Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da i bawb. Cyn i ni gychwyn, dwi'n moyn gwneud un datganiad byr.

Cyn inni ddechrau trafodion heddiw, hoffwn wneud rhai pwyntiau ynglŷn â'r ddadl ynghylch y rheoliadau 20 mya a ddaeth i rym dros y penwythnos. Dros nos, deuthum yn ymwybodol fod sawl Aelod—gan fy nghynnwys i—wedi cael negeseuon sarhaus a bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost a thros y ffôn, oherwydd eu safbwynt mewn perthynas â'r pwnc hwn. Mae ein staff wedi gorfod ymdrin â llawer o hyn y bore yma. Er ei bod yn galonogol gweld diddordeb digynsail yn ein Pwyllgor Deisebau a’i waith, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau bod y drafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn bwyllog, yn urddasol ac yn barchus. I ni yn y Siambr hon, mae hynny’n golygu gosod y cywair ar gyfer sut rydym yn disgwyl i eraill fynegi eu barn, ni waeth beth fo’u safbwynt ar y mater hwn neu unrhyw fater arall, a’n bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw’n diraddio nac yn tanseilio unrhyw unigolyn. Rwyf wedi cael sylwadau gan un Aelod ynglŷn ag ymddygiad Aelod arall yn ystod trafodion ddoe, ac wedi gohebu â’r ddau unigolyn yn unol â hynny. Rwyf am gloi drwy annog yr Aelodau i gadw hyn oll mewn cof wrth fynegi eu barn yn y Siambr, a thrwy hynny, i ddylanwadu ar sut mae eraill yn ymddwyn y tu allan i’r Siambr hon.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Symudaf ymlaen yn awr at yr eitem gyntaf o fusnes heddiw, sef cwestiynau i Weinidog yr Economi. Mae’r cwestiwn cyntaf i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog, a Sam Rowlands sydd i'w ofyn.

Sector Rheilffyrdd Treftadaeth Gogledd Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwadau glo addas ar gyfer sector rheilffyrdd treftadaeth gogledd Cymru? OQ59933

A gaf fi ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn, a dweud ein bod yn gwerthfawrogi ein rheilffyrdd treftadaeth yn fawr? Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob sector yn ein cymdeithas chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddem yn annog y diwydiant i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau pontio yn unol â’r targedau sero net.

Diolch am eich ymateb cychwynnol, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedwch, mae’r gefnogaeth i’r sector rheilffyrdd treftadaeth i’w chroesawu, oherwydd wrth gwrs, ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r rheilffyrdd treftadaeth yn werth oddeutu £0.5 biliwn i’r economi. Fe fyddwch yn ymwybodol o rai rheilffyrdd treftadaeth pwysig yn fy ardal i, yng ngogledd Cymru—mae rheilffordd Ffestiniog a rheilffordd ucheldir Cymru yn rhedeg drwy'r rhanbarth yn rhannol, ac yn denu oddeutu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mae'r rheilffordd rhwng Llangollen a Chorwen hefyd yn cynhyrchu oddeutu £8.5 miliwn i'r economi leol. Mae'n rhaid imi ddatgan buddiant personol yn hyn—mae fy nhad yn gwirfoddoli ar y rheilffordd honno o bryd i'w gilydd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod bob amser yn gwneud gwaith gwych, rwy'n siŵr. Wrth gwrs, mae gan Gymru lawer o lo a fyddai’n berffaith i’w ddefnyddio yn y sector rheilffyrdd treftadaeth. Mae o ansawdd uchel ac yn llosgi'n fwy effeithlon na mathau eraill o lo, ac wrth gwrs, nid oes angen ei gludo'n bell iawn o gwbl. Yn hytrach, mae’r sector ar hyn o bryd yn gorfod edrych ar fewnforio glo o wledydd eraill—o'r ochr arall i'r byd, weithiau—gan gynnwys gwledydd y ceir amheuon ynglŷn â'u hawliau dynol. Ac rwyf am bwysleisio i chi, Ddirprwy Weinidog, cymaint o arian a gynhyrchir a’r swyddi a gefnogir gan y sector rheilffyrdd treftadaeth, ond mae hyn oll yn dibynnu ar y defnydd o lo ar hyn o bryd. Felly, tybed beth y gallwch ei wneud i sicrhau y gellir defnyddio glo o’r Deyrnas Unedig at y diben hwn, yn lle gorfod ei fewnforio o dramor, a allai greu perygl o effaith amgylcheddol lawer gwaeth.

A gaf fi ddiolch i Sam Rowlands am y pwyntiau pwysig hynny yn ei gwestiwn atodol? Ac unwaith eto, a gaf fi ailadrodd ein bod wedi bod yn gefnogol ers amser hir i'n rheilffyrdd treftadaeth, a'n bod yn llwyr ddeall beth yw gwerth economaidd yr asedau diwylliannol a threftadaeth pwysig hyn? Rydym wedi buddsoddi mewn llawer ohonynt, i gefnogi eu presenoldeb a'u gallu i barhau. Yn wir, roeddwn ar reilffordd Llangollen heb fod mor bell yn ôl â hynny—euthum ar daith ar reilffordd Llangollen. Ac rwy'n falch iawn fod y gwirfoddolwyr lleol—efallai fod eich tad yn un ohonynt—yn rhoi gwybod i mi'n rheolaidd am y datblygiad a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yno. Ac mewn gwirionedd, mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, wrth gwrs—rheilffordd mynydd Brycheiniog. Felly, rwy'n sicr yn ymwybodol o'u gwerth. Ond rydym yn ymwybodol o'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu, am yr holl resymau a nodwyd gennych, a'u bod ar hyn o bryd yn dibynnu ar echdynnu a defnyddio cynhyrchion glo. Felly, mae ein hymdrechion fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod y pontio i allyriadau sero net yn bontio teg. Felly, rydym yn gobeithio annog y rheilffyrdd treftadaeth i roi'r gorau i ddefnyddio glo. Oherwydd un o'r pethau y byddai'n rhaid i mi eu dweud yw na all y sector treftadaeth ar ei ben ei hun gynnal y pyllau glo sy'n weddill gennym ym Mhrydain, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun—mwynglawdd glo brig Ffos-y-frân. Felly, yr hyn rydym am ei wneud yw annog y diwydiant rheilffyrdd treftadaeth i weithio gyda'r Llywodraeth i ddatblygu'r cynlluniau pontio hynny. Ac mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu y gallai’r sector leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil drwy ymdrechion parhaus i dreialu tanwyddau adnewyddadwy amgen, ac mae gennym enghreifftiau ar ffurf plociau biomas, brics pren, biodiesel, ac wrth gwrs, y defnydd o beiriannau celloedd tanwydd hydrogen. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddweud i gloi yw bod Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i gefnogi’r sector drwy’r cyfnod pontio hwn, a hoffwn annog y rheilffyrdd treftadaeth i ymgysylltu â fy swyddogion i drafod hyn ac i nodi pa gyllid a allai fod ar gael i'w helpu i mewn i'r cyfnod pontio hwnnw.

13:35
Rhaglenni Cymorth Rhanbarthol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu rhaglenni cymorth rhanbarthol ar ôl Brexit? OQ59911

Diolch. Er bod y rhaglenni hyn yn gweithredu mewn meysydd datganoledig, gwrthodwyd rôl ystyrlon i Lywodraeth Cymru yn y broses o'u cynllunio a’u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid yng Nghymru i leihau effaith yr hyn sydd bellach yn dirlun ariannu tameidiog a llawer llai o faint.

Diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr nad fi oedd yr unig un oedd yn bryderus iawn wrth ddarllen adroddiad diweddar gan un o bwyllgorau’r Senedd a ddywedai y bydd llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol mewn perygl os nad yw Llywodraeth y DU yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ac mae proses ffyniant bro honedig Lywodraeth y DU wedi rhoi llai o lais i Gymru dros gronfeydd hollbwysig, ac mae hefyd wedi tanseilio, fel y dywedoch chi, y setliad datganoli drwy ganoli penderfyniadau yn San Steffan, ac rydym bellach dros £1 biliwn yn waeth ein byd o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid i ddarparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE. Weinidog, a allwch chi ddweud wrth y Senedd p'un a ydych chi'n credu bod Llywodraeth y DU yn fwy cydweithredol heddiw na phan ddaethoch yn Weinidog yr Economi yn 2021?

Mae'r darlun yn amrywiol. Rhwng yr adeg pan ddeuthum yn Weinidog yr Economi a nawr, mewn rhai meysydd, rydym wedi dod i gasgliadau pragmatig lle rydym wedi gallu dod i gytundeb. Mae porthladdoedd rhydd yn un enghraifft. Fodd bynnag, mewn meysydd eraill, rydym wedi wynebu difaterwch, a gelyniaeth mewn rhai meysydd. A'r her gyda'r ymagwedd hon o geisio ymladd yn hytrach na dod o hyd i ateb yw y credaf y byddwn yn cael gwerth gwael am arian cyhoeddus yn y pen draw, ac y byddwn, fel y mae pwyllgor y Senedd wedi'i ddweud, yn peryglu dyfodol economaidd Cymru.

Rydym bob amser wedi cydnabod bod lle inni gydweithredu a gwneud dewisiadau pragmatig gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud, fodd bynnag, yw bodloni ar dderbyn dyfodol wedi'i bennu gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru ac i’r Senedd hon, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos na ddylai Cymru fod dros £1 biliwn ar ei cholled, na ddylai addewid maniffesto’r Ceidwadwyr fod wedi’i dorri yn y ffordd amlwg y'i torrwyd, a byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a dadlau dros ddyfodol gwell, a ddaw, yn fy marn i, os cawn Lywodraeth Lafur y DU ar ôl yr etholiad nesaf.

Fel y crybwyllwyd eisoes, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad yr wythnos diwethaf yn dilyn ein hymchwiliad i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE. Ac mae’r pwyllgor wedi nodi'n glir iawn, er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, fod yn rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru gydweithio’n llawer mwy effeithiol. Nawr, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraethau Cymru a’r DU gynnal adolygiad i weld a ddylai gwahanol elfennau’r gronfa ffyniant gyffredin gael eu darparu ar lefel leol, ar lefel ranbarthol neu ar lefel Cymru gyfan, yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio orau. Felly, Weinidog, a ydych yn rhannu’r farn hon, ac os felly, pa sylwadau a wnaethoch i Lywodraeth y DU ynghylch y mater penodol hwn?

Wel, y man cychwyn yw bod angen i Lywodraeth y DU gydnabod bod hwn yn faes datganoledig. Mae angen iddynt gydnabod nad erfynwyr mohonom. Mae angen iddynt gydnabod bod gennym rôl lle rydym yn gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, fel sydd gan y Senedd hon, yn wir, ac yn syml iawn, nid yw hynny wedi digwydd. A’r her i ni yw: a yw Llywodraeth y DU yn barod i fod yn bartneriaid difrifol a pharod yn nyfodol Cymru, neu a ydynt yn benderfynol o wneud pethau i Gymru nad ydynt yn parchu mandad pob un o’r 60 Aelod yn y lle hwn, nid y bobl hynny sy’n rhan o'r Llywodraeth yn unig?

Hoffwn weld rhywbeth lle gellir cael ymagwedd bragmatig, lle mae ysgogiadau Llywodraeth y DU yn ychwanegu at yr hyn y gallwn ei wneud, lle rydym yn parhau â'r agenda a nodwyd gennym eisoes yn ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, a gweithio gyda'r fframweithiau ar gyfer y DU gyfan, a hefyd, ar yr un pryd, cael partneriaid rhanbarthol lle mae pŵer a chyfrifoldeb yn cael eu rhannu er mwyn gwella economi Cymru. Ond mae hynny'n galw am newid sylfaenol yn Llywodraeth y DU na fydd yn digwydd gyda'r fersiwn gyfredol o Lywodraeth y DU, a dyna pam—ac mae'n un o'r nifer o resymau—rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Lafur y DU yn cael ei hethol a fydd yn adfer pwerau ac adnoddau i'r Senedd hon a'r Llywodraeth hon.

13:40

Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am yr adroddiad. Mae Paul Davies bob amser wedi bod yn benderfynol wrth arwain y pwyllgor i ddwyn llywodraethau i gyfrif, a dylid ei longyfarch ar ei arweinyddiaeth yn hynny o beth. Ond y mater sylfaenol yma, wrth gwrs, yw methiant Brexit, ac mae methiant Brexit eisoes wedi golygu ein bod wedi gweld safonau Ewropeaidd yn cael eu mabwysiadu yma ar gyfer gweithgynhyrchu; cafodd safonau DU eu hanghofio. Ni all Llywodraeth y DU weithredu ei chytundeb ei hun hyd yn oed ar gyfer archwiliadau ar y ffin, ac rydym wedi gweld bod Llywodraeth y DU bellach yn cysylltu ei hun â Horizon, sy’n golygu mai’r Undeb Ewropeaidd a fydd bellach yn pennu dyfodol capasiti ymchwil a blaenoriaethau ymchwil yng Nghymru. Ac rwy’n croesawu hyn oll, ac rwy’n croesawu’r ymagwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i mabwysiadu at hyn dros y blynyddoedd.

Nawr, byddaf yn ymuno â'r orymdaith genedlaethol i ailymuno â'r UE ddydd Sadwrn. Nawr, ni fyddaf yn disgwyl gweld y Gweinidog y tu draw i fy maner, ond yr hyn a ddywedaf—[Torri ar draws.] Mae croeso mawr ichi ymuno â mi, mae croeso mawr ichi ymuno â mi—roedd y ddau ohonoch yno, y ddau Sam, y tro diwethaf. Gwn fod Paul yno hefyd—[Chwerthin.] Ond y pwynt roeddwn yn bwriadu ei wneud, Weinidog, oedd bod y modd yr ysbeiliodd Brexit Gymru wedi tanseilio ein heconomi yn llwyr ar adeg pan fo Brexit ei hun wedi tanseilio ein cynhyrchiant a’n cystadleurwydd. Weinidog, a wnewch chi a Llywodraeth Cymru barhau i weithio tuag at sicrhau y gwneir buddsoddiad mewn etholaethau fel fy etholaeth i—un o’r tlotaf yn y wlad, ac un sydd wedi elwa’n aruthrol o arian Ewropeaidd yn y gorffennol—i sicrhau ein bod yn parhau i flaenoriaethu rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig yn y wlad hon?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fel y gŵyr, rwyf wedi bod ar orymdeithiau yn Llundain yn y gorffennol pan oedd y cwestiwn yn fyw iawn ynghylch dewis arall yn lle rhoi'r fargen ei hun ger bron pobl. [Anghlywadwy.]—wedi helpu pobl i gyrraedd Llundain ar gyfer hynny. Ni fyddaf yn ymuno ag ef ddydd Sadwrn. Mae gennyf ymrwymiadau blaenorol, gan y byddaf yn sefyll ar yr ystlys wrth i fy mab chwarae i Inter Penarth, ac yn wir, gyda chyd-Aelodau eraill yn yr ystafell hon, edrychaf ymlaen at gymryd rhan yng nghynhadledd ar-lein Plaid Gydweithredol y DU hefyd.

Ar eich pwynt mwy cyffredinol, credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod cytundeb y cysylltiad â Horizon yn beth da. Mae’n newyddion da i Gymru, yn newyddion da i’r DU, yn newyddion da i’n sefydliadau. Roeddwn gyda bwrdd Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a gynhaliodd gyfarfod y bwrdd yng Nghaerdydd neithiwr a heddiw, ac maent wedi ymweld â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe a'r hyn y maent eisoes yn ei wneud ym maes ymchwil, ac mae pawb yn croesawu'r cysylltiad â Horizon. Pe na bai wedi digwydd ar yr adeg hon, efallai na fyddai wedi digwydd, mewn gwirionedd, o ystyried hyd amser y rhaglen.

Ac ar eich pwynt ynghylch Brexit, mae'n destun dryswch fod yr Arglwydd Frost, y prif negodwr, yn dweud ar un adeg mai dyma'r fargen orau erioed, yna'n dweud ei bod yn fargen ofnadwy ac mai bai'r Ewropeaid yw'r cyfan, ac yna'n dweud nad oeddem byth yn disgwyl cadw ein fersiwn ni o'r fargen, a'u bod yn bwriadu ei chwalu. Nawr, mae hynny'n ofnadwy, ac ni waeth pa blaid rydych yn ei chynrychioli, mewn gwirionedd, o safbwynt y DU a'n lle oddi mewn iddi, os ydych yn mynd i dynnu sylw at y ffaith nad ydych yn mynd i negodi'n ddidwyll mewn cytundebau rhyngwladol, nid yw hynny’n unrhyw sail i’r sicrwydd sydd ei angen arnom a’r buddsoddiad rydym am ei weld yn ein heconomi, yn ogystal â gweld cwmnïau o Gymru a’r DU yn cael cyfleoedd mewn rhannau eraill o’r byd. Felly, mae angen inni wneud yr hyn rydym yn dweud ein bod wedi ymrwymo iddo, ac mae hynny'n cynnwys eich pwynt ynghylch buddsoddi yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru. Rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud gyda'r brifddinas-ranbarth, a gwn fy mod wedi ymrwymo i gael sgwrs bellach gyda'r Aelod dros Gwm Cynon a'r grŵp y mae'n ei gadeirio ynglŷn â beth yn union rydym yn ei wneud, gan fy mod yn benderfynol fod hynny'n digwydd yn yr holl waith a wnawn yn y Llywodraeth, nid yn unig i sicrhau twf, ond i sicrhau twf sy'n codi'r gwastad go iawn yn ein gwlad gyda'r Gymru decach, wyrddach rydym am ei gweld.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Mae'r cyntaf y prynhawn yma i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r ystadegau diweddaraf ar niferoedd ymwelwyr yma yng Nghymru yn peri cryn bryder. Yn ôl data'r arolwg teithwyr rhyngwladol a gyhoeddwyd gan Visit Britain, roedd 33 y cant yn llai o ymwelwyr â Chymru yn 2022 nag yn 2019. Gostyngodd y swm a wariwyd gan ymwelwyr rhyngwladol 24 y cant hefyd, o £515 miliwn yn 2019 i £391 miliwn yn 2022. Mae hynny'n peri cryn bryder i sector sy'n darparu un o bob saith swydd yng Nghymru—sef dros 150,000 o bobl â'u bywoliaeth yn y fantol. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon am y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â Chymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r gostyngiad hwnnw?

13:45

Wel, diolch am eich cwestiwn, Tom, ac rwy'n credu eich bod wedi bod yn eithaf detholus yn eich asesiad o'r sefyllfa. Cawsom ddadl ar hyn yn y Siambr heb fod mor bell yn ôl â hynny, ac aethom drwy’r holl ystadegau hyn, ac esboniais yn eithaf manwl bryd hynny mai twristiaeth ddomestig yw’r rhan helaethaf o dwristiaeth Cymru ac mai dyna yw 90 y cant o'r ymwelwyr â Chymru.

Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae Croeso Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd yw edrych ar sut y gallwn ddenu mwy o ymwelwyr. Felly, rydym yn ymwybodol iawn fod ein hymwelwyr—ymwelwyr rhyngwladol â Chymru—yn rhywbeth y mae angen inni wneud mwy o waith arno. Rydym yn gwneud hynny, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf gyda Janet Finch-Saunders, mae Croeso Cymru, o ganlyniad i’w hymgyrch i wneud yn union hynny wedi ennill prif wobr y World Media Awards, gan guro brandiau mawr eraill yn rhacs gyda datblygiad yr ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr. Felly, wrth i amser fynd yn ei flaen, hoffwn feddwl y bydd yr ymgyrch honno’n dwyn ffrwyth. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n cymheiriaid ym Manceinion i sicrhau ein bod yn ffurfio cysylltiadau gyda gogledd-orllewin Lloegr hefyd. Felly, nid ydym yn segur ar hynny, ond credaf fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y mae’r ffigurau hyn yn ei ddweud wrthym, ac nid ydynt yn dweud wrthym fod diwydiant twristiaeth Cymru ar ei waered.

Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym, Ddirprwy Weinidog, yw bod llai o bobl yn ymweld â Chymru. Mae'r ystadegau'n glir iawn am hynny, ac rwy'n poeni bod gennym Lywodraeth Cymru sy'n poeni mwy am y gwobrau y mae'n eu hennill na'r bobl y mae'n eu denu i fwynhau eu hamser yn aros yma yng Nghymru. Ac yn amlwg, bydd cost yn un o’r ffactorau hynny, ond un o’r costau y gall Llywodraeth Cymru eu rheoli yw cyflwyno treth dwristiaeth.

Gwyddom fod yna ardaloedd yng Nghymru sy’n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda llawer o dwristiaid ar ddiwrnodau prysur, ond mae’r rhan fwyaf, yn fy rhan i o’r byd o leiaf, yn aml iawn yn llawn ymwelwyr dydd yn hytrach na phobl sy'n aros dros nos. Y broblem gyda’r dreth dwristiaeth, fel y'i cynigir gan Lywodraeth Cymru, yw ei bod ond yn targedu ymwelwyr dros nos, pan fyddant yn gwario hyd at 14 gwaith yn fwy yn yr economi leol, ac nid yw’r dreth yn gwneud unrhyw beth i ymwelwyr dydd. Felly, mae’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yma yn tanseilio’r union bobl rydym am iddynt fod yn aros yng Nghymru.

Ond os ydych chi'n mynd i gyflwyno treth newydd fel hon, mae'n bwysig eich bod yn dod â'r diwydiant gyda chi, ond nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd ychwaith. Mae grwpiau rhanddeiliaid pwysig, fel Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU a Chynghrair Twristiaeth Cymru, wedi gwrthwynebu’r dreth. Weinidog, rwy'n gwybod eich bod wedi ymweld â Bluestone, un o'r cyrchfannau twristiaeth blaenllaw yng Nghymru, ac roeddwn yn ffodus i fynd yno dros yr haf gyda fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz AS. Ond ychydig ddyddiau yn unig ar ôl eich ymweliad ym mis Mai, dywedodd Bluestone eu bod yn gwrthwynebu’r dreth dwristiaeth, gan ddadlau y byddai’n niweidio busnes. Felly, rwy’n bryderus, Weinidog, ac a ydych yn rhannu fy mhryderon eich bod bellach wedi colli hyder y sector twristiaeth yng Nghymru o ran y gwerth y gallai’r dreth dwristiaeth hon ei ddarparu?

Wel, diolch am eich ail gwestiwn, Tom, ac roeddwn wedi meddwl tybed pa mor hir y byddai'n ei gymryd i chi ddod at yr ardoll dwristiaeth, ond gadewch imi fynd yn ôl ac ailedrych ar eich rhagdybiaeth ynglŷn â ffigurau ymwelwyr. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 a mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, bu cynnydd o 13 y cant yn nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru, a chynnydd o 35 y cant yn yr un cyfnod yn 2022. Bu cynnydd yn y gwariant fesul taith ar draws holl wledydd Prydain, a gwelsom gynnydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda ffigurau amcangyfrifedig yn dangos bod oddeutu 1.74 miliwn o deithiau wedi’u gwneud, ynghyd â gwariant o £341 miliwn yng Nghymru, yn ystod tri mis cyntaf 2023. Felly, ymhell o fod yn broblem i ni ar hyn o bryd, credaf ein bod yn gweld ffigurau cadarnhaol iawn.

Cyfarfûm â'r Fforwm Economi Ymwelwyr ddoe a dweud y gwir, ac mae arnaf ofn eu bod yn llawer mwy calonogol a chadarnhaol am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru na chi a'ch plaid, Tom. A hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrthych yn y ddadl yr wythnos diwethaf: os ydych yn mynd i barhau i ladd ar Gymru, yr hyn y byddwch yn parhau i'w wneud yw gyrru ymwelwyr ymaith o Gymru, ac rydym ni'n gwneud y gwrthwyneb.

Nawr, o ran yr ardoll dwristiaeth, gallwch ddal i rygnu ymlaen am yr ardoll dwristiaeth gymaint ag y dymunwch, ond byddaf yn parhau i ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrthych eisoes: roedd yr ardoll dwristiaeth yn ymrwymiad maniffesto gennym, ac rydym yn rhoi'r ymrwymiad maniffesto hwnnw ar waith. Rydym yn siarad yn rheolaidd â sector yr economi ymwelwyr, sydd bellach yn derbyn y sefyllfa at ei gilydd ac yn gweithio gyda ni i’w datblygu. Ac mae eich honiadau cyson fod yr ardoll dwristiaeth yn niweidio twristiaeth yng Nghymru yn nonsens llwyr; nid yw wedi’i chyflwyno eto hyd yn oed, felly ni all fod yn cael unrhyw effaith ar dwristiaeth yng Nghymru.

Ac unwaith eto, dywedaf yr hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes, a gwn fod cyd-Aelodau eraill yn y Siambr wedi dweud yr un peth: fel llawer o gyd-Aelodau, roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwyliau yn Ewrop dros yr haf, a thalais dreth dwristiaeth. Talais treth dwristiaeth am bob noson yr arhosais yn yr Eidal. Roeddwn yng Nghwpan Rygbi’r Byd y penwythnos cyn y diwethaf: talais dreth dwristiaeth yn Bordeaux; talais dreth dwristiaeth ym Mharis. Ni wneuthum ddweud, 'Nid wyf byth yn mynd i fynd i'r lleoedd hyn eto am eu bod yn codi treth dwristiaeth.'

Nid yw ardollau i ymwelwyr dydd ar ein hagenda ar hyn o bryd; rydym yn edrych ar ymwelwyr dros nos, sef y model mwyaf poblogaidd, ond mae’r pethau hyn bob amser yn agored i’w hystyried ar unrhyw adeg.

13:50

Onid yw’n dweud y cyfan am uchelgais y Llywodraeth hon eu bod yn brolio am gynnydd o gymharu â misoedd cyntaf 2021, cyfnod pan wnaethant gau'r economi twristiaeth yma yng Nghymru, a’r hyn rydym wedi’i weld ers hynny yw cynnydd cymedrol ers yr amser hwnnw? [Torri ar draws.] Nawr, gwrandewch: rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID—. Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID—[Torri ar draws.] Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID, ac mae’n amhriodol iawn fod y Gweinidog—[Torri ar draws.] Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID, fel roedd llawer ohonom, ond mae cymharu’r ffigurau hynny ag amser pan oedd economi twristiaeth Cymru wedi'i chau, yn llythrennol, gan y Llywodraeth yn dangos y diffyg uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer ein heconomi dwristiaeth yng Nghymru.

Gwyddom eisoes fod gwrthwynebiad eang i’r dreth hon. Rydym bellach bron i ddwy flynedd a hanner i mewn i dymor y Senedd hon, ac nid yw'n glir o gwbl o hyd sut yn union y caiff y dreth dwristiaeth ei defnyddio. Rydym wedi clywed cyfeillion o Blaid Cymru yn galw am wario’r arian ar brydau ysgol am ddim. Nawr, mae rhinweddau hynny yn ddadl at adeg arall, ond nid ydynt yn cyd-fynd â'ch nod datganedig y byddai'r arian yn cael ei wario yn y sector twristiaeth yn unig. Gwn fod y Prif Weinidog wedi mwynhau rhoi atebion un gair 'ie' neu 'na' i mi ddoe, felly rwy'n hapus os ydych chi am roi'r un eglurder i mi. A wnewch chi roi addewid cadarn, pan fydd y dreth hon yn cael ei chyflwyno, y bydd yn rhaid i gynghorau ei gwario ar wella eu cynnig twristiaeth, ac na fyddant yn gallu defnyddio enillion o'r dreth hon yn lle eu cyllidebau twristiaeth presennol?

Credaf mai'r pwynt yw—. Gadewch inni drafod eich pwynt cyntaf i gychwyn: y pwynt cyntaf i gychwyn yw bod rhai o'r ffigurau hyn i'w cymharu â 2019, nid 2020, y ffigurau ymwelwyr, ac maent yn cymharu â 2021 a 2022, a 2023, sydd ar ôl y cyfyngiadau symud, ac mae'n gymhariaeth o un flwyddyn i'r llall. Felly, yn gyffredinol, mae'n werth i chi wneud yn siŵr fod eich ffeithiau'n gywir cyn i chi godi ar eich traed a sôn am bethau felly.

Ond o ran yr ardoll dwristiaeth a sut y caiff ei gwario, yr hyn rydym wedi'i ddweud yw y byddwn yn sicr yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu'r ffordd orau o wario'r ardoll honno, a rhan o'r drafodaeth rydym yn ei chael gyda nhw yw sut y gallem edrych ar glustnodi’r ardoll i wneud y mathau o bethau roeddech yn sôn amdanynt. Ni welaf unrhyw amgylchiadau lle na fyddai ardoll dwristiaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth heblaw gwella’r cynnig twristiaeth sydd ar gael mewn unrhyw ardal benodol, a lliniaru’r effaith ar gymunedau lle mae'n bodoli. Ond mae’r penderfyniadau hynny eto i’w gwneud gan ein bod yn dal i gael y drafodaeth gyda’r sector twristiaeth, fel y dywedwch yn gyson wrthym y dylem fod yn ei wneud, a dyna rydym yn ei wneud. A phan fyddwn wedi dod i gytundeb gyda'r sector twristiaeth ar sut yn union y mae hyn yn mynd i ddigwydd, yna wrth gwrs, bydd datganiad yn dod i'r Siambr hon, a chi fydd y cyntaf i glywed am hynny.

Credaf ei bod yn deg dweud bod 2023 wedi bod yn un eithaf anodd o ran newyddion i Weinidog yr Economi. Cawsom y cyhoeddiad yn Tata ddydd Gwener, gyda'r posibilrwydd y bydd oddeutu 3,000 o swyddi mewn perygl; 2 Sisters yn Llangefni, dros 700 o swyddi wedi'u colli; Avara Foods, y Fenni, 400 o swyddi wedi'u colli; Tillery Valley Foods, 250 o swyddi wedi'u colli; a Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 540 o swyddi mewn perygl. Mae hyn, wrth gwrs, yn ystod y wasgfa hiraf ar gyflogau ers rhyfeloedd Napoleon yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, gyda phobl ifanc yn methu prynu eu cartrefi eu hunain, yn methu fforddio rhent, a theuluoedd yn methu rhoi bwyd ar y bwrdd neu wresogi eu cartrefi. Rwyf wedi codi fy mhryderon sawl tro gyda Gweinidog yr Economi, fy mhryderon gwirioneddol am bobl ifanc yn ystyried dyfodol yn rhywle arall, ac rwy'n credu o ddifrif ein bod yn wynebu nifer fawr o bobl ifanc yn gadael Cymru neu’n rhoi’r gorau i'w huchelgeisiau yn gyfan gwbl. Gwyddom, er enghraifft, fod Llywodraethau Awstralia a Seland Newydd yn targedu hysbysebion at bobl ifanc. Rwyf wedi gweld yr hysbysebion hynny ar fy nghyfryngau cymdeithasol fy hun dros yr haf. A yw’r Llywodraeth yn effro i hyn, ac i ble mae’n gweld pethau’n mynd yn y chwe mis nesaf?

13:55

Ni fu angen inni gael ein deffro, gan ei bod wedi bod yn glir iawn ers imi ddod yn Weinidog yr Economi fod sicrhau bod pobl ifanc yn cynllunio dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru yn rhan o’r genhadaeth economaidd, gan gynnwys pobl ifanc o Gymru a’r bobl hynny sydd am ddod i Gymru. Os meddyliwch am ble rydym ar hyn o bryd, mae’n ddinas sy’n iau na Llundain at ei gilydd. Mae ganddi boblogaeth sylweddol o raddedigion. Dyna ran o'r rheswm pam fod llawer o fusnesau'n awyddus i leoli yma yng Nghaerdydd, ac mae hefyd yn rhan o'r rheswm pam fod twf busnes uwch i fusnesau newydd yng Nghaerdydd nag mewn rhannau eraill o'r DU.

Ac mae’r stori honno’n un rwyf am ei gweld yn cael ei hadrodd nid yn unig yn rhanbarth Caerdydd, ond ledled Cymru hefyd. Dyna pam y gwneuthum y pwyntiau a wneuthum mewn cwestiynau cynharach am bartneriaeth â rhanbarthau ledled Cymru, i ddeall ble mae cyfleoedd penodol i'w cael a sut rydym yn cefnogi’r cyfleoedd hynny gyda phartneriaid yn y rhanbarthau hynny. Mae'n cynnwys busnesau a rhanddeiliaid ehangach hefyd, ac wrth gwrs, awdurdodau lleol gyda’u partneriaid rhanbarthol. Felly, fe welwch gyfleoedd gwahanol yn y gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain i’r hyn a welwch yn y de-ddwyrain neu'n wir, yng ngorllewin Cymru hefyd. Dyna rwy'n awyddus i ni ei wneud.

Ac mae'r data mwy diweddar yn dangos y bu rhywfaint o dynhau a chynnydd bach mewn diweithdra yng Nghymru. Ond mewn gwirionedd, rydym yn dal i wneud yn dda o gymharu â ffigurau’r DU. Gwn fod digwyddiadau anodd iawn wedi bod. Rwy’n ymwybodol iawn o heriau nifer o'r cwmnïau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll, ond rydym yn dal i wynebu sefyllfa lle mae swyddi o hyd yn yr economi yn chwilio am bobl i’w llenwi. Rwy'n awyddus nid yn unig i gael mwy o swyddi, ond swyddi gwell i’n pobl, a dyna pam fy mod eisiau rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n sôn am Gaerdydd; mae mwy i Gymru na Chaerdydd yn unig, ac rwy'n cofio cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at gyflogau isel yng Nghaerdydd fel rheswm i fuddsoddi yng Nghaerdydd.

Nawr, ar gadw pobl ifanc yma, nid oes lle gwell i ddechrau na gyda'r economi werdd. Os meddyliwn am yr angen i bontio i economi wyrddach, bydd yr angen am sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Nawr, lle mae swyddi’n cael eu colli, mae'n ddealladwy fod y Gweinidog am dynnu sylw at raglen ReAct, ond hoffwn weld beth yw cyfradd llwyddiant ReAct o ran dod o hyd i swyddi newydd i’r rheini sy’n defnyddio’r rhaglen ar yr un lefelau cyflog ac amodau gweithle â'r swyddi y maent wedi'u gadael. A sut mae'r rhaglen yn ymateb i her sero net? O'r swyddi newydd hynny a ganfuwyd, faint sydd yn yr economi werdd mewn gwirionedd?

Y tu hwnt i ReAct, mae'n anodd deall strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwreiddio sgiliau gwyrdd o fewn gweithlu Cymru. Mae sefydliadau addysg bellach yn parhau i fod yn ansicr ynghylch yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei olygu pan fydd yn sôn am sgiliau gwyrdd. Mae Tata wedi dangos i ni, onid ydyw? Mae wedi dangos i ni nad yw pontio teg yn gysyniad bellach. Mae yma nawr, a dim ond crib y mynydd iâ yw Tata.

Wel, gadewch i mi ddechrau drwy ymateb i’r pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod. Ni chredaf fod lladd ar Gaerdydd yn ffordd synhwyrol o fynd ati i geisio tyfu'r economi. Ac mewn gwirionedd, yn fy ymateb, nid am Gaerdydd yn unig y soniais. Mae heriau a chyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y de-ddwyrain a gorllewin Cymru hefyd, ac rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu.

Ar yr her o ddarparu rhagor o gymorth cyflogadwyedd a chymorth mwy effeithiol, fe fyddwch yn gwybod o'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau ein bod yn ceisio dod â'r gwahanol ymyriadau sydd gennym ynghyd. Unwaith eto, mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni weithio gyda gwahanol bartneriaid i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud yn uniongyrchol yma yn y Llywodraeth, yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, ac yn wir, i geisio deall a fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid cyfeiriad. Rydym am gael cynnig mor gydlynol â phosibl i bobl sydd angen ailsgilio.

Ac ar eich her ynglŷn ag a yw colegau addysg bellach yn deall yr hyn rydym yn ei wneud, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad cywir o ble mae colegau addysg bellach arni. Yn sicr, nid dyna'r sgwrs rwyf wedi'i chael gyda nhw. Ond mewn gwirionedd, yn y cynllun sgiliau sero net, fe wnaethom nodi y bydd angen inni gael dealltwriaeth gliriach ar gyfer gwahanol sectorau o beth fydd yr anghenion sgiliau, faint o hynny y gallwn ei ragweld ar hyn o bryd, faint o hynny y bydd angen i ni ei adeiladu, a gwneud hynny ar draws sectorau sy'n wynebu heriau sylweddol o ran allyriadau ond hefyd meysydd lle ceir cyfleoedd. Ac wrth i hynny fynd rhagddo, gallwch ddisgwyl gweld mwy o fanylion y gwaith hwnnw drwy weddill y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf.

Rwy’n golygu’r hyn a ddywedaf am ddyfodol ein heconomi: mwy o swyddi a swyddi gwell i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi a pheidio ag aros i bethau ddigwydd i ni. Dyna pam fy mod yn hoff o feysydd lle gall Cymru fod yn wirioneddol gryf, boed hynny'n dechnoleg ynni gwynt ar y môr, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd, neu hyd yn oed dechnoleg niwclear newydd yn y dyfodol hefyd. Hoffwn ein gweld yn manteisio ar y rheini a chael blaenoriaethau go iawn i roi gobaith realistig i bobl y gallwch gynllunio dyfodol cadarnhaol iawn yma yng Nghymru, ac rydym am i bobl ifanc aros yma yn ogystal â dod yma i fod yn rhan o’n dyfodol.

14:00
Y Stryd Fawr yn Islwyn

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi bywiogrwydd economaidd y stryd fawr yn Islwyn? OQ59925

Diolch. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu ein rhaglenni a'n mentrau i gefnogi'r stryd fawr, gan gynnwys yn Islwyn. Er enghraifft, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £125 miliwn i awdurdodau lleol dros dair blynedd ac mae wedi'i thargedu at fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghanol rhai o'n trefi a'n dinasoedd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ddydd Sul, caeodd siop Wilko Coed-duon ei drysau am y tro olaf, wedi i'r cwmni fynd i'r wal. Mewn economi gyfalafol, yn y pen draw, busnes preifat a'r farchnad sy'n pennu sut y caiff busnes ei gyflawni a pha fusnesau sy'n llwyddo. Yn ddiweddar, dywedodd Paul Butterworth, prif swyddog gweithredol Siambrau Cymru:

'Mae'r darlun manwerthu...yn adlewyrchu cyflwr heriau'r stryd fawr ym mhob rhanbarth o Gymru a'r DU....mae un o bob chwech o fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru wedi rhoi'r gorau i fasnachu, sy'n golygu bod 16 y cant o fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru wedi rhoi'r gorau i fasnachu.'

Weinidog, mae hyn yn aml yn cael ei gyplysu â sefydliadau amlwg, fel ein banciau cenedlaethol, cymdeithasau adeiladu a swyddfeydd post, yn cau eu drysau a'u canghennau ffisegol ar strydoedd mawr Prydain. Mae hon yn ffaith, a'n harbenigwyr sy'n dweud hynny, ac yn amlwg mae gan y blaid gyferbyn alergedd i beth o hynny.

Weinidog, Coed-duon yw un o brif drefi Gwent, a daeth BBC Wales Today i'r dref i ddadansoddi effaith pandemig COVID a'r argyfwng costau byw ar fanwerthu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, dan arweiniad y Blaid Lafur, yn parhau i wneud popeth yn ei allu i gefnogi stryd fawr Coed-duon, gan gefnogi gŵyl haf i deuluoedd yng Nghoed-duon yn ddiweddar, gyda'r nod o helpu masnach ar y stryd fawr, ac ar un diwrnod yn unig o'r fenter hon, fe wnaeth 8,000 o bobl heidio i stryd fawr Coed-duon—canlyniad uniongyrchol. Weinidog, pa sylwadau a gweithredu pellach y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, a beth yw uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflawni awydd y bobl i'n strydoedd mawr barhau i fod yn farchnadoedd ffyniannus, byw a chynaliadwy i gymunedau ledled Cymru?

Diolch am y cwestiwn dilynol. Mae ein huchelgeisiau ar gyfer y stryd fawr yng Nghymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu ac yn y datganiad sefyllfa ar ganol trefi. Yr hyn a ddylai wneud i ni deimlo'n fwy gobeithiol o ran yr hyn sy'n bosibl yw'r ffaith bod nifer o ardaloedd sy'n debyg i Goed-duon wedi adfywio eu strydoedd mawr a chanol eu trefi. Mae hynny'n ymwneud â deall beth yw cenhadaeth canol y dref honno, ei maint a'i graddfa, a sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng cadwyni ond hefyd manwerthwyr annibynnol, a'r cymysgedd tai, manwerthu, cynllunio a thrafnidiaeth leol, i alluogi hynny i gyd ddigwydd. Dyna pam rwy'n falch ein bod wedi buddsoddi'r arian a wnaethom yn yr egwyddor o roi canol trefi yn gyntaf, a dyna pam ein bod ni hefyd, ochr yn ochr â'n rhaglen Trawsnewid Trefi, yn parhau i ddarparu pecyn cymorth ardrethi dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, sy'n golygu ein bod yn buddsoddi £460 miliwn yn y busnesau hynny.

Mae'r her, felly, yn ymwneud â sut rydym yn perswadio pobl am y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i'w bywydau, a sut mae pobl wedi gwneud newidiadau parhaol yn eu byd gwaith. Gallai hyn fod yn beth da i nifer o'n trefi llai, gyda chydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio hybrid a phobl yn byw mwy o'u bywydau yng nghanol y dref leol yn hytrach na theithio i ganolfannau poblogaeth llawer mwy drwy'r amser. Mae'r sefyllfa yn newid o hyd, ond byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, eu sefydliadau, ac awdurdodau lleol yn wir. Rwy'n credu bod gan Gaerffili hanes da o fod eisiau cefnogi eu busnesau lleol, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i wneud hynny.

Weinidog, ym mis Mai eleni, fel y sonioch chi wrth fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer manwerthu. Mae rhai o'i nodau, fel y sonioch chi, yn cynnwys lleihau safleoedd gwag yng nghanol trefi a rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr a chanol y dref. Yn gynharach y mis hwn datgelwyd bod un o bob chwe siop ar strydoedd mawr Cymru yn wag. Mae ffigurau'n dangos bod cyfradd siopau gwag yng Nghymru wedi codi o 16.5 y cant i 17 y cant yn ystod ail chwarter 2023. Datgelwyd hefyd fod gan Gasnewydd, fy nhref enedigol a rhan o fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, fwy o unedau gwag nag unrhyw ddinas arall yn y Deyrnas Unedig. Felly, Weinidog, o ystyried yr hyn rwyf newydd ei amlinellu, pa mor llwyddiannus y mae'r cynllun gweithredu hwn wedi bod hyd yn hyn? A yw wedi cyrraedd ei ddangosyddion perfformiad allweddol? A ydych chi'n hyderus y bydd y cynllun hwn yn gweithio mewn gwirionedd? Diolch.

Rwy'n credu y bydd y cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu yn gwneud gwahaniaeth. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd â'r diwydiant a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ynghyd ag undebau llafur, dan arweiniad yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac mae hynny wedi golygu bod gennym farn a rannwn ar beth a allai a beth a ddylai ddigwydd yn y dyfodol. Nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol ceisio darogan llwyddiant y cynllun fisoedd ar ôl iddo gael ei lansio os ydych chi eisiau bod o ddifrif ynglŷn â dyfodol canol ein trefi. Gwyddom fod yr heriau sy'n ymwneud â chostau byw a chostau gwneud busnes, a'r heriau sy'n ymwneud â chwyddiant, wedi golygu bod nifer o fusnesau wedi methu goroesi ac mae rhai eraill nad ydynt mor optimistaidd ag y byddent wedi bod ar ddechrau'r flwyddyn. Ond mae hefyd yn cadarnhau pam mae angen inni barhau â'r dull partneriaeth hwnnw a chydnabod, fel y gwnaeth Rhianon Passmore, fod gan awdurdodau lleol rôl allweddol a diddordeb allweddol mewn gweld canol y trefi hynny'n parhau i fod yn llwyddiannus. Bydd hynny'n cynnwys, i rai ohonynt, ailfodelu'r hyn y maent yn ei wneud, eu maint a'u graddfa, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ffyniannus. Oherwydd rwy'n credu ei fod hefyd yn ymwneud ag ymdeimlad o le—ymdeimlad o le ynglŷn ag o ble rydych chi'n dod a beth rydych chi'n falch ohono. A dyna pam, er enghraifft, y bydd ystod o wasanaethau eraill yn parhau i fod yn bwysig. Er enghraifft, bydd y buddsoddiad parhaus y mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn ei wneud mewn optometreg ar y stryd fawr yn bwysig iawn ar gyfer cynnal nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Felly, mae'n fwy nag un adran yn unig—mae'n ddull Llywodraeth gyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i weld y llwyddiant hwnnw mewn trefi ledled Cymru.

14:05
Fferm Gilestone

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau prydles Fferm Gilestone? OQ59915

Mae trafodaethau prydles ynghylch dyfodol Fferm Gilestone yn parhau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn datgelu manylion trafodaethau masnachol cyfrinachol tra'u bod yn mynd rhagddynt.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel rhan o'r trafodaethau parhaus, rydych wedi dweud sawl tro yn y Siambr y byddwch chi'n ymgynghori â'r gymuned. Cynhaliais gyfarfod cyhoeddus ar 8 Mehefin, ond ni wnaethoch chi na'ch swyddogion ei fynychu. Yn dilyn hynny, ysgrifennais atoch ar 13 Mehefin gyda rhestr o gwestiynau gan aelodau o fy nghymuned sydd â phryderon gwirioneddol am y cynigion. Gofynnais am ateb i'r llythyr hwnnw ar 12 Gorffennaf, ac nid wyf eto, hyd yma, wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw. Weinidog, nid yw'n ddigon da fy mod wedi aros tri mis ac wythnos i gael ateb gan eich adran ar fater rydych chi wedi addo ymgysylltu'n rhagweithiol arno. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf heddiw pryd y byddaf yn cael ateb i'r llythyr hwnnw? Neu a af fi i ddweud wrth fy etholwyr fod hwn yn addewid toredig arall gan Weinidog yr Economi ar ei gynnig i ymgysylltu'n rhagweithiol â fy nghymunedau? Diolch, Lywydd.

Mae fy swyddogion wedi parhau i ymgysylltu â'r cyngor cymuned a'r gymuned leol. Nid yw'r honiad na fu unrhyw ymgysylltiad â'r gymuned leol yn wir.

O ran y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gennych, wrth gwrs, roeddwn yn hynod siomedig fod honiadau wedi'u gwneud yn y cyfarfod hwnnw mai ar ddiwrnod y cyfarfod y cawsoch wybod na fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Roedd yn glir iawn yn yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i chi yn y Siambr, ac yn y sgwrs a gawsom y tu allan i'r Siambr, na fyddwn yn mynychu. Mae yna bwynt yma sy'n mynd yn ôl at sylwadau a wnaed gan y Llywydd ar ddechrau'r sesiwn hon am natur y ddadl rydym yn ei chael, ynglŷn â'i chyflawni gyda pharch, ond hefyd gyda gonestrwydd. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cywiro'r argraff gamarweiniol ac anghywir a roddwyd.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol. Byddwn yn parhau i fod yn onest â'r gymuned ynghylch yr hyn y mae'r cynlluniau hynny'n ei olygu. Byddwn yn parhau i negodi, oherwydd rwy'n credu bod hon yn enghraifft arall o—. Os gallwn gael cytundeb llwyddiannus gyda chwmni sy'n frand cryf—mae Green Man yn werth dros £10 miliwn gyda'i ddigwyddiad blynyddol—ac os gallwn sicrhau mwy o weithrediad o fath gwahanol ar y safle hwn, yna credaf y bydd yn rhan o rywbeth, unwaith eto, yn y rhan hon o Gymru, a fydd yn rhoi cyfle i bobl gynllunio dyfodol economaidd llwyddiannus o fewn eu cymuned leol sy'n gweithio gyda phobl yn y gymuned honno, a throi cefn ar beth o'r codi bwganod sydd wedi digwydd ynglŷn â'r cynnig posibl. Rwy'n edrych ymlaen gyda gobaith at ganlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau hynny.

Cronfeydd ar ôl Ymadael â'r UE

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch a yw cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE yn diwallu anghenion cymunedau Cymru? OQ59928

Diolch. Mae cynlluniau cyllido ar ôl ymadael â'r UE wedi'u tanariannu o fwy na £1.1 biliwn, ac maent wedi bod yn destun oedi a gweithredu anhrefnus ar ran Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi rhoi pwysau mawr ar awdurdodau lleol. Mae hyn bellach yn niweidio sectorau allweddol o'n heconomi, gan arwain at gau rhaglenni busnes, arloesi a sgiliau hanfodol, ac mae swyddi'n cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i hyn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pwyllgor yr economi newydd gwblhau ein hymchwiliad i gyllid ar ôl ymadael â'r UE, ac wedi canfod bod llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fabwysiadir dull newydd o ddyrannu'r adnoddau hyn. Rydym wedi galw am fwy o gyfranogiad gan Lywodraeth Cymru yn y gwaith o'u cynllunio a'u chyflwyno, ond fel y byddwch yn gwybod, mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos fel pe bai'n benderfynol o'i atal. Mae Keir Starmer wedi addo y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn dychwelyd pwerau dros y cyllid hwn i Gymru. A ydych yn cytuno â mi mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion cymunedau, fel yr un rwy'n ei chynrychioli yng Nghwm Cynon?

Yn bendant, dyna'r ffordd gywir o'i wneud. Ni ddylai'r pwerau hynny fyth fod wedi cael eu dwyn oddi ar Gymru yn y lle cyntaf. Ni ddylem fyth fod wedi cael y toriad cyllid a dorrodd addewidion maniffesto'r Ceidwadwyr yn uniongyrchol. Ac mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn y mae'r pwyllgor trawsbleidiol wedi ei adrodd yma, a phwyllgorau trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin ei hun yn wir. Rydym eisiau partneriaeth â Llywodraeth gyfrifol yn y DU lle mae pwerau datganoledig yn cael eu harfer yma, a lle gallwn wneud hynny, mewn partneriaeth ag ysgogiadau Llywodraeth y DU hefyd. Rydym eisiau partneriaeth â'r rhanbarthau yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu budd economaidd gwirioneddol a buddsoddiad mewn tirwedd sy'n gydlynol, ac nad yw'n cael ei hollti'n fwriadol na'i thanseilio yn y ffordd a welsom hyd yma. Byddai hynny'n darparu cyfrifoldebau i'r Llywodraeth yma, yn ogystal â sicrhau mai'r Senedd hon sy'n gyfrifol am graffu ar raglenni Cymru y dylem gael llais ynddynt, a gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid llywodraeth leol yn wir. 

14:10

Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus nad ydym yn edrych yn ôl ar ddyddiau cyllid yr UE drwy sbectol binc. Nid oedd ffrydiau ariannu fel y rhaglen datblygu gwledig yn gwarantu bod arian yn cael ei wario'n effeithlon nac yn y lle cywir. Gellir gweld hyn yng nghanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn 2020 nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau priodol i sicrhau gwerth am arian ar bron i hanner y dyfarniadau a wnaed. Er bod lle i wella'r gronfa ffyniant gyffredin, a fyddech chi'n cytuno bod dyfodol cadarnhaol o'n blaenau ar gyfer cyllid ar ôl ymadael â'r UE, fel y dangosir yn y dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig? Er enghraifft, dywedodd cyngor Llafur sir Fynwy, ac rwy'n dyfynnu, fod swyddogion Llywodraeth y DU yn 'gefnogol iawn', a bod ganddynt 'linellau cyfathrebu da', a dywedodd Cyngor Gwynedd sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru eu bod wedi datblygu perthynas sy'n 'eithaf da' gyda Llywodraeth y DU. Diolch, Lywydd.

Rwy'n credu y byddech yn gweld, pe byddech yn darllen barn llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd, nad ydynt yn gefnogol i weld Llywodraeth y DU yn dod i mewn a rhedeg rhaglenni'n uniongyrchol, gan osgoi Llywodraeth Cymru, a lleihau'r arian sydd ar gael yn wir. Mae her yma bob amser pan fo Aelodau Ceidwadol yn dweud eu bod eisiau dathlu'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid ydynt byth yn cydnabod y ffaith bod Cymru dros £1 biliwn ar ei cholled, ac rwy'n gwrthod ymuno â'r Torïaid Cymreig i ddathlu bod arian yn cael ei gymryd oddi ar Gymru. Pan edrychwch ar wersi sydd wedi'u dysgu, ac os ewch chi i edrych ar rywfaint o'r gwaith mae Paul Davies wedi'i wneud yn y gorffennol hefyd, rydym wedi dysgu o wahanol iteriadau y cronfeydd Ewropeaidd. Yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw bod y gronfa ffyniant gyffredin, yn hytrach na mabwysiadu dull mwy strategol y gwnaethom ddewis ei fabwysiadu yn y rownd olaf o gronfeydd Ewropeaidd, yn ddull 'pot pupur' blynyddol mewn gwirionedd sy'n dadwneud yr holl waith roeddem wedi'i wneud drwy'r gwersi a ddysgwyd o rownd gyntaf Amcan 1, fel yr oedd bryd hynny. Bydd hyn yn arwain at wario swm llai o arian mewn ffordd waeth. Pan ddowch yn ôl i edrych ar hyn yn wrthrychol, rwy'n credu na fydd gennych lawer iawn i fod yn falch ohono yn y ffordd y mae'r arian nid yn unig wedi'i gymryd oddi arnom, ond wedi cael ei ailwario wedyn mewn ffordd lawer gwaeth, am werth llawer gwaeth i'ch cymuned chi yn ogystal â fy un i.

Effaith Terfynau Cyflymder 20 mya

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder 20mya yn ei chael ar economi Cymru? OQ59914

Y budd economaidd mwyaf yw y bydd llai o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffyrdd. Mae disgwyl i'r newid gryfhau economïau lleol hefyd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a gallai arwain at werth tir uwch a gwariant manwerthu uwch.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wythnos hon, mae cynllun gwneud arian terfyn cyflymder cyffredinol 20 mya y Blaid Lafur wedi dod i rym, ac mae pryderon y cyhoedd yn parhau, gyda bron i 270,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i wrthdroi'r polisi. Rwyf wedi clywed gan lawer o fusnesau dros yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun, gan gynnwys cwmni dosbarthu parseli. Maent wedi bod yn edrych ar y costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i gynllun 20 mya diangen y Llywodraeth hon—

Ni allaf glywed yr Aelod, felly efallai fod y Gweinidog yn ei chael hi'n anodd hefyd. Mae angen i mi glywed pwynt yr Aelod. 

Byddech chi wrth eich bodd â hynny, oni fyddech chi, Alun Davies?

A wnaiff yr Aelod barhau—diolch—ac a all pawb ganiatáu iddi wneud hynny?

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, rwyf wedi clywed gan lawer o fusnesau dros yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun, gan gynnwys cwmni dosbarthu parseli. Maent wedi bod yn edrych ar y costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i brosiect terfyn cyflymder 20 mya diangen y Llywodraeth hon. Gan ystyried pethau fel costau cynnal a chadw ychwanegol a'r effaith y bydd cyflymder arafach yn ei chael, mae'r cyfanswm i'r un cwmni hwn yn £1.6 miliwn. Ac nid yw'r busnes hwn ar ei ben ei hun; mae gyrwyr tacsi yn pryderu'n fawr y byddant yn colli incwm, gan eu bod yn disgwyl gweld gostyngiad yn nifer y teithiau y gallant eu gwneud mewn diwrnod. Os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu galwadau trigolion ac yn gwrthod gwrthdroi'r polisi trychinebus hwn, a wnewch chi edrych ar greu cronfa galedi i ddigolledu busnesau am golli incwm ac i dalu eu costau ychwanegol? Mae'n hynod annheg fod busnesau sy'n gweithio'n galed yn cael eu gorfodi i ddioddef o ganlyniad i'r polisi hwn, nad oeddent mo'i eisiau, nad ydynt mo'i eisiau, ac yn cael eu gorfodi i'w dderbyn gan Weinidogion Llafur yma ym Mae Caerdydd. 

Fel y gŵyr yr Aelod, nid gwaharddiad cyffredinol yw hwn. Mae bob amser yn anffodus pan fo pobl yn gwneud datganiadau anwir yn fwriadol. Nid yw'n waharddiad cyffredinol. Mae hefyd yn cyflawni ymrwymiad maniffesto y gwnaeth pobl yng Nghymru bleidleisio drosto. Pleidleisiodd pobl dros hyn yn ein maniffesto. Nodaf fod arolwg barn arweinydd y Ceidwadwyr, ar ei gyfrif Twitter ei hun, wedi dangos mewn gwirionedd fod rhai pobl yn eithaf bodlon gyda'r polisi hwn. Nid wyf yn derbyn cywirdeb y ffigurau ar gyfer polisi sydd ond wedi'i weithredu ers llond llaw o ddyddiau yn unig. Edrychaf ymlaen at adolygiad mwy hirdymor, ac wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i adolygu effaith y cynigion newydd a gyflwynwyd. Bydd awdurdodau lleol yn adolygu'r hyn sydd wedi digwydd; rwy'n edrych ymlaen at y mewnbwn. A gallaf ddweud yn onest, fel rhiant, rwy'n llawer hapusach i fy mab fod allan ar ei feic ac ar ein ffyrdd gyda newid i'r terfyn cyflymder. Rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae pob un ohonom yn meddwl am y dyfodol, ac mewn gwirionedd, nid yn unig y canlyniadau iechyd rydym wedi gallu eu hasesu, ond i feddwl am yr hyn y mae'n ei olygu, os ydych chi'n gwrando ar ystod o'n hathrawon, sydd wedi dweud, 'Y plant sy'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol—maent yn fwy tebygol o fod yn effro ac yn egnïol, yn barod i ddysgu ar ddechrau'r diwrnod.' Mae yna fanteision iechyd mwy hirdymor, ac mewn gwirionedd, mae'r manteision iechyd hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein dyfodol economaidd hefyd. Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud y peth iawn, ac rwy'n credu, ymhen blwyddyn neu ddwy, y bydd pobl yn edrych yn ôl ac yn meddwl pwy ar y ddaear oedd yn meddwl bod hwn yn syniad gwael.

14:15
Gwella Cynhyrchiant yn y Sector Busnes

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynhyrchiant yn y sector busnes yng Nghymru? OQ59930

Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn darparu mynediad i fusnesau at amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth, ariannol a heb fod yn ariannol, i ystyried eu cynhyrchiant a'u sgiliau. Cefnogir hyn drwy ystod o'n rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd a all gynnig cymorth uniongyrchol i fusnesau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, mae mynegai gweithgarwch busnes NatWest yn disgrifio darlun gofidus iawn i Gymru, gan fod nifer y busnesau rhagorol mewn cwmnïau preifat yn gostwng. Er bod y data'n tynnu sylw at gynnydd mewn allbwn, wrth edrych yn fanwl gellir gweld bod y cynnydd hwn o ganlyniad i glirio ôl-groniadau, yn hytrach na chynnydd mewn gwaith newydd. Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd gwraidd y broblem gyda chynhyrchiant, nid oes angen i ni edrych ymhellach na'r baromedr busnes eleni, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod 75 y cant o arweinwyr busnes Cymru yn profi prinder sgiliau, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gynhyrchiant. Weinidog, fe wnaethoch chi grybwyll sgiliau, ond pa gamau brys sy'n cael eu cymryd i wella'r prinder sgiliau yng Nghymru, er mwyn atal pethau rhag gwaethygu yma?

Wel, mae'n ymwneud yn rhannol â'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglenni sydd gennym eisoes, yn ogystal â mynd yn ôl at gwestiynau cynharach am feysydd ar gyfer twf yn y dyfodol hefyd. A dyna pam mae partneriaeth â busnesau yn wirioneddol bwysig, rhwng awdurdodau lleol a'r busnesau unigol yn eu hardal, yn ogystal â sefydliadau mwy sy'n dod â gwahanol grwpiau busnes at ei gilydd. Felly, mae'r her mewn perthynas â sgiliau yn rhywbeth rydym yn ei ddeall. Dyna pam hefyd mae'r dirwedd ddryslyd, gyda'r ymyrraeth polisi gan Lywodraeth y DU, wedi tanseilio'r hyn a arferai fod yn ddarlun llawer cliriach. Mae hefyd wedi'i wneud yn llai strategol. Rwyf eisiau ei weld yn cael ei wau yn ôl at ei gilydd mewn ffordd sy'n wirioneddol strategol ac sy'n rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau am yr hyn a wnawn.

Wrth gwrs, mae gennym enghreifftiau da o ardaloedd lle mae cynhyrchiant wedi cynyddu, ac yn wir, bydd pobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod wedi elwa o hynny. Mae gennym y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes sy'n digwydd yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar y Cymoedd Technoleg, mae o leiaf 12 cwmni ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili wedi cael buddsoddiadau i helpu i ailsgilio eu gweithlu, ac fel y dywedais, bydd gan nifer o'r cwmnïau hynny bobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod. Yr her bob amser yw graddfa'r hyn y gallwn ei wneud, hyder ehangach yn yr economi, a'r sicrwydd o ran yr hyn y gallwn ei wneud a pheidio â rhoi darlun dryslyd i fusnesau, a'u galluogi i ddeall a dewis o'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Cefnogaeth i Weithwyr Wilko

9. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr yn sgil cau canghennau Wilko yng Ngogledd Cymru? OQ59939

Diolch am y cwestiwn.

Mae hwn, wrth gwrs, yn newyddion siomedig dros ben, a fydd yn hynod ofidus i staff Wilko. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Cymru'n Gweithio a'r Ganolfan Byd Gwaith, i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, drwy raglenni fel ReAct+.

Wel, diolch ichi am yr hyn rŷch chi newydd ei ddweud. Yn amlwg, mae trefi fel Caergybi, Llandudno, Wrecsam a Rhyl yn mynd i wynebu naill ai wedi cau neu ar fin cau o safbwynt Wilko yn y trefi hynny. Clywon ni yn gynharach sut mae hynny'n gadael bwlch ar y stryd fawr, ac yn amlwg mae hynny yn tanseilio hyfywedd ehangach, efallai, rhai o'r canolfannau trefol hynny. Ond o safbwynt y gweithwyr yn benodol, mi gyfeirioch chi at y gefnogaeth a'r rhaglenni sydd ar gael. Pa sicrwydd allwch chi ei roi, er mor anodd yw hi, y bydd cyllidebau'r rhaglenni hynny yn cael eu gwarchod yn y cyfnod sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, rŷn ni'n clywed am y toriadau sydd yn digwydd o fewn y Llywodraeth, ond rŷn ni'n clywed wythnos ar ôl wythnos, sesiwn ar ôl sesiwn fan hyn am y gefnogaeth sydd ei hangen pan fo Tata, Wilko ac enghreifftiau a restrodd Luke Fletcher yn gynharach yn ei gwestiynau fe yn codi? Mae yna berygl, wrth gwrs, o leihau'r ddarpariaeth gefnogol yna, y bydd yr effaith gymaint, gymaint yn waeth. Felly, pa sicrwydd allwch chi roi y bydd y cyllidebau yna'n cael eu hamddiffyn, lle gallwch chi? 

14:20

Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, mewn ardaloedd lle bydd angen i ni gefnogi gweithwyr, y bydd gennym fodd i wneud hynny. Mae enghraifft Wilko yn arbennig o anodd, gan fod Poundland a B&M rhyngddynt wedi prynu tua 120 o siopau, ond nid ydym yn siŵr lle mae'r holl leoliadau hynny eto. Felly, mae hwnnw'n ansicrwydd gwirioneddol i lawer o weithwyr yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU, ac yn wir, y ganolfan ddosbarthu yn etholaeth John Griffiths, sy'n cau.

Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, gyda'r rhaglen sy'n seiliedig ar alw o gymorth angenrheidiol, rwy'n credu y gallwn ddarparu cymorth i weithwyr sydd ei angen. Ac ar gyfer y dyfodol, fel Gweinidog yr Economi, mae'n rhaid i mi fod yn barod i symud cyllidebau ar draws fy adran i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi'n briodol. Mae'n ddigon posibl y bydd rhai gweithwyr mewn gweithleoedd dan drefniadaeth undebau llafur yn gallu sicrhau trefniadau, os yw'r busnes hwnnw'n cau neu'n lleihau, sy'n darparu pecyn iddynt sy'n rhoi gwell cefnogaeth iddynt a mynediad at gymorth sgiliau. Gweithwyr Wilko—gweithwyr ar gyflogau is, fel arfer—ond hefyd wrth ystyried graddfa'r sefydliad undebau llafur, efallai y bydd mwy o alw am gymorth Llywodraeth Cymru ar eu cyfer. Dyna'r ymrwymiad yr hoffwn ei roi i'r Aelod, ac yn wir, i etholwyr ledled y wlad, fy mod yn credu bod y cymorth ar gael nawr, ac rwy'n barod i weithredu i sicrhau bod cymorth ar gael yn y dyfodol os gwelwn ddigwyddiadau diweithdra mwy.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Strategaeth Cathetr

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawni strategaeth cathetr ar gyfer pob ysbyty sy'n gwasanaethu pobl Aberconwy? OQ59917

Gwnaf, diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am ei strategaeth cathetr ei hun. Rwy'n disgwyl iddynt ddilyn canllawiau, megis canllaw arfer gorau Cymru y pwyllgor consensws derbyniadau heb eu cynllunio. Cânt eu cefnogi gan gynlluniau cenedlaethol, gan gynnwys contractau caffael, a datblygiad bwndeli gofal cathetr safonol a phasbort cathetr Cymru gyfan.

Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu eto, gan eu cyfeirio at y cynllun penodol hwn, oherwydd mae etholwyr wedi dwyn llawer o bryderon i fy sylw yn ddiweddar am deuluoedd yn mynd i'r ysbyty ac yn gweld bagiau cathetr bron â gorlifo. Ym mis Ionawr 2018, fe wnaethoch dynnu sylw yn briodol at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio'r ymgyrch Gofal Glân Diogel ac ar yr adeg honno, unwaith eto, cais ydoedd i'r cadeirydd hyfryd, y diweddar Peter Higson, a ddywedodd wrth ysbytai fod yn rhaid iddynt fod yn ofalus iawn wrth drin bagiau cathetr. Yn 2021, aeth y bwrdd iechyd gam ymhellach drwy gynnig pasbort arbennig i wella cyfathrebu a gofal cathetr i bron i 2,000 o bobl sy'n dibynnu ar y pethau hyn. Hyd heddiw, serch hynny, mae stigma enfawr o hyd ynghylch defnyddio cathetr, pryderon nad yw bagiau draenio bob amser yn cael eu gwagio'n brydlon, ac yn fwy diweddar clywais nad yw cathetrau yn cael eu newid—y pibellau—o fewn y ffrâm amser a argymhellir, sef rhwng pedair a 12 wythnos, a sawl wythnos yn ddiweddarach yn aml. Felly, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod cathetrau'n cael eu newid yn unol â'r canllawiau hynny, fod bagiau'n cael eu gwagio'n brydlon, a bod mwy o waith yn cael ei wneud ar fynd i'r afael â stigma yng ngogledd Cymru? Diolch. 

Diolch yn fawr. Byddaf yn atgoffa'r bwrdd iechyd o arferion gorau Cymru mewn perthynas â chathetrau a'r hyn rydym yn edrych arno, a'r hyn a ddisgwylir ohonynt. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gan un o bob pum claf yn y GIG gathetr, ac mae hynny'n costio tua £145 miliwn mewn gofal cymunedol. Felly, rydym yn siarad am lawer o bobl sydd yn y sefyllfa hon. Rwy'n deall bod gwasanaethau wroleg Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun adolygiad Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf, a bydd yr holl unedau perthnasol o fewn Betsi Cadwaladr yn datblygu llwybr treialu heb gathetr nawr er mwyn sicrhau bod cleifion ag ataliad dŵr yn cael eu hasesu'n fwy hwylus.

14:25
Anghydraddoldebau Canser

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau canser ledled Cymru? OQ59938

Rŷn ni’n gweithio ar draws adrannau i ymdrin ag anghydraddoldeb o ran risg canser, mynediad at wasanaethau canser a’r canlyniad i bobl sydd â chanser. Rŷn ni hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar y pethau sy’n dylanwadu ar iechyd pobl, fel tlodi ac amgylchedd iach.

Diolch, Weinidog. O ble rwy'n dod, yn y cymoedd, mae diagnosis canser yr ysgyfaint yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn arswydo rhagddo, ac mae'n fwy cyffredin yn fy ardal oherwydd y cysgod hir y mae gwaith glo a diwydiant trwm yn dal i'w daflu dros ein cymunedau. Nawr, mae canser yn aml yn cael ei ganfod ar gam diweddarach ac mae pobl mewn mwy o berygl o farw o ganlyniad. Yng Nghaerffili, bu farw 101 o bobl o'r clefyd yn 2021, sydd 6.3 y cant yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nawr, gall pethau fel sgrinio canser yr ysgyfaint helpu i wneud diagnosis o ganser yn gynharach, gan wella gobaith i bobl sy'n byw mewn ardaloedd nid yn unig yng Nghaerffili, ond ar draws de-ddwyrain Cymru, y cyfeirir atynt mor aml fel ardaloedd difreintiedig, gair nad wyf yn ei hoffi o gwbl, ond mae'n golygu bod pobl yn cael eu hamddifadu o gymaint o gyfleoedd—yn y cyd-destun hwn, yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fyw'n hwy os cânt y clefyd hwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno rhaglen sgrinio lawn ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno rhaglen wedi'i hariannu'n llawn i sicrhau y gellir gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint cyn gynted â phosibl?

Diolch yn fawr. Wel, fe wyddom y gellir atal tua phedwar o bob 10 canser, ac mae canser yr ysgyfaint yn bendant yn un o'r rheini. Fe wyddom fod y nifer o bobl sy'n ysmygu yn uwch yn y cymunedau y soniwch amdanynt. Felly, mae yna gam cyn hynny y mae angen inni ei gyrraedd. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar geisio atal pobl rhag ysmygu yn y lle cyntaf fel nad ydynt yn datblygu canser. Felly, pan fyddwn yn siarad am ganser, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y system gyfan a sicrhau nad ydym yn anghofio am yr ochr atal i bethau. 

Nawr, wrth gwrs, yr hyn sydd angen inni ei wneud wedyn yw sicrhau, os yw hwnnw'n datblygu, a'r canlyniadau ar gyfer canser yr ysgyfaint—. Mae'n anodd iawn, oherwydd ymddengys bod pobl yn ei ganfod yn eithaf hwyr, a phan fyddwch chi'n cyrraedd y pwynt hwnnw, mae'n anos i'w drin. Felly, mae diagnosis cynnar yn bwysig iawn. Un o'r rhaglenni sydd gennym ar hyn o bryd yw menter ddiddorol iawn sy'n canolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint, ac rydym wedi dewis canser yr ysgyfaint fel y canser cyntaf i fynd ar ei ôl oherwydd y cyfraddau isel o bobl sy'n gallu gwella ohono, sef biopsïau hylif. Felly, rydym wedi mynd ar drywydd biopsïau hylif yn benodol mewn perthynas â thriniaeth canser a cheisio nodi pwy sydd â'r canser, pa mor gynnar rydych chi'n ei gael, os yw'n dychwelyd ar ôl i chi ei gael. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes hwnnw. Rydym yn edrych ar dechnoleg eithaf arloesol yma. Rwyf eisiau aros nes y gwelwn ganlyniadau'r cynllun peilot hwnnw, oherwydd byddai hynny'n golygu ein bod yn edrych ar fecanwaith llawer llai mewnwthiol i ddarganfod a oes gan bobl ganser yr ysgyfaint. Felly, rwy'n gobeithio bod y math hwnnw o fenter yn rhywbeth y gallwn ei gyflwyno pan fyddwn yn gwybod a yw wedi gweithio'n iawn. 

Weinidog, un o'r anghydraddoldebau mwyaf ym maes gofal canser yw'r datgeliad nad ydym yn casglu data ar ethnigrwydd cleifion canser. Gallai llawer ddweud, 'Pam mae hynny'n bwysig—data'n unig ydyw?', ond pan ddaw'n fater o driniaeth mae'r data hwnnw'n hanfodol. Sut y gwyddom fod triniaethau a ddatblygwyd ar gyfer pobl wyn o ogledd Ewrop yn effeithiol wrth drin canserau mewn cleifion o dras Affricanaidd neu Indo-Asiaidd? Mae rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynglŷn â sut y bydd cleifion yn ymateb, er bod gwahaniaethau clir yn y ffordd y mae rhai mathau o ganser yn effeithio ar wahanol grwpiau hil. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod data ethnigrwydd yn cael ei gynnwys yng nghofnodion pob claf, yn enwedig wrth inni symud tuag at feddygaeth wedi'i phersonoli?

Diolch yn fawr. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am anghydraddoldebau canser a rhai o ganfyddiadau'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, ac yn sicr mae data yn gwbl allweddol. Mae'n sicr yn rhywbeth rydym bob amser yn ceisio ei wella—sut rydym yn rheoli ein data, sut rydym yn monitro ein data—ac yn sicr, mae ethnigrwydd yn rhywbeth y bydd angen inni ei ystyried. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi, wrth inni fynd ar drywydd yr ymateb newydd, mwy personol yn y ffordd rydym yn ymdrin â chanser, felly ymateb i'r canser penodol yn yr unigolyn penodol hwnnw—. Rydym ar drothwy rhywbeth gwahanol iawn, rwy'n credu, o ran y ffordd y byddwn yn ymdrin â chanser yn y dyfodol. Darllenais yn ddiweddar, er enghraifft, fod y ffordd y mae rhai pobl yn ymateb i gemotherapi yn newid oherwydd y bïomau gwahanol yn eu stumogau; mae gan bawb fïom gwahanol. Felly, bydd y dull personol hwn yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod, ac yn amlwg, bydd ethnigrwydd, a'r holl fathau hynny o bethau, gobeithio, yn ystyriaeth pan fyddwn yn symud i'r cam nesaf o sut rydym yn ymdrin â chanser. A gadewch inni beidio ag anghofio y bydd hyn i gyd yn heriol iawn. Rydych yn ymwybodol o'r sefyllfa ariannol rydym ynddi, rydym yn gwybod bod un o bob dau o bobl yn datblygu canser, ac wrth i bobl heneiddio, mae eu perygl o gael canser yn mynd i gynyddu, felly ni fydd dim o hyn yn rhad, felly mae gennym heriau difrifol iawn o'n blaenau.

14:30

Weinidog, yn ein cymunedau mwy difreintiedig yng Nghymru, mae cyfraddau gordewdra yn dal i fod yn rhy uchel. Mae nifer y bobl sydd dros bwysau neu'n ordew yn uwch yn y cwintel mwyaf difreintiedig o gymharu â'r cwintel lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl ffigurau 2021-22. Ac mae canfyddiadau Cancer Research UK, yn eu hadroddiad ar anghydraddoldebau canser, yn nodi, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, y rhagwelir y bydd bron cymaint o bobl ordew â phobl o bwysau iach yng Nghymru erbyn y 2040au. Gwyddom mai cadw at bwysau iach yw un o'r ffyrdd gorau o leihau'r risg o ddatblygu canser. Felly, Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â lefelau gordewdra a nifer yr achosion cysylltiedig o ganser yn ein cymunedau mwy difreintiedig?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn arwain arno, ac yn sicr, y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio gosod gweledigaeth ar gyfer Cymru ddi-fwg, a sicrhau ein bod yn cael canlyniad gwell o ran cynyddu cyfran y plant a'r bobl ifanc sy'n cael plentyndod di-fwg. Ac mae gwaith yn cael ei wneud ar e-sigaréts, ac wrth gwrs cawsom y cyhoeddiad yn ddiweddar ar yr hyn y gobeithiwn ei wneud mewn perthynas â hynny.

Ond rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â gordewdra. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau siarad am hyn mewn ffordd wirioneddol ddifrifol. Rydym yn agosáu at argyfwng mewn perthynas â hyn. Ac nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd yn 2040—mae 60 y cant o bobl Cymru dros bwysau neu'n ordew nawr. Felly, ni all hyn aros mwyach. Rwy'n credu bod strategaeth gyfan wedi'i chyhoeddi, sydd wedi'i phrofi o ran y ffordd orau o gysylltu â phobl. Oherwydd os na wnewch chi ddim byd mwy na lladd arnynt a dweud, 'Peidiwch â bod mor hurt, mae angen i chi golli pwysau', nid yw hynny'n mynd i weithio. Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn ffordd sy'n edrych ar y wyddoniaeth ymddygiadol, beth sy'n mynd i newid hyn?

A'r mater arall y bûm yn darllen llawer amdano dros yr haf yw bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth. Ac rwy'n credu o ddifrif fod hwn yn faes—. Mae'n anodd iawn i ni fel Llywodraeth Cymru ymdrin â hyn ar ein pen ein hunain. Dyna pam rwy'n drist iawn o weld nad yw Llywodraeth y DU yr un mor o ddifrif ynglŷn â hyn ag y credaf y dylai fod, oherwydd, yn ddelfrydol, mae angen inni wneud hyn ar draws y Deyrnas Unedig—byddai'n llawer iawn haws. Ond mae llwyth o waith y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn gweithio arno ar hyn o bryd mewn perthynas â sicrhau ein bod yn edrych ar y materion ehangach hynny, gan wneud yn siŵr, er enghraifft, ei bod yn llai hawdd cael mynediad at y mathau o fwydydd sy'n niweidiol. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn; yn ddiweddar, gwneuthum lawer o ymweliadau ysgol o amgylch Cymru, ymweliadau ag ysgolion iau. A darllenais fod 20 y cant o'n disgyblion yn dechrau'r ysgol yn bump oed dros bwysau—yn dechrau'r ysgol. Ond yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn i mi yw'r cyferbyniad rhwng yr hyn a glywais a'r hyn a welais yn ysgolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle nad wyf yn gweld y patrwm yn yr un ffordd yn union. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau a yw hynny oherwydd argaeledd bwyd ar bob cornel stryd. Felly, mae'n rhaid inni ystyried yr holl bethau hynny, ac rwy'n gwybod bod hynny'n sicr yn rhywbeth y mae Lynne Neagle yn gweithio arno.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr heddiw—Gareth Davies. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidogion. Bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ymwybodol iawn o'r llofrudd cyfresol dieflig a fu'n lladd babanod ychydig dros y ffin yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ysbyty Iarlles Caer. Fe wnaeth Lucy Letby, a oedd mewn swydd ofalu gyfrifol, gamddefnyddio ei statws i gael mynediad at fabanod bregus, a cheisio lladd 18 o fabanod, gan lwyddo i lofruddio wyth ohonynt. Bydd pobl ledled Cymru yn poeni a allai hyn ddigwydd yma. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad, ond beth am Gymru? A oes gwersi y gallwn ni eu dysgu?

Rwy'n nodi'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru amser cinio heddiw ar y broses o godi llais yn ddiogel, ond a yw'r gweithdrefnau sydd ar waith yn ein GIG yng Nghymru, ac a yw'r Gweinidog yn credu eu bod yn ddigon cadarn i ymdrin â sefyllfa debyg pe bai'n digwydd yma yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein cythryblu'n fawr gan achos Lucy Letby, ac yn sicr, rwy'n gwybod bod ein swyddogion—. Mae cyfarwyddwr cyffredinol y GIG wedi ysgrifennu at bob un o'r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall bod dyletswydd gonestrwydd yn bodoli bellach, dyletswydd a gyflwynwyd o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn 2020, a'n bod yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r broses 'Unioni Pethau'. Felly, mae'r ddyletswydd honno'n berthnasol i holl sefydliadau'r GIG, i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch ansawdd yn gwella ansawdd gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Felly, rydym wedi cyhoeddi'r fframwaith hwnnw ar gyfer codi llais yn ddiogel yn gynt na'r disgwyl, ond cyn gynted ag y clywsom am ddigwyddiadau Lucy Letby, anfonwyd llythyr at y byrddau iechyd.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n derbyn ei bod yn sefyllfa anodd i siarad amdani, ond mae'n un na ddylid ei hanwybyddu er mwyn sicrhau diogelwch pobl yn y dyfodol yng Nghymru, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig dros doriad yr haf, yn debyg i'ch ymateb.

Nawr, yn dilyn ymchwiliad Llywodraeth y DU i achos Lucy Letby, rwy'n deall ac yn derbyn eich bod wedi mynegi diddordeb mewn edrych ar y canfyddiadau a gwneud newidiadau fel y bo'n briodol, fel rydych chi wedi sôn. Mae hyn i'w groesawu, ond mae'n debygol o fod yn flynyddoedd eto cyn i chi hyd yn oed ddechrau dadansoddi'r canfyddiadau a gwneud y newidiadau hynny. A yw Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw wersi uniongyrchol i'w dysgu, yn ogystal â'ch ymateb, sy'n berthnasol yma yng Nghymru? Fy marn i yw mai'r wers glir i'w dysgu yw'r angen am fwy o amddiffyniadau a mwy o barch i chwythwyr chwiban. Fel y bydd llawer o bobl yn y proffesiwn yn gwybod—ac fel y gwn innau o fod yn dod o'r cefndir gweithio hwnnw—gall fod diwylliant yn bodoli o embaras a throi cefn ar y rhai sy'n meiddio codi llais.

Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod yn angenrheidiol, yn dderbyniol neu'n iawn y dylai elusennau trydydd sector, fel Protect yn yr achos hwn, fod yn gweinyddu cwynion mewnol y GIG ar eu rhan, yn hytrach na'r GIG ei hun, sy'n cyfeirio at y ffaith honno ar dudalen 16 yr adroddiad?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym wedi bod yn gweithio ar y fframwaith codi llais yn ddiogel ers sawl mis. Felly, roedd hyn ymhell cyn i achos Lucy Letby ddod i'r llys. Ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r undebau llafur, a sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn y GIG yn gwybod bod hwnnw'n mynd i fod yn fframwaith sy'n gweithio iddynt hwy, lle maent yn teimlo'n ddigon diogel i allu codi llais a gwybod y byddant yn cael eu hamddiffyn. Felly, rydym wedi cyhoeddi hynny, a byddwn yn ei adolygu'n weithredol am y 12 mis nesaf, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Ac yn amlwg, os daw rhywbeth o'r gwersi i'w dysgu yn ystod yr ymchwiliad i achos Lucy Letby, yna, yn amlwg, byddwn yn ystyried y rheini yn yr adolygiad hwnnw. 

Diolch unwaith eto, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi uchelgais Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r sefyllfa hon. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol i'w gyflawni yw i hynny dreiddio i'r rheng flaen, felly nid uchelgais y siaredir amdani'n unig yn y Senedd ac yng nghylchoedd y Llywodraeth ydyw, ond rhywbeth a deimlir trwy holl system y GIG yng Nghymru. 

I orffen, mae fy nghwestiwn olaf yn gwyro oddi wrth fy nghwestiynau cychwynnol. Barn y Ceidwadwyr Cymreig yw bod angen inni weithio gyda'r 22 cyngor yma yng Nghymru i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy'r rhwyd a bod pob plentyn yn cael y lefel uchaf o ofal, fel y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl yn briodol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai Cymru yw'r wlad yn y DU sydd fwyaf mewn perygl o brofi methiannau difrifol, fel y gwelsom gyda Logan Mwangi ac fel y gwelsom gyda Kaylea Titford, oherwydd ni yw'r unig ran o'r DU sydd heb gynnal adolygiad o wasanaethau plant ar draws y 22 awdurdod lleol? Pam y dylai Cymru dderbyn eich gair fod y system yn gadarn? Mae angen eglurder arnom. Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd cael adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru? 

14:40

Bydd yn rhaid i'r Gweinidog gymryd y cwestiwn. Mae hi wedi dechrau nawr.

Ar gyfer y cofnod, roeddwn i a'r Gweinidogion yn disgwyl i'r cwestiwn fod mewn maes pwnc i'r Dirprwy Weinidog ei ateb. Nid felly roedd hi, ac yn ffodus, fe gododd y Gweinidog, felly—[Anghlywadwy.]

Felly, fe wnaiff y Gweinidog barhau â'r ateb i'r cwestiwn olaf. 

Diolch yn fawr. Wel, Julie Morgan yw'r arbenigwr yn y maes hwn yn sicr, felly byddai'n fwy priodol iddi ateb hyn. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r achosion trasig sydd wedi digwydd yng Nghymru, ein bod yn dysgu gwersi o'r rheini. Mae llawer o wersi i'w dysgu ac rydym yn ceisio rhoi'r gwersi hynny ar waith. Dyna'r flaenoriaeth: sicrhau ein bod yn eu gweithredu ac yn eu gwreiddio. Yn hytrach na chael adolygiad arall, gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith y gwyddom fod yn rhaid ei wneud. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu yn aruthrol. Erbyn hyn, mae byrddau iechyd Cymru yn gwario £325 miliwn, dros 7 y cant o gost y gweithlu, gyda £225 miliwn o hwnnw o ganlyniad i swyddi gwag yn methu â chael eu llenwi. Yn y gogledd, roedd y bwrdd iechyd yno yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth yn ôl y 2018, ond, erbyn heddiw, mae'r ffigwr yna wedi mwy na dyblu i £72 miliwn. Mewn gwirionedd, mae hyn yn adlewyrchu methiant i roi telerau ac amodau gwaith ffafriol i'r gweithlu. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi galw ar i'r Llywodraeth gyflwyno cynllun gweithlu sydd yn ymrwymo i gael gwared ar staff asiantaeth preifat dros bedair blynedd, oherwydd ein bod ni'n tynnu pres o'r gwasanaeth iechyd a'i roi i gwmni preifat, a hynny ar gefn llafur caled gweithlu ymroddedig a bod hynny yn anghyfiawn. Mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog y byddwn ni'n gweld y gwariant ar asiantaethau yn disgyn eleni, gan roi sicrwydd, yn ôl ei geiriau hi, y byddwn ni'n gweld cwymp yn y niferoedd o staff asiantaeth eleni. Hwyrach bod y Gweinidog wedi gweld rhai ffigurau eisoes. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar y sicrwydd yma? Beth ydy'r amserlen ar gyfer hyn? A pha newidiadau mae hi am eu gorfodi er mwyn cyrraedd y pwynt yma?   

Wel, diolch yn fawr iawn. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd ar GIG Cymru bob amser mewn perthynas â chapasiti'r gweithlu. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod angen inni sicrhau bod gennym wasanaethau diogel. Bydd yna adegau o bwysau eithafol, bydd angen staff cyflenwi ar gyfer absenoldebau salwch, absenoldeb mamolaeth neu absenoldebau heb eu cynllunio. Felly, bydd yna bob amser angen rhywfaint o wariant ar staff asiantaeth. Ond rydych chi'n hollol iawn: nid ydym eisiau'r gwariant sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a gweithio i leihau gwariant ar staff asiantaeth. Mae hynny'n mynd i gynnwys ystod o fesurau, gan gynnwys fframwaith rheoli diwygiedig ar gyfer gwariant. A'r hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gwariant ar staff asiantaeth yn gostwng o un mis i'r llall eisoes ar gyfer eleni. Nid yw'n ostyngiad sylweddol eto, ond rwy'n gobeithio y gwelwn ostyngiad mwy sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn. 

Diolch am eich ateb. Rydym eisoes yn gwybod bod tri chwarter ein nyrsys yn gweithio goramser, ac eto nid yw 42 y cant ohonynt yn cael eu talu am y gwaith hwnnw. Maent yn dewis gwaith asiantaeth oherwydd ei fod yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt a chânt eu talu am yr hyn a wnânt, ond mae'n golygu bod yn rhaid iddynt weithio i ffwrdd oddi cartref mewn llawer o achosion. A dyna pam y gwelwn gymaint o nyrsys yn gadael y proffesiwn. Mae nyrsys yn dweud wrthyf, pe baent yn cael eu talu am oramser, y byddent yn fwy tebygol o aros yn y proffesiwn ac mewn gwirionedd, byddai rhai'n dod yn ôl i'r proffesiwn. Felly, un ateb i osgoi gorfod mynd at asiantaethau yw talu goramser i nyrsys. Caniateir i gyfarwyddwyr cyllid dalu goramser, ond am ba resymau bynnag, maent yn dewis peidio â gwneud hynny ac yn dewis staff asiantaeth yn lle hynny. Mae talu goramser yn un ateb syml i helpu gyda chadw staff a chadw arian yn y GIG. Felly, a yw'r Gweinidog yn barod i edrych ar hyn fel opsiwn ymarferol a chyfarwyddo swyddogion cyllid i ddefnyddio'r dull hwn o dalu yn y dyfodol?

14:45

Diolch yn fawr. Mae gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu, sy'n canolbwyntio'n fanwl ar y mater, ac mae'r cynllun hwnnw'n cynnwys yr angen i ddatblygu hyblygrwydd. Felly, mae'n amlwg, yn y gorffennol, fod y rheolau ar hyn wedi bod yn rhy dynn. Felly, rydym yn ceisio ymateb i'r hyn y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a sefydliadau eraill wedi bod yn ei ofyn i ni, ac felly mae yna rai enghreifftiau o gyflawniadau eisoes. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi lansio ymgyrch ddenu a recriwtio staff adnewyddedig a gwell ar gyfer y GIG, ond rydych chi'n hollol gywir mai'r hyn sydd angen inni edrych arno yw cadw staff. Ac rydym wedi dweud yn y cynllun ein bod yn mabwysiadu dull cyfannol o weithredu. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar edrych ar yr amodau gorau posibl i gynorthwyo staff i aros yn y GIG, a bydd y manylion ar gyfer hynny'n cael eu hamlinellu yn y cynllun cadw staff nyrsio a fydd yn cael ei lansio'n fuan ochr yn ochr â rhaglen gadw staff genedlaethol i Gymru.

Pwysau Ariannol ar Gynlluniau Cyfalaf

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oblygiadau pwysau ariannol ar gynlluniau cyfalaf yn y sector iechyd yng ngogledd Cymru? OQ59937

Mae pwysau ariannol sylweddol ar draws yr NHS o hyd, o ran refeniw ac o ran cyfalaf. Bydd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau i flaenoriaethu eu gofynion cyfalaf er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n canolbwyntio ar wasanaethau hanfodol. Bydd hynny’n golygu gwneud penderfyniadau anodd.

Mi gaewyd y Royal Alex yn y Rhyl, wrth gwrs, nôl yn 2009, gydag addewid o’i ailddatblygu e. Yn wir, fe gaewyd ysbytai cymunedol ar gefn yr addewid yna o ailddatblygu’r Royal Alex. Mi oedd yna achos busnes yn 2021 yn amlinellu’n glir yr angen i’w ailddatblygu. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷn ni'n dal yn aros i hynny ddigwydd. Mae’r bwrdd iechyd yn aros i’r Llywodraeth i gadarnhau a fydd yna gyllid ar gael, mae’r cyngor sir, a drafododd hyn yn ddiweddar, yn dal i aros, ac mae’r trigolion a chleifion yn y gogledd yn dal i aros.

Nawr, yng ngoleuni yr heriau cyllidebol rŷch chi newydd eu hamlinellu inni, gewch chi ateb un o ddau gwestiwn—gewch chi ddewis pa un rŷch yn ei ateb. Naill ai a wnewch chi ateb pryd y gwelwn ni ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl, neu efallai fyddai'n well gyda chi ateb a fyddwn ni byth yn gweld ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl?

Wel, diolch yn fawr iawn. Roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi gyda’r bwrdd yr wythnos diwethaf. Dwi'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r bwrdd ac roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i bwyso arnyn nhw. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ar hyn; mae'n rhaid blaenoriaethu. Nawr, mae'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw flaenoriaethu. Dwi'n keen iawn, er enghraifft, i weld gwelliant yn y niferoedd sydd yn cael triniaeth orthopedig yn y gogledd—mae’r rhestrau aros yn rhy hir. Ac felly, fe fydd angen pwyso a mesur a ydych chi eisiau canolfan orthopedig newydd neu a ydych chi eisiau datblygu'r Royal Alex? Wel, dwi ddim yn meddwl bod hwnna'n benderfyniad i mi; mae hwnna'n benderfyniad y mae’n rhaid i’r bwrdd ei bwyso a’i fesur o ran beth sydd yn fwyaf pwysig ar hyn o bryd.

Beth rŷn ni yn gwybod mewn perthynas â'r Royal Alex yw, pan wnaethpwyd y penderfyniad ein bod ni eisiau gweld y datblygiad, y byddai wedi costio tua £20 miliwn; erbyn heddiw, byddai’n costio tua £80 miliwn. A beth rŷch chi yn ymwybodol ohono yw, eleni, aeth ein cyfalaf ar draws y Llywodraeth i gyd i fyny £1 filiwn. Felly, mae’r cyfalaf yn anodd iawn inni. Ond beth allaf i ddweud wrthych chi yw, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod Betsi Cadwaladr wedi cael £454 miliwn mewn cyfalaf oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad—? O, ie, mae'n ddrwg gennyf—

Janet Finch-Saunders, mae gwir angen i chi ganolbwyntio pan fyddwch chi yn y Siambr—

Roedd eich sylw yn rhywle arall yn llwyr wrth i chi e-bostio, a hoffwn ofyn—

Na, peidiwch â fy herio a pheidiwch â dweud 'dewch dewch' wrthyf fi, iawn? Nid oes gennyf amynedd ar gyfer hynny heddiw. Roedd eich sylw yn rhywle arall. Roeddwn i'n ceisio edrych arnoch chi, i ddal eich sylw er mwyn i chi wybod mai chi fyddai'n cael eich galw nesaf, ac roeddech chi wrthi'n teipio. Felly, canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi'n ei wneud. Gofynnwch y cwestiwn i'r Gweinidog; mae hi yma i ateb yr hyn sydd gennych i'w ofyn, felly gofynnwch yr un cywir y tro hwn.

14:50

Iawn, diolch yn fawr. Mae strategaeth ystad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dyddiedig 6 Ionawr 2023, yn tynnu sylw at y ffaith bod £1.61 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf—[Torri ar draws.] Mae'n beth? 

Iawn, diolch yn fawr. Y blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen gyfalaf yw rhaglen parhad seilwaith Ysbyty Maelor Wrecsam; rhaglen cydymffurfiaeth diogelwch tân, rhaglen canolfan driniaeth ranbarthol a chapasiti orthopedig estynedig Ysbyty Gwynedd; prosiect datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra; uned yn lle uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd ac ysgol feddygol a gwyddorau iechyd. Nawr, nid oes unrhyw sôn am brosiectau mewn ysbytai fel Bryn y Neuadd, sydd eisoes ag ôl-groniad cynnal a chadw o £27.5 miliwn ac sydd bellach â phroblem concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth—y broblem concrit. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gydweithredu â Betsi Cadwaladr i sicrhau bod buddsoddiad cyfalaf yn cael ei wneud yn yr ysbytai bach ond hanfodol bwysig hyn, fel Bryn y Neuadd? Diolch.

Diolch yn fawr. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod ein cyllideb gyfalaf wedi'i chyfyngu'n aruthrol, diolch i'r Llywodraeth Dorïaidd, sydd ond wedi rhoi £1 filiwn i ni mewn cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd eleni. Nid fy ngwaith i yw blaenoriaethu'r hyn y mae'r bwrdd iechyd—. Gan mai penderfyniadau clinigol yw'r rhain, mae angen iddynt ystyried, 'Iawn, beth yw'r peth cyntaf i'w wneud yma? Ai datrys iechyd meddwl neu roi mwy tuag at ofal canser, neu ai rhoi mwy tuag at orthopedeg, neu ddatblygu'r Royal Alexandra?' Nid wyf yn credu mai fy lle i yw penderfynu ar eu rhan lle i roi'r arian hwnnw. 

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod cryn dipyn o'n harian cyfalaf yn cael ei wario ar gadw'r goleuadau ynghyn. Mae gennym ystad sy'n heneiddio, ac felly pan fyddwch yn siarad am raglen parhad Ysbyty Maelor Wrecsam, mae hwnnw'n gryn dipyn o arian, ond os na fyddwn yn ei wario, bydd yn anodd cadw'r ysbyty hwnnw ar agor, oherwydd ni all y gwaith trydanol gynnal y pwysau sydd arno ar hyn o bryd. Felly, mae yna bethau y mae'n rhaid inni eu gwario i gadw pethau i fynd, ac yna mae'n rhaid inni feddwl, 'Iawn, beth yw'r blaenoriaethau a beth sydd bwysicaf i bobl gogledd Cymru?'

Nid wyf yn credu y dylwn i ymyrryd i benderfynu beth ddylai'r blaenoriaethau clinigol fod. Dyna pam ein bod yn penodi byrddau iechyd, i wneud y penderfyniadau hynny. Maent yn agosach at y bobl. Maent yn gwybod lle mae'r problemau diogelwch, er enghraifft. Byddai'n anghywir i mi ddweud, 'Iawn, datblygwch hyn', ac yna gweld na allwch gadw pethau i fynd, sy'n golygu bod pobl yn cael eu symud allan o ysbytai. Felly, nid wyf yn credu mai fi sydd i benderfynu ond rwy'n amlwg yn cadw mewn cysylltiad agos â'r byrddau iechyd a'u penderfyniadau ynglŷn â'r hyn y maent am ei wneud.

Unedau Deintyddol Symudol

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o unedau deintyddol symudol ledled Cymru? OQ59916

Mae nifer o unedau deintyddol symudol y gellir eu gyrru a'u tynnu wedi cael eu comisiynu mewn ffyrdd arloesol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio ar gyfer darparu mentrau iechyd y geg fel Gwên am Byth, Cynllun Gwên, neu i ddarparu capasiti gwasanaeth deintyddol cyffredinol ychwanegol mewn ardaloedd lle nad oes gwasanaethau digonol ar gael.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb. Weinidog, rydym wedi trafod hyn o'r blaen. Fel y gwyddoch, mae'r rhain yn rhannau allweddol o'r gwasanaeth iechyd y credaf fod eu hangen yn fawr i gyrraedd y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas ac i helpu ein hysgolion a'n plant ifanc i gael eu harchwiliadau a gofal deintyddol oherwydd fe wyddom fod gan iechyd geneuol da gysylltiadau da ag iechyd cyffredinol da, ac iechyd meddwl da hefyd. Felly, gyda'r trafodaethau rydych yn eu cael fel rhan o adolygiad y Llywodraeth o gyllid, gyda'r cynlluniau peilot sydd wedi'u lansio ledled y wlad, hoffwn wybod a fydd cyllid mwy hirdymor ar gael ar gyfer yr unedau deintyddol symudol wrth symud ymlaen, neu a ydym yn mynd i weld rhai o'r cynlluniau hyn yn cael eu gohirio oherwydd y pwysau cyllido sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd?

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol fod rhaglen beilot yn cael ei chynnal mewn ysgol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd—yn Ysgol y Moelwyn—felly mae honno ar y gweill. Bydd yn ddiddorol gweld beth yw canlyniadau hynny ac a yw'n dangos gwerth am arian, ac mae hynny i gyd, wrth gwrs, yn hanfodol yn ein hasesiadau wrth symud ymlaen.

O ran unedau symudol, mae yna werth iddynt, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall hefyd nad ydynt yn ddelfrydol. Mae'n rhaid ichi ystyried pethau fel y plymio cywir a'r math cywir o amgylchedd iddynt allu gweithio'n effeithiol. Felly, mae yna unedau deintyddol symudol, er enghraifft, a gwn eu bod yn gwneud defnydd da ohonynt yng Nghaerfyrddin, ac ym Mhowys, er enghraifft, maent wedi bod yn defnyddio uned symudol ym Machynlleth, ond rwy'n credu nawr fod ganddynt ddatblygiad newydd, mae hynny'n mynd i gael ei symud i'r datblygiad newydd. Felly, fel cysyniad, rydym yn mynd i weld sut mae'n mynd yn Ysgol y Moelwyn, ac os yw hynny'n gweithio, yna yn amlwg bydd yn rhaid inni ailasesu a gweld a yw hwnnw'n fodel y gallwn ystyried ei gyflwyno ymhellach.

14:55

Llandeilo, Abergwaun, Cross Hands, Rhydaman—dyma rai ardaloedd yn fy rhanbarth i sydd wedi'u heffeithio'n fawr yn barod wrth i 24 y cant o ddeintyddfeydd yn ardal Hywel Dda ddod â'u cytundebau NHS i ben dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn anffodus, mae'r ffigwr hwn yn mynd i godi wrth inni glywed y newyddion yn ddiweddar fod darpariaeth NHS yn mynd i ddod i ben yn Hwlffordd a Hendy-gwyn ar Daf ddiwedd mis Tachwedd.

Y llynedd, dim ond 30 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru gafodd apwyntiad gyda deintydd dan y gwasanaeth iechyd. Ond, yn dilyn lleoli uned deintyddiaeth symudol yn Rhydaman yn ddiweddar, wrth i gontractwr newydd sefydlu yna, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried darparu mwy o unedau deintyddol symudol—rŷch chi wedi sôn am rai ohonyn nhw'n barod—mewn cymunedau gwledig er mwyn llenwi'r bwlch? Ac, os felly, pa asesiad ŷch chi wedi'i wneud i sicrhau bod digon o weithlu ar gael i wneud unedau symudol yn opsiwn realistig?

Diolch yn fawr. Dwi'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yng ngorllewin Cymru. Dyna un rheswm pam rŷn ni wedi cynnig £5,000 yn ychwanegol, i drial cael pobl i hyfforddi mewn llefydd fel gorllewin Cymru. Ond, os ydyn ni'n colli'r cytundeb, fel Llywodraeth, dŷch chi ddim yn colli'r arian; beth rŷch chi'n gwneud yw ailgontractio i rywun arall. Dyna sydd wedi digwydd, er enghraifft, yn Rhydaman, lle rŷn ni wedi ailgontractio, ond dyw'r ganolfan ddim yn barod eto a dyna pam maen nhw wedi rhoi mobile unit i mewn dros dro. Felly, yn amlwg, rŷch chi wedi clywed am y sefyllfa ariannol, sy'n heriol, ac felly, a bod yn realistig, dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i weld lot yn cael eu prynu ac yn cael eu defnyddio. Ond, er enghraifft, mae lot o help ychwanegol wedi cael ei ddefnyddio yng Nghaerfyrddin o ran urgent access capacity. Mae yna lot o waith wedi cael ei wneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac maen nhw wedi gwneud y buddsoddiad yna mewn urgent access capacity ac mae hwnna'n cael ei ddefnyddio yn y mobile unit yng Nghaerfyrddin.

Prynhawn da, Weinidog. Os caf ddilyn y cwestiwn y mae Cefin wedi ei ofyn—a diolch i James Evans am godi mater deintyddiaeth, sy'n un rwy'n gwybod bod llawer ohonom ni yma yn poeni amdano—a dilyn ymlaen o'r cwestiwn ynglŷn ag adfachiadau, fel rwy'n ei ddeall, contractau sy'n cael eu dychwelyd i'r byrddau iechyd lleol ydynt. Ym Mhowys, rydym yn gwybod bod cyfanswm yr adfachiad o bractisau gofal deintyddol sy'n gwneud gwaith GIG yn £241,000, gan bron i hanner yr holl feddygfeydd deintyddol GIG yn y bwrdd iechyd, sy'n nifer uchel iawn ar gyfer Powys. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym sut y gallwn ni ddysgu sut rydych chi'n ailfuddsoddi, neu sut rydych chi'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ailfuddsoddi'r arian sy'n dod yn ôl o'r adfachiadau hynny, o'r contractau deintyddol a ddychwelir, ar unwaith mewn perthynas â gofal iechyd deintyddol parhaus. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Mae'r ffigurau sydd gennyf fi ar gyfer Powys yn wahanol iawn ar gyfer y contractau a ddychwelir ym Mhowys, felly byddai'n ddiddorol i ni gymharu nodiadau ar hynny yn nes ymlaen. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw nad yw'r cyllid yn cael ei golli. Fel y dywedais, mae'n parhau o fewn y bwrdd iechyd ac maent yn darparu gwasanaethau deintyddol amgen yn ei le. Y broblem yw bod yr ailgaffael yn cymryd amser, ac yn amlwg, mae hynny'n golygu bod bwlch yn y ddarpariaeth, ac mae'n rhaid i fyrddau iechyd geisio gwneud trefniadau i ddarparu gofal brys tra bod y cleifion sydd wedi'u dadleoli yn cael eu newid a'u symud at ddeintydd wedi'i ailgomisiynu. Felly, rwy'n hapus iawn i gymharu nodiadau gyda chi ynghylch y contractau a ddychwelir, oherwydd carwn awgrymu nad ydynt mor arwyddocaol â'r hyn rydych chi newydd ei awgrymu.FootnoteLink

15:00

Diolch, Weinidog. Roeddwn am grybwyll rhai o'r pryderon y cyfeirioch chi atynt ynghylch yr uned ddeintyddol symudol yn eich ateb i James Evans. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod erthygl ar Nation Cymru dros fisoedd yr haf am unedau deintyddol symudol yn cael eu prynu gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ar gost o bron i £0.5 miliwn, ond eu bod yn anweithredol am lawer o wahanol resymau ar sawl achlysur oherwydd amryw o ddiffygion. Aeth yr erthygl ymlaen i honni nad oedd y cerbydau wedi cael ardystiad MOT priodol a bod un o'r unedau wedi'i gyrru'n anghyfreithlon ar 16 achlysur. Nawr, rydych yn fwy ymwybodol na neb yma o'r rhestrau aros hir yma yng Nghaerdydd i gael gweld deintydd, felly a fyddech yn cytuno i adolygiad gan eich swyddogion o'r defnydd o'r unedau deintyddol symudol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oherwydd y pryderon a godwyd yn yr erthygl honno gan Nation Cymru? Diolch.

Rhan o'r rheswm am y gost honno yw bod cadeiriau bariatrig wedi'u gosod yn rhai o'r unedau deintyddol symudol hynny, sydd angen eu hatgyfnerthu wrth gwrs, ac sy'n rhoi capasiti i Gaerdydd allu trin cleifion bariatrig. Felly, byddai hynny efallai yn egluro rhai o'r rhesymau pam eu bod yn ddrytach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio bod cyfyngiadau i effeithiolrwydd unedau deintyddol symudol fel modelau darparu gofal yn fwy hirdymor, a hynny'n rhannol oherwydd y gallai fod materion mecanyddol y mae angen eu hystyried, mae angen ystyried gofynion atal a rheoli heintiau, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried amser teithio i staff ac i gleifion. Y peth allweddol bob amser wrth gwrs mewn perthynas â deintyddiaeth yw'r sefyllfa staff. Gallwch fuddsoddi mewn llawer o unedau symudol newydd, ond os nad oes gennych staff, maent yn eithaf dibwrpas. Felly i mi, mae canolbwyntio ar staffio yn gwbl hanfodol, a phleser oedd ymweld â'r academi ddeintyddol newydd ym Mangor dros yr haf a fydd yn helpu i ddarparu rhai o'r bobl a fydd yn ein cynorthwyo yn y maes hwn yn y dyfodol.

Gwasanaethau Iechyd yn y Gogledd

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd? OQ59912

Yn fy natganiad ddoe, nodais y cynnydd sydd wedi'i wneud ers imi roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig unwaith eto, ac amlinellais y cymorth y mae'r bwrdd iechyd yn ei gael gan Lywodraeth Cymru a gweithrediaeth y GIG i fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion clinigol a gweithredol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rydych eisoes wedi tynnu sylw at y pwysau ariannol eithafol y mae'r GIG yng Nghymru yn ei wynebu, oherwydd y gostyngiadau cyllidol enfawr mewn termau real i Gymru gan Lywodraeth y DU a phris chwyddiant. Ddoe, codais yr angen am ganolfan iechyd newydd yng Nghefn Mawr, ac mae angen meddygfa newydd yn Hanmer, ac rwy'n falch iawn o'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r ddau brosiect. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud ei gorau glas i ddiogelu'r arian cyfalaf gwerthfawr sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau iechyd newydd a gwell wrth inni wneud ein ffordd drwy'r cyfnod hynod anodd hwn?

Diolch yn fawr. Rydych yn llygad eich lle, mae'n gyfnod heriol, yn enwedig mewn perthynas â chyfalaf yn y gwasanaeth iechyd, ond yr hyn a wnaethom yw rhoi cymorth tuag at yr integreiddio hwnnw ac ailgydbwyso cronfeydd cyfalaf, fel bod swm o arian wedi'i glustnodi. Cafodd ei lansio yn 2022, ac mae'n mynd i gyrraedd £70 miliwn o fewn tair blynedd. Felly, mae rhywfaint o arian yno i wneud yn union yr hyn a nodwch. Yr hyn a welwn, yn enwedig yng ngogledd Cymru, yw bod chwe phrosiect wedi eu cymeradwyo, gan gynnwys y cam nesaf o'r achos busnes ar gyfer datblygu canolfan iechyd a lles i Gonwy a Chyffordd Llandudno, a chanolfan lesiant ym Mhen-y-groes yng Ngwynedd. Ond mae'n dda clywed eu bod hefyd yn bwrw ymlaen gyda'r gwasanaethau meddygon teulu y sonioch chi amdanynt.

15:05
E-ragnodi

6. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ymgysylltu â grwpiau agored i niwed mewn perthynas ag e-ragnodi? OQ59923

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai pob dinesydd ledled Cymru allu cael mynediad at wybodaeth am eu meddyginiaethau a'u presgripsiynau mewn fformat sy'n addas iddynt, a bydd yr ymgysylltiad parhaus â grwpiau agored i niwed a grwpiau nad ydynt yn agored i niwed ledled Cymru yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Diolch, Weinidog. Mae'n dda clywed y newyddion cadarnhaol hwnnw am y potensial ar gyfer e-bresgripsiynu ledled Cymru hefyd, oherwydd mae cymaint o fanteision iddo, gan gynnwys peidio â chael miliynau o ddarnau o bapur presgripsiwn yn hedfan o amgylch Cymru drwy'r amser. A bydd yn helpu cleifion pan fyddant yn yr ysbyty, a byddant yn gallu cael eu rhyddhau yn gyflymach. Os ewch i mewn i'r ysbyty ac nad ydych yn gallu dweud pa bresgripsiwn rydych yn ei gymryd, bydd modd ei ganfod. Mae cymaint o fanteision, felly rwyf o blaid hynny.

Rydym yn ymchwilio i e-bresgripsiynu drwy lens cyfiawnder data ac felly, cyfiawnder cymdeithasol, yn ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Felly, dyma rai o'r pethau sydd wedi cael eu codi hyd yn hyn. Ar ôl siarad â goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, roeddent yn dweud, ar hyn o bryd, y byddent yn eithaf pryderus pe gallai unrhyw un gael mynediad at eu cofnodion. Felly, unrhyw un sy'n gweithio yn y GIG. Felly, pe bai'r rhai sy'n cyflawni trais neu gam-drin yn gweithio yn y GIG neu rywun y mae'r cyflawnwyr yn eu hadnabod. Ac aethant mor bell â dweud y byddent yn ofni am eu bywyd pe bai unrhyw bosibilrwydd y byddent yn gallu cael mynediad at eu cyfeiriad, ac mae'n debyg y byddai hefyd yn eu hatal rhag mynd at eu meddyg teulu hyd yn oed oherwydd y byddai cymaint o ofn arnynt. Felly, roedd hynny'n rhywbeth roeddwn am ei godi. 

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd wedi awgrymu ei bod yn debygol y bydd angen model optio i mewn a chydsyniad gwybodus. Fodd bynnag, rwy'n pryderu ar hyn o bryd ein bod yn clywed efallai eu bod yn gogwyddo mwy tuag at wneud model optio allan. Felly, byddai unrhyw ystyriaeth o hynny—. Ond mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn ei gefnogi'n llwyr, ond fel y gwyddoch, bydd yn caniatáu i fferyllfeydd yn Lloegr sy'n gwerthu o bell ar-lein, nad ydynt yn bodoli yng Nghymru ac nad oes ganddynt bresenoldeb ar y stryd fawr, gael gafael ar bresgripsiynau o Gymru yn hawdd. Ar hyn o bryd, mae eu cyfran o'r farchnad yn Lloegr yn 5 y cant. Pe byddent yn cael y gyfran honno o'r farchnad yng Nghymru, byddem yn gweld ein fferyllfeydd yn cau ar ein strydoedd mawr, sy'n mynd i effeithio, fel y gwyddom, ar y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, fy nghwestiwn atodol yw: pa waith trawslywodraethol sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun hwn i newid i e-bresgripsiynu, a ble mae'r asesiadau effaith ar gydraddoldeb a'r economi yn enwedig? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, rwyf wedi treulio llawer o amser yn ceisio gweld beth y gallwn ei wneud mewn perthynas â chynnydd digidol o fewn y GIG. Rwy'n meddwl mai dyma'r sefyllfa o ran trawsnewid. Yn amlwg, mae'n rhwystredig iawn pan fydd gennych y math o heriau ariannol a wynebir gennym ar hyn o bryd, oherwydd efallai na fydd yn digwydd mor gyflym ag yr hoffwn iddo ddigwydd nawr. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod cynnydd enfawr yn cael ei wneud. Mae gennym y portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, ac yn rhan o hwnnw, maent wedi ymgysylltu â phobl ledled Cymru gyfan. A phwrpas hyn yw ei fod wedi dechrau gyda'r defnyddiwr. Felly, mae'n gynllun sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn. Nid ydych am gael criw o 'geeks' yn datblygu rhywbeth na all pobl normal ei ddefnyddio. Felly, mae'n rhaid iddo ddechrau gyda'r hyn y mae cleifion ei angen a'i eisiau a sut rydych yn mynd i'w ddefnyddio. Felly, mae'n troi'r system gyfan ar ei phen mewn gwirionedd. 

Rydych yn iawn i nodi rhai o'r pryderon. Pan wnaethant siarad am hyn yn Lloegr, rwy'n credu eu bod wedi'i wneud yn anghywir ac fe arafodd hynny bopeth. Rydym yn benderfynol o gael hyn yn iawn. Felly, rydym yn ei wneud yn arafach. Ond rwy'n credu bod llawer iawn y gallwn elwa arno yma os cawn hyn yn iawn. Roeddwn yn rhwystredig iawn dros yr haf, oherwydd fe euthum i gael sbectol newydd, a'r hyn oedd yn ddiddorol oedd eu bod yn gwybod beth oedd fy mhresgripsiwn yn Hwlffordd o wasanaeth gwahanol y bûm ynddo yng Nghaerdydd, ac fe feddyliais, 'Waw, mae hynny'n anhygoel.' Felly, nid yw'n swnio'n gymhleth iawn, ond mae angen inni gyrraedd yno. 

Rwy'n credu bod y cyhoedd—. Mae'n eithaf diddorol, onid yw, oherwydd os ydym yn defnyddio Facebook neu'n defnyddio—wyddoch chi, rydym yn rhannu ein gwybodaeth ym mhobman. Os ydych yn gwneud hynny gyda'r GIG, ac yn amlwg mae'n rhaid ichi ddiogelu pobl ac rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn rydych yn ei awgrymu mewn perthynas â menywod sydd wedi dioddef trais ac ati, mae'n rhaid inni eu diogelu nhw, ond gallai'r enillion o ran data, yr hyn y gallwn ei ddysgu a'r hyn y gallwn ei rannu fod yn rhyfeddol. Felly, mae'n rhaid inni geisio llywio'r system sensitif hon. Ar hyn o bryd, meddygon teulu sy'n berchen ar lawer o'r wybodaeth i bob pwrpas, ac mae gan gleifion berthynas o ymddiriedaeth â meddygon teulu. Ond rydych yn hollol iawn: os oes gan 105,000 o bobl fynediad at hynny, sy'n gweithio yn y GIG, rydych yn mynd i rywle ychydig yn wahanol. Felly, mae'n rhaid inni fod yn sensitif ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn. Rydym yn ceisio ei wneud mewn ffordd sy'n ystyried rhai o'r pryderon rydych chi wedi'u nodi.

15:10
Gwasanaethau Offthalmig Gofal Sylfaenol

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i wasanaethau offthalmig gofal sylfaenol? OQ59919

Mae gwaith yn mynd rhagddo drwy weithredu telerau gwasanaeth contract optometreg newydd a gyhoeddais ym mis Medi y llynedd. Mae'r pwyslais ar ragor o driniaeth a gofal a ddarperir yn y gymuned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd ac mae gwella darpariaeth iechyd y llygaid yn flaenoriaeth.

Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn ynghylch pryderon a glywais gan optegwyr y stryd fawr yng Nghaerffili. Er bod y bwriad yn dda, maent yn pryderu y gallai'r diwygiadau ehangu anghydraddoldebau o ran iechyd y llygaid. Felly, maent yn cefnogi'r cynigion ar gyfer diwygio er mwyn cael buddsoddiad sylweddol yn y sector ac ehangu cwmpas ymarfer, sef yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig, ond maent hefyd yn teimlo y gallai'r system dalebau olygu y bydd gan rai o'r bobl dlotaf yn ein cymuned lai o arian i'w wario ar y sbectol sydd ei hangen arnynt, ac mae hynny'n destun pryder, ac rwy'n credu bod rhai o'r grwpiau lobïo wedi newid eu safbwynt ers i'r ymgynghoriad ddod i ben. Mae peth o safbwynt Optometreg Cymru wedi newid. Felly, a wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod ag Optometreg Cymru i drafod y pryderon parhaus am y diwygiadau, a sut mae eu safbwynt wedi newid yn y cyfnod ers i'r ymgynghoriad agor?

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol, Hefin, fod galw cynyddol am ofal iechyd y llygaid, ac felly, os ydym am gael cynaliadwyedd yn y dyfodol, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol, ac mae symud y pwyslais o ofal eilaidd ac ysbytai i'r gymuned yn sylfaenol ar gyfer hynny. Mae gennym bobl hynod o dalentog yn gweithio yn ein gwasanaethau offthalmoleg, felly, pam na fyddem am eu defnyddio? Felly, y cwestiwn yw: sut rydym yn eu defnyddio mewn ffordd sy'n gweithio i bawb, gan gynnwys yr optometryddion proffesiynol hynny?

Gallaf ddweud wrthych nad ydym wedi gwneud dim o hyn heb weithio gydag Optometreg Cymru. Mae popeth wedi cael ei drafod gyda nhw. Mae gwasanaeth offthalmig cyffredinol newydd GIG Cymru yn adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau ac offer optegol, a bydd hynny'n dod i rym tua diwedd y mis nesaf. Felly, rydym am sicrhau bod y ffioedd clinigol a gwerth y talebau'n ddarostyngedig i drafodaethau teirochrog blynyddol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Ond rwy'n hyderus bod y drafodaeth—. Roedd llais offthalmeg y DU mewn lle gwahanol i lais offthalmeg Cymru ar hyn, a hynny'n rhannol am nad oeddent yn ymddiried yn llwyr yn Llywodraeth y DU, a oedd newydd ddechrau'r sgyrsiau ynglŷn â hyn, i gyfrannu'r math o gyllid rydym ni wedi'i gyfrannu—£30 miliwn yn ychwanegol—i fynd i'r afael â'r agweddau clinigol. Felly, rwy'n credu mai dyna lle mae'r diffyg ymddiriedaeth wedi ymddangos, Hefin, ond rwy'n hyderus fod hyn yn y lle iawn gennym, a bydd hynny'n helpu'r bobl dlotaf yn ein cymuned.

Ap GIG Cymru

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob meddygfa yn gallu cael gafael ar ap GIG Cymru a'u bod yn ei ddefnyddio? OQ59904

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wrthi'n gweithio gyda phob meddygfa ar draws Cymru i'w cynorthwyo i fabwysiadu ap GIG Cymru, gan gyfleu'r manteision i'r feddygfa yn glir. Nod ein cynllun graddol yw cynorthwyo pob meddygfa i gysylltu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae adroddiad RNIB Cymru, 'Gwna Fe i Wneud Synnwyr. Gwybodaeth anhygyrch: mae'n anghydraddoldeb iechyd', yn tynnu sylw at broblem cyfathrebu anhygyrch â chleifion, sy'n rhoi cleifion sydd wedi colli eu golwg mewn perygl. Mae'r adroddiad yn nodi

'Gallai gwelliannau i gyfathrebu â chleifion gyfrannu llawer tuag at leihau apwyntiadau sy’n cael eu gwastraffu a gwneud y gorau o gapasiti’r gwasanaeth iechyd, gan sicrhau’r budd deuol o arbed costau’r GIG a gwella canlyniadau i gleifion.'

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod mwy na hanner y bobl a gafodd eu holi wedi cael gwybodaeth gan eu meddyg teulu neu ysbyty mewn fformat nad oeddent yn gallu ei ddarllen, gan ychwanegu bod hyn yn cael

'canlyniadau ymarferol, iechyd ac emosiynol difrifol.'

Sut rydych chi'n ymateb felly i'r alwad gan RNIB Cymru i fyrddau iechyd lleol gael cymorth a chyllid i uwchraddio eu systemau TG fel y gellir cofnodi a gweithredu gofynion cyfathrebu pob claf mewn meddygfeydd ac ar draws lleoliadau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd?

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n credu bod y cwestiwn yn berthnasol i'r cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Sarah ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod pobl, wrth symud i oes ddigidol, yn parhau i allu cael mynediad at wasanaethau os ydynt yn dod o gymuned sy'n ei chael hi'n anos gwneud hynny. Rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i wasanaethau meddygon teulu, er enghraifft, ar gyfer uwchraddio eu systemau, ac mae'r cytundeb mynediad sydd gennym gyda meddygon teulu yn golygu, rwy'n credu, y byddwch wedi nodi'r gostyngiad sylweddol yn y niferoedd o bobl sy'n cwyno am fynediad at feddygon teulu. Mae hynny'n rhannol am ein bod wedi rhoi'r systemau digidol newydd hyn ar waith, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau nid yn unig eu bod yn gallu cael mynediad atynt, ond yn bwysig o ran presgripsiynau rheolaidd, er enghraifft, y byddwch yn gallu gwneud cryn dipyn o hynny ar ap, neu y bydd yn digwydd yn awtomatig. Felly, un o'r pethau sydd wedi digwydd yr haf hwn er enghraifft, yw ein bod newydd dreialu cyfres o brofion—digwyddodd hyn yn y Rhyl—lle gwnaethom geisio sicrhau, pe byddech yn cael presgripsiwn, y gellid ei anfon yn uniongyrchol at fferyllfa ac y byddech yn cael gwybod am hynny. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn yma i bobl ledled Cymru, gan gynnwys pobl o gymunedau fel y gymuned ddall a fydd yn gallu cael mynediad at bethau a bydd pethau'n digwydd—er enghraifft, gellid trefnu presgripsiynau rheolaidd yn awtomatig.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Galwaf ar Altaf Hussain i ofyn y cwestiwn.

Chwarae Teg

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Chwarae Teg yn cau? TQ846

Rydym yn siomedig o glywed am gau Chwarae Teg. Hoffwn dalu teyrnged i'w gwaith dros nifer o flynyddoedd. Mae'r elusen wedi cyffwrdd â bywydau menywod ledled Cymru ac wedi gwneud gwahaniaeth iddynt, ac mae wedi rhoi mewnwelediad i Lywodraeth Cymru er mwyn gallu cyflawni newid ar y cyd.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'n ddiwrnod trist i gydraddoldeb yng Nghymru. Mae Chwarae Teg wedi bod yn brwydro dros gydraddoldeb rhywiol ers 1992 ac mae ganddi hanes cryf o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae eu hadroddiadau blynyddol, 'Cyflwr y Genedl', yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i'r rhai ohonom sy'n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Felly, mae'n destun pryder a gofid mawr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio achub yr elusen. Fel y dywedodd Sharon Williams yn ei datganiad y bore yma, dyma

'newyddion trist iawn i’n staff, ein cyllidwyr a’n cleientiaid–ond yn fwy na dim i fenywod Cymru y buom mor falch o’u gwasanaethu dros gynifer o flynyddoedd.'

Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio i'r elusen, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r gweithlu sy'n wynebu diswyddiadau. Ychwanegodd Ms Williams fod y tîm wedi sicrhau nifer o gytundebau newydd yn ddiweddar, a ddangosai fod angen eu gwaith cymaint ag erioed. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen eu gwaith cymaint ag erioed? Rwy'n cytuno. Felly, Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod asesiad annibynnol o waith cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru yn parhau, ac a wnewch chi sicrhau bod adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' yn parhau? Diolch yn fawr iawn.

15:20

A gaf fi ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn? Rydych yn hollol gywir, mae'n ofid. Ers 30 mlynedd, mae Chwarae Teg wedi darparu mewnwelediad, cymorth a chyngor defnyddiol i'r Llywodraeth ynglŷn â materion cydraddoldeb rhywiol, ac mae eu hymadawiad â'r agenda yn destun gofid mawr.

Rwy'n credu, yn gyntaf oll, fod ein meddyliau gyda'r aelodau o staff sydd bellach yn wynebu diswyddiadau, ac rydym eisoes yn gweithio gyda Cymru'n Gweithio i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn ogystal â hyn, mae swyddogion a minnau'n gweithio gyda Chwarae Teg a phartneriaid eraill i ddod o hyd i'r ffordd orau o barhau â'r gwaith gwerthfawr y mae'r sefydliad wedi bod yn ei wneud, gan gydnabod yn llwyr y rôl sydd i'w chwarae a'r angen i barhau â pheth o'r gwaith a'r cymorth hwnnw ledled Cymru.

Y diwrnod ar ôl inni drafod cynnig hirddisgwyliedig i sicrhau bod y Senedd yn fwy cynrychioliadol o gymdeithas Cymru, dysgwn fod yr elusen cydraddoldeb rhywiol amlwg hon, Chwarae Teg, yn dod i ben. Mae'n peri pryder mawr, fel y dywedoch chi, i'r staff yn enwedig, ond hefyd oherwydd yr ymchwil, y polisi a'r gwaith ymarferol amhrisiadwy a phwysig y mae Chwarae Teg wedi'i wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, er enghraifft adroddiadau sy'n cyrraedd y penawdau fel 'Cyflwr y Genedl', y rhaglenni fel LeadHerShip—rwy'n gwybod bod llawer ohonom wedi cymryd rhan yn honno—er mwyn annog menywod ifanc i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, a'r rhaglen Nid dim ond ar gyfer bechgyn, sy'n dangos cyfleoedd i fenywod ifanc mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae angen gwaith brys gan Lywodraeth Cymru i asesu'r bwlch a gaiff ei adael ar ôl o ran awdurdod ar yr arferion gorau wrth wella cydraddoldeb yng Nghymru. Felly, a fydd y gwaith hwnnw'n cael ei wneud, yn ogystal ag unrhyw effaith hefyd ar fenywod sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen ar hyn o bryd, yn cynnwys y rheini sy'n ymgymryd â chymwysterau?

Ddirprwy Weinidog, a fyddai benthyciad pontio wedi cael ei ystyried, gan fod nifer o brosiectau a ariennir gan y gronfa ffyniant cyffredin dan fygythiad nawr? Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd-eang mewn cydraddoldeb rhywiol yn 2019. Mae angen ichi amlinellu'r camau y byddwch yn eu cymryd nawr i liniaru effaith y newyddion hwn a sut y caiff hyn ei gyflawni heb waith hanfodol ac arloesol Chwarae Teg o ran ymchwil, datblygu polisi ac ymgyrchu. Hoffwn wybod hefyd pa asesiad a wnaed o'r effaith ehangach ar y trydydd sector yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dibynnu ar sefydliadau fel Chwarae Teg i gyflawni eu gwaith polisi. Felly, beth fydd ar waith i sicrhau bod sefydliadau eraill tebyg yn cael eu cefnogi wrth iddynt bontio i ffrydiau cyllido ôl-Brexit? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn? Rwy'n gwybod bod hwn yn faes rydych chi'n teimlo'n angerddol amdano hefyd. Rydych chi, fel minnau a sawl un arall yn y lle hwn, wedi cymryd rhan yn y rhaglen LeadHerShip a ddarperir gan Chwarae Teg, ac rydych yn rhestru'r holl gymorth a phrosiectau eraill y mae'r sefydliad wedi'u rhoi ar waith a'u treialu dros y blynyddoedd. Felly, rwy'n ailadrodd eto ei bod yn sefyllfa anffodus iawn. Yn anochel, bydd amrywiaeth o ffactorau ynghlwm wrth orfod gwneud penderfyniad mor bwysig, ac efallai felly na fyddai hyd yn oed pecyn o gymorth tymor byr wedi mynd yn ddigon pell i achub cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad.

Ar wahân i hynny, ar y darlun ehangach o ran y sector gwirfoddol, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a sefydliadau eraill ynghylch yr heriau sy'n wynebu'r sector gwirfoddol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac effaith cyllid ôl-UE hefyd a'r ffaith nad yw Cymru'n cael ei chyfran deg bellach ar ôl gadael yr UE, a'r heriau sy'n eu hwynebu oherwydd y costau cynyddol i bob sefydliad, gan gydnabod y rôl y mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae, fel y dywedoch chi, yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a'n cymunedau ledled Cymru.

Mewn perthynas â Chwarae Teg yn benodol, rydym yn gweithio'n agos iawn, yn amlwg, gyda Cymru'n Gweithio, i gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ond gyda phartneriaid eraill hefyd a sefydliadau eraill i asesu'r ffordd orau o barhau â'r gwaith hwnnw, fel nad yw'n gadael bwlch mewn cymorth yng Nghymru, a sut y gallwn sicrhau hefyd efallai fod rhywfaint o'r gwaith roeddent yn bwriadu ei wneud yn gallu cael ei wneud mewn ffordd wahanol. Felly, rwy'n rhoi fy sicrwydd i'r Aelod a'r Senedd hon ei fod yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae hwn yn gyhoeddiad diweddar iawn ac yn sefyllfa sy'n esblygu, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r manylion diweddaraf i'r Senedd maes o law.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I ategu rhai o'r teimladau a fynegwyd y prynhawn yma, hoffwn ddiolch i Altaf Hussain am godi'r mater. Gwyddom fod Chwarae Teg wir yn rhan o wead cydraddoldeb rhywiol yma yng Nghymru. Mae eu hymgyrchoedd a'u strategaethau, yn enwedig wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, yn hysbys i bob un ohonom, ac mewn gwirionedd, mae llawer ohonom wedi cael tystiolaeth gan eu staff mewn perthynas â'u hymchwil arbenigol a'u profiadau uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth. Felly, mae'n destun pryder mawr clywed eu bod yn dod i ben. Rydym yn gwybod bod pwysau ariannol sylweddol ar y Llywodraeth, ond yng Nghymru, mae'r trydydd sector yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl, ac mewn gwirionedd, mae buddsoddi yn y trydydd sector yn darparu llawer iawn mwy o arian nag y byddwch yn ei roi i mewn. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pa effaith y credwch chi—neu roi syniad i ni—pa effaith y bydd colli Chwarae Teg yn ei chael ar ddatblygu strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y Llywodraeth, yn ogystal â'i chynllun gweithredu cydraddoldeb rhywiol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane Dodds, a diolch hefyd am gydnabod y rôl y mae'r sefydliad wedi'i chwarae ers 30 mlynedd, rwy'n credu, yn y tirlun Cymreig, nid yn unig yn cefnogi menywod mewn sefydliadau ac ar draws cymunedau, gan gefnogi a helpu Aelodau'r lle hwn hefyd, ond hefyd yn cynghori a gwthio Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac i osod a llunio'r agenda ar gyfer Cymru sy'n fwy cyfartal o ran rhywedd. 

Os caf ailadrodd y pwyntiau a wneuthum i Sioned Williams, rwy'n rhoi'r sicrwydd ein bod yn gweithio'n agos iawn i sicrhau nad ydym yn gadael bwlch, ein bod yn gallu gweld ffyrdd i rai o'r gwasanaethau cymorth hanfodol hynny allu parhau, ond hefyd gwaith y rhaglenni mawr y mae Chwarae Teg wedi bod yn eu gwneud, a pha opsiynau sydd yna iddynt gael eu cefnogi yn y dyfodol efallai, ond gan gyfeirio ein prif ffocws a'n meddyliau unwaith eto at y staff yr effeithir arnynt, a phrif weithredwr Chwarae Teg, nad yw wedi bod yn y swydd ers cymaint â hynny o amser ac sydd wedi etifeddu'r heriau hyn, a cheisio gwneud y gorau sy'n bosibl dros y gweithlu, y sefydliad a'r bobl, a'r lleoedd a'r cymunedau y maent wedi'u cefnogi mor llwyddiannus dros y blynyddoedd hefyd.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan John Griffiths. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon, mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dathlu 32 mlynedd o Wythnos Addysg Oedolion, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgyrch flynyddol yn cynnwys nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, ac yn adeiladu ar weledigaeth i wneud Cymru'n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Mae partneriaid ar draws sawl sector wedi dod at ei gilydd i gyfrannu at raglen o weithgareddau. Mae dros 300 o gyrsiau, digwyddiadau, sesiynau blasu, gweithgareddau allgymorth ac adnoddau ar gael am ddim ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Bob blwyddyn, mae gwobrau dysgu oedolion Ysbrydoli! yn rhoi cyfle i glywed gan amrywiaeth o unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes. Eleni, clywsom gan Elinor Ridout, sydd wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth i ddod yn nyrs bediatrig er cof am ei mab annwyl, Will, a chan Walid Musa Albuqai, a ffodd rhag y rhyfel yn Syria gyda'i deulu ac astudio Saesneg fel ail iaith, sydd wedi'i alluogi i ddod o hyd i yrfa fel gyrrwr bws. Clywsom gan Steven Wright, sydd wedi symud i Gymru o Awstralia. Roedd yn amheus ynglŷn â'r Gymraeg i ddechrau, ond drwy ei gariad at ddiwylliant, dysgodd Gymraeg ac mae wedi torri tir newydd yn annog eraill i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd. Fel y dywedodd Raymond Williams, 

'Mae bod yn wirioneddol radical yn golygu gwneud gobaith yn bosibl, yn hytrach nag anobaith yn sicr.'

Roedd yna lawer mwy o enillwyr. Rwy'n eu llongyfarch i gyd, ac yn annog Aelodau eraill i ddarllen eu straeon.

Yr wythnos diwethaf, dathlodd Kaleidoscope 20 mlynedd o weithredu yng Nghymru. Eu hethos yw cynnig triniaethau effeithiol ac arloesol ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch iawn o gael sefydliad mor dosturiol ac arloesol wedi'i leoli yn fy etholaeth. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr yng Nghasnewydd.

Wedi'i sefydlu yn wreiddiol ym 1968 yn Kingston upon Thames i gynnig lle diogel i bobl ifanc, mae gwaith yr elusen wedi esblygu dros y blynyddoedd i gefnogi miloedd o bobl â phroblemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl mewn canolfannau allweddol ledled y wlad. Yn 2003, cysylltodd Cyngor Dinas Casnewydd â Kaleidoscope, a dechreuasant eu gwasanaeth yn y gofod yng nghefn eglwys St Paul ar Heol Commercial, gyda chyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 100 o gleientiaid. O fewn blwyddyn, cynyddodd y nifer i 500, ac ers hynny mae Kaleidoscope wedi cael eu dewis i gyflawni eu dull arloesol ar draws pob rhan o Gymru. Yng ngeiriau Martin Blakebrough, eu prif swyddog gweithredol ysbrydoledig, rhaid i gymdeithas ganolbwyntio ar fywyd, fod bywyd yn werth ei achub, ac y gall pobl sy'n defnyddio cyffuriau gael bywyd cyflawn a hapus sy'n werth ei fyw:

'Nid yw pobl yn dewis dod yn ddefnyddwyr cyffuriau problemus. Mae angen inni fod yn fwy arloesol. Rydym yn ymgyrchu dros hawl pobl sy'n cymryd cyffuriau i wella, cael mynediad at driniaeth a bod yn ddiogel'.

Cenhadaeth Kaleidoscope yw diogelu pobl. Maent yn gadarn eu barn mai'r llwybr at adferiad yw dangos cariad a gofal i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd caru eu hunain. Maent wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, ac maent yn trawsnewid triniaethau cyffuriau yn barhaus yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn parhau i fod ar flaen y gad yn y gwaith hwn, felly, ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf.

15:30

Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Drwy gydol y mis, mae amryw o sefydliadau'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r pum canser gynaecolegol—canser y groth, yr ofari, ceg y groth, y fwlfa a’r wain—a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael. Rwyf wedi dod yn un o hyrwyddwyr Target Ovarian Cancer, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd dinistriol hwn, gan fod dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru, ac yn anffodus, dyma'r canser gynaecolegol sy'n fwyaf tebygol o arwain at farwolaeth, ond mae’n parhau i gael ei esgeuluso. Mae symptomau canser yr ofari yn debyg i lawer o afiechydon cyffredin eraill, sy'n golygu eu bod yn aml yn cael eu methu neu eu priodoli i achosion eraill, ac o ganlyniad, mae'n bosibl y gwneir diagnosis yn rhy hwyr o'r canser ac y bydd yn anos i'w drin. Ceir pedwar prif symptom: bol chwyddedig parhaus; teimlo'n llawn yn sydyn a/neu golli chwant bwyd; poen pelfig neu boen yn yr abdomen; a symptomau wrinol. Byddant yn symptomau mynych, parhaus a newydd, ac o bryd i'w gilydd, gall fod rhai eraill, fel newidiadau mewn arferion mynd i'r tŷ bach, blinder eithafol, a cholli pwysau heb esboniad.

Rydym wedi gweld gwelliannau sydd i’w croesawu ym maes diagnosis a thriniaeth canser yr ofari yng Nghymru, ond mae elusennau fel Target Ovarian Cancer yn dweud bod llawer mwy i’w wneud o hyd, gan ei bod yn annerbyniol fod ymwybyddiaeth o’r symptomau hyn mor isel o hyd, gyda dim ond 27 y cant o fenywod yn gallu nodi bol chwyddedig fel symptom, ac nad yw menywod yn teimlo eu bod yn cael digon o amser i drafod eu diagnosis torcalonnus gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu hyn. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth annog menywod i nodi'r symptomau hyn a cheisio cyngor, fel y gallwn gynyddu cyfraddau diagnosis cynnar, ac achub bywydau.

5. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

Eitem 5 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig ar ran Comisiwn y Senedd.

Cynnig NDM8354 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser i mi gyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2022-23 gerbron y Senedd heddiw. Hoffwn i ddiolch, wrth wneud hynny, i fy rhagflaenydd fel comisiynydd, Rhun ap Iorwerth—fy olynydd fel arweinydd Plaid—am ei waith yntau dros gyfnod yr adroddiad hwn, a holl staff y Comisiwn sydd wedi bod wrthi'n cyflawni'r gwaith, sydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad. Er ei fod e ddim yn fuddiant yn yr ystyr cul, swyddogol, hoffwn i hefyd jest dynodi bod fy mrawd yn gweithio i'r Comisiwn, yn diwtor iaith, ac wedi cael y pleser o addysgu'r Gymraeg i nifer ohonoch chi.

Da iawn. Bydd e'n falch o glywed hynny.

Fe fydd Aelodau o'r Senedd yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i Gomisiwn y Senedd, yn unol â Deddf Ieithoedd Swyddogol 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys unrhyw gwynion neu achosion o dorri'r cynllun. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol wedi canolbwyntio ar roi'r cynllun yma ar gyfer y chweched Senedd ar waith, gan sicrhau bod Aelodau, eu staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd yn ymwybodol o unrhyw newidiadau sy’n berthnasol iddyn nhw.

Fe fydd Aelodau bellach yn gyfarwydd â’r wybodaeth ystadegol a gyhoeddir fel rhan o’r adroddiad blynyddol. Mae’r wybodaeth yn hollbwysig i’r Comisiwn, ac i ni fel Aelodau, a'r cyhoedd, fedru monitro sawl maes o fewn cwmpas y cynllun. Eleni, mae’r adroddiad yn cynnwys ffigurau’r flwyddyn ddiwethaf hefyd er mwyn cynnig cyd-destun a chymhariaeth. Mae’r wybodaeth yn cynnwys manylion y swyddi a hysbysebwyd, boed hynny â gofyniad sgiliau Cymraeg cwrteisi, neu lefelau uwch, sy’n ein galluogi ni i gynllunio ein darpariaeth gwasanaethau dwyieithog, gan adnabod bylchau neu anghenion hyfforddiant. Rydym hefyd yn cynnwys manylion y busnes a osodwyd yn y naill iaith neu’r llall, neu yn ddwyieithog, a’r dogfennau a osodwyd yn unol â’r gofyniad i wneud hynny’n ddwyieithog. Ar y pwynt hynny, mae’n dda gweld lleihad cyson yn nifer y dogfennau a osodwyd yn uniaith Saesneg, sydd, wrth gwrs, yn golygu ei fod yn haws i Aelodau baratoi ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion yn eu dewis iaith.

Wrth edrych ar yr wybodaeth ystadegol yma, mae un maes sy’n destun pryder i mi fel Comisiynydd, sef canran y cyfraniadau cyfrwng Cymraeg mewn trafodion pwyllgorau. Roedd yn dda gweld ein bod ni wedi cynnal canran o 30 y cant o gyfraniadau mewn Cyfarfodydd Llawn. Fodd bynnag, roedd canran trafodion y pwyllgorau yn Gymraeg wedi disgyn i 8 y cant o lefel y llynedd, sef 12 y cant, oedd eisoes yn isel iawn, wrth gwrs. Fe fyddwn felly yn parhau i fonitro a chwilio am ffyrdd, fel bod Aelodau o’r Senedd, ac eraill sy’n cymryd rhan mewn trafodion pwyllgor, yn hyderus ac yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith. Byddwn yn parhau gyda’r gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau, er enghraifft dogfennau briffio, geirfaoedd a chefnogaeth y tiwtoriaid i ymarfer areithiau neu gyfraniadau mewn pwyllgor, ac yn chwilio am ffyrdd eraill o gael gwared ar unrhyw rwystrau o ran defnyddio dewis iaith, ac yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, yn arbennig, defnyddio'r Gymraeg. I’r perwyl hwn, byddwn hefyd yn ailgyflwyno’r tabl sy’n nodi canrannau’r busnes a gyflwynwyd dros y flwyddyn i’r adroddiad blynyddol o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rŷn ni wedi cynnwys e yn yr adroddiadau blaenorol, felly, er mwyn cyflawnder yr ystadegau, byddwn ni yn gwneud eto yn y dyfodol. Ac os oes unrhyw Aelod eisiau gweld y data yma ar gyfer cyfnod yr adroddiad hwn, byddaf yn ei osod yn y llyfrgell er gwybodaeth.

Rwy'n credu y byddai’n deg dweud mai uchafbwynt yr adroddiad eleni oedd niferoedd yr Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn sy’n dewis gwneud defnydd o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a gloywi iaith y Senedd, yn amlwg mae Janet yn eu plith. Mae’n dda gweld ein bod bellach wedi dychwelyd i’r niferoedd sy’n dysgu a oedd gennym cyn i’r pandemig ein taro. Mae’r tîm wedi gweithio i ddeall anghenion a dymuniadau’r dysgwyr mewn byd newydd o weithio hybrid, ac wedi datblygu amserlen a darpariaeth sy’n ymateb iddynt. Ond nid da lle gellir gwell, ac felly fe fydd y tîm yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth, ac i chwilio am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i'r holl ddysgwyr, a hynny mewn ffordd sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Wrth gwrs, fe fyddwn yn parhau i ddathlu llwyddiannau nodedig, megis Aelod yn gwneud eu cyfraniad am y tro cyntaf yn Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn, neu lwyddiant mewn arholiadau y cyd-bwyllgor addysg. Ac roedd hi'n braf gweld y Cwnsler Cyffredinol yn defnyddio'r Gymraeg yn y datganiad hanesyddol oedd ganddo ddoe. 

I gloi, felly, hoffwn edrych tua’r dyfodol a’r flwyddyn sydd i ddod. Byddwn yn edrych eto ar yr elfennau yn ymwneud â sgiliau iaith o fewn y broses recriwtio, gan gynnwys yr asesiadau ar gyfer y lefelau sgiliau ar y matrics sgiliau iaith. Yn ogystal, ein gobaith yw gallu cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer staff Comisiwn y Senedd, er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o adolygu cynlluniau iaith y gwasanaethau unigol sy’n bwydo’r gwaith cynllunio ieithyddol parhaus. Yn bwysicach oll, byddwn yn parhau i feithrin ethos a diwylliant sy’n dathlu amrywiaeth cymuned y Senedd, gan annog pawb i roi cynnig ar ddefnyddio sgiliau Cymraeg, waeth beth yw lefel eu sgiliau, a hynny mewn awyrgylch gefnogol a phositif. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.  

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am hyn heddiw. Hoffwn ddiolch i chi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Comisiynydd ac eraill wrth symud ymlaen gyda chynllun ieithoedd swyddogol y Comisiwn. Mae llwyddiant y cynllun hwn yn bwysig iawn ar gyfer cyrraedd nod Cymraeg 2050 a diogelu'r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n hapus i fod yn rhan o Senedd sy'n dangos sut y gall gweithle dwyieithog weithio'n dda, gan fod yn agored ac yn gefnogol i'r Gymraeg a'r Saesneg. 

Roedd yn ddiddorol darllen yn yr adroddiad sut yr oedden nhw’n delio â'r heriau o redeg Senedd hybrid. Cefais fy synnu hefyd o glywed bod rhai o staff Comisiwn y Senedd wedi gweithio gyda Microsoft i roi prawf ar gyfieithu ar Teams. Rwy'n credu'n gryf y dylen ni barhau i ddysgu bob amser, waeth beth yw ein hoedran neu ein profiad. Mae gweithio gyda Rannóg an Aistriúcháin, sef gwasanaeth cyfieithu Senedd Iwerddon, wedi bod yn werthfawr. Mae nid yn unig yn helpu ein cymdogion Gwyddelig ond hefyd yn rhoi profiadau da i ni ddysgu ohonyn nhw.

Rwyf am ailadrodd beth ddywedodd Adam Price a siarad yn gyflym am y rhifau yn yr adroddiad blynyddol. Mae'n bwysig nodi bod canran y dogfennau a gafodd eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg wedi gostwng o 7 y cant yn 2021-22 i 5 y cant yn 2022-2023. Gostyngodd trafodion Cymraeg mewn pwyllgorau hefyd o 12 y cant i 8 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n ostyngiad mawr. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod llai o dystion yn siarad yn Gymraeg. Felly, mae'n bwysig iawn na ddylai siarad Cymraeg fod yn broblem wrth roi tystiolaeth, gan ei fod yn effeithio ar y mathau o dystiolaeth yr ydym yn ei chael. Yn anffodus, nid yw canran y sesiynau llawn a gynhaliwyd yn y Gymraeg wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn siomedig. Efallai fy mod i wedi ei fethu, ond wrth gymharu adroddiad eleni â'r llynedd, mae'n edrych fel eu bod wedi hepgor nifer y cwestiynau ysgrifenedig yn Gymraeg. Aeth i lawr o 10 y cant i 4 y cant rhwng 2020 a 2022. Byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Comisiynydd ddweud y ffigur wrthym am y cyfnod adrodd diwethaf, fel y gallwn gadw golwg ar gynnydd.

A hefyd, uchafbwynt—rwy'n falch o weld cynnydd o 82 y cant yn nifer y dysgwyr Cymraeg sy'n defnyddio cynllun dysgwyr Cymraeg y Comisiwn. Gyda’r pwysau ar y gyllideb, hoffwn i wybod sut maen nhw'n sicrhau bod y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yn parhau i gael ei gwarchod. Hefyd, a fu unrhyw newidiadau yn y rhifau ariannol ers cyhoeddi'r adroddiad hwn? Hoffwn wybod a oes gan y Comisiwn nodau neu dargedau penodol i fesur pa mor dda y mae'r cynllun hwn yn gwneud, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

I gloi, rwyf am ddweud eto fy mod i a fy mhlaid yn cefnogi datblygiad y Gymraeg ym mhopeth a wnawn yn y Senedd, yn union fel y dywedais yn y ddadl ar yr adroddiad hwn y llynedd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i'r Comisiynydd am y diweddariad a'r adroddiad hefyd. Yn amlwg, fel dŷch chi wedi amlinellu, mae yna nifer fawr o bethau i'w croesawu fan hyn, yn enwedig o ran y dysgwyr yn cynyddu ac ati. Ond yn debyg iawn i Sam Kurtz, dwi'n meddwl bod angen inni ddeall rhai o'r ffigurau o ran pam dydy pobl ddim yn dewis defnyddio'r Gymraeg, oherwydd dewis ydy o. Mi ydym ni'n wlad ddwyieithog. Mi fyddai’n rhagrithiol i fi fod yn dweud y dylai pawb sy'n gallu'r Gymraeg wneud pob cyfraniad yn y Gymraeg, oherwydd, yn sicr, dydw i ddim yn gwneud hynny. Ond fy iaith gyntaf i ydy'r Gymraeg, a dwi yn ymfalchïo fy mod i yn fan hyn, fel Aelod o Senedd Cymru, yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn fy ngwaith, rhywbeth sydd ddim yn bosib i nifer o bobl, er ein bod ni'n trio eu cefnogi nhw. Felly, mae o'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos yr esiampl yma.

Un o'r pethau roeddwn i eisiau ei ofyn ydy—. Rydych chi'n sôn am y disgyn sydd wedi bod o ran cyfrannu mewn pwyllgorau; mi fyddai fo'n ddifyr gwybod beth ydy'r canran o ran faint y mae Aelodau'n cyfrannu o ran hynny, ac a oes yna ostyngiad wedi bod o ran hynny, ac efallai gwneud gwaith efo Aelodau i ddeall pam, oherwydd dwi wedi gweld enghreifftiau gwych o bobl yn defnyddio'r Gymraeg, efallai am y tro cyntaf mewn pwyllgor. Er enghraifft, mae Hefin David yn aml wedi ei defnyddio ar y pwyllgor diwylliant ac ati, ac mae o wedi bod yn wych gweld hynny, ei fod o'n teimlo'n hyderus i gael cyfle ac ati, a'n bod ni'n gallu cefnogi ein gilydd mewn ffordd.

Felly, dwi'n meddwl y byddai fo’n dda, nid dim ond i fonitro, ond efallai gweithio gyda phwyllgorau a deall, oherwydd, ar un pwyllgor dwi arno fo, dwi'n meddwl mai dim ond fi sydd yn defnyddio’r Gymraeg ac mae rhywun yn llithro i'r Saesneg wedyn, yn enwedig wrth groesholi ac ati. Felly, dwi'n meddwl bod cael adroddiadau o’r math hefyd yn hwb inni gofio defnyddio’r hyn sydd ar gael inni a chymryd mantais o hynny.

A gaf i ofyn hefyd, jest o ran yr ochr gyllidol—? Dwi yn meddwl bod pwynt Sam Kurtz yn bwysig; rydyn ni'n gwybod am yr heriau fydd gan y Comisiwn o ran ei gyllideb ac rydyn ni hefyd yn gweld, o ran hyn, llwyddiant y buddsoddiad sydd yna o fewn staff cymorth ac ati, y pwysigrwydd hefyd o ran gloywi iaith, oherwydd mae cynifer o bobl, rydyn ni'n gwybod, o fewn y staff cymorth ac ati, staff y Comisiwn, efallai heb ddefnyddio eu Cymraeg ers gadael yr ysgol. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y sgiliau hynny.

Felly, tra'n edrych ymlaen at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sut y gallwn ni, fel Senedd, chwarae ein rhan yn hynny fel gweithle ac esiampl hefyd, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig nad ydyn ni ddim yn colli golwg o’r ffigurau sydd yn fan hyn a'n bod ni'n ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n deall pam mae rhai yn dewis peidio, a’n bod ni'n cefnogi a sicrhau bod y gyllideb yn parhau fel bod yr iaith Gymraeg ar gael ac yn perthyn i bawb.

15:45

Dwi'n ddiolchgar i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu a dwi'n croesawu'r sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed. Ac os caf i ofyn am rywfaint o ras ac amynedd oherwydd dwi newydd gael fy mhenodi i'r swydd. Ac felly, fel sydd yn draddodiadol i'w ddweud ar y pwynt yma, mi fyddaf i'n ysgrifennu atoch chi gydag ateb llawn. [Chwerthin.]

Ond fe geisiaf ymateb ryw ychydig i rai o’r pwyntiau pwysig a oedd wedi cael eu codi. Dwi'n credu yr oedd Sam Kurtz yn hollol iawn i ddathlu’r arloesedd sydd yn amlwg ymhlyg yn yr adroddiad ac yng ngwaith y tîm ieithoedd swyddogol, sef yr ymgysylltu a’r cydweithio gyda Microsoft yn newid meddalwedd sydd yn cael ei ddefnyddio'n fyd-eang ar sail ein dwyieithrwydd ni yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi a dwi'n deall bod y drafodaeth a'r cydweithio yna gyda Microsoft yn parhau.

O ran y targedau, sut rŷn ni'n meincnodi, os taw dyna'r—. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi bathu'r term yna. Mae yna dargedau yn y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Maen nhw'n dargedau i’w cyrraedd erbyn diwedd y Senedd, ond, wrth gwrs, maen nhw yn cael eu cadw o dan wyliadwriaeth cyson ond mi fyddwn ni'n adrodd yn eu herbyn maes o law.

O ran rhai o'r ystadegau sydd ddim yn yr adroddiad llawn yma—mi fyddan nhw'n cael eu gosod yn y Llyfrgell—o ran cwestiynau llafar, yn ôl y tabl sydd gen i ger fy mron i fan hyn, mae cynnydd, rhywfaint, wedi bod o 14 y cant i 15 y cant o ran cwestiynau llafar yn y Gymraeg. O ran cwestiynau ysgrifenedig, mae wedi mynd mymryn i'r cyfeiriad arall, o 4 y cant yn unig i 3 y cant sydd yn cael eu gosod yn Gymraeg.

O ran cwestiwn Heledd Fychan, fe wnawn ni edrych ar a ydyn ni'n gallu gwneud ychydig bach mwy o waith ar y cwestiwn yma o ddefnydd yn ystod y pwyllgorau, achos rŷch chi'n hollol iawn: ffactorau gwahanol fyddai'n esbonio'r rhwystrau i Aelodau, efallai, i'r rhai sydd yn rhoi tystiolaeth. Felly, fe wnawn ni ychydig bach o waith er mwyn deall yn union beth yw gwreiddiau neu yriannau’r ffenomenon hwn, er mwyn cynyddu'r defnydd ar y ddwy ochr, wrth gwrs.

Ac, ie, jest yn fras, tra ein bod ni'n trafod ystadegau, er bod y sefyllfa o ran dogfennau sy'n cael eu cynhyrchu at y pwyllgorau gan y Senedd, fel petai, yn eithaf iach, mae'r ffigurau o ran y dogfennau a osodwyd yn ddwyieithog, wrth gwrs, yn gyffredinol yn peri mwy o bryder. Mae llawer iawn o'r rheini tu fas i reolaeth uniongyrchol y Senedd, oherwydd maen nhw'n dod gan y Llywodraeth. Ond mae'n bwysig ein bod ni, fel Senedd, yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, oherwydd, wedi hynny, wrth gwrs, mae e'n effeithio ar ein gallu ni i fod yn Senedd ddwyieithog os nad ydyn ni yn cael y dogfennau, hynny yw, yr holl ddogfennau, gan gynnwys y nodiadau esboniadol—. Os nad ydyn ni'n cael rheini mewn da bryd yn ddwyieithog, mae hynny hefyd yn amharu ar ein gallu ni i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Felly, mae hynny yn rhywbeth inni dal ymboeni ynglŷn ag e, a dweud y gwir. Dwi ddim yn siŵr a ydw i wedi cyfro popeth, Dirprwy Lywydd, ond dwi'n gweld bod y golau'n goch. Ond os nad ydw i wedi medru ag ymateb i'r holl gwestiynau, fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelodau dan sylw. 

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Ynni gwyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 6 y prynhawn yma yw Dadl Plaid Cymru, ynni gwyrdd. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8355 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod canlyniad yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn golygu na fydd ffermydd gwynt newydd ar y môr yn cael eu datblygu yng Nghymru hyd y gellir rhagweld.

2. Yn nodi bod adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gynnydd agenda datgarboneiddio Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni ei nodau Sero Net erbyn 2050.

3. Yn nodi bod adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Paris yn pwysleisio'r angen i allyriadau tanwydd ffosil gyrraedd uchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf er mwyn sicrhau bod cynhesu byd-eang wedi'i gyfyngu i 1.5 gradd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.

4. Yn credu bod gan Gymru y potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

5. Yn credu bod y potensial hwn yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd o ganlyniad i ddulliau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol werdd newydd i Gymru wireddu ei photensial economaidd mewn ynni gwyrdd a sicrhau bod cynnydd tuag at ei nodau Sero Net yn cael ei gyflymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud i gychwyn, pan wnaethom gyflwyno'r cynnig ar gyfer y ddadl hon, nid oeddem wedi sylweddoli pa mor gythruddol o amserol y byddai. Mae penderfyniad Sunak yn Llundain i gefnu—[Torri ar draws.]—ar bolisïau hinsawdd allweddol yn destun cywilydd. Ydy, i Brif Weinidog y DU, mae’n destun cywilydd a chryn bryder. Rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn myfyrio ar hyn yn eu hareithiau y prynhawn yma. Ni allwn droi ein cefnau ar ein planed, neu bydd pob un ohonom yn marw.

Ond i ddychwelyd at yr ysgogiad gwreiddiol sy'n sail i’r ddadl hon, mae'n ymwneud â photensial. Yr hyn sy'n cynddeiriogi rhywun ynglŷn â photensial yw ei fod bob amser yn y dyfodol, bob amser yn cael ei gadw hyd braich. Ymddengys bod tynged Cymru ers cymaint o flynyddoedd wedi'i mynegi yn y termau amwys hyn. Rydym yn sôn am y potensial aruthrol ar gyfer ynni gwynt ac ynni’r llanw, i Gymru ddod yn bwerdy’r dyfodol, ond mae'r allweddi i ddatgloi’r drws hwnnw wedi'u cadw ar gadwyn mewn ystafell gaeedig gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Dyna sy’n cynddeiriogi rhywun: nid yw ein potensial byth yn cael ei wireddu, o dan y system hon o leiaf. Ac felly, yn ystod yr wythnosau diwethaf—yr oriau diwethaf, hyd yn oed—rydym wedi gweld yr un hen stori'n cael ei hadrodd unwaith eto. Roedd y paramedrau a osodwyd gan San Steffan ar gyfer yr arwerthiant ynni gwynt ar y môr mor afrealistig, mor gyfyngedig, fel nad oes gobaith mwyach yn y dyfodol y gellir ei ragweld o ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr newydd yng Nghymru, dim modd o harneisio ein potensial gwych. Ac mae'r siom hon wedi dod ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi cael ei rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni ein nodau sero net erbyn 2050. Bellach, rydym wedi cael ein chwythu hyd yn oed ymhellach oddi ar y trywydd hwnnw.

Ni fu erioed mwy o frys i ni yng Nghymru ddatblygu strategaeth ddiwydiannol newydd, strategaeth ddiwydiannol werdd. Mae’r swyddi a gollir mewn modd mor dorcalonnus yn Tata yn ein hatgoffa o ganlyniadau real peidio â chael strategaeth o’r fath. Ac mae penderfyniad ysgytwol, trychinebus Sunak, Prif Weinidog Llywodraeth San Steffan, i gefnu ar gymaint o bolisïau yn gwneud hyn yn bwysicach fyth hefyd. Nid oes unrhyw un o’r heriau sy’n ein hwynebu yn rhai pell neu hyd braich, ac ni ddylai ein dull o fynd i'r afael â nhw fod felly ychwaith.

Oherwydd mae gan Gymru botensial—y gair hwnnw eto—potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy. Felly, gadewch inni roi'r gallu i ni ein hunain wneud hynny. Oherwydd ar hyn o bryd, nid yw dull polisi San Steffan na’r Llywodraeth yma yn gwneud y gorau o’r capasiti cudd heb ei wireddu a allai fod gennym, y pŵer y gallem ei gynhyrchu. Mae ein harfordir yn cael ei ddathlu fel cyrchfan i dwristiaid, a hynny'n briodol, ond mae angen i'w harddwch fod yn fwy na harddwch golygfaol yn unig. Gellid harneisio'r môr Celtaidd i bweru'r dyfodol. Gallem ddysgu o'r hyn y mae Iwerddon yn ei wneud dros y dŵr. Maent â'u hwynebau tua'r dyfodol, nid y gorffennol.

Achos mae dyletswydd gennym i'n dyfodol, i weithwyr yfory a gweithwyr heddiw. Rhaid cael strategaeth werdd i greu swyddi gwyrdd, i ddangos uchelgais. Mae gennym ddyletswydd i'n plant i greu ffordd o weithio i greu ynni, i greu pŵer i'n cymunedau mewn ffyrdd sydd ddim yn peryglu ein planed, i ddatblygu ffyrdd o fyw fydd yn achub ein cymunedau, fydd yn cydnabod y peryglon sy'n bodoli trwy lifogydd, trwy golli bioamrywiaeth, trwy lygredd yn ein dŵr a'n aer. 

Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ohirio, gan fod y blaned yn llosgi o’n cwmpas, ac yng ngeiriau’r Cenhedloedd Unedig, mae'r cyfle i Lywodraethau symud yn gyflymach yn prysur grebachu, gan fod yn rhaid i allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang gyrraedd eu hanterth erbyn 2025 fan bellaf. Ac mae hi eisoes gymaint yn hwyrach nag y credwn. Mae ein cefnforoedd yn tagu mewn plastig ac mae ein plant yn anadlu aer gwenwynig. Os ydym am gyrraedd sero net mewn pryd—yr ymadrodd hwnnw 'mewn pryd', gan ei bod yn rhy erchyll i feddwl beth fydd yn digwydd os na wnawn hynny mewn pryd—. Ond os gwnawn hynny, bydd hynny’n golygu bod angen trawsnewid ein systemau ar draws pob sector, ym mhob cyd-destun, gan gynnwys cynyddu ynni adnewyddadwy, cael gwared ar danwydd ffosil fesul cam, rhoi diwedd ar ddatgoedwigo a gweithredu mesurau ar yr ochr gyflenwi ac ochr y galw.

Mae'n rhaid inni gael cadwyni cyflenwi sy’n adlewyrchu ein cyfrifoldeb byd-eang, sy’n cysylltu ein cymunedau, ac nad ydynt yn caniatáu inni guddio ein cydwybod o dan y môr, ymhell o’r golwg, ymhell o'r meddwl, system sy’n grymuso defnyddwyr i wneud dewisiadau moesegol, yn fusnesau ac yn unigolion. Ac mae angen inni fuddsoddi mewn datblygu sgiliau, mewn ymchwil, mewn arloesi. Ond nid yw 'rhaid' ac 'angen' yn ddigon. Nid yw ei ddweud yn ddigon. Mae’r trychineb hinsawdd yn ein gorfodi i weithredu, ac i weithredu nawr.

Mae'n destun pryder enfawr bod y pleidiau Llundeinig, y Tories a Llafur ill dau, yn gwanhau eu polisïau yn ymwneud â hyn, yn cael eu hysgogi gan ofn neu ddiffyg uchelgais, ac nid gan benderfyniad. Cyhoeddwyd cynlluniau ym mis Awst i greu mwy na 100 o drwyddedi olew a nwy newydd. Mae San Steffan yn bwriadu gwneud hi'n siepach i lygru'n aer yma nag yw e yng ngweddill Ewrop, i'w gwneud hi'n haws i roi pethau afiach yn ein hafonydd. A dim ond ddoe daeth newyddion bod cynlluniau i wahardd ceir petrol erbyn 2030 o dan fygythiad, ac mae pryder bydd targedau effeithlonrwydd ynni ar gyfer landlordiaid a mesurau i leihau traffig hefyd efallai o dan fygythiad. Datblygiadau grave a phryderus tu hwn ydy'r rhain.

Nid o gyfeiriad San Steffan y bydd atebion i'n problemau yn dod. Yn wir, fel rŷm ni wedi gweld, nhw sydd yn ein dal ni'n ôl, ond rhaid inni sicrhau na fydd ein gallu ni i ymateb i'r creisis hinsawdd yn cael ei danseilio o ganlyniad i'r datblygiadau pryderus hyn.    

Fel y saif pethau, rhennir posibiliadau cynhyrchu ynni—. Maddeuwch i mi. Rhennir cyfrifoldebau ynni rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda San Steffan yn dal pwerau dros y diwydiant olew a nwy, y diwydiant trydan, gan gynnwys cynhyrchu, trawsyrru, dosbarthu a chyflenwi. Datganolodd Deddf Cymru 2017 gyfrifoldebau pellach i’r Senedd, gan gynnwys trwyddedu a rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau olew a nwy ar y tir, prosiectau gwynt ar y tir a phrosiectau ynni adnewyddadwy o dan 350 MW. Yn llwybr cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, mae 57 y cant o’r gostyngiadau gofynnol mewn allyriadau y maent yn eu nodi rhwng 2020 a 2025 yn dod o sectorau sy’n arbennig o ddibynnol ar San Steffan. Golyga hynny fod eu diffyg gweithredu yn ein cynddeiriogi fwy byth yng Nghymru, ac yn yr un modd, mae methiant Llywodraeth y DU i uwchraddio ein grid pŵer yn ein dal yn ôl, yn cyfyngu ar ein cyfle i leoli a datblygu gosodiadau ynni adnewyddadwy, ac yn atal cymunedau rhag creu cysylltiadau agosach rhwng prosiectau lleol a'r ardaloedd a allai elwa ohonynt.

Mae'r holl botensial hwnnw, unwaith eto, yn segur. Y peth sy'n cynddeiriogi rhywun bob amser ynglŷn â photensial yw ei fod bob amser yn y dyfodol, ymhell i ffwrdd, ond nid oes angen iddo fod felly. Mae datganoli pwerau ynni yn llawn yn anghenraid ar gyfer dyfodol ein gwlad. Mae cael cynllun cynhwysfawr yn anghenraid er mwyn gwneud y newid i’n dyfodol gwyrddach yn rhywbeth y gallwn fod yn gyffrous yn ei gylch, ac nid yn ofnus ohono.

Mae gennym gyfle nawr i wneud cymwynas â'n dyfodol, cymwynas â'n planed, cymwynas â phobl Cymru heddiw ac yfory. Ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gweddill y ddadl.

16:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn llongyfarch cyrff cyhoeddus a busnesau yng Ngogledd Cymru am lwyddo i sicrhau arian ar gyfer y cyflwyniad mwyaf erioed o dechnoleg ynni llif y llanw yng Nghymru trwy ddyfarniad Rownd 5 diweddaraf y Contract ar gyfer Gwahaniaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i gyflymu cyflwyno tyrbinau gwynt alltraeth arnofiol, gan gynnwys gweithredu argymhellion Tasglu Cyflymu Gwynt Alltraeth.

3. Yn cydnabod sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llwybrau datgarboneiddio ar gyfer diwydiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymateb ar fyrder i argymhellion yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar Gymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan gynnwys paratoi cynlluniau i sicrhau gostyngiad o 10% yn y car-km y person erbyn 2030, pennu llwybr datgarboneiddio ar gyfer amaethyddiaeth a chyflymu cyfraddau plannu coed trwy chwalu rhwystrau anariannol.

b) sicrhau bod Ynni Cymru’n galluogi cymunedau i chware rhan hanfodol yn y broses o wneud Cymru’n bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

c) sicrhau bod Trydan Gwyrdd Cymru’n helpu i gynyddu’r manteision economaidd i Gymru a ddaw trwy’r trawsnewid ynni trwy roi incwm i’r pwrs cyhoeddus a sbarduno cadwyni cyflenwi Cymreig.

5. Yn cytuno â chanfyddiadau adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Ddeialog Dechnegol y Stoc-gyfrif Byd-eang cyntaf ar weithredu Cytundeb Paris bod modd osgoi effeithiau gwaetha'r newid yn yr hinsawdd os bydd pob gwlad yn cymryd camau eofn i gyflawni targedau anodd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer contractau ynni adnewyddadwy wedi arwain at 3.7GW o brosiectau pŵer solar, gwynt ar y tir a phŵer llanw ledled y DU.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn diddymu grantiau ardrethi busnes ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi gofnodi fy ngwrthwynebiad i'r modd y cyfeirir at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth ei gyfenw? Rwy'n credu y dylem gael safon ymddygiad yn y Senedd y dylid cyfeirio at y Prif Weinidog, pwy bynnag y bo, wrth ei enw cywir mewn gwirionedd, sef y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y defnydd o gyfenw rhywun—

Diolch. Felly, y contractau ar gyfer gwahaniaeth rownd 5—. O, ac mae'n rhaid imi ddweud bod gennych wyneb braidd yn lladd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a hwythau ymhell o'n blaenau ni gyda'u hamcanion newid hinsawdd. [Torri ar draws.]

Rwy'n ymwybodol o'r newyddion a bydd mwy yn cael ei ddatgelu yn nes ymlaen. Ond am y tro, rwy'n falch iawn o'r cynnydd y maent wedi'i wneud hyd yn hyn. Pan fyddwch chi'n gallu cymharu eich diffyg cynnydd chi â nhw mewn gwirionedd, efallai y bydd angen i chi edrych fwy arnoch chi'ch hunain. 

Nawr, mae canlyniadau dyraniad rownd 5 y contractau ar gyfer gwahaniaeth yn tynnu sylw at chwe phrosiect allweddol cyffrous i Gymru, gan gynnwys fferm wynt Foel Trawsnant, parc solar Ynys Môn a phrosiect Ynni Llanw. Felly mae yna ganlyniadau cadarnhaol o'r rownd ymgeisio—[Torri ar draws.] Mae canlyniadau cadarnhaol o'r rownd ymgeisio, gan gynnwys cymaint â 3.7 GW o bŵer solar, prosiectau ynni gwynt ar y tir ac ynni llanw.

Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn wir nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o hyd i gyrraedd eich targedau datgarboneiddio 2050 eich hunain. Mae adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod defnydd o ynni adnewyddadwy wedi arafu ers 2016. Cynyddodd capasiti gwynt ar y môr 26 y cant yn 2015; fodd bynnag, ar ôl hynny, fe arhosodd yn ei unfan, heb unrhyw gynnydd mewn capasiti gweithredol rhwng 2016 a 2020. Cynyddodd capasiti gweithredol gwynt ar y tir 12 y cant yn 2019 ac aros yn ei unfan i raddau helaeth ar ôl hynny. Mae gosod capasiti solar wedi cynyddu ar gyfradd arafach ers 2016, ac fel y dywed yr adroddiad hwn, dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach fel rhan o grŵp darparu seilwaith dan arweiniad Gweinidog, a sicrhau ar y cyd â'r comisiynydd rhwydweithiau trydan newydd, fod cynlluniau galluogi ar gyfer seilwaith ynni yn cael eu datblygu'n gyflym, a bod newidiadau polisi angenrheidiol yn cael eu gweithredu yng Nghymru i ddarparu system bŵer wydn wedi'i datgarboneiddio erbyn 2035.

Rwyf wedi siarad â'r Arglwydd Deben fy hun am yr adroddiad, ac wedi tynnu sylw hefyd at fy mhryderon difrifol ynglŷn â'r diffyg sylw a roddwyd i'r amgylchedd morol y gwnaethom ei nodi ym mhwyllgor newid hinsawdd Senedd Cymru. Mae'n afresymol parhau i ddilyn polisi o blannu coed ar dir amaethyddol a ninnau'n gwybod y gall ecosystemau morol ddal llawer mwy o garbon fesul erw na choedwigoedd. Mae metr sgwâr o laswellt môr yn dal teirgwaith cymaint â metr sgwâr o goedwig law a 10 gwaith cymaint â metr sgwâr o