Y Cyfarfod Llawn
Plenary
18/09/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau pontio cyfiawn i weithwyr yng ngogledd Cymru? OQ61526
Wel, drwy’r contract economaidd, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod busnesau yr ydym yn eu cefnogi yn mabwysiadu arferion cymdeithasol gyfrifol. Ers 2022, mae dros 70 o fusnesau wedi ymrwymo i gontract economaidd yng ngogledd Cymru, gan gynnwys rhai cyflogwyr mawr a chanddynt gysylltiadau cryf iawn ag undebau llafur.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cael cyfnod pontio teg, ac er—. Gwelaf fod Ysgrifennydd yr economi newydd ddod i mewn, ac er imi gyflwyno hyn i Ysgrifennydd yr economi, rwy’n cydnabod nad oes gennych gyllideb ar gyfer gogledd Cymru, ond diddordeb brwd ym materion y gogledd, gan mai chi yw’r Gweinidog, ac yn amlwg, mae mynd i'r afael â phontio teg yn weithred drawslywodraethol beth bynnag.
Mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn cytuno’n llwyr mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac yn y ffordd iawn, ond mae’n bwysig fod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd iawn, sef gyda’r gweithlu ac nid iddo, er mwyn lliniaru canlyniadau negyddol a allai fod yn drallodus. Yn anffodus, gwyddom nad yw hynny’n wir bob amser, fel y gwelais yn ddiweddar iawn yn fy etholaeth fy hun gyda’r cyhoeddiad y bydd Kimberly-Clark yn cau dwy o’u melinau yn y Fflint, gan effeithio nid yn unig ar 230 o weithwyr Kimberly-Clark, ond ar 100 o weithwyr GXO hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon gyda Llywodraeth flaenorol y DU, cyn yr etholiad cyffredinol, ynghylch gwahardd plastig mewn cadachau gwlyb yn raddol yn ystod y cyfnod ymgynghori, a hefyd fod penderfyniad hynod siomedig y cwmni wedi'i wneud cyn i unrhyw reoliadau gael eu deddfu. Fodd bynnag, credaf fod hyn yn dangos bod mwy y gallwn ei wneud bob amser i adeiladu ar waith tuag at y cyfnod pontio teg hwnnw, yn ymarferol yn ogystal â mewn egwyddor, ac wrth gwrs, gan gynnwys llais y gweithlu drwy’r undeb llafur. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gyswllt a gawsoch dros yr haf, efallai, gyda'r cwmni a'r undeb llafur cydnabyddedig, Unite? A hefyd, a allwch chi ymrwymo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gynnig cymorth i bawb yr effeithir arnynt, gan gynnwys gweithwyr GXO, a chan weithio'n agos gyda'r undeb llafur? Diolch.
Yn sicr. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y pwyntiau cyffredinol a wnaed ynglŷn â phontio teg ac am yr ymholiad penodol ynghylch Kimberly-Clark. Cynhaliais nifer o gyfarfodydd dros fisoedd yr haf gydag unigolion a sefydliadau amrywiol lle trafodwyd dyfodol y safle. Diolch i’n cyfaill seneddol, yr Aelod Seneddol dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, rydym wedi gallu sefydlu cyswllt uniongyrchol rhwng Kimberly-Clark a nifer o fusnesau eraill y gallai fod diddordeb ganddynt yn nyfodol y safle. A chan fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben bellach, bydd Kimberly-Clark yn gallu ymgysylltu â’r partïon hynny sydd â diddordeb. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddant yn rhoi mwy o eglurder ar ddyfodol y safle ar ddiwedd y flwyddyn.
Credaf ei bod yn hollbwysig dweud ein bod yn barod i helpu’r holl weithwyr y mae’r cyhoeddiad yn effeithio arnynt, ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru wedi bod ar y safle. Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod lleol hefyd i nodi cyfleoedd ar gyfer ailsgilio’r gweithlu ac ar gyfer cyfeirio’r rhai yr effeithir arnynt at swyddi eraill. Rwy’n arbennig o falch o fod yn mynd i Lannau Dyfrdwy yr wythnos nesaf gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach lle byddwn yn gwneud cyhoeddiad mawr ynghylch swyddi.
Rwy'n cydymdeimlo â gweithwyr Kimberly-Clark yn y Fflint hefyd, oherwydd yn amlwg, fe wyddoch hefyd nad yw fy etholaeth i yn rhy bell o ardal y Fflint, a heb os, bydd hyn yn cael effaith ar bobl Dyffryn Clwyd hefyd mewn mwy o ffyrdd nag mewn ystyr economaidd yn unig. Ond mae’n bwysig, wrth drawsnewid i economi wyrddach, ein bod yn ystyried pobl i'r un graddau ag yr ystyriwn y blaned. Cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig adroddiad ym mis Gorffennaf a rybuddiodd y gallai’r cyfnod pontio waethygu’r anghydraddoldebau presennol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau pendant ar waith. Gall datgarboneiddio arwain at brisiau uwch i ddefnyddwyr, felly mae’n bwysig fod y Llywodraeth yn rhoi cyfrif am hyn, ac mae’r adroddiad yn amlygu ac yn ystyried metrigau eraill yn ymwneud â llesiant, ar wahân i gynnyrch domestig gros.
Gorllewin y Rhyl yn fy etholaeth i yw’r rhan fwyaf difreintiedig o Gymru, ac mae’n rhaid i bobl ddewis rhwng gwresogi a bwyta, ac nid yw datgarboneiddio ar flaen eu meddyliau. Mae'n rhaid i bontio teg, felly, gefnogi cymunedau yn y rhannau mwyaf difreintiedig o'n cymdeithas a pheidio â gwaethygu anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes. Ac rwy’n arbennig o bryderus am hyn o ystyried gelyniaethu'r gymuned ffermio gyda datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithredu pontio teg i bobl yn y gogledd, gan sicrhau na fydd cost datgarboneiddio yn faich ar y tlotaf yn y gymdeithas, ac na fydd yn gwaethygu anghydraddoldebau economaidd sy'n bodoli eisoes yng ngogledd Cymru yn y dyfodol? Diolch.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Os edrychwn yn ôl dros hanes, mae Cymru wedi cael profiadau poenus iawn o bontio economaidd annheg, felly rydym yn cydnabod y bygythiadau wrth inni symud tuag at sero net. Mae'n hollbwysig ein bod yn deall y bygythiadau ond hefyd y cyfleoedd sy'n ein disgwyl, a'n bod yn manteisio arnynt i'r graddau mwyaf posibl. Cefais fy nghalonogi’n fawr iawn mewn trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU dros yr haf gan eu penderfynoldeb ein bod yn cyfrannu at ysgrifennu’r strategaeth ddiwydiannol sydd ar y ffordd, ac i weithio mewn partneriaeth ar gyflawni’r cynllun gweithredu deallusrwydd artiffisial, gan fod cyfleoedd enfawr wrth inni symud tuag at fwy o ddefnydd o dechnoleg a thuag at sero net. Mae’r cyfnod pontio hwnnw, fodd bynnag, yn rhoi cyfleoedd enfawr i Gymru mewn perthynas â diwydiannau gwyrdd yn y dyfodol. Gwn fod fy ffrind a’m cyd-Aelod, Jack Sargeant, wrth iddo edrych ar ddyfodol y dirwedd sgiliau, yn hynod ymwybodol o’r cyfleoedd hynny a’r angen i sicrhau ein bod yn uwchsgilio ac yn ailsgilio gweithwyr a allai gael eu heffeithio gan y pontio i sero net. Wrth gwrs, mae llawer o’r prif ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU, a dyna pam fy mod mor awyddus i weithio gyda Gweinidogion newydd yn San Steffan, i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau bosibl, nid yn unig o ran buddsoddiad yng Nghymru yn y technolegau newydd, diwydiannau newydd, ond hefyd o ran dyfeisio'r strategaeth ar gyfer sut y byddwn yn diogelu cymaint o weithwyr â phosibl, ac yn manteisio ar gynifer o gyfleoedd â phosibl yn y dyfodol.
2. Pa asesiad economaidd y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o berfformiad y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru yr haf hwn? OQ61497
Rydym yn dadansoddi perfformiad y sector twristiaeth yn fanwl, ond nid yw'r ystadegau swyddogol ar gyfer yr haf hwn wedi’u cyhoeddi eto; credaf eu bod i fod i gael eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae Croeso Cymru yn ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid, ac mae adborth gan y diwydiant yn y gogledd wedi dangos bod perfformiad wedi bod yn amrywiol, gyda thywydd gwael yn effeithio ar y galw mewn rhai is-sectorau.
Diolch. Wel, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector anodd iawn hwn ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod mewn cyswllt â chynrychiolwyr y diwydiant lletygarwch dros yr wyth wythnos diwethaf, ac mae’r darlun yn peri cryn bryder, Weinidog. Mae un o brif atyniadau ein gwlad wedi dweud wrthyf fod eu nifer o ymwelwyr hyd yma eleni yn is na’r llynedd, sy’n adlewyrchu gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â Chymru dros y 12 mis diwethaf. Maent yn ymdopi â thuedd ar i lawr o ran gwerth tocynnau, gan adlewyrchu effeithiau'r argyfwng costau byw ar ymddygiad defnyddwyr. A bu newid o arosiadau byr i ymweliadau dydd, yn ôl pob tebyg oherwydd pwysau economaidd ar eu haelwydydd. Mae'r patrwm hwn wedi'i nodi gan eraill yn y sector, sydd hefyd yn nodi gwariant is gan ymwelwyr, lefelau is o ddefnydd llety, llai o westeion rhyngwladol, arosiadau byrrach, gostyngiadau mwy a chynigion. Nawr, Weinidog, rydych chi wedi cyhoeddi mesurau synhwyrol sydd ar y ffordd—rydym eisiau i hynny ddigwydd—mewn perthynas ag 20 mya. A chyda llaw, mae hynny'n cael effaith. Ond o ran y dreth dwristiaeth, a allech chi edrych ar hyn eto? Rwyf i, a llawer yn y diwydiant, yn credu nad nawr yw’r adeg i fod yn cyflwyno treth dwristiaeth. A wnewch chi ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth ymdrin â hynny, a gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â diddymu'r goblygiadau treth dwristiaeth, efallai, wrth symud ymlaen? Diolch.
A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn a’i hasesiad o’r economi ymwelwyr? Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, nid oes dwywaith am hynny, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'r cyfrifoldeb am dwristiaeth bellach wedi’i drosglwyddo i fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Rebecca Evans, fel Gweinidog yr economi, ac mae Jack Sargeant hefyd yn edrych gyda brwdfrydedd ar ddyfodol yr economi ymwelwyr. Yn wir, credaf y bydd Jack yn mynychu'r fforwm economi ymwelwyr yr wythnos nesaf gydag arweinwyr busnes. A bydd un o'r tri ohonom, rwy'n siŵr, yn mynychu digwyddiad nesaf fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru hefyd, gydag arweinwyr busnes, i archwilio'r materion yr ydych wedi'u codi heddiw ymhellach.
Soniais fod eleni wedi bod yn anodd tu hwnt i Gymru. Rwyf wedi bod yn edrych ar dueddiadau yn Ewrop hefyd, ac ymddengys bod archebion tymor byr ar gyfer llety gwyliau wedi lleihau mewn llawer iawn o ardaloedd allweddol yn Ewrop sy'n dibynnu ar ymwelwyr. Ac ymddengys bod y duedd i archebu'n hwyr hefyd yn cael effaith ar broffidioldeb. Mae gostyngiadau'n cael eu defnyddio'n hwyr iawn, a dyna pryd y mae pobl yn sylweddoli ac yn archebu. Felly, mae tueddiadau sy’n dod i’r amlwg o fewn yr economi ymwelwyr ledled Ewrop y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohonynt, a dyma pam y credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gydag arweinwyr busnes i fynd i’r afael â’r bygythiad y mae’r tueddiadau hynny yn eu hachosi i'r diwydiant.
Nawr, ein huchelgais ni, yn amlwg, yw tyfu twristiaeth er budd busnesau a phobl Cymru, a hoffem ddatblygu rhagor o atyniadau sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac yn hollbwysig, ym mhob tywydd. Hoffem sicrhau bod y cynnig i ymwelwyr yn cael ei adnewyddu’n barhaus. Gwelais lythyr Jim Jones o Twristiaeth Gogledd Cymru yn ddiweddar, ac roeddwn yn credu bod Jim yn gwneud llawer o bwyntiau dilys iawn am faterion cysylltiedig sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr, gan gynnwys yr angen i fuddsoddi yng nghanol trefi i ddenu ymwelwyr, yr angen i sicrhau bod gwasanaethau fel Avanti West Coast yn canslo llai o drenau a'u bod yn fwy prydlon. Felly, edrychaf ymlaen at ymgysylltu â busnesau yn rôl Gweinidog gogledd Cymru, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog yn adran yr economi yn benderfynol o dyfu’r economi ymwelwyr.
Roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd gan Cruise Wales, ynghyd ag Aelodau eraill o ogledd Cymru, yn ddiweddar, i ymweld â’u llong fordeithio Regent Seven Seas Navigator yng Nghaergybi yn ystod y toriad, ynghyd â’r Gweinidog sy’n gyfrifol am dwristiaeth, Jack Sargeant. Roedd yn ddiddorol iawn. Cyrhaeddais ar y trên hefyd, gan ddefnyddio rheilffordd y gogledd yn uniongyrchol yno i'r porthladd, a oedd yn dda iawn. Rwy'n credu y gallem ei hyrwyddo ychydig mwy hefyd, ynglŷn â pha mor hygyrch yw hynny heb orfod newid trenau.
Roedd yn wirioneddol amlwg pam fod y diwydiant mordeithio mor fywiog, gyda 77,000 o deithwyr posibl yn ymweld â Chymru eleni, sy’n newyddion gwych i’n heconomi leol a’n diwydiant twristiaeth. Gwn fod y porthladd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at adnewyddu'r morglawdd er mwyn hybu cyfleoedd swyddi, sydd wedi’i groesawu’n fawr. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn sut arall y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo'r amrywiaeth eang o gyfleoedd twristiaeth y mae'r sector hwn yn eu cynnig, a'i gysylltu â rheilffyrdd hefyd, sy'n wirioneddol bwysig?
Yn sicr. Mae'n rhaid imi dalu teyrnged i un o’n cyn gyd-Aelodau ar fater y diwydiant mordeithio, sef Edwina Hart. Pan oedd yn Weinidog yr economi, gwnaeth gymaint i ddenu’r diwydiant i Gymru, i dyfu’r sector yng Nghymru. Ac rwy’n falch iawn fod Croeso Cymru wedi bod yn mynd ati'n frwd i archwilio pob cyfle posibl i dyfu’r sector penodol hwnnw. Mae o fudd i sawl rhan fwy anghysbell o Gymru, ac mae’n darparu cyfleoedd gwerthfawr o ran cyflogaeth i lawer iawn o bobl. Felly, gallwch fod yn sicr fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector, i’w dyfu, i ehangu cyfleoedd, a bydd Gweinidog yr economi, a’r Gweinidog, rwy’n siŵr, yn ymateb i’r cyfleoedd hynny gyda brwdfrydedd.
Fel fy nghyd-Aelodau sydd wedi siarad eisoes, Janet Finch-Saunders a Carolyn Thomas, roeddwn yn awyddus i hyrwyddo’r cynnig twristiaeth yng ngogledd Cymru, boed hynny yn fy rôl fel Aelod o’r Senedd neu’n bersonol. Bydd y rheini sy’n fy adnabod yn dda yn gwybod fy mod wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngwyliau er pan oeddwn yn wyth oed mewn carafán deuluol ar Ynys Môn. Mae llawer o’r rhan honno o'r gogledd yn anhygoel, gydag Eryri, a chydag Ynys Môn ac o gwmpas penrhyn Llŷn i gyd, ond mae gennym gymaint i’w gynnig ar garreg ein drws yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd, ac rwy’n awyddus iawn i ddefnyddio fy rôl i hwyluso a thyfu’r ardal honno a thyfu cefnogaeth i dwristiaeth yno. Cyfarfûm yn ddiweddar, dros yr haf, â Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ym mharc hyfryd Maes Mynan, gyda golygfeydd epig allan dros Fryniau Clwyd. Ac roeddent yn awyddus—. Yn amlwg, fe wnaethant godi nifer o broblemau y maent yn eu hwynebu, a heriau yn y diwydiant twristiaeth yn enwedig. Roedd rhai’n ymwneud â pholisïau Llywodraeth Cymru, megis y rheol 182 diwrnod, ond hefyd, ynglŷn â sut y gallwn fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo twristiaeth yn well yn yr ardal honno, ac rwy’n awyddus i ddefnyddio fy rôl i hwyluso pethau yn sir y Fflint a thros y ffin. Felly, a wnaiff y Gweinidogion ymrwymo heddiw, efallai, ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i weld sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau nid yn unig i gefnogi twristiaeth yn y gogledd-ddwyrain, ond i dynnu sylw hefyd at bopeth sydd gennym i'w gynnig?
Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod a chytuno’n llwyr fod gan ogledd Cymru lawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr? Ac yn benodol, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym yr ardal o harddwch naturiol eithriadol—ased anhygoel. Cefais fy synnu a fy mhlesio yn ddiweddar pan gyrhaeddais faes awyr rhyngwladol Lerpwl, ac roedd neges ar y poster cyntaf a welais yn dweud ‘Croeso i Faes Awyr Rhyngwladol John Lennon: y porth i ogledd Cymru’, gyda llun gwych o’n rhanbarth. Felly, yn amlwg, gall rhyngweithio rhwng gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru arwain at fanteision economaidd, ond hefyd, o ran dod â theithwyr tramor i mewn i Gymru, ni ellir gorbwysleisio rôl meysydd awyr Lerpwl a Manceinion, ac yn wir, maes awyr rhyngwladol Birmingham.
Mewn ymateb i’r pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cynhyrchu refeniw newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau lleol, ac yn rhoi cyfle i hybu'r economi ymwelwyr, a'i thyfu drwy wella cyfleusterau, drwy wella seilwaith, a fydd yn gwneud twristiaeth yn llwyddiant, ac yn y gogledd, bydd hynny’n arbennig o bwysig. Mae angen inni wella peth o’r seilwaith sydd gennym fel rhan o’r economi ymwelwyr, ac mae angen inni sicrhau hefyd nad yw twf yr economi ymwelwyr mewn rhai mannau poblogaidd i dwristiaid yn cael effaith andwyol ar weithrediadau dydd i ddydd cymunedau yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae'r ardoll yn rhoi cyfle i bwmpio buddsoddiad i mewn i'r economi ymwelwyr, i fannau poblogaidd i dwristiaid, yn ogystal â'r ardaloedd unigryw hynny sydd, i ryw raddau, yn drysorau heb eu darganfod yng Nghymru.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso'n ôl ar ôl yr haf. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn mai blwyddyn i ddoe y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei chynllun terfyn cyflymder 20 mya hynod ddadleuol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld protestiadau dirifedi, gan gynnwys un ar risiau Senedd Cymru ddoe, a deiseb yn galw am ddiddymu'r polisi yn torri'r record drwy ddenu bron i 0.5 miliwn o lofnodion. Dros yr haf, gwelsom ras feicio Taith Iau Cymru yn cael ei byrhau a’i hailgyfeirio o ganlyniad i’r polisi 20 mya, ac ym mis Awst, datgelwyd gan arolwg barn YouGov fod mwyafrif yng Nghymru yn dal i wrthwynebu'r polisi 20 mya hwn. Yn ôl yr arolwg—i unrhyw un a'i methodd—mae saith o bob 10 o bobl, neu 72 y cant, yn gwrthwynebu polisi diffygiol Llywodraeth Cymru, gyda dim ond 24 y cant o bobl yn ei gefnogi. Efallai fod mwy o amser wedi mynd heibio, ond mae'n amlwg fod llawer iawn o wrthwynebiad i'r polisi hwn o hyd.
Ac rwy’n derbyn eich bod wedi cynnal rhaglen wrando, Ysgrifennydd y Cabinet, a bod y Prif Weinidog newydd wedi cynnal rhaglen wrando dros yr haf hefyd, ond mae pobl yn dal i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Maent wedi cael llond bol ac maent yn ddig. Datgelwyd yn ddiweddar fod cynghorau Cymru wedi cael mwy na 10,500 o geisiadau gan drigolion yn galw am newid ffyrdd yn ôl i 30 mya. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y weinyddiaeth newydd hon yn ddigon dewr i gyfaddef o'r diwedd mai camgymeriad oedd y polisi hwn, gwneud tro pedol a defnyddio dull synnwyr cyffredin? Neu ai dim ond ymgais sinigaidd i geisio ffafr y cyhoedd oedd y rhaglenni gwrando hyn? Diolch.
A gaf i ddiolch i Natasha Asghar a’i chroesawu’n ôl ar ôl toriad yr haf? Croeso'n ôl i'r rôl hefyd. Nid wyf yn credu ein bod yn rhy bell oddi wrth ein gilydd ar y mater hwn, a dweud y gwir. Credaf mai’r consensws yw bod yn rhaid inni gael y cyflymderau cywir yn y mannau cywir. Mae hynny’n golygu 20 mya yn yr ardaloedd adeiledig iawn hynny: ardaloedd lle mae gennych ysgolion, a pharciau ac yn y blaen. Rwy'n credu mai’r gwahaniaeth yw bod gennym lwybr gwahanol i sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir yn y mannau cywir. Er ein bod yn ceisio newid y llwybrau hynny na ddylai byth fod wedi’u newid i 20 mya yn ôl mewn ffordd gyflym a chosteffeithiol, yr unig lwybr amgen a gynigiwyd yw diddymu’r ddeddf a mynd drwy broses a allai gymryd blynyddoedd lawer a chostio ffortiwn, sef newid ffyrdd 30 mya yn ôl i 20 mya. Rwy'n gwbl sicr y bydd y dull yr ydym yn ei ddefnyddio yn arwain at ffordd fwy costeffeithiol ac amserol o ymdrin â’r rhwystredigaethau a fynegwyd ledled Cymru.
Mae rhywbeth arall y mae angen ei ddweud ar y polisi hwn. Mae tuedd yn dod i'r amlwg sy'n dangos bod nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol yn mynd i lawr yn sgil gostyngiad mewn gwrthdrawiadau. Nawr, rwy'n cydnabod—. Yn mynd i lawr. Mae nifer y gwrthdrawiadau wedi lleihau 20 y cant. Nawr, mae angen inni aros i'r duedd lawn ddod yn amlwg. Ond rwy'n obeithiol, ac rwy'n credu y dylai pawb yn y Siambr hon fod yn obeithiol, fod y duedd ar i lawr, ein bod yn gweld llai o bobl—. A gwn fod yr Aelod dros Ogledd Cymru yn gwrthwynebu hyn, ond mae'n bwysig fod pob un ohonom yn cefnogi polisi sydd wedi'i gynllunio i achub bywydau, ac ar yr un pryd—[Torri ar draws.]—ac ar yr un pryd—[Torri ar draws.] Ond mae hynny ar bob ffordd. Gadewch inni beidio â dewis a dethol yr ystadegau yma. [Torri ar draws.] Pob ffordd, yn union, sy’n cynnwys y rhai heb eu cyfyngu. Mae’n cynnwys y ffyrdd lle gall pobl yrru’n gyfreithlon ar 70 mya. Mae’n berthnasol—. Mae’r ystadegau a ddyfynnwch yn berthnasol i fwy na ffyrdd 20 mya yn unig. Rwy’n ymwybodol fy mod yn ymateb i Aelod gwahanol i'r un a ofynnodd y cwestiwn. Mae'n ddrwg gennyf, Natasha.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n iawn; teg pob twyll mewn gwleidyddiaeth a chariad, fel maent yn ei ddweud. Felly, nid yw'n syndod, yn anffodus, yn y ffordd y mae pethau wedi digwydd—fel rydych chi newydd glywed mae'n siŵr—fod teimlad gwirioneddol fod Llywodraeth Lafur Cymru yn wrth-fodurwyr. Bydd cipolwg sydyn ar ôl-gatalog y Llywodraeth o bolisïau'n ategu hynny, ond ymddengys bod dirmyg Llywodraeth Lafur Cymru tuag at yrwyr wedi lledaenu i lawr yr M4 at eich cyd-aelodau o'r Blaid Lafur sy’n eistedd yn San Steffan ar hyn o bryd. Roeddwn i'n arfer meddwl, yn wleidyddol, mai pensiynwyr oedd yn cael eu cosbi gan eich cyd-bleidwyr yn Llundain, ond ymddengys bod y sïon yn rhemp fod Llywodraeth Keir Starmer yn ystyried cyflwyno’r system talu fesul milltir yn rhan o gyllideb y mis nesaf, y dywedwyd wrthym eisoes y bydd yn boenus o anodd i lawer o bobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae ofnau dilys ymhlith llawer o bobl y bydd cyflwyno cynllun talu fesul milltir yn cael effaith fawr ar bobl ar incwm is ac yn cosbi teuluoedd gweithgar.
Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth ac atoch chithau hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am atebion, ac mae'n rhaid imi ddweud ar goedd nad wyf wedi cael atebion gan y naill na'r llall, heb fod yn amharchus mewn unrhyw ffordd. Felly, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, yn garedig, heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Llundain ynglŷn â chyflwyno cynllun talu fesul milltir yma yng Nghymru, a pha asesiadau a wnaethoch o'r effaith y bydd cynllun talu fesul milltir yn ei chael ar fodurwyr Cymru?
A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau ynglŷn â’r posibilrwydd o ddull amgen o godi refeniw o foduro? Gwyddom y bydd y peiriant tanio mewnol yn dod i ben, ac o ganlyniad i hynny, bydd yn rhaid i dreth ffordd newid. Cyn i Lywodraeth Lafur y DU gael ei ffurfio, roedd yr Adran Drafnidiaeth eisoes yn cydnabod, oni bai ein bod yn barod i golli llawer iawn o refeniw ar lefel y DU, y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn lle treth ffordd. Mae hynny'n benodol am fod y peiriant tanio mewnol yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol, ac rydym yn gweld mwy o geir trydan yn cael eu gyrru heb unrhyw dreth ffordd. Felly, roedd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth eisoes yn edrych ar ddulliau amgen o godi refeniw. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion cyfatebol yn San Steffan ynglŷn â hyn. Mae’n fater a gedwir yn ôl. Ond rwy'n croesawu unrhyw syniadau gan Aelodau’r gwrthbleidiau ynglŷn â sut y gellid codi’r refeniw hanfodol hwnnw a fyddai fel arall yn cael ei golli.
Iawn, diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Yng nghanol toriad yr haf, datgelwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £206 miliwn arall i Faes Awyr Caerdydd. Daw’r arian ychwanegol hwn o bwrs y wlad ar ben y cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr sydd eisoes wedi’i bwmpio i mewn i’r maes awyr hyd yma. Ymddengys fel pe bai Gweinidogion Llafur unwaith eto'n blingo'r cyhoedd yng Nghymru i gynnal maes awyr. A hynny, rwy'n siŵr y gallwch dderbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, tra bo'n gwasanaeth iechyd o dan bwysau aruthrol, gyda phob un o'r byrddau iechyd mewn rhyw fath o statws uwchgyfeirio, a'n system addysg yn ymdopi gyda'r canlyniadau PISA gwaethaf yn y DU, ac eto, yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion hyn, sydd o bwys gwirioneddol i bobl Cymru, byddai’n well o lawer gan Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ei rhestr ddiddiwedd o brosiectau porthi balchder. Dyna sut y mae’n edrych, Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, rwy’n gofyn i chi heddiw, a allwch chi weld pam fod hon yn bilsen chwerw iawn i’r cyhoedd yng Nghymru orfod ei llyncu? Ac a wnewch chi ymrwymo yn y Siambr hon heddiw i roi dadansoddiad llawn i'r cyhoedd o beth yn union y bydd y £206 miliwn yn talu amdano? Diolch.
Dylwn ddatgan nad wyf yn gyfrifol am y maes awyr mwyach. Mae hwn yn gyfrifoldeb a roddwyd i fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, a gwn ei bod yn awyddus i ateb cwestiynau am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd. Mae'n fater—
Weinidog, rwy'n credu bod gennych fantais dros y gweddill ohonom yn y Senedd hon, gan nad yw'r cyfrifoldebau gweinidogol wedi’u hegluro i’r Senedd eto. Felly, os gallwch—
Iawn. Wel, efallai'n wir ei fod wedi dod yn ôl felly.
Efallai ei fod yn newid, ond am y tro, ein dealltwriaeth ni yw, yn unol â'r cais a'r cwestiwn a ofynnwyd gan Natasha, fod angen i chi ei ateb.
Ie, diolch, Lywydd. Mae hwn yn fater sydd o dan ystyriaeth gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar hyn o bryd. Mae’n cael ei ystyried gan yr arbenigwyr hynny. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod Maes Awyr Caerdydd yn cynnal miloedd ar filoedd o swyddi. Mae’n gwneud cyfraniad enfawr i economi de Cymru. Heb os, byddai ei golli yn cael effaith ar gyflogaeth ac ar yr economi. Clywaf Aelodau yn ei wrthwynebu. Ai safbwynt Aelodau’r gwrthbleidiau, felly, yw cau’r maes awyr?
Ei breifateiddio.
Preifateiddio'r maes awyr? Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd ei breifateiddio, roedd yn cael ei ddinistrio. Ychydig iawn o feysydd awyr teithwyr dros y byd sydd mewn perchnogaeth gwbl breifat. Mae gan y rhan fwyaf o feysydd awyr teithwyr gyfran gyhoeddus, y rhan fwyaf o feysydd awyr teithwyr dros y byd. A cheir nifer enfawr o feysydd awyr yn eu hawl eu hunain nad ydynt yn gweithredu er elw; fe'u hystyrir yn fagnetau economaidd sy'n cynhyrchu gwaith a chyfleoedd i bobl yn y rhanbarthau hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Yn wahanol i’r Torïaid, sydd wedi gwneud tro pedol ar fater 20 mya mewn ymgais anobeithiol i barhau i fod yn berthnasol, mae ymagwedd synnwyr cyffredin Plaid Cymru bob amser wedi bod yn gyson. Rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn cytuno bod arnom eisiau ffyrdd mwy diogel i'n cymunedau, ac y dylid gosod cyfyngiadau cyflymder yn rhesymegol ac yn gymesur. Dyna pam y gwnaethom alw am adolygiad o’r polisi o’r cychwyn cyntaf er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol yn well. Fe wnaethom alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n agosach â chynghorau, fel y gellid rhoi gwybod i yrwyr a cherddwyr am newidiadau yn effeithiol. Gan fod y Llywodraeth bellach yn gwrando o'r newydd, a ydych chi'n gresynu, fel y mae eich rhagflaenydd yn amlwg yn ei wneud, na wrandawodd eich plaid ar alwadau Plaid Cymru ar y mater hwn yn gynt, ac a allwch chi ddweud wrthyf faint o arian a fyddai wedi'i arbed pe baech chi wedi gwrando'n gynt?
Wel, rwyf wedi siarad yn gyhoeddus am yr angen i ddod â phobl gyda chi ar bolisi o'r fath, ar newid mor enfawr. Felly, er mwyn rhoi newid o'r fath ar waith, rhaid imi ddweud bod yn rhaid ichi gydymffurfio â thri ffactor. Yn gyntaf, mae’n rhaid ichi sicrhau bod pobl yn ei gefnogi’n lleol yn eu cymunedau. I wneud hynny, mae'n rhaid ichi wrando ar bobl. Mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o’r broses. Ac mae'r ddau ffactor arall yn ymwneud â chyflymder y traffig ar hyn o bryd. Mae'n rhaid iddo fod yn nes at y terfyn cyflymder arfaethedig er mwyn sicrhau bod pobl yn cydymffurfio'n llawn. Ac yna'r trydydd, yn ddelfrydol, yw bod angen seilwaith ffisegol ac amgylcheddol wedi'i osod i leihau terfynau cyflymder.
Nawr, o ran gwrando ar bobl, dod â phobl gyda ni, mae'r cyn Weinidog trafnidiaeth wedi derbyn nad oedd y gweithredu cystal ag y dylai fod, a dyna pam y gwnaethom gynnal yr ymarfer a gynhaliwyd gennym, lle mae mwy na 10,000 o bobl wedi rhannu eu barn ar ba ffyrdd a ddylai newid yn ôl i 30 mya. Ac yn y misoedd nesaf, byddwn yn gweld ffyrdd yn newid yn ôl, gan ystyried yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym.
Ni chlywais ffigur yno o faint o arian a fyddai wedi’i arbed pe baem wedi gwneud hynny’n gynt, ond symudwn ymlaen. Y gwir amdani yw bod hanes y Llywodraeth o gyflawni wedi bod ar ei orau pan fydd yn gwrando ar Blaid Cymru. Amlygwyd manteision clir gwrando ar Blaid Cymru pan wrandawodd Trafnidiaeth Cymru ar nifer o alwadau gan fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr ymateb i’r gwasanaeth trenau yn hynod gadarnhaol, felly rwy'n cymeradwyo Trafnidiaeth Cymru ar eu gwaith.
Ond ni ddylai trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon fod yn eithriad; dylai fod yn norm. Yn anffodus, mae hyn yn parhau i fod yn rhwystredig o brin dros rannau helaeth o’n rhwydwaith rheilffyrdd, lle mae canslo trenau, oedi a gorlenwi yn brofiadau rhy gyfarwydd o lawer i deithwyr. Ond yn hytrach na cheisio gwella hygyrchedd eu gwasanaethau, yn unol ag uchelgais y Llywodraeth i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno mesurau a fydd yn cyflawni'r gwrthwyneb. Maent yn cynnwys dirwyo unigolion y byddent, yn rhesymol ddigon, wedi disgwyl cael opsiwn i brynu tocynnau gan arolygydd tocynnau, mewn toriadau sydd ar y ffordd i’r gwasanaeth ar reilffordd Calon Cymru, a chynigion i roi'r gorau i iawndal pan fo trenau rhwng 15 a 30 munud yn hwyr.
Yn hytrach na chosbi teithwyr sydd eisoes wedi gorfod ymgodymu â chynnydd sylweddol arall eto i brisiau tocynnau eleni, a ydych chi'n cytuno y dylai Trafnidiaeth Cymru ganolbwyntio ar gael trefn ar bethau er mwyn darparu gwasanaeth mwy hygyrch a phrydlon?
A dweud y gwir, credaf ei bod yn gwbl briodol fod pobl sy'n osgoi talu'n fwriadol yn cael dirwy. Mewn sawl rhan o'r rhwydwaith bellach, rydym yn cynnig dulliau tapio ymlaen, tapio i ffwrdd ar gyfer talu am deithio; mae yna beiriannau tocynnau; ac mewn llawer o achosion, mae'n dal i fod bythau tocynnau hefyd. Lle nad oes gan bobl reswm dilys dros osgoi talu, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol eu bod yn cael dirwy. Rwy'n dychmygu y byddai pob Aelod yn y Siambr yn cytuno. Ac rydym yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i brynu tocyn, boed hynny ar-lein, neu drwy dapio ymlaen, tapio i ffwrdd, neu drwy beiriant neu’n uniongyrchol drwy un o swyddogion Trafnidiaeth Cymru. Nid oes esgus dros gyflawni twyll. Maent i bob pwrpas yn dwyn o bwrs y wlad. Gwyddom fod cyllid cyhoeddus o dan bwysau, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn codi arian ychwanegol, ein bod yn cynyddu faint o refeniw a godwn gan deithwyr sy’n osgoi talu'n fwriadol. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny.
Ac o ran yr hyn a ddywedodd yr Aelod am berfformiad Trafnidiaeth Cymru yn ystod yr Eisteddfod, rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y sylwadau caredig hynny. Mae’r adborth a gefais wedi bod yn gadarnhaol iawn hefyd, a chredaf ei fod yn dangos rhan o duedd ehangach ar gyfer gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru, tuedd ar i fyny. Mae 80 y cant o drenau Trafnidiaeth Cymru yn cyrraedd o fewn tri munud i’r amser a drefnwyd. Mae hynny i’w groesawu. Mae bellach yn golygu bod Trafnidiaeth Cymru yn perfformio’n well na Avanti, Great Western Railway, CrossCountry, gan symud i fyny tabl perfformiad y DU, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod y duedd honno’n parhau.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Mae’r broblem gyda hygyrchedd a dibynadwyedd, wrth gwrs, yn thema sy’n codi dro ar ôl tro gyda’r rhwydwaith bysiau, sy’n parhau i fod mewn sefyllfa ansicr ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd a threfniadau ariannu hirdymor. Yn y cyfamser, mae'r bygythiad o gau rhagor o lwybrau, a allai adael rhai o’n cymunedau mwyaf ynysig hyd yn oed yn fwy digyswllt, yn parhau i dyfu.
Rydym wedi clywed ers tro y bydd y Bil bysiau newydd yn ateb i'r gwendidau hyn, ond mae’r manylion perthnasol, yn enwedig mewn perthynas â’r amserlen ddeddfwriaethol, yn annelwig a dweud y lleiaf. O ystyried y ffaith bod y Llywodraeth bellach yn cael ei diffinio fwy gan yr hyn nad yw’n ei wneud na chan yr hyn y mae’n ei wneud, ceir ofnau cwbl gyfiawn y gallai’r Bil hwn gael ei ddifa, fel y ddeddfwriaeth sydd wedi ei hatal eisoes—diwygio’r dreth gyngor a'r Bil diwygio rhywedd.
Rydym wedi clywed llawer dros y dyddiau diwethaf gan Weinidogion fod gan y Llywodraeth gynllun mawr ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, ond nid ydym fawr callach o hyd o ran yr hyn y mae’r cynllun hwnnw’n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, a allech chi gadarnhau unwaith ac am byth beth yw’r cynllun ar gyfer y Bil bysiau? A fydd yn cael ei gyflwyno cyn 2026, ac os felly, a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd fel y gallwn graffu arno?
Bydd. Byddwn yn ei gyflwyno yn y gwanwyn. Mae'n ddeddfwriaeth enfawr. Rydym yn gweld ar hyn o bryd fod Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn perthynas â gwasanaethau bysiau gyda'r Bil bysiau gwell. Mae hwnnw'n edrych ar rymuso awdurdodau lleol yn Lloegr. Mae'r hyn y byddwn yn ei wneud gyda'n Bil ni ar sail genedlaethol yn creu cyfle i fasnachfreinio gwasanaethau ac i gynllunio ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn well gyda gwasanaethau trên, ac integreiddio tocynnau hefyd. Felly, mae'n ddeddfwriaeth arwyddocaol iawn, ond byddwn yn ei chyflwyno yn y gwanwyn. Pan fydd wedi'i phasio gan y Senedd, bydd y gwaith caled yn dechrau o roi'r contractau newydd ar waith i ddiwallu anghenion teithwyr yn hytrach na chymell elw.
3. Pa arweiniad mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i gwmnïau ynni ynghylch cyfraniad cymunedol wrth iddyn nhw ddatblygu prosiectau yn Nghymru? OQ61513
Mae ein polisi yn pwysleisio pwysigrwydd perchnogaeth leol a chymunedol ar gynhyrchiant ynni. Mae gennym ganllawiau ar waith sy'n cynnwys pecyn cymorth i gefnogi'r polisi hwn ymhellach, gan ddangos y camau y dylai cwmnïau ynni eu dilyn i sicrhau bod cyfraniad cymunedol yn cael ei ystyried.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi'n deall y bydd y portffolio yma'n mynd i rywun arall yn y dyfodol, ond am heddiw, mae Llywodraeth Cymru, trwy wahanol ddogfennau megis 'Future Wales: the national plan 2040' ac eraill wedi neilltuo darnau helaeth o diroedd Cymru ar gyfer datblygu cynlluniau ynni, ond cwmnïau rhyngwladol mawr sydd yn cael y cytundebau i'w datblygu yn amlach na pheidio, megis RWE, megis Bute, ac yn eu tro maen nhw'n gallu cael eu masnachu a'u gwerthu i gwmnïau eraill. Ond ein hadnoddau naturiol ni sy'n cael eu defnyddio er mwyn cyfoethogi cyfranddeiliaid y cwmnïau yma. Mae'n ymddangos i mi, o leiaf, fel ein bod ni'n gweld parhad y drefn economaidd echdynnol yma ar draul ein cymunedau, gan olygu bod Cymru'n parhau i fyw mewn tlodi cymharol. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yma am fod o fudd i'n cymunedau ni yma yng Nghymru ac nid i gyfranddalwyr cwmnïau cyfoethog?
A gaf i ddiolch i Mabon am ei gwestiwn? Mae'n iawn, mae hwn yn gyfrifoldeb sydd wedi'i roi i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Fodd bynnag, o ran y gwaith datblygu ar y fargen sector ynni, gallaf ddweud ein bod yn gweithio gyda diwydiant a sefydliadau ledled Cymru i sicrhau bod lleisiau cymunedol yn cael eu clywed drwy gydol y broses o lunio'r fargen honno. Mae'r gwaith ymgysylltu'n cael ei ddatblygu ymhellach dros y flwyddyn i ddod. Rwy'n gobeithio y bydd y pryderon a godwyd gennych heddiw yn cael sylw sylweddol iawn yn y gwaith a wneir ar y fargen sector ynni. Mae capasiti yn ein cymunedau yng Nghymru yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef. Roeddwn i'n darllen eitem yn ddiweddar, o Ysgol Fusnes Caerdydd rwy'n credu, ar yr union bwnc yr oeddech chi'n sôn amdano gyda natur echdynnol cynhyrchiant ynni a'r defnydd o'n tir. Mae'n rhywbeth y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono, ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb i'r pryderon hynny yn y dyfodol agos.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes llawer o amser ers i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gwblhau ymchwiliad i'r dyfodol gwyrdd sydd ar gael i ni yma yng Nghymru ac mae wedi canolbwyntio'n benodol ar y budd cymunedol a ddaw yn sgil y cyfleoedd hyn. Hoffwn eich annog chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni, sydd yn ei sedd, i roi sylw manwl iawn i'r argymhellion a ddaw yn sgil yr ymchwiliad hwnnw, oherwydd mae angen strategaeth mewn perthynas â budd cymunedol. Gellir gosod gwerth ar fudd cymunedol o ran y sgiliau a'r swyddi a'r cyfleoedd cyflogaeth a ddaw, yr holl ffordd drwodd i'r cyfleoedd ar gyfer biliau ynni rhatach i bobl leol. Ond un feirniadaeth allweddol a gyflwynwyd yn ystod yr ymchwiliad oedd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn seilos wrth ddatblygu strategaeth ar gyfer y cyfle hwn. Felly, dyma ble, mewn gwirionedd, i chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet. i roi'r gorau i'r seilos, a gweithio ar draws adrannau'r Llywodraeth, oherwydd mae'r cyfleoedd sydd yma yng Nghymru mor fawr fel bod gwir angen inni wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny a'u gwireddu er budd holl gymunedau Cymru.
Diolch i'r Aelod ac rwy'n meddwl ei fod yn iawn—mae'n gwbl hanfodol. Dyna oedd un o brif flaenoriaethau'r Prif Weinidog a amlinellwyd ddoe. Mae datblygu swyddi gwyrdd gan ddefnyddio technolegau a chyfleoedd newydd gydag ynni adnewyddadwy yn golygu bod yn rhaid inni chwalu'r seilos hynny ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddogol a gweithio ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud ein bod yn gwneud llawer iawn mewn perthynas â pherchnogaeth leol a buddion cymunedol prosiectau ynni. Ond wrth gwrs, mae modd gwneud mwy, a dyna pam ein bod wedi dyrannu cyllid i gynlluniau, fel Ynni Cymru, i ddatblygu systemau ynni clyfar, lleol. Yn rhan o'r gwaith hwn, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gwerthuso ei lwyddiant fel y gall wedyn lywio polisi ehangach ar draws y Llywodraeth yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy'n credu bod llawer o resymau pam y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros ogledd Cymru yn dymuno ymuno â mi a'r gymuned i wrthwynebu dwy fferm solar enfawr a gynlluniwyd ar gyfer Ynys Môn. Mae'r budd cymunedol fel y'i gelwir yn fychan iawn, ac fe geir effaith negyddol ar dwristiaeth. Mae 3,600 o erwau oddeutu 15 gwaith maint y fferm solar fwyaf yn y DU ar hyn o bryd. Mae yna effaith niweidiol ar amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd ym Môn, Mam Cymru. Bydd maint enfawr y capasiti solar sydd ei angen—a dim ond 10 y cant ohono'n cael ei ddefnyddio, serch hynny—yn cael effaith niweidiol ar gapasiti'r grid. Carwn wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymuno â mi i weld maint y cynllun hwn ar Ynys Môn. Ac a gaf i ofyn iddo ymuno â mi i alw am foratoriwm ar ffermydd solar mor enfawr hyd nes y gall y Llywodraeth lunio strategaeth, a allai gynnwys pocedi llai o ynni solar, ynni solar ar adeiladau ac yn y blaen, yn lle'r model echdynnol ac ecsbloetiol hwn o ddatblygu ffermydd solar?
Mae'n anodd iawn imi wneud sylwadau ar gais penodol neu gynnig penodol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod yn rhaid i ddatblygiad fod yn sensitif i'r amgylchedd naturiol ac i gymunedau, a bod yn rhaid ymgysylltu â phobl cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod o sylwadau ar gynlluniau yn fy etholaeth i fod gwerth ymgysylltu'n gynnar â datblygwyr yn hynod bwysig. Ymwelodd Sam Rowlands a minnau, a Mark Isherwood, â chymuned yng Nghoed-poeth y llynedd lle'r oeddent, i fod yn deg â'r datblygwr yno, yn ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn ymatebol iawn i'r gymuned, ac rwy'n credu bod y canlyniad yn gadarnhaol o ganlyniad i hynny. Ac mae hynny'n dangos, wrth ddatblygu'r cynlluniau hyn sy'n hynod bwysig i leihau ein dibyniaeth ar fathau eraill o ynni, pam fod yn rhaid eu datblygu mewn ffordd sensitif, gyda chefnogaeth gymunedol hefyd.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau bysiau yn Islwyn? OQ61528
Yn ogystal â'n cefnogaeth ariannol sylweddol i'r diwydiant, rydym am wella gwasanaethau bysiau trwy gyflwyno masnachfreinio. Bydd hyn yn cefnogi ein dyheadau ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru, gan gynnwys yn Islwyn, wedi'i chynllunio o amgylch y bobl sy'n dibynnu arni.
Diolch. Tan y 1980au, roedd y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu darparu trwy gwmnïau mewn perchnogaeth gyhoeddus, a oedd yn aml yn cael eu rhedeg gan gynghorau lleol ac atebol. Ac yna dadreoleiddiodd a datgymalodd Llywodraeth Margaret Thatcher y diwydiant bysiau a phreifateiddio gwasanaethau er elw, gan arwain at werthu cwmnïau bysiau ar raddfa fawr ac at ddileu llwybrau dielw. Ac yn yr 20 mlynedd a ddilynodd Ddeddf Trafnidiaeth 1985 y Torïaid, gostyngodd nifer y bobl a deithiai ar fysiau y tu allan i Lundain bron i 40 y cant, er gwaethaf cynnydd yn y boblogaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i faer Llafur Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, lwyddo i ddod â gwasanaethau bysiau yn ôl i ddwylo'r cyhoedd gyda'i Bee Network, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'n Bil bysiau? A pha wersi y gellir eu dysgu o'r enghraifft lwyddiannus iawn hon a fydd yn sicrhau bod cymunedau Islwyn yn cael y gwasanaethau bysiau y maent eu hangen ac yn eu haeddu?
Rydym yn awyddus iawn i ddysgu o bob rhan o'r DU a dysgu o rannau eraill o Ewrop yn ogystal sut i reoli gwasanaethau bysiau. Rwy'n cytuno bod dadreoleiddio wedi bod yn drychineb i gymunedau ledled Cymru, ac rydym yn ceisio cywiro hyn gyda'n Bil bysiau. O ran y Bee Network, mae'n fenter ddiddorol a chreadigol y buom yn edrych arni wrth inni ddatblygu rhwydwaith T yma yng Nghymru, i integreiddio gwasanaethau trenau a bysiau, integreiddio'r amserlenni, integreiddio'r tocynnau. O ran Islwyn, mae'n amlwg fod Islwyn wedi elwa o'r cymorth ariannol a roddwyd gennym i'r diwydiant bysiau mewn amgylchedd wedi'i ddadreoleiddio, ond wrth inni fynd ar drywydd y cyfleoedd y mae masnachfreinio yn eu darparu drwy ddeddfwriaeth, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cynllunio gwasanaethau bysiau er budd y boblogaeth a buddiannau'r bobl a wasanaethwn. Mae'n ddeddfwriaeth gymhleth eithriadol, ond mae'n un hynod gyffrous i'r bobl yr ydych chi'n eu gwasanaethu yn Islwyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Prif Weinidog wedi dweud, wrth gwrs, mai gwell gwasanaethau bysiau fydd un o'i blaenoriaethau, ac fel Ceidwadwyr Cymreig rydym yn llwyr gefnogi hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddai mwy o oedolion yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn peth o esiampl Lloegr ac yn rhoi cap o £2 ar deithiau bws sengl i oedolion sy'n gweithio. Neu dilynwch awgrym fy nghyd-Aelod Natasha Asghar a chyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan. Ysgrifennydd y Cabinet, a welwn ni'r mathau hyn o fentrau yn y Bil bysiau, ac a ydych chi'n cytuno, os ydym am wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru, fod angen i'r gwasanaeth fod yn effeithlon, yn ddibynadwy, ac yn werth da am arian, yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn yr ystyr ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill. Ar ôl i'r Bil gael ei basio, bydd yn llawer haws ac yn fwy costeffeithiol inni gyflwyno cynlluniau newydd fel cap ar brisiau tocynnau. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, i drafod syniadau amrywiol a sut y gellid eu treialu. Mae gennym ddau brif rwystr ar hyn o bryd. Yn gyntaf, mae gennym y farchnad sydd wedi'i dadreoleiddio, sy'n golygu y gall gweithredwyr ddewis a dethol y gwasanaethau proffidiol a gadael y cyfrifoldeb a'r cyfrifoldeb ariannol i gynghorau ddarparu gwasanaethau lle mae'r farchnad wedi methu. A'r ail her sydd gennym, yn amlwg, i raddau helaeth oherwydd Trussonomics a'r trychineb a ddigwyddodd o dan y cyn-Brif Weinidog, yw bod cyllid cyhoeddus wedi ei ymestyn i'r eithaf. Fe af ar drywydd unrhyw gynllun peilot, unrhyw gynllun newydd, sy'n fforddiadwy ac yn cynyddu defnydd. Ac wrth basio'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno i'r Senedd hon y gwanwyn nesaf, byddwn yn gallu ei wneud mewn ffordd lawer mwy costeffeithiol.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61492
Ar hyn o bryd rydym yn uwchraddio'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Chroesffordd Maencoch, ac mae ein rhestr gyfredol o welliannau rhwydwaith strategol wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Byddwn yn parhau i fonitro rhannau o'r rhwydwaith sy'n profi tagfeydd ac yn nodi atebion sy'n cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Cymru lle bo angen.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n ymwybodol iawn o gynllun addasu arfordirol Niwgwl yn fy etholaeth i, o gofio ein bod ni wedi cyfarfod i'w drafod. Fel y gwyddoch, mae gennyf bryderon ynghylch cynigion Cyngor Sir Penfro, gan y byddent yn costio miliynau lawer o bunnoedd i'r trethdalwr. Yn y cyfamser, mae'r gymuned leol wedi llunio cynllun amgen a allai arbed llawer o arian, ac mae'n bwysig fod eu cynllun yn cael ei ystyried yn iawn nawr. Fodd bynnag, rwy'n deall bod briff diweddar a anfonwyd at aelodau'r cyngor yn gwneud nifer o ddatganiadau anghywir am gynlluniau'r gymuned, ac mae hynny'n peri pryder mawr. Gwn fod eich swyddogion yn cysylltu â Chyngor Sir Penfro, felly a allwch chi ddweud wrthym beth oedd canlyniadau'r trafodaethau hynny, ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y broses hon yn dryloyw, a bod yr holl wybodaeth am y cynigion yn gywir?
Mae'n hollol gywir fod tryloywder yn hollbwysig wrth ystyried cynlluniau o'r math hwn. Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gyfarfod â Paul Davies ac i ddysgu mwy am yr awgrym gan y gymuned. O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, cysylltodd fy swyddogion â'r cyngor, a roddodd sicrwydd y dylid rhoi ystyriaeth briodol i'r dewis arall a awgrymwyd gan y gymuned cyn eu penderfyniad terfynol ar y cynllun a ffefrir. Yn amlwg, mater i Gyngor Sir Penfro fydd gwneud y penderfyniad terfynol ar yr ateb ymarferol priodol, ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod yr awgrym a gyflwynwyd gan y gymuned yn cael ei ystyried yn llawn a bod data cywir, gwybodaeth gywir, yn cael ei darparu i'r aelodau etholedig.
6. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Llundain? OQ61518
Wel, rwy'n cydnabod rhwystredigaeth Aelodau ar draws y Senedd a theithwyr ynghylch dibynadwyedd gwael gwasanaethau Avanti West Coast. Mae angen i'r gwasanaethau wella, o ystyried pa mor hanfodol yw'r cysylltiad rhwng gogledd Cymru a Llundain.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y gwasanaeth presennol o ogledd Cymru i lawr i Lundain yn llanast llwyr. Fe fyddwch yn gwybod, ychydig flynyddoedd yn ôl, fod 14 trên y dydd yn symud rhwng Llundain a gogledd Cymru; mae hynny i lawr i bump erbyn hyn. Ac ar ben hynny, o'r pump sy'n bodoli, mae un o bob pump o'r rheini'n cael eu canslo. Dyma'r llwybr sy'n perfformio waethaf yn y DU o bell ffordd, ac mae'n cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar fusnesau lleol a bywoliaeth pobl hefyd. Felly, hoffwn glywed eich barn ar ba gamau posibl y gallech eu cymryd i gefnogi gwelliannau ar y llinell benodol honno. Ond yn ogystal, fe fyddwch yn gwybod hefyd am gynigion ar gyfer llwybr o Wrecsam i Lundain, gyda phum trên y dydd o leiaf yn cael eu cynnig ar gyfer y llwybr hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n syniad gwych i'r gytref fwyaf yng ngogledd Cymru gael y cysylltiad uniongyrchol hwnnw â Llundain, felly hoffwn wybod a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn debygol o'i gefnogi yn y dyfodol.
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Rydym wedi cael trafodaethau niferus ers iddo gael ei ethol i'r Senedd am wasanaethau rheilffordd, nid yn unig ar draws gogledd Cymru, ond o ogledd Cymru i Lundain, ac rydym yn cytuno bod perfformiad Avanti West Coast yn annerbyniol. Rwyf wedi cyfarfod ag Avanti ac wedi mynegi'r farn honno. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog rheilffyrdd newydd y DU, yr Arglwydd Hendy, ac wedi pwysleisio'r angen i sicrhau bod gennym rôl fel Llywodraeth Cymru i oruchwylio gweithredwr cyhoeddus y cysylltiad pwysig hwn rhwng gogledd Cymru a Llundain yn y dyfodol, oherwydd fel y mae pethau, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl ffurfiol i gyfarwyddo neu reoli neu ddwyn y gweithredwr i gyfrif.
Nawr, mae Sam Rowlands hefyd yn iawn pan fo'n sôn am y gostyngiad yn y gwasanaethau sydd wedi digwydd ers COVID. Bu gostyngiad enfawr yn nifer y gwasanaethau, mae'r perfformiad wedi gwaethygu ac yn anffodus, lle'r oeddent yn arfer gweithredu trenau wyth cerbyd cyn COVID, mae'r nifer bellach wedi gostwng i bum cerbyd. Ac o ganlyniad i hynny, mae gorlenwi'n digwydd yn rheolaidd ar y gwasanaeth. Felly, mae'n rhaid cael gwelliannau. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth newydd y DU yn cynnal cyfarfodydd perfformio rheolaidd iawn gydag Avanti West Coast ac yn eu dwyn i gyfrif er mwyn cyflawni gwelliannau. Rwy'n credu bod y model sydd wedi bod yn gweithredu yn rhy hir o lawer ym Mhrydain wedi gwneud cam â theithwyr ddydd ar ôl dydd, a dyna pam rwy'n croesawu ymagwedd Llywodraeth y DU at reilffyrdd teithwyr mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at weithio yn y dyfodol gyda Gweinidogion yn San Steffan i fynd ar drywydd pob cyfle, gan gynnwys mynediad agored o bosibl.
Mae mynediad agored yn fodel diddorol, ac rwy'n croesawu gwell cyfleoedd ar gyfer mwy o gysylltedd i bobl gogledd Cymru gyda gwasanaeth rhwng Wrecsam a Llundain. Ond yn hollbwysig, mae'n rhaid cael y capasiti ar y rheilffyrdd ac ni ellir effeithio'n andwyol ar wasanaethau presennol o ganlyniad i gyflwyno gwasanaeth mynediad agored. Ond mae'n gynnig diddorol iawn gan Alstom. Rwy'n credu mai hwn fyddai'r gweithgarwch rheilffordd cyntaf gan Alstom, sydd wedi arfer adeiladu trenau yn unig, nid eu rhedeg. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig.
7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran datblygu economaidd yng Nghymru? OQ61516
Gwnaf. Mae ymgysylltiad cadarnhaol a chynnar wedi digwydd gyda'r Prif Weinidog, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifenyddion Gwladol dros fusnes a masnach, ac ynni hefyd. Rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd ar ein huchelgais cyffredin i sicrhau twf a swyddi yng Nghymru.
Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl tua 14 mlynedd o wastraffu cyfle gyda diffyg gwir bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rydym bellach mewn cyfnod newydd, a fydd, rwy'n siŵr, ac sydd eisoes wedi sicrhau perthynas drawsnewidiol rhwng ein Llywodraeth Lafur newydd yn y DU a'n Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Un agwedd ar gyflawni'r realiti newydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ein seilwaith trafnidiaeth. Rwy'n credu bod gennym waith da iawn gan Gordon Brown ac eraill sy'n edrych ar y gwahaniaethau rhanbarthol yn y DU a'r angen i Gymru, yr Alban a gogledd Lloegr gael llawer mwy o fuddsoddiad mewn pob math o feysydd, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Lafur y DU nawr i sicrhau ein bod yn gweld cyflawniad? Rydym wedi cael ein tanariannu'n ddifrifol ers cymaint o flynyddoedd o ran seilwaith rheilffyrdd. Mae angen inni symud i system drafnidiaeth integredig, felly rwy'n edrych ymlaen—rwy'n siŵr eich bod chi hefyd—at weld canlyniadau'r bartneriaeth newydd honno, a system drafnidiaeth wirioneddol integredig yng Nghymru.
Diolch i John Griffiths ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae gwaith Gordon Brown yn wych. Cefais gyfle i gymryd rhan yn un o'r sesiynau a gynhaliodd. Roedd yn sesiwn rithwir. Am fod fy llythrennau cyntaf wedi ymddangos fel 'KS', fe wnaeth fy nghamgymryd am rywun sy'n byw yn Stryd Downing ar y dechrau, ond cawsom sesiwn werthfawr o gyfnewid safbwyntiau ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs, mae seilwaith trafnidiaeth yn hynod bwysig i alluogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.
Nawr, ers etholiad cyffredinol y DU, mae'n drawiadol fy mod i bellach wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar sawl achlysur, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach—byddaf yn cyfarfod ag ef ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru eto yr wythnos nesaf—rwyf wedi cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, y Gweinidog rheilffyrdd, y Gweinidog ynni, a Gweinidog Swyddfa Cymru, a hyd yma, gallaf bwyntio at nifer o ganlyniadau gwerthfawr o ganlyniad i ddwy Lywodraeth yn gweithio fel un. Cawsom y cyhoeddiad dros yr haf y byddwn yn cynyddu nifer y gwasanaethau ar draws y gogledd 50 y cant—50 y cant—o 2026 ymlaen, o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth y DU ynghylch seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n ganlyniad enfawr mewn cyfnod byr iawn o amser. Yr wythnos nesaf fe gawn gyhoeddiad yn y gogledd ynglŷn â chyfleoedd gwaith. Rydym wedi cael ymrwymiad i gyd-greu'r strategaeth ddiwydiannol, i chwarae rhan lawn yn gweithredu'r cynllun gweithredu deallusrwydd artiffisial. Rydym yn mynd i gael bwrdd rheilffordd ar y cyd i Gymru yn ddiweddarach eleni, cyn y Nadolig—cyfarfod bwrdd rheilffordd a fydd yn dod â'r Gweinidog rheilffyrdd o San Steffan a minnau at ein gilydd. Ac ni fydd yn digwydd yn Llundain, mae'n mynd i ddigwydd yn Wrecsam. Yna byddwn yn ffurfio ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad rheilffyrdd mewn seilwaith yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rydym eisoes yn gweld manteision enfawr dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio fel un.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Darren Millar.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OQ61520
Gwnaf. Mae dibynadwyedd gwael trafnidiaeth gyhoeddus a weithredir gan Avanti West Coast yn siomi teithwyr yng ngogledd Cymru. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan wella perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd ein gwasanaethau rheilffyrdd a hefyd yn parhau i dyfu rhwydwaith TrawsCymru.
Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwyf am gyfeirio at rwydwaith TrawsCymru mewn gwirionedd. Cafodd rhai newidiadau eu gweithredu ar y rhwydwaith o fis Tachwedd y llynedd, yn dilyn adolygiad gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Newidiwyd llawer o'r amserlenni o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw. Cafodd rhai bysus eu tynnu oddi ar rai llwybrau a gosodwyd systemau deallusrwydd artiffisial newydd ar fysiau er mwyn monitro ffocws gyrwyr ar y ffordd. Fodd bynnag, mae teithwyr yn dweud wrthyf fod yr amserlenni'n afrealistig, nid oes digon o ystyriaeth i dagfeydd, neu'r terfynau cyflymder newydd 20 mya mewn rhai ardaloedd, a bod llawer o bobl, o ganlyniad, yn colli eu cysylltiadau ac yn aml mae teithwyr, yn anffodus, yn cael eu gadael ar ôl ar rai llwybrau.
Nawr, yn amlwg, mae angen system drafnidiaeth bysiau ddibynadwy sy'n cysylltu rhannau o gefn gwlad Cymru â chytrefi trefol, ond rwy'n credu bod angen inni adolygu'r trefniadau ar rwydwaith TrawsCymru i sicrhau bod teithwyr yn cael y gwasanaethau y maent yn eu haeddu, ond hefyd nad oes pwysau gormodol ar yrwyr sy'n wynebu'r heriau o orfod cyflawni'r amserlenni afrealistig hyn. Dywedwyd wrthyf fod y system deallusrwydd artiffisial—mae rhannau ohoni wedi cael eu diffodd oherwydd ei bod yn tynnu sylw rhai gyrwyr ar y llwybrau hyn, sy'n beryglus. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y byddwch chi'n ei wneud nawr i gael adolygiad o hyn cyn gynted â phosibl?
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn? Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu atebion ar hyn o bryd i faterion gweithredol gyda llwybrau TrawsCymru penodol, gan gynnwys TrawsCymru T3, sy'n gweithredu—. Dyna'r gwasanaeth yr oedd Darren Millar yn ei nodi nawr; dyma'r llwybr sy'n gweithredu rhwng Wrecsam a'r Bermo. Ac maent yn datblygu atebion a fydd yn gwella dibynadwyedd. Rydym hefyd wedi gweld gwelliannau gwasanaeth yn ddiweddar i'r llwybr T2 sy'n cysylltu Bangor ag Aberystwyth, gan gynnwys mwy o deithiau gyda'r nos ac ar ddydd Sul. Ond os caf, Lywydd, rwyf am ofyn i Trafnidiaeth Cymru archwilio'r pryderon a godwyd heddiw gan Darren Millar ac ymateb yn unol â hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.
1. Pa ddiwydrwydd dyladwy y mae adran yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gynnal cyn dyfarnu contractau? OQ61519
Diolch am y cwestiwn. Yn unol â dogfen gaffael sengl Swyddfa'r Cabinet y DU, cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu ein contractau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Datgelwyd dros yr haf fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi contract ymchwil i gwmni y mae ei unig gyfarwyddwr yn droseddwr rhyw a gyfaddefodd ei fod wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ac enw'r cwmni hwn, fel y gwyddoch, yw Laurel Research Consulting, a dderbyniodd gontract y llynedd ar gyfer ymchwil ar therapïau trosi. Ond nid oes gan Laurel Research unrhyw gysylltiadau clir yn y maes hwn o gwbl. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydych chi wedi canslo'r contract. Ond mae'n ymddangos bod gan Laurel Research waith arall sy'n cael ei wneud i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cael ei gomisiynu gan grant aml-flwyddyn gwerth £135,000 i gynhyrchu'r canllaw ar gyfer casgliadau llyfrgell gwrth-hiliol. I mi, mae'n peri pryder mawr fod arian trethdalwyr yn cael ei gyfeirio at gwmni sy'n cael ei redeg gan droseddwr rhyw o dan nawdd y LGBTQ+ a 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'. Felly, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae'r cwmni hwn wedi cael contractau lluosog mor sensitif drwy Lywodraeth Cymru, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw'r math hwn o beth yn digwydd eto, ac a allwch chi gadarnhau eich bod chi wedi cyfarwyddo sefydliadau i anwybyddu cyhoeddiadau a ddarparwyd gan y sefydliad hwn sydd bellach yn destun gwarth?
Diolch am y cwestiynau hynny. Roeddwn yn bryderus iawn pan glywais am y datblygiad ynghylch Laurel Research Consulting, a dyna pam y gweithredodd fy swyddogion yn gyflym i adolygu contractau gyda'r sefydliad a chymryd camau gweithredu angenrheidiol ar unwaith. Cawsom wybod am y problemau gyda Laurel Research Consulting ddydd Llun, 2 Medi. Daeth y contract ymchwil hwn i ben, fel y nodwyd gennych, ar 6 Medi 2024. A hefyd, yn bwysig eithriadol yn fy marn i, rydym yn cydlynu camau ar unwaith ar gyfer ymarferion caffael newydd, tra bod adolygiad o'r contractau presennol eisoes ar y gweill.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ymddygiad gorfodaethol? OQ61496
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rydym am wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. Mae ein hymgyrch Iawn yn mynd i'r afael ag ymddygiad ac agweddau'n uniongyrchol gyda dynion a bechgyn yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw mai mater i gamdrinwyr, nid i fenywod, yw newid eu hymddygiad.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yn 2015 cafodd trosedd ei chreu yn y gyfraith i wneud ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn drosedd. Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn batrwm o ymddygiad lle mae camdriniwr yn rheoli bywyd eu dioddefwr, gan ddileu eu hannibyniaeth a'u rhwydwaith cymorth yn systematig, a gorfodi eu dioddefwr trwy frawychu geiriol, bygythiadau a/neu gam-drin corfforol. Rydym yn gwybod am ddwy enghraifft broffil uchel o ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth, sef Ruth Dodsworth ac Anna McMorrin. Dywedodd Anna McMorrin wrth BBC Wales na ddylai pobl deimlo stigma ac y gall unrhyw un fod mewn sefyllfa o'r fath a dod yn ddioddefwr. A yw'r Llywodraeth yn derbyn bod angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Mike Hedges, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod dewrder menywod, goroeswyr sy'n siarad allan fel hyn am eu profiad o reolaeth drwy orfodaeth. Oes, mae gennym gyfraith, ond a ydym yn ei gweithredu mewn gwirionedd yn ein system cyfiawnder troseddol? Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod ei fod yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, a rhoi gwybod, a'n hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, a chodi ymwybyddiaeth nid yn unig o reolaeth drwy orfodaeth, sy'n bwysig, ond hefyd o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd.
Hoffwn achub ar y cyfle cyntaf heddiw i longyfarch Emma Wools. Nawr, cafodd Emma Wools ei phenodi'n Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru yn ddiweddar, ac mae hi bellach yn ymuno â mi fel cyd-gadeirydd bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ganddi rôl arweiniol ym maes plismona yng Nghymru, ac mae hi eisoes wedi lansio'r cynllun grant cymunedol 'Beth sy'n bwysig i chi—dywedwch wrth Emma'.
Felly, rwy'n cymeradwyo popeth a ddywedoch chi yn llwyr, ond hoffwn ddweud fy mod yn gobeithio bod rhai ohonoch wedi gweld yr adborth diddorol am Iawn—WalesOnline ar 8 Medi—am ein llysgenhadon Iawn yn myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain, gan gydnabod yr effaith a gaiff ar eu partneriaid ac annog dynion i wneud yn well, i fod yn ddynion Iawn, yn bartneriaid Iawn, ac rwy'n dyfynnu:
'"Fe chwalais fy ffôn, rwyf wedi bod yn amheus ac yn paranoid." Y dynion sydd wedi newid eu ffyrdd wrth i argyfwng cenedlaethol gael ei ddatgan.'
Ac mae'r ymgyrch Iawn—ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru—wedi ennill gwobr genedlaethol yn y DU fel yr ymgyrch ymgysylltu cymunedol orau. Felly, rwy'n annog pawb hefyd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb pwysig i godi ymwybyddiaeth.
Fel ffan hunanaddefedig o Emmerdale, roeddwn yn falch o weld bod hyn wedi'i cael sylw yn ddiweddar yn yr opera sebon trwy stori Belle Dingle a'i phartner Tom; yn anffodus, roedd Belle yn ddioddefwraig ymddygiad gorfodaethol. Felly, rwy'n falch fod hynny wedi'i godi ar raddfa genedlaethol, a diolch i gynhyrchwyr Emmerdale ac ITV am dynnu sylw at hynny ar raddfa genedlaethol, ac rwy'n credu y gall hynny wneud llawer iawn i godi ymwybyddiaeth a chael hynny ar yr agenda. Ond hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cyflawnwr a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn deall arwyddion ymddygiad gorfodaethol, naill ai ynddynt eu hunain neu gyda phartner, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cyflawnwr yn benodol? Diolch.
Diolch yn fawr, Gareth, a diolch hefyd am dynnu sylw at Emmerdale. Rwy'n cyfaddef nad wyf yn gwylio Emmerdale, ond mewn gwirionedd, mae'n bwysig. Ar lefel ddifrifol, mae'n rhaid i'r cyfryngau ysgwyddo cyfrifoldeb. Trwy lawer o'n hoperau sebon fel y'u gelwir, ar radio a theledu, y mae'r straeon hyn wedi'u hadrodd ac maent yn bwerus yn y ffordd honno, fel y maent pan fydd pobl adnabyddus a phwysig mewn bywyd cyhoeddus, fel y dywedodd Mike Hedges, hefyd yn datgelu eu bod wedi goroesi rheolaeth drwy orfodaeth.
Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod—o ran cydnabod eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd hyn—yn edrych ar sut yr ydym yn gweithredu, nid yn unig o ran yr ymgyrch gyffredinol hon, Byw Heb Ofn, ein strategaeth ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond o ran bod gennym elfen o waith yn ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn wir, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol o hyn, ynglŷn â sut yr awn i'r afael ag ymddygiad cyflawnwyr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethom. A hefyd, rwyf wedi sôn am ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer De Cymru; mae'n rhaid imi dalu teyrnged i brif gwnstabl gogledd Cymru, Amanda Blakeman, sydd ar flaen y gad yn hyn o beth. Mae arnom angen menywod yn y swyddi arweiniol hyn, mae'n rhaid imi ddweud, hefyd, yn weithredol yn ogystal ag mewn swyddi gwleidyddol, ac mae gennym ffrwd waith ar fynd i'r afael ag ymddygiad cyflawnwyr a gweithredu.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae'r Blaid Lafur yn credu bod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn syniad da?
Wel, mae'n ddiddorol iawn ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth ar hyn gyda'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n falch iawn fod gennym gwestiynau a dadl hefyd y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn yn y Siambr, oherwydd yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud o ran y penderfyniad anodd hwn a wnaed gan Lywodraeth y DU oherwydd bod eich Llywodraeth ddiwethaf wedi difetha ein heconomi, gan adael y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus—[Torri ar draws.] Dywedais ddoe fy mod yn mynd i ddweud hyn gryn dipyn o weithiau, fel y bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Ond y pwynt pwysig, Joel, yw bod yn rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl iddi, ac yn bwysig—a dyma lle rwy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU—yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, oherwydd bydd hynny'n datgloi nid yn unig mynediad at daliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn i lawer o bensiynwyr nad ydynt yn manteisio arno yng Nghymru, ond fe fydd yn datgloi budd-daliadau eraill iddynt hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bawb fod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i gymaint o bobl oedrannus a bregus nid yn unig yn eithriadol o anystyriol ond yn gwbl ddidostur. Gwyddom fod nifer sylweddol o bensiynwyr yn byw ychydig bach uwchlaw'r trothwy i fod yn gymwys i gael credyd pensiwn. Rydym yn gwybod nad yw llawer o'r bobl sydd â hawl iddo yn hawlio'r credyd pensiwn. Rydym yn gwybod y rhagwelir y bydd prisiau tanwydd yn cynyddu tua 10 y cant ym mis Hydref eleni. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom y bydd y polisi hwn heb os yn achosi i nifer fawr o bensiynwyr ddiffodd eu gwres y gaeaf hwn. Mae'r ffaith bod gan Gymru 15 y cant yn fwy o bensiynwyr fel cyfran o'r boblogaeth, o'i gymharu â Lloegr, hefyd yn golygu y bydd effaith anghymesur ar bensiynwyr Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad yw Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud hynny, pa asesiad a wnaed gennych chi o effaith toriadau i lwfans tanwydd y gaeaf yng Nghymru, a pha adnoddau ychwanegol rydych chi'n disgwyl gorfod eu canfod nawr i gefnogi pensiynwyr Cymru?
Cwestiwn dilynol pwysig yn wir. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Liz Kendall AS—hi yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau—yr wythnos hon, mewn ymateb i fy ngohebiaeth, fy llythyr, ati yn gynharach yn yr haf, i ofyn y cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â hyn o ran diwallu anghenion, yn enwedig, ein pensiynwyr tlotaf yng Nghymru, nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn. A bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod ein cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn, Heléna Herklots, yn ei hystyried yn ymgyrch credyd pensiwn gref iawn. Roeddem yn rhan o hynny fel Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn ymgysylltu'n agos iawn ag ymgyrch Llywodraeth y DU. Rydym wedi rhannu'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol am gredyd pensiwn gyda rhanddeiliaid ledled Cymru, mae gennym ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru am help i hawlio credyd pensiwn. Rydym yn rhoi posteri yn ein meddygfeydd. Rydym yn ceisio helpu i gyfleu'r neges hon ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.
Ond rwy'n credu hefyd fod hyn yn ymwneud ag atal, ynglŷn â sut rydym yn cefnogi aelwydydd ein pensiynwyr yng Nghymru. Ac mae'r buddsoddiad o £30 miliwn eleni yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar gyfer perchnogion tai ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat yn hanfodol bwysig. Nawr, a gaf i ddweud un peth arall? Nid oes digon o bensiynwyr yn manteisio ar ein cronfa cymorth dewisol i ddarparu cymorth brys i aelwydydd. Felly, rwy'n eich annog i'w hyrwyddo i'ch etholwyr, ac yn enwedig pensiynwyr, a rhoi'r wybodaeth iddynt, yn enwedig drwy ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', am daliadau cymorth dewisol, sy'n rhywbeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i gefnogi wrth gwrs, ac wedi'i flaenoriaethu yn ein cyllideb.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r penderfyniad na fydd taliad tanwydd y gaeaf yn un cyffredinol bellach yn creu perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.'
ac mae'n creu perygl o niweidio pobl hŷn a bregus. Ond y gwir amdani, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yw nad yw Llafur y DU yn malio dim am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl. Mae'r ffaith na phleidleisiodd unrhyw AS Llafur o Gymru i gael gwared ar y polisi hwn yn dangos nad oes gan y Blaid Lafur ddiddordeb yng Nghymru. A wnewch chi gondemnio'n gyhoeddus yr ASau o Gymru a fethodd bleidleisio i gael gwared ar y polisi hwn, a fydd yn niweidio cymaint o bobl fregus yng Nghymru yn uniongyrchol? Diolch.
Ni allaf gredu'r haerllugrwydd. Ydych, rydych chi bellach yn wrthblaid yn San Steffan, ond roeddech chi mewn grym am 14 mlynedd o gyni, lle gwnaethoch chi gael gwared ar gymaint o fudd-daliadau i bensiynwyr. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, rwy'n ddigon hapus i ddyfynnu o lythyr Liz Kendall, oherwydd mae hi'n dweud yn ei llythyr, 'Fel cam cyntaf tuag at ailadeiladu Prydain, mae'n rhaid inni drwsio sylfeini ein heconomi i wneud y newidiadau sydd eu hangen yn daer ar ein gwlad, o ystyried y sefyllfa enbyd a etifeddwyd gennym gan gynnwys y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus eleni. Rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd.'
Ond hefyd mae hi wedi derbyn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i estyn allan a gweithio gyda nhw i godi ymwybyddiaeth o gredyd pensiwn: 'Rwy'n falch o ddweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'—yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw budd-daliadau—'yn cysylltu'n uniongyrchol â thua 120,000 o aelwydydd pensiynwyr, gan gynnwys yng Nghymru, sy'n derbyn budd-dal tai ac sydd wedi'u nodi fel rhai cymwys ond nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn ar hyn o bryd.'
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Rydych yn rhoi pryd o dafod i'r Torïaid, fel y dylid, am 14 mlynedd o gyni, ond mae'r Llywodraeth Lafur yn parhau gyda'r dull cyllidol diffygiol a niweidiol hwnnw. Dyma ddau ystadegyn gofidus i chi wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf: dangosodd yr ystadegau diwethaf sydd ar gael ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf, sef ar gyfer 2021-22, fod 240 o bobl yng Nghymru wedi marw oherwydd eu bod yn byw mewn cartref tlawd. Mae adroddiad diweddaraf Age Cymru, a gyhoeddwyd cyn cyhoeddi'r toriad hwn i daliad tanwydd y gaeaf, yn dangos mai dim ond 7 y cant—7 y cant—o'r rhai a arolygwyd sy'n derbyn credyd pensiwn ar hyn o bryd, tra bo bron i hanner yn dweud eu bod yn gweld costau byw yn her go iawn. Mae pobl hŷn, fel y gwyddom, yn fwy agored i niwed oerfel, yn fwy tebygol o fod â chyflyrau ac anableddau sy'n golygu bod angen iddynt ddefnyddio mwy o ynni i gadw'n gynnes, ac maent yn byw mewn tai llai effeithlon o ran defnydd o danwydd yng Nghymru, ac yn talu rhai o'r cyfraddau uchaf am eu hynni. Fe gysylltodd un o'm hetholwyr o Gwm Nedd â mi. Mae gan ei gŵr gyflwr difrifol ar y galon, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gadw'r gwres ymlaen trwy'r dydd. Disgrifiodd imi pa mor bryderus yw hi am y toriad hwn. Mae hi'n gyn-nyrs, sydd wedi gweithio ar hyd ei hoes, a dyma sut rydym yn talu'n ôl iddi am y gwasanaeth hwnnw. Nid yw'n gymwys i gael credyd pensiwn. Mae hi'n hawlio popeth y gall ei hawlio; ac mae'n dal i fynd i fethu cadw'r tŷ mor gynnes ag y mae hi eisiau. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â sut y bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdopi â'r galw cynyddol anochel?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, fel y nodais eisoes—£30 miliwn y flwyddyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd i berchnogion cartrefi ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat. Oherwydd dyma lle mae cymhwysedd, eto—. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod yna lawer o bobl nad ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn, a dyna lle mae angen inni estyn allan at y bobl hynny. Ond mae'r cartrefi cymwys hyn, i gael mynediad at y cyllid Cartrefi Clyd, yn gallu cael mesur pwrpasol o becynnau i inswleiddio, datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at ostyngiad, oherwydd mae hyn yn ymwneud â lleihau biliau ynni, a symud pobl allan o dlodi tanwydd.
Yn ogystal—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi sôn am hyn ddoe—rhywbeth nad yw'n digwydd yn Lloegr, rydym yn darparu cyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mae hwnnw'n gynllun taleb tanwydd a gwres i'r rhai sydd mewn argyfwng tanwydd, i bobl, nid yn unig pobl sydd ar fesuryddion rhagdalu, ond pobl nad ydynt ar y grid. Felly, mae gennym gyfrifoldeb—ac rwy'n gobeithio y caiff ei rannu ar draws y Siambr hon—i hyrwyddo mynediad at y budd-daliadau eraill hyn. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd—yn fuan iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y cadeirydd, Mark Isherwood, yn falch o hynny.
Ond mae'n rhaid inni edrych eto ar yr holl fudd-daliadau eraill. Mae'n rhaid inni estyn allan i sicrhau, yn ein siarter budd-daliadau Cymru—sef ein ffordd ni o ddatblygu darpariaeth dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o fudd-daliadau y mae gennym rywfaint o reolaeth arnynt—y gallwn gynyddu incwm cartrefi gymaint â phosibl.
Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y rhaglen Cartrefi Clyd, gan fod llawer o'r miloedd o bobl ledled Cymru sy'n darparu gofal hanfodol a di-dâl i anwyliaid, gan arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol, yn mynd i fod ymhlith y rhai sy'n cael eu taro galetaf gan y penderfyniad hwn gan y Blaid Lafur i dorri taliad tanwydd y gaeaf. Pobl 65 oed a hŷn yw'r gyfran fwyaf o ofalwyr di-dâl. Mae adroddiad gan Gofalwyr Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf, yn dangos bod 100,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl yn byw mewn tlodi, ac mae bron i un o bob 10 gofalwr di-dâl yn byw mewn tlodi dwfn, ac mae cyfradd tlodi dwfn ymhlith gofalwyr di-dâl 50 y cant yn uwch nag ymhlith gweddill y boblogaeth. Mae gofalwyr, wrth gwrs, yn wynebu costau cynyddol, fel biliau ynni uwch, sy'n gwaethygu eu trafferthion ariannol ymhellach, gyda llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion sylfaenol, fel gwres a bwyd.
O ystyried y toriad i'r rhaglen tanwydd gaeaf, a chanfyddiadau llwm yr adroddiad hwn gan Gofalwyr Cymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud lwfans gofalwyr yn fudd-dal sy'n cymhwyso ar gyfer y gwelliannau i effeithlonrwydd y cartref a ddarperir gan gynlluniau effeithlonrwydd ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac a wnaiff y Llywodraeth sicrhau nad yw budd-daliadau sy'n gysylltiedig â gofalwyr yn cael eu cyfrif fel incwm wrth asesu cymhwysedd ar gyfer rhaglen Nyth Cartrefi Clyd?
Wel, diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd ar y cyfrifoldeb trawslywodraethol sydd gennym. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio'n agos iawn arno gyda fy holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae gofalwyr, yn amlwg, yn hanfodol i hyn, ac rwy'n cydnabod yr adroddiad pwysig iawn gan Gofalwyr Cymru.
A gaf i ddweud un pwynt arall a ddaeth o'r llythyr gan Liz Kendall, sydd, yn fy marn i, yn galonogol i ni yma yng Nghymru? Mae'n dweud, 'Yn y tymor hwy, yr unig ffordd o warantu cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar gymorth yw gwneud yr holl broses'—o hawlio credyd pensiwn yn benodol, ond budd-daliadau credyd eraill—'yn fwy awtomatig.' Felly, mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddatblygu'r gwaith o weinyddu budd-daliadau tai a chredyd pensiwn yn broses fwy awtomatig. Ond hefyd, o safbwynt Llywodraeth y DU, mae gostyngiad £150 Cartrefi Cynnes ar gael, ond nid i'r rhai sydd ar gredyd pensiwn yn unig, mae yno i helpu'r rheini sy'n cael budd-dal tai gyda chostau ynni uchel hefyd. Ond byddwn yn edrych ar argymhellion adroddiad Gofalwyr Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn wedi codi pryderon eang wrth gwrs. Mae'r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru, Gofalwyr Cymru a National Energy Action ymhlith y rhai sydd wedi rhybuddio am ei effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach gartref, ac y byddai'n gadael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn. Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn-argyfwng ac fel y gwyddoch, mae disgwyl iddynt godi 10 y cant eto ar 1 Hydref, ar yr adeg y mae angen i bobl droi eu gwres ymlaen neu i fyny. Mae National Energy Action Cymru hefyd wedi rhybuddio bod aelwydydd bregus ledled Cymru yn cael eu llethu gan dros £3.3 biliwn o ddyled ynni, sydd wedi cronni dros y ddwy flynedd ddiwethaf i raddau helaeth. Mae hyn ddwywaith yr hyn ydoedd cyn yr argyfwng ynni ac wedi'r gaeaf hwn, mae dadansoddwyr yn awgrymu na fydd prisiau ynni yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn y degawd hwn. Mae de a gogledd Cymru yn parhau i fod ymhlith y tri rhanbarth drytaf ledled y DU. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ynghylch cyflwyno tariff ynni cymdeithasol gorfodol, ynghyd â chymorth wedi'i dargedu i leihau lefelau dyled ynni er mwyn lliniaru tlodi tanwydd yng Nghymru?
Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni symud ymlaen a mynd i'r afael â'r lefel annerbyniol honno o ddyled. Fel y gwyddoch, ac ar draws y Siambr hon, rwyf wedi galw am weithredu tariff cymdeithasol. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y codiad yn y cap ar brisiau a gyhoeddodd Ofgem yn yr haf. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem i drafod hynny. Rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â thaliadau sefydlog, y gwyddoch eu bod bellach yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Felly, ie, diolch eto am roi hynny ar yr agenda fel rhan o'r ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n meddwl, hefyd, rwyf wedi ymgysylltu—. Rwyf am ddweud fy mod wedi ymgysylltu ag Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net ynglŷn â hyn. A hoffwn rannu'r hyn y mae'n ei ddweud yn ei lythyr, 'Mae lleihau tlodi tanwydd yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth ynni glân. Drwy ein cynllun Cartrefi Cynnes, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £6.6 biliwn ychwanegol mewn cyllid effeithlonrwydd ynni dros y tymor seneddol hwn i uwchraddio 5 miliwn o gartrefi a thorri biliau i deuluoedd.' Wel, byddaf yn cyfarfod ag ef a'i dîm i weld sut y gallwn elwa o hynny yng Nghymru.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae gorlenwi carchardai yn ei chael ar ei gallu i gefnogi carcharorion? OQ61502
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn croesawu'r camau pendant y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau capasiti mewn carchardai. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl yn y ddalfa a chynorthwyo gyda'r gwaith o'u hadsefydlu.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae CEF y Parc, yn fy rhanbarth i, yn un o'r carchardai mwyaf gorlawn yn y wlad. Bu cyfres o farwolaethau yn y carchar yn ystod y misoedd diwethaf, marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae'r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 12 marwolaeth wedi bod yn y Parc ers dechrau'r flwyddyn, a llawer ohonynt hunanachosedig. Gyda'r carchar yn gweithredu ar 160 y cant o'r capasiti, mae iechyd meddwl a lles y carcharorion yn dioddef. Fodd bynnag, ni ellir beio gorlenwi ar ei ben ei hun. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe wnaeth yr ombwdsmon carchardai ryddhau'r adroddiad i farwolaeth Aaron Nunes. Bu farw Mr Nunes o grawniad deintyddol. Canfu'r ombwdsmon fod y staff gofal iechyd dibrofiad
'wedi methu nodi difrifoldeb cyflwr Mr Nunes ac wedi camgymryd mai ef oedd i'w feio am ei ymweliadau mynych â'r ysbyty',
gyda staff y carchar
'yn cael eu harwain gan staff gofal iechyd'.
Disgrifiwyd bod ei ofal deintyddol yn
'anniogel ac yn destun cyfres o fethiannau'.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a'ch cyfeillion yn Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella gofal iechyd yn CEF y Parc i sicrhau na chawn ragor o farwolaethau diangen yn y carchar?
Diolch, Altaf Hussain. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn ar sawl achlysur ac wedi bod yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol fel rhan o'ch rôl. Mae'r marwolaethau yn y ddalfa yn y Parc yn gynharach eleni yn peri pryder mawr, a rhaid inni barhau i feddwl am y staff ac aelodau teuluol yr effeithiwyd arnynt gan y marwolaethau. Hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod ag Ian Barrow, pennaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru, ar 14 Awst. Rhoddodd Ian sicrwydd ar y cynnydd a wnaed yn y Parc ers y marwolaethau yn y ddalfa yn gynharach eleni, a phenodi cyfarwyddwr newydd. Ac rwy'n gobeithio y gallwch ymweld â'r cyfarwyddwr newydd a'i gyfarfod, fel yr Aelodau lleol a rhanbarthol eraill, rwy'n siŵr. Fy nealltwriaeth i o'r cyfarfod hwnnw yw bod y Parc wedi gwneud cynnydd sylweddol ers y gwanwyn. Mae bellach yn llawer mwy sefydlog. Hefyd, rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed fy mod wedi cyfarfod â'r Arglwydd James Timpson y bore yma, sef y Gweinidog carchardai newydd a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth prawf ac adsefydlu, ac rydym yn ymweld gyda'n gilydd—mae'n ymweliad ar y cyd—â CEF y Parc ar 30 Medi.
Diolch am godi'r mater hwn, Altaf Hussain. Un o'r rhesymau pam ein bod am weld cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli yw er mwyn atal mwy o bobl rhag mynd i garchardai, pan fo'n rhaid bod dewisiadau eraill os ydynt yn torri'r gyfraith. Rwyf am ofyn dau gwestiwn i chi am eich sgyrsiau gyda phennaeth gwasanaeth carchardai a phrawf Cymru. Un, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â sut y gallent gynyddu darpariaeth therapyddion iaith a lleferydd mewn timau troseddau ieuenctid yn dilyn arferion gorau Castell-nedd Port Talbot, oherwydd mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn deall beth sy'n digwydd? Ac os na allant ei ddeall, am fod ganddynt anabledd dysgu neu anhawster cyfathrebu penodol, mae gwir angen inni gwestiynu a yw'n addas eu gosod o fewn y gwasanaeth troseddau ieuenctid. Yn yr un modd, mae angen iddynt allu deall yr hyn y mae'r llysoedd wedi dweud na ddylent ei wneud. Felly, dyna un mater, ac mae gwir angen y gweithwyr proffesiynol hynny ledled Cymru. Yn ail, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â rhyddhau llawer o garcharorion o'r carchar oherwydd y gorlenwi difrifol? Pa ymdrechion a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob carcharor lety i fynd iddo oherwydd, fel arall, byddant yn dychwelyd i'r carchar yn y pen draw?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Jenny Rathbone. Mewn gwirionedd, yr union eiriau a ddywedoch chi, fod angen inni atal mwy o bobl rhag mynd i'r carchar, oedd geiriau agoriadol James Timpson heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau eraill ar draws y Siambr hon yn cyfarfod ag ef. Roedd yn gyfarfod ysbrydoledig a gobeithiol iawn o ran ei genhadaeth a'n cenhadaeth gyffredin i atal mwy o bobl rhag mynd i'r carchar. Ond mae eich pwynt am y gwaith a wnaethoch, yn enwedig ar leferydd, iaith a chyfathrebu mewn timau troseddau ieuenctid, yn bwysig iawn. Diolch i'ch pwyllgor am y gwaith a wnaethoch, oherwydd mae angen y cymorth hwnnw ar blant i ffynnu a byw bywydau boddhaus heb droseddu. Rwy'n gobeithio bod fy llythyr atoch ar 30 Awst wedi eich helpu i weld y cynnydd sydd wedi'i wneud, ac rydym yn disgwyl gweld gweithredu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd a gynhaliwyd. Hefyd, codais eich ail bwynt gyda'r Gweinidog carchardai heddiw, ynglŷn â sicrhau bod llety i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn rhan o'r cynllun rhyddhau cynnar. Y degfed o Fedi, yr wythnos diwethaf, oedd y cam cyntaf, a bydd yr ail gam ym mis Hydref. Cefais sicrwydd ei fod wedi mynd yn dda yng Nghymru. Cafwyd ymdrech drawslywodraethol dda, gyda swyddogion tai Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol. Dyna gyfrifoldeb a arweinir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector celfyddydau a diwylliant? OQ61510
Diolch, Alun. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector celfyddydau a diwylliant yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael digon o gyllid.
Daeth Paul Davies i’r Gadair.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gweld dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf y problemau gyda'r opera genedlaethol a'r coleg brenhinol, sydd ill dau wedi cael eu gorfodi gan doriadau cyllid i wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith sylweddol ar argaeledd celfyddydau a diwylliant i bobl ledled Cymru. Ond rydym hefyd wedi gweld toriadau sylweddol ers 2009 yng Nghymru sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a welwyd yn Lloegr neu'r Alban. Mae cyllideb y cyngor celfyddydau, er enghraifft, wedi ei thorri 25 y cant mewn termau real yn y cyfnod hwnnw—toriadau mwy nag a welwyd yn Lloegr a'r Alban. O ran cyllid llywodraeth leol i'r sector celfyddydau a diwylliant, rydym wedi gweld gostyngiad o dros 4 y cant mewn gwariant i ychydig dros 2 y cant o'r gwariant. Felly, rydym wedi gweld toriadau gan Lywodraeth Cymru a chan lywodraeth leol sy'n fwy na thoriadau i sectorau eraill yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn wedi creu'r argyfwng yn y sector celfyddydau a diwylliant, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd yn gallu sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r toriadau hyn a'n bod yn sicrhau bod y sector celfyddydau a diwylliant yn cael ei ariannu'n briodol ac ar yr un sail â rhannau eraill o'n cyfrifoldebau.
Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae sectorau celfyddydau a diwylliant Cymru yn gwbl hanfodol—maent yn rhan annatod o les ein cymdeithas a'n cenedl. Fel y gwyddoch, y mecanwaith ar gyfer cyllido yw cyllid uniongyrchol i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliant, cyngor y celfyddydau a chyrff hyd braich yr ydym yn eu hariannu'n benodol, ond y cyfrifoldeb sydd gennym o ran cyllideb y celfyddydau a diwylliant. Rwy'n credu y byddwch yn falch fy mod, ar 5 Medi, wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol mewn refeniw y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny'n ychwanegol at y pecyn cyllid cyfalaf ychwanegol gwerth £3.7 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru, sy'n hanfodol i'r llyfrgell genedlaethol ac i'n hamgueddfa genedlaethol. Ond rwy'n hyderus nawr y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau adeiladol iawn a gefais drwy gydol yr haf i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lu o fesurau arbed arian posibl, gan gynnwys diddymu cyllid i Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, a Llancaiach Fawr. Mae'r cam hwn wedi sbarduno cynnwrf a phrotestio mawr, yn ogystal â deiseb yn galw am ailfeddwl, sydd wedi cael mwy na 10,000 o lofnodion hyd yma. Mae Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, yn ased cymunedol hanfodol ac wedi dod yn enwog am fod yn lleoliad celfyddydol ac adloniant ffyniannus ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yno. Yn wir, yn y gorffennol, mae sefydliad y glowyr wedi cynnal digwyddiadau gan berfformwyr fel Stereophonics, Black Sabbath a Coldplay, yn ogystal â'r man lle cynhaliodd y Manic Street Preachers un o'u cyngherddau cyntaf erioed. Ac mae Llancaiach Fawr yn blasty Tuduraidd sy'n atyniad hynod boblogaidd i dwristiaid, gan ddenu heidiau o ymwelwyr bob blwyddyn. Nawr, mae'r ddau safle'n rhan annatod o hanes y gymuned, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni ellir gadael i'r cyngor wneud hyn. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn uniongyrchol wrth arweinydd y cyngor, ac rwy'n mawr obeithio y byddant yn myfyrio ar y brotest gyhoeddus ac yn dileu'r cynlluniau hyn. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rhag ofn y byddant yn penderfynu bwrw ymlaen beth bynnag, a oes unrhyw le i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac achub y safleoedd pwysig hyn? Diolch.
Mae'r sefyllfa sydd wedi codi gyda Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, wedi cael ei godi gyda mi, ac rwyf wedi ei thrafod gyda llawer o Aelodau dros yr wythnosau diwethaf—Delyth Jewell, Hefin David, Rhianon Passmore, pob Aelod yn y rhanbarth ac yn eu hetholaethau eu hunain. Felly, mae'n bwysig ei fod ar yr agenda heddiw o ran cwestiynau. Yn amlwg, mater i gyngor sir Caerffili ydyw, fel y gwyddoch, ac maent newydd orffen eu hymgynghoriad. Yn amlwg, mae'r awdurdod lleol wedi cyflwyno eu sylwadau hefyd. Mae'n sefydliad a ariennir trwy sawl ffynhonnell, un o sefydliadau a ariennir trwy sawl ffynhonnell Cyngor Celfyddydau Cymru. Maent hwy hefyd, wrth gwrs—Cyngor Celfyddydau Cymru—yn ymgysylltu llawer â'r tîm yn Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, i gynnig cymorth.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r celfyddydau a diwylliant yn Islwyn? OQ61525
Diolch, Rhianon Passmore. Caiff holl gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, o dan egwyddor cyllido hyd braich. Hyd yma, yn 2024-25, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dyrannu £148,568 o gyllid i unigolion a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yn Islwyn.
Diolch. Mae Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, yn lleoliad cymunedol poblogaidd iawn yn Islwyn. Mae treftadaeth mwyngloddio a diwydiannol balch Islwyn yn cael ei chynrychioli gan Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, sy'n stori lwyddiant gelfyddydol, un o leoliadau celfyddydol bach mwyaf bywiog Cymru, yn ôl llawer o sefydliadau celfyddydol, gyda chynnydd o 33 y cant yng ngwerthiant y swyddfa docynnau eleni. Gellir gweld treftadaeth cyfleuster o'r fath hefyd mewn sefydliadau tebyg sydd wedi'u hachub i'r genedl—fy swyddfa yng nghanolfan adferedig Memo Trecelyn; yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale—a'u cadw i'r genedl ddathlu pwysigrwydd 'stiwts', fel y caent eu galw ledled de Cymru. Ond mae'r 'stiwt' hwn hefyd yn ganolog i hygyrchedd y celfyddydau i bawb nid yn unig yng Nghoed-duon, ond ymhell y tu hwnt i hynny ar draws y Cymoedd a chymunedau de Cymru.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gallwch ddeall y pryder yn Islwyn pan ddechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymgynghori ar roi'r gorau i ariannu Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, ddiwedd mis Rhagfyr. Rydym i gyd yn gwybod bod 14 mlynedd o doriadau cyni Torïaidd yng Nghymru wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau ar ben eu tennyn ac mae cyllid ein hawdurdodau lleol wedi'i ymestyn yn fawr, ac felly'n peryglu asedau diwylliannol Cymru. Ond mae yna ganlyniad cenedlaethol a lleol i golli lleoliadau celfyddydol o bwys arwyddocaol nid yn unig yn y Cymoedd, ond ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rhagweithiol y gwnaiff adran ddiwylliannol Llywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer archwilio cyfleusterau diwylliannol mor arwyddocaol a chychwyn sgyrsiau gydag awdurdodau lleol ledled Cymru am yr asedau diwylliannol hynny a diogelu diwylliant Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Wel, diolch yn fawr, Rhianon Passmore, am godi hyn y tu hwnt i’r pryderon penodol sydd gennych, a fynegir ar draws y Siambr hon, ynglŷn â Sefydliad y Glowyr Coed-duon, i’r cwestiwn mwy strategol ynglŷn â dyfodol ein celfyddydau a’n diwylliant yng Nghymru. Oherwydd mae’n rhaid inni sicrhau ei fod nid yn unig yn gynaliadwy, ond yn wydn er budd cenedlaethau’r dyfodol a chenedlaethau’r presennol.
Felly, hoffwn dynnu sylw’r Aelodau unwaith eto at ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant. Cafwyd ymgynghoriad llawn ar y blaenoriaethau. Daeth i ben ar 4 Medi, ac yn bwysig, roedd yn cynnwys awdurdodau lleol ac fe wnaethant ymateb iddo hefyd. Mae ganddo ffocws clir iawn ar fynediad at ddiwylliant, ei rôl mewn creu lleoedd, llesiant cymunedol a gofalu am asedau hanesyddol—dyna’r egwyddorion allweddol. Felly, rwy'n gobeithio—a gwn fod yr awdurdodau lleol wedi ymateb—y byddant hefyd yn gweld hyn yng nghyd-destun eu hasedau diwylliannol eu hunain, fel Sefydliad y Glowyr Coed-duon, ac yn blaenoriaethu cymorth yn unol â hynny.
Wrth gwrs, fe wyddom, mae'n rhaid imi ddweud, fod awdurdodau lleol o dan bwysau cyllidebol anhygoel o anodd, a phe bai Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yma gyda mi nawr, byddai'n cytuno, rwy'n siŵr, ac yn dweud, 'Maent o dan bwysau aruthrol ac mae'n ymwneud â blaenoriaethau.' Mae'n bwysig fod yr ymgynghoriad hwnnw wedi'i gynnal, ac mae'n helpu i fynegi beth yw'r blaenoriaethau lleol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg heddiw fod Aelodau ar draws y rhanbarth wedi codi'r un mater ac rwy'n falch iawn fod pob un ohonom wedi defnyddio ein cwestiynau i dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn Sefydliad y Glowyr Coed-duon; mae’n sefydliad pwysig yn y Cymoedd. Bob blwyddyn, mae Sefydliad y Glowyr Coed-duon, fel y dywedwyd, yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a dosbarthiadau, cyngherddau, dramâu, operâu, cerddoriaeth—caiff popeth y gallwch feddwl amdano ei gynnal yno—yn ogystal â’r Manics mewn dyddiau a fu, wrth gwrs, fel y nododd fy nghyd-Aelod.
Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyngor sir Llafur, sy'n dymuno cau’r sefydliad er mwyn arbed arian? Mae'n rhaid achub yr ased cymunedol pwysig hwn. Mae deiseb wedi'i llunio ac mae dros 6,000 o lofnodion arni eisoes. A ydych chi'n cytuno â mi nad dyma’r lle, fel y nododd Alun Davies yn gynharach, yn gywir ddigon, i wneud toriadau? Mae'r rhain yn darparu gwasanaeth hanfodol ac achubiaeth i lawer.
Wel, mae safbwyntiau wedi’u mynegi ar draws y Siambr bellach ar y sefyllfa gyda Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Credaf mai’r unig beth yr hoffwn ei ychwanegu, Lywydd dros dro, yw bod swyddogion yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am ddatblygiadau.
Fel y clywsom gan ein cyd-Aelodau, mae’r celfyddydau a diwylliant yn wynebu perygl gwirioneddol yn Islwyn, ac fe’i galwyd yn ‘fandaliaeth ddiwylliannol’ gan rai, yr hyn sy'n cael ei gynnig gan yr awdurdod lleol Llafur. Mae'r cabinet Llafur wedi mynd ati gyda'r ymarfer torri costau hwn mewn ffordd mor drwsgl, mae'n anghredadwy. Mae'r cynrychiolwyr undebau llafur hynod brofiadol y siaradais â hwy yn ei chael hi'n anodd credu'r ffordd y cynhaliwyd yr ymarfer. Mae'n amlwg fod y cyhoedd yn anghytuno gyda chynlluniau'r cyngor. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn gorymdaith o gannoedd lawer o bobl yng nghanol tref Coed-duon ychydig wythnosau yn ôl, a llwyddais i annerch yr ymgyrchwyr wedyn. Yn y dwylo iawn, nid yw Sefydliad y Glowyr Coed-duon a Llancaiach Fawr yn feichiau; maent yn asedau.
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar sut i gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus priodol a thrylwyr? A pha ganllawiau, arbenigedd a chymorth y gallwch chi eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw’r sefydliadau diwylliannol hyn yn cael eu colli am byth?
Diolch yn fawr, Peredur. Unwaith eto, safbwyntiau ychwanegol o bob rhan o’r Siambr ar y cofnod heddiw o ran y pryderon a godwyd. Credaf mai mater i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn benodol, fel ein corff hyd braich, yw ymgysylltu ag awdurdodau lleol. Rwyf eisoes wedi sôn am ein blaenoriaethau ar gyfer y strategaeth ddiwylliant ddrafft, sy’n canolbwyntio ar y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae. Rwy'n credu mai’r unig bwynt terfynol yr hoffwn ei wneud yw bod Cyngor Celfyddydau Cymru ei hun, sydd wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn gweithgarwch celfyddydol yng Nghaerffili, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed-duon, wedi darparu ymateb manwl i ymgynghoriad cyngor Caerffili.
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr a fydd yn colli eu taliadau tanwydd gaeaf? OQ61505
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob ceiniog y mae ganddynt hawl iddi. Mae ein llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' gan Advicelink Cymru yn helpu pensiynwyr i ganfod a chael mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys credyd pensiwn.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu, ni chredaf y gall unrhyw un yn y Siambr hon gwestiynu eich ymrwymiad i wella cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r weithred ddideimlad gan Lywodraeth Lafur y DU i ddiddymu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar gyfer 500,000 amcangyfrifedig o bensiynwyr yn gywilyddus. Rydych wedi dweud eich hun y bydd hynny'n gwthio pobl i mewn i dlodi tanwydd, a dywedodd eich plaid eich hun y gallai 4,000 o bensiynwyr farw oherwydd y penderfyniad hwn.
Gallwch feio Llywodraeth flaenorol y DU, ond dewis gwleidyddol yw hwn a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU. Y polisi hwn yw’r ymosodiad mwyaf ar ein pensiynwyr mewn cenhedlaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff Llywodraeth Cymru geisio rhoi ei fersiwn ei hun o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar waith, i sicrhau bod y bobl a helpodd i adeiladu'r cymunedau y mae pob un ohonom yn byw ynddynt yn cael eu cefnogi dros y gaeaf hwn?
Wel, diolch, James Evans. Mae'n ddrwg gennyf, ond ni allwn roi gwleidyddiaeth o'r neilltu o ran y rheswm pam ein bod yn y sefyllfa hon a pham fod y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn y sefyllfa hon—y sefyllfa anffodus hon?
Dewisiadau gwleidyddol.
Na, ni allwn roi gwleidyddiaeth o’r neilltu ar ôl 14 mlynedd o gyni. Rwy'n cofio'r gyllideb gyni honno yn 2010—fi oedd y Gweinidog cyllid mewn gwirionedd—a’r sioc y byddai'n ei hachosi. Torri budd-daliadau, dyna oedd un o’r prif ffyrdd y byddent yn adennill yr arian yr oeddent am fynd i’r afael ag ef drwy eu mesurau cyni.
Felly, ni allwch roi gwleidyddiaeth o’r neilltu, heblaw dweud unwaith eto fy mod yn ymrwymo heddiw i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu. Rydym wedi cael rhai trafodaethau da eisoes am ffyrdd y gallwn ddarparu cymorth brys i aelwydydd, yn enwedig ein pensiynwyr. Fe gyfeiriaf eto at siarter budd-daliadau Cymru. Fe wnaethom ei lansio ym mis Ionawr. Mae'n dweud wrthym sut y gallwn ddarparu budd-daliadau, wedi'u llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, fel rhan allweddol o'n gwaith i helpu pobl. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i hyn, a chredaf ein bod yn gweithio tuag at system fudd-daliadau gydlynol a symlach yng Nghymru o ganlyniad i lansio’r siarter honno.
Cwestiwn 7, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd—. Ni allaf gofio. Rwy'n credu mai 'Llywydd Dros Dro' yw'r term cywir, onid e? [Chwerthin.]
7. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch taliadau tanwydd gaeaf? OQ61521
Diolch yn fawr, Darren Millar. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Derbyn credyd pensiwn yw'r allwedd i ddatgloi taliadau tanwydd y gaeaf, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu’r nifer sy’n manteisio arno.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni wnaeth yr ymateb hwnnw fawr o argraff arnaf, nac ar bobl fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd ychwaith. Mae 30,000 o bensiynwyr yng Nghonwy a sir Ddinbych ar fin colli taliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn. Nid dyma’r newid a addawodd y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU. Mae’n doriad creulon a fydd yn effeithio ar lawer o bobl agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth. Gofynnwyd i chi eisoes pam nad yw Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i sefydlu ei thaliad tanwydd y gaeaf ei hun; mae'r gallu gennych i wneud hynny. Ymddengys bod gennych ddigon o arian ar gyfer pethau eraill nad yw pobl yn eu hystyried yn flaenoriaethau, felly pam na allwch chi fuddsoddi arian yn hyn er mwyn diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed?
Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pam nad ydych yn codi llais dros Gymru? Rydych yn dweud eich bod wedi ysgrifennu at Weinidogion. Pam nad ydych chi wedi bod ar y ffôn, yn mynnu cyfarfod â’r Gweinidogion hyn, er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i ddiogelu'r bobl agored i niwed hyn yn ein hetholaethau y gaeaf hwn? Oherwydd, a dweud y gwir, rydych chi'n dechrau edrych yn fwy a mwy tebyg i Scrooge ar y foment, oherwydd y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â'r sefyllfa hon.
Wel, mae gennym ddadl gwrthblaid cyn bo hir—ac yn briodol iawn—ar y mater hwn. Mae'n bwysig eich bod chi hefyd, gobeithio, yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau ein bod yn annog pobl i hawlio credyd pensiwn. A gaf i fod yn adeiladol iawn? Nid wyf am drafod y wleidyddiaeth am eiliad. Mae gan bob un ohonom gyfle yn ein hetholaethau, yn ein cymorthfeydd, i annog pobl i fanteisio ar gredyd pensiwn, gan y bydd yn datgloi mynediad at lwfans tanwydd y gaeaf. Ac oherwydd bod ymgyrch wirioneddol wedi'i chynnal gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod pobl yn manteisio ar hyn, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig—os caf ddweud i gloi, gobeithio, Lywydd dros dro—yw bod ystadegau'n dangos, ar 9 Medi, y bu cynnydd o 115 y cant yn yr hawliadau a ddaeth i law am gredyd pensiwn yn ystod y pum wythnos diwethaf, o gymharu â'r pum wythnos cyn 29 Gorffennaf. Felly, mae hynny'n gweithio, ond mae'n rhaid inni gyfleu'r neges honno y prynhawn yma am y nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, a helpu pobl i gael mynediad ato.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, John Griffiths.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon? OQ61517
Diolch am y cwestiwn. Drwy ein cefnogaeth barhaus i Chwaraeon Cymru, sydd, yn ei dro, yn ariannu cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau fel Chwaraeon Anabledd Cymru, rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi a datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon, o lawr gwlad i lefel elît.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig iawn fod gennym boblogaeth fwy corfforol egnïol yng Nghymru ar gyfer iechyd a lles ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. A gwyddom fod ein cymunedau mwy difreintiedig yn llai egnïol na phobl eraill yma yng Nghymru, ac mae’r effaith a gaiff hynny ar iechyd a llesiant yn amlwg iawn. Mewn gwirionedd, cyfeirir yn aml at ymarfer corff bellach fel moddion gwyrthiol gan y rheini sy’n ceisio bod yn fwy ataliol yn ein sector iechyd yng Nghymru. Gwyddom gan Chwaraeon Cymru a’u traciwr gweithgareddau fod ein cymunedau mwy difreintiedig yn llawer llai egnïol. Felly, mae cryn dipyn o waith i’w wneud, ac mae sylfaen dystiolaeth yno i atgyfnerthu’r angen i annog ein cymunedau mwy difreintiedig i fod yn fwy corfforol egnïol ac i fwynhau ymarfer corff a chwaraeon, Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, gyda’r math hwnnw o gefndir, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i weithio gyda phartneriaid allweddol, cenedlaethol a lleol, i sicrhau bod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth cynyddol hwn, sy’n cael cymaint o effaith ar ein cymunedau mwy difreintiedig?
A gaf i ddiolch i John Griffiths am godi hyn ac am ddangos hyn drwy gydol ei dymor yn gwasanaethu Dwyrain Casnewydd, yn wir, i hyrwyddo cyfleoedd a manteision chwaraeon, a gwaith allgymorth mewn chwaraeon, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a chydnabod bod Cronfa Cymru Actif yn cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yn uniongyrchol? Mae’n cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol, a gwn fod rhywfaint ohono wedi cyrraedd rhai cymunedau yn eich etholaeth. Mae'n wirioneddol dda gweld hefyd—. Ymwelais â Chlwb Rygbi’r Dreigiau dros yr haf gyda John Griffiths i ddysgu am y gwaith allgymorth cymunedol. A phan oeddem yno, roedd yn ddiwrnod teuluoedd Barnardo's yn adran allgymorth y Dreigiau, ac roedd yn dod â phobl ifanc i mewn. Fe wnaethom sôn am y cysylltiadau â'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'r ffyrdd y mae merched yn cymryd mwy o ran. Gwnaeth argraff fawr arnaf. A hefyd, deallaf eich bod yn trefnu cynhadledd ar yr union bwnc hwn yn nes ymlaen y mis hwn, i fod yn Gasnewydd egnïol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan Hefin David ac yn cael ei ofyn gan Laura Anne Jones.
Na. Ddim yma? Iawn.
Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OQ61509].
Fe symudwn ni ymlaen, felly, at gwestiwn 2, sydd i gael ei ateb gan y Llywydd.
2. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i hysbysu pobl am y newidiadau i'r system bleidleisio a ffiniau etholaethau ar gyfer etholiad nesaf y Senedd? OQ61506
Rydym wedi sefydlu grŵp prosiect cyfathrebu ar ddiwygio'r Senedd. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr cyfathrebu cyrff cyhoeddus sydd â rôl wrth gyfleu'r newidiadau i'r Senedd ac etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a'r comisiwn ffiniau. Disgwylir i gyrff perthnasol eraill ymuno maes o law, hefyd. Pwrpas y grŵp yw sicrhau cydlyniad o weithgarwch ymgysylltu rhwng sefydliadau partner. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithiol gan ddarparu gwerth am arian ac osgoi dyblygu.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr am eich ateb. Mae llawer o etholwyr y siaradaf â hwy ers i gynigion y ffiniau gael eu cyhoeddi yn ansicr iawn ynghylch beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer etholiad y Senedd. Mae'n dda iawn fod y grŵp wedi'i sefydlu, ond credaf y byddai'n llawer mwy effeithiol pe bai'r Comisiwn yn mynd allan i siarad ag ysgolion a'r bobl iau sy'n cael pleidleisio nawr hefyd, gan fod angen ichi ymgysylltu â phobl 16 oed, a hefyd gyda Sefydliadau'r Merched a gwahanol grwpiau i roi gwybod iddynt sut y mae'r system bleidleisio yn newid, a sut y mae'r ffiniau'n mynd i newid ac effeithio arnynt wrth symud ymlaen gyda'u cynrychiolwyr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith ehangach a wneir gennych o fewn y cymunedau eu hunain. A sut y gall y Comisiwn gefnogi Aelodau fel fi ac eraill yn y Siambr i roi gwybod i'n hetholwyr am yr holl newidiadau sy'n digwydd yma i'n Senedd?
Rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o’r gwaith allgymorth y mae Comisiwn y Senedd yn ei wneud yn ymwneud â phobl ifanc ac ysgolion a phleidleiswyr 16 oed a fydd yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2026. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn defnyddio’r hyn a wnawn ar hyn o bryd, defnyddio’r cysylltiadau sydd gennym, i sicrhau bod dealltwriaeth ymhlith grwpiau yng Nghymru a phobl ifanc yng Nghymru o'r newidiadau sydd ar fin digwydd. Rwy’n tybio y bydd gan yr Aelodau yma yn y Siambr, y bydd llawer ohonynt yn cynnig eu henwau ar gyfer yr etholiadau yn 2026, rôl arweiniol yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gwybod mor gynnar â phosibl am y newidiadau sylweddol pwysig i’r system etholiadol yng Nghymru yn 2026. Mae angen inni ddechrau gwneud hyn yn gynnar, ond rwy’n bendant yn siŵr y bydd y gwaith yn cynyddu wrth inni nesáu at yr etholiad. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod pobl yn dod yn ymwybodol iawn o etholiadau ac unrhyw newidiadau a phrosesau pleidleisio yn agos iawn at ddiwrnod yr etholiad ei hun. Ond nid yw hynny'n ein rhwystro rhag paratoi’r ffordd a dechrau’r gwaith yn gynnar.
Mae cwestiwn 3 hefyd yn cael ei ateb gan y Llywydd, ac yn cael ei ofyn gan Rhianon Passmore.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Senedd Cymru wedi bod yn dathlu 25 mlynedd o fodolaeth eleni. Bydd etholiad nesaf y Senedd yn 2026, fel y pleidleisiwyd o'i blaid gan y lle hwn, yn ehangu gyda 36 o Aelodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu—
Rhianon, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Af yn syth at y cwestiwn. Dyna sydd angen i ni ei wneud. Felly, yn hynny o beth—
Na, mae'n ddrwg gennyf, Rhianon—a wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn?
O, iawn, o'r gorau. Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ymddangos nad yw hwnnw gennyf.
Mae gennyf fi.
A wnewch chi ei ddarllen ar fy rhan, Lywydd?
3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r lefelau presennol o ddarlledu trafodion y Senedd yn fyw sy'n digwydd ar sianeli teledu a ariennir yn gyhoeddus? OQ61531
Gallaf, yn eich Cymraeg gorau.
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r lefelau presennol o ddarlledu yn fyw trafodion y Senedd ar sianeli teledu a ariennir yn gyhoeddus? Dyna oedd y cwestiwn, os caf i'r hawl i ateb y cwestiwn.
Diolch, Llywydd. Os gallech chi ateb y cwestiwn, diolch.
Mae gennym, fel Comisiwn, gytundeb y gall darlledwyr a ariennir yn gyhoeddus gael mynediad at ein ffrydiau Senedd.tv, sy’n darlledu trafodion y Senedd yn fyw. Byddwch yn gwybod fod BBC Parliament yn darparu darllediadau byw o gwestiynau’r Prif Weinidog ac uchafbwyntiau trafodion y Cyfarfod Llawn bob wythnos. Mae BBC Cymru hefyd yn darlledu cwestiynau'r Prif Weinidog ar nos Fawrth.
Diolch. Ddoe, darlledodd BBC Two Wales ddarllediadau byw o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog am 3.45 p.m., awr a chwarter yn ddiweddarach. Er bod Senedd.tv, yn gywir ddigon, yn ceisio cynnig man hygyrch lle gellir gweld ein trafodion, mae’n bwysig iawn i Gymru fod un o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw y byd, y BBC, a ariennir gan y trethdalwr, wedi’i ategu yng Nghymru gan S4C, ein darlledwr Cymraeg, yn gallu gweithio. Felly, mae'n bwysig fod ein trafodion yn cael sylw ar blatfformau cyfryngau allweddol, a bod dinasyddion Cymru yn gallu cael darllediadau byw o'r trafodion, lle bo modd. Mae pob sesiwn gwestiynau i Brif Weinidog y DU wedi’i darlledu’n fyw ar brif sianeli’r BBC, naill ai ar BBC One neu BBC Two, ers 1990. Pa asesiad a pha ddeialog y mae Comisiwn y Senedd yn ei chael gyda phartneriaid i sicrhau bod Senedd Cymru, sy’n hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru, yn gweld cwestiynau i Brif Weinidog Cymru yn cael eu darlledu'n fyw ar un o ddwy brif sianel y BBC? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn atodol. Cyn imi symud ymlaen, mae angen imi dynnu sylw’r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau mewn perthynas â’r BBC.
Yn gyffredinol, rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, wrth gwrs, fod hygyrchedd a diddordeb pobl Cymru mewn gweld eu cynrychiolwyr yn holi’r Prif Weinidog yn bwysig iawn. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae BBC Parliament yn dangos cwestiynau i'r Prif Weinidog yn fyw, a chânt eu darlledu yn nes ymlaen gan BBC Wales. Rydym yn cael trafodaeth barhaus gyda’n holl bartneriaid darlledu ynglŷn â chynnydd posibl ar gyfer ein trafodion yma yn y Senedd. Yn aml iawn, efallai nad yw ein hamserlenni yn cyd-fynd â'u hamserlenni hwy fel darlledwyr. Ond rydych yn gwneud pwynt pwysig, sef bod angen inni barhau i bwyso ar ein partneriaid darlledu i adlewyrchu pwysigrwydd y cwestiynau a ofynnir yma a’r atebion a roddir yn ddigonol, gan mai ni yw'r llais democrataidd a’r llwyfan ar gyfer mynegi safbwyntiau pobl Cymru, ac mae angen iddynt ein gweld a’n clywed. Gallant ein gweld a’n clywed yn uniongyrchol, wrth gwrs, drwy Senedd.tv, ond fel y gwyddom—ac mae ymchwil yn dangos hyn i ni—mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael unrhyw newyddion amdanom ni fel Senedd yn uniongyrchol drwy’r cyfryngau, a thrwy'r cyfryngau cyhoeddus yn arbennig. Felly, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i berswadio rhagor o’n partneriaid i ddarlledu ein gwaith yma.
Mae cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan Joyce Watson ac yn cael ei ofyn gan Hannah Blythyn.
4. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i fynd i'r afael yn weithredol ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle? OQ61527
Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau bod y Senedd yn sefydliad cynhwysol sy’n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Mae hynny hefyd yn cynnwys aflonyddu rhywiol. Ategir hyn gan ein polisi urddas a pharch, cod ymddygiad staff a'n gweithdrefnau cwyno. Cynhaliwyd yr arolwg urddas a pharch blynyddol diwethaf ym mis Rhagfyr 2023. Yn dilyn adolygiad o’r fframwaith urddas a pharch, mae gwaith pellach wedi’i wneud i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, yn cynnwys adolygiad o dudalennau ar y rhyngrwyd a'r fewnrwyd, posteri ar draws ystad y Senedd ac erthyglau newyddion a chyfathrebiadau mewnol. Mae swyddogion ychwanegol wedi'u hyfforddi fel swyddogion cyswllt urddas a pharch ac maent wedi cael eu hyrwyddo i'r staff fel ffordd o godi unrhyw bryderon ynghylch urddas a pharch, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ac mae gwaith codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant urddas a pharch gorfodol wedi’i ddarparu i dros 96 y cant o staff y Comisiwn, gan gynnwys ffocws penodol ar aflonyddu rhywiol ac atgyfnerthu dull dim goddefgarwch y sefydliad o ymdrin ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Diolch am y diweddariad cynhwysfawr. Credaf ein bod yn cydnabod bod polisïau’n bwysig, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â gweithredu a chanlyniadau hefyd. Gwn fod pob un ohonom yma yn cytuno nad oes lle i aflonyddu rhywiol mewn unrhyw weithle.
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith a wneir gan sefydliadau eraill, megis TUC Cymru, ac yn enwedig eu pecyn cymorth rhagorol ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae hwnnw'n helpu i nodi'n glir y gall aflonyddu rhywiol yn y gwaith ddigwydd ar sawl ffurf: gall fod yn gorfforol, yn eiriol, hyd yn oed yn rhithwir ac yn anffurfiol, fel negeseuon a grwpiau WhatsApp. Mae angen inni addysgu, ond yn y pen draw, dylai dim goddefgarwch fod yn nod, ac yn amlwg, rhoi diwedd ar ymddygiad o'r fath. I mi, mae hyn yn fwy na mater o gael y prosesau cywir a phriodol ar waith o ran atebolrwydd personol, mae'n fater o atebolrwydd sefydliadol hefyd.
A gaf i ofyn i'r Comisiwn ystyried mabwysiadu pethau fel pecyn cymorth TUC Cymru? Yn ogystal, pa waith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud i wella ein prosesau yma yn y Senedd? Rwy'n credu eich bod chi eisoes wedi sôn am rywfaint o hynny, ond os oes rhagor y gallwch ei ddweud wrthym, buaswn yn ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu ein bod yn ymfalchïo’n fawr yma ein bod yn Senedd flaengar, ond mae risg y gallem fod ar ei hôl hi yn hyn o beth o gymharu â Senedd y DU hyd yn oed, er enghraifft, a’u prosesau annibynnol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem fod yn arloeswyr yn y lle hwn, yn hytrach na dilynwyr?
Lansiwyd y pecyn cymorth hwnnw gennyf i, felly rwy’n gwbl ymwybodol ohono. Mae dau beth yma. Yn gyntaf oll, fel sefydliad, mae'n rhaid ichi gydymffurfio. Mae'r Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 yn rhoi dyletswydd newydd ar gyflogwyr i roi camau rhesymol ar waith i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Mae swyddogion wedi adolygu'r ddeddfwriaeth i sicrhau cydymffurfiaeth y Comisiwn, ac rydym yn hyderus fod y polisïau a'r prosesau sydd gennym ar waith eisoes yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd newydd honno. Mae papur sy’n rhoi tystiolaeth a sicrwydd o hyn yn cael ei baratoi ar gyfer tîm arwain y Comisiwn cyn cyflwyno’r Ddeddf, a ddaw i rym ar 26 Hydref. Ac yna, wrth gwrs, o hynny, bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i sicrhau newidiadau priodol i bolisi a gweithdrefnau sy'n angenrheidiol i alluogi'r Aelodau eu hunain i ddangos eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau fel cyflogwyr hefyd. Ceir hyfforddiant gorfodol i staff y Comisiwn, ond nid yw'n orfodol i Aelodau a'u staff. Serch hynny, nodaf fod nifer uchel iawn o Aelodau wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, a nodaf y bydd y Comisiwn yn cynnig hyfforddiant pellach i Aelodau a’u staff. Carwn annog pob Aelod o bob plaid i fanteisio ar yr hyfforddiant hwnnw.
Diolch yn fawr.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Symudwn ni ymlaen at eitem 5, sef datganiadau 90 eiliad. Mae'r un cyntaf gan Lesley Griffiths.
Diolch, Gadeirydd. Ddydd Sul 22 Medi, bydd pobl Wrecsam a thu hwnt yn cofio’r noson dyngedfennol 90 mlynedd yn ôl pan na ddychwelodd 266 o ddynion a bechgyn adref o’u shifft yng nglofa Gresffordd. Am 2.08 a.m., achosodd ffrwydrad enfawr yn adran Dennis yn y lofa un o drychinebau glofaol gwaethaf ein hanes.
Y penwythnos hwn, bydd nifer o ddigwyddiadau i nodi 90 mlynedd ers y drasiedi. Ddydd Sul, bydd gwasanaeth coffa'n cael ei gynnal, fel sydd wedi digwydd ers 42 mlynedd, ger cofeb trychineb glofa Gresffordd. Hoffwn dalu teyrnged i gyfeillion y gofeb, ddoe a heddiw, sydd wedi sicrhau, drwy eu hymdrechion sylweddol, fod gennym y man emosiynol hwn i deuluoedd y glowyr gofio am eu hanwyliaid.
Rydym hefyd yn ffodus i gael Prosiect Glowyr Wrecsam, dan arweiniad George Powell, sydd, wrth adfer gorsaf achub glowyr Wrecsam, yn diogelu ein hanes mwyngloddio. Yn yr orsaf achub, mae yna wal yn dwyn enwau'r 266 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau, ac am 6 p.m. ddydd Sadwrn, bydd 266 o ganhwyllau'n cael eu cynnau er cof amdanynt, a'u diffodd am 2.08 a.m.
Roedd y nifer a fu farw 90 mlynedd yn ôl yn llawer uwch am fod llawer o'r glowyr wedi gweithio shifft ddwbl fel y gallent fynd i wylio CPD Wrecsam yn chwarae yn erbyn Tranmere Rovers y prynhawn canlynol. Ers 2021, mae '1934' wedi'i frodio ar gefnau crysau chwaraewyr Wrecsam, gan sicrhau nad aiff y trychineb byth yn angof. Mae’n briodol ein bod yn dod ynghyd 90 mlynedd yn ddiweddarach i gofio’r effaith sylweddol ar gynifer o deuluoedd ar y noson ofnadwy honno.
Ar ddiwedd mis Awst, fe gollodd Cymru un o dalentau mwyaf amryddawn ei genhedlaeth: y doniol, y ffraeth, a'r diddanwr dihafal, Dewi Pws. Yn enedigol o Dre-boeth ger Abertawe, cymhwysodd fel athro, ond daeth i adnabyddiaeth genedlaethol trwy ei gerddoriaeth gyda'r Tebot Piws ac Edward H. Dafis.
Roedd yn actor penigamp, gan ddod i adnabyddiaeth ehangach drwy chwarae rhan Glyn yn y ffilm Grand Slam, a hefyd ar sawl rhaglen deledu ar S4C—Pobol y Cwm, Teulu'r Mans, Rownd a Rownd, a llawer iawn mwy. Fe ddaeth yn Fardd Plant Cymru yn 2010, ac amlygwyd ei ddawn i drin geiriau yn rhai o'i ganeuon enwocaf, megis 'Nwy yn y Nen', a enillodd Cân i Gymru yn 1971, 'Lleucu Llwyd' ac 'Ysbrydion'. Yn wir, mae geiriau 'Ysbrydion' bellach ar Faen Llog yr Eisteddfod Genedlaethol, a chafodd Pws ei dderbyn i’r Orsedd gyda’r enw barddol Dewi'n y Niwl hefyd yn 2010.
Roedd o'n dipyn o athletwr gan ei fod yn asgellwr talentog i sawl clwb rygbi, yn cynnwys Pont-y-pŵl. Ond er ei ddoniau di-ri, caiff ei gofio gan y rhan fwyaf am ei hiwmor direidus a’i allu digyffelyb i wneud pobl i chwerthin. Roedd pawb yn gyfartal yn llygaid Pws, ac yntau gyda'r gallu i fagu perthynas gyda phawb o bob cefndir a dod â gwên i’w hwynebau, neu chwerthiniad afreolus, boed yn hen neu'n ifanc.
Mae cyfraniad amhrisiadwy Pws yn edefyn aur sydd yn rhedeg drwy ddiwylliant poblogaidd Cymru dros y tair cenhedlaeth ddiwethaf, a bydd ei ddylanwad yn parhau i lawr y cenedlaethau, ac mae ein meddyliau gyda Rhiannon a'r teulu.
'Ti yw halen y ddaear, ti yw bara y byd, ni ddaw tywyllwch i'th boeni, ti sy’n olau i gyd'.
Diolch, Pws, am ddod â golau a lliw i'r genedl fach hon yr oeddet ti'n ei charu gymaint. [Cymeradwyaeth.]
Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod. Bob blwyddyn yng Nghymru bydd tua 80 o blant a 180 o bobl ifanc dan 25 oed yn cael diagnosis o ganser, ac mae llawer mwy yn byw gydag effeithiau hirdymor sylweddol. Canser yw'r clefyd sy'n lladd fwyaf o blant a phobl ifanc, ac mae'n cael effaith ddwys ar y teuluoedd a gaiff eu llorio yn sgil colli anwyliaid.
Ddydd Gwener diwethaf cefais wahoddiad gan LATCH, elusen canser plant Cymru, i weld drosof fy hun y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn ysbyty plant Cymru yn y Mynydd Bychan. Sefydlwyd LATCH ym 1983 gan grŵp bach o rieni a theuluoedd yr oedd eu plant yn cael triniaeth ar gyfer canser. Roeddent eisiau darparu cefnogaeth a chodi arian i wella bywydau cleifion.
Dros y blynyddoedd, mae'r elusen wedi tyfu a thyfu, a heddiw mae LATCH yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i tua 140 o deuluoedd bob blwyddyn, gan gynnwys llety am ddim i deuluoedd ar yr un safle â'r adran oncoleg bediatrig i gleifion mewnol; grantiau ariannol i gefnogi teuluoedd gyda'r costau annisgwyl a wynebant wrth ofalu am blentyn â chanser, gan gynnwys taliadau morgais pan na allant weithio; yn ogystal ag ymchwil glinigol sy'n canolbwyntio ar ganserau sy'n effeithio ar blant a chyllid tuag at yr uned oncoleg plant, megis prosiectau cyfalaf a hyfforddiant i staff. Mae hyn i gyd mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd ac roedd yn amlwg ar fy ymweliad pa mor dda yr oedd y bartneriaeth yn gweithio'n ymarferol.
Felly, heddiw hoffwn gydnabod a diolch am waith gwych pawb sy'n gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn cael y driniaeth a'r cymorth gorau posibl.
Diolch i chi am eich gwaith, am fod yno pan fydd teuluoedd yn derbyn y newyddion gwaethaf posib.
Diolch.
Cyn inni symud ymlaen i'r eitem nesaf, mae yna gynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NNDM8663 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim un Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 6, sef dadl ar ddeiseb P-06-1455, 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau'. Dwi'n galw ar aelod o'r pwyllgor i wneud y cynnig—Rhianon Passmore.
Cynnig NDM8653 Rhianon Passmore
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1455 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau’, a gasglodd 10,560 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd dros dro. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle hwn heddiw i gyflwyno'r ddadl. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Totterdell, a daeth i ben ar 19 Mehefin, gyda 10,560 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud hyn:
'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi darparu rhaglen gerddoriaeth ac actio i fyfyrwyr iau rhwng 4 a 18 oed ers 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl ifanc dalentog yn mynd drwy ei ddrysau bob penwythnos, ac mae llawer ohonynt ar fwrsari. Dyma’r unig ddarpariaeth o’i math yng Nghymru.
Oherwydd trafferthion ariannol mae’r Coleg yn gorfod ymgynghori ynghylch cau’r rhaglenni actio a cherddoriaeth i bobl ifanc ar ddiwedd y tymor hwn. Os bydd y rhaglenni’n cau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yr unig Ysgol Cerddoriaeth Frenhinol heb adran i fyfyrwyr iau.'
Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn am effaith toriadau cyllid ar lif datblygiad cerddorion talentog yng Nghymru, ac ar dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl fel gwlad y gân. Trafododd y pwyllgor y ddeiseb hon ar 24 Mehefin, ac yn dilyn ymgynghoriad staff, cadarnhaodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 19 Gorffennaf ei fod wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi'r gorau i'w ddarpariaeth arferol ar benwythnosau i gerddorion ac actorion ifanc oherwydd heriau ariannol sylweddol—yr adran iau. Dywedodd y deisebydd y byddai cau'r adran iau yn llwyr yn golygu mai Cymru oedd yr unig conservatoire yn y DU heb adran iau, ac yn fwy eang, yr unig conservatoire yn y byd sy'n addysgu ar lefel mynediad conservatoire ôl-18 heb adran iau i'n myfyrwyr talentog. Byddai hyn yn golygu bod plant Cymru o dan anfantais fawr o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Hefyd, nid oes cyllid tebyg ar gyfer adran iau y coleg o'i gymharu â Lloegr a'r Alban, a dim yn debyg i'r Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol, Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Rhaid i Gymru beidio â chynnig llai.
Mae'r coleg yn dweud nad yw ei benderfyniad i atal darpariaeth arbenigol ar benwythnosau'n golygu cau'n llawn neu ddiddymu ei waith gyda phlant dan 18 oed yn llwyr. Mae'n dweud ei fod yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd pellach i bobl ifanc a chreu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol. Ar hyn o bryd, ni all yr artistiaid iau hyn sy'n derbyn bwrsariaethau o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru gael mynediad at lwybrau astudio elitaidd arbenigol yng Nghymru. Mae crebachu'r ddarpariaeth yn ergyd, ac yn hynod arwyddocaol i allu'r coleg i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd tlawd, gan na allant fforddio teithio i Loegr. Dywedodd y deisebwyr wrthym fod myfyrwyr y coleg brenhinol wedi brwydro'n galed yn erbyn y bwriad i gau, hyd yn oed wrth sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch, ac maent hyd yn oed wedi protestio y tu allan i'r lle hwn. Rydym ni fel pwyllgor yn canmol eu hymrwymiad i ddiogelu darpariaeth i'r rhai sy'n eu dilyn.
Yr hydref hwn, bydd Aelodau'r Senedd yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Mae'r ffordd yr ydym yn lleihau effaith toriadau cyllid ar ein sefydliadau diwylliannol yn yr hinsawdd economaidd bresennol yn fater hollbwysig i Gymru ac i'n pobl ifanc. Y tymor diwethaf buom yn trafod deiseb debyg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu gwariant ar sefydliadau diwylliannol pwysig eraill. Mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru, ar 5 Medi, wedi cyhoeddi cynnydd o £5 miliwn mewn cyllid refeniw ar gyfer cyrff diwylliant a chyrff hyd braich eraill, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru. Ond mae cadernid ariannol y coleg cerdd brenhinol yn ddibynnol ar ystod o wahanol ffrydiau ariannu. Mae ein sefydliadau diwylliannol yn allweddol i waddol hanesyddol a diwylliannol ein cenedl. Ac roedd y deisebwyr cynharach hynny'n dadlau bod pob £1 a gaiff ei buddsoddi yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd. Heb gyfrif rhaglenni ieuenctid masnachol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, roedd yr adran celfyddydau ieuenctid arbenigol iau ei hun yn cynnwys bron i 50 y cant o fyfyrwyr bwrsari eleni.
Mae effaith economaidd mygu datblygiad cerddoriaeth a meithrin talent gerddorol ein pobl ifanc yn peri pryder mawr, fel y mae mynediad at lwybrau uwch, brig y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol. Fel pwyllgor, fe wnaethom ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at hyn. O ddadl y Pwyllgor Cyllid ym mis Gorffennaf ar flaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, gwyddom fod effaith toriadau ar ddiwylliant Cymru yn uchel ar y rhestr i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac fel y dywedais o'r blaen, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i ddiogelu sefydliadau fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rydym ar drobwynt yn nirywiad bywyd diwylliannol Cymru. Mae hyn heb ystyried y crebachu dinistriol i Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol Cymreig a'u rhaglenni addysg yn ganolog i'n henw da rhyngwladol fel gwlad y gân, barddoniaeth a diwylliant. Mae'n galonogol fod camau i gau'r adran iau yn llawn wedi'u hosgoi. Mae'r Coleg Brenhinol wedi addo y bydd cyfnod o adolygu yn 2024-25 yn ei gwneud hi'n bosibl i ystyried ar y cyd â phobl ifanc, staff, rhanddeiliaid a chynghorwyr allanol y DU, wrth iddynt archwilio uchelgais i ddatblygu rhaglen dalent genedlaethol i Gymru sy'n nodi ac yn meithrin y doniau gorau, yn datblygu eu sgiliau ac yn adeiladu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol. Mae'n rhinwedd yn y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol, yr haen goll honno, fod yna adolygiad allanol annibynnol i ddeall beth yw'r ffordd orau ymlaen, ac o fewn hynny, ffordd gyflenwol gyda sefydliadau diwylliannol Cymreig eraill i geisio cefnogaeth i'n talent ifanc. Mae angen gwrando ar lais y myfyrwyr a'i glywed. Felly, diolch i'r deisebwyr am ddod â mater pwysig iawn i sylw'r Aelodau, i'r lle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.
Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwy'n falch o ddweud ychydig eiriau i gefnogi'r ddeiseb hon gan ei bod yn ddadl hynod o bwysig. Ac nid wyf yn honni fy mod yn gerddor o unrhyw fath. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld gwerth cerddoriaeth a drama ac actio, a'r ffordd y maent yn cyfoethogi bywydau cymaint o bobl ifanc, a dylem werthfawrogi hynny'n aruthrol, felly rwy'n hapus i siarad am hyn. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gwbl hanfodol wrth ddenu ystod eang o gerddorion talentog o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i'r ifanc yn gweld bron i 100 y cant o'i fyfyrwyr yn symud i addysg uwch, a bydd pob un ohonynt yn dod yn hyrwyddwyr gwych i ddiwylliant a chelf Cymru. Ac fel y clywsom, bydd cau'r adran iau yn arwain at 112 o staff yn wynebu diswyddiadau a cholli 400 o fyfyrwyr.
Os bydd yr adrannau iau yn cau, bydd yn ergyd anhygoel o niweidiol i'r byd celfyddydol yma yng Nghymru ac yn bygwth dyfodol rhan bwysig o'n cynnig diwylliannol yn y dyfodol. Mae'n drysor y dylem fod yn falch ohono a dylem geisio ei gadw. Nid yw pethau bob amser yn gysylltiedig ag arian, maent yn ymwneud â gwerth cymdeithasol a phwysigrwydd y pethau hyn. Fel y clywsom, mae tua 50 y cant o'r myfyrwyr hyn yn derbyn bwrsariaethau, gyda llawer ohonynt yn talu fawr iawn o ffi, os o gwbl. Os yw'r adran yn cau, ni fydd y bwrsariaethau hyn ar gael mwyach. Bydd llawer o'r cerddorion ifanc a thalentog hyn yn gweld bod mynediad at hyfforddiant cerdd a drama yn anfforddiadwy, ac mae hyn yn ei dro wedi golygu bod llawer o'r plant hyn yn profi pryder a straen ynglŷn â dyfodol eu gyrfaoedd cerddorol uchelgeisiol; mae'n golygu cymaint â hynny iddynt.
Mae cerddoriaeth a chelf eisoes dan fygythiad yng Nghymru, fel y gwyddom, yn dilyn toriadau difrifol i Opera Cenedlaethol Cymru, a bydd y golled bellach hon yn cael effaith andwyol iawn ar gelf a diwylliant Cymru, ac rwy'n cefnogi'r deisebwyr am gyflwyno hyn.
A gaf innau ategu fy niolch innau i’r rhai ddaeth â’r ddeiseb hon gerbron, ac i’r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, am gynnig bod dadl ar hyn? Ac mi hoffwn fynegi fy mhryder ein bod ni unwaith eto yn gorfod trafod effeithiau toriadau ar ddiwylliant, a hefyd ar bobl ifanc. Wedi’r cyfan, mae’r gallu i gael mynediad i fywyd diwylliannol, cymryd rhan ynddo, a chyfrannu ato, yn cael ei ystyried yn hawl dynol o fewn y datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Ond eto, dro ar ôl tro, rydym yn gweld cyfleoedd i gyfranogi mewn diwylliant yn cael eu cyfyngu oherwydd diffyg cyllid. Mae dirfawr angen trafodaeth arnom fel Senedd ynglŷn ag effaith y toriadau hyn ar, nid yn unig lles pobl Cymru, ond hefyd economi ac enw da Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Heb os, mae coleg cerdd a drama Cymru dan straen ariannol aruthrol, wedi wynebu toriad o 6 y cant mewn cyllid cyhoeddus yn y flwyddyn ariannol hon. Maen nhw angen gwneud 10 y cant o arbedion gwariant eleni, sy’n cyfatebu i £1.5 miliwn, ac mae cau y ddarpariaeth dan sylw yn cyfrannu 16 y cant o’r 10 y cant sydd ei angen. Roedd hyn yn rhywbeth roedd y pwyllgor diwylliant yn cydnabod yn sgil trafodaeth ar hyn yn gynharach eleni, ac roedd y Cadeirydd, Delyth Jewell, sydd i ffwrdd ar fusnes swyddogol y Senedd y prynhawn yma, yn awyddus imi hefyd rannu siom y pwyllgor yn deillio o sylweddoli bod cau darpariaeth yn sydyn yn gadael bwlch nad yw’n hawdd i’w lenwi. Yng ngoleuni hyn, mae’r pwyllgor hefyd o’r farn bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei strategaeth ddiwylliannol i fynd i’r afael â hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n creu ac yn cefnogi llwybrau cynaliadwy i bobl ifanc ragori ym maes cerdd a drama, a byddwn yn ddiolchgar pe byddai’r Gweinidog yn adlewyrchu ar hyn yn ei ymateb.
Ond yn ôl, rŵan, at fy marn i fel Aelod rhanbarthol, a llefarydd y blaid ar ddiwylliant, yn hytrach na barn y pwyllgor, a does dim dwywaith bod cau’r adrannau iau wedi bod yn ergyd drom i’r bobl ifanc oedd yn cael cyfleoedd a gwersi cerddoriaeth ac actio yno. Dwi wedi cwrdd, neu gyfathrebu dros e-bost, gyda nifer fawr o staff a disgyblion a oedd yn rhan o’r rhaglen, a chlywed yn uniongyrchol beth fydd effaith hyn, nid yn unig arnyn nhw, ond hefyd y rhai hynny sydd wedi cael eu cyflogi gan y coleg. Yn wir, mi welson ni berfformiadau godidog gan nifer o’r myfyrwyr y tu allan i'r Senedd hon yn gynharach eleni, a chlywed ganddyn nhw pa mor bwysig oedd y ddarpariaeth ar gyfer eu dyfodol nhw. Oherwydd, rhaid cofio, y ddarpariaeth hon gan y coleg cerdd a drama oedd yr unig conservatoire iau yng Nghymru. Drwy ei chau, mae’n golygu mai dyma’r unig ysgol gerdd yn y Deyrnas Unedig heb adran iau. Hoffwn rannu gyda chi felly rai o’r sylwadau a dderbyniais gan nifer, sydd yn crynhoi’r effaith.
Mae rhai plant wedi rhoi'r gorau iddi. Mae rhai wedi cael trafferth dod o hyd i athrawon. Mae rhai o'r staff wedi ffurfio cwmni cydweithredol, gyda gwasanaeth cerddoriaeth Caerdydd yn gweinyddu, ond mae cymaint wedi rhoi'r gorau iddi fel y gallai'r gwaith siambr yn y prynhawn gymryd amser i'w ddatblygu yn ei ôl. Tra bo plant hefyd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf ac i ryngweithio â myfyrwyr ac athrawon Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ni all tiwtoriaid sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol neu sy'n dysgu plant yn breifat gymryd lle llwybr mor glir i addysg uwch mewn cerddoriaeth. Mae ein plant hefyd dan anfantais enfawr o ran cael clyweliadau i gerddorfeydd fel y gerddorfa plant genedlaethol neu'r gerddorfa ieuenctid genedlaethol sy'n help mawr i sicrhau lleoedd mewn colegau cerdd. Maent hyd yn oed yn gofyn ar y ffurflenni a yw'r plant mewn conservatoire iau, gan ei fod yn cael ei ystyried yn llwybr cystal ag ysgol gerdd breifat. Mae rhai teuluoedd wedi symud i Loegr, a chael clyweliadau ar gyfer ysgolion cerdd arbenigol fel Wells ac i geisio am ysgoloriaethau. Dywedodd rhiant arall fod canlyniadau'r cau yn llym ac y bydd yr effeithiau'n cael eu gweld yn ddwfn yn y dyfodol, wrth i genhedlaeth gyfan o'r artistiaid ifanc Cymreig mwyaf talentog gael eu difreinio a'u cyfyngu i'r ychydig elît sy'n gallu fforddio hyfforddiant preifat. Bydd hyn yn ei dro yn effeithio ymhellach ar amrywiaeth a chyfoeth diwylliannol celfyddyd newydd. Mae Undeb y Cerddorion hefyd wedi ysgrifennu atom fel Aelodau o'r Senedd yn mynegi eu pryderon am ddyfodol cerddoriaeth yng Nghymru, gan nodi rhai o'r penderfyniadau niweidiol eraill a wnaed. Cymru gwlad y gân, ond yn anffodus, bydd hyn yn cael effaith.
Mae’n rhaid inni ffeindio datrysiadau o ran diwylliant. Rydym ni wedi bod yn dweud am flynyddoedd erbyn hyn bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd diwylliant o ddifri. Rydym ni’n gweld effaith y toriadau. Rydym ni’n gweld effaith hyn ar iechyd meddwl hefyd y bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan hyn. Felly, dim esgusodion sydd eu hangen ond datrysiadau gennym ni fel Senedd. Symptom o broblem ehangach yw cau’r ddarpariaeth hon. Mi hoffwn glywed sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chanfod y datrysiadau er mwyn sicrhau dyw drama a cherddoriaeth ddim jest i’r rhai sy’n gallu eu fforddio nhw yma yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i drafod y ddeiseb hon yma heddiw, er ei bod ychydig ar ei hôl hi, oherwydd mae'r ddarpariaeth bron â bod wedi cau ac wedi mynd. Mae'n destun gofid mawr, rwy'n credu, fod y fath drysor gwerthfawr wedi cael ei ddirwyn i ben yma yng Nghymru.
Euthum i ymweld â'r sesiynau dydd Sadwrn ddwywaith yn ystod y cyfnod pan oeddent yn destun ymgynghoriad ar gyfer cau a chyfarfûm â llawer o'r plant a'r rhieni, a ddeuai o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn ddiwylliannol amrywiol, ac fel y gwyddom, roedd canran fawr yn derbyn bwrsariaethau i fynychu. Roedd yn dorcalonnus, yn enwedig ar y diwrnod olaf, oherwydd roeddwn yno ar y dydd Sadwrn olaf, ac nid oedd pobl yn gwybod pa gyfleoedd eraill a fyddai i'w cael. Nid oedd ganddynt unman i fynd. Felly, roeddent yn ffarwelio â'u tiwtoriaid, nad oeddent yn gwybod yn iawn ble y byddent yn ennill eu harian ychwaith. Roedd mor ofnadwy fod hyn yn digwydd yma yng Nghymru a bod hyn yn digwydd i rywbeth a oedd mor bwysig i obeithion a dyfodol ein pobl ifanc.
Felly, mae'n dda ein bod yn lleisio hyn i gyd yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i'r Gweinidogion ddod o hyd i ryw ffordd ymlaen i gau'r bwlch. Oherwydd rwy'n credu bod y cyfnod ymgynghori yn fyr iawn. Ni roddwyd llawer o amser i ni ei ystyried. Cafodd dewisiadau eraill eu cyflwyno, a daeth rhai o'r bobl a oedd yn gweithio yno, ac aelodau o'r staff, i fy ngweld yn fy swyddfa etholaethol. Cawsom gyfarfod bach ac roedd ganddynt gynigion ar gyfer bwrw ymlaen, ond edrychai fel pe na bai'r dewisiadau amgen hynny wedi cael eu hystyried o ddifrif. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud pa gynigion sydd ar y gweill i geisio sicrhau y gall plant gael y cyfleoedd hyn.
Y mater arall yr oeddent yn bryderus iawn yn ei gylch, ac roeddwn i'n poeni amdano hefyd, oedd beth fyddai'n digwydd i'r holl offerynnau cerdd yno, oherwydd maent yn offerynnau cerdd ardderchog—piano Steinway ym mhob ystafell bron, ac offerynnau cerdd eraill a oedd wedi costio miloedd ar filoedd o bunnoedd, yn bennaf drwy roddion gan sefydliadau a oedd wedi eu rhoi. Ac roedd gan rai o'r plant y rhain yn eu gofal, ac roeddent yn dysgu gartref gyda nhw am nad oeddent yn gallu fforddio prynu offerynnau cerdd mor gostus. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o bobl fyddai'n gallu gwneud hynny. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog daflu goleuni ar sut y cânt eu defnyddio a'r hyn sy'n digwydd iddynt.
Felly, rwy'n credu bod y pwyntiau eraill wedi cael sylw heddiw am yr unig fan lle nad oes conservatoire iau yma yng Nghymru. A hefyd, y pwynt arall yw bod y plant yn cael eu dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg, sef yr unig gyfleuster a gynigiai hyn. Felly, mae'n gwneud ichi feddwl: pam ar y ddaear y digwyddodd hyn? Ac rwy'n credu y dylem ni, fel Senedd, wneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at y golled, yn y gobaith y gallwn gael rhyw fath o gynnydd ac y bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a'r rhai a lofnododd y ddeiseb a olygai fod y ddadl hon ar ddeiseb wedi dod i lawr y Senedd yma heddiw?
Am y rhan fwyaf o dymor y Senedd hon, rwyf wedi gwasanaethu fel Gweinidog Diwylliant yr wrthblaid dan arweinyddiaeth Andrew R.T. Davies, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am hynny oherwydd, o ddifrif, rwy'n teimlo'n angerddol iawn am ein sefydliadau diwylliannol Cymreig. Er nad oedd yn rhywbeth yr oeddwn wedi cael llawer o brofiad o ymwneud ag ef o'r blaen a bod yn onest, mae'n rhywbeth yr ymddiddorais yn fawr ynddo dros y tair blynedd a hanner diwethaf, oherwydd mae'r rhain yn sefydliadau o'r radd flaenaf sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau ac ym mywydau pobl Cymru. Ond yn rhy aml, rwyf hefyd wedi gweld y swydd ychydig yn dorcalonnus, oherwydd rydym yn aml wedi dod yma i sôn am wasanaeth sy'n cau ei ddrysau neu wasanaeth sy'n cael ei israddio, a dyma enghraifft arall o hynny, yn anffodus. Rydym eisoes wedi clywed am yr effaith enfawr yr oedd y coleg brenhinol cerdd a drama yn ei chael bob dydd ar fywydau pobl ifanc, gwahaniaeth trawsnewidiol. Siaradais ag un rhiant yn ystod y misoedd diwethaf a oedd yn teimlo na allai eu plentyn ond mynegi a chyfleu eu hunain, a dysgu sgiliau cymdeithasol, drwy'r gwaith yr oedd y coleg wedi'i wneud. Felly, mae'n ymwneud â llawer mwy na dim ond y gwaith uniongyrchol y byddai'r coleg brenhinol cerdd a drama yn ei wneud drwy'r academi iau, ond y sgiliau bywyd y mae pobl yn eu dysgu ar hyd y ffordd yn ogystal.
Yn anffodus, fe wyddom yng nghyllideb y llynedd mai'r gyllideb ddiwylliant oedd yr un a gafodd ei thorri fwyaf gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n drueni, oherwydd yng Nghymru rwy'n credu bod diwylliant yn rhywbeth sy'n bwysicach. Nid wyf yn credu eich bod yn deall yn iawn os ydych chi'n byw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhywbeth i'w drysori, rhywbeth i'w feithrin, ac mae'n drueni go iawn, fel y dywedodd Julie Morgan eisoes, ein bod yn cael y ddadl hon yn rhy hwyr, bron, ar ôl iddo gael ei ddirwyn i ben, ac felly mae'n ei gwneud hi'n anos gwneud llawer yn ei gylch ar y cam hwn.
Fe wneuthum estyn allan i'r coleg, gan wybod bod y ddadl hon ar y gweill, i gael persbectif gwahanol ar bethau, ac rwy'n cydymdeimlo â'r sefyllfa y mae'r coleg ynddi. Rydym yn sôn am 10 mlynedd, yn y bôn, o rewi ffioedd hyfforddi, ac er mor dda yw bwriad y polisi hwnnw, ac nid wyf am sefyll yma ac anghytuno â bwriad y polisi hwnnw, mewn unrhyw ddiwydiant, mewn unrhyw fusnes, os caiff eich incwm ei rewi, mae hwnnw'n doriad mewn termau real yn eich gallu i ddarparu'r un lefel o wasanaeth heb orfod newid pethau'n fewnol. Ac yn anffodus, mae hynny'n arwain at y penderfyniad anodd y gwelsom y coleg brenhinol yn ei wneud heddiw. Ac er ein bod wedi gweld y coleg brenhinol eu hunain yn siarad am rywfaint o'r gwaith arall sy'n digwydd—mae gennyf restrau yma o benwythnosau gweithdai trochi, cyfleoedd preswyl ensemble agored y gerddorfa ieuenctid genedlaethol, cyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu—mae'r rhain i gyd yn wych, ond rydym i gyd yn gwybod nad ydynt yr un peth â'r ddarpariaeth yr ydym yn ei cholli drwy gau'r adran iau, a dyna pam y credaf, os ydym ni fel Senedd a Llywodraeth Cymru yn teimlo bod hyn yn bwysig, fod angen inni sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei hariannu. Gallwn siarad yr holl eiriau cynnes am bwysigrwydd yr academi iau, ond heb roi'r cyllid ar waith i'w chefnogi, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chondemnio i gau i bob pwrpas. Felly, os oes opsiynau o hyd ar yr unfed awr ar ddeg i'w hachub, neu roi darpariaethau amgen ar waith yn y dyfodol, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych, fel y dywedodd Heledd Fychan, nid yn unig ar yr effaith ddiwylliannol y byddai hyn yn ei chael ond ar y budd ehangach y mae hyn yn ei gynnig i gymdeithas, y pwysau y mae'n ei dynnu oddi ar wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru, a'r daioni y mae'n ei wneud yn ein cymunedau yn ogystal. Diolch yn fawr.
Diolch yn arbennig i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, a diolch i Rhianon Passmore am agor y ddadl. Does dim amheuaeth o gwbl am ymrwymiad Rhianon Passmore i fyd gerddoriaeth yng Nghymru.
I ymestyn y gyfatebiaeth gerddorol i'r eithaf, rydych chi'n fand un dyn sy'n hyrwyddo cerddoriaeth yma yn y Senedd ac ar draws Cymru. Rydych chi hyd yn oed wedi gwneud i mi ganu mewn côr yma.
Cymru: gwlad y gân, gwlad beirdd a chantorion. Môr o gân yw Cymru i gyd. Mae cerddoriaeth yn rhan o'n DNA ni. Ysgrifennodd Gerallt Gymro yn y ddeuddegfed ganrif am ddawn y Cymry i ganu mewn harmoni, a dwi'n gweld e gyda fy mhlant fy hunain. Mae fy nwy ferch i, y ddwy, cyn iddyn nhw siarad, wedi canu. Roedd Greta yn canu 'Clap, Clap, Un, Dau, Tri', ac Esther yn canu 'Twinkle, Twinkle Little Star', er gwaethaf ein hymdrech ni i'w chael hi i ganu rhyw hwiangerdd Gymraeg. A bore yma, am bump o'r gloch y bore, dyma Esther yn canu'n aflafar iawn, 'Hei, Mistar Urdd'. Nawr, efallai bydd hi byth yn gerddor, ond mae'n dangos bod cerddoriaeth yn bwysig i'r ferch tair blwydd oed yma.
Mae traddodiad a pherfformiad yn rhan bwysig o'n bywyd ni, y Cymry, ac rŷn ni wedi mynd â hwn dros y byd i gyd yn rhyngwladol. Mae ein perfformwyr ni, mae ein cerddorion ni, wedi bod ar brif lwyfannau'r byd. Ond dim hap a damwain yw hyn; mae hwn wedi dod drwy ymdrech, drwy waith caled—ac, yn bwysicach fyth, drwy fuddsoddiad ariannol.
Gallwn frolio cymaint ag y dymunwn mai Cymru yw gwlad y gân, ond nid yw'n digwydd mewn gwactod. Mae'r clod yn ddiystyr os ydym dibynnwn ar ogoniant y gorffennol, oherwydd dyna fydd yn digwydd, os yw ysgolion fel hyn a gwasanaethau cerddorol yn parhau i gael eu crebachu yn ein cymunedau. Bydd Cymru yn llai cerddorol, nid yn fwy cerddorol, na chenhedloedd eraill, os daliwn ati i fynd y ffordd hon.
Gallwn alaru cymaint ag y dymunwn heddiw am golli'r ysgol iau hon, ond gadewch inni fod yn glir iawn: mae'r ysgol iau'n cau oherwydd cyni, oherwydd cyni Torïaidd, sydd wedi parhau o dan y Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan. Ni chawn ein llenwi ag unrhyw obaith gan araith ddiweddaraf Syr Keir Starmer
'bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella'—
neges dywyllach nag arwyddgan 1997. Ac wrth imi ymchwilio i'r ddadl hon heddiw, roedd yn syndod deall bod Syr Keir Starmer ei hun yn berfformiwr iau yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall. Roedd yno nes ei fod yn 11 oed ac fe elwodd o ddysgu sut i chwarae'r piano, ffliwt, recorder a'r ffidil. Elwodd o'r gwasanaethau hyn, ond mae ei bolisïau ei hun yn amddifadu plant Cymru o'r un gwasanaethau. Ni fyddant yn cael yr un cyfle.
Dros y misoedd diwethaf, fel Heledd Fychan a llawer o rai eraill yma, rwyf wedi cael llythyrau a chyfathrebiadau dirifedi gan etholwyr sy'n gweithio yn y sector. Opera Cenedlaethol Cymru, y colegau brenhinol—sefydliadau sy'n hyrwyddo Cymru ar draws y byd yn cael eu gorfodi i dorri eu gwasanaethau.
Mae cau adran iau y coleg brenhinol yn amddifadu ein pobl ni o fanteision cerddoriaeth a pherfformio.
Mae'n dda i iechyd meddwl, ac yn ôl astudiaethau diweddar, mae gan greu cerddoriaeth amrywiaeth o fanteision eraill. Mae'n gwella cyfradd curiad y galon, sgiliau echddygol, ysgogiad ymenyddol, a hyd yn oed yn gwella'r system imiwnedd. Os ydym am gael y gorau i'n plant yng Nghymru, dylem lenwi eu bywydau â cherddoriaeth a chreu cerddoriaeth.
Ers 2018, yn ôl yr elusen Youth Music, mae cyfran y bobl ifanc sy'n ystyried eu hunain yn gerddorol yng Nghymru wedi gostwng i dim ond 9 y cant. A dim ond 11 y cant o rieni plant o dan bum mlwydd oed sy’n credu y bydd eu plant yn cael digon o addysg gerddorol yn yr ysgol. Ac yng Nghymru, gwlad y gân, cofiwch—the land of song—dyw'r mwyafrif o'n pobl ifanc ni bellach ddim yn credu eu bod nhw'n gerddorol: 46 y cant o'i gymharu â 57 y cant yn Lloegr.
Dylai profiad y gorffennol ddangos i bob un ohonom yma fod cyni yn brosiect sydd wedi methu. Mae colli adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn brawf o hyn. Mae angen inni roi’r gorau i gredu yn economeg ffantasïol cyni. Mae angen inni ariannu ein sector celfyddydol yn briodol. Mae angen inni feithrin cenhedlaeth newydd o gerddorion a pherfformwyr yng Nghymru. A phan fyddwn yn gwneud hynny, bydd pethau'n sicr o wella. Diolch yn fawr.
Mae’n drasiedi ein bod yn cael y ddadl hon ar ôl i'r coleg brenhinol wneud y penderfyniad i gau’r adran iau. Ac ar un ystyr, mae’n sarhad ar yr holl bobl a drafferthodd arwyddo’r ddeiseb nad oedd y coleg brenhinol yn barod i aros i weld pa atebion y gellid eu trafod. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod angen newid, a bod hynny'n anochel oherwydd yr amgylchiadau ariannol, ond rwy'n teimlo'n hynod siomedig fod y penderfyniad hwn wedi'i ruthro yn ei flaen er bod cynigion amgen yn cael eu gwneud.
Nid yw cau'r adran yn frysiog yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda’i hymrwymiad i gydweithio, gwaith partneriaeth a chanolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol, na Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, er fy mod yn derbyn nad yw'r coleg brenhinol yn ddarostyngedig iddi, ond serch hynny, mewn ysbryd o gydweithio, nid ydynt yn ddoeth i fwrw ymlaen fel pe na bai dewis arall, yn enwedig gan fod y tiwtoriaid sydd wedi rhoi cymaint i addysgu'r bobl ifanc hyn yn gwneud cymaint o ymdrech i ddod o hyd i atebion amgen, gan gydnabod bod problem ariannol a gwneud cynigion pendant i leihau nifer yr wythnosau o weithgarwch hyd at yr hanner, er mwyn galluogi ail-fformiwleiddio’r cyllid i'w wneud yn gynnig cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gwrthododd yr uwch reolwyr roi ystyriaeth hyd yn oed i'w hymdrechion i ddiogelu buddiannau'r adran iau bresennol a rhagolygon y dyfodol ar gyfer plant nad ydynt wedi cael eu geni eto.
Mae Rhys ab Owen yn llygad ei le fod cerddoriaeth a chân yn rhan sylfaenol o les bodau dynol, ac mae'n arbennig o bwysig ein bod yn canu i'n plant. Dyna un o'r pethau cyntaf y gallwn eu gwneud. Hyd yn oed cyn bod ganddynt iaith i gyfathrebu â ni, fel y dywedoch chi, maent yn gallu canu.
Felly, dau beth, mewn gwirionedd. Yn gyntaf oll, hoffwn sôn eto am y cyfraniad y mae Rhianon Passmore yn ei wneud i sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o’r cwricwlwm newydd yn ein hysgolion, fel bod pob plentyn yn cael dysgu am gerddoriaeth ac offerynnau cerdd, ond mae’n rhaid inni fod yn realistig nad yw pob ysgol yn mynd i allu darparu’r lefel o gymorth ac arbenigedd a oedd ar gael gan yr adran iau. Ac mae'n golygu nad oes llwybr ar gyfer y rheini sydd am ganolbwyntio o ddifrif ar eu cerddoriaeth fel gweithgaredd allgyrsiol a gyrfa bosibl. Felly, mae hon yn drasiedi lwyr.
Felly, Weinidog, yn eich ymateb, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am yr academi dydd Sadwrn arfaethedig sydd i'w rhedeg gan Wasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro, y dywedir wrthyf gan y coleg brenhinol ei bod yn mynd i gael ei rhedeg mewn partneriaeth ag athrawon sydd eisoes â phrofiad o gonservatoire iau'r coleg brenhinol. Oherwydd, fel menter gynaliadwy leol—. Felly, a yw'n mynd i allu cynnwys unrhyw un o'r bobl ifanc hyn sydd eisoes wedi gweithio mor galed ar eu cerddoriaeth a'u canu, a sut y bydd pobl yn gallu cofrestru ar ei chyfer? Faint fydd yn ei gostio? Mae hyn yn rhywbeth nad oes sôn amdano yn y papur a ddarparwyd gan y coleg brenhinol.
Ac yn ail, rhoddodd y coleg brenhinol gryn dipyn o bwyslais ar y ffaith bod yna gynllun cerddoriaeth a dawns cenedlaethol yn Lloegr sy’n cynnig cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer bwrsariaethau'n ddarostyngedig i brawf modd o hyd at £3,000, yn ogystal ag yn yr Alban, cynllun nad oedd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, yn amlwg; cafodd hyn ei ariannu'n gyfan gwbl gan y coleg brenhinol. A all y Gweinidog egluro a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu cynllun o’r fath yng Nghymru, ac os felly, beth fyddai’r amserlen?
Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells.