Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/09/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da i bawb. Cyn i ni gychwyn, dwi'n moyn gwneud un datganiad byr.

Cyn inni ddechrau trafodion heddiw, hoffwn wneud rhai pwyntiau ynglŷn â'r ddadl ynghylch y rheoliadau 20 mya a ddaeth i rym dros y penwythnos. Dros nos, deuthum yn ymwybodol fod sawl Aelod—gan fy nghynnwys i—wedi cael negeseuon sarhaus a bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost a thros y ffôn, oherwydd eu safbwynt mewn perthynas â'r pwnc hwn. Mae ein staff wedi gorfod ymdrin â llawer o hyn y bore yma. Er ei bod yn galonogol gweld diddordeb digynsail yn ein Pwyllgor Deisebau a’i waith, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau bod y drafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yn bwyllog, yn urddasol ac yn barchus. I ni yn y Siambr hon, mae hynny’n golygu gosod y cywair ar gyfer sut rydym yn disgwyl i eraill fynegi eu barn, ni waeth beth fo’u safbwynt ar y mater hwn neu unrhyw fater arall, a’n bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw’n diraddio nac yn tanseilio unrhyw unigolyn. Rwyf wedi cael sylwadau gan un Aelod ynglŷn ag ymddygiad Aelod arall yn ystod trafodion ddoe, ac wedi gohebu â’r ddau unigolyn yn unol â hynny. Rwyf am gloi drwy annog yr Aelodau i gadw hyn oll mewn cof wrth fynegi eu barn yn y Siambr, a thrwy hynny, i ddylanwadu ar sut mae eraill yn ymddwyn y tu allan i’r Siambr hon.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Symudaf ymlaen yn awr at yr eitem gyntaf o fusnes heddiw, sef cwestiynau i Weinidog yr Economi. Mae’r cwestiwn cyntaf i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog, a Sam Rowlands sydd i'w ofyn.

Sector Rheilffyrdd Treftadaeth Gogledd Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyflenwadau glo addas ar gyfer sector rheilffyrdd treftadaeth gogledd Cymru? OQ59933

A gaf fi ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn, a dweud ein bod yn gwerthfawrogi ein rheilffyrdd treftadaeth yn fawr? Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob sector yn ein cymdeithas chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Byddem yn annog y diwydiant i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau pontio yn unol â’r targedau sero net.

Diolch am eich ymateb cychwynnol, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedwch, mae’r gefnogaeth i’r sector rheilffyrdd treftadaeth i’w chroesawu, oherwydd wrth gwrs, ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r rheilffyrdd treftadaeth yn werth oddeutu £0.5 biliwn i’r economi. Fe fyddwch yn ymwybodol o rai rheilffyrdd treftadaeth pwysig yn fy ardal i, yng ngogledd Cymru—mae rheilffordd Ffestiniog a rheilffordd ucheldir Cymru yn rhedeg drwy'r rhanbarth yn rhannol, ac yn denu oddeutu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mae'r rheilffordd rhwng Llangollen a Chorwen hefyd yn cynhyrchu oddeutu £8.5 miliwn i'r economi leol. Mae'n rhaid imi ddatgan buddiant personol yn hyn—mae fy nhad yn gwirfoddoli ar y rheilffordd honno o bryd i'w gilydd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei fod bob amser yn gwneud gwaith gwych, rwy'n siŵr. Wrth gwrs, mae gan Gymru lawer o lo a fyddai’n berffaith i’w ddefnyddio yn y sector rheilffyrdd treftadaeth. Mae o ansawdd uchel ac yn llosgi'n fwy effeithlon na mathau eraill o lo, ac wrth gwrs, nid oes angen ei gludo'n bell iawn o gwbl. Yn hytrach, mae’r sector ar hyn o bryd yn gorfod edrych ar fewnforio glo o wledydd eraill—o'r ochr arall i'r byd, weithiau—gan gynnwys gwledydd y ceir amheuon ynglŷn â'u hawliau dynol. Ac rwyf am bwysleisio i chi, Ddirprwy Weinidog, cymaint o arian a gynhyrchir a’r swyddi a gefnogir gan y sector rheilffyrdd treftadaeth, ond mae hyn oll yn dibynnu ar y defnydd o lo ar hyn o bryd. Felly, tybed beth y gallwch ei wneud i sicrhau y gellir defnyddio glo o’r Deyrnas Unedig at y diben hwn, yn lle gorfod ei fewnforio o dramor, a allai greu perygl o effaith amgylcheddol lawer gwaeth.

A gaf fi ddiolch i Sam Rowlands am y pwyntiau pwysig hynny yn ei gwestiwn atodol? Ac unwaith eto, a gaf fi ailadrodd ein bod wedi bod yn gefnogol ers amser hir i'n rheilffyrdd treftadaeth, a'n bod yn llwyr ddeall beth yw gwerth economaidd yr asedau diwylliannol a threftadaeth pwysig hyn? Rydym wedi buddsoddi mewn llawer ohonynt, i gefnogi eu presenoldeb a'u gallu i barhau. Yn wir, roeddwn ar reilffordd Llangollen heb fod mor bell yn ôl â hynny—euthum ar daith ar reilffordd Llangollen. Ac rwy'n falch iawn fod y gwirfoddolwyr lleol—efallai fod eich tad yn un ohonynt—yn rhoi gwybod i mi'n rheolaidd am y datblygiad a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yno. Ac mewn gwirionedd, mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, wrth gwrs—rheilffordd mynydd Brycheiniog. Felly, rwy'n sicr yn ymwybodol o'u gwerth. Ond rydym yn ymwybodol o'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu, am yr holl resymau a nodwyd gennych, a'u bod ar hyn o bryd yn dibynnu ar echdynnu a defnyddio cynhyrchion glo. Felly, mae ein hymdrechion fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod y pontio i allyriadau sero net yn bontio teg. Felly, rydym yn gobeithio annog y rheilffyrdd treftadaeth i roi'r gorau i ddefnyddio glo. Oherwydd un o'r pethau y byddai'n rhaid i mi eu dweud yw na all y sector treftadaeth ar ei ben ei hun gynnal y pyllau glo sy'n weddill gennym ym Mhrydain, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun—mwynglawdd glo brig Ffos-y-frân. Felly, yr hyn rydym am ei wneud yw annog y diwydiant rheilffyrdd treftadaeth i weithio gyda'r Llywodraeth i ddatblygu'r cynlluniau pontio hynny. Ac mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu y gallai’r sector leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil drwy ymdrechion parhaus i dreialu tanwyddau adnewyddadwy amgen, ac mae gennym enghreifftiau ar ffurf plociau biomas, brics pren, biodiesel, ac wrth gwrs, y defnydd o beiriannau celloedd tanwydd hydrogen. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ddweud i gloi yw bod Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i gefnogi’r sector drwy’r cyfnod pontio hwn, a hoffwn annog y rheilffyrdd treftadaeth i ymgysylltu â fy swyddogion i drafod hyn ac i nodi pa gyllid a allai fod ar gael i'w helpu i mewn i'r cyfnod pontio hwnnw.

13:35
Rhaglenni Cymorth Rhanbarthol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu rhaglenni cymorth rhanbarthol ar ôl Brexit? OQ59911

Diolch. Er bod y rhaglenni hyn yn gweithredu mewn meysydd datganoledig, gwrthodwyd rôl ystyrlon i Lywodraeth Cymru yn y broses o'u cynllunio a’u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid yng Nghymru i leihau effaith yr hyn sydd bellach yn dirlun ariannu tameidiog a llawer llai o faint.

Diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr nad fi oedd yr unig un oedd yn bryderus iawn wrth ddarllen adroddiad diweddar gan un o bwyllgorau’r Senedd a ddywedai y bydd llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol mewn perygl os nad yw Llywodraeth y DU yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ac mae proses ffyniant bro honedig Lywodraeth y DU wedi rhoi llai o lais i Gymru dros gronfeydd hollbwysig, ac mae hefyd wedi tanseilio, fel y dywedoch chi, y setliad datganoli drwy ganoli penderfyniadau yn San Steffan, ac rydym bellach dros £1 biliwn yn waeth ein byd o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid i ddarparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE. Weinidog, a allwch chi ddweud wrth y Senedd p'un a ydych chi'n credu bod Llywodraeth y DU yn fwy cydweithredol heddiw na phan ddaethoch yn Weinidog yr Economi yn 2021?

Mae'r darlun yn amrywiol. Rhwng yr adeg pan ddeuthum yn Weinidog yr Economi a nawr, mewn rhai meysydd, rydym wedi dod i gasgliadau pragmatig lle rydym wedi gallu dod i gytundeb. Mae porthladdoedd rhydd yn un enghraifft. Fodd bynnag, mewn meysydd eraill, rydym wedi wynebu difaterwch, a gelyniaeth mewn rhai meysydd. A'r her gyda'r ymagwedd hon o geisio ymladd yn hytrach na dod o hyd i ateb yw y credaf y byddwn yn cael gwerth gwael am arian cyhoeddus yn y pen draw, ac y byddwn, fel y mae pwyllgor y Senedd wedi'i ddweud, yn peryglu dyfodol economaidd Cymru.

Rydym bob amser wedi cydnabod bod lle inni gydweithredu a gwneud dewisiadau pragmatig gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud, fodd bynnag, yw bodloni ar dderbyn dyfodol wedi'i bennu gan Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru ac i’r Senedd hon, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos na ddylai Cymru fod dros £1 biliwn ar ei cholled, na ddylai addewid maniffesto’r Ceidwadwyr fod wedi’i dorri yn y ffordd amlwg y'i torrwyd, a byddwn yn parhau i sefyll dros Gymru a dadlau dros ddyfodol gwell, a ddaw, yn fy marn i, os cawn Lywodraeth Lafur y DU ar ôl yr etholiad nesaf.

Fel y crybwyllwyd eisoes, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad yr wythnos diwethaf yn dilyn ein hymchwiliad i gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE. Ac mae’r pwyllgor wedi nodi'n glir iawn, er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, fod yn rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru gydweithio’n llawer mwy effeithiol. Nawr, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraethau Cymru a’r DU gynnal adolygiad i weld a ddylai gwahanol elfennau’r gronfa ffyniant gyffredin gael eu darparu ar lefel leol, ar lefel ranbarthol neu ar lefel Cymru gyfan, yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio orau. Felly, Weinidog, a ydych yn rhannu’r farn hon, ac os felly, pa sylwadau a wnaethoch i Lywodraeth y DU ynghylch y mater penodol hwn?

Wel, y man cychwyn yw bod angen i Lywodraeth y DU gydnabod bod hwn yn faes datganoledig. Mae angen iddynt gydnabod nad erfynwyr mohonom. Mae angen iddynt gydnabod bod gennym rôl lle rydym yn gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, fel sydd gan y Senedd hon, yn wir, ac yn syml iawn, nid yw hynny wedi digwydd. A’r her i ni yw: a yw Llywodraeth y DU yn barod i fod yn bartneriaid difrifol a pharod yn nyfodol Cymru, neu a ydynt yn benderfynol o wneud pethau i Gymru nad ydynt yn parchu mandad pob un o’r 60 Aelod yn y lle hwn, nid y bobl hynny sy’n rhan o'r Llywodraeth yn unig?

Hoffwn weld rhywbeth lle gellir cael ymagwedd bragmatig, lle mae ysgogiadau Llywodraeth y DU yn ychwanegu at yr hyn y gallwn ei wneud, lle rydym yn parhau â'r agenda a nodwyd gennym eisoes yn ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, a gweithio gyda'r fframweithiau ar gyfer y DU gyfan, a hefyd, ar yr un pryd, cael partneriaid rhanbarthol lle mae pŵer a chyfrifoldeb yn cael eu rhannu er mwyn gwella economi Cymru. Ond mae hynny'n galw am newid sylfaenol yn Llywodraeth y DU na fydd yn digwydd gyda'r fersiwn gyfredol o Lywodraeth y DU, a dyna pam—ac mae'n un o'r nifer o resymau—rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Lafur y DU yn cael ei hethol a fydd yn adfer pwerau ac adnoddau i'r Senedd hon a'r Llywodraeth hon.

13:40

Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor am yr adroddiad. Mae Paul Davies bob amser wedi bod yn benderfynol wrth arwain y pwyllgor i ddwyn llywodraethau i gyfrif, a dylid ei longyfarch ar ei arweinyddiaeth yn hynny o beth. Ond y mater sylfaenol yma, wrth gwrs, yw methiant Brexit, ac mae methiant Brexit eisoes wedi golygu ein bod wedi gweld safonau Ewropeaidd yn cael eu mabwysiadu yma ar gyfer gweithgynhyrchu; cafodd safonau DU eu hanghofio. Ni all Llywodraeth y DU weithredu ei chytundeb ei hun hyd yn oed ar gyfer archwiliadau ar y ffin, ac rydym wedi gweld bod Llywodraeth y DU bellach yn cysylltu ei hun â Horizon, sy’n golygu mai’r Undeb Ewropeaidd a fydd bellach yn pennu dyfodol capasiti ymchwil a blaenoriaethau ymchwil yng Nghymru. Ac rwy’n croesawu hyn oll, ac rwy’n croesawu’r ymagwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i mabwysiadu at hyn dros y blynyddoedd.

Nawr, byddaf yn ymuno â'r orymdaith genedlaethol i ailymuno â'r UE ddydd Sadwrn. Nawr, ni fyddaf yn disgwyl gweld y Gweinidog y tu draw i fy maner, ond yr hyn a ddywedaf—[Torri ar draws.] Mae croeso mawr ichi ymuno â mi, mae croeso mawr ichi ymuno â mi—roedd y ddau ohonoch yno, y ddau Sam, y tro diwethaf. Gwn fod Paul yno hefyd—[Chwerthin.] Ond y pwynt roeddwn yn bwriadu ei wneud, Weinidog, oedd bod y modd yr ysbeiliodd Brexit Gymru wedi tanseilio ein heconomi yn llwyr ar adeg pan fo Brexit ei hun wedi tanseilio ein cynhyrchiant a’n cystadleurwydd. Weinidog, a wnewch chi a Llywodraeth Cymru barhau i weithio tuag at sicrhau y gwneir buddsoddiad mewn etholaethau fel fy etholaeth i—un o’r tlotaf yn y wlad, ac un sydd wedi elwa’n aruthrol o arian Ewropeaidd yn y gorffennol—i sicrhau ein bod yn parhau i flaenoriaethu rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig yn y wlad hon?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fel y gŵyr, rwyf wedi bod ar orymdeithiau yn Llundain yn y gorffennol pan oedd y cwestiwn yn fyw iawn ynghylch dewis arall yn lle rhoi'r fargen ei hun ger bron pobl. [Anghlywadwy.]—wedi helpu pobl i gyrraedd Llundain ar gyfer hynny. Ni fyddaf yn ymuno ag ef ddydd Sadwrn. Mae gennyf ymrwymiadau blaenorol, gan y byddaf yn sefyll ar yr ystlys wrth i fy mab chwarae i Inter Penarth, ac yn wir, gyda chyd-Aelodau eraill yn yr ystafell hon, edrychaf ymlaen at gymryd rhan yng nghynhadledd ar-lein Plaid Gydweithredol y DU hefyd.

Ar eich pwynt mwy cyffredinol, credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod cytundeb y cysylltiad â Horizon yn beth da. Mae’n newyddion da i Gymru, yn newyddion da i’r DU, yn newyddion da i’n sefydliadau. Roeddwn gyda bwrdd Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a gynhaliodd gyfarfod y bwrdd yng Nghaerdydd neithiwr a heddiw, ac maent wedi ymweld â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe a'r hyn y maent eisoes yn ei wneud ym maes ymchwil, ac mae pawb yn croesawu'r cysylltiad â Horizon. Pe na bai wedi digwydd ar yr adeg hon, efallai na fyddai wedi digwydd, mewn gwirionedd, o ystyried hyd amser y rhaglen.

Ac ar eich pwynt ynghylch Brexit, mae'n destun dryswch fod yr Arglwydd Frost, y prif negodwr, yn dweud ar un adeg mai dyma'r fargen orau erioed, yna'n dweud ei bod yn fargen ofnadwy ac mai bai'r Ewropeaid yw'r cyfan, ac yna'n dweud nad oeddem byth yn disgwyl cadw ein fersiwn ni o'r fargen, a'u bod yn bwriadu ei chwalu. Nawr, mae hynny'n ofnadwy, ac ni waeth pa blaid rydych yn ei chynrychioli, mewn gwirionedd, o safbwynt y DU a'n lle oddi mewn iddi, os ydych yn mynd i dynnu sylw at y ffaith nad ydych yn mynd i negodi'n ddidwyll mewn cytundebau rhyngwladol, nid yw hynny’n unrhyw sail i’r sicrwydd sydd ei angen arnom a’r buddsoddiad rydym am ei weld yn ein heconomi, yn ogystal â gweld cwmnïau o Gymru a’r DU yn cael cyfleoedd mewn rhannau eraill o’r byd. Felly, mae angen inni wneud yr hyn rydym yn dweud ein bod wedi ymrwymo iddo, ac mae hynny'n cynnwys eich pwynt ynghylch buddsoddi yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru. Rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud gyda'r brifddinas-ranbarth, a gwn fy mod wedi ymrwymo i gael sgwrs bellach gyda'r Aelod dros Gwm Cynon a'r grŵp y mae'n ei gadeirio ynglŷn â beth yn union rydym yn ei wneud, gan fy mod yn benderfynol fod hynny'n digwydd yn yr holl waith a wnawn yn y Llywodraeth, nid yn unig i sicrhau twf, ond i sicrhau twf sy'n codi'r gwastad go iawn yn ein gwlad gyda'r Gymru decach, wyrddach rydym am ei gweld.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Mae'r cyntaf y prynhawn yma i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r ystadegau diweddaraf ar niferoedd ymwelwyr yma yng Nghymru yn peri cryn bryder. Yn ôl data'r arolwg teithwyr rhyngwladol a gyhoeddwyd gan Visit Britain, roedd 33 y cant yn llai o ymwelwyr â Chymru yn 2022 nag yn 2019. Gostyngodd y swm a wariwyd gan ymwelwyr rhyngwladol 24 y cant hefyd, o £515 miliwn yn 2019 i £391 miliwn yn 2022. Mae hynny'n peri cryn bryder i sector sy'n darparu un o bob saith swydd yng Nghymru—sef dros 150,000 o bobl â'u bywoliaeth yn y fantol. Felly, a ydych yn rhannu fy mhryderon am y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â Chymru, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r gostyngiad hwnnw?

13:45

Wel, diolch am eich cwestiwn, Tom, ac rwy'n credu eich bod wedi bod yn eithaf detholus yn eich asesiad o'r sefyllfa. Cawsom ddadl ar hyn yn y Siambr heb fod mor bell yn ôl â hynny, ac aethom drwy’r holl ystadegau hyn, ac esboniais yn eithaf manwl bryd hynny mai twristiaeth ddomestig yw’r rhan helaethaf o dwristiaeth Cymru ac mai dyna yw 90 y cant o'r ymwelwyr â Chymru.

Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae Croeso Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd yw edrych ar sut y gallwn ddenu mwy o ymwelwyr. Felly, rydym yn ymwybodol iawn fod ein hymwelwyr—ymwelwyr rhyngwladol â Chymru—yn rhywbeth y mae angen inni wneud mwy o waith arno. Rydym yn gwneud hynny, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf gyda Janet Finch-Saunders, mae Croeso Cymru, o ganlyniad i’w hymgyrch i wneud yn union hynny wedi ennill prif wobr y World Media Awards, gan guro brandiau mawr eraill yn rhacs gyda datblygiad yr ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr. Felly, wrth i amser fynd yn ei flaen, hoffwn feddwl y bydd yr ymgyrch honno’n dwyn ffrwyth. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n cymheiriaid ym Manceinion i sicrhau ein bod yn ffurfio cysylltiadau gyda gogledd-orllewin Lloegr hefyd. Felly, nid ydym yn segur ar hynny, ond credaf fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y mae’r ffigurau hyn yn ei ddweud wrthym, ac nid ydynt yn dweud wrthym fod diwydiant twristiaeth Cymru ar ei waered.

Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym, Ddirprwy Weinidog, yw bod llai o bobl yn ymweld â Chymru. Mae'r ystadegau'n glir iawn am hynny, ac rwy'n poeni bod gennym Lywodraeth Cymru sy'n poeni mwy am y gwobrau y mae'n eu hennill na'r bobl y mae'n eu denu i fwynhau eu hamser yn aros yma yng Nghymru. Ac yn amlwg, bydd cost yn un o’r ffactorau hynny, ond un o’r costau y gall Llywodraeth Cymru eu rheoli yw cyflwyno treth dwristiaeth.

Gwyddom fod yna ardaloedd yng Nghymru sy’n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda llawer o dwristiaid ar ddiwrnodau prysur, ond mae’r rhan fwyaf, yn fy rhan i o’r byd o leiaf, yn aml iawn yn llawn ymwelwyr dydd yn hytrach na phobl sy'n aros dros nos. Y broblem gyda’r dreth dwristiaeth, fel y'i cynigir gan Lywodraeth Cymru, yw ei bod ond yn targedu ymwelwyr dros nos, pan fyddant yn gwario hyd at 14 gwaith yn fwy yn yr economi leol, ac nid yw’r dreth yn gwneud unrhyw beth i ymwelwyr dydd. Felly, mae’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yma yn tanseilio’r union bobl rydym am iddynt fod yn aros yng Nghymru.

Ond os ydych chi'n mynd i gyflwyno treth newydd fel hon, mae'n bwysig eich bod yn dod â'r diwydiant gyda chi, ond nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd ychwaith. Mae grwpiau rhanddeiliaid pwysig, fel Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU a Chynghrair Twristiaeth Cymru, wedi gwrthwynebu’r dreth. Weinidog, rwy'n gwybod eich bod wedi ymweld â Bluestone, un o'r cyrchfannau twristiaeth blaenllaw yng Nghymru, ac roeddwn yn ffodus i fynd yno dros yr haf gyda fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz AS. Ond ychydig ddyddiau yn unig ar ôl eich ymweliad ym mis Mai, dywedodd Bluestone eu bod yn gwrthwynebu’r dreth dwristiaeth, gan ddadlau y byddai’n niweidio busnes. Felly, rwy’n bryderus, Weinidog, ac a ydych yn rhannu fy mhryderon eich bod bellach wedi colli hyder y sector twristiaeth yng Nghymru o ran y gwerth y gallai’r dreth dwristiaeth hon ei ddarparu?

Wel, diolch am eich ail gwestiwn, Tom, ac roeddwn wedi meddwl tybed pa mor hir y byddai'n ei gymryd i chi ddod at yr ardoll dwristiaeth, ond gadewch imi fynd yn ôl ac ailedrych ar eich rhagdybiaeth ynglŷn â ffigurau ymwelwyr. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 a mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, bu cynnydd o 13 y cant yn nifer y teithiau a wnaed yng Nghymru, a chynnydd o 35 y cant yn yr un cyfnod yn 2022. Bu cynnydd yn y gwariant fesul taith ar draws holl wledydd Prydain, a gwelsom gynnydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, gyda ffigurau amcangyfrifedig yn dangos bod oddeutu 1.74 miliwn o deithiau wedi’u gwneud, ynghyd â gwariant o £341 miliwn yng Nghymru, yn ystod tri mis cyntaf 2023. Felly, ymhell o fod yn broblem i ni ar hyn o bryd, credaf ein bod yn gweld ffigurau cadarnhaol iawn.

Cyfarfûm â'r Fforwm Economi Ymwelwyr ddoe a dweud y gwir, ac mae arnaf ofn eu bod yn llawer mwy calonogol a chadarnhaol am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru na chi a'ch plaid, Tom. A hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrthych yn y ddadl yr wythnos diwethaf: os ydych yn mynd i barhau i ladd ar Gymru, yr hyn y byddwch yn parhau i'w wneud yw gyrru ymwelwyr ymaith o Gymru, ac rydym ni'n gwneud y gwrthwyneb.

Nawr, o ran yr ardoll dwristiaeth, gallwch ddal i rygnu ymlaen am yr ardoll dwristiaeth gymaint ag y dymunwch, ond byddaf yn parhau i ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrthych eisoes: roedd yr ardoll dwristiaeth yn ymrwymiad maniffesto gennym, ac rydym yn rhoi'r ymrwymiad maniffesto hwnnw ar waith. Rydym yn siarad yn rheolaidd â sector yr economi ymwelwyr, sydd bellach yn derbyn y sefyllfa at ei gilydd ac yn gweithio gyda ni i’w datblygu. Ac mae eich honiadau cyson fod yr ardoll dwristiaeth yn niweidio twristiaeth yng Nghymru yn nonsens llwyr; nid yw wedi’i chyflwyno eto hyd yn oed, felly ni all fod yn cael unrhyw effaith ar dwristiaeth yng Nghymru.

Ac unwaith eto, dywedaf yr hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes, a gwn fod cyd-Aelodau eraill yn y Siambr wedi dweud yr un peth: fel llawer o gyd-Aelodau, roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwyliau yn Ewrop dros yr haf, a thalais dreth dwristiaeth. Talais treth dwristiaeth am bob noson yr arhosais yn yr Eidal. Roeddwn yng Nghwpan Rygbi’r Byd y penwythnos cyn y diwethaf: talais dreth dwristiaeth yn Bordeaux; talais dreth dwristiaeth ym Mharis. Ni wneuthum ddweud, 'Nid wyf byth yn mynd i fynd i'r lleoedd hyn eto am eu bod yn codi treth dwristiaeth.'

Nid yw ardollau i ymwelwyr dydd ar ein hagenda ar hyn o bryd; rydym yn edrych ar ymwelwyr dros nos, sef y model mwyaf poblogaidd, ond mae’r pethau hyn bob amser yn agored i’w hystyried ar unrhyw adeg.

13:50

Onid yw’n dweud y cyfan am uchelgais y Llywodraeth hon eu bod yn brolio am gynnydd o gymharu â misoedd cyntaf 2021, cyfnod pan wnaethant gau'r economi twristiaeth yma yng Nghymru, a’r hyn rydym wedi’i weld ers hynny yw cynnydd cymedrol ers yr amser hwnnw? [Torri ar draws.] Nawr, gwrandewch: rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID—. Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID—[Torri ar draws.] Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID, ac mae’n amhriodol iawn fod y Gweinidog—[Torri ar draws.] Rwy’n deall yr angen am gyfyngiadau COVID, fel roedd llawer ohonom, ond mae cymharu’r ffigurau hynny ag amser pan oedd economi twristiaeth Cymru wedi'i chau, yn llythrennol, gan y Llywodraeth yn dangos y diffyg uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer ein heconomi dwristiaeth yng Nghymru.

Gwyddom eisoes fod gwrthwynebiad eang i’r dreth hon. Rydym bellach bron i ddwy flynedd a hanner i mewn i dymor y Senedd hon, ac nid yw'n glir o gwbl o hyd sut yn union y caiff y dreth dwristiaeth ei defnyddio. Rydym wedi clywed cyfeillion o Blaid Cymru yn galw am wario’r arian ar brydau ysgol am ddim. Nawr, mae rhinweddau hynny yn ddadl at adeg arall, ond nid ydynt yn cyd-fynd â'ch nod datganedig y byddai'r arian yn cael ei wario yn y sector twristiaeth yn unig. Gwn fod y Prif Weinidog wedi mwynhau rhoi atebion un gair 'ie' neu 'na' i mi ddoe, felly rwy'n hapus os ydych chi am roi'r un eglurder i mi. A wnewch chi roi addewid cadarn, pan fydd y dreth hon yn cael ei chyflwyno, y bydd yn rhaid i gynghorau ei gwario ar wella eu cynnig twristiaeth, ac na fyddant yn gallu defnyddio enillion o'r dreth hon yn lle eu cyllidebau twristiaeth presennol?

Credaf mai'r pwynt yw—. Gadewch inni drafod eich pwynt cyntaf i gychwyn: y pwynt cyntaf i gychwyn yw bod rhai o'r ffigurau hyn i'w cymharu â 2019, nid 2020, y ffigurau ymwelwyr, ac maent yn cymharu â 2021 a 2022, a 2023, sydd ar ôl y cyfyngiadau symud, ac mae'n gymhariaeth o un flwyddyn i'r llall. Felly, yn gyffredinol, mae'n werth i chi wneud yn siŵr fod eich ffeithiau'n gywir cyn i chi godi ar eich traed a sôn am bethau felly.

Ond o ran yr ardoll dwristiaeth a sut y caiff ei gwario, yr hyn rydym wedi'i ddweud yw y byddwn yn sicr yn gweithio gyda'r sector i ddatblygu'r ffordd orau o wario'r ardoll honno, a rhan o'r drafodaeth rydym yn ei chael gyda nhw yw sut y gallem edrych ar glustnodi’r ardoll i wneud y mathau o bethau roeddech yn sôn amdanynt. Ni welaf unrhyw amgylchiadau lle na fyddai ardoll dwristiaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth heblaw gwella’r cynnig twristiaeth sydd ar gael mewn unrhyw ardal benodol, a lliniaru’r effaith ar gymunedau lle mae'n bodoli. Ond mae’r penderfyniadau hynny eto i’w gwneud gan ein bod yn dal i gael y drafodaeth gyda’r sector twristiaeth, fel y dywedwch yn gyson wrthym y dylem fod yn ei wneud, a dyna rydym yn ei wneud. A phan fyddwn wedi dod i gytundeb gyda'r sector twristiaeth ar sut yn union y mae hyn yn mynd i ddigwydd, yna wrth gwrs, bydd datganiad yn dod i'r Siambr hon, a chi fydd y cyntaf i glywed am hynny.

Credaf ei bod yn deg dweud bod 2023 wedi bod yn un eithaf anodd o ran newyddion i Weinidog yr Economi. Cawsom y cyhoeddiad yn Tata ddydd Gwener, gyda'r posibilrwydd y bydd oddeutu 3,000 o swyddi mewn perygl; 2 Sisters yn Llangefni, dros 700 o swyddi wedi'u colli; Avara Foods, y Fenni, 400 o swyddi wedi'u colli; Tillery Valley Foods, 250 o swyddi wedi'u colli; a Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 540 o swyddi mewn perygl. Mae hyn, wrth gwrs, yn ystod y wasgfa hiraf ar gyflogau ers rhyfeloedd Napoleon yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, gyda phobl ifanc yn methu prynu eu cartrefi eu hunain, yn methu fforddio rhent, a theuluoedd yn methu rhoi bwyd ar y bwrdd neu wresogi eu cartrefi. Rwyf wedi codi fy mhryderon sawl tro gyda Gweinidog yr Economi, fy mhryderon gwirioneddol am bobl ifanc yn ystyried dyfodol yn rhywle arall, ac rwy'n credu o ddifrif ein bod yn wynebu nifer fawr o bobl ifanc yn gadael Cymru neu’n rhoi’r gorau i'w huchelgeisiau yn gyfan gwbl. Gwyddom, er enghraifft, fod Llywodraethau Awstralia a Seland Newydd yn targedu hysbysebion at bobl ifanc. Rwyf wedi gweld yr hysbysebion hynny ar fy nghyfryngau cymdeithasol fy hun dros yr haf. A yw’r Llywodraeth yn effro i hyn, ac i ble mae’n gweld pethau’n mynd yn y chwe mis nesaf?

13:55

Ni fu angen inni gael ein deffro, gan ei bod wedi bod yn glir iawn ers imi ddod yn Weinidog yr Economi fod sicrhau bod pobl ifanc yn cynllunio dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru yn rhan o’r genhadaeth economaidd, gan gynnwys pobl ifanc o Gymru a’r bobl hynny sydd am ddod i Gymru. Os meddyliwch am ble rydym ar hyn o bryd, mae’n ddinas sy’n iau na Llundain at ei gilydd. Mae ganddi boblogaeth sylweddol o raddedigion. Dyna ran o'r rheswm pam fod llawer o fusnesau'n awyddus i leoli yma yng Nghaerdydd, ac mae hefyd yn rhan o'r rheswm pam fod twf busnes uwch i fusnesau newydd yng Nghaerdydd nag mewn rhannau eraill o'r DU.

Ac mae’r stori honno’n un rwyf am ei gweld yn cael ei hadrodd nid yn unig yn rhanbarth Caerdydd, ond ledled Cymru hefyd. Dyna pam y gwneuthum y pwyntiau a wneuthum mewn cwestiynau cynharach am bartneriaeth â rhanbarthau ledled Cymru, i ddeall ble mae cyfleoedd penodol i'w cael a sut rydym yn cefnogi’r cyfleoedd hynny gyda phartneriaid yn y rhanbarthau hynny. Mae'n cynnwys busnesau a rhanddeiliaid ehangach hefyd, ac wrth gwrs, awdurdodau lleol gyda’u partneriaid rhanbarthol. Felly, fe welwch gyfleoedd gwahanol yn y gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain i’r hyn a welwch yn y de-ddwyrain neu'n wir, yng ngorllewin Cymru hefyd. Dyna rwy'n awyddus i ni ei wneud.

Ac mae'r data mwy diweddar yn dangos y bu rhywfaint o dynhau a chynnydd bach mewn diweithdra yng Nghymru. Ond mewn gwirionedd, rydym yn dal i wneud yn dda o gymharu â ffigurau’r DU. Gwn fod digwyddiadau anodd iawn wedi bod. Rwy’n ymwybodol iawn o heriau nifer o'r cwmnïau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll, ond rydym yn dal i wynebu sefyllfa lle mae swyddi o hyd yn yr economi yn chwilio am bobl i’w llenwi. Rwy'n awyddus nid yn unig i gael mwy o swyddi, ond swyddi gwell i’n pobl, a dyna pam fy mod eisiau rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, mae’n sôn am Gaerdydd; mae mwy i Gymru na Chaerdydd yn unig, ac rwy'n cofio cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at gyflogau isel yng Nghaerdydd fel rheswm i fuddsoddi yng Nghaerdydd.

Nawr, ar gadw pobl ifanc yma, nid oes lle gwell i ddechrau na gyda'r economi werdd. Os meddyliwn am yr angen i bontio i economi wyrddach, bydd yr angen am sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Nawr, lle mae swyddi’n cael eu colli, mae'n ddealladwy fod y Gweinidog am dynnu sylw at raglen ReAct, ond hoffwn weld beth yw cyfradd llwyddiant ReAct o ran dod o hyd i swyddi newydd i’r rheini sy’n defnyddio’r rhaglen ar yr un lefelau cyflog ac amodau gweithle â'r swyddi y maent wedi'u gadael. A sut mae'r rhaglen yn ymateb i her sero net? O'r swyddi newydd hynny a ganfuwyd, faint sydd yn yr economi werdd mewn gwirionedd?

Y tu hwnt i ReAct, mae'n anodd deall strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwreiddio sgiliau gwyrdd o fewn gweithlu Cymru. Mae sefydliadau addysg bellach yn parhau i fod yn ansicr ynghylch yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei olygu pan fydd yn sôn am sgiliau gwyrdd. Mae Tata wedi dangos i ni, onid ydyw? Mae wedi dangos i ni nad yw pontio teg yn gysyniad bellach. Mae yma nawr, a dim ond crib y mynydd iâ yw Tata.

Wel, gadewch i mi ddechrau drwy ymateb i’r pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod. Ni chredaf fod lladd ar Gaerdydd yn ffordd synhwyrol o fynd ati i geisio tyfu'r economi. Ac mewn gwirionedd, yn fy ymateb, nid am Gaerdydd yn unig y soniais. Mae heriau a chyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y de-ddwyrain a gorllewin Cymru hefyd, ac rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu.

Ar yr her o ddarparu rhagor o gymorth cyflogadwyedd a chymorth mwy effeithiol, fe fyddwch yn gwybod o'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau ein bod yn ceisio dod â'r gwahanol ymyriadau sydd gennym ynghyd. Unwaith eto, mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni weithio gyda gwahanol bartneriaid i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud yn uniongyrchol yma yn y Llywodraeth, yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud, ac yn wir, i geisio deall a fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid cyfeiriad. Rydym am gael cynnig mor gydlynol â phosibl i bobl sydd angen ailsgilio.

Ac ar eich her ynglŷn ag a yw colegau addysg bellach yn deall yr hyn rydym yn ei wneud, ni chredaf fod hynny'n adlewyrchiad cywir o ble mae colegau addysg bellach arni. Yn sicr, nid dyna'r sgwrs rwyf wedi'i chael gyda nhw. Ond mewn gwirionedd, yn y cynllun sgiliau sero net, fe wnaethom nodi y bydd angen inni gael dealltwriaeth gliriach ar gyfer gwahanol sectorau o beth fydd yr anghenion sgiliau, faint o hynny y gallwn ei ragweld ar hyn o bryd, faint o hynny y bydd angen i ni ei adeiladu, a gwneud hynny ar draws sectorau sy'n wynebu heriau sylweddol o ran allyriadau ond hefyd meysydd lle ceir cyfleoedd. Ac wrth i hynny fynd rhagddo, gallwch ddisgwyl gweld mwy o fanylion y gwaith hwnnw drwy weddill y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf.

Rwy’n golygu’r hyn a ddywedaf am ddyfodol ein heconomi: mwy o swyddi a swyddi gwell i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi a pheidio ag aros i bethau ddigwydd i ni. Dyna pam fy mod yn hoff o feysydd lle gall Cymru fod yn wirioneddol gryf, boed hynny'n dechnoleg ynni gwynt ar y môr, gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd, neu hyd yn oed dechnoleg niwclear newydd yn y dyfodol hefyd. Hoffwn ein gweld yn manteisio ar y rheini a chael blaenoriaethau go iawn i roi gobaith realistig i bobl y gallwch gynllunio dyfodol cadarnhaol iawn yma yng Nghymru, ac rydym am i bobl ifanc aros yma yn ogystal â dod yma i fod yn rhan o’n dyfodol.

14:00
Y Stryd Fawr yn Islwyn

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi bywiogrwydd economaidd y stryd fawr yn Islwyn? OQ59925

Diolch. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu ein rhaglenni a'n mentrau i gefnogi'r stryd fawr, gan gynnwys yn Islwyn. Er enghraifft, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £125 miliwn i awdurdodau lleol dros dair blynedd ac mae wedi'i thargedu at fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghanol rhai o'n trefi a'n dinasoedd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ddydd Sul, caeodd siop Wilko Coed-duon ei drysau am y tro olaf, wedi i'r cwmni fynd i'r wal. Mewn economi gyfalafol, yn y pen draw, busnes preifat a'r farchnad sy'n pennu sut y caiff busnes ei gyflawni a pha fusnesau sy'n llwyddo. Yn ddiweddar, dywedodd Paul Butterworth, prif swyddog gweithredol Siambrau Cymru:

'Mae'r darlun manwerthu...yn adlewyrchu cyflwr heriau'r stryd fawr ym mhob rhanbarth o Gymru a'r DU....mae un o bob chwech o fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru wedi rhoi'r gorau i fasnachu, sy'n golygu bod 16 y cant o fusnesau'r stryd fawr yng Nghymru wedi rhoi'r gorau i fasnachu.'

Weinidog, mae hyn yn aml yn cael ei gyplysu â sefydliadau amlwg, fel ein banciau cenedlaethol, cymdeithasau adeiladu a swyddfeydd post, yn cau eu drysau a'u canghennau ffisegol ar strydoedd mawr Prydain. Mae hon yn ffaith, a'n harbenigwyr sy'n dweud hynny, ac yn amlwg mae gan y blaid gyferbyn alergedd i beth o hynny.

Weinidog, Coed-duon yw un o brif drefi Gwent, a daeth BBC Wales Today i'r dref i ddadansoddi effaith pandemig COVID a'r argyfwng costau byw ar fanwerthu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, dan arweiniad y Blaid Lafur, yn parhau i wneud popeth yn ei allu i gefnogi stryd fawr Coed-duon, gan gefnogi gŵyl haf i deuluoedd yng Nghoed-duon yn ddiweddar, gyda'r nod o helpu masnach ar y stryd fawr, ac ar un diwrnod yn unig o'r fenter hon, fe wnaeth 8,000 o bobl heidio i stryd fawr Coed-duon—canlyniad uniongyrchol. Weinidog, pa sylwadau a gweithredu pellach y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, a beth yw uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflawni awydd y bobl i'n strydoedd mawr barhau i fod yn farchnadoedd ffyniannus, byw a chynaliadwy i gymunedau ledled Cymru?

Diolch am y cwestiwn dilynol. Mae ein huchelgeisiau ar gyfer y stryd fawr yng Nghymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu ac yn y datganiad sefyllfa ar ganol trefi. Yr hyn a ddylai wneud i ni deimlo'n fwy gobeithiol o ran yr hyn sy'n bosibl yw'r ffaith bod nifer o ardaloedd sy'n debyg i Goed-duon wedi adfywio eu strydoedd mawr a chanol eu trefi. Mae hynny'n ymwneud â deall beth yw cenhadaeth canol y dref honno, ei maint a'i graddfa, a sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng cadwyni ond hefyd manwerthwyr annibynnol, a'r cymysgedd tai, manwerthu, cynllunio a thrafnidiaeth leol, i alluogi hynny i gyd ddigwydd. Dyna pam rwy'n falch ein bod wedi buddsoddi'r arian a wnaethom yn yr egwyddor o roi canol trefi yn gyntaf, a dyna pam ein bod ni hefyd, ochr yn ochr â'n rhaglen Trawsnewid Trefi, yn parhau i ddarparu pecyn cymorth ardrethi dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, sy'n golygu ein bod yn buddsoddi £460 miliwn yn y busnesau hynny.

Mae'r her, felly, yn ymwneud â sut rydym yn perswadio pobl am y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i'w bywydau, a sut mae pobl wedi gwneud newidiadau parhaol yn eu byd gwaith. Gallai hyn fod yn beth da i nifer o'n trefi llai, gyda chydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio hybrid a phobl yn byw mwy o'u bywydau yng nghanol y dref leol yn hytrach na theithio i ganolfannau poblogaeth llawer mwy drwy'r amser. Mae'r sefyllfa yn newid o hyd, ond byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, eu sefydliadau, ac awdurdodau lleol yn wir. Rwy'n credu bod gan Gaerffili hanes da o fod eisiau cefnogi eu busnesau lleol, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i wneud hynny.

Weinidog, ym mis Mai eleni, fel y sonioch chi wrth fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer manwerthu. Mae rhai o'i nodau, fel y sonioch chi, yn cynnwys lleihau safleoedd gwag yng nghanol trefi a rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr a chanol y dref. Yn gynharach y mis hwn datgelwyd bod un o bob chwe siop ar strydoedd mawr Cymru yn wag. Mae ffigurau'n dangos bod cyfradd siopau gwag yng Nghymru wedi codi o 16.5 y cant i 17 y cant yn ystod ail chwarter 2023. Datgelwyd hefyd fod gan Gasnewydd, fy nhref enedigol a rhan o fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, fwy o unedau gwag nag unrhyw ddinas arall yn y Deyrnas Unedig. Felly, Weinidog, o ystyried yr hyn rwyf newydd ei amlinellu, pa mor llwyddiannus y mae'r cynllun gweithredu hwn wedi bod hyd yn hyn? A yw wedi cyrraedd ei ddangosyddion perfformiad allweddol? A ydych chi'n hyderus y bydd y cynllun hwn yn gweithio mewn gwirionedd? Diolch.

Rwy'n credu y bydd y cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu yn gwneud gwahaniaeth. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd â'r diwydiant a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ynghyd ag undebau llafur, dan arweiniad yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac mae hynny wedi golygu bod gennym farn a rannwn ar beth a allai a beth a ddylai ddigwydd yn y dyfodol. Nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol ceisio darogan llwyddiant y cynllun fisoedd ar ôl iddo gael ei lansio os ydych chi eisiau bod o ddifrif ynglŷn â dyfodol canol ein trefi. Gwyddom fod yr heriau sy'n ymwneud â chostau byw a chostau gwneud busnes, a'r heriau sy'n ymwneud â chwyddiant, wedi golygu bod nifer o fusnesau wedi methu goroesi ac mae rhai eraill nad ydynt mor optimistaidd ag y byddent wedi bod ar ddechrau'r flwyddyn. Ond mae hefyd yn cadarnhau pam mae angen inni barhau â'r dull partneriaeth hwnnw a chydnabod, fel y gwnaeth Rhianon Passmore, fod gan awdurdodau lleol rôl allweddol a diddordeb allweddol mewn gweld canol y trefi hynny'n parhau i fod yn llwyddiannus. Bydd hynny'n cynnwys, i rai ohonynt, ailfodelu'r hyn y maent yn ei wneud, eu maint a'u graddfa, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ffyniannus. Oherwydd rwy'n credu ei fod hefyd yn ymwneud ag ymdeimlad o le—ymdeimlad o le ynglŷn ag o ble rydych chi'n dod a beth rydych chi'n falch ohono. A dyna pam, er enghraifft, y bydd ystod o wasanaethau eraill yn parhau i fod yn bwysig. Er enghraifft, bydd y buddsoddiad parhaus y mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn ei wneud mewn optometreg ar y stryd fawr yn bwysig iawn ar gyfer cynnal nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Felly, mae'n fwy nag un adran yn unig—mae'n ddull Llywodraeth gyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i weld y llwyddiant hwnnw mewn trefi ledled Cymru.

14:05
Fferm Gilestone

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau prydles Fferm Gilestone? OQ59915

Mae trafodaethau prydles ynghylch dyfodol Fferm Gilestone yn parhau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn datgelu manylion trafodaethau masnachol cyfrinachol tra'u bod yn mynd rhagddynt.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel rhan o'r trafodaethau parhaus, rydych wedi dweud sawl tro yn y Siambr y byddwch chi'n ymgynghori â'r gymuned. Cynhaliais gyfarfod cyhoeddus ar 8 Mehefin, ond ni wnaethoch chi na'ch swyddogion ei fynychu. Yn dilyn hynny, ysgrifennais atoch ar 13 Mehefin gyda rhestr o gwestiynau gan aelodau o fy nghymuned sydd â phryderon gwirioneddol am y cynigion. Gofynnais am ateb i'r llythyr hwnnw ar 12 Gorffennaf, ac nid wyf eto, hyd yma, wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw. Weinidog, nid yw'n ddigon da fy mod wedi aros tri mis ac wythnos i gael ateb gan eich adran ar fater rydych chi wedi addo ymgysylltu'n rhagweithiol arno. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf heddiw pryd y byddaf yn cael ateb i'r llythyr hwnnw? Neu a af fi i ddweud wrth fy etholwyr fod hwn yn addewid toredig arall gan Weinidog yr Economi ar ei gynnig i ymgysylltu'n rhagweithiol â fy nghymunedau? Diolch, Lywydd.

Mae fy swyddogion wedi parhau i ymgysylltu â'r cyngor cymuned a'r gymuned leol. Nid yw'r honiad na fu unrhyw ymgysylltiad â'r gymuned leol yn wir.

O ran y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gennych, wrth gwrs, roeddwn yn hynod siomedig fod honiadau wedi'u gwneud yn y cyfarfod hwnnw mai ar ddiwrnod y cyfarfod y cawsoch wybod na fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Roedd yn glir iawn yn yr ateb a roddodd y Prif Weinidog i chi yn y Siambr, ac yn y sgwrs a gawsom y tu allan i'r Siambr, na fyddwn yn mynychu. Mae yna bwynt yma sy'n mynd yn ôl at sylwadau a wnaed gan y Llywydd ar ddechrau'r sesiwn hon am natur y ddadl rydym yn ei chael, ynglŷn â'i chyflawni gyda pharch, ond hefyd gyda gonestrwydd. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cywiro'r argraff gamarweiniol ac anghywir a roddwyd.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol. Byddwn yn parhau i fod yn onest â'r gymuned ynghylch yr hyn y mae'r cynlluniau hynny'n ei olygu. Byddwn yn parhau i negodi, oherwydd rwy'n credu bod hon yn enghraifft arall o—. Os gallwn gael cytundeb llwyddiannus gyda chwmni sy'n frand cryf—mae Green Man yn werth dros £10 miliwn gyda'i ddigwyddiad blynyddol—ac os gallwn sicrhau mwy o weithrediad o fath gwahanol ar y safle hwn, yna credaf y bydd yn rhan o rywbeth, unwaith eto, yn y rhan hon o Gymru, a fydd yn rhoi cyfle i bobl gynllunio dyfodol economaidd llwyddiannus o fewn eu cymuned leol sy'n gweithio gyda phobl yn y gymuned honno, a throi cefn ar beth o'r codi bwganod sydd wedi digwydd ynglŷn â'r cynnig posibl. Rwy'n edrych ymlaen gyda gobaith at ganlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau hynny.

Cronfeydd ar ôl Ymadael â'r UE

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch a yw cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE yn diwallu anghenion cymunedau Cymru? OQ59928

Diolch. Mae cynlluniau cyllido ar ôl ymadael â'r UE wedi'u tanariannu o fwy na £1.1 biliwn, ac maent wedi bod yn destun oedi a gweithredu anhrefnus ar ran Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi rhoi pwysau mawr ar awdurdodau lleol. Mae hyn bellach yn niweidio sectorau allweddol o'n heconomi, gan arwain at gau rhaglenni busnes, arloesi a sgiliau hanfodol, ac mae swyddi'n cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i hyn.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pwyllgor yr economi newydd gwblhau ein hymchwiliad i gyllid ar ôl ymadael â'r UE, ac wedi canfod bod llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fabwysiadir dull newydd o ddyrannu'r adnoddau hyn. Rydym wedi galw am fwy o gyfranogiad gan Lywodraeth Cymru yn y gwaith o'u cynllunio a'u chyflwyno, ond fel y byddwch yn gwybod, mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos fel pe bai'n benderfynol o'i atal. Mae Keir Starmer wedi addo y byddai Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn dychwelyd pwerau dros y cyllid hwn i Gymru. A ydych yn cytuno â mi mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion cymunedau, fel yr un rwy'n ei chynrychioli yng Nghwm Cynon?

Yn bendant, dyna'r ffordd gywir o'i wneud. Ni ddylai'r pwerau hynny fyth fod wedi cael eu dwyn oddi ar Gymru yn y lle cyntaf. Ni ddylem fyth fod wedi cael y toriad cyllid a dorrodd addewidion maniffesto'r Ceidwadwyr yn uniongyrchol. Ac mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn y mae'r pwyllgor trawsbleidiol wedi ei adrodd yma, a phwyllgorau trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin ei hun yn wir. Rydym eisiau partneriaeth â Llywodraeth gyfrifol yn y DU lle mae pwerau datganoledig yn cael eu harfer yma, a lle gallwn wneud hynny, mewn partneriaeth ag ysgogiadau Llywodraeth y DU hefyd. Rydym eisiau partneriaeth â'r rhanbarthau yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu budd economaidd gwirioneddol a buddsoddiad mewn tirwedd sy'n gydlynol, ac nad yw'n cael ei hollti'n fwriadol na'i thanseilio yn y ffordd a welsom hyd yma. Byddai hynny'n darparu cyfrifoldebau i'r Llywodraeth yma, yn ogystal â sicrhau mai'r Senedd hon sy'n gyfrifol am graffu ar raglenni Cymru y dylem gael llais ynddynt, a gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid llywodraeth leol yn wir. 

14:10

Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus nad ydym yn edrych yn ôl ar ddyddiau cyllid yr UE drwy sbectol binc. Nid oedd ffrydiau ariannu fel y rhaglen datblygu gwledig yn gwarantu bod arian yn cael ei wario'n effeithlon nac yn y lle cywir. Gellir gweld hyn yng nghanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn 2020 nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau priodol i sicrhau gwerth am arian ar bron i hanner y dyfarniadau a wnaed. Er bod lle i wella'r gronfa ffyniant gyffredin, a fyddech chi'n cytuno bod dyfodol cadarnhaol o'n blaenau ar gyfer cyllid ar ôl ymadael â'r UE, fel y dangosir yn y dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig? Er enghraifft, dywedodd cyngor Llafur sir Fynwy, ac rwy'n dyfynnu, fod swyddogion Llywodraeth y DU yn 'gefnogol iawn', a bod ganddynt 'linellau cyfathrebu da', a dywedodd Cyngor Gwynedd sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru eu bod wedi datblygu perthynas sy'n 'eithaf da' gyda Llywodraeth y DU. Diolch, Lywydd.

Rwy'n credu y byddech yn gweld, pe byddech yn darllen barn llywodraeth leol yn ei chyfanrwydd, nad ydynt yn gefnogol i weld Llywodraeth y DU yn dod i mewn a rhedeg rhaglenni'n uniongyrchol, gan osgoi Llywodraeth Cymru, a lleihau'r arian sydd ar gael yn wir. Mae her yma bob amser pan fo Aelodau Ceidwadol yn dweud eu bod eisiau dathlu'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid ydynt byth yn cydnabod y ffaith bod Cymru dros £1 biliwn ar ei cholled, ac rwy'n gwrthod ymuno â'r Torïaid Cymreig i ddathlu bod arian yn cael ei gymryd oddi ar Gymru. Pan edrychwch ar wersi sydd wedi'u dysgu, ac os ewch chi i edrych ar rywfaint o'r gwaith mae Paul Davies wedi'i wneud yn y gorffennol hefyd, rydym wedi dysgu o wahanol iteriadau y cronfeydd Ewropeaidd. Yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw bod y gronfa ffyniant gyffredin, yn hytrach na mabwysiadu dull mwy strategol y gwnaethom ddewis ei fabwysiadu yn y rownd olaf o gronfeydd Ewropeaidd, yn ddull 'pot pupur' blynyddol mewn gwirionedd sy'n dadwneud yr holl waith roeddem wedi'i wneud drwy'r gwersi a ddysgwyd o rownd gyntaf Amcan 1, fel yr oedd bryd hynny. Bydd hyn yn arwain at wario swm llai o arian mewn ffordd waeth. Pan ddowch yn ôl i edrych ar hyn yn wrthrychol, rwy'n credu na fydd gennych lawer iawn i fod yn falch ohono yn y ffordd y mae'r arian nid yn unig wedi'i gymryd oddi arnom, ond wedi cael ei ailwario wedyn mewn ffordd lawer gwaeth, am werth llawer gwaeth i'ch cymuned chi yn ogystal â fy un i.

Effaith Terfynau Cyflymder 20 mya

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder 20mya yn ei chael ar economi Cymru? OQ59914

Y budd economaidd mwyaf yw y bydd llai o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffyrdd. Mae disgwyl i'r newid gryfhau economïau lleol hefyd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a gallai arwain at werth tir uwch a gwariant manwerthu uwch.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wythnos hon, mae cynllun gwneud arian terfyn cyflymder cyffredinol 20 mya y Blaid Lafur wedi dod i rym, ac mae pryderon y cyhoedd yn parhau, gyda bron i 270,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i wrthdroi'r polisi. Rwyf wedi clywed gan lawer o fusnesau dros yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun, gan gynnwys cwmni dosbarthu parseli. Maent wedi bod yn edrych ar y costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i gynllun 20 mya diangen y Llywodraeth hon—

Ni allaf glywed yr Aelod, felly efallai fod y Gweinidog yn ei chael hi'n anodd hefyd. Mae angen i mi glywed pwynt yr Aelod. 

Byddech chi wrth eich bodd â hynny, oni fyddech chi, Alun Davies?

A wnaiff yr Aelod barhau—diolch—ac a all pawb ganiatáu iddi wneud hynny?

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, rwyf wedi clywed gan lawer o fusnesau dros yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun, gan gynnwys cwmni dosbarthu parseli. Maent wedi bod yn edrych ar y costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i brosiect terfyn cyflymder 20 mya diangen y Llywodraeth hon. Gan ystyried pethau fel costau cynnal a chadw ychwanegol a'r effaith y bydd cyflymder arafach yn ei chael, mae'r cyfanswm i'r un cwmni hwn yn £1.6 miliwn. Ac nid yw'r busnes hwn ar ei ben ei hun; mae gyrwyr tacsi yn pryderu'n fawr y byddant yn colli incwm, gan eu bod yn disgwyl gweld gostyngiad yn nifer y teithiau y gallant eu gwneud mewn diwrnod. Os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i anwybyddu galwadau trigolion ac yn gwrthod gwrthdroi'r polisi trychinebus hwn, a wnewch chi edrych ar greu cronfa galedi i ddigolledu busnesau am golli incwm ac i dalu eu costau ychwanegol? Mae'n hynod annheg fod busnesau sy'n gweithio'n galed yn cael eu gorfodi i ddioddef o ganlyniad i'r polisi hwn, nad oeddent mo'i eisiau, nad ydynt mo'i eisiau, ac yn cael eu gorfodi i'w dderbyn gan Weinidogion Llafur yma ym Mae Caerdydd. 

Fel y gŵyr yr Aelod, nid gwaharddiad cyffredinol yw hwn. Mae bob amser yn anffodus pan fo pobl yn gwneud datganiadau anwir yn fwriadol. Nid yw'n waharddiad cyffredinol. Mae hefyd yn cyflawni ymrwymiad maniffesto y gwnaeth pobl yng Nghymru bleidleisio drosto. Pleidleisiodd pobl dros hyn yn ein maniffesto. Nodaf fod arolwg barn arweinydd y Ceidwadwyr, ar ei gyfrif Twitter ei hun, wedi dangos mewn gwirionedd fod rhai pobl yn eithaf bodlon gyda'r polisi hwn. Nid wyf yn derbyn cywirdeb y ffigurau ar gyfer polisi sydd ond wedi'i weithredu ers llond llaw o ddyddiau yn unig. Edrychaf ymlaen at adolygiad mwy hirdymor, ac wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i adolygu effaith y cynigion newydd a gyflwynwyd. Bydd awdurdodau lleol yn adolygu'r hyn sydd wedi digwydd; rwy'n edrych ymlaen at y mewnbwn. A gallaf ddweud yn onest, fel rhiant, rwy'n llawer hapusach i fy mab fod allan ar ei feic ac ar ein ffyrdd gyda newid i'r terfyn cyflymder. Rwy'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae pob un ohonom yn meddwl am y dyfodol, ac mewn gwirionedd, nid yn unig y canlyniadau iechyd rydym wedi gallu eu hasesu, ond i feddwl am yr hyn y mae'n ei olygu, os ydych chi'n gwrando ar ystod o'n hathrawon, sydd wedi dweud, 'Y plant sy'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol—maent yn fwy tebygol o fod yn effro ac yn egnïol, yn barod i ddysgu ar ddechrau'r diwrnod.' Mae yna fanteision iechyd mwy hirdymor, ac mewn gwirionedd, mae'r manteision iechyd hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein dyfodol economaidd hefyd. Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud y peth iawn, ac rwy'n credu, ymhen blwyddyn neu ddwy, y bydd pobl yn edrych yn ôl ac yn meddwl pwy ar y ddaear oedd yn meddwl bod hwn yn syniad gwael.

14:15
Gwella Cynhyrchiant yn y Sector Busnes

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynhyrchiant yn y sector busnes yng Nghymru? OQ59930

Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn darparu mynediad i fusnesau at amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth, ariannol a heb fod yn ariannol, i ystyried eu cynhyrchiant a'u sgiliau. Cefnogir hyn drwy ystod o'n rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd a all gynnig cymorth uniongyrchol i fusnesau.

Diolch yn fawr, Weinidog. Weinidog, mae mynegai gweithgarwch busnes NatWest yn disgrifio darlun gofidus iawn i Gymru, gan fod nifer y busnesau rhagorol mewn cwmnïau preifat yn gostwng. Er bod y data'n tynnu sylw at gynnydd mewn allbwn, wrth edrych yn fanwl gellir gweld bod y cynnydd hwn o ganlyniad i glirio ôl-groniadau, yn hytrach na chynnydd mewn gwaith newydd. Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd gwraidd y broblem gyda chynhyrchiant, nid oes angen i ni edrych ymhellach na'r baromedr busnes eleni, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod 75 y cant o arweinwyr busnes Cymru yn profi prinder sgiliau, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gynhyrchiant. Weinidog, fe wnaethoch chi grybwyll sgiliau, ond pa gamau brys sy'n cael eu cymryd i wella'r prinder sgiliau yng Nghymru, er mwyn atal pethau rhag gwaethygu yma?

Wel, mae'n ymwneud yn rhannol â'r nifer sy'n manteisio ar y rhaglenni sydd gennym eisoes, yn ogystal â mynd yn ôl at gwestiynau cynharach am feysydd ar gyfer twf yn y dyfodol hefyd. A dyna pam mae partneriaeth â busnesau yn wirioneddol bwysig, rhwng awdurdodau lleol a'r busnesau unigol yn eu hardal, yn ogystal â sefydliadau mwy sy'n dod â gwahanol grwpiau busnes at ei gilydd. Felly, mae'r her mewn perthynas â sgiliau yn rhywbeth rydym yn ei ddeall. Dyna pam hefyd mae'r dirwedd ddryslyd, gyda'r ymyrraeth polisi gan Lywodraeth y DU, wedi tanseilio'r hyn a arferai fod yn ddarlun llawer cliriach. Mae hefyd wedi'i wneud yn llai strategol. Rwyf eisiau ei weld yn cael ei wau yn ôl at ei gilydd mewn ffordd sy'n wirioneddol strategol ac sy'n rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau am yr hyn a wnawn.

Wrth gwrs, mae gennym enghreifftiau da o ardaloedd lle mae cynhyrchiant wedi cynyddu, ac yn wir, bydd pobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod wedi elwa o hynny. Mae gennym y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes sy'n digwydd yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, ac sy'n canolbwyntio'n benodol ar y Cymoedd Technoleg, mae o leiaf 12 cwmni ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili wedi cael buddsoddiadau i helpu i ailsgilio eu gweithlu, ac fel y dywedais, bydd gan nifer o'r cwmnïau hynny bobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod. Yr her bob amser yw graddfa'r hyn y gallwn ei wneud, hyder ehangach yn yr economi, a'r sicrwydd o ran yr hyn y gallwn ei wneud a pheidio â rhoi darlun dryslyd i fusnesau, a'u galluogi i ddeall a dewis o'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Cefnogaeth i Weithwyr Wilko

9. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr yn sgil cau canghennau Wilko yng Ngogledd Cymru? OQ59939

Diolch am y cwestiwn.

Mae hwn, wrth gwrs, yn newyddion siomedig dros ben, a fydd yn hynod ofidus i staff Wilko. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Cymru'n Gweithio a'r Ganolfan Byd Gwaith, i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, drwy raglenni fel ReAct+.

Wel, diolch ichi am yr hyn rŷch chi newydd ei ddweud. Yn amlwg, mae trefi fel Caergybi, Llandudno, Wrecsam a Rhyl yn mynd i wynebu naill ai wedi cau neu ar fin cau o safbwynt Wilko yn y trefi hynny. Clywon ni yn gynharach sut mae hynny'n gadael bwlch ar y stryd fawr, ac yn amlwg mae hynny yn tanseilio hyfywedd ehangach, efallai, rhai o'r canolfannau trefol hynny. Ond o safbwynt y gweithwyr yn benodol, mi gyfeirioch chi at y gefnogaeth a'r rhaglenni sydd ar gael. Pa sicrwydd allwch chi ei roi, er mor anodd yw hi, y bydd cyllidebau'r rhaglenni hynny yn cael eu gwarchod yn y cyfnod sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, rŷn ni'n clywed am y toriadau sydd yn digwydd o fewn y Llywodraeth, ond rŷn ni'n clywed wythnos ar ôl wythnos, sesiwn ar ôl sesiwn fan hyn am y gefnogaeth sydd ei hangen pan fo Tata, Wilko ac enghreifftiau a restrodd Luke Fletcher yn gynharach yn ei gwestiynau fe yn codi? Mae yna berygl, wrth gwrs, o leihau'r ddarpariaeth gefnogol yna, y bydd yr effaith gymaint, gymaint yn waeth. Felly, pa sicrwydd allwch chi roi y bydd y cyllidebau yna'n cael eu hamddiffyn, lle gallwch chi? 

14:20

Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, mewn ardaloedd lle bydd angen i ni gefnogi gweithwyr, y bydd gennym fodd i wneud hynny. Mae enghraifft Wilko yn arbennig o anodd, gan fod Poundland a B&M rhyngddynt wedi prynu tua 120 o siopau, ond nid ydym yn siŵr lle mae'r holl leoliadau hynny eto. Felly, mae hwnnw'n ansicrwydd gwirioneddol i lawer o weithwyr yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU, ac yn wir, y ganolfan ddosbarthu yn etholaeth John Griffiths, sy'n cau.

Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, gyda'r rhaglen sy'n seiliedig ar alw o gymorth angenrheidiol, rwy'n credu y gallwn ddarparu cymorth i weithwyr sydd ei angen. Ac ar gyfer y dyfodol, fel Gweinidog yr Economi, mae'n rhaid i mi fod yn barod i symud cyllidebau ar draws fy adran i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi'n briodol. Mae'n ddigon posibl y bydd rhai gweithwyr mewn gweithleoedd dan drefniadaeth undebau llafur yn gallu sicrhau trefniadau, os yw'r busnes hwnnw'n cau neu'n lleihau, sy'n darparu pecyn iddynt sy'n rhoi gwell cefnogaeth iddynt a mynediad at gymorth sgiliau. Gweithwyr Wilko—gweithwyr ar gyflogau is, fel arfer—ond hefyd wrth ystyried graddfa'r sefydliad undebau llafur, efallai y bydd mwy o alw am gymorth Llywodraeth Cymru ar eu cyfer. Dyna'r ymrwymiad yr hoffwn ei roi i'r Aelod, ac yn wir, i etholwyr ledled y wlad, fy mod yn credu bod y cymorth ar gael nawr, ac rwy'n barod i weithredu i sicrhau bod cymorth ar gael yn y dyfodol os gwelwn ddigwyddiadau diweithdra mwy.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders. 

Strategaeth Cathetr

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawni strategaeth cathetr ar gyfer pob ysbyty sy'n gwasanaethu pobl Aberconwy? OQ59917

Gwnaf, diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am ei strategaeth cathetr ei hun. Rwy'n disgwyl iddynt ddilyn canllawiau, megis canllaw arfer gorau Cymru y pwyllgor consensws derbyniadau heb eu cynllunio. Cânt eu cefnogi gan gynlluniau cenedlaethol, gan gynnwys contractau caffael, a datblygiad bwndeli gofal cathetr safonol a phasbort cathetr Cymru gyfan.

Diolch yn fawr, Weinidog. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu eto, gan eu cyfeirio at y cynllun penodol hwn, oherwydd mae etholwyr wedi dwyn llawer o bryderon i fy sylw yn ddiweddar am deuluoedd yn mynd i'r ysbyty ac yn gweld bagiau cathetr bron â gorlifo. Ym mis Ionawr 2018, fe wnaethoch dynnu sylw yn briodol at y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio'r ymgyrch Gofal Glân Diogel ac ar yr adeg honno, unwaith eto, cais ydoedd i'r cadeirydd hyfryd, y diweddar Peter Higson, a ddywedodd wrth ysbytai fod yn rhaid iddynt fod yn ofalus iawn wrth drin bagiau cathetr. Yn 2021, aeth y bwrdd iechyd gam ymhellach drwy gynnig pasbort arbennig i wella cyfathrebu a gofal cathetr i bron i 2,000 o bobl sy'n dibynnu ar y pethau hyn. Hyd heddiw, serch hynny, mae stigma enfawr o hyd ynghylch defnyddio cathetr, pryderon nad yw bagiau draenio bob amser yn cael eu gwagio'n brydlon, ac yn fwy diweddar clywais nad yw cathetrau yn cael eu newid—y pibellau—o fewn y ffrâm amser a argymhellir, sef rhwng pedair a 12 wythnos, a sawl wythnos yn ddiweddarach yn aml. Felly, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod cathetrau'n cael eu newid yn unol â'r canllawiau hynny, fod bagiau'n cael eu gwagio'n brydlon, a bod mwy o waith yn cael ei wneud ar fynd i'r afael â stigma yng ngogledd Cymru? Diolch. 

Diolch yn fawr. Byddaf yn atgoffa'r bwrdd iechyd o arferion gorau Cymru mewn perthynas â chathetrau a'r hyn rydym yn edrych arno, a'r hyn a ddisgwylir ohonynt. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gan un o bob pum claf yn y GIG gathetr, ac mae hynny'n costio tua £145 miliwn mewn gofal cymunedol. Felly, rydym yn siarad am lawer o bobl sydd yn y sefyllfa hon. Rwy'n deall bod gwasanaethau wroleg Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun adolygiad Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf, a bydd yr holl unedau perthnasol o fewn Betsi Cadwaladr yn datblygu llwybr treialu heb gathetr nawr er mwyn sicrhau bod cleifion ag ataliad dŵr yn cael eu hasesu'n fwy hwylus.

14:25
Anghydraddoldebau Canser

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau canser ledled Cymru? OQ59938

Rŷn ni’n gweithio ar draws adrannau i ymdrin ag anghydraddoldeb o ran risg canser, mynediad at wasanaethau canser a’r canlyniad i bobl sydd â chanser. Rŷn ni hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth ar y pethau sy’n dylanwadu ar iechyd pobl, fel tlodi ac amgylchedd iach.

Diolch, Weinidog. O ble rwy'n dod, yn y cymoedd, mae diagnosis canser yr ysgyfaint yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn arswydo rhagddo, ac mae'n fwy cyffredin yn fy ardal oherwydd y cysgod hir y mae gwaith glo a diwydiant trwm yn dal i'w daflu dros ein cymunedau. Nawr, mae canser yn aml yn cael ei ganfod ar gam diweddarach ac mae pobl mewn mwy o berygl o farw o ganlyniad. Yng Nghaerffili, bu farw 101 o bobl o'r clefyd yn 2021, sydd 6.3 y cant yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nawr, gall pethau fel sgrinio canser yr ysgyfaint helpu i wneud diagnosis o ganser yn gynharach, gan wella gobaith i bobl sy'n byw mewn ardaloedd nid yn unig yng Nghaerffili, ond ar draws de-ddwyrain Cymru, y cyfeirir atynt mor aml fel ardaloedd difreintiedig, gair nad wyf yn ei hoffi o gwbl, ond mae'n golygu bod pobl yn cael eu hamddifadu o gymaint o gyfleoedd—yn y cyd-destun hwn, yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fyw'n hwy os cânt y clefyd hwn. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno rhaglen sgrinio lawn ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno rhaglen wedi'i hariannu'n llawn i sicrhau y gellir gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint cyn gynted â phosibl?

Diolch yn fawr. Wel, fe wyddom y gellir atal tua phedwar o bob 10 canser, ac mae canser yr ysgyfaint yn bendant yn un o'r rheini. Fe wyddom fod y nifer o bobl sy'n ysmygu yn uwch yn y cymunedau y soniwch amdanynt. Felly, mae yna gam cyn hynny y mae angen inni ei gyrraedd. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar geisio atal pobl rhag ysmygu yn y lle cyntaf fel nad ydynt yn datblygu canser. Felly, pan fyddwn yn siarad am ganser, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar y system gyfan a sicrhau nad ydym yn anghofio am yr ochr atal i bethau. 

Nawr, wrth gwrs, yr hyn sydd angen inni ei wneud wedyn yw sicrhau, os yw hwnnw'n datblygu, a'r canlyniadau ar gyfer canser yr ysgyfaint—. Mae'n anodd iawn, oherwydd ymddengys bod pobl yn ei ganfod yn eithaf hwyr, a phan fyddwch chi'n cyrraedd y pwynt hwnnw, mae'n anos i'w drin. Felly, mae diagnosis cynnar yn bwysig iawn. Un o'r rhaglenni sydd gennym ar hyn o bryd yw menter ddiddorol iawn sy'n canolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint, ac rydym wedi dewis canser yr ysgyfaint fel y canser cyntaf i fynd ar ei ôl oherwydd y cyfraddau isel o bobl sy'n gallu gwella ohono, sef biopsïau hylif. Felly, rydym wedi mynd ar drywydd biopsïau hylif yn benodol mewn perthynas â thriniaeth canser a cheisio nodi pwy sydd â'r canser, pa mor gynnar rydych chi'n ei gael, os yw'n dychwelyd ar ôl i chi ei gael. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes hwnnw. Rydym yn edrych ar dechnoleg eithaf arloesol yma. Rwyf eisiau aros nes y gwelwn ganlyniadau'r cynllun peilot hwnnw, oherwydd byddai hynny'n golygu ein bod yn edrych ar fecanwaith llawer llai mewnwthiol i ddarganfod a oes gan bobl ganser yr ysgyfaint. Felly, rwy'n gobeithio bod y math hwnnw o fenter yn rhywbeth y gallwn ei gyflwyno pan fyddwn yn gwybod a yw wedi gweithio'n iawn. 

Weinidog, un o'r anghydraddoldebau mwyaf ym maes gofal canser yw'r datgeliad nad ydym yn casglu data ar ethnigrwydd cleifion canser. Gallai llawer ddweud, 'Pam mae hynny'n bwysig—data'n unig ydyw?', ond pan ddaw'n fater o driniaeth mae'r data hwnnw'n hanfodol. Sut y gwyddom fod triniaethau a ddatblygwyd ar gyfer pobl wyn o ogledd Ewrop yn effeithiol wrth drin canserau mewn cleifion o dras Affricanaidd neu Indo-Asiaidd? Mae rhagdybiaethau'n cael eu gwneud ynglŷn â sut y bydd cleifion yn ymateb, er bod gwahaniaethau clir yn y ffordd y mae rhai mathau o ganser yn effeithio ar wahanol grwpiau hil. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod data ethnigrwydd yn cael ei gynnwys yng nghofnodion pob claf, yn enwedig wrth inni symud tuag at feddygaeth wedi'i phersonoli?

Diolch yn fawr. Roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am anghydraddoldebau canser a rhai o ganfyddiadau'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, ac yn sicr mae data yn gwbl allweddol. Mae'n sicr yn rhywbeth rydym bob amser yn ceisio ei wella—sut rydym yn rheoli ein data, sut rydym yn monitro ein data—ac yn sicr, mae ethnigrwydd yn rhywbeth y bydd angen inni ei ystyried. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi, wrth inni fynd ar drywydd yr ymateb newydd, mwy personol yn y ffordd rydym yn ymdrin â chanser, felly ymateb i'r canser penodol yn yr unigolyn penodol hwnnw—. Rydym ar drothwy rhywbeth gwahanol iawn, rwy'n credu, o ran y ffordd y byddwn yn ymdrin â chanser yn y dyfodol. Darllenais yn ddiweddar, er enghraifft, fod y ffordd y mae rhai pobl yn ymateb i gemotherapi yn newid oherwydd y bïomau gwahanol yn eu stumogau; mae gan bawb fïom gwahanol. Felly, bydd y dull personol hwn yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod, ac yn amlwg, bydd ethnigrwydd, a'r holl fathau hynny o bethau, gobeithio, yn ystyriaeth pan fyddwn yn symud i'r cam nesaf o sut rydym yn ymdrin â chanser. A gadewch inni beidio ag anghofio y bydd hyn i gyd yn heriol iawn. Rydych yn ymwybodol o'r sefyllfa ariannol rydym ynddi, rydym yn gwybod bod un o bob dau o bobl yn datblygu canser, ac wrth i bobl heneiddio, mae eu perygl o gael canser yn mynd i gynyddu, felly ni fydd dim o hyn yn rhad, felly mae gennym heriau difrifol iawn o'n blaenau.

14:30

Weinidog, yn ein cymunedau mwy difreintiedig yng Nghymru, mae cyfraddau gordewdra yn dal i fod yn rhy uchel. Mae nifer y bobl sydd dros bwysau neu'n ordew yn uwch yn y cwintel mwyaf difreintiedig o gymharu â'r cwintel lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl ffigurau 2021-22. Ac mae canfyddiadau Cancer Research UK, yn eu hadroddiad ar anghydraddoldebau canser, yn nodi, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, y rhagwelir y bydd bron cymaint o bobl ordew â phobl o bwysau iach yng Nghymru erbyn y 2040au. Gwyddom mai cadw at bwysau iach yw un o'r ffyrdd gorau o leihau'r risg o ddatblygu canser. Felly, Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â lefelau gordewdra a nifer yr achosion cysylltiedig o ganser yn ein cymunedau mwy difreintiedig?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn arwain arno, ac yn sicr, y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio gosod gweledigaeth ar gyfer Cymru ddi-fwg, a sicrhau ein bod yn cael canlyniad gwell o ran cynyddu cyfran y plant a'r bobl ifanc sy'n cael plentyndod di-fwg. Ac mae gwaith yn cael ei wneud ar e-sigaréts, ac wrth gwrs cawsom y cyhoeddiad yn ddiweddar ar yr hyn y gobeithiwn ei wneud mewn perthynas â hynny.

Ond rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â gordewdra. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau siarad am hyn mewn ffordd wirioneddol ddifrifol. Rydym yn agosáu at argyfwng mewn perthynas â hyn. Ac nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd yn 2040—mae 60 y cant o bobl Cymru dros bwysau neu'n ordew nawr. Felly, ni all hyn aros mwyach. Rwy'n credu bod strategaeth gyfan wedi'i chyhoeddi, sydd wedi'i phrofi o ran y ffordd orau o gysylltu â phobl. Oherwydd os na wnewch chi ddim byd mwy na lladd arnynt a dweud, 'Peidiwch â bod mor hurt, mae angen i chi golli pwysau', nid yw hynny'n mynd i weithio. Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn ffordd sy'n edrych ar y wyddoniaeth ymddygiadol, beth sy'n mynd i newid hyn?

A'r mater arall y bûm yn darllen llawer amdano dros yr haf yw bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth. Ac rwy'n credu o ddifrif fod hwn yn faes—. Mae'n anodd iawn i ni fel Llywodraeth Cymru ymdrin â hyn ar ein pen ein hunain. Dyna pam rwy'n drist iawn o weld nad yw Llywodraeth y DU yr un mor o ddifrif ynglŷn â hyn ag y credaf y dylai fod, oherwydd, yn ddelfrydol, mae angen inni wneud hyn ar draws y Deyrnas Unedig—byddai'n llawer iawn haws. Ond mae llwyth o waith y mae fy nghyd-Aelod Lynne Neagle yn gweithio arno ar hyn o bryd mewn perthynas â sicrhau ein bod yn edrych ar y materion ehangach hynny, gan wneud yn siŵr, er enghraifft, ei bod yn llai hawdd cael mynediad at y mathau o fwydydd sy'n niweidiol. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn; yn ddiweddar, gwneuthum lawer o ymweliadau ysgol o amgylch Cymru, ymweliadau ag ysgolion iau. A darllenais fod 20 y cant o'n disgyblion yn dechrau'r ysgol yn bump oed dros bwysau—yn dechrau'r ysgol. Ond yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn i mi yw'r cyferbyniad rhwng yr hyn a glywais a'r hyn a welais yn ysgolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle nad wyf yn gweld y patrwm yn yr un ffordd yn union. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau a yw hynny oherwydd argaeledd bwyd ar bob cornel stryd. Felly, mae'n rhaid inni ystyried yr holl bethau hynny, ac rwy'n gwybod bod hynny'n sicr yn rhywbeth y mae Lynne Neagle yn gweithio arno.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr heddiw—Gareth Davies. 

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidogion. Bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ymwybodol iawn o'r llofrudd cyfresol dieflig a fu'n lladd babanod ychydig dros y ffin yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ysbyty Iarlles Caer. Fe wnaeth Lucy Letby, a oedd mewn swydd ofalu gyfrifol, gamddefnyddio ei statws i gael mynediad at fabanod bregus, a cheisio lladd 18 o fabanod, gan lwyddo i lofruddio wyth ohonynt. Bydd pobl ledled Cymru yn poeni a allai hyn ddigwydd yma. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad, ond beth am Gymru? A oes gwersi y gallwn ni eu dysgu?

Rwy'n nodi'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru amser cinio heddiw ar y broses o godi llais yn ddiogel, ond a yw'r gweithdrefnau sydd ar waith yn ein GIG yng Nghymru, ac a yw'r Gweinidog yn credu eu bod yn ddigon cadarn i ymdrin â sefyllfa debyg pe bai'n digwydd yma yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein cythryblu'n fawr gan achos Lucy Letby, ac yn sicr, rwy'n gwybod bod ein swyddogion—. Mae cyfarwyddwr cyffredinol y GIG wedi ysgrifennu at bob un o'r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall bod dyletswydd gonestrwydd yn bodoli bellach, dyletswydd a gyflwynwyd o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn 2020, a'n bod yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r broses 'Unioni Pethau'. Felly, mae'r ddyletswydd honno'n berthnasol i holl sefydliadau'r GIG, i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch ansawdd yn gwella ansawdd gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Felly, rydym wedi cyhoeddi'r fframwaith hwnnw ar gyfer codi llais yn ddiogel yn gynt na'r disgwyl, ond cyn gynted ag y clywsom am ddigwyddiadau Lucy Letby, anfonwyd llythyr at y byrddau iechyd.

Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n derbyn ei bod yn sefyllfa anodd i siarad amdani, ond mae'n un na ddylid ei hanwybyddu er mwyn sicrhau diogelwch pobl yn y dyfodol yng Nghymru, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig dros doriad yr haf, yn debyg i'ch ymateb.

Nawr, yn dilyn ymchwiliad Llywodraeth y DU i achos Lucy Letby, rwy'n deall ac yn derbyn eich bod wedi mynegi diddordeb mewn edrych ar y canfyddiadau a gwneud newidiadau fel y bo'n briodol, fel rydych chi wedi sôn. Mae hyn i'w groesawu, ond mae'n debygol o fod yn flynyddoedd eto cyn i chi hyd yn oed ddechrau dadansoddi'r canfyddiadau a gwneud y newidiadau hynny. A yw Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw wersi uniongyrchol i'w dysgu, yn ogystal â'ch ymateb, sy'n berthnasol yma yng Nghymru? Fy marn i yw mai'r wers glir i'w dysgu yw'r angen am fwy o amddiffyniadau a mwy o barch i chwythwyr chwiban. Fel y bydd llawer o bobl yn y proffesiwn yn gwybod—ac fel y gwn innau o fod yn dod o'r cefndir gweithio hwnnw—gall fod diwylliant yn bodoli o embaras a throi cefn ar y rhai sy'n meiddio codi llais.

Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod yn angenrheidiol, yn dderbyniol neu'n iawn y dylai elusennau trydydd sector, fel Protect yn yr achos hwn, fod yn gweinyddu cwynion mewnol y GIG ar eu rhan, yn hytrach na'r GIG ei hun, sy'n cyfeirio at y ffaith honno ar dudalen 16 yr adroddiad?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym wedi bod yn gweithio ar y fframwaith codi llais yn ddiogel ers sawl mis. Felly, roedd hyn ymhell cyn i achos Lucy Letby ddod i'r llys. Ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r undebau llafur, a sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn y GIG yn gwybod bod hwnnw'n mynd i fod yn fframwaith sy'n gweithio iddynt hwy, lle maent yn teimlo'n ddigon diogel i allu codi llais a gwybod y byddant yn cael eu hamddiffyn. Felly, rydym wedi cyhoeddi hynny, a byddwn yn ei adolygu'n weithredol am y 12 mis nesaf, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Ac yn amlwg, os daw rhywbeth o'r gwersi i'w dysgu yn ystod yr ymchwiliad i achos Lucy Letby, yna, yn amlwg, byddwn yn ystyried y rheini yn yr adolygiad hwnnw. 

Diolch unwaith eto, Weinidog, ac rwy'n gwerthfawrogi uchelgais Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r sefyllfa hon. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol i'w gyflawni yw i hynny dreiddio i'r rheng flaen, felly nid uchelgais y siaredir amdani'n unig yn y Senedd ac yng nghylchoedd y Llywodraeth ydyw, ond rhywbeth a deimlir trwy holl system y GIG yng Nghymru. 

I orffen, mae fy nghwestiwn olaf yn gwyro oddi wrth fy nghwestiynau cychwynnol. Barn y Ceidwadwyr Cymreig yw bod angen inni weithio gyda'r 22 cyngor yma yng Nghymru i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy'r rhwyd a bod pob plentyn yn cael y lefel uchaf o ofal, fel y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl yn briodol. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai Cymru yw'r wlad yn y DU sydd fwyaf mewn perygl o brofi methiannau difrifol, fel y gwelsom gyda Logan Mwangi ac fel y gwelsom gyda Kaylea Titford, oherwydd ni yw'r unig ran o'r DU sydd heb gynnal adolygiad o wasanaethau plant ar draws y 22 awdurdod lleol? Pam y dylai Cymru dderbyn eich gair fod y system yn gadarn? Mae angen eglurder arnom. Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hen bryd cael adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru? 

14:40

Bydd yn rhaid i'r Gweinidog gymryd y cwestiwn. Mae hi wedi dechrau nawr.

Ar gyfer y cofnod, roeddwn i a'r Gweinidogion yn disgwyl i'r cwestiwn fod mewn maes pwnc i'r Dirprwy Weinidog ei ateb. Nid felly roedd hi, ac yn ffodus, fe gododd y Gweinidog, felly—[Anghlywadwy.]

Felly, fe wnaiff y Gweinidog barhau â'r ateb i'r cwestiwn olaf. 

Diolch yn fawr. Wel, Julie Morgan yw'r arbenigwr yn y maes hwn yn sicr, felly byddai'n fwy priodol iddi ateb hyn. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r achosion trasig sydd wedi digwydd yng Nghymru, ein bod yn dysgu gwersi o'r rheini. Mae llawer o wersi i'w dysgu ac rydym yn ceisio rhoi'r gwersi hynny ar waith. Dyna'r flaenoriaeth: sicrhau ein bod yn eu gweithredu ac yn eu gwreiddio. Yn hytrach na chael adolygiad arall, gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith y gwyddom fod yn rhaid ei wneud. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu yn aruthrol. Erbyn hyn, mae byrddau iechyd Cymru yn gwario £325 miliwn, dros 7 y cant o gost y gweithlu, gyda £225 miliwn o hwnnw o ganlyniad i swyddi gwag yn methu â chael eu llenwi. Yn y gogledd, roedd y bwrdd iechyd yno yn gwario £30 miliwn ar staff asiantaeth yn ôl y 2018, ond, erbyn heddiw, mae'r ffigwr yna wedi mwy na dyblu i £72 miliwn. Mewn gwirionedd, mae hyn yn adlewyrchu methiant i roi telerau ac amodau gwaith ffafriol i'r gweithlu. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi galw ar i'r Llywodraeth gyflwyno cynllun gweithlu sydd yn ymrwymo i gael gwared ar staff asiantaeth preifat dros bedair blynedd, oherwydd ein bod ni'n tynnu pres o'r gwasanaeth iechyd a'i roi i gwmni preifat, a hynny ar gefn llafur caled gweithlu ymroddedig a bod hynny yn anghyfiawn. Mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog y byddwn ni'n gweld y gwariant ar asiantaethau yn disgyn eleni, gan roi sicrwydd, yn ôl ei geiriau hi, y byddwn ni'n gweld cwymp yn y niferoedd o staff asiantaeth eleni. Hwyrach bod y Gweinidog wedi gweld rhai ffigurau eisoes. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar y sicrwydd yma? Beth ydy'r amserlen ar gyfer hyn? A pha newidiadau mae hi am eu gorfodi er mwyn cyrraedd y pwynt yma?   

Wel, diolch yn fawr iawn. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd ar GIG Cymru bob amser mewn perthynas â chapasiti'r gweithlu. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod angen inni sicrhau bod gennym wasanaethau diogel. Bydd yna adegau o bwysau eithafol, bydd angen staff cyflenwi ar gyfer absenoldebau salwch, absenoldeb mamolaeth neu absenoldebau heb eu cynllunio. Felly, bydd yna bob amser angen rhywfaint o wariant ar staff asiantaeth. Ond rydych chi'n hollol iawn: nid ydym eisiau'r gwariant sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a gweithio i leihau gwariant ar staff asiantaeth. Mae hynny'n mynd i gynnwys ystod o fesurau, gan gynnwys fframwaith rheoli diwygiedig ar gyfer gwariant. A'r hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gwariant ar staff asiantaeth yn gostwng o un mis i'r llall eisoes ar gyfer eleni. Nid yw'n ostyngiad sylweddol eto, ond rwy'n gobeithio y gwelwn ostyngiad mwy sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn. 

Diolch am eich ateb. Rydym eisoes yn gwybod bod tri chwarter ein nyrsys yn gweithio goramser, ac eto nid yw 42 y cant ohonynt yn cael eu talu am y gwaith hwnnw. Maent yn dewis gwaith asiantaeth oherwydd ei fod yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt a chânt eu talu am yr hyn a wnânt, ond mae'n golygu bod yn rhaid iddynt weithio i ffwrdd oddi cartref mewn llawer o achosion. A dyna pam y gwelwn gymaint o nyrsys yn gadael y proffesiwn. Mae nyrsys yn dweud wrthyf, pe baent yn cael eu talu am oramser, y byddent yn fwy tebygol o aros yn y proffesiwn ac mewn gwirionedd, byddai rhai'n dod yn ôl i'r proffesiwn. Felly, un ateb i osgoi gorfod mynd at asiantaethau yw talu goramser i nyrsys. Caniateir i gyfarwyddwyr cyllid dalu goramser, ond am ba resymau bynnag, maent yn dewis peidio â gwneud hynny ac yn dewis staff asiantaeth yn lle hynny. Mae talu goramser yn un ateb syml i helpu gyda chadw staff a chadw arian yn y GIG. Felly, a yw'r Gweinidog yn barod i edrych ar hyn fel opsiwn ymarferol a chyfarwyddo swyddogion cyllid i ddefnyddio'r dull hwn o dalu yn y dyfodol?

14:45

Diolch yn fawr. Mae gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu, sy'n canolbwyntio'n fanwl ar y mater, ac mae'r cynllun hwnnw'n cynnwys yr angen i ddatblygu hyblygrwydd. Felly, mae'n amlwg, yn y gorffennol, fod y rheolau ar hyn wedi bod yn rhy dynn. Felly, rydym yn ceisio ymateb i'r hyn y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a sefydliadau eraill wedi bod yn ei ofyn i ni, ac felly mae yna rai enghreifftiau o gyflawniadau eisoes. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi lansio ymgyrch ddenu a recriwtio staff adnewyddedig a gwell ar gyfer y GIG, ond rydych chi'n hollol gywir mai'r hyn sydd angen inni edrych arno yw cadw staff. Ac rydym wedi dweud yn y cynllun ein bod yn mabwysiadu dull cyfannol o weithredu. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar edrych ar yr amodau gorau posibl i gynorthwyo staff i aros yn y GIG, a bydd y manylion ar gyfer hynny'n cael eu hamlinellu yn y cynllun cadw staff nyrsio a fydd yn cael ei lansio'n fuan ochr yn ochr â rhaglen gadw staff genedlaethol i Gymru.

Pwysau Ariannol ar Gynlluniau Cyfalaf

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oblygiadau pwysau ariannol ar gynlluniau cyfalaf yn y sector iechyd yng ngogledd Cymru? OQ59937

Mae pwysau ariannol sylweddol ar draws yr NHS o hyd, o ran refeniw ac o ran cyfalaf. Bydd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr barhau i flaenoriaethu eu gofynion cyfalaf er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n canolbwyntio ar wasanaethau hanfodol. Bydd hynny’n golygu gwneud penderfyniadau anodd.

Mi gaewyd y Royal Alex yn y Rhyl, wrth gwrs, nôl yn 2009, gydag addewid o’i ailddatblygu e. Yn wir, fe gaewyd ysbytai cymunedol ar gefn yr addewid yna o ailddatblygu’r Royal Alex. Mi oedd yna achos busnes yn 2021 yn amlinellu’n glir yr angen i’w ailddatblygu. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷn ni'n dal yn aros i hynny ddigwydd. Mae’r bwrdd iechyd yn aros i’r Llywodraeth i gadarnhau a fydd yna gyllid ar gael, mae’r cyngor sir, a drafododd hyn yn ddiweddar, yn dal i aros, ac mae’r trigolion a chleifion yn y gogledd yn dal i aros.

Nawr, yng ngoleuni yr heriau cyllidebol rŷch chi newydd eu hamlinellu inni, gewch chi ateb un o ddau gwestiwn—gewch chi ddewis pa un rŷch yn ei ateb. Naill ai a wnewch chi ateb pryd y gwelwn ni ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl, neu efallai fyddai'n well gyda chi ateb a fyddwn ni byth yn gweld ailddatblygu’r Royal Alex yn y Rhyl?

Wel, diolch yn fawr iawn. Roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi gyda’r bwrdd yr wythnos diwethaf. Dwi'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r bwrdd ac roedd hwn yn rhywbeth y gwnes i bwyso arnyn nhw. Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ar hyn; mae'n rhaid blaenoriaethu. Nawr, mae'n mynd i fod yn anodd iddyn nhw flaenoriaethu. Dwi'n keen iawn, er enghraifft, i weld gwelliant yn y niferoedd sydd yn cael triniaeth orthopedig yn y gogledd—mae’r rhestrau aros yn rhy hir. Ac felly, fe fydd angen pwyso a mesur a ydych chi eisiau canolfan orthopedig newydd neu a ydych chi eisiau datblygu'r Royal Alex? Wel, dwi ddim yn meddwl bod hwnna'n benderfyniad i mi; mae hwnna'n benderfyniad y mae’n rhaid i’r bwrdd ei bwyso a’i fesur o ran beth sydd yn fwyaf pwysig ar hyn o bryd.

Beth rŷn ni yn gwybod mewn perthynas â'r Royal Alex yw, pan wnaethpwyd y penderfyniad ein bod ni eisiau gweld y datblygiad, y byddai wedi costio tua £20 miliwn; erbyn heddiw, byddai’n costio tua £80 miliwn. A beth rŷch chi yn ymwybodol ohono yw, eleni, aeth ein cyfalaf ar draws y Llywodraeth i gyd i fyny £1 filiwn. Felly, mae’r cyfalaf yn anodd iawn inni. Ond beth allaf i ddweud wrthych chi yw, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod Betsi Cadwaladr wedi cael £454 miliwn mewn cyfalaf oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad—? O, ie, mae'n ddrwg gennyf—

Janet Finch-Saunders, mae gwir angen i chi ganolbwyntio pan fyddwch chi yn y Siambr—

Roedd eich sylw yn rhywle arall yn llwyr wrth i chi e-bostio, a hoffwn ofyn—

Na, peidiwch â fy herio a pheidiwch â dweud 'dewch dewch' wrthyf fi, iawn? Nid oes gennyf amynedd ar gyfer hynny heddiw. Roedd eich sylw yn rhywle arall. Roeddwn i'n ceisio edrych arnoch chi, i ddal eich sylw er mwyn i chi wybod mai chi fyddai'n cael eich galw nesaf, ac roeddech chi wrthi'n teipio. Felly, canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi'n ei wneud. Gofynnwch y cwestiwn i'r Gweinidog; mae hi yma i ateb yr hyn sydd gennych i'w ofyn, felly gofynnwch yr un cywir y tro hwn.

14:50

Iawn, diolch yn fawr. Mae strategaeth ystad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dyddiedig 6 Ionawr 2023, yn tynnu sylw at y ffaith bod £1.61 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf—[Torri ar draws.] Mae'n beth? 

Iawn, diolch yn fawr. Y blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen gyfalaf yw rhaglen parhad seilwaith Ysbyty Maelor Wrecsam; rhaglen cydymffurfiaeth diogelwch tân, rhaglen canolfan driniaeth ranbarthol a chapasiti orthopedig estynedig Ysbyty Gwynedd; prosiect datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra; uned yn lle uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd ac ysgol feddygol a gwyddorau iechyd. Nawr, nid oes unrhyw sôn am brosiectau mewn ysbytai fel Bryn y Neuadd, sydd eisoes ag ôl-groniad cynnal a chadw o £27.5 miliwn ac sydd bellach â phroblem concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth—y broblem concrit. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gydweithredu â Betsi Cadwaladr i sicrhau bod buddsoddiad cyfalaf yn cael ei wneud yn yr ysbytai bach ond hanfodol bwysig hyn, fel Bryn y Neuadd? Diolch.

Diolch yn fawr. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod ein cyllideb gyfalaf wedi'i chyfyngu'n aruthrol, diolch i'r Llywodraeth Dorïaidd, sydd ond wedi rhoi £1 filiwn i ni mewn cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd eleni. Nid fy ngwaith i yw blaenoriaethu'r hyn y mae'r bwrdd iechyd—. Gan mai penderfyniadau clinigol yw'r rhain, mae angen iddynt ystyried, 'Iawn, beth yw'r peth cyntaf i'w wneud yma? Ai datrys iechyd meddwl neu roi mwy tuag at ofal canser, neu ai rhoi mwy tuag at orthopedeg, neu ddatblygu'r Royal Alexandra?' Nid wyf yn credu mai fy lle i yw penderfynu ar eu rhan lle i roi'r arian hwnnw. 

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod cryn dipyn o'n harian cyfalaf yn cael ei wario ar gadw'r goleuadau ynghyn. Mae gennym ystad sy'n heneiddio, ac felly pan fyddwch yn siarad am raglen parhad Ysbyty Maelor Wrecsam, mae hwnnw'n gryn dipyn o arian, ond os na fyddwn yn ei wario, bydd yn anodd cadw'r ysbyty hwnnw ar agor, oherwydd ni all y gwaith trydanol gynnal y pwysau sydd arno ar hyn o bryd. Felly, mae yna bethau y mae'n rhaid inni eu gwario i gadw pethau i fynd, ac yna mae'n rhaid inni feddwl, 'Iawn, beth yw'r blaenoriaethau a beth sydd bwysicaf i bobl gogledd Cymru?'

Nid wyf yn credu y dylwn i ymyrryd i benderfynu beth ddylai'r blaenoriaethau clinigol fod. Dyna pam ein bod yn penodi byrddau iechyd, i wneud y penderfyniadau hynny. Maent yn agosach at y bobl. Maent yn gwybod lle mae'r problemau diogelwch, er enghraifft. Byddai'n anghywir i mi ddweud, 'Iawn, datblygwch hyn', ac yna gweld na allwch gadw pethau i fynd, sy'n golygu bod pobl yn cael eu symud allan o ysbytai. Felly, nid wyf yn credu mai fi sydd i benderfynu ond rwy'n amlwg yn cadw mewn cysylltiad agos â'r byrddau iechyd a'u penderfyniadau ynglŷn â'r hyn y maent am ei wneud.

Unedau Deintyddol Symudol

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o unedau deintyddol symudol ledled Cymru? OQ59916

Mae nifer o unedau deintyddol symudol y gellir eu gyrru a'u tynnu wedi cael eu comisiynu mewn ffyrdd arloesol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio ar gyfer darparu mentrau iechyd y geg fel Gwên am Byth, Cynllun Gwên, neu i ddarparu capasiti gwasanaeth deintyddol cyffredinol ychwanegol mewn ardaloedd lle nad oes gwasanaethau digonol ar gael.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb. Weinidog, rydym wedi trafod hyn o'r blaen. Fel y gwyddoch, mae'r rhain yn rhannau allweddol o'r gwasanaeth iechyd y credaf fod eu hangen yn fawr i gyrraedd y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas ac i helpu ein hysgolion a'n plant ifanc i gael eu harchwiliadau a gofal deintyddol oherwydd fe wyddom fod gan iechyd geneuol da gysylltiadau da ag iechyd cyffredinol da, ac iechyd meddwl da hefyd. Felly, gyda'r trafodaethau rydych yn eu cael fel rhan o adolygiad y Llywodraeth o gyllid, gyda'r cynlluniau peilot sydd wedi'u lansio ledled y wlad, hoffwn wybod a fydd cyllid mwy hirdymor ar gael ar gyfer yr unedau deintyddol symudol wrth symud ymlaen, neu a ydym yn mynd i weld rhai o'r cynlluniau hyn yn cael eu gohirio oherwydd y pwysau cyllido sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd?

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol fod rhaglen beilot yn cael ei chynnal mewn ysgol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd—yn Ysgol y Moelwyn—felly mae honno ar y gweill. Bydd yn ddiddorol gweld beth yw canlyniadau hynny ac a yw'n dangos gwerth am arian, ac mae hynny i gyd, wrth gwrs, yn hanfodol yn ein hasesiadau wrth symud ymlaen.

O ran unedau symudol, mae yna werth iddynt, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall hefyd nad ydynt yn ddelfrydol. Mae'n rhaid ichi ystyried pethau fel y plymio cywir a'r math cywir o amgylchedd iddynt allu gweithio'n effeithiol. Felly, mae yna unedau deintyddol symudol, er enghraifft, a gwn eu bod yn gwneud defnydd da ohonynt yng Nghaerfyrddin, ac ym Mhowys, er enghraifft, maent wedi bod yn defnyddio uned symudol ym Machynlleth, ond rwy'n credu nawr fod ganddynt ddatblygiad newydd, mae hynny'n mynd i gael ei symud i'r datblygiad newydd. Felly, fel cysyniad, rydym yn mynd i weld sut mae'n mynd yn Ysgol y Moelwyn, ac os yw hynny'n gweithio, yna yn amlwg bydd yn rhaid inni ailasesu a gweld a yw hwnnw'n fodel y gallwn ystyried ei gyflwyno ymhellach.

14:55

Llandeilo, Abergwaun, Cross Hands, Rhydaman—dyma rai ardaloedd yn fy rhanbarth i sydd wedi'u heffeithio'n fawr yn barod wrth i 24 y cant o ddeintyddfeydd yn ardal Hywel Dda ddod â'u cytundebau NHS i ben dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn anffodus, mae'r ffigwr hwn yn mynd i godi wrth inni glywed y newyddion yn ddiweddar fod darpariaeth NHS yn mynd i ddod i ben yn Hwlffordd a Hendy-gwyn ar Daf ddiwedd mis Tachwedd.

Y llynedd, dim ond 30 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru gafodd apwyntiad gyda deintydd dan y gwasanaeth iechyd. Ond, yn dilyn lleoli uned deintyddiaeth symudol yn Rhydaman yn ddiweddar, wrth i gontractwr newydd sefydlu yna, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried darparu mwy o unedau deintyddol symudol—rŷch chi wedi sôn am rai ohonyn nhw'n barod—mewn cymunedau gwledig er mwyn llenwi'r bwlch? Ac, os felly, pa asesiad ŷch chi wedi'i wneud i sicrhau bod digon o weithlu ar gael i wneud unedau symudol yn opsiwn realistig?

Diolch yn fawr. Dwi'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yng ngorllewin Cymru. Dyna un rheswm pam rŷn ni wedi cynnig £5,000 yn ychwanegol, i drial cael pobl i hyfforddi mewn llefydd fel gorllewin Cymru. Ond, os ydyn ni'n colli'r cytundeb, fel Llywodraeth, dŷch chi ddim yn colli'r arian; beth rŷch chi'n gwneud yw ailgontractio i rywun arall. Dyna sydd wedi digwydd, er enghraifft, yn Rhydaman, lle rŷn ni wedi ailgontractio, ond dyw'r ganolfan ddim yn barod eto a dyna pam maen nhw wedi rhoi mobile unit i mewn dros dro. Felly, yn amlwg, rŷch chi wedi clywed am y sefyllfa ariannol, sy'n heriol, ac felly, a bod yn realistig, dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i weld lot yn cael eu prynu ac yn cael eu defnyddio. Ond, er enghraifft, mae lot o help ychwanegol wedi cael ei ddefnyddio yng Nghaerfyrddin o ran urgent access capacity. Mae yna lot o waith wedi cael ei wneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac maen nhw wedi gwneud y buddsoddiad yna mewn urgent access capacity ac mae hwnna'n cael ei ddefnyddio yn y mobile unit yng Nghaerfyrddin.

Prynhawn da, Weinidog. Os caf ddilyn y cwestiwn y mae Cefin wedi ei ofyn—a diolch i James Evans am godi mater deintyddiaeth, sy'n un rwy'n gwybod bod llawer ohonom ni yma yn poeni amdano—a dilyn ymlaen o'r cwestiwn ynglŷn ag adfachiadau, fel rwy'n ei ddeall, contractau sy'n cael eu dychwelyd i'r byrddau iechyd lleol ydynt. Ym Mhowys, rydym yn gwybod bod cyfanswm yr adfachiad o bractisau gofal deintyddol sy'n gwneud gwaith GIG yn £241,000, gan bron i hanner yr holl feddygfeydd deintyddol GIG yn y bwrdd iechyd, sy'n nifer uchel iawn ar gyfer Powys. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym sut y gallwn ni ddysgu sut rydych chi'n ailfuddsoddi, neu sut rydych chi'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ailfuddsoddi'r arian sy'n dod yn ôl o'r adfachiadau hynny, o'r contractau deintyddol a ddychwelir, ar unwaith mewn perthynas â gofal iechyd deintyddol parhaus. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Mae'r ffigurau sydd gennyf fi ar gyfer Powys yn wahanol iawn ar gyfer y contractau a ddychwelir ym Mhowys, felly byddai'n ddiddorol i ni gymharu nodiadau ar hynny yn nes ymlaen. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw nad yw'r cyllid yn cael ei golli. Fel y dywedais, mae'n parhau o fewn y bwrdd iechyd ac maent yn darparu gwasanaethau deintyddol amgen yn ei le. Y broblem yw bod yr ailgaffael yn cymryd amser, ac yn amlwg, mae hynny'n golygu bod bwlch yn y ddarpariaeth, ac mae'n rhaid i fyrddau iechyd geisio gwneud trefniadau i ddarparu gofal brys tra bod y cleifion sydd wedi'u dadleoli yn cael eu newid a'u symud at ddeintydd wedi'i ailgomisiynu. Felly, rwy'n hapus iawn i gymharu nodiadau gyda chi ynghylch y contractau a ddychwelir, oherwydd carwn awgrymu nad ydynt mor arwyddocaol â'r hyn rydych chi newydd ei awgrymu.FootnoteLink

15:00

Diolch, Weinidog. Roeddwn am grybwyll rhai o'r pryderon y cyfeirioch chi atynt ynghylch yr uned ddeintyddol symudol yn eich ateb i James Evans. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod erthygl ar Nation Cymru dros fisoedd yr haf am unedau deintyddol symudol yn cael eu prynu gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro ar gost o bron i £0.5 miliwn, ond eu bod yn anweithredol am lawer o wahanol resymau ar sawl achlysur oherwydd amryw o ddiffygion. Aeth yr erthygl ymlaen i honni nad oedd y cerbydau wedi cael ardystiad MOT priodol a bod un o'r unedau wedi'i gyrru'n anghyfreithlon ar 16 achlysur. Nawr, rydych yn fwy ymwybodol na neb yma o'r rhestrau aros hir yma yng Nghaerdydd i gael gweld deintydd, felly a fyddech yn cytuno i adolygiad gan eich swyddogion o'r defnydd o'r unedau deintyddol symudol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oherwydd y pryderon a godwyd yn yr erthygl honno gan Nation Cymru? Diolch.

Rhan o'r rheswm am y gost honno yw bod cadeiriau bariatrig wedi'u gosod yn rhai o'r unedau deintyddol symudol hynny, sydd angen eu hatgyfnerthu wrth gwrs, ac sy'n rhoi capasiti i Gaerdydd allu trin cleifion bariatrig. Felly, byddai hynny efallai yn egluro rhai o'r rhesymau pam eu bod yn ddrytach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio bod cyfyngiadau i effeithiolrwydd unedau deintyddol symudol fel modelau darparu gofal yn fwy hirdymor, a hynny'n rhannol oherwydd y gallai fod materion mecanyddol y mae angen eu hystyried, mae angen ystyried gofynion atal a rheoli heintiau, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried amser teithio i staff ac i gleifion. Y peth allweddol bob amser wrth gwrs mewn perthynas â deintyddiaeth yw'r sefyllfa staff. Gallwch fuddsoddi mewn llawer o unedau symudol newydd, ond os nad oes gennych staff, maent yn eithaf dibwrpas. Felly i mi, mae canolbwyntio ar staffio yn gwbl hanfodol, a phleser oedd ymweld â'r academi ddeintyddol newydd ym Mangor dros yr haf a fydd yn helpu i ddarparu rhai o'r bobl a fydd yn ein cynorthwyo yn y maes hwn yn y dyfodol.

Gwasanaethau Iechyd yn y Gogledd

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd? OQ59912

Yn fy natganiad ddoe, nodais y cynnydd sydd wedi'i wneud ers imi roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig unwaith eto, ac amlinellais y cymorth y mae'r bwrdd iechyd yn ei gael gan Lywodraeth Cymru a gweithrediaeth y GIG i fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion clinigol a gweithredol.

Diolch yn fawr, Weinidog. Rydych eisoes wedi tynnu sylw at y pwysau ariannol eithafol y mae'r GIG yng Nghymru yn ei wynebu, oherwydd y gostyngiadau cyllidol enfawr mewn termau real i Gymru gan Lywodraeth y DU a phris chwyddiant. Ddoe, codais yr angen am ganolfan iechyd newydd yng Nghefn Mawr, ac mae angen meddygfa newydd yn Hanmer, ac rwy'n falch iawn o'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r ddau brosiect. Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud ei gorau glas i ddiogelu'r arian cyfalaf gwerthfawr sydd ar gael ar gyfer cyfleusterau iechyd newydd a gwell wrth inni wneud ein ffordd drwy'r cyfnod hynod anodd hwn?

Diolch yn fawr. Rydych yn llygad eich lle, mae'n gyfnod heriol, yn enwedig mewn perthynas â chyfalaf yn y gwasanaeth iechyd, ond yr hyn a wnaethom yw rhoi cymorth tuag at yr integreiddio hwnnw ac ailgydbwyso cronfeydd cyfalaf, fel bod swm o arian wedi'i glustnodi. Cafodd ei lansio yn 2022, ac mae'n mynd i gyrraedd £70 miliwn o fewn tair blynedd. Felly, mae rhywfaint o arian yno i wneud yn union yr hyn a nodwch. Yr hyn a welwn, yn enwedig yng ngogledd Cymru, yw bod chwe phrosiect wedi eu cymeradwyo, gan gynnwys y cam nesaf o'r achos busnes ar gyfer datblygu canolfan iechyd a lles i Gonwy a Chyffordd Llandudno, a chanolfan lesiant ym Mhen-y-groes yng Ngwynedd. Ond mae'n dda clywed eu bod hefyd yn bwrw ymlaen gyda'r gwasanaethau meddygon teulu y sonioch chi amdanynt.

15:05
E-ragnodi

6. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ymgysylltu â grwpiau agored i niwed mewn perthynas ag e-ragnodi? OQ59923

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau y dylai pob dinesydd ledled Cymru allu cael mynediad at wybodaeth am eu meddyginiaethau a'u presgripsiynau mewn fformat sy'n addas iddynt, a bydd yr ymgysylltiad parhaus â grwpiau agored i niwed a grwpiau nad ydynt yn agored i niwed ledled Cymru yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Diolch, Weinidog. Mae'n dda clywed y newyddion cadarnhaol hwnnw am y potensial ar gyfer e-bresgripsiynu ledled Cymru hefyd, oherwydd mae cymaint o fanteision iddo, gan gynnwys peidio â chael miliynau o ddarnau o bapur presgripsiwn yn hedfan o amgylch Cymru drwy'r amser. A bydd yn helpu cleifion pan fyddant yn yr ysbyty, a byddant yn gallu cael eu rhyddhau yn gyflymach. Os ewch i mewn i'r ysbyty ac nad ydych yn gallu dweud pa bresgripsiwn rydych yn ei gymryd, bydd modd ei ganfod. Mae cymaint o fanteision, felly rwyf o blaid hynny.

Rydym yn ymchwilio i e-bresgripsiynu drwy lens cyfiawnder data ac felly, cyfiawnder cymdeithasol, yn ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Felly, dyma rai o'r pethau sydd wedi cael eu codi hyd yn hyn. Ar ôl siarad â goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, roeddent yn dweud, ar hyn o bryd, y byddent yn eithaf pryderus pe gallai unrhyw un gael mynediad at eu cofnodion. Felly, unrhyw un sy'n gweithio yn y GIG. Felly, pe bai'r rhai sy'n cyflawni trais neu gam-drin yn gweithio yn y GIG neu rywun y mae'r cyflawnwyr yn eu hadnabod. Ac aethant mor bell â dweud y byddent yn ofni am eu bywyd pe bai unrhyw bosibilrwydd y byddent yn gallu cael mynediad at eu cyfeiriad, ac mae'n debyg y byddai hefyd yn eu hatal rhag mynd at eu meddyg teulu hyd yn oed oherwydd y byddai cymaint o ofn arnynt. Felly, roedd hynny'n rhywbeth roeddwn am ei godi. 

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd wedi awgrymu ei bod yn debygol y bydd angen model optio i mewn a chydsyniad gwybodus. Fodd bynnag, rwy'n pryderu ar hyn o bryd ein bod yn clywed efallai eu bod yn gogwyddo mwy tuag at wneud model optio allan. Felly, byddai unrhyw ystyriaeth o hynny—. Ond mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn ei gefnogi'n llwyr, ond fel y gwyddoch, bydd yn caniatáu i fferyllfeydd yn Lloegr sy'n gwerthu o bell ar-lein, nad ydynt yn bodoli yng Nghymru ac nad oes ganddynt bresenoldeb ar y stryd fawr, gael gafael ar bresgripsiynau o Gymru yn hawdd. Ar hyn o bryd, mae eu cyfran o'r farchnad yn Lloegr yn 5 y cant. Pe byddent yn cael y gyfran honno o'r farchnad yng Nghymru, byddem yn gweld ein fferyllfeydd yn cau ar ein strydoedd mawr, sy'n mynd i effeithio, fel y gwyddom, ar y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, fy nghwestiwn atodol yw: pa waith trawslywodraethol sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r cynllun hwn i newid i e-bresgripsiynu, a ble mae'r asesiadau effaith ar gydraddoldeb a'r economi yn enwedig? Diolch.

Diolch yn fawr. Wel, rwyf wedi treulio llawer o amser yn ceisio gweld beth y gallwn ei wneud mewn perthynas â chynnydd digidol o fewn y GIG. Rwy'n meddwl mai dyma'r sefyllfa o ran trawsnewid. Yn amlwg, mae'n rhwystredig iawn pan fydd gennych y math o heriau ariannol a wynebir gennym ar hyn o bryd, oherwydd efallai na fydd yn digwydd mor gyflym ag yr hoffwn iddo ddigwydd nawr. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod cynnydd enfawr yn cael ei wneud. Mae gennym y portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, ac yn rhan o hwnnw, maent wedi ymgysylltu â phobl ledled Cymru gyfan. A phwrpas hyn yw ei fod wedi dechrau gyda'r defnyddiwr. Felly, mae'n gynllun sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn. Nid ydych am gael criw o 'geeks' yn datblygu rhywbeth na all pobl normal ei ddefnyddio. Felly, mae'n rhaid iddo ddechrau gyda'r hyn y mae cleifion ei angen a'i eisiau a sut rydych yn mynd i'w ddefnyddio. Felly, mae'n troi'r system gyfan ar ei phen mewn gwirionedd. 

Rydych yn iawn i nodi rhai o'r pryderon. Pan wnaethant siarad am hyn yn Lloegr, rwy'n credu eu bod wedi'i wneud yn anghywir ac fe arafodd hynny bopeth. Rydym yn benderfynol o gael hyn yn iawn. Felly, rydym yn ei wneud yn arafach. Ond rwy'n credu bod llawer iawn y gallwn elwa arno yma os cawn hyn yn iawn. Roeddwn yn rhwystredig iawn dros yr haf, oherwydd fe euthum i gael sbectol newydd, a'r hyn oedd yn ddiddorol oedd eu bod yn gwybod beth oedd fy mhresgripsiwn yn Hwlffordd o wasanaeth gwahanol y bûm ynddo yng Nghaerdydd, ac fe feddyliais, 'Waw, mae hynny'n anhygoel.' Felly, nid yw'n swnio'n gymhleth iawn, ond mae angen inni gyrraedd yno. 

Rwy'n credu bod y cyhoedd—. Mae'n eithaf diddorol, onid yw, oherwydd os ydym yn defnyddio Facebook neu'n defnyddio—wyddoch chi, rydym yn rhannu ein gwybodaeth ym mhobman. Os ydych yn gwneud hynny gyda'r GIG, ac yn amlwg mae'n rhaid ichi ddiogelu pobl ac rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn rydych yn ei awgrymu mewn perthynas â menywod sydd wedi dioddef trais ac ati, mae'n rhaid inni eu diogelu nhw, ond gallai'r enillion o ran data, yr hyn y gallwn ei ddysgu a'r hyn y gallwn ei rannu fod yn rhyfeddol. Felly, mae'n rhaid inni geisio llywio'r system sensitif hon. Ar hyn o bryd, meddygon teulu sy'n berchen ar lawer o'r wybodaeth i bob pwrpas, ac mae gan gleifion berthynas o ymddiriedaeth â meddygon teulu. Ond rydych yn hollol iawn: os oes gan 105,000 o bobl fynediad at hynny, sy'n gweithio yn y GIG, rydych yn mynd i rywle ychydig yn wahanol. Felly, mae'n rhaid inni fod yn sensitif ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn. Rydym yn ceisio ei wneud mewn ffordd sy'n ystyried rhai o'r pryderon rydych chi wedi'u nodi.

15:10
Gwasanaethau Offthalmig Gofal Sylfaenol

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i wasanaethau offthalmig gofal sylfaenol? OQ59919

Mae gwaith yn mynd rhagddo drwy weithredu telerau gwasanaeth contract optometreg newydd a gyhoeddais ym mis Medi y llynedd. Mae'r pwyslais ar ragor o driniaeth a gofal a ddarperir yn y gymuned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd ac mae gwella darpariaeth iechyd y llygaid yn flaenoriaeth.

Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn ynghylch pryderon a glywais gan optegwyr y stryd fawr yng Nghaerffili. Er bod y bwriad yn dda, maent yn pryderu y gallai'r diwygiadau ehangu anghydraddoldebau o ran iechyd y llygaid. Felly, maent yn cefnogi'r cynigion ar gyfer diwygio er mwyn cael buddsoddiad sylweddol yn y sector ac ehangu cwmpas ymarfer, sef yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig, ond maent hefyd yn teimlo y gallai'r system dalebau olygu y bydd gan rai o'r bobl dlotaf yn ein cymuned lai o arian i'w wario ar y sbectol sydd ei hangen arnynt, ac mae hynny'n destun pryder, ac rwy'n credu bod rhai o'r grwpiau lobïo wedi newid eu safbwynt ers i'r ymgynghoriad ddod i ben. Mae peth o safbwynt Optometreg Cymru wedi newid. Felly, a wnaiff y Gweinidog gytuno i gyfarfod ag Optometreg Cymru i drafod y pryderon parhaus am y diwygiadau, a sut mae eu safbwynt wedi newid yn y cyfnod ers i'r ymgynghoriad agor?

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol, Hefin, fod galw cynyddol am ofal iechyd y llygaid, ac felly, os ydym am gael cynaliadwyedd yn y dyfodol, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol, ac mae symud y pwyslais o ofal eilaidd ac ysbytai i'r gymuned yn sylfaenol ar gyfer hynny. Mae gennym bobl hynod o dalentog yn gweithio yn ein gwasanaethau offthalmoleg, felly, pam na fyddem am eu defnyddio? Felly, y cwestiwn yw: sut rydym yn eu defnyddio mewn ffordd sy'n gweithio i bawb, gan gynnwys yr optometryddion proffesiynol hynny?

Gallaf ddweud wrthych nad ydym wedi gwneud dim o hyn heb weithio gydag Optometreg Cymru. Mae popeth wedi cael ei drafod gyda nhw. Mae gwasanaeth offthalmig cyffredinol newydd GIG Cymru yn adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau ac offer optegol, a bydd hynny'n dod i rym tua diwedd y mis nesaf. Felly, rydym am sicrhau bod y ffioedd clinigol a gwerth y talebau'n ddarostyngedig i drafodaethau teirochrog blynyddol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Ond rwy'n hyderus bod y drafodaeth—. Roedd llais offthalmeg y DU mewn lle gwahanol i lais offthalmeg Cymru ar hyn, a hynny'n rhannol am nad oeddent yn ymddiried yn llwyr yn Llywodraeth y DU, a oedd newydd ddechrau'r sgyrsiau ynglŷn â hyn, i gyfrannu'r math o gyllid rydym ni wedi'i gyfrannu—£30 miliwn yn ychwanegol—i fynd i'r afael â'r agweddau clinigol. Felly, rwy'n credu mai dyna lle mae'r diffyg ymddiriedaeth wedi ymddangos, Hefin, ond rwy'n hyderus fod hyn yn y lle iawn gennym, a bydd hynny'n helpu'r bobl dlotaf yn ein cymuned.

Ap GIG Cymru

8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob meddygfa yn gallu cael gafael ar ap GIG Cymru a'u bod yn ei ddefnyddio? OQ59904

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wrthi'n gweithio gyda phob meddygfa ar draws Cymru i'w cynorthwyo i fabwysiadu ap GIG Cymru, gan gyfleu'r manteision i'r feddygfa yn glir. Nod ein cynllun graddol yw cynorthwyo pob meddygfa i gysylltu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae adroddiad RNIB Cymru, 'Gwna Fe i Wneud Synnwyr. Gwybodaeth anhygyrch: mae'n anghydraddoldeb iechyd', yn tynnu sylw at broblem cyfathrebu anhygyrch â chleifion, sy'n rhoi cleifion sydd wedi colli eu golwg mewn perygl. Mae'r adroddiad yn nodi

'Gallai gwelliannau i gyfathrebu â chleifion gyfrannu llawer tuag at leihau apwyntiadau sy’n cael eu gwastraffu a gwneud y gorau o gapasiti’r gwasanaeth iechyd, gan sicrhau’r budd deuol o arbed costau’r GIG a gwella canlyniadau i gleifion.'

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod mwy na hanner y bobl a gafodd eu holi wedi cael gwybodaeth gan eu meddyg teulu neu ysbyty mewn fformat nad oeddent yn gallu ei ddarllen, gan ychwanegu bod hyn yn cael

'canlyniadau ymarferol, iechyd ac emosiynol difrifol.'

Sut rydych chi'n ymateb felly i'r alwad gan RNIB Cymru i fyrddau iechyd lleol gael cymorth a chyllid i uwchraddio eu systemau TG fel y gellir cofnodi a gweithredu gofynion cyfathrebu pob claf mewn meddygfeydd ac ar draws lleoliadau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd?

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwy'n credu bod y cwestiwn yn berthnasol i'r cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Sarah ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod pobl, wrth symud i oes ddigidol, yn parhau i allu cael mynediad at wasanaethau os ydynt yn dod o gymuned sy'n ei chael hi'n anos gwneud hynny. Rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i wasanaethau meddygon teulu, er enghraifft, ar gyfer uwchraddio eu systemau, ac mae'r cytundeb mynediad sydd gennym gyda meddygon teulu yn golygu, rwy'n credu, y byddwch wedi nodi'r gostyngiad sylweddol yn y niferoedd o bobl sy'n cwyno am fynediad at feddygon teulu. Mae hynny'n rhannol am ein bod wedi rhoi'r systemau digidol newydd hyn ar waith, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau nid yn unig eu bod yn gallu cael mynediad atynt, ond yn bwysig o ran presgripsiynau rheolaidd, er enghraifft, y byddwch yn gallu gwneud cryn dipyn o hynny ar ap, neu y bydd yn digwydd yn awtomatig. Felly, un o'r pethau sydd wedi digwydd yr haf hwn er enghraifft, yw ein bod newydd dreialu cyfres o brofion—digwyddodd hyn yn y Rhyl—lle gwnaethom geisio sicrhau, pe byddech yn cael presgripsiwn, y gellid ei anfon yn uniongyrchol at fferyllfa ac y byddech yn cael gwybod am hynny. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd go iawn yma i bobl ledled Cymru, gan gynnwys pobl o gymunedau fel y gymuned ddall a fydd yn gallu cael mynediad at bethau a bydd pethau'n digwydd—er enghraifft, gellid trefnu presgripsiynau rheolaidd yn awtomatig.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Galwaf ar Altaf Hussain i ofyn y cwestiwn.

Chwarae Teg

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Chwarae Teg yn cau? TQ846

Rydym yn siomedig o glywed am gau Chwarae Teg. Hoffwn dalu teyrnged i'w gwaith dros nifer o flynyddoedd. Mae'r elusen wedi cyffwrdd â bywydau menywod ledled Cymru ac wedi gwneud gwahaniaeth iddynt, ac mae wedi rhoi mewnwelediad i Lywodraeth Cymru er mwyn gallu cyflawni newid ar y cyd.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'n ddiwrnod trist i gydraddoldeb yng Nghymru. Mae Chwarae Teg wedi bod yn brwydro dros gydraddoldeb rhywiol ers 1992 ac mae ganddi hanes cryf o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae eu hadroddiadau blynyddol, 'Cyflwr y Genedl', yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i'r rhai ohonom sy'n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Felly, mae'n destun pryder a gofid mawr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ceisio achub yr elusen. Fel y dywedodd Sharon Williams yn ei datganiad y bore yma, dyma

'newyddion trist iawn i’n staff, ein cyllidwyr a’n cleientiaid–ond yn fwy na dim i fenywod Cymru y buom mor falch o’u gwasanaethu dros gynifer o flynyddoedd.'

Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio i'r elusen, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r gweithlu sy'n wynebu diswyddiadau. Ychwanegodd Ms Williams fod y tîm wedi sicrhau nifer o gytundebau newydd yn ddiweddar, a ddangosai fod angen eu gwaith cymaint ag erioed. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen eu gwaith cymaint ag erioed? Rwy'n cytuno. Felly, Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod asesiad annibynnol o waith cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru yn parhau, ac a wnewch chi sicrhau bod adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' yn parhau? Diolch yn fawr iawn.

15:20

A gaf fi ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn a'i ddiddordeb yn y maes hwn? Rydych yn hollol gywir, mae'n ofid. Ers 30 mlynedd, mae Chwarae Teg wedi darparu mewnwelediad, cymorth a chyngor defnyddiol i'r Llywodraeth ynglŷn â materion cydraddoldeb rhywiol, ac mae eu hymadawiad â'r agenda yn destun gofid mawr.

Rwy'n credu, yn gyntaf oll, fod ein meddyliau gyda'r aelodau o staff sydd bellach yn wynebu diswyddiadau, ac rydym eisoes yn gweithio gyda Cymru'n Gweithio i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn ogystal â hyn, mae swyddogion a minnau'n gweithio gyda Chwarae Teg a phartneriaid eraill i ddod o hyd i'r ffordd orau o barhau â'r gwaith gwerthfawr y mae'r sefydliad wedi bod yn ei wneud, gan gydnabod yn llwyr y rôl sydd i'w chwarae a'r angen i barhau â pheth o'r gwaith a'r cymorth hwnnw ledled Cymru.

Y diwrnod ar ôl inni drafod cynnig hirddisgwyliedig i sicrhau bod y Senedd yn fwy cynrychioliadol o gymdeithas Cymru, dysgwn fod yr elusen cydraddoldeb rhywiol amlwg hon, Chwarae Teg, yn dod i ben. Mae'n peri pryder mawr, fel y dywedoch chi, i'r staff yn enwedig, ond hefyd oherwydd yr ymchwil, y polisi a'r gwaith ymarferol amhrisiadwy a phwysig y mae Chwarae Teg wedi'i wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, er enghraifft adroddiadau sy'n cyrraedd y penawdau fel 'Cyflwr y Genedl', y rhaglenni fel LeadHerShip—rwy'n gwybod bod llawer ohonom wedi cymryd rhan yn honno—er mwyn annog menywod ifanc i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, a'r rhaglen Nid dim ond ar gyfer bechgyn, sy'n dangos cyfleoedd i fenywod ifanc mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae angen gwaith brys gan Lywodraeth Cymru i asesu'r bwlch a gaiff ei adael ar ôl o ran awdurdod ar yr arferion gorau wrth wella cydraddoldeb yng Nghymru. Felly, a fydd y gwaith hwnnw'n cael ei wneud, yn ogystal ag unrhyw effaith hefyd ar fenywod sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen ar hyn o bryd, yn cynnwys y rheini sy'n ymgymryd â chymwysterau?

Ddirprwy Weinidog, a fyddai benthyciad pontio wedi cael ei ystyried, gan fod nifer o brosiectau a ariennir gan y gronfa ffyniant cyffredin dan fygythiad nawr? Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd-eang mewn cydraddoldeb rhywiol yn 2019. Mae angen ichi amlinellu'r camau y byddwch yn eu cymryd nawr i liniaru effaith y newyddion hwn a sut y caiff hyn ei gyflawni heb waith hanfodol ac arloesol Chwarae Teg o ran ymchwil, datblygu polisi ac ymgyrchu. Hoffwn wybod hefyd pa asesiad a wnaed o'r effaith ehangach ar y trydydd sector yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dibynnu ar sefydliadau fel Chwarae Teg i gyflawni eu gwaith polisi. Felly, beth fydd ar waith i sicrhau bod sefydliadau eraill tebyg yn cael eu cefnogi wrth iddynt bontio i ffrydiau cyllido ôl-Brexit? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Sioned Williams am ei chwestiwn? Rwy'n gwybod bod hwn yn faes rydych chi'n teimlo'n angerddol amdano hefyd. Rydych chi, fel minnau a sawl un arall yn y lle hwn, wedi cymryd rhan yn y rhaglen LeadHerShip a ddarperir gan Chwarae Teg, ac rydych yn rhestru'r holl gymorth a phrosiectau eraill y mae'r sefydliad wedi'u rhoi ar waith a'u treialu dros y blynyddoedd. Felly, rwy'n ailadrodd eto ei bod yn sefyllfa anffodus iawn. Yn anochel, bydd amrywiaeth o ffactorau ynghlwm wrth orfod gwneud penderfyniad mor bwysig, ac efallai felly na fyddai hyd yn oed pecyn o gymorth tymor byr wedi mynd yn ddigon pell i achub cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad.

Ar wahân i hynny, ar y darlun ehangach o ran y sector gwirfoddol, rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a sefydliadau eraill ynghylch yr heriau sy'n wynebu'r sector gwirfoddol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac effaith cyllid ôl-UE hefyd a'r ffaith nad yw Cymru'n cael ei chyfran deg bellach ar ôl gadael yr UE, a'r heriau sy'n eu hwynebu oherwydd y costau cynyddol i bob sefydliad, gan gydnabod y rôl y mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae, fel y dywedoch chi, yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a'n cymunedau ledled Cymru.

Mewn perthynas â Chwarae Teg yn benodol, rydym yn gweithio'n agos iawn, yn amlwg, gyda Cymru'n Gweithio, i gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, ond gyda phartneriaid eraill hefyd a sefydliadau eraill i asesu'r ffordd orau o barhau â'r gwaith hwnnw, fel nad yw'n gadael bwlch mewn cymorth yng Nghymru, a sut y gallwn sicrhau hefyd efallai fod rhywfaint o'r gwaith roeddent yn bwriadu ei wneud yn gallu cael ei wneud mewn ffordd wahanol. Felly, rwy'n rhoi fy sicrwydd i'r Aelod a'r Senedd hon ei fod yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae hwn yn gyhoeddiad diweddar iawn ac yn sefyllfa sy'n esblygu, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r manylion diweddaraf i'r Senedd maes o law.

15:25

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. I ategu rhai o'r teimladau a fynegwyd y prynhawn yma, hoffwn ddiolch i Altaf Hussain am godi'r mater. Gwyddom fod Chwarae Teg wir yn rhan o wead cydraddoldeb rhywiol yma yng Nghymru. Mae eu hymgyrchoedd a'u strategaethau, yn enwedig wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, yn hysbys i bob un ohonom, ac mewn gwirionedd, mae llawer ohonom wedi cael tystiolaeth gan eu staff mewn perthynas â'u hymchwil arbenigol a'u profiadau uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth. Felly, mae'n destun pryder mawr clywed eu bod yn dod i ben. Rydym yn gwybod bod pwysau ariannol sylweddol ar y Llywodraeth, ond yng Nghymru, mae'r trydydd sector yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl, ac mewn gwirionedd, mae buddsoddi yn y trydydd sector yn darparu llawer iawn mwy o arian nag y byddwch yn ei roi i mewn. Felly, tybed a allech ddweud wrthym pa effaith y credwch chi—neu roi syniad i ni—pa effaith y bydd colli Chwarae Teg yn ei chael ar ddatblygu strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y Llywodraeth, yn ogystal â'i chynllun gweithredu cydraddoldeb rhywiol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Jane Dodds, a diolch hefyd am gydnabod y rôl y mae'r sefydliad wedi'i chwarae ers 30 mlynedd, rwy'n credu, yn y tirlun Cymreig, nid yn unig yn cefnogi menywod mewn sefydliadau ac ar draws cymunedau, gan gefnogi a helpu Aelodau'r lle hwn hefyd, ond hefyd yn cynghori a gwthio Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac i osod a llunio'r agenda ar gyfer Cymru sy'n fwy cyfartal o ran rhywedd. 

Os caf ailadrodd y pwyntiau a wneuthum i Sioned Williams, rwy'n rhoi'r sicrwydd ein bod yn gweithio'n agos iawn i sicrhau nad ydym yn gadael bwlch, ein bod yn gallu gweld ffyrdd i rai o'r gwasanaethau cymorth hanfodol hynny allu parhau, ond hefyd gwaith y rhaglenni mawr y mae Chwarae Teg wedi bod yn eu gwneud, a pha opsiynau sydd yna iddynt gael eu cefnogi yn y dyfodol efallai, ond gan gyfeirio ein prif ffocws a'n meddyliau unwaith eto at y staff yr effeithir arnynt, a phrif weithredwr Chwarae Teg, nad yw wedi bod yn y swydd ers cymaint â hynny o amser ac sydd wedi etifeddu'r heriau hyn, a cheisio gwneud y gorau sy'n bosibl dros y gweithlu, y sefydliad a'r bobl, a'r lleoedd a'r cymunedau y maent wedi'u cefnogi mor llwyddiannus dros y blynyddoedd hefyd.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a bydd y datganiad cyntaf gan John Griffiths. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon, mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dathlu 32 mlynedd o Wythnos Addysg Oedolion, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgyrch flynyddol yn cynnwys nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, ac yn adeiladu ar weledigaeth i wneud Cymru'n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Mae partneriaid ar draws sawl sector wedi dod at ei gilydd i gyfrannu at raglen o weithgareddau. Mae dros 300 o gyrsiau, digwyddiadau, sesiynau blasu, gweithgareddau allgymorth ac adnoddau ar gael am ddim ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Bob blwyddyn, mae gwobrau dysgu oedolion Ysbrydoli! yn rhoi cyfle i glywed gan amrywiaeth o unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes. Eleni, clywsom gan Elinor Ridout, sydd wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth i ddod yn nyrs bediatrig er cof am ei mab annwyl, Will, a chan Walid Musa Albuqai, a ffodd rhag y rhyfel yn Syria gyda'i deulu ac astudio Saesneg fel ail iaith, sydd wedi'i alluogi i ddod o hyd i yrfa fel gyrrwr bws. Clywsom gan Steven Wright, sydd wedi symud i Gymru o Awstralia. Roedd yn amheus ynglŷn â'r Gymraeg i ddechrau, ond drwy ei gariad at ddiwylliant, dysgodd Gymraeg ac mae wedi torri tir newydd yn annog eraill i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd. Fel y dywedodd Raymond Williams, 

'Mae bod yn wirioneddol radical yn golygu gwneud gobaith yn bosibl, yn hytrach nag anobaith yn sicr.'

Roedd yna lawer mwy o enillwyr. Rwy'n eu llongyfarch i gyd, ac yn annog Aelodau eraill i ddarllen eu straeon.

Yr wythnos diwethaf, dathlodd Kaleidoscope 20 mlynedd o weithredu yng Nghymru. Eu hethos yw cynnig triniaethau effeithiol ac arloesol ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Rwy'n falch iawn o gael sefydliad mor dosturiol ac arloesol wedi'i leoli yn fy etholaeth. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr yng Nghasnewydd.

Wedi'i sefydlu yn wreiddiol ym 1968 yn Kingston upon Thames i gynnig lle diogel i bobl ifanc, mae gwaith yr elusen wedi esblygu dros y blynyddoedd i gefnogi miloedd o bobl â phroblemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl mewn canolfannau allweddol ledled y wlad. Yn 2003, cysylltodd Cyngor Dinas Casnewydd â Kaleidoscope, a dechreuasant eu gwasanaeth yn y gofod yng nghefn eglwys St Paul ar Heol Commercial, gyda chyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 100 o gleientiaid. O fewn blwyddyn, cynyddodd y nifer i 500, ac ers hynny mae Kaleidoscope wedi cael eu dewis i gyflawni eu dull arloesol ar draws pob rhan o Gymru. Yng ngeiriau Martin Blakebrough, eu prif swyddog gweithredol ysbrydoledig, rhaid i gymdeithas ganolbwyntio ar fywyd, fod bywyd yn werth ei achub, ac y gall pobl sy'n defnyddio cyffuriau gael bywyd cyflawn a hapus sy'n werth ei fyw:

'Nid yw pobl yn dewis dod yn ddefnyddwyr cyffuriau problemus. Mae angen inni fod yn fwy arloesol. Rydym yn ymgyrchu dros hawl pobl sy'n cymryd cyffuriau i wella, cael mynediad at driniaeth a bod yn ddiogel'.

Cenhadaeth Kaleidoscope yw diogelu pobl. Maent yn gadarn eu barn mai'r llwybr at adferiad yw dangos cariad a gofal i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd caru eu hunain. Maent wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, ac maent yn trawsnewid triniaethau cyffuriau yn barhaus yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn parhau i fod ar flaen y gad yn y gwaith hwn, felly, ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf.

15:30

Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Drwy gydol y mis, mae amryw o sefydliadau'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r pum canser gynaecolegol—canser y groth, yr ofari, ceg y groth, y fwlfa a’r wain—a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael. Rwyf wedi dod yn un o hyrwyddwyr Target Ovarian Cancer, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd dinistriol hwn, gan fod dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yng Nghymru, ac yn anffodus, dyma'r canser gynaecolegol sy'n fwyaf tebygol o arwain at farwolaeth, ond mae’n parhau i gael ei esgeuluso. Mae symptomau canser yr ofari yn debyg i lawer o afiechydon cyffredin eraill, sy'n golygu eu bod yn aml yn cael eu methu neu eu priodoli i achosion eraill, ac o ganlyniad, mae'n bosibl y gwneir diagnosis yn rhy hwyr o'r canser ac y bydd yn anos i'w drin. Ceir pedwar prif symptom: bol chwyddedig parhaus; teimlo'n llawn yn sydyn a/neu golli chwant bwyd; poen pelfig neu boen yn yr abdomen; a symptomau wrinol. Byddant yn symptomau mynych, parhaus a newydd, ac o bryd i'w gilydd, gall fod rhai eraill, fel newidiadau mewn arferion mynd i'r tŷ bach, blinder eithafol, a cholli pwysau heb esboniad.

Rydym wedi gweld gwelliannau sydd i’w croesawu ym maes diagnosis a thriniaeth canser yr ofari yng Nghymru, ond mae elusennau fel Target Ovarian Cancer yn dweud bod llawer mwy i’w wneud o hyd, gan ei bod yn annerbyniol fod ymwybyddiaeth o’r symptomau hyn mor isel o hyd, gyda dim ond 27 y cant o fenywod yn gallu nodi bol chwyddedig fel symptom, ac nad yw menywod yn teimlo eu bod yn cael digon o amser i drafod eu diagnosis torcalonnus gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu hyn. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth annog menywod i nodi'r symptomau hyn a cheisio cyngor, fel y gallwn gynyddu cyfraddau diagnosis cynnar, ac achub bywydau.

5. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

Eitem 5 yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig ar ran Comisiwn y Senedd.

Cynnig NDM8354 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2022-23, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 29 Mehefin 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser i mi gyflwyno adroddiad blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei gynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2022-23 gerbron y Senedd heddiw. Hoffwn i ddiolch, wrth wneud hynny, i fy rhagflaenydd fel comisiynydd, Rhun ap Iorwerth—fy olynydd fel arweinydd Plaid—am ei waith yntau dros gyfnod yr adroddiad hwn, a holl staff y Comisiwn sydd wedi bod wrthi'n cyflawni'r gwaith, sydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad. Er ei fod e ddim yn fuddiant yn yr ystyr cul, swyddogol, hoffwn i hefyd jest dynodi bod fy mrawd yn gweithio i'r Comisiwn, yn diwtor iaith, ac wedi cael y pleser o addysgu'r Gymraeg i nifer ohonoch chi.

Da iawn. Bydd e'n falch o glywed hynny.

Fe fydd Aelodau o'r Senedd yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i Gomisiwn y Senedd, yn unol â Deddf Ieithoedd Swyddogol 2012, gyflwyno adroddiad blynyddol ar ei waith yn darparu gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys unrhyw gwynion neu achosion o dorri'r cynllun. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol wedi canolbwyntio ar roi'r cynllun yma ar gyfer y chweched Senedd ar waith, gan sicrhau bod Aelodau, eu staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd yn ymwybodol o unrhyw newidiadau sy’n berthnasol iddyn nhw.

Fe fydd Aelodau bellach yn gyfarwydd â’r wybodaeth ystadegol a gyhoeddir fel rhan o’r adroddiad blynyddol. Mae’r wybodaeth yn hollbwysig i’r Comisiwn, ac i ni fel Aelodau, a'r cyhoedd, fedru monitro sawl maes o fewn cwmpas y cynllun. Eleni, mae’r adroddiad yn cynnwys ffigurau’r flwyddyn ddiwethaf hefyd er mwyn cynnig cyd-destun a chymhariaeth. Mae’r wybodaeth yn cynnwys manylion y swyddi a hysbysebwyd, boed hynny â gofyniad sgiliau Cymraeg cwrteisi, neu lefelau uwch, sy’n ein galluogi ni i gynllunio ein darpariaeth gwasanaethau dwyieithog, gan adnabod bylchau neu anghenion hyfforddiant. Rydym hefyd yn cynnwys manylion y busnes a osodwyd yn y naill iaith neu’r llall, neu yn ddwyieithog, a’r dogfennau a osodwyd yn unol â’r gofyniad i wneud hynny’n ddwyieithog. Ar y pwynt hynny, mae’n dda gweld lleihad cyson yn nifer y dogfennau a osodwyd yn uniaith Saesneg, sydd, wrth gwrs, yn golygu ei fod yn haws i Aelodau baratoi ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion yn eu dewis iaith.

Wrth edrych ar yr wybodaeth ystadegol yma, mae un maes sy’n destun pryder i mi fel Comisiynydd, sef canran y cyfraniadau cyfrwng Cymraeg mewn trafodion pwyllgorau. Roedd yn dda gweld ein bod ni wedi cynnal canran o 30 y cant o gyfraniadau mewn Cyfarfodydd Llawn. Fodd bynnag, roedd canran trafodion y pwyllgorau yn Gymraeg wedi disgyn i 8 y cant o lefel y llynedd, sef 12 y cant, oedd eisoes yn isel iawn, wrth gwrs. Fe fyddwn felly yn parhau i fonitro a chwilio am ffyrdd, fel bod Aelodau o’r Senedd, ac eraill sy’n cymryd rhan mewn trafodion pwyllgor, yn hyderus ac yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith. Byddwn yn parhau gyda’r gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau, er enghraifft dogfennau briffio, geirfaoedd a chefnogaeth y tiwtoriaid i ymarfer areithiau neu gyfraniadau mewn pwyllgor, ac yn chwilio am ffyrdd eraill o gael gwared ar unrhyw rwystrau o ran defnyddio dewis iaith, ac yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, yn arbennig, defnyddio'r Gymraeg. I’r perwyl hwn, byddwn hefyd yn ailgyflwyno’r tabl sy’n nodi canrannau’r busnes a gyflwynwyd dros y flwyddyn i’r adroddiad blynyddol o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rŷn ni wedi cynnwys e yn yr adroddiadau blaenorol, felly, er mwyn cyflawnder yr ystadegau, byddwn ni yn gwneud eto yn y dyfodol. Ac os oes unrhyw Aelod eisiau gweld y data yma ar gyfer cyfnod yr adroddiad hwn, byddaf yn ei osod yn y llyfrgell er gwybodaeth.

Rwy'n credu y byddai’n deg dweud mai uchafbwynt yr adroddiad eleni oedd niferoedd yr Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn sy’n dewis gwneud defnydd o ddarpariaeth dysgu Cymraeg a gloywi iaith y Senedd, yn amlwg mae Janet yn eu plith. Mae’n dda gweld ein bod bellach wedi dychwelyd i’r niferoedd sy’n dysgu a oedd gennym cyn i’r pandemig ein taro. Mae’r tîm wedi gweithio i ddeall anghenion a dymuniadau’r dysgwyr mewn byd newydd o weithio hybrid, ac wedi datblygu amserlen a darpariaeth sy’n ymateb iddynt. Ond nid da lle gellir gwell, ac felly fe fydd y tîm yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth, ac i chwilio am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i'r holl ddysgwyr, a hynny mewn ffordd sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Wrth gwrs, fe fyddwn yn parhau i ddathlu llwyddiannau nodedig, megis Aelod yn gwneud eu cyfraniad am y tro cyntaf yn Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn, neu lwyddiant mewn arholiadau y cyd-bwyllgor addysg. Ac roedd hi'n braf gweld y Cwnsler Cyffredinol yn defnyddio'r Gymraeg yn y datganiad hanesyddol oedd ganddo ddoe. 

I gloi, felly, hoffwn edrych tua’r dyfodol a’r flwyddyn sydd i ddod. Byddwn yn edrych eto ar yr elfennau yn ymwneud â sgiliau iaith o fewn y broses recriwtio, gan gynnwys yr asesiadau ar gyfer y lefelau sgiliau ar y matrics sgiliau iaith. Yn ogystal, ein gobaith yw gallu cynnal arolwg sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer staff Comisiwn y Senedd, er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o adolygu cynlluniau iaith y gwasanaethau unigol sy’n bwydo’r gwaith cynllunio ieithyddol parhaus. Yn bwysicach oll, byddwn yn parhau i feithrin ethos a diwylliant sy’n dathlu amrywiaeth cymuned y Senedd, gan annog pawb i roi cynnig ar ddefnyddio sgiliau Cymraeg, waeth beth yw lefel eu sgiliau, a hynny mewn awyrgylch gefnogol a phositif. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.  

15:40

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad am hyn heddiw. Hoffwn ddiolch i chi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Comisiynydd ac eraill wrth symud ymlaen gyda chynllun ieithoedd swyddogol y Comisiwn. Mae llwyddiant y cynllun hwn yn bwysig iawn ar gyfer cyrraedd nod Cymraeg 2050 a diogelu'r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n hapus i fod yn rhan o Senedd sy'n dangos sut y gall gweithle dwyieithog weithio'n dda, gan fod yn agored ac yn gefnogol i'r Gymraeg a'r Saesneg. 

Roedd yn ddiddorol darllen yn yr adroddiad sut yr oedden nhw’n delio â'r heriau o redeg Senedd hybrid. Cefais fy synnu hefyd o glywed bod rhai o staff Comisiwn y Senedd wedi gweithio gyda Microsoft i roi prawf ar gyfieithu ar Teams. Rwy'n credu'n gryf y dylen ni barhau i ddysgu bob amser, waeth beth yw ein hoedran neu ein profiad. Mae gweithio gyda Rannóg an Aistriúcháin, sef gwasanaeth cyfieithu Senedd Iwerddon, wedi bod yn werthfawr. Mae nid yn unig yn helpu ein cymdogion Gwyddelig ond hefyd yn rhoi profiadau da i ni ddysgu ohonyn nhw.

Rwyf am ailadrodd beth ddywedodd Adam Price a siarad yn gyflym am y rhifau yn yr adroddiad blynyddol. Mae'n bwysig nodi bod canran y dogfennau a gafodd eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg wedi gostwng o 7 y cant yn 2021-22 i 5 y cant yn 2022-2023. Gostyngodd trafodion Cymraeg mewn pwyllgorau hefyd o 12 y cant i 8 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n ostyngiad mawr. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod llai o dystion yn siarad yn Gymraeg. Felly, mae'n bwysig iawn na ddylai siarad Cymraeg fod yn broblem wrth roi tystiolaeth, gan ei fod yn effeithio ar y mathau o dystiolaeth yr ydym yn ei chael. Yn anffodus, nid yw canran y sesiynau llawn a gynhaliwyd yn y Gymraeg wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn siomedig. Efallai fy mod i wedi ei fethu, ond wrth gymharu adroddiad eleni â'r llynedd, mae'n edrych fel eu bod wedi hepgor nifer y cwestiynau ysgrifenedig yn Gymraeg. Aeth i lawr o 10 y cant i 4 y cant rhwng 2020 a 2022. Byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Comisiynydd ddweud y ffigur wrthym am y cyfnod adrodd diwethaf, fel y gallwn gadw golwg ar gynnydd.

A hefyd, uchafbwynt—rwy'n falch o weld cynnydd o 82 y cant yn nifer y dysgwyr Cymraeg sy'n defnyddio cynllun dysgwyr Cymraeg y Comisiwn. Gyda’r pwysau ar y gyllideb, hoffwn i wybod sut maen nhw'n sicrhau bod y gyllideb ar gyfer y cynllun hwn yn parhau i gael ei gwarchod. Hefyd, a fu unrhyw newidiadau yn y rhifau ariannol ers cyhoeddi'r adroddiad hwn? Hoffwn wybod a oes gan y Comisiwn nodau neu dargedau penodol i fesur pa mor dda y mae'r cynllun hwn yn gwneud, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.

I gloi, rwyf am ddweud eto fy mod i a fy mhlaid yn cefnogi datblygiad y Gymraeg ym mhopeth a wnawn yn y Senedd, yn union fel y dywedais yn y ddadl ar yr adroddiad hwn y llynedd. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i'r Comisiynydd am y diweddariad a'r adroddiad hefyd. Yn amlwg, fel dŷch chi wedi amlinellu, mae yna nifer fawr o bethau i'w croesawu fan hyn, yn enwedig o ran y dysgwyr yn cynyddu ac ati. Ond yn debyg iawn i Sam Kurtz, dwi'n meddwl bod angen inni ddeall rhai o'r ffigurau o ran pam dydy pobl ddim yn dewis defnyddio'r Gymraeg, oherwydd dewis ydy o. Mi ydym ni'n wlad ddwyieithog. Mi fyddai’n rhagrithiol i fi fod yn dweud y dylai pawb sy'n gallu'r Gymraeg wneud pob cyfraniad yn y Gymraeg, oherwydd, yn sicr, dydw i ddim yn gwneud hynny. Ond fy iaith gyntaf i ydy'r Gymraeg, a dwi yn ymfalchïo fy mod i yn fan hyn, fel Aelod o Senedd Cymru, yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn fy ngwaith, rhywbeth sydd ddim yn bosib i nifer o bobl, er ein bod ni'n trio eu cefnogi nhw. Felly, mae o'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos yr esiampl yma.

Un o'r pethau roeddwn i eisiau ei ofyn ydy—. Rydych chi'n sôn am y disgyn sydd wedi bod o ran cyfrannu mewn pwyllgorau; mi fyddai fo'n ddifyr gwybod beth ydy'r canran o ran faint y mae Aelodau'n cyfrannu o ran hynny, ac a oes yna ostyngiad wedi bod o ran hynny, ac efallai gwneud gwaith efo Aelodau i ddeall pam, oherwydd dwi wedi gweld enghreifftiau gwych o bobl yn defnyddio'r Gymraeg, efallai am y tro cyntaf mewn pwyllgor. Er enghraifft, mae Hefin David yn aml wedi ei defnyddio ar y pwyllgor diwylliant ac ati, ac mae o wedi bod yn wych gweld hynny, ei fod o'n teimlo'n hyderus i gael cyfle ac ati, a'n bod ni'n gallu cefnogi ein gilydd mewn ffordd.

Felly, dwi'n meddwl y byddai fo’n dda, nid dim ond i fonitro, ond efallai gweithio gyda phwyllgorau a deall, oherwydd, ar un pwyllgor dwi arno fo, dwi'n meddwl mai dim ond fi sydd yn defnyddio’r Gymraeg ac mae rhywun yn llithro i'r Saesneg wedyn, yn enwedig wrth groesholi ac ati. Felly, dwi'n meddwl bod cael adroddiadau o’r math hefyd yn hwb inni gofio defnyddio’r hyn sydd ar gael inni a chymryd mantais o hynny.

A gaf i ofyn hefyd, jest o ran yr ochr gyllidol—? Dwi yn meddwl bod pwynt Sam Kurtz yn bwysig; rydyn ni'n gwybod am yr heriau fydd gan y Comisiwn o ran ei gyllideb ac rydyn ni hefyd yn gweld, o ran hyn, llwyddiant y buddsoddiad sydd yna o fewn staff cymorth ac ati, y pwysigrwydd hefyd o ran gloywi iaith, oherwydd mae cynifer o bobl, rydyn ni'n gwybod, o fewn y staff cymorth ac ati, staff y Comisiwn, efallai heb ddefnyddio eu Cymraeg ers gadael yr ysgol. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y sgiliau hynny.

Felly, tra'n edrych ymlaen at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sut y gallwn ni, fel Senedd, chwarae ein rhan yn hynny fel gweithle ac esiampl hefyd, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig nad ydyn ni ddim yn colli golwg o’r ffigurau sydd yn fan hyn a'n bod ni'n ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n deall pam mae rhai yn dewis peidio, a’n bod ni'n cefnogi a sicrhau bod y gyllideb yn parhau fel bod yr iaith Gymraeg ar gael ac yn perthyn i bawb.

15:45

Dwi'n ddiolchgar i’r Aelodau sydd wedi cyfrannu a dwi'n croesawu'r sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed. Ac os caf i ofyn am rywfaint o ras ac amynedd oherwydd dwi newydd gael fy mhenodi i'r swydd. Ac felly, fel sydd yn draddodiadol i'w ddweud ar y pwynt yma, mi fyddaf i'n ysgrifennu atoch chi gydag ateb llawn. [Chwerthin.]

Ond fe geisiaf ymateb ryw ychydig i rai o’r pwyntiau pwysig a oedd wedi cael eu codi. Dwi'n credu yr oedd Sam Kurtz yn hollol iawn i ddathlu’r arloesedd sydd yn amlwg ymhlyg yn yr adroddiad ac yng ngwaith y tîm ieithoedd swyddogol, sef yr ymgysylltu a’r cydweithio gyda Microsoft yn newid meddalwedd sydd yn cael ei ddefnyddio'n fyd-eang ar sail ein dwyieithrwydd ni yma yng Nghymru. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi a dwi'n deall bod y drafodaeth a'r cydweithio yna gyda Microsoft yn parhau.

O ran y targedau, sut rŷn ni'n meincnodi, os taw dyna'r—. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi bathu'r term yna. Mae yna dargedau yn y cynllun ar gyfer y chweched Senedd. Maen nhw'n dargedau i’w cyrraedd erbyn diwedd y Senedd, ond, wrth gwrs, maen nhw yn cael eu cadw o dan wyliadwriaeth cyson ond mi fyddwn ni'n adrodd yn eu herbyn maes o law.

O ran rhai o'r ystadegau sydd ddim yn yr adroddiad llawn yma—mi fyddan nhw'n cael eu gosod yn y Llyfrgell—o ran cwestiynau llafar, yn ôl y tabl sydd gen i ger fy mron i fan hyn, mae cynnydd, rhywfaint, wedi bod o 14 y cant i 15 y cant o ran cwestiynau llafar yn y Gymraeg. O ran cwestiynau ysgrifenedig, mae wedi mynd mymryn i'r cyfeiriad arall, o 4 y cant yn unig i 3 y cant sydd yn cael eu gosod yn Gymraeg.

O ran cwestiwn Heledd Fychan, fe wnawn ni edrych ar a ydyn ni'n gallu gwneud ychydig bach mwy o waith ar y cwestiwn yma o ddefnydd yn ystod y pwyllgorau, achos rŷch chi'n hollol iawn: ffactorau gwahanol fyddai'n esbonio'r rhwystrau i Aelodau, efallai, i'r rhai sydd yn rhoi tystiolaeth. Felly, fe wnawn ni ychydig bach o waith er mwyn deall yn union beth yw gwreiddiau neu yriannau’r ffenomenon hwn, er mwyn cynyddu'r defnydd ar y ddwy ochr, wrth gwrs.

Ac, ie, jest yn fras, tra ein bod ni'n trafod ystadegau, er bod y sefyllfa o ran dogfennau sy'n cael eu cynhyrchu at y pwyllgorau gan y Senedd, fel petai, yn eithaf iach, mae'r ffigurau o ran y dogfennau a osodwyd yn ddwyieithog, wrth gwrs, yn gyffredinol yn peri mwy o bryder. Mae llawer iawn o'r rheini tu fas i reolaeth uniongyrchol y Senedd, oherwydd maen nhw'n dod gan y Llywodraeth. Ond mae'n bwysig ein bod ni, fel Senedd, yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, oherwydd, wedi hynny, wrth gwrs, mae e'n effeithio ar ein gallu ni i fod yn Senedd ddwyieithog os nad ydyn ni yn cael y dogfennau, hynny yw, yr holl ddogfennau, gan gynnwys y nodiadau esboniadol—. Os nad ydyn ni'n cael rheini mewn da bryd yn ddwyieithog, mae hynny hefyd yn amharu ar ein gallu ni i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Felly, mae hynny yn rhywbeth inni dal ymboeni ynglŷn ag e, a dweud y gwir. Dwi ddim yn siŵr a ydw i wedi cyfro popeth, Dirprwy Lywydd, ond dwi'n gweld bod y golau'n goch. Ond os nad ydw i wedi medru ag ymateb i'r holl gwestiynau, fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelodau dan sylw. 

15:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Plaid Cymru: Ynni gwyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 6 y prynhawn yma yw Dadl Plaid Cymru, ynni gwyrdd. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8355 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod canlyniad yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer ynni gwynt ar y môr yn golygu na fydd ffermydd gwynt newydd ar y môr yn cael eu datblygu yng Nghymru hyd y gellir rhagweld.

2. Yn nodi bod adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gynnydd agenda datgarboneiddio Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni ei nodau Sero Net erbyn 2050.

3. Yn nodi bod adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Paris yn pwysleisio'r angen i allyriadau tanwydd ffosil gyrraedd uchafbwynt erbyn 2025 fan bellaf er mwyn sicrhau bod cynhesu byd-eang wedi'i gyfyngu i 1.5 gradd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.

4. Yn credu bod gan Gymru y potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

5. Yn credu bod y potensial hwn yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd o ganlyniad i ddulliau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol werdd newydd i Gymru wireddu ei photensial economaidd mewn ynni gwyrdd a sicrhau bod cynnydd tuag at ei nodau Sero Net yn cael ei gyflymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud i gychwyn, pan wnaethom gyflwyno'r cynnig ar gyfer y ddadl hon, nid oeddem wedi sylweddoli pa mor gythruddol o amserol y byddai. Mae penderfyniad Sunak yn Llundain i gefnu—[Torri ar draws.]—ar bolisïau hinsawdd allweddol yn destun cywilydd. Ydy, i Brif Weinidog y DU, mae’n destun cywilydd a chryn bryder. Rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn myfyrio ar hyn yn eu hareithiau y prynhawn yma. Ni allwn droi ein cefnau ar ein planed, neu bydd pob un ohonom yn marw.

Ond i ddychwelyd at yr ysgogiad gwreiddiol sy'n sail i’r ddadl hon, mae'n ymwneud â photensial. Yr hyn sy'n cynddeiriogi rhywun ynglŷn â photensial yw ei fod bob amser yn y dyfodol, bob amser yn cael ei gadw hyd braich. Ymddengys bod tynged Cymru ers cymaint o flynyddoedd wedi'i mynegi yn y termau amwys hyn. Rydym yn sôn am y potensial aruthrol ar gyfer ynni gwynt ac ynni’r llanw, i Gymru ddod yn bwerdy’r dyfodol, ond mae'r allweddi i ddatgloi’r drws hwnnw wedi'u cadw ar gadwyn mewn ystafell gaeedig gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Dyna sy’n cynddeiriogi rhywun: nid yw ein potensial byth yn cael ei wireddu, o dan y system hon o leiaf. Ac felly, yn ystod yr wythnosau diwethaf—yr oriau diwethaf, hyd yn oed—rydym wedi gweld yr un hen stori'n cael ei hadrodd unwaith eto. Roedd y paramedrau a osodwyd gan San Steffan ar gyfer yr arwerthiant ynni gwynt ar y môr mor afrealistig, mor gyfyngedig, fel nad oes gobaith mwyach yn y dyfodol y gellir ei ragweld o ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr newydd yng Nghymru, dim modd o harneisio ein potensial gwych. Ac mae'r siom hon wedi dod ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru wedi cael ei rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni ein nodau sero net erbyn 2050. Bellach, rydym wedi cael ein chwythu hyd yn oed ymhellach oddi ar y trywydd hwnnw.

Ni fu erioed mwy o frys i ni yng Nghymru ddatblygu strategaeth ddiwydiannol newydd, strategaeth ddiwydiannol werdd. Mae’r swyddi a gollir mewn modd mor dorcalonnus yn Tata yn ein hatgoffa o ganlyniadau real peidio â chael strategaeth o’r fath. Ac mae penderfyniad ysgytwol, trychinebus Sunak, Prif Weinidog Llywodraeth San Steffan, i gefnu ar gymaint o bolisïau yn gwneud hyn yn bwysicach fyth hefyd. Nid oes unrhyw un o’r heriau sy’n ein hwynebu yn rhai pell neu hyd braich, ac ni ddylai ein dull o fynd i'r afael â nhw fod felly ychwaith.

Oherwydd mae gan Gymru botensial—y gair hwnnw eto—potensial i fod yn bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy. Felly, gadewch inni roi'r gallu i ni ein hunain wneud hynny. Oherwydd ar hyn o bryd, nid yw dull polisi San Steffan na’r Llywodraeth yma yn gwneud y gorau o’r capasiti cudd heb ei wireddu a allai fod gennym, y pŵer y gallem ei gynhyrchu. Mae ein harfordir yn cael ei ddathlu fel cyrchfan i dwristiaid, a hynny'n briodol, ond mae angen i'w harddwch fod yn fwy na harddwch golygfaol yn unig. Gellid harneisio'r môr Celtaidd i bweru'r dyfodol. Gallem ddysgu o'r hyn y mae Iwerddon yn ei wneud dros y dŵr. Maent â'u hwynebau tua'r dyfodol, nid y gorffennol.

Achos mae dyletswydd gennym i'n dyfodol, i weithwyr yfory a gweithwyr heddiw. Rhaid cael strategaeth werdd i greu swyddi gwyrdd, i ddangos uchelgais. Mae gennym ddyletswydd i'n plant i greu ffordd o weithio i greu ynni, i greu pŵer i'n cymunedau mewn ffyrdd sydd ddim yn peryglu ein planed, i ddatblygu ffyrdd o fyw fydd yn achub ein cymunedau, fydd yn cydnabod y peryglon sy'n bodoli trwy lifogydd, trwy golli bioamrywiaeth, trwy lygredd yn ein dŵr a'n aer. 

Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ohirio, gan fod y blaned yn llosgi o’n cwmpas, ac yng ngeiriau’r Cenhedloedd Unedig, mae'r cyfle i Lywodraethau symud yn gyflymach yn prysur grebachu, gan fod yn rhaid i allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang gyrraedd eu hanterth erbyn 2025 fan bellaf. Ac mae hi eisoes gymaint yn hwyrach nag y credwn. Mae ein cefnforoedd yn tagu mewn plastig ac mae ein plant yn anadlu aer gwenwynig. Os ydym am gyrraedd sero net mewn pryd—yr ymadrodd hwnnw 'mewn pryd', gan ei bod yn rhy erchyll i feddwl beth fydd yn digwydd os na wnawn hynny mewn pryd—. Ond os gwnawn hynny, bydd hynny’n golygu bod angen trawsnewid ein systemau ar draws pob sector, ym mhob cyd-destun, gan gynnwys cynyddu ynni adnewyddadwy, cael gwared ar danwydd ffosil fesul cam, rhoi diwedd ar ddatgoedwigo a gweithredu mesurau ar yr ochr gyflenwi ac ochr y galw.

Mae'n rhaid inni gael cadwyni cyflenwi sy’n adlewyrchu ein cyfrifoldeb byd-eang, sy’n cysylltu ein cymunedau, ac nad ydynt yn caniatáu inni guddio ein cydwybod o dan y môr, ymhell o’r golwg, ymhell o'r meddwl, system sy’n grymuso defnyddwyr i wneud dewisiadau moesegol, yn fusnesau ac yn unigolion. Ac mae angen inni fuddsoddi mewn datblygu sgiliau, mewn ymchwil, mewn arloesi. Ond nid yw 'rhaid' ac 'angen' yn ddigon. Nid yw ei ddweud yn ddigon. Mae’r trychineb hinsawdd yn ein gorfodi i weithredu, ac i weithredu nawr.

Mae'n destun pryder enfawr bod y pleidiau Llundeinig, y Tories a Llafur ill dau, yn gwanhau eu polisïau yn ymwneud â hyn, yn cael eu hysgogi gan ofn neu ddiffyg uchelgais, ac nid gan benderfyniad. Cyhoeddwyd cynlluniau ym mis Awst i greu mwy na 100 o drwyddedi olew a nwy newydd. Mae San Steffan yn bwriadu gwneud hi'n siepach i lygru'n aer yma nag yw e yng ngweddill Ewrop, i'w gwneud hi'n haws i roi pethau afiach yn ein hafonydd. A dim ond ddoe daeth newyddion bod cynlluniau i wahardd ceir petrol erbyn 2030 o dan fygythiad, ac mae pryder bydd targedau effeithlonrwydd ynni ar gyfer landlordiaid a mesurau i leihau traffig hefyd efallai o dan fygythiad. Datblygiadau grave a phryderus tu hwn ydy'r rhain.

Nid o gyfeiriad San Steffan y bydd atebion i'n problemau yn dod. Yn wir, fel rŷm ni wedi gweld, nhw sydd yn ein dal ni'n ôl, ond rhaid inni sicrhau na fydd ein gallu ni i ymateb i'r creisis hinsawdd yn cael ei danseilio o ganlyniad i'r datblygiadau pryderus hyn.    

Fel y saif pethau, rhennir posibiliadau cynhyrchu ynni—. Maddeuwch i mi. Rhennir cyfrifoldebau ynni rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda San Steffan yn dal pwerau dros y diwydiant olew a nwy, y diwydiant trydan, gan gynnwys cynhyrchu, trawsyrru, dosbarthu a chyflenwi. Datganolodd Deddf Cymru 2017 gyfrifoldebau pellach i’r Senedd, gan gynnwys trwyddedu a rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau olew a nwy ar y tir, prosiectau gwynt ar y tir a phrosiectau ynni adnewyddadwy o dan 350 MW. Yn llwybr cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, mae 57 y cant o’r gostyngiadau gofynnol mewn allyriadau y maent yn eu nodi rhwng 2020 a 2025 yn dod o sectorau sy’n arbennig o ddibynnol ar San Steffan. Golyga hynny fod eu diffyg gweithredu yn ein cynddeiriogi fwy byth yng Nghymru, ac yn yr un modd, mae methiant Llywodraeth y DU i uwchraddio ein grid pŵer yn ein dal yn ôl, yn cyfyngu ar ein cyfle i leoli a datblygu gosodiadau ynni adnewyddadwy, ac yn atal cymunedau rhag creu cysylltiadau agosach rhwng prosiectau lleol a'r ardaloedd a allai elwa ohonynt.

Mae'r holl botensial hwnnw, unwaith eto, yn segur. Y peth sy'n cynddeiriogi rhywun bob amser ynglŷn â photensial yw ei fod bob amser yn y dyfodol, ymhell i ffwrdd, ond nid oes angen iddo fod felly. Mae datganoli pwerau ynni yn llawn yn anghenraid ar gyfer dyfodol ein gwlad. Mae cael cynllun cynhwysfawr yn anghenraid er mwyn gwneud y newid i’n dyfodol gwyrddach yn rhywbeth y gallwn fod yn gyffrous yn ei gylch, ac nid yn ofnus ohono.

Mae gennym gyfle nawr i wneud cymwynas â'n dyfodol, cymwynas â'n planed, cymwynas â phobl Cymru heddiw ac yfory. Ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gweddill y ddadl.

16:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn llongyfarch cyrff cyhoeddus a busnesau yng Ngogledd Cymru am lwyddo i sicrhau arian ar gyfer y cyflwyniad mwyaf erioed o dechnoleg ynni llif y llanw yng Nghymru trwy ddyfarniad Rownd 5 diweddaraf y Contract ar gyfer Gwahaniaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i gyflymu cyflwyno tyrbinau gwynt alltraeth arnofiol, gan gynnwys gweithredu argymhellion Tasglu Cyflymu Gwynt Alltraeth.

3. Yn cydnabod sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu llwybrau datgarboneiddio ar gyfer diwydiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymateb ar fyrder i argymhellion yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar Gymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan gynnwys paratoi cynlluniau i sicrhau gostyngiad o 10% yn y car-km y person erbyn 2030, pennu llwybr datgarboneiddio ar gyfer amaethyddiaeth a chyflymu cyfraddau plannu coed trwy chwalu rhwystrau anariannol.

b) sicrhau bod Ynni Cymru’n galluogi cymunedau i chware rhan hanfodol yn y broses o wneud Cymru’n bwerdy ar gyfer ynni glân ac adnewyddadwy.

c) sicrhau bod Trydan Gwyrdd Cymru’n helpu i gynyddu’r manteision economaidd i Gymru a ddaw trwy’r trawsnewid ynni trwy roi incwm i’r pwrs cyhoeddus a sbarduno cadwyni cyflenwi Cymreig.

5. Yn cytuno â chanfyddiadau adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Ddeialog Dechnegol y Stoc-gyfrif Byd-eang cyntaf ar weithredu Cytundeb Paris bod modd osgoi effeithiau gwaetha'r newid yn yr hinsawdd os bydd pob gwlad yn cymryd camau eofn i gyflawni targedau anodd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr arwerthiant diweddaraf yn y DU ar gyfer contractau ynni adnewyddadwy wedi arwain at 3.7GW o brosiectau pŵer solar, gwynt ar y tir a phŵer llanw ledled y DU.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn diddymu grantiau ardrethi busnes ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi gofnodi fy ngwrthwynebiad i'r modd y cyfeirir at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth ei gyfenw? Rwy'n credu y dylem gael safon ymddygiad yn y Senedd y dylid cyfeirio at y Prif Weinidog, pwy bynnag y bo, wrth ei enw cywir mewn gwirionedd, sef y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y defnydd o gyfenw rhywun—

Diolch. Felly, y contractau ar gyfer gwahaniaeth rownd 5—. O, ac mae'n rhaid imi ddweud bod gennych wyneb braidd yn lladd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a hwythau ymhell o'n blaenau ni gyda'u hamcanion newid hinsawdd. [Torri ar draws.]

Rwy'n ymwybodol o'r newyddion a bydd mwy yn cael ei ddatgelu yn nes ymlaen. Ond am y tro, rwy'n falch iawn o'r cynnydd y maent wedi'i wneud hyd yn hyn. Pan fyddwch chi'n gallu cymharu eich diffyg cynnydd chi â nhw mewn gwirionedd, efallai y bydd angen i chi edrych fwy arnoch chi'ch hunain. 

Nawr, mae canlyniadau dyraniad rownd 5 y contractau ar gyfer gwahaniaeth yn tynnu sylw at chwe phrosiect allweddol cyffrous i Gymru, gan gynnwys fferm wynt Foel Trawsnant, parc solar Ynys Môn a phrosiect Ynni Llanw. Felly mae yna ganlyniadau cadarnhaol o'r rownd ymgeisio—[Torri ar draws.] Mae canlyniadau cadarnhaol o'r rownd ymgeisio, gan gynnwys cymaint â 3.7 GW o bŵer solar, prosiectau ynni gwynt ar y tir ac ynni llanw.

Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn wir nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o hyd i gyrraedd eich targedau datgarboneiddio 2050 eich hunain. Mae adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod defnydd o ynni adnewyddadwy wedi arafu ers 2016. Cynyddodd capasiti gwynt ar y môr 26 y cant yn 2015; fodd bynnag, ar ôl hynny, fe arhosodd yn ei unfan, heb unrhyw gynnydd mewn capasiti gweithredol rhwng 2016 a 2020. Cynyddodd capasiti gweithredol gwynt ar y tir 12 y cant yn 2019 ac aros yn ei unfan i raddau helaeth ar ôl hynny. Mae gosod capasiti solar wedi cynyddu ar gyfradd arafach ers 2016, ac fel y dywed yr adroddiad hwn, dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach fel rhan o grŵp darparu seilwaith dan arweiniad Gweinidog, a sicrhau ar y cyd â'r comisiynydd rhwydweithiau trydan newydd, fod cynlluniau galluogi ar gyfer seilwaith ynni yn cael eu datblygu'n gyflym, a bod newidiadau polisi angenrheidiol yn cael eu gweithredu yng Nghymru i ddarparu system bŵer wydn wedi'i datgarboneiddio erbyn 2035.

Rwyf wedi siarad â'r Arglwydd Deben fy hun am yr adroddiad, ac wedi tynnu sylw hefyd at fy mhryderon difrifol ynglŷn â'r diffyg sylw a roddwyd i'r amgylchedd morol y gwnaethom ei nodi ym mhwyllgor newid hinsawdd Senedd Cymru. Mae'n afresymol parhau i ddilyn polisi o blannu coed ar dir amaethyddol a ninnau'n gwybod y gall ecosystemau morol ddal llawer mwy o garbon fesul erw na choedwigoedd. Mae metr sgwâr o laswellt môr yn dal teirgwaith cymaint â metr sgwâr o goedwig law a 10 gwaith cymaint â metr sgwâr o laswelltir. Gallem wneud cymaint yn fwy i arwain y gwaith o adfer natur a chynhyrchu ynni. Pe baech chi ond yn gweithredu ar ein cais am gynllun datblygu morol gofodol cenedlaethol, byddai hyn yn amlwg yn grymuso Senedd Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i benderfynu beth sy'n mynd ble.

Yn yr un modd, nid oes gennym strategaeth hydrogen genedlaethol, ac mae'n rhaid imi fod yn onest, mae'n siomedig nad yw'r Bil Seilwaith (Cymru) newydd hyd yn oed yn crybwyll hydrogen. Rydych chi wedi torri rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer cynlluniau ynni dŵr bach preifat ar ein ffermydd yng Nghymru. Mae angen i Weinidogion Cymru gyflwyno mesurau i annog y cynlluniau preifat hyn. Mae angen i chi hefyd weithio'n gydweithredol gyda Llywodraeth y DU, a gwelsom y drafodaeth yma yr wythnos diwethaf, pan oeddech chi'n dweud nad oeddent wedi ymgysylltu a soniodd Huw Irranca-Davies fod rhywfaint o ymgysylltiad wedi bod. Cawsom lythyr gan y Gweinidog, yn dweud yn eithaf clir lle nad oeddech wedi ymgysylltu â nhw, i'r fath raddau nes iddo arwain at ymddiheuriad gennych chi, Weinidog. [Torri ar draws.]

Nawr, mae gan safle Trawsfynydd botensial anhygoel i helpu i hybu diogelu ffynonellau ynni'r DU gyda chynigion Cwmni Egino ar gyfer technoleg adweithydd modiwlar bach. Mae ganddo fynediad eithriadol at gapasiti'r grid, felly gadewch inni weithio gyda'n gilydd ar hynny. Gellid gwella Parc Cenedlaethol Eryri fel parc pŵer, a dylem wneud y gorau o'r buddsoddiadau gwych gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £26 miliwn ar gyfer dau borthladd rhydd, £160 miliwn ar gyfer seilwaith porthladdoedd a £500 miliwn i Tata Steel. 

Tra bod y Ceidwadwyr yn sicrhau bod gan Gymru sector dur gwyrdd sy'n arwain y byd, mae'r Llywodraeth hon yn anuniongyrchol yn cefnogi trosglwyddo ôl troed carbon dramor. Mae angen inni fod yn realistig fod 2050 chwarter canrif i ffwrdd. Rydym bellach yn y cyfnod pontio, ac yn ystod y cyfnod pontio hwn—

16:05

—mae angen tanwydd ffosil, ac un ffordd y gallent wneud hynny yw cadw mwynglawdd Ffos-y-frân ar agor. Mae'n ffaith ei fod yn darparu'r glo carreg gorau, ag iddo enw da ledled y byd. Mae'n llosgi'n llawer glanach, ac eto rydych chi'n barod i fewnforio o wledydd fel Kazakhstan, ac mae'n lo budr.

Rwy'n gorffen nawr. Mae gan Gymru botensial i fod yn bwerdy ynni, ond mae angen camau newydd ac angen penderfyniad newydd gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud a chanolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n gyfrifol amdano yma yng Nghymru. Diolch.

Rwy'n credu ei bod hi'n anodd dilyn Janet Finch-Saunders, oherwydd mae cymaint o'i le ar y dadansoddiad, felly fe wnaf fwrw ymlaen â'r hyn roeddwn i eisoes wedi'i ysgrifennu.

Mae gwynt ar y môr bellach yn rhatach na nwy—mae honno'n sefyllfa anghyffredin. Mae'n adlewyrchu'r cynnydd cwbl ddigynsail a brawychus ym mhrisiau nwy, sydd wedi golygu bod cymaint o aelwydydd yn methu talu eu biliau gwresogi. Er bod hyn wedi ysgogi'r cwymp mwyaf serth mewn safonau byw ers yr ail ryfel byd, clywn Suella Braverman yn dadlau y bydd gwyrddu ein heconomi yn ein gwneud yn fethdalwyr. Mae'n rhyfeddol. Yn drasig, gwyddom bellach fod gan y Prif Weinidog presennol fwy o ddiddordeb mewn rhyfeloedd diwylliant i achub ei groen na llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ni allwn ei roi yn well na Zac Goldsmith:

'Bydd ei gyfnod byr fel Prif Weinidog yn cael ei gofio fel yr eiliad y trodd y DU ei chefn ar y byd ac ar genedlaethau'r dyfodol. Eiliad o gywilydd.'

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn gweiddi'n groch nad ydym ni, gyda'n gilydd—y DU gyfan—ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiadau sero net. Ond Janet Finch-Saunders, os darllenwch adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gallaf eich sicrhau fod yr Arglwydd Deben yn siarad heb flewyn ar ei dafod, ond mae'n llawer mwy blin ynglŷn â rôl Llywodraeth y DU na'r pethau cymharol fach y mae'n eu beirniadu am Gymru.

Yn y cyd-destun hwnnw, byddai unrhyw Lywodraeth resymol wedi sicrhau bod y drefn gymorthdaliadau ar gyfer y rownd drwyddedu ddiweddaraf yn ddigonol i gael cynigion ar gyfer ynni gwynt ar y môr, nad yw'n rhywbeth y gall gweithredwyr ynni cymunedol ei wneud. Mae hyn ar gyfer y gweithredwyr mawr; felly, mae'n rhaid i'r cymhorthdal fod yn addas o fawr i ysgogi archwaeth datblygwyr sy'n mynd i orfod buddsoddi symiau mawr o arian cyn iddynt gael unrhyw elw. Yn hytrach, mae'r cynlluniau ar gyfer fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru, oddi ar arfordir sir Benfro, wedi eu gohirio. Mae Blue Gem Wind wedi gorfod gohirio unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, ond maent yn dweud eu bod yn dal i siarad â Llywodraeth y DU. Wel, bydd yn rhaid inni aros tan i ni gael Llywodraeth y DU sy'n fwy rhesymol ynglŷn â hyn.

Ond cyferbynnwch hynny â'r sefyllfa yn Iwerddon, lle mae arwerthiant a drefnwyd gan Lywodraeth Iwerddon wedi arwain at ormodedd o geisiadau prosiectau gwynt ar y môr, a bydd yn darparu capasiti cyfunol o 3 GW, sy'n gam enfawr i Iwerddon, o'i gymharu â'i hunig fferm wynt alltraeth 25 MW ar hyn o bryd. Mae gan fethiant Llywodraeth y DU i osod y lefelau cymhorthdal cywir oblygiadau difrifol iawn i glwstwr diwydiannol de Cymru. Mae gennym yr ail glwstwr diwydiannol mwyaf yn y DU ac os na allwn gyflenwi ynni glân ar y raddfa sydd ei hangen arnynt, bydd y diwydiannau hyn yn cael eu gorfodi i fynd i rywle arall neu drengi.

Yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y bore yma, cawsom ein hatgoffa gan David Clubb fod angen i Gymru gynyddu ei chynhyrchiant ynni adnewyddadwy 400 y cant i gyflawni ein rhwymedigaethau sero net. Rwy'n rhannu rhwystredigaeth Delyth Jewell nad ydym yn manteisio ar yr adnoddau naturiol sydd gennym. Rydym yn ffodus, mae gennym naw gwaith yn fwy o ynni gwynt yn y wlad hon na'r Almaen, dyweder, oherwydd ein lleoliad daearyddol, ac mae hynny'n anhygoel. Nid oes rhaid inni ddibynnu ar niwclear, sy'n creu gwastraff niwclear ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, na thechnolegau eraill sydd heb eu profi, fel dal carbon, i wyrddu ein diwydiannau a phopeth arall y dibynnwn arno drwy gynhyrchu ynni. Mae diffyg difrifol unrhyw strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pontio gwyrdd teg yn achosi pryder diangen am newidiadau mewn gweithluoedd fel Tata. Mae swyddi'n cael eu dadleoli, ond mae nifer enfawr o swyddi newydd yn cael eu creu ac angen eu darparu.

Rwy'n cefnogi gwelliant 1, oherwydd mae'n nodi'n glir beth sydd angen inni ei wneud i osgoi'r trychineb o beidio â gweithredu mewn pryd. Yn sicr, nid yw'n rhoi'r moethusrwydd i ni o gael ffug-ryfeloedd diwylliant ynghylch 20 mya diofyn. Mae llawer gormod o aelwydydd yn byw mewn tlodi trafnidiaeth, gan wario mwy na 10 y cant o'u hincwm, oherwydd nad oes ganddynt opsiynau trafnidiaeth eraill ar gael iddynt. A bydd ailreoleiddio bysiau yn ein galluogi i fwrw ymlaen â sicrhau gostyngiad o 10 y cant mewn milltiroedd car y pen, sydd yn y gwelliant, a—

16:10

O'r gorau. Felly, yn yr un modd, mae llawer iawn o waith i'w wneud ar ddatgarboneiddio ein hamaethyddiaeth, ac fe siaradaf am hynny rywdro eto.

Rŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma am bwysigrwydd mynd i'r afael â'r her newid hinsawdd. Yn ddiamau, dyma un o'r heriau mwyaf yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn fwy perthnasol fyth yng ngoleuni bwriad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i rwyfo nôl ar ei thargedau datgarboneiddio. Dyma enghraifft arall o'r Torïaid yn gwneud yr hyn sydd yn honedig yn boblogaidd, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd yn iawn. Dylai'r dihidrwydd anghyfrifol hwn ein gwneud ni'n hyd yn oed yn fwy penderfynol yma yng Nghymru i gadw'n driw i'n hymrwymiad i fod yn sero net erbyn 2050, os nad ynghynt.

O aber yr afon Llwchwr i bellafoedd Pen Llŷn, mae canolbarth a gorllewin Cymru yn cael eu hamgylchynu gan y môr Celtaidd a môr yr Iwerddon. Dwi wedi siarad sawl gwaith yn y Siambr hon o'r blaen am natur unigryw'r arfordir o gwmpas y rhanbarth, a'r cyfleodd sydd yn cynnig eu hun yn ei sgil. Ond, dwi hefyd wedi rhybuddio am y ffordd mae'r cyfleodd hyn yn cael eu gwastraffu'n llawer rhy aml. Diboblogi, tlodi, diffyg sgiliau a chyflogau is na chyfartaledd Cymru—mae pob un yn nodwedd sydd yn gysylltiedig â'r cymunedau arfordirol hyn. Mae'n bwysig nodi, wrth gwrs, fod pob un o'r problemau hyn wedi gwaethygu o ganlyniad i ddegawd a mwy o lymder a thorri ar wasanaethau cyhoeddus gan y Torïaid. Ond mae'n deg nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi dangos digon o uchelgais ychwaith yn ei chefnogaeth i'r cymunedau hyn. Mae'n glir bod yn rhaid inni weithio'n galetach yng Nghymru i wneud mwy o'r potensial, fel y dywedodd Delyth yn gynharach, ynglŷn â datblygu ynni glas cynaliadwy.

O safbwynt hynny, rŷn ni'n gwybod bod gan wynt y môr—floating offshore wind, FLOW—y capasiti i drawsnewid cynhyrchiad ynni, a bod gan orllewin Cymru y gallu i fod yn arweinydd nid yn unig ar draws yr ynysoedd hyn, ond ar draws Ewrop a'r byd, yn natblygu ffynonellau ynni glân. Gyda hyn, daw cymaint o gyfleoedd posib i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, sgiliau a swyddi cyflog uchel. Mewn llawer o ymweliadau dwi wedi eu gwneud ar draws Ceredigion, sir Benfro a sir Gâr, dwi'n gweld y potensial yma ac wedi clywed cymunedau yn galw amdanyn nhw.

Ddirprwy Lywydd, mae'r hyn a welsom yn ddiweddar gyda chanlyniad trychinebus arwerthiant gwynt ar y môr Llywodraeth y DU yn codi cwestiynau anghyfforddus ynglŷn ag a fydd y cyfleoedd hyn yn cael eu gwireddu. Mae'n sgandal nad oedd unrhyw enillwyr gwynt arnofiol ar y môr yn arwerthiant y contractau ar gyfer gwahaniaeth eleni, gan gynnwys Erebus, fferm wynt arnofiol arfaethedig gyntaf Cymru oddi ar arfordir sir Benfro. Ond i roi halen ar y briw, ac er gwaethaf yr effaith uniongyrchol y byddai hyn wedi'i chael ar Gymru, nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y broses o bennu pris arwerthu. Fel y clywsom ddoe yng nghyd-destun Tata Steel, unwaith eto mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwthio i'r naill ochr yn llwyr gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan, sy'n benderfynol o danseilio'r lle hwn ar bob cyfle. Gyda dogn sylweddol o eironi, clywais apêl Janet Finch-Saunders ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd. Siaradwch â'ch cydbleidwyr. Nid yw'n digwydd mewn perthynas ag ynni gwynt ar y môr. Ni ellir caniatáu i Gymru barhau i fod yn wyliwr goddefol mewn prosesau sydd mor hanfodol ar gyfer ein datblygiad diwydiannol gwyrdd. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru pa sicrwydd pendant y gall ei roi i mi na chaniateir i hyn ddigwydd eto. 

Cyn toriad yr haf, fe basiodd y Senedd gynnig gan Blaid Cymru yn galw am ddatganoli Ystad y Goron. Gwyddom fod hyn hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau ynni gwyrdd Cymru, dull a wnaed yng Nghymru o weithredu ar ynni gwynt ar y môr a'r buddion cymdeithasol a chymunedol a fydd yn deillio ohono. Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, gallai ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd fod yn werth £20 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf uniongyrchol i'r farchnad ddomestig, gyda buddsoddiad anuniongyrchol ddwy neu dair gwaith yn fwy. Gallai cyflwyno maen prawf perchnogaeth gymunedol gorfodol ar gyfer datblygiadau gwynt ar y môr roi cyfle i sicrhau bod aelwydydd, grwpiau cymunedol a chronfeydd pensiwn Cymru i gyd yn elwa o'r buddsoddiad hwn. Fel y mae, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i fynnu bod hyn yn digwydd nac unrhyw feini prawf budd cymunedol eraill. Felly, yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ar sicrhau y bydd cyfleoedd buddsoddi sylweddol yn sgil ynni gwynt arnofiol ar y môr o fudd uniongyrchol i'n cymunedau arfordirol, a'n bod yn rhoi diwedd ar ein parodrwydd ymddangosiadol i barhau fel economi echdynnol?

16:15

Os yw digwyddiadau'r misoedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, gwelsom fod newid hinsawdd yn berygl clir a phresennol i'n bodolaeth, gyda degau o filoedd o bobl wedi'u lladd gan lifogydd sydyn ar draws môr y Canoldir, tymheredd uwch nag a gofnodwyd erioed gartref a thramor a rhannau helaeth o'r byd ar dân. Mae arbenigwyr hinsawdd yn dweud wrthym nad yw'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn bellach yn eithafol, maent yn dod yn norm. Fel yr amlygir yn adroddiad cloriannu byd-eang cyntaf Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, nid ydym yn gwneud digon i gyfyngu cynhesu i 1.5 gradd canradd uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Rydym ar hyn o bryd ar oddeutu 1.2 gradd ac rydym wedi gweld yr effaith y mae hinsawdd fyd-eang gynhesach yn ei chael ar ein systemau tywydd a'n bywyd ar y blaned hon. 

Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn mynd rhagddo i alw am dargedau lliniaru mwy uchelgeisiol. Mae'n debyg nad yw Cymru yn gwneud ei rhan. Fel y mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn nodi, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y DU wedi dod i'r casgliad nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyflawni ei nodau sero net. Rhaid inni wneud yn well. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth arwynebol i sero net ond nid oes ganddi ymrwymiad i'w gyflawni, gyda methiant i blannu digon o goed a chyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan, ond yn waeth na dim, methiant llwyr i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern dibynadwy. Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r trenau a gennym ni y mae'r rhwydwaith sy'n perfformio waethaf yn y DU. Maent wedi tanseilio gwasanaethau bysiau lleol ac ar yr un pryd wedi gwneud penderfyniadau sy'n cynyddu tagfeydd traffig. Mae angen inni ddatgarboneiddio cerbydau, nid gorfodi pobl allan o'u ceir. Mae pawb ohonom yn gwybod bod datgarboneiddio yn hanfodol a'i angen ar frys. Ac fel y dywedais droeon, mae datgarboneiddio yn her ond hefyd yn gyfle enfawr i fy rhanbarth. Ddoe, beirniadodd nifer o Aelodau Llywodraeth Cymru y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Tata i newid o gynhyrchu dur crai ym Mhort Talbot. Mae defnyddio sgrap dur yn hytrach na dur crai yn lleihau allyriadau carbon deuocsid 58 y cant. Mae defnyddio dur wedi'i ailgylchu i wneud dur newydd yn lleihau llygredd aer 86 y cant, defnydd o ddŵr 40 y cant, a llygredd dŵr 76 y cant.

Yng Nghymru, aethom ati'n gynnar i hyrwyddo arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu, ond mewn perthynas â dur, mae'n ymddangos nad yw hynny'n wir. Rwy'n croesawu'r hwb o £0.5 biliwn i alluogi Tata i bontio o gynhyrchu dur sy'n defnyddio llawer iawn o danwydd ffosil i gynhyrchiant mwy glân a gwyrddach. Yn anffodus, bydd hyn yn golygu bod llai o bobl yn gweithio ym maes cynhyrchu dur, ond mae hynny'n agor cyfleoedd newydd: wrth inni groesawu chwyldro diwydiannol gwyrdd, bydd angen gweithwyr medrus iawn o Bort Talbot er mwyn gallu newid i gynhyrchu peiriannau ac offer i'r rhanbarth allu bwrw iddi gydag ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen gwyrdd a thechnoleg newydd storio batri ar raddfa grid. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i sicrhau bod fy rhanbarth ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol nesaf, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol. Diolch yn fawr.

16:20

Soniodd Delyth pa mor amserol yw'r ddadl hon, ac mae gennym ychydig o newyddion yma ein hunain, Delyth: mae'r Ceidwadwyr Cymreig bellach yn cwblhau eu taith i efelychu gwleidyddiaeth Trumpaidd. Rydym wedi clywed bod angen i hyn oll gael ei ddatgelu gan Brif Weinidog y DU. Wel, os yw'r datgeliadau answyddogol i'w credu, mae'n nos da ar statws y DU yn y byd fel buddsoddwr yn yr economi werdd. Rwy'n credu bod hyn hefyd yn dangos pa mor ddi-rym ydym ni yma yng Nghymru. Yn anffodus, fel y gwelsom o'r trafodaethau ar ddatgarboneiddio'r gwaith dur ym Mhort Talbot, ar hyn o bryd ychydig iawn o reolaeth neu berchnogaeth sydd gennym dros gyflawni ac elwa ar ein potensial economaidd. Mae'n dangos pa mor ddamniol yw ein sefyllfa ymylol yn yr undeb hon o endidau anghyfartal fod tynged ein diwydiant dur yn cael ei adael yn nwylo Llywodraeth y DU sydd wedi dangos dro ar ôl tro ei bod yn diystyru buddiannau Cymru'n llwyr.

Ac wrth gwrs, mae hon yn thema sydd wedi atsain drwy gydol ein hanes. Yn ystod y chwyldro diwydiannol cyntaf, echdynnwyd cyfeintiau enfawr o gyfoeth Cymru o lo, haearn a chopr o Gymoedd de Cymru, o'r mynyddoedd yn y gogledd, ac mewn gwirionedd, nid oes enghraifft well o hyn na'r trenau cludo nwyddau sy'n mynd trwy Bencoed: pan fyddant yn mynd tua'r gorllewin, maent yn wag, a phan fyddant yn mynd tua'r dwyrain, maent yn llawn. Nid yw'r cymunedau, ein cymunedau ni, a gynhaliodd y diwydiannau hynny am gymaint o amser wedi gweld—ac yn gweld—fawr ddim o'r buddion a chawsant eu taflu ar y domen, gan ddechrau gyda gweinyddiaeth Thatcher, a'u hanghofio ers hynny, gyda dirywiad a thlodi bellach yn nodwedd sy'n cael ei derbyn ar gyfer cymunedau a fu'n sbardun i gyfoeth y DU.

Mae'r cydbwysedd grym rhwng y crewyr cyfoeth a'r echdynwyr cyfoeth yn y wlad hon bob amser wedi gogwyddo'n gryf o blaid yr olaf, ac rwy'n ofni nad yw bron i chwarter canrif o Lafur Cymru mewn grym wedi gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â hyn. Nawr, rydym mewn perygl o weld yr un patrwm yn dod i'r amlwg mewn perthynas â'r chwyldro diwydiannol gwyrdd, wrth i'r dicotomi ffug gael ei werthu i weithwyr Cymru y bydd gweithredu technolegau newydd i hwyluso'r newid gwyrdd, megis gosod ffwrneisi arc trydan yng ngwaith dur Port Talbot, yn anochel yn peryglu swyddi. Rhaid inni wrthod y syniad fod y newid gwyrdd yng Nghymru yn galw am gyfaddawdu ar ran gweithwyr a chymunedau Cymru.

Gyda'r pwerau perthnasol sydd ar gael inni, yn ogystal â pholisi economaidd rhagweithiol ar ran Llywodraeth Cymru, gallai datgarboneiddio ein diwydiannau trwm ddod yn gyfle euraidd i drawsnewid ein cymunedau. Dangosodd astudiaeth ddiweddar y gallai'r sector ynni gwyrdd byd-eang fod yn werth mwy na $10 triliwn erbyn 2050. Gallai Cymru elwa ar y ffyniant ynni gwyrdd hwn, ond mae'n hanfodol fod gennym offer a gweithlu yn eu lle nawr. Dyna pam y byddai'n anghyfrifol i'r Llywodraeth hon barhau ar hyd yr un llwybr ag y gwnaeth dros y 25 mlynedd diwethaf mewn perthynas â'r economi. Dros y chwe mis diwethaf yn unig, rydym wedi gweld cau safle 2 Sisters yn Llangefni, Avara Foods yn y Fenni, a Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddioddef cyfraddau cyflogaeth isel a chyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd o gymharu â gweddill y DU.

Nawr mae angen newid cyfeiriad radical arnom cyn i Gymru gael ei gadael ar ôl unwaith eto. Dylai hyn gynnwys archwilio opsiynau yn rhagweithiol i uwchraddio modelau perchnogaeth wedi'u troi'n gydweithredol yn ein sector diwydiannol, yn ogystal â rhoi pwyslais ar uwchraddio proffil sgiliau gwyrdd ein gweithlu. Mae arnom angen dull llywodraethu wedi'i arwain gan genhadaeth hefyd o ran ein hymgysylltiad â'r sector preifat, er mwyn sicrhau y gall BBaChau Cymru ddod yn bartneriaid gweithredol wrth gyflawni newid gwyrdd. Felly, mae angen inni edrych ar Fanc Datblygu Cymru, ei rymuso, ei ariannu'n iawn, ei ddiwygio lle bo angen, i fabwysiadu rôl weithredol. Dylai hyn gael ei ategu gan Fil datblygu economaidd newydd i Gymru, gyda thargedau clir ar gyfer trosi buddsoddiadau mewn ynni gwyrdd yn enillion cynhyrchiant sylweddol i'n heconomi.

Mae ein dyfodol fel pwerdy'r chwyldro diwydiannol gwyrdd o fewn ein gafael, ond ar hyn o bryd mae'r potensial hwnnw'n cael ei wastraffu o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn canoli pwerau gwneud penderfyniadau a'i hymagwedd ddi-hid tuag at sero net ar y naill law, a Llywodraeth Cymru yn sefyll yn eu hunfan gyda'i chynlluniau economaidd ar y llaw arall.

16:25

Mae'n dipyn o beth i fod yn siarad yn y ddadl hon ar yr un pryd ag y mae'r Prif Weinidog yn chwalu'r polisi yn Llundain, a gwneud hynny ddiwrnod ar ôl i'r Senedd ddechrau ar doriad mewn ffordd sy'n osgoi craffu—nawr dyma ddull Johnsonaidd o lywodraethu, onid e? [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad os dymunwch. Ond mae'n osgoi craffu, yn osgoi atebolrwydd, ac yn boddio cynulleidfa o gnafon. Dyma ni.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Oni fyddech chi'n cytuno bod yna sawl achlysur, pan fyddwn ni'n torri ar gyfer y Pasg, y Nadolig, unrhyw gyfnod o doriad yma, pan fydd datganiadau'n cael eu rhyddhau un ar ôl y llall? Oni fyddech yn cytuno â mi fod hynny hefyd er mwyn osgoi craffu yma yn Llywodraeth Cymru?

Senedd yw hon, nid Llywodraeth, cofiwch. Gadewch imi ddweud hyn wrthych: rwyf wedi dweud wrth Weinidogion yn y lle hwn y dylent wneud datganiadau yma ac nid trwy'r cyfryngau. Rwyf wedi gwneud hynny dro ar ôl tro, lle bo angen. Ond nid wyf yn cofio unrhyw achlysur yn yr 16 mlynedd y bûm yn Aelod yma pan fo Gweinidog neu Brif Weinidog wedi troi polisi cyfan gan y Llywodraeth ar ei ben y diwrnod y mae'r Senedd yn dechrau ar doriad. Mae'n warthus, ac ni ddylai neb ar feinciau'r Ceidwadwyr geisio cyfiawnhau hynny. Ac mae hyn yn bwysig. Mae hyn yn bwysig, Janet. Fe ddywedaf hyn wrth bob un ohonoch chi, Geidwadwyr gweddus a da: peidiwch â dod yn alluogwyr y gwael a'r drwg, oherwydd daw'r ymosodiadau ar bolisi sero net o'r un ysgol ag a roddodd Brexit i ni a'r un ysgol o dwyllwybodaeth a ledaenodd yr holl sibrydion am gynllwynion yn ystod COVID. Yr un bobl sy'n gyfrifol. Peidiwch â bod yn alluogwyr iddynt, a pheidiwch â chyfiawnhau'r math hwnnw o ymagwedd at bolisi a gwleidyddiaeth, oherwydd bydd hynny'n arwain at ddinistrio pawb ohonom, pa blaid bynnag a gynrychiolwn.

Mae hyn yn bwysig, ac rwy'n dweud hyn wrth y Gweinidog wrth iddi ymateb i'r ddadl. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd hi'n cadw'r ffydd ac y bydd hi'n parhau i yrru'r polisi hwn yn ei flaen mewn ffordd a ddylai fod yn digwydd yn Llundain. A bydd hi hefyd, gobeithio, yn ei gwneud yn hollol glir y bydd ein polisi ni'n cyflawni, nid yn unig gyda chyfrifoldebau a thargedau ac amcanion sero net rydym wedi'u gosod i ni ein hunain, ond yn gwneud hynny hefyd mewn ffordd sy'n deg ac sy'n sicrhau bod mesurau cydraddoldeb hefyd yn cael eu bodloni, oherwydd un o'r pethau sy'n fy mhoeni, a gwelsom hyn gyda'r penderfyniad hurt a wnaeth Sunak rai misoedd yn ôl i ddyfarnu trwyddedau ar gyfer fforio ym môr y Gogledd. Ni fydd hynny'n cael unrhyw effaith ar y biliau tanwydd sy'n wynebu pobl Blaenau Gwent y gaeaf hwn. Ni fydd yn cael unrhyw effaith y gaeaf nesaf ychwaith, na'r gaeaf ar ôl hwnnw mewn gwirionedd. Oherwydd bydd y trwyddedau hynny'n cymryd degawdau i ddarparu tanwydd ffosil, y dylid bod wedi eu dirwyn i ben erbyn hynny yn ôl cytundeb Paris, ac a fydd yn ddarostyngedig felly i'r marchnadoedd rhyngwladol ar gyfer prisiau ynni. Felly, yr hyn a wnewch drwy roi trwyddedau o'r fath yw sicrhau eich bod chi'n colli rheolaeth ar gyflenwad ynni, eich bod yn colli rheolaeth ar eich gallu i ddarparu nid yn unig ynni gwyrdd, ond ynni yn gyffredinol. Ni fyddwch yn adfer rheolaeth, rhywbeth y clywais eich meinciau chi'n ei ailadrodd ddigon, ond yn fwy na hynny, fe fyddwch yn colli rheolaeth ar yr hyn sydd gennych eisoes. Mae'n bolisi gwael ar bob lefel, ac ni ddylai unrhyw Geidwadwr yn y lle hwn geisio cyfiawnhau neu gefnogi hynny mewn unrhyw ffordd.

Ond rwyf am ddweud hyn wrth y Gweinidog: rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i bob un ohonom pe gallai amlinellu'r rôl y mae hi'n ei gweld ar gyfer Ynni Gwyrdd Cymru, y cwmni ynni cyhoeddus a welwn yn cael ei ddarparu yma yng Nghymru. Oherwydd un o'r cwestiynau sydd gennyf yw sut yr awn ati i gyrraedd ein targedau, nid yn unig y ffaith bod gennym dargedau a'n bod wedi cytuno ar beth yw'r targedau hynny, ond sut yr awn ati i'w wneud? Mae'n bwysig i'r rhai ohonom sy'n edrych ar y lle hwn o Flaenau'r Cymoedd, er enghraifft, fod pawb yn rhannu'r cyfrifoldeb dros wneud hynny. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod tua hanner dwsin o geisiadau mawr yn fy etholaeth i, ardal ddaearyddol gymharol fach. Mae'n bwysig fod gan bob un ohonom yr un cyfrifoldeb ac nad oes gan bawb or-gyfrifoldeb, os caf ei roi felly. Ond hefyd fod manteision cymunedol yn cael sylw. Rydym wedi gweld yr ecsbloetio. Mae Luke Fletcher yn hollol gywir. Tystiodd fy etholwyr i gost ddynol ynni, cost ddynol glo yn y gorffennol. Mae angen inni allu sicrhau bod gennym fudd cymunedol i'r cymunedau sy'n cynnal datblygiadau mawr. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos i mi nad oes gennym strwythurau ar waith i ddarparu'r budd cymunedol hwnnw, a'r hyn yr hoffwn inni allu ei weld yw rôl i'r gymuned, y cwmni ynni gwyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ei sefydlu—y gofod i hynny ddigwydd a bod y datblygiad yn digwydd wedyn mewn ffordd sy'n sicrhau bod y cyfrifoldeb yn cael ei rannu ar draws y wlad, ond hefyd fod y cymunedau sy'n cynnal y datblygiadau mwy o faint hyn yn cael budd cymunedol ar raddfa lawer iawn yn fwy na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. A—

16:30

Rwy'n dod i ben. A thrwy wneud hynny, rydym wedi cael cefnogaeth gan y gymuned, cefnogaeth gan bobl sy'n cyflawni datblygiadau, cefnogaeth gan y gymuned genedlaethol ehangach, ac rwy'n gobeithio bod y troi cefn ar gyfrifoldeb a welwn yn Llundain heddiw yn rhywbeth y byddwn yn ei weld o bellter, ac na fyddwn yn dyst iddo yng Nghymru.

Dylai newyddion yr wythnos diwethaf am Tata fod wedi canu larwm clir am bwysigrwydd sicrhau bod y daith at ddatgarboneiddio yn un sy'n gynhwysol, yn deg ac yn gyfiawn. Rhaid bod just transition yn fwy na jest geiriau gwag. Dwi'n cytuno'n llwyr gydag Alun Davies ynglŷn â'r angen yma i rannu'n deg hefyd y datblygiadau ar draws y wlad ac ymhlith ein holl gymunedau fydd yn medru delifro y dyfodol gwyrdd yna, achos mae sicrhau ein bod yn cyrraedd sero net yn fwy na chyflawni rhywbeth positif a hanfodol ar gyfer y blaned, mae e hefyd yn golygu cyflawni rhywbeth positif a hanfodol ar gyfer economi Cymru a'n pobl hefyd.

Wrth inni symud drwy'r degawd nesaf, byddwn i gyd yn gweld newidiadau sylweddol yn ein bywydau bob dydd sy'n deillio o'r her yma. Ond y gwir yw bod miloedd o deuluoedd yn fy rhanbarth i heddiw wyneb yn wyneb ag ochr negyddol yr her yna, a dyw e ddim yn dderbyniol, a dyw e ddim yn anochel, fel clywon gan Luke Fletcher. Yn wir, mae'n gwbl hanfodol nad yw camgymeriadau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd, nad yw annhegwch y gorffennol yn cael ei ailadrodd, a bod y dyfodol gwyrdd yn un sy'n dod â llewyrch a chyfleon i weithwyr Cymru, nid eu dadrymuso, eu dadrithio, a'u gadael nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau'n teimlo'n gwbl ddiymadferth.

Cymru oedd un o economïau tanwydd ffosil cyntaf y byd, wrth gwrs, a gadawodd ôl parhaol ar ein daearyddiaeth ffisegol a dynol, fel bod hanner poblogaeth Cymru heddiw’n byw yn y cymoedd lle'r oedd glo’n cael ei gloddio neu yn y porthladdoedd lle'r oedd yn cael ei allforio i weddill y byd. Felly, beth allwn ni ddysgu o drawsnewidiad Cymru oddi wrth y diwydiant glo wrth inni wynebu newid mawr arall yn ein heconomi? Mae'r gwersi'n glir iawn. Yn sgil y don gyntaf o ddirywiad y diwydiant, yn niweithdra mawr y 1930au, collodd Cymru gyfran fawr o'i phoblogaeth, o’r maes glo yn arbennig. Daeth gwrthdaro gwleidyddol yn sgil cyflymder a dwyster y dirywiad yn y 1970au a’r 1980au, gan adael cymaint o bobl yng Nghymru yn teimlo bod eu llywodraeth, yn Llundain ar y pryd, yn eu herbyn, a chreu ymdeimlad o ddiffyg ymddiriedaeth sy’n parhau hyd heddiw. Mae cynhyrchiant cenedlaethol hefyd yn parhau i fod yn isel iawn yn ôl safonau gorllewin Ewrop, gyda sgileffeithiau enbyd ar incwm a chyfoeth, ac, wrth gwrs, iechyd.

Nid yw datgarboneiddio yn broses syml nac o reidrwydd yn broses deg, a bydd yn effeithio, wrth gwrs, ar wahanol bobl a chymunedau mewn ffyrdd gwahanol. Felly, mae'n rhaid inni gyflawni hyn mewn modd sy’n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau, gan osgoi ar bob cyfrif yr hyn a brofodd cynifer o bobl Cymru yn sgil y cyfnod o newid economaidd mawr diwethaf yna. Ac, yn wir, fel rŷn ni wedi clywed y prynhawn yma, mae'n rhaid inni ddefnyddio'r posibilrwydd o drawsnewid i leihau a dileu’r anghydraddoldebau hyn.

Yn achos Tata, mae'r undebau'n dweud y gellid fod wedi creu trawsnewid gwell i ddyfodol gwyrdd, er enghraifft drwy fwy nag un math o dechnoleg i greu dur newydd, gwyrdd, drwy gyflawni'r trawsnewid dros gyfnod ehangach, i roi cyfle i weithwyr ailsgilio, fel ein bod ni ddim yn eu colli nhw fel gwnaethom ni yn ystod y trawsnewid o'r diwydiant glo, eu bod nhw'n rhan o'r trawsnewidiad, yn hytrach nac yn gynnyrch gwastraff yn y broses honno.

Rŷn ni'n gwybod bod newidiadau enfawr yn digwydd yng Nghymru er mwyn cyflawni maint yr uchelgais yma sydd wedi'i nodi yn ein targedau ni. Rhaid i’r economi fynd drwy newidiadau seismig yn ein diwydiant a’n sectorau ynni, ond gallwn ni ddim ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol. Gadawyd Cymru ar ôl wrth inni symud oddi wrth lo. Doedd y cynllun ddim yn un a oedd â buddion Cymru a'i phobl yn rhan ohono. Rhaid i ddatgarboneiddio cyflym ddigwydd yn niwydiannau Cymru, oes, ond rhaid buddsoddi i sicrhau swyddi yn y diwydiannau yn y presennol, ac yn y rhai sy'n dod i'r amlwg.

Weinidog, rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan yn hyn, cyflwyno’r achos dros ein cenedl a'i hanghenion mewn trafodaethau â Llywodraeth San Steffan ar ddatgarboneiddio diwydiant a’r newid i ynni adnewyddadwy, i sicrhau y gallwn ni wneud y mwyaf o fanteision y trawsnewid, ac nid talu'r pris am ddyfodol gwyrdd heb deimlo effaith y manteision hynny.

Mae rhan o hyn yn parhau i fynnu datganoli pwerau dros Ystâd y Goron, fel y gallwn reoli ein hadnoddau ein hunain, cyflymu’r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy, ond mae hefyd yn golygu sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn darparu ac yn denu buddsoddiad yn ein system ynni, fel rŷn ni wedi clywed gan Cefin Campbell, yn ein grid, yn ein porthladdoedd ac yn ein diwydiannau trwm.

Mae'r dyfodol gwyrdd yn cyflwyno cymaint o gyfleoedd i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, ond mae risg hefyd y gall ddyfnhau'r anghydraddoldebau yma, fel dwi wedi sôn. Mae ganddo'r potensial enfawr i fod yn beiriant twf newydd a chynaliadwy, yn gynhyrchydd net o swyddi gwyrdd da a all gyfrannu'n sylweddol at ddileu tlodi. Dyletswydd y Llywodraethau ar ddau ben yr M4—

16:35

—yw cynllunio yn ofalus i sicrhau trawsnewid cyfiawn, achos hebddo, mae risg sylweddol iawn na fyddwn yn cyflawni economi carbon isel, sy’n hanfodol i les cenedlaethau’r dyfodol. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n rhannu'r siom a fynegwyd yng nghynnig Plaid Cymru fod y rownd ddyrannu ddiweddaraf o gontractau ar gyfer gwahaniaeth wedi methu denu unrhyw gynigydd o'r sector gwynt ar y môr. Er gwaethaf wyneb dewr Ysgrifennydd Gwladol y DU, ni allai guddio'r ffaith bod hwn yn gam enfawr yn ôl i un o'r cyfleoedd diwydiant gwyrdd mwyaf blaenllaw, er gwaethaf ymgais anhygoel Janet Finch-Saunders i wneud iddo swnio fel buddugoliaeth. Credaf fod y methiant hwn yn arddangos methiant llwyr y Llywodraeth Dorïaidd i amgyffred unrhyw strategaethau buddsoddi economaidd, eu hanallu llwyr yn wyneb unrhyw fath o strategaeth ddiwydiannol, a'r rhagrith echrydus a ddangosir gan y Llywodraeth ar faterion gwyrdd yn gyffredinol.

Rwyf hefyd yn rhannu'r teimlad yng nghynnig Plaid Cymru fod y dystiolaeth yn parhau i dyfu mewn perthynas â'r angen i gyflymu datgarboneiddio ymhellach, ac y dylem droi at arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â'n pwyllgor newid hinsawdd ein hunain, i lywio ein cynlluniau. Yn wir, fel y mae llawer o'r cyfranwyr wedi nodi, mae gan Gymru fanteision naturiol toreithiog, ac mae angen inni fanteisio'n llawn ar yr adnoddau naturiol hynny, er budd pobl Cymru, yn ogystal â helpu ein planed i wella.

Serch hynny, nid wyf yn cytuno â'r safbwynt a fynegwyd yn y cynnig gwreiddiol, sef y dylem ildio i anobaith. Nid yw safbwynt o'r fath yn adlewyrchu'r momentwm a welwn yn ymffurfio y tu ôl i'r union fath o newidiadau y mae angen inni eu gweld yng Nghymru. Rwy'n cytuno bod angen inni alw ar bob plaid sydd â diddordeb i wneud mwy, ond credaf ein bod mewn sefyllfa lawer cryfach i wneud hynny os ydym yn cydnabod cynnydd fel sail ar gyfer gwneud hynny. Felly, mae gwelliant y Llywodraeth yn ymgais i ail-lunio'r cynnig gwreiddiol ar ffurf y gobeithiaf y bydd pob plaid yn y Senedd yn teimlo y gallant ei chefnogi.

Mae pob plaid yn y Senedd hon yn awyddus i hyrwyddo gwynt ar y môr fel cyfle diwydiannol enfawr—[Torri ar draws.] Mae'n wir ddrwg gennyf. Nid wyf yn gwybod pam fod fy oriawr yn gwneud hynny. Roedd yna gyfres o resymau, a llawer ohonynt yn amlwg cyn i'r arwerthiannau ddod i ben, mae'n rhaid i mi ddweud, pam na fanteisiwyd ar y cyfleoedd gwynt ar y môr yn y rownd ddyrannu eleni. Y dasg nawr yw cywiro hynny ar gyfer y rownd nesaf y flwyddyn nesaf, ac wrth wneud hynny, gallwn osgoi sefyllfa lle na fydd unrhyw ffermydd gwynt ar y môr yn cael eu datblygu yng Nghymru hyd y gellir rhagweld, fel y mae cynnig Plaid Cymru yn ei ofni. Yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi creu ei thasglu gwynt ar y môr ei hun, a byddem yn cefnogi gweithredu eu hargymhellion yn llawn. Byddai'n arwyddocaol, rwy'n credu, pe bai'r Senedd yn cefnogi'r alwad honno hefyd, ac mae gwelliant y Llywodraeth heddiw yn cynnig ein bod yn gwneud hynny.

Credaf fod y cynnig gwreiddiol hefyd yn gwneud cam mawr drwy beidio â thynnu sylw at lwyddiant gwych ynni llanw yng ngogledd Cymru. Ni fu erioed unrhyw beth tebyg i'r raddfa hon o dechnoleg ffrwd lanw ar waith yng Nghymru o'r blaen, ac nid yw'r pethau hyn yn digwydd yn awtomatig nac yn hawdd; maent yn adlewyrchu gwaith caled a phenderfyniad ystod o bartneriaid sy'n gweithio gyda'i gilydd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i greu'r amodau i hynny fod wedi digwydd. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer am fwy o gefnogaeth i ynni ffrwd lanw. Mae arweinyddiaeth wleidyddol ranbarthol o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol wedi bod yn allweddol wrth wneud hon yn stori lwyddiant yng ngogledd Cymru, ac rwy'n teimlo y dylai'r Senedd gyfan longyfarch y llwyddiant hwnnw, yn y ffordd y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei gynnig. Ac mae'n iawn hefyd, wrth gwrs, y dylem anelu at yr uchelgais mwyaf sy'n bosibl, fel y mae cytundeb Paris yn ei roi. Wrth wneud hynny, mae'n bwysig tynnu sylw at y meysydd sy'n dangos sut y gellir a sut rydym yn gwneud cynnydd. Mae ynni ffrwd lanw yn y gogledd yn enghraifft o hyn. Credaf fod y ffordd y daeth partneriaid gwahanol at ei gilydd i chwarae eu rhan, gydag ychydig o bwysau cadarnhaol gan gymheiriaid, yn helpu i ddangos sut y gallwn wneud mwy o gynnydd mewn mwy o feysydd yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, mae rhai lleisiau croch yn cwestiynu a yw rhoi diwedd ar gyfraniad y DU i gynhesu byd-eang yn nod dymunol, a bydd yn ddiddorol gweld beth mae ein Prif Weinidog yn ei ddweud yn ddiweddarach heddiw. Nid yw'r rhagflas yn ymddangos yn galonogol iawn, serch hynny, ac ni wnaeth y Llywodraeth Geidwadol argraff arnaf pan wnaethant ddangos cefnogaeth sydyn i'r diwydiant glo. Serch hynny, mae'n nodweddiadol o'r Ceidwadwyr, sydd bob amser ddegawdau yn rhy hwyr yn cefnogi unrhyw beth sy'n gadarnhaol mewn unrhyw fodd. Pe baech ond wedi cefnogi'r diwydiant glo yn yr 1980au ac nid yn 2023, rwy'n credu y byddem i gyd wedi bod yn llawer hapusach. Ond rwy'n credu bod y dadleuon a gyflwynwyd gan bobl sy'n gwadu bodolaeth newid hinsawdd a phobl sy'n dweud bod angen inni symud yn arafach a gyda llawer llai o gynnydd yn cael eu camarwain yn ddirfawr ac fe ddangosir unwaith eto eu bod ar yr ochr anghywir i hanes.

Mae'r ddadl heddiw, yn union fel y mae adolygiad cloriannu byd-eang y Cenhedloedd Unedig ac adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei bwysleisio, yn ymwneud â sut y gallwn gysylltu uchelgais â chamau gweithredu penodol. Rydym wedi gweld cynnydd polisi pwysig mewn perthynas ag ynni yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda chyhoeddiadau ar sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru—sefydliadau newydd a fydd yn helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfran lawer mwy o fuddion wrth bontio i ynni adnewyddadwy, fel y mae Alun Davies wedi'i nodi. Mae'r rhain yn adeiladu ar lwyddiant ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy sy'n perthyn i gyrff cyhoeddus, fel y'u cefnogir gan wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, gyda rhai cyrff cyhoeddus yn dweud eu bod, y llynedd, wedi ennill incwm, ar ôl costau gweithredu, o gannoedd o filoedd o bunnoedd o osodiadau unigol. Mae'r polisïau hyn yn enghreifftiau gwirioneddol a diriaethol iawn o sut y gallwn greu manteision uniongyrchol i bobl ac i amgylchedd Cymru drwy gymryd camau i gyflawni ein nodau ynni uchelgeisiol, gyda chymunedau, cyrff cyhoeddus a busnesau yn gweithio gyda'i gilydd. A hoffwn annog pob Aelod o'r Senedd i fynegi eu cefnogaeth i ehangu cynhyrchiant ynni cymunedol a sector cyhoeddus drwy'r polisïau hyn, ac i annog y cyrff cyhoeddus a'r grwpiau cymunedol yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain i fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r polisïau hyn yn helpu i'w creu. 

Bydd adroddiad cynnydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd a gynhyrchwyd dros yr haf yn destun ymateb manwl gan y Llywodraeth cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd y Llywodraeth a'r Senedd yn dymuno ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus iawn. Mae'r heriau a osodir i ni gan y pwyllgor yn cynnwys meysydd y mae dadleuon ffyrnig yn eu cylch. Byddai'n arwydd pwysig o arweinyddiaeth hinsawdd pe bai'r Senedd yn gallu llunio consensws gweithredol ynghylch cyfres o gamau gweithredu uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Nid yw gwelliant y Llywodraeth yn gofyn i'r Aelodau gytuno â chanfyddiadau'r pwyllgor—mae'r Llywodraeth yn cymryd amser i'w hystyried a bydd y Senedd eisiau gwneud hynny hefyd—ond mae gwelliant y Llywodraeth yn galw ar Aelodau i gefnogi ymateb i'r heriau hyn gyda pheth brys. 

Rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau ymrwymo i nodi'r camau cadarnhaol y byddent yn eu cefnogi i gyflawni'r heriau sydd o'n blaenau ac i sicrhau lle Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes gweithredu ar newid hinsawdd. Mae hynny'n cynnwys pontio i ynni adnewyddadwy. Mae hefyd yn golygu ffrwyno allyriadau trafnidiaeth a chreu dalfeydd carbon sylweddol iawn ar ffurf coetiroedd yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno y bydd cymell ofnau, yn hytrach na bod yn barod i ddadlau dros newid, yn tanseilio'r cynnydd da y mae pobl Cymru wedi helpu i'w sicrhau. Nid yw'n gyson â'r galwadau a wnaed gan wyddonwyr y Cenhedloedd Unedig fod yn rhaid i lunwyr polisi ymateb i'r heriau hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar y gwrthdaro a grëwyd a'r hanner gwirioneddau sy'n darparu mantais wleidyddol yn y tymor byr ar draul buddiannau hirdymor pobl Cymru.

Yn sicr, ni fyddwn ni fel Llywodraeth yn gwneud hynny. Byddwn yn cadw at y llwybr cywir yn wyneb—

16:45

Diolch. Gallaf weld ei bod hi'n dod at ddiwedd ei sylwadau; nid oeddwn eisiau colli'r cyfle. Mae yna un neu ddau o gwestiynau a ofynnais i chi yn fy nghyfraniad am fudd cymunedol ac am arddwysedd y datblygiad. Os na all fynd i'r afael â'r materion hynny y prynhawn yma yn ei sylwadau, buaswn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu ysgrifennu ataf fi ac Aelodau eraill ar y materion hynny fel ein bod yn gallu deall lle mae'r Llywodraeth yn sefyll ar y pethau hyn. 

Yn sicr, Alun. Gallaf eu hateb nawr. Mae gennym ni ddau gwmni yng Nghymru. Mae un yn ddatblygwr ynni sy'n eiddo'n uniongyrchol i'r wladwriaeth. Bydd pobl Cymru yn berchen ar yr ynni a gynhyrchir gan y datblygwr ynni sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn uniongyrchol, ac felly ni fyddant wedi'u cyfyngu i'r drefn bresennol o fudd cymunedol ond yn hytrach, byddant yn berchen ar yr ynni yn uniongyrchol. Felly, byddwn yn gallu defnyddio'r elw ohono yn uniongyrchol i wella'r system ynni yng Nghymru. Dyna ran fawr o'r rheswm pam ein bod yn ei wneud. Byddai hefyd yn rhoi sedd i ni wrth y bwrdd, wrth gwrs, yn y rhwydweithiau trosglwyddo ac yn y gwaith cynllunio cyffredinol ar gyfer hynny. 

Ac mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru ar Ynni Cymru, rydym wedi gallu cyflymu ynni cymunedol ledled Cymru, gydag ymgysylltiad da iawn â phartneriaid cymunedol. Ac fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, mae llawer o gymunedau'n ennill cannoedd o filoedd o bunnoedd, sy'n cefnogi eu cymunedau'n uniongyrchol. Rydym yn falch iawn o gefnogi'r rhai sy'n gweithio mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, a chefais i a Siân Gwenllian ymweliad gwych iawn yng ngogledd Cymru dros yr haf i weld cymuned sy'n elwa o'r newidiadau hynny. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiwn, Alun. 

Ond fel roeddwn i'n dweud, ni fyddwn yn troi oddi ar ein llwybr. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw ac yn cydnabod y rhan y mae'n rhaid inni ei chwarae wrth ddarparu'r arweinyddiaeth hinsawdd y mae cymunedau yng Nghymru yn galw ar eu cynrychiolwyr democrataidd i'w darparu. Nid ildio i anobaith yw hyn—mae'n destun gobaith mawr yn wir. Diolch. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. 

Fe wnaethom ddechrau gyda Janet. Mae Janet wedi nodi nifer o'r meysydd lle mae hi'n credu y dylai'r Llywodraeth yma wneud cynnydd pellach. Cyfeiriodd at yr Arglwydd Deben. Ni allaf ond dychmygu pa mor ddigalon fydd yr Arglwydd Deben ynghylch yr hyn y bydd yn ei glywed wrth inni siarad, heb os, gan bennaeth Llywodraeth y DU. Ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n hapus i gyfeirio at y Prif Weinidog yn ôl ei deitl llawn cyn gynted ag y bydd unrhyw un o'r pethau y mae'n ei wneud yn y maes hwn naill ai'n wir neu'n anrhydeddus, oherwydd ar hyn o bryd nid ydynt y naill na'r llall o'r rhain. Soniodd Janet hefyd am yr angen i fuddsoddi mewn hydrogen a chefnogi busnesau. Er hynny, testun gofid ar gymaint o wahanol lefelau oedd clywed am unrhyw alwad i ni gadw Ffos-y-fran ar agor. 

Dywedodd Jenny wrthym sut y byddai'n anodd dilyn yr hyn a ddywedwyd eisoes am hynny, ond fe wnaeth ein hatgoffa sut mae gwynt ar y môr yn rhatach na nwy ar hyn o bryd, a bod yna gost ddynol i hyn. Dywedodd Jenny fod pennaeth Llywodraeth y DU wedi troi ei gefn ar y byd, ac rwy'n rhannu rhwystredigaeth Jenny am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.   

Soniodd Cefin am y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n 'boblogaidd' a'r hyn sydd o fudd i'n poblogaeth— 

—y gwahaniaethau rhwng poblyddiaeth a chefnogi'r boblogaeth.

Soniodd yn arbennig am y risg i'n cymunedau arfordirol a'r effaith y bydd esgeulustod y Tories yn ei gael arnynt, a gofynnodd beth fydd y Llywodraeth yn gallu ei wneud—

—i roi diwedd ar y ffordd rydym bob amser mewn sefyllfa lle rydym yn ymwneud â pholisïau echdynnol. 

Soniodd Altaf sut mae digwyddiadau eithafol yn yr hinsawdd bellach yn dod yn norm—y ddau begwn eithaf. Un o'r peryglon am y ffenomen honno, rwy'n credu, yw ei bod yn caniatáu i ormod ohonom ddod i arfer â'r bonllefau taer am newid, ac rwy'n ofni, i bennaeth Llywodraeth y DU yn yr achos hwn, fod dod yn gyfarwydd â brys y sefyllfa wedi magu dirmyg. Ond siaradodd Altaf hefyd am yr angen—. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Altaf am gefnogi gweithwyr drwy newid teg, ac roedd honno'n thema a godwyd gan Luke Fletcher. Cwynodd Luke am y diffyg brys, ynglŷn â sut mae hyn yn effeithio ar weithwyr yn Tata, sut mae diystyru gweithwyr yn adleisio'r ffordd y mae ein cymunedau wedi cael eu trin ers degawdau. Roedd yn thema a godwyd gan nifer o gyfranwyr. Soniodd Luke sut mae'r trenau ym Mhencoed yn dangos pa mor echdynnol yw'r system, sut mae'r cyfoeth yn gadael yr union lefydd sy'n creu'r cyfoeth hwnnw.

Siaradodd Alun, rwy'n credu, ar yr un pryd â phan oedd Sunak yn siarad—rwy'n credu iddo ddechrau ar amser—a thynnu sylw at y ffaith bod y Prif Weinidog yn gwneud hynny er mwyn osgoi craffu. Gosododd Alun her i'r Ceidwadwyr yma: peidiwch â bod yn alluogwyr i'r gwael a'r drwg. A gofynnodd Alun i'r Gweinidog sut y byddwn yn cyrraedd targedau mewn ffordd sydd o fudd i gymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd hefyd, ac unwaith eto siaradodd am y gost ddynol sydd ynghlwm wrth godi prisiau ynni eto.

Atgoffodd Sioned ni i gyd am hyn, am yr angen i’r just transition fod yn fwy na geiriau gwag. Dyw e ddim yn anochel—dyw annhegwch ddim yn anochel—ond rhaid grymuso ein cymunedau. Dydy datgarboneiddio, fel yr oedd Sioned yn ei ddweud, ddim yn syml, ond rhaid osgoi creu mwy o anghydraddoldebau.

Unwaith eto, condemniodd y Gweinidog gamau diweddar Llywodraeth y DU yn ystod y munudau diwethaf. Soniodd am y prosiectau sy'n haeddu ein sylw a'n llongyfarchiadau, ac rwy'n rhannu pryder y Gweinidog am benderfyniad y Ceidwadwyr i gefnogi glo—fel y dywedodd, ddegawdau yn rhy hwyr. Pe baent ond wedi cefnogi'r gweithwyr glo yn yr 1980au. Ac rwy'n rhannu cefnogaeth y Gweinidog i grwpiau cymunedol. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am Ynni Cymru a'r rhan bwysig y bydd yn ei chwarae.

Nawr, yn ystod yr amser y buom yn cael y ddadl hon, cafwyd cyfraniad arall, nid yn ein Siambr ni, ond i'r ddadl hon serch hynny. Mae Rishi Sunak, gydag ymddygiad nad yw'n anrhydeddus, wedi torri addewidion ar bolisïau allweddol a fydd yn ein gwneud yn dlotach ym mhob ystyr. Bydd yn ein gwneud yn destun gwawd, ond mae'r jôc greulon ar bawb ohonom. Mae ar ein planed, sy'n marw'n araf. Mae ar blant ein plant, nad oes ganddynt lais yma, ond y bydd eu bywydau'n cael eu cwtogi, yn cael eu gwneud yn anos, yn llai llawen, yn llai prydferth—cenedlaethau a fydd yn ein barnu ar yr hyn a wnawn ac ar yr hyn y methwn ei wneud. Mae eu llygaid arnom ni nawr. Dylem ofyn i ni'n hunain a fyddem yn gallu edrych i fyw eu llygaid neu a fyddem yn hytrach yn osgoi gwneud hynny gyda chywilydd gan wybod ein bod wedi eu condemnio i'r dynged honno. 

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y gyllideb iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Item 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, y gyllideb iechyd, a galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8356 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg o £900m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar.

3. Yn gresynu, er bod Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 y cant yn fwy i'w wario ar iechyd yng Nghymru na'r hyn a gaiff ei wario fesul person ar iechyd yn Lloegr, nid yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu ar hyn o bryd i GIG Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o agor y ddadl hon heddiw, ac rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gydnabod bod Llywodraeth Cymru, fel llawer o Lywodraethau ledled y byd, mewn sefyllfa heriol, yn bennaf oherwydd digwyddiadau byd-eang diweddar sydd wedi chwyddo costau hanfodol i bawb.

Ond y realiti yw bod materion a phryderon wedi bod yn tyfu ymhell cyn y digwyddiadau byd-eang diweddar fel y rhyfel yn Wcráin neu'r pandemig. Rhaid dweud bod Cymru wedi cael ei rhoi mewn sefyllfa waeth o ganlyniad i bron i chwarter canrif o reolaeth, penderfyniadau ac athroniaeth wleidyddol wael Llafur Cymru. Gallwn weld yr effaith y mae 25 mlynedd o Lywodraethau Llafur olynol wedi'i chael yng Nghymru, gan arwain at effaith ddwys a negyddol ar wasanaethau allweddol fel ein GIG yng Nghymru neu ein system addysg—a hyn er iddi gael setliadau mwy nag erioed gan San Steffan. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llafur Cymru wedi mynd yn hunanfodlon ynghylch ein gwasanaethau allweddol, gan dynnu eu llygaid oddi ar y bêl, a gadael pethau mewn cyflwr ansicr, gan arwain at sefyllfa a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog wneud datganiad cyhoeddus y byddai angen gwerth £900 miliwn o doriadau i gydbwyso cyllideb y flwyddyn gyfredol. Mae'r ffaith bod yn rhaid inni gael dadl fel hon yn yr oes sydd ohoni yn fy siomi, ond nid yw'n syndod. Mae gennym brofiad o hanes Llafur ar gyllid a'r economi. Peidiwch ag anghofio, yn 2010, mai Prif Ysgrifennydd Llafur y Trysorlys, Liam Byrne, a ysgrifennodd y nodyn cywilyddus i'r Prif Ysgrifennydd newydd yn dweud,

'Mae arnaf ofn nad oes unrhyw arian...pob lwc.'

Yma yng Nghymru, dywedodd Dirprwy Weinidog Llafur, yn huawdl iawn, 'Nid ydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar yr economi.'

16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae'r enghreifftiau hyn yn esbonio mewn rhyw ffordd pam ein bod ni yn y sefyllfa hon a pham y dylem fod yn bryderus. Mae awydd Llafur Cymru i ddatblygu eu cyfres o brosiectau hoff, wedi'u cynllunio gyda'u cymheiriaid ym Mhlaid Cymru, wedi tynnu adnoddau gwerthfawr oddi ar wasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau y mae ein dinasyddion eu hangen ac yn eu haeddu. Roedd hyn yn amlwg ddoe gyda'r datganiad ar Fil diwygio'r Senedd, a gefnogwyd gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, a wnâi eu gorau glas i geisio gwario £120 miliwn neu fwy ar wleidyddion yn y lle hwn—eu ffigurau nhw, nid fy rhai i—neu'r penderfyniad yr wythnos diwethaf i fuddsoddi £33 miliwn mewn cynllun 20 mya diofyn a fydd yn cael effaith negyddol o £4.5 biliwn neu fwy ar ein heconomi dros y blynyddoedd i ddod, neu'r £30 miliwn sy'n cael ei wario ar gynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.

Y gwir amdani yw nad yw pobl Cymru eisiau mwy o wleidyddion, nid ydynt eisiau cynllun cyffredinol 20 mya ac nid ydynt eisiau incwm sylfaenol cyffredinol na mentrau eraill difeddwl. Yr hyn y maent eisiau yw gwasanaeth iechyd diogel, addysg o'r radd flaenaf i'w plant, cartref iddynt eu hunain, swydd dda a gyrfa, uchelgais a gobaith ar gyfer y dyfodol. Mae angen mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon yng Nghymru; mae angen inni weld busnesau'n ffynnu a'r economi'n tyfu. 

Ers blynyddoedd, mae GIG Cymru wedi bod yn torri pob record anghywir o ganlyniad uniongyrchol i arweinyddiaeth y Blaid Lafur, a nawr gwelwn Weinidogion Llafur yn bygwth torri'r gyllideb iechyd eto. Ond nid hwn fyddai'r tro cyntaf i Lafur geisio torri cyllideb y GIG. Llywodraeth Lafur Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig erioed i dorri cyllideb y GIG, ac rydym yn wynebu canlyniadau hynny nawr.  

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod bron i 4,300 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru, gan roi pwysau pellach ar staff gweithgar sydd yno'n barod. Mae'n rhaid i'r swyddi hyn gael eu llenwi gan staff asiantaeth, gan gostio £321 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr yng Nghymru. Mae'n ffaith, a adroddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 y cant yn fwy i'w wario y pen ar iechyd yng Nghymru na gwariant y pen ar iechyd yn Lloegr, ond fe wyddom nad yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd yma.

Pe bai Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r cyfan a roddwyd iddi ar gyfer iechyd, byddai gan GIG Cymru oddeutu £1.3 biliwn yn ychwanegol bob blwyddyn. Byddai hyn wedi adeiladu gwytnwch a chynaliadwyedd i mewn i'n gwasanaeth iechyd. Mae'r tanariannu cronig yn niweidio GIG Cymru yn ddistaw bach. Fesul tipyn, mae gyrfa ym maes gofal iechyd wedi dod yn llai a llai deniadol, gan arwain meddygon iau a oedd ar un adeg yn gweld gwerth mewn dringo'r ysgol i ddod yn feddygon ymgynghorol i ddewis gwneud gwaith locwm yn lle hynny, a darparu mwy o sefydlogrwydd economaidd iddynt hwy a'u teuluoedd. Pe bai rhan yn unig o'r £1.3 biliwn hwnnw'n cael ei wario ar ein GIG, ni fyddai ein gwasanaeth iechyd yn y sefyllfa y mae ynddi heddiw, gyda phob un o'n byrddau iechyd mewn sefyllfa enbyd ac yn wynebu, gyda'i gilydd, gwerth £800 miliwn o doriadau.

Rydym i gyd yn gwybod bod arian yn brin a bod Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig yn gorfod gwneud dewisiadau anodd, ond un dewis na allwn fforddio ei wneud yw torri cyllideb y GIG. Mae ein dinasyddion eisoes yn dioddef ac ni allwn ganiatáu i bethau waethygu. Gwn na allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd eisoes. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r camgymeriadau y mae Llafur Cymru wedi'u gwneud yn y gorffennol a dechrau unioni pethau nawr. Gyda'n gwasanaeth iechyd yn y cyflwr enbyd hwn, ni all Cymru fforddio ei weld yn dioddef cyfres arall o doriadau. Felly, rwy'n annog Aelodau'r Senedd heddiw i gefnogi ein cynnig a diogelu GIG Cymru drwy sicrhau bod ei gyllideb yn cael ei gwarchod rhag unrhyw doriadau pellach yn y flwyddyn ariannol hon. Diolch.

17:00

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw, felly, ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi honiadau'r Prif Weinidog bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus Cymru wneud toriadau oherwydd diffyg chwyddiant o £900m mewn termau real ers yr adolygiad o wariant yn 2021.

2. Yn credu bod Llywodraethau San Steffan wedi methu â darparu cyllid teg a digonol i Gymru ers dechrau datganoli.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ragweld yr anawsterau ariannol hyn a pharatoi atynt.

4. Yn gresynu at y diffyg cyfleoedd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r Senedd graffu ar unrhyw doriadau arfaethedig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer pob gwasanaeth rheng flaen, gan gynnwys y GIG.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma heddiw. Mae'n deg dweud bod y gwasanaeth iechyd o dan y lach. Mae sawl rheswm am hyn, ac mae'r Gweinidog ei hun wedi rhestru nifer ohonyn nhw dros y misoedd diwethaf: mae'r boblogaeth yn heneiddio; mae cost cyffuriau yn cynyddu yn sylweddol; ac mae mwy o afiechydon yn cael eu hadnabod a mwy o driniaethau ar eu cyfer. Ystyriwch, yn flaenorol byddai pobl yn marw ynghynt neu'n byw mewn poen, ond erbyn hyn, mae'n bosib trin y gwahanol afiechydon a heintiau yma, a hyn yn ei dro yn rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd. Mae hyn oll yn wir a byddai'n annheg ac, yn wir, yn anghyfrifol peidio â chydnabod hyn. Ond mae yna broblemau llawer iawn mwy sylfaenol ar waith hefyd, sydd yn tanseilio gallu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol a'r staff gwych sydd o fewn y gwasanaeth hwnnw.

Ond cyn mynd ymlaen at y problemau yma, rhaid imi gymryd eiliad i herio honiad cynnig y Ceidwadwyr am lefel cyllido Cymru. Oes, mae mwy o arian yn mynd i mewn i'r gwasanaeth iechyd ac yn dod i Gymru yn nhermau cash, ond mae hyn yn diystyru’n llwyr y chwyddiant sylweddol sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn tua £17 biliwn mewn setliad oddi wrth Lywodraeth San Steffan eleni. Pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010, fe welodd Cymru ei grant bloc yn disgyn yn flynyddol, a dim ond yn ddiweddar y mae hwnnw wedi dechrau cynyddu unwaith eto. Ond, yn nhermau go iawn, wrth ystyried chwyddiant, mae Cymru yn derbyn £3 biliwn yn llai eleni na beth yr oedd yn ei dderbyn yn 2015. Cyplyswch hyn gydag annhegwch fformiwla Barnett a'r ffaith ein bod ni'n cyfrannu at brosiectau mawr megis HS2 ac eraill ac nad oes gennym ni reolaeth ar adnoddau megis Ystâd y Goron neu ddŵr, yna mae'r darlun yn gwbl glir: mae Cymru yn cael ei thanariannu o biliynau o bunnoedd gan y wladwriaeth lwgr, anghyfartal yma.

Ond dydy hynny ddim yn gwadu cyfrifoldeb y Llywodraeth yma ychwaith. Yn un peth, beth bynnag am eiriau cynnes y Prif Weinidog ac eraill o'i Gabinet yng Nghymru, dydy arweinydd yr wrthblaid yn Lloegr, Keir Starmer, ddim wedi rhoi unrhyw ymrwymiad i unioni'r annhegwch yma. Ac fel y saif pethau, bydd yr anghyfartaledd poenus yma'n parhau o dan Lywodraeth Lafur Starmer hefyd. Ond, mae gymaint yn fwy y gellir ac y dylid ei wneud yma yng Nghymru.

Dadl am ein gwasanaeth iechyd yw hon i fod, ac mae’r Gweinidog iechyd wedi dweud droeon fod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb personol am eu hiechyd a pheidio ag ychwanegu mwy o bwysau ar system iechyd sy’n amlwg yn gwegian. Ond er ei bod yn amlwg fod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb, mae ailadrodd y llinell honno nid yn unig yn nawddoglyd, ond mae hefyd yn gwadu gwir achos llawer o'r problemau iechyd sy'n wynebu ein pobl. Oherwydd mae gan ordewdra, diabetes, salwch meddwl, camddefnyddio sylweddau a llawer o broblemau iechyd eraill gysylltiad annatod â thlodi. Hyd nes yr awn i’r afael â’r achos sylfaenol hwnnw drwy ddarparu cartrefi da, fforddiadwy i bobl, drwy sicrhau bod gan bawb incwm sylfaenol er mwyn cael bywyd urddasol, a chryfhau’r economi drwy rymuso ein cymunedau a sicrhau y gall Cymru ddatblygu ei pholisïau economaidd a chyllidol ei hun, yn rhydd o fuddiannau biliwnyddion absennol, a datblygu ein cronfa gyfoeth sofran ein hunain i fuddsoddi yn ein haddysg a’n pobl, hyd nes y gwnawn hyn, byddwn bob amser yn brwydro i fynd i’r afael â’r afiechyd cronig sy’n llesteirio ein gwlad. Dyna pam na ddylid maddau i'r Llywodraeth Lafur hon. Mae eu methiant i drechu tlodi a chryfhau ein heconomi yn chwarae rhan allweddol yn yr argyfwng iechyd.

Nawr, yn ddiddorol, mae’r Ceidwadwyr yn ailadrodd y llinell eu bod am ddiogelu’r gyllideb iechyd, heb sôn unwaith am wasanaethau rheng flaen allweddol eraill. Beth am dai? Beth am yr economi? Beth am awdurdodau lleol? Os nad ydych yn buddsoddi yn y rhain a phrosiectau hanfodol eraill, bydd hynny'n cael effaith uniongyrchol ar iechyd a llesiant pobl, gan roi mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd yn y pen draw.

Un gwasanaeth allweddol sy’n cael ei anwybyddu’n rhy aml, ac sy’n cael ei anwybyddu gan y Ceidwadwyr yn yr achos hwn, yw’r sector gofal. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn clywed y Llywodraeth heddiw yn derbyn bod gennym argyfwng yn y sector iechyd, mae angen inni fynd i’r afael â’r problemau yn y sector gofal. Mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddiad yn y sector gofal er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd. Ar hyn o bryd, rydym yn llawer rhy ddibynnol ar fyddin o ofalwyr gwirfoddol sydd, yn y bôn, yn cynnal popeth arall. Ond mae’r diffyg buddsoddiad parhaus yn ein gwasanaeth gofal yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr heriau mawr sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd, boed hynny gyda phobl yn ymweld â meddygon teulu dro ar ôl tro neu oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai sy’n arwain at giwiau ambiwlans hir a chymaint mwy. Felly, oes, mae angen inni gadw’r gyllideb iechyd a sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn cael y cyllid sydd ei angen er mwyn mynd i’r afael â’r anhwylderau y mae pobl Cymru yn eu dioddef. Ond heb y buddsoddiad hwnnw yn y gwasanaeth gofal, ni fyddwn byth yn gallu mynd i'r afael â'r rhwystrau ystyfnig yn y system iechyd.

Felly, buddsoddwch mewn iechyd, ond mae iechyd yn gymaint mwy na thrin salwch; mae a wnelo ag atal, mae a wnelo â phobl ac mae a wnelo â thlodi. Byddai annibyniaeth, wrth gwrs, yn rhoi’r arfau hynny i ni, ond tan hynny, mae angen i Lywodraeth y DU ariannu Cymru’n briodol a darparu'r arian sy’n ddyledus i ni, ac mae angen i Lywodraeth Cymru reoli’r arian hwnnw'n well. Diolch.

17:05

Rwy'n galw ar y Gweinidog cyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 2.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2. Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3. Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Waw, mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf wedi fy syfrdanu bod gan Lafur Cymru yr wyneb i ddatgan bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi camreoli cyllid cyhoeddus. [Torri ar draws.] Wedi'r cyfan, Liam Byrne, Prif Ysgrifennydd Llafur y Trysorlys o dan y Gwir Anrhydeddus Brif Weinidog Llafur Gordon Brown, a adawodd nodyn i'w olynydd yn dweud,

'Mae arnaf ofn nad oes unrhyw arian.'

Diolch. Pan soniwn am gamreoli arian gan y Llywodraeth Dorïaidd a’r gyllideb iechyd, beth am y sgandal cyfarpar diogelu personol? Pe bai gennym yr holl arian hwnnw o’r sgandal cyfarpar diogelu personol, cannoedd o filiynau o bunnoedd, byddai gennym ddigon o arian i redeg gwasanaeth iechyd llwyddiannus iawn a rhoi popeth y mae pawb ei eisiau, sef yr hyn rydych chi'n gofyn amdano’n gyson bob wythnos.

Iawn, wel, pe baem wedi cael ymchwiliad COVID yma yng Nghymru, efallai y gallech fod wedi profi'r hyn a ddywedwch. Bu Llafur yn ddigon anghyfrifol i adael cyllid y wlad gyfan mewn llanast, ac nid am y tro cyntaf. Dros y 12 mlynedd diwethaf, ers imi gael fy ethol yma yn 2011, rydym wedi clywed y cwyno, y swnian, y crio bod Llywodraeth y DU yn tanariannu Cymru, ac eto, Llywodraeth Lafur oedd yno tan 2010, pan gawsant eu trechu, felly roeddech chi'n yn beio'r Llywodraeth flaenorol mewn gwirionedd, ac rydych chi wedi parhau i wneud hynny am y 12 mlynedd diwethaf.

Fel rhan o’r daith, diolch i’r Llywodraeth Geidwadol, mae Cymru bellach yn cael y lefelau uchaf erioed o gyllid. A Mabon, rydych chi'n anonest yn herio ein ffeithiau ar wariant yn y gwasanaeth iechyd. Mae pob un ohonom wedi gweld yn y gorffennol, o ganlyniad i gyllid canlyniadol Barnett, arian yn cael ei glustnodi yma i Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd, a Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â’i roi i’r gwasanaeth iechyd a'i wario ar brosiectau porthi balchder yn lle hynny. Roedd yn gannoedd o filoedd o bunnoedd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael dyraniadau cyllid mwy na Lloegr. A oes rhaid inni barhau i ddweud wrthych? Rwy'n dweud wrth fy holl drigolion os ydynt byth yn dweud unrhyw beth. Am bob £1 sy'n cael ei gwario ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. Mae'r un peth yn wir ar gyfer addysg. Er hyn, canfuwyd bod Llywodraeth Cymru ond yn gwario £1.05—[Torri ar draws.] Mae angen imi fwrw ymlaen yn awr, neu fel arall efallai y bydd y Llywydd yn dweud wrthyf am—[Chwerthin.]

[Anghlywadwy.]—nawr, ond eich penderfyniad chi ydyw, Janet. Felly, os penderfynwch beidio â derbyn ymyriadau, mae hynny'n berffaith iawn.

Mae grŵp gwariant y Gymraeg ac addysg wedi profi diffygion cyllid dro ar ôl tro gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24, derbyniodd £3.43 biliwn mewn cyllid, gan arwain at doriad mewn termau arian parod o £43 miliwn o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer o gyrff llywodraethu ysgolion yn cysylltu â mi nawr i rybuddio na allant fforddio unrhyw doriadau pellach. Mae gennym benaethiaid ysgolion sydd ar fin cael chwalfa feddyliol o ganlyniad i lefelau annigonol ac ymgysylltu gwael iawn o ran cyllid. Ni ddylent orfod gwneud mwy o arbedion, gan fod cynnydd mewn gwariant gan Lywodraeth y DU wedi arwain at £115 miliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol Barnett ar gyfer 2023-24. Mae'n warthus eich bod yn caniatáu i arian a dderbyniwyd yn sgil gwariant ar addysg yn Lloegr gael ei ddyrannu at ddibenion gwastraffus eraill yma yng Nghymru.

Efallai y bydd y Gweinidog addysg yn dweud ei fod wedi ystyried yr argymhellion gan Luke Sibieta yn ei adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru yn 2020, er mai’r gwrthwyneb sy'n wir. Dywedodd yr adolygiad fod angen cyllid ychwanegol mewn rhai meysydd, gan gynnwys amddifadedd. Mae Llafur Cymru yn hoff o ddefnyddio’r gair hwnnw'n aml, ac mae’n rhaid imi ddweud, mae’r holl ardaloedd yng Nghymru lle gwelwch amddifadedd manwl yn cael eu cynrychioli gan gynrychiolwyr Llafur Cymru, ac mae hynny’n ffaith.

Dywedodd y Gweinidog, o ganlyniad, eu bod yn dyrannu £9 miliwn arall—[Torri ar draws.] Edrychwch ar y map o amddifadedd yng Nghymru. Mae £9 miliwn arall yn mynd i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed economaidd drwy'r grant datblygu disgyblion. Mae’r £142 miliwn ar gyfer 2023-24 dros £5 miliwn yn llai nag yn 2022-23. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri cyllid ar gyfer myfyrwyr agored i niwed economaidd; mae'n warthus. Felly hefyd y ffaith bod y grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi parhau i wynebu gostyngiadau mewn termau real o un flwyddyn i'r llall: toriad mewn termau real o £228 miliwn yng nghyllideb derfynol 2023-24, er bod Llywodraeth Cymru wedi cael y £165 miliwn ychwanegol. Symiau canlyniadol Barnett o £140 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn 2023-24, cyfanswm o £305 miliwn.

Y sgandal fwyaf oll, fodd bynnag, yw eich bod yn parhau i wastraffu arian: £7.3 miliwn ar drac rasio aflwyddiannus, £33 miliwn ar gyflwyno'r terfyn 20 mya, £52 miliwn ar Faes Awyr Caerdydd, ynghyd â'r holl gannoedd o arian arall sydd wedi mynd ar hynny, a chafodd ei brisio'n isel iawn yn ddiweddar. Diwygio’r Senedd, £120 miliwn, a £157 miliwn ar ffordd liniaru’r M4. Mae dwsinau o enghreifftiau eraill. [Torri ar draws.] Rydych yn caniatáu i gymaint o arian gael ei wastraffu yma fel na fydd unrhyw beth ar ôl ar gyfer y gwasanaethau sydd ei angen, a hyn oll oherwydd arweinyddiaeth aflwyddiannus gan Lafur, pan oeddent yn Llywodraeth y DU, ac yma. Diolch.

17:10

Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon er mwyn cywiro peth o'r gamwybodaeth sy'n cael ei lledaenu gan y Torïaid. Mae degawd o doriadau cyni Torïaidd mewn gwasanaethau cyhoeddus a dyfarniadau cyflog heb eu hariannu wedi eu gadael mewn cyflwr bregus. Yn yr holl graffiau, gallwch weld y dirywiad yn y GIG ledled y DU gan ddechrau yn 2010. Ac ni allwch ddweud ei bod yn iawn ariannu’r GIG a thorri cyllid i ofal cymdeithasol. [Torri ar draws.] Mae un yn effeithio ar y llall. Ie, Janet.

Oni fyddech yn cytuno â mi, os edrychwch ar yr union graffiau hynny, fod gwariant ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi cynyddu, ac os edrychwch ar y graffiau ar gyfer Cymru, fod y gwariant wedi lleihau?

Na, rwy'n anghytuno. Mae gwariant ar iechyd yng Nghymru wedi cynyddu. Rydych yn gwahanu'r GIG—[Torri ar draws.]

Ar eich ail bwynt, roedd rhyddhad i gychwyn wrth iddi ymddangos fel pe bai cyni yn dod i ben yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, nid oedd yn arian ychwanegol i adfer gwasanaethau bregus, dim ond digon i gyd-fynd â'r costau a'r anghenion cynyddol. Roedd yn golygu nad oedd y toriadau mor ddwfn, ond wedyn cawsom gyllideb Liz Truss, a achosodd i’r economi ddymchwel i mewn i dwll du o bwysau chwyddiant, gan olygu bod yn rhaid i gynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill—gan gynnwys y GIG—wneud penderfyniadau anodd eto ynglŷn â thoriadau.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £900 miliwn yn llai. Roedd y bil ynni ar gyfer y GIG y llynedd yng Nghymru yn £200 miliwn ychwanegol y bu'n rhaid dod o hyd iddo. Mae cynghorau sy’n darparu gofal iechyd cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a llesiant ataliol, fel y crybwyllwyd yn gynharach, megis mynediad at ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd, tai cymdeithasol, cartrefi gofal—rwyf newydd glywed heddiw y bydd tri chartref gofal arall yn cau mewn un awdurdod yng Nghymru—diogelu'r cyhoedd, gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau digartrefedd yn gorfod wynebu bylchau cyllidol unwaith eto. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio y gallai gwasanaethau lleol fod mewn perygl angheuol os na ddaw cyllid pellach i Gymru o San Steffan. [Torri ar draws.] A ydych chi am imi dderbyn ymyriad, Sam?

Diolch am hynny. Rwy’n cymryd eich bod yn cydnabod, Carolyn, mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl bethau rydych newydd eu crybwyll.

17:15

Ydw, rwy'n derbyn hynny, ond pan fo cyllid i Gymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei dorri, o un flwyddyn i'r llall, nid oes dewis gennych, nag oes?

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, sef llefarydd CLlLC ar gyllid ac adnoddau, fod pobl ym mhob rhan o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau cyngor hollbwysig bob dydd, ac amcangyfrifir bod cynghorau’n wynebu pwysau o £600 miliwn i £750 miliwn yn 2024-25 yn unig. Mae 90 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar wasanaethau cyhoeddus. Byddai’r golled i’r gwasanaethau cyngor hyn yn ergyd enfawr i gymunedau ar adeg pan fo’u hangen fwyaf, yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus a achoswyd gan y Llywodraeth Dorïaidd. Bydd pobl ledled Cymru yn talu’r pris yn y pen draw os bydd Llywodraeth y DU yn methu darparu cyllid brys i Lywodraeth Cymru i’w drosglwyddo i lywodraeth leol. Ac mae cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU i wella adeiladau'r GIG a chynyddu gwasanaethau hefyd wedi'i dorri mewn termau real. Dylai fformiwla gwariant Cymru fod yn fwy. Cydnabuwyd hynny'n eang pan oeddem yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, pan oedd Cymru’n fuddiolwyr net, yn cael £79 yn fwy y pen. Nid oes cyllid wedi'i ddarparu yn lle'r cyllid hwnnw.

Cymru sydd â’r boblogaeth fwyaf o bobl hŷn yn y DU. Yng Nghymru, mae 21 y cant o’r boblogaeth yn 65 oed neu’n hŷn. Ar lefel y DU, y ffigur yw 19 y cant. Mae Cymru yn deneuach ei phoblogaeth, ac mae ganddi hanes o ddiwydiant sydd wedi achosi problemau iechyd. Mae angen mwy o arian arni. Mae Cymru'n gwario 8 y cant yn fwy yr unigolyn ar iechyd na Lloegr, a 43 y cant yn fwy ar wasanaethau cymdeithasol personol yr unigolyn na Lloegr. Mae Cymru'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i holl weithwyr y GIG. Mae Cymru wedi cyhoeddi rhaglen fwy o wariant newydd y pen ar newid digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol na Lloegr—dros £60 y pen yng Nghymru, o gymharu ag oddeutu £38 y pen yn Lloegr. Mae gennym fwy o feddygon a gwelyau ysbyty, yn ôl cyfran, na Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu nifer y nyrsys a bydwragedd, ac wedi cynyddu cyllid hyfforddi 8 y cant. Mae gennym fwrsariaethau yng Nghymru o hyd. Ni chodir tâl am barcio. Ni chodir tâl am bresgripsiynau. Ac mae gennym fferyllwyr cymunedol. Yng ngogledd Cymru, mae gennym ysgol feddygol newydd, academi ddeintyddol, a mwy o leoedd hyfforddi. Dim ond chwarae gyda geiriau ac ystadegau y mae’r Ceidwadwyr, fel y maent bob amser yn ei wneud gyda'u camwybodaeth.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn deall bod yn rhaid inni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus, fel y soniodd Mabon ap Gwynfor yn gynharach, yn ogystal â’r GIG. Ni allwch eu gwahanu. Mae angen y buddsoddiad, oherwydd o dan y Torïaid, mae'r bobl gyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a'r bobl dlotach yn mynd yn dlotach, sy'n effeithio ar iechyd a lles pawb.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae’n ddigon hawdd i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru bwyntio bys i lawr yr M4 a beio’r Ceidwadwyr yn San Steffan am eu holl ddiffygion a’u methiannau, ond buaswn yn eich cynghori i beidio â chael eich twyllo gan y rhethreg hon. Maent yn siarad yn huawdl iawn, ond peidiwch â gadael i hynny eich argyhoeddi. Y Llywodraeth Lafur sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers datganoli ym 1999. Cymru yw’r wlad sy’n cael £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr, ond rywsut, dyma'r unig wlad i dorri ei chyllideb iechyd, a hynny ddwywaith nid unwaith. Mae'n anodd credu'r peth.

A ydych yn derbyn ein bod yn cael ein tanariannu, fod diffyg o £3 biliwn mewn termau real, fel yr amlinellodd Mabon ap Gwynfor—

Rwyf newydd gyfeirio at hynny. Onid oeddech yn gwrando? Dywedais £1.20 am bob £1 a werir—

Felly, rydych yn derbyn hynny. Beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg?

Rwyf yma fel Aelod o’r Senedd yn ceisio argyhoeddi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau iechyd yn fy etholaeth, fel y byddaf yn nodi yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad.

Ond mae’n iawn gwastraffu miliynau o bunnoedd ar 36 o wleidyddion ychwanegol ym Mae Caerdydd a gorfodi’r polisi 20 mya cyffredinol, yn groes i ddymuniadau'r rhan fwyaf o bobl Cymru. Yr unig beth y buaswn yn ei ddweud am hynny yw cynhaliwch refferendwm ar y penderfyniadau hyn, a chawn weld pa mor llwyddiannus fyddwch chi. Ond rydym yma i drafod iechyd, ac fel yr Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, gydag Ysbyty Glan Clwyd yn fy etholaeth, rwy’n mynd braidd yn nerfus wrth ddarllen y newyddion a gweld dadleuon am doriadau posibl. Rwy’n mynd yn nerfus am fy mod yn gweld, bob dydd, y problemau y mae fy etholwyr yn eu dwyn i fy sylw ynghylch amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, adroddiadau o fethiannau mewn gwasanaethau fasgwlaidd, a’r holl broblemau rwy'n sôn amdanynt ac y gŵyr pob un ohonom amdanynt.

Cefais gyfle i ymweld â’r adran ddamweiniau ac achosion brys yn rhinwedd fy swydd dros doriad yr haf i weld rhai o’r problemau drosof fy hun mewn ymateb i’r cwynion parhaus ynghylch amseroedd aros a pherfformiad cyffredinol y bwrdd iechyd. Yr un peth y gall pawb o bob math o gefndir gytuno arno yw'r angen i adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl er mwyn torri amseroedd aros yn sir Ddinbych a lleddfu pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwy'n gwybod hyn fy hun, ac mae fy nghyd-Aelodau wedi ei grybwyll yn rheolaidd, ond mae’n wir. Roedd i fod yn ateb i'r holl broblemau iechyd presennol yn y Rhyl, Prestatyn a’r ardaloedd cyfagos, lle byddai’r uned mân anafiadau yn darparu ar gyfer—[Torri ar draws.] Ie, ar bob cyfrif, Joyce.

17:20

Hoffwn wybod pa ran o'r £1 filiwn rydych wedi'i rhoi i ni fel setliad cyfalaf eleni y credwch y bydd yn adeiladu'r ysbyty hwnnw. Os gallwch ddod o hyd i rywun i'w adeiladu am £1 filiwn, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy na pharod i'w adeiladu.

Rydych am gael 36 yn rhagor o wleidyddion yn y lle hwn, a fyddai’n costio llawer mwy nag y byddai ysbyty cymuned gogledd sir Ddinbych yn ei gostio. Felly, pan fydd Gweinidogion yn ymateb i mi gan ddweud na ellir cyflawni hyn ac nad oes arian ar ei gyfer, gan feio'r Torïaid i lawr yn San Steffan, dyna pam fod fy etholwyr yn gwrthod y syniad hwn. Maent yn ei wrthod am eu bod yn gweld miliynau’n cael eu gwario ar ragor o wleidyddion yng Nghaerdydd, maent yn gweld faint o arian y mae’n ei gostio i newid yr arwyddion ffyrdd o 30 i 20, ac fel y soniais, gallai'r arian hwnnw fod wedi darparu ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Felly, gallech fynd mor bell â dweud, dadlau, fod y penderfyniadau a wneir yma ym Mae Caerdydd yn cael effaith andwyol ar ragolygon iechyd pobl sir Ddinbych, gan fod yr addewidion a wnaed i adeiladu’r ysbyty yn y Rhyl wedi’u rhoi o’r neilltu er mwyn cael rhagor o wleidyddion a therfyn cyffredinol o 20 mya. Mae a wnelo â blaenoriaethau, ac mae holl flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y lle anghywir. A chlywais Rhun yn sôn am amddifadedd yn y Rhyl. Gadewch imi ddweud wrthych am realiti’r sefyllfa yn y Rhyl: Cyngor Tref y Rhyl, cyngor Llafur; Cyngor Sir Ddinbych, cyngor Llafur—

Yr Aelod o’r Senedd? Am 26 mlynedd, Llafur. Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, am y rhan helaeth o 20 mlynedd, Llafur. Y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, lle rydych yn galw am fwy o ddatganoli, Llafur. Dyna realiti’r sefyllfa yn y Rhyl, a dyna’r rheswm pam y cefais fy ethol gan fy etholwyr, am eu bod wedi cael llond bol ac wedi blino ar yr un hen bolisïau a’r un hen rethreg yn dod o Fae Caerdydd. Hoffwn annog y Gweinidogion i ailfeddwl a dechrau cyflawni’r blaenoriaethau go iawn ar gyfer fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd a ledled Cymru, gan fod GIG Cymru ar ei liniau ac angen arweiniad cadarn yn hytrach na diwylliant hirsefydlog o fwrw bai gan Weinidogion Llafur a Phlaid Cymru. Rwy'n eich annog i gefnogi’r cynnig hwn heno. Diolch.

Fedraf i ddim dweud fy mod i'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon, oherwydd mae hi'n ddadl od iawn ar y funud.

Os edrychwch ar deitl y ddadl, mae’n ddadl am y gyllideb iechyd, ond fel y datgelwyd pan gyflwynodd Peter Fox y cynnig, rwy'n credu ei bod wedi troi’n ddadl i ladd ar Gymru, ac nid yn rhywbeth y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i weld o gwbl, a dweud y gwir. Oherwydd rwy'n siomedig iawn. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae sylwadau Janet Finch-Saunders yn awgrymu nad oes unrhyw un yn byw mewn tlodi mewn ardal Geidwadol yng Nghymru—pa mor dda ydych chi'n adnabod eich etholaeth? Oherwydd y gwir amdani yw bod pob un etholaeth yn dioddef o dlodi ac wedi dioddef o dlodi ers degawdau. Mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom, yn anffodus, yn ei rannu, hyd yn oed y rhai ohonom sydd ag ardaloedd cefnog—mae pob un ohonom yn rhannu'r sefyllfa mewn perthynas â thlodi. Ac fel yr amlinellwyd yn rymus gan Mabon ap Gwynfor, rydym yn deall y cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd, a dyna pam fy mod bob amser yn siomedig fod gennym Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, ond mae llawer o gyllidebau’r Llywodraeth yn dal i weithio mewn seilos. Os ydym o ddifrif ynglŷn â gwella iechyd pobl a threchu tlodi, mae’n rhaid i bob cyllideb gyda'i gilydd. [Torri ar draws.] Fe wrthodoch chi fy ymyriad i, felly gadewch imi barhau, os gwelwch yn dda.

Wrth inni fyfyrio ar yr hyn sydd ei angen ar Gymru, hoffwn weld cydnabyddiaeth, ac fe'i cafwyd gan Gareth, fod toriad mewn termau real wedi ei gwneud i'n cyllideb. Rydym yn cytuno fel Senedd ein bod yn cael ein tanariannu, y dylem dderbyn y £6 biliwn o ganlyniad i HS2. Nid yw rhai o'r pethau y cyfeiriwyd atynt yn dod yn agos at £1 biliwn, heb sôn am y £9 biliwn rydym wedi'i nodi yma. Felly, gadewch inni drafod y rheswm pam ein bod yn y sefyllfa hon. Ac a gawn ni osgoi pwyntio bys a dweud, 'Dylech fod yn gwneud hyn, dylech fod yn gwneud y peth arall', yn hytrach nag uno i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid, fel y gallwn fuddsoddi'n iawn yn y gwasanaethau angenrheidiol? Rwy’n siŵr fod pob un ohonom—pob un ohonom—yn cael gwaith achos dyddiol yn ymwneud ag iechyd, a’r hyn y bydd etholwyr yn ei weld, os ydynt yn gwylio'r ddadl hon heddiw ac yn gweld hyn ar yr agenda, y gyllideb iechyd, yw, 'Dros beth maent yn ymladd? A ydynt yn ymladd drosof fi, y claf sydd wedi bod yn aros am fisoedd, blynyddoedd, i gael ei weld?’—am nifer o wahanol resymau: y staff, sydd o dan gymaint o straen, y rhai sydd wedi bod yn gadael am na allant ymdopi mwyach, am eu bod yn gweld cleifion yn marw. Sut mae’r ddadl hon yn datrys hynny? Weithiau, rwy'n credu ein bod yn mynd am y penawdau hawdd yma, ond mewn gwirionedd, yr hyn y mae gennyf fi ddiddordeb ynddo yw atebion, a sut rydym yn mynd i ddiogelu dyfodol ein—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.

17:25

Diolch. Fe sonioch chi lawer am y problemau yn y gwasanaeth iechyd, ac rwy'n deall y problemau a grybwyllwyd gennych, ond a allwch chi egluro pam nad yw eich cytundeb cydweithio â’r Blaid Lafur yn sôn o gwbl am y gwasanaeth iechyd?

Gan fod gennym bolisïau gwahanol, ac mae'r meysydd cydweithio yn rhai lle gallem ddod o hyd i gytundeb, a dyna pam mai cytundeb cydweithio ydyw. Nid ydym mewn Llywodraeth, ac rydym hefyd yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran iechyd. Dyna pam yr hoffem weld mwy o graffu a gwell polisi, a dyna pam rydym yn cytuno â'r syniad o ehangu’r Senedd.

Ond yr hyn rydym yn edrych arno yma, a lle byddem yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, fel y pwysleisiwyd gan adroddiad diweddar Archwilio Cymru a ganfu fod chwech o’r saith bwrdd iechyd mawr wedi methu mantoli'r cyfrifon yn y cyfnod tair blynedd diwethaf, yn groes i’w dyletswyddau statudol, yw'r ffaith bod pob prif fwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn destun rhyw fath o ymyrraeth wedi’i thargedu gan y Llywodraeth. Rhaid bod honno'n feirniadaeth ddamniol o fframwaith uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru. Rwy'n ein hannog i geisio gweithio gyda’n gilydd, i ymladd am y cyllid y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu, fel bod ein gwasanaethau’n cael eu hariannu’n briodol. Mae hynny o fewn rheolaeth y Ceidwadwyr Cymreig, a Llafur Cymru hefyd, os bydd newid yn y Llywodraeth yn etholiad nesaf San Steffan. Ni allwn chwarae gwleidyddiaeth â bywydau pobl. Iechyd yw'r agwedd bwysicaf. Ond fel y clywsom gan Mabon ap Gwynfor a Carolyn Thomas, maent oll yn rhyng-gysylltiedig o ran pethau fel gofal cymdeithasol, tai ac yn y blaen. Ni allwn edrych ar gyllidebau ar eu pen eu hunain, ac ni allwn chwarae gwleidyddiaeth â bywydau pobl.

Dim ond un gân sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru ar eu hen system stereo: 'Bai rhywun arall yw hyn.' Bob wythnos, rydym yn gwrando ar yr un esgusodion yn cael eu hailadrodd gan y Llywodraeth, a'u Haelodau swnllyd ar y meinciau cefn weithiau, yn mynegi’r farn mai Llywodraeth y DU yn unig sydd ar fai am bob trallod yng Nghymru. Mae hyn nid yn unig yn ddiflas, ond mae'r masg yn llithro. Mae cyhoedd Cymru wedi cael llond bol ar y ffaith bod y Llywodraeth hon yn treulio llawer iawn o’u hwythnos waith yn dod o hyd i esgusodion pam nad ydynt wedi gwneud unrhyw beth, yn hytrach na gwneud y gwaith y cânt eu talu i’w wneud.

Yr hyn sy’n fy syfrdanu, Lywydd, yw bod Llywodraeth Cymru yn cwyno am ddiffyg o £900 miliwn yn y gyllideb eleni oherwydd chwyddiant, ac eto, nid ymddengys bod unrhyw un yn y Llywodraeth hon wedi rhoi unrhyw gynlluniau ar waith ar unrhyw adeg i roi cyfrif am bwysau chwyddiant. Mae bron fel pe na bai ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o gwbl y gall chwyddiant newid yn gyflym, a bod llywodraethu da yn golygu cael cynllun ariannol ar waith i ddarparu ar gyfer hyn.

Yr hyn sydd hefyd yn ddiflas i'w glywed, Lywydd, yw sut mae Llywodraeth Cymru mor ynysig ei hymagwedd fel nad yw'n gallu gwneud dim heblaw beio Llywodraeth Geidwadol y DU am bob mater neu broblem y mae’n ei hwynebu. Rhaid bod hwn yn naratif—

O'r gorau, cyn belled â'ch bod yn aros i'r microffon agor.

Onid ydych yn gweld unrhyw ryng-gysylltedd rhwng y berthynas ac undeb y cenhedloedd datganoledig â Llywodraeth y DU a rhyngweithiad y ffaith ein bod yn dibynnu, i raddau helaeth neu'n bennaf, ar Drysorlys y DU am yr hyn a ddaw i Gymru, a bod hwnnw wedi’i ddihysbyddu?

17:30

Os maddeuwch i mi, mae'r cyfan ar ddiwedd fy araith, felly diolch.

Felly, mae Llywodraeth y DU, am bob mater neu broblem y mae’n eu hwynebu—. Rhaid bod hwn yn naratif y cânt eu hannog i'w arddel gan eu tâlfeistri yn yr undebau llafur, nad ydynt yn gwastraffu unrhyw gyfle o gwbl i geisio dymchwel a thanseilio Llywodraeth y DU.

Mae problem yn hynny o beth, Lywydd, gan fod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb am y problemau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i'w camreolaeth eu hunain. Mae’n destun pryder na all unrhyw unigolyn yn Llywodraeth Lafur Cymru amgyffred bod chwyddiant yn y DU yn ganlyniad i bwysau byd-eang, oherwydd pandemig COVID, ymosodiad Rwsia ar Wcráin, newidiadau yn y cyflenwad ynni, megis Ewrop yn defnyddio llai o olew a nwy o Rwsia, ac effeithiau newidiadau polisi gan fanc ffederal yr Unol Daleithiau ar arian cyfred byd-eang. Golyga hyn nad ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth o gwbl i ddylanwadau y tu allan i'w rheolaeth nac yn rhoi cynlluniau priodol ar waith.

Yr hyn sydd hefyd yn fy mhoeni—ac rwy’n siŵr ei fod yn poeni llawer o bobl sy’n byw yng Nghymru—yw bod Llywodraeth Cymru naill ai wedi gwastraffu arian ar brosiectau porthi balchder neu wedi methu gwario symiau enfawr o arian grant ychwanegol yn ddigonol, sydd bellach wedi golygu bod gwytnwch GIG Cymru wedi'i wanhau'n ddifrifol. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi gwario’r holl arian a roddwyd iddynt gan Lywodraeth y DU yn ystod pandemig COVID, yn lle cael tanwariant o £155 miliwn, byddai hynny'n golygu y gallai rhestrau aros yng Nghymru fod wedi bod yn llawer llai bellach, ac na fyddai ein hysbytai a’n gwasanaethau meddygol o dan gymaint o bwysau nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r ffaith bod gan Gymru werth £504 miliwn o arian yr UE o hyd i’w wario erbyn diwedd 2023, y ffaith bod £40 miliwn wedi’i wario ar arwyddion ffyrdd 20 mya, a bod dros £135 miliwn wedi’i wario ar ffordd liniaru’r M4, prosiect na welodd olau dydd erioed, a hyd yn oed £16 miliwn ar ganolfan kung fu yng ngogledd Cymru yn dangos i bawb na all Llywodraeth Cymru ddefnyddio arian trethdalwyr yn ddoeth nac yn effeithiol. A phe byddent yn gwario'r arian hwn yn ddoeth pan oedd yr arian hwn ganddynt, ni fyddent yn y panig llwyr y maent ynddo bellach, ac ni fyddai'n rhaid iddynt wneud toriadau i wasanaethau hanfodol.

Fel y nododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—yn ogystal â fy nghyd-Aelod, Peter Fox, yn gynharach—nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn gwybod beth maent yn ei wneud ar yr economi ac maent wedi bod yn esgus dros yr 20 mlynedd diwethaf, a dyna pam mae Cymru'n dioddef o ddiffyg gwytnwch a pham fod yn rhaid i GIG Cymru ac iechyd pobl Cymru ysgwyddo baich anallu’r Llywodraeth hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae pobl Cymru yn haeddu rheolaeth ariannol well o lawer nag y mae’n ei chael ar hyn o bryd gan Lywodraeth Lafur Cymru.

Ac i ateb cwestiwn Rhianon Passmore nawr: mae difidend yr undeb yng Nghymru yn werth dros £4,400 yr unigolyn y flwyddyn, ac mae'n anodd credu bod Llywodraeth Cymru yn dal i fethu gwneud i gyllid Cymru weithio i'r fath raddau fel bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â holl wledydd eraill y DU. Mae’r ffaith ei bod yn caniatáu i awdurdodau lleol eistedd ar swm syfrdanol o £2.75 biliwn o gronfeydd wrth gefn heb eu gwario, pan fydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd talu biliau o ddydd i ddydd, yn gwbl warthus. Ar ôl 23 mlynedd, mae'n amlwg fod Cymru yn dal mewn sefyllfa o fod heb fawr ddim gwytnwch rhag chwyddiant. Mae’n amlwg nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar waith i ymdrin ag unrhyw beth y tu hwnt i’w rheolaeth, ac ni ddylai GIG Cymru ac iechyd y genedl orfod talu'r pris am hyn.

Lywydd, dyna pam fy mod yn annog pawb yma i gefnogi’r cynnig a godwyd gan Darren Millar a phleidleisio yn erbyn toriadau i'n cyllideb iechyd gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Diolch.

Cyfarfûm â phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz, yr wythnos hon i drafod y problemau real iawn sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yng Ngwent, ac mewn gwirionedd, ledled y DU. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyhoeddus fod eu diffyg wedi’i achosi'n bennaf gan gostau cynyddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn wir, codiadau chwyddiant mawr ac aciwtedd difrifol cyflwr cleifion ar ôl COVID, gan gynnwys amseroedd theatr, ynghyd â chynnydd mewn angen a galw gwirioneddol gan gleifion ledled Cymru am wasanaethau’r GIG, a hefyd cynnydd graddol ym mhrisiau’r farchnad—ni allwn anwybyddu chwyddiant—a chostau cyffuriau uchel. Ond hefyd, yn yr un modd, costau cyflogau uchel heb eu hariannu, nad yw Llywodraeth y DU yn eu darparu ar gyfer gweithlu ein GIG a phobl Cymru. Ac mae’r adnoddau ychwanegol Cymreig rydym yn eu defnyddio i fynd i'r afael ag amseroedd aros, yn dilyn y tarfu a achoswyd gan y pandemig, yn real.

Felly, gyd-Aelodau, gadewch inni fod yn gwbl onest. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, rydym yn byw mewn undeb o genhedloedd yn y Deyrnas Unedig—dyna ddewis y bobl—ac mae prif Lywodraeth San Steffan, sydd wedi bod â’i dwylo—fe wnawn eu galw’n hynny—ar ysgogiadau economaidd pŵer wedi bod dan reolaeth, a chamreolaeth buaswn yn dweud, y Torïaid ers 13 mlynedd hirfaith, gyda phum Prif Weinidog Ceidwadol bellach. Tair blynedd ar ddeg o gyni anhrefnus, a lloerig hyd yn oed, buaswn yn dweud, gan y Torïaid, ac mae arweinyddiaeth honedig y Torïaid wedi cael effaith ddramatig ar yr hyn y gall gwasanaethau iechyd datganoledig ei gyflawni.

Ac eto, gadewch inni edrych ar yr hyn y mae GIG Cymru wedi’i gyflawni, a dyma’r ffeithiau, nid y ffuglen sy’n cael ei lledaenu mor aml gan y rhai gyferbyn. Mae Cymru yn gwario 8 y cant yn fwy yr unigolyn ar iechyd na Lloegr. Mae hynny'n ffaith. Mae hynny'n £3,459 yng Nghymru a £3,192 yn Lloegr, ac rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad, gan mai data Llywodraeth y DU sy'n dweud hynny. Mae gan Gymru fwy o feddygon teulu o ran cyfran na Chymru a Lloegr, ac mae’n cynyddu nifer y nyrsys a bydwragedd ymhellach, ac rydym wedi cynyddu’r cyllid hwnnw 8 y cant. Mae gan Gymru lawer mwy o welyau ysbyty na Lloegr o gymharu â maint ein poblogaeth. [Torri ar draws.] Ffigurau’r Llywodraeth yw’r rhain—y DU.

Mae ffigurau 2020-21 yn dangos bod gan wasanaeth iechyd Cymru oddeutu 270 o welyau ysbyty cyffredinol ar gyfer pob 100,000 o bobl o gymharu â 170 yn Lloegr. Ac mae Cymru yn adeiladu, mae’n debyg, chwe gwaith nifer yr ysbytai newydd o gymharu â Lloegr, os ydym yn defnyddio’r un diffiniad â’r Ceidwadwyr o ysbyty newydd. Mae hynny'n ddiddorol. Yn wir, os ydym yn defnyddio'r un meini prawf â Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gyfer Cymru, mae gennym 14 o ysbytai newydd, yn seiliedig ar gynlluniau a oedd wedi'u cwblhau erbyn 2019 a'r rhai y bwriedir eu cwblhau ar hyn o bryd erbyn 2030. Felly, gadewch inni fod yn onest—nid oes angen y twyll hwn arnom. Nid oes angen y twyll hwn ar y cyhoedd. Mae’r Torïaid yn San Steffan wedi addo 40 o ysbytai newydd, ond ar 33 o’r rhain, fe’ch atgoffaf, mae'r gwaith yn dal heb ddechrau. Felly, o ystyried y poblogaethau—mae gennym ni yng Nghymru fwy na chwe gwaith y nifer o ysbytai newydd o gymharu â Lloegr.

Lywydd, hoffwn gloi fy nghyfraniad gyda llwyddiant arall gan GIG Cymru yng Ngwent. Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolygiad heb ei gyhoeddi ymlaen llaw yn uned famolaeth Ysbyty Athrofaol y Faenor rhwng 6 ac 8 Mehefin, a chafodd yr ysbyty ei ganmol am ei ragoriaeth mewn gofal mamolaeth yn yr uned. Felly, tra bo eraill o hyd yn ceisio lladd ar ein gwasanaeth iechyd gwladol, gan ladd ar Gymru wrth wneud hynny mewn gwirionedd, er budd eu hamcanion, er budd eich amcanion gwleidyddol eich hunain, gallwn weld perfformiad uchel ar y rheng flaen—[Torri ar draws.]—rwyf bron â gorffen—gan staff ymroddedig ein GIG ledled Cymru. A'r staff hynny yw gwir aur Cymru. Nhw yw ein trysor a nhw yw ein gweithlu. A’r hyn sydd ei angen ar ein GIG yng Nghymru nawr, yn fwy nag erioed, yw Llywodraeth Lafur y DU, Llywodraeth y DU a fydd yn gweithio gyda ni ac a fydd yn sicrhau bod adnoddau ariannol y DU yn cael eu neilltuo—eu neilltuo—i ddiwallu anghenion pob cornel o’r Deyrnas Unedig, anghenion ein teulu GIG ac anghenion pobl Cymru. Ac mae hynny'n golygu cyflogau, nid ystrydebau.

17:35

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gyfrannu i'r ddadl nawr—Rebecca Evans. 

Diolch, Lywydd. Wrth ymateb i’r ddadl heddiw, rwy'n croesawu'r cyfle i gofnodi unwaith eto y rôl y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi’i chwarae yn camreoli cyllid cyhoeddus ein gwlad, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at yr heriau cyllidebol sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru, heriau y gwn eu bod yn cael eu teimlo ledled y DU gyfan, ac wrth gwrs, mae’r heriau hyn yn effeithio ar y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

Bydd y Senedd yn ymwybodol fod cyllideb Llywodraeth Cymru £900 miliwn yn llai na’r adeg y’i gosodwyd gyntaf yn 2020-21. Mae'n werth £2 biliwn yn llai na phe bai wedi tyfu'n unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Mae lefelau uchel o chwyddiant yn parhau i roi pwysau aruthrol ar bob un o feysydd gwariant Llywodraeth Cymru, boed hynny'n wariant refeniw ar wasanaethau, cyflogau a phobl, neu'n wariant cyfalaf ar seilwaith ffisegol fel ysbytai. Ac mae Llywodraeth y DU yn parhau i wasgu cyllid y flwyddyn nesaf. Mae ein cyllideb yn is mewn termau real y flwyddyn nesaf nag eleni, ac mae’r rhagolygon ar gyfer y cyfnod ar ôl 2024-25 yn peri cryn bryder.

Roeddwn yn glir iawn y llynedd, pan oeddem yn gosod cyllideb y flwyddyn hon, ei bod yn gyllideb ar gyfer amseroedd caled, ac rydym yn byw yn yr amseroedd caled hynny. Ac yn anffodus, bydd yr amseroedd caled a’r dewisiadau caled sy’n wynebu Cymru yn parhau am beth amser eto. Mae hyn oll oherwydd camreolaeth Llywodraeth Geidwadol y DU ar ein heconomi a’n cyllid cyhoeddus a phenderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Weinidogion Ceidwadol dirifedi i gyfyngu ar wariant cyhoeddus. Effaith hyn yw ein bod yn mynd i orfod lleihau gwariant mewn rhai meysydd i ymdopi â phwysau allweddol mewn meysydd eraill. Mae'r Cabinet yn parhau i fynd i'r afael â dewisiadau anhygoel o anodd ynghylch y meysydd y byddwn yn parhau i'w hariannu. Mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru, a dyna pam ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i barhau i gefnogi’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol bob amser wedi bod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac rydym wedi blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol yn gyson yn ein cyllideb, er gwaethaf yr heriau y mae ein cyllideb wedi’u hwynebu. Mae gwariant y pen yng Nghymru yn uwch gan fod yr angen i wario yn fwy yng Nghymru. Mae gennym boblogaeth hŷn, mae gennym lefelau uwch o afiechyd ac anweithgarwch economaidd, yn rhannol o ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol. Mae Cymru hefyd yn genedl fwy gwledig, ac yn syml iawn, mae’n costio mwy inni ddarparu gwasanaethau a bodloni gofynion pobl mewn cymunedau yma na mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae lefel y cyllid ar gyfer Cymru yn ganlyniad uniongyrchol i weithrediad fformiwla Barnett, ac mae’n seiliedig ar anghenion ein poblogaeth. Nid yw’n seiliedig ar haelioni Llywodraeth y DU, a byddai’n dda pe bai'r Ceidwadwyr yn cofio hynny, yn enwedig gan mai nhw sy'n gyfrifol am y degawdau o dlodi dwfn yng Nghymru. [Torri ar draws.] Mewn eiliad. Mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr Cymreig yn gwarafun yr elfen anghenion yn fformiwla Barnett yn gwbl syfrdanol. Ar ôl gwrando ar y cyfraniadau oddi ar y meinciau hyn y prynhawn yma, mae’n amlwg eu bod yn ei gwarafun. Buaswn yn disgwyl hynny gan y Ceidwadwyr yn San Steffan, ond mae’n gwbl syfrdanol ei weld yn dod oddi ar feinciau’r Ceidwadwyr yn y Senedd.

17:40

Diolch, Weinidog. Roeddwn am godi ein bod, yn amlwg, yn cymharu llawer o systemau yma rhwng Cymru a Lloegr, ond a fyddech yn dweud mai eich blaenoriaeth yw gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynnwys darpariaethau iechyd trawsffiniol, pan edrychwch ar y ffaith bod pobl yn y gogledd-ddwyrain yn defnyddio gwasanaethau yn Swydd Gaer, Wirral, Glannau Mersi, ac yn yr un modd, wrth ichi fynd i lawr y wlad, yn Swydd Amwythig, Henffordd ac yn y blaen? A all rhai o'r cyfraniadau hynny a wnewch yn eich ymateb ystyried y gwirioneddau hynny—fod pobl yn Lloegr yn defnyddio gwasanaethau GIG Cymru, ac yn yr un modd, fod pobl Cymru yn dibynnu llawer ar system iechyd Lloegr hefyd?

Ie, ac mae hwnnw’n ddatganiad cywir mewn gwirionedd, gan y gwn ei bod yn ffaith bod mwy o bobl o Loegr yn dod i Gymru i ddefnyddio meddygon teulu yma yng Nghymru nag sy’n mynd i’r cyfeiriad arall, a chredaf ei bod yn bwysig cael trafodaethau adeiladol ar draws Llywodraethau, felly nid oes problem gennyf gyda hynny.

Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, byddaf yn gwneud datganiad ar y gwaith trawslywodraethol i ailddyrannu cyllidebau cyn gynted ag y bydd yr ymarfer a ddisgrifiais wedi'i gwblhau, ar ôl rhoi ystyriaeth briodol, wrth gwrs, i effaith y dewisiadau rydym yn eu hystyried, gan gynnwys yr effeithiau cronnol hynny. Felly, rwy'n gobeithio gallu dweud rhywbeth pellach wrth y Senedd ynglŷn â hyn y mis nesaf.

Ond nid yw ein gwaith yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i Lywodraeth Dorïaidd y DU chwarae ei rhan hefyd. Felly, galwaf unwaith eto ar y Canghellor i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn y GIG, mewn seilwaith cyhoeddus, yn natganiad yr hydref ar 22 Tachwedd. Ni all Llywodraeth y DU barhau i wrthod rhoi cyllid taer ei angen i wasanaethau cyhoeddus, gyda’r holl oblygiadau yn sgil hynny i bobl yng Nghymru.

Ni fyddwn yn gwrando ar unrhyw bregethu gan y Torïaid, y blaid sy'n gyfrifol am fwy na degawd o gyni ar wasanaethau cyhoeddus, dewis gwleidyddol sydd wedi gwanhau ein gwasanaethau. A dyma'r blaid a gyflwynodd y dreth ystafell wely, a osododd sancsiynau ar rai sy'n chwilio am waith, a dorrodd fudd-daliadau pobl anabl—y blaid sydd wedi rhoi chwyddiant aruthrol i ni, biliau morgeisi uwch, ac sydd wedi gorfodi teuluoedd i ddewis rhwng gwresogi a bwyta, gan roi miliwnyddion yn gyntaf dro ar ôl tro. Mae’n bryd i’r Ceidwadwyr roi’r gorau i gamarwain pobl a chydnabod bod Cymru yn cael ei thanariannu’n ddifrifol.

Mae’r Llywodraeth Lafur hon yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi pobl a chymunedau yng Nghymru, ac mae’n bryd i’r Ceidwadwyr Cymreig wneud yr un peth. A dywedaf hyn wrth y Ceidwadwyr Cymreig: ceisiwch fod yn Gymry yn gyntaf, yn Geidwadwyr yn ail. Dylent weithio gyda ni, nid yn ein herbyn. Dylent fod yn dylanwadu ar eu cyd-bleidwyr yn Whitehall i sicrhau cyllid tecach i Gymru a sicrhau nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, megis y GIG, yn cael eu gadael ar ôl.

17:45

Diolch, Lywydd, rwy’n falch o gloi’r ddadl hon yn y Senedd heddiw. I ddechrau, roeddwn o'r farn fod Peter yn deg, roedd Peter Fox yn deg, yn ei sylwadau agoriadol wrth gydnabod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru, fel llawer o Lywodraethau ledled y byd, mewn sefyllfa heriol, a soniodd y Gweinidog am hynny hefyd. Ond pwnc ein cynnig heddiw yw'r gofid fod y Llywodraeth wedi torri’r gyllideb iechyd mewn termau real, ac nid dyma’r tro cyntaf, wrth gwrs, i’r Llywodraeth hon dorri’r gyllideb iechyd mewn termau real. Mae’r rhain yn benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, nid yn San Steffan. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real yn Lloegr, ac nad oes unrhyw Lywodraeth Geidwadol fodern wedi torri cyllideb iechyd mewn termau real. Mae’r rhain yn benderfyniadau a wneir yma yng Nghymru.

Rwyf am ganolbwyntio ar rai o’r cyfraniadau eraill heddiw. Buaswn yn cytuno, wrth gwrs, â rhai agweddau ar gyfraniad Mabon ap Gwynfor. Rwy'n cytuno â’r angen i fynd i’r afael â materion sy'n ymwneud â chodi pobl allan o dlodi; rwy'n cytuno â phwysigrwydd annog perchentyaeth ac annog dyheadau o ran perchentyaeth ac adeiladu mwy o dai; o ran iechyd Cymru, rwy'n cytuno ei fod yn ymwneud â mwy na’r gyllideb iechyd yn unig—rwy'n cytuno â’r pwyntiau hynny. Rwy'n credu hefyd fod pwynt arall a wnaeth Mabon yn ymwneud ag atal, a chredaf fod yna raglenni atal sy’n llwyddiannus yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio na fydd y Llywodraeth yn ceisio torri rhai o’r rhaglenni atal hynny.

Bu llawer o drafod yn y ddadl hon heddiw ynghylch gwariant ar iechyd—Janet Finch-Saunders, Gareth Davies ac Aelodau eraill hefyd. Ond yr hyn a nododd Janet—ac eraill hefyd—yw bod Cymru, am bob £1 a werir ar feysydd datganoledig, boed yn addysg neu'n iechyd, yn cael y cynnydd hwnnw o 20 y cant; mae Cymru'n derbyn £1.20. Mae’r Gweinidog yn sôn am hyrwyddo a sefyll dros Gymru. Byddaf bob amser yn hyrwyddo ac yn sefyll dros Gymru a fy etholaeth. Os oes unrhyw fecanweithiau eraill ar gyfer gwariant ychwanegol, byddaf yn hyrwyddo'r rheini—rwy'n gwneud hynny ar gyfer ffyniant bro. Os oes mecanweithiau eraill, byddaf yn hyrwyddo arian ychwanegol ar gyfer gwariant ychwanegol.

Mewn eiliad. Ond yr hyn rwy'n ei herio yw’r ffaith bod Cymru, wrth gael y cynnydd hwnnw o 20 y cant, yn cael ei chosbi’n annheg gan Lywodraeth y DU.

Fe wnaf dderbyn dau ymyriad; rwy'n derbyn un Rhianon yn gyntaf ac yna un Darren Millar, os caf, Lywydd.

Diolch. Mewn perthynas â sefyll dros Gymru, onid ydych yn deall bod gennych rym i allu dweud wrth Lywodraeth y DU nad oes digon o arian yn dod i Gymru? Onid yw hynny’n rhan o’ch mandad?

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Ar y pwynt olaf hwnnw, wrth gwrs, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU mewn perthynas â swm canlyniadol Barnett ar gyfer HS2, er enghraifft, ar y meinciau hyn, a byddwn yn parhau i allu gwneud hynny. Ond a ydych yn cytuno â mi, Russell George, fod y fargen a gafodd ei tharo—y £1.20 am bob £1—a gafodd ei tharo gan y Prif Weinidog presennol, a oedd yn Weinidog cyllid ar y pryd—yn seiliedig ar anghenion bobl Cymru, ac i'r Prif Weinidog ei chroesawu fel bargen dda?

Diolch i Rhianon Passmore am ei hymyriad, ac mae Darren Millar wedi mynd i’r afael â’r pwyntiau hynny, ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â’r pwyntiau a wnaed gan Darren Millar. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Cymru’n cael setliad mwy nag erioed o £18 biliwn y flwyddyn, ac mae’n parhau i gynyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn cael £2.1 biliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

Nawr, mae'n ddiddorol, gyda chyfraniadau eraill i'r ddadl hon heddiw—bron nad oedd Carolyn Thomas yn rhestru cyfres o gamgymeriadau a phryderon sydd gennym yng Nghymru, heb sylweddoli, yn ôl pob golwg, fod y rhain yn faterion a oedd yn gyfrifoldebau datganoledig i Lywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r materion a godwch; rwy'n credu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bron i bob un o'r rhai a grybwyllwyd gennych. [Torri ar draws.] Iawn.

Mae hyn yn mynd yn ôl at gyllid, ac mae’r cyllid wedi’i dorri yn ystod 10 mlynedd o gyni gan Lywodraeth y DU. Wedyn cawsom bwysau chwyddiant nas darparwyd ar ei gyfer, felly mae unrhyw gyllid wedi mynd i mewn i dwll du—dim dyfarniadau cyflog ychwaith—felly mae hyn oll yn cael effaith ar bob gwasanaeth cyhoeddus, boed yn wasanaethau cyngor neu'r GIG—heb eu hariannu o gwbl.

17:50

Wel, credaf fod y sylwadau rwyf eisoes wedi’u gwneud ac a wnaeth Darren Millar yn ateb y sylwadau hynny, Carolyn Thomas. Ond gyda grym, daw cyfrifoldeb, a dyna'r pwynt roeddwn yn ei wneud. Ni allwch ei chael hi y ddwy ffordd. Ni allwch ddweud, pan fo rhywbeth da yn digwydd yng Nghymru, mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hynny, a phan fo problemau yng Nghymru, eich bod yn pwyntio bys at San Steffan. Nid cyfrifoldeb yw hynny, ac nid dyna'r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil datganoli.

Rwyf am gloi fy nghyfraniad drwy ddweud pam y credaf ei bod yn bwysig fod y gyllideb iechyd yn cael ei diogelu yng Nghymru. Mae'n bwysig am fod gennym sefyllfa lawer mwy enbyd o ran gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Buaswn wedi meddwl—. Mae pobl yn gofyn imi hyrwyddo cyllid i Gymru; buaswn wedi meddwl y dylai’r Gweinidog fod wrth y bwrdd gyda’i chyd-Aelodau o'r Cabinet, yn hyrwyddo cyllideb iechyd fwy i Gymru, gan mai dyna’n union—[Torri ar draws.] Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gwneud hynny; dyna ni. Dyna ni. Ond credaf mai’r hyn sy’n bwysig yma yw edrych ar rai o fanylion pam fod angen inni gael cyllideb iechyd wedi’i diogelu yng Nghymru. Ar hyn o bryd, gwyddom fod gennym amseroedd aros o ddwy flynedd—amseroedd aros o ddwy flynedd ar hyn o bryd, mae’r ystadegau presennol yn dweud wrthym fod 28,331 o bobl yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth. Dyna 28,000 o bobl. Y ffigur cyfatebol yn Lloegr yw 277 o bobl—277—a gallwch wneud y cyfrif eich hun, pan ystyriwch gymaint yn fwy yw poblogaeth Lloegr o gymharu â Chymru. Felly, dyna’n union pam ei bod hi'n anghywir i dorri’r gyllideb iechyd mewn termau real yng Nghymru, a pham y dylid diogelu’r gyllideb iechyd.

Mae'r GIG—. Nid yw hyn i gyd—. Ac rwy'n derbyn hyn hefyd; mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig, mae'n ymwneud â gwell rheoli hefyd, a gwell rheolaeth ar ein gweithlu. Rydym wedi cael Llywodraeth Lafur ers 25 mlynedd yng Nghymru. Credaf fod Rhianon Passmore wedi nodi bod Llywodraeth y DU wedi bod yno ers 13 mlynedd; rydym wedi cael Llywodraeth Lafur ers 25 mlynedd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi methu cyflwyno cynllun digonol ar gyfer y gweithlu. Mae Rhianon Passmore yn sôn am fwy o feddygon, mwy o nyrsys—mewn gwirionedd, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o swyddi nyrsio gwag sydd gennym yng Nghymru. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyfrif; mae yna 3,000 o swyddi nyrsio gwag ledled Cymru. Rwy'n credu—

Yn gryno iawn, onid ydych yn sylweddoli pa mor ddigalon yw hyn i bobl Cymru? Mae gennych las yn pwyntio bys at goch, coch yn pwyntio bys at las, ac yn y cyfamser, mae pobl Cymru yn dioddef o iechyd gwael? Oni wnewch—[Torri ar draws.] A wnaiff un ohonoch—[Torri ar draws.] A wnaiff un ohonoch gymryd y cyfrifoldeb a sefyll i fyny a rhoi trefn ar y gwasanaeth iechyd ac ariannu'r gwasanaethau iechyd yn iawn?

Gyda phob parch, Mabon, os bydd unrhyw un yn gwrando'n ôl ar y ddadl hon heddiw, rwy'n credu y byddant yn gweld gwyrdd yn pwyntio bys at las a gwyrdd yn pwyntio bys at goch, yn ogystal â'r materion eraill rydych wedi'u hamlinellu hefyd. Onid yw’n bwysig fod hon yn ddadl wrthblaid sy’n craffu ar y Llywodraeth? Mae'n ymddangos fel pe baech yn dweud y gallwch chi graffu ar y Llywodraeth, ond nid ydych am i ni graffu ar y Llywodraeth, sydd i'w weld—

Cymryd cyfrifoldeb. Mae'n amlwg nad ydych chi'n gwneud hynny.

Gwnewch ni'n Llywodraeth, ac fe wnawn ni gymryd cyfrifoldeb.

Ni allaf gael dadl ddwy ffordd, neu bydd y Llywydd yn fy ngheryddu. Ond rwy’n mynd i ddod â’n dadl heddiw i ben drwy ddweud mai’r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl yw Llywodraeth Cymru sy’n rhoi blaenoriaeth i GIG Cymru a phobl Cymru. Nid wyf yn credu mai dyna sydd gennym ar hyn o bryd. Dylai GIG Cymru fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gyda ffocws craff arno, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd; mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn mannau eraill.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r cynnig a'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cwestiwn Brys: Sero Net

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiwn brys dwi wedi cytuno i'w dderbyn. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Delyth Jewell.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru? (EQ0011)

17:55

Diolch, Delyth. Bydd angen imi ystyried datganiad Prif Weinidog y DU mewn mwy o fanylder cyn rhoi ymateb mwy sylweddol, ond mae’r dystiolaeth yn glir iawn: po gynharaf y gweithredwn i gyflawni sero net, y lleiaf fydd y gost i fusnesau a chymunedau a'r mwyaf fydd y budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bob un ohonom.

Diolch, Weinidog. Mae penderfyniad Rishi Sunak i wanhau polisïau hinsawdd allweddol yn sarhad ar ein dyfodol, yn ymgais nid yn unig i ailysgrifennu hanes ond i ddadysgrifennu’r dyfodol, i’w atal rhag dod i fodolaeth. Mae'n fodlon taflu ein cynnydd ar y goelcerth wrth fynd ar drywydd yr enillion etholiadol cul hyn, a bydd pob un ohonom yn cael ein llosgi a'n creithio yn y broses honno. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa asesiad pellach y mae hi wedi'i wneud o effaith bwriad datganedig Llywodraeth y DU ar ddiwydiant modurol Cymru? Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r bwriad hwn cyn y cyhoeddiad heddiw? Gallaf ddyfalu beth fydd yr ateb i hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwrthbwyso unrhyw effaith negyddol yn sgil cefnu ar bolisïau hinsawdd allweddol fel hyn? Yn olaf, a yw hi'n rhannu fy ofn a fy arswyd fod polisïau sy'n angenrheidiol ar gyfer ein goroesiad fel rhywogaeth ar y blaned hon yn cael eu troi'n destun brwydr?

Diolch, Delyth. Yr hyn sy'n wirioneddol glir yw bod unrhyw newid ar y raddfa hon yn galw am ymgynghori a thrafodaeth briodol i ddeall y polisi ac i ddeall yr effeithiau. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu y bydd y newidiadau hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i'r argyfwng costau byw. Credwn y byddai mesurau blaengar eraill, fel tariff cymdeithasol ar gyfer ynni, yn gwneud gwahaniaeth llawer tecach a mwy uniongyrchol i'r rheini sydd dan bwysau ariannol.

Gan i Janet Finch-Saunders ddyfynnu’r Arglwydd Deben yn gynharach, gallaf ddweud wrthych fod gan yr Arglwydd Deben farn ar y mater. Mae'n dweud eu bod yn 'weithredoedd twp' ac yn 'ddatganiad o fethiant llywodraeth'. Dywedodd:

'Nid cyfnewid un polisi am un arall er mwyn cyflawni sero net yw hyn, mae'n gwestiwn o fynd yn ôl ar eich gair, sydd ynddo'i hun yn hynod beryglus'.

'Roedd y rhain yn addewidion a wnaed, ac maent yn angenrheidiol er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050, sy’n ofyniad statudol, felly bydd y llywodraeth yn y llysoedd’,

meddai. Felly, Janet, os digwydd ichi gyfarfod â’r Arglwydd Deben eto, efallai yr hoffech ofyn iddo ddweud hynny wrthych.

Os ydym am gael chwyldro diwydiannol yn seiliedig ar weledigaeth werdd ar gyfer y dyfodol, Delyth, mae'n glir iawn fod angen inni gael strategaeth ddiwydiannol ar gyfer buddsoddi yn seiliedig ar hynny, sicrwydd i'r farchnad, sicrwydd i fuddsoddwyr, o ddeiliaid tai unigol i weithgynhyrchwyr pympiau gwres a'r holl faterion sy'n gysylltiedig â hynny. Mae angen sicrwydd arnom i bobl ac i’n busnesau a’n cymunedau.

Rwyf wedi cael golwg sydyn ar y datganiad a wnaed. Ymhlith y nifer o bethau yr ymddengys ei fod yn cefnu arnynt y mae ailgylchu ei hun. Felly, mae gennyf hyn i'w ddweud am hynny: mae Llywodraeth Lloegr wedi bod yn warthus mewn perthynas ag ailgylchu, ac mae'r ffaith bod gennych Lywodraeth sydd wedi bod yn warthus am wneud rhywbeth ac sydd wedyn yn penderfynu nad oes ganddi darged mwyach yn dweud y cyfan. Dyma weithred Prif Weinidog anobeithiol, sy'n glynu'n daer wrth rym nad yw'n ei haeddu nac wedi'i ennill.

Ddydd Llun, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron wrth eu cynhadledd y byddai methu argyhoeddi prynwyr prif ffrwd i newid i fodelau sy'n cael eu pweru gan fatri yn ei gwneud yn llawer anos i'r DU gyflawni ei nodau sero net. Dychmygwch sut mae gwneuthurwyr a masnachwyr moduron yn teimlo heddiw ar ôl penderfyniad Rishi Sunak i ohirio hyn am bum mlynedd arall. Dychmygwch sut mae Vauxhall a Tata yn teimlo am eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu batris ceir o ystyried bod pyst y gôl bellach wedi'u symud. Gwyddom fod busnesau’n hoffi sicrwydd wrth wneud penderfyniadau buddsoddi. Mae hyn yn union fel y byddech yn ei ddisgwyl. Mae angen iddynt fod yn hyderus fod y rhagdybiaethau a wnânt heddiw wedi'u seilio ar sylfaen gadarn. Felly, mae’r Arglwydd Deben yn nodi bod Rishi Sunak wedi mynd yn ôl ar ei air, ac mae hyn, yn ôl pob golwg, yn debyg i gyllideb fach drychinebus Liz Truss. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn y sefyllfa hon i unioni’r niwed a wnaed heddiw i’n honiad ein bod am arwain y byd ar newid gwyrdd pan fo busnesau’n mynd i gael eu dychryn yn llwyr gan y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU?

Yn sicr, Jenny, rydych yn llygad eich lle, a dyfynnaf i chi o adolygiad Skidmore, adolygiad y Llywodraeth ei hun, 'Mission Zero'. Dywedodd mai

'sero net yw cyfle economaidd yr 21ain ganrif. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Adolygiad wedi dangos bod cyflymder y newid diweddar wedi creu chwa o gyfleoedd economaidd ar raddfa enfawr, fyd-eang.'

'Mae'n rhaid inni weithredu'n bendant i achub ar y cyfleoedd mewn ras fyd-eang.'

Felly, dyna Weinidog sero net Torïaidd y Llywodraeth ei hun yn siarad ychydig wythnosau yn ôl yn unig, cyn i Brif Weinidog y DU wyrdroi'r polisïau'n llwyr heddiw.

Cafwyd cyfres o sylwadau gan ddiwydiant ledled Prydain yn dweud mai’r hyn sydd ei angen arnynt yw sicrwydd, buddsoddiad a chymhwysedd, ac nid oes dim o hynny gan y Llywodraeth hon. Mae'n rhy gynnar inni allu dweud beth fydd yr effaith ar ein polisïau ni, ond gallaf roi sicrwydd i chi fod y Llywodraeth hon yn darparu sicrwydd a buddsoddiad, a gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwyrdd i Gymru lle gallwn arwain yn y ras fyd-eang. Mae hyn yn enghraifft o anghymhwysedd o'r radd flaenaf, ac a dweud y gwir, mae'n fy mrawychu.

18:00

Mae gennyf ymyriad byr iawn, os yw hynny'n iawn, Weinidog. Mae'r byd ar dân ac mae'n rhaid i ni wneud popeth a allwn. Ni all y byd aros. Rwyf wedi clywed rhai sylwadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr; rwy'n gobeithio y bydd rhywun o feinciau'r Ceidwadwyr yn siarad am hyn, oherwydd hoffwn glywed eu barn ar y cyhoeddiad penodol hwn. Ond mae clywed yr ymrwymiad pwysig hwn yn cael ei wthio'n ôl bum mlynedd yn creu ansicrwydd, ac i'n planed, yn golygu nad ydym eto mewn sefyllfa, ac ni fyddwn yn cyrraedd sefyllfa, lle gallwn fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ddangos i'n cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr pa mor bwysig yw hi i chi drafod—. Rydych wedi siarad ynglŷn â sut rydych chi wedi trafod pethau eraill gyda'ch cyd-Aelodau yn Llundain, ac rwy'n sicr yn cydnabod hynny ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond gadewch inni beidio â chael yr hyn a gawsom yn gynharach. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd. Mae hyn yn ymwneud ag achub y blaned, ac mae'n ymwneud â'r genhedlaeth nesaf. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ddweud y byddwch yn trafod pryderon pobl Cymru—[Torri ar draws.]—os ydych chi eisiau gwneud ymyriad, Mr Millar, gwnewch hynny—y byddwch chi'n rhoi neges gan bobl Cymru nad ydym yn credu bod hyn yn dderbyniol, ac y bydd ei wthio'n ôl bum mlynedd hyd yn oed yn golygu y bydd yn cael ei wthio'n ôl yn barhaus.

Bydd yn rhaid i mi ofyn i'r Ceidwadwyr fod yn dawel a chaniatáu i'r cwestiwn barhau, ac os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno gofyn cwestiwn neu gyfrannu at y cwestiwn hwn, gallant wneud. Gallwch gyflwyno eich enw.

Fel pwynt o drefn, roeddwn o dan yr argraff, pan fo cwestiynau brys yn cael eu cyflwyno, eu bod yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru i ymateb iddynt.

Ie, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cyfrannu at y cwestiynau pe baech chi'n dewis gwneud hynny. Ond nid oes gennyf unrhyw enwau Ceidwadol.

Cafwyd dadl hir ar y pwnc hwn y prynhawn yma, ac ymatebodd Janet Finch-Saunders yn fedrus iddi. 

Rwyf wedi cymryd—. Byddaf yn galw ar Samuel Kurtz i gyfrannu at y cwestiwn. Jane Dodds i barhau.

Diolch yn fawr iawn. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog beth yw eich meddyliau ar hyn o bryd o ran ceisio mynd i'r afael â'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU, a'ch cyd-bleidwyr yn Llywodraeth y DU, a dweud wrthynt am y pryderon sydd gennym yma ar draws llawer o'n meinciau mewn perthynas â gwthio'r targed hwn yn ôl. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr, Jane. Trasiedi go iawn y cyhoeddiad heddiw yw ein bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer y mandad cerbydau di-allyriadau, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus y pedair gwlad ar y cynlluniau, a chynlluniau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ar draws y Senedd hon, Senedd yr Alban a Senedd y DU, ac ymgysylltiad sylweddol â'r diwydiant. Nawr, mor ddiweddar â chyfarfod grŵp rhyng-weinidogol y pedair gwlad ar drafnidiaeth ar 13 Medi, gwta wythnos yn ôl, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am sicrwydd gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros ffyrdd a thrafnidiaeth leol na fyddai'r cynigion mandad yn cael eu gwanhau na'u gohirio. Felly, mae'n hollol glir nad oedd gan Weinidogion y Llywodraeth ei hun unrhyw syniad o gwbl fod y cyhoeddiad hwn yn dod, nac unrhyw syniad beth mae'n ei olygu. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i fy hun wedi bod yn trafod y cynllun dychwelyd ernes a'r cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn ddiweddar iawn gyda'r Gweinidogion yno, ac roedd yn gwbl amlwg nad oeddent yn gwybod bod Mr Sunak ar fin tynnu'n ôl ar eu holl ymrwymiadau ar ailgylchu. Felly, mae'n anodd iawn ateb y cwestiwn ar unwaith, Jane. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y cyhoeddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i ni. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif a byddwn yn sicrhau na fydd ein cenhadaeth ein hunain i gyrraedd sero net erbyn 2050 yn cael ei daflu oddi ar y cledrau gan y cyhoeddiad hurt hwn. 

Mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft o wleidyddiaeth boblyddol ar ei gwaethaf. Mae'n wleidyddiaeth chwiban ci. Mae'n gyfle olaf anobeithiol i Brif Weinidog anobeithiol a Llywodraeth anobeithiol, ac rwyf wedi dweud wrth y Ceidwadwyr o'r blaen ac rwy'n ei ddweud eto, peidiwch â galluogi'r boblyddiaeth hon, oherwydd ni fydd hynny ond yn eich arwain chi, a gwleidyddiaeth yn gyffredinol, i'r gwter. Rydym wedi ei weld o'r blaen gyda lleisiau Ceidwadol yn rhoi hygrededd i ddamcaniaethau cynllwyn a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol—peidiwch â gwneud hynny a pheidiwch â gadael i'ch cyd-Aelodau wneud hynny. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonoch.

Weinidog, rydych wedi ateb fy nghwestiwn ynghylch ymgynghori â Llywodraeth Cymru a chydag eraill ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn y prynhawn yma. Mae'n amlwg iawn nad yw Llywodraeth y DU yn poeni am y Deyrnas Unedig. Mae'n poeni am aros mewn grym a bydd yn gwneud beth bynnag sy'n rhaid iddi ei wneud i sicrhau hynny. A'r rheswm pam eu bod eisiau atal y newid i ddyfodol glân, ynni glân, wrth gwrs, yw oherwydd eu bod yn cael arian gan y cwmnïau tanwydd ffosil. Dyna sy'n bwysig iddynt yn hyn. Pryd bynnag y byddwch chi'n chwilio am reswm y tu ôl i benderfyniad Ceidwadol, dilynwch yr arian—dilynwch yr arian. Maent wedi llygru'r Llywodraeth ac maent yn llygru ein gwleidyddiaeth. A fyddai'n bosibl, Weinidog—a gwelaf fod y Prif Weinidog yn ei sedd y prynhawn yma—i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad brys ddydd Mawrth fel y gallwn ofyn cwestiynau am y materion hyn, oherwydd fe fydd yn bwysig?

Bythefnos yn ôl, aeth James Evans a minnau i Frwsel i fynychu gwrandawiad cadarnhau Iliana Ivanova, comisiynydd arloesi ac ymchwil yr UE o Fwlgaria, ac roedd hi'n sôn sut y bydd yr UE yn gwneud cynnydd mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi a sero net. Nawr, wrth gwrs, ers y cytundeb ar Horizon, bydd ein gallu ymchwil yn cael ei lywio gan benderfyniadau'r UE i raddau helaeth. Mae methiant Llywodraeth y DU i wneud unrhyw beth yn wahanol yn fethiant ar raddfa hanesyddol, ac felly yr hyn sydd angen inni ei wneud yw deall beth yw'r goblygiadau uniongyrchol i bolisi o ran yr amgylchedd, o ran sero net, o ran yr hinsawdd, o ran yr economi ac o ran arloesi. Ond hefyd mae angen inni ddeall canlyniadau mwy hirdymor hyn i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru.

18:05

Diolch yn fawr, Alun. Rwy'n credu y gallwn gyflwyno datganiad yr wythnos nesaf ar yr amod bod y Llywydd yn cytuno, ac rwy'n sicr yn hapus iawn i wneud hynny. Cawn gyfle i ddadansoddi'r cyhoeddiadau rywfaint. Yn union fel y dywedwch, ac rwyf am ddyfynnu cyn-Weinidog yr amgylchedd, a roddodd y gorau i'w swydd ym mis Mehefin, a ddywedodd hyn o ganlyniad i'r cyhoeddiad:

'Gan roi moeseg, neu rinweddau'r peth hyd yn oed, o'r neilltu, mae'n anodd gorliwio hurtrwydd gwleidyddol y penderfyniad economaidd ac ecolegol anllythrennog hwn gan y Prif Weinidog.'

Cyn-Weinidog Ceidwadol a ddywedodd hynny. Felly, hoffwn ddweud wrth y meinciau gyferbyn: nid oes angen dilyn safbwynt y blaid yn slafaidd—mae yna gryn dipyn o'ch cyd-bleidwyr yn dewis peidio â gwneud hynny, oherwydd os ydych chi'n credu yn sero net ac eisiau gwneud rhywbeth ynglŷn â newid hinsawdd, nawr yw eich cyfle i sefyll ar wahân i'r dorf.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i'ch clywed yn galw fy enw, o ystyried nad oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw heno a siarad ar y pwnc hwn, ac rwy'n ddiolchgar i Jane Dodds am wneud yr alwad am Geidwadwr Cymreig. Ond rwy'n credu bod angen rhoi ychydig o gyd-destun i hyn. Mae'r DU wedi lleihau allyriadau yn gyflymach nag unrhyw economi fawr arall—[Torri ar draws.] Mae cyfran y DU o allyriadau byd-eang wedi gostwng—

Rwyf eisiau clywed y Ceidwadwyr Cymreig ar y cwestiwn hwn. Samuel Kurtz. 

Diolch, Lywydd. Mae cyfran y DU o allyriadau byd-eang wedi gostwng yn is nag 1 y cant. Mae'r DU wedi ymrwymo i leihau allyriadau yn gyflymach na phob economi fawr arall—yr Almaen, yr UE, Ffrainc, Awstralia, UDA, Japan, Rwsia, Seland Newydd a Chanada. Cofiwch, hefyd, pan fo'r Aelod dros Flaenau Gwent yn siarad am Horizon a'n cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau ein bod ar flaen y gad yn yr ymchwil honno, gyda phwy rydym yn alinio ein polisi ar gerbydau trydan drwy ei ohirio am bum mlynedd? Rydym yn ei alinio â'r Undeb Ewropeaidd. Weinidog, oni fyddech chi'n cytuno mai'r bobl rydych chi a ninnau i gyd yn eu cynrychioli, y bobl dlotaf, fyddai'n cael eu taro galetaf pe byddem yn symud yn rhy gyflym tuag at sero net, a thrwy ei ohirio am bum mlynedd, y bobl dlotaf hynny sy'n mynd i gael eu cefnogi fwyaf? 

Wel, mae'n debyg na ddylwn gael fy siomi—gallaf weld bod eich safbwynt wedi cyrraedd mewn pryd o drwch blewyn yno—ond mae'r hyn a ddywedoch chi yn nonsens llwyr. A gaf fi eich annog—? Wel, rwy'n gwybod eich bod chi'n ei ddarllen oddi ar safbwynt canolog y Blaid Geidwadol, ond nid yw hynny'n ei wneud yn wir, yn anffodus. A gaf fi eich annog i ddarllen adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd y Llywodraeth ei hun i weld lle mae'r pwyllgor hwnnw'n meddwl fod Llywodraeth y DU arni? Mae'n paentio darlun ychydig yn wahanol i'r un rydych chi'n ceisio ei gyflwyno. A gaf fi ddweud hyn wrthych chi hefyd, ac rwy'n golygu hyn yn ddiffuant: a ydych chi'n deall seiliau economeg fyd-eang? Oherwydd mae bod y cyntaf i wneud rhywbeth yn golygu eich bod chi'n cael mantais fel y symudwr cyntaf. Mae'n golygu eich bod yn cael y buddsoddiad. Mae'n golygu eich bod yn cael y swyddi. Mae'n golygu eich bod yn cael yr holl fuddion o'r newid. Mae symud yn araf yn golygu mai gwladwriaeth gleient fyddwch chi yn y pen draw, bob amser yn derbyn arloesedd pobl eraill. Nid dyna lle rydym ni eisiau bod, hyd yn oed os mai dyna lle rydych chi eisiau bod.

18:10

Yn wahanol i fy nghyd-Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, nid wyf am ymddiheuro dros y Blaid Dorïaidd am dorri eu haddewidion. Hoffwn weld rhai ohonynt yn glynu wrth yr hyn y maent yn ei gredu, yn hytrach nag aros am neges destun fel yr un rydych chi newydd ei darllen, neu ryw neges arall rydych chi newydd ei darllen, er mwyn cefnogi Llywodraeth sy'n methu. Mae pobl eich etholaeth chi a fy etholaeth i yn disgwyl gwell na hynny gennych.

Ond rwyf am ofyn hyn i chi, Weinidog: os gallant wneud tro pedol llwyr ar rywbeth fel hyn, y tro pedol y maent wedi'i wneud gyda'r polisïau amgylcheddol y maent wedi cefnu arnynt, beth arall y gallwn ei ddisgwyl ganddynt, yr wythnos nesaf efallai, neu'r wythnos wedyn? A fyddant yn darparu'r arian y maent wedi'i addo i Tata, neu a fydd hwnnw'n cael ei dynnu'n ôl yr wythnos nesaf? Oherwydd rydych newydd ddisgrifio'r broblem yma, Weinidog: os na allwn roi gwarantau, gwarantau Llywodraeth, i fusnesau, mae'r busnesau hynny'n dechrau cilio—nid oes hyder. Rydym yn gwybod nad oes gan y rhan fwyaf o'r genedl hyder yn y Torïaid beth bynnag am na allant reoli'r economi—maent wedi ei chwalu. Ond maent mewn perygl nawr o chwalu'r busnesau a oedd yn mynd i fuddsoddi yma—y gwaith da sydd wedi ei wneud gennych chi, y gwaith da sydd hefyd wedi ei wneud drwy ymweliadau diweddar gan sawl Gweinidog i ofyn i fusnesau fuddsoddi yng Nghymru. Felly, pan fyddwch chi'n rhoi eich datganiad yr wythnos nesaf, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi edrych ar oblygiadau ehangaf posibl y Llywodraeth Dorïaidd hon sy'n troi a throelli ac yn newid cyfeiriad drwy'r amser?

Diolch, Joyce. Yn anffodus, y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud i fusnes yw troi a throelli a newid cyfeiriad fel hyn. Pan ddiddymodd y Ceidwadwyr y tariffau cyflenwi trydan, er enghraifft, fe wyddom eu bod wedi lladd y diwydiant paneli solar a oedd yn ymddangos yng Nghymru. Gwyddom ei bod wedi bod yn anodd iawn adfer yr ymddiriedaeth honno. Bob tro y byddwch chi'n gwneud tro pedol heb ystyried gwir oblygiadau'r polisi hwnnw, fe wyddom eich bod yn lladd rhan arall o'r diwydiant y gallech fod wedi'i adeiladu. Gwyddom fod gan y DU, a Chymru yn arbennig, gyfoeth o adnoddau naturiol y gellid manteisio arnynt er budd ei phobl, mewn ffordd sy'n diogelu'r blaned hefyd. Gyda'r nonsens llwyr y maent yn ei siarad, mae'r Ceidwadwyr wedi methu ar bob pwynt. Dim cais contract ar gyfer gwahaniaeth gan gwmni gwynt arnofiol. Dyna'r cyfan sydd angen i chi ei wybod am eich strategaeth ddiwydiannol—mae wedi methu. A dyma weithredoedd Prif Weinidog sy'n ysu i ddal ei afael ar rym, sydd wedi gohirio gweithredu hyd at adeg y mae'n gwybod na fydd mewn grym fel na fydd yn rhaid iddo wneud y penderfyniadau anodd, a Llywodraeth Geidwadol nad yw'n gallu ysgwyddo ei chyfrifoldeb a gwneud unrhyw beth nad yw er budd eu miliwnyddion eu hunain ar y fainc flaen. Diolch.

Weinidog, fe sonioch chi am y comisiwn newid hinsawdd annibynnol, ac yn lle adrodd safbwyntiau i'w harddel o bencadlys plaid, gadewch inni atgoffa ein hunain o'r hyn a ddywedodd y comisiwn yn gynharach eleni. Roeddent yn dweud bod y DU wedi colli ei lle amlwg fel un o'r arweinwyr byd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd. Felly, o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, mae'r DU wedi mynd o fod yn arweinydd byd-eang i fod yn endid cyffredin, canol y ffordd, ond heddiw gwelwn ei bod yn parhau i lithro i lawr y gynghrair. Nawr, rwy'n deall bod cost ynghlwm wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rwy'n deall bod angen inni fynd ati gystal ag y gallwn i ddiogelu'r rhai lleiaf abl i fforddio rhai o'r newidiadau a allai fod yn angenrheidiol. Ond rwy'n deall hefyd wrth gwrs y bydd y gost hyd yn oed yn uwch os gohiriwn y problemau—digwyddiadau tywydd mwy eithafol, mwy o straen ar seilwaith sy'n methu, a fydd yn golygu, wrth gwrs, fod angen llwybr gweithredu drutach a mwy uchelgeisiol wrth i amser fynd yn ei flaen. Nawr, rwy'n deall hefyd, er enghraifft, fod gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yn creu swyddi, a'i fod yn lleihau allyriadau carbon. Mae hefyd yn golygu cartrefi cynhesach, ac yn lleihau lefelau afiechyd yn ein poblogaeth. Felly, mae'n dda i'r economi, mae'n dda i'r amgylchedd, ac mae'n dda i bobl. Ond a fyddech chi'n cytuno, Weinidog, nad oes ganddynt hwy yn y fan acw ddiddordeb yn unrhyw beth ar wahân i'r hyn sydd o fudd iddynt hwy?

18:15

Wel, yn wir, Llyr. Yn anffodus, rwy'n cytuno â hynny. Gwyddom fod gennym lawer o gwmnïau yng Nghymru sy'n paratoi ar gyfer y chwyldro pympiau gwres ffynhonnell aer a phympiau gwres o'r ddaear. Bydd hyn wedi creu anhrefn llwyr iddynt hwy. Ni fyddant yn gwybod mwyach sut olwg fydd ar eu llyfrau archebu. Rydym wedi cael sawl enghraifft arall o'r math hwn, lle mae gennym gwmnïau'n paratoi ar gyfer buddsoddiad cyn iddo gael ei fachu oddi arnynt gan bolisi annigonol, anghymwys neu ddiffyg polisi. Gwyddom fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i'n cael yn ôl ar y llwybr cywir ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ond fe wyddom fod angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy mewn perthynas â buddsoddi.

Nid wyf eto wedi deall y cyhoeddiad heddiw yn llawn, ond mae angen buddsoddiad mawr, er enghraifft, mewn gwaith i wyrddu'r grid ac ymestyn y llinellau trawsyrru. A yw'r cyhoeddiad hwn yn golygu na fydd hynny'n digwydd chwaith? Mae'n amhosibl dweud. Gwyddom fod y Llywodraeth yn Lloegr wedi dweud nad ydynt wedi ymrwymo i ailgylchu mwyach. Ailgylchu. Mawredd mawr, mae Samuel Kurtz yn ceisio dweud wrthyf eich bod yn arwain y byd ac rydych chi'n dweud wrthyf nad ydych chi'n mynd i ailgylchu hyd yn oed. Hynny yw, mae hyn y tu hwnt i ffars. Rwy'n teimlo, Lywydd, fel pe bawn i mewn pennod o The Thick of It, lle mae criw o ddigrifwyr wedi cymryd lle'r wrthblaid.

8. Cyfnod Pleidleisio

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, mi symudwn yn syth i'r bleidlais. Felly, mae'r pleidleisiau cyntaf heno ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar ynni gwyrdd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Ynni gwyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Dwi'n symud ymlaen i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os ydy gwelliant 1 yn cael ei basio, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais, gwelliant 1. Mae'r bleidlais yn gyfartal. O blaid 26, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mi rydw i yn bwrw fy mhleidlais yn erbyn y gwelliant, sy'n cadarnhau bod y gwelliant wedi ei wrthod o 26 pleidlais i 27 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 2 wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 sydd nesaf. Agor y bleidlais. Gwelliant 3, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, mae'r cynnig a'r gwelliannau wedi eu gwrthod, a does dim byd wedi'i dderbyn o dan eitem 6.

Eitem 7 fydd nesaf o ran y pleidleisiau. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gyllideb iechyd yw'r rhain. Yn galw am bleidlais, yn gyntaf, ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:20

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y gyllideb iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidlais ar welliant 1 nesaf yn enw Heledd Fychan. Ac os bydd y gwelliant yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais ar welliant 1 yn enw Heledd Fychan. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais nesaf ar welliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8356 fel y'i diwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, adeg Cyllideb Gwanwyn y DU, yn werth £900m yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd ar adeg yr Adolygiad o Wariant y DU yn 2021.

2. Yn gresynu at yr effaith ar Gymru yn sgil camreolaeth o economi ac arian cyhoeddus y DU gan lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan.

3. Yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, a seilwaith cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y gyllideb iechyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio, a diwedd ar ein gwaith ni heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.