Y Cyfarfod Llawn
Plenary
28/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
In the bilingual version, the left-hand column includes the language used during the meeting. The right-hand column includes a translation of those speeches.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
The Senedd met in the Chamber and by video-conference at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary meeting. The first item will be questions to the First Minister, and the first question is from Sioned Williams.
1. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau mynediad at gefnogaeth cyflogaeth a rhaglenni ailsgilio? OQ62224
1. What is the Welsh Government's strategy for ensuring access to employment support and reskilling programmes? OQ62224

Mae ein gwasanaeth cenedlaethol, Cymru'n Gweithio, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, yn cynnig siop un stop i unigolion. Maen nhw’n rhoi cyngor ac arweiniad diduedd, am ddim, ar yrfaoedd a chyflogadwyedd personol, ac maen nhw’n cyfeirio unigolion at y cymorth cyflogaeth a sgiliau perthnasol sydd ar gael ar draws Cymru.
Our national careers advice and guidance service, Working Wales, provides a one-stop shop service to individuals, offering free personalised impartial careers and employability advice and guidance, signposting individuals to the relevant employment and skills support available across Wales.
Diolch. Yn ddiweddar, fe es i i academi cyflogadwyedd yn Aberafan, sy’n cael ei redeg gan Whitehead-Ross Education. Maen nhw’n darparu gwasanaethau cyflogadwyedd a hyfforddiant i bobl ledled Castell-nedd Port Talbot, ac roedd e’n wych gweld y rhaglenni oedd yno yn y gymuned, wedi’u teilwra’n enwedig ar gyfer y rhai, efallai, nad yw cyrsiau coleg mor addas iddyn nhw. Gyda chymorth cyllid fel rhaglenni Multiply a sgiliau digidol Llywodraeth San Steffan, maen nhw wedi gallu helpu 300 o bobl o ardal Port Talbot yn enwedig i ganfod gwaith. Ond mae yna gyhoeddiad wedi dod bod y cyllid wedi dod i ben a’r rhaglenni’n ansicr, ac mae hynny wedi arwain at orfod diswyddo chwe aelod o staff, pump ohonyn nhw yn y ganolfan yn Aberafan.
Mae cefnogaeth o’r math yma'n hanfodol, wrth gwrs, gan fod Cymru yn parhau i fod â'r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o unrhyw ran o’r Deyrnas Gyfunol, yn ogystal â’r gyfradd gyflogaeth isaf. Ac, wrth gwrs, mae’n fwy hanfodol byth yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn dilyn y colledion swyddi enbyd yn Tata Steel. Brif Weindiog, ers i raglen sgiliau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ddod i ben ym mis Mawrth 2023, does dim rhaglen debyg wedi dod yn ei lle. Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i ddatblygu rhaglen gyflogadwyedd genedlaethol newydd i dargedu pobl economaidd anweithgar sydd angen cymorth i fedru dychwelyd i’r gweithle?
Thank you. Recently, I went to the employability academy in Aberavon, which is run by Whitehead-Ross Education, which has been providing employability and training services to people throughout Neath Port Talbot. And it was great to see the programmes available there in the community, tailored particularly for those who feel that college courses are not so suitable for them. And with the aid of funding of programmes such as Multiply and digital skills programmes from the UK Government, they have helped 300 from the Port Talbot area find work. But there has been an announcement that the funding has come to an end and the programmes are uncertain, and that has led to the dismissal of six members of staff, five of them at the centre in Aberavon.
Support of this kind is essential, of course, as Wales continues to have the highest rate of economic inactivity of any part of the UK, as well as the lowest employment rate. And, of course, it’s even more vital for the Neath Port Talbot area following the catastrophic job losses at Tata Steel. First Minister, since the Welsh Government’s employability skills programme ended in March 2023, there has been no similar programme put in place. So, what work is being done to develop a new national employability programme to target economically inactive people who need help to be able to return to the workplace?

Diolch yn fawr. Wel, os ydych chi’n sôn am bobl ifanc, wedyn mae gyda ni’r warant i bobl ifanc, sydd wedi cefnogi dros 45,000 o bobl ifanc. Os ydych chi’n sôn am oedolion, wrth gwrs mae rhaglenni fel Communities for Work—mae 6,000 o bobl wedi cael eu helpu. Hefyd, wrth gwrs, mae ReAct, sydd hefyd yn briodol ar gyfer yr ardal yna—4,700 o grantiau ar gyfer pobl hefyd. Ac, wrth gwrs, mae yna brentisiaethau—£144 miliwn yn cael ei wario ar brentisiaethau sydd yn cyfro pob oedran, ac rŷn ni ar darged i sicrhau bod 100,000 o bobl yn elwa o hynny.
Thank you very much. Well, if you’re talking about young people, then we do have the young person’s guarantee, which has supported over 45,000 young people. If you’re discussing adults, of course, then programmes like Communities for Work are in place, and 6,000 people have been helped through that. Also, of course, there is ReAct, which is appropriate for the area that you mention—4,700 grants have been made available for people too. And, of course, there are apprenticeships—£144 million is spent on apprenticeships that cover all ages, and we are on schedule to ensure that 100,000 people benefit from that.
For many years, Pembrokeshire’s skilled economy has been strengthened by the excellent employment opportunities provided along the Haven Waterway, particularly in the hydrocarbon industry, with companies such as Valero and RWE at the forefront, supported by an outstanding supply chain, which includes Jenkins and Davies, and Ledwood. These industries and businesses will remain essential for years to come. However, with the success of the Celtic free port and new opportunities emerging from initiatives such as the Pembroke Dock marine project, the Pembroke Net Zero Centre, and floating offshore wind developments in the Celtic sea, there is potential for some jobs to transition into these new sectors through targeted training. So, how is the Welsh Government working with employers, such as those that I’ve mentioned, to harness their expertise, to listen to their voices and to ensure that the right reskilling and upskilling programmes are being delivered to address the skills gaps identified by key industries and businesses along the Haven Waterway?
Ers blynyddoedd lawer, mae economi fedrus sir Benfro wedi cael ei chryfhau gan y cyfleoedd gwaith rhagorol sydd ar gael ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau, yn enwedig yn y diwydiant hydrocarbon, gyda chwmnïau fel Valero ac RWE ar flaen y gad, gyda chefnogaeth cadwyn gyflenwi ragorol, sy'n cynnwys Jenkins and Davies, a Ledwood. Bydd y diwydiannau a'r busnesau hyn yn parhau i fod yn hanfodol am flynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, gyda llwyddiant y porthladd rhydd Celtaidd a chyfleoedd newydd yn deillio o fentrau fel prosiect morol Doc Penfro, Canolfan Sero Net Penfro, a datblygiadau gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd, ceir potensial i rai swyddi drosglwyddo i'r sectorau newydd hyn drwy hyfforddiant wedi'i dargedu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, fel y rhai yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw, i harneisio eu harbenigedd, i wrando ar eu lleisiau ac i sicrhau bod y rhaglenni ailsgilio ac uwchsgilio cywir yn cael eu darparu i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau a nodwyd gan ddiwydiannau a busnesau allweddol ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau?

Well, thanks very much, and I’m sure you were as delighted as I was to hear that those tax reliefs are now open in relation to the two free ports, not just in relation to Anglesey, which I was privileged to visit last week, but also in relation to Port Talbot and Milford Haven. But you’re quite right—we do need to get people prepared for the transition, and I know that a huge amount of work is being done through and with Pembrokeshire College, for example. One of the projects I’m particularly pleased about is the individual learning accounts. And what that does is target people who are already in work that are perhaps on a lower salary, but it helps them to transition into higher skilled jobs while they’re in the workplace. So, it improves their opportunities in those areas where we know we have skills shortages. I think it’s a really exciting project, and that has increased in terms of the funding. For 2023-24, the amount of money was close to £21 million that we invested in that. So, thousands of people are using that opportunity. So, I would recommend people in your area to take a look at those individual learning accounts.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr eich bod chi mor arbennig o falch ag yr oeddwn i o glywed bod y rhyddhadau treth hynny yn agored bellach o ran y ddau borthladd rhydd, nid yn unig o ran Ynys Môn, y cefais y fraint o ymweld â hi yr wythnos diwethaf, ond hefyd o ran Port Talbot ac Aberdaugleddau. Ond rydych chi'n gwbl gywir—mae angen i ni gael pobl yn barod ar gyfer y trawsnewid, ac rwy'n gwybod bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud trwy a chyda Choleg Sir Benfro, er enghraifft. Un o'r prosiectau yr wyf i'n arbennig o falch amdano yw'r cyfrifon dysgu unigol. A'r hyn y mae hynny yn ei wneud yw targedu pobl sydd eisoes mewn gwaith sydd efallai ar gyflog is, ond mae'n eu helpu nhw i bontio i swyddi sgiliau uwch tra eu bod nhw yn y gweithle. Felly, mae'n gwella eu cyfleoedd yn y meysydd hynny lle'r ydym ni'n gwybod bod gennym ni brinder sgiliau. Rwy'n credu ei fod yn brosiect cyffrous iawn, ac mae hynny wedi cynyddu o ran y cyllid. Ar gyfer 2023-24, roedd y swm o arian yn agos at £21 miliwn a fuddsoddwyd gennym ni yn hynny. Felly, mae miloedd o bobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Felly, byddwn yn argymell i bobl yn eich ardal edrych ar y cyfrifon dysgu unigol hynny.
First Minister, our further education colleges are a great strength for Wales in terms of providing the skills necessary to take our economy and opportunities forward. I visited the Newport campus of Coleg Gwent last week, to meet with lecturers, and I heard of particular problems around the apprenticeship programme, where, for example, in construction and, for example, in plumbing, learners can spend two years at the college, but then, if they're unable to find a place with an employer to take the apprenticeship forward, there isn't sufficient valuing of the two years' learning that they've undertaken. They attributed that to the new qualifications framework. So, in reviewing the apprenticeship programme and green skills that we need for our economy, First Minister, I wonder if those very practical issues can be looked at so that we can make sure that these learners are not lost to the construction industry in Wales.
Prif Weinidog, mae ein colegau addysg bellach yn gryfder mawr i Gymru o ran darparu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i symud ein heconomi a'n cyfleoedd ymlaen. Ymwelais â champws Casnewydd Coleg Gwent yr wythnos diwethaf, i gyfarfod â darlithwyr, a chlywais am broblemau penodol yn ymwneud â'r rhaglen brentisiaethau, lle, er enghraifft, ym maes adeiladu ac, er enghraifft, ym maes plymio, y gall dysgwyr dreulio dwy flynedd yn y coleg, ond yna, os nad ydyn nhw'n gallu dod o hyd i le gyda chyflogwr i fwrw ymlaen â'r brentisiaeth, nid oes digon o werthfawrogiad o'r ddwy flynedd o ddysgu y maen nhw wedi ei gyflawni. Fe wnaethon nhw briodoli hynny i'r fframwaith cymwysterau newydd. Felly, wrth adolygu'r rhaglen brentisiaethau a sgiliau gwyrdd sydd eu hangen arnom ni ar gyfer ein heconomi, Prif Weinidog, tybed a ellir edrych ar y materion ymarferol iawn hynny fel y gallwn ni wneud yn siŵr nad yw'r dysgwyr hyn yn cael eu colli i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Thanks very much. I know that plumbing has been an area where we've been very keen to get more people into that particular skilled area, particularly if we want to hit our targets in relation to construction, not just in terms of housing but also other developments. And there is a shortage—I know, in Pembrokeshire, it's quite hard to find a plumber who's ready to come out very quickly. So, part of the issue, I think, is that, actually, plumbers are reluctant to take on apprentices, and that's the problem. So, they do their two years, as you've set out, but then they can't get people to take them on. So, there's clearly a problem there. It's been addressed in a different way through the construction system, where there's a collective approach to giving apprenticeships, and I just wonder whether that might be something that could be explored.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod plymio wedi bod yn faes lle'r ydym ni wedi bod yn awyddus iawn i gael mwy o bobl i mewn i'r maes medrus penodol hwnnw, yn enwedig os ydym ni eisiau cyrraedd ein targedau o ran adeiladu, nid yn unig o ran tai ond datblygiadau eraill hefyd. Ac mae 'prinder—rwy'n gwybod, yn sir Benfro, mae'n eithaf anodd dod o hyd i blymwr sy'n barod i ddod allan yn gyflym iawn. Felly, rhan o'r broblem, rwy'n credu, yw bod plymwyr, mewn gwirionedd, yn amharod i gyflogi prentisiaid, a dyna'r broblem. Felly, maen nhw'n gwneud eu dwy flynedd, fel rydych chi wedi ei nodi, ond wedyn allan nhw ddim cael pobl i'w cyflogi. Felly, mae'n amlwg bod problem yn hynny o beth. Rhoddwyd sylw iddo mewn ffordd wahanol drwy'r system adeiladu, lle ceir dull cyfunol o roi prentisiaethau, a tybed a allai hynny fod yn rhywbeth y gellid ei archwilio.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith newidiadau treth etifeddiant ar ffermydd teuluol yng Nghymru? OQ62229
2. What assessment has the Welsh Government made of the impact of inheritance tax changes on family farms in Wales? OQ62229

Mae treth etifeddiant yn dreth sy’n cael ei rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae ffigurau Trysorlys ei Fawrhydi yn awgrymu na fydd y rhan fwyaf o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Inheritance tax is a tax that is controlled by the UK Government. Figures from HM Treasury suggest that most farms will be unaffected by the changes announced by the UK Government.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Thank you very much for that response.
We really want to know the impact assessment of family farms in Wales. I sat in a room in Hay with Brecon and Radnorshire farmers—five of them—and every single one of them was going to be affected by this new inheritance tax. They had done a detailed analysis, with the backing of accountants, of 15 farms in Brecon and Radnorshire. All but one of them were affected by the new rules. This policy, First Minister, is discriminatory against the widowed, the widower, people who are suffering from illnesses that may lead to their early death, and those who are old. This is an appalling policy, and one that I think the Welsh Government does not need right now as it introduces the sustainable farming scheme. We want to know, First Minister, what you are doing to represent our views here in Wales. So, my questions are—. And please can we have an answer to these, not a statement? Please can we have an answer—and it's a 'yes' or a 'no'? Have you met with Keir Starmer, to tell him the views of Welsh farmers on this family farm inheritance tax? That's a 'yes' or a 'no'. And could you tell us, if you have, what his response was, and, if you haven't, why not, and when? Diolch yn fawr iawn.
Rydym ni wir eisiau gwybod yr asesiad effaith ar ffermydd teuluol yng Nghymru. Eisteddais mewn ystafell yn y Gelli gyda ffermwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed—pump ohonyn nhw—ac roedd pob un ohonyn nhw yn mynd i gael ei effeithio gan y dreth etifeddiaeth newydd hon. Roedden nhw wedi gwneud dadansoddiad manwl, gyda chefnogaeth cyfrifwyr, o 15 fferm ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Roedd y rheolau newydd yn effeithio ar bob un ond un ohonyn nhw. Mae'r polisi hwn, Prif Weinidog, yn gwahaniaethu yn erbyn gweddwon, gŵyr gweddw, pobl sy'n dioddef o afiechydon a allai arwain at eu marwolaeth gynnar, a'r rhai sy'n hen. Mae hwn yn bolisi echrydus, ac yn un yr wyf i'n ei gredu nad oes ei angen ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym ni eisiau gwybod, Prif Weinidog, beth rydych chi'n ei wneud i gynrychioli ein safbwyntiau ni yma yng Nghymru. Felly, fy nghwestiynau yw—. Ac a allwn ni gael ateb i'r rhain, nid datganiad, os gwelwch yn dda? A allwn ni gael ateb—ac mae'n fater o 'ydw' neu 'nac ydw'? A ydych chi wedi cyfarfod â Keir Starmer, i'w hysbysu am safbwyntiau ffermwyr Cymru ar y dreth etifeddiaeth ffermydd teuluol hon? 'Ydw' neu 'nac ydw'. Ac a allech chi ddweud wrthym ni, os ydych chi wedi, beth oedd ei ymateb, ac, os nad ydych chi, pam lai, a phryd? Diolch yn fawr iawn.

Thanks very much. Well, you'll be aware that I have Ministers who do some of that connecting on my behalf, and I can assure you that the Deputy First Minister has raised this issue directly with his counterpart in the UK Government, because I recognise that there is a disconnect between what the farmers' unions in Wales are saying and what the Treasury is saying. So, there absolutely needs to be a dialogue. So, there have been a number of representations made to the UK Government. The Deputy First Minister, as I said, has directly raised the issue, and has sent a further letter to the UK Government, reminding them of their commitments to consider the views of Welsh farmers. So, that has been followed up, and it is important that the voice of the agricultural community in Wales is heard, despite the fact that that is a UK Government initiative. We are facilitating a meeting and trying to make sure that their voices are heard. I also want to give you some reassurance around SFS. There has been an assurance around how this will impact on SFS, and we have been given some guarantees and assurances on that.
Diolch yn fawr iawn. Wel, byddwch yn ymwybodol bod gen i Weinidogion sy'n gwneud rhywfaint o'r cysylltu hwnnw ar fy rhan, a gallaf eich sicrhau chi bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'i swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU, oherwydd rwy'n cydnabod bod datgysylltiad rhwng yr hyn y mae undebau ffermwyr Cymru yn ei ddweud a'r hyn y mae'r Trysorlys yn ei ddweud. Felly, yn sicr mae angen deialog. Felly, gwnaed nifer o sylwadau i Lywodraeth y DU. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, fel y dywedais i, wedi codi'r mater yn uniongyrchol, ac wedi anfon llythyr pellach at Lywodraeth y DU, yn eu hatgoffa o'u hymrwymiadau i ystyried safbwyntiau ffermwyr Cymru. Felly, gwnaed gwaith dilynol ar hynny, ac mae'n bwysig bod llais y gymuned amaethyddol yng Nghymru yn cael ei glywed, er gwaethaf y ffaith mai menter Llywodraeth y DU yw honno. Rydym ni'n hwyluso cyfarfod ac yn ceisio gwneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Rwyf i hefyd eisiau rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy. Cafwyd sicrwydd ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rydym ni wedi cael rhai gwarantau a sicrwydd ynghylch hynny.
First Minister, I’ve spoken to many, many farmers since the autumn and, despite all of the huge challenges that have come to bear on them from this place, they are overshadowed by this major issue. The inheritance tax decision has cut right into the heart of the farming industry as it threatens the future of family farms. It threatens the future of our future farmers, those young people who don’t even know what this is all about—people that we should hold precious in this place. It threatens the very fabric of our rural communities—the things that make rural Wales what it is. In the longer term, ironically, it threatens our food security and what the Government is trying to do to achieve its own plans for a sustainable farming system, one that is focused on the long term and on future generations—something that requires investment and certainty. First Minister, the Treasury can make figures say what they want, but this isn’t just about money; it’s about something more valuable than that, something deeply precious to our country. So, First Minister, I’ll repeat the question that Jane Dodds raised: will you stand up for the farming industry in Wales and make the case against this? A 'yes' or a 'no', as Jane said, will suffice.
Prif Weinidog, rwyf i wedi siarad â llawer iawn o ffermwyr ers yr hydref ac, er gwaethaf yr holl heriau enfawr sydd wedi eu hwynebu o'r lle hwn, maen nhw'n cael eu bwrw i'r cysgod gan y mater pwysig hwn. Mae'r penderfyniad treth etifeddiaeth wedi torri i galon y diwydiant ffermio gan ei fod yn bygwth dyfodol ffermydd teuluol. Mae'n bygwth dyfodol ein ffermwyr yn y dyfodol, y bobl ifanc hynny sydd ddim hyd yn oed yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu—pobl y dylem ni eu gwerthfawrogi yn y lle hwn. Mae'n bygwth gwead sylfaenol ein cymunedau gwledig—y pethau sy'n gwneud cefn gwlad Cymru yr hyn ydyw. Yn y tymor hwy, yn eironig, mae'n bygwth ein diogelwch bwyd a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i gyflawni ei chynlluniau ei hun ar gyfer system ffermio gynaliadwy, un sy'n canolbwyntio ar y tymor hir ac ar genedlaethau'r dyfodol—rhywbeth sy'n gofyn am fuddsoddiad a sicrwydd. Prif Weinidog, gall y Trysorlys wneud i ffigurau ddweud yr hyn y maen nhw ei eisiau, ond nid yw hyn yn ymwneud ag arian yn unig; mae'n ymwneud â rhywbeth mwy gwerthfawr na hynny, rhywbeth sy'n hynod werthfawr i'n gwlad. Felly, Prif Weinidog, fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn a gododd Jane Dodds: a wnewch chi sefyll dros y diwydiant ffermio yng Nghymru a gwneud y ddadl yn erbyn hyn? Bydd 'gwnaf' neu 'na wnaf', fel y dywedodd Jane, yn ddigonol.

I’ve just given you an answer—the Deputy First Minister, yes, has made representations to his counterpart in the UK Government. I just think it’s probably worth noting that HMRC say that 40 per cent of agricultural property reliefs benefits the top 7 per cent of estates. And if you are worried about young people, I think it is probably worth just breathing a little bit and understanding that the exploitation of agricultural property relief by non-farmers drives up land prices, which makes it more difficult for those young farmers of the future to get a step onto that agriculture ladder.
Rwyf i newydd roi ateb i chi—mae'r Dirprwy Brif Weinidog, ydy, wedi gwneud sylwadau i'w swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth nodi bod CThEf yn dweud bod 40 y cant o ryddhad eiddo amaethyddol o fudd i'r 7 y cant uchaf o ystadau. Ac os ydych chi'n poeni am bobl ifanc, rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth anadlu ychydig bach a deall bod y rhai nad ydyn nhw'n ffermwyr yn cam-fanteisio ar ryddhad eiddo amaethyddol yn cynyddu prisiau tir, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i'r ffermwyr ifanc hynny yn y dyfodol gael cam ar yr ysgol amaethyddiaeth honno.
Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod yna disconnect rhwng ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhai o’r ffigurau eraill sydd yma. Wel, dyw e ddim yn disconnect, mae'n gagendor eithriadol o fawr. Rhyw 500 o ffermydd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn credu fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn, ond mae yna waith dadansoddi annibynnol, trydydd parti wedi cael ei wneud sy’n dangos y bydd tri chwarter o’r holl ffermydd yn cael eu heffeithio gan y polisi yma, ar yr union adeg pan ydyn ni angen diogelwch a sicrwydd bwyd yn y wlad yma, ar yr union adeg pan fo eich Llywodraeth chi’n pwyso’n drymach nag erioed ar y sector i gyflawni pan fydd hi'n dod i daclo newid hinsawdd a gwyrdroi colli bioamrywiaeth, ac ar yr union adeg pan fo yna ansicrwydd yn y sector oherwydd cyflwyno y cynllun ffermio cynaliadwy, ac yn y blaen. Mae hwn yn creu poen meddwl a gofid i ffermwyr. Felly, nid dim ond mater economaidd yw hwn; mae hwn yn fater o iechyd meddwl pobl sydd yn deuluoedd fferm. Mae’n taflu cysgod trymach na TB hyd yn oed, os yw’r e-byst a’r negeseuon a’r sgyrsiau ffôn dwi’n eu cael yn adlewyrchiad o’r sefyllfa. Felly, a wnewch chi gydnabod, Brif Weinidog, fod hyn wedi creu gwewyr, ei fod wedi creu gofid meddwl eithriadol i deuluoedd fferm ar hyd a lled Cymru, ac ar sail hynny, nid dim ond y ddadl economaidd, mi ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gamu nôl?
The First Minister says that there's a disconnect between the UK Government's figures and some of the other figures bandied about. Well, it's not a disconnect, it's a huge gulf. Some 500 farms, the UK Government believes, will be affected per annum, but some analytical independent, third party work has been done that shows that three quarters of all farms will be affected by this policy, at the very time when we need food safety and security in this country, at the very time when your Government is putting greater pressures than ever on the sector to deliver when it comes to tackling climate change and reversing the loss of biodiversity, and at the very time when there is uncertainty in the sector because of the introduction of the SFS, and so on. This creates great anxiety and concern for farmers. So, it's not just an economic issue; this is an issue of the mental health of farming families. It casts a darker shadow even than TB, if the e-mails and messages and telephone conversations that I have are a reflection of the situation as it is. So, will you recognise, First Minister, that this has created anxiety and great pain for farming families across Wales, and on that basis, not just on the economic case, the UK Government should step back on this policy?

Diolch yn fawr. Fel dwi wedi dweud, mae treth etifeddiant yn dreth sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond beth dwi yn deall yw bod hwn wedi peri pryder i lot o bobl ar hyd a lled cefn gwlad Cymru. Yn sicr, dwi yn poeni am yr effaith mae hwn yn ei chael ar eu hiechyd meddwl nhw. Dwi’n falch i ddweud ein bod ni'n buddsoddi eithaf lot mewn iechyd meddwl i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad ac ar ffermydd. Un o’r pethau dwi’n meddwl sy’n bwysig yw bod pobl yn nodi bod rhaglen Farming Connect gyda ni, sydd yn rhoi cyngor i ffermwyr ynglŷn â sut y gallan nhw gael succession plan, a byddwn i’n gobeithio y byddai pobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw, jest i weld a chael gwell sicrwydd ynglŷn â ble maen nhw’n sefyll.
Thanks you very much. As I've said, the inheritance tax is the responsibility of the UK Government, but what I do understand is that this has caused concern to many people across rural Wales. Certainly, I am concerned about the impact that this is having on their mental health. I'm pleased to say that we are investing quite a lot in mental health for those living in rural areas and on farms. One of the things that's important is that people do note that we have the Farming Connect programme, which provides advice to farmers about how they can put a succession plan in place, and I'd hope that people would take up that opportunity just to see and have more assurance about where they stand.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Questions now from the party leaders. Leader of the Conservatives, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. First Minister, can I welcome the Welsh Government statement last week to mark Holocaust Memorial Day and the eightieth anniversary of the liberation of Auschwitz Birkenau? It’s right that Members of this Senedd come together to mark the horrors of the Holocaust, to remember the 6 million Jews and other victims who perished at the hands of the evil Nazi regime and to renew our commitment together, here in this Senedd, to address antisemitism and hate in our society.
First Minister, the labour market overview was published by the Office for National Statistics last week. The figures showed that you’re a record-breaking Labour Government, but you’re breaking records for all of the wrong reasons, because the data shows that Wales has the highest level of unemployment in the United Kingdom and the highest level of economic inactivity and the lowest average take-home pay in Great Britain. Now, at the last budget, one of the flagship policies set out by your colleagues in the UK Labour Government was to increase employers’ national insurance contributions. Now, that, of course, means that any organisation—a business, a charity or anybody else—that’s thinking about hiring people now faces extra tax on those jobs, and that’s on top of the extra tax on existing jobs as well. Now, you’ve boasted about having a close relationship with your UK Labour Government colleagues, so can I ask you this: did anyone in the UK Labour Government discuss the idea of pushing up employers’ national insurance with you in advance of that announcement? If so, what was your response? And do you now accept that that policy is making it more expensive for businesses and others to employ people and to create jobs and is pushing unemployment higher?
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i groesawu datganiad Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost a phedwar ugain mlynedd ers rhyddhau carcharorion o Auschwitz Birkenau? Mae'n iawn bod Aelodau'r Senedd hon yn dod at ei gilydd i nodi erchyllterau'r Holocost, i gofio'r 6 miliwn o Iddewon a dioddefwyr eraill a fu farw yn nwylo'r gyfundrefn Natsïaidd wrthun ac i adnewyddu ein hymrwymiad gyda'n gilydd, yma yn y Senedd hon, i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth a chasineb yn ein cymdeithas.
Prif Weinidog, cyhoeddwyd y trosolwg o'r farchnad lafur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf. Dangosodd y ffigurau eich bod chi'n Llywodraeth Lafur sy'n curo recordiau, ond rydych chi'n curo recordiau am yr holl resymau anghywir, oherwydd mae'r data yn dangos mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig a'r lefel uchaf o anweithgarwch economaidd a'r cyflog mynd adref cyfartalog isaf ym Mhrydain Fawr. Nawr, yn y gyllideb ddiwethaf, un o'r polisïau blaenllaw a nodwyd gan eich cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur y DU oedd cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod unrhyw sefydliad—busnes, elusen neu unrhyw un arall—sy'n meddwl am gyflogi pobl bellach yn wynebu treth ychwanegol ar y swyddi hynny, ac mae hynny ar ben y dreth ychwanegol ar swyddi presennol hefyd. Nawr, rydych chi wedi brolio am fod â pherthynas agos gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Lafur y DU, felly a gaf i ofyn hyn i chi: a wnaeth unrhyw un yn Llywodraeth Lafur y DU drafod y syniad o gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr gyda chi cyn y cyhoeddiad hwnnw? Os felly, beth oedd eich ymateb? Ac a ydych chi'n derbyn nawr bod y polisi hwnnw yn ei gwneud hi'n ddrytach i fusnesau ac eraill gyflogi pobl ac i greu swyddi ac yn gwthio diweithdra yn uwch?

Well, thanks very much. I’m sure people across Wales and the UK will know the most difficult impact that has been on businesses in recent years is huge increases in inflation, but also increases in interest rates, and all of these things are as a result of the calamitous leadership of the Tory Government in the past. If you’re looking at what we are doing in Wales, I think we should be very proud of the fact, for example, that, in terms of youth unemployment, our levels are at 6 per cent, compared to 11 per cent—12 per cent almost—in the United Kingdom. Now, that is something I think we should be particularly proud about, because, if you don’t nip that in the bud, then there’s a real potential that those people never get a job, and so that is something, because of our guarantee—our youth guarantee—that has made a difference, and I’m very proud of that.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y bydd pobl ledled Cymru a'r DU yn gwybod mai'r effaith anoddaf sydd wedi bod ar fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf yw cynnydd enfawr i chwyddiant, ond hefyd cynnydd i gyfraddau llog, ac mae'r holl bethau hyn o ganlyniad i arweinyddiaeth drychinebus y Llywodraeth Dorïaidd yn y gorffennol. Os ydych chi'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru, rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r ffaith, er enghraifft, o ran diweithdra ieuenctid, bod ein lefelau ar 6 y cant, o'i gymharu ag 11 y cant—12 y cant bron—yn y Deyrnas Unedig. Nawr, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei gredu y dylem ni fod yn arbennig o falch ohono, oherwydd, os nad ydych chi'n lladd hynny yn yr egin, yna ceir potensial gwirioneddol na fydd y bobl hynny byth yn cael swydd, ac felly mae hynny yn rhywbeth, oherwydd ein gwarant—ein gwarant ieuenctid—sydd wedi gwneud gwahaniaeth, ac rwy'n falch iawn o hynny.
You say you’re very proud; I wouldn’t be proud of these figures at all—the highest unemployment in the United Kingdom. That’s an absolutely dreadful record, particularly for those people who are currently looking for work. The truth is, First Minister, that you, as a Labour Government, are out of ideas and you’re running out of steam as well. And whilst the Westminster Labour Government has been undermining job prospects by imposing extra taxes on employment, the Labour Government here has also been busy, levying additional taxes on Welsh firms. High-street shops, rural pubs, cafes, local restaurants—they’re all paying higher business rates than over the border in England. And, of course, visitors in Wales will soon be clobbered with a new tax that will ruin our reputation for having a welcome in the hillside. The official data shows now that unemployment in Wales is 27 per cent higher than it is elsewhere, over and above the UK average, and that is up in every single one of the last seven months, up by almost 50 per cent since Sir Keir Starmer entered No. 10 Downing Street, an absolutely dreadful record. So, what is your message, First Minister, to the thousands of people, the tens of thousands of people, across Wales, who are out of work as a result of these dreadful Labour policies?
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n falch iawn; ni fyddwn i'n falch o'r ffigurau hyn o gwbl—y diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n hanes cwbl ofnadwy, yn enwedig i'r bobl hynny sy'n chwilio am waith ar hyn o bryd. Y gwir amdani, Prif Weinidog, yw eich bod chi, fel Llywodraeth Lafur, wedi rhedeg allan o syniadau ac rydych chi'n rhedeg allan o stêm hefyd. Ac er bod Llywodraeth Lafur San Steffan wedi bod yn tanseilio rhagolygon swyddi drwy osod trethi ychwanegol ar gyflogaeth, mae'r Llywodraeth Lafur yma hefyd wedi bod yn brysur, yn codi trethi ychwanegol ar gwmnïau yng Nghymru. Siopau stryd fawr, tafarndai cefn gwlad, caffis, bwytai lleol—maen nhw i gyd yn talu trethi busnes uwch na dros y ffin yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, bydd ymwelwyr yng Nghymru yn cael eu taro gan dreth newydd cyn bo hir a fydd yn difetha ein henw da am groeso'n aros yn y bryniau. Mae'r data swyddogol yn dangos bellach bod diweithdra yng Nghymru 27 y cant yn uwch nag y mae mewn mannau eraill, yn uwch na chyfartaledd y DU, ac mae hynny i fyny ym mhob un o'r saith mis diwethaf, cynnydd o bron i 50 y cant ers i Syr Keir Starmer gyrraedd Rhif 10 Downing Street, hanes hollol ofnadwy. Felly, beth yw eich neges, Prif Weinidog, i'r miloedd o bobl, y degau o filoedd o bobl, ledled Cymru, sy'n ddi-waith o ganlyniad i'r polisïau Llafur ofnadwy hyn?

Well, it’s interesting isn’t it that he’s so concerned about unemployment. Perhaps he should give up one of his jobs. But I do think, in terms of where we're heading, what I can tell you is that there’s an investment summit that we have announced, which we hope will be helping to drive up the opportunities in our nation, because what I’m interested in is making sure that what we have are high-skilled, high-quality jobs across our whole nation. That's what I was able to do. It was great, for example, on a visit to Wrexham last week, to hear how Wrexham football club is investing significantly in the area. They've even bought up Wrexham Lager now, with an opportunity to export that far more actively throughout the world. So, I am interested in making sure that we drive up the employment figures, but it's not just about employment figures, it's about what kind of jobs we have, and that's what we're focused on, those green jobs for the future and highly skilled jobs. And we are putting a significant amount of money into making sure that our people in Wales are equipped for those jobs for the future.
Wel, mae'n ddiddorol, onid yw, ei fod mor bryderus am ddiweithdra. Efallai y dylai roi'r gorau i un o'i swyddi ef. Ond rwy'n credu, o ran ein trywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod uwchgynhadledd fuddsoddi yr ydym ni wedi ei chyhoeddi, a fydd, gobeithio, yn helpu i gynyddu'r cyfleoedd yn ein cenedl, oherwydd yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo yw gwneud yn siŵr mai'r hyn sydd gennym ni yw swyddi medrus iawn, o ansawdd uchel ar draws ein cenedl gyfan. Dyna'r hyn y llwyddais i'w wneud. Roedd yn wych, er enghraifft, yn ystod ymweliad â Wrecsam yr wythnos diwethaf, clywed sut mae clwb pêl-droed Wrecsam yn buddsoddi yn sylweddol yn yr ardal. Maen nhw hyd yn oed wedi prynu Wrexham Lager nawr, â chyfle i allforio hwnnw yn llawer mwy gweithredol ledled y byd. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynyddu'r ffigurau cyflogaeth, ond nid yw'n ymwneud â ffigurau cyflogaeth yn unig, mae'n ymwneud â pha fath o swyddi sydd gennym ni, a dyna'r ydym ni'n canolbwyntio arno, y swyddi gwyrdd hynny ar gyfer y dyfodol a swyddi hynod fedrus. Ac rydym ni'n cyfrannu swm sylweddol o arian at wneud yn siŵr bod ein pobl yng Nghymru yn barod ar gyfer y swyddi hynny ar gyfer y dyfodol.
You say that you want to push employment up, but the reality is that your policies are pushing unemployment up. That's the reality: a 50 per cent increase since July of last year. But, of course, amidst that gloomy data—and it is gloomy data, I'm afraid to say—there are some bright rays of sunshine breaking through, because this week marks the fifth anniversary of the UK's departure from the European Union. The Anglesey free port is now up and running, along with the Celtic free port. Around 17,000 high-quality new jobs will be created by those free ports and billions of pounds of inward investment. And just last month, of course, the UK received the very good news that it's set to benefit from membership of the trans-Pacific trade deal.
Now, as you know, both free ports and the UK's membership of the comprehensive and progressive agreement for trans-Pacific partnership were initiatives of the previous UK Conservative Government. Welsh Labour Ministers, of course, they dithered around on the free ports issue. We could have had them in place a lot sooner. And they were, at best, lukewarm when it came to the other new trade deal. So, do you acknowledge—do you acknowledge, First Minister—that free ports and the new trade deals are clear benefits of us living in a sovereign United Kingdom, and that neither of these achievements would have been possible without Brexit?
Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau gwthio cyflogaeth i fyny, ond y gwir amdani yw bod eich polisïau yn gwthio diweithdra i fyny. Dyna'r gwir: cynnydd o 50 y cant ers mis Gorffennaf y llynedd. Ond, wrth gwrs, yng nghanol y data digalon hynny—ac mae nhw'n ddata digalon, mae gen i ofn dweud—ceir rhai pelydrau llachar o heulwen yn torri trwodd, oherwydd mae hi'n bum mlynedd yr wythnos hon ers ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae porthladd rhydd Ynys Môn yn weithredol bellach, ynghyd â'r porthladd rhydd Celtaidd. Bydd tua 17,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel yn cael eu creu gan y porthladdoedd rhydd hynny a biliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad. A dim ond y mis diwethaf, wrth gwrs, derbyniodd y DU y newyddion da iawn ei bod ar fin elwa o aelodaeth o'r cytundeb masnach y Môr Tawel.
Nawr, fel y gwyddoch, mentrau Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU oedd y ddau borthladd rhydd ac aelodaeth y DU o'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar gyfer partneriaeth y Môr Tawel. Gweinidogion Llafur Cymru, wrth gwrs, fe wnaethon nhw betruso o ran mater y porthladdoedd rhydd. Gallem ni fod wedi eu sefydlu yn gynt o lawer. Ac roedden nhw, ar y gorau, yn llugoer pan ddaeth i'r cytundeb masnach newydd arall. Felly, a ydych chi'n cydnabod—a ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog—bod porthladdoedd rhydd a'r cytundebau masnach newydd yn fuddion eglur ohonom ni'n byw mewn Teyrnas Unedig sofran, ac na fyddai'r naill na'r llall o'r cyflawniadau hyn wedi bod yn bosibl heb Brexit?

I can't believe—I can't believe—that you are trying to pass off Brexit as something that has worked. I mean, honestly, part of the reason why we are so challenged is because of Brexit. And it is, I think, important to note that our opportunities and the opportunities for companies in Wales to export have been significantly dented as a result of those higher barriers that we now have to confront. The difficulties to recruit in some of our really specialist areas are as a result of Brexit. And those promises that you made in relation to bringing immigration down, well, they didn't come to pass either. Promises, promises, promises. And I'm afraid—. We've got to respect the fact that people in Wales did vote for Brexit, but they were told untruths. They were told untruths, and that is part of the problem. They were told—. They were made promises that have not been fulfilled.
And on free ports, you had an opportunity to get that over the line as a UK Conservative Government; you couldn't make it happen. This UK Labour Government has made it happen, and we are working in partnership, where appropriate, with the UK Government on making sure that we can see those jobs of the future develop in places like those free ports.
Allaf i ddim credu—allaf i ddim credu—eich bod chi'n ceisio cyflwyno Brexit fel rhywbeth sydd wedi gweithio. Y gwir amdani yw mai rhan o'r rheswm pam rydym ni'n wynebu cynifer o heriau yw oherwydd Brexit. Ac mae'n bwysig, rwy'n credu, nodi bod ein cyfleoedd a'r cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru allforio wedi cael eu taro'n sylweddol o ganlyniad i'r rhwystrau uwch hynny y mae'n rhaid i ni eu hwynebu bellach. Mae'r anawsterau yn recriwtio yn rhai o'n meysydd arbenigol iawn o ganlyniad i Brexit. A'r addewidion hynny a wnaethoch chi o ran lleihau mewnfudo, wel, ni chawson nhw eu gwireddu chwaith. Addewidion, addewidion ac addewidion. Ac mae gen i ofn—. Mae'n rhaid i ni barchu'r ffaith bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros Brexit, ond dywedwyd anwireddau wrthyn nhw. Dywedwyd anwireddau wrthyn nhw, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Dywedwyd wrthyn nhw—. Gwnaed addewidion iddyn nhw nad ydyn nhw wedi cael eu gwireddu.
Ac o ran porthladdoedd rhydd, cawsoch chi gyfle i roi'r rheini ar waith fel Llywodraeth Geidwadol y DU; allech chi ddim gwneud iddo ddigwydd. Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi gwneud iddo ddigwydd, ac rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth, lle bo hynny'n briodol, gyda Llywodraeth y DU ar wneud yn siŵr y gallwn ni weld swyddi hynny'r dyfodol yn datblygu mewn lleoedd fel y porthladdoedd rhydd hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
The leader of Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Ie, dydd Gwener yma, mi fyddwn ni'n cofio pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, mi oedd Plaid Cymru o'r farn bod cymunedau a busnesau Cymru yn elwa drwy sicrhau'r berthynas fasnachu agosaf posib efo'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni'n dal o'r farn honno heddiw.
Thank you, Llywydd. Yes, this Friday, we will be marking five years since the UK left the EU. During the referendum campaign, Plaid Cymru was of the view that communities and business in Wales were benefiting by ensuring the closest trading relationship possible with the European Union, and we're still of that view today.
Five years on from the delivery of a very hard Brexit, even a remain-supporting holder of an Irish passport, such as the leader of the Conservatives, can't deny that £4 billion has been taken out of the Welsh economy. Poor trade deals negotiated in a hurry have undermined many businesses and sectors. That hits jobs, it hits wages, it hits the money in people's pockets. Now, the incoming Labour Government talked of some sort of reset, but former Labour leader Neil Kinnock told The i newspaper that he has been driven nuts by the slow pace of the reset with the European Union. Now, Plaid Cymru says, 'Let's get in the single market at least. Let's get in the customs union. Let's look after people's jobs here.' Does the First Minister agree with me?
Bum mlynedd ers cyflawni Brexit caled iawn, ni all hyd yn oed deiliad pasbort Iwerddon a oedd yn cefnogi aros yn yr UE, fel arweinydd y Ceidwadwyr, wadu bod £4 biliwn wedi cael ei dynnu allan o economi Cymru. Mae cytundebau masnach gwael a gytunwyd ar frys wedi tanseilio llawer o fusnesau a sectorau. Mae hynny'n taro swyddi, mae'n taro cyflogau, mae'n taro'r arian ym mhocedi pobl. Nawr, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur newydd sôn am ryw fath o ailosod, ond dywedodd y cyn-arweinydd Llafur Neil Kinnock wrth bapur newydd The i ei fod wedi cael ei yrru'n wallgof gan gyflymder araf yr ailosod gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Plaid Cymru yn dweud, 'Gadewch i ni ymuno â'r farchnad sengl o leiaf. Gadewch i ni ymuno â'r undeb tollau. Gadewch i ni ofalu am swyddi pobl yma.' A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi?

What I know is that, as a result of us leaving the European Union, some of our public services, for example, are considerably more challenged than they would be otherwise. You think about the care service: 2,000 people left our care service as a result of Brexit. And part of the reason why we are so challenged in our hospitals is because of that lack of flow, because those people in the communities went home and they're not being replaced. The same thing with dentists. I used to have a dentist who was from eastern Europe—gone home, not been replaced. Plumbers, same thing. So, it has had an impact on people in our communities.
You ask about additional barriers, and, you're quite right, there is no question that those additional barriers are causing harm. Now, I'm not going to pretend to you that I wouldn't like to see a much closer relationship with the European Union. I think the issue for us is: will they have us? Are they going to open those opportunities for us? Because, frankly, as a nation, over all those years of a Tory Government, we didn't behave very well. And so, allowing us back in is not going to be as straightforward as you and I would like to think.
Yr hyn yr wyf i'n ei wybod yw, o ganlyniad i'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, mae rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft, yn wynebu llawer mwy o heriau nag y bydden nhw fel arall. Rydych chi'n meddwl am y gwasanaeth gofal: gadawodd 2,000 o bobl ein gwasanaeth gofal o ganlyniad i Brexit. A rhan o'r rheswm pam rydym ni'n wynebu cynifer o heriau yn ein hysbytai yw oherwydd y diffyg llif hwnnw, oherwydd aeth y bobl hynny yn y cymunedau adref ac nid ydyn nhw'n cael eu disodli. Mae'r un peth yn wir am ddeintyddion. Roedd gen i ddeintydd o ddwyrain Ewrop yn flaenorol—wedi mynd adref, heb gael ei ddisodli. Plymwyr, yr un peth. Felly, mae wedi cael effaith ar bobl yn ein cymunedau.
Rydych chi'n gofyn am rwystrau ychwanegol, ac, rydych chi'n gwbl gywir, does dim amheuaeth bod y rhwystrau ychwanegol hynny yn achosi niwed. Nawr, nid wyf i'n mynd i esgus i chi na fyddwn i'n hoffi gweld perthynas lawer agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai'r broblem i ni yw: a wnawn nhw ein derbyn ni? A ydyn nhw'n mynd i agor y cyfleoedd hynny i ni? Oherwydd, a dweud y gwir, fel cenedl, dros yr holl flynyddoedd hynny o Lywodraeth Dorïaidd, wnaethon ni ddim ymddwyn yn dda iawn. Ac felly, nid yw caniatáu i ni ddychwelyd yn mynd i fod mor syml ag yr hoffech chi a minnau ei feddwl.
I agree with the list of harms that we heard from the First Minister there, but, for someone who used to be a Member of the European Parliament, I think it's really important that we hear a very clear and unequivocal message on issues like the customs union and single market membership, on that relationship with the European Union. And polling, only in the past few days, has shown that every constituency in Wales supports prioritising trade with the EU over the US—and don't get me wrong, the United States is a very important trading partner too. But, whilst I want her to lobby her Labour colleagues at Westminster on that EU relationship, there are things that Welsh Government can do too. Remember that Welsh Government and Plaid Cymru co-produced a document, 'Securing Wales' Future', which argued explicitly that continued unfettered access to the single market is fundamental to our future. Now, it was a really important point, I think, when Wales had a clear and articulate position ahead of negotiations, respecting that people voted in different ways in the referendum itself. But, with those negotiations having left Wales poorer, what is the First Minister's plan now, using her powers, to try to protect Wales's interests, and what are her ideas for forging a closer relationship with the European Union?
Rwy'n cytuno â'r rhestr o niweidiau a glywsom ni gan y Prif Weinidog yn y fan yna, ond, i rywun a oedd yn arfer bod yn Aelod o Senedd Ewrop, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n clywed neges eglur a diamwys iawn ar faterion fel yr undeb tollau ac aelodaeth o'r farchnad sengl, ar y berthynas honno gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac mae arolygon, dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf, wedi dangos bod pob etholaeth yng Nghymru yn cefnogi blaenoriaethu masnach gyda'r UE dros yr Unol Daleithiau—a pheidiwch â'm camddeall, mae'r Unol Daleithiau yn bartner masnachu pwysig iawn hefyd. Ond, er fy mod i eisiau iddi lobïo ei chydweithwyr Llafur yn San Steffan ar y berthynas honno â'r UE, ceir pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud hefyd. Cofiwch fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyd-gynhyrchu dogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn dadlau'n bendant bod parhau i fod â mynediad dirwystr at y farchnad sengl yn hanfodol i'n dyfodol. Nawr, roedd yn bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, pan oedd gan Gymru safbwynt eglur a chlir cyn trafodaethau, gan barchu bod pobl wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd yn y refferendwm ei hun. Ond, â'r trafodaethau hynny wedi gadael Cymru yn dlotach, beth yw cynllun y Prif Weinidog nawr, gan ddefnyddio ei phwerau, i geisio diogelu buddiannau Cymru, a beth yw ei syniadau hi ar gyfer meithrin perthynas agosach gyda'r Undeb Ewropeaidd?

Well, thanks very much. As you're aware, foreign affairs is something that is reserved to the United Kingdom. Now, does it have an impact on us? Of course it has an impact on us. And we made it very clear where we stood and we stood with you on those relationships, but it wasn't something that shifted in terms of our ability to influence there. So, what we need, I think, is to make sure that we fight for much better access to the European Union in order to support our businesses, and I'm really pleased that in Wales we have, where we're able to, kept relationships with Europe, through, for example, our Taith project, which has meant that, though the closure of the Erasmus project happened, we continued giving the opportunities to young people in Wales to travel and to work with their counterparts across the European Union.
Wel, diolch yn fawr iawn. Fel y gwyddoch chi, mae materion tramor yn rhywbeth a gedwir yn ôl i'r Deyrnas Unedig. Nawr, a yw'n cael effaith arnom ni? Wrth gwrs ei fod yn cael effaith arnom ni. Ac fe wnaethom ni hi'n eglur iawn lle'r oeddem ni'n sefyll ac fe wnaethom ni sefyll gyda chi ar y cysylltiadau hynny, ond nid oedd yn rhywbeth a newidiodd o ran ein gallu i ddylanwadu yno. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni, rwy'n credu, yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n brwydro am fynediad llawer gwell at yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cynorthwyo ein busnesau, ac rwy'n falch iawn ein bod ni yng Nghymru, lle gallwn ni, wedi cadw perthynas ag Ewrop, drwy, er enghraifft, ein prosiect Taith, sydd wedi golygu, er bod prosiect Erasmus wedi cael ei gau, ein bod ni wedi parhau i roi'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru deithio a gweithio gyda'u cymheiriaid ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Foreign affairs was reserved when that document was co-produced, and I pay tribute to the First Minister's predecessors for seeing the need to put up a fight. And the challenges faced over that particular issue doesn't mean that we give up now, does it? I think it's really important that Wales is proactive on this issue.
Now, just as we've done on the NHS in recent weeks, Plaid Cymru today has brought forward a set of constructive proposals, which would help reset Wales's relationship with the European Union. At the heart of that European strategy is a new law—we call it a European alignment Act—giving us tools to try to protect our economy. In areas like environmental protection, public health and consumer protection, we've begun to diverge from the EU's world-leading standards and we risk going backwards. We say let's do what we can to realign, to reinvigorate our ties with Europe and, effectively, begin the hard work of lowering trade barriers for businesses, for farmers and for other producers. It would also look, I think, to extend and deepen our relationship with Ireland, our closest European neighbour. There's fertile ground, no doubt, to be found for renewed prosperity in Wales and the Celtic arc that connects not only us with Ireland, but also Northern Ireland and Scotland. So, as the UK Government dithers, will the First Minister at least consider our proposals as a way of establishing a progressive partnership with our friends in the European Union?
Roedd materion tramor wedi'u cadw yn ôl pan gyd-gynhyrchwyd y ddogfen honno, ac rwy'n talu teyrnged i ragflaenwyr y Prif Weinidog am weld yr angen i frwydro. Ac nid yw'r heriau a wynebwyd dros y mater penodol hwnnw yn golygu ein bod ni'n rhoi'r gorau iddi nawr, onid ydyw? Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru yn rhagweithiol ar y mater hwn.
Nawr, yn union fel yr ydym ni wedi ei wneud ar y GIG yn yr wythnosau diwethaf, mae Plaid Cymru heddiw wedi cyflwyno cyfres o gynigion adeiladol, a fyddai'n helpu i ailosod perthynas Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd. Yn ganolog i'r strategaeth Ewropeaidd honno y mae deddf newydd—rydym ni'n ei galw'n Ddeddf aliniad Ewropeaidd—gan roi dulliau i ni geisio amddiffyn ein heconomi. Mewn meysydd fel diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr, rydym ni wedi dechrau ymwahanu o safonau gorau'r byd yr UE ac rydym ni mewn perygl o fynd tua'n ôl. Rydym ni'n dweud gadewch i ni wneud yr hyn a allwn i ail-alinio, i adfywio ein cysylltiadau ag Ewrop ac, i bob pwrpas, i ddechrau ar y gwaith caled o ostwng rhwystrau masnach i fusnesau, i ffermwyr ac i gynhyrchwyr eraill. Byddai hefyd yn edrych, rwy'n credu, i ymestyn a dyfnhau ein perthynas gydag Iwerddon, ein cymydog Ewropeaidd agosaf. Mae tir ffrwythlon, heb os, i'w gael ar gyfer ffyniant o'r newydd yng Nghymru a'r arc Celtaidd sy'n cysylltu nid yn unig ni ag Iwerddon, ond hefyd Gogledd Iwerddon a'r Alban. Felly, wrth i Lywodraeth y DU betruso, a wnaiff y Prif Weinidog o leiaf ystyried ein cynigion fel ffordd o sefydlu partneriaeth flaengar gyda'n ffrindiau yn yr Undeb Ewropeaidd?

Well, we've kept up the bilaterial relationships, where we're able to, and I'll be very pleased to go and visit our continental colleagues in March to celebrate St David’s Day. But I can reassure you that we are already working with the UK Government to make sure that we do try and align where possible, as much as possible, on those areas where it is in our interest to do that, including on things like environmental legislation. So, it's a lovely idea, but I hardly think it's original.
Wel, rydym ni wedi parhau'r cysylltiadau dwyochrog, lle gallwn ni, a byddaf yn falch iawn o fynd i ymweld â'n cydweithwyr cyfandirol ym mis Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ond gallaf eich sicrhau ein bod ni eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio alinio lle'n bosibl, cymaint â phosibl, ar y meysydd hynny lle mae er budd i ni wneud hynny, gan gynnwys ar bethau fel deddfwriaeth amgylcheddol. Felly, mae'n syniad hyfryd, ond prin fy mod i'n meddwl ei fod yn wreiddiol.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig? OQ62231
3. What is the Welsh Government doing to improve access to public transport in rural communities? OQ62231

We're investing significant funding in public transport, including over £27 million in Mid and West Wales through our local transport grants. We're planning for bus reform, which will begin in south-west Wales, and developing proposals for the Swansea bay and west Wales metro.
Rydym ni'n buddsoddi cyllid sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys dros £27 miliwn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru drwy ein grantiau trafnidiaeth lleol. Rydym ni'n cynllunio ar gyfer diwygio bysiau, a fydd yn dechrau yn y de-orllewin, ac yn datblygu cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru.
I think it's fantastic that the Government's bus reforms will be field tested in Mid and West Wales, and the trials announced last week for Powys and Ceredigion will soon deliver more reliable bus services to our rural communities. The overhaul is about making the network more customer focused, and opening up non-commercial operators. So, in that spirit, would you also join me in welcoming the new dial-a-ride bus service to Newcastle Emlyn, starting at Ffostrasol, which will run every Tuesday until the end of October?
Rwy'n credu ei bod hi'n wych y bydd diwygiadau bws y Llywodraeth yn cael eu profi yn y maes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a bydd y treialon a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer Powys a Cheredigion yn darparu gwasanaethau bysiau mwy dibynadwy i'n cymunedau gwledig yn fuan. Diben yr ailwampio yw sicrhau bod y rhwydwaith yn canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid, ac agor gweithredwyr anfasnachol. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, a wnewch chi hefyd ymuno â mi i groesawu'r gwasanaeth bws galw'r gyrrwr newydd i Gastell Newydd Emlyn, yn cychwyn yn Ffostrasol, a fydd yn rhedeg bob dydd Mawrth tan ddiwedd mis Hydref?

Thanks very much. I'm really pleased that the introduction of the bus Bill is imminent, which will allow us to do a lot more of what you're interested in seeing in the future. I think we've got to manage expectations, make sure there's a recognition that it's not going to switch overnight, but it is going to be a really important step. Because, at the moment, local authorities need to secure services, particularly in those rural areas where they're deemed necessary, but I am particularly pleased to see that those will be field tested in Mid and West Wales—that bridge to franchising—so that we can learn as we go along, on things in particular like minimum vehicle standards, affordable fares, competition between operators, where appropriate, and improved reliability. So, it's great to see that that initiative is being undertaken in Mid and West Wales.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn bod cyflwyno'r Bil bysiau ar fin digwydd, a fydd yn caniatáu i ni wneud llawer mwy o'r hyn y mae gennych chi ddiddordeb yn ei weld yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni reoli disgwyliadau, gwneud yn siŵr bod cydnabyddiaeth nad yw'n mynd i newid dros nos, ond mae'n mynd i fod yn gam pwysig iawn. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae angen i awdurdodau lleol sicrhau gwasanaethau, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig hynny lle ystyrir eu bod yn angenrheidiol, ond rwy'n arbennig o falch o weld y bydd y rheini yn cael eu profi yn y maes yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—y bont honno i fasnachfreinio—fel y gallwn ni ddysgu wrth i ni ddatblygu, am bethau yn benodol fel safonau cerbydau gofynnol, prisiau fforddiadwy, cystadleuaeth rhwng gweithredwyr, lle bo hynny'n briodol, a gwell dibynadwyedd. Felly, mae'n wych gweld bod y fenter honno yn cael ei chynnal yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
First Minister, last week, I noticed you were in Welshpool talking about transforming public bus services there. You said that you hoped to transform public transport in Powys, and that you want to bring more bus provision to rural areas. I very much welcome that statement.
Of course, Powys County Council at the moment are consulting on proposals that will see a reduction in bus services. One concern is that many constituents would have to wait two hours in Welshpool before embarking on the next leg of their journey, and there's particular concern about the ending of the X75 service from Llanidloes to Shrewsbury, which passes through Newtown, Abermule, Berriew and Welshpool. Of course, many of my constituents use these bus services in order to get to appointments in Shropshire, for example, for medical appointments. So, can I ask you how your statement aligns with Powys County Council's proposals, which would see a reduction in bus services in the county?
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, sylwais eich bod chi yn y Trallwng yn siarad am drawsnewid gwasanaethau bysiau cyhoeddus yno. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n gobeithio trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhowys, a'ch bod chi eisiau dod â mwy o ddarpariaeth bysiau i ardaloedd gwledig. Rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw yn fawr.
Wrth gwrs, mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion a fydd yn arwain at ostyngiad i wasanaethau bysiau. Un pryder yw y byddai'n rhaid i lawer o etholwyr aros dwy awr yn y Trallwng cyn cychwyn ar gam nesaf eu taith, a cheir pryder penodol am derfynu'r gwasanaeth X75 o Lanidloes i Amwythig, sy'n mynd trwy'r Drenewydd, Aber-miwl, Aberriw a'r Trallwng. Wrth gwrs, mae llawer o'm hetholwyr yn defnyddio'r gwasanaethau bysiau hyn er mwyn cyrraedd apwyntiadau yn sir Amwythig, er enghraifft, ar gyfer apwyntiadau meddygol. Felly, a gaf i ofyn i chi sut mae eich datganiad yn cyd-fynd â chynigion Cyngor Sir Powys, a fyddai'n arwain at ostyngiad i wasanaethau bysiau yn y sir?

Thanks. What you will see when the bus Bill is introduced is that local authorities will have more control over where those bus routes actually take place. At the moment, they simply don't have the powers to do that, and we do hope that they will take the opportunity, when that is introduced, to make sure that they respond to local needs. We did produce guidance for local authorities and corporate joint committees with examples of how things can be done differently in rural transport, and they achieved good results, so I would suggest that you ask the local authority to take a look at the guidance that has already been produced in terms of what more can be done.
Diolch. Yr hyn y byddwch chi'n ei weld pan fydd y Bil bysiau hwnnw yn cael ei gyflwyno yw y bydd gan awdurdodau lleol fwy o reolaeth dros ble mae'r llwybrau bysiau hynny yn digwydd mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r pwerau ganddyn nhw i wneud hynny, ac rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle, pan fydd hwnnw'n cael ei gyflwyno, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i anghenion lleol. Fe wnaethom ni lunio canllawiau i awdurdodau lleol a chydbwyllgorau corfforedig yn cynnwys enghreifftiau o sut y gellir gwneud pethau yn wahanol o ran trafnidiaeth wledig, ac fe wnaethon nhw sicrhau canlyniadau da, felly byddwn yn awgrymu eich bod chi'n gofyn i'r awdurdod lleol gymryd golwg ar y canllawiau a luniwyd eisoes o ran beth arall y gellir ei wneud.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol? OQ62226
4. How is the Welsh Government working to secure the long-term future of social care? OQ62226

Diolch yn fawr, Hefin. Yr hyn sy’n allweddol i sicrhau dyfodol hirdymor yw cyflawni ein cynllun 10 mlynedd tuag at sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Mae cam 1 ar y gweill. Rŷn ni wedi sefydlu ein swyddfa genedlaethol gofal a chymorth i arwain y datblygiadau hyn. Bydd ein cynlluniau hirdymor yn cefnogi ein gweithlu gwerthfawr i wella canlyniadau i bobl Cymru.
Thank you very much, Hefin. What is key to ensuring the long-term future is delivering our 10-year plan towards establishing a national care service. Stage 1 is well under way. We have established our national office for care and support to lead these developments. Our long-term plans will support our valued workforce to improve outcomes for the people of Wales.
Diolch yn fawr. We've noted that the Scottish National Party Government in Scotland has ditched their plan for a national care service because they couldn't get agreement between staff and they couldn't get the support of the trade unions, and that is a tragedy there. Unison Cymru have supported and advocated for a national care service here in Wales, and I'm sure we are fully behind them in achieving that. Meanwhile, the UK Government has launched an independent commission to look at the long-term future of social care in England, and those findings are undoubtedly going to have an effect on Wales. I'm going to be addressing the Labour-Unison link forum on Saturday 8 February and I'd like to take them some good news. So, how is the Welsh Government working with the UK Government on this, and what is the long-term plan for a national care service in Wales?
Diolch yn fawr. Rydym ni wedi nodi bod Llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban wedi cefnu ar eu cynllun ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol oherwydd gan na allen nhw gael cytundeb rhwng staff ac na allen nhw gael cefnogaeth yr undebau llafur, ac mae hynny'n drasiedi yno. Mae Unsain Cymru wedi cefnogi ac eirioli dros wasanaeth gofal gwladol yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n eu cefnogi'n llwyr i gyflawni hynny. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU wedi lansio comisiwn annibynnol i edrych ar ddyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn Lloegr, ac mae'r canfyddiadau hynny yn sicr o gael effaith ar Gymru. Byddaf yn annerch fforwm cyswllt Llafur-Unsain ddydd Sadwrn 8 Chwefror a hoffwn fynd ag ychydig o newyddion da iddyn nhw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn, a beth yw'r cynllun hirdymor ar gyfer gwasanaeth gofal gwladol yng Nghymru?

Thanks very much. I recognise that Unison has championed the case of a national care service over a number of years, and has in fact influenced the way we respond in terms of developing this. One of the ways they've influenced it is to make sure that we have a situation where we pay the real living wage to care workers in Wales. That's not something that happens across the rest of the United Kingdom. We also have a position where, in Wales, nobody pays more than £100 per week for care that they need in their own home. In England, there is no cap. In Wales, you get to keep capital of £50,000 and you won't be expected to contribute to your own care home costs. In England, the cap is £23,000.
So, we are doing quite a lot that is very different from what's happening in England. You asked about the social care reform proposals in England. It's not going to have any direct bearing on our existing plans for the development of a national care service in Wales, but we will be keeping a close eye on developments in England because we'll need to consider any cross-border impacts for Wales as their plans progress.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cydnabod bod Unsain wedi hyrwyddo achos gwasanaeth gofal gwladol dros nifer o flynyddoedd, ac mewn gwirionedd wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym ni'n ymateb o ran datblygu hyn. Un o'r ffyrdd y maen nhw wedi dylanwadu arno yw gwneud yn siŵr bod gennym ni sefyllfa lle'r ydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru. Nid yw hynny yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni hefyd sefyllfa lle nad oes neb yng Nghymru yn talu mwy na £100 yr wythnos am ofal sydd ei angen arnyn nhw yn eu cartref eu hunain. Yn Lloegr, does dim cap. Yng Nghymru, fe gewch chi gadw cyfalaf o £50,000 ac ni fydd disgwyl i chi gyfrannu at gostau cartref gofal eich hun. Yn Lloegr, £23,000 yw'r cap.
Felly, rydym ni'n gwneud cryn dipyn sy'n wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Fe wnaethoch chi holi am y cynigion diwygio gofal cymdeithasol yn Lloegr. Nid yw'n mynd i gael unrhyw effaith uniongyrchol ar ein cynlluniau presennol ar gyfer datblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru, ond byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau yn Lloegr gan y bydd angen i ni ystyried unrhyw effeithiau trawsffiniol i Gymru wrth i'w cynlluniau ddatblygu.
First Minister, the long-term future for social care requires a long-term workforce, and concerns have been raised regarding the Welsh Government's funding approach for the real living wage for social care workers, as funding is provided for the local government revenue support grant without specific ring-fenced funding. Organisations have expressed grave concerns about this method, noting significant funding shortfalls experienced by care providers across Wales in delivering the real living wage. They emphasise the necessity of clear, identifiable, ring-fenced funding to ensure social care providers receive the necessary support to deliver social care and pay the real living wage to their staff.
So, given these concerns, First Minister, could you detail what work the Welsh Government is doing to ensure that the allocated funds for the real living wage are effectively reaching front-line social care providers, and they're not being reallocated across councils to deal with the funding shortfalls that they're experiencing?
Prif Weinidog, mae'r dyfodol hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yn gofyn am weithlu hirdymor, a chodwyd pryderon ynghylch dull cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, gan fod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y grant cynnal refeniw llywodraeth leol heb gyllid penodol wedi'i glustnodi. Mae sefydliadau wedi mynegi pryderon difrifol am y dull hwn, gan nodi diffygion ariannu sylweddol sy'n cael eu dioddef gan ddarparwyr gofal ledled Cymru wrth ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol. Maen nhw'n pwysleisio'r angen am gyllid eglur, y gellir ei nodi ac sydd wedi'i glustnodi i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn cael y cymorth angenrheidiol i ddarparu gofal cymdeithasol a thalu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff.
Felly, o ystyried y pryderon hyn, Prif Weinidog, a allech chi roi manylion pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddyrannu ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol yn cyrraedd darparwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn effeithiol, ac nad yw'n cael ei ailddyrannu ar draws cynghorau i ddelio â'r diffygion ariannol y maen nhw'n eu dioddef?

Thanks very much. I'm really pleased to hear that you are in support of paying the real living wage to our care workers in Wales. But you're quite right: what we do is we hand over money to local government through the RSG allocation, and it is not hypothecated, but we have made it clear to them that this is what, more or less, we expect them to spend, so there has been effectively a soft hypothecation, and we would expect that to be spent in the areas where we have deemed that it should be spent. So, we are always having constructive discussions with our colleagues in local government, but that is a fundamental principle for us. If you don't pay the real living wage, then the difficulty of recruiting people in an area that is already stretched is going to simply cause you more problems in the long run.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi'n cefnogi talu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal yng Nghymru. Ond rydych chi yn llygad eich lle: yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw trosglwyddo arian i lywodraeth leol trwy ddyraniad y grant cynnal refeniw, ac nid yw wedi'i neilltuo, ond rydym ni wedi ei gwneud yn eglur iddyn nhw mai dyma, fwy neu lai, yw'r hyn yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei wario, felly bu neilltuad meddal i bob pwrpas, a byddem ni'n disgwyl i hwnnw gael ei wario yn y meysydd lle'r ydym ni wedi barnu y dylid ei wario. Felly, rydym ni bob amser yn cael trafodaethau adeiladol gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, ond mae honno yn egwyddor sylfaenol i ni. Os na fyddwch chi'n talu'r cyflog byw gwirioneddol, yna y cwbl y mae'r anhawster o recriwtio pobl mewn maes sydd eisoes o dan bwysau yn mynd i'w wneud yw achosi mwy o broblemau i chi yn y pen draw.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62192
5. What is the Welsh Government doing to support businesses in Preseli Pembrokeshire? OQ62192

Diolch. Rŷn ni’n darparu sawl gwahanol fath o gefnogaeth i fusnesau ym Mhreseli Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig pwynt cyswllt unigol i fusnesau ac entrepreneuriaid gael gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan drefniadau rheoli perthnasoedd penodol, arloesi a chymorth allforio.
Thank you. We provide a range of support for businesses in Preseli Pembrokeshire. This includes Business Wales, the Welsh Government’s bilingual business support service, which provides a single point of contact for businesses and entrepreneurs to receive business information, advice and support. This is backed up by targeted relationship management, innovation and export support.
First Minister, it's vital that the Welsh Government is doing everything it can to support our businesses, given their positive impact on our local communities. Now, last week, I visited Frenni Transport, a road haulage business in my constituency, with my colleague Samuel Kurtz. We discussed several issues facing the road haulage industry, including support for heavy goods vehicle drivers, and they were very concerned about the lack of roadside facilities available to them as they go about their business.
As you'll be aware, the Economy, Trade and Rural Affairs Committee published a report on HGV drivers and supply-chain issues back in January 2022, and that report made 11 recommendations—important recommendations. Therefore, First Minister, can you tell us what the Welsh Government is doing to support businesses like Frenni Transport, and can you also tell us which recommendations from the Economy, Trade and Rural Affairs report have now been fully implemented?
Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo ein busnesau, o gofio eu heffaith gadarnhaol ar ein cymunedau lleol. Nawr, yr wythnos diwethaf, ymwelais â Frenni Transport, busnes cludo nwyddau ar y ffyrdd yn fy etholaeth i, gyda fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz. Fe wnaethom ni drafod nifer o faterion sy'n wynebu'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys cymorth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac roedden nhw'n bryderus iawn am y diffyg cyfleusterau ar ochr y ffordd sydd ar gael iddyn nhw wrth iddyn nhw wneud eu gwaith.
Fel y byddwch chi'n ymwybodol, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad ar yrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cadwyn gyflenwi yn ôl ym mis Ionawr 2022, a gwnaeth yr adroddiad hwnnw 11 o argymhellion—argymhellion pwysig. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau fel Frenni Transport, ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa argymhellion o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wedi cael eu gweithredu yn llawn erbyn hyn?

Thanks very much. I was pleased to meet with some representatives from freight, who were very clear with me that they were concerned also about the situation in relation to facilities. There is a freight strategy and, of course, there will be an opportunity within that to respond to the recommendations.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n falch o gyfarfod â rhai cynrychiolwyr o faes cludo nwyddau, a oedd yn eglur iawn gyda mi eu bod hwythau hefyd yn bryderus am y sefyllfa o ran cyfleusterau. Ceir strategaeth cludo nwyddau ac, wrth gwrs, bydd cyfle o fewn honno i ymateb i'r argymhellion.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl ifanc yn Nelyn? OQ62216
6. What action is the Welsh Government taking to improve the lives of young people in Delyn? OQ62216

We undertake a range of actions aimed at improving the lives of young people across Wales, including in Delyn. For example, our young person’s guarantee has supported over 45,000 young people across Wales to access skills and employment opportunities, from semiconductors to gaming. There have been 472 young people starting Jobs Growth Wales in Delyn since the programme began in 2022.
Rydym ni'n ymgymryd ag amrywiaeth o gamau sydd â'r nod o wella bywydau pobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys yn Delyn. Er enghraifft, mae ein gwarant pobl ifanc wedi cynorthwyo dros 45,000 o bobl ifanc ledled Cymru i gael mynediad at gyfleoedd sgiliau a chyflogaeth, o led-ddargludyddion i chwarae gemau. Mae 472 o bobl ifanc wedi dechrau Twf Swyddi Cymru yn Delyn ers i'r rhaglen gychwyn yn 2022.
Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog.
Thank you for that response, First Minister.
And you're right: we should be proud of what this Welsh Labour Government is doing, whether that's retaining and increasing the education maintenance allowance, to our young person's guarantee, which you talked about, and things like MyTravelPass, it's a Government that's investing in and improving the lives of young people in Delyn and constituencies across the country. On Friday, I met with Delyn's newly elected Member of the Welsh Youth Parliament, Ben Harris. One of Ben's priority issues is transport and the importance of decent public transport to younger constituents. I hope to work with Ben, in particular as we move towards legislating for better bus services in Wales, to make sure that the voices of young people help shape a service and a system, both buses and trains, that work for them.
So, can you provide an assurance to Delyn's Member of the Welsh Youth Parliament that the Welsh Government takes the concerns around transport seriously, and is committed to actively acting to improve public transport for young people? And do you agree with me, Prif Weinidog, that it's only a Labour Government that is and will make a difference to young people in Delyn?
Ac rydych chi'n iawn: dylem ni fod yn falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei wneud, boed hynny yn cadw a chynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, i'n gwarant pobl ifanc, y gwnaethoch chi sôn amdano, a phethau fel FyNgherdynTeithio, mae'n Llywodraeth sy'n buddsoddi ac yn gwella bywydau pobl ifanc yn Delyn ac mewn etholaethau ledled y wlad. Ddydd Gwener, fe wnes i gyfarfod â'r Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Delyn sydd newydd gael ei ethol, Ben Harris. Un o faterion blaenoriaeth Ben yw trafnidiaeth a phwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus addas i etholwyr iau. Rwy'n gobeithio gweithio gyda Ben, yn enwedig wrth i ni symud tuag at ddeddfu ar gyfer gwell gwasanaethau bysiau yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn helpu i lunio gwasanaeth a system, bysiau a threnau, sy'n gweithio iddyn nhw.
Felly, a allwch chi roi sicrwydd i'r Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Delyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y pryderon ynghylch trafnidiaeth o ddifrif, ac wedi ymrwymo i weithredu yn ymarferol i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc? Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai dim ond Llywodraeth Lafur sydd ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn Delyn?

Thanks very much. It's great to hear that you met with Ben, and I congratulate him and all the rest of the young representatives who have been elected to the youth parliament. I particularly welcome his interest in transport, and I want to assure him and you that we are committed to taking action to improve public transport across Wales.
One of the things that I've been doing over the past few days has been to go and meet with students in Llanelli, but also in Anglesey, and one of the things that they were very clear about was that, in fact, because we pay the education maintenance allowance, they are able to use some of that money for their transport to get to college. Now, that is something that didn't happen in England, and I'm very pleased to see that that's been increased now to £40 a week. It is making a difference. It is keeping students in college and I'm very pleased to see that there is going to be a statement on that later on this week.
So, on trains, you'll know that under-11s can travel for free on Transport for Wales, and under-16s can travel for free on off-peak transport when accompanied by a fare-paying adult. So, we're trying to do as much as we can in this space, but that flexibility that the EMA gives people means that they're spending it on things that are of most critical importance to them. I hope that Ben will understand that those people who are eligible for EMA are using it to support their transport needs.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed eich bod chi wedi cyfarfod â Ben, ac rwy'n ei longyfarch ef a gweddill y cynrychiolwyr ifanc sydd wedi cael eu hethol i'r senedd ieuenctid. Rwy'n croesawu'n arbennig ei ddiddordeb mewn trafnidiaeth, a hoffwn ei sicrhau ef a chithau ein bod ni wedi ymrwymo i weithredu i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru.
Un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud dros y dyddiau diwethaf yw mynd i gyfarfod â myfyrwyr yn Llanelli, ond hefyd yn Ynys Môn, ac un o'r pethau yr oedden nhw'n eglur iawn amdano oedd, mewn gwirionedd, oherwydd ein bod ni'n talu'r lwfans cynhaliaeth addysg, eu bod nhw'n gallu defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw ar gyfer eu trafnidiaeth i gyrraedd y coleg. Nawr, mae hynny yn rhywbeth na ddigwyddodd yn Lloegr, ac rwy'n falch iawn o weld bod hwnnw wedi cael ei gynyddu nawr i £40 yr wythnos. Mae'n gwneud gwahaniaeth. Mae'n cadw myfyrwyr yn y coleg ac rwy'n falch iawn o weld y bydd datganiad ar hynny yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Felly, o ran trenau, byddwch yn gwybod y gall pobl ifanc dan 11 oed deithio am ddim ar Trafnidiaeth Cymru, a gall pobl ifanc dan 16 oed deithio am ddim ar drafnidiaeth allfrig pan fyddan nhw yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn. Felly, rydym ni'n ceisio gwneud cymaint ag y gallwn yn y maes hwn, ond mae'r hyblygrwydd hwnnw y mae'r LCA yn ei roi i bobl yn golygu eu bod nhw'n ei wario ar bethau sydd o'r pwys mwyaf hanfodol iddyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd Ben yn deall bod y bobl hynny sy'n gymwys i gael y LCA yn ei ddefnyddio i gynorthwyo eu hanghenion trafnidiaeth.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol? OQ62222
7. What action is the Welsh Government taking to improve community cohesion? OQ62222

We work closely with local authorities, police forces and the third sector in Wales to mitigate tensions and foster good relations within communities. On a related note, it was an honour to represent the Welsh Government at the national Holocaust Memorial Day commemoration yesterday.
Rydym ni'n gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol, heddluoedd a'r trydydd sector yng Nghymru i liniaru tensiynau a meithrin perthynas dda o fewn cymunedau. Ar nodyn cysylltiedig, roedd yn anrhydedd cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghoffâd cenedlaethol Diwrnod Cofio'r Holocost ddoe.
Thank you, First Minister. Sadly, increasing efforts are being made to sow discord between communities. When the world's richest men took over traditional and online media, they allowed the amplification of hate speech. Not satisfied with giving Nazi salutes, the owner of X is giving a platform to far-right agitators and providing a microphone for their lies and propaganda. Misinformation is helping to fuel antisemitism and anti-Muslim hatred and helping to drive converts to al-Qaeda. The Stockport slaughterer was assisted in his conversion to terror by videos the social media platform refused to take offline. Here on the streets of Wales, we have seen the rise of hate groups like Patriotic Alternative. First Minister, what recent discussions have you had with the UK Government about the actions we can take to prevent these hate groups and their lies from dividing our communities?
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn anffodus, fe welir ymdrechion cynyddol i godi cynnen rhwng cymunedau. Wrth i ddynion cyfoethocaf y byd gymryd rheolaeth ar y cyfryngau traddodiadol ac ar-lein, fe wnaethon nhw ganiatáu i iaith casineb ehangu. Heb iddo fod yn fodlon ar roi saliwtiau Natsïaidd, mae perchennog X wedi cynnig llwyfan i gynhyrfwyr asgell dde eithafol ac estyn meicroffon ar gyfer eu celwyddau a'u propaganda nhw. Mae camwybodaeth yn helpu i danio gwrthsemitiaeth a chasineb gwrth-Fwslimaidd ac yn helpu i ysgogi rhai i ymuno ag al-Qaeda. Ategwyd tröedigaeth y llofrudd yn Stockport at derfysgaeth gan fideos y gwrthododd y llwyfan cyfryngau cymdeithasol eu tynnu nhw oddi ar-lein. Ac ar strydoedd Cymru, rydym ni wedi gweld cynnydd ymhlith grwpiau casineb fel Patriotic Alternative. Prif Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi'n ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gallwn ni eu cymryd i atal y grwpiau casineb hyn a'u celwyddau nhw rhag creu rhaniadau yn ein cymunedau ni?

Diolch yn fawr, Altaf. Thank you so much for the leadership that you're showing on this issue. I think it's something that we should pay tribute to, recognising that social media can have a very negative impact on that community cohesion that you have emphasised is so critical to making sure that we work as a nation, as a community, together for the good of all our people. The last thing we need in this country is to be divided. Certainly, having people from outside Wales lob terrible suggestions about what might be happening is something we need to be very careful about. But thank you very much for that.
I can reassure you that, in particular under the leadership of Jane Hutt over a number of years—. She has done incredible work to ensure that, as a Government, we have this front and centre of what we do, in all aspects of Government. You're aware of the 'Anti-racist Wales Action Plan'; this is demonstrating our commitment to developing a nation where everybody feels like they can contribute and be a part. I'd like to thank you for that and give you reassurance that this is absolutely one of the things that is central to our core principles as a Government.
Diolch yn fawr, Altaf. Diolch yn fawr iawn am yr arweiniad yr ydych chi'n ei roi ynglŷn â'r mater hwn. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni roi sylw iddo, sef cydnabod y gall cyfryngau cymdeithasol fod ag effaith ddinistriol iawn ar y cydlyniad yn y cymunedau hyn fel gwnaethoch chi danlinellu ac mae hynny mor hanfodol i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, yn genedl ac yn gymdeithas, er mwyn ein pobl ni i gyd. Y peth olaf sydd ei angen arnom ni yn y genedl hon yw cael ein rhannu. Yn sicr, mae cael pobl o'r tu allan i Gymru yn taflu'r awgrymiadau ofnadwy am yr hyn a allai fod yn digwydd yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag ef. Ond diolch yn fawr iawn am hynna.
Fe allaf i eich sicrhau chi, yn enwedig dan arweinyddiaeth Jane Hutt dros nifer o flynyddoedd—. Mae hi wedi gwneud gwaith anhygoel i sicrhau, yn y Llywodraeth, bod hyn yn flaenllaw ac yn ganolog i'r hyn a wnawn ni, ym mhob agwedd ar Lywodraeth. Rydych chi'n ymwybodol o 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'; mae hwn yn amlygu ein hymrwymiad i feithrin cenedl lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n gallu cyfranogi a pherthyn iddi. Rwy'n dymuno diolch i chi am hynna a rhoi sicrwydd i chi o ran bod hwn yn gyfan gwbl yn un o'r pethau sy'n ganolog i'n hegwyddorion creiddiol ni yn y Llywodraeth.
8. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru? OQ62225
8. What is the Welsh Government's strategy for supporting food producers in Wales? OQ62225

Mae ein strategaeth ni ar gyfer bwyd a diod yn cefnogi ein cynhyrchwyr yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi creu enw da am ragoriaeth yn fyd-eang, ac mae gennym ni un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd. Rŷn ni wedi rhagori ar ein mesur llwyddiant i dyfu’r sector ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl, gan gyflawni trosiant o £9.3 biliwn yn 2023.
Our strategy for food and drink supports producers in Wales. We have created a global reputation for excellence, having one of the most sustainable supply chains in the world. We have exceeded our success measure to grow the sector two years early, achieving a turnover of £9.3 billion in 2023.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.
Thank you for that response, First Minister.
Back in October, a report from the BBC highlighted that only 6 per cent of vegetables served in Welsh schools are currently grown in Wales. While Food Sense Wales have stated that their ambition is to increase that figure to 10 per cent by 2028, they also warned that far more growers are needed to meet this target. There is something, I think, to say about the lack of ambition with that target that Food Sense has set out, but what I wanted to ask about today is this: the Deputy First Minister said last summer that the community food strategy would be published by the end of 2024, so either it's extremely hard to find or it simply hasn't happened. Could I get an update today from the First Minister on when we can expect to see that strategy?
Yn ôl ym mis Hydref, roedd adroddiad gan y BBC yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 6 y cant o'r llysiau sy'n cael eu paratoi ar gyfer prydau bwyd yn ysgolion Cymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru ar hyn o bryd. Er bod Synnwyr Bwyd Cymru wedi datgan mai eu huchelgais nhw yw cynyddu'r ffigur hwnnw i 10 y cant erbyn 2028, roedden nhw'n rhybuddio hefyd y byddai angen llawer mwy o dyfwyr llysiau yng Nghymru ar gyfer taro'r nod hwn. Mae rhywbeth i'w ddweud, rwy'n credu, o ran y diffyg uchelgais sydd i'r bwriad hwnnw fel mae Synnwyr Bwyd yn ei nodi, ond yr hyn yr oeddwn i'n awyddus i holi yn ei gylch heddiw yw hyn: dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog yn yr haf y llynedd y byddai'r strategaeth bwyd cymunedol yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd 2024, felly naill ai ei bod hi'n anodd iawn cael gafael ar honno neu nad yw honno wedi digwydd, mewn gwirionedd. A gaf i'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl cael gweld y strategaeth honno?

Thanks very much. First of all, you're quite right that the total spend on food and drink in terms of vegetables and fruit was far lower than we'd hoped. But that figure you suggested has already increased by 25 per cent, so we're heading in the right direction. I'm really pleased as well to report that, for example, in Castell Howell, which is one of our major food producers and suppliers, there has been an 86 per cent increase in Welsh food bought by the NHS. So, we're doing what we can as a Government to drive up that attempt at making sure we have local produce that is of quality in our food, and obviously there's a big opportunity now in relation to free school meals. That is something that we can look forward to as well. In relation to the community food strategy, it's a programme for government commitment where we're going to encourage production and supply of locally sourced food. We're not waiting for it to happen. As you can see, some of it is already happening. But that will be brought forward very soon.
Diolch yn fawr. Yn gyntaf i gyd, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch y ffaith bod cyfanswm y gwariant ar fwyd a diod o ran llysiau a ffrwythau yn llawer llai nag yr oeddem ni wedi gobeithio. Ond mae'r ffigur hwnnw y gwnaethoch chi ei awgrymu wedi cynyddu 25 y cant eisoes, felly rydym ni'n teithio i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n falch iawn hefyd o gael dweud, er enghraifft, yng Nghastell Howell, sef un o'n prif gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd ni, y bu cynnydd o 86 y cant o ran y bwyd o Gymru sy'n cael ei brynu gan y GIG. Felly, rydym ni'n gwneud y cyfan a allwn ni yn y Llywodraeth i hybu'r ymgais honno i sicrhau bod gennym ni gynhyrchion lleol o ansawdd da yn ein bwydydd ni, ac yn amlwg fe geir cyfle mawr nawr o ran prydau ysgol am ddim. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni edrych ymlaen ato hefyd. O ran y strategaeth bwyd cymunedol, mae honno'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth y byddwn ni'n ei rhedeg i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol. Nid ydym ni'n disgwyl iddo ddigwydd. Fel gwelwch chi, mae rhywfaint o hyn yn digwydd eisoes. Ond fe gaiff hynny ei ddwyn ymlaen yn fuan iawn.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Thank you, First Minister.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar Jane Hutt, y Trefnydd, i wneud y datganiad yna.
The next item will be the business statement and announcement. I call on the Trefnydd, Jane Hutt, to make that statement.

Diolch yn fawr, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Thank you very much, Llywydd. There are no changes to this week's business. Draft business for the next three weeks is set out on the business statement and announcement, which is available to Members electronically.
Trefnydd, I'd like to call again for a statement from the Welsh Government regarding the closure of the A487 in Newport in my constituency. As I've said before, the road is to be closed for eight weeks, and it's having a devastating impact on some of the local businesses in that area. One business has said that the closure and diversions are costing it around £900 extra a week to operate, and another business has expressed concerns that the work may take longer than expected, given the way the work has been taking place. I appreciate that the road maintenance is essential, but if businesses can demonstrate that this closure is costing them significant sums of money, I believe that the Welsh Government should intervene and provide support in order to keep those local businesses afloat. Trefnydd, given that the A487 is a trunk road, and so is under the jurisdiction of the Welsh Government, I'd be grateful if a statement was forthcoming regarding this matter so that businesses can understand how the Welsh Government will support them whilst this road is closed.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad unwaith eto gan Lywodraeth Cymru ynghylch cau'r A487 yng Nghasnewydd yn fy etholaeth i. Fel dywedais i o'r blaen, fe fydd y ffordd wedi cau am wyth wythnos, ac mae hynny'n cael effaith ddinistriol ar rai o fusnesau lleol yr ardal honno. Mae un busnes wedi dweud bod y cau a'r dargyfeiriadau yn golygu cost rhedeg o tua £900 yn ychwanegol bob wythnos, ac mae busnes arall wedi mynegi pryderon y gallai'r gwaith gymryd mwy o amser na'r disgwyl, o ystyried y ffordd y mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo. Rwy'n gwerthfawrogi bod y gwaith cynnal a chadw ffyrdd yn hanfodol, ond os gall y busnesau brofi bod cau'r ffordd hon yn costio swm sylweddol o arian iddyn nhw, rwyf i o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd ac estyn cymorth i gadw'r busnesau lleol hynny i fynd. Trefnydd, o gofio mai cefnffordd yw'r A487, ac felly o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gellid cael datganiad ynglŷn â'r mater hwn fel gall busnesau wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw tra bod y ffordd hon wedi cau.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, Paul Davies.
Thank you very much for your very important question, Paul Davies.
Clearly, when there is road maintenance, we see a great deal of it in terms of not just the need for road maintenance but also other essential services that have to be installed on our major trunk roads. It is important that you've drawn this to the attention of myself and the Senedd, and indeed to Cabinet colleagues. I'm sure that businesses will want to assess the impact on their businesses and also ensure that the work that is undertaken is timely, and hopefully will lead to a safer road surface, if that's one of the main issues that's been undertaken in terms of upgrading and road maintenance.
Yn amlwg, pan fo gwaith cynnal a chadw ffyrdd yn digwydd, rydym ni'n gweld llawer iawn o hynny nid yn unig o ran yr angen am gynnal a chadw'r ffyrdd ond y gwasanaethau hanfodol eraill hefyd y mae'n rhaid eu sefydlu nhw ar ein cefnffyrdd mawr. Mae hi'n bwysig eich bod chi wedi tynnu sylw'r Senedd a'm sylw innau at hyn, a sylw cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn wir. Rwy'n siŵr y bydd busnesau yn dymuno asesu'r effaith ar eu busnesau nhw yn ogystal â sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei wneud mewn da bryd, ac yn arwain at osod arwyneb ar y ffordd a fydd yn fwy diogel rwy'n gobeithio, os hwnnw yw un o'r prif faterion a ymgymerwyd ag ef o ran uwchraddio a chynnal a chadw ffyrdd.
Trefnydd, mi fuaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, oherwydd heddiw eto mae yna drafod yn y wasg am gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio cynlluniau pensiynau er mwyn buddsoddi yn wahanol. Yn amlwg, mae yna oblygiadau o ran y diwygiadau yma i Gymru, ac mi hoffwn ddeall pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o hynny, a hefyd pa drafodaethau mae'r Llywodraeth yn eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran hyn.
Dwi hefyd eisiau codi'r mater efo chi o'r rhaglen a gafodd ei darlledu gan y BBC a oedd yn amlinellu o ran Patriotic Alternative. Dwi wedi cael nifer fawr o etholwyr yn cysylltu efo fi yn bryderus dros ben am y rhaglen yma a'r cynnwys, ac yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud. Oherwydd rydych chi wedi amlinellu eich cynlluniau gwrth-hiliaeth chi, ond yn amlwg dydy rhywbeth ddim yn gweithio pan ydyn ni'n gweld y math o agweddau yma'n lledaenu o fewn ein cymunedau ni. Felly, mi hoffwn wybod pa drafodaethau rydych chi yn eich rôl fel Trefnydd ond hefyd efo'r cyfrifoldebau sydd gennych chi yn eu cael gyda'r heddlu, a gofyn am gyfle i ni fel Senedd drafod hyn, a sicrhau bod y cynlluniau sydd ar waith yn rhai effeithiol.
Trefnydd, I would like to ask for an oral statement from the Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language, because today, again, there is discussion in the press about UK Government plans to reform pension schemes in order to invest differently. Clearly, there are implications in terms of these reforms to Wales, and I would like to understand what assessment the Government has made of that, and also what discussions the Government is having with the UK Government on this issue.
I also want to raise with you the issue of the programme that was broadcast by the BBC that focused on Patriotic Alternative. I've had a number of constituents contacting me who are extremely concerned about this programme and its content, and asking what the Welsh Government is doing. Because you have outlined your anti-racism plans, but clearly something isn't working when we see these attitudes being spread within our communities. So, I would like to know what discussions you, in your role as Trefnydd, but also with the other responsibilities you have, are having with the police, and I would ask for an opportunity for us as a Senedd to discuss this and ensure that the plans in place are effective.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. On the UK Government pension reforms, it is important to acknowledge that the UK Government has recently proposed several significant pension reforms. They are pension reforms aimed at boosting economic growth and providing greater financial security for workers. There have been consultations that very recently closed, on 16 January. They are, of course, part of the Ministry of Housing, Communities and Local Government in the UK Government. It's largely a reserved matter, but of course there will be implications in Wales, and I think it would be very helpful if the Member would like to set out the specific areas that she's interested in. But also, I will be speaking to the Cabinet Secretary to identify what our response was to that.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. O ran diwygiadau pensiwn Llywodraeth y DU, mae hi'n bwysig cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi cynnig sawl diwygiad sylweddol yn ddiweddar o ran pensiynau. Diwygiadau i bensiynau ydyn nhw sydd â nod o hybu twf economaidd a chynnig mwy o sicrwydd ariannol i weithwyr. Mae ymgynghoriadau wedi bod ac fe gaeodd y rhain yn ddiweddar iawn, ar 16 o fis Ionawr. Wrth gwrs, maen nhw'n rhan o'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU. Mater a gedwir yn ôl i raddau helaeth iawn yw hwn, ond wrth gwrs fe fydd yna oblygiadau yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai hi'n dda o beth pe byddai'r Aelod yn dymuno nodi'r meysydd penodol y mae ganddi hi ddiddordeb ynddyn nhw. Ond hefyd, fe fyddaf i'n siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet i nodi beth oedd ein hymateb ni i hynny.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn hefyd—
Thank you also for your very important question—
—about how we can respond to counter the spread of extremist ideologies in Wales, particularly your focus on the programme that was broadcast last week, which, we have to say, was horrifying for people. I hope people did choose to watch that. We had representations. It was very heartening to hear from Altaf Hussain earlier on this afternoon, also raising very much the same question, and what role do we play in this. We know, and we can say again, and I hope across the Chamber we would all agree, that Wales has no place for discrimination, victimisation, harassment or abuse, and we stand opposed to hate in all its forms. I think there were quite a few of us there at the national Holocaust Memorial Day ceremony yesterday. Those words were used repeatedly throughout that service, including by survivors of the horror of the Holocaust and other genocides. It's 30 years since the genocide in Srebrenica—we heard of that.
This is, obviously, about how we can work together. It has to be working with the UK Government—criminal justice is reserved to the UK Government. I chair the policing partnership board, working very closely with our police and crime commissioners, and I think the most important thing is that we're working with groups supporting minority communities to reassure citizens and tackle misinformation. We do encourage Welsh communities and organisations to stand together against attempts to divide us. We have a Wales race forum and we're meeting over the next week. I've also got a meeting of the faith communities forum as well. These are really important forums where we can share with the Welsh Government the experiences of those representatives of our minority ethnic communities, and also where we can urge all victims of hate incidents to report their experience. They can do that by contacting the police or the Wales hate support centre run by Victim Support Cymru.
We're working very closely with our partners to ensure terrorism threats to Wales are understood and communicated appropriately. And back to the community cohesion programme, it's so important to monitor and mitigate community tensions where they arise, and foster good relations between groups and communities across Wales. I am doing a statement over the next few weeks on our commitment to our nation of sanctuary, but I certainly will look for every means I can to address these issues in my role as Cabinet Secretary for Social Justice.
—am sut y gallwn ni ymateb er mwyn gwrthsefyll ymlediad ideolegau eithafol yng Nghymru, yn arbennig o ran eich pwyslais chi ar y rhaglen a ddarlledwyd yr wythnos diwethaf, a oedd, mae'n rhaid i ni ddweud, yn arswydus i bobl. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dewis gwneud hynny. Fe gawsom ni sylwadau. Roedd hi'n galonogol iawn clywed oddi wrth Altaf Hussain yn gynharach y prynhawn yma, a oedd yn codi'r un cwestiwn hefyd i raddau helaeth iawn, a beth fydd ein rhan ni yn hyn o beth. Fe wyddom ni, ac fe allwn ni ddweud eto, ac rwy'n gobeithio y byddem ni'n cytuno i gyd ar draws y Siambr nad oes unrhyw le yng Nghymru i wahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu na chamdriniaeth, ac rydym ni'n gwrthsefyll casineb yn yr holl agweddau sydd ar hwnnw. Rwy'n credu bod cryn dipyn ohonom ni yno ddoe yn y seremoni genedlaethol ar Ddiwrnod Coffáu'r Holocost. Defnyddiwyd y geiriau hynny dro ar ôl tro drwy gydol y gwasanaeth hwnnw, gan gynnwys gan oroeswyr erchyllterau'r Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae 30 mlynedd wedi bod ers yr hil-laddiad yn Srebrenica—fe glywsom ni am hwnnw hefyd.
Yn amlwg, mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd. Mae'n rhaid i hyn fod drwy weithio gyda Llywodraeth y DU—mater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU yw cyfiawnder troseddol. Rwy'n cadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona, sy'n gweithio yn agos iawn gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ac rwyf i o'r farn mai'r peth pwysicaf yw ein bod ni'n gweithio gyda grwpiau sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifol ar gyfer tawelu meddyliau dinasyddion a mynd i'r afael â chamwybodaeth. Rydym ni'n annog cymunedau a sefydliadau Cymru i sefyll gyda'i gilydd yn erbyn ymdrechion i greu rhaniadau yn ein plith ni. Mae fforwm hil gennym ni i Gymru ac fe fyddwn ni'n cyfarfod yn ystod yr wythnos nesaf. Mae gen i gyfarfod o'r fforwm cymunedau ffydd hefyd. Mae'r rhain yn fforymau pwysig iawn lle gallwn ni rannu profiadau'r cynrychiolwyr hynny o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig gyda Llywodraeth Cymru, a hefyd rydym ni'n gallu annog pob dioddefwr achosion o gasineb i adrodd am ei brofiad. Maen nhw'n gallu gwneud hynny drwy gysylltu â'r heddlu neu ganolfan cymorth casineb Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru.
Rydym ni'n gweithio yn agos iawn gyda'n partneriaid i sicrhau bod bygythiadau o derfysgaeth yn erbyn Cymru yn cael eu deall a'u cyfleu mewn modd priodol. Ac i droi yn ôl at y rhaglen cydlyniad cymunedol, mae monitro a lliniaru tensiynau cymunedol pan fyddant yn codi yn fater mor bwysig, yn ogystal â meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau a chymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwneud datganiad dros yr wythnosau nesaf ar ein hymrwymiad ni i'n cenedl noddfa ond, yn sicr, fe fyddaf i'n chwilio am bob dull posibl i fynd i'r afael â'r materion hyn yn sgil fy ngwaith yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.
I want to raise two issues. Can I ask for a statement on how the Welsh Government is promoting co-operatives and mutuals? This would include an update on co-operative housing developments, the role of co-operatives in providing care for looked-after children, the teaching of the mutual model as part of entrepreneurship in schools and colleges, and also how local authorities are meeting their statutory obligations to promote social enterprises and co-operatives.
I'm also asking for a statement on the veterans covenant and health. It says all armed forces veterans are entitled to receive priority access to NHS care for any conditions that are service related. How is the Government ensuring this is being carried out?
Rwy'n dymuno codi dau fater. A gaf i ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol? Fe fyddai hwnnw'n cynnwys diweddariad ar ddatblygiadau tai cydweithredol, swyddogaeth cwmnïau cydweithredol wrth ddarparu gofal i blant sy'n derbyn gofal, addysgu'r model cydfuddiannol yn rhan o entrepreneuriaeth mewn ysgolion a cholegau, a hefyd sut mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.
Rwy'n gofyn hefyd am ddatganiad ar gyfamod y cyn-filwyr ac iechyd. Mae hwnnw'n mynegi bod gan bob un o gyn-filwyr y lluoedd arfog hawl i gael mynediad blaenoriaethol at ofal y GIG oherwydd unrhyw gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni?
Diolch yn fawr, Mike Hedges. You've raised a really important point about how we are promoting co-operatives and mutuals. I think, most importantly, we are supporting Cwmpas, with core funding to Cwmpas by Welsh Government, because that provides that bespoke specialist business support to social enterprises and to co-operatives. And, of course, Cwmpas is always on the move to develop new projects and initiatives to support an inclusive economy and stronger communities in Wales. But it’s also communicating very closely with the social enterprise sector, and is very engaged in tackling digital exclusion and preparing for a future post-EU funding, through investment in core leadership and administrative functions to ensure that Cwmpas has got long-term sustainability. I think it’s important that Cwmpas has received the funding from Welsh Government to support Social Business Wales and Social Firms Wales. The funding is £1.7 million for those key agencies to help us in promoting co-operatives. But I think it would be timely—and perhaps that’s something that the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning would consider—to do an update on the role and health of co-operatives in Wales.
I’ll also respond to your question about veterans and the important fact that we have this covenant with our veterans. Health boards have a legal duty to demonstrate due regard to the armed forces community in their areas. We do have UK Government guidance on how we can do that. It includes monitoring. It’s not prescriptive, but all health boards in Wales have structures in place to support their local armed forces community. And I know there’s been very good feedback about how effective that is. Health boards learn from each other, benchmarking against the Veterans Covenant Healthcare Alliance. And in Wales the joint commissioning committee, for example, on enhanced prosthetic limbs for war veterans—that’s outlined in specialist services commissioning policy. And I think these specialist streams of funding are important for veterans because we receive referrals for veterans from across a wide range of agencies, and, indeed, family and community links, as well as local authorities. And just finally to say that we increased funding for the service in Veterans NHS Wales to £920,000 annually. We increased that, and what’s really important is the provision of therapy by Help for Heroes across Wales.
Diolch yn fawr, Mike Hedges. Rydych chi wedi codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut yr ydym ni am hyrwyddo cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Yn bwysicaf i gyd, yn fy marn i, rydym ni'n cefnogi Cwmpas, gyda chyllid craidd ar gyfer Cwmpas yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hwnnw'n darparu cymorth busnes arbenigol pwrpasol fel hyn i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Ac, wrth gwrs, mae Cwmpas yn gweithio bob amser i ddatblygu prosiectau a mentrau newydd er mwyn cefnogi economi gynhwysol a chymunedau cryfach yng Nghymru. Ond mae'n cyfathrebu yn agos iawn â'r sector mentrau cymdeithasol hefyd, ac mae'n ymwneud llawer iawn â mynd i'r afael ag allgáu digidol a pharatoi ar gyfer cyllid ôl-UE i'r dyfodol, trwy fuddsoddi mewn arweinyddiaeth greiddiol a swyddogaethau gweinyddol i sicrhau y bydd Cwmpas â chynaliadwyedd hirdymor. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod Cwmpas wedi derbyn yr arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru. Mae'r cyllid o £1.7 miliwn i'r asiantaethau allweddol hynny ar gyfer ein helpu i hyrwyddo cwmnïau cydweithredol. Ond rwy'n credu y byddai hi'n amserol—ac efallai fod hynny'n rhywbeth y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ei ystyried—i gael diweddariad ar swyddogaeth a chyflwr cwmnïau cydweithredol yng Nghymru.
Rwyf i am ymateb hefyd i'ch cwestiwn chi am gyn-filwyr a'r ffaith bwysig fod y cyfamod hwn gennym ni gyda'n cyn-filwyr ni. Mae gan y byrddau iechyd ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus i gymuned y lluoedd arfog yn eu hardaloedd nhw. Mae gennym ninnau ganllawiau oddi wrth Lywodraeth y DU ar sut y gallwn ni wneud hynny. Mae hynny'n cynnwys monitro. Nid rhywbeth sy'n rhagnodol ydyw hwn, ond mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru strwythurau ar waith i gefnogi cymdeithas eu lluoedd arfog yn lleol. Ac rwy'n gwybod bod adborth da iawn wedi dod ynghylch pa mor effeithiol yw hynny. Mae byrddau iechyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd, gan feincnodi yn erbyn Cynghrair Gofal Iechyd y Cyfamod Cyn-filwyr. Ac yng Nghymru mae'r cyd-bwyllgor comisiynu, er enghraifft, ar gyfer aelodau prosthetig gwell ar gyfer cyn-filwyr mewn rhyfeloedd—cafodd hynny ei amlinellu mewn polisi comisiynu gwasanaethau arbenigol. Ac rwy'n credu bod y ffrydiau arbenigol hyn o gyllid yn bwysig i gyn-filwyr oherwydd ein bod ni'n cael atgyfeiriadau ar gyfer cyn-filwyr o bob rhan o ystod eang o asiantaethau, ac, yn wir, o ran cysylltiadau teuluol a chymunedol, yn ogystal â'r awdurdodau lleol. A gair bach i orffen sef dweud ein bod ni'n cynyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn GIG Cymru i Gyn-filwyr i £920,000 yn flynyddol. Fe wnaethom ni gynyddu hwnnw, a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw darpariaeth therapi gan Help for Heroes ledled Cymru.
Can I call for two statements today, please, both from the Cabinet Secretary with responsibility for health? I think many people across Wales were absolutely alarmed at how out of touch the Welsh Government was last week when the Cabinet Secretary for finance made a statement that suggested that there were too many beds in the Welsh NHS and too many hospitals. Now, for those people left languishing in pain on waiting lists, because they need hospital treatment, that statement was absolutely outrageous. We need to clarify the Welsh Government’s position on the number of beds needed in the Welsh NHS, to ensure that the current configuration of our hospitals is not going to diminish, and, indeed, to make sure that the new hospitals that the Welsh Government has promised will actually be delivered, especially given that the Cabinet Secretary for finance holds the purse strings.
Secondly, can I ask for a specific statement from the Welsh Government in relation to waiting times for ophthalmology patients? I was contacted by a constituent last week who has been waiting for an appointment in relation to glaucoma. He was referred from his local Specsavers to the Betsi Cadwaladr health board in December 2023. He heard nothing, absolutely nothing, until he chased the matter up with my office. We got in touch with the health board, and, unfortunately, we’ve been told that while he is on a list, having already waited for 55 weeks, he will now have to wait a further 43 weeks at least before he is seen. Now, clearly, when people are at risk of losing their sight, with irreversible sight damage, that is unacceptable. The Royal National Institute of Blind People have warned that people are coming to harm as a result of these waiting lists, as have the Royal College of Ophthalmologists, who have predicted an increase in demand by 30 per cent to 40 per cent over the next 20 years. What action is the Welsh Government taking to address these issues? That's what we want to know, on behalf of our constituents. So, I would request a written update as soon as possible.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch chi'n dda, y ddau gan Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros iechyd? Rwy'n credu bod llawer o bobl ledled Cymru wedi'u brawychu'n ofnadwy o weld cymaint yr oedd Llywodraeth Cymru wedi colli gafael ar bethau yr wythnos diwethaf pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ddatganiad a oedd yn awgrymu bod gormod o welyau yn GIG Cymru a gormod o ysbytai. Nawr, i'r bobl hynny sydd wedi eu gadael yn dihoeni mewn poen ar restrau aros, am fod angen triniaeth mewn ysbyty arnyn nhw, roedd y datganiad hwnnw'n hollol warthus. Mae angen bod ag eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer y gwelyau sydd eu hangen yn GIG Cymru, i sicrhau na fydd cyfluniad presennol ein hysbytai ni'n lleihau, ac, yn wir, sicrhau y bydd yr ysbytai newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi addo yn cael eu darparu mewn gwirionedd, yn enwedig o gofio mai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid sy'n dal llinynnau’r pwrs.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad penodol gan Lywodraeth Cymru o ran amseroedd aros i gleifion offthalmoleg? Cysylltodd etholwr â mi'r wythnos diwethaf a fu'n aros am apwyntiad mewn cysylltiad â glawcoma. Cafodd ei gyfeirio gan siop Specsavers lleol at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr 2023. Ni chlywodd yr un gair, dim byd o gwbl, nes iddo fynd ar drywydd y mater gyda'm swyddfa i. Fe wnaethom ni gysylltu â'r bwrdd iechyd, ac, yn anffodus, fe gawsom ni wybod er ei fod ef ar restr, ar ôl aros am 55 wythnos yn barod, y bydd yn rhaid iddo aros am 43 wythnos arall o leiaf nawr cyn y caiff ei weld. Nawr, yn amlwg, pan fo pobl mewn perygl o golli eu golwg, gyda difrod i'w golwg na ellir ei wyrdroi, mae hynny'n annerbyniol. Mae'r RNIB wedi rhybuddio bod pobl yn cael eu niweidio o ganlyniad i'r rhestrau aros hyn, yn ogystal â Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, sydd wedi rhagweld cynnydd yn y galw o 30 y cant i 40 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn? Dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wybod, ar ran ein hetholwyr ni. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd.
Thank you, Darren Millar, for both those questions. I think what's really important is that we use our hospitals, and we use the beds that we have in our hospitals, to best effect, and enable those who need a bed to be able to access one. And therefore, obviously, that means that we have to work on those transfers of care, on to another care setting. It may be—hopefully, it can be for many—back home; it can be to another care setting. And, of course, it is important that we manage that effectively at hospital level, by the health boards. We know that that is managed, but at difficult times of the year like we are in at the moment, high levels of flu makes it all much more difficult. I think it is important that we recognise the role and place of our hospitals, but it's changed enormously since I was health Minister, so many years ago. Because people don't want to spend a long time in hospital—they want to come in and out, and also to have day surgery, which is hugely expanded. I think we all agree that day appointments, out-patients—what you can do clinically in an out-patients' clinic now, and in day appointments, is transforming our experience of health treatment. These are all the ways in which we must innovate and move forward, in terms of those services.
Now, you have focused on one particular waiting time, in terms of ophthalmology. And, of course, yes, it is very regrettable when we hear of those waiting times. But it is something as well where I think we can be very proud of the role that our optometrists play, in terms of the services that they provide, which are very preventative. But I think one of the early wins of devolution, actually—and it was very much a cross-party agreement—is a service that was developed, where people could be referred directly—and it's developed over the years—from their optometrist to secondary care, so that they don't have to go via our general practitioners. So, I think that's a really important way that we have moved forward. But, yes, of course, these are issues that you've brought to our attention today, and the Cabinet Secretary, and we have to make sure that we address this.
Now, we've got that additional investment, and it is important that we see that additional investment. We need our draft budget to go through, to ensure that that investment reaches those patients, constituents and people who—and the services, in the front line, that need that funding—to help us address those services and address those waits, which aren't acceptable, and we must—. We will address them, as and when we can get the support to get that budget through.
Diolch i chi, Darren Millar, am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod ni'n defnyddio ein hysbytai, a'n bod ni'n defnyddio'r gwelyau sydd gennym ni yn ein hysbytai, gyda'r effaith orau, ac yn caniatáu i'r cleifion sydd ag angen gwely gael mynd i hwnnw. Ac felly, yn amlwg, mae hynny'n golygu bod rhaid i ni weithio ar y trosglwyddiadau hynny o ofal, ymlaen i leoliad arall o ofal. Efallai fod hynny—rwy'n obeithiol, fe allai fod i lawer—yn golygu yn ôl gartref; neu leoliad gofal arall o bosibl. Ac, wrth gwrs, mae hi'n bwysig ein bod ni'n rheoli hynny'n effeithiol ar lefel ysbyty, gan y byrddau iechyd. Fe wyddom ni fod hynny'n cael ei reoli, ond ar adegau anodd o'r flwyddyn fel yr un yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, mae cyfraddau uchel o ffliw yn ei gwneud hi'n llawer anoddach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod swyddogaeth a sefyllfa ein hysbytai, ond mae hynny wedi newid yn aruthrol ers pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, lawer blwyddyn yn ôl. Oherwydd nid yw pobl yn dymuno treulio cyfnod maith yn yr ysbyty—maen nhw'n awyddus i ddod i mewn a mynd allan, a chael llawdriniaeth achos dydd hefyd, sydd wedi ehangu llawer iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod apwyntiadau achos dydd, cleifion allanol—yr hyn y gallwch chi ei wneud yn glinigol mewn clinig cleifion allanol nawr, ac o ran apwyntiadau achos dydd, yn trawsnewid ein profiad ni o driniaeth iechyd. Dyma'r ffyrdd i gyd y mae'n rhaid i ni arloesi a symud ymlaen ynddyn nhw, o ran y gwasanaethau hynny.
Nawr, roeddech chi'n canolbwyntio ar un amser aros yn benodol, o ran offthalmoleg. Ac, wrth gwrs, ydy, mae hi'n anffodus iawn pan glywn am amseroedd aros o'r fath. Ond mae hwn yn fater hefyd lle gallwn ni fod yn falch iawn o waith ein hoptometryddion, o ran y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu, sy'n ataliol iawn. Ond rwy'n meddwl mai un o fuddugoliaethau cynnar datganoli, mewn gwirionedd—ac roedd cytundeb trawsbleidiol i raddau helaeth—oedd y gwasanaeth a gafodd ei ddatblygu, lle gellid cyfeirio pobl yn uniongyrchol—ac mae hwnnw wedi datblygu dros y blynyddoedd—gan eu hoptometrydd i ofal eilaidd, fel na fyddai'n rhaid iddyn nhw fynd drwy ein meddygon teulu. Felly, rwy'n credu bod honno'n ffordd bwysig iawn i ni symud ymlaen ynddi hi. Ond, ydynt, wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion yr ydych chi wedi tynnu ein sylw ni atyn nhw heddiw, ac at sylw'r Ysgrifennydd Cabinet, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â hyn.
Nawr, mae'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw gennym ni, ac mae hi'n bwysig ein bod yn gweld y buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Mae angen i'n cyllideb ddrafft fynd drwodd, i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n ymestyn hyd at y cleifion, yr etholwyr a'r bobl hynny sydd—a'r gwasanaethau, ar y rheng flaen, sydd angen y cyllid hwnnw—i'n helpu ni i fynd i'r afael â'r gwasanaethau hynny a mynd i'r afael â'r amseroedd aros hynny, sy'n annerbyniol, ac mae'n rhaid i ni—. Fe fyddwn ni'n mynd i'r afael â nhw, wrth a phan gawn ni ein cefnogi i fynd â'r gyllideb honno drwodd.
Trefnydd, I think it is important that the Government does give its full response in the Senedd to investigative reports that raise significant national concerns, such as that, as we saw last week, with the Patriotic Alternative. You gave quite a long response now to Heledd Fychan's request for the Government to do that. That could have been a full Government statement last week. We put in a topical question to try and provoke that, but of course they don't always get selected. That happened in the case of the Welsh Rugby Union. It happened in the case of the fire and rescue service, and it's on that I'd like to ask for an update, please.
The publication of the culture review in the Mid and West Wales Fire and Rescue Service and the North Wales Fire and Rescue Service was due by the end of January. In response to the Equality and Social Justice Committee report, the Government stated you expected this work to be completed in early 2025, and Crest Advisory, who were appointed jointly by both those services to facilitate an independent review, stated the results would be presented in a written report to staff—the fire authorities and the Welsh Government—in January 2025. Well, of course, we're in the last week of January. So, I'd like to know why there seems to be a delay, and have there been any concerns expressed to the Welsh Government, or the fire and rescue services, or the fire authorities, regarding the delay? Because we really do need to make sure that staff confidence in that process is not eroded any further.
Trefnydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Llywodraeth roi ei hymateb yn llawn yn y Senedd i adroddiadau ymchwiliol sy'n codi pryderon cenedlaethol sylweddol, fel gwelsom ni wythnos diwethaf, gyda'r Patriotic Alternative. Fe wnaethoch chi ymateb yn llawn iawn nawr i gais Heledd Fychan i'r Llywodraeth wneud hynny. Fe allasai hwnnw wedi bod yn ddatganiad llawn gan y Llywodraeth yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni ofyn cwestiwn amserol i geisio ysgogi hynny, ond wrth gwrs nid ydyn nhw'n cael eu dewis bob amser. Fe ddigwyddodd hynny yn achos Undeb Rygbi Cymru. Fe ddigwyddodd hynny yn achos y gwasanaeth tân ac achub, ac oherwydd hynny fe hoffwn i ofyn am ddiweddariad, os gwelwch chi'n dda.
Roedd disgwyl i'r adolygiad o ddiwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ionawr. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fe ddywedodd y Llywodraeth eich bod chi'n disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ar ddechrau 2025, a mynegodd Crest Advisory, a benodwyd ar y cyd gan y ddau wasanaeth hynny i hwyluso adolygiad annibynnol, y byddai'r canlyniadau yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad ysgrifenedig i staff—yr awdurdodau tân a Llywodraeth Cymru—ym mis Ionawr 2025. Wel, wrth gwrs, rydym ni yn wythnos olaf mis Ionawr. Felly, fe hoffwn i wybod pam mae'n ymddangos bod oedi, ac a fynegwyd unrhyw bryderon i Lywodraeth Cymru, neu'r gwasanaethau tân ac achub, neu'r awdurdodau tân, ynghylch yr oedi? Oherwydd mae gwir angen i ni sicrhau nad yw hyder y staff yn y broses honno yn cael ei wanio ymhellach.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. It is very important—I won't repeat the things that I've said in response to the really important question that came earlier from Heledd Fychan, except to say that I will find ways in which we can respond to and address these issues, particularly in the ways that I described. That has to also engage with those communities and ethnic minority groups to see ways in which they would like us to respond as well. I’m meeting them next week to discuss these issues, and also to reassure them about our commitment. In fact, I have written to black and ethnic minority groups, and I’d be very happy to share that letter with you to demonstrate the progress that I’m taking.
On your second point, this is only a matter of timing, in the sense that the date that was scheduled for a statement on the South Wales Fire and Rescue Service to report on the work of the commissioners has now coincided, on the following day, with an inspection report that’s coming forward. Of course, we’re not in control of the timing in terms of that inspection report, so it was felt by the Cabinet Secretary that it was better to wait to see that inspection report, and I’m sure you would want to see it too, to ensure we have the full information that we need in terms of what inspectors feel, as well as, of course, the report from the commissioners. So, a statement, of course, will be forthcoming when that comes together.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hi'n bwysig iawn—nid wyf i am ailadrodd y pethau a ddywedais i wrth ymateb i'r cwestiwn pwysig iawn a ddaeth gan Heledd Fychan yn gynharach, ac eithrio dweud y byddaf i'n canfod ffyrdd o ymateb i'r materion hyn a mynd i'r afael â nhw, yn enwedig yn y ffyrdd a ddisgrifiais i. Mae'n rhaid i hynny fod mewn ymgysylltiad â'r cymunedau a'r grwpiau lleiafrifoedd ethnig hynny ar gyfer chwilio am ffyrdd yr hoffen nhw i ni ymateb ynddyn nhw hefyd. Fe fyddaf i'n cwrdd â nhw yr wythnos nesaf i drafod y materion hyn, ac ar gyfer tawelu eu meddyliau nhw ynglŷn â'n hymrwymiad ni hefyd. Yn wir, rwyf i wedi ysgrifennu at grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i rannu'r llythyr hwnnw gyda chi i ddangos y cynnydd yr wyf i'n ei wneud.
O ran eich ail bwynt, mater o amseriad yn unig yw hwn, sef yn yr ystyr bod y dyddiad a drefnwyd ar gyfer datganiad ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i adrodd ar waith y comisiynwyr yn cyd-daro nawr gydag adroddiad arolygu yn cael ei gyflwyno drannoeth. Wrth gwrs, nid ydym ni yn gallu rheoli'r amseru o ran yr adroddiad arolygu hwnnw, felly roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn teimlo y byddai hi'n well aros i weld yr adroddiad arolygu hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n dymuno ei weld hefyd, i sicrhau bod yr wybodaeth lawn gennym ni y mae ei hangen arnom ni o ran ymdeimlad yr arolygwyr yn ogystal â'r adroddiad gan y comisiynwyr, wrth gwrs. Felly, fe fydd datganiad yn dod, wrth gwrs, pan ddaw hynny at ei gilydd.
Cabinet Secretary, I wanted to raise two questions. One is to follow up on the important question from Altaf Hussain to the First Minister and the First Minister’s acknowledgment of the work that you have done to try and combat hatred in all its forms. I just wanted to pick up on your role as the Cabinet Secretary who deals with the jagged edge of criminal justice. The Southport killer, who we are told in the evidence presented to court, was inspired by the dark web to kill these people he’d never met and who were never going to do him any harm. I was very disturbed to read that the police are now involved in a lengthy legal battle with the publishers of social media to try and obtain the deleted social media activity from this Southport killer in order to be able to quickly identify anybody else who might have been groomed to do such horrendous things. I wondered if you could raise this with the UK Government, because clearly this is not a devolved matter at the moment, in order to try and find out why it is that the US authorities are refusing to hand over this individual’s social media activity, which he himself deleted, but obviously is still available somewhere in the system, because it could be preventing another crime from happening.
Secondly, on a completely separate matter, I wonder if you could tell us about the timetable of implementing the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023, because it’s over 10 months since we passed Stage 4 of this Act, and seven months since Royal Assent. I know that a lot of people are waiting on having the facilities of this Act to ensure that we are publicly procuring food that comes from Wales and is good for our pupils, patients and pensioners living in our care homes. Because at the moment there is a great deal more to do, and at the moment public procurers are having to deal with matters based simply on, ‘What’s the cheapest option?’, and that is not good enough for all these people.
Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i eisiau codi dau gwestiwn. Mae un yn ategu cwestiwn pwysig Altaf Hussain i'r Prif Weinidog a chydnabyddiaeth y Prif Weinidog o'r gwaith a wnaethoch chi i geisio ymladd yn erbyn pob agwedd ar gasineb. Roeddwn i'n dymuno gofyn rhywbeth i chi yn rhinwedd eich swydd yn Ysgrifennydd y Cabinet sy'n ymdrin ag ymyl garw cyfiawnder troseddol. Cafodd llofrudd Southport, fel mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r llys yn ei ddweud wrthym ni, ei ysbrydoli i ladd y bobl hyn, nad oedd ef wedi cwrdd â nhw erioed ac na wnaethon nhw unrhyw niwed iddo ef erioed, gan ddeunydd ar y we dywyll. Roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen bod yr heddlu yn ymgymryd â brwydr gyfreithiol faith erbyn hyn gyda chyhoeddwyr y cyfryngau cymdeithasol i geisio cael gafael ar hanes gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol llofrudd Southport a ddilëwyd, er mwyn gallu adnabod unrhyw un arall a allai fod wedi cael eu paratoi i wneud pethau mor erchyll. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n codi hyn gyda Llywodraeth y DU, oherwydd yn amlwg nid yw hwn yn fater datganoledig ar hyn o bryd, i geisio darganfod pam mae awdurdodau'r Unol Daleithiau yn gwrthod trosglwyddo gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yr unigolyn hwn, y gwnaeth ef ei hun ei ddileu, ond yn amlwg mae'n dal i fod ar gael yn rhywle yn y system, oherwydd fe allai hynny atal trosedd arall rhag digwydd.
Yn ail, ar fater cwbl ar wahân, tybed a wnewch chi ddweud wrthym am amserlen gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, oherwydd mae dros 10 mis wedi bod ers i ni basio Cyfnod 4 y Ddeddf hon, a saith mis ers y Cydsyniad Brenhinol. Fe wn i fod llawer o bobl yn aros am gyfleusterau'r Ddeddf hon i sicrhau ein bod ni'n caffael bwyd yn gyhoeddus sy'n dod o Gymru ac sy'n gwneud lles i'n disgyblion, i'n cleifion a'n pensiynwyr sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Oherwydd ar hyn o bryd mae llawer mwy i'w wneud eto, ac ar hyn o bryd mae caffaelwyr cyhoeddus yn gorfod ymdrin â materion ar sail 'Beth yw'r opsiwn rhataf?' yn anad dim, ac nid yw hynny'n ddigon da i'r bobl hyn i gyd.
Thank you very much, Jenny Rathbone. As you have mentioned Southport, I think we must say our thoughts are with the victims and their families. The criminal justice system, of course, including sentencing, is the responsibility of the UK Government, and it’s important for the system to operate fully in line with the rule of law, especially in cases like this. I do welcome the inquiry into the attack in Southport, which was announced by the Home Secretary on Monday, because this will help the victims of the attack and their families and their communities, and indeed in terms of community cohesion, for us to understand how we can help to ensure potential tragic incidents are prevented in the future. I’m sure that the inquiry will be addressing this very current issue that you raise with us today. I certainly will take the opportunity as I engage, which I will do, with the Home Secretary and Ministers on the very points that you raise. Indeed, we’ve got to look at this in terms of the role of the Online Safety Act 2023 as well, the role of Ofcom, and Ofcom Wales, of course, in terms of their role, and how we can engage and influence that to understand that situation and unpick this horror, and the fact that the police themselves cannot get to that information.
Now, your second question was about the Social Partnership and Public Procurement (Wales) Act 2023 and, just to assure you, the Act places statutory duties on public bodies to carry out their procurement in a socially responsible way, and, of course, that obviously applies to your points in terms of procurement of food. The socially responsible procurement contract management duties are designed to ensure that the £8 billion annual Welsh procurement spend contributes to the delivery of well-being. Now, I understand that the procurement duties will be enacted, once the regulations and guidance have been developed in social partnership and through wider consultation, to ensure that social partners and public sector bodies are able to participate in the process, and that has got to help deliver those well-being outcomes across Wales, to ensure that we get the outcomes that are so crucial in terms of our children and young people and healthy eating and living.
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny Rathbone. Gan i chi sôn am Southport, rwy'n credu bod rhaid i ni fynegi bod y dioddefwyr a'u teuluoedd nhw yn ein meddyliau ni. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol wrth gwrs, sy'n cynnwys dedfrydu, ac mae hi'n bwysig bod y system yn gweithredu yn gwbl unol â rheolaeth y gyfraith, yn enwedig mewn achosion fel hyn. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad i'r ymosodiad yn Southport, fel cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref ddydd Llun, oherwydd bydd fe fydd hwnnw o gymorth i ddioddefwyr yr ymosodiad a'u teuluoedd a'u cymunedau nhw, ac yn wir o ran cydlyniad cymunedol, er mwyn i ni ddeall sut y gallwn ninnau helpu i sicrhau bod digwyddiadau trychinebus posibl yn cael eu hatal yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd yr ymchwiliad yn mynd i'r afael â'r mater cyfredol hwn yr ydych chi'n ei godi gyda ni heddiw. Yn sicr, fe fyddaf i'n sicr yn manteisio ar y cyfle wrth i mi ymgysylltu gyda'r Ysgrifennydd Cartref a'r Gweinidogion ar yr union bwyntiau yr ydych yn eu codi, fel rwy'n bwriadu gwneud. Yn wir, mae'n rhaid i ni edrych ar hyn o ran swyddogaeth Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 hefyd, swyddogaeth Ofcom, ac Ofcom Cymru, wrth gwrs, o ran eu swyddogaeth, a sut y gallwn ninnau ymgysylltu â hynny a dylanwadu ar hynny i ddeall y sefyllfa hon a datod y mater arswydus hwn, a'r ffaith na all yr heddlu eu hunain gael gafael ar yr wybodaeth honno.
Nawr, roedd eich ail gwestiwn chi'n ymwneud â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac, er mwyn eich sicrhau chi, mae'r Ddeddf yn dodi dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i gynnal eu gwaith caffael mewn ffordd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac, wrth gwrs, mae hynny'n amlwg yn berthnasol i'ch pwyntiau chi ynglŷn â chaffael bwyd. Mae'r dyletswyddau o ran rheolaeth o gontractau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol wedi cael eu cynllunio i sicrhau bod y gwariant caffael blynyddol o £8 biliwn yng Nghymru yn cyfrannu at gyflawni llesiant. Nawr, rwy'n deall y bydd y dyletswyddau caffael yn cael eu deddfu, pan fydd y rheoliadau a'r canllawiau wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth gymdeithasol a thrwy ymgynghoriad ehangach, i sicrhau bod partneriaid cymdeithasol a chyrff y sector cyhoeddus yn gallu cyfranogi yn y broses, ac mae'n rhaid i hynny helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn o ran llesiant ledled Cymru, i sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniadau sydd mor hanfodol o ran ein plant a'n pobl ifanc a byw a bwyta'n iach.
Business Minister, can I please request a statement from the Cabinet Secretary for Education regarding the closure of Lampeter University to students, which was confirmed last Thursday? The historic building and the university—the oldest in Wales—was established 203 years ago, by the then bishop of St David’s, Thomas Burgess, and focused on training the clergy for much of its illustrious history. Sadly, the closure is going ahead despite the opposition of many people, evidenced by the 6,000-name strong petition, including our very own Presiding Officer and the local MP. It will result in the cessation of teaching in Lampeter and have a devastating economic impact on the town and local area. As a decision has been made mid course, some students will be forced to relocate to Carmarthen to complete their studies. There is a sense that this closure was a foregone conclusion before the consultation period took place, and it may be part of a wider rationalisation scheme by the University of Wales Trinity Saint David, who have overseen the mismanagement of the Lampeter campus, potentially leading to a further site closure in the future. September 2025 will sadly mark the end of teaching at the birthplace of higher education here in Wales. So, I urge the Cabinet Secretary to make a statement on the transparency of this closure and on what is being done to safeguard the future of other higher education facilities in rural Wales.
Gweinidog Busnes, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cau Prifysgol Llanbedr Pont Steffan i fyfyrwyr, a gadarnhawyd ddydd Iau diwethaf? Cafodd yr adeilad hanesyddol a'r brifysgol—yr hynaf yng Nghymru—ei sefydlu 203 mlynedd yn ôl, gan esgob Tyddewi ar y pryd, Thomas Burgess, ac roedd yn canolbwyntio ar hyfforddi clerigwyr am ran helaeth o'i hanes disglair. Yn anffodus, mae'r cau am fynd rhagddo er gwaethaf gwrthwynebiad llawer o bobl, a thystiolaeth deiseb o 6,000 o enwau, gan gynnwys ein Llywydd ni ein hunain a'r AS lleol. Fe fydd yn arwain at derfynu dysgu yn Llanbedr Pont Steffan a bydd ag effaith ddinistriol ar economi'r dref a'r ardal leol. Gan fod penderfyniad wedi cael ei wneud ar ganol cwrs, fe fydd yn rhaid i rai myfyrwyr adleoli i Gaerfyrddin er mwyn cwblhau eu hastudiaethau. Mae yna ymdeimlad nad oedd unrhyw amheuaeth beth fyddai'r canlyniad o ran y cau hwn cyn cyfnod yr ymgynghoriad, ac fe allai fod yn rhan o gynllun rhesymoli ehangach gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi goruchwylio camreoli campws Llambed, a allai arwain at gau safle pellach yn y dyfodol o bosibl. Yn anffodus, fe fydd mis Medi 2025 yn gweld diwedd ar addysgu yn y man lle cafodd addysg uwch ei geni yma yng Nghymru. Felly, rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud datganiad ynglŷn â thryloywder y cau hwn ac ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau dyfodol cyfleusterau addysg uwch eraill yng nghefn gwlad Cymru.
Thank you for that question. As you know, the higher education sector across the UK is facing a challenging financial period due to a range of factors. So, we’re monitoring the position of our universities, and, last year, as you know, increased the tuition fee limit, providing up to £21.9 million in additional income to universities, but Medr is monitoring the financial position of our universities closely through its institutional risk review process. We’re aware, obviously, of the situation in Lampeter and the engagement of the community and those who represent the area. It is relevant and important that you raise this today in the Chamber.
Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel gwyddoch chi, mae'r sector addysg uwch ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol iawn oherwydd ystod o ffactorau. Felly, rydym ni'n monitro sefyllfa ein prifysgolion, a'r llynedd, fel gwyddoch chi, fe gynyddwyd y terfyn ar ffioedd dysgu, gan ddarparu hyd at £21.9 miliwn o incwm ychwanegol i brifysgolion, ond mae Medr yn monitro sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn fanwl trwy ei broses ar gyfer adolygu risgiau sefydliadol. Rydym ni'n ymwybodol, yn amlwg, o'r sefyllfa yn Llanbedr Pont Steffan ac ymgysylltiad y gymuned a'r rhai sy'n cynrychioli'r ardal. Mae hi'n berthnasol ac yn bwysig eich bod chi'n codi hyn yn y Siambr heddiw.
Minister, like me, I’m sure you welcomed the news this morning that eHarley Street will no longer be operating in Brynmawr surgery. The resignation of Dr Ahmed and Dr Allinson of that contract is widely welcomed by all patients in the area. However, I do believe that we need a statement from the Government on the provision of primary care in the Gwent area, because this partnership leaves behind an absolute mess: tax unpaid, pension contributions still outstanding, pay for staff and doctors outstanding. These are not the values of the Welsh NHS or the values of the Welsh Government. We now have a situation where there continue to be other such practices in the Aneurin Bevan area. In my own constituency, we have Tredegar and Aberbeeg, and I know Members elsewhere are supporting patients in their own constituencies, but we have a consistent systemic failure, where patients are not receiving the service that they have the right to expect and where staff face bullying as a fact of their working lives. We now have to ensure, Minister, that this is no longer the case in the Welsh NHS, and I hope that the Welsh Government will be able to make a statement on this, making it clear that the way we deliver services in the NHS is rooted in the values of the NHS.
Gweinidog, fel minnau, rwy'n siŵr eich bod chi wedi croesawu'r newyddion y bore yma na fydd eHarley Street yn weithredol ym meddygfa Brynmawr o hyn ymlaen. Mae ymddiswyddiad Dr Ahmed a Dr Allinson o'r contract hwnnw'n cael croeso mawr gan gleifion yr ardal i gyd. Serch hynny, rwy'n credu bod angen datganiad gan y Llywodraeth ar ddarparu gofal sylfaenol yn ardal Gwent, oherwydd mae'r bartneriaeth hon yn gadael llanast llwyr ar ei hôl: treth heb ei thalu, cyfraniadau pensiwn heb eu talu, cyflog heb ei dalu i staff a meddygon. Nid gwerthoedd GIG Cymru na gwerthoedd Llywodraeth Cymru mo'r rhain. Rydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae arferion eraill tebyg yn parhau yn ardal Aneurin Bevan. Yn fy etholaeth i, mae Tredegar ac Aber-bîg gennym ni, ac fe wn i fod Aelodau mewn mannau eraill yn cefnogi cleifion yn eu hetholaethau eu hunain, ond fe welwn ni fethiant systemig yn gyson, pryd nad yw cleifion yn cael y gwasanaeth y mae ganddyn nhw hawl i'w ddisgwyl a lle mae staff yn wynebu bwlio sy'n rhan o'u bywyd mewn gwaith. Mae'n rhaid i ni sicrhau nawr, Gweinidog, nad hynny yw'r achos mwyach yn GIG Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud datganiad ar hyn, gan ei gwneud hi'n eglur fod y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau yn y GIG yn cael ei wreiddio yng ngwerthoedd y GIG.
Well, thank you very much, Alun Davies, and thank you for all of the representations that you've made, which have contributed, I'm sure—with other colleagues, as well, in this Chamber—to that change, that welcome change. And I understand that the partners of Brynmawr Medical Practice have agreed with Aneurin Bevan University Health Board to hand back their contract. And it is important that this is on the record today and that you raise this, because of the impact that it's had, as you've brought to our attention and to the attention of the Cabinet Secretary for Health and Social Care—the impact on staff and patients as well. So, what will happen is that the health board will take on the management of the practice from 1 March. Clearly, they'll maintain an active interest until the handover date to ensure that the needs of patients are met. Transitional arrangements will start immediately, and the health board will stabilise the practice over the coming months before making a decision on whether to return the practice to independent status. Obviously, the arrangements for our family practitioner services are at arm's length, in the sense that they're not part of the national health service, but the partners have agreed to provide the health board with a detailed plan for each of their other contracts for how they expect to enter a degree of greater stability. And I understand that staff were informed at 11 o'clock this morning. So, this is something, obviously, for the health board but also the Welsh Government and partners to reflect on in terms of primary care, to avoid these circumstances happening again.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Alun Davies, a diolch i chi am yr holl sylwadau a wnaethoch chi, sydd wedi cyfrannu, rwy'n siŵr—gyda chyd-Aelodau eraill, hefyd, yn y Siambr hon—at y newid hwnnw, sydd i'w groesawu. Ac rwy'n deall bod partneriaid Practis Meddygol Brynmawr wedi cytuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drosglwyddo eu contract yn ôl iddyn nhw. Ac mae hi'n bwysig bod hyn ar y cofnod heddiw a'ch bod chi'n codi hyn, oherwydd yr effaith mae wedi'i chael, fel yr ydych chi wedi ei ddwyn i'n sylw ni ac i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—yr effaith ar staff a chleifion hefyd. Felly, yr hyn a fydd yn digwydd yw bod y bwrdd iechyd am ymgymryd â rheoli'r feddygfa o 1 Mawrth. Yn amlwg, fe fyddan nhw'n cadw diddordeb gweithredol tan y dyddiad trosglwyddo i sicrhau y bydd anghenion cleifion yn cael eu diwallu. Bydd trefniadau pontio yn dechrau ar unwaith, a bydd y bwrdd iechyd yn sefydlogi'r feddygfa dros y misoedd nesaf cyn penderfynu a ddylid rhoi statws annibynnol i'r feddygfa unwaith eto. Yn amlwg, mae trefniadau ar gyfer ein gwasanaethau meddygon teulu yn rhai hyd braich, yn yr ystyr nad ydyn nhw'n rhan o'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond bod y partneriaid wedi cytuno i ddarparu cynllun manwl i'r bwrdd iechyd ar gyfer pob un o'u contractau eraill o ran sut y maen nhw'n disgwyl y gellid ennill cyfran o sefydlogrwydd sy'n fwy cadarn. Ac rwy'n deall yr hysbyswyd staff am 11 o'r gloch y bore 'ma. Felly, mae hyn yn rhywbeth, yn amlwg, i'r bwrdd iechyd ond hefyd i Lywodraeth Cymru a phartneriaid fyfyrio arno o ran gofal sylfaenol, ar gyfer osgoi amgylchiadau fel hyn yn y dyfodol.
We're out of time on this statement. I have five further requests to ask a question on the statement. I'll take them all if I can have short questions and short answers. Sam Rowlands.
Mae'r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn. Mae pum cais arall i ofyn cwestiwn ar y datganiad gennyf i. Rwyf i am dderbyn pob un ohonyn nhw os caf i gwestiynau cryno ac atebion cryno. Sam Rowlands.
Trefnydd, I'd like to call for a statement from the Minister for Children and Social Care regarding the role of councils in ensuring that there is enough childcare provision in our communities. A resident of mine, Chelsea Robinson, has been in touch regarding the lack of childcare provision to support working parents in Denbighshire. Indeed, the council has admitted that there is a childcare sufficiency gap in Llangollen. You'll know, Minister, that the Childcare Act 2006 is in place to ensure that there's a duty on local authorities to make sure that there's enough provision in our communities, and seemingly Denbighshire County Council are not doing anything about it for residents in Llangollen. So, I'd like a statement from the Minister to outline what they're doing to support councils to ensure that there's appropriate childcare provision. Diolch yn fawr iawn.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynghylch swyddogaethau'r cynghorau o ran sicrhau bod cyfran ddigonol o ddarpariaeth gofal plant yn ein cymunedau ni. Mae un o'r trigolion yn fy rhanbarth i, Chelsea Robinson, wedi bod mewn cysylltiad ynglŷn â'r diffyg darpariaeth o ofal plant yn sir Ddinbych ar gyfer cefnogi rhieni sy'n gweithio. Yn wir, mae'r cyngor wedi cyfaddef nad oes yna ddarpariaeth ddigonol o ofal plant yn Llangollen. Fe wyddoch chi, Gweinidog, fod Deddf Gofal Plant 2006 ar waith i sicrhau bod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ein cymunedau ni'n ddigonol, ac mae hi'n ymddangos nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud unrhyw beth ynglŷn â hynny o ran trigolion Llangollen. Felly, fe hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog i amlinellu'r hyn y maen nhw'n ei wneud i gefnogi cynghorau i sicrhau bod yna ddarpariaeth addas o ofal plant. Diolch yn fawr iawn.
Thank you, Sam Rowlands. We invest more than £100 million every year in childcare for children aged two and up through our flagship Flying Start and childcare offer schemes, and we're committed to the further expansion of Flying Start childcare for two-year-olds, and we're working closely with local authorities on their plans.
Diolch i chi, Sam Rowlands. Rydym ni'n buddsoddi mwy na £100 miliwn yn flynyddol mewn gofal plant i blant dwyflwydd oed a hŷn drwy ein cynllun blaenllaw Dechrau'n Deg a'r cynlluniau cynnig gofal plant, ac rydym ni wedi ymrwymo i ehangu gofal plant ymhellach drwy gyfrwng Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwyflwydd oed, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol ynglŷn â'u cynlluniau nhw.
Just following on from Sam, I will speak very quickly, for the same sort of statement, please. When I visited a nursery in the Glan-rhyd area of Ystradgynlais run by Little Steps Childcare, the biggest issue that they raised with me was the increase in the national insurance contributions. They feel that this will be really crippling for them. So, please could we have a response around what this Welsh Government is doing to represent Welsh businesses in terms of the national insurance increase? Diolch yn fawr iawn.
Dim ond i ddilyn yr hyn a ddywedodd Sam, rwyf i am siarad yn gyflym iawn, am ddatganiad tebyg, os gwelwch chi'n dda. Pan ymwelais i â meithrinfa yn ardal Glan-rhyd yn Ystradgynlais sy'n cael ei redeg gan Little Steps Childcare, y mater mwyaf yr oedden nhw'n ei godi gyda mi oedd y cynnydd yn y cyfraniadau yswiriant gwladol. Maen nhw'n teimlo y bydd hyn yn achosi cyni gwirioneddol iddyn nhw. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ymateb ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynrychioli busnesau Cymru o ran y codiad mewn yswiriant gwladol? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. The draft budget for next year, 2025-26, includes an indicative allocation to raise the childcare offer hourly rate by 20 per cent, from £5 per hour to £6 from April 2025. This is really important for the recruitment and retention of staff. It also includes uplifts to Flying Start childcare and nursery education. Also, that hourly rate is going to be reviewed annually. That was part of the package. But also, importantly, I think, for the sector, it includes making the 100 per cent small business rate relief permanent, giving more certainty to childcare providers and to enable them to address the financial challenges that you have raised.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, 2025-26, yn cynnwys dyraniad dangosol i godi cyfradd fesul awr cynnig gofal plant 20 y cant, o £5 yr awr i £6 o fis Ebrill 2025. Mae hynny'n bwysig iawn ar gyfer recriwtio a chadw staff. Mae hi'n cynnwys cynnydd hefyd i ofal plant Dechrau'n Deg ac addysg feithrin. Yn ogystal â hynny, fe fydd y gyfradd fesul awr honno yn cael ei hadolygu yn flynyddol. Roedd hynny'n rhan o'r pecyn. Ond hefyd, yn bwysig iawn i'r sector yn fy marn i, mae hyn yn cynnwys gwneud y rhyddhad ardrethi busnesau bach 100 y cant yn rhywbeth parhaol, gan roi mwy o sicrwydd i ddarparwyr gofal plant a'u galluogi nhw i fynd i'r afael â'r heriau ariannol y gwnaethoch chi eu codi.
Trefnydd, it has come to my attention that the licensing fees for street trading in Rhondda Cynon Taf are some of the highest in the United Kingdom, certainly higher than in neighbouring local authorities, and this may surprise you, but even higher that in London local authorities. Having such high fees is not only unfair, but it doesn't represent the costs associated with providing these licences and discourages small businesses from using street trading to help their businesses grow and to support their high streets. Can I, therefore, ask for a statement on how the Welsh Government is working with local authorities to improve licensing, and how it is encouraging them to make licence fees affordable, to help the high street and to help these small businesses grow? Thank you.
Trefnydd, fe ddaeth i'm sylw i fod y ffioedd trwyddedu ar gyfer masnachu ar y stryd yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y rhai drytaf yn y Deyrnas Unedig, yn sicr yn fwy nag mewn awdurdodau lleol cyfagos, ac efallai y bydd hyn yn eich synnu chi, ond mae'n fwy hyd yn oed nag yn yr awdurdodau lleol yn Llundain. Mae bod â ffioedd costus fel hyn nid yn unig yn annheg, ond nid yw'n cyfateb â'r costau sy'n gysylltiedig â darparu'r trwyddedau hyn ac mae'n annog busnesau bach i beidio â defnyddio masnachu ar y stryd ar gyfer helpu eu busnesau nhw i dyfu a rhoi cefnogaeth i'w strydoedd mawr. A gaf i, felly, ofyn am ddatganiad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i wella trwyddedu, a sut mae'n eu hannog nhw i wneud ffioedd trwydded yn fforddiadwy, ar gyfer helpu'r stryd fawr a helpu'r busnesau bach hyn i dyfu? Diolch i chi.
Thank you for your question, Joel James. I hope and would expect you to raise this with Rhondda Cynon Taf council. It is for them to decide the licensing fee, and I'm sure there are guidelines from the Welsh Government on this matter.
Diolch i chi am eich cwestiwn, Joel James. Rwy'n gobeithio a byddwn yn disgwyl i chi godi hyn gyda chyngor Rhondda Cynon Taf. Mater iddyn nhw yw penderfynu ar y ffi drwyddedu, ac rwy'n siŵr fod canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn.
I call for a Welsh Government statement from the climate change Secretary on the Hafod quarry landfill site between Johnstown and Ruabon, Wrexham. Constituents in Johnstown have again written to me to complain about the persistent stench from the site and Natural Resources Wales's apparent lack of action in stopping it. And a motion before the next full Wrexham council meeting states that this has raised significant environmental and public health concerns among local residents and stakeholders, and the motion outlines a plan to support Natural Resources Wales to properly regulate and monitor the operations. So, I call for a statement from the climate change Secretary accordingly.
And briefly, I also call for a statement from the local government Secretary, following a letter sent to her last Thursday by the leader of Flintshire County Council regarding the Welsh local government provisional settlement for 2025-26, which states that, 'If we were to receive the same amount per capita as one of our neighbouring councils, we would receive a staggering additional £71 million per annum. This suggests there are fundamental issues with the current formula and that our citizens have also told us that they want to see fairer Welsh Government funding for Flintshire.' So, I call for a statement from the local government Secretary accordingly.
Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru gan yr Ysgrifennydd dros newid hinsawdd ar safle tirlenwi chwarel yr Hafod rhwng Johnstown a Rhiwabon, Wrecsam. Mae etholwyr yn Johnstown wedi ysgrifennu ataf i unwaith eto i gwyno am y drewdod parhaus sy'n dod o'r safle a'r diffyg gweithredu amlwg ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru i atal hwnnw. Ac mae cynnig gerbron cyfarfod llawn nesaf cyngor Wrecsam yn nodi bod hyn wedi codi pryderon sylweddol ynghylch iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd ymhlith y trigolion a'r rhanddeiliaid lleol, ac mae'r cynnig yn amlinellu cynllun i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoleiddio a monitro'r gweithrediadau yn briodol. Ac felly, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros newid hinsawdd yn unol â hynny.
Ac yn fyr iawn, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol hefyd, yn dilyn llythyr a gafodd ei anfon ati hi ddydd Iau diwethaf oddi wrth arweinydd Cyngor Sir y Fflint ynghylch setliad dros dro llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2025-26, sy'n nodi, 'Pe byddem yn derbyn yr un swm y pen ag un o'n cynghorau cyfagos, fe fyddem yn derbyn swm anhygoel o £71 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bod problemau sylfaenol gyda'r fformiwla bresennol a hefyd mae ein dinasyddion wedi mynegi eu bod yn dymuno gweld cyllid tecach oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer sir y Fflint.' Felly, rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol yn unol â hynny.
Thank you for those two statements—two questions—and they could result in very long answers, so I'll just make the point that you're on the record raising the point, which will be recorded with the Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs about the Hafod quarry and issues that have been raised in the Johnstown area.
Your second point was about the provisional local government settlement, which, of course, for next year is highlighting that £6.1 billion would be provided by the Welsh Government in core revenue funding and non-domestic rates to spend on delivering key services, and it equates to an increase of 4.3 per cent, or £253 million, on a like-for-like basis compared to the current year. Of course, in discussions with local government, there were very powerful points made by local authority partners. But, importantly, the uplift, I think, of 4.3 per cent, has been acknowledged, and then the setting of budgets and, in turn, council tax, of course, is the responsibility of each local authority.
Diolch i chi am y ddau ddatganiad yna—dau gwestiwn—ac fe allen nhw arwain at atebion maith iawn, felly nid wyf i am wneud dim mwy na gwneud y pwynt eich bod chi wedi codi'r pwynt ar y cofnod, a gofnodir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â chwarel yr Hafod a'r materion a gafodd eu codi yn ardal Johnstown.
Roedd eich ail bwynt chi'n ymwneud â'r setliad llywodraeth leol dros dro, sydd, wrth gwrs, ar gyfer y flwyddyn nesaf yn tynnu sylw at y ffaith y byddai £6.1 biliwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig sydd i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, ac mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 4.3 y cant, neu £253 miliwn, ar sail gyfatebol, o gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Wrth gwrs, mewn trafodaethau gyda llywodraeth leol, fe wnaeth partneriaid awdurdodau lleol bwyntiau grymus iawn. Ond, yn bwysig, mae'r cynnydd, yn fy marn i, o 4.3 y cant, wedi cael ei gydnabod, ac mae pennu cyllidebau a'r dreth gyngor yn ei thro, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb i bob awdurdod lleol.
Finally, Laura Anne Jones.
Ac yn olaf, Laura Anne Jones.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, I would like to request a statement from the Welsh Government on the impact on Welsh military families of death-in-service payments being subject now to inheritance tax from 2027. Labour's changes will force grieving military families to pay death duties if their loved one was not married or in a civil partnership by the time of their death. First pensioners, then farmers and now veterans. Those who die off-duty in the military—for instance, if someone dies of a sudden illness or accident—will now see their death-in-service payments subject to inheritance tax. That could reduce these payments for families by up to 40 per cent through taxation. It is completely unfair that Welsh military families will pay a death tax, while members of the Irish Republican Army, like Gerry Adams, are lining up to receive compensation from your colleagues in London. The chief executive of the Forces Pension Society has called the change 'corrosive'. So, I know many people in my region would welcome a statement on the impact of this issue. Thank you.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith taliadau marwolaeth yn y swydd ar deuluoedd milwrol Cymru yn agored i dreth etifeddiant o 2027 ymlaen. Fe fydd newidiadau gan y Blaid Lafur yn gorfodi teuluoedd milwrol yn eu galar i dalu tollau marwolaeth os nad oedd eu hanwyliaid yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn amser eu marwolaeth. Pensiynwyr yn gyntaf, ffermwyr wedyn a chyn-filwyr nawr. Fe fydd y rhai sy'n marw pan nad ydynt ar ddyletswydd yn y fyddin—er enghraifft, pe byddai rhywun yn marw oherwydd salwch sydyn neu ddamwain—yn gweld eu taliadau marwolaeth yn y swydd yn agored i dreth etifeddiant nawr. Fe allai hynny leihau'r taliadau hyn i deuluoedd hyd at 40 y cant oherwydd trethiant. Mae hi'n gwbl annheg y bydd teuluoedd milwrol Cymru yn talu treth marwolaeth, tra bod aelodau o Fyddin Weriniaethol Iwerddon, fel Gerry Adams, yn paratoi i dderbyn iawndal oddi wrth eich cydweithwyr chi yn Llundain. Mae prif weithredwr Cymdeithas Pensiwn y Lluoedd wedi galw'r newid yn 'ddifaol'. Felly, fe wn i y byddai llawer o bobl yn fy rhanbarth i'n croesawu datganiad am effaith y mater hwn. Diolch i chi.
I'll take that back and write to the Member.
Fe af â hwn yn ôl ac fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr Aelod.
Diolch i'r Trefnydd.
I thank the Trefnydd.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar lwfans cynhaliaeth addysg. Felly, y Gweinidog i wneud y datganiad—Vikki Howells.
The next item will be a statement by the Minister for Further and Higher Education on the education maintenance allowance. The Minister to make the statement—Vikki Howells.

Diolch, Llywydd. Providing opportunity for every family is a priority for this Welsh Labour Government. Education maintenance allowance turns that priority into real action. As a former teacher, I have seen EMA do more than just provide financial support; it transforms lives and unlocks potential.
Diolch, Llywydd. Mae estyn cyfle i bob teulu yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwireddu'r flaenoriaeth honno. A minnau wedi bod yn athrawes, fe welais i'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwneud mwy na rhoi cymorth ariannol yn unig; mae'n trawsnewid bywydau ac yn datgloi potensial.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
The Deputy Presiding Officer (David Rees) took the Chair.
I’ve had the privilege of meeting many learners in receipt of EMA during my recent visits, to hear from them just how much EMA matters. Whether it’s for textbooks, transport, lunch money or the peace of mind of not having to work alongside your studies, EMA is about creating opportunity. One student told me how EMA means that she can buy textbooks without working shifts that clash with her studies. Another shared how transport costs would have stopped him from continuing his A-levels without this support. Despite 14 years of austerity, this Welsh Labour Government chose to protect EMA, whilst the Conservatives cut the fund back in 2011. While the Conservatives abandoned students in England, we haven’t just maintained support, we’ve upgraded it. We raised the weekly payment from £30 to £40. This means that Wales provides the most generous EMA in the UK.
In this financial year, we expect our investment in EMA will put over £17 million directly into the pockets of our young people, recognising the continued impact of the cost of living. The independent review of EMA, published in July 2024, confirmed EMA’s positive impact. We will be publishing the full response to the independent review in the coming weeks, covering all of its recommendations, but today I am acting on recommendation 4. I'm increasing the household income eligibility thresholds for EMA applications from the 2025-26 academic year, bringing 3,500 additional learners under EMA. This takes the total number of young people we are supporting close to 20,000, spread right across schools and colleges in every part of Wales. These new thresholds will apply for new and continuing students, meaning that those that may have been ineligible last year and who are continuing their studies this coming year will now be able to apply. In line with the review recommendation, we will retain two eligibility thresholds, recognising additional household dependents. The new one-dependent EMA threshold is aligned to the real living wage recommended in the report, meaning that it will increase from £21,800 to £23,400, while the two-or-more dependent threshold will increase from just over £23,000 to just under £26,000.
Increasing the thresholds represents an additional investment of £2.5 million in the next financial year, 2025-26, taking our EMA investment close to £20 million. These new thresholds, along with the weekly rate, will be kept under review to ensure the EMA scheme continues to have a positive impact on young learners from low-income households. And we're not just offering support; we're removing barriers to access. Our new online application form transforms the process, enabling electronic evidence submission and eliminating postal costs. It's faster, simpler, and designed to reach every eligible student.
We will continue to work with our stakeholders and the Student Loans Company to improve the EMA application process, reduce the evidence requirements for learners and sponsors, and ensure EMA reaches those who need it. We are developing targeted campaigns to reach young people in year 11. We will strengthen the work in our communities and tackling poverty teams to provide signposting and information about EMA to families in receipt of other Welsh Government benefits, and we will work with our partners and stakeholders across social care and young carers groups to provide clear guidance and support to encourage applications from eligible young people.
This is a Welsh Labour Government delivering on what matters most to people in Wales and making a direct difference in people’s lives. We are proud of our record of putting money back into people’s pockets, and I am pleased to play my part in continuing that record.
During my visit to Coleg y Cymoedd last week, I met a group of ambitious learners in receipt of EMA, and I’m grateful to them for sharing so openly how EMA helps them personally. Roxy Cole, aged 16 and studying four A-levels, personified the impact of EMA and explained to me that EMA has provided her with financial independence to manage her own expenses, reducing her reliance on her guardians. As twins, Roxy and her brother use their EMA to cover daily costs like lunch and buying textbooks, and, as well as relieving financial strain on her household, Roxy felt her EMA motivated her to achieve good attendance and gave her a sense of achievement, having worked hard for her money.
A fellow learner, Nia Thomas, shared how EMA is crucial for her and that her £40 a week helps cover the costs of her textbooks, stationery and transportation to college. Nia also expressed how EMA enables her to focus on her studies without financial stress, boosting her confidence and performance.
This isn't just about money. It's about opportunity. Whether it's essential study supplies, transport costs, lunch money, or the peace of mind to focus entirely on learning, EMA is about creating pathways for young people across every part of Wales.
Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â llawer o ddysgwyr sy'n derbyn LCA yn ystod fy ymweliadau diweddar, i glywed ganddyn nhw pa mor bwysig yw LCA. P'un ai ar gyfer gwerslyfrau, cludiant, arian cinio neu dawelwch meddwl gan nad ydynt yn gorfod gweithio yn ogystal ag astudio, mae LCA yn ymwneud â chreu cyfle. Dywedodd un myfyriwr wrthyf sut mae LCA yn golygu y gall hi brynu gwerslyfrau heb weithio shifftiau sy'n gwrthdaro â'i hastudiaethau. Dywedodd un arall sut y byddai costau cludiant wedi ei atal rhag parhau â'i Safon Uwch heb y gefnogaeth hon. Er gwaethaf 14 mlynedd o gyni, dewisodd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru amddiffyn LCA, gyda'r Ceidwadwyr yn torri'r gronfa yn ôl yn 2011. Er bod y Ceidwadwyr wedi cefnu ar fyfyrwyr yn Lloegr, nid ydym wedi cynnal y gefnogaeth yn unig, rydym wedi ei huwchraddio. Codwyd y taliad wythnosol o £30 i £40. Mae hyn yn golygu bod Cymru'n darparu'r LCA mwyaf hael yn y DU.
Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn disgwyl y bydd ein buddsoddiad yn LCA yn rhoi dros £17 miliwn yn uniongyrchol ym mhocedi ein pobl ifanc, gan gydnabod effaith barhaus costau byw. Cadarnhaodd yr adolygiad annibynnol o LCA, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, effaith gadarnhaol LCA. Byddwn yn cyhoeddi'r ymateb llawn i'r adolygiad annibynnol yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gwmpasu ei holl argymhellion, ond heddiw rwy'n gweithredu ar argymhelliad 4. Rwy'n cynyddu trothwyon cymhwysedd incwm y cartref ar gyfer ceisiadau LCA o'r flwyddyn academaidd 2025-26, gan ddod â 3,500 o ddysgwyr ychwanegol o dan LCA. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi bron yn 20,000, wedi'u gwasgaru ar draws ysgolion a cholegau ym mhob rhan o Gymru. Bydd y trothwyon newydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau, sy'n golygu y bydd y rhai a allai fod wedi bod yn anghymwys y llynedd ac sy'n parhau â'u hastudiaethau yn y flwyddyn i ddod, nawr yn gallu gwneud cais. Yn unol ag argymhelliad yr adolygiad, byddwn yn cadw dau drothwy cymhwysedd, gan gydnabod dibynyddion ychwanegol ar aelwydydd. Mae'r trothwy LCA un dibynnydd newydd yn cyd-fynd â'r cyflog byw go iawn a argymhellir yn yr adroddiad, sy'n golygu y bydd yn cynyddu o £21,800 i £23,400, tra bydd y trothwy dau neu fwy o ddibynyddion yn cynyddu o ychydig dros £23,000 i ychydig o dan £26,000.
Mae cynyddu'r trothwyon yn fuddsoddiad ychwanegol o £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, 2025-26, gan fynd â'n buddsoddiad LCA yn agos at £20 miliwn. Bydd y trothwyon newydd hyn, ynghyd â'r gyfradd wythnosol, yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y cynllun LCA yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ifanc o aelwydydd incwm isel. Ac nid ydym yn cynnig cefnogaeth yn unig; rydym yn cael gwared ar rwystrau rhag mynediad. Mae ein ffurflen gais ar-lein newydd yn trawsnewid y broses, gan alluogi cyflwyno tystiolaeth electronig a dileu costau post. Mae'n gyflymach, yn symlach ac wedi'i gynllunio i gyrraedd pob myfyriwr cymwys.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i wella proses ymgeisio'r LCA, lleihau'r gofynion tystiolaeth ar gyfer dysgwyr a noddwyr, a sicrhau bod LCA yn cyrraedd y rhai sydd ei angen. Rydym yn datblygu ymgyrchoedd wedi'u targedu i gyrraedd pobl ifanc ym mlwyddyn 11. Byddwn yn cryfhau'r gwaith yn ein cymunedau a'n timau trechu tlodi i ddarparu gwasanaeth cyfeirio a gwybodaeth am LCA i deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau eraill gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ar draws grwpiau gofal cymdeithasol a gofalwyr ifanc i ddarparu arweiniad a chefnogaeth glir i annog ceisiadau gan bobl ifanc cymwys.
Llywodraeth Lafur Cymru yw hon sy'n cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru ac yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywydau pobl. Rydym yn falch o'n hanes o roi arian yn ôl ym mhocedi pobl, ac rwy'n falch o chwarae fy rhan i barhau â'r hanes hwnnw.
Yn ystod fy ymweliad â Choleg y Cymoedd yr wythnos diwethaf, cwrddais â grŵp o ddysgwyr uchelgeisiol sy'n derbyn LCA, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am siarad mor agored ynghylch sut mae LCA yn eu helpu yn bersonol. Fe wnaeth Roxy Cole, sy'n 16 oed ac yn astudio pedwar pwnc safon uwch, bersonoli effaith LCA ac eglurodd i mi fod LCA wedi rhoi annibyniaeth ariannol iddi i reoli ei threuliau ei hun, gan leihau ei dibyniaeth ar ei gwarcheidwaid. Fel gefeilliaid, mae Roxy a'i brawd yn defnyddio eu LCA i dalu am gostau dyddiol fel cinio a phrynu gwerslyfrau, ac, yn ogystal â lleddfu straen ariannol ar ei haelwyd, teimlai Roxy bod ei LCA wedi ei chymell i sicrhau presenoldeb da a rhoddodd ymdeimlad o gyflawniad iddi, ar ôl gweithio'n galed am ei harian.
Dywedodd ei chyd-ddysgwr, Nia Thomas, sut mae LCA yn hanfodol iddi a bod ei £40 yr wythnos yn helpu i dalu costau ei gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu a chludiant i'r coleg. Mynegodd Nia hefyd sut mae LCA yn ei galluogi i ganolbwyntio ar ei hastudiaethau heb straen ariannol, gan roi hwb i'w hyder a'i pherfformiad.
Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig. Mae'n ymwneud â chyfle. P'un a yw'n gyflenwadau astudio hanfodol, costau cludiant, arian cinio, neu'r tawelwch meddwl i ganolbwyntio'n llwyr ar ddysgu, mae LCA yn ymwneud â chreu llwybrau i bobl ifanc ar draws pob rhan o Gymru.
Thank you so much for this afternoon's statement, Minister, and may I just say I'm really looking forward to working with you constructively in this new role? The education maintenance allowance is, without a doubt, crucial when it comes to giving young people a helping hand when it comes to further education. Without it, many simply wouldn't be able to stick with their studies and give them their full attention, which would, in turn, hamper their future prospects and opportunities. News of the threshold increase will, of course, be welcomed by students and the further education community more widely. Many groups, including NUS Cymru, who have long campaigned for the threshold to be raised, will certainly be delighted with this news today.
It has, indeed, taken 15 years for the threshold to be altered. Minister, you did say that the new threshold will be kept under review, so I'd be really grateful if you could please outline for me and the Senedd here today how often are you going to be reviewing it, and please shed some light on the potential mechanisms of, indeed, doing so.
It's anticipated that this change will unlock extra support for some 3,500 students across Wales when it comes into force this September, so, Minister, how will the Welsh Government ensure this change is effectively communicated to ensure that those eligible take full advantage of the EMA? You also mentioned that campaigns are going to be developed, so can you please provide some more specific details as to how they're going to be pushed out?
We know the EMA payments in Wales are indeed £40, so, Minister, is the Welsh Government now confident that this is going to be enough to properly support our students? During a recent college visit, we actually discussed EMA, and it's safe to say that there was unanimous support for it. We talked about certain criteria in place for students to be eligible for the support of this particular payment, and students, indeed, do run the risk of missing out on EMA if they don't meet attendance requirements and if they do indeed take some unauthorised absence. I'm sure we can all appreciate that some students may, indeed, have to take unexpected absences. This could be down to something going on in their home life that they don't want to particularly share, and, therefore, it goes down as unauthorised leave. So, we don't actually know what's going on specifically in a person's private life, but does the Welsh Government know how many students exactly have lost out on EMA due to poor attendance? Any figures that you've got, Minister, would be greatly appreciated. Has your Government carried out any work in the area looking at the impact that it's had on learners to date? There have been some suggestions in the past of adopting different attendance-based payment models in a bid to reduce stress and anxiety among young people. So, is this something that the Welsh Government has looked into or are you going to be looking at it in the future? If so, do you have a date? Any information would be greatly appreciated.
In July 2024, as we know, a review of the EMA in Wales put forward 10 recommendations for the Welsh Government to take forward. One recommendation was that the Welsh Government explore extending the EMA exemption groups to include young carers and free-school-meal recipients. Given that there was no mention of that in your statement today, Minister, is that something the Welsh Government will be looking at in the future?
I know I touched on raising awareness earlier in my comments, but the review also highlighted that the EMA itself should be promoted more widely. So, what action is the Government going to be taking to achieve that? I know that you said that more details will, indeed, be released in the coming weeks, but, given that you're on your feet today here, Minister, in the Chamber this afternoon, it would be remiss of me not to seek answers on these important areas.
Streamlining the application to allow an electronic submission process, is, indeed, a welcome step, but the review last year also highlighted the need to make the language and terminology used in the application more simple. Is this something that the Welsh Government is going to be taking on board, going forward? This, of course, is indeed a welcome step when it comes to supporting more learners across Wales, and I'd just like to thank the Minister once again for this afternoon's statement. Thank you, Deputy Presiding Officer.
Diolch yn fawr iawn am ddatganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac a gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn adeiladol yn y rôl newydd hon? Heb os, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn hanfodol o ran rhoi help llaw i bobl ifanc ar gyfer addysg bellach. Hebddo, ni fyddai llawer yn gallu cadw at eu hastudiaethau a rhoi eu sylw llawn iddynt, a fyddai, yn ei dro, yn amharu ar eu rhagolygon a'u cyfleoedd yn y dyfodol. Bydd y newyddion am gynyddu trothwy'r myfyrwyr, wrth gwrs, yn cael ei groesawu gan fyfyrwyr a'r gymuned addysg bellach yn ehangach. Bydd llawer o grwpiau, gan gynnwys UCM Cymru, sydd wedi ymgyrchu ers tro dros godi'r trothwy, wrth eu boddau gyda'r newyddion hyn heddiw.
Yn wir, mae wedi cymryd 15 mlynedd i'r trothwy gael ei newid. Gweinidog, dywedoch y bydd y trothwy newydd yn cael ei adolygu, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech amlinellu i mi a'r Senedd heddiw pa mor aml ydych chi'n mynd i'w adolygu, a thaflwch rywfaint o oleuni ar y mecanweithiau posibl ar gyfer gwneud hynny.
Rhagwelir y bydd y newid hwn yn datgloi cefnogaeth ychwanegol i ryw 3,500 o fyfyrwyr ledled Cymru pan ddaw i rym ym mis Medi, felly, Gweinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y newid hwn yn cael ei gyfleu'n effeithiol i sicrhau bod y rhai sy'n gymwys yn manteisio i'r eithaf ar yr LCA? Roeddech hefyd yn sôn bod ymgyrchoedd yn mynd i gael eu datblygu, Felly, a allwch chi roi manylion mwy penodol ynglŷn â sut y byddant yn cael eu gwthio allan?
Rydym yn gwybod bod y taliadau LCA yng Nghymru yn wir yn £40, felly, Gweinidog, a yw Llywodraeth Cymru bellach yn hyderus y bydd hyn yn ddigon i gefnogi ein myfyrwyr yn iawn? Yn ystod ymweliad diweddar â choleg, buom yn trafod LCA mewn gwirionedd, ac mae'n ddiogel dweud bod cefnogaeth unfrydol iddo. Buom yn siarad am feini prawf penodol ar waith i fyfyrwyr fod yn gymwys i gael cymorth y taliad penodol hwn, ac mae myfyrwyr, yn wir, yn wynebu'r risg o golli'r LCA os nad ydynt yn bodloni gofynion presenoldeb ac os ydynt weithiau yn absennol heb awdurdod. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd werthfawrogi y gallai rhai myfyrwyr, yn wir, orfod bod yn absennol a hynny'n annisgwyl. Gallai hyn fod oherwydd rhywbeth sy'n digwydd yn eu bywyd cartref nad ydyn nhw eisiau ei rannu, ac felly mae'n cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig. Felly, nid ydym mewn gwirionedd yn gwybod beth sy'n digwydd yn benodol ym mywyd preifat unigolyn, ond a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o fyfyrwyr yn union sydd wedi colli LCA oherwydd presenoldeb gwael? Byddai unrhyw ffigurau sydd gennych, Gweinidog, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. A yw eich Llywodraeth wedi gwneud unrhyw waith yn y maes hwn yn edrych ar yr effaith y mae wedi'i chael ar ddysgwyr hyd yma? Bu rhai awgrymiadau yn y gorffennol ynghylch mabwysiadu modelau talu yn seiliedig ar bresenoldeb gwahanol mewn ymgais i leihau straen a phryder ymhlith pobl ifanc. Felly, a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio iddo neu a ydych yn mynd i edrych arno yn y dyfodol? Os felly, oes gennych chi ddyddiad? Byddai unrhyw wybodaeth yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.
Ym mis Gorffennaf 2024, fel y gwyddom, cyflwynodd adolygiad o'r LCA yng Nghymru 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu gweithredu. Un argymhelliad oedd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn y grwpiau eithrio LCA i gynnwys gofalwyr ifanc a phobl sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. O ystyried nad oedd unrhyw sôn am hynny yn eich datganiad heddiw, Gweinidog, a yw hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arno yn y dyfodol?
Rwy'n gwybod fy mod wedi crybwyll codi ymwybyddiaeth yn gynharach yn fy sylwadau, ond amlygodd yr adolygiad hefyd y dylid hyrwyddo'r LCA ei hun yn ehangach. Felly, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gyflawni hynny? Gwn eich bod wedi dweud y bydd mwy o fanylion, yn wir, yn cael eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, ond, o gofio eich bod ar eich traed heddiw yma, Gweinidog, yn y Siambr y prynhawn yma, byddwn yn esgeulus pe na fyddwn yn ceisio atebion ar y meysydd pwysig hyn.
Mae symleiddio'r cais i ganiatáu proses gyflwyno electronig, yn wir, yn gam i'w groesawu, ond roedd yr adolygiad y llynedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen i wneud yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddir yn y cais yn symlach. A yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, wrth symud ymlaen? Mae hyn, wrth gwrs, yn gam i'w groesawu o ran cefnogi mwy o ddysgwyr ledled Cymru, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am ddatganiad y prynhawn yma. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
I'd like to thank Natasha Asghar for her questions there, and also, firstly, to welcome you to your role as education spokesperson for the Conservatives. It's the first time that we've locked horns in the Chamber, and I'm glad that my pen was working so that I could write down the myriad of questions that you posed to me there.
Firstly, I just want to agree with some of your opening statements there about the value of EMA in really unlocking those educational opportunities for our learners here in Wales. That's something that came across really clearly through the independent review that we had commissioned: the benefits that it brings to our learners to help them to really focus and engage with their studies, not to have to worry about part-time work or other elements of making ends meet, and to deliver those outcomes that we know will help them to achieve those good careers in life and that financial stability. And you mentioned there the role of NUS Cymru as well, and I'd like to take the opportunity to welcome NUS Cymru to the gallery today; it's been a real pleasure to have those students come down today to endorse the work that we are doing here. I know that they have worked long and hard, engaging not just with myself, but with previous Ministers, to help to achieve this change. They're a really valued stakeholder and so it's really great to have them here today.
You're right, Natasha; it has been 15 years since we've been able to uprate the threshold for EMA, and, quite simply, that's because we've had 14 years of austerity imposed as a result of the settlements that we had from the previous UK Tory Government. And I'd like to pay tribute to those Ministers who held this role before me—Kirsty Williams, Jeremy Miles and Lynne Neagle—who all would have loved to have had the opportunity to have increased the household income thresholds for EMA, but the money simply wasn't there. And it has been the money that's been passed down from the latest budget settlement from the UK Labour Government that's allowed me to have the opportunity to actually deliver this to our learners.
You asked about the review: we will review both the household income threshold and the weekly amount of EMA on an annual basis. In terms of communication, we are working with both the further education college sector and with sixth forms to push out that message. That is done through communication channels that we have already got established, such as through local authorities, through schools and through ColegauCymru to the FE colleges. And online awareness raising is a big part of that, so that's not just through Welsh Government channels, but asking those partners, those stakeholders, to push the message out there as well.
Attendance I think is a key part of the way in which EMA is awarded. In my previous career as a teacher, my last role that I held in a school was assistant head of sixth form, and actually maintaining EMA and delivering that to learners on a weekly basis was one of the roles that I undertook. So, I have real personal experience of seeing the value that the programme brings to our learners, and it is very much about having that engagement with young people that I did see when I went to Coleg y Cymoedd on Thursday as well, so that the tutors who are responsible for EMA have those gentle conversations with our learners to find out why they have been missing lessons or lectures. And the feedback that I've had from the chalkface, so to speak, is that those conversations themselves are very beneficial in actually encouraging learners to improve their attendance. We've had evidence from the review as well that the increase in the amount that we put in in 2023 from £30 to £40 a week has also helped to improve attendance for learners and acted as an incentive. And I'm confident that schools and colleges will continue with that gentle approach, to use this as an incentive to improve attendance, rather than as a stick—use it as a carrot, rather than a stick.
Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau yna, a hefyd, yn gyntaf, i'ch croesawu i'ch rôl fel llefarydd addysg y Ceidwadwyr. Dyma'r tro cyntaf i ni herio'n gilydd yn y Siambr, ac rwy'n falch bod fy ysgrifbin wedi gweithio er mwyn i mi allu ysgrifennu'r myrdd o gwestiynau a ofynnwyd i mi.
Yn gyntaf, hoffwn gytuno â rhai o'ch datganiadau agoriadol am werth LCA wrth ddatgloi'r cyfleoedd addysgol hynny i'n dysgwyr yma yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth a ddaeth i'r amlwg iawn trwy'r adolygiad annibynnol yr oeddem wedi'i gomisiynu: y manteision y mae'n eu cynnig i'n dysgwyr i'w helpu i ganolbwyntio ac ymgysylltu â'u hastudiaethau mewn gwirionedd, peidio â gorfod poeni am waith rhan-amser neu elfennau eraill o gael dau ben llinyn ynghyd, a chyflawni'r canlyniadau hynny y gwyddom y bydd yn eu helpu i gyflawni'r gyrfaoedd da hynny mewn bywyd a'r sefydlogrwydd ariannol hwnnw. A sonioch chi am rôl UCM Cymru hefyd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i groesawu UCM Cymru i'r oriel heddiw; mae wedi bod yn bleser mawr cael y myfyrwyr hynny i ddod i lawr heddiw i gymeradwyo'r gwaith yr ydym yn ei wneud yma. Gwn eu bod wedi gweithio'n galed iawn, gan ymgysylltu nid yn unig â mi, ond gyda Gweinidogion blaenorol, i helpu i gyflawni'r newid hwn. Maen nhw'n rhanddeiliad gwerthfawr iawn ac felly mae'n wych eu cael nhw yma heddiw.
Rydych chi'n iawn, Natasha; mae wedi bod yn 15 mlynedd ers i ni allu uwchraddio'r trothwy ar gyfer LCA, ac, yn syml, mae hynny oherwydd ein bod wedi cael 14 mlynedd o gyni wedi'u gorfodi o ganlyniad i'r setliadau a gawsom gan Lywodraeth Dorïaidd flaenorol y DU. A hoffwn dalu teyrnged i'r Gweinidogion hynny a oedd yn y rôl hon cyn i mi ddod iddi—Kirsty Williams, Jeremy Miles a Lynne Neagle—y byddai pob un ohonynt wedi bod wrth eu bodd o gael y cyfle i gynyddu trothwyon incwm yr aelwyd ar gyfer LCA, ond yn syml, nid oedd yr arian yno. A dyma'r arian sydd wedi cael ei drosglwyddo o'r setliad cyllideb diweddaraf gan Lywodraeth Lafur y DU sydd wedi caniatáu i mi gael y cyfle i gyflwyno hyn i'n dysgwyr mewn gwirionedd.
Gofynnoch am yr adolygiad: byddwn yn adolygu trothwy incwm yr aelwyd a'r swm wythnosol o LCA yn flynyddol. O ran cyfathrebu, rydym yn gweithio gyda'r sector colegau addysg bellach a chyda'r chweched dosbarth i wthio'r neges honno. Gwneir hynny drwy sianelau cyfathrebu yr ydym eisoes wedi'u sefydlu, megis trwy awdurdodau lleol, trwy ysgolion a thrwy ColegauCymru i'r colegau AB. Ac mae codi ymwybyddiaeth ar-lein yn rhan fawr o hynny, felly nid trwy sianeli Llywodraeth Cymru yn unig y mae hynny, ond gofyn i'r partneriaid hynny, y rhanddeiliaid hynny, wthio'r neges allan yna hefyd.
Rwy'n credu bod presenoldeb yn rhan allweddol o'r ffordd y mae LCA yn cael ei ddyfarnu. Yn fy ngyrfa flaenorol fel athrawes, fy rôl olaf mewn ysgol oedd fel pennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth, ac mewn gwirionedd cynnal LCA a chyflwyno hynny i ddysgwyr yn wythnosol oedd un o fy swyddogaethau. Felly, mae gen i brofiad personol go iawn o weld y gwerth y mae'r rhaglen yn ei gynnig i'n dysgwyr, ac mae'n ymwneud llawer â chael yr ymgysylltiad hwnnw â phobl ifanc a welais pan es i Goleg y Cymoedd ddydd Iau hefyd, fel bod y tiwtoriaid sy'n gyfrifol am LCA yn cael y sgyrsiau tyner hynny gyda'n dysgwyr i ddarganfod pam eu bod yn colli gwersi neu ddarlithoedd. A'r adborth a gefais gan y rhai sy'n ymwneud ag addysgu o ddydd i ddydd yw bod y sgyrsiau hynny eu hunain yn fuddiol iawn wrth annog dysgwyr i wella eu presenoldeb. Rydym wedi cael tystiolaeth o'r adolygiad hefyd bod y cynnydd yn y swm a roddwyd yn 2023 o £30 i £40 yr wythnos hefyd wedi helpu i wella presenoldeb dysgwyr ac wedi gweithredu fel cymhelliant. Ac rwy'n hyderus y bydd ysgolion a cholegau yn parhau gyda'r dull tyner hwnnw, i ddefnyddio hyn fel cymhelliant i wella presenoldeb, yn hytrach nag fel ffon—ei ddefnyddio fel moronen, yn hytrach na ffon.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion da i fyfyrwyr sydd wedi'i gweld hi'n anodd ymdopi ag anawsterau costau byw, yn arbennig y gost o dalu am fwyd, prynu llyfrau a thrafnidiaeth, fel rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw'n barod. Mae hyn yn gallu cael effaith ar allu myfyriwr i ddilyn llwybr addysg llawn amser a fyddai'n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol iddyn nhw fydd yn cyfrannu i economi Cymru ac i'r gymdeithas yn fwy cyffredinol.
Hoffwn roi ar record fy niolch i bawb yn y Siambr a thu hwnt sydd wedi ymgyrchu o blaid y newid hwn i'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru. Os caf i dalu teyrnged arbennig i fy nghyd-Aelod Luke Fletcher, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ers 2021 ar y mater hwn, ac yn llwyddiannus, os cofiwch chi; fe wnaeth gyflwyno dadl Aelod ar hyn yn Chwefror 2023 a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynnydd yn y lwfans yn unol â lefelau chwyddiant ac adolygiad o’r trothwyon. Ers hynny, rŷn ni wedi gweld y lwfans yn cynyddu i £40 yr wythnos—nid efallai yn inflation linked, fel y byddai llawer o bobl wedi dymuno, ond i’w groesawu serch hynny—ac, o’r diwedd, heddiw, y cyhoeddiad ynglŷn â newid y trothwyon er mwyn cynyddu'r nifer sy'n gymwys ar gyfer y lwfans.
Thank you for the statement, Minister. Today's announcement is good news for students who have found it difficult to cope with difficulties relating to the cost of living, particularly the cost of paying for food, buying books and transport, as you have already mentioned. This can have an impact on the ability of a student to follow a full-time education pathway that would give them the necessary skills and knowledge that would contribute to the Welsh economy and to society more generally.
I would like to put on record my thanks to everyone in the Chamber and beyond who has campaigned in favour of this change to the EMA in Wales. If I could pay a particular tribute to my colleague Luke Fletcher, who has campaigned tirelessly on this issue since 2021, and he was, of course, successful, if you remember, in bringing forward a Member debate on this issue in February 2023, which received cross-party support, calling on the Welsh Government to consider an increase in the allowance in line with inflation levels and a review of the thresholds. Since then, we have seen the EMA increase to £40 per week—not inflation linked, as many would have liked to have seen, but an increase to be welcomed nonetheless—and, finally, today, we have an announcement regarding the changing of the thresholds to increase the number of people who are eligible for this allowance.
Whilst Plaid Cymru welcomes this change to the thresholds, I would urge the Minister to seriously consider how the Government intends to implement the other recommendations that came out of the wider review of the EMA last summer, as, sadly, too many students face further challenges relating to transportation, the attainment gap and attendance policies, for example, and you mentioned in your statement removing barriers to access.
That review called on the Government to consider linking any uplift in EMA with the consumer price index or other inflationary measures in future. Indeed, during the 2023 debate on this issue, speaking as a backbencher at that time, you, Minister, recognised that the failure to uplift EMA in line with inflation was 'problematic', going on to say:
'By my estimation, in terms of purchasing power, £30 in 2004 is equivalent to just under £59 today, so the value of EMA has been significantly impacted as costs have got higher and higher.'
Of course, the current payment level of £40 is still a fair bit short of what it would be if the allowance had increased according to inflation. So, Minister, budgetary pressures notwithstanding, I would be grateful to know whether you still consider this disparity problematic. Could you, perhaps, set out your ambitions for the direction of travel of increasing the set amount students can receive from the EMA in future?
Turning now to the issue of travel, the review called on the Government to explore how it could provide free transport to learners from low-income households across both school and further education college settings. I was hoping that this matter could have been debated during the debate on the Learner Travel (Wales) Measure 2008, but that, now, has been withdrawn by the Welsh Government. What, therefore, is the Government's intention in this particular area of learner transport? What outcomes can we expect from the review of the learner travel Measure? And will the forthcoming bus Bill, for example, help to relieve the transportation cost pressures faced by pupils and parents?
Finally, I was concerned to hear recently that there have been some cases where, due to administrative errors or burdens, some students didn't receive EMA payments for up to three months at the start of the school year. Whilst payments were backdated—obviously, that is to be welcomed—at the time it meant that some students were unable to attend college, which impacted their ability to claim EMA in the first place, creating a vicious cycle. So, what consideration has the Minister given to introducing greater flexibility in the current attendance-monitoring system that determines whether students receive their payments or not? Diolch yn fawr.
Er bod Plaid Cymru yn croesawu'r newid hwn i'r trothwyon, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried o ddifrif sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu'r argymhellion eraill a ddaeth allan o'r adolygiad ehangach o'r LCA yr haf diwethaf, gan fod gormod o fyfyrwyr yn anffodus yn wynebu heriau pellach yn ymwneud â chludiant, y bwlch cyrhaeddiad a'r polisïau presenoldeb, er enghraifft, a sonioch yn eich datganiad am gael gwared ar rwystrau rhag mynediad.
Galwodd yr adolygiad hwnnw ar y Llywodraeth i ystyried cysylltu unrhyw godiad i'r LCA â'r mynegai prisiau defnyddwyr neu fesurau chwyddiant eraill yn y dyfodol. Yn wir, yn ystod dadl 2023 ar y mater hwn, wrth siarad fel un ar y meinciau cefn bryd hynny, fe wnaethoch chi, Gweinidog, gydnabod bod y methiant i godi LCA yn unol â chwyddiant yn 'broblem', gan fynd ymlaen i ddweud:
'Yn ôl yr hyn rwy'n ei amcangyfrif, o ran pŵer prynu, mae £30 yn 2004 yn cyfateb i ychydig o dan £59 heddiw, felly effeithiwyd yn sylweddol ar werth y lwfans cynhaliaeth addysg wrth i gostau fynd yn uwch ac yn uwch.'
Wrth gwrs, mae lefel bresennol y taliad o £40 yn dal i fod dipyn yn llai na'r hyn a fyddai pe bai'r lwfans wedi cynyddu yn unol â chwyddiant. Felly, Gweinidog, er gwaethaf pwysau cyllidebol, byddwn yn ddiolchgar i wybod a ydych yn dal i ystyried yr anghyfartalwch hwn yn broblem. A allech chi, efallai, nodi'ch uchelgeisiau ar gyfer y cyfeiriad teithio o ran cynyddu'r swm penodol y gall myfyrwyr ei dderbyn gan yr LCA yn y dyfodol?
Gan droi nawr at fater teithio, galwodd yr adolygiad ar y Llywodraeth i archwilio sut y gallai ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr o aelwydydd incwm isel ar draws lleoliadau ysgolion a cholegau addysg bellach. Roeddwn yn gobeithio y gallai'r mater hwn fod wedi cael ei drafod yn ystod y ddadl ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, ond mae hynny, bellach, wedi cael ei dynnu'n ôl gan Lywodraeth Cymru. Beth, felly, yw bwriad y Llywodraeth yn y maes penodol hwn o gludiant i ddysgwyr? Pa ganlyniadau y gallwn eu disgwyl o'r adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr? Ac a fydd y Bil bysiau sydd ar ddod, er enghraifft, yn helpu i leddfu'r pwysau costau cludo sy'n wynebu disgyblion a rhieni?
Yn olaf, roeddwn yn bryderus o glywed yn ddiweddar y bu rhai achosion lle, oherwydd gwallau gweinyddol neu feichiau, na chafodd rhai myfyrwyr daliadau LCA am hyd at dri mis ar ddechrau'r flwyddyn ysgol. Tra bod taliadau wedi'u hôl-ddyddio—yn amlwg, mae hynny i'w groesawu—ar y pryd roedd yn golygu nad oedd rhai myfyrwyr yn gallu mynd i'r coleg, a oedd yn effeithio ar eu gallu i hawlio LCA yn y lle cyntaf, gan greu cylch dieflig. Felly, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y system monitro presenoldeb bresennol sy'n penderfynu a yw myfyrwyr yn derbyn eu taliadau ai peidio? Diolch yn fawr.
Thank you, Cefin, for those questions. I'd like to begin by agreeing with your comment that this is a benefit that really helps our young learners who come from those lower income households to combat the cost of living and the cost of transport, and that's certainly the evidence that has been brought out through the independent review, and also through the many conversations that I've had with learners on my visits since taking up this post.
I do agree with you as well that what this campaign around EMA has shown is our Senedd here working at its very best. It's a pleasure that we have members from the National Union of Students Cymru in the gallery today, so that they can see how different this Parliament is to many others across the world, with that cross-party working. And I'd like to join you particularly in paying tribute to Luke Fletcher MS, who has done really sterling work on this, and I'm delighted that he'll be speaking on this today.
If I turn to some of the other things that you raised as well, in terms of our ability to finance this and whether we are actually giving enough money per week to our learners, and whether we've put the household income threshold in the right place, well, on both of those things, we are working off the recommendations of the independent review, so what we're doing is fully in line with that. We'll also be publishing our response to the full review in due course, and I know that not just NUS Wales, but the Bevan Foundation and also ColegauCymru have welcomed the announcement that we have made here today. This has been a draft budget where we have to be realistic with the amount of money that we have to work with. For example, initial modelling for raising the one-dependent household income threshold to, say, £30,000, which has been mooted by some sectors, would have required an extra £12.4 million. So, as I've said to other speakers on this statement today, we will keep both the weekly allowance rate and the eligibility thresholds under annual review, and we'll consider appropriate amendments where we can.
I'd like to turn now to the points you made about transport, because I think that's absolutely essential, and I was having a conversation with the students from NUS Cymru about that at lunchtime. This is, really, the next big issue that we need to tackle now after implementing these changes to EMA. I'd like to start off by recognising the great work that is being done by different local authorities and FE colleges across Wales, which I think often flies under the radar. Many of them are fully or partially funding post-16 learner transport, but both myself and the Cabinet Secretary for Transport and North Wales, Ken Skates, recognise that this is a system that is under significant and increasing strain, and we're working together to see what more can be done to build a more equitable and resilient transport solution for our leaners. In the meantime, I would encourage all Members to really promote the Welsh Government's MyTravelPass scheme. Young people can apply for a travel pass completely free of charge; it gives you a third off all bus travel in Wales. There are also a range of different rail cards available from Transport for Wales or nationally—the national rail card—and each of them cost under £30 and can get you up to 50 per cent off rail travel.
Just to close, I think your last point was that issue of administrative errors and the difficulty that that has created. That is not something that I'm familiar with, so if you would like to write to me with details of that, I'd be very, very pleased to take that up, because we certainly don't want to see barriers like that to the recipients of EMA. And in terms of that issue with attendance, I have been reassured that colleges and schools use a gentle approach to this. There's no need to be removing EMA from learners who have valid reasons for being absent, or have only been absent for a short period. But I will also commit to keeping that under review.
Diolch yn fawr, Cefin, am y cwestiynau yna. Hoffwn ddechrau drwy gytuno â'ch sylw fod hwn yn fudd gwirioneddol sy'n helpu ein dysgwyr ifanc sy'n dod o'r aelwydydd incwm is hynny i frwydro yn erbyn costau byw a chost cludiant, a dyna'n sicr yw'r dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg drwy'r adolygiad annibynnol, a hefyd trwy'r sgyrsiau niferus rwyf wedi'u cael gyda dysgwyr ar fy ymweliadau ers i mi ddechrau yn y swydd hon.
Rwy'n cytuno â chi hefyd mai'r hyn y mae'r ymgyrch hon ynghylch LCA wedi'i ddangos yw ein Senedd yma yn gweithio ar ei gorau. Mae'n bleser cael aelodau o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn yr oriel heddiw, fel y gallant weld pa mor wahanol yw'r Senedd hon i lawer o rai eraill ar draws y byd, gyda'r gweithio trawsbleidiol hwnnw. A hoffwn i ymuno â chi'n arbennig i dalu teyrnged i Luke Fletcher AS, sydd wedi gwneud gwaith ardderchog ar hyn, ac rwy'n falch iawn y bydd yn siarad ar hyn heddiw.
Fe drof at rai o'r pethau eraill a godwyd gennych hefyd, o ran ein gallu i ariannu hyn ac a ydym mewn gwirionedd yn rhoi digon o arian bob wythnos i'n dysgwyr, ac a ydym wedi rhoi trothwy incwm yr aelwyd yn y lle iawn, wel, ar y ddau beth hynny, rydym yn gweithio ar argymhellion yr adolygiad annibynnol, Felly, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn cyd-fynd yn llwyr â hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i'r adolygiad llawn maes o law, a gwn nad UCM Cymru yn unig, ond mae Sefydliad Bevan a ColegauCymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad yr ydym wedi'i wneud yma heddiw. Mae hon wedi bod yn gyllideb ddrafft lle mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynghylch faint o arian sydd gennym i weithio gydag ef. Er enghraifft, byddai modelu cychwynnol ar gyfer codi'r trothwy incwm cartref sy'n dibynnu ar y trothwy incwm aelwyd un dibynnydd, dyweder, i £30,000, sydd wedi'i grybwyll gan rai sectorau, angen £12.4 miliwn ychwanegol. Felly, fel yr wyf wedi dweud wrth siaradwyr eraill ar y datganiad hwn heddiw, byddwn yn adolygu'r gyfradd lwfans wythnosol a'r trothwyon cymhwysedd yn flynyddol, a byddwn yn ystyried gwelliannau priodol lle y gallwn.
Hoffwn droi nawr at y pwyntiau a wnaethoch am gludiant, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol, ac roeddwn i'n cael sgwrs gyda'r myfyrwyr o UCM Cymru am hynny amser cinio. Dyma, mewn gwirionedd, yw'r mater mawr nesaf y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef nawr ar ôl gweithredu'r newidiadau hyn i'r LCA. Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan wahanol awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach ledled Cymru, sydd, yn fy marn i, yn aml yn digwydd o'r golwg. Mae llawer ohonynt yn ariannu cludiant dysgwyr ôl-16 yn llawn neu'n rhannol, ond rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn cydnabod bod hon yn system sydd o dan straen sylweddol a chynyddol, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i weld beth arall y gellir ei wneud i greu ateb cludiant mwy teg a chydnerth i'n dysgwyr. Yn y cyfamser, byddwn yn annog pob Aelod i hyrwyddo cynllun Fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru. Gall pobl ifanc wneud cais am docyn teithio am ddim; mae'n rhoi gostyngiad o draean y pris ar gyfer pob taith ar fws yng Nghymru. Mae yna hefyd ystod o wahanol gardiau rheilffordd ar gael gan Trafnidiaeth Cymru neu'n genedlaethol—y cerdyn rheilffordd cenedlaethol—ac mae pob un ohonynt yn costio llai na £30 a gallwch gael gostyngiad o hyd at 50 y cant ar gyfer teithio ar y trên.
Dim ond i orffen, credaf mai eich pwynt olaf oedd y mater hwnnw o wallau gweinyddol a'r anhawster y mae hynny wedi'i greu. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf yn gyfarwydd ag ef, felly os hoffech ysgrifennu ataf gyda'r manylion am hynny, byddwn yn falch iawn, iawn o roi sylw i hynny, oherwydd yn sicr nid ydym eisiau creu rhwystrau o'r fath i dderbynwyr LCA. Ac o ran y mater hwnnw o bresenoldeb, rwyf wedi cael sicrwydd bod colegau ac ysgolion yn defnyddio dull tyner ynghylch hyn. Nid oes angen tynnu LCA oddi wrth ddysgwyr sydd â rhesymau dilys dros fod yn absennol, neu sydd ond wedi bod yn absennol am gyfnod byr. Ond byddaf hefyd yn ymrwymo i adolygu hynny.
Thank you very much, Minister, for bringing forward this very welcome statement today. I welcome the expansion to more students, the increase in the eligibility threshold and the easier ways that young people will be able to apply. So, I think it is a good day for young people. And I'm also really pleased to see NUS Cymru in the gallery today, and I was pleased to meet them earlier on.
One of my constituents, who was a recipient of the EMA, has said to me, 'Receiving the EMA felt like an investment by the Welsh Government into my future, so that I could continue with my education without having to worry about money. It helped with the cost of equipment for my studies, as well as transport to and from sixth form. I am so grateful that I was able to receive EMA each month. It made this stage of my education that bit easier.' Would the Minister agree that this is a perfect example of why the EMA was brought in and why we should be celebrating it here in the Chamber today?
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn sydd i'w groesawu heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn cael ei ehangu i fwy o fyfyrwyr, y cynnydd yn y trothwy cymhwysedd a'r ffyrdd haws i bobl ifanc allu gwneud cais. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod da i bobl ifanc. Ac rwyf hefyd yn falch iawn o weld UCM Cymru yn yr oriel heddiw, ac roeddwn yn falch o gwrdd â nhw yn gynharach.
Mae un o fy etholwyr, a oedd wedi derbyn LCA, wedi dweud wrthyf, 'Roedd derbyn LCA yn teimlo fel buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn fy nyfodol, fel y gallwn barhau â'm haddysg heb orfod poeni am arian. Roedd yn helpu gyda chost offer ar gyfer fy astudiaethau, yn ogystal â chludiant i'r chweched dosbarth ac oddi yno. Rwyf mor ddiolchgar fy mod wedi gallu derbyn LCA bob mis. Gwnaeth y cam hwn o fy addysg gymaint yn haws.' A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn enghraifft berffaith o pam y cyflwynwyd LCA a pham y dylem fod yn ei ddathlu yma yn y Siambr heddiw?
I'd like to thank Julie Morgan for those questions there. I absolutely agree with every word you said about that example that you outlined so powerfully there from your constituent, of how EMA can really help in those individual circumstances. I think it is something we should be really proud of, that we didn't just retain EMA here in Wales when the UK Tory Government scrapped it in 2011, but we have managed, through times of exceptional austerity, to increase the rate of EMA to £40 a week. It's £30 in Scotland and Northern Ireland, so we have that most generous offer in the UK to help our young people with the cost of equipment and transport and so on.
In fact, Julie, across the Cardiff local authority area—you know, you represent one of the Cardiff seats—Cardiff has the highest number of EMA recipients in Wales. The last available data was 1,950, so there are very many young people in your area who are benefiting from EMA, and I thank you for drawing attention to that example there.
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â phob gair a ddywedoch am yr enghraifft honno, y gwnaethoch ei hamlinellu hi mor bwerus, gan eich etholwr, o sut y gall LCA helpu mewn gwirionedd yn yr amgylchiadau unigol hynny. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono, sef na wnaethom ni dim ond cadw LCA yma yng Nghymru pan gafodd Llywodraeth Dorïaidd y DU wared arno yn 2011, ond rydym wedi llwyddo, drwy gyfnodau o gyni eithriadol, i gynyddu cyfradd yr LCA i £40 yr wythnos. Mae'n £30 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly mae gennym y cynnig mwyaf hael hwnnw yn y DU i helpu ein pobl ifanc gyda chost offer a chludiant ac ati.
Yn wir, Julie, ar draws ardal awdurdod lleol Caerdydd—rydych chi'n gwybod, rydych chi'n cynrychioli un o seddi Caerdydd—mai Caerdydd sydd â'r nifer uchaf o dderbynwyr LCA yng Nghymru. Y data diwethaf oedd ar gael oedd 1,950, felly mae llawer iawn o bobl ifanc yn eich ardal yn elwa ar LCA, a diolch i chi am dynnu sylw at yr enghraifft honno.
Having called for the introduction of EMA in Wales, I spoke for my party in the debate and we voted for its introduction 21 years ago—we voted for and supported that—but I did say that our long-term support would be conditional on evidence showing that the numbers of students from lower income households increased in consequence. However, the number of approved EMA applications has fallen annually from 30,180 in 2013-14 to just 15,510 in 2022-23, the lowest level since 2005-06. So, what evidence do you have to show that this has or will increase the numbers of students entering post-16 education or remaining in post-16 education in consequence, and therefore avoiding the need to use the same money—not to save the money, but to use the same money better—to achieve that increase we need to see?
Ar ôl galw am gyflwyno LCA yng Nghymru, siaradais dros fy mhlaid yn y ddadl a gwnaethom bleidleisio dros ei gyflwyno 21 mlynedd yn ôl—fe wnaethom bleidleisio drosto a'i gefnogi—ond dywedais y byddai ein cefnogaeth hirdymor yn amodol ar dystiolaeth sy'n dangos bod nifer y myfyrwyr o aelwydydd incwm is yn cynyddu o ganlyniad. Fodd bynnag, mae nifer y ceisiadau LCA cymeradwy wedi gostwng yn flynyddol o 30,180 yn 2013-14 i ddim ond 15,510 yn 2022-23, y lefel isaf ers 2005-06. Felly, pa dystiolaeth sydd gennych i ddangos bod hyn wedi, neu y bydd yn cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n mynd i addysg ôl-16 neu'n aros mewn addysg ôl-16 o ganlyniad, ac felly'n osgoi'r angen i ddefnyddio'r un arian—nid i arbed yr arian, ond i ddefnyddio'r un arian yn well—i gyflawni'r cynnydd hwnnw mae angen i ni ei weld?
Thank you, Mark, for your questions, and it is a pleasure to hear that the Conservatives also supported this when it was first brought before the Senedd, and it's another example of how our Parliament is different to other Parliaments in the UK, where there are issues like this that we can agree on across the Chamber.
I have also been taking a look at those figures that show the drop in the number of recipients of EMA over the last three financial years for which the data is available. I've looked at that together with my officials and the conclusions that have been drawn from that are that it's due to the fact that, as the minimum wage and the real living wage have risen to match, to a certain extent, the cost-of-living crisis, keeping our income threshold static has meant that fewer and fewer families have been able to qualify for that. So, I don't think that the data shows a lack of willingness for young people to stay within the education system. It has shown that there has been a mismatch, really, with where our income threshold had been set, and that's why we've taken the decision to raise that threshold now and bring an extra 3,500 learners into the system. We're hopeful that that will increase within the next year or so to over 20,000.
Diolch, Mark, am eich cwestiynau, ac mae'n bleser clywed bod y Ceidwadwyr hefyd wedi cefnogi hyn pan ddaeth gerbron y Senedd am y tro cyntaf, ac mae'n enghraifft arall o sut mae ein Senedd yn wahanol i Seneddau eraill yn y DU, lle ceir materion fel hyn y gallwn gytuno arnynt ar draws y Siambr.
Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar y ffigurau hynny sy'n dangos y gostyngiad yn y nifer o dderbynwyr LCA dros y tair blynedd ariannol diwethaf y mae'r data ar gael ar eu cyfer. Rwyf wedi edrych ar hynny ynghyd â'm swyddogion a'r casgliadau sydd wedi'u tynnu o hynny yw ei fod oherwydd y ffaith, gan fod yr isafswm cyflog a'r cyflog byw go iawn wedi codi i gyfateb, i ryw raddau, â'r argyfwng costau byw, mae cadw ein trothwy incwm yn sefydlog wedi golygu bod llai a llai o deuluoedd wedi gallu bod yn gymwys ar gyfer hwnnw. Felly, nid wyf yn credu bod y data'n dangos diffyg parodrwydd ar ran pobl ifanc i aros o fewn y system addysg. Mae wedi dangos bod camgymharu wedi bod, mewn gwirionedd, gyda lle roedd ein trothwy incwm wedi'i bennu, a dyna pam rydym wedi penderfynu codi'r trothwy hwnnw nawr a dod â 3,500 o ddysgwyr ychwanegol i'r system. Rydym yn gobeithio y bydd hynny'n cynyddu o fewn y flwyddyn nesaf i dros 20,000.
I'd like to begin actually by wholeheartedly agreeing with the Minister in relation to what she said at the end of her statement: that this isn't about money, it's about opportunity. And the fact that now that opportunity has been extended to an additional 3,500 learners in Wales is significant, and it's great news. I hope the Dirprwy Lywydd will indulge me a bit—
Hoffwn ddechrau drwy gytuno'n llwyr â'r Gweinidog mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd ar ddiwedd ei datganiad: nad yw hyn yn ymwneud ag arian, mae'n ymwneud â chyfle. Ac mae'r ffaith bod y cyfle hwnnw bellach wedi'i ymestyn i 3,500 o ddysgwyr ychwanegol yng Nghymru yn sylweddol, ac mae'n newyddion gwych. Gobeithio y bydd y Dirprwy Lywydd yn maddau i mi—
Only a little.
Dim ond ychydig.
Only a little; I'll take that because, for me, this is significant. As I've said in this Chamber before, I received the payment when I was in school, it provided me with that opportunity, and I'll always be grateful to former Welsh Government Ministers over the years that kept the payment in place, because I remember back in 2011, when I was considering whether to stay on for sixth form or not, the Tories cutting it actually being a factor as to whether or not I was going to stay. But of course we kept it in Wales, and that was one of the reasons why I campaigned, when I first got elected, for that increase in the payment. It would be remiss of me to not mention the former Cabinet Secretary for Education, Jeremy Miles, who delivered on increasing that payment and delivered on having this review. So, it’s a really significant time for students across Wales. It’s a win for students, and it’s a win for people like me who used to receive that payment. It’s a really proud moment for me to see this progress in the way that it has.
Of course, there are a number of recommendations within the review. Some of them have been raised today. I’ll focus on two. The application process has been complicated over the years, and there’s been a time delay in receiving the payments as well, which has resulted in a number of students struggling to get to college or to school. And then, of course, the transportation issues on top of that meant that they were missing out on the payments, so it was a bit of a vicious cycle. I’d be really grateful to see how the Government progresses on that particular recommendation.
And also, of course, we’ve heard again that the size of the payment is still not where it needs to be. A year ago, my office calculated that it needed to be about £55 a week. Of course, there are financial constraints, but I’d be very grateful to see from the Minister how the Government might look at how we progressively bring that back up to speed, so that it is of the same value as it was back in 2004.
I accept this is a first step. This is a significant step, and it’s a great news story for students across Wales. But they key point now is the Government delivering on it, and I know that the Minister is very keen to see that delivery happen.
Dim ond ychydig; derbyniaf hynny oherwydd i mi, mae hyn yn arwyddocaol. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, cefais y taliad pan oeddwn yn yr ysgol, rhoddodd y cyfle hwnnw i mi, a byddaf bob amser yn ddiolchgar i gyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd a gadwodd y taliad yn ei le, oherwydd rwy'n cofio nôl yn 2011, pan oeddwn yn ystyried a ddylwn aros ymlaen i fynd i'r chweched dosbarth ai peidio, y Torïaid yn ei dorri mewn gwirionedd yn ffactor o ran a oeddwn yn mynd i aros ai peidio. Ond wrth gwrs fe wnaethon ni ei gadw yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau pam yr ymgyrchais, pan ges i fy ethol gyntaf, dros y cynnydd hwnnw yn y taliad. Byddai'n esgeulus i mi beidio â sôn am gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Jeremy Miles, a gyflawnodd ar gynyddu'r taliad hwnnw a chyflawni ar gael yr adolygiad hwn. Felly, mae'n gyfnod arwyddocaol iawn i fyfyrwyr ledled Cymru. Mae'n fuddugoliaeth i fyfyrwyr, ac mae'n fuddugoliaeth i bobl fel fi oedd yn arfer derbyn y taliad hwnnw. Mae'n foment falch iawn i mi weld hwn yn cynyddu fel y gwnaeth.
Wrth gwrs, mae nifer o argymhellion yn yr adolygiad. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu codi heddiw. Byddaf yn canolbwyntio ar ddau. Mae'r broses ymgeisio wedi bod yn gymhleth dros y blynyddoedd, ac mae oedi wedi bod wrth dderbyn y taliadau hefyd, sydd wedi arwain at nifer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y coleg neu'r ysgol. Ac yna, wrth gwrs, roedd y materion cludo ar ben hynny yn golygu eu bod ar eu colled o ran y taliadau, felly roedd yn dipyn o gylch dieflig. Byddwn yn ddiolchgar iawn o weld sut mae'r Llywodraeth yn symud ymlaen ar yr argymhelliad penodol hwnnw.
A hefyd, wrth gwrs, rydym wedi clywed eto fod maint y taliad yn dal i fod yn is na'r hyn y dylai fod. Flwyddyn yn ôl, cyfrifodd fy swyddfa fod angen iddo fod tua £55 yr wythnos. Wrth gwrs, mae cyfyngiadau ariannol, ond byddwn yn ddiolchgar iawn o weld gan y Gweinidog sut y gallai'r Llywodraeth edrych ar sut y gallwn ddod â hwnnw'n ôl i ble y dylai fod yn raddol, fel ei fod o'r un gwerth ag yr oedd yn ôl yn 2004.
Rwy'n derbyn bod hwn yn gam cyntaf. Mae hwn yn gam arwyddocaol, ac mae'n stori newyddion wych i fyfyrwyr ledled Cymru. Ond pwynt allweddol nawr yw bod y Llywodraeth yn cyflawni hynny, a gwn fod y Gweinidog yn awyddus iawn i weld y cyflawniad hwnnw.
Can I thank Luke for his comments? The first thing that came to mind when Luke said that he was in school in 2011, and deciding whether to continue with his education or not, was, ‘Gosh, I must be really old’, because if you’d have lived in the Caerphilly county borough, I could have been your assistant head of sixth form, both teaching you and assisting you with your EMA application.
But on a serious note, Luke, your work on this has been absolutely instrumental. In having that authentic voice here in the Chamber of someone who did receive EMA, and how it has gone on to lead you to fulfil all your educational aspirations, and ultimately, to end up here representing the constituents from your region as well, we couldn’t ask for a better ambassador to show how this scheme can help break down barriers and lead individuals to fulfilling all of their ambitions.
In terms of the application process, you’ll have heard me say already that we have really looked to streamline that, bringing it all online. I will be making sure that we keep tabs on that as part of our review process as well, because we certainly do need to know whether that’s working properly. And that’s why, as well, Cefin, I'd be grateful to you for flagging the issues that you’ve raised now, and any issues that come to light from Members across the Chamber, if your constituents write to you with this.
The transport issues I’ve touched on as well in my response to other Members. You know that this is an area where the Cabinet Secretary for transport and I are united in our determination. We know that the bus Bill will help to break down lots of barriers to accessing transport across Wales, but we are working very hard to try and find a solution before that, because we can’t afford to wait. That is something that’s very important to us. The learner travel summit that we are holding in the next few months will be crucial for that, and I’m sure that the Cabinet Secretary will come back and update the Chamber after that.
And just on your final point about the weekly amount of EMA, I assure you that this will be part of the annual review process as well.
A gaf i ddiolch i Luke am ei sylwadau? Y peth cyntaf a ddaeth i'r meddwl pan ddywedodd Luke ei fod yn yr ysgol yn 2011, a phenderfynu a ddylid parhau gyda'i addysg ai peidio, oedd, 'Diawch, mae'n rhaid fy mod yn hen iawn', oherwydd pe byddech wedi byw ym mwrdeistref sirol Caerffili, byddwn o bosib wedi bod yn bennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth, yn eich dysgu chi ac yn eich cynorthwyo gyda'ch cais LCA.
Ond ar nodyn difrifol, Luke, mae eich gwaith ar hyn wedi bod yn gwbl allweddol. Wrth gael y llais dilys hwnnw yma yn Siambr, llais rhywun a dderbyniodd LCA, a sut mae wedi mynd ymlaen i'ch arwain i gyflawni eich holl ddyheadau addysgol, ac yn y pen draw, dod yma i gynrychioli'r etholwyr o'ch rhanbarth hefyd, ni allem ofyn am well llysgennad i ddangos sut y gall y cynllun hwn helpu i chwalu rhwystrau ac arwain unigolion at gyflawni eu holl uchelgeisiau.
O ran y broses ymgeisio, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud eisoes ein bod wedi ceisio symleiddio honno, gan ddod â'r cyfan ar-lein. Byddaf yn sicrhau ein bod yn cadw golwg ar hynny fel rhan o'n proses adolygu hefyd, oherwydd yn sicr mae angen i ni wybod a yw hynny'n gweithio'n iawn. A dyna pam, hefyd, Cefin, byddwn yn ddiolchgar i chi am dynnu sylw at y materion rydych chi wedi'u codi nawr, ac unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg gan Aelodau ar draws y Siambr, os yw eich etholwyr yn ysgrifennu atoch chi ynghylch hyn.
Y materion cludiant rwyf wedi'u crybwyll hefyd yn fy ymateb i Aelodau eraill. Rydych chi'n gwybod bod hwn yn faes lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a minnau yn unedig yn ein penderfyniad. Rydym yn gwybod y bydd y Bil bysiau yn helpu i chwalu llawer o rwystrau rhag cael mynediad at gludiant ledled Cymru, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio dod o hyd i ateb cyn hynny, oherwydd ni allwn fforddio aros. Mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni. Bydd yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr yr ydym yn ei chynnal yn ystod y misoedd nesaf yn hanfodol ar gyfer hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dod yn ôl ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ôl hynny.
A dim ond ar eich pwynt olaf am swm wythnosol LCA, rwy'n eich sicrhau y bydd hyn yn rhan o'r broses adolygu flynyddol hefyd.
I’m proud to say that Wales provides the most generous education maintenance allowance in the UK, and that it changed from £30 to £40 a week last year. It’s great that it will now be extended to 3,500 learners. That means that they can access that support. Like many other made-in-Wales policies, it helps ensure fairness and opportunity for a decent life—policies such as universal free school meals, school uniform grants, pupil deprivation grants, apprenticeships and the school holiday enrichment programme. EMA really does help with food and transport, and opportunities, as has been mentioned.
Minister, as has been said before, transport is one of the biggest issues I was going to ask you how you promote MyTravelPass, because I know that not all students have heard about it. And going forward, in conversation with the Minister for transport, perhaps you could look at being able to use it on trains as well. I know there's a separate pass for the railway network, but having one pass for a truly integrated public transport system in Wales would be really useful. Perhaps that's something you could take forward. Thank you.
Rwy'n falch o ddweud bod Cymru'n darparu'r lwfans cynhaliaeth addysg mwyaf hael yn y DU, a'i fod wedi newid o £30 i £40 yr wythnos y llynedd. Mae'n wych y bydd nawr yn cael ei ymestyn i 3,500 o ddysgwyr. Mae hynny'n golygu eu bod yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth honno. Fel llawer o bolisïau eraill yng Nghymru, mae'n helpu i sicrhau tegwch a chyfle am fywyd gweddus—polisïau fel prydau ysgol am ddim cyffredinol, grantiau gwisg ysgol, grantiau amddifadedd disgyblion, prentisiaethau a'r rhaglen gwella gwyliau'r haf. Mae LCA wir yn helpu gyda bwyd a chludiant, a chyfleoedd, fel y crybwyllwyd.
Gweinidog, fel y dywedwyd o'r blaen, cludiant yw un o'r materion mwyaf yr oeddwn yn mynd i'ch holi ynglŷn ag ef, sut rydych chi'n hyrwyddo Fyngherdynteithio, oherwydd gwn nad yw pob myfyriwr wedi clywed amdano. Ac wrth symud ymlaen, mewn sgwrs â'r Gweinidog trafnidiaeth, efallai y gallech edrych i weld a ellir ei ddefnyddio ar drenau hefyd. Rwy'n gwybod bod tocyn ar wahân i'r rhwydwaith rheilffyrdd, ond byddai cael un tocyn ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig yng Nghymru yn ddefnyddiol iawn. Efallai fod hynny'n rhywbeth y gallech chi ei ddatblygu. Diolch.
I'd like to thank Carolyn Thomas for her questions. I was busy doing my maths as you were speaking, and, across the region that you represent, North Wales, the latest available data shows 2,870 learners in receipt of EMA. I think your question there is a really good one. MyTravelPass is something that we are really proud of here in this Senedd Chamber. I know my colleague Lynne Neagle has previously done a lot of work on this. We work really closely with Transport for Wales and bus operators to promote the MyTravelPass scheme, and we ask our FE colleges and our schools to promote it as well. As I said in a previous answer, it's completely free, there's online application for it. It's something that is very worthwhile young people doing because it gives them a third off all bus travel in Wales. Over the last couple of years, we've actively promoted the ticketing scheme on social media. That's been complemented by bus stop signs and bus advertising as well. Transport for Wales assure me that they enjoy going to freshers fairs—I bet they do—where they promote the scheme directly to college students as well.
To turn to your question about the possibility of expanding MyTravelPass to include rail travel, I don't believe there are any plans at present to do that, although we are working with Transport for Wales to look for opportunities to improve and enhance the offering when funding allows. But I do definitely think that it's something worth us taking forward with the learner travel summit, because, as you say, we're looking for this one-ticket integrated approach, and this would appear to be a good example of that. There are some really great railcards out there for students currently. There's a plethora of them, actually. There are three from Transport for Wales, and three national railcards. As I've said previously, each of them costs under £30, and can provide up to 50 per cent off journeys. So, they are worth many of our learners investing in. But I agree with your sentiment that anything we can do to push harder for an integrated pass system could only be a good thing.
Hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau. Roeddwn i'n brysur yn gwneud fy mathemateg wrth i chi siarad, ac, ar draws y rhanbarth rydych chi'n ei gynrychioli, Gogledd Cymru, mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos 2,870 o ddysgwyr yn derbyn LCA. Rwy'n credu bod eich cwestiwn yn un da iawn. Mae Fyngherdynteithio yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono yma yn Siambr y Senedd hon. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, wedi gwneud llawer o waith ar hyn o'r blaen. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau i hyrwyddo'r cynllun Fyngherdynteithio, ac rydym yn gofyn i'n colegau AB a'n hysgolion ei hyrwyddo hefyd. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae am ddim, gallwch wneud cais ar-lein. Mae'n rhywbeth sy'n werth chweil i bobl ifanc oherwydd ei fod yn rhoi gostyngiad o draean y pris ar bob taith bws yng Nghymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi hyrwyddo'r cynllun tocynnau ar gyfryngau cymdeithasol yn weithredol. Mae hynny wedi'i ategu gan arwyddion safleoedd bysiau a hysbysebion ar fysiau hefyd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn fy sicrhau eu bod nhw'n mwynhau mynd i ffeiriau'r glas—rwy'n siwr eu bod nhw—lle maen nhw'n hyrwyddo'r cynllun yn uniongyrchol i fyfyrwyr coleg hefyd.
I droi at eich cwestiwn am y posibilrwydd o ehangu Fyngherdynteithio i gynnwys teithio ar y rheilffyrdd, nid wyf yn credu bod unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wneud hynny, er ein bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella a gwella'r cynnig pan fydd cyllid yn caniatáu. Ond rwy'n bendant yn credu ei fod yn rhywbeth sy'n werth i ni ei ystyried yn yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr, oherwydd, fel y dywedwch, rydym yn chwilio am y dull un tocyn integredig hwn, a byddai'n ymddangos bod hyn yn enghraifft dda o hynny. Mae yna gardiau rheilffordd gwych ar gael i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Mae yna lu ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Mae tri gan Trafnidiaeth Cymru, a thri cherdyn rheilffordd cenedlaethol. Fel y dywedais o'r blaen, mae pob un ohonynt yn costio llai na £30, a gallant gynnig gostyngiad o hyd at 50 y cant ar gyfer teithiau. Felly, mae'n werth i lawer o'n dysgwyr fuddsoddi ynddynt. Ond rwy'n cytuno â'ch teimlad y gallai unrhyw beth y gallwn ei wneud i bwyso'n galetach am system cerdyn integredig fod o fudd heb amheuaeth.
Diolch yn fawr, Weinidog, am eich datganiad positif, ac am ymateb yn gadarnhaol i nifer o argymhellion yr adolygiad yn barod. Diolch yn fawr yn arbennig am gyfraniad Luke Fletcher, sy'n dangos yn ymarferol bwysigrwydd y taliad yma. 'Cyfle' oedd eich gair mawr chi, a gair mawr Luke. Mae Natasha Asghar wedi sôn yn barod ynglŷn â phresenoldeb. Mae'n bwysig rhoi cyfle i bawb, yn enwedig y rheini sy'n dioddef o heriau penodol. Dwi eisiau jest delio â'r rheini sy'n dioddef o afiechydon cronig, rheini sydd ag anawsterau dysgu ychwanegol, ac anableddau eraill—hynny efallai yn golygu eu bod nhw yn gorfod colli ysgol. Os nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy presenoldeb, yna maen nhw'n colli'r taliad. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i sicrhau nad yw'r bobl yma'n cael eu colli, ddim yn syrthio rhwng y craciau, a bod eu hamgylchiadau nhw'n cael eu hystyried, fel eu bod nhw'n cael y cyfle yma hefyd? Diolch yn fawr.
Thank you, Minister, for your positive statement, and for responding positively to many of the recommendations made in the review. A particular thanks for the contribution from Luke Fletcher, who shows the practical importance of this payment. Your big word was 'opportunity', and it was the word used by Luke too. Natasha Asghar has already mentioned attendance. It's important to give opportunities to everyone, especially those who have specific challenges. I just want to touch on those who have chronic illnesses, those who have additional learning needs, and other disabilities—meaning perhaps that they do have to miss school. If they don't reach the attendance threshold, then they could lose the payment. What steps will you take to ensure that these pupils don't fall between the cracks and that their circumstances are taken into account, so that they have that opportunity too? Thank you.
Thank you for those questions. I think the key word there is 'could'—they could lose the payment under those circumstances. As I've said in my response to other Members here today, I certainly would hope that those who administer EMA in school and college settings would use the same approach as I did all those years ago, to use this programme as an incentive for good attendance, and to understand the different circumstances that learners face. All of my interactions suggest that that is the way that the scheme is being run, but I will ensure that when we conduct our annual reviews we take further evidence on this. But let’s remember that those who go into teaching do so because of a genuine passion to help all young people, and especially those who experience the disadvantages that you’re facing there. So, I don’t have any evidence to suggest that those groups of learners are being penalised for their attendance, but I will certainly keep my eyes and ears open for that.
Diolch am y cwestiynau yna. Rwy'n credu mai'r gair allweddol yna yw 'gallent'—fe allen nhw golli'r taliad o dan yr amgylchiadau hynny. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Aelodau eraill yma heddiw, byddwn yn sicr yn gobeithio y byddai'r rhai sy'n gweinyddu LCA mewn ysgolion a cholegau yn defnyddio'r un dull ag y gwnes i yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, i ddefnyddio'r rhaglen hon fel cymhelliant ar gyfer presenoldeb da, ac i ddeall y gwahanol amgylchiadau y mae dysgwyr yn eu hwynebu. Mae fy holl ryngweithiadau yn awgrymu mai dyna'r ffordd y mae'r cynllun yn cael ei redeg, ond byddaf yn sicrhau, pan fyddwn yn cynnal ein hadolygiadau blynyddol, ein bod yn cymryd rhagor o dystiolaeth ar hyn. Ond gadewch i ni gofio bod y rhai sy'n mynd i fyd addysgu yn gwneud hynny oherwydd angerdd gwirioneddol i helpu pob person ifanc, ac yn enwedig y rhai sy'n profi'r anfanteision rydych chi'n eu hwynebu yno. Felly, nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y grwpiau hynny o ddysgwyr yn cael eu cosbi am eu presenoldeb, ond byddaf yn sicr yn cadw fy llygaid a'm clustiau ar agor.
Minister, the uplift in EMA to £40 every week back in April 2023 was fantastic news and a huge relief for families in Rhondda, taking some of the pressure off and helping learners focus on their studies instead of worrying about money. I know that this payment makes a big difference in covering essentials like deodorant, toiletries, food, and school supplies like notebooks and pens, even winter coats for the colder months. I can’t thank the Minister enough for making sure that more pupils and students across Rhondda receive this support and have the chance to reach their full potential. It was also great to see a meeting with students at the Coleg y Cymoedd campus in Nantgarw last week. Minister, could we please have more information about the annual review of thresholds and what it means for future support?
Gweinidog, roedd cynyddu'r LCA i £40 bob wythnos yn ôl ym mis Ebrill 2023 yn newyddion gwych ac yn rhyddhad enfawr i deuluoedd yn y Rhondda, gan dynnu rhywfaint o'r pwysau i ffwrdd a helpu dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau yn lle poeni am arian. Rwy'n gwybod bod y taliad hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth gwmpasu hanfodion fel diaroglydd, nwyddau ymolchi, bwyd a chyflenwadau ysgol fel llyfrau nodiadau ac ysgrifbinnau, hyd yn oed cotiau gaeaf ar gyfer y misoedd oerach. Ni allaf ddiolch digon i'r Gweinidog am sicrhau bod mwy o ddisgyblion a myfyrwyr ledled y Rhondda yn derbyn y gefnogaeth hon ac yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial llawn. Roedd hefyd yn wych gweld cyfarfod gyda myfyrwyr ar gampws Coleg y Cymoedd yn Nantgarw yr wythnos diwethaf. Gweinidog, a gawn ni fwy o wybodaeth am yr adolygiad blynyddol o'r trothwyon a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer cymorth yn y dyfodol?
I’d like to thank Buffy for those questions. I fully agree with the comments that you made there about the reasons why EMA is such a great thing. It really does take that pressure off our learners in those difficult circumstances. That’s something I’ve heard time and time again from learners who I’ve engaged with over recent weeks, as well as having seen that first-hand through my own teaching career. That, of course, helps our learners to focus on their studies, and I think that’s why we have that evidence there from the independent EMA review that it does lead to better educational outcomes. We know that education is the most powerful lever to assist our young people out of poverty and on to greater things in life. That’s why it’s a payment that I’m so passionate about.
I must say, Buffy, that when I went to the Coleg y Cymoedd Nantgarw campus last week and met learners, there was one absolutely stand-out student who is one of your constituents. Roxy Cole appears to have now become the poster girl for EMA, giving really passionate interviews to the media and being referenced there in my written statement as well. So, you definitely have learners there who are really powerful advocates in the Rhondda, and who I’m sure will go on to achieve great things, partially as a result of this helping hand that we are giving them.
The annual review of thresholds will look at both the household income threshold and the weekly amount of EMA. So, we will review both of those annually. We’ll look at the evidence. If the evidence suggests that those should be uplifted, then that is exactly what I intend to do.
Hoffwn ddiolch i Buffy am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaethoch chi yna am y rhesymau pam mae LCA yn beth mor wych. Mae wir yn tynnu'r pwysau hynny oddi ar ein dysgwyr o dan yr amgylchiadau anodd hynny. Mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi'i glywed dro ar ôl tro gan ddysgwyr rydw i wedi ymgysylltu â nhw dros yr wythnosau diwethaf, yn ogystal â gweld hynny'n uniongyrchol trwy fy ngyrfa addysgu fy hun. Mae hynny, wrth gwrs, yn helpu ein dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau, ac rwy'n credu mai dyna pam mae gennym y dystiolaeth honno o'r adolygiad annibynnol o'r LCA ei fod yn arwain at ganlyniadau addysgol gwell. Rydym yn gwybod mai addysg yw'r dull ysgogi mwyaf pwerus i helpu ein pobl ifanc allan o dlodi ac ymlaen at bethau gwell mewn bywyd. Dyna pam ei fod yn daliad yr wyf yn teimlo mor angerddol yn ei gylch.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Buffy, pan es i gampws Coleg y Cymoedd Nantgarw yr wythnos diwethaf a chwrdd â dysgwyr, roedd yna un myfyriwr yn sefyll allan yn llwyr ac mae'n un o'ch etholwyr. Mae'n ymddangos bod Roxy Cole bellach wedi dod yn ferch poster ar gyfer LCA, gan gyflawni cyfweliadau angerddol iawn ar y cyfryngau ac rwyf wedi cyfeirio ati yn fy natganiad ysgrifenedig hefyd. Felly, yn bendant, mae gennych chi ddysgwyr yno sy'n eiriolwyr pwerus iawn yn y Rhondda, ac rwy'n siŵr y byddant yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych, yn rhannol o ganlyniad i'r help llaw rydym ni'n ei roi iddyn nhw.
Bydd yr adolygiad blynyddol o drothwyon yn edrych ar drothwy incwm yr aelwyd a swm wythnosol yr LCA. Felly, byddwn yn adolygu'r ddau beth bob blwyddyn. Byddwn yn edrych ar y dystiolaeth. Os yw'r dystiolaeth yn awgrymu y dylid codi'r rheini, yna dyna'n union yr wyf yn bwriadu ei wneud.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Finally, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe sonioch chi yn eich datganiad taw llwybr yw addysg, ac mae’n rhaid i fi ddweud fy mod i’n cytuno, ond mae e’n anwastad ac yn heriol i blant mewn tlodi. Dwi’n meddwl bod angen i ni weld y Llywodraeth yn cryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael i'n pobl ifanc sy'n byw mewn tlodi er mwyn iddyn nhw gyrraedd y man lle y gallan nhw fanteisio ar y lwfans cynhaliaeth addysg a’r cyfleon yna sy’n dod yn sgil hynny.
Mewn ymateb i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, mae Oxfam Cymru yn dweud mai ychydig iawn o fuddsoddiad a fu i fynd i'r afael â'r ffactorau strwythurol sy'n sail i dlodi plant. A heb dargedau yn y strategaeth tlodi plant, rhaid i fi ddweud, does fawr o syndod. Ac o ran bod yn fwy hael na’r Alban, mae’n werth atgoffa pawb yn y Siambr bod trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc yn yr Alban. Mae trafnidiaeth yn bwyta lot o’r lwfans cynhaliaeth addysg.
Oherwydd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs, mae yna brydau bwyd am ddim nawr mewn ysgolion cynradd a neb yn gorfod dysgu gyda bola gwag. Ond heb newid i’r trothwy incwm ar gyfer prydau bwyd am ddim yn ein hysgolion uwchradd, bydd plant sy'n dod o deuluoedd sy'n ddigon tlawd i fod yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol mewn perygl o fethu â chyrraedd eu llawn botensial.
Felly, ydych chi'n credu y dylai fod yna newid i'r trothwy incwm ar gyfer cymhwysedd prydau bwyd am ddim ar gyfer plant oedran uwchradd? Pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael o fewn yr adran addysg am hynny? Achos byddai hynny'n sicr yn gwneud y siwrnai, y llwybr addysgol, yn fwy cadarn a chyflawn i blant mewn tlodi.
Thank you, Dirprwy Lywydd. You mentioned in your statement that education is a pathway, and I'd have to agree with that, but it is uneven and challenging for those in poverty. I think we need to see the Government bolster the support available to our young people living in poverty in order to allow them to get to a place where they will be able to take advantage of EMA and the opportunities that come in the wake of that.
In response to the Welsh Government's draft budget, Oxfam Cymru has said that there has been very little investment in addressing the structural factors that underpin child poverty. And without targets in the child poverty strategy, that's hardly surprising. And in terms of being more generous than Scotland, it's worth reminding everyone in the Chamber that transport is free for young people in Scotland. Transport eats up a lot of the EMA.
Because of the co-operation agreement with Plaid Cymru, of course, we now have free school meals in primary schools and nobody has to learn on an empty stomach. But without the income threshold for free meals in secondary schools changing, children who come from households poor enough to be eligible for universal credit are at risk of not being able to reach their full potential.
So, do you think that there should be a change to the income threshold for eligibility for free school meals for secondary school children? What conversations have you been having within the education department about that? Because that would certainly make that educational pathway more robust and complete for children in poverty.
Thank you, Sioned, for those questions. And I agree with you that there are many challenges for our learners who live in poverty and EMA is one a suite of measures that we’re able to offer to those learners. Another fund that I think, perhaps, is not talked about enough, is the financial contingency fund that our FE colleges operate, which gives them complete discretion over how they use that, and on each of my visits to FE colleges that is something that both learners and staff have said makes a really big difference. That is a fund that is often used to supplement transport costs or to offer the equivalent of free school meals in FE colleges, because we know our learners in sixth form, who are eligible, receive those. So, the financial contingency fund really is that bridge to accessing that in FE. In terms of the structural factors that underpin child poverty, that is something that should concern all of us. The vast majority of those levers are not devolved, but certainly these are things that we all need to be working towards overcoming.
And finally, on your question on free school meals, the focus for this Welsh Labour Government is the roll-out of free school meals in primary schools, making sure that we have got that right. There are no plans currently to be looking to change that eligibility within secondary schools, although I know it is something that the Cabinet Secretary is keeping a close eye on.
Diolch yn fawr, Sioned, am y cwestiynau yna. Ac rwy'n cytuno â chi bod llawer o heriau i'n dysgwyr sy'n byw mewn tlodi ac mae LCA yn un gyfres o fesurau y gallwn ei chynnig i'r dysgwyr hynny. Cronfa arall, rwy'n credu, nad yw'n cael ei thrafod ddigon, yw'r gronfa wrth gefn ariannol y mae ein colegau AB yn ei gweithredu, sy'n rhoi disgresiwn llwyr iddynt ynghylch sut maen nhw'n defnyddio honno, ac ar bob un o'm hymweliadau â cholegau AB mae honno'n rhywbeth y mae dysgwyr a staff wedi dweud sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Mae honno'n gronfa sy'n cael ei defnyddio'n aml i ategu costau cludiant neu i gynnig yr hyn sy'n cyfateb i brydau ysgol am ddim mewn colegau addysg bellach, gan ein bod yn gwybod bod ein dysgwyr yn y chweched dosbarth, sy'n gymwys, yn derbyn y rheini. Felly, y gronfa wrth gefn ariannol mewn gwirionedd yw'r bont honno i gael mynediad at hynny mewn AB. O ran y ffactorau strwythurol sy'n sail i dlodi plant, mae hynny'n rhywbeth a ddylai fod o bwys i bob un ohonom. Nid yw'r mwyafrif helaeth o'r ysgogiadau hynny wedi'u datganoli, ond yn sicr mae'r rhain yn bethau y mae angen i ni i gyd fod yn gweithio tuag at eu goresgyn.
Ac yn olaf, ar eich cwestiwn ar brydau ysgol am ddim, y ffocws ar gyfer y Llywodraeth Lafur hon yw cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, gan sicrhau ein bod wedi cael hynny'n iawn. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i geisio newid y cymhwysedd hwnnw mewn ysgolion uwchradd, er fy mod yn gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cadw llygad barcud arno.
Diolch i'r Gweinidog.
Thank you, Minister.
Eitem 4 sydd nesaf: Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Item 4 is next: the Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2025, and I call on the Cabinet Secretary for Health and Social Care to move the motion—Jeremy Miles.
Cynnig NDM8797 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2025.
Motion NDM8797 Jane Hutt
To propose that the Senedd, in accordance with Standing Order 27.5, approves that the draft The Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2025 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 7 January 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflwyno cyfundrefn newydd, sef cyfundrefn dethol darparwyr Cymru ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.
Mae'r rheoliadau yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol yng Nghymru, pan fyddan nhw'n caffael gwasanaethau iechyd, yn gwneud hynny gyda hyblygrwydd a thryloywder. Mae'r rheoliadau yn cynnwys nifer o'r un prosesau allweddol ag sydd yn y gyfundrefn dethol darparwyr yn Lloegr, lle mae'r rheini o fantais i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mewn nifer o feysydd pwysig maen nhw'n wahanol er mwyn adlewyrchu sut mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio yng Nghymru ac er mwyn cefnogi amcanion polisi 'Cymru Iachach'.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I move the motion to approve the Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2025. These regulations introduce a new regime, which is a provider selection regime for Wales for the procurement of health services in Wales. They are made using powers provided to Welsh Ministers under the Health Service (Wales) Procurement Act 2024.
The regulations ensure that the health service and local authorities in Wales, when they procure health services, do so with flexibility and transparency. The regulations include a number of the same key processes as is contained within the provider selection regime in England, where they benefit the health service in Wales, but in a number of important areas they do differ in order to reflect how the health service works in Wales and in order to support the policy objectives of 'A Healthier Wales'.
The regulations incorporate a number of additional measures following the scrutiny of the 2024 Act. They respond to stakeholder feedback and build on lessons learned from the initial operation of the provider selection regime in England over the last 12 months. For example, they include a number of added provisions, such as requirements for relevant authorities to publish additional notices, enhanced procurement principles and changes to processes when awarding contracts under framework agreements. All of these are included to ensure that processes in the new NHS Wales procurement regime are carried out transparently, fairly and proportionately. There are also a number of updates to definitions in the regulations to align with provisions included in the 2023 procurement Act. These regulations, therefore, form part of a suite of significant changes to public procurement, which are set to commence on 24 February.
I’m grateful to the Legislation, Justice and Constitution Committee for the careful consideration it has given to these regulations. I’d also like to express my particular thanks to the NHS Wales Shared Services Partnership's procurement team, which has provided technical and operational support for the development of the regulations, accompanying statutory guidance and training materials.
In summary, Dirprwy Lywydd, these regulations will create a new regime for NHS health service procurement in Wales, in turn maintaining our commitment to provide effective, high-quality, sustainable healthcare and better health outcomes for people in Wales, and I ask Members to approve these regulations today.
Mae'r rheoliadau'n ymgorffori nifer o fesurau ychwanegol yn dilyn craffu ar Ddeddf 2024. Maent yn ymateb i adborth rhanddeiliaid ac yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o weithrediad cychwynnol y drefn dethol darparwyr yn Lloegr dros y 12 mis diwethaf. Er enghraifft, maent yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ychwanegol, megis gofynion i awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiadau ychwanegol, gwell egwyddorion caffael a newidiadau i brosesau wrth ddyfarnu contractau o dan gytundebau fframwaith. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynnwys i sicrhau bod prosesau yn nhrefn gaffael newydd GIG Cymru yn cael eu cynnal yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur. Mae nifer o ddiweddariadau hefyd i ddiffiniadau yn y rheoliadau i gyd-fynd â darpariaethau a gynhwysir yn Neddf Caffael 2023. Felly, mae'r rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o newidiadau sylweddol i gaffael cyhoeddus, a fydd yn dechrau ar 24 Chwefror.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am yr ystyriaeth ofalus y mae wedi'i rhoi i'r rheoliadau hyn. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i dîm caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sydd wedi darparu cymorth technegol a gweithredol ar gyfer datblygu'r rheoliadau, canllawiau statudol a deunyddiau hyfforddi cysylltiedig.
I grynhoi, Dirprwy Lywydd, bydd y rheoliadau hyn yn creu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaeth iechyd y GIG yng Nghymru, gan gynnal ein hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel a chanlyniadau iechyd gwell i bobl yng Nghymru, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
I call on the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee, Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The Legislation, Justice and Constitution Committee considered these draft regulations last week. The committee’s report contains just a single technical reporting point, which notes a vires issue. That is, that we are concerned about the lawfulness of the regulations. As set out in the report, the committee has highlighted a series of matters under the technical reporting point that outlines our concerns. The reference to the policy statement in regulation 5(c) does not appear to be a reference to a specific, existing policy statement. The reference appears to include future statements published under section 14 of the Procurement Act 2023. Policy statements published under section 14 could change the effect of the regulations. We are concerned that regulation 5(c) amounts to unauthorised sub-delegation because it could allow the Welsh Ministers to change the effect of the regulations via policy statements. The enabling powers in the 2023 Act are powers to make provision by regulations, not by policy statements. If anything is intended to change the effect of the regulations, it must be set out clearly and precisely in the regulations themselves. This ensures that the appropriate parliamentary procedure applies to anything that changes the effect of the regulations.
We asked the Government whether regulation 5(c) has any effect on the regulations. If it does not, we asked why regulation 5(c) is included. If the answer was ‘yes’, we asked the Government if it considers that regulation 5(c) amounts to sub-delegation and which power is the Government relying on to make that sub-delegation. The Welsh Government response did not arrive in time for us to consider it formally before today’s debate. It is, however, available from today’s Plenary agenda to assist Members. The Government response states that regulation 5(c) enhances the procurement principles in the regulations, and that it has been included partly in response to points raised by Senedd Members during the scrutiny of the Health Service Procurement (Wales) Act 2024. The Government’s response adds that the Wales procurement policy statement sets out the Welsh Government’s strategic priorities for public sector procurement in Wales. As such, the Welsh Government considers that regulation 5(c) is framed on the basis of a relevant authority, as defined under the 2024 Act, having regard to the WPPS published under section 14 of the 2023 Act.
The Government response goes on to state that regulation 5(c) requires that the Wales procurement policy statement must be given consideration when undertaking procurement under the regulations, but that a duty to have regard does not impact on or override the purpose and effect of the regulations, and regulation 5(c) does no more than provide strategic context to a procurement. Therefore, the Government considers that this is not an ultra vires sub-delegation.
In respect of the committee’s point regarding the enabling powers, the Government response states that section 10A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 provides expressly that the Welsh Ministers may, by regulations, make provision in relation to the processes to be followed and objectives to be pursued by relevant authorities in the procurement. In the Government’s view, this indicates that it was intended that the regulations would include reference to broader strategic principles and objectives, as well as the detailed processes to be followed by relevant authorities when undertaking a procurement.
In summary, while I note the Welsh Government’s views that having regard to policy statements has no impact on the effect of the regulations and that the duty does no more than provide strategic context, the committee’s report outlines concerns that providing strategic context could have an effect on how relevant authorities apply the regulations. As such, where relevant authorities have discretion under the regulations, policy statements could fetter that discretion and effectively require relevant authorities to act in a particular way. Furthermore, if having regard to the statements has no effect as suggested by the Government, there may be a question as to why the provision in regulation 5(c) is there at all, as legislation should not contain provisions that have no effect.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol yn unig, sy'n nodi mater o vires. Hynny yw, rydym ni'n poeni am gyfreithlondeb y rheoliadau. Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at gyfres o faterion o dan y pwynt adrodd technegol sy'n amlinellu ein pryderon. Ymddengys nad yw'r cyfeiriad at y datganiad polisi yn rheoliad 5(c) yn gyfeiriad at ddatganiad polisi penodol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ymddengys fod y cyfeiriad yn cynnwys datganiadau yn y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 14 o Ddeddf Caffael 2023. Gallai datganiadau polisi a gyhoeddir o dan adran 14 newid effaith y rheoliadau. Rydym yn pryderu bod rheoliad 5(c) yn gyfystyr ag is-ddirprwyo anawdurdodedig oherwydd gallai ganiatáu i Weinidogion Cymru newid effaith y rheoliadau trwy ddatganiadau polisi. Y pwerau galluogi yn Neddf 2023 yw pwerau i wneud darpariaeth drwy reoliadau, nid trwy ddatganiadau polisi. Os bwriedir i unrhyw beth newid effaith y rheoliadau, rhaid ei nodi'n glir ac yn fanwl yn y rheoliadau eu hunain. Mae hyn yn sicrhau bod y weithdrefn seneddol briodol yn berthnasol i unrhyw beth sy'n newid effaith y rheoliadau.
Gofynnom i'r Llywodraeth a yw rheoliad 5(c) yn cael unrhyw effaith ar y rheoliadau. Os nad ydyw, gwnaethom ofyn pam mae rheoliad 5(c) wedi'i gynnwys. Os 'ydy' yw'r ateb, fe ofynnon ni i'r Llywodraeth a yw'n ystyried bod rheoliad 5(c) yn gyfystyr ag is-ddirprwyo a pha bŵer y mae'r Llywodraeth yn dibynnu arno i wneud yr is-ddirprwyaeth honno. Ni chyrhaeddodd ymateb Llywodraeth Cymru mewn pryd i ni ei ystyried yn ffurfiol cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, mae ar gael o agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw i gynorthwyo'r Aelodau. Mae ymateb y Llywodraeth yn nodi bod rheoliad 5(c) yn gwella'r egwyddorion caffael yn y rheoliadau, a'i fod wedi'i gynnwys yn rhannol mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Aelodau'r Senedd wrth graffu ar Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Mae ymateb y Llywodraeth yn ychwanegu bod datganiad polisi caffael Cymru yn nodi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod rheoliad 5(c) yn cael ei fframio ar sail awdurdod perthnasol, fel y'i diffinnir o dan Ddeddf 2024, gan ystyried datganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddir o dan adran 14 o Ddeddf 2023.
Mae ymateb y Llywodraeth yn mynd ymlaen i ddatgan bod rheoliad 5(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi caffael Cymru gael ei ystyried wrth ymgymryd â chaffael o dan y rheoliadau, ond nad yw dyletswydd i roi sylw yn effeithio ar effaith y rheoliadau nac yn eu diystyru, ac nid yw rheoliad 5(c) yn gwneud mwy na darparu cyd-destun strategol i gaffaeliad. Felly, mae'r Llywodraeth o'r farn nad yw hwn yn is-ddirprwyaeth tu hwnt i'r pwerau.
O ran pwynt y pwyllgor ynghylch y pwerau galluogi, mae ymateb y Llywodraeth yn datgan bod adran 10A(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn darparu'n benodol y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas â'r prosesau sydd i'w dilyn ac amcanion i'w dilyn gan awdurdodau perthnasol yn y caffaeliad. Ym marn y Llywodraeth, mae hyn yn dangos mai'r bwriad oedd y byddai'r rheoliadau'n cynnwys cyfeiriad at egwyddorion ac amcanion strategol ehangach, yn ogystal â'r prosesau manwl i'w dilyn gan awdurdodau perthnasol wrth ymgymryd â chaffael.
I grynhoi, er fy mod yn nodi barn Llywodraeth Cymru nad yw rhoi sylw i ddatganiadau polisi yn cael unrhyw effaith ar effaith y rheoliadau ac nad yw'r ddyletswydd yn gwneud mwy na darparu cyd-destun strategol, mae adroddiad y pwyllgor yn amlinellu pryderon y gallai darparu cyd-destun strategol effeithio ar sut mae awdurdodau perthnasol yn cymhwyso'r rheoliadau. O'r herwydd, pan fo gan awdurdodau perthnasol ddisgresiwn o dan y rheoliadau, gallai datganiadau polisi lyffethair y disgresiwn hwnnw ac mewn gwirionedd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol weithredu mewn ffordd benodol. Hefyd, os nad yw rhoi sylw i'r datganiadau yn cael unrhyw effaith fel yr awgrymwyd gan y Llywodraeth, efallai y bydd cwestiwn ynghylch pam mae'r ddarpariaeth yn rheoliad 5(c) yno o gwbl, gan na ddylai deddfwriaeth gynnwys darpariaethau nad ydynt yn cael unrhyw effaith.
Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma, ond dwi eisiau dilyn trywydd cwestiwn gan Mike Hedges.
I'm very grateful to the Cabinet Secretary for this statement, but I do want to follow on from a question asked by Mike Hedges.
I'd be grateful for a response from the Cabinet Secretary regarding the concerns raised by the LJC committee on regulation 5(c) of this legislation. As is noted in their report, the regulation as it currently appears raises the prospect of changes to the health procurement regime in Wales being enacted via Welsh Government policy statements alone, without any recourse to the usual mechanisms of democratic accountability. Could the Cabinet Secretary therefore confirm whether this was the original intention of the Welsh Government in the drafting of these regulations, or whether it is an oversight on your part? And if the latter is the case, could you commit to correcting the legislation as soon as possible to ensure that any future changes to the health procurement regime are implemented through the usual channels, namely further regulations that are laid before the Senedd and voted on accordingly? Diolch.
Byddwn yn ddiolchgar am ymateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch rheoliad 5(c) o'r ddeddfwriaeth hon. Fel y nodir yn eu hadroddiad, mae'r rheoliad fel y mae'n ymddangos ar hyn o bryd yn codi'r posibilrwydd y bydd newidiadau i'r drefn caffael iechyd yng Nghymru yn cael eu deddfu drwy ddatganiadau polisi Llywodraeth Cymru yn unig, heb droi o gwbl at fecanweithiau arferol atebolrwydd democrataidd. A all yr Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau ai dyma fwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio'r rheoliadau hyn, neu a yw'n amryfusedd ar eich rhan? Ac os felly a allwch ymrwymo i gywiro'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r drefn caffael iechyd yn y dyfodol yn cael eu gweithredu drwy'r sianeli arferol, sef rheoliadau pellach a osodir gerbron y Senedd ac a bleidleisiwyd arnynt yn unol â hynny? Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
I call on the Cabinet Secretary to respond.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, and thank you to the two Members who've contributed to the debate. I'm grateful in particular to the Chair of the committee who set out the Welsh Government's position in the correspondence that I have issued to the committee in response to their report. By way of additional context, I can confirm this was an oversight; it was the Government's intention. Regulation 5(c) is included in good faith. It's a positive move to support the strategic aims of public procurement in Wales and to reinforce that relevant authorities should have regard, and it has that effect. It requires authorities to have regard to the Wales procurement policy statement when undertaking procurement exercises.
Including a provision of this sort is effectively an encompassing provision in response to points raised on the procurement principles of the regime during scrutiny of the Act, as the Chair of the committee indicated in his contribution. It is true to say that organisations have the choice as to whether and to what extent they should apply the principles, but, of course, they are required to have regard to them.
The Chair of the committee—I'm grateful to him for setting out the Government's position in relation to the provisions in section 10A(1) of the 2006 Act, which I hope is clarification as well for Mabon ab Gwynfor in his question. I accept that regulation 5(c) does refer to future Wales procurement policy statements under section 14 of the 2023 Act, but that does require that before publishing the procurement policy statement, Welsh Ministers must, of course, consult and lay the policy statement before the Senedd. And as such, the Senedd needs to agree any Wales policy procurement statement, and, obviously, if the Senedd is not content it may determine, in the usual way, that any procurement policy statement laid may be annulled, and it is a Government's judgment that provides protection to the concerns raised in this debate. On that basis, I'd like to repeat my thanks to the committee for undertaking the scrutiny of the regulations and urge Members to support them.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i Gadeirydd y pwyllgor a amlinellodd safbwynt Llywodraeth Cymru yn yr ohebiaeth a roddais i'r pwyllgor mewn ymateb i'w hadroddiad. O ran cyd-destun ychwanegol, gallaf gadarnhau mai camgymeriad oedd hyn; dyna oedd bwriad y Llywodraeth. Mae rheoliad 5(c) wedi'i gynnwys yn ddidwyll. Mae'n gam cadarnhaol i gefnogi nodau strategol caffael cyhoeddus yng Nghymru ac atgyfnerthu y dylai awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth, ac mae ganddo'r effaith hwnnw. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau roi sylw i ddatganiad polisi caffael Cymru wrth gynnal ymarferion caffael.
Mae cynnwys darpariaeth o'r math hwn i bob pwrpas yn ddarpariaeth gwmpasog mewn ymateb i bwyntiau a godwyd o ran egwyddorion caffael y gyfundrefn wrth graffu ar y Ddeddf, fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad. Mae'n wir dweud bod gan sefydliadau y dewis ynghylch a ddylid cymhwyso'r egwyddorion ac i ba raddau y dylen nhw weithredu'r egwyddorion, ond, wrth gwrs, mae'n ofynnol iddyn nhw eu hystyried.
Cadeirydd y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iddo am nodi safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â'r darpariaethau yn adran 10A(1) o Ddeddf 2006, sydd, gobeithio, yn eglurhad hefyd i Mabon ab Gwynfor yn ei gwestiwn. Rwy'n derbyn bod rheoliad 5(c) yn cyfeirio at ddatganiadau polisi caffael Cymru yn y dyfodol o dan adran 14 o Ddeddf 2023, ond mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol cyn cyhoeddi'r datganiad polisi caffael, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gwrs, ymgynghori a chyflwyno'r datganiad polisi gerbron y Senedd. Ac o'r herwydd, mae angen i'r Senedd gytuno ar unrhyw ddatganiad caffael polisi yng Nghymru, ac, yn amlwg, os nad yw'r Senedd yn fodlon, gall benderfynu, yn y ffordd arferol, y gellir dirymu unrhyw ddatganiad polisi caffael a gyflwynir, a barn y Llywodraeth sy'n amddiffyn y pryderon a godwyd yn y ddadl hon. Ar y sail honno, fe hoffwn i ddiolch eto i'r pwyllgor am graffu ar y rheoliadau ac annog yr Aelodau i'w cefnogi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Yes. I have heard an objection, therefore I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.
The following amendments have been selected: amendments 1, 2 and 3 in the name of Heledd Fychan.
Eitem 5 heddiw yw dadl ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig—Jane Hutt.
Item 5 today is a debate on the violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy, and I call on the Cabinet Secretary for Social Justice to move the motion—Jane Hutt.
Cynnig NDM8798 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
Motion NDM8798 Jane Hutt, Paul Davies, Jane Dodds, Heledd Fychan
To propose that the Senedd:
1. Notes the progress in delivering the Welsh Government’s violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy 2022-2026.
2. Supports a call to action for all to accelerate action to eliminate gender-based violence and the need for a whole system approach.
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da i chi gyd.
Thank you very much, Dirprwy Lywydd, and good afternoon to you all.
This is an important debate today, co-tabled by all parties, on violence against women, domestic abuse and sexual violence. Violence against women and girls persistently plagues our society—indeed, the world. In November Joyce Watson read out the names of 73 women who lost their lives to domestic abuse last year in the UK, three of whom were from Wales. The headlines are relentless. Just from the past week in the Welsh press—I'll read some of those headlines: 'Man told ex "I killed her but don't say a word", court hears'; 'Ex-footballer...kicked wife in the head in row...court hears'; 'Man admits to murder of three women'; 'Only 4% of alleged domestic abusers in police dismissed'; 'stalker who tried to get their victim arrested'. Another recent example, of course, is the Gisèle Pelicot case in France that has raised the profile of sexual violence exponentially. Her courage and determination to speak out has brought the voice of survivors to the forefront of worldwide attention, an inspirational case that can change a society.
It is clear much remains to be done. A UK national analysis of the scale of violence against women and girls, released in July 2024 by the National Police Chiefs' Council, estimated that at least 2 million women were victims of violence against women and girls. In Wales we have made much progress in tackling gender-based violence since the commencement of our groundbreaking legislation, which places statutory duties on the public sector to work together to deliver change.
And as we approach the 10-year anniversary of the Act, I would like to reflect on the progress we've made in delivering our statutory VAWDASV strategy in partnership with policing in Wales. This debate gives us the opportunity to discuss the challenges we face to address the scourge of violence against our women, which is endemic in society here and across the world.
Mae hon yn ddadl bwysig heddiw, a gyd-gyflwynwyd gan bob plaid, ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn bla parhaus ar ein cymdeithas—ac yn wir, ar y byd. Ym mis Tachwedd fe wnaeth Joyce Watson ddarllen enwau 73 o fenywod a gollodd eu bywydau i gam-drin domestig y llynedd yn y Deyrnas Unedig, tair ohonyn nhw o Gymru. Mae'r penawdau yn ddi-drugaredd. Dim ond o'r wythnos ddiwethaf yn y wasg yng Nghymru—fe ddarllennaf i rai o'r penawdau hynny: 'Llys yn clywed, dyn wedi dweud wrth gyn-gariad, "Fe wnes i ei lladd hi ond paid â dweud gair"'; 'Llys yn clywed...cyn-bêl-droediwr...wedi cicio’i wraig yn ei phen yng nghanol ffrae'; 'Dyn yn cyfaddef llofruddio tair menyw'; 'Dim ond 4% o gamdrinwyr domestig honedig yn yr heddlu a ddiswyddwyd'; 'stelciwr a geisiodd gael ei ddioddefwr wedi’i harestio'. Enghraifft ddiweddar arall, wrth gwrs, yw achos Gisèle Pelicot yn Ffrainc sydd wedi gwneud trais rhywiol yn llawer mwy amlwg. Mae ei dewrder a'i phenderfyniad i godi llais wedi dod â llais goroeswyr yn glir i sylw byd-eang, achos ysbrydoledig a all newid cymdeithas.
Mae'n amlwg bod llawer i'w wneud o hyd. Amcangyfrifodd dadansoddiad cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig o raddfa trais yn erbyn menywod a merched, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2024 gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, fod o leiaf 2 filiwn o fenywod wedi dioddef trais yn erbyn menywod a merched. Yng Nghymru rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd wrth fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd ers cychwyn ein deddfwriaeth arloesol, sy'n gosod dyletswyddau statudol ar y sector cyhoeddus i gydweithio i sicrhau newid.
Ac wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers sefydlu'r Ddeddf, fe hoffwn i fyfyrio ar y cynnydd rydym ni wedi'i wneud o ran cyflawni ein strategaeth statudol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn partneriaeth â phlismona yng Nghymru. Mae'r ddadl hon yn rhoi cyfle i ni drafod yr heriau sy'n ein hwynebu i fynd i'r afael â phla trais yn erbyn ein menywod, sy'n endemig mewn cymdeithas yma ac ar draws y byd.
Tackling VAWDASV is an enormous generational challenge. We need to address the problem now whilst also taking steps to prevent this for future generations. To get a sense of the scale of the challenge, in the year ending March 2024, the Office for National Statistics estimated that 2.3 million people over the age of 16 experienced domestic abuse across England and Wales. In the same period, this equated to almost 10 per cent of women and nearly 4 per cent of men in Wales experiencing domestic abuse. This is a whole-system challenge, and that's why one of the critical areas we're working on is how we get all sectors to work together to address this challenge. To fix this, it requires us to look at how all partners in statutory sector, local government, health, education, are addressing this challenge and responding directly to the experience of victims and survivors and of perpetrators. It requires efforts from across the whole of society. Our sustainable whole-system approach across the public and specialist sectors impels us to work in partnership, to ensure we make Wales a safe, secure place for women and girls to thrive.
I want to reiterate my expectation that local authorities and local health boards, along with other relevant public authorities, must fully implement the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 to make sustained progress. The Act requires them not just to set out the objectives they will take, but also to take all reasonable steps to achieve the objectives they've set out. And this needs to be done in line with the public health approach and how they act in accordance with the sustainable development principle in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, where the involvement of survivors, the collaboration across sectors, the integration of services, the prevention of VAWDASV, and long-term thinking is essential. I intend this year to further strengthen this partnership approach through the VAWDASV national partnership board, which I co-chair with the Police and Crime Commissioner for South Wales, Emma Wools, renowned for her commitment to tackling and ending VAWDASV. I was very pleased to co-chair it previously with Dafydd Llywelyn, who also showed that commitment.
I'm working with the Cabinet Secretary for Health and Social Care and the Cabinet Secretary for Education to discuss ways we can accelerate progress on our shared responsibilities in relation to tackling VAWDASV. And the Minister for Further and Higher Education has written to tertiary education providers, including universities, to highlight the importance of their role in tackling and responding to violence against women. We're glad to be working in partnership with Medr and tertiary education providers to accelerate action on such an important area of policy and delivery.
I'll also bring together, later this year, leaders across the public sector to mark 10 years since the legislation was passed, and to spearhead calls to accelerate future action. I thank the Equality and Social Justice Committee for their report focusing on the public health approach, which I've said is so important to tackle gender-based violence in Wales. I welcome the report and the recommendations that emphasise that cross-Government collective action needed to tackle this issue, and I'm going to provide an update—I did provide an update earlier this month, but am continuing to provide updates—to the committee on progress.
There's direct reference to violence against women, domestic abuse and sexual violence in the NHS women's health plan for Wales, published in December, which was widely welcomed in this Chamber. I'm pleased that ensuring appropriate training for professionals, data collection and supporting the pursuit of the Act and serious violence duty have been recognised as a clinical priority. I welcome the commitment of the UK Government to halve violence against women and girls in the next 10 years, and I'm pleased with our increased engagement already on important issues, such as the single unified safeguarding review. The Parliamentary Under-Secretary of State in the Home Office, Jess Phillips, and Minister Alex Davies-Jones at the Ministry of Justice, have jointly accepted my invitation to attend the partnership board meeting later this year to strengthen strategic collaboration across Government. Indeed, I've met with both Ministers, and with the Minister for Children and Social Care alongside.
In December, Welsh Government's draft budget for 2025-26 was announced, with direct reference made to the new partnership between the UK and Welsh Governments, and, as part of this budget, £1.2 million of additional funding is being invested, over and above the £8.1 million baseline, to support the delivery of violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy to provide victims with support and specialist advice across all areas of Wales through regional grant funding. This additional funding will enable us to provide a 3 per cent increase in our direct funding to specialist third sector organisations to support the recruitment and retention of staff, and additional capital funding of £3 million to the social justice main expenditure group is also being invested in digital inclusion, tackling food poverty, violence against women, domestic abuse and sexual abuse capital grants and the community facilities programme.
Dirprwy Lywydd, there's so much I would wish to say, and I look forward now to hearing in this debate from colleagues, but I do want to say that, this year, the Live Fear Free helpline celebrates its twentieth anniversary. This means, for 20 years, there's been a 24-hour-a-day helpline, seven days a week, for all victims and survivors of domestic abuse and sexual violence and those close to them, for any age or gender, including family, friends and colleagues. I'm grateful for our partnership with Welsh Women's Aid and advocates. Please publicise the Live Fear Free helpline contacts widely. We do here in the Senedd estate and Welsh Government buildings.
So, I look forward to hearing the input of contributions of Members to this important agenda, and, just to go back to the points that I made in the motion, co-tabled, let's support a call to action for all to accelerate action to eliminate gender-based violence and the need for a whole-system approach. Diolch.
Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn her enfawr i'r genhedlaeth hon. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r broblem nawr gan fynd ati hefyd i atal hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er mwyn cael syniad o faint yr her, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 2.3 miliwn o bobl dros 16 oed ledled Cymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig. Yn yr un cyfnod, roedd hyn yn cyfateb i bron i 10 y cant o fenywod a bron i 4 y cant o ddynion yng Nghymru sy'n profi cam-drin domestig. Mae hon yn her i ni i gyd, a dyna pam mai un o'r meysydd hanfodol rydym ni'n gweithio arno yw sut rydym yn cael pob sector i gydweithio i fynd i'r afael â'r her hon. I ymdrin â hyn, mae'n gofyn i ni edrych ar sut mae pob partner yn y sector statudol, llywodraeth leol, iechyd, addysg, yn mynd i'r afael â'r her hon ac yn ymateb yn uniongyrchol i brofiad dioddefwyr a goroeswyr a chyflawnwyr. Mae'n gofyn am ymdrechion o bob rhan o'r gymdeithas. Mae ein ffordd gynhwysfawr a chynaliadwy o fynd ati ar draws y sectorau cyhoeddus ac arbenigol yn ein hannog i weithio mewn partneriaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud Cymru'n lle diogel i fenywod a merched ffynnu.
Fe hoffwn i ailadrodd fy nisgwyliad bod yn rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, ynghyd ag awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill, weithredu'n llawn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i wneud cynnydd parhaus. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw nid yn unig nodi'r hyn y byddant yn ei wneud, ond hefyd i gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion y maen nhw wedi'u nodi. Ac mae angen gwneud hyn yn unol â'r dull o ymdrin ag iechyd y cyhoedd a sut maen nhw'n gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae cyfranogiad goroeswyr, y cydweithio ar draws sectorau, cyfuno gwasanaethau, atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a meddwl yn y tymor hir yn hanfodol. Rwy'n bwriadu cryfhau'r cydweithio hwn ymhellach trwy'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yr wyf yn ei gyd-gadeirio â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, sy'n enwog am ei hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'i ddirwyn i ben. Roeddwn yn falch iawn o gyd-gadeirio'r bwrdd hwn o'r blaen gyda Dafydd Llywelyn, a ddangosodd yr ymrwymiad hwnnw hefyd.
Rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod ffyrdd y gallwn ni wneud cynnydd cyflymach o ran ein cyfrifoldebau cyffredin mewn perthynas â mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ac mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi ysgrifennu at ddarparwyr addysg drydyddol, gan gynnwys prifysgolion, i dynnu sylw at bwysigrwydd eu rôl wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod ac ymateb iddo. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg drydyddol a Medr i weithredu ynghynt ar faes polisi a darpariaeth mor bwysig.
Byddaf hefyd yn dwyn ynghyd arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yn ddiweddarach eleni i nodi 10 mlynedd ers pasio'r ddeddfwriaeth, ac i arwain galwadau i weithredu ynghynt yn y dyfodol. Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad sy'n canolbwyntio ar ymdrin ag iechyd y cyhoedd, sydd mor bwysig i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sy'n pwysleisio bod angen gweithredu ar y cyd, trawslywodraethol i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n mynd i ddarparu diweddariad—fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn gynharach y mis hwn, ond rwy'n parhau i ddarparu diweddariadau—i'r pwyllgor ynghylch cynnydd.
Mae cyfeiriad uniongyrchol at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng nghynllun iechyd menywod Cymru y Gwasanaeth Iechyd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, y bu croeso brwd iddo yn y Siambr hon. Rwy'n falch bod sicrhau hyfforddiant priodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, casglu data a chefnogi gweithredu'r Ddeddf a'r ddyletswydd trais difrifol wedi cael eu cydnabod fel blaenoriaeth glinigol. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i haneru trais yn erbyn menywod a merched yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ac rwy'n falch o'n hymgysylltiad cynyddol eisoes ar faterion pwysig, megis yr adolygiad diogelu unedig sengl. Mae'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, a'r Gweinidog Alex Davies-Jones yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ill dau wedi derbyn fy ngwahoddiad i ddod i'r cyfarfod bwrdd partneriaeth yn ddiweddarach eleni i gryfhau cydweithredu strategol ar draws y Llywodraeth. Yn wir, rwyf wedi cyfarfod â'r ddau Weinidog, a chyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol hefyd.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, gan gyfeirio'n uniongyrchol at y bartneriaeth newydd rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru, ac, yn rhan o'r gyllideb hon, mae £1.2 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi, yn ychwanegol at y llinell sylfaen gwerth £8.1 miliwn, i gefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi cymorth a chyngor arbenigol i ddioddefwyr ar draws pob rhan o Gymru drwy grant cyllid rhanbarthol. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddarparu cynnydd o 3 y cant yn ein cyllid uniongyrchol i sefydliadau arbenigol y trydydd sector i gefnogi recriwtio a chadw staff, ac mae cyllid cyfalaf ychwanegol o £3 miliwn i'r prif grŵp gwariant cyfiawnder cymdeithasol hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn cynhwysiant digidol, mynd i'r afael â thlodi bwyd, trais yn erbyn menywod, grantiau cyfalaf cam-drin domestig a cham-drin rhywiol a'r rhaglen cyfleusterau cymunedol.
Dirprwy Lywydd, mae cymaint mwy yr hoffwn i ei ddweud, ac edrychaf ymlaen yn awr at glywed yn y ddadl hon gan gyd-Aelodau, ond fe hoffwn i ddweud, eleni, fod llinell gymorth Byw Heb Ofn yn dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed. Mae hyn yn golygu, am 20 mlynedd, y bu llinell gymorth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ar gyfer pawb sydd wedi dioddef a goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atyn nhw, ar gyfer unrhyw oedran neu ryw, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Rwy'n ddiolchgar am ein partneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru ac eiriolwyr. Rhowch y gair ar led am rif ffôn llinell gymorth Byw Heb Ofn. Rydym yn gwneud hynny yma yn y Senedd ac yn adeiladau Llywodraeth Cymru.
Felly, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad a sylwadau Aelodau ynghylch yr agenda bwysig hon, ac, i fynd yn ôl at y pwyntiau a wnes i yn y cynnig, a gyflwynwyd ar y cyd, gadewch i ni gefnogi galwad ar i bawb weithredu i fynd ati rhag blaen i ddileu trais ar sail rhywedd a'r angen am ddull cynhwysfawr o wneud hynny. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
I have selected the three amendments to the motion, and I call on Sioned Williams to move amendments 1, 2 and 3, tabled in the name of Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dibyniaeth y cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol yn ychwanegu baich gweinyddol, yn rhwystro cynllunio tymor hir, ac yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, sy'n effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai sy'n gwasanaethu menywod ethnig, anabl, LHDTC+ a mudol lleiafrifol.
Amendment 1—Heledd Fychan
Add as new point at end of motion:
Believes that the reliance of charities and third sector bodies working in this area on short-term, competitive funding adds administrative burden, hinders long-term planning, and affects the recruitment and retention of staff, which particularly affects smaller organisations serving minority ethnic, disabled, LGBTQ+ and migrant women.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i:
a) torri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth goroeswyr rheng flaen; a
b) cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru, gan waethygu'r pwysau costau presennol ymhellach.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i eithrio’r cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn rhag y cynnydd arfaethedig i gyfraniadau yswiriant gwladol.
Amendment 2—Heledd Fychan
Add as new points at end of motion:
Regrets the UK Government's decision to:
a) cut 4.2 per cent funding for frontline survivor support services; and
b) increase the national insurance contributions of charitable and third sector bodies working in this area in Wales, further exacerbating the current cost pressures.
Calls on the Welsh Government to encourage the UK Government to exempt charitable and third sector bodies working in this area from the proposed increase in national insurance contributions.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Amendment 3—Heledd Fychan
Add as a new point at end of the motion:
Calls on the Welsh Government to establish a sustainable long-term funding model for specialist services of violence against women, domestic abuse and sexual violence with streamlined tendering and reporting processes.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.
Amendments 1, 2 and 3 moved.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau.
Thank you, Dirprwy Lywydd. I move the motions.
While Plaid Cymru is glad to co-submit the Government's motion, and wholeheartedly supports the call for all to act to eliminate gender-based violence, our amendments are crucial, we think, to ensure a solid foundation on which that call to action rests. We simply can't expect the crucial and urgent work outlined in the Welsh Government's violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy to adequately progress simply by saying it will be so: we must all play our part, yes, every service, every workplace, every member of society, but we must remember that that strategy and its aims rely so heavily on the expertise and support of specialist services. These services have highlighted many times, in response to consultations, reviews, inquiries and reports, that the way they are funded must be addressed if we truly want to see a Wales free from the current epidemic levels of violence against women, which often takes lives and destroys lives. These are the charities and third sector bodies that can intervene, can strengthen that all-important preventative agenda, and support victims and survivors and their families back towards that path of hope and happiness.
Yes, this is partly about additional investment, and what's being offered isn't enough, and also because, as Plaid Cymru's amendments note, decisions being taken by the UK Labour Government to cut 4.2 per cent funding for front-line survivor support services and increasing employers' national insurance contributions, are further exacerbating the current and escalated cost pressures that have been reported by those who work in this sector. Our amendments call on the Welsh Government to speak up on this matter, to use that influence it says it has over its sister Labour Government to ensure the UK Government exempts charitable and third sector bodies working in this area from the proposed increase in NICs because it's just completely self-defeating to subject those organisations to further financial challenges, threatening not only their work in supporting the needs of survivors, but also that sector is losing skilled and experienced staff, and the expertise of those staff is needed more than ever.
Welsh Women's Aid 'State of the Sector 2024' report, published right at the end of last year, highlighted a large increase in demand for services, and we know this has increased ever since COVID. It also outlined the challenges faced by those services. As Sara Kirkpatrick, head of Welsh Women's Aid, said, and I quote:
'Specialist services offer the independent trusted support which survivors vitally deserve. This report, yet again, exposes the critical challenges facing specialist support services...how each problem compounds and exacerbates the last, and year upon year we publish this document which describes the problem as well as offering recommendations for change. Year upon year those recommendations are ignored.
'The price is being paid by survivors who are turned away from support, by specialist support workers visiting foodbanks to make ends meet, the price of inaction is measured not in pounds but lives limited and lives lost. I am sorry to say that the rhetoric of urgency continues to be accompanied by actions of complacency when it comes to violence against women and girls.'
So, how do you answer that accusation, Cabinet Secretary? Will this call for better support for specialist services, and the vivid and concerning illustration of the effect of again ignoring those calls for action, made clearly by Welsh Women's Aid, be heard?
It's also about the way these services are funded to deliver the aims of the strategy, which we all support. Plaid Cymru's amendments draw attention to the reliance of the charities and third sector bodies working in this area on short-term, competitive funding, which adds an added administrative burden, hinders long-term planning, affects the recruitment and retention of staff, and this particularly affects smaller organisations, those crucial 'by and for' services serving minority ethnic, disabled, LGBTQ+ and migrant women. These groups of women, we know, are among the most vulnerable, have some of the highest rates of intersectional risk of violence and abuse. So, will the Welsh Government, in line with the call in our amendments, establish a sustainable, long-term funding model for specialist services of violence against women, with streamlined tendering and reporting processes?
I urge Members to support our amendments today because, without action on the issues they highlight, we will not see the progress we need to make Wales, as is stated in the first line of the strategy, the safest place to be a woman.
Er bod Plaid Cymru yn falch o gyd-gyflwyno cynnig y Llywodraeth, ac yn llwyr gefnogi'r alwad i bawb weithredu i ddileu trais ar sail rhywedd, mae ein gwelliannau'n hanfodol, rydym yn credu, i sicrhau sylfaen gadarn y mae'r alwad honno i weithredu arni. Yn syml, ni allwn ni ddisgwyl i'r gwaith hanfodol a brys a amlinellir yn strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru wneud cynnydd digonol dim ond drwy ddweud mai felly y bydd hi: rhaid i ni i gyd wneud ein rhan, ie, pob gwasanaeth, pob gweithle, pob aelod o gymdeithas, ond rhaid inni gofio bod y strategaeth honno a'i hamcanion yn dibynnu mor drwm ar arbenigedd a chefnogaeth gwasanaethau arbenigol. Mae'r gwasanaethau hyn wedi tynnu sylw sawl gwaith, mewn ymateb i ymgynghoriadau, adolygiadau, ymchwiliadau ac adroddiadau, bod yn rhaid mynd i'r afael â'r ffordd y cânt eu hariannu os ydym ni wir eisiau gweld Cymru heb y lefelau epidemig presennol o drais yn erbyn menywod, sy'n aml yn hawlio bywydau ac yn dinistrio bywydau. Dyma'r elusennau a'r cyrff trydydd sector a all ymyrryd, sy'n gallu cryfhau'r agenda ataliol holl bwysig honno, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr a'u teuluoedd yn ôl tuag at y llwybr hwnnw o obaith a hapusrwydd.
Ydy, mae hyn yn rhannol am fuddsoddiad ychwanegol, ac nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ddigon, a hefyd oherwydd, fel y noda gwelliannau Plaid Cymru, fod penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i dorri 4.2 y cant o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth rheng flaen i oroeswyr a chynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn gwaethygu'r pwysau presennol o ran costau cynyddol a adroddwyd gan y rhai sy'n gweithio yn y sector hwn. Mae ein gwelliannau'n galw ar Lywodraeth Cymru i godi llais ar y mater hwn, i ddefnyddio'r dylanwad hwnnw y dywed hi sydd ganddi dros ei chwaer Lywodraeth Lafur i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eithrio cyrff elusennol a thrydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn o'r cynnydd arfaethedig mewn cyfraniadau yswiriant gwladol oherwydd ei bod hi'n gwbl ddi-fudd roi'r sefydliadau hynny mewn sefyllfaoedd ariannol heriol pellach, gan fygwth nid yn unig eu gwaith yn cefnogi anghenion goroeswyr, ond hefyd oherwydd bod y sector hwnnw'n colli staff medrus a phrofiadol, ac mae angen arbenigedd y staff hynny yn fwy nag erioed.
Amlygodd adroddiad Cymorth i Ferched Cymru 'State of the Sector 2024', a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd, gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau, ac fe wyddom ni fod hyn wedi cynyddu fyth ers COVID. Roedd hefyd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny. Fel y dywedodd Sara Kirkpatrick, pennaeth Cymorth i Ferched Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae gwasanaethau arbenigol yn cynnig y gefnogaeth annibynnol ddibynadwy y mae goroeswyr yn ei haeddu'n fawr. Mae'r adroddiad hwn, unwaith eto, yn datgelu'r heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cymorth arbenigol... Sut mae pob problem yn cynyddu ac yn gwaethygu'r diwethaf, ac o flwyddyn i flwyddyn rydym yn cyhoeddi'r ddogfen hon sy'n disgrifio'r broblem yn ogystal â chynnig argymhellion ar gyfer newid. O flwyddyn i flwyddyn, caiff yr argymhellion hynny eu hanwybyddu.
'Telir y pris gan oroeswyr sy'n cael eu troi i ffwrdd o gefnogaeth, gan weithwyr cymorth arbenigol sy'n ymweld â banciau bwyd i gael dau ben llinyn ynghyd, caiff pris diffyg gweithredu ei fesur nid mewn punnoedd, ond mewn bywydau cyfyngedig a cholli bywydau. Mae'n ddrwg gen i ddweud bod y rhethreg o frys yn parhau i fynd law yn llaw â gweithredoedd o hunanfodlonrwydd o ran trais yn erbyn menywod a merched.'
Felly, sut ydych chi'n ateb y cyhuddiad hwnnw, Ysgrifennydd Cabinet? A glywir yr alwad hon am well cefnogaeth i wasanaethau arbenigol, a'r darlun byw a phryderus o effaith anwybyddu unwaith eto y galwadau hynny am weithredu, a wnaed yn glir gan Cymorth i Ferched Cymru?
Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu hariannu i gyflawni nodau'r strategaeth, yr ydym ni i gyd yn ei chefnogi. Mae gwelliannau Plaid Cymru yn tynnu sylw at ddibyniaeth yr elusennau a'r cyrff trydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn ar gyllid tymor byr, cystadleuol, sy'n ychwanegu baich gweinyddol ychwanegol, yn rhwystro cynllunio tymor hir, yn effeithio ar recriwtio a chadw staff, ac mae hyn yn effeithio'n arbennig ar sefydliadau llai, y gwasanaethau hanfodol 'gan, ac ar gyfer' sy'n gwasanaethu menywod ethnig, anabl, LHTDC+ a chymunedau ethnig lleiafrifol. Mae'r grwpiau hyn o fenywod, rydym yn gwybod, ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed, sydd â rhai o'r cyfraddau uchaf o risg croestoriadol o drais a chamdriniaeth. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru, yn unol â'r alwad yn ein gwelliannau, sefydlu model cyllido cynaliadwy, hirdymor ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach?
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau heddiw oherwydd, heb weithredu ar y materion y maen nhw'n tynnu sylw atyn nhw, ni fyddwn yn gweld y cynnydd sydd ei angen arnom ni i wneud Cymru, fel y nodir yn llinell gyntaf y strategaeth, y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
The Welsh Conservatives were happy to co-table this motion today. We recognise the progress that has been made in tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence, and the role that the Welsh Government strategy has played in delivering this progress. But it is clear there's much more to do.
The latest crime survey for England and Wales estimated that 2.3 million people aged 16 and over experienced domestic abuse in the past year. While two thirds of the victims were women, 712,000 men also experienced domestic abuse and sexual violence. Sadly, South Wales Police was the only force in England and Wales to see a rise in violence against women, domestic abuse and sexual violence. The Welsh Government's strategy is a good start, but we have to do better if we are to end sexual violence and domestic abuse, to put a stop to misogyny and violence against women. Thanks to the UK Government's ratification of the Istanbul convention in July 2022, our Governments—both Governments—have a duty to protect women and girls from violence.
We are obligated under international law to tackle violence against women, domestic abuse and sexual violence. While we are making progress, we're still a long way off from making Wales safe for women and girls, from doing everything possible to halt sexual violence. When we have Welsh celebrities making sick so-called jokes, steeped in sexual violence and normalising misogyny, it highlights how much more work we need to do. When we have a victim of industrial-scale sexual violence calling for a Wales-wide inquiry into sexual exploitation by grooming gangs, we should listen. But, at the same time, we should not allow the issue to be highjacked by far-right thugs. Grooming gangs are not limited to men from one part of the world, or even just men.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gyd-gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Rydym yn cydnabod y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r rhan a fu gan strategaeth Llywodraeth Cymru wrth gyflawni'r cynnydd hwn. Ond mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud.
Amcangyfrifodd arolwg troseddau diweddaraf Cymru a Lloegr fod 2.3 miliwn o bobl 16 oed a hŷn wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er bod dwy ran o dair o'r dioddefwyr yn fenywod, roedd 712,000 o ddynion hefyd wedi profi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn anffodus, Heddlu De Cymru oedd yr unig heddlu yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn ddechrau da, ond mae'n rhaid i ni wneud yn well os ydym ni am ddod â thrais rhywiol a cham-drin domestig i ben, er mwyn atal cam-drin a thrais yn erbyn menywod. Diolch i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gadarnhau confensiwn Istanbwl ym mis Gorffennaf 2022, sy'n golygu fod gan ein Llywodraethau—y ddwy Lywodraeth— ddyletswydd i amddiffyn menywod a merched rhag trais.
Mae'n ddyletswydd arnom ni o dan gyfraith ryngwladol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er ein bod yn gwneud cynnydd, mae ffordd bell eto i fynd i wneud Cymru'n ddiogel i fenywod a merched, i wneud popeth posibl i atal trais rhywiol. Pan fo gennym ni enwogion o Gymru yn gwneud jôcs honedig di-chwaeth, yn llawn trais rhywiol a normaleiddio casineb at fenywod, mae'n tynnu sylw at faint mwy o waith y mae angen i ni ei wneud. Pan fo gennym ni rywun sydd wedi dioddef trais rhywiol ar raddfa ddiwydiannol yn galw am ymchwiliad ledled Cymru i gamfanteisio rhywiol wrth law gangiau, fe ddylem ni wrando. Ond, ar yr un pryd, ni ddylem ni ganiatáu i giwed y dde eithafol gipio'r awenau. Nid yw gangiau sy'n camfanteisio wedi'u cyfyngu i ddynion o un rhan o'r byd, neu hyd yn oed i ddynion yn unig.
Hear, hear. Tell Andrew R.T. then.
Clywch clywch. Dywedwch wrth Andrew R.T. felly.
Yesterday, five men and two women from a Scottish grooming gang were sentenced for the horrific sexual abuse of three children. The seven, all Glasgow natives, carried out their disgusting crime over a seven-year period. Violence against women, domestic abuse and sexual violence is not limited to any particular race or creed. It is carried out by men and women from all walks of life: priests, teachers and police officers—monsters, all. With online platforms making it easier to reach a wider audience of both victims and perpetrators, we have to redouble our efforts. We have to crack down on TikTok influencers encouraging young girls to become sex workers by signing up to be OnlyFans models and opening themselves up to sexual exploitation. At the same time, we need to prevent young boys from being dragged into the manosphere and misogynistic echo chambers on those very same platforms.
While the work undertaken by the Welsh Government is welcome, the threat is too big to work alone. We have to work with the UK Government and international partners to end the normalisation of domestic abuse and sexual violence. Our domestic abuse strategies must also be properly resourced if they are to deliver more than a stack of reports, which is why we are supporting Plaid's amendments. Cabinet Secretary, you have my party's support, and we will work with you to end violence against women, domestic abuse and sexual violence. Diolch yn fawr.
Ddoe, dedfrydwyd pum dyn a dwy ddynes o gang o'r Alban am gam-drin rhywiol tri o blant mewn modd cwbl erchyll. Cyflawnodd y saith, pob un yn frodorion Glasgow, eu trosedd ffiaidd dros gyfnod o saith mlynedd. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi'i gyfyngu i unrhyw hil neu gred benodol. Caiff ei gyflawni gan ddynion a menywod o bob cefndir: offeiriaid, athrawon a swyddogion heddlu—bwystfilod, i gyd. Gyda llwyfannau ar-lein yn ei gwneud hi'n haws cyrraedd cynulleidfa ehangach o ddioddefwyr a chyflawnwyr, mae'n rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â dylanwadwyr TikTok sy'n annog merched ifanc i ddod yn weithwyr rhyw trwy gofrestru i fod yn fodelau OnlyFans ac agor eu hunain i gamfanteisio rhywiol. Ar yr un pryd, mae angen i ni atal bechgyn ifanc rhag cael eu llusgo i'r manosffer a siambrau adleisio misogynistaidd ar yr un llwyfannau hynny.
Er bod y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, mae'r bygythiad yn rhy fawr i hyn fod yn waith unigol. Mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phartneriaid rhyngwladol i ddod â normaleiddio cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. Rhaid i'n strategaethau cam-drin domestig gael adnoddau priodol os ydyn nhw am ddarparu mwy na phentwr o adroddiadau, a dyna pam rydym ni'n cefnogi gwelliannau Plaid. Ysgrifennydd Cabinet, mae gennych chi gefnogaeth fy mhlaid a byddwn yn gweithio gyda chi i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Diolch yn fawr.
I'm really very pleased that we're having this debate here today and I'm glad to see that it has been tabled by Members across the Chamber, and it is good to follow Altaf Hussain and the words that he said.
Having the violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy in place does show the Welsh Government's commitment to tackling violence here in Wales. As the Cabinet Secretary said in her introduction, violence against women, domestic abuse and sexual violence persistently plagues us here in Wales and it is continuing to rise. According to the World Health Organization, one in three women have been subject to some kind of violence against them, and this includes by men—as I think we have already said, it's mostly men who carry out that violence—who these women know as well as ones they don't know.
Every year in Cardiff North, we hold a vigil on the international day for the elimination of violence against women and girls, when, as Joyce Watson does, the names of women who have been murdered are read out. As the Cabinet Secretary said, during the last year, out of those women in the UK, three were in Wales, and sadly one was just down the road in Cardiff North, where we were actually having our vigil. That day, White Ribbon Day, as we call it, had as its strapline, 'It starts with men', and I think that is what we have to acknowledge, and that's why it's so good to have male allies and to have male ambassadors who will speak up on this very, very difficult subject. And, as I say, it came very close to home to me when, last year, one of my constituents was murdered.
While the lasting impact of violence against women, we recognise, is undeniably severe, we have also got to remember how this violence impacts on children in the home, and I wonder if the Cabinet Secretary, when she replies, could perhaps say a bit more about what we are doing in order to protect children who do witness violence in the home. That's why it's so good that we have the new curriculum in school, which will teach our children and is teaching our children about healthy relationships, because the earlier that our young people learn about how to navigate relationships, the better. We've talked a lot in the debate about cross-Government working and how this is an issue for all of us, all of us as individuals, and for the whole of society, but I think one of the most important areas is with young children and what sort of influences they have. We know some of these young people will have, sadly, witnessed domestic violence in the home, and may not necessarily understand that this behaviour is not the norm. I know that children who do witness some form of domestic violence at home sometimes go on to repeat those behaviours in their future relationships. It can also lead to them having unhealthy coping mechanisms, so it's so important that we get in early. And I think it's really important, because it helps young people recognise that the domestic violence they may be witnessing at home is not right, and is not the norm. So, I think the fact that we have the new curriculum is a great step forward.
But we also know that the key to tackling violence against women starts with men and boys. As this, the strapline, says, 'It starts with men'. So, I am very supportive of the Welsh Government's Sound campaign, which it launched in July 2023, to equip young man with the knowledge and confidence to reflect and understand their own behaviours, while also having open and honest conversations with their friends about theirs, because I think that's what we really want to encourage is for men to talk to men, for groups, friendship groups, to discuss these issues. So, I wondered if the Cabinet Secretary, when she responded, would be able to say what impact that campaign has had, and whether she could update us on the Sound campaign. This is a difficult subject, but we've got to get young people, in particular, to face it and discuss it, and I think the Cabinet Secretary was absolutely right at the end of her contribution when she said that this is a call to action, and I think that we all need to take on the call to action, men and women here in the Chamber today and throughout Wales. Diolch.
Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon yma heddiw ac rwy'n falch o weld ei bod wedi'i chyflwyno gan Aelodau ar draws y Siambr, ac mae'n dda dilyn Altaf Hussain a'r geiriau a ddywedodd.
Mae cael y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar waith yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yma yng Nghymru. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei chyflwyniad, mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ein plagio'n barhaus yma yng Nghymru ac mae'n parhau i gynyddu. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae un o bob tair menyw wedi bod yn destun rhyw fath o drais yn eu herbyn, ac mae hyn yn cynnwys gan ddynion—fel y credaf ein bod ni wedi dweud yn barod, dynion yn bennaf sy'n cyflawni'r trais yna—y mae'r menywod yma'n eu hadnabod yn ogystal â rhai nad ydyn nhw'n eu hadnabod.
Bob blwyddyn yng Ngogledd Caerdydd, rydym yn cynnal gwylnos ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod a merched, pan, fel y mae Joyce Watson yn ei wneud, darllenir enwau menywod sydd wedi cael eu llofruddio. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o blith y menywod hynny yn y Deyrnas Unedig, roedd tair yng Nghymru, ac yn anffodus roedd un ychydig i lawr y ffordd yng Ngogledd Caerdydd, lle cawsom ni ein gwylnos mewn gwirionedd. Y diwrnod hwnnw, is-bennawd Diwrnod y Rhuban Gwyn, fel yr ydym yn ei alw, oedd 'Mae'n dechrau gyda dynion', ac rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gydnabod, a dyna pam ei bod hi mor dda cael cynghreiriaid gwrywaidd a chael llysgenhadon gwrywaidd a fydd yn siarad am y pwnc anodd iawn hwn. Ac, fel y dywedais, fe ddes i wyneb yn wyneb â hyn pan lofruddiwyd un o fy etholwyr y llynedd.
Er bod effaith barhaus trais yn erbyn menywod, rydym yn cydnabod, yn ddifrifol iawn, mae'n rhaid i ni gofio hefyd sut mae'r trais hwn yn effeithio ar blant yn y cartref, a tybed a allai'r Ysgrifennydd Cabinet, pan fydd hi'n ateb, ddweud ychydig mwy am yr hyn rydym ni'n ei wneud er mwyn amddiffyn plant sy'n dyst i drais yn y cartref. Dyna pam ei bod hi mor dda bod gennym ni'r cwricwlwm newydd yn yr ysgol, a fydd yn dysgu ein plant ac sydd yn dysgu ein plant am berthnasoedd iach, oherwydd po gynharaf y bydd ein pobl ifanc yn dysgu am sut i lywio perthnasoedd, gorau oll. Rydym ni wedi siarad llawer yn y ddadl am weithio trawslywodraethol a sut mae hyn yn fater i bob un ohonom ni, pob un ohonom ni fel unigolion, ac i'r gymdeithas gyfan, ond rwy'n credu mai un o'r meysydd pwysicaf yw gyda phlant ifanc a pha fath o bethau sy'n dylanwadu arnyn nhw. Rydym yn gwybod y bydd rhai o'r bobl ifanc hyn, yn anffodus, wedi bod yn dyst i drais domestig yn y cartref, ac efallai na fyddan nhw o reidrwydd yn deall nad yr ymddygiad hwn yw'r norm. Rwy'n gwybod bod plant sy'n dyst i ryw fath o drais domestig gartref weithiau'n ailadrodd yr ymddygiad hynny yn eu perthnasoedd yn y dyfodol. Gall hefyd arwain at fecanweithiau ymdopi afiach, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ymyrryd yn gynnar. Ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, oherwydd mae'n helpu pobl ifanc i gydnabod nad yw'r trais domestig y maen nhw'n ei weld gartref yn iawn, ac nid dyna'r norm. Felly, rwy'n credu bod y ffaith bod gennym ni'r cwricwlwm newydd yn gam mawr ymlaen.
Ond rydym ni hefyd yn gwybod bod yr allwedd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn dechrau gyda dynion a bechgyn. Fel y dywed hyn, yr is-bennawd, 'Mae'n dechrau gyda dynion'. Felly, rwy'n gefnogol iawn i ymgyrch Sain Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023, i arfogi dynion ifanc â'r wybodaeth a'r hyder i fyfyrio a deall eu hymddygiad eu hunain, gan allu cael sgyrsiau agored a gonest gyda'u ffrindiau am eu hymddygiad nhw, oherwydd credaf mai dyna beth rydym ni wir eisiau ei annog yw i ddynion siarad â dynion, i grwpiau, grwpiau cyfeillgarwch, drafod y materion hyn. Felly, tybed a fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth ymateb, yn gallu dweud beth fu effaith yr ymgyrch honno, ac a allai hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymgyrch Sain. Mae hwn yn bwnc anodd, ond mae'n rhaid i ni gael pobl ifanc, yn benodol, i'w wynebu a'i drafod, ac rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn hollol gywir ar ddiwedd ei chyfraniad pan ddywedodd mai galwad i weithredu yw hon, ac rwy'n credu bod angen i ni i gyd ymgymryd â'r alwad i weithredu, dynion a menywod yma yn y Siambr heddiw a ledled Cymru. Diolch.
Just to follow on from Julie Morgan's contribution, I just want to focus in on children, again, who are caught in the devastating wake of domestic abuse and violence against women, yet who can remain overlooked. Domestic abuse doesn't just harm adults; it creates an invisible prison for children and young people, leaving them isolated, powerless and trapped in a world of fear. Consider the words of a 14-year-old girl who reached out to Childline over this Christmas period:
'My parents have always argued with each other, but over Christmas it’s got physical. I can hear it all going on in the next room, shouting, swearing, telling each other to leave. Then I see the bruises afterwards. It makes me so scared I can’t sleep.'
This is not an isolated story. According to SafeLives, children and young people are the age group most likely to have some engagement with domestic violence. As Welsh Women's Aid say, we face a critical shortage of specialised support for these vulnerable children. In the last financial year alone, 349 children were left waiting—and those are the ones we know about—for essential support services. As Johanna Robinson, our national adviser for violence against women, said,
'there's an absolute lack of therapeutic services for children and young people.'
The report that our committee, the Equality and Social Justice Committee, produced on violence against women stated, last year, that urgent, fast-tracked, specialised support services for children who have experienced or witnessed abuse is needed. I was therefore a little concerned to see in the Cabinet Secretary's response to our committee yesterday that we only have the promise of a review of existing services. So, I'd like to hear more.
Children need concrete timelines, children need to see specific commitments for new services. Children need urgent action. They cannot wait; their lives are far too short. This isn't just about more services, though; it's about the type of services we need. Prioritising children for child and adolescent mental health services' waiting lists shouldn't be our focus. Whilst CAMHS has its value, its support often operates on the service's timelines, rather than being responsive to the children's needs. Children and young people need to be ready to engage and talk about their painful issues.
Voluntary and third sector organisations, as we've heard from Sioned Williams, provide the greatest value and the greatest flexibility in ensuring that they have child-centred services that meet the children where they are, when they need it the most, at the time that's right for them. Our current mental health system can treat trauma as an illness to be cured, rather than understanding it as a natural response to surviving brutal circumstances. We need to move away from a medicalised approach that labels young people's distress as something to be fixed.
I saw a powerful alternative this morning at Platfform's Hangout project here in Cardiff, a walk-in hub where young people can find immediate support without waiting lists, where they can connect with others, including with professionals. They don't use the words 'well-being' or 'mental health', they just say it is a safe space to be, and that can allow children and young people then to talk about what's happened to them, express the pain when they are ready, and allow them to choose what works for them.
You've heard today, Cabinet Secretary, that we want to see funding for third sector and voluntary organisations. We want to see funding that is sustainable, that allows them to meet the needs of not just children, but the victims, the direct victims of violence, and that's women. They are best placed, and I know that, having worked in both statutory organisations and voluntary organisations. I can tell you that children will more often than not be able to feel more comfortable in those voluntary organisations. So, please can we hear the guarantee of long-term funding for third sector organisations that play such a pivotal role in supporting children as they embark on the difficult journey of rebuilding their lives? Diolch yn fawr iawn.
Dim ond i ddilyn cyfraniad Julie Morgan, fe hoffwn i ddim ond canolbwyntio ar blant, unwaith eto, sy'n cael eu dal yn effaith ddinistriol cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod, ond sy'n gallu parhau i gael eu hanwybyddu. Nid yw cam-drin domestig yn niweidio oedolion yn unig; mae'n creu carchar anweledig i blant a phobl ifanc, gan eu gadael yn ynysig, yn ddi-rym ac wedi'u caethiwo mewn byd o ofn. Ystyriwch eiriau merch 14 oed a gysylltodd â Childline dros gyfnod y Nadolig hwn:
'Mae fy rhieni wastad wedi dadlau â'i gilydd, ond dros y Nadolig mae wedi bod yn gorfforol. Gallaf glywed y cyfan yn digwydd yn yr ystafell nesaf, gweiddi, rhegi, yn dweud wrth ei gilydd am adael. Wedyn rwy'n gweld y cleisiau. Mae'n codi gymaint o ofn arna i fel na alla i gysgu.'
Nid un stori unigol mo hon. Yn ôl SafeLives, plant a phobl ifanc yw'r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o gael rhywfaint o ymwneud â thrais domestig. Fel y dywed Cymorth i Ferched Cymru, rydym yn wynebu prinder allweddol o gefnogaeth arbenigol i'r plant agored i niwed hyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig, gadawyd 349 o blant yn aros—a dyna'r rhai rydym ni'n gwybod amdanyn nhw—am wasanaethau cymorth hanfodol. Fel y dywedodd Johanna Robinson, ein cynghorydd cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod:
'mae diffyg gwasanaethau therapiwtig enfawr ar gyfer plant a phobl ifanc.'
Nododd yr adroddiad a gynhyrchwyd gan ein pwyllgor, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar drais yn erbyn menywod, y llynedd, fod angen gwasanaethau cymorth arbenigol brys, cyflym ar gyfer plant sydd wedi profi neu sydd wedi bod yn dyst i gamdriniaeth. Felly, roeddwn yn bryderus braidd i weld yn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n pwyllgor ddoe mai dim ond adolygiad o'r gwasanaethau presennol sydd gennym ni. Fe hoffwn i glywed mwy.
Mae angen llinellau amser pendant ar blant, mae angen i blant weld ymrwymiadau penodol ar gyfer gwasanaethau newydd. Mae angen gweithredu o blaid plant ar fyrder. Ni allan nhw aros; mae eu bywydau yn rhy fyr o lawer. Nid yw hyn yn ymwneud â mwy o wasanaethau yn unig; mae'n ymwneud â'r math o wasanaethau sydd eu hangen arnom ni. Ni ddylai blaenoriaethu rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc fod yn bwyslais i ni. Er bod gan CAMHS ei werth, mae ei gefnogaeth yn aml yn gweithredu ar amserlen y gwasanaeth, yn hytrach na bod yn ymatebol i anghenion y plant. Mae angen i blant a phobl ifanc fod yn barod i ymgysylltu a siarad am eu problemau poenus.
Mae mudiadau gwirfoddol a thrydydd sector, fel y clywsom ni gan Sioned Williams, yn darparu'r gwerth mwyaf a'r hyblygrwydd mwyaf wrth sicrhau bod ganddyn nhw wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y plentyn sy'n cwrdd â'r plant lle maen nhw, pan fyddan nhw ei angen fwyaf, ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw. Gall ein system iechyd meddwl bresennol drin trawma fel salwch i'w wella, yn hytrach na'i ddeall fel ymateb naturiol i oroesi amgylchiadau creulon. Mae angen i ni gefnu ar ddull meddygol sy'n labelu gofid pobl ifanc fel rhywbeth i'w drwsio.
Gwelais ddewis arall grymus y bore yma ym mhrosiect Hangout Platfform yma yng Nghaerdydd, canolfan galw heibio lle gall pobl ifanc ganfod cymorth ar unwaith heb restrau aros, lle gallan nhw gysylltu ag eraill, gan gynnwys gyda gweithwyr proffesiynol. Dydyn nhw ddim yn defnyddio'r geiriau 'llesiant' neu 'iechyd meddwl', maen nhw'n dweud ei fod yn lle diogel i fod, a gall hynny ganiatáu i blant a phobl ifanc wedyn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, mynegi'r boen pan fyddan nhw'n barod, a chaniatáu iddyn nhw ddewis beth sy'n gweithio iddyn nhw.
Rydych chi wedi clywed heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, bod arnom ni eisiau gweld cyllid ar gyfer sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol. Mae arnom ni eisiau gweld cyllid sy'n gynaliadwy, sy'n eu galluogi i ddiwallu anghenion nid yn unig plant, ond y dioddefwyr, dioddefwyr uniongyrchol trais, sef menywod. Nhw sydd yn y sefyllfa orau, ac rwy'n gwybod hynny, ar ôl gweithio mewn sefydliadau statudol a sefydliadau gwirfoddol. Gallaf ddweud wrthych chi y gall plant yn amlach na pheidio deimlo'n fwy cyfforddus yn y sefydliadau gwirfoddol hynny. Felly, a allwn ni glywed am warant o gyllid tymor hir i sefydliadau'r trydydd sector sydd â rhan mor ganolog wrth gefnogi plant wrth iddyn nhw gychwyn ar y daith anodd o ailadeiladu eu bywydau? Diolch yn fawr iawn.
It's a pleasure to take part in this debate this afternoon. I want to put on record my thanks to the Government for tabling this important debate this afternoon, which I'm pleased to be a part of. I also want to put on record as well how proud I was to take part in the White Ribbon Day events in the Pierhead back in November. I had no jacket on, and it was tipping down with rain, but I ignored that and took part also in the candlelight vigil. What it did for me, and I was proud to represent the Welsh Conservatives that night and speak to the audience, and something that came over was the passion and the commitment to seeing reductions in and the eradication of violence towards women. I found it a really poignant evening, which I took away a lot of knowledge from, and I was pleased to take part in that.
Somebody from my constituency who came along was Mike Taggart, whose mother was sadly murdered at the hands of his abusive stepfather back in the 1990s in Rhyl, but he's turned that around into something positive, because he's become a strategic domestic abuse officer with North Wales Police, and he's now an ambassador for the White Ribbon Campaign. So, he's turned that into something positive, and he's really a credit to his late mother, his family and, indeed, his local community. Also in my constituency I've got the North Wales Women's Centre on Water Street in Rhyl, which does a great job, and I know the Cabinet Secretary herself has visited there in the past and is also a passionate advocate of this subject.
The strategy itself comes to an end in a year, in 2026, and yet there's been no measurable progress over the past year. I just want to share some statistics with you, if I may. The crime survey for England and Wales estimated that 2.3 million people aged 16 and over experienced domestic abuse in the year ending March 2024, and there were 851,000 domestic abuse-related crimes in England and Wales in the year ending March 2024. Almost a third of 16 to 18-year-old girls say they have been subjected to unwanted touching at school, which demonstrates the need for men and boys to hold each other accountable from a young age, to eradicate harmful cultures and promote and reinforce positive gender norms.
It's important to recognise that this violence is not just restricted to the home. If something doesn't look right in school, in the workplace, on public transport or anywhere in society, we must have the courage to challenge harassing or abusive behaviour, and we all have a duty as Senedd Members to stop this and do all we can within our communities, constituencies and regions, to make sure that we do all we can to do our best in this area to reduce and hopefully eradicate this in the long term. Thank you very much.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy'n falch o fod yn rhan ohoni. Rwyf hefyd eisiau dweud ar goedd yn ogystal pa mor falch oeddwn i o gymryd rhan yn nigwyddiadau Diwrnod y Rhuban Gwyn yn y Pierhead nôl ym mis Tachwedd. Doedd gen i ddim siaced amdanaf, ac roedd hi'n arllwys y glaw, ond fe wnes i anwybyddu hynny a chymryd rhan hefyd yn yr wylnos golau cannwyll. Ei heffaith arna i, ac roeddwn i'n falch o gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig y noson honno a siarad â'r gynulleidfa, a rhywbeth a gyflëwyd oedd yr angerdd a'r ymrwymiad i weld gostyngiadau mewn trais a dileu trais tuag at fenywod. Roedd hi'n noson deimladwy iawn, a dysgais lawer ohoni, ac roeddwn yn falch o gymryd rhan yn honno.
Rhywun o'm hetholaeth i a ddaeth draw oedd Mike Taggart, y cafodd ei fam ei llofruddio yn anffodus yn nwylo ei lystad treisiol yn ôl yn y 1990au yn y Rhyl, ond mae wedi troi hynny yn rhywbeth cadarnhaol, oherwydd mae wedi dod yn swyddog cam-drin domestig strategol gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac mae bellach yn llysgennad ar gyfer Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Felly, mae wedi troi hynny'n rhywbeth cadarnhaol, ac mae'n glod mawr i'w ddiweddar fam, ei deulu ac, yn wir, ei gymuned leol. Hefyd yn fy etholaeth mae gen i Ganolfan Merched Gogledd Cymru ar Stryd y Dŵr yn y Rhyl, sy'n gwneud gwaith gwych, ac fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi ymweld â hi yn y gorffennol ac mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros y pwnc hwn.
Daw'r strategaeth ei hun i ben mewn blwyddyn, yn 2026, ac eto ni fu cynnydd mesuradwy dros y flwyddyn ddiwethaf. Fe hoffwn i ddim ond rhannu rhai ystadegau gyda chi, os caf i. Amcangyfrifodd arolwg troseddau Cymru a Lloegr fod 2.3 miliwn o bobl 16 oed a hŷn wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, ac roedd 851,000 o droseddau yn ymwneud â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae bron i draean o ferched 16 i 18 oed yn dweud eu bod wedi dioddef cyffwrdd diangen yn yr ysgol, sy'n dangos yr angen i ddynion a bechgyn ddal ei gilydd yn atebol o oedran ifanc, i ddileu diwylliannau niweidiol a hyrwyddo ac atgyfnerthu arferion cadarnhaol o ran rhywedd.
Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r trais hwn wedi'i gyfyngu i'r cartref yn unig. Os nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn yn yr ysgol, yn y gweithle, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu unrhyw le yn y gymdeithas, mae'n rhaid i ni fod yn ddigon dewr i herio ymddygiad treisgar neu o aflonyddu, ac mae gan bob un ohonom ni ddyletswydd fel Aelodau Senedd i atal hyn a gwneud popeth o fewn ein cymunedau, ein hetholaethau a'n rhanbarthau, i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein gorau yn y maes hwn i leihau a gobeithio dileu hyn yn y tymor hir. Diolch yn fawr iawn.
I want to start by thanking the Cabinet Secretary for her statement today and by paying tribute to the exceptional work of the violence against women, domestic abuse and sexual violence sector. The bravery and resilience of women and girls who have survived appalling abuse and violence is an inspiration to us all, and the sector's unwavering commitment to supporting them is a testament to the very best of our society.
Despite the efforts of the Welsh Government, the goal of making Wales the safest place for women and girls remains unmet. In fact, the latest statistics show that these crimes are sadly on the rise, made even worse by the impact of the COVID-19 pandemic. According to the crime survey for England and Wales, which we've just heard about from Gareth Davies, nearly one in three women will experience domestic abuse in their lifetime and almost one in five will experience some sort of sexual violence. These numbers are staggering and paint a grim picture of the reality that women in Wales are facing every day.
This issue is especially serious in north Wales, where rates of domestic abuse are actually higher than those in London. Even more shockingly, 16 children per 1,000 in north Wales are being seen by sexual assault referral centres, compared to just 2.9 per 1,000 in London. North Wales also faces the same level of sexual crimes as greater Manchester, a region with a population five times bigger. And I fear that the re-election of Trump, the rise of the far right and influencers like Andrew Tate, pushing misogynistic and violent content online, will only make things worse.
These horrific stats make it clear that the Welsh Government's approach to tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence needs to reflect the true scale of this epidemic. But the data is inconsistent, making it especially difficult to develop and implement policy on a Wales-wide basis, given that most of the data is for England and Wales. I urge the Cabinet Secretary to press on the UK Government and authorities to address this urgently so that we can find the stats for Wales and we can allocate the resources accordingly.
While we can talk about ambitions for the future, the hard truth is that we aren't working to the maximum of our abilities within the current settlement and frameworks. There's a dire shortage of sexual assault clinics. People in my constituency must travel up to four hours on public transport to access a sexual assault clinic. That's simply not good enough. We must increase access to sexual assault referral centres, particularly in underserved areas like Powys, Wrexham and Gwynedd, to alleviate the burden of extensive travel for victims seeking forensic examinations.
Let's be clear: sexual assault and domestic violence is generational, unless we make a conscious effort to intervene from an early age. This is why we need to implement trauma-informed training for educators and ensure consistent practices across schools, which can significantly improve the well-being of affected children. Addressing counselling waiting times and investing in child and adolescent mental health services will also prevent spill-over issues in other sectors, such as health, and bolster economic productivity.
Finally, I'd like to raise the issue of sex workers and the threat that they face daily, with the suffering that they face at the hands of abusers more often than not ignored and dismissed. Sex workers enter the industry for many reasons, but for many—most, maybe—it's rooted in poverty, and they are punished for taking what they see as their only option to provide food for their children. Therefore, I urge the Cabinet Secretary and the Government to join the calls to decriminalise sex work and to move to tackle poverty, which impacts on women more than men, and is part of the root cause of the epidemic that we are seeing with sexual violence and domestic abuse.
The bottom line is that the Welsh Government needs to ensure that our policies here in Wales address the root causes of gender-based violence, promote equality and work towards long-term solutions to make Wales a safer place for everyone. Survivors of abuse, the true experts of navigating trauma, must be heard and included in conversations by professionals to ensure that the system reforms that we seek to implement are truly empathetic, effective and grounded in lived experience. In the Senedd and in our communities, we must work together to ensure that every woman and girl in Wales can live free from fear and violence.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw a thrwy dalu teyrnged i waith eithriadol y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dewrder a chydnerthedd menywod a merched sydd wedi goroesi camdriniaeth a thrais erchyll yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni, ac mae ymrwymiad diwyro'r sector i'w cefnogi yn dyst i agweddau gorau ein cymdeithas.
Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, mae'r nod o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenywod a merched yn parhau heb ei fodloni. Mewn gwirionedd, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y troseddau hyn yn anffodus ar gynnydd, a wnaed hyd yn oed yn waeth gan effaith pandemig COVID-19. Yn ôl yr arolwg trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr, yr ydym ni newydd glywed amdano gan Gareth Davies, bydd bron i un o bob tair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes a bydd bron i un o bob pump yn profi rhyw fath o drais rhywiol. Mae'r niferoedd hyn yn syfrdanol ac yn creu darlun difrifol o'r realiti y mae menywod yng Nghymru yn ei wynebu bob dydd.
Mae'r mater hwn yn arbennig o ddifrifol yng ngogledd Cymru, lle mae cyfraddau cam-drin domestig yn uwch na'r rhai yn Llundain. Hyd yn oed yn fwy brawychus, mae 16 o blant o bob 1,000 yng ngogledd Cymru yn cael eu gweld gan ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, o'i gymharu â dim ond 2.9 fesul 1,000 yn Llundain. Mae gogledd Cymru hefyd yn wynebu'r un lefel o droseddau rhywiol â Manceinion Fwyaf, rhanbarth sydd â phoblogaeth bum gwaith yn fwy. Ac rwy'n ofni y bydd ailethol Trump, cynnydd y dde eithafol a dylanwadwyr fel Andrew Tate, hyrwyddo cynnwys ar-lein sy'n dreisgar ac yn difrïo merched, ond yn gwneud pethau'n waeth.
Mae'r ystadegau erchyll hyn yn ei gwneud hi'n glir bod angen i ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol adlewyrchu gwir raddfa'r epidemig hwn. Ond mae'r data yn anghyson, gan ei gwneud hi'n arbennig o anodd datblygu a gweithredu polisi ar sail Cymru gyfan, o gofio bod y rhan fwyaf o'r data ar gyfer Cymru a Lloegr. Rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet i bwyso ar Lywodraeth y DU ac awdurdodau i fynd i'r afael â hyn ar frys fel y gallwn ni ddod o hyd i'r ystadegau i Gymru ac y gallwn ni ddyrannu'r adnoddau yn unol â hynny.
Er y gallwn ni siarad am uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, y gwir plaen yw nad ydym ni'n gwneud y gorau o'n galluoedd o fewn y setliad a'r fframweithiau presennol. Mae prinder enbyd o glinigau ymosodiad rhywiol. Mae'n rhaid i bobl yn fy etholaeth deithio hyd at bedair awr ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad i glinig ymosod rhywiol. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni gynyddu mynediad i ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, yn enwedig mewn ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol fel Powys, Wrecsam a Gwynedd, er mwyn lleddfu baich teithio helaeth i ddioddefwyr sy'n chwilio am archwiliad fforensig.
Gadewch i ni fod yn glir: mae ymosod yn rhywiol a thrais domestig yn arfer y gellir ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, oni bai ein bod yn gwneud ymdrech ymwybodol i ymyrryd o oedran cynnar. Dyna pam mae angen i ni gynnal hyfforddiant sy'n seiliedig ar drawma i addysgwyr a sicrhau arferion cyson ar draws ysgolion, a all wella llesiant plant yr effeithir arnyn nhw yn sylweddol. Bydd mynd i'r afael ag amseroedd aros cwnsela a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc hefyd yn atal problemau mewn sectorau eraill, fel iechyd, ac yn hybu cynhyrchiant economaidd.
Yn olaf, fe hoffwn i godi mater gweithwyr rhyw a'r bygythiad maen nhw'n ei wynebu bob dydd, gyda'r dioddefaint maen nhw'n ei wynebu yn nwylo camdrinwyr sy'n amlach na pheidio yn cael eu hanwybyddu a'u hwfftio. Mae gweithwyr rhyw yn dod i mewn i'r diwydiant am sawl rheswm, ond i lawer—y rhan fwyaf, efallai—mae wedi'i wreiddio mewn tlodi, ac maen nhw'n cael eu cosbi am gymryd yr hyn maen nhw'n ei weld fel eu hunig ddewis i ddarparu bwyd i'w plant. Felly, rwy'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Llywodraeth i ymuno â'r galwadau i ddad-droseddu gwaith rhyw a symud i fynd i'r afael â thlodi, sy'n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac sy'n rhan o achos sylfaenol yr epidemig a welwn ni gyda thrais rhywiol a cham-drin domestig.
Y gwir amdani yw bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ein polisïau yma yng Nghymru yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais ar sail rhywedd, hyrwyddo cydraddoldeb a gweithio tuag at atebion hirdymor i wneud Cymru'n lle mwy diogel i bawb. Mae'n rhaid i bobl broffesiynol glywed a chynnwys goroeswyr camdriniaeth, y gwir arbenigwyr ar ymdrin â thrawma, mewn sgyrsiau i sicrhau bod y diwygiadau i'r system yr ydym yn ceisio eu gweithredu yn wirioneddol empathig, yn effeithiol ac yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl. Yn y Senedd ac yn ein cymunedau, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob menyw a merch yng Nghymru yn gallu byw heb ofn a thrais.
The policy framework developed by the Cabinet Secretary and her officials is widely welcomed. I acknowledge the long-standing commitment of the Cabinet Secretary to get every sphere of society, particularly the public sector, to address gender-based violence and sexual violence. The public sector in particular is directly accountable for the resources funded by the public purse, and, therefore, it is essential that we ensure that they, in turn, are looking out for the numbers of people who, sadly, are experiencing domestic and sexual violence, and are equipped to respond appropriately.
I want to particularly address the outstanding issue around recommendation 4 of our report last year. I welcome very much the review that the Cabinet Secretary has provided the committee with, and I appreciate the honesty—that she has admitted that further work is required in this area, particularly in bringing together education, health and alignment with VAWDASV specialist provision. It is, I think, quite sobering that we still are not able to guarantee babies, children and young people automatic access to this support, because it is so important for their ability to move forward and live healthy and fulfilled lives.
Babies and pre-school children spend most of their waking hours in the home, and whilst they may be too young to engage in talking therapies, there is plenty that child therapists can do to probe the impact of a particular trauma through the use of toys to enable very young children to express their distress about what they may have witnessed or experienced. In my view, it's essential that we increase the capacity of health visiting teams to identify concerns, though there is also a crucial role for midwives, antenatally and postnatally, to ask and act, based on the shocking fact that pregnant women are twice as likely to experience domestic and sexual violence as they were before they became pregnant. They must—absolutely must—ask and act, and help those who need refuge elsewhere in a safe place to be able to get that; otherwise, we know that the violence is likely to escalate.
We, unfortunately, know that the COVID lockdown was a disaster for far too many children and young people, as pupils were deprived of the safety and security we want all children to be able to rely on at school. Schools are, and must be, the gateway to support, if young people are experiencing violence rather than safety in the home. When young people need help, this can occur many years after the episode or episodes of abuse they witnessed or experienced; we know this from multiple research. I absolutely defer to Jane Dodds's professional expertise, but I absolutely agree that Platfform is a really important, independent source of help, where people can walk in off the street and not need to disclose anything until they feel able to; they can simply enjoy the facilities, the cups of tea, the food, the table tennis and all of the other things that young people enjoy doing, and the Platfform staff have the patience to wait until that young person is ready to talk.
Overall, we must ensure that children and young people get the therapeutic support they need to be survivors, rather than the next generation of abusers or victims, because otherwise we will never make progress on this incredibly important, but, sadly, endemic, issue.
Mae croeso mawr i'r fframwaith polisi sydd wedi'i ddatblygu gan yr Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion. Rwy'n cydnabod ymrwymiad hirdymor yr Ysgrifennydd Cabinet i gael pob sector o'r gymdeithas, yn enwedig y sector cyhoeddus, i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol. Mae'r sector cyhoeddus yn benodol yn uniongyrchol atebol am yr adnoddau y mae pwrs y wlad yn eu hariannu, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau eu bod, yn eu tro, yn gofalu am y nifer o bobl sydd, yn drist, yn dioddef trais domestig a rhywiol, a'u bod â'r adnoddau i ymateb yn briodol.
Rwyf i eisiau ymdrin yn benodol â'r mater sy'n weddill yn ymwneud ag argymhelliad 4 o'n hadroddiad y llynedd. Rwy'n croesawu'n fawr yr adolygiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i'r pwyllgor, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gonestrwydd—ei bod hi wedi cyfaddef bod angen rhagor o waith yn y maes hwn, yn enwedig wrth ddod ag addysg, iechyd ynghyd a'u gwneud yn gydnaws â darpariaeth arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n credu ei bod yn eithaf sobreiddiol nad ydyn ni'n gallu gwarantu cyfle awtomatig i fanteisio ar y cymorth hwn i fabanod, plant a phobl ifanc, oherwydd mae hi mor bwysig o ran eu gallu i symud ymlaen a byw bywydau iach a chyflawn.
Mae babanod a phlant cyn oed ysgol yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ystod y dydd yn y cartref, ac er eu bod efallai'n rhy ifanc i gymryd rhan mewn therapïau siarad, mae digon y gall therapyddion plant ei wneud i ymchwilio i effaith trawma penodol trwy ddefnyddio teganau i alluogi plant ifanc iawn i fynegi eu gofid am yr hyn y gallen nhw fod wedi'i weld neu'i wynebu. Yn fy marn i, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynyddu capasiti timau ymwelwyr iechyd i nodi pryderon, er bod rôl hanfodol hefyd gan fydwragedd, cyn, ac ar ôl y geni, i ofyn a gweithredu, yn seiliedig ar y ffaith frawychus bod menywod beichiog ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef trais domestig a rhywiol nag yr oedden nhw cyn iddyn nhw feichiogi. Mae'n rhaid iddyn nhw—yn sicr mae'n rhaid iddyn nhw—ofyn a gweithredu, a helpu'r rhai hynny sydd angen lloches mewn man arall, mewn lle diogel, i allu cael hynny; fel arall, gwyddom fod y trais yn debygol o waethygu.
Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod bod cyfyngiadau symud COVID wedi bod yn drychineb i lawer gormod o blant a phobl ifanc, gan fod disgyblion wedi eu hamddifadu o'r diogelwch a'r sicrwydd yr ydyn ni eisiau i bob plentyn allu dibynnu arno yn yr ysgol. Ysgolion yw'r porth i gefnogaeth, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod, os yw pobl ifanc yn wynebu trais yn hytrach na diogelwch yn y cartref. Pan fo angen help ar bobl ifanc, gall hyn ddigwydd flynyddoedd lawer ar ôl y cyfnod neu'r cyfnodau o gam-drin y gwnaethon nhw ei wynebu neu'i weld; rydyn ni'n gwybod hyn o lawer o ymchwil. Rwy'n ildio'n llwyr i arbenigedd proffesiynol Jane Dodds, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod Platfform yn ffynhonnell gymorth annibynnol, bwysig iawn, lle y gall pobl ddod i mewn oddi ar y stryd heb orfod datgelu unrhyw beth nes eu bod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny; gallan nhw fwynhau'r cyfleusterau, y paneidiau o de, y bwyd, y tennis bwrdd a'r holl bethau eraill y mae pobl ifanc yn mwynhau'u gwneud, ac mae gan staff Platfform yr amynedd i aros nes bod y person ifanc hwnnw'n barod i siarad.
Yn gyffredinol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth therapiwtig sydd ei angen arnyn nhw i fod yn oroeswyr, yn hytrach na'r genhedlaeth nesaf o gamdrinwyr neu ddioddefwyr, oherwydd fel arall ni fyddwn ni byth yn gwneud cynnydd ar y mater hynod bwysig, ond yn anffodus, yn endemig, hwn.
Rydyn ni'n cynnal y ddadl hon mewn cyd-destun sy'n brawychu llawer ohonom ni sydd yn ymgyrchu ers degawdau dros hawliau merched—dros hawl pob merch i fyw ei bywyd yn rhydd o ofn a thrais a chamdriniaeth o bob math. Er gwaethaf y strategaeth, er gwaethaf yr ymdrechion diddiwedd a diffuant dros y 10 mlynedd diwethaf, dydy Cymru ddim yn lle diogel i ferched. Dydy hynny ddim yn or-ddweud, a dwi am ei ddweud o eto: dydy Cymru ddim yn le diogel i ferched.
Mae camdriniaeth ac aflonyddu i'w canfod ym mhob rhan o'n bywydau ni: ar y stryd, wrth gymdeithasu, yn ein cartrefi ac yn ein llefydd gwaith. Mae casineb yn erbyn merched ar gynnydd efo ailethol Trump, twf yr asgell dde eithafol, a dylanwadwyr fel Andrew Tate yn gwthio cynnwys mysoginistaidd a threisgar ar-lein. Ac mae'r ystadegau yn dangos yn glir bod trais a chamdriniaeth ar sail rhywedd ar gynnydd, efo'r ystadegau o'r gogledd yn fater o bryder anferth—yr ystadegau rydyn ni wedi'u clywed y prynhawn yma. Mae hyn oll yn arwydd clir o bŵer systemig dynion dros ferched ym mhob agwedd o fywyd.
Mae'r gwelliannau yr oedd Sioned Williams yn eu trafod yn hollbwysig. Mae cynaliadwyedd y gwasanaethau arbenigol dan fygythiad, ac mae'n rhaid inni weithredu er mwyn cefnogi'r rheini'n llawn a chreu model ariannol gwydn a chadarn.
Dwi eisiau troi at ddwy agwedd benodol. Rydyn ni'n gwybod bod yna argyfwng tai yng Nghymru, gyda digartrefedd ar ei uchaf, rhestrau aros hir am dai cymdeithasol, rhenti uchel yn y sector preifat a chyflwr tai gwael. Mae merched a phlant sy'n ffoi camdriniaeth yn y cartref yn cael eu dal yng nghanol yr argyfwng yma, yn gaeth i lety dros dro amhriodol, ac mae'r niferoedd ar gynnydd. Mae angen gweithredu cydlynus ar draws y Llywodraeth. Felly, fe wnaf i gymryd y cyfle y prynhawn yma i ofyn, Ysgrifennydd Cabinet, a fedrwch chi amlinellu sut bydd eich strategaeth bresennol, a strategaethau i'r dyfodol, yn delio yn benodol efo'r angen am gartrefi diogel ar gyfer mamau a'u plant sy'n ffoi rhag trais a chamdriniaeth.
Mae gan eich strategaeth chwe amcan, ond does yna ddim un yn benodol am ddysgu a gwrando ar lais y dioddefwyr. Er bod newid yn digwydd mewn rhai gweithleoedd o'r diwedd, mae angen i brosesau gydnabod hawl dioddefwyr i gofnodi camdriniaeth mewn ffordd sy'n diogelu eu hawl i breifatrwydd a chyfrinachedd. Oherwydd bod y pŵer yn aml yn gorwedd efo'r dynion yn hierarchaeth y gweithlu, dydy hi ddim bod tro yn hawdd i adrodd a chwyno am gamdriniaeth. Felly, hoffwn i glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet am unrhyw waith newydd sy'n digwydd ar hyn fel rhan o'r ffrwd gwaith newydd sydd gennych chi, sef camdriniaeth yn y gweithle. Diolch.
We are holding this debate in a context that is horrifying for many of us who have campaigned, decade after decade, for the rights of women—for the rights of all women and girls to live their lives free from the fear of violence and abuse of all kinds. Despite the strategy, despite the sincere and unstinting efforts over the past decade, Wales is not a safe place for women and girls. That is not an overstatement, and I will repeat it: Wales is not a safe place for women.
Abuse is to be found in all parts of our lives: on the street, as we socialise, in our homes and in our workplaces. Hatred against women is on the increase with the re-election of Trump, the growth of the extreme right wing, and influencers like Andrew Tate pushing misogynistic and violent content online. And the statistics clearly show that violence and abuse that is sexually based is on the increase, with statistics from north Wales particularly concerning—the statistics we've already heard quoted this afternoon. This is all a clear sign of the systemic power of men over women in all aspects of life.
The amendments discussed by Sioned Williams are crucially important. The sustainability of specialist services is under threat, and we must take action in order to support those fully and to create a resilient and robust financial model.
I want to turn to two specific aspects. We know that there is a housing crisis in Wales, with homelessness at its highest, long waiting lists for social housing, high rents in the private sector and poor housing conditions. Women and children who flee domestic abuse are caught in the middle of this crisis. They are tied in to inappropriate temporary accommodation, and the numbers are increasing. We need co-ordinated action across Government. So, I will take this opportunity this afternoon, Cabinet Secretary, to ask you to outline how your current strategy and future strategies will deal specifically with the need for safe accommodation for mothers and their children who are fleeing abuse and violence.
Your strategy has six aims, but none specifically refer to listening and learning from the voices of victims. Although change is happening in some workplaces at last, processes need to recognise the rights of victims to report abuse in the way that safeguards their right to privacy and confidentiality. Because the power often lies with men in the workplace hierarchy, it’s not always easy to report and complain about abuse. So, I would like to hear from the Cabinet Secretary about any new work that’s happening in this area as part of the new work stream that you have on abuse in the workplace. Thank you.
I have the continuing feeling that, as Siân mentioned, despite strategies, things don't improve. We find ourselves coming here all the time saying the exact same stuff, and saying the right things, but there doesn't seem to me to be a reality in the delivery of things moving forward. I agree with a lot of what's been said already around this need for a cross-societal approach, but I was very glad to hear Altaf, Mabon and Siân talk about the influence of social media. Because I worry that, every time we have these conversations, every time we seek to take action, that is undermined by what's happening on social media—it's being completely undone.
That's why expert service providers are so important here—those front-line services in our communities that counteract some of that stuff. I'll use myself as an example. As a guy in my twenties—just about in my twenties—it doesn't take me long to come across misogynistic content suggested to me on my social media platforms. The accounts I follow on social media are Lord of the Rings-related accounts, they're Warhammer-related accounts, they're rugby-related accounts, and nature photographer accounts. I think it's fairly clear that people of my demographic—young men—are being targeted constantly with these suggested posts. That is happening right across the board and it's radicalising young men.
We need a global response in holding social media businesses to account on this, because I know people who are completely apolitical, not interested in politics at all, but they’re being consistently shown videos all the time from these so-called ‘alpha male’ personalities, videos that attempt to normalise violence and being a dominant figure in society. So, we really need to get to grips with this, and if we don't get to grips with this, if we don't take it seriously, it doesn't matter what we say here, it doesn't matter what the strategy put in place by the Welsh Government is, it will continuously be undermined.
Mae gennyf i'r teimlad parhaus, fel y soniodd Siân, er gwaethaf strategaethau, nad yw pethau'n gwella. Rydyn ni'n dod yma drwy'r amser yn dweud yr un hen beth, ac yn dweud y pethau cywir, ond nid yw'n ymddangos i mi fod pethau wir yn cael eu cyflawni wrth symud ymlaen. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud ynghylch yr angen hwn am ddull traws-gymdeithasol, ond roeddwn i'n falch iawn o glywed Altaf, Mabon a Siân yn sôn am ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Oherwydd rwy'n poeni, bob tro y cawn ni'r sgyrsiau hyn, bob tro yr ydyn ni'n ceisio cymryd camau gweithredu, mae hynny'n cael ei danseilio gan yr hyn sy'n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol—mae'n cael ei ddadwneud yn llwyr.
Dyna pam mae darparwyr gwasanaethau arbenigol mor bwysig yma—y gwasanaethau rheng flaen hynny yn ein cymunedau sy'n gwrthsefyll rhai o'r pethau hynny. Gwnaf i ddefnyddio fy hun fel enghraifft. Fel dyn yn fy ugeiniau—bron iawn yn dal yn fy ugeiniau—nid yw'n cymryd yn hir i mi ddod ar draws cynnwys sy'n dangos casineb at fenywod yn cael ei awgrymu i mi ar fy mhlatfformau cyfryngau cymdeithasol. Y cyfrifon yr wyf i'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yw cyfrifon sy'n gysylltiedig â Lord of the Rings, cyfrifon sy'n gysylltiedig â Warhammer ydyn nhw, cyfrifon sy'n gysylltiedig â rygbi, a chyfrifon ffotograffwyr natur. Rwy'n credu ei bod hi'n weddol glir bod pobl o fy nemograffig i—dynion ifanc—yn cael eu targedu'n gyson gyda'r postiadau hyn a awgrymir. Mae hynny'n digwydd drwyddi draw ac mae'n radicaleiddio dynion ifanc.
Mae angen ymateb byd-eang arnom wrth ddwyn busnesau'r cyfryngau cymdeithasol i gyfrif am hyn, oherwydd rwy'n adnabod pobl sy'n gwbl anwleidyddol, dim diddordeb o gwbl ganddyn nhw mewn gwleidyddiaeth, ond, yn gyson, mae fideos yn cael eu dangos iddyn nhw, byth a beunydd, gan y personoliaethau 'gwryw alffa', fel mae nhw'n cael eu galw, hyn, fideos sy'n ceisio normaleiddio trais a bod yn ffigwr goruchafol mewn cymdeithas. Felly, mae gwir angen i ni ymdrin â hyn, ac os na fyddwn ni'n ymdrin â hyn, os na fyddwn ni'n ei gymryd o ddifrif, yna nid oes unrhyw wahaniaeth beth yr ydyn ni'n ei ddweud yma, nid oes unrhyw wahaniaeth beth yw'r strategaeth y mae Lywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith, bydd yn cael ei thanseilio'n barhaus.
At the beginning of your contribution, Cabinet Secretary, you related a number of horrible stories of recent events, and worryingly, that's 10 years after this legislation came into place. You will recall that when this legislation was being scrutinised, I led on that for my party, working closely with my opposite numbers in Plaid Cymru at the time, Jocelyn Davies, and in the Liberal Democrats, Peter—I've gone blank, sorry. [Interruption.] Yes, Peter Black, sorry. I nearly said the name of a former colleague, Peter Law, who we sadly lost.
But two of the issues that the opposition parties united were concerned about in relation to early prevention and intervention were healthy relationships education and pre-custodial perpetrator programmes, neither of which were on the face of the legislation. And we only agreed to support the Bill at Stage 4 because of the pledges made regarding both of those. Clearly, after that, relationships education was included in a form in the curriculum. I wonder if there's any monitoring and evaluation that you can share with us about what that's delivering, how it's being delivered, what the outcomes are, whether there's any beneficial impact being seen from it. And in terms of pre-custodial perpetrator programmes, we received evidence at the time in committee that most of the perpetrator programmes related to people who are already in the criminal justice system, who were effectively required to take these programmes, whether or not they were committed to learning from them. The beauty of pre-custodial was that, when they were offered it, a large number of perpetrators or potential perpetrators—mainly men, but some women—were prepared to join them, and there were good statistics to show that they were effective in reducing the number of abusive incidents that followed.
So, I'm wondering, in addition to updating us on the monitoring and evaluation of the healthy relationships education in our schools, what evidence you have to show us that the pledges relating to pre-custodial perpetrator programmes have actually produced programmes on the ground, and what impact they might be having. Diolch.
Ar ddechrau'ch cyfraniad, Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi sôn am nifer o straeon erchyll am ddigwyddiadau diweddar, ac yn bryderus, mae hynny 10 mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym. Byddwch chi'n cofio, pan oeddem yn craffu ar y ddeddfwriaeth hon, fy mod i wedi arwain ar hynny ar ran fy mhlaid i, gan weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod gyferbyn ym Mhlaid Cymru ar y pryd, Jocelyn Davies, ac yn y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter—rwyf wedi anghofio, mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Ie, Peter Black, mae'n ddrwg gen i. Bron i mi ddweud enw cyn-gydweithiwr, Peter Law, y gwnaethon ei golli, yn drist.
Ond roedd dau o'r materion yr oedd y gwrthbleidiau yn unedig yn eu cylch o ran atal ac ymyrryd yn gynnar, yn ymwneud ag addysg perthnasoedd iach a rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr, ond nid oedd yr un ohonyn nhw ar wyneb y ddeddfwriaeth. Ac fe wnaethon ni ond cytuno i gefnogi'r Bil yng Nghyfnod 4 oherwydd yr addewidion a wnaed ynglŷn â'r ddau hynny. Yn amlwg, ar ôl hynny, cafodd addysg perthnasoedd ei chynnwys ar ffurf yn y cwricwlwm. Tybed a oes unrhyw fonitro a gwerthuso y gallwch chi ei rannu â ni am yr hyn y mae hynny'n ei gyflawni, sut mae'n cael ei gyflawni, beth yw'r canlyniadau, a oes unrhyw effeithiau manteisiol yn cael eu gweld ohono. Ac o ran rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr, cawsom dystiolaeth ar y pryd yn y pwyllgor bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gyfer cyflawnwr yn ymwneud â phobl sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol, yr oedd, i bob pwrpas, yn ofynnol iddyn nhw gyflawni'r rhaglenni hyn, p'un ag oedden nhw wedi ymrwymo i ddysgu ganddyn nhw ai peidio. Mantais rhaglenni cyn carchar oedd, pan gawson nhw eu cynnig, bod nifer fawr o gyflawnwyr neu gyflawnwyr posibl—dynion yn bennaf, ond roedd rhai menywod—yn barod i ymuno â nhw, ac roedd ystadegau da i ddangos eu bod yn effeithiol wrth leihau nifer yr achosion o gam-drin wedi hynny.
Felly, rwy'n credu, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fonitro a gwerthuso'r addysg perthnasoedd iach yn ein hysgolion, pa dystiolaeth sydd gennych chi i'w dangos i ni fod yr addewidion sy'n ymwneud â rhaglenni cyn carchar ar gyfer cyflawnwyr wedi cynhyrchu rhaglenni ar lawr gwlad, a pha effaith y gallen nhw fod yn ei chael. Diolch.
Cabinet Secretary, I'm really pleased that you've highlighted the importance of a whole-system approach, because I agree that it's crucial to bring together all the services that are being delivered, and we've heard that in the room today. Too often we have seen the tragic consequences of what happens when those dots are not all joined up. And we do know that many people across the voluntary and the public sectors are delivering high-quality support under the most challenging conditions, and that those services are vital, and provide hugely important services, particularly when we're talking about children.
I want to take a minute to pay tribute to some of those. I visited and worked with refuge and domestic advice services across Wales who worked tirelessly on the front line and dealing with people in crisis: the NSPCC, Welsh Women's Aid, BAWSO and many other bodies combine practical support services with policy input and research. For years I've worked closely with the Women's Institute in Wales and White Ribbon UK to raise awareness and to recruit male ambassadors around the White Ribbon promise. And I'm really pleased to say that we have male White Ribbon ambassadors here in the Senedd, and that we have cross-party male support and championship to end violence against women.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dull system gyfan, oherwydd rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol dod â'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu ynghyd, ac rydyn ni wedi clywed hynny yn yr ystafell heddiw. Yn rhy aml rydyn ni wedi gweld canlyniadau trasig yr hyn sy'n digwydd pan nad yw popeth wedi'u cydgysylltu. Ac rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl ar draws y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn rhoi cymorth o ansawdd uchel o dan yr amodau mwyaf heriol, a bod y gwasanaethau hynny'n hanfodol, ac yn darparu gwasanaethau hynod bwysig, yn enwedig pan fyddwn ni'n siarad am blant.
Rwyf i eisiau cymryd eiliad i dalu teyrnged i rai o'r rhain. Fe wnes i ymweld â gwasanaethau lloches a chyngor domestig ar draws Cymru a oedd yn gweithio'n ddiflino ar y rheng flaen ac yn ymdrin â phobl mewn argyfwng: yr NSPCC, Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a llawer o gyrff eraill yn cyfuno gwasanaethau cymorth ymarferol â mewnbwn polisi ac ymchwil. Ers blynyddoedd rwyf i wedi gweithio'n agos gyda Sefydliad y Merched yng Nghymru a White Ribbon UK i godi ymwybyddiaeth ac i recriwtio llysgenhadon gwrywaidd ynghylch addewid y Rhuban Gwyn. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ni Lysgenhadon gwrywaidd y Rhuban Gwyn yma yn y Senedd, a bod gennym ni gefnogaeth a phencampwriaeth drawsbleidiol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod.
Would you take an intervention, Joyce? I know you've done so much work on the White Ribbon campaign, which has been so positive and effective. And it's good to hear a number of men in this Chamber taking part in this debate today, because, as we heard last year with the White Ribbon campaign, it starts with men. I just wonder, given all the work that you've done, Joyce, what you think in terms of widening and spreading that one-day focus that the White Ribbon campaign gives on that particular day to an all-year-round changing culture and behaviour in society, because I guess that's a key part of the challenge, really, isn't it—using that day to have that permanent and year-round change in attitudes and behaviour.
A wnewch chi gymryd ymyriad, Joyce? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi gwneud cymaint o waith ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, sydd wedi bod mor gadarnhaol ac effeithiol. Ac mae'n dda clywed nifer o ddynion yn y Siambr hon yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, oherwydd, fel y gwnaethon ni ei glywed y llynedd gydag ymgyrch y Rhuban Gwyn, mae'n dechrau gyda dynion. Tybed, o ystyried yr holl waith yr ydych chi wedi'i wneud, Joyce, yr hyn yr ydych chi'n ei feddwl o ran ehangu a lledaenu'r ffocws undydd hwnnw y mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn ei roi ar y diwrnod penodol hwnnw i broses gydol y flwyddyn o newid diwylliant ac ymddygiad yn y gymdeithas, oherwydd rwy'n tybio bod hynny'n rhan allweddol o'r her, mewn gwirionedd, onid yw—defnyddio'r diwrnod hwnnw i gael y newid parhaol a thrwy gydol y flwyddyn hwnnw mewn agweddau ac ymddygiad.
I thank you for that and it's a really important question. First of all, it's 16 days of activism, so there are, actually, 16 days. But the work behind the White Ribbon, the work that the WI and all the other people that get involved, is all the year round. It's about engaging and signing up, which has happened in workplaces, sports—whether it's football, rugby or any other sports champions. It's also about those choirs, National Farmers Union, Farmers Union of Wales, who have all signed up. So, it is wide-reaching and it does happen all the year round to amplify the voice.
But as Luke Fletcher quite rightly said, there's another amplification of a negative voice that is to be found—and it's been mentioned here by others—on the internet, in the sources where the young people are accessing their information. And that amplification is not a positive amplification, but it's about influencers feeding negative information to people to somehow influence them into thinking that being macho means being misogynistic—that it works against probably all the principles those young men might have thought that they had acquired before they were then influenced and radicalised.
I want to pay a significant thanks to the staff and pupils of Ysgol Dyffryn Aman, and they joined me about a year and a half ago in my 'Not in my name' event that was organised in Ammanford, where the head girl and boy both spoke powerfully about the realities of growing up now and the need for respect, and how they thought that story could be changed. So, here's another example of a fifth and a sixth form—in old money because that's how I know them—working together, both boys and girls, in influencing each other in a positive way around that respect agenda and healthy relationships. But it is hard to counter those who seek to influence the young people towards a more destructive agenda.
So, those are some of the bodies who are working towards improving the situation, but I'm afraid unless we can change societal images to positive ones, we can have all the policies that we like, we can have all the frameworks that we like, but ultimately it's down to people to change the way they think towards each other.
Diolch i chi am hynny, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn. Yn gyntaf oll, mae'n 16 diwrnod o weithredu, felly mae yna, mewn gwirionedd, 16 diwrnod. Ond mae'r gwaith y tu ôl i'r Rhuban Gwyn, y gwaith y mae Sefydliad y Merched a'r holl bobl eraill sy'n cymryd rhan yn ei wneud, yn digwydd trwy gydol y flwyddyn. Mae'n ymwneud ag ymgysylltu a chofrestru, sydd wedi digwydd mewn gweithleoedd, chwaraeon—boed yn bêl-droed, rygbi neu unrhyw bencampwyr chwaraeon eraill. Mae hefyd yn ymwneud â'r corau hynny, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, sydd i gyd wedi cofrestru. Felly, mae'n bellgyrhaeddol ac mae'n digwydd trwy gydol y flwyddyn i amlygu'r llais.
Ond fel y dywedodd Luke Fletcher yn gwbl briodol, mae yna amlygu arall o lais negyddol i'w glywed—ac mae wedi cael ei grybwyll yma gan eraill—ar y we, yn y ffynonellau lle mae'r bobl ifanc yn cael eu gwybodaeth. Ac nid amlygu cadarnhaol yw'r amlygu hwnnw, ond mae'n ymwneud â dylanwadwyr yn bwydo gwybodaeth negyddol i bobl i ddylanwadu arnyn nhw rywsut i feddwl bod bod yn macho yn golygu dangos casineb tuag ar fenywod—ei fod yn gweithio yn erbyn yr holl egwyddorion y gallai'r dynion ifanc hynny fod wedi meddwl eu bod wedi'u cael cyn iddyn nhw gael eu dylanwadu a'u radicaleiddio.
Hoffwn i ddiolch o galon i staff a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, ac fe wnaethon nhw ymuno â mi tua blwyddyn a hanner yn ôl yn fy digwyddiad 'Ddim yn fy enw i' a gafodd ei drefnu yn Rhydaman, lle siaradodd prif swyddog y merched a phrif swyddog y bechgyn yn rymus am wirionedd cael eich magu nawr a'r angen am barch, a sut roedden nhw'n meddwl y gallai'r stori honno gael ei newid. Felly, dyma enghraifft arall o bumed a chweched dosbarth—mewn hen arian oherwydd dyna sut yr wyf i'n eu hadnabod nhw—yn gweithio gyda'n gilydd, yn fechgyn ac yn ferched, wrth ddylanwadu ar ei gilydd mewn ffordd gadarnhaol ynghylch yr agenda parchu honno a pherthnasoedd iach. Ond mae'n anodd gwrthsefyll y rhai sy'n ceisio dylanwadu ar y bobl ifanc tuag at agenda fwy dinistriol.
Felly, dyna rai o'r cyrff sy'n gweithio tuag at wella'r sefyllfa, ond mae arnaf i ofn oni bai ein bod ni'n gallu newid delweddau cymdeithasol i rai cadarnhaol, gallwn ni gael yr holl bolisïau yr ydyn ni'n dymuno ei cael, gallwn ni gael yr holl fframweithiau yr ydyn ni'n dymuno eu cael, ond yn y pen draw mater i bobl yw newid y ffordd y maen nhw'n meddwl am ei gilydd.
A galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i'r ddadl.
I call on the Cabinet Secretary to reply to the debate.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, and thank you so much to everyone who's contributed in this really powerful debate this afternoon on this vitally important topic. I do thank all Members for their contributions today. The commitment was so clear across this Chamber, a commitment coming through from our male allies—commitments from all those—and the women who I know for years have worked hard to campaign for Wales to be the safe place we want it to be. But I do recognise that there's so much more to be done as we head towards the tenth-year anniversary of our groundbreaking Act. That's why I wanted this debate to happen, so that, again, we can learn more from our debate today, and thank the work of the Equality and Social Justice Committee as well, because that has also raised the awareness profile of our strategy and what we are seeking to achieve.
So, can I start by thanking—diolch yn fawr—Sioned Williams? Thank you for co-tabling this debate. It was important that we got that co-tabling across the Chamber. Actually, Mark, you reminded us of all that cross-party work that we did leading up to the bringing forward of the violence against women, domestic abuse and sexual violence Act. But it is about us working together. Yes, scrutiny and challenge are crucial. The issues about the funding in the amendments from Plaid Cymru—I've already commented, in my opening remarks, about the increase to the VAWDASV budget: £250,000 for this financial year and then an increase of over £2 million to our overall funding for VAWDASV for 2025-26. I won't go over that again, but I do recognise that we need to put this on a long-term sustainable footing. That's why I do accept amendment 3, and I think your amendment, actually, does sum up what we are trying to do in terms of that long-term sustainable funding model.
Jane Dodds also commented on this as well in terms of support for those organisations particularly supporting children and young people. But the sustainability of the funding is really important in terms of the code of practice for third sector funding that we are looking at, for longer term funding to be made possible, to ensure that we can have a long-term funding model for a VAWDASV specialist sector that supports that sustainable delivery of services. So, yes, in support of amendment 3; I think that also shows the recognition of us moving and listening and learning. Can I please—[Interruption.]
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl bwerus iawn hon y prynhawn yma ar y pwnc hanfodol bwysig hwn. Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Roedd yr ymrwymiad mor glir ar draws y Siambr hon, ymrwymiad sy'n dod drwodd o'n cynghreiriaid gwrywaidd—ymrwymiadau gan bob un ohonyn nhw—a'r menywod yr wyf i'n gwybod eu bod wedi bod yn gweithio'n galed ers blynyddoedd i ymgyrchu i Gymru fod y lle diogel yr ydyn ni eisiau iddi fod. Ond rwy'n cydnabod bod cymaint mwy i'w wneud wrth i ni agosáu at ddeng mlynedd ers ein Deddf arloesol. Dyna pam yr oeddwn i eisiau i'r ddadl hon ddigwydd, fel y gallwn ni, unwaith eto, ddysgu mwy o'n dadl ni heddiw, a diolch am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol hefyd, oherwydd mae hynny hefyd wedi codi proffil ymwybyddiaeth o'n strategaeth a'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni.
Felly, a gaf i ddechrau drwy ddweud diolch—diolch yn fawr—Sioned Williams? Diolch am gyd-gyflwyno'r ddadl hon. Roedd yn bwysig ein bod ni wedi cael y cyd-gyflwyno hwnnw ar draws y Siambr. Mewn gwirionedd, Mark, fe wnaethoch chi ein hatgoffa ni o'r holl waith trawsbleidiol hwnnw y gwnaethon ni yn y cyfnod yn arwain at gyflwyno'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond mae'n ymwneud â gweithio gyda'n gilydd. Ydy, mae craffu ar bethau a'u herio'n hanfodol. Y materion am y cyllido yn y gwelliannau gan Plaid Cymru—rwyf i eisoes wedi gwneud sylwadau, yn fy sylwadau agoriadol, am y cynnydd i'r gyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: £250,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac yna cynnydd o dros £2 filiwn i'n cyllid cyffredinol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2025-26. Ni wnaf ailadrodd hynny eto, ond rwy'n cydnabod bod angen i ni roi hyn ar sail gynaliadwy hirdymor. Dyna pam rwy'n derbyn gwelliant 3, ac rwy'n credu bod eich gwelliant, mewn gwirionedd, yn crynhoi'r hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud o ran y model cyllido cynaliadwy hirdymor hwnnw.
Gwnaeth Jane Dodds sylw ar hyn hefyd o ran cefnogaeth i'r sefydliadau hynny sy'n cefnogi plant a phobl ifanc yn benodol. Ond mae cynaliadwyedd y cyllid yn bwysig iawn o ran y cod ymarfer ar gyfer cyllid y trydydd sector yr ydyn ni'n ei ystyried, er mwyn sicrhau bod cyllid mwy tymor hir yn bosibl, er mwyn sicrhau y gallwn ni gael model ariannu mwy tymor hir ar gyfer sector arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cefnogi darpariaeth gwasanaethau cynaliadwy. Felly, ie, i gefnogi gwelliant 3; rwy'n credu bod hynny hefyd yn dangos y gydnabyddiaeth ein bod ni'n symud ac yn gwrando ac yn dysgu. A gaf i—[Torri ar draws.]
Can I just ask on amendment 2, then, where we ask you to make a representation to the UK Government on the exemption of specialist services from NICs: will you make that representation?
O ran gwelliant 2, a gaf i ofyn, felly, lle'r ydyn ni'n gofyn i chi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar eithrio gwasanaethau arbenigol o gyfraniadau yswiriant gwladol: a wnewch chi gyflwyno'r sylwadau hynny?
I'm making those representations all the time, and, as I said in my opening speech, working closely with the UK Government, closely with Jess Phillips, closely with Alex Davies-Jones, but also recognising that this is something that I'm working on closely with policing in Wales in our blueprint approach and our strategy implementation board. So, you have that assurance.
Now, can I thank Altaf Hussain again? Can I thank the Welsh Conservatives also for co-tabling this motion today? I think that's a really strong sign of your commitment, and particularly the powerful words, not just from yourself, Altaf, but from Gareth Davies as well—a great White Ribbon ambassador, out on the steps of the Senedd when we had that vigil—as others from your party have done as well in the past; and Mark Isherwood as well, for your words. But just to say to Altaf Hussain—[Interruption.] Lee.
Rwy'n gwneud y sylwadau hynny drwy'r amser, ac, fel y dywedais i yn fy araith agoriadol, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, yn agos gyda Jess Phillips, yn agos gydag Alex Davies-Jones, ond hefyd yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio'n agos arno gyda phlismona yng Nghymru yn ein dull glasbrint a'n bwrdd gweithredu strategaeth. Felly, mae gennych y sicrwydd hwnnw.
Nawr, a gaf i ddiolch i Altaf Hussain eto? A gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am gyd-gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Rwy'n credu bod hynny'n arwydd cryf iawn o'ch ymrwymiad chi, ac yn enwedig y geiriau pwerus, nid yn unig gennych chi, Altaf, ond gan Gareth Davies hefyd—llysgennad Rhuban Gwyn gwych, allan ar risiau'r Senedd pan gawson ni'r wylnos honno—fel y mae eraill o'ch plaid chi wedi'i wneud hefyd yn y gorffennol; a Mark Isherwood hefyd ar gyfer eich geiriau. Ond dim ond i ddweud wrth Altaf Hussain—[Torri ar draws.] Lee.
Thank you. Clearly, there's been a lot of attention recently about the awful violence towards girls by gangs, and it was very important to hear Altaf Hussain make the point that it's wrong to single out particular ethnic groups in this; this is a problem across society. What conversations has the Minister had with groups representing victims about the need to make sure that the nature of this problem is understood, and the make-up of the predators is understood, so this doesn't get drawn into wider culture wars or political agendas?
Diolch. Yn amlwg, mae llawer o sylw wedi bod yn ddiweddar ar y trais ofnadwy tuag at ferched gan gangiau, ac roedd yn bwysig iawn clywed Altaf Hussain yn gwneud y pwynt ei bod yn anghywir i neilltuo grwpiau ethnig penodol yn hyn; mae hyn yn broblem ar draws cymdeithas. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda grwpiau sy'n cynrychioli dioddefwyr o ran yr angen i sicrhau ein bod yn deall natur y broblem hon, a'n bod yn deall nodweddion yr ysglyfaethwyr, fel nad yw hyn yn cael ei dynnu i mewn i ryfeloedd diwylliannol ehangach nac agendâu gwleidyddol?
Thank you very much, Lee Waters. In fact, in responding to these important points that Altaf made today, and to recognise as well that—. Those powerful words that you made were so strong in terms of your commitment to the strategy, and your recognition that so much more needs to be done. And there is now a real risk of abuse of what we're trying to do. This is reflected across the Chamber today, because of the fact that you spoke about the appalling way in which violence against women—. There is a link, of course, between child sex exploitation and violence against women, domestic abuse and sexual violence, and exploitation doesn't end, of course, once a child becomes an adult; that vulnerable adult may be subject to adult sex exploitation. But we recognise now—and I think this is a serious issue—that there is likely to be an overlap, and we're beginning to see that, between extreme misogyny and extreme right-wing ideology, which can also incorporate racist narratives, and I think your reference to the fact that all men who are perpetrators are monsters regardless, from all walks of life—. I think, Lee, your point is really well made, because I am speaking to those organisations and I am meeting with them across the board. I realise, Dirprwy Lywydd that we—. I want to get on to a few of the points that have been made, but we have a short time—
Diolch yn fawr iawn, Lee Waters. A dweud y gwir, wrth ymateb i'r pwyntiau pwysig hyn y gwnaeth Altaf heddiw, ac i gydnabod hefyd bod—. Roedd y geiriau pwerus hynny y gwnaethoch chi eu defnyddio mor gryf o ran eich ymrwymiad i'r strategaeth, a'ch cydnabyddiaeth bod angen gwneud cymaint mwy. Ac erbyn hyn mae risg gwirioneddol o gam-drin yr hyn yr ydyn ni'n ceisio'i wneud. Mae hyn wedi'i adlewyrchu ar draws y Siambr heddiw, oherwydd y ffaith eich bod chi'n sôn am y ffordd ofnadwy y mae trais yn erbyn menywod—. Mae cysylltiad, wrth gwrs, rhwng cam-fanteisio'n rhywiol ar blant a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac nid yw camfanteisio ar blentyn yn dod i ben, wrth gwrs, ar ôl iddo ddod yn oedolyn; gall yr oedolyn hwnnw sy'n agored i niwed fod yn agored i gamfanteisio rhywiol fel oedolyn. Ond rydyn ni'n cydnabod nawr—ac rwy'n credu bod hwn yn fater difrifol—ei bod yn debygol y bydd gorgyffwrdd, ac rydyn ni'n dechrau gweld hynny, rhwng casineb eithafol tuag at fenywod ac ideoleg asgell dde eithafol, a all ymgorffori naratifau hiliol hefyd, ac rwy'n credu bod eich cyfeiriad at y ffaith bod pob dyn sy'n gyflawnwr yn anghenfil ni waeth beth, o bob cefndir—. Rwy'n credu, Lee, bod eich pwynt chi wedi'i wneud yn dda iawn, oherwydd rwy'n siarad â'r sefydliadau hynny ac rwy'n cyfarfod â nhw drwyddi draw. Rwy'n sylweddoli, Dirprwy Lywydd ein bod ni—. Rwyf i eisiau bwrw 'mlaen at ychydig o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud, ond mae gennym ni amser byr—
[Inaudible.]
[Anghlywadwy.]
—in terms of the budget. But can I just say very quickly that I think our curriculum is making a huge difference? Julie made reference to Sound; that's having a real impact, a real culture change, a huge success rate, with 97 per cent of men and boys in the target age range across Wales having seen the Sound campaign. All four police force areas now want to use the campaign in their violence reduction work. As Joyce and others have said, it starts with men, and this is where it's important that we look at that effective campaign, because it is—. We didn't know we'd need a Sound campaign.
It's important, Mark, that we have got a work stream on perpetrators, and that work is being undertaken very effectively in terms of the group involved in that. But also, just to respond to the point that Jane Dodds has made—and Julie—about children and young people, we have a work stream on children and young people. I certainly respect the fact that the Equality and Social Justice Committee request urgent action to ensure that we fast track specific and specialised therapeutic services, and we are addressing that as well, and I look forward to visiting the walk-in hub of Platfform in Cardiff.
I think, Mabon, you make important points as well in terms of the ways in which we need to look at all the statistics, our sexual assault referral centres, access to them. You gave a very powerful report—debate—here in the Chamber most recently, where we took on board some of those issues.
Last week, Siân Gwenllian, we had a very powerful conference in north Wales sponsored by Unison and Wrexham University on tackling workplace sexual harassment, and the issues about housing, of course, are crucial. I'll always remember campaigning for the Housing (Homeless Persons) Act 1977 back in those early days of us tackling domestic violence here in Wales, and recognising the vulnerability of women in terms of their housing needs. And I know that Jayne Bryant is very clearly supportive of that.
So, I think, Dirprwy Lywydd, I will finish on these important points. I think it's a very emotional point for me to respond to this debate, because, back in 1975, the select committee in Westminster reported on their inquiry into violence against women in marriage, and they recommended one family place per 10,000 of the population to meet the needs of what were described as 'battered wives'—do you remember—in those days. And, in 1975, we opened the first women's refuge in Cardiff, by a group of volunteers. Fifty years later, we have the legislation, we have the strategy, we have the commitment of all partners in the public sector. But, clearly, we do have so much more to do to unite in this Chamber to actually deliver on my motion to support a call to action for all to accelerate action to eliminate gender-based violence and the need for a whole-system approach.
Please, don't let us have those headlines: 'Man told ex "I killed her, but don't say a word", court hears', 'Ex-footballer...kicked wife in the head in row...court hears', 'Man admits to murder of three women', 'Only 4% of alleged domestic abusers in police dismissed', 'stalker who tried to get their victim arrested'. Those are quotes from this last week here in Wales. Let's move this motion forward.
—o ran y gyllideb. Ond a gaf i ddweud yn gyflym iawn fy mod i'n credu bod ein cwricwlwm ni'n gwneud gwahaniaeth enfawr? Gwnaeth Julie gyfeirio at Iawn; mae hynny'n cael effaith wirioneddol, newid diwylliant gwirioneddol, cyfradd llwyddiant enfawr, gyda 97 y cant o ddynion a bechgyn o fewn ystod yr oedran targed ledled Cymru wedi gweld ymgyrch Iawn. Mae pob un o bedair ardal yr heddlu nawr eisiau defnyddio'r ymgyrch yn eu gwaith lleihau trais. Fel mae Joyce ac eraill wedi'i ddweud, mae'n dechrau gyda dynion, a dyma lle mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar yr ymgyrch effeithiol honno, oherwydd ei bod hi—. Nid oeddem ni'n ymwybodol y byddai angen ymgyrch Iawn arnom.
Mae'n bwysig, Mark, bod gennym ni ffrwd waith ar gyflawnwyr, a bod gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol iawn o ran y grŵp sy'n gysylltiedig â hynny. Ond hefyd, dim ond i ymateb i'r pwynt mae Jane Dodds wedi'i wneud—a Julie—am blant a phobl ifanc, mae gennym ni ffrwd waith ar blant a phobl ifanc. Rydw i wir yn parchu'r ffaith bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn am gamau brys i sicrhau ein bod ni'n cyflymu gwasanaethau therapiwtig penodol ac arbenigol, ac rydyn ni'n ymdrin â hynny hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â chanolfan galw i mewn Platfform yng Nghaerdydd.
Rwy'n credu, Mabon, eich bod chi'n gwneud pwyntiau pwysig hefyd o ran y ffyrdd y mae angen i ni edrych ar yr holl ystadegau, ein canolfannau atgyfeirio ar gyfer ymosodiadau rhywiol, mynediad atyn nhw. Fe wnaethoch chi roi adroddiad pwerus iawn—dadl—yma yn y Siambr yn fwyaf diweddar, lle gwnaethon ni ystyried rhai o'r materion hynny.
Yr wythnos diwethaf, Siân Gwenllian, cawson ni gynhadledd bwerus iawn yn y gogledd wedi'i noddi gan Unsain a Phrifysgol Wrecsam ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac mae'r materion ynglŷn â thai, wrth gwrs, yn hanfodol. Byddaf bob amser yn cofio ymgyrchu dros Ddeddf Tai (Pobl Digartref) 1977 yn ôl yn y dyddiau cynnar hynny o fynd i'r afael â thrais domestig yma yng Nghymru, gan gydnabod gymaint y mae yn agored i niwed o ran eu hanghenion tai. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant,yn amlwg iawn, yn gefnogol o hynny.
Felly, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, fe wnaf i orffen ar y pwyntiau pwysig hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwynt emosiynol iawn i mi ymateb i'r ddadl hon, oherwydd, yn ôl yn 1975, adroddodd y pwyllgor dethol yn San Steffan ar eu hymchwiliad i drais yn erbyn menywod priod, ac fe wnaethon nhw argymell un lle teuluol i bob 10,000 o'r boblogaeth i ddiwallu anghenion y rhai a gafodd eu ddisgrifio fel 'gwragedd wedi’u curo'—ydych chi'n cofio—yn y dyddiau hynny. Ac, yn 1975, fe wnaethon ni agor y lloches gyntaf i fenywod yng Nghaerdydd, gan grŵp o wirfoddolwyr. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni'r ddeddfwriaeth, mae gennym ni'r strategaeth, mae gennym ni ymrwymiad pob partner yn y sector cyhoeddus. Ond, yn amlwg, mae gennym ni gymaint mwy i'w wneud i uno yn y Siambr hon i wir gyflawni fy nghynnig i gefnogi galwad ar bawb i gyflymu gweithredu i ddileu trais ar sail rhywedd a'r angen am ddull system gyfan.
Peidiwch â gadael i ni gael y penawdau hynny: 'Llys yn clywed, dyn wedi dweud wrth gyn-gariad, "Fe wnes i ei lladd hi ond paid â dweud gair"'; 'Llys yn clywed...cyn-bêl-droediwr...wedi cicio’i wraig yn ei phen yng nghanol ffrae'; 'Dyn yn cyfaddef llofruddio tair menyw'; 'Dim ond 4% o gamdrinwyr domestig honedig yn yr heddlu a ddiswyddwyd'; 'stelciwr a geisiodd gael ei ddioddefwr wedi’i harestio'. Mae'r rhain yn ddyfyniadau o'r wythnos diwethaf yma yng Nghymru. Gadewch i ni symud y cynnig hwn ymlaen.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The proposal is to agree amendment 1. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is objection. So, I will defer voting under this item until voting time.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Bydd y bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 4, rheoliadau gwasanaethau iechyd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, naw yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
That brings us to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will move immediately to voting time. The first vote today will be on item 4, the health services regulations, and I call for a vote on the motion. Open the vote. Close the vote. In favour 37, nine abstentions, two against. Therefore, the motion is agreed.
Eitem 4. Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025: O blaid: 37, Yn erbyn: 2, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig
Item 4. The Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2025: For: 37, Against: 2, Abstain: 9
Motion has been agreed
Pleidleisiwn nesaf ar eitem 5, dadl ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
We will have our next vote on item 5, the debate on the violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy. And I call first for a vote on amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 1 is not agreed.
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 5. Debate: The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy - Amendment 1, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Galwaf nesaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
I call for a vote now on amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 2 is not agreed.
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Item 5. Debate: The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy - Amendment 2, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Nesaf, galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i dderbyn.
The next vote is on amendment 3, tabled in the name of Heledd Fychan. Open the vote. Close the vote. In favour 49, no abstentions, none against. Therefore, amendment 3 is agreed.
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Item 5. Debate: The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy - Amendment 3, tabled in the name of Heledd Fychan: For: 49, Against: 0, Abstain: 0
Amendment has been agreed
Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
I call for a vote now on the motion as amended.
Cynnig NDM8798 fel y'i diwygiwyd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
2. Yn cefnogi galwad i bawb weithredu’n gyflym i ddileu trais ar sail rhywedd a bod angen gweithredu ar sail dull system gyfan.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu model ariannu hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda phrosesau tendro ac adrodd symlach.
Motion NDM8798 as amended
To propose that the Senedd:
1. Notes the progress in delivering the Welsh Government’s violence against women, domestic abuse and sexual violence strategy 2022-2026.
2. Supports a call to action for all to accelerate action to eliminate gender-based violence and the need for a whole system approach.
3. Calls on the Welsh Government to establish a sustainable long-term funding model for specialist services of violence against women, domestic abuse and sexual violence with streamlined tendering and reporting processes.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Open the vote. Close the vote. In favour 49, no abstentions, none against. Therefore, the motion as amended is agreed.
Eitem 5. Dadl: Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cynnig (wedi'i ddiwygio): O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Item 5. Debate: The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy - Motion (as amdended): For: 49, Against: 0, Abstain: 0
Motion as amended has been agreed
Ac mae hynny'n cloi'r rownd hon o bleidleisio. Bydd egwyl fer nawr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3. Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn inni ailymgynnull. Byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.
That brings us to the end of this round of voting. We will take a short break now before we resume with Stage 3 proceedings. The bell will be rung five minutes before we reconvene. I would encourage Members to return to the Chamber promptly, please.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:08.
Plenary was suspended at 17:08.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
The Senedd reconvened at 17:19, with the Llywydd in the Chair.
Rydym ni'n barod i ddechrau ar Gyfnod 3 o Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
We are now ready to commence our Stage 3 consideration of the Health and Social Care (Wales) Bill.
Grŵp 1 fydd y grŵp cyntaf o welliannau sy'n ymwneud ag ystyr y term 'gwasanaeth cartref plant' a'r defnydd ohono. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant. Dawn Bowden.
The first group of amendments relates to the meaning and use of the term 'children's home service'. The lead amendment in the group is amendment 2, and I call on the Minister to move the amendment. Dawn Bowden.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Dawn Bowden).
Amendment 2 (Dawn Bowden) moved.

Diolch, Llywydd. In opening this debate, I'd like to thank the Health and Social Care Committee, the Legislation, Justice and Constitution Committee, and the Finance Committee for their contribution to scrutiny of the Bill. Clearly, as with any piece of legislation, it's important that we get it right both as the Bill is shaped during scrutiny and also during the crucial implementation phase. It's in this spirit that I want to acknowledge, in particular, the amendments that have been laid for our consideration today, and those at the previous stage.
I appreciate that they've all been laid in a constructive spirit, and I've engaged with them in that same spirit. For instance, I undertook to bring forward an amendment at this stage to achieve the intent of amendments laid by Altaf Hussain and Mabon ap Gwynfor at Stage 2 concerning information, advice and support for prospective recipients of direct payments for continuing healthcare. I've tabled that amendment, and I hope that Members will support it later today.
Diolch, Llywydd. Wrth agor y ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid am eu cyfraniad wrth graffu ar y Bil. Yn amlwg, fel gydag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, mae'n bwysig ein bod ni'n ei gael yn iawn gan fod y Bil yn cael ei lunio yn ystod y broses graffu a hefyd yn ystod y cyfnod gweithredu hanfodol. Yn yr ysbryd hwn rwyf am gydnabod, yn benodol, y gwelliannau a osodwyd i ni eu hystyried heddiw, a'r rhai yn y cyfnod blaenorol.
Rwy'n gwerthfawrogi eu bod nhw i gyd wedi cael eu gosod mewn ysbryd adeiladol, ac rwyf wedi ymgysylltu â nhw yn yr un ysbryd hwnnw. Er enghraifft, fe es ati i gyflwyno gwelliant yn y cyfnod hwn i gyflawni bwriad gwelliannau a osodwyd gan Altaf Hussain a Mabon ap Gwynfor yng Nghyfnod 2 ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddarpar dderbynwyr taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei gefnogi'n ddiweddarach heddiw.
There were also a number of other amendments tabled at Stage 2, many of which have been tabled again for our consideration today, which I was unable to support as drafted for various reasons. Instead, I committed to ensuring that through the implementation of the Bill, action would be taken to reflect the key points that lay behind those amendments, as I do recognise that they were well intended. I reaffirm those commitments that I've made in writing to the Health and Social Care Committee, and today ask Members not to vote for those amendments, but instead allow them to be dealt with through implementation, which I genuinely feel is the more appropriate and effective way.
Before we turn to the detail of the amendments, I would like to acknowledge the high level of support for the principles of the Bill in this Chamber. We want the Bill to work successfully, and I would ask Members to support those amendments that will make the Bill operate effectively and fully.
If I turn, then, Llywydd, to group 1, this first group of amendments seeks to ensure that Part 1, Chapter 1 of the Bill sets out as clearly as possible how the requirements imposed on providers of restricted children's services will apply in situations where a provider provides care home services at more than one place, and the care home service provided at one or more of these places is not provided wholly or mainly to children. These amendments also ensure that the transitional arrangements apply only to places where a care home service is provided wholly or mainly to children at the start of the transitional period.
The provisions in Chapter 1 of the Bill apply to 'restricted children’s services', which include fostering services, children’s home services, and secure accommodation services. Under the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, providers must register to provide any regulated service, and this registration will detail all the locations at which the service is provided.
The definition of a 'care home service' in paragraph 1 of Schedule 1 to the 2016 Act includes both children's homes and homes for adults. A service provider may be registered to provide a care home service, which is the regulated service, but the service could be comprised of both care homes for children and care homes for adults. However, only the part of the service at a place where the service is provided wholly or mainly to children is considered a restricted children’s service. In contrast, the part of the service provided wholly or mainly to adults does not fall within the scope of restricted children’s services.
Amendment 3 introduces the new term 'children’s home service' to denote the sub-category of restricted children’s services that comprise care home services at one or more places at which the service is provided wholly or mainly to children. The purpose of this amendment is to clarify which parts of a care home service will be a restricted children’s service, in circumstances where that service is provided at more than one place and is provided wholly or mainly for children at one or more of the places, and wholly or mainly to adults at another place or other places. Amendment 3 provides that insofar as a care home service meets the definition of a children’s home service, it is a restricted children’s service.
Amendment 4 then provides that definition, which is that
'a "children’s home service" is a care home service provided at one or more places at which the service is provided wholly or mainly to children.'
Amendments 1, 2 and 6 are consequential to amendment 3, and add references to 'children’s home services'. Amendment 37 applies the definition of 'children’s home services' in section 2A of the 2016 Act to the whole of Part 1 of the 2016 Act.
Amendment 38 amends the definition of 'care home service' in paragraph 1 of Schedule 1 to the 2016 Act. This has no substantive effect on the scope of the definition, but makes the application of the definition of 'children’s home service' as a subset of the definition of 'care home service' clearer.
Amendment 8 makes the identification of the places and services in respect of which paragraph 2(3) will apply more precise. It does this by ensuring that, where a provider of a care home service that comprises places at which the care home service is provided wholly or mainly to children, and places at which the care home service is provided wholly or mainly for adults, it is clear that the transitional arrangements will only apply to the places at which, at the time that the transitional period commences, the service is provided wholly or mainly to children.
Lastly in this group, amendment 25 amends section 10(6) of the Bill, which amends section 75(4) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. The amendment has the effect that the term 'children's home' in sections 75 and 75A will carry the meaning of 'children's home service' as defined in section 2A(2) of the 2016 Act, as amended by amendment 4. Llywydd, I ask Members to support all the amendments in this group.
Cyflwynwyd nifer o welliannau eraill yng Nghyfnod 2 hefyd, y mae llawer ohonyn nhw wedi'u cyflwyno eto i ni eu hystyried heddiw, nad oeddwn i'n gallu eu cefnogi fel y'u drafftiwyd am amryw resymau. Yn hytrach, fe ymrwymais i sicrhau, drwy weithredu'r Bil, y byddai camau yn cael eu cymryd i adlewyrchu'r pwyntiau allweddol y tu ôl i'r gwelliannau hynny, gan fy mod yn cydnabod bod eu bwriad yn dda. Rwy'n ailddatgan yr ymrwymiadau hynny rwyf wedi'u gwneud yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a heddiw rwy'n gofyn i'r Aelodau beidio â phleidleisio dros y gwelliannau hynny, ond yn hytrach caniatáu iddynt gael eu trin trwy'r broses weithredu, sef y ffordd fwy priodol ac effeithiol yn fy marn i.
Cyn i ni droi at fanylion y gwelliannau, hoffwn gydnabod y lefel uchel o gefnogaeth i egwyddorion y Bil yn y Siambr hon. Rydym am i'r Bil weithio'n llwyddiannus, a byddwn i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliannau hynny a fydd yn gwneud i'r Bil weithredu'n effeithiol ac yn llawn.
Os trof, felly, Llywydd, at grŵp 1, mae'r grŵp cyntaf hwn o welliannau yn ceisio sicrhau bod Rhan 1, Pennod 1 y Bil yn nodi mor glir â phosibl sut y bydd y gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle mae darparwr yn darparu gwasanaethau cartref gofal mewn mwy nag un lle, ac nid yw'r gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn un neu fwy o'r lleoedd hyn yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant. Mae'r diwygiadau hyn hefyd yn sicrhau bod y trefniadau trosiannol ond yn berthnasol i fannau lle mae gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant ar ddechrau'r cyfnod trosiannol.
Mae'r darpariaethau ym Mhennod 1 y Bil yn gymwys i 'wasanaethau plant o dan gyfyngiad', sy'n cynnwys gwasanaethau maethu, gwasanaethau cartref plant, a gwasanaethau llety diogel. O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, rhaid i ddarparwyr gofrestru i ddarparu unrhyw wasanaeth rheoleiddiedig, a bydd y cofrestriad hwn yn manylu ar yr holl leoliadau lle darperir y gwasanaeth.
Mae'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn cynnwys cartrefi plant a chartrefi i oedolion. Efallai y bydd darparwr gwasanaeth wedi'i gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, sef y gwasanaeth rheoleiddiedig, ond gallai'r gwasanaeth gynnwys cartrefi gofal i blant a chartrefi gofal i oedolion. Fodd bynnag, dim ond y rhan o'r gwasanaeth mewn man lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant sy'n cael ei ystyried yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad. I'r gwrthwyneb, nid yw'r rhan o'r gwasanaeth a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion yn dod o fewn cwmpas gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.
Mae gwelliant 3 yn cyflwyno'r term newydd 'gwasanaeth cartref plant' i ddynodi'r is-gategori o wasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n cynnwys gwasanaethau cartref gofal mewn un neu fwy o leoedd lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant. Pwrpas y gwelliant hwn yw egluro pa rannau o wasanaeth cartref gofal fydd yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, mewn amgylchiadau lle mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu mewn mwy nag un lle ac yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant mewn un neu fwy o'r lleoedd, ac yn gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion mewn man arall neu fannau eraill. Mae gwelliant 3 yn darparu, i'r graddau y mae gwasanaeth cartref gofal yn bodloni'r diffiniad o wasanaeth cartref plant, ei fod yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad.
Mae gwelliant 4 wedyn yn darparu'r diffiniad hwnnw, sef bod
'“gwasanaeth cartref plant” yn wasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn un neu ragor o fannau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo neu ynddynt.’
Mae gwelliannau 1, 2 a 6 yn ganlyniad i welliant 3, ac yn ychwanegu cyfeiriadau at 'wasanaethau cartref plant'. Mae gwelliant 37 yn cymhwyso'r diffiniad o 'wasanaethau cartref plant' yn adran 2A o Ddeddf 2016 i'r cyfan o Ran 1 o Ddeddf 2016.
Mae gwelliant 38 yn diwygio'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2016. Nid yw hyn yn cael unrhyw effaith sylweddol ar gwmpas y diffiniad, ond mae'n sicrhau bod cymhwyso'r diffiniad o 'wasanaeth cartref plant' fel is-set o'r diffiniad o 'wasanaeth cartref gofal' yn gliriach.
Mae gwelliant 8 yn sicrhau bod modd nodi'r lleoedd a'r gwasanaethau y bydd paragraff 2(3) yn gymwys iddynt yn fwy manwl. Mae'n gwneud hyn drwy sicrhau, pan fo darparwr yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy'n cynnwys lleoedd lle mae'r gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, a lleoedd lle mae'r gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i oedolion, ei bod yn amlwg mai dim ond i'r lleoedd lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, ar yr adeg y bydd y cyfnod trosiannol yn dechrau, y bydd y trefniadau trosiannol yn berthnasol.
Yn olaf yn y grŵp hwn, mae gwelliant 25 yn diwygio adran 10(6) o'r Bil, sy'n diwygio adran 75(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r gwelliant yn cael yr effaith y bydd y term 'cartref plant' yn adrannau 75 a 75A yn golygu 'gwasanaeth cartref plant' fel y'i diffinnir yn adran 2A(2) o Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan welliant 4. Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn.
I have no other speakers on this group. I'm not sure whether the Minister wants to say any closing remarks on this group.
Does gen i ddim siaradwyr eraill ar y grŵp yma. Dydw i ddim yn siŵr a yw'r Gweinidog am wneud unrhyw sylwadau ar y grŵp hwn i orffen.
Nothing further to say, no.
Dim byd arall i'w ddweud, na.
No. So, the question is—.
Na. Felly, y cwestiwn yw—.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
The question is that amendment 2 be agreed to. Does any Member object? There are no objections. Amendment 2 is therefore agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Felly, gwelliant 3.
So, amendment 3.
Is it being moved formally, Minister?
A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol, Gweinidog?
Cynigiwyd gwelliant 3 (Dawn Bowden).
Amendment 3 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, does dim gwrthwynebiad i welliant 3, felly mae gwelliant 3 yn cael ei dderbyn.
Thank you. The question is that amendment 3 be agreed to. Does any Member object? No, there's no objection to amendment 3, therefore, amendment 3 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant—.
Amendment—.
Amendment 4, is that being moved?
Gwelliant 4, a yw hwnnw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 4 (Dawn Bowden).
Amendment 4 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Yes, I'm doing a great job of my bilingualism here. [Laughter.]
Ydw, rwy'n gwneud gwaith gwych o fy nwyieithrwydd yma. [Chwerthin.]
Felly, gwelliant 4. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 4 hefyd wedi'i dderbyn.
So, amendment 4. The question is that amendment 4 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 4 is also agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Mae'r ail grŵp o welliannau nawr. Gwelliant 5 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Y Gweinidog, eto, sy'n cynnig y prif welliant ac yn siarad i'r grŵp. Dawn Bowden.
The second group of amendments now. Amendment 5 is the lead amendment in this group. The Minister, again, is to move the lead amendment and speak to the group. Dawn Bowden.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Dawn Bowden).
Amendment 5 (Dawn Bowden) moved.
Diolch, Llywydd. The amendments in this group are minor, drafting and consequential amendments, and I would ask Members to support them.
Amendment 5 to section 2(c) of the Bill ensures that the text that the Bill is inserting at this point into Schedule 1 to the 2016 Act correctly refers to 'sub-paragraph (3)' of Schedule 1, rather than 'paragraph (3)'. Amendment 7 makes a small change to the new Schedule 1A to the 2016 Act inserted by section 4 of the Bill, which we have already discussed. This amendment changes the reference at the beginning of the Schedule to make clear that the focus of the transitional period is on 'restricted children's services', to avoid any interpretation that the transitional period or other transitional effects have a wider application.
Amendment 12 changes a reference in the new Schedule 1A from 'whom' to 'which'. The purpose of this amendment is to make a minor grammatical change to reflect the fact that the permitted entities are all different types of organisations and not individuals. The same change is made to section 10 of the 2016 Act by amendment 23, which amends section 7 of the Bill, and also by amendments 10 and 17, alongside more notable changes, which we will discuss later.
Amendment 28 ensures that the overview at section 16(1) of the Bill correctly reflects that subsections 2 and 3 both amend the 2016 Act, following amendment at Stage 2. Amendment 29 is a textual amendment to insert a missing word into the English text of section 32 of the 2016 Act.
Amendment 35 provides for paragraphs 2(1) and 4(1) of Schedule 1 to the Bill, which introduce lists of amendments to the 2016 Act and the 2014 Act respectively, to come into force on the day after the Bill receives Royal Assent. This will ensure that the changes to these enactments, made in paragraphs 2(6) and 4(4) of Schedule 1 to the Bill respectively, come into force as intended.
The purpose of amendment 36 is to clarify the drafting of the Bill. The amendment inserts definitions of the terms 'for-profit provider' and 'private provider' into the general interpretation section of the 2014 Act. This amendment is made in response to an observation from Sam Rowlands during Stage 2 proceedings that there was an opportunity to make the legislation clearer in respect of these terms, and particularly their use in the new section 81B of the 2014 Act, as inserted by section 13 of the Bill. I thank Sam Rowlands for this point, and I hope that this amendment will provide practical assistance to future readers of the legislation seeking to understand these terms.
Amendment 39 is consequential upon the restatement of the provisions in Part 4 of Schedule 1A to the 2014 Act, which enable the making of direct payments by local authorities in lieu of the provision or arrangements of services to meet needs for care and support. The amendment adds a new paragraph to Schedule 1 to the Bill. It inserts new exemptions into section 6 of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006, which contains the definition of a regulated activity provider for the purposes of that Act.
The amendment excludes local authorities, when exercising the function of making direct payments, from the definition of regulated activity provider and the duties imposed in relation to that status under the Safeguarding Vulnerable Groups Act. The amendment also excepts from the definition of regulated activity provider the activity of a person who is authorised to make decisions as to whether another person is a suitable person to receive and administer a direct payment on behalf of an individual who does not have mental capacity.
This is a balancing amendment. Schedule 2 to the Bill, as introduced, already amends section 6 of the Safeguarding Vulnerable Groups Act, relating to the provisions in Part 2 of the Bill on direct payments for healthcare. Those amendments will exempt health bodies—the Welsh Ministers and local health boards—when exercising functions in relation to the making of direct payments. This new amendment will give local authorities the same status under the Safeguarding Vulnerable Groups Act as health bodies when they are making direct payments in lieu of the provision of services.
As I set out in the explanatory memorandum when I introduced the Bill, the amendment to the Safeguarding Vulnerable Groups Act in relation to health bodies, which is contained in Schedule 2, required Minister of the Crown consent. That consent was received on 11 October last year, and I informed Members of that during the general principles debate on the Bill. The further amendment to the Safeguarding Vulnerable Groups Act in relation to local authority direct payments also requires Minister of the Crown consent, and I can confirm that the Secretary of State provided consent on 17 January. I am grateful to the UK Government for their consideration of both requests for consent.
Amendment 39 also makes a further amendment to section 30(8) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act, and this is consequential upon the changes to the numbering of the direct payment provisions in Part 4 of the 2014 Act, as amended by section 20 of the Bill. Minister of the Crown consent is not required in relation to this amendment.
Lastly in this group, amendment 41 makes amendments to Schedule 1 to the Bill. These amend the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (Consequential Amendments) Regulations 2016 to remove provision that purported to make equivalent provision within section 6 of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006 to that in amendment 39. Those equivalent amendments have not taken effect because legislation upon which these amendments are dependent has not been commenced by the Secretary of State. Thank you.
Diolch, Llywydd. Mân welliannau yw'r gwelliannau yn y grŵp hwn, gwelliannau drafftio a chanlyniadol, a byddwn yn gofyn i'r Aelodau eu cefnogi.
Mae gwelliant 5 i adran 2(c) o'r Bil yn sicrhau bod y testun y mae'r Bil yn ei fewnosod ar y pwynt hwn yn Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn cyfeirio'n gywir at 'is-baragraff (3)' o Atodlen 1, yn hytrach na 'pharagraff (3)'. Mae gwelliant 7 yn gwneud newid bach i'r Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2016 a fewnosodir gan adran 4 o'r Bil, yr ydym wedi'i drafod eisoes. Mae'r gwelliant hwn yn newid y cyfeiriad ar ddechrau'r Atodlen i'w gwneud yn glir bod y cyfnod trosiannol yn canolbwyntio ar 'wasanaethau planto dan gyfyngiad', er mwyn osgoi unrhyw ddehongliad bod y cyfnod trosiannol neu effeithiau trosiannol eraill yn cael eu cymhwyso'n ehangach.
Mae gwelliant 12 yn newid cyfeiriad yn yr Atodlen 1A newydd o 'whom' i 'which'. Pwrpas y gwelliant hwn yw gwneud mân newid gramadegol i adlewyrchu'r ffaith bod yr endidau a ganiateir i gyd yn wahanol fathau o sefydliadau ac nid unigolion. Gwneir yr un newid i adran 10 o Ddeddf 2016 drwy welliant 23, sy'n diwygio adran 7 o'r Bil, a hefyd drwy welliannau 10 a 17, ochr yn ochr â newidiadau mwy nodedig, y byddwn yn eu trafod yn nes ymlaen.
Mae gwelliant 28 yn sicrhau bod y trosolwg yn adran 16(1) o'r Bil yn adlewyrchu'n gywir bod is-adrannau 2 a 3 ill dwy yn diwygio Deddf 2016, yn dilyn gwelliant yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant 29 yn welliant testunol i fewnosod gair coll yn y testun Saesneg yn adran 32 o Ddeddf 2016.
Mae gwelliant 35 yn darparu bod paragraffau 2(1) a 4(1) o Atodlen 1 i'r Bil, sy'n cyflwyno rhestrau o ddiwygiadau i Ddeddf 2016 a Deddf 2014 yn y drefn honno, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd hyn yn sicrhau bod y newidiadau i'r deddfiadau hyn, a wneir ym mharagraffau 2(6) a 4(4) o Atodlen 1 i'r Bil yn y drefn honno, yn dod i rym fel y bwriadwyd.
Pwrpas gwelliant 36 yw egluro drafftio'r Bil. Mae'r gwelliant yn mewnosod diffiniadau o'r termau 'darparwr er elw' a 'darparwr preifat' yn adran ddehongli gyffredinol Deddf 2014. Gwneir y gwelliant hwn mewn ymateb i sylw gan Sam Rowlands yn ystod Cyfnod 2 bod cyfle i wneud y ddeddfwriaeth yn gliriach o ran y termau hyn, ac yn enwedig eu defnydd yn adran 81B newydd o Ddeddf 2014, fel y'i mewnosodwyd gan adran 13 o'r Bil. Hoffwn ddiolch i Sam Rowlands am y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant hwn yn rhoi cymorth ymarferol i ddarllenwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy'n ceisio deall y termau hyn.
Mae gwelliant 39 yn welliant o ganlyniad i ailddatgan y darpariaethau yn Rhan 4 o Atodlen 1A i Ddeddf 2014, sy'n galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu neu drefnu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth. Mae'r gwelliant yn ychwanegu paragraff newydd at Atodlen 1 i'r Bil. Mae'n mewnosod eithriadau newydd i adran 6 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, sy'n cynnwys y diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir at ddibenion y Ddeddf honno.
Mae'r gwelliant yn eithrio awdurdodau lleol, wrth arfer y swyddogaeth o wneud taliadau uniongyrchol, o'r diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir a'r dyletswyddau a osodir mewn perthynas â'r statws hwnnw o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf. Mae'r gwelliant hefyd yn eithrio o'r diffiniad o ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir weithgaredd person sydd wedi'i awdurdodi i wneud penderfyniadau ynghylch a yw person arall yn berson addas i dderbyn a gweinyddu taliad uniongyrchol ar ran unigolyn nad oes ganddo alluedd meddyliol.
Gwelliant cydbwyso yw hwn. Mae Atodlen 2 i'r Bil, fel y'i cyflwynwyd, eisoes yn diwygio adran 6 o'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf, sy'n ymwneud â'r darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil ar daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Bydd y gwelliannau hynny yn eithrio cyrff iechyd—Gweinidogion Cymru a byrddau iechyd lleol—wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol. Bydd y gwelliant newydd hwn yn rhoi'r un statws i awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf â chyrff iechyd pan fyddan nhw'n gwneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau.
Fel y nodais yn y memorandwm esboniadol pan gyflwynais y Bil, roedd y diwygiad i'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf mewn perthynas â chyrff iechyd, sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 2, yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron. Derbyniwyd y cydsyniad hwnnw ar 11 Hydref y llynedd, a rhoddais wybod i'r Aelodau am hynny yn ystod y ddadl egwyddorion cyffredinol ar y Bil. Mae'r diwygiad pellach i'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol awdurdodau lleol yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron hefyd, a gallaf gadarnhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi cydsyniad ar 17 Ionawr. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth y DU am ystyried y ddau gais am gydsyniad.
Mae gwelliant 39 hefyd yn gwneud diwygiad pellach i adran 30(8) o'r Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf, ac mae hyn o ganlyniad i'r newidiadau wrth rifo'r darpariaethau taliadau uniongyrchol yn Rhan 4 o Ddeddf 2014, fel y'i diwygiwyd gan adran 20 o'r Bil. Nid oes angen cydsyniad Gweinidog y Goron mewn perthynas â'r gwelliant hwn.
Yn olaf yn y grŵp hwn, mae gwelliant 41 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 1 i'r Bil. Mae'r rhain yn diwygio Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 i ddileu darpariaeth a oedd yn honni ei bod yn gwneud darpariaeth gyfatebol yn adran 6 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 i'r un yng ngwelliant 39. Nid yw'r diwygiadau cyfatebol hynny wedi dod i rym oherwydd nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dechrau deddfwriaeth y mae'r diwygiadau hyn yn dibynnu arni. Diolch.
I have no speakers again on this group of amendments. I don't think it'll continue like this, so don't get too excited. [Laughter.]
Does gen i ddim siaradwyr eto ar y grŵp hwn o welliannau. Dydw i ddim yn credu y bydd yn parhau fel hyn, felly peidiwch â mynd yn rhy gyffrous. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes; felly, mae gwelliant 5 wedi ei dderbyn.
The question is that amendment 5 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 5 is, therefore, agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 6—
Amendment 6—
—moved formally?
—wedi'i gynnig yn ffurfiol?
Cynigiwyd gwelliant 6 (Dawn Bowden).
Amendment 6 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi'i gynnig.
Mae gwelliant 6 wedi'i symud. Felly, a oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 6? Nac oes; felly, mae gwelliant 6 wedi ei dderbyn hefyd.
It is moved. Is there any objection to amendment 6? There is not; therefore, amendment 6 is also agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 3 fydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp ar eiriolaeth a chymorth, a gwelliant 77 yw'r prif welliant yn y grŵp. Rwy'n galw ar Mabon ap Gwynfor i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp.
Group 3 is next. This group of amendments relates to the provision of advocacy and assistance, and amendment 77 is the lead amendment in this group. I call on Mabon ap Gwynfor to move and speak to the lead amendment.
Cynigiwyd gwelliant 77 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 77 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol. Dwi am ddechrau drwy nodi pa mor falch ydym ni fel plaid o weld y Bil yma yn cyrraedd y pwynt hwn. Mae’n cyflawni un o ymrwymiadau allweddol ein cytundeb cydweithio â'r Llywodraeth, sef dileu'r elw a wneir yn y sector gofal plant a symud tuag at model dielw ar draws Cymru.
Mae'r angen am ddiwygio yn y maes hwn wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd, ac fe’i hamlygwyd yn glir yn adroddiad y CMA yn ôl yn 2022. Rydyn ni, ar y meinciau yma, wedi pwysleisio'n gyson oblygiadau niweidiol y ffaith bod cymaint o ddarpariaeth ac ansawdd y gwasanaethau hanfodol hyn mor ddibynnol ar rymoedd y farchnad.
Mae’n rhaid bod pob Aelod yma yn derbyn mai profiad y plant ddylai fod flaenaf yn ein hystyriaethau drwy gydol y broses ddeddfwriaethol gymhleth a phellgyrhaeddol hon. Dyma oedd pam y gwnaethom ni wthio am Fil o’r fath—oherwydd y dystiolaeth glir a fynegwyd gan blant oedd â phrofiad byw am yr angen am newid.
Pwrpas ein gwelliannau yn y grŵp yma felly ydy mynd i’r afael â’r ffaith bod rhy ychydig o blant sy’n byw mewn gofal preswyl yng Nghymru yn parhau i fod yn ymwybodol o’u hawliau i wasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae plant sydd yn y sefyllfa yma yn aml yn fregus a gydag anghenion dyrys, sydd yn arbennig o amlwg os ydyn nhw wedi’u lleoli bellteroedd o'u hawdurdod cartref. Mae eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol yn allweddol i fynd i’r afael â hyn. Un o brif fanteision eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol ydy bod gan eiriolwyr ddealltwriaeth gyffredinol o'r cartref cyfan a'r gofal y mae plant yn ei dderbyn. Gall hyn helpu i nodi sefyllfaoedd lle gallai fod yna gam-drin neu niwed systematig.
Fel y saif pethau, nid yw mynediad at eiriolaeth ymweliadau preswyl annibynnol yn gyfartal ledled Cymru, yn enwedig ymysg y darparwyr annibynnol presennol. Yn ôl adroddiad 2019, ‘O’r Golwg—Allan o Hawliau? Darparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol mewn Cartrefi Plant yng Nghymru’, dim ond rhwng 5 a 10 y cant o gartrefi annibynnol oedd gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau eiriolaeth preswyl, gyda diffyg crebwyll amlwg yn y sector o ran hawliau statudol plant i gael eiriolwr.
Yn dilyn yr adroddiad hwn, yn 2023, fe argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lywodraeth Cymru y dylid diwygio’r rheoliadau ac arolygu Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i sicrhau bod darpariaeth eiriolaeth ymwelwyr preswyl yn ofyniad penodol er mwyn cofrestru fel darparwr cartref gofal plant yng Nghymru. Yn anffodus, fe wrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yma, er gwaethaf y pwyllgor yn ailadrodd yr achos yma mewn llythyr i gadeirydd dros dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngorffennaf 2024.
Mae sicrhau bod gan blant mewn gofal ffordd i rannu eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'r Bil yn effeithio arnynt yn negyddol, ac os y bydd o, yna bydd eiriolaeth ymweliadau preswyl yn creu llwybr er mwyn i’w pryderon gael gwrandawiad ar bob cam o’r cyfnod pontio. Bydd eiriolaeth ymweliadau preswyl yn arbennig o fanteisiol yn hyn o beth oherwydd dealltwriaeth eiriolwyr o ddeinameg y cartref cyfan, y staff a’r plant sy’n byw yno. Rydym ni felly wedi cyflwyno’r gwelliannau yma er mwyn cydnabod y pwysigrwydd o barchu llais y plant trwy gydol y broses o drawsnewid darpariaeth gofal yn y sector.
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog a’r Llywodraeth wrthod ein gwelliannau ar y sail bod gan lywodraeth leol gyfrifoldeb statudol eisoes i ddarparu gwasanaethau o’r fath. Tra fy mod i'n cydnabod yr angen i beidio â dyblygu cyfrifoldebau statudol yn ddiangen, y gwirionedd yw nad yw’r gyfraith fel y mae’n ymddangos ar hyn o bryd yn sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau eirioli yn ymarferol, fel mae’r ystadegau soniais amdanynt ynghynt yn tystio.
Dwi’n poeni hefyd na wnaeth ymateb y Gweinidog yn ystod Cyfnod 2 adlewyrchu ar y pwynt penodol a godwyd gan y pwyllgor plant o’r angen am newidiadau i’r Ddeddf gofal cymdeithasol 2016, sydd â chefnogaeth eang gan fudiadau ac elusennau perthnasol yn y sector. Rydyn ni wedi penderfynu felly ailgyflwyno’r gwelliant yma ar gyfer Cyfnod 3, gyda’r gobaith y bydd y Llywodraeth yn barod i ymgysylltu yn fwy adeiladol ar y mater yma. Rydyn ni hefyd wedi ceisio adlewyrchu pryderon y Gweinidog ynglŷn â dyblygu cyfrifoldebau statudol, gan ychwanegu cymal i greu’r eglurder bod y gwelliant yn ymwneud ag eiriolaeth ymweliadau preswyl ar gyfer y cartref cyfan, ac na ddylai hyn gael ei drysu â’r cynnig cyfreithiol sydd eisoes ar y llyfr statud. Diolch.
Thank you very much, Llywydd, and I move the amendment formally. I want to start by stating how pleased we are as a party to see this Bill reach this point. It fulfils one of the key commitments of our co-operation agreement with the Government, which is to eliminate the profits made in the children's care sector and move towards a non-profit model across Wales.
The need for reform in this area has been apparent for years, and it was clearly highlighted in the Competition and Markets Authority's report in 2022. We, on these benches, have consistently emphasised the harmful consequences of the fact that so much of the provision and quality of these essential services is so dependent on market forces.
Every Member here must accept that children's experiences should be foremost in our considerations throughout this complex and far-reaching legislative process. That’s why we pushed for such a Bill—due to the clear evidence provided by children with lived experience of the need for change.
The purpose of our amendments in this group, therefore, is to address the fact that too few children living in residential care in Wales continue to be aware of their rights to independent advocacy services. Children who are in this situation are often vulnerable and have complex needs, which is particularly evident if they are located far away from their home authority. Independent residential visiting advocacy is vital to address this. One of the main advantages of independent residential visiting advocacy is that an advocate has a general understanding of the home as a whole and the care that the children receive. This can help to identify situations in which there may be systematic abuse or harm.
As things stand, access to independent residential visiting advocacy is not equal across Wales, particularly among existing independent providers. According to the 2019 report, ‘Out of Sight—Out of Rights? The Provision of Independent Professional Advocacy in Children's Homes in Wales', only between 5 and 10 percent of independent homes had arrangements for residential advocacy visits, with a clear lack of understanding in the sector in terms of children's statutory rights to have an advocate.
Following this report, in 2023, the Children, Young People and Education Committee recommended to the Welsh Government that the regulations should be amended and that the Social Care (Wales) Act 2016 should be reviewed to ensure that residential visitor advocacy provision is a specific requirement in order to register as a provider of children’s care homes in Wales. Regrettably, the Welsh Government rejected this recommendation, despite the committee repeating this case in a letter to the temporary chair of the Health and Social Care Committee in July 2024.
Ensuring that children in care have a way to share their views, wishes and feelings is essential in order to ensure that the Bill does not affect them negatively, and, if it does, then the residential visiting advocacy provision will create a path to ensure that their concerns are heard at every stage of the transition period. Residential visiting advocacy provision will be particularly advantageous in this regard, due to advocates' understanding of the dynamics of the home as a whole, the staff and the children who live there. We have therefore introduced these amendments in order to recognise the importance of respecting the voice of the children throughout the process of transforming care provision in the sector.
During Stage 2, the Minister and the Government rejected our amendments on the basis that local government already has a statutory responsibility to provide services of this kind. While I recognise the need to avoid duplicating statutory responsibilities unnecessarily, the truth is that the law as it currently stands does not appear to ensure adequate provision of advocacy services in practice, as the statistics I mentioned previously demonstrate.
I’m also concerned that the Minister's response during Stage 2 did not reflect the specific point raised by the children's committee regarding the need for changes to the social care Act 2016, which has broad-ranging support among relevant organisations and charities in the sector. We have therefore decided to retable this amendment for Stage 3, in the hope that the Government will be prepared to engage more constructively on this matter. We have also tried to reflect the Minister's concerns regarding duplicating statutory responsibilities by adding a clause to ensure clarity that the amendment relates to residential visiting advocacy for the whole home, and that this should not be confused with the legal offer that is already on the statute books.
In making my first contribution to this Bill since taking the reins of this legislation from my colleague Altaf Hussain, I'd just like to put on record my thanks to him and to the health and social committee for all their help in helping myself, my staff and colleagues from across the Chamber in our preparations for this Bill's scrutiny.
I'll also take this opportunity to reiterate the position of my Welsh Conservative colleagues and I on this legislation, which is that we fundamentally believe that it goes too far. In the lead-up to this Bill, the Minister led us to believe that its policy intention was to tackle excessive profits, and that the profit itself was not the enemy here. However, it seems that we were led up the garden path by the Minister, as the Minister is seemingly determined to push forward with a Bill that prevents profit-making entities from operating in this sector altogether, even if they are, essentially, not profit driven.
Instead of merely targeting the large companies that are in it simply to drive up shareholder value, without real regard for the children in their care, the Minister is taking aim at a huge amount of small businesses who operate in the sector, many of which are run by former social workers, that provide an invaluable service in a sector that's already struggling for capacity.
The Minister has not even been willing to address the issue of co-operatives and employee-owned entities being blocked from providing care services for children and young people. This seems a very bizarre approach from a Minister who is a member of the Co-operative Party. This is an approach that will only serve to exacerbate the challenges already faced by this critical sector, making it clear to all that Wales in this sector seems closed for business, even if your business is helping some of the most vulnerable people in our society.
My amendments tabled for today serve primarily to raise the issue for discussion once more. To that end I'll begin with speaking to my amendment in this group, amendment 58, which seeks to implement the committee recommendation to include provision for an active offer of advocacy for children and young people whose care arrangements may be affected by this Bill. At Stage 2 this amendment has been drafted as a free-standing provision with the finer details of the advocacy offer to be set out in regulations, mirroring the approach taken in section 178 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.
The Minister previously stated opposition to this amendment on the grounds that it duplicates existing provisions and could cause confusion, which in my view are pretty weak arguments. My amendments may not be the most elegant to address this issue, but it's an issue that must be addressed, and the Minister's commitment to this has been wanting.
I'm also happy to confirm to Mabon ap Gwynfor that the Welsh Conservatives will be supporting all other amendments in this group. Diolch, Llywydd.
Wrth wneud fy nghyfraniad cyntaf i'r Bil hwn ers cymryd yr awenau o ran y ddeddfwriaeth hon gan fy nghyd-Aelod, Altaf Hussain, hoffwn gofnodi fy niolch iddo ef ac i'r pwyllgor iechyd a chymdeithasol am yr holl help maen nhw wedi'i roi i fi, fy staff a chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr wrth i ni baratoi i graffu ar y Bil hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ailadrodd safbwynt fy nghyd-Aelodau Ceidwadol Cymreig a minnau ar y ddeddfwriaeth hon, sef ein bod ni'n credu'n sylfaenol ei bod yn mynd yn rhy bell. Yn y cyfnod cyn y Bil hwn, cawsom ein harwain i gredu gan y Gweinidog mai ei bwriad polisi oedd mynd i'r afael ag elw gormodol, ac nad yr elw ei hun oedd y gelyn yma. Fodd bynnag, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael ein camarwain gan y Gweinidog, gan ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog yn benderfynol o fwrw ymlaen â Bil sy'n atal endidau sy'n gwneud elw rhag gweithredu yn y sector hwn yn gyfan gwbl, hyd yn oed os nad ydynt, yn y bôn, yn cael eu ysgogi gan elw.
Yn hytrach na thargedu'r cwmnïau mawr sy'n gwneud hyn er mwyn cynyddu gwerth cyfranddalwyr, heb roi ystyriaeth go iawn i'r plant yn eu gofal, mae'r Gweinidog yn targedu llawer iawn o fusnesau bach sy'n gweithredu yn y sector, y mae llawer ohonynt yn cael eu rhedeg gan gyn-weithwyr cymdeithasol, sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy mewn sector sydd eisoes yn wynebu heriau o ran capasiti.
Nid yw'r Gweinidog hyd yn oed wedi bod yn barod i fynd i'r afael â'r mater o gwmnïau cydweithredol ac endidau sy'n eiddo i weithwyr yn cael eu rhwystro rhag darparu gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn ymddangos yn ymagwedd rhyfedd iawn gan Weinidog sy'n aelod o'r Blaid Gydweithredol. Mae hon yn ymagwedd a fydd ond yn gwaethygu'r heriau a wynebir eisoes gan y sector hanfodol hwn, gan ei gwneud yn glir i bawb ei bod yn ymddangos bod Cymru yn y sector hwn ar gau ar gyfer busnes, hyd yn oed os yw'ch busnes yn helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Prif ddiben fy ngwelliannau a gyflwynwyd heddiw yw codi'r mater i'w drafod unwaith eto. I'r perwyl hwnnw, fe ddechreuaf drwy siarad am fy ngwelliant yn y grŵp hwn, gwelliant 58, sy'n ceisio gweithredu argymhelliad y pwyllgor i gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnig gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc y gallai'r Bil hwn effeithio ar eu trefniadau gofal. Yng Nghyfnod 2, mae'r gwelliant hwn wedi'i ddrafftio fel darpariaeth annibynnol gyda manylion manylach y cynnig eiriolaeth i'w nodi mewn rheoliadau, gan adlewyrchu'r dull a ddefnyddiwyd yn adran 178 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn flaenorol, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn ar y sail ei fod yn dyblygu darpariaethau sy'n bodoli eisoes ac y gallai achosi dryswch, sydd, yn fy marn i, yn ddadleuon eithaf gwan. Efallai nad fy ngwelliannau i yw'r rhai mwyaf cain i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond mae'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, ac mae ymrwymiad y Gweinidog i hyn wedi bod yn eisiau.
Rwyf hefyd yn hapus i gadarnhau i Mabon ap Gwynfor y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob gwelliant arall yn y grŵp hwn. Diolch, Llywydd.
Y Gweinidog, Dawn Bowden.
The Minister, Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Can I start by thanking Mabon ap Gwynfor for his support, and for the support of Plaid Cymru in developing this Bill as we've gone through? That's very much appreciated. James Evans, I anticipated that you would not be standing up and making such supportive comments as Mabon ap Gwynfor did at the beginning, but that's what we've come to expect.
I will deal specifically with the amendments in this group. Unfortunately, despite the fact that Mabon has been incredibly supportive here, and I understand what he is trying to achieve with his amendment 78, I can't support amendment 78, which would make the service provider's ability to be registered to provide a restricted service that is in a care home conditional upon the provider making arrangements for a new concept entitled the ‘registered independent visiting advocacy service’ to be made available for each home where they provide care home services. I will repeat pretty much what I have said at Stage 2, but hopefully with some additional information.
As explained in Stage 2 proceedings, and in my letter dated 17 December, the children living in registered care home services are looked-after children, and they have a standing offer imposed as a statutory duty on local authorities of independent professional advocacy, which is funded by the Welsh Government and available to them at any time. The proposed amendment substantially overlaps with the existing provision in section 178 of the 2014 Act. Creating a new set of overlapping duties would be confusing to those seeking to understand the law, not least because it raises doubt about the intention, the efficacy and application of the existing provisions. For the same reasons, I cannot support the linked amendments 77, 83, 87 and 88.
Similarly, I cannot support James Evans’s amendment 58 regarding new requirements on local authorities to provide and publicise advice, assistance and representation to children and young people. This is due to the duplication this would create of existing requirements on local authorities in the 2014 Act relating to the provision of assistance for representations and the need to publicise this.
As part of our planned communications, we have produced a draft document for children and young people explaining the key elements of the Bill and what it means for them. I want to reassure Members that we will continue to work with those organisations that represent children and young people to ensure that their voices can be heard and their ongoing communications needs considered. The Welsh Government has provided funding of £550,000 each year to local authorities to commission the statutory and active offer of advocacy for children and young people who are looked after.
The effectiveness and the take-up of advocacy is overseen by the Welsh Government via the national approach to statutory advocacy group, comprising local authorities and advocacy providers. Practice standards and good practice guidance for these independent visitors are also already in place, and were produced by the National Youth Advocacy Service Cymru, NYAS Cymru, in partnership with an active group of stakeholder representatives.FootnoteLink
Within the existing statutory framework, the code of practice—part 10, advocacy—sets out the legal duties and responsibilities of local authorities in relation to the accessibility and provision of advocacy services generally. Complementary to this, the part 6 code of practice—looked-after children—sets out the legal duties and responsibilities of local authorities in relation to advocacy for children who are looked after.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei gefnogaeth, ac am gefnogaeth Plaid Cymru i ddatblygu'r Bil hwn fel yr ydym wedi mynd drwyddo? Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. James Evans, roeddwn i'n rhagweld na fyddech chi'n sefyll i fyny ac yn gwneud sylwadau mor gefnogol ag y gwnaeth Mabon ap Gwynfor ar y dechrau, ond dyna'r hyn rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl.
Byddaf yn ymdrin yn benodol â'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Yn anffodus, er gwaethaf y ffaith bod Mabon wedi bod yn hynod gefnogol yma, ac rwy'n deall yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni gyda'i welliant 78, ni allaf gefnogi gwelliant 78, a fyddai'n golygu bod gallu'r darparwr gwasanaeth i gael ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth o dan gyfyngiad mewn cartref gofal yn amodol ar y darparwr yn gwneud trefniadau ar gyfer cysyniad newydd o'r enw 'gwasanaeth eiriolaeth ymwelwyr annibynnol cofrestredig' i fod ar gael ar gyfer pob cartref lle mae'n darparu gwasanaethau cartref gofal. Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yng Nghyfnod 2, fwy neu lai, ond gyda rhywfaint o wybodaeth ychwanegol gobeithio.
Fel yr eglurwyd yng Nghyfnod 2, ac yn fy llythyr dyddiedig 17 Rhagfyr, mae'r plant sy'n byw mewn gwasanaethau cartref gofal cofrestredig yn blant sy'n derbyn gofal, ac mae ganddynt gynnig sefydlog a osodir fel dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol o eiriolaeth broffesiynol annibynnol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sydd ar gael iddynt unrhyw bryd. Mae'r gwelliant arfaethedig yn gorgyffwrdd yn sylweddol â'r ddarpariaeth bresennol yn adran 178 o Ddeddf 2014. Byddai creu set newydd o ddyletswyddau sy'n gorgyffwrdd yn ddryslyd i'r rhai sy'n ceisio deall y gyfraith, yn anad dim oherwydd ei fod yn codi amheuaeth ynghylch bwriad, effeithiolrwydd a chymhwyso'r darpariaethau presennol. Am yr un rhesymau, ni allaf gefnogi'r gwelliannau cysylltiedig 77, 83, 87 ac 88.
Yn yr un modd, ni allaf gefnogi gwelliant 58 James Evans ynghylch gofynion newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu a rhoi cyhoeddusrwydd i gyngor, cymorth a chynrychiolaeth i blant a phobl ifanc. Mae hyn oherwydd y byddai'n dyblygu gofynion presennol ar awdurdodau lleol yn Neddf 2014 sy'n ymwneud â darparu cymorth i wneud sylwadau a'r angen i roi cyhoeddusrwydd i hyn.
Fel rhan o'n gweithgarwch cyfathrebu arfaethedig, rydym wedi llunio dogfen ddrafft ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n esbonio elfennau allweddol y Bil a'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw. Rwyf am roi sicrwydd i'r Aelodau y byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sefydliadau hynny sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau yn gallu cael eu clywed a bod eu hanghenion cyfathrebu parhaus yn cael eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £550,000 bob blwyddyn i awdurdodau lleol i gomisiynu'r cynnig statudol a gweithredol o eiriolaeth i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Mae effeithiolrwydd eiriolaeth a'r nifer sy'n manteisio arni yn cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru drwy'r grŵp dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, sy'n cynnwys awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth. Mae safonau ymarfer a chanllawiau arfer da ar gyfer yr ymwelwyr annibynnol hyn eisoes ar waith hefyd, ac fe'u cynhyrchwyd gan Wasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, NYAS Cymru, mewn partneriaeth â grŵp gweithredol o gynrychiolwyr rhanddeiliaid.FootnoteLink
O fewn y fframwaith statudol presennol, mae'r cod ymarfer—rhan 10, eiriolaeth—yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth yn gyffredinol. I gyd-fynd â hyn, mae rhan 6 y cod ymarfer—plant sy'n derbyn gofal—yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau lleol o ran eiriolaeth i blant sy'n derbyn gofal.
Mabon ap Gwynfor i ymateb.
Mabon ap Gwynfor to reply.
Dim byd pellach i'w ddweud.
Nothing to add.
Dim byd i'w ddweud. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 77? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gymrwn ni bleidlais ar welliant 77. Felly, agor y bleidlais ar welliant 77. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 77 wedi ei wrthod.
Nothing to add. The question is that amendment 77 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 77. Open the vote on amendment 77. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 77 is not agreed.
Gwelliant 77: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 77: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4 sy'n ymwneud ag 'endid er elw rhesymol'. Gwelliant 42 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar James Evans i gynnig y prif welliant. James Evans.
We move now to group 4 and the amendments relate to 'reasonable profit entity'. Amendment 42 is the lead amendment. I call on James Evans to move and speak to the lead amendment. James Evans.
Cynigiwyd gwelliant 42 (James Evans).
Amendment 42 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I'm pleased to speak to amendments 42 to 45 tabled in my name, which seek to challenge the primary issue with this Bill. As stated in my opening remarks, we the Welsh Conservatives are truly disappointed with the direction this Bill has taken, and it's a shame that the Minister said it's what they've come to expect from the Welsh Conservatives. What we do is inject a bit of common sense into the legislation here in this Chamber. We were more than ready to work with the Welsh Government on legislation that sought to address those who can reasonably be seen to be exploiting the sector for profit as the only goal. But we cannot in good conscience back such measures when the Bill is drafted in a way that would tar so many small business here in Wales with the same brush.
Let us be clear: this Bill will not increase capacity in the sector. In fact, it will almost certainly drive out some of the current capacity as well as stifle future expansion. The Welsh Government can dress it up however it likes, but those are the fundamentals, and when the situation is as strained as it currently is, such a thing is unacceptable. And I heard that evidence directly myself when I was on the Children, Young People and Education Committee looking at looked-after children across Wales.
These amendments, therefore, seek to add a definition of 'reasonable profit', which would better align with the original stated policy intention of tackling the profiteering of the care of children and young people in Wales. The view taken by my predecessor, Altaf, who led on this Bill to start with, and one that I take, is that allowing for reasonable profit, insofar as it is not used to pay shareholders beyond wages, is a fair compromise. The Minister claimed at Stage 2 that such an approach would cause uncertainty going forward without set-in-stone definitions. However, I fail to see how this absolutist approach is superior. It's better to have some of the flexibility, leaving the door open for more of an acceptable version of a Bill, than go for all forms of profit just for the sake of convenience.
I urge all Members to consider the damaging implications that this Bill, as currently drafted, could have, and the Minister's approach, and I ask all Members to support my amendments in this group. Diolch, Llywydd.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o siarad am welliannau 42 i 45 a gyflwynwyd yn fy enw i, sy'n ceisio herio'r prif fater gyda'r Bil hwn. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn wirioneddol siomedig gyda'r cyfeiriad y mae'r Bil hwn wedi'i gymryd, ac mae'n drueni bod y Gweinidog wedi dweud mai dyna maen nhw wedi dod i'w ddisgwyl gan y Ceidwadwyr Cymreig. Yr hyn rydym yn ei wneud yw chwistrellu ychydig o synnwyr cyffredin i'r ddeddfwriaeth yma yn y Siambr hon. Roeddem yn fwy na pharod i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhai y gellir ystyried yn rhesymol eu bod yn camfanteisio ar y sector er elw yn unig. Ond ni allwn â chydwybod dda gefnogi mesurau o'r fath pan yw'r Bil wedi'i ddrafftio mewn ffordd a fyddai'n paentio cynifer o fusnesau bach yma yng Nghymru â'r un brwsh.
Gadewch inni fod yn glir: ni fydd y Bil hwn yn cynyddu capasiti yn y sector. Mewn gwirionedd, bydd bron yn sicr yn ysgogi rhywfaint o'r capasiti presennol i adael yn ogystal â mygu ehangu yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru ei wisgo i fyny sut bynnag y dymuna, ond dyna'r hanfodion, a phan fo yna gymaint o bwysau, fel sydd ar hyn o bryd, mae'r fath beth yn annerbyniol. Ac fe glywais i'r dystiolaeth honno'n uniongyrchol fy hun pan oeddwn i ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar blant sy'n derbyn gofal ledled Cymru.
Felly, mae'r gwelliannau hyn yn ceisio ychwanegu diffiniad o 'elw rhesymol', a fyddai'n cyd-fynd yn well â'r bwriad polisi gwreiddiol a nodwyd o fynd i'r afael â gorelwa ar ofal plant a phobl ifanc yng Nghymru. Barn fy rhagflaenydd, Altaf, a arweiniodd ar y Bil hwn i ddechrau, a fy marn i hefyd, yw bod caniatáu ar gyfer elw rhesymol, i'r graddau nad yw'n cael ei ddefnyddio i dalu cyfranddalwyr y tu hwnt i gyflogau, yn gyfaddawd teg. Honnodd y Gweinidog yng Nghyfnod 2 y byddai dull gweithredu o'r fath yn achosi ansicrwydd wrth symud ymlaen heb ddiffiniadau pendant. Fodd bynnag, nid wyf yn gweld sut mae'r dull absoliwt hwn yn well. Mae'n well cael rhywfaint o'r hyblygrwydd, gan adael y drws ar agor ar gyfer fersiwn fwy derbyniol o Fil, na mynd am bob math o elw, er hwylustod yn unig.
Rwy'n annog yr holl Aelodau i ystyried y goblygiadau niweidiol y gallai'r Bil hwn, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, eu cael, a dull y Gweinidog, a gofynnaf i'r holl Aelodau gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch, Llywydd.
Dwi'n llawn cydnabod bwriad da y gwelliannau yma i sicrhau nad yw capasiti'r sector yn cael ei gyfyngu'n ormodol gan delerau'r Bil. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni yn parhau i bwysleisio na ddylai pasio deddfwriaeth o'r fath gael ei ddehongli fel beirniadaeth gyffredinol o ddarparwyr annibynnol presennol, gan fod llawer ohonynt ar draws Cymru yn gweithredu i safonau uchel eisoes. Ac felly, fe ddylai pob ymdrech gael ei wneud i'w hannog a'u cefnogi i newid i'r model gweithredu newydd dros y cyfnod pontio sydd i ddod.
Fodd bynnag, yn ein barn ni, mi fyddai'r gwelliannau yma yn tanseilio bwriad sylfaenol y ddeddfwriaeth i ddileu elw o'r sector, sef un o'r blaenoriaethau pennaf yn ystod ein cytundeb cydweithio gyda'r Llywodraeth. Mae o hefyd yn werth pwysleisio nad oes diffiniad clir o beth a olygir gan 'endid elwa rhesymol', a bydd y diffyg eglurder yma yn debygol iawn o greu cymhlethdodau ymhellach ymlaen, gan lyncu adnoddau cyhoeddus yn ddiangen.
Yn ein barn ni, felly, mae'r mesurau sydd eisoes yn y Bil i symud tuag at fodel di-elw heb eithriadau yn eglur ac yn gyson, gan gynnig datrysiad blaengar i’r achos a amlygir gan adroddiad y CMA dros ddiwygio yn y sector. Am y rhesymau yma, felly, dwi’n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn.
I fully acknowledge the good intentions behind these amendments to ensure that capacity in the sector is not restricted excessively by the terms of the Bill. It's also important that we continue to emphasise that the passing of such legislation should not be interpreted as a general criticism of existing independent providers, as many of those across Wales already operate to high standards. Therefore, all efforts should be made to encourage and support them to change to the new operating model over the coming transition period.
However, in our view, these amendments would undermine the basic intention of the legislation to eliminate profit from the sector, which was one of the main priorities during our co-operation agreement with the Government. It's also worth emphasising that there is no clear definition as to what is meant by a 'reasonable profit entity', and this lack of clarity will very likely create complications further down the line, swallowing up public resources unnecessarily.
In our view, therefore, the measures that are already in the Bill to move towards a non-profit model without exceptions are clear and consistent, offering a progressive solution to the case highlighted by the CMA report for reform in the sector. For these reasons, therefore, I encourage Members to reject the amendments in this group.
I'd like to, in my first contribution to this Bill, thank everybody who's contributed to this. I'd like to thank the Minister as well for her commitment to this particular issue.
The case for eliminating profit in care homes is clear, and I'm grateful for the chance just to say that the voice that's missing here from this Siambr this evening is that of children and young people. And time and time and time and time again they have said they do not want to give profit to companies or businesses or people, whether it's a little amount or a large amount. We've heard that and we've heard that in the committees as well that have heard evidence on this. Care-experienced and other children have said they want to be treated as people, not profit, and yet we find here an amendment attempting to introduce profit by the back door. So, I am shocked that, despite the very clear voices from children and young people, and from the third sector and from voluntary organisations, and, as I say, most importantly, the voices of those children, this should happen.
We must stand firmly against the notion that there is a reasonable profit entity when it comes to the lives of babies, children and young people. They are human beings with inherent worth and dignity. Never again do we want to see here in Wales people profiteering off the back of the most vulnerable people in society. I don't want us to be naïve about the difficulties that this legislation poses, and the obvious challenges to local authorities as well. But the principle and the value that we hold most dear is that our children and young people are not here to make anyone, anywhere profit. Therefore, I urge you to absolutely vote this down. Diolch yn fawr iawn.
Yn fy nghyfraniad cyntaf i'r Bil hwn, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei hymrwymiad i'r mater penodol hwn.
Mae'r achos dros ddileu elw mewn cartrefi gofal yn glir, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud mai'r llais sydd ar goll yma o'r Siambr hon heno yw llais plant a phobl ifanc. A thro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw eisiau rhoi elw i gwmnïau na busnesau na phobl, p'un a yw'n swm bach neu'n swm mawr. Rydym wedi clywed hynny ac rydym wedi clywed hynny yn y pwyllgorau hefyd sydd wedi clywed tystiolaeth ar hyn. Mae plant sydd â phrofiad o ofal a phlant eraill wedi dweud eu bod nhw am gael eu trin fel pobl, nid elw, ac eto dyma welliant sy'n ceisio cyflwyno drwy'r drws cefn. Felly, rwy'n synnu, er gwaethaf lleisiau clir iawn plant a phobl ifanc, a'r trydydd sector a mudiadau gwirfoddol, ac, fel y dywedais i, yn bwysicaf oll, lleisiau'r plant hynny, y dylai hyn ddigwydd.
Rhaid i ni sefyll yn gadarn yn erbyn y syniad bod endid elw rhesymol o ran bywydau babanod, plant a phobl ifanc. Maen nhw'n fodau dynol â gwerth ac urddas cynhenid. Nid ydym byth eto am weld pobl yma yng Nghymru yn gwneud elwa ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Nid wyf am i ni fod yn naïf am yr anawsterau y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu peri, a'r heriau amlwg i awdurdodau lleol hefyd. Ond yr egwyddor a'r gwerth sydd bwysicaf i ni yw nad yw ein plant a'n pobl ifanc yma i wneud elwa i unrhyw un, yn unrhyw le. Felly, rwy'n eich annog i bleidleisio yn erbyn hyn yn bendant. Diolch yn fawr iawn.
To be honest, I do have sympathy with the amendments that have been put forward, but I think where I fall down is similar to Mabon ap Gwynfor in terms of the lack of clarity about this. I'm particularly referencing here the role of co-operatives within the health and care system. I did find it disappointing to see in a written statement back in November that co-operatives as a model of service delivery here was discounted, that the Government decided not to go forward with this. Now, yes, okay, co-operatives can be profit-making ventures, but I think it can be more nuanced than that as well. So, we know, by their very nature, co-operatives are democratic, there are voting rights for the workers within those co-operatives, but there are also voting rights as well for the service users, and a good example of that, actually, is Cartrefi Cymru in my region, but also operates in other parts of Wales as well. So, I think there is actually a clear role here for co-operatives to play in empowering our communities, empowering our service users. So, I would like just a bit of clarity from the Government about what their intentions might be in the future when it comes to co-operatives, and if this is something that the Minister is willing to take forward and consider.
I fod yn onest, mae gen i gydymdeimlad â'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno, ond rwy'n credu bod fy safbwynt i yn debyg i un Mabon ap Gwynfor o ran y diffyg eglurder am hyn. Rwy'n cyfeirio'n benodol yma at rôl cwmnïau cydweithredol o fewn y system iechyd a gofal. Roedd hi'n siomedig gweld mewn datganiad ysgrifenedig nôl ym mis Tachwedd bod cwmnïau cydweithredol fel model ar gyfer darparu gwasanaethau yma wedi'u diystyru, bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â hyn. Nawr, ie, iawn, gall cwmnïau cydweithredol fod yn fentrau gwneud elw, ond rwy'n credu y gall fod yn fwy cynnil na hynny hefyd. Felly, rydym yn gwybod, yn ôl eu natur, bod cwmnïau cydweithredol yn ddemocrataidd, mae hawliau pleidleisio i'r gweithwyr yn y cwmnïau cydweithredol hynny, ond mae yna hawliau pleidleisio hefyd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, ac enghraifft dda o hynny, mewn gwirionedd, yw Cartrefi Cymru yn fy rhanbarth i, ond sy'n gweithredu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Felly, rwy'n credu bod rôl glir yma i gwmnïau cydweithredol ei chwarae wrth rymuso ein cymunedau, wrth rymuso ein defnyddwyr gwasanaethau. Felly, hoffwn gael ychydig o eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn â beth allai eu bwriadau fod yn y dyfodol o ran cwmnïau cydweithredol, ac a yw hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog yn barod i'w ddatblygu a'i ystyried.
Y Gweinidog, Dawn Bowden.
The Minister, Dawn Bowden.
Diolch, Llwydd. Well, you won't be surprised to hear that I cannot support James Evans's amendment 42, which opens up the 'types' condition to a wider definition to accommodate models that are 'any reasonable profit entity', as set out in amendment 43.
I've been very clear all along that the policy intention behind this legislation is the removal of all profit. It is not about tackling excessive profit or profiteering only. The concept of 'reasonable profit' therefore conflicts with the fundamental objective of the proposals that seek to ultimately remove the ability to extract any level of profit from children’s care, for exactly the reasons that were set out by Jane Dodds. I cannot therefore identify how 'any reasonable profit entity' could be considered compatible with the objectives of this legislation. It would also represent a departure from the concept of having very clearly defined models on the face of the Bill to give providers the absolute clarity that they have asked for on what type of undertaking is within the scope of this legislation.
Diolch, Llywydd. Wel, fyddwch chi ddim yn synnu clywed na allaf gefnogi gwelliant 42 James Evans, sy'n agor yr amod 'mathau' i ddiffiniad ehangach i ddarparu ar gyfer modelau sy'n 'unrhyw endid er elw rhesymol', fel y nodir yng ngwelliant 43.
Rwyf wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn mai'r bwriad polisi y tu ôl i'r ddeddfwriaeth hon yw cael gwared ar yr holl elw. Nid yw'n ymwneud â mynd i'r afael ag elw gormodol na gorelwa yn unig. Felly, mae'r cysyniad o 'elw rhesymol' yn gwrthdaro ag amcan sylfaenol y cynigion sy'n ceisio dileu'r gallu i dynnu unrhyw lefel o elw o ofal plant yn y pen draw, am yr union resymau a nodwyd gan Jane Dodds. Felly, ni allaf nodi sut y gallai 'unrhyw endid er elw rhesymol' fod yn gydnaws ag amcanion y ddeddfwriaeth hon. Byddai hefyd yn wyriad o'r cysyniad o gael modelau wedi'u diffinio'n glir iawn ar wyneb y Bil i roi'r eglurder llwyr y mae darparwyr wedi gofyn amdano o ran pa fath o ymgymeriad sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon.
Minister, will you take an intervention?
Gweinidog, a wnewch chi gymryd ymyriad?
Indeed.
Wrth gwrs.
Thank you. I am a little surprised to hear that the primary objective of this legislation isn't actually to see better outcomes for our children, whether that's a profit or non-profit-making entity. It seems, though, the objective is far away from, actually, outcomes for our children, surely to what is best. But I wonder, with that in mind, why you're happy to justify a surplus for organisations to make, and not a profit, and how you see the difference between a surplus and a profit.
Diolch. Rwy'n synnu braidd o glywed nad prif amcan y ddeddfwriaeth hon mewn gwirionedd yw gweld canlyniadau gwell i'n plant, p'un a yw hynny'n endid er elw neu'n endid nid-er-elw. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod yr amcan yn bell i ffwrdd, mewn gwirionedd, o ganlyniadau i'n plant, yn sicr o'r hyn sydd orau. Ond tybed, gyda hynny mewn golwg, pam rydych chi'n hapus i gyfiawnhau gwarged i sefydliadau ei wneud, ac nid elw, a sut rydych chi'n gweld y gwahaniaeth rhwng gwarged ac elw.
Well, I think that's slightly disingenuous, Sam, because it's very clear from the—[Interruption.] I think the objective of the legislation when I introduced it at Stage 1 and through Stage 2 was very, very clear. So, it is about the removal of profit, but it's the removal of profit to ensure that we deliver much better outcomes for children with the delivery of a different type of model for looked-after children.
In terms of the second point that you were making about profit as opposed to surplus, what we know is that all not-for-profit organisations have to work to a surplus because they have running costs and they have to pay their employees. That is not the same as making a profit for the personal benefit of shareholders, which is what the purpose of this is all about.
If I can turn, then, to amendments 44 and 45, these seek to define the 'reasonable profit entity' as set out in amendment 42, with amendment 44 defining a 'reasonable profit entity', and amendment 45 defining 'reasonable profit'. I can't support these amendments, because given that they relate to the definition of a 'reasonable profit' model, as I outlined earlier, this conflicts with the fundamental objective of the proposals, which seek to remove any level of profit.
Finally, the amendment further defines a 'reasonable profit entity' through applying profit solely for the purposes of reinvestment and the payment of salaries. Now, reinvestment is not defined in this or any other related amendments, leaving the scope unclear. In addition, payment of salaries would usually be counted as operating costs—the point I was just making—and they're not classed as profits, except, for example, in profit-related pay schemes or dividends. Again, this is unclear, and, in any case, I can't support the overarching amendment, which gives the fundamental conflict between the proposed entity and the Bill's intention.
If I can turn, then, to Luke Fletcher's point about co-operatives, I think it's a very valid point to raise. It was not something that I took the decision lightly on. I'm a member of the Co-operative Party myself, as are many of my colleagues, so I am aware of the concerns of the Co-operative Party and of the future generations commissioner. So, if you'll just bear with me, I think I'll spend a little bit of time explaining why, because I do think it is important. Whilst co-operatives are strongly encouraged by the Welsh Government, co-operatives as defined under the Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014 are required to be set up for the benefit of co-operative members, and that does not align with our policy, which is for the welfare of children to be the primary purpose.
Now, although a co-operative society does have a not-for-profit element, it's required to set in its own rules the way in which the society's profits are to be applied. The not-for-profit requirement of a co-operative society is limited to a restriction not to have, as a main purpose, the payment of profit to those who have invested in the enterprise. But the extraction of profit for other purposes, for example to reward those who work for it or provide services to it, is not restricted, and the primary focus is expected to be the benefit of the members of the co-operative, and that, again, does not align with our policy. So, whilst a co-operative society cannot carry on a business with the objective of making profits mainly for the payment of interest dividends or bonuses on money invested or deposited or lent to the society of any other person, the use of the word 'mainly' leaves it open for a co-operative society's objectives and rules to include payments of profits to its members. Similarly, with employee ownership trusts, we have a similar consideration.
The above issues demonstrate the complexities, I think, in respect of certain models, and that may initially appear to comply with the intent of the policy, but on further investigation have fundamental issues with being compatible. This is why, in part, we've adopted the approach of listing specific types of undertaking in section 6A(4) to give clarity to the sector on the acceptable operating models. But I know that, in many cases, excellent care is being provided by members of these organisations operating in Wales, and I hope that some of these providers will be able to continue operating by reconfiguring to one of the not-for-profit models that are set out on the face of the Bill. However, I appreciate that that will be a decision that individual providers will need to consider based on their specific circumstances. But, as a Government, we want to support providers in this by ensuring that they have the information that they need to make an informed decision.
Wel, rwy'n credu bod hynny braidd yn annidwyll, Sam, oherwydd mae'n amlwg iawn o'r—[Torri ar draws.] Roedd amcan y ddeddfwriaeth pan wnes i ei chyflwyno yng Nghyfnod 1 a thrwy Gyfnod 2 yn glir iawn, iawn, yn fy marn i. Felly, mae'n ymwneud â chael gwared ar elw, ond mae'n ymwneud â chael gwared ar elw er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyflawni canlyniadau llawer gwell i blant wrth ddarparu math gwahanol o fodel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
O ran yr ail bwynt roeddech chi'n ei wneud am elw yn hytrach na gwarged, yr hyn rydym yn ei wybod yw bod yn rhaid i bob sefydliad nid-er-elw weithio i warged oherwydd bod ganddo gostau rhedeg ac mae'n rhaid iddo dalu ei weithwyr. Dydy hynny ddim yr un peth â gwneud elw er budd personol cyfranddalwyr, a dyna yw pwrpas hyn.
Os caf droi, felly, at welliannau 44 a 45, mae'r rhain yn ceisio diffinio'r 'endid er elw rhesymol' fel y nodir yng ngwelliant 42, gyda gwelliant 44 yn diffinio 'endid er elw rhesymol', a gwelliant 45 yn diffinio 'elw rhesymol'. Ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd o ystyried eu bod yn ymwneud â'r diffiniad o fodel 'elw rhesymol', fel yr amlinellais yn gynharach, mae hyn yn gwrthdaro ag amcan sylfaenol y cynigion, sy'n ceisio cael gwared ar unrhyw lefel o elw.
Yn olaf, mae'r gwelliant yn diffinio 'endid er elw rhesymol' ymhellach trwy gymhwyso elw at ddibenion ailfuddsoddi a thalu cyflogau'n unig. Nawr, nid yw ailfuddsoddi wedi'i ddiffinio yn hwn nac yn unrhyw welliannau cysylltiedig eraill, gan adael y cwmpas yn aneglur. Yn ogystal, byddai talu cyflogau fel arfer yn cael ei ystyried yn gostau gweithredu—y pwynt roeddwn i'n ei wneud—a dydyn nhw ddim yn cael eu dosbarthu fel elw, ac eithrio, er enghraifft, mewn cynlluniau tâl sy'n gysylltiedig ag elw neu ddifidendau. Unwaith eto, mae hyn yn aneglur, a, sut bynnag, ni allaf gefnogi'r gwelliant cyffredinol, sy'n rhoi'r gwrthdaro sylfaenol rhwng yr endid arfaethedig a bwriad y Bil.
Os gallaf droi, felly, at bwynt Luke Fletcher am gwmnïau cydweithredol, rwy'n credu ei fod yn bwynt dilys iawn i'w godi. Doedd hi ddim yn hawdd i mi wneud penderfyniad ar hyn. Rwy'n aelod o'r Blaid Gydweithredol fy hun, fel y mae llawer o'm cyd-Aelodau, felly rwy'n ymwybodol o bryderon y Blaid Gydweithredol a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Felly, os caf ofyn am eich amynedd, rwy'n credu y gwna i dreulio ychydig o amser yn esbonio pam, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig. Er bod cwmnïau cydweithredol yn cael eu hannog yn gryf gan Lywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i gwmnïau cydweithredol fel y'u diffinnir o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 gael eu sefydlu er budd aelodau'r cwmni cydweithredol, ac nid yw hynny'n cyd-fynd â'n polisi, sy'n nodi mai lles plant yw'r prif bwrpas.
Nawr, er bod gan gymdeithas gydweithredol elfen nid-er-elw, mae'n ofynnol iddi osod yn ei rheolau ei hun o ran y ffordd y bydd elw'r gymdeithas yn cael ei ddefnyddio. Mae gofyniad nid-er-elw cymdeithas gydweithredol yn destun cyfyngiad, sef na ddylai talu elw i'r rhai sydd wedi buddsoddi yn y fenter fod yn brif bwrpas. Ond nid oes cyfyngiad ar ddefnyddio elw at ddibenion eraill, er enghraifft i wobrwyo'r rhai sy'n gweithio iddi neu ddarparu gwasanaethau iddi, a disgwylir mai'r prif ffocws fydd budd aelodau'r gymdeithas gydweithredol, ac unwaith eto, nid yw hynny'n cyd-fynd â'n polisi. Felly, er na all cymdeithas gydweithredol weithredu gyda'r nod o wneud elw yn bennaf ar gyfer talu llog, difidendau neu fonysau ar arian a fuddsoddwyd neu a adneuwyd neu a fenthyciwyd i'r gymdeithas i unrhyw berson arall, mae'r defnydd o'r gair 'yn bennaf' yn ei adael yn agored i amcanion a rheolau cymdeithas gydweithredol gynnwys talu elw i'w haelodau. Yn yr un modd, gydag ymddiriedolaethau perchnogaeth gweithwyr, mae gennym ystyriaeth debyg.
Mae'r materion uchod yn dangos y cymhlethdodau, rwy'n credu, sy'n gysylltiedig â rhai modelau, y gall ymddangos i ddechrau eu bod yn cydymffurfio â bwriad y polisi ond, ar ôl ymchwilio ymhellach, y mae materion sylfaenol sy'n golygu nad ydynt yn gydnaws. Dyna pam, yn rhannol, rydym wedi mabwysiadu'r dull o restru mathau penodol o ymgymeriad yn adran 6A(4) i roi eglurder i'r sector ar y modelau gweithredu derbyniol. Ond rwy'n gwybod, mewn llawer o achosion, bod gofal rhagorol yn cael ei ddarparu gan aelodau'r sefydliadau hyn sy'n gweithredu yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r darparwyr hyn yn gallu parhau i weithredu drwy ailgyflunio ag un o'r modelau nid-er-elw a nodir ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, rwy'n gwerthfawrogi y bydd hynny'n benderfyniad y bydd angen i ddarparwyr unigol ei ystyried yn seiliedig ar eu hamgylchiadau penodol. Ond, fel Llywodraeth, rydym am gefnogi darparwyr yn hyn drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus.
James Evans to respond.
James Evans i ymateb.
Diolch, Llywydd. It just seems to me, yet again, that this is more ideologically driven about removing profit, and not about the children and the best quality of care and the best outcomes for those children. I spend the majority of my time in this Senedd on the Children, Young People and Education Committee, and I heard from those children directly, and not one of them turned round and said, 'We need to eliminate profit from care.' What they turned round and said to me is, 'We need better outcomes and better care' for the people who'd come and seen us on that committee. Not once did I hear about eliminating profit from care. It was a policy push by—[Interruption.] Yes, I'll take an intervention, Sioned.
Diolch, Llywydd. Mae'n ymddangos i mi, unwaith eto, bod hyn yn cael ei ysgogi'n fwy ideolegol ynghylch cael gwared ar elw, ac nid am y plant a'r ansawdd gofal gorau a'r canlyniadau gorau i'r plant hynny. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn y Senedd hon ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chlywais gan y plant hynny'n uniongyrchol, ac ni throdd yr un ohonynt a dweud, 'Mae angen i ni ddileu elw o ofal.' Yr hyn a wnaethon nhw ddweud wrthyf oedd, 'Mae angen gwell canlyniadau a gwell gofal arnom' i'r bobl a oedd wedi dod i'n gweld ar y pwyllgor hwnnw. Nid unwaith y clywais am ddileu elw o ofal. Roedd yn bolisi yn cael ei wthio gan—[Torri ar draws.] Iawn, mi dderbyniaf ymyriad, Sioned.
I sat on that committee alongside you, and we most definitely heard those young people telling us how they felt that they were pictures in a catalogue and seen as a product. It's disingenuous for you to say that you didn't hear that, because we did hear that, and you know we heard that.
Eisteddais ar y pwyllgor hwnnw ochr yn ochr â chi, ac fe glywsom ni'n bendant y bobl ifanc hynny'n dweud wrthym sut roedden nhw'n teimlo eu bod yn lluniau mewn catalog ac yn cael eu gweld fel cynnyrch. Mae'n anonest i chi ddweud na chlywsoch chi hynny, oherwydd fe glywsom ni hynny, ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi clywed hynny.
It's about outcomes for children, Sioned, and I do not believe, in a system that is currently under huge, huge pressure, where we do not have the capacity in the system, that removing good, solid providers who are ex-social workers from the system is the most appropriate way to manage the care system across Wales. I do have a deep, deep sympathy for all those children in care and, as I've said before, those children stay with me every day doing this work here. It's about outcomes for those children, and I do not—[Interruption.] No, I'm going to finish now, Lee. I do not believe that not supporting these amendments is going to deliver better outcomes—it will make them worse. So, I tell everybody across this Chamber to support the amendments tabled in my name today.
Mae'n ymwneud â chanlyniadau i blant, Sioned, ac nid wyf yn credu, mewn system sydd o dan bwysau enfawr, enfawr ar hyn o bryd, pan nad oes gennym y capasiti yn y system, mai cael gwared ar ddarparwyr da, cadarn sy'n gyn-weithwyr cymdeithasol o'r system yw'r ffordd fwyaf priodol o reoli'r system ofal ledled Cymru. Mae gen i gydymdeimlad dwfn iawn â'r holl blant hynny mewn gofal ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'r plant hynny'n aros gyda mi bob dydd yn gwneud y gwaith yma. Mae'n ymwneud â chanlyniadau i'r plant hynny, a dydw i ddim—[Torri ar draws.] Na, rwyf i i'n mynd i orffen nawr, Lee. Nid wyf yn credu bod peidio â chefnogi'r gwelliannau hyn yn mynd i sicrhau gwell canlyniadau—bydd yn eu gwneud yn waeth. Felly, rwy'n dweud wrth bawb ar draws y Siambr hon i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 42. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 42 wedi'i wrthod.
The question is that amendment 42 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will, therefore, move to a vote on amendment 42. Open the vote. Close the vote. In favour 12, one abstention, 36 against. Therefore, amendment 42 is not agreed.
Gwelliant 42: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 42: For: 12, Against: 36, Abstain: 1
Amendment has been rejected
Gwelliant 43.
Amendment 43.
Is it being moved?
A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 43 (James Evans).
Amendment 43 (James Evans) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Yes, it's being moved.
Ydi, mae'n cael ei gynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 43? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 43, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 43 wedi'i wrthod.
The question is that amendment 43 be agreed to? Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will, therefore, move to a vote on amendment 43, in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 12, one abstention, 36 against. Therefore, amendment 43 is not agreed.
Gwelliant 43: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 43: For: 12, Against: 36, Abstain: 1
Amendment has been rejected
Gwelliant 44, James Evans.
Amendment 44, James Evans.
Is it being moved?
A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 44 (James Evans).
Amendment 44 (James Evans) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Mae'n cael ei symud. Os na fydd gwelliant 44 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 45 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 44. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi ei wrthod. Mae gwelliant 45 yn methu.
It is moved. If amendment 44 is not agreed, amendment 45 falls. The question is that amendment 44 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will move to a vote on amendment 44. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 36 against. Therefore, amendment 44 is not agreed, and amendment 45 falls.
Gwelliant 44: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 44: For: 13, Against: 36, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 45.
Amendment 45 fell.
Felly, gwelliant 78 sydd nesaf. Mabon ap Gwynfor, ydy e'n cael ei symud?
We will now move to amendment 78, in the name of Mabon ap Gwynfor. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 78 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 78 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Symud.
Moved.
Os gwrthodir gwelliant 78, bydd gwelliant 88 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 78? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 78, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 78 wedi ei wrthod.
If amendment 78 is not agreed, amendment 88 falls. The question is that amendment 78 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will move to a vote on amendment 78, in the name of Mabon ap Gwynfor. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Amendment 78 is not agreed.
Gwelliant 78: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 78: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 88.
Amendment 88 fell.
Gwelliant 7 sydd nesaf.
Amendment 7 is next.
Minister, is it being moved?
Gweinidog, a yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 7 (Dawn Bowden).
Amendment 7 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Ydy, mae gwelliant 7 wedi ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 7? Nac oes. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei gymeradwyo.
Yes, amendment 7 is moved. Are there any objections to amendment 7? No. Therefore, amendment 7 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 8—
Amendment 8—
—being moved formally?
—yn cael eu gynnig yn ffurfiol?
Cynigiwyd gwelliant 8 (Dawn Bowden).
Amendment 8 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Formally.
Yn ffurfiol.
Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei dderbyn.
It is. The question is that amendment 8 be agreed to. Does any Member object? No. Therefore, amendment 8 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 5. Mae'r pumed grŵp yn ymwneud â'r gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau presennol. Gwelliant 9 yw'r prif welliant. Rwy'n galw ar y Gweinidog i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad i'r grŵp—Dawn Bowden.
The next group of amendments is the fifth group, and they relate to the register of existing service providers. The lead amendment in the group is amendment 9. I call on the Minister to speak to the amendment and to speak to the group—Dawn Bowden.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Dawn Bowden).
Amendment 9 (Dawn Bowden) moved.
Diolch, Llywydd. This group of amendments relates to the information shown in the register of service providers held by the Welsh Ministers—in practice, the Care Inspectorate Wales. Specifically, it relates to the information in the register about providers of restricted children's services during the transitional period for which the new Schedule 1A to the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 makes provision.
The amendments made by the Bill to the 2016 Act deal with the need for the register to reflect the new categorisation of restricted children's services, and also the new distinction between the providers of restricted children's services who are not-for-profit providers and those who are not. For-profit providers will continue to be registered and will continue to be able to operate after the commencement of the transitional phase, though they will be subject to restrictions.
Once the requirement for local authorities to place with not-for-profit providers is commenced, subject to this being consistent with the child's interests, these aspects of a provider's registration status will have an important function in enabling local authorities to distinguish between the two sorts of providers of restricted children's services.
The amendments in this group change the way that the difference in status will be expressed on the register, from referring to providers who meet the not-for-profit requirement to referring to providers who are subject to the requirement. Not-for-profit providers of restricted children's services who register as such with the regulator will have their not-for-profit status tested at the point of registration, but their continued compliance with the requirement will be kept under review as the provider may undergo constitutional or organisational changes that call their not-for-profit status into question, leading to scrutiny or enforcement action on the part of the regulator. The purpose of the amendments, therefore, is to ensure that the language used on the register more accurately expresses this important new aspect of a provider's registration status.
To address these issues, I have tabled a series of amendments to the Bill, as, unfortunately, this is an occasion where quite a technical change requires a significant number of amendments. To begin with, amendment 24 amends section 9 of the Bill. This amendment removes the requirement, in relation to a provider that is registered in respect of a restricted children's service and which is subject to the requirement in new section 6A(1), for an entry in the register to show that the provider meets the requirement. Instead, the effect of the amendment is to require that the entry shows that the provider is subject to the requirement.
Amendment 24 also adds a requirement that such an entry in the register must show that the condition in section 7(3)(aa) is imposed on the service provider's registration in respect of that service. This condition requires that the service provider notifies the Welsh Ministers of any circumstances under which they no longer meet the requirement in section 6A(1). This should serve to make the position of the provider clearer in the register entry.
The change made by amendment 24 is reflected in Schedule 1A to the 2016 Act by amendment 10, which amends paragraph 2(3) of the Schedule to require that the entry in the register in respect of a provider to which that paragraph applies must show that the provider is not subject to the requirement in section 6A(1) of the 2016 Act to be not-for-profit. This amendment also removes the requirement that the entry in the register must show that the provider does not meet the section 6A(1) requirement.
Amendment 10 presents this requirement alongside an additional requirement that the register shows that the condition in section 7(3)(aa) of the 2016 Act is not imposed on the provider’s registration in respect of the existing service.
Amendment 11 removes the reference that is currently included at paragraph 2(3) of Schedule 1A to applications made by the service provider under section 6. This is because existing service providers are unable to make applications to register on an entirely new basis, given that they are already registered to provide regulated services.
Amendment 9 provides a new sub-paragraph within paragraph 2 of Schedule 1A, which defines the term 'existing service' for the purpose of the Schedule. Amendments 13, 14 and 16 are clarificatory amendments building on this amendment.
Several amendments in this group amend paragraph 4 of Schedule 1A further. Amendment 17 permits service providers operating under the transitional arrangements in Schedule 1A to apply for their registration in respect of the existing service to be subject to the requirement in section 6A(1), the requirement to be a not-for-profit entity. Amendment 18 prescribes further circumstances where a service provider of an existing service must apply to the Welsh Ministers for the registration in respect of the existing service to be subject to section 6A(1) of the 2016 Act. And amendment 21, which is consequential on amendment 24, requires the register to be updated following a successful application under Schedule 1A, sub-paragraph 4(2).
Turning to amendment 22, this adds a new paragraph to Schedule 1A to provide definitions of 'looked-after children' and 'register' for interpretation of the Schedule. Amendment 15 is consequential on amendment 22, as it removes the definition of 'looked-after children' found earlier in the Schedule, which has been moved into this interpretation paragraph by amendment 22.
Lastly in this group, there are two amendments to new section 81A of the 2014 Act, which is inserted by section 13 of the Bill. Amendments 26 and 27 are consequential on amendment 24 and amend the references in that section to a service provider that is registered as meeting the requirement in section 6A(1) of the 2016 Act. Under the amendment, these become references to a service provider that is registered as being subject to the requirement in section 6A(1). I ask Members to support all of these amendments. Diolch yn fawr.
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud â'r wybodaeth a ddangosir yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau a gedwir gan Weinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn benodol, mae'n ymwneud â'r wybodaeth yn y gofrestr am ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol y mae'r Atodlen 1A newydd i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu ar ei gyfer.
Mae'r gwelliannau a wnaed gan y Bil i Ddeddf 2016 yn ymdrin â'r angen i'r gofrestr adlewyrchu'r categori newydd o wasanaethau plant o dan gyfyngiad, a hefyd y gwahaniaeth newydd rhwng darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n ddarparwyr nid-er-elw a'r rhai nad ydynt felly. Bydd darparwyr er elw yn parhau i gael eu cofrestru a byddant yn parhau i allu gweithredu ar ôl dechrau'r cyfnod trosiannol, er y byddant yn destun cyfyngiadau.
Unwaith y bydd y gofyniad i awdurdodau lleol leoli gyda darparwyr nid-er-elw yn dechrau, ar yr amod bod hyn yn gyson â buddiannau'r plentyn, bydd gan yr agweddau hyn ar statws cofrestru darparwr swyddogaeth bwysig wrth alluogi awdurdodau lleol i wahaniaethu rhwng y ddau fath o ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.
Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn newid y ffordd y bydd y gwahaniaeth mewn statws yn cael ei fynegi ar y gofrestr, o gyfeirio at ddarparwyr sy'n bodloni'r gofyniad nid-er-elw i gyfeirio at ddarparwyr sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad. Bydd darparwyr nid-er-elw gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n cofrestru felly gyda'r rheoleiddiwr yn profi eu statws nid-er-elw ar adeg cofrestru, ond bydd eu cydymffurfiaeth barhaus â'r gofyniad yn cael ei adolygu gan y gall y darparwr gael newidiadau cyfansoddiadol neu sefydliadol sy'n cwestiynnu eu statws nid-er-elw, gan arwain at gamau craffu neu orfodi ar ran y rheoleiddiwr. Diben y gwelliannau, felly, yw sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir ar y gofrestr yn mynegi'n fwy cywir yr agwedd newydd bwysig hon ar statws cofrestru darparwr.
Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, rwyf wedi cyflwyno cyfres o welliannau i'r Bil, oherwydd, yn anffodus, dyma achlysur lle mae newid eithaf technegol yn gofyn am nifer sylweddol o welliannau. I ddechrau, mae gwelliant 24 yn diwygio adran 9 o'r Bil. Mae'r gwelliant hwn yn dileu'r gofyniad, mewn perthynas â darparwr sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran newydd 6A(1), am gofnod yn y gofrestr i ddangos bod y darparwr yn bodloni'r gofyniad. Yn hytrach, effaith y gwelliant yw ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn dangos bod y darparwr yn ddarostyngedig i'r gofyniad.
Mae gwelliant 24 hefyd yn ychwanegu gofyniad bod rhaid i gofnod o'r fath yn y gofrestr ddangos bod yr amod yn adran 7(3)(aa) yn cael ei osod ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw. Mae'r amod hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr gwasanaeth hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw amgylchiadau pan nad ydynt bellach yn bodloni'r gofyniad yn adran 6A(1). Dylai hyn fod yn gwneud safle'r darparwr yn gliriach yng nghofnod y gofrestr.
Adlewyrchir y newid a wnaed drwy welliant 24 yn Atodlen 1A i Ddeddf 2016 drwy welliant 10, sy'n diwygio paragraff 2(3) o'r Atodlen i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo ddangos nad yw'r darparwr yn ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016 i fod yn nid-er-elw. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn dileu'r gofyniad bod yn rhaid i'r cofnod yn y gofrestr ddangos nad yw'r darparwr yn bodloni'r gofyniad adran 6A(1).
Mae gwelliant 10 yn cyflwyno'r gofyniad hwn ochr yn ochr â gofyniad ychwanegol bod y gofrestr yn dangos nad yw'r amod yn adran 7(3)(aa) o Ddeddf 2016 yn cael ei orfodi ar gofrestriad y darparwr mewn perthynas â'r gwasanaeth presennol.
Mae gwelliant 11 yn dileu'r cyfeiriad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff 2(3) o Atodlen 1A ar hyn o bryd at geisiadau a wneir gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 6. Y rheswm am hyn yw nad yw darparwyr gwasanaethau presennol yn gallu gwneud ceisiadau i gofrestru ar sail hollol newydd, o ystyried eu bod eisoes wedi'u cofrestru i ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig.
Mae gwelliant 9 yn darparu is-baragraff newydd o fewn paragraff 2 o Atodlen 1A, sy'n diffinio'r term 'gwasanaeth presennol' at ddibenion yr Atodlen. Mae gwelliannau 13, 14 ac 16 yn welliannau eglur sy'n adeiladu ar y gwelliant hwn.
Mae sawl gwelliant yn y grŵp hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 1A ymhellach. Mae gwelliant 17 yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu o dan y trefniadau trosiannol yn Atodlen 1A wneud cais am eu cofrestriad mewn perthynas â'r gwasanaeth presennol i fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad yn adran 6A(1), y gofyniad i fod yn endid nid-er-elw. Mae gwelliant 18 yn rhagnodi amgylchiadau pellach lle mae'n rhaid i ddarparwr gwasanaeth presennol wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer cofrestru'r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i adran 6A(1) o Ddeddf 2016. Ac mae gwelliant 21, sy'n ganlyniadol ar welliant 24, yn ei gwneud yn ofynnol i'r gofrestr gael ei diweddaru yn dilyn cais llwyddiannus o dan Atodlen 1A, is-baragraff 4(2).
Gan droi at welliant 22, mae hwn yn ychwanegu paragraff newydd i Atodlen 1A i ddarparu diffiniadau o 'blant sy'n derbyn gofal' a'r 'cofrestr' ar gyfer dehongli'r Atodlen. Mae gwelliant 15 yn ganlyniadol ar welliant 22, gan ei fod yn dileu'r diffiniad o 'blant sy'n derbyn gofal' a geir yn gynharach yn yr Atodlen, sydd wedi'i symud i'r paragraff dehongli hwn trwy welliant 22.
Yn olaf, yn y grŵp hwn, mae dau welliant i adran 81A newydd o Ddeddf 2014, a fewnosodir gan adran 13 o'r Bil. Mae gwelliannau 26 a 27 yn ganlyniadol ar welliant 24 ac yn diwygio'r cyfeiriadau yn yr adran honno at ddarparwr gwasanaeth y cofrestrwyd ei fod yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016. O dan y gwelliant, daw'r rhain yn gyfeiriadau at ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1). Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r holl welliannau hyn. Diolch yn fawr.
Does gen i ddim siaradwyr ar y grŵp yma. Felly, wrth gymryd nad yw'r Gweinidog eisiau dweud mwy, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 9 wedi ei dderbyn.
I have no speakers on this group. I assume that the Minister doesn't want to add anything, and so the question is that amendment 9 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 9 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 10 yn cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 10. Is it moved, Minister?
Is it being moved?
A yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 10 (Dawn Bowden).
Amendment 10 (Dawn Bowden) moved.
I move.
Rwy'n ei gynnig.
Ydy, mae gwelliant 10 wedi ei symud. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn.
Yes, amendment 10 is moved. Is there any objection? There is not. Amendment 10 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 11, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?
Amendment 11, Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 11 (Dawn Bowden).
Amendment 11 (Dawn Bowden) moved.
I move.
Rwy'n ei gynnig.
A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 11? Nac oes.
Is there any objection to amendment 11? There is not.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 12. Ydy e'n cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 12. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 12 (Dawn Bowden).
Amendment 12 (Dawn Bowden) moved.
I move.
Rwy'n ei gynnig.
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 12? Nac oes. Felly, mae gwelliant 12 yn cael ei dderbyn.
It is. Are there any objections to amendment 12? No, there are not. Amendment 12 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 6 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â'r trefniadau trosiannol ar gyfer darparwyr gwasanaethau presennol. Gwelliant 79 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac mae Mabon ap Gwynfor yn cynnig y gwelliant yma. Mabon.
We'll move now to group 6, which relates to the transitional arrangements for existing service providers. The lead amendment in the group is amendment 79, and I call on Mabon ap Gwynfor to move this amendment.
Cynigiwyd gwelliant 79 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 79 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol. Ar y dechrau, dwi am ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn gweithio i elusen yn y sector, er nad ydy hi'n uniongyrchol yn gweithio yn y maes yma.
Pwrpas ein gwelliannau ni yn y grŵp yma ydy sicrhau na all yr amodau y caiff Gweinidogion Cymru eu gosod ar ddarparwyr gwasanaethau effeithio ar allu’r darparwyr gwasanaethau hynny i gynnig gwasanaethau cartref gofal neu wasanaethau maethu i blant sydd yn eu gofal pan fydd y cyfnod trosiannol yn dechrau. Yn syml, bydd hyn yn creu mwy o sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddarpariaeth ac ansawdd gwasanaethau o ganlyniad i’r newid yma.
Mae adran 4 o’r Bil yn esbonio’r amgylchiadau a fydd yn berthnasol i ddarparwyr sydd yn newid i statws dielw yn ystod y cyfnod pontio, sy’n cynnwys y cymal canlynol:
Thank you, Llywydd, and I move the amendment formally. At the outset, I want to declare an interest because my wife works for a charity in the sector, even though she doesn't directly work in this area.
The purpose of our amendments in this group is to ensure that the conditions that the Welsh Ministers may impose on service providers cannot affect the ability of those service providers to offer care home services or fostering services to children in their care when the transitional period begins. Simply put, this will create more certainty that there will be no disruption to the provision and quality of services as a result of this change.
Section 4 of the Bill explains the circumstances that will apply to providers changing to not-for-profit status during the transition period, and includes the following clause:
'restrictions on the type of restricted children's service that the service provider may provide',
and
'restrictions on the description of looked after children in respect of whom the provider may provide the restricted children's service, for example by reference to their care and support needs.'
'cyfyngiadau ar y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad y caiff y darparwr gwasanaeth ei ddarparu',
a
'cyfyngiadau ar y disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y caiff y darparwr ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn cysylltiad â hwy, er enghraifft drwy gyfeirio at eu hanghenion gofal a chymorth.'
Mae’r memorandwm esboniadol hefyd yn dweud:
The explanatory memorandum also states:
‘This would enable Welsh Ministers to impose conditions to restrict providers who are subject to the transitional provisions to providing places for children whose placement has been approved by Welsh Ministers under section 81B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, or to limit the circumstances in which such providers may accept placements from local authorities in England. The power could also be used to prevent providers who are subject to the transitional provisions from providing a place for any new child after a certain date.'
'Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau i gyfyngu darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol i ddarparu lleoedd ar gyfer plant y mae eu lleoliad wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 81B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu i gyfyngu ar yr amgylchiadau pan gaiff darparwyr o’r fath dderbyn lleoliadau gan awdurdodau lleol yn Lloegr. Gellid defnyddio’r pŵer hefyd i atal darparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol rhag darparu lle ar gyfer unrhyw blentyn newydd ar ôl dyddiad penodol.'
Fel y mae’r ddeddfwriaeth wedi’i drafftio, nid yw'n hollol glir beth a olygir gan
As the legislation has been drafted, it is not entirely clear what is meant by
‘the type of restricted children's service’
'y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad'
neu
or
‘the description of looked after children’.
'y disgrifiad o blant sy'n derbyn gofal'.
Mae hyn yn golygu os yw darparwr yn y sector breifat sy’n newid i fod yn ddarparwr dielw yn ddarostyngedig i amodau adran 4, mae risg y bydd yr amodau yma yn atal y darparwr rhag parhau i ddarparu ei wasanaethau i blant yn ei ofal yn ystod y cyfnod pontio.
Gall hyn fod oherwydd bod y darparwr yn darparu'r math o wasanaeth plant cyfyngedig a gaiff ei gyfyngu gan amodau adran 4, neu oherwydd y bydd y darparwr yn cael ei gyfyngu rhag gofalu am y plant yn ei ofal, gan eu bod yn cyd-fynd â’r disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal a fydd yn cael ei gyfyngu gan amodau adran 4.
Yn ystod Cyfnod 2, fe gadarnhaodd y Gweinidog nad bwriad adran 4 yw effeithio ar leoliadau a wnaed cyn dechrau’r cyfnod, a byddai’r rhain yn parhau heb eu hamharu. Mae hyn i’w groesawu, ond rhaid gwneud mwy i wneud hynny mor glir â phosibl ar wyneb y Bil, a dyna pam rydym ni wedi ail-gyflwyno’r gwelliant hwn.
Fe ddywedodd y Gweinidog hefyd yn ei hymateb mai
‘bwriad y rheoliadau o dan adran 3(1) yw cyfyngu lleoliadau gan awdurdod lleol yn Lloegr i wasanaeth er elw i amgylchiadau penodol.’
Fodd bynnag, yn ôl y Bil yn ei eiriad presennol, byddai’r amodau yma yn effeithio ar ddarparwyr yng Nghymru. Mae adran 3(1) adran 4 o’r Bil yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru osod amodau
‘ar ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff 2 yn gymwys iddo’,
sef darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, y darparwyr gwasanaethau sy’n trosglwyddo i fod yn ddarparwr gwasanaeth dielw a’r sawl sy’n gwneud hynny yn ystod y cyfnod trosiannol. Mae hyn yn golygu ei bod yn enwedig o bwysig fod eglurder yn cael ei ddarparu ar wyneb y Bil na fydd darpariaethau adran 3(1), sef adran 4 o’r Bil, yn amharu ar y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwyr sydd â phlant yn eu gofal yn ystod y cyfnod pontio.
Yn olaf, dyma’r drafodaeth sylweddol olaf sydd am fod ar y Bil yma, Bil, o’i basio i ddeddfwriaeth, fydd yn drawsnewidiol i lawer iawn, ac, fel y gallwch chi werthfawrogi, mae nifer yn ddiamynedd i’w weld yn cael ei basio ac yn gweithredu. Felly dwi am wahodd y Gweinidog i osod ar record nad bwriad y gwelliannau yma am y cyfnod trosiannol ydy i gicio’r newidiadau i’r gwellt hir, nad gwanhau'r cynnig ydy’r bwriad, ond yn hytrach i sicrhau bod gennym ni system sydd yn rhoi anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc yn flaenaf, a bod yr egwyddor greiddiol yn parhau, sef na fydd cwmnïau yn elwa ar draul plant yng Nghymru. Diolch.
This means that if a provider in the private sector that changes to be a not-for-profit provider is subject to the conditions in section 4, there is a risk that these conditions will prevent the provider from continuing to provide its services to children in its care during the transition period.
This may be because the provider is providing the type of restricted children's service that will be restricted by the conditions in section 4, or because the provider will be restricted from looking after the children in its care, as they align with the description of looked-after children that will be restricted by the conditions in section 4.
During Stage 2, the Minister confirmed that the intended purpose of section 4 is not to affect placements made before the beginning of the period, and that these would continue without disruption. This is to be welcomed, but more must be done to make that as clear as possible on the face of the Bill, which is why we have retabled this amendment.
The Minister also said in her response that
'the regulations under section 3(1) are intended to limit placements by an English local authority to a for-profit service to specific circumstances.'
However, according to the Bill as it is currently worded, these conditions would affect providers in Wales. Section 3(1) of section 4 of the Bill states that the Welsh Ministers may impose conditions
‘on a service provider to whom paragraph 2 applies’,
namely service providers in Wales, the service providers that transfer to be non-profit service providers and those that do so during the transitional period. This means that it is particularly important that clarity is provided on the face of the Bill that the provisions of section 3(1), namely section 4 of the Bill, will not impair the care and support provided by providers that have children in their care during the transition period.
Finally, this is the last substantive discussion that will take place on this Bill, a Bill that, if passed into law, will be transformative for many, and, as you can appreciate, many are impatient to see it passed and implemented. So, I wish to invite the Minister to place on record that the intention of the amendments to the transitional period is not to kick the changes into the long grass, that the intention is not to weaken the offer, but rather to ensure that we have a system that puts the needs and aspirations of children and young people first, and that the core principle remains, namely that companies will not profit at the expense of children in Wales. Thank you.
Y Gweinidog, Dawn Bowden.
The Minister, Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Well, this group contains two amendments tabled by Mabon ap Gwynfor that relate to the transitional period. Amendment 79 inserts a new subparagraph between paragraph 3(2) and paragraph 3(3) regarding regulations about provision of restricted children’s services by existing service providers. This new subparagraph proposes that these regulations must not affect the provider’s ability to provide restricted children’s services to any child who is in its care when the transitional period begins.
Now, as Mabon ap Gwynfor quite rightly pointed out during discussions about this amendment during Stage 2, there were concerns that the legislation as drafted would mean that if an existing provider in the private sector changed to be a not-for-profit provider during the transitional period, they would still be subject to the provisions within section 4 of the Bill, and consequently subject to the conditions imposed on providers by way of regulations made under paragraph 3(1). The view was that this posed a risk that these conditions would prevent that provider from continuing to provide services to children in its care during the transition period. I would like to reassure Members that this is not the case; if an existing provider in the private sector chose to adopt one of the four not-for-profit models as set out in section 3 of the Bill, they would be able to apply to vary their registration so that they would no longer be subject to the provisions of section 4 and the restrictions imposed by it. As I explained during Stage 2 proceedings, there is also an unintended consequence of this amendment that causes a problem. It would enable a for-profit provider to place a child within another of its premises if an ongoing placement in place at the beginning of the transitional period were to break down. This is not consistent with any of our policy intention.
While I can't support this amendment as drafted, it does align with our policy intent, and, during Stage 2 proceedings, I therefore gave an undertaking to give the issue and possible responses to it further consideration in advance of Stage 3. I've done this, and I wish to reiterate my assurance that the Government does not wish to disrupt existing placements that have been made prior to the start of the transitional period. However, following further consideration, we've concluded that the current provision for a regulation-making power in paragraph 3 of Schedule 1A is appropriate and proportionate, and that an attempt to limit the power further would be highly likely to prevent the power from being used as intended, which is to ensure that for-profit providers are not able to expand their provision during the transitional period except in cases where supplementary placements were made or there were other exceptional circumstances.
Amendment 80 inserts a new subparagraph between paragraph 3(2) and paragraph 3(3) in the new Schedule 1A to the 2016 Act, the effect of which would be to require that regulations made under paragraph 3(1) must not affect the ability of a local authority to place a child in a placement that meets the child’s needs, including when the placement is a supplementary placement. Whilst I understand the intention of the amendment, I can't support it as it would not align with our policy intent to eliminate profit.
The proposed amendment would restrict the scope of the regulations, but by reference to the ability of a local authority to place a child in a placement that meets the child’s needs. The regulations will be about restricting the scope of the services that providers can provide and descriptions of looked-after children that the providers can accommodate. These restrictions will necessarily reduce, over time, the number of placements available to a local authority from for-profit providers. This amendment could cut down the scope of the enabling power to such an extent as to render it unusable and would run against the way the provisions have been designed to gradually restrict the availability of, and the need for, supplementary placements over time.
Section 81A(2) requires a local authority to place the child in the placement that is, in its opinion, the most appropriate placement available. The requirement in section 81A(4) to give preference to placements that are with providers that meet the not-for-profit requirement is already subject to the proviso that the local authority must not do so if it would not be consistent with its duties under section 78 to safeguard and promote a child’s well-being. I therefore feel that this amendment is also unnecessary.
Can I just deal with your final point, Mabon, and assure you and the rest of the Senedd Chamber that eliminating profit remains a very high priority for this Government and that we want to achieve our goal to do that as quickly as possible?
Diolch, Llywydd. Wel, mae'r grŵp hwn yn cynnwys dau welliant a gyflwynwyd gan Mabon ap Gwynfor sy'n ymwneud â'r cyfnod trosiannol. Mae gwelliant 79 yn mewnosod is-baragraff newydd rhwng paragraff 3(2) a pharagraff 3(3) o ran rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gan ddarparwyr gwasanaethau presennol. Mae'r is-baragraff newydd hwn yn cynnig na ddylai'r rheoliadau hyn effeithio ar allu'r darparwr i ddarparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad i unrhyw blentyn sydd dan ei ofal pan fydd y cyfnod trosiannol yn dechrau.
Nawr, fel y nododd Mabon ap Gwynfor yn gwbl briodol yn ystod trafodaethau am y gwelliant hwn yn ystod Cyfnod 2, roedd pryderon y byddai'r ddeddfwriaeth fel y'i drafftiwyd yn golygu pe bai darparwr presennol yn y sector preifat yn newid i fod yn ddarparwr nid-er-elw yn ystod y cyfnod trosiannol, y byddent yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn adran 4 o'r Bil, ac o ganlyniad yn ddarostyngedig i'r amodau a osodir ar ddarparwyr drwy reoliadau a wneir o dan baragraff 3(1). Y farn oedd bod hyn yn peri risg y byddai'r amodau hyn yn atal y darparwr hwnnw rhag parhau i ddarparu gwasanaethau i blant yn ei ofal yn ystod y cyfnod trosiannol. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau nad yw hyn yn wir; pe bai darparwr presennol yn y sector preifat yn dewis mabwysiadu un o'r pedwar model nid-er-elw fel y nodir yn adran 3 y Bil, byddent yn gallu gwneud cais i amrywio eu cofrestriad fel na fyddent bellach yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 4 a'r cyfyngiadau a osodir ganddo. Fel yr eglurais yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae yna hefyd ganlyniad anfwriadol i'r gwelliant hwn sy'n achosi problem. Byddai'n galluogi darparwr er elw i leoli plentyn o fewn un arall o'i eiddo pe bai lleoliad parhaus ar waith ar ddechrau'r cyfnod trosiannol yn cael ei chwalu. Nid yw hyn yn gyson â'n bwriad polisi.
Er na allaf gefnogi'r gwelliant hwn fel y'i drafftiwyd, mae'n cyd-fynd â'n bwriad polisi, ac, yn ystod trafodion Cyfnod 2, felly rhoddais ymrwymiad i roi ystyriaeth bellach i'r mater a'r ymatebion posibl iddo cyn Cyfnod 3. Rwyf wedi gwneud hyn, a hoffwn ailadrodd fy sicrwydd nad yw'r Llywodraeth yn dymuno tarfu ar leoliadau presennol a wnaed cyn dechrau'r cyfnod trosiannol. Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth bellach, rydym wedi dod i'r casgliad bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer pŵer deddfu ym mharagraff 3 o Atodlen 1A yn briodol ac yn gymesur, ac y byddai ymgais i gyfyngu ymhellach ar y pŵer yn debygol iawn o atal y pŵer rhag cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd, sef sicrhau nad yw darparwyr er elw yn gallu ehangu eu darpariaeth yn ystod y cyfnod trosiannol ac eithrio mewn achosion lle gwnaed lleoliadau atodol neu pan oedd amgylchiadau eithriadol eraill.
Mae gwelliant 80 yn mewnosod is-baragraff newydd rhwng paragraff 3(2) a pharagraff 3(3) yn Atodlen 1A newydd i Ddeddf 2016, a'i effaith fyddai ei gwneud yn ofynnol i reoliadau a wneir o dan baragraff 3(1) beidio ag effeithio ar allu awdurdod lleol i leoli plentyn mewn lleoliad sy'n diwallu anghenion y plentyn, gan gynnwys pan fo'r lleoliad yn lleoliad atodol. Er fy mod yn deall bwriad y gwelliant, ni allaf ei gefnogi gan na fyddai'n cyd-fynd â'n bwriad polisi i ddileu elw.
Byddai'r gwelliant arfaethedig yn cyfyngu ar gwmpas y rheoliadau, ond trwy gyfeirio at allu awdurdod lleol i leoli plentyn mewn lleoliad sy'n diwallu anghenion y plentyn. Bydd y rheoliadau'n ymwneud â chyfyngu cwmpas y gwasanaethau y gall darparwyr eu darparu a disgrifiadau o blant sy'n derbyn gofal y gall y darparwyr eu derbyn. Bydd y cyfyngiadau hyn o reidrwydd yn lleihau, dros amser, nifer y lleoliadau sydd ar gael i awdurdod lleol gan ddarparwyr er elw. Gallai'r gwelliant hwn leihau cwmpas y pŵer galluogi i'r fath raddau â'i wneud yn amhosibl ei ddefnyddio a byddai'n rhedeg yn erbyn y ffordd y mae'r darpariaethau wedi'u cynllunio i gyfyngu ar argaeledd lleoliadau atodol a'r angen amdanynt yn raddol dros amser.
Mae adran 81A(2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol leoli'r plentyn yn y lleoliad sydd, yn ei farn ef, y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael. Mae'r gofyniad yn adran 81A(4) i roi blaenoriaeth i leoliadau sydd gyda darparwyr sy'n bodloni'r gofyniad nid-er-elw eisoes yn ddarostyngedig i'r amod na ddylai'r awdurdod lleol wneud hynny os na fyddai'n gyson â'i ddyletswyddau o dan adran 78 i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn. Felly, rwy'n teimlo bod y gwelliant hwn hefyd yn ddiangen.
A gaf i ymdrin â'ch pwynt olaf, Mabon, a'ch sicrhau chi a gweddill Siambr y Senedd bod dileu elw yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i'r Llywodraeth hon a'n bod am gyflawni ein nod i wneud hynny cyn gynted â phosibl?
Mabon ap Gwynfor i ymateb.
Mabon ap Gwynfor to respond.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i’r Gweinidog am y cydweithio sydd wedi bod ar y gwelliannau yma; rwyf yn ddiolchgar iawn am y gwaith sydd wedi bod. Dim ond i ddweud ein bod ni yn gresynu nad ydy’n gwelliannau ni wedi cael eu derbyn. Dŷn ni’n meddwl bod y geiriad rydym ni wedi ei roi i mewn yn llenwi’r gwagle yna ac yn cywiro ychydig o ofidiau’r Llywodraeth, ond yn amlwg nid ydyn ni wedi llwyddo i argyhoeddi hyd yma. Felly, dwi wedi dweud digon o eiriau ac mi awn ni ymlaen i’r bleidlais.
Thank you very much. Thank you to the Minister for the collaboration that there's been on these amendments; I was very grateful for the work done. Just to say that we do regret that our amendments haven't been accepted. We do think that the wording submitted does fill that void and actually allays some of the Government's fears, but clearly we haven't managed to convince the Government as of yet. So, I have said enough; we can move on to the vote.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 79? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 79. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatab, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 79 wedi ei wrthod.
The question is that amendment 79 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 79. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 79 is not agreed.
Gwelliant 79: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 79: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 80. Yn cael ei symud, Mabon ap Gwynfor?
Amendment 80. Is it moved, Mabon ap Gwynfor?
Cynigiwyd gwelliant 80 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 80 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Symud.
Moved.
Ydy. Agor y bleidlais ar welliant 80. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, gwelliant 80 wedi ei wrthod.
It is. Open the vote on amendment 80. Close the vote. In favour 23, no abstentions, 26 against. Therefore, amendment 80 is not agreed.
Gwelliant 80: O blaid: 23, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 80: For: 23, Against: 26, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 13. Ydy e'n cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 13. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 13 (Dawn Bowden).
Amendment 13 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes; does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Gwelliant 13 yn cael ei basio.
It is moved. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 13 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 14. Yn cael ei symud?
Amendment 14. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 14 (Dawn Bowden).
Amendment 14 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 14? Nac oes. Felly, y gwelliant yna'n cael ei gymeradwyo.
It is. Are there any objections to amendment 14? There are none. The amendment is, therefore, agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 15. Yn cael ei symud?
Amendment 15. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 15 (Dawn Bowden).
Amendment 15 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 15? Nac oes. Felly, mae'n cael ei gymeradwyo.
It is. Are there any objections to amendment 15? There are none. Therefore, it is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 16. Yn cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 16. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 16 (Dawn Bowden).
Amendment 16 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant yma? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Y gwelliant wedi ei dderbyn.
It is. The question is that amendment 16 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 16 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 17. Yn cael ei symud?
Amendment 17. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 17 (Dawn Bowden).
Amendment 17 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 17? Nac oes. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
It is. Are there any objections to amendment 17? There are none. Therefore, the amendment is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 18. Yn cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 18. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 18 (Dawn Bowden).
Amendment 18 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae e. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 18 wedi ei dderbyn.
It is. Are there any objections? There are none. Amendment 18 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 19, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Amendment 19. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 19 (Dawn Bowden).
Amendment 19 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, gwelliant 19 wedi'i basio.
It is. Are there any objections? There are none. Amendment 19 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 20, Gweinidog.
Amendment 20, Minister.
Cynigiwyd gwelliant 20 (Dawn Bowden).
Amendment 20 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad fan hyn? Nac oes; does yna ddim gwrthwynebiad. Gwelliant 20 yn cael ei dderbyn.
It is moved. Are there any objections? No, there are no objections. Therefore, amendment 20 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 21, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Amendment 21, Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 21 (Dawn Bowden).
Amendment 21 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy, mae. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae wedi ei dderbyn.
It is. Are there any objections? There are none. Therefore, the amendment is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 22, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Amendment 22, Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 22 (Dawn Bowden).
Amendment 22 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Wedi ei gynnig.
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbyn gwelliant 22 hefyd.
It is. Are there any objections? No. Therefore, amendment 22 is also agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 7 fydd nesaf. Y grŵp yma yw'r grŵp sy'n ymwneud â goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer y cyfnod trosiannol. Gwelliant 46 yw'r prif welliant. James Evans sy'n cynnig gwelliant 46 ac yn siarad i'r grŵp.
Group 7 is next. This group of amendments relates to oversight and support for transition. The lead amendment is amendment 46. I call on James Evans to move amendment 46 and to speak to the group.
Cynigiwyd gwelliant 46 (James Evans).
Amendment 46 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I’ll speak to amendments 46 to 48, tabled in my name. These amendments seek to address the committee recommendations surrounding oversight in the transition period. Amendment 46, as in Stage 2, is a probing amendment. Now, whilst the Minister did accept the recommendation from the Stage 1 report, it does not sit easily with me that there is not an iron-clad commitment on the face of the Bill. I do believe that the Minister has every intention of keeping us well informed of progress towards a not-for-profit model, but, importantly, they’re not currently required to do so. So, for peace of mind, I’ve brought this amendment forward once again to seek that assurance and the commitment from you here in the Chamber that we’ll be getting that six-monthly progress report on 22 April 2025, as the Minister has stated, and that we can look forward to ongoing engagement on this matter going forward.
Turning to amendment 47, I again seek commitments from the Minister here in the Chamber that funding commitments will be guaranteed, as we tried to make clear at Stage 2. It is not a given that the future Welsh Government will be aligned to the thinking of the present one. I do not want something as important as this to be subject to the whim of a future office holder, and I’m sure that such certainty would be appreciated well beyond the walls of this Senedd.
Finally, amendment 48 is again a probing amendment, designed to push the point on keeping legacy providers well-appraised of the support that will be on offer. Given that the Minister accepted this committee recommendation only in part, and given that there’s been nothing signalled and no concessions on this ground beyond vague commitments to continue working with the sector, I feel it is important to raise this issue again here to secure a commitment on the record that providers will be adequately informed of the support available to them going forward. Diolch, Llywydd.
Diolch, Llywydd. Rwyf am sôn am welliannau 46 i 48, a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio mynd i'r afael ag argymhellion y pwyllgor ynghylch goruchwylio yn y cyfnod trosiannol. Mae gwelliant 46, fel yng Nghyfnod 2, yn welliant procio. Nawr, er bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad adroddiad Cyfnod 1, nid wyf yn teimlo'n gysurus iawn ynghylch y ffaith nad oes ymrwymiad di-ildio ar wyneb y Bil. Rwy'n credu bod gan y Gweinidog bob bwriad o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd tuag at fodel nid-er-elw, ond, yn bwysig, nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny ar hyn o bryd. Felly, er tawelwch meddwl, rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn unwaith eto i geisio'r sicrwydd hwnnw a'r ymrwymiad gennych chi yma yn y Siambr y byddwn yn cael yr adroddiad cynnydd chwe mis hwnnw ar 22 Ebrill 2025, fel y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ac y gallwn edrych ymlaen at ymgysylltu parhaus â'r mater hwn yn y dyfodol.
Gan droi at welliant 47, rwy'n gofyn unwaith eto am ymrwymiadau gan y Gweinidog yma yn y Siambr y bydd ymrwymiadau cyllid yn cael eu gwarantu, fel y ceisiom ei gwneud yn glir yng Nghyfnod 2. Nid oes gwarant y bydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â meddylfryd yr un presennol. Nid wyf eisiau i rywbeth mor bwysig â hyn fod yn ddarostyngedig i fympwy deiliad swydd yn y dyfodol, ac rwy'n siŵr y byddai sicrwydd o'r fath yn cael ei werthfawrogi ymhell y tu hwnt i furiau'r Senedd hon.
Yn olaf, mae gwelliant 48 yn welliant procio eto, a gynlluniwyd i wthio'r pwynt sef bod darparwyr etifeddol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a fydd ar gael. O ystyried bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor hwn yn rhannol yn unig, ac o gofio na fu unrhyw beth yn cael ei nodi a dim consesiynau ar y sail hon y tu hwnt i ymrwymiadau annelwig i barhau i weithio gyda'r sector, teimlaf ei bod yn bwysig codi'r mater hwn eto yma i sicrhau ymrwymiad ar y cofnod y bydd darparwyr yn cael gwybod yn iawn am y cymorth sydd ar gael iddynt wrth symud ymlaen. Diolch, Llywydd.
I’d like to support the amendments from James Evans. Amendment 46. We shouldn’t just aim to end profit in our homes, we must ensure that the correct changes are being implemented. It’s crucial that care homes are not replaced by underfunded, poor alternatives. This amendment, as I understand it, requires Welsh Ministers to publish progress reports, which is really important—particularly, the details of how many additional placements have been created. If there’s one issue that has been raised time and time again with me, it’s around these transitional arrangements, and a real concern that we will end up in a place where children and young people are moved, and that we have a lack of placements for those children and young people. So, we do need these updated reports on the progress being made, particularly through the transitional period, as service providers do make that change to become not-for-profit providers. We have to make sure that there is no decrease in places for children. Beyond just tracking the progress, we need actual guarantees for our young people about your commitments.
Regarding that implementation period, you will be aware that stakeholders are relieved that you are considering extending that implementation period for aspects of this legislation relating to eliminating profit from the care sector. So, that worry, if it's taken away, that this, this extension will allow profit to continue, is maybe unnecessary. I'd be interested to hear the Minister's response to that. So, please can you assure the Senedd that that's not the situation, and confirm as well that the delivery of the elimination of profit agenda is a high priority for the Government—I think you've already said this—and that you will continue to prioritise working with others, particularly the third sector and our local authorities, to ensure that the aim of eliminating profit is achieved as soon as possible, with the necessary resources?
Llywydd, this is my last contribution—second and last—and I must say that, as a former child protection social worker, I am proud to stand here, at the edge, I hope, of this groundbreaking agenda, not for me, not for the social workers, but for the children and young people that many of them work with, and I've worked with. There was nothing more galling to me than moving a child to a placement where I knew that that place, that resource, was going to make money out of them, so I'm delighted to be able to support this legislation. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn gefnogi'r gwelliannau gan James Evans. Gwelliant 46. Ni ddylem anelu at roi terfyn ar elw yn ein cartrefi yn unig, rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau cywir yn cael eu gweithredu. Mae'n hanfodol nad yw cartrefi gofal yn cael eu disodli gan ddewisiadau amgen gwael heb eu hariannu'n ddigonol. Mae'r gwelliant hwn, fel yr wyf yn ei ddeall, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau cynnydd, sy'n bwysig iawn—yn benodol, manylion am faint o leoliadau ychwanegol sydd wedi'u creu. Os oes un mater a godwyd dro ar ôl tro gyda mi, mae'n ymwneud â'r trefniadau trosiannol hyn, a phryder gwirioneddol y byddwn yn y pen draw mewn man pan fo plant a phobl ifanc yn cael eu symud, a bod gennym ddiffyg lleoliadau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny. Felly, mae angen yr adroddiadau diweddaraf hyn arnom ar y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn enwedig drwy'r cyfnod trosiannol, gan fod darparwyr gwasanaethau yn gwneud y newid hwnnw i ddod yn ddarparwyr nid-er-elw. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes gostyngiad mewn lleoedd i blant. Y tu hwnt i olrhain y cynnydd yn unig, mae arnom angen gwarantau gwirioneddol i'n pobl ifanc am eich ymrwymiadau.
O ran y cyfnod gweithredu hwnnw, byddwch yn ymwybodol bod rhanddeiliaid yn ysgafnach eu calonnau oherwydd yr ydych yn ystyried ymestyn y cyfnod gweithredu hwnnw ar gyfer agweddau ar y ddeddfwriaeth hon sy'n ymwneud â dileu elw o'r sector gofal. Felly, efallai bydd y pryder hwnnw, os caiff ei gymryd i ffwrdd, y bydd yr estyniad hwn yn caniatáu i elw barhau, yn ddiangen. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ymateb y Gweinidog i hynny. Felly, allwch chi sicrhau'r Senedd nad dyna'r sefyllfa, a chadarnhau hefyd bod cyflawni'r agenda dileu elw yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth—rwy'n credu eich bod chi eisoes wedi dweud hyn—ac y byddwch chi'n parhau i flaenoriaethu gweithio gydag eraill, yn enwedig y trydydd sector a'n hawdurdodau lleol, sicrhau bod y nod o ddileu elw yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl, gyda'r adnoddau angenrheidiol?
Llywydd, dyma fy nghyfraniad olaf—yr ail a'r olaf—a rhaid i mi ddweud, fel cyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, fy mod yn falch o sefyll yma, ar ymyl, rwy'n gobeithio, yr agenda arloesol hon, nid i mi, nid i'r gweithwyr cymdeithasol, ond i'r plant a'r bobl ifanc y mae llawer ohonynt yn gweithio gyda nhw, Ac yr wyf innau wedi gweithio gyda nhw. Doedd dim byd mwy emosiynol i mi na symud plentyn i leoliad lle roeddwn i'n gwybod bod y lle hwnnw, yr adnodd hwnnw, yn mynd i wneud arian allan ohonyn nhw, felly rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog, Dawn Bowden.
The Minister, Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Can I just start by responding to those last points from Jane Dodds and welcome her comments, and repeat the assurance I just gave to Mabon ap Gwynfor? Eliminating profit remains a very high priority for this Government, and we want to achieve that goal as quickly as we can. We would not be here today, discussing these amendments, if we hadn't prioritised this legislation, and I think that clearly shows our commitment that we've made to eliminating profit from the care of children and young people. Can I assure you that we will continue to listen to all of those stakeholders that have an interest in taking this agenda forward, and at the heart of that will be the voice of children and young people, who have been the drivers behind this legislation from day one? I would be happy to maintain the conversations with young people throughout this process, as I have done, and I would want to continue those discussions with other stakeholders, of course, in the third sector, local authorities and beyond, and, of course, with Members in this Chamber. And thank you very much, Jane, for your support.
Going back to the amendments, then. Regarding amendment 46, I recognise that both Members and the sector want to be kept informed of the progress through the transition period regarding the move towards not-for-profit provision, and that's why I did accept recommendation 9 in the Health and Social Care Committee Stage 1 report, and agreed to arrange the publication of the six-monthly progress report, with the intended publication of that first report by 22 April 2025. Given this published commitment, I really don't see the need to duplicate a similar commitment within legislation, as the amendment proposes.
Moving to amendment 47, I do recognise the wish to ensure that local authorities are sufficiently funded to fulfil their vital duties related to the accommodation of looked-after children following enactment of the Bill's provisions, but I can't support this amendment because it requires Welsh Ministers to determine the funding needs of local authorities arising after the end of the transition period before the transitional period has even begun. Now, the end of the transition period could potentially be some years away, as determined by judgments about sufficiency of provision within local authorities, therefore, it's not realistic to estimate the precise level of funding for each local authority so far in advance of the transitional period having ended.
Finally, moving to amendment 48, I do recognise the wish to ensure that legacy providers are clear on the support that they will receive before the transition period begins, and how Welsh Government will communicate with them through that period. Similar to amendment 46, this was an area recognised within the Health and Social Care Committee Stage 1 report, specifically recommendation 4. I accepted that recommendation in part, committing to continue to work with stakeholders to consider what guidance and support could be made available to private and independent providers wishing to re-establish their business under a not-for-profit model, and to develop targeted communications to support different parts of the sector. Given these commitments, I consider duplicating a similar requirement within primary legislation to be unnecessary, and therefore I don't support the amendment.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ymateb i'r pwyntiau olaf yna gan Jane Dodds a chroesawu ei sylwadau, ac ailadrodd y sicrwydd a roddais i Mabon ap Gwynfor? Mae dileu elw yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel iawn i'r Llywodraeth hon, ac rydym eisiau cyflawni'r nod hwnnw cyn gynted ag y gallwn. Ni fyddem yma heddiw, yn trafod y gwelliannau hyn, pe na baem wedi blaenoriaethu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos yn glir ein hymrwymiad i ddileu elw o ofal plant a phobl ifanc. A gaf i eich sicrhau y byddwn yn parhau i wrando ar yr holl randdeiliaid hynny sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â'r agenda hon, ac wrth wraidd hynny fydd llais plant a phobl ifanc, sydd wedi bod yn sbardun i'r ddeddfwriaeth hon o'r diwrnod cyntaf? Byddwn yn hapus i gynnal y sgyrsiau gyda phobl ifanc drwy gydol y broses hon, fel y gwnes i, a hoffwn barhau â'r trafodaethau hynny gyda rhanddeiliaid eraill, wrth gwrs, yn y trydydd sector, awdurdodau lleol a thu hwnt, ac, wrth gwrs, gydag Aelodau yn y Siambr hon. Diolch yn fawr iawn, Jane, am eich cefnogaeth.
Gan fynd yn ôl at y gwelliannau. O ran gwelliant 46, rwy'n cydnabod bod yr Aelodau a'r sector eisiau cael gwybod am y cynnydd drwy'r cyfnod trosiannol o ran symud tuag at ddarpariaeth nid-er-elw, a dyna pam y gwnes i dderbyn argymhelliad 9 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chytunais i drefnu cyhoeddi'r adroddiad cynnydd chwe misol, gyda'r bwriad o gyhoeddi'r adroddiad cyntaf hwnnw erbyn 22 Ebrill 2025. O ystyried yr ymrwymiad cyhoeddedig hwn, nid wyf wir yn gweld yr angen i ddyblygu ymrwymiad tebyg o fewn deddfwriaeth, fel y mae'r gwelliant yn ei gynnig.
Gan symud i welliant 47, rwy'n cydnabod y dymuniad i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol i gyflawni eu dyletswyddau hanfodol sy'n gysylltiedig â llety plant sy'n derbyn gofal yn dilyn deddfu darpariaethau'r Bil, ond ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn oherwydd ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu anghenion cyllido awdurdodau lleol sy'n codi ar ôl diwedd y cyfnod trosiannol cyn dechrau'r cyfnod trosiannol hyd yn oed. Nawr, gallai diwedd y cyfnod trosiannol fod rhai blynyddoedd i ffwrdd, fel y penderfynir gan ddyfarniadau ynghylch digonolrwydd darpariaeth o fewn awdurdodau lleol, felly, nid yw'n realistig amcangyfrif union lefel y cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol gymaint o flaen llaw cyn i'r cyfnod trosiannol ddod i ben.
Yn olaf, wrth symud i welliant 48, rwy'n cydnabod y dymuniad i sicrhau bod darparwyr etifeddol yn glir ynghylch y cymorth y byddant yn ei dderbyn cyn i'r cyfnod trosiannol ddechrau, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â nhw drwy'r cyfnod hwnnw. Yn debyg i welliant 46, roedd hwn yn faes a gydnabyddir yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, argymhelliad 4 yn benodol. Derbyniais yr argymhelliad hwnnw'n rhannol, gan ymrwymo i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried pa ganllawiau a chymorth y gellid eu darparu i ddarparwyr preifat ac annibynnol sy'n dymuno ailsefydlu eu busnes o dan fodel nid-er-elw, a datblygu gohebiaeth wedi'i thargedu i gefnogi gwahanol rannau o'r sector. O ystyried yr ymrwymiadau hyn, rwy'n ystyried bod dyblygu gofyniad tebyg o fewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddiangen, ac felly nid wyf yn cefnogi'r gwelliant.
James Evans to respond. No response.
James Evans i ymateb. Dim ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 44? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 46—sori, gwelliant 46—yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 46 wedi'i wrthod.
The question is that amendment 44 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is objection. We will therefore move to a vote on amendment 46—I apologise, it's amendment 46—in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against, therefore amendment 46 is not agreed.
Gwelliant 46: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 46: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 47—
Amendment 47—
—is it being moved?
—a yw'n cael ei gynnig?
Cynigiwyd gwelliant 47 (James Evans).
Amendment 47 (James Evans) moved.
Mae'n cael ei symud, ydy. Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 47? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 47 yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 47 wedi'i wrthod.
It is being moved. Thank you. The question is that amendment 47 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is objection. We will move to a vote on amendment 47 in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against, and therefore amendment 47 is not agreed.
Gwelliant 47: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 47: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 48 yn cael ei symud?
Amendment 48, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 48 (James Evans).
Amendment 48 (James Evans) moved.
Symud.
I move.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 48. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, mae gwelliant 48 wedi'i wrthod.
Thank you. The question is that amendment 48 be agreed to. [Objection.] Yes, there is objection. We will therefore move to a vote on amendment 48. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against, and therefore amendment 48 is not agreed.
Gwelliant 48: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 48: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 23, Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?
Amendment 23 is next, Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 23 (Dawn Bowden).
Amendment 23 (Dawn Bowden) moved.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 23? Nac oes, felly mae gwelliant 23 wedi'i dderbyn.
It is. Are there any objections to amendment 23? No. Therefore, amendment 23 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 24 yn cael ei symud?
Amendment 24, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 24 (Dawn Bowden).
Amendment 24 (Dawn Bowden) moved.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 24? Nac oes, felly mae e wedi'i basio.
It is. Are there any objections to amendment 24? No. It is therefore agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 8, felly, yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r wythfed grŵp yma yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i’r ardal. Gwelliant 49 yw'r prif welliant yn y grŵp. James Evans sy'n cynnig gwelliant 49.
Group 8, therefore, is the next group of amendments, and this eighth group relates to out-of-area placements. The lead amendment is amendment 49. James Evans to move amendment 49.
Cynigiwyd gwelliant 49 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Amendment 49 (James Evans, supported by Mabon ap Gwynfor) moved.
Diolch, Llywydd, and I'm pleased to speak to the amendments in this group, tabled in my name. I will also be speaking to those of Mabon ap Gwynfor.
Given that the Minister had stated in Stage 2 a desire for certainty in this Bill, I would hope that they would be open to supporting the efforts of these amendments to clarify this important area. My amendments 49, 51, 50 and 52 seek to push this, as was done in the previous stage. I appreciate the Minister is on the same page as us, and that we all want children placed in the best place for them. And I do acknowledge her concerns with certain interpretations of the approach that these amendments take, however, I do think that it's important that this is placed on the face of the Bill.
I'm also happy to support Mabon ap Gwynfor’s amendments in this group, 81 and 82, which aim to set out the circumstances in which a child could be placed outside their own local authority area and to ensure that placements are as close as possible to the relevant authority, with the child's view being taken into account and also considered. So, diolch, Llywydd.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o sôn am y gwelliannau yn y grŵp hwn, a gyflwynwyd yn fy enw i. Byddaf hefyd yn siarad am rai Mabon ap Gwynfor.
O ystyried bod y Gweinidog wedi datgan yng Nghyfnod 2 awydd am sicrwydd yn y Bil hwn, byddwn yn gobeithio y byddent yn agored i gefnogi ymdrechion y gwelliannau hyn i egluro'r maes pwysig hwn. Mae fy ngwelliannau 49, 51, 50 a 52 yn ceisio gwthio hyn, fel y gwnaed yn y cyfnod blaenorol. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog ar yr un dudalen â ni, a'n bod ni i gyd eisiau i blant gael eu rhoi yn y lle gorau iddyn nhw. Ac rwy'n cydnabod ei phryderon ynghylch dehongliadau penodol o ddull gweithredu'r gwelliannau hyn, fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hyn yn cael ei roi ar wyneb y Bil.
Rwy'n hapus hefyd i gefnogi gwelliannau Mabon ap Gwynfor yn y grŵp hwn, 81 ac 82, sy'n ceisio nodi'r amgylchiadau lle gallai plentyn gael ei leoli y tu allan i ardal ei awdurdod lleol ei hun a sicrhau bod lleoliadau mor agos â phosibl i'r awdurdod perthnasol, gyda barn y plentyn yn cael ei hystyried a'i ystyried hefyd. Diolch yn fawr, Llywydd.
Mabon ap Gwynfor.
Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Dwi'n hapus i gyflwyno gwelliannau 81 ac 82, yn ogystal â 49, 50, 51 a 52 ar y cyd â'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, er mwyn cyflawni'r nod o atal plant rhag cael eu lleoli yn bell o'u hawdurdod lleol yn ddiangen.
Un o'r elfennau mwyaf niweidiol o'r system bresennol ydy bod bron i draean o'r holl blant sy'n byw mewn gofal yng Nghymru yn cael eu lleoli y tu allan i'w hawdurdod lleol, tra bod 7 y cant yn ychwanegol yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl. Mae’r dystiolaeth yn glir: gall lleoli plant mewn cartrefi y tu allan i’w hawdurdod lleol, ymhell o’u cymunedau a'u rhwydweithiau cymorth, gynyddu eu risg o niwed a chamfanteisio. Dim ond mewn amgylchiadau lle mae yna dystiolaeth glir o les i’r plentyn y dylai lleoliadau o’r fath gael eu hystyried felly.
Mae angen i’r Bil yma ddarparu eglurder clir ar y mater hwn, ond ar hyn o bryd nid yw hyn yn amlwg o’r iaith arfaethedig yn adran 10 sy’n diwygio adran 75 o Ddeddf 2014. Mae yna risg, felly, o awdurdodau lleol yn dehongli’r adran yma yn wahanol, gan arwain at blant yn cael eu lleoli y tu allan i’w hardaloedd lleol yn ddiangen, ac anghysondeb o ran gweithredu ar draws Cymru. Drwy gyfeirio yn benodol yn y Bil at 'awdurdodau lleol cyfagos', bydd mwy o eglurder ynghylch ble mae'n briodol symud plentyn iddo.
Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog sôn am y canlyniadau anfwriadol a fyddai’n deillio o welliant o’r fath, gan ddefnyddio’r enghraifft o blentyn yn cael ei symud o Ferthyr i ogledd Powys o dan y diffiniad 'awdurdod lleol cyfagos', yn hytrach nag i Flaenau Gwent, sydd ddim, yn dechnegol, yn syrthio o dan y categori yma. Mae cyfreithwyr y Senedd hefyd wedi nodi’r risg posibl fod rheoliadau gor-gyfyng ar y mater yn medru tanseilio’r bwriad o sicrhau bod dymuniadau'r plant yn cael eu hystyried yn llawn yng nghyd-destun penderfyniadau ar leoliadau.
Rydym ni'n cydnabod yn llwyr y pryderon yma ac, wedi adlewyrchu ar hyn ymhellach, rydym ni wedi sicrhau bod y gwelliannau yn galluogi amgylchiadau arbennig er mwyn caniatáu sefyllfaoedd lle mae cartref llawer mwy addas ar gyfer anghenion plentyn neu berson ifanc, ond nad yw’n eistedd o fewn awdurdod lleol cyfagos. Mae’r angen i farn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu berson ifanc priodol gael eu hystyried yn ystod penderfyniadau o’r fath hefyd wedi ei gyfeirio ato yn fwy eglur yn y gwelliannau yma.
Felly, dwi'n eich annog chi i gefnogi'r gwelliannau.
Thank you, Llywydd. I'm happy to move amendments 81 and 82, as well as amendments 49, 50, 51 and 52 jointly with the Member for Brecon and Radnorshire, in order to achieve the aim of preventing children from being placed far away from their local authority unnecessarily.
One of the most damaging elements of the current system is that almost a third of children living in care in Wales are placed outside their local authority, while an additional 7 per cent are placed outside Wales entirely. The evidence is clear: placing children in homes outside their local authority, far away from their communities and support networks, can increase their risk of harm and exploitation. It is only in circumstances where there is clear evidence of the child’s well-being that such placements should be considered.
This Bill needs to provide clarity on this matter, but at present this is not clear from the proposed language in section 10 that amends section 75 of the 2014 Act. There is therefore a risk of local authorities interpreting this section differently, leading to children being placed outside their local areas unnecessarily, and inconsistency in terms of implementation across Wales. By referring specifically in the Bill to 'neighbouring local authorities', there will be more clarity regarding to where it would be appropriate to move a child.
During Stage 2, the Minister spoke of the unintended consequences that would arise from an amendment of this kind, using the example of a child being moved from Merthyr to north Powys under the definition of 'neighbouring local authority', rather than to Blaenau Gwent, which does not, technically, fall under this category. The Senedd's lawyers have also identified the possible risk that overly restrictive regulations on this matter could undermine the intention to ensure that children's wishes are fully considered in the context of decisions made on placements.
We fully recognise these concerns and, having further reflected on this matter, we have ensured that the amendments allow for exceptional circumstances in order to facilitate situations in which a home is much more suitable for the needs of a child or young person, but is not located within a neighbouring local authority. The need for the views, wishes and feelings of the relevant child or young person to be taken into account during such decisions is also more clearly addressed in these amendments.
So, I encourage you to support these amendments.
Y Gweinidog, Dawn Bowden.
The Minister, Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Yes, of course I fully understand the intention behind this group of amendments and, unfortunately, I am unable to support them as I still believe that they have unintended consequences, and I'm pleased that you remembered the examples that I gave at Stage 2, so I won't repeat them; you've already done that for me.
Similarly, amendment 51 could mean that suitable placements that are near to a child, but do not meet the exceptional circumstances test, would not be available. Conversely, another less suitable placement that could be further away would be available. I think we all agree that what we want to do is to ensure that children are placed within their local authority area as far as possible, but not at the expense of them having access to placements that best meet their needs. I am, however, happy to reiterate my commitment, given earlier in scrutiny, to consider using the code of practice, to be issued under section 145, to give guidance to local authorities on appropriately handling this issue.
Turning to amendment 50, this seeks to require a local authority to take into account a child’s wishes, views and feelings if the authority has determined that the most appropriate placement is a placement near to the local authority’s area, rather than within it. Related to this is amendment 81 requiring authorities to ensure that where a child's placement is in another local authority area, this is as close to their home as possible, unless this goes against the views or needs of the child. Again, I fully support the intention behind these amendments. However, regarding amendment 50, I don't believe it's necessary, and it is not in keeping with the structure of the sections into which it is being inserted. Local authorities are already under carefully articulated statutory duties that require them to have regard to the views, wishes and feelings of a child that they are looking after. To duplicate these duties in particular circumstances would be confusing and would throw doubt on their purpose, application and efficacy. Similarly, the issues addressed by amendment 81 are already covered within section 81A, which requires that local authorities have regard to factors including proximity to home.
As I've previously confirmed, I'm happy to reinforce the importance of local authorities complying with their existing statutory duties around this point in further communications with local authorities, and in a future code of practice to be issued under section 145.
Diolch, Llywydd. Ydw, wrth gwrs, rwy'n deall yn llwyr y bwriad y tu ôl i'r grŵp hwn o welliannau ac, yn anffodus, ni allaf eu cefnogi gan fy mod yn dal i gredu bod ganddynt ganlyniadau anfwriadol, ac rwy'n falch eich bod wedi cofio'r enghreifftiau a roddais yng Nghyfnod 2, felly ni fyddaf yn eu hailadrodd; rydych chi eisoes wedi gwneud hyn ar fy rhan.
Yn yr un modd, gallai gwelliant 51 olygu na fyddai lleoliadau addas sy'n agos i'r plentyn, ond nad ydynt yn bodloni'r prawf amgylchiadau eithriadol, ar gael. I'r gwrthwyneb, byddai lleoliad llai addas arall a allai fod ymhellach i ffwrdd ar gael. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno mai'r hyn rydym ni am ei wneud yw sicrhau bod plant yn cael eu lleoli o fewn ardal eu hawdurdod lleol cyn belled ag y bo modd, ond nid ar draul cael mynediad at leoliadau sy'n diwallu eu hanghenion orau. Fodd bynnag, rwy'n hapus i ailadrodd fy ymrwymiad, a roddir yn gynharach adeg craffu, i ystyried defnyddio'r cod ymarfer, sydd i'w gyhoeddi o dan adran 145, i roi arweiniad i awdurdodau lleol ar y ffordd o ymdrin â'r mater hwn yn briodol.
Gan droi at welliant 50, mae hwn yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried dymuniadau, barn a theimladau plentyn os yw'r awdurdod wedi penderfynu mai'r lleoliad mwyaf priodol yw lleoliad sy'n agos at ardal yr awdurdod lleol, yn hytrach nag ynddo. Yn gysylltiedig â hyn mae gwelliant 81 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sicrhau, pan fo lleoliad plentyn mewn ardal awdurdod lleol arall, fod hyn mor agos at ei gartref â phosibl, oni bai bod hyn yn mynd yn groes i farn neu anghenion y plentyn. Unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Fodd bynnag, o ran gwelliant 50, nid wyf yn credu ei fod yn angenrheidiol, ac nid yw'n cyd-fynd â strwythur yr adrannau y mae'n cael eu mewnosod ynddynt. Mae awdurdodau lleol eisoes o dan ddyletswyddau statudol a fynegir yn ofalus sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried barn, dymuniadau a theimladau plentyn y maent yn gofalu amdanynt. Byddai dyblygu'r dyletswyddau hyn mewn amgylchiadau penodol yn ddryslyd a byddai'n taflu amheuaeth ar eu pwrpas, eu defnydd a'u heffeithiolrwydd. Yn yr un modd, mae'r materion y mae gwelliant 81 eisoes yn eu trafod yn adran 81A, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried ffactorau gan gynnwys agosrwydd at adref.
Fel yr wyf wedi cadarnhau o'r blaen, rwy'n hapus i atgyfnerthu pwysigrwydd awdurdodau lleol i gydymffurfio â'u dyletswyddau statudol presennol ynghylch y pwynt hwn mewn gohebiaeth bellach gydag awdurdodau lleol, ac mewn cod ymarfer i'w gyhoeddi o dan adran 145 yn y dyfodol.
James Evans to respond.
James Evans i ymateb.
Diolch, Llywydd. I thank the Minister and Mabon ap Gwynfor for taking part in this debate. Even though the Minister has committed to strengthening the code of practice, I still strongly believe that we need to make sure that all children need to be kept as close as possible to their home local authority. We don't need children going out of Wales, or, say, someone in south Wales going to north Wales—it's totally not appropriate. I think we need these provisions in the Bill, and that's why I ask all Members across the Chamber today to support the amendments tabled in my name, and those in the name of Mabon ap Gwynfor as well.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog a Mabon ap Gwynfor am gymryd rhan yn y ddadl hon. Er bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gryfhau'r cod ymarfer, rwy'n dal i gredu'n gryf bod angen i ni sicrhau bod angen cadw pob plentyn mor agos â phosibl at eu hawdurdod lleol cartref. Nid ydym eisiau gweld plant yn mynd allan o Gymru, neu, dyweder, rhywun yn ne Cymru yn mynd i ogledd Cymru—nid yw'n briodol o gwbl. Rwy'n credu bod angen y darpariaethau hyn arnom yn y Bil, a dyna pam rwy'n gofyn i bob Aelod ar draws y Siambr heddiw gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, a'r rhai yn enw Mabon ap Gwynfor hefyd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 49? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 49. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 49 wedi ei wrthod.
The question is that amendment 49 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will therefore move to a vote on amendment 49. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against, and therefore amendment 49 is not agreed.
Gwelliant 49: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 49: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 25. Ydy e'n cael ei symud, Weinidog?
Amendment 25. Is it moved, Minister?
Cynigiwyd gwelliant 25 (Dawn Bowden).
Amendment 25 (Dawn Bowden) moved.
Ydy, mae e. Felly, oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 25? Nac oes. Mae gwelliant 25 yn cael ei gymeradwyo.
Yes, it is. So, are there any objections to amendment 25? There are none. Amendment 25 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 26. Ydy e'n cael ei symud?
Amendment 26. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 26 (Dawn Bowden).
Amendment 26 (Dawn Bowden) moved.
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 26 yn cael ei dderbyn.
It is. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 26 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 27. Weinidog, ydy e'n cael ei symud?
Amendment 27. Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 27 (Dawn Bowden).
Amendment 27 (Dawn Bowden) moved.
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 27 yn cael ei dderbyn.
It is. So, are there any objections? There are none. Amendment 27 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 51. Ydy e'n cael ei symud, James Evans?
Amendment 51. Is it moved, James Evans?
Cynigiwyd gwelliant 51 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Amendment 51 (James Evans, supported by Mabon ap Gwynfor) moved.
Symud.
Moved.
Os gwrthodir gwelliannau 51 a 50, bydd gwelliant 52 yn methu hefyd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 51, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 51 wedi ei wrthod.
If amendments 51 and 50 are not agreed to, amendment 52 falls too. The question is that amendment 51 be agreed to. [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 51, in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against, and therefore amendment 51 is not agreed.
Gwelliant 51: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 51: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 50. James Evans, ydy e'n cael ei symud?
Amendment 50. James Evans, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 50 (James Evans, gyda chefnogaeth Mabon ap Gwynfor).
Amendment 50 (James Evans, supported by Mabon ap Gwynfor) moved.
Ydy, mae e'n cael ei symud. Os bydd gwelliant 50 yn cael ei wrthod, bydd gwelliant 52 yn methu hefyd. A oes gwrthwynebiad i welliant 50? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebaid. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 50, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 50 wedi ei wrthod.
Yes, it is moved. If amendment 50 is not agreed, amendment 52 will fall too. Are there any objections to amendment 50? [Objection.] Yes, there are objections. We will move to a vote on amendment 50, in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Amendment 50 is not agreed.
Gwelliant 50: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 50: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 52.
Amendment 52 fell.
Gwelliant 81 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud, Mabon ap Gwynfor?
Amendment 81 is next. Is it moved, Mabon ap Gwynfor?
Cynigiwyd gwelliant 81 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 81 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Ydy, mae e. Os gwrthodir gwelliant 81, bydd gwelliant 82 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 81? [Gwrthwynebiad.] Mae e'n cael ei wrthwynebu, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 81, yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 81 wedi methu, ac mae gwelliant 82 hefyd yn methu.
Yes, it is. If amendment 81 is not agreed, amendment 82 falls. The question is that amendment 81 be agreed to. [Objection.] There is objection, so we will move to a vote on amendment 81, in the name of Mabon ap Gwynfor. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Amendment 81 falls, and amendment 82 also falls.
Gwelliant 81: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 81: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 82.
Amendment 82 fell.
Grŵp 9 o welliannau sydd nesaf. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â lleoliadau atodol. Gwelliant 53 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar James Evans i gyflwyno'r gwelliant yma.
Group 9 is the next group of amendments. This group relates to supplementary placements. The lead amendment is amendment 53, and I call on James Evans to move the amendment.
Cynigiwyd gwelliant 53 (James Evans).
Amendment 53 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I'll speak to the amendments that comprise this group. As we know, unregistered placements are, obviously, already unlawful, and, yet, we know with certainty that they do happen, and many of us in this Chamber have taken evidence about the use of unlawful placements, as was raised in Stage 2. There is a concern that the additional pressure on the sector that this Bill would undoubtedly inflict could trigger an increase of the use of such placements. We as a Senedd must not be sitting idly by while these placements carry on, and we certainly should not be allowing the situation to get worse as a direct consequence of legislation passed in this place. Amendments 53 and 56 seek to address this, as was done in Stage 2. Further to this, amendment 57 pushes for the Minister to prepare and publish an annual report on supplementary placements approved by Welsh Ministers under this Bill. Whilst I am pleased that the Minister committed to updating the Senedd periodically, I do not share the opinion that a requirement shouldn't be on the face of the Bill. In my view, there is nothing lost in its inclusion, but what we gain is reliability. And, given the importance of this matter, it should not be considered too big of an ask to expect Welsh Ministers to commit to updating us periodically once a year on this very important topic. Diolch, Llywydd.
Diolch, Llywydd. Rwyf am siarad am y gwelliannau a gynhwysir yn y grŵp hwn. Fel y gwyddom, mae lleoliadau anghofrestredig, yn amlwg, eisoes yn anghyfreithlon, ac eto, rydym yn gwybod yn sicr eu bod yn digwydd, ac mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi cymryd tystiolaeth am y defnydd o leoliadau anghyfreithlon, fel y codwyd yng Nghyfnod 2. Mae pryder y gallai'r pwysau ychwanegol ar y sector y byddai'r Bil hwn yn sicr yn ei achosi, sbarduno cynnydd yn y defnydd o leoliadau o'r fath. Rhaid i ni fel Senedd beidio â sefyll yn ddidaro tra bod y lleoliadau hyn yn parhau, ac yn sicr ni ddylem fod yn caniatáu i'r sefyllfa waethygu o ganlyniad uniongyrchol i ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn. Mae gwelliannau 53 a 56 yn ceisio mynd i'r afael â hyn, fel y gwnaed yng Nghyfnod 2. Yn ogystal â hyn, mae gwelliant 57 yn gwthio'r Gweinidog i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar leoliadau atodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan y Bil hwn. Er fy mod yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd o bryd i'w gilydd, nid wyf yn rhannu'r farn na ddylai'r gofyniad fod ar wyneb y Bil. Yn fy marn i, nid oes unrhyw beth yn cael ei golli wrth ei gynnwys, ond yr hyn yr ydym yn ei ennill yw dibynadwyedd. Ac, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn, nid yw'n gofyn gormod i Weinidogion Cymru ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o bryd i'w gilydd, unwaith y flwyddyn, ynghylch y pwnc pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.
Y Gweinidog i gyfrannu—Dawn Bowden.
The Minister to contribute—Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. The amendments in this group all relate to section 13 of the Bill, which inserts new sections 81A to 81D into the 2016 Act. Section 81 imposes a duty on a local authority to arrange for a looked-after child to live with a parent, a person with parental responsibility, or a person in whose favour a child arrangements order has been made.
However, where this is not consistent with the looked-after child's well-being, or is not reasonably practicable, under section 81A, the local authority must accommodate the child in the 'most appropriate placement available'. The section further provides that the most appropriate placement should be in not-for-profit residential or foster care in the first instance. Where this is not possible, local authorities must make an application to the Welsh Ministers in respect of what is referred to as a 'supplementary placement' under section 81B.
Whilst I'm sympathetic to the intention behind amendments 53, 54 and 55, I don't believe that they are necessary and they could cause confusion about the legal position. This is because placements that are not registered with Care Inspectorate Wales do not come within the scope of 'supplementary placements' and, therefore, could not be the subject of an application by a local authority for approval under section 81B.
As I've made clear throughout the scrutiny process, the provisions of the Bill will only enable Welsh Ministers to approve supplementary placements with a registered provider of children's residential or foster care. These providers will be registered for-profit providers in Wales who will be subject to the transitional arrangements under the Bill, or registered providers who are operating in England. The Bill will not enable Welsh Ministers to authorise an unregistered placement.
At stage 2, I gave an undertaking that my officials will ensure that this position is clearly set out in the statutory guidance to local authorities to support operation of the supplementary approval process. When I wrote to the Chair of the Health and Social Care Committee on 17 December following Stage 2 proceedings, I confirmed this undertaking in writing.
Turning to amendment 56, this would require a code of practice issued under section 145 of the 2014 Act to state that Welsh Ministers must carry out due diligence checks when considering an application for approval of a supplementary placement and list the information that will be required as part of these checks, including checking that the provider with whom the placement is being sought is registered in respect of that placement.
It also requires the code to provide clarity on whether a child can be placed in a supplementary placement in advance of approval being given by Welsh Ministers, to enable Welsh Ministers to delegate their power to approve supplementary placements, and to include examples of exceptional circumstances in which supplementary placements may be used.
During Stage 2, I gave an undertaking that the due diligence checks that Welsh Government officials will undertake when considering an application for approval of a supplementary placement will include checking that the provider with whom the placement is being sought is registered in respect of that placement. The first part of this amendment seeks to embody that undertaking within a code of practice. However, the power in section 145 of the 2014 Act to issue a code of practice relates to local authority social services functions. It would not be possible for Welsh Ministers to be compelled to perform certain functions in such a code.
In my response to recommendation 10 of the committee’s report, I committed to ensuring that any guidance or code of practice issued in relation to section 13 confirms that the Bill does not prevent local authorities from placing a child in a supplementary placement prior to ministerial approval being granted. In addition, under the Carltona principle, Welsh Government officials are currently able to act on behalf of Welsh Ministers, and could apply this to approve placements, if necessary. In light of this, I do not consider it necessary to place similar requirements within primary legislation.
I also agreed that such guidance would emphasise that the use of supplementary placements should not become the default position, particularly during challenging times. And whilst I understand the sentiment behind including examples of exceptional circumstances in which supplementary placements can be used, I do not think it would be appropriate or necessary to do this, and for these reasons I cannot accept the amendment.
Amendment 57—[Interruption.] Of course.
Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn i gyd yn ymwneud ag adran 13 o'r Bil, sy'n mewnosod adrannau newydd 81A i 81D yn Neddf 2016. Mae adran 81 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i drefnu i blentyn sy'n derbyn gofal fyw gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu berson y mae gorchymyn trefniadau plant wedi'i wneud o'i blaid.
Fodd bynnag, pan nad yw hyn yn gyson â llesiant y plentyn sy'n derbyn gofal, neu os nad yw'n rhesymol ymarferol, o dan adran 81A, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu ar gyfer y plentyn yn y 'lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael'. Mae'r adran yn darparu ymhellach y dylai'r lleoliad mwyaf priodol fod mewn gofal preswyl neu faeth nid-er-elw yn y lle cyntaf. Lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid i awdurdodau lleol wneud cais i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r hyn y cyfeirir ato fel 'lleoliad atodol' o dan adran 81B.
Er fy mod yn cydymdeimlo â'r bwriad y tu ôl i welliannau 53, 54 a 55, nid wyf yn credu eu bod yn angenrheidiol a gallent achosi dryswch ynghylch y sefyllfa gyfreithiol. Y rheswm am hyn yw nad yw lleoliadau nad ydynt wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn dod o fewn cwmpas 'lleoliadau atodol' ac, felly, ni allent fod yn destun cais gan awdurdod lleol i'w cymeradwyo o dan adran 81B.
Fel y dywedais i yn glir drwy gydol y broses graffu, bydd darpariaethau'r Bil dim ond yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo lleoliadau atodol gyda darparwr cofrestredig gofal preswyl neu faeth plant. Bydd y darparwyr hyn yn ddarparwyr cofrestredig er elw yng Nghymru a fydd yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol o dan y Bil, neu ddarparwyr cofrestredig sy'n gweithredu yn Lloegr. Ni fydd y Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi lleoliad anghofrestredig.
Yng nghyfnod 2, rhoddais ymrwymiad y bydd fy swyddogion yn sicrhau bod y sefyllfa hon wedi'i nodi'n glir yn y canllawiau statudol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithrediad y broses gymeradwyo atodol. Pan ysgrifennais at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 17 Rhagfyr yn dilyn trafodion Cyfnod 2, cadarnheais yr ymgymeriad hwn yn ysgrifenedig.
Gan droi at welliant 56, byddai hwn yn ei gwneud yn ofynnol i god ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2014 ddatgan bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy wrth ystyried cais i gymeradwyo lleoliad atodol a rhestru'r wybodaeth y bydd ei hangen fel rhan o'r gwiriadau hyn, gan gynnwys gwirio bod darparwr y lleoliad dan sylw wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw.
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod ddarparu eglurder ynghylch a ellir lleoli plentyn mewn lleoliad atodol cyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ddirprwyo eu pŵer i gymeradwyo lleoliadau atodol, ac i gynnwys enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol lle gellir defnyddio lleoliadau atodol.
Yn ystod Cyfnod 2, rhoddais addewid y bydd y gwiriadau diwydrwydd dyladwy y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cynnal wrth ystyried cais i gymeradwyo lleoliad atodol yn cynnwys gwirio bod darparwr y lleoliad dan sylw wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw. Mae rhan gyntaf y gwelliant hwn yn ceisio ymgorffori'r ymgymeriad hwnnw o fewn cod ymarfer. Fodd bynnag, mae'r pŵer yn adran 145 o Ddeddf 2014 i gyhoeddi cod ymarfer yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Ni fyddai'n bosibl gorfodi Gweinidogion Cymru i gyflawni rhai swyddogaethau mewn cod o'r fath.
Yn fy ymateb i argymhelliad 10 o adroddiad y pwyllgor, ymrwymais i sicrhau bod unrhyw ganllawiau neu god ymarfer a gyhoeddir mewn perthynas ag adran 13 yn cadarnhau nad yw'r Bil yn atal awdurdodau lleol rhag lleoli plentyn mewn lleoliad atodol cyn i weinidogion gymeradwyo hwnnw. Yn ogystal, o dan egwyddor Carltona, ar hyn o bryd mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, a gallent gymhwyso hyn i gymeradwyo lleoliadau, os oes angen. Yng ngoleuni hyn, nid wyf o'r farn ei bod yn angenrheidiol gosod gofynion tebyg o fewn deddfwriaeth sylfaenol.
Cytunais hefyd y byddai canllawiau o'r fath yn pwysleisio na ddylai'r defnydd o leoliadau atodol ddod yn sefyllfa ddiofyn, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol. Ac er fy mod yn deall y teimlad y tu ôl i gynnwys enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol lle gellir defnyddio lleoliadau atodol, nid wyf yn credu y byddai'n briodol nac yn angenrheidiol gwneud hyn, ac am y rhesymau hyn ni allaf dderbyn y gwelliant.
Gwelliant 57—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Thank you very much. I'm sure you'll agree, Minister, there's a lot of concern around unregistered placements, and this amendment, as I understand it, seeks to ensure that there are safeguards in relation to any intention to use unregistered placements. I think it might be helpful if we could hear from you what safeguards you would see being in place—and you may be going on to that—in order to ensure that we don't use unregistered placements, because there are no circumstances that we should be using them. Thank you so much. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, Gweinidog, mae llawer o bryder ynghylch lleoliadau anghofrestredig, ac mae'r gwelliant hwn, fel yr wyf yn ei ddeall, yn ceisio sicrhau bod mesurau diogelu ar waith mewn perthynas ag unrhyw fwriad i ddefnyddio lleoliadau anghofrestredig. Rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol pe gallem glywed gennych pa fesurau diogelu y byddech chi eisiau eu gweld ar waith—ac efallai eich bod chi'n mynd ymlaen i hynny—er mwyn sicrhau nad ydym ni'n defnyddio lleoliadau anghofrestredig, oherwydd does dim amgylchiadau pryd y dylem ni fod yn eu defnyddio. Diolch yn fawr iawn.
I absolutely understand Members' concerns about the use of unregistered placements. We don't want to see unregistered placements being used either, and we're working very hard with Care Inspectorate Wales and with local authorities to ensure that that doesn't happen. This is all part of what we're trying to do within the scope of this Bill in terms of the level of sufficiency for registered care placements for children—that's part of what we're seeking to do. But, to be absolutely clear, an unregistered placement cannot fall within the scope of this Bill.
Because they're not legal entities as far as the Welsh Ministers are concerned, we cannot make any decisions based on what would be effectively an unlawful placement. So, we can't place them within the terms of this Bill. But I can assure you that we are continuing to work as hard as we can to ensure that we have fewer and fewer unregistered placements, and we are seeing a reduction in those because of the work that's actually going on as part of the sufficiency planning of local authorities to deliver the objectives of this Bill.
Amendment 57 would require the Welsh Ministers, in respect of each financial year, to publish a report relating to supplementary placements. This report must include anonymised data about the age of each child placed in a supplementary placement, the local authority that placed them, the type of placement requested, whether it was within Wales or elsewhere, whether the child had previously been placed in a placement, the cost of the placement, and any other relevant information. The amendment also requires this report to be made before the Senedd as soon as reasonably practicable.
I understand the wish of Members to be updated on the position regarding Welsh Ministers' approval of supplementary placements, and I have made a clear commitment to update the Senedd periodically, as you quite rightly said, James Evans, on the position regarding this. As such, I do not believe that this amendment is necessary. I therefore ask Members to resist all the amendments in this group. Diolch yn fawr.
Rwy'n deall pryderon yr Aelodau yn llwyr am y defnydd o leoliadau anghofrestredig. Nid ydym ni eisiau gweld lleoliadau anghofrestredig yn cael eu defnyddio chwaith, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a chydag awdurdodau lleol i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Mae hyn i gyd yn rhan o'r hyn rydym ni'n ceisio'i wneud o fewn cwmpas y Bil hwn o ran lefel ddigonolrwydd lleoliadau gofal cofrestredig i blant—mae hynny'n rhan o'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud. Ond, i fod yn gwbl glir, ni all lleoliad anghofrestredig fod o fewn cwmpas y Bil hwn.
Oherwydd nad ydynt yn endidau cyfreithiol yng ngolwg Gweinidogion Cymru, ni allwn wneud unrhyw benderfyniadau ar sail yr hyn a fyddai mewn gwirionedd yn lleoliad anghyfreithlon. Felly, ni allwn eu gosod o fewn telerau'r Bil hwn. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio mor galed ag y gallwn i sicrhau bod gennym lai a llai o leoliadau heb eu cofrestru, ac rydym yn gweld gostyngiad yn y rheini oherwydd y gwaith sy'n digwydd mewn gwirionedd fel rhan o gynllunio digonolrwydd awdurdodau lleol i gyflawni amcanion y Bil hwn.
Byddai gwelliant 57 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad yn ymwneud â lleoliadau atodol. Rhaid i'r adroddiad hwn gynnwys data dienw am oedran pob plentyn a leolwyd mewn lleoliad atodol, yr awdurdod lleol a'u lleolodd, y math o leoliad y gofynnwyd amdano, p'un a oedd yng Nghymru neu rywle arall, a oedd y plentyn wedi ei leoli mewn lleoliad o'r blaen, cost y lleoliad, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Mae'r gwelliant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r adroddiad hwn gael ei wneud gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Rwy'n deall dymuniad yr Aelodau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo lleoliadau atodol, ac rwyf wedi gwneud ymrwymiad clir i ddiweddaru'r Senedd o bryd i'w gilydd, fel y dywedoch yn gwbl briodol, James Evans, am y sefyllfa ynglŷn â hyn. O'r herwydd, nid wyf yn credu bod angen y gwelliant hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthsefyll yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.
James Evans to respond.
James Evans i ymateb.
Diolch. I think Jane put it well, actually: we need to make sure we don't have any unregistered placements across Wales. I do respect the work that the Welsh Government is doing to try and reduce that, but it is going to happen, it isn't going to stop overnight, even though I wish it would, and we do need to have those robust safeguards in place. I still firmly believe that we do need to have an annual report brought to the Senedd on the use of unregistered placements. I know you've given a commitment in other places to do that, but I think we need to see it directly on this matter to see how the Welsh Government's work is reducing those unregistered placements across Wales. I think that's very important. I think we should all be supporting these amendments today to make sure we drive out unregistered placements right the way across Wales. Diolch, Llywydd.
Diolch. Rwy'n credu bod Jane wedi ei gyfleu yn dda iawn, mewn gwirionedd: mae angen i ni sicrhau nad oes gennym unrhyw leoliadau anghofrestredig ledled Cymru. Rwy'n parchu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio eu lleihau, ond mae'n mynd i ddigwydd, nid yw'n mynd i ddod i ben dros nos, er mai dyna fy nymuniad i, ac mae angen i ni gael y mesurau diogelu cadarn hynny ar waith. Rwy'n dal i gredu'n gryf bod angen i ni gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Senedd ar ddefnyddio lleoliadau anghofrestredig. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymrwymo mewn mannau eraill i wneud hynny, ond rwy'n credu bod angen i ni ei weld yn uniongyrchol ynghylch y mater hwn i weld sut mae gwaith Llywodraeth Cymru yn lleihau'r lleoliadau anghofrestredig hynny ledled Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n credu y dylem i gyd fod yn cefnogi'r gwelliannau hyn heddiw i sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar leoliadau anghofrestredig ar draws Cymru. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 53? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais ar welliant 53, yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 53 wedi'i wrthod.
The question is that amendment 53 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will therefore move to a vote on amendment 53 in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, and 25 against. Amendment 53 is not agreed.
Gwelliant 53: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 53: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 54 yn cael ei symud?
Amendment 54—is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 54 (James Evans).
Amendment 54 (James Evans) moved.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 54? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 54. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 54 wedi'i wrthod.
It is. Are there any objections to amendment 54? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 54. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 54 is not agreed.
Gwelliant 54: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 54: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 55 yn cael ei symud?
Amendment 55—is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 55 (James Evans).
Amendment 55 (James Evans) moved.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad i welliant 55? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 55. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 55 wedi'i wrthod.
It is. Are there any objections to amendment 55? [Objection.] There are. We will therefore move to a vote on amendment 55. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 55 is not agreed.
Gwelliant 55: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 55: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 56 yn cael ei symud?
Amendment 56—is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 56 (James Evans).
Amendment 56 (James Evans) moved.
Moved.
Cynigiwyd
Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly mi wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 56. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 56 wedi'i wrthod.
It is. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are. We will therefore move to a vote on amendment 56. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 56 is not agreed.
Gwelliant 56: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 56: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 57 yn cael ei symud, James Evans?
Amendment 57—is it moved, James Evans?
Cynigiwyd gwelliant 57 (James Evans).
Amendment 57 (James Evans) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Pleidlais, felly, ar welliant 57. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Mae gwelliant 57 yn cael ei wrthod.
Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] There are. A vote, therefore, on amendment 57. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 57 is not agreed.
Gwelliant 57: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 57: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Ydy gwelliant 58 yn cael ei symud, James Evans?
Amendment 58—is it moved, James Evans?
Cynigiwyd gwelliant 58 (James Evans).
Amendment 58 (James Evans) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mi wnawn ni agor y bleidlais ar welliant 58. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 58 yn cael ei wrthod.
Yes, it is. Are there any objections? [Objection.] Yes, there are. We will therefore open the vote on amendment 58. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 58 is not agreed.
Gwelliant 58: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 58: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 83, Mabon ap Gwynfor. Ydy e'n cael ei symud?
Amendment 83. Is it moved, Mabon ap Gwynfor?
Cynigiwyd gwelliant 83 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 83 (Mabon ap Gwynfor) moved.
Symud.
Moved.
Ydy, mae e'n cael ei symud. Ac os gwrthodir gwelliant 83, bydd gwelliant 87 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 83? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni gael pleidlais ar welliant 83 yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 83 wedi'i wrthod. Mae gwelliant 87 hefyd yn methu.
Yes, it is. And if amendment 83 is not agreed, amendment 87 falls. The question is that amendment 83 be agreed to. [Objection.] There is objection. We will therefore move to a vote on amendment 83 in the name of Mabon ap Gwynfor. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 83 is not agree. And amendment 87 falls.
Gwelliant 83: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 83: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 87.
Amendment 87 fell.
Felly, gwelliant 1 sydd nesaf, i'w gynnig gan y Gweinidog.
Amendment 1 is next. Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 1 (Dawn Bowden).
Amendment 1 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae gwelliant 1 yn cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 1? Nac oes. Mae gwelliant 1 wedi'i basio.
Yes, it is moved. Does any Member object? No. Amendment 1 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 28. Ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Amendment 28. Is it moved by the Minister?
Cynigiwyd gwelliant 28 (Dawn Bowden).
Amendment 28 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 28? Nac oes. Felly, mae'n cael ei dderbyn.
Yes, it is. Are there any objections to amendment 28? No. Therefore, it's agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 29, Gweinidog.
Amendment 29, Minister.
Cynigiwyd gwelliant 29 (Dawn Bowden).
Amendment 29 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e'n cael ei dderbyn.
Yes, it is moved. Are there any objections? Therefore, it's agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 10 yw'r grŵp nesaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud ag arolygu. Gwelliant 30 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a'r Gweinidog sy'n cynnig y prif welliant—Dawn Bowden.
Amendment 10 is the next group of amendments, and these relate to inspection. Amendment 30 is the lead amendment in this group, and I call on the Minister to move the lead amendment—Dawn Bowden.
Cynigiwyd gwelliant 30 (Dawn Bowden).
Amendment 30 (Dawn Bowden) moved.
Diolch, Llywydd. This group of amendments has been brought forward principally for the purpose of clarifying the drafting around the power of the regulator, Care Inspectorate Wales, to undertake investigations, including entering premises for that purpose. During Stage 2 of the scrutiny of the Health and Social Care (Wales) Bill, Members may recall that provisions were introduced by way of Government amendment to clarify this power of Welsh Ministers. The amendments in this group serve to improve the precision of the drafting of the provisions concerning investigations in a number of ways. Amendment 30 improves the application of the inserted provision section 33(1A), which contains a definition of 'investigation' for the purposes of Part 1 of the 2016 Act. It does this by defining an 'investigation' as an investigation into whether a person is committing or has committed an offence under any of the provisions of Part 1 of the 2016 Act, rather than simply in relation to offences under section 5.
Amendments 31, 32 and 40 are complementary to each other, in that they remove from section 34 of the 2016 Act references to powers of entry being used for the purposes of inspecting premises. Section 34 concerns powers of inspectors to enter premises. These amendments build upon the amendments made to this section at Stage 2 by removing the words 'and inspect' in three places where their continued presence is no longer appropriate given the equal emphasis of the provision on investigation and inspection.
I was grateful to the committee for supporting the principal amendments upon which these amendments build, and ask all Members to support these amendments also. Diolch yn fawr.
Diolch, Llywydd. Mae'r grŵp hwn o welliannau wedi cael eu cyflwyno'n bennaf er mwyn egluro'r drafftio ynghylch pŵer y rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru, i gynnal ymchwiliadau, gan gynnwys mynd i mewn i eiddo at y diben hwnnw. Yn ystod Cyfnod 2 y gwaith craffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), efallai fod Aelodau yn cofio bod darpariaethau wedi'u cyflwyno drwy gyfrwng gwelliant y Llywodraeth i egluro'r pŵer hwn gan Weinidogion Cymru. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwella cywirdeb drafftio'r darpariaethau sy'n ymwneud ag ymchwiliadau mewn sawl ffordd. Mae gwelliant 30 yn gwella gweithrediad adran 33(1A) y ddarpariaeth a fewnosodir, sy'n cynnwys diffiniad o 'ymchwiliad' at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 2016. Mae'n gwneud hyn drwy ddiffinio 'ymchwiliad' fel ymchwiliad i weld a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un o ddarpariaethau Rhan 1 o Ddeddf 2016, yn hytrach na dim ond mewn perthynas â throseddau o dan adran 5.
Mae gwelliannau 31, 32 a 40 yn ategu ei gilydd, gan eu bod yn dileu o adran 34 o Ddeddf 2016 gyfeiriadau at ddefnydd pwerau mynediad at ddibenion arolygu eiddo. Mae adran 34 yn ymwneud â phwerau arolygwyr i fynd i mewn i eiddo. Mae'r gwelliannau hyn yn adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i'r adran hon yng Nghyfnod 2 drwy gael gwared ar y geiriau 'ac arolygu' mewn tri man lle nad yw eu presenoldeb parhaus bellach yn briodol o ystyried pwyslais cyfartal y ddarpariaeth ar ymchwilio ac archwilio.
Roeddwn yn ddiolchgar i'r pwyllgor am gefnogi'r prif welliannau y mae'r diwygiadau hyn yn adeiladu arnynt, ac rwy'n gofyn i'r holl Aelodau gefnogi'r gwelliannau hyn hefyd. Diolch yn fawr.
Does neb yn dymuno siarad ar y grŵp yma. Felly, fe wnawn ni ofyn: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae gwelliant 30 wedi’i dderbyn.
I have no other speakers on this group. So, the question is that amendment 30 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 30 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 31 yn cael ei symud, Gweinidog?
Amendment 31, Minister—is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 31 (Dawn Bowden).
Amendment 31 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad i 31—ie, 31. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei basio.
It is. Are there any objections? No, there are none. Amendment 31 is therefore agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 32 yn cael ei symud, Gweinidog?
We'll move to amendment 32. Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 32 (Dawn Bowden).
Amendment 32 (Dawn Bowden) moved.
Formally.
Yn ffurfiol.
Ydy, mae e. Oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 32 wedi ei gymeradwyo hefyd.
Yes, it is. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 32 is also agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 11 fydd nesaf. Mae’r grŵp 11 yma o welliannau yn ymwneud â chynorthwywyr personol. Gwelliant 59 yw’r prif welliant. James Evans i gynnig y prif welliant.
We'll move to the eleventh group. And this group relates to personal assistants. The lead and only amendment in the group is amendment 59. James Evans to move the amendment.
Cynigiwyd gwelliant 59 (James Evans).
Amendment 59 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I’ll speak to my amendment 59 that forms this group. This is a probing amendment to push the Stage 1 report recommendation that the Minister should work with relevant Cabinet colleagues and wider partners to promote the role of personal assistants, as well as to drive up the number of applicants and improve retention. As was found during evidence gathering in relation to this Bill, and flagged at Stage 2, there is a real concern amongst relevant stakeholders that there is a workforce fragility surrounding the numbers and longevity of personal assistants.
The Minister has indicated the expectation that a great number of PAs will be drawn from the existing pool of talent, but, as raised by Altaf Hussain, we have stakeholder input that has shown that there are problems to contend with regarding the recipients of direct payments in employing PAs. I am therefore seeking commitments here in the Chamber that concrete steps will be taken to support the PA workforce across Wales.
This amendment has been revised since the last stage to reflect the fair point made by the Minister that the previous reiteration did not properly address the fact that many PAs are employed by direct payment recipients. I look forward to hearing the Minister’s response, and hopefully we can get some more assurance from you on the record today.
Diolch, Llywydd. Rwyf am siarad am fy ngwelliant 59 sy'n ffurfio'r grŵp hwn. Mae hwn yn welliant procio i wthio argymhelliad adroddiad Cyfnod 1 y dylai'r Gweinidog weithio gyda chyd-Aelodau perthnasol y Cabinet a phartneriaid ehangach i hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, yn ogystal â chynyddu nifer yr ymgeiswyr a gwella'r nifer sy'n cael eu cadw. Fel y canfuwyd yn ystod casglu tystiolaeth mewn perthynas â'r Bil hwn, a nodir yng Nghyfnod 2, mae pryder gwirioneddol ymhlith rhanddeiliaid perthnasol fod yna fregusrwydd gweithlu ynghylch niferoedd a hirhoedledd cynorthwywyr personol.
Mae'r Gweinidog wedi nodi'r disgwyliad y bydd nifer fawr o gynorthwywyr personol yn dod o'r gronfa dalent bresennol, ond, fel y codwyd gan Altaf Hussain, mae gennym fewnbwn rhanddeiliaid sydd wedi dangos bod problemau'n bodoli ynghylch derbynwyr taliadau uniongyrchol wrth gyflogi cynorthwywyr personol. Felly, rwy'n gofyn am ymrwymiadau yma yn y Siambr y bydd camau pendant yn cael eu cymryd i gefnogi'r gweithlu cynorthwywyr personol ledled Cymru.
Mae'r gwelliant hwn wedi'i ddiwygio ers y cyfnod diwethaf i adlewyrchu'r pwynt teg a wnaed gan y Gweinidog nad oedd yr ailadrodd blaenorol yn mynd i'r afael yn iawn â'r ffaith bod llawer o gynorthwywyr personol yn cael eu cyflogi gan dderbynwyr taliadau uniongyrchol. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog, a gobeithio y gallwn gael rhywfaint mwy o sicrwydd gennych chi heddiw.
The Minister to contribute.
Y Gweinidog i gyfrannu.
Diolch, Llywydd. Well, unfortunately, James, I can't support amendment 59, but I do want to start by saying that we do absolutely recognise and value our PAs, and are already committed to improving their terms and conditions, with the aim of encouraging more PAs into the sector.
But the amendment is, unfortunately, problematic. It places specific duties on local authorities in relation to the whole PA workforce, including a requirement to promote the recruitment, retention and the training of all PAs. Now, this doesn’t factor in that many personal assistants are not recruited by local authorities, because they are employed by direct payment recipients, and that, in future, continuing healthcare recipients will also be employing PAs who will then fall under the umbrella of the NHS. And I’ve said this previously, but I believe attention is best focused on supporting cross-stakeholder work to support and develop the PA workforce rather than legislating in a way that only affects one of the relevant stakeholders.
In relation to the Welsh Government promoting the role of PAs, I can assure Members that we are already very active in this area. I’ve already committed to work with relevant Cabinet colleagues and wider partners to promote the role of PAs, to drive up the numbers of applications and to improve retention of staff in the longer term. Appropriate training will be an important part of this work.
As I outlined before, the Welsh Government-led PA stakeholder group includes representation from trade unions, Social Care Wales and PA employers. The group is taking forward actions relating to pay, terms and conditions, training and development, promoting trade unions and ways to promote the support and information available for PAs. There's also an all-Wales PA working group, which includes representatives from each local authority, and is also working to drive forward better terms and conditions for PAs. These two groups work closely together to ensure clear links and a shared understanding of what work is taking place to improve things for PAs.
PAs will also be included in the development of the social care workforce pay and progression framework, which will ensure that PAs are considered in relation to pay and progression as part of the wider social care workforce going forward. I therefore ask Members to vote against this amendment.
Diolch, Llywydd. Wel, yn anffodus, James, ni allaf gefnogi gwelliant 59, ond rwyf eisiau dechrau drwy ddweud ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ein cynorthwywyr personol, ac eisoes wedi ymrwymo i wella eu telerau ac amodau, gyda'r nod o annog mwy o gynorthwywyr personol i'r sector.
Ond yn anffodus, mae'r gwelliant yn broblemus. Mae'n gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â'r gweithlu cynorthwywyr personol cyfan, gan gynnwys gofyniad i hyrwyddo recriwtio, cadw a hyfforddi pob cynorthwyydd personol. Nawr, nid yw hyn yn ystyried nad yw llawer o gynorthwywyr personol yn cael eu recriwtio gan awdurdodau lleol, oherwydd eu bod yn cael eu cyflogi gan bobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol, ac y bydd derbynwyr gofal iechyd parhaus yn y dyfodol hefyd yn cyflogi cynorthwywyr personol a fydd wedyn yn dod o dan ymbarél y GIG. Ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, ond rwy'n credu y dylid canolbwyntio fwyaf ar gefnogi gwaith ar draws rhanddeiliaid i gefnogi a datblygu'r gweithlu cynorthwywyr personol yn hytrach na deddfu mewn ffordd sydd dim ond yn effeithio ar un o'r rhanddeiliaid perthnasol.
Mewn perthynas â Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod eisoes yn weithgar iawn yn y maes hwn. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i weithio gyda chyd-Aelodau perthnasol y Cabinet a phartneriaid ehangach i hyrwyddo rôl cynorthwywyr personol, cynyddu nifer y ceisiadau a chynyddu'r nifer o staff sy'n cael eu cadw yn y tymor hwy. Bydd hyfforddiant priodol yn rhan bwysig o'r gwaith hwn.
Fel yr amlinellais o'r blaen, mae'r grŵp rhanddeiliaid cynorthwywyr personol a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth gan undebau llafur, Gofal Cymdeithasol Cymru a chyflogwyr cynorthwywyr personol. Mae'r grŵp yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu sy'n ymwneud â chyflogau, telerau ac amodau, hyfforddiant a datblygu, hyrwyddo undebau llafur a ffyrdd o hyrwyddo'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer cynorthwywyr personol. Mae yna hefyd weithgor cynorthwywyr personol Cymru gyfan, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol, ac mae hefyd yn gweithio i sbarduno telerau ac amodau gwell ar gyfer cynorthwywyr personol. Mae'r ddau grŵp hyn yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i sicrhau cysylltiadau clir a dealltwriaeth gyffredin o'r gwaith sy'n digwydd i wella pethau ar gyfer cynorthwywyr personol.
Bydd cynorthwywyr personol hefyd yn cael eu cynnwys yn natblygiad fframwaith cyflog a dilyniant y gweithlu gofal cymdeithasol, a fydd yn sicrhau bod cynorthwywyr personol yn cael eu hystyried mewn perthynas â chyflog a dilyniant fel rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach wrth symud ymlaen. Felly, gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn.
James Evans to respond.
James Evans i ymateb.
Yes, I’d like to thank the Minister for the work that the Welsh Government are doing on this matter and for outlining that. And because of that work, and what you’ve given as commitments today, I will not be pushing this amendment to the vote, Llywydd.
Iawn, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn ac am amlinellu hynny. Ac oherwydd y gwaith hwnnw, a'r hyn yr ydych wedi'i roi fel ymrwymiadau heddiw, ni fyddaf yn gwthio'r gwelliant hwn i bleidlais, Llywydd.
I wasn't listening. Did you just withdraw that amendment? [Laughter.]
Doeddwn i ddim yn gwrando. A wnaethoch chi dynnu'r gwelliant hwnnw'n ôl? [Chwerthin.]
Yes.
Do.
Okay. Thank you. Are Members content for that amendment to be withdrawn? There's no objection to that withdrawing.
Iawn. Diolch. A yw'r Aelodau'n fodlon i'r gwelliant hwnnw gael ei dynnu'n ôl? Nid oes gwrthwynebiad i dynnu hwnnw'n ôl.
Tynnwyd gwelliant 59 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Amendment 59 withdrawn in accordance with Standing Order 12.27.
Felly, bydd y bleidlais nesaf ar welliant 36 yn enw'r Gweinidog. A yw'n cael ei symud?
So, the next vote will be on amendment 36 in the name of the Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 36 (Dawn Bowden).
Amendment 36 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. A oes gwrthwybebiad i 36? Nac oes. Mae gwelliant 36 yn cael ei dderbyn.
Yes, it is. Are there any objections to amendment 36? No. Amendment 36 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 37 yn cael ei symud?
Amendment 37—is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 37 (Dawn Bowden).
Amendment 37 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, gan y Gweinidog. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 37 yn cael ei dderbyn.
It is, by the Minister. Are there any objections? No. Therefore, amendment 37 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 38 gan y Gweinidog yn cael ei symud?
Amendment 38—Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 38 (Dawn Bowden).
Amendment 38 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes.
It's moved. Are there any objections? There are none.
Who is shouting 'hold on'? Is somebody shouting 'hold on' because they haven't realised that gwelliant 88, amendment 88, has already fallen? Yes. Okay.
Pwy sy'n gweiddi 'arhoswch'? A oes rhywun yn gweiddi 'arhoswch' am nad ydyn nhw wedi sylweddoli bod gwelliant 88, eisoes wedi methu? Oes. Iawn.
Gwelliant 38, ydy e'n cael ei symud gan y Gweinidog?
Amendment 38—is it moved by the Minister?
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei basio.
Yes, it is. Are there any objections? There are none. Therefore, amendment 38 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 39 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Amendment 39—Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 39 (Dawn Bowden).
Amendment 39 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 39 wedi cael ei gymeradwyo.
Yes, it is. Are there any objections? There are none. Amendment 39 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 40 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Amendment 40—is it moved by the Minister?
Cynigiwyd gwelliant 40 (Dawn Bowden).
Amendment 40 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae wedi ei gymeradwyo.
Yes, it is. Are there any objections? There are none. Therefore, the amendment is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 41 yn cael ei symud gan y Gweinidog?
Amendment 41—is it moved by the Minister?
Cynigiwyd gwelliant 41 (Dawn Bowden).
Amendment 41 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd.
Ydy, mae e. Unrhyw wrthwynebiad? Mae gwelliant 41 hefyd wedi ei gymeradwyo.
Yes, it is. Are there any objections? No. Amendment 41 is also agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Grŵp 12 fydd y grŵp nesaf. Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd yw'r grŵp yma, a'r gwelliannau ar wybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer cleifion. Gwelliant 33 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig gwelliant 33 a siarad i'r grŵp.
We'll move now to group 12. The amendments relate to direct payments for healthcare and the provision of information, advice and support. Amendment 33 is the lead amendment in the group, and I call on the Minister to move amendment 33 and to speak to the rest of the amendments in the group.
Cynigiwyd gwelliant 33 (Dawn Bowden).
Amendment 33 (Dawn Bowden) moved.
Diolch, Llywydd. The Government amendments within this group respond to points raised during Stage 2 scrutiny. During Stage 2 of the scrutiny of the Health and Social Care (Wales) Bill, amendments were tabled by Mabon ap Gwynfor MS and Altaf Hussain MS with the intention of ensuring that appropriate information, advice and support would be available to recipients of direct payments for healthcare. As I explained in the Health and Social Care Committee during Stage 2 proceedings, I couldn't support the letter of these amendments as they would have had the effect of placing duties on health bodies directly in relation to powers that they would not possess unless these were subsequently delegated to them by Welsh Ministers, with whom the power to make direct payments for healthcare would sit. However, I fully supported the intention behind the amendments to ensure that information, advice and support was a core part of the offer to prospective recipients of direct payments. I therefore committed to consider how to amend the Bill to achieve this aim at Stage 3 and engage with the Plaid Cymru and Conservative spokespeople on this. Following that engagement, I have tabled amendments 33 and 34 in order to deliver the intention in a way that is consistent with the framework of delegation to be established by the Bill.
Amendment 33 requires that, when the Welsh Ministers exercise the power to make direct payments for continuing healthcare, including through delegating this power to local health boards, this must include providing appropriate information, advice and support. The extent and nature of this information, advice and support will be set out in regulations, which will be subject to the Senedd’s scrutiny via the draft affirmative procedure.
Amendment 34 relates to regulations under section 10B, which will enable health boards to make direct payments in lieu of the provision of services to meet a person’s need for aftercare services under section 117 of the Mental Health Act 1983. Should Welsh Ministers exercise the power to make such regulations, this amendment requires that the regulations make provision about the information, advice and support that health boards must provide to recipients of direct payments, their payees or representatives. The amendment will be inserted into the existing section 10B(6), which will be renumbered and reformatted to add this additional requirement that regulations made under the existing section 10B(5) must make provision about information, advice and support. I encourage Members to support these amendments.
The amendment in the group laid by Mabon ap Gwynfor, amendment 85, seeks to add a new section to the Bill that contains a requirement for health boards to provide advice and assistance in relation to direct payments for continuing healthcare. Amendments 84 and 86 are supplementary to this amendment. As I have said, I appreciate Members’ concern that the application of direct payments to continuing healthcare should be supported by the right information, advice and support, and honour the intention behind this amendment. Unfortunately, the amendment does not work within the statutory framework that the Bill creates, because it imposes a duty directly on local health boards in relation to functions that they will not possess until the Welsh Ministers exercise the power to make regulations concerning direct payments. For this reason, I can't support the amendment as drafted or the related amendments 84 and 86, and that is why I have proposed provision on the face of the Bill via a Government amendment about there being a requirement for health boards to provide that information, advice and support.
Similarly, the principal amendment in the group laid by James Evans, amendment 69, seeks to place a requirement on the face of the Bill for LHBs to prepare and publish guidance for patients concerning information relating to direct payments. Amendments 60, 61, and 66 are related to and support this amendment. Unfortunately, I can't support this amendment as drafted. In addition to the reasons that I've given in relation to amendment 85, whilst guidance for patients containing information for direct payments will be issued, the intention is for a central approach to ensure consistency. Once the relevant powers have been delegated, preparation of guidance will be considered as one of the responsibilities of the central hub with engagement from all LHBs. This should help us to avoid what I think we would all wish to avoid—a situation where there are seven different guidance documents, one for each LHB area.
Finally, amendment 68 seeks to require the Welsh Ministers to report, to a significant level of detail, on the progress of implementation of direct payments and development of the proposed central hub. In line with my response to the Health and Social Care Committee, I have already agreed that the Welsh Government will provide updates on the development of the central hub as it's being established. Again, I am happy to attend committee or to make statements in the Siambr to account for progress with the implementation of the CHC direct payments provisions, and I therefore believe this amendment to be unnecessary. Diolch.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau'r Llywodraeth o fewn y grŵp hwn yn ymateb i bwyntiau a gafodd eu codi yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2. Yn ystod Cyfnod 2 y gwaith o graffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), cafodd gwelliannau eu cyflwyno gan Mabon ap Gwynfor AS ac Altaf Hussain AS gyda'r bwriad o sicrhau y byddai gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn briodol i dderbynwyr taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Fel yr eglurais i yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod gweithgareddau Cyfnod 2, ni allwn i gefnogi manylion y diwygiadau hyn, gan mai eu heffaith fyddai gosod dyletswyddau ar gyrff iechyd yn uniongyrchol o ran pwerau na fyddai ganddyn nhw oni bai fod Gweinidogion Cymru yn dirprwyo'r rhain wedi hynny, a ganddyn nhw y byddai'r pŵer i wneud taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd. Fodd bynnag, cefnogais i'n llawn y bwriad y tu ôl i'r gwelliannau i sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth yn rhan greiddiol o'r cynnig i ddarpar dderbynwyr taliadau uniongyrchol. Felly, rwyf i wedi ymrwymo i ystyried sut i wella'r Bil i gyflawni'r nod hwn yng Nghyfnod 3 ac ymgysylltu â llefarwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ar hyn. Yn dilyn yr ymgysylltu hwnnw, rwyf i wedi cyflwyno gwelliannau 33 a 34 er mwyn cyflawni'r bwriad mewn ffordd sy'n gyson â'r fframwaith dirprwyo sydd i'w sefydlu gan y Bil.
Mae gwelliant 33 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus, gan gynnwys trwy ddirprwyo'r pŵer hwn i fyrddau iechyd lleol, fod rhaid i hyn gynnwys darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn briodol. Bydd maint a natur yr wybodaeth hon, a'r cyngor a'r cymorth hwn mewn rheoliadau, a fydd yn destun gwaith craffu'r Senedd drwy'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
Mae gwelliant 34 yn ymwneud â rheoliadau o dan adran 10B, a fydd yn galluogi byrddau iechyd i wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau i ddiwallu angen person am wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Pe bai Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud rheoliadau o'r fath, mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheoliadau'n gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth y mae'n rhaid i fyrddau iechyd eu darparu i dderbynwyr taliadau uniongyrchol, eu taleion neu'u cynrychiolwyr. Bydd y gwelliant yn cael ei fewnosod yn adran bresennol 10B(6), a gaiff ei hailrifo a'i hailfformatio i ychwanegu'r gofyniad ychwanegol hwn bod yn rhaid i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran bresennol 10B(5) wneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Mae'r gwelliant yn y grŵp a gafodd ei osod gan Mabon ap Gwynfor, gwelliant 85, yn ceisio ychwanegu adran newydd at y Bil sy'n cynnwys gofyniad i fyrddau iechyd ddarparu cyngor a chymorth o ran taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Mae gwelliannau 84 ac 86 yn atodol i'r gwelliant hwn. Fel y dywedais i, rwy'n gwerthfawrogi pryder yr Aelodau y dylai'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir a chyngor cywir gefnogi defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, ac anrhydeddu bwriad y gwelliant hwn. Yn anffodus, nid yw'r gwelliant yn gweddu o fewn y fframwaith statudol y mae'r Bil yn ei greu, oherwydd ei fod yn gosod dyletswydd yn uniongyrchol ar fyrddau iechyd lleol o ran swyddogaethau na fydd ganddyn nhw hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud rheoliadau ynghylch taliadau uniongyrchol. Am y rheswm hwn, ni allaf gefnogi'r gwelliant fel y mae wedi'i ddrafftio na'r gwelliannau cysylltiedig 84 ac 86, a dyna pam yr wyf i wedi cynnig darpariaeth ar wyneb y Bil trwy welliant gan y Llywodraeth ynghylch bod yna ofyniad i fyrddau iechyd ddarparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth honno a'r cyngor hwnnw.
Yn yr un modd, mae'r prif welliant yn y grŵp a gafodd ei osod gan James Evans, gwelliant 69, yn ceisio gosod gofyniad ar wyneb y Bil i BILlau baratoi a chyhoeddi canllawiau i gleifion ynghylch gwybodaeth sy'n ymwneud â thaliadau uniongyrchol. Mae gwelliannau 60, 61 a 66 yn gysylltiedig â'r gwelliant hwn ac yn eu cefnogi. Yn anffodus, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn fel y mae wedi'i ddrafftio. Yn ogystal â'r rhesymau yr wyf i wedi'u rhoi o ran gwelliant 85, er y bydd canllawiau i gleifion yn cael eu cyhoeddi sy'n cynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol, y bwriad yw defnyddio dull canolog o sicrhau cysondeb. Unwaith y bydd y pwerau perthnasol wedi'u dirprwyo, caiff paratoi canllawiau ei ystyried yn un o gyfrifoldebau'r hyb canolog gydag ymgysylltu gan bob BILl. Dylai hyn ein helpu ni i osgoi'r hyn rwy'n credu y bydden ni i gyd yn dymuno ei osgoi—sefyllfa lle mae saith dogfen ganllaw wahanol, un ar gyfer pob ardal BILl.
Yn olaf, mae gwelliant 68 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd, i lefel sylweddol o fanylder, ar gynnydd o ran gweithredu taliadau uniongyrchol a datblygu'r hyb canolog arfaethedig. Yn unol â fy ymateb i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf i eisoes wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr hyb canolog wrth iddo gael ei sefydlu. Unwaith eto, rwy'n hapus i fynychu'r pwyllgor neu wneud datganiadau yn y Siambr i gyfrif am gynnydd wrth weithredu darpariaethau taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, ac felly nid wyf i'n credu bod angen y gwelliant hwn. Diolch.
In the interest of time, I did bring, as I say, amendments 60 and 61 forward as probing amendments to get commitments from you today on that central hub, and you've given that commitment to me, so, I think that's enough from me for now. Thank you.
I arbed amser, fe wnes i ddod â gwelliannau 60 a 61 ymlaen fel gwelliannau procio i gael ymrwymiadau gennych chi heddiw ar yr hyb canolog hwnnw, ac rydych chi wedi rhoi'r ymrwymiad hwnnw i mi, felly, rwy'n credu bod hynny'n ddigon gennyf i am y tro. Diolch.
Gan mai dyma fydd fy nghyfraniad olaf i yn y drafodaeth yma heno—bydd nifer ohonoch chi'n falch o glywed, dwi'n siŵr—gaf i gymryd y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i dîm rhagorol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am eu cymorth amhrisiadwy wrth ddrafftio a chyflwyno'r gwelliannau? Hefyd, diolch i Lewis Owen, aelod o staff gwych, am ei waith diflino drwy gydol y broses. Ac wrth gwrs, diolch i Sioned Williams, a oedd yn arwain ar y briff yma cyn imi ei gymryd o drosodd, ac i Siân Gwenllian am ei gwaith fel Aelod dynodedig gynt yn ystod y broses o lunio hyn, ac, wrth gwrs, i Julie Morgan am y gwaith mae hi wedi'i wneud dros ddegawdau yn y maes yma.
Pwrpas ein gwelliannau ni yn y grŵp yma ydy i roi’r hawl i unigolion perthnasol dderbyn cefnogaeth a chyngor ynglŷn â derbyn taliadau uniongyrchol, sy’n ymateb i rai o’r pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod craffu fod rhai unigolion penodol yn ansicr am beth fyddai newid i drefniant taliadau uniongyrchol yn ei olygu yn ymarferol iddyn nhw. Yn ystod Cyfnod 2, fe wnaeth y Gweinidog gadarnhau y byddai’r Llywodraeth yn fodlon ystyried yr achos hyn ymhellach, a dwi’n hynod ddiolchgar am y trafodaethau adeiladol yr ydym ni wedi eu cael ers hynny er mwyn cyflawni ein bwriad gwreiddiol a hynny'n ymarferol.
Fe wnaethom ni barhau i gyflwyno'r gwelliannau yma fel gwelliannau procio, ond mae'r trafodaethau wedi bod yn ffrwythlon ac, wedi clywed esboniad y Gweinidog ar gyfer gwelliannau 33 a 34, sy’n creu’r eglurder sydd ei angen o ran darparwyr y wybodaeth briodol, dwi wedi cael fy moddhau gan yr atebion ac felly, mi fyddwn ni'n tynnu yn ôl welliannau 84, 85 ac 86. Diolch yn fawr iawn.
Given that this will be my last contribution in this debate tonight—a number of you will be glad to hear, I'm sure—could I take this opportunity to thank the excellent team of the Health and Social Care Committee for their invaluable support in drafting and tabling these amendments? I also thank Lewis Owen, a great member of staff, for his tireless work throughout the process. And, of course, I thank Sioned Williams, who led on this brief before I took it over, and Siân Gwenllian for her work as the former designated Member during the process of drawing this up, and, of course, thanks to Julie Morgan for the work she has done over decades in this area.
The purpose of our amendments in this group is to give relevant individuals the right to receive support and advice regarding the receipt of direct payments. This is in response to some of the concerns expressed by stakeholders during the scrutiny process that certain individuals are unsure about what switching to a direct payment arrangement would mean for them in practice. During Stage 2, the Minister confirmed that the Government would be willing to give further consideration to this case, and I am very grateful for the constructive discussions that we've had since then in order to achieve our original intention in practice.
We continued to table these amendments as probing amendments, but the discussions have been fruitful and, having heard the Minister's explanation for amendments 33 and 34, which provide the clarity needed in terms of the appropriate information providers, I'm satisfied with the answers and we will therefore withdraw amendments 84, 85 and 86. Thank you very much.
The Minister to respond, or nothing to add?
Y Gweinidog i ymateb, neu dim byd i'w ychwanegu?
Only just to thank Mabon ap Gwynfor and James Evans and Altaf Hussain for the constructive dialogue that we've had to get to this point. Thank you very much.
Dim ond i ddiolch i Mabon ap Gwynfor a James Evans ac Altaf Hussain am y ddeialog adeiladol yr ydyn ni wedi ei chael i gyrraedd y pwynt hwn. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn cyntaf, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 33 wedi'i dderbyn.
The first question, therefore, is that amendment 33 be agreed to. Does any Member object? No. Therefore, amendment 33 is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Gwelliant 34. Gweinidog—yn cael ei symud?
Amendment 34. Minister, is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 34 (Dawn Bowden).
Amendment 34 (Dawn Bowden) moved.
I move.
Rwy'n cynnig y gwelliant
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae e wedi'i dderbyn.
It is. Are there any objections? There are none. Therefore, the amendment is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ydy gwelliant 61 yn cael ei symud?
Amendment 61. Is it moved?
No.
Nac ydi.
Dyw e ddim yn cael ei symud, felly fydd yna ddim pleidlais ar welliant 61.
It is not moved and, therefore, we will not vote on amendment 61.
Ni chynigiwyd gwelliant 61 (James Evans).
Amendment 61 (James Evans) not moved.
Gwelliant 84.
Amendment 84.
Na.
No.
Dyw e ddim yn cael ei symud chwaith. Felly, os nad oes neb yn gwrthwynebu hynny, fydd gwelliant 84 ddim yn cael ei symud.
It is not moved. So, unless there is objection, amendment 84 will not be moved.
Ni chynigiwyd gwelliant 84 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 84 (Mabon ap Gwynfor) not moved.
Ydy gwelliant 60 yn cael ei symud?
On to amendment 60. Is it moved?
No.
Na.
Dyw e ddim yn cael ei symud gan James Evans, felly, dim pleidlais.
It is not moved by James Evans, therefore, there is no vote on the amendment.
Ni chynigiwyd gwelliant 60 (James Evans).
Amendment 60 (James Evans) not moved.
Grŵp 13 fydd nesaf, felly, ac mae'r grŵp yma ar oruchwyliaeth a chymorth ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes gofal iechyd. Gwelliant 62 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. James Evans i gynnig gwelliant 62.
Group 13 is next, and the thirteenth group of amendments relates to oversight and support for direct payments for healthcare. The lead amendment in this group is amendment 62, and I call on James Evans to move amendment 62.
Cynigiwyd gwelliant 62 (James Evans).
Amendment 62 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd, and I’ll speak to the amendments in this group tabled in my name. The amendments in this group were all designed as probing amendments, with the primary focus being to obtain more firmer commitments from the Minister here in the Chamber on the record.
With amendments 62 to 65, I’m seeking to further push the same objectives as my amendments in the previous group relating to clarity surrounding the updates on the central hub.
Amendment 67 is designed to obtain further information relating to the additional funding being made available through the direct payments system. This has been drafted as a duty that must be included in regulations that the Welsh Ministers may make in relation to direct payments, rather than on the face of the Bill itself, with these duties to be set out in regs. The Minister opposed the amendment in Stage 2 on the basis that commitments have been made for core implementation costs to be covered by the Welsh Government for the first three years. However, as we have discussed previously, there is no guarantee that the next or future Welsh Governments will align their thoughts on this regard, and, without such vital financial commitments being included on the face of the Bill, there is a clear risk of the rug being pulled from under local authorities should a Minister be inclined to do so. I therefore seek assurances from the Minister that these concerns have been considered and that we can expect these full funding commitments to be met, as previously described.
Turning to amendment 70, this is to push for commitments from the Minister regarding the committee recommendations to monitor the spend by health boards over the initial three years of the policy, and to continue to monitor and review the policy, going forward. This is of particular significance, as it has been considered by the Minister. The core implementation costs in the first three years will be funded by the Welsh Government.
With amendment 71, this also is pushing for commitment from the Minister today, this time regarding the committee recommendations to provide periodic updates setting out the Minister’s assessment of the progress being made to prepare health boards for their new responsibility in relation to direct payments.
Amendment 72 seeks to ensure that the Minister will ensure that the post-implementation review for the Bill considers the awareness amongst social care users about the new option for direct payments for CHC, to agree and to make available the data set for local health boards, which is intended to provide a picture of the take-up of direct payments for CHC across Wales, and to provide detail of the timescales for the post-implementation review.
Finally, with amendment 73, I’m seeking a clear and firm commitment from the Minister that the United Nations convention on the rights of disabled persons will feature prominently in the guidance issued. I understand that the Minister does not wish to commit this to the face of the Bill prior to local health boards having functions related to direct payments being conferred on them by regulation-making powers. However, as I’m sure the Minister can imagine, it does not sit well with me to have this issue left unaddressed. So, as things stand, and with only promise of its inclusion to go on, I’m very much hoping that I can get that firm commitment from you here today.
Diolch, Llywydd, ac rwyf am sôn am y gwelliannau yn y grŵp hwn sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Cafodd pob gwelliant yn y grŵp hwn ei gynllunio fel gwelliant procio, gan ganolbwyntio yn bennaf ar gael ymrwymiadau mwy cadarn gan y Gweinidog yma yn y Siambr wedi'u cofnodi.
Gyda gwelliannau 62 i 65, rwy'n ceisio gwthio'n ymhellach, yr un amcanion â fy ngwelliannau yn y grŵp blaenorol, sy'n ymwneud ag eglurder ynghylch y diweddariadau ar yr hyb canolog.
Bwriad gwelliant 67 yw cael rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r cyllid ychwanegol sydd ar gael drwy'r system taliadau uniongyrchol. Mae hyn wedi'i ddrafftio fel dyletswydd y mae'n rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud o ran y taliadau uniongyrchol, yn hytrach nag ar wyneb y Bil ei hun, gyda'r dyletswyddau hyn i'w nodi mewn rheoliadau. Gwrthwynebodd y Gweinidog y gwelliant yng Nghyfnod 2 ar y sail bod ymrwymiadau wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru dalu costau gweithredu craidd am y tair blynedd gyntaf. Fodd bynnag, fel yr ydyn ni eisoes wedi'i drafod, nid oes sicrwydd y bydd Llywodraeth nesaf Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cyd-fynd â'u barn yn hynny o beth, a heb ymrwymiadau ariannol hanfodol o'r fath ar wyneb y Bil, mae risg amlwg y bydd yr awdurdodau lleol yn cael eu tanseilio pe bai gan Weinidog yr awydd i wneud hynny. Felly, rwy'n gofyn am sicrwydd gan y Gweinidog bod y pryderon hyn wedi cael eu hystyried ac y gallwn ni ddisgwyl i'r ymrwymiadau ariannu llawn hyn gael eu bodloni, fel disgrifiwyd yn flaenorol.
Gan droi at welliant 70, mae hwn i bwyso am ymrwymiadau gan y Gweinidog ynghylch argymhellion y pwyllgor i fonitro'r gwariant gan fyrddau iechyd dros dair blynedd gyntaf y polisi, gan barhau i fonitro ac adolygu'r polisi, wrth symud ymlaen. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol, gan ei fod wedi cael ei ystyried gan y Gweinidog. Bydd y costau gweithredu craidd yn y tair blynedd gyntaf yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
O ran gwelliant 71, mae hwn hefyd yn pwyso am ymrwymiad gan y Gweinidog heddiw, y tro hwn ynghylch argymhellion y pwyllgor i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyfnodol gan nodi asesiad y Gweinidog o'r cynnydd sy'n cael ei wneud i baratoi byrddau iechyd ar gyfer eu cyfrifoldeb newydd o ran taliadau uniongyrchol.
Mae gwelliant 72 yn ceisio sicrhau y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod yr adolygiad ôl-weithredu ar gyfer y Bil yn ystyried yr ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr gofal cymdeithasol am y dewis newydd ar gyfer taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gytuno ar y set ddata ac i sicrhau ei bod ar gael ar gyfer byrddau iechyd lleol, gyda'r bwriad o roi darlun o'r nifer sy'n derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus ledled Cymru, ac i roi manylion yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad ôl-weithredu.
Yn olaf, o ran gwelliant 73, rwy'n ceisio ymrwymiad clir a chadarn gan y Gweinidog y bydd confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn cael sylw amlwg yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi. Rwy'n deall nad yw'r Gweinidog eisiau rhoi hwn ar wyneb y Bil cyn bod swyddogaethau yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd lleol gan bwerau deddfu. Fodd bynnag, fel rwy'n siŵr y gall y Gweinidog ei ddychmygu, nid yw'n dderbyniol i mi nad ymdrinnir â'r mater hwn. Felly, fel y mae pethau, a gyda dim ond addewid y byd yn cael ei gynnwys i ddibynnu arno, rwy'n mawr obeithio y gallaf i gael yr ymrwymiad cadarn hwnnw gennych chi yma heddiw.
I've completely lost where I am now. The Gweinidog to contribute.
Rydw i wedi colli fy lle yn llwyr nawr. Y Gweinidog i gyfrannu.
Diolch, Llywydd. Whilst I appreciate the intention behind the amendments in this group, unfortunately I'm unable to support them, again. Amendment 73 seeks to require Welsh Ministers to issue guidance to LHBs on how to deliver direct payments for CHC through statutory guidance, including provision on having due regard to the relevant United Nations convention on the rights of disabled people. Whilst that convention is, of course, vital, I cannot support this amendment because I do not believe it works within the structural context of the Bill. Local health boards do not have any functions in relation to direct payments until such time as they are conferred by regulations. Regulations setting out how direct payments should be operated by LHBs will be put in place and these will be supported by statutory guidance. I believe that is the appropriate time and forum in which the importance of the convention should be emphasised. As I stated when I accepted recommendation 25 of the Health and Social Care Committee’s report during Stage 1 proceedings, I will ensure that the UN convention features prominently in the guidance issued in Part 2 of the Bill.
Turning to amendment 72, this seeks to require the Welsh Ministers to report on the operation and effect of delivering direct payments, with stringent three-year reporting cycles. I can't support this amendment. To reiterate comments I made when accepting recommendation 26 of the Health and Social Care Committee’s Stage 1 report, the evaluation of the introduction of CHC direct payments will consider awareness among social care users of the option of direct payments for CHC. It will look at the data sets that will be used to understand take-up of CHC direct payments, and the evaluation will make recommendations on future monitoring and reporting requirements. Timescales for the evaluation have not been fixed, but the Welsh Government will ensure that future implementation updates include this matter. For this reason, I don't believe that amendment 72 is necessary.
Amendment 70 seeks to require the Welsh Minsters to prepare and publish reports on the expenditure incurred by LHBs in relation to direct payments. It also requires the financial position for LHBs to be reported on. This is both out of alignment with existing reporting timescales and duplicates existing LHB financial reporting requirements. I can't support this amendment, but I have already committed, as part of my response to the Finance Committee, that the Welsh Government, through the evaluation, will monitor the spend and financial impact of the delivery of direct payments for health boards over the initial three years. This is more proportionate and appropriate than the requirement in the amendment.
Amendment 71 seeks to require the Welsh Ministers to prepare reports setting out their assessment of the progress made by LHBs in preparing for direct payments, including timescales for reporting. I cannot support this amendment as I believe it is unnecessary, having already committed to providing updates on the progress being made by health boards as they prepare to take on these new responsibilities.
Finally, turning to amendment 67, this amendment seeks to specify that the Welsh Minsters pay LHBs an amount sufficient to deliver direct payments. I can't support this amendment as funding for continuing NHS healthcare is factored into LHB budgets on an annual basis. In addition, funding costs for implementation of direct payments are set out in the explanatory memorandum, and I've already given undertakings that, for an initial three-year period, the core implementation costs will be funded by the Welsh Government to aid transition. It is, therefore, not necessary, nor do I think it would be appropriate, to single out this one element of the total funding to the NHS for delivery of its services in this way.
Amendments 62 to 65 support the principal amendments and, therefore, I cannot support them either. I ask Members not to agree the amendments.
Diolch, Llywydd. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r bwriad y tu ôl i'r gwelliannau yn y grŵp hwn, yn anffodus ni allaf i eu cefnogi eto. Mae gwelliant 73 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i BILlau ar sut i ddarparu taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus drwy ganllawiau statudol, gan gynnwys darpariaeth ar roi sylw dyledus i gonfensiwn perthnasol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Er bod y confensiwn hwnnw, wrth gwrs, yn hanfodol, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwn oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn gweddu o fewn cyd-destun strwythurol y Bil. Nid oes gan fyrddau iechyd lleol unrhyw swyddogaethau o ran taliadau uniongyrchol nes iddyn nhw gael eu rhoi gan reoliadau. Bydd rheoliadau sy'n nodi sut y dylai taliadau uniongyrchol gael eu gweithredu gan BILlau yn cael eu rhoi ar waith a bydd y rhain yn cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol. Rwy'n credu mai dyna'r amser a'r fforwm priodol lle y dylai pwysigrwydd y confensiwn cael ei bwysleisio. Fel y dywedais i pan dderbyniais i argymhelliad 25 o adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod trafodion Cyfnod 1, fe wnaf i sicrhau bod confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn cael sylw amlwg yn y canllawiau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn Rhan 2 o'r Bil.
Gan droi at welliant 72, mae hwn yn ceisio'i wneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar weithredu a darparu taliadau uniongyrchol a'u heffaith, gyda chylchoedd adrodd tair blynedd llym. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn. Er mwyn ailadrodd sylwadau y gwnes i wrth dderbyn argymhelliad 26 o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd gwerthuso cyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus yn ystyried ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr gofal cymdeithasol o'r dewis o daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Bydd yn ystyried y setiau data a fydd yn cael eu defnyddio i ddeall y nifer sy'n manteisio ar daliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, a bydd y gwerthusiad yn gwneud argymhellion ar ofynion monitro ac adrodd yn y dyfodol. Nid yw'r amserlenni ar gyfer y gwerthusiad wedi'u pennu, ond bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod diweddariadau gweithredu yn y dyfodol yn cynnwys y mater hwn. Am y rheswm hwn, nid wyf i'n credu bod angen gwelliant 72.
Mae gwelliant 70 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar y gwariant a ysgwyddir gan BILlau o ran taliadau uniongyrchol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod sefyllfa ariannol BILlau yn cael ei hadrodd arni. Nid yw hyn yn gydnaws â'r amserlenni adrodd presennol ac mae'n dyblygu gofynion presennol adrodd ariannol BILlau. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn, ond rwyf i eisoes wedi ymrwymo, fel rhan o fy ymateb i'r Pwyllgor Cyllid, y bydd Llywodraeth Cymru, drwy'r gwerthusiad, yn monitro gwariant ac effaith ariannol darparu taliadau uniongyrchol i fyrddau iechyd dros y tair blynedd gyntaf. Mae hyn yn fwy cymesur a phriodol na'r gofyniad yn y gwelliant.
Mae gwelliant 71 yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi adroddiadau sy'n nodi eu hasesiad o'r cynnydd y mae BILlau yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer taliadau uniongyrchol, gan gynnwys amserlenni ar gyfer adrodd. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn, gan fy mod i'n credu ei fod yn ddiangen, ar ôl ymrwymo eisoes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud gan fyrddau iechyd wrth iddyn nhw baratoi i ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn.
Yn olaf, gan droi at welliant 67, mae'r gwelliant hwn yn ceisio nodi bod Gweinidogion Cymru'n talu swm digonol i BILlau i ddarparu taliadau uniongyrchol. Ni allaf i gefnogi'r gwelliant hwn gan fod cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG yn cael ei gynnwys yng nghyllidebau BILlau yn flynyddol. Yn ogystal, mae costau cyllido ar gyfer gweithredu taliadau uniongyrchol wedi'u nodi yn y memorandwm esboniadol, ac rwyf i eisoes wedi rhoi ymgymeriadau y bydd y costau gweithredu craidd, am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pontio. Felly, nid yw'n angenrheidiol, ac nid wyf i'n credu y byddai'n briodol, i neilltuo, yn y modd hwn, yr elfen hon o gyfanswm y cyllid i'r GIG ar gyfer darparu ei wasanaethau.
Mae gwelliannau 62 i 65 yn cefnogi'r prif welliannau ac, felly, ni allaf i eu cefnogi chwaith. Gofynnaf i'r Aelodau beidio â chytuno'r gwelliannau.
I'd like to thank the Minister for her explanations on some of the reasons why she cannot support the amendments today and also the commitments she's given here and to committees in the Senedd. For that reason, I will not be pushing these amendments to a vote.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei hesboniadau ynghylch rhai o'r rhesymau pam nad yw'n gallu cefnogi'r gwelliannau heddiw a hefyd yr ymrwymiadau y mae hi wedi'u rhoi yma ac i bwyllgorau yn y Senedd. Am y rheswm hwnnw, ni fyddaf i'n gwthio'r gwelliannau hyn i bleidlais.
Felly, mae gwelliant 62 yn cael ei dynnu nôl. Ydy. Felly, os nad oes yna wrthwynebiad gan Aelodau, bydd y gwelliant yna'n cael ei dynnu nôl. Felly hefyd 63, 64, 65, a 69, James—ddim yn cael eu symud chwaith.
So, amendment 62 is withdrawn. It is. So, unless there is objection from other Members, that amendment will be withdrawn. And likewise amendments 63, 64, 65, and 69, James Evans, are not moved. No.
Tynnwyd gwelliant 62 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.
Amendment 62 withdrawn in accordance with Standing Order 12.27.
Ni chynigiwyd gwelliannau 63, 64, 65 a 69 (James Evans).
Amendments 63, 64, 65 and 69 (James Evans) not moved.
A yw Mabon ap Gwynfor yn symud 85?
Mabon ap Gwynfor, is amendment 85 moved?
Na. Tynnu'n ôl.
It's not moved.
Na, ddim yn symud 85.
No, amendment 85 is not moved.
Ni chynigiwyd gwelliant 85 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 85 (Mabon ap Gwynfor) not moved.
Ni chynigiwyd gwelliant 66 (James Evans).
Amendment 66 (James Evans) not moved.
Mae 86, felly, yn methu hefyd.
Amendment 86, therefore, falls.
Ni chynigiwyd gwelliant 86 (Mabon ap Gwynfor).
Amendment 86 (Mabon ap Gwynfor) not moved.
Mae hynny'n mynd â ni i 67. Ydy e'n cael ei symud? Nac ydy, ddim yn cael ei symud.
That takes us to amendment 67, which is not moved.
Ni chynigiwyd gwelliant 67 (James Evans).
Amendment 67 (James Evans) not moved.
A 68 ddim yn cael ei symud, James Evans. Na.
And 68 is not moved either, James Evans. No.
Ni chynigiwyd gwelliant 68 (James Evans).
Amendment 68 (James Evans) not moved.
Gwelliannau 70, 71, 72, 73, James Evans—ddim yn cael eu symud. Does dim un o'r gwelliannau yna'n cael eu symud.
Amendments 70, 71, 72, 73, James Evans, are they moved? They are not. None of those amendments are moved.
Ni chynigiwyd gwelliannau 70, 71, 72 a 73 (James Evans).
Amendments 70, 71, 72 and 73 (James Evans) not moved.
Felly, awn ni i grŵp 14. Mae'r grŵp yma ar adolygu’r fframwaith gofal iechyd parhaus, a 74 yw'r prif welliant yn y grŵp, gyda James Evans yn cynnig y prif welliant yma. James Evans.
So, we will move now to group 14. These relate to reviewing the CHC framework. Amendment 74 is the lead amendment, and I call on James Evans to move the lead amendment. James Evans.
Cynigiwyd gwelliant 74 (James Evans).
Amendment 74 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I'll speak to amendments 74 and 76, tabled here in my name. These amendments are brought forward together to probe for a commitment from the Minister today in regard to the committee recommendations to highlight any changes and additional eligibility guidance that have been provided as a result of the CHC framework review upon its completion. As stated at Stage 2, while we acknowledge that the Minister has committed to reviewing the current framework by 2027, I am concerned that the future holders of your post will not be bound by such commitments. I therefore seek assurances from you in the Chamber today on this matter.
Diolch, Llywydd. Rwyf am sôn am welliannau 74 a 76, a gafodd eu cyflwyno yma yn fy enw i. Mae'r gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd i chwilio am ymrwymiad gan y Gweinidog heddiw o ran argymhellion y pwyllgor i dynnu sylw at unrhyw newidiadau a chanllawiau cymhwysedd ychwanegol sydd wedi cael eu darparu o ganlyniad i adolygiad fframwaith gofal iechyd parhaus ar ôl ei gwblhau. Fel y cafodd ei nodi yng Nghyfnod 2, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i adolygu'r fframwaith presennol erbyn 2027, rwy'n pryderu na fydd deiliaid eich swydd yn y dyfodol yn rhwym wrth ymrwymiadau o'r fath. Felly, rwy'n gofyn am sicrwydd gennych chi yn y Siambr heddiw ar y mater hwn.
So, amendment 74 refers to the review of the 'Continuing NHS Healthcare—The National Framework for Implementation in Wales'. The Welsh Government can't support this amendment. A requirement to undertake a review of the CHC framework does not need to be placed on the face of the Bill. There is already a published existing commitment to review the framework within five years of implementation, this being 2027. As part of our response to the Health and Social Care Committee's Stage 1 report, I reiterated this commitment and agreed that we will bring forward the existing commitment to revise the CHC framework to align with the introduction of CHC direct payments, and I'm happy to reaffirm that commitment today. Doing this will enable relevant information regarding the newly established direct payments for CHC to be included in the revised framework.
We're also drafting an action plan to address matters raised regarding the CHC national framework, as well as issues that stakeholders have told us affect the current processes. The action plan will take forward key pieces of work related to CHC policy, which includes reviewing the CHC national framework, and we aim to finalise the action plan by this summer. All the key stakeholders for CHC and funded nursing care policy and delivery will be engaged and will play a meaningful role in the revision of the CHC national framework to ensure that it's fit for purpose and fit for Wales.
Amendment 76 relates to and supports amendment 74. This amendment has the effect that the provision containing the requirement to review the CHC national framework will come into force on the day after the day on which the Bill receives Royal Assent. As I cannot support amendment 74, I do not support amendment 76 either and I ask Members to vote against both of these amendments. Thank you
Felly, mae gwelliant 74 yn cyfeirio at adolygiad 'Gofal Iechyd Parhaus y GIG—Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru'. Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi'r gwelliant hwn. Nid oes angen gosod gofyniad i gynnal adolygiad o fframwaith gofal iechyd parhaus ar wyneb y Bil. Mae ymrwymiad presennol eisoes wedi'i gyhoeddi i adolygu'r fframwaith o fewn pum mlynedd i'w weithredu, sef yn 2027. Fel rhan o fy ymateb i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Fe wnes i ailadrodd yr ymrwymiad hwn gan gytuno y byddwn ni'n cyflwyno'r ymrwymiad presennol i ddiwygio fframwaith gofal iechyd parhaus i fod yn gydnaws â chyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus, ac rwy'n hapus i ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw heddiw. Bydd gwneud hyn yn galluogi cynnwys gwybodaeth berthnasol ynghylch y taliadau uniongyrchol sydd newydd eu sefydlu ar gyfer gofal iechyd parhaus yn y fframwaith diwygiedig.
Rydym ni hefyd yn drafftio cynllun gweithredu i ymdrin â materion a gafodd eu codi ynghylch fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus, yn ogystal â materion y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni eu bod yn effeithio ar y prosesau presennol. Bydd y cynllun gweithredu yn bwrw ymlaen â darnau allweddol o waith sy'n gysylltiedig â pholisi gofal iechyd parhaus, sy'n cynnwys adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus, a'n nod yw cwblhau'r cynllun gweithredu erbyn yr haf hwn. Bydd pob rhanddeiliad allweddol ar gyfer gofal iechyd parhaus a pholisi a darpariaeth gofal nyrsio a ariennir yn cymryd rhan a byddan nhw'n chwarae rhan ystyrlon yn y gwaith o adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus i sicrhau ei fod yn addas i'r diben ac yn addas i Gymru.
Mae gwelliant 76 yn ymwneud â gwelliant 74 ac yn ei gefnogi. Effaith y gwelliant hwn yw bydd y ddarpariaeth sy'n cynnwys y gofyniad i adolygu fframwaith cenedlaethol gofal iechyd parhaus yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol. Gan na allaf gefnogi gwelliant 74, nid wyf yn cefnogi gwelliant 76 chwaith a gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y ddau welliant hyn. Diolch
James Evans to respond. No response.
James Evans i ymateb. Dim ymateb.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal a 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 74 wedi'i wrthod a bydd gwelliant 76 yn methu o ganlyniad i hynny.
The question is that amendment 74 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will move to a vote on amendment 74. Open the vote. Close the vote. In favour 24, no abstentions, 25 against. Therefore, amendment 74 is not agreed and amendment 76 falls as a result of that.
Gwelliant 74: O blaid: 24, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 74: For: 24, Against: 25, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Methodd gwelliant 76.
Amendment 76 fell.
Y grŵp olaf o welliannau, felly, yw grŵp 15. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â'r weithdrefn ar gyfer cychwyn. Gwelliant 75 yw'r unig welliant yn y grŵp a James Evans sy'n cynnig y gwelliant.
The final group of amendments is group 15. These amendments relate to the procedure for commencement. Amendment 75 is the only amendment in the group and I call on James Evans to move the amendment.
Cynigiwyd gwelliant 75 (James Evans).
Amendment 75 (James Evans) moved.
Diolch, Llywydd. I'm happy and relieved to speak to my final amendment in this group for consideration today, amendment 75. And I'm sure that all Members will be pleased that I've only got one paragraph to read on this amendment.
The purpose of this amendment is to further work alongside amendment 58 in group 3, again with the aim of implementing the objective of the committee recommendations that a provision should be included for an active offer of advocacy for children and young people whose care arrangements may be affected by the Bill. I ask all Members to support this amendment.
Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus ac yn falch o siarad am fy ngwelliant olaf yn y grŵp hwn i'w ystyried heddiw, gwelliant 75. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn falch mai dim ond un paragraff sydd gennyf i'w ddarllen ar y gwelliant hwn.
Diben y gwelliant hwn yw gweithio ymhellach ochr yn ochr â gwelliant 58 yng ngrŵp 3, eto gyda'r nod o weithredu amcan argymhellion y pwyllgor y dylai darpariaeth gael ei chynnwys ar gyfer cynnig gweithredol o eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc y gallai'r Bil effeithio ar eu trefniadau gofal nhw. Gofynnaf i'r holl Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.
Y Gweinidog i ymateb.
The Minister to reply.
Diolch, Llywydd. As this is the last time that I'll be on my feet this afternoon as well, can I thank all Members for the constructive engagement over this really important and groundbreaking piece of legislation that we're attempting to clear this afternoon?
The one amendment in this group, amendment 75, seeks to require that any statutory instrument made under section 29(2) of the Bill to commence provisions in the Bill should be subject to the draft affirmative procedure. This does not align with the approach the Government has consistently taken in its legislation, which is that statutory instruments solely commencing provisions of an Act are not subject to any procedure. There is also a technical issue with the amendment. Section 29(2) gives Welsh Ministers the power to commence the provisions of the Bill by Order. However, the amendment refers to regulations. For both these reasons, I therefore ask all Members to vote against this amendment. Diolch yn fawr.
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r tro olaf y byddaf i ar fy nhraed y prynhawn yma hefyd, a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am y drafodaeth adeiladol ar y darn pwysig ac arloesol hwn o ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ceisio ei chlirio y prynhawn yma?
Mae'r un gwelliant yn y grŵp hwn, gwelliant 75, yn ceisio'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw offeryn statudol sy'n cael ei wneud o dan adran 29(2) o'r Bil i ddechrau darpariaethau yn y Bil yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Nid yw hyn yn gydnaws â'r dull y mae'r Llywodraeth wedi'i gymryd yn gyson yn ei deddfwriaeth, sef nad yw offerynnau statudol sydd dim ond yn dechrau darpariaethau Deddf yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Mae yna hefyd fater technegol gyda'r gwelliant. Mae adran 29(2) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddechrau darpariaethau'r Bil drwy Orchymyn. Fodd bynnag, mae'r gwelliant yn cyfeirio at reoliadau. Am y ddau reswm hyn, gofynnaf felly i'r holl Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn. Diolch yn fawr.
James Evans to respond.
James Evans i ymateb.
Diolch, Llywydd. As this is the last time I'll be on my feet today, I would just like to say thank you to the Minister and your team for all your engagement and the meeting that we had when you were on the move between meetings—I was very grateful for that—and also to all the committee clerks who've helped put all these amendments together. And I will say, Minister, even though we have a difference of opinion over this Bill, I will say that, on this side of the Chamber, we really do care about our children and young people across Wales who are in the care system, and anything that we can do to improve the lives of those young people is very, very important. And I think we should all be very proud of the work that we all do in this Chamber to stand up for those people who sometimes do not feel like they have a voice. So, diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch, Llywydd. Gan mai dyma'r tro olaf y byddaf i ar fy nhraed heddiw, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog a'ch tîm am eich holl ymgysylltu a'r cyfarfod a gawsom pan oeddech chi'n symud rhwng cyfarfodydd—roeddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny—a hefyd i holl glercod y pwyllgor sydd wedi helpu i roi'r holl welliannau hyn at ei gilydd. Ac fe wnaf i ddweud, Gweinidog, er bod gennym ni wahanol farn am y Bil hwn, fe wnaf i ddweud, ar ochr hon y Siambr, ein bod ni wir yn poeni am ein plant a'n pobl ifanc ledled Cymru sydd yn y system ofal, ac mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i wella bywydau'r bobl ifanc hynny yn bwysig, bwysig iawn. Ac rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn falch iawn o'r gwaith yr ydyn ni i gyd yn ei wneud yn y Siambr hon i sefyll dros y bobl hynny nad ydyn nhw weithiau'n teimlo bod ganddyn nhw lais. Felly, diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 75? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais felly ar welliant 75 yn enw James Evans. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Y gwelliant yna wedi ei wrthod.
The question is that amendment 75 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We will move to a vote on amendment 75 in the name of James Evans. Open the vote. Close the vote. In favour 13, no abstentions, 36 against. Therefore, the amendment is not agreed.
Gwelliant 75: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Amendment 75: For: 13, Against: 36, Abstain: 0
Amendment has been rejected
Gwelliant 35, Gweinidog. Yn cael ei symud?
Amendment 35, Minister. Is it moved?
Cynigiwyd gwelliant 35 (Dawn Bowden).
Amendment 35 (Dawn Bowden) moved.
Moved.
Cynigiwyd y gwelliant.
Ydy mae e. Oes gwrthwynebiad i welliant 35? Nac oes. Felly, mae gwelliant 35, yr olaf, wedi cael ei gymeradwyo ar hynny.
It is. Are there any objectives to amendment 35? There are none. Therefore, amendment 35, the final amendment, is agreed.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Amendment agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Ac felly, rŷn ni wedi dod at ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a dwi’n datgan y bernir fod pob adran o’r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn.
And therefore, we have reached the end of our Stage 3 consideration of the Health and Social Care (Wales) Bill, and I declare that all sections and Schedules of the Bill are deemed agreed.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
All sections of the Bill deemed agreed.
A dyna ni, dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
And that concludes proceedings for today.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:36.
The meeting ended at 19:36.
Mae'r Gweinidog yn dymuno nodi bod y safonau ymarfer a'r canllawiau arfer da y cyfeirir atynt yma yn ymwneud ag adran 98(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd i'r plentyn o dan amgylchiadau penodol, yn hytrach na'r ddarpariaeth yn adran 178 o Ddeddf 2014 y cyfeiriodd y Gweinidog ati yn gynharach yn ei chyfraniad.
The Minister wishes to note that the practice standards and good practice guidance referred to here relate to section 98(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, which requires a local authority looking after a child to appoint an independent person to be the child's visitor under certain circumstances, rather than to the provision in section 178 of the 2014 Act referred to by the Minister earlier in her contribution.