Y Cyfarfod Llawn
Plenary
11/01/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd y prynhawn yma. Eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru? OQ58924
Rwyf wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth yn afonydd Cymru drwy fynd i’r afael ag ansawdd dŵr gwael. Mae hyn yn cynnwys lleihau llygredd ffosffad a gwella cynefinoedd afonydd ar gyfer pysgod mudol drwy brosiect Pedair Afon LIFE. Yn dilyn yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth, rwyf hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi atebion ar raddfa dalgylchoedd i ysgogi gwelliannau yn ansawdd dŵr.
Iawn, byddai’n well imi ddatgan buddiant yma fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd, ond mae cysylltiad annatod rhwng problemau llygredd a bioamrywiaeth yn ein hafonydd, ac mae achosion llygredd yn ein hafonydd yn niferus a bydd angen nifer o ddulliau gweithredu cydgysylltiedig i ddatrys y broblem, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am i dasglu gwella ansawdd afonydd Cymru ddatblygu'r dulliau hynny. Mae llygredd amaethyddol o nitradau a slyri ffo, gorlifoedd carthffosiaeth cyfunol a phibwaith o oes Fictoria yn gollwng elifion yn gyson bellach, yn ddyddiol, wrth inni wynebu ymchwydd stormydd cynyddol, a ffosffadau o brosiectau adeiladu a reolir yn wael a mwy. Mae pob afon a chwrs dŵr yn wahanol, ac mae'n rhaid i bob pecyn o atebion fod yn wahanol hefyd. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut a phryd y byddwch yn diweddaru'r Senedd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, ond hefyd, ac yn benodol, sut y byddwch yn gweithio gyda, ac yn y pen draw, yn gorfodi, pob rhanddeiliad i chwarae eu rhan o ran ymdrech a buddsoddiad yn y broses o lanhau ein hafonydd a’n dalgylchoedd afonydd, gan adfer cyfoeth ein bioamrywiaeth, yn cynnwys yr eog a’r sewin, y mae'r ddau ohonom yn hyrwyddwyr ar eu rhan yma yn y Senedd?
Dylwn ddweud hefyd, wrth gwrs, mai fi yw hyrwyddwr yr wystrys brodorol, sydd angen dŵr glân, da i allu ffynnu hefyd. Mae’n gwestiwn pwysig iawn, Huw, a diolch am ei ofyn. Fel y gwyddoch, sefydlwyd tasglu gwella ansawdd afonydd Cymru i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Llywodraeth Cymru, CNC, cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid y diwydiant yn rhoi cyngor annibynnol i’r tasglu ac yn cynnig mewnwelediad. Yn ôl ym mis Gorffennaf, fe wnaethant gyhoeddi cynllun ar gyfer gorlifoedd stormydd yng Nghymru, yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlifoedd yn y tymor byr iawn i'r tymor hwy. Ac fel rydych wedi'i nodi hefyd, mae'r tri chynllun rheoli basn afonydd yng Nghymru, a luniwyd o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, bellach wedi'u cyhoeddi, sy'n dangos y cynnydd a wnaed ar wella ansawdd dŵr ledled Cymru.
Ond mae llawer o resymau pam nad yw rhai o’n hafonydd yn cyflawni statws da, ac maent wedi’u hamlinellu yn y cynlluniau, ynghyd â’r camau y mae angen eu cymryd i wrthdroi’r dirywiad. Ac fel y dywedwch yn gwbl briodol, mae angen i bawb sydd ynghlwm wrth hyn chwarae eu rhan. Ac rwy’n gwbl benderfynol, drwy fforymau fel fforwm rheoli dŵr Cymru, y grŵp goruchwylio afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig a'r tasglu gwella ansawdd afonydd, y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld.
O ran sut y gallwn eu gorfodi, gŵyr pob un ohonom nad oes un mesur unigol a fydd yn datrys y broblem hon. Cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd, fel y gwyddoch, yn ôl yn yr haf, a bydd uwchgynhadledd ddilynol yn cael ei chynnal ym mis Chwefror. Fe wnaethom ofyn i bob sector roi’r gorau i bwyntio bys at y sectorau eraill a meddwl am yr hyn y byddent hwy fel sector yn gallu ei wneud i ddatrys eu rhan hwy o’r broblem. Pan fyddwn yn gwybod beth ydynt, gallwn roi mesurau ar waith i sicrhau y gall y sectorau wneud yr hyn y maent wedi derbyn a deall y gallant ei wneud. Ac yna, bydd gennym gynllun gweithredu y byddaf yn diweddaru’r Senedd arno’n rheolaidd ac y gallwn ei ddefnyddio i roi pwysau ar bobl—arnom ni ein hunain a CNC, ond hefyd ar bob sector arall yng Nghymru sy’n achosi’r broblem hon.
Weinidog, er y camau breision a gymerwyd i lanhau ein hafonydd dros y degawdau diwethaf, llygredd yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth o hyd. Hoffwn dynnu sylw at y broblem benodol ar afon Tawe. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad yw’r gwaith i atal carthion heb eu trin rhag cael eu gollwng yn rheolaidd i mewn i afon Tawe o waith trin dŵr gwastraff Trebanos yn ne Cymru yn debygol o gael ei gwblhau tan 2030. Mae hyn yn annerbyniol, yn enwedig o ystyried bod Dŵr Cymru wedi enwi gweithfeydd Trebanos yn rhif 1 ar eu rhestr o'r 50 safle problemus gwaethaf i'r cwmni yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyfartaledd blynyddol o 3,500 awr o garthion heb eu trin wedi'u gollwng i afon Tawe o safle Trebanos. Weinidog, ni allwn aros saith neu wyth mlynedd arall i'r broblem hon gael ei datrys. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i’r afon hon cyn gynted â phosibl? Diolch.
Ie, diolch. Yn amlwg, hoffem gyrraedd y pwynt lle nad oes carthion heb eu trin yn mynd i mewn i'r afonydd. Mae angen buddsoddiad enfawr arnom, nid yn unig yn y safle y sonioch chi amdano, ond mewn safleoedd ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn cael trafodaethau gydag Ofwat a Llywodraeth y DU ynglŷn â'r adolygiad pris dŵr ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru, ac wrth gwrs, ledled y DU gyfan. Bydd yr adolygiad pris hwnnw'n pennu lefel y buddsoddiad y gallant ei wneud, ac yn cyflymu'r rhaglen fel yr hoffem ei weld. Felly, yn gyfnewid, hoffwn ofyn i chi sicrhau eich bod yn ychwanegu eich llais at ein llais ni fel Llywodraeth Cymru i Ofwat, i sicrhau bod yr adolygiad pris yn cynnwys gallu cwmni nid-er-elw fel Dŵr Cymru i fuddsoddi ar y lefel yr hoffai fuddsoddi, oherwydd, yn yr adolygiad pris diwethaf, roedd gennym broblem wirioneddol am nad ystyriodd Ofwat y ffaith nad oedd yn gwmni wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau, ac mae hynny wedi cael effaith ar y gallu i fuddsoddi.
Rwy’n sicr yn cael cyfarfodydd rheolaidd â’r cwmnïau dŵr, ac rwy’n sicr yn gofyn iddynt drwy’r amser i gyflymu eu cynlluniau, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar yr adolygiad pris dŵr. Felly, mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac ychwanegu ein llais at hynny i sicrhau bod y mecanwaith pris yn caniatáu'r buddsoddiad rydym am ei weld, ac yn wir, nid yn unig y buddsoddiad, ond cyflymu'r buddsoddiad y byddai pob un ohonom yn dymuno'i weld.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am welliannau i reilffordd y Cambrian? OQ58902
Ie, diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn ar fflyd newydd o drenau a fydd yn gwasanaethu teithwyr ledled Cymru. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau a chyfforddusrwydd teithwyr, ac mae’r trenau newydd sbon hyn bellach yn rhedeg yng ngogledd Cymru, a byddant yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru eleni a’r flwyddyn nesaf.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Rwyf wedi sylwi ar gynnydd yn y pryderon ynghylch gwasanaeth gwael ar reilffordd y Cambrian yn benodol, ar reilffordd Aberystwyth i Amwythig. Gofynnir yn aml i deithwyr newid yn annisgwyl yn Amwythig oherwydd nifer yr unedau a ddefnyddir ar gyfer gwasanaeth trwodd. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, 21 o unedau yn unig sydd ar gael ar hyn o bryd i weithredu ar reilffordd y Cambrian—y gwn y bydd y Gweinidog yn gwybod bod ganddi system signalau unigryw—ac mae gwasanaethau’n cael eu canslo’n aml oherwydd prinder yr unedau sydd ar gael i wasanaethu canolbarth a gogledd Cymru. Bydd y trenau newydd arfaethedig, fel y mae’r Gweinidog wedi’i amlinellu, yn dod yn lle'r unedau hŷn ar sail debyg am debyg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond ni fyddant yn cynyddu’r nifer sydd ar gael i weithredu’r gwasanaeth cyffredinol. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu nifer yr unedau yn gyffredinol i ddarparu gwasanaeth trên digonol i deithwyr ar reilffordd y Cambrian yn benodol, ac am unrhyw ddiweddariad y gallwch ei ddarparu ar y gwasanaeth trên bob awr? Diolch.
Ie, diolch, ac mae Russell George yn llygad ei le fod rhai anawsterau wedi bod ar reilffordd y Cambrian. Mae’r system reilffordd gyfan ledled y wlad wedi cael hydref anodd. Bydd y trenau newydd yr ydym yn eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian y flwyddyn nesaf yn gallu cludo mwy o deithwyr. Bydd mwy o gapasiti, ac wrth gwrs, bydd eu hamlder yn cynyddu i bob awr. Roeddem wedi gobeithio eu cyflwyno eleni, ond byddwn yn eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, a chredaf ei fod wedi cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar i drafod hynny.
Mae gennym hefyd rai anawsterau ar reilffordd y Cambrian am nad yw West Midlands Trains wedi dychwelyd i amserlen lawn gyda'u gwasanaethau rhwng Amwythig a Birmingham, ac mae hynny wedi cael effaith ganlyniadol ar ein gwasanaethau ninnau, ac wrth gwrs, cafwyd anawsterau yn y diwydiant drwyddo draw o ran staff newydd yn cael eu hyfforddi oherwydd ôl-groniad yn sgil COVID. Rydym wedi wynebu heriau gyda staff yn amharod i weithio goramser, ac rydym wedi cael gwaith seilwaith ar bont Abermaw, yn ogystal â chyfyngiadau’r 158 o drenau presennol, sef yr unig fflyd, fel y dywedwch, sy’n gallu gweithredu ar y rheilffordd hon, ac sy'n dod i ddiwedd eu hoes ddefnyddiol. Felly, mae arnaf ofn mai ein hapêl i deithwyr yw, 'Arhoswch damaid bach, bydd pethau'n gwella'. Ond mae pethau’n anodd ar hyn o bryd, ac rwy'n ymddiheuro am hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, clywsom ddoe fod Wizz Air yn rhoi'r gorau i'w holl hediadau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan roi ergyd arall eto i’w hyfywedd. Dywedodd eich Llywodraeth fod y cam hwn, a dyfynnaf, yn 'syndod.' Fodd bynnag, ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd eich cyd-Aelod Cabinet, Julie James, ddatganiad ysgrifenedig yn dweud bod eich swyddogion, a dyfynnaf,
'yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr'.
Felly, a wnewch chi egluro, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni’r ddeialog agos ac agored hon, a oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod mewn gwirionedd, neu a wnaethoch chi, eich cyd-Aelod Cabinet neu eich swyddogion dynnu eich llygad oddi ar y bêl a methu gweld hyn yn dod?
Diolch yn fawr iawn. Wel, ni welodd unrhyw un hyn yn dod gan ei fod yn benderfyniad gan y cwmni, yn wyneb yr hyn a alwyd ganddynt yn amodau macro-economaidd, i dynnu’n ôl o’r maes awyr; maent wedi tynnu'n ôl o feysydd awyr eraill hefyd. Mae'r diwydiant cyfan yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd chwyddiant a chostau cynyddol ynni. A hefyd, mae hedfan yn sector a chanddo fodel busnes eithaf ansicr, sy'n aml yn gweithredu ar ychydig iawn o elw, felly pan fydd gennym rymoedd allanol fel hyn yn newid telerau masnach, mae hynny'n cael effaith ganlyniadol na ellir ei rhagweld, ac yn sicr, ni allwn ni ei lliniaru'n hawdd. Nid wyf yn derbyn bod hyn yn taflu amheuaeth ar ein hymrwymiad i'r maes awyr, nac yn wir ar ei ddyfodol, ac mae'n dal i fod ar y llwybr tuag at broffidioldeb. Yn anffodus, mae bellach yn mynd i fod yn llwybr hirach, gan eu bod yn gwsmer pwysig i’r maes awyr, ond rydym yn gweithio’n agos gyda rheolwyr y maes awyr i edrych ar opsiynau amgen.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Unwaith eto, rwyf bob amser yn teimlo, pan fyddaf yn siarad am Faes Awyr Caerdydd, mai rhywun arall sydd ar fai bob amser, er na allaf ddweud na chaf fy synnu gennych, Ddirprwy Weinidog, gan ei bod yn amlwg nad ydych yn talu llawer o sylw i'r pethau nad ydych yn eu hoffi. Os nad ydych yn hoffi ffyrdd, rydych yn rhoi'r gorau i'w hadeiladu; os nad ydych yn hoffi awyrennau, rydych yn rhoi'r gorau i falio am faes awyr rydych yn berchen arno. Fodd bynnag, ar yr ochr hon i’r Siambr, rydym yn malio, ac rydym wedi llunio cynllun gweithredu i gefnogi’r maes awyr fel y gall sicrhau’r manteision economaidd y mae eu hangen yn ddirfawr ar Gymru. I brocio'ch cof, roedd un agwedd ar ein cynllun yn galw am well ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus i’r maes awyr. Mewn cyferbyniad, mae eich Llywodraeth Lafur wedi gwneud y gwrthwyneb ac wedi cael gwared ar wasanaeth bws T9. Felly, Ddirprwy Weinidog, pam na wnaethoch chi adfer y gwasanaeth bws yn dilyn y pandemig, neu a oedd yn gweddu i’ch naratif i adael iddo fynd a gobeithio bod y cyhoedd yn anghofio amdano?
Iawn. Wel, rwy'n gwrthod y disgrifiad hwnnw'n llwyr. Bu gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaeth bws T9, fel y dylai’r Aelod wybod, fel llawer o wasanaethau bysiau ar draws y diwydiant bysiau, ledled y wlad, i bob llywodraeth. Nid yw lefelau teithwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, felly mae'n rhaid inni wneud penderfyniad ymarferol ynglŷn â'r lle gorau i roi’r cymhorthdal, ac mae hyn yng nghyd-destun cyllidebau sy’n lleihau. Ceir gwasanaeth bws sy'n mynd o’r maes awyr i ganol Caerdydd; mae ganddo lwybr mwy cwmpasog na gwasanaeth bws T9, ond serch hynny, mae'n dal i fod yn gwbl weithredol, ac rydym yn parhau i adolygu dyfodol y gwasanaeth bws hwnnw.
Ddirprwy Weinidog, heb os, mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn faich ariannol ar y trethdalwr. Fe’i prynwyd gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013, ac yn 2021, £15 miliwn yn unig oedd y pris a roddwyd arno. Mae wedi gwneud colled cyn treth ym mhob cyfnod ers ei brynu, ac mae wedi cymryd miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffurf grantiau ac ad-daliadau dyled er mwyn iddo barhau'n weithredol. Mae nifer y teithwyr wedi gostwng 53 y cant ers 2019. Mae angen strategaeth glir, effeithiol a chynhwysfawr ar gyfer twf ar Faes Awyr Caerdydd i’w alluogi i ffynnu fel hyb rhyngwladol—strategaeth sy'n galw am weledigaeth a gallu entrepreneuraidd nad yw eich Llywodraeth yn meddu arnynt. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud hyn, ond mae arnom angen cynllun ar waith nawr, wedi'i roi ar waith gennych chi, i roi rhywfaint o hyder i ni, yn ogystal ag i'r cyhoedd, mewn perthynas â Maes Awyr Caerdydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, fy nghwestiwn olaf yw: a ydych yn cytuno bod eich perchnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd wedi bod yn ddefnydd truenus o ddi-glem o arian trethdalwyr, ac mai’r ateb gorau nawr yw cael gwared ar law farw Llywodraeth Cymru a dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i'r sector preifat, lle dylai fod?
Wel, mae'r lefel o anwybodaeth yn syfrdanol, a dweud y gwir, ynglŷn â'r realiti sy’n ein hwynebu. Nid oes gan y sector preifat ddiddordeb mewn maes awyr nad yw'n gwneud arian. Ychydig iawn o feysydd awyr, ledled y byd, sy’n gwneud arian, a hoffwn herio Natasha Asghar i roi enghreifftiau i mi o feysydd awyr y mae’n credu y dylem eu modelu, o bob rhan o’r byd, sy’n gwneud elw. [Torri ar draws.]
Parhewch, Weinidog. Chi sydd â'r llawr.
Wel, byddai’n well gennyf beidio, Lywydd. Mae'r holl synau cefndirol hyn yn mynd â sylw rhywun—gofyn cwestiwn pan nad yw'n fodlon gwrando ar yr ateb.
Teimlaf fod yn rhaid imi nodi eich bod yn feistr ar synau cefndirol eich hun, ar wahanol adegau, felly anwybyddwch hwy. Parhewch. [Chwerthin.]
Touché, Lywydd. [Chwerthin.]
Roedd yn anodd clywed yr wybodaeth ychwanegol roedd Natasha Asghar yn ceisio'i darparu. Y ffaith amdani yw, y cwestiwn sylfaenol y mae angen inni ofyn i'n hunain yw a ydym yn credu y dylai Cymru gael maes awyr. Os credwn y dylai Cymru gael maes awyr, mae methiant yn y farchnad, felly nid yw’r sector preifat ynddo’i hun yn mynd i ddarparu’r maes awyr hwnnw. Felly, yn union fel gyda Manceinion, yn union fel gyda meysydd awyr rhanbarthol eraill, mae rôl i ni fel Llywodraeth ddarparu’r maes awyr hwnnw, ac mae hynny’n gofyn am fuddsoddiad. Nawr, yn rhyfeddol, tynnodd sylw at y gostyngiad yn nifer y teithwyr ers 2019; wel, credaf fod pob un ohonom wedi sylwi ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 2019. Bu cynnydd yn nifer teithwyr y maes awyr hyd at y pandemig. Yn amlwg, ers y pandemig, ar draws y byd, mae'r galw am deithiau awyr wedi gostwng ac nid yw wedi codi'n ôl i'r un lefel. Nid oes model busnes yn y byd a fyddai’n gwrthsefyll sioc allanol o'r fath. Y cynllun menter a ysgrifennodd—y dywedodd wrthyf amdano o'i sedd—byddwn wrth fy modd yn ei ddarllen i weld beth y gallem ei ddysgu o'i doethineb. Mae hon yn her gyfunol i bob un ohonom. Os oes gan y Ceidwadwyr atebion yn hytrach na dim ond galw arnom i gau’r maes awyr, rwy’n glustiau i gyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Weinidog, yr wythnos hon, adroddwyd bod colli peillwyr byd-eang yn achosi 500,000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn oherwydd lleihad y cyflenwad o fwyd iach. Dywed gwyddonwyr y gellir priodoli oddeutu 1 y cant o’r holl farwolaethau bellach i golli peillwyr. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y gardwenynen feinlais, un o’n gwenyn sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddiflannu, mae hyn yn peri pryder i mi. Dylai ddychryn pob un ohonom, gan fod iechyd ein peillwyr yn uniongyrchol gysylltiedig â’n hiechyd ein hunain a dyfodol ein planed. Mae Dr Samuel Myers o Harvard wedi dweud bod y cysylltiad hwn rhwng bioamrywiaeth ac iechyd dynol yn aml ar goll o'r trafodaethau hyn. Felly, a wnewch chi nodi, os gwelwch yn dda, yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i warchod ac ail-greu cynefinoedd sy'n gyfoethog o ran eu natur, yn enwedig y rheini a chanddynt ddigonedd o flodau? Mae angen i gynlluniau fel y cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd a chynllun ffermio cynaliadwy Cymru gael eu hariannu’n dda, wrth gwrs, i gymell ffermwyr. A all y Llywodraeth wneud mwy, os gwelwch yn dda, i fynd i’r afael â’r defnydd o blaladdwyr? Gwn fod yr UE wedi cynnig gostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o blaladdwyr erbyn 2030. Dylem fod yn gwneud hynny fan lleiaf, byddwn yn gobeithio. A fydd cynllun yng Nghymru i helpu i bontio i ddewisiadau amgen cynaliadwy a’r defnydd o gnydau mwy gwydn, os gwelwch yn dda?
Ie, Delyth, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Yn amlwg, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth dramatig iawn i helpu ein peillwyr, a’n holl rywogaethau bywyd gwyllt mewn gwirionedd. Dyna pam y cynhaliwyd yr archwiliad dwfn gennym i ddarganfod beth yn union y gallai'r gymuned wyddonol ein helpu gydag ef o ran y cynlluniau. Dyna pam ein wedi bod yn siarad ag awdurdodau lleol ledled Cymru am y coridorau bywyd gwyllt, No Mow May—byddwn yn dweud mis Mehefin a mis Gorffennaf hefyd—a’r holl fater ynghylch plannu rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ar hyd ein llwybrau trafnidiaeth i greu'r coridorau sy’n angenrheidiol i'r peillwyr allu symud o gwmpas ac i sicrhau nad oes ganddynt gronfeydd genynnau sy'n lleihau mewn sectorau penodol—yr holl bethau sy’n effeithio arnynt.
Mae rhywbeth hynod bwysig y gallwn ei wneud ynglŷn â gerddi pobl hefyd yn ogystal ag amaethyddiaeth yn gyffredinol. Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu ffermio yn y ffordd gynaliadwy honno gyda llai o ddefnydd o chwynladdwyr a phlaladdwyr, gan fod y ddau ohonynt yn cael effaith wirioneddol ddramatig ar ein gallu i gael y fioamrywiaeth sydd ei hangen ar bob un ohonom i oroesi—yn llythrennol, rydym ei hangen i oroesi. Felly, mae gennym ystod o fesurau ar waith. Un o'r pethau, serch hynny, y gwn y bydd gennych ddiddordeb ynddo yw y byddaf yn awyddus i weld, yn rhan o'r targedau 30x30, beth y gallwn ei ddweud ynglŷn â llai o ddefnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr yn gyffredinol ar gyfer pethau cyffredin, os caf ei roi felly.
Mae gennym waith i'w wneud ar ailaddysgu yma hefyd. Bydd pob un ohonom yn derbyn cwynion gan etholwyr am chwyn ar y palmant, er enghraifft, ond mae chwyn ar y palmant yn angenrheidiol, mae'n angenrheidiol i bryfed guddio. Credaf fod yn rhaid inni ddysgu nad yw taclusrwydd yn rhywbeth da, mai ychydig o flerwch weithiau yw'r union beth sydd ei angen ar natur. Rhan fawr iawn o'r gwaith hwn yw ceisio cael pobl i ddeall nad yw palmentydd taclus heb unrhyw wyrddni o gwbl arnynt yn daclus mewn gwirionedd, ond yn farw. Felly, gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i newid y drefn o gael gwared ar chwyn ac ati a’i newid yn rhywogaethau blodau gwyllt brodorol, a bod pobl yn cydnabod bod hynny'n un o’r pethau y mae gwir angen inni eu gwneud. Mae hyn oll yn ymwneud â'r agwedd a'r hyn a welwn gyda'n llygaid pan edrychwn ar natur.
Diolch. Mae’r pwynt ynglŷn â chynefinoedd trefol yn wirioneddol bwysig; rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy’n mynd i siarad am rywbeth arall ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog nesaf, ond diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog.
Hoffwn sôn yn fy nghwestiwn olaf am ddiogelwch menywod ar drenau. Dangosodd arolwg diweddar gan Railwatch fod 60 y cant o fenywod wedi bod mewn sefyllfa lle cawsant eu gwneud i deimlo’n anghyfforddus wrth deithio ar drên yn y DU oherwydd eu rhywedd neu eu hymddangosiad corfforol. Roedd oddeutu 35 y cant wedi newid y ffordd roeddent yn edrych ar drên yn fwriadol, fel gorchuddio eu cyrff neu wisgo cot neu rywbeth felly. Roedd menywod LGBTQ 10 y cant i 20 y cant yn fwy tebygol o gael y profiadau hyn. Mae'n sefyllfa ofnadwy. Rwyf eisoes wedi codi sut y gall menywod deimlo'n anniogel wrth deithio i ac o drenau hefyd—nid oes ots gennyf pwy sy'n ateb. Mae angen i rywbeth newid. Y newyddion da yw bod 9 o bob 10 menyw yn yr arolwg wedi dweud y gallent deimlo'n fwy diogel pe bai newidiadau'n cael eu gwneud. Pe byddent yn gweld newidiadau, byddai 60 y cant yn teithio ar y trên yn amlach. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ddweud wrthyf, Weinidog, beth y gellid ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn? A chan fod hyn yn effeithio ar hanner y boblogaeth, neu gan y gallai effeithio ar hanner y boblogaeth, a ellid cyflwyno datganiad penodol ar hyn yn y Senedd os gwelwch yn dda? Diolch.
Delyth, mae hynny'n rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, a hoffwn ddweud fy mod yn un ohonynt. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun; rwyf wedi rhoi fy nghot o amgylch fy ngwallt, wedi gwisgo het, a cheisio gwneud fy hun mor anamlwg â phosibl, gan fy mod wedi bod yn teithio ar fy mhen fy hun yn y nos ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw wedi teimlo'n ddiogel. Mae sawl peth i’w ddweud am hynny. Yn gyntaf oll, cynhaliais ddigwyddiad Menywod mewn Trafnidiaeth ychydig cyn y Nadolig yn y Senedd, lle buom yn ceisio tynnu sylw at rôl menywod ym maes trafnidiaeth—gweithio yn y sector trafnidiaeth, ond defnyddwyr trafnidiaeth hefyd—am ba newidiadau rydym am eu gweld. Byddwn yn annog pawb yma i ymuno â’r hyb yno, a dechrau ceisio dylanwadu arno. Yr ail beth, wrth gwrs, yw sicrhau gyda’n hundebau fod gennym y lefel gywir o staff yn ein gorsafoedd ac ati, neu’r lefel gywir o olau, neu’r lefel gywir o ddarpariaeth frys. A'r trydydd peth yw sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy poblog, oherwydd, a dweud y gwir, os ydych ar wasanaeth a ddefnyddir gan lawer o bobl, nid ydych yn teimlo felly; mae'n tueddu i ddigwydd pan fyddwch wedi'ch ynysu, ar eich pen eich hun, lle nad yw'n teimlo fel pe bai unrhyw un arall o'ch cwmpas.
Credaf fod amryw o bethau y gallwn eu gwneud ac rydym eisoes yn eu gwneud gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch y ffordd y mae ein gorsafoedd yn gweithio, y ffordd y mae ein gwasanaeth bysiau'n gweithio, y ffordd y mae gennym staff yn y gorsafoedd, ond byddwn yn sicr yn eich annog i fynd ati i ymwneud â'r hyb Menywod mewn Trafnidiaeth. Mae’n adnodd defnyddiol iawn, lle gallwn ddechrau edrych drwy'r lens rhywedd ar lawer o’r gwasanaethau a ddefnyddiwn. Rwy'n credu'n wirioneddol ei fod yn bwynt pwysig iawn ynglŷn â phrofiad gwahanol sectorau o gymdeithas o wahanol bethau. Mae gwir angen inni gael gwasanaeth cyhoeddus sy’n croesawu pawb, ac yn gwneud i bawb deimlo’n ddiogel. Gallem gael sgwrs debyg ynglŷn â phobl ag anableddau neu bethau eraill hefyd. Felly, mae cynllun ar waith, ond yn benodol, hoffwn argymell yr hyb Menywod mewn Trafnidiaeth yr oeddwn yn falch iawn o’i lansio yn y Senedd ychydig cyn y Nadolig.
3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effeithiolrwydd Rhentu Doeth Cymru o ran cynyddu safonau o fewn y sector rhentu? OQ58918
Diolch, Peter. Mae gan Rhentu Doeth Cymru rôl allweddol yn y sector, wrth roi camau gorfodi ar waith i fynd i'r afael â landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio a darparu hyfforddiant i sicrhau bod landlordiaid yn gwbl ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn mynd i gomisiynu gwerthusiad o ddarpariaeth ac effaith Rhentu Doeth Cymru yn ddiweddarach eleni.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n cydnabod bod gan Rhentu Doeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn sicrhau safonau uchel o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru, gan ddarparu’r cyngor a’r cymorth pwysig sydd ei angen ar landlordiaid a thenantiaid. Fodd bynnag, ers cael fy ethol i’r Senedd, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan landlordiaid lleol ac asiantau sydd wedi cael problemau gyda Rhentu Doeth Cymru. Er enghraifft, maent wedi sôn am y gwasanaeth cwsmeriaid gwael, gan gynnwys y diffyg gallu i siarad â staff ar y ffôn oherwydd prinder staff. Clywais bryderon hefyd fod gwefan Rhentu Doeth Cymru yn aml yn araf ac yn anhygyrch i rai. Mae amseroedd aros hir ar gyfer ceisiadau am wybodaeth a chymorth yn achosi oedi gwirioneddol ac yn eu hatal rhag cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol. Oherwydd yr oedi hwn, mae rhai landlordiaid wedi nodi eu bod wedi cael problemau gyda phethau fel cofrestru ac adnewyddu eu haelodaeth, sydd wedi achosi problemau pellach fyth. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i landlordiaid, asiantau a thenantiaid y bydd adolygiad allanol y Llywodraeth—fel y sonioch chi—o Rhentu Doeth Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i’w profiadau ac y byddant yn dysgu gwersi o hyn? A pha gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu Rhentu Doeth Cymru i fynd i'r afael â materion staffio a chapasiti?
Diolch, Peter. Rwyf am sôn ynglŷn â ble rydym wedi bod, oherwydd rydym yn llwyr gydnabod ein bod wedi'i chael hi'n anodd cadw lefel y staff yr hoffem ei chael ers y cychwyn, o ganlyniad i'r pandemig a nifer o faterion economaidd eraill. Yn ôl ym mis Awst 2022, gwnaeth Rhentu Doeth Cymru y penderfyniad i gau’r llinellau ffôn i alwadau a oedd yn dod i mewn, oherwydd prinder staff difrifol yn ystod y cyfnod hwnnw. Caniataodd hynny iddynt ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyflawni eu targedau statudol ar gyfer trwyddedu landlordiaid ac asiantau. Gwnaethant y penderfyniad hwnnw'n fwriadol i'w staff presennol ganolbwyntio ar y corff o waith a oedd ganddynt. Ond cafodd pob cyswllt arall gan landlordiaid ei ateb, a chyflwynwyd llinell hygyrchedd ar gyfer landlordiaid nad oedd ganddynt unrhyw ffordd arall o gysylltu pan dynnwyd ein sylw at hynny.
Yn y cyfamser, rydym wedi recriwtio a hyfforddi staff. Cafodd y llinell ffôn ei hailagor ar 24 Hydref rhwng 09:00 a 11:00. Hoffwn roi sicrwydd i bawb sy'n gwrando, os byddwch yn ffonio cyn 11:00 ac yn y ciw, y caiff eich galwad ei hateb. Felly, os hoffech siarad â hwy, sicrhewch eich bod ar y llinell honno cyn 11:00, ac yna bydd pob galwad yn cael ei hateb wedyn. Rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny. Rydym hefyd am i bobl fod yn ymwybodol y gallant wneud cais am alwad yn ôl drwy'r ffurflen gyswllt ar y wefan. Os nad ydych am aros ar y ffôn, gallwch ofyn am alwad yn ôl, a bydd honno hefyd yn cael ei hateb. Felly, hoffwn roi sicrwydd i bobl y byddant yn cael ymateb. Mae 12 o weithwyr newydd wedi dechrau gyda Rhentu Doeth Cymru yr wythnos hon a dweud y gwir, ar ôl ymarfer recriwtio. Maent yn bwriadu ymestyn oriau agor y ganolfan gyswllt ymhellach yn nes ymlaen y mis hwn pan fydd y gweithwyr hynny wedi'u hyfforddi ac yn barod. Rydym wedi gweld gwelliant gwirioneddol ym mherfformiad Rhentu Doeth Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gydag amseroedd ymateb i e-byst bellach i lawr i oddeutu wythnos, ac rwy’n falch iawn o allu dweud hynny.
Mae bron i 60,000 o landlordiaid a 10,000 o asiantau wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd, a dros 27,000 o landlordiaid wedi cwblhau’r modiwlau datblygiad proffesiynol parhaus. Rydym wedi ysgrifennu at bob landlord cofrestredig i'w hatgoffa o'r gofynion i gwblhau hyfforddiant rhad ac am ddim Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 erbyn diwedd mis Chwefror. Felly, Peter, rwy'n credu fy mod yn dweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau. Mae'n ddrwg gennym amdanynt. Roedd problem wirioneddol ddifrifol gyda recriwtio. Mae llawer o fesurau wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â hynny. Rydym wedi sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o hynny a'n bod yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad. Felly, rydym yn mawr obeithio bellach y bydd y gwasanaeth ar y trywydd cywir ac yn gallu darparu'r hyfforddiant mewn ffordd lawer mwy boddhaol. Ac yna, pan fyddwn yn gwneud yr adolygiad—. Dyna pam fod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn; rydym am i'r trefniadau newydd hyn ymwreiddio, ac yna rydym am brofi eu haddasrwydd, ac wrth gwrs, byddwn yn gofyn i landlordiaid am eu barn pan fydd y trefniadau newydd wedi ymwreiddio.
4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith newid hinsawdd yng Ngorllewin Clwyd? OQ58920
Diolch, Darren Millar. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ym mhob rhan o Gymru. Fel y gwelwyd yn ein hadroddiad cynnydd ar ymaddasu i newid hinsawdd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ar draws Llywodraeth Cymru rydym yn parhau i ddatblygu tystiolaeth a pholisi i fynd i’r afael â’r risgiau newydd i’n hiechyd, ein cymunedau, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol.
Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, Weinidog, un o’r peryglon mwyaf yn fy etholaeth yw’r perygl o lifogydd. Gwyddom fod llifogydd yn dod yn broblem fwy cyffredin o ganlyniad i newid hinsawdd a lefel y môr yn codi. Ar hyd yr arfordir, mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud mewn amddiffynfeydd môr yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae mwy ar y gweill ar gyfer ardal Towyn a Bae Cinmel. Fodd bynnag, gwelwyd erydiad sylweddol hefyd ar y traeth, sy'n tanseilio'r amddiffynfeydd môr, yn ardaloedd Abergele, Pen-sarn a Belgrano ar hyd arfordir Gorllewin Clwyd, ac rwy'n bryderus iawn nad oes cynlluniau wedi'u datblygu na'u cyflwyno eto i fynd i'r afael â'r problemau hynny drwy adfer y traethau neu godi'r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn uwch. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr y bydd buddsoddiad yn cael ei wneud yn yr amddiffynfeydd môr yn yr ardaloedd hynny, ac y caiff y traethau eu hadfer er mwyn diogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd?
Diolch, Darren. Mae hon yn sefyllfa barhaus, ac wrth inni addasu i newid hinsawdd, bydd yn rhaid inni roi mwy a mwy o sylw iddi. Rydym wedi cael nifer o gynlluniau eisoes yng Ngorllewin Clwyd, y gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai yn Eldon Drive yn Abergele; Llansannan; Ffordd Top Llan yng Nglan Conwy; Bae Cinmel; prosiect uwchraddio glan y môr Bae Colwyn; Stryd y Capel; a rheolaeth llifogydd naturiol ar gyfer dalgylch afon Clwyd. Rwy'n arbennig o hoff o'r olaf—gobeithio eich bod wedi cael cyfle i'w weld.
Yr awdurdod rheoli risg yw’r awdurdod lleol at y diben hwn, a’r hyn rydym yn ei wneud yw gofyn iddynt gwblhau asesiad o’r trefniadau llifogydd, yr anawsterau a’r problemau yn eu hardal, a llunio cynllun rheoli ar ein cyfer. Yna, byddwn yn trafod y buddsoddiad yn y cynllun rheoli hwnnw gyda hwy. Rydym yn disgwyl i’r awdurdod lleol wneud hynny a chyflwyno eu rhestr o fuddsoddiadau, yn nhrefn blaenoriaeth, i ni eu hystyried fel rhan o’r buddsoddiad rheoli llifogydd.
Yn rhan o'r cytundeb cydweithio, rydym wedi buddsoddi'r symiau mwyaf erioed o arian mewn rheoli llifogydd. Roeddwn yn cael trafodaeth gyda’r swyddogion rheoli llifogydd y bore yma ynglŷn â sut mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno. Felly, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r awdurdodau rheoli risg, fel y’u gelwir at y diben hwn, i sicrhau ein bod yn defnyddio set o feini prawf y cytunwyd arni i allu asesu ble mae’r risg a blaenoriaethau cyflwyno'r rhaglen. Os oes gennych bryderon penodol am ardal benodol, awgrymaf eich bod yn gofyn i'ch awdurdod rheoli risg edrych ar hynny'n benodol, ac rwy'n siŵr y byddant yn tynnu ein sylw at hynny yn rhan o'r broses honno.
5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai yn Arfon? OQ58899
Diolch, Siân Gwenllian. Mae nifer o raglenni wedi'u cynllunio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan gynnwys yn Arfon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd.
Fel y gwyddoch chi, dydy'r problemau a brofwyd gan rai o fy etholwyr i efo mesurau arbed ynni o dan gynllun Arbed 2 dal heb gael eu datrys. Dwi yn ddiolchgar bod eich swyddogion chi'n delio efo achosion yn ymwneud â dau gontractwr penodol, ac mi fyddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallaf ddisgwyl diweddariad am hyn.
Wrth inni edrych at gynlluniau i'r dyfodol, mae'n ofnadwy o bwysig, onid ydy, fod sicrwydd ansawdd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei ddiogelu. Un ffordd o wneud hynny fyddai creu gweithlu sgilgar yn lleol, a dyna ydy un nod tu ôl i fenter newydd sbon Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sef canolfan datgarboneiddio newydd, arloesol y bûm i yn ymweld â hi yn ddiweddar. Dyma'r ganolfan gyntaf o'i fath yng Nghymru, ac, yn wir, ym Mhrydain, sy'n dwyn llawer o bartneriaid ynghyd o dan arweiniad cwmni tai Adra, ar safle ffatri a oedd wedi cau rhai blynyddoedd yn ôl, sef Northwood Hygiene.
Dwi yn gyffrous iawn am y prosiect yma a'r gwaith pwysig y gall gael ei gyflawni yno i daclo tlodi ynni a newid hinsawdd yn ogystal â chreu gweithlu sgilgar a chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer yr agenda ddatgarboneiddio. Felly, hoffwn i, ar ran y partneriaid—partneriaid Tŷ Gwyrddfai—estyn gwahoddiad cynnes i chi ymweld â'r ganolfan, ac mi fyddai yna groeso mawr ichi yno.
Diolch, Siân. Rwy'n awyddus iawn i ymweld, a gobeithio y byddwch chi'n fy ngwahodd yn ffurfiol ac y gallaf wneud hynny'n fuan iawn. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r hyb datgarboneiddio yn gweithio. Fe wnaethoch chi nodi hanes y ffatri a gaeodd ac ati yn y fan honno. Roeddem yn falch iawn o allu rhoi gwerth £239,000 o grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi i alluogi'r broses o drosglwyddo i'r hyb—yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny.
Rydym yn gwybod bod contractwr mewnol Adra yn mynd i ôl-osod cartrefi cymdeithasol sy'n eiddo i Adra a bydd ganddo ei ofod ei hun yn yr hyb. Fel y dywedwch yn gywir, rydym yn gobeithio y bydd yr holl raglenni rydym yn eu cefnogi—y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglenni hyn—yn golygu y byddwn yn rhoi digon o sgiliau i'r gweithlu i gynhyrchu'r gweithlu medrus roeddech chi'n siarad amdano nawr—ac mae gwir angen inni wneud hynny—ac y byddwn yn gallu nodi beth yw'r sgiliau a lle mae prinder, er mwyn imi allu gweithio gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg a fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi i wneud yn siŵr fod ein colegau addysg bellach yn darparu'r math cywir o ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr y dyfodol ym maes ôl-osod, ac yn dysgu'r gwersi sydd mor angenrheidiol i sicrhau nad ydym yn cael y problemau a nodwyd gennych ac a gawsom gyda chynlluniau blaenorol, nad oedd bob amser yn gwneud yr hyn roeddent yn ei ddweud, ac nad oedd gwarantau ar gyfer y gwaith ac yn y blaen yn dod gyda hwy, felly rydym yn sicr wedi dysgu'r gwersi hynny. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno yn y dyfodol. Felly, byddwn wrth fy modd yn dod i ymweld. Rwy'n credu ei fod yn gynllun enghreifftiol da iawn o'i fath, a dyma'r union ffordd yr awn ati i gyflwyno'r pethau iawn, y dechnoleg gywir ar gyfer y cartref cywir, ar draws Cymru, yn hytrach na'r un ateb i bawb sydd wedi arwain at y problemau yn eich etholaeth chi ac un Huw Irranca ac eraill, gyda'r diflastod sy'n deillio o hynny i'r perchnogion tai, ac rydym yn sicr yn awyddus i osgoi hynny yn y dyfodol.
Wrth ymateb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i'ch datganiad ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru ar 8 Tachwedd, cyfeiriais at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymgorffori dull adeiladwaith a 'gwaethaf yn gyntaf' o fynd ati i ôl-osod, yn ogystal â thargedu'r aelwydydd tlotaf a'r cartrefi lleiaf effeithlon, a gofynnais sut y byddwch yn sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori hyn. Daeth eich ateb i'r casgliad
'rydym ni'n ystyried trwy'r amser a yw hi'n well helpu mwy o bobl i wneud un peth nag yw hi i helpu llawer iawn llai o bobl i wneud pob dim, ac mae gennyf i ofn mai dyna un enghraifft o lawer o frwydro i gael y cydbwysedd yn iawn.'
Diolch am gytuno wedyn i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hyn, ac i fynychu ein cyfarfod nesaf ar 13 Chwefror. Ond yn y cyfamser, sut rydych chi'n ymateb i'r pryder a godwyd gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, fod yna lefelau uchel o stoc nad yw'n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru yng Ngwynedd?
Fe fyddwn i'n ymateb gyda rhywfaint o syndod, Mark, gan fod pob awdurdod wedi cyrraedd y safon ansawdd tai Cymru, sef EPC D, ar wahân i'r hyn a elwir yn 'fethiannau derbyniol'. Felly, os oes gennych chi fanylion pam ei fod yn pryderu nad yw'r stoc yn cyrraedd y safon, byddwn yn sicr yn awyddus i'w gweld. Mae ei gyngor ei hun wedi cyflwyno ffurflenni i ni sy'n dweud eu bod yn fodlon eu bod wedi cyflwyno safon ansawdd tai Cymru, felly, byddwn yn wirioneddol awyddus i weld yr hyn y cyfeirir ato yn y fan honno. Felly, hoffwn ddeall hynny.
Rydym yn y broses o drafod iteriad nesaf safon ansawdd tai Cymru gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau sy'n dal stoc dai ledled Cymru ac i ba lefel y disgwyliwn i gartrefi gael eu hôl-osod unwaith eto. Felly, rydym yn mynd i'w codi o'r EPC D sydd gennym ar hyn o bryd, ac os caf eich atgoffa y dywedwyd wrthym na allem ei wneud o fewn yr amser, ond rydym wedi llwyddo i'w wneud mewn gwirionedd. Rydym mewn trafodaethau datblygedig ynglŷn â lle fydd y cam nesaf—EPC B, A—i ba safon y gallwn godi cartrefi iddi ac am faint o arian, a dros ba gyfnod o amser. Felly, bydd yn bwysig iawn deall unrhyw anawsterau yn yr iteriad blaenorol, a byddwn yn awyddus iawn i weld y dystiolaeth a roddwyd i chi, fel y gallwn edrych arni. Ond rwy'n eich sicrhau mai ein safon aur yw gwneud yn siŵr fod pob cartref y gellir eu codi i safon ansawdd tai Cymru yn cyrraedd y safon honno, ac mae ymchwiliad trylwyr ar y gweill i weld pam na allai unrhyw gartref gyrraedd y safon honno, a bod cyn lleied â phosibl o fethiannau derbyniol a'n bod yn deall y rheswm amdanynt, yn hytrach na pheidio â gwneud dim i'r eiddo y credwn na allai gyrraedd y safon yn llawn. Felly, dyna'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.
6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith i ailagor pont y Borth? OQ58910
Cychwynnodd y rhaglen o waith brys ar gyfer ailagor Pont Menai ar 5 Ionawr. Mae disgwyl i’r rhaglen gael ei chwblhau o fewn pedair wythnos, yn amodol ar y tywydd. Bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn parhau mewn grym pan fydd y bont yn ailagor.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i gadw at yr amserlen yna. Mi allwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod profiad y misoedd diwethaf wedi profi mor fregus ydy'r isadeiledd o ran croesiadau y Fenai. Mae cau Pont y Borth a'r tagfeydd wedyn ar y Britannia wedi creu anghyfleustra mawr ac wedi effeithio ar fusnes yn drwm iawn, nid yn unig yn ardal y Fenai ond ar draws yr ynys. Ac mi wnaf i dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at y ffaith bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi yn y dyddiau diwethaf yn gofyn am ragor o help i fusnes—rhywbeth dwi wedi ei alw amdano fo, a dwi'n hapus iawn i'w hategu eto. Ond, yn wyneb mor fregus ydy'r croesiad, mae'n amlwg bod rhaid adeiladu croesiad mwy gwydn. Yr ateb ydy deuoli croesiad Britannia neu godi trydedd pont. Fe gytunwyd i wneud hynny yn 2016, a dwi'n sylweddoli wrth gwrs bod eisiau gwneud yn siŵr o'r angen am ddatblygiadau ffyrdd newydd cyn bwrw ymlaen, ond mae'r angen yna wedi cael ei brofi rŵan. Gaf i ofyn i'r Gweinidog i wneud penderfyniad buan i fwrw ymlaen er mwyn sicrhau'r gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol?
Wel, diolch. Rwy'n nodi ein bod wedi cefnogi tua 288 o fusnesau ar yr ynys drwy Busnes Cymru, ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae'r cau wedi ei chael ar adeg sydd eisoes yn anodd i fusnesau ac mae hwn wedi bod yn bwysau arall ar lawer ohonynt. Ar ddyfodol y groesfan, fel y mae'n gwybod, mae gennym raglen waith wedi'i chynllunio, ac rydym yn dal yn hyderus, os yw'r tywydd yn caniatáu, y caiff ei chwblhau erbyn diwedd mis Ionawr. Ac yna, fel rydym wedi egluro, bydd ateb mwy parhaol yn cael ei drafod mewn ymgynghoriad â'r cyngor lleol ar yr adeg orau i osgoi tarfu ar y fasnach dwristiaeth dros y flwyddyn nesaf.
Dros y Nadolig, sylwais fod yr Aelod wedi llwyddo i berswadio rhai yn y cyfryngau ein bod wedi newid ein safbwynt ar ddyfodol y drydedd groesfan, oherwydd ei bod wedi'i chynnwys yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ynghyd â nifer o gynlluniau etifeddol eraill, ond roedd hwnnw hefyd yn ei gwneud hi'n glir fod y rhain i gyd yn ddarostyngedig i'r adolygiad ffyrdd. Felly, nid yw'r safbwynt wedi newid o gwbl mewn gwirionedd, er gwaethaf y sbin a roddwyd arno. Byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd o fewn y mis nesaf, a byddwn yn gofyn i gomisiwn Burns edrych ar ddyfodol y groesfan fel rhan o'i waith. Rydym yn disgwyl adroddiad interim gan gomisiwn Burns yn fuan, ac rwy'n credu bod angen i bawb ohonom feddwl am y rôl sydd gan seilwaith i'w chwarae wrth gyflawni datblygu economaidd ond hefyd wrth gyflawni ein targedau carbon.
Diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw, ac rwy'n sicr yn cefnogi llawer o'r teimladau a fynegwyd gan Aelod etholaeth Ynys Môn yno hefyd. Ac mae'r newyddion fod gwaith ar y gweill er mwyn ailagor y bont yn newyddion i'w groesawu, wrth gwrs, Weinidog. Ond rwyf i a Mark Isherwood fel cyd-Aelod o ogledd Cymru, wedi ymuno â chyfarfodydd gyda'r AS Virginia Crosbie gyda busnesau lleol ym Mhorthaethwy sy'n mynegi eu brwydr barhaus a'u pryder ynghylch lefel y busnes a nifer yr ymwelwyr y maent yn eu gweld. A da o beth, wrth gwrs, yw gweld rhai o'r ymyriadau sydd wedi digwydd hyd yma. Ond gyda gwaith ar y gweill i ailagor pont Menai ymhen ychydig wythnosau gobeithio, tybed pa weithgaredd a gweithgareddau hyrwyddo a gynlluniwyd gennych i adael i gymaint o bobl â phosibl wybod bod Porthaethwy ar agor i fusnes ac y bydd y bont ei hun ar agor eto fel y gall y busnesau hynny ffynnu eto yn fuan iawn.
Wrth gwrs, nid yw tref Porthaethwy wedi bod ar gau o gwbl, a'r hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn yw bod y data, yn hytrach na'r pryderon a'r honiadau, wedi dangos lefel o weithgaredd sy'n dal i fod yn sylweddol drwy brosiect Patrwm gan ddefnyddio rhwydwaith ardal eang cyrhaeddiad hir y buom yn falch o'i chefnogi. Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig rhoi ffeithiau ochr yn ochr â phryderon. Nodaf fod yr Aelod Seneddol y soniodd amdano wedi bod yn ddiwyd yn hyrwyddo'r pryderon. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r data'n adlewyrchu hynny'n llawn, ac mae natur masnachu, a phobl yn aros yn hirach ynghanol y dref mewn gwirionedd, wedi bod yn eithaf trawiadol.
Ond fe gafwyd effaith, wrth gwrs, nid ydym yn gwadu hynny, ac mae mesurau lliniaru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys parcio am ddim, a fydd yn parhau yn nhref Porthaethwy a'r ddau safle parcio-a-rhannu drwy gydol mis Ionawr. Hefyd, i gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys, mae'r cyngor wedi darparu mannau aros ychwanegol yn nes at bont Menai ei hun, a bu hynny'n llwyddiant. Roeddwn yn falch fod Ynys Môn wedi gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Gwynedd wedi cyflawni'r lefel honno o weithgaredd ar eu hochr hwy o'r bont eto, ac rwy'n credu y dylid eu hannog i wneud hynny. Ac mae peth newid ymddygiad eisoes wedi dechrau digwydd gyda mwy o bobl yn cerdded ar draws y bont ac yn mynd ymhellach oherwydd ei bod wedi cau. Ond wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod yr ardal yn cael ei hyrwyddo, a'n bod yn gallu adfer hyder yn yr ardal cyn gynted â phosibl.
7. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi prosiectau egni adnewyddadwy lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58915
Diolch, Cefin. Wrth inni symud tuag at system ynni fwy lleol, sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfoeth o brosiectau ynni adnewyddadwy yn aros yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar ein cefnogaeth i gymunedau a chyrff cyhoeddus, yn datblygu cynigion ychwanegol i fusnesau lleol ac yn cefnogi cynlluniau ynni i nodi cyfleoedd lleol.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng ynni—sydd wedi cael ei waethygu, wrth gwrs, gan y rhyfel yn Wcráin—wedi pwysleisio’r angen yng Nghymru i fod yn llawer mwy gwydn o ran cynhyrchu ein hynni ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu 70 y cant o drydan Cymru drwy ddulliau adnewyddol erbyn 2030, a dwi'n croesawu hynny’n fawr iawn, a'r pwyslais a roddir ar berchnogaeth leol fel rhan o hyn, ac mae gan ganolbarth a gorllewin Cymru botensial anhygoel i gyfrannu at gyrraedd y targed hwn. Fodd bynnag, fel sydd wedi cael ei nodi mewn adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig, mae capasiti'r grid cenedlaethol yng Nghymru—a dwi'n dyfynnu, 'wedi'i gyfyngu'n sylweddol'. Mae hyn yn rhwystredig iawn, wrth gwrs. Er enghraifft, mae’n rhwystr i ffermwyr yn ardal yr Elenydd i symud ymlaen gyda chynlluniau datgarboneiddio, a pheryglu datblygiadau mwy sylweddol yn y môr Celtaidd. Felly, pa drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wella capasiti’r grid fel y gall cymunedau a busnesau yng Nghymru symud ymlaen gyda'u prosiectau ynni adnewyddol?
Diolch, Cefin. Ie, pwynt pwysig iawn. Felly, mae gennym 897 MW o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru sy'n eiddo lleol, yn 2021, a oedd yn 90 y cant o'r ffordd tuag at ein targed 1 GW ar gyfer 2030, sy'n newyddion da iawn. Mae gennym gyfanswm o 2,201 o brosiectau adnewyddadwy newydd wedi'u comisiynu ledled canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe yn 2021. Maent yn darparu cynnydd o 31.5 MW yn y capasiti ac yn cynnwys gosodiadau bach a gosodiadau domestig yn bennaf, yn union fel y dywedoch chi. Rydym wedi bod yn cefnogi ystod eang o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus neu'n eiddo i'r gymuned, ac sy'n cynhyrchu tua 4.8 MW o gapasiti. Rwy'n dweud y pethau hyn wrthych am nad wyf eisiau taflu cysgod dros y diwydiant hwn gan fy mod yn credu ei fod yn eithaf bywiog ac mae gan bobl ddiddordeb mawr ynddo, ac mae'r math hwn o ynni cymunedol amrywiol yn bwysig iawn o safbwynt diogelu ffynonellau ynni wrth gwrs. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod y grid yn ffactor sy'n cyfyngu. Fel y dywedais yn y Siambr hon nifer o weithiau, ac mae'n dal i fod yn wir, rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth y DU wedi deall yr angen i gynllunio'r grid o'r diwedd. Mae gennym broses yn ei lle nawr i roi grid wedi'i gynllunio yn ei le, trefniant gweithredwr rhwydwaith uwch, ac mae gennym lawer o waith yn digwydd i ddeall sut a ble fydd hynny, beth sydd angen ei uwchraddio.
Mae llawer yn dibynnu ar brosiect pibell a fydd yn gweithredu o ogledd Cymru i dde Cymru i gysylltu'r ddau brosiect gwynt ar y môr, y prosiect ynni gwynt ar y môr sefydlog a'r hyn y gobeithiwn y bydd yn brosiect enfawr gydag ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae union lwybr y bibell honno i'w ystyried. Mae gennyf swyddogion yn gwneud llawer o waith ar hynny a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog ynni eto'n fuan. Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod da iawn gyda'r Gweinidog ynni, i fod yn deg, felly rwy'n meddwl eu bod yn gefnogol o'r diwedd. Y peth mawr i ni fydd gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y grid newydd sydd ei angen arnom i ddod i lawr drwy ganol Cymru, ac mae gwir angen hynny, a'n bod yn cael hynny mewn ffordd sy'n caniatáu'r cysylltiadau i mewn, ond mae angen inni gael y grid wedi'i gryfhau'n iawn hefyd ar draws de Cymru ac yng ngogledd Cymru. Nid yw dweud, 'Wel, mae'r ddau le hynny'n iawn' yn ddigon da; nid ydynt yn iawn. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych, os ydych chi'n byw lle rwy'n byw yn Abertawe, rydych chi'n cael cryn dipyn o adegau pan fo'r pŵer yn wannach. Felly, mae angen cryfhau'r grid presennol ac mae angen i'r ynni sy'n dod i mewn o'r môr Celtaidd ac o'r buddsoddiad enfawr ar arfordir gogledd Cymru fod o fudd i bobl Cymru. Rwyf eisiau i'r ynni hwnnw ddod yma. Nid wyf eisiau iddo fynd i Ddyfnaint na Gweriniaeth Iwerddon nac i Lerpwl neu rywle. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod hynny'n aros ar y trywydd iawn a'n bod yn cael y lefel gywir o ymgynghori ac ymwneud yng Nghymru, ac mae hynny'n digwydd hyd yma, ond gwyliwch y gofod hwn.
Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yno, felly byddai'n wych pe baech yn ymuno â ni nos Fawrth, oherwydd mae Cefin a minnau, Jane Dodds a Joyce Watson yn cynnal derbyniad nos Fawrth yma yn y Senedd o'r enw 'Derbyniad Clwstwr Ynni'r Dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau', i ganolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni yn sir Benfro, yn benodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau.
Wrth gytuno â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud hyd yma, ac o ystyried bod angen seilwaith ychwanegol arnom, hoffwn wybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda CNC ac awdurdodau lleol ynglŷn â gwaith cynllunio ar gyfer y seilwaith hwn ar y tir, a bod ganddynt yr arian ar gael, yr adnoddau ar gael, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Diolch.
Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw syniad a fyddaf i yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, ond os byddaf, rwy'n hapus i ddod. Yn sicr, ond mae'n rhaid inni ei wneud yn y drefn iawn. Felly, byddwn yn bendant eisiau sicrhau bod y trefniadau cynllunio yn eu lle, ond yn dibynnu ar y lefel rydym yn siarad amdani, gallai fod yn ddatblygiad seilwaith o bwys cenedlaethol, felly efallai mai Llywodraeth y DU sy'n cydsynio i rai o'r pethau hyn. Yr 'efallai' yw'r darn pwysig, onid e, oherwydd mae angen inni ddeall yn union beth y cynllunnir ar ei gyfer, erbyn pryd y caiff ei gynllunio, a phryd y daw'n weithredol er mwyn inni allu cael trefn ar bethau. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y prosiectau môr Celtaidd, y prosiectau ynni gwynt arnofiol yn enwedig, yn defnyddio'r cyfoeth o brofiad a'r cyfle sydd ym mhob un o borthladdoedd de Cymru a gogledd Cymru, ein bod yn cael y gwaith adeiladu seilwaith yma yng Nghymru, nid dim ond y contractau cynnal a chadw, a'n bod yn cael y cyfoeth o'r prosiect i ddod yma, ac yn fwyaf arbennig, ein bod yn cael y mewnbwn ynni yma fel ein bod yn cael y grid wedi'i gryfhau, gan arwain wedyn, wrth gwrs, at yr holl brosiectau eraill sydd gennym, y gwyddom eu bod yn barod i fynd, gan gynnwys ein holl gynlluniau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a'r cyfan arall.
Felly, gallaf eich sicrhau bod hynny i gyd dan ystyriaeth. Mae Vaughan Gething a minnau wedi cyfarfod ag Ystad y Goron a'r Gweinidog ynni nifer o weithiau. Mae nifer o fysedd yn y brywes ar hyn o bryd. Rydym wedi siarad â'r holl borthladdoedd ac awdurdodau porthladd ac yn y blaen, felly rydym yn bendant o'r un farn â chi, a'r hyn sydd angen inni ei wneud nawr yw sicrhau ein bod ni'n parhau'n effro i unrhyw ddatblygiadau fel ein bod yn cael y buddsoddiad rydym ei eisiau.
8. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda llywodraethau eraill er mwyn rhannu arferion da ynghylch cefnogi ynni adnewyddadwy? OQ58921
Diolch, Sioned. Mae fy swyddogion a minnau'n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog rheolaidd gyda Llywodraethau eraill i rannu ein profiadau, ein harferion da a'n heriau. Ymhlith y rhain mae cyfarfodydd rhyngweinidiogol sero net pedair gwlad y DU, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a'r Gynghrair Dan2 o Lywodraethau gwladwriaethol, rhanbarthol a thaleithiol. Felly, rydym yn cael cryn dipyn o gysylltiad, yn rhynglywodraethol ac fel arall.
Diolch, Gweinidog. Yn sgil, wrth gwrs, yr angen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a’r angen, fel y clywsom gan Cefin Campbell, i gynyddu’r ynni rŷn ni’n ei gynhyrchu’n lleol, mae’n dda gweld bod y trafodaethau hyn yn mynd ymlaen. Hyd nes y bydd gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n gymwys i’n hanghenion cenedlaethol ni, ac a fydd yn un rhad i’w defnyddio, bydd meysydd parcio yn rhan o dirwedd pob tref yng Nghymru, dwi’n siŵr. Ond mae deddfwriaeth a gymeradwywyd ddiwedd y llynedd gan Senedd Ffrainc yn ei gwneud yn ofynnol i bob maes parcio sydd â chapasiti o 80 neu fwy o gerbydau i osod canopi o baneli solar dros y safle. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu meysydd parcio presennol, yn ogystal â rhai newydd. Drwy osod ffermydd solar ar safleoedd fel hyn, sydd eisoes wedi’u datblygu, nod y strategaeth yw datrys un o heriau mawr ynni solar, sef yr angen am dir a allai fygwth mannau gwyrdd a thir amaeth. A wnewch chi felly, Weinidog, ymchwilio i ddichonoldeb cyflwyno cynllun tebyg ar gyfer paneli solar mewn strwythurau fel meysydd parcio yng Nghymru sydd yn nwylo cyrff cyhoeddus ac efallai cwmnïau preifat?
Ie, roeddwn i'n ymwybodol iawn o hynny. Mae'n syniad gwych. Yn amlwg, os ydych chi'n teithio yn Ewrop o gwbl, fe sylwch fod canopïau dros y meysydd parcio, oherwydd eu bod yn cysgodi'r cerbydau rhag yr haul. Nid yw'r broblem honno gennym yn llwyr yng Nghymru eto. Mae gennym broblem glaw, yn sicr. Mae'r hen jôc, 'A wyddech chi y gallech chi dynnu eich cagŵl pan fyddwch chi'n mynd i Loegr?' yn dod i'r meddwl. Nid wyf yn siŵr y gallem gyfiawnhau adeiladu canopi er mwyn rhoi panel solar arno. Ond rwy'n sicr yn derbyn y pwynt, lle mae yna allu i roi panel solar ar do sy'n bodoli eisoes, neu pan fyddwn yn adeiladu o'r newydd, yn fwriadol, y dylem wneud hynny.
Mae'r holl fater roeddem yn ei drafod nawr gyda'r grid yn berthnasol. Beth y byddem yn ei wneud â'r ynni hwnnw? Os oes defnydd lleol ar ei gyfer, yna, iawn, mae hynny'n iawn. Ond os ydych chi'n awyddus i'w fwydo i mewn i'r grid, mae gennym yr holl broblemau sydd gennym. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn edrych i weld a fyddai'r math hwnnw o system yn cefnogi rhwydwaith gwefru cerbydau trydan, hyd yn oed os yw'n un araf.
Felly, mae rhai pethau ar y gweill i edrych ar hynny, ac mae gennym ddiddordeb mawr mewn symud hynny yn ei flaen. Mae'n dirwedd ychydig yn wahanol i'r un yn Ffrainc, ond er hynny, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y prosiect. Ac os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw un sydd â diddordeb yn ei ddatblygu—yn awdurdodau lleol neu feysydd parcio sector preifat—rhowch wybod i ni, oherwydd byddem yn hapus iawn i siarad â hwy.
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Ken Skates.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffosffad yn afonydd Cymru? OQ58928
Ie. Diolch, Ken. Ar 9 Chwefror, bydd y Prif Weinidog yn ailymgynnull uwchgynhadledd o bartneriaid allweddol i fynd i'r afael â lefelau gormodol o ffosffadau yn afonydd Cymru, er mwyn trafod y cynnydd presennol a sefydlu'r camau nesaf. Byddaf yn nodi canlyniadau'r drafodaeth honno, ynghyd â chynllun gweithredu, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddir yn fuan ar ôl yr uwchgynhadledd.
Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod hynny. Fe gyfarfûm â busnesau bach yn y diwydiant adeiladu tai yn ddiweddar, ac roeddent yn bryderus ynglŷn â'r mater hwn. A fydd y diwydiant tai yn bresennol yn y cyfarfod ar 9 Chwefror, ac a fyddwch chi'n gallu rhoi sicrwydd fod eu pryderon wedi cael sylw?
Gallaf, yn bendant. Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y sesiwn hon. Rydym wedi gofyn i bob sector edrych i weld beth y gallant ei gynnig i helpu i ddatrys eu rhan hwy o'r broblem. Felly, ar gyfer adeiladu tai, rydym yn gwybod bod systemau draenio dŵr wyneb, systemau draenio cynaliadwy, SDCau, yn rhan o'r ateb; bydd yna atebion eraill. Rydym wedi gofyn i bob sector ddod yn ôl atom, ac rydym wedi bod yn gweithio'r holl ffordd drwodd. Nid un digwyddiad ar ei ben ei hun ym mis Gorffennaf a digwyddiad arall ym mis Chwefror yw hyn. Cawsom gyfres gyfan o gyfarfodydd, o dan gadeiryddiaeth swyddogion, o dan gadeiryddiaeth CNC. Mae ystod gyfan o bethau wedi bod yn digwydd. Ond gofynnwyd i bob sector edrych ar eu meysydd eu hunain i weld beth y gallant ei wneud.
Yn sicr, mae adeiladwyr tai wedi bod yn rhan o hynny. Maent yn rhan o'r broblem. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r ateb. Byddwn yn dweud hynny am ba sector bynnag y byddech chi'n gofyn. Felly, yn hytrach na phawb yn dweud mai bai rhywun arall yw hyn, ceisiwch roi eich tŷ eich hun mewn trefn a chynnig atebion ymarferol, cynaliadwy y gallwn helpu i'w gweithredu a'u hariannu. Yna, gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr fod ein hafonydd yn dychwelyd i'r cyflwr y byddem i gyd yn hoffi ei weld.
Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.
1. Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol disgyblion ysgol yn 2023? OQ58911
Mae cyflwyno Cwricwlwm Cymru yn parhau i fod yn ganolog i'n diwygiadau i wella ansawdd ac ymgysylltiad â dysgu mewn ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hyn yn weithredol, ochr yn ochr â'n ffocws ar sgiliau trawsgwricwlaidd a chyfannol fel sylfaen i bob dysgu.
Diolch. Mae etholwr, sy'n bennaeth gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgol yng Nghymru, wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i wrthwynebu cynigion i integreiddio ffiseg, cemeg a bioleg fel un cymhwyster. Mae fy etholwr yn credu'n gryf fod y cynigion hyn yn amddifadu disgyblion o ddewisiadau ac yn gwanhau ansawdd addysgu gwyddoniaeth yng Nghymru yn ddifrifol drwy leihau ehangder addysg wyddonol myfyriwr. Un o'r rhesymau pam fod graddau gwyddoniaeth y DU yn cael eu parchu mor eang drwy'r byd yw am eu bod mor arbenigol, ac yn llai eang nag mewn llawer o wledydd eraill. Aiff fy etholwr ymlaen i ddweud bod y cynigion hyn yn fygythiad i economi Cymru, sy'n galw am swyddi medrus iawn, ar gyflogau da yng Nghymru, ac mae llawer ohonynt yn dibynnu ar addysg wyddonol o ansawdd uchel, a fyddai'n cael ei beryglu gyda'r cynlluniau hyn ar waith. Mae'r Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol hefyd wedi mynegi pryderon, ac maent yn nodi eu bod yn ofni y bydd y gwyddorau craidd yn colli eu hunaniaeth gan olygu bod pobl yn colli cyfle i ddatblygu diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a fyddai'n eu harwain at yrfaoedd boddhaus yn y dyfodol. Weinidog, beth y gallwch chi ei ddweud wrth fy etholwr, wrth gydweithwyr yn y proffesiwn addysgu, cyrff proffesiynol, a rhieni yng Nghymru sy'n pryderu y bydd y cynigion hyn yn peri niwed difrifol i addysg wyddonol yma yng Nghymru? Diolch.
Mewn gwirionedd, barn y ddau sefydliad y cyfeirioch chi atynt yw bod y cynnig y mae Cymwysterau Cymru wedi ei gyflwyno yn debygol o gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dysgu gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Dyna'r farn y maent wedi'i mynegi wrthym ni mewn gwirionedd. Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y mater hwn ar hyn o bryd, felly byddwn yn annog eich etholwr i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Mae'n bwysig fod pob llais yn cael ei glywed wrth inni nesáu at y cwestiwn o ail-lunio ein cymwysterau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae un o bob pum ysgol yng Nghymru yn dysgu tri phwnc gwyddonol ar wahân ar lefel TGAU, felly nid yw'r mwyafrif llethol ohonynt yn gwneud hynny. Nid yw'r cynigion y mae Cymwysterau Cymru wedi eu cyflwyno'n cyfuno'r gwyddorau. Byddant yn cadw eu hunaniaeth ar wahân, ond byddant yn cael eu dysgu mewn ffordd sy'n galluogi cysylltiadau rhyngddynt, sy'n bwysig iawn i'r rhai sy'n mynd ymlaen i astudio'r gwyddorau allu deall y cyd-destun llawnach yn yr ystod ehangaf o wyddorau. Dyna'r mecanwaith y mae Cymwysterau Cymru yn ei argymell. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda sefydliadau addysg uwch i sicrhau eu bod yn deall eu safbwyntiau. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau ar ddechrau'r flwyddyn hon, ond byddwn yn annog eich etholwr i gymryd rhan yn y drafodaeth y mae Cymwysterau Cymru yn awyddus i'w hysgogi.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r ddarpariaeth o addysg a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58909
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gyflawni ei hymrwymiadau cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae £42.7 miliwn o gyllid wedi cael ei gymeradwyo mewn egwyddor drwy gyfuniad o'n rhaglenni a'n grantiau cyfalaf gofal plant, cyfrwng Cymraeg a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o'r cyhoeddiad y bydd mwy o fynediad i ddysgwyr allu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws fy nghymuned a ledled Cymru; mae wedi cael croeso mawr gan fy etholwyr. Roeddwn eisiau tynnu sylw at newyddion da, mewn gwirionedd, sef bod yna gynlluniau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ac maent wedi symud gam yn nes bellach. Felly, er na fydd yr ysgol ond yn symud pellter byr, mae'n mynd i gynyddu nifer y disgyblion o 378 i 525, rhwng pedair ac 11 oed. Ar ben hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau hefyd i gydleoli darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar y safle. Ac ym Mhorthcawl mae yna egin ysgol a darpariaeth gofal cyfrwng Cymraeg ar y tir y drws nesaf i Ysgol Gynradd Porthcawl, ac mae honno'n mynd i gynnig gofal llawn i blant rhwng dim a phedair oed yn ogystal â darpariaeth ar ôl ysgol a dros y gwyliau, felly, mae'n cynnig gofal cofleidiol llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n gwybod hefyd ein bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wneud yn siŵr fod yna ddewis i bontio o ofal plant i addysg blynyddoedd cynnar, yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Felly, mewn gwirionedd fy nghwestiwn i yw fy mod yn gwybod eu bod yn awyddus iawn ym Mhen-y-bont i chi ddod i ymweld a chyfarfod â rhai o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol, a byddai hynny'n wych. Felly, dyna rwy'n awyddus i'w ofyn heddiw, Weinidog. Diolch.
Diolch i Sarah Murphy am dynnu sylw at y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ei hardal hi. Cefais gyfarfod cynhyrchiol iawn gydag arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg ychydig wythnosau yn ôl i drafod cynllun strategol y Gymraeg mewn addysg a lefel eu huchelgais a phwysigrwydd gweithredu'r cynigion a nodwyd yn y cynllun. Mae'r datblygiadau yn Ysgol Bro Ogwr a'r egin ysgol arfaethedig ym Mhorthcawl yn gadarnhaol yn fy marn i, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn datblygu. Dyna'r neges a roddais i arweinwyr y cyngor pan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar iawn.
Fe fyddaf yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangynwyd fis nesaf, ac os gellir gwneud trefniadau, gallai hynny gynnig cyfle da i gyfarfod ag aelodau'r cabinet a chydag athrawon o'r sector cyfrwng Cymraeg yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gwybod bod gwella mynediad at addysg Gymraeg yn mynd y tu hwnt i'r cwestiwn pwysig o gynllunio llefydd mewn ysgolion; mae'n galw am gydweithio effeithiol ar draws sectorau, ar draws sefydliadau a'r Llywodraeth ar bob lefel, ac, o'm rhan i, byddaf yn bendant yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu, sydd mor hanfodol i gyflawni hynny, yn parhau ar agor rhwng fy swyddogion i a'r awdurdod lleol.
Gweinidog, er bod yr ysgolion newydd ym Mracla a Phorthcawl, y mae Sarah newydd sôn amdanyn nhw, yn werth eu croesawu, mae'n bwysig inni atgoffa ein hunain ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran profisiwn lleoedd ysgol yn yr iaith Gymraeg. Rydym yn gwybod mai Pen-y-bont yw un o'r ardaloedd gyda'r niferoedd isaf o siaradwyr Cymraeg unrhyw le yng Nghymru, ac un o'r rhesymau am hynny yw mai dim ond pum ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd yn y sir o gymharu â 52 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Mae hyn yn golygu bod gan sir Ben-y-bont ar Ogwr lai o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg na phob un o'i chymdogion ac nid oes unrhyw gynlluniau gwirioneddol gan y cyngor i gau'r bwlch hwnnw yn arbennig o gyflym. Felly, pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau yn cymryd yr iaith yn ddigon o ddifrif a pha gamau y mae ef yn eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned nhw?
Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda nhw yn eu cynlluniau strategol. Mae hynny'n cynnwys pedwar hyb gofal plant newydd—mae dau eisoes wedi agor—a hefyd cynyddu'r nifer o lefydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion meithrin, ynghyd â'r cynlluniau o ran Ysgol Bro Ogwr, Ysgol y Ferch o Sgêr ac edrych ar ehangu Ysgol Gyfun Llangynwyd hefyd. Felly, os digwydda hynny fel y mae'r cynllun yn dangos sydd angen digwydd, bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd y llefydd plant cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.
Ar y cwestiwn ehangach, rwyf wedi bod yn glir gyda phob awdurdod rwyf wedi siarad â nhw fy mod yn ddiolchgar am y lefel o uchelgais ym mhob cynllun. Mae pob un sir wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod fel Llywodraeth—ac mae hyn am y tro cyntaf gyda llaw—ac wedi derbyn yr ystod o gynnydd sydd ei angen ym mhob sir. Ac os bydd pob cyngor yn perfformio i ganol yr hyn y maen nhw wedi darogan y byddan nhw, byddwn ni'n sicr yn llwyddo i gyrraedd y nod sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ond un peth yw cytuno ar beth y mae'r ddogfen yn ei ddweud; peth arall yw delifro ar hynny, ac mae angen sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac er mai cynllun 10 mlynedd yw hyn, mae angen cynnydd ym mhob blwyddyn, nid jest dros y ddegawd.
Wrth gwrs rwy'n croesawu'r datblygiadau ynglŷn â Phorthcawl ac Ysgol Bro Ogwr—fy hen ysgol gynradd i. Roedd yn bleser i fynd yn ôl i Fro Ogwr i weld sut oedden nhw'n darparu prydau ysgol am ddim. Roedd yr ystafelloedd yn teimlo lot yn llai nag oedden nhw pan oeddwn i'n ddisgybl fanna, ond dwi ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei feddwl—efallai rwyf wedi rhoi bach o bwysau ymlaen ers hynny.
Ond mae sôn bod hen safle Bro Ogwr yn mynd i gael ei droi i mewn i ysgol Saesneg. Mae hyn wrth gwrs yn achosi pryder i nifer o bobl, yn enwedig i'r rheini sy'n ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau y bydd yn cysylltu â chyngor Pen-y-bont i sicrhau bod hen safle Bro Ogwr yn aros fel ysgol Gymraeg a ddim yn cael ei droi i mewn i ysgol Saesneg?
Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd.
Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn nhw bartner yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw wrthym ni i wneud hynny, ond mae hefyd disgwyliad arnyn nhw eu bod yn cyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dwi'n ffyddiog ar sail y sgwrs rwyf i wedi'i chael eu bod nhw'n bwriadu gwneud hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda i chi, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â minnau am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn yr adroddiad a ddisgrifiwyd yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021. Yn eich ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan ar y pwnc cyn y Nadolig, dywedaist ti fod rhai ffynonellau data yn dangos cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg, tra bod eraill, gan gynnwys y cyfrifiad, yn dangos gostyngiad. Mae'r anghysondeb yma yn y data yn broblem oherwydd mae angen gwybodaeth gywir i wneud penderfyniadau da am ddyfodol yr iaith.
Yn meddwl am hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod eu holl ddulliau o gasglu data yn gywir ac yn gyson, ac ar ba ddata y dylem farnu llwyddiant polisi 'Cymraeg 2050'?
Cwestiwn pwysig iawn, os caf ddweud hynny. Mae'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad, yn benodol ymhlith plant ysgol pump i 15 oed, ac mae hynny, wrth gwrs, yn destun pryder. Ond, fel mae'r Aelod yn ei ddweud yn ei gwestiwn, nid dyna'r unig ffynhonnell sydd gennym ni. Mae arolwg blynyddol y boblogaeth yn dangos bod cynnydd wedi bod dros yr un cyfnod, a dyna'r tro cyntaf i'r ddwy ffynhonnell, dros yr un cyfnod, ddangos cyfeiriad gwahanol. Felly, mae hynny'n rhan bwysig o'r tirlun.
Nid Llywodraeth Cymru sy'n casglu'r data. Mae hynny'n digwydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol; y rheini sy'n casglu'r data yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr ystadegydd cenedlaethol am y gwahaniaethau hyn i weld beth allwn ni ei wneud i ddeall yr hyn sydd y tu ôl i hynny, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ONS yn cydweithio â'n hystadegwyr ni yn y Llywodraeth ar y mater. Mae'r Aelod yn gwbl iawn i ddweud, er mwyn cael sail o dystiolaeth ddibynadwy ar gyfer llunio polisi, mae'n rhaid deall pam fod ffynonellau yn dangos pethau gwahanol. Mae'r ffordd mae'r data yn cael ei gasglu, a'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn, yn wahanol yn y ddwy ffynhonnell. Felly, mae hynny, yn sicr, yn rhan o'r esboniad, ond mae'n rhaid deall y cyd-destun ehangach hefyd.
Diolch i chi am eich ateb. Mae'n bwysig i ni yma, a phawb sydd eisiau i'r iaith lwyddo, ymddiried a gallu craffu ar y polisïau a'r data a ddefnyddir i'w cefnogi. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data i fesur llwyddiant eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, neu'r WESPs, fel y clywom ni yn gynharach. Os yw'r data yn annibynadwy, fe allai rwystro eu hymdrechion i ddatblygu mwy o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod cyfarfod pwyllgor, dywedaist ti na allwch chi ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd eu targedau neu eu hymrwymiadau o dan y WESPs, ond efallai y byddech yn ceisio rhoi mwy o awdurdod ac atebolrwydd i chi'ch hun drwy gyfrwng Bil addysg Gymraeg, os yn bosib. Os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio, pa bwerau a ydych chi'n bwriadu eu rhoi i chi'ch hun i wneud yn siŵr bod y WESPs yn llwyddiant?
Wel, dwi jest eisiau dweud hefyd, o ran casglu data ar lefel leol—mae e, wrth gwrs yn bwysig, fel mae'r Aelod yn dweud—mae darn o waith yn digwydd eisoes gyda grŵp bach o awdurdodau lleol i ddeall sut, er enghraifft, yng nghyd-destun sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg lleol, beth yw hynny o ran ôl troed lleol, a sut i allu cysoni'r data yna yn genedlaethol, fel bod gennym ni ddarlun ehangach. Jest un enghraifft yw honno. Felly, mae gwaith yn digwydd eisoes o ran cysoni'r ffyrdd o gasglu a deall y data hynny.
O ran y cwestiwn arall, mae hynny'n rhan o'r trafodaethau rŷn ni'n eu cael ar hyn o bryd gyda Phlaid Cymru ynglŷn â chynnwys y Bil. Wrth gwrs, byddaf yn awyddus i sicrhau bod hynny yn cael ei drafod yn gyhoeddus, a chyn gynted ag y gallwn ni. Y bwriad yw i gael Papur Gwyn cyn ein bod ni'n deddfu, fel bod cyfle i gael trafodaeth ehangach ar y math o bwerau sydd yn addas i'r Llywodraeth eu cael yn y cyd-destun hwnnw.
Diolch, Weinidog. Mae'r ddau ohonom ni eisiau i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol ym mhob sefyllfa, megis yn y Senedd hon, ar y stryd neu yn y dosbarth. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd. Er enghraifft, dim ond ar-lein y gellid cynnal cyfarfod cyngor llawn olaf sir Benfro ym mis Rhagfyr oherwydd nad oedd gwasanaethau cyfieithu amser real ar gael. Yn ogystal, mae cyfarfodydd cyngor blaenorol wedi eu rhwystro, gyda chynghorwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu gorfodi i siarad Saesneg oherwydd bod y gwasanaethau cyfieithu dwyieithog yn y siambr yn achosi oedi sylweddol o ran cyfieithu amser real.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol gynnig gwasanaethau cyfieithu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n hyderus ac yn naturiol mewn cynghorau sir a chynghorau cymuned ledled Cymru? Diolch.
Wel, mae gan gynghorau lleol gyfrifoldebau cyfreithiol wrth gwrs yn y cyd-destun hwnnw. Felly, mae eisoes system i orfodi safonau i gael eu cytuno â nhw yn lleol. Felly, mae hynny ar waith eisoes, felly mae hawliau gan bobl, mae hawliau iddyn nhw gael hynny wedi cael ei weithredu. Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth—roedd e'n sôn am y cwestiwn o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfarfodydd ar-lein—rŷn ni wedi bod yn ceisio, fel Llywodraeth, cefnogi arloesedd yn y maes hwnnw, fel ein bod ni'n sicrhau yr ystod ehangaf bosib o ffyrdd o gael cyfarfodydd lle mae'r Gymraeg yn rhan greiddiol o hynny. Felly, yn ddiweddar, rŷn ni wedi cyhoeddi gwaith gyda Microsoft fel bod nawr functionality yn Teams, fel oedd yn Zoom—mae lot o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Teams yn hytrach na Zoom—mae nawr yn bosib i gael cyfieithu ar y pryd drwy Teams. Dyma'r lle cyntaf yn y byd y mae hyn wedi digwydd. Ac yn sgil y gwaith rŷn ni wedi ei wneud gyda Microsoft, bydd unrhyw sefydliad rhyngwladol dwyieithog, yn unrhyw ran o'r byd, nawr yn gallu manteisio ar yr hyblygrwydd hynny. Felly, mae arloesi ym maes digidol, er mwyn sicrhau bod ystod o gyfarfodydd yn gallu digwydd, yn rhan bwysig iawn o ehangu defnydd yn y math o fywyd pob dydd sydd gan bobl nawr.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Mae mwyafrif asesiadau anabledd arbenigol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy'n gymwys ar gyfer y lwfans myfyrwyr anabl datganoledig yn cael eu cynnal ar hyn o bryd gan ganolfannau asesu arbenigol yng Nghymru, sy'n deall anghenion myfyrwyr prifysgol Cymru, a thirwedd datganoledig addysg uwch Cymru. Mae'r arbenigwyr hyn mewn canolfannau asesu sydd wedi eu lleoli yng ngwasanaethau anabledd prifysgolion Cymru yn staff profiadol, sy'n deall systemau cefnogaeth anabledd Cymreig a'r cyrsiau a'r amgylchedd addysgol y mae'r myfyrwyr Cymreig yn rhan ohonynt. Ac felly, mae'r lwfans yn cael ei dargedu'n bersonol at anghenion pob myfyriwr unigol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei argymell fel arfer gorau. Darperir DSA yng Nghymru gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, ac maent yn y broses o dendro gwasanaethau DSA, gan gynnwys asesiadau, ar hyn o bryd. Er bod DSA wedi ei ddatganoli, mae'n ymddangos bod Cymru wedi ei thwlu mewn i barth gyda gorllewin a dwyrain canolbarth Lloegr ar gyfer y broses dendro, a fydd, i bob pwrpas, yn golygu y gallai gwasanaethau asesu DSA yng Nghymru gael eu cymryd mas o ddwylo'r arbenigwyr Cymreig hyn, gan efallai anfanteisio'n myfyrwyr ni. Felly, hoffwn wybod pam y mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i Gymru gael ei thrin fel hyn yn y broses dendro a chaffael, a pha ran y mae'r Gweinidog wedi ei chael yn y broses, er mwyn sicrhau nad yw cyfleon myfyrwyr anabl o Gymru'n cael eu peryglu, a busnesau arbenigol yng Nghymru o dan anfantais. A hoffwn wybod hefyd sut y bydd gofynion iaith Gymraeg myfyrwyr anabl yn cael eu hasesu'n gywir yn erbyn eu hanabledd os bydd sefydliad o'r tu fas i Gymru, heb unrhyw wybodaeth arbenigol am y dirwedd addysg Gymraeg, dim gwybodaeth o ymrwymiadau ac arferion ieithyddol, yn ennill y tendr.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn pwysig hwn. Dwi ddim yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn, os byddaf i'n gwbl onest â hi, ond mae'n swnio i fi fel pe bai angen edrych i mewn iddo fe. Mae'n amlwg yn destun pwysig, mae'n amlwg bod unrhyw rwystr i fyfyrwyr yng Nghymru gael mynediad llawn a hafal i'w hawliau, ac yn sicr yng nghyd-destun budd-daliadau, yn rhywbeth pwysig. Felly, mi wnaf i ymrwymo i edrych mewn i hynny.
Diolch yn fawr iawn. Roedd llawer ohonom yn bresennol yn y rali a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar risiau'r Senedd ym mis Rhagfyr, ac rwy'n gwybod, Weinidog, i chi alw draw hefyd i siarad â myfyrwyr, a oedd yn adrodd i ni straeon brawychus am y ffordd y maen nhw'n cael trafferth â chostau trafnidiaeth, biliau ynni, rhent, bwyd, ac yn y blaen. Ac rwyf i wedi codi â chi o'r blaen sut y mae dysgwyr addysg bellach ac uwch a rhai mewn hyfforddiant yn cael eu taro mewn modd unigryw gan yr argyfwng costau byw, gan nad ydyn nhw'n gymwys am y rhan fwyaf o'r taliadau cymorth sydd ar gael a ddim mewn sefyllfa i fedru cynyddu eu hincwm. Ac felly, siomedig oedd y ffaith nad oedd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn, er gwaethaf effaith drychinebus costau cynyddol ar fyfyrwyr. Weinidog, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod myfyrwyr a dysgwyr ôl-16 o bob math yn cael eu cefnogi y tu hwnt i'r pecyn cymorth cyllid?
Ac o ffocysu ar brentisiaid yn benodol, gyda nifer gynyddol o bobl ifanc yn cael eu denu i swyddi isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol heb hyfforddiant, beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi prentisiaid yn ystod yr argyfwng costau byw, yn enwedig y rhai ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o ddim ond £4.81 yr awr?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fe ges i sgwrs fanwl iawn â'r myfyrwyr a oedd wedi dod i ymgyrchu y tu allan i'r Senedd, ac roedd hi'n bwysig cael y cyfle i glywed wrthyn nhw'n uniongyrchol yr hyn oedd yn eu pryderu nhw o ran pwysau costau byw.
Yn addysg bellach ac yn addysg uwch, mae gan y Llywodraeth ystod o bethau rŷn ni'n eu gwneud i gefnogi myfyrwyr. O ran addysg bellach, rŷn ni'n parhau gyda'r education maintenance allowance. Rydyn ni'n sicrhau bod ffyrdd o ehangu cyrhaeddiad yr EMA, sicrhau bod pobl yn gallu cynnig o fewn y flwyddyn os ydy eu hamgylchiadau nhw'n newid, ac yn cael gofyn wedyn am backdating o ran eu cymhwysedd nhw am y budd-dal hwnnw. Rŷn ni hefyd yn parhau gyda'r financial contingency fund. Fe wnes i ddatgan yn y Senedd yn ddiweddar fy mod i'n bwriadu cynyddu lefel hwnnw. Dyna'r bwriad o hyd. Mae hynny'n ffordd bwysig o sicrhau bod colegau'n gallu cefnogi myfyrwyr sydd mewn amgylchiadau o galedi.
O ran addysg uwch, mae gyda ni ystod o ffyrdd rŷn ni'n cefnogi myfyrwyr. Mae gyda ni'r pecyn cefnogaeth ariannol mwyaf cefnogol yng Nghymru o unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Fel rhan o hwnnw, fe fyddaf yn datgan yn yr wythnosau nesaf y cynnydd yn lefel y cymorth fydd yn dod i fyfyrwyr yn sgil hynny. Dwi'n bwriadu gwneud hynny cyn diwedd y mis, gobeithio. Mae pob myfyriwr yng Nghymru yn gymwys am isafswm grant a wedyn cymysgedd o grant a benthyciadau yn uwch na hynny. Ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Gyfunol sydd yn lleihau lefel dyled myfyrwyr pan fyddan nhw'n dechrau talu hynny yn ôl, gan ryw £1,500. Rŷn ni'n gwneud hynny. Rŷn ni hefyd newydd ddatgan cronfa bellach i HEFCW i'w dosbarthu i fyfyrwyr o ran cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth ariannol a gwasanaethau gofal iechyd meddwl. Felly, mae amryw o ffyrdd rŷn ni'n mynd ati i geisio cefnogi myfyrwyr, ynghyd â'r gwaith mae'r sefydliadau eu hunain yn ei wneud ar y campws a thu hwnt i'r campws i gefnogi myfyrwyr. Ond, mae'n sicr ddigon bod y pwysau ar rai myfyrwyr yn sylweddol iawn.
Mae her benodol gan fyfyrwyr sy'n dod o dramor sydd ddim yn gallu manteisio ar y cefnogaeth ariannol rŷn ni'n ei roi fel Llywodraeth. Mae rhyw elfen o dystiolaeth y byddwn ni'n disgwyl gweld mwy a mwy o'r rheini'n cynnig am y cronfeydd caledi ac ati. Felly, mae'n sicr ddigon, a chlywais i fy hunan gan y myfyrwyr hynny, fod y sefyllfa'n gallu bod yn anodd iawn iddyn nhw.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r iaith Gymraeg mewn ysgolion a chymunedau gwledig? OQ58914
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fis Awst diwethaf, fe wnes i lansio comisiwn i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg. Fe wnes i gymeradwyo hefyd gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg pob un o’r 22 awdurdod lleol, sy’n nodi sut mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi eisiau canolbwyntio, os yw hynny'n iawn, ar y WESPs—rydych chi wedi sôn am y WESPs mewn cwestiwn arall—yn enwedig ar y rhan o'r WESPs sy'n sôn am ysgolion uwchradd a sut mae ysgolion cynradd mewn llefydd gwledig yn gallu sicrhau bod gan yr ysgolion uwchradd y rhifau o'r disgyblion i fynd i mewn i'r ysgolion uwchradd. Mae yna gydbwysedd yma, dwi'n siŵr eich bod chi'n gweld. Ym Mhowys, mae penderfyniad wedi cael ei wneud i gau ysgol Llanfihangel Rhydieithon, ysgol gynradd Saesneg sydd eisiau bod yn ysgol gynradd Gymraeg. Yn eich barn chi, sut gall y WESP i ysgolion uwchradd helpu sicrhau bod ysgolion cynradd yn goroesi mewn llefydd gwledig? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran cau'r ysgol benodol mae'r Aelod yn sôn amdani, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn gynharach y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r penderfyniad wedi'i ohirio o ran ei gymryd mewn i effaith ar gyfer eleni, fel bod cyfle'n cael ei gymryd i edrych a oedd cynllun amgen ar gyfer sicrhau sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r adolygiad hwnnw wedi digwydd, fel rwy'n deall, ac, yn ei gyfarfod mwyaf diweddar, mae'r cyngor wedi penderfynu parhau gyda'r penderfyniad gwreiddiol. Does gen i fel Gweinidog ddim cyfle pellach i fod yn rhan o'r broses honno. Chefais i ddim unrhyw gwynion wrth y cyhoedd o fewn y ffenestr oedd gennyf i fel Gweinidog i allu ymwneud â'r penderfyniad, felly dyw hynny bellach ddim yn opsiwn.
Fel mae'r Aelod yn dweud, mae'n bwysig, wrth edrych ar ddarpariaeth ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, fod cynghorau yn mynd i'r afael gyda dosbarthiad daearyddol darpariaeth. Mae hynny'n elfen bwysig iawn. Rŷn ni wedi sôn eisoes yn y Siambr nad dim ond rhifau sy'n bwysig, ond mae'r dosbarthiad a lleoliad y ddarpariaeth yn rhannau elfennol o sicrhau ffyniant yr iaith. Rwyf wedi cwrdd â'r cyngor ym Mhowys i sôn am eu cynlluniau strategol nhw. Maen nhw wedi sôn eisoes am gynlluniau, efallai, i edrych eto ar rai o'r pethau oedd gyda nhw i'w dweud o ran darpariaeth uwchradd. Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod hynny gyda nhw ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog. Weinidog, fe ddywedoch chi y bore yma yn y pwyllgor addysg fod arian ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg newydd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Mae gweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â sefydlu darpariaeth gynradd Gymraeg yn Nolau. Weinidog, penderfyniadau cul fel hyn, wedi'u seilio ar y diffyg siaradwyr Cymraeg mewn ardal, yw'r rheswm pam nad yw'r iaith yn cael ei datblygu ymhellach yn sir Faesyfed. Felly, Weinidog, hoffwn glywed gennych chi beth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg i sicrhau bod cynghorau fel Powys yn datblygu'r iaith yn sir Faesyfed ac nad ydynt yn gwneud penderfyniadau cul, a'u bod yn edrych tuag at y dyfodol mewn perthynas â datblygu'r iaith mewn llefydd gwledig fel sir Faesyfed?
Rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor—nid wyf am enwi unrhyw gyngor yn benodol—rwyf wedi bod yn glir gyda phob cyngor fy mod yn disgwyl iddynt gyflawni'r uchelgeisiau y maent wedi'u hamlinellu yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac yn amlwg dyna yw bwriad y cynghorau eu hunain hefyd. Rwyf hefyd wedi dweud y byddwn yn ystyried i ba raddau y mae rhwymedigaethau'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn cael eu cyflawni wrth edrych ar y ceisiadau ehangach am gyllid ar draws yr ystad addysg. Felly, byddaf yn disgwyl gweld bod cynnydd yn digwydd mewn ffordd gymharol gyda'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, fel gyda phob cynllun addysg arall, wrth wneud y penderfyniadau ariannu hynny. Ond y pwynt a wneuthum yn y pwyllgor y bore yma oedd: mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid, a chyllid sylweddol yn wir, er mwyn galluogi awdurdodau i gyflawni eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, ac rydym yn hapus i wneud hynny. Byddwn yn parhau i wneud hynny, ac edrychwn ymlaen at weld awdurdodau'n cydymffurfio â'r cynlluniau uchelgeisiol y mae pob un ohonynt wedi'u nodi.
4. Sut bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu'r nifer sy'n dewis pynciau STEM ymhlith myfyrwyr Gorllewin De Cymru? OQ58908
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn mewn cyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau STEM, gyda'r prif nod o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i ddilyn pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Sony Bridgend, sy'n ymddeol, fod angen i Gymru fod yn fwy arloesol, ac mai'r allwedd i'n llwyddiant fydd addysgu, meithrin a chadw talent yma yng Nghymru. Mae Mr Dalton yn credu bod dyfodol gwych i weithgynhyrchu yng Nghymru os gallwn ddysgu arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a chanolbwyntio ar farchnadoedd heb eu cyffwrdd y tu allan i'r UE. Weinidog, a ydych yn cytuno bod yn rhaid inni addasu a datblygu ein strategaeth sgiliau? Sut y byddwch chi'n annog mwy o bobl ifanc i astudio gwyddoniaeth a pheirianneg, ac yn anad dim, annog myfyrwyr i astudio'r pynciau hyn ym mhrifysgolion Cymru ac yna aros yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn hynod bwysig hwnnw, Altaf Hussain. Mae angen inni arfogi ein dysgwyr. Boed yn dewis dilyn trywydd gyrfaoedd mewn pynciau STEM neu beidio, mae angen inni arfogi ein holl ddysgwyr i wynebu dyfodol o newid technolegol ac economaidd cyflym, ac mae sgiliau digidol a'r math o hyblygrwydd a chreadigrwydd sy'n mynd gyda rhai o'r rheini, ochr yn ochr â'r wybodaeth ei hun, yn ofynion cwbl hanfodol i'n pobl ifanc. Mae hynny'n rhan ganolog, wrth gwrs, o arlwy'r Cwricwlwm newydd i Gymru, boed hynny drwy feysydd dysgu a phrofiad neu'r ffocws penodol ar yrfaoedd STEM yn enwedig.
Gyda llaw, mae hefyd yn bwysig mynd i'r afael â chwestiynau sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb. Mae yna ragfarn ar sail rhywedd o hyd mewn perthynas â mynediad at bynciau STEM a rhai o'r stereoteipiau sy'n mynd ochr yn ochr â dewis pynciau STEM. Felly, fe wnaethom siarad ychydig yn y cwestiwn cynharach gyda Natasha Asghar ynglŷn â sut y gallai diwygio ein cymwysterau annog mwy o bobl i ddilyn pynciau STEM, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o hyn. Ond yn ogystal â hynny, rydym yn darparu cyllid sylweddol i amrywiaeth o fentrau sydd wedi'u hanelu at ddisgyblion cynradd ac uwchradd, gyda llaw. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau ar y gwaith hwnnw yn yr ysgolion cynradd, boed yn gyllid a ddarparwn i Techniquest ac Explore, er enghraifft, sy'n annog plant ysgolion cynradd yn enwedig i gymryd rhan, ond hefyd y cyllid a ddarparwn ar gyfer pethau fel Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, i Technocamps, sy'n darparu codio mewn ysgolion ledled Cymru, y rhaglen gymorth mathemateg bellach rydym yn ei hariannu drwy Brifysgol Abertawe, y rhaglen Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg drwy'r Sefydliad Ffiseg. Mae yna amrywiaeth o ffyrdd rydym yn annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM, ac rwy'n cytuno â'r person y siaradodd ag ef, rwy'n credu, fod yna ddyfodol disglair iawn i bobl ifanc Cymru yn y sectorau hyn yng Nghymru, ac rydym ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cefnogi ysgolion i wneud hynny.
5. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant yn cael eu haddysgu yn system addysg Cymru? OQ58905
Mae adrannau'r economi ac addysg yn cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod anghenion sgiliau'n cael eu diwallu, gyda rôl allweddol ar gyfer partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae cyfrifon dysgu personol yn un enghraifft yn fy maes i, gydag ymyriadau wedi'u targedu mewn meysydd fel sero net a gyrru cerbydau nwyddau trwm eisoes yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae cwmnïau fel Airbus yn fy etholaeth fy hun yn buddsoddi mewn gwaith i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau i ddarparu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pontio sgiliau'n sylweddol ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan Gymru y doniau cywir i gynhyrchu awyrennau mewn modd gwyrdd ym Mrychdyn yn y dyfodol. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi sut mae eich adran yn gweithio ar y cyd nid yn unig gydag adran Gweinidog yr Economi, ond gyda phartneriaid yn y diwydiant a'n cydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau bod ein system addysg yn sicrhau'r doniau sydd eu hangen ar Gymru sero net yn y dyfodol?
Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae'r cydweithio hwnnw o fewn y Llywodraeth ac yn fwy eang o lawer na hynny yn rhan wirioneddol bwysig o'n dyfodol ni o ran y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru. Rwy'n credu bod cydweithio rhwng addysg bellach, addysg uwch a phrif chwaraewyr y sector fel Airbus yn gyfres gyffrous iawn o ddatblygiadau ar y gorwel, lle mae gennych chi ymchwil dechnegol, alwedigaethol, academaidd, gymhwysol, ac rwy'n credu y bydd y cynnig hwnnw sy'n cael ei gynnig mewn ffordd gydgysylltiedig, integredig iawn yn arwain at ddyfodol cadarnhaol iawn ar gyfer ein darpariaeth sgiliau yng Nghymru.
O ran yr hyn rydym yn ei wneud yn benodol yn y Llywodraeth, bydd y cynllun gweithredu sgiliau sero net a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror, rwy'n credu, yn ateb y math o gwestiynau y mae'r Aelod yn eu gofyn heddiw yn llawnach, ond mae hynny'n rhagdybio cydweithio agos rhwng y Llywodraeth, y diwydiant, undebau llafur, ond hefyd ysgolion a cholegau addysg bellach hefyd, i wneud yn siŵr fod hyn yn rhan o wead y system gyfan mewn gwirionedd. Un o'r mentrau rydym eisoes yn eu gwneud yw e-fodiwl o fis Medi y llynedd. Felly, yn ystod y flwyddyn academaidd hon, am y tro cyntaf, mae pob dysgwr galwedigaethol lefel 3 yn gallu cael mynediad at gyfres o e-fodiwlau Cymru Sero Net sy'n benodol i'w dewis arbennig o alwedigaeth ond sy'n eu gosod yn y cyd-destun sgiliau gwyrdd ehangach hwnnw, sy'n bwysig iawn i roi dealltwriaeth i bobl o sut y gellir defnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu yn y gweithle.
Felly, mae llawer o waith o'r math hwnnw ar y gweill, ond mae'n allweddol ein bod yn chwalu'r rhwystrau ar draws yr economi, a'r holl gyfranwyr a chwaraewyr perthnasol yn hynny, fel y gallwn weithredu'r weledigaeth gyffredin honno ar lawr gwlad.
Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ymateb i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, a gododd fater hynod o bwysig y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol fod y sector peirianneg sifil yn hynod bryderus am ddiffyg darpariaeth sgiliau addas, yn enwedig ar gyfer gweithwyr tir yng Nghymru. Mae'n ymddangos nad oes darpariaeth ar hyn o bryd yn unrhyw un o golegau addysg bellach Cymru ar gyfer prentisiaethau gwaith tir, er bod adeiladu, wrth gwrs, yn cael ei ystyried yn sector blaenoriaeth uchel ar gyfer buddsoddi sgiliau gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac wrth gwrs drwy gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau sy'n cael eu sianelu drwy'r sector addysg bellach. Mae'n ymddangos bod yna ddiffyg cysylltiad rhwng sgiliau blaenoriaeth a chyflawniad Llywodraeth Cymru drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r colegau yng Nghymru. Felly, Weinidog, a fyddech yn gallu edrych ar hyn ar frys i wneud yn siŵr nad yw'r sgiliau gwirioneddol bwysig hynny mewn perthynas â gwaith tir yn cael eu colli yma yng Nghymru?
Ie. Holl bwynt y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yw casglu data'r diwydiant ar gyfer y gwaith cynllunio y mae colegau addysg bellach yn gallu ei wneud er mwyn darparu. Ond hefyd, mae'r berthynas rhwng colegau addysg bellach eu hunain a'r sectorau penodol yn gwbl hanfodol i'w galluogi i ymateb yn hyblyg ac mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion y farchnad lafur leol ac sy'n cynnig yr ystod orau bosibl o opsiynau i'w dysgwyr. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny ymhellach.
Y cwestiwn nesaf gan—drum roll—John Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern? OQ58927
Yn sicr. 'Dyfodol Byd-eang' yw ein strategaeth ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol, a chyhoeddais ein strategaeth ddiwygiedig tuag at ddiwedd y llynedd. Mae honno'n amlinellu sut y byddwn ni a'n partneriaid 'Dyfodol Byd-eang' yn parhau i gefnogi ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion am dair blynedd arall.
Weinidog, mae gan y cwricwlwm newydd ymrwymiad i wneud Cymru'n genedl wirioneddol amlieithog. Hefyd, ceir yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i'r perwyl hwnnw ac fel y dywedwch, mae'r strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' wedi'i diweddaru'n ddiweddar hefyd. Ond er hynny i gyd, Weinidog, gwyddom fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio Almaeneg a Ffrangeg ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rwy'n credu ei fod wedi gostwng i oddeutu hanner rhwng 2015 a 2021. Rwy'n siŵr fod yna ffactorau amrywiol y tu ôl i hyn, Weinidog, ond yn amlwg mae'n duedd anffodus iawn, o ystyried uchelgeisiau datganedig Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yma eisiau gweld Cymru'n bod yn wlad ryngwladol sy'n cynnig cyfleoedd i'n pobl ifanc o ran gwaith a theithio a datblygiad personol. Weinidog, o ystyried y realiti ar lawr gwlad ar hyn o bryd, tybed beth yn fwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gydag ysgolion, athrawon a darparwyr addysg eraill, i wyrdroi'r duedd hon a gweld y math o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru am ei weld yn y dyfodol.
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n cytuno ag ef; mae'n bryderus. Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn dewis astudio ieithoedd tramor modern. Mae wedi gohebu â mi yn y gorffennol yn enwedig ynglŷn â'r dirywiad yn y ddarpariaeth Almaeneg, ac rwy'n cydnabod hynny. Y patrwm rydym yn ei weld yw, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer cymwysterau yn y meysydd hynny, maent yn dal i wneud yn dda iawn ynddynt, ond mae'r niferoedd yn rhai o'r meysydd hynny'n gostwng, fel y mae'n dweud. Fel Llywodraeth, rydym wedi edrych eto ar y strategaeth a fu gennym ers tair blynedd, ac wedi ceisio nodi'r pethau y mae angen ailffocysu arnynt, os hoffech, er mwyn ystyried yr hyn a ddysgwyd gennym dros y cyfnod hwnnw. Mae yna dair blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y cyfnod nesaf o dair blynedd yr ydym yn ymrwymo iddynt: yn amlwg, cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru—dyna'r amcan sylfaenol—ond wrth wneud hynny, canolbwyntio ar ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar addysgwyr eu hunain i'w darparu, a hefyd herio rhai o'r camsyniadau sy'n ymwneud â dysgu iaith, sydd â rhan i'w chwarae yn yr her yn fy marn i.
Byddwn yn cynnig ystod o gymorth, gan gynnwys cyllid penodol i athrawon cynradd gyda rhaglen datblygiad proffesiynol y Brifysgol Agored, Teachers Learning to Teach Languages, sy'n rhoi cyfle i athrawon cynradd ddysgu iaith newydd, boed yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg Mandarin, a sut wedyn i ddysgu honno yn yr ystafell ddosbarth. Ymwelais â fy hen ysgol gynradd ddiwedd y tymor diwethaf a chlywais y bobl ifanc yn un o'r dosbarthiadau cynradd yn dysgu Sbaeneg. Roeddwn yn meddwl mai dyna'r union fath o beth sydd angen inni weld mwy ohono. Byddwn yn parhau â rhaglen sydd wedi bod yn llwyddiannus—y rhaglen mentora myfyrwyr—sy'n rhoi cymorth uniongyrchol ar lefel uwchradd gyda myfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd i'r maes i hyrwyddo astudio iaith i fyfyrwyr TGAU a thu hwnt, gan sôn am eu profiadau personol o wneud hynny. Ond hefyd, rydym yn ceisio cysylltu'r gwaith a wnawn drwy 'Dyfodol Byd-eang' gyda gwaith Taith. Rwy'n meddwl bod rhai synergeddau yn y maes hwnnw ac rwy'n falch fod hynny wedi gallu cael ei gysylltu, fel ein bod yn gallu cysylltu, ym meddyliau pobl ifanc, y cyfle i astudio dramor, efallai, gyda'r cyfle i ddysgu iaith newydd a chynnig y cyfle mwy cyfannol hwnnw.
Felly, rwy'n meddwl bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Rwy'n obeithiol iawn y gwelwn duedd well yn y cyfnod nesaf o dair blynedd na'r hyn a welsom yn y cyfnod diwethaf o dair blynedd. Ond rhaid cyfaddef, rwy'n credu y bydd y pwynt y dechreuodd gydag ef, rôl ieithoedd yn y cwricwlwm, yn gwneud cyfraniad sylweddol yn fwy hirdymor.
Credaf yn gryf fod angen i'n system addysg addasu i adlewyrchu anghenion y farchnad swyddi i'r dyfodol, a hynny'n lleol, yn genedlaethol ac, wrth gwrs, yn rhyngwladol gyda'r cyfleoedd sy'n codi nawr oherwydd Brexit ac agor ein hunain i weddill y byd. Er eich bod wedi taflu £5.7 miliwn tuag at eich rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Dyfodol Byd-eang', fel yr amlinellodd John Griffiths nawr, rydym wedi gweld y duedd ar i lawr yn y nifer sy'n dewis y pynciau TGAU hynny, ac mae'n destun pryder. Rwy'n croesawu eich bwriad yn y cynllun diwygiedig hwn, ond os ydym o ddifrif am wreiddio ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm newydd a chael llwyddiant, mae angen cynllun difrifol arnom i allu recriwtio a chadw athrawon ieithoedd modern ar gyfer pob grŵp oedran, cynradd ac uwchradd, a'r arian i ddilyn hynny. Ni fydd cynnig rhaglen uwchsgilio i athrawon cynradd yn unig yn ddigon da ar ôl blynyddoedd o fethiant yn y maes hwn a'r sgiliau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, pa gynlluniau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg iaith fodern sy'n addas i'r diben, a sut y byddwch yn monitro'r cynnydd hwnnw?
Diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r gwaith sydd ar y gweill a hoffwn ei chyfeirio at yr ateb rwyf newydd ei roi i John Griffiths ar y camau y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n bwysig iawn yw bod y camau a gymerwn yn y maes polisi hwn, fel gydag unrhyw un arall, yn seiliedig ar y realiti yn hytrach nag ar ein golwg fyd-eang benodol ni. Rwy'n credu bod y byd lle rydym yn honni bod Brexit yn gyfle yn annhebygol o fod yn gyson â hyrwyddo gwerth ieithoedd tramor Ewropeaidd i'n pobl ifanc, a dyna pam y credaf ei bod yn bwysig y byddwn ni fel Llywodraeth yn ymateb i hynny drwy roi rhywbeth yn lle un o fanteision allweddol ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i'n pobl ifanc, sef rhaglen Erasmus, y cânt ei hamddifadu ohoni yn awr o ganlyniad i Brexit. Rwy'n credu bod ail-wneud y cysylltiad hwnnw i'n pobl ifanc yn ffordd dda o ddatrys y broblem y mae Brexit wedi ei hachosi.
7. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i gynyddu teithio llesol i ysgolion a cholegau? OQ58925
Rydym am alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar sgwter a beicio i'r ysgol. Rydym yn cefnogi hyn drwy ymgorffori teithio llesol yn yr arfarniad o ysgolion a cholegau newydd a ariennir drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy a thrwy ariannu gwelliannau o ran cerdded a beicio drwy ein cronfa teithio llesol a'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau bob blwyddyn.
Mae hynny'n dda iawn i'w glywed. Mae llawer mwy o waith gennym i'w wneud, rwy'n gwybod, ond roedd Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yma heddiw a gofynnais iddynt, 'Faint ohonoch chi a wnaeth fynd ar sgwter, cerdded neu feicio i'r ysgol?' ac fe gododd naw o bob 10 eu dwylo. Mae'n wirioneddol wych i'w weld, a byddai'n wych pe gallem efelychu hynny ar draws pob ysgol gynradd. Ond oherwydd yr argyfwng hinsawdd, oherwydd yr heriau iechyd a llesiant sy'n effeithio ar ein pobl ifanc, oherwydd problemau llygredd aer a thagfeydd ar adegau prysur, mae gwir angen inni ddefnyddio'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy honno—felly, teithio llesol yn gyntaf, ac yna trafnidiaeth gyhoeddus a bysus. Rwyf am ofyn i chi, Weinidog, yn ogystal â'r ymdrech teithio llesol, fel rhan o'r adolygiad i drafnidiaeth ysgolion a cholegau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a ydych yn edrych ar fater y terfyn 3 milltir—a ddylai fod yn 3 milltir, 2 filltir neu beth bynnag, neu a ydym yn ei adael i awdurdodau lleol ddewis? Ond hefyd, a ydych yn edrych ar fodelau eraill, fel y rhai y maent yn eu defnyddio yn y Ffindir ac mewn mannau eraill, lle rydych yn rhoi talebau neu basys i bobl ifanc o oedran ifanc iawn iddynt allu eu defnyddio ar gyfer cludiant bws rheolaidd wedi'i drefnu? Mae'n rhaid inni gael y bysus rheolaidd wedi'u trefnu hefyd. Mae hynny'n datblygu ymreolaeth ac annibyniaeth ynddynt yn ogystal â phlannu arferiad gydol oes o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â mynd ar sgwter, beicio neu gerdded. A ydych yn edrych ar yr opsiynau hynny?
Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a diolch amdano. Rwy'n credu bod y trothwy pellter, y gwnaeth yr Aelod gyfeirio ato yn ei gwestiwn, yn bwysig. Mae'n fater allweddol, ond mae hynny'n un o nifer o ystyriaethau ym maes trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol. Bellach, dyna yw chwarter holl wariant uniongyrchol awdurdodau lleol ar addysg, ac mae'n codi. Felly, mae'n alw sylweddol am arian cyhoeddus, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario yn y ffordd orau bosibl i sicrhau ein bod yn cael ein plant i'r ysgol. Ond mae'n rhan o raglen waith ehangach, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn gwrando mor astud â minnau ar gwestiwn yr Aelod. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â gwella darpariaeth gweithredwyr a chysoni trafnidiaeth yn well â nodau polisi eraill ehangach. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn fod angen mwy nag addasiad bach i'r Mesur, fod angen rhywbeth llawer mwy uchelgeisiol na hynny, mae'n debyg. Cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, sy'n cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau bysus yn gyffredinol yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn eithaf clir—ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd hefyd yn teimlo'n gryf iawn am hyn—nad yw edrych ar drafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol ar wahân yn llwyr i'r rhwydwaith bysus ehangach yn gwneud synnwyr o gwbl. Felly, yn bersonol yn sicr, byddai gennyf ddiddordeb mewn edrych ar y math o beth y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato yn ei gwestiwn.
Weinidog, mae'n ffaith bod llai na hanner y plant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae ymchwil yn dangos bod annog teithio llesol i'r ysgol yn cael ei lesteirio gan faterion yn ymwneud â faint o draffig a geir y tu allan i giatiau'r ysgol. Rwyf bob amser wedi cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20 mya y tu allan i ysgolion i helpu i gadw ein plant yn ddiogel, ond mae rhai cynghorau yng Nghymru wedi mynd ymhellach, gan gyflwyno 'strydoedd ysgol', lle mae ffyrdd sy'n uniongyrchol y tu allan i giatiau ysgol yn cau i draffig nad yw'n draffig preswyl yn ystod amseroedd gollwng a chodi plant. Mae hyn i'w weld yn ffordd gall o annog disgyblion i gerdded neu feicio i'r ysgol. Felly, Weinidog, pa drafodaeth a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ac eraill ynglŷn ag annog awdurdodau lleol ledled Cymru i fabwysiadu'r dull hwn i helpu i gadw ein disgyblion yn ddiogel ac yn iach yn y dyfodol?
Rydym yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny, ac rydym yn darparu cymorth ariannol er mwyn i hynny ddigwydd hefyd. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud—mae'n bwysig iawn ein bod yn creu'r amgylchedd o amgylch ysgol sy'n hwyluso teithio llesol, yn ogystal â gosod y disgwyliad rheoleiddiol. Mae gosod y fframwaith yn un peth, ond dod o hyd i ffyrdd i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad fydd yn gwneud y gwahaniaeth ymarferol hwnnw, felly rwy'n cymeradwyo'r awdurdodau sy'n gwneud y penderfyniadau hynny'n fawr.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Jack Sargeant.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? TQ704
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno. Ni chaiff ei wneud drwy ddeddfwriaeth ddisynnwyr a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Lywydd, rwyf am ddatgan diddordeb fel aelod undeb llafur balch o Unite the Union a Community. Gadewch inni fod yn glir yma; mae penderfyniad Torïaid y DU i gyflwyno Bil gyda'r nod o ddiswyddo gweithwyr allweddol yn sarhad ar ddemocratiaeth. Lywydd, bydd y ddeddfwriaeth Dorïaidd hon yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio'n ddemocrataidd i streicio, y gellir eu gorfodi i weithio, ac yna eu diswyddo os nad ydynt yn cydymffurfio. Dylem geisio gweithio gyda'n gweithwyr allweddol a'n cydweithwyr undebau llafur, nid ceisio diswyddo pobl weithgar. Gwnsler Cyffredinol, mae Cyngres yr Undebau Llafur yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn dangos bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benderfynol o ymosod ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gyngres. Mae'r ddeddfwriaeth warthus hon wedi dangos yn union beth yw Ceidwadwyr y DU mewn gwirionedd—plaid sy'n gwrthwynebu hawliau gweithwyr yr ymladdwyd yn galed i'w hennill. Gwnsler Cyffredinol, a gaf fi ofyn ichi: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Bil wedi ei gam-enwi'n wir. Mewn gwirionedd, 'Bil diswyddo'r nyrsys' ydyw, 'Bil diswyddo'r gweithiwr ambiwlans' ydyw, neu 'Fil diddymu'r hawl i streicio'. Mae'n dileu'r amddiffyniadau cysegredig i weithwyr ac undebau llafur a gafodd eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ym 1906, deddfwriaeth a gyflwynwyd wedi achos Cwm Taf ym 1900, a gododd yn sgil anghydfod a ddigwyddodd yn fy etholaeth i ym Mhontypridd mewn gwirionedd. Arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Undebol 1906, a sefydlodd egwyddorion sylfaenol. Byddai'r hyn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei wneud yn mynd â hawliau gweithwyr nôl i'r hyn oeddent 120 o flynyddoedd yn ôl.
Yr hyn y gallaf ei ddweud ar ran Llywodraeth Cymru yw bod yna ddiffyg ymgysylltiad llwyr wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Daeth yr hysbysiad cyntaf ddydd Iau diwethaf, ychydig wedi datganiad i'r wasg Llywodraeth y DU. Yr ohebiaeth gyntaf a gefais oedd cael fy nghopïo i mewn i lythyr at Brif Weinidog Cymru gan y Gweinidog Hollinrake ar 10 Ionawr. Ddoe oedd hynny. Nid dyma'r ffordd i ddatrys anghydfodau. Mae'r diffyg ymgysylltiad hwn yn gwbl annerbyniol. Mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl ddiangen. Lle ceir materion brys sydd angen eu gweithredu, mae'r undebau llafur bob amser wedi eu gweithredu. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld yr eitemau y diwrnod o'r blaen am linell biced GMB yng Nghymru—ac rwy'n aelod o GMB—o weithwyr ambiwlans. Y foment y daeth neges fod yna alwad frys, fe adawsant y llinell biced yn syth; fe aethant ac fe wnaethant y gwaith penodol hwnnw. Mae hynny bob amser wedi digwydd. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymosodiad sylfaenol ar ryddid, ac fel Llywodraeth Cymru, ni fyddwn yn rhoi unrhyw hygrededd na chefnogaeth iddi. Mae'r ddeddfwriaeth yn anymarferol hefyd yn fy marn i. Nid yw wedi gweithio mewn gwledydd eraill. Ni fydd yn gweithio yma. Ymgais ydyw i osgoi ymdrin â'r broblem go iawn yn y wlad hon, sef darparu cyllid priodol i weithwyr y sector cyhoeddus yn Lloegr ac i Lywodraethau datganoledig, er mwyn galluogi ein gweithwyr sector cyhoeddus i gael eu talu'n briodol. Yn fy marn i, mae'n weithred o anobaith gan Lywodraeth sydd wedi colli gafael ac wedi colli rheolaeth.
Gwnsler Cyffredinol, fel rhan o'ch asesiad, a ydych wedi ystyried y ffaith bod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae Cyngres yr Undebau Llafur yn gefnogol iddo, wedi derbyn bod y lefelau gwasanaeth gofynnol yn ffordd gymesur o gydbwyso'r hawl i streicio â'r angen i ddiogelu'r cyhoedd yn ehangach? Yn ail, ddoe, yn ei datganiad llafar, dywedodd eich cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, fod
'yr effaith ar allu'r Gwasanaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar...wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein systemau ni'.
A ydych yn cytuno gydag asesiad eich cyd-Weinidog? Os ydych, onid ydych chi hefyd felly yn cytuno y byddai gwarantu lefelau gwasanaeth gofynnol, nad ydynt yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr i streicio, yn fuddiol i'r gweithwyr a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Mae eich dehongliad o gyfeiriadau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol at lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael ei gymryd allan o'u cyd-destun yn llwyr, gan ei fod yn cyfeirio at drefniadau gwirfoddol gydag undebau llafur, ac mae'r rheini wedi bodoli yn y Deyrnas Unedig erioed, ac yng Nghymru yn wir, lle maent yn angenrheidiol. Nid trefniant gwirfoddol yw hyn; dyma gyfyngiad statudol ar weithwyr a'r gallu i ymateb.
Wrth gwrs, mae'n iawn fod anghydfodau diwydiannol yn achosi aflonyddwch a phwysau. Mae'n amlwg mai bai Llywodraeth y DU yw tarfu a phwysau o'r fath oherwydd ei methiant llwyr i ymgysylltu'n briodol, a'i methiant llwyr i gadw'r addewidion a wnaeth yn ystod COVID—y byddai, ar ôl i ni ddod drwy bandemig COVID, yn parchu ac yn gwobrwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus yn briodol.
Ar y pwynt olaf a wnaethoch—nad yw'n dileu hawliau—rwy'n siŵr nad ydych wedi darllen y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil. Fe ddarllenaf yr adran ar effaith a diben y Bil: mae gweithiwr a enwir mewn hysbysiad gwaith ar gyfer diwrnod streic penodol ac sy'n derbyn copi o'r hysbysiad gwaith hwnnw gan y cyflogwr cyn y diwrnod streic hwnnw'n colli'r amddiffyniad rhag diswyddo. Bil 'diswyddo gweithwyr y sector cyhoeddus' yw hwn.
Heddiw, gyda Carolyn Thomas, cefais y pleser o gyd-noddi digwyddiad galw heibio gydag aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Fel y bydd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn gwybod, roedd yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud am ddifaterwch y Post Brenhinol tuag at ei weithwyr yn frawychus: newid gwaith parhaol yn waith dros dro, toriadau cyflog, amodau dirywiol, ymgais hyd yn oed i ddileu tâl salwch statudol, sy'n gwbl anghyfreithlon, gyda llaw—'Amazon ar steroids', fel y dywedodd un aelod o'r undeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae streicio'n allweddol i amddiffyn ein gwasanaethau yn erbyn hyn. Mae'n allweddol i hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr, ac mae'n warthus a dweud y gwir, fod y Torïaid, yn hytrach na mynd i'r afael â'r argyfwng economaidd systemig hwn, yn dewis ymosod ar weithwyr.
Mae'n amlwg i mi, fel y dylai fod i bawb yn y Siambr hon, nad yw hawliau gweithwyr yn ddiogel yn nwylo San Steffan. Ni all gweithwyr barhau i ymddiried a dibynnu ar ewyllys da na chyfansoddiad gwleidyddol San Steffan, ac fel y dywedodd un aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wrthyf, efallai mai Cymru fydd y cadarnle olaf i waith teg dros y blynyddoedd nesaf. Pe bai'r Llywodraeth o ddifrif am ddiogelu hawl ddemocrataidd sylfaenol gweithwyr i streicio, byddai'r Llywodraeth yn cefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth, fel y gallem sicrhau na fydd yr hawliau hynny dan fygythiad byth eto. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi gefnogi hynny?
Diolch am y sylwadau hynny. Maent yn sylwadau rwy'n cytuno â hwy, a gallaf ddweud, yn sicr, wrth inni edrych ar y Bil, wrth inni archwilio ac ystyried ei fanylion yn llawer mwy gofalus, y byddwn yn edrych ar bob cyfle i sicrhau nad yw'n effeithio ar y bartneriaeth gymdeithasol sydd gennym yng Nghymru, a bod yr amddiffyniadau sylfaenol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn rhai y byddwn yn glynu wrthynt a byddwn yn ymrwymo i'r safonau rydym eisoes wedi'u croesawu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur. Nid wyf yn ymwybodol fod yna unrhyw gyflogwyr sydd eisiau gweld y ddeddfwriaeth hon. Mewn gwirionedd, mae'r holl wybodaeth a welaf gan gyflogwyr yn dangos eu bod yn ei hystyried nid yn unig yn ddiangen ac yn anymarferol, ond ei bod yn creu aflonyddwch pellach ac yn tynnu sylw oddi ar gydfargeinio da ac ymgysylltiad priodol ag undebau llafur.
Rwy'n gweld y ddeddfwriaeth hon, mewn rhai ffyrdd, fel un sydd â nifer o gymhellion. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn meddwl ei bod yn ymarferol. Credaf mai ymgais ydyw yn gyntaf i lychwino enw da—rywsut, maent yn meddwl y gallai hyn dorri cefnogaeth y cyhoedd i'r rhai sy'n rhan o'r anghydfodau hyn ar hyn o bryd, y bydd rywsut yn rhoi tir uwch iddynt yn hynny. Neu'n ail, y bydd yn annog pobl i beidio â rhoi cefnogaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn methu ym mhob un o'r rheini. Rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw oddi ar wir ddyletswydd y Llywodraeth, a gwir ddyletswydd y Llywodraeth yw ymgysylltu â'r undebau llafur hynny pan fydd gennych anghydfod o'r fath.
Rwy'n credu bod gennym gysylltiad uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud—cyswllt ariannol uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n effeithio ar i ba raddau y gallwn ymgysylltu a'r pethau y gallwn eu gwneud. Ond rwy'n gwybod ymhlith fy holl gyd-Aelodau ac rwy'n gwybod ymhlith yr holl bobl y siaradaf â hwy, boed yn aelodau o blaid wleidyddol neu fel arall, fod cryn gefnogaeth a chydymdeimlad allan yno, yn ogystal â chydnabyddiaeth. Ac rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth oherwydd yr addewidion a wnaed yn ystod cyfnod COVID y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. A dyma enghraifft o Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd nid yn unig allan o gysylltiad, ond sy'n dychwelyd at ei hen ffyrdd. Ac a gaf fi wneud un sylw? Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol siomedig, ar adeg pan fo gennym ddeddfwriaeth fel hon, pan fo gennym y lefelau hyn o anghydfod, fod gennym Blaid Dorïaidd yng Nghymru sy'n fodlon ymateb fel pwdls i'r dictad a ddaw o 10 Stryd Downing, yn lle sefyll dros y sector cyhoeddus yng Nghymru, dros weithwyr Cymru a chydweithio â ni i gyflawni'r math hwnnw o newid.
Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan fy aelodaeth o Unite, yr undeb llafur. Credaf, fel y bydd eraill, fod hwn yn ymosodiad a arweinir gan ideoleg ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Mae ganddynt hanes o wneud hyn, ac maent wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth tra bod y Llywodraeth hon wedi bod mewn grym. Gadewch inni fod yn glir wrth gofio hynny. Maent yn mynd ychydig ymhellach nag y gwnaeth Thatcher pan geisiodd ddinistrio undeb y glowyr; mae'r criw hwn yn ceisio dinistrio holl undebau'r sector cyhoeddus. Efallai y gallem osod lefel diogelwch a gwasanaeth gofynnol cyfreithiol ar Lywodraeth y DU, oherwydd mae'r criw presennol yn beryglus o anghymwys. Dim ond plaid hesb a heb syniadau a allai feddwl mai ffordd dda o ddatrys prinder llafur a morâl isel yng ngwasanaethau cyhoeddus allweddol Prydain yw diswyddo gweithwyr sy'n streicio am well tâl ac amodau. Pwy maent yn meddwl fyddai'n cymryd lle'r gweithwyr hynny? Fe wnaethant greu argyfwng economaidd gyda Liz Truss—ni wn os ydych chi'n ei chofio hi. Fe chwalodd hi'r economi, a nawr maent yn ceisio chwalu hawl gweithwyr i streicio. Mae'n gwbl gywilyddus.
Rwy'n credu eich bod yn iawn i ddweud y bydd y cyhoedd yn gweld drwy hyn ac nad oes ganddynt y lefel o gefnogaeth y maent yn gobeithio ei ennill drwy symud y bai am eu methiant i reoli'r argyfwng economaidd a grëwyd ganddynt drwy daflu'r bai i gyd ar y bobl na all fforddio eu morgeisi mwyach o ganlyniad i'r hyn a wnaethant, pobl sy'n methu gwresogi eu cartref a phobl nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain. Dyna mae'r gweithwyr hyn yn streicio amdano, a dyna pam eu bod wedi ymuno ag undeb, er mwyn i'w llais cyfunol allu cael ei glywed.
Diolch am y sylwadau hynny. Mae'n eironig, onid ydyw, fod Llywodraeth y DU o blaid y farchnad rydd, ond y farchnad rydd pan ddaw'n fater o gynyddu elw a chyflog cyfarwyddwyr yn unig. Pan fydd y farchnad rydd yn dweud nad ydym yn talu digon i'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus, ymateb Llywodraeth y DU yw ymyrryd â'r farchnad rydd honno, i'w thanseilio ac i osod cyfyngiadau deddfwriaethol ar allu pobl i wneud unrhyw beth yn ei gylch. A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r sylw a wnaethoch y dylem gael lefel gwasanaeth gofynnol, ac y dylid ei chymhwyso i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd? Ac efallai mai dyna'r rheswm pam rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn cyflwyno gwaharddiad ar ail swyddi. Efallai y bydd hynny'n sicrhau bod ein ASau yn gweithio'n llwyr dros y pethau y cawsant eu hethol i'w gwneud.
Carolyn Thomas, i gloi.
Diolch. A gaf fi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Unite the Union, a gynt yn aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fel gweithiwr post?
Gwnsler Cyffredinol, ddwy flynedd yn ôl, roeddem yn sefyll ar garreg ein drysau'n clapio i'r gweithwyr, a nawr rydym yn gweld beth mae'r Torïaid yn ei feddwl go iawn, drwy gyflwyno Bil i'w diswyddo. Fel y dywedoch chi, caiff y Bil ei adnabod fel Bil 'diswyddo'r gweithwyr'. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed lleisiau gweithwyr, oherwydd yn aml iawn, yr hyn a glywn yw gwirionedd dethol. Er mwyn cuddio'u dirmyg tuag at weithwyr allweddol, maent yn awgrymu bod rheolau'n bodoli mewn mannau eraill, heb gyfaddef bod gan Brydain rai o'r deddfau gwrth-undebau llafur mwyaf ymosodol yn Ewrop eisoes, gan ei gwneud yn anodd iawn i streicio. Rwyf am sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gweithwyr allweddol, fel y cynrychiolwyr y gwnaethom eu cyfarfod heddiw—roedd yn sesiwn dda iawn ac fe wnaeth 20 o ASau ei mynychu a gwrando ar gynrychiolwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. A Gwnsler Cyffredinol, onid yw hyn yn dangos pa mor bwysig yw parhau gyda'r Bil partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a'r bartneriaeth gymdeithasol i ddangos ein bod yn gweithio gyda'r gweithwyr? Diolch.
Diolch am y sylwadau hynny ac rwy'n cytuno â hwy, ac mae gennyf barch enfawr tuag at Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, a'r postmyn sy'n dosbarthu drwy'r holl dywydd gwael. Rydych yn edrych ar y tywydd sydd gennym nawr ac maent allan yno mewn tywydd echrydus yn dosbarthu—yn dosbarthu'r cardiau Nadolig na wnaethom eu cael cyn y Nadolig mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig na allwn fod yn y digwyddiad hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn fynegiant pwysig o gefnogaeth y bobl yn ein cymdeithas i'r gwasanaeth post, i'r gwaith a wnânt, ac mae'n drueni ei fod yn cael ei danseilio a bod yr holl rannau proffidiol ohono wedi cael eu dewis a'u dethol a'u preifateiddio dros y blynyddoedd, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael sylw maes o law.
A gaf fi ddweud, ynglŷn â'r Bil partneriaeth gymdeithasol, fod hon yn ddeddfwriaeth arloesol a gyflwynwyd gan y Gweinidog Hannah Blythyn? Ac rwy'n credu ei bod yn dangos y gwahaniaeth go iawn, mai ni fydd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i greu fframwaith statudol lle mae undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth yn dod at ei gilydd i ddatrys y rhain. Mae'n un o'r rhesymau pam nad ydym eisiau'r ddeddfwriaeth hon; nid ydym am iddi ymyrryd yn y cysylltiadau, yr ymgysylltiad adeiladol sydd gennym i ddatrys y materion hynny, yr anghytundebau hynny, ac i weithio gyda'n gilydd er lles cyffredin pobl Cymru.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac i'w ofyn gan Luke Fletcher.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd yn sgil cyhoeddiad Wizz Air ei fod yn rhoi'r gorau i weithrediadau i mewn ac allan o Gymru? TQ705
Gwnaf. Rydym yn siomedig fod Wizz Air wedi penderfynu tynnu'n ôl o Faes Awyr Caerdydd. Mae ein cynllun adfer COVID ar gyfer y maes awyr yn parhau i fod ar waith, ond yn amlwg, mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn hynod anodd i'r sector awyrennau ac nid yw wedi'i helpu gan y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth i adfer meysydd awyr rhanbarthol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'n flwyddyn newydd, ond yr un hen stori yw hi yn achos Maes Awyr Caerdydd. Y tro hwn, Wizz Air ydyw; ychydig fisoedd yn ôl, fe dynnodd Qatar Airways yn ôl, hynny ar ôl buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru; efallai y gallai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau a wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu unrhyw gymhellion tebyg i Wizz Air ai peidio. Ond beth mae'n mynd i gymryd i'r Llywodraeth wneud Caerdydd yn fwy o lwyddiant? Mae angen iddo fod yn llwyddiant. Rydym am iddo fod yn llwyddiant. Ac a gaf fi ddweud, yn wahanol i'r Torïaid, nid wyf yn credu mai preifateiddio yw'r ateb? Os yw'r sector preifat yn gallu gwneud elw, gall y Llywodraeth wneud hynny hefyd. Soniodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach mewn ateb i Natasha Asghar fod y maes awyr ar y trywydd i wneud elw. Beth yw'r trywydd hwnnw, a pha mor hir y mae'n mynd i gymryd?
Wel, mae'r cynllun achub ac adfer gwerth £42.6 miliwn a gafodd ei roi ar waith yn ystod y pandemig yn parhau i fod ar waith, a'i fwriad yw helpu Maes Awyr Caerdydd i ddod yn hunangynhaliol a phroffidiol yn y dyfodol. Rydym bellach yn gweithio gyda'r maes awyr i ddeall effaith dod â gwasanaeth Wizz Air i ben ar gynnydd y llwybr hwnnw. Yn amlwg, mae'n gwsmer sylweddol i'r maes awyr, ond mae'n werth dweud bod y maes awyr yn parhau i fod yn ffynhonnell fywiog o hediadau i gyrchfannau eraill. Defnyddiais yr awyren i Belfast fy hun yn ddiweddar a chael profiad ardderchog; mae KLM yn hedfan o'r maes awyr hefyd, a TUI, Vueling, Ryanair a Loganair.
Nawr, fel y soniais yn gynharach, mae yna broblem ar draws y sector oherwydd costau ynni cynyddol, oherwydd chwyddiant, oherwydd y dirwasgiad, ac mae'r elw y mae llawer o'r gweithredwyr hyn yn gweithredu o'i fewn yn gul iawn. Mae llawer o'r farchnad yn ymwneud â gwyliau pecyn, sy'n dod yn fwy a mwy cystadleuol, gan olygu bod proffidioldeb yn is. Felly, mae'n farchnad dynn ac yn fodel busnes anodd.
Mae rheolwyr y maes awyr a'r bwrdd yn gryf iawn, ac rydym yn lwcus iawn i'w cael. Ac fe gyfarfûm â hwy yn ddiweddar ac ymweld â'r maes awyr. Rhaid imi ddweud fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r ystod a'r nifer o heriau y maent wedi gorfod eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydym yn ffodus i'w cael. Ac rydym yn wynebu hyn am beth amser, ond yn amlwg, mae'r sector cyfan yn wynebu rhai heriau tymor byr anodd iawn, ond mae hynny'n arbennig o wir am Gaerdydd. Fel y byddwch yn gwybod, mae meysydd awyr eraill wedi cau yn ystod y misoedd diwethaf ledled y Deyrnas Unedig, a dyma'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach—yn absenoldeb strategaeth ar gyfer meysydd awyr rhanbarthol ledled y DU, mae'r meysydd awyr llai'n wynebu costau sefydlog yr un fath ag unrhyw faes awyr arall, mwy o faint. Rhaid iddynt gynnal gwasanaeth tân llawn, er enghraifft. Erbyn hyn, ceir costau cynyddol drwy reoleiddio mewn perthynas â'r offer sgrinio diogelwch gwell y mae angen i bob maes awyr ei gael, ac mae gallu maes awyr llai o faint fel Caerdydd i gynnal cost o'r fath yn heriol iawn. Nawr, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio'n llwyr ar strategaeth hedfan sy'n seiliedig ar Lundain, ac yn amlwg, o'n safbwynt ni, ceir tensiynau ein targedau carbon yn yr adran newid hinsawdd ar y naill law a'r angen i dyfu teithio awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn hyfyw ar y llaw arall. Ac rydym yn cydnabod y tensiynau hyn yn llawn.
Yn fy marn i, pe bai Maes Awyr Caerdydd yn cau, byddai pobl yn hedfan o feysydd awyr eraill. Felly, o safbwynt newid hinsawdd, nid wyf yn gweld unrhyw fudd mewn mynd i'r afael â hyn mewn ffordd unochrog. Mae angen strategaeth hedfan ar gyfer y DU gyfan, ar sail y pedair gwlad, nad yw'n niweidiol i'r hinsawdd, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'n gilydd. Yn y cyfamser, mae angen inni wneud yn siŵr fod Caerdydd yn parhau i weithredu er mwyn bod yn rhan o'r strategaeth honno, a bod Llywodraeth y DU yn cydnabod anghenion meysydd awyr rhanbarthol, y sylfaen costau sefydlog y maent yn ei hwynebu, ac mae eu parodrwydd i helpu gyda hynny'n hanfodol, ond yn anffodus, nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd.
Rwy’n sefyll yma gyda fy helmed dun am fy mhen, gan fod gennyf ymagwedd radical iawn, sef nad wyf o'r farn y dylem roi cymorth i Faes Awyr Caerdydd i aros ar agor o gwbl. Yn ôl yn 2013, arweiniodd y Democratiaid Rhyddfrydol alwadau i atal Llywodraeth Cymru rhag prynu'r maes awyr gan y sector preifat. Ymddengys bod y maes awyr yn bwll diwaelod i arian trethdalwyr—arian parod a allai fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus. Weinidog, fe ddywedoch chi fod angen strategaeth ar draws y wlad ar gyfer meysydd awyr. Mae hynny'n annhebygol o ddigwydd. Mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau yma yng Nghymru a ddylai ganolbwyntio ar y mater pwysicaf, sef yr argyfwng hinsawdd. Ac nid yw meysydd awyr a hedfan yn cefnogi ein gallu i fynd i'r afael â'r hinsawdd.
Clywsom neithiwr am Wizz Air, a chlywais ar y radio fod y rhan fwyaf o bobl yn ne Cymru yn hedfan o Faes Awyr Bryste mewn gwirionedd. Felly, maent yn osgoi Caerdydd yn gyfan gwbl nawr. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gofyn i chi: sut mae bod yn berchen ar faes awyr rhyngwladol, a'r holl allyriadau carbon a ddaw ohono, yn cyd-fynd â'r portffolios pwysig rydych chi a'r Gweinidog yn ymrwymedig iawn iddynt ac wedi gweithio mor galed arnynt? Diolch yn fawr iawn.
Wel, rwy’n parchu safbwynt Jane Dodds, ac fel y gwneuthum gydnabod, yn sicr, ceir rhai tensiynau polisi. Ond ein safbwynt cyffredinol fel Llywodraeth yw bod angen maes awyr ar Gymru. Mae nifer sylweddol o bobl yn dal i hedfan oddi yno a fyddai fel arall yn teithio i feysydd awyr eraill yn y DU. Ac o safbwynt busnes a’r economi, mae cael maes awyr rhanbarthol yn parhau i fod yn rhan gref o’r cynnig. Er enghraifft, ni fyddai rhai o’r digwyddiadau mawr sy’n cael eu cynnal yn y stadiwm yng Nghaerdydd yn cael eu denu i Gaerdydd oni bai bod maes awyr yma. Hefyd, mae nifer o’r cwmnïau gweithgynhyrchu mawr yn ne Cymru yn hedfan swyddogion gweithredol i mewn ac allan o’r maes awyr yn rheolaidd—llawer ohonynt ar awyrennau preifat, ond serch hynny, mae’n ased economaidd pwysig i’r rhanbarth. Ond mae yna densiynau.
O ran y swm rydym yn ei wario, fel rwy'n dweud, roedd y pecyn achub ac adfer yn £42.6 miliwn, ac mae hwnnw wedi’i gynllunio i raddau helaeth i gael ei ad-dalu. Fe wnaethom ddileu rhywfaint o'r ddyled. Ond cymharwch hynny â’r £1 biliwn rydym yn ei wario ar fetro cymoedd de Cymru, ac rwy'n credu bod yr honiadau y mae’n eu gwneud ynglŷn â'r budd i drafnidiaeth gyhoeddus yn sgil cau’r maes awyr yn gor-ddweud pethau. Ond mae'n parhau i fod yn benbleth i bob un ohonom, wrth inni ddod yn nes ac yn nes at darged 2050, o ystyried bod lefelau hedfan wedi bod yn cynyddu ac yn arwain at rai o'r allyriadau mwyaf niweidiol, mae hynny'n rhywbeth—. Fel y dywedaf, fel DU, mae angen inni feddwl am ddyfodol teithiau awyr. Mae’r diwydiant yn gwneud honiadau cynyddol am effeithlonrwydd cynyddol, am fiodanwydd, ac mae gennym ddiddordeb yn eu harchwilio wrth gwrs, ac rydym am i faes awyr Caerdydd chwarae ei ran yn hynny. Rydym hefyd am wneud y mwyaf o rôl Caerdydd fel hyb cludo nwyddau, ac mae rheolwyr y maes awyr yn gwneud llawer iawn i weld a allant ddenu ffrydiau refeniw ychwanegol. Felly, rwy'n credu y dylem sefyll gyda hwy. Rwy'n credu bod cefnogaeth yng Nghymru i gynnal maes awyr, ond nid yw’n fater syml o gwbl.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw Gareth Bale. Rwy’n siŵr fod Gareth Bale yn hapus anymwybodol ei fod ar fin bod yn destun nid un ond tri datganiad 90 eiliad. Ac rwy’n amau, yn fy nghyfnod fel Llywydd, y bydd unrhyw unigolyn arall, byw neu farw, yn haeddu triawd o ddatganiadau. Mae Gareth Bale wedi bod yn bêl-droediwr ardderchog, yn arweinydd ardderchog. Mae wedi galluogi pob un ohonom fel Cymry i ddal ein pennau ychydig bach yn uwch, ac wrth ddiolch iddo, dylem barhau i ddal ein pennau'n uchel.
Diolch, felly, i Gareth Bale.
A galwaf yn awr ar dri Aelod i dalu teyrnged i’n trysor cenedlaethol, Gareth Bale. Ac fe ddechreuwn gyda Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ac fel y dywedoch chi, yr wythnos hon, clywsom y newyddion fod y pêl-droediwr a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau i dîm dynion Cymru, Gareth Bale, yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol. Lywydd, nid yw'r ystadegau ar eu pennau eu hunain yn rhoi darlun llawn o’r llawenydd a roddodd Bale i bob un ohonom. Bydd ein cenedl falch yn ddiolchgar am byth o fod wedi bod yn dyst i'w ddawn aruthrol. Mae cyflawniadau Gareth yn rhyfeddol: pum Cynghrair y Pencampwyr ar lefel clwb—anhygoel. Ond Lywydd, fel y dywedodd ef ei hun, y ddraig ar ei grys oedd y cyfan roedd ei angen arno mewn gwirionedd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y gynhadledd i’r wasg gan Rob Page yr wythnos hon, lle talodd deyrnged i Gareth, ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd:
'I mi, mae Gareth Bale yn debyg i sut roedd Gary Speed pan oedd yn gapten. Mae pawb yn gyfartal, ac fe ysgogai'r amgylchedd hwnnw.'
Wel, Lywydd, fel bachgen ifanc yn gwylio Gary Speed, ef yn sicr oedd fy arwr fel chwaraewr Cymru a Newcastle United, a gallaf gytuno’n llwyr ag asesiad Rob Page o gapteniaeth Bale. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran y Senedd hon pan ddywedaf,
diolch am bopeth, Gareth Bale.
Ac yn olaf, Lywydd, viva Gareth Bale.
Pan wnaeth Gareth Bale ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad, fel eilydd yn erbyn Trinidad a Tobago nôl yn 2006, roedden ni yn gwybod, onid oedden ni, fel cenedl, fod gennym ni dalent arbennig, ond doedd neb, dwi ddim yn meddwl, wedi rhagweld mor eithriadol fyddai ei gyfraniad a'i yrfa bêl-droed: torri record y byd, wrth gwrs, am ffi trosglwyddo pan aeth e i Real Madrid, ac yno fe enillodd e Gynghrair y Pencampwyr bum gwaith; ennill yr UEFA Super Cup deirgwaith; cwpan clybiau’r byd deirgwaith; ennill La Liga deirgwaith; ennill y Copa del Rey, y Supercopa, Cwpan yr MLS, wrth gwrs, yn yr Unol Daleithiau y llynedd; ennill 111 o gapiau i’w wlad—y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—sgorio 41 gôl i’w wlad—eto, y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—mynd â Chymru ddwywaith i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2016; ac, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, y greal sanctaidd i nifer ohonom ni gefnogwr pêl-droed Cymru—arwain ei wlad yn gapten i gystadlu yn nghwpan y byd. Mae e’n llysgennad godidog i Gymru, ac roedd gweld un o’r 'Galácticos' yn morio canu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan yn foment arwyddocaol i’r iaith Gymraeg, ac yn tanlinellu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Does dim geiriau all wneud cyfiawnder â chyfraniad y bachgen diymhongar oedd yn dweud mai’r ddraig ar ei grys oedd yr unig beth yr oedd ei angen arno fe.
Diolch, Gareth, nid yn unig am wneud inni gredu, ond am brofi y gallwn. Diolch, hefyd, nid yn unig am fod yn Gymro, ond am fynd â Chymru gyda thi i bobman o amgylch y byd. Diolch hefyd am ddweud bod gennyt gefn gwael. Viva Gareth Bale.
Credaf ein bod wedi cael ein bendithio yng Nghymru gyda llinach hir o bêl-droedwyr bendigedig, o Billy Meredith i John Charles, Mark Hughes, Ian Rush ac Aaron Ramsey, i enwi dim ond rhai. Fel cenedl fach, credaf ein bod bob amser wedi gwneud y tu hwnt i'r disgwyl gyda'r doniau rydym wedi'u cynhyrchu ar y cae pêl-droed. Er na welais dîm 1958 yn chwarae, ac nid wyf ychwaith yn cofio'r llu o dimau a ddaeth mor agos yn y ganrif ddiwethaf, rwy'n cofio'n iawn sut olwg oedd ar gyfnod diwethaf pêl-droed Cymru, gan y credaf y byddwn bob amser yn edrych yn ôl ar ddegawd cyntaf y ganrif hon fel y cyfnod cyn Bale. Roedd gennym dimau talentog, unigolion gwych a daethom yn agos ambell dro, ond nid oedd gennym erioed Bale.
Ni all y rhan fwyaf ohonom ond breuddwydio am gael yr un sgiliau yn y Siambr hon ag a oedd gan Gareth Bale ar y cae pêl-droed. Mae ei restr o gyflawniadau'n wirioneddol anhygoel: ymddangosiad cyntaf i Southampton yn 16 oed; chwaraewr y flwyddyn Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol ddwy waith; y ffi trosglwyddo uchaf erioed ar y pryd; tri theitl La Liga; Copa del Rey; y nifer fwyaf o gapiau a goliau i dîm dynion Cymru; a phump—ie, pump—tlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Bydd cefnogwyr Lerpwl yn cofio’r un olaf yn enwedig, lle daeth Bale oddi ar y fainc yn Kyiv yn erbyn Lerpwl a throi’r gêm ar ei phen gyda gôl odidog a pherfformiad seren y gêm i ennill tlws mwyaf y byd pêl-droed ar ei ben ei hun, bron â bod, gan adael pobl fel Cristiano Ronaldo a Mohamed Salah yn ei gysgod ar lwyfan mwyaf y byd.
Ond gallech ddweud mai gyda Chymru roedd Bale ar ei orau. Mae yna reswm pam y bu iddo ddal y faner a ddywedai, 'Cymru. Golff. Madrid. Yn y drefn honno.' Roedd yn allweddol yn haf gorau fy mywyd, mae'n debyg, yn 2016, wrth inni fynd y tu hwnt i'n holl freuddwydion a chyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth yr Ewros, ac yna fe ailadroddodd yr orchest y llynedd gan fynd â ni i gwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958. Bydd yn gyfrifol am yr uchafbwyntiau na fyddem ni fel cefnogwyr pêl-droed Cymru erioed wedi ystyried eu bod yn bosibl cyn Bale, ac mae wedi rhoi ein hyder yn ôl i ni, ar y cae pêl-droed ac fel cenedl. Gwn fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf mai ef yw chwaraewr gorau Cymru erioed. Ni fydd Bale arall byth, ond byddaf yn fythol ddiolchgar ein bod wedi cael yr un hwn. Diolch, Gareth.
Diolch yn fawr, Gareth Bale, ac edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf i ti. Byddwn yn dy wylio a byddi'n parhau i fod yn drysor cenedlaethol i ni. Yma o hyd, rwy'n siŵr.
Eitem 5, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig yma—Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8169 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:
Yn penodi Dr Kathryn Chamberlain yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 16 Mawrth 2023 tan 15 Mawrth 2027.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i gynnig y cynnig hwn heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid a gofyn i’r Senedd gytuno i benodi Dr Kathryn Chamberlain yn gadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae gan Dr Kathryn Chamberlain brofiad sylweddol o arwain ar lefel uwch yn y sector cyhoeddus a chefndir cryf ym maes archwilio a llywodraethu. Yn ogystal, mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar lefel bwrdd mewn rolau uwch gweithredol ac anweithredol.
Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau hefyd at y ffaith bod adroddiad y pwyllgor ar benodi aelodau anweithredol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion am y broses recriwtio, gan gynnwys y broses o benodi David Francis i’w ail dymor fel aelod anweithredol.
Hoffwn hefyd gofnodi diolch y pwyllgor i’r cadeirydd sy’n ymadael, sef Lindsay Foyster, gan gydnabod ei chyfraniad amhrisiadwy at waith Swyddfa Archwilio Cymru dros yr wyth mlynedd diwethaf, a hynny fel aelod anweithredol o 2015 ac fel cadeirydd ers 2020. Mae Lindsay wedi arwain bwrdd cynhwysol a chydweithredol sy’n canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau statudol a strategol Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny yn ystod cyfnod arbennig o heriol. Rydym yn ddiolchgar am ei stiwardiaeth o’r bwrdd, am ei hymroddiad anhunanol i wasanaeth cyhoeddus, ac am roi seiliau cadarn i’r rhai sy’n ei dilyn.
Gofynnaf i’r Senedd dderbyn y cynnig. Diolch yn fawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Ydych chi am ychwanegu unrhyw beth arall? Na, ocê. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Asedau Cymunedol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Cynnig NDM8170 John Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Asedau Cymunedol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2022.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar asedau cymunedol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y grwpiau sy’n ymwneud â’r asedau cymunedol y buom yn ymweld â hwy: Maindee Unlimited, Canolfan Gymunedol y Fenni, Sinema Neuadd y Farchnad ym Mryn-mawr, Antur Nantlle, Ty’n Llan, a Phartneriaeth Ogwen. Roedd yn ddefnyddiol iawn inni gyfarfod â'r grwpiau hyn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau uniongyrchol. Fe wnaeth eu tystiolaeth ein helpu ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol yn well, yn ogystal â rhai o’r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau.
Mae asedau cymunedol yn gwneud cyfraniad mawr i fywydau’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae llawer o wahanol fathau o asedau ledled Cymru a llawer o ffyrdd y gall y rhain wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u llesiant. Gallant fod yn adeiladau, megis canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thafarndai, sy'n gweithredu fel hybiau ar gyfer eu hardaloedd lleol a lle gall pobl gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, dysgu sgiliau newydd, dod ynghyd i gymdeithasu a rhannu profiadau. Gallant fod yn lleoedd, fel parciau a mannau gwyrdd, lle gall pobl ymlacio neu ymarfer corff a lle gall plant chwarae; gallant hyd yn oed ddarparu cartrefi i bobl.
Yng Nghymru, gallwn fod yn falch o frwdfrydedd ac ymrwymiad gwych cymunedau ledled y wlad i gynnal asedau lleol a sicrhau eu cynaliadwyedd. Clywsom fod pobl yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith o redeg prosiectau cymunedol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at amwynderau yn eu hardaloedd lleol, nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw rhedeg ased cymunedol yn orchwyl hawdd. Yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad, mae angen digon o amser ac arian hefyd. Hoffem ei gwneud yn haws i grwpiau lleol allu cymryd rhan yn y gwaith o redeg yr asedau sy’n iawn i’w cymunedau. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom 16 o argymhellion a fydd yn ein barn ni yn helpu i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer grymuso cymunedau'n well. Mae wyth o’r argymhellion hynny wedi’u derbyn yn llawn a saith wedi’u derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Gwrthodwyd un.
Ein hargymhelliad trosfwaol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i ysgogi syniadau arloesol ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod angen esbonio rhai materion ymhellach, felly, fe wnaethom argymell y gallai’r comisiwn wneud gwaith o’r fath. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi nodi ei bod yn bwriadu sefydlu comisiwn o’r fath, ac eto, dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymau dros beidio â derbyn yr argymhelliad yn llawn. Awgrymai ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru y gallai’r amserlen o 12 mis a argymhellwyd gennym ar gyfer sefydlu’r corff hwnnw fod yn broblemus. Hoffwn ofyn, felly, i’r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â faint o amser sydd ei angen i sefydlu comisiwn. Mae Cwmpas eisoes wedi galw am gomisiwn, a gwyddom fod rhanddeiliaid ymroddedig eraill yn barod ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith angenrheidiol. Felly, fel pwyllgor, credwn y dylai'r gwaith allu dechrau'n weddol gyflym.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodais, mae nifer o'n hargymhellion eraill yn cyfeirio at waith y credwn y gellid ei wneud gan gomisiwn, gan gynnwys archwilio gyda rhanddeiliaid y pecyn cymorth a ddylai fod ar gael i grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhedeg ased cymunedol. Nid yw'n broses hawdd, a bydd angen cymorth gwahanol ar grwpiau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Ac wrth gwrs, efallai y bydd gan rai cymunedau fynediad parod at bobl a chanddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen, ond bydd angen i eraill ddibynnu ar gymorth allanol. Beth bynnag y bo’u hamgylchiadau, rydym am i bob cymuned gael cyfle i fwrw ymlaen â phrosiectau.
Er bod ffynonellau amrywiol o gyngor a chymorth eisoes ar gael, clywsom nad yw'n hawdd cael mynediad atynt, yn enwedig i grwpiau sydd newydd eu sefydlu ac a fydd yn llai cyfarwydd â’r trefniadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at rai o'r ffynonellau gwybodaeth, ond nid yw'n mynd i'r afael â hygyrchedd yr wybodaeth honno. Credwn ei bod yn bwysig dysgu o brofiadau pobl sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o redeg asedau cymunedol i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth cywir ar gael, a dyna pam y credwn mai comisiwn o arbenigwyr a fyddai yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn. Pan roddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol dystiolaeth i ni, cyfeiriodd at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar bolisi cymunedol newydd, gan gynnwys archwilio'r angen am hyb canolog ar gyfer cyngor a gwybodaeth. Credwn fod y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni wedi dangos angen clir am ddarpariaeth o’r fath, ac felly, rwyf am ofyn i’r Gweinidog egluro pam na chafodd ein hargymhelliad ei dderbyn yn llawn.
Clywsom am yr heriau a wynebir yn aml gan grwpiau sy’n caffael asedau sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae'n cymryd amser i grwpiau a ffurfiwyd o'r newydd i sefydlu eu hunain a sicrhau cyllid, a gall fod yn anodd cystadlu yn erbyn unigolion neu fusnesau preifat a chanddynt gyllid at eu defnydd. Dywedodd sawl tyst wrthym fod gan gymunedau yng Nghymru lawer llai o bwerau na’r rheini yn yr Alban a Lloegr. Mae hawl y gymuned i brynu wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2003, ac mae gan gymunedau Lloegr hawl i wneud cynigion am asedau drwy Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae amser wedi symud yn ei flaen, ac rydym yn pryderu bod cymunedau Cymru yn cael eu hamddifadu o bwerau tebyg.
Gwnaethom argymell hefyd y dylai comisiwn archwilio a oes angen deddfwriaeth i rymuso cymunedau a rhoi cyfle cyfartal iddynt wrth gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat i brynu asedau o ddiddordeb. Felly, credwn fod sefydlu comisiwn yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â nifer o’n hargymhellion a’r rheini a wnaed gan randdeiliaid nodedig, gan gynnwys Cwmpas a’r Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n hollbwysig felly fod y gwaith o sefydlu comisiwn yn dechrau fel mater o frys, fel nad yw cymunedau Cymru yn colli cyfleoedd i gaffael a rhedeg asedau a all wella llesiant eu poblogaethau lleol.
Rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad i sefydlu cronfa dir cymunedol i Gymru wedi’i wrthod. Mae cronfeydd tebyg yn bodoli yn yr Alban a Lloegr, a galwodd sawl rhanddeiliad am gronfa yma yng Nghymru.
Fel pwyllgor, rydym yn bryderus iawn ynghylch y dystiolaeth gynyddol a glywn am yr anawsterau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu wrth sicrhau llety i’w rentu neu ei brynu. Credwn fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhoi cyfle i gymunedau ddarparu eu hatebion tai eu hunain. Er na fydd hyn yn opsiwn ymarferol i bawb, hoffem weld prosesau’n cael eu symleiddio fel bod cymunedau’n gallu cael mynediad at y tir a’r cyllid sydd ei angen arnynt i adeiladu cartrefi priodol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y grant tai cymdeithasol, y gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad ato os ydynt yn partneru â landlord cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn pryderu nad yw’r dull hwn wedi sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i grwpiau cymunedol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei hymateb i’r argymhelliad hwn.
Ddirprwy Lywydd, mae mynediad at dai fforddiadwy yn fater pwysig iawn i ni fel pwyllgor, ac i bob un ohonom yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac i bobl ledled Cymru. Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd at hyn yn ystod tymor y chweched Senedd i weld sut mae ein hargymhellion yn cael eu datblygu. Diolch yn fawr.
A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am ei gadeiryddiaeth a’i waith yn llunio adroddiad y pwyllgor heddiw, ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y Gweinidogion a roddodd dystiolaeth, y clercod, tîm cymorth y pwyllgor, wrth gwrs, a'r llu o sefydliadau a ddarparodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad rydym yn ei ystyried yma heddiw?
Ac fel yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor heddiw ar asedau cymunedol, maent yn gwneud cyfraniad mor fawr i fywydau pobl sy'n byw yn ein cymunedau, a chredaf weithiau ein bod yn anghofio am hynny, ac yn anffodus, ni chofiwn hynny nes y bydd hi'n rhy hwyr, pan nad yw’r adeiladau cymunedol hynod bwysig hynny, yr asedau, y darnau o dir ar gael i’n cymunedau mwyach. Credaf ei bod yn bwysig i bob un ohonom roi eiliad i ystyried yr asedau sydd yn ein cymunedau, ynghanol y bobl rydym yn eu cynrychioli, i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer ein cymunedau.
Drwy ein gwaith fel pwyllgor, gwelsom fod yna lawer o wahanol fathau o asedau cymunedol ledled Cymru, gyda phob un ohonynt yn darparu manteision aruthrol i’r bobl rydym yn eu cynrychioli a’u llesiant. Mae’r asedau hynny’n amrywio o lyfrgelloedd i dafarndai, y mae pob un ohonom i'n gweld yn eu gwerthfawrogi, canolfannau cymunedol, ac yna mae’n rhaid inni fynd i’r canolfannau hamdden hefyd. Ond mae ystod mor fawr o'r asedau cymunedol hyn yn gwneud gwahaniaeth. Credaf fod hynny'n rhan o’r her, pan fyddwn yn sôn am asedau cymunedol, gyda grŵp mor eang o bethau y gallem fod yn sôn amdanynt yma. Ond maent yn aml yn hybiau hollbwysig mewn ardaloedd lleol, sy'n galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, i ddod at ei gilydd, i gymdeithasu, i gael gwared ar rai o'r rhwystrau ym mywydau pobl sy'n eu hatal rhag cyfarfod â ffrindiau. Maent yn bwysig i gymunedau lleol er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd i rymuso cymunedau hefyd.
Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, a oedd yn galw arnynt i adolygu a diweddaru’r canllawiau presennol ar drosglwyddo asedau cymunedol. Credaf fod hyn i'w groesawu, gan yr ymddengys bod anghysondeb sylweddol ledled Cymru, ond hefyd, ar adegau, o fewn awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo asedau. Roeddwn hefyd yn falch fod argymhelliad 12, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa asedau cymunedol, wedi’i dderbyn yno hefyd.
Wrth gwrs, un agwedd allweddol ar sicrhau pwysigrwydd a llwyddiant asedau cymunedol yw rhannu arferion da. Fe roddaf ychydig funudau i ganolbwyntio ar rannu'r arferion da hynny, gan ei fod yn rhywbeth a gododd dro ar ôl tro pan fuom, fel aelodau'r pwyllgor, yn ymweld â nifer o'r asedau hyn sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned. Cefais y fraint o fynd draw i rai o’r lleoedd hyn, gan gynnwys Antur Nantlle, Ty’n Llan a Phartneriaeth Ogwen hefyd, ac roedd gan bob un ohonynt brofiad ardderchog ac arbenigedd mewn perthynas â'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol, ond roedd pob un ohonynt yn dweud hefyd y byddent yn hoffi gweithio'n agosach gyda sefydliadau eraill sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg, i ddeall, i ddysgu ac i rannu rhywfaint o'r arferion gorau hynny. Gan fod y sefydliadau sydd wedi gwneud hyn unwaith wedi bod drwy'r boen, maent yn gwybod ble mae'r elfennau trafferthus ac maent yn fwy na pharod i rannu a gweithio gydag eraill, gan y gall fod yn eithaf brawychus, wrth gwrs, pan ddaw'n fater o gymryd rheolaeth ar ased cymunedol. Felly, credaf fod angen deall y gwaith hwnnw'n well, a sicrhau ein bod yn cysylltu'r rheini sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw â'r rheini sydd am fynd drwy'r profiad hwnnw hefyd.
Buom yn sôn am nifer o'r rhwystrau a'r heriau sy’n wynebu cymunedau lleol pan fyddant yn ceisio rheoli'r asedau cymunedol hyn, ac fel y nodwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, ymddengys bod cymunedau Cymru ymhlith y rhai sydd wedi’u grymuso leiaf ym Mhrydain, gyda’r system gyfyngedig sy'n bodoli ar hyn o bryd
'yn cael ei gyrru o’r brig i’r bôn.'
Ceir pryder hefyd ar draws rhai awdurdodau lleol—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Yn gryno iawn, a ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru wedi methu defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi ers cyflwyno Deddf Lleoliaeth 2011 y DU i gyflwyno cofrestr asedau cymunedol a hawl gymunedol i wneud cynigion, i helpu i fynd i’r afael â’r dull o’r brig i’r bôn hwnnw y cyfeiriwch ato?
Yn sicr, credaf fod hynny'n bryder gwirioneddol, ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ni fel pwyllgor ymchwilio iddo, ac rydym yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru'n awyddus i edrych ymhellach arno eu hunain hefyd. A Mark Isherwood, credaf eich bod yn llygad eich lle i’w godi yma y prynhawn yma.
Ond ceir pryder hefyd mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru fod llawer yn amharod i roi neu drosglwyddo eu hasedau. Weithiau, yn hytrach na throsglwyddo ased, credaf mai’r hyn sy’n digwydd yn aml yw trosglwyddo atebolrwydd, sy'n ymagwedd gwbl anghywir gan lawer o awdurdodau lleol. Felly, roedd yn dda gennyf weld argymhelliad 4, sy’n nodi'n glir fod y broses drosglwyddo asedau cymunedol nid yn unig yn berthnasol i awdurdodau lleol, ond hefyd i bob corff cyhoeddus. Credaf fod cyfle gwych ar draws y cyrff cyhoeddus i sicrhau bod yr asedau hynny'n cael eu trosglwyddo'n effeithiol.
I agosáu at y diwedd, Ddirprwy Lywydd, mae’n amlwg fod angen gwneud mwy i hwyluso mwy o rym a chydweithio i gymunedau lleol, gyda phobl leol yn y sefyllfa orau i ddeall a thrin materion lleol. Credaf fod gwir angen brys nawr i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Gwyddom fod cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu cyfnod heriol o’n blaenau, pan fydd defnyddio asedau a rheoli asedau'n rhan bwysig o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy’n hyderus fod ein cymunedau’n barod, yn abl ac yn awyddus i ymgymryd â'r asedau hyn, ond fod angen yr offer a’r cymorth cywir arnynt. Hoffwn ddiolch, unwaith eto, i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad pwysig hwn ar asedau cymunedol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso cymunedau—cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd hon. Ond, er gwaethaf ein bod wedi cytuno ar y ffordd ymlaen fel Senedd, y gwir ydy nad oes yna fawr ddim wedi digwydd, a bydd dim yn digwydd yn fuan chwaith.
Roedd hi’n hyfryd cael bod yn rhan o’r ymchwiliad yma, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ac ymweld â rhai o’r cynlluniau cymunedol sydd ar y gweill. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith bod Dwyfor Meirionnydd yn arwain y gad pan fo’n dod i ddatblygu mentrau cymunedol, a bod gennym ni hanes balch iawn o hyn yng Ngwynedd, efo’r newyddion diweddaraf, er enghraifft, fod Menter y Glan ym Mhennal wedi llwyddo i godi’r pres angenrheidiol fel cymuned i brynu tafarn Glan yr Afon. Felly, llongyfarchiadau iddyn nhw.
Yn wir, gellir olrhain y cyfan yn ôl i fenter gymunedol gyntaf y Deyrnas Gyfunol, a sefydlwyd yn Llanaelhaearn—menter Aelhaearn, a ffurfiwyd gan y diweddar a’r dihafal Dr Carl Clowes a thrigolion yr ardal. Ond, er mai Cymru oedd yn arwain yn y maes yma yn ôl yn y 1970au, mae’n fy nhristáu ein bod ni bellach mor bell ar ei hôl hi, yn enwedig wrth edrych ar yr Alban a Lloegr a’r grymoedd deddfwriaethol sydd gan gymunedau yno pan fo’n dod i berchnogaeth ar asedau cymunedol a datblygu mentrau cydweithredol cymunedol.
Roedd yr ymchwiliad yma yn ddifyr oherwydd y cyfoeth o dystiolaeth y mae wedi’i thynnu ynghyd, yn dangos yn glir buddiannau hyrwyddo mentrau cymunedol yma. Er enghraifft, mae gan gymunedau sy’n profi mwy o amddifadedd ond sydd â niferoedd uwch o asedau cymunedol a gweithredoedd cymunedol ganlyniadau iechyd a lles gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd difreintiedig nad oes ganddyn nhw lefelau uchel o asedau cymunedol na gweithredu cymunedol.
Mae hyn yn cydberthyn â chanfyddiadau ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mewn partneriaeth â’r Oxford Consultants for Social Inclusion. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu y bydd ardaloedd difreintiedig sydd ag asedau cymunedol a dinesig yn llai tueddol o gael eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl. Felly, mewn geiriau eraill, mae cymunedau difreintiedig sy'n meddu ar asedau cymunedol a dinesig cryfach fel arfer yn fwy gwydn na’r cymunedau hynny sydd heb hyn. Mae yna dystiolaeth galed i gefnogi hynny hefyd.
Dwi’n credu mai peth arall sy’n werth sôn amdano yma ydy’r hyn a wnaed yn glir yn ein sesiynau tystiolaeth, sef i ba raddau y mae cefnogaeth a chyngor ar gael i’r grwpiau cymunedol hynny sy’n ceisio ymgymryd ag ased cymunedol. Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth ymhell o fod yn ddigonol a chyson. Mae’n amrywio ar draws Cymru. Mae’r grwpiau yn y sector wedi dweud bod angen cefnogaeth ychwanegol ddi-gost.
Hoffwn ailadrodd yr alwad am wella’r rhaglen cyfleusterau cymunedol, i edrych hefyd ar feithrin capasiti cymunedol. Mae angen inni adeiladu rhai o’r sgiliau meddalach hynny sydd eu hangen o fewn grwpiau cymunedol i hwyluso eu rhedeg parhaus, yn enwedig o ran datblygu a throsglwyddo asedau.
Mae’r adroddiad yn sôn am yr angen i greu comisiwn. Roeddwn i, yn bersonol, yn ffafrio deddfu, ond mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn glir nad yw am ddeddfu yn y maes yma, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod yn ymrwymiad maniffesto ganddi ers 2006. Yn absenoldeb deddfu, mae’r comisiwn i’w groesawu, ond mae taer angen ei sefydlu’n fuan a gweld gwaith yn digwydd yn syth.
Wrth inni wynebu austerity 2.0, y peryg go iawn yw y bydd ein cynghorau sir yn cael eu temtio efo fire sales o’u hasedau er mwyn dod â phres i mewn i’r coffrau, a fydd yn golygu ein bod yn colli mwy o asedau, gan dynnu grym i ffwrdd o’n cymunedau ymhellach. Felly, yn ei hymateb i’r drafodaeth hon, hoffwn glywed y Gweinidog yn ymrwymo i gyflymu sefydlu’r comisiwn a rhoi amserlen glir a buan i’r comisiwn cyn i ni golli mwy o adnoddau a cholli cyfle go iawn i rymuso ein cymunedau.
Fy nodyn olaf, wedyn, ar dai o dan arweiniad y gymuned, does dim angen dweud bod cryfhau hawliau cymunedol yn gallu helpu tyfu’r mudiad tai cymunedol. Mae angen i Lywodraeth Cymru helpu cymunedau i ddod dros rwystrau i wneud tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn ffurf gyffredinol boblogaidd o dai, fel sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Trwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n galluogi perchnogaeth gymunedol ar dir ac ar asedau, bydd cymunedau’n gallu darparu cartrefi fforddiadwy sy’n ddiogel yn yr hinsawdd yma, yn fwy effeithiol, ac sy’n cael eu datblygu gan a chyda phobl leol i ddiwallu anghenion lleol ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Diolch.