Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/09/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hannah Blythyn. 

Pontio Cyfiawn i Weithwyr

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau pontio cyfiawn i weithwyr yng ngogledd Cymru? OQ61526

Wel, drwy’r contract economaidd, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod busnesau yr ydym yn eu cefnogi yn mabwysiadu arferion cymdeithasol gyfrifol. Ers 2022, mae dros 70 o fusnesau wedi ymrwymo i gontract economaidd yng ngogledd Cymru, gan gynnwys rhai cyflogwyr mawr a chanddynt gysylltiadau cryf iawn ag undebau llafur.

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cael cyfnod pontio teg, ac er—. Gwelaf fod Ysgrifennydd yr economi newydd ddod i mewn, ac er imi gyflwyno hyn i Ysgrifennydd yr economi, rwy’n cydnabod nad oes gennych gyllideb ar gyfer gogledd Cymru, ond diddordeb brwd ym materion y gogledd, gan mai chi yw’r Gweinidog, ac yn amlwg, mae mynd i'r afael â phontio teg yn weithred drawslywodraethol beth bynnag.

Mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn cytuno’n llwyr mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac yn y ffordd iawn, ond mae’n bwysig fod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd iawn, sef gyda’r gweithlu ac nid iddo, er mwyn lliniaru canlyniadau negyddol a allai fod yn drallodus. Yn anffodus, gwyddom nad yw hynny’n wir bob amser, fel y gwelais yn ddiweddar iawn yn fy etholaeth fy hun gyda’r cyhoeddiad y bydd Kimberly-Clark yn cau dwy o’u melinau yn y Fflint, gan effeithio nid yn unig ar 230 o weithwyr Kimberly-Clark, ond ar 100 o weithwyr GXO hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon gyda Llywodraeth flaenorol y DU, cyn yr etholiad cyffredinol, ynghylch gwahardd plastig mewn cadachau gwlyb yn raddol yn ystod y cyfnod ymgynghori, a hefyd fod penderfyniad hynod siomedig y cwmni wedi'i wneud cyn i unrhyw reoliadau gael eu deddfu. Fodd bynnag, credaf fod hyn yn dangos bod mwy y gallwn ei wneud bob amser i adeiladu ar waith tuag at y cyfnod pontio teg hwnnw, yn ymarferol yn ogystal â mewn egwyddor, ac wrth gwrs, gan gynnwys llais y gweithlu drwy’r undeb llafur. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gyswllt a gawsoch dros yr haf, efallai, gyda'r cwmni a'r undeb llafur cydnabyddedig, Unite? A hefyd, a allwch chi ymrwymo heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gynnig cymorth i bawb yr effeithir arnynt, gan gynnwys gweithwyr GXO, a chan weithio'n agos gyda'r undeb llafur? Diolch.

Yn sicr. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y pwyntiau cyffredinol a wnaed ynglŷn â phontio teg ac am yr ymholiad penodol ynghylch Kimberly-Clark. Cynhaliais nifer o gyfarfodydd dros fisoedd yr haf gydag unigolion a sefydliadau amrywiol lle trafodwyd dyfodol y safle. Diolch i’n cyfaill seneddol, yr Aelod Seneddol dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami, rydym wedi gallu sefydlu cyswllt uniongyrchol rhwng Kimberly-Clark a nifer o fusnesau eraill y gallai fod diddordeb ganddynt yn nyfodol y safle. A chan fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben bellach, bydd Kimberly-Clark yn gallu ymgysylltu â’r partïon hynny sydd â diddordeb. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddant yn rhoi mwy o eglurder ar ddyfodol y safle ar ddiwedd y flwyddyn.

Credaf ei bod yn hollbwysig dweud ein bod yn barod i helpu’r holl weithwyr y mae’r cyhoeddiad yn effeithio arnynt, ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru wedi bod ar y safle. Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod lleol hefyd i nodi cyfleoedd ar gyfer ailsgilio’r gweithlu ac ar gyfer cyfeirio’r rhai yr effeithir arnynt at swyddi eraill. Rwy’n arbennig o falch o fod yn mynd i Lannau Dyfrdwy yr wythnos nesaf gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach lle byddwn yn gwneud cyhoeddiad mawr ynghylch swyddi.

Rwy'n cydymdeimlo â gweithwyr Kimberly-Clark yn y Fflint hefyd, oherwydd yn amlwg, fe wyddoch hefyd nad yw fy etholaeth i yn rhy bell o ardal y Fflint, a heb os, bydd hyn yn cael effaith ar bobl Dyffryn Clwyd hefyd mewn mwy o ffyrdd nag mewn ystyr economaidd yn unig. Ond mae’n bwysig, wrth drawsnewid i economi wyrddach, ein bod yn ystyried pobl i'r un graddau ag yr ystyriwn y blaned. Cyhoeddodd y Sefydliad Materion Cymreig adroddiad ym mis Gorffennaf a rybuddiodd y gallai’r cyfnod pontio waethygu’r anghydraddoldebau presennol oni bai bod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau pendant ar waith. Gall datgarboneiddio arwain at brisiau uwch i ddefnyddwyr, felly mae’n bwysig fod y Llywodraeth yn rhoi cyfrif am hyn, ac mae’r adroddiad yn amlygu ac yn ystyried metrigau eraill yn ymwneud â llesiant, ar wahân i gynnyrch domestig gros.

Gorllewin y Rhyl yn fy etholaeth i yw’r rhan fwyaf difreintiedig o Gymru, ac mae’n rhaid i bobl ddewis rhwng gwresogi a bwyta, ac nid yw datgarboneiddio ar flaen eu meddyliau. Mae'n rhaid i bontio teg, felly, gefnogi cymunedau yn y rhannau mwyaf difreintiedig o'n cymdeithas a pheidio â gwaethygu anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes. Ac rwy’n arbennig o bryderus am hyn o ystyried gelyniaethu'r gymuned ffermio gyda datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithredu pontio teg i bobl yn y gogledd, gan sicrhau na fydd cost datgarboneiddio yn faich ar y tlotaf yn y gymdeithas, ac na fydd yn gwaethygu anghydraddoldebau economaidd sy'n bodoli eisoes yng ngogledd Cymru yn y dyfodol? Diolch.

13:35

Credaf fod yr Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Os edrychwn yn ôl dros hanes, mae Cymru wedi cael profiadau poenus iawn o bontio economaidd annheg, felly rydym yn cydnabod y bygythiadau wrth inni symud tuag at sero net. Mae'n hollbwysig ein bod yn deall y bygythiadau ond hefyd y cyfleoedd sy'n ein disgwyl, a'n bod yn manteisio arnynt i'r graddau mwyaf posibl. Cefais fy nghalonogi’n fawr iawn mewn trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU dros yr haf gan eu penderfynoldeb ein bod yn cyfrannu at ysgrifennu’r strategaeth ddiwydiannol sydd ar y ffordd, ac i weithio mewn partneriaeth ar gyflawni’r cynllun gweithredu deallusrwydd artiffisial, gan fod cyfleoedd enfawr wrth inni symud tuag at fwy o ddefnydd o dechnoleg a thuag at sero net. Mae’r cyfnod pontio hwnnw, fodd bynnag, yn rhoi cyfleoedd enfawr i Gymru mewn perthynas â diwydiannau gwyrdd yn y dyfodol. Gwn fod fy ffrind a’m cyd-Aelod, Jack Sargeant, wrth iddo edrych ar ddyfodol y dirwedd sgiliau, yn hynod ymwybodol o’r cyfleoedd hynny a’r angen i sicrhau ein bod yn uwchsgilio ac yn ailsgilio gweithwyr a allai gael eu heffeithio gan y pontio i sero net. Wrth gwrs, mae llawer o’r prif ysgogiadau yn nwylo Llywodraeth y DU, a dyna pam fy mod mor awyddus i weithio gyda Gweinidogion newydd yn San Steffan, i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau bosibl, nid yn unig o ran buddsoddiad yng Nghymru yn y technolegau newydd, diwydiannau newydd, ond hefyd o ran dyfeisio'r strategaeth ar gyfer sut y byddwn yn diogelu cymaint o weithwyr â phosibl, ac yn manteisio ar gynifer o gyfleoedd â phosibl yn y dyfodol.

Y Sector Twristiaeth yn y Gogledd

2. Pa asesiad economaidd y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o berfformiad y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru yr haf hwn? OQ61497

Rydym yn dadansoddi perfformiad y sector twristiaeth yn fanwl, ond nid yw'r ystadegau swyddogol ar gyfer yr haf hwn wedi’u cyhoeddi eto; credaf eu bod i fod i gael eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae Croeso Cymru yn ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid, ac mae adborth gan y diwydiant yn y gogledd wedi dangos bod perfformiad wedi bod yn amrywiol, gyda thywydd gwael yn effeithio ar y galw mewn rhai is-sectorau.

Diolch. Wel, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector anodd iawn hwn ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod mewn cyswllt â chynrychiolwyr y diwydiant lletygarwch dros yr wyth wythnos diwethaf, ac mae’r darlun yn peri cryn bryder, Weinidog. Mae un o brif atyniadau ein gwlad wedi dweud wrthyf fod eu nifer o ymwelwyr hyd yma eleni yn is na’r llynedd, sy’n adlewyrchu gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â Chymru dros y 12 mis diwethaf. Maent yn ymdopi â thuedd ar i lawr o ran gwerth tocynnau, gan adlewyrchu effeithiau'r argyfwng costau byw ar ymddygiad defnyddwyr. A bu newid o arosiadau byr i ymweliadau dydd, yn ôl pob tebyg oherwydd pwysau economaidd ar eu haelwydydd. Mae'r patrwm hwn wedi'i nodi gan eraill yn y sector, sydd hefyd yn nodi gwariant is gan ymwelwyr, lefelau is o ddefnydd llety, llai o westeion rhyngwladol, arosiadau byrrach, gostyngiadau mwy a chynigion. Nawr, Weinidog, rydych chi wedi cyhoeddi mesurau synhwyrol sydd ar y ffordd—rydym eisiau i hynny ddigwydd—mewn perthynas ag 20 mya. A chyda llaw, mae hynny'n cael effaith. Ond o ran y dreth dwristiaeth, a allech chi edrych ar hyn eto? Rwyf i, a llawer yn y diwydiant, yn credu nad nawr yw’r adeg i fod yn cyflwyno treth dwristiaeth. A wnewch chi ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth ymdrin â hynny, a gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â diddymu'r goblygiadau treth dwristiaeth, efallai, wrth symud ymlaen? Diolch.

A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn a’i hasesiad o’r economi ymwelwyr? Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, nid oes dwywaith am hynny, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'r cyfrifoldeb am dwristiaeth bellach wedi’i drosglwyddo i fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Rebecca Evans, fel Gweinidog yr economi, ac mae Jack Sargeant hefyd yn edrych gyda brwdfrydedd ar ddyfodol yr economi ymwelwyr. Yn wir, credaf y bydd Jack yn mynychu'r fforwm economi ymwelwyr yr wythnos nesaf gydag arweinwyr busnes. A bydd un o'r tri ohonom, rwy'n siŵr, yn mynychu digwyddiad nesaf fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru hefyd, gydag arweinwyr busnes, i archwilio'r materion yr ydych wedi'u codi heddiw ymhellach.

Soniais fod eleni wedi bod yn anodd tu hwnt i Gymru. Rwyf wedi bod yn edrych ar dueddiadau yn Ewrop hefyd, ac ymddengys bod archebion tymor byr ar gyfer llety gwyliau wedi lleihau mewn llawer iawn o ardaloedd allweddol yn Ewrop sy'n dibynnu ar ymwelwyr. Ac ymddengys bod y duedd i archebu'n hwyr hefyd yn cael effaith ar broffidioldeb. Mae gostyngiadau'n cael eu defnyddio'n hwyr iawn, a dyna pryd y mae pobl yn sylweddoli ac yn archebu. Felly, mae tueddiadau sy’n dod i’r amlwg o fewn yr economi ymwelwyr ledled Ewrop y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohonynt, a dyma pam y credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gydag arweinwyr busnes i fynd i’r afael â’r bygythiad y mae’r tueddiadau hynny yn eu hachosi i'r diwydiant.

Nawr, ein huchelgais ni, yn amlwg, yw tyfu twristiaeth er budd busnesau a phobl Cymru, a hoffem ddatblygu rhagor o atyniadau sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac yn hollbwysig, ym mhob tywydd. Hoffem sicrhau bod y cynnig i ymwelwyr yn cael ei adnewyddu’n barhaus. Gwelais lythyr Jim Jones o Twristiaeth Gogledd Cymru yn ddiweddar, ac roeddwn yn credu bod Jim yn gwneud llawer o bwyntiau dilys iawn am faterion cysylltiedig sy’n effeithio ar yr economi ymwelwyr, gan gynnwys yr angen i fuddsoddi yng nghanol trefi i ddenu ymwelwyr, yr angen i sicrhau bod gwasanaethau fel Avanti West Coast yn canslo llai o drenau a'u bod yn fwy prydlon. Felly, edrychaf ymlaen at ymgysylltu â busnesau yn rôl Gweinidog gogledd Cymru, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog yn adran yr economi yn benderfynol o dyfu’r economi ymwelwyr.

13:40

Roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd gan Cruise Wales, ynghyd ag Aelodau eraill o ogledd Cymru, yn ddiweddar, i ymweld â’u llong fordeithio Regent Seven Seas Navigator yng Nghaergybi yn ystod y toriad, ynghyd â’r Gweinidog sy’n gyfrifol am dwristiaeth, Jack Sargeant. Roedd yn ddiddorol iawn. Cyrhaeddais ar y trên hefyd, gan ddefnyddio rheilffordd y gogledd yn uniongyrchol yno i'r porthladd, a oedd yn dda iawn. Rwy'n credu y gallem ei hyrwyddo ychydig mwy hefyd, ynglŷn â pha mor hygyrch yw hynny heb orfod newid trenau.

Roedd yn wirioneddol amlwg pam fod y diwydiant mordeithio mor fywiog, gyda 77,000 o deithwyr posibl yn ymweld â Chymru eleni, sy’n newyddion gwych i’n heconomi leol a’n diwydiant twristiaeth. Gwn fod y porthladd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at adnewyddu'r morglawdd er mwyn hybu cyfleoedd swyddi, sydd wedi’i groesawu’n fawr. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn sut arall y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo'r amrywiaeth eang o gyfleoedd twristiaeth y mae'r sector hwn yn eu cynnig, a'i gysylltu â rheilffyrdd hefyd, sy'n wirioneddol bwysig?

Yn sicr. Mae'n rhaid imi dalu teyrnged i un o’n cyn gyd-Aelodau ar fater y diwydiant mordeithio, sef Edwina Hart. Pan oedd yn Weinidog yr economi, gwnaeth gymaint i ddenu’r diwydiant i Gymru, i dyfu’r sector yng Nghymru. Ac rwy’n falch iawn fod Croeso Cymru wedi bod yn mynd ati'n frwd i archwilio pob cyfle posibl i dyfu’r sector penodol hwnnw. Mae o fudd i sawl rhan fwy anghysbell o Gymru, ac mae’n darparu cyfleoedd gwerthfawr o ran cyflogaeth i lawer iawn o bobl. Felly, gallwch fod yn sicr fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector, i’w dyfu, i ehangu cyfleoedd, a bydd Gweinidog yr economi, a’r Gweinidog, rwy’n siŵr, yn ymateb i’r cyfleoedd hynny gyda brwdfrydedd.

Fel fy nghyd-Aelodau sydd wedi siarad eisoes, Janet Finch-Saunders a Carolyn Thomas, roeddwn yn awyddus i hyrwyddo’r cynnig twristiaeth yng ngogledd Cymru, boed hynny yn fy rôl fel Aelod o’r Senedd neu’n bersonol. Bydd y rheini sy’n fy adnabod yn dda yn gwybod fy mod wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngwyliau er pan oeddwn yn wyth oed mewn carafán deuluol ar Ynys Môn. Mae llawer o’r rhan honno o'r gogledd yn anhygoel, gydag Eryri, a chydag Ynys Môn ac o gwmpas penrhyn Llŷn i gyd, ond mae gennym gymaint i’w gynnig ar garreg ein drws yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd, ac rwy’n awyddus iawn i ddefnyddio fy rôl i hwyluso a thyfu’r ardal honno a thyfu cefnogaeth i dwristiaeth yno. Cyfarfûm yn ddiweddar, dros yr haf, â Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ym mharc hyfryd Maes Mynan, gyda golygfeydd epig allan dros Fryniau Clwyd. Ac roeddent yn awyddus—. Yn amlwg, fe wnaethant godi nifer o broblemau y maent yn eu hwynebu, a heriau yn y diwydiant twristiaeth yn enwedig. Roedd rhai’n ymwneud â pholisïau Llywodraeth Cymru, megis y rheol 182 diwrnod, ond hefyd, ynglŷn â sut y gallwn fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo twristiaeth yn well yn yr ardal honno, ac rwy’n awyddus i ddefnyddio fy rôl i hwyluso pethau yn sir y Fflint a thros y ffin. Felly, a wnaiff y Gweinidogion ymrwymo heddiw, efallai, ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i weld sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau nid yn unig i gefnogi twristiaeth yn y gogledd-ddwyrain, ond i dynnu sylw hefyd at bopeth sydd gennym i'w gynnig?

Wel, a gaf i ddiolch i’r Aelod a chytuno’n llwyr fod gan ogledd Cymru lawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr? Ac yn benodol, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym yr ardal o harddwch naturiol eithriadol—ased anhygoel. Cefais fy synnu a fy mhlesio yn ddiweddar pan gyrhaeddais faes awyr rhyngwladol Lerpwl, ac roedd neges ar y poster cyntaf a welais yn dweud ‘Croeso i Faes Awyr Rhyngwladol John Lennon: y porth i ogledd Cymru’, gyda llun gwych o’n rhanbarth. Felly, yn amlwg, gall rhyngweithio rhwng gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru arwain at fanteision economaidd, ond hefyd, o ran dod â theithwyr tramor i mewn i Gymru, ni ellir gorbwysleisio rôl meysydd awyr Lerpwl a Manceinion, ac yn wir, maes awyr rhyngwladol Birmingham.

Mewn ymateb i’r pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n cynhyrchu refeniw newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau lleol, ac yn rhoi cyfle i hybu'r economi ymwelwyr, a'i thyfu drwy wella cyfleusterau, drwy wella seilwaith, a fydd yn gwneud twristiaeth yn llwyddiant, ac yn y gogledd, bydd hynny’n arbennig o bwysig. Mae angen inni wella peth o’r seilwaith sydd gennym fel rhan o’r economi ymwelwyr, ac mae angen inni sicrhau hefyd nad yw twf yr economi ymwelwyr mewn rhai mannau poblogaidd i dwristiaid yn cael effaith andwyol ar weithrediadau dydd i ddydd cymunedau yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae'r ardoll yn rhoi cyfle i bwmpio buddsoddiad i mewn i'r economi ymwelwyr, i fannau poblogaidd i dwristiaid, yn ogystal â'r ardaloedd unigryw hynny sydd, i ryw raddau, yn drysorau heb eu darganfod yng Nghymru.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso'n ôl ar ôl yr haf. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn mai blwyddyn i ddoe y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei chynllun terfyn cyflymder 20 mya hynod ddadleuol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld protestiadau dirifedi, gan gynnwys un ar risiau Senedd Cymru ddoe, a deiseb yn galw am ddiddymu'r polisi yn torri'r record drwy ddenu bron i 0.5 miliwn o lofnodion. Dros yr haf, gwelsom ras feicio Taith Iau Cymru yn cael ei byrhau a’i hailgyfeirio o ganlyniad i’r polisi 20 mya, ac ym mis Awst, datgelwyd gan arolwg barn YouGov fod mwyafrif yng Nghymru yn dal i wrthwynebu'r polisi 20 mya hwn. Yn ôl yr arolwg—i unrhyw un a'i methodd—mae saith o bob 10 o bobl, neu 72 y cant, yn gwrthwynebu polisi diffygiol Llywodraeth Cymru, gyda dim ond 24 y cant o bobl yn ei gefnogi. Efallai fod mwy o amser wedi mynd heibio, ond mae'n amlwg fod llawer iawn o wrthwynebiad i'r polisi hwn o hyd.

Ac rwy’n derbyn eich bod wedi cynnal rhaglen wrando, Ysgrifennydd y Cabinet, a bod y Prif Weinidog newydd wedi cynnal rhaglen wrando dros yr haf hefyd, ond mae pobl yn dal i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Maent wedi cael llond bol ac maent yn ddig. Datgelwyd yn ddiweddar fod cynghorau Cymru wedi cael mwy na 10,500 o geisiadau gan drigolion yn galw am newid ffyrdd yn ôl i 30 mya. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y weinyddiaeth newydd hon yn ddigon dewr i gyfaddef o'r diwedd mai camgymeriad oedd y polisi hwn, gwneud tro pedol a defnyddio dull synnwyr cyffredin? Neu ai dim ond ymgais sinigaidd i geisio ffafr y cyhoedd oedd y rhaglenni gwrando hyn? Diolch.

A gaf i ddiolch i Natasha Asghar a’i chroesawu’n ôl ar ôl toriad yr haf? Croeso'n ôl i'r rôl hefyd. Nid wyf yn credu ein bod yn rhy bell oddi wrth ein gilydd ar y mater hwn, a dweud y gwir. Credaf mai’r consensws yw bod yn rhaid inni gael y cyflymderau cywir yn y mannau cywir. Mae hynny’n golygu 20 mya yn yr ardaloedd adeiledig iawn hynny: ardaloedd lle mae gennych ysgolion, a pharciau ac yn y blaen. Rwy'n credu mai’r gwahaniaeth yw bod gennym lwybr gwahanol i sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir yn y mannau cywir. Er ein bod yn ceisio newid y llwybrau hynny na ddylai byth fod wedi’u newid i 20 mya yn ôl mewn ffordd gyflym a chosteffeithiol, yr unig lwybr amgen a gynigiwyd yw diddymu’r ddeddf a mynd drwy broses a allai gymryd blynyddoedd lawer a chostio ffortiwn, sef newid ffyrdd 30 mya yn ôl i 20 mya. Rwy'n gwbl sicr y bydd y dull yr ydym yn ei ddefnyddio yn arwain at ffordd fwy costeffeithiol ac amserol o ymdrin â’r rhwystredigaethau a fynegwyd ledled Cymru.

Mae rhywbeth arall y mae angen ei ddweud ar y polisi hwn. Mae tuedd yn dod i'r amlwg sy'n dangos bod nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol yn mynd i lawr yn sgil gostyngiad mewn gwrthdrawiadau. Nawr, rwy'n cydnabod—. Yn mynd i lawr. Mae nifer y gwrthdrawiadau wedi lleihau 20 y cant. Nawr, mae angen inni aros i'r duedd lawn ddod yn amlwg. Ond rwy'n obeithiol, ac rwy'n credu y dylai pawb yn y Siambr hon fod yn obeithiol, fod y duedd ar i lawr, ein bod yn gweld llai o bobl—. A gwn fod yr Aelod dros Ogledd Cymru yn gwrthwynebu hyn, ond mae'n bwysig fod pob un ohonom yn cefnogi polisi sydd wedi'i gynllunio i achub bywydau, ac ar yr un pryd—[Torri ar draws.]—ac ar yr un pryd—[Torri ar draws.] Ond mae hynny ar bob ffordd. Gadewch inni beidio â dewis a dethol yr ystadegau yma. [Torri ar draws.] Pob ffordd, yn union, sy’n cynnwys y rhai heb eu cyfyngu. Mae’n cynnwys y ffyrdd lle gall pobl yrru’n gyfreithlon ar 70 mya. Mae’n berthnasol—. Mae’r ystadegau a ddyfynnwch yn berthnasol i fwy na ffyrdd 20 mya yn unig. Rwy’n ymwybodol fy mod yn ymateb i Aelod gwahanol i'r un a ofynnodd y cwestiwn. Mae'n ddrwg gennyf, Natasha.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n iawn; teg pob twyll mewn gwleidyddiaeth a chariad, fel maent yn ei ddweud. Felly, nid yw'n syndod, yn anffodus, yn y ffordd y mae pethau wedi digwydd—fel rydych chi newydd glywed mae'n siŵr—fod teimlad gwirioneddol fod Llywodraeth Lafur Cymru yn wrth-fodurwyr. Bydd cipolwg sydyn ar ôl-gatalog y Llywodraeth o bolisïau'n ategu hynny, ond ymddengys bod dirmyg Llywodraeth Lafur Cymru tuag at yrwyr wedi lledaenu i lawr yr M4 at eich cyd-aelodau o'r Blaid Lafur sy’n eistedd yn San Steffan ar hyn o bryd. Roeddwn i'n arfer meddwl, yn wleidyddol, mai pensiynwyr oedd yn cael eu cosbi gan eich cyd-bleidwyr yn Llundain, ond ymddengys bod y sïon yn rhemp fod Llywodraeth Keir Starmer yn ystyried cyflwyno’r system talu fesul milltir yn rhan o gyllideb y mis nesaf, y dywedwyd wrthym eisoes y bydd yn boenus o anodd i lawer o bobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae ofnau dilys ymhlith llawer o bobl y bydd cyflwyno cynllun talu fesul milltir yn cael effaith fawr ar bobl ar incwm is ac yn cosbi teuluoedd gweithgar.

Yn wir, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth ac atoch chithau hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am atebion, ac mae'n rhaid imi ddweud ar goedd nad wyf wedi cael atebion gan y naill na'r llall, heb fod yn amharchus mewn unrhyw ffordd. Felly, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, yn garedig, heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Llundain ynglŷn â chyflwyno cynllun talu fesul milltir yma yng Nghymru, a pha asesiadau a wnaethoch o'r effaith y bydd cynllun talu fesul milltir yn ei chael ar fodurwyr Cymru?

13:50

A gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau ynglŷn â’r posibilrwydd o ddull amgen o godi refeniw o foduro? Gwyddom y bydd y peiriant tanio mewnol yn dod i ben, ac o ganlyniad i hynny, bydd yn rhaid i dreth ffordd newid. Cyn i Lywodraeth Lafur y DU gael ei ffurfio, roedd yr Adran Drafnidiaeth eisoes yn cydnabod, oni bai ein bod yn barod i golli llawer iawn o refeniw ar lefel y DU, y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn lle treth ffordd. Mae hynny'n benodol am fod y peiriant tanio mewnol yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol, ac rydym yn gweld mwy o geir trydan yn cael eu gyrru heb unrhyw dreth ffordd. Felly, roedd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth eisoes yn edrych ar ddulliau amgen o godi refeniw. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion cyfatebol yn San Steffan ynglŷn â hyn. Mae’n fater a gedwir yn ôl. Ond rwy'n croesawu unrhyw syniadau gan Aelodau’r gwrthbleidiau ynglŷn â sut y gellid codi’r refeniw hanfodol hwnnw a fyddai fel arall yn cael ei golli.

Iawn, diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Yng nghanol toriad yr haf, datgelwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £206 miliwn arall i Faes Awyr Caerdydd. Daw’r arian ychwanegol hwn o bwrs y wlad ar ben y cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr sydd eisoes wedi’i bwmpio i mewn i’r maes awyr hyd yma. Ymddengys fel pe bai Gweinidogion Llafur unwaith eto'n blingo'r cyhoedd yng Nghymru i gynnal maes awyr. A hynny, rwy'n siŵr y gallwch dderbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, tra bo'n gwasanaeth iechyd o dan bwysau aruthrol, gyda phob un o'r byrddau iechyd mewn rhyw fath o statws uwchgyfeirio, a'n system addysg yn ymdopi gyda'r canlyniadau PISA gwaethaf yn y DU, ac eto, yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion hyn, sydd o bwys gwirioneddol i bobl Cymru, byddai’n well o lawer gan Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ei rhestr ddiddiwedd o brosiectau porthi balchder. Dyna sut y mae’n edrych, Ysgrifennydd y Cabinet.

Felly, rwy’n gofyn i chi heddiw, a allwch chi weld pam fod hon yn bilsen chwerw iawn i’r cyhoedd yng Nghymru orfod ei llyncu? Ac a wnewch chi ymrwymo yn y Siambr hon heddiw i roi dadansoddiad llawn i'r cyhoedd o beth yn union y bydd y £206 miliwn yn talu amdano? Diolch.

Dylwn ddatgan nad wyf yn gyfrifol am y maes awyr mwyach. Mae hwn yn gyfrifoldeb a roddwyd i fy nghyfaill a'm cyd-Aelod, Rebecca Evans, a gwn ei bod yn awyddus i ateb cwestiynau am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd. Mae'n fater—

Weinidog, rwy'n credu bod gennych fantais dros y gweddill ohonom yn y Senedd hon, gan nad yw'r cyfrifoldebau gweinidogol wedi’u hegluro i’r Senedd eto. Felly, os gallwch—

Iawn. Wel, efallai'n wir ei fod wedi dod yn ôl felly.

Efallai ei fod yn newid, ond am y tro, ein dealltwriaeth ni yw, yn unol â'r cais a'r cwestiwn a ofynnwyd gan Natasha, fod angen i chi ei ateb.

Ie, diolch, Lywydd. Mae hwn yn fater sydd o dan ystyriaeth gyda'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar hyn o bryd. Mae’n cael ei ystyried gan yr arbenigwyr hynny. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod Maes Awyr Caerdydd yn cynnal miloedd ar filoedd o swyddi. Mae’n gwneud cyfraniad enfawr i economi de Cymru. Heb os, byddai ei golli yn cael effaith ar gyflogaeth ac ar yr economi. Clywaf Aelodau yn ei wrthwynebu. Ai safbwynt Aelodau’r gwrthbleidiau, felly, yw cau’r maes awyr?

Preifateiddio'r maes awyr? Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd ei breifateiddio, roedd yn cael ei ddinistrio. Ychydig iawn o feysydd awyr teithwyr dros y byd sydd mewn perchnogaeth gwbl breifat. Mae gan y rhan fwyaf o feysydd awyr teithwyr gyfran gyhoeddus, y rhan fwyaf o feysydd awyr teithwyr dros y byd. A cheir nifer enfawr o feysydd awyr yn eu hawl eu hunain nad ydynt yn gweithredu er elw; fe'u hystyrir yn fagnetau economaidd sy'n cynhyrchu gwaith a chyfleoedd i bobl yn y rhanbarthau hynny.

Diolch, Lywydd. Yn wahanol i’r Torïaid, sydd wedi gwneud tro pedol ar fater 20 mya mewn ymgais anobeithiol i barhau i fod yn berthnasol, mae ymagwedd synnwyr cyffredin Plaid Cymru bob amser wedi bod yn gyson. Rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn cytuno bod arnom eisiau ffyrdd mwy diogel i'n cymunedau, ac y dylid gosod cyfyngiadau cyflymder yn rhesymegol ac yn gymesur. Dyna pam y gwnaethom alw am adolygiad o’r polisi o’r cychwyn cyntaf er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol yn well. Fe wnaethom alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n agosach â chynghorau, fel y gellid rhoi gwybod i yrwyr a cherddwyr am newidiadau yn effeithiol. Gan fod y Llywodraeth bellach yn gwrando o'r newydd, a ydych chi'n gresynu, fel y mae eich rhagflaenydd yn amlwg yn ei wneud, na wrandawodd eich plaid ar alwadau Plaid Cymru ar y mater hwn yn gynt, ac a allwch chi ddweud wrthyf faint o arian a fyddai wedi'i arbed pe baech chi wedi gwrando'n gynt?

13:55

Wel, rwyf wedi siarad yn gyhoeddus am yr angen i ddod â phobl gyda chi ar bolisi o'r fath, ar newid mor enfawr. Felly, er mwyn rhoi newid o'r fath ar waith, rhaid imi ddweud bod yn rhaid ichi gydymffurfio â thri ffactor. Yn gyntaf, mae’n rhaid ichi sicrhau bod pobl yn ei gefnogi’n lleol yn eu cymunedau. I wneud hynny, mae'n rhaid ichi wrando ar bobl. Mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o’r broses. Ac mae'r ddau ffactor arall yn ymwneud â chyflymder y traffig ar hyn o bryd. Mae'n rhaid iddo fod yn nes at y terfyn cyflymder arfaethedig er mwyn sicrhau bod pobl yn cydymffurfio'n llawn. Ac yna'r trydydd, yn ddelfrydol, yw bod angen seilwaith ffisegol ac amgylcheddol wedi'i osod i leihau terfynau cyflymder.

Nawr, o ran gwrando ar bobl, dod â phobl gyda ni, mae'r cyn Weinidog trafnidiaeth wedi derbyn nad oedd y gweithredu cystal ag y dylai fod, a dyna pam y gwnaethom gynnal yr ymarfer a gynhaliwyd gennym, lle mae mwy na 10,000 o bobl wedi rhannu eu barn ar ba ffyrdd a ddylai newid yn ôl i 30 mya. Ac yn y misoedd nesaf, byddwn yn gweld ffyrdd yn newid yn ôl, gan ystyried yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym.

Ni chlywais ffigur yno o faint o arian a fyddai wedi’i arbed pe baem wedi gwneud hynny’n gynt, ond symudwn ymlaen. Y gwir amdani yw bod hanes y Llywodraeth o gyflawni wedi bod ar ei orau pan fydd yn gwrando ar Blaid Cymru. Amlygwyd manteision clir gwrando ar Blaid Cymru pan wrandawodd Trafnidiaeth Cymru ar nifer o alwadau gan fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan, ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr ymateb i’r gwasanaeth trenau yn hynod gadarnhaol, felly rwy'n cymeradwyo Trafnidiaeth Cymru ar eu gwaith.

Ond ni ddylai trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon fod yn eithriad; dylai fod yn norm. Yn anffodus, mae hyn yn parhau i fod yn rhwystredig o brin dros rannau helaeth o’n rhwydwaith rheilffyrdd, lle mae canslo trenau, oedi a gorlenwi yn brofiadau rhy gyfarwydd o lawer i deithwyr. Ond yn hytrach na cheisio gwella hygyrchedd eu gwasanaethau, yn unol ag uchelgais y Llywodraeth i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno mesurau a fydd yn cyflawni'r gwrthwyneb. Maent yn cynnwys dirwyo unigolion y byddent, yn rhesymol ddigon, wedi disgwyl cael opsiwn i brynu tocynnau gan arolygydd tocynnau, mewn toriadau sydd ar y ffordd i’r gwasanaeth ar reilffordd Calon Cymru, a chynigion i roi'r gorau i iawndal pan fo trenau rhwng 15 a 30 munud yn hwyr.

Yn hytrach na chosbi teithwyr sydd eisoes wedi gorfod ymgodymu â chynnydd sylweddol arall eto i brisiau tocynnau eleni, a ydych chi'n cytuno y dylai Trafnidiaeth Cymru ganolbwyntio ar gael trefn ar bethau er mwyn darparu gwasanaeth mwy hygyrch a phrydlon?

A dweud y gwir, credaf ei bod yn gwbl briodol fod pobl sy'n osgoi talu'n fwriadol yn cael dirwy. Mewn sawl rhan o'r rhwydwaith bellach, rydym yn cynnig dulliau tapio ymlaen, tapio i ffwrdd ar gyfer talu am deithio; mae yna beiriannau tocynnau; ac mewn llawer o achosion, mae'n dal i fod bythau tocynnau hefyd. Lle nad oes gan bobl reswm dilys dros osgoi talu, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol eu bod yn cael dirwy. Rwy'n dychmygu y byddai pob Aelod yn y Siambr yn cytuno. Ac rydym yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i brynu tocyn, boed hynny ar-lein, neu drwy dapio ymlaen, tapio i ffwrdd, neu drwy beiriant neu’n uniongyrchol drwy un o swyddogion Trafnidiaeth Cymru. Nid oes esgus dros gyflawni twyll. Maent i bob pwrpas yn dwyn o bwrs y wlad. Gwyddom fod cyllid cyhoeddus o dan bwysau, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn codi arian ychwanegol, ein bod yn cynyddu faint o refeniw a godwn gan deithwyr sy’n osgoi talu'n fwriadol. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny.

Ac o ran yr hyn a ddywedodd yr Aelod am berfformiad Trafnidiaeth Cymru yn ystod yr Eisteddfod, rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y sylwadau caredig hynny. Mae’r adborth a gefais wedi bod yn gadarnhaol iawn hefyd, a chredaf ei fod yn dangos rhan o duedd ehangach ar gyfer gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru, tuedd ar i fyny. Mae 80 y cant o drenau Trafnidiaeth Cymru yn cyrraedd o fewn tri munud i’r amser a drefnwyd. Mae hynny i’w groesawu. Mae bellach yn golygu bod Trafnidiaeth Cymru yn perfformio’n well na Avanti, Great Western Railway, CrossCountry, gan symud i fyny tabl perfformiad y DU, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod y duedd honno’n parhau.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. 

Mae’r broblem gyda hygyrchedd a dibynadwyedd, wrth gwrs, yn thema sy’n codi dro ar ôl tro gyda’r rhwydwaith bysiau, sy’n parhau i fod mewn sefyllfa ansicr ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd a threfniadau ariannu hirdymor. Yn y cyfamser, mae'r bygythiad o gau rhagor o lwybrau, a allai adael rhai o’n cymunedau mwyaf ynysig hyd yn oed yn fwy digyswllt, yn parhau i dyfu.

Rydym wedi clywed ers tro y bydd y Bil bysiau newydd yn ateb i'r gwendidau hyn, ond mae’r manylion perthnasol, yn enwedig mewn perthynas â’r amserlen ddeddfwriaethol, yn annelwig a dweud y lleiaf. O ystyried y ffaith bod y Llywodraeth bellach yn cael ei diffinio fwy gan yr hyn nad yw’n ei wneud na chan yr hyn y mae’n ei wneud, ceir ofnau cwbl gyfiawn y gallai’r Bil hwn gael ei ddifa, fel y ddeddfwriaeth sydd wedi ei hatal eisoes—diwygio’r dreth gyngor a'r Bil diwygio rhywedd.

Rydym wedi clywed llawer dros y dyddiau diwethaf gan Weinidogion fod gan y Llywodraeth gynllun mawr ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, ond nid ydym fawr callach o hyd o ran yr hyn y mae’r cynllun hwnnw’n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, a allech chi gadarnhau unwaith ac am byth beth yw’r cynllun ar gyfer y Bil bysiau? A fydd yn cael ei gyflwyno cyn 2026, ac os felly, a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd fel y gallwn graffu arno?

14:00

Bydd. Byddwn yn ei gyflwyno yn y gwanwyn. Mae'n ddeddfwriaeth enfawr. Rydym yn gweld ar hyn o bryd fod Llywodraeth y DU yn ymyrryd mewn perthynas â gwasanaethau bysiau gyda'r Bil bysiau gwell. Mae hwnnw'n edrych ar rymuso awdurdodau lleol yn Lloegr. Mae'r hyn y byddwn yn ei wneud gyda'n Bil ni ar sail genedlaethol yn creu cyfle i fasnachfreinio gwasanaethau ac i gynllunio ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn well gyda gwasanaethau trên, ac integreiddio tocynnau hefyd. Felly, mae'n ddeddfwriaeth arwyddocaol iawn, ond byddwn yn ei chyflwyno yn y gwanwyn. Pan fydd wedi'i phasio gan y Senedd, bydd y gwaith caled yn dechrau o roi'r contractau newydd ar waith i ddiwallu anghenion teithwyr yn hytrach na chymell elw.

Cwmnïau Ynni a Chyfraniad Cymunedol

3. Pa arweiniad mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i gwmnïau ynni ynghylch cyfraniad cymunedol wrth iddyn nhw ddatblygu prosiectau yn Nghymru? OQ61513

Mae ein polisi yn pwysleisio pwysigrwydd perchnogaeth leol a chymunedol ar gynhyrchiant ynni. Mae gennym ganllawiau ar waith sy'n cynnwys pecyn cymorth i gefnogi'r polisi hwn ymhellach, gan ddangos y camau y dylai cwmnïau ynni eu dilyn i sicrhau bod cyfraniad cymunedol yn cael ei ystyried.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi'n deall y bydd y portffolio yma'n mynd i rywun arall yn y dyfodol, ond am heddiw, mae Llywodraeth Cymru, trwy wahanol ddogfennau megis 'Future Wales: the national plan 2040' ac eraill wedi neilltuo darnau helaeth o diroedd Cymru ar gyfer datblygu cynlluniau ynni, ond cwmnïau rhyngwladol mawr sydd yn cael y cytundebau i'w datblygu yn amlach na pheidio, megis RWE, megis Bute, ac yn eu tro maen nhw'n gallu cael eu masnachu a'u gwerthu i gwmnïau eraill. Ond ein hadnoddau naturiol ni sy'n cael eu defnyddio er mwyn cyfoethogi cyfranddeiliaid y cwmnïau yma. Mae'n ymddangos i mi, o leiaf, fel ein bod ni'n gweld parhad y drefn economaidd echdynnol yma ar draul ein cymunedau, gan olygu bod Cymru'n parhau i fyw mewn tlodi cymharol. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yma am fod o fudd i'n cymunedau ni yma yng Nghymru ac nid i gyfranddalwyr cwmnïau cyfoethog?

A gaf i ddiolch i Mabon am ei gwestiwn? Mae'n iawn, mae hwn yn gyfrifoldeb sydd wedi'i roi i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Fodd bynnag, o ran y gwaith datblygu ar y fargen sector ynni, gallaf ddweud ein bod yn gweithio gyda diwydiant a sefydliadau ledled Cymru i sicrhau bod lleisiau cymunedol yn cael eu clywed drwy gydol y broses o lunio'r fargen honno. Mae'r gwaith ymgysylltu'n cael ei ddatblygu ymhellach dros y flwyddyn i ddod. Rwy'n gobeithio y bydd y pryderon a godwyd gennych heddiw yn cael sylw sylweddol iawn yn y gwaith a wneir ar y fargen sector ynni. Mae capasiti yn ein cymunedau yng Nghymru yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef. Roeddwn i'n darllen eitem yn ddiweddar, o Ysgol Fusnes Caerdydd rwy'n credu, ar yr union bwnc yr oeddech chi'n sôn amdano gyda natur echdynnol cynhyrchiant ynni a'r defnydd o'n tir. Mae'n rhywbeth y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono, ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb i'r pryderon hynny yn y dyfodol agos.

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes llawer o amser ers i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gwblhau ymchwiliad i'r dyfodol gwyrdd sydd ar gael i ni yma yng Nghymru ac mae wedi canolbwyntio'n benodol ar y budd cymunedol a ddaw yn sgil y cyfleoedd hyn. Hoffwn eich annog chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni, sydd yn ei sedd, i roi sylw manwl iawn i'r argymhellion a ddaw yn sgil yr ymchwiliad hwnnw, oherwydd mae angen strategaeth mewn perthynas â budd cymunedol. Gellir gosod gwerth ar fudd cymunedol o ran y sgiliau a'r swyddi a'r cyfleoedd cyflogaeth a ddaw, yr holl ffordd drwodd i'r cyfleoedd ar gyfer biliau ynni rhatach i bobl leol. Ond un feirniadaeth allweddol a gyflwynwyd yn ystod yr ymchwiliad oedd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn seilos wrth ddatblygu strategaeth ar gyfer y cyfle hwn. Felly, dyma ble, mewn gwirionedd, i chi a'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet. i roi'r gorau i'r seilos, a gweithio ar draws adrannau'r Llywodraeth, oherwydd mae'r cyfleoedd sydd yma yng Nghymru mor fawr fel bod gwir angen inni wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny a'u gwireddu er budd holl gymunedau Cymru.

14:05

Diolch i'r Aelod ac rwy'n meddwl ei fod yn iawn—mae'n gwbl hanfodol. Dyna oedd un o brif flaenoriaethau'r Prif Weinidog a amlinellwyd ddoe. Mae datblygu swyddi gwyrdd gan ddefnyddio technolegau a chyfleoedd newydd gydag ynni adnewyddadwy yn golygu bod yn rhaid inni chwalu'r seilos hynny ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddogol a gweithio ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod yn ddiogel dweud ein bod yn gwneud llawer iawn mewn perthynas â pherchnogaeth leol a buddion cymunedol prosiectau ynni. Ond wrth gwrs, mae modd gwneud mwy, a dyna pam ein bod wedi dyrannu cyllid i gynlluniau, fel Ynni Cymru, i ddatblygu systemau ynni clyfar, lleol. Yn rhan o'r gwaith hwn, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gwerthuso ei lwyddiant fel y gall wedyn lywio polisi ehangach ar draws y Llywodraeth yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy'n credu bod llawer o resymau pam y byddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros ogledd Cymru yn dymuno ymuno â mi a'r gymuned i wrthwynebu dwy fferm solar enfawr a gynlluniwyd ar gyfer Ynys Môn. Mae'r budd cymunedol fel y'i gelwir yn fychan iawn, ac fe geir effaith negyddol ar dwristiaeth. Mae 3,600 o erwau oddeutu 15 gwaith maint y fferm solar fwyaf yn y DU ar hyn o bryd. Mae yna effaith niweidiol ar amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd ym Môn, Mam Cymru. Bydd maint enfawr y capasiti solar sydd ei angen—a dim ond 10 y cant ohono'n cael ei ddefnyddio, serch hynny—yn cael effaith niweidiol ar gapasiti'r grid. Carwn wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymuno â mi i weld maint y cynllun hwn ar Ynys Môn. Ac a gaf i ofyn iddo ymuno â mi i alw am foratoriwm ar ffermydd solar mor enfawr hyd nes y gall y Llywodraeth lunio strategaeth, a allai gynnwys pocedi llai o ynni solar, ynni solar ar adeiladau ac yn y blaen, yn lle'r model echdynnol ac ecsbloetiol hwn o ddatblygu ffermydd solar?

Mae'n anodd iawn imi wneud sylwadau ar gais penodol neu gynnig penodol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod yn rhaid i ddatblygiad fod yn sensitif i'r amgylchedd naturiol ac i gymunedau, a bod yn rhaid ymgysylltu â phobl cyn gynted â phosibl. Rwy'n gwybod o sylwadau ar gynlluniau yn fy etholaeth i fod gwerth ymgysylltu'n gynnar â datblygwyr yn hynod bwysig. Ymwelodd Sam Rowlands a minnau, a Mark Isherwood, â chymuned yng Nghoed-poeth y llynedd lle'r oeddent, i fod yn deg â'r datblygwr yno, yn ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn ymatebol iawn i'r gymuned, ac rwy'n credu bod y canlyniad yn gadarnhaol o ganlyniad i hynny. Ac mae hynny'n dangos, wrth ddatblygu'r cynlluniau hyn sy'n hynod bwysig i leihau ein dibyniaeth ar fathau eraill o ynni, pam fod yn rhaid eu datblygu mewn ffordd sensitif, gyda chefnogaeth gymunedol hefyd.

Gwasanaethau Bysiau yn Islwyn

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau bysiau yn Islwyn? OQ61528

Yn ogystal â'n cefnogaeth ariannol sylweddol i'r diwydiant, rydym am wella gwasanaethau bysiau trwy gyflwyno masnachfreinio. Bydd hyn yn cefnogi ein dyheadau ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru, gan gynnwys yn Islwyn, wedi'i chynllunio o amgylch y bobl sy'n dibynnu arni.

Diolch. Tan y 1980au, roedd y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu darparu trwy gwmnïau mewn perchnogaeth gyhoeddus, a oedd yn aml yn cael eu rhedeg gan gynghorau lleol ac atebol. Ac yna dadreoleiddiodd a datgymalodd Llywodraeth Margaret Thatcher y diwydiant bysiau a phreifateiddio gwasanaethau er elw, gan arwain at werthu cwmnïau bysiau ar raddfa fawr ac at ddileu llwybrau dielw. Ac yn yr 20 mlynedd a ddilynodd Ddeddf Trafnidiaeth 1985 y Torïaid, gostyngodd nifer y bobl a deithiai ar fysiau y tu allan i Lundain bron i 40 y cant, er gwaethaf cynnydd yn y boblogaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i faer Llafur Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, lwyddo i ddod â gwasanaethau bysiau yn ôl i ddwylo'r cyhoedd gyda'i Bee Network, pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'n Bil bysiau? A pha wersi y gellir eu dysgu o'r enghraifft lwyddiannus iawn hon a fydd yn sicrhau bod cymunedau Islwyn yn cael y gwasanaethau bysiau y maent eu hangen ac yn eu haeddu?

Rydym yn awyddus iawn i ddysgu o bob rhan o'r DU a dysgu o rannau eraill o Ewrop yn ogystal sut i reoli gwasanaethau bysiau. Rwy'n cytuno bod dadreoleiddio wedi bod yn drychineb i gymunedau ledled Cymru, ac rydym yn ceisio cywiro hyn gyda'n Bil bysiau. O ran y Bee Network, mae'n fenter ddiddorol a chreadigol y buom yn edrych arni wrth inni ddatblygu rhwydwaith T yma yng Nghymru, i integreiddio gwasanaethau trenau a bysiau, integreiddio'r amserlenni, integreiddio'r tocynnau. O ran Islwyn, mae'n amlwg fod Islwyn wedi elwa o'r cymorth ariannol a roddwyd gennym i'r diwydiant bysiau mewn amgylchedd wedi'i ddadreoleiddio, ond wrth inni fynd ar drywydd y cyfleoedd y mae masnachfreinio yn eu darparu drwy ddeddfwriaeth, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cynllunio gwasanaethau bysiau er budd y boblogaeth a buddiannau'r bobl a wasanaethwn. Mae'n ddeddfwriaeth gymhleth eithriadol, ond mae'n un hynod gyffrous i'r bobl yr ydych chi'n eu gwasanaethu yn Islwyn.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Prif Weinidog wedi dweud, wrth gwrs, mai gwell gwasanaethau bysiau fydd un o'i blaenoriaethau, ac fel Ceidwadwyr Cymreig rydym yn llwyr gefnogi hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddai mwy o oedolion yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn peth o esiampl Lloegr ac yn rhoi cap o £2 ar deithiau bws sengl i oedolion sy'n gweithio. Neu dilynwch awgrym fy nghyd-Aelod Natasha Asghar a chyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan. Ysgrifennydd y Cabinet, a welwn ni'r mathau hyn o fentrau yn y Bil bysiau, ac a ydych chi'n cytuno, os ydym am wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru, fod angen i'r gwasanaeth fod yn effeithlon, yn ddibynadwy, ac yn werth da am arian, yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn yr ystyr ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar arferion gorau mewn mannau eraill. Ar ôl i'r Bil gael ei basio, bydd yn llawer haws ac yn fwy costeffeithiol inni gyflwyno cynlluniau newydd fel cap ar brisiau tocynnau. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, i drafod syniadau amrywiol a sut y gellid eu treialu. Mae gennym ddau brif rwystr ar hyn o bryd. Yn gyntaf, mae gennym y farchnad sydd wedi'i dadreoleiddio, sy'n golygu y gall gweithredwyr ddewis a dethol y gwasanaethau proffidiol a gadael y cyfrifoldeb a'r cyfrifoldeb ariannol i gynghorau ddarparu gwasanaethau lle mae'r farchnad wedi methu. A'r ail her sydd gennym, yn amlwg, i raddau helaeth oherwydd Trussonomics a'r trychineb a ddigwyddodd o dan y cyn-Brif Weinidog, yw bod cyllid cyhoeddus wedi ei ymestyn i'r eithaf. Fe af ar drywydd unrhyw gynllun peilot, unrhyw gynllun newydd, sy'n fforddiadwy ac yn cynyddu defnydd. Ac wrth basio'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno i'r Senedd hon y gwanwyn nesaf, byddwn yn gallu ei wneud mewn ffordd lawer mwy costeffeithiol.

Prosiectau Ffyrdd yn Sir Benfro

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro? OQ61492

Ar hyn o bryd rydym yn uwchraddio'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Chroesffordd Maencoch, ac mae ein rhestr gyfredol o welliannau rhwydwaith strategol wedi'i chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Byddwn yn parhau i fonitro rhannau o'r rhwydwaith sy'n profi tagfeydd ac yn nodi atebion sy'n cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Cymru lle bo angen.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n ymwybodol iawn o gynllun addasu arfordirol Niwgwl yn fy etholaeth i, o gofio ein bod ni wedi cyfarfod i'w drafod. Fel y gwyddoch, mae gennyf bryderon ynghylch cynigion Cyngor Sir Penfro, gan y byddent yn costio miliynau lawer o bunnoedd i'r trethdalwr. Yn y cyfamser, mae'r gymuned leol wedi llunio cynllun amgen a allai arbed llawer o arian, ac mae'n bwysig fod eu cynllun yn cael ei ystyried yn iawn nawr. Fodd bynnag, rwy'n deall bod briff diweddar a anfonwyd at aelodau'r cyngor yn gwneud nifer o ddatganiadau anghywir am gynlluniau'r gymuned, ac mae hynny'n peri pryder mawr. Gwn fod eich swyddogion yn cysylltu â Chyngor Sir Penfro, felly a allwch chi ddweud wrthym beth oedd canlyniadau'r trafodaethau hynny, ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y broses hon yn dryloyw, a bod yr holl wybodaeth am y cynigion yn gywir?

Mae'n hollol gywir fod tryloywder yn hollbwysig wrth ystyried cynlluniau o'r math hwn. Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gyfarfod â Paul Davies ac i ddysgu mwy am yr awgrym gan y gymuned. O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, cysylltodd fy swyddogion â'r cyngor, a roddodd sicrwydd y dylid rhoi ystyriaeth briodol i'r dewis arall a awgrymwyd gan y gymuned cyn eu penderfyniad terfynol ar y cynllun a ffefrir. Yn amlwg, mater i Gyngor Sir Penfro fydd gwneud y penderfyniad terfynol ar yr ateb ymarferol priodol, ond credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod yr awgrym a gyflwynwyd gan y gymuned yn cael ei ystyried yn llawn a bod data cywir, gwybodaeth gywir, yn cael ei darparu i'r aelodau etholedig.

14:15
Gwasanaethau Rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Llundain

6. Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Llundain? OQ61518

Wel, rwy'n cydnabod rhwystredigaeth Aelodau ar draws y Senedd a theithwyr ynghylch dibynadwyedd gwael gwasanaethau Avanti West Coast. Mae angen i'r gwasanaethau wella, o ystyried pa mor hanfodol yw'r cysylltiad rhwng gogledd Cymru a Llundain.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y gwasanaeth presennol o ogledd Cymru i lawr i Lundain yn llanast llwyr. Fe fyddwch yn gwybod, ychydig flynyddoedd yn ôl, fod 14 trên y dydd yn symud rhwng Llundain a gogledd Cymru; mae hynny i lawr i bump erbyn hyn. Ac ar ben hynny, o'r pump sy'n bodoli, mae un o bob pump o'r rheini'n cael eu canslo. Dyma'r llwybr sy'n perfformio waethaf yn y DU o bell ffordd, ac mae'n cael effaith enfawr, wrth gwrs, ar fusnesau lleol a bywoliaeth pobl hefyd. Felly, hoffwn glywed eich barn ar ba gamau posibl y gallech eu cymryd i gefnogi gwelliannau ar y llinell benodol honno. Ond yn ogystal, fe fyddwch yn gwybod hefyd am gynigion ar gyfer llwybr o Wrecsam i Lundain, gyda phum trên y dydd o leiaf yn cael eu cynnig ar gyfer y llwybr hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n syniad gwych i'r gytref fwyaf yng ngogledd Cymru gael y cysylltiad uniongyrchol hwnnw â Llundain, felly hoffwn wybod a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn debygol o'i gefnogi yn y dyfodol.

Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Rydym wedi cael trafodaethau niferus ers iddo gael ei ethol i'r Senedd am wasanaethau rheilffordd, nid yn unig ar draws gogledd Cymru, ond o ogledd Cymru i Lundain, ac rydym yn cytuno bod perfformiad Avanti West Coast yn annerbyniol. Rwyf wedi cyfarfod ag Avanti ac wedi mynegi'r farn honno. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog rheilffyrdd newydd y DU, yr Arglwydd Hendy, ac wedi pwysleisio'r angen i sicrhau bod gennym rôl fel Llywodraeth Cymru i oruchwylio gweithredwr cyhoeddus y cysylltiad pwysig hwn rhwng gogledd Cymru a Llundain yn y dyfodol, oherwydd fel y mae pethau, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl ffurfiol i gyfarwyddo neu reoli neu ddwyn y gweithredwr i gyfrif.

Nawr, mae Sam Rowlands hefyd yn iawn pan fo'n sôn am y gostyngiad yn y gwasanaethau sydd wedi digwydd ers COVID. Bu gostyngiad enfawr yn nifer y gwasanaethau, mae'r perfformiad wedi gwaethygu ac yn anffodus, lle'r oeddent yn arfer gweithredu trenau wyth cerbyd cyn COVID, mae'r nifer bellach wedi gostwng i bum cerbyd. Ac o ganlyniad i hynny, mae gorlenwi'n digwydd yn rheolaidd ar y gwasanaeth. Felly, mae'n rhaid cael gwelliannau. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth newydd y DU yn cynnal cyfarfodydd perfformio rheolaidd iawn gydag Avanti West Coast ac yn eu dwyn i gyfrif er mwyn cyflawni gwelliannau. Rwy'n credu bod y model sydd wedi bod yn gweithredu yn rhy hir o lawer ym Mhrydain wedi gwneud cam â theithwyr ddydd ar ôl dydd, a dyna pam rwy'n croesawu ymagwedd Llywodraeth y DU at reilffyrdd teithwyr mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at weithio yn y dyfodol gyda Gweinidogion yn San Steffan i fynd ar drywydd pob cyfle, gan gynnwys mynediad agored o bosibl.

Mae mynediad agored yn fodel diddorol, ac rwy'n croesawu gwell cyfleoedd ar gyfer mwy o gysylltedd i bobl gogledd Cymru gyda gwasanaeth rhwng Wrecsam a Llundain. Ond yn hollbwysig, mae'n rhaid cael y capasiti ar y rheilffyrdd ac ni ellir effeithio'n andwyol ar wasanaethau presennol o ganlyniad i gyflwyno gwasanaeth mynediad agored. Ond mae'n gynnig diddorol iawn gan Alstom. Rwy'n credu mai hwn fyddai'r gweithgarwch rheilffordd cyntaf gan Alstom, sydd wedi arfer adeiladu trenau yn unig, nid eu rhedeg. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig.

Cydweithio ar Ddatblygu Economaidd

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran datblygu economaidd yng Nghymru? OQ61516

Gwnaf. Mae ymgysylltiad cadarnhaol a chynnar wedi digwydd gyda'r Prif Weinidog, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifenyddion Gwladol dros fusnes a masnach, ac ynni hefyd. Rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd ar ein huchelgais cyffredin i sicrhau twf a swyddi yng Nghymru.

Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl tua 14 mlynedd o wastraffu cyfle gyda diffyg gwir bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rydym bellach mewn cyfnod newydd, a fydd, rwy'n siŵr, ac sydd eisoes wedi sicrhau perthynas drawsnewidiol rhwng ein Llywodraeth Lafur newydd yn y DU a'n Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Un agwedd ar gyflawni'r realiti newydd hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ein seilwaith trafnidiaeth. Rwy'n credu bod gennym waith da iawn gan Gordon Brown ac eraill sy'n edrych ar y gwahaniaethau rhanbarthol yn y DU a'r angen i Gymru, yr Alban a gogledd Lloegr gael llawer mwy o fuddsoddiad mewn pob math o feysydd, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Lafur y DU nawr i sicrhau ein bod yn gweld cyflawniad? Rydym wedi cael ein tanariannu'n ddifrifol ers cymaint o flynyddoedd o ran seilwaith rheilffyrdd. Mae angen inni symud i system drafnidiaeth integredig, felly rwy'n edrych ymlaen—rwy'n siŵr eich bod chi hefyd—at weld canlyniadau'r bartneriaeth newydd honno, a system drafnidiaeth wirioneddol integredig yng Nghymru.

14:20

Diolch i John Griffiths ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae gwaith Gordon Brown yn wych. Cefais gyfle i gymryd rhan yn un o'r sesiynau a gynhaliodd. Roedd yn sesiwn rithwir. Am fod fy llythrennau cyntaf wedi ymddangos fel 'KS', fe wnaeth fy nghamgymryd am rywun sy'n byw yn Stryd Downing ar y dechrau, ond cawsom sesiwn werthfawr o gyfnewid safbwyntiau ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig, ac wrth gwrs, mae seilwaith trafnidiaeth yn hynod bwysig i alluogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth.

Nawr, ers etholiad cyffredinol y DU, mae'n drawiadol fy mod i bellach wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar sawl achlysur, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach—byddaf yn cyfarfod ag ef ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru eto yr wythnos nesaf—rwyf wedi cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, y Gweinidog rheilffyrdd, y Gweinidog ynni, a Gweinidog Swyddfa Cymru, a hyd yma, gallaf bwyntio at nifer o ganlyniadau gwerthfawr o ganlyniad i ddwy Lywodraeth yn gweithio fel un. Cawsom y cyhoeddiad dros yr haf y byddwn yn cynyddu nifer y gwasanaethau ar draws y gogledd 50 y cant—50 y cant—o 2026 ymlaen, o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth y DU ynghylch seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n ganlyniad enfawr mewn cyfnod byr iawn o amser. Yr wythnos nesaf fe gawn gyhoeddiad yn y gogledd ynglŷn â chyfleoedd gwaith. Rydym wedi cael ymrwymiad i gyd-greu'r strategaeth ddiwydiannol, i chwarae rhan lawn yn gweithredu'r cynllun gweithredu deallusrwydd artiffisial. Rydym yn mynd i gael bwrdd rheilffordd ar y cyd i Gymru yn ddiweddarach eleni, cyn y Nadolig—cyfarfod bwrdd rheilffordd a fydd yn dod â'r Gweinidog rheilffyrdd o San Steffan a minnau at ein gilydd. Ac ni fydd yn digwydd yn Llundain, mae'n mynd i ddigwydd yn Wrecsam. Yna byddwn yn ffurfio ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad rheilffyrdd mewn seilwaith yn y blynyddoedd i ddod. Felly, rydym eisoes yn gweld manteision enfawr dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio fel un.

Dibynadwyedd Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Gogledd

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OQ61520

Gwnaf. Mae dibynadwyedd gwael trafnidiaeth gyhoeddus a weithredir gan Avanti West Coast yn siomi teithwyr yng ngogledd Cymru. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan wella perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd ein gwasanaethau rheilffyrdd a hefyd yn parhau i dyfu rhwydwaith TrawsCymru.

Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwyf am gyfeirio at rwydwaith TrawsCymru mewn gwirionedd. Cafodd rhai newidiadau eu gweithredu ar y rhwydwaith o fis Tachwedd y llynedd, yn dilyn adolygiad gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Newidiwyd llawer o'r amserlenni o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw. Cafodd rhai bysus eu tynnu oddi ar rai llwybrau a gosodwyd systemau deallusrwydd artiffisial newydd ar fysiau er mwyn monitro ffocws gyrwyr ar y ffordd. Fodd bynnag, mae teithwyr yn dweud wrthyf fod yr amserlenni'n afrealistig, nid oes digon o ystyriaeth i dagfeydd, neu'r terfynau cyflymder newydd 20 mya mewn rhai ardaloedd, a bod llawer o bobl, o ganlyniad, yn colli eu cysylltiadau ac yn aml mae teithwyr, yn anffodus, yn cael eu gadael ar ôl ar rai llwybrau.

Nawr, yn amlwg, mae angen system drafnidiaeth bysiau ddibynadwy sy'n cysylltu rhannau o gefn gwlad Cymru â chytrefi trefol, ond rwy'n credu bod angen inni adolygu'r trefniadau ar rwydwaith TrawsCymru i sicrhau bod teithwyr yn cael y gwasanaethau y maent yn eu haeddu, ond hefyd nad oes pwysau gormodol ar yrwyr sy'n wynebu'r heriau o orfod cyflawni'r amserlenni afrealistig hyn. Dywedwyd wrthyf fod y system deallusrwydd artiffisial—mae rhannau ohoni wedi cael eu diffodd oherwydd ei bod yn tynnu sylw rhai gyrwyr ar y llwybrau hyn, sy'n beryglus. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y byddwch chi'n ei wneud nawr i gael adolygiad o hyn cyn gynted â phosibl?

Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn? Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu atebion ar hyn o bryd i faterion gweithredol gyda llwybrau TrawsCymru penodol, gan gynnwys TrawsCymru T3, sy'n gweithredu—. Dyna'r gwasanaeth yr oedd Darren Millar yn ei nodi nawr; dyma'r llwybr sy'n gweithredu rhwng Wrecsam a'r Bermo. Ac maent yn datblygu atebion a fydd yn gwella dibynadwyedd. Rydym hefyd wedi gweld gwelliannau gwasanaeth yn ddiweddar i'r llwybr T2 sy'n cysylltu Bangor ag Aberystwyth, gan gynnwys mwy o deithiau gyda'r nos ac ar ddydd Sul. Ond os caf, Lywydd, rwyf am ofyn i Trafnidiaeth Cymru archwilio'r pryderon a godwyd heddiw gan Darren Millar ac ymateb yn unol â hynny.

14:25
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.

Diwydrwydd Dyladwy wrth Ddyfarnu Contractau

1. Pa ddiwydrwydd dyladwy y mae adran yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gynnal cyn dyfarnu contractau? OQ61519

Member
Jane Hutt 14:25:20
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch am y cwestiwn. Yn unol â dogfen gaffael sengl Swyddfa'r Cabinet y DU, cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu ein contractau.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Datgelwyd dros yr haf fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi contract ymchwil i gwmni y mae ei unig gyfarwyddwr yn droseddwr rhyw a gyfaddefodd ei fod wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ac enw'r cwmni hwn, fel y gwyddoch, yw Laurel Research Consulting, a dderbyniodd gontract y llynedd ar gyfer ymchwil ar therapïau trosi. Ond nid oes gan Laurel Research unrhyw gysylltiadau clir yn y maes hwn o gwbl. Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydych chi wedi canslo'r contract. Ond mae'n ymddangos bod gan Laurel Research waith arall sy'n cael ei wneud i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cael ei gomisiynu gan grant aml-flwyddyn gwerth £135,000 i gynhyrchu'r canllaw ar gyfer casgliadau llyfrgell gwrth-hiliol. I mi, mae'n peri pryder mawr fod arian trethdalwyr yn cael ei gyfeirio at gwmni sy'n cael ei redeg gan droseddwr rhyw o dan nawdd y LGBTQ+ a 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol'. Felly, hoffwn ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae'r cwmni hwn wedi cael contractau lluosog mor sensitif drwy Lywodraeth Cymru, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw'r math hwn o beth yn digwydd eto, ac a allwch chi gadarnhau eich bod chi wedi cyfarwyddo sefydliadau i anwybyddu cyhoeddiadau a ddarparwyd gan y sefydliad hwn sydd bellach yn destun gwarth?

Diolch am y cwestiynau hynny. Roeddwn yn bryderus iawn pan glywais am y datblygiad ynghylch Laurel Research Consulting, a dyna pam y gweithredodd fy swyddogion yn gyflym i adolygu contractau gyda'r sefydliad a chymryd camau gweithredu angenrheidiol ar unwaith. Cawsom wybod am y problemau gyda Laurel Research Consulting ddydd Llun, 2 Medi. Daeth y contract ymchwil hwn i ben, fel y nodwyd gennych, ar 6 Medi 2024. A hefyd, yn bwysig eithriadol yn fy marn i, rydym yn cydlynu camau ar unwaith ar gyfer ymarferion caffael newydd, tra bod adolygiad o'r contractau presennol eisoes ar y gweill.

Ymddygiad Gorfodaethol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ymddygiad gorfodaethol? OQ61496

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Rydym am wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. Mae ein hymgyrch Iawn yn mynd i'r afael ag ymddygiad ac agweddau'n uniongyrchol gyda dynion a bechgyn yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw mai mater i gamdrinwyr, nid i fenywod, yw newid eu hymddygiad.

Diolch am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yn 2015 cafodd trosedd ei chreu yn y gyfraith i wneud ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol yn drosedd. Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn batrwm o ymddygiad lle mae camdriniwr yn rheoli bywyd eu dioddefwr, gan ddileu eu hannibyniaeth a'u rhwydwaith cymorth yn systematig, a gorfodi eu dioddefwr trwy frawychu geiriol, bygythiadau a/neu gam-drin corfforol. Rydym yn gwybod am ddwy enghraifft broffil uchel o ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth, sef Ruth Dodsworth ac Anna McMorrin. Dywedodd Anna McMorrin wrth BBC Wales na ddylai pobl deimlo stigma ac y gall unrhyw un fod mewn sefyllfa o'r fath a dod yn ddioddefwr. A yw'r Llywodraeth yn derbyn bod angen cymorth ychwanegol ar ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig hwnnw, Mike Hedges, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod dewrder menywod, goroeswyr sy'n siarad allan fel hyn am eu profiad o reolaeth drwy orfodaeth. Oes, mae gennym gyfraith, ond a ydym yn ei gweithredu mewn gwirionedd yn ein system cyfiawnder troseddol? Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod ei fod yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, a rhoi gwybod, a'n hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, a chodi ymwybyddiaeth nid yn unig o reolaeth drwy orfodaeth, sy'n bwysig, ond hefyd o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd.

Hoffwn achub ar y cyfle cyntaf heddiw i longyfarch Emma Wools. Nawr, cafodd Emma Wools ei phenodi'n Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru yn ddiweddar, ac mae hi bellach yn ymuno â mi fel cyd-gadeirydd bwrdd partneriaeth cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ganddi rôl arweiniol ym maes plismona yng Nghymru, ac mae hi eisoes wedi lansio'r cynllun grant cymunedol 'Beth sy'n bwysig i chi—dywedwch wrth Emma'.

Felly, rwy'n cymeradwyo popeth a ddywedoch chi yn llwyr, ond hoffwn ddweud fy mod yn gobeithio bod rhai ohonoch wedi gweld yr adborth diddorol am Iawn—WalesOnline ar 8 Medi—am ein llysgenhadon Iawn yn myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain, gan gydnabod yr effaith a gaiff ar eu partneriaid ac annog dynion i wneud yn well, i fod yn ddynion Iawn, yn bartneriaid Iawn, ac rwy'n dyfynnu:

'"Fe chwalais fy ffôn, rwyf wedi bod yn amheus ac yn paranoid." Y dynion sydd wedi newid eu ffyrdd wrth i argyfwng cenedlaethol gael ei ddatgan.'

Ac mae'r ymgyrch Iawn—ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru—wedi ennill gwobr genedlaethol yn y DU fel yr ymgyrch ymgysylltu cymunedol orau. Felly, rwy'n annog pawb hefyd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb pwysig i godi ymwybyddiaeth.

14:30

Fel ffan hunanaddefedig o Emmerdale, roeddwn yn falch o weld bod hyn wedi'i cael sylw yn ddiweddar yn yr opera sebon trwy stori Belle Dingle a'i phartner Tom; yn anffodus, roedd Belle yn ddioddefwraig ymddygiad gorfodaethol. Felly, rwy'n falch fod hynny wedi'i godi ar raddfa genedlaethol, a diolch i gynhyrchwyr Emmerdale ac ITV am dynnu sylw at hynny ar raddfa genedlaethol, ac rwy'n credu y gall hynny wneud llawer iawn i godi ymwybyddiaeth a chael hynny ar yr agenda. Ond hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cyflawnwr a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn deall arwyddion ymddygiad gorfodaethol, naill ai ynddynt eu hunain neu gyda phartner, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cyflawnwr yn benodol? Diolch.

Diolch yn fawr, Gareth, a diolch hefyd am dynnu sylw at Emmerdale. Rwy'n cyfaddef nad wyf yn gwylio Emmerdale, ond mewn gwirionedd, mae'n bwysig. Ar lefel ddifrifol, mae'n rhaid i'r cyfryngau ysgwyddo cyfrifoldeb. Trwy lawer o'n hoperau sebon fel y'u gelwir, ar radio a theledu, y mae'r straeon hyn wedi'u hadrodd ac maent yn bwerus yn y ffordd honno, fel y maent pan fydd pobl adnabyddus a phwysig mewn bywyd cyhoeddus, fel y dywedodd Mike Hedges, hefyd yn datgelu eu bod wedi goroesi rheolaeth drwy orfodaeth.

Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod—o ran cydnabod eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd hyn—yn edrych ar sut yr ydym yn gweithredu, nid yn unig o ran yr ymgyrch gyffredinol hon, Byw Heb Ofn, ein strategaeth ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond o ran bod gennym elfen o waith yn ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn wir, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol o hyn, ynglŷn â sut yr awn i'r afael ag ymddygiad cyflawnwyr, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethom. A hefyd, rwyf wedi sôn am ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer De Cymru; mae'n rhaid imi dalu teyrnged i brif gwnstabl gogledd Cymru, Amanda Blakeman, sydd ar flaen y gad yn hyn o beth. Mae arnom angen menywod yn y swyddi arweiniol hyn, mae'n rhaid imi ddweud, hefyd, yn weithredol yn ogystal ag mewn swyddi gwleidyddol, ac mae gennym ffrwd waith ar fynd i'r afael ag ymddygiad cyflawnwyr a gweithredu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pam y mae'r Blaid Lafur yn credu bod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn syniad da?

Wel, mae'n ddiddorol iawn ein bod wedi cael cryn dipyn o drafodaeth ar hyn gyda'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n falch iawn fod gennym gwestiynau a dadl hefyd y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn yn y Siambr, oherwydd yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud o ran y penderfyniad anodd hwn a wnaed gan Lywodraeth y DU oherwydd bod eich Llywodraeth ddiwethaf wedi difetha ein heconomi, gan adael y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus—[Torri ar draws.] Dywedais ddoe fy mod yn mynd i ddweud hyn gryn dipyn o weithiau, fel y bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Ond y pwynt pwysig, Joel, yw bod yn rhaid inni sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl iddi, ac yn bwysig—a dyma lle rwy'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU—yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, oherwydd bydd hynny'n datgloi nid yn unig mynediad at daliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn i lawer o bensiynwyr nad ydynt yn manteisio arno yng Nghymru, ond fe fydd yn datgloi budd-daliadau eraill iddynt hefyd.

Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bawb fod cael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf i gymaint o bobl oedrannus a bregus nid yn unig yn eithriadol o anystyriol ond yn gwbl ddidostur. Gwyddom fod nifer sylweddol o bensiynwyr yn byw ychydig bach uwchlaw'r trothwy i fod yn gymwys i gael credyd pensiwn. Rydym yn gwybod nad yw llawer o'r bobl sydd â hawl iddo yn hawlio'r credyd pensiwn. Rydym yn gwybod y rhagwelir y bydd prisiau tanwydd yn cynyddu tua 10 y cant ym mis Hydref eleni. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddom y bydd y polisi hwn heb os yn achosi i nifer fawr o bensiynwyr ddiffodd eu gwres y gaeaf hwn. Mae'r ffaith bod gan Gymru 15 y cant yn fwy o bensiynwyr fel cyfran o'r boblogaeth, o'i gymharu â Lloegr, hefyd yn golygu y bydd effaith anghymesur ar bensiynwyr Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad yw Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud hynny, pa asesiad a wnaed gennych chi o effaith toriadau i lwfans tanwydd y gaeaf yng Nghymru, a pha adnoddau ychwanegol rydych chi'n disgwyl gorfod eu canfod nawr i gefnogi pensiynwyr Cymru?

14:35

Cwestiwn dilynol pwysig yn wir. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Liz Kendall AS—hi yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau—yr wythnos hon, mewn ymateb i fy ngohebiaeth, fy llythyr, ati yn gynharach yn yr haf, i ofyn y cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â hyn o ran diwallu anghenion, yn enwedig, ein pensiynwyr tlotaf yng Nghymru, nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn. A bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod ein cyn Gomisiynydd Pobl Hŷn, Heléna Herklots, yn ei hystyried yn ymgyrch credyd pensiwn gref iawn. Roeddem yn rhan o hynny fel Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn ymgysylltu'n agos iawn ag ymgyrch Llywodraeth y DU. Rydym wedi rhannu'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol am gredyd pensiwn gyda rhanddeiliaid ledled Cymru, mae gennym ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru am help i hawlio credyd pensiwn. Rydym yn rhoi posteri yn ein meddygfeydd. Rydym yn ceisio helpu i gyfleu'r neges hon ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.

Ond rwy'n credu hefyd fod hyn yn ymwneud ag atal, ynglŷn â sut rydym yn cefnogi aelwydydd ein pensiynwyr yng Nghymru. Ac mae'r buddsoddiad o £30 miliwn eleni yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar gyfer perchnogion tai ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat yn hanfodol bwysig. Nawr, a gaf i ddweud un peth arall? Nid oes digon o bensiynwyr yn manteisio ar ein cronfa cymorth dewisol i ddarparu cymorth brys i aelwydydd. Felly, rwy'n eich annog i'w hyrwyddo i'ch etholwyr, ac yn enwedig pensiynwyr, a rhoi'r wybodaeth iddynt, yn enwedig drwy ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi', am daliadau cymorth dewisol, sy'n rhywbeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i gefnogi wrth gwrs, ac wedi'i flaenoriaethu yn ein cyllideb.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r penderfyniad na fydd taliad tanwydd y gaeaf yn un cyffredinol bellach yn creu perygl o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.'

ac mae'n creu perygl o niweidio pobl hŷn a bregus. Ond y gwir amdani, fel y gwelsom yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yw nad yw Llafur y DU yn malio dim am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl. Mae'r ffaith na phleidleisiodd unrhyw AS Llafur o Gymru i gael gwared ar y polisi hwn yn dangos nad oes gan y Blaid Lafur ddiddordeb yng Nghymru. A wnewch chi gondemnio'n gyhoeddus yr ASau o Gymru a fethodd bleidleisio i gael gwared ar y polisi hwn, a fydd yn niweidio cymaint o bobl fregus yng Nghymru yn uniongyrchol? Diolch.

Ni allaf gredu'r haerllugrwydd. Ydych, rydych chi bellach yn wrthblaid yn San Steffan, ond roeddech chi mewn grym am 14 mlynedd o gyni, lle gwnaethoch chi gael gwared ar gymaint o fudd-daliadau i bensiynwyr. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, rwy'n ddigon hapus i ddyfynnu o lythyr Liz Kendall, oherwydd mae hi'n dweud yn ei llythyr, 'Fel cam cyntaf tuag at ailadeiladu Prydain, mae'n rhaid inni drwsio sylfeini ein heconomi i wneud y newidiadau sydd eu hangen yn daer ar ein gwlad, o ystyried y sefyllfa enbyd a etifeddwyd gennym gan gynnwys y twll du gwerth £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus eleni. Rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd.'

Ond hefyd mae hi wedi derbyn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i estyn allan a gweithio gyda nhw i godi ymwybyddiaeth o gredyd pensiwn: 'Rwy'n falch o ddweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'—yn amlwg, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw budd-daliadau—'yn cysylltu'n uniongyrchol â thua 120,000 o aelwydydd pensiynwyr, gan gynnwys yng Nghymru, sy'n derbyn budd-dal tai ac sydd wedi'u nodi fel rhai cymwys ond nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn ar hyn o bryd.'

Diolch, Lywydd. Rydych yn rhoi pryd o dafod i'r Torïaid, fel y dylid, am 14 mlynedd o gyni, ond mae'r Llywodraeth Lafur yn parhau gyda'r dull cyllidol diffygiol a niweidiol hwnnw. Dyma ddau ystadegyn gofidus i chi wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf: dangosodd yr ystadegau diwethaf sydd ar gael ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf, sef ar gyfer 2021-22, fod 240 o bobl yng Nghymru wedi marw oherwydd eu bod yn byw mewn cartref tlawd. Mae adroddiad diweddaraf Age Cymru, a gyhoeddwyd cyn cyhoeddi'r toriad hwn i daliad tanwydd y gaeaf, yn dangos mai dim ond 7 y cant—7 y cant—o'r rhai a arolygwyd sy'n derbyn credyd pensiwn ar hyn o bryd, tra bo bron i hanner yn dweud eu bod yn gweld costau byw yn her go iawn. Mae pobl hŷn, fel y gwyddom, yn fwy agored i niwed oerfel, yn fwy tebygol o fod â chyflyrau ac anableddau sy'n golygu bod angen iddynt ddefnyddio mwy o ynni i gadw'n gynnes, ac maent yn byw mewn tai llai effeithlon o ran defnydd o danwydd yng Nghymru, ac yn talu rhai o'r cyfraddau uchaf am eu hynni. Fe gysylltodd un o'm hetholwyr o Gwm Nedd â mi. Mae gan ei gŵr gyflwr difrifol ar y galon, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gadw'r gwres ymlaen trwy'r dydd. Disgrifiodd imi pa mor bryderus yw hi am y toriad hwn. Mae hi'n gyn-nyrs, sydd wedi gweithio ar hyd ei hoes, a dyma sut rydym yn talu'n ôl iddi am y gwasanaeth hwnnw. Nid yw'n gymwys i gael credyd pensiwn. Mae hi'n hawlio popeth y gall ei hawlio; ac mae'n dal i fynd i fethu cadw'r tŷ mor gynnes ag y mae hi eisiau. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â sut y bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdopi â'r galw cynyddol anochel?

14:40

Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, fel y nodais eisoes—£30 miliwn y flwyddyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd i berchnogion cartrefi ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat. Oherwydd dyma lle mae cymhwysedd, eto—. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod yna lawer o bobl nad ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn, a dyna lle mae angen inni estyn allan at y bobl hynny. Ond mae'r cartrefi cymwys hyn, i gael mynediad at y cyllid Cartrefi Clyd, yn gallu cael mesur pwrpasol o becynnau i inswleiddio, datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at ostyngiad, oherwydd mae hyn yn ymwneud â lleihau biliau ynni, a symud pobl allan o dlodi tanwydd.

Yn ogystal—ac rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi sôn am hyn ddoe—rhywbeth nad yw'n digwydd yn Lloegr, rydym yn darparu cyllid i'r Sefydliad Banc Tanwydd, ac mae hwnnw'n gynllun taleb tanwydd a gwres i'r rhai sydd mewn argyfwng tanwydd, i bobl, nid yn unig pobl sydd ar fesuryddion rhagdalu, ond pobl nad ydynt ar y grid. Felly, mae gennym gyfrifoldeb—ac rwy'n gobeithio y caiff ei rannu ar draws y Siambr hon—i hyrwyddo mynediad at y budd-daliadau eraill hyn. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol—y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd—yn fuan iawn, ac rwy'n siŵr y bydd y cadeirydd, Mark Isherwood, yn falch o hynny.

Ond mae'n rhaid inni edrych eto ar yr holl fudd-daliadau eraill. Mae'n rhaid inni estyn allan i sicrhau, yn ein siarter budd-daliadau Cymru—sef ein ffordd ni o ddatblygu darpariaeth dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o fudd-daliadau y mae gennym rywfaint o reolaeth arnynt—y gallwn gynyddu incwm cartrefi gymaint â phosibl.

Rwy'n falch eich bod wedi sôn am y rhaglen Cartrefi Clyd, gan fod llawer o'r miloedd o bobl ledled Cymru sy'n darparu gofal hanfodol a di-dâl i anwyliaid, gan arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol, yn mynd i fod ymhlith y rhai sy'n cael eu taro galetaf gan y penderfyniad hwn gan y Blaid Lafur i dorri taliad tanwydd y gaeaf. Pobl 65 oed a hŷn yw'r gyfran fwyaf o ofalwyr di-dâl. Mae adroddiad gan Gofalwyr Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod y dyddiau diwethaf, yn dangos bod 100,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl yn byw mewn tlodi, ac mae bron i un o bob 10 gofalwr di-dâl yn byw mewn tlodi dwfn, ac mae cyfradd tlodi dwfn ymhlith gofalwyr di-dâl 50 y cant yn uwch nag ymhlith gweddill y boblogaeth. Mae gofalwyr, wrth gwrs, yn wynebu costau cynyddol, fel biliau ynni uwch, sy'n gwaethygu eu trafferthion ariannol ymhellach, gyda llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion sylfaenol, fel gwres a bwyd.

O ystyried y toriad i'r rhaglen tanwydd gaeaf, a chanfyddiadau llwm yr adroddiad hwn gan Gofalwyr Cymru, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud lwfans gofalwyr yn fudd-dal sy'n cymhwyso ar gyfer y gwelliannau i effeithlonrwydd y cartref a ddarperir gan gynlluniau effeithlonrwydd ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac a wnaiff y Llywodraeth sicrhau nad yw budd-daliadau sy'n gysylltiedig â gofalwyr yn cael eu cyfrif fel incwm wrth asesu cymhwysedd ar gyfer rhaglen Nyth Cartrefi Clyd?

Wel, diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd ar y cyfrifoldeb trawslywodraethol sydd gennym. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio'n agos iawn arno gyda fy holl gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae gofalwyr, yn amlwg, yn hanfodol i hyn, ac rwy'n cydnabod yr adroddiad pwysig iawn gan Gofalwyr Cymru.

A gaf i ddweud un pwynt arall a ddaeth o'r llythyr gan Liz Kendall, sydd, yn fy marn i, yn galonogol i ni yma yng Nghymru? Mae'n dweud, 'Yn y tymor hwy, yr unig ffordd o warantu cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar gymorth yw gwneud yr holl broses'—o hawlio credyd pensiwn yn benodol, ond budd-daliadau credyd eraill—'yn fwy awtomatig.' Felly, mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddatblygu'r gwaith o weinyddu budd-daliadau tai a chredyd pensiwn yn broses fwy awtomatig. Ond hefyd, o safbwynt Llywodraeth y DU, mae gostyngiad £150 Cartrefi Cynnes ar gael, ond nid i'r rhai sydd ar gredyd pensiwn yn unig, mae yno i helpu'r rheini sy'n cael budd-dal tai gyda chostau ynni uchel hefyd. Ond byddwn yn edrych ar argymhellion adroddiad Gofalwyr Cymru.   

14:45

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn wedi codi pryderon eang wrth gwrs. Mae'r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru, Gofalwyr Cymru a National Energy Action ymhlith y rhai sydd wedi rhybuddio am ei effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach gartref, ac y byddai'n gadael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn. Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn-argyfwng ac fel y gwyddoch, mae disgwyl iddynt godi 10 y cant eto ar 1 Hydref, ar yr adeg y mae angen i bobl droi eu gwres ymlaen neu i fyny. Mae National Energy Action Cymru hefyd wedi rhybuddio bod aelwydydd bregus ledled Cymru yn cael eu llethu gan dros £3.3 biliwn o ddyled ynni, sydd wedi cronni dros y ddwy flynedd ddiwethaf i raddau helaeth. Mae hyn ddwywaith yr hyn ydoedd cyn yr argyfwng ynni ac wedi'r gaeaf hwn, mae dadansoddwyr yn awgrymu na fydd prisiau ynni yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn y degawd hwn. Mae de a gogledd Cymru yn parhau i fod ymhlith y tri rhanbarth drytaf ledled y DU. Felly, pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ynghylch cyflwyno tariff ynni cymdeithasol gorfodol, ynghyd â chymorth wedi'i dargedu i leihau lefelau dyled ynni er mwyn lliniaru tlodi tanwydd yng Nghymru?

Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni symud ymlaen a mynd i'r afael â'r lefel annerbyniol honno o ddyled. Fel y gwyddoch, ac ar draws y Siambr hon, rwyf wedi galw am weithredu tariff cymdeithasol. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y codiad yn y cap ar brisiau a gyhoeddodd Ofgem yn yr haf. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem i drafod hynny. Rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â thaliadau sefydlog, y gwyddoch eu bod bellach yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Felly, ie, diolch eto am roi hynny ar yr agenda fel rhan o'r ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n meddwl, hefyd, rwyf wedi ymgysylltu—. Rwyf am ddweud fy mod wedi ymgysylltu ag Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net ynglŷn â hyn. A hoffwn rannu'r hyn y mae'n ei ddweud yn ei lythyr, 'Mae lleihau tlodi tanwydd yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth ynni glân. Drwy ein cynllun Cartrefi Cynnes, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £6.6 biliwn ychwanegol mewn cyllid effeithlonrwydd ynni dros y tymor seneddol hwn i uwchraddio 5 miliwn o gartrefi a thorri biliau i deuluoedd.' Wel, byddaf yn cyfarfod ag ef a'i dîm i weld sut y gallwn elwa o hynny yng Nghymru.

Gorlenwi Carchardai

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae gorlenwi carchardai yn ei chael ar ei gallu i gefnogi carcharorion? OQ61502

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn croesawu'r camau pendant y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau capasiti mewn carchardai. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl yn y ddalfa a chynorthwyo gyda'r gwaith o'u hadsefydlu.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae CEF y Parc, yn fy rhanbarth i, yn un o'r carchardai mwyaf gorlawn yn y wlad. Bu cyfres o farwolaethau yn y carchar yn ystod y misoedd diwethaf, marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi. Mae'r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 12 marwolaeth wedi bod yn y Parc ers dechrau'r flwyddyn, a llawer ohonynt hunanachosedig. Gyda'r carchar yn gweithredu ar 160 y cant o'r capasiti, mae iechyd meddwl a lles y carcharorion yn dioddef. Fodd bynnag, ni ellir beio gorlenwi ar ei ben ei hun. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe wnaeth yr ombwdsmon carchardai ryddhau'r adroddiad i farwolaeth Aaron Nunes. Bu farw Mr Nunes o grawniad deintyddol. Canfu'r ombwdsmon fod y staff gofal iechyd dibrofiad

'wedi methu nodi difrifoldeb cyflwr Mr Nunes ac wedi camgymryd mai ef oedd i'w feio am ei ymweliadau mynych â'r ysbyty',

gyda staff y carchar

'yn cael eu harwain gan staff gofal iechyd'.

Disgrifiwyd bod ei ofal deintyddol yn

'anniogel ac yn destun cyfres o fethiannau'.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a'ch cyfeillion yn Llywodraeth y DU ynghylch y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella gofal iechyd yn CEF y Parc i sicrhau na chawn ragor o farwolaethau diangen yn y carchar?

14:50

Diolch, Altaf Hussain. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi codi hyn ar sawl achlysur ac wedi bod yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol fel rhan o'ch rôl. Mae'r marwolaethau yn y ddalfa yn y Parc yn gynharach eleni yn peri pryder mawr, a rhaid inni barhau i feddwl am y staff ac aelodau teuluol yr effeithiwyd arnynt gan y marwolaethau. Hoffwn ddweud fy mod wedi cyfarfod ag Ian Barrow, pennaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru, ar 14 Awst. Rhoddodd Ian sicrwydd ar y cynnydd a wnaed yn y Parc ers y marwolaethau yn y ddalfa yn gynharach eleni, a phenodi cyfarwyddwr newydd. Ac rwy'n gobeithio y gallwch ymweld â'r cyfarwyddwr newydd a'i gyfarfod, fel yr Aelodau lleol a rhanbarthol eraill, rwy'n siŵr. Fy nealltwriaeth i o'r cyfarfod hwnnw yw bod y Parc wedi gwneud cynnydd sylweddol ers y gwanwyn. Mae bellach yn llawer mwy sefydlog. Hefyd, rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed fy mod wedi cyfarfod â'r Arglwydd James Timpson y bore yma, sef y Gweinidog carchardai newydd a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth prawf ac adsefydlu, ac rydym yn ymweld gyda'n gilydd—mae'n ymweliad ar y cyd—â CEF y Parc ar 30 Medi.

Diolch am godi'r mater hwn, Altaf Hussain. Un o'r rhesymau pam ein bod am weld cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli yw er mwyn atal mwy o bobl rhag mynd i garchardai, pan fo'n rhaid bod dewisiadau eraill os ydynt yn torri'r gyfraith. Rwyf am ofyn dau gwestiwn i chi am eich sgyrsiau gyda phennaeth gwasanaeth carchardai a phrawf Cymru. Un, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â sut y gallent gynyddu darpariaeth therapyddion iaith a lleferydd mewn timau troseddau ieuenctid yn dilyn arferion gorau Castell-nedd Port Talbot, oherwydd mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn deall beth sy'n digwydd? Ac os na allant ei ddeall, am fod ganddynt anabledd dysgu neu anhawster cyfathrebu penodol, mae gwir angen inni gwestiynu a yw'n addas eu gosod o fewn y gwasanaeth troseddau ieuenctid. Yn yr un modd, mae angen iddynt allu deall yr hyn y mae'r llysoedd wedi dweud na ddylent ei wneud. Felly, dyna un mater, ac mae gwir angen y gweithwyr proffesiynol hynny ledled Cymru. Yn ail, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â rhyddhau llawer o garcharorion o'r carchar oherwydd y gorlenwi difrifol? Pa ymdrechion a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan weithio gydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob carcharor lety i fynd iddo oherwydd, fel arall, byddant yn dychwelyd i'r carchar yn y pen draw?

Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw, Jenny Rathbone. Mewn gwirionedd, yr union eiriau a ddywedoch chi, fod angen inni atal mwy o bobl rhag mynd i'r carchar, oedd geiriau agoriadol James Timpson heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau eraill ar draws y Siambr hon yn cyfarfod ag ef. Roedd yn gyfarfod ysbrydoledig a gobeithiol iawn o ran ei genhadaeth a'n cenhadaeth gyffredin i atal mwy o bobl rhag mynd i'r carchar. Ond mae eich pwynt am y gwaith a wnaethoch, yn enwedig ar leferydd, iaith a chyfathrebu mewn timau troseddau ieuenctid, yn bwysig iawn. Diolch i'ch pwyllgor am y gwaith a wnaethoch, oherwydd mae angen y cymorth hwnnw ar blant i ffynnu a byw bywydau boddhaus heb droseddu. Rwy'n gobeithio bod fy llythyr atoch ar 30 Awst wedi eich helpu i weld y cynnydd sydd wedi'i wneud, ac rydym yn disgwyl gweld gweithredu o ganlyniad i'r uwchgynhadledd a gynhaliwyd. Hefyd, codais eich ail bwynt gyda'r Gweinidog carchardai heddiw, ynglŷn â sicrhau bod llety i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn rhan o'r cynllun rhyddhau cynnar. Y degfed o Fedi, yr wythnos diwethaf, oedd y cam cyntaf, a bydd yr ail gam ym mis Hydref. Cefais sicrwydd ei fod wedi mynd yn dda yng Nghymru. Cafwyd ymdrech drawslywodraethol dda, gyda swyddogion tai Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol. Dyna gyfrifoldeb a arweinir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Cyllid ar gyfer y Sector Celfyddydau a Diwylliant

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector celfyddydau a diwylliant? OQ61510

Diolch, Alun. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector celfyddydau a diwylliant yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael digon o gyllid.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gweld dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf y problemau gyda'r opera genedlaethol a'r coleg brenhinol, sydd ill dau wedi cael eu gorfodi gan doriadau cyllid i wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith sylweddol ar argaeledd celfyddydau a diwylliant i bobl ledled Cymru. Ond rydym hefyd wedi gweld toriadau sylweddol ers 2009 yng Nghymru sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a welwyd yn Lloegr neu'r Alban. Mae cyllideb y cyngor celfyddydau, er enghraifft, wedi ei thorri 25 y cant mewn termau real yn y cyfnod hwnnw—toriadau mwy nag a welwyd yn Lloegr a'r Alban. O ran cyllid llywodraeth leol i'r sector celfyddydau a diwylliant, rydym wedi gweld gostyngiad o dros 4 y cant mewn gwariant i ychydig dros 2 y cant o'r gwariant. Felly, rydym wedi gweld toriadau gan Lywodraeth Cymru a chan lywodraeth leol sy'n fwy na thoriadau i sectorau eraill yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn wedi creu'r argyfwng yn y sector celfyddydau a diwylliant, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd yn gallu sicrhau ein bod yn gwrthdroi'r toriadau hyn a'n bod yn sicrhau bod y sector celfyddydau a diwylliant yn cael ei ariannu'n briodol ac ar yr un sail â rhannau eraill o'n cyfrifoldebau.

14:55

Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae sectorau celfyddydau a diwylliant Cymru yn gwbl hanfodol—maent yn rhan annatod o les ein cymdeithas a'n cenedl. Fel y gwyddoch, y mecanwaith ar gyfer cyllido yw cyllid uniongyrchol i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliant, cyngor y celfyddydau a chyrff hyd braich yr ydym yn eu hariannu'n benodol, ond y cyfrifoldeb sydd gennym o ran cyllideb y celfyddydau a diwylliant. Rwy'n credu y byddwch yn falch fy mod, ar 5 Medi, wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol mewn refeniw y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny'n ychwanegol at y pecyn cyllid cyfalaf ychwanegol gwerth £3.7 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru, sy'n hanfodol i'r llyfrgell genedlaethol ac i'n hamgueddfa genedlaethol. Ond rwy'n hyderus nawr y bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau adeiladol iawn a gefais drwy gydol yr haf i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr haf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lu o fesurau arbed arian posibl, gan gynnwys diddymu cyllid i Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, a Llancaiach Fawr. Mae'r cam hwn wedi sbarduno cynnwrf a phrotestio mawr, yn ogystal â deiseb yn galw am ailfeddwl, sydd wedi cael mwy na 10,000 o lofnodion hyd yma. Mae Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, yn ased cymunedol hanfodol ac wedi dod yn enwog am fod yn lleoliad celfyddydol ac adloniant ffyniannus ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yno. Yn wir, yn y gorffennol, mae sefydliad y glowyr wedi cynnal digwyddiadau gan berfformwyr fel Stereophonics, Black Sabbath a Coldplay, yn ogystal â'r man lle cynhaliodd y Manic Street Preachers un o'u cyngherddau cyntaf erioed. Ac mae Llancaiach Fawr yn blasty Tuduraidd sy'n atyniad hynod boblogaidd i dwristiaid, gan ddenu heidiau o ymwelwyr bob blwyddyn. Nawr, mae'r ddau safle'n rhan annatod o hanes y gymuned, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni ellir gadael i'r cyngor wneud hyn. Rwyf wedi mynegi fy mhryderon yn uniongyrchol wrth arweinydd y cyngor, ac rwy'n mawr obeithio y byddant yn myfyrio ar y brotest gyhoeddus ac yn dileu'r cynlluniau hyn. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, rhag ofn y byddant yn penderfynu bwrw ymlaen beth bynnag, a oes unrhyw le i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac achub y safleoedd pwysig hyn? Diolch.

Mae'r sefyllfa sydd wedi codi gyda Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, wedi cael ei godi gyda mi, ac rwyf wedi ei thrafod gyda llawer o Aelodau dros yr wythnosau diwethaf—Delyth Jewell, Hefin David, Rhianon Passmore, pob Aelod yn y rhanbarth ac yn eu hetholaethau eu hunain. Felly, mae'n bwysig ei fod ar yr agenda heddiw o ran cwestiynau. Yn amlwg, mater i gyngor sir Caerffili ydyw, fel y gwyddoch, ac maent newydd orffen eu hymgynghoriad. Yn amlwg, mae'r awdurdod lleol wedi cyflwyno eu sylwadau hefyd. Mae'n sefydliad a ariennir trwy sawl ffynhonnell, un o sefydliadau a ariennir trwy sawl ffynhonnell Cyngor Celfyddydau Cymru. Maent hwy hefyd, wrth gwrs—Cyngor Celfyddydau Cymru—yn ymgysylltu llawer â'r tîm yn Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, i gynnig cymorth.

Diogelu'r Celfyddydau a Diwylliant yn Islwyn

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r celfyddydau a diwylliant yn Islwyn? OQ61525

Diolch, Rhianon Passmore. Caiff holl gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, o dan egwyddor cyllido hyd braich. Hyd yma, yn 2024-25, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dyrannu £148,568 o gyllid i unigolion a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yn Islwyn.

Diolch. Mae Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, yn lleoliad cymunedol poblogaidd iawn yn Islwyn. Mae treftadaeth mwyngloddio a diwydiannol balch Islwyn yn cael ei chynrychioli gan Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, sy'n stori lwyddiant gelfyddydol, un o leoliadau celfyddydol bach mwyaf bywiog Cymru, yn ôl llawer o sefydliadau celfyddydol, gyda chynnydd o 33 y cant yng ngwerthiant y swyddfa docynnau eleni. Gellir gweld treftadaeth cyfleuster o'r fath hefyd mewn sefydliadau tebyg sydd wedi'u hachub i'r genedl—fy swyddfa yng nghanolfan adferedig Memo Trecelyn; yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale—a'u cadw i'r genedl ddathlu pwysigrwydd 'stiwts', fel y caent eu galw ledled de Cymru. Ond mae'r 'stiwt' hwn hefyd yn ganolog i hygyrchedd y celfyddydau i bawb nid yn unig yng Nghoed-duon, ond ymhell y tu hwnt i hynny ar draws y Cymoedd a chymunedau de Cymru.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gallwch ddeall y pryder yn Islwyn pan ddechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymgynghori ar roi'r gorau i ariannu Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, ddiwedd mis Rhagfyr. Rydym i gyd yn gwybod bod 14 mlynedd o doriadau cyni Torïaidd yng Nghymru wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau ar ben eu tennyn ac mae cyllid ein hawdurdodau lleol wedi'i ymestyn yn fawr, ac felly'n peryglu asedau diwylliannol Cymru. Ond mae yna ganlyniad cenedlaethol a lleol i golli lleoliadau celfyddydol o bwys arwyddocaol nid yn unig yn y Cymoedd, ond ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rhagweithiol y gwnaiff adran ddiwylliannol Llywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer archwilio cyfleusterau diwylliannol mor arwyddocaol a chychwyn sgyrsiau gydag awdurdodau lleol ledled Cymru am yr asedau diwylliannol hynny a diogelu diwylliant Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

15:00

Wel, diolch yn fawr, Rhianon Passmore, am godi hyn y tu hwnt i’r pryderon penodol sydd gennych, a fynegir ar draws y Siambr hon, ynglŷn â Sefydliad y Glowyr Coed-duon, i’r cwestiwn mwy strategol ynglŷn â dyfodol ein celfyddydau a’n diwylliant yng Nghymru. Oherwydd mae’n rhaid inni sicrhau ei fod nid yn unig yn gynaliadwy, ond yn wydn er budd cenedlaethau’r dyfodol a chenedlaethau’r presennol.

Felly, hoffwn dynnu sylw’r Aelodau unwaith eto at ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant. Cafwyd ymgynghoriad llawn ar y blaenoriaethau. Daeth i ben ar 4 Medi, ac yn bwysig, roedd yn cynnwys awdurdodau lleol ac fe wnaethant ymateb iddo hefyd. Mae ganddo ffocws clir iawn ar fynediad at ddiwylliant, ei rôl mewn creu lleoedd, llesiant cymunedol a gofalu am asedau hanesyddol—dyna’r egwyddorion allweddol. Felly, rwy'n gobeithio—a gwn fod yr awdurdodau lleol wedi ymateb—y byddant hefyd yn gweld hyn yng nghyd-destun eu hasedau diwylliannol eu hunain, fel Sefydliad y Glowyr Coed-duon, ac yn blaenoriaethu cymorth yn unol â hynny.

Wrth gwrs, fe wyddom, mae'n rhaid imi ddweud, fod awdurdodau lleol o dan bwysau cyllidebol anhygoel o anodd, a phe bai Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yma gyda mi nawr, byddai'n cytuno, rwy'n siŵr, ac yn dweud, 'Maent o dan bwysau aruthrol ac mae'n ymwneud â blaenoriaethau.' Mae'n bwysig fod yr ymgynghoriad hwnnw wedi'i gynnal, ac mae'n helpu i fynegi beth yw'r blaenoriaethau lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg heddiw fod Aelodau ar draws y rhanbarth wedi codi'r un mater ac rwy'n falch iawn fod pob un ohonom wedi defnyddio ein cwestiynau i dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn Sefydliad y Glowyr Coed-duon; mae’n sefydliad pwysig yn y Cymoedd. Bob blwyddyn, mae Sefydliad y Glowyr Coed-duon, fel y dywedwyd, yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a dosbarthiadau, cyngherddau, dramâu, operâu, cerddoriaeth—caiff popeth y gallwch feddwl amdano ei gynnal yno—yn ogystal â’r Manics mewn dyddiau a fu, wrth gwrs, fel y nododd fy nghyd-Aelod.

Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyngor sir Llafur, sy'n dymuno cau’r sefydliad er mwyn arbed arian? Mae'n rhaid achub yr ased cymunedol pwysig hwn. Mae deiseb wedi'i llunio ac mae dros 6,000 o lofnodion arni eisoes. A ydych chi'n cytuno â mi nad dyma’r lle, fel y nododd Alun Davies yn gynharach, yn gywir ddigon, i wneud toriadau? Mae'r rhain yn darparu gwasanaeth hanfodol ac achubiaeth i lawer.

Wel, mae safbwyntiau wedi’u mynegi ar draws y Siambr bellach ar y sefyllfa gyda Sefydliad y Glowyr Coed-duon. Credaf mai’r unig beth yr hoffwn ei ychwanegu, Lywydd dros dro, yw bod swyddogion yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am ddatblygiadau.

Fel y clywsom gan ein cyd-Aelodau, mae’r celfyddydau a diwylliant yn wynebu perygl gwirioneddol yn Islwyn, ac fe’i galwyd yn ‘fandaliaeth ddiwylliannol’ gan rai, yr hyn sy'n cael ei gynnig gan yr awdurdod lleol Llafur. Mae'r cabinet Llafur wedi mynd ati gyda'r ymarfer torri costau hwn mewn ffordd mor drwsgl, mae'n anghredadwy. Mae'r cynrychiolwyr undebau llafur hynod brofiadol y siaradais â hwy yn ei chael hi'n anodd credu'r ffordd y cynhaliwyd yr ymarfer. Mae'n amlwg fod y cyhoedd yn anghytuno gyda chynlluniau'r cyngor. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn gorymdaith o gannoedd lawer o bobl yng nghanol tref Coed-duon ychydig wythnosau yn ôl, a llwyddais i annerch yr ymgyrchwyr wedyn. Yn y dwylo iawn, nid yw Sefydliad y Glowyr Coed-duon a Llancaiach Fawr yn feichiau; maent yn asedau.

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol ar sut i gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus priodol a thrylwyr? A pha ganllawiau, arbenigedd a chymorth y gallwch chi eu rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw’r sefydliadau diwylliannol hyn yn cael eu colli am byth?

15:05

Diolch yn fawr, Peredur. Unwaith eto, safbwyntiau ychwanegol o bob rhan o’r Siambr ar y cofnod heddiw o ran y pryderon a godwyd. Credaf mai mater i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn benodol, fel ein corff hyd braich, yw ymgysylltu ag awdurdodau lleol. Rwyf eisoes wedi sôn am ein blaenoriaethau ar gyfer y strategaeth ddiwylliant ddrafft, sy’n canolbwyntio ar y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae. Rwy'n credu mai’r unig bwynt terfynol yr hoffwn ei wneud yw bod Cyngor Celfyddydau Cymru ei hun, sydd wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn gweithgarwch celfyddydol yng Nghaerffili, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed-duon, wedi darparu ymateb manwl i ymgynghoriad cyngor Caerffili.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr a fydd yn colli eu taliadau tanwydd gaeaf? OQ61505

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn sicrhau bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob ceiniog y mae ganddynt hawl iddi. Mae ein llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' gan Advicelink Cymru yn helpu pensiynwyr i ganfod a chael mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys credyd pensiwn.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu, ni chredaf y gall unrhyw un yn y Siambr hon gwestiynu eich ymrwymiad i wella cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r weithred ddideimlad gan Lywodraeth Lafur y DU i ddiddymu cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar gyfer 500,000 amcangyfrifedig o bensiynwyr yn gywilyddus. Rydych wedi dweud eich hun y bydd hynny'n gwthio pobl i mewn i dlodi tanwydd, a dywedodd eich plaid eich hun y gallai 4,000 o bensiynwyr farw oherwydd y penderfyniad hwn.

Gallwch feio Llywodraeth flaenorol y DU, ond dewis gwleidyddol yw hwn a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU. Y polisi hwn yw’r ymosodiad mwyaf ar ein pensiynwyr mewn cenhedlaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff Llywodraeth Cymru geisio rhoi ei fersiwn ei hun o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar waith, i sicrhau bod y bobl a helpodd i adeiladu'r cymunedau y mae pob un ohonom yn byw ynddynt yn cael eu cefnogi dros y gaeaf hwn?

Wel, diolch, James Evans. Mae'n ddrwg gennyf, ond ni allwn roi gwleidyddiaeth o'r neilltu o ran y rheswm pam ein bod yn y sefyllfa hon a pham fod y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn y sefyllfa hon—y sefyllfa anffodus hon?

Na, ni allwn roi gwleidyddiaeth o’r neilltu ar ôl 14 mlynedd o gyni. Rwy'n cofio'r gyllideb gyni honno yn 2010—fi oedd y Gweinidog cyllid mewn gwirionedd—a’r sioc y byddai'n ei hachosi. Torri budd-daliadau, dyna oedd un o’r prif ffyrdd y byddent yn adennill yr arian yr oeddent am fynd i’r afael ag ef drwy eu mesurau cyni.

Felly, ni allwch roi gwleidyddiaeth o’r neilltu, heblaw dweud unwaith eto fy mod yn ymrwymo heddiw i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu. Rydym wedi cael rhai trafodaethau da eisoes am ffyrdd y gallwn ddarparu cymorth brys i aelwydydd, yn enwedig ein pensiynwyr. Fe gyfeiriaf eto at siarter budd-daliadau Cymru. Fe wnaethom ei lansio ym mis Ionawr. Mae'n dweud wrthym sut y gallwn ddarparu budd-daliadau, wedi'u llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, fel rhan allweddol o'n gwaith i helpu pobl. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i hyn, a chredaf ein bod yn gweithio tuag at system fudd-daliadau gydlynol a symlach yng Nghymru o ganlyniad i lansio’r siarter honno.

Diolch, Ddirprwy Lywydd—. Ni allaf gofio. Rwy'n credu mai 'Llywydd Dros Dro' yw'r term cywir, onid e? [Chwerthin.]

Taliadau Tanwydd Gaeaf

7. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch taliadau tanwydd gaeaf? OQ61521

Diolch yn fawr, Darren Millar. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Derbyn credyd pensiwn yw'r allwedd i ddatgloi taliadau tanwydd y gaeaf, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu’r nifer sy’n manteisio arno.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni wnaeth yr ymateb hwnnw fawr o argraff arnaf, nac ar bobl fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd ychwaith. Mae 30,000 o bensiynwyr yng Nghonwy a sir Ddinbych ar fin colli taliad tanwydd y gaeaf y gaeaf hwn. Nid dyma’r newid a addawodd y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU. Mae’n doriad creulon a fydd yn effeithio ar lawer o bobl agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth. Gofynnwyd i chi eisoes pam nad yw Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy i sefydlu ei thaliad tanwydd y gaeaf ei hun; mae'r gallu gennych i wneud hynny. Ymddengys bod gennych ddigon o arian ar gyfer pethau eraill nad yw pobl yn eu hystyried yn flaenoriaethau, felly pam na allwch chi fuddsoddi arian yn hyn er mwyn diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed?

Ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd pam nad ydych yn codi llais dros Gymru? Rydych yn dweud eich bod wedi ysgrifennu at Weinidogion. Pam nad ydych chi wedi bod ar y ffôn, yn mynnu cyfarfod â’r Gweinidogion hyn, er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i ddiogelu'r bobl agored i niwed hyn yn ein hetholaethau y gaeaf hwn? Oherwydd, a dweud y gwir, rydych chi'n dechrau edrych yn fwy a mwy tebyg i Scrooge ar y foment, oherwydd y ffordd yr ydych chi'n ymdrin â'r sefyllfa hon.

15:10

Wel, mae gennym ddadl gwrthblaid cyn bo hir—ac yn briodol iawn—ar y mater hwn. Mae'n bwysig eich bod chi hefyd, gobeithio, yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau ein bod yn annog pobl i hawlio credyd pensiwn. A gaf i fod yn adeiladol iawn? Nid wyf am drafod y wleidyddiaeth am eiliad. Mae gan bob un ohonom gyfle yn ein hetholaethau, yn ein cymorthfeydd, i annog pobl i fanteisio ar gredyd pensiwn, gan y bydd yn datgloi mynediad at lwfans tanwydd y gaeaf. Ac oherwydd bod ymgyrch wirioneddol wedi'i chynnal gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod pobl yn manteisio ar hyn, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig—os caf ddweud i gloi, gobeithio, Lywydd dros dro—yw bod ystadegau'n dangos, ar 9 Medi, y bu cynnydd o 115 y cant yn yr hawliadau a ddaeth i law am gredyd pensiwn yn ystod y pum wythnos diwethaf, o gymharu â'r pum wythnos cyn 29 Gorffennaf. Felly, mae hynny'n gweithio, ond mae'n rhaid inni gyfleu'r neges honno y prynhawn yma am y nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, a helpu pobl i gael mynediad ato.

Ehangu Cyfranogiad mewn Chwaraeon

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon? OQ61517

Diolch am y cwestiwn. Drwy ein cefnogaeth barhaus i Chwaraeon Cymru, sydd, yn ei dro, yn ariannu cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau fel Chwaraeon Anabledd Cymru, rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi a datblygu cyfranogiad mewn chwaraeon, o lawr gwlad i lefel elît.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n bwysig iawn fod gennym boblogaeth fwy corfforol egnïol yng Nghymru ar gyfer iechyd a lles ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. A gwyddom fod ein cymunedau mwy difreintiedig yn llai egnïol na phobl eraill yma yng Nghymru, ac mae’r effaith a gaiff hynny ar iechyd a llesiant yn amlwg iawn. Mewn gwirionedd, cyfeirir yn aml at ymarfer corff bellach fel moddion gwyrthiol gan y rheini sy’n ceisio bod yn fwy ataliol yn ein sector iechyd yng Nghymru. Gwyddom gan Chwaraeon Cymru a’u traciwr gweithgareddau fod ein cymunedau mwy difreintiedig yn llawer llai egnïol. Felly, mae cryn dipyn o waith i’w wneud, ac mae sylfaen dystiolaeth yno i atgyfnerthu’r angen i annog ein cymunedau mwy difreintiedig i fod yn fwy corfforol egnïol ac i fwynhau ymarfer corff a chwaraeon, Ysgrifennydd y Cabinet.

Felly, gyda’r math hwnnw o gefndir, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i weithio gyda phartneriaid allweddol, cenedlaethol a lleol, i sicrhau bod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth cynyddol hwn, sy’n cael cymaint o effaith ar ein cymunedau mwy difreintiedig?

A gaf i ddiolch i John Griffiths am godi hyn ac am ddangos hyn drwy gydol ei dymor yn gwasanaethu Dwyrain Casnewydd, yn wir, i hyrwyddo cyfleoedd a manteision chwaraeon, a gwaith allgymorth mewn chwaraeon, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a chydnabod bod Cronfa Cymru Actif yn cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yn uniongyrchol? Mae’n cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 i glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol, a gwn fod rhywfaint ohono wedi cyrraedd rhai cymunedau yn eich etholaeth. Mae'n wirioneddol dda gweld hefyd—. Ymwelais â Chlwb Rygbi’r Dreigiau dros yr haf gyda John Griffiths i ddysgu am y gwaith allgymorth cymunedol. A phan oeddem yno, roedd yn ddiwrnod teuluoedd Barnardo's yn adran allgymorth y Dreigiau, ac roedd yn dod â phobl ifanc i mewn. Fe wnaethom sôn am y cysylltiadau â'n 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'r ffyrdd y mae merched yn cymryd mwy o ran. Gwnaeth argraff fawr arnaf. A hefyd, deallaf eich bod yn trefnu cynhadledd ar yr union bwnc hwn yn nes ymlaen y mis hwn, i fod yn Gasnewydd egnïol.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Ac mae'r cwestiwn cyntaf yn cael ei ateb gan Hefin David ac yn cael ei ofyn gan Laura Anne Jones.

Na. Ddim yma? Iawn.

Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OQ61509].

15:15

Fe symudwn ni ymlaen, felly, at gwestiwn 2, sydd i gael ei ateb gan y Llywydd. 

Etholiad Nesaf y Senedd

2. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i hysbysu pobl am y newidiadau i'r system bleidleisio a ffiniau etholaethau ar gyfer etholiad nesaf y Senedd? OQ61506

Rydym wedi sefydlu grŵp prosiect cyfathrebu ar ddiwygio'r Senedd. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr cyfathrebu cyrff cyhoeddus sydd â rôl wrth gyfleu'r newidiadau i'r Senedd ac etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a'r comisiwn ffiniau. Disgwylir i gyrff perthnasol eraill ymuno maes o law, hefyd. Pwrpas y grŵp yw sicrhau cydlyniad o weithgarwch ymgysylltu rhwng sefydliadau partner. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithiol gan ddarparu gwerth am arian ac osgoi dyblygu.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr am eich ateb. Mae llawer o etholwyr y siaradaf â hwy ers i gynigion y ffiniau gael eu cyhoeddi yn ansicr iawn ynghylch beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer etholiad y Senedd. Mae'n dda iawn fod y grŵp wedi'i sefydlu, ond credaf y byddai'n llawer mwy effeithiol pe bai'r Comisiwn yn mynd allan i siarad ag ysgolion a'r bobl iau sy'n cael pleidleisio nawr hefyd, gan fod angen ichi ymgysylltu â phobl 16 oed, a hefyd gyda Sefydliadau'r Merched a gwahanol grwpiau i roi gwybod iddynt sut y mae'r system bleidleisio yn newid, a sut y mae'r ffiniau'n mynd i newid ac effeithio arnynt wrth symud ymlaen gyda'u cynrychiolwyr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith ehangach a wneir gennych o fewn y cymunedau eu hunain. A sut y gall y Comisiwn gefnogi Aelodau fel fi ac eraill yn y Siambr i roi gwybod i'n hetholwyr am yr holl newidiadau sy'n digwydd yma i'n Senedd?

Rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod llawer o’r gwaith allgymorth y mae Comisiwn y Senedd yn ei wneud yn ymwneud â phobl ifanc ac ysgolion a phleidleiswyr 16 oed a fydd yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2026. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn defnyddio’r hyn a wnawn ar hyn o bryd, defnyddio’r cysylltiadau sydd gennym, i sicrhau bod dealltwriaeth ymhlith grwpiau yng Nghymru a phobl ifanc yng Nghymru o'r newidiadau sydd ar fin digwydd. Rwy’n tybio y bydd gan yr Aelodau yma yn y Siambr, y bydd llawer ohonynt yn cynnig eu henwau ar gyfer yr etholiadau yn 2026, rôl arweiniol yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gwybod mor gynnar â phosibl am y newidiadau sylweddol pwysig i’r system etholiadol yng Nghymru yn 2026. Mae angen inni ddechrau gwneud hyn yn gynnar, ond rwy’n bendant yn siŵr y bydd y gwaith yn cynyddu wrth inni nesáu at yr etholiad. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod pobl yn dod yn ymwybodol iawn o etholiadau ac unrhyw newidiadau a phrosesau pleidleisio yn agos iawn at ddiwrnod yr etholiad ei hun. Ond nid yw hynny'n ein rhwystro rhag paratoi’r ffordd a dechrau’r gwaith yn gynnar.

Mae cwestiwn 3 hefyd yn cael ei ateb gan y Llywydd, ac yn cael ei ofyn gan Rhianon Passmore.

Darlledu Trafodion y Senedd

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Senedd Cymru wedi bod yn dathlu 25 mlynedd o fodolaeth eleni. Bydd etholiad nesaf y Senedd yn 2026, fel y pleidleisiwyd o'i blaid gan y lle hwn, yn ehangu gyda 36 o Aelodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu—

Rhianon, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Af yn syth at y cwestiwn. Dyna sydd angen i ni ei wneud. Felly, yn hynny o beth—

Na, mae'n ddrwg gennyf, Rhianon—a wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn?

O, iawn, o'r gorau. Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ymddangos nad yw hwnnw gennyf.

3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r lefelau presennol o ddarlledu trafodion y Senedd yn fyw sy'n digwydd ar sianeli teledu a ariennir yn gyhoeddus? OQ61531

Gallaf, yn eich Cymraeg gorau.

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r lefelau presennol o ddarlledu yn fyw trafodion y Senedd ar sianeli teledu a ariennir yn gyhoeddus? Dyna oedd y cwestiwn, os caf i'r hawl i ateb y cwestiwn.

Diolch, Llywydd. Os gallech chi ateb y cwestiwn, diolch.

Mae gennym, fel Comisiwn, gytundeb y gall darlledwyr a ariennir yn gyhoeddus gael mynediad at ein ffrydiau Senedd.tv, sy’n darlledu trafodion y Senedd yn fyw. Byddwch yn gwybod fod BBC Parliament yn darparu darllediadau byw o gwestiynau’r Prif Weinidog ac uchafbwyntiau trafodion y Cyfarfod Llawn bob wythnos. Mae BBC Cymru hefyd yn darlledu cwestiynau'r Prif Weinidog ar nos Fawrth.

Diolch. Ddoe, darlledodd BBC Two Wales ddarllediadau byw o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog am 3.45 p.m., awr a chwarter yn ddiweddarach. Er bod Senedd.tv, yn gywir ddigon, yn ceisio cynnig man hygyrch lle gellir gweld ein trafodion, mae’n bwysig iawn i Gymru fod un o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw y byd, y BBC, a ariennir gan y trethdalwr, wedi’i ategu yng Nghymru gan S4C, ein darlledwr Cymraeg, yn gallu gweithio. Felly, mae'n bwysig fod ein trafodion yn cael sylw ar blatfformau cyfryngau allweddol, a bod dinasyddion Cymru yn gallu cael darllediadau byw o'r trafodion, lle bo modd. Mae pob sesiwn gwestiynau i Brif Weinidog y DU wedi’i darlledu’n fyw ar brif sianeli’r BBC, naill ai ar BBC One neu BBC Two, ers 1990. Pa asesiad a pha ddeialog y mae Comisiwn y Senedd yn ei chael gyda phartneriaid i sicrhau bod Senedd Cymru, sy’n hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru, yn gweld cwestiynau i Brif Weinidog Cymru yn cael eu darlledu'n fyw ar un o ddwy brif sianel y BBC? Diolch.

15:20

Diolch am eich cwestiwn atodol. Cyn imi symud ymlaen, mae angen imi dynnu sylw’r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau mewn perthynas â’r BBC.

Yn gyffredinol, rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn, wrth gwrs, fod hygyrchedd a diddordeb pobl Cymru mewn gweld eu cynrychiolwyr yn holi’r Prif Weinidog yn bwysig iawn. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae BBC Parliament yn dangos cwestiynau i'r Prif Weinidog yn fyw, a chânt eu darlledu yn nes ymlaen gan BBC Wales. Rydym yn cael trafodaeth barhaus gyda’n holl bartneriaid darlledu ynglŷn â chynnydd posibl ar gyfer ein trafodion yma yn y Senedd. Yn aml iawn, efallai nad yw ein hamserlenni yn cyd-fynd â'u hamserlenni hwy fel darlledwyr. Ond rydych yn gwneud pwynt pwysig, sef bod angen inni barhau i bwyso ar ein partneriaid darlledu i adlewyrchu pwysigrwydd y cwestiynau a ofynnir yma a’r atebion a roddir yn ddigonol, gan mai ni yw'r llais democrataidd a’r llwyfan ar gyfer mynegi safbwyntiau pobl Cymru, ac mae angen iddynt ein gweld a’n clywed. Gallant ein gweld a’n clywed yn uniongyrchol, wrth gwrs, drwy Senedd.tv, ond fel y gwyddom—ac mae ymchwil yn dangos hyn i ni—mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael unrhyw newyddion amdanom ni fel Senedd yn uniongyrchol drwy’r cyfryngau, a thrwy'r cyfryngau cyhoeddus yn arbennig. Felly, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i berswadio rhagor o’n partneriaid i ddarlledu ein gwaith yma.

Mae cwestiwn 4 yn cael ei ateb gan Joyce Watson ac yn cael ei ofyn gan Hannah Blythyn.

Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle

4. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i fynd i'r afael yn weithredol ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle? OQ61527

Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau bod y Senedd yn sefydliad cynhwysol sy’n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Mae hynny hefyd yn cynnwys aflonyddu rhywiol. Ategir hyn gan ein polisi urddas a pharch, cod ymddygiad staff a'n gweithdrefnau cwyno. Cynhaliwyd yr arolwg urddas a pharch blynyddol diwethaf ym mis Rhagfyr 2023. Yn dilyn adolygiad o’r fframwaith urddas a pharch, mae gwaith pellach wedi’i wneud i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, yn cynnwys adolygiad o dudalennau ar y rhyngrwyd a'r fewnrwyd, posteri ar draws ystad y Senedd ac erthyglau newyddion a chyfathrebiadau mewnol. Mae swyddogion ychwanegol wedi'u hyfforddi fel swyddogion cyswllt urddas a pharch ac maent wedi cael eu hyrwyddo i'r staff fel ffordd o godi unrhyw bryderon ynghylch urddas a pharch, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ac mae gwaith codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant urddas a pharch gorfodol wedi’i ddarparu i dros 96 y cant o staff y Comisiwn, gan gynnwys ffocws penodol ar aflonyddu rhywiol ac atgyfnerthu dull dim goddefgarwch y sefydliad o ymdrin ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Diolch am y diweddariad cynhwysfawr. Credaf ein bod yn cydnabod bod polisïau’n bwysig, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â gweithredu a chanlyniadau hefyd. Gwn fod pob un ohonom yma yn cytuno nad oes lle i aflonyddu rhywiol mewn unrhyw weithle.

Hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith a wneir gan sefydliadau eraill, megis TUC Cymru, ac yn enwedig eu pecyn cymorth rhagorol ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae hwnnw'n helpu i nodi'n glir y gall aflonyddu rhywiol yn y gwaith ddigwydd ar sawl ffurf: gall fod yn gorfforol, yn eiriol, hyd yn oed yn rhithwir ac yn anffurfiol, fel negeseuon a grwpiau WhatsApp. Mae angen inni addysgu, ond yn y pen draw, dylai dim goddefgarwch fod yn nod, ac yn amlwg, rhoi diwedd ar ymddygiad o'r fath. I mi, mae hyn yn fwy na mater o gael y prosesau cywir a phriodol ar waith o ran atebolrwydd personol, mae'n fater o atebolrwydd sefydliadol hefyd.

A gaf i ofyn i'r Comisiwn ystyried mabwysiadu pethau fel pecyn cymorth TUC Cymru? Yn ogystal, pa waith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud i wella ein prosesau yma yn y Senedd? Rwy'n credu eich bod chi eisoes wedi sôn am rywfaint o hynny, ond os oes rhagor y gallwch ei ddweud wrthym, buaswn yn ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu ein bod yn ymfalchïo’n fawr yma ein bod yn Senedd flaengar, ond mae risg y gallem fod ar ei hôl hi yn hyn o beth o gymharu â Senedd y DU hyd yn oed, er enghraifft, a’u prosesau annibynnol. A ydych chi'n cytuno â mi y dylem fod yn arloeswyr yn y lle hwn, yn hytrach na dilynwyr?

15:25

Lansiwyd y pecyn cymorth hwnnw gennyf i, felly rwy’n gwbl ymwybodol ohono. Mae dau beth yma. Yn gyntaf oll, fel sefydliad, mae'n rhaid ichi gydymffurfio. Mae'r Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 yn rhoi dyletswydd newydd ar gyflogwyr i roi camau rhesymol ar waith i atal aflonyddu rhywiol ar eu gweithwyr. Mae swyddogion wedi adolygu'r ddeddfwriaeth i sicrhau cydymffurfiaeth y Comisiwn, ac rydym yn hyderus fod y polisïau a'r prosesau sydd gennym ar waith eisoes yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd newydd honno. Mae papur sy’n rhoi tystiolaeth a sicrwydd o hyn yn cael ei baratoi ar gyfer tîm arwain y Comisiwn cyn cyflwyno’r Ddeddf, a ddaw i rym ar 26 Hydref. Ac yna, wrth gwrs, o hynny, bydd cynllun yn cael ei ddatblygu i sicrhau newidiadau priodol i bolisi a gweithdrefnau sy'n angenrheidiol i alluogi'r Aelodau eu hunain i ddangos eu bod yn cydymffurfio â'u dyletswyddau fel cyflogwyr hefyd. Ceir hyfforddiant gorfodol i staff y Comisiwn, ond nid yw'n orfodol i Aelodau a'u staff. Serch hynny, nodaf fod nifer uchel iawn o Aelodau wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, a nodaf y bydd y Comisiwn yn cynnig hyfforddiant pellach i Aelodau a’u staff. Carwn annog pob Aelod o bob plaid i fanteisio ar yr hyfforddiant hwnnw.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ni ymlaen at eitem 5, sef datganiadau 90 eiliad. Mae'r un cyntaf gan Lesley Griffiths. 

Diolch, Gadeirydd. Ddydd Sul 22 Medi, bydd pobl Wrecsam a thu hwnt yn cofio’r noson dyngedfennol 90 mlynedd yn ôl pan na ddychwelodd 266 o ddynion a bechgyn adref o’u shifft yng nglofa Gresffordd. Am 2.08 a.m., achosodd ffrwydrad enfawr yn adran Dennis yn y lofa un o drychinebau glofaol gwaethaf ein hanes.

Y penwythnos hwn, bydd nifer o ddigwyddiadau i nodi 90 mlynedd ers y drasiedi. Ddydd Sul, bydd gwasanaeth coffa'n cael ei gynnal, fel sydd wedi digwydd ers 42 mlynedd, ger cofeb trychineb glofa Gresffordd. Hoffwn dalu teyrnged i gyfeillion y gofeb, ddoe a heddiw, sydd wedi sicrhau, drwy eu hymdrechion sylweddol, fod gennym y man emosiynol hwn i deuluoedd y glowyr gofio am eu hanwyliaid.

Rydym hefyd yn ffodus i gael Prosiect Glowyr Wrecsam, dan arweiniad George Powell, sydd, wrth adfer gorsaf achub glowyr Wrecsam, yn diogelu ein hanes mwyngloddio. Yn yr orsaf achub, mae yna wal yn dwyn enwau'r 266 o ddynion a bechgyn a gollodd eu bywydau, ac am 6 p.m. ddydd Sadwrn, bydd 266 o ganhwyllau'n cael eu cynnau er cof amdanynt, a'u diffodd am 2.08 a.m.

Roedd y nifer a fu farw 90 mlynedd yn ôl yn llawer uwch am fod llawer o'r glowyr wedi gweithio shifft ddwbl fel y gallent fynd i wylio CPD Wrecsam yn chwarae yn erbyn Tranmere Rovers y prynhawn canlynol. Ers 2021, mae '1934' wedi'i frodio ar gefnau crysau chwaraewyr Wrecsam, gan sicrhau nad aiff y trychineb byth yn angof. Mae’n briodol ein bod yn dod ynghyd 90 mlynedd yn ddiweddarach i gofio’r effaith sylweddol ar gynifer o deuluoedd ar y noson ofnadwy honno.

Ar ddiwedd mis Awst, fe gollodd Cymru un o dalentau mwyaf amryddawn ei genhedlaeth: y doniol, y ffraeth, a'r diddanwr dihafal, Dewi Pws. Yn enedigol o Dre-boeth ger Abertawe, cymhwysodd fel athro, ond daeth i adnabyddiaeth genedlaethol trwy ei gerddoriaeth gyda'r Tebot Piws ac Edward H. Dafis.

Roedd yn actor penigamp, gan ddod i adnabyddiaeth ehangach drwy chwarae rhan Glyn yn y ffilm Grand Slam, a hefyd ar sawl rhaglen deledu ar S4C—Pobol y Cwm, Teulu'r Mans, Rownd a Rownd, a llawer iawn mwy. Fe ddaeth yn Fardd Plant Cymru yn 2010, ac amlygwyd ei ddawn i drin geiriau yn rhai o'i ganeuon enwocaf, megis 'Nwy yn y Nen', a enillodd Cân i Gymru yn 1971, 'Lleucu Llwyd' ac 'Ysbrydion'. Yn wir, mae geiriau 'Ysbrydion' bellach ar Faen Llog yr Eisteddfod Genedlaethol, a chafodd Pws ei dderbyn i’r Orsedd gyda’r enw barddol Dewi'n y Niwl hefyd yn 2010.

Roedd o'n dipyn o athletwr gan ei fod yn asgellwr talentog i sawl clwb rygbi, yn cynnwys Pont-y-pŵl. Ond er ei ddoniau di-ri, caiff ei gofio gan y rhan fwyaf am ei hiwmor direidus a’i allu digyffelyb i wneud pobl i chwerthin. Roedd pawb yn gyfartal yn llygaid Pws, ac yntau gyda'r gallu i fagu perthynas gyda phawb o bob cefndir a dod â gwên i’w hwynebau, neu chwerthiniad afreolus, boed yn hen neu'n ifanc.

Mae cyfraniad amhrisiadwy Pws yn edefyn aur sydd yn rhedeg drwy ddiwylliant poblogaidd Cymru dros y tair cenhedlaeth ddiwethaf, a bydd ei ddylanwad yn parhau i lawr y cenedlaethau, ac mae ein meddyliau gyda Rhiannon a'r teulu.

'Ti yw halen y ddaear, ti yw bara y byd, ni ddaw tywyllwch i'th boeni, ti sy’n olau i gyd'.

Diolch, Pws, am ddod â golau a lliw i'r genedl fach hon yr oeddet ti'n ei charu gymaint. [Cymeradwyaeth.]

15:30

Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod. Bob blwyddyn yng Nghymru bydd tua 80 o blant a 180 o bobl ifanc dan 25 oed yn cael diagnosis o ganser, ac mae llawer mwy yn byw gydag effeithiau hirdymor sylweddol. Canser yw'r clefyd sy'n lladd fwyaf o blant a phobl ifanc, ac mae'n cael effaith ddwys ar y teuluoedd a gaiff eu llorio yn sgil colli anwyliaid.

Ddydd Gwener diwethaf cefais wahoddiad gan LATCH, elusen canser plant Cymru, i weld drosof fy hun y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn ysbyty plant Cymru yn y Mynydd Bychan. Sefydlwyd LATCH ym 1983 gan grŵp bach o rieni a theuluoedd yr oedd eu plant yn cael triniaeth ar gyfer canser. Roeddent eisiau darparu cefnogaeth a chodi arian i wella bywydau cleifion.

Dros y blynyddoedd, mae'r elusen wedi tyfu a thyfu, a heddiw mae LATCH yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i tua 140 o deuluoedd bob blwyddyn, gan gynnwys llety am ddim i deuluoedd ar yr un safle â'r adran oncoleg bediatrig i gleifion mewnol; grantiau ariannol i gefnogi teuluoedd gyda'r costau annisgwyl a wynebant wrth ofalu am blentyn â chanser, gan gynnwys taliadau morgais pan na allant weithio; yn ogystal ag ymchwil glinigol sy'n canolbwyntio ar ganserau sy'n effeithio ar blant a chyllid tuag at yr uned oncoleg plant, megis prosiectau cyfalaf a hyfforddiant i staff. Mae hyn i gyd mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd ac roedd yn amlwg ar fy ymweliad pa mor dda yr oedd y bartneriaeth yn gweithio'n ymarferol.

Felly, heddiw hoffwn gydnabod a diolch am waith gwych pawb sy'n gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn cael y driniaeth a'r cymorth gorau posibl.

Diolch i chi am eich gwaith, am fod yno pan fydd teuluoedd yn derbyn y newyddion gwaethaf posib.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Cyn inni symud ymlaen i'r eitem nesaf, mae yna gynnig i ethol Aelod i bwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8663 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does dim un Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Ddeiseb P-06-1455, 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau'

Felly, symudwn ymlaen i eitem 6, sef dadl ar ddeiseb P-06-1455, 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau'. Dwi'n galw ar aelod o'r pwyllgor i wneud y cynnig—Rhianon Passmore.

Cynnig NDM8653 Rhianon Passmore

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1455 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau’, a gasglodd 10,560 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle hwn heddiw i gyflwyno'r ddadl. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rebecca Totterdell, a daeth i ben ar 19 Mehefin, gyda 10,560 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud hyn:

'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi darparu rhaglen gerddoriaeth ac actio i fyfyrwyr iau rhwng 4 a 18 oed ers 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl ifanc dalentog yn mynd drwy ei ddrysau bob penwythnos, ac mae llawer ohonynt ar fwrsari. Dyma’r unig ddarpariaeth o’i math yng Nghymru.

Oherwydd trafferthion ariannol mae’r Coleg yn gorfod ymgynghori ynghylch cau’r rhaglenni actio a cherddoriaeth i bobl ifanc ar ddiwedd y tymor hwn. Os bydd y rhaglenni’n cau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yr unig Ysgol Cerddoriaeth Frenhinol heb adran i fyfyrwyr iau.'

Mae'r pwyllgor yn bryderus iawn am effaith toriadau cyllid ar lif datblygiad cerddorion talentog yng Nghymru, ac ar dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl fel gwlad y gân. Trafododd y pwyllgor y ddeiseb hon ar 24 Mehefin, ac yn dilyn ymgynghoriad staff, cadarnhaodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 19 Gorffennaf ei fod wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi'r gorau i'w ddarpariaeth arferol ar benwythnosau i gerddorion ac actorion ifanc oherwydd heriau ariannol sylweddol—yr adran iau. Dywedodd y deisebydd y byddai cau'r adran iau yn llwyr yn golygu mai Cymru oedd yr unig conservatoire yn y DU heb adran iau, ac yn fwy eang, yr unig conservatoire yn y byd sy'n addysgu ar lefel mynediad conservatoire ôl-18 heb adran iau i'n myfyrwyr talentog. Byddai hyn yn golygu bod plant Cymru o dan anfantais fawr o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Hefyd, nid oes cyllid tebyg ar gyfer adran iau y coleg o'i gymharu â Lloegr a'r Alban, a dim yn debyg i'r Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol, Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Rhaid i Gymru beidio â chynnig llai.

Mae'r coleg yn dweud nad yw ei benderfyniad i atal darpariaeth arbenigol ar benwythnosau'n golygu cau'n llawn neu ddiddymu ei waith gyda phlant dan 18 oed yn llwyr. Mae'n dweud ei fod yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd pellach i bobl ifanc a chreu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol. Ar hyn o bryd, ni all yr artistiaid iau hyn sy'n derbyn bwrsariaethau o ogledd, canolbarth a gorllewin Cymru gael mynediad at lwybrau astudio elitaidd arbenigol yng Nghymru. Mae crebachu'r ddarpariaeth yn ergyd, ac yn hynod arwyddocaol i allu'r coleg i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd tlawd, gan na allant fforddio teithio i Loegr. Dywedodd y deisebwyr wrthym fod myfyrwyr y coleg brenhinol wedi brwydro'n galed yn erbyn y bwriad i gau, hyd yn oed wrth sefyll eu harholiadau TGAU a Safon Uwch, ac maent hyd yn oed wedi protestio y tu allan i'r lle hwn. Rydym ni fel pwyllgor yn canmol eu hymrwymiad i ddiogelu darpariaeth i'r rhai sy'n eu dilyn.

Yr hydref hwn, bydd Aelodau'r Senedd yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Mae'r ffordd yr ydym yn lleihau effaith toriadau cyllid ar ein sefydliadau diwylliannol yn yr hinsawdd economaidd bresennol yn fater hollbwysig i Gymru ac i'n pobl ifanc. Y tymor diwethaf buom yn trafod deiseb debyg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu gwariant ar sefydliadau diwylliannol pwysig eraill. Mae'n galonogol fod Llywodraeth Cymru, ar 5 Medi, wedi cyhoeddi cynnydd o £5 miliwn mewn cyllid refeniw ar gyfer cyrff diwylliant a chyrff hyd braich eraill, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru. Ond mae cadernid ariannol y coleg cerdd brenhinol yn ddibynnol ar ystod o wahanol ffrydiau ariannu. Mae ein sefydliadau diwylliannol yn allweddol i waddol hanesyddol a diwylliannol ein cenedl. Ac roedd y deisebwyr cynharach hynny'n dadlau bod pob £1 a gaiff ei buddsoddi yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd. Heb gyfrif rhaglenni ieuenctid masnachol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, roedd yr adran celfyddydau ieuenctid arbenigol iau ei hun yn cynnwys bron i 50 y cant o fyfyrwyr bwrsari eleni.

Mae effaith economaidd mygu datblygiad cerddoriaeth a meithrin talent gerddorol ein pobl ifanc yn peri pryder mawr, fel y mae mynediad at lwybrau uwch, brig y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol. Fel pwyllgor, fe wnaethom ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at hyn. O ddadl y Pwyllgor Cyllid ym mis Gorffennaf ar flaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, gwyddom fod effaith toriadau ar ddiwylliant Cymru yn uchel ar y rhestr i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac fel y dywedais o'r blaen, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i ddiogelu sefydliadau fel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rydym ar drobwynt yn nirywiad bywyd diwylliannol Cymru. Mae hyn heb ystyried y crebachu dinistriol i Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol Cymreig a'u rhaglenni addysg yn ganolog i'n henw da rhyngwladol fel gwlad y gân, barddoniaeth a diwylliant. Mae'n galonogol fod camau i gau'r adran iau yn llawn wedi'u hosgoi. Mae'r Coleg Brenhinol wedi addo y bydd cyfnod o adolygu yn 2024-25 yn ei gwneud hi'n bosibl i ystyried ar y cyd â phobl ifanc, staff, rhanddeiliaid a chynghorwyr allanol y DU, wrth iddynt archwilio uchelgais i ddatblygu rhaglen dalent genedlaethol i Gymru sy'n nodi ac yn meithrin y doniau gorau, yn datblygu eu sgiliau ac yn adeiladu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol. Mae'n rhinwedd yn y cynllun cerddoriaeth cenedlaethol, yr haen goll honno, fod yna adolygiad allanol annibynnol i ddeall beth yw'r ffordd orau ymlaen, ac o fewn hynny, ffordd gyflenwol gyda sefydliadau diwylliannol Cymreig eraill i geisio cefnogaeth i'n talent ifanc. Mae angen gwrando ar lais y myfyrwyr a'i glywed. Felly, diolch i'r deisebwyr am ddod â mater pwysig iawn i sylw'r Aelodau, i'r lle hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.

15:40

Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwy'n falch o ddweud ychydig eiriau i gefnogi'r ddeiseb hon gan ei bod yn ddadl hynod o bwysig. Ac nid wyf yn honni fy mod yn gerddor o unrhyw fath. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld gwerth cerddoriaeth a drama ac actio, a'r ffordd y maent yn cyfoethogi bywydau cymaint o bobl ifanc, a dylem werthfawrogi hynny'n aruthrol, felly rwy'n hapus i siarad am hyn. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gwbl hanfodol wrth ddenu ystod eang o gerddorion talentog o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i'r ifanc yn gweld bron i 100 y cant o'i fyfyrwyr yn symud i addysg uwch, a bydd pob un ohonynt yn dod yn hyrwyddwyr gwych i ddiwylliant a chelf Cymru. Ac fel y clywsom, bydd cau'r adran iau yn arwain at 112 o staff yn wynebu diswyddiadau a cholli 400 o fyfyrwyr.

Os bydd yr adrannau iau yn cau, bydd yn ergyd anhygoel o niweidiol i'r byd celfyddydol yma yng Nghymru ac yn bygwth dyfodol rhan bwysig o'n cynnig diwylliannol yn y dyfodol. Mae'n drysor y dylem fod yn falch ohono a dylem geisio ei gadw. Nid yw pethau bob amser yn gysylltiedig ag arian, maent yn ymwneud â gwerth cymdeithasol a phwysigrwydd y pethau hyn. Fel y clywsom, mae tua 50 y cant o'r myfyrwyr hyn yn derbyn bwrsariaethau, gyda llawer ohonynt yn talu fawr iawn o ffi, os o gwbl. Os yw'r adran yn cau, ni fydd y bwrsariaethau hyn ar gael mwyach. Bydd llawer o'r cerddorion ifanc a thalentog hyn yn gweld bod mynediad at hyfforddiant cerdd a drama yn anfforddiadwy, ac mae hyn yn ei dro wedi golygu bod llawer o'r plant hyn yn profi pryder a straen ynglŷn â dyfodol eu gyrfaoedd cerddorol uchelgeisiol; mae'n golygu cymaint â hynny iddynt.

Mae cerddoriaeth a chelf eisoes dan fygythiad yng Nghymru, fel y gwyddom, yn dilyn toriadau difrifol i Opera Cenedlaethol Cymru, a bydd y golled bellach hon yn cael effaith andwyol iawn ar gelf a diwylliant Cymru, ac rwy'n cefnogi'r deisebwyr am gyflwyno hyn.

A gaf innau ategu fy niolch innau i’r rhai ddaeth â’r ddeiseb hon gerbron, ac i’r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, am gynnig bod dadl ar hyn? Ac mi hoffwn fynegi fy mhryder ein bod ni unwaith eto yn gorfod trafod effeithiau toriadau ar ddiwylliant, a hefyd ar bobl ifanc. Wedi’r cyfan, mae’r gallu i gael mynediad i fywyd diwylliannol, cymryd rhan ynddo, a chyfrannu ato, yn cael ei ystyried yn hawl dynol o fewn y datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Ond eto, dro ar ôl tro, rydym yn gweld cyfleoedd i gyfranogi mewn diwylliant yn cael eu cyfyngu oherwydd diffyg cyllid. Mae dirfawr angen trafodaeth arnom fel Senedd ynglŷn ag effaith y toriadau hyn ar, nid yn unig lles pobl Cymru, ond hefyd economi ac enw da Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Heb os, mae coleg cerdd a drama Cymru dan straen ariannol aruthrol, wedi wynebu toriad o 6 y cant mewn cyllid cyhoeddus yn y flwyddyn ariannol hon. Maen nhw angen gwneud 10 y cant o arbedion gwariant eleni, sy’n cyfatebu i £1.5 miliwn, ac mae cau y ddarpariaeth dan sylw yn cyfrannu 16 y cant o’r 10 y cant sydd ei angen. Roedd hyn yn rhywbeth roedd y pwyllgor diwylliant yn cydnabod yn sgil trafodaeth ar hyn yn gynharach eleni, ac roedd y Cadeirydd, Delyth Jewell, sydd i ffwrdd ar fusnes swyddogol y Senedd y prynhawn yma, yn awyddus imi hefyd rannu siom y pwyllgor yn deillio o sylweddoli bod cau darpariaeth yn sydyn yn gadael bwlch nad yw’n hawdd i’w lenwi. Yng ngoleuni hyn, mae’r pwyllgor hefyd o’r farn bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei strategaeth ddiwylliannol i fynd i’r afael â hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n creu ac yn cefnogi llwybrau cynaliadwy i bobl ifanc ragori ym maes cerdd a drama, a byddwn yn ddiolchgar pe byddai’r Gweinidog yn adlewyrchu ar hyn yn ei ymateb.

Ond yn ôl, rŵan, at fy marn i fel Aelod rhanbarthol, a llefarydd y blaid ar ddiwylliant, yn hytrach na barn y pwyllgor, a does dim dwywaith bod cau’r adrannau iau wedi bod yn ergyd drom i’r bobl ifanc oedd yn cael cyfleoedd a gwersi cerddoriaeth ac actio yno. Dwi wedi cwrdd, neu gyfathrebu dros e-bost, gyda nifer fawr o staff a disgyblion a oedd yn rhan o’r rhaglen, a chlywed yn uniongyrchol beth fydd effaith hyn, nid yn unig arnyn nhw, ond hefyd y rhai hynny sydd wedi cael eu cyflogi gan y coleg. Yn wir, mi welson ni berfformiadau godidog gan nifer o’r myfyrwyr y tu allan i'r Senedd hon yn gynharach eleni, a chlywed ganddyn nhw pa mor bwysig oedd y ddarpariaeth ar gyfer eu dyfodol nhw. Oherwydd, rhaid cofio, y ddarpariaeth hon gan y coleg cerdd a drama oedd yr unig conservatoire iau yng Nghymru. Drwy ei chau, mae’n golygu mai dyma’r unig ysgol gerdd yn y Deyrnas Unedig heb adran iau. Hoffwn rannu gyda chi felly rai o’r sylwadau a dderbyniais gan nifer, sydd yn crynhoi’r effaith.

Mae rhai plant wedi rhoi'r gorau iddi. Mae rhai wedi cael trafferth dod o hyd i athrawon. Mae rhai o'r staff wedi ffurfio cwmni cydweithredol, gyda gwasanaeth cerddoriaeth Caerdydd yn gweinyddu, ond mae cymaint wedi rhoi'r gorau iddi fel y gallai'r gwaith siambr yn y prynhawn gymryd amser i'w ddatblygu yn ei ôl. Tra bo plant hefyd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf ac i ryngweithio â myfyrwyr ac athrawon Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ni all tiwtoriaid sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol neu sy'n dysgu plant yn breifat gymryd lle llwybr mor glir i addysg uwch mewn cerddoriaeth. Mae ein plant hefyd dan anfantais enfawr o ran cael clyweliadau i gerddorfeydd fel y gerddorfa plant genedlaethol neu'r gerddorfa ieuenctid genedlaethol sy'n help mawr i sicrhau lleoedd mewn colegau cerdd. Maent hyd yn oed yn gofyn ar y ffurflenni a yw'r plant mewn conservatoire iau, gan ei fod yn cael ei ystyried yn llwybr cystal ag ysgol gerdd breifat. Mae rhai teuluoedd wedi symud i Loegr, a chael clyweliadau ar gyfer ysgolion cerdd arbenigol fel Wells ac i geisio am ysgoloriaethau. Dywedodd rhiant arall fod canlyniadau'r cau yn llym ac y bydd yr effeithiau'n cael eu gweld yn ddwfn yn y dyfodol, wrth i genhedlaeth gyfan o'r artistiaid ifanc Cymreig mwyaf talentog gael eu difreinio a'u cyfyngu i'r ychydig elît sy'n gallu fforddio hyfforddiant preifat. Bydd hyn yn ei dro yn effeithio ymhellach ar amrywiaeth a chyfoeth diwylliannol celfyddyd newydd. Mae Undeb y Cerddorion hefyd wedi ysgrifennu atom fel Aelodau o'r Senedd yn mynegi eu pryderon am ddyfodol cerddoriaeth yng Nghymru, gan nodi rhai o'r penderfyniadau niweidiol eraill a wnaed. Cymru gwlad y gân, ond yn anffodus, bydd hyn yn cael effaith.

Mae’n rhaid inni ffeindio datrysiadau o ran diwylliant. Rydym ni wedi bod yn dweud am flynyddoedd erbyn hyn bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd diwylliant o ddifri. Rydym ni’n gweld effaith y toriadau. Rydym ni’n gweld effaith hyn ar iechyd meddwl hefyd y bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan hyn. Felly, dim esgusodion sydd eu hangen ond datrysiadau gennym ni fel Senedd. Symptom o broblem ehangach yw cau’r ddarpariaeth hon. Mi hoffwn glywed sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chanfod y datrysiadau er mwyn sicrhau dyw drama a cherddoriaeth ddim jest i’r rhai sy’n gallu eu fforddio nhw yma yng Nghymru.

15:45

Rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i drafod y ddeiseb hon yma heddiw, er ei bod ychydig ar ei hôl hi, oherwydd mae'r ddarpariaeth bron â bod wedi cau ac wedi mynd. Mae'n destun gofid mawr, rwy'n credu, fod y fath drysor gwerthfawr wedi cael ei ddirwyn i ben yma yng Nghymru.

Euthum i ymweld â'r sesiynau dydd Sadwrn ddwywaith yn ystod y cyfnod pan oeddent yn destun ymgynghoriad ar gyfer cau a chyfarfûm â llawer o'r plant a'r rhieni, a ddeuai o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn ddiwylliannol amrywiol, ac fel y gwyddom, roedd canran fawr yn derbyn bwrsariaethau i fynychu. Roedd yn dorcalonnus, yn enwedig ar y diwrnod olaf, oherwydd roeddwn yno ar y dydd Sadwrn olaf, ac nid oedd pobl yn gwybod pa gyfleoedd eraill a fyddai i'w cael. Nid oedd ganddynt unman i fynd. Felly, roeddent yn ffarwelio â'u tiwtoriaid, nad oeddent yn gwybod yn iawn ble y byddent yn ennill eu harian ychwaith. Roedd mor ofnadwy fod hyn yn digwydd yma yng Nghymru a bod hyn yn digwydd i rywbeth a oedd mor bwysig i obeithion a dyfodol ein pobl ifanc.

Felly, mae'n dda ein bod yn lleisio hyn i gyd yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i'r Gweinidogion ddod o hyd i ryw ffordd ymlaen i gau'r bwlch. Oherwydd rwy'n credu bod y cyfnod ymgynghori yn fyr iawn. Ni roddwyd llawer o amser i ni ei ystyried. Cafodd dewisiadau eraill eu cyflwyno, a daeth rhai o'r bobl a oedd yn gweithio yno, ac aelodau o'r staff, i fy ngweld yn fy swyddfa etholaethol. Cawsom gyfarfod bach ac roedd ganddynt gynigion ar gyfer bwrw ymlaen, ond edrychai fel pe na bai'r dewisiadau amgen hynny wedi cael eu hystyried o ddifrif. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud pa gynigion sydd ar y gweill i geisio sicrhau y gall plant gael y cyfleoedd hyn.

Y mater arall yr oeddent yn bryderus iawn yn ei gylch, ac roeddwn i'n poeni amdano hefyd, oedd beth fyddai'n digwydd i'r holl offerynnau cerdd yno, oherwydd maent yn offerynnau cerdd ardderchog—piano Steinway ym mhob ystafell bron, ac offerynnau cerdd eraill a oedd wedi costio miloedd ar filoedd o bunnoedd, yn bennaf drwy roddion gan sefydliadau a oedd wedi eu rhoi. Ac roedd gan rai o'r plant y rhain yn eu gofal, ac roeddent yn dysgu gartref gyda nhw am nad oeddent yn gallu fforddio prynu offerynnau cerdd mor gostus. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o bobl fyddai'n gallu gwneud hynny. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog daflu goleuni ar sut y cânt eu defnyddio a'r hyn sy'n digwydd iddynt.

Felly, rwy'n credu bod y pwyntiau eraill wedi cael sylw heddiw am yr unig fan lle nad oes conservatoire iau yma yng Nghymru. A hefyd, y pwynt arall yw bod y plant yn cael eu dysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg, sef yr unig gyfleuster a gynigiai hyn. Felly, mae'n gwneud ichi feddwl: pam ar y ddaear y digwyddodd hyn? Ac rwy'n credu y dylem ni, fel Senedd, wneud popeth yn ein gallu i dynnu sylw at y golled, yn y gobaith y gallwn gael rhyw fath o gynnydd ac y bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu.

15:50

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a'r rhai a lofnododd y ddeiseb a olygai fod y ddadl hon ar ddeiseb wedi dod i lawr y Senedd yma heddiw?

Am y rhan fwyaf o dymor y Senedd hon, rwyf wedi gwasanaethu fel Gweinidog Diwylliant yr wrthblaid dan arweinyddiaeth Andrew R.T. Davies, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am hynny oherwydd, o ddifrif, rwy'n teimlo'n angerddol iawn am ein sefydliadau diwylliannol Cymreig. Er nad oedd yn rhywbeth yr oeddwn wedi cael llawer o brofiad o ymwneud ag ef o'r blaen a bod yn onest, mae'n rhywbeth yr ymddiddorais yn fawr ynddo dros y tair blynedd a hanner diwethaf, oherwydd mae'r rhain yn sefydliadau o'r radd flaenaf sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau ac ym mywydau pobl Cymru. Ond yn rhy aml, rwyf hefyd wedi gweld y swydd ychydig yn dorcalonnus, oherwydd rydym yn aml wedi dod yma i sôn am wasanaeth sy'n cau ei ddrysau neu wasanaeth sy'n cael ei israddio, a dyma enghraifft arall o hynny, yn anffodus. Rydym eisoes wedi clywed am yr effaith enfawr yr oedd y coleg brenhinol cerdd a drama yn ei chael bob dydd ar fywydau pobl ifanc, gwahaniaeth trawsnewidiol. Siaradais ag un rhiant yn ystod y misoedd diwethaf a oedd yn teimlo na allai eu plentyn ond mynegi a chyfleu eu hunain, a dysgu sgiliau cymdeithasol, drwy'r gwaith yr oedd y coleg wedi'i wneud. Felly, mae'n ymwneud â llawer mwy na dim ond y gwaith uniongyrchol y byddai'r coleg brenhinol cerdd a drama yn ei wneud drwy'r academi iau, ond y sgiliau bywyd y mae pobl yn eu dysgu ar hyd y ffordd yn ogystal.

Yn anffodus, fe wyddom yng nghyllideb y llynedd mai'r gyllideb ddiwylliant oedd yr un a gafodd ei thorri fwyaf gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n drueni, oherwydd yng Nghymru rwy'n credu bod diwylliant yn rhywbeth sy'n bwysicach. Nid wyf yn credu eich bod yn deall yn iawn os ydych chi'n byw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhywbeth i'w drysori, rhywbeth i'w feithrin, ac mae'n drueni go iawn, fel y dywedodd Julie Morgan eisoes, ein bod yn cael y ddadl hon yn rhy hwyr, bron, ar ôl iddo gael ei ddirwyn i ben, ac felly mae'n ei gwneud hi'n anos gwneud llawer yn ei gylch ar y cam hwn.

Fe wneuthum estyn allan i'r coleg, gan wybod bod y ddadl hon ar y gweill, i gael persbectif gwahanol ar bethau, ac rwy'n cydymdeimlo â'r sefyllfa y mae'r coleg ynddi. Rydym yn sôn am 10 mlynedd, yn y bôn, o rewi ffioedd hyfforddi, ac er mor dda yw bwriad y polisi hwnnw, ac nid wyf am sefyll yma ac anghytuno â bwriad y polisi hwnnw, mewn unrhyw ddiwydiant, mewn unrhyw fusnes, os caiff eich incwm ei rewi, mae hwnnw'n doriad mewn termau real yn eich gallu i ddarparu'r un lefel o wasanaeth heb orfod newid pethau'n fewnol. Ac yn anffodus, mae hynny'n arwain at y penderfyniad anodd y gwelsom y coleg brenhinol yn ei wneud heddiw. Ac er ein bod wedi gweld y coleg brenhinol eu hunain yn siarad am rywfaint o'r gwaith arall sy'n digwydd—mae gennyf restrau yma o benwythnosau gweithdai trochi, cyfleoedd preswyl ensemble agored y gerddorfa ieuenctid genedlaethol, cyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu—mae'r rhain i gyd yn wych, ond rydym i gyd yn gwybod nad ydynt yr un peth â'r ddarpariaeth yr ydym yn ei cholli drwy gau'r adran iau, a dyna pam y credaf, os ydym ni fel Senedd a Llywodraeth Cymru yn teimlo bod hyn yn bwysig, fod angen inni sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn cael ei hariannu. Gallwn siarad yr holl eiriau cynnes am bwysigrwydd yr academi iau, ond heb roi'r cyllid ar waith i'w chefnogi, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chondemnio i gau i bob pwrpas. Felly, os oes opsiynau o hyd ar yr unfed awr ar ddeg i'w hachub, neu roi darpariaethau amgen ar waith yn y dyfodol, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych, fel y dywedodd Heledd Fychan, nid yn unig ar yr effaith ddiwylliannol y byddai hyn yn ei chael ond ar y budd ehangach y mae hyn yn ei gynnig i gymdeithas, y pwysau y mae'n ei dynnu oddi ar wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru, a'r daioni y mae'n ei wneud yn ein cymunedau yn ogystal. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn arbennig i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, a diolch i Rhianon Passmore am agor y ddadl. Does dim amheuaeth o gwbl am ymrwymiad Rhianon Passmore i fyd gerddoriaeth yng Nghymru. 

I ymestyn y gyfatebiaeth gerddorol i'r eithaf, rydych chi'n fand un dyn sy'n hyrwyddo cerddoriaeth yma yn y Senedd ac ar draws Cymru. Rydych chi hyd yn oed wedi gwneud i mi ganu mewn côr yma.

Cymru: gwlad y gân, gwlad beirdd a chantorion. Môr o gân yw Cymru i gyd. Mae cerddoriaeth yn rhan o'n DNA ni. Ysgrifennodd Gerallt Gymro yn y ddeuddegfed ganrif am ddawn y Cymry i ganu mewn harmoni, a dwi'n gweld e gyda fy mhlant fy hunain. Mae fy nwy ferch i, y ddwy, cyn iddyn nhw siarad, wedi canu. Roedd Greta yn canu 'Clap, Clap, Un, Dau, Tri', ac Esther yn canu 'Twinkle, Twinkle Little Star', er gwaethaf ein hymdrech ni i'w chael hi i ganu rhyw hwiangerdd Gymraeg. A bore yma, am bump o'r gloch y bore, dyma Esther yn canu'n aflafar iawn, 'Hei, Mistar Urdd'. Nawr, efallai bydd hi byth yn gerddor, ond mae'n dangos bod cerddoriaeth yn bwysig i'r ferch tair blwydd oed yma.

Mae traddodiad a pherfformiad yn rhan bwysig o'n bywyd ni, y Cymry, ac rŷn ni wedi mynd â hwn dros y byd i gyd yn rhyngwladol. Mae ein perfformwyr ni, mae ein cerddorion ni, wedi bod ar brif lwyfannau'r byd. Ond dim hap a damwain yw hyn; mae hwn wedi dod drwy ymdrech, drwy waith caled—ac, yn bwysicach fyth, drwy fuddsoddiad ariannol.

Gallwn frolio cymaint ag y dymunwn mai Cymru yw gwlad y gân, ond nid yw'n digwydd mewn gwactod. Mae'r clod yn ddiystyr os ydym dibynnwn ar ogoniant y gorffennol, oherwydd dyna fydd yn digwydd, os yw ysgolion fel hyn a gwasanaethau cerddorol yn parhau i gael eu crebachu yn ein cymunedau. Bydd Cymru yn llai cerddorol, nid yn fwy cerddorol, na chenhedloedd eraill, os daliwn ati i fynd y ffordd hon.

Gallwn alaru cymaint ag y dymunwn heddiw am golli'r ysgol iau hon, ond gadewch inni fod yn glir iawn: mae'r ysgol iau'n cau oherwydd cyni, oherwydd cyni Torïaidd, sydd wedi parhau o dan y Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan. Ni chawn ein llenwi ag unrhyw obaith gan araith ddiweddaraf Syr Keir Starmer

'bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella'—

neges dywyllach nag arwyddgan 1997. Ac wrth imi ymchwilio i'r ddadl hon heddiw, roedd yn syndod deall bod Syr Keir Starmer ei hun yn berfformiwr iau yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall. Roedd yno nes ei fod yn 11 oed ac fe elwodd o ddysgu sut i chwarae'r piano, ffliwt, recorder a'r ffidil. Elwodd o'r gwasanaethau hyn, ond mae ei bolisïau ei hun yn amddifadu plant Cymru o'r un gwasanaethau. Ni fyddant yn cael yr un cyfle.  

Dros y misoedd diwethaf, fel Heledd Fychan a llawer o rai eraill yma, rwyf wedi cael llythyrau a chyfathrebiadau dirifedi gan etholwyr sy'n gweithio yn y sector. Opera Cenedlaethol Cymru, y colegau brenhinol—sefydliadau sy'n hyrwyddo Cymru ar draws y byd yn cael eu gorfodi i dorri eu gwasanaethau. 

Mae cau adran iau y coleg brenhinol yn amddifadu ein pobl ni o fanteision cerddoriaeth a pherfformio.

Mae'n dda i iechyd meddwl, ac yn ôl astudiaethau diweddar, mae gan greu cerddoriaeth amrywiaeth o fanteision eraill. Mae'n gwella cyfradd curiad y galon, sgiliau echddygol, ysgogiad ymenyddol, a hyd yn oed yn gwella'r system imiwnedd. Os ydym am gael y gorau i'n plant yng Nghymru, dylem lenwi eu bywydau â cherddoriaeth a chreu cerddoriaeth.

Ers 2018, yn ôl yr elusen Youth Music, mae cyfran y bobl ifanc sy'n ystyried eu hunain yn gerddorol yng Nghymru wedi gostwng i dim ond 9 y cant. A dim ond 11 y cant o rieni plant o dan bum mlwydd oed sy’n credu y bydd eu plant yn cael digon o addysg gerddorol yn yr ysgol. Ac yng Nghymru, gwlad y gân, cofiwch—the land of song—dyw'r mwyafrif o'n pobl ifanc ni bellach ddim yn credu eu bod nhw'n gerddorol: 46 y cant o'i gymharu â 57 y cant yn Lloegr.

Dylai profiad y gorffennol ddangos i bob un ohonom yma fod cyni yn brosiect sydd wedi methu. Mae colli adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn brawf o hyn. Mae angen inni roi’r gorau i gredu yn economeg ffantasïol cyni. Mae angen inni ariannu ein sector celfyddydol yn briodol. Mae angen inni feithrin cenhedlaeth newydd o gerddorion a pherfformwyr yng Nghymru. A phan fyddwn yn gwneud hynny, bydd pethau'n sicr o wella. Diolch yn fawr.

16:00

Mae’n drasiedi ein bod yn cael y ddadl hon ar ôl i'r coleg brenhinol wneud y penderfyniad i gau’r adran iau. Ac ar un ystyr, mae’n sarhad ar yr holl bobl a drafferthodd arwyddo’r ddeiseb nad oedd y coleg brenhinol yn barod i aros i weld pa atebion y gellid eu trafod. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod angen newid, a bod hynny'n anochel oherwydd yr amgylchiadau ariannol, ond rwy'n teimlo'n hynod siomedig fod y penderfyniad hwn wedi'i ruthro yn ei flaen er bod cynigion amgen yn cael eu gwneud.

Nid yw cau'r adran yn frysiog yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gyda’i hymrwymiad i gydweithio, gwaith partneriaeth a chanolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol, na Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, er fy mod yn derbyn nad yw'r coleg brenhinol yn ddarostyngedig iddi, ond serch hynny, mewn ysbryd o gydweithio, nid ydynt yn ddoeth i fwrw ymlaen fel pe na bai dewis arall, yn enwedig gan fod y tiwtoriaid sydd wedi rhoi cymaint i addysgu'r bobl ifanc hyn yn gwneud cymaint o ymdrech i ddod o hyd i atebion amgen, gan gydnabod bod problem ariannol a gwneud cynigion pendant i leihau nifer yr wythnosau o weithgarwch hyd at yr hanner, er mwyn galluogi ail-fformiwleiddio’r cyllid i'w wneud yn gynnig cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gwrthododd yr uwch reolwyr roi ystyriaeth hyd yn oed i'w hymdrechion i ddiogelu buddiannau'r adran iau bresennol a rhagolygon y dyfodol ar gyfer plant nad ydynt wedi cael eu geni eto.

Mae Rhys ab Owen yn llygad ei le fod cerddoriaeth a chân yn rhan sylfaenol o les bodau dynol, ac mae'n arbennig o bwysig ein bod yn canu i'n plant. Dyna un o'r pethau cyntaf y gallwn eu gwneud. Hyd yn oed cyn bod ganddynt iaith i gyfathrebu â ni, fel y dywedoch chi, maent yn gallu canu.

Felly, dau beth, mewn gwirionedd. Yn gyntaf oll, hoffwn sôn eto am y cyfraniad y mae Rhianon Passmore yn ei wneud i sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o’r cwricwlwm newydd yn ein hysgolion, fel bod pob plentyn yn cael dysgu am gerddoriaeth ac offerynnau cerdd, ond mae’n rhaid inni fod yn realistig nad yw pob ysgol yn mynd i allu darparu’r lefel o gymorth ac arbenigedd a oedd ar gael gan yr adran iau. Ac mae'n golygu nad oes llwybr ar gyfer y rheini sydd am ganolbwyntio o ddifrif ar eu cerddoriaeth fel gweithgaredd allgyrsiol a gyrfa bosibl. Felly, mae hon yn drasiedi lwyr.

Felly, Weinidog, yn eich ymateb, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am yr academi dydd Sadwrn arfaethedig sydd i'w rhedeg gan Wasanaeth Cerdd Caerdydd a'r Fro, y dywedir wrthyf gan y coleg brenhinol ei bod yn mynd i gael ei rhedeg mewn partneriaeth ag athrawon sydd eisoes â phrofiad o gonservatoire iau'r coleg brenhinol. Oherwydd, fel menter gynaliadwy leol—. Felly, a yw'n mynd i allu cynnwys unrhyw un o'r bobl ifanc hyn sydd eisoes wedi gweithio mor galed ar eu cerddoriaeth a'u canu, a sut y bydd pobl yn gallu cofrestru ar ei chyfer? Faint fydd yn ei gostio? Mae hyn yn rhywbeth nad oes sôn amdano yn y papur a ddarparwyd gan y coleg brenhinol.

Ac yn ail, rhoddodd y coleg brenhinol gryn dipyn o bwyslais ar y ffaith bod yna gynllun cerddoriaeth a dawns cenedlaethol yn Lloegr sy’n cynnig cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer bwrsariaethau'n ddarostyngedig i brawf modd o hyd at £3,000, yn ogystal ag yn yr Alban, cynllun nad oedd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol, yn amlwg; cafodd hyn ei ariannu'n gyfan gwbl gan y coleg brenhinol. A all y Gweinidog egluro a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu cynllun o’r fath yng Nghymru, ac os felly, beth fyddai’r amserlen?

16:05

Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells.

Diolch, Lywydd dros dro, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac wrth gwrs, i’r deisebwyr hefyd. Mae nifer y llofnodion ar y ddeiseb yn arwydd clir o gryfder y teimladau ynghylch y mater hwn, a gwn fod penderfyniad Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i roi'r gorau i'w ddarpariaeth ieuenctid reolaidd ar benwythnosau i gerddorion ac actorion wedi achosi pryder ac ofnau ymhlith rhieni a dysgwyr, a hefyd wedi effeithio ar staff.

Mae diwylliant, y celfyddydau a cherddoriaeth yn cyfoethogi bywydau pob un ohonom, yn siapio cymdeithas ac yn taflu goleuni ar ein hanes. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn hygyrch i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac i’r perwyl hwn, roedd un o fy nghyfarfodydd cyntaf gyda’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, i drafod pwysigrwydd diwylliant a chyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc. Ac yn ogystal, byddaf yn parhau â’r ddeialog rhwng Llywodraeth Cymru a’r coleg wrth iddo lunio ei gynigion ei hun ar gyfer y ddarpariaeth gerdd a drama yn y dyfodol.

Deallaf fod trafodaethau blaenorol wedi bod yn gadarnhaol, gyda ffocws ar ddarpariaeth gynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru. Os caf droi nawr at y ddau gwestiwn penodol a ofynnwyd gan fy nghyd-Aelod, Julie Morgan: beth sy’n cael ei wneud i ymgysylltu â’r bobl ifanc hyn? Wel, fel rhan o’r rhaglen waith eang a nodwyd yn y cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ar nodi a darparu cymorth a chyfeirio ar gyfer ein cerddorion ifanc dawnus. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i gael profiad o berfformio hyd eithaf eu gallu, gyda'r un pwysigrwydd a chymorth yn cael eu rhoi i ystod eang ac amrywiol o genres cerddorol.

Ac mewn perthynas â’r cwestiwn ynglŷn â'r offerynnau eu hunain, nodaf fod y coleg, yn ei ymateb i’r ymgynghoriad, yn nodi y bydd gan y dysgwyr sy’n benthyca offeryn ar hyn o bryd hawl i wneud cais am fenthyciad estynedig tan ddiwedd mis Awst y flwyddyn nesaf, heb unrhyw ffi llogi am y cyfnod estynedig hwn. Ac mae'r coleg ei hun yn datgan ei fod yn parhau i fod yn ymrwymedig i gadw ei gasgliad o offerynnau a sicrhau eu bod ar gael i ddysgwyr ifanc mewn unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddatgan bod prifysgolion Cymru yn sefydliadau ymreolaethol, gyda chyfrifoldeb am eu materion academaidd ac ariannol eu hunain, ac mae hynny'n cynnwys penderfyniad y coleg i ddirwyn ei raglen penwythnos i ben.

Dyrennir cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i’r sector drwy Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac mae pob sefydliad yn gyfrifol am reoli ei gyllideb ei hun, sy’n cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru ynghyd â ffynonellau incwm eraill. Nid yw’r coleg wedi gwneud cais am gyllid pellach gan Weinidogion Cymru ac ni fyddai’n briodol iddynt wneud hynny ychwaith. Nid rôl Gweinidogion yw ymwneud â manylion gweithredol gweithgarwch, na rheolaeth ariannol rheolaidd sefydliad. Mae’r penderfyniadau hyn yn amlwg yn fater i’r coleg, sy’n cael ei redeg gan dîm o weithwyr proffesiynol, a oruchwylir gan fwrdd llywodraethwyr sy'n atebol, ac sy’n cefnogi’r penderfyniad hwn. Rwy'n sylweddoli bod y coleg, fel llawer o sefydliadau addysg uwch eraill, yn wynebu heriau ariannol oherwydd amrywiaeth o ffactorau allanol, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ymwneud yn adeiladol yn ei gylch gydag uwch arweinwyr ar draws y sector.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r coleg yn ystyried sut y gellir llunio darpariaeth gynaliadwy i ddiwallu anghenion newidiol y Gymru gyfoes, i fuddsoddi mewn talent o bob cefndir, a darparu gwasanaethau cenedlaethol a chynhwysol sy’n creu’r llwybrau y mae'r Aelodau wedi siarad mor angerddol amdanynt—llwybrau i hyfforddiant proffesiynol. Mae nifer o’r Aelodau wedi codi mater yr angen am ddarpariaeth amgen, a dywedaf yma fy mod wedi fy nghalonogi gan y newyddion ynglŷn â darpariaeth newydd a lansiwyd gan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro—fe'i gelwir yn Academi—a bydd yn gwasanaethu Caerdydd a’r Fro o ddiwedd y mis ymlaen. Ni fydd gennyf amser i fanylu ymhellach, ond os hoffai'r Aelodau ysgrifennu ataf, rwy'n fwy na pharod i rannu'r hyn sydd gennyf am hynny o beth gyda chi.

Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi addysg cerddoriaeth, ac mae'n ariannu'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol gyda buddsoddiad sylweddol, cyfanswm o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025. Mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol hwn yn galluogi pob plentyn ac unigolyn ifanc tair i 16 oed i elwa ar gyfleoedd i chwarae offeryn cerdd, gan gynnwys drwy raglenni ysgolion fel Profiadau Cyntaf a Llwybrau Cerddoriaeth.

Deallaf y bydd pawb sy'n gysylltiedig yn awyddus i glywed rhagor o fanylion am gynlluniau yn y dyfodol. Mae’r coleg yn bwriadu cynnal cyfnod o adolygu yn 2024-25, a bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc, staff, rhanddeiliaid a chynghorwyr allanol yn y DU i ddatblygu rhaglen dalent genedlaethol i Gymru sy’n nodi ac yn meithrin y dalent orau. Bydd y coleg yn ystyried cyfyngiadau i'r ddarpariaeth addysg gerdd a drama lle mae anghydraddoldeb cymdeithasol yn creu rhwystrau i bobl ifanc Cymru.

Yn olaf, hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn deall rhwystredigaeth a phryderon dysgwyr, rhieni a staff yn iawn, ond rwyf hefyd yn hyderus fod ystyriaeth wirioneddol yn cael ei rhoi i weithgarwch cynaliadwy a theg yn y dyfodol, ac rwy’n bwriadu parhau i gyfathrebu â’r coleg. Edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion ynglŷn â'r cynlluniau hyn. Diolch.

16:10

Dwi'n galw ar Rhianon Passmore i ymateb i'r ddadl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Peter Fox am ei sylwadau ynghylch llesiant myfyrwyr; Heledd Fychan am ei sylwadau am y strategaeth ddiwylliannol a'r effaith ar Gymru ac unigolion; Julie Morgan am ei phwyntiau ymarferol iawn mewn perthynas â'r offerynnau, sydd wedi’u hateb, a dyfodol y disgyblion hyn ac addysgu cynaliadwy; a Tom Giffard ar yr angen am degwch cyllidebol diwylliannol. Rhys ab Owen, ni allwn ddibynnu ar ogoniannau'r gorffennol, rwy'n hoffi'r ffordd honno o siarad am wlad y gân. Ac yn olaf, Jenny Rathbone, a gyfeiriodd at hawliau’r plentyn a’r gallu i gyflawni ar ran plant Cymru.

Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a’r blagur gwyrdd a roddwyd o’n blaenau heddiw, ond buaswn yn dweud, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i’r adolygiad hwnnw fod yn gyfannol o ran ei fanylder, ac mae'n rhaid iddo gynnwys y sefydliadau allanol sy'n gysylltiedig â’r llwybr cenedlaethol, o ran model conservatoire i Gymru. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am roi amser ar gyfer y ddadl bwysig hon, a hefyd i Rebecca Totterdell, y deisebydd, a’r holl ymgyrchwyr eraill hynny am eu hymdrechion, gan gynnwys Elizabeth Atherton, sydd wedi codi ymwybyddiaeth o’r mater diwylliannol hynod bwysig hwn i Gymru.

Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw wedi bod yn ddefnyddiol i nodi unwaith eto fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan ein sefydliadau diwylliannol y dulliau gweithredu sydd eu hangen arnynt i oroesi a ffynnu mewn dyfodol ansicr. Mae gennym enw da haeddiannol am y gwaith a wnawn yma yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu ein gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol newydd, ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom nawr i anrhydeddu’r cynllun cerddoriaeth cenedlaethol fel fframwaith cenedlaethol a chynllunio ar gyfer ein pobl ifanc hynod dalentog ledled Cymru. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Taliad tanwydd gaeaf

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan.

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar daliad tanwydd gaeaf. Dwi'n galw ar Joel James i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8651 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi pryder dybryd y bydd tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â’r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.

2. Yn nodi ymateb Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip i WQ93698, lle nododd fod risg y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben yn gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i ddod â'r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd dros dro. Mae’r penderfyniad i gael gwared ar daliadau tanwydd gaeaf cyffredinol wedi amharu ar filiynau o bensiynwyr sydd bellach yn ofnus ynghylch fforddiadwyedd eu biliau tanwydd gaeaf, y rhagwelir y byddant yn codi 10 y cant ym mis Hydref. Ond yr hyn sy’n peri dryswch llwyr ynglŷn â’r sefyllfa hon yw nad oes unrhyw esboniad o gwbl wedi’i gynnig gan ein Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan pam ei fod yn angenrheidiol, neu pam fod cymaint o frys—yn wir, cymaint o frys fel eu bod wedi gorfod rhoi mesurau darpariaeth brys arbennig ar waith ac osgoi craffu seneddol. Maent wedi honni, braidd yn chwerthinllyd, a heb dystiolaeth, dylwn ychwanegu, eu bod wedi gwneud hynny er mwyn atal cwymp yng ngwerth y bunt.

Maent hefyd wedi honni bod ganddynt dwll du o £22 biliwn mewn cyllid cyhoeddus, ond mae hyn wedi cael ei brofi dro ar ôl tro i fod yn ffuantus ac yn sefyllfa sydd wedi'i chreu gan y Blaid Lafur wrth iddynt osod eu cyfyngiadau eu hunain ar wariant cyhoeddus y DU ac ôl-ddyddio cyflogau’r sector cyhoeddus yn unol â chwyddiant er mwyn cadw eu rhoddwyr yn yr undebau llafur yn hapus. Gwta 10 wythnos cyn galw'r etholiad, archwiliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol gyllid cyhoeddus y DU ac nid oedd unrhyw arwydd o ddiffyg o £22 biliwn. Mewn gwirionedd, pe bai swyddogion wedi cymeradwyo amcangyfrifon cyllid cyhoeddus anghywir yn fwriadol, byddent wedi mynd yn groes i god y gwasanaeth sifil.

A bod yn gwbl onest, mae’n amlwg i bawb yma bron, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, fod torri'r cynllun tanwydd gaeaf cyffredinol yn y ffordd hon nid yn unig yn eithriadol o gibddall a dideimlad, ond hefyd ei fod yn creu risg o wthio miloedd o bensiynwyr i mewn i dlodi tanwydd. Bydd dros 100,000 o bobl yn ei golli yn fy rhanbarth i yn unig. Mae'n creu ymyl clogwyn i'r rheini nad yw eu hincwm ond ychydig uwch na lefelau credyd pensiwn. Nid yw pobl a chanddynt 35 mlynedd o gyfraniadau yswiriant gwladol a phensiwn llawn y wladwriaeth yn gymwys i gael credyd pensiwn, a lwfans tanwydd y gaeaf nawr, ac eto, mae rhywun a chanddynt 34 mlynedd o gyfraniadau yn gymwys, sy’n golygu mai’r rheini sydd ond ychydig dros y trothwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd. Gwyddom hefyd fod bron i 900,000 o bobl â hawl i gredyd pensiwn ond nad ydynt yn ei hawlio. Y gwir amdani yw y bydd y Llywodraeth Lafur hon yn mynd ag incwm hanfodol oddi ar y rheini sydd fwyaf o'i angen.

Fodd bynnag, yr hyn sy'n fwyaf brawychus, fel y canfuom, yw nad yw’r Llywodraeth Lafur newydd wedi comisiynu unrhyw asesiad effaith o gwbl ar effaith y toriad hwn. Mae ymchwil y Blaid Lafur ei hun wedi amcangyfrif y bydd cael gwared ar daliadau tanwydd gaeaf cyffredinol yn arwain at bron i 4,000 yn rhagor o farwolaethau ychwanegol. Felly, y cwestiwn go iawn yma yw pam fod Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud y fath beth. Pam y byddent yn dymuno achosi cymaint o ofn i bensiynwyr, gyda llawer ohonynt yn agored i niwed, yn anabl neu'n dioddef o broblemau iechyd? A pham y byddent yn dymuno gwneud penderfyniad a fyddai, yn ôl eu hymchwil eu hunain, yn achosi miloedd o farwolaethau? Y gwir amdani, Lywydd dros dro, yw y bydd torri taliadau tanwydd y gaeaf a chosbi pensiynwyr agored i niwed yn paratoi’r ffordd yn y pen draw ar gyfer polisïau cyllidol hynod boenus a chodiadau treth pellach, fel y mae'r Llywodraeth newydd, a bod yn deg, yn ein rhybuddio’n barhaus yn eu cylch. Byddant yn dadlau, os oes rhaid i bensiynwyr bregus dalu, rhaid i bawb arall dalu hefyd.

Maent wedi creu'r sefyllfa ariannol hon ac yn cosbi pensiynwyr fel y gallant wasgu pob ceiniog o bocedi trethdalwyr y DU, busnesau ac entrepreneuriaid. Ond fel y gwelsom dro ar ôl tro drwy hanes, ni fyddant yn defnyddio'r arian hwn i lywodraethu'n dda, ond yn hytrach i chwyddo'r wladwriaeth, ac i roi £100 miliwn arall i lenwi'r lle hwn â 36 o wleidyddion ychwanegol yr ydych chi mor awyddus i'w cael ond nad oes unrhyw un arall mo'u heisiau. Mae’r ffaith nad oedd unrhyw AS Llafur o blaid cael gwared ar y toriad hwn yr wythnos diwethaf yn dangos eu llwfrdra'n glir a'r dirmyg sydd ganddynt tuag at ein gwlad a’n pobl fwyaf agored i niwed, a chyda phob parch, Ysgrifennydd y Cabinet, y dirmyg sydd ganddynt tuag atoch chi a’r Llywodraeth hon. Rwy’n siŵr fod llawer o bobl a bleidleisiodd drostynt ym mis Gorffennaf bellach yn teimlo cywilydd ynglŷn â hynny.

Lywydd dros dro, nid oes unrhyw reswm rhesymegol pam y dylid cael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf cyffredinol. Nid yw gwneud i bobl hŷn, gyda rhai ohonynt yn anabl, a rhai ohonynt yn dioddef o salwch cronig ac angheuol ac sydd felly'n teimlo'r oerfel yn waeth, ac sy'n ofni rhoi'r gwres ymlaen rhag ofn iddynt gael bil na allant ei fforddio, yn gwneud synnwyr yn foesol nac yn ariannol. Yn y ddadl hon, byddwn yn sicr o glywed am gost ddynol, ac o bosibl, cost ariannol uwch polisi o’r fath. Hoffwn atgoffa Aelodau ar draws y Siambr i gymryd cam yn ôl ac edrych ar y rhesymau go iawn pam fod y Blaid Lafur wedi dewis gwneud hyn a dewis cosbi pensiynwyr agored i niwed. Dim ond dechrau’r boen sydd gan y Blaid Lafur ar ein cyfer ni a phobl Cymru yw hyn, ac rwy'n annog pawb yma i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.

16:15

Mae'r Llywydd wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau anodd, fel newidiadau i’r cymhwystra ar gyfer lwfans tanwydd y gaeaf, yn sgil 14 o flynyddoedd o gamreoli economaidd.

2. Yn croesawu’r ymrwymiad i’r clo triphlyg a dull wedi’i dargedu o gyflwyno’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

3. Yn cytuno bod sicrhau’r incwm mwyaf, meithrin cadernid ariannol a rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl yn flaenoriaethau ar gyfer lliniaru effaith prisiau ynni uchel, ac yn annog pobl i ddod i wybod mwy am y cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo drwy Advicelink Cymru..

4. Yn cefnogi’r egwyddor o dariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r cwsmeriaid sydd fwyaf agored i niwed, ac yn galw ar OFGEM i ddiwygio taliadau sefydlog.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Jane Hutt 16:19:01
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Dwi'n galw ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu fod tynnu nôl ar ddarpariaeth gynhwysol y taliad tanwydd gaeaf yn barhad o agenda llymder llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Mae Plaid Cymru yn cytuno gyda'r hyn sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw ac fe fyddwn yn ei gefnogi. Rŷn ni'n rhannu'r pryder bod tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn mynd i golli cannoedd o bunnau o gefnogaeth yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i fedru talu biliau ynni, i dorri biliau ynni—. Sori, fe ddechreuaf i eto.

Mae Plaid Cymru yn cytuno gyda'r hyn sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw ac fe fyddwn yn ei gefnogi. Rŷn ni'n rhannu'r pryder bod tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn mynd i golli cannoedd o bunnau o gefnogaeth yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan, ac rŷn ni'n gwybod bod y biliau hynny yn mynd i godi hyd yn oed yn uwch. Ond rŷn ni hefyd yn galw ar y Llywodraeth honno i newid y penderfyniad hwnnw.

Ond mae'r hyn sydd yn ein gwelliant ni yn ychwanegu at y cynnig hefyd, ac mae hynny'n allweddol i'r ddadl hon heddiw, sef gresynu at y ffaith bod y toriad hwn yn barhad o agenda lymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol San Steffan. Ac mae’n rhaid imi ddweud, rydw i’n anghytuno hefyd gyda’r modd y mae Joel James newydd ailysgrifennu hanes y 14 mlynedd ddiwethaf.

Mae hynny'n bwynt hollbwysig, rŷn ni'n teimlo, achos rŷn ni’n blaid sy'n ymwrthod yn llwyr ag ideoleg a pholisïau llymder. Mae mesurau llymder yn dyfnhau anghydraddoldeb drwy waethygu'r caledi sy'n cael ei deimlo gan bobl ar incwm isel, tra'n caniatáu i'r mwyaf cyfoethog deimlo'r pwysau lleiaf.

Mae disgwyliad oes adeg geni, sy’n ddangosydd allweddol o iechyd gwlad, wedi syrthio ers 2010, a hynny yn sgil llymder, yn ôl y London School of Economics. Mae'n bolisi economaidd gwbl aneffeithiol ac annheg. Mae’n ymwneud ag arbed arian, ydy, ond mae dyled y Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn wedi cynyddu o dan Lywodraethau'r Torïaid. Felly, doedd e ddim wedi cyflawni’r hyn yr oedd gwleidyddion fel George Osborne wedi dweud yr oedd yn mynd i’w wneud.

Beth yr oedd yn ei wneud oedd trosglwyddo arian o'r tlotaf i'r cyfoethocaf. Ac wrth i ni fyw gyda lefelau uchel o dlodi plant, gyda banciau bwyd yn rhan o fywyd bellach i filiynau, mae biliwnyddion yr ynysoedd hyn wedi gweld eu cyfoeth yn cynyddu ac yn cynyddu. A'ch plaid chi, ar y meinciau Ceidwadol, oedd penseiri llymder, ac mae'n rhaid i chi gael eich dwyn i gyfrif am hynny.

Ydy, mae'n wir na wnaethoch chi dynnu'r taliad yma oddi ar bensiynwyr—er y gwnaethoch chi ystyried gwneud hynny yn 2017. Ond, fe wnaethoch chi achosi dewisiadau anodd, amhosibl i bensiynwyr—y dewis rhwng bwyta neu gadw'n dwym. Cymerodd Llywodraethau Ceidwadol ers 2010 y dewisiadau anghywir—dewisiadau a wnaeth wanhau'r economi a niweidio gwasanaethau cyhoeddus, ac a wnaeth achosi gymaint o doriadau eraill a effeithiodd ar aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Mae'n hynod siomedig, ac yn hynod bryderus, gweld Aelodau Seneddol o Gymru, gafodd eu hethol ar ôl addo newid, yn pleidleisio o blaid torri'r taliadau tanwydd gaeaf yma, neu'n dewis peidio ei wrthwynebu drwy ymatal. Am lwfr, am ddigywilydd, am ddiegwyddor. Mae adroddiadau gan Age Cymru, y comisiynydd pobl hŷn a Carers Wales yn dangos bod tlodi yn rhemp ymysg aelodau hŷn ein cymdeithas. Mae'r rheini sydd yn anabl, neu'n byw gyda chyflwr iechyd cronig hyd yn oed yn fwy tebygol o gael eu taro'n galed gan y toriad hwn, yn ôl y mudiadau sy'n ymgyrchu dros eu lles a'u hawliau.

Mae hyd at £300 yn mynd yn bell i helpu gyda chostau ynni dros y gaeaf, yn enwedig gan fod disgwyl i’r bil ynni blynyddol cyfartalog godi bron £150 y mis nesaf. Bydd tynnu'r gefnogaeth yma i ffwrdd ar fyr rybudd fel hyn yn gyrru llawer o bensiynwyr i dlodi tanwydd a llawer yn ddyfnach i ddyled. Gall peidio â chadw eich cartref yn dwym gael canlyniadau difrifol. Nid yw cartref twym jest yn rhywbeth cyfforddus i'w gael; mae'n hanfodol i iechyd, yn enwedig i bobl hŷn. Mae cartref oer yn cynyddu’r risg o strôc, o haint anadlol, o gwympo neu o anafiadau eraill. A gall ladd.

Nododd yr ystadegau diwethaf sydd ar gael fod 800 o excess winter deaths, fel y maent yn cael eu galw, yng Nghymru yn ystod 2021-22. Gellir priodoli 240 ohonyn nhw i gartrefi oer. Y Deyrnas Gyfunol yw’r chweched economi fwyaf yn y byd, ac mae 165 o biliwnyddion yn y wlad. Nid torri cymorth tanwydd i bensiynwyr yw’r ateb i broblemau economaidd, ac ni fyth ddylai fod. Nid yw mwy o lymder yn ateb os ydyn ni am weld tegwch a llewyrch i bobl Cymru, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sefyll lan drostyn nhw yn wyneb hyn. Felly, fy nghwestiwn i'r Llywodraeth yw hwn: onid ydych chi wedi cael digon o orfod gwneud yn iawn am gamgymeriadau polisi San Steffan? Dangoswch i bobl Cymru eich bod yn rhoi eich cenedl cyn eich plaid.

16:20

A gaf i atgoffa’r Aelodau o’r adeg y galwodd y Ceidwadwyr am roi terfyn ar bresgripsiynau am ddim i bawb? I ddyfynnu Darren Millar, rydym yn darparu presgripsiynau am ddim ar gyfer paracetamol i filiwnyddion. Roedd yn gwbl wrthwynebus i ddarpariaeth gyffredinol, gan ddweud y dylid ei thargedu at y rhai sydd ei hangen.

Mae gennyf fuddiant personol. Dechreuais dderbyn pensiwn y wladwriaeth ym mis Gorffennaf. Nid wyf erioed wedi cael taliad lwfans tanwydd y gaeaf, ac ni fyddaf yn cael un bellach. A oes ei angen arnaf? Nac oes. A oes ei angen ar Paul McCartney, Andrew Lloyd Webber, Elton John, Sting neu Mick Jagger? Gallwn barhau am y pedair munud nesaf i enwi pobl gyfoethog iawn nad oes arnynt ei angen—[Torri ar draws.] Ie.

16:25

Beth am y dyn sy'n gweithio yn ein haearnwerthwr lleol sy'n mynd i fod £13 dros y trothwy? Mae'n mynd i golli'r £300 hwnnw. Cytunaf fod pwynt i'w ddadlau ynghylch pobl sy’n talu treth o 40 y cant a 45 y cant, ond gyda’r hyn y mae eich Llywodraeth yn ei gynnig, nid oes asesiad effaith, mae eich ffigurau eich hun yn dweud 4,000 o farwolaethau cyn pryd, ac mae mynd â'r budd-dal hwn oddi ar bensiynwyr yn creu ymyl clogwyn ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.

Fe wnaf ateb y darn olaf am fy mod yn gallu, a daw'r gweddill yn yr araith. Nid ydym yn gwybod faint o bobl sy'n mynd i farw y gaeaf hwn. Ni allwch wybod faint o bobl sy'n mynd i farw y gaeaf hwn, am nad ydych yn gwybod sut fydd y tywydd y gaeaf hwn. Os bydd y tywydd yn mynd i lawr i -20 gradd C—[Torri ar draws.] Os bydd y tywydd yn mynd i lawr i -20 gradd C, neu’n aros uwchlaw’r rhewbwynt, bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Chi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn. Onid ydych chi'n credu y dylech fyfyrio ar farn y sefydliadau sy'n cynrychioli pobl hŷn ac sy'n gwbl gandryll am y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Lafur newydd y DU?

Yn sicr, fe wnaf fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddweud.

Ar gyfer beth y mae pobl yn defnyddio eu taliad gaeaf? Mae rhai yn ei roi, yn garedig iawn, i fanc bwyd; mae eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau dros y gaeaf. Mae data a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol rhwng 2016 a 2018 yn dangos bod gan fwy nag un o bob pum aelwyd ym Mhrydain lle mae prif ddeiliad y tŷ, a ddiffinnir fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am gyllid yr aelwyd, yn hŷn na 65 oed gyfoeth o dros £1 filiwn. Mae hefyd yn dangos bod un o bob pedwar o bobl dros 65 oed—hynny yw, 25 y cant—yn byw ar aelwyd â chyfanswm cyfoeth o dros £1 filiwn. I bobl fel fi, mae £1 filiwn yn llawer o arian. Gallaf ddeall pam nad yw pobl ar feinciau'r Ceidwadwyr yn credu bod £1 filiwn yn llawer o arian. Beth yw £1 filiwn? I lawer o ffermwyr, mae’n 10 mlynedd o daliadau fferm sylfaenol. Rwy'n ei ystyried yn swm sylweddol.

Mae torbwynt ar gyfer derbyn credyd pensiwn yn anfoesol. Mae hynny'n eich ateb chi, Andrew, ar hyn. Byddai’n anfoesol pe bai pawb sy’n gymwys am gredyd pensiwn yn ei hawlio. Gwyddom nad yw llawer o bobl gymwys yn gwneud hynny. Mesur tecach fyddai'r un y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer budd-dal plant. Mae pob teulu'n cael budd-dal plant, ond yn dibynnu ar enillion, codir tâl am fudd-dal plant drwy'r system drethu. Galwaf eto am i bob incwm gael ei drethu yn yr un modd. Mae gennym dreth incwm, mae gennym incwm difidend ac mae gennym enillion cyfalaf, ac os ydych chi'n cael unrhyw beth ar wahân i dreth incwm, rydych chi'n talu llai o lawer.

Cymharwch driniaeth pensiynwyr â phobl ifanc. Mae pobl ifanc wedi cael eu cosbi ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010. Mae ffioedd dysgu wedi cynyddu, ac ar hyn o bryd maent yn £9,250 y flwyddyn, ac mae galw am eu codi. Mae faint o log a godir arnoch yn dibynnu ar ba gynllun rydych chi arno: 4.3 y cant ar gynllun 1 neu gynllun 5, 7.3 y cant ar gynllun 2, 4.3 y cant ar gynllun 4, 7.3 y cant os ydych chi ar gynllun benthyciad ôl-raddedig. Byddwch yn talu 9 y cant o'ch incwm dros y trothwy isaf allan o'r mathau o gynlluniau sydd gennych. Dim ond un ad-daliad a gymerir gennych bob tro y cewch eich talu, hyd yn oed os ydych ar fwy nag un math o gynllun. Ar gyfer nifer o raddedigion ifanc, y gyfradd dreth wirioneddol yw 29 y cant, nid 20 y cant. Ar gyfer ôl-raddedigion, mae'n 6 y cant dros y trothwy benthyciad ôl-raddedig o £21,000 y flwyddyn, a daw'n 9 y cant pan fyddwch ar gyflog uwch.

Mae trafodaeth i'w chael ynglŷn â pha mor gyffredinol yw cymorth. Mae cydbwysedd i'w daro rhwng sicrhau nad oes unrhyw un ar eu colled a chost y ddarpariaeth. A gaf i sôn am bolisi Plaid Cymru ar bensiynau’r wladwriaeth mewn Cymru annibynnol? Ni fyddent yn eu hariannu, yn y gred ryfedd y byddai Lloegr yn eu hariannu. Ni allaf feddwl am unrhyw wlad yn y byd, a grëwyd yn dilyn rhannu gwlad yn wahanol wledydd, lle mae un o'r gwledydd yn ariannu pensiwn y wladwriaeth mewn gwlad arall a grëwyd yn sgil y rhaniad. Nid yw Rwsia yn talu pensiwn y wladwriaeth i Wcreiniaid. Nid yw hyd yn oed yr SNP, er mor wan yw eu gafael ar economeg, wedi awgrymu y byddai hyn yn digwydd.

Diolch, Lywydd dros dro. Gwyddom fod arwain yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond weithiau, bydd y penderfyniadau hynny'n anghywir. A phan wyddom fod penderfyniadau anghywir wedi’u gwneud, mae’n cymryd dewrder i sefyll o blaid eich etholwyr a gwrthwynebu penderfyniadau a fydd, yn y pen draw, yn niweidio’r etholwyr hynny. Yn anffodus, ni welsom unrhyw ddewrder gan yr ASau Llafur yma yng Nghymru yr wythnos diwethaf o ran gwrthwynebu Keir Starmer a’i benderfyniad gwleidyddol i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf hyd at 400,000 o gartrefi yng Nghymru. Nawr, yn sir Fynwy, amcangyfrifir y bydd 21,000 o bensiynwyr yn colli taliad tanwydd y gaeaf. Roedd y taliad hwnnw, a gyflwynwyd gan Rishi Sunak, yn hynod bwysig i gefnogi pensiynwyr drwy aeafau caled, a nawr, rydym yn gweld y cymorth hanfodol hwn yn cael ei ddiddymu er mwyn helpu i ariannu pethau fel y codiadau cyflog enfawr i yrwyr trenau sydd eisoes ar gyflogau sylweddol. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn hynod siomedig gan y tro pedol sydd wedi digwydd y naill ochr a'r llall i'r etholiad gan ASau Llafur. Cyn yr etholiad, cyhoeddodd Prif Weinidog presennol y DU fideo gyda'r pennawd 'Mae pensiynwyr yn haeddu sicrwydd ar ôl ymddeol a dyna fydd fy llywodraeth Lafur yn ei ddarparu'. Yn syml, nid yw hyn yn wir, a gallwn weld hynny bellach.

Yn anffodus, pleidleisiodd pob AS Llafur, gan gynnwys AS newydd sir Fynwy, yn erbyn buddiannau pensiynwyr Cymru, neu ymatal, gan ymwrthod â’u cyfrifoldeb i’w hetholwyr. Tybed faint o bobl a fyddai wedi pleidleisio dros yr ASau newydd hyn pe baent yn gwybod y byddant yn colli eu cymorth gwresogi er mwyn ariannu cynlluniau cyflog Llafur. Bydd y penderfyniad i ddiddymu taliad tanwydd y gaeaf yn niweidio pensiynwyr ledled Cymru. Roedd yn ddewis gwleidyddol clir. Roedd llawer iawn o ffyrdd eraill y gallai Keir Starmer fod wedi dod o hyd i arian cyn iddo ef a’r Canghellor benderfynu gwneud i’n pensiynwyr dalu.

Nawr, rwy’n parchu sylwadau diweddar y Prif Weinidog pan awgrymodd ei bod yn barod i fod yn amhoblogaidd gyda’i chymheiriaid Llafur yn San Steffan pan fo angen. Fodd bynnag, mae geiriau'n rhad. Mae angen inni weld gweithredu nawr. Dim ond drwy bleidleisio gyda’n cynnig heddiw y gall y Senedd hon anfon neges na fu modd i ASau Llafur ei hanfon i San Steffan: ein bod yn credu mewn cefnogi ein pensiynwyr drwy aeafau anodd, ac na fyddwn yn gadael i Keir Starmer wneud penderfyniadau gwleidyddol i gael gwared ar gymorth i'r rhai mwyaf agored i niwed.

16:30

Dwi yn gresynu at rai o'r sylwadau dŷn ni wedi'u clywed y prynhawn yma, yn enwedig, os caf i ddweud, cyfraniad Mike Hedges. Dychmygwch pe byddai llywodraeth Dorïaidd wedi gwneud hyn. Beth fyddai eich sylwadau chi fel Plaid Lafur?

A dwi eisiau mynd nôl i'r rhai dŷn ni i gyd yn eu cynrychioli, a’r ofn sydd yn ein cymunedau ni ar y funud, oherwydd fe wnaiff pobl farw oherwydd y penderfyniad yma. Dŷn ni'n gwybod hynny oherwydd polisïau llymder y Ceidwadwyr, mi fuodd bobl farw oherwydd hynny, a drwy barhau gyda'r polisïau yma o lymder—. Agenda wleidyddol ydy hi. Mi oedd Sioned Williams yn llygad ei lle. Dyna mae hyn yn ei olygu i bobl yn ein cymunedau ni.

Felly, iawn, mi gawn ni bwyntio bys, mi gawn ni chwarae gemau gwleidyddol, ond ein rôl ni yma yn y Senedd ydy ffeindio datrysiadau, a sicrhau bod pobl Cymru yn derbyn yr hyn maen nhw'n ei haeddu. Dwi wedi bod yn atgoffa fy hun yn ddiweddar o'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Mi oeddwn i'n grybwyll o pan oeddwn i'n sôn am ddiwylliant, ond dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig i ni atgoffa ein hunain o beth mae’n ei olygu o ran hawl pobl i safon byw ddigonol, i'w hiechyd a'u ffyniant, a hefyd yr hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd henaint. Sicrwydd a’r hawl i safon byw ddigonol. Nid yw'n ddewis, oherwydd dydy o ddim chwaith yn ddewis rhwng bwyta neu allu cynhesu eich tŷ mwyach.

Dŷn ni'n sôn am hanfodion bywyd. Mae un o bob chwe pherson hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae Cymru â chyfran fwy o bobl hŷn na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dwi'n nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi rhannu gyda ni yn ddiweddar gymorth Llywodraeth Cymru i aelwydydd. Mae honno yn rhestr hirfaith o'r gwahanol fath o gefnogaeth sydd ar gael, ond dwi'n mynd nôl at bwynt Sioned, a oedd yn gofyn: mae'n rhaid eich bod chi'n flin bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wario'r arian prin sydd gennym ni yn llenwi'r gaps gan Lywodraeth San Steffan—yr hyn y dylai Llywodraeth San Steffan fod yn ei ddarparu i bobl Cymru.

Hefyd, dwi'n pryderu'n fawr—mi soniodd Sioned ynglŷn â’r normaleiddio sydd wedi bod o fanciau bwyd. Mae hyn yn rhywbeth na ddylen ni fod yn normaleiddio. Mae o'n sgandal bod yna fwy a mwy o bobl, mwy o deuluoedd, mwy o bobl hŷn ac ati, yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd er mwyn cael rhywbeth mor sylfaenol â bwyd. Yn y rhestr o gymorth Llywodraeth Cymru i aelwydydd, mae yna gyfeiriad, wrth gwrs, at yr arian i sefydliad banc tanwydd—normaleiddio banc arall. Gwych bod y ddarpariaeth ar gael, ond a gawn ni jest gwestiynu, unwaith eto, pam mae angen, rŵan, fanc tanwydd i fynd i'r afael ag un o hanfodion bywyd? Pam na allwn ni wneud rhywbeth radical fel jest sicrhau bod pobl efo'r hyn sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu cael bwyd a thŷ cynnes?

Mae yna broblem ideolegol fan hyn. Mae'n hawdd pwyntio bys at benderfyniadau, ond mae o'n rhywbeth mae'n rhaid inni, yma yng Nghymru, ddechrau cael datrysiadau yn ei gylch, ac mi ydyn ni angen i Lywodraeth Lafur yn San Steffan rŵan beidio â chario ymlaen efo'r polisïau niweidiol hyn, sydd yn mynd i effeithio ar bobl yn ein cymunedau ni, sydd yn mynd i olygu bod mwy o bobl yn mynd i farw yn eu cartrefi, sydd yn golygu eu bod nhw ofn cynhesu eu tai y gaeaf yma. Felly, bach o reality check, plis, a bach o weithredu gan y Llywodraeth yma a Llywodraeth San Steffan.

16:35

Heddiw rydym wedi dod yma i ddangos ein cefnogaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sef ein pensiynwyr. Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf wedi rhoi baich ychwanegol ac annerbyniol ar yr henoed yma yng Nghymru. I bensiynwyr ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, bydd eu dileu'n golygu y bydd 23,898 o bobl yn colli eu cymorth. Mae'r cymorth hwnnw'n fwy na pheth braf i'w gael yn unig; i lawer, mae'n fater o oroesi. Mae taliadau tanwydd y gaeaf wedi bod yn achubiaeth hanfodol i'n pobl hŷn ers amser maith, gan eu helpu i wresogi eu cartrefi yn ystod misoedd oer y gaeaf. Hebddynt, mae pensiynwyr yn wynebu realiti llym costau tanwydd cynyddol. Ar draws y DU, mae biliau ynni wedi cynyddu oherwydd y rhyfel yn Wcráin, ac mae cost popeth yn codi, ac ar yr un pryd, mae'r Blaid Lafur, a ddywedodd ei bod yno i gefnogi pobl, wedi penderfynu cosbi pensiynwyr trwy ddileu'r rhan fwyaf o'r cymorth a gânt.

Mae llawer o bensiynwyr yn byw ar incwm sefydlog, gan ddibynnu'n aml ar bensiynau cymedrol sydd prin yn talu am hanfodion. Yng Nghymru mae bron i un o bob pump o bensiynwyr yn byw mewn tlodi, gyda nifer eisoes yn cael trafferth cael yr anghenion sylfaenol. Nid ydynt i gyd yn gefnog, fel y mae rhai Aelodau yn credu eu bod; mae'r rhan fwyaf yn ei chael hi'n anodd ac yn byw o wythnos i wythnos. Yng nghefn gwlad Cymru, lle mae ynysu gwledig eisoes yn broblem sylweddol, mae'r effaith hyd yn oed yn fwy dwys yn fy marn i. Mae tlodi tanwydd gwledig yng Nghymru yn sylweddol uwch nag mewn ardaloedd trefol. Mae llawer o drigolion oedrannus yn byw oddi ar y grid ac ymhell o rwydweithiau cymorth, ac mae'n ei gwneud hi'n anos byth iddynt gael gafael ar y cymorth pan fydd ei angen arnynt. Heb y taliadau hyn, mae ein pensiynwyr yn wynebu risg o dlodi tanwydd, ac o gael eu gorfodi i fyw mewn amgylchiadau rhewllyd sy'n peryglu eu hiechyd a'u lles. Fel y dywedwyd eisoes, gallai 4,000 o bensiynwyr farw oherwydd y penderfyniad hwn, ac rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd gwledig.

Ein rhieni yw'r bobl hyn, ein neiniau a'n teidiau, ein cymdogion a'n ffrindiau. Mae arnom fwy iddynt na gaeaf oer yn eu cartrefi ac addewidion gwag. Fe wnaethant adeiladu a brwydro dros y cymunedau y mae pawb ohonom yn eu galw'n gartref. Maent yn haeddu treulio'u hymddeoliad mewn cysur a diogelwch, wedi'u cefnogi gan wlad y maent hwy wedi'i chefnogi ar hyd eu bywydau. Yr hyn nad ydynt yn ei haeddu gan y Llywodraeth Lafur hon yn San Steffan yw treulio'u bywydau'n ofni hypothermia a dyledion enbyd yn eu cartrefi.

Heddiw, rwy'n erfyn ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi camau pendant ar waith. Ni allwn ni yn y Senedd eistedd yn segur tra bod aelodau mwyaf bregus ein cymuned yng Nghymru yn cael eu gadael i ofalu amdanynt eu hunain. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy lle mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi methu. Boed hynny drwy fersiwn Gymreig o daliadau tanwydd y gaeaf, ehangu cynlluniau cymorth presennol, neu weithio gyda chynghorau lleol i ddarparu cymorth uniongyrchol, mae'n rhaid inni weithredu'n gyflym i gefnogi ein pensiynwyr y gaeaf hwn.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ar sawl achlysur ers dechrau yn ei swydd y bydd yn rhoi Cymru yn gyntaf a'i phlaid yn ail. Mae'n bryd gweithredu, nid siarad. Rwy'n dweud wrth yr Aelodau Llafur heddiw: cefnogwch ein pensiynwyr, cefnogwch Gymru a phleidleisiwch dros y cynnig hwn o'ch blaenau heddiw. Diolch.

A gaf i ddweud yn gyntaf pa mor siomedig yw gweld y meinciau Llafur mor wag heddiw, a ninnau'n trafod taliad tanwydd y gaeaf? I lawer o bensiynwyr, mae tywydd oer yn fwy nag anghysur yn unig, mae'n beryglus. I bensiynwyr, yn enwedig y rhai ar incwm isel, mae cymorth tanwydd y gaeaf wedi bod yn achubiaeth. Bydd penderfyniad y Llywodraeth Lafur i gael gwared ar y budd hanfodol hwn yn gorfodi miliynau o bensiynwyr i ddewis rhwng gwresogi a bwyta; fel y dywedwyd eisoes, gallai ladd 4,000 o bobl, a daw'r ffigur hwnnw o ymchwil Llafur ei hun yn 2017.

Dywed Gweinidogion ei fod yn fater o lenwi twll du, ond yr unig dwll du a welsom yn cael ei lenwi yn ddiweddar yw'r twll du yng nghwpwrdd dillad Keir Starmer a lenwyd gan roddwr i'r Blaid Lafur. Yn syml, nid yw rhifau'r Llywodraeth yn gwneud synnwyr. Bydd torri cymorth tanwydd y gaeaf yn arbed tua £1.5 biliwn. Wrth ymateb i'r brotest, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn sicrhau y bydd pob person sydd â hawl i gredyd pensiwn yn ei gael, ond pe bai pob person sy'n gymwys i gael credyd pensiwn yn ei gael, byddai'n costio £3.43 biliwn ychwanegol i'r Llywodraeth—mwy na dwywaith y swm y byddant yn ei arbed trwy dorri cymorth tanwydd y gaeaf, felly ai mater o arbed arian yw hyn mewn gwirionedd, neu a yw'n ymwneud â gwneud penderfyniadau sy'n brifo'r rhai lleiaf abl i ymladd yn ôl? Nid yw'n fesur arbed costau sydd o fudd i'r economi, ac nid yw'n ystyried y caledi y bydd yn ei achosi, yn enwedig i'r rhai ar incwm isel sydd ond ychydig uwchlaw'r trothwy ar gyfer derbyn credyd pensiwn. 

Mae'r ffeithiau economaidd yn glir, ond yr hyn y dylem siarad amdano heddiw yw'r gost ddynol. Clywais gan bensiynwr yn etholaeth Mynwy, menyw yn ei 70au, a oedd mor bryderus ynghylch talu ei biliau gwresogi nes iddi orfod cael swydd ran-amser. Mae'n warthus fod y ddynes hon yn teimlo nad oedd ganddi unrhyw ddewis arall. Bydd 1.6 miliwn o bensiynwyr anabl yn cael eu hamddifadu o'u taliad yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun, felly dyna saith o bob 10 person anabl dros oedran pensiwn a fydd yn colli eu taliad tanwydd y gaeaf. Mae dros 8 o bob 10 o'r rheini'n 80 oed neu'n hŷn.

Ym mis Mai, dywedodd AS newydd sir Fynwy, Catherine Fookes, na ddylai pensiynwyr ddewis rhwng gwresogi a bwyta, ac eto, ar ôl cael ei hethol, roedd hi'n hapus i wneud cam â'n pensiynwyr a'u hamddifadu o'r achubiaeth hanfodol hon, a rhoi ei phlaid o flaen pensiynwyr. 

Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried. Rydym yn galw ar Aelodau Llafur y Senedd i uno y tu ôl i ni ac anfon neges gref i San Steffan fod y toriadau hyn yn anghywir, ac os byddant yn digwydd, bydd nifer syfrdanol o bensiynwyr yn wynebu gaeaf o ofn, pryder, a dyddiau a nosweithiau oer, a marwolaeth mewn rhai achosion. Mae angen Llywodraeth arnom sy'n deall nad cyfrifoldeb economaidd yn unig yw cefnogi pensiynwyr, mae'n gyfrifoldeb moesol hefyd. Rwy'n eich annog i gyd i gefnogi ein cynnig heddiw.

16:40

Rwy'n ymwybodol ein bod wedi cael llawer o siaradwyr a bod fy amser yn gyfyngedig, ond roeddwn i eisiau dweud ychydig eiriau, yn enwedig ar y pwnc pwysig hwn. Rydym i gyd yn gwybod bod gwleidyddiaeth yn ymwneud â dewisiadau. Rydym i gyd yma mewn sefyllfa freintiedig iawn, fel swyddogion etholedig, yn enwedig y rhai yn y Llywodraeth, sydd ag ysgogiadau ar gael iddynt i greu bywydau ac amgylchiadau gwell i bobl Cymru. Ac yn y byd yr ydym i gyd yn byw ynddo heddiw lle mae'n ymddangos bod ansicrwydd ac aflonyddwch yn norm, dylai creu amgylchedd sefydlog, diogel i bawb fod yn brif flaenoriaeth i ni, yn enwedig i'r henoed, sydd wedi gweithio a chyfrannu at ein system drethu ar hyd eu hoes, a rhaid eu cefnogi yn eu hymddeoliad a'u henaint, a gadewch inni fod yn onest, nid dyna'r cyfnod hawsaf ym mywyd rhywun.

Fel y bydd llawer o'r Aelodau'n gwybod, mae sefydliadau fel y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor wedi cysylltu â ni gyda phryderon sylweddol am yr effaith y bydd torri'r taliad yn ei chael ar bobl sy'n byw gyda'r clefyd, gan ei fod yn gyflwr creulon sy'n arwain at chwalu cyhyrau'r corff yn raddol, ac mae gwresogi a chysur ychwanegol yn allweddol wrth helpu i gynnal ansawdd bywyd ar adeg eithriadol o anodd. Nid oes llawer o glefydau'n destun prawf modd, felly pan fydd rhywun ar £13,000 sydd hefyd yn dioddef o glefyd niwronau motor, a fyddai wedi cynnau'r gwres am fwy o amser, yn methu fforddio gwneud hynny mwyach, rwy'n mawr obeithio y bydd y Blaid Lafur yn rhoi'r gorau i geisio honni mai nhw yw'r rhai tosturiol.

Rwy'n clywed llawer yma yn y Siambr am y twll du £22 biliwn. Wel, mae'n ddiddorol fod Gweinidogion y DU wedi anghofio sôn bod £9 biliwn o hwn yn deillio o benderfyniadau eich Llywodraeth Lafur i lawr yr M4. Ond eto i gyd, go brin ei bod yn syndod fod pen Keir Starmer dros y lle i gyd gan fod ei feddwl yn amlwg yn brysur yn ceisio cyfiawnhau pam mae ei ffrindiau ymysg yr Arglwyddi'n talu am ei ddillad gwaith a ffrogiau ei wraig. Ond dim ond rhai o'r datgeliadau diweddaraf yw'r rhain mewn rhestr o roddion gwerth £76,000 gan roddwyr ers 2019. Am sosialaidd!

Ers 14 mlynedd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr hon wedi cael y bai a'u dwyn i gyfrif gan Lywodraeth Cymru am bethau a wnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU yn Llundain, ac eto ar y cyfle cyntaf i graffu ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog ymbellhau oddi wrth Keir Starmer ar unwaith ac ymwrthod â chyfrifoldeb. Mae'r cyhoedd eisoes wedi blino clywed 'Pedair blynedd ar ddeg o anhrefn Torïaidd' gan Lywodraeth a addawodd newid, ond mae'n debyg fod angen rhywun i'w feio os ydych chi'n mynd i fod mor greulon wrth wneud penderfyniadau Llywodraeth. Rwy'n herio unrhyw Aelod yn y Siambr hon i ddweud yn onest eu bod yn cefnogi gweld pensiynwyr yn oer y gaeaf hwn. Mae'n bolisi cas, diangen, ac os mai dim ond dechrau yw hyn, rwy'n ofni'r hyn sydd eto i ddilyn yn y pedair blynedd nesaf. Crëwyd y Senedd Gymreig hon yn llythrennol i greu newid i bobl Cymru a chaniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn agosach at adref, felly rwy'n mawr obeithio y bydd eich Llywodraeth yn dangos rhywfaint o urddas a pharch tuag at yr henoed, ac yn cefnu ar bolisi eu plaid drwy wneud rhywbeth a fydd o fudd gwirioneddol i fywydau 400,000 o bobl ledled Cymru. Diolch.

16:45

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 16:45:29
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr. Rwy'n croesawu y cyfle hwn i drafod y materion sy'n ymwneud â thaliad tanwydd y gaeaf, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Gyd-Aelodau, mae'n bwysig cofio'r cyd-destun y gwnaed y newidiadau i daliad tanwydd y gaeaf ynddo. Mae twll du gwerth £22 biliwn yn y pwrs cyhoeddus, ac mae penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud nawr gan Lywodraeth newydd y DU o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni Torïaidd a chamreoli economaidd, fel y dywedwyd ar draws y Siambr hon. Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn sylweddol uwch na'r lefel cyn yr argyfwng, ac mae'n siomedig fod Ofgem wedi cyhoeddi cynnydd i'r cap prisiau o fis Hydref i fis Rhagfyr, a byddaf yn cyfarfod â hwy cyn bo hir. Ond Lywydd, mae angen inni ddefnyddio'r holl ysgogiadau a phwerau sydd gennym yn Llywodraeth Cymru i gefnogi'r bobl hŷn y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt ledled Cymru.

Gallaf weld bod Janet Finch-Saunders yn dymuno gwneud ymyriad. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n derbyn yr ymyriad?

Diolch yn fawr, Lywydd. Ceisiais wneud ymyriad pan oedd Aelod arall yn siarad yn gynt, ond nid wyf yn credu bod neb wedi sylwi. Beth bynnag, ar y pwynt y mae'r Gweinidog newydd ei wneud, y twll du gwerth £22 biliwn. Lle mae'r dystiolaeth ynglŷn â hynny? Ni all neb, ac rwy'n golygu neb—unrhyw Weinidog yn Llywodraeth Lafur y DU na Llywodraeth Lafur Cymru—ddweud wrthym fel Aelodau lle mae'r twll du hwn. Yr hyn a wyddom yw bod y Prif Weinidog Ceidwadol, Rishi Sunak, yn flaenorol, y gwir anrhydeddus ar y pryd, ac yn dal i fod mewn gwirionedd—fe wnaeth honni y byddai'n cefnogi'r taliad tanwydd. Ac mewn gwirionedd, ein heconomi ni, o ran twf, oedd yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7 a chafodd chwyddiant ei ostwng yn helaeth. Roedd yna flagur gwyrdd go iawn. Wedyn roedd pobl eisiau newid, a dyma sydd gennych chi gyda Llywodraeth Lafur Cymru. A gaf i ofyn i chi, Weinidog: a wnewch chi roi copi i'r holl Aelodau o'r nodiadau y mae'n rhaid eich bod wedi'u cael gan Lywodraeth Lafur y DU yn dweud bod y twll du hwn sy'n werth £22 biliwn yn bodoli? Oherwydd, a bod yn onest, nid wyf yn credu hynny.

Wel, gallwch gredu beth bynnag a ddymunwch, Janet Finch-Saunders, ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi wrando ar y pwynt nesaf a wnaf, a'i gredu. Mae'r twll £22 biliwn hwn, sydd wedi'i ddatgelu—. Hefyd, rydym yn cydnabod ein bod wedi darganfod—darganfu'r Canghellor, Rachel Reeves—fod y cyn-Ganghellor, Jermey Hunt, wedi methu rhoi cyfrif am godiadau cyflog y sector cyhoeddus a gafodd eu hargymell gan y cyrff adolygu cyflogau annibynnol. Wel, ddoe ddiwethaf roeddem yn falch o gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg lle'r ydym wedi gwneud y dewis hwnnw, y dewis i 190,000 o bobl gael codiadau cyflog uwch na chwyddiant. Wel, Jeremy Hunt, pe bai eich Llywodraeth chi wedi ennill—diolch byth na wnaethant—lle fyddai'r arian hwnnw? Mae'r twll £22 biliwn yno ac mae'n tyfu. Pan edrychwch ar y —. A hefyd, goruchwyliodd eich Llywodraeth dros ddiffygion yng nghyllidebau'r Swyddfa Gartref ac amddiffyn. Ond rwyf hefyd yn annog yr Aelodau ar ochr y Ceidwadwyr i ddarllen adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, oherwydd yr wythnos diwethaf fe wnaethant roi cyfrif da iawn o'r rhagolygon llwm a welwn yn y dyfodol i gyllid cyhoeddus.

Byddai mwy o hygrededd yn y ddadl am y twll du pe bai'r Blaid Lafur, mewn gwirionedd, wedi bod â hyder yn eu hargyhoeddiad eu hunain ac wedi rhoi'r ymrwymiad i gynnal lwfans tanwydd y gaeaf yn eu maniffesto. Fe wnaethant hynny yn 2010, fe wnaethant hynny yn 2015, fe wnaethant hynny yn 2017, 2019, ond yn rhyfedd iawn, ni wnaethant hynny yn 2024. Pam?

Wrth gwrs, nes i chi ddod i'r swydd, fel y gwyddoch, ni wyddoch beth yw'r sefyllfa gyda'ch cyllid cyhoeddus. Cafodd ei ddatgelu, ac yn wir mae Llywodraeth y DU wedi bod yn agored iawn am y sefyllfa, yr amgylchiadau ariannol. Rydym yn aros am gyllideb, onid ydym? Rydym yn aros am gyllideb ac wrth gwrs bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, fel y byddwn ni fel y Cabinet, yn cyflwyno'r hyn y teimlwn fod ei angen ar Lywodraeth Cymru, yr hyn sydd ei angen ar Gymru, gan sefyll dros Gymru yn y gyllideb honno. Ond rwyf am fynd ymlaen, Lywydd, at y pwynt ynglŷn â beth y dylem ni ei wneud: pa ysgogiadau a phwerau y dylem eu defnyddio i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru beth bynnag, yn ogystal â'r rhai y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt? Oherwydd mae'n wir fod derbyn credyd pensiwn yn datgloi hawl pobl hŷn i daliad tanwydd y gaeaf.

Ac rydym yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth y DU. Soniais mewn ymateb i gwestiynau yn gynharach fod ymgyrch Llywodraeth y DU wedi arwain at gynnydd o 115 y cant yn yr hawliadau credyd pensiwn a ddaeth i law ledled y DU yn ystod y pum wythnos diwethaf, o'i gymharu â'r pum wythnos cyn 29 Gorffennaf. Felly, mae'n rhaid inni gynyddu'r nifer. Wrth gwrs, mae credyd pensiwn yn basbort i ystod o gymorth arall; taliadau tywydd oer, yn ychwanegol at daliad tanwydd y gaeaf.

Ond mae yna lwybrau eraill i helpu pobl hŷn, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod Heledd wedi sôn am fy llythyr atoch chi i gyd, Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol. Mae'n amlinellu'r holl fanteision y gall pobl eu cael, ac rwy'n gobeithio eich bod yn defnyddio hynny i estyn allan yn eich cymorthfeydd. Gallai pobl hŷn gael help, er enghraifft, i dalu eu treth gyngor, ac mae bron i 102,000 o bensiynwyr bellach yn derbyn cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gyda dros 75,000 o bensiynwyr heb fod yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. [Torri ar draws.] Ond mae rhagor eto a allai hawlio cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, os gwelwch yn dda, galwaf arnoch i helpu i sicrhau mynediad at yr hawl honno. Hefyd, gall pensiynwyr gael budd-dal tai i helpu i dalu eu rhent; gall pobl dros 75 oed fod yn gymwys i gael trwydded deledu am ddim. Mae'n rhaid inni gael arian i bocedi mwy o bobl, a phocedi pensiynwyr, felly anogwch bobl ledled Cymru—nid pobl hŷn yn unig—i gysylltu â llinell gymorth 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus chi' Advicelink Cymru. Ac mae'n bwysig cydnabod effaith y llinell gymorth honno, oherwydd y llynedd, helpodd y llinell gymorth honno dros 36,800 o bobl i hawlio mwy na £10.4 miliwn mewn incwm ychwanegol.

Soniais yn gynharach mewn atebion i gwestiynau ein bod yn buddsoddi £30 miliwn y flwyddyn yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Y pwynt hollbwysig am hynny hefyd yw bod y cynllun Nyth yn darparu cyngor ynni am ddim i bob deiliad tŷ yng Nghymru, gan gynnwys pobl hŷn, trwy'r llinell gymorth Nyth honno. Mae dyled ynni yn bryder mawr i lawer o ddeiliaid tai. [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i barhau, oherwydd cefais ddau gwestiwn yn barod ac rwy'n mynd i barhau gyda fy sylwadau nawr.

16:50

Mater i'r Gweinidog yw derbyn ymyriad ai peidio ac mae hi eisoes wedi derbyn dau.

Mae'n fater i mi. Efallai y gallaf roi cyfle i chi yn nes ymlaen. Rwy'n awyddus, Lywydd, i beidio â mynd dros fy amser i ymateb. [Torri ar draws.] Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn—

Mae'n bwysig iawn fod ein cynghorwyr Nyth yn gallu cyfeirio aelwydydd drwy Cyngor ar Bopeth at gymorth rheoli dyledion, ac rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn estyn allan at gyflenwyr ynni. Mae'n rhaid iddynt gefnogi eu cwsmeriaid trwy'r amser anodd hwn gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys lle bo angen. Ac mae mwy y gallwn ei wneud, ac fe wnaethom gyffwrdd â hyn yn gynharach y prynhawn yma, i ddiwygio gwasanaethau cyflenwi ynni. Rydym yn galw ar Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r deiliaid tai mwyaf agored i niwed, ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth y DU i ystyried hyn. Rydym hefyd yn edrych, fel y dywedais yn gynharach, ar fater annheg taliadau sefydlog—sy'n hynod annheg i gwsmeriaid ar incwm isel—ac fe wnaethom alw dro ar ôl tro am ddiwygio brys a thâl sefydlog is i gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu ym mis Hydref y llynedd. Ac roeddwn yn falch o weld papur trafod Ofgem ar hyn.

Wrth gwrs, hefyd, y cyllid brys i bobl fregus—unwaith eto, y gronfa cymorth dewisol. Nid oes digon o bensiynwyr yn manteisio ar y gronfa cymorth dewisol. Dyna pam yr oedd fy llythyr atoch chi mor bwysig, fel y gallant estyn allan a chael y cymorth brys hwnnw i helpu gyda chostau tanwydd. Ond rwy'n teimlo bod y Sefydliad Banc Tanwydd—rydym wedi rhoi £5.6 miliwn tuag ato—yn helpu pensiynwyr a phawb sy'n prynu tanwydd oddi ar y grid, rhywbeth a grybwyllwyd y prynhawn yma hefyd. Mae wedi helpu bron i 155,000 o bobl. Felly, iawn, fe dderbyniaf eich ymyriad nawr am fy mod ar fin dirwyn i ben—.

O, rydych chi'n garedig iawn, Weinidog. Rydych chi'n amlwg yn falch o nifer o gynlluniau a amlinellwyd gennych i'r Senedd yma heddiw. A ydych chi'n falch o'r polisi i ddileu taliad tanwydd y gaeaf i 400,000 o bensiynwyr?

16:55

Wel, felly, Llywydd, dyma fy natganiad am roi cymorth i bobl hŷn yng Nghymru. 

Mae'n bwysig fy mod i'n rhoi cyfrif am yr hyn a wnawn fel Llywodraeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu—ac rwy'n gwybod y bydd Mark yn fy nghroesawu—y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yr wythnos nesaf. Mae angen inni ennyn diddordeb ein cyd-Aelodau a'n partneriaid. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn newydd, Rhian Bowen-Davies, i drafod cynnydd yr ymgyrch i chwyddo'r nifer sy'n derbyn credyd pensiwn, ymgyrch a ddatblygwyd mor fedrus gan ei rhagflaenydd. Byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau Cabinet dros iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a thai i ledaenu'r ymgyrch credyd pensiwn a siarter budd-daliadau Cymru. Ac yn olaf, yn bwysicach na dim, Lywydd, byddaf yn cadeirio'r cyfarfod rhynglywodraethol nesaf ar waith a phensiynau gyda Llywodraeth y DU. 

Ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd ar bob lefel o lywodraeth i gefnogi pobl hŷn ac aelwydydd o bob oed. Mae'n rhaid inni roi'r camau hyn ar waith. Mae'n rhaid inni gefnogi'r bobl—ac rwyf am ddod i ben gyda'r pwynt hwn—yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan 14 mlynedd o gyni a chamreoli economaidd Torïaidd. Mae dyletswydd arnom i newid y sefyllfa ar bob lefel o lywodraeth ac estyn allan at y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan waddol cywilyddus y twll du £22 biliwn a etifeddwyd gennym. Diolch.

Diolch, Lywydd. Fe ddechreuaf drwy ddiolch i Joel James am agor y ddadl hanfodol ac allweddol hon trwy gyfeirio at y penderfyniad cibddall a dideimlad hwn, sydd wedi gwneud cam â miliynau o bensiynwyr, gan greu ofn ynglŷn â'u gallu i dalu biliau tanwydd y gaeaf hwn a gwthio miloedd yn fwy o bensiynwyr i dlodi tanwydd. Fel y dywedodd, mae Llafur yn paratoi'r ffordd ar gyfer polisïau cyllidol a chodiadau treth hynod boenus. 

Rwy'n ddiolchgar i Sioned Williams am gadarnhau y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig yn erbyn y penderfyniad a wnaed, gan alw ar y lle hwn i alw am newid y penderfyniad hwnnw. Wrth gwrs, fe nododd mai penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan oedd y penderfyniad hwnnw ac fel y dywedodd, mae cartrefi cynnes yn hanfodol i iechyd. Mae'n rhaid i mi anghytuno ar un pwynt: disgrifiodd gyni fel ideoleg, er bod fy ngeiriadur i'n disgrifio cyni fel 'bod heb ddigon o arian', ac o'r herwydd roedd yn sefyllfa a etifeddwyd gan Blair, Brown a Balls yn ôl yn 2010.

Sioned Williams a gododd—

Efallai y caf egluro mai'r hyn a olygwn pan oeddwn yn siarad am gyni yw dull o weithredu polisi cyllidol. Dyna'r llaw fer, onid e? Polisi cyllidol cyni ydyw. Mae'n ymwneud â'r esgus o ddweud y gallwch dorri a cheisio rhoi arian yn ôl i'r economi rywsut. Mae llawer o academyddion wedi dangos mai cam-dyb yw hynny. Nid yw'n gweithio, mae'n dileu gwasanaethau, mae'n amddifadu'r bobl sydd fwyaf o angen gwasanaethau. A'r hyn y mae'n ei wneud yw trosglwyddo arian oddi wrth y tlotaf i'r cyfoethocaf.

Mae dwy ochr i economeg Keynesaidd, a phan fydd yr economi'n arafu, rydych chi'n cynyddu gwariant i ysgogi galw a'r economi. Ochr arall y geiniog i hynny, pan fydd economi'n tyfu, yw eich bod i fod i leihau'r gwariant fel y gallwch ei gynyddu eto ar ddiwrnod glawog. Dyna economeg Keynesaidd. A byddai'r methiant i wneud hynny a'r methiant i fynd i'r afael â'r sefyllfa economaidd erchyll a etifeddwyd yn 2010 wedi cynhyrchu toriadau gorfodol mwy o faint, fel y gwelwyd yn y gwledydd eraill na wnaeth wrando ar hynny. 

Cyfeiriodd Mike Hedges at bolisi y gwnaethom gefnu arno flynyddoedd yn ôl ac at effaith y penderfyniad Llafur hwn ar y lleiafrif cyfoethog ond nid y mwyafrif bregus o bensiynwyr. 

Dywedodd Peter Fox, pan wneir penderfyniadau anghywir, ei bod yn cymryd dewrder i sefyll dros etholwyr a herio'r penderfyniadau hynny, ond ni ddangoswyd dim o'r dewrder hwn gan unrhyw AS Llafur Cymru pan wnaethant bleidleisio ar hyn yn Senedd y DU. Nawr mae arnom angen i Aelodau Llafur Cymru o'r Senedd ddangos y dewrder a oedd ar goll bryd hynny. Ac fel y dywedodd, roedd y penderfyniad yn benderfyniad gwleidyddol clir.

Mae Heledd Fychan yn dweud yn gywir mai ein rôl ni yn y Senedd yw dod o hyd i atebion, ac rydym yn siarad yma am hanfodion bywyd dynol. Mae angen i San Steffan beidio â pharhau gyda'r polisi niweidiol hwn.

Tynnodd James Evans sylw at y ffaith bod yn rhaid inni gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a dyna beth rydym ni'n sôn amdano, oherwydd, i lawer o bensiynwyr, mae'n fater o oroesi, gydag un o bob pump yng Nghymru eisoes yn byw mewn tlodi, a thlodi tanwydd yn uwch mewn ardaloedd gwledig. Fel y dywedodd, ni allwn adael i hyn ddigwydd.

Dywedodd Laura Anne Jones pa mor siomedig yw gweld cymaint o feinciau Llafur gwag ar y mater allweddol hwn. Ac fel y dywedodd, yr unig dwll du a welsom yn ddiweddar yw'r twll du yng nghwpwrdd dillad Keir Starmer. Tynnodd sylw at y ffaith y byddai 1.6 miliwn o bensiynwyr anabl yn cael eu hamddifadu o'u taliadau tanwydd y gaeaf, a bod cefnogi pensiynwyr nid yn unig yn gyfrifoldeb economaidd, ond hefyd yn un moesol.

Dywedodd Natasha Asghar fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â dewisiadau, ac mae hynny'n wir, a dylai sicrhau amgylchedd diogel i'n pensiynwyr fod yn flaenoriaeth i bawb. Dywedodd, yn briodol, mai polisi cas yw hwn, ac mae angen dangos urddas a pharch tuag at ein pensiynwyr.

Yn anffodus, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt, ymateb gwleidyddol i sgorio pwyntiau, ac roedd hynny'n ddigalon, a bod yn onest. Dywedodd fod penderfyniadau anodd yn cael eu hachosi gan dwll du gwerth £22 biliwn yn y pwrs cyhoeddus, gan ddangos—rwy'n mentro dweud—mai'r unig bolisi go iawn sydd gan Lafur Cymru o hyd yw beio popeth ar eraill, ac yn enwedig Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Yna, ceisiodd dynnu sylw oddi wrth y penderfyniad dideimlad hwn trwy ganmol cynlluniau Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi polisïau i helpu pobl mewn tlodi tanwydd, ond mae'r ddadl hon yn ymwneud â phenderfyniad sy'n gwneud y gwrthwyneb. Fodd bynnag, diolch yn fawr iddi am gytuno i fynychu'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, fel y bu'n barod i'w wneud yn y gorffennol, a chyfrannu at y cyfarfodydd hynny, ond bydd yn rhaid i mi dynnu ei sylw at y ffaith bod llawer o'r sefydliadau sy'n mynychu'r cyfarfodydd hynny wedi mynegi pryderon dwfn am y penderfyniad, ac wedi galw am ei newid.

Yn gynharach eleni, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi nad oeddech chi'n credu bod system fudd-daliadau'r DU yn system fudd-daliadau dosturiol, gydlynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. System—rwy'n mentro dweud—a oedd yn talu taliad tanwydd y gaeaf ar y pryd i bob pensiynwr a oedd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Fodd bynnag, heddiw, ni ddywedodd wrthym sut y byddai'n disgrifio system fudd-daliadau'r DU, a hithau nawr wedi dweud y bydd penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i ddod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben yn creu risg o wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.

Mae'r Prif Weinidog Llafur a'r Canghellor wedi cyfiawnhau eu penderfyniad i ddileu taliadau'r gaeaf i filiynau o bensiynwyr ar sail twll du gwerth £22 biliwn a adawyd gan y Ceidwadwyr, felly rydych chi'n amlwg yn gwneud fel y dywedir wrthych ac yn dilyn sgript San Steffan. Fodd bynnag, mae Trysorlys y DU wedi gwrthod darparu manylion allweddol am y twll du cyllidol hwn y mae Llafur yn honni eu bod wedi ei ddarganfod. Mewn gwirionedd, pan adawodd y Llywodraeth Lafur yn 2010, roedd diffyg y DU yn 10.3 y cant o'r cynnyrch domestig gros, ond pan adawodd y Llywodraeth Geidwadol yn 2024, roedd yn 4.4 y cant o'r cynnyrch domestig gros, er iddynt orfod benthyca biliynau i gefnogi pobl a'r economi drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw byd-eang.

Ymhellach, mae cyfran o'r twll du honedig yn ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol gan Lywodraeth Lafur y DU, pwynt a gafodd ei ailadrodd gan lawer o fy nghyd-Aelodau. Hyd yn oed yn waeth, maent bellach yn cyfaddef na chafodd unrhyw asesiad effaith ei gynnal ar bolisi a fydd yn effeithio ar 500,000 amcangyfrifedig o bensiynwyr yng Nghymru yn unig. Dim asesiad effaith: nid yw hynny'n llywodraethu da o dan unrhyw blaid.

Maent yn annog pensiynwyr i edrych i weld a allent fod yn gymwys i gael credyd pensiwn i sicrhau taliad tanwydd y gaeaf. Maent yn tanseilio eu dadl felly fod hwn rywsut yn benderfyniad cyllidol, gyda'r felin drafod Policy in Practice yn nodi, pe bai pob un o'r 880,000 o bensiynwyr cymwys yn gwneud cais am gredyd pensiwn, y gallai'r Trysorlys wynebu bil o £3.8 biliwn—pwynt a wnaed eto gan un o fy nghyd-Aelodau—sy'n llawer mwy na'r arbediad o £1.4 biliwn o gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf nad oes angen prawf modd ar eu cyfer.

Yn ogystal, amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled am eu bod ond £500 dros y trothwy incwm i allu hawlio credyd pensiwn, gan atgyfnerthu'r alwad am weithredu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatrys sefyllfa ymyl clogwyn, lle mae pobl hŷn nad ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn oherwydd incwm ychydig uwchlaw'r trothwy yn colli cymorth yn gyfan gwbl. Mae Age UK yn amcangyfrif y bydd 2.5 miliwn o bensiynwyr sydd ar incwm isel, ond heb fod yn ddigon isel i gael credyd pensiwn, yn cael trafferth talu eu biliau y gaeaf hwn. Mae Age Cymru wedi dweud 

'mae torri taliad tanwydd y gaeaf, heb fawr o rybudd nac unrhyw gamau cydadferol i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus, yn benderfyniad anghywir.'

Mae'r diffyg rhagwelediad hefyd yn cael ei amlygu gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, sydd wedi dweud:

'Ni fydd gwneud prawf modd ar daliad tanwydd y gaeaf yn ystyried costau byw anochel byw gyda chyflwr sy'n anablu'n fawr fel clefyd niwronau motor. Nid yw pobl sy'n ymdopi â'r cyflwr dinistriol hwn yn haeddu colli'r gefnogaeth y maent yn dibynnu arno y gaeaf hwn.'

Mae hynny'n berthnasol hefyd i gannoedd o filoedd o bobl eraill sydd â chyflyrau difrifol eraill. Fel y dywedodd National Energy Action Cymru, mae'r penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn wedi codi pryderon eang am yr effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach yn eu cartrefi, gan adael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn.

Ymwneud â hynny y mae ein cynnig heddiw. Felly, rwy'n annog pob Aelod i anfon y neges hon, y neges a fynegwyd gan NEA, Age Cymru, Age UK, y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor a chymaint o rai eraill, at Lywodraeth y DU drwy gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr.

17:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio ar ddiwedd y prynhawn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Rhestrau aros y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf fydd dadl Plaid Cymru ar restrau aros yn y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8652 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Prif Weinidog a'i rhagflaenwyr wedi blaenoriaethu torri rhestrau aros yn y GIG.

2. Yn gresynu bod:

a) ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod rhestrau aros yng Nghymru ar eu lefel uchaf erioed; a

b) penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gofleidio polisïau llymder fel torri nôl ar y taliad tanwydd gaeaf yn dwysau'r pwysau ar y GIG.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys ei chynllun i leihau rhestrau aros ac anrhydeddu ymrwymiad Prif Weinidogion y gorffennol a'r Prif Weinidog presennol. 

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n ddiddorol nodi, onid ydy, fod yna chwech o Aelodau ar y meinciau Llafur bellach wedi dal y portffolio iechyd ar ryw bwynt dros y 25 mlynedd diwethaf, yn cynnwys dau gyn Brif Weinidog a'r Prif Weinidog presennol. Mae'n un chwyrligwgan gweinidogol, sy'n cynnwys y disgleiriaf, medden nhw, o rengoedd y Blaid Lafur, ac sydd wedi chwyrlio yn eithaf chwyrn yn ddiweddar. Ond er ein bod ni'n gweld wynebau gwahanol yn mynd ac yn dod dros yr haf, yr un hen stori sydd yno pan fo'n dod at y gwasanaeth iechyd: safonau'n disgyn, amseroedd aros yn ymestyn, staff yn cael eu gwthio i'r pen, ac o du y Llywodraeth, dim byd ond addewidion ailadroddus gwag.

Daeth y Joyce Watson i’r Gadair.

Er enghraifft, fe wnaeth rhagflaenydd y Prif Weinidog y cyhoeddiad canlynol yn ôl ym mis Ebrill:

'Mae'n amlwg bod y GIG, a lleihau amseroedd aros, yn brif flaenoriaeth i bobl Cymru, ac mae'r un peth yn wir amdanom ni fel Llywodraeth.'

Yn yr un modd, ar ôl dod i'w swydd dros yr haf, addawodd y Prif Weinidog presennol adfywiad yn y swydd, gyda ffocws di-baid ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad, ac eto, ers mis Chwefror eleni, mae rhestrau aros y GIG wedi bod yn uwch nag erioed am bum mis yn olynol, ac maent bellach cymaint ag 20 y cant o'n poblogaeth gyfan. Llywodraeth sy'n torri record am yr holl resymau anghywir.

Rydym i gyd yn deall maint yr heriau sy'n wynebu ein gwasanaeth iechyd: poblogaeth sy'n heneiddio, cyfraddau uchel o salwch hirdymor a chanlyniadau parhaus y pandemig, i enwi ond ychydig. Maent wedi cael eu hailadrodd droeon gan nifer o ragflaenwyr y Gweinidog iechyd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy o'r un peth yn ei ymateb. Ond byddai gan y Llywodraeth lawer mwy o gydymdeimlad ymysg y cyhoedd yng Nghymru oni bai am eu gwrthodiad ystyfnig i ddysgu o'u camgymeriadau ac am golli cymaint o gyfleoedd i ddangos y weledigaeth, y ddeinameg a'r ysfa angenrheidiol i gynllunio dyfodol gwell i'n GIG.

Cafodd hyn ei arddangos yn llawn yr wythnos diwethaf, wrth i'r Prif Weinidog honni y gellid torri rhestrau aros yn lle diwygio strwythurol. Mae'n nodweddiadol o arfer y Llywodraeth hon o osod y ceffyl yn gadarn o flaen y cert, o ganolbwyntio ar y canlyniadau heb gynllunio llwybr credadwy i gyrraedd yno. Trwy awgrymu mai swyddogion gweithredol byrddau iechyd sydd ar fai am restrau aros uchel, mae'r Prif Weinidog unwaith eto wedi dangos tueddiad y Llywodraeth hon i feio pawb ond nhw eu hunain.

Dyma'r rheswm dros gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Senedd heddiw, i annog y Gweinidog iechyd newydd o'r diwedd i dorri'r cylch o fethiant ac osgoi cyfrifoldeb, trwy adolygu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG, oherwydd byddai unrhyw beth llai na hynny'n barhad o'r polisïau blinedig a'r ystrydebau gwag sydd wedi ein harwain at y pwynt hwn.

Mae Plaid Cymru'n glir ynglŷn â'r camau beiddgar sydd eu hangen i roi'r GIG yn ôl ar ei draed. Felly, os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif ynglŷn ag ysgogi gwelliannau parhaol yn ein system iechyd, mae angen iddi wrando ar beth yn union y mae dull newydd o weithio yn ei olygu. Mae'n golygu buddsoddi'n iawn yn yr agenda ataliol i gadw pobl allan o'r ysbyty, yn hytrach na dileu cyllid o raglenni iechyd cyhoeddus i gynnal yr economi ffug y mae ein gwasanaethau rheng flaen sydd wedi'u gorlethu yn gwegian arni ar hyn o bryd. Mae'n golygu gweithio'n adeiladol gyda'r colegau brenhinol i fynd i'r afael â phroblemau cadw staff sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, yn hytrach na'u beirniadu fel rhan o'r broblem, fel y gwnaeth y Gweinidog iechyd blaenorol mewn gwrandawiad pwyllgor yn ddiweddar. Mae'n golygu harneisio datblygiadau technolegol i ddod â gofal yn nes at adref, yn hytrach na chaniatáu i welyau ysbyty gael eu gorlenwi gan gleifion sy'n ddigon iach i gael eu rhyddhau. Mae'n golygu datblygu strategaeth i drwsio sylfeini ystad y GIG drwy ddefnydd mwy uchelgeisiol o bwerau benthyca'r Senedd, yn hytrach na gadael i'n seilwaith iechyd sy'n dadfeilio waethygu ymhellach. Ac mae'n golygu mynnu cytundeb ariannu teg i Gymru o San Steffan, yn hytrach nag ildio'n llywaeth i fformiwla Barnett hen ffasiwn sy'n bell o allu diwallu anghenion ein poblogaeth.

Mae pobl Cymru yn crefu ar y Llywodraeth hon i ddangos ei bod yn gallu newid cyfeiriad o'r llwybr presennol o ddirywiad cronig yn ein system iechyd. Rhowch reswm iddynt gredu hynny trwy gefnogi'r cynnig hwn.

17:10

Mae'r pedwar gwelliant i'r cynnig wedi'u dewis. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1) Yn nodi:

a) bod y Prif Weinidog a'i rhagflaenwyr wedi blaenoriaethu torri rhestrau aros yn y GIG; a

b) bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau 67% ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Rwy'n galw nawr ar Sam Rowlands i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 2b) a rhoi yn ei le:

bydd penderfyniadau gwariant fel torri taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr yn arwain at effaith andwyol ar GIG Cymru;

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

ar dri achlysur, mae Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb iechyd mewn termau real: yr unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny erioed;

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gynnydd o 20 y cant mewn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer iechyd yn cael ei wario ar GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Wel, diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Rwy'n cynnig gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Darren Millar.

Mae'n anhygoel, onid yw? Mae gan Gymru Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd ar waith, mae'n ymddangos, ond mae gennym yr un hen broblemau gyda rhestrau aros y GIG yng Nghymru. Ac wrth gwrs, dim ond ers ychydig wythnosau y mae'r Cabinet newydd hwn wedi bod yma, ond nid oes llawer iawn o olau ar ben draw'r twnnel pan edrychwn ar restrau aros ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu ei fod yn dweud llawer am Lafur Cymru eu bod yn gwobrwyo'r sawl sydd wedi rhoi rhestrau aros hiraf erioed y GIG i ni drwy wneud y person hwnnw'n Brif Weinidog Cymru. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r Prif Weinidog a'i rôl yn y lle hwn. Fel y nododd Mabon ap Gwynfor, mae llu o Weinidogion iechyd yn eistedd ar feinciau Llafur ac mae 25 mlynedd o gamreolaeth Lafur wedi ein harwain at y pwynt yr ydym wedi ei gyrraedd heddiw: targedau wedi'u methu'n gyson a dim cynllun, mae'n ymddangos, ar gyfer datrys cyflwr y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

Clywsom eiriau cynnes hyfryd gan y Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n siŵr eu bod yn gysur i ni i gyd yn y lle hwn, ond mae'r rheini'n eiriau a glywsom dro ar ôl tro gan nifer o Weinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet sydd, mae'n ymddangos, ond wedi gwaethygu'r sefyllfa. A'r hyn sydd dristaf yn fy marn i yw ein bod fel pe baem wedi dod i arfer â'r sefyllfa fel y mae; dyma fel y mae pethau yng Nghymru, mae gennym restrau aros hir ac mae gennym wasanaeth iechyd sydd, yn anffodus, heb fod yno bob amser pan fydd ei angen arnom, ac mae hynny'n fy ngwneud i'n drist iawn. Ac nid yw'n dderbyniol, nid dyna sut y dylai'r gwasanaeth iechyd fod yma yng Nghymru.

Unwaith eto, fel yr amlinellwyd eisoes, clywsom Brif Weinidog sy'n ymddangos yn hapus i drosglwyddo'r baich i reolwyr y GIG a phrif weithredwyr byrddau iechyd, ac yn amlwg, mae ganddynt ran sylweddol i'w chwarae—mae gan fyrddau iechyd waith mawr i'w wneud i weithio drwy'r rhestrau aros hyn—ond rhaid i Brif Weinidog a Llywodraeth beidio ag ymwrthod â'u cyfrifoldeb, yn gyntaf oll, yn y lle hwn, wedi'u hethol gan bobl Cymru i weld y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu'n dda, ac ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos eu bod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Rwy'n gobeithio y clywn gywair gwahanol gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd ac rwy'n gobeithio y bydd yn barod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw am berfformiad ein gwasanaeth iechyd, yn hytrach na throsglwyddo'r baich i rywle arall. Oherwydd fe wyddom, fel bob amser yn anffodus, mai cleifion a staff gweithgar sy'n cael eu gadael ar y pen dwfn; nhw yw'r rhai sy'n dioddef mewn poen ar restrau aros neu sy'n gweithio dan bwysau difrifol heb y gefnogaeth lawn sydd ei hangen arnynt. Fel y noda ein gwelliannau yma heddiw, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth ym Mhrydain erioed i fod wedi torri'r gyllideb iechyd. Y Llywodraeth hon yng Nghymru sy'n gwrthod gwario'r codiad canlyniadol Barnett llawn o 20 y cant y mae'n ei gael ar iechyd.

Wrth siarad am Lywodraethau Prydain, wrth gwrs, mae'n ymddangos y dylem fod mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl gyda Llywodraeth Lafur newydd ym Mhrydain ar ben arall yr M4. Nid yw hyn i'w weld yn glir eto. Ond mae'n ddiddorol, onid yw? Un o'r pethau cyntaf a roddwyd ar waith gan Keir Starmer pan ddaeth yn Brif Weinidog oedd adolygiad o'r GIG yn Lloegr, gydag adroddiad Darzi a ryddhawyd yn ddiweddar. Yn anffodus, nid oes arwydd fod adroddiad tebyg yn cael ei roi ar waith yma yng Nghymru, a hynny er bod pob metrig pwysig yn waeth yng ngwasanaeth iechyd Cymru na'r hyn ydyw yn Lloegr.

Rydym eisoes wedi clywed am nifer y bobl sydd ar restr aros yng Nghymru—o leiaf un o bob pump o bobl. Ac rydym yn gwybod bod dros 23,000 o bobl yng Nghymru yn aros ar y rhestrau aros hynny am fwy na dwy flynedd. Byddem ni ar y meinciau hyn yn sicr yn falch pe bai'r Arglwydd Darzi yn bwrw golwg dros GIG Cymru ac yn ffurfio barn ar fethiannau chwarter canrif diwethaf Llafur wrth y llyw. Hoffwn ddeall gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw hyn yn rhywbeth y mae'n gofyn amdano, fel y mae Syr Keir Starmer wedi gofyn amdano ar gyfer y GIG yn Lloegr—adroddiad annibynnol gan rywun fel yr Arglwydd Darzi i amlinellu ble mae'r methiannau hynny wedi bod yn digwydd.

I waethygu pethau, rydym newydd orffen dadl yn y lle hwn ar effaith torri taliadau tanwydd y gaeaf. Nid yw hynny'n mynd i roi unrhyw help o gwbl i iechyd ein pobl hŷn yma yng Nghymru, ac yn sicr bydd yn gwaethygu'r problemau gyda rhestrau aros. Fe wyddom, yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, fod y dadansoddiad cydraddoldeb o'r polisi o dorri hyn yn golygu y bydd 1.6 miliwn o bobl anabl ledled y DU yn colli eu taliadau—71 y cant o'r rhai a oedd â hawl iddynt. Mae hynny'n mynd i gael effaith sylweddol ar draws y DU, ond yma yng Nghymru hefyd yn sicr.

Felly, o ran y cynnig yma heddiw a osodwyd gan Blaid Cymru—ac rydym yn ddiolchgar iddynt am gyflwyno'r ddadl hon wrth gwrs—rydym yn hapus i gefnogi eu cynnig. Ond rydym hefyd yn gofyn am gefnogaeth i'n gwelliannau ni yn y lle hwn heddiw, felly galwaf ar yr holl Aelodau i gefnogi ein gwelliannau ni hefyd. Diolch yn fawr iawn.  

17:15

Mi welsom ni yr wythnos diwethaf—ac rŷn ni wedi clywed cyfeiriad ato fo yn barod—yr Arglwydd Darzi’n cyhoeddi ei adroddiad damniol o’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, adroddiad a oedd yn gosod yn glir sut oedd blynyddoedd maith o esgeuluso ac anwybyddu’r problemau sylfaenol—a gadewch inni gofio bod hynny gan y ddwy blaid yn San Steffan—wedi arwain at wasanaeth a gweithlu yn Lloegr oedd ar eu gliniau. Ond beth sy’n bryderus inni yng Nghymru, wrth gwrs, ydy’r ffaith bod gymaint o’r problemau allweddol y gwnaeth yr Arglwydd Darzi fwrw goleuni arnyn nhw, fel arwyddion clir o ffaeleddau Llywodraethau Llafur a Cheidwadol, un ar ôl y llall, wrth ymdrin â’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, hefyd yn disgleirio’n llachar iawn, iawn yma yn ein gwasanaeth iechyd ni hefyd.

Ydy, mae Keir Starmer yn iawn i ddweud bod y sefyllfa yn Lloegr yn drychinebus—11 y cant, dros 10 y cant, o boblogaeth Lloegr ar restrau aros. Ond yng Nghymru, wrth gwrs, mae’r ffigur yn 20 y cant. Yn Lloegr, mae yna heriau mawr, mawr o ran triniaeth ganser—34 y cant yn methu â chael triniaeth o fewn 62 diwrnod. Ond yma, mae’r ffigur yn 43 y cant sydd yn methu derbyn y driniaeth yn yr un amser. Felly, ydy, mae’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn bell iawn o fod yn batrwm o’r hyn y dylem ni fod yn ceisio ei efelychu yma yng Nghymru, ac mae yna ddioddef enbyd wedi bod yn y gwasanaeth dros y ffin, a hynny o ganlyniad i danfuddsoddi dros y blynyddoedd. Ond, wrth gwrs, mae yna wahaniaeth mawr yn agweddau Keir Starmer ac Eluned Morgan, onid oes? Dydyn ni ddim wedi clywed eto gan y Gweinidog iechyd newydd yng Nghymru, ond mae yna wahaniaeth mawr, mawr rhwng beth rydyn ni’n ei glywed yn agwedd Keir Starmer ac Eluned Morgan.

Mae Keir Starmer, drwy gomisiynu’r gwaith ac ymateb yn y ffordd y mae wedi’i wneud i waith yr Arglwydd Darzi, yn trio rhoi ffocws ar beth gellir ei wneud yn y cyfnod o’n blaenau ni i ddatrys rhai o’r problemau yn Lloegr. Wrth gwrs, mae yna gymhelliad gwleidyddol i'r gwaith yn beio'r Llywodraethau aeth o'i flaen o; mi fyddai rhywun yn naïf iawn i beidio â gweld hynny. Ond dwi'n gobeithio hefyd bod yna ymgais ddidwyll yma i geisio mynd at wraidd y cwestiynau rŵan. Ond tra bod Keir Starmer yn gallu beio ei ragflaenwyr Ceidwadol, y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod Eluned Morgan yn methu â beio unrhyw un heblaw ei rhagflaenwyr a hi ei hun, fel Gweinidogion iechyd Llafur yng Nghymru. Ac os ydy'r gwir yn rhy anodd i'w glywed ar ôl 25 o flynyddoedd mewn grym, mae o'n codi cwestiynau difrifol am awydd y Llywodraeth yma i wella y sefyllfa i gleifion.

Mi fydd Aelodau'n cofio bod Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i alw argyfwng iechyd yma yng Nghymru, a hynny am reswm da: er mwyn codi lefel y difrifoldeb. A'r galwadau hynny'n sicr yn cael eu hadleisio gan weithwyr o fewn y gwasanaeth iechyd, ac yn sicr gan gleifion, ond, eto, doedd yna ddim parodrwydd gan y Llywodraeth bryd hynny i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa. Os nad ydy hi'n argyfwng, mewn difrif, sut mae disgrifio'r sefyllfa? A sut gall Llafur ddisgrifio'r sefyllfa yn Lloegr fel argyfwng pan fo'r sefyllfa yng Nghymru ar gymaint o fesurau hyd yn oed yn waeth? Mae'n rhaid bod Gweinidogion yn gallu gweld bod angen newid. Ac ym merw'r ymgyrch etholiad cyffredinol, mi gawson ni'r olygfa ryfeddol yna o'r Gweinidog iechyd ar y pryd—y Prif Weinidog erbyn hyn—yn gafael mewn placard yn galw am foderneiddio'r gwasanaeth iechyd, ac Aelodau Llafur yn fan hyn yn clodfori cynlluniau Keir Starmer i drawsnewid y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, tra ar yr un pryd yn mynnu bod popeth yn iawn yma yng Nghymru, ond bod yna rywun yn mynd i wneud gwyrth o foderneiddio—rhywun heblaw'r Gweinidog ei hun, mae'n ymddangos.

Dwi am orffen efo ystadegyn sy'n mynd i sobri pawb. Ydych chi'n gwybod faint o bobl oedd yn aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf yn 2012? Tri chant ac un deg chwech. Y ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru rŵan ydy 74,000. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau yna mae yna berson mewn poen, neu sydd yn poeni am gyflwr ei iechyd, neu'n poeni am gyflwr iechyd anwyliaid, neu sydd yn gweld ei iechyd yn dirywio ymhellach tra ei fod yn aros. Mae yna gymaint o ddyletswydd ar y Llywodraeth i bob un sy'n aros yn hirach na'r amseroedd targed, a chyfrifoldeb ar y Gweinidog iechyd newydd, yn syml iawn, i weithredu'n wahanol i'w ragflaenwyr.

17:20

Hoffwn groesawu'r Ysgrifennydd Iechyd newydd i'w swydd; rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith gwych. Mae hwn yn waith anodd. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon. Ond nid yw'r syniad y gallwn fodloni ar ddweud, 'Mae angen gweithredu beiddgar', heb ddweud beth yw'r gweithredu beiddgar hwnnw yn golygu rhyw lawer. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, mae angen inni gael llawer mwy o ymdrech ar yr agenda ataliol, ond nid yw hynny'n mynd i ddatrys y sefyllfa bresennol. Mae hwnnw'n fater hirdymor iawn. Caiff hynny ei weld mewn gwlad iachach ymhen 10, 15, 20 mlynedd. Ac yn amlwg, mae'n her fawr i geisio sicrhau bod mwy o arian yn mynd tuag at yr agenda ataliol, ond mae'n rhaid i hynny wedyn ddod o'r sector eilaidd, a dyna hanfod y cynnig hwn. Felly, nid wyf yn deall yn iawn beth rydych chi'n ceisio ei ddweud yma. 

Rwy'n credu, Sam Rowlands, eich bod yn bod yn annheg ag Eluned Morgan. Nid ydych yn cydnabod y gwaith mawr a wnaeth ar y mater hwn, tra oedd hi'n Weinidog iechyd—yn gwneud ymweliadau dirybudd ag adrannau brys, yn mynd i unedau llawfeddygol penodedig sydd i fod i wneud y gwaith dewisol ar sail llinell gynhyrchu. A dyna pam y mae'r cynnig Llafur yn cydnabod bod y rhestrau aros wedi gostwng dwy ran o dair. Mae hynny'n arwyddocaol iawn. Ond yn amlwg, nid yw hynny'n gysur i'r unigolyn sy'n aros mewn anghysur am wely i gael llawdriniaeth.

Diolch, Jenny, am dderbyn yr ymyriad. Soniais am y Prif Weinidog yn fy nghyfraniad oherwydd, o dan ei goruchwyliaeth hi, roedd gennym y lefel uchaf erioed o bobl ar restrau aros yng Nghymru. I mi, nid yw hynny'n llwyddiant. Os ydych chi'n diffinio hynny fel llwyddiant, mae gennym ffyrdd gwahanol iawn o fesur lwyddiant.

17:25

Nid oes unrhyw un yn dweud ein bod wedi cyrraedd, ond yr hyn a ddywedwn yw ein bod wedi gwneud cynnydd.

Mae hwn yn fater anodd iawn am sawl rheswm. Fel y dangoswyd yn Saving Lives in Cardiff, ni allwch gael eich derbyn i'r ysbyty i gael llawdriniaeth oni bai bod gwely i chi wella ynddo. Ni fyddai hynny'n foesol. Ac mae adroddiad Darzi yn nodi bod 13 y cant o bobl mewn ysbytai yn Lloegr yno ymhell ar ôl i'w gofal eilaidd gael ei gwblhau, a'r angen iddynt symud yn ôl i'r gymuned. Nid oes unrhyw reswm o gwbl i amau nad oes ffigur tebyg yn digwydd yn ysbytai Cymru. Rwy'n digwydd gwybod bod cannoedd o bobl yn ysbyty'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd nad oes angen meddygol iddynt fod yno, ond mae'n anodd iawn eu symud ymlaen, am resymau moesol. Mae hynny mewn bwrdd iechyd sydd â'r amseroedd aros byrraf am ambiwlans oherwydd ei ddull system gyfan o reoli gwelyau. Maent yn rhyddhau lle ar y wardiau yn yr ysbyty cyn gynted â phosibl fel y gellir derbyn claf arall, naill ai o'r adran achosion brys neu o'r rhestr aros.

Y rheswm pam y mae hyn mor anodd yw oherwydd nad oes gennym y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol sydd eu hangen arnom, a dyna'r her y mae'n rhaid inni ei datrys. Ond nid yw'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn hawdd. Yn ddiweddar cefais gyfarfod gyda'r person sy'n gyfrifol am y gwasanaeth nyrsio cymunedol—rhywbeth rwy'n gwbl angerddol yn ei gylch—yr ymwelais â hwy yng Nghwm Taf ychydig cyn y cyfnod clo. Rwyf wedi gweld pa mor anhygoel a pha mor effeithlon ydyw, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ddyrannu pobl yn unol ag anghenion yr unigolyn. Ond rydym wedi ehangu nifer y timau nyrsio cymunedol yn aruthrol—yn enwedig yng ngogledd Cymru, fe fyddwch yn falch o wybod—ond nid yw'n agos at fod yn ddigon, ac mae gennym lawer iawn o bobl o hyd nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty, gyda rhai ohonynt yn cael eu derbyn am nad yw'r gwasanaethau'n bodoli yn y gymuned i'w hatal rhag gorfod dod i'r ysbyty. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ymdrin ag ef yn bersonol ar hyn o bryd, a gallaf ddweud wrthych pa mor gymhleth ydyw.

Un o'r rhesymau pam ei fod mor gymhleth, ac un sy'n mynd i fod yn anodd iawn ei ddatrys, yw bod gennych chi'r gwasanaeth iechyd, sy'n canolbwyntio ar gael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y daw'r amser pan nad oes angen iddynt fod yno mwyach, ac mae gennych chi'r awdurdod lleol, sy'n gorfod asesu pob achos unigol i weld a oes gwir angen iddynt fod yn talu am y gofal cymdeithasol y gallai fod ei angen ar yr unigolyn hwnnw. Mae hyn yn gymhleth iawn, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n gorfod aros yn yr ysbyty dros 80 oed, a hyd yn oed mewn poblogaeth ifanc fel un Caerdydd gallaf gofio'r prif weithredwr blaenorol yn dweud mai 85 yw oedran cyfartalog pobl yn yr ysbyty. A hynny yng Nghaerdydd; byddai'n uwch na hynny mewn rhannau eraill o Gymru. Felly dyna'r broblem sy'n ein hwynebu. Mae'r ffordd y gwnawn hynny heb yr arian ychwanegol i redeg gwasanaethau dwbl, sefydlu rhai newydd a gorfod cynnal y rhai presennol, yn gymhleth iawn, ac mae unrhyw un sy'n credu bod hyn yn hawdd ac mai mater o ewyllys ydyw yn cyfeiliorni'n fawr.

Hoffwn i siarad yn benodol ar y rhan o'n cynnig sy'n gresynu penderfyniad Llywodraeth Lafur y Deyrnas Gyfunol i barhau â pholisïau llymder ac effaith hynny ar ein gwasanaeth iechyd gwladol. Mae llymder yn niweidiol i iechyd pobl. Mae tlodi yn gwneud pobl yn sâl. Darllenwch unrhyw nifer o astudiaethau ar effaith hirdymor polisïau llymder y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol ac rydych yn siŵr o ddod i’r un casgliad. Mae mesurau llymder yn uniongyrchol gyfrifol am hybu anghydraddoldebau iechyd sy’n costio £322 miliwn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac yn fwyaf niweidiol i gyd, wrth gwrs, am achosi 190,000 o farwolaethau ychwanegol rhwng 2010 a 2019.

Byddech yn disgwyl mai blaenoriaeth unrhyw blaid sydd â diddordeb mewn adfer seiliau drylliedig ein system iechyd, sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, sy'n ymfalchïo yn eu daliadau sosialaidd fel plaid Aneurin Bevan, fyddai sicrhau bod y dogma trychinebus hwn yn cael ei daflu'n syth i fin sbwriel hanes. Ond mae’r hyn yr oeddem ni i gyd yn ei ofni drwy gydol ymgyrch yr etholiad cyffredinol wedi dod i’r amlwg erbyn hyn, achos mae'n ymddangos fod Plaid Lafur Keir Starmer yr un mor gaeth i bolisïau llymder â’u rhagflaenwyr Torïaidd. Wedi’r cyfan, un o’u gweithredoedd cyntaf mewn grym oedd ailgadarnhau yr ymrwymiad i’r cap dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau, yr hyn sy'n bennaf gyfrifol am waethygu lefel uchel tlodi plant yng Nghymru, yn ôl y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, a disgyblu’n llym y lleisiau prin hynny sydd â’r dewrder i sefyll yn erbyn y brad hwn yn erbyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Doedd hyd yn oed George Osborne, pensaer llymder, ddim wedi tynnu’r lwfans tanwydd gaeaf oddi ar bensiynwyr, ac mae disgwyl iddyn nhw fyw ar bron hanner yr isafswm cyflog. Mae'n fesur a fydd, fel yr asesodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol yn gywir, yn gwthio mwy fyth o bensiynwyr Cymru i dlodi tanwydd dyfnach ac, wrth gwrs, yn dwysáu’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd a gofal. Mae’r ffaith bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud heb asesiad effaith yn tanlinellu ei fod yn amlwg mai llymder, ymhell o fod wedi’i eni o ryw fath o bragmatiaeth amharod, yw egwyddor arweiniol Starmer mewn Llywodraeth. Mae’n ddewis gwleidyddol; roedd e'n wir yn nyddiau Cameron, Clegg ac Osborne, ac mae’n wir nawr.

O ystyried bod Keir Starmer yn parhau i wrthod cael gwared ar fformiwla Barnett, sydd wedi hen ddyddio, a rhoi trefniant ariannu newydd ar waith sy'n adlewyrchiad go iawn o anghenion ein poblogaeth—a gwrthodiad y Prif Weinidog i siarad o blaid pobl Cymru pan fo Prif Weinidog Llafur y DU yn gwneud penderfyniadau sy’n niweidio ein dinasyddion; dywedodd yn glir iawn wrthym ddoe nad dyna oedd ei gwaith, er bod cefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd hon i ddiwygio fformiwla Barnett—mae'n amlwg y bydd dewis Llafur yn San Steffan i fynd ar drywydd cyni yn arwain at oblygiadau enbyd i Gymru a'n gallu i ariannu ac atgyweirio ein GIG yn briodol.

Hyd yn oed os bydd yr ychydig gyllid canlyniadol a fydd yn deillio o gynlluniau Llafur ar gyfer gwasanaethau’r GIG sydd wedi'u clustnodi yn cael eu trosglwyddo’n llawn gan Lywodraeth Cymru, byddant yn dal yn annigonol i dalu am yr £1.5 biliwn o wariant ychwanegol sydd ei angen rhwng 2024-25 a 2027-28 i ateb y galw presennol yn unig. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet beth y mae'n bwriadu ei wneud ynglŷn â hynny. Yn y cyfamser, mae elfennau o gyllideb Cymru nad ydynt wedi’u clustnodi, gan gynnwys gofal cymdeithasol, sy’n hanfodol er mwyn lleihau rhestrau aros, fel y nodwyd gennych yn gywir ddigon, Jenny, bellach yn wynebu gostyngiad mewn termau real o £683 miliwn dros y pum mlynedd nesaf. Nid yw’r Prif Weinidog yn dangos unrhyw awydd i herio ei Phrif Weinidog Llafur yn San Steffan ar fesurau cyni, sy’n gwaethygu anghydraddoldebau iechyd, sy’n lladd, yn llythrennol—dim awydd i amddiffyn Cymru rhag creulondebau gwaethaf San Steffan—rydym wedi cael llond bol ar hyn—neu i wthio, er enghraifft, am ddiwygio gofal cymdeithasol, a fyddai’n arwain at gyllid hollbwysig i wneud yr un peth yng Nghymru. Yn wir, ymddengys mai'r cyfan y mae'r berthynas arbennig honedig rhwng y ddwy Lywodraeth Lafur ar bob pen i’r M4 yn ei olygu yw ymwreiddio’r status quo ffaeledig yng Nghymru o danfuddsoddiad yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol ac ymwreiddio’r anghydraddoldebau iechyd a'r afiechyd a achosir gan fesurau cyni, sydd, ni waeth sut y mae Llafur am ei sbinio, ei osgoi neu ei wadu, yn ddewis gwleidyddol.

17:30

Fel rŷn ni wedi clywed yn huawdl iawn yn barod gan nifer o siaradwyr, mae pob rhan o Gymru'n dioddef o ganlyniad i anallu cyson y Llywodraeth hon i leihau rhestrau aros, sydd erbyn hyn wedi cyrraedd lefelau cwbl anghynaliadwy. Ond yn anffodus, ein plant a’n pobl ifanc yn aml sy'n dioddef waethaf. Mae'r ystadegau diweddaraf yn rhoi darlun truenus i ni o’r sefyllfa. Ar hyn o bryd, mae 8,241 o bobl ifanc dan 18 oed wedi bod yn aros ar restr ers dros flwyddyn, a 1,278 arall wedi bod ar restr aros am ddwy flynedd a mwy. Mae'r sefyllfa'n arbennig o ddifrifol yn ardal Betsi Cadwaladr, lle mae 62 y cant o bobl dan 18 oed yn gorfod aros yn hirach na dwy flynedd. Chwedeg dau y cant—mae e'n gywilydd.

Mae arolwg diweddar gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi cadarnhau goblygiadau niweidiol yr oedi ar y grŵp oedran arbennig hwn. Dywedodd y mwyafrif o baediatregwyr yng Nghymru eu bod yn gweld plant yn cael eu heffeithio'n negyddol iawn gan amseroedd aros am driniaeth, ac yn teimlo’n rhwystredig nad oes ganddyn nhw’r lefel briodol o gapasiti i ymateb i’r galw. I ormod o lawer o’n plant a phobl ifanc, mae'r hyn a ddylai fod y cyfnod mwyaf hapus, y cyfnod mwyaf iach yn eu bywyd, yn cael ei ddifetha gan ansicrwydd arosiadau hir am driniaeth.

Ac mae iechyd meddwl, wrth gwrs, yn faes pryder penodol. Does dim dwywaith bod gan y cyhoedd hyder isel yn ein gwasanaethau iechyd meddwl, a dyw hyn ddim yn syndod o gwbl pan ystyriwn ni’r graddau y mae pobl ifanc yn cael eu gadael lawr yn y maes hwn. Fel mae pawb yn gwybod, pobl ifanc ar gyfartaledd a brofodd y dirywiad mwyaf yn eu lles meddyliol o ganlyniad i COVID, ac eto mae amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol dipyn yn hirach ar gyfer plant Cymru o'i gymharu ag oedolion. Hefyd, dim ond 57 y cant o blant a phobl ifanc Cymru sy’n gallu dechrau ymyriad therapiwtig o fewn 28 diwrnod yn dilyn asesiad. Ar ben hyn, mae'r prosiect iechyd meddwl amenedigol diweddar yng Nghymru wedi canfod nad oedd 61 y cant o weithwyr iechyd proffesiynol wedi cael unrhyw hyfforddiant ar iechyd meddwl babanod. Ystyriwch y peth o ddifrif. 

Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno bod sicrhau darpariaeth effeithiol ac amserol o ofal iechyd yn gynnar mewn bywyd yn allweddol i'r agenda ataliol. A dweud y gwir, mae cynaliadwyedd y gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd yn dibynnu’n llwyr arno wrth edrych i’r dyfodol.  

Mae’r rhestrau aros annerbyniol o hir ar gyfer plant a phobl ifanc yn dangos, felly, pa mor ansefydlog yw sylfeini’r dull sy'n cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth hon o ymdrin ag ymyrraeth gynnar, a pham y dylai diwygio ei strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â rhestrau aros fod yn gwbl angenrheidiol ac yn flaenoriaeth frys ar gyfer rhagolygon iechyd cenedlaethau’r dyfodol.

17:35

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon yn enw Plaid Cymru am un o'r pethau pwysicaf i ni ac i'r cyhoedd, sef torri amseroedd aros. Dwi'n edrych ymlaen, ar ôl wythnos yn y swydd, i weithio gyda'r gwasanaeth iechyd i wneud yn siŵr ei fod yn dal i ddarparu gofal gwych ac amserol i bobl Cymru.

Mae mwy o staff nag erioed yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Maen nhw'n gweithio'n galed bob dydd, gan newid bywydau ac achub bywydau, a hynny'n aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Nhw yw curiad calon y gwasanaeth iechyd. Roeddwn i'n falch o weld y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn cyhoeddi dyfarniad cyflog sy'n uwch na chwyddiant i bob aelod staff ar gontractau 'Agenda ar gyfer Newid', ac i feddygon a deintyddion. Mae'n dangos cymaint rŷn ni'n ymddiried yn eu gwasanaeth a'r staff, a'r gwerth rŷn ni'n rhoi arnyn nhw. 

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd yn cael eu gweld gan y gwasanaeth iechyd yn cael gofal o ansawdd da yn brydlon. I'r mwyafrif, mae hynny'n golygu gofal sylfaenol gan eu meddyg teulu, nyrs, fferyllydd, ffisiotherapydd, deintydd neu optegydd, efallai. Bydd angen i rai gael ymchwiliad neu driniaeth bellach yn yr ysbyty. Ar hyn o bryd, 22 wythnos yw'r amser aros ar gyfartaledd ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn aros yn hirach na hyn, yn bennaf o ganlyniad i effaith pandemig COVID-19. Mor fuan ar ôl degawd o gyni, mae wedi taflu cysgod hir dros y gwasanaeth iechyd.

Er bod gwasanaethau wedi adfer, i raddau helaeth, i'r lefel cyn y pandemig, mae dal gyda ni amseroedd aros hir a rhestr aros gynyddol, sy'n adlewyrchu iechyd cyffredinol y genedl. Mae ein gwaith i leihau amseroedd aros yn cael effaith. Mae arosiadau hir o fwy na dwy flynedd wedi gostwng 67 y cant ers y lefel uchaf ym mis Mawrth 2022, ac mae arosiadau hir am brofion diagnostig wedi gostwng bron i draean. Erbyn hyn, tua 3 y cant o'r bobl ar restr aros sy'n aros mwy na dwy flynedd, o gymharu â bron i 10 y cant ym mis Mawrth 2022, dros ddwy flynedd yn ôl. Mae hyn wedi digwydd o dan amgylchiadau anodd. Mae atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth wedi cynyddu’n sylweddol. Rŷn ni yn y sefyllfa ariannol anoddaf ers dechrau datganoli, rŷn ni'n dal i weld tonnau rheolaidd o heintiau COVID, ac mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar lefelau uchel iawn. Mae'r rhain yn amgylchiadau anodd i unrhyw wasanaeth iechyd, ond y gwir yw bod yn rhaid inni fynd yn bellach ac yn gyflymach.

Dros yr haf, fel rhan o ymarfer gwrando’r Prif Weinidog, dywedodd y cyhoedd wrthym yn glir gymaint y maent yn gwerthfawrogi’r GIG, ond roeddent yn dweud yn glir hefyd eu bod am weld amseroedd aros yn gostwng. Clywsom yn uniongyrchol ganddynt am ffrind, am aelod o’r teulu, neu am eu profiadau eu hunain o aros am welyau mewn ysbytai, am lawdriniaethau'n cael eu canslo ar fyr rybudd, am geisio byw bywyd normal a hwythau mewn poen. Mae’r straeon hyn yn anodd eu clywed am nad dyma’r lefel o ofal yr ydym am ei weld gan ein GIG.

Mae ein cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi ysgogi'r gostyngiad yn y rhestrau aros hyd yma. Rydym wedi darparu bron i £900 miliwn ychwanegol ar gyfer y GIG eleni a'r llynedd. Mae rhywfaint o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti, i leihau'r ôl-groniad. Ond yn fy marn i, er bod mesurau tymor byr yn hanfodol, ni fyddant yn ddigon ar eu pen eu hunain. Ar yr un pryd, mae angen inni newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn cefnogi’r GIG i addasu i’r pwysau sy'n ei wynebu. Mae hynny’n golygu trawsnewid digidol, mae’n golygu edrych ar y ffordd y mae adrannau cleifion allanol yn gweithio, mae’n golygu parhau â’n rhaglen o ddiwygiadau i symud gofal allan o ysbytai ac i mewn i gymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.

Er bod gwasanaethau, fel y dywedais, yn ôl ar yr un lefelau gweithredu â chyn y pandemig, mae gormod o amrywio ledled Cymru o hyd o ran cynhyrchiant a pherfformiad. Fel rhan o’n gwaith i leihau amseroedd aros, rydym yn targedu’r amrywio hwnnw’n benodol, boed hynny yng nghynhyrchiant theatrau, gweithgarwch cleifion allanol, neu amseroedd triniaethau, fel y gallwn gynyddu lefelau gweithgarwch yn unol â'r hyn a argymhellir gan y colegau brenhinol, fel y nodwyd gan yr Aelodau heddiw. Ym mis Mai, nododd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal a gynlluniwyd amcanion i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, gan ddefnyddio arferion gorau, technoleg a symud tuag at ddiwrnodau gwaith hirach. Roedd hyn yn cydnabod bod llawer o’n llwybrau’n or-gymhleth, maent yn anodd i bobl eu deall, a gallant arwain at apwyntiadau lluosog mewn gwahanol ysbytai. Felly, bydd llwybrau’n cael eu symleiddio i ddileu camau diangen, a lle bynnag y bo modd, bydd y GIG yn cyflwyno dull un stop er mwyn lleihau nifer yr apwyntiadau sydd eu hangen.

Yfory, byddwn yn cyhoeddi bwletin amseroedd aros newydd sy’n darparu data ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd unigol yn perfformio mewn fformat sy’n hygyrch. Bydd yn ein helpu i nodi perfformiad da a lle mae angen i fyrddau iechyd wneud mwy i ddysgu gan y rheini sy’n gwneud y cynnydd gorau. Ond mae angen i ni hefyd gynnal ein ffocws ar atal, egwyddor yr ydym eisoes wedi clywed cyfeirio ati yn adroddiad Darzi, sydd wedi cael sylw yn y ddadl hon, er mwyn gwella iechyd sylfaenol ein gwlad. Mae gwaharddiad Llywodraeth y DU ar hysbysebion bwyd sothach ar-lein y telir amdanynt a chyn y trothwy naw o'r gloch yn gam pwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â’r epidemig gordewdra, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno Bil tybaco a fêps cryfach ar gyfer y DU a fydd yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru ddi-nicotin a di-fwg.

Cafodd mwy na 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf y llynedd, llawer ohonynt oherwydd afiechyd. Mae grymuso a chefnogi pobl i wneud newidiadau ystyrlon i'w ffordd o fyw, fel rhoi'r gorau i ysmygu, colli pwysau a gwneud ymarfer corff ysgafn yn golygu eu bod yn aml yn fwy ffit ac wedi'u paratoi'n well ar gyfer y driniaeth a gynlluniwyd ac yn fwy tebygol o wella'n gynt.

Lywydd, dyma fy wythnos gyntaf yn fy swydd newydd fel Ysgrifennydd iechyd, ac mae lleihau amseroedd aros ar frig fy rhestr o bethau i’w gwneud. Y bore yma, cyfarfûm â chadeiryddion y GIG. Mynychais uwchgynhadledd weinidogol ar ganser, gan brofi ymrwymiad ein timau clinigol i wella canlyniadau canser yn benodol. Roedd y ddau ddigwyddiad yn gyfle imi nodi ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, i sicrhau mynediad cyflymach at ofal a thriniaeth. Hoffwn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar y gweill. Byddaf yn tynnu sylw at arferion da, ond rwy'n dweud yn glir fy mod yn disgwyl i bob rhan o’r system ddysgu o’r rhannau sy’n gwneud y cynnydd gorau. A byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ac ar draws y GIG i gyflawni hynny.

17:45

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro, a diolch i bawb sydd wedi ymateb i'r ddadl yma. Dwi am gychwyn fy sylwadau clo drwy groesawu'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros iechyd i'w swydd, a dymuno'r gorau iddo fo. Dwi'n edrych ymlaen i gydweithio efo fo yn y rôl honno. Ond mae arnaf i ofn i ddweud bod yr ymateb ddaru inni ei gael heddiw ddim yn sioc ond hefyd yn siom, oherwydd nad ydym ni wedi gweld unrhyw fath o weledigaeth.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Os gwnaf i gyfeirio at ambell i sylw ddaru i'r Ysgrifennydd Cabinet eu gwneud cyn fy mod i'n mynd ymlaen, ddaru ichi ddechrau eich cyfraniad drwy ddweud mai un o'r pethau da roedd yr NHS yn eu gwneud oedd darparu gofal amserol, ond dyna'r union bwynt: dydy o ddim yn darparu gofal amserol i gannoedd o filoedd—dros 0.5 miliwn—o bobl yng Nghymru sydd ar restrau aros am fisoedd a blynyddoedd. Dyna'r union bwynt yn y cynnig yma o'n blaen ni. Ddaru ichi hefyd sôn am gamau pwysig sydd wedi cael eu cymryd dros yr haf, sef bod yna ddyfarniad wedi bod ar gyfer dyrchafiad tâl i weithwyr yn y sector iechyd. Ond, wrth gwrs, mae hynna wedi bod yn llwyr ddibynnol ar San Steffan. Rŵan, pe baech chi'n cytuno efo'r cynnig yma, efo Plaid Cymru, a mynnu newid trefn ariannu Cymru, newid Barnett a'r camau eraill, yna fuasech chi ddim wedi gorfod aros tan yr haf ar gyfer y dyfarniad yna. Mi fuasech chi wedi gallu ei wneud o llawer iawn yng nghynt. Ond, am ryw reswm, rydych chi'n aros i San Steffan i weithredu.

Ddaru ichi sôn fod Cymru wedi bod yn dioddef o dan gysgod hir llymder yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynna'n berffaith wir. Mae 14 mlynedd o lymder wedi effeithio yn andwyol ar ein gallu ni i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon yng Nghymru. Ond, yn anffodus, mae eich Llywodraeth chi eich hunain yn Llundain, o dan Keir Starmer a Rachel Reeves, yn parhau â'r polisi llymder yna, a Sioned wedi ei gwneud hi'n glir, fel bod pawb yn gwybod, mae hi'n amlwg i bawb fod polisi llymder sydd wedi ei weithredu ac am barhau o dan Lywodraeth Llafur yn niweidio iechyd pobl, ac am wneud y rhestrau aros yna yn hirach. Ac unwaith eto, ddaru ichi sôn am y sefyllfa ariannol anodd mae Cymru yn ffeindio ei hun ynddi, ond eto rydych chi'n gwrthod sefyll i fyny i'ch meistri yn Llundain a mynnu setliad teg i Gymru.

Ac yn olaf, ddaru ichi sôn ar y diwedd am bwysigrwydd yr elfen ataliol yna, ac mi ydyn ni i gyd, wrth gwrs, yn cytuno mai dyna ddylai'r flaenoriaeth fod, ond y Llywodraeth yma, eich Llywodraeth chi, sydd wedi torri rhaglenni ataliol o fewn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, sydd yn arwain at yr argyfwng yma. Felly, allwch chi ddim ei chael hi y ddwy ffordd. Wrth gwrs, dydy o ddim yn syndod clywed yr hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei ddweud, yn trio paentio rhyw ddarlun bod ein rhestrau aros yn torri mewn rhai elfennau, ac yn trio paentio rhyw ddarlun bod bob dim yn iawn. Dyna rydyn ni'n ei gael gan y Llywodraeth hon, dro ar ôl tro. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb, mae'r Llywodraeth yma yn pwyntio'r bys at bawb arall ac yn beio pobl eraill. Rydyn ni wedi clywed y Prif Weinidog yn beio'r rheolwyr iechyd, rydyn ni wedi clywed Gweinidogion yn y Llywodraeth yma yn beio pobl Cymru, yn beio pobl Cymru am gael y deiet anghywir, yn beio pobl Cymru am fod yn ordew, am beidio edrych ar ôl eu hunain, yn beio pobl Cymru am fynd i A&E oherwydd gwahanol resymau, yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am eich methiannau eich hunain.

Dwi ddim yn sicr, o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet na'r Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol, a ydych chi'n deall go iawn impact y rhestrau aros yma. Os gwnaf i roi un enghraifft—cymydog i fi sydd yn etholwr—roedd e'n glaf yn aros am benglin newydd. Roedd e ar y rhestr aros am ddwy flynedd. Oherwydd hynny, roedd o'n rhoi pwysau ymlaen. Roedd o'n methu cerdded, roedd o'n rhoi pwysau ymlaen ac yn mynd yn ordew; roedd o felly yn gorfod mynd i weld ei feddyg yn amlach. Oherwydd ei fod o'n methu cerdded, oherwydd ei fod o'n mynd yn ordew, roedd ei iechyd meddwl wedi cael ei effeithio yn andwyol, oedd felly'n golygu ei fod yn gorfod mynd eto i mewn i'r gwasanaeth iechyd. Un claf yn gorfod mynd at y gwasanaeth iechyd sawl gwaith oherwydd eich bod chi wedi methu â sicrhau bod o'n cael triniaeth.

Roeddech chi'n dweud yn eich cyfraniad chi, Ysgrifennydd Cabinet—eich dyfyniad chi—

'mae angen inni newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau'.

Ydych, mi ydych chi'n gwneud hynny. Y canlyniad i'r claf yma, fy nghymydog i, oedd ei fod o wedi gorfod mynd yn breifat i gael gwasanaeth ar gyfer pen-glin newydd. Dyna ydy gwaddol 25 mlynedd o Lywodraeth Llafur, ein bod ni'n gweld preifateiddio ein gwasanaeth iechyd—gwasanaeth iechyd dwy haen ar gyfer rhai sydd yn gallu fforddio a phawb arall sydd ddim. Dyna ydy record Llafur yng Nghymru. Dyna pam mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r rhestrau aros yma. Mae'n rhaid inni weld rhaglen ar waith, wedi cael ei osod gennych chi, clir, sydd yn dangos camau ar sut rydych chi'n mynd i'r afael â'r rhain. Dyna pam rydym ni wedi rhoi'r cynnig yma ymlaen heno ac yn gobeithio ac yn gofyn i bawb ei gefnogi. Diolch yn fawr iawn. 

17:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Os nad oes yna dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar daliad tanwydd y gaeaf. [Torri ar draws.]

Iawn, rwy'n credu fy mod yn cael—. Mae Lesley Griffiths am ymyrryd.

Ydw. Rwy'n cael trafferth cofrestru i bleidleisio. Rwy'n dal i geisio.

Mae'n iawn. Rwyf wedi llwyddo bellach. Diolch yn fawr.

Iawn. [Torri ar draws.] Brif Weinidog. Credaf fod pob un ohonom braidd yn rhydlyd ar ôl ychydig wythnosau i ffwrdd.

A gaf i wneud yn siŵr fod pawb heblaw am un unigolyn bellach yn barod i bleidleisio?

Iawn. Fe symudwn ni i'r bleidlais, a fe wnaf i alw am bleidlais lafar os oes parhau o ran y broblem gan Jenny Rathbone. Fe wnawn ni edrych ar y cynnig, felly, y cynnig o dan eitem 7. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Taliad tanwydd gaeaf. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Awn ni felly at bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Taliad tanwydd gaeaf. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt : O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Pleidlais ar welliant 2 nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 2 wedi ei wrthod.

17:55

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Taliad tanwydd gaeaf. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 9, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais olaf, felly, o dan yr eitem yma, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.

Cynnig NDM8651 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi gwneud dewisiadau anodd, fel newidiadau i’r cymhwystra ar gyfer lwfans tanwydd y gaeaf, yn sgil 14 o flynyddoedd o gamreoli economaidd.

2. Yn croesawu’r ymrwymiad i’r clo triphlyg a dull wedi’i dargedu o gyflwyno’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

3. Yn cytuno bod sicrhau’r incwm mwyaf, meithrin cadernid ariannol a rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl yn flaenoriaethau ar gyfer lliniaru effaith prisiau ynni uchel, ac yn annog pobl i ddod i wybod mwy am y cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo drwy Advicelink Cymru.

4. Yn cefnogi’r egwyddor o dariff cymdeithasol er mwyn diogelu’r cwsmeriaid sydd fwyaf agored i niwed, ac yn galw ar OFGEM i ddiwygio taliadau sefydlog.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Taliad tanwydd gaeaf. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Cyfres bleidleisio nesaf ar eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar restrau aros yn y gwasanaeth iechyd. Galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Rhestrau aros y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf ar welliant 1, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo. Gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4 sydd nesaf i bleidleisio arno, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Rhestrau aros y GIG. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8652 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod y Prif Weinidog a'i rhagflaenwyr wedi blaenoriaethu torri rhestrau aros yn y GIG; a

b) bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau 67% ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth 2022.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Rhestrau aros y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn yma, ac fe fydd y ddadl fer yn cychwyn mewn munud. Os wnaiff pawb sy'n gadael adael yn dawel.

10. Dadl Fer: Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf: Sicrhau gwaddol i'r Gymraeg yn y Cymoedd

Fe wnaf i ofyn i Heledd Fychan i gyflwyno'i dadl. Heledd Fychan.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi hoffwn ddweud fy mod i’n rhoi munud o fy amser i Peredur Owen Griffiths, Tom Giffard a Sioned Williams, a diolch ichi am fod yn barod. Mae’n rhaid i mi ddweud, dwi yn mynegi siom nad oes gennym ni'r Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg na chwaith y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am ddiwylliant yma ar gyfer y ddadl yma, ond gobeithio y byddan nhw’n gwrando nôl oherwydd, yn sicr, mae'r rhain yn bwyntiau y byddwn i’n gobeithio y byddai’r Llywodraeth yn gwrando arnyn nhw a chymryd sylw.

Felly, teitl y ddadl fer hon ydy ‘Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: Sicrhau Gwaddol i’r Gymraeg yn y Cymoedd’. Ac mae yna gwestiwn i ddechrau efo: ‘Yr Eisteddfod orau erioed?’ Dyna oedd y cwestiwn ofynnodd Tudur Owen, dyna oedd y cwestiwn ar dudalen flaen y cylchgrawn Golwg, a dyna oedd y cwestiwn ar wefusau nifer fawr wnaeth fynychu Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd fis diwethaf. Efallai eich bod chi wedi sylwi cyn lleied o gwyno oedd yna, a phenawdau negyddol. Mae hynny, gobeithio, yn dweud y cyfan ynglŷn â pha mor llwyddiannus oedd yr Eisteddfod. A heb os, fel rhywun sydd yn mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol, ac fel rhywun sydd bellach yn byw ym Mhontypridd ac a fynychodd yr Eisteddfod bob diwrnod eleni ym mhob tywydd, roedd hi’n Eisteddfod lwyddiannus dros ben. Roedd tref Pontypridd a pharc Ynysangharad yn llawn bwrlwm a chroeso i’r miloedd ddaeth i gefnogi, a phwrpas fy nadl fer heddiw yw adlewyrchu ar a dathlu’r llwyddiant, ynghyd ag ystyried sut y gallwn ni fel Senedd gefnogi’r gwaddol o ran y Gymraeg yn y Cymoedd ac, yn ehangach, gefnogi rôl yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd fel rhan o’r targed cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu hefyd defnydd o’r iaith.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb fu’n gyfrifol am lwyddiant yr wŷl, yn staff yr Eisteddfod, yn staff a swyddogion cyngor Rhondda Cynon Taf, y pwyllgor gwaith lleol dan arweiniad yr anfarwol Helen Prosser, y fyddin o wirfoddolwyr fu’n codi arian ac yn harddu’r ardal, heb sôn am yr holl dasgau eraill angenrheidiol er mwyn creu Eisteddfod lwyddiannus—hefyd, wrth gwrs, yr holl hyfforddwyr, cystadleuwyr, stondinwyr a phawb fynychodd, ynghyd â busnesau’r ardal a weithiodd mor galed i sicrhau croeso cynnes i bawb. Chwaraeodd pawb eu rhan yn effeithiol.

A pheidied neb â diystyru faint o dasg oedd hon. Wedi’r cyfan, doedd dim Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn ardal Rhondda Cynon Taf ers 1956, ac yn 1893 y bu hi ddiwethaf yn ardal Pontypridd. Golyga hyn nad oedd mwyafrif pobl yr ardal erioed wedi profi eisteddfod y tu hwnt i eisteddfod ysgol, a doedd ganddyn nhw ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Ac yn naturiol, felly, er bod yna gynnwrf mawr ymhlith nifer, roedd yna nerfusrwydd ymhlith rhai ac, i fod yn gwbl onest, cryn dipyn o negyddiaeth hefyd, gyda nifer o bobl leol yn poeni am weld eu parc lleol yn cau am gyfnod o’r gwyliau haf, yn poeni am draffig yn fwy na dim, ac yn meddwl nad oedd yr Eisteddfod yn berthnasol iddyn nhw gan nad oedden nhw'n siarad Cymraeg.

Fwy nag unwaith yn y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod, cefais fy nhemtio i roi ambell i grŵp Facebook lleol ar mute oherwydd hyn. Hyn a hyn gall rhywun geisio rhesymu gyda rhai o’r lleisiau mwyaf amlwg ar blatfformau o’r fath sy’n hoffi styrio. Ond dwi’n falch na wnes i, oherwydd braf oedd gweld, wrth i’r Eisteddfod agosáu, y rhod yn dechrau troi, wrth i bobl weld y parc yn trawsnewid i faes Eisteddfod ac wrth i fwy o fanylion am yr Eisteddfod gael eu rhannu. Mi ddylech fod wedi gweld y sylwadau yn ystod yr Eisteddfod, ac yn dilyn yr Eisteddfod, ar yr union dudalennau hyn, gyda rhai o’r sceptics mwyaf ymhlith y rhai oedd yn canmol yr wythnos i’r cymylau, a hyd yn oed yn mynegi gobaith y byddai’r Eisteddfod yn dychwelyd yn fuan i’r ardal. Yn wir, ar ôl yr holl bryderon am draffig, y gwir amdani ydy bod y negeseuo ynglŷn â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â’r ddarpariaeth effeithiol o drenau a bysus gwennol wedi gweithio’n rhagorol a bod y traffig wedi llifo’n well na mewn wythnos arferol. ‘Bring back the Eisteddfod’ oedd ple nifer wrth i’r traffig ddychwelyd yr wythnos ganlynol.

Ac i fod yn deg, nid dim ond y rhai hynny oedd ddim yn gwybod beth oedd Eisteddfod oedd yn poeni. Wn i ddim faint o eisteddfodwyr pybyr fu’n dweud wrthyf i am eu pryder a fyddai’r Eisteddfod yn medru ffitio o fewn parc Ynysangharad. Yn wir, mi o'n i yn eu plith. A dwi’n falch iawn o ddweud fod ein pryderon wedi bod yn ddi-sail, gyda nifer yn rhyfeddu o weld faint o ofod oedd yna a pha mor dda gwnaeth yr Eisteddfod lenwi parc Ynysangharad. Mi weithiodd hefyd fod rhai o adnoddau’r parc wedi’u hymgorffori fel rhan o’r Eisteddfod, megis y lido, y parc chwarae a chanolfan Calon Taf. Oes Eisteddfod arall wedi cael pwll nofio iawn yna—dwi ddim yn sôn am bwll dŵr neu bwll o fwd—fel rhan o’r arlwy? Wrth gwrs, roedd yna sialensau: doedd Maes B a’r maes carafannau ddim yn y parc, ond fe weithiodd y datrysiadau a roddwyd mewn lle, a phob clod i’r trefnwyr am hynny.

Gyda mwyafrif o Eisteddfodau’r blynyddoedd diwethaf wedi bod mewn caeau ar gyrion trefi neu’n bell o bobman, roedd Eisteddfod eleni yn teimlo’n wahanol gyda thref Pontypridd yn rhan o’r maes. Roedd y defnydd o’r llyfrgell fel canolfan groeso, a’r defnydd o’r Muni ac YMa wedi gweithio’n wych, a rhaid canmol hefyd ymdrech yr ardal gwella busnes ym Mhontypridd dan arweiniad James Payne o ran hyrwyddo busnesau’r dref, ynghyd ag ymdrech y busnesau eu hunain. Braf iawn oedd gweld llefydd fel Zucco’s, Café Royale, Cortile Coffee, Janet’s a Prince’s yn orlawn o bobl—gymaint felly fel bod rhai wedi rhedeg allan o fwyd yn ystod yr wythnos a gorfod cau eu drysau—ynghyd â thafarndai a bariau’r dref. Gwelais i ambell i Weinidog yng Nghlwb y Bont, ac mi fyddwch chi'n ymwybodol bod y clwb wedi wynebu heriau lu dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil llifogydd dinistriol 2020 ac yna COVID. Ond fel a ddangoswyd yn glir o ran y miloedd ddaeth i gefnogi yn ystod yr Eisteddfod, mae Clwb yma o hyd.

Yn dilyn yr Eisteddfod, cadarnhaodd y cyngor gyfanswm y bobl a ymwelodd â chanol tref Pontypridd yn ystod cyfnod wyth diwrnod yr Eisteddfod: 186,012 oedd cyfanswm yr ymwelwyr a gofnodwyd yn y dref, sy’n cynrychioli cynnydd enfawr o 119,747 o gymharu â’r wythnos flaenorol, a chynnydd tebyg, o 115,554, o gymharu â’r un wythnos y llynedd. A'r diwrnod prysuraf oedd dydd Gwener 9 Awst, gyda ffigwr o 39,155 o bobl yn ymweld â'r dref. Felly, mae'r rhain yn ffigurau sy'n dangos bod pobl wedi dod i Bontypridd.

A’r hyn sydd wedi bod yn braf imi ers yr Eisteddfod yw bod nifer o’r rhai a fynychodd wedi dychwelyd i Bontypridd yn dilyn yr Eisteddfod, fel petaen nhw wedi darganfod neu ailddarganfod cyfoeth yr arlwy diwylliannol sydd ar gael yno, ynghyd â’r llefydd bwyta, siopa a’r farchnad. Dyma ydy’r gwaddol barhaol i’r busnesau lleol. A gobeithio felly bydd mwy o drefi ledled Cymru, ynghyd â’r Eisteddfod, yn gweld bod modelau gwahanol yn medru gweithio, ac y bydd yr Eisteddfod ym Mhontypridd yn fodel posibl i’r dyfodol. 

Efallai fydd rhai Aelodau yn cofio imi alw am Eisteddfod am ddim ym Mhontypridd. Er na fu’r alwad honno’n llwyddiannus, roeddwn yn falch bod y Llywodraeth wedi ariannu tocynnau am ddim i filoedd o deuluoedd lleol, oedd yn cynnwys cost teithio ac arian tuag at fwyd, a braf oedd gweld cynifer yn manteisio ar hynny. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd mewn amryw o Eisteddfodau Cenedlaethol ac Eisteddfodau’r Urdd erbyn hyn, a hoffwn weld ymrwymiad gan y Llywodraeth hon i barhau i ariannu. Pam? Oherwydd, o’r hyn dwi wedi’i weld, mae o’n bolisi sy’n gweithio os ydyn ni eisiau sicrhau bod pobl sydd erioed wedi bod mewn Eisteddfod yn mynychu pan fydd yr Eisteddfod yn dod i’w hardal nhw a chael cyfle i brofi cyfoeth yr arlwy.

Yn wahanol i rai o’r cynlluniau tocynnau am ddim, gallai rhai dderbyniodd tocyn eleni fod wedi fforddio prynu tocyn. Mi oedd yna gyfle i unrhyw un â phlentyn yn mynychu ysgol yn Rhondda Cynon Taf i gael tocyn. Yn gall iawn, roedd y mwyafrif o’r tocynnau hyn wedi eu rhoi ar y penwythnos cyntaf, gan olygu bod nifer wedyn wedi dychwelyd a phrynu tocyn eu hunain nifer o weithiau dros yr wythnos. Roedd rhai ohonynt yn rhieni oedd wedi mynychu ysgolion Cymraeg eu hunain ond efallai heb ddefnyddio’r iaith ers hynny, ac roedd nifer fawr hefyd yn siaradwyr Cymraeg newydd neu heb ddim Cymraeg o gwbl. A’r hyn wnaeth eu rhyfeddu oedd y croeso, p’un a oeddent yn siarad yr iaith ai peidio. Mi oeddwn i wrth fy modd gweld ffrindiau fy mab 11 oed yn ysu i ddod nôl i'r maes bob dydd a chael modd i fyw. Maen nhw'n edrych ymlaen yn barod, er mai 11 ydyn nhw, at fynd i Faes B mewn cwpwl o flynyddoedd. Felly, dwi'n meddwl bod hynny wedi bod yn llwyddiant.

Ond mae'n rhaid i ni hefyd sôn ynglŷn a beth mae gwaddol fel hyn yn ei olygu a rôl y Senedd. Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau, pan fydd Eisteddfod yn dod i ardal, fod yna wedyn gyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg, defnyddio'u Cymraeg neu gael mynediad i addysg Gymraeg. Felly, mi fydd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn un arwyddocaol, oherwydd mae yna benderfyniadau sydd wedi niweidio'r Gymraeg wedi cael eu gwneud gan gyngor Rhondda Cynon Taf yn y blynyddoedd diwethaf: lleihau nifer yr ysgolion Cymraeg yn ardal Pontypridd o ddwy a hanner i ddwy, gyda chau Ysgol Pont Sion Norton a gwrthod galwadau rhieni i wneud ysgol newydd yn ardal Glyn-coch yn ysgol Gymraeg, gan olygu bod plant yn ardal Ynys-y-bwl a Glyn-coch yn gorfod teithio heibio amryw o ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn cyrraedd addysg Gymraeg. Nid dewis gwirioneddol yw hyn i deuluoedd heb geir chwaith, gan olygu bod rhai rhieni wedi gwneud y dewis yn barod i symud eu plant o addysg cyfrwng Cymraeg i Saesneg oherwydd y pellteroedd i ysgol ag addysg Gymraeg.

Yn ail, mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar sut mae mentrau iaith yn cael eu hariannu a sicrhau bod ganddyn nhw'r adnoddau i barhau gyda’r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud mewn ardaloedd ledled Cymru o ran hyrwyddo’r iaith a chreu cyfleoedd i’w defnyddio. Maen nhw’n gwneud gwyrthiau o ran cefnogi cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ledled Cymru, ond mae eu rôl nhw'n ehangach na hynny, ac yn aml mae’n anodd cadw staff a recriwtio oherwydd bod y cyflogau maen nhw'n gallu'u cynnig yn isel, tra bod, ar yr un pryd, costau wedi cynyddu. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn fel Senedd edrych arno fel rhan o’r gwariant sy’n cefnogi targedau 2050.

Ac yn drydydd, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni, fel Senedd, edrych ar rôl yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd o ran cefnogi 'Cymraeg 2050' a sicrhau ein bod ni’n cydweithio’n agosach â’r ddau gorff a chydnabod y cyfraniad mae eu gwaith yn ei wneud o ran dyfodol y Gymraeg. A nid dim ond hynny; mae angen hefyd cydnabod gwerth economaidd y ddau sefydliad, ynghyd a’u rôl o ran hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol. A dylai hyn, felly, ddylanwadu ar fuddsoddiad y Llywodraeth ynddynt.

I gloi, felly, fy ngobaith yw bod dadl fer heddiw, a'r Eisteddfod ei hun, yn gyfle i esgor ar drafodaeth ehangach o ran potensial ein heisteddfodau teithiol o ran sicrhau parhad i'r Gymraeg fel iaith fyw, y tu hwnt i’r dosbarth neu’r gwaith, a hefyd i ddechrau trafodaeth am y pethau y gallwn ni fel Senedd eu gwneud i gefnogi hynny. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau eraill, ynghyd â’r Ysgrifennydd Cabinet.

18:10

Diolch yn fawr iawn i ti, Heledd, am y ddadl yma. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni'n gweld beth ydy gwaddol yr Eisteddfod. Rydw i jest eisiau siarad ychydig bach am y gwaddol diwylliannol, ac yn benodol y gwaddol corawl, gan fy mod i’n aelod o gôr. Dwi wedi syrffedu pobl drwy ddweud hynny, ond dwi’n mwynhau canu yn y côr, ac mae’n un o’r pethau sy’n rhoi pause imi yn ystod yr wythnos er mwyn gallu helpu efo iechyd meddwl a bob dim felly sy’n digwydd o fod yn rhan o ganu a chydganu efo pobl.

Yn ystod yr wythnos, mi oedd yna ddegau o gorau wedi cystadlu. Roedd yn ffantastig o ran arlwy corawl yr Eisteddfod yma. Un o’r cystadlaethau mwyaf bendigedig, dwi’n meddwl, yn yr Eisteddfod yma am y tro cyntaf oedd y gystadleuaeth gorawl ar gyfer corau nad oedd erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod o’r blaen. Roedd 13 neu 14 o gorau wedi cystadlu, ac roedd o’n ffantastig.

Mae canu corawl, wrth gwrs, yn rhoi cymaint o bleser i bobl, ond mae hefyd yn help efo iechyd meddwl. Mae’n help i gymunedau ddod at ei gilydd. Rydw i’n meddwl ei bod hi’n deg i ddweud 'diolch yn fawr' i’r Eisteddfod am greu'r gwaddol corawl yna. Diolch hefyd i’r holl arweinwyr, i’r cyfeilyddion ac i’r cantorion am ddod at ei gilydd a pharatoi’n drylwyr ar gyfer yr Eisteddfod.

Yr her i’r Gweinidog heddiw, rili, ydy: sut mae’r Llywodraeth yn mynd i gefnogi diwylliant llawr gwlad, yn enwedig ar ôl y pethau yr oeddem yn eu clywed yn y dadleuon heddiw ynglŷn â cholli llefydd fel y miners’ institute yn Blackwood, a’r pethau eraill sydd yn digwydd ar lawr gwlad? Felly, yr her i’r Gweinidog a’r Cabinet ydy: sut maen nhw’n cefnogi ein diwylliant llawr gwlad ni, ac yn benodol y corau hefyd? Diolch.

Diolch yn fawr iawn i Heledd Fychan am ddod â'r ddadl hon heddiw i'r Senedd. Mae'n ddadl amserol, dwi'n credu, nid dim ond am y ffaith ein bod ni wedi cael Eisteddfod lwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf dros yr haf, ond rŷn ni wedi gweld digwyddiadau mawr dros yr haf hwn ar draws y byd. Yn enwedig, roeddwn i'n gwylio’r Olympics a’r Paralympics, ac roedd hynny’n gwneud imi feddwl pan fydd dinas neu dref neu wlad am gael y Paralympics neu’r Olympics yn eu gwlad nhw, maen nhw wastad yn siarad am y legacy. Beth fydd legacy yr Olympics hyn? Gallwn ni wneud yr un peth, rydw i’n credu, o ran yr Eisteddfod. Wrth gwrs, mae’r sgêl yn wahanol, ond mae’r pwynt yr un peth.

Os ydym ni’n mynd i gyrraedd targedau 'Cymraeg 2050', y ffordd rŷn ni’n mynd i wneud hynny yw nid dim ond yn sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn, ond mewn llefydd fel Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ac Abertawe, ac yn y blaen. Felly, mae’n bwysig ein bod ni, bob amser y bydd yr Eisteddfod yn mynd i lefydd lle nad yw pobl fel arfer yn siarad Cymraeg, yn gofyn i’n hunain beth fydd effaith yr Eisteddfod hon nid dim ond am yr wythnos y mae’r Eisteddfod yno, ond yr effaith y bydd yr Eisteddfod hon yn ei chael yn yr hir dymor, ar ôl i’r sioe fynd? Beth fydd yr effaith am y blynyddoedd i ddod, o ran yr iaith Gymraeg, o ran y bobl sy’n mynd i’r Eisteddfod a’r gymuned ei hun? Mae hynny'n rhywbeth dwi’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn sôn amdano. Diolch.

Diolch o galon, Heledd. Roedd hi yn wythnos i’w chofio. Rydw i'n sicr o’r farn taw dyna’r Eisteddfod orau sydd wedi bod erioed, efallai ar wahân i ambell i un arall, fel Eisteddfod Castell-nedd. Ond, beth sy’n wych, dwi'n meddwl, yw roedd yn profi pa mor fuddiol a pha mor bwysig, yn enwedig o ran y Gymraeg, yw’r model teithiol. Rŷn ni’n gwybod bod yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd wedi gorfod ystyried yn ddiweddar a ydyn nhw’n medru parhau â hynny oherwydd costau—oherwydd nad ydyn nhw’n cael, efallai, digon o gyllid i sicrhau’r seilwaith sydd ei angen er mwyn teithio’r Eisteddfod. Mae’n hanfodol bwysig, dwi’n meddwl. Ac rŷm ni yng Nghastell-nedd Port Talbot yn edrych ymlaen, wrth gwrs, at groesawu Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf—Eisteddfod Dur a Môr, a fydd yn cael ei chynnal ym mharc Margam. Mae rhaglen wych, wrth gwrs, fel rydw i’n cofio ti’n sôn, o ddigwyddiadau nawr yn y gymuned yn dod â phobl ynghyd i godi arian. Ac mae'n rhaid imi hefyd ganmol yr Urdd. Maen nhw wedi hysbysebu nawr am ddwy swydd—swyddogion fydd yn estyn mas tu hwnt i'r ysgolion Cymraeg fyddai efallai, a'r cymunedau Cymraeg fyddai, wrth gwrs, yn gyfarwydd â'r Eisteddfod, i weithio'n ddwys gydag ysgolion ail iaith ac ysgolion cyfrwng Saesneg, er mwyn eu tynnu nhw i mewn hefyd. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig, ydy, i sicrhau'r ymdeimlad yna o berthyn—bod y Gymraeg yn perthyn i bawb—ond hefyd fod pawb yn gweld bod yr iaith yn rhywbeth y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, yn rhywbeth i'w mwynhau, a hefyd yn agor pob math o ddrysau ar gyfleon. Felly, ydy, mae'n bwysig i barhau â'r model teithiol yna.

18:15

Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i gyfrannu i'r ddadl. Y Trefnydd, felly, Jane Hutt.

Member
Jane Hutt 18:15:52
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Diolch yn fawr, Llywydd. Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod, Heledd Fychan, am gyflwyno ei dadl yma yn y Senedd heddiw? Mae'n gyfle i drafod a rhoi ffocws ar waddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, a gafodd ei chynnal ym Mhontypridd eleni, a'i heffaith hirdymor ar y Gymraeg. Ond mae hefyd yn gyfle imi ddiolch yn ffurfiol, ar y record, i bawb fuodd yn trefnu'r ŵyl. Diolch i staff yr Eisteddfod, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, y cannoedd o wirfoddolwyr, y pwyllgor gwaith, y fenter iaith, Trafnidiaeth Cymru a'r holl bartneriaid lleol am Eisteddfod wych eleni. Dyma ganlyniad blynyddoedd o gydweithio, a dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd.

Wrth inni edrych yn ôl ar yr Eisteddfod eleni, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni hefyd yn edrych ymlaen, fel rydych chi wedi ei wneud yn eich cyfraniadau. Ac rwy'n meddwl, Heledd, eich bod chi wedi gwneud y pwyntiau hyn yn glir iawn, a Sioned ac eraill. Rhaid inni wneud hyn gan edrych ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio pob cyfle posibl i sicrhau bod stamp yr Eisteddfod ar Rondda Cynon Taf am flynyddoedd i ddod. Ond hefyd fod y brwdfrydedd a oedd yn amlwg yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn ein helpu i roi egni newydd i'r Gymraeg yn yr ardal. 

Roedd Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Eisteddfod wedi bod yn trafod gwaddol Eisteddfod 2024 fisoedd cyn i'r Eisteddfod gyrraedd Parc Ynysangharad, a braf oedd clywed gan yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf fod gwaith yn yr ardal yn parhau. Mae'r pwyllgor gwaith yn canolbwyntio nawr ar sut i wneud y gorau o'r ewyllys da a ddangoswyd tuag at y Gymraeg. A chyn imi ymateb i holl bwyntiau'r Aelod am y gwaddol a'r iaith Gymraeg, hoffwn rannu ychydig o uchafbwyntiau ychwanegol am Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, oherwydd roedd yr Eisteddfod eleni yn cynnig cyfle i ddangos Pontypridd a'r Cymoedd ar eu gorau, a'r hyn sy'n bosibl drwy gydweithio. Mae pobl Ponty a'r sir gyfan wedi ennyn balchder Cymru. Mae codi egni ac ysbryd ein trefi yn gallu bod yn her ers y pandemig, ond roedd croeso Pontypridd yn gynnes a brwdfrydig, o stondinwyr y farchnad, i staff Clwb y Bont a'r gyrwyr bysiau lleol. A gaf i ddweud fy mod wedi mwynhau'r Eisteddfod hon yn fawr? Ac wrth imi fynd ar y trên a chamu i ffwrdd yn yr orsaf a cherdded ar draws y bont, roedd yna brotest yn digwydd, a oedd yn wych, yng nghanol y dref—roedd y cyfan yn rhan o'r hwyl a busnes yr Eisteddfod. 

Torrodd Eisteddfod 2024 sawl record: yr Eisteddfod wyrddaf erioed, gyda dros 100,000 o deithiau trên wedi digwydd, diolch i wasanaeth di-fai Trafnidiaeth Cymru, fel sydd wedi cael ei gydnabod; y nifer fwyaf o docynnau wedi'u gwerthu ers cyn COVID; y nifer fwyaf o wirfoddolwyr wedi cofrestru; a hefyd y nifer fwyaf o aelodau yng nghôr yr Eisteddfod. Da iawn, Peredur. Ac rwy'n gobeithio bod Rhondda Cynon Taf i gyd yn sylweddoli beth y maent wedi llwyddo i'w wneud, oherwydd mae cynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi hyder i Rondda Cynon Taf gofleidio diwylliant ac iaith Cymru.

Rhoddodd yr Eisteddfod brofiad diwylliannol bythgofiadwy i filoedd o bobl yn y sir, gyda'r Gymraeg yn ganolog iddo. A thrwy gyllid Llywodraeth Cymru, derbyniodd bron i 15,000 o bobl docynnau a thalebau bwyd am ddim i'w mynychu. Rwy'n credu bod cynwysoldeb hynny yn rhywbeth eithaf rhyfeddol, ac roeddwn i'n ei deimlo ac yn ei brofi gyda'r bobl o'n cwmpas ni pan oeddem ni yno. Pymtheg mil o bobl, gyda llawer ohonynt bellach wedi profi, ac yn mynd i brofi'r Gymraeg fel iaith fyw, ddeinamig, hwyliog am y tro cyntaf. Mae'n anodd iawn gwybod beth fydd y gwahaniaeth hirdymor y bydd y profiad cadarnhaol hwn yn ei gael ar bobl leol, ond rwyf bron yn sicr y bydd mwy a mwy o bobl eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg yn y sir yn y dyfodol, ac mae hynny hefyd yn gwneud gwahaniaeth wrth inni feddwl am addysg Gymraeg yn yr ardal. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o deuluoedd yn ystyried anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, gan adeiladu ar gynnydd y sir eisoes, oherwydd eu bod wedi gweld y Gymraeg fel iaith gyfoes a byw. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn edrych ar yr ail flwyddyn o adroddiadau blynyddol y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac mae'r awdurdod lleol yn gwneud cynnydd sylweddol.

Roedd yn wych gweld cannoedd o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod, a phlant o bob ysgol, ni waeth beth fo'u cefndir ieithyddol a chategori iaith eu hysgolion. Gwn hefyd fod nifer staff y cyngor sydd wedi penderfynu dysgu Cymraeg wedi cynyddu'n aruthrol. Enghraifft fach arall ond diriaethol o'r effaith gadarnhaol ar y Gymraeg yw bod llawer o fusnesau'r ardal yn parhau i ddefnyddio arwyddion Cymraeg ar eu drysau a'u ffenestri. Un enghraifft y bydd yr Aelod yn ymwybodol ohoni eisoes, rwy'n siŵr, ac y gwyddoch amdani, yw bod caffi Zucco wedi ychwanegu 'Ni'n siarad Cymraeg tipyn bach' o dan yr arwydd ar y drws, ac mae hynny'n dangos bod mwy a mwy o bobl yn barod i geisio defnyddio cymaint o Gymraeg ag sydd ganddynt, ond mae hynny oherwydd yr Eisteddfod. Pethau bach, wrth gwrs, ond pethau bach gwerthfawr. Mae'n golygu ein bod yn newid agweddau ac yn annog mwy a mwy o bobl i ddod gyda ni ar ein taith Cymraeg 2050.

Rwyf hefyd yn falch fod yr Eisteddfod wedi meithrin partneriaethau cryf eleni gyda nifer fawr o sefydliadau lleol. Un o'r partneriaethau hyn oedd strategaeth Bryncynon. Roedd y bartneriaeth yn arbennig am sawl rheswm, am gyflwyno'r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd a hefyd am gynnwys pob rhan o gymuned Rhondda Cynon Taf yn yr Eisteddfod. Strategaeth Bryncynon sy'n gyfrifol am fanciau bwyd yn yr ardal. Yn rhan o'u gwaith gyda'r Eisteddfod, fe wnaeth pobl leol a defnyddwyr y banciau bwyd ysgrifennu llyfr ryseitiau sy'n cynnwys ryseitiau Cymraeg, a dyma'r math o gydweithio sy'n bwysig. Dyma'r cydweithio sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd beth bynnag. Mae'n bwysig fod yr Eisteddfod yn cydweithio gyda phartneriaid traddodiadol a newydd, fel bod pawb yn gweld ac yn clywed y Gymraeg o'u cwmpas.

Ac wrth i mi sôn am y Gymraeg fel iaith gymunedol, mae'n amserol fy mod yn tynnu sylw at adroddiad comisiwn cymunedau Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod. Ond fe gyhoeddodd y comisiwn ail gam eu gwaith hefyd, sef edrych yn fanwl ar sefyllfa'r Gymraeg ar draws gweddill Cymru a thu hwnt. Er bod y gwaith hwn yn mynd y tu hwnt i waith yr Eisteddfod, bydd gwaith y comisiwn yn ein helpu i gryfhau'r Gymraeg mewn ardaloedd fel Rhondda Cynon Taf, ac mae'r Gymraeg, wrth gwrs, yn perthyn i bawb, ble bynnag y maent yn byw.

Llywydd, i gloi, dwi am orffen drwy gydnabod bod gennym ni waith i'w wneud, ond mae wedi bod yn braf iawn cael cyfle i edrych yn ôl dros brysurdeb Eisteddfod 2024 a sôn am yr holl bethau positif. Mae sicrhau gwaddol yr Eisteddfod yn hollbwysig, ac mae'n wir i ddweud bod pobl Rhondda Cynon Taf wedi croesawu'r ŵyl gyda breichiau agored, ac mae'n braf iawn gweld nad ydy'r gwaith yna wedi dod i ben. Mae bwrlwm yr ŵyl wedi creu diddordeb mawr.

Rwy'n falch iawn o'r berthynas waith dda sydd gennym gyda'r Eisteddfod. Rwy'n dymuno'n dda i'r holl staff a gwirfoddolwyr wrth inni symud tuag at Eisteddfod 2025 yn Wrecsam. 

Pob lwc i bawb yn Wrecsam gyda'r gwaith paratoi.

18:20

Diolch yn fawr, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl yna. Daw hynna â'n gwaith ni am heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:24.