Y Cyfarfod Llawn
Plenary
08/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fydd yr eitem gyntaf ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone.
1. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei dargedu tuag at grwpiau cymunedol sydd am ddatblygu llwybrau teithio llesol i'r ysgol? OQ62054
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddatblygu llwybrau cerdded, olwyno a beicio mwy diogel i ysgolion. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo a hyfforddiant i helpu plant i gerdded, olwyno a beicio i'r ysgol yn fwy diogel.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno'n llwyr fod gwaith gwych yn mynd rhagddo gyda sefydliadau fel Kidical, sy’n gwneud gwaith gwych, yn enwedig yng ngorllewin Caerdydd, i helpu ac annog teuluoedd i feicio i’r ysgol gyda'u plant. Yn sicr, rwyf wedi ymuno â rhai o’u reidiau teuluol ar draws Caerdydd. Gwn fod Living Streets yn cadw beicio, cerdded a sgwtera i’r ysgol fel y prif ffocws mewn ysgolion cynradd i sicrhau bod hyn yn cael ei hyrwyddo fel y dechrau gorau i’r diwrnod ysgol, fel bod disgyblion yn barod i ddysgu. Ond mae angen gwneud llawer iawn mwy i fapio llwybrau diogel i’r ysgol ac ymgorffori hyn fel y dechrau gorau i ddiwrnod y dysgwyr. Mae’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd fel Pentwyn yn fy etholaeth i, lle mae cyfran o fyfyrwyr yn mynd i orfod mynychu ysgol uwchradd sydd o leiaf ddwy filltir i ffwrdd, a’r ffordd fwyaf cynaliadwy o bell ffordd o gyrraedd yno fyddai ar feic, hyd yn oed os yw hynny ond er mwyn arbed y £400 a mwy y byddent yn gorfod ei dalu fel arall am gludiant i'r ysgol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth yw eich targed ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion sy’n teithio’n llesol i’r ysgol, a pha adnoddau a ddyrennir yn eich cyllideb y flwyddyn nesaf i hyrwyddo hynny.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Gwn ei bod yn frwdfrydig ac yn angerddol iawn am y maes polisi penodol hwn. Bûm innau allan gyda Living Streets yn ddiweddar yn fy etholaeth. Maent yn gwneud gwaith gwych, a gwnaeth eu menter traciwr teithio WOW argraff fawr arnaf, menter sy'n helpu i gynyddu'n sylweddol y nifer o bobl ifanc sy'n teithio i'r ysgol mewn ffordd egnïol. Ac rydym wedi ymrwymo, yn amlwg, i weithio gydag ysgolion, i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, i weithio gydag awdurdodau lleol a’n bwrdd teithio llesol er mwyn gwella ein gwaith casglu data yn y maes hwn. Rydym hefyd wedi comisiynu arolwg teithio cenedlaethol, a fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i ni am deithio, gan gynnwys teithio llesol, yng Nghymru. Bydd hynny wedyn, yn ei dro, yn ein helpu i osod targedau mewn ffordd ystyrlon. Ac rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau i hyrwyddo a chefnogi teithio llesol i ac o ysgolion. Rhoddais dystiolaeth y bore yma ynghylch cyllid ar gyfer teithio llesol yn 2025-26, a dywedais mai fy mlaenoriaeth o ran trafnidiaeth yw trafnidiaeth gynhwysol i bawb, a symud cynhwysol i bawb.
Wrth gwrs, fel y dywedoch chi yn gwbl gywir, buom yn trafod hyn y bore yma yn y pwyllgor. Mae'n deg dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwario cryn dipyn o arian ar y cynllun teithio llesol, ond mae wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddefnyddio lle ar y ffyrdd, creu llwybrau beicio ac ati, tra bo gennyf i fwy o ddiddordeb mewn llwybrau mwy diogel i'r ysgol, gan nad oes unrhyw ddull gwell o deithio i blant, a’u rhieni sy’n dymuno mynd gyda hwy, na cherdded i’r ysgol. Nawr, mae £73 miliwn wedi’i wario, mae’r ffigur ar gyfer pobl sy’n beicio o leiaf unwaith y mis wedi aros yn gyson, a chwestiwn i’r Gweinidog yn ddiweddar—Gweinidog arall o'ch blaen chi—dim cynnydd, er gwaethaf yr holl wariant hwn.
Mae gennyf ysgolion yn Aberconwy lle nad oes ganddynt fynediad diogel i gerdded i'r ysgol. Nid oes gan Ysgol Bodafon balmant hyd yn oed ar ffordd wledig i’r ysgol. Mae’r ffordd i fyny at ysgol gynradd Ysbyty Ifan unwaith eto'n beryglus a heb fynediad diogel i gerddwyr, ynghyd â'r llwybr at Ysgol Pencae, Penmaenmawr. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth symud ymlaen, i sicrhau, pan fyddwch yn dweud ‘cynhwysol’ wrth drafod teithio llesol, fod y ffocws wedi newid o feicio a'i fod bellach yn fwy ar annog plant i gerdded i’r ysgol? Roeddwn i'n arfer cerdded i'r ysgol pan oeddwn yn saith, wyth, naw oed, ac mae'n eich paratoi'n dda ar gyfer y diwrnod. A hoffwn weld mwy o bwyslais ar lwybrau mwy diogel i'r ysgol. Mae gennym bobl heb fynediad at fysiau mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n rhaid iddynt gerdded yn bell iawn, felly mae’r rhieni’n mynd â hwy, gan nad ydynt yn teimlo ei bod hi'n ddiogel i beidio â mynd â hwy.
Rwyf wedi bod yn hael iawn.
Ydych—mae'n wir.
Diolch am gydnabod hynny.
Felly, credaf eich bod yn deall fy mhwynt, serch hynny, fod hyn yn ymwneud â gwneud y llwybrau hynny’n fwy diogel. Gadewch inni sicrhau bod ein plant yn cerdded i'r ysgol.
Wel, a gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn? Ac er budd Aelodau eraill, buom yn trafod yr union bwynt hwn yn fanwl yn y pwyllgor y bore yma. Credaf ei bod yn deg dweud, os caf, fod bron bob aelod o’r pwyllgor wedi cytuno, os yw ein strydoedd yn ddiogel i’n pobl fwyaf agored i niwed—plant, yr henoed, pobl eiddil, pobl sy'n ddall, yn rhannol ddall, yn drwm eu clyw, pobl fyddar, pobl sy'n wynebu rhwystrau, pobl ag anableddau cudd—os ydynt yn ddiogel i'n pobl fwyaf agored i niwed, maent yn ddiogel i bawb. Ac felly, rwy'n credu bod y flaenoriaeth o gerdded ac olwyno, gwella ein palmentydd, sicrhau bod ein strydoedd yn fwy diogel yn dda i bob dinesydd.
Nawr, rydym eisoes yn ariannu cynlluniau fel Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, ond amlinellais i'r pwyllgor y bore yma sut rydym yn mynd i fod yn mandadu o leiaf 60 y cant ar gyfer dyraniadau teithio llesol, er mwyn cael gwelliannau ar lawr gwlad—yn benodol pethau fel palmentydd botymog, cyrbau isel, palmentydd mwy diogel, llwybrau troed mwy diogel—i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu cerdded i’r ysgol ac yn ôl, i sicrhau bod mwy o bobl agored i niwed yn gallu cael mynediad at wasanaethau, i sicrhau nad yw menywod yn ofni aros mewn safleoedd bysiau, rhywbeth rydym wedi clywed amdano gan nifer o Aelodau yn y Siambr hon. Dyna ble mae fy ffocws. Dyna ble mae fy mlaenoriaeth. A chredaf fod gennym gefnogaeth gan fwyafrif helaeth, nid yn unig o'r pwyllgor y bore yma, ond gan grwpiau rhanddeiliaid sy’n cynrychioli teithio llesol hefyd.
2. Sut y mae polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau gwledig? OQ62071
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llawer o gynlluniau teithio llesol yng nghefn gwlad Cymru, ac yn amlwg, mater i awdurdodau lleol yw pennu eu blaenoriaethau teithio llesol. Ac mae ein grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn mynd ati'n benodol i gynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau bod cerdded, olwyno a beicio i ysgolion mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal ag ardaloedd trefol, yn fwy diogel.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid oeddwn yn sylweddoli bod hwn yn fater a drafodwyd yn y pwyllgor y bore yma, felly byddaf yn sicr yn adolygu’r Cofnod yn hynny o beth. Wrth gwrs, rydych chi'n nodi mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno mapiau teithio llesol, ond mae'n rhaid iddynt wneud hynny gan ystyried y meini prawf a nodir yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Ac fe geir meini prawf y mae'n rhaid i awdurdodau lleol gadw atynt. Felly, hoffwn wybod a oes awydd gennych i ddiweddaru'r meini prawf hynny, oherwydd, mor aml, yr hyn a welaf yn arbennig yw aneddiadau y tu allan i drefi—felly pentrefi mawr, os mynnwch, â phoblogaethau mawr—lle mae'n anodd cael cyllid teithio llesol am nad ydynt yn bodloni'r meini prawf a nodwyd, ac felly ni all awdurdodau lleol eu cynnwys yn eu rhwydweithiau llwybrau teithio llesol. Felly, a gaf i ofyn pa mor awyddus ydych chi i adolygu’r meini prawf hynny, ac a yw hynny’n rhywbeth rydych chi wedi’i ystyried, ac am unrhyw wybodaeth sydd gennych ynglŷn â phryd y gallai hynny ddigwydd?
Wel, mae hwn yn gwestiwn rhagorol, Lywydd, ac unwaith eto, mae’n bwnc a drafodwyd yn y pwyllgor y bore yma. Nawr, mae’r Ddeddf teithio llesol yn mynd i gael ei hadolygu eleni, ac roedd yr Aelodau yn y pwyllgor y bore yma yn rhannu barn Russell George, ac yn wir, fe wnaeth Carolyn Thomas ofyn am fwy o hyblygrwydd yn y broses ymgeisio a’r meini prawf. Felly, bydd hynny’n amlwg yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad o’r Ddeddf teithio llesol. Fy nod yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn egnïol mor aml â phosibl. Felly, mae angen inni sicrhau bod y meini prawf ar gyfer cyllid i alluogi hynny’n ddigon hyblyg i gyflawni’r hyn y credaf fod pob un ohonom yn dymuno ei weld, sef symud cynhwysol, trafnidiaeth gynhwysol, ysgogi pobl i fod yn egnïol, cysylltu cymunedau.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn fy rôl newydd, a gobeithio y gallwn weithio'n adeiladol gyda'n gilydd i hybu'r gwerth gorau i Gymru o safbwynt trafnidiaeth.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y clywsom ar y newyddion yr wythnos hon, mae 23 mlynedd wedi bod ers dechrau prosiect ffordd Blaenau’r Cymoedd, ac mae’n dod i ben eleni, rhywbeth y credaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei groesawu. Yn ôl pan ddatblygwyd yr achos busnes gwreiddiol, cynhaliwyd asesiad o werth am arian gennych, gyda model yr Adran Drafnidiaeth, ac fe sgoriodd y prosiect, ar y pwynt hwnnw, gymhareb o 1.46, sy'n dangos gwerth isel, yn ôl yr hyn a ddeallaf—caiff hynny ei gategoreiddio fel gwerth isel. Ers hynny, rydym wedi gweld costau’n cynyddu'n sylweddol, fel y gŵyr pob un ohonom. Nid wyf yn erbyn y prosiect hwn, ond credaf ei bod yn bwysig ac yn ddyletswydd arnom i gwestiynu pa mor dda fydd gwerth am arian y cynllun pan fydd wedi'i gwblhau a'r costau terfynol wedi'u cyhoeddi. Ac i roi rhywfaint o gyd-destun, yn 2017, rhagwelwyd y byddai ffordd liniaru'r M4 yn costio £1.4 biliwn, ac yn darparu enillion o 2:1—gwelliant eithaf sylweddol o ran cost a budd. Fodd bynnag, fe wnaethoch chi benderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gost a budd terfynol ffordd Blaenau'r Cymoedd, o ystyried y cawn ein harwain i gredu y rhagwelir y bydd y prosiect hwn, yn y pen draw, yn costio swm syfrdanol o bron i £2 biliwn i bwrs y wlad? Rwy'n gofyn hyn am fod cost cyfle enfawr yn sgil bwrw ymlaen yn wyneb costau cynyddol, ac rwy’n ofni bellach, fel llawer o bobl eraill, na fydd prosiectau ffyrdd yn y dyfodol yn symud ymlaen o ganlyniad.
Lywydd, os maddeuwch i mi am eiliad, a gaf i yn gyntaf oll dalu teyrnged i Natasha Asghar, y cefais y pleser o gael fy nghysgodi ganddi yn 2024, ac a oedd bob amser yn hynod gynhyrchiol yn ei her a bob amser yn barchus? Edrychaf ymlaen at gael fy nghysgodi nawr gan Peter Fox. Mae nifer o bobl yn dweud nad ydym mor bell â hynny oddi wrth ein gilydd yn wleidyddol, a chredaf fod y dechrau heddiw—ei gwestiwn cyntaf ynglŷn â ffordd Blaenau’r Cymoedd—yn dangos ein bod at ei gilydd o’r un farn, fod y ffordd hon yn hanfodol bwysig i ddod â chyfleoedd economaidd i rai o’r cymunedau sydd wedi cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i gau'r pyllau glo, ac sydd wedi'i chael hi'n anodd, nid oes dwywaith am hynny. Felly, nid ffordd yn unig mohoni—mae hon yn wythïen economaidd enfawr a fydd yn dod â gobaith a chyfle i lawer iawn o gymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd.
Nawr, o ran y gymhareb cost a budd, rwyf bob amser braidd yn amheus o'r ystadegau syml sy'n dod gydag achos busnes am nad ydynt yn dweud y stori lawn. Ni ddylai’r hyn y gellid ei ystyried yn gynllun gwerth isel mewn ardal gyfoethog gael ei ystyried yn gynllun gwerth isel mewn ardal y mae taer angen cyfleoedd a chyflogaeth arni. A dyna pam y credaf fod ffordd Blaenau'r Cymoedd yn werthfawr y tu hwnt i'w chymhareb cost a budd. Ni fyddai cynlluniau fel y ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd, ar ben draw'r A465, ond yn bosibl gyda’r buddsoddiad yn y cynllun hwnnw, a gallai fod 1,100 o swyddi’n cael eu creu yn ystod 10 mlynedd gyntaf y rhaglen benodol honno.
Felly, credaf ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn cydnabod bod y buddsoddiad hwn, a buddsoddiad ehangach yn ein seilwaith, ochr yn ochr â buddsoddiad mewn sgiliau, yn darparu llawer mwy na budd economaidd a symud nwyddau a phobl yn unig—mae hefyd yn darparu rhagolygon unigol i bobl sy’n byw mewn amgylchiadau heriol iawn, ac fe all newid bywydau. Felly, dyna pam fy mod yn llwyr gefnogi’r ffordd, ac rwy’n falch fod yr Aelod hefyd yn cydnabod y dylai’r ffordd hon fod wedi cael ei hadeiladu. Byddwn yn dysgu gwersi o’r contractau wrth gwrs, o’r ffordd yr adeiladwyd y ffordd. Mae’n debyg mai hon oedd y ffordd fwyaf heriol, mewn termau technegol, i gael ei hadeiladu yn y Deyrnas Unedig yn ystod y degawd diwethaf. Ac wrth gwrs, mae'n perthyn i'r rhaglen ffyniant, rhaglen o adeg y rhyfel, pan gafodd yr M5 a'r M50 eu deuoli, ond ystyrid nad oedd modd deuoli'r A465, oherwydd y topograffi a'r amgylchiadau heriol ar gyfer deuoli. Felly, mae cyrraedd y pwynt hwn wedi bod yn gyflawniad gwych, ac edrychaf ymlaen at ei gweld yn cael ei chwblhau yn yr haf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn gobeithio y daw’r manteision hynny i’r ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Diben prifddinas-ranbarth Caerdydd oedd ceisio codi'r gwastad, ac os yw hyn yn helpu o'r pen uchaf, mae hynny'n wych, ond mae'n rhaid inni herio'r arian sylweddol sydd wedi'i wario ar hyn.
Gan symud ymlaen, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ffaith bod y cynllun hwn wedi effeithio ac y bydd yn parhau i effeithio'n aruthrol ar fywydau pobl a llawer o fusnesau a bywoliaeth llawer o bobl. Gwn fod nifer o etholwyr yr effeithiwyd arnynt gan y prosiect wedi cysylltu â mi yn dal i ddisgwyl iawndal priodol. Gwn fod y Llywodraeth eisoes wedi talu oddeutu £45 miliwn mewn iawndal hyd yn hyn, ond rwy'n ofni efallai mai brig y rhewfryn yn unig yw hyn. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi nad yw ond yn iawn fod unrhyw un sy’n haeddu iawndal ac sydd wedi cael addewid o iawndal yn derbyn yr hyn sy’n deg. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi ddweud wrthyf faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu tuag at ddarparu iawndal i'r rheini yr effeithir arnynt gan y prosiect, a beth fydd yr amserlen ar gyfer talu'r iawndal sydd heb ei dalu?
Diolch i Peter Fox am godi hyn, gan ei fod yn caniatáu imi ddiolch i’r miloedd lawer, y degau o filoedd o bobl sydd wedi dioddef tarfu o ganlyniad i’r gwaith diweddaraf sydd wedi bod yn mynd rhagddo. Fy marn i yw bod y gwaith hwnnw’n werth yr ymdrech. Bydd yn cysylltu cymunedau'n well. Bydd yn rhoi gobaith i fywydau llawer o bobl. Yn wir, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi adrodd bod ymholiadau ar gyfer safleoedd ar hyd yr A465 wedi cynyddu o ganlyniad i'r sylw diweddar. Rydym wedi gweld, yn ystod y chwe mis diwethaf, awydd cynyddol ymhlith busnesau i edrych ar ardal Blaenau’r Cymoedd fel lle da i fuddsoddi, ac mae hynny’n sicr yn dda iawn i’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd y mae’r gwaith wedi tarfu arnynt. Nawr, bydd unrhyw achos—unrhyw achos—dros iawndal yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru a chan y cwmnïau sydd wedi’u contractio, ac os oes unrhyw drigolion neu unrhyw fusnesau sy’n pryderu y gallai’r tarfu fod wedi achosi colled neu niwed iddynt, dylent gysylltu â ni, ond ni fuaswn yn clustnodi swm at ddibenion iawndal. Yn hytrach, mae angen inni wirio pob cais unigol fesul achos.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hynny'n galonogol. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl sy'n gwylio yn derbyn eich cyngor. Fe sonioch chi am y gwersi a ddysgwyd eisoes, ac nid yn unig y rhagwelir y bydd y prosiect hwn yn costio £2 biliwn yn y pen draw—ymhell bell dros y gyllideb—ond mae'r prosiect wedi wynebu oedi parhaus, gan arwain at anhrefn i fusnesau a phobl leol yn yr ardal, ac rydych wedi cydnabod hynny. Rwyf am fod yn glir: rwy’n falch fod y prosiect ar fin cael ei gwblhau ac y bydd yr hunllef ar ben cyn bo hir i lawer o drigolion a busnesau. Fodd bynnag, mae'r cynllun wedi rhygnu ymlaen yn llawer rhy hir—rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno ar hynny—ac wedi costio llawer gormod; gallwn gytuno ar hynny hefyd. Yn amlwg, mae’n rhaid dysgu gwersi. Felly, a allwch chi ymhelaethu, Ysgrifennydd y Cabinet, ar beth yw'r gwersi pwysicaf a ddysgwyd o'r prosiect hwn, y byddai llawer o bobl yn teimlo ei fod wedi'i reoli'n wael o'r dechrau i'r diwedd?
Rwy'n credu mai'r wers bwysicaf i'w dysgu yw peidio byth â rhoi'r gorau iddi, gan fod y prosiect ffordd hwn, do, wedi cymryd cryn dipyn o amser i'w gyflawni, ond mae'n gamp beirianegol enfawr. Ac ar sawl achlysur, gallem fod wedi rhoi'r gorau iddi, ond ni fyddem wedyn wedi sicrhau'r budd economaidd mwyaf, ni fyddem wedi cynyddu'r cysylltedd rhwng cymunedau i'r eithaf. Mae'r gwaith o adeiladu’r ffordd hon wedi rhychwantu nifer o heriau economaidd a chymdeithasol ac iechyd: COVID, y pandemig, chwalu'r economi yn ddiweddar, Brexit, a wnaeth greu problemau cost o ran mewnforio nwyddau a deunyddiau o Ewrop, a chyni hefyd. Felly, mae wedi rhychwantu cyfnod enfawr o amser a nifer enfawr o heriau. Gallem fod wedi rhoi'r gorau iddi ar unrhyw adeg, ond ni wnaethom, ac rydym wedi ei gyflawni.
O ran ehangu’r gwersi y gellid eu dysgu i feysydd eraill, rwy'n credu bod angen inni edrych ym Mhrydain a ledled Prydain i weld pam mae prosiectau seilwaith mawr yn costio llawer mwy i’w cyflawni nag mewn mannau eraill yn Ewrop, ac yn aml yn gor-redeg i raddau mwy. Er enghraifft, os cymerwn brosiect seilwaith mawr arall a gwblhawyd yn ddiweddar yn y Deyrnas Unedig, lein Elizabeth, prosiect a oedd i fod i gael ei gwblhau dair blynedd a hanner ynghynt, gyda'r gost gyffredinol yn cynyddu 28 y cant, oddeutu £5 biliwn yn fwy nag a ragwelwyd. Mae angen inni wybod pam, ym Mhrydain—gan nad yw hyn yn gyfyngedig i Gymru—pam mae'n costio mwy ym Mhrydain ac yn cymryd mwy o amser i gyflawni prosiectau seilwaith. Mae hyn yn rhywbeth rwyf eisoes wedi’i drafod â Gweinidogion newydd y DU ym maes trafnidiaeth a Swyddfa Cymru, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn awyddus i weithio gyda sefydliadau a busnesau eraill arno, i sicrhau y gallwn gyflawni prosiectau seilwaith yn gyflymach ac o fewn y cyllidebau. Nawr, mae enghreifftiau yng Nghymru o sut rydym wedi cyflawni hyn. Credaf fod ffordd osgoi'r Drenewydd yn enghraifft wych o seilwaith a gwblhawyd yn unol â'r ffordd y gwnaethom osod ein cynlluniau. Ac ar y pwynt penodol hwnnw, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau yn y Siambr am y gefnogaeth eang a gafodd y prosiect penodol hwnnw hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n mynd i ddilyn ymlaen o gwestiwn Peter. Ar ôl gwerth dros £1 biliwn o waith sydd wedi para bron mor hir â datganoli, mae saga ffordd Blaenau'r Cymoedd yn agosáu at ei therfyn, ac mae cyrraedd y pwynt hwnnw wedi bod yn ffordd hir yn wir, yn enwedig i drigolion lleol, sydd wedi gorfod dioddef blynyddoedd o darfu sylweddol; mae'r gwaith wedi tarfu ar filoedd o bobl. Er fy mod yn croesawu cwblhau’r gwaith ffordd ac yn mawr obeithio y bydd y manteision economaidd a addawyd yn cael eu gwireddu, mae cwestiynau o hyd ynghylch y modd y mae’r Llywodraeth hon wedi ymdrin â’r prosiect, a thrwy hynny, eu hygrededd i oruchwylio prosiectau trafnidiaeth yn y dyfodol. Felly, yn ysbryd dysgu gwersi, fel y dechreuoch chi gyda Peter, a allwch chi gadarnhau cyfanswm y gwariant ychwanegol y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo iddo dros y 10 mlynedd nesaf o ganlyniad i'r model buddsoddi cydfuddiannol sy'n sail i'r prosiect? Pa gyfran o’r gwariant hwnnw a fydd yn mynd i bocedi cwmnïau preifat tan y daw’r ffordd hon i berchnogaeth gyhoeddus lawn ymhen 30 mlynedd? Ac a fyddech chi'n dadlau o blaid defnyddio'r model ariannu hwnnw eto?
Wel, a gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, mae'n rhaid imi ddweud nad yw hyn wedi bod yn 'saga'. Mae hon yn fuddugoliaeth i fod wedi cyflawni un o’r prosiectau mwyaf heriol o safbwynt technegol yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a thu hwnt, yn wir. Mae'n gamp enfawr, a chredaf fod cyrraedd y pwynt hwn yn rhywbeth y mae angen inni ei ddathlu: rydym wedi llwyddo. Ac o ran yr adran ddiweddaraf, adran 5, ac adran 6 yn wir, nid ydynt dros gyllideb, ac maent yn mynd i gael eu cyflawni ar amser. Ac felly credaf ei fod yn llwyddiant sy'n werth ei ddathlu.
Serch hynny, mae'r ffordd yn ei chyfanrwydd wedi bod yn her, nid oes amheuaeth am hynny, oherwydd yr hyn y bu'n rhaid inni weithio gydag ef a'r hyn y bu'n rhaid i gontractwyr ymdrin ag ef. Ond yn yr un modd, mae eisoes wedi creu cyflogaeth sylweddol: mae bron i 90 y cant o'r bobl sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun yn byw yng Nghymru; mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u cyflogi i gwblhau'r cynllun yn lleol i ardal Blaenau'r Cymoedd. Felly, mae eisoes wedi darparu cyfleoedd gwaith amhrisiadwy, ac yn wir, prentisiaethau i bobl ifanc. Felly, mae'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn falch iawn ohono.
Ac o ran y gost, rwy'n cytuno bod y gost yn sylweddol iawn yn wir, ac o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn niffyg arian yn lle'r arian hwnnw, arian yr oedd ei angen i gwblhau’r cynllun, mabwysiadwyd y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae hwn yn fodel unigryw i Gymru. Mae’n ein galluogi i gael y budd cymunedol mwyaf posibl o’r buddsoddiad ac mae’n caniatáu inni gyflawni cynlluniau a fyddai’n gwbl anfforddiadwy gyda'r setliad cyllidebol cyfredol sydd gennym ar gyfer cynlluniau ffyrdd cyfalaf. Mae'n brosiect y credaf y gallwn ddysgu gwersi ohono—gwersi rhagorol—ynglŷn â sut i gyflawni mewn amgylchiadau anhygoel o anodd. Ac rwy'n credu bod angen inni ystyried y model buddsoddi a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffordd benodol hon ar gyfer prosiectau buddsoddi mawr pellach yn y dyfodol.
Gofynnais i chi am y swm a fyddai’n cael ei wario dros y 10 mlynedd nesaf ar y prosiect, ond efallai y gallwch sôn am hynny yn yr ateb i’ch cwestiwn nesaf. Mae’r materion sy'n ymwneud â phrosiect ffyrdd Blaenau’r Cymoedd yn symptomau o fethiannau ehangach gan y Llywodraeth hon ym maes trafnidiaeth. Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn benodol, mae pobl Cymru, yn anffodus, yn dod i arfer â gwasanaethau annibynadwy ac israddol. Ategir hyn gan ystadegau perfformiad diweddaraf Trafnidiaeth Cymru: nid yw bron i 40 y cant o’u trenau’n cyrraedd ar amser ac mae eu lefelau canslo yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer gweithredwyr British Rail. Yn y cyfamser, mae'r uchelgais i sicrhau bod 95 y cant o deithiau yng Nghymru yn cael eu gwneud ar drenau newydd yn parhau i fod heb ei gyflawni ddwy flynedd wedi'r adeg pan oedd i fod i gael ei gyflawni. Rydym eisoes wedi clywed bod teithwyr ar reilffyrdd Lloegr yn wynebu cynnydd o 4.6 y cant i’w prisiau o fis Mawrth ymlaen, ac yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi efelychu unrhyw gynnydd a wneir dros y ffin. O ystyried y problemau rwyf newydd eu rhestru gyda pherfformiad gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, a ydych chi'n credu y bydd cymudwyr Cymru yn cael gwerth am arian os bydd eu prisiau’n codi uwchlaw chwyddiant yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf?
Yn gyntaf oll, hoffwn nodi bod Trafnidiaeth Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio eu gwasanaethau o ganlyniad i’r buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd—buddsoddiad o £800 miliwn a fydd yn rhoi un o’r fflydoedd mwyaf newydd o drenau ym Mhrydain i ni, o gymharu ag un o’r fflydoedd hynaf o drenau y gwnaethom eu hetifeddu gan Trenau Arriva Cymru yn ôl yn 2018. Bydd prydlondeb a dibynadwyedd yn amlwg yn amrywio, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael llwyddiant cyson dros y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â gweithredwyr eraill yng Nghymru a thu hwnt: y gorau o bob un o’r pedwar gweithredwr.
Nawr, mae'r Aelod yn nodi mai'r casgliad yn aml yw mai'r gweithredwr yn unig sydd ar fai am drenau'n cael eu canslo. Nid yw hynny'n wir. Mewn llawer iawn o achosion, mae oedi a chanslo trenau'n digwydd oherwydd y rhwydwaith, y trac, y signalau ac yn y blaen. Nid ein cyfrifoldeb ni yw hynny y tu hwnt i reilffyrdd craidd y Cymoedd, ac mae arnaf ofn, am lawer gormod o amser, o dan 14 mlynedd o gyni, na chawsom y buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru a oedd yn angenrheidiol i’w codi i’r safon a welwn mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad, mae hynny’n cyfrannu at lefelau uwch o risg o ran oedi a chanslo trenau ar reilffyrdd Cymru. I raddau helaeth, dyna pam ein bod yn gweld cyfraddau canslo ac oedi uwch na'r cyfartaledd gan Avanti a GWR a CrossCountry.
Dylwn nodi hefyd mai oddeutu £42 miliwn fydd y taliad gwasanaeth cyfartalog o dan y model buddsoddi cydfuddiannol. Fel y dywedais yn gynharach, yn syml iawn, ni fyddai'n bosibl fforddio cynllun mor fawr o dan wariant cyfalaf traddodiadol.
Diolch am yr ateb yna.
A sôn am yr oedi yn y rhwydwaith a’r system, yr hyn sy’n arbennig o rwystredig am gyflwr gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yw nad yw’r materion wedi’u cyfyngu i’n ffiniau ni yn unig, ac fe gyfeirioch chi at hynny yn eich ateb blaenorol. Dros wyliau’r Nadolig, clywsom y bydd cam nesaf y gwaith o adeiladu prosiect HS2 yn golygu ailgyfeirio trenau o Paddington i Euston tan o leiaf 2030, gan ychwanegu at amseroedd teithio ar wasanaethau o dde Cymru, ac efallai'n cael effaith ganlyniadol os yw'n mynd i Euston o ogledd Cymru hefyd. Felly, nid yn unig ein bod yn cael ein hamddifadu o werth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad o HS2, mae cymudwyr o Gymru sy’n teithio i Lundain hefyd yn mynd i orfod ymdopi ag anghyfleustra o ganlyniad i rywbeth sydd eisoes yn llesteirio economi Cymru. Gwyddom fod y Prif Weinidog wedi methu perswadio ei ffrindiau yn San Steffan o’r achos i ddarparu'r cyllid canlyniadol sy'n briodol ddyledus i ni yng Nghymru yn sgil HS2, boed hynny oherwydd diffyg dylanwad neu ddiffyg y bartneriaeth mewn grym honedig. O leiaf, felly, a wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ysgrifennu at eich swyddog cyfatebol nawr i gael y diweddariad a ganlyn: y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y bydd y gwaith adeiladu sydd ar y gorwel yn Old Oak Common yn effeithio ar amseroedd teithio a darpariaeth gwasanaethau; asesiad risg o'r effaith economaidd ar Gymru yn sgil y tarfu ar wasanaethau rheilffyrdd ar hyd y rheilffordd o dde Cymru i Lundain; a gwarantau na fydd prisiau i gymudwyr o Gymru sy'n teithio i Lundain yn cynyddu i adlewyrchu amseroedd teithio hwy?
A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiwn? Gwn fod Aelodau Seneddol eisoes wedi codi pryderon yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch y tarfu a fydd yn cael ei achosi gan y gwaith penodol hwn ar drenau Great Western sy’n teithio rhwng de Cymru a Llundain. Mae’n fater y byddaf yn ei godi gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Hoffwn sicrhau bod dinasyddion yn gallu teithio mor gyflym ac mor gyfleus â phosibl, nid yn unig yng Nghymru, ond rhwng Cymru a dinasoedd mawr yn Lloegr a’r Alban hefyd, felly byddaf yn codi hynny. Ond mae hefyd yn rhan o drafodaeth barhaus gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, ac yn yr haf, gwelsom yr hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth. Cawsom gytundeb y bydd uwchraddio seilwaith ar hyd prif reilffordd y gogledd yn ein galluogi i gynyddu gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru 50 y cant yn 2026. Mae’n gynnydd enfawr, a chredaf fod hynny’n flas o'r hyn sydd i ddod.
Mae cwestiwn 3 [OQ62060] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 4—Mike Hedges.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lif traffig ar yr M4 rhwng Cyffordd 43 a Chyffordd 38? OQ62048
Wrth gwrs. Mae'r data traffig diweddaraf o 2023 yn dangos bod llif traffig bron yn ôl i lefelau cyn COVID, gyda llif dyddiol cyfartalog blynyddol o ychydig o dan 87,500 o gerbydau modur.
Diolch am yr ateb hwnnw. Pe bai'n union yr un faint bob awr, ni fyddai problem. Fel rhywun sy'n teithio'n rheolaidd ar hyd yr M4 rhwng cyffyrdd 43 a 38, bob dydd rwy'n gweld tagfeydd traffig rheolaidd ar adegau prysur, gyda cherbydau'n llonydd neu'n symud yn araf. Gan dybio nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gau unrhyw un o'r cyffyrdd hynny nac adeiladu trydedd lôn, a oes unrhyw gynigion i ymdrin â'r dagfa hon? Mae gennyf ddau ateb i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, gwneud yr ail lôn yn 'geir yn unig'. Mae'n rhwystredig iawn pan fydd lori araf yn goddiweddyd lori sy'n symud yn araf iawn, ac yna'n arafu pawb. Neu'n ail, gwneud y lôn allanol yn un ar gyfer traffig sy'n symud drwy'r ardal.
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pellach? Rwy'n ymwybodol iawn fod yr ardal hon yn cael tagfeydd yn ystod oriau brig, ac mae Mike wedi codi'r hyn y mae'r Ffrancwyr yn ei alw'n 'rasio eliffantod' gyda mi yn ystod y dyddiau diwethaf. Rwy'n credu bod ei awgrymiadau yn sicr yn haeddu eu harchwilio, ac felly fe fyddaf yn gofyn i fy swyddogion archwilio'r awgrym o gyfyngu traffig penodol i un lôn, er mwyn sicrhau bod traffig yn gallu symud yn fwy rhydd yn y lôn allanol. Ac fe gaf weld pa effeithiau cadarnhaol y gallai hynny eu cael ar lif trafnidiaeth ac ar ansawdd aer, ac ar ddiogelwch, yn wir. Fe wnaf adrodd yn ôl cyn gynted ag y gallaf.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, os canfyddir eu bod yn cael effaith gadarnhaol, y cam nesaf fyddai cael rheoliadau traffyrdd, a gallai hynny gymryd nifer fawr o fisoedd. Ond fel y dywedaf wrth Mike Hedges, os yw'n ateb y dylid mynd ar ei drywydd. fe wnawn hynny.
Diolch.
Diolch i Mike am godi'r mater pwysig hwn. Ar wahân i'r ffaith y dylai'r terfyn o 50 mya fod yn ddiangen nawr gan y bydd ffactorau eraill yn gwella ansawdd aer yn ddramatig yn yr ardal, gwyddom fod y darn hwn o draffordd yn anaddas, gan na fyddai'r graddiannau ar y rhan hon o'r M4 byth yn cael eu hadeiladu heddiw. Hyd nes y gallwn symud nwyddau trwm oddi ar y ffyrdd ac ar y rheilffyrdd, mae'n rhaid inni gymryd camau i sicrhau bod gennym draffig sy'n llifo'n rhydd os ydym am gael unrhyw obaith o adfywio economi'r rhanbarth. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ychwanegol y gallwch eu cymryd i atal tagfeydd ar y rhan hon o'r ffordd sy'n rhwystro ymdrechion i wella economi Gorllewin De Cymru?
A gaf i ddiolch i Altaf am ei gwestiwn atodol? Mae yna lawer o bwyntiau y dylwn eu gwneud ynglŷn â'r cwestiwn. Yn gyntaf oll, cyflwynwyd y cyfyngiad cyflymder o 50 mya o ganlyniad i gamau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru—camau cyfreithiol a roddwyd ar waith yn erbyn Llywodraethau mewn mannau eraill hefyd am yr un rheswm—i helpu i ostwng llygredd aer. Rydym yn obeithiol y bydd y mesur hwnnw'n llwyddiannus, ac wrth gwrs, os gall lefelau llygredd ostwng o dan y trothwy cyfreithiol ar hyd y llwybrau hyn, byddem yn ystyried cael gwared ar y cyfyngiadau cyflymder. Dylwn ychwanegu pwynt arall, serch hynny, fod cerbydau nwyddau trwm wedi'u cyfyngu i 56 mya.
Ond rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn fod hwn yn ddarn unigryw o ffordd, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r cyd-bwyllgor corfforedig, wrth iddynt ddatblygu a chwblhau eu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, ar sut y gallwn sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal mor rhydd o dagfeydd â phosibl. Ac nid oes amheuaeth y ceir cyfleoedd o ran newid dulliau teithio, a all helpu yn hynny o beth hefyd. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag edrych ar sut y gallwn gael traffig i symud yn fwy rhydd; mae hefyd yn fater o sut y gallwn ddefnyddio dulliau eraill i leddfu peth o faint y traffig a welwn yn ystod oriau brig.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar Fetro Gogledd Cymru? OQ62057
Gwnaf, wrth gwrs. Mae darparu gwasanaethau ar ffurf metro yng ngogledd Cymru yn flaenoriaeth, ac rwy'n falch fod yna gynlluniau i ddarparu 50 y cant yn fwy o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar hyd prif reilffordd gogledd Cymru o 2026 ymlaen. Mae gwaith yn parhau hefyd i wella cysylltedd yn ardal y Mersi a'r Ddyfrdwy, yn enwedig rheilffordd y Gororau, gyda'r dyhead i ddarparu gwasanaethau metro yno hefyd, nid yn unig rhwng Wrecsam a Bidston, ond yn uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Bydd metro gogledd Cymru yn cael effaith drawsnewidiol ar wasanaethau trên a bysiau ar draws y rhanbarth, yn ogystal â gwella llwybrau teithio llesol. Mae wedi cael llwyddiannau, ond mae ei gynnydd parhaus yn gysylltiedig ag adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iddo gael ei gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl. Nid yw'r argymhellion a gyflwynwyd gan y comisiwn wedi cael eu penderfynu na'u mabwysiadu eto gan gyd-bwyllgor corfforedig gogledd Cymru, felly hoffwn pe gallech roi amserlen i mi ar gyfer gweithredu'r argymhellion.
Mae hwn yn gwestiwn amserol tu hwnt oherwydd rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r cyd-bwyllgor corfforedig ar gyflawni'r argymhellion a amlinellir yn adroddiad y comisiwn trafnidiaeth. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU hefyd—yn wir, mae rhai o'r argymhellion ar frig y rhestr flaenoriaethau ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd yng Nghymru. Ac mae gwaith metro gogledd Cymru a chynllun trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru yn cael eu datblygu'n gyflym. Mae cynllun trafnidiaeth rhanbarthol gogledd Cymru wrthi'n cael ei gwblhau. Rwy'n falch iawn y bydd yn destun ymgynghori'n fuan, a gobeithio y gellir ei gymeradwyo yn ddiweddarach eleni, a bydd hynny'n adlewyrchu gwaith Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru.
Diolch i Lesley Griffiths am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn croesawu'r ffocws ar wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled gogledd Cymru, ac fel y nodoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y cysylltiadau â gogledd-orllewin Lloegr, sydd mor bwysig ar gyfer swyddi a thwf economaidd yng ngogledd Cymru hefyd. Gorau po gyflymaf y gall y buddsoddiad hwn ddigwydd yn fy marn i. Fel sydd eisoes wedi'i nodi, mae'n ymddangos ei fod yn llusgo yn ei flaen yn eithaf araf, ac rwy'n gobeithio nad yw hynny'n drosiad ar gyfer dyfodol y metro yng ngogledd Cymru pan fydd yn weithredol. Fe ddywedoch chi mewn sesiwn pwyllgor ym mis Tachwedd fod yna brosiectau parod i'w cyflwyno ar gyfer y metro. Gadewch inni fod yn onest, rwy'n gwybod eich bod chi wedi rhoi amlinelliad eithaf annelwig y prynhawn yma o'r argymhellion sy'n cael eu gweithredu, ond tybed a allech chi fod yn fwy penodol ynghylch yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau'r prosiectau y gwnaethoch chi eu disgrifio fel rhai sy'n barod ar gyfer eu cyflwyno.
Yn sicr. Nid ein cyfrifoldeb ni yw'r prosiectau hyn, yn amlwg, gan nad ni sy'n berchen ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru, ond Network Rail, sy'n mynd i fod yn Great British Railways. Ond siaradais â'r Gweinidog rheilffyrdd a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac yn wir Ysgrifennydd Gwladol Cymru ychydig cyn y Nadolig, ac fe aethom drwy rai o'r prosiectau sy'n barod i'w cyflwyno. Yr un cyntaf a mwyaf amlwg y gellid ei gyflawni mewn cyfnod cymharol fyr yw'r gwaith sy'n ofynnol wrth waith sment Padeswood. Byddai hynny wedyn yn hwyluso'r cam nesaf o waith ar reilffordd y Gororau, ac fel y dywedais, ein nod yw cael gwasanaethau metro uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl. Gan ddechrau gyda phrosiect seilwaith gwaith sment Padeswood, credaf y gellid cyflawni hynny o fewn cyfnod o 18 i 24 mis, ac yna gellid cyflawni rhannau nesaf y prosiect o fewn mater o flynyddoedd wedi hynny. Byddai darparu system metro rhwng Wrecsam a Lerpwl yn ategu'r hyn a allai fod yn bedwar trên yr awr ar hyd arfordir gogledd Cymru i lawer o orsafoedd, ar yr amod y gellir gwella'r gwasanaethau a weithredir ar hyn o bryd gan Avanti West Coast yn ôl i'r lefel cyn COVID.
6. Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio i gyflawni blaenoriaeth y Prif Weinidog o drwsio ffyrdd a phalmentydd? OQ62061
Wel, rwyf wedi sefydlu cronfa bwrpasol yn 2025-26 yn unswydd ar gyfer trwsio diffygion ar y ffyrdd ar ein rhwydwaith er mwyn cynnal cysylltedd cymunedol. Yn ogystal, byddaf yn sefydlu'r gronfa fenthyca leol, a fydd yn caniatáu cyllid mawr ei angen yn 2025-26 ar gyfer trwsio ffyrdd a rhwydweithiau awdurdodau lleol.
Mae arian ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd a seilwaith palmentydd yn cael ei groesawu'n fawr gan awdurdodau lleol. Rwy'n gwybod eu bod yn ei chael hi'n anodd. Yn sir y Fflint yn unig, mae ganddynt fwlch ariannol o £3.9 miliwn. Wel, nid bwlch, ond mae angen £3.9 miliwn arnynt i gadw'r ffyrdd yn eu cyflwr presennol, sef bwlch o £2.5 miliwn eleni o'r hyn sydd ganddynt mewn gwirionedd. Felly, mae'n broblem fawr. Felly, rwy'n croesawu unrhyw gyllid. Mae'n cymryd amser i gynllunio gwaith cynnal a chadw ffyrdd a chael contractwyr i mewn i wneud y gwaith hwnnw, felly gallent wneud â chyllideb ddangosol, os yw hynny'n bosibl. Rwy'n gwybod bod gennym broses ar gyfer pennu'r gyllideb, ond mae angen iddynt geisio cael rhaglenni ar waith ar gyfer eleni, yn barod ar gyfer cyfnod sych. A yw hyn yn bosibl? Diolch.
A gaf i ddiolch i Carolyn am ei chwestiwn atodol? Ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried cyflwyno'r awgrym hwnnw. Os yw'n bosibl, byddwn yn cyflawni hynny.
Hoffwn amlinellu pa mor werthfawr yw'r fenter fenthyca leol. Tynnodd Carolyn sylw at yr her sy'n wynebu Cyngor Sir y Fflint, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig i gyd fwy neu lai. Mae ôl-groniadau cynnal a chadw yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob awdurdod trafnidiaeth ym Mhrydain, yn anffodus. Mae'n symbol, yn arwydd ac yn ganlyniad i 14 mlynedd o gyni. Bydd y fenter fenthyca leol yn galluogi awdurdodau lleol i hunangyllido £60 miliwn o waith trwsio ffyrdd yn 2025-26. Daw hynny ochr yn ochr â'r gronfa bwrpasol £25 miliwn a sefydlais ar gyfer trwsio'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Bydd y £25 miliwn hwnnw'n helpu i drwsio tua 30,000 o dyllau ar 100 km o ffordd. Os ydych chi'n allosod y ffigurau hynny wedyn, gallwch ddychmygu y bydd £60 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd lleol yn trwsio rhywbeth tebyg i 100,000 o dyllau i gyd, rhwng ffyrdd lleol a'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Felly, mae'n ymdrech enfawr i drwsio ein ffyrdd, ond byddwn yn gweithio mor agos ag y gallwn gydag awdurdodau lleol yn y dyfodol ar gyd-gynllunio'r cynllun a chynnal y cynllun, os yn bosibl.
Cwestiwn 7, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Mae'n déjà vu.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gau porthladd Caergybi? OQ62073
Gwnaf, wrth gwrs. Rhoddais ddatganiad llafar i'r Senedd ddoe ar gau porthladd Caergybi ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiad, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau o'r Senedd—yr holl Aelodau sydd â diddordeb yn hyn o ogledd Cymru—i sicrhau bod y porthladd yn wydn yn y dyfodol ac yn gallu gwneud y mwyaf o'i botensial economaidd.
Diolch. Roedd yn dda iawn cael y datganiad hwnnw gennych ddoe, ond pwynt y soniodd Rhun ap Iorwerth amdano ddoe oedd: pa ragofalon—? O ystyried bod newid hinsawdd yn glir a'n bod yn gweld y stormydd hyn yn llawer amlach, sut ydych chi'n gweld y tasglu'n symud ymlaen i sicrhau ein bod yn lliniaru unrhyw risgiau pellach? Mae wedi cymryd y digwyddiad hwn i wneud i bawb ohonom sylweddoli pa mor werthfawr yw'r porthladd a'r effaith, nawr ei fod wedi'i ddifrodi'n ddifrifol, y mae'n ei chael ar ein busnesau, ein cludwyr nwyddau a phethau felly. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i gydnabod y gallai hyn ddigwydd eto?
Rwy'n rhannu pryderon Janet Finch-Saunders am yr hyn sydd wedi digwydd. Yn aml ni fyddwch yn sylweddoli ac yn deall pwysigrwydd a gwir werth ased fel porthladd neu ffordd tan i chi ei golli. Felly, bydd y tasglu'n gallu nodi'r hyn sydd ei angen ar gyfer gwytnwch yn y dyfodol, yn enwedig os bydd mwy a mwy o ddigwyddiadau tywydd trychinebus yn digwydd yn rheolaidd. Ond rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud mai'r flaenoriaeth yw adnewyddu'r morglawdd. Dyna fydd yn darparu'r gwytnwch a'r amddiffyniad mwyaf i'r porthladd wrth symud ymlaen, am ddegawdau lawer i ddod. A dyna pam rwy'n credu y bydd hynny ar frig y rhestr wrth ystyried amserlen waith y tasglu.
Dwi'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ofyn y cwestiwn yma heddiw, sy'n ein hatgoffa ni nad dim ond yn Ynys Môn mae'r effaith yn cael ei deimlo; mae'n cael ei deimlo mewn llefydd fel Aberconwy hefyd. Mi gawson ni nifer o atebion pwysig gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddoe, ac roeddwn i'n croesawu'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr A55 i gyd fel rhan o isadeiledd y porthladd ei hun. Mi gafodd yr A55 ei adeiladu at y porthladd, ond nid i mewn i’r porthladd. Roeddwn i'n edrych yn ôl, ac yn 2015 gwnaeth y Gweinidog Edwina Hart ddweud bod gwaith yn digwydd i drio delifro cynlluniau i wneud y cyswllt yna i mewn i'r porthladd ei hun. Dyma ni rŵan yn 2025 a'r gwaith yn dal ddim wedi cael ei wneud. Felly, all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau y bydd y tasglu—a dwi'n edrych ymlaen at chwarae fy rhan o fewn y tasglu hwnnw—yn cynnwys edrych ar sut i gysylltu’r A55 i mewn i'r porthladd fel rhan o’i waith?
Yn hollol. Rwyf wedi gofyn i hynny fod yn rhan o raglen waith y tasglu. Rwyf hefyd wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru fod yn rhan o'r tasglu i allu cynghori ar y mater penodol hwn. Rwy'n credu hefyd fod angen inni gael cynrychiolaeth gref o'r awdurdod trafnidiaeth lleol, o gyngor Ynys Môn ei hun, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na chysylltiad uniongyrchol yr A55 â'r porthladd; mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn integreiddio'n llawn y ffyrdd lleol yng Nghaergybi a'r cyffiniau sy'n gwasanaethu'r A55 a'r porthladd. Felly, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i Rhun ap Iorwerth.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Heledd Fychan.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb yng Nghanol De Cymru? OQ62046
Fy mlaenoriaeth yw teithio cynhwysol ar draws pob dull teithio. Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yn nodi ein cynlluniau i wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn rheilffyrdd a deddfwriaeth i ganiatáu masnachfreinio gwasanaethau bysiau. Rydym am ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n hygyrch i bawb yng Nghymru.
Mae'n dda iawn clywed hynny, ond mae'n ymwneud â sut y'i gwireddwn. Drwy Cŵn Tywys Cymru, mae etholwyr sydd ag amhariad ar eu golwg sy'n byw yng Nghaerdydd wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydynt yn teimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio safleoedd bysiau yng Nghaerdydd lle mae'n rhaid i deithwyr fynd ar fysiau a dod oddi arnynt ar lwybr beicio. Fe fyddwch chi'n gwybod am o leiaf un enghraifft o berchennog ci tywys yn cael ei daro gan feiciwr, ac mae llawer iawn o ddamweiniau eraill—gormod—y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Er bod Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd ynysoedd 'arnofiol' yn cael eu defnyddio yn lle esgynloriau bysiau, nid yw hyn wedi digwydd eto. Yn yr un modd, er y bydd canllawiau'r Ddeddf teithio llesol yn cael eu diwygio i sicrhau bod profiad bywyd pobl anabl yn helpu i lunio cynlluniau'r dyfodol, sut y mae sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar waith? Oni fyddai'n well cael hyn yn iawn o'r dechrau, yn hytrach na gorfod newid cynlluniau—ar gost fawr yn aml—am nad ydynt yn ystyried sut y mae hyn yn gweithio i bob defnyddiwr?
Rwy'n cytuno â'r Aelod. Hoffwn ddweud heddiw fy mod am chwistrellu llawer mwy o gynhwysiant a chydraddoldeb i'r maes trafnidiaeth, boed yn drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol. Cyfarfûm â'r panel mynediad a chynhwysiant ddwywaith yn 2024—panel ardderchog sy'n cynnwys pobl a sefydliadau gwych. Fe wnaethant dynnu sylw at yr union broblem y mae Heledd wedi'i nodi heddiw. Rwyf wedi gofyn i'r swyddogion ymchwilio i'r broblem hon. Rwy'n cytuno na ddylai hynny fod wedi codi yn y lle cyntaf. Ond trwy wneud teithio cynhwysol i bawb yn brif ffocws yn yr adran drafnidiaeth, drwy wneud strydoedd yn fwy diogel i'n pobl fwyaf agored i niwed, gallwn ddatrys yr heriau sy'n wynebu bobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar, y bobl sy'n wynebu rhwystrau sy'n anablu o ddydd i ddydd o ran teithio llesol a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lesley Griffiths.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid? OQ62058
Diolch yn fawr. Pen-blwydd hapus, Lesley Griffiths.
Rydym yn paratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid. Edrychwn ymlaen at fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid yn dilyn eu hymrwymiad maniffesto.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch am yr ateb hwnnw. Mae wedi'i dderbyn ers tro y dylai cyfiawnder ieuenctid gael ei ddatganoli i Gymru. Er mwyn inni allu cael ffordd Gymreig unigryw iawn o sicrhau bod gennym ffocws ataliol, rydym yn edrych yn gyntaf ar les plentyn neu berson ifanc. Pan fydd person ifanc wedi troseddu, mae'r system wedi methu ac mae angen integreiddio gwasanaethau'n well i atal a lleihau troseddu. Mae arnom angen gwasanaethau adsefydlu priodol hefyd fel y gallant osgoi aildroseddu. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen inni fwrw ymlaen nawr â datganoli cyfiawnder ieuenctid a sicrhau bod yr adnoddau a'r cyllid sydd eu hangen yn dod gyda'r pwerau?
Diolch, Lesley Griffiths. Rwy'n cymeradwyo eich cwestiynau'n llwyr y prynhawn yma. Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser yn Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid, gan edrych ar swyddogaethau'r system bresennol a meysydd posibl i'w gwella. Rydym wedi cael cyngor, nid yn unig gan y Fonesig Vera Baird, sy'n arbenigwr yn y maes, ond hefyd gan grŵp cynghori academaidd Cymru ar gyfiawnder ieuenctid. Mae eich pwynt chi ynglŷn â bod datganoli cyfiawnder ieuenctid yn gwneud synnwyr i bobl ifanc o ran atal a chymorth yn cael ei brofi drwy ein glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, a lansiwyd gennym yn ôl yn 2019, wedi gweithio ar y dull sy'n ystyriol o drawma i gefnogi pobl ifanc o ran atal, dargyfeirio cyn achos llys a dalfa. Ein cam nesaf yn y glasbrint cyfiawnder ieuenctid yw cyhoeddi fframwaith atal. Yr hyn sy'n bwysig yw bod nifer y rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf wedi gostwng yng Nghymru o dros 3,000 o bobl ifanc yn 2011 i ychydig dros 400 yn 2022. Fe wyddom y gallwn wneud i hyn weithio, oherwydd mae gan blant sydd mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid berthynas â'r gwasanaethau datganoledig yr ydym yn gyfrifol amdanynt.
Ysgrifennydd Cabinet, mi wnaethoch chi ddweud eich bod chi yn edrych ymlaen at gynnydd yn y trafodaethau ar y mater yma. Ydych chi wedi cael trafodaethau hyd yma? Rŷn ni dros chwe mis ers yr etholiad cyffredinol. Ydych chi wedi codi, er enghraifft, wrth drafod datganoli cyfiawnder ieuenctid, datganoli’r pŵer dros oedran cyfrifoldeb troseddol? Mi oeddech chi wedi trafod hyn gyda’r Llywodraeth flaenorol, ac roedden nhw’n wrthwynebus i hyn. Ydych chi wedi codi’r mater yma gyda’r Llywodraeth bresennol fel rhan o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid? Ydyn nhw wedi dweud wrthych chi yn barod beth yw eu barn nhw ynglŷn â datganoli’r elfen gwbl ganolog yma o ran y system cyfiawnder ieuenctid?
Diolch yn fawr, Adam Price, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rydym yn cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ar ystod o faterion yn y maes polisi hwn—mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid a materion yn ymwneud ag oedran cyfrifoldeb troseddol. Nid fy nghyfrifoldeb i yn unig yw hyn; mae'n gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth ac mae Gweinidogion eraill yn ymwneud â hyn hefyd. Mae cael ein cynghorydd annibynnol y Fonesig Vera Baird yn gweithio gyda ni wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Pwynt pwysig i'w wneud yw ein bod bellach yn adeiladu capasiti ychwanegol yn Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn i ddod ynghylch y gydnabyddiaeth gyllidebol sydd ei hangen arnom i gynyddu ein gallu i symud ymlaen a'r cyfle pwysig sydd gennym i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid.
Ysgrifennydd y Cabinet, i gefnogi'r sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, tybed a allech chi amlinellu'n union pa Weinidog yn yr adran gyfiawnder sy'n gyfrifol a beth yw'r ymgysylltiad arfaethedig gyda'r Gweinidog hwnnw, oherwydd, fel y dywedwyd, mae chwe mis wedi mynd heibio. Mae'n ymddangos i mi fod symud cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf o'r rhestr o gyfyngiadau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ffordd syml ymlaen, er bod y manylion yn fwy cymhleth. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw'r rhaglen nawr ar gyfer trafodaethau i wneud i hyn ddigwydd. Hyd y gwn i, ni chafwyd ymateb cynhwysfawr gan unrhyw Weinidog Llywodraeth y DU ynghylch pam na ddylai ddigwydd. Mae'n allweddol nawr inni wneud yn siŵr ei fod yn digwydd, a hynny cyn gynted â phosibl.
Diolch, Mick Antoniw, a diolch am yr holl waith a wnaethoch chi yn eich rôl flaenorol fel Cwnsler Cyffredinol gyda mi. Yn amlwg, rwyf wedi cydnabod y rhai sydd wedi ymgysylltu â ni, ac roedd yr undebau cyfiawnder yn gyfranogwyr pwysig yn yr ymgysylltiad hwnnw. Rwy'n falch fod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cadeirio cyfarfod ychydig cyn y Nadolig, gyda mi a'r Cwnsler Cyffredinol, gyda'r undebau cyfiawnder, a fynegodd unwaith eto eu cefnogaeth i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Rydym yn parhau â'r trafodaethau hynny nawr.
Rwyf wedi cyfarfod â'r Gweinidogion dros gyfiawnder ieuenctid a phrawf—Syr Nic Dakin, sy'n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid, a'r Arglwydd Timpson hefyd. Mae'n amlwg fod gan faniffesto Llywodraeth y DU ddau ymrwymiad ar wahân: ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid, ac archwilio datganoli gwasanaethau i'w galluogi i fod yn fwy cyfrifol yn lleol fel rhan o adolygiad strategol o'r gwasanaeth prawf.
Yn amlwg, roeddem yn gwybod ac yn cydnabod cyn yr etholiad ym mis Gorffennaf y byddai hwn yn ddull graddol o ddatganoli, ond yn cydnabod yn bendant yr argymhellion yn adroddiad Gordon Brown, a aeth â ni, a Llywodraeth newydd y DU i lawr y llwybr hwn i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Rwy'n cefnogi'r symudiadau hynny'n weithredol, wrth gwrs, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog—ei gyfrifoldeb ef ydyw. Fe ymatebodd yn gadarnhaol iawn yn y ddadl a gawsom ychydig cyn y Nadolig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymateb. Rwy'n cytuno'n fawr â'r cwestiwn a ofynnwyd. Mae hwn yn argyfwng i bobl ar draws Cymru. Ymwelodd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â charchar y Parc ychydig cyn y Nadolig ac aethom i ymweld â'r ganolfan ieuenctid yno. Mae'n drasiedi go iawn fod pobl ifanc a phlant yn cael eu cadw mewn carchar i oedolion. Mae'n gondemniad gwirioneddol o Lywodraethau olynol y DU nad ydym wedi cael cyfleusterau diogel priodol yng Nghymru. Rydym yn siarad am gyfiawnder ieuenctid yma, ond gallem fod yn siarad am sefyllfa menywod hefyd, lle mae pobl yn cael cam. Mae rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael cam heddiw wrth inni drafod y materion hyn. Felly, mae hwn yn argyfwng, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod hyn ar agenda gyda ffrâm amser i Weinidogion y DU wneud penderfyniad ar hyn cyn gynted â phosibl, fel y gallwn roi'r gorau i wneud cam â'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y wlad hon a dechrau cynllunio dyfodol lle mae'r bobl ifanc hynny'n cael gofal. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud cam â phobl ac ni allwn barhau i wneud hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n deall hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae eich cefnogaeth—
Diolch, Alun.
—yn cael ei werthfawrogi.
Diolch, Alun Davies. Fe ymwelais innau hefyd â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae'r gwaith a wnânt wedi gwneud argraff fawr arnaf. Hoffwn wneud pwynt. Fe gyfeiriais at y gwaith da—a chi a'i dechreuodd, mae'n rhaid i mi ddweud, Alun—gyda'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Nododd yr adroddiad blynyddol diwethaf gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ostyngiad o 85 y cant yn nifer y bobl ifanc yng Nghymru sydd yn y ddalfa rhwng mis Mawrth 2013 a mis Mawrth 2023, o 67 i 10—y lefel isaf erioed. Rwy'n credu ein bod wedi dangos ein bod yn barod ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol ar y ddarpariaeth safleoedd Sipsiwn a Theithwyr? OQ62077
Rwy'n darparu cyllid i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddiwallu'r angen am dai i Sipsiwn a Theithwyr, fel y nodir yn eu hasesiad o anghenion llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, yn unol â'u dyletswydd statudol. Gellir defnyddio'r cyllid hwn ar gyfer darparu a gwella safleoedd.
Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gwneud gwaith dilynol ar ddarparu safleoedd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn wir, yn ddiweddar cyfarfu Aelodau ag aelodau'r gymuned ar draws pedwar rhanbarth y Senedd. Byddwn yn llunio adroddiad byr pellach cyn hir, ond gwyddom o'r ymgysylltiad hwnnw fod cyflwr safleoedd awdurdodau lleol yn bryder mawr o hyd, a dywedir bod awdurdodau lleol yn caniatáu i safleoedd ddirywio ac nad ydynt yn mynd i'r afael â materion a nodwyd gan aelodau'r gymuned. Roedd consensws ymhlith y cyfraniadau a glywsom mai cynnydd bach iawn a wnaed, os o gwbl, ar broblemau'n ymwneud â safleoedd ers ymchwiliad ein pwyllgor yn 2022. Clywsom hefyd na fu unrhyw welliant yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'r cymunedau hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym 'Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' ar waith, pryd y cawn weld diwedd ar y rhagfarn systemig a'r gwahaniaethu yn erbyn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?
Diolch yn fawr, John Griffiths. Cefais y fraint o ddod i'ch pwyllgor ar 3 Hydref ac amlinellu ein cynnydd yn erbyn eich adroddiad blaenorol, o ran argymhellion y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ac edrychaf ymlaen at y diweddariad.
Mae’n bwysig cydnabod mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn, a darperais £3.44 miliwn ar gyfer y grant cyfalaf safleoedd ar gyfer 2024-25. Ac rwy’n falch fod 43 o geisiadau bellach wedi’u cyflwyno ar draws 15 o awdurdodau lleol; mae 40 o geisiadau, gwerth £2,368,958 miliwn, wedi'u cymeradwyo hyd yma yn 2024. Mae'n bwysig fod yr ymgyrch—. A'ch pwyllgor—ac rwy'n diolch i chi ac yn eich canmol am hyrwyddo ein cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Ac mae awdurdodau lleol yn ymateb. Mae ganddynt ddyletswydd—y ddyletswydd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd digonol sy’n ddiwylliannol briodol. Ac mae hi hefyd yn bwysig iawn eu bod yn ymgysylltu â'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddarparu'r anghenion priodol. Mae a wnelo hyn ag asesu—asesiad o anghenion llety. Felly, rydym yn adolygu'r canllawiau nawr ar gyfer cynnal asesiadau o anghenion llety ac yn gweithio gyda Sipsiwn, Roma a Theithwyr a chymunedau; byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad hwnnw yn y gwanwyn.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi a’r holl Aelodau a’r Dirprwy Lywydd? Yn anffodus, ni fydd yn ddechrau hapus i'r flwyddyn i lawer. Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol chwa arctig a storm berffaith ar gyfer tlodi tanwydd. Ddydd Calan, cododd y cap ar brisiau ynni unwaith eto, a bydd hynny, ynghyd â'r newidiadau i daliadau tanwydd y gaeaf, yn gorfodi mwy o bobl i wneud y dewis anodd i ddiffodd y gwres.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Coleg Cardioleg America, mae tywydd oer yn ffactor hollbwysig, ac yn achosi trawiadau bach a mawr ar y galon. Efallai fod hyn yn swnio fel codi bwganod, ond y ffaith amdani yw y gall tlodi tanwydd fod yn angheuol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ydych chi'n eu cymryd ar unwaith i sicrhau nad yw pobl yn rhewi i farwolaeth y gaeaf hwn?
Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda i chi, Altaf Hussain.
A llongyfarchiadau ar eich rôl newydd, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi. Rydych wedi codi pwynt gwirioneddol bwysig ynghylch effaith tywydd oer ar bobl hŷn. Ac mae'n rhaid inni edrych ar ein cyfrifoldebau fel Llywodraeth Cymru, ac mae a wnelo hynny â sicrhau y gallwn gael arian i bocedi pobl, adeiladu cadernid ariannol, annog pobl i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt, a hefyd i gael y cyngor ynni arbenigol sydd ar gael am ddim drwy linell gymorth Nyth gyda chynllun Nyth Cartrefi Clyd, gyda buddsoddiad o fwy na £30 miliwn eleni.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi hefyd. Er ei bod yn wir dweud mai pryderon am doriadau i’r taliad tanwydd y gaeaf sy’n dominyddu’r penawdau—yn wir, mae llinellau cyngor Age Cymru wedi gweld cynnydd o 11,000 o bobl yn gwneud ymholiadau am y lwfans—ni fydd y rheini sy’n dal i gael y taliad yn gweld llawer o fudd o ganlyniad i'r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni. Bydd pobl Cymru nawr yn talu taliadau sefydlog sydd ymhlith yr uchaf yn y DU am drydan. Bydd defnyddwyr yn ne Cymru yn talu 64c y dydd, gan godi i swm syfrdanol o 68c. Mae’r taliadau sefydlog hyn yn costio mwy na thaliad tanwydd y gaeaf i bobl o dan 80. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gawsoch gydag Ofgem a Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch rhoi diwedd ar daliadau sefydlog?
Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn, oherwydd unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi eich safbwyntiau, yn enwedig mewn perthynas â'r cap ar brisiau ynni. Rwyf wedi cyfarfod ag Ofgem yn dilyn y cynnydd hwnnw. A chredaf ei bod yn bwysig edrych ar ffyrdd y gallwn weithio, nid yn unig o ran ein pwerau ni, ond hefyd gyda Llywodraeth newydd y DU, a'u cyfrifoldebau hwythau. Un o'r pwyntiau allweddol y buom yn eu gwneud yw y dylem symud—ac rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU—tuag at dariff cymdeithasol nawr, gan weithio a chodi'r materion hyn gydag Ofgem hefyd, sydd wedi gwneud adolygiad o ffioedd heb eu talu. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â'r cyflenwyr ynni eu hunain i ddweud ein bod am symud oddi wrth drefniadau taliadau sefydlog, sy'n arbennig o anfanteisiol i bobl yng Nghymru hefyd—cwsmeriaid gogledd Cymru sydd â'r taliadau sefydlog uchaf. Mae rhai darparwyr ynni wedi cytuno nad ydynt yn credu bod taliadau sefydlog yn briodol. Ond mae'n rhaid inni edrych hefyd ar ffyrdd eraill y gall darparwyr ynni helpu eu cwsmeriaid. Mae'n bwysig fod Sefydliad Bevan wedi gwneud gwaith ar sut y gall darparwyr ynni gefnogi eu cwsmeriaid, ac wrth gwrs, mae honno'n neges gref sy'n mynd allan nawr gennym ni a Llywodraeth y DU i'r cyflenwyr ynni.
Ond taliadau sefydlog—mae'n loteri cod post, ac mae hefyd yn ffaith bod pobl yn talu'r taliadau sefydlog hynny hyd yn oed pan nad ydynt wedi defnyddio fawr ddim trydan, os o gwbl. Maent yn gwbl annheg i gwsmeriaid ar incwm isel. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mesuryddion rhagdalu—mae pobl yn dal i dalu taliadau sefydlog is na'r rhai sy'n defnyddio dulliau talu eraill. Mae hynny'n gam tuag at wella'r sefyllfa, ond mae'n dal i fod yn hynod annheg, ac wrth gwrs, yn arwain at y tlodi tanwydd yr ydych chi a minnau am fynd i'r afael ag ef.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, nid pryder enfawr i’r henoed yn unig yw tlodi tanwydd; bydd y cynnydd i'r cap ar brisiau ynni hefyd yn cael effaith andwyol ar deuluoedd ledled Cymru. Canfu ymchwil gan Cyngor ar Bopeth fod bron i ddwy ran o dair o gartrefi Cymru yn pryderu a fyddant yn gallu fforddio eu bil ynni y gaeaf hwn. Mae Siambr Fasnach Prydain wedi rhybuddio y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn arwain at gynnydd ym mhrisiau bwyd a hanfodion eraill, gan roi mwy o bwysau ar gyllidebau teuluoedd, a gwneud y dewis rhwng gwresogi a bwyta yn realiti trist i lawer. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau ychwanegol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd a bwyd ac i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru rhag effeithiau negyddol cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU?
Diolch eto am eich cwestiynau. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn arbennig o bryderus ynghylch mynd i’r afael â thlodi tanwydd a dod o hyd i ffyrdd nid yn unig o godi’r materion a ddisgrifiwyd gennych yn gynharach am annhegwch taliadau sefydlog a’r angen am dariff cymdeithasol hefyd, ond fod gennym hefyd ein cynllun talebau tanwydd ein hunain a’n cynllun cymorth dewisol a all helpu pobl gyda’u costau tanwydd, ochr yn ochr â rhaglen Cartrefi Clyd, y byddwch yn clywed mwy amdani gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yr wythnos nesaf. Ond credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod fy mod wedi rhoi mwy o arian i’r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mae llawer ohonoch yn y Siambr hon bellach yn gallu atgyfeirio at y Sefydliad Banc Tanwydd, fel y gellir darparu'r talebau tanwydd, ac yn wir, mynediad at y gronfa cymorth dewisol ar gyfer pobl nad ydynt ar y grid.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i'r flwyddyn newydd ddechrau, hoffwn wybod pa ddull newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gau'r bylchau sy'n ehangu yn y rhwyd ddiogelwch sydd i fod i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. Oherwydd er bod Prif Weinidog newydd y DU bellach yn gwisgo tei coch, mae’r angen i liniaru’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth San Steffan—i gynnal y terfyn dau blentyn a’r cap ar fudd-daliadau, i barhau â diwygiadau lles y Torïaid, i ddyfnhau tlodi tanwydd ymhlith ein pensiynwyr drwy gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf—yn ddybryd. Rydym wedi gweld bod yr Alban yn gallu gwneud hyn am fod ganddynt fwy o bwerau na ni. Felly, addawodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ymchwilio i ddatganoli gweinyddu lles i'r perwyl hwn, a dywedwyd wrthym yn wreiddiol y byddai'r broses honno wedi'i chwblhau erbyn yr haf y llynedd, ond y diweddaraf a glywsom yn swyddogol yw na fydd y gwaith wedi'i gwblhau tan y gwanwyn eleni. Felly, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth ymchwilio i ddichonoldeb a goblygiadau datganoli gweinyddu nawdd cymdeithasol i Gymru, a pha drafodaethau penodol a gawsoch gyda Llywodraeth newydd y DU ynghylch datganoli lles?
Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.
Fe fyddwch chi'n gwybod bod datganoli lles, nawdd cymdeithasol, system fudd-daliadau Cymru—. Ac rwyf wedi gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfarfodydd a gawsom—yn y cytundeb cydweithio ac ers hynny, yn ystod y misoedd a’r wythnosau diwethaf—i’n galluogi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, a chyd-Aelodau ar draws y Siambr, am ddatganoli gweinyddu lles. Oherwydd dyna roeddem yn edrych arno wrth gwrs—archwilio'r seilwaith angenrheidiol y byddai ei angen arnom i baratoi ar ei gyfer. Yn amlwg, pe baem yn symud at drosglwyddo grym, byddai’n rhaid i hynny gynnwys trosglwyddo cymorth ariannol priodol hefyd. Felly, rydym bellach mewn sefyllfa lle rydym wedi comisiynu gwaith i weld sut olwg a allai fod ar y seilwaith hwnnw. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi—a byddaf yn gwneud hynny yr wythnos nesaf, mewn datganiad llafar—am waith siarter budd-daliadau Cymru. A dweud y gwir, roeddwn yn falch iawn o lansio’r siarter—bron i flwyddyn yn ôl bellach, mae'n siŵr—gyda’ch cyd-Aelod Siân Gwenllian, fel rhan o’r cytundeb cydweithio, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd ymlaen i'r gwaith hwnnw. Wrth gwrs, mae siarter budd-daliadau Cymru wedi cael ei chefnogi gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. A chyflwynais gynllun cam 1 ar gyfer symleiddio budd-daliadau Cymru i'r cyngor partneriaeth fis diwethaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni chlywais ateb i fy nghwestiwn yno ynghylch pwy yn union y buoch chi'n siarad â hwy ynglŷn â hyn ymhlith Gweinidogion y DU, a phryd y gallwn ddisgwyl yr ymchwil sy’n mynd rhagddo hefyd, yr astudiaeth ddichonoldeb ar ddatganoli gweinyddu lles—pryd y gallwn ddisgwyl gweld hynny'n dwyn ffrwyth. Felly, os gallwch sôn am hynny yn eich ateb nesaf, efallai. Oherwydd nid yw'r angen i sicrhau bod Cymru'n cael yr un dulliau gweithredu i ofalu am a chefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed yn fwy amlwg yn unman nag ym maes lles. Ac rwy'n credu'n wirioneddol fod y polisïau llai na digonol a braidd yn wan y gallwn eu rhoi ar waith yma i fynd i'r afael ag anobaith cymdeithasol yn ennyn cefnogaeth i'r asgell dde eithafol.
Rydym wedi galw ers tro ar y meinciau hyn am system statudol i sicrhau bod pob punt y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwario yn cyrraedd pocedi’r bobl sydd â hawl i'r arian hwnnw mor gyflym ac mewn ffordd mor syml â phosibl. Pleidleisiodd y Senedd hon dros gynnig a gyflwynwyd gennyf ar y mater, ac fel y dywedoch chi, y mis hwn, mae'n flwyddyn ers cyhoeddi siarter budd-daliadau Cymru. Mae'n siarter wirfoddol, sy'n addo torri biwrocratiaeth a rhwystrau ar lefel llywodraeth leol. Rydych chi'n sôn ei bod yn dal ar gam 1—mae hynny'n eithaf syfrdanol flwyddyn gyfan yn ddiweddarach—yn dal i weithio ar gyflwyno system ar gyfer dim ond tair o systemau budd-daliadau Cymru. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa rwystrau sy’n achosi’r oedi hwn, a beth yw’r amserlen bresennol ar gyfer gweithredu’r holl fanteision o dan y siarter hon?
Diolch. Rwy'n ymddiheuro nad atebais eich cwestiwn cyntaf am ymgysylltu â Llywodraeth y DU; fe wnaf hynny nawr. Rwy'n credu mai'r llwybr ymgysylltu pwysicaf a gefais yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yw bod yn rhan o dasglu tlodi plant pedair gwlad. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fis Awst diwethaf eu bod yn mynd i ddatblygu tasglu tlodi plant, a chyfarfu â gwledydd datganoledig, ac yna fe sefydlodd gyfarfod rhwydwaith rhwng y gwledydd datganoledig. Yn wir, mae gennym gyfarfod arall yr wythnos nesaf. Ac o ran mynd i'r afael â phroblemau, fe wyddom fod nawdd cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant. Felly, gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi codi’r materion hyn yng nghyd-destun y cyfarfod pedair gwlad, a chyfarfod â’n swyddogion cyfatebol o Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gan ddarparu ein tystiolaeth o’n strategaeth tlodi plant o’r hyn sydd ei angen i gynyddu incwm, a rhoi arian ym mhocedi pobl, sydd mor bwysig i fynd i’r afael â thlodi plant. Felly, byddaf yn rhoi llawer mwy o fanylion ddydd Mawrth nesaf yn y datganiad llafar ar siarter budd-daliadau Cymru, a hefyd sut y mae awdurdodau lleol yn ymateb i hyn. Fe fyddwch yn gwybod mai’r cam cyntaf yw galluogi pobl i hawlio tri budd-dal allweddol: cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a’r grant hanfodion ysgol. Mae’n amlwg fod angen inni weld hynny’n cael ei gyflawni’n gyflym yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Rwy'n credu ein bod wedi gweld yr angen am gymorth mewn argyfwng yn saethu i'r entrychion. Cawsom ffigurau gan Cyngor ar Bopeth ac asiantaethau eraill yn dweud hyn wrthym. Felly, mae’n siomedig, ar ôl blwyddyn, mai dim ond tri—ac mae dau o’r rheini’n gysylltiedig iawn â’i gilydd, y grant hanfodion ysgol a chinio ysgol am ddim. Nid yw hyd yn oed y rheini wedi'u datgloi o hyd, ar ôl blwyddyn o'r gwaith hwn. Pe bai ar sail statudol, efallai y byddem wedi gweld mwy o gynnydd.
Hoffwn sôn am y gronfa cymorth dewisol, sef y prif gyfrwng sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu cymorth mewn argyfwng. Cyfarfu Cyngor ar Bopeth â mi yn ddiweddar, gan ddweud eu bod yn gweld gostyngiad yn y nifer o weithiau y gall unigolyn wneud cais i'r gronfa cymorth dewisol am daliad cymorth mewn argyfwng yn y flwyddyn o bump yn ôl i dri fel cyn y pandemig, a dywedant fod hyn yn golygu bod pobl mewn caledi enbyd yn cael eu gadael heb gymorth.
Mae’r holl ystadegau’n dangos bod yr angen am gymorth brys yr un fath os nad yn uwch na'r hyn ydoedd yn ystod y pandemig, ac felly y dylai mynediad at y gronfa cymorth dewisol adlewyrchu hyn. Maent hefyd yn dweud bod anghysondeb yn cael ei ystyried yn broblem. Dywedodd un cynghorydd, 'Gallaf gyflwyno un cais am beiriant golchi sydd wedi torri neu rywbeth tebyg ac mae'n cael ei wrthod; mae cynghorydd gwahanol yn ei gyflwyno, bydd penderfynwr gwahanol yn edrych arno, a bydd yn cael ei dderbyn.'
Felly, er bod cyllid ychwanegol i’w groesawu ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yng nghyllideb y gronfa cymorth dewisol, a ydych chi'n hyderus fod hyn yn ddigon i ateb y galw cynyddol am gymorth brys, ac a wnewch chi sicrhau bod y gronfa cymorth dewisol yn dal yn addas i’r diben drwy gynnal adolygiad o’i chynllun a’i hyblygrwydd a'i meini prawf cymhwysedd?
Wel, diolch am eich cwestiwn. Mae’r gronfa cymorth dewisol yn hanfodol ar gyfer ein huchelgais a’n nod o drechu tlodi plant a threchu tlodi ar gyfer pob cenhedlaeth, gan fod y gronfa cymorth dewisol yn gronfa argyfwng a arweinir gan alw sydd ar gael i holl ddinasyddion Cymru. Mae'n darparu cymorth brys i unrhyw un dros 16 oed mewn argyfwng ariannol nad oes ganddynt unrhyw gymorth arall. Bydd y gyllideb yn parhau i fod yn £38.5 miliwn. Am y flwyddyn hon, mae'n parhau i fod felly. Byddwn yn ei chynyddu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud ein bod yn gweithio gyda grŵp allanol o'r rheini—Cyngor ar Bopeth, Sefydliad Bevan ac eraill—sy'n ein cynghori ar y modd y caiff y gronfa cymorth dewisol ei darparu. Ond er gwybodaeth i fy nghyd-Aelodau, rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref y llynedd, cefnogwyd 115,979 o geisiadau gyda bron i £16 miliwn mewn grantiau. O'r rhain, roedd bron i £9.5 miliwn yn daliadau arian parod, i gefnogi gyda chost bwyd a nwy a thrydan. Ac wrth gwrs, mae'r taliadau arian parod yn rhoi cymorth i unigolion a theuluoedd sy'n fregus iawn yn ariannol gyda'u costau byw sylfaenol.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig? OQ62074
Diolch, Janet Finch-Saunders. Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yn darparu cymorth sgiliau digidol ledled Cymru. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am wella cysylltedd band eang yng Nghymru. Fodd bynnag, mae buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi ehangu mynediad at fand eang i fwy na 44,000 o gyfeiriadau ledled Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd anghysbell a gwledig.
Diolch. Ym mis Ionawr y llynedd, datgelodd y comisiynydd pobl hŷn nad oes gan un o bob tri o bobl dros 75 oed fynediad at y rhyngrwyd, ac yn gorfod dibynnu'n aml ar linellau tir i gysylltu â'r byd y tu allan. Nawr, yn y gogledd, ac yn arbennig yn Aberconwy, mae rhai pobl fwy agored i niwed yn arbennig yn parhau i gael trafferth gyda signal ffôn symudol gwael a chysylltedd rhyngrwyd annibynadwy. Mae oddeutu 7 y cant o oedolion yng Nghymru wedi’u hallgáu, gyda hynny’n codi i 14 y cant ar gyfer pobl mewn tai cymdeithasol. Mae ystadegau ar gyfer fy etholaeth yn dangos bod 36 y cant o bobl naill ai’n methu mynd ar-lein neu nad oes ganddynt sgiliau i allu mynd ar-lein. Nawr, yn ychwanegol at hynny, gyda chwmnïau telathrebu yn newid o gopr i ddigidol, mae llawer o bobl oedrannus ac agored i niwed mewn perygl o golli eu llinellau tir, gan nad yw pawb yn sylweddoli bod yn rhaid ichi gael ffôn newydd yn y rhan fwyaf o achosion. Yn aml, dyma eu hunig gysylltiad â'r byd y tu allan, am fod y signal ffôn symudol yn wan neu ddim yn bod. Er bod y newid hwn yn amlwg yn angenrheidiol, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan ddarparwyr telathrebu atebion wrth gefn ar waith a’u bod yn cynnig cynhyrchion addas i ddiogelu unigolion agored i niwed a’u mynediad at linellau tir yn ystod y cyfnod pontio hwn, gan fod nifer o fy etholwyr yn cysylltu â mi nawr—pobl hŷn, a phobl mewn ardaloedd ynysig yn gymdeithasol? Diolch.
Diolch. Wel, mae cynhwysiant digidol yn hollbwysig, onid yw, i gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb. Ac fel y dywedwch, Janet, mae rhwystrau i gynhwysiant digidol yn aml yn arwydd o rwystrau mewn bywyd, sy'n arwain at allgáu cymdeithasol ac ariannol. A chynhwysiant digidol yw cenhadaeth 2 yn y strategaeth ddigidol i Gymru, ac mae a wnelo â rhoi sgiliau a chymhelliant i bobl—fel y dywedwch—hyder mewn byd cynyddol ddigidol. Rydym wedi buddsoddi dros £50 miliwn, gan weithio gydag Openreach, i ddarparu band eang ffeibr llawn i fwy na 44,000 o gartrefi ledled Cymru, yn cynnwys ardaloedd anghysbell a gwledig, fel y dywedais. Ac ar draws y gogledd, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 13,149 o adeiladau, ynghyd â safleoedd pellach yn sgil hynny.
Diolch i Janet am godi’r cwestiwn pwysig yma.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi codi mater tlodi gwledig a'r angen am strategaeth ddatblygu gwledig wedi'i theilwra ar sawl achlysur yn y Siambr. Nawr, er mwyn rhoi fy arian ar fy ngair, cyhoeddais strategaeth tlodi gwledig fis Hydref diwethaf. Ni fydd yn syndod i chi fod allgáu digidol yn agwedd hollbwysig ar amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, ac i’r gwrthwyneb, y gall gwella cysylltedd digidol helpu i hybu economïau gwledig ac ymladd tlodi gwledig. Nawr, yn ôl ym mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth Gweinidog yr economi ar y pryd ddatganiad ar gasgliad prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru. Nawr, rydych chi wedi cyfaddef bod cannoedd o gartrefi a busnesau ledled cefn gwlad Cymru yn parhau i gael trafferth gyda materion cysylltedd a'u bod y tu hwnt i gyrraedd buddsoddiad arfaethedig y farchnad. Felly, a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth yw'r cynlluniau olynol i Cyflymu Cymru, ac a allant ymestyn cyrhaeddiad cysylltedd band eang cyflym i ddiwallu anghenion cefn gwlad Cymru?
Diolch. Diolch am eich cwestiwn pwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau achos busnes ar gyfer ailfuddsoddi arian a ddychwelwyd o gyflwyno Cyflymu Cymru i wella cysylltedd digidol mewn adeiladau nad oes ganddynt fynediad ar hyn o bryd at gyflymder band eang cyflym iawn o 30 Mbps fan lleiaf. Fe wneir cyhoeddiad maes o law. Wrth gwrs, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yw hyn, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn falch o glywed bod achos busnes a chyhoeddiad ar y ffordd.
4. Pa gamau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau na fydd cynnydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn 2025? OQ62066
Diolch yn fawr. Rydyn ni’n cynyddu i’r eithaf yr opsiynau sydd ar gael inni yng Nghymru drwy fuddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yng nghynllun newydd Cartrefi Clyd Nyth. Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn ein cynllun talebau tanwydd, ein cynllun canolfannau clyd a’n cynllun cymorth dewisol i helpu pobl gyda’u costau tanwydd.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n mynd i ofyn am y gwasanaeth RTS (Radio Teleswitch), sydd i fod i gael ei ddiffodd ar 30 Mehefin eleni. Nawr, mae hwn yn cyflenwi oddeutu 14,000 o gartrefi yng Nghymru, yn bennaf mewn ardaloedd gwledig neu fflatiau lle nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy, ac mae hynny'n cynhesu cartrefi ac yn creu dŵr poeth. Nawr, gyda diffodd y gwasanaeth, mae llawer o bobl nad ydynt yn gwybod bod ganddynt wasanaeth RTS yn eu cartref. Cawsant eu gosod yn y 1980au. Rhybuddiodd Martin Lewis, yr arbenigwr ar arbed arian, os na fydd unrhyw beth wedi'i osod yn ei le ar y pwynt hwnnw, y byddai ei ddiffodd yn arwain at gynnydd gwirioneddol mewn biliau ynni. Felly, a yw Llywodraeth Cymru—neu a fydd Llywodraeth Cymru—yn gweithio gyda darparwyr ynni i gysylltu â'r 14,000 o bobl hyn, neu'r 14,000 o gartrefi, yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol fod ganddynt RTS, a'u bod wedi newid i wasanaeth arall cyn i'r RTS gael ei ddiffodd ar 30 Mehefin? Diolch yn fawr.
Rwy'n ymrwymo i wneud datganiad i dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd a sut rydym yn ymateb iddo. Diolch yn fawr.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd? OQ62059
Diolch, Julie Morgan. Mae’r trydydd sector yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, wedi'i gefnogi drwy amrywiaeth o raglenni Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd gwerth £1.5 miliwn, grant trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy gwerth £10 miliwn, y cynllun grant trydydd sector gwerth £5.7 miliwn, 20 y cant o’r gronfa integreiddio rhanbarthol gwerth £146 miliwn, ac £1.5 miliwn ar gyfer canolfannau clyd.
Diolch am yr ateb.
Rwyf wedi bod yn falch iawn o gefnogi Sied Dynion Llys-faen yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth ers y dechreuodd bron i bedair blynedd yn ôl. Mae'r grŵp wedi goresgyn llawer o rwystrau yn ystod y cyfnod hwnnw, o ddod o hyd i gartref parhaol, negodi'r les, a sefydlu eu hunain gyda'r Comisiwn Elusennau. Mae wedi elwa’n fawr o arweinyddiaeth Chris Griffiths, un o’i aelodau.
Capasiti’r grŵp yw 26 aelod, ac mae ganddo 15 ar y rhestr aros. Cyfarfûm â’r grŵp cyn y Nadolig, a gallwn weld cymaint roedd y cyfarfodydd hyn—cymaint roedd y digwyddiadau hyn—yn ei olygu i bob un o’r aelodau. Hoffent symud i leoliad mwy parhaol ac ehangu eu haelodaeth. Felly, yn amlwg, mae galw enfawr am grwpiau fel hyn. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i roi mwy o gymorth i grwpiau o'r fath ar eu taith i ymsefydlu'n gadarn yn y gymuned?
Wel, diolch yn fawr am dynnu sylw at waith gwych Sied Dynion Llys-faen. Hefyd, rwy'n siŵr fod gan lawer ohonom siediau dynion yn ein hetholaethau ac yn gwybod am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae’r ffaith ichi gyfeirio hefyd at ba mor bwysig yw'r sied dynion i’w haelodau, yn mynd i’r afael ag ynysigrwydd ac unigrwydd, ond bod yna restr aros hefyd—. Nawr, dim ond—. Rwyf wedi rhoi rhai cynlluniau grant i chi, yr ydych yn gwbl ymwybodol ohonynt o'ch rôl weinidogol flaenorol hefyd. Byddai rhywfaint o hynny’n gyllid prosiect untro, ond os oes materion yn gysylltiedig â mynediad i adeiladau neu adnewyddu, buaswn yn cynghori grŵp dynion Llys-faen i gysylltu â chyngor trydydd sector Caerdydd. Rydym yn ariannu'r cynghorau gwirfoddol sirol i helpu i roi cyngor ar lwybrau ariannu refeniw a chyfalaf.
Mae dros 50,000 o hen bobl yng Nghymru yn teimlo'n unig. Mae rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd o 50 y cant erbyn 2030 yn nifer y bobl dros 50 oed sy’n teimlo fel hyn. Mae llawer yn teimlo’n ynysig yn eu cymunedau oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael, palmentydd anniogel, goleuadau annigonol a llawer o fethiannau eraill gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae wedi digwydd dros 25 mlynedd ers i chi fod mewn grym.
Yng Nghymru, ceir ychydig dros 9,000 o elusennau cofrestredig. Mae hyn yn golygu bod amrywiaeth enfawr o elusennau’n cynnig gwasanaethau gwahanol i’r rheini sy’n ei chael hi'n anodd gydag unigrwydd, iselder ac iechyd meddwl gwael. Fodd bynnag, ymddengys ei bod bron yn amhosibl i'r rheini sydd angen llwybrau at y cymorth hwn wybod pa elusen i gysylltu â hi a sut i gael gafael arnynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, un syniad. Rydym yn hoffi bod yn adeiladol fel gwrthblaid ar y meinciau hyn. Fe wyddom fod llawer yn gyfarwydd â rhif 101. Pa ystyriaethau a roddwyd i greu gwasanaeth canolog 24/7, fel bod y bobl hyn sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig ac sydd wedi’u difreinio o’r gymdeithas yn gallu cael mynediad uniongyrchol, 24/7, at yr elusen neu’r corff cyhoeddus mwyaf priodol i gael cymorth? Mae gennym un ar gyfer iechyd meddwl. Mae gennym un, yn amlwg, ar gyfer cylchoedd gwaith iechyd yn fwy cyffredinol. Beth am bobl sy’n dioddef o ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd? I gael rhywbeth y gallant estyn allan a—
Diolch, Janet.
—a gwybod pwy sydd angen iddynt—pwy allai eu cefnogi.
Diolch, Janet Finch-Saunders. Rwy'n talu teyrnged i gynllun Julie Morgan, pan oedd hi'n Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, oherwydd fe lansiodd 'Cysylltu Cymunedau'. Mae'n strategaeth a arweinir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, gan adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach, y bydd yr holl ffrydiau cyllido a grybwyllais yn helpu i'w cefnogi. Ond rydym yn ariannu Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ac mae gan bob cyngor, pob ardal, pob cyngor sir gyngor gwirfoddol sirol lleol gyda chymorth ariannol. Ac yng ngogledd Cymru, rwy'n siŵr mai dyna'r llwybrau at y sefydliadau, sy'n gwneud gwaith pwysig iawn, fel Men's Sheds, a'r sefydliadau rydych chi'n gysylltiedig â hwy, sy'n cefnogi pobl a allai deimlo'r angen am gefnogaeth rhag unigrwydd ac unigedd.
Mae cwestiwn 6 [OQ62055] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 7, Mark Isherwood.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu'r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan elusennau a chyrff y trydydd sector? OQ62052
Diolch, Mark Isherwood. Mae'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau a'r bobl sydd fwyaf o angen cymorth. Mae ein seilwaith cymorth trydydd sector yn helpu'r sector i chwarae'r rôl hon. Rwyf wedi ymrwymo i gytundeb cyllido tair blynedd ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru sy'n darparu £25.8 miliwn—cynnydd o 7 y cant.
Diolch. Mae'r elusen gofal canser, Gofal Canser Tenovus, wedi galw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn 'ddinistriol' ac yn annog Gweinidogion Cymru i liniaru'r effaith. Dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod hon
'yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'
Mae swyddfeydd yng Nghymru yn gorfod ystyried toriadau sylweddol a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, bylchau na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu llenwi. Dywedodd yr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wrthyf y bydd hyn yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb fesurau lliniarol, bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff a lleihau gwasanaethau. Dywed Shelter Cymru y bydd hyn yn cynyddu costau cymorth tai a darparwyr atal digartrefedd £117,000 yn ystod y chwe mis cyntaf yn unig.
Fe ddywedoch chi wrthyf yn flaenorol eich bod yn ymgysylltu â phartneriaid yn y trydydd sector ar hyn o bryd i asesu anghenion cyllidebol yn dilyn cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith os yw'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu colli, a sut y bwriadwch liniaru hyn ac atal pwysau costau uwch ar wasanaethau cyhoeddus?
Diolch am y cwestiwn, Mark Isherwood. Rydym yn ymwybodol o effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Bydd peth ohono, fel y gwyddoch, yn cael ei wrthbwyso'n llawn neu'n rhannol gan y lwfans cyflogwr uwch, a buaswn yn disgwyl i unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fod o fudd i'r trydydd sector a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl a chymunedau ledled Cymru. Rwyf wedi crybwyll ein cynnydd o 7 y cant i gynllun Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ond rydym hefyd yn cydnabod y gall busnesau ac elusennau hawlio rhyddhad yswiriant gwladol cyflogwyr, gan gynnwys rhyddhad ar gyfer prentisiaethau dan 21 a dan 25 oed, lle bo'n gymwys. Dyma benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gweithio gyda'r trydydd sector, a chyda hynny, rwy'n siŵr, yn croesawu'r cynnydd y byddwch yn ei weld yn ein cyllid seilwaith trydydd sector ar gyfer y gyllideb ddrafft hon, ac rwy'n gobeithio y byddech yn cydnabod ac yn cefnogi hynny.
8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o hyfywedd ariannol y sector gwirfoddol yng Nghymru? OQ62064
Diolch, Sam Rowlands. Rydym yn cael gwybodaeth yn barhaus am iechyd y sector drwy ein seilwaith trydydd sector, fel cyngor partneriaeth y trydydd sector a Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Rwyf wedi darparu cyllid i ddatblygu traciwr data gyda'r sector ar draws ystod o fetrigau, gan gynnwys gwirfoddoli ac iechyd ariannol.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod am y pryder a'r gofid sylweddol sydd gan lawer o sefydliadau, ac elusennau'r trydydd sector yn benodol, ynghylch y cyhoeddiad gan Lywodraeth Lafur y DU am ofynion cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Yn wir, clywsom heddiw ar BBC News, trwy lythyr at y Pwyllgor Cyllid, fod Tenovus wedi nodi y bydd y pwysau ychwanegol arnynt yn £0.25 miliwn y flwyddyn yn sgil y cynnydd i'r cyfraniad yswiriant gwladol yn unig. Rwy'n ymwybodol fod llawer o hosbisau a llawer o elusennau pwysig eraill yn cysylltu â hwy i ddweud eu bod yn mynd i gael trafferth ymdopi â'r pwysau ychwanegol hwn heb i wasanaethau gael eu heffeithio—sy'n golygu y bydd pobl ledled Cymru yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan y pwysau hwn ar elusennau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sgyrsiau rydych chi a chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Gweinidogion yn Llywodraeth San Steffan i sefyll dros y sector gwirfoddol yma yng Nghymru, a sicrhau na fydd y sefydliadau hyn yn mynd i'r wal neu'n cael eu gweithgarwch wedi ei leihau'n sylweddol.
Wel, nid wyf yn mynd i ailadrodd yr atebion a roddais i'r cwestiwn blaenorol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd roeddent yn mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau hynny. Yn benodol, cyfeiriais at y cynnydd o 7 y cant i Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'r gefnogaeth i'r trydydd sector. A hefyd, yn ogystal â hynny, mae gennym gefnogaeth gyfalaf ar ffurf y gronfa benthyciadau asedau cymunedol a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ein rhan; rhaglen cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru, sy'n darparu grantiau cyfalaf o hyd at £300,000; a hefyd y cymorth a roddwn, ychwanegiad yn y gyllideb ddrafft, y rhaglen Newid gwerth £1.2 miliwn i wella sgiliau digidol, sy'n ymwneud â chwestiwn blaenorol a ofynnwyd.
Ond gan ichi sôn am hosbisau, hoffwn ddweud ein bod yn cydnabod effaith costau cynyddol yn y sector hosbis, a dyna pam ein bod wedi dyrannu £3 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, a fydd yn rheolaidd ac a fydd yn helpu i sicrhau sefyllfa fwy cynaliadwy i hosbisau.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb LHDTC+? OQ62069
Diolch, Hannah Blythyn. Cyhoeddir diweddariadau ar ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu yn flynyddol a chyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar 9 Gorffennaf 2024.
Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, mynychais gynhadledd arweinwyr LHDTC+ fyd-eang, ac roedd yr angen nid yn unig am undod â'r gymuned LHDTC+ gyfan, ond gweithredu cydlynol a chefnogol hanfodol, mor real ag y bu'r angen erioed. Rydym wedi gwneud cynnydd—cynnydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fy mywyd i—ond mae gwir risg y bydd hynny'n cael ei wrthdroi os nad ydym yn parhau i fod yn benderfynol ac ar yr ochr gywir i hanes.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i eisiau canolbwyntio'n benodol heddiw ar ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i wahardd arferion trosi LHDTC+ ffiaidd. Yn gyntaf, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn ei hun, ac yn ogystal, pa waith sydd wedi'i wneud gyda Llywodraeth Lafur y DU bellach ar waharddiad cwbl gynhwysol posibl ar draws y wlad ar gyfer arferion trosi LHDTQ+? Oherwydd rwy'n siŵr eich bod yn cytuno na all fod unrhyw eithriadau nac unrhyw esgusodion. Mae'r amser i siarad ar ben, a daeth yn bryd taflu arferion trosi i fin sbwriel hanes lle maent yn perthyn.
Diolch, Hannah Blythyn, ac a gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i chi am eich gwaith arloesol ar ddatblygu'r cynllun gweithredu LHDTC+? Ond hefyd, rwy'n ymwybodol iawn o'r arweinwyr byd-eang—rydych chi'n arweinydd byd-eang, Hannah—a'r gynhadledd arweinwyr byd-eang a fynychwyd gennych y llynedd. Rydym am fod ar yr ochr gywir i hanes wrth inni barhau i ymrwymo i gamau gweithredu yn y cynllun gweithredu LHDTC+.
Mewn perthynas â gwahardd arferion trosi, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn uniongyrchol ar y Bil arfaethedig i wahardd arferion trosi. Mae'r gwaith hwn yn parhau yn ystod taith y Bil. Yn wir, cyfarfu ein swyddogion â Llywodraeth y DU i nodi ein blaenoriaethau polisi ar gyfer diwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 ymhellach, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'w polisi hwy ymddangos. Ar gyfer gwahardd arferion trosi a chydnabod rhywedd byddai'n well cael yr un ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, ond rydym yn cadw'r ymrwymiad i ofyn am ddatganoli pwerau i ddeddfu ar wahardd arferion trosi a chydnabod rhywedd pe bai hynny'n briodol yn dilyn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU.
Ac yn olaf, Adam Price.
Un o'r addewidion eraill yn y cynllun gweithredu LHDTC+ oedd archwilio sefydlu gwasanaeth rhywedd Cymreig ar gyfer plant a phobl ifanc. Nid ydych wedi gwneud hynny hyd yma, fel Llywodraeth, ac fe glywsom yn ddiweddar, wrth gyflwyno gwaharddiad ar feddyginiaeth atal y glasoed yng Nghymru, na wnaethoch chi ymgynghori â'r plant a'r bobl ifanc yr effeithiai arnynt hyd yn oed. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Comisiynydd Plant Cymru atoch chi fel Llywodraeth i ddweud pa mor siomedig yw hi o glywed nad oedd y Llywodraeth yn gweld yr ymgynghoriad hwnnw'n rhan o'ch dyletswydd gyfreithiol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Nid ydych wedi cyflawni eich addewid yn y cynllun gweithredu. Nid ydych wedi dilyn y ddyletswydd gyfreithiol mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Nid ydych yn gwrando ar y grŵp hwn o blant a phobl ifanc agored iawn i niwed. Ysgrifennydd y Cabinet, sut ydych chi'n mynd i unioni'r sefyllfa gwbl annerbyniol hon?
Diolch am y cwestiwn. Ar fynediad at wasanaethau rhywedd i blant a phobl ifanc, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi'i wneud. Mae astudiaeth ar hormonau atal y glasoed yn cael ei datblygu gan GIG Lloegr a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, ac mae'n rhan o'r rhaglen drawsnewid ehangach. Caiff Cymru ei chynrychioli ar y cyd-bwyllgor comisiynu. Nod yr astudiaeth yw ein helpu i ddeall manteision cymharol a niwed posibl triniaethau atal y glasoed mewn plant sy'n agosáu at neu'n mynd drwy'r glasoed. Ond yn amodol ar yr ymchwil a'r cymeradwyaethau moesegol angenrheidiol, disgwylir i'r astudiaeth ddechrau yn gynnar eleni.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae cwestiwn 1 [OQ62076] wedi ei dynnu nôl. Felly, cwestiwn 2, Heledd Fychan.
2. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi ei wneud o effaith y cynnydd sydd wedi bod mewn costau llogi bws ar y nifer o ysgolion sy'n ymweld â'r Senedd? OQ62047
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn ymwybodol iawn fod costau teithio cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi mwy o bwysau ar y rhai sy'n trefnu teithiau i'r Senedd. Yn ystod 2024, ymgynghorodd swyddogion â'r Aelodau i ofyn am farn ar y cymhorthdal a mynegodd rhai gefnogaeth i gynyddu'r symiau ariannol sydd ar gael i ysgolion ymweld â'r Senedd. Fodd bynnag, mynegodd yr holl Aelodau yr ymgynghorwyd â hwy awydd i'r sector gymryd rhan yn y drafodaeth cyn i unrhyw newidiadau gael eu cynnig.
Felly, ar ddiwedd 2024, dechreuodd swyddogion adolygiad i wasanaeth addysg y Senedd er mwyn deall hygyrchedd ein cynnig yn well, a'r rhwystrau gwirioneddol neu ganfyddedig sy'n bodoli wrth ymgysylltu â'r gwasanaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd y cymhorthdal teithio. Anfonwyd arolwg at ysgolion a cholegau, ac mae grwpiau ffocws gyda'r sector yn cael eu cynnal drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror. Ar ôl i'r adolygiad hwnnw ddod i ben, bydd swyddogion yn dod â chynigion i'r Comisiwn ar gyfer gwneud penderfyniad yn y gwanwyn.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n hynod o falch o glywed bod y gwaith yna'n mynd rhagddo. Dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yn gweld gwerth yr ymweliadau hyn, wrth ein boddau yn cymryd rhan ac yn croesawu ysgolion yma, ac yn gwybod am y gwaith gwych mae'r tîm yn ei wneud wrth groesawu disgyblion i'r Senedd hon—i'w Senedd nhw ar ddiwedd y dydd.
Yr hyn sydd yn fy mhryderu i ydy clywed bod yna rai ysgolion bellach yn dewis mynd i San Steffan yn hytrach nac i'r Senedd hon, gan fod costau llawn bws yn gallu cael eu diwallu gan San Steffan. Yn amlwg, fyddwn i ddim eisiau stopio plant rhag mynd yna, ond fyddwn i ddim yn hoffi eu bod nhw'n gwneud y dewis i fynd i San Steffan yn hytrach nag i'w Senedd yn eu cenedl eu hunain. Mae hyn yn cael effaith ar y dysgwyr wedyn yn mynd i Sain Ffagan, i adnoddau'r Urdd yma—yr holl bethau a'r cyfoeth o bethau sydd ar gael yn eu prifddinas.
Felly, a gaf i ofyn, a ydych chi hefyd, fel rhan o'r adolygiad hwnnw, yn mynd i fod yn gweithio efo llefydd fel canolfan yr Urdd yma yng Nghaerdydd, efo Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac ati, i weld os ydyn nhw wedi gweld gwahaniaeth, a sut ydyn ni'n gallu cydweithio i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfoeth yna o brofiadau pan fyddan nhw'n dod i'w prifddinas nhw?
Rwy'n cytuno'n llwyr y byddai'n well gennyf weld pobl ifanc yn dod yma yn lle mynd i San Steffan, ond fe hoffwn iddynt allu mynd i'r ddau le, fel eu bod yn deall natur gwleidyddiaeth yn llawn a'u bod yn teimlo'n rhan o hynny. Rydym yn gwybod bod y cymhorthdal teithio ar hyn o bryd wedi'i osod ar £1 y filltir ac rydym yn gwybod ei fod ar gael i ysgolion a cholegau sy'n cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol llawn yn Siambr Hywel, ac sy'n teithio 10 milltir neu fwy. Ond fe wyddom hefyd nad yw Senedd yr Alban a Senedd Iwerddon yn rhoi unrhyw gymhorthdal o gwbl.
Ffactor arall, wrth gwrs, yw bod y ffordd y mae pobl yn ymgysylltu wedi newid ers pandemig COVID-19. Rwy'n siŵr fod rhai ohonoch yma wedi manteisio ar y cyfle—fe wneuthum innau yn sicr—i ymgysylltu â myfyrwyr yn rhithiol. Mae hynny, mewn rhai achosion, yn ffordd dda iawn o ymgysylltu â'r rhai a fyddai'n ei chael hi'n anodd dod yma, boed y costau wedi'u talu ai peidio, yn enwedig rhai sydd wedi ymddieithrio o ysgolion beth bynnag.
Ond ar y nodyn arall ynglŷn ag a fyddwn ni'n gweithio gydag eraill, wrth gwrs y byddwn; rydym bob amser yn gwneud hynny. Rwy'n credu ei fod yn awgrym da iawn, ac rwy'n ei groesawu, a byddaf yn rhoi adborth i chi ar y gwaith y byddwn yn ei wneud i sicrhau, ar drothwy'r etholiadau nesaf yn 2026, y byddwn yn gweld disgyblion sydd yn yr ysgol yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol eu bod yn deall yr hyn a wnawn ac yn bwysicach, dros beth y maent yn pleidleisio. Felly, yn hollol, byddaf yn bendant yn ystyried hynny. Ond mae gennym eisoes bresenoldeb, fel y gwyddoch, yn yr holl ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru beth bynnag.
Mae yna anhawster hefyd a chost ychwanegol ynghlwm wrth logi coets â mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn. Golyga nad yw ysgolion sydd angen cerbyd â mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn yn debygol o ymweld oherwydd y gost. A yw'r Comisiwn wedi ystyried cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sydd angen cerbydau â mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn allu ymweld â'r Senedd?
Yr ateb gonest i'ch cwestiwn, Mike, yw 'Nid wyf yn gwybod'. Gan symud ymlaen o'r ateb gonest hwnnw, fe roddaf ateb gonest i chi y gwnaf ddarganfod a yw hynny'n wir neu beidio. Rydym yn sefydliad cwbl gynhwysol ac yn gorff etholedig, ac rwy'n sicr yn awyddus i wybod—pan fyddwn yn ailystyried a ydym yn cadw'r cymhorthdal o £1, a phan gafodd ei osod yn wreiddiol—a yw hynny wedi'i ystyried o ran y gost ychwanegol i'r unigolion sydd ag anghenion ychwanegol sy'n cynyddu cost teithio ac a ydynt yn cael eu hystyried. Ond rwy'n addo heddiw y byddaf yn dod yn ôl atoch gydag ateb cadarn iawn.
Diolch i Joyce Watson.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi'u derbyn heddiw.
Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged i Blynyddoedd Cynnar Cymru am eu menter o'r enw Hyrwyddwyr Symud, sy'n darparu arweiniad a fframwaith ar gyfer symud i'w ddarparu gan ddarparwyr gofal blynyddoedd cynnar. Yr arweiniad i staff yn y lleoliadau hyn yw y dylent gadw symud mewn cof, ac mae'n rhoi templed o weithgareddau y dylai plant fod yn eu gwneud ym mhob ystod oedran, o fabanod hyd at bum mlwydd oed, gan gynnwys amser ar eu boliau, cropian ar wahanol arwynebau, ac archwilio'r amgylchedd awyr agored. Mae'r ymgyrch hefyd yn galw ar bob unigolyn a sefydliad i ddiogelu hawl y plentyn i symud, gan fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi datblygiad plant. Mae'r gwaith hwn mor bwysig, o gofio mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o ordewdra ymhlith plant o dan bump oed ym Mhrydain, ac wrth gwrs, gwaethygwyd y sefyllfa gan bandemig COVID-19. Mae symud yn ffordd bwysig y gallwn ddechrau goresgyn effeithiau sy'n cyfyngu ar fywyd anweithgarwch corfforol. Mae dysgu pwysigrwydd symud a ffordd o fyw llawn symud, yn enwedig mewn plant ifanc, nid yn unig yn cefnogi eu datblygiad gwybyddol a chorfforol yn y blynyddoedd cynnar, mae hefyd yn creu arferion iach sy'n aros gyda hwy am oes. Da iawn, Blynyddoedd Cynnar Cymru, ar y fenter ysbrydoledig hon.
Hoffwn i dynnu sylw'r Senedd at grŵp cymorth hanfodol yng Nghaernarfon, y grŵp cyntaf o'i fath yng Nghymru, sy'n cynnig cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i rieni sy'n dioddef problemau iechyd meddwl cyn ac ar ôl genedigaeth.
Mae'r grŵp yma wedi cael ei sefydlu diolch i Ffion Evans, mam sydd wedi defnyddio ei phrofiadau personol hi o iselder ôl-enedigol i greu rhywbeth newydd a hanfodol i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Wrth dderbyn cymorth gan PANDAS, sef Postnatal Depression Awareness and Support, mi ddaru Ffion sylweddoli mor bwysig ydy cael mynediad i gymorth yn eich iaith eich hun.
Mae PANDAS yn cynnig cefnogaeth bwysig iawn, am ddim, ledled y Deyrnas Unedig, ond mae llawer o'r gwasanaethau ar gael yn Saesneg, ac yn Saesneg yn unig. Roedd Ffion yn benderfynol o fynd i'r afael â'r bwlch yma i sicrhau nad ydy teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn teimlo'n ynysig pan fyddan nhw'n wynebu heriau iechyd meddwl.
Mae'r grŵp newydd yma'n cynnig man diogel lle gall rhieni a babanod ddod at ei gilydd i drafod, gwrando a rhannu profiadau efo pobl sydd yn deall yr heriau unigryw sy'n eu hwynebu nhw.
Felly, fe hoffwn i ddiolch i Ffion ac i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter yma, gan gynnwys Porthi Dre yng Nghaernarfon, sydd yn darparu cartref i'r grŵp. Mae o'n gam mawr ymlaen ar gyfer iechyd meddwl teuluoedd ledled Cymru, a dwi'n gobeithio ei fod o'n fodel i'w efelychu mewn rhannau eraill o'r wlad.
Eitem 6 yw'r ddadl gyntaf heddiw ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil ar yr hawl i dai digonol. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8712 Siân Gwenllian, Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ymgorffori’r Hawl i Dai Digonol, fel y nodir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng nghyfraith Cymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sefydlu’r hawl i dai digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai saff, diogel a fforddiadwy i bawb;
b) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr Hawl i Dai Digonol;
c) gofyn am asesiadau rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser;
d) cryfhau amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau sefydlogrwydd tai; ac
e) sefydlu mecanweithiau i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei fodloni.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr. Does yna ddim dwywaith bod yr argyfwng tai yn gwaethygu, a dim arwydd fod pethau'n gwella. Efallai fod y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr heddiw yn ddigon ffodus i berchen ein cartrefi ein hunain, i gael to uwch ein pennau ni, a bod ein cartrefi ni'n rhai cyfforddus, ond nid dyna'r sefyllfa i nifer cynyddol o'n hetholwyr ni, ac mae'n ddyletswydd arnom ni i wella ansawdd bywyd pob un o'n trigolion. Mae'r argyfwng tai yn ychwanegu at yr argyfwng iechyd. Mae datrys yr argyfwng tai yn greiddiol i ddatrys yr argyfwng iechyd, ac felly o fudd i bob un ohonom ni.
Mae'r darlun yn un du. Mae digartrefedd ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru. Mae'r nifer o bobl sy'n byw mewn llety dros dro—sydd yn llety anaddas—wedi codi 18 y cant eleni. Mae chwech o bob 1,000 o blant yn byw mewn llety dros dro. Ar yr un pryd, mae'r nifer o gartrefi cymdeithasol wedi bron haneru yn y 40 mlynedd diwethaf. Mae stoc tai Cymru ymhlith yr hynaf yn Ewrop: cartrefi tamp a llaith sy'n llyncu arian ar filiau ynni. Mae 70 y cant o denantiaid preifat wedi profi oerfel, lleithder neu lwydni yn eu cartrefi nhw. Mae rhenti yn codi yn gynt yn Nghymru nag yn yr Alban a Lloegr ac mae talp mawr o incwm rhentwyr preifat yn mynd i dalu'r rhent. Mae gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau dros dro mewn rhai ardaloedd yn ychwanegu at y problemau, yn crebachu'r stoc tai sydd ar gael i bobl leol, yn niweidio cymunedau ac yn niweidio'r iaith Gymraeg. Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen.
Mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt mor argyfyngus, mae'n rhaid deddfu er mwyn gyrru'r newid sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n diolch i ymgyrchoedd fel Back the Bill ac i fudiadau fel Cymdeithas yr Iaith sydd wedi bod yn galw am ddeddfwriaeth o'r math yma ers blynyddoedd. Diolch iddyn nhw am eu gwaith nhw. Mae'n bryd gwrando ar y galwadau hynny. Dyna pam dwi'n dod â'r cynnig yma ger eich bron chi heddiw yn enw Plaid Cymru. Mae'r Papur Gwyn ar dai digonol a fforddiadwyedd sydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn ddiffygiol ac yn wan. Mae'r cynigion yn annigonol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn argyhoeddedig fod rhaid creu hawl i gartref fel rhan hanfodol o gyfraith ein cenedl ni.
Mae'r hawl i dai digonol yn hawl dynol sylfaenol sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, yn fwyaf amlwg yn y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, erthygl 25, a'r cyfamod rhyngwladol ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn erthygl 11. Mi fyddai ymgorffori'r hawl hwn yng nghyfraith Cymru yn gwreiddio’r egwyddor y dylai pawb yng Nghymru allu cael cartref diogel, sicr a fforddiadwy. Byddai'n sefydlu tai fel haeddiant cyfreithiol, nid nod polisi yn unig, a thrwy hynny mi fyddai'n gosod rheidrwydd i sicrhau gwireddu yr hawl yma. Byddai cydnabyddiaeth gyfreithiol yn gosod Cymru ar yr un lefel o ran safonau hawliau dynol rhyngwladol, ac yn ailddatgan ymrwymiad y genedl i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ym maes tai.
Mae'r achos dros gyflwyno'r hawl i dai digonol yng Nghymru yn glir ac yn gryf. Mae tai yn hawl sylfaenol. Ac eto, mae'r ddadl ar hyn o bryd yn aml yn troi o amgylch pwy sy'n haeddu cefnogaeth yn hytrach na chydnabod yr angen cyffredinol am dai digonol a diogel. Er bod mwyafrif y boblogaeth—77 y cant yn ôl un arolwg—yn cytuno y dylai pawb fod yn cael yr hawl yma, y gwir ydy mai’r rhai sydd yn dioddef fwyaf oherwydd amodau tai gwael yn aml ydy'r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas ni.
Mi allai cyflwyno'r hawl i dai digonol arwain at fanteision economaidd yn y tymor hir. Mae tai digonol a sicr yn cyfrannu at well canlyniadau iechyd gan ysgafnhau’r baich ar wasanaethau iechyd cyhoeddus. Gall wella cyrhaeddiad addysgol a'r gobaith am waith, a thrwy hynny wella cynhyrchedd economaidd a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau lles. Mae mynd ati i ymdrin â thai annigonol yn gallu atal y costau uchel sydd yn gysylltiedig â digartrefedd, afiechyd a phroblemau cymdeithasol eraill sy'n deillio o amodau tai annigonol.
Wrth gwrs, mi fuasai costau ynghlwm â gweithredu'r hawl i dai digonol. Gan weithio efo Alma Economics, mae clymblaid Cefnogi’r Bil wedi dadlau, er y byddai gwireddu’r hawl i dai digonol yn costio £5 biliwn i Gymru dros gyfnod o 30 mlynedd, y byddai'n esgor ar fanteision economaidd o £11.5 biliwn, felly mae'r achos ariannol yn un cryf dros gyflwyno'r hawl i dai digonol yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni bwyso y costau cychwynnol yn erbyn y manteision sylweddol fyddai yn dod i'n cymdeithas ni ac i'n cymunedau ni.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau eraill a chlywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet dros hyn. Dwi yn cydnabod, wrth gwrs, na ellir cyflawni’r weledigaeth na’r broses o wireddu’r hawl yma dros nos. Mae'n rhaid cydnabod hynny. Ond mae modd gwneud hyn fesul cam, a dyna ydy'r ffordd mae'r ymgyrchoedd, fel Back the Bill, yn ei gweld hi hefyd—gwireddu yn raddol. Ond yn sicr, mae hyn yn hawl gwirioneddol bwysig i'w wreiddio yng nghyfraith Cymru, a dylem roi cychwyn ar y gwaith drwy osod y Bil yma ar waith. Diolch.
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ymwneud â blaenoriaeth drosfwaol y pwyllgor i ystyried darpariaeth ac argaeledd tai priodol yng Nghymru, a chyhoeddwyd y diweddaraf ohonynt ar gyflenwad tai cymdeithasol fis Tachwedd diwethaf. Ym mhob un o'r adroddiadau hyn ar dai, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella ei dealltwriaeth o'r angen am dai drwy adolygu ei dull o ymdrin â data. Mae angen gwell data i ddeall anghenion tai yn well a darparu cartrefi sy'n diwallu'r anghenion hynny. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddwyd adroddiad gennym ar yr hawl i dai digonol. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan randdeiliaid ar y cyfan o blaid gweld hawl gyfreithiol yng Nghymru, a chytunodd y pwyllgor, mewn egwyddor, y gallai ymgorffori hawl chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael ag anghenion tai yng Nghymru a sicrhau manteision llesiant ehangach.
Nid yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno hawl, ond mae'n cydnabod y gallai fod manteision i ddeddfu yn y dyfodol, pan fydd mwy o dai digonol ar gael. Mae'r effaith andwyol y gall tai annigonol ei chael ar iechyd a lles pobl wedi bod yn thema gyffredin yn ein hymchwiliadau. Felly, mae ein hadroddiad 'Y Cyflenwad o Dai Cymdeithasol' yn croesawu'r cynnig yn y Papur Gwyn i ddatblygu strategaeth dai. Mae llawer o argymhellion yn ein hadroddiad yn trafod beth y dylai strategaeth o'r fath ei gynnwys. Er enghraifft, dylai nodi pa mor agos y gall Llywodraeth Cymru fynd tuag at sicrhau bod 20 y cant o gyfanswm y stoc dai yn dai cymdeithasol yn nhymor nesaf y Senedd. Clywsom fod màs critigol o o leiaf 20 y cant o stoc dai'r wlad yn creu opsiynau i bobl ac yn cydbwyso prisiau yn y farchnad breifat. Mae'r ganran yn amrywio ar draws Ewrop, gyda'r cyfrannau uchaf yn yr Iseldiroedd, Denmarc ac Awstria. Yn yr Alban, tai cymdeithasol yw 23 y cant o'r stoc dai, ond yng Nghymru, ar y llaw arall, mae oddeutu 16 y cant ar hyn o bryd. Pe byddem yn cyrraedd ffigur o 20 y cant, byddai gennym oddeutu 60,000 yn fwy o gartrefi, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl.
Gyda niferoedd digynsail o bobl yn byw mewn llety dros dro, mae angen cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn gyflym. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflwyno safleoedd mawr i'w datblygu, ac mae Unnos, fel sefydliad, yn un posibilrwydd ar gyfer cyflwyno'r safleoedd hynny mewn ffordd fwy amserol ac effeithiol.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, er mwyn darparu lleoedd gwell i fyw, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio ar draws y Llywodraeth i oresgyn ffyrdd tameidiog a silo o weithio a sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus ac adrannau'n teithio i'r un cyfeiriad. Mae pawb yn haeddu lle diogel a sefydlog i'w alw'n gartref ac mae argaeledd tai cymdeithasol o ansawdd da yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at dai digonol.
Mae’r hawl i dai digonol wedi bod yn bolisi hirsefydlog gan y Ceidwadwyr Cymreig. Ers 2019, mae cynghrair Cefnogi’r Mesur wedi ymgyrchu dros ymgorffori’r hawl i dai digonol yng Nghymru. Fel y clywsom, mae'r gynghrair, sy'n cynnwys Shelter Cymru, Tai Pawb a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn credu mai’r unig ffordd o ddatrys argyfwng tai Cymru yw newid y ffordd y meddyliwn am gartrefi yn gyfan gwbl, gan ddechrau gyda’u hystyried yn hawl. Maent yn cydnabod yr angen i gynyddu pwysigrwydd cartrefi ar yr agenda wleidyddol, a chreu strategaeth hirdymor bwerus. Comisiynwyd Alma Economics ganddynt i gynnal ymchwil annibynnol, a ganfu y bydd cyflwyno'r hawl i dai digonol yn arbed arian cyhoeddus yng Nghymru.
Fel y dywed cynghrair yr ymgyrch:
'Nid oes gan yr un wlad gyllid i ddarparu'r hawl i gartref digonol dros nos…. Nid yw hyn yn golygu bod hawl i gartref digonol yn amhosibl. Yn hytrach, caiff ei gwireddu'n gynyddol fesul cam.'
Gan ychwanegu:
'Rydym yn credu y bydd ymgorffori'r hawl yn y gyfraith yn gweithredu fel ysgogiad i hybu'r buddsoddiad sydd ei angen.'
Fel y dywed Alma Economics:
'Ceir sylfaen dystiolaeth gref iawn y tu ôl i'r cyswllt rhwng cynnydd mewn lles a chynnydd mewn digonolrwydd tai.... Mae arbedion cost i awdurdodau lleol yn sgil rhoi diwedd ar ddigartrefedd, a llai o anghenion o ran gofal cymdeithasol. Ceir arbedion i GIG Cymru. Ceir arbedion i’r system cyfiawnder troseddol. Ceir gweithgarwch economaidd ychwanegol...gyda gwell canlyniadau i'r farchnad lafur...cynhyrchiant uwch. A hefyd gwerth y tai newydd sy'n cael eu creu.'
Felly rydym yn cefnogi cynigion ar gyfer yr hawl i dai digonol, yn ogystal ag ar gyfer asesiadau rheolaidd o anghenion tai a chyflwr tai, gyda thargedau wedi’u gosod i leihau anghenion tai nas diwallwyd a gwella cyflwr tai.
Mae’r cynnig hefyd yn sôn am arferion rhentu teg, ac ar hyn o bryd, gall landlordiaid a thenantiaid wneud cais am rent teg ar denantiaeth reoleiddiedig neu sicr. Fodd bynnag, os yw’r cynnig hwn yn cyfeirio yn hytrach at reoli rhenti, ceir corff sylweddol o dystiolaeth annibynnol sy’n dangos nad yw rheoli rhenti yn gweithio i sicrhau'r canlyniad a ddymunir, ac yn hytrach, eu bod yn creu rhwystrau i symudedd, yn lleihau’r cyflenwad o gartrefi ac yn arwain at renti uwch nag a allai fod wedi bod fel arall. Ar ôl cyflwyno mesurau rheoli rhenti yn yr Alban yn 2022, cynyddodd rhenti cyfartalog ar denantiaethau newydd, gan godi bron i 14 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, wrth i renti ar denantiaethau presennol gael eu rhewi ac yna eu capio, a bu gostyngiad hefyd o bron i 20 y cant o ran argaeledd eiddo yn y sector rhentu preifat yn yr Alban dros yr un cyfnod.
Yn hytrach na mynd i'r afael â’r symptomau, mae angen i Lywodraeth Cymru felly gymryd camau i gynyddu’r cyflenwad tai rhent, gan mai prinder tai yw’r prif reswm pam mae prisiau rhent wedi cynyddu, a gweithio gyda landlordiaid da yn hytrach na’u gyrru allan o’r farchnad. Heb sicrwydd, byddaf yn ymatal ar y cynnig hwn felly, er fy mod yn cefnogi’r hawl i dai digonol.
Wel, mae’r freuddwyd o gartref diogel a chyfforddus wedi dod yn fwyfwy anghaffaeladwy i lawer o bobl yng Nghymru, ac oherwydd yr argyfwng costau byw, i ormod o bobl eraill, mae eu cartref yn teimlo’n debycach i foethusrwydd na allant prin ei fforddio yn hytrach na hawl sylfaenol. Mae'r argyfwng fforddiadwyedd hwn yn cael ei waethygu ymhellach gan brinder tai cymdeithasol. Mae digartrefedd yn parhau i fod yn broblem barhaus, ac mae atebion dros dro yn aml yn brin o gyfleusterau sylfaenol ac yn cyfrannu at allgáu cymdeithasol ac economaidd.
Ond nid yw'r hawl i dai digonol yn gysyniad ymylol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei diffinio fel yr hawl i fyw yn rhywle diogel, heddychlon, a chyda digon o le, sicrwydd deiliadaeth, a mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys dŵr, glanweithdra ac ynni, ar gyfer anghenion personol ac anghenion y cartref. Mae’r hawl hon wedi’i hymgorffori mewn cyfraith ryngwladol, ac eto nid yw Cymru, er gwaethaf ei hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, yn ei chydnabod yn benodol. Rydym wedi clywed sut y caiff ei chydnabod yn erthygl 11(1) o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, a gadarnheir gan Lywodraeth y DU. Mae Leilani Farha, cyn rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dai digonol, yn pwysleisio pŵer trawsnewidiol yr hawl hon, gan esbonio bod pobl, pan fydd ganddynt gartref diogel, yn fwy tebygol o fod yn iach, wedi'u haddysgu ac yn gyflogedig. Maent hefyd yn fwy tebygol o gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau.
Mae sawl gwlad Ewropeaidd yn rhoi enghreifftiau cymhellol o effaith gadarnhaol ymgorffori’r hawl i dai digonol. Yn y Ffindir, er enghraifft, mae’r cysyniad o ddull tai yn gyntaf, yn seiliedig ar lety diogel, parhaol, gyda gwasanaethau cymorth, wedi gostwng cyfraddau digartrefedd. Yn yr un modd, mae sector tai cymdeithasol cryf Awstria, ynghyd â rheoliadau rhent, wedi sicrhau fforddiadwyedd a sicrwydd tai i gyfran sylweddol o'r boblogaeth. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y dulliau amrywiol y gellir eu defnyddio i roi’r hawl i dai digonol ar waith, gan ddangos sut y gellir ei haddasu i gyd-destunau penodol. Nid dyhead yn unig yw’r llwyddiannau hyn, maent yn darparu cynllun i Gymru. Maent yn arddangos sut y gall Llywodraethau fynd ati'n weithredol i ymyrryd yn y farchnad dai, i sicrhau bod tai yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol, yn hytrach na dim ond gwneud yr elw mwyaf posibl.
Ni fyddai hawl gyfreithiol i dai digonol yn ddatrysiad dros nos, ond byddai’n gam trawsnewidiol, ac yn gosod fframwaith ar gyfer polisïau tai cynaliadwy, hirdymor. Byddai’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am sicrhau bod gan bawb fynediad at gartref digonol. Byddai hyn, yn ei dro, yn ysgogi buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, yn cymell landlordiaid i gadw eiddo mewn cyflwr da ac yn grymuso tenantiaid â mwy o sicrwydd. Nid yn unig fod gwledydd sydd wedi cyflwyno'r hawl hon wedi lleihau digartrefedd, maent wedi meithrin cymunedau iachach a mwy cynhwysol. Wedi'r cyfan, mae tai yn angen dynol sylfaenol, nid nwydd.
Mae gan Gymru draddodiad balch o gyfiawnder cymdeithasol. Byddai ymgorffori’r hawl i dai digonol yn ddatganiad pwerus o’r ymrwymiad hwnnw, ac yn anfon neges gref am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal urddas ac anghenion sylfaenol ei dinasyddion. Mae cymdeithas wâr yn sicrhau to uwch pob pen. Gadewch inni wireddu hynny yma yng Nghymru.
Nid oes amheuaeth nad yw’r argyfwng tai yn un o faterion gwleidyddol pwysicaf ein hoes, ac un sy’n effeithio’n arbennig ar bobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol. O ystyried, yn anffodus, mai gwleidyddion a greodd yr argyfwng tai drwy ddefnyddio model tai neo-ryddfrydol, wedi'i yrru gan elw, mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion gymryd ein rôl o ddifrif wrth unioni’r niwed a wnaed gan ein rhagflaenwyr gwleidyddol.
Credaf ei bod yn wybodaeth gyffredin yn y Siambr bellach fy mod wedi cefnogi, ac yn parhau i gefnogi, ymyriadau mwy radical i’r argyfwng tai, boed hynny drwy wahardd troi allan heb fai, gorfodi benthycwyr i ystyried taliadau rhent hanesyddol wrth asesu ceisiadau am forgais, neu gyflwyno mesurau rheoli rhenti. Ni fydd yn syndod, felly, fy mod yn cefnogi ymrwymiad i dai digonol. Credaf fod yr ymrwymiad hwnnw'n hanfodol os ydym am gyflawni ein rhwymedigaethau i’n pobl ifanc yn enwedig, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn yr ychydig amser sydd gennyf ar ôl, hoffwn ganolbwyntio ar y tenantiaid, a hynny am fod bywyd fel tenant yn rhy aml yn peri caledi seicolegol cyson, gyda gormod o denantiaid yn byw mewn ofn o gael eu troi allan heb fai neu orfod ymdrin â landlordiaid diegwyddor. Fel tenant, gallech golli'r lle rydych yn ei alw'n 'gartref', eich lle diogel yn y byd, ar unrhyw adeg, heb fod unrhyw fai arnoch chi, ac yn gyffredinol er budd rhywun sy'n llawer mwy cefnog na chi. Mae'n rhy hawdd anwybyddu'r straen seicolegol parhaol y mae'n ei roi ar oedolion ifanc ledled y wlad, y mae llawer ohonynt yn sownd, i bob golwg, mewn cylch parhaus o rentu, ac yn cael clywed dro ar ôl tro nad ydynt yn gymwys i gael morgais. Mae hyn yn creu'r teimlad o fyrhoedledd sy'n dod gyda bod yn denant—y teimlad sy'n gwneud ichi feddwl ddwywaith am wneud lle'n gartref go iawn, neu hyd yn oed ei alw'n gartref. Mae'n gwneud ichi feddwl ddwywaith am fwrw gwreiddiau, dechrau teulu, neu hyd yn oed ei addurno a'i ddodrefnu yn y ffordd yr hoffech ei wneud. Yn gyntaf oll, dylai tŷ fod yn gartref, ond yn rhy aml, mae'n amhosibl i denantiaid deimlo bod y lle maent yn byw ynddo yn gartref go iawn iddynt.
Byddai'r hawl i dai digonol yn newid hynny. Byddai’n gogwyddo mantol cyfiawnder tai tuag at y rhai sydd ei angen fwyaf, megis tenantiaid a’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Ni allwn fod yn rhy uchelgeisiol ar gyfer dyfodol ein plant a chenedlaethau’r dyfodol. Felly, rhaid inni beidio ag anwybyddu'r argyfwng hwn, rhaid inni fynd benben ag ef, a dyna pam mae'r hawl i dai digonol yn uchelgais hanfodol ac yn grwsâd moesol.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am ddod â’r cynnig hwn i’r Senedd heddiw a diolch i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon.
Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le digonol, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref yn uchelgais allweddol gan y Llywodraeth hon. A hoffwn ddatgan yn glir heddiw fod yr egwyddor fod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr. Fel y clywsom yng nghyfraniadau'r Aelodau heddiw, gall tai fforddiadwy o ansawdd da ddarparu cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n llesiant. Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o'r cynnydd sylweddol rydym eisoes wedi'i wneud tuag at gyflawni'r agweddau amrywiol ar ddigonolrwydd tai. Mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd a safonau tai, cryfhau hawliau tenantiaid, darparu mwy o gartrefi cymdeithasol, cyflwyno mesurau i reoli nifer ail gartrefi yn y dyfodol, a thrawsnewid ein hymagwedd at ddigartrefedd.
Rydym yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf hyn, gan fuddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid mewn darparu mwy o gartrefi cymdeithasol—£1.4 biliwn yn nhymor y Senedd hon. Bydd ein hymyriadau i wella ansawdd a safonau tai, megis y rheoliadau addasrwydd i bobl fyw ynddynt a safonau ansawdd tai newydd Cymru, yn galluogi pobl i fyw mewn cartrefi cynhesach, iachach a mwy diogel. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, drwy’r Bil Hawliau Rhentwyr, i sicrhau bod tenantiaid â phlant, neu denantiaid sy’n hawlio budd-daliadau, yn cael eu diogelu'n well rhag arferion gwahaniaethol. Mae’r mesurau hyn yn adeiladu ar ddeddfwriaeth bresennol, megis Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy’n rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth i rentwyr.
Fe wnaethom gyhoeddi ein Papur Gwyn uchelgeisiol ar roi terfyn ar ddigartrefedd, a byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon i gefnogi ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd o bob math, gan sicrhau bod yr achosion yn brin, yn fyrhoedlog ac nad ydynt yn ailddigwydd. I gefnogi hyn, rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn i atal digartrefedd ac i helpu pobl ddigartref eleni. Mae'r camau gweithredu hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, yn cefnogi ein nod cyffredinol o ddarparu tai digonol i bawb. Mae ein Papur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd, yn gam arwyddocaol arall ymlaen yn ein taith flaengar tuag at sicrhau digonolrwydd tai i bawb yng Nghymru. Mae’n gosod y sylfaen ar gyfer sicrhau digonolrwydd tai drwy nodi cynigion ar gyfer datblygu strategaeth dai hirdymor i ddarparu fframwaith clir a mesuradwy i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai digonol i bawb. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig gosod dyletswydd ar gyrff penodol yn y sector cyhoeddus i ystyried y strategaeth dai wrth gyflawni eu swyddogaethau tai. Bydd hwn yn gam arwyddocaol, gan y bydd yn gosod rhwymedigaeth foesol bwysig ar bartneriaid yn y sector cyhoeddus i weithredu mewn ffyrdd sy'n gyson â'r nod o gyflawni digonolrwydd tai.
Ar yr elfen fforddiadwyedd, mae angen data llawer gwell arnom hefyd ar renti, yn enwedig ar lefel leol, i ddeall lle mae fforddiadwyedd yn dod yn heriol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall y galwadau am ddull cynyddol fesul cam, lle gellid gwireddu'r hawl i dai digonol yn raddol dros amser. Rwyf hefyd wedi gwrando'n astud ar randdeiliaid sydd wedi mynegi pryderon y gallai deddfwriaeth o'r fath arwain at her weinyddol a chyfreithiol a fyddai'n amharu ar yr her uniongyrchol o ddarparu mwy o gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae’r Papur Gwyn yn cydnabod y gallai fod adeg pan fydd gwneud deddfwriaeth i sicrhau’r hawl i dai digonol yn ddull gweithredu priodol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen ar ein taith flaengar tuag at ddarparu tai digonol i bawb yng Nghymru. Mae'n gosod y sylfaen—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae’r ymateb yn swnio braidd fel yr hyn a ddywedodd eich rhagflaenydd, sef eich bod yn deall ac yn cydymdeimlo â’r angen am hawl i dai digonol, ond ddim eto—rhoi popeth arall yn ei le yn gyntaf. Nawr, mae honno'n ddadl y gellid bod wedi'i gwneud ar gyfer Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sef, 'Nid oes gwir angen Deddf cenedlaethau'r dyfodol arnom, gadewch inni gael popeth arall yn ei le yn gyntaf, gadewch inni drechu tlodi yn gyntaf, gadewch inni adfer byd natur yn gyntaf, yna gallwn gael y Ddeddf honno', ond dywedodd eich Llywodraeth, 'Na, mae angen Deddf cenedlaethau'r dyfodol arnom er mwyn gyrru hyn yn ei flaen.' Dylai'r un egwyddor fod yn berthnasol yn yr achos hwn. Onid ydych chi'n cytuno y byddai cael hawl i dai digonol fel Bil ac ar y llyfr statud yn sicrhau ein bod yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol ac yn grymuso tenantiaid ac yn grymuso pobl i gael tai i fyw yn eu cymunedau?
Diolch, Mabon. Fel y dywedais, rwyf am fod yn glir fod yr egwyddor fod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi’n llwyr, ond mae’n rhaid inni ganolbwyntio heddiw ar ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, gwella’r stoc dai, cefnogi fforddiadwyedd a rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyma ddechrau hynny, a gosod y sylfeini, rwy'n credu, ar gyfer pethau sy’n mynd ymlaen i’r dyfodol.
Felly, hoffwn sôn am rai sylwadau. John, hoffwn ddiolch i chi, ar ran y pwyllgor, am y gwaith gwerthfawr y mae’r pwyllgor wedi’i wneud yn y maes hwn. Mae gwaith y pwyllgor wedi llywio datblygiad y Papur Gwyn, wrth inni ystyried y cyflwyniadau a wnaed i ymchwiliad y pwyllgor wrth ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth, felly rwy’n wirioneddol ddiolchgar i’r pwyllgor am eu gwaith ar hynny.
Hoffwn ddweud wrth yr Aelodau hefyd ein bod ni fel Llywodraeth eisoes yn cymryd camau i gefnogi mynediad at dai digonol. Sylwaf fod y cynnig yn galw am asesiadau rheolaidd o anghenion tai. Mae eisoes yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal y rhain yn rheolaidd ar ffurf asesiadau o’r farchnad dai leol, ac fe wnaethom gyhoeddi ein dull newydd o weithredu ar hynny ym mis Mawrth 2022.
Ddirprwy Lywydd, unwaith eto, rwy’n ddiolchgar i Siân Gwenllian am gyflwyno’r cynnig hwn. Mae hefyd yn ddefnyddiol i'n hatgoffa bod ein hymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr, felly edrychaf ymlaen at weld hyn yn sbarduno mwy o ymatebion i’r ymgynghoriad cyn 31 Ionawr.
Yn olaf, bydd sicrhau tai digonol yn heriol a bydd angen amser ac ymdrech, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid i sicrhau, ar y cyd, ein bod yn sicrhau tai digonol i bawb. Diolch.
Galwaf ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Diolch i John Griffiths am sôn am waith pwysig y pwyllgor tai a llywodraeth leol ar hyd y blynyddoedd, a diolch i Mark Isherwood am ddatgan cefnogaeth y Torïaid i greu’r hawl. Dadl at ryw ddiwrnod arall, efallai, ydy'r un ynglŷn â rheoliadau rhent.
Diolch, Mabon, am dy gyfraniad di ac am ymgyrchu yn y maes yma ar hyd y blynyddoedd. Mi soniodd Mabon am Ganada a'r Ffindir, ac mae yna lawer y gallem ni ei ddysgu o'r ffordd y mae gwledydd eraill wedi defnyddio'r hawl i gartref i yrru newid. Yn sicr yn y Ffindir, mae'r pwyslais ar ymgorffori'r hawl i mewn i gyfraith wedi creu newidiadau pellgyrhaeddol, yn enwedig ym maes digartrefedd. Diolch yn fawr iawn i Carolyn am roi y ffocws ar fywyd y tenant. Mae hynny yn hollbwysig, a dyma garfan o bobl sydd ddim yn cael digon o sylw yn ein polisïau ni ac yn ein gweithrediadau ni yn y lle yma, dwi'n meddwl.
Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo'r egwyddor a'r uchelgais, ond dydy'r uchelgais ddim yn cael ei wireddu. Dyna ydy'r broblem. Mae'r sefyllfa yn gwaethygu. Mae digartrefedd ar ei uchaf yng Nghymru erioed. Mae yna blant yn byw mewn stafelloedd mewn gwestai. Ddylen nhw ddim bod yn byw yn y ffordd yna. Mae yna bobl ifanc yn gadael ein cymunedau ni oherwydd eu bod nhw'n cael eu prisio allan o'r farchnad oherwydd bod yna ormodedd o ail gartrefi. Mae cartrefi wedi mynd yn ased. Dim ased ydy tŷ. Cartref ydy tŷ. Ac os ydych chi'n derbyn yn y Papur Gwyn y gallai'r hawl mewn cyfraith fod yn ddefnyddiol, wel pam ddim ei wneud o rŵan? Pam ei adael o i'r dyfodol? Rŵan ydy'r amser i'w wneud o. Rŵan mae'r argyfwng yn cydio go iawn, a rŵan ydy'r amser i weithredu yn y ffordd yma, sydd yn ffordd gwbl briodol, a'r unig ffordd, dwi'n dadlau, sy'n mynd i greu'r newid sydd ei angen. Gyrru'r newid wnaiff gosod yr hawl yma mewn cyfraith.
Ac mae gennym ni draddodiad gwych yng Nghymru o fod wedi creu hawliau plant sydd wedi arwain at newid; y Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn dechrau creu'r newid priodol. Mae gennym ni draddodiad da o ddefnyddio hawliau yma yng Nghymru i yrru newid polisi a newid cyfeiriad a gwella bywydau pobl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 heddiw yw'r ail ddadl heddiw ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar gipio anifeiliaid anwes. Galwaf ar Carolyn Thomas i wneud ei chynnig.
Cynnig NDM8723 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil cipio anifeiliaid anwes.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gwneud cipio anifail anwes yn drosedd benodol yng Nghymru;
b) cydnabod nad gwrthrychau difywyd yw cathod a chŵn ond bodau ymdeimladol sy'n gallu profi trallod a thrawma emosiynol arall;
c) cydnabod y trallod sylweddol ac unigryw a achosir i berchennog pan gaiff anifail anwes ei ddwyn; a
d) dod â deddfwriaeth Cymru yn gyfartal â deddfwriaeth yn Lloegr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae anifeiliaid anwes yn rhan o'r teulu. Maent yn helpu i dyfu cariad a thosturi, maent yn gwrthsefyll unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl, ac yn ein cadw'n iach ac yn egnïol. Nid yw anifeiliaid anwes yn wrthrychau difywyd, fel waled neu liniadur wedi'i ddwyn, ond bodau ymdeimladol, sy'n gallu profi trawma emosiynol. Daeth Deddf Cipio Anifeiliaid Anwes 2024 i rym yn Lloegr a Gogledd Iwerddon fis Awst diwethaf. Ac roedd hynny o ganlyniad i Fil Aelod preifat gan Anna Firth AS, ac mae deddfwriaeth debyg yn cael ei cheisio nawr, yn cael ei chynnig, yn yr Alban. Os na fyddwn yn gwneud yr un peth, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn drosedd benodol i ddwyn cath neu gi, a gallai’r rhai a geir yn euog wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar. Mae’r Ddeddf hefyd yn cydnabod bod anifail anwes yn destun cyfreithiol a all fod yn ddioddefwr trosedd, ac nid yn ddarn o eiddo yn unig. Nid yw Deddf Dwyn 1968 y dibynnwn arni ar hyn o bryd yng Nghymru yn ddigon cryf. Nid yw'n rhwystr digon cryf. Nid yw'n cydnabod bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol, sy'n gallu profi trawma emosiynol a dioddefaint. Nid yw'n ystyried y trallod unigryw a achosir i berchennog pan fydd anifail anwes yn cael ei ddwyn, a'r arswyd o wybod bod aelod annwyl o'ch teulu yn nwylo troseddwyr. Ni ellir cymharu'r trawma hwn â cholli ffôn neu waled.
Dros y blynyddoedd, gwn am nifer o achosion o ddwyn anifeiliaid anwes. Cŵn yw'r anifeiliaid anwes sy’n cael eu dwyn amlaf, ac yn drist iawn, dim ond 16 y cant sy’n cael eu dychwelyd i'w perchennog yn y pen draw. Dywedodd un o’r trigolion lleol wrthyf fod ei ferch allan yn cerdded gyda’u sbaniel annwyl pan ddaeth fan i stop a daeth rhywun allan a dechrau siarad â hi, gan ofyn am gyfarwyddiadau. Wrth iddo wneud hynny, fe blygodd i lawr, ac roedd yn ceisio dadwneud y tennyn i geisio dwyn y ci. Fe sgrechiodd y ferch a gweiddi am ei thad, a oedd yn ei dilyn, a rhedodd y dyn i ffwrdd. Dywedodd rhywun arall wrthyf, ar fferm, sut y daeth fan i mewn i fuarth y fferm a mynd â’u ci o flaen eu llygaid. Nid oedd ganddynt deledu cylch cyfyng i weld y fan. Ni ddaethpwyd o hyd i'r ci, a bu'n rhaid i'r plant fyw gyda'r trallod hwnnw, y teimlad o golli anifail anwes eu teulu. Ni ddaethpwyd o hyd iddo byth wedyn.
Profiadau fel hyn a barodd i Eileen Jones gyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau’r Senedd o’r enw, ‘Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru’. Mae testun y ddeiseb yn dweud:
'Mae Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes. Bydd cŵn a chathod sy’n cael eu dwyn yn parhau i gael yr un lefel o flaenoriaeth yng Nghymru ag eiddo sy’n cael ei ddwyn – blaenoriaeth isel. Os caiff troseddwr ei ddal, yn gyffredinol, bydd yn wynebu dirwy fechan neu ddedfryd ohiriedig… O gofio bod cosbau mwy penodol wedi’u cyflwyno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd anifeiliaid anwes yng Nghymru mewn perygl o gael eu gweld gan ladron fel targedau mwy gwerthfawr. Rhaid inni gynnig yr un lefel o ddiogelwch i’n hanifeiliaid anwes a’u teuluoedd â’r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o’r DU.'
Yr ymateb a gawsom gan Lywodraeth Cymru yw eu bod yn gweithio i ddarparu addysg i helpu perchnogion i ddiogelu eu hanifeiliaid, megis microsglodynnu, a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael heb eu goruchwylio mewn gerddi. Mae’r rhain yn bethau synnwyr cyffredin y mae pobl yn eu gwneud beth bynnag, ond nid yw’n atal ymddygiad ffiaidd tresmaswyr i gartrefi a gerddi pobl a lladron ar y stryd sy’n ceisio dwyn cŵn ar y stryd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth yr RSPCA nad yw dwyn cŵn, yn anffodus, yn drosedd benodol ar ein system gofnodi troseddau. Pe bai cipio anifeiliaid anwes yn cael ei gategori ei hun yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd bellach yn Lloegr ac Iwerddon o dan y Ddeddf Cipio Anifeiliaid Anwes, byddai’n ofynnol i heddluoedd gadw cofnodion manwl gywir. Byddai hyn yn helpu i bennu'r nifer o achosion o ddwyn anifeiliaid anwes a lle mae'r gweithgarwch yn fwyaf cyffredin. Byddai’n grymuso heddluoedd i gymryd camau priodol. Byddai cael deddfwriaeth benodol ar waith yn atal troseddwyr ac yn atal Cymru rhag dod yn darged i ladron anifeiliaid anwes oherwydd gwahaniaethau yn y ddeddfwriaeth dros y ffin.
Mae cŵn yn cael eu dwyn ar gyfer bridio ar ffermydd cŵn bach, i’w gwerthu am elw, i’w defnyddio fel abwyd ar gyfer cylchoedd ymladd cŵn, a’u herwgydio fel y gall troseddwyr fynnu pridwerth gan eu perchnogion. Mae’r achosion o ddwyn cathod wedi cynyddu bedair gwaith ers 2015, ac mae Cats Protection yn credu bod taer angen deddfwriaeth i fynd i'r afael â'r cynnydd hwn, wedi’i ysgogi gan y cynnydd ym mhris cathod bach. Dywedir wrthyf fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno'r Ddeddf Cipio Anifeiliaid Anwes am ei bod yn blaenoriaethu ymrwymiadau lles anifeiliaid presennol, megis y Bil sefydliadau lles ac arddangosfeydd anifeiliaid. Ac rwy’n deall y pwysau sydd ar y tîm bach iawn, ac rwyf mor falch eu bod yn bwrw ymlaen â’r Bil hwnnw a chyda’r gwaith y maent yn ei wneud, a bydd yn helpu miloedd o anifeiliaid. Pe na bai Llywodraeth flaenorol y DU wedi dewis tynnu'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn ôl yn 2021, gan arwain wedyn at y Bil Aelod preifat, efallai y byddai'r adnoddau wedi bod yn iawn, gan y byddai hyn oll wedi'i gyflwyno gyda’i gilydd, efallai, fel cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Ond erys y ffaith bod angen gwneud rhywbeth. Aeth ci cymydog allan o'r drws pan oedd hi wrthi'n mynd â'i bagiau siopa i'r tŷ. Gadawodd y drws ar agor. Edrychodd o'i chwmpas, ac nid oedd y ci yno. Felly, edrychodd i fyny'r ffordd, ond ni allai ddod o hyd iddo yn unman. Yna, aeth y teulu cyfan ati i chwilio. Buont yn gyrru o gwmpas, yn methu ei weld yn unman, a cherdded y llwybrau—popeth. Yna, ymddangosodd posteri ym mhobman—Facebook. Parhaodd hyn am wythnosau, parhaodd am fisoedd—posteri, pobl yn meddwl eu bod wedi'i weld. Yn y pen draw, chwe mis yn ddiweddarach, cysylltodd un o swyddogion yr RSPCA. Cafwyd hyd i gi ar y stryd 30 milltir i ffwrdd. Sganiodd y ci ac roedd ganddo ficrosglodyn. Mae'r ci oddeutu wyth neu naw oed. Yn ffodus, roedd hi wedi ei ficrosglodynnu flwyddyn ynghynt, gan ei bod hi braidd yn bryderus, a dyna yw'r peth iawn i'w wneud. Felly, aethant i gasglu'r ci, ond roedd yn gi gwahanol. Roedd wedi'i drawmateiddio gan ei brofiadau, ac roedd yn nerfus yng nghwmni'r perchennog gwrywaidd. Roedd yn gi gwahanol, a chredwyd ei fod, yn ôl pob tebyg, wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio. Roedd y teulu wedi'u trawmateiddio, ac ni ddaeth y ci dros y trawma. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn lunio'r ddeddfwriaeth hon a chael cefnogaeth y Senedd i greu trosedd benodol ar gyfer cipio anifeiliaid anwes fel Bil Aelod preifat, a'i gyflwyno fel y mae gwledydd eraill y DU wedi'i wneud. Diolch, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill.
Diolch, Carolyn, am ddod â hyn i'n Siambr. Mae mor bwysig. Ar hyn o bryd, mae dwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru yn cael ei drin fel trosedd eiddo o dan Ddeddf Dwyn 1968, ac mae hynny'n gosod dwyn anifail anwes, aelod o'ch teulu, ar yr un lefel â gwrthrych difywyd fel beic neu rywbeth arall o werth materol. Fodd bynnag, i lawer, ac i mi fy hun yn wir, mae anifeiliaid anwes yn aelodau o'r teulu ac yn annwyl iawn. Yn wir, pan fyddaf i lawr yma ac yn ffonio fy ngŵr, y peth cyntaf rwy'n ei ofyn yw, 'Sut mae Alfie?', fy nghi. Mae'n naw mlwydd oed, wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Ci'r Flwyddyn y Senedd, ond o ddifrif, yn gwbl onest, fe wyddom y daw amser pan fyddwn yn ei golli, ond nid wyf yn gwybod sut y buaswn yn ymdopi pe bai Alfie yn cael ei ddwyn.
Fe wyddom hefyd fod cipio, dwyn, gweithgarwch troseddol o'r fath, yn aml yn golygu bod yr anifeiliaid anwes diamddiffyn hyn yn dod yn abwyd ar gyfer ymladd cŵn mewn cylchoedd ymladd, yn cael eu gwerthu ymlaen, eu hallforio, ac yn cael eu gadael weithiau. Yn anffodus, yn 2023 yn unig, amcangyfrifwyd bod 2,300 achos o ddwyn cŵn yng Nghymru a Lloegr, gydag ymchwydd o 170 yn cant yn ystod y pandemig, ond eto dim ond 16 y cant o gŵn wedi'u dwyn sy'n cael eu haduno â'u perchnogion, gan ddangos y cymhellion emosiynol ac ariannol i droseddwyr. Nawr, mae gennym—fe ddywedaf hyn ar gyfer Facebook—mae gennym sefydliad y gwn fod Rachel Roberts a Jo Nuttall yn ymwneud ag ef, ac os aiff ci ar goll, byddant yn defnyddio dronau hyd yn oed i fynd allan i chwilio, ac maent yn cael canlyniadau llwyddiannus weithiau. Hoffwn ddiolch i'r ddwy a grybwyllwyd am y gwaith a wnânt.
Nid yw deddfau presennol yn cydnabod y cysylltiad dwfn rhwng anifeiliaid anwes a'u perchnogion, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain. Rwy'n gwybod am bobl yn torri mewn i geir i gipio cŵn. Mae dwyn anifeiliaid anwes yn achosi trallod aruthrol, ond nid yw'r cosbau presennol yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Mae Lloegr wedi gweithredu gyda Deddf Cipio Anifeiliaid Anwes, sy'n cydnabod bod anifeiliaid anwes—cŵn, cathod, moch cwta, unrhyw beth—yn fodau ymdeimladol ac sy'n sicrhau amddiffyniadau cryfach iddynt yn y gyfraith. Fodd bynnag, er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol i les anifeiliaid, nid yw Cymru wedi deddfu ar y mater hwn eto oherwydd 'cyfyngiadau adnoddau'. Nid yw'n ddigon da. Ni ddylid gosod gwerth is ar anifail anwes annwyl yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU. Gyda datganoli lles anifeiliaid, mae gan Gymru gyfle a chyfrifoldeb nawr i gryfhau'r amddiffyniadau.
Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn aml yn dibynnu ar eu hanifail anwes fel eu cydymaith, eu cyfaill mynwesol, felly mae'n bwysig iawn inni edrych ar hyn a'i ystyried ar frys. Rhwng 2019 a 2023, cafodd 416 achos o ddwyn cŵn eu cofnodi yng Nghymru, ond gyda dulliau cofnodi anghyson gan heddluoedd ac achosion heb eu cofnodi, mae'r gwir ffigur yn debygol o fod yn uwch. Byddai gwneud cipio anifail anwes yn drosedd benodol yn helpu i olrhain achosion, yn tarfu ar rwydweithiau troseddol ac yn atal Cymru rhag dod yn darged i droseddwyr. Mae'n hanfodol cydnabod bod anifeiliaid anwes yn fodau ymdeimladol yn hytrach nag eitemau materol.
Mae angen ichi orffen nawr, Janet, os gwelwch yn dda.
Nawr, wrth adael y lle hwn ddoe, roedd ci wedi'i glymu y tu allan i'r Sainsbury's lleol yma a hoffwn annog unrhyw berchennog anifeiliaid anwes, perchnogion cŵn yn arbennig, i beidio â gadael eich anifeiliaid anwes lle rydych chi'n gofyn am drwbl, oherwydd roedd y ci hwn mor gyfeillgar a phe bawn i wedi dymuno gwneud hynny, mae'n debyg y byddai wedi dod gyda mi, a gwnaeth imi sylweddoli bod angen imi fod yn gryfach ar y ddadl hon heddiw.
Diolch, Janet.
Mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn nawr ac mae angen iddynt ddeddfu yn erbyn cipio anifeiliaid anwes. Diolch.
A gaf i ddweud ar y dechrau fy mod yn deall y niwed emosiynol a gaiff ei greu yn sgil dwyn anifeiliaid anwes, rwy'n gwybod am yr ymlyniad agos sydd gan bobl â'u hanifail anwes, ond rwy'n gwrthwynebu'r Bil hwn? Y cwestiwn cyntaf y mae'n rhaid inni ei ofyn yw: a yw'r gyfraith bresennol yn ddigonol? Yn y canllawiau presennol ar ddwyn, caiff niwed ei asesu yn ôl gwerth ariannol, ond caiff ei asesu hefyd yn ôl y niwed a achosir, ac mae hynny'n cynnwys trallod emosiynol. Y man cychwyn o dan y canllawiau presennol ar ddwyn yw dwy flynedd o garchar, gan godi i dair blynedd a hanner, gyda dedfryd uchaf o saith mlynedd. Mae'n werth nodi bod y Ddeddf a basiwyd gan San Steffan y llynedd â dedfryd uchaf o bum mlynedd yn unig, sef dwy flynedd yn is na'r Ddeddf Dwyn—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Mae'n debyg mai dim ond Llys y Goron sy'n cael rhoi dedfryd o fwy na chwe mis. Er mwyn i achos o ddwyn gael ei glywed gerbron Llys y Goron, mae'n rhaid iddi fod yn ail drosedd, ac felly wedi'i chysylltu â bwrgleriaeth, neu'n drosedd fawr gwerth dros £100,000. Mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid anwes yn werth £500. Ac yn 2018, cafodd criw o bedwar eu rhoi ar brawf yn Llys y Goron yn dilyn bwrgleriaeth. Cafodd 15 o sbaengwn Siarl eu cipio, yn cynnwys un ast dorrog. Cafodd un o'r cŵn ei godi'n ddiweddarach o ochr traffordd, lle cafodd ei daflu. Plediodd y pedwar yn euog i ddwyn, ond er bod hwn yn achos difrifol iawn yn y llys uchaf posibl, dim ond dedfrydau gohiriedig a gafodd aelodau'r gang. Nid ydynt yn cael eu heuogfarnu.
Gallwn i gyd ddod o hyd i enghreifftiau o'r hyn y byddai rhai'n ei hystyried yn ddedfryd drugarog, ond nid yw'n gywir dweud na ellir ymdrin â lladrad yn Llys y Goron, mae'n drosedd a all fynd i lys ynadon neu Lys y Goron, a gall fod yn llai na £100,000 os dangosir trallod emosiynol, a chredaf y gellid dangos hynny'n hawdd os caiff anifail anwes ei ddwyn.
Felly, y cwestiwn cyntaf: a yw'r gyfraith bresennol yn ddigonol? Os nad ydych chi'n credu hynny a'ch bod chi'n meddwl bod rhaid gwneud rhywbeth, y cwestiwn nesaf i'w ofyn yw: beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol? Gellir newid y canllawiau dedfrydu'n hawdd. Yn 2024, diwygiwyd y canllawiau twyll i gynnwys cydnabod yr effaith ar ddioddefwyr twyll pan fo'r gwerth ariannol yn isel iawn. Gellir gwneud hyn yn hawdd gyda dwyn, a bod y straen ar anifeiliaid anwes a'r perchnogion yn cael eu hystyried yn benodol. Os oes angen perswadio'r cyngor dedfrydu, o dan adran 124 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, mae gan yr Arglwydd Ganghellor bŵer i ddweud wrth y cyngor dedfrydu fod angen iddynt edrych eto ar y canllawiau. Yn ysbryd datganoli, rwy'n siŵr y byddai'n gymwys i'r Cwnsler Cyffredinol wneud yr un fath, a hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried defnyddio'r hawl honno i ofyn i'r cyngor ddiwygio'r canllawiau. Byddai'n llawer mwy effeithiol na phasio deddfwriaeth sylfaenol.
A yw Deddf Cipio Anifeiliaid Anwes San Steffan yn mynd i'r afael â'r broblem honedig? Dyna'r trydydd cwestiwn. Wel, nac ydy, oherwydd nid yw lles neu ddioddefaint yr anifail anwes wedi'i gynnwys yn y Ddeddf o gwbl. Nid yw'r Ddeddf yn gwneud unrhyw beth penodol i gynyddu dedfryd. Fel y nodais eisoes, mae'r ddedfryd uchaf ddwy flynedd yn is na'r Ddeddf Dwyn, felly nid oes sicrwydd y bydd hyn yn arwain at ddedfrydau hwy.
Cwestiwn olaf, ac rwy'n cytuno â Llywodraeth Cymru: a ddylid blaenoriaethu materion eraill? Dim ond 60 darn o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gennym yn y lle hwn ers 2011. Mae'r diffyg adnoddau ac amserlenni tynn yn broblem go iawn. Mae gennym ddatganoli am reswm; nid oes rhaid inni ddilyn yn ddall yr hyn y mae Lloegr yn ei wneud. Roedd hwn yn ddarn diangen o ddeddfwriaeth, a gellir diwygio'r gyfraith bresennol yn hawdd i ymdrin â'r pryderon a godwyd. Diolch yn fawr.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Carolyn am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr heddiw, ac yn wahanol i'r siaradwr blaenorol, rwy'n llwyr gefnogi ei chynnig deddfwriaethol i wneud cipio anifeiliaid anwes yn drosedd benodol. Mae'n alinio'r peth â Lloegr, ac nid yw, fel y dywedodd y siaradwr blaenorol, yn dilyn yn ddall lle mae eraill wedi mynd o'r blaen.
Dengys tystiolaeth fod anifeiliaid anwes yn aml yn cael eu dwyn yn ôl y gofyn yn dibynnu ar y ffasiwn diweddaraf, ac roedd digon o dystiolaeth o hyn gyda bridiau penodol yn cael eu targedu, yn enwedig drwy'r pandemig, a phobl yn mynd â hwy am dro a chanfod eu bod wedi mynd ar goll, gan adael plant a pherchnogion yn torri eu calonnau. Ac yna, yr ochr arall i hynny wrth gwrs, mae'r prynwr diarwybod sy'n meddwl eu bod wedi prynu ci bach—cŵn bach ydynt fel arfer—yn hollol gyfreithlon, a chanfod wedyn iddo gael ei ddwyn. Felly, rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun yn dangos beth sy'n digwydd yma.
Nid pobl yw'r rhain sy'n penderfynu'n sydyn eu bod yn mynd i ddwyn anifail anwes. Mae'r rhain yn bobl sy'n gysylltiedig â gangiau troseddol, maent yn gwneud llawer iawn o arian mewn llawer o achosion, ac wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, os ydych chi'n gwneud llawer iawn o arian yn anghyfreithlon, rhaid i chi wyngalchu'r arian hwnnw rywsut, a ble mae'r arian hwnnw cyrraedd yn y pen draw? Felly, rwy'n credu bod cymhlethdodau llawer ehangach na'r rhai sydd newydd gael eu crybwyll ac mae'r rheini, wrth gwrs, yn hynod bwysig.
Pam y dylem gael deddfwriaeth? Fe atebaf y siaradwr blaenorol: oherwydd os yw pobl yn gwybod eu bod yn mynd i gael eu herlyn, maent yn meddwl eto. Os credant y gallai fod dannedd gan y ddeddfwriaeth sy'n bodoli ac y gallai pobl ei gweithredu, bydd angen mentro mwy i weithredu'r drosedd. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod bod anifeiliaid anwes gymaint yn fwy nag eiddo. Fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny—wrth gwrs y gwnaethoch. Ond beth bynnag a gredwn, ni ddylent fod yn yr un dosbarth ag eitemau'r cartref, ac rwy'n cytuno â phawb sydd wedi dweud hynny eisoes heddiw.
Rwy'n credu ein bod wedi cael cyfle, gallem fod wedi gwneud hyn, ac yn fy marn i, fe ddylem fod wedi gwneud hyn, oherwydd mae cathod a chŵn, i rai pobl yn enwedig—cawsom ddadl gynharach am bobl sy'n unig—yw'r unig gwmni sydd ganddynt. Felly, mae'n ymwneud â chymaint o agweddau ar fywydau cynifer o bobl ar draws pob cymuned a diwylliant nes fy mod yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hynod bwysig hon. A diolch i Carolyn a hefyd i'r deisebydd am ddod â'r mater i'n sylw.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr, Carolyn, hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. A diolch, hefyd, i Janet, Rhys a Joyce, sydd wedi siarad yn y ddadl hon.
Nawr, rwy'n deall bod cipio neu golled anifail anwes yn ofidus a thrallodus iawn. Nid yw anifeiliaid anwes yn wrthrychau difywyd, ond yn aelodau annwyl o'r teulu. Rwy'n ymwybodol iawn o'r trallod a'r gofid y mae pobl, yn holl briodol, yn eu teimlo pan gaiff anifail anwes ei ddwyn.
Fel y soniwyd eisoes yn y ddadl hon, mae dwyn anifail anwes yn drosedd sydd eisoes o dan Ddeddf Dwyn 1968 sydd heb ei datganoli, a'r gosb fwyaf yn wir, yw saith mlynedd o garchar. Mae yna faterion yn codi ynghylch canllawiau dedfrydu ac yn y blaen, a'r dull o weithredu, ond dyna lle mae'r gyfraith ar hyn o bryd.
Mae swyddogion ar draws y DU wedi bod yn ystyried yn ofalus sut y gallant fynd i'r afael â dwyn anifeiliaid anwes. Yn ogystal â sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron llys, rydym hefyd wedi gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth o sut y dylai darpar brynwyr allu adnabod gwerthwyr anifeiliaid anwes amheus. Mae rhai pethau'n amlwg a rhai yn llai amlwg, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn.
A Carolyn, fel y dywedoch chi, mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi eu nodi yn 'Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26', sy'n canolbwyntio ar feysydd lle mae manteision sylweddol gwirioneddol i les anifeiliaid, gan gynnwys gyda chathod a chŵn, a hefyd gyda sefydliadau trwyddedig, ac yn y blaen. Mae gwir angen inni gyflawni hynny. Mae'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflwyno ymrwymiadau lles anifeiliaid y rhaglen lywodraethu a'r blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill. Mae gennym waith go iawn i fwrw ymlaen ag ef yma, a gwn fod Aelodau'r Senedd yn cefnogi hynny yma.
Felly, nid yw deddfwriaeth ar gipio anifeiliaid anwes wedi'i chynnwys fel blaenoriaeth ar hyn o bryd, o ystyried yr amddiffyniadau cyfreithiol sydd yn eu lle, ond rwy'n derbyn y pwynt y gallem edrych ar faterion yn ymwneud â chanllawiau dedfrydu ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae ystod o waith arall yn cael ei wneud ar yr union bwnc hwn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau'r DU a'r Alban ar welliannau i ficrosglodynnu a chofrestru. Rydym yn gwybod bod angen inni wneud hyn. Roeddwn yno pan gyflwynwyd hynny'n wreiddiol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ar ben arall yr M4, er mwyn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy arferol i aduno anifeiliaid anwes gyda'u perchnogion. Yn sicr, Carolyn.
Mae hwnnw'n fater pwysig iawn. Ni fyddai'r ci wedi cael ei ddychwelyd i fy nghymydog oni bai ei fod wedi ei ficrosglodynnu. Ond mae'n rhaid inni gael un gofrestr. Mae hwnnw'n fater arall.
Yn wir. Mae hwn yn fater i'r DU, ond rwy'n credu y gallwn fynegi barn yn y Senedd. Mae cronfeydd data a phwyntiau cofrestru lluosog yn achosi problemau o ran adnabod a chysylltu â pherchnogion. Mae'r rhain yn bethau ymarferol iawn y gallwn weithio arnynt.
Ddirprwy Lywydd, mae ein gwaith ni ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn yn gyfrifol yn cynnwys edrych ar sut y gallwn addysgu perchnogion anifeiliaid anwes i'w helpu i ddiogelu eu hanifeiliaid a chadw eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel. Er enghraifft, un peth syml iawn yw sicrhau bod microsglodynnu'n digwydd yn amserol. Mae gormod o bobl yn methu diweddaru eu microsglodion pan fyddant yn symud, neu mae'r anifail anwes yn cael ei roi i ffrind neu frawd neu chwaer, ac yn y blaen. Felly, mae'n ymwneud â chadw'r rheini'n gyfredol.
Ond hefyd mae'n golygu peidio â chlymu anifeiliaid anwes y tu allan i siopau. Pa mor aml y gwelwn hynny'n digwydd? A pheidio â'u gadael heb oruchwyliaeth mewn gerddi agored. Peidio â gadael i anifail anwes grwydro o'ch golwg pan fyddwch allan yn cerdded. Mae'r holl bethau hyn yn bwysig. Bydd fy swyddogion yn monitro'r sefyllfa'n barhaus mewn perthynas â dwyn cŵn ac adrodd am ddigwyddiadau a gorfodi'r ddeddfwriaeth bresennol gydag awdurdodau lleol a chyda'r heddlu.
Yn ychwanegol at hynny, rydym hefyd wedi cynnal dwy uwchgynhadledd amlasiantaethol lwyddiannus iawn ar fridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn gyda'r holl randdeiliaid dan sylw. Cynhaliwyd y ddiweddaraf ym mis Hydref. Yn ogystal â'r uwchgynadleddau hyn, ceir nifer o weithgorau â ffocws, yn gweithio gydag awdurdodau lleol, yr heddlu a chynrychiolwyr y trydydd sector, sy'n darparu manteision mewn nifer o feysydd. Un o'r pethau sy'n cael ei ystyried yw mater dychwelyd anifeiliaid anwes wedi eu microsglodynnu i'w perchnogion, ac rydym yn gwneud camau breision ar hynny.
Yn wir, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 5 Tachwedd, yn nodi llwyddiannau'r dull amlasiantaethol o weithredu ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn yn gyfrifol. Ond ein ffocws yw deall a gweithredu ar feysydd sy'n ceisio gwneud y gwahaniaeth mwyaf ar hyn o bryd i'r nifer fwyaf o anifeiliaid ledled Cymru. Ar y sail honno, ar ôl ystyried yn ofalus iawn, penderfynwyd blaenoriaethu ein hadnoddau ar gyfer yr ymrwymiadau presennol a nodir yn y cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru, Carolyn, yn dal i gadw'r hawl i ddeddfu yn y maes hwn yn y dyfodol os bydd angen. Ond ar hyn o bryd, mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i'r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghymru. Byddwn yn parhau gydag ystod eang o waith anneddfwriaethol hefyd yn ymwneud â chipio anifeiliaid anwes.
Hoffwn ddiolch ichi unwaith eto am ddod â'r mater hwn i'r amlwg. Rwyf am eich sicrhau y rhoddir ystyriaeth bellach i Fil posibl yng Nghymru pe bai'r dystiolaeth yn ei gefnogi.
Diolch yn fawr am gyflwyno'r ddadl hon.
Galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yn brysur gyda deddfwriaeth, ond mae llawer o'r gwaith eisoes wedi'i wneud, a bydd hyn yn alinio cyfraith Cymru â'r mesurau presennol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Hoffwn helpu gyda hyn, gan ddarparu tystiolaeth i helpu eich swyddogion i gyflwyno hyn.
Nid yw Deddf Dwyn 1968 fel y mae ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r effaith emosiynol ar berchnogion anifeiliaid anwes pan fydd eu hanifeiliaid anwes yn cael eu dwyn, a'r ffaith bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol ac nid yn wrthrychau difywyd, fel y crybwyllwyd gan bawb. Mae'r Ddeddf Cipio Anifeiliaid Anwes yn ei gwneud yn ofynnol i heddluoedd gofnodi dwyn anifail anwes fel categori penodol o drosedd, yn hytrach na dwyn eiddo'n unig, trwy ei chofnodi fel trosedd benodol.
Yn 2019, roedd cyfraith Finn yn cydnabod bod anifeiliaid sy'n gwasanaethu, fel cŵn heddlu, yn haeddu cydnabyddiaeth ac amddiffyniad y tu hwnt i eiddo—y tu hwnt i gerbydau heddlu sy'n cael eu difrodi. Mae anifeiliaid, ceffylau, yn wahanol, a chredaf y dylem ymestyn y gwahaniaeth hwnnw'n bendant iawn i gynnwys ein hanifeiliaid anwes hefyd.
Mae'r Ddeddf Cipio Anifeiliaid Anwes yn cael ei chefnogi gan arbenigwyr blaenllaw yn y sector lles anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, y Groes Las, Cats Protection a'r Dogs Trust. Nid wyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd Rhys ab Owen. Mae tystiolaeth yn dangos nad yw dwyn cŵn yn cael ystyriaeth ddifrifol mewn llysoedd barn—ddim o gwbl—ac mae gennym dystiolaeth sy'n dangos hynny, ac nid yw wedi'i gofnodi'n briodol ar systemau'r heddlu. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw ac yn ymuno â mi i anfon neges gadarn nad eiddo'n unig yw anifeiliaid anwes, maent yn aelodau o'n teuluoedd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8664 Siân Gwenllian, Llyr Gruffydd, Sam Rowlands
Cefnogwyd gan Darren Millar, Mabon ap Gwynfor, Rhun ap Iorwerth, Rhys ab Owen
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn Arfon gyda dim ond 36.6 y cant o'r boblogaeth yn gallu derbyn triniaeth drwy’r GIG sef y ganran isaf yng Nghymru; a
b) cyhoeddi adroddiad 'Llenwi’r Bwlch' a gomisiynwyd gan Siân Gwenllian AS yn gwneud yr achos dros sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor.
2. Yn credu:
a) bod gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru mewn sefyllfa o argyfwng:
b) bod prinder difrifol o ddeintyddion y GIG yn Arfon sy'n gadael llawer o gleifion, gan gynnwys plant a phobl fregus, heb fynediad priodol at ofal deintyddol sylfaenol;
c) bod pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar adrannau brys yr ysbytai lleol oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion, gan arwain at gostau ac amseroedd aros ychwanegol;
d) bod angen am fwy o hyfforddiant deintyddol;
e) bod nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol;
f) y gallai ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol;
g) y byddai sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn darparu swyddi newydd o safon a denu buddsoddiad i'r economi lleol, gan gefnogi Bangor fel canolfan ragoriaeth ym maes iechyd, ochr yn ochr â'r ysgol feddygol newydd; a
h) y gallai’r ysgol ddeintyddol ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol Cymraeg a dwyieithog, gan wella mynediad at ofal iechyd i gymunedau lleol sy’n siarad Cymraeg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried yr achos economaidd ac iechyd cyhoeddus dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn seiliedig ar y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd yn yr adroddiad 'Llenwi’r Bwlch';
b) sicrhau cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a sefydliadau perthnasol eraill i ddatblygu cynllun dichonoldeb ar gyfer sefydlu’r ysgol ddeintyddol; ac
c) buddsoddi’n strategol i sefydlu’r ysgol ddeintyddol fel rhan o ymdrechion ehangach i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn y rhanbarth ac i fynd i’r afael â’r argyfwng parhaus mewn darpariaeth ddeintyddol yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cysylltiad rhwng y ddadl yma a’r un wnes i gyflwyno yn gynharach ar yr hawl i gartref, er efallai nad ydy hynny yn amlwg ar yr olwg gyntaf, ond mae’r ddau fater yn ymwneud efo atebion—atebion sydd angen eu rhoi ar waith yn syth er mwyn gwella iechyd a bywydau ein trigolion i’r dyfodol, yn benodol y trigolion sydd yn wynebu’r anghydraddoldebau mwyaf yn ein cymdeithas ni. Mae’r ddau fater yn ymwneud â’r agenda ataliol, a’r ddau yn cynnig llwybrau penodol ymlaen sydd, yn fy marn i, yn angenrheidiol er mwyn creu newid trawsnewidiol a pharhaus.
Ym mis Gorffennaf, bydd rhai ohonoch chi'n cofio fy mod i wedi arwain dadl fer yn y Senedd yma ar yr angen i gael cynllun hyfforddi deintyddion i Gymru, gan gynnwys sefydlu ysgol ddeintyddol newydd, a hynny yn y gogledd. Yn y ddadl fer, fe wnes i ddechrau gwneud yr achos dros Fangor fel y lleoliad pwrpasol sy’n gwahodd ei hun ar gyfer yr ysgol ddeintyddol, ac fe wnes i ddweud bryd hynny fy mod wedi comisiynu gwaith i edrych ar yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor. Fe gafodd yr adroddiad, 'Llenwi'r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor', ei gomisiynu gen i gan gwmni annibynnol Lafan. Cafodd ei lansio ym mis Medi gyda chefnogaeth gref Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac eraill ar dir Prifysgol Bangor.
Mae'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau eraill yn cyfeirio at yr argyfwng deintyddol yn y gogledd a rhannau eraill o Gymru, efo practisys NHS yn cau ac etholwyr yn gynyddol bryderus o fethu cael mynediad i ddeintydd, a rhai straeon arswydus hefyd yn dod i'n sylw ni o bryd i'w gilydd. Fe ddaru nifer o ymarferwyr a rhanddeiliaid gyfrannu at yr adroddiad 'Llenwi'r Bwlch', a dwi eisiau diolch yn fawr iawn iddyn nhw am eu cyfraniadau doeth a phwrpasol. Ar yr un llaw, wrth wneud y gwaith ar gyfer yr adroddiad, fe amlygwyd yr heriau, ac ar y llaw arall, roedd yna deimlad cryf fod yna botensial amlwg, a bod yna ateb.
I edrych ar yr heriau i ddechrau, yn fyr, yn anffodus, yn fy etholaeth i, Arfon, mae'r heriau ar eu gwaethaf ar draws Cymru. Dyma, mewn gwirionedd, sydd wedi fy symbylu i geisio chwilio am ateb tymor hir i’r argyfwng sydd yn amlwg yn yr etholaeth. Dim ond 36 y cant a gafodd driniaeth deintyddol drwy’r NHS yn y gogledd. Y ffigwr Cymru gyfan yw 44 y cant, sydd ddim yn wych, wrth gwrs, ond mae o'n waeth yn y gogledd, a does yna ddim argoel fod y sefyllfa yn mynd i wella. Ac mae yna dair haen benodol wedi datblygu, onid oes? Rydyn ni wedi trafod hyn o'r blaen, ac mae'r pwyllgor iechyd wedi nodi hyn hefyd, y tair haen: y rhai sydd efo mynediad at ofal NHS, y rhai sydd yn dymuno ond yn methu cael mynediad ac yn mynd yn breifat, a'r rhai sydd yn methu cael mynediad ac yn methu fforddio gofal deintyddol. Ac mae’r effaith ar y garfan olaf yna yn arswydus.
Mae'r argyfwng yn amlygu'i hun mewn ffordd arall hefyd. O’r deintyddfeydd yn ardal Betsi, mae 41 y cant ohonyn nhw efo swyddi deintyddol yn wag. Mae hynny 10 y cant yn uwch na’r cyfartaledd dros Gymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae yna fwy o ddeintyddion wedi gadael nag sydd wedi ymuno. Pymtheg y cant sy’n gweithio yn gyfan gwbl i’r NHS, sy’n amlygu’r duedd gynyddol i breifateiddio’r gwasanaeth. Yn syml, mae’r galw am wasanaethau'r gwasanaeth iechyd yn uwch na’r cyflenwad sydd ar gael.
Felly, beth fyddai’r ateb tymor hir? Dwi’n gwybod bod angen atebion tymor byr o ran y cytundeb a’r gwaith yna sydd angen digwydd, ond mae’n rhaid i ni gael ein llygaid i edrych ymhellach tuag at y gorwel. Ar hyn o bryd, un ysgol ddeintyddol sydd gan Gymru. Ym Mangor, mae modd astudio diploma addysg uwch mewn hylendid deintyddol, ac mae’r academi ddeintyddol yn cynnig lleoliadau. Mae ysgol feddygol lawn wedi agor ei drysau; dwi’n falch iawn o hynny.
Fe ddaru cwmni Lafan, wrth baratoi'r adroddiad, ddefnyddio’r model pump achos fel sail i werthuso'r achos dros ysgol ddeintyddol yn y gogledd—dull fydd llawer ohonoch chi yn gyfarwydd iawn ohoni, sy’n cael ei ddefnyddio yn aml i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen efo buddsoddiad sylweddol gan y sector gyhoeddus. A’r canfyddiadau, mewn adroddiad annibynnol, ydy bod yr achos strategol yn gryf iawn, yn alinio â nodau sefydliadau allweddol ac yn ymateb i anghenion gofal deintyddol y gogledd. Hynny yw, mae cyfle i gau’r bwlch.
Mae’r achos economaidd yn amlygu’r potensial i greu swyddi a gwella ansawdd bywyd yn y gogledd. Mae’r achos masnachol yn pwysleisio potensial yr ysgol i ddenu myfyrwyr, staff a chyllid. Mae’r achos ariannol yn amlinellu’r ffynonellau posib i gyllid, gan gynnwys grantiau Llywodraeth, grantiau’r NHS, ffioedd myfyrwyr a phartneriaethau. Ac yn olaf, mae’r achos rheolaethol yn dangos potensial ar gyfer rheolaeth a rheoli effeithiol.
Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod yr achos dros leoli ysgol ddeintyddol ym Mangor yn un cryf iawn. Mae’r achos yn un sy’n argyhoeddi, ac mi fyddai ysgol ddeintyddol yn ychwanegiad gwerthfawr iawn. Efo ysgol feddygol eisoes ym Mangor, mae’r seiliau yn eu lle, a’r amser yn iawn i sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor gan gydweithio efo Prifysgol Aberystwyth hefyd os mae dyna’r trywydd sydd yn cael ei ffafrio. Mi fyddai ysgol ddeintyddol ym Mangor yn un rhan arall o’r jig-so i sefydlu Bangor fel canolfan rhagoriaeth hyfforddiant iechyd yng Nghymru. Dwi felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu achos amlinellol strategol ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor. Diolch yn fawr.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Mae cael mynediad at ddeintydd GIG yng ngogledd Cymru yn anodd iawn. Rwy'n talu mewn practis lle mae fy ngŵr yn dal i fod yn glaf GIG, yn ffodus. Cefais apwyntiad o fewn tri diwrnod. Bu'n rhaid iddo aros am bum mis am archwiliad. Cafodd fy mab ddyfynbris o £850 am driniaeth. Nid yw wedi bod ers tro, ond dywedais wrtho am fynd at ein deintydd ni. Fe allai gael yr un driniaeth am hanner y pris yng Nghaerdydd, neu am ddwy ran o dair o'r gost gan ddeintydd arall. Nid yn unig ei bod hi'n anodd cael deintydd, mae'n ymddangos bod y costau'n amrywio llawer. Mae'n ymddangos bod rhaid ichi siopa o gwmpas. Hoffwn wybod a oes safon ansawdd yn bodoli, yn ogystal â phris safonol? Nid yn fy mhrofiad i.
Yn anffodus, rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae deintyddion preifat hyd yn oed yn llawn, sy'n golygu nad oes fawr o gymhelliad i ddal yn ôl rhag codi prisiau, felly maent yn parhau i godi. Mae cost triniaeth ddeintyddol wedi codi'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chleifion bellach yn talu rhwng 14 y cant a 32 y cant yn fwy am yr un driniaeth ag yn 2022.
Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn deall yr heriau hyn, ac mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen. Mae academi ddeintyddol Bangor yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru, gan ddarparu gofal i 12,000 i 15,000 o bobl bob blwyddyn pan fydd yn gweithredu'n llawn. Nod academi ddeintyddol gogledd Cymru yw rhoi cyfle i ddeintyddion proffesiynol sefydledig a newydd gymhwyso hyfforddi, gweithio ac uwchsgilio tra'u bod yn byw yn ein rhan brydferth ni o'r byd, gogledd Cymru. Mae mor bwysig hyrwyddo manteision byw a gweithio yng ngogledd Cymru drwy annog pobl i ymuno â'r GIG yng Nghymru. Ond mae yna broblemau mawr o hyd, fel rydym yn ei ddarganfod, gyda chadw deintyddion o fewn y GIG.
Wrth iddo grynhoi, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y bydd diwygiadau Llywodraeth Cymru i gontract deintyddol y GIG yn gwella mynediad at ofal deintyddol yng ngogledd Cymru. Hoffwn ofyn hefyd, gan fod rhyfel prisiau'n digwydd nawr, a dim byd yn debyg i bris safonol am driniaethau preifat, yr amrywio, fel y dywedais yn gynharach—. Dyfynnodd y practis deintyddol lleol £850. I fyny'r ffordd, roedd oddeutu £500 a rhywbeth, ac yng Nghaerdydd roedd yn hanner y pris. Felly, a oes rhaid inni siopa o gwmpas nawr hefyd, yn ogystal â siopa o gwmpas am strwythurau ansawdd a phris? Felly, diolch yn fawr.
Rwy’n falch o gyd-gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw gyda Siân Gwenllian, ond hefyd gyda Llyr Gruffydd. Hoffwn roi clod arbennig i Siân Gwenllian am ei dyfalbarhad parhaus gyda’r mater hwn, a chredaf ei bod yn haeddu llawer o glod am godi’r mater hwn yn rheolaidd yma yn y Siambr, wrth gynrychioli etholwyr yn Arfon, gan fod hwn yn fater hynod bwysig i bobl yng ngogledd Cymru, ac yn enwedig yn rhan Siân Gwenllian o’r byd.
Gwyddom fod gwasanaethau deintyddol yn y gogledd mewn cyflwr gwael a bod angen eu gwella. Nid ydynt yn ddigon da ar hyn o bryd. Fel yr amlinellodd Carolyn Thomas o'i phrofiad personol, mae gan bobl wasanaeth deintyddol tair haen yn y gogledd, ac ar draws llawer o Gymru o bosibl. Fel y disgrifiwyd eisoes, mae cleifion yn wynebu oedi annerbyniol ac mae mynediad at ofal hanfodol yn prinhau, fan lleiaf. Ac fel y clywsom eisoes, mae teuluoedd sydd wedyn yn cael triniaeth breifat yn ei chael hi'n anodd fforddio'r driniaeth honno, ac yn anffodus, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy'n wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn, ac nid yw'n dderbyniol.
Nawr, er y crybwyllwyd yma heddiw hefyd y gallai'r broblem fod yn rhannol gysylltiedig â'r contractau deintyddol—ac fel y gofynnwyd eisoes, byddai'n dda cael sylw ar hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet—fe wyddom fod recriwtio a chadw staff wedi bod yn broblem benodol yn y gogledd, yn enwedig deintyddion sydd newydd gymhwyso neu ddeintyddion sy'n ceisio cymhwyso. Synnwyr cyffredin yw hyn, a dweud y gwir—mae pobl yn tueddu i aros yn y man lle maent yn astudio, mae llawer o dystiolaeth i awgrymu hynny, ac yn enwedig pan fydd pobl yn bwrw gwreiddiau gyda theulu neu anwyliaid, dyna ble maent yn tueddu i fod. Ac mae recriwtio a chadw'r deintyddion cymwys hynny'n her i ni yn y gogledd. Dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol inni edrych ar hyn yn hirdymor.
Mae rhai o’r manteision eisoes wedi’u hamlinellu. Hoffwn dynnu sylw at un neu ddau o fanteision cynnig o’r fath. Mae’r cyntaf, yn fwyaf arbennig, yn rhywbeth i bobl leol—pobl sydd am astudio deintyddiaeth yn lleol, ac yn enwedig gyda chyfle posibl i wneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Rydym wedi gweld manteision hynny gyda sefydlu’r ysgol feddygol ym Mangor, ac rydym wedi clywed yr adborth gwirioneddol gadarnhaol am hynny i lawer o bobl ifanc. A chredaf fod cyfle gwirioneddol yma i bobl ifanc lleol aros yn yr ardal ac astudio deintyddiaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond hefyd, ar y llaw arall, mae’r cyfle i ddenu pobl i’r ardal yn bwysig. Yna, yn ail, fel y soniais eisoes, byddai'r gallu iddynt aros lle maent wedi astudio yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gallu i ddenu a chadw deintyddion yn yr ardal.
Rwy'n credu bod y trydydd cyfle a fyddai'n deillio o hyn yn ymwneud â thwf economaidd. Lle ceir mwy o gymwysterau lefel prifysgol, gwyddom fod hynny'n ysgogiad enfawr ar gyfer twf economaidd. A byddai buddsoddi mewn ysgol ddeintyddol yn y gogledd heb os yn ysgogi, i raddau o leiaf, yr economi leol gan ddenu buddsoddiad pellach, denu ymchwil pellach a chyfleoedd pellach yn y gogledd.
Nawr, rwy’n derbyn, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiau, yn awyddus i rannu, y bydd heriau gyda chynnig o’r fath, ond rwy'n gobeithio y cydnabyddir ac y deellir y bydd y manteision posibl yn fwy na’r heriau a all godi ar gyfer y rhanbarth, gan ein bod yn dod yn ôl at hyn: mae'n rhaid inni feddwl yn hirdymor. Mae'n rhaid inni fuddsoddi yn nyfodol y gweithlu, ac yn y pen draw, yn iechyd trigolion gogledd Cymru, nad ydynt ar hyn o bryd, fel y dywedais, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hynny, y gwasanaethau tair haen sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Felly, i gloi, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet yn ei waith yn Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r fenter hon, gan weithio’n agos gyda’r brifysgol, y bwrdd iechyd a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, gan dderbyn yr heriau, ond gan gydnabod bod y cyfleoedd, yn fy marn i, yn llawer mwy na’r heriau a all godi. Oherwydd mae'n hanfodol fod gan bawb fynediad at ddeintyddiaeth dda, ac mae angen cynllun hirdymor er mwyn sicrhau hynny, gyda recriwtio a chadw staff yn ganolog ynddo. Diolch yn fawr iawn.
Wel, nôl ym mis Mai 2001, fe gyhoeddodd y cyn-Aelod Cynulliad bryd hynny, Dr Dai Lloyd, uchelgais Plaid Cymru i ddatblygu ysgol feddygol newydd ym Mangor, ac mi ddywedodd o:
'Dim ond un ysgol feddygol rydyn ni wedi ei chael, er bod ail gampws yn Abertawe yn dod yn realiti. Ein polisi yw cael campws ym Mangor hefyd. Nid ydym yn cynhyrchu digon o feddygon. Mae gan Iwerddon, gyda'r un boblogaeth, chwe ysgol feddygol, ac mae gan yr Alban bump'.
Dyna oedd uchelgais Plaid Cymru nôl yn 2001. Ond gwrthodwyd hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda'r Llywodraeth, a hwythau'n dweud nad oedd yna gyfiawnhad ar gyfer ysgol feddygol ym Mangor dros y blynyddoedd. Erbyn heddiw, serch hynny, mae'r ysgol feddygol yn realiti, ac mi ges i'r pleser o fynd ar ymweliad a chyfarfod â nifer o'r myfyrwyr yno cyn y Nadolig. Ac mae'r Llywodraeth yma yn hawlio clod amdani, gan ganu clodydd yr ysgol feddygol, gan ddweud pa mor bwysig ydy hi. Mewn gwirionedd, does yna ddim gwahaniaeth pwy oedd wedi delifro; yr hyn sy'n bwysig ydy ei bod hi wedi cael ei delifro. Ond rhan ganolog o'r rhesymeg y tu ôl i ddatblygu'r ysgol feddygol oedd y data oedd yn dangos bod myfyrwyr sy'n astudio mewn un man yn dueddol o aros yn yr ardal ehangach yno ar ôl graddio. Mae union yr un egwyddor yn perthyn i'r ddadl dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor, ac mae dybryd angen deintyddion arnon ni yng ngogledd Cymru.
Yn yr hydref, clywson ni fod deintyddfa Penrhyndeudraeth am gael ei phrynu gan gwmni preifat, sydd erbyn hyn wedi cynyddu y ffioedd i'w chleifion, ynghyd â'r ffaith fod meddygon teulu preifat yn cynyddu yn yr ardal fel rhan o'r practis. Yn wir, mae preifateiddio ein gwasanaeth iechyd wedi dod yn rhywbeth cyffredin iawn i ni yng Ngwynedd erbyn hyn. Mewn ardal ble mae'r cyfraddau incwm isaf yn y Deyrnas Gyfunol, mae ein pobl ni yn gorfod talu am ofal iechyd. Gall sefydlu ysgol ddeintyddol, felly, ddim dod yn ddigon buan i ni yn y gogledd.
Ond nid dim ond cleifion deintyddol fyddai'n elwa; mae'n wybyddus i bawb, wrth gwrs, fod gofal o'r dannedd yn sicrhau gofal o'r corff llawnach. Ond byddai sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ddeintyddion yn amserol yn golygu nad ydy problemau bach yn y dannedd yn tyfu i fod yn broblemau mwy, gyda'r costau sylweddol ychwanegol a ddaw yn sgil hynny, wrth i bobl orfod mynd i mewn i adrannau brys er mwyn datrys trafferthion yn ymwneud ag iechyd y geg. Mae'r diffyg deintyddol ar hyn o bryd yn rhoi pwysau ychwanegol anferthol ar y gwasanaeth iechyd ehangach.
Yn olaf, dwi am gyfeirio'n sydyn at fuddion eraill y tu hwnt i iechyd pobl. Mi fyddai datblygu ysgol ddeintyddol yn ategu'r ysgol feddygol ac yn gwneud Bangor yn ganolfan iechyd o bwys, fyddai, yn ei thro, yn denu y talent gorau i addysgu yn yr ardal a galluogi Prifysgol Bangor i ddatblygu'n ganolfan arbenigol a'i galluogi i gynyddu ei hymchwil a thorri tir newydd yn y meysydd yma. Mae hyn am fod o fudd economaidd a chymdeithasol i'r ardal, ac mi fyddai Gwynedd a gogledd Cymru yn ei chyfanrwydd yn elwa o hynny. Felly, mae'r achos yn glir, a does yna ddim rheswm pam na ddylai'r Llywodraeth yma o leiaf ymrwymo i ddatblygu ysgol ddeintyddol yn y gogledd. Dyna pam dwi'n gofyn i bawb yma y prynhawn yma gefnogi cynnig Siân Gwenllian.
Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu deintyddiaeth yng Nghymru. Rwyf wedi bod yma ers 13 mlynedd, ac mae’n rhaid imi ddweud, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol yn y 13 mlynedd y buom yn siarad am y peth; mae wedi parhau i ddirywio. Mae ceisio cael apwyntiad gyda deintydd y GIG wedi dod nid yn unig yn anodd ond yn amhosibl. Yn Aberconwy, mae gennym bwysau ar ein deintyddiaeth breifat hefyd bellach, gan nad oes apwyntiadau ar gael ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Yn anffodus, dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n cael eu trin ym mhractisau deintyddol y GIG yng Nghymru.
Cyn y pandemig, yn 2019, roedd ychydig dros 50 y cant o oedolion yn cael eu trin ar sail dreigl 24 mis. Ers ei isafbwynt o 30 y cant, ar anterth y pandemig, dim ond i 40 y cant y mae'r ffigur wedi gwella erbyn hyn. Yn yr un modd, roedd nifer y cyrsiau o driniaeth yn chwarter mis Ebrill i fis Mehefin 2024 37 y cant yn is na'r nifer yn y chwarter diwethaf nad effeithiwyd fawr ddim arno gan y pandemig, mis Ionawr i fis Mawrth 2020. Ar gyfer plant, y credaf y dylent fod yn brif ffocws i ni, mae triniaethau wedi gostwng o 60 y cant o blant yn 2019 i ddim ond 45 y cant yn 2024. Ac i unrhyw un sydd wedi bod yn fam, fel fi, mae'n hollbwysig fod plant yn cael eu gweld yn rheolaidd. Mae deietau bellach yn llawer rhy felys, ac rwy'n credu bod gennym fom amser o ran problemau'n cronni ar gyfer y dyfodol mewn perthynas ag iechyd dannedd ein pobl ifanc.
Ni cheir darlun clir, fodd bynnag, o faint o bobl sy'n aros i weld deintydd y GIG ar hyn o bryd na faint o bobl sydd wedi methu cael lle ar restr aros deintydd y GIG. Ac ar hyn o bryd, nid oes rhestr ganolog yn bodoli o hyd. Nid yn unig hynny, rydym wedi gweld dirywiad araf yn nifer deintyddion y GIG yng Nghymru, sy'n effeithio ar fynediad at ofal deintyddol, gan adael pobl heb obaith a llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau.
Yn 2023-24, dim ond 1,398 o ddeintyddion a oedd gennym—mae'n swnio'n nifer mawr, onid yw, ond ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn, mae angen rhagor arnom—gostyngiad o 2.6 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yw nid yn unig fod cyfanswm nifer y deintyddion GIG wedi aros yr un fath i bob pwrpas neu wedi gostwng dros y degawd diwethaf, mae nifer y triniaethau fesul deintydd yn gostwng yn sylweddol—bron i 40 y cant yn is na 10 mlynedd yn ôl. Mae'r gostyngiad hwn, unwaith eto, wedi bod yn niweidiol i blant. O ganlyniad, mae mwy o blant bellach yn mynd i adrannau achosion brys â'r ddannoedd a dannedd pwdr, gan ddynodi argyfwng cynyddol, ac nid yw hynny'n gosteffeithiol—. Anghofiwch am y problemau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â hyn i bobl â phoen dannedd—rwy'n credu ei fod yn un o'r poenau gwaethaf posibl—rhaid ei fod yn costio mwy.
Nawr, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn darparu £2 filiwn y flwyddyn yn ychwanegol, ond mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio, ac ymhellach, problemau cadw staff, i atal dirywiad pellach mewn gwasanaethau deintyddol. Rwyf mor falch ein bod bellach—ac yn amlwg, rwy’n canmol Siân Gwenllian, ac yn y gorffennol, fe wnaethom ni ar y meinciau hyn gefnogi ysgol feddygol i Gymru ym Mangor ac roeddem am iddi fynd ymhellach a chynnig deintyddiaeth, ac nid oes unrhyw un yn anghytuno â hynny, ond yn dal i fod, nid yw'n ddigon erbyn ichi hyfforddi a recriwtio deintyddion i aros yma a darparu gofal. Felly, rwy’n falch iawn o weld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno heddiw.
Mae’r ysgol feddygol newydd ym Mangor yn ddatblygiad hollbwysig, sydd nid yn unig yn cynyddu nifer y meddygon ond hefyd yn meithrin sgiliau ac arbenigedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn arbennig o hanfodol mewn rhanbarth sydd â llai o broffesiynau medrus a chyfleoedd gwaith o gymharu â rhannau eraill o Gymru.
Mae graddau llawn y broblem yn parhau i fod yn aneglur, ac rwy’n dal i bwysleisio, a byddaf yn parhau i bwysleisio, casglu data, cofrestrfa ddata ganolog—mae angen i hynny fod yn flaenoriaeth nawr, ac ni ddylai apwyntiad i weld deintydd gael ei ystyried yn foethusrwydd yng Nghymru. Os ydym am ddiogelu'r gwasanaeth hwn, a dannedd pawb sy’n byw yng Nghymru yn wir, mae’n rhaid inni roi gobaith i’r rheini sy’n gweithio i ddarparu’r gwasanaeth.
Roeddwn gyda fy neintydd ychydig wythnosau yn ôl, ac ar ôl iddo gwblhau'r driniaeth—mae pobl yn gwybod beth rydych chi'n ei wneud—meddai, 'A wnewch chi gymwynas â mi? A wnewch chi weld pryd y bydd y contract deintyddol newydd yn dod allan, yn cael ei gyhoeddi, fel ein bod i gyd yn gwybod ble rydym yn sefyll?' Yr ansicrwydd, mae'n achosi digalondid. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, pryd y caiff y contract deintyddol hwnnw ei gyhoeddi? A gadewch inni obeithio, pan gaiff ei gyhoeddi, pan fyddwn yn edrych arno, ein bod yn mynd i gael rhywfaint o newyddion da yno, ac y bydd yn annog nid yn unig y deintyddion sydd gennym i aros yn y proffesiwn ond hefyd yn annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn hwnnw. Diolch.
Diolch i Siân am ddod â'r ddadl yma o flaen y Senedd eto ac am ei gwaith dros gyfnod o flynyddoedd erbyn hyn yn ymgyrchu dros gael yr ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd. Dŷn ni'n gwybod am yr argyfwng, onid ydym, sydd yn wynebu deintyddiaeth yng Nghymru. Er gwaetha'r ffaith fod rhagoriaeth deintyddiaeth Cymru, mae'n debyg, yn mynd i fod yn fodel ar gyfer deintyddiaeth yn Lloegr, y realiti ydy fod yna argyfwng o ran gallu pobl i gael mynediad at ofal deintyddol NHS oherwydd ein bod ni'n colli cymaint o gapasiti â chymaint o ddeintyddfeydd yn penderfynu rhoi’r gorau iddi hi. Ac fel mae Aelodau eraill wedi ei ddweud, mae yna dair haen, onid oes, yn bodoli: y rheini sydd yn cael, yn brinnach ac yn brinnach, mynediad ofal deintyddol yr NHS; y rheini wedyn sydd yn gallu fforddio, os oes angen, neu o ddewis o bosib, ond os oes angen, mynd am ofal deintyddol preifat; a wedyn y rheini sydd yn methu dod o hyd i ddeintydd NHS ond sydd hefyd yn methu fforddio talu i fynd yn breifat. A dyna lle rydyn ni'n dod at bobl sydd yn tynnu dannedd eu hunain allan, fel clywon ni Mabon ap Gwynfor yn sôn amdano fo yn y Senedd yr wythnos yma, ac sydd yn dod yn fwyfwy cyffredin, a phlant yn arbennig yn dioddef a theuluoedd, y tlotaf, yn dioddef, a’n gofal deintyddol ni fel cenedl yn dirywio. Mae hynny yn hollol, hollol glir. Ac mae'r datrysiad i hyn yn gorfod dod ar sawl haen, onid ydy? Mae angen camau i atal y golled yma o ddeintyddfeydd, canfod go iawn pam mae cymaint o ddeintyddion yn penderfynu dydy o ddim ei werth o iddyn nhw aros o fewn sector gofal deintyddol yr NHS. Mae eisiau ei gwneud hi'n ddeniadol i ddeintyddion fod eisiau darparu gofal NHS.
Mae hefyd angen gofyn pam rydym ni yn barod i dalu am hyfforddi deintyddion a wedyn caniatáu iddyn nhw fynd i weithio i gyd yn y sector breifat. Felly, mae yna sawl haen i hyn, ond mae hi yn elfen bwysig hefyd o'r angen i gael digon o ddeintyddion i ddarparu'r gofal yma. Ac mae lle mae'r rheini ar gael, fel rydym ni wedi ei ddysgu efo’r ysgol feddygol, hefyd yn gwbl, gwbl allweddol. Mae'r adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Siân y llynedd yn wirioneddol werthfawr ac yn cynnig ffordd ymlaen i ni. Mi oeddwn i'n falch iawn o allu mynd i lansiad yr adroddiad hwnnw, yn rhoi yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor—yn ôl ym mis Medi, dwi'n meddwl oedd hi—a gweld cymaint o bobl yno, o randdeiliaid yn cynrychioli y brifysgol a'r bwrdd iechyd, myfyrwyr ifanc o ogledd Cymru oedd wedi gorfod teithio i ffwrdd er mwyn hyfforddi, cleifion a chlinigwyr hefyd. A'r rheini yn cytuno bod angen i ni fod yn bwrw’r maen i'r wal ar hyn, ac mae hi’n gyffrous clywed y bwriad i fynd â hyn ymlaen go iawn o fewn y gymuned iechyd ac addysg yn y gogledd orllewin. Ac os ydy hynny yn cynnwys dod ag Aberystwyth i mewn iddi hefyd, grêt, gadewch i ni feddwl am sut i wireddu hyn. Ond, yn sicr, o roi Bangor wrth galon hyn, mae yna gyfle i ehangu ymhellach, onid oes, y ganolfan yma o ragoriaeth mewn gofal iechyd sydd wedi bod yn datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys yr ysgol fferyllol ac ati.
Mae hyn yn wirioneddol gyffrous. Mi gymerodd hi flynyddoedd lawer o ymgyrchu—fe glywsom ni am Dr Dai Lloyd, dros 20 mlynedd yn ôl, gen i, gan Siân, ein rhagflaenwyr ni, Alun Ffred Jones ac ati—i fwrw’r maen i'r wal a chael ysgol feddygol. Mi ddadleuodd Gweinidogion mewn Llywodraethau Llafur nad oedd yna achos dros yr ysgol feddygol, ond mi oedden ni'n gwybod bod yna, ac mi oeddwn i'n falch iawn o allu gweld hynny yn cael ei wireddu yn ddiweddar. Ond gadewch i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad ac oedi, oedi, oedi cyn symud ymlaen efo’r ysgol ddeintyddol. Mae angen gwneud hyn. Mae'r argyfwng yn glir, ac mae hyn yn rhan bwysig o'r ateb.
Nawr, os ydym yn caniatáu'r symud parhaus hwn o ddeintyddiaeth y GIG i'r sector preifat, mae deintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru mewn perygl o ddiflannu. Tua diwedd y llynedd, clywsom sut y rhoddodd dau bractis deintyddol eu contractau GIG yn ôl—un yn Ynys Môn, ac un arall yn Wrecsam. Ac wythnos yn unig i mewn i 2025, mae dau arall wedi cyhoeddi yn y gogledd—un yn Llandudno ac un ym Mwcle yn sir y Fflint hefyd—eu bod hwythau'n gwneud yr un peth. Felly, hyd yn oed cyn y cyhoeddiadau hynny, dim ond 27 y cant o bobl yn ardal Betsi Cadwaladr a oedd â mynediad at driniaeth ddeintyddol y GIG.
Nawr, mae'r contractau newydd, fel y clywsom, yn rhan fawr o'r broblem. Ni waeth pa mor dda yw eu bwriad, nid ydynt yn gweithio, ac mae contractau newydd bellach yn arwain at ddim contractau, wrth i ddeintyddion bleidleisio gyda'u traed. Ac mae'n eithaf damniol nad yw'r bwrdd iechyd hyd yn oed yn gwybod faint o gleifion sydd â mynediad at driniaeth ddeintyddol breifat yn y gogledd, sy'n golygu, wrth gwrs, na allant ddweud wrthym felly faint o bobl ar draws y rhanbarth nad ydynt yn cael unrhyw ofal deintyddol o gwbl. Ac effaith hirdymor hynny yw—. Wel, mae'n fy nychryn, a dweud y gwir, oherwydd mae'n pentyrru problemau enfawr am flynyddoedd i ddod: mwy o bwysau ar wasanaethau, mwy o gost i'r GIG, wrth iddynt orfod ymdopi â phroblemau iechyd mwy difrifol sy'n deillio o ddiffyg hylendid y geg a dannedd pwdr. Ac rwyf wedi sôn yma o'r blaen am achos etholwr i mi a dynnodd ei ddannedd ei hun ac a gafodd sepsis yn sgil hynny, a bu bron iddo golli ei fywyd o ganlyniad, ac roedd cost hynny, nid yn unig iddo ef yn bersonol, ond i’r GIG o ran adnoddau wrth gwrs, yn sylweddol iawn.
Nawr, fe allech ddadlau, yn wrthnysig, y gallai'r ffaith bod llai o bobl yn defnyddio gwasanaethau deintyddol y GIG arbed rhywfaint o arian i'r GIG, ond wrth gwrs, gwyddom fod y gost yn fwy hirdymor yn sylweddol. Ond hefyd, mae’r gost honno felly’n cael ei throsglwyddo i deuluoedd sydd wedyn yn gorfod talu am wasanaethau, teuluoedd sy’n aml yn gorfod dod o hyd i oddeutu £600 y flwyddyn ar gyfer teulu o bedwar, ddim ond i gael archwiliadau deintyddol. Os oes angen triniaeth arnoch, mae'n llawer iawn mwy eto—mewn rhai achosion, gall gostio miloedd o bunnoedd i unigolyn. Felly, mae angen dechrau o'r dechrau. Mae angen ailfeddwl. Nawr, mae hyfforddi mwy o ddeintyddion yn hollbwysig i'r ymdrech honno, yn y tymor hwy, i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy ac y gall fod yn gynaliadwy, ond mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar unwaith hefyd, i sicrhau nad yw'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig, yn tyfu i fyny heb wasanaeth deintyddol. A hoffwn glywed y Llywodraeth fan lleiaf yn tanlinellu'r angen i sicrhau bod byrddau iechyd yn fodlon caniatáu i ddeintyddion weithredu contractau GIG i rai o dan 18 oed. Mae’n rhaid imi ddweud ei fod yn destun cryn bryder fod yr opsiwn hwn wedi’i wrthod gan y bwrdd iechyd lleol yn y gogledd, er gwaethaf ceisiadau gan ymarferwyr deintyddol. Felly, mae angen i’r Llywodraeth gefnogi ein galwadau yma am fwy o hyfforddiant yn y gogledd, ond yn fwyaf arbennig, i weithredu’n gyflymach ar y contractau hefyd. Fel arall, bydd record bwdr Llafur ym maes deintyddiaeth yn gwaethygu hyd yn oed ymhellach.
Hoffwn innau gefnogi’r galwadau a wnaed am ysgol ddeintyddiaeth yn y gogledd. Pan ddeuthum yn Aelod o’r Senedd hon gyntaf, 17 mlynedd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn gallu cael archwiliadau gan ddeintydd bob chwe mis, ond bellach, mae gennyf bobl yn llythrennol yn teithio i’r Alban i weld deintydd y GIG ac i leoedd fel Albania, Twrci a rhannau eraill o ddwyrain Ewrop er mwyn cael triniaethau deintyddol. Mae honno’n amlwg yn sefyllfa annerbyniol.
Rwyf wedi gweld llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan y ffaith bod practisau deintyddol wedi tynnu’n ôl o’r GIG yn fy etholaeth i, yn Rhuthun, ym Mae Colwyn, a’r lleoedd eraill, fel Llandudno, a gyhoeddodd newidiadau'n ddiweddar. Mae gennyf etholwyr a oedd yn arfer bod wedi'u cofrestru yn y practis hwnnw ac yn y Rhyl, lle tynnodd un arall yn ôl o ddeintyddiaeth y GIG hefyd. Felly, mae hon yn broblem real, ddifrifol a chynyddol.
Ac yn ychwanegol at hynny, wrth gwrs, dywedir wrth yr unigolion hynny mai eu hunig ffordd o gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yw drwy'r gwasanaeth deintyddol brys, sy'n wasanaeth cenedlaethol, ond sy'n cael ei weithredu gan fyrddau iechyd unigol, ac mae rhai ohonynt yn ei weithredu mewn ffordd wahanol i eraill. Felly, mae annhegwch yn hynny o beth. Rydym eisoes wedi sôn am annhegwch y ffaith bod llai o glinigau deintyddol yn y gogledd yn derbyn cleifion y GIG a hwythau'n ddeintyddion y GIG. Nid yw’n iawn fod pobl yn y gogledd yn wynebu anfantais o ran mynediad, o gymharu â rhannau eraill o’r wlad, ac mae angen datrys hynny. Ond mae'r gwasanaeth deintyddol brys—. A dweud y gwir, mae’r trothwy ar gyfer cael mynediad at y gwasanaethau hynny'n llawer rhy uchel. Nid yw pobl yn gallu cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, ac yn aml iawn, rwy'n ofni eu bod yn cael eu gadael mewn poen ofnadwy heb allu gweld rhywun.
Mae’n rhaid inni gofio hefyd, wrth gwrs, pan oedd gan bobl fynediad at ddeintyddiaeth y GIG, eu bod yn cael eu archwilio am bethau fel canser y geg, ac mae'n debyg y bydd rhai achosion bellach yn mynd heb eu canfod, a tybed, Weinidog, a allwch ddweud wrthym heddiw pa wyliadwriaeth a wneir o achosion o ganser y geg yng Nghymru, a pha mor hwyr y mae’n cael ei ganfod mewn gwirionedd, gan fy mod yn tybio y gwelwn nifer cynyddol o achosion o ganser y geg yn cael eu canfod mewn pobl yn rhy hwyr o lawer, o ganlyniad i'r ffaith na allant gael mynediad at y deintyddion y mae angen iddynt eu gweld.
Hefyd, rwyf am nodi fy mhryderon ynghylch mynediad at driniaeth orthodontig i bobl ifanc. Yn y gogledd, mae gennyf drigolion—pobl ifanc—sydd wedi bod yn aros ers dros 200 wythnos i gael triniaeth orthodontig. Mae hynny bron yn bedair blynedd. A phan fyddwch yn unigolyn ifanc gydag angen orthodontig sy'n effeithio ar eich ymddangosiad corfforol, gall fod yn gwbl ddinistriol i chi'n gymdeithasol, yn yr ysgol neu'r coleg, neu mewn mannau eraill. Ac wrth gwrs, mae'n fwy anodd unioni problem orthodontig os ewch i'r afael â hi'n rhy hwyr, gan fod y dannedd yn parhau i dyfu yn y man anghywir. Felly, mae’n rhaid inni roi trefn ar y pethau hyn. Rydym yn parhau i gael addewidion am bob math o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru a fydd yn datrys pethau. Cyfeiriwyd at y contract newydd, ac roedd y Prif Weinidog yn popian y cyrc siampên am y contract hwnnw heb fod mor bell yn ôl â hynny, pan oedd yn Weinidog iechyd, a’r gwir amdani yw ei fod wedi achosi ecsodus hyd yn oed yn fwy o ddeintyddiaeth y GIG nag o’r blaen. Felly, mae'n gwbl amlwg nad yw'r contract newydd hwnnw'n mynd i gyflawni'r addewidion a wnaed gan Lywodraeth Cymru y byddai mwy o bobl yn gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich annog i edrych ar y mater hwn o'r newydd, i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, i siarad a gwrando ar gleifion am eu profiadau uniongyrchol. Peidiwch â derbyn yn ddi-gwestiwn y sicrwydd sy’n cael ei roi gan fyrddau iechyd, a fydd yn ceisio cyflwyno darlun rhy gadarnhaol o'r sefyllfa yn eu hardal eu hunain, a sicrhewch ein bod yn mynd i’r afael â’r broblem hon unwaith ac am byth, oherwydd, ar hyn o bryd, mae ceisio dod o hyd i ddeintydd y GIG fel chwilio am nodwydd mewn tas wair i ormod o bobl ledled y wlad hon, ac mae’n rhaid i hynny newid.
Dwi'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, a dwi'n croesawu'r cyfle i roi diweddariad am ein gwaith i ddiwygio deintyddiaeth yn yr NHS a gwella mynediad yng ngogledd Cymru, yn dilyn dadl fer ddiweddar yr Aelod dros Arfon. Hoffwn i ddechrau trwy nodi ambell bwynt fel cyd-destun. Fel y gwyddom ni i gyd, gyda'r byrddau iechyd mae'r gyllideb a'r cyfrifoldeb uniongyrchol am ddarparu gwasanaethau o dan yr NHS, ac mae deintyddion, o fewn y system sydd gennym ni, yn gontractwyr annibynnol gyda'r pŵer i ddewis a ydyn nhw am dderbyn gwaith o dan yr NHS ac, os felly, faint. Os bydd practis yn penderfynu lleihau neu ddychwelyd eu contract gyda'r gwasanaeth iechyd, mae hwn bob amser yn siomedig iawn, ond, wrth gwrs, mae'n benderfyniad sy'n agored i bractis ei gymryd. Y pwynt mwyaf sylfaenol, efallai, fel cyd-destun i'r ddadl hon, yw dyw'r cyllid ar gyfer darpariaeth o dan yr NHS ddim yn cael ei golli. Mae modd i aildendro mewn contractau newydd ar gyfer deintyddiaeth i greu capasiti newydd o fewn y gwasanaeth iechyd.
Fel sy'n hysbys i ni i gyd, yn anffodus mae anawsterau sylweddol wedi bod yn y gogledd ers tro o ran darpariaeth ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd. Mae'r rhain, wrth gwrs, wedi cael eu trafod yn helaeth yn y Siambr hon. Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru, gyda rhyw 88 practis a rhyw 230,000 o gyrsiau triniaeth NHS yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni wedi gweld, wrth gwrs, y nifer fwyaf o achosion o ddychwelyd contractau yng Nghymru, fel y mae sawl Aelod wedi sôn yn barod, a hefyd mae oedi wedi bod wrth ailgomisiynu contractau newydd, ac mae hyn yn sicr wedi effeithio ar fynediad at wasanaethau deintyddol. Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod: cafodd £1.5 miliwn ei ddyrannu y llynedd, yn cynnwys sefydlu practis newydd yng Nghei Connah, yn etholaeth Jack Sargeant, ac, ar ben hynny, bydd £5 miliwn yn cael ei ddyrannu eleni, yn cynnwys ar gyfer orthodontics, i ateb pwynt Darren Millar. Gyda'i gilydd, bydd hyn yn helpu i wella mynediad at ddeintyddiaeth o dan yr NHS. Byddwn ni'n parhau i gymryd camau i fynd i'r afael â hyn.
Ers Ebrill 2022, fel mae Aelodau wedi sôn, rydyn ni wedi cynnig amrywiad contract i holl ddeintyddion y gwasanaeth iechyd. Mae'r mwyafrif helaeth o'r practïsau wedi dewis gweithredu o dan hyn. Mewn ateb i Sam Rowlands, mae'n cynnwys cymhellion i ddarparu triniaeth ataliol ac addysg i gleifion, ond mae hefyd yn cynnwys cyllid i wella mynediad ar gyfer cleifion newydd.
Mewn ateb i Carolyn Thomas, mae dros 80,000 o gleifion newydd yn y gogledd wedi cael cwrs llawn o driniaeth ddeintyddol o dan yr NHS ers 2022, a 25,000 o gleifion newydd eraill wedi cael triniaeth frys ers 2023. Ond, fel dwi'n credu y soniodd Siân Gwenllian, dyw hyn ddim yn ateb parhaol i wella mynediad.
Y cyfle allweddol, rwy'n credu, fydd y contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd, y cyfeiriodd nifer o Aelodau ato, contract yr ymrwymais yn llwyr i'w gyflawni.
Ac i ateb Janet Finch-Saunders rwy'n credu, am y 18 mis diwethaf mae swyddogion wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau dwys iawn i gyflawni'r hyn a fydd yn fodel newydd o ddeintyddiaeth y GIG, sy'n ddeniadol i ddeintyddion ar y naill law ac yn deg i gleifion ar y llaw arall. Mae wedi bod yn her gymhleth i lunio model un maint i bawb ar gyfer Cymru. Rydym eisiau model sy'n cefnogi practis lle bynnag y bo neu beth bynnag yw lefel angen ei gleifion, ac yn hollbwysig, yn enwedig yng nghyd-destun y ddadl heddiw, un sy'n sicrhau mynediad teg, yn enwedig i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Ac rwy'n mawr obeithio y gellir cwblhau'r negodiadau hynny'n gyflym.
Mae'r Aelodau sy'n cynnig y ddadl heddiw wedi dadlau bod adrannau brys lleol yn wynebu pwysau ychwanegol oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion. Nid yw hynny'n cyd-fynd â'r hyn y mae'r data'n ei ddweud wrthym. Mae sesiynau mynediad brys ar gael bob diwrnod o'r wythnos ac maent wedi'u lleoli mewn gwahanol bractisau ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr—22 practis deintyddol ar draws gogledd Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwy'n derbyn bod apwyntiadau ar gael. Y pwynt a wneuthum oedd bod y trothwy i allu cael yr apwyntiadau hynny'n llawer rhy uchel, ac mae hynny'n golygu bod llawer gormod o bobl yn methu cael mynediad at y gofal deintyddol brys—yr hyn y credaf i a hwythau a phobl eraill ei fod yn ofal brys—ar brydiau.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Aelod am hynny. Fe wnaf barhau â fy mhwynt, a fydd, gobeithio, yn mynd i'r afael â rhai o'i bryderon penodol. Mae 22 o bractisau deintyddol ar draws gogledd Cymru sy'n darparu 220 o apwyntiadau brys yn wythnosol, ac mae hynny'n darparu gofal brys i dros 900 o gleifion bob mis, a'n dealltwriaeth ni o angen lleol yw bod hynny'n cyflawni'n dda yn erbyn mesurau o angen lleol.
Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, gyda'n gilydd, yw codi dealltwriaeth y cyhoedd o sut i gael mynediad at y cyfleusterau sydd ar gael. Er enghraifft, mae'n ofynnol i ymarferwyr deintyddol cyffredinol ddarparu mynediad at driniaeth frys i'w cleifion rheolaidd o fewn oriau arferol y ddeintyddfa. Mae mynediad at driniaeth frys y tu allan i oriau'r ddeintyddfa, neu i bobl nad oes ganddynt ddeintydd rheolaidd y GIG, yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth deintyddol brys, y cyfeiriwyd ato eisoes, ac sydd ar gael trwy ffonio 111.
Ddirprwy Lywydd, clywsom heddiw gan Siân Gwenllian pam y mae hi'n credu bod angen ail ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai ail gyfleuster i gynyddu nifer yr israddedigion deintyddol, therapyddion deintyddol, hylenwyr deintyddol, a gwella'r gweithlu deintyddol yng Nghymru yn arwain at fanteision clinigol, a buddion economaidd hefyd, yn yr un ffordd yn union ag y mae'r adroddiad 'Llenwi'r Bylchau' yn ei nodi.
Er ein bod wedi gweld hwb i'w groesawu i'r gyllideb iechyd yn 2025-26, yn enwedig i gyfalaf, byddai ehangu adnoddau i gynyddu addysg a hyfforddiant aelodau'r tîm deintyddol fel hyn yn amlwg yn galw am fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r pwysau parhaus ar y gyllideb iechyd yn golygu nad yw'n bosibl ariannu prosiect o'r math hwn ar hyn o bryd. Ond gadewch inni beidio â rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle gallai datblygiadau yn y dyfodol gael eu gohirio'n ddiangen os bydd y sefyllfa ariannol yn newid. Rwy'n annog prifysgolion Bangor ac Aberystwyth i gydweithio i ddatblygu cynnig gyda'u byrddau iechyd i'w ystyried yn y dyfodol, ac rydym wedi rhoi adborth iddynt ar gynnig y maent wedi'i wneud i ni ynghylch sut y gellid cryfhau hynny a sut y gallai hynny gyd-fynd â'r broses gyllido sydd gennym. Os arhoswn i gyllid fod ar gael cyn inni ddechrau datblygu cynllun, rwy'n ymwybodol iawn y gallem fod mewn perygl o gael ein dal ar y droed ôl. Y sefyllfa orau i fod ynddi pan ddaw cyllid ar gael yw bod gennym gynnig cadarn eisoes y gallem ei ddatblygu'n gyflym ar y pwynt hwnnw pan ddaw cyfle, fel y mae pob un ohonom yn gobeithio'i weld, rwy'n siŵr.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gynyddu hyfforddiant ar gyfer y tîm deintyddol ehangach yng ngogledd Cymru. Fe wnaethom ariannu sefydlu'r cymhwyster hylendid deintyddol y cyfeiriodd yr Aelod ato. Mae datblygu cwrs trosi i therapi deintyddol ym Mangor wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n graddio o'r rhaglen hylendid deintyddol i gyflawni blwyddyn arall o astudio i ennill y cymhwyster therapi uwch. Y llynedd, fel y gŵyr yr Aelodau, datblygodd Gwella Addysg Iechyd Cymru y cynnig recriwtio estynedig, sy'n darparu pecyn cymorth gwell i fyfyrwyr gwblhau eu hyfforddiant yng ngorllewin Cymru, gogledd Cymru, ac yng nghanolbarth Cymru hefyd. Cafodd hwn ei ymestyn yn ddiweddar.
Ddirprwy Lywydd, wrth orffen, mae llawer o waith i'w wneud o hyd ar wella mynediad. Rydym wedi rhoi cyfres o gamau ar waith, ac mae angen inni fynd ymhellach nawr er mwyn cyflawni mwy o gynnydd. Rwy'n ddiolchgar am y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a'r proffesiwn wrth inni weithio ar y contract newydd, a fydd, rwy'n siŵr, yn sicrhau newid go iawn i'r proffesiwn ac i gleifion.
Ac yn olaf, Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Dwi’n meddwl ei bod hi wedi bod yn ddadl bositif iawn, yn cydnabod yr heriau, ond yn cynnig datrysiadau hefyd, felly mae hynny’n beth da iawn. Roedd Carolyn yn cychwyn gan gyfeirio at gost gynyddol triniaeth ddeintyddol a hefyd at y gwaith sydd yn datblygu yn yr academi ddeintyddol ym Mangor, sydd yn gosod seiliau da iawn, wrth gwrs, ar gyfer creu ysgol ddeintyddol.
Sam, wnaf i eich sicrhau chi y byddaf i yn parhau. Dwi yn berson reit benderfynol pan fo hi’n dod i geisio gwella materion ar gyfer fy etholwyr, ac a gaf i annog pawb i rannu’r ddeiseb sydd wedi cael ei chreu ar y pwnc yma? Dwi hefyd yn trefnu digwyddiad yn y Senedd o fewn ychydig wythnosau i ni unwaith eto wyntyllu rhinweddau sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor.
Roedd Mabon ap Gwynfor yn ein hatgoffa ni fod Plaid Cymru, wrth gwrs, yn ganolog i’r ymdrech i sefydlu’r ysgol feddygol ym Mangor, er bod hynna weithiau yn cael ei anghofio gan y Llywodraeth, ac y gallai sefydlu ysgol ddeintyddol ddod â manteision tebyg. Soniodd o hefyd am fanteision creu Bangor fel canolfan hyfforddiant cyffredinol ar gyfer iechyd, ac y byddai Gwynedd a gweddill Cymru yn elwa o hynny.
Roedd Janet yn sôn am ba mor amhosib ydy cael apwyntiad a thriniaeth ddeintyddol yng Nghonwy, a sôn am blant yn dioddef, a dwi’n diolch iddi hi am y gefnogaeth mae hi a’i phlaid yn ei dangos ar y pwnc yma.
Roedd Rhun ap Iorwerth yn ein hatgoffa ni am y tair haen sydd wedi datblygu o ran gwasanaethau deintyddol, efo’r tlotaf a phlant yn dioddef gwaethaf, a bod yna sawl datrysiad mewn gwirionedd a bod eisiau mynd i’r afael efo sawl mater, ond bod cael digon o ddeintyddion yn bwysig. Ac roedd yn adrodd pa mor gyffrous oedd clywed bod yna gymaint o gefnogaeth yn y gymuned iechyd a’r gymuned addysg uwch yn y gogledd-orllewin tuag at y syniad yma, tuag at sefydlu ysgol ddeintyddol, ac yn galw ar y Llywodraeth i beidio ag oedi ar y gwaith.
Roedd Llyr yn sôn am y peryg o ddeintyddiaeth NHS yn diflannu yn llwyr ac yn adrodd am ddwy ddeintyddfa yn cau a phroblemau diffyg data hefyd, fel nad ydym ni wir yn gwybod faint o bobl sydd yn cael triniaeth breifat, faint sydd yn cael triniaeth NHS, a faint sydd ddim yn cael triniaeth o gwbl. Felly, heb y data yna mae hi’n anodd cynllunio.
Roedd Darren Millar yn sôn am bobl yn mynd i ddwyrain Ewrop i gael triniaeth. Mae hynna’n arwydd clir o’r argyfwng yn tyfu, onid ydy, a phroblemau’r gwasanaeth brys hefyd. Dwi’n cyd-fynd efo fo ar y materion yna ac ar orthoddeintyddiaeth. Mae gen i achosion tebyg o bobl yn aros llawer iawn rhy hir, pobl ifanc yn aros lot rhy hir i gael gweld orthodeintydd yn y lle cyntaf, ac wedyn i gael triniaeth i symud pethau ymlaen.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am fod yn weddol bositif hefyd. Roeddech chi yn cydnabod y problemau yn y gogledd ac mae'n dda gweld Llywodraeth yn cydnabod problemau. Rydych chi'n sôn am bractisys yn cau ac oedi efo ailgyflwyno contractau—rydych chi'n cydnabod hynny. Rydych chi hefyd yn cydnabod yr angen am atebion parhaol i wella deintyddiaeth yn y gogledd, a dwi'n cymryd cysur o'r ffaith eich bod chi'n cefnogi ail gyfleuster hyfforddi deintyddol, bod angen ail gyfleuster hyfforddi deintyddion yng Nghymru, a'ch bod chi wedi cael eich argyhoeddi o'r achos dros Fangor fel lleoliad ar gyfer hynny, ar y cyd efallai efo Aberystwyth. Dwi hefyd yn annog Prifysgol Bangor i ddatblygu'r cynigion ymhellach rŵan. Rydych chi wedi rhoi arwydd clir bod angen iddyn nhw fod yn gwneud hynny, felly dwi'n llwyr gefnogol i hynny. Ond fy mhle mwyaf i ydy bod angen hyn rŵan; fedrwn ni ddim fforddio aros. Mae'n cymryd blynyddoedd i hyfforddi deintyddion, ond mae'r argyfwng rŵan. Rydyn ni'n sôn am gynllun sydd efallai ddim yn mynd i ddwyn ffrwyth am rai blynyddoedd eto, ac felly mae oedi a pheidio buddsoddi'n syth yn mynd i olygu bod y pendraw yna rydyn ni'n deisyfu ei weld yn mynd yn bellach i ffwrdd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 6, y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Siân Gwenllian. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, roedd 29 yn ymatal a neb yn erbyn, felly'r mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar yr hawl i dai digonol: O blaid: 18, Yn erbyn: 0, Ymatal: 29
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Carolyn Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, roedd 15 yn ymatal a neb yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar gipio anifeiliaid anwes: O blaid: 31, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r bleidlais olaf heddiw ar eitem 8, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 17 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor: O blaid: 29, Yn erbyn: 0, Ymatal: 17
Derbyniwyd y cynnig
Os oes Aelodau'n gadael y Siambr nawr, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer. Galwaf ar Vaughan Gething i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ceir consensws trawsbleidiol fod diwygio cyfraith lesddaliad yn faes y mae'n hen bryd rhoi sylw iddo. Yn ddealladwy, mae llawer o adroddiadau cyhoeddus am lesddaliadau wedi canolbwyntio ar ddiogelwch tân, ansawdd adeiladu gwael, cost cyweirio a phryderon real iawn trigolion sy'n gaeth mewn eiddo anodd i'w werthu. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â chodi materion ehangach diwygio cyfraith lesddaliad, sy'n tarddu o system ffiwdal ond sy'n dal yn real iawn heddiw.
Yn wir, bydd gan bob Aelod, nid y Gweinidog yn unig, boed yn y Siambr ai peidio, lesddeiliaid yn eu hetholaethau, a gwelwyd cynnydd sylweddol mewn eiddo lesddaliadol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Rwyf am gydnabod y gwnaed rhywfaint o gynnydd yn nhymor senedd flaenorol y DU—er enghraifft, gwahardd rhent tir newydd mewn lesddaliadau newydd ledled Cymru a Lloegr.
Fodd bynnag, mae eiddo lesddaliadol newydd yn dal i gael ei greu, ac mae grwpiau mawr o drigolion Cymru, gan gynnwys llawer o fy etholwyr fy hun, yn ddarostyngedig i lesddaliad ar bob un o'i ffurfiau, cyn y diwygio, a'r anhegwch real y mae'n eu creu. Rwyf am sôn yn gryno am faterion rhent tir, rhyddfreinio, yr hawl i reoli, gan gynnwys taliadau gwasanaeth sy'n deillio o hynny, a chyfunddaliad fel dewis arall hyfyw yn lle lesddaliad.
I'r rhai ohonoch nad ydych yn gwybod, mae rhent tir yn dal i fod yn broblem wirioneddol i lawer o lesddeiliaid. Mae lesddaliadau hir—rhai sy'n fwy na 21 o flynyddoedd fel arfer—yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i lesddeiliad dalu rhent tir blynyddol, nad oes rhaid i'r landlord ddarparu gwasanaeth clir yn gyfnewid amdano, nac unrhyw wasanaeth o gwbl yn wir. I bob pwrpas, mae'n fodd i landlord diegwyddor gael arian gan lesddeiliaid heb fawr o hawl weithredol i herio neu wrthwynebu'r galwadau am daliadau uwch. Er na ddylai lesddeiliaid newydd dalu dim sy'n fwy na rhent hedyn pupur, mae lesddeiliaid presennol ers cyn 30 Mehefin 2022 yn dal i fod yn ddarostyngedig i renti tir sy'n gallu cynyddu, ac sydd yn cynyddu.
Rhyddfreinio yw'r broses a ddylai alluogi lesddeiliaid i brynu eu lesddaliad gan y rhydd-ddeiliad. Fodd bynnag, nid yw hon yn broses hawdd i berchennog y cartref. Mae gennyf enghraifft o ba mor anodd yw hyn yn fy etholaeth i, yn Hayes Point. Er bod grŵp o breswylwyr trefnus, galluog gydag arian digonol wedi llwyddo i sicrhau hawl weithredol i reoli, nid yw'r lesddeiliaid wedi gallu prynu eu heiddo a'u hystad. Unwaith eto, mae'r annhegwch yn amlwg. Mae angen i lesddeiliaid penderfynol allu rhoi amser, arian ac ymrwymiad, tra bo'r fantais i gyd gan y rhydd-ddeiliad.
Yr hawl i reoli oedd fy ymgysylltiad cyntaf ag annhegwch ymarferol lesddaliadau. Yn ddamcaniaethol, gall lesddeiliaid ddewis rheoli'r ystadau y maent yn byw arnynt, yn lle'r cwmni rheoli ystadau presennol. Ond yn ymarferol, mae'n llawer rhy anodd iddynt wneud hynny. Mae hyn yn aml wedi ei gymhlethu gan ystadau deiliadaeth gymysg sy'n cynnwys cartrefi rhydd-ddaliadol a lesddaliadol.
Mae hefyd yn bosibl rhwystro hyn trwy beidio â chwblhau'r ystad. Unwaith eto, mae gennyf fwy nag un enghraifft yn fy etholaeth o lefydd nad yw datblygiad lesddaliadol mawr wedi'i gwblhau. Mae hynny, felly, yn golygu nad yw'r hawl i hunanreolaeth yn dod yn weithredol hyd nes y caiff yr ystad ei chwblhau. Mae hynny'n golygu, fodd bynnag, fod y cwmni rheoli ystadau yn aros yn ei le, heb unrhyw ateb effeithiol na chyfle i lesddeiliaid gymryd eu lle. O'r herwydd, mae nifer o lesddeiliaid yn gaeth, a cheir diffyg tryloywder o hyd ynghylch y ffioedd a godir gan nifer o gwmnïau rheoli, mynediad at y wybodaeth honno, a sut, yn ymarferol, y gall pobl arfer yr hawliau sydd ganddynt, yn ddamcaniaethol, eisoes.
Mae newid i gwmni hawl i reoli, unwaith eto, yn galw am arian, amser, dyfalbarhad a pharodrwydd i dderbyn risg. Yn aml mae'n anodd cael gafael ar fanylion lesddeiliaid, yn enwedig pan gaiff eiddo ei brynu fel buddsoddiad gan landlord absennol, i ddangos lefel y cymorth sydd ei angen, ac os byddwch yn aflwyddiannus yn eich cais i fynd ar drywydd yr hawl i reoli, gallech orfod talu costau cyfreithiol y rhydd-ddeiliad hefyd. Mae'n risg fawr i lawer o bobl ei hysgwyddo. Ni ddylai fod yn syndod felly fod llawer o bobl yn rhoi'r gorau iddi cyn cyrraedd pen eu taith.
Mae'r cysylltiadau rhwng datblygwyr, rhydd-ddeiliaid, rheolwyr ystadau, ac yn wir, comisiwn gan yswirwyr adeiladau yn gwynion rheolaidd a gaf gan lesddeiliaid yn fy etholaeth. Nid yw bob amser yn glir pa dâl gwasanaeth sy'n cael ei godi neu, yn enwedig, pam ei fod wedi cynyddu. Yr her yw na allwch chi ddweud, 'Nid wyf yn hoffi fy nghostau gwasanaeth', oherwydd os na fyddwch chi'n talu'r tâl gwasanaeth y gofynnir amdano, os caiff ei roi i chi ar ffurf briodol, gallwch wynebu fforffediad. Gallwch golli eich cartref a'i weld yn cael ei ddychwelyd i'r rhydd-ddeiliad. Mae'n fygythiad go iawn sy'n hongian dros lesddeiliaid, sy'n aml yn talu yn y pen draw yn hytrach na herio'r taliadau a fynnir ganddynt.
Dylai cyfunddaliad fod yn ddewis amgen hyfyw yn lle lesddaliad. Mae'n ddewis arall yn lle'r system lesddaliad hir, a dylai ganiatáu i chi fod yn berchen ar rydd-ddaliad fflatiau unigol, tai, mewn adeilad neu ar ystad. Yn wahanol i lesddaliad, nid oes cyfyngiad ar ba mor hir y gallwch chi fod yn berchen ar yr eiddo. Mae gweddill yr adeilad neu'r ystad sy'n ffurfio cyfunddaliad yn eiddo i ac yn cael ei reoli ar y cyd â pherchnogion y cartrefi, y cyfeirir atynt mewn cyfunddaliad fel deiliaid uned. Ceir cymdeithas gyfunddaliadol i helpu i'w reoli, gyda threfniadau llywodraethu ar ei gyfer. Mae'r math hwn o ranberchnogaeth yn gyffredin mewn ystod o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys Denmarc, lle mae fy mrawd yn byw, ac mae wedi cymryd rhan yn rheolaidd yn y math hwn o reolaeth ar eiddo, gyda'r rheolaeth, ond hefyd y cyfrifoldebau, sydd gan lesddeiliaid gweithredol yn yr amgylchiadau hynny.
Byddech yn disgwyl i mi fel Aelod o'r Blaid Gydweithredol groesawu'r posibilrwydd o ddiwygio yn y maes hwn. Fodd bynnag, ers i gyfunddaliad gael ei gyflwyno yn 2002, dim ond rhai dwsinau o ystadau ledled Cymru a Lloegr sydd wedi trosi i'r math hwn o berchnogaeth. Mae'n ddiwygiad sydd ar y llyfr statud ond nad oes modd ei gyflawni'n ymarferol i lawer gormod o lesddeiliaid. Mae'r diwygiadau yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cael eu cyflwyno eleni yn Lloegr, gyda Bil diwygio cyfraith lesddaliad a chyfunddaliad newydd i ddod yn ail hanner 2025. Ei nod yw darparu system gyfunddaliadol weithredol addas i'r diben i gymryd lle lesddaliad. Yr her i ni yng Nghymru yw bod llawer o'r diwygiadau hyn yn mynd drwy Senedd y DU, ac mae gennym raglen ddeddfwriaethol lawn yma heb le i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor hwn. Felly, mae gennym ddewisiadau pragmataidd i'w gwneud ynglŷn ag a allwn fanteisio ar ffenestr ddeddfwriaethol yn Senedd y DU ar gyfer cyflwyno diwygiadau yn gyflym yng Nghymru, neu a oes gennym le, amser ac ymrwymiad ar gyfer deddfwriaeth ddiwygio cyfraith lesddaliad ehangach yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod gennym.
Nid wyf o blaid Bil diwygio cyfraith lesddaliad ysgubol i Gymru, naill ai yn y Senedd hon na Senedd yn y dyfodol. Mae'r gallu deddfwriaethol i wneud hynny yn y Llywodraeth, a sicrhau craffu effeithiol yn y Senedd hon, yn heriol iawn. Ond gallem becynnu darnau llai o ddiwygiadau i gyfraith lesddaliad. Mae hynny'n amlwg yn golygu risg o ddiffyg cydlyniad. Fy newis i yw manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi cyn 2026 a sicrhau nad yw hawliau lesddeiliaid yng Nghymru yn llusgo ar ôl y diwygiadau sy'n digwydd yn Lloegr. Rwyf am wneud yn glir, serch hynny, nad wyf o blaid tocio'r setliad datganoli—dim o gwbl. Rwyf am weld pwerau a chyfrifoldebau i Weinidogion Cymru, gyda chyfrifoldebau craffu o fewn y Senedd hon i'w cynnwys o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol gyfredol sy'n cael ei chynnig ar gyfer Senedd y DU. Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner ei holi ar hyn mewn pwyllgor dethol ddoe a chadarnhaodd ei hymrwymiad i weld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn 2025.
Yn ystod y Senedd hon, gwn fod Aelodau Plaid Cymru o'r farn na ddylai'r Senedd gydsynio i ddeddfu gan Senedd y DU mewn meysydd datganoledig, hyd yn oed mewn achosion lle rydym yn cytuno â'r polisi, neu'n wir, fod unrhyw bwerau newydd o ddeddfwriaeth y DU yn dod i Weinidogion Cymru. Yn bersonol, nid wyf yn cefnogi'r agwedd honno. Nid wyf yn credu y gallwn gyfiawnhau dweud wrth lesddeiliaid Cymru nad ydym am gael pŵer i ddiwygio cyfraith lesddaliad yng Nghymru pan allai fod ar gael yn nhymor y Senedd hon, a bod angen iddynt aros sawl blwyddyn o bosibl am ateb. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd iawn i'r Senedd hon arfer ei chyfrifoldebau. Mae angen inni wneud gwahaniaeth ymarferol i'r bobl y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt ac iddynt.
Yr hyn yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet ei nodi yn ei hymateb yw: beth yw'r rhaglen ddiwygio cyfraith lesddaliad ar gyfer Cymru? Pryd y gallwn ddisgwyl i ddiwygio cyfraith lesddaliad ddigwydd yng Nghymru i fynd i'r afael ag anghyfiawnderau amlwg y system bresennol, a amlinellwyd gennyf? A yw hi'n trafod cynnydd deddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU gyda'r bwriad o sicrhau pwerau i Weinidogion Cymru? Ac a yw hi'n rhagweld y bydd deddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad yng Nghymru yn cael ei chyflwyno i Senedd yn y dyfodol? Rwy'n derbyn efallai na fydd hi'n gallu mynd i'r afael â'r holl bwyntiau hyn heddiw, ac os na all wneud hynny, buaswn yn hapus i gyfarfod â hi i drafod a deall y cynigion ar gyfer newid a diwygio yn y dyfodol, oherwydd mae ein hetholwyr angen i'r diwygio hwnnw ddigwydd. Edrychaf ymlaen at ei hymateb.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i ymateb i'r ddadl. Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Vaughan Gething am godi'r mater pwysig hwn heddiw. Rwy'n cytuno'n fawr â Vaughan fod yr achos dros ddiwygio cyfraith lesddaliad yn gymhellol. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi clywed gan ein hetholwyr am y problemau y maent yn eu hwynebu gydag eiddo lesddaliadol. Mae materion o'r fath yn cynnwys taliadau gwasanaeth gormodol ac aneglur, rhenti tir uchel a chynyddol, anhawster i arfer hawliau statudol i ymestyn y lesddaliad neu brynu'r rhydd-ddaliad, ac anhawster i herio arferion gwael gan rydd-ddeiliad rhag gorfod talu costau cyfreithiol y rhydd-ddeiliad, hyd yn oed pan fydd y lesddeiliad yn ennill ei achos. Dyma rai yn unig o'r problemau a fydd yn gyfarwydd i lawer ohonom, ac sydd wedi ysgogi galwadau am ddiwygio a'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.
Felly, mae diwygio cyfraith lesddaliad yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, fel y mae'r ffaith iddo gael ei gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu yn ei ddangos. Rydym wedi dewis gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ar y maes diwygio pwysig hwn. Mae dull gweithredu ar sail Cymru a Lloegr eisoes wedi gwella hawliau lesddeiliaid yn dilyn pasio Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 a Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn ddiweddar. Mae Deddf 2022 yn cyfyngu rhent tir ar gyfer y rhan fwyaf o lesddaliadau newydd i ddim mwy na rhent hedyn pupur. Roedd Deddf 2024 yn darparu gwelliannau mawr eu hangen i'r gyfraith i berchnogion cartrefi yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn eang iawn, felly ni allaf ymdrin â'r holl newidiadau yma, ond fe amlinellaf rai o'r prif ddarpariaethau.
Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu'r tymor ymestyn lesddaliad safonol ar gyfer tai a fflatiau i 990 o flynyddoedd, gyda rhent tir yn gostwng i fod yn rhent hedyn pupur, gan roi llawer mwy o sicrwydd a diogelwch i lesddeiliaid; dileu'r 'gwerth priodas' fel y'i gelwir a ddefnyddir i gyfrifo'r premiwm sy'n daladwy i ymestyn neu brynu les, gan ei gwneud yn haws ac yn rhatach i'r rhai sydd am ymestyn eu les; cynyddu'r terfyn amhreswyl i 50 y cant, sef yr hyn sy'n berthnasol i eiddo defnydd cymysg lle mae lesddeiliaid yn dymuno prynu eu rhydd-ddaliad neu gymryd rheolaeth ar eu hadeiladau, gan ddileu rhwystrau diangen i'r hawliau pwysig hyn; gwahardd y defnydd o lesddaliad ar gyfer y rhan fwyaf o dai newydd; gwella tryloywder taliadau gwasanaeth lesddeiliaid fel bod lesddeiliaid yn cael y manylion sydd eu hangen arnynt i ddeall newidiadau ac ystyried a ddylid herio eu rhesymoldeb; cael ffioedd gweinyddu tryloyw a theg yn lle comisiwn yswiriant adeiladau ar gyfer asiantau rheoli a landlordiaid; dileu'r rhagdybiaeth fod yn rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol i'w landlord pan fyddant yn herio arferion gwael, gan rymuso lesddeiliaid i herio heb ofni wynebu costau drud, pa un a ydynt yn ennill ai peidio; pennu uchafswm ffi ac amser ar gyfer darparu gwybodaeth sy'n ofynnol i gefnogi gwerthiant eiddo lesddaliadol neu eiddo rhydd-ddaliadol yn amodol ar daliadau rheoli ystadau, gan wneud gwerthiant eiddo o'r fath yn gyflymach i'w gyflawni; a rhoi hawl fawr ei hangen i berchnogion cartrefi rhydd-ddaliadol ar ystadau deiliadaeth gymysg preifat i iawndal.
Gallaf sicrhau Vaughan Gething a'r Aelodau yma heddiw ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu'r Ddeddf. Mae hyn yn dibynnu ar hynt rhaglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth, gan Weinidogion Cymru yma yn y Senedd a chan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Senedd y DU.
Ym mis Rhagfyr roeddwn yn falch o gyhoeddi lansiad ein hymgynghoriad cyntaf ar y cyd, a fydd yn helpu i bennu ein dull o weithredu'r gwaharddiad ar gomisiynau yswiriant. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y dylid diffinio'r taliad yswiriant a ganiateir tecach a mwy tryloyw newydd a gyflwynwyd yn y Ddeddf. Bydd cynnal yr ymgynghoriad ar y cyd yn creu mantais i mi o gronfa ehangach o wybodaeth a phrofiad am y sector wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen, a pha ddarpariaeth i'w gwneud i Gymru.
Mae fy swyddogion yn ymgysylltu â chymheiriaid y DU i ddeall a oes cyfleoedd pellach i gydweithio ar ymgynghoriadau i lywio'r is-ddeddfwriaeth y mae angen i Weinidogion Cymru ei llunio cyn y gellir rhoi'r Ddeddf mewn grym, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd hwn.
Rydym hefyd yn awyddus i barhau â'r trefniant gweithio agos gyda Llywodraeth y DU drwy fod yn rhan o ddatblygu'r Bil diwygio cyfraith lesddaliad a chyfunddaliad drafft sydd ar y ffordd. Cyhoeddwyd y Bil hwn yn Araith y Brenin yr haf diwethaf ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn ail hanner y flwyddyn hon. Ei nod yw adeiladu ar waith Deddf 2024 drwy weithredu mwy o'r diwygiadau i ryddfreiniad lesddeiliaid a'r hawl i reoli, a argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith. Bydd y Bil hefyd yn gweithredu newidiadau mawr eu hangen i gyfunddaliad er mwyn sicrhau ei fod yn dod yn ddewis amgen hyfyw yn lle lesddaliad, fel y bwriadwyd iddo fod. Yn ogystal, bydd yn gwneud gwelliannau pellach i lesddeiliaid presennol drwy ddiwygio system annheg fforffediad lesddaliadol a thrwy gyfyngu ar renti tir mewn lesddaliadau sy'n bodoli'n barod. Credaf y bydd y newidiadau hyn o fudd pellach sylweddol i berchnogion cartrefi yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl.
A gallaf sicrhau'r Aelodau mai fy mwriad yw parhau i weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn y DU ar y gwaith pwysig hwn. Er mai ein barn arweiniol yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd, mae ein hegwyddorion newydd ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig yn cydnabod y bydd sefyllfaoedd lle gallai fod yn well cydweithio i gynnwys Cymru yn neddfwriaeth seneddol y DU. Wrth gwrs, dylai deddfwriaeth o'r fath fod yn ddarostyngedig i gydsyniad y Senedd bob amser. Amlinellodd fy rhagflaenydd sawl budd o'r dull hwn o weithredu mewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd yn ystod taith Deddf 2024. Mae'r dadleuon dros weithio ar y cyd ar ddiwygio cyfraith lesddaliad yn parhau'n gryf. Mae'r gyfraith sy'n sail i lesddaliad yn gymhleth ac yn heriol i berchnogion cartrefi cyffredin allu ei llywio'n effeithiol, felly bydd gweithio gyda'n gilydd ar gorff cyffredin o gyfraith ddiwygiedig yn lleihau cymhlethdod, yn sicrhau'r eglurder a'r cydlyniad mwyaf, ac yn sicrhau bod y system decach a diwygiedig newydd yn berthnasol i bawb. Rwyf wedi trafod fy niddordeb yn y maes hwn gyda Gweinidog tai y DU, Matthew Pennycock AS, a Gweinidog tai Tŷ'r Arglwyddi y DU, y Farwnes Taylor o Stevenage, ac rwy'n falch o ddweud eu bod yn rhannu awydd i gydweithio ar yr agenda hon.
Heddiw, clywsom gan y prif siaradwr am ystod o anawsterau y mae lesddeiliaid yng Nghymru yn eu hwynebu, ac rwyf wedi nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd ar hyn o bryd i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn, megis mwy o dryloywder ynghylch taliadau, gwneud rhyddfreinio'n haws a gwahardd defnyddio lesddaliad ar gyfer y rhan fwyaf o dai newydd. Ac rwy'n credu bod y rhain yn newidiadau cadarnhaol i berchnogion cartrefi yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod bod safonau ymddygiad cwmnïau rheoli eiddo yn fater o bryder arbennig, ac mae hyn yn rhywbeth y buaswn yn awyddus i'w ystyried ymhellach. Cyfarfûm ag asiantau rheoli ym mis Tachwedd ac yn y cyfarfod hwnnw fe bwysleisiais pa mor bwysig yw sicrhau bod pob asiant rheoli yn gweithredu yn gwbl dryloyw, ac er budd trigolion a lesddeiliaid.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn heddiw, a byddaf yn hapus iawn i'w gyfarfod i drafod hyn ymhellach a chynnydd pellach hyn o ran y Llywodraeth a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a diolch i Vaughan Gething am bwnc pwysig iawn.
Pwnc pwysig iawn.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:34.