Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/10/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor.

Datblygu Gofodol

1. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o ba un ai ydi'r cyngor sydd yn cael ei roi i awdurdodau cynllunio ynghylch datblygu gofodol yn addas i bwrpas? OQ61752

Mae'r llawlyfr cynlluniau datblygu yn rhoi cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n seiliedig ar arferion gorau ac yn nodi'r materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl mabwysiedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Wel, ges i'r fraint o fynd o amgylch Pwllheli yn ddiweddar iawn efo Katalina Harper. Mae Katalina Harper yn gaeth i gadair olwyn ac, felly, mae'n anodd iawn iddi hi deithio o amgylch y dref, neu yn wir unrhyw dref. Wrth iddi fynd o amgylch corneli weithiau, oherwydd natur y palmant, mae'r gadair olwyn yn tipio drosodd, neu mae'r palmentydd yn mynd yn gul iawn, sy'n golygu ei bod hi'n methu â chyrraedd gwasanaethau hanfodol, yn methu â mynd i siopa, ac weithiau, pan fydd hi eisiau mynd ar fws, dydy'r palmentydd ddim wedi cael eu codi i'r lefel i gyrraedd mynediad y bws yna—a llwyth o broblemau eraill.

Un enghraifft yn unig ydy Katalina Harper ym Mhwllheli; mae hyn yn wir am fywyd sawl person efo anabledd neu drafferth symudedd mewn cymunedau ar draws Cymru. Felly, mae'n rhaid inni edrych i sicrhau wrth gynllunio gofodol wrth ddatblygu cynlluniau trefol eu bod nhw'n addas ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn neu efo trafferth symudedd. Felly, pa gynlluniau ydych chi am eu rhoi ar y gweill i sicrhau bod llywodraethau lleol yn mynd i gymryd i ystyriaeth anghenion pobl fel Katalina wrth ddatblygu cynlluniau trefol?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn y prynhawn yma ac am dynnu sylw at bwysigrwydd creu lleoedd mewn perthynas â chanol ein trefi a'n dinasoedd. Ac mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflawni ar y cyd ac yn unol â'n polisïau cynllunio sy'n hyrwyddo hynny. Ond yn yr un modd, mae gennym drefi a phentrefi sy'n ganrifoedd oed, nad ydynt o reidrwydd wedi dal i fyny â'r math o newid yr hoffem ei weld o ran hygyrchedd.

Felly, credaf fod y gwaith y dylai llywodraeth leol fod yn ei wneud yn ymgysylltu â grwpiau cynrychiadol a phobl anabl eu hunain yn wirioneddol bwysig er mwyn nodi’r rhannau penodol o fewn y gymuned y mae angen mynd i’r afael â hwy drwy fuddsoddi neu, yn aml, gwneud rhywfaint o newidiadau cymharol syml. A chredaf y byddai rhai o'r fforymau pobl anabl sydd gan awdurdodau lleol yn lleoedd perffaith i gael y trafodaethau ynglŷn â nodi pethau cymharol syml, yn aml, yn y gymuned a allai newid ond a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn.

Hoffwn wybod i ba raddau y mae cynllunio gofodol wedi helpu neu lesteirio adeiladu tai yn gyffredinol ers i’r cynllun gofodol gwreiddiol gael ei fabwysiadu gan y Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd yn 2004. Mae adeiladu tai wedi bod yn dirywio’n gyson, ac mae ein hargyfwng tai yn parhau i waethygu. Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at y methiant i gyflawni targedau adeiladu tai, ond mae’r system gynllunio yn rhan sylweddol o hyn, ac mae cynllun gofodol Cymru yn creu haen arall o oedi cyn cymeradwyaeth gynllunio ac adeiladu.

Mae dulliau a arweinir gan y gymuned wedi’u hawgrymu er mwyn ategu’r system gynllunio bresennol, megis y syniad o bleidleisiau stryd, fel y’u gelwir. Cynhaliodd Lywodraeth flaenorol y DU ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Chwefror eleni ynghylch y gorchmynion datblygu pleidleisiau stryd, lle gall trigolion gynnig datblygiad ar y cyd ar eu stryd, a chyhyd â bod y cynnig yn bodloni gofynion penodol, pleidlais i weld a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i'r datblygiad ai peidio. Y bwriad yw i ddatblygiadau gael eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn rhoi rheolaeth i drigolion a darparu mwy o gartrefi cyn gynted â phosibl. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw cynllun gofodol Cymru wedi cyfrannu at arafwch cymeradwyaeth cynllunio, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried pleidleisiau stryd fel atodiad posibl i'r system gynllunio? Diolch.

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac mewn gwirionedd, amser cinio heddiw, roeddwn mewn cyfarfod bwrdd crwn gyda chylchgrawn Building, a daethant â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant adeiladu o amgylch y bwrdd yng Nghymru i drafod rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu mewn perthynas â chyflawni prosiectau adeiladu. Ac roedd rhai o'r problemau yr oeddent yn sôn amdanynt yn y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â gwelededd y llif argaeledd sgiliau, er enghraifft. Felly, nid oeddent yn sôn am syniad y pleidleisiau stryd mewn gwirionedd, ac nid wyf yn hollol siŵr mai dyna'r cyfeiriad y byddem am fynd iddo, oherwydd, mae'r system sydd gennym o dan 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi ffyrdd ystyrlon y gellid ac y dylid cynnwys cymunedau o'r cychwyn cyntaf mewn perthynas â datblygiadau. Felly, mae gennym y cyfleoedd ffurfiol hynny, ac maent yn aml yn codi droeon yn ystod y broses gynllunio, i gymunedau gael dweud eu dweud. Mae gennym ddull a arweinir gan gynlluniau o ddatblygu, ac rydym o'r farn fod cynnal CDLlau yn arf cwbl hanfodol i gyflawni’r blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, megis datblygu cynaliadwy drwy adeiladu tai, creu lleoedd, tai fforddiadwy, newid hinsawdd, ansawdd aer, ynni adnewyddadwy, sero net, a thrafnidiaeth gynaliadwy. Fodd bynnag, mae’r egwyddorion sydd gennym yn ein dull yn 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ein symud o gyfrif tai yn unig i feddwl am ganlyniadau ac ansawdd y lleoedd a adeiladwn hefyd. Felly, credaf fod ein dull yn wahanol, ond rwy’n cymryd ein bod am gyrraedd yr un lle o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy.

13:35
Anweithgarwch Economaidd yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yng ngogledd Cymru? OQ61759

Gwnaf. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi sut rydym yn defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym i leihau'r bwlch sgiliau a chefnogi swyddi gwell, gyda'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl i aros mewn gwaith a chefnogi'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r llwybrau i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yw'r hyn rydych wedi cyfeirio ato yno—cael gweithlu wedi'i hyfforddi'n dda. Ac i bobl iau yn enwedig, gellir gwneud llawer drwy brentisiaethau, sydd, fel y gwyddoch—a gwn fod eich cyd-Weinidog, Jack Sargeant, hefyd yn gwybod—yn darparu ffordd wych o ddysgu crefft a sgiliau gwirioneddol y gallant eu defnyddio drwy gydol eu bywyd gwaith. Yn anffodus, o gymharu â lleoedd eraill yn y DU, ac yn enwedig Lloegr, dim ond ystod fach o radd-brentisiaethau a gynigir yma. Golyga hynny, ynghyd â’r toriadau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i’r rhaglen brentisiaethau, fod gennym broblemau yn ein rhaglen radd-brentisiaethau yma yng Nghymru. Cyfarfûm ag is-ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam yn ddiweddar, a chyfarfûm hefyd â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, a oedd ill dau yn glir iawn y gall gradd-brentisiaethau wneud gwahaniaeth mawr nid yn unig i’r economi, ond i’r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yma hefyd. Felly, hoffwn ofyn beth sy'n cael ei wneud i gynyddu'r nifer o radd-brentisiaethau a gynigir, ac yn bwysig, sut rydych chi'n ymgysylltu â'r sefydliadau addysgol hynny ac eraill i sicrhau'r cynnydd y byddai pob un ohonom, rwy'n siŵr, yn dymuno ei weld yn y nifer sy'n manteisio ar radd-brentisiaethau.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, ac yn gwneud buddsoddiad sylweddol iawn yn ein rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Medr yn arwain ar hyn bellach, ac mae Jack Sargeant yn ymwneud yn agos â'r gwaith penodol hwn y mae’n ei arwain. Ond cydweithio yw ein dull o weithredu, yn bendant iawn. Felly, mae'n rhaid i ddarparwyr gydweithio â'n sector prifysgolion, a'r sector addysg yn ehangach, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r gymuned ehangach, ac wrth gwrs, yr economi, yn cael eu cefnogi. Felly, mae gradd-brentisiaethau lefel 6 ar gael, ond mae'n rhaid i unrhyw newidiadau neu adolygiadau i’r llwybrau presennol gael eu gwneud ar y cyd. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael y sgyrsiau hynny, a gwn y byddai Jack Sargeant yn awyddus i ddarllen trawsgrifiad o'ch cyfarfod. Diolch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Mae cwestiynau'r llefarwyr heddiw i'w hateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Tom Giffard.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i eich llongyfarch ar gael eich penodi yn Weinidog, gyda chyfrifoldeb yn benodol heddiw am ddiwylliant a chwaraeon? Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y dadleuon hyn—gwn eich bod chithau hefyd—ac rwyf hefyd wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr amser rydych chi wedi'i roi i gyfarfod â mi eisoes yn eich briff. Fodd bynnag, chi yw'r pumed Gweinidog eleni â chyfrifoldeb am ddiwylliant. A ydych chi'n derbyn bod rhywfaint o ansicrwydd wedi bod yn y sector oherwydd yr anhrefn yn Llywodraeth Cymru eleni?

Yn gyntaf, Lywydd, a gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei groeso cynnes i'r Siambr y prynhawn yma, a hefyd am roi amser i gyfarfod â mi—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu—i drafod y materion pwysig y mae'r sectorau diwylliant a chwaraeon yn eu hwynebu? Credaf ei bod yn deg dweud, Tom, nid yn unig ar eich meinciau chi, ond ar yr holl feinciau yn y lle hwn, fod ymrwymiad cyfunol gennym i weld y sector diwylliant yn llwyddo. Efallai eich bod yn dymuno canolbwyntio ar y gorffennol, Tom; rwyf i am ganolbwyntio ar y dyfodol. Mae hwn yn sector sy'n fy nghyffroi, mae'n weithlu sy'n benderfynol ac yn uchelgeisiol, a byddaf yn canolbwyntio ar ddeall blaenoriaethau llawer o randdeiliaid, fel y rhai rwyf eisoes wedi cyfarfod â hwy. Yn y cyfnod ariannol heriol sydd ohoni, rydym yn ceisio gwireddu cyfleoedd y sector. Ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod diwylliant, chwaraeon, gan gynnwys y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn agored ac yn hygyrch i bawb, gan gynnwys cymunedau dosbarth gweithiol fel fy un i. Felly, edrychaf ymlaen at y gwaith yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn fawr at y dadleuon hyn. Lywydd, pe bawn am grynhoi fy sgyrsiau cynnar ar ymrwymiad i’r diwydiant a’r sector hwn, byddai’n debyg iawn i’r llinell enwog o’r gerdd 'Bread and Roses’:

'rhowch i ni fara, ond rhowch i ni rosod.’

13:40

Diolch yn fawr. Roedd gennyf deimlad y byddech yn dweud nad oeddech am edrych tua'r gorffennol ond tua'r dyfodol. Felly, y llynedd, y llinell ddiwylliant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru a gafodd y toriad mwyaf o unrhyw linell unigol yn y gyllideb. Felly, os yw hyn yn droi cefn ar y gorffennol, ac edrych tua'r dyfodol newydd, gyda chyllideb eleni ar y gorwel, sut y byddwch chi'n llwyddo i sefyll dros y sector, pan na lwyddodd eich rhagflaenwyr i wneud hynny?

Unwaith eto, diolch i Tom Giffard am godi’r cwestiwn y prynhawn yma. Edrychwch, nid wyf am gael trafodaethau ynglŷn â'r gyllideb nawr. Rwy’n siŵr y cawn y trafodaethau hynny yn y Cabinet, ac ni fyddai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn hapus gyda mi pe bawn yn dweud y pethau hynny. Ond yr hyn rwy'n ei ddweud—ac nid wyf yn gwadu'r ffaith bod penderfyniadau anodd wedi’u gwneud yn y sector hwn yn y gorffennol—yw mai'r hyn a welsom gan y sector, fodd bynnag, yw’r gwytnwch a’r arloesi y gall y sector eu cynnig wrth edrych tua’r dyfodol.

Ond rydych yn llygad eich lle, mae penderfyniadau anodd wedi bod. Bu'n rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hynny oherwydd anghymhwysedd Llywodraeth flaenorol y DU, a adawodd dwll du ariannol a'r llanast y mae cyllid cyhoeddus ynddo. [Torri ar draws.] Rydych chi'n llygad eich lle, felly byddaf yn edrych tua’r dyfodol, Sam Rowlands. Yr hyn rydym wedi’i weld eisoes yw’r £5 miliwn ychwanegol dros yr haf. Adeiladodd hynny ar y £3.2 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer y diwydiant. Yr hyn y gallaf ymrwymo iddo, Tom, ar lawr y Siambr heddiw, yw y byddaf yn llais i’r sectorau diwylliant, chwaraeon a chreadigol yn y trafodaethau cyllidebol hynny. Bydd ganddynt Weinidog ynof sy’n falch o’u cynrychioli, sy’n credu yn y sectorau, ac sy'n awyddus i weithio ar y cyd â’r sectorau, i sicrhau bod y sectorau'n llwyddo, sy'n rhywbeth y gwn fod pob un ohonom yn y lle hwn am iddo ddigwydd.

Mae sefydliadau yn y sector diwylliannol wedi bod yn rhybuddio am eu sefyllfa ariannol enbyd ers peth amser. Ac mae hynny'n wir am y sefydliadau cenedlaethol mawr yn ogystal â sefydliadau lleol llai, y mae llawer o gymunedau nid yn unig yn rhan ohonynt, ond hefyd yn ffynnu ar lawer o'r sefydliadau lleol hyn. Canfu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Awst fod cyllid ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng 30 y cant yng Nghymru mewn termau real ers 2017. Dyna'r gostyngiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig. A’r hyn a welsom yn eich cyfnod mewn grym hyd yma, yn y gyllideb atodol ddiweddaraf, yw toriad o £130,000 ar gyfer prosiectau diwylliant a chwaraeon lleol. Felly, er y gallwn edrych ymlaen tua'r dyfodol, mae'r hanes yn glir. Felly, sut y gallwch roi sicrwydd i'r sefydliadau hynny—yn fach a mawr—ledled Cymru, y bydd pethau'n wahanol?

Unwaith eto, diolch i lefarydd yr wrthblaid am yr ystod o gwestiynau ynglŷn â sut olwg fydd ar y dyfodol. Mae'n wir fod y sefyllfa'n anodd, onid yw. Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa’n anodd, ac rydym yn dal i wynebu’r heriau anodd hynny. Fel y dywedais yn gynharach, rwyf am roi ymrwymiad i’r diwydiant—ac rwyf wedi cyfarfod â phob un o’n cyrff hyd braich yng Nghymru yn y portffolio hwn—i sicrhau, pan fyddaf yn cael y trafodaethau cyllidebol hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn dadlau'r achos gorau ar ran y sector. Mae hwn yn sector a all lwyddo, yn fy marn i. Mae angen inni ei gefnogi. Mae angen inni fod yn greadigol yn y ffordd yr edrychwn ar bethau yn y dyfodol, ond pa ffordd well o gydweithio â’r sector creadigol na thrwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi’r diwydiant? Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar drafodaethau cyllidebol yn y dyfodol am nad ydynt wedi cael eu trafod ar lefel rwy'n barod i’w trafod ar lawr y Siambr. Ond bydd yr ymrwymiad i sicrhau bod llais y diwydiant yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru yn parhau.

O ran y sector yn gyffredinol, Lywydd, a lle rydym wedi cefnogi llwyddiannau yn y sector, gadewch imi sôn am Cymru Greadigol fel stori gadarnhaol, yn enwedig yn y diwydiant cynhyrchu. Ers sefydlu'r corff yn 2020, mae £26.5 miliwn wedi’i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Disgwylir y bydd hyn yn arwain at dros £313 miliwn o wariant yn ôl yn economi Cymru. Mae hwnnw’n llwyddiant rwy'n falch ohono. Mae’n llwyddiant y gallwn adeiladu arno, ac mae’n llwyddiant yr edrychaf ymlaen at gydweithio arno, nid yn unig gyda’r Aelod, ond gyda’r diwydiant hefyd, wrth symud ymlaen.

13:45

Diolch, Llywydd. Weinidog, hoffwn innau ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a dwi yn gwerthfawrogi’r ffaith ein bod ni eisoes wedi cael cyfarfod i drafod y portffolios sy’n gorgyffwrdd gennym. Fel y gwnes i ddweud wrthych chi ar yr adeg hynny, a dwi’n falch eich bod chi’n gwybod nad sylw arnoch chi’n bersonol mo hyn, mi ydw i’n siomedig nad ydy diwylliant a chwaraeon o fewn portffolio Ysgrifennydd Cabinet. Maen nhw’n feysydd sydd yn allweddol o ran ein hunaniaeth, ein heconomi a’n lles fel cenedl, ac mi o’n i’n croesawu’n fawr y dyrchafiad a gafodd y portffolio pan ddaeth Vaughan Gething yn Brif Weinidog. Wnaf i ddim eich rhoi chi mewn lle cas drwy ofyn a ydych chi o’r un farn a fi, mai Ysgrifennydd Cabinet y dylech chi fod, ond a gaf i fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda o ran beth ydy’ch gweledigaeth chi a’ch prif flaenoriaethau chi ar gyfer y portffolio hwn? Roeddech chi’n sôn am fod yn llais, ond beth fydd y llais yna’n ei ddweud wrth y Cabinet?

Diolch, Heledd. Unwaith eto, diolch am roi eich amser i gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf. Nid wyf am wneud sylw am safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Os hoffech ddadlau’r achos hwnnw i’r Prif Weinidog, mater i chi yw gwneud hynny, nid fi. Rwy’n falch iawn o fod yn Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn adran yr economi, o dan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Bydd fy llais ar ran y sector hwn yn uchel ac yn glir. Mae’n sector yr wyf am ei weld yn llwyddo. Yn y sgyrsiau a gaf gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet, maent yn ymwneud i raddau helaeth â ffocws a sut y gallwn rannu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Oherwydd rwy’n cytuno â’r Aelod, mae’r sector hwn yn sicr yn ymwneud â llesiant y genedl. Byddaf yn sicrhau ein bod yn llunio cynlluniau gyda’n gilydd i sicrhau bod treftadaeth ein cenedl yn ddiogel at y dyfodol, ond hefyd yn hygyrch i bawb, ni waeth o ble yng Nghymru rydych chi'n dod. A byddaf yn bwrw ymlaen â hynny nid yn unig drwy drafodaethau'r gyllideb, ond drwy’r holl feysydd polisi hefyd.

Yn fy mhortffolio i, os edrychwch ar sgiliau'n benodol ac ar rôl partneriaeth gymdeithasol efallai, bydd y sgyrsiau y mae angen i ni eu cael yn y sector hwn i sicrhau ei fod yn ddiogel at y dyfodol yn digwydd drwy bartneriaeth gymdeithasol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau. Ac rwy'n ymwybodol iawn o'r rôl rwy'n ei chwarae ym maes sgiliau hefyd, a sicrhau bod gennym weithlu medrus, boed hynny mewn cynhyrchiant, gemau cyfrifiadurol, boed hynny yn ein hagweddau diwylliannol a threftadaeth, neu ym mhob un o'r agweddau eraill sy'n ymwneud â chwaraeon yn ogystal. Felly, rwy’n ymwybodol o’r rôl sydd gennyf i’w chwarae yn hynny hefyd.

Diolch am eich ymateb. Os caf adeiladu ar yr hyn a ofynnodd Tom Giffard i chi, mae'n amlwg, nid yn unig ei fod wedi bod yn gyfnod heriol, ond mae wedi bod yn ddinistriol i nifer o’r sefydliadau sydd yn eich portffolio. Rydym wedi clywed rhybuddion am sefydliadau enfawr yn wynebu'r posibilrwydd o orfod cau eu drysau. Rydym wedi colli nifer fawr o swyddi. Rydych chi wedi sôn am fod yn wydn. Rydym wedi clywed bod sectorau ar ymyl y dibyn mewn nifer o feysydd rydych chi'n gyfrifol amdanynt. Nid oes lle i dorri ymhellach. Mae gwasanaethau allweddol yn cael eu colli. Mae casgliadau cenedlaethol mewn perygl.

Felly, a gaf i ofyn—? Pan oedd Lesley Griffiths yn ei rôl, roedd yn benderfynol iawn o geisio sicrhau’r cyllid ychwanegol hwnnw o iechyd, o addysg, a deall gwerth y rheini. Hoffwn ddeall eich blaenoriaethau yma yn y portffolio hwn. Fe'ch clywaf yn dweud eich bod am fod yn llais, ond beth fyddwch chi'n ei gyflawni i'r sectorau hyn mewn gwirionedd? Beth yw eich blaenoriaethau nawr i’w sicrhau gan y Llywodraeth—? Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn wydn, mae'n ymwneud â goroesi.

Wel, rwy’n cytuno; mae angen inni oroesi, ond mae angen inni edrych ymhellach na goroesi'n unig, ac mae angen inni geisio diogelu’r diwydiant at y dyfodol, fel diwydiant sydd am lwyddo. Rwy’n cytuno, roedd y ffaith ein bod wedi gorfod gwneud y toriadau hynny—ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a chi wedi trafod y materion sy’n ein hwynebu—yn ddinistriol i sefydliadau unigol. Ond gadewch imi dynnu sylw at y cyhoeddiad ym mis Medi gan y Llywodraeth hon o £5 miliwn ychwanegol o gyllid refeniw i gefnogi cyrff hyd braich diwylliant a chwaraeon Cymru. Dyna £725,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; £90,000 i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru; £1.5 miliwn i Gyngor Celfyddydau Cymru; £1 filiwn i Chwaraeon Cymru; £940,000 i Amgueddfa Cymru; a Cadw, £745,000. Mae hwnnw’n swm sylweddol o arian, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu dod o hyd iddo.

Y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynghylch cyllidebau eraill, unwaith eto, nid wyf yn mynd i ddechrau trafodaethau am y gyllideb yma heddiw. Ond rwy’n cytuno â chi fod y portffolio hwn a'i gyfrifoldebau, a’r camau y mae’r portffolio hwn yn eu cyflawni, yn cael effeithiau trawsbynciol, yn enwedig o ran rôl iechyd meddwl a llesiant. Mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy a minnau eisoes wedi cael trafodaethau ynghylch y rôl y gall chwaraeon ei chwarae ac ynghylch y rôl y gall y celfyddydau ei chwarae yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Dyna fyddaf i'n ei wneud pan fyddaf yn cael y cyfarfodydd hynny—. Nid yn unig yno, ond addysg hefyd. Rydych yn llygad eich lle, y bore yma, roeddwn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn yr amgueddfa lofaol, ac mae'n wych gweld y gwaith a wnânt i gefnogi'r cymunedau lleol, eu hysgolion lleol. Hoffwn weld mwy o hynny, a gallaf roi sicrwydd i chi mai dyna fyddaf i'n dadlau drosto.

13:50

Diolch. Fel y dywedais ddoe wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn amlwg, mae'r £5 miliwn hwnnw i'w groesawu'n fawr, ond nid yw'n crafu'r wyneb. Ac o ran y sectorau hyn, rydym wedi colli pobl yn y rolau hyn, rydym wedi colli arbenigedd, rydym wedi colli'r gallu i gyflawni ar lawer o'r rhaglenni a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Felly, nid yw'n fater o ofyn i'r sefydliadau hyn wneud mwy, ond yn hytrach eu cefnogi i wneud yr hyn roeddent yn ei wneud a chynyddu hynny. Felly, o ran y weledigaeth honno, rydym yn amlwg yn disgwyl strategaeth ddiwylliannol a hoffwn glywed beth yw'r amserlenni, nawr eich bod yn y swydd, ar gyfer y gwaith hwnnw, ond o ran y cyllid i gefnogi'r gyllideb honno hefyd.

Hefyd, pa asesiad a wnaethoch o effaith y toriadau ar alluoedd sefydliadau yr ydych yn darparu llythyr cylch gwaith iddynt i gyflawni ar y llythyrau cylch gwaith hynny? Ac os nad yw hynny wedi digwydd eto, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny, fel y gallwn ddeall yr effaith y mae’r toriadau hyn wedi’i chael ar eu gallu i gyflawni ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? Ac a ydych chi'n derbyn mai ar elfen ddiwylliannol Deddf cenedlaethau’r dyfodol y gwnaed y cynnydd lleiaf arni hyd yn hyn, a sut y dylem unioni hynny?

Diolch. Ar hynny, o ran yr effaith ar y cyrff yr ydym yn darparu llythyrau cylch gwaith iddynt, yr hyn y mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed amdano yn y maes hwn yw gwaith y pwyllgor diwylliant, a gadeirir gan eich cyd-Aelod Delyth Jewell. Deallaf fod llawer o sefydliadau eisoes wedi bod gerbron y pwyllgor, lle mae'r effeithiau—. Wel, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed eu barn ar hynny, a byddant yn cael y sgyrsiau hynny gyda mi yn uniongyrchol, ond hoffwn glywed safbwyntiau’r pwyllgor hefyd i weld sut y gallwn liniaru hynny wrth symud ymlaen. Fel y dywedaf, mae hwn yn sector yr wyf am lwyddo ynddo.

O ran symud ymlaen ac edrych ar sut y gallwn wneud pethau’n well, mae’n rhaid inni feddwl yn wahanol yn y senarios hyn. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa anodd a heriol o ran pwysau cyllidebol, felly mae angen inni ddod ynghyd, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, i ddod o hyd, efallai, i ffyrdd amgen o wneud pethau. Dyna fydd yn gwneud i sector diwylliant Cymru lwyddo. Byddaf yn cael y sgyrsiau hynny gyda nifer o randdeiliaid yn y sector. Yr hyn rwy'n awyddus i’w wneud hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i Tom, yw cael sgwrs ar lawr y Senedd a chlywed eich barn ar ble y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Oherwydd fel y dywedaf, yn y sector hwn, mewn diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth, rwy'n credu ein bod yn perfformio'n well na'r disgwyl yn gyson mewn chwaraeon, a hoffwn barhau i wneud hynny a chefnogi clybiau a gweithgareddau ar lawr gwlad, ac mae mor bwysig, mewn perthynas â diwylliant a'r celfyddydau, ein bod nid yn unig yn eu diogelu at y dyfodol, ond fod gennym uchelgais i dyfu. A chredaf fod hwn yn ymrwymiad a rennir ar draws y Siambr, ac edrychaf ymlaen at gael y sgyrsiau hynny gyda chi.

Lywydd, i gloi, gan fod cyfle gennyf i ddweud hyn, a ninnau'n trafod chwaraeon, ni chredaf y bydd ots gennych imi ddweud 'Pob lwc' i Gymru yn y gemau ail gyfle sydd ar y ffordd ar gyfer pencampwriaeth Ewrop 2025.

Dim problem o gwbl i ddymuno pob lwc i Gymru ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw chwaraeon. 

Cynllun Storio Tanfor i Ddal Carbon

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynigion ar gyfer cynllun storio tanfor i ddal carbon yn Sir y Fflint? OQ61753

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol a gweinidogol i sicrhau bod prosiectau dal carbon arfaethedig ledled Cymru yn destun rheolaethau rheoleiddiol cadarn, yn hwyluso datgarboneiddio hirdymor ac yn adeiladu economi gryfach a gwyrddach.

Yn gynharach y mis hwn, fe ddywedoch chi mai

'bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu datganiad cliriach o'n barn a'n dull gweithredu o ran y defnydd o ddal a storio carbon,'

ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod hyn yn digwydd yn barod. Yn amlwg, nid ydym yn gwybod yn iawn beth yw eich safbwynt ar hyn, ac os caf awgrymu, mae'n teimlo fel pe baech chi'n cysgu wrth y llyw. Nawr, mae perygl y gall technoleg dal a storio carbon roi rhwydd hynt i allyrwyr carbon, gan y gallant barhau i lygru, neu ar y gorau, bydd o leiaf yn arafu'r broses o bontio oddi wrth allyrru carbon deuocsid, a gwyddom fod risgiau a phroblemau difrifol i iechyd y cyhoedd hefyd. Mae enghreifftiau mewn mannau eraill o ollyngiadau a ffrwydradau gan achosi i bobl fygu a gorfod mynd i'r ysbyty. Dywed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod ganddo beryglon mawr posibl. A yw hynny'n risg rydych chi'n fodlon agor pobl gogledd-ddwyrain Cymru iddi wrth iddynt ddod yn bibell egsôst i'r Deyrnas Unedig?

13:55

Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn ymgynghori ar safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg dal a storio carbon, ond rydym yn canolbwyntio ar ble y gall wneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at ddatgarboneiddio wrth inni bontio o ddefnyddio tanwydd ffosil. Buaswn yn rhannu eich pryderon pe bai hyn yn ymwneud ag ymestyn oes tanwyddau ffosil, ond nid dyna yw hyn. Mae rhai sectorau, er enghraifft sment, na ellir eu datgarboneiddio ac eithrio drwy dechnolegau fel dal a storio carbon.

Dyma’r mathau o feysydd y mae’n rhaid inni fod yn realistig yn eu cylch, ac mae hyd yn oed astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd gan sefydliadau sy'n cynnwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol oll wedi dod i’r casgliad yn gyson fod dal a storio carbon yn llwybr tuag at leihau allyriadau, ac nad ydym yn mynd i gyflawni ein targedau sero net hebddo. Felly, mae’n dechnoleg y mae’n rhaid i ni ei defnyddio, ond wrth gwrs, mae’n rhaid iddi fod yn ddiogel, ac mae’n rhaid ei wneud drwy’r drefn gynllunio briodol, ac yn y blaen.

Gwn fod Llywodraeth y DU wedi gwneud ystod o waith ymchwil yn y maes hwn, ac rwy'n fwy na pharod i rannu mwy o hynny gyda chyd-Aelodau. Un o’r enghreifftiau sydd gennyf yw'r ddogfen ymchwil a dadansoddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, a oedd yn trafod storio carbon deuocsid yn ddaearegol ddwfn, oddi ar arfordir y DU, ac roedd hynny’n ymwneud â'i storio'n ddiogel. Felly, roedd hwnnw’n ymchwil penodol a ddangosai lefel uchel iawn o hyder ynghylch diogelwch hirdymor storio carbon deuocsid mewn man dal a storio carbon arferol yn y DU ac o'i chwmpas. Felly, mae'r ymchwil yno ac mae ar gael, a byddwn yn rhannu mwy ohoni pan fyddwn yn dechrau ymgynghori.

Ond er eglurder: mae'r polisi'n ymwneud â rôl dal a storio carbon mewn perthynas â'n taith at sero net, ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar feysydd o'r economi na ellir eu datgarboneiddio drwy ddulliau eraill.

Mae rhanbarth clwstwr diwydiannol y gogledd-orllewin yn ymestyn o sir y Fflint a Wrecsam drwy Swydd Gaer, dinas-ranbarth Lerpwl a Manceinion fwyaf i mewn i swydd Gaerhirfryn. Darparwyd £72 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2021 i brosiect hydrogen a dal carbon HyNet North West i chwarae rhan hollbwysig wrth i'r DU bontio i sero net, ac felly mae’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth newydd y DU yn parhau i gefnogi hyn i'w groesawu. Bydd y prosiect yn troi nwy naturiol yn hydrogen carbon isel i bweru diwydiant a thrafnidiaeth a chynhyrchu trydan.

Felly, a ydych chi'n cytuno â'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd fod gan dechnoleg dal a storio carbon rôl i'w chwarae ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill i fynd i'r afael ag allyriadau byd-eang? A pha ymgysylltiad rydych chi'n ei gael â diwydiannau sir y Fflint, gan gynnwys gorsaf ynni Cei Connah, gwaith sment Heidelberg Materials yn Padeswood a Pharc Adfer, cyfleuster troi gwastraff yn ynni ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a oedd yn cynnig cludo carbon deuocsid wedi'i ddal i gyfleusterau storio parhaol ar y môr mewn hen feysydd nwy alltraeth wedi eu haddasu at ddibenion gwahanol, fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet?

Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel y dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol, rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi dweud y bydd dal a storio carbon o reidrwydd yn rhan o'n taith tuag at sero net, yn enwedig os ydym am gyflawni ein targedau sero net mewn pryd. Hoffwn roi sicrwydd i chi ein bod yn cael y trafodaethau rheolaidd hynny; mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â HyNet a phartneriaid y consortiwm i ddeall y cynigion yn well ac i gynnig ein cefnogaeth fel y bo'n briodol.

Ac ymwelais â ffatri sment Heidelberg yn ddiweddar gyda'r Gweinidog dros ogledd Cymru i ddeall mwy am y dechnoleg sy’n cael ei hargymell, a’r effaith y byddai’n ei chael ar ddatgarboneiddio cynhyrchiant sment.

Gwn fod pryderon ynghylch maint y prosiect a chwestiynau ynglŷn ag ai dyma’r llwybr cywir tuag at ddatgarboneiddio a’n huchelgeisiau sero net, ond hoffwn ganolbwyntio heddiw ar bryderon ynghylch yr effaith ymarferol bosibl ar fy etholaeth a’r cymunedau ynddi, boed yn darfu yn sgil y gwaith o adeiladu'r bibell gangen o Padeswood i'r safleoedd arfaethedig uwchben y ddaear ger Northop Hall. Rwy’n gwasanaethu, ac rwy’n falch o wasanaethu, ardal sydd wedi’i chreithio’n ddwfn gan ddiwydiant yn y gorffennol, ac nid wyf am i hynny fod yn ddyfodol i ni. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill, i sicrhau bod pobl a lleoedd yn gwbl ymwybodol o'r broses ac yn rhan ohoni, fod y tarfu a'r effaith ar y dirwedd yn cael eu lliniaru i'r graddau mwyaf posibl, a bod buddion cymunedol yn ystyrlon ac wedi eu mandadu?

14:00

Byddwn yn gwneud y pwyntiau pwysig hynny yn ein trafodaethau gyda HyNet a hefyd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwysigrwydd ymgynghori â barn trigolion yr ardal a rhoi ystyriaeth briodol iddi, ac ynglŷn â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i'r ardal drwy swyddi newydd ac yn y blaen. Bydd yr effaith ar yr ardal yn cael lle blaenllaw yn ein trafodaethau, a phwysleisio wrth y partneriaid eraill wrth gwrs fod angen ymgynghori'n briodol â chymunedau, fel y bo'n briodol, wrth inni symud ymlaen ar y cynigion hyn.

Datblygiadau Ffermydd Solar Mawr

4. Beth yw meini prawf cyffredinol y Llywodraeth ar gyfer cymeradwyo neu wrthod datblygiadau ffermydd solar mawr? OQ61762

Mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer ystyried ffermydd solar mawr wedi'u cynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Cymru'r Dyfodol'.

Diolch am yr ateb yna.

Mae arwyddocâd rhyngwladol i wastadeddau Gwent ac maent yn wirioneddol unigryw o fod yn cynnwys rhwydwaith o gaeau ffrwythlon a chyrsiau dŵr hanesyddol, a elwir yn lleol yn ffosydd draenio, gyda rhai o'r gwlyptiroedd hyn wedi eu hadfer yn wreiddiol o'r môr gan y Rhufeiniaid. Maent yn dal heb eu cyffwrdd i raddau helaeth ers canrifoedd. Yn ogystal â gwartheg, mae'n gartref i fwy na 200 rhywogaeth o bryfed ac infertebratau eraill, gyda llawer ohonynt wedi'u gwarchod oherwydd eu prinder, o fewn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae'n syndod felly, y gallai'r dirwedd anhygoel hon fod yn lleoliad i chwe fferm solar enfawr i fynd gyda fferm solar Llan-wern sydd eisoes wedi'i chymeradwyo. Mae hyn yn golygu bod bron i draean o gyfanswm arwynebedd SoDdGA unigol gwastadeddau Gwent wedi'i gynnig ar gyfer datblygu ffermydd solar. Er fy mod o blaid ynni solar a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, yn fy marn i ni ddylid ei leoli o fewn cynefinoedd naturiol allweddol a bregus fel y gwlyptiroedd hyn.

Weinidog, gwn na allwch gynnig barn ar rinweddau ceisiadau cynllunio o'r fath, ond a allwch chi roi syniad pellach o sut y penderfynir ar geisiadau cynllunio o'r fath, a rhoi rhyw arwydd o ba feini prawf sy'n cael blaenoriaeth o fewn y fframwaith cynllunio ar gyfer prosiectau mawr fel y rhain? Pa statws sydd i SoDdGA, asesiadau 'tir gorau a mwyaf amlbwrpas' ac asesiadau effaith amgylcheddol o gymharu â chynhyrchiant ynni a budd economaidd? Diolch.

Y peth cyntaf i'w nodi yw pwysigrwydd gwastadeddau Gwent. Rwy'n credu bod y pwysigrwydd yn cael ei adlewyrchu'n gadarn ym mholisi 'Cymru'r Dyfodol' 9 drwy gael ei dynodi'n ardal adnoddau naturiol cenedlaethol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae swyddogion wrthi'n paratoi canllawiau cynllunio pellach ar hyn o bryd yn unol â pholisi 9 'Cymru'r Dyfodol', a bydd hynny'n golygu datblygu canllawiau cynllunio pellach ar gyfer gwastadeddau Gwent, gan weithio gydag awdurdodau lleol a chyda rhanddeiliaid. Mae gwaith cwmpasu ar y sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor ar gyfer gwastadeddau Gwent sy'n cael ei gadeirio gan John Griffiths AS. Mae'n edrych ar sut y gellir gwella diogelwch a rheolaeth ar wastadeddau Gwent. Un o flaenoriaethau strategol y gweithgor hwnnw yw datblygu canllawiau cynllunio gwell i alluogi'r datblygiadau cywir yn y lle iawn ac i osgoi rhagor o effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth a thirwedd ar wastadeddau Gwent. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi o leiaf rywfaint o sicrwydd ynglŷn â pha mor bwysig yw gwastadeddau Gwent i ni a'r gwaith y bydd John Griffiths yn ei arwain.

Diolch i fy nghyd-Aelod Peredur am godi hyn. Cyn hyn yn y Siambr hon, rwyf wedi nodi ardaloedd gwledig hardd Ynys Môn sydd dan fygythiad ar hyn o bryd gan ddatblygwyr sydd am osod paneli solar ar 3,000 erw o dir amaethyddol gwerthfawr.

Bydd cynllun Maen Hir yn cael effaith niweidiol i'r graddau fod un o'r adroddiadau'n nodi bod posibilrwydd y gallai'r prosiect greu effeithiau economaidd amaethyddol niweidiol o ganlyniad i lai o incwm amaethyddol. Ar ben hynny, mae elfen y prosiect y disgwylir iddo godi incwm i'w wario ar y gymuned leol wedi'i lleoli yn un o leoliadau'r safle sy'n fwyaf agored i lifogydd. Mae hyn yn annheg i'r gymuned. Mae gwrthwynebiad mawr i hyn. Mae 'Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040' yn nodi:

'Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg ac ar bob graddfa er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol.'

Mae hynny'n swnio i mi fel pe baech chi'n barod i golli tir amaethyddol a ffermio da er mwyn creu ffermydd solar dros filoedd o erwau. A wnewch chi edrych ar ddiwygio'r polisi cynllunio, os gwelwch yn dda?

14:05

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae cyd-Aelodau'n gwybod na allaf wneud sylw ar unrhyw gynllun penodol am y bydd y rhan fwyaf o brosiectau solar mawr yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru, ond mae gennym bolisi cynllunio cynhwysfawr a chyfredol sy'n caniatáu ystyriaeth o'r cyfleoedd a'r effeithiau a ddaw yn sgil datblygiadau solar. Mae gennym darged uchelgeisiol iawn o ddiwallu 100 y cant o'n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn mynd i roi'r gorau i bolisïau ar gyfer diogelu ein hamgylcheddau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Mae'n rhaid cael cydbwysedd wrth inni symud ymlaen ar y daith i sero net. Fe ddywedaf, serch hynny, fod 'Cymru'r Dyfodol' yn gwneud datganiad clir am bwysigrwydd tir amaethyddol o ansawdd uchel, gan ei fod yn cael ei ystyried yn adnodd naturiol cenedlaethol o dan bolisi 9, ac mae llawer o fanylion ynghlwm felly wrth sut y caiff y tir hwnnw ei raddio. Ond fel y dywedais, rwy'n sicr yn credu bod 'Cymru'r Dyfodol' yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd tir amaethyddol yn ogystal.

Diolch am eich atebion ar y pwyntiau hyn i'r Siambr heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am yr hyn a ddywedoch chi am waith gweithgor gwastadeddau Gwent, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn ac yn dangos ymrwymiad yr ardal leol i ddiogelu'r dirwedd unigryw honno.

Mae rhai o'r materion sy'n codi o ran 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a pholisi 9, yn ymwneud â SoDdGAoedd a graddau'r diogelwch a ddarperir, ac rwy'n croesawu rhai o'r gwelliannau a'r mesurau diogelu gwell sydd wedi'u datblygu hyd yn hyn. Ond fel y sonioch chi, mae gwaith pellach ar y gweill, a tybed a allech chi ddweud ychydig am y gwaith pellach hwnnw yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a sut y mae'n ymwneud ag effaith gronnol. Oherwydd un o'r problemau gyda ffermydd solar mawr, os oes nifer ohonynt wedi cael caniatâd, yw'r effaith gronnol ar yr ardal. Bob tro y rhoddir caniatâd i un, byddai fel arfer yn gwneud datblygiad pellach yn fwy tebygol wedyn, oherwydd bod y datblygiad hwnnw eisoes wedi digwydd.

Yn olaf, ar amgylchiadau eithriadol, mae yna deimlad fod angen mwy o eglurder mewn perthynas â dehongliad, oherwydd weithiau mae'n ymddangos bod prosiect ynni adnewyddadwy yn cael ei ystyried yn eithriadol ni waeth beth yw natur amgylcheddol y tir dan sylw. 

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac am y gwaith y mae John Griffiths yn ei wneud yn y maes hwn. Credaf fod budd net i bolisi bioamrywiaeth yn bwysig iawn yn y gofod hwn, a gobeithio y bydd hynny'n ceisio lliniaru o leiaf rai o'r effeithiau cronnus hynny, oherwydd mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddilyn y dull 'stepwise' fel modd o ddangos y camau a gymerwyd i sicrhau budd net i fioamrywiaeth. Rwy'n credu y bydd hynny'n gwbl hanfodol. Mae hynny'n golygu gweithio drwy nifer o gamau—felly, osgoi effaith yn y lle cyntaf, ond lleihau a cheisio lliniaru ac adfer wedyn, ac yn y pen draw gwneud iawn ar y safle am unrhyw golledion. Mae hwnnw'n amlwg yn ddewis olaf absoliwt. Credaf fod y dull polisi newydd yn bwysig iawn. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau penodol ynghylch amgylchiadau eithriadol a sut y gallwn ddiffinio'r rheini'n well, os oes pethau y gallwn eu gwneud i gynnig mwy o eglurder.

Allgymorth Cymunedol gan Gyrff Chwaraeon

5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chyrff chwaraeon ynghylch allgymorth cymunedol? OQ61741

Diolch. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Chwaraeon Cymru yr wythnos diwethaf, lle buom yn trafod cefnogaeth i chwaraeon cymunedol a chwaraeon llawr gwlad, gan gynnwys gan gyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid eraill. Mae'r rhan fwyaf o chwaraeon yn cynnwys allgymorth cymunedol yn eu gweithgareddau, ac rwy'n gwerthfawrogi eu cyfraniadau pwysig.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o glybiau chwaraeon llawr gwlad yn fy etholaeth—y rhai sydd gennyf mewn golwg yw grwpiau lles Beddau a lles Coed-elái—mae pob un ohonynt wedi datblygu o'u rôl les draddodiadol mewn cymunedau glofaol i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon ac yn y blaen. Mae un o'r cyfraniadau amlwg a wnânt yn ymwneud yn gynyddol nid yn unig ag iechyd corfforol, ond ag iechyd meddwl a lles ehangach y cymunedau hefyd. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gamau y mae'n eu cymryd i annog clybiau chwaraeon llawr gwlad i chwarae rhan fwy penodol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cefnogaeth i iechyd meddwl yn y cymunedau a llesiant ehangach?

14:10

A gaf i ddiolch i Mick am y cwestiwn pwysig hwnnw a'r pwyntiau a wnaed yn y cwestiwn, ond yn bwysicach, diolch iddo am yr holl waith y mae'n ei wneud yn ei etholaeth ym Mhontypridd yn y maes penodol hwn, yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl, yn cefnogi clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fy mod, ers nifer o flynyddoedd bellach, wedi hyrwyddo'r syniad o rôl clybiau chwaraeon yn cefnogi cefnogwyr a chwaraewyr gyda'u hiechyd meddwl eu hunain. Fe wyddom, oni wyddom, Lywydd, y gall dynion yn enwedig ei chael hi'n anodd bod yn agored a siarad â'i gilydd ynglŷn â sut maent yn teimlo, felly mae darparu lle diogel a lle cyfforddus mor bwysig. Rwy'n credu bod cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig chwaraeon llawr gwlad, yn un o'r mannau hynny.

Lywydd, fe wnaeth dau dîm pêl-droed yng Nghymru ennill gwobrau yng ngwobrau llawr gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru eleni am godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo llesiant meddyliol, yn deillio, yn y ddau achos, o golli chwaraewyr i hunanladdiad: Clybiau Pêl-droed Heolgerrig Red Lion a Chei Connah yn fy etholaeth i, er cof am fy ffrind gorau am 20 mlynedd, Jamie Wynne. Mae hon yn enghraifft arall o arfer da, ond nid mewn pêl-droed yn unig. Mae gan Athletau Cymru bartneriaeth gyda Mind Cymru hefyd, ac yn ddiweddar maent wedi cyhoeddi eu bod wedi hyfforddi 34 o hyrwyddwyr iechyd meddwl mewn 23 o glybiau rhedeg ledled Cymru.

Ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn benodol, rwyf eisoes wedi cael cyfle i siarad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru ynglŷn â hyn, yn ogystal â Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Cafodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy a minnau sgyrsiau ynglŷn â lle gall chwaraeon, yn arbennig, chwarae rhan fwy yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl ledled Cymru. Gyda'n gilydd, fe wnawn ddatblygu'r gwaith hwnnw i weld beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol.

Weinidog, mae allgymorth cymunedol i'n clybiau chwaraeon yn bwysig iawn, ond hefyd y ffordd y maent yn cysylltu ag iechyd cymunedol. Yr hyn sydd gennym ar draws Cymru yw epidemig o ordewdra, ac rwy'n credu y gall chwaraeon chwarae rhan enfawr yn mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra sydd gennym ledled Cymru. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, beth rydych chi'n mynd i'w wneud i gael gwell cysylltiadau ag iechyd i sicrhau y gall ein clybiau chwaraeon chwarae eu rhan yn rhoi diwedd ar ordewdra ledled Cymru. Pa amserlenni y cawn eu gweld ar gyfer pryd y bydd hyn yn cael ei weithredu a phryd y gwelwn ganlyniadau'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud?

Diolch am hynny, James Evans. Rwy'n gwybod bod gan yr Aelod ddiddordeb angerddol yn y rôl y gall chwaraeon ac iechyd ei chwarae yng Nghymru ac yn ei etholaeth ei hun. A gwn ei fod yn chwaraewr brwd, Lywydd—

Ag yntau'n chwaraewr cymedrol ei hun, mae hynny'n greulon, Sam Kurtz. Na, mae'n dda iawn. Lywydd, rwyf wedi chwarae dartiau yn erbyn James—mae'n llawer gwell na fi.

Ond mae'r rôl y mae'n sôn amdani mewn chwaraeon a'r hyn y gall ei wneud o ran mesurau ataliol ym maes iechyd mor bwysig. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd yr Ysgrifennydd iechyd a minnau, gyda'i Ddirprwy Weinidogion hefyd, yn cael sgyrsiau pellach yn ei gylch, ynglŷn â sut olwg sydd ar hynny wrth symud ymlaen.

Rwyf am nodi raglen Undeb Rygbi Cymru a rhaglen Ffit, Bwydo, Hwyl yr Urdd sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hynny'n helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysigrwydd, ac mae hefyd yn gwneud pob un o'r pethau y mae James Evans yn dymuno i chwaraeon ei wneud i gael pobl yn ffit, yn iach. Rwy'n ymrwymedig iawn i sicrhau y gall unrhyw un sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru wneud hynny ym mha bynnag gamp a ddymunant, ar ba lefel bynnag, i sicrhau bod gennym genedl iach ar gyfer y dyfodol.

Prosiectau Dal Carbon

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r achos busnes dros brosiectau dal carbon yng Nghymru? OQ61757

Mae'r cyfrifoldeb am ddangos bod achosion busnes dal a storio carbon yn gwneud y cyfraniad angenrheidiol at ddatgarboneiddio hirdymor ac adeiladu economi gryfach, wyrddach yn dibynnu'n llwyr ar y datblygwr. Er mwyn cael y cydsyniadau angenrheidiol, rhaid i ddatblygwyr ddarparu tystiolaeth yn unol â'n polisïau a nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, mae sawl adroddiad wedi nodi bod dal carbon yn wyddoniaeth heb ei phrofi, ac rydym eisoes wedi clywed rhai pryderon ynglŷn â hynny, yn dilyn cwestiwn Llyr Gruffydd. Ni ddylem synnu bod y diwydiant tanwydd ffosil yn awyddus i fachu ar y llygedyn bach hwn o oleuni fel ffordd o ymestyn hyd oes tanwydd allyrru carbon, yn hytrach na newid i gynhyrchu ynni amgen. O ystyried nifer yr arbenigwyr ynni sy'n dweud nad yw technoleg dal a storio carbon yn werth buddsoddi ynddi, beth allai achos busnes Llywodraeth Cymru fod dros suddo arian i'r dechnoleg amheus hon, pan fo cymaint o opsiynau ynni adnewyddadwy ar garreg ein drws yng Nghymru y gallwn eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu ynni a chynhesu ein cartrefi?

O ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru ei hun, fe welwch hwnnw yn y sector ynni adnewyddadwy. Fe'i gwelwch drwy Trydan Gwyrdd Cymru a'r pum prosiect yr ydym yn ceisio eu datblygu yno. Fe'i gwelwch yn ein cefnogaeth ehangach drwy Ynni Cymru i ragor o ffynonellau ynni adnewyddadwy cymunedol hefyd. Felly, o ran ble y gwelwch fuddsoddiad Llywodraeth Cymru, dyna lle mae'n mynd, ac rydym yn glir iawn fod ein dulliau dewisol o ddatgarboneiddio yn parhau i gynnwys lleihau galw, effeithlonrwydd ynni, defnydd o ynni adnewyddadwy a phontio oddi wrth danwydd ffosil. Ac mae angen inni sicrhau nad yw dal a storio carbon ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd opsiynau eraill ar gyfer datgarboneiddio wedi'u harchwilio ac wedi eu diystyru'n briodol. Byddwn yn cefnogi'r diwydiant ledled Cymru, os mai'r unig ateb posibl i ddatgarboneiddio ar ôl dihysbyddu pob un o'r opsiynau eraill yw dal a storio carbon. Ac mae'n werth sôn hefyd y bydd unrhyw gynnig ar gyfer dal a storio carbon yn galw am ganiatâd cynllunio, trwyddedau amgylcheddol, trwyddedau morol, trwydded dechnegol ac economaidd ar gyfer gweithgareddau cludo a storio, a bydd gan bob un o'r rheini ofynion technegol ac economaidd heriol y mae'n rhaid eu cyflawni cyn rhoi unrhyw gydsyniad. Ac mae pob cyfundrefn reoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth fanwl ar brosesau, effeithiau, monitro a mesurau lliniaru, cyn y gall unrhyw ynni ddigwydd. Ond i ailadrodd, o ran ein buddsoddiadau ein hunain, maent yn bendant yn canolbwyntio ar y gofod ynni adnewyddadwy.

Cenedl Cyflog Byw

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at y nod o Gymru yn dod yn genedl cyflog byw? OQ61749

Diolch. Rydym yn cydweithio â'r mudiad cyflog byw, cyflogwyr, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol, ac rydym yn annog cyflogwyr ledled Cymru i fabwysiadu'r cyflog hwn a cheisio achrediad i'w hymrwymiad.

Diolch am yr ateb.

Hefyd, llongyfarchiadau ar eich swydd. Mae'n dda cael eich holi chi heddiw. Rwy'n falch iawn fod y cyflog byw gwirioneddol newydd wedi codi i £12.60 yng Nghymru, ac mae'r cyfraddau cyflog byw gwirioneddol bellach yn werth dros £2,262 yn fwy y flwyddyn i'r gweithiwr llawn amser yng Nghymru na'r isafswm cyfreithiol, y cyflog byw cenedlaethol. Mae 582 o gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol achrededig yng Nghymru, ac mae mwy na 22,000 o weithwyr yng Nghymru wedi cael codiad cyflog oherwydd y cyflog byw gwirioneddol. Ers 2014, mae holl staff GIG Cymru wedi cael y cyflog byw gwirioneddol, ac yn y maes gofal cymdeithasol, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu helpu gyda chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ond er bod pethau'n mynd rhagddynt yn dda, mae yna lawer o gyflogwyr o hyd nad ydynt yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, felly a allai'r Gweinidog awgrymu ffyrdd y gallwn gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol?

A gaf i ddiolch yn bersonol i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw ac ymuno â Julie Morgan i groesawu'r cyhoeddiad heddiw am y gyfradd cyflog byw gwirioneddol yn codi i £12.60 yng Nghymru? Mae'n wych fod cyflogwyr o ddifrif ynglŷn â hyn yng Nghymru—cyflogwyr fel Trafnidiaeth Cymru a Tiny Rebel. Mae'r Aelod yn iawn i nodi'r gwaith a wnawn yn y maes hwn yn y GIG, ac yn y sector gofal cymdeithasol wrth gwrs. Rydym yn falch o gael yr ymrwymiad hwnnw, ac rwyf am gofnodi fy niolch i Julie Morgan am wireddu'r ymrwymiad hwnnw a'i harweinyddiaeth pan oedd hi'n Weinidog gofal cymdeithasol.

Lywydd, bydd y cyflog uwch a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filoedd o weithwyr sy'n gweithio i gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol ledled Cymru, ac i mi'n bersonol, a'r gymuned dosbarth gweithiol rwy'n dod ohoni, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i deuluoedd incwm is sydd â phlant yn arbennig.

Mae'r cyflog byw gwirioneddol nid yn unig o fudd i weithwyr, mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod o fudd i gyflogwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach. Rydym yn agosáu at Wythnos Cyflog Byw ym mis Tachwedd. Mae honno'n gyfle i ddathlu ac annog mwy o gyflogwyr i ystyried talu'r cyflog byw gwirioneddol os gallant, a cheisio achrediad am wneud hynny.

Mae'r Aelod yn gofyn beth arall y gallwn ei wneud yn Llywodraeth Cymru, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld a oes mwy i'w wneud yma gyda'r contract economaidd a gwaith Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i annog cyflogwyr i wneud hynny. A gaf i hefyd dalu teyrnged, Lywydd, i'r mudiad yn gyffredinol a mudiad yr undebau llafur, sydd wedi hyrwyddo'r achos hwn ers blynyddoedd lawer, ac wedi sicrhau codiadau cyflog mewn termau real i'w haelodau?

14:20
Datblygu Economaidd ym Mlaenau Gwent

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad datblygu economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ61746

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel prifddinas-ranbarth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a busnesau allweddol i sicrhau ffyniant a manteision twf economaidd i bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatblygiad Goldworks sydd newydd gael ei agor ym Mlaenau Gwent, a dylwn fanteisio ar y cyfle i'w gwahodd i Flaenau Gwent i fynd i weld y datblygiad hwnnw ac i weld beth sy'n cael ei gyflawni yn y fwrdeistref. Ond wrth i ffordd ddeuol yr A465 gael ei chwblhau, yr hyn a welwn yn y fwrdeistref yw mwy o alw am unedau busnes ac unedau diwydiannol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, ar ei hymweliad â Blaenau Gwent, gyfarfod â'r awdurdod lleol a minnau i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi yn y mathau o amgylcheddau busnes sydd eu hangen arnom yn y fwrdeistref i fanteisio'n llawn ar y buddsoddiad a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru ar ddeuoli'r A465?

Diolch i Alun Davies. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ei wahoddiad caredig i ymweld â Blaenau Gwent. Gwn fod fy rhagflaenydd hefyd wedi cael taith ddiddorol iawn o amgylch rhai o'r uchafbwyntiau mewn perthynas â buddsoddiad Llywodraeth Cymru a'r cyfle i siarad am bethau ychwanegol y gallem eu gwneud gyda'n gilydd hefyd. Ac fel y dywed Alun Davies, ariannwyd y gwaith o adeiladu canolfan fusnes Goldworks gan Lywodraeth Cymru. Menter ar y cyd oedd honno gyda'r cyngor, a'i gosod wedyn gan Blaenau Gwent, gan ddefnyddio rhywfaint o arian o'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae adeiladau eraill a adeiladwyd gennym ym Mlaenau Gwent yn cynnwys uned Rhyd y Blew—mae honno'n 50,000 troedfedd sgwâr, ac mae cais amdani wedi dod gan fusnes peirianneg lleol sydd eisiau ehangu—a hefyd Tech Valleys House y mae dau fewnfuddsoddwr credadwy wedi dangos ddiddordeb ynddo. Felly, unwaith eto, pethau cadarnhaol iawn. A rhwng y ddau fuddsoddiad hwnnw, rwy'n credu bod hynny wedi galw am gyllideb o fwy na £10 miliwn. Felly, mae'n fuddsoddiad sylweddol iawn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys Tech Valleys House wrth gwrs. 

Gwn fod Menter Cymoedd y Gogledd hefyd wedi nodi eiddo fel un o'r tri phrif le y mae am edrych arnynt. Felly, rydym yn barod i gefnogi'r gwaith hwnnw hefyd. Felly, os caf gydnabod pwysigrwydd cael unedau ar gael i fusnesau symud i mewn iddynt ac ehangu yn bwysig iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy nhaith o gwmpas Blaenau Gwent.  

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone. 

Deddf Gofal Gwrthgyfartal

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal? OQ61758

Wel, 53 mlynedd ers sefydlu'r cysyniad o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal gan Julian Tudor Hart a hefyd Brian Gibbons a aeth ymlaen i ddod yn Aelod o'r Senedd hon wrth gwrs, yn anffodus mae'r ddeddf hon yn parhau i fod yn realiti'n rhy aml ar draws y DU Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweithio dros Gymru lle nad yw'r ddeddf hon yn gymwys mwyach. 

Diolch, ac rwy'n llwyr gymeradwyo eich sylwadau am bwysigrwydd gwaith Julian Tudor Hart yn sicrhau bod hyn yn dod yn flaenllaw ym meddyliau'r rhan fwyaf o glinigwyr. Ond roeddwn yn drist iawn i ddarllen ymchwil gan Brifysgol Caerdydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd fis Awst, yn awgrymu bod meddygfeydd yn y llefydd tlotaf dan anfantais ariannol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn ariannu timau gofal sylfaenol yn deg fel bod y rhai sy'n gwasanaethu'r cymunedau tlotaf, ac felly, y bobl fwyaf sâl, yn cael y gefnogaeth fwyaf. 

Wel, darllenais innau yr adroddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei chwestiwn hefyd, a chroesewais ei gyhoeddiad am ei fod yn taflu goleuni ar fater dyrannu cyllid i bractisau sy'n gwasanaethu ardaloedd mwy difreintiedig. Fel Llywodraeth fe fyddwn yn parhau i ystyried tystiolaeth newydd ar effeithiau anghydraddoldeb ar iechyd a chyllid gofal sylfaenol a sut y gallwn sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg. Roedd un o awduron yr adroddiad yn gyn-gadeirydd Deep End Cymru, ac rwy'n falch ein bod, yng nghyd-destun gofal sylfaenol, yn cyfrannu at ariannu'r prosiect hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y canfyddiadau y bydd y prosiect yn eu cynhyrchu ar gyfer y ffyrdd gorau o gefnogi meddygon teulu sy'n gweithio mewn amgylchiadau heriol mewn cymunedau sydd â'r lefelau amddifadedd uchaf. Yn ogystal â'r fformiwla, sydd i gyfrif am ddwy ran o dair o'r cyllid ar gyfer meddygfeydd teulu yn ôl pob tebyg, mae gwaith da yn digwydd ar draws clystyrau meddygon teulu ar nodi'r ymyriadau pellach y gellir eu hariannu a fydd yn cynorthwyo, drwy'r set o drefniadau cyflym ar gyfer datblygu clwstwr, i wneud buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau sydd o werth arbennig i'r cymunedau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt yn ei chwestiwn.

14:25

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi blynyddoedd cynnar a'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn allweddol i wella canlyniadau iechyd tymor byr a hirdymor. Mewn gwirionedd, gall tlodi yn ystod plentyndod arwain at ganlyniadau iechyd gwael pan fyddant yn oedolion fel asthma, gordewdra, iechyd meddwl gwael, y mae angen gofal sylfaenol mawr ar bob un ohonynt.

Fel y gwyddoch, mae cyfraddau tlodi wedi parhau'n uchel yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf, gyda phlant yn gyson yn wynebu'r risg uchaf o unrhyw grŵp oedran o fyw mewn tlodi. Mae'r dystiolaeth yn glir fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o fod angen cymorth meddygol dwys. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i geisio mynd i'r afael ag un o'r ffactorau sylfaenol gwaelodol sy'n golygu bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas angen y gofal iechyd dwys hwn?

Mae'r Aelod yn gywir i ddweud y gall effaith tlodi, yn enwedig ar y blynyddoedd cynnar, achosi heriau gydol oes yn aml iawn ac mae'r GIG yno i gefnogi'r unigolion hynny, ond maent yn heriau cymdeithasol ehangach yn y ffordd y mae'r Aelod yn cydnabod yn ei chwestiwn, yn deg iawn yn fy marn i. Dyna pam y mae ein hymrwymiad fel Llywodraeth i Dechrau'n Deg ac i'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn mor bwysig, oherwydd rydym yn cydnabod mai drwy sicrhau ein bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd, y cyd-destun mwyaf cefnogol, i bob unigolyn y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol

2. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod cymorth ar gael i fyfyrwyr prifysgol â meddyliau hunanladdol? OQ61742

Rydym yn disgwyl i sefydliadau addysg uwch roi anghenion dysgwyr yn y canol yn y system i ddiogelu eu hiechyd meddwl a'u llesiant meddyliol. Mae ystod o gymorth iechyd meddwl ar gael i fyfyrwyr, sy'n cael ei ddarparu gan brifysgolion, y trydydd sector a gwasanaethau iechyd y GIG.

Iawn, diolch am hynny. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ac mae'n fater o sut y cânt eu nodi a'r gwersi a ddysgir wrth symud ymlaen. Y diwrnod o'r blaen, cyfarfûm â rhieni Mared Foulkes. Maent yn dal i alaru nawr ar ôl y sefyllfa frawychus yno, pan roddwyd canlyniadau arholiadau anghywir, ac fe gollodd ei bywyd o ganlyniad.

Rwy'n ymwybodol o'r ymgynghoriad ar gynllun strategol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Fel y mae'n dweud yn y cynllun, 'bydd telerau ac amodau cyllido'n dod yn gyfrwng ar gyfer arfer ein pwerau rheoleiddio.' Nawr, yr hyn a'm diflasodd oedd bod y rhieni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i neb arall, ac felly maent wedi ysgrifennu papur. Maent wedi dosbarthu'r papur hwnnw i'r Senedd—pob Aelod Seneddol, pob Aelod o'r Senedd hon. Fodd bynnag, nid yw'r ymateb wedi bod yn wych. Rwy'n ei chael hi'n anghredadwy y gallai rhywun ysgrifennu i mewn, i dynnu sylw at eu tystiolaeth eu hunain o'r hyn a welsant—. Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chyhuddo gan y rhieni—ac maent wedi dweud y caf ei godi yma heddiw—o ddiffyg tosturi, o ddiffyg ymateb i'r hyn ddigwyddodd i Mared. Dyma ferch ifanc na fydd yn gweld y bywyd y dylai fod wedi ei gael ac mae'n rhaid dysgu gwersi o sefyllfa fel hon.

Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gydweithredu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod gan bob prifysgol yng Nghymru fesurau cryfach ar waith i ofalu am y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, er mwyn sicrhau nad yw'r canlyniadau arholiadau anghywir byth yn digwydd eto, a bod—? Mae hyn yn anodd iawn i mi. Mae hon yn farwolaeth y gellid bod wedi'i hatal, ac mae'n rhaid dysgu gwersi, ac rwyf am estyn allan at Brifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio'r fforwm hwn: ymatebwch i'r teulu hwn, gweithiwch gyda nhw i sicrhau nad oes unrhyw brifysgol arall yng Nghymru, na'r DU mewn gwirionedd, yn colli myfyriwr yn y ffordd hon. Diolch.

14:30

Ie. Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Rydych yn llygad eich lle—roedd hon yn farwolaeth y gellid bod wedi'i hatal ac na ddylai fod wedi digwydd. Rwy'n cydymdeimlo â rhieni Mared, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac sydd, yn y cyfamser wrth inni baratoi’r ymateb, wedi cael gohebiaeth gan fy swyddogion hefyd i ddiolch o galon iddynt a chydnabod yr holl waith y maent yn parhau i'w wneud i sicrhau, fel y dywedoch chi, nad yw hyn byth yn digwydd eto. Hoffwn nodi hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, bellach, yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, wedi cyfarfod â’r teulu—wedi cyfarfod â Mr a Mrs Foulkes—i drafod hyn hefyd ac i roi sicrwydd iddynt y bydd hyn yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf bellach yn gyfrifol am y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Gallaf roi sicrwydd i chi fod yr hyn y maent wedi’i rannu wedi chwarae rhan enfawr yn hyn.

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Hwn oedd y cwestiwn cyntaf i ni ei drafod: sut rydym yn sicrhau nad yw’r pethau hyn yn digwydd? Sut rydym yn sicrhau bod myfyrwyr, pan fyddant oddi cartref fel arfer, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt? A chredaf fod hynny bob amser yn bryder i rieni—bob amser yn bryder.

O ran Prifysgol Caerdydd, maent bellach wedi ymgeisio i fod yn rhan o brosiect ymchwil ledled y DU a fydd yn edrych ar ba ymyriadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerwysg. Rwy'n falch iawn o weld eu bod wedi ymgeisio i fod yn rhan o hyn, gan gydnabod, rwy'n credu, fod gwir angen iddynt ddysgu o hyn a gweld beth sy'n gweithio. Ond rydych chi'n llygad eich lle—mae gennym Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 erbyn hyn, ac mae gennym brosiect Medr. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn, ond rydym hefyd yn disgwyl gweld canlyniadau ac yn disgwyl i hyn beidio â pharhau i ddigwydd. Diolch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn sôn am Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a sut y mae'n rhyngweithio â Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae ansicrwydd, wrth gwrs, ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan fod Llywodraeth Keir Starmer wedi addo diwygio’r Ddeddf yn raddol, ond nid oes amserlen wedi'i phennu ar gyfer hyn eto. Ond un mater a godwyd ynghylch y Mesur iechyd meddwl, ar ôl 14 mlynedd ar y llyfr statud, yw nad yw'r Mesur yn cael ei orfodi ac nad yw mynd yn groes i’w orchmynion yn arwain at unrhyw ganlyniadau gwirioneddol, yn wahanol i'r Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd â mwy o rym. O ystyried yr amser y bydd yn ei gymryd i ddeddfu ar gyfer Deddf iechyd meddwl i Gymru, byddai’n gwneud mwy o synnwyr i ddiwygio’r Mesur iechyd meddwl i gynnwys cod ymarfer newydd a fyddai’n cryfhau’r Mesur ac yn sicrhau cydymffurfiaeth. Mae’r Mesur hefyd yn 14 oed, ac nid oes unrhyw welliannau atodol wedi’u hawgrymu iddo, megis y rheini a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, sy’n cynnwys dileu’r terfyn oedran ar gyfer pwy a all ofyn am ailasesiad o’u hiechyd meddwl, a diwygio’r Mesur i ehangu’r gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a enwebir gan y claf. Felly, a all y Gweinidog ddweud a fydd Llywodraeth Cymru yn ailasesu’r Mesur iechyd meddwl i ystyried elfennau a allai fod wedi dyddio ac i ystyried cryfhau’r cod ymarfer i sicrhau bod mwy o bwysau gan y Mesur nag mewn lleoliad clinigol yn unig?

Diolch am eich cwestiwn. Yn ddiddorol, cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb am hyn, y Farwnes Merron, y bore yma. Mae'n sicr yn dal i ddigwydd. Roedd yn Araith y Brenin. Rydym yn falch iawn y bydd yn mynd rhagddo gan fod cymaint o waith wedi'i wneud ar hyn gan randdeiliaid, gan wleidyddion. Bu cymaint o ddadlau gwirioneddol adeiladol am hyn yn San Steffan, ac o ddifrif, roedd bron iawn yn barod a chredaf ei bod yn drueni na lwyddodd. Felly, credaf fod llawer o bobl wedi croesawu'r ffaith, ac wrth eu boddau, mai hwn yw un o’r Biliau cyntaf a godwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, gan y gwyddant pa mor bwysig yw'r gwaith hwn.

Felly, cawsom sgwrs adeiladol iawn amdano y bore yma. Mae arnaf ofn, serch hynny, nad wyf yn mynd i allu gwneud sylw ar Fil nad wyf wedi’i weld. Felly, rwy’n cytuno â chi—mae llawer o’r pethau rydych chi wedi eu nodi yn bethau y buaswn yn disgwyl eu gweld ynddo, ac maent wedi bod mewn drafftiau cychwynnol, ond hyd nes y gwelwn y drafft terfynol, a fydd, gobeithio, yn dod cyn bo hir, ni fyddaf yn gallu gwneud sylw ar ei fanylion. Ond credaf fod hwn yn Fil rhagorol fel man cychwyn. Cyfarfûm â James Evans yr wythnos hon hefyd. Nid fy lle i yw trafod Bil Aelod James a'i ddyfodol, ond rydym wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn, ac rwy’n edmygu popeth y mae James wedi’i wneud.

14:35

Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, ac rwy'n deall y sylwadau a wnewch ar y Ddeddf, ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud i raddau mwy â'r Mesur a beth y gallwn ei wneud fel Senedd Cymru, ac yn wir, chi fel Llywodraeth Cymru, er mwyn ehangu’r hyn a gyflwynwyd yma 14 mlynedd yn ôl, a sut y gallwn wella hynny a chynyddu hynny'n gyfres ehangach o fesurau modern y gallwn eu hymgorffori yn y pethau presennol y cytunwyd arnynt 14 mlynedd yn ôl, ond wedyn hefyd ei ymgorffori, ac fe all, yn wir, symud gydag amser. Felly, mae a wnelo â'r sgyrsiau, mae a wnelo â Llywodraeth Cymru a’ch gwaith chi mewn perthynas â'r Mesur a’r hyn sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, a sut y gall hynny weithio gyda Deddf Iechyd Meddwl bresennol 1983, a sut y gall hynny gyd-fynd a gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd symlach, oherwydd yn aml, mewn ymarfer iechyd meddwl, ceir dadl fewnol ymhlith gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, sy'n dweud bod dryswch ynghylch sut i ddehongli'r Ddeddf, ac yn wir, y Mesur hefyd. Felly, sut y gellir symleiddio'r rheini gyda'i gilydd mewn ffordd fwy cryno, a fyddai'n gwneud bywyd yn haws i weithwyr proffesiynol, ac yn wir, yn sicrhau'r gofal iawn ar gyfer y claf iawn ar yr adeg iawn?

Diolch. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedwch, ac ni chredaf ein bod yn anghytuno yma. Rydym yn sicr ar yr un dudalen, gan mai dyna ble'r hoffem ei gyrraedd. Y rheswm pam y cafodd Bil James Evans gefnogaeth y Llywodraeth oedd am ei fod yn mynd i gyflawni llawer o’r pethau hynny. Fel y mae, mae’n gynnig deddfwriaethol o hyd, ar yr amserlen sydd gennym. Felly, mae hynny'n sicr yn—. Dyna pam y gwnaethom ei gefnogi, gan mai dyna y byddai'n ei wneud—popeth rydych chi newydd ei nodi, dyna y byddai'n ei gyflwyno, a'r hyn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wedyn yw edrych ar yr holl bethau hynny rydych chi wedi'u nodi. Felly, ar hyn o bryd, yn anffodus, tra ydym yn y lle hwn lle mae Bil James yn dal i fynd rhagddo, mae hynny'n rhywbeth i James ei drafod a'i rannu, ac rydym yn sicr yn ceisio cyrraedd yr un lle. Felly, dyna ble rydym arni. Rwyf wedi cyfarfod â James Evans yr wythnos hon i drafod hynny.

Rwy’n falch eich bod wedi cael y trafodaethau hynny gyda James Evans ynghylch ei gynnig deddfwriaethol, ond unwaith eto, mae'r cwestiwn yn ymwneud â’r Mesur. Mae’r Mesur wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, ac mae’n gorfodi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymarferwyr iechyd meddwl i anrhydeddu’r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd hon 14 mlynedd yn ôl. Ac mae hynny wedi'i wreiddio mewn ymarfer ar draws pob un o awdurdodau iechyd Cymru, a phob un, yn wir, o'r awdurdodau lleol a'r sectorau trydyddol hynny sy'n gweithio gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod cydnabyddiaeth gan y Llywodraeth, yn eich cyd-destun chi, i gydnabod rôl y Mesur, deall ei fod wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, a sut y gall fod yn hyblyg yn wir, o ystyried ei fod wedi'i ymgorffori ers cyhyd, cael ei ddiweddaru a gweithio mewn ffordd symlach, fel y crybwyllwyd, gyda'r Ddeddf. Felly, o ran yr elfen wleidyddol, gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan bellach a Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, pa sgyrsiau y gallwch eu cael gyda'ch cymheiriaid ar ben arall yr M4 i symleiddio'r penderfyniadau hyn mewn ffordd sydd, fel y dywedaf, yn iawn i'r claf, yn iawn ar gyfer darparu gofal ac yn iawn i'r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol hefyd?

Diolch. Iawn, wel, i brofi ein bod ar yr un dudalen yma, rwy'n cydnabod y rôl, rwy'n cydnabod ei bod wedi bod yn 14 mlynedd, rwyf am ei symud ymlaen, rwyf am iddo gael ei ddiweddaru, ac rydym am iddo gael ei symleiddio. Ar bob un o’r pethau hynny, rydym yn cytuno’n llwyr. Ar hyn o bryd, yr hyn rydym yn edrych arno yw bod gennym Fil Aelod sy'n anelu at gyflawni llawer o'r pethau hynny, sydd yma, ac rwyf wedi cyfarfod â James Evans yn ei gylch yr wythnos hon. Felly, rwyf wedi edrych arno mewn cyd-destun Cymreig, gyda fy swyddogion, a dyna'n union rydym yn edrych i weld a allwn ei gyflawni. Ac ar yr ochr arall, fel rydych newydd ofyn, am yr hyn rydym yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU, rwyf hefyd wedi cyfarfod â Llywodraeth y DU y bore yma i drafod yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud gyda'u Bil iechyd meddwl a sut y gallai hwnnw weithio gyda'r ddwy Lywodraeth gyda'i gilydd, fel y gallwn gyflawni'r holl bethau a nodwyd gennych. Diolch.

Diolch, Llywydd. Llywydd, yn ystod ymddangosiad yr Ysgrifennydd Cabinet ar un o raglenni gwleidyddol y Sul yn ddiweddar, fe wnaeth o ddisgrifio’r bartneriaeth newydd rhwng yr NHS yng Nghymru a’r NHS yn Lloegr fel ffordd newydd o weithio, cyn sôn mai’r cyfan oedd y bartneriaeth yna, mewn gwirionedd, oedd dysgu arferion da. Ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud wrthym ni, felly, nad oedd yr NHS yng Nghymru yn dysgu ac yn edrych ar arferion da o Loegr cyn hyn?

14:40

Mae diddordeb yr Aelod mewn proses ar draul allbwn yn eithaf trawiadol. [Chwerthin.] Ond, er mwyn ateb ei gwestiwn e, yr hyn sy'n newydd yw’r parodrwydd a welwn ni gan Lywodraeth yn San Steffan i weithio gyda’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru mewn ffordd agored, gydweithredol. Dyna sydd yn newydd yn hyn o beth. Mae e wastad yn bwysig i edrych ar arfer dda, o ble bynnag mae hynny’n dod, yn cynnwys o fewn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, ond beth sydd yn newydd yw’r brwdfrydedd ar ran Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan i gydweithio â ni.

Diolch am yr ateb yna. 

Nawr, rwyf i, a llawer o bobl yng Nghymru yn wir, yn ddryslyd ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar restrau aros yng Nghymru. Pan ofynnwyd iddo ai’r cynllun yw anfon cleifion o Gymru i Loegr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, yn ei eiriau ef,

'Nid dyma rydym yn sôn amdano'.

Ac eto, mae Ysgrifennydd Cymru yn mynnu y bydd cleifion o Gymru yn cael gofal a gynlluniwyd mewn theatrau mewn ysbytai yn Lloegr. Felly, faint o gleifion o Gymru, yn ychwanegol at y rheini sy’n derbyn gofal a gynlluniwyd yn Lloegr eisoes, fydd yn cael triniaeth mewn theatrau mewn ysbytai yn Lloegr?

Cyfeiriaf yr Aelod at y cyhoeddiad a wnaeth y Llywodraeth— bythefnos yn ôl, mae’n debyg, rwy'n credu, neu ychydig o dan hynny ar y pwynt hwn—sy’n nodi lefel y gweithgarwch o ran pobl o Gymru sy’n cael eu trin yn Lloegr a phobl o Loegr sy'n cael eu trin yng Nghymru. Mae honno’n gyfres bragmatig iawn o drefniadau hirsefydlog, sydd ar waith am resymau da iawn—am resymau daearyddol, rhesymau'n ymwneud â bodolaeth arbenigeddau—a byddaf yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd i archwilio a oes cyfleoedd i gydweithio'n agosach, ac rwy’n siŵr y bydd. A bydd hyn, wrth gwrs, yn adeiladu ar y bartneriaeth bresennol rhwng y ddau GIG, sydd eisoes yn golygu bod miloedd o bobl o Loegr yn derbyn eu gofal yng Nghymru ac fel arall.

Felly, os caf grynhoi'r hyn rydych wedi'i ddweud, a'm dealltwriaeth i, rydych chi wedi dweud wrthym fod yr arfer gorau, yn y bôn, eisoes yn cael ei rannu rhwng GIG Cymru a GIG Lloegr beth bynnag, ond eich bod chi'n edrych am ffordd well, efallai, o weithio'n agored gyda'n gilydd. Nid oes capasiti ychwanegol yn y GIG yn Lloegr i ddarparu mwy o driniaeth i gleifion o Gymru, ond rydych chi'n edrych ar archwilio’r posibiliadau hyn, ac nid yw byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd ar y naill ochr i’r ffin na'r llall wedi cael unrhyw ohebiaeth ynghylch unrhyw fath o bartneriaethau cydgymorth neu unrhyw gytundebau eraill. Felly, yr unig beth sydd wedi dod o'r polisi newydd hwn mewn gwirionedd yw grŵp cynghori i helpu Ysgrifennydd y Cabinet gyflawni gwell polisi, ond na fydd cleifion yn gweld unrhyw fanteision diriaethol. A yw hwnnw’n grynodeb teg, neu a all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut yn union y bydd rhestrau aros yn lleihau o ganlyniad i’r polisi hwn sy'n bachu'r penawdau?

Wel, fe ŵyr yr Aelod fy mod wedi gwneud cyhoeddiad, dair wythnos yn ôl mae’n debyg, a oedd yn nodi’r trefniadau yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer grŵp o bobl sydd â phrofiad sylweddol o leihau rhestrau aros. Byddant yn cael y dasg o nodi'r trefniadau sydd gennym ar waith ar hyn o bryd, a byddant hefyd yn ein cynghori ar drefniadau y gallem ystyried eu rhoi ar waith i wella perfformiad ar draws y GIG, gan gynnwys mewn perthynas â rhestrau aros. Rwy’n disgwyl cyfarfod â hwy yn y dyddiau nesaf wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith, a byddaf yn cyhoeddi’r cylch gorchwyl unwaith y byddant wedi ei ystyried yn eu cyfarfod sydd i ddod. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn caniatáu i’r grŵp hwnnw o bobl wneud ei waith. Nawr, mae gennym nifer o fentrau ar waith eisoes er mwyn lleihau amseroedd aros, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am ragor ohonynt cyn bo hir. Ond bydd y grŵp hwn o bobl yn dod â'r wybodaeth orau, y profiad gorau, a'r arferion gorau i fynd i'r afael â her barhaus. Rwy'n gobeithio y byddant yn ein hannog i fod yn feiddgar yn ein hymateb ac i ddysgu gan y corff ehangaf posibl o brofiad, gan ein bod am i’r GIG yng Nghymru allu cael ei ysbrydoli gan arfer da yng Nghymru a thu hwnt.

14:45
Gofal Iechyd Cymunedol yn Nyffryn Clwyd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Nyffryn Clwyd? OQ61765

Gwnaf. Ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' yw i bobl gael mynediad cyfartal at ystod gynyddol o wasanaethau cymunedol i'w cefnogi i gadw'n iach a byw'n annibynnol. Disgwyliwn i bartneriaid lleol gydweithio i feithrin capasiti cymunedol a chynllunio a darparu gwasanaethau integredig ac ataliol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pryderon wedi’u codi gyda mi ynghylch pa mor hawdd yw cael addasiadau yn y cartref a chyllid i bobl sy’n byw gydag anableddau yng Nghymru. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod cymhwystra yn golygu bodloni’r set o feini prawf cenedlaethol ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr. Mae llawer o etholwyr y cyfarfûm â hwy wedi wynebu anawsterau i gael cyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref ac offer anabledd a ariennir gan y GIG, gan fod set anhyblyg o feini prawf i’w bodloni. Mae pedair amod wedi’u nodi gan y ddeddfwriaeth y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael mynediad at y cyllid, ond ceir llawer o bobl anabl â symudedd cyfyngedig nad ydynt yn bodloni pob amod. I gleifion â chyflyrau prin sydd ond yn bodloni rhai o’r amodau, maent yn ei chael hi’n anodd cael cyllid ar gyfer yr offer cywir ar gyfer eu cartref, ac nid yw’r hyn a gynigir iddynt yn bodloni eu gofynion. Gall y fiwrocratiaeth fod yn anodd hefyd, ond gall cael mynediad at gyllid ar gyfer offer hygyrchedd ysgafnhau'r baich ar y gwasanaeth iechyd yn sylweddol drwy ganiatáu i bobl ag anableddau gael cyfleusterau i fyw gartref. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i adborth gan bobl ag anableddau i symleiddio'r broses o wneud cais am gyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref ac offer gan y GIG a fydd, yn y pen draw, yn ysgafnhau'r baich ar ddarpariaeth gwasanaethau'r GIG? Diolch.

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig, ac rwy’n cytuno’n llwyr â byrdwn ei gwestiwn, sef, fel y gwyddom—. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld hyn yn fwyaf diweddar gydag adroddiad Darzi ar gyfer y GIG yn Lloegr, onid ydym, fod gallu cynyddol y GIG i ddarparu gofal i bobl yn eu cartrefi neu yn y gymuned yn rhan gwbl hanfodol nid yn unig o sicrhau bod y gwasanaeth y gall y GIG ei ddarparu yn gadarn, yn wydn ac yn gynaliadwy, sy’n amlwg yn hollbwysig, ond hefyd y byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl gael y gofal iechyd priodol mor agos i’w cartrefi â phosibl. Felly, dyna’n sicr yw byrdwn polisi’r Llywodraeth hon. Os oes rhwystrau penodol y mae’r Aelod wedi’u nodi y gallwn helpu i’w datrys, os gall nodi’r rheini i mi mewn gohebiaeth, fe edrychaf i weld beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r pwyntiau penodol hynny.

Canlyniadau i Gleifion Canser

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion canser? OQ61739

Mae ein dull gweithredu wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a nododd y GIG pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y cynllun gwella gwasanaethau canser. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys ein buddsoddiad mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Bob blwyddyn, mae bron i 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser. Mae’n gyflwr gwirioneddol greulon, gydag un o bob dau o bobl yn y DU yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Roedd fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru yn arfer bod yn gartref i ganolfan ganser arloesol a oedd yn defnyddio therapi pelydr proton, math o radiotherapi mwy targededig. Caeodd canolfan Rutherford ei drysau yn 2022, a oedd yn ergyd enfawr i gleifion canser a’r gymuned ehangach yn gyffredinol. Cafwyd adroddiadau yn dilyn cau'r ganolfan y gallai'r Llywodraeth gymryd yr awenau o bosibl, ond nid yw'n edrych fel pe bai hynny wedi digwydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, o'r hyn a ddeallaf, mae holl offer achub bywyd arloesol y ganolfan yn parhau i fod mewn adeilad adfeiliedig hyd heddiw. Yn wir, gellid gwneud defnydd da iawn o’r offer hwn yn ein gwasanaeth iechyd i drin cleifion canser Cymru, yn hytrach na'i fod yn hel llwch. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw sgyrsiau am gaffael yr offer hwn i'w ddefnyddio yn ein GIG? Ac os na, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio ymhellach i weld a ellir gwneud hyn? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn pellach. Yn bersonol, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau o’r fath. Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi’n drwm mewn gwasanaethau canser, fel y byddai’r Aelod yn ei ddisgwyl, o ystyried lefel y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi, ac y gwn ei bod hithau'n ei rhoi, i wasanaethau canser da. Degau o filiynau o bunnoedd ar gyfer offer, cyfleusterau a hyfforddiant, yn ogystal â moderneiddio ac ehangu rhaglenni sgrinio, ac yn hollbwysig, cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym o'r math y cyfeiriais atynt yn fy nghwestiwn cychwynnol. Felly, byddwn bob amser yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud, beth arall y gallwn ei wneud i ddwyn ynghyd y mathau o arbenigedd, y mathau o arloesedd sydd eu hangen, fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleifion yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrch o’r enw Ymgyrch Claire, sy’n coladu profiadau menywod o ganser gynaecolegol ac yn ymgyrchu dros wella gwasanaethau. Eu tystiolaeth yw bod pryderon cychwynnol gormod o fenywod ynghylch canser yn cael eu diystyru gan eu meddyg teulu: ni cheir amheuaeth o ganser, caiff cyflyrau eraill eu cynnig, a thros amser, cânt eu diystyru, ac yn llawer rhy aml, mae eu poen a’u hanghysur eithafol yn cael ei ddiystyru neu ei anwybyddu. Nid lladd ar feddygon teulu mo hyn, maent yn gwneud gwaith gwych, ond o ran yr hyfforddiant a’r cymorth a gynigir iddynt, efallai fod angen edrych ar hynny. Oherwydd, i ormod o fenywod, mae eu canser yn datblygu cyn y ceir amheuaeth fod canser arnynt, hyd yn oed, heb sôn am ddechrau diagnosis a thriniaeth, ac mae gormod o fenywod yn marw o ganlyniad. Rydym yn gwneud anghymwynas â menywod, a gall y system gyfan wneud mwy i gael diagnosis a thrin canserau'r menywod hyn yn gynharach. Mae'r cynllun iechyd menywod yn gyfle enfawr yma. Beth y gall menywod ddisgwyl y bydd y cynllun yn ei ddweud a’i wneud i wella diwylliant y GIG o wrando ar fenywod sy’n dioddef poen a symptomau a allai fod yn ganserau gynaecolegol?

14:50

Wel, diolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn ac am y ffordd y mae wedi tynnu sylw at waith Ymgyrch Claire, y buaswn yn sicr yn dymuno ei chefnogi, a’r gwaith y mae Claire a’i chydweithwyr yn ei wneud i dynnu sylw at heriau yn y system, y byddem yn bendant yn eu cydnabod. Fe wnaeth y dystiolaeth a roddwyd i bwyllgor y Senedd yn ei ymchwiliad diweddar argraff fawr arnaf hefyd.

Cefais sgwrs y bore yma ynglŷn â phwysigrwydd ymateb i symptomau yn yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw, fel y maent yn ymgyflwyno, a sicrhau bod hynny’n cael ei gymryd o ddifrif, fel y gallwn sicrhau bod pobl yn cael y gofal cyflym sydd ei angen arnynt. O drafodaethau gyda’r Gweinidog, rwy'n gwybod ein bod yn edrych yn fanwl iawn ar sicrhau bod y cynllun, pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, mor gadarn ac mor gefnogol ag y gall fod, ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o’r meddylfryd hwnnw'n sicr wedi'i siapio gan Ymgyrch Claire.

Profion Canser y Prostad

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brofion canser y prostad i ddynion dros 50 oed? OQ61747

Dylai dynion sy'n pryderu am eu risg o ganser y prostad ofyn am apwyntiad gyda'u meddyg teulu i drafod eu pryderon ac i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag archwiliadau pellach. Mae canllawiau cyhoeddus ar gael i gefnogi dynion a meddygon teulu i gael y drafodaeth honno.

Diolch am eich ymateb. Ers cyflwyno’r cwestiwn hwn, mae Syr Chris Hoy wedi cadarnhau ei ddiagnosis angheuol ei hun o ganser y prostad, a chanser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion, ac mae ei risg yn cynyddu gydag oedran ac ystod o ffactorau eraill. Ond os caiff ei ddal yn gynnar, mae'n bosibl byw bywyd hir a chadarnhaol. Fel fi, mae’r Ysgrifennydd iechyd dros 50 oed, sy’n un o’r ffactorau y dylai dynion eu hystyried wrth geisio cyngor a’r posibilrwydd o brawf. Mae gennyf risg ychwanegol o fod yn hil gymysg o dras du Affricanaidd. Mae fy mhrofiad fy hun o ymgysylltu ag ymarfer cyffredinol ar y mater wedi bod yn gadarnhaol. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd iechyd yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o ddynion yn deall y ffactorau risg ac yn cael eu hannog i weithredu’n gynnar arnynt? Ac a all gadarnhau pa gynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gynnal profion mwy cywir ar gyfer canser y prostad?

Diolch i’r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiwn, gan gynnwys fy atgoffa o fy oedran. Diolch am hynny. Mae’n gwbl hanfodol cydnabod, yn y ffordd a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, pa mor bwysig yw canfod canser yn gynnar. Mae canllawiau cenedlaethol clir ar waith, sy’n seiliedig ar symptomau a ffactorau risg, i feddygon teulu eu dilyn wrth atgyfeirio ar gyfer amheuaeth o ganser y prostad. Rydym wedi ategu hyn gyda deunyddiau hyfforddi digidol ar gyfer meddygon teulu, yn manylu ar sut i asesu pobl. Os yw pobl yn teimlo y gallent fod mewn perygl, dylent weld eu meddyg teulu. Mae canllawiau cenedlaethol clir ar hynny i gefnogi’r sgyrsiau hynny. Credaf ei bod hefyd yn bwysig edrych ar ddulliau gweithredu sy'n datblygu'n gyson yn y maes hwn. Fel y gŵyr, nid oes unrhyw argymhelliad ar hyn o bryd mewn perthynas â sgrinio—sgrinio’r boblogaeth—yn y maes hwn, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o’r gwaith y mae Prostate Cancer UK wedi bod yn ei wneud gyda Phwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a bydd gennyf ddiddordeb mewn edrych ar y datblygiadau yn y maes hwnnw.

Lywydd, rwy’n datgan buddiant, fel rhywun sy’n byw gyda chanser y prostad, ac yn amlwg, fel rhywun arall sydd dros 50 oed hefyd. Nawr, fy nealltwriaeth i yw na all meddygon fynd ati'n rhagweithiol ar hyn o bryd i gynnig profion antigenau penodol i’r prostad i ddynion risg uchel heb unrhyw symptomau, megis dynion dros 50 oed, dynion du a dynion â hanes teuluol o ganser y prostad, ac felly mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y maes hwn i fynd i'r afael â hynny.

Nawr, yr wythnos diwethaf, cymerais ran yn nhaith gerdded Prostate United gyda Chlwb Pêl-droed Hwlffordd, menter sy’n codi arian ar gyfer Prostate Cancer UK drwy annog pobl i gerdded, rhedeg neu feicio bob dydd ym mis Hydref. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu ymdrechion pawb sydd wedi cymryd rhan yn her Prostate United hyd yma? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth estyn allan at ddynion sydd â’r risg uchaf o ganser y prostad?

14:55

Byddaf yn sicr yn dathlu’r gwaith y cyfeiria ato yn ei gwestiwn, ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn defnyddio’r cyfleoedd hynny i dynnu sylw at y risgiau yn y ffordd y mae’r gyfres hon o gwestiynau yn ei gwneud heddiw, a bod hynny’n digwydd ar lefel y byrddau iechyd lleol hefyd. Fel y soniais yn fy ymateb i Vaughan Gething, mae’r gwaith y mae Prostate Cancer UK yn ei wneud ar opsiynau eraill heblaw profi yn y maes hwn a’r datblygiadau o ran profi yn y dyfodol yn rhan gwbl hanfodol o’r dirwedd honno.

Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru yn cael y gofal iechyd y mae arnynt ei angen? OQ61744

Mae ein dyled yn fawr i'n cyn-filwyr. Adlewyrchir hyn yn ein polisi, sy'n rhoi mynediad blaenoriaethol i driniaeth y GIG ar gyfer cyflyrau iechyd sy'n deillio o'u hamser mewn gwasanaeth milwrol. Rydym hefyd yn darparu mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr ar gyfer materion iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth.

Diolch, Weinidog. Yn ôl adroddiad diweddar Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn gwario oddeutu £1,600 fesul cyn-filwr sy'n ceisio gwasanaethau iechyd meddwl; yn Lloegr, mae'r ffigur yn fwy na dwywaith hynny, sef £3,400. Yno, mae cyn-filwyr yn cael cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau, caethiwed a therapïau anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth. Nid yw hyn ar gael yma yng Nghymru. Yma, caiff cyn-filwyr eu cyfeirio’n ôl at wasanaethau iechyd meddwl cyffredinol ar gyfer unrhyw faterion nad ystyrir eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’u cyfnod mewn gwasanaeth. Nawr, fel y nodwyd gennych ar ddechrau eich ateb, mae'r unigolion hyn wedi wynebu amgylchiadau na allwn ddechrau eu dirnad. Maent yn aml wedi mentro eu bywydau. Ac eto, rwy’n cyfarfod â chyn-filwyr digartref ar strydoedd Caerdydd. Rydym yn gwneud cam â hwy. A ydych chi'n gwybod pam fod gennym fwlch mor enfawr yma yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ac a ydych chi'n credu bod gwariant digonol yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaethau y maent yn eu haeddu? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn hwn, Rhys ab Owen, ac am dynnu sylw at adroddiad y comisiynydd cyn-filwyr a gyhoeddwyd, yr adroddiad blynyddol, sydd, yn fy marn i, yn asesiad personol defnyddiol iawn o’r materion allweddol sy'n effeithio ar gyn-filwyr yng Nghymru, ac rydych chi newydd sôn am lawer ohonynt. Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn parhau i fuddsoddi yn GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac mae iechyd meddwl yn un o bedwar maes blaenoriaeth y Prif Weinidog, felly dof yn ôl at yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, yn gynharach, sef na allaf achub y blaen ar beth fydd yn y gyllideb sydd i ddod.

Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod angen amodi rhai o'r cymariaethau trawsffiniol, ac mae’r comisiynydd cyn-filwyr yn cydnabod hynny, mewn perthynas â gwelyau argyfwng a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol. Felly, ydy, mae ein gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr, GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cyflawni ei dargedau gyda rhai eithriadau lleol, lle mae swydd wag neu lle mae proses recriwtio ar waith. Mae’r gwasanaeth hwn bellach hefyd yn cefnogi cyn-filwyr sydd yn y carchar yng Nghymru.

Credaf ei bod yn werth sôn hefyd, serch hynny, eich bod chi'n iawn, mae llawer o hyn yn ymwneud â gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr, ond mae gennym hefyd ystod wych o sefydliadau trydydd sector sy’n gwneud gwaith aruthrol ar lawr gwlad yng nghymunedau pobl. Felly, mae gwaith TGP Cymru yn cynnwys ffocws penodol ar ddulliau adferol ar gyfer cyn-filwyr a gwasanaethau teuluoedd, felly mae hynny'n eu helpu'n fawr i ailgysylltu â'u teuluoedd ac i gael bywyd teuluol gwirioneddol gadarnhaol ac iach. Mae gennym Adferiad hefyd, sydd â rhaglen Change Step sy'n gweithio gyda chyn-filwyr, ac maent yn gwneud gwaith aruthrol unwaith eto gyda rhaglen Places, Pathways and People, sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Felly, daliwch ati i godi'r mater. Rwy'n falch iawn o gael iechyd meddwl cyn-filwyr yn rhan o fy mhortffolio, a byddaf yn parhau i gyfathrebu â'r gymuned hefyd a sicrhau eu bod yn cael popeth sydd ei angen arnynt. Diolch.

Y peth cyntaf yr hoffwn ddechrau gydag ef yw diolch i Lisa Rawlings o’r Female Veterans Alliance am godi mater pwysig iawn yn ddiweddar yng ngrŵp trawsbleidiol y Senedd ar gyfer y lluoedd arfog. Tynnodd sylw at y ffaith bod cyn-filwyr benywaidd yn wynebu heriau unigryw, yn ystod ac ar ôl eu gwasanaeth. Mae camau breision wedi’u cymryd, wrth gwrs, ym maes gofal cyn-filwyr ers cyflwyno cyfamod y lluoedd arfog o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, ond mae angen gwneud llawer mwy yma yng Nghymru yn arbennig. Un o’r prif rwystrau o ran cefnogi cyn-filwyr benywaidd yw nad oes gennym unrhyw fentoriaid cymheiriaid penodol ar gyfer cyn-filwyr benywaidd yng ngwasanaeth cyn-filwyr y GIG.

Yn 2021, roedd menywod yn y lluoedd arfog 10 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef aflonyddu rhywiol. Canfu astudiaeth o gyn-filwyr benywaidd y DU gyfraddau uwch o anawsterau iechyd meddwl ymhlith cyn-filwyr benywaidd, o gymharu â menywod nad ydynt wedi gwasanaethu. Mae’r ffaith nad oes gan Gymru unrhyw fentoriaid cymheiriaid penodol ar gyfer cyn-filwyr benywaidd yn creu rhwystr o ran mynediad at y gwasanaeth, sy’n golygu bod llawer yn amharod i sôn am faterion a oedd efallai’n ymwneud â dyn wrth gyn-filwr gwrywaidd, sef yr unig opsiwn yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae adborth yn awgrymu bod angen clir am fwy o gymorth i gyn-filwyr benywaidd yn y GIG. Felly, Weinidog, a allwch chi roi sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y byddwch yn ymchwilio i hyn, ac efallai’n cyfarfod â’r Female Veterans Alliance fel y gellir mynd i’r afael â hyn ar fyrder? Diolch.

15:00

Rwy'n croesawu eich cwestiwn heddiw, Laura Anne Jones. Mae'n bwysig iawn. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i Lisa Rawlings am rannu ei phrofiad bywyd. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi ac yn edmygu unrhyw un sy'n gallu gwneud hynny, yn enwedig pan allai fod stigma'n gysylltiedig ag ef, pan all fod yn drawmatig, pan all fod yn boenus, yn y gobaith y byddant yn gwneud gwahaniaeth i bobl eraill. Felly, hoffwn eich sicrhau fy mod yn sicr yn cytuno i gyfarfod â'r Female Veterans Alliance. Hoffwn glywed mwy. Rwy'n gredwr mawr mewn cymorth gan fentoriaid cymheiriaid; mae'n mynd yn anhygoel o dda. Mae un mentor cymheiriaid GIG Cymru i Gyn-filwyr ym mhob bwrdd iechyd sydd gennym bron iawn. Fodd bynnag, os nad oes unrhyw fentoriaid cymheiriaid benywaidd, mae honno'n broblem enfawr. Felly, buaswn yn croesawu cyfarfod ac yn sicr, fe edrychaf ymhellach ar hyn. Diolch.

Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ61763].

Amseroedd Aros Gastroenteroleg

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros gastroenteroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro? OQ61730

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu canser ac atgyfeirio brys ar gyfer gastroenteroleg ac yna'n canolbwyntio ar ddiagnosis a thriniaeth y cleifion sy'n aros hiraf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae diagnosis cynnar o broblemau gastroenterolegol a mynediad at driniaeth i gael symptomau dan reolaeth yn hanfodol i bobl sy'n byw gyda chlefyd Crohn a llid y colon. Mae oedi i ddiagnosis a thriniaeth yn cynyddu'r risg o gymhlethdod difrifol ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o lawdriniaeth. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r nifer sy'n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol gastroenterolegol cyntaf wedi codi o dri pherson ym mis Gorffennaf 2023 i 449 ddiwedd mis Gorffennaf eleni. Gydag amser aros canolrifol am apwyntiad gastroenterolegol o 37.6 wythnos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i atal pobl sy'n byw gyda chlefyd Crohn a llid y colon rhag gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl deg dweud bod y bwrdd iechyd wedi gweld amseroedd aros diagnostig yn her go iawn. Yn fy nghyfarfod cyfnodol gyda'r cadeirydd, buom yn trafod yr union gwestiwn hwnnw ac rwy'n gwbl glir fod y bwrdd iechyd yn cydnabod yr angen i wneud cynnydd go iawn cyn gynted â phosibl, yn rhannol am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu nodi yn ei gwestiwn. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi sicrhau uned endosgopi symudol, a gafodd ei defnyddio tan yn ddiweddar, a bellach yn cynyddu capasiti trwy fewnoli ychwanegol. Mae'n her sylweddol, mae'n un a fydd, yn anffodus, yn cymryd peth amser i'w datrys yn ei chyfanrwydd, ond rwy'n gobeithio y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi codi hynny yn fy nghyfarfod gyda'r cadeirydd a bod y bwrdd iechyd yn llwyr gydnabod bod angen gwella'r gwasanaeth.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae dau wedi cael eu dewis heddiw. Mae'r cyntaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac i'w ofyn gan James Evans.

Cyfoeth Naturiol Cymru

1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023-24 sy'n cynnwys manylion ymchwiliadau Cyllid a Thollau EF i gydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres, a maint yr atebolrwydd posibl a allai fod yn ddyledus? TQ1220

Member
Huw Irranca-Davies 15:04:46
Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Diolch, James. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei hymgysylltiad â CNC i fonitro cynnydd ar ddatrys y mater ac i ddysgu gwersi o'r ffordd y digwyddodd y sefyllfa. Mae hwn yn fater gweithredol i CNC, wrth iddo barhau ei drafodaethau gyda CThEF i sicrhau datrysiad.

15:05

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n peri gofid mawr i glywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn destun ymchwiliad gan CThEF, ac amcangyfrifir yn y wasg y gallai trethdalwyr Cymru orfod talu gymaint â £19 miliwn. Mae hwnnw'n ffigur gwirioneddol syfrdanol. 

Ac eto, nid dyma'r tro cyntaf i CNC gamarwain y cyhoedd ynghylch ei gymwyseddau ariannol. Mae'r Gynghrair Cefn Gwlad eisoes wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o gamarwain y cyhoedd yn ystod ei ymgynghoriad cyhoeddus, yn dilyn prynu tir yn sir Gaerfyrddin gan y sefydliad.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth edrych ar y trafferthion niferus yn gysylltiedig â chyllid y mae CNC wedi'u hwynebu ers ei greu yn 2013, mae'n amlwg nad yw'n gallu rheoli ei gyllid. Felly, gofynnaf i chi: beth yw cyfanswm yr atebolrwydd a ragwelir o'r ffiasgo diweddaraf yn CNC, a faint yn fwy o arian trethdalwyr Cymru fydd yn rhaid i ni ei dalu am lanast CNC?

Hoffwn ofyn cwestiwn i chi hefyd yn eich rôl fel y Dirprwy Brif Weinidog. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych ar draws y Llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru ar reolau IR35, i sicrhau nad oes unrhyw sefydliad arall, boed yn Llywodraeth Cymru neu'n awdurdod lleol, wedi mynd yn groes i'r rheolau ac yn mynd i wynebu dyled o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i CThEF?

Wel, Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch inni gydnabod bod hwn yn fater pwysig y mae angen i CNC ei ddatrys yn ei drafodaethau â CThEF. Ond un peth nad wyf yn mynd i'w wneud yw cymryd rhan mewn ymosodiadau gwleidyddol ar y sefydliad, sef y prif warcheidwad a rheoleiddiwr amgylcheddol yn y gofod hwn. Fel y gwelsom, mae wedi ehangu i fod yn ymosodiad mwy ar CNC, y sefydliad.

I fod yn hollol glir, nid CNC yw'r unig sefydliad sydd wedi bod yn destun ymchwiliadau IR35 gan CThEF. Yn wir, dan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn a DEFRA—rwy'n siŵr y gallai fod eraill hefyd—wedi bod yn y sefyllfa hon. Ond mater i CNC—corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ond heb ei weithredu gan Lywodraeth Cymru—yw ymgysylltu nawr, fel y mae'n gwneud, gyda CThEF i ddatrys hyn.

I fod yn glir—yn groes, gyda llaw, i rai o'r awgrymiadau a wnaed ar dudalennau Twitter y Ceidwadwyr a chan arweinydd yr wrthblaid yr wythnos hon yn y Senedd—nid yw'n fater o'r trethdalwr yn agor llyfr siec i CNC. Mewn gwirionedd, y rheswm y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir yn fy marn i i alluogi CNC i gael benthyciad wrth ddechrau'r trafodaethau gyda CThEF oedd osgoi costau uwch a allai gronni trwy gyfraddau llog ar hynny.

Felly, mae'n ddefnydd doeth o arian trethdalwyr i'w atal rhag mynd i sefyllfa anos. Gyda llaw, mae'r £19 miliwn yn swm dangosol, a gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig ddydd Llun, James, fel y gwyddoch. Rwyf wedi bod yn gwneud ymdrechion mawr, gyda llaw, i ymgysylltu â llefarwyr yr wrthblaid ar y mater hwn, ond yn anffodus, nid wyf wedi cael unrhyw ymateb—

—ac mae hynny'n siomedig, oherwydd buaswn wedi hoffi mynd drwy fanylion go iawn hyn.

Fodd bynnag, gadewch imi ddweud, mae adroddiad a chyfrifon blynyddol CNC yn cynnwys manylion ymchwiliadau CThEF i'r hyn sy'n fater cydymffurfio hanesyddol â rheolau IR35 a maint atebolrwydd posibl—gwyliwch y geiriau hynny: atebolrwydd posibl—a allai fod yn ddyledus. Lywydd, fe wnaethom osod y datganiad ysgrifenedig ddydd Llun, fel y gwyddoch. Maent yn trafod y mater hwn, rhwng CNC a CThEF, er mwyn sicrhau datrysiad.

Rydym yn parhau i weithio gyda CNC i ddarparu'r cymorth angenrheidiol wrth iddo fynd drwy'r broses. Rwyf wedi trafod hyn gyda chadeirydd CNC yn rheolaidd ers iddo ddod i fy sylw, gan gynnwys mor ddiweddar â dydd Llun. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda CNC i ddatblygu trefniadau monitro gwell a chefnogaeth bellach ar gyfer capasiti a gallu, fel sy'n ofynnol.

Ond gadewch inni fod yn glir hefyd: pan fyddwn yn gwneud ymosodiadau gwleidyddol ar CNC sy'n mynd y tu hwnt i'r mater IR35 hwn, fel y gwelsom yn gynharach yr wythnos hon yn y Senedd—. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur. Mae gwaith CNC fel rheoleiddiwr o'r pwys mwyaf i ni i gyd, ac mae staff proffesiynol ac angerddol CNC yn gweithio o ddydd i ddydd i helpu i ddiogelu natur a phobl yng Nghymru. Yn wir, mae gan Lywodraeth Cymru rôl glir, Lywydd, yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny a sicrhau y bydd ei waith hanfodol yn parhau, a byddwn yn cefnogi CNC yn ei drafodaethau gyda CThEF.

15:10

Diolch, Lywydd. Mae'r taliad hwn i CThEF yn codi pryderon difrifol am reolaeth a chydymffurfiaeth, ond mae hefyd yn ysgogi cwestiynau ynghylch pa brosesau sydd ar waith i gefnogi staff yn y sefyllfa hon. Nid wyf yn gwybod manylion yr hyn sydd wedi digwydd yma, ond byddai fy ngreddf yn dweud wrthyf na fyddai unrhyw un wedi dymuno i bethau gyrraedd y cam hwn, na fyddai hyn wedi digwydd trwy dwyll bwriadol, ond yn hytrach, mesurau diogelwch annigonol a phwy a ŵyr, ofnau staff efallai. Hoffwn wybod pa gymorth sy'n cael ei roi i'r staff y mae hyn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd, a hoffwn wybod pa gamau a gymerodd y Llywodraeth i fonitro arferion ariannol CNC, unwaith eto, ie, i glywed sicrwydd na fydd methiannau tebyg yn digwydd eto mewn cyrff cyhoeddus o dan ei goruchwyliaeth. Rhaid cryfhau prosesau, rhaid egluro llinellau atebolrwydd clir os oes angen, ond mae CNC yn gwneud gwaith pwysig iawn. Fy marn i yw y dylem ganolbwyntio ar y dyfodol, gan sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, i ddiogelu staff, yn ogystal â chyllid. Nid yw canolbwyntio ar feio'n unig yn mynd â ni i unman. Fe wnaed camgymeriad, roedd yn gamgymeriad difrifol iawn, ond mae angen rhoi'r bai ar brosesau nid ar bobl.

Delyth, diolch am hynny. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau pwysig iawn yma, oherwydd, wrth wraidd hyn hefyd—. Mae hwn yn fater cydymffurfio hanesyddol y maent yn ymdrin ag ef; mae'n mynd yn ôl sawl blwyddyn. Maent yn gwneud gwaith craffu priodol ar yr hyn a ddigwyddodd er mwyn dysgu gwersi wrth symud ymlaen—er mwyn ei osgoi. Yn wir, rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd y bwrdd yn aml ar hyn, wedi rhoi trefniadau llywodraethu a goruchwylio cryfach ar waith, a dadansoddi risg, i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Rwy'n disgwyl hynny ac maent yn ei wneud. Ond wrth wraidd hyn mae pobl sy'n angerddol am y gwaith a wnânt ar bob lefel o fewn CNC. A dyna pam rwy'n dweud yn gryf iawn, 'Gadewch inni beidio â phwyntio bys at unigolion neu CNC fel sefydliad', a dweud wrth CNC fod angen iddynt ddatrys hyn o ran eu perthynas â CThEF, mae angen datrys yr atebolrwydd posibl hwn, mae angen inni weld union swm yr hyn ydyw, ac yna mae Llywodraeth Cymru yno i helpu i gefnogi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, mewn ffordd gyfrifol, gyda'n cyfrifoldeb priodol ein hunain fel y corff sy'n noddi CNC, ond heb gamu i'r gofod y mae'n rhaid iddynt hwy ei ddatrys. 

Ac os caf egluro un peth hefyd, Delyth, a Lywydd: er bod hwn yn fater i CNC ei hun a'r bwrdd, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, mae CNC wedi dweud yn glir nad yw'n defnyddio contractwyr oddi ar y gyflogres mwyach, a'i safbwynt diofyn yw na fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol, ac mae hynny'n dda i'w glywed. Felly, mae yna faterion hanesyddol i ymdrin â hwy, i'w deall, i ddysgu sut y gellir osgoi hyn yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i CNC fod yn onest yn eu dadansoddiad mewnol o hynny. Rydym ni hefyd, fel Llywodraeth Cymru, yn y gofod hwnnw, yn ceisio deall yn union beth sydd wedi digwydd mewn corff a noddir gennym, ond mater iddynt hwy yw datrys hyn nawr. Ac yn y cyfamser, mae'n rhaid iddynt fwrw ymlaen â'u gwaith hanfodol fel rheoleiddiwr yr amgylchedd naturiol yma yng Nghymru, a hefyd yr holl waith a wnânt ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, y gwaith a wnânt gyda chymunedau ledled Cymru. Ac rwy'n gwybod yn bendant nad dyma lle roeddech chi'n mynd, ond gadewch inni beidio â cheisio eu llusgo i lawr a defnyddio hyn fel cyfle gwleidyddol i'w tanseilio fel sefydliad; mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae.

Dim ond er eglurder—nid wyf yn gwybod at bwy roeddech chi'n cyfeirio—nid wyf wedi cael e-bost oddi wrthych am y mater penodol hwn. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad y tu allan, ond roedd hynny'n ymwneud â'ch datganiad ddoe a dim byd i'w wneud â CNC.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest, dyma fethiant arall gan CNC. Roedd hyd yn oed eich datganiad chi ddoe, Ddirprwy Weinidog, wedi ichi achub ei groen, yn gyfaddefiad clir fod Cyfoeth Naturiol Cymru nid yn unig yn ei chael hi'n anodd, ond bod angen mwy o oruchwyliaeth. Mae'r sgandal ddiweddaraf hon yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth wael—anhygoel o wael—o fewn CNC. Wythnos ar ôl wythnos, clywn am fethiannau niferus y sefydliad hwn.

Rwy'n teimlo'n flin iawn dros y staff gweithgar, y byddaf yn gweithio gyda hwy'n rheolaidd, ac maent yn teimlo'n siomedig ynghylch diffygion rheoli cyson. Maent yn gwneud gwaith gwych, ond maent yn cael eu siomi. Dylid gofyn cwestiynau difrifol. Nid wyf yn ymddiheuro am fynd gam ymhellach na chi: pe bai hwn yn gwmni preifat, byddai pobl wedi cael rhybudd. Pam y dylai'r sector cyhoeddus, y Llywodraeth hon neu CNC fod yn wahanol? Pwy a benodwyd i archwilio'r cyfrifon hyn? Pam na wnaethant dynnu sylw at y sefyllfa hon yn gynharach, pan fo'n sôn am gydymffurfiaeth hanesyddol CNC â gwaith oddi ar y gyflogres? Ni fuaswn i byth yn cael dianc rhag hynny mewn busnes, na fawr o neb yn y sector preifat.

Yn y GIG yng Nghymru, mae gennym fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio. A ydych chi erioed wedi meddwl am gael proses debyg ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, i gynnwys CNC? Ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych, pe bawn i'n cael fy ffordd yma heddiw byddai gofyn i rywun o blith yr uwch-reolwyr ystyried eu sefyllfa. Diolch.

15:15

Lywydd, mae yna bwynt dilys a difrifol yn hyn o beth am CNC yn cymryd cyfrifoldeb am y ffordd y digwyddodd hyn, gan ddysgu'r gwersi a bod yn dryloyw hefyd, ac mae'r broses honno ar y gweill, Janet. Ond i fod yn glir, rydych chi newydd sôn yno, os clywais chi'n iawn, am arweinyddiaeth anhygoel o wael, rheolaeth ddiffygiol, gan dalu teyrnged i angerdd y gweithwyr rheng flaen ar yr un pryd. A dweud y gwir, mae yna bobl yn CNC ar bob lefel sy'n angerddol ynglŷn â diogelu ein hamgylchedd naturiol, a—[Torri ar draws.]—ac mae defnyddio hyn fel cyfle i danseilio a lladd ar y sefydliad a'r bobl ynddo—

—nid wyf yn credu y dylech chi ymosod arnynt.

Felly, a gaf i ddweud hefyd, er eglurder, Lywydd, yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gynnwys dydd Llun, ond cyn hynny hefyd mewn gwirionedd, fe wneuthum siarad fel Ysgrifennydd Cabinet â phob llefarydd ar y fainc flaen. Janet, fe sonioch chi nad oedd y fy ymgysylltiad wyneb yn wyneb â chi ddoe yn ymwneud ag CNC. Nid yw hynny'n wir. CNC yw hyn. [Torri ar draws.] CNC ac IR35 yw hyn, ac er eglurder, er mwyn y cofnod, Lywydd, rydym wedi—[Torri ar draws.] 

Rwy'n caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet gwblhau ei sylwadau.

I geisio bod yn hollol glir, fe wnaethom gysylltu dro ar ôl tro trwy e-bost, ffôn a thrwy neges bersonol uniongyrchol yn wir i ddweud a allem siarad am hyn, os oeddech chi eisiau, i fynd trwy hyn yn fanwl cyn inni ddod ag ef i'r llawr. Felly mae'r rheini wedi cael eu gwneud i bob un blaid wleidyddol yn ddiwahân er mwyn egluro hyn. Byddwn yn parhau i geisio gwneud hynny yn y dyfodol hefyd, ond mae rhan o hyn oherwydd y manylion y tu ôl iddo. Oherwydd credaf mai'r hyn sydd gennym yma o'n blaenau yw sefydliad sydd â phroblem gydymffurfiaeth hanesyddol ag IR35. Mae'r sefydliad yn gweithio gyda CThEF i ddatrys hyn. Mae yna atebolrwydd posibl o hyd at £19 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r sefydliad mewn ffordd gyfrifol i sicrhau nad yw hynny'n cynyddu ac i ddarparu cefnogaeth lle bo hynny'n briodol. Ond dyna yw ein rôl ni fel noddwr y corff hwn, ac nid wyf am ymuno mewn ymosodiadau ar sefydliad a grëwyd i ddiogelu'r gorau o'n hamgylchedd naturiol, ein hafonydd, ein moroedd, ein pridd, popeth arall, ac i ymdrin ag amddiffyn rhag llifogydd i unigolion ledled Cymru.

Wrth gwrs, nid yw'r materion IR35 yn newydd o ran cyrff sector cyhoeddus. Rydym yn cofio bod y BBC wedi cael ei ddal yn hyn flynyddoedd lawer yn ôl, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar lefel Llywodraeth y DU hefyd rai blynyddoedd yn ôl. Ond byddai'n ddiddorol deall pa gyngor os o gwbl a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'w hadrannau ei hun neu i gyrff noddedig o ganlyniad i'r materion hynny yn y gorffennol, gan dynnu sylw at risgiau i'r sefydliadau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru. Rydych chi nawr wedi gofyn i CNC gynyddu capasiti a gallu, yn enwedig ar drefniadau risg a rheolaeth ariannol. A yw hynny'n gyfaddefiad bach eu bod yn cael trafferth gyda chapasiti yn fwy cyffredinol? Oherwydd rydym ni fel Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi rhybuddio ers tro ynglŷn â'n pryderon yn hynny o beth. A yw hwn yn un o'r mathau o ganlyniadau a welwn bellach o ganlyniad i'r llwybr anghynaliadwy o fwy o ddyletswyddau ac adnoddau sy'n lleihau? Ac yn olaf, a ydych chi'n disgwyl i CNC ad-dalu unrhyw arian allan o'r £19 miliwn hwnnw yn y pen draw?

Llyr, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Yn gyntaf oll, mae ymwybyddiaeth o'r mater hwn ar draws y Llywodraeth. Felly, mae pob Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o hyn ac mae pob corff a noddir yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau uniongyrchol. Dylwn ddweud yn glir iawn, er mai mater i CThEF yw asesu cydymffurfiaeth neu ddiffyg cydymffurfiaeth ag IR35 ar draws pob sefydliad, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion byw eraill mewn perthynas â chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Ond fe sonioch chi am gefnogaeth o ran capasiti, felly un o'r pethau a wnaethom yn y sefyllfa hon, sydd, yn fy marn i, yn ffordd gyfrifol ymlaen, yn ein hymgysylltiad â CNC a'r cyfarfodydd niferus a gefais gyda'r Cadeirydd a'r uwch-reolwyr, yw dweud os oes angen cymorth ychwanegol arnynt i gefnogi eu trafodaethau gyda CThEF, i'w galluogi i fynd yn eu blaen—. Rydym am i hyn gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl; y peth gwaethaf yw bod hyn yn hongian uwchben y sefydliad. Felly, rydym wedi ceisio gweithio gyda hwy i ddweud, 'Gadewch inni gael amserlenni yma', gan gofio mai mater i CThEF yw pa mor gyflym y maent am ei ddatblygu, ond credaf fod CThEF hefyd yn ymwybodol o awydd i gwblhau hyn i weld beth yw'r atebolrwydd posibl. Rydych chi'n gofyn hefyd: a yw hyn yn golygu y bydd angen i CNC ad-dalu unrhyw arian i ni? Oherwydd rydym wedi camu i mewn, ac rwy'n dweud, unwaith eto, fy mod yn credu ei bod hi'n ffordd gyfrifol o gamu i mewn, oherwydd rydym yn osgoi llog a chostau eraill rhag cronni. Nawr, ar y sail, os gallwn ni benderfynu'n gyntaf—. Mae'n ddrwg gennyf, 'os gallwn'. Os gall CNC benderfynu gyda CThEF yn gyntaf beth yw ei atebolrwydd posibl, bryd hynny byddaf i, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yma ac eraill, yn cael y trafodaethau hynny gyda CNC i siarad ynglŷn â sut y gall arian y trethdalwr fynd yn ôl i'r lle y daeth. Nid ydym ar y pwynt hwnnw eto, ond mae'n gwestiwn cymwys iawn. 

Un peth arall i'w ddweud yw bod hyn yn wahanol iawn i'r pwysau ehangach y mae rhai pobl yn ceisio ei gyfuno gyda'r 'Achos dros Newid', gyda'r pwysau cyllidebol cyfarwydd y mae CNC yn eu hwynebu, dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, sy'n bwysau ar Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd. Mae hyn ar wahân i hynny'n gyfan gwbl, ond rydym yn ymwybodol nad ydym am i hwn fod yn fater sy'n tynnu sylw felly rhag bwrw ymlaen gyda'r undebau drwy'r ymgynghoriad 'Achos dros Newid', a phenderfynu sut y maent yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau statudol a bod yn addas i'r diben ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol. 

Felly, rydym yn awyddus i sefyll yn y ffordd iawn gyda chymorth i CNC a'i ymgysylltiad â CThEF ond i fod yn glir, mater iddynt hwy i'w ddatrys gyda CThEF yw hwn.  

15:20

Weinidog, diolch am eich ymatebion y prynhawn yma. Rwyf wedi gwrando'n astud ac roeddwn yn ddiolchgar am ymateb arweinydd y tŷ ddoe, a chredaf fod hwnnw'n graff iawn, yn enwedig gan i chi gytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr.

Ambell bwynt, os caf. Roeddwn yn deall o'r adroddiadau a ddarllenais mai'r £19 miliwn yw'r swm meintiol o arian sy'n ddyledus i CThEF ar hyn o bryd. Nid cyfanswm yr atebolrwydd ydyw ac mae'r trafodaethau'n parhau, ac yn sicr gallai'r atebolrwydd hwnnw gynyddu. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir? 

Ac yn ail, a yw'r gweithwyr hyn, gyda nifer ohonynt wedi derbyn diswyddiadau, yn cael eu rhoi yn ôl ar lyfrau CNC drwy'r llwybr hunangyflogedig a'r llwybr is-gontractio, ac felly ai dyna sut y mae'r atebolrwydd wedi codi? Oherwydd, yn amlwg, mae pob corff cyhoeddus wedi bod yn lleihau nifer eu gweithwyr, ond yn y pen draw, pan fyddwch chi'n mynd i rai o'r sefydliadau hyn, maent wedi ailgyflogi'r unigolion fel is-gontractwyr neu ar sail hunangyflogedig, a dyma lle mae'n amlwg fod yr atebolrwydd wedi dod i'r golwg. Oherwydd mae £19 miliwn yn swm sylweddol o arian yng nghyd-destun unrhyw un, a'n gwaith ni fel yr wrthblaid yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif ynglŷn â'r rheswm pam y digwyddodd yr atebolrwydd hwnnw. 

Yn wir, a gwrandewch, diolch am y ffordd rydych chi wedi gofyn y cwestiynau hynny, Andrew; mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Yn gyntaf oll, un peth i fod yn glir iawn yn ei gylch—ac mae hwn yn bwynt diffuant—yw nad ydym yn gwneud sylw manwl ar drafodaethau rhwng corff noddedig a CThEF, iawn. Nid ydym, ac mae rhesymau da pam na ddylem wneud hynny, oherwydd mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Ond y ffigur penodol o £19 miliwn—. Gadewch imi bwysleisio eto: mae atebolrwydd posibl yn golygu yn union hynny; atebolrwydd posibl. Ond nid wyf yn gwneud sylwadau ar beth y gallai'r ffigur fod yn y pen draw; dyna'n hollol yw'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mater i CNC yw cael y trafodaethau hynny gyda CThEF. 

Os caf ddweud yn glir, mae mater diswyddiadau ac yn y blaen yn gyfan gwbl ar wahân i fater IR35. Mae hyn ar wahân i'r 'Achos dros Newid', mae ar wahân i'r pwysau ehangach ar y sefydliad hwn a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Felly, mae angen inni ei wahanu oddi wrth hynny. Ac fel y soniais yn gynharach, fe wnaed yn glir gan CNC nad oes ganddynt unrhyw gontractwyr oddi ar y gyflogres ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn bwriadu cael unrhyw gontractwyr oddi ar y gyflogres yn y dyfodol. Ond fel y dywedais, fel y soniais o'r blaen, Andrew, nid CNC yw'r sefydliad cyntaf i fod yn y diriogaeth hon a thrafodaethau gyda CThEF, yn adrannau'r Llywodraeth neu fel arall. Nid wyf yn credu y byddent eisiau bod yma, ac ni fyddem ni fel eu noddwyr ychwaith, ond bydd yn rhaid iddynt fwrw ymlaen yn gyflym nawr â'r trafodaethau gyda CThEF fel y gallant gyrraedd y ffigur, ac yna sut rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn eu helpu drwy hyn. Ond rwy'n dod yn ôl at y pwynt fod ganddynt waith i'w wneud hefyd ar eu gorchwylion o ddydd i ddydd, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar hynny hefyd. 

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf yw ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Cefin Campbell. 

15:25
Prifysgolion Cymru

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru egluro’r cymorth ariannol sydd ar gael i brifysgolion Cymru sydd mewn perygl, yn dilyn llythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16 Hydref 2024? TQ1223

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy. Bydd y sector yn derbyn £197 miliwn o gyllid grant y flwyddyn ariannol hon gan Medr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu i £9,250 yn 2024-25, a bydd £20 miliwn ychwanegol o gymorth cyfalaf ar gael i ddarparwyr addysg drydyddol ar gyfer datgarboneiddio.

Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnna. Mae'r cyfan yn ddirgelwch llwyr, onid yw e?

Mewn ymateb i gwestiwn gennyf yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r argyfwng ariannol sy'n wynebu prifysgolion Cymru, fe ddywedoch chi

'Mae Medr yn mynd i gael ei arian ei hun i gefnogi ein sefydliadau... Bydd yn cael ei galw'n gronfa drawsnewid'.

Ond wele, o fewn 24 awr, cawsom lythyr gennych yn cefnu ar yr ymrwymiad o gefnogaeth i brifysgolion Cymru. Yn y llythyr hwnnw, fe wnaethoch chi ysgrifennu:

'mai megis dechrau yn unig y mae'r gwaith yn y maes polisi hwn ac rydym yn dal i weithio trwy'r hyn y gallai mecanwaith cymorth posibl, os o gwbl, edrych, mewn partneriaeth gyda Medr a sefydliadau eraill.'

Felly, ar y pwynt hwnnw, tybed a oeddech chi'n creu pethau wrth ichi fynd yn eich blaen fel Llywodraeth. Yn yr un modd ag y mae eich Llywodraeth wedi rhoi gobaith ffug i gleifion â chynlluniau iechyd trawsffiniol nad ydynt yn bodoli, rydych chi hefyd wedi camarwain y sector addysg uwch yr wythnos diwethaf trwy godi disgwyliadau ffug.

Nawr, Weinidog, mae ar brifysgolion Cymru angen gwarant gadarn gennych chi y byddant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Nawr, rydych chi hefyd yn ailadrodd nad ydych chi'n credu bod unrhyw brifysgolion yng Nghymru mewn perygl o fethu. Ond mae o leiaf bum prifysgol yng Nghymru yn gweithredu cynlluniau diswyddo gwirfoddol pellach neu newydd eu cwblhau. Ac fel y crybwyllais yn flaenorol yn y Siambr, mae'r diffygion cyfunol bellach yn uwch na thua £100 miliwn. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod rhoi'r argraff ffug fod cefnogaeth ar y ffordd yn erydu hyder y sector? Ni all hyn barhau. Nid yw'n gynaliadwy, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth ar y sefyllfa.

Felly, mae gennyf ddau gwestiwn penodol: yn gyntaf, a ydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cael trafodaethau drwy ohebiaeth swyddogol gyda CCAUC, Medr, neu brifysgolion unigol Cymru ynghylch y gronfa drawsnewid hon? Ac yn ail, pryd fyddwch chi'n penderfynu pa gefnogaeth, os o gwbl, fydd yn cael ei darparu yn ychwanegol at yr hyn rydych chi newydd ei amlinellu heddiw? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am eich cwestiynau atodol, Cefin Campbell. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, ac wrth hynny rwy'n golygu sefydliadau cryf sy'n gallu cyflawni nid yn unig ein huchelgeisiau ni ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer ymchwil ond ar gyfer sbarduno twf economaidd ledled Cymru hefyd.

Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac ar draws y DU, ac ar draws y byd yn wir, ond gan fod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn eu bod yn rheoli eu cyllidebau mewn amryw o ffyrdd. Ac fe ychwanegaf fod ein pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer costau byw myfyrwyr yn parhau i fod yr uchaf yn y DU, sy'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn falch iawn ohono yma, a bod yr incwm y mae hynny'n ei gynhyrchu i sefydliadau Cymru fesul myfyriwr yn parhau i fod yn debyg i Loegr ac yn uwch na'r hyn a geir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Rydych chi'n gofyn a wyf i wedi cael trafodaethau gyda CCAUC. Nac ydw, oherwydd nid ydynt yn bodoli mwyach. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Medr, sef y corff sydd wedi'i sefydlu i gymryd eu lle, ac mae'r trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan gynnwys cyfarfod â staff ar lawr gwlad a chyfarfod gyda'r bwrdd yn ogystal â'r cadeirydd a'r prif swyddog gweithredol.

Rydych chi'n gofyn a wyf i wedi cael trafodaethau gyda sefydliadau. Ydw, rwyf eisoes wedi dechrau ar hynny. Fel y dywedais yn y Siambr yr wythnos diwethaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn mynd allan ac yn ymweld â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi dechrau gwneud hynny. Rwyf wedi bod ym Mhrifysgol De Cymru yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf at gyfarfod â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd.

Mae'r sgyrsiau a gefais hyd yma wedi bod yn adeiladol iawn ac mae llawer o awydd wedi bod am gydweithio pellach o fewn y sector hefyd, sy'n rhywbeth lle rwy'n gweld llawer o waith cadarnhaol eisoes. Ac eglurais wrth y Senedd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio pa fecanweithiau cymorth posibl, os o gwbl, y gellid eu defnyddio i gefnogi'r sector yng Nghymru.

Mae'n bwysig ychwanegu nad ydym yn credu bod unrhyw sefydliad yng Nghymru mewn perygl uniongyrchol o fethu. Mae Medr yn monitro cyllid sefydliadol yn ofalus ac yn dweud bod hyblygrwydd priodol i reoli risgiau parhaus tra bod y penderfyniadau strategol pwysig yn cael eu gwneud ym mhob sefydliad annibynnol i sicrhau eu cynaliadwyedd parhaus.

Ac os caf ychwanegu fel sylw terfynol i gloi, dywedais fy mod yn teimlo bod y sector o ddifrif yn archwilio llawer o ffyrdd adeiladol ymlaen. Ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei grynhoi gan y ffaith bod gennym y gronfa ddatgarboneiddio gwerth £20 miliwn ar gyfer y sector trydyddol. Ac rydym eisoes wedi derbyn £33 miliwn mewn ceisiadau ar gyfer honno. Felly, rwy'n credu bod hynny'n crynhoi pa mor galed y mae'r sector yn gweithio o fewn y meysydd newydd hyn er mwyn gwella eu cynaliadwyedd.

15:30

Rwy'n credu bod Cefin yn iawn: fe wnaethoch chi roi gobaith ffug i brifysgolion a sefydliadau eraill ledled Cymru gyda’ch datganiad yr wythnos diwethaf. O fewn tua 24 awr, daeth cronfa

'i gefnogi ein sefydliadau yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o ddweud y bydd yn fath mwy cadarnhaol o gronfa…gronfa drawsnewid,'

o fewn 24 awr yn

'megis dechrau yn unig y mae'r gwaith yn y maes polisi hwn ac rydym yn dal i weithio trwy'r hyn y gallai mecanwaith cymorth posibl, os o gwbl, edrych…gyda Medr a sefydliadau eraill.'

Ac mae’r sefydliadau hynny, yn amlwg, yn deall maint yr her ariannu y maent yn ei hwynebu. Soniodd Prifysgol Caerdydd am dwll du o £30 miliwn y mae angen iddi fynd i’r afael ag ef; Prifysgol Bangor, diffyg o £9 miliwn; Aberystwyth, £15 miliwn; mae Prifysgol Abertawe yn mynd drwy 240 o ddiswyddiadau gwirfoddol ar hyn o bryd. Felly, mae'n sector—mae'n gas gennyf gytuno â Phlaid Cymru—yr ydych chi wedi rhoi gobaith ffug iddo.

Mae’n llanast, a dweud y gwir, Weinidog, ac mae’n llanast a ddigwyddodd ddyddiau’n unig ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg newid canllawiau’r Llywodraeth ar ddarllen yng Nghymru deirgwaith mewn tair wythnos. Mae'n codi'r cwestiwn: a oes unrhyw un yn adran addysg Llywodraeth Cymru yn gwybod beth y maent yn ei wneud?

Wel, diolch, Tom. Efallai eich bod yn hoff o ormodiaith a sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad, ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio i gyflawni ar gyfer myfyrwyr o bob oed ledled Cymru.

Ac rydym hefyd yn darparu £197 miliwn o arian grant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon drwy Medr i'n prifysgolion yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol fod 90 y cant o incwm prifysgolion yn dod o ffynonellau y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, a dyna pam fy mod eisoes wedi ailadrodd pa mor bwysig yw hi fod y sector yn gweithio o fewn y meysydd y mae ganddynt reolaeth drostynt, ac rwy'n gweld llawer o arwyddion yno o lawer o ymyriadau cadarnhaol.

Y £20 miliwn ychwanegol a ddarparwn ar gyfer datgarboneiddio hefyd, mae hynny oll yn bwysig iawn, ac felly rwy'n fodlon iawn ar y cyfeiriad rydym yn mynd iddo, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r sector yn y misoedd i ddod.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan Hannah Blythyn.

Yr wythnos hon, mae’r Wyddgrug yn dathlu Gŵyl Daniel Owen—gŵyl gelfyddydol a llenyddol ddwyieithog wythnos o hyd yn yr Wyddgrug i ddathlu’r awdur Daniel Owen. Mae hi’n cael ei chynnal bob blwyddyn tua diwedd mis Hydref. Daniel Owen yw nofelydd Cymraeg mwyaf blaenllaw'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafodd ei eni ym 1836 yn y Wyddgrug. Yn gynharach y mis hwn, roedd yn fraint ymuno â maer yr Wyddgrug, a llu o bobl eraill, i ddadorchuddio plac glas ar y tŷ lle bu’n byw ar un adeg.

Daeth Daniel yn brentis mewn siop teiliwr, a cheir sôn ei fod yn llanc a oedd yn caru llenyddiaeth. Ar ôl treulio amser yn astudio yng Ngholeg y Bala, aeth yn ôl adref i'r Wyddgrug. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Dreflan, ei chyhoeddi yn 1881, a dilynodd Rhys Lewis, efallai ei nofel enwocaf, yn 1885, gan olrhain hanes gweinidog. Heddiw, mae Gŵyl Daniel Owen yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, cyfleoedd i ganu a dawnsio, a llawer mwy. Braf oedd gwylio rhai o’r perfformiadau yn Sgwâr Daniel Owen dros y penwythnos. Yn wir, fe wnaeth fy nghi bach fwynhau hefyd, gan siglo ei chynffon i rythm y gerddoriaeth. Roedd yn wych gweld dathliad mor ddiwylliannol ei naws yng nghanol y dref. Hoffwn i ddiolch o galon i bob gwirfoddolwr, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.

15:35

Ym 1790, cyfarfu grŵp o bobl yng Ngwesty’r Castell yng Nghastell-nedd, a phenderfynwyd adeiladu camlas o Lyn-nedd i Gastell-nedd. Agorodd ym 1795, ac fe’i hymestynnwyd yn fuan wedi hynny i ddoc Brunel yn Llansawel, ac ym 1824, fe’i cysylltwyd â chamlas newydd Tennant, a oedd yn caniatáu i nwyddau gyrraedd dociau Abertawe. Mae camlas Tennant yn dathlu ei daucanmlwyddiant eleni. Ar ei anterth, roedd oddeutu 200,000 tunnell o lo yn cael ei gludo ar hyd y wythïen hanfodol hon. Fodd bynnag, yn dilyn datblygiad rheilffordd Cwm Nedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd llai a llai ar gamlas Castell-nedd, a rhoddwyd y gorau i'w defnyddio fel modd o gludo nwyddau. Cafodd y refeniw i’r perchnogion ei gynnal drwy gyflenwi dŵr i ddiwydiannau lleol, ond yn raddol, cafodd rhannau o’r gamlas eu llenwi, adeiladwyd drostynt, a chawsant eu hanghofio. A bellach, mae hyd yn oed y diwydiannau hynny wedi mynd.

Heddiw, mae Grŵp Camlas Tŷ Banc, grŵp gwirfoddol anhygoel, wedi dechrau gweithio gyda'r perchnogion, St. Modwen, i sicrhau bod y gamlas yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel ased ac adnodd cymunedol bywiog a chynaliadwy. Mae camlas Castell-nedd yn hŷn na'r stamp post modern a hyd yn oed y Deyrnas Unedig ei hun. Mae wedi gweld y cymunedau y mae'n rhedeg drwyddynt yn cael eu diwydiannu a'u dad-ddiwydiannu. Ond mae wedi para drwy ganrifoedd o chwyldro, rhyfeloedd a darganfyddiadau. Gyda chamlas Castell-nedd yn cael ei phen-blwydd yn ddau gant a hanner y flwyddyn nesaf, ein cenhedlaeth ni fydd naill ai'r un sy'n gweld y gamlas yn diflannu'n gyfan gwbl, neu'r genhedlaeth sy'n gweld y gamlas yn cael ei hadnewyddu a'i haddasu at ddibenion gwahanol. Diolch i'r holl wirfoddolwyr a'r grwpiau sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod y dewis cywir yn cael ei wneud ar gyfer dyfodol y gamlas.

Ugain mlynedd yn ôl, fe wnaeth criw ohonom ni, o dan arweiniad a chymhelliad Rob Nicholls, ymgynnull yn festri y Tabernacl, Caerdydd, i ffurfio Côr Meibion Taf. Ers hynny, mae’r côr wedi bod yn fuddugol yn y Genedlaethol, eisteddfodau lleol, ac mewn sawl gŵyl gerddorol. Y cerddor amryddawn Steffan Jones yw’r arweinydd bellach, ac, o dan ei faton ef, mae’r côr wedi mynd o nerth i nerth, gyda rhyw 70 o gantorion. Yn gwbl allweddol i lwyddiant y côr y mae Lowri Guy, y cyfeilydd am bron y cyfnod i gyd.

Er nad yw’r côr wedi gorfod gwrando ar fy ymdrechion i i ganu ers sawl blwyddyn bellach, gallaf dystio o hyd, ar lefel bersonol, i garedigrwydd a gofal y côr—yn y llon a’r lleddf. Oherwydd mae Côr Meibion Taf yn fwy na grŵp dysgu nodau. Mae’n gymdeithas o bobl, o arddegwyr i bensiynwyr. Mae’n creu siaradwyr Cymraeg hyderus, maent yno yn gefn i’w gilydd a’u teuluoedd, ac maent wedi llwyddo cefnogi llu o elusennau ac achosion da ar draws yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Côr Meibion Taf wedi cyfoethogi cerddoriaeth yng Nghymru, ond, yn fwy na hynny, mae wedi cyfoethogi bywydau cannoedd o aelodau, cyn aelodau, a’u teuluoedd. Diolch am yr 20 mlynedd, Côr Meibion Taf. Llongyfarchiadau i Steff, Lowri a’r bois i gyd, ac ymlaen i’r ddegawd nesaf. Diolch yn fawr.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw

Yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): cymorth i farw. Galwaf ar Julie Morgan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8656 Julie Morgan, Adam Price, James Evans, Heledd Fychan

Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Jenny Rathbone, Mick Antoniw, Rhys ab Owen

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol.

2. Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion.

3. Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.

4. Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.

5. Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf.

6. Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.

7. Yn nodi, o ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a

b) cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl Aelodau hon ar gymorth i farw i’r Senedd yma heddiw, dadl a gyd-gyflwynir gan fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol, James Evans, Heledd Fychan ac Adam Price. Mae 10 mlynedd ers y tro diwethaf inni drafod cymorth i farw yn y Senedd. Mae llawer wedi newid ers hynny, felly gan fod y sgwrs genedlaethol ynglŷn â hyn yn cynyddu, credaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn cael dadl ar y mater pwysig hwn yma yn Senedd Cymru heddiw. Mae’n fater o bwys mawr, ac rwyf mor falch ein bod yn gallu gwneud hyn yma y prynhawn yma.

Ac wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig o ystyried y ffaith bod Bil Aelod preifat Kim Leadbeater AS ar gymorth i farw wedi'i gyflwyno yn San Steffan ac y bydd pleidlais yn cael ei chynnal arno ym mis Tachwedd. Os bydd y bleidlais honno'n llwyddo, bydd y Bil wedyn yn mynd yn ei flaen i’r Cyfnod Pwyllgor. Felly, nid oes gennym unrhyw bŵer yma i newid y gyfraith ar gymorth i farw, ond gan ein bod yn gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, ein lle ni fydd gweithredu unrhyw gyfraith newydd, felly mae llawer yn y fantol i ni yn y ddadl yma yn y Siambr hon.

Yn ogystal â Bil Aelod preifat Kim Leadbeater yn Nhŷ’r Cyffredin, mae gan yr Arglwydd Falconer Fil Aelod preifat yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae un hefyd yn Senedd yr Alban, a gyflwynwyd gan Liam McArthur ASA. Mae gan Ynys Manaw hefyd Fil Aelod preifat yn mynd rhagddo, a bydd yn symud i’r siambr uchaf yr hydref hwn, a chymeradwywyd cynlluniau ar gyfer cyfreithloni cymorth i farw mewn egwyddor gan y Cynulliad yn Jersey yn gynharach eleni. Felly, mae’r ddadl hon yn codi ym mhobman. Ac wrth gwrs, mae 31 o awdurdodaethau ledled y byd eisoes wedi cyfreithloni cymorth i farw. O Awstralia, yr Iseldiroedd, i Ganada, mae mwy a mwy o wledydd yn cymryd y cam hwn ymlaen. Felly, ni ellir anwybyddu’r ddadl hon.

Felly, pam fy mod i'n cefnogi cymorth i farw? Credaf fod angen inni ddangos mwy o dosturi at y bobl hynny sy’n dioddef salwch annioddefol na ellir ei wella ac sydd â dymuniad pendant i farw. Ar hyn o bryd, mae un unigolyn, bob wyth diwrnod, yn mynd o'r DU i Dignitas neu rywle tebyg yn y Swistir. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae unrhyw berthynas neu ffrind sy'n eu cynorthwyo yn agored i gael eu herlyn; cânt eu troseddoli. Gwrandewais ar Syr Max Hill, y cyn gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus, a ddywedodd ei bod yn amlwg iawn iddo nad yw’r gyfraith yn gweithio. Yn ei gyfnod yn y swydd, cyfeiriwyd 27 o bobl ato—perthnasau pobl a fu farw—ac mewn 26 o achosion, ni chymerodd unrhyw gamau pellach. Pobl oedrannus oedd y rhain, yn eu 70au a’u 80au fel arfer, a oedd newydd golli rhywun agos iawn, a dywedodd ei bod yn cymryd hyd at ddwy flynedd weithiau i wneud penderfyniad i beidio ag erlyn. Dychmygwch hynny'n crogi uwch eich pen ar adeg o golled. Am gyfraith greulon. Gallwn wneud yn well na hynny.

Bydd llawer ohonoch wedi siarad â Sue Lawford, sydd wedi siarad yn gyhoeddus, ac sydd wedi disgrifio’r camau a gymerwyd gan yr heddlu yn ei herbyn ar ôl iddi fynd gyda Sharon Johnston o Aberteifi i Dignitas—Sue Lawford o Gaerdydd, sy’n disgrifio’r arswyd a’r gofid a wynebodd ar ôl helpu Sharon Johnston i fynd i Dignitas. Credaf fod yn rhaid i hyn fod yn benderfyniad gan y Senedd yn hytrach na chan gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus unigol, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw’r gyfraith yn glir, a hoffwn gael cyfraith fwy tosturiol, fel na fydd teuluoedd yn dioddef fel hyn, fel ein bod yn lleihau’r dioddefaint hwnnw. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar wneud hyn.

Rwy'n credu hefyd fod angen inni ddangos ein tosturi drwy gynyddu ein cefnogaeth i’r mudiad hosbis. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi ymwneud yn agos â’r mudiad hosbis, ac am flynyddoedd lawer, bûm yn is-lywydd hosbis leol yng Ngogledd Caerdydd sy’n darparu gofal yn y cartref. Ac nid yw'r awydd i newid y gyfraith yn lleihau pwysigrwydd y mudiad hosbis mewn unrhyw ffordd. Mewn gwirionedd, mewn rhai gwledydd lle mae cymorth i farw wedi’i gyflwyno, mae’r arian sy’n cael ei wario ar yr hosbisau wedi cynyddu. Nid yw'n fater o'r naill neu'r llall. Ac mae’r adroddiad manwl iawn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan wedi dangos hyn yn glir. Nid yw’n fater o'r naill neu'r llall, ac nid yw cefnogaeth i’r Bil hwn yn dynodi unrhyw ddiffyg cefnogaeth i’r mudiad hosbis. Mae ein hosbisau’n wych, yn deillio o’r sector elusennol, a bellach yn chwarae rhan bwysig gyda’r GIG i ddarparu gofal diwedd oes.

Ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae'r gost o gael cymorth i farw a theithio i Dignitas yn ormodol, gyda'r gost gyfartalog rhwng £10,000 a £15,000. Golyga hyn mai dim ond opsiwn i'r cyfoethog ydyw. Mae’n peri cryn ofid fod pobl yn cael eu gorfodi i wneud hyn, ac mai dim ond pobl a all ei fforddio sy’n gallu ei wneud. Mae'n rhaid inni geisio gwneud rhywbeth yn ei gylch. Hefyd, mae pobl yn teithio i Dignitas tra'u bod yn dal i deimlo'n ddigon da i gyrraedd yno, gan fod rhaid iddynt ystyried hynny. Y broblem mawr arall yw'r anhawster mawr i gael angladd neu gladdedigaeth addas i rywun y bu'n rhaid iddynt adael y wlad. Felly, mae hyn yn cael ei orfodi ar bobl am nad ydym wedi rhoi sylw priodol i’r gyfraith.

Gwn fod llawer o safbwyntiau gwahanol ar y pwnc hwn, ac rwy’n parchu barn pawb yn yr ystafell hon yn llwyr. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn cael pleidlais gydwybod ar hyn, ond credaf fod rhai o’r rhesymau sy’n codi—. Rwyf wedi clywed llawer o sôn am y syniad ei fod yn llethr llithrig, ac y bydd yn ymestyn i bobl â diffyg galluedd meddyliol neu bobl anabl, er enghraifft. Rwy’n parchu’r safbwyntiau hynny’n llwyr, a chredaf fod yn rhaid cydnabod yr ofnau hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bosibl darparu mesurau diogelu cyfreithiol a meddygol cryf.

Mae'n rhaid inni sicrhau bod o leiaf ddau feddyg yn cymryd rhan ac yn bresennol pan fydd rhywun yn cael cymorth i farw—un ag arbenigedd mewn cymorth i farw, un arall yn y salwch penodol sydd gan yr unigolyn. Dylid cofnodi popeth, a dylid dilyn prosesau priodol. A gallwn ddysgu gan wledydd eraill a'u harferion. Mae gennym 31 o wledydd eisoes yn gwneud hyn. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu i gyflwyno'r gyfraith orau sy'n bosibl.

Hefyd, mae llawer o bobl yn dweud, 'Dyma’r math o gyfraith y bydd pobl anabl yn ei gwrthod’, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod pobl anabl, mewn sawl ffordd, wedi arwain yr ymgyrch dros gymorth i farw. Os meddyliwch am Tony Nicklinson, a oedd yn dioddef o syndrom cloi i mewn, ni allai ond symud ei ben a’i lygaid, ac roedd wedi dymuno dod â’i fywyd i ben ers blynyddoedd lawer. Aeth i'r Uchel Lys i ofyn am gymorth i farw. Gwrthodwyd hynny. Bu farw Tony yn fuan wedyn ar ôl gwrthod bwyd a dŵr.

Wedyn mae achos Debbie Purdy a oedd ag MS. Dadleuodd na fyddai gwybod a fyddai ei gŵr yn cael ei erlyn pe bai'n mynd dramor gyda hi i farw yn mynd yn groes i'w hawliau dynol. Enillodd ei hachos, a gorchmynnwyd y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus i gynhyrchu canllawiau cliriach ar bwy na fyddai'n cael eu herlyn. Wrth gwrs, mae pobl anabl hefyd yn arwain ac yn gweithio i sefydliadau sydd o blaid cymorth i farw.

Felly, pa dystiolaeth sydd gennym o farn y cyhoedd? Ym mhob arolwg a gynhaliwyd ar gyfreithloni cymorth i farw yn y DU, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gefnogol bellach. Cynhaliwyd rheithgor dinasyddion yn Lloegr y llynedd, a phleidleisiodd 26 o'r 28 o reithwyr o'i blaid. Mae newid wedi bod yn agweddau'r cyhoedd. Mae cyn Archesgob Caergaint, yr Arglwydd Carey, o blaid cymorth i farw, ac mae'n dweud bod

'Gwneud yr hyn a allwn i leddfu dioddefaint diangen a dod â heddwch yn weithred Gristnogol iawn.'

Yn y proffesiwn meddygol, mae'r colegau brenhinol wedi penderfynu arddel safbwynt niwtral. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhoi'r gorau i'w gwrthwynebiad a bellach mae ganddynt safbwynt niwtral.

Nid yw cyflwyno cymorth i farw yn y DU yn rhywbeth y dylid ei gymryd yn ysgafn neu ei ruthro. Mae'n bwysig ein bod yn cael y dadleuon hyn lle gall pawb leisio'u barn. Fy nghred i yw y dylem allu cyrraedd canlyniad deddfwriaethol a fydd yn mynd i’r afael â’r holl bryderon y mae llawer o bobl yn eu teimlo ond a fydd yn ein galluogi i ddarparu system lawer mwy trugarog. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Mae gennyf lawer o Aelodau sy’n dymuno siarad yn y ddadl hon. Rwy'n gobeithio galw ar bob Aelod, ond gofynnaf i bob Aelod sy’n siarad sicrhau, yn gyntaf oll, eich bod yn cadw at eich amser, os gwelwch yn dda, ac ni fyddaf yn derbyn unrhyw geisiadau i unrhyw Aelodau eraill siarad, gan fod y rhestr eisoes yn llawn.

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl hon drwy nodi yn y termau cryfaf posibl fy mhryder dwfn a fy ngwrthwynebiad i’r cynnig hwn. Mae wedi'i brofi dro ar ôl tro fod cyfreithiau cymorth i farw, pan gânt eu cyflwyno, yn creu llu o broblemau bron yn syth, o orfodaeth gan berthnasau i ddethol meddygon penodol sy’n barod i ewthaneiddio. Credaf y byddai'n gosod cynsail peryglus ac yn arwain at gyfres o ganlyniadau anfwriadol pe bai’n cael ei gyflwyno i’r DU. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn bwnc emosiynol iawn, ac felly rwyf am ganolbwyntio ar y dystiolaeth yn fy nghyfraniad.

Yn wahanol i lawer o wledydd eraill, mae gan bob unigolyn yn y DU hawl i ofal lliniarol o ansawdd uchel, a hawl i fynegi eu dymuniadau ynghylch sut y maent yn dymuno ei dderbyn. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng yr hyn sydd gennym yma yn y DU a’r hyn y mae gwledydd eraill yn ei gynnig o ran gofal lliniarol. Credaf fod hyn yn gogwyddo’r meddylfryd, ac efallai, y rhesymeg o blaid cymorth i farw. Er enghraifft, gwelwn yng Nghanada fod gan lai na 30 y cant o ddinasyddion Canada fynediad at ofal lliniarol hosbis o ansawdd uchel, ac nad yw mynediad at ofal lliniarol hosbis yn cael ei ystyried yn hawl gofal iechyd sylfaenol. Yn yr Iseldiroedd, nid yw gofal lliniarol yn arbenigedd meddygol penodol, ond mae wedi'i ymgorffori mewn gofal ysbyty cyffredinol, sydd fel arfer yn canolbwyntio ar ddiagnosis, triniaeth a rhyddhau. Mae astudiaethau o'r system hon wedi dangos nad yw anghenion cleifion sy'n marw yn cael eu diwallu, a bod diffygion difrifol yn ansawdd eu gofal. Yn Seland Newydd, dim ond nawr, ym mis Hydref 2024, y mae’r hawl i fynediad at ofal lliniarol wedi’i gyflwyno gan Fil aelod preifat.

O ran canlyniadau anfwriadol, un o'r canlyniadau na allwn eu hatal pan fydd drws cymorth i farw ar agor yw nad oes modd o atal cenedlaethau'r dyfodol o wleidyddion rhag diwygio'r ddeddfwriaeth yn andwyol. Mae tystiolaeth wedi dangos bod tuedd yn y gwledydd sydd wedi cyflwyno cymorth i farw i ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Maent wedi’u hehangu yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg i gynnwys plant, ac yng Nghanada, o 2027 ymlaen, byddant yn caniatáu i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn unig, heb unrhyw gyflwr corfforol o gwbl, gael cymorth i farw. Yn ôl data o Ganada, nododd 17.1 y cant o’r rhai a aseswyd ar gyfer cymorth i farw yn 2022 unigrwydd neu ynysigrwydd fel y rheswm dros eu dioddefaint.

Ceir tystiolaeth gynyddol fod pobl yn cael mynediad at gymorth i farw oherwydd problemau ariannol. Datgelwyd mewn ymchwiliadau yn sgil achosion o gymorth i farw fod dynes 41 oed a gafodd ei hewthaneiddio yn 2021 ar ôl dweud wrth feddygon na allai ddioddef y boen a gâi ei hachosi gan ei ffibromyalgia wedi dweud wrth ffrindiau yn breifat mai'r rheswm go iawn pam y dymunai farw oedd am ei bod mor dlawd. Ceir achos arall lle cafodd dyn 61 oed ei ewthaneiddio er mai'r unig broblem iechyd a restrwyd ar ei gais oedd colled clyw. Dylai hynny fod yn faner goch enfawr i beryglon cyflwyno deddfwriaeth cymorth i farw. [Torri ar draws.] Mae pobl yn cael mynediad ato am y rhesymau anghywir—

15:50

Diolch. Nid yw'r enghreifftiau rydych chi'n eu dyfynnu yn enghreifftiau a fyddai'n berthnasol i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod yn y DU ar hyn o bryd.

Diolch am eich ymyriad, Lee. Yr hyn rwy'n ceisio ei nodi, er hynny, yw bod y ddeddfwriaeth, ar un adeg, yn wahanol i’r hyn sydd wedi digwydd yn y gwledydd hynny erbyn hyn. Ar bob cyfle, mae hynny wedi newid, a phe bai’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn y DU, ar ryw adeg, 10 mlynedd, pum mlynedd neu 20 mlynedd yn ddiweddarach, fy mhryder i yw y byddai’r meini prawf hynny’n cael eu hehangu.

Fodd bynnag, fy mhryder mwyaf ac un sydd wedi’i gyfleu’n aml i mi gan etholwyr yw eich bod, drwy gyflwyno cymorth i farw, yn newid y naratif o sut y gallwn ddarparu’r gofal gorau posibl i rywun sy’n marw i pa bryd y dônt yn faich, yn ariannol neu fel arall, ar y wladwriaeth, ar eu teulu neu ar eu gofalwyr. Mae pobl ag anableddau yn cael eu hanghofio’n aml—rwyf wedi gorfod atgoffa Aelodau’r Llywodraeth yma yn y Siambr hon i'w crybwyll yn eu datganiadau—a chânt eu brawychu gan y posibilrwydd o gymorth i farw yn cael ei gyflwyno yma, gan y byddai cymdeithas yn symud yn reddfol i ffurfio barn ar werth eu bywydau, sy'n rhywbeth y maent eisoes wedi gorfod ymgodymu ag ef wrth geisio dod o hyd i waith neu fynediad at wasanaethau.

Ddirprwy Lywydd, y teimlad mewnol o fod yn faich yw'r hyn y mae'n rhaid i bobl oedrannus a phobl anabl fyw gydag ef bob dydd. Byddai'r pwysau allanol y byddent yn ei deimlo gan eraill i benderfynu beth fyddai gwerth eu bywyd neu eu marwolaeth yn annioddefol. Byddai pobl yn cymryd bod pobl ag anableddau, yn enwedig anableddau gwybyddol neu bobl sy'n hen ac yn eiddil, yn well eu byd pe baent yn marw. Mae tystiolaeth o wledydd eraill lle mae cymorth i farw wedi’i gyflwyno yn dangos bod llawer o bobl anabl a hŷn yn ofni bod dangos unrhyw arwyddion o wendid, iselder ysbryd, rhwystredigaeth ynghylch eu cyflwr, neu’r ffaith y gallent fod yn ei chael hi’n anodd, yn cadarnhau nad ydynt o unrhyw werth mwyach a'u bod yn dymuno marw.

Mae pob un ohonom yn dymuno'r un peth i bobl sy'n dioddef: urddas a thosturi. Ond nid ewthanasia yw'r ffordd, pan fo cymaint o dystiolaeth yn dangos nid yn unig fod y meini prawf cymhwysedd yn newid yn gyflym ond hefyd y gwerth y mae cymdeithas yn ei roi ar ein pobl fwyaf agored i niwed. Er fy mod o blaid gweld yr Aelodau'n codi’r ddadl hon, yn enwedig o ystyried bod Bil cymorth i farw i’w drafod yn San Steffan, rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef, ac felly rwy'n annog pawb yma i bleidleisio yn ei erbyn. Diolch.

15:55

Gwn fod hon yn ddadl a ysgogwyd gan dosturi: yr awydd i beidio â gweld rhywun a garwn yn dioddef. Mae'n reddf rwy'n ei deall yn llwyr, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rhai sy'n ei chynnig, ond byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Rwyf innau hefyd yn cael fy ysgogi yma gan dosturi, credaf fod hynny'n wir am bob un ohonom, gan y bydd bron bawb sy’n cyfrannu at y ddadl hon yn gwneud hynny drwy lens eiliadau olaf rhywun y maent yn eu caru, rhywun y maent wedi’u gweld yn dioddef, rhywun y maent wedi ysu am allu lleihau eu poen. Sut y gallai unrhyw un anghytuno â hynny?

Fy nadl i, serch hynny, yw bod yn rhaid inni edrych ar hyn hefyd drwy lens y rhai nad ydynt wedi’u hamgylchynu gan bobl y maent yn eu caru: y rhai sydd ar y cyrion, wedi eu gwthio i’r ymylon gan gymdeithas—pobl a allai ddod o dan bwysau mewn dyfodol sy’n arswydus o agos i ddod â’u bywydau i ben am nad yw’r gofal lliniarol angenrheidiol ar gael, neu am eu bod yn teimlo eu bod yn faich.

Mae fy ofn ynghylch y cynnig hwn—wel, fy arswyd, a dweud y gwir—yn ymwneud mwy â sut y bydd pethau yn y pen draw na sut y byddant ar y cychwyn. Mae mesurau diogelu yn yr hyn sy'n cael ei gynnig yn San Steffan, oes yn wir, ond mae pob cynsail rhyngwladol a welwn yn dangos nad oes unrhyw fesur diogelu yn dragwyddol; mae profiadau Canada, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a rhai taleithiau yn yr UDA yn dangos beth a all ddigwydd mor hawdd, mor anochel. Mae cyfreithiau’n cael eu cyflwyno gyntaf ar gyfer pobl â salwch angheuol, fel sy’n cael ei gynnig yn San Steffan, ac o dipyn i beth, mae’r mesurau diogelu wedi’u herydu fel y gall pobl ag iselder, anorecsia, a llawer o anhwylderau eraill nad ydynt yn angheuol fod yn gymwys bellach—anhwylderau y gall pobl wella ohonynt, bywydau a allai fod wedi gwella wedi dod i ben.

Ond yr hyn sy'n peri mwy o bryder na'r normaleiddio hwnnw yw pa mor gyflym y teimlai'r bobl fregus yn y cymdeithasau hynny eu bod mewn perygl. Yn nhalaith Oregon yn yr Unol Daleithiau, nododd dros 47 y cant o’r bobl a ddaeth â’u bywydau i ben y ffaith nad oeddent am fod yn faich ar eu teuluoedd a’u gofalwyr fel rheswm, ac rwy’n ofni y bydd y newidiadau hynny’n anochel os bydd y Bil yn San Steffan yn cael ei dderbyn, gan fod llysoedd yn y mannau hynny wedi teimlo rheidrwydd i ymestyn yr hawliau a roddir i rai dinasyddion. I eraill, bydd yn dod yn sicrwydd erchyll; ni fydd troi'n ôl oddi wrtho.

Mae’r ddadl ynghylch cymorth i farw yn aml yn cael ei chyflwyno, yn ddealladwy—yn gwbl ddealladwy—fel ffordd o gynnig dewis i bobl, ond i lawer o bobl anabl neu bobl nad ydynt yn agos at eu teuluoedd, pobl sy’n bryderus ac yn ofidus ac yn unig, byddai’n arwain at y teimlad nad oes ganddynt ddewis ond dod â'u bywydau i ben. Dyna’n union y mae Tanni Grey-Thompson wedi rhybuddio yn ei gylch: yr ymdeimlad y bydd rhai pobl yn ei gael fod eu bywydau yn llai pwysig, neu oherwydd costau uchel eu gofal, y byddai’n hunanol aros yn fyw. Nid wyf yn ceisio codi bwganod; mae'n adlewyrchiad o'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd sydd wedi agor y drws fymryn ac wedi'i weld yn chwythu led y pen, a dim modd o'i gau. Dyna pam y dywedodd Nicola Sturgeon yn gynharach eleni ei bod wedi rhoi'r gorau i gefnogi cymorth i farw oherwydd yr holl bethau anochel tawel a brawychus hyn.

Mae cyn Archesgob Caergaint wedi cael sylw yn y penawdau yn ddiweddar yn y ddadl hon drwy ddweud nad oes unrhyw beth yn sanctaidd ynghylch poen. Mae hynny'n berffaith wir. Ond ni fyddai unrhyw beth yn garedig ychwaith mewn achosi i bobl deimlo nad oes ganddynt ddewis, oherwydd mewn dadl o’r natur hon, dadl ag iddi ganlyniadau mor sylfaenol, mae'n rhaid inni feddwl nid yn unig am ei bwriadau, ond ei heffaith debygol ar fywydau’r holl bobl na fyddwn byth yn eu cyfarfod, ond a fydd yn cael eu heffeithio’n angheuol gan y penderfyniad hwn.

Mae’n debyg mai hon yw’r ddadl anoddaf imi orfod siarad ynddi ers dod i'r Senedd. Roeddwn yn teimlo bod yn rhaid imi siarad. Mae'n anodd am y gallaf ddeall yn llwyr pam fod cymaint o bobl yn dymuno cael y newid hwn; rwy'n llwyr ddeall hynny, rwy'n ei deimlo yn fy nghalon. Ond nid yw'r arswyd a deimlaf ynglŷn â hyn yn ddibwys. Mae’n ddyfodol rwy'n ei weld nid yn unig fel y senario waethaf, ond yr unig senario yn y pen draw: dyfodol lle nad oes fawr o fesurau diogelu ar ôl, lle bydd llai o fuddsoddi mewn gofal lliniarol, yn hytrach na'i gynyddu fel y dylem, a lle mae pobl yn eu trallod yn teimlo rheidrwydd i gymryd cam na allant byth gamu'n ôl ohono. Am y rhesymau hyn, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn teimlo rheidrwydd i siarad, gyda phob parch ac empathi tuag at y rhai sy'n ei gynnig, ond dyna pam y teimlaf reidrwydd hefyd i bleidleisio yn ei erbyn.

16:00

Ddeng mlynedd yn ôl, roeddwn yn rhan o'r ddadl a gawsom bryd hynny ar gymorth i farw yn y Siambr hon, a rhoddais fy enw wrth y cynnig hwnnw i'w gefnogi. Ac yn ystod y ddadl, fe newidiais fy meddwl mewn gwirionedd. Nid o ran egwyddor, ond o ran a fu digon o ystyriaeth i sut y gallem weithredu hyn mewn cymdeithas, sut y gellid cynllunio a ffocysu deddfwriaeth i'w alluogi i ddigwydd, er mwyn galluogi'r egwyddor i gael ei gweithredu, heb yr holl bryderon y mae pawb ohonom yn eu rhannu ynglŷn â hyn, rwy'n siŵr. Ac mae'n wir, mae'n ddeddfwriaeth hynod o anodd.

Ond yn ystod y 10 mlynedd wedyn—. Yn ystod y ddadl honno, newidiais fy meddwl yn ei gylch, ac fe bleidleisiais yn ei erbyn, ond 10 mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n credu ein bod bellach ar groesffordd. Cafwyd llawer mwy o feddwl, llawer mwy o ddadansoddi, llawer mwy o ymchwil, ond rwy'n credu hefyd ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle mae gwir angen i'r Senedd wneud penderfyniad ar hyn, a dyna pam rwy'n croesawu'r Bil Aelod preifat, ac rwy'n croesawu'r ddadl yn y Siambr hon. Mae'r ddeddfwriaeth yn un benodol iawn, ac mae'n canolbwyntio ar ddisgrifiad penodol iawn o salwch angheuol ac wrth gwrs, ceir llawer o safbwyntiau gwahanol, safbwyntiau sensitif ac emosiynol iawn, ac rwy'n parchu'r holl safbwyntiau a geir yma. Ond rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd cam lle mae'n rhaid inni wneud penderfyniad. A gaf i ddweud hefyd fod hwn yn fater—? Er nad yw'r agwedd droseddol arno, sef yr hyn y mae a wnelo'r ddeddfwriaeth â hi, yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae gweithredu'r hyn sy'n digwydd yn y ddeddfwriaeth hon yn amlwg wedi'i ddatganoli, ac efallai y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau a yw'n cytuno bod hwn yn fater a ddaw yn ôl i'r Siambr hon, y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymwneud yn benodol â chyflawni a gweithredu gan wasanaethau wedi'u datganoli.

Ond i mi, mae hyn yn ymwneud â dewis mewn gwirionedd, a gallaf grynhoi hynny mewn tri neu bedwar pwynt, rwy'n credu. Yn gyntaf, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag urddas dewis, ac yn wir am urddas marwolaeth. Yn ail, byddai'n ymwneud mewn rhai amgylchiadau â fy hawl i allu dewis. Mae hefyd, rwy'n credu, yn glir iawn mai rôl y Llywodraeth yw peidio â gwadu'r dewis hwnnw i mi, ond i osod y fframwaith deddfwriaethol y gellir arfer y dewis hwnnw o'i fewn. Credaf fod gennyf hawl i wneud y dewis hwnnw, i wneud y penderfyniad hwnnw fy hun, ond o fewn cyfyngiadau cul a ffocws y ddeddfwriaeth ei hun. Rwy'n cefnogi'r Bil sy'n mynd trwy San Steffan. Buaswn yn cefnogi'r syniad o ddadl yn y Siambr hon ynghylch cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'r manylion. Ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn i'r Senedd barhau i wadu'r dewis hwnnw i mi mewn amgylchiadau penodol iawn. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl bwysig ac emosiynol hon yma heddiw. Rwyf hefyd yn llwyr dderbyn didwylledd yr Aelodau sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn yma heddiw, ond byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yma heddiw. A'r rheswm pam y credaf yn sylfaenol fod hwn yn gynnig na allaf gytuno ag ef, rwy'n credu, yw bod y cynnig, i mi, yn canolbwyntio ar y ffordd y gwelwn werth pobl yn ein cymdeithas a phawb yn ein cymdeithas. Beth bynnag yw cyflwr eu hiechyd corfforol ar hyn o bryd, beth bynnag yw eu cyflwr eu hiechyd meddwl ar hyn o bryd, ar ba bynnag gam mewn bywyd y maent arno, mae pawb yn werthfawr, mae pob bywyd yn werthfawr, a dylem ddangos y gwerth hwnnw iddynt bob amser. Ac i mi, mae'r cynnig hwn a'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei awgrymu yn neges sy'n dweud nad oes gan bob bywyd yr un lefel o werth yn ein cymdeithas. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei gefnogi. Credaf fod y cynigion ar gymorth hunanladdiad ac o fewn y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn tanseilio'r gred sydd gan gan bob un ohonom yn y Siambr fod pob bywyd yn gyfartal a'r un mor werthfawr—

16:05

Os ydym yn ystyried pob bywyd yn werthfawr, onid ydym yn ystyried hawl unigolion i wneud dewisiadau am eu bywydau a sut y daw eu bywydau i ben yn werthfawr?

Ac mae'r ddadl honno'n debyg i'r modd y siaradodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad ychydig eiliadau yn ôl. Ond clywsom gan Delyth Jewell, ac eraill yn y Siambr hyd yma, er y gallai fod yn ddewis damcaniaethol weithiau, oherwydd y baich y gallai rhai pobl ei deimlo, nid yw'r dewis sydd ganddynt yn un go iawn mewn gwirionedd. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn sefyllfaoedd fel y nodwyd yn Oregon, lle mae cyfran sylweddol o bobl yn teimlo eu bod yn faich ar y rhai o'u cwmpas, yw ei fod yn symud o hawl i farw i ddyletswydd i farw mewn gwirionedd, oherwydd y sefyllfa, ac yna mae pobl yn teimlo bod dyletswydd arnynt i beidio â bod ar y Ddaear mwyach er mwyn y rhai o'u cwmpas. Felly, nid yw'n ddewis mwyach. Daw'n ddyletswydd ganfyddedig. Felly, rwy'n credu bod y ddadl honno'n chwalu yn y fan honno.

A phan fydd y wladwriaeth yn caniatáu hyn, ac mewn rhai achosion, fel y gwelsom mewn gwledydd eraill a thaleithiau yn yr Unol Daleithiau, pan fydd y wladwriaeth yn caniatáu hyn, mae hynny'n mynd ag ef i lefel hollol newydd, ac mewn rhai achosion, mae'r wladwriaeth yn annog hyn hefyd. Fe wyddom—. Rwy'n siŵr y gallem i gyd gyfnewid enghreifftiau o gwmpas y Siambr y prynhawn yma, ond fe wyddom am enghreifftiau lle caiff pobl gynnig, mewn sefyllfaoedd lle gallent wella yn sicr, fel y disgrifiwyd yn gynharach, yn yr ystyr y gallai pobl fod yn dioddef gydag anorecsia, lle, gyda'r gofal iawn, gyda'r cymorth iawn, gyda'r cariad a'r sylw iawn, y gall pobl weithio drwy'r amgylchiadau anodd iawn hynny. Nid wyf yn tanseilio neu'n ceisio lleihau'r anawsterau a wynebant. Gall pobl weithio drwy'r rheini. Ond yn drist iawn, yn llawer rhy aml, mewn gwledydd eraill lle mae hyn yn digwydd, mae pobl yn cael cynnig opsiwn i ddod â'u bywydau i ben. I mi, nid yw hynny'n dangos ein bod yn gweld eu gwerth yn y ffordd iawn o dan yr amgylchiadau, a sancteiddrwydd y bywyd sydd ganddynt yn y foment honno.

Mae'n ddrwg gennyf, diolch, ydw. Rydym yn siarad am bobl â salwch angheuol, nid pobl ag anorecsia. Rydych chi'n gwyrdroi'r ddadl.

Iawn. Fe wnaf drafod y pwynt hwnnw hefyd. Rwy'n teimlo bod sylwadau wedi eu gwneud ar hynny eisoes yn y Siambr heddiw. Rwy'n gwybod efallai nad ydych chi'n derbyn yr ymadrodd 'llethr llithrig' ond dyna ydyw mewn gwirionedd, oherwydd, pan gaiff deddf ei phasio yn y maes hwn, gyda meini prawf penodol y gall rhai pobl eu bodloni i gael mynediad at hyn, meini prawf a fydd yn anochel yn cael eu herio yn y llysoedd, fel sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill, oherwydd daw'n fater cydraddoldeb—cydraddoldeb mynediad at yr un lefel o'r hyn y gellir ei ben