in which he challenges me on the delivery of the young person's guarantee, but also for realising the success of the programme and supporting the ambition of the programme. As I said in my statement, and as Sam Kurtz referred to, the young person's guarantee, since November 2021, has reached over 48,500 people. So, I'll just go through a number of the points that the Member raises.

His last point was around entrepreneurship and the support available through the programme. Well, in the young person's guarantee, Presiding Officer, we have the Big Ideas workshops. It's part of the case study that I pointed to in relation to the constituency visit that I held last week, and Cody now taking his photography skills and business to the biggest stage of the footballing world. That, Big Ideas Wales, has delivered workshops for entrepreneurs, reaching nearly 250,000 people across Wales, so actively seeking to support them there. And, again, the young person's start-up grant has supported financially 615 economically inactive or unemployed individuals with advice and grants of up to £2,000. There's more to do, and that's why we're investing more in the budget, Presiding Officer.

The Member raises transport. Well, he will know of, in the recent final budget that passed through the Senedd last week, the money invested into the £1 bus fare for young people. I'm sure he would have wished to support it, that ambition, through the budget.

The Member also points to a number of things that we are actively doing. So, on apprenticeships, we know over 24,000 people have been engaged in apprenticeships through the young person's guarantee, making that a success. I'll just find one case study on that for the Member: Working Wales, investment from the young person's guarantee to support young people. Well, they supported 22-year-old Cian from Bangor who was considering his options during the pandemic. He now is in an apprenticeship at a childcare nursery. That is exactly what the young person's guarantee is about. We will go on this year investing £144 million in apprenticeships in Wales, and we had the discussion during National Apprenticeships Week about the importance of putting that money into the apprenticeship system.

I agree with the Member when it comes to work experience as well, and valued work experience indeed. That's why we should look at the work of Careers Wales, where they offer careers and work-related experiences across the curriculum, supporting schools in their ambitions to do that. One of the proudest things, I think, in the budget, certainly with my responsibilities, and I'm looking at the Minister for Further and Higher Education here, is the support that we're putting into the junior apprenticeship programme, which looks to tackle some of those experience issues as well—an increase of 50 per cent of the investment uplift in the final budget, Presiding Officer.

The Member just points to—. One more point, before I move on: more engagement. Well, we will do that directly through Communities for Work Plus, through Jobs Growth Wales+, going out into those hard-to-reach areas. I was able to see some of that myself across visits in the last couple of weeks, and what I would encourage all Members of the Senedd to do is, when they go out speaking to young people across Wales, to point them to these types of programmes, to point to the offer of the young person's guarantee, because it is there to be used.

The Member talked about the more detailed mentoring, perhaps, that's needed. Well, that's exactly what happens in Communities for Work Plus, that's exactly what happens through Working Wales as well, where that detailed support and mentoring, not just in that initial period, but through a longer stage process, to make sure that they are comfortable in entering training, education or employment in the future, does happen. I hope the Member will seek to encourage more young people accessing the guarantee as we have the ambition to do so, and I thank him for that.

Rwy'n ddiolchgar am yr adroddiad athro gan Sam Kurtz yn ei ymateb—rwy'n falch mai dim ond 45 eiliad oedd ar ôl ar y cloc, ac nid 45 munud, fel y byddai ef wedi dymuno efallai. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am y ffordd y mae'n fy herio i wrth ddarparu'r warant i bobl ifanc, ond hefyd am sylweddoli llwyddiant y rhaglen a chefnogi uchelgais y rhaglen. Fel y dywedais i yn fy natganiad, ac fel y cyfeiriodd Sam Kurtz ato, mae'r warant i bobl ifanc, ers mis Tachwedd 2021, wedi cyrraedd dros 48,500 o bobl. Felly, fe wnaf fynd trwy nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi.

Roedd ei bwynt olaf yn ymwneud ag entrepreneuriaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael drwy'r rhaglen. Wel, yn y warant i bobl ifanc, Llywydd, mae gennym y gweithdai Syniadau Mawr. Mae'n rhan o'r astudiaeth achos y cyfeiriais ati mewn perthynas â'r ymweliad etholaethol a gynhaliais yr wythnos diwethaf, ac mae Cody bellach yn mynd â'i sgiliau ffotograffiaeth a'i fusnes i lwyfan mwyaf y byd pêl-droed. Mae hwnnw, Syniadau Mawr Cymru, wedi cyflwyno gweithdai ar gyfer entrepreneuriaid, gan gyrraedd bron i 250,000 o bobl ledled Cymru, gan fynd ati i geisio eu cefnogi nhw yno. Ac, unwaith eto, mae'r grant cychwyn busnes i bobl ifanc wedi cefnogi 615 o unigolion economaidd anweithgar neu ddi-waith yn ariannol gyda chyngor a grantiau o hyd at £2,000. Mae mwy i'w wneud, a dyna pam rydym ni'n buddsoddi mwy yn y gyllideb, Llywydd.

Mae'r Aelod yn codi cludiant. Wel, bydd yn gwybod am yr arian a fuddsoddwyd yn y tocyn bws am £1 i bobl ifanc yn y gyllideb derfynol ddiweddar a basiodd drwy'r Senedd yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai wedi dymuno ei gefnogi, yr uchelgais hwnnw, drwy'r gyllideb.

Mae'r Aelod hefyd yn cyfeirio at nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud eisoes. Felly, ar brentisiaethau, gwyddom fod dros 24,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn prentisiaethau trwy'r warant i bobl ifanc, gan wneud hynny'n llwyddiant. Fe wnaf ddod o hyd i un astudiaeth achos ar hynny ar gyfer yr Aelod: Cymru'n Gweithio, buddsoddiad o'r warant i bobl ifanc i gefnogi pobl ifanc. Wel, fe wnaethon nhw gefnogi Cian, sy'n 22 oed, o Fangor, oedd yn ystyried ei opsiynau yn ystod y pandemig. Mae bellach mewn prentisiaeth mewn meithrinfa gofal plant. Dyna'n union yw pwrpas y warant i bobl ifanc. Byddwn yn parhau eleni i fuddsoddi £144 miliwn mewn prentisiaethau yng Nghymru, a chawsom y drafodaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau am bwysigrwydd rhoi'r arian hwnnw yn y system prentisiaethau.

Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran profiad gwaith hefyd, a phrofiad gwaith gwerthfawr yn wir. Dyna pam y dylem edrych ar waith Gyrfa Cymru, lle maen nhw'n cynnig gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm, gan gefnogi ysgolion yn eu huchelgeisiau i wneud hynny. Un o'r pethau yr wyf fwyaf balch ohono, rwy'n credu, yn y gyllideb, yn sicr o ran fy nghyfrifoldebau i, ac rwy'n edrych ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yma, yw'r gefnogaeth rydym ni'n ei rhoi yn y rhaglen prentisiaeth iau, sy'n ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau profiad hynny hefyd—cynnydd o 50 y cant o'r cynnydd mewn buddsoddiad yn y gyllideb derfynol, Llywydd.

Mae'r Aelod yn cyfeirio at—. Un pwynt arall, cyn i mi symud ymlaen: mwy o ymgysylltu. Wel, byddwn ni'n gwneud hynny'n uniongyrchol drwy Cymunedau am Waith a Mwy, trwy Twf Swyddi Cymru+, gan fynd allan i'r ardaloedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Cefais gyfle i weld rhywfaint o hynny fy hun yn ystod ymweliadau dros yr wythnosau diwethaf, a'r hyn y byddwn i'n annog holl Aelodau'r Senedd i'w wneud, pan fyddan nhw'n mynd allan i siarad â phobl ifanc ledled Cymru, yw eu cyfeirio at y mathau hyn o raglenni, eu cyfeirio at yr hyn y mae'r warant i bobl ifanc yn ei gynnig, gan ei bod yno i'w defnyddio.

Soniodd yr Aelod am y mentora manylach, efallai, sydd ei angen. Wel, dyna'n union sy'n digwydd yn Cymunedau am Waith a Mwy, dyna'n union sy'n digwydd trwy Cymru'n Gweithio hefyd, lle mae'r gefnogaeth fanwl honno a'r mentora, nid yn unig yn y cyfnod cychwynnol hwnnw, ond trwy broses dros gyfnod hirach, i sicrhau eu bod yn gyfforddus wrth fynd i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol, yn digwydd. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ceisio annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r warant gan fod gennym yr uchelgais i wneud hynny, ac rwy'n diolch iddo am hynny.

15:05

Diolch, Gweinidog, am y datganiad.

Thank you, Minister, for the statement.

Of course, there are a number of positives in this statement, and we shouldn't shy away from that, and the principle, which I think is felt across the Chamber, is the right principle behind this policy. But I think there is an important point for us to reconcile with here, and that is that this is a guarantee of an offer, and not an offer of a guarantee. And there is an important distinction there.

Now, four years on, and just a year away from the end of this Government term, despite this policy, stark figures do remain, and I think it's important that we recognise that. More than one in 10 young people under 25 in Wales are not in employment, education or training. Now, in one in 10, that's not insignificant. So, the Minister sets out the successes of this policy, but it isn't a success for those one in 10. But the way we do make it a success for those one in 10 is by recognising that, actually, there's a lot further for us to go when it comes to this particular policy. Now, a key part of this pledge was delivering 125,000 new apprenticeships over this Senedd term. Now, that target will be missed. So, how does the apprenticeship programme factor into working out how successful this policy has been? Because we know how precarious the apprenticeship sector is right now in that particular portfolio.

I was also disheartened to read that the region I represent, South Wales West, has the highest youth NEET rate of any Welsh economic region—14.2 per cent in the year ending September 2024—and, with the devastating job losses at Tata Steel, I can only imagine this figure will rise further. And yet, even in the face of all of this, there's a group who are even more at risk, which is young disabled people. Over 35 per cent of disabled young people were NEET in the same period. Now, that's more than one in three. And despite this Government's guarantee, they are still far more likely to be without a job, education or training.

Now, on top of all this, we hear that Keir Starmer is expected to announce billions in cuts to disability benefit. Now, I'm not asking the Cabinet Secretary here to comment on Keir Starmer's cuts specifically with this question, but I just wonder what impact do think, generally, the cuts to disability benefits would have on young disabled people in Wales seeking to go into employment, education or training. Many of them are unable to work, so where will that leave them? What will the Government do to ensure disabled young people in Wales are not abandoned? Because, right now, Welsh Labour talks a big game about guarantees, but the reality is they're failing the very people who need them the most.

Wrth gwrs, mae nifer o bethau cadarnhaol yn y datganiad hwn, ac ni ddylem osgoi dweud hynny, a'r egwyddor, sy'n cael ei theimlo ar draws y Siambr rwy'n credu, yw'r egwyddor gywir y tu ôl i'r polisi hwn. Ond rwy'n credu bod pwynt pwysig i ni ddod i delerau ag ef yma, sef bod hwn yn gwarantu cynnig, ac nid yn cynnig gwarant. Ac mae gwahaniaeth pwysig yn y fan yna.

Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, a blwyddyn yn unig o ddiwedd tymor y Llywodraeth hon, er gwaethaf y polisi hwn, mae ffigurau llwm yn parhau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Nid yw mwy nag un o bob 10 o bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Nawr, un o bob 10, nid yw hynny'n ddibwys. Felly, mae'r Gweinidog yn nodi llwyddiannau'r polisi hwn, ond nid yw'n llwyddiant i'r un o bob 10. Ond y ffordd yr ydym yn ei wneud yn llwyddiant i'r un o bob 10 yw drwy gydnabod, mewn gwirionedd, fod llawer pellach i ni fynd pan ddaw at y polisi penodol hwn. Nawr, rhan allweddol o'r addewid hwn oedd darparu 125,000 o brentisiaethau newydd dros dymor y Senedd hon. Nawr, bydd y targed hwnnw'n cael ei fethu. Felly, sut mae'r rhaglen brentisiaeth yn berthnasol wrth geisio deall pa mor llwyddiannus fu'r polisi hwn? Oherwydd gwyddom pa mor ansicr yw'r sector prentisiaethau ar hyn o bryd yn y portffolio penodol hwnnw.

Roeddwn i hefyd yn ddigalon o ddarllen mai'r rhanbarth rwyf i'n ei gynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â'r gyfradd NEET ieuenctid uchaf o unrhyw ranbarth economaidd yng Nghymru—14.2 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben Medi 2024—a, gyda'r colledion swyddi dinistriol yn Tata Steel, ni allaf ond dychmygu y bydd y ffigur hwn yn codi ymhellach. Ac eto, hyd yn oed yn wyneb hyn i gyd, mae grŵp sydd hyd yn oed yn fwy mewn perygl, sef pobl ifanc anabl. Roedd dros 35 y cant o bobl ifanc anabl yn NEET yn yr un cyfnod. Nawr mae hynny'n fwy nag un o bob tri. Ac er gwaethaf gwarant y Llywodraeth hon, maen nhw'n dal yn llawer mwy tebygol o fod heb swydd, addysg na hyfforddiant.

Nawr, ar ben hyn oll, clywn fod disgwyl i Keir Starmer gyhoeddi biliynau o doriadau i fudd-dal anabledd. Nawr, nid wyf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet yma wneud sylwadau ar doriadau Keir Starmer yn benodol gyda'r cwestiwn hwn, ond tybed pa effaith y byddai'r toriadau i fudd-daliadau anabledd yn ei gael yn gyffredinol, ar bobl ifanc anabl yng Nghymru sy'n ceisio mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Nid yw llawer ohonyn nhw'n gallu gweithio, felly lle bydd hynny'n eu gadael? Beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl ifanc anabl yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae Llafur Cymru yn brolio am warantau, ond y gwir amdani yw eu bod yn siomi'r union bobl sydd eu hangen fwyaf.

I'm grateful to Luke Fletcher for the way in which he set out and his commitment to supporting young people. He does mention the one in 10 figure where more action is needed. Well, that's why, again, Presiding Officer, we started the young person’s guarantee, to access those hard-to-reach places, and we'll continue investing in that way. If you look at the trend of where NEETs is, and those in education, employment and training, from 2022 to 2023, it's gone up, and I expect it to go up again. But he makes a real point about how we engage, as Sam Kurtz raised earlier, with young people, to ensure that they know the offer is, firstly, there, and then the offer is tailored to suit them—so, both responding to industry needs and requirements, but also to make sure, if there is additional support that we can offer them, like the experience I've mentioned with Communities for Work Plus, where they need that more detailed mentoring scheme, then that support is also there for them and it's tailored in that way.

The Member is absolutely right to highlight disabled people, and I look forward to responding to Jenny Rathbone's committee, the committee that she chairs, alongside the social justice Minister, on the important work and inquiry Jenny's committee has done in this area in making a series of recommendations, which we'll consider and bring forward.

I just want to point to two areas in which the young person's guarantee and the work of the Welsh Government is supporting disabled people in employment. Firstly, through our disabled people's employment champions; they will continue to influence the attitudinal changes needed to encourage more employers to recognise the benefits of employing disabled young people. And then more directly involved with the young person's guarantee is our flagship programme, Jobs Growth Wales+. Following the feedback from young people directly, as part of the national conversation, we have now provided supported employment coaches for those who are aged 16 to 19, participating or who wish to participate in the Jobs Growth Wales+ programme who identify as being disabled or having an additional learning need. And I'm keen to make sure that support continues in that way.

The Member then brings up apprenticeships and how we respond. Well, we know, don't we, how important the skills system is for responding to the opportunities. He mentioned the situation in his area. One of the ways we get out of those is having the opportunities in front of us, and we know our First Minister's priorities of jobs and green growth—. Well, much of the support and backing in realising that ambition of the First Minister is within the skills system, and that's why, in this budget, we're investing £7.5 million in the flexible skills programme; £32 million for Jobs Growth Wales to continue the work with young people, as I've set out; £16.8 million in Communities for Work Plus in this programme; and then a £144 million investment in apprenticeships this year, Presiding Officer, to meet the target of 100,000 starts in this Senedd term. I had the opportunity to be at the National Training Federation for Wales apprenticeship conference, which I think the Member was at, on Thursday, listening directly to four apprentices on the panel, knowing and showcasing that the investment from the Welsh Government has changed their lives, and one of them on the stage said that it has literally saved their life. So, we'll go on supporting apprentices and apprenticeship providers with a £144 million investment. I thank the Member because of his genuine interest in supporting apprentices and the skills system. I think others in his party should follow his lead.

Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher am y ffordd y nododd ei ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc. Mae'n sôn am y ffigur un o bob 10 lle mae angen mwy o weithredu. Wel, dyna pam, unwaith eto, Llywydd, y gwnaethom ni ddechrau'r warant i bobl ifanc, i gael mynediad i'r lleoedd anodd eu cyrraedd hynny, a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y ffordd honno. Os edrychwch chi ar y duedd o ran lle mae NEET, a'r rhai hynny mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, o 2022 i 2023, mae wedi mynd i fyny, ac rwy'n disgwyl iddi fynd i fyny eto. Ond mae'n gwneud pwynt gwirioneddol ynglŷn â sut rydym yn ymgysylltu, fel y cododd Sam Kurtz yn gynharach, gyda phobl ifanc, i sicrhau eu bod yn gwybod bod y cynnig, yn gyntaf, yno, ac yna bod y cynnig wedi'i deilwra i fod yn addas iddyn nhw—felly, ymateb i anghenion a gofynion y diwydiant, ond hefyd i wneud yn siŵr, os oes cymorth ychwanegol y gallwn ni ei gynnig iddyn nhw, fel y profiad rwyf wedi sôn amdano gyda Cymunedau am Waith a Mwy, lle mae angen y cynllun mentora manylach hwnnw arnyn nhw, yna mae'r cymorth hwnnw hefyd ar gael iddyn nhw ac mae wedi'i deilwra yn y ffordd honno.

Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at bobl anabl, ac edrychaf ymlaen at ymateb i bwyllgor Jenny Rathbone, y pwyllgor y mae hi'n ei gadeirio, ochr yn ochr â'r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, ar y gwaith a'r ymchwiliad pwysig y mae pwyllgor Jenny wedi'i wneud yn y maes hwn wrth wneud cyfres o argymhellion, y byddwn yn eu hystyried a'u cyflwyno.

Rwyf eisiau cyfeirio at ddau faes lle mae'r warant i bobl ifanc a gwaith Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl mewn cyflogaeth. Yn gyntaf, drwy ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl; byddan nhw'n parhau i ddylanwadu ar y newidiadau agwedd sydd eu hangen i annog mwy o gyflogwyr i gydnabod manteision cyflogi pobl ifanc anabl. Ac yna ymwneud yn fwy uniongyrchol â'r warant i bobl ifanc yw ein rhaglen flaenllaw, Twf Swyddi Cymru+. Yn dilyn yr adborth gan bobl ifanc yn uniongyrchol, fel rhan o'r sgwrs genedlaethol, rydym ni bellach wedi darparu hyfforddwyr cyflogaeth â chymorth i'r rhai sy'n 16 i 19 oed, sy'n cymryd rhan neu sy'n dymuno cymryd rhan yn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ sy'n nodi eu bod yn anabl neu sydd ag angen dysgu ychwanegol. Ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y gefnogaeth honno yn parhau yn y modd hwnnw.

Yna mae'r Aelod yn sôn am brentisiaethau a sut rydym yn ymateb. Wel, rydym ni'n gwybod, onid ydym ni, pa mor bwysig yw'r system sgiliau ar gyfer ymateb i'r cyfleoedd. Soniodd am y sefyllfa yn ei ardal ef. Un o'r ffyrdd rydym ni'n dod allan o'r rheiny yw cael y cyfleoedd o'n blaenau ni, ac rydym ni'n gwybod mai blaenoriaethau ein Prif Weinidog yw swyddi a thwf gwyrdd—. Wel, mae llawer o'r cymorth a'r gefnogaeth i wireddu uchelgais y Prif Weinidog o fewn y system sgiliau, a dyna pam, yn y gyllideb hon, ein bod yn buddsoddi £7.5 miliwn yn y rhaglen sgiliau hyblyg; £32 miliwn ar gyfer Twf Swyddi Cymru i barhau â'r gwaith gyda phobl ifanc, fel rwyf wedi nodi; £16.8 miliwn mewn Cymunedau am Waith a Mwy yn y rhaglen hon; ac yna buddsoddiad o £144 miliwn mewn prentisiaethau eleni, Llywydd, i gyrraedd y targed o 100,000 yn dechrau yn nhymor y Senedd hon. Cefais y cyfle i fod yng nghynhadledd brentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ac rwy'n credu bod yr Aelod yno, ddydd Iau, yn gwrando'n uniongyrchol ar bedwar prentis ar y panel, gan wybod ac arddangos bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi newid eu bywydau, a dywedodd un ohonyn nhw ar y llwyfan ei fod wedi achub ei fywyd yn llythrennol. Felly, byddwn ni'n parhau i gefnogi prentisiaid a darparwyr prentisiaethau gyda buddsoddiad o £144 miliwn. Diolch i'r Aelod oherwydd ei ddiddordeb gwirioneddol mewn cefnogi prentisiaid a'r system sgiliau. Rwy'n credu y dylai eraill yn ei blaid ddilyn ei arweiniad.

15:10

Minister, I welcome this statement today. We do know, I think, that the young person's guarantee needs to work with the wider offer for our 14 and 19-year-olds with regard to education and training. I welcome the junior apprenticeship initiative, which I think is very promising, and I welcome the initiative of the colleges of further education, Welsh Government and others on that. But there is that wider issue of 14-year-olds in our schools who want a vocational education, which isn't available in school and which colleges of further education are not funded to provide, and I think we really do need to address those issues if we're going to make the young person's guarantee as meaningful as it needs to be.

Another issue I'd like to raise, Minister, in the brief time I have, is around CAF, a train manufacturer in my constituency. They're a Spanish company. In Spain, they have a high number of women working as engineers with the company, but here in Wales they find it very difficult to recruit girls and women into their apprenticeships and into their workforce, and I wonder if those are issues that you'll be looking to address as part of the young person's guarantee.

Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw. Rydym ni'n gwybod, rwy'n credu, bod angen i'r warant i bobl ifanc weithio gyda'r cynnig ehangach i'n pobl ifanc 14 ac 19 oed o ran addysg a hyfforddiant. Rwy'n croesawu'r fenter prentisiaeth iau, sydd, yn fy marn i, yn addawol iawn, ac rwy'n croesawu menter colegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru ac eraill ar hynny. Ond mae mater ehangach o bobl ifanc 14 oed yn ein hysgolion sydd eisiau addysg alwedigaethol, nad yw ar gael yn yr ysgol ac nad yw colegau addysg bellach yn cael eu hariannu i'w darparu, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni fynd i'r afael â'r materion hynny os ydym am wneud y warant i bobl ifanc mor ystyrlon ag y mae angen iddo fod.

Mae mater arall yr hoffwn ei godi, Gweinidog, yn yr amser byr sydd gennyf, yn ymwneud â CAF, gwneuthurwr trenau yn fy etholaeth. Maen nhw'n gwmni Sbaenaidd. Yn Sbaen, mae ganddyn nhw nifer uchel o fenywod yn gweithio fel peirianwyr gyda'r cwmni, ond yma yng Nghymru maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn recriwtio merched a menywod i'w prentisiaethau ac i'w gweithlu, a tybed a yw'r rheini'n faterion y byddwch chi'n ceisio mynd i'r afael â nhw fel rhan o'r warant i bobl ifanc.

I thank John Griffiths for that. I'll just take the point on 14 to 16-year-olds first. Presiding Officer, I remember when I was that age, I engaged in a very early initiative of what would be classed as a junior apprenticeship now, with Deeside college at the time—I think it was the 'school link' programme—and I found that invaluable. Going every Friday for two years to college, in that pre-apprenticeship phase, certainly served me well. It's one of the reasons why the Welsh Government, not directly in my portfolio responsibilities, but in the education division, has increased that junior apprenticeship budget by 50 per cent to £600,000 in 2025-26, allowing more students to benefit from that type of programme. But John Griffiths makes an important point about making sure that access to the programme is across Wales and available to more learners, and I fully acknowledge his points there and that’s why officials in the education division, supported by officials in my division, are working very closely with Medr to see how we can scope further expansion of that particular programme.

The Member than points to CAF in his own constituency, the train manufacturer, a really high-skilled industry within the Newport constituency, and the need to bring more women and girls into science, technology, engineering, and mathematics subjects, and then on to training and employment in those areas.

I just look to the example of Airbus in my own constituency. Rosie Boddy, who was an Airbus apprentice, engaged with the young person’s guarantee programme through our Inspiring Skills Excellence in Wales and WorldSkills support, is now training people in the college, in Coleg Cambria in Deeside and Wrexham, but not only training the next generation of future Rosies and future engineers, she is also going out to schools. During National Apprenticeship Week, she was on a stage nationally, in Birmingham, I think, to promote the importance of that sector, breaking down the stereotypes, and we should be reminded of Rosie and other people like Rosie on International Women’s Day. That is one of the ways we will continue to champion, highlighting successes like Rosie’s, where this has had success. I want to see engineering and manufacturing open to all, and the young person’s guarantee will help us get there in that way.

Diolch i John Griffiths am hynna. Fe wnaf ymateb i'r pwynt ar bobl ifanc 14 i 16 oed yn gyntaf. Llywydd, rwy'n cofio pan oeddwn i yr oedran hwnnw, cymerais ran mewn menter gynnar iawn o'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn brentisiaeth iau nawr, gyda choleg Glannau Dyfrdwy ar y pryd—rwy'n credu mai'r rhaglen 'cyswllt ysgol' oedd hi—ac roeddwn i'n gweld hynny'n amhrisiadwy. Roedd mynd bob dydd Gwener am ddwy flynedd i'r coleg, yn y cyfnod cyn-brentisiaeth hwnnw, yn sicr o fudd i mi. Dyma un o'r rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru, nid yn uniongyrchol yn fy nghyfrifoldebau portffolio, ond yn yr adran addysg, wedi cynyddu'r gyllideb prentisiaeth iau honno 50 y cant i £600,000 yn 2025-26, gan ganiatáu i fwy o fyfyrwyr elwa ar y math hwnnw o raglen. Ond mae John Griffiths yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sicrhau bod mynediad i'r rhaglen ledled Cymru a'i bod ar gael i fwy o ddysgwyr, ac rwy'n cydnabod ei bwyntiau yn y fan yna yn llawn a dyna pam mae swyddogion yn yr adran addysg, gyda chefnogaeth swyddogion yn fy adran i, yn gweithio'n agos iawn gyda Medr i weld sut y gallwn ymestyn y rhaglen benodol honno ymhellach.

Mae'r Aelod wedyn yn cyfeirio at CAF yn ei etholaeth ei hun, y gwneuthurwr trenau, diwydiant sgiliau uchel iawn yn etholaeth Casnewydd, a'r angen i ddod â mwy o fenywod a merched i bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac yna ymlaen i hyfforddiant a chyflogaeth yn y meysydd hynny.

Edrychaf at enghraifft Airbus yn fy etholaeth i. Mae Rosie Boddy, a fu'n brentis Airbus, yn ymgysylltu â'r rhaglen gwarant i bobl ifanc trwy ein cefnogaeth Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a WorldSkills, bellach yn hyfforddi pobl yn y coleg, yng Ngholeg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam, ond nid yn unig yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o Rosies a pheirianwyr y dyfodol, mae hi hefyd yn mynd allan i ysgolion. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, roedd hi ar lwyfan yn genedlaethol, yn Birmingham, rwy'n credu, i hyrwyddo pwysigrwydd y sector hwnnw, gan chwalu'r stereoteipiau, a dylid ein hatgoffa o Rosie a phobl eraill fel Rosie ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dyna un o'r ffyrdd y byddwn yn parhau i hyrwyddo, gan dynnu sylw at lwyddiannau fel un Rosie, lle mae hyn wedi cael llwyddiant. Rwyf am weld peirianneg a gweithgynhyrchu yn agored i bawb, a bydd y warant i bobl ifanc yn ein helpu i wneud hynny yn y ffordd honno.

15:15

Minister, I say this to somebody who’s got more recent experience than I have of going through this, but it is a daunting time when you first realise you have to choose a career path. It’s not easy to know which path to take and where to start. Many just follow family members into a career in exactly the same area.

As you know, you and I both embarked on a different career path than most who are politicians, by working in industry. Many young people don’t know how to access jobs and training in high-skilled manufacturing. Too many parents hear about manufacturing redundancies and guide their children into professions such as teaching and the law, which appear a lot safer. Our economy needs high-value manufacturing, from the production of computer games to the production of aircraft. How is the young person’s guarantee encouraging people to access these careers and encouraging skills growth when they do?

Gweinidog, rwy'n dweud hyn wrth rywun sydd wedi cael profiad mwy diweddar nag sydd gen i o fynd trwy hyn, ond mae'n gyfnod brawychus pan sylweddolwch yn gyntaf bod yn rhaid i chi ddewis llwybr gyrfa. Nid yw'n hawdd gwybod pa lwybr i'w ddilyn a ble i ddechrau. Mae llawer dim ond yn dilyn aelodau'r teulu i yrfa yn union yr un maes.

Fel y gwyddoch chi, cychwynnoch chithau a minnau ar lwybr gyrfa gwahanol i'r mwyafrif sy'n wleidyddion, trwy weithio mewn diwydiant. Nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod sut i gael mynediad i swyddi a hyfforddiant mewn gweithgynhyrchu sgiliau uchel. Mae gormod o rieni yn clywed am ddiswyddiadau gweithgynhyrchu ac yn arwain eu plant i broffesiynau fel addysgu a'r gyfraith, sy'n ymddangos yn llawer mwy diogel. Mae angen gweithgynhyrchu gwerth uchel ar ein heconomi, o gynhyrchu gemau cyfrifiadurol i gynhyrchu awyrennau. Sut mae'r warant i bobl ifanc yn annog pobl i gael mynediad i'r gyrfaoedd hyn ac annog twf sgiliau pan fyddan nhw'n gwneud hynny?

Can I thank Mike Hedges for that? Llywydd, it’s always good to engage in conversation and discussion around skills programmes with Mike Hedges, someone who understands the industry and is from the industry of manufacturing. He will be pleased, I’m sure, to hear that I am in Swansea on Thursday, celebrating the achievements through the Inspiring Skills Excellence in Wales programme, Skills Competition Wales, in which students from across the country take part at the highest level when it comes to skills competence, and I’ll be there on Thursday celebrating that success.

But he will also be aware and be pleased to know that, in November, Wales will host for the first time the UK national finals of the WorldSkills competition. That is an opportunity to inspire and develop young people’s vocational skills by celebrating their achievements on that national stage. I’m proud that we are supporting those types of programmes through Skills Competition Wales and through our young person’s guarantee offer. The young person’s guarantee offer reaches young people—many, many young people—in every single constituency across Wales. In every corner of Wales, our young person’s guarantee offers people aged 16 to 24 a route into employment, education or training. And in particular on skills, and when it comes to vocational training routes, well, I’m very proud of my own training routes, Presiding Officer, the first Minister of skills to be from an apprenticeship background, the first Minister of social partnership to have that background, and the first Minister of culture to also have that background.

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am hynna? Llywydd, mae bob amser yn dda cael sgwrs a thrafodaeth ynghylch rhaglenni sgiliau gyda Mike Hedges, rhywun sy'n deall y diwydiant ac sy'n dod o'r diwydiant gweithgynhyrchu. Bydd yn falch, rwy'n siŵr, o glywed y byddaf i yn Abertawe ddydd Iau, yn dathlu'r cyflawniadau drwy'r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle mae myfyrwyr o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan ar y lefel uchaf o ran cymhwysedd sgiliau, a byddaf yno ddydd Iau yn dathlu'r llwyddiant hwnnw.

Ond bydd e' hefyd yn ymwybodol ac yn falch o wybod y bydd Cymru, ym mis Tachwedd, yn cynnal rowndiau terfynol cenedlaethol y DU yng nghystadleuaeth WorldSkills, am y tro cyntaf. Mae hynny'n gyfle i ysbrydoli a datblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc trwy ddathlu eu cyflawniadau ar y llwyfan cenedlaethol hwnnw. Rwy'n falch ein bod yn cefnogi'r mathau hynny o raglenni drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a thrwy gynnig ein gwarant i bobl ifanc. Mae'r cynnig gwarant i bobl ifanc yn cyrraedd pobl ifanc—llawer iawn o bobl ifanc—ym mhob un etholaeth ledled Cymru. Ym mhob cwr o Gymru, mae ein gwarant i bobl ifanc yn cynnig llwybr i bobl 16 i 24 oed i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Ac yn enwedig o ran sgiliau, ac o ran llwybrau hyfforddiant galwedigaethol, wel, rwy'n falch iawn o fy llwybrau hyfforddi fy hun, Llywydd, y Gweinidog sgiliau cyntaf i fod o gefndir prentisiaeth, y Gweinidog partneriaeth gymdeithasol cyntaf i fod â'r cefndir hwnnw, a'r Gweinidog diwylliant cyntaf i fod â'r cefndir hwnnw hefyd.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch targedau ymateb ambiwlansys argyfwng
4. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Response to the Health and Social Care Committee’s recommendation about emergency ambulance response targets

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch targedau ymateb ambiwlansys argyfwng. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

The next item is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care, the response to the Health and Social Care Committee’s recommendation about emergency ambulance response targets. I call on the Cabinet Secretary, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau’n cofio i mi gyhoeddi fis Tachwedd y byddwn i'n sefydlu adolygiad o’r targed ymateb ar gyfer ambiwlansys mewn achosion brys. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cwestiynu pa mor briodol yw’r targed presennol. Mae’r adolygiad hwnnw wedi dod i ben.

O 1 Gorffennaf ymlaen, fe fyddwn ni’n gweithredu newidiadau i’r fframwaith perfformiad ar gyfer gwasanaethau ambiwlans. Mewn ymateb i hyn, bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn treialu newidiadau i'w fodel ymateb clinigol. Nod y newidiadau yma yw achub mwy o fywydau a gwella canlyniadau pobl ar ôl ataliad ar y galon, salwch difrifol, digwyddiad neu ddamwain. Fe fyddwn ni’n eu treialu am flwyddyn, ac os byddan nhw’n llwyddo, fe fyddwn ni’n cyflwyno y newidiadau yn barhaol.

Ar hyn o bryd, un targed sydd gyda ni ar gyfer ymateb mewn achosion brys, ac mae e wedi ei seilio ar amser. Ni yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n dal i weithredu fel hyn. Mae’r targed yma ar gyfer galwadau 999 sy’n cael eu rhoi yn y categori coch, neu lle mae bywyd yn y fantol. Rŷn ni’n disgwyl i 65 y cant o alwadau coch gael ymateb mewn wyth munud. Mae’r targedau yma wedi bod ar waith ers y 1970au.

Dirprwy Lywydd, yn ôl barn y mwyafrif o’r grŵp adolygu, sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth arbenigol, dyw’r targed yma ddim yn briodol nac yn addas i’r diben bellach. Mae nifer o resymau am hyn. Does dim tystiolaeth ei fod e’n helpu i wella canlyniadau. Dyw e ddim yn cefnogi staff i flaenoriaethu ar sail glinigol yn effeithiol. Er enghraifft, mae rhywun sy’n cael ataliad ar y galon, yn methu anadlu a heb guriad calon, yn cael yr un flaenoriaeth â pherson sydd o bosib yn profi problemau anadlu llai. Mae hyn yn golygu bod adnoddau ambiwlans gwerthfawr yn cael eu hanfon at bobl sy’n llai sâl ac sydd ddim angen triniaeth frys neu ofal ysbyty o bosib.

Rŷn ni’n mesur llwyddiant drwy lens amser ymateb yn unig. Felly, pe bai ambiwlans yn cyrraedd mewn wyth munud ac un eiliad a’r person yn goroesi, byddai hynny’n cael ei ystyried yn fethiant oherwydd methiant i gyrraedd y targed amser. Ond, yn groes i bob rheswm, pe bai’r ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud a’r person, yn anffodus, yn marw, byddai hynny’n cael ei ystyried yn achos o gyrraedd y targed.

Thank you, Dirprwy Lywydd. Members will recall my statement in November when I announced that I would be setting up a review of the emergency ambulance response target. This was in direct response to a recommendation from the Senedd’s Health and Social Care Committee, which had questioned the appropriateness of the current target. That review has now concluded.

From 1 July onwards, we will implement changes to the ambulance performance framework. In response to this, the Welsh ambulance service will trial changes to its clinical response model. These changes are designed to save more lives and improve people’s outcomes following a cardiac arrest, a serious illness, incident or accident. We will test them for a year, and if successful, they will be introduced permanently.

We currently have one, time-based emergency response target. We are the only part of the UK that continues on this basis. This target is for 999 calls that are categorised as red or immediately life-threatening. We expect 65 per cent of red calls to receive a response in eight minutes. These targets have been in place since the 1970s.

Dirprwy Lywydd, the overwhelming view of the review group underpinned by expert evidence is that this is no longer appropriate as a target nor is it fit for purpose. There are a number of reasons for this. There is no evidence it helps to drive better outcomes. It does not support effective clinical prioritisation by staff. For example, someone who is in cardiac arrest, is not breathing and does not have a heartbeat, is given the same priority as a person who may be experiencing relatively minor breathing issues. This means that precious ambulance resources are being dispatched to people who are less seriously ill and may not require emergency treatment or onward hospital care.

We measure success purely through the lens of response time. So, if an ambulance arrives in eight minutes and one second and the person survives, that would be regarded as a failure because the response time target was missed. But, perversely, if the ambulance arrived within eight minutes and the person died, that would be regarded as meeting the target.

The review group looking at the clinical response model has recommended that we move away from just a time-based target as the sole measure of success and focus on clinical outcomes, especially survival following cardiac arrest. Survival rates in Wales following an out-of-hospital cardiac arrest are currently less than 5 per cent. This is not acceptable. England has a survival rate of 10 per cent, Scotland 9 per cent. The figure is far higher in other parts of the world. We must aspire to do better and to match the survival rates in European countries and some US cities. For people in cardiac arrest, time makes a difference. Starting CPR immediately can double or even quadruple survival chances. Shocking the heart, defibrillation, within three to five minutes of collapse can increase survival rates to as much as 70 per cent.

The group has concluded that two new approaches are needed. Firstly, a more balanced approach is required with a greater focus on clinical outcomes to drive improvement. And secondly, we need to action this through a new focus on increasing early CPR and defibrillation.

At the recommendation of the group, we are creating two new priority 999 categories: a purple category, which will cover cardiac and respiratory arrest; and a red emergency category, which includes responses to major trauma, major bleeding and cases where a person’s condition could deteriorate swiftly without rapid intervention. Both will be subject to time-based targets; we'll expect an average response time of between six to eight minutes for patients in each category.

However, while advanced life support from a paramedic is an important part of the chain of survival, early CPR and defibrillation, which can be delivered by bystanders and people in local communities, are equally crucial in securing better outcomes in the event of an out-of-hospital cardiac arrest. And learning from elsewhere shows a comprehensive programme of training, education, and increasing the availability of defibrillators can significantly improve outcomes for people in cardiac arrest.

So, to support our renewed focus on improving outcomes, I've taken two immediate steps. Firstly, I have, this week, transferred the national Save a Life Cymru programme into the Welsh ambulance service, to enable a more integrated systematic approach to cardiac arrest response. Secondly, I have asked the NHS Wales joint commissioning committee and the ambulance service to undertake an immediate and rapid review to explore how we can go much further to provide education and CPR training resources; to increase public awareness of these life-saving techniques; to improve accessibility to defibrillators; and to encourage community involvement. This work will conclude by the end of June and I expect a delivery plan to be implemented to coincide with the launch of our new ambulance performance framework from 1 July. As political leaders, we must also seek to set an example. I am pleased to have completed a course of CPR training and would like to extend an offer from the Welsh ambulance service for CPR training to all Senedd Members.

Dirprwy Lywydd, importantly, the new ambulance performance framework will have clinical outcomes as its primary measure, reflecting a clear consensus from the review group. It will be supported by clinical indicators and time-based targets to help contribute to the achievement of better outcomes. From 1 July, for the purple category, we will report monthly on the percentage of people to have a heartbeat restored after a period of cardiac arrest, which is subsequently retained until arrival at hospital, and secondly, the median time it takes to bystander CPR and defibrillation following an out-of-hospital cardiac arrest. And for both purple and red categories, we will report the average and ninetieth percentile ambulance response times. 

The review group has recommended this change to bring Wales more into line with the other UK nations. The Welsh ambulance service will use the next three months to make the necessary changes to its systems and working practices to ensure that its clinical response model can deliver the new performance framework.

Over the next two months, a further review will be undertaken to consider whether measures are required for incidents not categorised in the purple or red categories, which were outside the scope of this review. The ambulance service will consider the findings of this additional review before finalising changes to its clinical model. This will include conditions that currently fall in the amber category, such as symptoms of a stroke or heart attack. This will also see the rolling out of a rapid clinical screening process for all calls not categorised as purple or red. This will be done by a senior paramedic or nurse and take place immediately after the initial assessment by a 999 call handler. I saw the team in action at first-hand last week and I am confident that the early clinical judgment that they can apply will make a big difference in getting ambulances to where they are most needed.

Of course, Dirprwy Lywydd, much of this is dependent on the availability of ambulance resources. Last week, I had the chance to ride along with an ambulance crew to see the amazing work they do throughout their working day. I also saw the impact that our ambulances have outside hospitals. We must have a significant improvement in ambulance handover performance to ensure that ambulances are available to respond to 999 calls in the community and are not stuck outside hospitals for hours on end. In recognition of the need for urgent action, I have established a new clinically led national ambulance patient handover improvement delivery group. This group will identify and oversee action aimed at improving ambulance patient handover performance, learning from UK-wide and international best practice. And this will include a much greater focus on improving patient flow and productivity of discharge planning to ensure that we have sufficient bed capacity seven days a week.

Dirprwy Lywydd, I’d like to thank the review group, finally, for their rapid and thorough work. I will provide a further update in advance of the planned launch of the framework on 1 July.

Mae'r grŵp adolygu sy'n edrych ar y model ymateb clinigol wedi argymell ein bod yn symud i ffwrdd o darged sy'n seiliedig ar amser yn unig fel yr unig fesur o lwyddiant a chanolbwyntio ar ganlyniadau clinigol, yn enwedig goroesi yn dilyn ataliad y galon. Mae cyfraddau goroesi yng Nghymru yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn llai na 5 y cant ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn dderbyniol. Mae gan Loegr gyfradd oroesi o 10 y cant, a 9 y cant yn yr Alban. Mae'r ffigur yn llawer uwch mewn rhannau eraill o'r byd. Mae'n rhaid i ni fod â'r nod o wneud yn well ac i gyd-fynd â'r cyfraddau goroesi yng ngwledydd Ewrop a rhai dinasoedd yn yr Unol Daleithiau. I bobl sy'n dioddef ataliad y galon, mae amser yn gwneud gwahaniaeth. Gall dechrau adfywio cardiopwlmonaidd (CPR) ar unwaith ddyblu neu hyd yn oed gynyddu'r siawns o oroesi bedair gwaith. Gall rhoi sioc i'r galon, diffibrilio, o fewn tri i bum munud ar ôl i berson gwympo gynyddu cyfraddau goroesi gymaint â 70 y cant.

Mae'r grŵp wedi dod i'r casgliad bod angen dau ddull newydd. Yn gyntaf, mae angen dull mwy cytbwys gyda mwy o bwyslais ar ganlyniadau clinigol i ysgogi gwelliant. Ac yn ail, mae angen i ni weithredu hyn trwy ganolbwyntio o'r newydd ar gynyddu CPR cynnar a diffibrilio.

Ar argymhelliad y grŵp, rydym yn creu dau gategori newydd â blaenoriaeth 999: categori porffor, a fydd yn ymdrin ag ataliad y galon ac anadlol; a chategori brys coch, sy'n cynnwys ymatebion i drawma mawr, gwaedu ar raddfa fawr ac achosion lle gallai cyflwr person ddirywio'n gyflym heb ymyrraeth gyflym. Bydd y ddau yn destun targedau sy'n seiliedig ar amser; byddwn yn disgwyl amser ymateb cyfartalog o rhwng chwech ac wyth munud i gleifion ym mhob categori.

Fodd bynnag, er bod cymorth bywyd ar lefel uwch gan barafeddyg yn rhan bwysig o'r gadwyn oroesi, mae CPR cynnar a diffibrilio, y gellir ei ddarparu gan sefyllwyr a phobl mewn cymunedau lleol, yr un mor hanfodol wrth sicrhau canlyniadau gwell os bydd ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac mae dysgu o fannau eraill yn dangos y gall rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant, addysg, a chynyddu argaeledd diffibrilwyr wella canlyniadau yn sylweddol i bobl sy'n cael ataliad y galon.

Felly, er mwyn cefnogi ein pwyslais o'r newydd ar wella canlyniadau, rwyf wedi cymryd dau gam ar unwaith. Yn gyntaf, rwyf wedi trosglwyddo'r rhaglen genedlaethol Achub Bywyd Cymru i wasanaeth ambiwlans Cymru, yr wythnos hon, er mwyn galluogi dull systematig mwy integredig o ymateb i ataliad y galon. Yn ail, rwyf wedi gofyn i gyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans gynnal adolygiad cyflym ar unwaith i archwilio sut y gallwn fynd llawer ymhellach i ddarparu adnoddau addysg a hyfforddiant CPR; cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r technegau achub bywyd hyn; gwneud diffibrilwyr yn fwy hygyrch; ac annog cyfranogiad cymunedol. Bydd y gwaith hwn yn dod i ben erbyn diwedd mis Mehefin ac rwy'n disgwyl i gynllun cyflawni gael ei weithredu i gyd-fynd â lansiad ein fframwaith perfformiad ambiwlans newydd o 1 Gorffennaf. Fel arweinwyr gwleidyddol, mae'n rhaid i ni hefyd geisio gosod esiampl. Rwy'n falch fy mod wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant CPR a hoffwn ymestyn cynnig gan wasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer hyfforddiant CPR i holl Aelodau'r Senedd.

Dirprwy Lywydd, yn bwysig, bydd gan y fframwaith perfformiad ambiwlans newydd ganlyniadau clinigol fel ei brif fesur, gan adlewyrchu consensws clir gan y grŵp adolygu. Bydd yn cael ei gefnogi gan ddangosyddion clinigol a thargedau sy'n seiliedig ar amser i helpu i gyfrannu at gyflawni canlyniadau gwell. O 1 Gorffennaf, ar gyfer y categori porffor, byddwn yn adrodd yn fisol ar ganran y bobl yr adferwyd curiad eu calon ar ôl cyfnod o ataliad y galon, sydd wedyn yn cael ei gynnal nes cyrraedd yr ysbyty, ac yn ail, yr amser canolrif y mae'n ei gymryd i sefyllwyr weithredu CPR a diffibrilio yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac ar gyfer categorïau porffor a choch, byddwn yn adrodd ar amseroedd cyfartalog a 90 canradd ymateb ambiwlans.

Mae'r grŵp adolygu wedi argymell y newid hwn i sicrhau bod Cymru'n fwy cydnaws â chenhedloedd eraill y DU. Bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn defnyddio'r tri mis nesaf i wneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau a'i arferion gwaith i sicrhau bod ei fodel ymateb clinigol yn gallu cyflawni'r fframwaith perfformiad newydd.

Dros y ddau fis nesaf, bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal i ystyried a oes angen mesurau ar gyfer digwyddiadau nad ydynt wedi'u categoreiddio yn y categorïau porffor neu goch, a oedd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn. Bydd y gwasanaeth ambiwlans yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad ychwanegol hwn cyn cwblhau newidiadau i'w fodel clinigol. Bydd hyn yn cynnwys amodau sydd ar hyn o bryd yn y categori oren, fel symptomau strôc neu drawiad ar y galon. Bydd hyn hefyd yn gweld cyflwyno proses sgrinio glinigol gyflym ar gyfer pob galwad nad yw'n cael ei chategoreiddio fel porffor neu goch. Bydd hyn yn cael ei wneud gan uwch barafeddyg neu nyrs ac fe'i cynhelir yn syth ar ôl yr asesiad cychwynnol gan y person sy'n ymdrin â galwadau 999. Gwelais y tîm ar waith yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf ac rwy'n hyderus bydd y penderfyniad clinigol cynnar a wnânt yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran cael ambiwlansys i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, mae llawer o hyn yn dibynnu ar argaeledd adnoddau ambiwlans. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i deithio gyda chriw ambiwlans i weld y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud drwy gydol eu diwrnod gwaith. Gwelais hefyd yr effaith y mae ein hambiwlansys yn ei chael y tu allan i ysbytai. Mae'n rhaid i ni gael gwelliant sylweddol ym mherfformiad trosglwyddo o ambiwlansys i sicrhau bod ambiwlansys ar gael i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned ac nad ydynt yn sownd y tu allan i ysbytai am oriau maith. I gydnabod yr angen am weithredu ar frys, rwyf wedi sefydlu grŵp cyflawni gwella trosglwyddiad cleifion ambiwlans cenedlaethol dan arweiniad clinigol newydd. Bydd y grŵp hwn yn nodi ac yn goruchwylio'r camau sydd â'r nod o wella perfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans, dysgu o arfer gorau ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys llawer mwy o bwyslais ar wella llif cleifion a chynhyrchiant cynllunio rhyddhau er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o welyau saith diwrnod yr wythnos.

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r grŵp adolygu, yn olaf, am eu gwaith cyflym a thrylwyr. Byddaf yn darparu diweddariad pellach cyn lansio'r fframwaith ar 1 Gorffennaf.

15:25

Can I thank the Cabinet Secretary for his statement today, and say that it's very welcome indeed? And I thank the Cabinet Secretary for responding so positively to the Health and Social Care Committee, as well, and his approach in this regard.

Only 48.3 per cent of red calls met the eight-minute target in January of this year, and if you look at the last four years in January, the target has worsened. Of course, the Welsh Government has not met the red target since July 2020, so this is very much the backdrop to this statement today. You mentioned in your statement, Cabinet Secretary, that the eight-minute response standard has been in place since the 1970s—wow, that's a long time ago, probably before I was born—and you mentioned that it’s not fit for purpose. You say that there is no evidence it helps to drive better outcomes—or this is what the group concluded—and it does not support effective clinical prioritisation. That is powerful stuff. So, the obvious question here is should the eight-minute response standard have been reviewed and changed well before now.

Of course, having targets in place is important. They’re there to ensure accountability and provide a base to build on, and it’s important for this Senedd to be able to scrutinise you, Cabinet Secretary, and hold you to account, and indeed, it’s important for you to be able to hold the service to account. So, that’s why it’s important to have those targets in place. You say that the changes are designed to save more lives, improve outcomes. How will this be reported and measured? It’s important that we’ve got a measure and a target to be able to account for that.

During the period of the trial, will you still be reporting on the current eight-minute target? Because clearly, it’s only a trial period, so I would say it is important that that data is still published during the trial period. Will the new measures make it easier to make comparisons to other parts of the United Kingdom as well? Because in the past, there’s always been a debate, and there’s been some discussion about targets, about them not being direct comparisons. It's important to be able to hold this Government, and other Governments, and vice versa, to account in that regard.

You talk about a comprehensive programme of training and education and increasing the availability of defibrillators. You expanded a bit on that. Can you just let us know if there’s any finance attached to that element of your statement? Because there is a cost attached to do what you’ve outlined in that regard. You mentioned that we will also see the rolling out of the rapid clinical screening process for all calls not categorised as purple or red, and this will be done by a senior paramedic or nurses and take place immediately after the initial assessment by a 999 call handler. It seems that there’s an extra resource that’s needed there by clinical professionals. I wonder if you could outline if you’re content that there is enough availability for those professionals to be in place.

And finally, you say that we must have a significant improvement in ambulance handover performance. I don’t think that can be overstated. I would suggest that the single biggest challenge for the service is handover delays at emergency departments. I wonder whether that would be your assessment as well. I thought this was, perhaps, a weaker part of the statement, because we already know that this is a problem—25 per cent, often, of the ambulance stock is held up outside a hospital. This is the big issue. Towards the end of your statement, you talk about a review and the establishment of another group, but I was a bit disappointed on that. I think we know what the problem is; now we need some action in that regard. I wonder if you could put a little bit more meat on the bone in that last part of your statement, Cabinet Secretary, because the real issue here is the handover delays into emergency care outside hospitals.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a dweud bod croeso mawr iddo? Ac rwy'n diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb mor gadarnhaol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hefyd, a'i ymagwedd yn hyn o beth.

Dim ond 48.3 y cant o alwadau coch wnaeth gyrraedd y targed wyth munud ym mis Ionawr eleni, ac os edrychwch chi ar y pedair blynedd diwethaf ym mis Ionawr, mae'r targed wedi gwaethygu. Wrth gwrs, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed coch ers mis Gorffennaf 2020, felly dyma gefndir y datganiad hwn heddiw. Roeddech chi'n sôn yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, fod y safon ymateb wyth munud wedi bod ar waith ers y 1970au—waw, mae hynny amser maith yn ôl, cyn i mi gael fy ngeni mae'n debyg—ac fe wnaethoch sôn nad yw'n addas i'r diben. Rydych chi'n dweud nad oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn helpu i ysgogi canlyniadau gwell—neu dyma oedd casgliad y grŵp—ac nid yw'n cefnogi blaenoriaethu clinigol effeithiol. Mae hynny'n ddweud mawr. Felly, y cwestiwn amlwg yma yw a ddylai'r safon ymateb wyth munud fod wedi ei hadolygu a'i newid ymhell cyn hyn.

Wrth gwrs, mae cael targedau ar waith yn bwysig. Maent yno i sicrhau atebolrwydd a darparu sylfaen i adeiladu arni, ac mae'n bwysig bod y Senedd hon yn gallu craffu arnoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, a'ch dwyn i gyfrif, ac yn wir, mae'n bwysig eich bod yn gallu dwyn y gwasanaeth i gyfrif. Felly, dyna pam y mae'n bwysig cael y targedau hynny ar waith. Rydych chi'n dweud bod y newidiadau wedi'u cynllunio i achub mwy o fywydau, gwella canlyniadau. Sut fydd hyn yn cael ei adrodd a'i fesur? Mae'n bwysig bod gennym fesur a tharged i allu cyfrif am hynny.

Yn ystod cyfnod y treial, a fyddwch chi'n dal i adrodd ar y targed wyth munud presennol? Oherwydd yn amlwg, dim ond cyfnod prawf ydyw, felly byddwn yn dweud ei bod yn bwysig bod y data hwnnw'n dal i gael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod prawf. A fydd y mesurau newydd yn ei gwneud hi'n haws cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd? Oherwydd yn y gorffennol, bu trafodaeth gyson, a bu rhywfaint o drafodaeth am dargedau, sef nad ydynt yn gymariaethau uniongyrchol. Mae'n bwysig gallu dwyn y Llywodraeth hon, a Llywodraethau eraill, ac i'r gwrthwyneb, i gyfrif yn hynny o beth.

Rydych chi'n siarad am raglen gynhwysfawr o hyfforddiant ac addysg a chynyddu argaeledd diffibrilwyr. Rydych chi wedi ehangu ychydig ar hynny. A allwch roi gwybod i ni os oes unrhyw gyllid ynghlwm wrth yr elfen honno o'ch datganiad? Oherwydd mae cost ynghlwm wrth yr hyn rydych chi wedi'i amlinellu yn hynny o beth. Roeddech yn sôn y byddwn hefyd yn gweld y broses sgrinio glinigol gyflym yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob galwad nad yw'n cael ei chategoreiddio fel porffor neu goch, a bydd hyn yn cael ei wneud gan uwch barafeddyg neu nyrsys ac yn digwydd yn syth ar ôl yr asesiad cychwynnol gan y person sy'n ymdrin â galwadau 999. Mae'n ymddangos bod yna adnodd ychwanegol y mae gweithwyr proffesiynol clinigol ei angen. Tybed a allech chi amlinellu a ydych chi'n fodlon bod digon o'r gweithwyr proffesiynol hynny ar gael i'w rhoi ar waith.

Ac yn olaf, rydych chi'n dweud bod yn rhaid i ni gael gwelliant sylweddol ym mherfformiad trosglwyddo o ambiwlansys. Nid wyf yn credu y gellir gorbwysleisio hynny. Byddwn yn awgrymu mai'r her unigol fwyaf i'r gwasanaeth yw oedi wrth drosglwyddo mewn adrannau brys. Tybed ai dyna fyddai eich asesiad chi hefyd. Roeddwn i'n meddwl bod hyn, efallai, yn rhan wannach o'r datganiad, oherwydd rydym ni'n gwybod eisoes bod hon yn broblem—mae 25 y cant, yn aml, o'r stoc ambiwlans yn sownd y tu allan i ysbyty. Dyna'r broblem fawr. Tua diwedd eich datganiad, rydych chi'n siarad am adolygiad a sefydlu grŵp arall, ond roeddwn ychydig yn siomedig ynghylch hynny. Rwy'n credu ein bod ni'n gwybod beth yw'r broblem; nawr mae angen gweithredu rhywfaint yn hyn o beth. Tybed a allech chi roi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn yn y rhan olaf honno o'ch datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd y broblem wirioneddol yma yw'r oedi wrth drosglwyddo i ofal brys y tu allan i ysbytai.

15:30

I thank the Member for the welcome he’s given to the changes, and I’m grateful to him for the tone in which he’s put his questions to me. On the question of targets, I think I do disagree with him. The principal purpose of targets isn’t, actually, accountability; it’s service improvement. And it’s an important distinction. I understand the appeal of targets for scrutiny, absolutely, but really what they’re there to do is to make sure that we can achieve better outcomes for patients. And so, actually, if you apply that lens, you ask slightly different questions about what the best way is of achieving that.

On the point the Member makes about comparison with other UK countries, again, that’s not the principal purpose of the reform. If you look at Scotland and Northern Ireland in particular, they have a clinical outcome approach, and England, even though they don’t have that approach, do publish the data on cardiac arrest survival rates, and so, in a sense, the approach that we’re moving towards probably makes it easier to compare in that way. Also, the other UK nations have a median standard approach rather than a hard target approach. So, I think, in general terms, you will find, in effect, that it becomes easier to see what's happening in different parts of the UK. The group has drawn on evidence from other parts of the UK, as well as internationally, in looking at what the right approach needs to be. We won't be reporting on the eight-minute rule specifically, because we're embedding a new system, a new service, and so I think it's important that we report on the things that we expect the system to do.

On the specific points that the Member made in relation to defibrillators and CPR, as I mentioned in my statement, what I'm doing is I'm taking the Save a Life programme into the ambulance service, so that we can have a more integrated, joined-up system, if you like. I think that's really important. I was talking to the ambulance service about this last week, and it seems to me the right thing to do, so that all those initiatives can be aligned, which I think is really important. But alongside that, I've commissioned a very rapid review. Moving that over is a positive step, but actually the question I want to know the answer to is what more do we need to do, since the clinical judgement is so clear about the need to extend CPR and defibrillators. I'll have that advice by the end of June, and I'll obviously be happy to give an update to the Senedd at that point about what they recommend. I was able to have some CPR training this morning, and I found it incredibly useful. I would encourage Members to take it up—it's quite a low level of skill for the benefit that it confers. And, actually, having gone through some of the training, you can imagine how, in a real-life situation, it would be very stressful, so having had a little bit of background, I think, makes quite a big difference.

The point the Member made about clinical triage is very powerful. The team is already in place—the clinical triage team. I met some of them last week, and saw the work that they do at first hand. It's really, really impressive. Within a minute or two of the call handler having completed their initial call, if you're in the amber category, there'll be somebody reviewing the case note more or less in real time, and saying, 'Well, actually, we do think this person needs an ambulance', 'This person can probably be redirected', or, 'Somebody can call this person and help them manage'—so, a kind of bespoke response, which I think is really important. So, those resources are already in place—it's one of the consequences of the increase in funding that we've given the ambulance service, certainly last year, but I think over the last two years as well. So, to see it on the ground, happening already, is very helpful and very powerful.

You made an important point about handover pressures. I think I probably would agree with you that the biggest challenge that the ambulance service faces is, in a sense, outwith its ability to address in that way. If you look at the level of increase in red calls over recent years, the level of performance has been pretty stable. I think that's a service that is working well on its own terms, but faces challenges from outside, if you like. I'm sorry you were disappointed by the last part of the statement. The review isn't actually about handover times, so this is additional to the review. The guidance was issued last year, as you will know—reformed, changed guidance. There's an audit that will be undertaken by the NHS executive to see who's doing what, whether the guidance is being complied with, and, if not, why not. But I actually think there needs to be more action and more work in this space, which is why this clinically led group will task us to go further. I'd be very happy to be open with the Senedd about what they tell us and what we're doing about it.

Diolch i'r Aelod am y croeso y mae wedi'i roi i'r newidiadau, ac rwy'n ddiolchgar iddo am naws y ffordd a ofynnodd y cwestiynau i mi. O ran y cwestiwn o dargedau, rwy'n credu fy mod yn anghytuno ag ef. Nid prif bwrpas targedau, mewn gwirionedd, yw atebolrwydd; mae'n ymwneud â gwella gwasanaethau. Ac mae'n wahaniaeth pwysig. Rwy'n deall apêl targedau ar gyfer craffu, yn hollol, ond maen nhw yno mewn gwirionedd i sicrhau y gallwn gyflawni gwell canlyniadau i gleifion. Ac felly, mewn gwirionedd, os ydych chi'n defnyddio'r lens honno, rydych chi'n gofyn cwestiynau ychydig yn wahanol ynghylch beth yw'r ffordd orau o gyflawni hynny.

Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â chymharu â gwledydd eraill y DU, unwaith eto, nid dyna yw prif bwrpas y diwygiad. Os edrychwch chi ar yr Alban a Gogledd Iwerddon yn benodol, mae ganddyn nhw ddull canlyniadau clinigol, ac mae Lloegr, er nad oes ganddyn nhw'r dull hwnnw, yn cyhoeddi'r data ar gyfraddau goroesi ataliad y galon, ac felly, mewn ffordd, mae'n debyg bod y dull rydym ni'n symud tuag ato yn ei gwneud hi'n haws cymharu fel hynny. Hefyd, mae gan wledydd eraill y DU ddull safonol canolrifol yn hytrach na dull targed caled. Felly, rwy'n credu, yn gyffredinol, y byddwch chi'n ei chael hi'n haws gweld beth sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'r grŵp wedi tynnu ar dystiolaeth o rannau eraill o'r DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol, wrth edrych i weld beth yw'r dull cywir mewn gwirionedd. Ni fyddwn yn adrodd ar y rheol wyth munud yn benodol, oherwydd rydym yn ymgorffori system newydd, gwasanaeth newydd, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn adrodd ar y pethau yr ydym yn disgwyl i'r system eu gwneud.

Ar y pwyntiau penodol a wnaeth yr Aelod mewn perthynas â diffibrilwyr a CPR, fel y soniais i yn fy natganiad, yr hyn rwy'n ei wneud yw mynd â'r rhaglen Achub Bywyd i'r gwasanaeth ambiwlans, fel y gallwn gael system fwy integredig a chydgysylltiedig, os mynnwch chi. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn yn siarad â'r gwasanaeth ambiwlans am hyn yr wythnos diwethaf, ac mae'n ymddangos i mi mai dyma'r peth iawn i'w wneud, fel y gellir alinio'r holl fentrau hynny, sy'n bwysig iawn rwy'n credu. Ond ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi comisiynu adolygiad cyflym iawn. Mae symud hwnnw drosodd yn gam cadarnhaol, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yr wyf eisiau gwybod yr ateb iddo yw beth arall sydd angen i ni ei wneud, gan fod y dyfarniad clinigol mor glir ynghylch yr angen i ymestyn CPR a diffibrilwyr. Bydd y cyngor hwnnw gennyf erbyn diwedd mis Mehefin, a byddaf yn amlwg yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yr adeg hynny am yr hyn y maen nhw'n ei argymell. Roeddwn i'n gallu cael rhywfaint o hyfforddiant CPR y bore yma, ac roeddwn i'n ei weld yn hynod ddefnyddiol. Byddwn yn annog Aelodau i wneud yr un peth—mae'n lefel eithaf isel o sgil o ystyried y budd y mae'n ei gyflawni. Ac, mewn gwirionedd, ar ôl mynd trwy rywfaint o'r hyfforddiant, gallwch ddychmygu sut y byddai, mewn sefyllfa go iawn, byddai'r straen yn fawr, felly mae cael ychydig o gefndir, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae'r pwynt a wnaeth yr Aelod am frysbennu clinigol yn bwerus iawn. Mae'r tîm eisoes yn ei le—y tîm brysbennu clinigol. Fe wnes i gyfarfod â rhai ohonyn nhw yr wythnos diwethaf, a gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud yn uniongyrchol. Mae'n wirioneddol drawiadol, mewn gwirionedd. O fewn munud neu ddau ar ôl i'r person sy'n ymdrin â'r galwadau gwblhau ei alwad gychwynnol, os ydych chi yn y categori oren, bydd rhywun yn adolygu'r nodyn achos fwy neu lai mewn amser real, ac yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd, rydym ni'n meddwl bod angen ambiwlans ar y person hwn', 'Mae'n debyg y gellir ailgyfeirio'r person hwn', neu, 'Gall rhywun ffonio'r person hwn a'i helpu i ymdopi'—felly, math o ymateb pwrpasol, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn. Felly, mae'r adnoddau hynny eisoes yn eu lle—mae'n un o ganlyniadau'r cynnydd mewn cyllid rydym ni wedi'i roi i'r gwasanaeth ambiwlans, yn sicr y llynedd, ond rwy'n credu dros y ddwy flynedd ddiwethaf hefyd. Felly, mae ei weld ar lawr gwlad, yn digwydd eisoes, yn ddefnyddiol iawn ac yn bwerus iawn.

Fe wnaethoch chi bwynt pwysig am bwysau trosglwyddo. Rwy'n credu y byddwn i'n cytuno â chi mae'n debyg bod yr her fwyaf y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei hwynebu, ar un ystyr, y tu hwnt i'w allu i fynd i'r afael â hi yn y ffordd honno. Os edrychwch chi ar lefel y cynnydd mewn galwadau coch dros y blynyddoedd diwethaf, mae lefel y perfformiad wedi bod yn eithaf sefydlog. Rwy'n credu bod hwnnw'n wasanaeth sy'n gweithio'n dda ar ei delerau ei hun, ond sy'n wynebu heriau o'r tu allan, os mynnwch chi. Mae'n ddrwg gennym eich bod wedi eich siomi gan ran olaf y datganiad. Nid yw'r adolygiad yn ymwneud ag amseroedd trosglwyddo mewn gwirionedd, felly mae hyn yn ychwanegol at yr adolygiad. Cyhoeddwyd y canllawiau y llynedd, fel y gwyddoch chi—canllawiau wedi'u diwygio, wedi'u newid. Bydd archwiliad yn cael ei gynnal gan weithrediaeth y GIG i weld pwy sy'n gwneud beth, a yw'r canllawiau'n cydymffurfio, ac, os nad ydyn nhw, pam ddim. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen mwy o weithredu a mwy o waith yn y maes hwn, a dyna pam y bydd y grŵp dan arweiniad clinigol hwn yn ein hannog i fynd ymhellach. Byddwn yn hapus iawn i fod yn agored gyda'r Senedd am yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthym ni a beth rydym ni'n ei wneud ynghylch y peth.

15:35

Dwi am ddechrau fy nghyfraniad trwy dalu teyrnged i weithlu ymroddedig y gwasanaeth ambiwlans. Mae'n bwysig iddyn nhw ddeall nad yw canfyddiadau'r adroddiad yma, nac adroddiad y pwyllgor iechyd, ddim yn adlewyrchiad ar eu gwaith nhw—maen nhw'n gwneud gwaith arwrol, bob diwrnod o'r flwyddyn. Dwi hefyd eisiau diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw. Dwi'n ei groesawu o, ac yn cefnogi'r datganiad. Hwyrach y dylwn i ddatgan budd: roeddwn i'n arfer gweithio i'r British Heart Foundation, felly dwi wedi cael hyfforddiant CPR. Ac roeddwn i'n meddwl, wrth glywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael hyfforddiant, pa alaw roeddech chi'n ei chanu yn eich pen er mwyn gwneud y CPR yna. 'Staying Alive' gan y Bee Gees ydy'r un roedden ni'n ei defnyddio.

I want to start my contribution by paying tribute to the committed ambulance service workforce. It's important for them to understand that the findings of this report, and the health committee's report, are not a reflection on their work—they do heroic work, every day of the year. I also want to thank the Cabinet Secretary for this statement this afternoon. I welcome it, and support the statement. Perhaps I should declare an interest: I used to work for the British Heart Foundation, so I've had CPR training. And I thought, in hearing that the Cabinet Secretary had had training, which song you were singing in your head when you were doing that CPR. 'Staying Alive' by the Bee Gees was the one we used.

Unmet targets have, of course, become a regrettable legacy of this Government's oversight of the health service. I've always advocated for the use of clear targets as a foundation for policy delivery. Indeed, I wish the Government was more proactive on this front, especially when it comes to issues such as child poverty, for instance. But these targets have to be based on more than good intentions alone. And when we get to the point where they are largely ornamental, as has clearly been the case with the red response time target over the past half a decade, it is right that we have this honest discussion about whether a change in direction is needed. So, while the Government must take its share of responsibility for the failure of achieving the current target, I do welcome the Cabinet Secretary’s willingness to reflect constructively on these past failings, rather than stubbornly persisting with sunk cost fallacies.

The problems in reaching the red target threshold aren’t necessarily related to WAST resourcing. As was confirmed by the heads of the ambulance service in the committee inquiry, the existing fleet of ambulances in Wales is largely sufficient to meet current levels of demand, rather it is chronic handover delays that are primarily responsible for the lengthy queues of ambulances that have become commonplace outside our hospitals, with over 26,000 hours having been lost in January as a result—the highest figure in a year. And this, in turn, not only is a reflection of a lack of bed capacity, which has declined precipitously over the past decade, it also points to the institutional and governance disconnect between in-hospital and out-of-hospital care. Does the Cabinet Secretary agree, therefore, with Plaid Cymru’s proposal to establish the role of a pan-Wales director for managing out-of-hospital care arrangements, in order to have greater national strategic leadership in expediting patient flow? Should there also be a more clearly defined role for the regional partnership boards to better identify where various health boards could collaborate on a more systematic basis to free up bed space?

We also know that the failure of this target is a microcosm of far wider existential issues with the health and care system, especially the hitherto unrealised need to instil far greater resilience in the social care sector, in particular. And the reports of numerous committees on the state of the budget rightly highlighted the Government’s inherent tendency for firefighting exercises at the expense of a concerted effort to shift resources to this end. In fairness to the Cabinet Secretary, I completely appreciate the acute political challenges that come from actually committing to this fundamental step change in how the health and social care system is funded. But given the demographic trends of the coming decades, we urgently need an honest national conversation about how we can sustainably move beyond the current vicious cycle of front-line services consuming an ever-increasing portion of the Welsh budget, which is delaying systematic investment in social and community care. So, in this spirit of putting the national interest ahead of party politics, would the Welsh Government be receptive to the idea of convening a cross-party working group to look at the future of the funding model for health and social care, so that these difficult discussions can be had outside the spotlight of political debate, which is, let’s face it, inherently short-termist in outlook?

Finally, I welcome the fact that the Cabinet Secretary has listened to the committee’s recommendations and welcomed the thorough research. And thanks to WAST for the briefing this morning, incidentally. The proposed pilot is needed and we welcome this. But what the research shows is the lack of community-level care, which the Cabinet Secretary did touch on. If the pilot is to succeed, then we need to see an increase in community resource, such as defibrillators and CPR champions in the community, and also in the respiratory field. So, what action is the Cabinet Secertary proposing to ensure this increased community level of resources to go hand in hand with the changes to the ambulance targets to give this pilot the best chance possible of succeeding?

Wrth gwrs, mae targedau heb eu bodloni wedi dod yn etifeddiaeth anffodus i oruchwyliaeth y Llywodraeth hon o'r gwasanaeth iechyd. Rwyf bob amser wedi eirioli dros ddefnyddio targedau clir fel sylfaen ar gyfer cyflawni polisi. Yn wir, hoffwn pe bai'r Llywodraeth yn fwy rhagweithiol ar y trywydd hwn, yn enwedig o ran materion fel tlodi plant, er enghraifft. Ond mae'n rhaid i'r targedau hyn fod yn seiliedig ar fwy na bwriadau da yn unig. A phan gyrhaeddwn y pwynt lle maent yn addurniadol i raddau helaeth, fel sydd wedi digwydd yn amlwg gyda'r targed amser ymateb coch dros yr hanner degawd diwethaf, mae'n iawn ein bod yn cael y drafodaeth onest hon ynghylch a oes angen newid cyfeiriad. Felly, er bod yn rhaid i'r Llywodraeth gymryd ei chyfran o'r cyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r targed cyfredol, rwy'n croesawu parodrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet i fyfyrio'n adeiladol ar fethiannau'r gorffennol hyn, yn hytrach na pharhau'n ystyfnig â chamsyniadau cost suddedig.

Nid yw'r problemau wrth geisio cyrraedd y trothwy targed coch o reidrwydd yn gysylltiedig ag adnoddau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC). Fel y cadarnhawyd gan benaethiaid y gwasanaeth ambiwlans yn ymchwiliad y pwyllgor, mae'r fflyd bresennol o ambiwlansys yng Nghymru yn ddigonol i raddau helaeth i gwrdd â'r lefelau galw presennol, yn hytrach, oedi wrth drosglwyddo cronig sy'n bennaf gyfrifol am y ciwiau hir o ambiwlansys sydd wedi dod yn gyffredin y tu allan i'n hysbytai, gyda dros 26,000 o oriau wedi'u colli ym mis Ionawr o ganlyniad i hyn—y ffigur uchaf mewn blwyddyn. Ac mae hyn, yn ei dro, nid yn unig yn adlewyrchiad o ddiffyg capasiti gwelyau, sydd wedi dirywio'n sydyn dros y degawd diwethaf, mae hefyd yn cyfeirio at y datgysylltiad sefydliadol a llywodraethu rhwng gofal y tu mewn i'r ysbyty a'r gofal y tu allan i'r ysbyty. A yw'r Ysgrifennydd Cabinet felly'n cytuno, gyda chynnig Plaid Cymru i sefydlu rôl cyfarwyddwr Cymru gyfan ar gyfer rheoli trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty, er mwyn cael mwy o arweinyddiaeth strategol genedlaethol wrth hwyluso llif cleifion? A ddylai rôl fwy clir gael ei diffinio hefyd er mwyn i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol allu nodi'n well lle gallai gwahanol fyrddau iechyd gydweithio ar sail fwy systematig i ryddhau gwelyau?

Gwyddom hefyd fod methiant y targed hwn yn ficrocosm o broblemau dirfodol ehangach o lawer gyda'r system iechyd a gofal, yn enwedig yr angen sydd heb ei ddiwallu hyd yma i feithrin llawer mwy o gydnerthedd yn y sector gofal cymdeithasol, yn benodol. Ac roedd adroddiadau pwyllgorau niferus ar gyflwr y gyllideb yn tynnu sylw'n briodol at duedd gynhenid y Llywodraeth i droi at ymarferion diffodd tân ar draul ymdrech ar y cyd i symud adnoddau i'r perwyl hwn. Er tegwch i'r Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n llwyr werthfawrogi'r heriau gwleidyddol acíwt sy'n deillio o ymrwymo i'r newid sylfaenol hwn yn y ffordd y caiff y system iechyd a gofal cymdeithasol ei hariannu. Ond o ystyried tueddiadau demograffig y degawdau nesaf, mae angen sgwrs genedlaethol onest arnom ar frys ynghylch sut y gallwn symud yn gynaliadwy y tu hwnt i'r cylch dieflig presennol o wasanaethau rheng flaen yn defnyddio cyfran gynyddol o gyllideb Cymru, sy'n gohirio buddsoddiad systematig mewn gofal cymdeithasol a chymunedol. Felly, yn yr ysbryd hwn o roi'r budd cenedlaethol o flaen gwleidyddiaeth plaid, a fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y syniad o gynnull gweithgor trawsbleidiol i edrych ar ddyfodol y model ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fel y gellir cael y trafodaethau anodd hyn i ffwrdd o sbotolau dadl wleidyddol, sydd, mae'n rhaid i ni gyfaddef, yn ei hanfod yn fyrdymor o ran rhagolwg?

Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar argymhellion y pwyllgor ac wedi croesawu'r ymchwil trylwyr. A diolch i YGAC am y briff y bore yma, gyda llaw. Mae angen y cynllun treialu arfaethedig ac rydym yn croesawu hyn. Ond yr hyn y mae'r ymchwil yn ei ddangos yw'r diffyg gofal ar lefel gymunedol, y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet ato. Os yw'r cynllun treialu am lwyddo, yna mae angen i ni weld cynnydd mewn adnoddau cymunedol, fel diffibrilwyr a hyrwyddwyr CPR yn y gymuned, a hefyd yn y maes anadlol. Felly, pa gamau y mae'r Cabinet yn eu cynnig i sicrhau bod y lefel gymunedol gynyddol hon o adnoddau yn mynd law yn llaw â'r newidiadau i dargedau ambiwlans i roi'r cyfle gorau posibl i'r cynllun treialu hwn lwyddo?

15:40

I thank the Member for the welcome that he has given to the reforms. I would agree with his analysis, in the sense that the pressures from handover delays are a considerable part of the challenge that the ambulance service faces. I, myself, am not persuaded, as I think he obviously is, that it's a challenge around bed availability. I think it's a more systematic problem than that. I do think that the work that regional partnership boards have been doing, for example, at the end of last year in particular and the 50-day challenge has shown that, actually, where there is a clear systematic focus on interventions that we know make the biggest difference, then that can—. We've seen significantly different figures this year to the pattern of figures last year. So, I do think that's to be welcomed, but it clearly needs to be built upon.

I think one of the messages that has been consistent in the discussions that the Minister for social care and I have had with health boards and local authorities in the context of that initiative has been the very point the Member was making. Actually, the debate and discussion can’t simply be, nor is it, around solely questions of discharge. It’s about strengthening a set of community services that mean people don’t need access to hospital for their care in the first place. So, I think that broad analysis is absolutely correct. I think we’ve committed about £200 million over the course of the last year in order to seek to bring that about. But, clearly, that shift to the community level for services needs to be turbocharged, really. So, I’ll take this opportunity to say that, this year, we will be expecting all local health boards to declare the spend that they will be making on primary and community services, to share with us the definition that they use for that spend, so that we can have a Wales-wide systematic approach to that, and also to spell out their plans for increasing that percentage of their spend so that we can have a transparent discussion about that shift into community services, which I think we need to have.

One of the reasons that I was so keen to put the cardiopulmonary resuscitation and defibrillator programme into the ambulance service was to enable the reach of the ambulance service into the community to be extended in a way that I know they welcome as well, having discussed that with them last week. There is more that we need to do. The step I’ve taken that I’ve announced today is to commission—having taken that step of moving the programme over, then immediately to commission a review of what more we need to do, and that review will complete in the course of the next eight weeks. I want that in place before the new framework is implemented.

I was struck in the training session that I had in relation to CPR that, in addition to persuading and encouraging people to do that, having done that, there is then an app that people can sign up to called GoodSAM, which gives somebody an alert if somebody is experiencing a cardiac arrest within 500m of where they are, so that they can go to the scene if they’re available and help give that initial CPR. So, there is a huge network of people beneath the radar, really, which can provide some of that broader community response. That isn’t to say that we’re moving responsibilities for commissioned services to the community, it’s simply a recognition that, if someone is standing there next to you at the moment that you’ve had the attack or shortly after, the chances that you have of surviving are much greater if they know how to respond.

Diolch i'r Aelod am y croeso a roddodd i'r diwygiadau. Byddwn yn cytuno â'i ddadansoddiad, yn yr ystyr bod y pwysau yn sgil oedi wrth drosglwyddo yn rhan sylweddol o'r her y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei hwynebu. Nid wyf fi, fy hun, yn cael fy narbwyllo, fel rwy'n credu ei fod ef yn amlwg, ei bod yn her o ran argaeledd gwelyau. Rwy'n credu ei bod yn broblem fwy systematig na hynny. Rwy'n credu bod y gwaith y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn ei wneud, er enghraifft, diwedd y llynedd yn benodol ac mae'r her 50 diwrnod wedi dangos, mewn gwirionedd, lle mae pwyslais systematig clir ar ymyraethau y gwyddom sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, yna gall hynny—. Rydym ni wedi gweld ffigurau gwahanol iawn eleni o'u cymharu â phatrwm y ffigurau llynedd. Felly, rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ond mae'n amlwg bod angen adeiladu arno.

Rwy'n credu mai un o'r negeseuon sydd wedi bod yn gyson yn y trafodaethau y mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau wedi eu cael gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yng nghyd-destun y fenter honno yw'r union bwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Mewn gwirionedd, ni all y ddadl a'r drafodaeth fod, ac nid yw yn ymwneud â chwestiynau ynghylch rhyddhau yn unig. Mae'n ymwneud â chryfhau set o wasanaethau cymunedol sy'n golygu nad oes angen mynediad i'r ysbyty ar bobl ar gyfer eu gofal yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu bod dadansoddiad eang yn hollol gywir. Rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo tua £200 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio cyflawni hynny. Ond, yn amlwg, mae angen i'r newid hwnnw i'r lefel gymunedol ar gyfer gwasanaethau gael hwb enfawr mewn gwirionedd. Felly, byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud, eleni, y byddwn yn disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddatgan y gwariant y byddant yn ei wneud ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol, i rannu'r diffiniad y maen nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer y gwariant hwnnw, fel y gallwn gael dull systematig ledled Cymru o ymdrin â hynny, a hefyd i nodi eu cynlluniau ar gyfer cynyddu'r ganran honno o'u gwariant fel y gallwn gael trafodaeth dryloyw am y newid hwnnw i wasanaethau cymunedol, yr wyf yn credu bod angen i ni eu cael.

Un o'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus i roi'r rhaglen adfywio cardiopwlmonaidd a diffibriliwr i mewn i'r gwasanaeth ambiwlans oedd galluogi ymestyn cyrhaeddiad y gwasanaeth ambiwlans i'r gymuned mewn ffordd rwy'n gwybod eu bod yn ei chroesawu hefyd, ar ôl trafod hynny gyda nhw yr wythnos diwethaf. Mae mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud. Y cam yr wyf wedi ei gymryd a gyhoeddais heddiw yw comisiynu—ar ôl cymryd y cam yna o symud y rhaglen drosodd, yn syth wedyn, comisiynu adolygiad o beth arall sydd angen i ni wneud, a bydd yr adolygiad yna yn cael ei gwblhau yn ystod yr wyth wythnos nesaf. Rwyf eisiau i hwnnw fod yn ei le cyn i'r fframwaith newydd gael ei weithredu.

Cefais fy nharo yn y sesiwn hyfforddi a gefais mewn perthynas â CPR, sef yn ogystal ag argyhoeddi ac annog pobl i wneud hynny, ar ôl gwneud hynny, yna mae yna ap y gall pobl gofrestru ar ei gyfer o'r enw GoodSAM, sy'n rhoi rhybudd i rywun os yw rhywun yn profi ataliad y galon o fewn 500m i'r man lle maen nhw ar y pryd, fel y gallant fynd i'r lleoliad os ydynt ar gael a helpu i roi'r CPR cychwynnol hwnnw. Felly, mae rhwydwaith enfawr o bobl nad ydynt yn amlwg, mewn gwirionedd, a all ddarparu rhywfaint o'r ymateb cymunedol ehangach hwnnw. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn symud cyfrifoldebau am wasanaethau a gomisiynir i'r gymuned, yn syml mae'n gydnabyddiaeth, os yw rhywun yn sefyll yno wrth eich ymyl ar yr adeg yr ydych yn cael trawiad neu'n fuan wedyn, bod y siawns sydd gennych o oroesi yn llawer mwy os ydynt yn gwybod sut i ymateb.

15:45

I’m grateful to you, Minister, for your statement this afternoon. The issue of out-of-hospital cardiac arrest, of course, is something I have some experience of. The reality is exactly as you’ve just outlined—we can have the best commissioned services available to anyone, but the reality is that lives are saved by individuals in the community, and we need to ensure that there are both the people in the community with the training, but also the defibrillators that are maintained in the community as well. I’d like to see the statement go much further, in fact, to ensure that we do have a network of people and defibrillators across the whole of the country, and I’d appreciate the opportunity to meet with you to discuss that at some point.

In terms of the wider issues about ambulance response times, the targets you’ve described, I’ve no issue with anything you’ve said in your statement this afternoon, but I do believe we need to go much further and have a more holistic conversation about this. Because over the last few years, we’ve seen the centralisation of services. In my own constituency in Blaenau Gwent, we’ve seen services moved to the Grange, we’ve also seen the announcement of the movement of stroke services from Prince Charles down to the Royal Glamorgan. So, you’ve got areas around the Heads of the Valleys and south Powys in Breconshire where you’ve got significant journey times to these specialist care centres. That means that we need an ambulance service that not only arrives on time, in the way that you’ve described this afternoon, but has the capacity to serve a different pattern of acute treatment centres. That is where we need to have a real debate, so that we don’t just have the targets, we don’t just have the accountability frameworks, and I do agree with what has already been said on that, but we also have the service that means that people know that they can trust and rely on an ambulance arriving in time to save a life and to transport a patient to the nearest appropriate treatment centre.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'r mater o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae gennyf rywfaint o brofiad ohono. Mae'r realiti yn union fel rydych chi newydd ei amlinellu—gallwn fod â'r gwasanaethau a gomisiynir gorau ar gael i unrhyw un, ond y gwir amdani yw bod bywydau yn cael eu hachub gan unigolion yn y gymuned, ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn y gymuned wedi'u hyfforddi, ond hefyd y diffibrilwyr sy'n cael eu cynnal yn y gymuned hefyd. Hoffwn weld y datganiad yn mynd llawer ymhellach, mewn gwirionedd, i sicrhau bod gennym rwydwaith o bobl a diffibrilwyr ledled y wlad gyfan, a byddwn yn gwerthfawrogi'r cyfle i gwrdd â chi i drafod hynny ar ryw adeg.

O ran y materion ehangach am amseroedd ymateb ambiwlans, y targedau rydych chi wedi'u disgrifio, does gen i ddim problem gydag unrhyw beth rydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod angen i ni fynd llawer ymhellach a chael sgwrs fwy cyfannol am hyn. Oherwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld canoli gwasanaethau. Yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, rydym wedi gweld gwasanaethau yn symud i'r Faenor, rydym hefyd wedi gweld y cyhoeddiad am symud gwasanaethau strôc o Ysbyty'r Tywysog Siarl i lawr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, mae gennych ardaloedd o amgylch Blaenau'r Cymoedd a de Powys yn sir Frycheiniog lle mae gennych amseroedd teithio sylweddol i'r canolfannau gofal arbenigol hyn. Mae hynny'n golygu bod angen gwasanaeth ambiwlans sydd nid yn unig yn cyrraedd ar amser, yn y ffordd rydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma, ond sydd â'r gallu i wasanaethu patrwm gwahanol o ganolfannau triniaeth acíwt. Dyna lle mae angen i ni gael dadl go iawn, fel nad oes gennym y targedau yn unig, nid bod â fframweithiau atebolrwydd yn unig, ac rwy'n cytuno â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud ar hynny, ond hefyd bod â'r gwasanaeth sy'n golygu bod pobl yn gwybod y gallant ymddiried a dibynnu ar ambiwlans i gyrraedd mewn pryd i achub bywyd ac i gludo claf i'r ganolfan driniaeth briodol agosaf.

I thank Alun Davies for that, and I approach the topic with some diffidence in light of his experience, but I would be very happy to meet with him. Now is a good time for doing that, because, although he wanted the statement to go further, I hope that my having commissioned an immediate review with a very, very rapid turnaround time will give him some reassurance of my commitment. And I would be very happy to meet with him to discuss his experience and his reflections more broadly. 

To the point he makes about the configuration of services, he is aware, obviously, as we all are, that what we are trying to do is, across the health service, strike a balance between a concentration of expertise that enables the best possible treatment for those in an acute situation, but he makes a very fair point that the flipside of that is the availability of transport to get you to that acute centre quickly. And the theme, if you like, behind the reforms here is: how can we make sure that we are deploying the resource that we have to the most urgent need as quickly as possible; and, on the other hand, how can we free up that resource that is held outside hospitals? I think Mabon ap Gwynfor gave an idea of the number of hours lost, if you like, to the ambulance service.

And it isn't a shortage of ambulances, it is not a shortage of staff, it's the ability to release that capacity to make the kind of journey that he was referring to. So, I absolutely agree with that and, having seen some of that at first-hand last week, in spending part of the day with an ambulance crew on its shift, going to visit patients and seeing how the service works in practice, firstly, it was incredibly inspiring, and, secondly, you could understand some of the challenges. It's conceivable that people go on shift, see a patient and then spend the rest of their shift held up outside a hospital, and none of us wants to see that. It's not good for the patient, it's not good for the staff, it's not good for the service overall. And that's why I'm determined, with this clinically led taskforce, that we'll see what we can do to go further, and I'll be very happy to share that information with the Senedd.

Diolch i Alun Davies am hynna, ac rwy'n ymdrin â'r pwnc gyda rhywfaint o wyleidd-dra yng ngoleuni ei brofiad, ond byddwn yn hapus iawn i gwrdd ag ef. Mae nawr yn amser da i wneud hynny, oherwydd, er ei fod eisiau i'r datganiad fynd ymhellach, rwy'n gobeithio y bydd y ffaith fy mod wedi comisiynu adolygiad ar unwaith sydd i'w gwblhau yn gyflym iawn, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo o'm hymrwymiad. A byddwn yn hapus iawn i gwrdd ag ef i drafod ei brofiad a'i fyfyrdodau yn ehangach. 

At y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â chyfluniad gwasanaethau, mae'n ymwybodol, yn amlwg, fel yr ydym i gyd, mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud, ar draws y gwasanaeth iechyd, yw taro cydbwysedd rhwng crynodiad o arbenigedd sy'n galluogi'r driniaeth orau bosibl i'r rhai sydd mewn sefyllfa aciwt, ond mae'n gwneud pwynt teg iawn mai'r ochr arall i'r geiniog yw argaeledd trafnidiaeth i'ch cludo i'r ganolfan acíwt honno'n gyflym. A'r thema, os mynnwch, y tu ôl i'r diwygiadau yma yw: sut y gallwn sicrhau ein bod yn cyfeirio'r adnodd sydd gennym i'r angen mwyaf dwys cyn gynted â phosibl; ac, ar y llaw arall, sut allwn ni ryddhau'r adnodd hwnnw sy'n cael ei ddal y tu allan i ysbytai? Rwy'n credu bod Mabon ap Gwynfor wedi rhoi syniad o'r nifer o oriau a gollwyd, os mynnwch, o ran y gwasanaeth ambiwlans.

Ac nid prinder ambiwlansys mohono, nid prinder staff mohono, mae'n ymwneud â'r gallu i ryddhau'r capasiti hwnnw i wneud y math o daith yr oedd yn cyfeirio ati. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac, ar ôl gweld rhywfaint o hynny yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf, wrth dreulio rhan o'r diwrnod gyda chriw ambiwlans ar ei shifft, mynd i ymweld â chleifion a gweld sut mae'r gwasanaeth yn gweithio'n ymarferol, yn gyntaf, roedd yn ysbrydoledig tu hwnt, ac, yn ail, gallech ddeall rhai o'r heriau. Mae'n bosibl bod pobl yn mynd ar shifft, yn gweld claf ac yna'n treulio gweddill eu shifft yn cael eu dal y tu allan i ysbyty, ac nid oes yr un ohonom eisiau gweld hynny. Nid yw'n dda i'r claf, nid yw'n dda i'r staff, nid yw'n dda i'r gwasanaeth yn gyffredinol. A dyna pam rwy'n benderfynol, gyda'r tasglu hwn a arweinir yn glinigol, y byddwn yn gweld beth y gallwn ei wneud i fynd ymhellach, a byddaf yn hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno gyda'r Senedd.

15:50

Sorry, I didn't think you were calling me. First of all, thank you, Cabinet Secretary. I have to say that your statement was actually quite enlightening and that you are now prepared to look, where it isn't working, at how we can do things better. We all have examples, Dirprwy Lywydd, about people just lying for hours waiting for ambulances, only to find that, when they arrive at hospital, they're then in ambulances for quite some time and then there are delays, and they're hanging around in corridors, and our ambulance drivers and paramedics are quite stressed throughout all of this. 

Progress is being made, which is really good. I have to pay tribute to the chief executive of the Welsh Ambulance Services University NHS Trust, Jason. They are trying their absolute best. But as he has said himself, something like one in 10 patients are subject to some level of moderate or severe harm or death associated with a response delay or a handover delay. I've known my own constituents left for hours—in fact, one for two whole days with a broken hip. Whilst I appreciate that WAST is pursuing several positive changes, I have outlined that the waiting time for non-red-category patients can be inhumane. So, what discussions have you had with WAST about how you really do speed up the process? There's the call centre, and how they prioritise, then there's getting the ambulance or paramedic to the patient, then there's getting that patient to the hospital and then there are delays at the hospital. I know of some ambulance drivers who have told me that they've gone home only to come back eight hours later and find the same patient waiting in an ambulance. That is unacceptable.

Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn meddwl eich bod yn fy ngalw. Yn gyntaf, diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n rhaid i mi ddweud bod eich datganiad yn eithaf dadlennol mewn gwirionedd a'ch bod bellach yn barod i edrych, lle nad yw'n gweithio, ar sut y gallwn wneud pethau'n well. Mae gan bob un ohonom enghreifftiau, Dirprwy Lywydd, am bobl yn gorwedd am oriau yn aros am ambiwlansys, dim ond i ganfod, ar ôl cyrraedd yr ysbyty, eu bod wedyn mewn ambiwlansys am gryn amser ac yna mae oedi, ac maen nhw'n aros mewn coridorau, ac mae ein gyrwyr ambiwlans a'n parafeddygon o dan straen drwy hyn i gyd. 

Mae cynnydd yn cael ei wneud, sy'n wirioneddol dda. Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i brif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Jason. Maen nhw'n gwneud eu gorau glas. Ond fel y dywedodd ei hun, mae rhywbeth fel un o bob 10 claf yn destun rhyw lefel o niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth sy'n gysylltiedig ag oedi wrth ymateb neu oedi wrth drosglwyddo. Rwy'n ymwybodol o fy etholwyr fy hun a gafodd eu gadael am oriau—mewn gwirionedd, un am ddau ddiwrnod cyfan gyda chlun wedi torri. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod YGAC yn bwrw ymlaen â nifer o newidiadau cadarnhaol, rwyf wedi amlinellu y gall yr amser aros ar gyfer cleifion nad ydynt yn rhai categori coch fod yn annynol. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag YGAC ynglŷn â sut rydych chi wir yn cyflymu'r broses? Dyna'r ganolfan alwadau, a sut maen nhw'n blaenoriaethu, yna'r broses o gael yr ambiwlans neu'r parafeddyg at y claf, yna mae'n rhaid mynd â'r claf i'r ysbyty ac yna ceir oedi yn yr ysbyty. Rwy'n gwybod am rai gyrwyr ambiwlans sydd wedi dweud wrthyf eu bod nhw wedi mynd adref dim ond i ddod yn ôl wyth awr yn ddiweddarach a chanfod yr un claf yn aros mewn ambiwlans. Mae hynny'n annerbyniol.

I think the Member's question was about what the ambulance service is doing to reform. So, my reflections on the ambulance service are that it is a service that embraces the need for new ways of working and has demonstrated a good level of commitment to innovation, and I saw that at first-hand last week. So, whether it's the employment of more advanced practitioner paramedics who are able to provide more support at the scene, or whether it's the rapid clinical triage team, who are, as I was saying, within minutes of that initial call, looking at the case notes, identifying the right course of action for that individual patient. And now, with the Save a Life Cymru programme going into the ambulance service, I'm confident that there'll be more innovation in that space as well.

One of the challenges that we have in the current arrangements, which the Member spoke about, is that the red category, which is obviously the most urgent category, extends on the one hand to cardiac arrest and the most severe and time critical to what can be, for some patients, comparatively minor examples of breathlessness—serious from their point of view, obviously, but things that are related to flu over the winter, which are less in need of that level of urgency. Around 34 per cent, more than a third, of red calls are in that category. They get an ambulance, and they get an ambulance within the eight-minute target, but they generally don't need admission to hospital.

So, the real question is, how do we—. The review engages with that, and the changes address it. How can we make sure that ambulances go to the balance of that 70 per cent who urgently need that ambulance? And then how can we make sure that, if you are in the amber category and you get your clinical triage quickly, so that there's an immediate bespoke response to you—. It may be an ambulance, it may be hospital admission, it may well be a range of other things.

Rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn ymwneud â'r hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud i ddiwygio. Felly, fy myfyrdodau ar y gwasanaeth ambiwlans yw ei fod yn wasanaeth sy'n cofleidio'r angen am ffyrdd newydd o weithio ac sydd wedi dangos lefel dda o ymrwymiad i arloesi, a gwelais hynny yn uniongyrchol yr wythnos diwethaf. Felly, p'un a yw'n cyflogi uwch ymarferwyr parafeddygol sy'n gallu darparu mwy o gymorth yn y fan a'r lle, neu a yw'n dîm brysbennu clinigol cyflym, sydd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, o fewn munudau i'r alwad gychwynnol honno, yn edrych ar nodiadau'r achos, nodi'r camau cywir ar gyfer y claf unigol hwnnw. A nawr, gyda rhaglen Achub Bywyd Cymru yn mynd i mewn i'r gwasanaeth ambiwlans, rwy'n hyderus y bydd mwy o arloesi yn y maes hwnnw hefyd.

Un o'r heriau sydd gennym yn y trefniadau presennol, y soniodd yr Aelod amdanynt, yw bod y categori coch, sy'n amlwg y categori brys mwyaf, yn ymestyn ar y naill law i ataliad y galon pryd y mae amser o'r pwys mwyaf ac sy'n achos difrifol, i'r hyn a all fod, i rai cleifion, yn enghreifftiau cymharol fach o ddiffyg anadl—difrifol o'u safbwynt nhw, yn amlwg, ond pethau sy'n gysylltiedig â'r ffliw dros y gaeaf, sydd angen llai o'r lefel frys honno. Mae tua 34 y cant, mwy na thraean, o alwadau coch yn y categori hwnnw. Maen nhw'n cael ambiwlans, ac maen nhw'n cael ambiwlans o fewn y targed wyth munud, ond yn gyffredinol does dim angen iddynt fynd i'r ysbyty.

Felly, y cwestiwn go iawn yw, sut ydym ni—. Mae'r adolygiad yn ymwneud â hynny, ac mae'r newidiadau'n mynd i'r afael ag ef. Sut allwn ni sicrhau bod ambiwlansys yn cyrraedd y cydbwysedd hwnnw, y 70 y cant hynny sydd angen yr ambiwlans ar frys? Ac yna sut allwn ni sicrhau, os ydych chi yn y categori oren eich bod yn destun brysbennu clinigol cyflym, fel bod ymateb pwrpasol ar unwaith ar eich cyfer—. Gall fod yn ambiwlans, efallai mai derbyniad i'r ysbyty ydyw, gall fod yn ystod o bethau eraill.

15:55

Cabinet Secretary, I think it is really good that you were able to accompany that ambulance crew in carrying out their duties, because it gives you a very good practical understanding of the everyday issues that they face. I recently met with ambulance staff who are also representatives of the GMB Union in my office, and they were talking to me about their experience and concerns at the Grange hospital, where they are routinely held up for lengthy periods of time, which is very frustrating for them and their patients. Then, they were relating that to the obvious consequence of not being able to respond to calls as a service in as timely a manner that they wish to do. They are very committed staff who want to provide a top-quality service.

I know you are aware of these issues at the Grange hospital, but they are issues that come to me week in, week out in my postbag, Cabinet Secretary, from concerned constituents who are relaying the issues and problems that they face, and that their families have faced. I wonder if you might meet, Cabinet Secretary, with the ambulance staff and the GMB representatives to allow them to again relay their practical experience of the problems at the Grange hospital and how they think those problems could be dealt with, again using their practical experience.

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod wedi gallu mynd gyda'r criw ambiwlans hwnnw i gyflawni eu dyletswyddau, gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth ymarferol dda iawn i chi o'r problemau bob dydd y maent yn eu hwynebu. Yn ddiweddar, cwrddais â staff ambiwlans sydd hefyd yn gynrychiolwyr Undeb GMB yn fy swyddfa, ac roeddent yn siarad â mi am eu profiad a'u pryderon yn ysbyty'r Faenor, lle maen nhw'n cael eu dal yn rheolaidd am gyfnodau hir, sy'n rhwystredig iawn iddyn nhw a'u cleifion. Yna, roeddent yn cysylltu hynny â'r canlyniad amlwg o beidio â gallu ymateb i alwadau fel gwasanaeth mewn modd mor amserol y maent yn dymuno ei wneud. Maen nhw'n staff ymroddedig iawn sydd eisiau darparu gwasanaeth o'r safon uchaf.

Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r materion hyn yn ysbyty'r Faenor, ond maen nhw'n faterion rwy'n eu gweld bob wythnos yn fy mag post, Ysgrifennydd Cabinet, oddi wrth etholwyr pryderus sy'n ail-gyfleu'r materion a'r problemau y maen nhw a'u teuluoedd wedi'u hwynebu. Tybed a fyddech chi'n cwrdd, Ysgrifennydd Cabinet, â'r staff ambiwlans a chynrychiolwyr y GMB i'w galluogi i ail-gyfleu eu profiad ymarferol o'r problemau yn ysbyty'r Faenor a sut maen nhw'n credu y gellid ymdrin â'r problemau hynny, gan ddefnyddio eu profiad ymarferol unwaith eto.

I thank John Griffiths for that. Yes, I would be very, very happy to meet, as you suggest. My reflections on my experience last week—. We were at the Grange at one point and there were, I think, 12 ambulances waiting outside at that point in time. You could see in a very vivid way what that means, both from a patient point of view but also from a staff point of view. It’s quite a lot of staff time that is being held up outside a hospital as well, so that’s not good for patients, staff or the service overall.

My reflections on it were that the staff were very reasonable and very uncomplaining about what was a very challenging situation—so, I am very grateful to them for that—and a recognition that the challenges lie beyond their ability immediately in that situation to address. So, it’s a systemic challenge. Today’s statement was about the review, but I recognise that the handover question is fundamental to it, really. So, I hope that the fact that I have established that clinically led task force will give the Member some reassurance that I absolutely see that the two things are interlinked, and that where we need to go further, as I’m sure we do, I will be happy to do that.

Diolch i John Griffiths am hynna. Byddwn, fe fyddwn i'n hapus iawn, iawn i gyfarfod, fel yr awgrymwch. Fy myfyrdodau ar fy mhrofiad yr wythnos diwethaf—. Roeddem ni yn y Faenor ar un adeg ac roedd 12 ambiwlans yn aros y tu allan ar yr adeg honno yn fy marn i. Gallech weld mewn ffordd fyw iawn beth mae hynny'n ei olygu, o safbwynt claf ond hefyd o safbwynt staff. Mae'n dipyn o amser staff sy'n cael ei ddal yn ôl y tu allan i ysbyty hefyd, felly nid yw hynny'n dda i gleifion, staff na'r gwasanaeth yn gyffredinol.

Fy myfyrdodau arno oedd bod y staff yn rhesymol iawn heb gwyno am yr hyn a oedd yn sefyllfa heriol iawn—felly, rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny—a chydnabyddiaeth bod yr heriau y tu hwnt i'w gallu yn y sefyllfa honno i fynd i'r afael â nhw. Felly, mae'n broblem systemig. Roedd y datganiad heddiw yn ymwneud â'r adolygiad, ond rwy'n cydnabod bod y cwestiwn trosglwyddo yn sylfaenol iddo, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ffaith fy mod i wedi sefydlu'r tasglu dan arweiniad clinigol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod fy mod yn wir yn gweld bod y ddau beth yn gysylltiedig, a lle mae angen i ni fynd ymhellach, fel yr wyf yn siŵr y byddwn yn ei wneud, byddaf yn hapus i wneud hynny.

Thank you, Deputy Presiding Officer, and thank you, Cabinet Secretary, for your oral statement. This is an issue that affects many of my constituents. The review of the ambulance response target, as Russell George pointed out, is over 50 years old—that target—and is long overdue. The focus has to be on clinical outcomes and not targets. Having clinicians in control rooms, triaging those calls and making sure that harm is reduced, by each call having an individual tailored response, I think is absolutely essential.

A pan-Wales system is also required. So, the rights system that works in my constituency of Wrexham must work in every part of Wales, because, ultimately, a patient is a patient wherever they are. It is not just the Welsh ambulance service, I strongly believe, that should carry all of the risks and pressure. I think that that needs to be much more levelled out across the ambulance service, emergency departments and also the health boards. I think that it’s really important that the Welsh Government ensures that the correct levers are in place. You just referred to the staff that you met last week. Ultimately, they go in, wanting to do their very best, and you can only imagine the impact that those ambulances waiting outside hospitals have. So, could you please outline how the proposed changes that you've set out in your statement will focus on a whole system right across Wales?

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad llafar. Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar lawer o fy etholwyr. Mae'r adolygiad o'r targed ymateb ambiwlans, fel y nododd Russell George, dros 50 mlwydd oed—y targed hwnnw—ac mae'n hen bryd cael un newydd. Rhaid canolbwyntio ar ganlyniadau clinigol ac nid targedau. Mae cael clinigwyr mewn ystafelloedd rheoli, brysbennu'r galwadau hynny a sicrhau bod niwed yn cael ei leihau, gyda phob galwad yn cael ymateb wedi'i deilwra gan unigolyn, rwy'n credu, yn gwbl hanfodol.

Mae angen system Cymru gyfan hefyd. Felly, mae'n rhaid i'r system gywir sy'n gweithio yn fy etholaeth i yn Wrecsam weithio ym mhob rhan o Gymru, oherwydd, yn y pen draw, mae claf yn glaf ble bynnag y mae. Rwy'n credu'n nad gwasanaeth ambiwlans Cymru yn unig ddylai gario'r holl risgiau a phwysau. Rwy'n credu bod angen rhannu'r baich yn decach ar draws y gwasanaeth ambiwlans, adrannau brys a hefyd y byrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y dulliau ysgogi cywir ar waith. Roeddech chi newydd gyfeirio at y staff y gwnaethoch chi gwrdd â nhw yr wythnos diwethaf. Yn y pen draw, maen nhw'n mynd i mewn, eisiau gwneud eu gorau, a gallwch chi ond dychmygu'r effaith mae'r ambiwlansys hynny sy'n aros y tu allan i ysbytai yn ei chael. Felly, a allech chi amlinellu sut y bydd y newidiadau arfaethedig rydych chi wedi'u nodi yn eich datganiad yn canolbwyntio ar system gyfan ledled Cymru?

16:00

I thank Lesley Griffiths for that. I do understand that Ministers changing targets attracts criticism sometimes, so I'm grateful to Members for the way in which the statement's been responded to today. At the end of the day, I'm less concerned about that than making sure that we have the right arrangements in place that will deliver the best possible outcomes. That's the sole criterion that we should apply to these questions, as the review panel itself has recognised.

I think, in a way, the point the Member makes about carrying risk is a very important way of looking at this. What, I think, we've seen in practice is that the ambulance service has actually chosen to carry more of that risk itself in a way that is very helpful for the system overall, so it doesn't say to a patient, 'We can't help you', it will say to a patient, 'Someone will call you back; they will redirect you.' So, there's a relationship between the patient and the health service, which, I think, must be incredibly reassuring, if you are that patient looking for support. So, I think that's a new way of working, and that's what's behind the fact they've recruited the additional advanced practitioner paramedics, and, crucially, recruited that clinical team, so that there's clinical ownership, if you like, within the ambulance service, of that patient who has made a call. I think that's a very big shift, actually.

The system question, I think, is a very important question. We've touched already on some of the interrelationships between handover delays and the need for more community provision. Actually, putting the Save a Life service into the ambulance service, I think, extends that community provision, which is what we want to see, but I think there is more that we need to do to shift resources into community-level provision wherever we can, so that there's a more robust response available. And I think, as well, I was struck by the growth, if you like, across the NHS, of remote clinical triage, whether it's through the ambulance service or through regional arrangements between health boards, and I think there is something that we need to do to help the public navigate that, so they understand how the health service is able to respond remotely to some of their needs, where that's appropriate.

Diolch i Lesley Griffiths am hynna. Rwy'n deall bod Gweinidogion sy'n newid targedau yn denu beirniadaeth weithiau, felly rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am y ffordd yr ymatebwyd i'r datganiad heddiw. Ar ddiwedd y dydd, rwy'n llai pryderus am hynny na sicrhau bod gennym y trefniadau cywir ar waith a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Dyna'r unig faen prawf y dylem ei gymhwyso i'r cwestiynau hyn, fel y mae'r panel adolygu ei hun wedi cydnabod.

Rwy'n credu, mewn ffordd, fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â chario risg yn ffordd bwysig iawn o edrych ar hyn. Yr hyn yr ydym ni, rwy'n credu, wedi'i weld yn ymarferol yw bod y gwasanaeth ambiwlans wedi dewis cario mwy o'r risg honno ei hun mewn ffordd sy'n ddefnyddiol iawn i'r system yn gyffredinol, felly nid yw'n dweud wrth glaf, 'Ni allwn eich helpu', bydd yn dweud wrth glaf, 'Bydd rhywun yn eich ffonio chi'n ôl; byddan nhw'n eich ailgyfeirio." Felly, mae perthynas rhwng y claf a'r gwasanaeth iechyd, sydd, rwy'n credu, yn tawelu'r meddwl, os chi yw'r claf hwnnw sy'n chwilio am gymorth. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ffordd newydd o weithio, a dyna sydd y tu ôl i'r ffaith eu bod wedi recriwtio'r uwch ymarferwyr parafeddygol, ac, yn hollbwysig, recriwtio'r tîm clinigol hwnnw, fel bod perchnogaeth glinigol, os mynnwch, o fewn y gwasanaeth ambiwlans, o'r claf hwnnw sydd wedi gwneud galwad. Rwy'n credu bod hynny'n newid mawr, mewn gwirionedd.

Mae'r cwestiwn system, rwy'n credu, yn gwestiwn pwysig iawn. Rydym eisoes wedi cyffwrdd â rhai o'r cydberthnasau rhwng oedi wrth drosglwyddo a'r angen am fwy o ddarpariaeth gymunedol. A dweud y gwir, mae rhoi'r gwasanaeth Achub Bywyd yn y gwasanaeth ambiwlans, rwy'n credu, yn ymestyn y ddarpariaeth gymunedol honno, sef yr hyn yr ydym eisiau ei weld, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy i symud adnoddau i ddarpariaethau ar lefel gymunedol lle bynnag y gallwn, fel bod ymateb mwy cadarn ar gael. Ac rwy'n credu, hefyd, fy mod wedi cael fy nharo gan y twf, os hoffech chi, ar draws y GIG, o frysbennu clinigol o bell, boed hynny drwy'r gwasanaeth ambiwlans neu drwy drefniadau rhanbarthol rhwng byrddau iechyd, a chredaf fod rhywbeth y mae angen i ni ei wneud i helpu'r cyhoedd i lywio hynny, fel eu bod yn deall sut y gall y gwasanaeth iechyd ymateb o bell i rai o'u hanghenion, pan fo hynny'n briodol.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd yn GIG Cymru
5. Statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: Escalation and intervention arrangements in NHS Wales

Eitem 5 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar drefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd NHS Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Item 5 is a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care on escalation and intervention arrangements in NHS Wales. I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Tachwedd diwethaf, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar gyfer pob un o sefydliadau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad pellach i Aelodau ar ôl asesu'r sefydliadau yma'n ofalus o safbwynt ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae gennym ni drefniadau cadarn ar waith i wneud hyn o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mae'r broses yn ein helpu i benderfynu a oes angen cymorth ychwanegol ar unrhyw sefydliadau i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae'r gwaith yma'n rhan bwysig o fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu'r gofal a'r canlyniadau gorau posib i bobl yng Nghymru.

Dros y 18 mis diwethaf, mae'r Llywodraeth, y cyhoedd a'r Siambr wedi bod yn canolbwyntio'n fanwl ar amseroedd aros gofal wedi'i gynllunio. Mae'r ffigurau diweddaraf, a gafodd eu cyhoeddi bythefnos yn ôl, yn dangos bod y sefyllfa'n dechrau gwella. Mae'r amseroedd aros hir yn gostwng, mae'r rhestr aros yn dechrau lleihau ac mae'r perfformiad yn erbyn y targed canser yn gwella'n raddol. Mae hyn i gyd yn gadarnhaol. Mae'r ffigurau yma'n dangos bod y cymorth sy'n cael ei roi i fyrddau iechyd drwy'r fframwaith uwchgyfeirio yn dechrau cael effaith. Wedi dweud hynny, mae llawer i'w wneud eto. Rwyf eisiau diolch i holl staff y gwasanaeth iechyd sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth, a hynny yn aml o dan bwysau mawr. Mae'r canlyniadau diweddaraf yn cydnabod y gwaith caled yma a'r hyder cynyddol gyda systemau a phrosesau ledled Cymru.

Rwyf am ddechrau drwy rannu'r newyddion da. Fis Tachwedd, fe wnes i symud y gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o lefel 4 i lefel 3. Fe wnes i nodi hefyd y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r bwrdd i gytuno ar y gwelliannau cynaliadwy sydd eu hangen cyn i ni allu ystyried symud allan o drefniadau yn gyfan gwbl. Rwy'n falch o ddweud bod y gwelliannau yma wedi'u cynnal ers mis Tachwedd. Heddiw, rwy'n gallu symud y gwasanaeth i drefniadau lefel 1. Mae byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a bae Abertawe hefyd wedi gwella eu gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc dros y tri mis diwethaf. Mae hyn yn golygu bod modd symud y gwasanaethau hynny o lefel 4 i lefel 3.

Thank you, Dirprwy Lywydd. Last November, I updated the Senedd on the escalation and intervention arrangements for each of the NHS organisations in Wales. Today, I am providing a further update to Senedd Members after carefully assessing the quality, service performance and financial management of every NHS organisation in Wales. We have robust arrangements in place to do this at least twice a year. This process helps us to determine whether any organisations need additional support to improve the services that they provide. This work is an important part of my role as Cabinet Secretary for Health and Social Care. This includes ensuring that the health service delivers the best possible care and the best possible outcomes for people in Wales.

Over the last 18 months, the Government, the public and all of us within this Siambr have been focusing intensely on planned care waiting times. The most recent figures, published two weeks ago, show an improving position. Long waits are falling, the overall size of the waiting list is starting to come down and performance against the cancer target is steadily getting better. All of this is positive. These figures demonstrate that the support provided to health boards through the escalation framework is starting to have an impact. Having said that, there is still a long way to go yet. I want to put on record my thanks to all the NHS staff who are working hard to make a difference, often under very pressured circumstances. The outcomes of the latest escalation and intervention decisions recognises this hard work and the increasing confidence around systems and processes across Wales.

I want to start by sharing the good news. In November, I de-escalated the child and adolescent mental health service in Cwm Taf Morgannwg University Health Board from level 4 to level 3. I also indicated that further work would be undertaken with the health board to agree the sustainable improvements needed before we could consider full de-escalation arrangements. I'm pleased to say that these improvements have been sustained since November. And I can today de-escalate the service to level 1 arrangements. Hywel Dda and Swansea bay university health boards have also met the CAMHS de-escalation performance criteria for the last three months. This means that their services can now be de-escalated from level 4 to level 3.

Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda and Swansea bay university health boards have all been making good progress with their planned care recovery programmes. They've got strong plans for the rest of this year, which will mean they will eliminate long waits in almost all specialties. In recognition of this progress, I have de-escalated planned care performance in each of these three health boards from level 4 to level 3. Cancer performance is also starting to improve in Cwm Taf Morgannwg University Health Board. It has met the de-escalation performance criteria for the last three months for cancer, so I have de-escalated their cancer services from level 4 to level 3. In each of these cases, a level 3 escalation means health boards will remain subject to ongoing monitoring and scrutiny, and intervention if necessary, from the NHS executive.

In January of last year, Hywel Dda University Health Board was facing significant challenges in relation to finance and planning, which were impacting on performance. It was subsequently escalated to level 4. Since then, it has made considerable improvements related to its governance and leadership. The appointment of a new chair, chief executive and deputy chief executive has brought new stability and direction to the board. The move towards an operational care group structure has improved the governance and decision making. So, I have decided to de-escalate the health board for governance and leadership to level 3.

Unfortunately, the very real improvements that we have seen across child and adolescent mental health services, planned care and cancer have not been reflected in urgent and emergency care. I am not able to de-escalate urgent and emergency care at any of the health boards. The NHS executive's six goals programme, its assurance and quality and safety teams will continue to work closely with these health boards. This includes on-site visits, demand and capacity planning and actions to improve hospital flow.

Dirprwy Lywydd, no changes are being made to the escalation status of Aneurin Bevan University Health Board, which remains at level 4 for finance, strategy and planning and at level 3 for performance and outcomes related to urgent and emergency care at the Grange University Hospital emergency department. Betsi Cadwaladr University Health Board remains at the highest level of escalation, at level 5 or, in effect, in special measures. However, as I noted last week, there has been a significant amount of progress. My officials will be working very closely with Powys Teaching Health Board in relation to its finance, strategy and planning. However, its escalation status remains unchanged from November.

Dirprwy Lywydd, I now turn to Cardiff and Vale University Health Board. It is reporting a growing financial deficit that will not be addressed without additional intervention and support. I have taken the decision, therefore, to escalate the health board to level 4 for finance, strategy and planning. This means the NHS executive will assess and provide the additional intervention and support required above current arrangements to deliver the required improvements.

Dirprwy Lywydd, I'm also escalating Digital Health and Care Wales to level 3 for performance and outcomes related to the delivery of major programmes. I am making this decision because of serious concerns about the organisation's ability to effectively deliver a number of major programmes. It is vital the NHS has confidence in DHCW to deliver our digital transformation, so we will work with them to ensure they are able to make the required improvements. Level 3 is the first stage of significant intervention and support in an organisation. In this case, we will be engaging additional digital expertise to work alongside the Welsh Government and DHCW to review a set of agreed milestones and progress against the national programmes DHCW is responsible for delivering. The expert will also provide an independent assessment of DHCW’s ability to deliver and what further support it may need in the short to medium term. We will closely monitor the progress of DHCW over the course of the next few months. There will be a further opportunity to review the progress made and its escalation status at the next tripartite meeting in June.

There are no changes to the escalation levels of the other NHS trusts and special health authorities. Dirprwy Lywydd, these decisions have not been taken lightly. When implemented correctly, escalation, intervention and support can—and, in my experience, do—have a sustained impact on an organisation and the care and services it provides to the public. This is the best way to support NHS organisations to improve the quality of service and care that people receive, and, ultimately, their outcomes. All the changes I have announced today will now be published on the Welsh Government website. Diolch yn fawr. 

Mae byrddau iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe i gyd wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda'u rhaglenni adfer gofal a gynlluniwyd. Mae ganddynt gynlluniau cryf ar gyfer gweddill eleni, a fydd yn golygu y byddant yn dileu arosiadau hir ym mron pob arbenigedd. I gydnabod y cynnydd hwn, rwyf wedi isgyfeirio perfformiad gofal a gynlluniwyd ym mhob un o'r tri bwrdd iechyd hyn o lefel 4 i lefel 3. Mae perfformiad canser hefyd yn dechrau gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae wedi bodloni'r meini prawf perfformiad isgyfeirio am y tri mis diwethaf ar gyfer canser, felly rwyf wedi isgyfeirio eu gwasanaethau canser o lefel 4 i lefel 3. Ym mhob un o'r achosion hyn, mae uwchgyfeirio lefel 3 yn golygu y bydd byrddau iechyd yn parhau i fod yn destun monitro a chraffu parhaus, ac ymyrraeth os oes angen, gan weithrediaeth y GIG.

Ym mis Ionawr y llynedd, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau sylweddol mewn perthynas â chyllid a chynllunio, a oedd yn effeithio ar berfformiad. Cafodd ei uwchgyfeirio i lefel 4 yn ddiweddarach. Ers hynny, mae wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn gysylltiedig â'i lywodraethu a'i arweinyddiaeth. Mae penodi cadeirydd, prif weithredwr a dirprwy brif weithredwr newydd wedi dod â sefydlogrwydd a chyfeiriad newydd i'r bwrdd. Mae symud tuag at strwythur grŵp gofal gweithredol wedi gwella'r broses o lywodraethu a gwneud penderfyniadau. Felly, rwyf wedi penderfynu isgyfeirio'r bwrdd iechyd ar gyfer llywodraethu ac arweinyddiaeth i lefel 3.

Yn anffodus, nid yw'r gwelliannau gwirioneddol yr ydym wedi'u gweld ar draws gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gofal a gynlluniwyd a chanser wedi cael eu hadlewyrchu mewn gofal brys ac argyfwng. Nid wyf yn gallu isgyfeirio gofal brys ac argyfwng yn unrhyw un o'r byrddau iechyd. Bydd rhaglen chwe nod gweithredol y GIG, ei thimau sicrwydd ac ansawdd a diogelwch yn parhau i weithio'n agos gyda'r byrddau iechyd hyn. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau ar y safle, cynllunio galw a chapasiti a chamau gweithredu i wella llif cleifion mewn ysbytai.

Dirprwy Lywydd, nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n parhau ar lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio ac ar lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys ac argyfwng yn adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio, ar lefel 5 neu, i bob pwrpas, mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y nodais yr wythnos diwethaf, bu cynnydd sylweddol. Bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mewn perthynas â'i gyllid, strategaeth a chynllunio. Fodd bynnag, mae ei statws uwchgyfeirio yn parhau i fod yn ddigyfnewid ers mis Tachwedd.

Dirprwy Lywydd, rwyf nawr yn troi at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n adrodd am ddiffyg ariannol cynyddol na fydd yn cael ei ddatrys heb ymyrraeth a chefnogaeth ychwanegol. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad, felly, i uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd i lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. Mae hyn yn golygu y bydd gweithrediaeth y GIG yn asesu ac yn darparu'r ymyrraeth a'r cymorth ychwanegol sy'n ofynnol uwchben y trefniadau presennol i gyflawni'r gwelliannau gofynnol.

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chyflwyno rhaglenni mawr. Rwy'n gwneud y penderfyniad hwn oherwydd pryderon difrifol am allu'r sefydliad i ddarparu nifer o raglenni mawr yn effeithiol. Mae'n hanfodol bod gan y GIG hyder yn IGDC i gyflawni ein trawsnewidiad digidol, felly byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y gwelliannau gofynnol. Lefel 3 yw'r cam cyntaf o ymyrraeth a chymorth sylweddol mewn sefydliad. Yn yr achos hwn, byddwn yn sicrhau gwasanaeth arbenigol digidol ychwanegol i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac IGDC i adolygu cyfres o gerrig milltir y cytunwyd arnynt a chynnydd yn erbyn y rhaglenni cenedlaethol y mae IGDC yn gyfrifol am eu cyflawni. Bydd yr arbenigwr hefyd yn darparu asesiad annibynnol o allu Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen yn y tymor byr i'r tymor canolig. Byddwn yn monitro cynnydd IGDC yn agos dros yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd cyfle pellach i adolygu'r cynnydd a wnaed a'i statws uwchgyfeirio yn y cyfarfod teirochrog nesaf ym mis Mehefin.

Nid oes unrhyw newidiadau i lefelau uwchgyfeirio ymddiriedolaethau GIG eraill ac awdurdodau iechyd arbennig. Dirprwy Lywydd, nid yw'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud yn ysgafn. O'i weithredu'n gywir, gall uwchgyfeirio, ymyrraeth a chymorth—ac, yn fy mhrofiad i, maen nhw—yn cael effaith barhaus ar sefydliad a'r gofal a'r gwasanaethau y mae'n ei ddarparu i'r cyhoedd. Dyma'r ffordd orau o gefnogi sefydliadau'r GIG i wella ansawdd y gwasanaeth a'r gofal y mae pobl yn eu cael, ac, yn y pen draw, eu canlyniadau. Bydd yr holl newidiadau yr wyf wedi'u cyhoeddi heddiw nawr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr. 

16:10

Can I thank the Cabinet Secretary for his statement? While it's, I think, right to acknowledge the small areas of progress, the broader picture, of course, remains deeply concerning. Every single health board in Wales remains in some form of intervention and the Welsh Government has had to escalate Cardiff and the Vale health board to level 4 due to a worsening financial crisis, and Betsi Cadwaladr remains at the highest level of escalation and in special measures.

Towards the end of your statement there, Cabinet Secretary, you referred to the fact that intervention and support can and do have a sustained impact. Yet Betsi Cadwaladr has been largely in special measures for almost a decade, and waiting times have more than doubled in that time. So, can you explain, tell us, how the Welsh Government can continue to say that special measures are working? Isn't that an example where it's not the case? Betsi Cadwaladr is responsible for 91 per cent of three-year waits in Wales, and I wonder if the Cabinet Secretary can tell us when he expects special measures to be lifted in all areas at the health board, and set out a road map and timetable in that regard.

The Cabinet Secretary points to a slight improvement in waiting times, but it's clear that, overall, the backlog remains at unacceptable levels. The number of patients waiting for two years remains in the tens of thousands, and that's with Welsh Government intervention. So, when can we expect the two-year waits to be anywhere near in line with the other nations of the UK? 

Cancer performance in Cwm Taf Morgannwg has improved but other areas remain critically behind targets. I wonder if the Cabinet Secretary could tell us what urgent action has been undertaken to improve cancer diagnosis and treatment times across all health boards. This is a significant area of concern. 

Cardiff and the Vale health board has been escalated to level 4 for finance strategy and planning, and I wonder if the Cabinet Secretary could talk to the scale of the deficit and explain how it's been allowed to deteriorate so badly, given the fact that it is in that level of escalation already. 

Cabinet Secretary, you referred to Powys Teaching Health Board remaining in some financial difficulty, and I wonder what recognition you have of the difference between Powys health board and other health boards across Wales, because, of course, Powys does not have any district general hospitals of its own. And I wonder what's your assessment of that in terms of how more difficult it is for them to manage their deficit, given the fact that they have to use cross-border care for the provision for people within the health board area. 

The Welsh Government has said that it's had to escalate—. You've said, rather, that you've had to escalate Digital Health and Care Wales to level 3 over its failure to deliver major programmes. Given the importance of digital transformation in the Welsh NHS and the need to transform services as quickly as possible, what is your assessment of there being a delay therefore in transforming services in the way that needs to happen and that you would like to see? 

And finally, you refer to the role that the NHS executive has and will be playing in regard to the assessment and provision of additional intervention. But, given that all health boards in Wales still remain in special measures, some with no end in sight, I would say to you, my last question is: is it time that you considered that the NHS executive perhaps lacks the teeth it needs to deliver on its objectives?

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Er ei bod hi, rwy'n credu, yn iawn i gydnabod y meysydd bychain o gynnydd, mae'r darlun ehangach, wrth gwrs, yn parhau i fod yn destun pryder mawr. Mae pob un bwrdd iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn destun rhyw fath o ymyrraeth ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod uwchgyfeirio bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i lefel 4 oherwydd argyfwng ariannol sy'n gwaethygu, ac mae Betsi Cadwaladr yn parhau ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio ac mewn mesurau arbennig.

Tua diwedd eich datganiad yna, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch gyfeirio at y ffaith y gall ymyrraeth a chefnogaeth gael effaith barhaus ac y maen nhw'n gwneud hynny. Ac eto mae Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig i raddau helaeth ers bron i ddegawd, ac mae'r amseroedd aros wedi mwy na dyblu yn y cyfnod hwnnw. Felly, a allwch egluro, dweud wrthym, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddweud bod mesurau arbennig yn gweithio? Onid yw'n enghraifft lle nad yw'n wir? Mae Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 91 y cant o arosiadau tair blynedd yng Nghymru, a tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym pryd mae'n disgwyl i fesurau arbennig gael eu codi ym mhob maes yn y bwrdd iechyd, a nodi map ffordd ac amserlen yn hynny o beth.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn tynnu sylw at welliant bach mewn amseroedd aros, ond mae'n amlwg, ar y cyfan, bod yr ôl-groniad yn parhau i fod ar lefelau annerbyniol. Mae nifer y cleifion sy'n aros am ddwy flynedd yn parhau yn y degau o filoedd, a hynny gydag ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Felly, pryd allwn ni ddisgwyl i'r arosiadau dwy flynedd fod yn debyg i rai gwledydd eraill y DU?

Mae perfformiad canser yng Nghwm Taf Morgannwg wedi gwella ond mae meysydd eraill yn parhau i fod ymhell o gyrraedd targedau. Tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym pa gamau brys sydd wedi'u cymryd i wella diagnosis canser ac amseroedd triniaeth ar draws pob bwrdd iechyd. Mae hwn yn faes pwysig sy'n peri pryder.

Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cael ei uwchgyfeirio i lefel 4 ar gyfer strategaeth a chynllunio cyllid, a tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet sôn am faint y diffyg ac egluro sut y caniatawyd iddo ddirywio mor wael, o ystyried y ffaith ei fod ar y lefel honno o uwchgyfeirio eisoes.

Ysgrifennydd Cabinet, fe gyfeirioch at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i fod mewn rhywfaint o anhawster ariannol, a tybed pa adnabyddiaeth sydd gennych o'r gwahaniaeth rhwng bwrdd iechyd Powys a byrddau iechyd eraill ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, nid oes gan Bowys unrhyw ysbytai cyffredinol dosbarth ei hun. A tybed beth yw eich asesiad chi o hynny o ran faint yn fwy anodd yw hi iddyn nhw reoli eu diffyg, o ystyried y ffaith bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio gofal trawsffiniol ar gyfer y ddarpariaeth i bobl o fewn ardal y bwrdd iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi gorfod uwchgyfeirio—. Rydych chi wedi dweud, yn hytrach, eich bod chi wedi gorfod uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru i lefel 3 oherwydd ei fethiant i gyflwyno rhaglenni mawr. O ystyried pwysigrwydd trawsnewid digidol yn y GIG yng Nghymru a'r angen i drawsnewid gwasanaethau cyn gynted â phosibl, beth yw eich asesiad chi o'r ffaith bod yna oedi felly o ran trawsnewid gwasanaethau yn y ffordd y mae angen iddo ddigwydd ac yr hoffech chi ei weld?

Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at y rôl sydd gan weithrediaeth y GIG y bydd yn ei chwarae o ran asesu a darparu ymyrraeth ychwanegol. Ond, o ystyried bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn dal i fod mewn mesurau arbennig, rhai heb ddiwedd yn y golwg, byddwn yn dweud wrthych chi, fy nghwestiwn olaf yw: a yw'n bryd i chi ystyried efallai nad oes gan weithrediaeth y GIG y dannedd sydd eu hangen i gyflawni ei hamcanion?

16:15

I thank Russell George for those questions. He makes a comparison with other parts of the UK—I'm not sure that's the right lens through which to see this, because, actually, this is about providing the level of support that is required for organisations that are failing to meet their objectives. But, you know, actually, all integrated care boards in England are in some form of escalation, and I think that 180 out of the 205 trusts are in some form of escalation. So, this is of no comfort to me personally, and it won't be to him, but this is not a challenge that is unique to Wales, and that may reflect the level of demand and the pressure of resources on the NHS in all parts of the UK over the last 14 years.

He made a number of points in relation to Betsi Cadwaladr specifically. Obviously, we had an opportunity, in the Chamber last week, to explore in some detail the improvements in relation to governance in particular, and leadership and quality and safety, but I was very clear in my statement last week that, in relation to performance, there is a long way yet to go; the board itself would say the same to you, as I'm sure they have.

I was asked last week whether I would set out a time point at which I expect special measures to be lifted. Again, I'm not prepared to do that. I'm not prepared to put an artificial time frame in place. I understand that's frustrating for people; it's absolutely frustrating for me. But, at the end of the day, the critical thing is that support is provided to the health board in relation to the challenges that it faces. And, actually, as I was indicating last week, there definitely have been areas of improvement. I will de-escalate aspects of improvement when they have met the objectives, and that's true of all health boards in Wales. I think it's really important that that is the approach that is taken, because that is what gives people confidence, I hope, that there is a robust plan in place.

He made a point in relation to waiting times. What I want to see is that the small changes that we saw in the figures published last month are built upon rapidly over the course of the coming months. The next figures will be published on 20 March, and they're monthly after that, as you know. So, I very much hope that we will see those longest waits coming down, and continuing to come down, over the months ahead. That's certainly the challenge, the task, that I have set to the NHS. That's the purpose of the funding. It isn't simply about funding. I want to be very, very clear about that: it cannot simply be about funding; it has to be about new ways of delivering services. That is absolutely fundamental to being able to put the NHS on a sustainable footing. So, yes, there is a need for some extra resource, and we are providing that, but, actually, what's required is to deliver services differently, and I think there's a recognition of that.

He makes an important point in relation to cancer. I think there are challenges in terms of the clarity of the landscape, which I've acknowledged previously in the Chamber, and I've set out the plan that I have to get to grips with that, through the cancer leadership board, through a streamlining of the various initiatives in this space, and making sure that they're giving clear direction to the system. But it isn't all about leadership and it isn't all about that clarity. In terms of the service resilience itself, there are challenges in some diagnostic areas and some workforce areas. Fundamentally, I think there needs to be a closer alignment to the cancer pathways that we know are the most effective way of delivering for patients in those circumstances. We heard in the Chamber earlier, in First Minister's questions, there is very, very good practice in relation to cancer in parts of the service in Wales, whether that's to do with particular tumour sites, particular parts of the NHS. The challenge, obviously, is to make sure that's a consistent level of provision across the system.

The Member asked me in relation to Cardiff and Vale University Health Board, and the frustration in his question is one that I share. There is a growing financial deficit at this stage of the financial year, which is obviously not welcome, and we are working with the health board to understand the drivers for that and, obviously, to prevent it from getting worse. But our judgment is that the health board will need more intervention from us in order to be able to address that adequately, which is why I've obviously escalated further.

I do recognise the point that he makes, that Powys is in a different situation in not having a district general hospital, and commissioning services from elsewhere. However, you could also make the argument that it faces fewer risks in terms of the management of a hospital, which brings its own complexity and exposure. So, it is particular. From a strategy, planning and financial point of view, I think there are advantages and disadvantages to that. The most important thing, of course, is that residents in Powys have access to care on an equal basis with other parts of Wales.

In relation to the escalation of DHCW, it's a very specific escalation on projects. There's a lot of work happening in the system, whether it's in relation to the NHS app, in relation to the maternity app, in relation to a plethora of other projects, which are on track and we're confident we will be hitting the milestones that have been set, but I think the organisation generally needs some support on some of the major projects. I think the lack of capital availability has been a particular challenge in this space, as I'm sure the Member would recognise.

Finally, in relation to the NHS executive, it is a new organisation. It's an organisation that's in its early stages, and it is important for us to keep looking at whether we have the right structure, the right approach, and that's something the NHS executive is currently doing, and we're working with it in relation to that. 

Diolch i Russell George am y cwestiynau yna. Mae'n gwneud cymhariaeth â rhannau eraill o'r DU—nid wyf yn siŵr mai dyna'r lens gywir i'w defnyddio i edrych ar hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â darparu'r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau sy'n methu â chyflawni eu hamcanion. Ond, wyddoch chi, mewn gwirionedd, mae pob bwrdd gofal integredig yn Lloegr yn destun rhyw fath o uwchgyfeirio, ac rwy'n credu bod 180 allan o'r 205 ymddiriedolaeth yn destun rhyw fath o uwchgyfeirio. Felly, nid yw hyn o gysur i mi yn bersonol, ac ni fydd yn gysur iddo ef, ond nid yw hon yn her sy'n unigryw i Gymru, a gallai hynny adlewyrchu lefel y galw a phwysau adnoddau ar y GIG ym mhob rhan o'r DU dros y 14 mlynedd diwethaf.

Gwnaeth nifer o bwyntiau mewn perthynas â Betsi Cadwaladr yn benodol. Yn amlwg, cawsom gyfle, yn y Siambr yr wythnos diwethaf, i archwilio'n fanwl y gwelliannau mewn perthynas â llywodraethu yn benodol, ac arweinyddiaeth ac ansawdd a diogelwch, ond roeddwn yn glir iawn yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, mewn perthynas â pherfformiad, sef bod ffordd bell eto i fynd; byddai'r bwrdd ei hun yn dweud yr un peth wrthych chi, fel rwy'n siŵr y maen nhw wedi gwneud.

Gofynnwyd i mi yr wythnos diwethaf a fyddwn yn nodi amser penodol pryd yr wyf yn disgwyl i fesurau arbennig gael eu codi. Unwaith eto, nid wyf yn barod i wneud hynny. Nid wyf yn barod i roi ffrâm amser artiffisial ar waith. Rwy'n deall bod hynny'n rhwystredig i bobl; mae'n hollol rwystredig i mi. Ond, ar ddiwedd y dydd, y peth hollbwysig yw bod cymorth yn cael ei ddarparu i'r bwrdd iechyd mewn perthynas â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Ac, mewn gwirionedd, fel roeddwn i'n ei nodi'r wythnos diwethaf, yn bendant mae meysydd lle bu gwella. Byddaf yn isgyfeirio agweddau ar wella pan fyddant wedi cyflawni'r amcanion, ac mae hynny'n wir am bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn mai dyna'r dull gweithredu sy'n cael ei fabwysiadu, oherwydd dyna sy'n rhoi hyder i bobl, rwy'n gobeithio, sef bod cynllun cadarn ar waith.

Gwnaeth bwynt mewn perthynas ag amseroedd aros. Yr hyn rwyf eisiau ei weld yw ein bod yn adeiladu'n gyflym dros y misoedd nesaf ar y newidiadau bach a welsom yn y ffigurau a gyhoeddwyd fis diwethaf. Bydd y ffigurau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar 20 Mawrth, ac maen nhw'n fisol ar ôl hynny, fel y gwyddoch chi. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gwelwn yr arosiadau hiraf hynny'n dod i lawr, ac yn parhau i ddod i lawr, dros y misoedd i ddod. Dyna'r her, y dasg, yr wyf wedi'i gosod i'r GIG, yn sicr. Dyna ddiben y cyllid. Nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig. Rwyf am fod yn glir iawn, iawn ynglŷn â hynny: ni all ymwneud â chyllid yn unig; mae'n rhaid iddo fod yn ymwneud â ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n gwbl sylfaenol i allu rhoi'r GIG ar sail gynaliadwy. Felly, oes, mae angen rhywfaint o adnoddau ychwanegol, ac rydym yn darparu hynny, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen yw cyflawni gwasanaethau'n wahanol, ac rwy'n credu bod cydnabyddiaeth o hynny.

Mae'n gwneud pwynt pwysig mewn perthynas â chanser. Rwy'n credu bod heriau o ran eglurder y dirwedd, yr wyf wedi'i chydnabod yn flaenorol yn y Siambr, ac rwyf wedi nodi'r cynllun sydd gennyf i fynd i'r afael â hynny, drwy'r bwrdd arwain canser, trwy symleiddio'r gwahanol fentrau yn y maes hwn, a sicrhau eu bod yn rhoi cyfeiriad clir i'r system. Ond nid yw'n ymwneud ag arweinyddiaeth yn unig, ac nid yw'n ymwneud â'r eglurder hwnnw yn unig. O ran cydnerthedd y gwasanaeth ei hun, mae heriau mewn rhai meysydd diagnostig a rhai meysydd gweithlu. Yn y bôn, credaf fod angen aliniad agosach â'r llwybrau canser y gwyddom yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni ar gyfer cleifion o dan yr amgylchiadau hynny. Clywsom yn y Siambr yn gynharach, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, fod arfer da iawn, iawn mewn perthynas â chanser mewn rhannau o'r gwasanaeth yng Nghymru, boed hynny'n ymwneud â safleoedd tiwmor penodol, rhannau penodol o'r GIG. Yr her, yn amlwg, yw sicrhau bod hynny'n lefel gyson o ddarpariaeth ar draws y system.

Gofynnodd yr Aelod i mi mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'r rhwystredigaeth yn ei gwestiwn yn un rwy'n ei rannu. Mae diffyg ariannol cynyddol ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ac mae'n amlwg nad oes croeso iddo, ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i ddeall yr ysgogwyr y tu ôl i hynny ac, yn amlwg, ei atal rhag gwaethygu. Ond ein barn ni yw y bydd angen mwy o ymyrraeth gennym ar y bwrdd iechyd er mwyn gallu mynd i'r afael â hynny'n ddigonol, a dyna pam ,yn amlwg, rwyf wedi uwchgyfeirio ymhellach.

Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, bod Powys mewn sefyllfa wahanol o ran peidio â chael ysbyty cyffredinol dosbarth, a chomisiynu gwasanaethau o rywle arall. Fodd bynnag, gallech hefyd ddadlau ei fod yn wynebu llai o risgiau o ran rheoli ysbyty, sy'n dod â'i gymhlethdod a'i amlygiad ei hun. Felly, mae'n arbennig. O safbwynt strategaeth, cynllunio ac ariannol, rwy'n credu bod manteision ac anfanteision i hynny. Y peth pwysicaf, wrth gwrs, yw bod gan drigolion Powys fynediad at ofal sy'n gyfartal â rhannau eraill o Gymru.

O ran uwchgyfeirio IGDC, mae'n uwchgyfeirio penodol iawn ar brosiectau. Mae llawer o waith yn digwydd yn y system, boed hynny mewn perthynas ag ap y GIG, mewn perthynas â'r ap mamolaeth, mewn perthynas â llu o brosiectau eraill, sydd ar y trywydd iawn ac rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y cerrig milltir sydd wedi'u gosod, ond rwy'n credu'n gyffredinol bod angen rhywfaint o gymorth ar y sefydliad ar gyfer rhai o'r prif brosiectau. Credaf fod diffyg argaeledd cyfalaf wedi bod yn her benodol yn y maes hwn, fel rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cydnabod.

Yn olaf, mewn perthynas â gweithrediaeth y GIG, mae'n sefydliad newydd. Mae'n sefydliad sydd yn ei gamau cynnar, ac mae'n bwysig i ni barhau i edrych a oes gennym y strwythur cywir, y dull cywir, ac mae hynny'n rhywbeth y mae gweithrediaeth y GIG yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio gyda hi mewn perthynas â hynny. 

16:20

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y diweddariad. Mae'r cynnydd mewn rhai meysydd i'w groesawu, ond fel y soniais i wrth ymateb i'r datganiad ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf, yr hyn sydd ar goll yn y datganiad yma ydy unrhyw gynllun ac amserlen er mwyn cyrraedd cyflwr boddhaol, oherwydd er gwaethaf y pelydrau o olau roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio atyn nhw, rŷn ni'n parhau i fod mewn sefyllfa ble mae pob un o'r saith bwrdd iechyd lleol mewn rhyw fath o fesurau arbennig, gyda dim arwydd bod hyn am newid yn fuan. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwir na ellir dianc ohono, sef, o dan arweiniad y Llywodraeth yma, fod yr hyn a ddylai fod yn eithriadol wedi datblygu i fod yn arferol. Mae gwasanaethau methedig wedi cael eu normaleiddio, a phobl Cymru sy'n talu'r pris am restrau aros hir, am fethiant i gael triniaethau, methiant i gael apwyntiadau, ymhlith llu o broblemau eraill. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, felly, gymryd cyfrifoldeb am ei rhan yn y methiannau yma, ond efallai fod yn rhaid i ni hefyd edrych ar addasrwydd y broses o gyflwyno mesurau arbennig fel y prif declyn i yrru gwelliannau ymlaen.

Thank you to the Cabinet Secretary for that update. The progress in some areas is to be welcomed, but as I mentioned in responding to the statement on Betsi Cadwaladr health board last week, what is missing in this statement is any plan or timetable to actually reach a satisfactory situation, because despite the glimmers of hope that the Cabinet Secretary referred to, we're still in a situation where every one of the seven local health boards are in some sort of special measures, with no sign that this is to change anytime soon. This reflects the inescapable truth that, under the leadership of this Government, what should be exceptional has become the norm. Failing services have been normalised, and it's the people of Wales who are paying the price for long waiting times, for failure to access treatments, a shortage of appointments, as well as a number of other problems. The Government must therefore take responsibility for its role in these failings, but perhaps we must also look at the appropriateness of the process of introducing special measures as the main tool in driving improvement.

Last year, Plaid Cymru published its plan for governance reforms in the NHS, which was informed by interviews with several senior leaders currently working in the health system. One of the most resounding and consistent messages we heard was a lack of confidence in the escalation and intervention arrangements, that it is insufficiently transparent from an accountability perspective, and that the goal posts keep moving in terms of the perceived importance of specific issues, which is often swayed by political considerations rather than more objective criteria. Now that the Cabinet Secretary has had the opportunity to get his feet under the table as Cabinet Secretary for health, can he confirm whether he's heard similar noises from his conversations with senior NHS leaders?

The aforementioned lack of confidence in the arrangements is also indicative of shortcomings in performance and quality information on the Welsh NHS, which, to quote our interviewees, is considered 'completely opaque', and has, 'no rating for quality at all'. Can you explain why this is the case, and do you accept that it is creating an unhelpful degree of uncertainty amongst NHS leaders as to the Government's vision for improving standards?

It was frustrating, to say the least, to hear that Digital Health and Care Wales is to be escalated to level 3. Eight months ago, the First Minister was campaigning for a Labour UK Government, holding a placard calling for the modernisation of the NHS. The irony wasn't lost on any of us. But where is that partnership in power? The Cabinet Secretary complained of a lack of capital funds to support this, but the Government is in a position to demand the UK Government to assist in this regard, so where is that partnership? When can we see this deliver? 

Where is the leadership to ensure the full utilisation of digital architecture in our NHS? Last week, I had a meeting with OneLondon, an organisation that has managed to bring their primary and secondary care services together with common digital frameworks, saving not only tens of millions of pounds, but also significantly improving outcomes for Londoners. And I also had a meeting with the Swedish digital health unit, who are rolling out digitisation, ensuring urban and rural residents benefit from a fully integrated digital architecture. So, why is it that Wales is so far behind the curve? And what is this Government's vision for digitisation?

Finally, you've increased Cardiff and Vale to level 4 for finance, saying that they have a growing deficit needing additional intervention and support, but you didn't explain what this additional intervention and support will look like. So, I wonder if the Cabinet Secretary can elaborate on this and explain what this will look like. Diolch yn fawr iawn.

Y llynedd, cyhoeddodd Plaid Cymru ei chynllun ar gyfer diwygiadau llywodraethu yn y GIG, a gafodd ei lywio gan gyfweliadau gyda nifer o uwch arweinwyr sy'n gweithio yn y system iechyd ar hyn o bryd. Un o'r negeseuon mwyaf ysgubol a chyson a glywsom oedd diffyg hyder yn y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth, ei fod yn annigonol dryloyw o safbwynt atebolrwydd, a bod y pyst gôl yn parhau i symud o ran pwysigrwydd canfyddedig materion penodol, sy'n aml yn cael ei ddylanwadu gan ystyriaethau gwleidyddol yn hytrach na meini prawf mwy gwrthrychol. Gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet bellach wedi cael y cyfle i gael ei draed o dan y bwrdd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a all gadarnhau a yw wedi clywed synau tebyg o'i sgyrsiau gydag uwch arweinwyr y GIG?

Mae'r diffyg hyder uchod yn y trefniadau hefyd yn arwydd o ddiffygion mewn gwybodaeth perfformiad ac ansawdd o ran GIG Cymru, sydd, i ddyfynnu ein cyfweleion, yn cael ei ystyried yn 'gwbl anhryloyw', ac sydd â 'dim sgôr am ansawdd o gwbl'. A allwch egluro pam mae hyn yn wir, ac a ydych yn derbyn ei fod yn creu rhywfaint o ansicrwydd ymhlith arweinwyr y GIG ynghylch gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer gwella safonau?

Roedd yn rhwystredig, a dweud y lleiaf, clywed bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gael ei uwchgyfeirio i lefel 3. Wyth mis yn ôl, roedd y Prif Weinidog yn ymgyrchu dros Lywodraeth Lafur y DU, gan ddal placard yn galw am foderneiddio'r GIG. Roedd yr eironi yn amlwg i ni gyd. Ond lle mae'r bartneriaeth hon mewn grym? Cwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet am ddiffyg arian cyfalaf i gefnogi hyn, ond mae'r Llywodraeth mewn sefyllfa i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cynorthwyo yn hyn o beth, felly ble mae'r bartneriaeth honno? Pryd allwn ni weld hyn yn cael ei gyflawni? 

Ble mae'r arweinyddiaeth i sicrhau defnydd llawn o bensaernïaeth ddigidol yn ein GIG? Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod ag OneLondon, sefydliad sydd wedi llwyddo i ddod â'u gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd ynghyd â fframweithiau digidol cyffredin, gan arbed nid yn unig degau o filiynau o bunnau, ond hefyd gwella canlyniadau sylweddol i Lundeinwyr. A chefais gyfarfod hefyd gydag uned iechyd digidol Sweden, sy'n cyflwyno digido, gan sicrhau bod trigolion trefol a gwledig yn elwa ar bensaernïaeth ddigidol gwbl integredig. Felly, pam y mae Cymru mor bell y tu ôl i'r gromlin? A beth yw gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer digido?

Yn olaf, rydych chi wedi uwchgyfeirio Caerdydd a'r Fro i lefel 4 ar gyfer cyllid, gan ddweud bod ganddyn nhw ddiffyg cynyddol sydd angen ymyrraeth a chefnogaeth ychwanegol, ond wnaethoch chi ddim egluro sut olwg fydd ar yr ymyrraeth a'r cymorth ychwanegol hyn. Felly, tybed a all yr Ysgrifennydd Cabinet ymhelaethu ar hyn ac egluro sut olwg fydd ar hyn. Diolch yn fawr iawn.

16:25

I thank Mabon ap Gwynfor for those questions. But there is a plan. There is a plan for supporting organisations to come out of special measures and escalation, and it's the range of interventions that we provide, the range of support, the direct intervention that the NHS executive makes where there are particular challenges, and it's really important that these things are transparent in the way that he was suggesting in his question.

Just on his point about the Plaid Cymru report, I did read it very carefully at the time, and I thought it was—. Actually, I was grateful to him for the way it very closely echoed the speech that I'd given three weeks before, about some of the things that we needed to change in the NHS. So, I welcomed the shared analysis that he latterly had reached.

I think the point about transparency is an important point. But, in relation to this specifically, I wonder whether it's a little outdated at this point, because since quite a number of those criticisms have been made in the past, we have published the guidelines and the steps that we require in order to justify escalation, and one of the challenges he will have picked up, I think, is that the clarity about de-escalation hasn't been clear in the past, but that is now clear. It's all published. It's available for him and others to scrutinise us, and also health boards. I think it has been a challenge in the past. I don't think it's as much of a challenge today, given that we have been very clear about what has been published, as are we in relation to health board performance.

We've now moved to publishing on a quarterly basis, at a health board level, performance against a range of data, and I've been absolutely categorical in the planning guidance, which I issued to the NHS before Christmas, about the requirements that we have as a Government of them in relation to the enabling actions to deliver the Government's priorities. I will be monitoring the current baseline, the performance over the course of the year, and I'll be publishing that information, so that people are able to assess which health boards are meeting which objectives. I think it's important that there is a level of public debate and scrutiny of that, and so I'll be making that information available.

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau yna. Ond mae yna gynllun. Mae cynllun ar gyfer cefnogi sefydliadau i ddod allan o fesurau arbennig ac uwchgyfeirio, sef yr ystod o ymyraethau a ddarparwn, yr ystod o gefnogaeth, yr ymyrraeth uniongyrchol y mae gweithrediaeth y GIG yn ei wneud lle mae heriau penodol, ac mae'n bwysig iawn bod y pethau hyn yn dryloyw yn y ffordd yr oedd yn ei awgrymu yn ei gwestiwn.

Ychydig ar ei bwynt am adroddiad Plaid Cymru, fe wnes i ei ddarllen yn ofalus iawn ar y pryd, ac roeddwn i'n meddwl ei fod—. A dweud y gwir, roeddwn yn ddiolchgar iddo am y ffordd yr oedd yn adleisio'r araith a roddais dair wythnos ynghynt, am rai o'r pethau yr oedd angen i ni eu newid yn y GIG. Felly, croesawais y dadansoddiad a rennir a oedd ganddo yn ddiweddarach.

Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â thryloywder yn bwynt pwysig. Ond, mewn perthynas â hyn yn benodol, tybed a yw ychydig yn hen ffasiwn erbyn hyn, oherwydd cafodd cryn dipyn o'r beirniadaethau hynny eu gwneud yn y gorffennol, rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau a'r camau sydd eu hangen arnom er mwyn cyfiawnhau uwchgyfeirio, ac un o'r heriau a gododd, rwy'n credu, yw nad yw'r eglurder ynghylch isgyfeirio wedi bod yn glir yn y gorffennol, ond mae hynny bellach yn glir. Mae'r cyfan wedi'i gyhoeddi. Mae ar gael er mwyn iddo ef ac eraill graffu arnom ni, a hefyd byrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gymaint o her heddiw, o gofio ein bod wedi bod yn glir iawn am yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi, fel yr ydym ni mewn perthynas â pherfformiad y bwrdd iechyd.

Rydym bellach wedi symud i gyhoeddi yn chwarterol, ar lefel bwrdd iechyd, perfformiad yn erbyn ystod o ddata, ac rwyf wedi bod yn gwbl ddiamwys yn y canllawiau cynllunio, a gyhoeddais i'r GIG cyn y Nadolig, am y gofynion sydd gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â'r camau galluogi i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth. Byddaf yn monitro'r llinell sylfaen bresennol, y perfformiad yn ystod y flwyddyn, a byddaf yn cyhoeddi'r wybodaeth honno, fel bod pobl yn gallu asesu pa fyrddau iechyd sy'n bodloni pa amcanion. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod lefel o drafodaeth gyhoeddus a chraffu ar hynny, ac felly byddaf yn sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael.

I'm grateful to the Minister, again, for his statement. He will be aware that many of us brought issues around primary care in the Aneurin Bevan area to him over the last few months, and there's been a real crisis in the availability of primary care services for my constituents. I found it very, very difficult to pin down accountability for that and how we could resolve those matters. And that means that we've got a real issue here, and in how we govern, about how Members here and others are able to focus accountability. But I also think that we need to go further than that, and further than perhaps he has gone in his statement this afternoon.

It's been a decade and a half or so since the health boards were created, and I very much supported Edwina Hart when she was doing that. I thought it was an improvement and an improved service. But what we don't do in Wales, and we do very badly, in fact, in our governance, is that we don't take the same approach as they do across the border in England with the quinquennial review process, where departments and structures of governance are reviewed on a regular basis about how they are delivering and how services are being provided. What we've done here, in a somewhat ad hoc way, has been to create partnerships and boards and committees and joint committees and the rest of it, but we haven't had a system-wide review, in my experience, that actually looks at how our governance is working and how efficiently we deliver services. We've focused very much on individual services and individual targets, but what we haven't done is look at the system. And rather than continue the process of escalation here and there, what I would like to see the Government doing is to adopt this quinquennial review process—

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog unwaith eto am ei ddatganiad. Bydd yn ymwybodol bod llawer ohonom wedi dod â materion yn ymwneud â gofal sylfaenol yn ardal Aneurin Bevan iddo dros y misoedd diwethaf, a bu argyfwng gwirioneddol yn argaeledd gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer fy etholwyr. Roedd hi'n anodd iawn, iawn i mi ganfod yn union pwy oedd yn atebol am hynny a sut y gallem ddatrys y materion hynny. Ac mae hynny'n golygu bod gennym broblem wirioneddol yma, ac yn y ffordd yr ydym yn llywodraethu, ynghylch sut y gall Aelodau yma ac eraill ganolbwyntio atebolrwydd. Ond rwy'n credu hefyd bod angen i ni fynd ymhellach na hynny, ac yn bellach nag efallai y mae ef wedi mynd yn ei ddatganiad y prynhawn yma.

Mae hi wedi bod yn ddegawd a hanner ers i'r byrddau iechyd gael eu creu, ac fe wnes i gefnogi Edwina Hart yn fawr pan oedd hi'n gwneud hynny. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn welliant ac yn wasanaeth gwell. Ond yr hyn nad ydym yn ei wneud yng Nghymru, ac rydym yn ei wneud yn wael iawn, mewn gwirionedd, yn ein llywodraethiant, yw nad ydym yn mabwysiadu'r un dull ag y maent yn ei wneud dros y ffin yn Lloegr gyda'r broses adolygu pum mlynedd, pan fo adrannau a strwythurau llywodraethu yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ynghylch sut maent yn cyflawni a sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud yma, mewn ffordd braidd yn ad hoc, fu creu partneriaethau a byrddau a phwyllgorau a chydbwyllgorau ac ati, ond nid ydym wedi cael adolygiad ar draws y system, yn fy mhrofiad i, sy'n edrych mewn gwirionedd ar sut mae ein llywodraethiant yn gweithio a pha mor effeithlon yr ydym yn cyflawni. Rydym wedi canolbwyntio'n fanwl ar wasanaethau unigol a thargedau unigol, ond yr hyn nad ydym wedi'i wneud yw edrych ar y system. Ac yn hytrach na pharhau â'r broses o uwchgyfeirio yma ac acw, yr hyn yr hoffwn weld y Llywodraeth yn ei wneud yw mabwysiadu'r broses adolygu pum mlynedd hon—

You need to conclude now, Alun, please.

Mae angen i chi ddod i ben nawr, Alun, os gwelwch yn dda.

—and look at the system-wide delivery of services.

—ac edrych ar gyflawni gwasanaethau ar draws y system gyfan.

Well, I think Alun Davies makes an interesting point. I think we share—. [Laughter.] I think he perceives that as the kiss of death from a ministerial response. But, seriously, I think we do share the view that Wales is overly complex in terms of its governance structures in a range of different ways. I'm absolutely of that view myself. The approach that the Government will take on a widespread basis to governance questions is not for me. However, in the context of the NHS specifically, the accountability review that we undertook last year has told us some very important things about governance in the NHS and the need for clarity, which we are delivering on over these months, about the respective roles, as we were touching on earlier, of the NHS executive, and the clarity in planning expectations of the service. Those are important things.

I am not, myself, drawn to questions of structural reform. I know the Member himself will have had some experience of this. I think it can attract a lot of energy, without always providing that scope for performance improvement. I think where we are today, the critical thing is that we drive improved performance in the NHS. I do, however, think that there are questions where governance and accountability touch on performance. I would absolutely accept that. So, I think you will hear me say more in the weeks ahead about how we approach regional delivery of services in Wales, because I think, actually, there is more that needs to be done on that level to address resilience and improved patient outcomes. And there's a question that comes in that space about governance as well, and accountability.

Wel, rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwynt diddorol. Rwy'n credu ein bod ni'n rhannu—. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei fod yn gweld hynny fel cusan angau mewn ymateb gweinidogol. Ond, o ddifrif, rwy'n credu ein bod yn rhannu'r farn bod Cymru'n rhy gymhleth o ran ei strwythurau llywodraethu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Rwyf o'r farn honno'n llwyr fy hun. Nid fi yw'r un i drafod y dull y bydd y Llywodraeth yn ei gymryd ar sail eang o ran cwestiynau llywodraethu. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y GIG yn benodol, mae'r adolygiad atebolrwydd a gynhaliwyd gennym y llynedd wedi dweud wrthym rai pethau pwysig iawn am lywodraethu yn y GIG a'r angen am eglurder, yr ydym yn ei gyflawni dros y misoedd hyn, am y rolau priodol, fel yr oeddem yn eu crybwyll yn gynharach, gweithrediaeth y GIG, a'r eglurder o ran cynllunio disgwyliadau'r gwasanaeth. Mae'r rhain yn bethau pwysig.

Nid wyf fi, fy hun, am ymdrin â chwestiynau diwygio strwythurol. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod ei hun wedi cael rhywfaint o brofiad o hyn. Rwy'n credu y gall ddenu llawer o egni, heb bob amser ddarparu'r cyfle hwnnw ar gyfer gwella perfformiad. Rwy'n credu lle rydym ni heddiw, y peth tyngedfennol yw ein bod ni'n ysgogi gwell perfformiad yn y GIG. Fodd bynnag, credaf fod cwestiynau lle mae llywodraethu ac atebolrwydd yn cyffwrdd â pherfformiad. Byddwn i'n derbyn hynny'n llwyr. Felly, rwy'n credu y byddwch yn fy nghlywed yn dweud mwy yn yr wythnosau i ddod ynglŷn â sut rydym yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau rhanbarthol yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod angen gwneud mwy ar y lefel honno i fynd i'r afael â chydnerthedd a gwell canlyniadau i gleifion. Ac mae cwestiwn yn codi yn y maes hwnnw ynglŷn â llywodraethu hefyd, ac atebolrwydd.

16:30

We know, and it's been mentioned so many times here, about how the Betsi Cadwaladr health board has been in special measures, technically under your—and the other Ministers' previously—governance, for 10 years. And it's been at this level 5 now, again, since February 2023. As has been mentioned by my colleague Russ George, four further health boards hold escalation status 4. These include Hywel Dda, for practically everything in terms of failings, and Swansea Bay for finance, strategy, planning and for performance and outcomes, and due to financial, operational and staffing pressures. I understand the former health Minister, now our First Minister, accepted the recommendations from Welsh Government officials that there should not be a change to the escalation status of these organisations. I just wonder whether there needs to be another system in progress. Just leaving health boards in special measures or in escalated status isn't the way forward. Do you agree with me, Cabinet Secretary, that there should be more frequent revisions of the escalation status? I've found, over the years that the Betsi board have been in special measures, in and out, as they have, that it's quite demoralising for a lot of the front-line staff, and they are quick to get out of this special measure place. Our patients deserve better. Our staff deserve better. So, what can you do now, as the health Cabinet Secretary, to ensure that the improvements that are needed, the measures that are needed, the works that are required are put in place, so that these health boards can have a period of some time without being in an escalation process? Thank you.

Rydym ni'n gwybod, ac mae wedi cael ei grybwyll gymaint o weithiau yma, ynghylch sut mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig, yn dechnegol o dan eich—a'r Gweinidogion eraill gynt—llywodraethu chi, ers 10 mlynedd. Ac mae wedi bod ar y lefel 5 hon nawr, unwaith eto, ers mis Chwefror 2023. Fel y soniwyd gan fy nghyd-Aelod, Russ George, mae gan bedwar bwrdd iechyd arall statws uwchgyfeirio 4. Mae'r rhain yn cynnwys Hywel Dda, am bron popeth o ran methiannau, a Bae Abertawe ar gyfer cyllid, strategaeth, cynllunio ac ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, ac oherwydd pwysau ariannol, gweithredol a staffio. Rwy'n deall bod y cyn-Weinidog iechyd, ein Prif Weinidog bellach, wedi derbyn argymhellion swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylid newid statws uwchgyfeirio'r sefydliadau hyn. Tybed a oes angen system arall ar y gweill. Nid gadael byrddau iechyd mewn mesurau arbennig neu mewn statws uwchgyfeirio yw'r ffordd ymlaen. A ydych yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, y dylid cynnal diwygiadau amlach o'r statws uwchgyfeirio? Rwyf wedi darganfod, dros y blynyddoedd y mae bwrdd Betsi wedi bod mewn mesurau arbennig, i mewn ac allan, fel y mae ef, ei fod yn eithaf digalon i lawer o staff y rheng flaen, ac maen nhw'n awyddus i fynd allan o'r sefyllfa mesur arbennig hwn yn gyflym. Mae ein staff yn haeddu gwell. Mae ein staff yn haeddu gwell. Felly, beth allwch chi ei wneud nawr, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, i sicrhau bod y gwelliannau sydd eu hangen, y mesurau sydd eu hangen, y gwaith sydd ei angen yn cael eu rhoi ar waith, fel y gall y byrddau iechyd hyn gael cyfnod pryd nad ydynt yn rhan o broses uwchgyfeirio? Diolch.

I'm not sure I do agree with the Member, actually. I don't think that it is right to say that we are leaving health boards in special measures. I made a statement today that has announced changes in relation to five health boards and special health authorities, and so this is something that is kept under regular review, and actually this happens twice a year. So, there's a balance to be struck. You want a system that is not constantly adjusting special measures, because it needs time to respond to the intervention that being in escalation brings. Equally, I think she makes a fair point; you don't want to be in escalation for longer than is necessary. I actually think that in terms of the cycle of review, the balance that we have is the right balance. I recognise that in a health board like Betsi Cadwaladr, which has been in escalation for some time, clearly staff will find that challenging. That's why getting the right level of support in is so important.

Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'r Aelod, mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gywir dweud ein bod ni'n gadael byrddau iechyd mewn mesurau arbennig. Fe wnes i ddatganiad heddiw sydd wedi cyhoeddi newidiadau mewn perthynas â phum bwrdd iechyd ac awdurdod iechyd arbennig, ac felly mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd, ac mewn gwirionedd mae hyn yn digwydd ddwywaith y flwyddyn. Felly, mae cydbwysedd i'w gyflawni. Rydych chi eisiau system nad yw'n addasu mesurau arbennig yn gyson, oherwydd mae angen amser arni i ymateb i'r ymyrraeth a ddaw yn sgil uwchgyfeirio. Yn yr un modd, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt teg; nid ydych chi eisiau bod yn y broses uwchgyfeirio am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Rwy'n credu mewn gwirionedd, o ran cylch adolygiad, mai'r cydbwysedd sydd gennym yw'r cydbwysedd cywir. Rwy'n cydnabod, mewn bwrdd iechyd fel Betsi Cadwaladr, sydd wedi'i uwchgyfeirio ers peth amser, yn amlwg y bydd staff yn gweld hynny'n heriol. Dyna pam y mae cael y lefel gywir o gefnogaeth i mewn mor bwysig.

I've got two questions. First, I wonder if you could say a little bit more about Cardiff and Vale health board. It's obviously very disappointing that they have had to escalate on financial strategy and planning. There are particular financial challenges of running an often outstanding secondary and tertiary care service from such an outdated building. As we saw in Saving Lives in Cardiff, the clinical excellence was completely at variance with such a difficult set of buildings. It's not good for staff, it's not good for patients or relatives, and although there's been some chink of light on capital funding coming via the UK Government, it is only a chink of light, and I wondered if there's anything positive that we can possibly pursue to start rebuilding the Heath on the same site. I can't see any other alternative, given our overcrowded Cardiff.

Secondly, Digital Health and Care Wales: front-line staff are desperate to have the digital systems that will enable them to stop doing the things that the computer will do better, and I just wondered if there's anything more you can say on how we're actually going to get to where we need to be.

Mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyntaf, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae'n amlwg yn siomedig iawn ei fod wedi gorfod cael ei uwchgyfeirio ar strategaeth a chynllunio ariannol. Mae heriau ariannol penodol wrth gynnal gwasanaeth gofal eilaidd a thrydyddol rhagorol yn aml o adeilad mor hen ffasiwn. Fel y gwelsom yn Saving Lives in Cardiff, nid oedd y rhagoriaeth glinigol yn cyd-fynd o gwbl â set mor anodd o adeiladau. Nid yw'n llesol i staff, nid yw'n llesol i gleifion nac i berthnasau, ac er bod rhywfaint o oleuni wedi bod o ran cyllid cyfalaf o gyfeiriad Llywodraeth y DU, dim ond ychydig o oleuni ydyw, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw beth cadarnhaol y gallwn ni ei wneud o bosibl i ddechrau ailadeiladu'r Ysbyty Athrofaol ar yr un safle. Ni allaf weld unrhyw ddewis arall, o ystyried bod Caerdydd yn orlawn.

Yn ail, Iechyd a Gofal Digidol Cymru: mae staff rheng flaen yn ysu am gael y systemau digidol a fydd yn eu galluogi i roi'r gorau i wneud y pethau y bydd y cyfrifiadur yn eu gwneud yn well, a meddwl oeddwn i tybed a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud ynghylch sut rydym ni'n mynd i gyrraedd lle y mae angen i ni fod.

16:35

In relation to the Member’s points about Cardiff and Vale specifically, there is a monthly arrangement, obviously, with each health board, where the financial position is monitored, and it was clear as we reached the end of last year that the health board’s deficit would not be in line with expectations, and there were some questions around some of the savings that they had planned to make not being capable of being delivered. So, in the weeks since then, there’s been ongoing discussion, obviously, between Welsh Government officials and the health board to understand the drivers of that what might be done to address it, and the consequence of those discussions is seen in today’s announcement.

I think the Member makes a fair point in relation to capital investment. The next year’s capital budget for the health service will be significantly larger than it has been for many, many years, and I absolutely welcome that wholeheartedly. It will enable us to make better decisions and more supportive investment decisions around premises but also digital infrastructure and other medical and clinical infrastructure as well, which clearly we all want to see.

What I would say, though, is that the longer term capital prospects I think are a little less positive. I think I infer that from what we hear the UK Government saying more generally. My own analysis is that the level of capital investment that the service needs in order to make up for the lack of availability on a UK-wide level of capital investment is orders of magnitude larger than the sums we’ll be able to make available next year. I think that’s, in a sense, not surprising, but it also paints a picture about the scale of the challenge.

I just want to say in relation to DHCW’s escalation that it is a specific escalation. There are a range of projects that my colleague Sarah Murphy is responsible for delivering with DHCW in relation to the national architecture, which is the underpinning of digital transformation in the health service. We are hoping to make real progress on that over the course of this year to set out the direction of travel in relation to the electronic health record that ties the health service together, but also interventions on the NHS app. We’re very confident about where we are with the NHS app. I’m not going to say more about it today, but there will be more to say in the weeks and months ahead. That will transform the relationship between the patient and the NHS as well.

There is definitely good progress in specific interventions in the reforms that we’ve asked for. The challenge the Member poses is a fair challenge about the scale of the transformation required in the health service, which is very significant. We are very alive to that as Ministers and absolutely committed as a Government to bringing about that transformation as quickly as we can.

O ran pwyntiau'r Aelod am Gaerdydd a'r Fro yn benodol, mae trefniant misol, yn amlwg, gyda phob bwrdd iechyd, lle mae'r sefyllfa ariannol yn cael ei monitro, ac roedd yn amlwg wrth i ni gyrraedd diwedd y llynedd na fyddai diffyg y bwrdd iechyd yn cyd-fynd â'r disgwyliadau, ac roedd rhai cwestiynau ynghylch rhai o'r arbedion yr oeddent wedi bwriadu eu gwneud ond nad oedd modd eu cyflawni. Felly, yn yr wythnosau ers hynny, bu trafodaeth barhaus, yn amlwg, rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd i ddeall ysgogwyr hynny, beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â hynny, a gwelir canlyniad y trafodaethau hynny yn y cyhoeddiad heddiw.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf. Bydd cyllideb gyfalaf y flwyddyn nesaf ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sylweddol fwy nag y bu ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n croesawu hynny'n llwyr. Bydd yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell a phenderfyniadau buddsoddi mwy cefnogol ynghylch safleoedd ond hefyd seilwaith digidol a seilwaith meddygol a chlinigol arall hefyd, yr ydym i gyd yn amlwg eisiau ei weld.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, serch hynny, yw bod y rhagolygon cyfalaf tymor hwy rwy'n credu ychydig yn llai cadarnhaol. Rwy'n credu fy mod i'n casglu hynny o'r hyn rydym ni'n ei glywed y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yn fwy cyffredinol. Fy nadansoddiad fy hun yw bod lefel y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar y gwasanaeth er mwyn gwneud iawn am y diffyg argaeledd ar lefel o fuddsoddiad cyfalaf ledled y DU, yw symiau o'r maint sy'n fwy na'r symiau y byddwn yn gallu eu darparu y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu nad yw hynny, ar un ystyr, yn syndod, ond mae hefyd yn creu darlun o raddfa'r her.

Rwyf eisiau dweud mewn perthynas ag uwchgyfeirio IGDC ei fod yn uwchgyfeirio penodol. Mae amrywiaeth o brosiectau y mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy yn gyfrifol am eu cyflawni gyda IGDC mewn perthynas â'r bensaernïaeth genedlaethol, sef tanategu trawsnewid digidol yn y gwasanaeth iechyd. Rydym yn gobeithio gwneud cynnydd gwirioneddol ar hynny dros y flwyddyn hon i nodi cyfeiriad teithio mewn perthynas â'r cofnod iechyd electronig sy'n cysylltu'r gwasanaeth iechyd gyda'i gilydd, ond hefyd ymyraethau ar ap y GIG. Rydym ni'n hyderus iawn ynglŷn â ble rydym ni gydag ap y GIG. Dydw i ddim yn mynd i ddweud mwy amdano heddiw, ond bydd mwy i'w ddweud yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Bydd hynny'n trawsnewid y berthynas rhwng y claf a'r GIG hefyd.

Yn bendant mae cynnydd da mewn ymyraethau penodol yn y diwygiadau yr ydym wedi gofyn amdanynt. Mae'r her y mae'r Aelod yn ei chynnig yn her deg ynghylch graddfa'r trawsnewidiad sydd ei angen yn y gwasanaeth iechyd, sy'n sylweddol iawn. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny fel Gweinidogion ac wedi ymrwymo'n llwyr fel Llywodraeth i gyflawni'r trawsnewid hwnnw cyn gynted ag y gallwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I'm pleased to see that Digital Health and Care Wales has had its status escalated. I'm very concerned about the state of the organisation. I've just been reading its most recent board papers, and its heat map risk register has almost no green and is largely red with amber. Would the health Secretary confirm that most of the projects they're working on are in trouble?

I'm pleased that he is meeting monthly with the chair and the chief executive, and he's announced today that the Government are appointing an independent assessment of Digital Health and Care Wales's ability to deliver and what further support it may need in the short to medium term. Can I ask him about the Welsh Government's ability to deliver support? Is there sufficient capacity and capability at the Welsh Government and NHS executive level to provide the level of support and challenge that, clearly, is needed in Digital Health and Care Wales? Can I also ask him about the relationship with the health boards? Because we shouldn't let them off the hook and put all the blame on DHCW either. There is clearly a disconnect here between what's going on at the health board level and at the national level.

And then, finally, I think it's worth pointing out that these aren't new. Back in 2018, the auditor general found that the previous body, which is basically the same body with a different name, the NHS Wales informatics service, was guilty of a pattern of being overly positive in reporting its progress. The Public Accounts Committee found several examples of this, and that was in 2018. It feels like we're feeling the same again, because, again, when you read their board reports, this is not an organisation that feels as if it's on the cusp of significant escalation by the Welsh Government. There's something not right and not working well. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o weld bod statws Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi'i uwchgyfeirio. Rwy'n bryderus iawn am gyflwr y sefydliad. Rwyf newydd fod yn darllen ei bapurau bwrdd diweddaraf, ac nid oes gan ei gofrestr risg map gwres unrhyw wyrdd bron ac mae'n goch i raddau helaeth gydag oren. A fyddai'r Ysgrifennydd iechyd yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o'r prosiectau maen nhw'n gweithio arnyn nhw mewn trafferth?

Rwy'n falch ei fod yn cyfarfod yn fisol gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac mae wedi cyhoeddi heddiw bod y Llywodraeth yn penodi asesiad annibynnol o allu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflawni a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen yn y tymor byr i'r tymor canolig. A gaf i ofyn iddo am allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth? A oes digon o gapasiti a gallu ar lefel weithredol Llywodraeth Cymru a'r GIG i ddarparu'r lefel o gefnogaeth a her sydd ei angen, yn amlwg, ym maes Iechyd a Gofal Digidol Cymru? A gaf i ofyn iddo hefyd am y berthynas gyda'r byrddau iechyd? Oherwydd ni ddylem adael iddyn nhw ddianc rhag eu cyfrifoldeb a rhoi'r bai i gyd ar IGDC ychwaith. Mae'n amlwg bod datgysylltiad yma rhwng yr hyn sy'n digwydd ar lefel y bwrdd iechyd ac ar lefel genedlaethol.

Ac yna, yn olaf, rwy'n credu ei bod yn werth nodi nad yw'r rhain yn newydd. Yn ôl yn 2018, canfu'r archwilydd cyffredinol fod y corff blaenorol, sydd yn y bôn yr un corff ag enw gwahanol, gwasanaeth gwybodeg GIG Cymru, yn euog o batrwm o fod yn rhy gadarnhaol wrth adrodd am ei gynnydd. Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o hyd i sawl enghraifft o hyn, a hynny yn 2018. Mae'n teimlo fel ein bod ni'n teimlo'r un peth eto, oherwydd, unwaith eto, pan fyddwch chi'n darllen ei adroddiadau bwrdd, nid yw hwn yn sefydliad sy'n teimlo fel pe bai ar drothwy uwchgyfeirio sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae rhywbeth nad yw'n hollol iawn nac yw'n gweithio'n dda. 

16:40

The purpose of putting DHCW into escalation—it's the first time we've put a special health authority into escalation at all—is to be able to provide that response, some of which he outlined in his question to me. The decision, obviously, is not taken lightly, nor is it ever taken lightly in relation to any escalation, and it relates to, I think it might be fair to say, the speed and effectiveness of digital implementation across a range of major programmes and delivery issues as well in relation to some of the commissioned projects. I would recognise the point the Member makes about appropriate identification of risk and RAG rating. But that is the purpose of the escalation.

To the point that the Member makes about expertise and capacity, clearly there is a capacity within the NHS executive, but the reason I've spelled out in the statement that we will bring external expertise to bear on the analysis is because we want to make sure there's an independent expert technology view of where the organisation is and what support it specifically needs in order to improve, which is, obviously, what we want to see.

I think the Member makes a very fair point about the relationship between Digital Health and Care Wales and the local health boards. This is absolutely not to say that challenges in delivering a number of programmes are to be laid entirely at the door of DHCW. That is certainly not the case, and we need to develop out of this experience a way of working between the health boards and DHCW where there is a sense of shared agenda around the digital transformation that's required. My own reflection on one of the challenges in that space has been that, in the absence of a clear architecture, it isn't entirely possible to describe the destination that we are working to. That allows far too much flexibility in the system in the meantime and then a lack of clarity. That's why getting that architecture in place urgently is an important contributor to the solution overall.

Pwrpas uwchgyfeirio DHCW—dyma'r tro cyntaf i ni uwchgyfeirio awdurdod iechyd arbennig o gwbl—yw gallu darparu'r ymateb hwnnw, yr amlinellodd rywfaint ohono yn ei gwestiwn i mi. Yn amlwg, nid yw'r penderfyniad yn cael ei wneud yn ysgafn, ac nid yw byth yn cael ei wneud yn ysgafn o ran unrhyw uwchgyfeirio, ac mae'n ymwneud, rwy'n credu y gallai fod yn deg dweud, â chyflymder ac effeithiolrwydd gweithredu digidol ar draws ystod o raglenni mawr a materion cyflawni hefyd mewn perthynas â rhai o'r prosiectau a gomisiynwyd. Byddwn i'n cydnabod y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch adnabod risg yn briodol a sgoriau RAG. Ond dyna bwrpas yr uwchgyfeirio.

O ran y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud am arbenigedd a chapasiti, yn amlwg mae yna gapasiti o fewn gweithrediaeth y GIG, ond y rheswm rwyf wedi'i nodi yn y datganiad pam y byddwn ni'n defnyddio arbenigedd allanol ar gyfer y dadansoddiad yw oherwydd ein bod am sicrhau bod yna farn technoleg arbenigol annibynnol ar lle mae'r sefydliad arni a pha gymorth sydd ei angen arno'n benodol er mwyn gwella, sef yr hyn rydym am ei weld, yn amlwg.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teg iawn am y berthynas rhwng Iechyd Digidol a Gofal Cymru a'r byrddau iechyd lleol. Nid yw hyn i ddweud o gwbl y dylid beio Iechyd Digidol a Gofal Cymru yn gyfan gwbl am yr heriau wrth gyflwyno nifer o raglenni. Yn sicr, nid yw hynny'n wir, ac mae angen i ni ddatblygu allan o'r profiad hwn ffordd o weithio rhwng y byrddau iechyd a DHCW lle mae ymdeimlad o agenda a rennir ynghylch y trawsnewid digidol sydd ei angen. Fy myfyrdod fy hun ar un o'r heriau yn y gofod hwnnw yw, yn absenoldeb pensaernïaeth glir, nad yw'n gwbl bosibl disgrifio'r gyrchfan rydym yn gweithio tuag ati. Mae hynny'n caniatáu llawer gormod o hyblygrwydd yn y system yn y cyfamser ac yna diffyg eglurder. Dyna pam mae cael y bensaernïaeth honno ar waith ar frys yn gyfrannwr pwysig at yr ateb yn gyffredinol.

6. Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025
6. The Social Care Wales (Specification of Social Care Workers) (Registration) (Amendment) Regulations 2025

Eitem 6 yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025. Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Dawn Bowden.

Item 6 is the Social Care Wales (Specification of Social Care Workers) (Registration) (Amendment) Regulations 2025. I call on the Minister for Children and Social Care to move the motion. Dawn Bowden.

Cynnig NDM8843 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2025.

Motion NDM8843 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Social Care Wales (Specification of Social Care Workers) (Registration) (Amendment) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 14 January 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio’r rheoliadau presennol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Thank you, Dirprwy Lywydd. I move the motion. The statutory instrument before you today amends the existing regulations under the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

These amending regulations are a further step towards realising our goals to professionalise the social care workforce, to continue to raise the quality of care and to ensure that workers get the support and recognition that they deserve. Registration recognises the professional responsibility of social care workers who provide vital care and support to people in our communities. These regulations will instruct the workforce regulator, Social Care Wales, to open up a new section of the workforce register to allow employees and workers in special school residential services to register with Social Care Wales. If passed today, they will come into force on 1 April and this allows an interim period of nearly 18 months before 30 September 2026, when registered providers of special school residential services will only be able to take on workers if they are registered with Social Care Wales.

Registration helps to provide greater safeguards for those who use these services so that they can be confident, as can their families and friends, that the social care workers delivering their care and support are appropriately qualified and can be held to account against the code of professional practice set out by Social Care Wales. Social Care Wales has worked and continues to work extensively with the sector in order to support these workers to register by the deadline in September 2026. Diolch yn fawr.

Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn gam pellach tuag at wireddu ein nodau i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol, i barhau i godi ansawdd gofal ac i sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth maen nhw'n eu haeddu. Mae cofrestru yn cydnabod cyfrifoldeb proffesiynol gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl yn ein cymunedau. Bydd y rheoliadau hyn yn cyfarwyddo rheoleiddiwr y gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru, i agor adran newydd o gofrestr y gweithlu i ganiatáu i gyflogeion a gweithwyr mewn gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Os cânt eu pasio heddiw, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill ac mae hyn yn caniatáu cyfnod dros dro o bron i 18 mis cyn 30 Medi 2026, pan fydd darparwyr cofrestredig gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig ond yn gallu cyflogi gweithwyr os ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae cofrestru yn helpu i ddarparu mwy o fesurau diogelu i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn fel y gallan nhw, â'u teuluoedd a'u ffrindiau, fod yn hyderus bod gan y gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth iddyn nhw gymwysterau priodol ac y gallan nhw gael eu dwyn i gyfrif yn erbyn y cod ymarfer proffesiynol a bennir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio ac yn parhau i weithio'n helaeth gyda'r sector er mwyn cefnogi'r gweithwyr hyn i gofrestru erbyn y dyddiad cau ym mis Medi 2026. Diolch yn fawr.

16:45

Minister, there are no other speakers. Do you wish to add anything else?

Gweinidog, nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth arall?

Nothing further.

Dim byd arall.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? There's no objection. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025
7. The Welsh Elections Information Platform Regulations 2025

Eitem 7 yw Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Item 7 is the Welsh Elections Information Platform Regulations 2025. I call on the Cabinet Secretary for Housing and Local Government to move the motion—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8844 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2025.

Motion NDM8844 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Welsh Elections Information Platform Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 4 February 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Llywydd. I move the motion to approve the Welsh Elections Information Platform Regulations 2025. The regulations make provision for the Welsh Ministers' duty to provide for a Welsh elections information platform under section 26 of the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024. The regulations set out the information that should be on the platform and confer responsibility on the newly established electoral management board, part of the Democracy and Boundary Commission Cymru, to be the platform operator. It is particularly appropriate to move these regulations during the Electoral Commission's Welcome to your Vote Week, which has the theme of 'get informed and get involved'. The Welsh Government's aim for the platform is to improve the availability and accessibility of information for voters, helping to increase understanding, awareness and confidence to take part in Welsh elections. The platform will provide a single point of information for voters. This includes details about their polling stations, parties and candidates standing for election, and signposting to other helpful information.

The regulations provide for a minimum viable product to be operational for May 2026, and allow flexibility for the platform to develop over time. I'm grateful to the Legislation, Justice and Constitution Committee for its consideration of the regulations, and I ask Members to approve the regulations today.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau'r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025. Mae'r rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer llwyfan gwybodaeth am etholiadau Cymreig o dan adran 26 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae'r rheoliadau'n nodi'r wybodaeth a ddylai fod ar y platfform ac yn rhoi cyfrifoldeb ar y bwrdd rheoli etholiadol sydd newydd ei sefydlu, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, i fod yn weithredwr y platfform. Mae'n arbennig o briodol i gynnig y rheoliadau hyn yn ystod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais y Comisiwn Etholiadol, sydd â'r thema 'dod yn wybodus a chymryd rhan'. Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y platfform yw gwella argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth i bleidleiswyr, gan helpu i gynyddu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a hyder i gymryd rhan yn etholiadau Cymru. Bydd y platfform yn darparu un pwynt gwybodaeth i bleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys manylion am eu gorsafoedd pleidleisio, pleidiau ac ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, a chyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol arall.

Mae'r rheoliadau'n darparu bod cynnyrch sylfaenol hyfyw yn weithredol ar gyfer mis Mai 2026, ac yn caniatáu hyblygrwydd i'r platfform ddatblygu dros amser. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.

Diolch, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations before the Senedd’s half-term recess. The committee’s report contains five technical reporting points and three merits reporting points.

The first technical point highlights potential defective drafting and notes that there is an inconsistency between how 'candidate' is defined in the regulations when compared against the draft Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025, which the Welsh Government has recently consulted on. The Government agrees with the point we raise, and has committed to clarifying the irregularity with this definition when it makes an amending statutory instrument later this year, which will need to cross-refer to the 2025 conduct Order, once that is made.

The remaining four technical reporting points all raise matters where the committee considers that further explanation is needed. At the committee’s meeting last week, we considered the additional information that the Government provided in respect of each of these points. That response is available from today’s Plenary agenda.

Finally, I will just note that the committee’s three merits reporting points all highlight matters of political or legal importance, or which may give rise to policy likely to be of interest to the Senedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn cyn toriad hanner tymor y Senedd. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys pum pwynt adrodd technegol a thri phwynt adrodd teilyngdod.

Mae'r pwynt technegol cyntaf yn tynnu sylw at ddrafftio diffygiol posibl ac yn nodi bod anghysondeb rhwng sut y diffinnir 'ymgeisydd' yn y rheoliadau o'i gymharu â'r fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori arni'n ddiweddar. Mae'r Llywodraeth yn cytuno â'r pwynt rydym yn ei godi, ac mae wedi ymrwymo i egluro'r afreoleidd-dra o ran y diffiniad hwn pan fydd yn gwneud offeryn statudol diwygio yn ddiweddarach eleni, y bydd angen iddo groesgyfeirio at Orchymyn ymddygiad 2025, unwaith y gwneir hwnnw.

Mae'r pedwar pwynt adrodd technegol sy'n weddill i gyd yn codi materion lle mae'r pwyllgor o'r farn bod angen esboniad pellach. Yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf, gwnaethom ystyried yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Llywodraeth mewn perthynas â phob un o'r pwyntiau hyn. Mae'r ymateb hwnnw ar gael o agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.

Yn olaf, nodaf fod tri phwynt adrodd teilyngdod y pwyllgor i gyd yn tynnu sylw at faterion o bwys gwleidyddol neu gyfreithiol, neu a all arwain at bolisi sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

No speakers. Ysgrifennydd y Cabinet to respond.

Dim siaradwyr. Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.

Diolch, Llywydd, and diolch to the Chair of the legislation and constitution committee as well. I very much appreciate the work of the committee and noted what the Chair has said. These regulations will deliver a key element of the elections and Elected Bodies (Wales) Act, and the platform will support voters to confidently take part in Welsh lections, breaking down barriers to participation and empowering Welsh citizens to make their voice heard in our democracy.

The detail on the technicalities of delivering the platform are being worked on by the electoral management board. There is a working group, including the electoral management board, Welsh Government officials and electoral administrators, that is working on the detailed operation of the platform, and I’m sure that it will hear the points that have been made today.

Lastly, Llywydd, this is an investment in our democracy. The platform will help people understand elections and the choices that they have in voting.

Diolch, Llywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a'r cyfansoddiad hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor yn fawr iawn ac yn nodi'r hyn mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud. Bydd y rheoliadau hyn yn cyflawni elfen allweddol o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a bydd y platfform yn cefnogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn hyderus mewn etholiadau yng Nghymru, gan chwalu'r rhwystrau i gyfranogiad a grymuso dinasyddion Cymru i leisio eu barn yn ein democratiaeth.

Mae'r bwrdd rheoli etholiadol yn gweithio ar fanylion technegol cyflwyno'r platfform. Mae yna weithgor, gan gynnwys y bwrdd rheoli etholiadol, swyddogion Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr etholiadol, sy'n gweithio ar weithrediad manwl y platfform, ac rwy'n siŵr y bydd yn clywed y pwyntiau a wnaed heddiw.

Yn olaf, Llywydd, mae hwn yn fuddsoddiad yn ein democratiaeth. Bydd y platfform yn helpu pobl i ddeall etholiadau a'r dewisiadau sydd ganddyn nhw wrth bleidleisio.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. Therefore, the motion is agreed.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Eitemau 8 a 9 sydd nesaf. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig yma yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Does dim gwrthwynebiad.

Items 8 and 9 are next. In accordance with Standing Order 12.24, unless a Member objects, the two motions under these items will be grouped for debate, but with separate votes. I see that there are no objections.

8. & 9. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025, a Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025
8. & 9. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2025 and The Welsh Language Standards (No. 1, No. 2, No. 4, No. 6 and No. 7) Regulations (Amendment) Regulations 2025

Felly, fe wnaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynigion yma—Mark Drakeford.

I will therefore call on the Cabinet Secretary for Finance and the Welsh Language to move these motions—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8841 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.

Motion NDM8841 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 28 January 2025.

Cynnig NDM8842 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.

Motion NDM8842 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Welsh Language Standards (No. 1, No. 2, No. 4, No. 6 and No. 7) Regulations (Amendment) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 28 January 2025.

Cynigiwyd y cynigion.

Motions moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser agor y ddadl yma heddiw. Mae Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025 yn ychwanegu tri chorff i Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg. Drwy wneud hyn, bydd modd ychwanegu’r cyrff yma i reoliadau safonau’r Gymraeg sydd eisoes yn bodoli.

Mae Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025 yn ychwanegu chwe chorff ac awdurdodau iechyd arbennig fel categori o bersonau i reoliadau safonau’r Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar y cyrff yma a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae wyth set o reoliadau safonau wedi’u gwneud hyd yma, a thros 130 o gyrff yn dod o dan y safonau. Roedd y math o wasanaethau y mae’r cyrff ac awdurdodau iechyd arbennig yn eu darparu yn ystyriaeth wrth benderfynu pa set o reoliadau safonau oedd yn fwyaf addas ar eu cyfer. O ganlyniad, rydym yn ychwanegu cyrff heddiw at bum set wahanol o reoliadau safonau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae nifer fach o safonau rheoliadau Rhif 6 yn cael eu gwneud yn gymwys i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â holl safonau rheoliadau Rhif 7. Mae hyn oherwydd eu bod yn darparu gwasanaethau addysg yn ogystal â bod yn gorff sector iechyd.

Mae awdurdodau iechyd arbennig yn cael eu hychwanegu fel categori at reoliadau Rhif 7, gyda’r holl safonau yn gymwys iddynt, er mwyn diogelu’r rheoliadau at y dyfodol. Pe bai awdurdod iechyd arbennig newydd yn cael ei greu yn y dyfodol, byddai modd i’r comisiynydd osod safonau ar y corff yn syth, heb orfod aros inni ychwanegu’r corff hwnnw at reoliadau.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i ddod â mwy o gyrff cyhoeddus o dan y drefn safonau. Mae cyflwyno’r is-ddeddfwriaeth yma gerbron y Senedd heddiw yn gam pellach i gyflawni hynny, ac rwy’n gofyn i’r Aelodau gefnogi’r rheoliadau.  

Thank you very much, Llywydd. I'm pleased to open the debate today. The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2025 adds three bodies to Schedule 6 to the Welsh language Measure. In doing this, it will be possible to add these bodies to Welsh language standards regulations that already exist.  

The Welsh Language Standards (No. 1, No. 2, No. 4, No. 6 and No. 7) Regulations (Amendment) Regulations 2025 add six bodies and special health authorities as a category of persons to Welsh language standards regulations that already exist. This will enable the Welsh Language Commissioner to impose standards on these bodies and ensure that there are more opportunities for people to use the Welsh language.

Eight sets of language standards regulations have been made to date, and over 130 bodies are captured by standards. The kinds of services that the special health authorities and bodies provide were a consideration in deciding which sets of standards regulations would be most appropriate for them. As a result, we are adding bodies to five sets of regulations.

Following the consultation, a small number of standards from the No. 6 regulations are to be applied to Health Education and Improvement Wales, as well as all of the No. 7 standards. This is because they provide education services as well as being a health sector body.

Special health authorities are being added as a category to the No. 7 regulations, with all standards applying to them, in order to safeguard the regulations for the future. If a new special health authority were to be created in the future, it would be possible for the commissioner to place standards on that body immediately, without having to wait for us to add those new bodies to regulations.

As a Government, we are committed to bringing more public bodies into the standards regime. Introducing this subordinate legislation before the Senedd today is a further step in delivering that, and I ask Members to support these regulations today.  

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.

Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered both of these sets of draft regulations on 10 February. The committee’s reports on both instruments highlight the same issue as technical reporting points.

In relation to both instruments, the committee’s single technical reporting point identifies that the wording used in the preamble to describe the draft affirmative procedure is unclear about what is actually being approved by the Senedd. The committee asked the Welsh Government why the usual clear form of words hasn't been used, as seen in recent other draft affirmative instruments.

In response to both reports, the Welsh Government told the committee that, in its view, the reference to subsection (2) of section 150 of the Welsh Language (Wales) Measure 2011 is sufficient to make it clear that it is the draft statutory instrument that receives the Senedd's approval. The Welsh Government also notes that other Welsh language standards regulations made previous use of this wording. The committee acknowledges that drafting matters are the responsibility of the Welsh Ministers to judge. Nonetheless, the wording used in other draft affirmative instruments is clearer and more accessible to readers of the legislation. Furthermore, precedent shouldn’t be relied upon without ensuring that the drafting is clear and appropriate by current standards. 

Diolch, Llywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y ddwy set hyn o reoliadau drafft ar 10 Chwefror. Mae adroddiadau'r pwyllgor ar y ddau offeryn yn tynnu sylw at yr un mater â phwyntiau adrodd technegol.

O ran y ddau offeryn, mae unig bwynt adrodd technegol y pwyllgor yn nodi nad yw'r geiriad a ddefnyddir yn y rhagymadrodd i ddisgrifio'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn glir ynghylch yr hyn sy'n cael ei gymeradwyo gan y Senedd mewn gwirionedd. Gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru pam nad yw'r ffurf glir arferol ar eiriau wedi'i defnyddio, fel y gwelwyd mewn offerynnau cadarnhaol drafft eraill yn ddiweddar.

Mewn ymateb i'r ddau adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor fod y cyfeiriad at is-adran (2) o adran 150 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn eu barn nhw, yn ddigonol i'w gwneud yn glir mai'r offeryn statudol drafft sy'n derbyn cymeradwyaeth y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi bod rheoliadau eraill ar safonau'r Gymraeg wedi gwneud defnydd o'r geiriad hwn yn flaenorol. Mae'r pwyllgor yn cydnabod mai Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am farnu materion drafftio. Serch hynny, mae'r geiriad a ddefnyddir mewn offerynnau cadarnhaol drafft eraill yn gliriach ac yn fwy hygyrch i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth. At hynny, ni ddylid dibynnu ar gynsail heb sicrhau bod y drafftio'n glir ac yn briodol yn ôl safonau cyfredol. 

16:55

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r estyniad yma i sefydliadau sydd yn ddarostyngedig o ran safonau'r Gymraeg. Mi oedden ni hefyd yn cytuno efo sylw'r Llywodraeth o ran y £12 miliwn yma wedi'i nodi fel cost gan un awdurdod iechyd. Yn amlwg, dydy'r swm yna ddim yn realistig, ac mae'n bwysig ein bod ni'n herio. Roedden ni'n falch bod yna gyhoeddusrwydd wedi bod ddoe ar hyn, ac yn falch o weld sylwadau'r Llywodraeth, oherwydd dŷn ni eisiau gweld mwy o gyrff yn ymestyn o ran y safonau. Yn amlwg, mi oedd yna ymrwymiad—y cytundeb cydweithio i fod yn dod â mwy o gyrff yn ddarostyngedig i'r safonau. Buaswn i'n hoffi gwybod, gyda'r etholiad yn dod y flwyddyn nesaf, sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod rheoliadau i gwmpasu'r sectorau cymdeithasau tai a thrafnidiaeth yn dechrau.

Ond yn sicr o ran eich sylwadau chi ddoe, yn rhoi'r costau yna yn y cyd-destun cywir, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos bod y camau hyn yn gadarnhaol o ran y Gymraeg, o ran defnyddwyr, a'u bod nhw ddim yn bethau i sefydliadau fod yn eu hofni. Mae yna ddigon o enghreifftiau rŵan o ble mae hyn yn gweithio'n effeithiol iawn, a dŷn ni'n falch iawn o weld y symudiad hwn heddiw.

Plaid Cymru supports this extension to organisations that will come under the auspices of the Welsh language standards. We also agreed with the comments made by the Government in terms of this £12 million noted as the cost by one health authority. Now, clearly, that amount isn't realistic, and it's important that we challenge. I was pleased that there was publicity given yesterday to this, and the Government's comments, because we want to see more bodies being included in the standards. Clearly, there was a commitment in the co-operation agreement to be bringing more bodies under the auspices of the standards. I'd like to know, with the election coming next year, how that work is progressing to ensure that regulations that encompass the housing association sector and transport sectors start to make progress.

But certainly in terms of your comments yesterday, putting those costs into the right context, it's very important that we demonstrate that these are positive steps for the Welsh language, and for users of the language too, and that they're not things for organisations to be afraid of. There are plenty of examples now of how this is working very effectively, and we're pleased to see this movement today.

Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.

The Cabinet Secretary to reply.

Diolch yn fawr, Llywydd. To respond to Mike Hedges's point to begin with, Llywydd, the advice that I have is that the wording used in the regulations is clear from a legal point of view, but I'm happy to provide an assurance to the committee that using the phraseology we have adopted for these regulations doesn't set a precedent, and we'd be very happy to work to ensure that, in any future regulations, the clarity of meaning is secured.

Diolch yn fawr, Llywydd. I ymateb i bwynt Mike Hedges i ddechrau, Llywydd, y cyngor sydd gennyf yw bod y geiriad a ddefnyddir yn y rheoliadau yn glir o safbwynt cyfreithiol, ond rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r pwyllgor nad yw defnyddio'r ymadroddion rydym wedi'u mabwysiadu ar gyfer y rheoliadau hyn yn gosod cynsail, a byddem yn hapus iawn i weithio i sicrhau bod yr ystyr yn glir mewn unrhyw reoliadau yn y dyfodol.

Jest i ddweud wrth Heledd Fychan—diolch yn fawr, wrth gwrs, am y gefnogaeth—ein bod ni'n dal i weithio ar y rhaglen safonau, fel sydd wedi ei nodi yn ein rhaglen lywodraethu, ac fel oedd yn y cytundeb cydweithio. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar safonau i'r cymdeithasau tai ac wedyn, ar ôl hynny, drafnidiaeth gyhoeddus. Rŷn ni'n dal i weithio arnyn nhw, a dwi'n edrych ymlaen at gael pethau fel yna o flaen y Senedd, a hefyd yn y dyfodol.

Ac fel y dywedodd Heledd Fychan, Llywydd, mae rhai asiantaethau sydd ddim cweit yn gyfarwydd gyda'r ffordd rŷn ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru, ac mae swyddogion wedi cael mwy o drafodaethau gyda nhw. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n deall yn well nawr nag oedden nhw pan oedden nhw'n rhoi'r ffigurau yna lawr, ac rŷn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw i'w tynnu nhw i mewn o dan o safonau, achos pwrpas y safonau yw nid i gael safonau, ond cael gwasanaethau gwell i bobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg pan fyddan nhw'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Just to reply to Heledd Fychan—I thank her, of course, for her support—that we continue to work on the standards programme, as is set out in our programme for government, and as was outlined in the co-operation agreement. This includes working on standards for housing associations, and then, following that, public transport. We are still working on those, and we look forward to bringing those before the Senedd, and also in the future.

And as Heledd Fychan said, Llywydd, there are some agencies who aren't quite familiar with the way we work here in Wales, and officials have had further discussions with them. I think they now better understand the position than when they put those figures down, and we look forward to working with them to bring them in under the standards, because the purpose of the standards is not simply to have standards, but to have improved services for people who want to use the Welsh language when they access public services.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 8 wedi'i dderbyn.

Thank you. The proposal is to agree the motion under item 8. Does any Member object? No. Therefore, that motion under item 8 is agreed.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Y cynnig nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nac oes. Felly, mae hwnnw hefyd wedi ei gytuno.

The next proposal is to agree the motion under item 9. Does any Member object to that? No. Therefore, that motion too is agreed.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

10. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025
10. The Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025

Eitem 10 sydd nesaf. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw hwn, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg unwaith eto—Mark Drakeford.

Item 10 is next, the Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025. The Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language once again to move the motion—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8845 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2025.

Motion NDM8845 Jane Hutt

To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves The Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 laid in the Table Office on 13 February 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. In the draft budget published in December, the Welsh Government set out the details of our plans for Welsh devolved and partially devolved taxes. In respect of landfill disposals tax, I announced the rates for LDT that would apply from 1 April this year. The regulations increased the rates of LDT at each of the three rates, the lower standard and the unauthorised disposal rates from 1 April. The standard rate at £126.15 per tonne represents a 22 per cent increase, and that takes account of the erosion of the real value of that rate of LDT over recent years eroded by inflation. The unauthorised rate will increase to £189.25 per tonne. This maintains the unauthorised rate at 150 per cent of the standard rate and reflects the seriousness with which we treat unauthorised disposals of waste here in Wales.

Llywydd, in increasing the lower rate to £6.30 per tonne, we are responding to the increased amount of lower rated waste being presented for landfill. As a behavioural tax, it is essential that this rate is pitched at a level that supports the primary purpose of the tax, that is to say, reducing and diverting waste away from landfill. The new rates also respond to the finding of last year's independent review of landfill disposals in Wales, which found that the lower rate was no longer acting as a sufficient deterrent to landfill.

Now although, as I said, Llywydd, the LDT is a behavioural tax aimed at reducing landfill disposals, it is nevertheless estimated that the increases in the rates for next year will raise an additional £1.8 million in revenue for the next financial year, and that sum will be invested in public services in Wales. Llywydd, I will continue to monitor the impact of the lower rate. I will not hesitate to raise the lower rate again if it does not demonstrate that it is an effective way of diverting waste away from landfill.

Can I thank the Legislation, Justice and Constitution Committee for its report and encourage Members to support these regulations?

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nododd Llywodraeth Cymru fanylion ein cynlluniau ar gyfer trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru. O ran treth gwarediadau tirlenwi, LDT, cyhoeddais y cyfraddau ar gyfer LDT a fyddai'n berthnasol o 1 Ebrill eleni. Cynyddodd y rheoliadau gyfraddau LDT ar bob un o'r tair cyfradd, y safon is a'r cyfraddau gwaredu anawdurdodedig o 1 Ebrill. Mae'r gyfradd safonol o £126.15 y dunnell yn cynrychioli cynnydd o 22 y cant, ac mae hynny'n ystyried erydu gwir werth y gyfradd honno o LDT dros y blynyddoedd diwethaf gan chwyddiant. Bydd y gyfradd anawdurdodedig yn cynyddu i £189.25 y dunnell. Mae hyn yn cynnal y gyfradd anawdurdodedig ar 150 y cant o'r gyfradd safonol ac yn adlewyrchu pa mor ddifrifol rydym yn trin gwaredu gwastraff heb awdurdod yma yng Nghymru.

Llywydd, wrth gynyddu'r gyfradd is i £6.30 y dunnell, rydym yn ymateb i'r cynnydd yn y swm o wastraff cyfradd is sy'n cael ei gyflwyno ar gyfer tirlenwi. Fel treth ymddygiadol, mae'n hanfodol bod y gyfradd hon yn cael ei gosod ar lefel sy'n cefnogi prif bwrpas y dreth, hynny yw, lleihau a dargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. Mae'r cyfraddau newydd hefyd yn ymateb i ganfyddiadau adolygiad annibynnol o warediadau tirlenwi yng Nghymru y llynedd, a ganfu nad oedd y gyfradd is yn gwneud digon mwyach i atal gwarediadau tirlenwi.

Nawr er bod yr LDT, fel y dywedais i, Llywydd, yn dreth ymddygiadol sydd â'r nod o leihau gwarediadau tirlenwi, amcangyfrifir serch hynny y bydd y cynnydd yn y cyfraddau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn codi £1.8 miliwn ychwanegol mewn refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac y bydd y swm hwnnw'n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Llywydd, byddaf yn parhau i fonitro effaith y gyfradd is. Ni fyddaf yn oedi cyn codi'r gyfradd is eto os nad yw'n dangos ei bod yn ffordd effeithiol o ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi.

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ac annog Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn?

17:00

I'm grateful to the Cabinet Secretary for outlining the proposed amendments as he has done here today, much of which we as a group would support. In particular, we welcome the alignment of the standard rate with the rate in England, which I think is the right approach both for those disposal sites and also for their customers, those disposing of waste in that manner as well, especially with such a fluid administrative border. And we're also not opposed to the unauthorised disposals rate that the Cabinet Secretary has outlined as well, for the same reason, in terms of the incentive for appropriate behaviour in regard to that disposal.

Our group, though, will be voting to oppose the regulations as amended today, and in particular and specifically for the same reason for which we support the alignment of the standard rate. These amendments create a significant deviation and increase, as the Cabinet Secretary outlined, on the lower rate, which presents a number of potential negative consequences, which I'll briefly outline, Llywydd.

Firstly, the Welsh Government's own explanatory memorandum acknowledges that, with these amendments, there will be an increase of landfill waste that will not be disposed of locally, but will likely cross into England and be disposed of there. It's described in the EM as ‘waste tourism’. This, for me, does not seem to be in the spirit of effectively reducing the rate of waste, but rather seeking for that waste to be disposed of elsewhere and become somebody else's problem to deal with. And indeed the move away from parity of rates with England on this will make life more difficult for local businesses and lead to negative outcomes, including putting more miles on the movement of waste, which is contributing to the very thing, unhealthy environments, that these amendments are trying to avoid. For me, and for our group, option 2b, as outlined in the EM, seems a much more sensible approach, which carries much less risk.

Additionally, with the amendments, we are concerned about significantly higher costs for the firms involved, especially in the construction sector, who will be affected most. Now, we understand that the construction sector is a sector that is at particular risk at the moment in our economic environment, and this additional burden is a further disincentive for them to operate in Wales. Let's be clear, this new fee for the lower rate nearly doubles the cost per tonne for those disposing of this type of waste, and I would argue that this escalation is too rapid, and we should be seeking to relieve those pressures on those sectors, taking into account what the Cabinet Secretary's outlined in terms of behavioural change, but nearly doubling the cost per tonne seems like a rapid escalation.

Finally, Llywydd, as outlined in the Government's EM, the potential for increased fly-tipping and illegal dumping is made more likely as a result of this amendment. Of course, that's not an outcome that anybody wants to see, including the Cabinet Secretary I'm sure, but we do recognise the risk, as outlined in the Government's explanatory memorandum, that this may increase. We also recognise the pressure that this would place on the relevant enforcement agencies, and we all know of the pressures that they are under at the moment. Of course, the pressure of increased fly-tipping and illegal dumping on those enforcement agencies could increase the cost of that enforcement, and risks swallowing up the additional revenue that the Cabinet Secretary seeks.

So, we will not be supporting the regulations as amended in front of us here today. As I've outlined, there are areas we would like to support and recognise the need for change on, but, as the amendments are here today, we will not be supporting them as laid out. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am amlinellu'r diwygiadau arfaethedig fel y mae wedi'i wneud yma heddiw, y byddem ni fel grŵp yn cefnogi llawer ohonynt. Yn benodol, rydym yn croesawu alinio'r gyfradd safonol â'r gyfradd yn Lloegr, a chredaf mai dyna'r dull cywir ar gyfer y safleoedd gwaredu hynny a hefyd i'w cwsmeriaid, y rhai sy'n gwaredu gwastraff yn y modd hwnnw hefyd, yn enwedig gyda ffin weinyddol mor hylifol. Ac nid ydym ychwaith yn gwrthwynebu'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i hamlinellu hefyd, am yr un rheswm, o ran y cymhelliant i ymddwyn yn briodol o ran y gwarediad hwnnw.

Fodd bynnag, bydd ein grŵp yn pleidleisio i wrthwynebu'r rheoliadau fel y'u diwygiwyd heddiw, ac yn benodol am yr un rheswm rydym yn cefnogi alinio'r gyfradd safonol. Mae'r diwygiadau hyn yn creu gwyriad a chynnydd sylweddol, fel yr amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ar y gyfradd is, sy'n cyflwyno nifer o ganlyniadau negyddol posibl, y byddaf yn eu hamlinellu'n fyr, Llywydd.

Yn gyntaf, mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod, gyda'r diwygiadau hyn, y bydd cynnydd mewn gwastraff tirlenwi na fydd yn cael ei waredu'n lleol, ond a fydd yn debygol o groesi i Loegr a chael ei waredu yno. Fe'i disgrifir yn y memorandwm esboniadol fel 'twristiaeth wastraff'. Nid yw hyn, i mi, yn ymddangos ei fod yn ysbryd lleihau cyfradd gwastraff yn effeithiol, ond yn hytrach ceisio gwaredu'r gwastraff hwnnw rhywle arall lle bydd yn dod yn broblem i rywun arall ddelio ag ef. Ac yn wir, bydd symud i ffwrdd o gyfraddau sy'n gyson â Lloegr ar hyn yn gwneud bywyd yn anoddach i fusnesau lleol ac yn arwain at ganlyniadau negyddol, gan gynnwys rhoi mwy o filltiroedd ar symud gwastraff, sy'n cyfrannu at yr union beth, amgylcheddau afiach, y mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ei osgoi. I mi, ac i'n grŵp, mae opsiwn 2b, fel yr amlinellir yn y memorandwm esboniadol, yn ymddangos yn ddull llawer mwy synhwyrol, y mae llawer llai o risg ynghlwm wrtho.

Yn ogystal, gyda'r diwygiadau, rydym yn pryderu am gostau sylweddol uwch i'r cwmnïau dan sylw, yn enwedig yn y sector adeiladu, a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Nawr, rydym yn deall bod y sector adeiladu yn sector sy'n wynebu risg benodol ar hyn o bryd yn ein hamgylchedd economaidd, ac mae'r baich ychwanegol hwn yn anghymhelliad pellach iddyn nhw weithredu yng Nghymru. Gadewch i ni fod yn glir, mae'r ffi newydd hon ar gyfer y gyfradd is bron yn dyblu'r gost fesul tunnell i'r rhai sy'n gwaredu'r math hwn o wastraff, a byddwn i'n dadlau bod y cynnydd hwn yn rhy gyflym, ac y dylem fod yn ceisio lleddfu'r pwysau hynny ar y sectorau hynny, gan ystyried yr hyn a amlinellodd yr Ysgrifennydd Cabinet o ran newid ymddygiad, ond mae bron â dyblu'r gost fesul tunnell yn ymddangos fel cynnydd cyflym.

Yn olaf, Llywydd, fel yr amlinellwyd ym memorandwm esboniadol y Llywodraeth, mae'r potensial ar gyfer mwy o dipio anghyfreithlon a dympio anghyfreithlon yn fwy tebygol o ganlyniad i'r diwygiad hwn. Wrth gwrs, nid yw hynny'n ganlyniad y mae unrhyw un eisiau ei weld, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr, ond rydym yn cydnabod y risg, fel yr amlinellwyd ym memorandwm esboniadol y Llywodraeth, y gallai hyn gynyddu. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau y byddai hyn yn ei roi ar yr asiantaethau gorfodi perthnasol, ac rydym i gyd yn gwybod am y pwysau sydd arnyn nhw ar hyn o bryd. Wrth gwrs, gallai'r pwysau sy'n gysylltiedig â mwy o dipio anghyfreithlon a dympio'n anghyfreithlon ar yr asiantaethau gorfodi hynny gynyddu cost y gorfodaeth honno, ac mae risg y gallai lyncu'r refeniw ychwanegol y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ceisio'i gael.

Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r rheoliadau fel y'u diwygiwyd sydd o'n blaenau yma heddiw. Fel yr amlinellais, mae yna feysydd yr hoffem eu cefnogi a lle rydym yn cydnabod bod angen newid, ond, gan fod y diwygiadau yma heddiw, ni fyddwn yn eu cefnogi fel y'u nodir. Diolch yn fawr iawn.

17:05

Neb arall yn siarad, felly'r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb. 

No other contributors, therefore the Cabinet Secretary to reply. 

Diolch yn fawr, Llywydd. I thank the Conservative Party spokesperson for the support for the standard rate and for the rate that deals with unauthorised disposals. Let me explain if I could why the Government has decided to increase the lower rate from £3.30 to £6.30 per tonne. Had we uprated it in the same way as we have uprated the other two rates, it would have increased by 75p a tonne to £4.05, and that is not sufficient, in my view, to deal with the emerging pattern that we've seen in Wales in more recent times. Because, since the inception of landfill disposals tax, the amount of standard rate waste disposed of to landfill in Wales has fallen by 48.9 per cent. That's a really big policy achievement, given that the purpose of the tax is to change behaviour. But, more recently, we have seen the amount of lower rated waste disposed to landfill in Wales actually rising by 8 per cent. So, it's clear that the current rate is not sufficient to have the impact on behaviour that the tax was intended to do. 

And let's be frank just for a moment, Llywydd, that it also acts as an incentive for misdescription, and that's what the independent view of the tax also concluded—that, if you have such a disparity at the bottom end, it will encourage some companies to describe waste as being at that lower rate, when, in fact, it should be being presented at the standard rate. 

So, we have to act in order to create a greater disincentive to disincentivise misdescription and to disincentivise the use of landfill altogether. That's why what I've done in the regulations is to mirror what we have done with the unauthorised disposals rate, which is a fixed percentage of the standard rate. We now have a fixed percentage—5 per cent—of the standard rate at the lower rate as well. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch i lefarydd y Blaid Geidwadol am y gefnogaeth i'r gyfradd safonol ac i'r gyfradd sy'n delio â gwarediadau anawdurdodedig. Gadewch imi egluro os galla i pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu cynyddu'r gyfradd is o £3.30 i £6.30 y dunnell. Pe baem ni wedi ei huwchraddio yn yr un ffordd ag yr ydym wedi uwchraddio'r ddwy gyfradd arall, byddai wedi cynyddu 75c y dunnell i £4.05, ac nid yw hynny'n ddigonol, yn fy marn i, i ddelio â'r patrwm sy'n dod i'r amlwg rydym wedi'i weld yng Nghymru yn fwy diweddar. Oherwydd, ers sefydlu'r dreth gwarediadau tirlenwi, mae swm y gwastraff cyfradd safonol sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi gostwng 48.9 y cant. Mae hynny'n gyflawniad polisi mawr iawn, o ystyried mai pwrpas y dreth yw newid ymddygiad. Ond, yn fwy diweddar, rydym wedi gweld swm y gwastraff cyfradd is sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn cynyddu 8 y cant mewn gwirionedd. Felly, mae'n amlwg nad yw'r gyfradd bresennol yn ddigonol i gael yr effaith ar ymddygiad y bwriadwyd i'r dreth ei chael. 

A gadewch i ni fod yn onest am eiliad, Llywydd, mae hefyd yn gweithredu fel cymhelliant ar gyfer camddisgrifio, a dyna oedd casgliad y farn annibynnol ar y dreth hefyd—sef, os oes gennych chi wahaniaeth mor fawr ar y pen isaf, bydd yn annog rhai cwmnïau i ddisgrifio gwastraff fel pe bai ar y gyfradd is honno, pan, mewn gwirionedd, dylai fod yn cael ei gyflwyno ar y gyfradd safonol. 

Felly, mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn creu mwy o anghymhelliad i ddatgymell camddisgrifio ac i ddatgymell y defnydd o safleoedd tirlenwi yn gyfan gwbl. Dyna pam mai'r hyn rwyf wedi'i wneud yn y rheoliadau yw adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i wneud gyda'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig, sy'n ganran sefydlog o'r gyfradd safonol. Mae gennym ganran sefydlog—5 y cant—o'r gyfradd safonol ar y gyfradd is hefyd nawr. 

Thanks for taking the intervention, Cabinet Secretary. I understand your argument and I wonder how much you acknowledge that the reason for the reduction in the standard rate is a change in behaviour at kerbside collection points. You well know that the lower rate being described here is aggregate, stones, rocks, that type of thing, which is much less easily recyclable. And therefore the options for those companies who would be seeking to dispose of waste are much more limited versus the type of waste that is within the standard rate. Would you acknowledge that, perhaps, it's not necessarily about the cost per tonne in terms of the waste disposal incentive, it's the ability to actually change behaviour at the point at recycling for these companies? 

Diolch am gymryd yr ymyrraeth, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n deall eich dadl a meddwl ydw i tybed faint rydych chi'n cydnabod mai'r rheswm dros y gostyngiad yn y gyfradd safonol yw newid ymddygiad mewn mannau casglu wrth ymyl y ffordd. Rydych chi'n gwybod yn iawn mai'r gyfradd is sy'n cael ei disgrifio yma yw cerrig mân, cerrig, creigiau, y math yna o beth, sy'n llawer llai hawdd ei ailgylchu. Ac felly mae'r opsiynau i'r cwmnïau hynny a fyddai'n ceisio gwaredu gwastraff yn llawer mwy cyfyngedig o gymharu â'r math o wastraff sydd o fewn y gyfradd safonol. A fyddech chi'n cydnabod, efallai, nad yw'n ymwneud â'r gost fesul tunnell o reidrwydd o ran y cymhelliant gwaredu gwastraff, mae'n ymwneud â'r gallu i newid ymddygiad mewn gwirionedd ar yr adeg ailgylchu ar gyfer y cwmnïau hyn? 

Llywydd, I'm happy to agree that there is a legitimate point in what Sam Rowlands says, but, nevertheless, the amount of waste going to landfill at the lower rate also declined at the start of this tax. So, it's not inevitable that companies cannot find other and better ways to reuse, for example, rather than dispose of material, because that material often has a significant financial value attached to it if it is used again, and in a different way.

I want just to reply very briefly to the two other points that the Member made. It's certainly not the purpose of the regulations to divert waste into England. The EM makes the point that that could be an unintended consequence of it; we don't think it will be, particularly. You'd lose more money on the journey than you would in paying the additional sum of money here in Wales. And, as for the point about fly-tipping, Wales is the only part of the United Kingdom that has used the unauthorised disposals rate. We had one successful use of those powers last year; we've had six already so far this year. So, you've got to take this package of measures together, and the use of Natural Resources Wales and the Welsh Revenue Authority, working together on unauthorised disposals, I think will have an impact on—. That message will go round the system, and it will certainly mitigate the risk that increasing the lower rate to a point where it does act as a disincentive to landfill, that that will lead to the sorts of unintended consequences that the Member has raised. I continue to ask Members to approve the regulations.

Llywydd, rwy'n hapus i gytuno bod pwynt dilys yn yr hyn mae Sam Rowlands yn ei ddweud, ond, serch hynny, gostyngodd swm y gwastraff a oedd yn mynd i safleoedd tirlenwi ar y gyfradd is ar ddechrau'r dreth hon hefyd. Felly, nid yw'n anochel na all cwmnïau ddod o hyd i ffyrdd eraill a gwell o ailddefnyddio, er enghraifft, yn hytrach na chael gwared ar ddeunydd, oherwydd yn aml mae gan y deunydd hwnnw werth ariannol sylweddol ynghlwm wrtho os caiff ei ddefnyddio eto, ac mewn ffordd wahanol.

Rwyf am ymateb yn fyr iawn i'r ddau bwynt arall a wnaeth yr Aelod. Yn sicr, nid pwrpas y rheoliadau yw dargyfeirio gwastraff i Loegr. Mae'r memorandwm esboniadol yn gwneud y pwynt y gallai hynny fod yn ganlyniad anfwriadol ohono; nid ydym yn credu y bydd, yn arbennig. Byddech chi'n colli mwy o arian ar y daith nag y byddech chi'n ei wneud wrth dalu'r swm ychwanegol o arian yma yng Nghymru. Ac, o ran y pwynt am dipio anghyfreithlon, Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi defnyddio'r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig. Defnyddiwyd y pwerau hynny yn llwyddiannus unwaith y llynedd; maen nhw wedi'u defnyddio chwech gwaith yn barod eleni. Felly, mae'n rhaid i chi gymryd y pecyn hwn o fesurau gyda'i gilydd, ac rwy'n credu y bydd y defnydd o Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, yn cydweithio ar warediadau anawdurdodedig, yn cael effaith ar—. Bydd y neges honno'n mynd o amgylch y system, a bydd yn sicr yn lliniaru'r risg y bydd cynyddu'r gyfradd is i bwynt lle mae'n gweithredu fel anghymhelliad i safleoedd tirlenwi, y bydd hynny'n arwain at y mathau o ganlyniadau anfwriadol y mae'r Aelod wedi'u nodi. Rwy'n parhau i ofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau.

17:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is objection. Therefore, we will defer voting under this item until voting time.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

11. Dadl: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Pumed Adroddiad Blynyddol 2023-24
11. Debate: The President of Welsh Tribunals Fifth Annual Report 2023-24

Eitem 11 sydd nesaf, y ddadl ar lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, y pumed adroddiad blynyddol, 2023-24. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yma—Julie James.

Item 11 is next, the debate on the president of Welsh Tribunals fifth annual report 2023-24. I call on the Counsel General to move the motion—Julie James.

Cynnig NDM8840 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mawrth 2024.

Motion NDM8840 Jane Hutt

To propose that the Senedd notes the annual report of the President of Welsh Tribunals on the operation of the Welsh Tribunals in the period January 2023 to March 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Llywydd. I'm very pleased to open today's debate on the president of Welsh Tribunals annual report for 2023-24. This is the fifth annual report from the president's office and the first under the leadership of Sir Gary Hickinbottom. Before we get into the detail, I want to start by thanking Sir Gary for his leadership of the Welsh Tribunals since taking up his post in April 2023. Stepping into a role like this is no small task, and, in his short time in office, he's made an immediate and very meaningful impact. His commitment to devolved justice in Wales is evident throughout this report.

Llywydd, a key part of Sir Gary's role is to listen to the members of our Welsh tribunals and represent their views. He has done this not only through his work with Ministers, but also through his engagement with the Senedd's Legislation, Justice and Constitution Committee. The positive and constructive relationship between Ministers and the president is vital, as we work together to shape a fair, independent and well-functioning tribunal system. So, Llywydd, this debate isn't just about a report; it's about ensuring people in Wales have access to justice when they need it most. The Welsh tribunals may be relatively small in number, but their work is absolutely vital. Whether it's disputes around education, mental health, property or Welsh language rights, these tribunals provide a route for people to have their voices heard and decisions reviewed fairly. We must recognise the dedication of the tribunal members who uphold these principles of justice every day. Their commitment to public service is invaluable, and I want to put on record my thanks for their hard work.

Llywydd, of course the report also highlights challenges the Welsh tribunals need to address. One of these is getting the balance right between remote and face-to-face hearings, something that can make a real difference to people's experience of the justice system. Another is ensuring tribunal members are properly supported and fairly paid. We know the decision last year on pay was very difficult. The financial pressures we faced meant we, unfortunately, couldn't match the uplift given to tribunal members in the reserved system. However, I am very pleased indeed that we've now been able to take action to put this right. We've taken important steps. We've increased the Welsh tribunals budget significantly, from £4.1 million to £6 million. That's a real commitment to making sure our tribunals have the resources they need. We've reinstated pay parity for tribunal members, with an 8 per cent uplift, bringing their pay in line with those in the reserved system. And, Llywydd, we're actively participating in a major review of judicial salaries, being undertaken by the senior salaries review board. This will help ensure pay structures remain fair and sustainable in the years ahead.

Looking to the future, we must also reform the way our tribunals are structured. As Sir Gary has made clear in his report, this isn't just desirable, it's necessary. Our current system has evolved over time, but it's not been designed in a way that truly serves Wales in the longer term. The First Minister, Eluned Morgan, and her Welsh Government, remain completely committed to legislation that will create an integrated and modern tribunal system, one that strengthens judicial independence, improves accessibility and ensures efficiency.

So, Llywydd, this reform isn't just about the legal system, it's about delivering a fair and effective justice programme for people across Wales. Let me be very clear: this work is a priority, and we will deliver on our commitment to reform. Diolch.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer 2023-24. Dyma'r pumed adroddiad blynyddol o swyddfa'r llywydd a'r cyntaf dan arweinyddiaeth Syr Gary Hickinbottom. Cyn i ni fynd i mewn i'r manylion, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Syr Gary am ei arweinyddiaeth o Dribiwnlysoedd Cymru ers iddo ddechrau yn ei swydd ym mis Ebrill 2023. Nid tasg fach yw camu i rôl fel hon, ac, yn yr amser byr y mae wedi bod yn y swydd, mae wedi cael effaith uniongyrchol ac ystyrlon iawn. Mae ei ymrwymiad i gyfiawnder datganoledig yng Nghymru yn amlwg drwy gydol yr adroddiad hwn.

Llywydd, rhan allweddol o rôl Syr Gary yw gwrando ar aelodau ein tribiwnlysoedd yng Nghymru a chynrychioli eu barn. Mae wedi gwneud hyn nid yn unig trwy ei waith gyda Gweinidogion, ond hefyd drwy ei ymgysylltiad â Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd. Mae'r berthynas gadarnhaol ac adeiladol rhwng Gweinidogion a'r llywydd yn hanfodol, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i lunio system dribiwnlysoedd deg, annibynnol sy'n gweithredu'n dda. Felly, Llywydd, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag adroddiad yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at gyfiawnder pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Efallai fod tribiwnlysoedd Cymru yn gymharol fach o ran nifer, ond mae eu gwaith yn gwbl hanfodol. P'un a yw'n anghydfodau ynghylch addysg, iechyd meddwl, eiddo neu hawliau yn ymwneud â'r Gymraeg, mae'r tribiwnlysoedd hyn yn darparu llwybr i bobl gael eu clywed ac i benderfyniadau gael eu hadolygu'n deg. Rhaid i ni gydnabod ymroddiad aelodau'r tribiwnlysoedd sy'n cynnal yr egwyddorion cyfiawnder hyn bob dydd. Mae eu hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus yn amhrisiadwy, ac rwyf am gofnodi fy niolch iddynt am eu gwaith caled.

Llywydd, wrth gwrs mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at heriau y mae angen i dribiwnlysoedd Cymru fynd i'r afael â nhw. Un o'r rhain yw cael y cydbwysedd yn iawn rhwng gwrandawiadau o bell a rhai wyneb yn wyneb, rhywbeth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad pobl o'r system gyfiawnder. Un arall yw sicrhau bod aelodau'r tribiwnlysoedd yn cael eu cefnogi'n iawn ac yn cael eu talu'n deg. Rydym yn gwybod bod y penderfyniad ar gyflogau y llynedd wedi bod yn anodd iawn. Roedd y pwysau ariannol a wynebwyd gennym yn golygu na allem, yn anffodus, roi'r un codiad a roddwyd i aelodau tribiwnlysoedd yn y system a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cymryd camau nawr i unioni hyn. Rydym wedi cymryd camau pwysig. Rydym wedi cynyddu cyllideb tribiwnlysoedd Cymru yn sylweddol, o £4.1 miliwn i £6 miliwn. Mae hynny'n ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod gan ein tribiwnlysoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Rydym wedi adfer cydraddoldeb cyflog ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd, gyda chodiad o 8 y cant, gan ddod â'u cyflogau'n gyson â'r rhai yn y system a gadwyd yn ôl. A, Llywydd, rydym yn cymryd rhan weithredol mewn adolygiad mawr o gyflogau barnwrol, sy'n cael ei gynnal gan y bwrdd adolygu cyflogau uwch. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod strwythurau cyflog yn parhau'n deg ac yn gynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod.

Wrth edrych i'r dyfodol, rhaid i ni hefyd ddiwygio'r ffordd mae ein tribiwnlysoedd yn cael eu strwythuro. Fel y nododd Syr Gary yn glir yn ei adroddiad, nid yw hyn yn ddymunol yn unig, mae'n angenrheidiol. Mae ein system bresennol wedi esblygu dros amser, ond nid yw wedi'i dylunio mewn ffordd sydd wir yn gwasanaethu Cymru yn y tymor hwy. Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, a'i Llywodraeth Cymru, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddeddfwriaeth a fydd yn creu system dribiwnlysoedd integredig a modern, un sy'n cryfhau annibyniaeth farnwrol, yn gwella hygyrchedd ac yn sicrhau effeithlonrwydd.

Felly, Llywydd, nid yw'r diwygio hwn yn ymwneud â'r system gyfreithiol yn unig, mae'n ymwneud â darparu rhaglen gyfiawnder deg ac effeithiol i bobl ledled Cymru. Gadewch imi fod yn glir iawn: mae'r gwaith hwn yn flaenoriaeth, ac fe fyddwn yn cyflawni ein hymrwymiad i ddiwygio. Diolch.

As the Counsel General has said, this is the fifth annual report of the president of the Welsh Tribunals, and the first of the current president, Sir Gary Hickinbottom, and I thank him for the work that he has done to date in his capacity as president of the Welsh Tribunals, and I pay tribute to his predecessor, Sir Wyn Williams.

Fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud, dyma bumed adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac un cyntaf y llywydd presennol, Syr Gary Hickinbottom, a hoffwn ddiolch iddo am y gwaith mae wedi'i wneud hyd yma yn rhinwedd ei swydd fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac rwy'n talu teyrnged i'w ragflaenydd, Syr Wyn Williams.

The report gives a very clear account of the progress made against his priorities, and also highlights some of the key challenges facing the tribunals in Wales. Before I go on to some of the points made in the president's report, like the Counsel General, I want to remind Members just how important these tribunals are. They span everything from agriculture to mental health, and play an important role in our justice system. Therefore, it's crucial that the tribunals system in Wales is able to deliver effective access to justice for tribunal users.

The first priority highlighted in the president's report is judicial training, and as the report makes clear, the judicial college has no remit to train devolved tribunal members. This, of course, means that the college does not train our tribunal members unless there are spare places after the reserved tribunal judiciary have made their applications, and I understand that that only happens on rare occasions. The president did tell the Legislation, Justice and Constitution Committee that he was willing to have another go at trying to persuade the judicial college to extend their scope to cover devolved tribunals, so perhaps in response the Counsel General can update us on any discussions she's had with the president of the tribunals on this matter.

The second priority in the report is in relation to encouraging and facilitating the use of the Welsh language, both in terms of administration and in hearings. I'm pleased to read that a new self-assessment process has been set up by the Welsh Tribunals unit, in which staff assess how each tribunal complies with the requirements of the Welsh language standards, and I'm also reassured from the report that there are facilities and resources needed to enable people to use Welsh in the system. However, the figures tell us that there is still a reluctance for many to use Welsh in legal settings compared to English. I understand that an additional voluntary question has been added to the application form to try and identify the reasons for the predominance of the English language in our tribunals, and I look forward to seeing some of the conclusions that come from that, so that any barriers can be addressed.

The report briefly touches on appointments, and I was pleased to read that two salaried judges for the mental health review tribunal have been appointed. There was some discussion around recruitment and whether there were any difficulties, and the president told the Legislation, Justice and Constitution Committee that any disparity in pay, terms and conditions or training opportunities compared to reserved tribunals would have an impact. I know that the pay issue has now been addressed, as the Counsel General has just said, but I'd be interested in the Counsel General's views on recruitment and whether there are any further issues that need to be looked at in this area.

The fourth priority of the president of the Welsh Tribunals is tribunal reform, and I agree that reform of the system is indeed needed. As my colleague Mark Isherwood has previously said, we support a greater degree of independence for the Welsh Tribunals unit, with the creation of a non-ministerial department to administer the tribunals, and I sincerely hope the Welsh Government will revisit their position on this matter.

The president's report also supports the creation of a unified tribunal system for devolved tribunals in Wales, which would be made up of a first tier tribunal and an appeal tribunal for Wales, which would hear appeals from the first tier tribunal. I'm open-minded about this reform, and I accept the view of the president that it would lead to greater coherence, and ultimately a more effective system for users. Perhaps the Counsel General could tell us more about the costs involved in making this change, and whether funding has already been ring-fenced for this work.

Finally, Llywydd, I just want to touch on the fact that the budget for the Welsh tribunals had overspends over the last two years. In response to members of the Legislation, Justice and Constitution Committee, the president explained that the overspends had been down to matters like increased fee-paid judicial time and recruitment costs, increases in pay and pension costs, and a return to face-to-face hearings for the mental health review tribunal for Wales following COVID-19. I very much accept that, and I agree that reforming the system provides an opportunity for it to be more transparent in the future. As the president explained, the proposed reforms include setting up an executive body independent of the Executive Government, and that, of course, will result in an annual report, and the body would have an annual budget. Therefore, I believe this would be far more transparent and accountable than the current state of play.

So, Llywydd, it's a very interesting time for Welsh tribunals, with a lot of change on the horizon. It will be very interesting to see how much reform will be taken forward in legislation, and I look forward to receiving further updates on this issue in due course. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r adroddiad yn rhoi disgrifiad clir iawn o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn ei flaenoriaethau, ac mae hefyd yn tynnu sylw at rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r tribiwnlysoedd yng Nghymru. Cyn i mi symud ymlaen at rai o'r pwyntiau a wnaed yn adroddiad y llywydd, fel y Cwnsler Cyffredinol, hoffwn atgoffa Aelodau pa mor bwysig yw'r tribiwnlysoedd hyn. Maen nhw'n rhychwantu popeth o amaethyddiaeth i iechyd meddwl, ac yn chwarae rhan bwysig yn ein system gyfiawnder. Felly, mae'n hanfodol bod y system dribiwnlysoedd yng Nghymru yn gallu darparu mynediad effeithiol at gyfiawnder i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd.

Y flaenoriaeth gyntaf y tynnir sylw ati yn adroddiad y llywydd yw hyfforddiant barnwrol, ac fel mae'r adroddiad yn nodi'n glir, nid oes gan y coleg barnwrol unrhyw gylch gwaith i hyfforddi aelodau tribiwnlysoedd datganoledig. Mae hyn, wrth gwrs, yn golygu nad yw'r coleg yn hyfforddi aelodau ein tribiwnlysoedd oni bai bod lleoedd sbâr ar ôl i'r farnwriaeth tribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl wneud eu ceisiadau nhw, ac rwy'n deall mai dim ond ar adegau prin mae hynny'n digwydd. Fe ddywedodd y llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei fod yn barod i roi cynnig arall ar geisio perswadio'r coleg barnwrol i ymestyn eu cwmpas i gynnwys tribiwnlysoedd datganoledig, felly efallai mewn ymateb gall y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw drafodaethau mae hi wedi'u cael gyda llywydd y tribiwnlysoedd ar y mater hwn.

Mae'r ail flaenoriaeth yn yr adroddiad yn ymwneud ag annog a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, o ran gweinyddu ac mewn gwrandawiadau. Rwy'n falch o ddarllen bod proses hunanasesu newydd wedi'i sefydlu gan uned Tribiwnlysoedd Cymru, lle mae staff yn asesu sut mae pob tribiwnlys yn cydymffurfio â gofynion safonau'r Gymraeg, ac mae'r adroddiad yn rhoi sicrwydd i mi hefyd fod angen cyfleusterau ac adnoddau i alluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y system. Fodd bynnag, mae'r ffigurau'n dweud wrthym fod llawer yn amharod o hyd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliadau cyfreithiol o'i chymharu â'r Saesneg. Rwy'n deall bod cwestiwn gwirfoddol ychwanegol wedi'i ychwanegu at y ffurflen gais i geisio nodi'r rhesymau dros oruchafiaeth y Saesneg yn ein tribiwnlysoedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld rhai o'r casgliadau sy'n deillio o hynny, fel bod modd mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau.

Mae'r adroddiad yn sôn yn fyr am benodiadau, ac roeddwn i'n falch o ddarllen bod dau farnwr cyflogedig wedi'u penodi ar gyfer y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynghylch recriwtio ac a oedd unrhyw anawsterau, a dywedodd y llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y byddai unrhyw wahaniaeth o ran cyflog, telerau ac amodau neu gyfleoedd hyfforddi o gymharu â thribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl yn cael effaith. Rwy'n gwybod bod y mater cyflog wedi cael sylw nawr, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ddweud, ond byddai gennyf ddiddordeb ym marn y Cwnsler Cyffredinol ar recriwtio ac a oes unrhyw faterion pellach y mae angen edrych arnynt yn y maes hwn.

Pedwaredd flaenoriaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw diwygio tribiwnlysoedd, ac rwyf yn cytuno bod angen diwygio'r system. Fel mae fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, wedi'i ddweud yn flaenorol, rydym yn cefnogi mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, gyda chreu adran anweinidogol i weinyddu'r tribiwnlysoedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar eu safbwynt ar y mater hwn.

Mae adroddiad y llywydd hefyd yn cefnogi creu system dribiwnlysoedd unedig ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a fyddai'n cynnwys tribiwnlys haen gyntaf a thribiwnlys apêl i Gymru, a fyddai'n clywed apeliadau gan y tribiwnlys haen gyntaf. Mae gennyf feddwl agored am y diwygio hyn, ac rwy'n derbyn barn y llywydd y byddai'n arwain at fwy o gydlyniad a system fwy effeithiol i ddefnyddwyr yn y pen draw. Efallai y gallai'r Cwnsler Cyffredinol ddweud mwy wrthym am y costau sy'n gysylltiedig â gwneud y newid hwn, ac a yw cyllid eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith hwn.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am y ffaith bod gorwario o ran y gyllideb ar gyfer tribiwnlysoedd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, eglurodd y llywydd fod y gorwariant wedi bod o ganlyniad i faterion fel mwy o amser barnwrol a delir â ffi a chostau recriwtio, cynnydd mewn costau cyflog a phensiwn, a dychwelyd i wrandawiadau wyneb yn wyneb ar gyfer tribiwnlys adolygu iechyd meddwl Cymru yn dilyn COVID-19. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ac rwy'n cytuno bod diwygio'r system yn rhoi cyfle iddi fod yn fwy tryloyw yn y dyfodol. Fel yr eglurodd y llywydd, mae'r diwygiadau arfaethedig yn cynnwys sefydlu corff gweithredol sy'n annibynnol ar y Llywodraeth Weithredol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn arwain at adroddiad blynyddol, a byddai gan y corff gyllideb flynyddol. Felly, rwy'n credu y byddai hyn yn llawer mwy tryloyw ac atebol na'r sefyllfa bresennol.

Felly, Llywydd, mae'n gyfnod diddorol iawn i dribiwnlysoedd Cymru, gyda llawer o newid ar y gorwel. Bydd yn ddiddorol iawn gweld faint o ddiwygio fydd yn cael ei gyflwyno mewn deddfwriaeth, ac rwy'n ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach ar y mater hwn maes o law. Diolch yn fawr iawn.

17:20

The Welsh tribunals are a cornerstone of our justice system, essential to ensuring fairness, transparency and effective access to justice for the people of Wales. But by the president of the tribunals' own admission, it's a system that is badly in need of urgent reform. Now, it's good to hear the Counsel General saying that those reform proposals, encapsulated in the proposed tribunal Bill, are a priority for the Welsh Government. Well, if they are a priority, why has the Welsh Government rejected the recommendation from the Legislation, Justice and Constitution Committee that the Government commit to enacting that Bill in this Senedd? Just reading this latest annual report from the president, and indeed his evidence before the LJC committee, make it unmistakeably clear to anyone that that legislation is imperative. It's urgently necessary.

Currently, our tribunals are trapped in a complex and confused position between devolved and reserved jurisdictions, and at the point—. I should have done this at the beginning, and I just refer Members to my declaration of interest, that my partner is a tribunal judge, although not in the devolved system of tribunals.

But the tribunal system, at the moment, is caught on that infamous jagged edge, and that results in the inefficiencies. You just referred to the overspend. The president, in his evidence, referred to part of the reason for that is the fact that decision making, at moment, in relation to many of the matters that the Conservative spokesperson referred to, are in different places, and so that's why we need this reform, to place the tribunal system on clear and sustainable foundations, to create a unified, coherent structure, ensuring judicial independence and ensuring that our tribunals serve the people of Wales, ultimately, the tribunal users, effectively, now and in the future.

And that's why the Government's refusal to commit to introducing this absolutely crucial piece of legislation in this Senedd is deeply troubling. Despite the very clear and unequivocal call from Sir Gary Hickinbottom himself and many other stakeholders, the Government is hesitating. And it's even more troubling then also to see the Government, in the same breath, rejecting another of the recommendations of the LJC committee to publish another 'Delivering Justice for Wales' report in this Senedd, removing a vital part of transparency and accountability, so that we can see the progress, or lack thereof, in terms of reforming and devolving our justice system. We think that we need to have this reform, we need to have this Bill as urgently as possible, because there are risks. 

It's good see that there's more budget going in. It's good to see that pay parity is being restored. But the perception of a disparity in terms and conditions and status, between the devolved system of tribunals and non-devolved tribunals, they threaten, don't they, our capacity to recruit and retain skilled and experienced judicial members, and therefore that would undermine the delivery of justice itself.

The evidence, I think, from the report and before the LJC committee from the president is clear: we need this legislation now. It's essential to resolve the significant operational, financial and administrative challenges facing Welsh tribunals today. Delaying this essential legislation is not prudent governance. It's negligence, actually. It risks leaving our tribunals unable to cope with current demands, let alone future responsibilities, such as youth justice or education appeals. It weakens Wales’s justice infrastructure and compromises our commitment to fair and accessible justice.

Therefore, I ask the Counsel General to reconsider their rejection of the recommendation from the Legislation, Justice and Constitution Committee, and to recommit to enacting this legislation in this Senedd. We need a tribunals Bill introduced without further delay, accompanied as well by full transparency about the progress of the rest of the justice reform programme. Anything less, in our view, would be an abdication of responsibility, leaving Wales's justice system underserved, undervalued and ill prepared for the challenges ahead.

Mae tribiwnlysoedd Cymru yn gonglfaen i'n system gyfiawnder, yn hanfodol i sicrhau tegwch, tryloywder a mynediad effeithiol i gyfiawnder i bobl Cymru. Ond mae'r llywydd ei hyn yn cyfaddef ei bod yn system sydd angen cael ei diwygio'n wael ar frys. Nawr, mae'n dda clywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod y cynigion diwygio hynny, sydd wedi'u crynhoi yn y Bil tribiwnlysoedd arfaethedig, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Wel, os ydyn nhw'n flaenoriaeth, pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bod y Llywodraeth yn ymrwymo i ddeddfu'r Bil hwnnw yn y Senedd hon? Mae darllen yr adroddiad blynyddol diweddaraf hwn gan y llywydd, ac yn wir ei dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, yn ei gwneud hi'n amlwg iawn i unrhyw un bod y ddeddfwriaeth honno'n hanfodol. Mae ei hangen ar frys.

Ar hyn o bryd, mae ein tribiwnlysoedd yn gaeth mewn sefyllfa gymhleth a dryslyd rhwng awdurdodaethau datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl, ac ar y pwynt—. Dylwn i fod wedi gwneud hyn ar y dechrau, a hoffwn gyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiant, sef bod fy mhartner yn farnwr tribiwnlys, er nad yn y system ddatganoledig o dribiwnlysoedd.

Ond mae'r system dribiwnlysoedd, ar hyn o bryd, yn cael ei dal ar yr ymyl garw enwog honno, ac mae hynny'n arwain at yr aneffeithlonrwydd. Rydych chi newydd gyfeirio at y gorwario. Cyfeiriodd y llywydd, yn ei dystiolaeth, at ran o'r rheswm am hynny, sef bod gwneud penderfyniadau, ar hyn o bryd, mewn perthynas â llawer o'r materion y cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr atynt, mewn gwahanol fannau, ac felly dyna pam mae angen y diwygio hyn arnom, i osod y system dribiwnlysoedd ar sylfeini clir a chynaliadwy, i greu strwythur unedig, cydlynol a fydd yn sicrhau annibyniaeth farnwrol ac yn sicrhau bod ein tribiwnlysoedd yn gwasanaethu pobl Cymru, yn y pen draw, defnyddwyr tribiwnlysoedd, i bob pwrpas, nawr ac yn y dyfodol.

A dyna pam mae'r ffaith bod y Llywodraeth wedi gwrthod ymrwymo i gyflwyno'r darn cwbl hanfodol hwn o ddeddfwriaeth yn y Senedd hon yn peri gofid mawr. Er gwaethaf yr alwad glir a diamwys iawn gan Syr Gary Hickinbottom ei hun a llawer o randdeiliaid eraill, mae'r Llywodraeth yn oedi. Ac wedyn mae hyd yn oed yn fwy pryderus i weld y Llywodraeth, hefyd, ar yr un pryd, yn gwrthod un arall o argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyhoeddi adroddiad 'Cyflawni Cyfiawnder i Gymru' arall yn y Senedd hon, gan ddileu rhan hanfodol o dryloywder ac atebolrwydd, fel y gallwn ni weld y cynnydd, neu'r diffyg cynnydd, o ran diwygio a datganoli ein system gyfiawnder. Rydym yn credu bod angen i ni gael y diwygio hyn, mae angen inni gael y Bil hwn cyn gynted â phosibl, oherwydd mae yna risgiau. 

Mae'n dda gweld bod mwy o gyllideb yn mynd i mewn. Mae'n dda gweld bod cydraddoldeb cyflog yn cael ei adfer. Ond mae'r canfyddiad bod gwahaniaeth o ran telerau ac amodau a statws, rhwng y system ddatganoledig o dribiwnlysoedd a'r tribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli, maent yn bygwth, onid ydynt, ein gallu i recriwtio a chadw aelodau barnwrol medrus a phrofiadol, ac felly byddai hynny'n tanseilio darparu cyfiawnder ei hun.

Rwy'n credu bod y dystiolaeth o'r adroddiad a gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gan y llywydd yn glir: mae angen y ddeddfwriaeth hon arnom nawr. Mae'n hanfodol er mwyn datrys yr heriau gweithredol, ariannol a gweinyddol sylweddol sy'n wynebu tribiwnlysoedd Cymru heddiw. Nid yw gohirio'r ddeddfwriaeth hanfodol hon yn llywodraethu doeth. Esgeulustod ydyw, mewn gwirionedd. Mae perygl y bydd yn gadael ein tribiwnlysoedd mewn sefyllfa lle na fyddant yn gallu ymdopi â'r gofynion presennol, heb sôn am gyfrifoldebau yn y dyfodol, fel cyfiawnder ieuenctid neu apeliadau addysg. Mae'n gwanhau seilwaith cyfiawnder Cymru ac yn peryglu ein hymrwymiad i gyfiawnder teg a hygyrch.

Felly, gofynnaf i'r Cwnsler Cyffredinol ailystyried eu penderfyniad i wrthod argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac i ailymrwymo i ddeddfu'r ddeddfwriaeth hon yn y Senedd hon. Mae angen cyflwyno Bil tribiwnlysoedd heb oedi pellach, ynghyd â thryloywder llawn hefyd ynghylch cynnydd gweddill y rhaglen diwygio cyfiawnder. Byddai unrhyw beth llai, yn ein barn ni, yn ymwrthod â chyfrifoldeb, ac yn gadael system gyfiawnder Cymru wedi'i thanwasanaethu, ei thanbrisio a'i pharatoi'n wael ar gyfer yr heriau sydd i ddod.

17:25

As has become a regular item on the Legislation, Justice and Constitution Committee's calendar, we took evidence from the president of the Welsh Tribunals on his annual report in October. As a committee, we are grateful to the president for his engagement with us and for the insights he provided on some of the challenges faced by the tribunals. The president's annual report highlights the fact that the expenditure for the Welsh Tribunals has exceeded its budget for 2023-24 quite considerably, following a similar overspend the previous year, as outlined by Paul Davies a few moments ago.

During the session, we asked the president about these overspends. He told us that there were a number of relevant factors. When we asked the president if he believed the Welsh tribunals had the resources they needed to ensure cases are disposed of speedily, efficiently and, most importantly, justly, the president told us unambiguously, 'no', because there is a

'disparity between budget and actual expenditure'.

That was obviously a cause of concern. It is therefore welcome that the Welsh Government has increased the budget for the tribunals for next year. As we stated in our report on the draft budget, we believe it is of fundamental importance to citizens' access to justice that the tribunals are properly resourced.

The president also told us about the challenges in competing with courts and other non-devolved tribunals for tribunal members, in terms of fee rates and issues such as working practices. However, we note that the disparity in pay that took place in 2023-24 has now been resolved.

We also asked the president if members of the Welsh tribunals had access to the training and support they needed. He told us that training members of the Welsh tribunals without an equivalent of a judicial college for the devolved tribunals is a 'real issue', and that he would continue to try and persuade the judicial college to extend the scope of their activities to cover all tribunals.

In addition, we discussed the fact that the number of tribunal hearings held in the Welsh language has remained low over the last four years, as highlighted in the president's annual report. The president told us that this could have an adverse effect on access to justice for those who would best present their case in Welsh, or largely in Welsh. We therefore welcome the work being undertaken to find out the reasons why some Welsh speakers opt for proceedings to be undertaken in English.

On a personal note, I think one of the problems is that there are words where only the English is used in common language, including amongst most Welsh speakers, when there is the option to move to English. 'Most' is probably what we should be aiming for, that people speak mostly in Welsh, but use English words in the words they use. I had an example of that last night. I was talking to a Welsh lecturer in a university, and I asked them—. Nothing to do with this, but I asked them a question, on what is the Welsh term for something—I won't go into what it was—and they didn't know, because they'd only ever heard or used the English. So, I think that getting people to use mainly Welsh and then picking up English words when necessary can make a big difference.

We also heard from the president about the importance of reform to the Welsh tribunals. A Bill to implement this reform has been in the pipeline for a while now, with a White Paper published in June 2023. The committee recently asked the Welsh Government to commit to introducing this legislation before the end of this Senedd, but, disappointingly, it has been unable to make this commitment. We continue to stress the importance of this reform to justice in Wales and hope to see the introduction of the Bill as soon as possible. Thank you.

Fel sydd wedi dod yn eitem reolaidd ar galendr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, cymerom dystiolaeth gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar ei adroddiad blynyddol ym mis Hydref. Fel pwyllgor, rydym yn ddiolchgar i'r llywydd am ei ymgysylltiad â ni ac am y mewnwelediadau a roddodd ar rai o'r heriau mae'r tribiwnlysoedd yn eu hwynebu. Mae adroddiad blynyddol y llywydd yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwariant ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru wedi rhagori ar ei gyllideb ar gyfer 2023-24 yn eithaf sylweddol, yn dilyn gorwariant tebyg y flwyddyn flaenorol, fel yr amlinellwyd gan Paul Davies ychydig funudau yn ôl.

Yn ystod y sesiwn, gwnaethom ofyn i'r llywydd am y gorwario hyn. Dywedodd wrthym fod nifer o ffactorau perthnasol. Pan ofynnon ni i'r llywydd a oedd yn credu bod gan dribiwnlysoedd Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod achosion yn cael eu gwaredu'n gyflym, yn effeithlon ac, yn bwysicaf oll, yn gyfiawn, fe ddywedodd y llywydd wrthym yn ddiamwys, 'na', oherwydd bod

'gwahaniaeth rhwng y gyllideb a gwariant gwirioneddol'.

Roedd hynny'n amlwg yn achos pryder. Mae'n newyddion da felly bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer y tribiwnlysoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, credwn ei bod yn hanfodol bwysig o ran mynediad dinasyddion at gyfiawnder fod y tribiwnlysoedd yn cael yr adnoddau priodol.

Fe ddywedodd y llywydd wrthym hefyd am yr heriau wrth gystadlu â llysoedd a thribiwnlysoedd eraill sydd heb eu datganoli ar gyfer aelodau'r tribiwnlys, o ran cyfraddau ffioedd a materion fel arferion gwaith. Fodd bynnag, nodwn fod y gwahaniaeth mewn cyflog a ddigwyddodd yn 2023-24 wedi'i ddatrys nawr.

Gofynnom hefyd i'r llywydd a oedd gan aelodau tribiwnlysoedd Cymru fynediad at yr hyfforddiant a'r cymorth yr oedd eu hangen arnynt. Dywedodd wrthym fod hyfforddi aelodau tribiwnlysoedd Cymru heb rywbeth sy'n cyfateb i goleg barnwrol ar gyfer y tribiwnlysoedd datganoledig yn 'fater go iawn', ac y byddai'n parhau i geisio perswadio'r coleg barnwrol i ymestyn cwmpas eu gweithgareddau i gynnwys pob tribiwnlys.

Yn ogystal, trafodwyd y ffaith bod nifer y gwrandawiadau tribiwnlysoedd a gynhelir yn Gymraeg wedi aros yn isel dros y pedair blynedd diwethaf, fel yr amlygwyd yn adroddiad blynyddol y llywydd. Dywedodd y llywydd wrthym y gallai hyn gael effaith andwyol ar fynediad at gyfiawnder i'r rhai a fyddai'n cyflwyno'u hachos orau yn Gymraeg, neu yn Gymraeg i raddau helaeth. Felly, rydym yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddarganfod y rhesymau pam mae rhai siaradwyr Cymraeg yn dewis bod achosion yn cael eu cynnal yn Saesneg.

Ar nodyn personol, rwy'n credu mai un o'r problemau yw bod yna eiriau lle mai dim ond y Saesneg sy'n cael ei defnyddio mewn iaith gyffredin, gan gynnwys ymhlith y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg, pan fo opsiwn i symud i'r Saesneg. Mae'n debyg mai 'mwyaf' yw'r hyn y dylem fod yn anelu ato, bod pobl yn siarad yn Gymraeg gan fwyaf, ond yn defnyddio geiriau Saesneg yn y geiriau maen nhw'n eu defnyddio. Fe ges i enghraifft o hynny neithiwr. Roeddwn i'n siarad â darlithydd Cymraeg mewn prifysgol, a gofynnais iddyn nhw—. Dim byd i'w wneud â hyn, ond fe ofynnais i gwestiwn iddyn nhw, ar beth yw'r term Cymraeg am rywbeth—wna i ddim mynd i mewn i beth oedd e—a doedden nhw ddim yn gwybod, oherwydd doedden nhw ond erioed wedi clywed neu ddefnyddio'r Saesneg. Felly, rwy'n credu bod cael pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn bennaf ac yna codi geiriau Saesneg pan fo angen yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Fe glywsom ni hefyd gan y llywydd am bwysigrwydd diwygio i dribiwnlysoedd Cymru. Mae Bil i roi'r diwygiadau hyn ar waith wedi bod ar y gweill ers tro nawr, gyda Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023. Gofynnodd y pwyllgor yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon cyn diwedd y Senedd hon, ond, yn anffodus, nid yw wedi gallu gwneud yr ymrwymiad hwn. Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd y diwygio hyn i gyfiawnder yng Nghymru ac yn gobeithio gweld y Bil yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Diolch.

Cwnsler Cyffredinol, I agree. Firstly, I agree with your comments, and the comments of Paul Davies, about the appointment of Sir Gary Hickinbottom. In fact, the Welsh tribunals service has been very lucky in both its presidents, to be able to have such impressive individuals as presidents of the Welsh tribunals system.

The Welsh tribunals are an anomaly of devolution, a real anomaly of the current settlement, and really shows how jagged our jagged edge is. The Welsh tribunals were not planned, but developed gradually over the years. All of them, except the Welsh Language Tribunal, predate devolution. Now, that ad hoc development has created many issues, but these issues can be resolved through the proposed reforms.

The publication of the report happened in May 2024. I'm just wondering why we're debating the report now, some 10 months later. The next report will be due soon, and as you’ve said in your statement, we’ve moved on quite a bit since that report. I just wanted to know why we’ve waited so long to debate this report, because my concern is that this mirrors the slow progress with the reform of the Welsh tribunals and that the Welsh tribunals can be forgotten.

The Law Commission’s proposals for reform were first made in December 2020. It has been discussed throughout this Senedd term, yet as Adam Price said very powerfully, we are still waiting for a timetable for this legislation, and you’ve heard me asking you on a number of occasions for that timetable. The lack of timetable must create real uncertainty amongst Welsh tribunals, and if it doesn’t happen before the 2026 election, there is no guarantee that it will happen at all. I think it’s quite something how strongly in favour the president of Welsh Tribunals was for reform in his report, and that cannot be ignored.

Cwnsler Cyffredinol, rwy'n cytuno. Yn gyntaf, rwy'n cytuno â'ch sylwadau, a sylwadau Paul Davies, ynglŷn â phenodi Syr Gary Hickinbottom. Yn wir, mae gwasanaeth tribiwnlysoedd Cymru wedi bod yn ffodus iawn yn ei ddau lywydd, o allu cael unigolion mor nodedig yn llywyddion system tribiwnlysoedd Cymru.

Mae tribiwnlysoedd Cymru yn anomaledd datganoli, yn anomaledd go iawn o'r setliad presennol, ac yn dangos mewn gwirionedd pa mor arw yw ein hymyl garw. Nid oedd tribiwnlysoedd Cymru wedi'u cynllunio, fe gawsant eu datblygu'n raddol dros y blynyddoedd. Mae pob un ohonynt, ac eithrio Tribiwnlys y Gymraeg, yn rhagddyddio datganoli. Nawr, mae'r datblygiad ad hoc hwnnw wedi creu llawer o faterion, ond gellir datrys y materion hyn trwy'r diwygiadau arfaethedig.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mai 2024. Rwy'n meddwl tybed pam ein bod ni'n trafod yr adroddiad nawr, rhyw 10 mis yn ddiweddarach. Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei gyhoeddi'n fuan, ac fel rydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad, rydyn ni wedi symud ymlaen cryn dipyn ers yr adroddiad hwnnw. Roeddwn i eisiau gwybod pam ein bod ni wedi aros mor hir i drafod yr adroddiad hwn, oherwydd fy mhryder i yw bod hyn yn adlewyrchu'r cynnydd araf wrth ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru ac y gall tribiwnlysoedd Cymru fynd yn angof.

Cafodd cynigion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio eu gwneud gyntaf ym mis Rhagfyr 2020. Mae wedi cael ei drafod drwy gydol tymor y Senedd hon, ac eto fel y dywedodd Adam Price yn bwerus iawn, rydym yn dal i aros am amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, ac rydych chi wedi fy nghlywed yn gofyn i chi sawl gwaith am yr amserlen honno. Mae'n rhaid bod y diffyg amserlen yn creu ansicrwydd gwirioneddol ymhlith tribiwnlysoedd Cymru, ac os na fydd yn digwydd cyn etholiad 2026, does dim sicrwydd y bydd yn digwydd o gwbl. Rwy'n credu ei fod yn dipyn o beth pa mor gryf o blaid diwygio oedd llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn ei adroddiad, ac ni ellir anwybyddu hynny.

Mae'r defnydd o'r Gymraeg o hyd yn isel; does dim byd newydd yn hyn. Rôn i'n gyfarwydd â gweld hyn yn gyson fel bargyfreithiwr yn Abertawe.

The use of the Welsh language remains low; there’s nothing new there. I was used to seeing this regularly as a barrister in Swansea.

I remember once one farmer in court decided to give his evidence in English, and in giving his evidence he was going on about 'a hundred and a half sheep'. Of course, he was translating cant a hanner, a hundred and fifty, literally from Welsh.

Rwy'n cofio unwaith i un ffermwr yn y llys benderfynu rhoi ei dystiolaeth yn Saesneg, ac wrth roi ei dystiolaeth roedd e'n sôn am 'a hundred and a half sheep'. Wrth gwrs, roedd e'n cyfieithu 'cant a hanner', yn llythrennol o'r Gymraeg.

Mae hon yn broblem sy'n stwbwrn, problem y mae lot o bobl wedi ceisio ymrafael ag ef, ond problem sy'n dal yma nawr. Mae’n anhygoel mai dim ond yn 13 o’r achosion yn y tribiwnlysoedd roedd yna ddefnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, dwi'n ymwybodol o gwpl Cymraeg iaith gyntaf a roddodd dystiolaeth mewn tribiwnlys ychydig o fisoedd yn ôl, ac mae'r rhain yn gweithio drwy'r iaith Gymraeg, ond fe benderfynon nhw roi eu hachos drwy'r Saesneg, oherwydd rôn nhw'n meddwl byddai cael cyfieithydd yn creu gormod o drafferth. Dwi'n falch i weld bod cynnydd o'r defnydd yn un o flaenoriaethau llywydd y tribiwnlysoedd. Ydych chi'n gwybod sut y mae’r gwaith yma wedi datblygu, ac ydych chi'n ymwybodol o unrhyw gynnydd sydd wedi bod ers cyhoeddi’r adroddiad blynyddol yn y defnydd o'r Gymraeg?

Mater arall sydd heb newid chwaith ar hyd y blynyddoedd yw nifer yr achosion. Heblaw am y tribiwnlys iechyd meddwl, bach iawn yw defnydd y tribiwnlysoedd. Mae ffigurau Tribiwnlys y Gymraeg, yr unig dribiwnlys gafodd ei sefydlu gan y Senedd hon, yn hynod o isel—dim ond chwech achos ers 2021-22. A oes unrhyw ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae modd defnyddio mwy o’r tribiwnlysoedd yma, er enghraifft eu cynnwys nhw yn neddfau y Senedd fel y lleoliad i ddatrys problemau neu ddatrys unrhyw anghydfod, yn hytrach na defnyddio’r llysoedd sirol neu’r llysoedd troseddol, sydd yn aml iawn yn mynd i fod yn lot mwy drud i unigolion ac i sefydliadau?

This is a stubborn issue, and it’s an issue that many people have tried to tackle, but it remains. It’s incredible that only 13 of the cases in the tribunals used the Welsh language. For example, I’m aware of a Welsh-speaking couple who gave evidence in a tribunal hearing a few months ago. They work through the medium of Welsh, but they decided to make their case through the medium of English, because they thought that having an interpreter would cause too much trouble. I’m pleased to see that increasing use of the Welsh language is one of the priorities of the president of tribunals. Are you aware of how this work has progressed, and any progress made since the annual report was published?

Another issue that hasn’t changed either over the years is the number of cases. Other than the mental health tribunal, there’s very little use made of the tribunals. The figures for the Welsh Language Tribunal, the only tribunal established by the Senedd, are particularly low—only six cases since 2021-22. Has any consideration being given by the Welsh Government in terms of how more use can be made of these tribunals, namely including them in Senedd legislation as the place to resolve any issues or disputes, rather than using those county courts or the criminal courts that will very often be far more expensive for individuals and organisations?

Another concern that others have raised is the training, and that the Judicial College aren’t offering training for Welsh tribunal members. Training is crucial for any judicial member, and I—like Paul Davies has already asked—would be keen to know whether we're any further forward with regard to the Judicial College offering training for tribunal members.

I was very pleased to hear your comments on pay. Not to have pay parity was bound to impact recruitment and retention, it was bound to impact on how serious the Welsh Tribunals service would be considered. By offering lower pay, the inference would certainly be made by many that somehow the Welsh tribunals service is somehow inferior to the reserved courts and tribunals service. A strong argument for the devolution of justice is that we can show that we are supporting what is already devolved well, that we are running it better than reserved areas of the justice system. But by not having proper training available, by having to argue for parity of pay, by still waiting for a timetable for reform to be enacted, this cannot currently, Cwnsler Cyffredinol, be said about the Welsh tribunals service. Diolch yn fawr.

Pryder arall y mae eraill wedi ei godi yw'r hyfforddiant, ac nad yw'r Coleg Barnwrol yn cynnig hyfforddiant i aelodau tribiwnlysoedd Cymru. Mae hyfforddiant yn hanfodol i unrhyw aelod barnwrol, a byddwn i—fel y mae Paul Davies eisoes wedi gofyn—yn awyddus i wybod a ydyn ni ymhellach ymlaen o ran y Coleg Barnwrol yn cynnig hyfforddiant i aelodau tribiwnlysoedd.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed eich sylwadau ar gyflogau. Roedd peidio â chael cydraddoldeb cyflog yn sicr o effeithio ar recriwtio a chadw, roedd yn sicr o effeithio ar ba mor ddifrifol y byddai gwasanaeth tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei ystyried. Trwy gynnig cyflog is, byddai llawer yn sicr yn dod i gasgliad bod gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru, rywsut, yn israddol i'r gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl. Dadl gref dros ddatganoli cyfiawnder yw y gallwn ddangos ein bod ni'n cefnogi'r hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli'n dda, ein bod ni'n ei redeg yn well na meysydd a gadwyd yn ôl o'r system gyfiawnder. Ond drwy beidio â sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael, drwy orfod dadlau dros gydraddoldeb cyflog, drwy barhau i aros am amserlen ar gyfer deddfu diwygiadau, ni ellir dweud hyn ar hyn o bryd, Cwnsler Cyffredinol, am wasanaeth tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr.

17:35

Y Cwnsler Cyffredinol nawr, i ymateb i'r ddadl. Julie James.

The Counsel General now, to reply to the debate. Julie James.

Diolch, Llywydd. As I close this debate, I just want to thank all Members who have contributed today. It's really good to see the interest that's been taken across the Chamber, across parties, in shaping the way forward for the tribunal system. I'll just run through a couple of the things that people raised, with a view to explaining where we are in this.

I have had a conversation about the judicial training, both with the president of the tribunals, who I am, by the way, meeting again later this month, and I have a schedule of meetings planned with him over the summer and autumn, just for Members to be aware that I'm meeting very regularly with Sir Gary and that we're discussing these matters extensively. But I've also raised this issue with the Lady Chief Justice, the judicial training point in particular, and recruitment issues, and we had a very constructive meeting up in the Supreme Court very recently. I'm actually meeting with her, extraordinarily, Llywydd, in Malta at the Commonwealth Law Conference, where I'm speaking and so is she, and we're able to fly the flag for Wales, both of us, there. She's very keen to help me do that, but I'll be able to continue those discussions with her.

I agree with everything that has been said about the judicial training. We absolutely have to ensure that we have access to the right sort of training for our tribunal judges, for obvious reasons. I think it just is self-evident and really quite concerning that we haven't been able to secure that so far. But I think we're in a very good place to secure that in the foreseeable future.

On the reform agenda, the First Minister will be making a statement on the legislative programme for year five shortly after Easter, which is earlier than normal in the cycle, in order for us to prepare for year five. We're still fully committed to reforming the devolved tribunals, but I'm not in a position to say yet whether the tribunals Bill will make it into that programme. There is much competition for space in year five, and, Llywydd, you'll be aware of the discussions that I've been having with you, the Business Committee and business managers around how to manage that programme. I don't want anyone to think that the Government is not fully committed to reforming the devolved tribunals, ensuring they remain independent, accessible and properly resourced, though—we absolutely are.

As I said in my opening remarks, I was delighted to be able to restore pay parity. I completely agree with the remarks people made, particularly Rhys ab Owen's remarks about that being a good measure for us being able to display the importance of the roles and the gravity with which we take being able to fill them with the right kind of responsible people who are properly remunerated and supported in those roles. So, I completely agree with that. I was delighted that we were able to do that and delighted that we were able to put the budget back up to where we know the expenditure is.

Having said that, I am in discussion with the president of the tribunals about some of the working practices that we see. It is interesting to see that we do far more face-to-face hearings here in Wales than anywhere else in the UK, and the balance of fee-paid judges has not decreased, actually, despite the pay parity. So, there are some ongoing issues to discuss with Sir Gary, and I know that he is very keen to work with me to see if we can do that.

Llywydd, it would be remiss of me not to thank the president of the mental health review tribunal for Wales, who is due to retire in April. She has worked very tirelessly in that tribunal, so I just want to extend my thanks to her as part of my remarks, and then to say, of course, that we will be recruiting for a replacement for her. Big shoes to fill, but we will be recruiting a replacement for her to take over the tribunal from April. I have had a long and extensive discussion with the Lady Chief Justice about how to do that, because of the arcane nature of the way that those provisions work. That just is another reason why we need to get the reform in place as soon as possible.

Finally, I just want to take the opportunity once again to thank Sir Gary for his leadership and his first annual report as president of Welsh Tribunals. I want to extend my gratitude to all those who contribute to the vital work of the tribunals, ensuring that justice in Wales remains accessible, fair and effective. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd. Wrth i mi gau'r ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae'n dda iawn gweld y diddordeb sydd wedi'i gymryd ar draws y Siambr, ar draws pleidiau, wrth lunio'r ffordd ymlaen ar gyfer y system dribiwnlysoedd. Fe wna i redeg trwy gwpl o'r pethau a gododd pobl, gyda'r bwriad o esbonio lle rydym arni o ran hyn.

Rwyf wedi cael sgwrs am yr hyfforddiant barnwrol, gyda llywydd y tribiwnlysoedd, yr wyf, gyda llaw, yn cyfarfod ag ef eto yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae gen i amserlen o gyfarfodydd wedi'u cynllunio gydag ef dros yr haf a'r hydref, dim ond i'r Aelodau fod yn ymwybodol fy mod i'n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Syr Gary ac rydym yn trafod y materion hyn yn helaeth. Ond rwyf hefyd wedi codi'r mater hwn gyda'r Arglwyddes Brif Ustus, y pwynt hyfforddiant barnwrol yn benodol, a materion recriwtio, ac fe gawsom ni gyfarfod adeiladol iawn yn y Goruchaf Lys yn ddiweddar iawn. Yn wir, rwy'n cyfarfod â hi, yn rhyfeddol, Llywydd, ym Malta yng Nghynhadledd Cyfraith y Gymanwlad, lle rwy'n siarad ac mae hi'n siarad hefyd, ac rydym yn gallu chwifio'r faner dros Gymru, y ddwy ohonom, yno. Mae hi'n awyddus iawn i'm helpu i wneud hynny, ond fe fyddaf yn gallu parhau â'r trafodaethau hynny gyda hi.

Rwy'n cytuno â phopeth sydd wedi cael ei ddweud am yr hyfforddiant barnwrol. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym fynediad at y math cywir o hyfforddiant ar gyfer ein barnwyr tribiwnlys, am resymau amlwg. Rwy'n credu ei fod yn amlwg ohono'i hun ac yn eithaf pryderus nad ydym wedi gallu sicrhau hynny hyd yn hyn. Ond rwy'n credu ein bod ni mewn lle da iawn i sicrhau hynny yn y dyfodol rhagweladwy.

O ran yr agenda ddiwygio, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn pump yn fuan ar ôl y Pasg, sy'n gynharach nag arfer yn y cylch, er mwyn i ni baratoi ar gyfer blwyddyn pump. Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig, ond nid wyf mewn sefyllfa i ddweud eto a fydd y Bil tribiwnlysoedd yn rhan o'r rhaglen honno. Mae yna lawer o gystadleuaeth am le ym mlwyddyn pump, a, Llywydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r trafodaethau rwyf wedi bod yn eu cael gyda chi, y Pwyllgor Busnes a rheolwyr busnes ynghylch sut i reoli'r rhaglen honno. Ond nid wyf am i neb feddwl nad yw'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig a sicrhau eu bod yn parhau'n annibynnol, yn hygyrch ac yn cael yr adnoddau priodol—rydym yn gwbl ymrwymedig.

Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddwn i'n falch iawn o allu adfer cydraddoldeb cyflog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed gan bobl, yn enwedig sylwadau Rhys ab Owen ynglŷn â bod hynny'n fesur da i ni allu dangos pwysigrwydd y rolau a pha mor ddifrifol rydym yn cymryd y gallu i'w llenwi â'r math cywir o bobl gyfrifol sy'n cael eu talu a'u cefnogi'n briodol yn y rolau hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu gwneud hynny ac wrth fy modd ein bod ni wedi gallu rhoi'r gyllideb yn ôl i'r man lle rydym yn gwybod y mae'r gwariant.

Wedi dweud hynny, rwy'n cynnal trafodaethau â llywydd y tribiwnlysoedd ynglŷn â rhai o'r arferion gwaith a welwn ni. Mae'n ddiddorol gweld ein bod ni'n cynnal llawer mwy o wrandawiadau wyneb yn wyneb yma yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU, ac nid yw'r cydbwysedd barnwyr y telir ffi iddynt wedi gostwng, mewn gwirionedd, er gwaethaf y cydraddoldeb cyflog. Felly, mae rhai materion parhaus i'w trafod gyda Syr Gary, ac rwy'n gwybod ei fod yn awyddus iawn i weithio gyda mi i weld a allwn ni wneud hynny.

Llywydd, byddai bai arnaf am beidio â diolch i lywydd tribiwnlys adolygu iechyd meddwl Cymru, a fydd yn ymddeol ym mis Ebrill. Mae hi wedi gweithio'n ddiflino yn y tribiwnlys hwnnw, felly hoffwn ddiolch iddi fel rhan o'm sylwadau, ac yna i ddweud, wrth gwrs, y byddwn ni'n recriwtio i rywun gymryd ei lle. Esgidiau mawr i'w llenwi, ond byddwn ni'n recriwtio rhywun i gymryd ei lle i gymryd drosodd y tribiwnlys o fis Ebrill. Rwyf wedi cael trafodaeth hir a helaeth gyda'r Arglwyddes Brif Ustus ynghylch sut i wneud hynny, oherwydd natur aneglur y ffordd y mae'r darpariaethau hynny'n gweithio. Mae hynny'n rheswm arall pam mae angen i ni roi'r diwygio ar waith cyn gynted â phosibl.

Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i Syr Gary am ei arweinyddiaeth a'i adroddiad blynyddol cyntaf fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n cyfrannu at waith hanfodol y tribiwnlysoedd, gan sicrhau bod cyfiawnder yng Nghymru yn parhau i fod yn hygyrch, yn deg ac yn effeithiol. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. Therefore, the motion is agreed.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

12. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—Cyflymu gweithredu
12. Debate: International Women’s Day—Accelerating action

Eitem 12 sydd nesaf, y ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod—cyflymu gweithredu. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sy'n gwneud y cynnig yma. Jane Hutt.

Item 12 is next, the debate on International Women's Day—accelerating action. I call on the Cabinet Secretary for Social Justice to move the motion. Jane Hutt.

17:40

Cynnig NDM8846 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi galwad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 i ‘Gyflymu Gweithredu’.

2. Yn condemnio cam-drin a bygylu menywod mewn gwleidyddiaeth.

3. Yn uno i hyrwyddo cydraddoldeb a chynrychiolaeth menywod yng Nghymru.

Motion NDM8846 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan

To propose that the Senedd:

1. Supports the International Women’s Day 2025 call for ‘Accelerating Action’.

2. Condemns the abuse and intimidation of women in politics.

3. Unites to advance women's equality and representation in Wales.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Member
Jane Hutt 17:40:00
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. The eighth of March is a very important date in our calendars as we come together to mark International Women's Day—a time to see how far we've come and how far we've yet to go. The campaign theme for this year is 'accelerating action'. The UN theme is 'For ALL Women and Girls: Rights. Equality. Empowerment'. Both themes are reflected in the motion for today's important debate, and it is so great that it was co-tabled by all parties here in the Senedd. I would like to thank Joyce Watson for her leadership of the cross-party women's caucus, where we came together and said, 'We must have a debate' and we all agreed a motion. That's a great expression, I think, to all of those who look to us for leadership across this Senedd.

Thirty years ago in 1995, people from every part of the world committed to achieving gender equality when the Beijing declaration and platform for action was adopted by 189 governments and endorsed by thousands of activists. The UN's gender snapshot 2024 report indicates that, at the current rates, gender parity in parliaments is potentially not achievable until 2063. It will take 137 years to lift all women and girls out of poverty. About one in four girls continue to be married as children; this is totally unacceptable, but it does illustrate the enormity of the global challenge, and the challenge that we all have to address today.

In 2015, almost every country in the world signed up to achieve gender equality by 2030, as part of the UN's sustainable development goals. Unfortunately, the latest progress report indicates that the world is falling far short of the target, and, I would argue, going backwards in many countries. The women and girls of the world deserve better, but gender inequality is a complex and stubborn issue, both here in Wales and globally. And of course, the answer lies deeply ingrained in society: power imbalances, economic imbalances, political underrepresentation, which we're addressing in this debate and motion today, and persistent and widespread violence against women and girls.

Gender inequality affects all of us here sharing this debate across the Chamber, and the people we represent. It impacts on the lives of our daughters, granddaughters, wives, mothers, sisters, friends and colleagues. It impacts on everyone, it impacts on men and women, it impacts on families, households and the economy. Because when women earn less than men for the same job, the family earns less. And I believe that we can be trailblazers for gender equality in Wales. The year 2024, of course, brought us our first female First Minister for Wales, and I always remember how you talked about what this might mean for the young women, who said, 'Really? Fantastic. We can do it too'. Last year also brought us our first female black police and crime commissioner in Wales, Emma Wools.

Llywydd, International Women's Day is also a day for celebration, as we did last week at the event you hosted to celebrate the Monumental Welsh Women campaign, and I was able to join that event. I was particularly pleased to praise the team who have organised these wonderful monuments for women. The first monument, the first statue of a woman was for Betty Campbell MBE, the first black headteacher in Wales. And actually, the public voted for her to be the first women's statue in Wales, which just shows the strength of public opinion in support of that great statue, which so many of you know and see and the public and visitors embrace. 

Also, let's celebrate women's sport. I congratulate Rhian Wilkinson, her coaching staff, the players and the Football Association of Wales for their tremendous achievement in reaching the women's UEFA Euro 2025 finals. This is the first time the Wales women's football team has reached a major football competition and I wish them every success in Switzerland later this year.

Can I also welcome the statement made last week by the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, highlighting the contribution of female entrepreneurs and business owners in Wales? Rebecca Evans showed in her statement the important role that women are playing in driving economic growth, fostering innovation and promoting equality, all the while ensuring a diverse and inclusive workforce. That's partly happened because of our equality pledge and Business Wales helping to make this happen.

The women's health plan for Wales, an ambitious 10-year plan, is driving real improvements in women's health and outcomes. Since the plan launched in December, we've already started to effect change and improvements, with a major boost in women's health research and new standards for maternity and neonatal care.

But in April, we mark 10 years since the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 became law. As we approach this milestone, we still face that enormous challenge, as I have already alluded to—that we continue to tackle this scourge of violence against women and domestic abuse in society on all fronts.

We are addressing this in our strategic partnership board, which I co-chair with the police and crime commissioner Emma Wools. And I am strengthening our approach through the VAWDASV national partnership board to make sure that we make Wales a safe and secure place for women and girls to thrive. That means everyone has to work together—the public and specialist sectors impelling us to work together in partnership.

Evidence from ACE Hub Cymru indicates that gender-based harassment in public places is a significant issue for women and girls. We're taking action. Last week we had a powerful debate led by Hannah Blythyn on tackling sexual harassment in the workplace. And we recently launched the third phase of our successful Sound campaign, led by men, focusing specifically on public sexual harassment. The Sound campaigns have been very successful in encouraging young men and boys to have open conversations about what healthy relationships look like, to challenge harmful attitudes and behaviours of men towards women, to support change at that societal level.

I do urge you all—. I know that you're all aware of the Live Fear Free helpline, and I urge you to publicise it as widely as possible—that 24-hour-a-day helpline, seven days a week, for all victims and survivors of domestic abuse and sexual violence, and for those close to them, of any age or gender, including family, friends and colleagues as well.

Llywydd, I come to the second important point in this motion. Recent years have seen a rise in abuse, harassment and intimidation directed towards politicians, candidates and campaigners, both online and offline. Women in elected office are disproportionately affected, particularly online. This toxicity must be eradicated, and I’m so glad that we're uniting today to condemn abuse and intimidation of women in politics. This is where we each play a part, and we must stand united. When we see abuse or intimidation, we must call it out. We must condemn it. And we have that opportunity today, with strong voices from across the Chamber.

Everyone should feel safe to stand for election—to campaign, to vote and to work in delivering elections. Democracy depends on it. Through the Elections and Elected Bodies (Wales) Act 2024, and the forthcoming Senedd conduct Order, we've strengthened provisions on intimidation and undue influence offences for elections. We're working at pace to publish our diversity and inclusion guidance for political parties well ahead of the next Senedd election. I will be publishing that very shortly.

I’m delighted that the Welsh Government is supporting another three years of the Equal Power Equal Voice programme, which gives women and other under-represented groups knowledge, skills and confidence to get involved in public and political life. I’m also delighted that we are supporting Elect Her. An Elect Her event organised last week provided an opportunity for us to meet young women keen to meet female MSs from across the Senedd to encourage them to consider entering politics.

I could say much more but I want to hear from everyone else in this debate. It is a cross-party debate. I think, Llywydd, that this is an opportunity for us to unite together in support of this motion, and I look forward to hearing all of the contributions. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'r wythfed o Fawrth yn ddyddiad pwysig iawn yn ein calendrau wrth i ni ddod at ein gilydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—amser i weld pa mor bell rydym ni wedi dod a pha mor bell sydd gennym ni eto i fynd. Thema'r ymgyrch eleni yw 'cyflymu gweithredu'. Thema'r Cenhedloedd Unedig yw 'I BOB Menyw a Merch: Hawliau, Cydraddoldeb. Grymuso'. Adlewyrchir y ddwy thema yn y cynnig ar gyfer y ddadl bwysig heddiw, ac mae hi mor wych ei bod wedi cael ei chyd-gyflwyno gan bob plaid yma yn y Senedd. Fe hoffwn i ddiolch i Joyce Watson am arwain y cawcws trawsbleidiol i fenywod, lle daethom ni at ein gilydd a dweud, 'Rhaid i ni gael dadl' ac fe gytunon ni i gyd ar gynnig. Mae hynny'n fynegiant gwych, rwy'n credu, i bawb sy'n edrych atom ni am arweinyddiaeth ar draws y Senedd hon.

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn 1995, ymrwymodd pobl o bob rhan o'r byd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol pan fabwysiadwyd datganiad a llwyfan Beijing ar gyfer gweithredu gan 189 o lywodraethau a'i gymeradwyo gan filoedd o weithredwyr. Mae adroddiad ciplun rhywedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2024 yn nodi, ar y cyfraddau presennol, na ellir cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn seneddau tan 2063. Bydd yn cymryd 137 o flynyddoedd i godi pob menyw a merch o dlodi.

Mae tua un o bob pedair merch yn parhau i briodi pan fo nhw'n blant; mae hyn yn gwbl annerbyniol, ond mae'n dangos anferthedd yr her fyd-eang, a'r her y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fynd i'r afael â hi heddiw. Yn 2015, ymrwymodd bron pob gwlad yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau erbyn 2030, fel rhan o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Yn anffodus, mae'r adroddiad cynnydd diweddaraf yn dangos bod y byd ymhell o'r targed, a byddwn yn dadlau, yn mynd yn ôl mewn llawer o wledydd. Mae menywod a merched y byd yn haeddu gwell, ond mae anghydraddoldeb rhywiol yn fater cymhleth ac ystyfnig, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Ac wrth gwrs, mae'r ateb wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn cymdeithas: anghydbwysedd grym, anghydbwysedd economaidd, tangynrychiolaeth wleidyddol, yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw yn y ddadl a'r cynnig hwn heddiw, a thrais parhaus ac eang yn erbyn menywod a merched.

Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn effeithio ar bob un ohonom ni yma yn rhannu'r ddadl hon ar draws y Siambr, a'r bobl rydym ni'n eu cynrychioli. Mae'n effeithio ar fywydau ein merched, wyresau, gwragedd, mamau, chwiorydd, ffrindiau a chydweithwyr. Mae'n effeithio ar bawb, mae'n effeithio ar ddynion a menywod, mae'n effeithio ar deuluoedd, cartrefi a'r economi. Oherwydd pan fydd menywod yn ennill llai na dynion am yr un swydd, mae'r teulu'n ennill llai. Ac rwy'n credu y gallwn ni fod yn arloeswyr ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Y flwyddyn 2024, wrth gwrs, ddaeth â'n Prif Weinidog benywaidd cyntaf i ni, ac rwyf bob amser yn cofio sut yr oeddech chi'n siarad am yr hyn y gallai hyn ei olygu i'r menywod ifanc, a ddywedodd, 'Go wir? Gwych. Fe allwn ni wneud hynny hefyd." Daeth y llynedd hefyd â'n comisiynydd heddlu a throseddu du benywaidd cyntaf i ni yng Nghymru, Emma Wools.

Llywydd, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn ddiwrnod i ddathlu, fel y gwnaethom ni'r wythnos diwethaf yn y digwyddiad a gynhaliwyd gennych chi i ddathlu ymgyrch Monumental Welsh Women, ac roeddwn yn gallu ymuno â'r digwyddiad hwnnw. Roeddwn yn arbennig o falch o ganmol y tîm sydd wedi trefnu'r henebion gwych hyn i fenywod. Yr heneb gyntaf, y cerflun cyntaf o fenyw oedd i Betty Campbell MBE, y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, pleidleisiodd y cyhoedd iddi fod y cerflun cyntaf i fenyw yng Nghymru, sydd ond yn dangos cryfder barn y cyhoedd i gefnogi'r cerflun gwych hwnnw, y mae cymaint ohonoch chi'n gwybod amdano ac wedi ei weld a'r cyhoedd ac ymwelwyr yn ei groesawu. 

Hefyd, gadewch i ni ddathlu chwaraeon menywod. Rwy'n llongyfarch Rhian Wilkinson, ei staff hyfforddi, y chwaraewyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am eu llwyddiant aruthrol wrth gyrraedd rowndiau terfynol UEFA Euro 2025 y merched. Dyma'r tro cyntaf i dîm pêl-droed merched Cymru gyrraedd cystadleuaeth bêl-droed fawr ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y Swistir yn ddiweddarach eleni.

A gaf i hefyd groesawu'r datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, gan dynnu sylw at gyfraniad entrepreneuriaid a pherchnogion busnes benywaidd yng Nghymru? Dangosodd Rebecca Evans yn ei datganiad y rhan bwysig sydd gan fenywod yn  gyrru twf economaidd, meithrin arloesedd a hyrwyddo cydraddoldeb, gan sicrhau gweithlu amrywiol a chynhwysol ar yr un pryd. Mae hynny wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein haddewid cydraddoldeb a Busnes Cymru yn helpu cyflawni hyn.

Mae cynllun iechyd menywod Cymru, cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol, yn ysgogi gwelliannau gwirioneddol i iechyd a chanlyniadau menywod. Ers lansio'r cynllun ym mis Rhagfyr, rydym ni eisoes wedi dechrau creu newid a gwelliannau, gyda hwb mawr mewn ymchwil iechyd menywod a safonau newydd ar gyfer gofal mamolaeth ac i'r newydd-anedig.

Ond ym mis Ebrill, rydym yn nodi 10 mlynedd ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ddod yn gyfraith. Wrth inni nesáu at y garreg filltir hon, rydym yn dal i wynebu'r her enfawr honno, fel yr wyf eisoes wedi cyfeirio ati—ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r trais hwn yn erbyn menywod a cham-drin domestig o bob cyfeiriad sy'n bla ar gymdeithas.

Rydym yn mynd i'r afael â hyn yn ein bwrdd partneriaeth strategol, yr wyf yn ei gadeirio gyda chomisiynydd yr heddlu a throseddu Emma Wools. Ac rwy'n cryfhau ein dull gweithredu drwy fwrdd partneriaeth cenedlaethol VAWDASV i sicrhau ein bod yn gwneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched ffynnu. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i bawb weithio gyda'i gilydd—y sectorau cyhoeddus ac arbenigol sy'n ein cymell i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth.

Mae tystiolaeth gan Hyb ACE Cymru yn dangos bod aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn broblem sylweddol i fenywod a merched. Rydym yn gweithredu. Yr wythnos diwethaf fe gawsom ni ddadl rymus iawn dan arweiniad Hannah Blythyn ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Ac yn ddiweddar lansiwyd trydydd cam ein hymgyrch Iawn lwyddiannus, dan arweiniad dynion, gan ganolbwyntio'n benodol ar aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Mae ymgyrchoedd Iawn wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog dynion a bechgyn ifanc i gael sgyrsiau agored am sut beth yw perthnasoedd iach, i herio agweddau ac ymddygiad niweidiol gan ddynion tuag at fenywod, i gefnogi newid ar y lefel gymdeithasol honno.

Rwy'n eich annog chi i gyd—. Rwy'n gwybod eich bod chi i gyd yn ymwybodol o'r llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac rwy'n eich annog i'w hysbysebu mor eang â phosibl—y llinell gymorth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i'r rhai sy'n agos atyn nhw, o unrhyw oedran neu ryw, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr hefyd.

Llywydd, rwy'n dod i'r ail bwynt pwysig yn y cynnig hwn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd mewn camdriniaeth, aflonyddu a dychryn a gyfeiriwyd at wleidyddion, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, ar-lein ac all-lein. Mae menywod mewn swydd etholedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, yn enwedig ar-lein. Rhaid dileu'r gwenwyndra hwn, ac rwyf mor falch ein bod yn uno heddiw i gondemnio cam-drin a bygwth menywod mewn gwleidyddiaeth. Dyma lle mae yna ran i bob un ohonom ni, ac mae'n rhaid i ni sefyll yn unedig. Pan fyddwn yn gweld camdriniaeth neu ymddygiad bygythiol, rhaid i ni ei herio. Mae'n rhaid i ni ei gondemnio. Ac mae gennym ni'r cyfle hwnnw heddiw, gyda lleisiau cryf o bob rhan o'r Siambr.

Dylai pawb deimlo'n ddiogel i sefyll etholiad—i ymgyrchu, i bleidleisio ac i weithio wrth gynnal etholiadau. Mae democratiaeth yn dibynnu ar hynny. Drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, a Gorchymyn Cynnal Etholiadau sydd ar ddod, rydym ni wedi cryfhau darpariaethau ar droseddau brawychus a dylanwad gormodol ar gyfer etholiadau. Rydym ni'n gweithio'n gyflym i gyhoeddi ein canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol ymhell cyn etholiad nesaf y Senedd. Byddaf yn cyhoeddi hynny cyn bo hir.

Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi tair blynedd arall o'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, sy'n rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i fenywod a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn cefnogi Etholwch Hi. Roedd digwyddiad Etholwch Hi a drefnwyd yr wythnos diwethaf yn gyfle i ni gwrdd â menywod ifanc sy'n awyddus i gwrdd ag Aelodau benywaidd o bob rhan o'r Senedd i'w hannog i ystyried troedio i fyd gwleidyddiaeth.

Fe allwn i ddweud llawer mwy ond fe hoffwn i glywed gan bawb arall yn y ddadl hon. Mae'n ddadl drawsbleidiol. Rwy'n credu, Llywydd, fod hwn yn gyfle i ni uno gyda'n gilydd i gefnogi'r cynnig hwn, ac edrychaf ymlaen at glywed yr holl gyfraniadau. Diolch yn fawr.

17:45

I'd like to welcome this motion, to start with, and also to support the call to accelerate action. It's very, very important that we do make progress in it. This is a good opportunity to reflect on the progress made by women but also to acknowledge that there is still some way to go. And I'm glad we're here today, talking about this. But I do think it is a bit rich that, as was said in the Chamber earlier, five months after I asked the Government to define a woman, they have failed to write back to me. Perhaps we can get an answer today, Llywydd, because I'm not sure what's so confusing.

I have grave concerns about the ability of the Welsh Government to truly protect and support biological women and girls—truly protect them—and their sports, even though it's mentioned in one of the 'accelerate action' plans, and their spaces, when we can't even define one. So, this motion is well meaning, and I'm glad we've come together to support it, but I fear it may only be paying lip service to women—to biological women and girls. After all, if we can’t define a woman, who is this motion talking about? Who are we discussing? Who are we wanting to protect? This isn’t a culture war, this is about women’s rights. Women’s rights campaigners, like Sharron Davies and like J.K. Rowling, are not culture warriors. Women all over the world are being attacked for believing in two biological genders. Sex matters.

Fe hoffwn i groesawu'r cynnig hwn, i ddechrau, a chefnogi hefyd yr alwad i gyflymu gweithredu. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n gwneud cynnydd yn hyn o beth. Mae hwn yn gyfle da i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed gan fenywod ond hefyd i gydnabod bod peth ffordd i fynd o hyd. Rwy'n falch ein bod ni yma heddiw, yn siarad am hyn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n eironig braidd, fel y dywedwyd yn y Siambr yn gynharach, bum mis ar ôl i mi ofyn i'r Llywodraeth ddiffinio menyw, eu bod wedi methu ag ysgrifennu yn ôl ataf. Efallai y gallwn ni gael ateb heddiw, Llywydd, oherwydd nid wyf yn siŵr beth sydd mor ddryslyd.

Mae gen i bryderon difrifol am allu Llywodraeth Cymru i wirioneddol ddiogelu a chefnogi menywod a merched biolegol—i wirioneddol eu gwarchod—a'u campau, er ei fod yn cael ei grybwyll yn un o'r cynlluniau 'cyflymu gweithredu', a'u lleoedd, pan na allwn ni hyd yn oed ddiffinio un. Felly, mae'r cynnig hwn yn ystyrlon, ac rwy'n falch ein bod wedi dod at ein gilydd i'w gefnogi, ond rwy'n ofni nad yw yn ddim ond geiriau gwag o bosib i fenywod a merched biolegol. Wedi'r cyfan, os na allwn ddiffinio menyw, ar gyfer pwy mae'r cynnig hwn? Pwy ydym ni'n trafod? Pwy ydym ni eisiau ei amddiffyn? Nid rhyfel diwylliant yw hwn, mae hyn yn ymwneud â hawliau menywod. Dyw ymgyrchwyr hawliau merched, fel Sharron Davies ac fel J.K. Rowling, ddim yn rhan o ryfel diwylliant. Mae menywod ledled y byd yn cael eu hymosod arnyn nhw gredu mewn dau ryw biolegol. Mae rhyw yn bwysig.

17:50

Would you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

These things I’ve mentioned today—[Interruption.]—are important to women all over Wales. Yes, I will.

Mae'r pethau hyn rwyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw—[Torri ar draws.]—yn bwysig i fenywod ledled Cymru. Gwnaf, fe wna i.

Do you know who attacks women mainly? Straight men. That's who women are attacked by, overwhelmingly. And if you're asking the question, 'What is a woman?', I can you tell you what a woman is: a woman is a woman, and trans women are women.

Wyddoch chi pwy sy'n ymosod ar fenywod yn bennaf? Dynion syth. Dyna pwy sy'n ymosod ar fenywod, yn bennaf. Ac os ydych chi'n gofyn y cwestiwn, 'Beth yw menyw?', gallaf ddweud wrthych chi beth yw menyw: menyw yw menyw, ac mae menywod trawsrywiol yn fenywod.

Okay. Well, we'll have to agree to disagree on that, because how are you protecting biological women and girls in sports when it's not fair and it's not safe, and things like that, and giving women their own spaces in refuges? Do you really, really agree that that is a safe space for them, if they continue allowing biological males in those spaces? I don't think you can.

Of course I’m supportive of women and girls today all over Wales. It’s really important that women’s voices are heard across Wales without fear of intimidation. I might differ in views from people of the benches opposite, but it’s important that my voice is also heard, because that voice is a large part of Wales as well. It’s right that we call out abuse and stand with women when they’re abused in politics, but this has to be consistent. It’s right that we stand with Buffy Williams and we take a stand against the horrendous behaviour against her. And I know colleagues across this Senedd will join us in standing with Natasha Asghar—the abuse that she received from far-left Gaza protestors when she spoke at Cardiff University. If we’re standing with all women, we really must mean all women, and let their voices be heard, because free speech is an important part of democracy.

This International Women’s Day, I’d like to see governments at all levels commit to reclaim women’s sports and women’s safe spaces. I can’t believe, in 2025, that I’m having to say any of this. It isn’t about excluding anyone or putting anyone down, or not letting them play sport, it’s about ensuring that things that women have fought for for many decades are preserved—these basic rights. There has to be a way of being inclusive without it being at the expense of women. Diolch.

Iawn. Wel, bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno ar hynny, achos sut ydych chi'n amddiffyn menywod a merched biolegol mewn chwaraeon pan nad yw'n deg ac nid yw'n ddiogel, a phethau felly, a rhoi eu mannau eu hunain i fenywod mewn llochesi? A ydych chi wir yn cytuno bod hwnnw'n lle diogel iddyn nhw, os ydyn nhw'n parhau i ganiatáu dynion biolegol yn y mannau hynny? Nid wyf yn credu y gallwch chi.

Wrth gwrs, rwy'n gefnogol i fenywod a merched heddiw ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig iawn bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ledled Cymru heb ofni cael eu dychryn. Efallai fod gen i safbwyntiau gwahanol i bobl y meinciau gyferbyn, ond mae'n bwysig bod fy llais hefyd yn cael ei glywed, gan fod y llais hwnnw'n rhan fawr o Gymru hefyd. Mae'n iawn ein bod ni'n herio camdriniaeth ac yn sefyll gyda menywod pan fyddan nhw'n cael eu cam-drin mewn gwleidyddiaeth, ond mae'n rhaid i hyn fod yn gyson. Mae'n iawn ein bod ni'n sefyll gyda Buffy Williams ac rydym ni'n sefyll yn erbyn yr ymddygiad erchyll yn ei herbyn. Ac rwy'n gwybod y bydd cyd-Aelodau ar draws y Senedd hon yn ymuno â ni i sefyll gyda Natasha Asghar—y gamdriniaeth a gafodd gan brotestwyr chwith eithafol Gaza pan siaradodd ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydym ni'n sefyll gyda phob menyw, mae'n rhaid i ni olygu pob menyw, a gadael i'w lleisiau gael eu clywed, oherwydd mae rhyddid i lefaru yn rhan bwysig o ddemocratiaeth.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, fe hoffwn i weld llywodraethau ar bob lefel yn ymrwymo i adennill chwaraeon menywod a mannau diogel menywod. Ni allaf gredu, yn 2025, bod yn rhaid i mi ddweud hyn o gwbl. Nid yw'n ymwneud ag eithrio unrhyw un nac wfftio unrhyw un, na pheidio â gadael iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pethau y mae menywod wedi brwydro amdanyn nhw ers degawdau lawer yn cael eu cadw—yr hawliau sylfaenol hyn. Mae'n rhaid cael ffordd o fod yn gynhwysol heb iddo fod ar draul menywod. Diolch.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i adlewyrchu ar y gorffennol ac edrych i'r dyfodol. Dathlwyd y diwrnod gyntaf 114 o flynyddoedd yn ôl. Ganed fy nwy fam-gu i, Nansi a Mari, bedair blynedd cyn hynny yn 1907. Roedden nhw'n ferched i löwyr ac yn yr un dosbarth cynradd â'i gilydd yn yr ysgol yn Rhymni. Chafodd Mari ddim cyfle i fynd i'r ysgol ramadeg er iddi basio'r eleven plus, achos doedd y teulu ddim yn gallu fforddio cadw mwy nag un plentyn yn yr ysgol. Ond aeth y cyfle i'w brawd bach hi, pan ddaeth ei dro, achos byddai Mari, wrth gwrs, yn priodi ac yn magu teulu. Cafodd Nansi beth addysg ramadeg achos hi oedd y ieuengaf yn y teulu, a'i dwy chwaer hŷn hi eisoes mas yn gweithio yn glanhau. Ond pan briododd hi, gorfodwyd hi i roi lan ei swydd fel athrawes gynorthwyol, achos doedd menywod priod ddim i fod i weithio; dylen nhw jest fod yn codi teulu a chadw tŷ.

Dwi'n meddwl am fy nwy fam-gu yn aml, yn eistedd yn y lle hwn, bob tro rwy'n clywed rhywun yn sôn bod y cae chwarae yn un gwastad a bod meritocracy yn bodoli. Roedden nhw'n ddwy fenyw na chafodd fawr o ddewis o ran trywydd eu bywydau, am eu bod yn dlawd, ie, ond hefyd am eu bod yn fenywod. Mae eu stori mor nodweddiadol o hanes menywod cyffredin yng Nghymru ac ar draws y byd, a dyna pam mae ein dadl ni heddiw mor bwysig. Gallwn, fe allwn ni feddwl am a dathlu'r rhai sydd wedi torri trwy'r nenfydau gwydr, dathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol ymhob maes, ond eithriadau ydyn nhw o hyd.

International Women’s Day is an opportunity to reflect on the past and to look to the future. International Women’s Day was first celebrated 114 years ago. My two grandmothers, Nansi and Mari, were born four years previously in 1907. They were the daughters of miners and were in the same class at primary school in Rhymney. Mari didn’t have the opportunity to go to grammar school, even though she passed the eleven plus, because the family couldn’t afford to keep more than one child at school. So, the opportunity went to her younger brother, when his turn came, because Mari, of course, would get married and have a family. Nansi did receive some education at grammar school because she was the youngest in the family, and both of her older sisters were already out working as cleaners. But when she married, she had to give up her work as a support teacher, because married women weren’t supposed to work; their sole occupation should be to raise a family and keep a house. 

I often think of my two grandmothers, sitting in this place, every time I hear someone say that there is a level playing field and that a meritocracy exists. They were two women who didn’t have much choice when it came to the direction that their lives took, because they were poor, yes, but also because they were women. Their story is so characteristic of the history of ordinary women in Wales and across the globe, and that’s why our debate today is so important. Yes, we can think about and celebrate those who’ve broken through the glass ceilings, and celebrate the exceptional contributions and achievements in every field, but they do remain exceptions. 

'Women belong in all places where decisions are being made. It shouldn't be that women are the exception.' 

'Mae menywod yn perthyn ym mhob man lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ni ddylai menywod fod yn eithriad.'

Heb fod yna fenywod, yng ngeiriau cofiadwy y barnwr Ruth Bader Ginsberg, mewn safleoedd o rym a dylanwad, ac yn defnyddio'r grym a'r dylanwad hynny i sicrhau bod yna degwch a chydraddoldeb, fe fydd yr agweddau sy'n cyfyngu ar fywydau menywod yng Nghymru yn parhau—y diwylliant patriarchaidd sy'n llywio agweddau cymdeithas o hyd, yr anghydraddoldeb economaidd sy'n amlwg ym maint y bwlch cyflog rhywedd yng Nghymru a'r cyfraddau tlodi ymhlith menywod, yr agweddau misogynistaidd sy'n atal menywod rhag cymryd cyfleon yn sgil pryderon am eu diogelwch a'u lles, y ffaith fod dynion yn treisio ac yn lladd menywod a bod yr ymosodiadau hyn ar lefel epidemig.

Dyna pam roedd Plaid Cymru yn siomedig y penderfynodd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru i beidio â bwrw mlaen gyda'r Mesur cwotâu rhywedd a fyddai'n gam mor bwysig tuag at sicrhau bod menywod yn y llefydd hynny ble mae penderfyniadau yn cael eu gwneud am fywydau menywod yng Nghymru: ein Senedd.

Without there being women present, in the memorable words of Justice Ruth Bader Ginsberg, in positions of power and influence, and using that power and that influence to ensure that there is fairness and equality, then the attitudes that limit women’s lives in Wales will continue—the patriarchal culture that continues to drive societal attitudes, the economic inequality made explicit by the gender pay gap in Wales and poverty rates among women, the misogynistic attitudes that prevent women from taking up opportunities as a result of concerns about their safety and welfare, the fact that men rape and kill women and that these attacks have reached epidemic levels.

That’s why Plaid Cymru was disappointed when the first female First Minister of Wales decided not to proceed with legislation on gender quotas, which would have been such an important step towards ensuring that women are present in those rooms where decisions are made about women’s lives in Wales: our Senedd.

Because we so desperately need those women in the room. One of the most urgent issues we must address is the abuse and intimidation faced by women in politics. Women in public life are subject to harassment and threats, and horrific online abuse. I'm sure every woman in this place can share examples, and we all know of colleagues who've been subject to death threats and threats of rape. This is a threat not only to equality but to democracy itself, because if women feel unsafe or unwelcome in politics, fewer will stand for election, and our democratic institutions will be weaker as a result.

Harmful, sexist rhetoric is being deliberately spread for political reasons, and it's reversing progress on gender equality. Polling shows that one in four young men in the UK agree with Andrew Tate’s sexist and misogynist views on women. Meanwhile, in the White House sits a President who has been accused of rape, sexual assault and sexual harassment by tens of women and takes pride in his derogatory language towards women. Both men have had their social media platforms reinstated by Elon Musk. The harms that have been faced by women on social media are now being emboldened and amplified by Musk, who actively gives misogynist voices a powerful microphone.

This is a cross-party motion, but just supporting these words with a vote won't cut it, I'm afraid. If we support this motion we must actively counter these misogynist narratives. No excuses, zero tolerance, within our parties, in our Senedd, in our communities. And one concrete step that Wales could take is incorporating the Convention on the Elimination of All Forms of Discrimination against Women into Welsh law. The Welsh Government committed to doing this in 2021, yet there's been no meaningful progress. And we heard evidence in committee recently that this work has not been adequately resourced from the start. You committed, Cabinet Secretary, to providing an update on this work early this year, so I'd like to know when we'll get that. Because without legal protections, women’s rights remain aspirational rather than enforceable. So, will you accelerate action on that specific step?

Finally, there's no gender parity until all women worldwide have equal rights. You mentioned the fifth UN sustainable development goal, which is gender equality. The women and girls in Gaza have been slaughtered in their thousands while the UK Labour Prime Minister defended the Israeli Government's right to do so and continues to sell them arms while they cut off humanitarian aid and electricity to girls, to elderly women, to pregnant women. Charities have warned that Trump's cutting of US foreign aid will most impact women and girls, as will the Westminster Labour Government's decision to cut the UK's international aid budget. We have a statutory duty to be a globally responsible nation, so will you condemn those cuts today, Cabinet Secretary?

The motion urges us all, especially those of us who are in Government, not just to unite to support women's rights in speeches and motions, but to unite in action, to speak up and out when it matters, because we need women in politics, yes, but what is the point if they don't speak up for their sisters?

Oherwydd mae angen y menywod hynny yn yr ystafell mor daer arnom ni. Un o'r materion mwyaf brys y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef yw'r cam-drin a'r bygylu sy'n wynebu menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae menywod mewn bywyd cyhoeddus yn destun aflonyddu a bygythiadau, a cham-drin ar-lein erchyll. Rwy'n siŵr y gall pob menyw yn y fan yma rannu enghreifftiau, ac rydym ni i gyd yn gwybod am gydweithwyr sydd wedi bod yn destun bygythiadau marwolaeth a bygythiadau o dreisio. Mae hyn yn fygythiad nid yn unig i gydraddoldeb ond i ddemocratiaeth ei hun, oherwydd os yw menywod yn teimlo'n anniogel neu nad oes croeso iddyn nhw mewn gwleidyddiaeth, bydd llai yn sefyll etholiad, a bydd ein sefydliadau democrataidd yn wannach o ganlyniad.

Mae rhethreg niweidiol, rywiaethol yn cael ei lledaenu'n fwriadol am resymau gwleidyddol, ac mae'n gwrthdroi cynnydd ar gydraddoldeb rhywedd. Mae arolygon barn yn dangos bod un o bob pedwar dyn ifanc yn y DU yn cytuno â barn rywiaethol a misogynistaidd Andrew Tate am fenywod. Yn y cyfamser, yn y Tŷ Gwyn mae yna Arlywydd sydd wedi cael ei gyhuddo o dreisio, ymosodiad rhywiol ac aflonyddu rhywiol gan ddegau o fenywod ac sy'n ymfalchïo yn ei iaith ddifrïol tuag at fenywod. Mae'r ddau ddyn wedi cael eu platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi'u hadfer gan Elon Musk. Mae'r niwed y mae menywod wedi'u hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol bellach yn cael eu grymuso a'u chwyddo gan Musk, sy'n mynd ati i roi llais grymus i leisiau misogynistaidd.

Mae hwn yn gynnig trawsbleidiol, ond ni fydd cefnogi'r geiriau hyn gyda phleidlais yn ddigon, mae gen i ofn. Os ydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn mae'n rhaid i ni fynd ati i wrthsefyll y naratifau misogynaidd hyn. Dim esgusodion, dim goddefgarwch, o fewn ein pleidiau, yn ein Senedd, yn ein cymunedau. Ac un cam pendant y gallai Cymru ei gymryd yw ymgorffori'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn 2021, ond ni fu cynnydd ystyrlon. Ac fe glywsom ni dystiolaeth yn y pwyllgor yn ddiweddar na fu digon o adnoddau i'r gwaith hwn o'r dechrau. Fe wnaethoch chi ymrwymo, Ysgrifennydd Cabinet, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn yn gynnar eleni, felly fe hoffwn i wybod pryd y byddwn yn cael hynny. Oherwydd heb amddiffyniadau cyfreithiol, mae hawliau menywod yn parhau i fod yn uchelgais yn hytrach nac yn bethau y gellir eu gorfodi. Felly, a wnewch chi gyflymu gweithredu ar y cam penodol hwnnw?

Yn olaf, nid oes cydraddoldeb rhwng y rhywiau nes bod gan bob menyw ledled y byd hawliau cyfartal. Fe wnaethoch chi sôn am bumed nod datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sef cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r menywod a'r merched yn Gaza wedi cael eu lladd yn eu miloedd tra bod Prif Weinidog Llafur y DU yn amddiffyn hawl Llywodraeth Israel i wneud hynny ac yn parhau i werthu arfau iddyn nhw wrth iddynt dorri cymorth dyngarol a thrydan i ferched, i fenywod oedrannus, i fenywod beichiog. Mae elusennau wedi rhybuddio mai gweithred Trump o gwtogi ar gymorth tramor yr Unol Daleithiau fydd yn effeithio fwyaf ar fenywod a merched, yn ogystal â phenderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i dorri cyllideb cymorth rhyngwladol y DU. Mae gennym ni ddyletswydd statudol i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, felly a wnewch chi gondemnio'r toriadau hynny heddiw, Ysgrifennydd Cabinet?

Mae'r cynnig yn ein hannog ni i gyd, yn enwedig y rhai ohonom ni sydd yn y Llywodraeth, nid yn unig i uno i gefnogi hawliau menywod mewn areithiau a chynigion, ond uno drwy weithredu, i godi llais yn uchel pan fo'n bwysig, oherwydd mae angen menywod mewn gwleidyddiaeth, oes, ond i ba ddiben os nad ydyn nhw'n siarad dros eu chwiorydd?

17:55

As we mark International Women's Day, it is right that we both reflect on progress made and reaffirm our collective commitment to accelerate action. And whilst it is certainly not something to celebrate, it is also right that we take time to not just condemn the abuse and intimidation of women in politics, but to also call it out for what it is.

It is a privilege to serve the community that shaped me. When I was growing up, I didn't think becoming a politician was a possibility, not least because politicians didn't seem to look like me or sound like me. I may be from north Wales, but I was made in the trade union movement, and it was trade union women who gave me that final push to put myself forward for election. I am proud to be part of an institution and a party that has a strong track record when it comes to the representation of women. Having more women doesn't just change the face of our politics, it changes the focus. It doesn't just shift the tone, it shapes the topics, and our politics is at its best when we treat each other with the dignity and respect that we deserve as fellow citizens. We can disagree without bowing down to the lowest common denominator. 

In my short debate last week, I talked about how sexual harassment in the workplace is a microcosm of a wider societal issue, one that too often has been accepted as the norm. The same can be said about the abuse and intimidation of women in politics. It is the amplification of systemic misogyny that women of all walks of life still face. But whilst it may be systemic, the way in which women politicians are targeted and treated feels often like misogyny and sexism on steroids. That's why we can't just condemn; it has to be called out. One of the most powerful ways that we can do this is by using our platform and this place to share our experiences. 

I've spoken before about the toxic mix of misogyny and homophobia that I have faced since being elected. They range from the random comments like, 'How can she be your wife? You're both women' and 'Who cares who you have sex with?' to the man who opened his contact with me saying, 'Good morning, Hannah. I was shocked to read today that you are—how can I put it politely—in a same-sex relationship. You appear intelligent, you're certainly very attractive, hence my complete shock. There is more of it about these days but that doesn't make it right, though, and all those Labour politicians encouraging you doesn't help'. They go on to say that it's wrong but, despite that, he doesn't hate me. 

Then we move on to the more sinister. The same person didn't just contact me and my wife; they also e-mailed a number of male colleagues and, I found out much later on, my dad. The self-declared evangelist told me I should leave my wife, needed saving from my homosexuality, the homosexual gene doesn't exist, and I needed my mindset reprogramming to make me heterosexual. Not long after this, my wife also received a separate voice message on her work number in this place, essentially telling her she was going to burn in hell. This is simply a snapshot. 

The abuse of women in politics is bad enough, but the fact that our families are often targeted is beyond the pale. In my case, on numerous occasions, the person I love most in the world has been targeted largely because chance meant they met and married me. And as Sioned Williams has said, if we are going to call out and challenge in order to change, then it has to apply, however hard that is, right across politics and public life within this place and within our own parties.

A good few years ago now, there was a call to my constituency office—an anonymous tip-off, if you can call it that—that some homophobic comments could be aired in a formal public process for a former fairly senior representative from my own party. As you would imagine, I was distressed and tried to find out more. So, to cut a long story short, eventually I got a copy of the messages and what had been said: a conversation with sexually inappropriate and homophobic undertones about me and my now wife. I can recount the slurs to the sublimely ridiculous smears. At the time, I was made aware that someone had apparently approached a top tabloid with a spurious story that, allegedly, I was a shopaholic who had used a ministerial car to take my wife shopping and made a colleague late for an important meeting, and that allegedly there was another Minister willing to back the so-called story up. Clearly, it never went anywhere as it was completely and utterly untrue, although, when I reflect now, I'm not sure whether to feel further aggrieved that, apparently, after going through our social media, the tabloid reporter concluded that I didn't possibly look like a shopaholic. I think there were more photos of dogs than Dior. [Laughter.]   

I've never shared any of this before and I do so today simply to shine a spotlight on the sort of thing that women in politics and public life have, for too long, been expected just to put up with and get on with it. So, we have to stand together to challenge and change, whatever form that takes and wherever it comes from. But, for me, above everything, it still remains a privilege to serve to try and make a difference to my community and my country, and I do want to be absolutely clear that although at times it has been tested, the positive still by far outweighs the negative.

And I'm able to be here today and who I am today because of the women who came before me and paved the way. Inspirational women are all around us—in the Siambr, in our communities and in workplaces across the country. The women that most inspire me are the women that have been and continue to be the beating heart of our communities. They don't make the headlines nor the history books, but they are nearly always lifelines, and it is for them and all the young girls growing up in Wales today that we persist and we resist.

Wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n iawn ein bod ni'n myfyrio ar y cynnydd a wnaed ac yn cadarnhau hefyd ein hymrwymiad cyfunol i gyflymu gweithredu. Ac er nad yw'n sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, mae hefyd yn iawn ein bod ni'n rhoi amser nid yn unig i gondemnio cam-drin a bygylu menywod mewn gwleidyddiaeth, ond hefyd yn ei herio am yr hyn ydyw.

Mae'n fraint gwasanaethu'r gymuned wnaeth fy siapio. Pan oeddwn i'n tyfu fyny, doeddwn i ddim yn meddwl bod dod yn wleidydd yn bosibilrwydd, yn anad dim oherwydd nad oedd gwleidyddion i'w weld yn edrych fel fi nac yn swnio fel fi. Efallai fy mod yn dod o ogledd Cymru, ond cefais fy ffurfio yn y mudiad undebau llafur, a menywod undebau llafur a roddodd y gwth olaf hwnnw i mi gynnig fy hun ar gyfer yr etholiad. Rwy'n falch o fod yn rhan o sefydliad a phlaid sydd â hanes cryf o ran cynrychiolaeth menywod. Nid yw cael mwy o fenywod yn newid wyneb ein gwleidyddiaeth yn unig, mae'n newid y pwyslais. Nid newid y cywair yn unig mae'n ei wneud, mae'n siapio'r pynciau, ac mae ein gwleidyddiaeth ar ei gorau pan fyddwn yn trin ein gilydd gyda'r urddas a'r parch rydym ni'n ei haeddu fel cyd-ddinasyddion. Gallwn anghytuno heb ymostwng i wneud ensyniadau.

Yn fy nadl fer yr wythnos diwethaf, soniais am sut mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ficrocosm o fater cymdeithasol ehangach, un sydd yn rhy aml wedi cael ei dderbyn fel y norm. Gellir dweud yr un peth am gam-drin a bygwth menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae'n ymhelaethu casineb at fenywod systemig y mae menywod o bob cefndir yn dal i wynebu. Ond er y gall fod yn systemig, mae'r ffordd y mae gwleidyddion benywaidd yn cael eu targedu a'u trin yn aml yn teimlo fel casineb at fenywod a rhywiaeth eithafol. Dyna pam na allwn ni gondemnio yn unig; mae'n rhaid ei herio. Un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ni wneud hyn yw trwy ddefnyddio ein platfform a'r lle hwn i rannu ein profiadau.

Rwyf wedi siarad o'r blaen am y gymysgedd wenwynig o gasineb at fenywod a homoffobia yr wyf wedi'i wynebu ers cael fy ethol. Maen nhw'n amrywio o'r sylwadau ar hap fel, 'Sut gall hi fod yn wraig i chi? Rydych chi'ch dwy yn fenywod' a 'Pwy sy'n poeni gyda phwy rydych chi'n cael rhyw?' i'r dyn a agorodd ei gyswllt â mi gan ddweud, 'Bore da, Hannah. Cefais sioc o ddarllen heddiw eich bod chi—sut alla i ei ddweud yn gwrtais—mewn perthynas o'r un rhyw. Rydych chi'n ymddangos yn ddeallus, rydych chi'n sicr yn ddeniadol iawn, a dyna pam rwyf mewn syndod. Mae'n fwy cyffredin y dyddiau hyn ond nid yw hynny'n ei wneud yn iawn, serch hynny, ac nid yw'r holl wleidyddion Llafur hynny sy'n eich annog yn helpu'. Mae'n mynd ymlaen i ddweud ei fod yn anghywir ond, er gwaethaf hynny, nid yw'n fy nghasáu.

Yna rydym yn symud ymlaen at y mwy sinistr. Gwnaeth yr un person nid yn unig gysylltu â mi a fy ngwraig; gwnaeth hefyd anfon e-bost at nifer o gydweithwyr gwrywaidd ac, fel y dysgais lawer yn ddiweddarach, fy nhad. Dywedodd yr efengylydd yma, fel y galwai ei hun, wrthyf y dylwn i adael fy ngwraig, bod angen fy achub i o fy nghyfunrhywioldeb, nad yw'r genyn cyfunrhywiol yn bodoli, a bod angen fy meddylfryd wedi ei hailraglennu arnaf i'm gwneud yn heterorywiol. Yn fuan ar ôl hyn, derbyniodd fy ngwraig neges llais ar wahân ar ei rhif gwaith yn y fan yma, gan ddweud wrthi yn y bôn y byddai'n llosgi yn uffern. Dim ond cipolwg yw hyn.

Mae cam-drin menywod mewn gwleidyddiaeth yn ddigon drwg, ond mae'r ffaith bod ein teuluoedd yn aml yn cael eu targedu yn gwbl annerbyniol. Yn fy achos i, ar sawl achlysur, mae'r person rwy'n ei garu fwyaf yn y byd wedi'i thargedu'n bennaf oherwydd bod siawns yn golygu iddi gwrdd â mi a'm priodi i. Ac fel y dywedodd Sioned Williams, os ydym ni'n mynd i godi llais a herio er mwyn newid, yna mae'n rhaid i hynny fod yn wir, waeth pa mor galed yw hynny, ar draws gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yn y fan yma ac o fewn ein pleidiau ein hunain.

Ychydig flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, roedd galwad i fy swyddfa etholaeth—galwad ddienw, os gallwch chi ei galw'n hynny—y gellid gwyntyllu rhai sylwadau homoffobig mewn proses gyhoeddus ffurfiol ar gyfer cyn-gynrychiolydd eithaf uchel o fy mhlaid fy hun. Fel y byddech chi'n dychmygu, roeddwn i'n ofidus ac fe geisiais i ddarganfod mwy. Felly, i dorri stori hir yn fyr, yn y pen draw cefais gopi o'r negeseuon a'r hyn a ddywedwyd: sgwrs ag iddi ensyniadau rhywiol amhriodol a homoffobig amdanaf i a fy ngwraig erbyn hyn. Gallaf draethu am y sarhad i'r dyfenwi cwbl chwerthinllyd. Ar y pryd, cefais wybod bod rhywun yn ôl pob golwg wedi cysylltu ag un o'r prif bapurau tabloid gyda stori ffug fy mod i, yn ôl pob sôn, yn gaeth i siopa ac wedi defnyddio car gweinidogol i fynd â fy ngwraig i siopa a gwneud cydweithiwr yn hwyr ar gyfer cyfarfod pwysig, a bod yna Weinidog arall honedig yn barod i gefnogi'r stori, fel y gelwid hi. Yn amlwg, ni chyhoeddwyd y fath beth gan ei fod yn hollol ac yn gwbl ffug, er, pan fyddaf yn myfyrio nawr, dydw i ddim yn siŵr a ddylwn i deimlo'n fwy gofidus bod y gohebydd tabloid, yn ôl pob tebyg, ar ôl chwilio ein cyfryngau cymdeithasol, wedi dod i'r casgliad nad oeddwn o bosibl yn edrych fel rhywun oedd yn gaeth i siopa. Rwy'n credu bod mwy o luniau o gŵn na Dior. [Chwerthin.] 

Nid wyf erioed wedi rhannu unrhyw ran o hyn o'r blaen ac rwy'n gwneud hynny heddiw dim ond i dynnu sylw at y math o beth y disgwylid i fenywod mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, am ormod o amser, ei ddioddef a bwrw ymlaen ag ef. Felly, mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd i herio a newid, pa bynnag ffurf sydd i hynny ac o ble bynnag y daw. Ond, i mi, uwchlaw popeth, mae'n dal yn fraint i geisio gwneud gwahaniaeth i'm cymuned a fy ngwlad, ac fe hoffwn i fod yn hollol glir, er y bu hi'n anodd ar adegau, bod y cadarnhaol o hyd yn gorbwyso'r negyddol o bell ffordd.

Ac rwy'n gallu bod yma heddiw a phwy ydw i heddiw oherwydd y menywod a ddaeth o'm blaen i a pharatoi'r ffordd. Mae menywod ysbrydoledig o'n cwmpas ni i gyd—yn y Siambr, yn ein cymunedau ac mewn gweithleoedd ledled y wlad. Y menywod sy'n fy ysbrydoli fwyaf yw'r menywod sydd wedi bod ac sy'n parhau i fod yn galon ein cymunedau. Dydyn nhw ddim yn cyrraedd y penawdau na'r llyfrau hanes, ond maen nhw bron bob amser yn achubiaeth, ac iddyn nhw a'r holl ferched ifanc sy'n tyfu fyny yng Nghymru heddiw rydym ni'n dyfalbarhau ac rydym ni'n gwrthsefyll.

18:00

International Women's Day is always an important day in the calendar for me, as it's a day for us all to reflect on the amazing achievements and contributions of women here in Wales and all across the globe. More importantly, it's a day to acknowledge the fact that many women still face major struggles in the pursuit of equality. International Women's Day serves as a rallying cry for continued action to help create a world where women, regardless of their skin colour, sexual orientation or background, can live freely, with opportunity, support and equality. I'm very proud to say that, in Wales, women have broken barriers in every single field, including politics. If we look around the Chamber, we have the UK's longest serving female Minister sitting in the front row alongside Wales's first female First Minister. And, if you look much closer to home, the Welsh Parliament's first ethnic minority female here. But this International Women's Day offers us a chance, perhaps now more so than ever before, to look at the increasing hostile environment politicians do indeed face. It saddens me to say—and I've experienced it myself, and I know many in the Chamber have as well—abuse will never put me off a job, but it's easy to see how, for so many people, it can indeed do just that, and it's simply not acceptable. We all get into politics because we want to give something back: to serve our communities, to support our constituents, and we should not be forced to put up with abuse, hostility and hate for doing just that.

As the Senedd looks to expand in 2026, and although it's a concept that I don't agree with, I am sure we will all want to see a fresh crop of talented, well-rounded politicians from all walks of life sitting amongst us here in the Chamber, going forward. But I fear those efforts will be hampered by the high levels of abuse some politicians, particularly women, do indeed face here today in 2025. Striving to tackle abuse against politicians is probably one of the very few things that does indeed unite us, regardless of whichever party we sit in here in this Chamber. Each and every single one of us have a responsibility to call abuse out when we see it. Only by doing that can we create a better future and a safe political environment for generations to come.

Presiding Officer, I know I've touched on politics, but Welsh women have indeed been trailblazers in so many other areas, including science, the arts and business. As politicians, we get to meet some truly wonderful people, and I have had the honour of meeting some remarkable women in lots of different fields since being elected here in 2021, and I want to pay tribute to them as we mark International Women's Day here today. From the incredible campaigners fighting for noble causes, the hard-working volunteers who carry out fantastic work in our communities, to the selfless care givers, fundraisers, community leaders, family members and friends—the list really does go on. But even as we acknowledge these women's accomplishments and achievements, we cannot ignore the persistent barriers women continue to face in the workplace, in access to education, in healthcare, and also in leadership positions. As we celebrate International Women's Day, let us renew our commitment to the principles of equality and justice. Let us ensure that every single girl and every woman has the opportunity to reach her full potential. This isn't a women-only issue; this is a 'we' issue, and that requires a collective effort from each and every single one of us here today.

So, on this International Women's Day 2025, let us reflect on how far we've come, celebrate the incredible women who've paved the way, and pledge to do our part in making a world where women's voices are not only heard but supported, nurtured, united and, ultimately, empowered. Thank you.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bob amser yn ddiwrnod pwysig yn y calendr i mi, gan ei fod yn ddiwrnod i ni gyd fyfyrio ar gyflawniadau a chyfraniadau anhygoel menywod yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Yn bwysicach fyth, mae'n ddiwrnod i gydnabod y ffaith bod llawer o fenywod yn dal i wynebu brwydrau mawr wrth geisio cydraddoldeb. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn alwad i'r gâd am weithredu parhaus i helpu i greu byd lle gall menywod, waeth beth yw lliw eu croen, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir, fyw'n rhydd, gyda chyfle, cefnogaeth a chydraddoldeb. Rwy'n falch iawn o ddweud, yng Nghymru, bod menywod wedi torri rhwystrau ym mhob un maes, gan gynnwys gwleidyddiaeth. Os edrychwn ni o gwmpas y Siambr, mae gennym ni'r Gweinidog benywaidd hiraf ei gwasanaeth yn y DU yn eistedd yn y rheng flaen ochr yn ochr â Phrif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru. Ac, os edrychwch chi yn llawer agosach at adref, y ferch gyntaf o leiafrif ethnig yn Senedd Cymru yma. Ond mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig cyfle i ni, efallai yn fwy felly nag erioed o'r blaen, ystyried ar yr amgylchedd gelyniaethus cynyddol y mae gwleidyddion yn ei wynebu. Mae'n fy nhristáu i ddweud—ac rwyf wedi ei brofi fy hun, ac rwy'n gwybod bod llawer yn y Siambr hefyd—ni fydd cam-drin byth yn gwneud imi wrthod swydd, ond mae'n hawdd gweld sut, i gymaint o bobl, y gall yn wir wneud hynny, ac yn syml, nid yw'n dderbyniol. Rydym ni i gyd yn mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd ein bod ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl: gwasanaethu ein cymunedau, cefnogi ein hetholwyr, ac ni ddylid ein gorfodi i ddioddef cam-drin, gelyniaeth a chasineb am wneud yn union hynny.

Wrth i'r Senedd baratoi i ehangu yn 2026, ac er ei fod yn gysyniad nad wyf yn cytuno ag ef, rwy'n siŵr y byddwn i gyd eisiau gweld cnwd newydd o wleidyddion dawnus, cyflawn, o bob cefndir yn eistedd yn ein plith ni yma yn y Siambr, yn y dyfodol. Ond rwy'n ofni y bydd yr ymdrechion hynny'n cael eu llesteirio gan gam-drin sylweddol mae rhai gwleidyddion, yn enwedig menywod, yn ei wynebu yma heddiw yn 2025. Mae'n debyg mai ymdrechu i fynd i'r afael â cham-drin yn erbyn gwleidyddion yw un o'r ychydig bethau sy'n wir yn ein huno, waeth pa bynnag blaid rydym yn eistedd yma yn ei chynrychioli yn y Siambr hon. Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i herio cam-drin pan fyddwn yn ei weld. Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni greu dyfodol gwell ac amgylchedd gwleidyddol diogel i genedlaethau'r dyfodol.

Llywydd, gwn fy mod wedi cyffwrdd â gwleidyddiaeth, ond mae menywod Cymru wedi bod yn arloeswyr mewn cymaint o feysydd eraill, gan gynnwys gwyddoniaeth, y celfyddydau a busnes. Fel gwleidyddion, rydym ni'n cael cwrdd â phobl wirioneddol wych, ac rydw i wedi cael yr anrhydedd o gwrdd â rhai menywod rhyfeddol mewn llawer o wahanol feysydd ers cael fy ethol yma yn 2021, ac rydw i eisiau talu teyrnged iddyn nhw wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yma heddiw. O'r ymgyrchwyr anhygoel sy'n ymladd dros achosion teilwng, y gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau, i'r gofalwyr, codwyr arian, arweinwyr cymunedol anhunanol, aelodau'r teulu a ffrindiau—mae'r rhestr yn wir yn un hirfaith. Ond hyd yn oed wrth i ni gydnabod cyflawniadau a llwyddiannau'r menywod hyn, ni allwn ni anwybyddu'r rhwystrau parhaus y mae menywod yn parhau i'w hwynebu yn y gweithle, o ran mynediad i addysg, mewn gofal iechyd, a hefyd mewn swyddi arweinyddiaeth. Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gadewch i ni adnewyddu ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder. Gadewch inni sicrhau bod pob un ferch a phob menyw yn cael cyfle i gyrraedd ei llawn botensial. Nid mater i ferched yn unig yw hwn; mae hwn yn fater i bob un ohonom ni, ac mae hynny'n gofyn am ymdrech ar y cyd gan bob un ohonom ni yma heddiw.

Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, gadewch i ni fyfyrio ar ba mor bell rydym ni wedi dod, dathlu'r menywod anhygoel sydd wedi paratoi'r ffordd, ac addo gwneud ein rhan i wneud byd lle mae lleisiau menywod nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu cefnogi, eu meithrin, eu huno ac, yn y pen draw, eu grymuso. Diolch.

18:05

To mark International Women's Day, Jess Phillips MP stood in the House of Commons and read the names of every woman killed by a man in the UK over the past year. It took over four minutes to read them all—95 women. That's 95 lives stolen, 95 families shattered, 95 futures taken away. Unless we act, this list will continue to grow. The latest femicide census reveals a grim reality: a woman has been killed every three days in the UK since 2009. This is not an unfortunate coincidence, it's a pattern—a pattern of misogyny, of unchecked male violence, and of a justice system that is failing women time and time again. These women weren't statistics; they were daughters, sisters, mothers, friends, women who had every right to feel safe in their own homes, in their own communities. And yet too many of them were failed, failed by institutions that didn't believe them, by a system that didn't protect them, and by a society that too often looks away. Let's be clear, violence against women is not just a crisis, it's a national emergency, and yet it isn't treated as such. We have a long-standing public safety campaign in the UK—campaigns for fire hazards, road safety, workplace accidents—but where is that same urgency for tackling domestic abuse and gender-based violence?

Women's Aid's latest campaign, 'The Ignored Emergency', makes the scale of the problem undeniable: women are 50 times more likely to be injured by their partner than in a house fire. They're more than three times more likely to be killed by a partner than by not wearing a seatbelt. And yet, while the dangers of fires and road accidents have been met with decades of public awareness campaigns, the same can't be said for domestic abuse. The truth is, tackling male violence against women requires more than just words; it requires action. That means better education, more support for survivors, tougher action against perpetrators, and a justice system that actually delivers justice. And it means treating domestic abuse and femicide as the national emergency they so clearly are.

So, I ask the Cabinet Secretary, what is the Welsh Government doing to ensure this crisis is met with the urgency it demands? What steps are being taken to ensure that not one more woman ends up on that list? Every single name read out in Westminster was one name too many, and it's our responsibility, every single one of us in this Chamber, to make sure that list never grows longer again. As the femicide census says:

'Every dead woman is one too many'.

Diolch.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, safodd Jess Phillips AS yn Nhŷ'r Cyffredin a darllen enwau pob menyw a laddwyd gan ddyn yn y DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Cymerodd dros bedwar munud i'w darllen i gyd—95 o fenywod. Dyna 95 o fywydau wedi'u dwyn, 95 o deuluoedd wedi'u chwalu, 95 dyfodol wedi'u cymryd ymaith. Oni bai ein bod yn gweithredu, bydd y rhestr hon yn parhau i  gynyddu. Mae'r cyfrifiad diweddaraf ynghylch niferoedd y menywod sy'n cael eu lladd yn datgelu realiti difrifol: mae menyw wedi cael ei lladd bob tri diwrnod yn y DU ers 2009. Nid cyd-ddigwyddiad anffodus yw hwn, mae'n batrwm—patrwm o gasineb at fenywod, trais gwrywaidd diarbed, ac o system gyfiawnder sy'n siomi menywod dro ar ôl tro. Nid ystadegau oedd y menywod hyn; roedden nhw'n ferched, chwiorydd, mamau, ffrindiau, menywod oedd â phob hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain. Ac eto fe siomwyd gormod ohonyn nhw, eu siomi gan sefydliadau oedd ddim yn eu credu, gan system oedd ddim yn eu diogelu, a chan gymdeithas sy'n troi o'r tu arall heibio yn rhy aml. Gadewch i ni fod yn glir, nid argyfwng yn unig yw trais yn erbyn menywod, mae'n argyfwng cenedlaethol, ac eto nid yw'n cael ei drin felly. Mae gennym ni ymgyrch diogelwch y cyhoedd ers tro yn y DU—ymgyrchoedd dros beryglon tân, diogelwch ar y ffyrdd, damweiniau yn y gweithle—ond ble mae'r un brys am fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais ar sail rhywedd?

Mae ymgyrch ddiweddaraf Cymorth i Fenywod, 'The Ignored Emergency', yn gwneud maint y broblem yn eglur: mae menywod 50 gwaith yn fwy tebygol o gael eu hanafu gan eu partner nag mewn tân mewn tŷ. Maen nhw fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd gan bartner na thrwy beidio â gwisgo gwregys diogelwch. Ac eto, er y bu degawdau o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cyhoeddus ynghylch peryglon tanau a damweiniau ffyrdd, ni ellir dweud yr un peth am gam-drin domestig. Y gwir yw, mae mynd i'r afael â thrais gan ddynion yn erbyn menywod yn gofyn am fwy na geiriau'n unig; mae'n gofyn am weithredu. Mae hynny'n golygu gwell addysg, mwy o gefnogaeth i oroeswyr, gweithredu llymach yn erbyn cyflawnwyr, a system gyfiawnder sy'n gweinyddu cyfiawnder mewn gwirionedd. Ac mae'n golygu trin cam-drin domestig a llofruddio menywod fel yr argyfwng cenedlaethol eglur ydyn nhw.

Felly, gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau yr eir i'r afael â'r argyfwng hwn gyda'r brys angenrheidiol? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad oes un fenyw arall yn cyrraedd y rhestr honno? Roedd pob un enw a ddarllenwyd yn San Steffan yn un enw yn ormod, a'n cyfrifoldeb ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yw sicrhau nad yw'r rhestr honno byth yn tyfu'n hirach eto. Fel mae'r cyfrifiad ynghylch menywod a lofruddiwyd yn dweud:

'Mae pob menyw farw yn un yn ormod.'

Diolch.

18:10

I'm really pleased that we're having this, a proper debate here today, and it's great that all the parties have come together to submit this motion.

Over the last few days, over the last week, it's been such a pleasure to attend the large number of events that are now held to mark International Women's Day. I've been to youth centres in the constituency, I've been to a women's arts exhibition, I've been to meet women who work in global solidarity. It's so important to see how many people mark this day. I think it's important that we do recognise, as many people have said, where progress is being made for women across Wales. I think there is a much greater drive to raise awareness of the achievements of women and an acknowledgment that there has been a systematic under-recognition of women in public life.

On Friday, we launched the nineteenth purple plaque in Swansea, in honour of Amy Dillwyn, a remarkable woman who wrote six novels and was the first woman industrialist of the nineteenth century. The purple plaque scheme was set up in 2017 from a group of women here in this Senedd to honour remarkable women across Wales who have, perhaps, been forgotten in the history books. Each of the 19 women who have had plaques mark a unique contribution to Welsh life, and there are plans for another few this year.

We've also heard already today the mention of the exhibition that's here in the Senedd about the monumental Welsh women statues that have also brought to the forefront the need for more statues of women, and, as somebody said at the launch, unless depicted as angels, there are hardly any women recognised in this way. So, I think it's great that we've got these statues installed right across Wales, and I'm particularly proud, as the Cabinet Secretary said, about the statue of Betty Campbell, the first black headteacher in Butetown, which is in the centre of Cardiff, and who I knew well.

I think it's also progress that more women are entering political life, not just here in the Senedd but in our local authorities and in Westminster. When I went to Westminster in 1997, there were four women out of 40 going from Wales, and things have really improved since then, so I think we should celebrate it. It's really important that we do change the make-up of political institutions because that will influence how we make our policies, and we will make certain that it is representative of the views of all people in society.

I also want to mark that this is the first International Women's Day when we have a woman First Minister, and I think that is a huge step forward, and I think it will make a real difference to how we are operating, and how we will operate.

But then we have to come to the other side of it, that, in many ways, women have continued to take steps backward, and I think this is another important reason why International Women's Day is so important, as it creates a focus around which we can talk about this. We've already heard about the rates of domestic violence and abuse continuing to be stubbornly high, and women and girls remain the main victims of domestic abuse. Figures from the crime survey for England and Wales, published in November last year, showed that, out of the 2.3 million people that experienced domestic violence from 2023-24, over 1.6 million were women, and the number of violent attacks against women is also on the rise, with three women in Wales killed last year. Mabon mentioned Jess Phillips reading out the names of the women who had been killed in the UK, and Joyce Watson also does something similar in the event that she organises on White Ribbon Day. It’s so tragic to think that three women in Wales were killed last year.

And there's also the gender pay gap. Women continue to be underpaid, with the gender pay gap standing at 11.3 per cent, according to the Fawcett Society. And last year, in 2024, the UK’s Equal Pay Day, which marks the point when women effectively stop being paid compared to men, fell on 20 November. So, for the rest of that year, women were having nothing compared to men. And really, in this day and age, it's shocking that this is happening.

Last night I attended an event hosted by Hub Cymru Africa, bringing together women who are overseeing the Size of Wales programme in Uganda—it's supported by the Welsh Government—and celebrating the I think it's over 1 million trees that have been planted. And I think it's so important that, as women, we are internationalist, and that we seek opportunities to work with women across the world. And talking at this event last night, which was very inspiring, talking about climate change, I think it's so important to recognise that women are the people who suffer most from climate change—women and children, they bear the brunt of the steps backward.

So, just in conclusion, there are countries where things are progressing well in women’s representation. Iceland is a fantastic example, with nearly everybody a woman in nearly all the positions of power. But then you look at the new regime in the US, and that reminds us that women continue to remain at risk of having our rights rescinded at the drop of a hat. I think we are in an absolutely vulnerable position in the world as it is at the moment. So, all I can really say in conclusion is that it is up to all of us to redouble our efforts to ensure that women around the world are recognised, respected, expanded and entrenched in the positions that they have got. Diolch.

Rwy'n falch iawn ein bod yn cael hon, dadl briodol yma heddiw, ac mae'n wych bod yr holl bleidiau wedi dod at ei gilydd i gyflwyno'r cynnig hwn.

Dros y dyddiau diwethaf, dros yr wythnos ddiwethaf, mae wedi bod yn gymaint o bleser mynychu'r nifer fawr o ddigwyddiadau sydd bellach yn cael eu cynnal i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwyf wedi bod mewn canolfannau ieuenctid yn yr etholaeth, rwyf wedi bod i arddangosfa gelf menywod, rwyf wedi bod i gwrdd â menywod sy'n gweithio mewn undod byd-eang. Mae'n bwysig gweld faint o bobl sy'n dathlu heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod, fel y dywedodd llawer o bobl, lle mae cynnydd yn cael ei wneud i fenywod ledled Cymru. Rwy'n credu bod llawer mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o gyflawniadau menywod a chydnabod y bu tan-gydnabyddiaeth systematig o fenywod mewn bywyd cyhoeddus.

Ddydd Gwener, lansiwyd y bedwaredd plac porffor ar bymtheg yn Abertawe, er anrhydedd i Amy Dillwyn, menyw ryfeddol a ysgrifennodd chwe nofel ac a ddaeth yn ddiwydianwraig gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sefydlwyd y cynllun plac porffor yn 2017 gan grŵp o fenywod yma yn y Senedd hon i anrhydeddu menywod hynod ledled Cymru sydd, efallai, wedi cael eu hanghofio yn y llyfrau hanes. Mae pob un o'r 19 menyw sydd wedi cael placiau yn nodi cyfraniad unigryw i fywyd Cymru, ac mae cynlluniau ar gyfer ambell un arall eleni.

Rydym ni hefyd wedi clywed eisoes heddiw sôn am yr arddangosfa sydd yma yn y Senedd am gerfluniau i ferched hynod Cymru sydd hefyd wedi amlygu'r angen am fwy o gerfluniau o fenywod, ac, fel y dywedodd rhywun yn y lansiad, oni bai eu bod yn cael eu darlunio fel angylion, prin fod unrhyw fenywod yn cael eu cydnabod fel hyn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n wych bod y cerfluniau hyn wedi'u gosod ledled Cymru, ac rwy'n arbennig o falch, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, am gerflun Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf yn Butetown, sydd yng nghanol Caerdydd, ac yr oeddwn i'n ei hadnabod yn dda.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn gynnydd bod mwy o fenywod yn troedio i fywyd gwleidyddol, nid yn unig yma yn y Senedd ond yn ein hawdurdodau lleol ac yn San Steffan. Pan es i San Steffan yn 1997, roedd pedair menyw o 40 yn mynd o Gymru, ac mae pethau wedi gwella ers hynny, felly rwy'n credu y dylem ni ddathlu hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn newid cyfansoddiad sefydliadau gwleidyddol oherwydd bydd hynny'n dylanwadu ar sut rydym ni'n llunio ein polisïau, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cynrychioli barn pawb yn y gymdeithas.

Fe hoffwn i hefyd nodi mai hwn yw'r Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf lle mae gennym ni fenyw yn Brif Weinidog, ac rwy'n credu bod hynny'n gam enfawr ymlaen, ac rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rydym ni'n gweithredu, a sut y byddwn yn gweithredu.

Ond yna mae'n rhaid i ni edrych ar ochr arall y geiniog, bod menywod, mewn sawl ffordd, wedi parhau i gymryd camau yn ôl, ac rwy'n credu bod hwn yn rheswm pwysig arall pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod mor bwysig, gan ei fod yn creu rhywbeth canolog ble gallwn ni siarad am hyn. Rydym ni eisoes wedi clywed am gyfraddau trais a cham-drin domestig yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel, a menywod a merched yw prif ddioddefwyr cam-drin domestig o hyd. Dangosodd ffigurau o'r arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd, fod dros 1.6 miliwn o'r 2.3 miliwn o bobl a brofodd drais domestig rhwng 2023-24 yn fenywod, ac mae nifer yr ymosodiadau treisgar yn erbyn menywod hefyd ar gynnydd, gyda thair menyw yng Nghymru wedi eu lladd y llynedd. Soniodd Mabon am Jess Phillips yn darllen enwau'r menywod oedd wedi cael eu lladd yn y DU, ac mae Joyce Watson hefyd yn gwneud rhywbeth tebyg y mae hi'n ei drefnu ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn. Mae hi mor drasig meddwl bod tair dynes yng Nghymru wedi eu lladd y llynedd.

Ac yna hefyd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae menywod yn parhau i gael eu talu rhy ychydig, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 11.3 y cant, yn ôl Cymdeithas Fawcett. Y llynedd, yn 2024, syrthiodd Diwrnod Cyflog Cyfartal y DU, sy'n nodi'r adeg pan roddir y gorau i dalu menywod o'i gymharu â dynion, ar 20 Tachwedd. Felly, am weddill y flwyddyn honno, nid oedd menywod yn cael unrhyw beth o'i gymharu â dynion. A dweud y gwir, yn yr oes sydd ohoni, mae'n frawychus bod hyn yn digwydd.

Neithiwr mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Hub Cymru Africa, gan ddod â menywod sy'n goruchwylio rhaglen Maint Cymru yn Uganda at ei gilydd—mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru—a dathlu'r mwy na miliwn o goed rwy'n credu sydd wedi'u plannu. Ac rwy'n credu ei bod hi mor bwysig, fel menywod, ein bod ni'n rhyngwladolwyr, a'n bod ni'n chwilio am gyfleoedd i weithio gyda menywod ar draws y byd. Ac wrth siarad yn y digwyddiad hwn neithiwr, oedd yn ysbrydoledig iawn, yn sôn am newid hinsawdd, rwy'n credu ei bod hi mor bwysig cydnabod mai menywod yw'r bobl sy'n dioddef fwyaf o newid hinsawdd—menywod a phlant, sy'n dioddef waethaf effeithiau'r camu yn ôl.

Felly, dim ond i gloi, mae yna wledydd lle mae pethau'n symud ymlaen yn dda o ran cynrychiolaeth menywod. Mae Gwlad yr Iâ yn enghraifft wych, gyda bron pawb yn fenyw ym mron pob swydd o rym. Ond yna rydych chi'n edrych ar y drefn newydd yn yr Unol Daleithiau, ac mae hynny'n ein hatgoffa bod menywod yn parhau i fod mewn perygl o gael ein hawliau wedi'u diddymu ar amrantiad. Rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa hynod fregus yn y byd fel y mae hi ar hyn o bryd. Felly, y cyfan y gallaf ei ddweud mewn gwirionedd yw mai mater i bob un ohonom ni yw ailddyblu ein hymdrechion i sicrhau bod menywod ledled y byd yn cael eu cydnabod, eu parchu, eu datblygu a'u hymwreiddio yn y swyddi sydd ganddyn nhw. Diolch.

18:15

Can I just say how proud I am that we have a female Presiding Officer as well? So, diolch, Llywydd. Thank you to everybody who has spoken today. I have to say, last year, thanks to this Senedd, I had the privilege and honour to speak in the Maltese Parliament, along with my colleague, Rhianon, women from across the Commonwealth. We had one theme in particular, and it was that there is definitely a need for women in politics, and that we don't always get an even hand. But, whilst we keep talking about International Women's Day, and I'm just looking at Joyce now; I'll mention Joyce at the beginning. I have to say that the work you've done and the fact that you're standing down at the next election—I want to thank you personally for the work you've done with the caucus and White Ribbon Day. We don't say 'thank you' often enough, but thank you, Joyce.

We all have a role to play in encouraging more women to enter politics, and for them to have the confidence to run for election. I'm going to pay tribute to Laura Jones. You've ruffled a few feathers today by asking for the definition of a woman. Well, I can tell you—Laura Jones is a woman, Natasha Asghar is a woman, and I want to see these two women back here after the next elections.

Whether it's like I've done over the years—I've been in politics 30 years now—approaching women and asking them to stand has been probably one of the most difficult tasks, really. Ask a man to stand and I've never had any problem, but, too often, too many women say, 'Oh, I couldn't do what you do. I haven't the confidence.' When I've pursued them and they stood, many of them are still councillors now, enjoying their roles, and are grateful for the fact that they were asked to stand.

We do have major challenges facing us as women, but it's nice, Mabon, also that you spoke up today, because it's not always women that should keep beating the drum for the support for women—we need you men to speak up. In the 14 years that I've been here, I haven't, apart from you today, Mabon, heard too many examples of men standing up and actually saying, 'We need more support for our women politicians.' So, thank you. Diolch yn fawr.

I have recently—. Over the 30 years I've been elected, it's fair to say we didn't have social media like we have it now, where abuse is so freely given out by somebody on a keyboard who probably wouldn't say it to your face. But it's this last term I've noticed in particular, right from when I stood for election, right through even until now, the abuse, the shocking, offensive comments that you see now. I used to actually pride myself on never blocking anyone on social media, but I make no apology to the people I've had to block. It's been more people in the last 12 months than I've ever blocked, and I see all of you, men and women, abused, and yet you're all doing your best, and I'm incredibly proud of every single woman that's here in politics. We might not always agree with what you say, from different parties, but the fact is you're here and you're prepared to stand up and actually represent your constituents, so well done.

Global statistics from the Economist Intelligence Unit suggest that 38 per cent of women have experienced online violence. Sixty-five per cent know of other women who've been targeted, and 85 per cent have witnessed online violence against other women. ITV Wales found that 80 per cent of MPs and Members of the Welsh Parliament—80 per cent—have felt threatened since being in office, while 43 per cent of us have received death threats. We have to support this accelerating action to support women. Even when conducting our Senedd business and visits, some Members have experienced what they felt was threatening behaviour, and when we see how people have died for their right to be in politics, it is shocking.

I would like to put on record as well my thanks to the three women that we have had in our party, the late Baroness Thatcher, Theresa May and we have Kemi Badenoch now as our leader of our party. [Interruption.] And Liz Truss. [Laughter.] That was an own goal, that was. [Interruption.] No, that wasn't—[Interruption.] That wasn't—[Interruption.] Lordy. Well, anyway, sorry Liz. [Interruption.] Yes. But it's good that we—. As has been rightly pointed out, we have a female First Minister, which is really good.

We have to have that right to protest. We must be respected and protected. There is currently a culture in which it is deemed acceptable to attack politicians, male and female, and to treat them with absolute contempt. It cannot be allowed to continue. As it stands, this type of behaviour will naturally act as a deterrent to more women coming into politics. It is not just in politics that we see abuse. We see it having an impact on women and young girls. Research by Girlguiding Wales shows that online abuse is shaping the career choices of girls. More than 36 per cent are put off certain jobs, including politics, because of the abuse. In our Welsh Parliament, we have a Youth Parliament of some 60 Members, both young men and young women. We have school councils, mock elections, and I am always encouraged by how eloquent, informed and confident these young people are. Again, sadly, once they pursue their education and other careers, some of that political knowledge and interest wanes, so more needs to be done to nurture this interest and enthusiasm in our younger people. It is a duty—

A gaf i ddweud pa mor falch ydw i fod gennym ni Lywydd benywaidd hefyd? Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi siarad heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, y llynedd, diolch i'r Senedd hon, cefais y fraint a'r anrhydedd o gael siarad yn Senedd Malta, ynghyd â fy nghyd-Aelod, Rhianon, menywod o bob rhan o'r Gymanwlad. Roedd gennym ni un thema yn benodol, sef bod angen pendant am fenywod mewn gwleidyddiaeth, ac nad ydym ni bob amser yn cael cyfle cyfartal. Ond, er ein bod ni'n parhau i siarad am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy'n edrych ar Joyce nawr; fe wna i sôn am Joyce ar y dechrau. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y gwaith rydych chi wedi'i wneud a'r ffaith eich bod chi'n camu o'r neilltu yn yr etholiad nesaf—rydw i eisiau diolch yn bersonol i chi am y gwaith rydych chi wedi'i wneud gyda'r cawcws a Diwrnod y Rhuban Gwyn. Nid ydym yn dweud 'diolch' yn ddigon aml, ond diolch yn fawr, Joyce.

Mae gan bob un ohonom ran wrth annog mwy o fenywod i droedio i fyd gwleidyddiaeth, ac iddyn nhw gael yr hyder i sefyll etholiad. Rwy'n mynd i dalu teyrnged i Laura Jones. Rydych chi wedi codi ambell wrychyn heddiw trwy ofyn am y diffiniad o fenyw. Wel, gallaf ddweud wrthych chi—mae Laura Jones yn fenyw, mae Natasha Asghar yn fenyw, ac fe hoffwn i weld y ddwy ddynes yma yn ôl yma ar ôl yr etholiadau nesaf.

P'un a yw fel yr wyf i wedi ei wneud dros y blynyddoedd—rwyf wedi bod ym maes gwleidyddiaeth am 30 mlynedd nawr—mynd at fenywod a gofyn iddyn nhw sefyll fu un o'r tasgau anoddaf mae'n siŵr, a dweud y gwir. Gofynnwch i ddyn sefyll ac nid wyf erioed wedi cael unrhyw broblem, ond, yn rhy aml, mae gormod o fenywod yn dweud, 'O, allwn i ddim gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud. Does gen i mo'r hyder.' Pan ydw i wedi eu hargyhoeddi nhw ac maen nhw wedi sefyll, mae llawer ohonyn nhw'n dal i fod yn gynghorwyr nawr, yn mwynhau eu swyddi, ac yn ddiolchgar am y ffaith y gofynnwyd iddyn nhw sefyll.

Mae gennym ni heriau mawr yn ein hwynebu ni fel menywod, ond mae'n braf, Mabon, hefyd ichi siarad heddiw, oherwydd nid menywod bob amser ddylai barhau i eirioli am y gefnogaeth i ferched—rydym ni angen i chi ddynion godi llais. Yn y 14 mlynedd rwyf wedi bod yma, nid wyf i, ar wahân i heddiw, wedi clywed gormod o enghreifftiau o ddynion yn sefyll ac yn dweud mewn gwirionedd, 'Mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer gwleidyddion benywaidd.' Felly diolch. Diolch yn fawr.

Rwyf yn ddiweddar—. Dros y 30 mlynedd rydw i wedi cael fy ethol, mae'n deg dweud nad oedd gennym ni'r cyfryngau cymdeithasol fel sydd gennym ni nawr, lle mae cam-drin yn digwydd mor rhwydd ar fysellfwrdd gan rywun na fyddai fwy na thebyg yn ei ddweud i'ch wyneb. Ond y tymor diwethaf hwn rydw i wedi sylwi arno yn benodol, o'r adeg y gwnes i sefyll yn yr etholiad, hyd yn oed tan nawr, y cam-drin, y sylwadau brawychus, sarhaus rydych chi'n eu gweld nawr. Roeddwn i'n arfer ymfalchïo mewn gwirionedd na fu fyth raid imi rwystro unrhyw un ar y cyfryngau cymdeithasol, ond nid wyf yn ymddiheuro i'r bobl rydw i wedi gorfod eu rhwystro. Mae wedi bod yn fwy o bobl yn ystod y 12 mis diwethaf nag yr wyf erioed wedi eu rhwystro, ac rwy'n gweld pob un ohonoch chi, ddynion a menywod, yn cael eich cam-drin, ac eto rydych chi i gyd yn gwneud eich gorau, ac rwy'n hynod falch o bob un fenyw sydd yma mewn gwleidyddiaeth. Efallai na fyddwn ni bob amser yn cytuno â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, gan wahanol bleidiau, ond y gwir amdani yw eich bod chi yma ac rydych chi'n barod i sefyll a chynrychioli eich etholwyr mewn gwirionedd, mor dda.

Mae ystadegau byd-eang gan Uned Wybodaeth yr Economist yn awgrymu bod 38 y cant o fenywod wedi profi trais ar-lein. Mae chwe deg pump y cant yn gwybod am fenywod eraill sydd wedi cael eu targedu, ac 85 y cant wedi gweld trais ar-lein yn erbyn menywod eraill. Canfu ITV Cymru fod 80 y cant o Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd Cymru—80 y cant—wedi teimlo dan fygythiad ers bod yn y swydd, tra bod 43 y cant ohonom ni wedi derbyn bygythiadau marwolaeth. Mae'n rhaid i ni gefnogi cyflymu gweithredu i gefnogi menywod. Hyd yn oed wrth wneud ein gwaith ac ymweld yn y Senedd, mae rhai Aelodau wedi profi ymddygiad bygythiol, a phan welwn ni sut mae pobl wedi marw am eu hawl i fod mewn gwleidyddiaeth, mae'n frawychus.

Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r tair menyw a gawsom ni yn ein plaid, y diweddar Farwnes Thatcher, Theresa May ac mae gennym ni Kemi Badenoch nawr fel ein harweinydd ni. [Torri ar draws.] A Liz Truss [Chwerthin.] Dyna oedd tro trwstan, yn wir. [Torri ar draws.] Na, doedd o ddim—[Torri ar draws.] Doedd o ddim—[Torri ar draws.] Arglwydd. Beth bynnag, mae'n ddrwg gen i Liz. [Torri ar draws.] Ie. Ond mae'n dda ein bod ni—. Fel y nodwyd yn briodol, mae gennym ni Brif Weinidog benywaidd, sy'n dda iawn.

Mae'n rhaid i ni fod â'r hawl honno i brotestio. Mae'n rhaid i ni gael ein parchu a'n diogelu. Ar hyn o bryd mae diwylliant lle bernir ei bod hi'n dderbyniol ymosod ar wleidyddion, dynion a menywod, a'u trin â dirmyg llwyr. Ni ellir caniatáu iddo barhau. Fel y mae, bydd y math hwn o ymddygiad yn naturiol yn atal mwy o fenywod rhag troedio i wleidyddiaeth. Nid mewn gwleidyddiaeth yn unig rydym ni'n gweld cam-drin. Rydym ni'n ei weld yn cael effaith ar fenywod a merched ifanc. Mae ymchwil gan Girlguiding Cymru yn dangos bod cam-drin ar-lein yn siapio dewisiadau gyrfa merched. Mae mwy na 36 y cant yn gyndyn o wneud rhai swyddi, gan gynnwys gwleidyddiaeth, oherwydd y cam-drin. Yn ein Senedd yng Nghymru, mae gennym ni Senedd Ieuenctid o ryw 60 o Aelodau, dynion ifanc a menywod ifanc. Mae gennym ni gynghorau ysgol, ffug etholiadau, ac rwyf bob amser yn cael fy nghalonogi gan ba mor huawdl, gwybodus a hyderus yw'r bobl ifanc hyn. Unwaith eto, yn anffodus, yng nghwrs eu haddysg a'u gyrfaoedd eraill, mae rhywfaint o'r wybodaeth a'r diddordeb gwleidyddol hwnnw yn pylu, felly mae angen gwneud mwy i feithrin y diddordeb a'r brwdfrydedd hwn yn ein pobl iau. Mae'n ddyletswydd—

18:20

Janet, I'm really reluctant to ask you to complete your statement, because you started by complimenting me and I shouldn't really be stopping you in your tracks now. But you are—. I've been very generous, because you've been very generous.

Janet, rwy'n amharod iawn i ofyn i chi gwblhau eich datganiad, oherwydd fe ddechreuoch chi trwy fy nghanmol ac ni ddylwn i fod yn eich rhwystro chi nawr. Ond rydych chi—. Rwyf wedi bod yn hael iawn oherwydd y buoch chi'n hael iawn.

Yes, you have indeed. All I would say is: women, keep on fighting. You have a right to be here, and always remember that. And men in this Chamber, Members, please speak up sometimes to support us more. Well done, Mabon.

Do, rydych chi wedi yn wir. Y cyfan y byddwn i'n ei ddweud yw: fenywod, parhewch i ymladd. Mae gennych chi hawl i fod yma, a chofiwch hynny bob amser. A dynion yn y Siambr hon, Aelodau, siaradwch weithiau i'n cefnogi yn fwy. Da iawn, Mabon.

Some people question why it is we need International Women's Day. Well, the reason that we mark this day each year is not only so that we can celebrate our empowered sisters, it is not only so that we can champion how far we've come, the gains we've made, it is also about bewailing the gaping chasm between where we stand and where we should be—yes, bewailing. We should be howling about how a woman or girl is killed every 10 minutes by an intimate partner or family member. We should be shouting about how websites exist to count dead women, to catalogue their loss: women killed, targeted, because they are women. 

Now, these statistics that we've heard in the Chamber this afternoon, they are stubborn. They have been unshifting for years. And so often it's referred to as violence against women, as though it were a passive act, perpetrated by who knows who, rather than being referred to as male violence. We need more women to enter politics, we need more women shouting about these issues, not just on this day but every day, because those statistics' stubbornness suggests that they've been accepted as immovable, a fact of life. But there is nothing natural about this violence, nor is there anything natural about the abuse, harassment, stalking that so disproportionately affect female survivors, the gendered abuse too many feel they must accept as unavoidable. It must be made to be abhorrent, something not tolerated, something abnormal.

We need more women in politics to force those changes in our society to happen. And it's a lot to expect of other women, a lot to put on the shoulders of those we'd wish to protect, to amplify. It isn't women who should have to be forced to be more robust, to have thicker skin, ready to shut out the hatred and the ugliness they'll have to accept. No, it's the spaces we all inhabit that must change. The spheres where politics happen have to be made more welcoming, have to be made more accessible, have to house more women, because this day should just be a day of celebration—uncomplicated joy, revelling. But, until we reach that day, we have a duty to raise our voices, to speak up for those women who are not here but are relying on us. And in the words of Jasmin Kaur, to

'scream / so that one day / a hundred years from now / another sister will not have to / dry her tears wondering / where in history / she lost her voice'.

Let's keep raising our voices, because we have not come this far to only come this far. 

Mae rhai pobl yn cwestiynu pam mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnom ni. Wel, y rheswm ein bod yn nodi'r diwrnod hwn bob blwyddyn yw nid yn unig fel y gallwn ni ddathlu ein chwiorydd grymus, nid yn unig fel y gallwn ni hyrwyddo pa mor bell rydym ni wedi dod, yr enillion rydym ni wedi'u gwneud, mae hefyd yn ymwneud â galaru am y bwlch rhwng lle rydym ni sefyll a lle dylem ni fod—ie, galaru. Fe ddylem ni fod yn bloeddio am sut mae menyw neu ferch yn cael ei lladd bob 10 munud gan bartner rhywiol neu aelod o'r teulu. Fe ddylem ni fod yn gweiddi am sut mae yna wefannau yn bodoli i gyfrif menywod marw, i gatalogio eu colled: menywod sy'n cael eu lladd, eu targedu, oherwydd eu bod yn fenywod.

Nawr, mae'r ystadegau hyn rydyn ni wedi'u clywed yn y Siambr y prynhawn yma, maen nhw'n styfnig. Maen nhw wedi bod yn styfnig ers blynyddoedd. Ac mor aml y cyfeirir ato fel trais yn erbyn menywod, fel pe bai'n weithred oddefol, a gyflawnir gan bwy a ŵyr, yn hytrach na chael ei gyfeirio ato fel trais gwrywaidd. Mae angen mwy o fenywod arnom ni ym myd gwleidyddiaeth, mae angen mwy o fenywod arnom ni i weiddi am y materion hyn, nid yn unig ar y diwrnod hwn ond bob dydd, oherwydd bod ystyfnigrwydd yr ystadegau hynny'n awgrymu eu bod wedi cael eu derbyn fel rhai digyfnewid, un o ffeithiau bywyd. Ond nid oes unrhyw beth naturiol am y trais hwn, ac nid oes unrhyw beth naturiol am y cam-drin, aflonyddu, stelcian sy'n effeithio mor anghymesur ar oroeswyr benywaidd, y cam-drin ar sail rhywedd y mae gormod o bobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ei dderbyn fel rhywbeth na ellir ei osgoi. Rhaid gwneud iddo fod yn wrthun, yn rhywbeth na oddefir, yn rhywbeth annormal.

Mae angen mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth i orfodi'r newidiadau hynny yn ein cymdeithas. Ac mae'n llawer i'w ddisgwyl gan fenywod eraill, llawer i'w roi ar ysgwyddau'r rhai yr hoffem ni eu hamddiffyn, rhoi mwy o lais iddyn nhw. Nid menywod ddylai cael eu gorfodi i fod yn fwy cadarn, cael croen mwy trwchus, yn barod i ymdopi â'r casineb a'r hylldra y bydd yn rhaid iddyn nhw eu derbyn. Na, y lleoedd rydym ni i gyd yn byw ynddyn nhw sy'n gorfod newid. Rhaid gwneud y meysydd lle ceir gwleidyddiaeth yn fwy croesawgar, rhaid eu gwneud yn fwy hygyrch, lle gellir rhoi cartref i fwy o fenywod, oherwydd dylai'r diwrnod hwn fod yn ddiwrnod o ddathlu—llawenydd syml, o ymlawenhau. Ond, tan i ni gyrraedd y diwrnod hwnnw, mae dyletswydd arnom ni i godi ein lleisiau, i godi llais dros y menywod hynny nad ydyn nhw yma ond sy'n dibynnu arnom ni. Ac yng ngeiriau Jasmin Kaur,

'sgrechian / fel rhyw ddydd / can mlynedd o nawr / na fydd yn rhaid i chwaer arall / sychu'i dagrau gan fyfyrio am / ble mewn hanes / iddi golli ei llais'.

Gadewch i ni barhau i godi ein lleisiau, oherwydd nid ydym wedi dod mor bell â hyn dim ond i ddod mor bell â hyn. 

18:25

I'm very pleased to join Mabon as a man taking part in this debate today. It is a very important debate, Llywydd, and, having been here from the beginning, along with three others here today, I'm very pleased to say that, right from the very beginning, the presence of many women in the Assembly, as it was originally, compared to many other Parliaments and political institutions, was something that was highlighted at the time and has been highlighted since, although we know there's more work to do. But, generally, I think it's been very positive in showing Wales in a very progressive light, and it's really good to have a woman First Minister now, as well as yourself in the Presiding Officer's chair, Llywydd, and so many other women who have been here along that journey since 1999 and are here with us today. It's very, very important that we set that example and build on the progress that we've made. 

Julie Morgan mentioned Size of Wales, and I was at the event today, Julie, for Size of Wales, and we met Deborah Nabulobi, who is here representing Mbale in Uganda as part of that Size of Wales programme. Twenty-five million trees have been planted, and it was so good to hear Deborah talking about the programme, including the way that it's empowered herself and other women in her community. She told us that she now intends to stand as a councillor in Mbale, and she's determined, as she put it, to make her voice heard ever louder in her community, including for the rights of women and further progress for women. So, that's just one aspect, I think, of the benefits of the programme for Africa, and a very important one. 

Llywydd, in Newport, we're lucky to have Women of Newport, an organisation started some six years ago by my constituent, Kamila Jarczak. This group has grown into a diverse collection of women from all parts of the city and has its own unique and inspiring stories. Just some of them are: Dee Montague-Coast, who again, by coincidence, was here today at an endometriosis event at the Pierhead. Dee is a real advocate, a passionate advocate, for women's health issues, with a particular focus on raising awareness around endometriosis. Another really good example from Women of Newport is Ingrid Wilson, who has worked tirelessly for many, many years to bring different ethnic minorities together with longer established parts of the community in Newport, with a focus on Community House in Maindee in the city, and has really made progress in creating a more cohesive society for us in Newport, for which we are very grateful. And Nazia Akhtar, who, through her A Taste of Maindee recipe book, brought the community together around a collection of recipes and dishes and cooking events.

These women, Llywydd, and many other women involved were showcased in a photo exhibition in the Pierhead last year, which I was proud to sponsor and that had previously been sponsored by my colleague, neighbour and friend, Jayne Bryant. It really brought the reality of what's happening in Newport and some of the empowerment that features to a much wider audience. Again, all of this work will be built on as we move forward.

The group in Newport has, as its aim, to strive to empower women, groups and communities in the city by promoting social inclusion and engaging in various projects. They are making a difference for individuals by supporting positive ventures run by groups and businesses, and they really connect the city and the wider area with the creativity, heritage and uniqueness of Newport.

I am sure that there are groups like this all over Wales, Llywydd, doing such good work, and they really do have a critical role to play because they are inspiring the next generation of women in the city of Newport and right across Wales. And, as is the theme this year for International Women's Day, it is about accelerating progress. They establish groups. They establish ventures and businesses and support them, and then they make sure that they flourish and grow. They are a great example to everyone in the city, and we really should celebrate their success.

Rwy'n falch iawn o ymuno â Mabon, fel dyn sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Mae'n ddadl bwysig iawn, Llywydd, ac, ar ôl bod yma o'r dechrau, ynghyd â thri arall yma heddiw, rwy'n falch iawn o ddweud, o'r cychwyn cyntaf, fod presenoldeb llawer o fenywod yn y Cynulliad, fel yr oedd yn wreiddiol, o'i gymharu â llawer o Seneddau a sefydliadau gwleidyddol eraill, yn rhywbeth a amlygwyd ar y pryd ac sydd wedi'i amlygu ers hynny, er ein bod ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud. Ond, yn gyffredinol, rwy'n credu y bu'n gadarnhaol iawn o ran dangos Cymru mewn goleuni blaengar iawn, ac mae'n dda iawn bod â menyw yn Brif Weinidog bellach yn ogystal â chi, Llywydd, yng nghadair y Llywydd, a chymaint o fenywod eraill sydd wedi bod yma ar hyd y daith honno ers 1999 ac sydd yma gyda ni heddiw. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n gosod yr esiampl honno ac yn datblygu'r cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud. 

Soniodd Julie Morgan am Maint Cymru, ac roeddwn i yn y digwyddiad heddiw, Julie, ar gyfer Maint Cymru, ac fe wnaethon ni gwrdd â Deborah Nabulobi, sydd yma yn cynrychioli Mbale yn Uganda fel rhan o'r rhaglen Maint Cymru honno. Mae 25 miliwn o goed wedi cael eu plannu, ac roedd mor dda clywed Deborah yn sôn am y rhaglen, gan gynnwys y ffordd y mae wedi ei grymuso ei hun a menywod eraill yn ei chymuned. Dywedodd wrthym ni ei bod hi bellach yn bwriadu sefyll fel cynghorydd ym Mbale, ac mae hi'n benderfynol, fel y dywedodd hi, i sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed yn uwch fyth yn ei chymuned, gan gynnwys dros hawliau menywod a chynnydd pellach i fenywod. Felly, dim ond un agwedd yw honno, rwy'n credu, ar fanteision y rhaglen ar gyfer Affrica, ac un bwysig iawn. 

Llywydd, yng Nghasnewydd, rydyn ni'n ffodus bod gennym ni Menywod Casnewydd, sefydliad a ddechreuodd ryw chwe blynedd yn ôl gan fy etholwr, Kamila Jarczak. Mae'r grŵp hwn wedi tyfu i fod yn gasgliad amrywiol o fenywod o bob rhan o'r ddinas ac mae ganddo ei straeon unigryw ac ysbrydoledig ei hun. Rhai ohonyn nhw yw: Dee Montague-Close, a oedd eto, trwy gyd-ddigwyddiad, yma heddiw mewn digwyddiad endometriosis yn y Pierhead. Mae Dee yn eiriolwr gwirioneddol, yn eiriolwr angerddol, dros faterion iechyd menywod, gan ganolbwyntio'n benodol ar godi ymwybyddiaeth o endometriosis. Enghraifft dda iawn arall gan Fenywod Casnewydd yw Ingrid Wilson, sydd wedi gweithio'n ddiflino ers blynyddoedd lawer i ddod â gwahanol leiafrifoedd ethnig ynghyd â rhannau mwy hirsefydledig o'r gymuned yng Nghasnewydd, gan ganolbwyntio ar Dŷ Cymunedol ym Maendy yn y ddinas, ac mae hi wir wedi gwneud cynnydd o ran creu cymdeithas fwy cydlynus i ni yng Nghasnewydd, ac am hyn yr ydyn ni'n ddiolchgar iawn. A Nazia Akhtar, a ddaeth, trwy ei llyfr ryseitiau A Taste of Maindee, â'r gymuned ynghyd o amgylch casgliad o ryseitiau a phrydau a digwyddiadau coginio.

Cafodd y menywod hyn, Llywydd, a llawer o fenywod eraill a gymerodd ran eu harddangos mewn arddangosfa ffotograffau yn y Pierhead y llynedd, ac roeddwn i'n falch o'i noddi ac a oedd wedi'i noddi yn flaenorol gan fy nghyd-Aelod, cymydog a ffrind, Jayne Bryant. Roedd yn dangos gwirionedd yr hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a pheth o'r grymuso sy'n ymddangos i gynulleidfa lawer ehangach. Unwaith eto, bydd yr holl waith hwn yn cael ei ddatblygu wrth i ni symud ymlaen.

Nod y grŵp yng Nghasnewydd yw ymdrechu i rymuso menywod, grwpiau a chymunedau yn y ddinas trwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chymryd rhan mewn prosiectau amrywiol. Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth i unigolion drwy gefnogi mentrau cadarnhaol sy'n cael eu cynnal gan grwpiau a busnesau, ac maen nhw wir yn cysylltu'r ddinas a'r ardal ehangach â chreadigrwydd, treftadaeth a natur unigryw Casnewydd.

Rwy'n siŵr bod grwpiau fel hyn ledled Cymru, Llywydd, yn gwneud gwaith da o'r fath, ac mae ganddyn nhw rôl hanfodol iawn i'w chwarae oherwydd eu bod nhw'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod yn ninas Casnewydd a ledled Cymru. Ac, fel y thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'n ymwneud â chyflymu'r cynnydd. Maen nhw'n sefydlu grwpiau. Maen nhw'n sefydlu mentrau a busnesau ac yn eu cefnogi, ac yna maen nhw'n sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn tyfu. Maen nhw'n esiampl wych i bawb yn y ddinas, a dylem ni ddathlu eu llwyddiant.

18:30

Mae chwaeroliaeth yn nodwedd drawiadol o'r Senedd yma, rydw i'n credu. Pan wnes i fy nghyfraniad cyntaf yn y Siambr, mi oedd o'n brofiad pleserus oherwydd roeddwn i'n teimlo cefnogaeth ac anogaeth y merched eraill yn y Siambr. Mae'r uniaethu benywaidd hwnnw yn parhau hyd heddiw, ac mae’n gynhaliaeth gwerth chweil mewn cyfnodau heriol.

Y chwaeroliaeth honno sydd wedi arwain at gyd-gyflwyno’r cynnig hwn heddiw, wrth inni barhau i wynebu heriau ystyfnig ac wrth inni uno i gondemnio camdriniaeth a chasineb yn erbyn menywod, ac wrth inni gefnogi ein gilydd mewn hinsawdd sydd yn gynyddol anodd. Mae'n rhaid condemnio camdriniaeth. Mae'n rhaid ei herio fo hefyd, os ydyn ni am ei ddileu.

Ddydd Sadwrn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, cefais y pleser o uno efo nifer o ferched sydd yn awduron mewn achlysur arbennig yng Nghaernarfon. Un o’r llyfrau a gafodd sylw oedd casgliad llenyddol o’r enw Hi/Hon. Mewn ysgrif onest a threiddgar, mae un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru, Manon Steffan Ros, yn disgrifio’r profiad o fod yn ferch yn y Gymru Gymraeg, a’r anhawster o herio drwgweithredwyr am eich bod yn troi yn yr un cylchoedd.

Ond mae'n rhaid herio, oherwydd, fel dywed yr awdures yn ei hysgrif, does dim llawer yn newid. Mae’r troseddau mawrion yn dal i ddigwydd, a’r holl gamweddau bychain hefyd—y pethau sydd bron iawn yn ddim byd. Y pethau sydd bron iawn yn ddim byd, meddai Manon Steffan Ros, y rhain sy'n rhaid eu herio er mwyn creu newid parhaol. I'w herio nhw, rydyn ni angen cefnogaeth pawb, yn cynnwys dynion, ac mae llawer o ddynion cefnogol, diolch byth. Ac i’w herio, mae angen addysgu ac mae angen rhoi llais hafal i ferched ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Diolch yn fawr.

Sisterhood is a notable characteristic of this Senedd, I believe. When I made my first contribution in the Siambr, it was a very pleasant experience because I felt supported and encouraged by the other women in the Siambr. That female solidarity remains to this day, and it is a source of much needed strength in challenging times.

It is that sisterhood that has led to this jointly tabled motion today, as we continue to face stubborn challenges and as we come together with one voice to condemn abuse and hatred of women, and as we support each other in an increasingly difficult climate. Certainly, we need to condemn abuse. We also need to challenge it, if we are to eradicate it.

On Saturday, on International Women’s Day itself, I had the pleasure of joining a number of women who are authors at a very special event in Caernarfon. One of the books under discussion was a literary collection called Hi/Hon. In an honest and insightful text, one of Wales's most prominent authors, namely Manon Steffan Ros, describes the experience of being a woman in Welsh-speaking Wales, and the difficulty of challenging abusers when one moves in the same circles.

But abuse must be challenged, because, as the author says in her text, not much changes. Serious crimes continue to be committed, as well as all of the more minor misdemeanours—those things that are almost seen as nothing. Those things that are almost seen as nothing, as Manon Steffan Ros says, these are the things that must be challenged in order to create permanent change. And to challenge them, we need everybody’s support, including men, and there are many supportive men, thank goodness. And, in order to challenge them, we must educate and provide an equal voice for women in all aspects of public life. Thank you.

18:35

Minister, I want to thank you for this important debate today. The call to accelerate action is crucial and I welcome the Welsh Government’s commitment to it. But I must pay tribute to you, for all your work over the years towards these aims. From founding Wales’s first refuge in the 1970s through to your ministerial work, you have consistently driven change, and I think it would be wholly unfair not to recognise that here today. And I think that’s what’s good about today: people are recognising what other people have done. There is, as Siân Gwenllian said, a sisterhood that has come together and that is why this debate is here. And it is pleasing—and we know it anyway—that there are many, many men who will always fight for, speak out and uphold the rights of women, and many of those are here in this Chamber.

I’m going to focus today on the work to tackle violence against women, and we know that every single year it seems to grow. We have events throughout the year and they culminate in the International Day to Eliminate Violence Against Women and Girls, White Ribbon Day, on 25 November. We hear from very brave women who tell us about their stories of surviving; we hear from women who work on the front line to aid that survival and to help those women through the very worst times in their lives; and we hear from decision makers around the challenges they face and the reality of life after, having seen things at the sharp end.

We know that the ultimate price of violence is death. We have attempted to honour the Welsh women who have been killed, and many people here have talked today about the femicide census, and it has tracked the number of women who’ve been killed by men since 2009. Their recent publication is their '2000Women' report, and I think that—. That’s a report based on the first 2,000 completed cases that they have recorded. That is a frightening, grim figure. It’s hard almost to think about that.

Of the 104 femicides in Wales, 41 were in the South Wales Police area, 25 in the North Wales Police area, 19 in the Dyfed-Powys area and, again, 19 in the Gwent Police region. And the report demonstrates what we all know: that rurality is no protection against violence against women. Within that report, it shows that Dyfed-Powys Police Authority has the seventh highest rate of femicide per population, with the North Wales Police region at the ninth highest out of 43 police forces across the UK.

Other telling details are that one in eight women killed by men are over 70 years of age, and that more than 170 mothers have been killed by their sons. The most dangerous place for these women is behind closed doors. For seven out of 10 women killed by men, it happens in their own home. Six in 10 are killed by their partners, and almost one in 10 by their sons. Nine per cent are killed by strangers. These shocking statistics require a strong response.

I am pleased that the UK Government has pledged to halve the levels of violence against women and girls in a decade by targeting perpetrators, addressing the root causes of abuse and violence. At the same time, the Welsh Government has always been clear that it wants to end all violence against women and girls, and it's strengthening the violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy to include a focus on violence against women in the street and the workplace, as well as the home. It's only by instilling a collective sense of effort towards achieving our objectives that we can make a real change. It will take all of society to tackle violence against women, domestic abuse and sexual violence.

Finally, I want to talk about children who witness domestic abuse. In some cases, they will become perpetrators. In all cases, they are victims. They have adverse childhood experiences, their lives are blighted from the very start. I want to pay tribute here to the Minister, Lynne Neagle, who recognised that and has done something about it.

But I don't think we can leave an International Women's Day stage without mentioning the women in Afghanistan, whose rights have absolutely and utterly been taken away from them, so that they have virtually no rights at all left to them. They can't be seen, they can't be heard, they can't be educated, they don't even have the right to other females when they need medical attention. And in the United States, at the moment, women's rights over their own bodies are being removed, and the misogynistic individual who is in charge has surrounded himself with even greater misogynistic people around that table, and are a threat to all of us. Thank you.

Gweinidog, hoffwn i ddiolch i chi am y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r alwad i gyflymu gweithredu yn hanfodol ac rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru iddo. Ond rhaid i mi dalu teyrnged i chi, am eich holl waith dros y blynyddoedd tuag at y nodau hyn. O sefydlu lloches gyntaf Cymru yn y 1970au i'ch gwaith gweinidogol, rydych chi wedi ysgogi newid yn gyson, ac rwy'n credu y byddai'n gwbl annheg peidio â chydnabod hynny yma heddiw. Ac rwy'n credu mai dyna sy'n dda am heddiw: bod pobl yn cydnabod yr hyn y mae pobl eraill wedi'i wneud. Mae yna, fel y dywedodd Siân Gwenllian, chwaeroliaeth sydd wedi dod at ei gilydd a dyna pam mae'r ddadl hon yma. Ac mae'n beth braf—ac rydyn ni'n gwybod hyn beth bynnag—bod yna lawer iawn o ddynion a fydd bob amser yn brwydro dros, yn codi llais dros ac yn cynnal hawliau menywod, ac mae llawer o'r rheini yma yn y Siambr hon.

Rydw i'n mynd i ganolbwyntio heddiw ar y gwaith o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ac rydyn ni'n gwybod y mae i'w weld yn cynyddu bob blwyddyn. Mae gennym ni ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac maen nhw'n cyrraedd eu hanterth yn y Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched, Diwrnod y Rhuban Gwyn, ar 25 Tachwedd. Rydyn ni'n clywed gan fenywod dewr iawn sy'n adrodd eu straeon wrthym ni am oroesi; rydyn ni'n clywed gan fenywod sy'n gweithio ar y rheng flaen i gynorthwyo'r goroesi hwnnw ac i helpu'r menywod hynny drwy'r adegau gwaethaf un yn eu bywydau; ac rydyn ni'n clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu a realiti bywyd ar ôl gweld pethau ar y rheng flaen.

Gwyddom mai pris trais yn y pen draw yw marwolaeth. Rydyn ni wedi ceisio anrhydeddu menywod Cymru sydd wedi cael eu lladd, ac mae llawer o bobl yma wedi sôn heddiw am y cyfrifiad benywladdiad, ac mae wedi tracio nifer y menywod sydd wedi cael eu lladd gan ddynion ers 2009. Eu cyhoeddiad diweddar yw eu hadroddiad '2000Women', ac rwy'n credu bod—. Mae hwnnw'n adroddiad sy'n seiliedig ar y 2,000 o achosion cyntaf sydd wedi'u cwblhau y maen nhw wedi'u cofnodi. Mae hwnnw'n ffigur brawychus, ofnadwy. Mae hi bron yn anodd meddwl am hynny.

O'r 104 o fenywladdiadau yng Nghymru, roedd 41 yn ardal Heddlu De Cymru, 25 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, 19 yn ardal Dyfed-Powys ac, unwaith eto, 19 yn rhanbarth Heddlu Gwent. Ac mae'r adroddiad yn dangos yr hyn yr ydyn ni i gyd yn ei wybod: nad yw gwledigrwydd yn ddiogelwch rhag trais yn erbyn menywod. Yn yr adroddiad hwnnw, mae'n dangos mai Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys sydd â'r seithfed gyfradd uchaf o fenywladdiadau fesul poblogaeth, a rhanbarth Heddlu Gogledd Cymru y nawfed uchaf o'r 43 o heddluoedd ledled y DU.

Manylion arwyddocaol eraill yw bod un o bob wyth menyw sy'n cael ei lladd dros 70 oed, a bod mwy na 170 o famau wedi cael eu lladd gan eu meibion. Y lle mwyaf peryglus i'r menywod hyn yw y tu ôl i ddrysau caeedig. Ar gyfer saith o bob deg menyw sy'n cael eu lladd gan ddynion, mae'n digwydd yn eu cartrefi eu hunain. Mae chwech o bob 10 yn cael eu lladd gan eu partneriaid, a bron i un o bob 10 gan eu meibion. Mae naw y cant yn cael eu lladd gan ddieithriaid. Mae'r ystadegau brawychus hyn yn gofyn am ymateb cryf.

Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi addo haneru lefelau trais yn erbyn menywod a merched o fewn degawd trwy dargedu cyflawnwyr, ymdrin ag achosion sylfaenol cam-drin a thrais. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir ei bod eisiau dileu bob achos o drais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n cryfhau'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar y stryd a'r gweithle, yn ogystal ag yn y cartref. Dim ond trwy feithrin ymdeimlad cyfunol o ymdrechu tuag at gyflawni ein hamcanion y gallwn ni gyflawni newid gwirioneddol. Bydd yn cymryd y gymdeithas gyfan i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Yn olaf, rwyf i eisiau siarad am blant sy'n dyst i gam-drin domestig. Mewn rhai achosion, byddan nhw'n dod yn droseddwyr. Ym mhob achos, maen nhw'n ddioddefwyr. Maen nhw’n wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae eu bywydau yn cael eu difetha o'r cychwyn cyntaf. Rwyf i eisiau talu teyrnged yma i'r Gweinidog, Lynne Neagle, a wnaeth gydnabod hynny ac sydd wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Ond nid wyf i'n credu y gallwn ni adael llwyfan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heb sôn am y menywod yn Afghanistan, y mae eu hawliau wedi'u cymryd oddi arnyn nhw yn llwyr, fel nad oes ganddyn nhw braidd dim hawliau ar ôl. Nid oes modd eu gweld, nid oes modd eu clywed, nid oes modd eu haddysgu, nid oes ganddyn nhw yr hawl i fenywod eraill hyd yn oed pan fydd angen sylw meddygol arnyn nhw. Ac yn yr Unol Daleithiau, ar hyn o bryd, mae hawliau menywod dros eu cyrff eu hunain yn cael eu dileu, ac mae'r unigolyn misogynistaidd sydd wrth y llyw wedi amgylchynu ei hun gyda hyd yn oed mwy o bobl misogynistaidd o amgylch y bwrdd hwnnw, ac maen nhw'n fygythiad i bob un ohonon ni. Diolch.

18:40

I think all the contributions we've heard today remind us all why International Women's Day is absolutely necessary. Reflecting on the website of International Women's Day and the theme for this year, it asked us to imagine a gender-equal world, a world free of bias, stereotype and discrimination, a world that's diverse, equitable and inclusive, a world where difference is valued and celebrated. Reflecting on the comments that we've heard just now from Joyce, and also Sioned Williams reminding us that with the cuts to international aid, this is what matters. We have global responsibility here in Wales and we must use our voice; even in those areas that we don't have competencies over, we must use our voice. There's a responsibility.

I would like to pay tribute to every woman before me that has had to fight, and all those that still to continue to fight for equality, wherever they are in the world. It has made a difference. Personally, for me, I would like to say thank you to my mother. She has told me of a story when she, in the 1970s, applied for a position at work that she really wanted to go for, was absolutely qualified for, and when she walked into that room, the men who were interviewing said, 'Oh, it's you, we can have a tea break now.' And she never had that interview. She fought that as a union rep, and it meant that a woman was eventually in that role, although not my mother. But those are the prejudices that generations before mine faced, and I was never told that I couldn't do anything. I wasn't told that I was a girl, so I couldn't go for that job, and I appreciate that.

But we still see those stereotypes repeated. We are told, 'A typical girl', 'A typical boy', 'You can't do this, you can't do that'. Girls in school come in in princess dresses, and the boys can be princes. All that has to stop, and those are things that we can change here, because every boy and girl can be absolutely anything, and we should embrace that.

One place where that is extremely obvious at present is sport, and I was pleased to hear the Cabinet Secretary mention sport, because, after all, Lauren Price at the weekend, coming out to 'Yma o Hyd', cheered by some people in this Chamber, and captured on television—how wonderful was that? I'm glad that you reflected in terms of the Euros; this is a significant moment. And also, the Women's World Cup, the women's team will be competing, and the fact that the AIG Women's Open tournament is coming to Wales for the first time. It's not only a big moment for Welsh women in sport, but sport in Wales that will celebrate women from across the world. Because one of the things that we'll see when we will be cheering the Welsh women's team in the Euros is the fact that it's the first time in a major tournament that we'll be able to cheer the women on, on that international stage. They will show that girls can be strong, brave, fast and sporty, just like their male counterparts. It does matter.

Let's be clear: the fight for equality is far from over, and sexism continues to be rife. You only need to look at Neath RFC's social media post last night, advertising an upcoming derby match with the following words plastered over it: 'This one isn't for the faint-hearted. This one isn't for the half-committed. This one is definitely NOT FOR GIRLS'. I note today that the club has apologised and deleted the post, which, of course, is to be welcomed, but it should never have happened in the first place. That's where we need to get to, not apologies, because it's too late at that point; it shouldn't have to happen. And I don't accept the excuse that it was part of a wider campaign. I don’t accept that. Because we've seen issues with the Welsh Rugby Union, and anyone who thinks that that kind of messaging is acceptable deserves to be called out. But those who called out last night on social media also faced abuse—those who were calling it out. And we need to stand by others who are trying their best in sport, those who are reporting on sport, because they suffer a great deal of abuse as well.

When we look to this summer of sport, when we will be cheering, I think it is an opportunity for Government to reflect on how we can use these opportunities to also promote gender equality. Because investing in sporting infrastructure to meet the increasing demand for girls who will want to participate in sport is something that has to be supported by Government, making sure that the facilities are accessible and welcoming, ensuring that every girl who wishes to engage in sport has the opportunity to do so, and promoting Wales on the world stage, our values, our commitment to gender equality and the empowerment of women through sport, but also in actions. The achievements of our female athletes, the visibility of women in sport and the support from our Government are pivotal in tackling gender inequality and promoting a healthier, more active lifestyle for women.

As we look towards the legacy of this International Women's Day, let us, yes, celebrate the progress we have made, but also commit to the work that still lies ahead. Together we can build a legacy that ensures that every girl in Wales has the opportunity to shine both on and off the field and in every field.

Rwy'n credu bod yr holl gyfraniadau yr ydyn ni wedi'u clywed heddiw yn ein hatgoffa ni pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gwbl angenrheidiol. Gan fyfyrio ar wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a'r thema ar gyfer eleni, gofynnodd i ni ddychmygu byd sy'n gyfartal o ran rhywedd, byd sy'n rhydd o ragfarn, ystrydeb a gwahaniaethu, byd sy'n amrywiol, yn deg ac yn gynhwysol, byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu. Mae myfyrio ar y sylwadau yr ydyn ni newydd eu clywed nawr gan Joyce, a hefyd Sioned Williams yn ein hatgoffa ni, gyda'r toriadau i gymorth rhyngwladol, mai dyma'r hyn sy'n bwysig. Mae gennym ni gyfrifoldeb byd-eang yma yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio'n llais; hyd yn oed yn y meysydd hynny nad oes gennym ni gymwyseddau drostyn nhw, rhaid i ni ddefnyddio ein llais. Mae yna gyfrifoldeb.

Hoffwn i dalu teyrnged i bob menyw o fy mlaen i sydd wedi gorfod brwydro, a phawb sy'n dal i frwydro dros gydraddoldeb, ble bynnag y maen nhw yn y byd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth. Yn bersonol, i mi, hoffwn i ddiolch i fy mam. Mae hi wedi dweud y stori wrthyf i o pan wnaeth hi, yn y 1970au, wneud cais am swydd yn y gwaith yr oedd hi wir eisiau mynd amdani, yn gwbl gymwys ar ei chyfer, a phan gerddodd i mewn i'r ystafell honno, dywedodd y dynion a oedd yn cyfweld, 'O, chi sy yna, gallwn ni gael egwyl de nawr.' Ac ni chafodd hi erioed y cyfweliad hwnnw. Fe wnaeth hi ymladd hynny fel cynrychiolydd undeb, ac roedd yn golygu bod menyw yn y pen draw yn y swydd honno, er nad fy mam i. Ond dyna'r rhagfarnau yr oedd cenedlaethau cyn fy un i yn eu hwynebu, ac ni ddywedodd unrhyw un wrthyf i erioed na allwn i wneud unrhyw beth. Ni ddywedodd unrhyw un wrthyf i fy mod yn ferch, felly nad oeddwn i'n gallu mynd am y swydd honno, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny.

Ond rydyn ni'n dal i weld yr ystrydebau hynny'n cael eu hailadrodd. Rydyn ni'n clywed, 'Merch nodweddiadol', 'Bachgen nodweddiadol', 'Alli di ddim gwneud hyn, alli di ddim gwneud hynna'. Mae merched yn dod i mewn i'r ysgol mewn ffrogiau tywysoges, a gall y bechgyn fod yn dywysogion. Mae'n rhaid i hynny i gyd ddod i ben, ac mae rheini yn bethau y gallwn ni eu newid yma, oherwydd gall pob bachgen a merch fod yn unrhyw beth o gwbl, a dylem ni groesawu hynny.

Un man lle mae hynny'n hynod amlwg ar hyn o bryd yw maes chwaraeon, ac roeddwn i'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am chwaraeon, oherwydd, wedi'r cyfan, daeth Lauren Price dros y penwythnos, allan i 'Yma o Hyd', gyda rhai pobl yn y siambr hon yn bloeddio eu cymeradwyaeth, ac wedi'i ddal ar y teledu—pa mor wych oedd hynny? Rwy'n falch eich bod wedi adlewyrchu yn nhermau'r Ewros; mae hwn yn gyfnod arwyddocaol. A hefyd, Cwpan y Byd y Menywod, bydd tîm y menywod yn cystadlu, a'r ffaith bod twrnamaint Agored Menywod AIG yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Mae'n foment fawr, nid yn unig y i fenywod Cymru ym maes chwaraeon, ond chwaraeon yng Nghymru a fydd yn dathlu menywod o bob cwr o'r byd. Oherwydd un o'r pethau y byddwn ni'n ei weld pan fyddwn ni'n cefnogi tîm merched Cymru yn yr Ewros yw'r ffaith mai dyma'r tro cyntaf mewn twrnamaint mawr y byddwn ni'n gallu bloeddio ein cymeradwyaeth dros y menywod, ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw. Byddan nhw'n dangos y gall merched fod yn gryf, yn ddewr, yn gyflym ac yn dda ar chwaraeon, yn union fel eu cymheiriaid gwrywaidd. Mae'n bwysig.

Gadewch i ni fod yn glir: mae'r frwydr dros gydraddoldeb ymhell o fod drosodd, ac mae rhywiaeth yn parhau i fod yn rhemp. Mae ond angen i chi edrych ar bostiad Clwb Rygbi Castell-nedd ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr yn hysbysebu gornest leol sydd i ddod gyda'r geiriau canlynol drosto i gyd: 'Nid yw ar gyfer y gwangalon. Nid yw ar gyfer rhai sydd wedi hanner ymrwymo. Yn bendant NID YW AR GYFER MERCHED'. Rwy'n nodi heddiw bod y clwb wedi ymddiheuro a dileu'r postiad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond ni ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Dyna lle mae angen i ni ei gyrraedd, nid ymddiheuriadau, oherwydd mae'n rhy hwyr ar y pwynt hwnnw; ni ddylai fod wedi digwydd. A dydw i ddim yn derbyn yr esgus ei fod yn rhan o ymgyrch ehangach. Dydw i ddim yn derbyn hynny. Oherwydd rydyn ni wedi gweld problemau gydag Undeb Rygbi Cymru, ac mae unrhyw un sy'n credu bod y math yna o negeseuon yn dderbyniol yn haeddu cael eu herio. Ond roedd y rhai a wnaeth ei herio neithiwr ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn wynebu cael eu difrïo—y rhai a oedd yn ei herio. Ac mae angen i ni sefyll gydag eraill sy'n ceisio'u gorau ym maes chwaraeon, y rhai sy'n gohebu ar chwaraeon, oherwydd maen nhw'n dioddef llawer iawn o ddifrïo hefyd.

Pan fyddwn ni'n edrych tuag at yr haf hwn o chwaraeon, pan fyddwn ni'n cefnogi, rwy'n credu ei fod yn gyfle i'r Llywodraeth fyfyrio ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r cyfleoedd hyn i hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd hefyd. Oherwydd, mae buddsoddi mewn seilwaith chwaraeon i ateb y galw cynyddol am ferched a fydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth ei gefnogi, gan sicrhau bod y cyfleusterau'n hygyrch ac yn groesawgar, gan sicrhau bod pob merch sy'n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael cyfle i wneud hynny, ac i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ein gwerthoedd, ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod drwy chwaraeon, ond hefyd mewn gweithredoedd. Mae cyflawniadau ein hathletwyr benywaidd, gwelededd menywod mewn chwaraeon a'r gefnogaeth gan ein Llywodraeth yn ganolog wrth ymdrin ag anghydraddoldeb rhywedd a hyrwyddo ffordd iachach a mwy egnïol o fyw i fenywod.

Wrth i ni edrych tuag at waddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn, gadewch i ni, ie, ddathlu'r cynnydd yr ydyn ni wedi'i wneud, ond hefyd ymrwymo i'r gwaith sydd o'n blaenau. Gyda'n gilydd gallwn ni ddatblygu etifeddiaeth sy'n sicrhau bod pob merch yng Nghymru yn cael cyfle i ddisgleirio ar y cae ac oddi arno ac ym mhob maes.

18:45

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb i'r ddadl yna—Jane Hutt.

The Cabinet Secretary now to reply to the debate—Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 18:48:41
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Thank you so much to everyone today for this really powerful, inspiring debate. I don't feel that I need to say very much, because I think the contributions are on the record, and they're really important contributions—the way we can speak up together across this Chamber in such a clear and important way. It is important that International Women's Day is a time when we do celebrate women in politics, and it's so good that we've actually celebrated and recognised all the contributions made by women across this Chamber in so many different capacities and circumstances. Natasha, you referred to all the women in life in the community as well as in politics—it's great. John Griffiths, you talked about the women of Newport. It's wonderful that Julie Morgan talked about the 19 purple plaques, and the first one is out there, isn't it? It's our Val Feld. Some of us, of course, remember Val and the amazing impact she has had on just creating this more inclusive Senedd that we hold so dear and where we want to see that diverse representation as we move forward to that really important date next year when we have an opportunity to bring more young women and girls, more diverse women, into this Senedd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i bawb heddiw am y ddadl bwerus ac ysbrydoledig hon. Nid wyf i'n teimlo bod angen i mi ddweud rhyw lawer, oherwydd rwy'n credu bod y cyfraniadau yn y cofnod, ac maen nhw'n gyfraniadau pwysig iawn—y ffordd y gallwn ni siarad gyda'n gilydd ar draws y Siambr hon mewn ffordd mor glir a phwysig. Mae'n bwysig bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn adeg pan fyddwn ni'n dathlu menywod mewn gwleidyddiaeth, ac mae hi mor dda ein bod ni wedi dathlu a chydnabod yr holl gyfraniadau y mae menywod ar draws y Siambr hon yn eu gwneud mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac o dan wahanol amgylchiadau. Natasha, fe wnaethoch chi gyfeirio at yr holl fenywod mewn bywyd yn y gymuned yn ogystal ag mewn gwleidyddiaeth—mae'n hynny'n wych. John Griffiths, fe wnaethoch chi sôn am fenywod Casnewydd. Mae'n wych bod Julie Morgan wedi sôn am y 19 o blaciau porffor, ac mae'r un cyntaf allan yn y fan yna, onid ydyw? Un ein Val Feld ni. Mae rhai ohonon ni, wrth gwrs, yn cofio Val a'r effaith anhygoel y mae hi wedi'i chael ar greu'r Senedd fwy cynhwysol hon sydd gennym ni sydd mor annwyl i ni a lle'r ydyn ni eisiau gweld y gynrychiolaeth amrywiol honno wrth i ni symud ymlaen at y dyddiad pwysig iawn hwnnw y flwyddyn nesaf pan fydd gennym ni gyfle i ddod â mwy o fenywod a merched ifanc, menywod mwy amrywiol, i mewn i'r Senedd hon.

But we do see progress being made, glass ceilings are being shattered, and we have to play our part in that. It’s our responsibility to lower the ladder, help empower others to climb to the highest rungs, to show that leadership. I think many of us who met young women last week as part of the Elect Her gathering, the young women who were coming, they were so strong, they were so resilient, they wanted to come and make their contribution. But we have to recognise that women and girls across Wales have the opportunity to fulfil their potential, if we can actually make sure that we have the opportunities that we can offer, and we break down those barriers that still impede so many women and girls to participate in life and business and politics and the economy and public services in Wales. Fifty-one per cent of the population of Wales are women, they must not be subjected to decades of delay before they get equal access to opportunities, rights and responsibilities.

I am grateful that there has been a focus on tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence, because it cannot be the case that we are in this position today. And thank you, Mabon ap Gwynfor, for speaking up as you have done on so many occasions about this, thank you to Joyce Watson, thank you to Juile Morgan, because the violence, domestic abuse and sexual violence that women and girls face is unacceptable, it’s prevalent, it’s endemic, and we have to address it. Ten years on from the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015, we still have so much more that we need to do.

We need to address this, and it’s an absolute responsibility every day for us to address it, particularly in my role. I think it is important that we look to education to help us with this. I’ve mentioned the Sound campaign. It is about men and boys and male politicians taking responsibility, as they do as white ribbon ambassadors. But schools can be catalysts for change, and I think they will be with the new curriculum rolling out. We’re proud of our relationship and sexuality education, fundamental to forging respectful attitudes to women and girls. I remind everyone that Hwb contains teaching resources and training covering issues including online bullying, online sexual harassment, along with practical information for families about how they discuss these issues with children and advice for young people themselves.

Can I thank those who shared their personal experience, and particularly thank Hannah Blythyn for her contribution today? I’m so proud of your leadership, Hannah, in terms of the LGBTQ action plan. The way you have influenced and shared your personal experiences has been so important. Of course, we made a statement only a few weeks ago about the LGBTQ+ action plan, about the history week. It was really important we made that statement, and thank you for your contributions.

It is also important that we look at women’s rights as human rights. Thank you, Sioned, also for again questioning me about the importance of how we want to advance human rights protections with CEDAW. I can reassure you that, in the human rights advisory group that I chair, we do have a legislative options working group looking at how we can incorporate CEDAW and UNCRDP into Welsh law and how we can look at non-legislative as well as legislative options. We’re putting funding in to try to take that forward.

It is an opportunity today for us to again recommit ourselves across this Chamber to accelerating action across every level of policy that has been shared and reflected upon today—including sport, as you said, Heledd, the positives and the negatives, and how we should address that. Let’s just look at the annual survey of hours and earnings that did show that the overall gender pay gap for full and part-time workers in Wales has reduced by 2.6 per cent from the previous year, but, as in previous years, the gender pay gap does remain lower in Wales than in the UK as a whole. But women are more likely to work part time, in lower paid occupations, and the gender pay gap is 8.9 per cent in Wales and 13.1 per cent in the UK. So, while we can welcome progress, there's more work to be done.

In conclusion, Llywydd, the World Economic Forum, as I said, the UN and global partners across the world know we have challenges that we have to share, not just here in this Chamber, the women and the people that we represent in Wales, but also with our partners as well. Thank you, John and Julie, for mentioning the fantastic, inspirational Deborah and Helen, who shared time with us in the canteen—many of us met them—about how they are deeply affected in Africa by climate change and deforestation, but how they're empowering women to play a leadership role, and how we are supporting them across the world through our Size of Wales initiative. What inspirational women.

Today we are co-tabling this motion, and we've got to commit ourselves to it, to unite to condemn intimidation of women in politics and abuse of women. We must unite also and take responsibility to advance women's equality and representation in Wales. It's been such a huge privilege to serve in the Welsh Parliament for so many years, and it only came about because I believed that, if we believed in social justice, and we believed in women's equality, then we had to stand up, join and put ourselves forward. There are many women around this Chamber who did this, and, I have to say, it's been such an honour and privilege to be part of that movement. I think, yes, we have influenced things, haven't we, John, Elin, Eluned, Joyce, Julie, and everyone, Janet Finch-Saunders. We have influenced the way we do Government and we do politics here in Wales, and that's why we need to welcome all those diverse women who are going to come and join us as we move forward into May 2026. Diolch yn fawr. 

Ond rydyn ni'n gweld cynnydd yn cael ei wneud, nenfydau gwydr yn cael eu chwalu, ac mae'n rhaid i ni chwarae'n rhan yn hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw gostwng yr ysgol, helpu i rymuso eraill i ddringo i'r rhannau uchaf, i ddangos yr arweinyddiaeth honno. Rwy'n credu bod llawer ohonon ni wnaeth gyfarfod â menywod ifanc yr wythnos diwethaf, fel rhan o'r ymgasgliad Elect Her, y menywod ifanc a wnaeth ddod, roedden nhw mor gryf, roedden nhw mor gydnerth, roedden nhw eisiau dod i wneud eu cyfraniad. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod menywod a merched ledled Cymru yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial, os gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r cyfleoedd y gallwn ni eu cynnig, a'n bod yn chwalu'r rhwystrau hynny sy'n dal i atal cymaint o fenywod a merched rhag cymryd rhan mewn bywyd a busnes a gwleidyddiaeth a'r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae pum deg un y cant o boblogaeth Cymru yn fenywod, ni ddylen nhw wynebu degawdau o oedi cyn iddyn nhw gael mynediad cyfartal i gyfleoedd, hawliau a chyfrifoldebau.

Rwy'n ddiolchgar bod pwyslais wedi bod ar ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, oherwydd ni ddylen ni fod yn y sefyllfa hon heddiw. A diolch i chi, Mabon ap Gwynfor, am godi llais fel yr ydych chi wedi'i wneud ar gymaint o achlysuron am hyn, diolch i Joyce Watson, diolch i Julie Morgan, oherwydd mae'r trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol y mae menywod a merched yn eu hwynebu yn annerbyniol, mae'n gyffredin, mae'n endemig, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Mae'n ddeng mlynedd ers Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae gennym ni lawer iawn mwy o waith y mae angen i ni ei wneud o hyd.

Mae angen i ni ymdrin â hyn, ac mae'n gyfrifoldeb llwyr bob dydd i ni ymdrin ag ef, yn enwedig yn fy rôl i. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych tuag at addysg i'n helpu ni gyda hyn. Rwyf wedi sôn am ymgyrch Iawn. Mae'n ymwneud â dynion a bechgyn a gwleidyddion gwrywaidd yn cymryd cyfrifoldeb, fel y maen nhw'n ei wneud fel cenhadon y rhuban gwyn. Ond gall ysgolion fod yn gatalyddion ar gyfer newid, ac rwy'n credu y byddan nhw felly gyda'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno. Rydyn ni'n falch o'n haddysg cydberthynas a rhywioldeb, sy'n hanfodol i feithrin agweddau parchus tuag at fenywod a merched. Rwy'n atgoffa pawb bod Hwb yn cynnwys adnoddau addysgu a hyfforddiant sy'n ymdrin â materion gan gynnwys bwlio ar-lein, aflonyddu rhywiol ar-lein, ynghyd â gwybodaeth ymarferol i deuluoedd am sut maen nhw'n trafod y materion hyn gyda phlant a chyngor i bobl ifanc eu hunain.

A gaf i ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiad personol, ac yn arbennig diolch i Hannah Blythyn am ei chyfraniad heddiw? Rwyf mor falch o'ch arweinyddiaeth, Hannah, o ran y cynllun gweithredu LHDTC+. Mae'r ffordd yr ydych chi wedi dylanwadu ar hyn a rhannu'ch profiadau personol wedi bod mor bwysig. Wrth gwrs, dim ond ychydig wythnosau yn ôl y gwnaethon ni ddatganiad am y cynllun gweithredu LHDTC+, ynglŷn â'r wythnos hanes. Roedd yn bwysig iawn ein bod ni wedi gwneud y datganiad hwnnw, a diolch am eich cyfraniadau.

Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n edrych ar hawliau menywod fel hawliau dynol. Diolch i chi, Sioned, hefyd am fy nghwestiynu i eto am bwysigrwydd sut yr ydyn ni eisiau hybu diogeliadau hawliau dynol gyda'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, CEDAW. Gallaf eich sicrhau chi, yn y grŵp cynghori ar hawliau dynol yr wyf i'n ei gadeirio, fod gennym ni weithgor dewisiadau deddfwriaethol sy'n ystyried sut y gallwn ni ymgorffori CEDAW a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru a sut y gallwn ni ystyried dewisiadau anneddfwriaethol yn ogystal â deddfwriaethol. Rydyn yn rhoi arian i mewn i geisio bwrw ymlaen â hynny.

Mae'n gyfle heddiw i ni ail-ymrwymo ein hunain eto ar draws y Siambr hon i gyflymu gweithredu ar draws pob lefel o bolisi sydd wedi ei rannu a'i adlewyrchu arno heddiw—gan gynnwys chwaraeon, fel y dywedoch chi, Heledd, y pethau cadarnhaol a'r pethau negyddol, a sut y dylem ni ymdrin â hynny. Gadewch i ni edrych ar yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion a ddangosodd fod y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser a rhan-amser yng Nghymru wedi gostwng 2.6 y cant o'r flwyddyn flaenorol, ond, fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag yn y DU gyfan. Ond mae menywod yn fwy tebygol o weithio'n rhan amser, mewn galwedigaethau ar gyflogau is, ac mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 8.9 y cant yng Nghymru a 13.1 y cant yn y DU. Felly, er y gallwn ni groesawu cynnydd, mae mwy o waith i'w wneud.

I gloi, Llywydd, mae Fforwm Economaidd y Byd, ac fel y dywedais i, y Cenhedloedd Unedig a phartneriaid byd-eang ledled y byd yn gwybod bod gennym ni heriau y mae'n rhaid i ni eu rhannu, nid yn unig yma yn y Siambr hon, y menywod a'r bobl yr ydyn ni'n eu cynrychioli yng Nghymru, ond hefyd gyda'n partneriaid. Diolch i chi, John a Julie, am sôn am Deborah a Helen, sy'n anhygoel ac ysbrydoledig, a rannodd amser gyda ni yn y ffreutur—gwnaeth llawer ohonon ni gwrdd â nhw—o ran sut y mae newid hinsawdd a datgoedwigo yn effeithio arnyn nhw'n daer yn Affrica, ond sut maen nhw'n grymuso menywod i chwarae rôl arwain, a sut rydyn ni'n eu cefnogi nhw ledled y byd drwy ein menter Maint Cymru. Am fenywod ysbrydoledig.

Heddiw, rydyn ni'n cyd-gyflwyno'r cynnig hwn, ac mae'n rhaid i ni ymrwymo ein hunain iddo, i uno i gondemnio bychanu menywod mewn gwleidyddiaeth a cham-drin menywod. Mae'n rhaid i ni uno hefyd a chymryd cyfrifoldeb i hybu cydraddoldeb a chynrychiolaeth menywod yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint enfawr cael gwasanaethu yn Senedd Cymru am gymaint o flynyddoedd, a digwyddodd hynny oherwydd yr oeddwn i'n credu, os oedden ni'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, a'n bod ni'n credu mewn cydraddoldeb i fenywod, yna roedd yn rhaid i ni sefyll i fyny, ymuno a chyflwyno ein hunain. Mae llawer o fenywod o amgylch y Siambr hon a wnaeth hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae wedi bod yn gymaint o anrhydedd a braint cael bod yn rhan o'r mudiad hwnnw. Rwy'n credu, ydyn, rydyn ni wedi dylanwadu ar bethau, onid ydyn ni, John, Elin, Eluned, Joyce, Julie, a phawb, Janet Finch-Saunders. Rydyn ni wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydyn ni'n cynnal y Llywodraeth ac rydyn ni'n cynnal gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, a dyna pam mae angen i ni groesawu'r holl fenywod amrywiol hynny sy'n mynd i ddod i ymuno â ni wrth i ni symud ymlaen i fis Mai 2026. Diolch yn fawr. 

18:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No. The motion is, therefore, agreed.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Mae gyda ni un bleidlais yn y cyfnod pleidleisio, ac os nad oes yna dri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais honno.

We have just one vote at voting time, and unless three Members wish for the bell to be rung, we will proceed directly to that vote.

13. Cyfnod Pleidleisio
13. Voting Time

Mae'r bleidlais honno ar eitem 10 heddiw. Y Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 yw'r rhain. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r rheoliadau yna wedi'u cymeradwyo.

That vote is on item 10, the Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. In favour 38, no abstentions and 14 against. Therefore, the regulations are agreed.

Eitem 10. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Item 10. The Landfill Disposals Tax (Tax Rates) (Wales) (Amendment) Regulations 2025: For: 38, Against: 14, Abstain: 0

Motion has been agreed

A dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisio a diwedd ar ein gwaith ni am heno. Diolch yn fawr.

That concludes voting and brings our proceedings to a close. Thank you.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.

The meeting ended at 18:59.